Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
15/10/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a shwmae i bawb?
Rwyf bron â chael fy nhemtio i ddweud 'Shwmae, Senedd?', ond mi wnaf adael hynny ar gyfer diwrnod arall. [Chwerthin.]
Felly, shwmae, bawb, y prynhawn yma?
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith staff a gyflogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ54508
Wel, diolch am y cwestiwn, a diwrnod shwmae hapus i'r Aelod hefyd. Heddiw, rydym ni'n cael ein hannog i ddefnyddio ein Cymraeg, dim ots faint o Gymraeg sydd gennym ni, ac mae hon yn iaith i bawb. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae cyngor partneriaeth y gweithlu yn cynnig fforwm lle mae Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr yn dod at ei gilydd i roi sylw i faterion o ddiddordeb cyffredin. Mae amodau gwaith uniongyrchol mewn llywodraeth leol yn fater ar gyfer cydfargeinio rhwng cyflogwyr a'u hundebau llafur.
Diolch, Prif Weinidog. Mae nifer y staff llywodraeth leol ledled Cymru a gymerodd absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd 18 y cant yn uwch nag yn y ddwy flynedd flaenorol. Cymerodd 807 o staff yng nghyngor Caerffili absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd, ac ym Merthyr Tudful, roedd y nifer fwy na thair gwaith yn fwy, o 105 i 318. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy mhryder ynghylch y ffigurau hyn, a pha gamau y byddwch chi yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar staff cyngor, sy'n effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd ac yn arwain at ganlyniadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd da yn y de-ddwyrain?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod, wrth gwrs, bod straen yn fater i'w gymryd o ddifrif. Rwy'n gobeithio, rhywle yn y ffigurau hynny, bod adlewyrchiad o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ac a gefnogwyd ar draws y Cynulliad, i wneud pobl yn fwy parod i ddweud pan fyddant yn teimlo eu bod yn dioddef oherwydd unrhyw fath o salwch meddwl, gan gynnwys straen. Ond mae'r ffigurau hefyd yn adlewyrchiad eglur o gyni cyllidol. Dro ar ôl tro, rwyf i wedi dadlau ar lawr y Cynulliad nad yw cyni cyllidol yn cael ei deimlo yn ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn unig, ond mae'n cael ei deimlo ym mywydau pobl sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Mae cyflogau'r bobl hynny wedi cael eu dal i lawr tra bo'r gofynion arnyn nhw wedi cynyddu, ac mae'n afrealistig tybio eu bod yn gallu gadael yr holl bwysau hynny wrth y drws a mynd i mewn i'r gwaith fel pe na fyddai'r pethau hynny'n digwydd yn eu bywydau.
Mae'r Aelod yn gofyn beth allwn ni ei wneud i leihau'r straen ym mywydau gweision cyhoeddus sy'n gweithio i lywodraeth leol, a'r ateb yw cael Llywodraeth y DU sy'n barod i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol, fel bod gan y bobl hynny bobl wrth eu hochrau fel nad yw eu niferoedd yn llai, ac y byddan nhw'n gallu ymdopi'n well â'r effaith yn eu bywydau eu hunain a darparu gwasanaethau o ansawdd y gwyddom eu bod yn ymroddedig i'w wneud.
Wel, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn y fan yna, Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod straen yn dod yn fwyfwy y rheswm am absenoldeb staff yng nghynghorau Cymru, ac mae toriadau cyllideb a roddwyd ar waith gan San Steffan, ac a basiwyd ymlaen gan y Llywodraeth Cymru Lafur hon, wedi arwain at golli swyddi sylweddol yn ein cynghorau, sy'n golygu bod staff yn gorfod darparu'r un gwasanaeth gyda llai o adnoddau. A wnewch chi gydnabod y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid digonol i gynghorau yng nghylch nesaf y gyllideb er mwyn lleihau'r lefelau o straen ar ein staff awdurdodau lleol?
Wel, Llywydd, mae ariannu llywodraeth leol wedi bod yn flaenoriaeth gyson i'r Llywodraeth Lafur hon drwy gydol tymor y Cynulliad hwn a chyn hynny hefyd. Ond mae'r Aelod yn cydnabod, mi wn, er gwaethaf y pwynt y mae'n ei wneud, nad yw'r arian sydd gennym ar gael i ni yn ganlyniad o benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud, bod yn rhaid ymestyn yr arian hwnnw i ddarparu gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd yn ogystal â llywodraeth leol, i wneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n ceisio eu gwneud fel Llywodraeth, ac y mae Aelodau o amgylch y Siambr Cynulliad hon yn sefyll ar eu traed bob wythnos drostynt a hyrwyddo mwy o fuddsoddiad mewn blaenoriaethau sy'n agos at eu calonnau, sy'n bwysig i gymunedau lleol. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i roi'r swm mwyaf posibl o arian sydd ar gael i ni mor agos at y rheng flaen ag y gallwn, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny o ansawdd mor uchel ag y gallwn ei sicrhau, a bod y bobl sy'n cael eu herio i'w darparu, bod eu lles a'u llesiant yn cael eu hamddiffyn hefyd. Y cyfyngiad unigol mwyaf ar ein gallu i wneud hynny yw'r ffaith bod y swm o arian sydd ar gael i ni wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac y bydd yn is yn y flwyddyn ariannol nesaf nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl.
2. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio tai yng nghymoedd Ogwr? OAQ54534
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. Mae cyfres o raglenni yn cefnogi adfywio tai lleol yn Ogwr, gan gynnwys cynllun grant cartrefi gwag tasglu'r Cymoedd, grant tai cymdeithasol, Cartrefi Clyd, safon ansawdd tai Cymru, a'r rhaglenni tai arloesol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi, pan fydd eiddo gwag yn sefyll yn wag nid yn unig am fisoedd, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, eu bod nhw'n falltod ar gymunedau—maen nhw'n eu llusgo i lawr yn economaidd, maen nhw'n niweidio ymdrechion i adfywio, ac maen nhw'n cyfrannu at deimlad o anobaith mewn cymunedau ac ar strydoedd. Fel dannedd wedi torri, maen nhw'n gallu sefyll yn bigog a thoredig ar ein strydoedd mawr a'n strydoedd ochr, ac weithiau, mae gan rai o'r strydoedd hyn fwy o ddannedd wedi torri nag eraill. Eto i gyd, gallai'r rhain fod yn gartrefi fforddiadwy, gweddus, wedi eu hadfywio, yn addas i fyw ynddyn nhw, gan ddod â chymunedau yn ôl yn fyw hefyd. Felly, os yw landlordiaid a pherchnogion yn barod i weithio gyda'u hawdurdod lleol a chymunedau lleol, gallwn drwsio'r tyllau enfawr hynny a helpu i adfywio'r cymunedau hynny. Gallwn ddod â'r wên yn ôl i'n strydoedd. Felly, mae'r grant cartrefi gwag a'r benthyciadau eiddo gwag, a chynlluniau eraill i helpu landlordiaid a pherchnogion i wneud hyn, i'w croesawu'n fawr. Ac rydym ni angen hefyd i gynghorau ddefnyddio eu pwerau pan fydd hynny'n methu. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, sut gallwn ni wneud yn siŵr bod cymunedau yn cymryd rhan uniongyrchol yn y penderfyniadau hyn hefyd? Yn hytrach na'i fod yn ddull o'r brig i lawr, neu'n rhywbeth a ysgogir gan landlordiaid neu berchenogion unigol, neu hyd yn oed gan awdurdod lleol rhagweithiol iawn, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr, ac a fyddai ef yn cefnogi'r syniad, y dylai cymunedau lleol eu hunain fod yn rhan o'r broses o nodi'r eiddo y gellid ailddechrau eu defnyddio, ac efallai, mewn ffordd ofodol, helpu'r awdurdod lleol i ailddechrau defnyddio'r eiddo hyn?
Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, mae'n iawn nad yw eiddo gwag yn ased gwastraff y gellid eu rhoi at waith da yn unig, ond maen nhw hefyd yn cael effaith ar bob un o'u hamgylch. Dyna pam y penderfynasom fuddsoddi £10 miliwn o ganlyniad i waith tasglu'r Cymoedd i ailddechrau defnyddio mwy o gartrefi gwag. Ac mae cannoedd o dai gwag yn etholaeth yr Aelod a fydd, o bosibl, yn gallu elwa nawr o'r cynllun a ddechreuodd yn Rhondda Cynon Taf, ac mae ei lwyddiant wedi caniatáu i ni ei ledaenu mewn mannau eraill. Seiliwyd holl raglen tasglu'r Cymoedd ar ddysgu o brofiad cymunedau lleol a chymryd y blaenoriaethau y maen nhw'n eu cyflwyno i ni. Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd yn neuadd y dref Maesteg, yn etholaeth yr Aelod, ar ddechrau proses ymgysylltu'r tasglu, a chodwyd eiddo gwag fel un o'r themâu allweddol gan bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw. Nawr, mae'r tasglu wedi bod yn ôl i gymoedd Ogwr, Llynfi a Garw yn ddiweddar, ac, unwaith eto, roeddem ni'n gallu esbonio i bobl sut y bydd y grant newydd ar gael ac y gallai wneud gwahaniaeth i fater a godwyd ganddynt gyda ni.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Huw Irranca-Davies wedi ei wneud, ynglŷn â'r angen i gymunedau lleol fod yn llygaid a chlustiau ein hymdrechion yn y maes hwn. A chefais fy atgoffa, Llywydd, o glywed y cwestiwn, am sgwrs a gefais gyda swyddogion Gweriniaeth Iwerddon ynglŷn â gweithrediad y dreth ar dir gwag yn y Weriniaeth, lle'r oedden nhw'n pryderu i ddechrau ynghylch sut y byddai tir gwag yn cyrraedd y gofrestr yr oedden nhw wedi ei chreu, ac yn ymarferol yr hyn sydd wedi digwydd yw mai dinasyddion sydd wedi ymddangos fel llygaid a chlustiau'r gofrestr. Mae pobl yn ffonio'r awdurdod lleol, gan wybod bellach bod cofrestr i adrodd iddi, er mwyn sicrhau bod tir gwag yn cael ei roi ar y gofrestr ac y gellir gwneud defnydd gwell ohono. Ac rwy'n credu y bydd defnyddio cymunedau lleol a'u gwybodaeth ar lawr gwlad, a'u pryder ynghylch eiddo gwag, nawr bod gennym ni'r cynllun newydd, yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth.
Wel, rwy'n falch iawn o glywed bod agwedd gyd-gynhyrchiol at hyn. Tybed beth fyddai barn y trigolion lleol ar y cynnydd yn nifer y safleoedd maes glas sydd wedi eu cynnwys yng nghynllun datblygu lleol newydd yr awdurdod lleol, gan gynnwys 19 hectar i'r de o Bont Rhyd-y-cyff. Ar hynny, a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru, gan ei bod wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar—sut y gallai ei hagwedd at farn awdurdod cynllunio ar safleoedd maes glas fod wedi newid? Sut ydych chi'n dylanwadu ar awdurdodau lleol yn hynny o beth? Ac i roi help llaw i Huw Irranca Davies gyda hyn, pa ystyriaethau ydych chi wedi eu rhoi i bolisïau'r Ceidwadwyr Cymreig o ymestyn Cymorth i Brynu i brynwyr tro cyntaf er mwyn dychwelyd tai a esgeuluswyd yn ôl i'r stoc dai a chreu cartrefi newydd ochr yn ochr â chartrefi newydd sbon?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau yna. Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru erioed mai safleoedd tir llwyd ddylai fod y flaenoriaeth gyntaf o ran ailddatblygu. Ond mae'n gofyn i mi beth fydd ymateb trigolion lleol yn fy marn i, ac rwy'n credu mai'r hyn y bydd trigolion lleol yn ei ddweud yw bod angen mwy o dai yn eu hardaloedd ar gyfer eu teuluoedd ac ar gyfer pobl nad oes ganddyn nhw'r tai sydd eu hangen arnynt, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bu'r tŷ y maen nhw eu hunain yn byw ynddo yn safle maes glas ei hun ar un adeg. Felly, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n siarad â phobl am yr anghenion tai sy'n bodoli mewn cymunedau lleol, yr hyn y maen nhw'n ei gydnabod yw ein bod ni'n siarad am eu ffrindiau, eu cymdogion, eu teuluoedd a'r angen i ni fuddsoddi mewn tai yma yng Nghymru.
Darllenais y cynllun 10 pwynt a gyhoeddwyd gan y Blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf ynglŷn â digartrefedd, ac mae rhai syniadau defnyddiol yn hwnnw, a fydd yn gyffredin rhyngom, o ran sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei diddymu, a rhai mesurau ymarferol eraill. Does gen i ddim synnwyr o gwbl o beidio â bod yn barod i gymryd syniadau da o ble bynnag maen nhw'n dod, ac rwyf i wedi teimlo erioed bod tai yn fater a rennir ar draws llawr y Cynulliad hwn i raddau helaeth fel blaenoriaeth i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymrwymodd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2011 i'w gwneud yn ofynnol i feddygon teulu wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio fel y gallen nhw gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu gyda'r nos ac ar foreau Sadwrn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei wneud i sicrhau y gall cleifion gael gafael ar wasanaethau ar adeg sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw?
Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod yn sicr y bu arbrofion helaeth a gynhaliwyd ar ôl yr ymrwymiad hwnnw a thrafodaethau manwl gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru. Yr hyn a ddangosodd yr arbrofion, yn wahanol i'r hyn a ragwelwyd gennym ni yn y fan yma o bosibl, oedd nad oedd y defnydd a wnaed gan gleifion o feddygfeydd oriau estynedig ar lefel yr oeddem ni'n credu, mewn trafodaeth â'r gweithlu meddygon teulu, oedd yn cyfiawnhau'r gost ychwanegol a ymrwymwyd ar eu cyfer—roedd ffyrdd gwell. Dyna farn y gymuned meddygon teulu—bod gwell ffyrdd o sicrhau bod gwasanaethau ar gael, gan gynnwys drwy arallgyfeirio'r gweithlu, gan gynnwys drwy'r holl bethau yr ydym ni'n eu gwneud i ddefnyddio fferyllfeydd cymunedol. Ac ar ôl rhoi cynnig ar gyfres o arbrofion gydag oriau agor yn hwyrach gyda'r nos, ar benwythnosau, mae gennym ni batrwm y cytunwyd arno erbyn hyn gyda'r gymuned meddygon teulu yng Nghymru. Nid yw'n berffaith, nid yw'n gweithredu fel y byddem ni'n dymuno ym mhob man, ond canlyniad trafodaethau gyda'r proffesiwn yw bod gennym ni'r patrwm sydd gennym.
Wel, gadewch i mi fynd drwy'r diffyg cynnydd yr ydych chi wedi ei wneud, ac rydych chi wedi cyfaddef y diffyg cynnydd yr ydych chi wedi ei wneud yn fanwl. O ran oriau craidd hyd yn oed—oriau dyddiol craidd—dangosodd y llynedd ostyngiad i nifer y meddygfeydd teulu a oedd hyd yn oed yn gallu cynnig hynny mewn tri bwrdd iechyd—Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys. Roedd agwedd arall ar eich ymrwymiad yn canolbwyntio ar ymestyn yr apwyntiadau sydd ar gael cyn 08:30 yn y bore. Ni wnaed unrhyw gynnydd ar hynny, gan nad yw bron i bedwar o bob pump o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau cyn 08:30, a phan ddaw'n fater o apwyntiadau gyda'r nos, nid oedd yr un feddygfa ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf nag Abertawe Bro Morgannwg ar agor ar ôl 18:30 fin nos y llynedd, a dim ond 1 y cant o feddygfeydd yn Betsi Cadwaladr. Bwriadwyd ymestyn oriau agor gyda'r nos erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2013, ond mae dau fwrdd iechyd wedi cael gwared ar eu horiau agor estynedig yn llwyr ers hynny. Pam gwneud yr addewid o gwbl pan wnaethoch chi fethu â'i gadw mewn modd mor amlwg?
Y rheswm am wneud yr ymrwymiad oedd oherwydd ein pryder gwirioneddol i sicrhau bod apwyntiadau ar gael i fwy o bobl, yn enwedig pobl sy'n gweithio, y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol. Mae gennym ni nifer o arbrofion yr ydym ni wedi rhoi cynnig arnyn nhw yn y maes hwnnw. Er enghraifft, cawsom arbrawf yng Nghaerdydd a Chasnewydd a oedd yn caniatáu i bobl a oedd yn byw y tu allan i'r dinasoedd hynny, ond a oedd yn gweithio ynddynt, gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghaerdydd neu Gasnewydd fel y gallen nhw gael apwyntiad lleol yn agos i'r gwaith, yn hytrach na gorfod ildio hanner diwrnod, er enghraifft, i gael apwyntiad yn nes at eu cartref. Y gwir amdani oedd na wnaeth yr arbrofion hynny sicrhau'r canlyniadau i gleifion a ragwelwyd yn wreiddiol. Dyna pam y cawsom ni'r trafodaethau pellach hynny gyda'r proffesiwn meddygon teulu ei hun; pam yr ydym ni wedi buddsoddi mewn ffyrdd eraill lle gall cleifion gael mynediad at ofal iechyd. Nid mater o fynd i'r feddygfa yn unig yw hyn. Mae honno'n ffordd eithaf hen ffasiwn o feddwl am ofal iechyd. Rydym ni wedi amrywio'r ffyrdd y gall pobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Rydym ni'n awyddus iawn y dylai pobl gael mynediad mor gyfleus â phosibl at y gofal iechyd sydd ei angen arnyn nhw. Efallai nad gwneud hynny yn y feddygfa deulu yn unig, gwneud hynny drwy ymestyn oriau yn unig, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny, naill ai i gleifion na'r gweithwyr proffesiynol sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Dyna wnaeth hanes yr arbrofion ei ddysgu i ni.
Rwy'n credu efallai y byddai cleifion sy'n ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hynny, nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny ar adeg sy'n gweithio iddyn nhw mewn gwirionedd, yn rhoi ymateb gwahanol iawn, iawn i'r un y mae'r Prif Weinidog newydd ei roi. Ond er mwyn ymhelaethu rhyw fymryn pellach ar ei ymateb: a yw'n dweud mai rhan o'r penderfyniad pam y gwnaethoch chi gefnu ar yr addewid hwn oedd gan nad oedd yn effeithiol, nid yn unig o ran ei effaith ond yn gost-effeithiol, felly roedd cost y cyfle, cost-effeithiolrwydd cyflawni'r addewid hefyd yn ffactor? Oherwydd yr hyn a ddywedasoch ar y pryd, ac rwy'n dyfynnu eich rhagflaenydd fel Prif Weinidog yn y fan yma, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol:
'Nid oes unrhyw gost i ymestyn oriau agor meddygon teulu. Y cyfan yr ydym yn gofyn iddynt ei wneud yw ailwampio eu horiau'.
Nawr, mae fy mhlaid i wedi dadlau'n gyson mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ehangu mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw cael mwy o feddygon teulu, ac ers i chi wneud yr addewid hwn am oriau hygyrch, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng. Nid oes rhyfedd na allech chi gyflawni'r addewid cyn gorfod cefnu arno.
Oni fyddech chi'n derbyn yr angen i fabwysiadu polisi o gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu i 200 y flwyddyn, fel y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ei argymell, yn rhan o broses ehangach o gynyddu nifer ein meddygon? Yn Lloegr, sylwais—dilynwr brwd fel yr wyf i o gynhadledd y Blaid Lafur—eich bod chi wedi ymrwymo i gynnydd o 40 y cant i nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant. Onid yw hwn yn arwydd arall o Lafur yn addo i Loegr yr hyn y gallai fod yn ei wneud eisoes yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, dau bwynt, mewn gwirionedd: un, mae'n bwysig iawn yn wir ein bod ni'n hoelio ein sylw nid yn gul ar feddygon teulu, ond ar y tîm clinigol gofal sylfaenol cyfan. Mae gwasanaethau a ddarperir i gleifion yn dibynnu ar fferyllwyr, ar ffisiotherapyddion, ar therapyddion galwedigaethol. Mae'r holl bobl hynny yn aelodau o'r tîm gofal sylfaenol. Maen ganddyn nhw'r un gallu o safbwynt clinigol â meddyg teulu i ddarparu'n uniongyrchol ar gyfer cleifion mewn bron i 80 y cant o achosion. Ac nid yw pwyslais unllygeidiog ar yr hyn y mae meddygon teulu yn ei ddarparu yn adlewyrchu'r ffordd y mae angen darparu gofal sylfaenol heddiw, ac yn y dyfodol.
Ond bydd yr Aelod yn falch o wybod nad yw hwn yn fater o Gymru yn dilyn lle mae Lloegr yn bwriadu mynd; mae'n fater o Loegr yn dilyn lle'r ydym ni wedi bod eisoes gan y bydd, mi wn, yn falch o wybod mai nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a lenwyd yng Nghymru eleni yw'r uchaf erioed. Nid yw wedi cyrraedd 200 eto, ond mae'n cynyddu, ac mae wedi cynyddu'n sylweddol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydym ni wedi llenwi 155 o leoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru a dyna'r mwyaf yr ydym ni erioed wedi ei wneud. Mae hynny o ganlyniad i lawer o weithgarwch sydd wedi digwydd yn y maes ei hun gan Lywodraeth Cymru. Mae'n fater i'w ddathlu, ac yn yr ystyr hwnnw rwy'n cytuno â'r pwynt yr oedd Adam Price yn ei wneud, bod buddsoddi mewn hyfforddiant a dod â mwy o bobl i mewn i'r proffesiwn yn fodd o sicrhau dyfodol hirdymor y gwasanaeth meddyg teulu, lle mae meddygon teulu yn arwain y timau ehangach hyn o weithwyr proffesiynol clinigol sy'n gallu darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y gymuned. Ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n gwneud yn well nag erioed o'r blaen o ran cael meddygon teulu yn hyfforddi yma yng Nghymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae bodlonrwydd cymudwyr â theithiau ar drenau yng Nghymru yn 71 y cant. Fel Prif Weinidog, a ydych chi'n fodlon bod pobl Cymru yn cael y gwasanaethau trên y maen nhw'n eu haeddu?
Rwyf i eisiau gweld gwasanaethau trenau yng Nghymru yn gwella ymhellach ac yn gyflymach, yn unol â'r fasnachfraint arloesol a gytunwyd gennym. Nid yw Trafnidiaeth Cymru wedi gallu cael y trenau y maen nhw wedi eu harchebu gan gwmnïau mor gyflym ag yr addawodd y cwmnïau hynny. Mae hynny'n golygu na fu'r cerbydau ar gael ganddyn nhw yn y flwyddyn gyntaf yn y ffordd a ragwelwyd yn wreiddiol. Ond ar 15 Rhagfyr eleni, pan roddir yr amserlen newydd ar waith, byddwn yn gweld 6,500 o leoedd newydd ar drenau yng Nghymru, gwasanaethau newydd ledled Cymru, a bydd pobl yng Nghymru yn gweld y bydd y gwelliannau sydd wedi dechrau eisoes yn cyflymu'n fawr o'r diwrnod hwnnw ac i mewn i weddill cyfnod y fasnachfraint.
Prif Weinidog, nid 'A wyf i'n mynd i gael sedd ar drên?' yw'r cwestiwn mawr y mae cymudwyr yn ei ofyn i'w hunain bob bore, ond 'A wyf i'n mynd i allu mynd ar y trên hwn o gwbl?' Ceir posteri ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru sy'n datgan yr hyn sy'n dod i lawr y trac gyda'r newidiadau a addawyd i'r rhwydwaith. Yn 2019, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd mwy o gapasiti ar reilffyrdd y Cymoedd, cyfleusterau gwybodaeth ac adloniant yn cael eu lansio, ac y bydd hen drenau Pacer yn cael eu diddymu yn gyfan gwbl. Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen—er mwyn cynyddu capasiti ar reilffyrdd y Cymoedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ailgyflwyno trenau o'r 1960au, ac rydym ni'n clywed yr wythnos hon na fydd yr hen drenau Pacer yn cael eu diddymu'n gyfan gwbl ac y byddan nhw'n parhau i redeg yn 2020.
Prif Weinidog, nawr ein bod ni'n gwybod bod yr addewid hwn wedi ei dorri—ac rydym ni wedi clywed yn gynharach sut yr ydych chi wedi torri addewidion mewn meysydd eraill—a allwch chi gadarnhau—? [Torri ar draws.] Gallaf glywed mwmian gan eich cyd-Aelodau—. [Torri ar draws.] Gallaf glywed mwmian gan eich cyd-Aelodau, ond chi sy'n gyfrifol am wasanaethau trenau yma yng Nghymru, ac felly a allwch chi gadarnhau pryd y bydd yr hen drenau blinedig hyn yn cael eu tynnu oddi ar ein cledrau o'r diwedd, neu a ydych chi'n mynd i lynu at y stori na all y pethau hyn ddigwydd dros nos?
Rwyf i eisoes wedi egluro i'r Aelod, Llywydd, y bydd cynnydd o 10 y cant i'r capasiti ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth o 15 Rhagfyr ymlaen, y bydd 200 o wasanaethau ychwanegol ar y Sul yma yng Nghymru, sy'n gynnydd o 45 y cant ar y cyfraddau presennol, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gweld y cerbydau newydd, modern a hygyrch hynny ar gael yma yng Nghymru. Dyna pam, Llywydd, yr oeddwn i'n falch iawn yr wythnos diwethaf o gyfarfod â phrif weithredwr a bwrdd cyfan CAF, y cwmni trenau gweithgynhyrchu sydd wedi dod a sefydlu ei gyfleuster gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd, a fydd yn darparu trenau i deithwyr Cymru, ar reilffyrdd Cymru, o ganlyniad i'r fasnachfraint sydd gennym ni. Rwy'n falch iawn o ddweud wrth yr Aelodau yn y fan yma, yn y cyfarfod hwnnw gyda bwrdd cyfan y cwmni mawr hwnnw, y daethant i ddweud wrthym ni pa mor falch ydyn nhw gyda'r datblygiad sydd wedi digwydd yng Nghasnewydd, gyda chyflwr y ffatri y maen nhw wedi gallu ei chreu, gydag ymrwymiad y gweithlu y maen nhw'n ei ganfod yma yng Nghymru, a chymaint y maen nhw'n edrych ymlaen at weld eu trenau yn gweithredu ar reilffyrdd yma yng Nghymru. Trenau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, yn rhedeg yng Nghymru, dyna fydd teithwyr Cymru yn ei weld.
Prif Weinidog, nid dim ond oedi a chanslo sy'n effeithio ar ddefnyddwyr trenau yng Nghymru, ond nid yw rhai trenau hyd yn oed yn trafferthu stopio yn y gorsafoedd y maen i fod i wneud. Ddydd Sadwrn, canfu llond trên o bobl eu hunain ym Mhontypridd yn sydyn ar ôl i'r trên redeg yn syth o Gaerdydd heb stopio yn unrhyw un o'r arosfannau a hysbysebwyd. Er ei fod wedi cael hyd at 52 y cant yn fwy y mis mewn cymhorthdal o'i gymharu ag Arriva, mae lefelau bodlonrwydd cyffredinol â theithiau Trafnidiaeth Cymru yr un fath ag Arriva. Mae prydlondeb trenau, pris tocynnau a boddhad â glendid i gyd yr un fath, ac mae lefel y gorlenwi'n parhau i fod yn bryder sylweddol, gyda 45 y cant yn anfodlon â lefel y gorlenwi ar reilffyrdd craidd y Cymoedd. Prif Weinidog, a yw'n wir i ddweud bod Trafnidiaeth Cymru ar y trac anghywir o ran darparu gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru? Felly, beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud fel y gall pobl gael mynediad o'r diwedd at wasanaeth trenau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?
Wel, Llywydd, mae hanes y flwyddyn ddiwethaf yn dangos yr etifeddiaeth y bu'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ei fabwysiadu ar ôl y fasnachfraint a gytunwyd gan ei blaid ef lle nad oedd unrhyw gapasiti o gwbl ynddi ar gyfer twf i nifer y teithwyr, lle'r oedd cerbydau yn hen a lle chanfuwyd nad oedd y fflyd a drosglwyddwyd i Trafnidiaeth Cymru yn addas ar gyfer y math o wasanaeth yr ydym ni eisiau ei ddarparu. Wrth gwrs ein bod ni eisiau gweld gwelliannau, a bydd y cynllun sydd gennym ni ac sydd gan Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn golygu bod y gwelliannau hynny'n digwydd o 15 Rhagfyr, yn parhau i'r flwyddyn nesaf a thu hwnt, er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i ateb trafnidiaeth cyhoeddus i amseroedd teithio yma yng Nghymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw a ninnau eisiau ei weld.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Datganwyd gennych ddoe y dylai Sbaen gael ei gwahardd o'r UE, felly hoffwn holi'r Prif Weinidog am ei safbwynt. Mae gan Lywodraeth Cymru Weinidog cysylltiadau rhyngwladol, er nad yw'r rhain wedi eu datganoli, a Phrif Weinidog sosialaidd yn Sbaen a ofynnodd i ni barchu penderfyniadau barnwrol annibynnol eu Goruchaf Lys. Yn y fan yma, dywedir wrthym gan Aelodau Llafur y dylid anfon ein Prif Weinidog ni yn y DU i'r carchar am ddirmyg os yw'n ceisio gweithredu ein refferendwm ar yr UE mewn ffyrdd efallai nad yw ein Goruchaf Lys yn eu cymeradwyo. Onid yw'n bryd i ni gefnogi ein democratiaeth a chanlyniad ein refferendwm drwy bleidleisio i adael yr UE, yn hytrach na cheisio gwrthdroi trefniadau cyfansoddiadol a barnwrol yn Sbaen a'r UE?
Nid wyf i'n hollol siŵr pa bwynt y mae'r Aelod yn gofyn i mi roi sylw iddo yn hynny o beth. Dechreuaf gyda'i bwynt cyntaf, er fy mod i'n amharod bob amser i gael fy nhynnu i gyfrifoldebau nad yw'r sefydliad hwn na minnau fel ei Brif Weinidog yn eu harfer. Ond rwy'n credu ei fod yn fater o bryder i unrhyw un ohonom, yn gwbl briodol, gweld gwleidyddion a etholwyd yn ddemocrataidd sy'n cyflawni eu cyfrifoldebau yn heddychlon, nad deialog a thrafodaeth yw eu hymateb ond defnyddio'r gyfraith droseddol. Ac rwy'n credu ein bod ni'n pryderu'n briodol am hynny. Os mai dyna oedd prif bwynt ei gwestiwn, yna rwyf i wedi mynegi fy marn arno. O ran ei bwyntiau ar Brexit, rydym ni wedi trafod y rheini'n gynhwysfawr ar lawr y Cynulliad, ac mae'n ymwybodol o'm safbwynt i ar hynny.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb rhannol. Yr hyn sy'n anhygoel yw nifer y bobl yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n edrych i'r Undeb Ewropeaidd ymyrryd ac yn disgwyl iddo wneud hynny fel pe byddai'n gefnogwr o hunan-benderfyniad democrataidd cenedlaethol, pan mewn gwirionedd na fydd yn croesawu pleidlais ar annibyniaeth genedlaethol yng Nghatalonia ddim mwy nag y gwnaeth groesawu ein pleidlais ni ar 23 Mehefin 2016.
Byddwn yn cysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog i ddechrau, a chredaf ei bod yn wir bod ein trefniadau cyfansoddiadol wedi gweithio'n well o ran yr Alban a'r refferendwm a gynhaliwyd ganddyn nhw yno, nag y mae Sbaen wedi ei wneud o ran Catalonia. Yn anffodus, nid yw pawb ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban yn cytuno â'r dull cyfreithiol a chyfansoddiadol a ddilynwyd hyd yn hyn. Mae rhai eisiau i Lywodraeth SNP yr Alban beidio â thrafferthu gydag ail refferendwm a mynd ati i ddatgan annibyniaeth; mae eraill yn meddwl y dylen nhw gynnal ail refferendwm heb ail orchymyn adran 30 gan Lywodraeth y DU. Yn y pen draw, pe byddai Llywodraeth yr Alban yn ceisio cynnal refferendwm anghyfreithlon o'r fath, neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o bosibl, onid yw'n wir mai carchar am ddirmyg yw ein rheng olaf o amddiffyniad cyfansoddiadol yn y pen draw?
Wel, Llywydd, mae cymaint o ddychymyg yn y ddadl y mae'r Aelod wedi ei gwneud fel fy mod i wedi colli fy ffordd ynddi yn gynnar iawn. Cyn belled ag y mae'r Undeb Ewropeaidd yn y cwestiwn, mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon, oherwydd hanes ein haelodaeth, yn edrych i'r Undeb Ewropeaidd am amddiffyniadau yn y maes amgylcheddol, am amddiffyniadau i weithwyr, am amddiffyniadau i ddinasyddion a defnyddwyr. Wrth gwrs ein bod ni, oherwydd drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yr ydym ni'n mwynhau cynifer o'r hawliau hynny heddiw na fydden nhw fel arall wedi eu rhoi i ni. Ond a yw hynny'n golygu ein bod ni'n credu bod yr Undeb Ewropeaidd yn berffaith ym mhob ffordd? Nac ydy wrth gwrs.
Yn yr wythnos yn arwain at y refferendwm diwethaf, rhannais lwyfan gydag arweinydd Plaid Cymru yn y fan yma, pryd y siaradodd y ddau ohonom ni ar lwyfan 'aros i ddiwygio', ac mae'r agenda ddiwygio ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd yn bodoli ymhlith y rhai hynny ohonom ni sy'n cefnogi'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs nid yw'n gwneud popeth ym mhob ffordd fel y byddem ni'n dymuno ei weld, ond nid yw hynny'n golygu o gwbl y byddem ni'n barod i droi ein cefnau ar yr enillion gwirioneddol y mae dinasyddion Cymru wedi eu cael o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ac sydd mewn perygl sylweddol iawn erbyn hyn.
3. Pa drafodaethau am Brexit y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf? OAQ54536
Llywydd, nid oes unrhyw drafodaethau o'r fath wedi cael eu cynnal gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf.
A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder bod hynny'n dangos dirmyg llwyr tuag at bobl Cymru, y sefydliad hwn a'r Llywodraeth sy'n deillio ohono? Onid yw'n dangos bod gan Brif Weinidog presennol y DU ddiddordeb yn Lloegr ac nid mewn unman arall? Rydym ni'n gwybod bod aelodaeth y Blaid Geidwadol, os ydym ni'n credu'r polau piniwn, yn poeni mwy am Brexit na'r undeb. Ac yn wir, cwestiwn traethawd, rwy'n clywed, ym Mhrifysgol Caerdydd yn fuan fydd, 'A yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn dal i fod y ddau beth hynny?' Felly, onid yw'n cytuno ei bod yn dangos dirmyg tuag at y Llywodraeth hon nad yw Prif Weinidog y DU yn ymgysylltu â hi? Ac a yw hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol wedi torri? Mae angen cael perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod parch gwell a mwy cyfartal, fel na all Prif Weinidog y DU anwybyddu pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y dyfodol.
Llywydd, rwy'n cytuno â Carwyn Jones ei bod hi'n sicr yn rhyfeddol, ar ôl bod yn y swydd ers nifer o fisoedd erbyn hyn, bod Prif Weinidog y DU wedi methu â galw un cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion. Pan yr oedd Mrs May yn Brif Weinidog y DU, cynhaliodd gyfarfod llawn o'r fath yn y fan yma yng Nghaerdydd. Nid yw Prif Weinidog newydd y DU, ar ôl cychwyn ar ei daith imperialaidd o amgylch Lloegr, Cymru a'r Alban bryd hynny, erioed wedi cael ei weld ers hynny.
Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am yr angen am berthynas newydd—perthynas well, gyfartal a pharchus—wrth wraidd dogfen y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi, ac y byddaf yn gwneud datganiad arni yn ddiweddarach y prynhawn yma. Oherwydd mae honno'n ceisio ymwreiddio'r trefniadau hynny fel nad ydyn nhw ar fympwy unigolyn, fel bod un Prif Weinidog y DU yn eu parchu ac nad yw Prif Weinidog nesaf y DU yn cymryd unrhyw sylw ohonynt.
O ystyried cyflwr ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, o ystyried y ffaith bod cyfrifoldebau datganoledig eglur a sylweddol yn y fantol yn y trafodaethau hynny, mae'n gwbl ryfeddol nad yw Cydbwyllgor y Gweinidogion wedi cael ei alw ynghyd, er gwaethaf ceisiadau gennyf i a chan Nicola Sturgeon y dylai hynny ddigwydd. Ac mae'n ddrwg gen i ddweud ei fod yn arwydd o'r ffordd y mae Prif Weinidog presennol y DU yn barod i esgeuluso cyfrifoldebau sylfaenol bwysig ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig, tra ei fod yn hytrach yn mynd ar drywydd y gwahanol fathau o freuddwydion gwrach y mae wedi eu rhoi o'n blaenau o ran trefniant gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Clywais y cyfeiriadau at ddirmyg. Beth am ddirmyg tuag at farn pobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r esgeulustod y mae eich Llywodraeth chi wedi ei ddangos i gefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw trwy gefnogi Prif Weinidog y DU i gyflawni Brexit erbyn 31 Hydref? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pa fath o gyngor fyddech chi'n gallu ei roi i Brif Weinidog y DU ar Brexit, o gofio bod gan eich plaid o leiaf dri safbwynt ar y mater? Ar y naill law, mae gennych chi safbwynt Jeremy Corbyn, sef, mae'n ymddangos, 'Gadewch i ni gael etholiad cyffredinol, yna refferendwm, a dywedaf wrthych chi sut i ymgyrchu ar ôl i ni gyrraedd y fan honno.' Ar y llaw arall, mae gennych chi safbwynt Llywodraeth Cymru, sy'n ymddangos, yr wythnos diwethaf o leiaf, i bob golwg, y dylid cynnal refferendwm ac yna byddwch yn ymgyrchu i aros, ni waeth pa fath o gytundeb y gallai Llywodraeth Jeremy Corbyn ddychwelyd ag ef o Frwsel. Ac mae gennych chi raniad hefyd, wrth gwrs, o fewn Llywodraeth Cymru, gyda Jeremy, ar eich mainc flaen—y Jeremy arall, os cawn ni ei alw'n hynny—eich Gweinidog Brexit, sydd wedi ei gwneud yn gwbl eglur mai ei farn ef yw y dylai fod refferendwm cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur ar Brexit mewn gwirionedd, a sut ar wyneb y ddaear ydych chi'n credu bod hynny'n ddefnyddiol mewn unrhyw fath o sgwrs y gallech chi ei chael gyda Phrif Weinidog y DU?
Llywydd, am fisoedd a misoedd ar ôl refferendwm 2016, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn y fan yma i gyflwyno ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi amddiffyn ein heconomi a'n swyddi. Fe'i cyhoeddwyd gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd yn seiliedig ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn dangos ffordd o wneud hynny na fyddai wedi aberthu swyddi yng Nghymru, cwmnïau Cymru a chymunedau Cymru. Am fis ar ôl mis, ceisiasom berswadio Llywodraeth y DU i gytuno â'r prosbectws hwnnw, a dim ond pan ddaeth yn gwbl eglur nad oedd unrhyw siawns o gwbl o bersawdio Llywodraeth y DU o ffurf ar Brexit a fyddai wedi amddiffyn buddiannau Cymru y gwnaethom ni benderfynu nad oedd yn bosibl parhau i hyrwyddo'r safbwynt hwnnw gyda hygrededd mwyach.
Y ffordd yr ydym ni'n parchu pobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n bwysig iawn parchu pobl sy'n arddel gwahanol safbwynt ar y mater hynod rwygol hwn—y ffordd yr ydym ni'n parchu safbwynt y bobl hynny yw dweud bod yr amser wedi dod pan ddylai'r penderfyniad ddychwelyd i'w dwylo nhw ac i ddwylo dinasyddion eraill. Nid oes unrhyw beth yn amharchus mewn democratiaeth ynghylch dweud wrth bobl yr hoffem iddyn nhw gael y cyfle i ddatrys y mater hynod rwygol hwn. Ac mae ein polisi ni fel Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur ers dechrau'r haf: dylai'r penderfyniad ddychwelyd i ddwylo dinasyddion. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros. Ac rydym ni'n gwneud hynny hefyd gyda pharch at bobl sy'n arddel gwahanol safbwynt i ni, oherwydd rydym ni wedi dod i'r casgliad, o bopeth yr ydym ni wedi ei weld, nad oes unrhyw gytundeb gwell na'r cytundeb sydd gennym ni nawr, sef y cytundeb sydd gennym ni drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r ffordd orau y gellir sicrhau dyfodol teuluoedd Cymru a dyfodol Cymru. Byddwn yn dadlau'r achos hwnnw, a byddwn yn ei ddadlau mewn ffordd sy'n barchus, tuag at bobl sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd a phobl sydd â barn wahanol. Ond nid ydych chi'n parchu pobl trwy beidio â dweud wrthyn nhw beth yw'r safbwynt onest yr ydych chi wedi ei fabwysiadu, ac mae popeth yr wyf i wedi ei weld yn fy arwain at y casgliad hwnnw—anodd fel y mae'n gallu bod mewn rhai lleoedd, lle nad yw pobl yn cytuno, ond nid wyf i'n barod i fynd allan a dweud wrth bobl yng Nghymru unrhyw beth heblaw'r gwir fel yr wyf i'n ei weld. Bydd gan bobl eraill wirioneddau eraill, a bydd refferendwm yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu barn hwythau hefyd. Dyna pam yr ydym ni wedi mabwysiadu'r safbwynt sydd gennym ni, ac rwy'n credu ei fod yn parchu'r holl safbwyntiau sy'n bodoli ar y mater hwn.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54537
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ym Merthyr Tudful a Rhymni. Ym Merthyr, rydym ni wedi buddsoddi dros £2 filiwn drwy'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol bresennol, £225 miliwn ar gyfer gwelliannau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac rydym ni wedi ymrwymo £42.5 miliwn i fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwn fod nifer o'r blaenoriaethau craidd hynny'n bwysig i les fy etholwyr, yn enwedig ym meysydd iechyd, tai a gofal cymdeithasol, ond a gaf i ganolbwyntio fy nghwestiwn atodol ar anghenion yr economi leol? Rydym ni'n gwybod y bu rhywfaint o newyddion economaidd drwg yn ddiweddar am golli swyddi yn y dref, ond gwn hefyd am gwmnïau sy'n parhau i recriwtio ac sydd â chynlluniau i ehangu. Felly, er enghraifft, agorwyd Sharp Clinical Services yn Rhymni yr wythnos diwethaf. Mae General Dynamics Land Systems UK bellach yn recriwtio mwy o staff, a gwelwn lwyddiant atyniadau twristaidd mawr fel BikePark Wales a Rock UK. Ac ym mhob un o'r achosion hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymorth mawr i sicrhau buddsoddiad a swyddi yn fy etholaeth i. Ond gyda rhywfaint o'r ansicrwydd economaidd sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, a fyddech chi'n cytuno bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan gynnwys cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd o Ddowlais i Hirwaun, yr orsaf fysiau newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Merthyr Tudful erbyn hyn, ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau a buddsoddi yn y system rheilffyrdd a metro ymhlith blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru, oherwydd yr atebion trafnidiaeth hynny fydd y sail hanfodol i economi Merthyr Tudful a Rhymni, a chymunedau ehangach y Cymoedd?
Llywydd, wrth gwrs bod Dawn Bowden yn iawn bod buddsoddi mewn seilwaith yn hanfodol i economi fodern a llwyddiannus. Dyna pam yr ydym ni mor ymrwymedig i sicrhau ein bod ni'n cael y gwerth gorau posibl o rownd bresennol rhaglenni ariannu'r UE, gyda phopeth y bydd hynny'n ei wneud i Ferthyr a Rhymni. Rydym ni'n mynd i wario £21.1 miliwn i wella rheilffordd Merthyr, rydym ni'n mynd i wario £19.5 miliwn i wella rheilffordd Rhymni, ac mae hynny i gyd yn dod o raglen ariannu 2014-20 yr UE. Ynghyd â seilwaith trafnidiaeth o'r math hwnnw, mae angen seilwaith digidol arnom ni, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi £7.6 miliwn yn y seilwaith band eang cyflym iawn ar gyfer yr etholaeth y mae'r Aelod yn ei chynrychioli.
Mae'r economi, wrth gwrs, yn hanfodol i ddyfodol yr etholaeth. Rydym ni wedi sicrhau'r holl gymorth y gallwn ei roi i'r cwmnïau hynny sy'n eu canfod eu hunain mewn trafferthion, ond fel yr ydym ni wedi ei ddweud ar lawr y Cynulliad o'r blaen, collir miloedd o swyddi bob wythnos yng Nghymru ond mae miloedd o swyddi yn cael eu creu, ac mae Merthyr Tudful yn arbennig wedi bod yn fan yn y blynyddoedd diwethaf lle mae'r economi wedi bod yn ffynnu, a chyda chymorth gan Lywodraeth Cymru bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Prif Weinidog, mae pryderon wedi cael eu mynegi bod eich Llywodraeth wedi penderfynu torri gwariant ar y fenter nofio am ddim £1.5 miliwn o fis Ebrill nesaf ymlaen. O ganlyniad, efallai na fydd rhai pobl dros 60 oed yn gallu cael mynediad at eu sesiwn arferol ac efallai y bydd angen iddyn nhw dalu swm cymorthdaledig am sesiynau nofio. O ystyried manteision iechyd a hamdden nofio am ddim i bobl dros 60 oed, sut y gwnewch chi sicrhau y bydd y manteision hyn yn parhau i gael eu mwynhau, yn enwedig gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd a chymunedau difreintiedig fel Merthyr Tudful a Rhymni? Diolch.
Llywydd, efallai fod yr Aelod yn gwybod bod y dadansoddiad diweddaraf o'r cynllun nofio am ddim wedi dangos mai dim ond 6 y cant o'r boblogaeth dros 60 oed yng Nghymru oedd yn manteisio ar nofio am ddim. Felly, nid oedd 94 y cant o'r boblogaeth bosibl yn cael unrhyw fudd ohono o gwbl. Dyna pam ein bod ni wedi cytuno ar ddull newydd gyda Chwaraeon Cymru trwy awdurdodau lleol o ddarparu nofio am ddim, sydd wedi ei gyfeirio'n benodol at sicrhau y bydd pobl mewn cymunedau llai cefnog yn cael mwy o gyfleoedd i fwynhau nofio am ddim nag yn y gorffennol. Mae hynny'n golygu diwygio rhywfaint ar y rhaglen, ond os oes gennych chi raglen sy'n cyrraedd dim ond 6 y cant o'i chynulleidfa arfaethedig—os nad yw honno'n sail ar gyfer diwygio, nid wyf i'n gwybod beth fyddai.
Cwestiwn 5—David Rowlands.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar ôl cynhadledd Plaid Cymru, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith ariannol y mae—?
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn.
Mae'n ddrwg gen i?
Gofynnwch y cwestiwn ar y papur trefn—y cwestiwn a gyflwynwyd gennych.
Mae'n ddrwg gen i—
Mae angen i chi ddarllen y cwestiwn yr ydych chi wedi ei gyflwyno; nid dyna'r cwestiwn a gyflwynwyd gennych chi.
Ymddiheuraf, Llywydd.
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ariannol y byddai annibyniaeth o weddill y DU yn ei chael ar Gymru? OAQ54510
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn 2017-18, £13.7 biliwn oedd y bwlch rhwng trethi a godwyd yng Nghymru a gwariant cyhoeddus er budd pobl Cymru. Mae'r bwlch hwnnw'n cael ei lenwi drwy ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig.
Diolchaf i chi am hynna, Prif Weinidog. O gofio mai oddeutu £2 driliwn yw dyled genedlaethol y DU, nad yw, wrth gwrs, yn ddyled i Loegr yn unig—. Felly, gydag un o bob 20 o bobl yn y DU yn byw yng Nghymru, byddai hynny'n gwneud cyfran Cymru o'r ddyled honno yn £100 biliwn, gyda llog dyddiol o £7 miliwn. Onid yw hyn yn gwneud y ddadl dros annibyniaeth ychydig yn llai dymunol na'r hyn a arddelwyd mewn ffordd mor orfoleddus yng Ngwesty'r Grand yn Abertawe?
Wel, Llywydd, yr hyn y mae'r Aelod yn ei wneud yw nodi un peth yn yr hyn a fyddai'n batrwm llawer mwy a mwy cymhleth fyth y byddai'n rhaid mynd i'r afael ag ef pe byddai Cymru'n annibynnol ar weddill y Deyrnas Unedig. Mae'r ateb a roddais yn wreiddiol yn dangos y bwlch sy'n cael ei lenwi ar hyn o bryd drwy adnoddau'r DU yma yng Nghymru. Ceir trosglwyddiadau cyllidol rhwng y DU a Chymru gwerth £4,000 y pen o boblogaeth Cymru bob blwyddyn. Byddai'n rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle. Ond nid fy lle i yw ateb y cwestiynau, Llywydd. Cyfrifoldeb y rhai sy'n gwneud y cynnig hwn yw ateb y cwestiynau, ac, os ydyn nhw'n disgwyl i'w cynnig gael ei gymryd o ddifrif, yna bydd disgwyl iddyn nhw gynnig atebion difrifol i'r cwestiynau hyn.
Wel, mae'n gwestiwn diddorol gan Dave Rowlands. Gallwn glywed cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn gweiddi'n frwd nad ydyn nhw'n poeni am effaith ariannol annibyniaeth: maen nhw eisiau eu gwlad yn ôl. Wel, ble'r ydym ni wedi clywed hynny— [Torri ar draws.] Ble'r ydym ni wedi clywed hynny o'r blaen? [Torri ar draws.] Prif Weinidog, mae eich ystadegau chi eich hun—[Torri ar draws.]
Rydych chi'n creu dyfyniadau nawr.
Newyddion ffug.
Rydych chi'n adrodd stori ffug, onid ydych chi?
Newyddion ffug?
Nid oes angen i chi wrando ar bobl—[Torri ar draws.]—nad ydyn nhw ar eu traed. Ewch ymlaen i ofyn eich cwestiwn.
Rwy'n synnu nad oedden nhw wedi eu cythruddo'n fwy wrth wrando ar y cwestiwn gwreiddiol, ond dyna ni. Prif Weinidog, onid gwirionedd y sefyllfa—? Rhoesoch rai ystadegau da iawn yn y fan yna, ond onid gwirionedd y sefyllfa, o ddydd i ddydd, yw bod Cymru'n tyfu'n raddol i fod yn gynyddol annibynnol yn ariannol fel rhan o'r Deyrnas Unedig, a, phan ddaw'n fater o ddatganoli trethi a phwerau benthyg, yn gynyddol felly? Rydym ni wedi dod yn bell, ac, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu, 20 mlynedd yn ôl, y byddai pobl wedi dychmygu y byddai gan y Cynulliad y pwerau sydd gennym ni heddiw.
Ond y mater pwysig nawr—ar wahân i faterion mawr annibyniaeth, y mater pwysig yw i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o ddefnyddio'r offer sydd yn y blwch offer, fel yr oedd eich rhagflaenydd, Carwyn Jones, ac, o'i flaen ef, Rhodri Morgan, yn arfer ei ddweud, a bwrw ati i wneud Cymru yn fwy llewyrchus. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r peth pwysig yw cadw treth yng Nghymru yn gystadleuol, cadw treth incwm yn isel, sicrhau bod pwerau benthyca yn cael eu defnyddio'n ddoeth fel bod gennym ni, yn y pen draw, fwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o wneud Cymru yn fwy llewyrchus ac, yn y pen draw, yn rhan fwy annibynnol o'r Deyrnas Unedig?
Wel, Lywydd, fy marn i erioed yw mai'r ffordd gywir o ddefnyddio'r datganoli cyllidol sydd gennym ni erbyn hyn yw o fewn fframwaith cyllidol y DU, ac roedd hwnnw'n gynnig a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru dim ond yr wythnos hon. Felly, yn yr ystyr eciwmenaidd honno y prynhawn yma, yn union fel y cytunais â rhai pethau yn y papur a ddarparwyd gan y Blaid Geidwadol ar ddigartrefedd, cytunais â'r hyn a ddywedodd Plaid Cymru am yr angen am fframwaith cyllidol ar gyfer y DU. Ond rwy'n credu mai'r ffordd orau o sicrhau ein ffyniant yw drwy barhau i fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig a pharhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Credaf fod y ddau ffactor hyn yn gweithio er mantais Cymru a chredaf mai'r ffordd orau o sicrhau ein ffyniant yw sicrhau aelodaeth barhaus o'r ddau.
Rwy'n sefyll mewn undod heddiw gyda Democratiaid Catalwnia a garcharwyd, ac efallai, o'r sylwadau a glywsom yn gynharach, yr hoffai Plaid Brexit fy rhoi dan glo am yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud, ond fe'i mentraf—[Torri ar draws.] Fe'i mentraf beth bynnag. Rwyf i bob amser yn ei chael hi braidd yn ddigalon pan fydd cyd-Gymro fel David Rowlands yn dangos y fath ddiffyg hyder a barn mor isel am Gymru a'i photensial, gan gredu, mae'n debyg, bod gwledydd eraill llai na Chymru yn gynhenid well na ni, sy'n amlwg ddim yn wir. Y gwir amdani, onid yw, yw bod pobl Cymru yn effro i'r posibilrwydd, dim ond efallai, na allwn ni fforddio peidio â bod yn annibynnol mwyach.
Crybwyllwyd y bwlch cyllidol gennych: tynnaf eich sylw at yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a ddywedodd nad yw'r bwlch cyllidol hwn, nad yw'n gywir fel y mae, yn adlewyrchiad o gwbl—yn adlewyrchiad o gwbl—ar Gymru annibynnol, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o sut nad yw'r DU yn gweithio i Gymru ar hyn o bryd. Y cwestiwn yw pam mae economi Cymru yn dioddef fel y mae ar hyn o bryd. Ac a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd o fagu hyder yn yr hyn y gallwn ni ei gyflawni fel cenedl yw cael confensiwn cyfansoddiadol, gan edrych yn agored ar botensial annibyniaeth i Gymru, mewn cydweithrediad a phartneriaeth â gwledydd eraill, ac edrych ar yr hyn y gallwn ni ei gyflawni, yn hytrach na dangos y diffyg hyder syfrdanol y mae'r unoliaethwyr yn y Siambr hon yn ei ddangos dro ar ôl tro?
Wel, Llywydd, nid yw'n fater o hyder o gwbl; mae'n fater o ddewis gwleidyddol. Nawr, mae gan yr Aelod ei ddewis gwleidyddol, ac felly hefyd ei blaid, ac mae hynny'n gwbl deg ac wrth gwrs bydd ymgyrch dros hynny, ond mae posibiliadau eraill i Gymru hefyd. Ac, yn y papur y byddwn ni'n ei drafod yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwyf i wedi nodi'r dyfodol i Gymru fel y byddai'r Llywodraeth hon a'r blaid hon yn ei weld. Ac nid mater o hyder ydyw; mae'n fater o sut y gall pobl fynegi gwahanol bosibiliadau ar gyfer y dyfodol. I mi, y ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw fel aelod llwyddiannus o Deyrnas Unedig lwyddiannus ac Undeb Ewropeaidd llwyddiannus. Credaf fod y ddau undeb yn iawn i Gymru. Gadewch inni gael y ddadl—y ddadl yw natur gwleidyddiaeth, a dylem ni ei chael, wrth gwrs.
Yn y ddogfen y byddwn ni'n siarad amdani yn ddiweddarach, rydym ni'n cynnig, fel yr ugeinfed pwynt o 20, y dylid cael confensiwn cyfansoddiadol. Credaf mai pwyslais y confensiwn cyfansoddiadol ddylai fod sut i wneud i'r DU weithio'n well yn y dyfodol—sut i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn endid llwyddiannus y mae Cymru'n chwarae ei rhan lwyddiannus ynddi. Ond, os oes gennych chi gonfensiwn cyfansoddiadol, ac yn enwedig os oes gennych chi un sy'n cynnwys dinasyddion, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n chwarae rhan ynddo ar hyn o bryd, yna bydd y cyfle hwnnw ar gael i bobl gyfrannu eu syniadau, i ddadlau dros gynigion eraill. I fynd yn ôl at y pwynt a wnaeth yr aelod ar y dechrau: dadl, trafodaeth a phenderfyniad democrataidd yw'r ffordd iawn o ddatrys y materion hyn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amcangyfrifon diweddaraf y boblogaeth ar wasanaethau cyhoeddus Cymru? OAQ54558
Llywydd, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol diweddaraf ddydd Llun yr wythnos nesaf, 21 Hydref. Roedd amcanestyniadau blaenorol yn awgrymu cynnydd cymedrol i boblogaeth Cymru yn gyffredinol ond twf cyflymach ymhlith pobl hŷn, gydag effeithiau ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai.
Wel, bydd y Prif Weinidog yn gwybod y gellid ffugio unrhyw amcanestyniadau a gyhoeddir yr wythnos nesaf yn hawdd pe byddem ni'n ddigon anffodus i ethol Llywodraeth Lafur yn y dyfodol agos, oherwydd, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, pleidleisiodd y Blaid Lafur, i bob pwrpas, i ddiddymu pob rheolaeth effeithiol o fewnfudo. Yn arbennig, fe wnaethon nhw osod eu hunain yn erbyn unrhyw ffurf o reolaeth fewnfudo yn y dyfodol yn seiliedig ar gwotâu, capiau, targedau neu incymau, ac addawsant i gael gwared ar y rheolau presennol sy'n cyfyngu ar fynediad at lety a'r gwasanaeth iechyd gwladol i lawer o fewnfudwyr—a hefyd cael gwared ar y polisi 'dim hawl i arian cyhoeddus' sy'n atal rhai mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau.
Bydd yn cofio pan benderfynodd Llywodraeth Blair ganiatáu mewnfudo anghyfyngedig o ddwyrain Ewrop, ar ôl caniatáu i wledydd fel Gwlad Pwyl a Hwngari ymuno â'r UE, dywedodd Len McCluskey, arweinydd Unite, yn 2016 mai effaith hynny oedd ei fod yn
arbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin
ac wedi arwain at
bwysau parhaus ar safonau byw
ac ymgais systematig i gadw cyflogau i lawr a thorri costau diogelwch cymdeithasol i bobl sy'n gweithio. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud ei fod bellach o blaid parhau â'r arbrawf enfawr hwnnw, y mae Len McCluskey yn dweud ei fod yn erbyn buddiannau pobl sy'n gweithio? Onid y gwir yw bod y Blaid Lafur, yn yr ymgais wyllt i ennill pleidleisiau ymfudwyr, wedi cefnu ar ddosbarthiadau gweithiol Prydain—yn enwedig, y dosbarth gweithiol gwyn?
Wel, rwy'n credu bod y sylw olaf a wnaeth yr Aelod yn hynod o sarhaus, ac y dylai feddwl am hynny. Pe byddwn i—. Pe byddwn i'n credu bod unrhyw siawns, byddwn yn gofyn iddo ei dynnu yn ôl. Yn wirioneddol nid oes ganddo unrhyw ran i'w chwarae ar lawr y Cynulliad hwn.
Mae ei—. Cytunaf â'r peth cyntaf un a ddywedodd, ac nid oes unrhyw beth arall a ddywedodd y gallwn i gytuno ag ef. Wrth gwrs, nid rhagolygon yw amcanestyniadau poblogaeth; dydyn nhw ddim yn ceisio darogan y dyfodol, y cwbl maen nhw'n ei wneud yw edrych i weld sut y gallai'r dyfodol fod ar sail tueddiadau blaenorol. Yn syml, nid wyf i'n rhannu cyfres o safbwyntiau, hynod ragfarnllyd yn fy marn i, yr Aelod ar bobl yr ydym ni wedi bod yn ddigon ffodus i'w denu o rannau eraill o'r byd i ddod i wneud eu dyfodol nhw yn rhan o'n dyfodol ni. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arnyn nhw, mae ein cymunedau yn gyfoethocach oherwydd eu bod nhw yma, ac edrychaf ymlaen at ddyfodol lle mae Cymru'n parhau i groesawu pobl o fannau eraill ac yn gadael iddyn nhw wybod eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n gwlad a'r cymunedau sy'n ei ffurfio.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol? OAQ54515
Llywydd, bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf ar 27 Tachwedd, fel y nodwyd yn flaenorol.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni mai amcanion y Comisiwn fyddai dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ynghylch anghenion seilwaith strategol economaidd ac amgylcheddol tymor hwy Cymru dros gyfnod o dair neu bum mlynedd i 30 mlynedd. Rwy'n falch bod rhai comisiynwyr wedi eu penodi erbyn hyn, ond mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arall wedi cael ei gynhyrchu na'i gyflawni. Dywedir wrthym y bydd papur cwmpasu ar gael yn ddiweddarach eleni. Mae hynny bron i ddwy flynedd ar ôl sefydlu'r comisiwn. Ac ni fydd papur cyflwr y genedl ar gael cyn 2022. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig beth yr ydym ni wedi ei gael, yn sicr, tan yn ddiweddar, yw un aelod o staff sy'n gweithio allan o swyddfa Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n credu bod gan y comisiwn yr adnoddau priodol i wneud ei waith, a phryd byddwn ni'n gweld tystiolaeth wirioneddol o gynnydd?
Wel, Llywydd, mae'r adnoddau sydd ar gael—yr adnoddau staffio sydd ar gael—i'r comisiwn wedi cynyddu yn y cyfnod diweddar. Mae'r llythyr a anfonodd y Gweinidog, Julie James, at Russell George ar 16 Medi yn nodi'r capasiti ymchwil cynyddol y bydd y comisiwn ei angen wrth i'w waith ddatblygu. Roeddwn i'n meddwl bod yr adroddiad a ddarparodd y pwyllgor yn adroddiad defnyddiol. Roeddwn i'n meddwl bod y modd y cyflwynodd Russell George ei gasgliadau yn ei lythyr at Julie James ar 14 Awst yn ffordd adeiladol o geisio gwella gwaith y comisiwn yn y dyfodol, a gobeithiaf y bydd yr Aelod yn cytuno bod ateb y Gweinidog ar 16 Medi yn yr un ysbryd.
Trefnwyd adroddiad blynyddol cyntaf y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer mis Tachwedd eleni o'r cychwyn—nid oes unrhyw syndod yn hynny. Rydym ni wedi dilyn cyngor y pwyllgor bob amser trwy ddweud y byddai adroddiadau'n cael eu cyhoeddi bob tair blynedd ar ôl hynny, felly ni ddylai 2022 fod yn syndod i neb ychwaith. Byddwn hefyd yn adolygu gweithrediad y comisiwn cyn yr etholiadau yn 2021. Ond mae hynny i gyd yn fater o gofnod cyhoeddus, Llywydd—dyna'r ffordd y mae'r comisiwn wedi ei ddisgrifio erioed, a gadarnhawyd yn llythyr y Gweinidog ym mis Medi, pan ymatebodd yn gadarnhaol i agweddau eraill ar waith y pwyllgor, yn enwedig o ran edrych ar ffyrdd y gellir ehangu cylch gwaith y comisiwn i gynnwys agweddau ar dai o fewn ei gylch gwaith.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8—Leanne Wood.
8. Sut y bydd y Rhondda'n elwa o Dasglu'r Cymoedd? OAQ54529
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ymhlith y manteision a gronnwyd i'r Rhondda trwy waith tasglu'r Cymoedd y mae'r cynllun arbrofol O'r Cymoedd i'r Gwaith, sy'n helpu pobl yn y Rhondda i gael gwaith, a mynediad at y £10 miliwn i ailddechrau defnyddio cartrefi gwag ar draws ardal y tasglu.
Wrth gwrs, bysiau a thai yw'r hyn y dylech chi fod yn ei ddarparu beth bynnag. Y tro diwethaf i mi dynnu eich sylw at y diffyg buddsoddiad yn y Rhondda, soniasoch am brosiect Skyline fel rhywbeth a allai roi hwb i'r economi leol. Nawr, mae hwn yn rhywbeth y byddwn i'n ei gefnogi; mae'n cyd-fynd â'r syniad o gymunedau yn cymryd rheolaeth dros dir lleol a'u tynged eu hunain, sef sail fy mhapur 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd', a gyhoeddais wyth mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, ceir rhai rhwystrau i ddatblygu'r hyn sydd â'r potensial i fod yn brosiect cyffrous iawn, a gwelwyd tystiolaeth o hyn yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn adeilad y Pierhead. Mae'r cwestiwn amlwg yn ymwneud ag ariannu, felly a allwch chi ddweud wrthyf i heddiw pa arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, neu'n bwriadu ei ddarparu, i hwyluso prosiect Skyline yn y Rhondda? Yn bwysicach na hynny, fodd bynnag, yw amharodrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel tirfeddianwyr i fod yn alluogwyr ar gyfer y prosiect hwn. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod eu swyddogaeth yn un o oedi a rhwystro. Felly, a wnewch chi gyfarwyddo'r adran hon o Lywodraeth Cymru i gefnogi'r prosiect hwn fel mater o frys i'w gefnogi gyda chamau ymarferol, fel y gall eich geiriau gwresog ar y mater hwn olygu rhywbeth mewn gwirionedd?
Wel, diolch i'r Aelod am dynnu ein sylw at brosiect Skyline eto, ac rwy'n rhannu ei brwdfrydedd hi yn ei gylch. Mwynheais i'r cyfle i fod yn y Pierhead, a mwynheais yn arbennig y cyfle i fynd i Flaenrhondda ym mis Awst, a chyfarfod â phobl sy'n cymryd rhan uniongyrchol ym mhrosiect Skyline yn y fan honno, i fynd i weld drosof fy hun rhai o'r lleoedd y maen nhw'n gobeithio eu cwmpasu, a chlywed ganddyn nhw yr hyn yr oedden nhw'n ei feddwl byddai'r camau nesaf uniongyrchol iddyn nhw. Ac fe wnaethon nhw sôn am Cyfoeth Naturiol Cymru wrthyf i, felly mae Leanne Wood yn gwbl deg i dynnu sylw at yr agwedd honno ar waith y Skyline.
Cynigiais gyfarfod arall iddyn nhw yn ddiweddarach eleni, pe na fyddai'r gwaith yr oedden nhw'n cymryd rhan ynddo yn dwyn ffrwyth yn y ffordd yr oedden nhw'n dymuno. Roedden nhw'n fodlon ar y pryd i barhau â'r ymdrechion yr oedden nhw eu hunain yn eu gwneud i ddatrys rhai o'r rhwystrau yr oedden nhw'n yn eu gweld ar y ffordd. Ond dywedais wrthyn nhw bryd hynny, ac rwy'n hapus iawn i'w ailadrodd eto heddiw, os byddan nhw'n cyrraedd pwynt lle maen nhw'n teimlo nad yw eu hymdrechion eu hunain yn llwyddo i glirio rhai o'r rhwystrau, yn eu tyb nhw, i symud ymlaen, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â nhw eto, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda Gweinidogion eraill yma i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i helpu'r prosiect cyffrous iawn hwnnw i ddwyn ffrwyth.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ar ei gyfirfoldebau fel swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed.
1. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch maint yr ystâd carchardai yng Nghymru? OAQ54520
Nid wyf wedi gwneud unrhyw sylwadau cyfreithiol ynghylch maint yr ystad carchardai yng Nghymru fy hun.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd clywed. Fe wnaethoch chi ddweud nad ydych—
Nid wyf wedi gwneud unrhyw sylwadau yn gysylltiedig â hynny.
Iawn. Rwyf i ond yn gofyn o ran Araith y Frenhines, gan ein bod wedi clywed yr wythnos hon y bydd Llywodraeth y DU yn symud i ymestyn dedfrydau yn y DU, ac wrth gwrs, nid yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eto wedi rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer carchar enfawr yn ne Cymru. Efallai eu bod wedi rhoi'r gorau i gynllun Port Talbot, ond nid yw cynllun uwch-garchar de Cymru wedi'i ddileu. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad ynghylch dedfrydu a allai roi'r syniad hwn ar ben ffordd eto, a fyddech chi'n gallu cyflwyno sylwadau, yn rhinwedd eich swydd, i Lywodraeth y DU er mwyn deall beth yw eu cynigion, ac a fyddem ni'n gallu cael unrhyw fewnbwn yma yng Nghymru, gan na chawsom ni hynny pan wnaethon nhw grybwyll syniad uwch-garchar Port Talbot yn flaenorol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Gwelais i'r cynigion a gafodd eu gwneud yn Araith y Frenhines ddoe hefyd. Mae arnaf i ofn fy mod yn dehongli’r digwyddiad cyfan ddoe fel tipyn o stỳnt wleidyddol yng nghyd-destun ehangach y sefyllfa y mae'r Llywodraeth ynddi. Ond ar y prif bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am yr ystad carchardai yng Nghymru, a'r posibilrwydd, fel y cyfeiria hi ato, o ddatblygiad Baglan yn benodol, bydd hi'n cofio, yn dilyn y problemau gyda'r datblygiad arfaethedig hwnnw, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill y llynedd, yn nodi na fyddem ni'n hwyluso unrhyw ddatblygiad pellach i garchardai yng Nghymru heb drafodaeth ystyrlon â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag ystad y dyfodol, ac y dylai unrhyw ddatblygiad carchar newydd yng Nghymru roi sylw dyledus i anghenion Cymru ac y dylid ei wneud mewn cydweithrediad llawn â Llywodraeth Cymru.
Rwyf i'n deall y gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn ystyried safleoedd ar gyfer carchar newydd i ddynion yn ne Cymru. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi cael unrhyw fanylion pellach eto o ran hynny, ond rydym ni wedi bod yn pwyso am ddarparu'r manylion hynny, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond rwyf i yn sicrhau'r Aelod bod y Llywodraeth yn parhau i fod â'r egwyddorion a nodwyd yn y datganiad ar 6 Ebrill.
Rwy'n credu bod argyfwng gwirioneddol o ran yr ystad ddiogeledd yng Nghymru. Mae sylw bob amser ar garchardai mawr i ddynion, ond nid oes sylw o gwbl ar natur yr ystad, a'r ffordd y caiff menywod a throseddwyr ifanc yn arbennig eu trin o fewn y system. Nawr, mae hwn yn faes lle mae gennym ni setliad sydd wedi'i chwalu'n llwyr, lle mae'r setliad datganoli yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru rhag cyflawni unrhyw bolisi cydlynol neu gyfannol. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gallu, yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datganoli er mwyn galluogi'r lle hwn i gynllunio system yn fwy effeithiol, ond, yn bwysicach, ac yn fwy taer, o bosibl, i sicrhau bod gennym ni'r cyfleusterau yn y wlad hon i alluogi menywod a throseddwyr ifanc i gael eu cynnal yn briodol mewn llety diogel, lle mae hynny'n angenrheidiol, ond hefyd i gael y gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn hybu adsefydlu o fewn hynny. Nid oes yr un o'r rheini'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. A yw'n bosibl, Cwnsler Cyffredinol, ichi ddefnyddio'ch swydd er mwyn hyrwyddo'r achos hwn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno polisi cyfannol yn y maes hwn?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran datganoli'r system gyfiawnder, bydd ef yn ymwybodol, wrth gwrs, bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn bwriadu cyflwyno adroddiad yr wythnos nesaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed pa gasgliadau y maen nhw wedi'u cyrraedd o ran hyn. Bydd yn ymwybodol o'i ymgysylltiad ei hun â'r comisiwn fod hwn yn fater y maen nhw, yn amlwg, wedi bod yn ei archwilio. Bydd hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cyhoeddi glasbrintiau troseddu gan fenywod a chyfiawnder ieuenctid, y bu ef hefyd yn ymwneud â nhw, wrth gwrs, yn ystod ei gyfnod mewn Llywodraeth, sydd yn ceisio datblygu, er gwaethaf y setliad datganoli, ffyrdd arloesol o gyfuno'r gwasanaethau y gall Llywodraeth Cymru eu darparu â'r ymyriadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Ac, yn amlwg, pwyslais hynny yw ailgyfeirio pobl oddi wrth y system cyfiawnder troseddol a'u cefnogi mewn ffordd gyfannol ac adsefydlol.
O ran y pwynt y mae'n ei wneud am garcharorion benywaidd, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, fel y mae'n amlwg yn gwybod, ac nid ydym ni eisiau un. Mae angen cyfleuster diogel ar fenywod Cymru sy'n addas at y diben, ac ar yr un pryd yn caniatáu iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â theuluoedd, ac yn enwedig â'u plant, pan fo hynny'n wir. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynlluniau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i dreialu pum canolfan breswyl newydd yn rhan o'u strategaeth troseddwyr benywaidd, ac mae eisoes wedi cyflwyno achos cryf dros sicrhau bod o leiaf un o'r canolfannau arfaethedig hynny wedi'i lleoli yma yng Nghymru.
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phriodoldeb y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ar y cynllun bathodyn glas? OAQ54531
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i adolygu y canllawiau y mae'n eu cyhoeddi ar amrywiaeth o faterion. Wrth gwrs, mae dadl wedi'i threfnu yfory, i drafod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth yn edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau.
Diolch am hynny. Wel, er gwaethaf unrhyw ddadl, mae etholwyr wedi dweud wrthyf i, er bod y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynllun y Bathodyn Glas yn dweud eu bod yn cefnogi'r model cymdeithasol, bod y ddeddfwriaeth â phwyslais meddygol, yn eu barn nhw, a'i bod yn cael ei chymhwyso'n anghyson. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, mae'r cyngor wedi mynnu bod meddyg ymgynghorol ysbyty yn darparu tystiolaeth, er nad yw'r ymgeiswyr o dan ofal meddyg ymgynghorol. A ydych chi'n derbyn, felly, bod y sefyllfa bresennol yn llanastr a bod eich arweiniad a'ch deddfwriaeth yn y maes hwn yn ddiffygiol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae'r materion y mae e'n cyfeirio atyn nhw, wrth gwrs, yn faterion sy'n cael eu hystyried gan y pwyllgor yn bresennol ac y mae nifer o'i argymhellion yn berthnasol iddyn nhw. Gwn i fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn ymgysylltu â'r Pwyllgor ynghylch nifer o'r argymhellion hynny ar sail reolaidd. Ac fe ddywedaf eto ein bod yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Aelodau i'w ddweud yn y ddadl yfory, a bydd fy nghyd-Aelod yn ymateb ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Rwy'n cydnabod, Cwnsler Cyffredinol, bod llawer o'r materion hyn sy'n cael eu hystyried yn faterion i'r Gweinidog adrannol yn hytrach nag i chi, ond fy mhryder i yw gallu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei pholisi'n cael ei ddilyn ledled y wlad. Oherwydd un o'r materion sydd newydd gael ei godi gan Aelod Plaid Cymru dros Dde-orllewin Cymru—yr wyf wedi'i wynebu yn fy etholaeth fy hun—yw nad yw'r awdurdod lleol dan sylw yn cyflawni'r polisi fel y mae wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru. O ran eich swydd chi fel Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n darparu, neu a ydych chi wedi darparu, unrhyw gyngor i Weinidogion, neu i eraill, ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod y polisi fel y mae wedi'i bennu gan y lle hwn, fel y mae wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni'n deg ac yn gyson ledled y wlad gyfan?
Rwy'n petruso cyn mynnu'r confensiwn, yr wyf yn ymwybodol bod yr Aelod yn deall ei fod yn berthnasol, ynghylch natur y cyngor a roddir o ran y materion hyn. Wrth gwrs, mae cwestiwn ein cymhwysedd ni yn un yr wyf yn ymwybodol iawn ohono, ac, er mai rhan o fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw sicrhau ein bod bob amser yn gweithredu o fewn ein gallu, rwyf yn cymryd hefyd y dylem ni weithredu hyd eithaf ein cymhwysedd, a gallaf ei sicrhau ef bod yr ystyriaethau hynny'n flaenllaw iawn yn fy meddwl wrth ymateb i'r setiau hyn o faterion.
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ54513
Y disgwyl yw y bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn cyhoeddi ei adroddiad ddydd Iau 24 Hydref, ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad.
Diolch. Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi cyhoeddi ei argymhelliad ynghylch Cyngor Cyfraith Cymru. Mae'r nodau a fwriedir ganddo i'w cymeradwyo, yn enwedig hybu cynorthwyo myfyrwyr yn eu haddysg a'u hyfforddiant fel ymarferwyr y dyfodol. Mae manylion y cyngor arfaethedig yn tynnu sylw at y ffaith y bydd yn helpu ysgolion cyfraith Cymru i roi'r addysg a'r hyfforddiant angenrheidiol i'w myfyrwyr er mwyn iddyn nhw ffynnu wrth ymarfer. Nawr, yn ôl UCAS, yn y flwyddyn academaidd hon, dechreuodd 890 o fyfyrwyr israddedig o Gymru ar gyrsiau cyfraith ledled y DU. Er enghraifft, mae prifysgolion fel Caer, Birmingham a Bryste yn ganolfannau allweddol i fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i ymarfer yng Nghymru. A wnewch chi egluro a fydd y comisiwn yn dylanwadu ar addysg ac ymarfer y tu allan i Gymru, ac, os na, esboniwch a ydych chi'n derbyn y gallai hyn fod yn newyddion negyddol o ran ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru y mae angen ymdrin â hi?
Wel, fel y dywedaf i, o ran yr argymhellion penodol y bydd y comisiwn yn eu gwneud, rydym ni'n aros i weld beth yw'r argymhellion hynny. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol rhagfarnu gwaith comisiwn annibynnol o ran hynny. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynghylch lle mae myfyrwyr yn astudio'r gyfraith a lle maen nhw'n ymarfer yn y pen draw. Mae hi hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod ysgolion cyfraith Cymru yn addysgu'r gyfraith i fyfyrwyr o bob rhan o'r DU a ledled y byd. Felly, mae hwn yn fater lle mae pobl yn astudio y tu mewn a'r tu allan i Gymru ac yn ymarfer mewn nifer o leoliadau.
Ond mae'r pwynt ynglŷn â bod yn gyfarwydd â chyfraith Cymru, sydd, y gwn i, wrth wraidd ei chwestiwn, yn un yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono, yn enwedig o ystyried y drafodaeth a gawsom ni mewn mannau eraill ac yn y Siambr hon ar adegau eraill o ran hygyrchedd cyfraith Cymru yn gyffredinol, ac yn sicr mewn trafodaethau yr wyf i wedi'u cael ag ysgolion y gyfraith, ers fy mhenodi'n Gwnsler Cyffredinol, rwyf i wedi ceisio chwilio am gyfleoedd i dynnu eu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyfraith Cymru yn chwarae ei rhan lawn yn y maes llafur a phrosbectws cyrsiau Prifysgol, nid, fel petai, o safbwynt agweddau cyfansoddiadol yn unig, ond hefyd y gyfraith sylwedd. Ac, wrth i ni ddeddfu yma fwyfwy, rwy'n hyderus y bydd y gyfran o'r gyfraith sy'n cael ei haddysgu yn ysgolion y gyfraith yng Nghymru y mae cyfraith Cymru yn ei chynrychioli yn cynyddu.
Wrth gwrs, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau dystiolaeth i'r comisiwn wrth iddo gael ei ystyried, ac, yn debyg i chi, rwy'n edrych ymlaen at glywed ei adroddiad yr wythnos nesaf. Mae mater sylfaenol yn y fantol yma gyda'i waith, wrth gwrs, ac mae hynny'n ymwneud â natur y setliad o fewn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi mynd i'r afael â materion yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ac yn ystod y sesiwn hon o gwestiynau i chi eisoes ar y materion hyn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig, yng Nghymru, wrth inni edrych tuag at ddatblygu ein hawdurdodaeth ein hunain a sicrhau ein bod yn gallu defnyddio’r gyfraith fel mater o gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd llyfr statud cydlynol o ran cyfraith gyfansoddiadol, ein bod yn edrych ledled y byd ar gyfer enghreifftiau o sut y mae hynny'n cael ei gyflawni?
Roeddwn i ac Aelodau eraill yn ddigon ffodus i ymweld â Jerwsalem yn gynharach yn y flwyddyn ac i gyfarfod â chyn brif ustus Israel, lle yr eglurodd sut y tyfodd awdurdodaeth Israel o awdurdodaeth Prydain yn dilyn ymwahaniad mandad y DU yn Palestina, ac roedd yn gallu datblygu awdurdodaeth ei hun dros amser a chymryd pwerau ychwanegol a chyfrifoldebau ychwanegol wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n fodel da iawn i Gymru ac yn fodel da iawn y gallwn ni ei ddilyn o bosibl.
Heb ragfarnu adroddiad y comisiwn yr wythnos nesaf, Cwnsler Cyffredinol, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod aelodau'n cael cyfle cynnar i drafod y materion hyn, a sicrhau hefyd bod gennym werthfawrogiad cyfoethocach o sut y bydd awdurdodaeth i Gymru yn ein helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni Deyrnas Unedig sy'n fwy cydlynol ar ddiwedd y broses hon.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd gennyf i ddiddordeb mewn trafod ymhellach gydag ef ei fyfyrdodau ar y cyfarfod a'r trafodaethau a gafodd gyda chyn brif ustus Israel. Yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi ystyried mater awdurdodaeth â diddordeb, ac wedi trafod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon sut mae eu trefniadau nhw'n gweithio a sut y maen nhw'n wahanol i'n rhai ni yma. Rwy'n credu y bydd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu'n rhannol fel catalydd ar gyfer cyfres fwy cyfoethog o drafodaethau yn y sefydliad hwn nag efallai y byddem ni wedi gorfod ei derbyn yn y gorffennol ynglŷn â chwestiynau ynghylch cyfiawnder troseddol, yn fras, a sut mae hynny'n rhan o'r setliad datganoli. Ac, yn benodol, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am fater trefniadau awdurdodaeth i'r dyfodol, yn amlwg nid wyf am ragfarnu unrhyw beth y gallai'r Comisiwn ei ddweud, ond mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i ni gan fod corff cyfraith Cymru yn parhau i ehangu wrth i ni gyflawni ein gwaith.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau terfynau cyflymder diogel ledled Cymru? OAQ54514
Cyhoeddodd y Prif Weinidog ym mis Mai ein bod yn cefnogi 20 mya fel y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig ac rydym ni wedi sefydlu, fel Llywodraeth, grŵp gorchwyl a gorffen i ddarparu argymhellion ar sut i weithredu hyn, gan gynnwys newidiadau posibl i ddeddfwriaeth.
Diolch. Wel, rwyf i, ar ran fy etholwyr yn Aberconwy, yn falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn gwneud yr ymrwymiad hwnnw gan ei fod yn fater pwysig yn fy mlwch negeseuon ar hyn o bryd.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' yn cael dylanwad mawr, yn amlwg, ar benderfyniadau ar derfynau cyflymder wrth ystyried darparu terfyn cyflymder neu addasiadau mewn ardal wledig. Mae awdurdodau'r priffyrdd i fod i ystyried 12 ffactor penodol. Rwyf i fy hun wedi cyhoeddi adroddiad sy'n tynnu sylw at y ffaith bod bron pob ystyriaeth, mae'n ymddangos, yn canolbwyntio'n bennaf ar y niferoedd a'r mathau o wrthdrawiadau pan fyddant yn digwydd. Oherwydd diffyg yn y nifer o wrthdrawiadau sy'n cael eu hadrodd, mae ffyrdd gwledig troellog rhif y gwlith yn gaeth i derfynau cyflymder peryglus. Mae'r Prif Weinidog, mewn gohebiaeth ataf i, wedi dweud y bydd rhywfaint o fy ngwaith yn cael ei ystyried yn rhan o adolygiad o'r canllawiau, ond rwy'n bryderus mai dim ond drwy gyfreithloni'r ffactorau i'w hystyried ynghylch pennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru y bydd modd cyflawni cynnydd. A fyddech chi'n barod i gysylltu â'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, ac yn wir â'r Prif Weinidog, i asesu goblygiadau posibl cyfreithloni'r canllawiau?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Rwyf i bob amser yn hapus i gydweithredu â fy nghyd-Weinidogion yn y Llywodraeth ynghylch y materion hyn ac, yn wir, â phob mater perthnasol arall.
Mae'r tasglu bellach wedi cyfarfod, rwy'n credu, ar ddau achlysur i ymchwilio i'r dystiolaeth y gwn i y bydd hi'n dymuno i ni, fel Llywodraeth, ei hystyried, ac rydym ni wedi dechrau nodi'r amryw o faterion y mae hi'n cyfeirio atyn nhw yn ei chwestiynau. Bydd argymhellion y grŵp hwnnw, a fydd yn cwmpasu'r maes hwn, yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog ac i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth cyn toriad yr haf y flwyddyn nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yr ystyriaethau hynny flaenaf yn eu meddyliau.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: tynnwyd yn ôl y ddadl fer yfory ar bwysigrwydd lles anifeiliaid i hyrwyddo delwedd Cymru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Mae'r un cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'n ymwneud â chanser eilaidd y fron ac ymwybyddiaeth o ganser eilaidd y fron. Roedd y trydydd ar ddeg o Hydref, ddydd Sul diwethaf, yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Canser Eilaidd y Fron, ac nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gyfarwydd â manylion ynghylch ganser eilaidd y fron, ond y gwir yw bod miloedd o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser eilaidd y fron, ac, yn anffodus, bydd llawer o'r rheini wedi profi oedi sylweddol o ran cael diagnosis. Yn ôl ystadegau, mae'n awgrymu bod yn rhaid i un o bob tri chlaf ymweld â'u meddyg teulu fwy na theirgwaith er mwyn sicrhau diagnosis; mae un o bob pedwar wedi mynegi pryderon am y gallu i gael triniaeth; ac nid yw nyrs glinigol arbenigol yn cael ei neilltuo i un o bob tri, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael diagnosis. Felly, yn amlwg mae angen gweithredu yn y maes hwn, a byddai'n dda cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon penodol hynny.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig o ran amddiffynfeydd môr Hen Golwyn? Gwn fy mod wedi codi'r mater hwn droeon dros y blynyddoedd yn y Siambr hon, ond byddwch chi'n ymwybodol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio ailedrych ar y sefyllfa a gwerthuso cyflwr presennol yr amddiffynfeydd môr hynny. Maen nhw wedi rhybuddio bod yr amddiffynfeydd môr mewn perygl o ddymchwel yn llwyr. Rydym ni'n ymwybodol bod yr amddiffynfeydd môr hynny'n union wrth ochr yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru, a hefyd maen nhw'n diogelu rhan sylweddol o'r rhwydwaith carthffosiaeth yn ardal Hen Golwyn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r mater sydd yno yn Hen Golwyn, fel y gallwn ni gael yr amddiffynfeydd môr hynny'n wedi'u hatgyfnerthu'n iawn yn hytrach na'r atgyweiriadau dros dro a wneir yn achlysurol gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd. Gwn fod cylch y gyllideb ar ddod, ac rwy'n credu y gallai hynny roi cyfle ar gyfer prosiect seilwaith mawr mewn lleoedd fel Hen Golwyn er mwyn diogelu'r rhan honno o'r morlin rhag dymchwel. Tybed a allem ni gael datganiad am barodrwydd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem arbennig hon yn fy etholaeth i?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch, Darren Millar, am godi'r materion hynny y prynhawn yma. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â chanser eilaidd y fron a'r pryderon penodol a godwyd o ran oedi cyn cael diagnosis, cael gafael ar driniaeth, a chael gafael ar, wrth gwrs, nyrs glinigol arbenigol, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd ysgrifennu atoch chi yn amlinellu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar bob un o'r meysydd hynny.FootnoteLink
Amddiffynfeydd môr Hen Golwyn—gwn eich bod chi wedi codi hyn sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd. A gaf i ofyn i chi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd gyda'ch pryderon penodol, yn enwedig o ran y llinell garthion ac yn y blaen, fel y gall hi ystyried hynny?
Mae'r mater cyntaf yr wyf i am ei godi heddiw'n ymwneud â phenderfyniad Banc Barclays i ddileu gallu ei gwsmeriaid i ddefnyddio Swyddfa'r Post i fynd at eu cyfrifon. I bobl yn rhai o'r cymunedau yr wyf i yn eu cynrychioli, mae hyn wedi achosi pryder mawr ar ôl cau canghennau banc Barclays yn y Rhondda yn ddiweddar. Yn wir, cyfeiriodd uwch reolwyr yn y banc at allu cwsmeriaid i ddefnyddio Swyddfa'r Post ar ôl i gangen leol Barclays gau, fel ffordd o leddfu'r ergyd pan gaewyd y canghennau hynny ganddyn nhw. Mae Barclays yn blaenoriaethu elw dros y bobl sydd wedi eu cefnogi yn ffyddlon dros flynyddoedd lawer. Beth fydd yn digwydd pan fydd banciau eraill yn dilyn eu hesiampl ac yn torri eu cysylltiadau â'r rhwydwaith Swyddfeydd Post hefyd? Byddai hyn yn peryglu bancio personol mewn ardaloedd ynysig o'r wlad, a byddai'n peryglu cynaliadwyedd canghennau Swyddfa'r Post. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf i ba sylwadau sydd wedi'u cyflwyno gan y Llywodraeth hon, neu pa sylwadau y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno ar y mater hwn?
Hoffwn i fynegi fy mhryder mawr am ddigwyddiadau yng Nghatalonia. Dedfrydwyd naw arweinydd Catalanaidd i rhwng naw a 13 o flynyddoedd yn y carchar am fod mor eofn â chynrychioli mewn modd heddychlon a democrataidd ddymuniadau'r bobl a'u hetholodd. Prin y gallaf gredu bod hyn yn digwydd yn Ewrop ac yn 2019. Mae'n warthus y gallai democratiaeth fodern, honedig, weithredu mewn ffordd mor awdurdodol. Mae'n warthus bod y gymuned ryngwladol, ac yn enwedig cyd-Lywodraethau Ewropeaidd, wedi bod yn dawedog ar y mater hwn i raddau helaeth, ac mae'n frawychus bod sylw'r wasg yn y DU wedi bod mor ddigydymdeimlad â gwleidyddion Catalonia.
Felly, rwy'n dymuno mynegi undod â'r gwleidyddion a garcharwyd ac eraill, ac yn arbennig y llefarydd, Carme Forcadell, sydd wedi ei charcharu am 18 mis heb brawf ac sydd bellach yn wynebu 11 mlynedd arall yn y carchar oddi wrth ei phlant a'i hwyrion a'i wyresau. Ei throsedd? Fel Llywydd, y cyfan y gwnaeth hi oedd caniatáu i'r ddadl gael ei chynnal. Felly rwyf am fynegi undod â phobl Catalonia sy'n dal i fod yn gadarn yn eu penderfyniad i sicrhau annibyniaeth. Mae eu dewrder yn wyneb y fath greulondeb erchyll a thrais gan y wladwriaeth yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth.
Nawr, nid wyf i'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y mater hwn. Nid yw'n bosibl bod yn un sy'n sefyll gerllaw ar gwestiwn fel hwn. A wnewch chi felly gytuno i neilltuo amser yr wythnos hon ar gyfer dadl a gefnogir gan y Llywodraeth ar yr anghyfiawnder difrifol hwn sy'n digwydd mor agos atom ni?
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater cyntaf, pan wnaethoch chi fynegi pryder ynghylch Banc Barclays yn peidio â chaniatáu i'w gwsmeriaid ddefnyddio Swyddfa'r Post ar gyfer eu hanghenion bancio, mae'n amlwg ein bod yn rhannu'r pryderon hynny, oherwydd fel y dywedwch chi, pan fo banciau'n penderfynu tynnu allan o gymunedau, dywedir yn rheolaidd wrthym ni na fydd yn cael effaith ar yr unigolion hynny oherwydd y gallan nhw ddefnyddio'r swyddfa bost leol. Ac os nad yw'r Gweinidog wedi cyflwyno sylwadau ar y mater hwnnw eto, byddaf yn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.FootnoteLink FootnoteLink
Rwy'n credu i'r Prif Weinidog amlinellu ein hagwedd at fater Catalonia yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Dywedodd ei fod, fel rheol gyffredinol, yn amharod i gael ei dynnu i mewn i faterion nad ydyn nhw yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru na'r sefydliad hwn, ond manteisiodd ar y cyfle i ddweud ein bod yn pryderu'n briodol am garcharu cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, a byddem ni yn sicr o'r farn mai deialog wleidyddol a thrafodaeth wleidyddol ddylai fod y ffordd ymlaen.
Roeddwn am godi mater etholwyr sy'n cael anhawster i gael chwistrellu eu clustiau heb orfod talu symiau sylweddol o arian. Mae eu clustiau wedi blocio â chwyr clust a phan fyddan nhw'n ymweld â'u meddygfeydd, maen nhw'n cael gwybod nad yw'r cyfleuster hwn yn bodoli bellach gyda'u meddygon teulu ac maent yn cael eu hatgyfeirio at fusnesau preifat sy'n codi cymaint â £95.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r mater hwn gael ei godi yn y Cynulliad, oherwydd ymron i dair blynedd yn ôl cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog iechyd, ddatganiad yn dweud bod chwistrellu clustiau yn cael ei ddarparu drwy'r GIG ac na ddylai neb ddisgwyl gorfod talu am y gwasanaeth hwn. Felly, o ystyried bod hyn wedi bod yn digwydd mewn mwy nag un feddygfa, tybed a allem ni gael datganiad pellach gan y Gweinidog iechyd i egluro a yw Llywodraeth Cymru wedi newid ei pholisi, ac os na, pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd mewn trafodaeth â'r Byrddau Iechyd i sicrhau bod y gwasanaeth sylfaenol iawn hwn—sef gallu clywed—ar gael fel rhan o'r GIG.
Diolch yn fawr i Jenny Rathbone am godi'r mater hwnnw ac ni fu unrhyw newid o ran dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Darperir rheolaeth cwyr drwy'r GIG yng Nghymru ac ni ddylid disgwyl i neb dalu am y gwasanaethau hynny. Nid yw'n rhan benodol o'r contract meddygon teulu ac, fel y cyfryw, mae rhai meddygon teulu wedi darparu gwasanaethau'n draddodiadol tra bod eraill wedi cyfeirio pob un o'u cleifion â symptomau cwyr clust i adrannau clust, trwyn a gwddf yr ysbyty. Os nad yw meddygfa yn darparu gwasanaeth rheoli cwyr, dylai'r practis gyfeirio'r claf at nyrs gofal y glust y bwrdd iechyd. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ystyried sut y gallwn ail-gyfleu hynny i'r byrddau iechyd fel nad oes unrhyw ddryswch ymhlith meddygon teulu ynghylch eu cyfrifoldebau o ran rheoli cwyr.
Os gallaf ategu'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd, rwyf innau hefyd wedi dod ar draws hyn ym Mro Morgannwg, lle nad yw meddygfeydd wedi tynnu'r gwasanaeth yn ôl, ond yn hytrach pan fo'u hoffer wedi mynd yn hen ffasiwn ac yn dirywio, nid ydynt wedi adnewyddu'r offer hwnnw ac felly maent yn dweud na allant gyflawni'r weithdrefn yn y feddygfa. A'r pwynt a wnaeth y Trefnydd i'r Cynulliad gynnau yn ei hymateb, y gallwch chi gael eich taflu i mewn i system y byrddau iechyd lleol sy'n gwneud trefniadau a chyfeirio at yr ysbyty, onid dyma'r union beth yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano, sef datblygu atebion mwy cymunedol fel nad yw pobl yn mynd i'r sector acíwt i ymdrin â'r problemau sylfaenol hyn. Mae'n rhaid gwneud hynny, a byddwn yn gobeithio y bydd y cyfathrebu hwnnw rhyngoch chi a'r Ysgrifennydd Iechyd yn atgyfnerthu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl.
Rwyf am ofyn dau beth os caf heddiw, Trefnydd: un yw Tomlinsons Dairies Ltd, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Rwy'n siarad yn fy swyddogaeth fel y llefarydd ar faterion gwledig ar ran y grŵp Ceidwadol ar y mater penodol hwn. Er bod hyn yn peri gofid mawr i'r gweithwyr, i'r ffermwyr-gyflenwyr ac i bawb sy'n ymwneud â'r cyflogwr mawr hwn yn yr ardal a'r cyfleuster cynhyrchu sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae braidd yn siomedig nad oes datganiad wedi'i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gymorth sy'n cael ei roi i'r cyfleuster, ac yn bwysig hefyd, beth oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod am y sefyllfa fregus y llaethdy hwn.
Os credwn yr adroddiadau yn y wasg, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â chynllun newid yn y cyfleuster hwn ers 18 mis. Ac eto i gyd, dros nos, yn amlwg cafodd cyflenwadau eu tynnu'n ôl neu cafodd cyflenwyr gyfarwyddyd i beidio ag anfon eu cyflenwad i mewn ac roedd gweithwyr yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus gydag ychydig neu ddim gwybodaeth, yn ogystal â symiau sylweddol o arian yn amlwg. Rwy'n credu bod dros £5 miliwn wedi cael ei roi i mewn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ehangu'r cyfleuster. Felly, mae'n bwysig iawn, mewn sawl cyfeiriad, bod datganiad yn dod i law. Yn uniongyrchol, dylai'r datganiad hwnnw ymdrin â pha gymorth sydd ar gael i'r gweithwyr yn y cyfleuster a'r rhai sy'n cyflenwi'r ffermwyr, ond yn ail, dylid cael eglurhad o ran faint o ymwneud a fu rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyfleuster allweddol hwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a oedd yn gyflenwr allweddol o laeth Cymru. Ac yn ôl a ddeallaf, yn y tymor byr, bydd y llaeth hwnnw nawr yn cael ei frandio'n llaeth Prydeinig, oherwydd, yn amlwg, nid oes cyfleusterau i gynhyrchu llaeth o Gymru yn yr ardal ar hyn o bryd, fel y nododd Arla yn yr e-bost at yr Aelodau heddiw.
Yn ail, byddwn yn gobeithio y bydd y Trefnydd yn sicrhau bod amser ar gael yn amser y Llywodraeth fel y gallwn gael dadl—dadl ar yr angen am etholiad cyffredinol, Trefnydd. Dywedodd y Prif Weinidog fod angen etholiad cyffredinol mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw. Rydych yn aml iawn yn trefnu dadleuon fel y gall y Cynulliad hwn siarad ag un llais. Byddwn yn gobeithio bod yr Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno siarad ag un llais a dweud ei bod yn fater o frys inni gael etholiad cyffredinol ac y byddwch yn ymrwymo i gyflwyno dadl gan y Llywodraeth fel y gallwn gymeradwyo creu amgylchedd i gynnal etholiad fel y gall y Ceidwadwyr gefnogi'r hyn yr ydym am ei wneud dros y wlad, gyda maniffesto a gefnogir gan bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r materion hynny. Ar yr ail fater, wrth gwrs, gallaf atgoffa Andrew ei fod yn cael cyfle bob prynhawn Mercher i gyflwyno dadleuon o'i ddymuniad.
Ond yn ôl at y mater rheoli cwyr y soniodd amdano ar ddechrau ei gyfraniad. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen rheoli cwyr yn 2018, a chytunwyd ar lwybr integredig cenedlaethol drafft ar gyfer rheolaeth ddiogel ac effeithiol o gwyr clust. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyn o bryd i ystyried y llwybr drafft a sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer canlyniadau cyson i gleifion ledled Cymru. Bydd y llwybr hwnnw, wedyn, yn cael ei ystyried gan y Gweinidog ar ôl i'r dystiolaeth gael ei dadansoddi'n briodol gan swyddogion polisi, ond, wrth gwrs, os caiff yr Aelodau brofiadau lleol yr hoffent eu rhannu gyda'r Gweinidog cyn iddo ystyried hynny, gwn y byddai'n awyddus i glywed am y profiadau hynny.
O ran Tomlinsons Dairies Ltd, wrth gwrs rydym yn llwyr ymroddedig i ddiwydiant llaeth Cymru ac yn drist iawn am y newyddion am gau Tomlinsons Dairies Ltd. Mae'n wir ein bod wedi gweithio'n agos â'r cwmni a'i randdeiliaid yn ystod y 18 mis diwethaf i geisio datrys y materion busnes parhaus, a bod y gefnogaeth yn ymwneud â thrafodaethau masnach gyda'r busnes a'i randdeiliaid, a hefyd wedi cefnogi gwerthiant cwmni pecynnu ar y safle i gefnogi sefydlogrwydd y busnes yn gyffredinol. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos iawn â Banc Datblygu Cymru drwy gyflwyno cymorth ychwanegol drwy'r opsiynau ailstrwythuro, a gynigir gan Fanc Datblygu Cymru.
Rydym yn gweithio gydag awdurdod lleol Wrecsam i helpu'r holl staff yr effeithiwyd arnynt, ac wedi sefydlu tasglu ar unwaith i ymateb i'r sefyllfa ddiswyddo yn y cwmni. Rydym hefyd yn gwbl gefnogol i'r holl ffermwyr llaeth y mae cau'r cwmni'n effeithio arnynt ac rydym wrthi'n trafod gyda'r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill i ystyried y cymorth sydd ei angen ar yr adeg anodd hon.
Dwi am ofyn am ddatganiad ar ddyfodol y sector prosesu bwyd yng Nghymru yn ehangach. Rŷn ni wedi clywed am drafferthion Tomlinsons, wrth gwrs, a goblygiadau hynny, a hynny'n dod prin 18 mis ar ôl colli Arla yn Llandyrnog hefyd. Mae yna issues, felly, o safbwynt prosesu llaeth. Ond, wrth gwrs, mi glywon ni wythnos diwethaf hefyd am Randall Parker Foods yn Llanidloes, fydd bellach ddim yn prosesu cig eidion. Mae hynny'n mynd i arwain at oblygiadau difrifol i nifer o'r cynhyrchwyr, mewn sector, wrth gwrs, sydd eisoes mewn sefyllfa anodd iawn. Felly, mae yna gwestiynau, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r rôl a'r lle a'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector prosesu bwyd yn ehangach yng Nghymru. Oherwydd os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â datblygu economi fwyd hyfyw, a brand bwyd Cymreig gwerthfawr, mae'n rhaid inni gael y prosesyddion yna er mwyn ein cynorthwyo ni i gyflawni'r nod yna.
Dwi'n noddi yfory dathliad o fwyd a diod Cymreig. Mae'n Ddiwrnod Bwyd y Byd yfory, ac mae'n gyfle inni ddathlu yr hyn sydd gennym ni. Ond wrth inni weld colli prosesyddion fel hyn, wrth gwrs, mae e'n tanseilio’r sector ac yn tanseilio'r cyfle sydd gennym ni i adeiladau economi cefn gwlad ar gefn y sector hwnnw. Felly, byddwn i'n disgwyl bod gan y Llywodraeth, gobeithio, gyfle i wneud datganiad i amlinellu sut y mae hi'n gweld cyfle i dyfu'r sector ac i gefnogi'r sector yn y cyfnod anodd yma.
Gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r honiadau bod y Gweinidog materion gwledig wedi torri'r cod gweinidogol drwy ymyrryd, yn ei rôl fel Gweinidog, gydag achos yn ymwneud ag etholwr, er bod hynny y tu hwnt i'w chyfrifoldebau portffolio hi fel Gweinidog? Honiadau ŷn nhw, ond, wrth gwrs, dwi'n poeni bod yna ddim digon o dryloywder fan hyn. Dwi ddim yn gwybod a ydy'r Prif Weinidog wedi cynnal ymchwiliad neu beidio. Mae angen inni wybod hynny. Ac mae e unwaith eto, dwi'n meddwl, yn codi'r cwestiwn ynglŷn â pha mor addas yw hi mai'r Prif Weinidog sydd yn arwain ar brosesau fel hyn. Onid yw hi'n amser nawr, fel y mae nifer ohonom ni wedi awgrymu yn y gorffennol, y dylid bod yna ryw gorff neu unigolyn yn allanol i'r Llywodraeth yn ymchwilio i mewn i faterion fel hyn—ac yn dal i ddod ag adroddiad i'r Prif Weinidog, fel mai'r Prif Weinidog sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, ond mae angen yr elfen hyd braich yma mewn achosion o'r fath, fyddai'n dod â gwell tryloywder? Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n iawn mai'r Prif Weinidog sydd yn farnwr, yn rheithgor ac yn ddienyddiwr, a buaswn i'n gofyn am ddatganiad, er eglurder yn yr achos penodol yma, ond hefyd ynglŷn ag unrhyw fwriad sydd gan y Llywodraeth, efallai, i ddiwygio'r broses.
Wel, mae Llŷr Gruffydd yn iawn fod y diwydiant bwyd a diod yn wir yn un o berlau ein heconomi yma yng Nghymru, a gwn fod y Gweinidog yn gweithio'n eithriadol o galed i roi'r gefnogaeth orau bosibl i'r sector bwyd a diod a bod pwysigrwydd prosesu bwyd yn cael ei ddeall yn iawn, yn enwedig gyda'r heriau sy'n ein hwynebu gyda Brexit. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog yma i glywed eich sylwadau, a bydd yn sicr yn ystyried hynny o ran ystyried pryd a sut i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y sector bwyd a diod yma yng Nghymru.
Yr ail bwynt mewn cysylltiad â'r cod gweinidogol—wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod proses wedi'i phennu, ac mae'r broses ar waith, ac ni allwn ddweud rhagor ar hyn o bryd heddiw.
A allaf ychwanegu Dwyrain Abertawe fel un o'r lleoedd hynny lle mae pobl yn cael eu cyfeirio at feddygfeydd preifat i gael chwistrellu eu clustiau— a Phort Talbot? Mae'n broblem i Gymru gyfan ac, efallai, yn un y mae angen mynd i'r afael â hi'n eithaf cyflym.
Mae gennyf ddau gais am ddatganiadau. Yr un cyntaf yw na chafodd athrawon yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot eu dyfarniad cyflog ddiwedd mis Medi. Rwyf wedi ceisio ymateb i hyn mewn llawer o wahanol leoedd, gan gynnwys y cynghorau, ERW a'r Gweinidog Addysg. Dywedir wrthyf mai'r rheswm am hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau'r arian ar gyfer y dyfarniad a heb gadarnhau bod y dyfarniad, a wnaed yn Lloegr, yn mynd i gael ei dalu yng Nghymru. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n iawn ai peidio, ond dyna'r hyn a ddywedwyd wrthyf. Felly, mae'n amlwg bod dryswch ynglŷn â hyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â thalu am ddyfarniad cyflog athrawon 2019-20?
Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw datganiad i'w wneud am y cynlluniau cyflawni iechyd, fel y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes a'r cynllun cyflawni ar gyfer canser. Unwaith eto, dywedir wrthyf fod y cynlluniau presennol yn gorffen yn 2020 a bod pryderon eu bod yn mynd i ddod i ben. Nid wyf yn credu am funud eu bod yn mynd i ddod i ben ac na fydd y cynllun yn parhau, ond mae yna nerfusrwydd ymysg rhai o'r bobl sy'n cymryd rhan y gellid ei dawelu, os gall Llywodraeth Cymru ddechrau gwneud datganiadau ar y rhai sydd yn dod i ben yn 2020.
Diolch i Mike Hedges am y cyfraniad hwnnw. Gallaf gadarnhau y bydd datganiad yn fuan iawn ynghylch dyfarniad cyflog 2019 i athrawon. Wrth gwrs, unwaith y caiff ei weithredu, bydd unrhyw newidiadau i dâl athrawon ar gyfer 2019-20 yn cael eu hôl-ddyddio i 1 Medi. Felly, byddwn yn disgwyl y bydd datganiad, naill ai heddiw neu yfory, ynglŷn â hynny.
Unwaith eto, mae Mike Hedges yn iawn fod y rhan fwyaf o'r cynlluniau cyflawni ar gyfer y prif gyflyrau iechyd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2020, ac rydym wrthi'n datblygu'r dull gweithredu a'r cynigion ar gyfer y trefniadau olynol i wella ansawdd y gofal ar gyfer y prif gyflyrau fel canser a diabetes. Ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgwyl gwneud datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r dull gweithredu yn y dyfodol cyn diwedd y flwyddyn.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y cysylltiadau rhwng tai gwael ac iechyd corfforol a meddyliol gwael? Mae adroddiad ar y cyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn datgan bod tai o ansawdd gwael yn costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru mewn costau triniaeth. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog am y camau y mae'n eu cymryd, ar y cyd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i wella ansawdd cartrefi sy'n bodoli eisoes yng Nghymru yng ngoleuni'r canfyddiadau a geir yn yr adroddiad hwn?
Gwn fod llawer iawn o waith yn digwydd yn y maes hwn ar draws y Llywodraeth, lle'r ydym yn cydnabod bod gan dai ran bwysig iawn i'w chwarae o ran iechyd corfforol a meddyliol pobl. Un enghraifft fyddai'r arian ychwanegol sy'n mynd drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae a wnelo hynny â chymryd dull gweithredu a arweinir gan dai tuag at wasanaethau cymdeithasol a materion iechyd, a chredaf fod hwnnw'n ddarn o waith gwirioneddol gyffrous. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog wedi dweud ychydig mwy yn ddiweddar am y gwaith y byddem yn ei wneud o ran ôl-osod, oherwydd gwyddom mor bwysig yw ôl-osod cartrefi nid yn unig am resymau carbon, ond hefyd o ran sicrhau bod gan bobl gartrefi cynnes a diogel i fyw ynddynt. Ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y cyd-destun ehangach.
O ran fy mater cyntaf, efallai eich bod wedi gweld erthygl dda iawn ar WalesOnline yn ystod y dyddiau diwethaf am y ffaith bod Heddlu Gwent wedi'u cyhuddo o guddio sefyllfa swyddog heddlu a oedd yn ymddwyn yn ormesol, yn gor-reoli nifer o fenywod a oedd hefyd yn swyddogion yr heddlu, ac yn cam-drin rhai yn gorfforol. Dim ond rhybudd a gafodd, ni chafodd ei arestio. Roedd y system yn ei warchod ef ac nid y menywod, ac ni ddilynwyd y gweithdrefnau arferol. Yn wir, dywedodd y menywod mai clwb bechgyn ydoedd a chodwyd mur o dawelwch o amgylch eu hunain. Wrth gwrs, mae'r menywod yn cymryd camau cyfreithiol yn awr, ond, yn anffodus, mae'n rhaid iddynt ddefnyddio arian torfol oherwydd nad ydynt yn ddigon cyfoethog i allu ymladd y system. Tybed a allwn gael dadl yn amser y Llywodraeth ar flaenoriaethau'r Llywodraeth mewn cysylltiad â cham-drin yn y cartref, ond hefyd o ran sut yr ydych yn ymdrin â'r heddlu yn hyn o beth. Ni allwch, wrth gwrs, wneud sylwadau ar gamau cyfreithiol, ond gallwch sôn am y mater ehangach o sut y gallwn annog yr heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu i gymryd y cwynion hyn o ddifrif pan fyddant yn dod i'w sylw.
Fy ail gais yw datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'ch cefnogaeth i geiswyr lloches yng Nghymru. Mae gennyf ddau achos yr wyf yn siŵr eich bod chi yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd, Trefnydd, o ran Otis Bolamu a Michael Gebredikan—rwy'n gobeithio fy mod i wedi ynganu hynny'n iawn. Mae un yn dod o Congo, a byddwch yn gwybod iddo gael ei gadw dros y Nadolig, ac mae'n cael gwrandawiad apêl yfory, a'r llall yn dod o Eritrea, ac os yw'n cael ei alltudio i'r Almaen, lle mae ei deulu, efallai y bydd yn cael ei alltudio'n ôl i Eritrea. Nid yw'r DU yn alltudio pobl yno ar hyn o bryd gan nad ydynt yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran y cymorth i geiswyr lloches yno pan gyrhaeddant yn ôl. Ond gwelwn y cynigion hyn yn dod ar ein traws yn barhaus, gyda phobl cwbl ddiamddiffyn o bosibl yn cael eu hanfon yn ôl i sefyllfaoedd brawychus. Byddwn yn gobeithio y byddai sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach yn adleisio'r ffordd y dylem ni yn y Siambr hon fod yn cefnogi'r bobl hynny y mae arnynt angen ein cefnogaeth, a pheidio â'u difrïo a'u cymharu â phobl dlawd yn ein cymdeithas. Yn y pen draw, mae arnynt angen ein cefnogaeth, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno dadl er mwyn inni allu sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa fel yr ydym yn honni ein bod ni.
Diolch, Bethan, am godi'r materion hyn. Byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol ar y ddau fater hyn, o ran pryd y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cam-drin domestig, ac yn benodol, sut yr ydym yn gweithio gyda'r heddlu er mwyn gwneud hynny. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo, er enghraifft, o ran hyfforddiant ar gyfer dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ati, sy'n bwysig iawn wrth ymdrin â phobl sydd wedi profi profiadau anodd iawn.
Ac unwaith eto, mi fydda i'n cael yr un sgwrs am y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i geiswyr lloches, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni, mewn gwirionedd, yn genedl noddfa, fel yr honnwn ein bod ni. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru, o'i rhan hi, yn gwneud llawer iawn i geisio gwireddu hynny, ac yn gwneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw yma pan fyddan nhw'n dod yma. Rydym yn cydnabod eto, yn yr un modd, fod llawer o bobl sydd wedi ceisio noddfa gyda ni wedi bod trwy amgylchiadau hynod o anodd, na all llawer ohonom hyd yn oed ddechrau eu dychmygu. Ac rwy'n gyfarwydd â'r achosion a ddisgrifiwyd gennych; gwelais Otis ychydig benwythnosau'n ôl, fel y gwn y gwnaethoch chithau hefyd. Gwn ei fod yn arbennig o ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan y gymuned yn Abertawe a thu hwnt.
Dros yr haf, galwodd trigolion di-ri heibio i'm swyddfa a oedd wedi cynhyrfu oherwydd penderfyniad Stagecoach i gael gwared ar y gwasanaeth bws rhif 25 o Gaerffili i Gaerdydd heibio amlosgfa Thornhill ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i gyfuno â rhai sydd eisoes yn bodoli sy'n llawer hirach a llawer mwy anghyfleus i drigolion Caerffili. Er gwaethaf nifer o ddeisebau gan drigolion, cafodd y gwasanaeth ei ddiddymu gan Stagecoach ym mis Medi. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Stagecoach drwy gydol mis Medi a mis Hydref, ac yn y pen draw fe'u darbwyllwyd i ailgyflwyno gwasanaeth bob awr o Gaerffili i'r Mynydd Bychan, a hefyd i amlosgfa Thornhill, a oedd yn adlewyrchu'r hen lwybr Rhif 25, ond bob awr oedd y gwasanaeth ac nid bob dwy awr. Mae'n mynd i gael ei dreialu o fis Ionawr am chwe mis, ac rydym yn annog trigolion i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw gymaint â phosibl. Ond y mater allweddol yma yw bod Stagecoach wedi gallu gwneud y penderfyniadau amhoblogaidd hyn am eu bod yn benderfyniadau masnachol. Gyda hynny mewn golwg, a fyddai'r Trefnydd yn ystyried datganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddiwygio gwasanaethau bysiau i'w gwneud yn fwy hwylus i drigolion sydd angen y gwasanaethau hyn, ac nid i'w defnyddio ar sail fasnachol yn unig?
Diolch, Hefin David, am y cwestiwn hwnnw. Gwn y bydd eich etholwyr yn arbennig o ddiolchgar am y gwaith yr ydych wedi'i wneud i gael y gwasanaeth newydd hwnnw. Er nad yw'r gwasanaeth yn mynd i fod yn wasanaeth bob awr, yn sicr, credaf fod yr ymdrech honno a wnaethoch ar eu rhan i'w chroesawu'n fawr.
O ran y problemau yr ydych yn eu disgrifio, maent yn bendant yn ganlyniad i ddadreoleiddio aflwyddiannus ar y diwydiant bysiau, sydd wedi'i gwneud yn anodd iawn cael gwasanaeth yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pobl Cymru, sef un o'r rhesymau pam mae'r cynigion yn y ddeddfwriaeth arfaethedig y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn ei harwain mor bwysig. A gwn y bydd, maes o law, yn rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynigion hynny sydd o fewn y ddeddfwriaeth.
Gweinidog, sylwaf gyda chryn bryder ar benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfradd llog y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus o 1 y cant llawn—symudiad yn wir, o 1.8 y cant i 2.8 y cant ar unwaith. Mae hyn yn effeithio ar allu cynghorau lleol i fenthyca ar gyfradd is na'r hyn a ddarperir gan fenthycwyr preifat a bydd yn sicr o beri i'r cynghorau orfod ailasesu eu cynlluniau busnes, gyda'r posibilrwydd o ganslo prosiectau er mwyn parhau i ariannu prosiectau cyfredol, yn ogystal ag achosi pryder difrifol o ran darparu seilwaith a phrosiectau rheng flaen o gwbl. A fyddech chi, Gweinidog, neu'r Prif Weinidog, yn gwneud datganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r cyhoeddiad hwn?
Wel, ein safbwynt ni yw bod hwn yn gam yn ôl, ac mae'n gwneud pethau'n anodd iawn i awdurdodau lleol ac yn peri pryder arbennig nawr. Oherwydd bydd angen ailasesu achosion busnes dros bob math o bethau y mae awdurdodau lleol wedi bod yn cynllunio ar eu cyfer—er enghraifft, gweithgareddau adfywio, tai cymdeithasol a buddsoddiad arall nawr eto—yng ngoleuni'r datblygiad hwn, o ran ceisio archwilio'r hyn sy'n fforddiadwy yn lleol a'r hyn y gallant gynllunio ar ei gyfer. Ond mae'r rhain yn bryderon y byddaf yn sicr yn eu codi.
Gweinidog, rwy'n siŵr y byddech chi wedi bod wrth eich bodd nos Sadwrn o glywed y newyddion bod band pres Cory wedi dod yn bencampwyr cenedlaethol Prydain Fawr unwaith eto, a'u bod bellach wedi cwblhau camp lawn o deitlau bandiau pres mawr a gynhaliwyd yn yr un flwyddyn , camp a gyflawnwyd ar ddau achlysur blaenorol yn unig, unwaith ganddyn nhw eu hunain, a bod hyn yn cadarnhau eu safle nawr fel y band pres Rhif 1 am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol. Tybed a ydych o'r farn y byddai'n briodol i'r Llywodraeth gynnal digwyddiad yn y Cynulliad hwn i ddathlu'r llysgenhadon rhyfeddol hyn dros Gymru?
A'r ail bwynt, Gweinidog, yw hyn: yn fuan, byddant yn teithio i America, ac yna i Dde Korea. Tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu'r modd y gall y llysgenhadon diwylliannol hyn dros Gymru fod yn gysylltiedig ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ei hun o ran hyrwyddo buddiannau economaidd Cymru dramor, mewn gwledydd fel America a De Korea. A'm cais olaf, efallai, yw y byddai'n wych petai Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu ar ran y Siambr gyfan hon i longyfarch y band pres cyfan a phawb o bob rhan o dde Cymru sy'n gweithio ac yn cefnogi'r band ar y llwyddiant ysgubol hwn.
Diolch, Mick Antoniw. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn ymuno â chi i longyfarch Band y Cory am fod y gorau yn y byd am 13 mlynedd, sy'n dipyn o gamp, onid yw? Gwn y bydd y Gweinidog a minnau—y Gweinidog sy'n gyfrifol am gerddoriaeth a minnau—yn cael trafodaeth am y ffordd orau y gallwn nodi'r cyflawniad anhygoel hwnnw yma yn y Cynulliad a hefyd ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r llysgenhadon diwylliannol rhyfeddol hyn yn well.
Cymuned o gymunedau yw Cymru, ac un gymuned yng Nghymru yw cymuned Catalonia. Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed yn gynharach gan y Prif Weinidog yn mynegi pryder am yr hyn sy'n digwydd yn Barcelona a hefyd yr hyn a ddigwyddodd ym Madrid o ran cloi gwleidyddion a etholwyd yn ddemocrataidd. Rwy'n cefnogi'r alwad am ddadl ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghatalonia, a hoffwn i'r Llywodraeth ystyried hyn o ddifrif. Ond hoffwn ichi fynd ymhellach a mynegi cefnogaeth i'r gymuned Gatalaneg sy'n byw yng Nghymru a phobl Catalonia ar hyn o bryd, oherwydd bod gwleidyddion wedi cael carchar am gadw addewidion a etholwyd yn ddemocrataidd. Roedd 113 o sifiliaid wedi'u hanafu ddoe ym maes awyr Barcelona, lle saethwyd atynt gan yr heddlu a Guardia Civil, rwy'n credu. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y materion hyn, os gwelwch yn dda?
Yn sicr, ymunaf ag eraill i gofnodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r gymuned Gatalaneg yma yng Nghymru, oherwydd mae gennym hanes hir o berthynas agos â Chatalonia ac yn amlwg rydym am weld hynny'n parhau. Rydym yn mwynhau cysylltiadau rhyngwladol gwirioneddol gadarnhaol drwy'r rhwydweithiau Ewropeaidd yr ydym yn eu rhannu, ac mae tua thraean o'r cwmnïau yng Nghymru sy'n eiddo i Sbaen â'u pencadlys yng Nghatalonia. Felly, mae'r cysylltiadau diwylliannol pwysig hyn yn agos, ond hefyd mae cysylltiadau economaidd agos a phwysig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ynghylch y rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru 2014-20, sydd, fel y gwyddoch, yn annog rhanbarthau i gydweithio i fynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin. Yng Nghymru, y ddau ranbarth INTERREG yw gogledd Cymru, gyda phoblogaeth o ychydig dros 696,000, a gorllewin Cymru, gyda 630,000—felly, nid poblogaethau annhebyg. Ond rwyf wedi cael ymateb rhyddid gwybodaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sy'n dweud bod 62 o brosiectau wedi'u cyflwyno, ond dim ond 19 o'r rhain oedd yn cynnwys partner o Ogledd Cymru, a dim ond 12 a arweiniwyd gan sefydliad yng Nghymru. Ac, o blith 18 o brosiectau a gymeradwywyd, dim ond pump oedd â phartner yng ngogledd Cymru—mae'n ddrwg gennyf, a oedd yn cynnwys partner o'r gogledd—a dim ond dau oedd yn cael eu harwain gan bartner yng ngogledd Cymru. Felly, dim ond 28 y cant o'r prosiectau a gymeradwywyd oedd yn cynnwys partner yng ngogledd Cymru; dim ond 11 y cant a arweiniwyd gan bartner yng ngogledd Cymru. Galwaf am ddatganiad i adlewyrchu'r pryder a godwyd gyda mi— nid fy mhryder i ydyw, er fy mod yn pryderu os yw'r ateb yn ateb anghywir—nad yw prosiectau posibl o dan INTERREG o reidrwydd wedi cael y cymorth a'r ymrwymiad yn y gogledd sydd ganddynt mewn mannau eraill, oherwydd gwn y dylai'r galw yn y gogledd, o bosibl, fod yr un fath o leiaf ag y mae yng ngorllewin Cymru.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae'n datblygu polisi diwygiedig ar dlodi tanwydd yng ngoleuni dau adroddiad newydd? Dywedodd adroddiad ar 3 Hydref gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng ers 2008, ond bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei thargedau. Dywedodd fod achosion tlodi tanwydd yn gymhleth, bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £249 miliwn ar ei rhaglen cartrefi clyd i leihau tlodi tanwydd, ond wedi nodi tensiynau rhwng ceisio dileu allyriadau carbon o dai domestig a blaenoriaethu ymdrechion a chyllid ar aelwydydd tanwydd-dlawd, sy'n tueddu i ddefnyddio llai o ynni. Hefyd gwnaed cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o'r methiant i gyrraedd y targedau presennol a osodwyd yn 2010, gan gysylltu cynlluniau tlodi tanwydd â gwaith arall i fynd i'r afael ag achos gwaelodol tlodi tanwydd, ac ystyried sut y gallai cynlluniau tlodi tanwydd atal costau mewn meysydd gwasanaeth eraill a chyfrannu at nodau polisi ehangach.
Ac, yn ail, yn y cyd-destun hwn, yr adroddiad ar 7 Hydref gan Sefydliad Bevan, a ddywedodd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran lleihau tlodi tanwydd dros y ddegawd ddiwethaf, nododd mai'r aelwydydd cyfoethocaf oedd wedi elwa fwyaf. Yn 2008, o'r 70 y cant o aelwydydd cyfoethocaf, amcangyfrifwyd bod dros 83,000 yn byw mewn tlodi tanwydd, a bod hynny bellach 75 y cant yn is, tra mai dim ond 25 y cant o ostyngiad a welwyd yng ngwaelod y 10 degfed, y tlotaf, o gartrefi. Felly, erbyn hyn dim ond 21,000 o'r aelwydydd cyfoethocaf a 92,000 o'r aelwydydd tlotaf sydd, fel y dywedasant, yn darparu
arwydd o'r rheswm pam mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei tharged i ddileu tlodi tanwydd,
ac yn cynnig, yn y dyfodol, y dylid canolbwyntio'r targedau tlodi tanwydd ar yr aelwydydd tlotaf yn hytrach nag yn gyffredinol. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny.
O ran y mater cyntaf, ynghylch prosiectau INTERREG ac yn enwedig nifer y prosiectau INTERREG a gefnogwyd yn y gogledd, efallai y gallai Mark Isherwood ysgrifennu ataf gyda'r wybodaeth yr oedd yn ei rhoi'r prynhawn yma yn y Siambr a byddaf yn gallu edrych ar hynny a hefyd efallai wedyn roi cyngor ar y gwaith sydd wedi'i wneud i gefnogi a hyrwyddo prosiectau yn rhanbarth gogledd Cymru.
O ran yr ail fater sy'n ymwneud â thlodi tanwydd, mae Llywodraeth Cymru yn gyfarwydd iawn â'r ddau adroddiad yr ydych wedi cyfeirio atynt, ac rydym yn ystyried yr adroddiadau hynny ynghyd â'r ystyriaeth yr ydym yn ei rhoi i'r ffordd ymlaen o ran ein dull ni o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, y llynedd, lluniwyd adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru i'r gwaith rhagorol a gynhyrchwyd ganddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau ar rai o'r argymhellion hynny. Er hynny, un o'r argymhellion pwysicaf ynddo oedd sefydlu uned mam a'i baban, ac nid yw'n ymddangos ein bod wedi gweld unrhyw gynnydd gwirioneddol ynglŷn â'r argymhelliad penodol hwnnw. Nawr, yr wythnos diwethaf, roeddem ni i gyd, ar draws y Siambr hon, yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Iau. Ond mae gennym sefyllfa yma lle mae angen inni weithredu o hyd i fynd i'r afael â mater iechyd meddwl amenedigol o ran unedau mam a'i baban. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd i weld y cynnydd mewn gwirionedd a wneir ynglŷn â'r argymhellion hynny, ac yn benodol ar uned iechyd meddwl mam a'i baban?
Diolch, David Rees. Fe fyddaf yn siŵr o ofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, ond fe allaf i gadarnhau ein bod ni wedi ymrwymo ac yn parhau'n ymrwymedig i sefydlu uned fel mater o flaenoriaeth, a bod y gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.FootnoteLink Mae gweithredu gwasanaeth mor arbenigol yn gymhleth, ac mae'n rhaid i hynny ystyried ffactorau fel lleoliad, addasrwydd safleoedd a chapasiti'r gweithlu. Ond mae'r grŵp rheoli wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu achos busnes ar gyfer uned mam a'i baban gyda chwe gwely i'w leoli yn y rhanbarth.
Mae pryder, rwy'n gwybod, y gallai fod cryn amser cyn bod modd agor yr uned honno; credaf fod y cynllunio dangosol a bennwyd gan y bwrdd iechyd yn dangos amserlen a fydd yn weithredol erbyn haf 2021. Felly, o ganlyniad i hynny, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Bae Abertawe i ddod o hyd i opsiynau ar gyfer datrysiad dros dro neu i chwilio am ffyrdd y gallwn ni gyflymu'r cynllunio hwnnw, ac mae'r trafodaethau hynny'n cael eu datblygu ar frys.
Diolch yn fawr iawn i chi.
Eitem 4 ar yr agenda yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7158 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno diwygiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu tenantiaethau amaethyddol. Bydd diweddaru Atodlen 8 Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn dod â deddfwriaeth yn unol ag arferion ffermio cyfoes. Gofynnir i'r Aelodau gytuno ar Orchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019. Drwy gytuno ar y diwygiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio ac yn diweddaru Deddf 1986 i ganiatáu ar gyfer gwasgaru tail, gwrtaith, deunyddiau gwella pridd a gweddillion treuliad anaerobig ar dir yng Nghymru. Bydd hefyd yn diwygio'r Ddeddf i wahardd taenu tail trydydd parti ar ddaliad sydd â thenantiaid. Bydd gwneud y diwygiadau hyn yn cynorthwyo bioddiogelwch ar ffermydd drwy gyfrannu at atal clefydau rhag cael eu trosglwyddo rhwng daliadau.
Hoffwn i hefyd hysbysu'r Aelodau fod yr offeryn statudol hwn yn rhan o gyfres o dri offeryn statudol, a bod y ddau arall yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol: Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth am Iawndal) (Dirymu) (Cymru) 2019 a Deddf Amaethyddiaeth (Model Cymalau ar gyfer Offer Sefydlog) (Cymru) 2019. Gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad am yr 21 diwrnod statudol, gyda dyddiad dod i rym ar 1 Tachwedd 2019. Bydd cyflwyno'r tri offeryn statudol hyn gyda'i gilydd yn cael gwared ar gymhlethdod ac amwysedd i'r sector. Mae'r sector tenantiaeth amaethyddol yn cyfrif am bron 30 y cant o'r tir sy'n cael ei ffermio yng Nghymru. Felly mae'n hanfodol bod deddfwriaeth ar waith i sicrhau bod y busnesau hyn yn gallu bod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
Nid oes gennyf i unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rydym yn symud at eitem 5 nawr, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi cyfansoddiadol, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Carwn wneud datganiad ar bolisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru. Ar ddydd Iau 10 Hydref, fe gyhoeddwyd ein dogfen bolisi newydd 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y Deyrnas Unedig'.
Pan ddaeth y Prif Weinidog newydd i Gaerdydd ym mis Gorffennaf, dywedais wrtho fod Brexit yn bygwth dyfodol yr undeb. Dywedais fod yr undeb dan fygythiad mwy difrifol nag ar unrhyw adeg yn fy mywyd i. Ond, o ran ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae dim ond tawelwch. Dyma pam yr ydym ni'n cyhoeddi'r ddogfen newydd hon. Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barod i gymryd hwn o ddifri, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud. Rydym ni'n credu mewn Cymru gref o fewn Deyrnas Unedig gref. Felly, rydym ni'n galw am ddiwygiad sylfaenol, sef newid sefydliadau, prosesau a diwylliant y Deyrnas Unedig.
Ac nid oes unrhyw amheuaeth yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, fod Brexit yn fygythiad sylfaenol i lywodraethu'r Deyrnas Unedig. Ond prin iawn yw'r dystiolaeth fod Llywodraeth y DU ei hun yn rhoi unrhyw ystyriaeth ddifrifol i hynny. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ein cynigion ni ar gyfer y diwygio sylfaenol sy'n angenrheidiol.
Rydym yn cynnig gweddnewidiad sylfaenol i'r cysyniad o sofraniaeth yn y Deyrnas Unedig; setliad cyfansoddiadol di-syfl, gyda diwygiad o gonfensiwn Sewel i sicrhau llawer mwy o eglurder yn y berthynas rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. Ac rydym yn galw am ddiwygio Tŷ uwch y Senedd, gydag aelodaeth, a gaiff ei hethol yn bennaf neu'n gyfan gwbl, sy'n ystyried cymeriad amlwladol yr Undeb. O ran y gweinyddiaethau datganoledig, rydym yn dadlau y dylai'r ffordd y dyrennir cyfrifoldebau llywodraethol yn y DU fod yn seiliedig ar egwyddor sybsidiaredd; y dylai'r berthynas rhwng y pedair Llywodraeth fod yn seiliedig ar bartneriaeth gydradd mewn ysbryd o barch cyffredin; a bod yn rhaid diwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol yn gyfan gwbl, gan gynnwys gwella gweithdrefnau i ddatrys anghydfod a chydraddoldeb o ran cyfranogi yn y ffordd y mae'r mecanweithiau hynny'n gweithio. Rydym yn galw am gynnwys gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio polisi Llywodraeth y DU ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach, ac am gyllido teg ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Dirprwy Lywydd, mae'r cynigion hyn i gyd yn seiliedig ar y cysyniad o'r Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd sy'n cydweithio i hyrwyddo ein buddiannau cyffredin. Felly, ein hystyriaeth sylfaenol ni yw'r ffordd y dylid llywodraethu'r DU gyfan, yn seiliedig ar gydnabod ein cyd-ddibyniaeth. Mae hynny'n gofyn am rywfaint o lywodraethu ar y cyd. Ond mae'n rhaid diwygio'r trefniadau yn sylfaenol ar gyfer y cyd-lywodraethu hwnnw er mwyn gallu gwasanaethu ein dinasyddion yn dda. Ac mae'n rhaid inni roi'r gorau i wneud addasiadau ad hoc i setliadau unigol heb ystyried cyd-destun ehangach y DU.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod o chwalu confensiynau a dealltwriaethau cyfansoddiadol traddodiadol. Felly, yn y ddogfen hon, rydym yn ailadrodd ein galwad ni am gonfensiwn cyfansoddiadol i fynd i'r afael â'r materion hyn, gydag ystyriaeth benodol o'r berthynas yn y dyfodol rhwng y sefydliadau datganoledig ar y naill law a San Steffan a Whitehall ar y llaw arall. Ni ddylai confensiwn o'r fath, yn ein barn ni, gael ei gyfyngu i'r rhai sy'n gweithio o fewn y systemau hyn eisoes. Bydd yn rhaid ei ehangu a'i lywio gan lais torfol y dinasyddion hefyd. A byddai angen i gonfensiwn o'r fath ystyried, yn y cyfnod hwn o hollt cyfansoddiadol posibl, ai'r peth iawn fyddai symud nawr tuag at gyfansoddiad ysgrifenedig neu un sydd wedi ei godio ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Felly, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n rhoi agenda uchelgeisiol ar y bwrdd. Os yw'r Deyrnas Unedig am oroesi'r heriau a godir gan y ddadl ynghylch Brexit, mae hon yn ddadl na allwn ni ei hosgoi. Rwy'n gwybod, yma yn y Senedd, fod yna Aelodau sydd eisoes yn cydnabod difrifoldeb yr her hon a pha mor ddifrifol yw'r angen i fynd i'r afael â hyn. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu clywed barn yr holl Aelodau ynglŷn â'r materion hyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ond, Llywydd, gadewch imi wneud y pwynt olaf hwn: mae fformat y ddogfen hon yn bwysig. Rydym ni'n awyddus i ysgogi dadl frys, ond nid ydym yn honni bod yr atebion i gyd yn ein meddiant. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflwyno yw cyfres o gynigion, ac rydym yn awyddus i Lywodraeth y DU, ac i eraill wrth gwrs, ymgymryd â'r gwaith o ymdrin â nhw. Gwir ddiben gwleidyddiaeth yw dadlau ynghylch cynigion cystadleuol a gwahanol safbwyntiau am ein dyfodol ni. Yn y ddogfen hon, fe ddywedwn ni, 'Dyma ein fersiwn ni o sut y dylid achub y dyfodol hwnnw.' Ac i eraill yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fe ddywedwn ni, 'Gadewch inni ddechrau ar y ddadl honno.' Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae Prydain bellach yng nghanol proses gyfansoddiadol ddigynsail, a bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd rhagddi yn y broses hon, mae'r cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn gwbl dyngedfennol o ran cael sefydlogrwydd cyfansoddiadol i'r Undeb. Mae'n amlwg bod adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb', yn galw am ddiwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol o'r bôn i'r brig, gan gynnwys memoranda cyd-ddealltwriaeth, i ateb yr heriau newydd sy'n ymwneud â'r byd wedi Brexit. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog yw holi pa drafodaethau rhynglywodraethol uniongyrchol sydd wedi bod rhyngddo ef a'i gymheiriaid ledled y DU ar y mater penodol hwn, gan fod cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod cymwyseddau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosglwyddo heb drafferthion i'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mae datganiad heddiw ar adroddiad 'Diwygio ein Hundeb' Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn gywir y dylid ystyried yr egwyddorion sy'n sail i ddatganoli yn sylfaenol i gyfansoddiad y DU. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth y DU gymhwysedd deddfwriaethol di-ben-draw ledled y DU, ac rwy'n credu bod cryn sylwedd i'r ddadl y gellid cyflwyno setliad newydd i sicrhau nad yw Llywodraethau'r DU yn deddfu yn y dyfodol ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Wrth amlinellu'r achos hwn, mae'r Prif Weinidog wedi sôn eto am gysyniad sybsidiaredd, gan gydnabod sofraniaeth y bobl ym mhob rhan o'r DU, ac roedd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi o blaid y cysyniad hwnnw hefyd yn ei ymchwiliad i'r undeb a datganoli. Serch hynny, daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad hefyd mai dim ond i genedl benodol y dylid datganoli pwerau, pan fyddo hynny er lles pobl y genedl honno, heb amharu ar yr undeb yn ei gyfanrwydd. Felly, yng ngolau hyn, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym beth yw ei farn ef ynglŷn â sut y gellir rhoi prawf effeithiol ar egwyddor sybsidiaredd wrth geisio datganoli pwerau ymhellach, fel na all Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, o unrhyw liw, geisio datganoli pwerau mewn unrhyw achos sy'n ddymunol yn eu golwg, ar sail eu hewyllys gwleidyddol eu hunain?
Mae pryderon hefyd ynghylch datblygu fframweithiau cyffredin wrth i Brydain ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae toreth o drafodaethau i'w cael eto ynghylch natur rhai o'r fframweithiau hynny—er enghraifft, a fyddan nhw'n cael eu llunio ar ffurf deddfwriaeth neu efallai drwy femorandwm dealltwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog, yn ei ymateb, fanteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'n sefyllfa ni o ran datblygu fframweithiau cyffredin.
Wrth gwrs, ni fydd unrhyw drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi ei chwblhau heb roi ystyriaeth i gyfrifoldebau ariannol y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod cyfrifoldeb cyllidol wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o'r newidiadau diweddar i'r setliadau datganoli ledled y Deyrnas Unedig. Ac rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, wedi galw ers amser am ddiwygio ariannol a fyddai'n gweld cydbwysedd tecach o ran pŵer ac adnoddau ledled Prydain. Ac felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn argymell disodli fformiwla Barnett gyda system sy'n seiliedig ar anghenion. Mae'r Prif Weinidog yn egluro ei fod ef o'r farn na ellir diogelu cyfreithlondeb fframwaith cyllidol y DU yn iawn heb gytuno arno ar y cyd a'i sicrhau a'i weithredu'n annibynnol. Ac efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi rhywfaint o wybodaeth sy'n fwy penodol ynglŷn â'r cynnig hwn.
Wrth wraidd unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol mae'n rhaid cael ymrwymiad gan bob deddfwrfa, ledled y DU, er mwyn parchu'r setliad datganoli. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog y dylai'r berthynas rhwng pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar barch y naill at y llall, ac yn sicr fe allaf weld rhinweddau mewn confensiwn cyfansoddiadol fel cyfrwng i ddwyn datblygiadau cyfansoddiadol ymlaen yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i Gymru gael sedd wrth y bwrdd pan ddatblygir polisi cyfansoddiadol newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw unrhyw drefn gyfansoddiadol newydd yn achosi cyfaddawd o ran y setliad datganoli ac, yn wir, o ran undeb y Deyrnas Unedig. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y mae ef yn rhagweld y byddai'r confensiwn newydd hwn yn gweithio? A pha mor hyderus yw ef y gall y setliad datganoli gael ei ddiogelu gan y cyfrwng cyfansoddiadol newydd hwn?
Wrth i ddyfodol cyfansoddiadol Prydain ddechrau newid yn sgil tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed i bobl y DU fod â rhan lawn yn y drafodaeth am strwythur y DU. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod pobl, ar y cyfan, yn poeni mwy am ansawdd eu gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd eu llywodraethau, ac felly mae'n rhaid i ni, wrth eu cynrychioli nhw, wneud mwy i ymgysylltu â phobl Cymru ynglŷn â'r dyfodol. Mae'r Prif Weinidog yn sôn am roi llais i'r dinesydd yn y broses hon, ac felly efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau ymgynghori ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru gyda phobl Cymru ynglŷn â'u barn nhw am faterion o ran sefyllfa gyfansoddiadol ein gwlad yn y dyfodol.
Felly, gyda hynny, Llywydd, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn unfryd ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weld Cymru yn ffynnu mewn Teyrnas Unedig gadarn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a llywodraethau ledled y DU yn adeiladol ar gyfer parchu'r setliad datganoli ac amddiffyn Undeb y Deyrnas Unedig i'r dyfodol.
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y cyfraniad meddylgar ac adeiladol hwnnw, a llawer o bwyntiau y credaf ein bod ni'n cytuno arnyn nhw i ryw raddau? Ceisiaf ymdrin â'i gwestiynau orau y gallaf i. Fe ofynnodd am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Ac mae'n ddrwg gennyf i ddechrau gyda nodyn sy'n llai na chadarnhaol, ond fe fydd yn gwybod y cytunwyd ar adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol mewn cyfarfod llawn o gyd-bwyllgor y Gweinidogion 18 mis yn ôl—y cytunwyd arno rhwng fy rhagflaenydd i, Carwyn Jones, a Mrs May y Prif Weinidog a Nicola Sturgeon. Cafodd cyfrifoldebau eu rhannu ymysg y gwledydd i arwain ar chwe gwahanol thema yn yr adolygiad hwnnw, ac eto ni chafodd yr adolygiad hwnnw byth ei orffen. Heb unrhyw gyfarfod llawn o gydbwyllgor y Gweinidogion yn y dyddiadur, nid oes unrhyw fecanwaith i adrodd ar y cynnydd sydd wedi bod, hyd yn oed. Ac, a bod yn deg, rwy'n clywed gan swyddogion fod rhywfaint o gynnydd wedi bod ar rai o'r meysydd hynny—y prif feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn arwain arnyn nhw, a rhywfaint o gynnydd mwy diweddar o ran dulliau annibynnol o ddatrys anghydfodau, ac fe fyddai hwnnw'n gam gwirioneddol ymlaen, pe baem ni'n gallu gwneud cynnydd yn y maes hwnnw. Ond mae'r cynnydd yn ofnadwy o araf. Nid oes digon o ymdeimlad o frys, sy'n angenrheidiol, o gofio'r ffaith ein bod ni efallai ar drothwy ymadael â'r Undeb Ewropeaidd o fewn ychydig ddyddiau. Ac mae hynny'n adlewyrchiad o'r rhwystredigaeth sydd gennym ni pan ydych chi hyd yn oed yn cael cytundeb â Llywodraeth y DU bod angen gwneud rhyw waith, fod hynny'n ymestyn i dragwyddoldeb cyn ichi gael unrhyw ymdeimlad o ddatrysiad.
Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am allu i ddeddfu sy'n gorgyffwrdd. Oherwydd wrth galon rhai o'r cynigion yn ein dogfen ni, ceir gwahanu'r cyfrifoldebau hynny a chilio'n ôl oddi wrth y caniatâd yn y setliad presennol i Senedd y DU fod â'r gallu i ddiystyru cymhwysedd deddfwriaethol a chyfrifoldeb ac, yn wir, y broses o wneud penderfyniadau yn y cyrff datganoledig.
Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer confensiwn Sewel. Mae Sewel i fod yn amddiffyniad rhag deddfu gan Lywodraeth y DU yn fympwyol mewn meysydd datganoledig. Ond fel y dywedodd y Goruchaf Lys yn achos Miller, confensiwn cwbl wleidyddol yw hwn ac mae angen ei godeiddio o leiaf, yn y ffordd a nodir gennym ni. Oherwydd, ar hyn o bryd, y ffordd y mae Sewel yn gweithio yw mai Llywodraeth y DU yn unig sydd i bennu pryd y penderfynir bod cyfres o amgylchiadau 'heb fod yn arferol'. Y nhw sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw; y nhw sy'n penderfynu sut i weithredu. Nid oes raid iddyn nhw adrodd yn ôl ar sut y bu iddyn nhw ddod i'r casgliad hwnnw, ac rydym ni wedi nodi ffyrdd y gellid codeiddio Sewel. Gellid ei nodi mewn cyfres o reolau a fyddai'n bosibl o leiaf i'w herio gan rai sydd o farn arall. Rydym ni wedi cynnig y byddai gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi gyfrifoldebau ar wahân i gael adroddiadau ar weithrediad Sewel. A phe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ceisio deddfu mewn maes a ddatganolwyd i ni, yn groes i ewyllys y Cynulliad, fe fyddai gennym ni, neu'r Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach, y gallu i gyflwyno sylwadau i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi i gyflwyno'r safbwynt arall. Credaf fod honno'n ffordd o ddiwygio'r sefyllfa bresennol, ond rydym yn mynd ymhellach na hynny yn y papur ac yn cynnig dyfodol lle bydd gwahanu eglur yn y cyfrifoldebau a byddai gallu Llywodraeth y DU i ymyrryd yn cael ei ddisodli.
Rwy'n cytuno'n fawr iawn, Llywydd, â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am ddatganoli at ddiben penodol. Pan fyddwn ni'n penderfynu ar egwyddorion sybsidiaredd, lle y dylai pwerau orwedd, fe ddylai hynny ddigwydd oherwydd bod rhesymeg y tu ôl i hynny. Ceir thema yn y papur y bydd ef wedi ei weld lle mae rhai o'r ffyrdd y caiff pwerau eu gwasgaru ledled y Deyrnas Unedig yn gwbl ddiffygiol o ran cydlyniant. Ac felly, rydym ni'n dadlau o blaid yr ymdeimlad hwnnw o resymoldeb yn y ffordd y caiff pwerau eu dosbarthu, a phwerau yn cael eu dosbarthu am fod yna reswm iddynt gael eu lleoli yno.
O ran cyfrifoldebau cyllidol, rydym yn dadlau o blaid fframwaith cyllidol i'r DU; fe wnaethom ni sôn am hynny'n gynharach y prynhawn yma. Ond pe byddai fframwaith cyllidol i'r DU, yna fe fydd yn rhaid i'r broses o'i weithredu gael ei hategu gan fecanwaith datrys anghydfod sy'n annibynnol ar unrhyw un o'r pedair plaid. Felly, nid ydym yn gofyn am hynny i fod yn ein dwylo ni, ond ni ddylai fod yn nwylo'r Trysorlys ychwaith, ac ar hyn o bryd mae'n gyfan gwbl yn nwylo'r Trysorlys—sef y barnwr a'r rheithgor a'r dienyddiwr: mae'r holl rannau'n cael eu chwarae gan yr un chwaraewr. Nawr, rydym yn nodi ffyrdd y gellid cyflwyno lefel newydd o annibyniaeth i hynny.
O ran sut y gellid diogelu setliad newydd, wel, fe fyddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar adroddiad Arglwydd Andrew Dunlop, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ofyn iddo wneud darn o waith ynglŷn â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Dunlop yn y fan hon ar 17 Medi, a mwynhau fy sgwrs gydag ef. Mae'n bwriadu cyflwyno adroddiad ym mis Tachwedd. Byddwn ni'n edrych ar yr adroddiad hwnnw i weld a oes modd y gellir gweld system ddi-syfl o ddatganoli, sydd wedi'i diogelu'n wirioneddol rhag difrod gan eraill, yn cael ei rhoi ar y llyfr statud.
Ac yn olaf, o ran ymgysylltu â dinasyddion, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud mai confensiwn i'r DU gyfan yw'r math o gonfensiwn yr ydym ni'n ei awgrymu yn y cynnig terfynol yn y papur. Nid confensiwn Cymreig yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru neu ddinasyddion Cymru yn unig mohono. Mae'n rhaid iddo fod yn gonfensiwn sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan—y pedair rhan gyfansoddol—lle byddai ymgysylltu â dinasyddion yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig. Byddem yn dymuno chwarae ein rhan ni yma, ond fe fyddai'n dibynnu ar eraill y tu hwnt i Gymru.
Prif Weinidog, diolch i chi am yr 20 cynnig hyn ar ddiwygio'r Undeb, sy'n ddiddorol i'w darllen, fel y 95 pwnc a hoeliwyd gan Luther ar ddrws yr Eglwys honno yn Wittenberg flynyddoedd maith yn ôl. Fe fyddem ni'n cytuno â llawer o'r beirniadaethau o'r undeb, sydd ymhlyg neu'n eglur; rydym ni'n cytuno â llawer o'r diagnosis. Rydym ni'n anghytuno, wrth gwrs, ar y datrysiad. Nawr, fel y daeth Martin Luther hyd yn oed i'r casgliad yn y diwedd, rydym ni'n credu bod y camweithredu, a ddatgelir yma yn nhudalennau'r ddogfen hon, wedi eu gwreiddio mor ddwfn fel bod testun y cynigion, mewn gwirionedd, y tu hwnt i'w ddiwygio. Mae'n rhaid inni ddechrau o'r newydd.
Nawr, rydych chi'n dyfynnu, rwy'n meddwl, yn eich rhagair i'r ddogfen y llinell enwog o The Leopard gan Lampedusa:
'Os ydym yn dymuno i bethau aros fel y maen nhw, fe fydd yn rhaid i bethau newid.'
Mae'r llinell honno mewn gwirionedd yn cael ei llefaru gan Tancredi, sef uchelwr ifanc tlawd sy'n ymuno â'r gweriniaethwr radicalaidd Garibaldi—Jeremy Corbyn ei ddydd, o bosibl—yn ei wrthryfel yn erbyn brenhinoedd y Bourbon a oedd yn teyrnasu yn Sisilia hyd at uniad yr Eidal. Y broblem a awgrymir gan y nofel yw, unwaith eto, ar drothwy'r newid hwnnw a ysgogir yn allanol—bod llywodraethwyr Sisilia yn newid ond, mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth yn newid o gwbl i bobl Sisilia. Nid yw'r llewpart byth yn newid ei smotiau. 'Dyma'r hen fos, yr un fath â'r bos newydd', i ddyfynnu genre llenyddol hollol wahanol.
Nawr, rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y ddogfen o ran rhai o'r cynigion penodol. Hoffwn i'r Prif Weinidog egluro'r rhyngberthynas rhwng yr hyn y mae ef yn ei amlinellu a'r gwaith y mae wedi gofyn i Alun Davies ei wneud a'r adroddiad a ddaw yn y gwanwyn, rwy'n credu, am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Rydym yn amlwg yn croesawu nawr, fel y cyfeiriwyd ato, y cynigion ar gyfer awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu neilltuol yma yng Nghymru i ymuno â'r rhai yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ac ar gyfer datganoli pwerau plismona a chyfiawnder. Rwy'n siŵr y bydd Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn cyflwyno achos grymus a diymwad hefyd pan fydd ei gomisiwn ef ar gyfiawnder yng Nghymru yn adrodd yr wythnos nesaf, rwy'n credu.
Rydym yn croesawu'r ffaith eich bod yn cydnabod ei bod yn rhaid disodli fformiwla Barnett, sy'n seiliedig ar boblogaeth ar gyfer dosbarthu cyllid ledled y DU, gan un sy'n seiliedig ar asesiad annibynnol o anghenion, ac yn wir y newidiadau ehangach o ran y fframwaith cyllidol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw'n gynharach, ac y dylai'r egwyddor hon gael ei chymhwyso i feysydd cyllid sydd heb eu datganoli hefyd.
Yn anad dim, rwy'n croesawu eich cynnig agoriadol fod sofraniaeth seneddol yn San Steffan, y syniad am oruchafiaeth San Steffan yn unig, yr egwyddor, y gwerth, hyd yn oed, wedi hen chwythu ei blwc, a bod sofraniaeth y bobl yn gorwedd gyda phobl Cymru. Yn wir, mae ganddyn nhw'r hawl i fynnu eu hannibyniaeth nhw drwy refferendwm, ac rydych chi'n cyfeirio yn adran 3 o'r ddogfen mai
barn Llywodraeth Cymru, ar yr amod bod Llywodraeth,
naill ai yn yr Alban neu yng Nghymru,
wedi sicrhau mandad etholiadol penodol ar gyfer cynnal refferendwm, ac yn mwynhau cefnogaeth barhaus gan ei senedd i wneud hynny, mae ganddi'r hawl i ddisgwyl i Senedd y DU gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol
i sicrhau bod hynny'n digwydd. O ran ei heffaith uniongyrchol ac, yn wir, yn yr hirdymor, mae'n debyg mai'r egwyddor olaf honno o symud at system o sofraniaeth y bobl, yn seiliedig ar genedligrwydd yn ein hachos ni, yw'r un fwyaf pellgyrhaeddol oll mae'n debyg. Ond wrth gwrs un peth yw cyhoeddi sofraniaeth a pheth arall yw mynnu hynny yn nannedd gwrthwynebiad parhaus gan San Steffan—Senedd sydd o'r farn ei bod yn flaenaf o hyd. Rwy'n cofio pan gafodd datganoli plismona ei gynnig ddiwethaf gan eich rhagflaenydd chi, fe gafodd ef—fel y dywedodd y Western Mail—ei lambastio gan ASau Llafur o Gymru. Felly, roedd gwrthwynebiad yno yn sicr.
Mae hyn yn codi pwynt arall, yn fy marn i, oherwydd mewn rhai agweddau mae'r math o broblem a ddaw yn sgil popeth yn canolbwyntio ar Lundain neu San Steffan mewn gwirionedd yn plagio cyfansoddiad Prydain yn ei gyfanrwydd hefyd ac yn achosi problem, onid ydyw, o fewn y Blaid Lafur Brydeinig? Gwelwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda'r cwestiwn hwn o hawl i gael refferendwm ar annibyniaeth, yn yr Alban neu Gymru, yr ydych chi'n ei gefnogi ar hyn o bryd, fod Richard Leonard, y dyn sy'n cyfateb i chi yn yr Alban, wedi dweud y bydd cymal penodol ym maniffesto nesaf Plaid Lafur y DU yn diystyru refferendwm annibyniaeth i'r Alban mewn pob amgylchiad. Mae John McDonnell wedi dweud ei fod ef yn bwriadu ei gefnogi, tra bod Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod yn ef eisiau aros cyn penderfynu. Felly y bu erioed. Beth yw statws y cynnig hwn, mewn gwirionedd, o fewn y Blaid Lafur?
Er y carwn i demtio'r Prif Weinidog ymhellach byth—mae'n amlwg nad ydych chi gyda ni o ran annibyniaeth Cymru yn ei chyfanrwydd, ond yn sicr, hyd yn oed er mwyn cyflawni'r agenda hon ar gyfer diwygio'r Deyrnas Unedig, efallai mai un o'r pethau gorau y gallech chi ei wneud i gyflawni hynny yw cyhoeddi annibyniaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, a hynny er mwyn wedyn, mewn gwirionedd, creu deinameg wleidyddol newydd o fewn eich plaid chi eich hun ac yn fwy eang. Gwn ein bod yn anghytuno ynghylch pa mor ddymunol yw annibyniaeth fel diben gwleidyddol. Mae gennym ni ddehongliad gwahanol, rwy'n credu, o effeithiolrwydd yr undeb fel modd o ailddosbarthu. Roeddech chi'n cyfeirio at hyn fel fframwaith ar gyfer cyfuno gwobr a risg. Mae'n rhaid imi ddweud, gyda rhai eithriadau, mae San Steffan yn fynych wedi bod yn fwy o risg i Gymru nag o wobr, ac rwy'n credu y caiff y dadleuon mwyaf grymus a welais i o blaid hyn eu gwneud weithiau, Prif Weinidog, gennych chi'n wythnosol wrth y blwch dogfennau. Rydym yn rhannu ein dicter, rwy'n meddwl, tuag at y Llywodraeth yn San Steffan sy'n chwarae gyda ni ac yn ein trin fel doli glwt, yn ein rheoli ni, yn gwadu cyllid teg i ni ac yn ein trin ni fel dinasyddion eilradd.
Nawr, mewn rhai agweddau, fel sy'n digwydd yn aml, mae diwylliant gwleidyddol poblogaidd yn fwy blaengar na gwleidyddiaeth ffurfiol. Rydym wedi gweld hynny ar strydoedd Merthyr ac mewn mannau eraill, a'm hunig gwestiwn i yw: ar y mater hwn o'r confensiwn cyfansoddiadol, credaf yn bendant mai dyna'r ffordd i ymgysylltu'n briodol â'r cwestiynau mwyaf dyrys hyn, ond pam na allwn ni arwain y ffordd? Pam mae'n rhaid inni aros am benderfyniad i greu confensiwn cyfansoddiadol i'r DU gyfan gan San Steffan? Pam na allwn ni fod yn rhag-ddywediadol? Pam na allwn ni ddechrau yma a chael yr union fath o drafodaeth ymgysylltiol y mae ef wedi ei rhoi ger ein bron, gan ddechrau yma yng Nghymru, a chyda'r gobaith o weithredu fel catalydd ar gyfer trafodaethau ehangach ledled yr ynysoedd hyn?
Rwy'n diolch i'r Aelod unwaith eto am gyfraniad diddorol ac ymgysylltiol. Fel y dywed ef, mae yna bethau yn y ddogfen yr ydym ni'n cytuno â nhw ar draws y pleidiau. Gadewch i mi gytuno ag ef mai'r cynnig mwyaf radical yn y ddogfen yw ailffurfio cysyniadau am sofraniaeth. Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth, 20 mlynedd yn ôl, pan ystyriwyd datganoli gyntaf, ei bod hi'n gred ym meddyliau'r bobl a oedd yn trafod hynny fod sefydliadau datganoledig yn bodoli er mwyn gallu addasu polisi cenedlaethol i fodloni amgylchiadau lleol, a'r sefyllfa ddiofyn oedd bod y pwerau hynny yn San Steffan a bod rhai ohonyn nhw wedi cael eu rhoi ar osod ar sail amodol fel y gallai eraill eu hymarfer. Nawr, 20 mlynedd wedi datganoli, nid wyf i o'r farn fod hynny'n mynd i oddef ei archwilio erbyn hyn. A dyna pam yn y papur hwn rydym yn sôn am sofraniaeth y bobl, wedi ei gwasgaru ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, wedi ei chefnogi gan refferenda, wrth gwrs, o'r lle y caiff sefydliadau datganoledig eu cyfreithlondeb a'i gadw. Ac yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen arnom yw nid ymdeimlad o sofraniaeth seneddol sydd â rhyw gymeriad diderfyn i bob golwg lle mae San Steffan bob amser yn gallu arfer cymhwysedd deddfwriaethol ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ond lle ceir y syniad hwnnw o sofraniaeth wasgaredig lle nad yw sofraniaeth yn cael ei throsglwyddo. Mae'r gair 'datganoli', hyd yn oed, yn fy marn i, yn gamarweiniol 20 mlynedd yn ddiweddarach, gan fod iddo yn ei hanfod yr ymdeimlad fod pethau'n parhau i gael eu trosglwyddo—yn cael eu dal yma ond wedi eu trosglwyddo—tra mai'r hyn yr ydym yn dadlau o'i blaid yn y papur hwn yw ymdeimlad o sofraniaeth a leolir yn y pedair gwlad ac yna'n cronni'n ôl yn wirfoddol at ddibenion y cytunir eu bod yn cael eu cyflawni orau yn ôl y patrwm ehangach hwnnw. Ac mae'n debyg mai'r anghytundeb mwyaf rhyngom ni yw nad yw Plaid Cymru yn credu bod achos dros gronni'n ôl—nid ydych chi'n credu fod yna gyfres o ddibenion cyffredin y byddai'n well eu cyflawni ar sail y DU, tra ein bod ni'n parhau i gredu bod hynny'n wir. Ac er mwyn bod yn rhan o'r clwb mwy eang hwnnw, mae'n rhaid ichi fod yn aelod o'r clwb eang hwnnw, fel yr ydym wedi dadlau erioed yng nghyswllt yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n fater priodol ar gyfer dadl a gwahaniaeth barn a pherswadio ein gilydd ac eraill o rinweddau'r achos hwnnw. Ond rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price yn ei gyfraniad mai dyna'r newid mwyaf radical yn y ffordd yr ydym yn ffurfio cysyniadau o ran y ffordd y mae pedair rhan y Deyrnas Unedig yn gweithredu gyda'i gilydd. Ac yna fe ddadleuwn ni, fel y gŵyr ef, am i hynny gael ei ymwreiddio—i hynny fod y tu hwnt i allu un rhan yn unig o'r pedair rhan i'w wrthdroi. Rhaid i hynny ymwreiddio ym mhedair rhan y Deyrnas Unedig.
Fe holodd am y berthynas rhwng hyn a gwaith Alun Davies, ac mae hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar barhad y Deyrnas Unedig. Mae'n sôn am y ffordd y gall y Deyrnas Unedig barhau i oroesi a ffynnu. Ond fel y dywedais i yn fy natganiad, mae mwy o berygl i'w oroesiad heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn fy oes wleidyddol i, ac mae gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddewisiadau y gallan nhw eu hymarfer. A'r hyn y bydd Alun yn edrych arno yw'r dewisiadau a fyddai gan Gymru mewn amgylchiadau gwahanol i'r rhai y mae'r adroddiad hwn yn eu rhagweld. Dyna pam mai adroddiad gan y Llywodraeth yw hwn, a dyna pam y bydd ef yn cyflawni ei waith yn y ffordd fwy rhydd honno a fydd ganddo ef.
Diolch am eich cyngor ar gyfansoddiad y Blaid Lafur i'r dyfodol. [Chwerthin.] Gadewch imi ddweud yn syml yn y fan hon yr hyn a ddywedais i yn fy araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle'r oeddwn i'n amlinellu, yn rhagddweud, rhai o'r pethau sydd yma ac fe ddywedais i yno fod fy marn i am ddatganoli a'i ymwreiddiad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei adlewyrchu yn fy marn i am y ffordd y mae angen i'r Blaid Lafur weithredu. Felly, nid wyf yn credu mewn annibyniaeth o'r Blaid Lafur, ond rwyf i'n grediniol fod yr egwyddorion yr ydym ni'n eu hamlinellu yma yn berthnasol i'r Blaid Lafur, yn union fel y maen nhw'n berthnasol i'n cyfansoddiad yn fwy cyffredinol.
Yn olaf, i ymdrin â'r materion ynglŷn â risg a gwobr a'r confensiwn cyfansoddiadol, rwy'n credu mai'r gwahaniaeth rhyngom ni, yn syml, yw hyn—fy mod i'n credu, ym marn Plaid Cymru am y Deyrnas Unedig, nad yw byth yn bosibl cael cyfrifiad lle mae'r gwobrwyon yn drech na'r risgiau. Ar y llaw arall, o'm safbwynt i, er bod yna adegau pan gredaf fod y cyfrifiad yn anffafriol, rwyf i o'r farn fod yna bosibilrwydd iddo fod fel arall, ac ar y cyfan fel arall y bu, ac ar y cyfan, mae ein haelodaeth ni o Deyrnas Unedig, gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda rhwyd diogelwch o nawdd cymdeithasol, gyda dull cenedlaethol o ddiwallu anghenion lles ein pobl—mae'r cyfrifiad wedi bod o blaid pobl Cymru, a phobl Cymru wedi elwa ar y cyfrifiad hwnnw. Nid yw bob amser mor eglur ag y byddwn i'n hoffi i hynny fod, ac y mae hynny dan straen, nid dim ond o achos Brexit, ond oherwydd degawd o gyni digyffelyb hefyd. Ond rwyf i o'r farn fod potensial i bethau fod fel arall, ac mae Llywodraeth Lafur gyda phrosbectws o'r math y byddem ni'n ei gyflwyno unwaith eto yn rhoi'r cyfrif hwnnw'n gadarn i gyfeiriad Teyrnas Unedig lle mae'r gwobrwyon yn fwy o lawer i Gymru nag y bydden nhw fel arall.
Nid wyf yn dymuno gorffen ar nodyn negyddol, ond rydym ni'n awyddus i gael confensiwn cyfansoddiadol ar sail y DU. Yr hyn a ddywedais i wrth Paul Davies—yw bod cychwyn ar hyn ar ein pennau ein hunain, mewn rhai ffyrdd, yn tanseilio holl ddiben y papur, sef tynnu eraill i mewn i'r sgwrs. Nawr, nid wyf yn dymuno swnio fel fy mod i'n diystyru'r syniad, pe na allwn ni gynnwys pobl eraill ynddo, ac os nad yw'r ymgais hon i ddenu pobl eraill i mewn yn mynd â ni i unman, na fyddem ni'n parhau i fod yn awyddus i gael rhyw sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain. Ond byddai dechrau gyda sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain, yn fy marn i, yn dechrau ar ben arall y daith y byddai'r papur hwn yn hoffi iddi ddechrau. Mae angen inni ddenu pobl eraill i mewn, oherwydd os nad gennym ni eraill gyda ni, ni fyddwn yn cyflawni'r hyn yr ydym yn awyddus i'w gyflawni yn y papur hwn. A dyna pam mae ein hymdrechion ni ar hyn o bryd wedi eu cyfeirio at geisio ysgogi'r sgwrs ehangach honno, oherwydd ar sail y sgwrs ehangach honno y bydd dyfodol y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n eiddgar i'w sicrhau, yn cael ei gyflawni.
Rwy'n eich canmol chi, Prif Weinidog, am y ddogfen hon ac am eich cynigion diddorol chi, a hefyd am eich awydd i gymryd rhan mewn dadl ledled y DU yn hytrach na chyfyngu hyn i fanylion datganoli yng Nghymru. Rydych chi'n dweud na fydd Plaid Cymru byth yn gweld y risgiau'n gorbwyso gwobrwyon annibyniaeth—y maen nhw o leiaf, o bosibl, hyd 2030, ac rwy'n credu mai dyna'r dyddiad y maen nhw'n ei roi ar gyfer eu refferendwm. Ond rydych chi wedi rhoi amddiffyniad llawn iawn o'r Deyrnas Unedig heddiw. Rwyf i wedi teimlo bod rhai o'ch Gweinidogion chi ac yn sicr rai o Aelodau'r meinciau cefn wedi cloffi ynghylch y mater hwnnw, ond ni wnaethoch chi heddiw o gwbl, ac am hynny rwy'n diolch i chi.
Mae corff eich dogfen chi yn dechrau drwy ddweud mai'r ffordd orau o weld y Deyrnas Unedig erbyn hyn, beth bynnag ei tharddiad hanesyddol, yw fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd ar ffurf gwladwriaeth amlwladol y mae ei haelodau yn rhannu ac yn ailddosbarthu adnoddau a risgiau ymysg ei gilydd i hybu eu diddordebau cyffredin. Mae hwn yn ddisgrifiad eithaf allweddol o'r undeb, ond mae hefyd yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU a Senedd y DU, yn ffeithiol ar hyn o bryd o leiaf, sut bynnag y byddech chi'n hoffi hynny, ac i ba raddau y maen nhw'n ailddosbarthu adnoddau ariannol, ar leiaf, o Loegr i'r tair cenedl arall? Ac onid yw hwnnw'n safbwynt sy'n gysgod dros y ddadl?
Mae eich dogfen chi yn fy argyhoeddi i fwyaf pan soniwch am y manylion a rhai o'r rhwystredigaethau sydd wedi eich wynebu yn Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r strwythurau gweinidogol ar y cyd yr oeddech chi'n eu hwynebu, ac yn benodol yr addewidion a gawsoch chi 18 mis yn ôl yr ymddengys nad oes fawr ddim symudiad wedi bod arnynt, os o gwbl. Ond mae'r ddogfen yn ei chyfanrwydd yn pwysleisio confensiwn, cydraddoldeb, ac rydych chi'n siarad ar sail egwyddorion cyffredinol. Ac rwy'n credu bod hynny'n llawer anos pan fyddwch chi o'r farn nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn cyfateb i'r sefydliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond eu bod nhw'n siarad ar ran y genedl, sef Lloegr, sy'n cynnwys dros bum rhan o chwech o boblogaeth yr ynysoedd hyn, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r holl swyddogaethau hynny sydd heb eu datganoli. Ac er nad wyf i'n dadlau yn eich erbyn chi, rwy'n holi pa mor realistig yw mynnu cydraddoldeb o egwyddorion cychwynnol, ac yn meddwl tybed a fyddai'n well ichi ganolbwyntio ar rai o'r dadleuon argyhoeddiadol iawn sydd gennych o ran y manylion ynglŷn â sut mae'r system yn methu a sut y gellid gwella hynny.
A gaf i fwrw rhyw ychydig o amheuaeth hefyd, yn dechnegol felly, ar un o'r meysydd yr ydych chi wedi bod yn anelu ato? Rydych chi'n cyfeirio at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn y troednodyn mae'r rhan berthnasol. Rydych chi'n dweud bod ein sefydliadau
yn rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig—
mae hynny'n cael ei gyhoeddi yn y ddeddfwriaeth. Ond rydych chi'n dweud wedyn efallai nad yr amddiffyniad parhaol yw hwnnw y gallai darlleniad syml ohono ei awgrymu. Ac yna fe ewch chi ymlaen i ddweud:
rhoddir mynegiad pellach nad yw'r sefydliadau datganoledig i'w diddymu ac eithrio ar sail penderfyniad gan bobl Cymru/yr Alban drwy bleidleisio mewn refferendwm.
A gaf i holi: a yw hynny hefyd yn dod o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac a ydych chi'n bwriadu newid hynny? Oherwydd, mewn man arall yn y ddogfen, nid refferendwm i bobl Cymru yw'r amod a roddir gennych chi, ond cydsyniad y sefydliad hwn. A yw hynny'n adlewyrchu eich profiadau chi yn refferendwm yr UE? Ai symudiad bwriadol yw hwn oddi wrth ganiatáu refferendwm i Gymru benderfynu ar ddyfodol y lle hwn i ddweud, beth bynnag fydd barn pobl Cymru mewn refferendwm, na ellid byth â diddymu'r lle hwn, ac eithrio drwy ei benderfyniad ef ei hun?
A gaf i eich holi chi ychydig am y llysoedd a'r rhannau cyfreithiol sydd gennych chi—rwy'n meddwl mai rhannau 18 a 19 yn y papur? Mae gennym yr Arglwydd Thomas yn lansio ei adroddiad amser brecwast ddydd Iau nesaf, rwy'n credu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed beth fydd ganddo ef i'w ddweud. A ydych chi'n gallu barnu o flaen llaw unrhyw beth y bydd ef yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn? O'r blaen, ac fe gyfeiriodd Adam at hyn gynnau fach, roedd yna ddadl ynghylch a ddylem ni gael awdurdodaeth ar wahân, ac wedyn roedd pobl yn cyfeirio at honno fel awdurdodaeth neilltuol. Yn yr adroddiad hwn, rydych chi'n cyfeirio at system o lysoedd ar wahân ac awdurdodaeth ar wahân. A yw hwnnw'n wahaniaeth pwysig o ran ystyr? Ai disgrifiad yw hwn sydd hanner ffordd rhwng y ddau ddisgrifiad blaenorol, neu a wyf i'n darllen gormod i mewn i hynny?
Rwyf i'n eich annog chi hefyd i beidio ag edrych ar y canlyniad yn unig o ran pwy yw'r beirniaid. Rydych chi'n cyfeirio, ac yn argyhoeddiadol yn fy marn i, at y ddadl dros gael rhywun sydd â gwybodaeth am gyfraith Cymru yn aelod o'r Goruchaf Lys, ond mae'r mater hefyd yn ymwneud â'r modd y penodir y barnwyr uwch. Mae gennym ni banel, rwy'n credu, o bump, ac fe geir dau o'r barnwyr uchaf, Arglwydd Brif Ustus, Meistr y Rholiau, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna benaethiaid y tri chomisiwn penodiadau barnwrol. Felly, dim ond un ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan, o'r safbwynt hwnnw, un ar gyfer yr Alban, ac un o'r panel o bump ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n ymddangos bod hynny'n rhoi llawer iawn o bwys i'r Alban ac yn enwedig i Ogledd Iwerddon ac ychydig iawn o bwys i Gymru. Tybed, yn ogystal â chwilio am yr un ynad yn y Goruchaf Lys, a ddylem ni ystyried adolygu'r ffordd y mae uwch-farnwyr yn cael eu penodi ynddi hefyd?
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Fe gymeraf ei bwynt olaf yn gyntaf. Rwy'n credu bod yna ddadl ehangach dros ddiwygio'r ffordd y caiff penodiadau barnwrol eu cyflawni. Rwy'n credu bod angen i hynny gyd-fynd â'r unfed ganrif ar hugain. Mae angen i hynny edrych ar y canlyniadau a gaiff o ran amrywiaeth y bobl sy'n cael eu penodi i'r swyddi pwysig iawn hyn. Felly, rwy'n credu ei fod yn codi pwynt mwy cyffredinol na'r un penodol, sy'n haeddu ystyriaeth ehangach.
Rwyf wedi ceisio parchu adroddiad Arglwydd Thomas drwy beidio â thresmasu gormod ar y diriogaeth honno heddiw. Ac ni fyddwn i'n darllen gormod i mewn i gywirdeb ymadroddion ac ni fydd raid ond aros wythnos cyn inni gael gweld adroddiad Arglwydd Thomas ac fe fyddwn ni'n gallu trafod y materion hyn ar sail hwnnw.
Mae ef yn gywir i ddweud fod yna ystyr cymharol allweddol o'r undeb yn y papur hwn. Ychydig iawn o ymlyniad sentimental sydd gennyf i i'r Deyrnas Unedig o'm rhan fy hun. Nid oes gennyf i ffydd yn nyfodol y Deyrnas Unedig yn ôl y rhagosodiad hwnnw. Mae gennyf i ffydd oherwydd rwyf o'r farn ei bod yn gweithio i Gymru, rwy'n credu ei bod yn gweithio i bobl Cymru, a dyna'r achos y mae'n rhaid inni ei ddadlau o'i phlaid hi. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi symud ymhell yn ystod fy oes i, ac i Gymru y mae fy ymlyniad sentimental i. Rwyf bob amser wedi fy ystyried fy hun yn Gymro yn gyntaf ac yn aelod o'r Deyrnas Unedig wedi hynny, ond credaf hefyd mai bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig sy'n iawn i Gymru. Felly, rydych chi'n iawn—yr achos ymarferol dros yr undeb a wnawn ni yma, yn hytrach nag apêl ar rywbeth mor ddiflanedig â gwerthoedd Prydeinig neu ddadleuon o'r fath.
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am gwestiwn Lloegr a sut y caiff hwnnw ei ddatrys. Mae hyn y tu hwnt i gwmpas y papur hwn, ond mae'n fater pwysig. Nid ydym ni'n dadlau yn y papur am gydraddoldeb ar sail Cymru yn cael pleidlais, yr Alban yn cael pleidlais, Lloegr yn cael pleidlais, Gogledd Iwerddon yn cael pleidlais. Nid ydym yn credu bod hynny'n gredadwy mewn undeb pan fo pump o bob chwech yn y boblogaeth yn perthyn i un o'r pedwar sy'n cymryd rhan. Rydym ni'n dadlau dros gydraddoldeb o ran cyfranogiad, cydraddoldeb ymgysylltu, cydraddoldeb parch—y nodweddion hynny a fyddai, yn fy marn i, yn mynd ffordd bell tuag at wneud i sefydliadau'r Deyrnas Unedig weithio'n effeithiol yn y dyfodol. Yr holl bethau yr ydym ni wedi eu hymarfer yma yn y fan hon o'r blaen sy'n rhwystro hynny—pam mai dim ond yn Llundain y gall ein fforymau gweinidogol ar y cyd gyfarfod, a'u cadeirio gan Weinidog yn Llywodraeth y fan honno, pam mai Llywodraeth y DU yn unig sy'n cael gosod agenda, ysgrifennu'r cofnodion, sy'n gallu—. Wyddoch chi, nid egwyddorion cydraddoldeb cyfranogiad mo'r rhain, a dyna'r pethau yr ydym ni'n dadlau drostyn nhw yn y papur hwn fel eu bod nhw'n cydgrynhoi ymdeimlad o Deyrnas Unedig lle mae gan bawb gyfran gyfartal, heb ddadlau bod pawb o'r un maint ac felly'n disgwyl cael, fel y dywedaf i, gymryd rhan ar sail un cerdyn yn llaw pob un.
O ran sut y gellid dirwyn y Cynulliad Cenedlaethol i ben, wel, yn y pen draw mae hynny yn nwylo pobl Cymru. Dyna sut y cawsom ni ein sefydlu—gan refferendwm—a, phe baem ni byth yn cael ein dadwneud, byddai'n rhaid i hynny fod drwy benderfyniad y bobl a'n rhoddodd ni yma. Byddai gan y sefydliad hwn ran i'w chwarae wrth lunio'r penderfyniad hwnnw, ond mae'r sofraniaeth, yn yr ystyr boblogaidd a amlinellwn yma, yn perthyn yn nwylo'r bobl.
Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r papur yn fawr a hefyd i ba raddau y mae'r papur yn tynnu oddi ar lawer o'r gwaith a'r dadlau sydd wedi digwydd yn y gwahanol bwyllgorau ac yn Siambr hon, yn ogystal â'r pwyllgorau cyfansoddiadol amrywiol ledled Seneddau amrywiol y DU? Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Llywodraethiant y DU ar ôl Brexit', ac mai un o'r prif argymhellion ynddo oedd argymell diwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn sylfaenol a chydnabod yr angen i gydweithio nid yn unig rhwng Llywodraethau ond, yn bwysig, i gydweithio rhwng seneddau hefyd. Ac roedd gennym ni gyfarfod bwrdd crwn, agored a chyhoeddus, ddoe, gyda rhai o arbenigwyr cyfansoddiadol mwyaf blaenllaw'r DU yn siarad mewn gwirionedd am lawer o'r materion allweddol hyn sydd ger ein bron.
Un o'r materion sylfaenol sy'n dod i'r amlwg o'r papur—ac sydd wedi bod yn gyffredin, rwy'n credu, ym mhob un o'r dadleuon—yw, os bydd unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol sylweddol yn digwydd, yna mae sofraniaeth yn greiddiol i hynny, ac yn gosod cyfyngiadau ar sofraniaeth ac ar allu San Steffan i ddiystyru neu anwybyddu'r arfer o gyflawni cyfrifoldebau a ddatganolwyd gan San Steffan. Felly, bydd yn rhaid cael diwygiad llwyr o'r ffordd y gellir ymarfer sofraniaeth seneddol a, heb hynny, mae'n anodd gweld y gellir cael unrhyw newid cyfansoddiadol sylweddol.
Un mater sy'n peri cryn bryder, yn amlwg, yw bod angen inni fod yn ofalus nad ydym yn sôn am ymladd rhwng seneddau, ond rydym ni'n cydnabod bod mater y cyfansoddiad, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn eiddo i bobl Cymru, a hefyd i bobl y DU gyfan, o ran natur yr hyn a allai ddigwydd neu beidio. Nawr, mae swyddogaeth y pwyllgorau a'r Siambr hon yn bwysig iawn. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n gwneud rhai sylwadau ynghylch sut yr ydych chi'n gweld natur y dadleuon a'r digwyddiadau hyn yn datblygu ar gyfer sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cyfranogi yn llawn yn y prosesau hynny wrth iddyn nhw ddatblygu.
Ac yna, yn y bôn, y peth allweddol yw ein bod ni wedi mynegi'r pwyntiau hyn dro ar ôl tro, yn aml heb fawr o ymateb ar lefel y DU, a'r cwestiwn yw: sut mae sicrhau bod newid yn digwydd? Roedd yna athronydd enwog iawn, economegydd, a ddywedodd nad yw athronwyr hyd yn hyn ond wedi dehongli'r byd mewn amrywiol ffyrdd, ond y pwynt, serch hynny, yw ei newid.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cynnig cynhadledd i'r Llefarydd, fel y digwyddodd, mewn gwirionedd, ym 1920. Felly, nid syniad newydd mohono, ond ffordd o gychwyn a dechrau dadl gyfansoddiadol, efallai y tu allan i'r awyrgylch gwenwynig sy'n bodoli o fewn gwleidyddiaeth y DU. Ac un o'r rhwystrau i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwr presennol Senedd y DU yn cael ei ystyried gan rai yn ffigwr dadleuol, ac ni ellid symud i'r cyfeiriad hwn. Ond fe fyddwn yn cael Llefarydd newydd yn San Steffan cyn bo hir ac efallai y bydd penodi'r Llefarydd yn gyfle i hyn ddigwydd. Felly, tybed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithredu a rhoi ysgogiad cychwynnol i'r ddadl angenrheidiol hon. A wnewch chi gymryd o ddifrif ac ystyried y cyfle a ddaw, efallai, i gyflwyno sylwadau fel y gallai cychwyn cynhadledd i'r Llefarydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fod yn un ffordd o ddechrau'r broses hon mewn gwirionedd?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am y sylwadau yna. Mae'n iawn, wrth gwrs: nid dim ond Llywodraethau Cymru ac, yn wir, yr Alban sy'n teimlo'n rhwystredig oherwydd ein hanallu i gael ymatebion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwodd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin am ddatganiad clir gan Lywodraeth y DU ar ei pholisi ar gyfer yr undeb, ac ym mis Medi y llynedd, 2018, ymrwymodd Llywodraeth y DU i lunio datganiad o'r fath, ac maen nhw a ni yn dal i ddisgwyl amdano.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw fod dadlau a chyfraniad gwirioneddol drylwyr i'w gweld yn adroddiadau'r pwyllgorau yma ac yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn wir yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae llawer iawn o bethau diddorol wedi'u hysgrifennu ynddynt, ac rydym ni i gyd yn straffaglu mewn ffordd i gael sylw gan Lywodraeth y DU, sydd, fel y meddyliaf yn aml amdani, wedi'i llethu gan Brexit ac yn methu â dod o hyd i unrhyw ofod—gofod meddwl, gofod amser, gwleidyddol, gofod cyfalaf—i fynd i'r afael â'r materion yr ydym ni wedi bod yn siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
Dywedodd Mick, 'Sut allwn ni newid pethau?' Wel, rwy'n ofni y gallai'r cwestiwn fod ychydig yn wahanol i hynny. Bydd newid. Mae pethau'n newid o'n cwmpas ni i gyd. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn newid pethau'n sylweddol. Nid sut y dylai newid ddigwydd yn yr ystyr, 'a ddylid cael newid?', ond, 'Sut mae mynd i'r afael â newid er mwyn i ni fod yn gyfrifol am newid, yn hytrach na chael ein llywio gan hynny ac wynebu ei ganlyniadau heb wneud yr ymdrech angenrheidiol i wneud y newid yn y modd yr ydym ni wedi siarad amdano mewn ffyrdd gwahanol ar draws y Siambr?'
Mae syniad cynhadledd y Llefarydd, wrth gwrs, yn un diddorol dros ben. Dechreuodd ar ei waith yn union 100 mlynedd yn ôl yr hydref hwn. Pan bleidleisiwyd dros gynnig cynhadledd y Llefarydd ar ddatganoli ar lawr Tŷ'r Cyffredin, Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig lle na phleidleisiodd yr un aelod o Gymru yn erbyn sefydlu'r cyfryw gynhadledd y Llefarydd. Ac fel y gŵyr rhai Aelodau yma, pan adroddodd, roedd yn dadlau dros ymagwedd gwbl ffederal i'r Deyrnas Unedig a hyd yn oed yn datrys y cwestiwn Saesnig yn ei amser ei hun hefyd. Felly, nid yw'r cynsail o ran effeithiolrwydd y gynhadledd yn wych, ond o ran pa mor gyforiog oedd ei dadleuon, mae'n werth ailymweld â hynny, ac nid wyf yn sicr sut i ddechrau'r sgwrs. Awgrymwyd confensiwn cyfansoddiadol gennym ni. Pe gellid cychwyn cynhadledd y Llefarydd mewn ffordd wahanol a gwneud y math o ymgysylltu yr ydym ni wedi sôn amdano, fe fyddwn yn fodlon iawn â hynny.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn teimlo ymlyniad emosiynol dwfn iawn wrth Brydeindod ac at Gymreictod, ac rwyf yn credu bod yr undeb yn llawer mwy na threfniant cyfansoddiadol. Felly, dyna'r sylw cyntaf y byddwn yn ei wneud am eich safbwynt bod angen diwygio cyfansoddiadol yn ddi-os.
Rwyf yn croesawu diwygio ein hundeb. Rwy'n meddwl ei bod yn ddogfen ddiddorol ac rwy'n lled-gefnogol ohoni, ar y cyfan. Ond mae gwendid mawr iawn ynddi sef yr ymdriniaeth o'r cysyniad o sofraniaeth. Mae sofraniaeth o ran meddwl am gymdeithasau gwleidyddol yn gysyniad dyrys iawn mewn athroniaeth wleidyddol, ond mae'n gofyn am feddwl dwfn iawn, ac ni allwn ni osgoi gwneud hyn oherwydd bod iddi ganlyniadau ymarferol iawn. Gwelwn hynny yn llawer o'r dadlau am Brexit ar hyn o bryd. Felly, rwy'n meddwl pan ddywedwch yn y ddogfen
y derbynnir bod sofraniaeth (y dylid rhannu rhywfaint ohoni) yn gorwedd gyda phob rhan o'r DU,
Rwy'n credu bod angen i chi fod yn ofalus iawn â'r gystrawen yn y fan yma. Mae'n gorwedd 'ym' mhob rhan o'r DU, rwy'n fodlon ar hynny, oherwydd rwy'n credu y dylai ein sefydliadau gael eu gwreiddio, ond mae hefyd wedi ymwreiddio ar lefel y DU ac mae hynny'n wahaniaeth hanfodol.
Sylwaf i'ch rhagflaenydd nodedig ysgrifennu yr wythnos diwethaf:
Rhowch derfyn ar sofraniaeth San Steffan a'i rhoi i'r pedair cenedl.
O wneud hyn, yn ôl pob tebyg, byddai rhyw fath o gronni ar gyfer amddiffyn, materion tramor, polisi macroeconomaidd ac ati. Ond, ni allaf gefnogi'r cysyniad hwn gan nad yw'n egwyddor ffederal. Mae'n gamgymeriad gweld ffederaliaeth wedi ei nodweddu gan ddatganoli mor radical. Yn hytrach, mae ffederaliaeth yn ceisio creu awdurdod sofran canolog ac effeithiol, er mai un cyfyng ei gwmpas ydyw.
Dywedir weithiau i Alexander Hamilton dderbyn ffederaliaeth fel y pris i greu Llywodraeth ganolog. Roeddynt, adeg cadarnhau cyfansoddiad yr Unol Daleithiau wrth gwrs, yn dioddef o'r anhrefn a oedd yn bodoli yn yr erthyglau cydffederasiwn. Felly, dyna oedd natur ffederaliaeth: creu awdurdod canolog a oedd â'r grym i weithredu.
Fodd bynnag, rwy'n credu y gallai'r syniadau hyn gael eu profi a'u harchwilio mewn confensiwn cyfansoddiadol ac ers dros 10 mlynedd rwyf wedi credu bod hyn yn angenrheidiol. Ac rwy'n nodi gyda chymeradwyaeth alwad Llywodraeth Cymru am i'r egwyddor o ddatganoli fod yn sylfaenol mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Credaf fod hynny wrth wraidd ffederaliaeth.
Yn olaf, mae'n hen bryd diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Bu hynny ar fin digwydd, yn ôl y jôc, ers 1911, ac yn sicr dylai fod yn Dŷ'r Undeb. Ond gadewch i mi orffen ar y mater hwn o sofraniaeth. Rwy'n credu fod sofraniaeth boblogaidd, pan gaiff ei ddefnyddio'n llac, yn gysyniad peryglus iawn. Mae sofraniaeth yn sicr yn dod o'r bobl, ond mae bron bob amser yn cael ei fynegi mewn sefydliadau gwleidyddol. Mae ambell eithriad i hynny fel refferenda. Ac rwy'n meddwl bod angen llawer o ofal a manylder arnom ni pan fyddwn yn edrych ar hanfodion ein cyfansoddiad, ond mae'n rhaid cael y ddadl hon, ac mae hynny wedi dechrau o ddifrif.
A gaf i ddiolch i David Melding am hyna? Rwy'n cydnabod, yn llwyr, hyd ei ymgysylltiad â'r materion hyn, ynghyd â chyn Brif Weinidog Cymru. Mae rhai ohonom ni yn y fan yma yn cofio aros yn fisol am y bennod ddiweddaraf mewn ymdrech tebyg i Charles Dickens i adeiladu'r achos dros ffederaliaeth. Nid ydym yn defnyddio'r gair 'ffederaliaeth' yn y papur hwn, ac roedd hynny'n fwriadol, er y byddai dull ffederal wrth gwrs yn rhan o gonfensiwn cyfansoddiadol, fel yr oedd 100 mlynedd yn ôl. A byddai'n rhaid i rai o'r sylwadau y mae David Melding wedi'u gwneud am yr angen am ddealltwriaeth fanwl o sofraniaeth, gan gynnwys ym mhle y mae wedi'i lleoli, sut y'i deellir a sut y caiff ei harfer, fod yn rhan o'r ddadl honno.
Wrth gwrs, roedd hi'n ddiddorol clywed sylw agoriadol cyntaf David Melding, oherwydd gwyddom fod llawer iawn o hunaniaethau yma yng Nghymru. Bydd unrhyw un sy'n dilyn gwaith yr Athro Richard Wyn Jones yn gwybod bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn disgrifio eu hunaniaeth mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ond dyna'n rhannol pam yr wyf yn credu fod seilio eich amddiffyniad o'r Deyrnas Unedig mewn disgrifiad o hunaniaeth yn—mae'r tir yn simsan o dan eich traed ac nid dyma'r safbwynt yr wyf yn dechrau ohono yn fy ymlyniad wrth y Deyrnas Unedig.
Mae hi'n hwyr glas, wrth gwrs, diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Rydym yn ei gynnwys yma yn un o'r elfennau oherwydd mae'n rhaid i Deyrnas Unedig wahanol, un sy'n meddu ar gydrannau llwyddiant, gynnwys diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Ac er nad yw'r Senedd yn yr Unol Daleithiau yn fodel y buasem yn dewis ei efelychu'n union, dadleuwn o blaid cael cynrychiolaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi nad yw'n seiliedig ar y boblogaeth, fel ei fod yn gallu cynrychioli rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig yn well.
A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr, Prif Weinidog, a chroesawu'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi? Roedd hi, wrth gwrs, yn addas ac yn briodol eich bod yn siarad ar y mater hwn wrth draddodi darlith Keir Hardie. Roedd maniffesto etholiad cyntaf Keir Hardie yn seiliedig ar ymreolaeth—ymreolaeth, isafswm cyflog a dirwest, mewn gwirionedd. Nid wyf yn siŵr a fydd cefnogaeth i'r holl wahanol faterion hynny, ond yn sicr mae'n gosod ymreolaeth ac ymdeimlad o le yng Nghymru, ac ymdeimlad o hunanlywodraeth yng Nghymru mewn cyd-destun hanesyddol, sy'n bwysig yn fy marn i.
Rwy'n croesawu'r ffordd y cawsom ni ddadl ddifrifol a gwybodus am y materion hyn y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion difrifol ynghylch sut yr ydym ni'n llywodraethu ein hunain. Nid wyf yn rhannu pryderon David ynghylch sofraniaeth. Caiff sofraniaeth ei harfer, wrth gwrs, gan y cantonau yn y Swistir, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd effeithiol i sicrhau hunan-lywodraethu'r cydffederasiwn hwnnw. Dros y blynyddoedd, byddwn yn edrych ar wahanol fodelau ac yn ceisio ysbrydoliaeth o wahanol ffyrdd o lywodraethu ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan lle dymunwn fod, ac wrth wneud hynny, byddwn, gobeithio, hefyd yn uno'r wlad.
Mae hanes ymreolaeth, wrth gwrs, wedi'i wreiddio ym Merthyr—ni allem ni siarad am ymreolaeth heb sôn am S. O. Davies hefyd—ac mae wedi'i wreiddio mewn ymdeimlad o le yng Nghymru, ac mae'r gwahanol agweddau yn dwyn ynghyd hanes Plaid Cymru gyda hyd yn oed hanes y Blaid Geidwadol. Wrth gwrs, gadawodd arch-elyn Gladstone, Joseph Chamberlain, yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol er mwyn ymuno â'r Blaid Geidwadol, felly nid yw hyn yn eiddo i un traddodiad penodol, nac unrhyw sefydliad gwleidyddol penodol. Mae'n ymwneud â lle yr ydym ni fel gwlad a lle yr ydym ni eisiau bod fel gwlad. Wrth i ni wynebu'r amseroedd ansicr iawn hyn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwreiddio'r dadleuon hyn a'n bod yn gwreiddio'r sgyrsiau hyn a'n bod yn gwreiddio'r trafodaethau hyn a gawn ni mewn synnwyr o bwy ydym ni a'r rhan yr ydym ni eisiau gweld Cymru yn ei chwarae yn y byd.
Rwy'n falch hefyd bod y Prif Weinidog—gobeithio fy mod yn ei ddyfynnu'n gywir—wedi wfftio'r gair 'datganoli'. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn casáu'r gair 'datganoli', peth ofnadwy a thechnocrataidd nad yw'n golygu fawr ddim i neb, ac fe fyddwn yn falch petai Kilbrandon heb feddwl amdano. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i'r elfennau technocrataidd a'r prosesau llywodraethu i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. I mi, rhyddid y Senedd hon yw gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen i gynrychioli anghenion buddiannau Cymru, ein bod yn gwreiddio ein sofraniaeth, ein bod yn cyfuno ein sofraniaeth â'n cyd-genhedloedd ar draws y ffin yn Lloegr a'r Alban ac ar draws y dŵr yng Ngogledd Iwerddon er budd holl bobloedd y gwledydd hynny, nid yn unig er budd pobl Cymru, ond er eu lles hwythau hefyd, fel ein bod yn estyn allan, gobeithio, ac yn rhannu sofraniaeth lle mae angen hynny er mwyn sicrhau gwell lywodraethu i bobl yr holl ynysoedd hyn.
Gobeithiaf yn y blynyddoedd i ddod—. Pan roedd yn Weinidog Cyllid, bu i'r Prif Weinidog gau pen y mwdwl ar y cytundeb rhynglywodraethol ar Brexit. Credaf fod hynny'n gyflawniad eithriadol, ac yn un na fu dealltwriaeth dda ohono weithiau yn y Siambr hon, ond yn sicr y tu allan i'r Siambr hon, wrth newid natur y ddealltwriaeth o'r modd y mae llywodraethau a seneddau a sefydliadau Prydain yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Ni allwn beidio ag achub ar y cyfle hwn i sôn am fy ngobaith mawr mai dyma fydd diwedd Swyddfa Cymru, sefydliad dibwrpas bellach ers tro byd. Eisteddais unwaith yn un o'r swyddfeydd yno sydd ar fenthyg i ni, a minnau'n Weinidog, ac eisteddais ymysg toreth o gardiau Nadolig ar y ddesg yno. Roedd y cyfarfod ym mis Gorffennaf. Mae hynny bob amser yn aros yn fy nghof pan fyddaf yn meddwl am Swyddfa Cymru.
Gobeithio, hefyd, y byddwn yn edrych ar ddiwygio'r fan yma. Ni allwn ni barhau i bregethu ynglŷn â diwygio mannau eraill heb wneud hynny yn y fan yma. Fe gawsom ni yr hyn a gredwn i oedd yn ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn â rhai materion, ond ni allwn ni—dywedaf hyn wrth ein cyfeillion Ceidwadol: ni allwch chi fynnu diwygio mewn mannau eraill, ond peidio â diwygio yma lle mae'n effeithio arnom ni. Dywedaf wrth aelodau o'm plaid fy hun: rhaid i'r diwygio hwnnw gynnwys diwygio etholiadol, ac nid diwygio sy'n fanteisiol i ni yn unig, ond efallai diwygio y tybir nad yw o fudd inni ein hunain. Felly, mae angen inni fod yn onest gyda'n hunain ynglŷn â'r math o ddiwygio yr hoffem ni ei weld.
Gorffennaf drwy ddweud hyn, Prif Weinidog: credaf y bu hon yn ddogfen eithriadol. Mae rhai materion lle byddwn yn awgrymu bod angen inni edrych ymhellach. Y materion sy'n ymwneud â chytundebau rhyngwladol a masnach ryngwladol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ymhellach ar hynny. Roedd y dadleuon a gawsom ni ddoe yn y trafodaethau bord gron, y cyfeiriodd Mick Antoniw atynt, yn glir iawn bod enghreifftiau da iawn mewn mannau eraill o sefydliadau megis ein sefydliad ni yn cael mynegi barn yn glir iawn, ac efallai feto hefyd, ar rai meysydd o fasnach ryngwladol, a chredaf fod hynny'n fater y mae angen inni ei ddadlau a'i drafod ymhellach, ond hefyd y mater o gyllid ac ariannu'r undeb. Yr eironi yw, wrth sôn am barhad y Deyrnas Unedig, fod angen inni greu sefydliadau sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig ond nid o anghenraid ym mherchnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu mai un o'r methiannau a welsom ni dros y blynyddoedd wrth ddiwygio'r Deyrnas Unedig yw drysu rhwng llywodraethiant y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu symud y tu hwnt i hynny.
Ac yn olaf, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau fy hun yn fy mhlaid fy hun, y mae rhai ohonyn nhw, yn ddiau, wedi'u dychryn yn llwyr gan y ddadl hon, mai'r gwendid mwyaf a welsom ni yng ngwleidyddiaeth gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ar hyd a thrwy gydol y ganrif ddiwethaf, ers galwad herfeiddiol Keir Hardie am ymreolaeth, yw ein bod yn rhy aml wedi drysu rhwng undebwriaeth a chanoliaeth, ac mae angen inni symud y tu hwnt i hynny lle'r ydym ni'n gryf a lle'r ydym ni'n gweld undeb cryf ac effeithiol. Nid yw hynny'n golygu canoli, nid yw'n golygu unffurfiaeth; yr hyn y mae'n ei olygu yw seneddau sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, cyflawni dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a chyfuno'r sofraniaeth fel y gallwn ni i gyd gydweithio er budd pobl yr holl ynysoedd hyn.
Diolch. Llywydd, safodd George Bernard Shaw yn ymgeisydd Llafur yn ward St Pancras Awdurdod Llundain Fwyaf yn 1904. Safai ar bolisi o weriniaetholdeb, llysieuaeth, anghrediniaeth a llwyrymwrthodiaeth. [Chwerthin.] Nawr, rwy'n cynnig y rheini fel bwydlen yn hytrach na rysáit ar gyfer yr Aelod dros Flaenau Gwent, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud wrtho na chafodd George Bernard Shaw ei ethol y tro hwnnw.
Ond hoffwn ddiolch i Alun Davies am ein hatgoffa o hanes hir hyn i gyd. Pan draddodais ddarlith Keir Hardie yr wythnos diwethaf, ceisiais ddwyn ynghyd ddadl Keir Hardie am undebaeth llafur a'i ddadl dros ymreolaeth i bawb, a dadlau o safbwynt egwyddorion undebau llafur ynghylch pam y credaf fod Cymru ar ei hennill yn undeb y Deyrnas Unedig ac yn undeb yr Undeb Ewropeaidd hefyd.
Datganoli—credaf nad yw'r term o fudd bellach ac y dylem ni fod yn ceisio meddwl am wahanol ffyrdd o fynegi'r trefniadau y byddwn yn eu gweld ar gyfer y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Cytunaf fod yr IGA—y cytundeb rhynglywodraethol—yn enghraifft dda o sut y gallwch chi gytuno'n wirfoddol i weithredu gyda'ch gilydd mewn ffordd sydd, yn eich tyb chi, yn fuddiant cyffredin. Ac mae Alun Davies yn iawn, wrth gwrs: mae hwn yn fan cychwyn. Dywedwn ynddo ein bod yn credu bod yna ffyrdd y bydd y ddadl yn mynd â'r peth ymhellach ac, yn sicr, mae hynny'n wir o ran masnach ryngwladol. Dywedais nad oeddwn yn sentimental ynghylch y Deyrnas Unedig, ond pwy allai gredu y byddwn eisoes yn teimlo'n sentimental ynghylch y dyddiau pan yr oedd Dr Fox yn gyfrifol am fasnach ryngwladol? [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Yn wir. Ond mae hynny'n cadarnhau pwynt olaf Alun Davies, mai'r hyn sydd gennym ni yma yw cyfres o drefniadau sefydliadol sy'n mynd y tu hwnt i unigolion—na allwn ni gael system lle mae gennych chi Weinidog yn y Llywodraeth sy'n deall pethau, rydych chi'n gwneud rhywfaint o gynnydd, mae'r person hwnnw'n gadael neu'n symud i rywbeth arall, ac rydych chi'n ôl yn y dechrau unwaith eto. Mae'n rhaid i ni gael trefniadau sefydliadol sy'n sefydlu'r pethau hyn ac yn mynd y tu hwnt i hap a damwain o ran pwy sy'n digwydd bod yn yr ystafell gyda chi ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Ac a gaf i, wrth groesawu'r datganiad a hefyd naws y cyfraniadau sydd yma heddiw, ddweud—mae hwn yn ddatganiad cryno, nid dyma'r hiraf a welsom ni yn y fan yma—pa mor bellgyrhaeddol a blaengar yw hi i gael Prif Weinidog Cymru yn sefyll ac yn cyflwyno rhai cynigion manwl, gyda pheth eglurder, ger ein bron, ond hefyd i lunio'r ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol gydag eglurder o'r fath hefyd? A chan y bûm i'n Aelod Seneddol cyn dod yma, wrth imi eistedd yma yn gwrando ar y Prif Weinidog a'r cyfraniadau, roeddwn yn ceisio dychmygu'r diwrnod y byddai un o Brif Weinidogion Prydain yn codi yn y Siambr arall yn San Steffan ac yn dweud, 'Mae angen confensiwn cyfansoddiadol arnom ni; mae angen i ni ymgysylltu â gwledydd a rhanbarthau datganoledig y Deyrnas Unedig; mae angen inni lunio dyfodol, sydd, fel y'i hamlinellwyd yn y datganiad byr ond dwys hwn heddiw, yn sicrhau Cymru gref o fewn Teyrnas Unedig gref, ond yn cydnabod hefyd mai cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw hon sy'n cydweithio i ddatblygu ein diddordebau cyffredin.' Mae hynny, byddwn yn awgrymu, yn ail-lunio'r ddeialog hon yn radical, yn amserol iawn, a byddwn yn croesawu'r cyfle—a chlywais eiriau Paul, arweinydd y Ceidwadwyr, funud yn ôl a'i gefnogaeth i gonfensiwn, confensiwn dinasyddion. Pe gallem ni, Paul, ddadlau gyda'n gilydd yma ar draws y pleidiau gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan i gyflawni hynny mewn gwirionedd, pwy bynnag sy'n eistedd yn sedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd, yna byddem yn gweld cynnydd yn wir.
Ond ceir rhai cynigion arwyddocaol yn y fan yma, materion ynghylch ffordd wahanol o ddychmygu sofraniaeth yn y gwledydd a'r rhanbarthau hyn o'r Deyrnas Unedig; Tŷ uchaf diwygiedig yn Senedd y DU, Senedd San Steffan, a oedd yn wir yn gynrychioliadol o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau hynny; lle byddai'r egwyddor o sybsidiaredd wedi ymwreiddio'n ddwfn, a gwybodaeth ynghylch beth y mae hynny'n ei olygu; ac, i bob pwrpas, y posibilrwydd o gael confensiwn dinasyddion i edrych ar hyn yn hollol wahanol ac i ddweud, 'dyma gompact, cytundeb gan y cenhedloedd a'r rhanbarthau, i ddweud mai'r rhain yw'r pwerau, dyma'r awdurdod yr ydym yn ei fuddsoddi yng nghanol y Deyrnas Unedig, a dyma'r hyn y dylem fod yn ei gael yma.' A bod cydraddoldeb parch, a chydraddoldeb rhwng y swyddogaeth weithredol a'r swyddogaeth graffu o fewn y sefydliadau hynny. Mae hyn yn fater o dyfu yn y Deyrnas Unedig.
Dim ond un cwestiwn sydd gennyf, ac mae wedi cael ei eirio eisoes mewn ffordd wahanol, ond yn bendant mae mantais i roi eglurder i hyn er mwyn dechrau'r ddadl, ac mae eraill sydd hefyd yn cychwyn y ddadl hon. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Choleg y Brenin yn Llundain, a chyn-gydweithwyr i mi sy'n ymwneud â hyn. Beirniadaeth fechan iawn fyddai bod yr aelodaeth a'r pwyslais a'r cylch gorchwyl yn canolbwyntio gormod braidd ar San Steffan, fel y gallech chi ddychmygu. Ond fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog fyddai hyn: os gallwn ni drafod hyn a rhoi cychwyn ar y ddadl, sut y byddwn yn symud ymlaen mewn gwirionedd fel bod gennym ni ddylanwad yn Whitehall, yn yr Alban, gydag Andy Burnham ym Manceinion, gyda Sadiq Khan yn Llundain, a'r sefydliadau hynny hefyd? A oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar y cyd i weithio gydag eraill yng ngwahanol rannau o Loegr, heb sôn am Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i yrru'r agenda hon yn ei blaen? Oherwydd mae'r hyn sydd gennym i'w gynllunio—. Rwy'n cytuno ag ef wrth ddweud—bydd hyn yn digwydd pa un a yw wedi'i gynllunio ai peidio. Bydd rhywbeth yn newid oherwydd ei fod yn dechrau torri a hollti. Felly, sut ydym ni'n achub y blaen ar y sefyllfa hon? Beth allwn ni ei wneud i ddod ag eraill i'n cefnogi ni i sefydlu'r confensiwn hwn? Nid dweud yr wyf i mai dyma'r cynllun mawr hudolus ar gyfer gwireddu hynny, ond siawns mai rhan o hyn yw sefydlu'r confensiwn hwnnw mewn gwirionedd, ac efallai y bydd gennym ni gynghreiriaid o gwmpas Lloegr yn ogystal â rhannau eraill o'r DU a fyddai'n ein cefnogi ni i wneud hynny.
Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am hynna, ac fe hoffwn i adleisio'r hyn a ddywedodd ar y cychwyn cyntaf, sef fy mod yn credu bod naws y ddadl hon wedi bod yn un a ddylai roi rhywfaint o obaith inni ynglŷn â gallu'r sefydliad hwn i drafod, gwyntyllu, llunio syniadau cymhleth, ond mewn ffordd gydweithredol a phryd yr ydym ni'n parchu'r gwahanol gyfraniadau a wnawn. Rwy'n credu os gallwn ni fod yn hyderus ynghylch ein gallu ein hunain yn hynny o beth, yna ni ddylem ni anobeithio ynghylch ein gallu i ddenu eraill i'r ddadl hon hefyd. Hoffwn ddyfynnu rhywun am eiliad:
mae ein Hundeb yn seiliedig ar ac yn cael ei ddiffinio gan gefnogaeth ei bobl. Nid yw'n cael ei ddal wrth ei gilydd gan gyfansoddiad caeth na thrwy geisio mygu beirniadaeth ohono. Bydd yn parhau cyhyd ag y mae pobl eisiau hynny—cyhyd â bod cefnogaeth boblogaidd iddo gan bobl yr Alban a Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Wel, dyna eiriau Theresa May mewn araith a wnaeth yn ystod yr wythnos diwethaf o fod yn Brif Weinidog, yng Nghaeredin. Rwy'n credu os ydych chi'n darllen yr araith honno, mae hi ychydig yn debyg i'r hyn a ddywedodd Adam Price wrthyf—darllenais araith Mrs May ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r dadansoddiad. Rwy'n anghytuno â'i chasgliadau a'r argymhellion y mae'n eu tynnu ohoni. Ond mae'n araith hynod o ryfeddol gan Brif Weinidog Ceidwadol y DU, ac mae'n anodd iawn ei dychmygu hi'n gwneud yr araith honno yn yr wythnos gyntaf iddi fod yn Brif Weinidog, ond mae'n arwydd, rwy'n credu, o'r ffordd y mae'n rhaid i bobl ymwneud â gwirionedd newid, a phan fyddant yn gwneud ymdrech i ymgysylltu â rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, gall barn pobl newid a gallant ddwysáu.
A sut ydym ni'n symud hyn ymlaen? Wel, rwy'n credu y cymeraf y pwynt y gorffennodd Huw ag ef bod yn rhaid i hyn fod yn eang, ein bod ni'n gorfod meddwl nid yn unig amdanom ni ein hunain neu hyd yn oed dim ond am ein cyd-Aelodau yn yr Alban sy'n barod i gymryd rhan yn hyn, ond fe fydd cynghreiriaid mewn mannau eraill yn Lloegr hefyd. Ac ymhlith y meiri, yr ydym yn gweithio gyda nhw ar bethau eraill—efallai y cawn ni gynghreiriaid yno. Yn y grwpiau hynny sy'n bodoli eisoes, yn y grŵp diwygio cyfansoddiadol y gwn i fod rhai aelodau o'r Siambr hon yn ymwneud ag ef, gyda'u cyd-Aelodau yn San Steffan. Efallai fod cyfryngau y gallwn ni eu defnyddio yn y prifysgolion, yn y cylchoedd lle mae'r pethau hyn yn cael eu trafod yn barod. Ac yn y ffordd honno, efallai y byddwn yn llwyddo i wneud yr hyn y mae'r papur hwn yn ceisio ei wneud, sef meithrin dadl ymysg ein gilydd, ond yn allweddol gydag eraill, i sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n gweithio i Gymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ddoe cyflwynais Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad byr am y Bil.
Mae'r Bil yn adeiladu ar y cynllun indemniad ymarfer meddygol cyffredinol a gyflwynodd sicrwydd indemniad esgeuluster clinigol a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer darparwyr gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru ar 1 Ebrill eleni. Mae'r cynllun hwn, a elwir yn gynllun atebolrwyddau'r dyfodol, yn ymdrin â hawliadau esgeuluster clinigol sy'n codi o 1 Ebrill. Mae cynllun atebolrwyddau'r dyfodol wedi gwreiddio'n llwyddiannus ers ei gyflwyno ac fe'i cefnogir yn gryf gan ymarferwyr cyffredinol ledled Cymru. Gwneuthum ymrwymiad ym mis Tachwedd 2018 i ehangu'r trefniadau indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth i indemnio ymarferwyr cyffredinol ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol yr adroddwyd arnynt, neu' aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt, cyn 1 Ebrill 2019, yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol a thrafodaethau boddhaol gyda'r sefydliadau amddiffyn meddygol.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae'r Bil drafft yn diwygio adran 30 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer bodloni colledion ac atebolrwyddau rhai o gyrff y gwasanaeth iechyd, drwy fewnosod darpariaethau newydd yn adran 30, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol, gan hefyd ehangu'r cyrff a all gael eu hindemnio gan Weinidogion Cymru o dan gynlluniau a sefydlwyd yn unol ag adran 30. Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun indemniad uniongyrchol i indemnio ymarferwyr cyffredinol ar gyfer unrhyw hawliadau esgeuluster clinigol hanesyddol yr adroddwyd arnynt, neu'r aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt hyd yn hyn, cyn 1 Ebrill 2019. Dyna yw'r cynllun atebolrwyddau presennol, neu'r ELS.
Bydd y Bil yn sicrhau nad yw ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru yn cael eu trin o dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr lle mae trefniadau tebyg yn cael eu cyflwyno ar gyfer cynllun atebolrwydd presennol sydd â chefnogaeth y wladwriaeth iddo. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw effaith negyddol ar recriwtio a chadw ymarferwyr cyffredinol yn y dyfodol. Bydd y Bil a'r rheoliadau cyfredol ar gyfer y cynllun atebolrwydd presennol hefyd yn sicrhau na fydd cynlluniau gwahanol sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr yn cael effaith andwyol ar weithgarwch trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.
I gloi, bydd y Bil arfaethedig yn: diogelu pwerau Gweinidogion Cymru yn y dyfodol rhag unrhyw effeithiau, siociau i'r farchnad a phwysau yn sgil digwyddiadau posib yn y dyfodol yn ymwneud a sicrwydd esgeuluster clinigol ar gyfer darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yng Nghymru; bydd yn cryfhau cydnerthedd gwasanaethau meddygol cyffredinol; a bydd yn rhoi sicrwydd i gleifion o ran hawliadau esgeuluster clinigol a wnaed cyn mis Ebrill 2019 o ran ceisio iawn. Rwy'n falch o gyflwyno'r Bil hwn i'r Cynulliad graffu arno ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cynulliad a'i bwyllgorau craffu dros y misoedd nesaf.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r datganiad hwn ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gael gweld y datganiad o flaen llaw, ac rwy'n gwybod fod fy nghyd-Aelod Angela Burns AC yn ddiolchgar am y briff technegol a drefnwyd gennych yn ddiweddar.
A gaf i ddechrau drwy groesawu'r datganiad? Mae'n Fil hanfodol ac mae'n bwysig ei fod wedi'i gyflwyno ger ein bron heddiw, gydag ychydig wythnosau prysur o'n blaenau, i gael ymgorffori'r Bil mewn cyfraith cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill. Mae ymarferwyr cyffredinol wedi bod yn erfyn am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n hanfodol bod Cymru ar sylfaen debyg i Loegr i'n galluogi ni yma yng Nghymru i gystadlu o dan yr un amodau o ran recriwtio a chadw meddygon teulu. Hoffwn, fodd bynnag, grybwyll rhai meysydd sy'n peri pryder inni a gofyn am rywfaint o eglurhad ar rai materion.
Gweinidog, mae'r datganiad yn honni y bydd gweithredu'r Bil hwn yn costio tua £30,000. Hoffwn ddeall mwy am sut y cyfrifwyd y ffigur hwn a pha sicrwydd y gellir ei roi na fyddir yn mynd y tu hwnt i'r gyllideb hon. A wnewch chi roi'r sicrwydd hwn?
Gweinidog, rydych chi'n crybwyll y cynhelir adolygiad ar ôl gweithredu, ond ni fanylir ar hyn yn y Bil. Roedd hwn yn amcan gwleidyddol i'ch Llywodraeth, fel y nodir yn y memorandwm Gweithredol. Ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos bod modd i'r Cynulliad adolygu nac adrodd yn ôl, sy'n golygu nad yw amcan y polisi o fonitro gweithrediad y cynllun yn un pendant. A wnewch chi egluro pam nad yw'r adolygiad hwn wedi'i gynnwys yn y Bil hwn?
Gweinidog, rwyf hefyd yn awyddus i wybod pam eich bod yn defnyddio gweithdrefn negyddol, o gofio bod pwyllgorau di-ri wedi argymell pwerau cadarnhaol i wneud rheoliadau. Mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu sydd gan y Cynulliad hwn i graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru yn effeithiol.
Dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns yn ystod hynt y Bil isafbris alcohol y gallai defnyddio'r weithdrefn negyddol arwain at Gynulliad yn y dyfodol yn eich barnu'n llym os na fyddwch yn casglu tystiolaeth gredadwy, gyson sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fyddai'n galluogi craffu priodol a barn gadarn. Felly, a wnewch chi esbonio pam yr ydych chi wedi dewis dilyn llwybr y weithdrefn negyddol?
Ac, yn olaf, mae gennyf bryder ynghylch amserlennu'r Bil hwn. Mae'n ymddangos ein bod ni yn rhuthro pethau. Ac er fy mod yn derbyn bod angen Cydsyniad Brenhinol i'r Bil hwn ar frys, mae cael cyfnod mor fyr ar gyfer cyflwyno a chraffu ar dystiolaeth yn peri pryder mewn gwirionedd. A gaf i sicrwydd y bydd y broses hon yn caniatáu cyfnod digonol i alluogi proses graffu lawn a thryloyw? A pham na chafodd ei gyflwyno yn gynharach i osgoi'r hyn sydd bellach yn rhuthro amhriodol? Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r pwyntiau. Roedd pum pwynt i bob pwrpas. Y cyntaf ar amseru: wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr amserlen. Rwy'n credu y bydd digon o amser i'r holl randdeiliaid perthnasol gymryd rhan. Maen nhw'n eithaf gwybodus am fwriad y polisi, y diben, a'r cynllun a'r rheoliadau. Mae hefyd yn ddefnyddiol ei fod yn Fil eithaf byr. Mae'n mewnosod gwelliant ar wyneb Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Felly, ni fyddwn yn ymgolli mewn Bil hir, technegol, anodd. Ond rwy'n credu y bydd digon o amser i bob rhanddeiliad gael dweud ei ddweud ac i'r Aelodau ofyn cwestiynau a chael atebion.
O ran eich pwynt am y Bil a'r amserlen ar ei gyfer, mae'n bwysig cael y rheoliadau yn eu lle i ganiatáu i'r cynllun fod ar waith erbyn dechrau Ebrill, i sicrhau cysondeb gyda Lloegr a sicrhau ein bod yn gweld gweithgarwch trawsffiniol yn cael ei gynnal yn briodol ar gyfer y ddwy ochr i'r ffin, yn ogystal â sicrhau nad yw ymarferwyr cyffredinol Cymru o dan anfantais am fod cynllun yn dod i rym yn hwyrach nag yn Lloegr.
O ran eich pwynt am y weithdrefn negyddol yn hytrach na chadarnhaol, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn rheolaidd gyda phob Bil ac rwy'n siŵr y byddwn yn gallu trafod hynny yn y broses graffu o flaen y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sy'n cael sylwadau'n rheolaidd, a'r pwyllgor iechyd hefyd. Ond rydym ni'n sôn am rywbeth i wneud newidiadau i reoliadau sydd i raddau helaeth yn mynd i fod yn dechnegol eu natur, waeth beth fo'u heffaith. Ond rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu ag Aelodau drwy'r broses graffu.
Yn hynny o beth, dyna ran wrth gwrs o ddiben craffu ar y Bil. O ran eich pwynt am ôl-graffu ar wyneb y Bil, nid wyf yn credu bod hynny'n briodol, oherwydd rydym ni'n sôn am ddiwygio wyneb darn o ddeddfwriaeth sylfaenol i fewnosod adran ychwanegol i roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Byddai'n eithaf anarferol, ar wyneb y Bil, i ychwanegu gofyniad i graffu ar ôl deddfu, ond rwy'n sylweddoli yr hoffai'r Aelodau gael sicrwydd ychwanegol ac imi wneud sylwadau ar goedd i roi rhyw sicrwydd y bydd y craffu ar ôl deddfu hwnnw'n digwydd.
O ran y pwynt am y costau, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at y paragraff am gostau—paragraff 3.7 y memorandwm esboniadol. Mae'r £30,000 yn ymwneud yn syml â'r costau o ran y cymorth cyfreithiol allanol sydd ei angen i ddefnyddio'r cynllun indemniad newydd. Ac rwy'n credu bod hynny'n asesiad teg a chywir o'r costau a gyfrifwyd gennym ni.
A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr, yn ogystal â Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)? Fe wnaf ddatgan fy muddiant arferol fel meddyg teulu y gwyddys iddo dalu ei indemniad meddygol ers blynyddoedd lawer, neu fel arall ni chaniateid imi ymarfer fel meddyg teulu o gwbl.
Nawr, mae'r Bil hwn yn sicrhau bod cyfatebiaeth rhwng sefyllfa ymarferwyr cyffredinol a'r hyn sydd wedi digwydd erioed gyda meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol ysbytai, o ran bod y wladwriaeth bob amser wedi talu eu ffioedd indemniad meddygol enfawr, a nawr rydym ni'n mynd i fod yn gwneud yr un peth ar gyfer ymarferwyr cyffredinol—a hen bryd, byddai llawer o bobl yn ei ddweud, oherwydd bod yswiriant indemniad meddygol ar hyn o bryd yn gallu bod hyd at oddeutu £15,000 y flwyddyn, ar raddfa symudol, yn dibynnu ar ble yr ydych chi'n gweithio—gwaith y tu allan i oriau, gweithio mewn unedau damweiniau ac achosion brys, ar adegau sy'n fwy peryglus yng nghanol y nos. Ond mae'n gost bersonol enfawr sydd yn amlwg wedi'i hamlygu yn y blynyddoedd diwethaf fel rheswm i ymarferwyr cyffredinol benderfynu peidio â bod yn ymarferwyr cyffredinol, yn enwedig rhai rhan-amser neu rai sy'n tynnu tuag at ddiwedd eu gyrfaoedd—mewn gwirionedd, mae'n costio mwy iddyn nhw mewn indemniad meddygol nag y bydden nhw yn ei ennill mewn gwirionedd drwy wneud llai o waith. Felly, cost gynyddol indemniad meddygol yw'r hyn sydd wedi ysgogi'r darn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n cael ei groesawu.
Dim ond un neu ddau o sylwadau: yn amlwg, atebolrwyddau yn y dyfodol, mae'r rhan honno eisoes yn weithredol ers mis Ebrill eleni. Yr hyn yr ydym ni'n ei basio nawr yw gwelliant technegol, os mynnwch chi, ar hynny. Ac yn amlwg rydym yn craffu ar hynny yn y Pwyllgor Iechyd ac yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae'n ymwneud ag atebolrwyddau presennol—mewn geiriau eraill, pethau sydd wedi digwydd cyn Ebrill 2019. Ac, dim ond i ddatgan ffaith, yn amlwg, gall esgeuluster meddygol, fel y'i gelwir, neu hawliadau, ddechrau amser maith yn ôl a dim ond dod i'r wyneb, neu nodi—neu mae rhywun yn penderfynu cyflwyno hawliad—flynyddoedd lawer ar ôl i'r achos ddigwydd. Rwy'n gwybod am enghreifftiau o fwlch o 20 mlynedd a mwy rhwng y digwyddiad gwirioneddol a chwyno am y digwyddiad hwnnw. Nawr, os ydym ni'n mynd i ddweud nawr bod y cynllun atebolrwydd presennol hwn yn cwmpasu popeth cyn Ebrill 2019, a wnewch chi ddatgan sut yr ydych chi'n teimlo y byddai hynny'n gweithio, mewn gwirionedd? A ydych chi am fynd yn ôl 20 mlynedd, oherwydd byddai gennyf y pryder hwnnw ynghylch Llywodraeth Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ei hun, fel petai, rhag yr atebolrwyddau enfawr a allai godi.
Gan nad oes modd dianc—a dyma fy sylw olaf, nawr—rhag y ffaith bod costau enfawr ynghlwm wrth hyn, nid o ran gweithredu'r Bil mewn gwirionedd, yn amlwg, ond o ran y costau cyfreithiol enfawr. Dyna pam mae'n rhaid i ni gael yswiriant indemniad meddygol yn y lle cyntaf, oherwydd bod system wrthwynebol iawn ar hyn o bryd: mae'n rhaid i gleifion a'u teuluoedd brofi bod meddyg neu nyrs wedi bod yn esgeulus—mae honno'n sefyllfa gymhleth iawn—yn hytrach na mewn rhai gwledydd, rydym ni'n derbyn y posibilrwydd o gamgymeriadau a damweiniau meddygol ac mae gan bobl raddfa symudol o iawndal, o'r enw iawndal 'dim bai', lle nad oes yn rhaid ichi brofi bai, ond rydych chi'n cael yr arian yn llawer cynt nag ydych chi yn y system gyfreithiol wrthwynebol bresennol sydd gennym ni yn y wlad hon. Felly, er fy mod yn croesawu'r Bil hwn sydd yn amlwg yn sicrhau cyfatebiaeth rhwng ymarferwyr cyffredinol a meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol sydd eisoes ag imiwnedd y Goron, o ran ehangu'r prosesau meddwl ar gyfer y dyfodol, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi hefyd i system o iawndal 'dim bai', fel sy'n bodoli mewn gwledydd eraill, fel Seland Newydd? Diolch.
Fe wnaf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, sef: rydym ni'n ceisio datrys problemau sy'n bodoli ar hyn o bryd, neu a fydd yn bodoli o ddechrau mis Ebrill, gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Rwy'n fodlon cael sgwrs lawnach ag ef am y newid sylweddol a amlinellodd mewn iawndal 'dim bai'. Fe'ch cofiaf yn ei grybwyll o'r blaen yn y Siambr yn y gorffennol, a chredaf ei fod yn rhywbeth y dylem ni sôn amdano'n iawn, yn hytrach na cheisio rhoi ateb unwaith ac am byth nawr, ond byddai angen newid sylweddol mewn diwylliant yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â'r materion hyn eisoes, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.
O ran eich sylw am y costau, wrth gwrs, y rheswm pam yr ydym ni'n gwneud hyn yw ein bod wedi cydnabod ers tro bod costau cynyddol indemniad wedi bod yn rhwystr sylweddol i bobl rhag ymsefydlu a pharhau i fod yn ymarferwyr cyffredinol, boed hynny, os mynnwch chi, y meddyg teulu rheolaidd sy'n gweithio mewn meddygfa, pobl sy'n gweithio oriau rhan-amser—mae amrywiaeth o resymau gwahanol pam mae pobl eisiau gweithio oriau rhan-amser, boed hynny'n bobl ar wahanol adegau yn eu gyrfa, dynion a menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â phobl sydd eisiau dychwelyd a lleihau eu sesiynau ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, ac, yn wir, gwaith y tu allan i oriau hefyd. Rydym ni wedi rhoi arian yn y contract ond, mewn gwirionedd, nid oeddem yn cyrraedd yr hyn a fyddai'n gynaliadwy, felly dyna pam yr ydym ni wedi cymryd y safbwynt penodol hwn. Ac mae'n, rydych chi'n gywir—y term technegol, rwy'n credu, yw 'sicrwydd sy'n seiliedig ar y presennol', felly mae'n ymwneud â phryd mae rhywbeth wedi digwydd, ac, ar yr amod bod rhywun wedi bod yn aelod â sicrwydd indemniad proffesiynol priodol gyda sefydliad amddiffyn meddygol sy'n cymryd rhan, yna byddwn yn eu cefnogi.
O ran y costau, daw hynny o—bydd cyllid yn dod o negodi trosglwyddo asedau gyda sefydliadau amddiffyn meddygol ac arian Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn amlwg, mae'r wladwriaeth yn gefnogol i hyn i roi'r sicrwydd i bobl y caiff arian ei dalu. Rwy'n siŵr y byddwn yn rhoi sylw manylach i hyn wrth i ni fynd drwy'r Bil, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y costau, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw a'n hasesiad o'r atebolrwyddau, ond hefyd i wneud yn siŵr bod sicrwydd digonol ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a'r cyhoedd yn ehangach.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn a theimlaf ei bod hi'n hen bryd gwneud hynny, gan fod llawer o ymarferwyr cyffredinol wedi gweld hyn yn faen tramgwydd rhag dilyn eu llwybr gyrfa, ac ni ellir ond ystyried bod y swm mawr hwn o arian ar gyfer yswiriant yn gadarnhaol o ran recriwtio a chadw ymarferwyr cyffredinol. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth yn y maes hwn, ac mae hyn yn ddechrau da iawn tuag at recriwtio a chadw. Felly, mae'n hanfodol sicrhau cydraddoldeb hefyd â'r GIG yn Lloegr, ac, os ydym ni eisiau gwella'r sefyllfa o ran recriwtio a chadw, unwaith eto, ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, mae'r cydraddoldeb hwn yn eithriadol o bwysig.
Mae'r ffaith y bu cynnydd eithriadol mewn yswiriant indemniad ar gyfer ymarferwyr cyffredinol wedi cael effaith ar y proffesiwn, a dyna pam y cefnogais gyflwyno'r cynllun atebolrwyddau'r dyfodol. Mae'n drist bod y DU yn mynd yn fwy cyfreithgar, ac yn ddiau mae'r cynnydd sylweddol mewn cwmnïau hawliadau esgeulustod meddygol yn ddiweddar wedi arwain at y cynnydd enfawr mewn costau indemniad.
Rwyf hefyd yn cefnogi ymestyn y cynllun indemniad i dalu am atebolrwyddau presennol. Gweinidog, un o'r beirniadaethau am y cynllun atebolrwyddau'r dyfodol fu'r angen am gofrestr locwm, ar wahân i'r rhestr cyflawnwyr meddygol, er mwyn darparu yswiriant ar gyfer meddygon sesiynol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ystyried defnyddio'r Bil hwn i ddiwygio'r cynllun atebolrwyddau'r dyfodol a'r cynllun atebolrwyddau presennol er mwyn dileu'r angen am gofrestr locwm ar wahân? Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'r GIG yn Lloegr i sicrhau bod gan feddygon mewn ardaloedd trawsffiniol degwch o ran eu darpariaeth? Yn olaf, Gweinidog, sut fydd y cynllun yn gweithredu mewn cysylltiad â meddygon carchardai, o gofio'r trefniadau gwahanol niferus ar gyfer gofal iechyd mewn carchardai yng Nghymru?
Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanwl ar y Bil hwn yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad, ond hefyd at weithio gyda chi i sicrhau bod gan ymarferwyr meddygol yng Nghymru yswiriant indemniad fforddiadwy. Diolch yn fawr.
Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r tri chwestiwn penodol ac yna pwynt am y cynnydd mewn costau.
O ran eich sylw olaf, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n arbennig o berthnasol i'r Bil o safbwynt pobl sy'n gweithio yn y sector carchardai. Mae gennym ni ddau gynllun gwahanol; mae cynllun atebolrwyddau'r dyfodol eisoes ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag atebolrwyddau presennol ac, mewn gwirionedd, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Lloyd, cyn belled â bod rhywun eisoes yn aelod o sefydliad amddiffyn meddygol, yna cânt sicrwydd. Diben y gwelliant yw'r atebolrwyddau presennol yr adroddwyd arnynt, ond na fu hawliad yn eu cylch, fel y dywedais yn fy natganiad.
O ran y sylw am weithgarwch trawsffiniol, eto, rhan o amcan a diben cael y Bil hwn a'r cyfnod craffu byrrach y mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno arno yw sicrhau bod gennym ni'r rheoliadau hyn a'r cynllun ar waith. Un o'r pethau penodol y bydd yn ei wneud yw sicrhau nid yn unig y gymhariaeth rhwng meddygon sy'n gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd y llif trawsffiniol mewn gweithgarwch sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad—felly, gwneud yn siŵr bod cyfatebiaeth rhwng cynlluniau. Fodd bynnag, nid wyf yn mynd i ddefnyddio'r Bil hwn i ddileu'r gofrestr locwm. Os yw Aelodau eisiau cyflwyno gwelliannau, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, ond hoffwn ddweud nad dyna ddiben y polisi na bwriad y Bil, ac rwy'n mynd i fod yn onest nad wyf yn ceisio gwneud hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sy'n canolbwyntio'n fanwl ac sy'n ymdrin â mater penodol.
Hoffwn ddychwelyd at y pwynt ynghylch y mater yn ymwneud â'r cynnydd mewn costau, oherwydd daeth y cynnydd mewn costau indemniad ymarferwyr cyffredinol oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, ond nid wyf yn credu ei fod yn briodol dweud ei fod yn ymwneud â chynnydd mawr mewn hawliadau. Mewn gwirionedd, un o'r materion mwyaf a arweiniodd at weithredu ledled y DU oedd penderfyniad yr Arglwydd Ganghellor i newid y gyfradd ddisgownt o ran anafiadau personol. Nawr, mae hyn yn bwysig oherwydd iddo gynyddu'r costau a'r her ynghylch sicrwydd yn sylweddol, ac, mewn gwirionedd, golygai'r symud o gyfradd ddisgownt o 2.5 y cant i gyfradd ddisgownt o -0.75 y cant ar golledion yn y dyfodol y gallai costau tanysgrifio ymarferwyr cyffredinol fod wedi cynyddu hyd at 25 y cant, ac roedd hynny'n ysgogydd pwysig iawn a olygai fod y cynllun presennol, a oedd eisoes dan bwysau—. Pan ddeuthum yn Ddirprwy Weinidog iechyd dros bum mlynedd yn ôl bellach, oherwydd fy mhechodau, roedd yn broblem bryd hynny, ar yr adeg honno, ynghylch costau yswiriant indemniad. Roedd yr hyn a wnaethom ni wrth roi arian i mewn i'r contract ymarferwyr cyffredinol yn fodd i gwmpasu ac ymdrin ag agweddau ar hynny, ond roedd yn dal yn bwysau. Ond y newid yn y gyfradd ddisgownt mewn gwirionedd oedd y mater a'n gorfododd ni i edrych ar rywbeth sy'n sylfaenol wahanol, a dyna pam yr ydym yn y sefyllfa hon nawr.
Diolch yn fawr, Gweinidog.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio'r GIG. A galwaf eto ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud i gryfhau cynllunio integredig ar draws GIG Cymru. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu ein GIG nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn parhau i weld galwadau a phwysau cynyddol ar wasanaethau sy'n cael eu rheoli o ddydd i ddydd gan ein staff rheng flaen ymroddedig. Mae hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun ansicrwydd mawr mewn cysylltiad â Brexit, 10 mlynedd o gyni, a'r angen i ni sicrhau bod ansawdd, tegwch a ffyniant yn parhau i ysgogi pa bynnag gwell ganlyniadau a fydd yn deillio o hynny i'r boblogaeth.
Credaf yn gryf fod GIG Cymru sy'n gydweithredol, sy'n cynllunio mewn modd integredig gyda'i bartneriaid, yn enwedig ar lefel byrddau partneriaeth ranbarthol a gwasanaethau cyhoeddus, mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Mae Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 bellach yn bum mlwydd oed. Ers ei gweithredu, rydym ni wedi gweld esblygiad y system gynllunio yma yng Nghymru. Heddiw, mae'r system honno'n fwy aeddfed a chadarn. Dangoswyd hyn gan nifer y cynlluniau sefydliadol y gellais eu cymeradwyo eleni, a gynyddodd i saith yn y cylch cynllunio diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a gafodd gymeradwyaeth cynllun am y tro cyntaf mewn tair blynedd, ac yna cafodd y sefydliad ei isgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu yn dilyn gwelliannau parhaus mewn perfformiad a chyllid.
Wrth edrych ymlaen at y cylch nesaf, rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau tymor canolig integredig ar lefel clwstwr yn llywio cynlluniau tymor canolig integredig sefydliadol cynhwysfawr. Bydd hyn yn cryfhau ac yn gwella dealltwriaeth ar y cyd o iechyd y boblogaeth a'r ddarpariaeth gwasanaeth angenrheidiol hyd yn oed ymhellach. Mae'r cynlluniau hynny—dylwn i ddweud cynlluniau tymor canolig integredig—yn ganolog i'n dull o ddarparu gwasanaethau mewn system iechyd a gofal wedi'i chynllunio. Cynlluniau treigl tair blynedd yw'r rhain sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau sydd o ansawdd uchel, yn gynaliadwy, yn gytbwys yn ariannol ac y gellir eu cyflawni. Mae'r system yn gymhleth a dylem gydnabod y cynnydd a wnaed o ran cynllunio mewn modd integredig ledled Cymru.
Rydym ni wedi gwneud camau breision ymlaen, ond rydym ni'n dal i weld amrywiadau o ran aeddfedrwydd y cynlluniau. Yn arbennig, rydym ni wedi gweld bod y sefydliadau hynny sydd â chynlluniau a gymeradwywyd yn gallu ymateb yn well. Eleni, gwelsom fwy o bwyslais mewn cynlluniau ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys darparu gofal yn agosach at y cartref a gweithredu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru, cydweithredu a meithrin perthynas â byrddau partneriaeth ranbarthol sy'n sbarduno integreiddio a phrosiectau trawsnewidiol, a sefydliadau yn dangos eu hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rwyf wedi fy nghalonogi'n arbennig gan yr ymrwymiad cynllunio integredig gan sefydliadau cefnogi yng Nghymru, gan gynnwys EASC, WHSSC, partneriaeth cydwasanaethau y GIG ac NWIS—dylwn i ddweud o ran yr holl fyrfoddau gwahanol yn y maes iechyd, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Nid oes dyletswydd statudol arnyn nhw i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig, ond er hynny maen nhw wedi cofleidio gofynion ac ysbryd y Ddeddf yn llwyr. Maen nhw'n chwarae rhan allweddol o ran galluogi a chydgysylltu'r system. Nid oes dyletswydd ar hyn o bryd ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fel awdurdod iechyd strategol newydd, ond dewisodd ddangos ei ymrwymiad i gynllunio drwy gyflwyno cynllun integredig yn ei flwyddyn gyntaf. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru'n chwarae rhan allweddol wrth weithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau mewn partneriaeth ac ar y cyd i fynd i'r afael â heriau allweddol o ran y gweithlu a hyfforddiant. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau y gall ein gwasanaethau ddarparu gofal a thriniaeth effeithiol pan fo angen.
Edrychaf ymlaen, nawr, at y cylch cynllunio nesaf, ar gyfer y cyfnod 2020-23, pan ddisgwyliaf weld cynnydd pellach i wella ein hymagwedd at gynllunio integredig. I gefnogi'r nod hwn, rwyf wedi dwyn cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol ymlaen bedwar mis. Roedd datblygu cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn un o 40 o ymrwymiadau a wneuthum wrth gyhoeddi 'Cymru Iachach'. Bydd y cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn helpu i wneud cyfraniad pellach at gryfhau ein system gynllunio integredig. Bwriad y ddogfen gychwynnol hon yw edrych yn ôl ac ystyried canlyniad ac effaith y cylch cynllunio diwethaf. Rwyf hefyd yn glir mai fy mwriad ar gyfer y ddogfen oedd gosod y cywair a'r cyfeiriad ar gyfer y cylch nesaf. Mae cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn gynnar wedi golygu ein bod yn dechrau'r cylch cynllunio nesaf gyda mwy o eglurder a chyfeiriad, sydd wedi cael ei groesawu gan y gwasanaeth.
Canfu'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol dystiolaeth bod sefydliadau yn gwneud cynnydd da mewn meysydd fel gofal sylfaenol a chymunedol, iechyd meddwl, arloesi, cydweithio, ac ymchwil a datblygu. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud yn y meysydd penodol hyn, mae angen o hyd sicrhau gwell gafael ar drefniadau comisiynu, canolbwyntio ehangach ar atal ac ymagwedd gryfach at gynllunio rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau iechyd. Drwy gyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol, rwyf wedi ailddatgan cyd-destun strategol clir ar gyfer y cylch cynllunio nesaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', a gefnogir gan 'Cymru Iachach' a'n cyfres unigryw o ddeddfwriaeth flaengar, yn creu'r fframwaith ar gyfer y system gynllunio integredig yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cyd-destun hwn i gofleidio newid a chreu cadernid a chynaliadwyedd i gleifion ledled Cymru, lle bynnag maen nhw'n byw.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i gynaliadwyedd a dad-garboneiddio yn faes y mae sefydliadau'r GIG yn ei gofleidio, a gellir gweld effaith newid eisoes. Mae cynlluniau arloesol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a hefyd yn dod â manteision iechyd a lles. Mae'r ffaith fod Bae Abertawe yn canolbwyntio ar ddad-garboneiddio a bioamrywiaeth yn golygu mai hwn yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddatblygu prosiect twf gwyrdd. Rwy'n awyddus i gynaliadwyedd fod yn faes y byddwn yn canolbwyntio arno yn y cylch nesaf o gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau cyfyngedig. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn fel mater o frys ac yn dangos arweiniad yn y maes hwn gan y gwasanaeth iechyd.
Wrth gwrs, mae'n ofynnol i gynlluniau fod yn gytbwys o ran eu sefyllfa ariannol. Rwy'n falch o nodi'r lleihad parhaus yn y diffygion ariannol ar draws GIG Cymru. A ninnau'n dal i orfod gwneud mwy gyda llai, rhaid i'r duedd gadarnhaol honno barhau. Disgwyliaf weld gostyngiadau pellach yn y diffyg cyffredinol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth, yn enwedig y rhai sydd wedi eu huwchgyfeirio, i ddarparu'r cyngor, yr her a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i weithio tuag at gyflawni cynlluniau cymeradwy. Mae ansawdd yn parhau i fod yn ganolog i'r system iechyd a gofal yng Nghymru. Rwyf yn benderfynol ein bod yn dal i godi'r safon i bawb er mwyn sicrhau tegwch, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwireddu'r weledigaeth a nodir yn 'Cymru Iachach'.
Yn olaf, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i agenda gynllunio'r GIG yng Nghymru. Rwyf wedi buddsoddi mewn datblygu ac atgyfnerthu sgiliau cynllunio drwy'r academi gynllunio newydd. Mae'r diploma newydd mewn cynllunio gofal iechyd yn dechrau'r mis hwn ac mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i gymheiriaid ddysgu o'i gilydd.
Fy mhum blaenoriaeth ar gyfer ein system gofal iechyd yw: atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, darparu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gofal amserol, ac iechyd meddwl. Bydd gwireddu'r weledigaeth a amlinellir yn 'Cymru Iachach' yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny ar gyfer pobl Cymru. Gan edrych i'r dyfodol, rwyf eisiau gweld y boblogaeth wrth wraidd ein systemau cynllunio integredig. Mae rhoi pobl wrth wraidd system gynllunio integredig yn elfen allweddol hanfodol i'r cynnydd rydym ni i gyd eisiau ei weld. Yn union fel y mae'r Llywodraeth hon eisiau gweld pobl yn elwa ar Gymru werddach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus, rwyf eisiau'r un peth i'n GIG ac i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad o flaen llaw. Roedd yn ddiddorol iawn clywed eich cyfeiriadau at lwyddiant y system cynllunio tymor canolig integredig. Rwy'n gwybod, yn sicr o ran nifer o sefydliadau'r GIG, y buont yn torri'r wisg yn ôl y brethyn a'u bod wedi llwyddo i ddatblygu cynlluniau tymor canolig tair blynedd sydd wedi bod ar y trywydd iawn ar y cyfan. Ond, wrth gwrs, ni ellir dweud hynny am nifer o fyrddau iechyd nad ydyn nhw eto, gwaetha'r modd, mewn cylch cynllunio tair blynedd, ac, wrth gwrs, mae'r rheini'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ni chytunwyd ar unrhyw gynlluniau tymor canolig integredig ar eu cyfer mewn gwirionedd.
Mae hynny'n peri pryder imi, oherwydd, yn amlwg, mae nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr adeg y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth sy'n rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i sefydlu'r cynlluniau hynny, ac, wrth gwrs, yn sicr yn achos dau o'r byrddau iechyd hynny, maen nhw'n gwario llawer mwy na'u hincwm ac wedi gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Credaf fod angen edrych ar allu rhai o'r byrddau iechyd hynny i ateb yr heriau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o adnoddau ychwanegol i Hywel Dda nifer o flynyddoedd yn ôl, ac roedd hynny i'w groesawu'n fawr, rwy'n credu, oherwydd y diffyg strwythurol a etifeddodd y sefydliad hwnnw pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y gellir dweud yr un peth, mewn gwirionedd, am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni tybed a ydych chi'n ystyried gwneud yr un peth o ran y diffyg strwythurol sydd yn fy marn i wrth wraidd sefyllfa gyllid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i weld a oes rhywbeth y gellir ei wneud o du Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r bwrdd iechyd hwnnw fel na all droi ei gefn yn llwyr ar wneud dyfarniadau ariannol priodol, ond y gall ganolbwyntio'n fwy efallai ar rai o'r materion perfformiad sydd hefyd yn rhoi'r bwrdd iechyd penodol hwnnw dan warchae.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith nad oes dyletswydd statudol ar rai o sefydliadau'r GIG eraill hynny sydd wedi bod yn datblygu eu cynlluniau eu hunain, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Rwy'n credu ei bod hi'n ganmoladwy iawn eu bod yn gweithio yn yr un fframwaith cynllunio â sefydliadau eraill y GIG, ond efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a fydd gennych chi gynlluniau rywbryd yn y dyfodol i roi cyfrifoldeb statudol ar sefydliadau eraill y GIG hynny nad ydynt yn fyrddau nac yn ymddiriedolaethau, oherwydd rwy'n credu y gallai hi fod yn ddefnyddiol, mewn gwirionedd, cael y dull hwn o weithredu ar draws y GIG, fel bod pawb yn gweithio ar y cyd.
Nawr, rwy'n gwybod, yn amlwg, bod llawer o heriau o'n blaenau o hyd. Yn amlwg, rwyf wedi edrych ar y blaenoriaethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn eich fframwaith cynllunio, wrth symud ymlaen. Fe wnaethoch chi sôn am weithlu'n gynharach, ac, wrth gwrs, ceir heriau enfawr o ran sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n gallu bodloni'r gofynion a osodir arno ledled y wlad. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am y gwaith y mae Gwella Addysg Iechyd Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, a sut mae hynny'n cyd-fynd â gwaith byrddau iechyd unigol i wneud yn siŵr eu bod yn cydweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ehangach.
Mae cyfalaf ac ystadau, wrth gwrs, yn bwysig iawn o ran gallu sicrhau gwelliannau ym maes gofal iechyd, ac un o'r pryderon a godir yn rheolaidd gyda mi pan fyddaf yn ymweld â gwahanol fyrddau iechyd ar draws y wlad yw'r oedi wrth wneud penderfyniadau ynghylch ystadau. Nawr, rwy'n gwybod bod gennym ni swm cyfyngedig y gallwn ei fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf, ond, yn amlwg, os yw llawer o'r gwelliannau mewn gofal iechyd yn gwbl gysylltiedig â buddsoddi mewn ystadau, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn addas a phriodol bod pobl yn gallu mynd rhagddyn nhw a bwrw iddi â buddsoddi mewn adeiladau newydd, neu estyniadau, neu adnewyddu adeiladau er mwyn gwneud i'r pethau hynny ddigwydd. Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud er mwyn gwella'i phenderfyniadau ynghylch cyfalaf, yn y dyfodol, er mwyn inni allu gwneud penderfyniadau'n gyflymach.
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich dogfen at ofal amserol, sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn i gleifion ledled Cymru, fel y mae cydraddoldeb o ran gallu cael gofal ym mhob rhan o Gymru. Nawr, un peth rydym ni'n ei wybod yw y gall perfformiad amrywio'n sylweddol rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, a hoffwn wybod i ba raddau yn y cynlluniau tair blynedd hynny, ydych chi'n disgwyl gweld rhywfaint o unioni, os mynnwch chi, lefel y perfformiad gorau ledled Cymru, a sut ydych chi'n disgwyl i'r cynlluniau hynny ddangos cynnydd mewn gwirionedd tuag at unioni o'r fath, fel nad ydym ni'n colli momentwm ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Yn olaf, os caf i, un cwestiwn olaf, ac mae hynny'n ymwneud â'r diploma mewn cynllunio gofal iechyd. Rwy'n falch iawn o weld hynny ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae'n bwysig bod y diploma hwnnw a'r hyfforddiant yn y diploma hwnnw ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym mi a fydd hynny'n bosib, i wneud yn siŵr y gall bobl wneud y pethau hyn ar y cyd â'u gwaith bob dydd, gan y gall hynny fod yn eithaf anodd yn aml iawn? Pa adnoddau ydych chi'n eu darparu i annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw i gael eu hyfforddi yn y modd hwnnw? Diolch.
Diolch am yr amrywiaeth o gwestiynau. Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Gwneuthum y penderfyniad i fuddsoddi £750,000 dros bum mlynedd i greu'r diploma ôl-raddedig newydd, a bydd yn cefnogi 25 o fyfyrwyr y flwyddyn am bum mlynedd. Dylai alluogi pobl i gwblhau'r modiwlau hynny dros gyfnod o 18 mis, felly dylai olygu bod cyfle iddyn nhw wneud eu gwaith yn ogystal â dilyn y cymhwyster newydd. Yna, dylem ni gael cenhedlaeth newydd o gynllunwyr yn y gwasanaeth er mwyn i bobl allu datblygu eu sgiliau ar wahanol lefelau yn ein sefydliadau.
O ran eich pwynt am allu cael gofal yn amserol a chydraddoldeb o ran gallu cael y gofal hwnnw, wrth gwrs ein bod yn ystyried yr agweddau perfformiad hynny yn ogystal â chyllid pan fyddwn yn ystyried a oes gan fwrdd gynllun cymeradwy, pa un a fydd yn parhau i fod â chynllun cymeradwy, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran statws uwchgyfeirio. Felly mae perfformiad y sefydliadau hynny yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Byddwch wedi gweld hynny o ran y dewisiadau uwchgyfeirio yr ydym ni wedi'u gwneud ynghylch nifer o sefydliadau, oherwydd mewn rhai ohonyn nhw, heb amheuaeth, bu'r materion perfformiad yn ffactor sylweddol heb amheuaeth yn symudiad y sefydliad i gam gwahanol o uwchgyfeirio, i fyny'r ysgol, ond hefyd, yn achos Caerdydd a'r Fro, roedd yn ffactor arwyddocaol yn eu hisgyfeirio i statws normal. Roedd yr un peth yn wir am daith gwasanaeth ambiwlans Cymru. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi ddechrau drwy sôn am y cynnydd a fu a'r cynnydd na fu.Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn stori dda yn hyn o beth, oherwydd roedden nhw mewn lle anodd iawn, perfformiad anodd iawn; maen nhw mewn sefyllfa wahanol nawr, mae eu perfformiad wedi gwella ac mae'n cael ei gynnal, ac mae ganddyn nhw gynllun cymeradwy. Bum mlynedd yn ôl, pan gefais gyfle i ymuno â'r adran hon, ni fyddech wedi dychmygu y bydden nhw'n un o'n sefydliadau sy'n perfformio orau, nid yn unig yng Nghymru, ond o fewn y teulu o ymddiriedolaethau ambiwlans ledled y DU.
Erbyn hyn mae gennym ni saith sefydliad gyda chynlluniau cymeradwy o gymharu â phedwar pan gyflwynwyd Deddf Cyllid y GIG (Cymru). Fe wnaethoch chi sôn hefyd am fformiwla ariannu'r GIG, a pha un a oedd hon yn broblem benodol yng nghyswllt Betsi Cadwaladr. Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn gwneud rhai dewisiadau ynglŷn â fformiwla ariannu'r GIG yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol—wel, efallai na fyddwch yn ymwybodol, oherwydd nad ydych chi ar y pwyllgor iechyd mwyach, ond rwyf wedi dweud wrth y pwyllgor iechyd ein bod yn adolygu'r fformiwla, hynny yw, yn edrych ar y gofynion ariannu presennol a'r sail anghenion ar gyfer gwneud hynny, ac felly byddaf yn gallu gwneud cyhoeddiad sicr ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu i bob sefydliad unigol a sut y caiff y diwygiad hwnnw ei weithredu.
Rwy'n derbyn y pwynt am awdurdodau iechyd arbennig a chynlluniau tair blynedd, ond mae rhai o'r cyrff y sonnir amdanyn nhw, wrth gwrs, yn gasgliad o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd. Felly, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gasgliad o fyrddau iechyd sy'n gweithredu gyda'i gilydd ac mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys mewn gwirionedd yn gasgliad o fyrddau iechyd sy'n gweithio gyda'i gilydd i gomisiynu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei swyddogaeth. Felly dydw i ddim yn siŵr mai cyflwyno dyletswydd statudol ar yr holl gyrff hynny yw'r peth priodol i'w wneud, ond ystyriaf y pwynt yr ydych chi'n sôn amdano o ddifrif.
O ran Addysg a Gwella Iechyd Cymru, eu trosolwg strategol yw'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen mewn datganiadau, a soniaf am hyn eto pan fyddwn yn siarad am strategaeth y gweithlu, ac wrth gwrs maen nhw'n gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i wneud hynny.
Ynghylch y pwynt olaf y mae angen i mi ymdrin ag ef rwy'n credu, sef ynglŷn â chyfalaf a'ch pwynt ynghylch a oes angen gwella prosesau Llywodraeth Cymru: mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar y system gyfan, oherwydd nid yw'n deg dweud bod oedi oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud dewisiadau. Yn aml mae hynny'n broses o fynd a dod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth gyda chynlluniau y maen nhw wedi'u cyflwyno, ac mae Aelodau yn yr ystafell hon a fydd â'u rhwystredigaethau eu hunain ynghylch y broses gynllunio honno, ac mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ymdrin ag ef, er mwyn gwella'r gallu i gyflwyno achosion busnes a chynllunio'n briodol ar gyfer y gwasanaeth. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yna broblem y mae angen i ni ei datrys yn y system gyfan ac nid dim ond mewn un rhan ohoni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad ar gynllunio'r GIG? Yn amlwg, mae cynllunio'r GIG—unrhyw gynllunio yn y GIG—yn faes enfawr sy'n ymdrin â materion ar lefel ficro ac yn amlwg, ar lefel facro, y dyfodol, meddwl heb orwelion. A gaf i ddechrau yn gyntaf—? Mae'r pwynt cyntaf sydd gennyf yn ymwneud â'r academi gynllunio newydd, sy'n gysyniad rwy'n credu, i'w groesawu'n fawr o ran gwella ansawdd y cynllunio gweinyddol sy'n digwydd. Hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion. Byddai rhai ohonom yn hoffi meddwl y gallwn annog a denu mwy o nyrsys a meddygon sydd â chymwysterau clinigol i fod yn weinyddwyr yn gyffredinol, ac yn enwedig pan ddaw'n fater o gynllunio gwasanaethau, oherwydd eu bod nhw'n tueddu i fod â syniad ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud. Ond hefyd dydyn nhw ddim yn weinyddwyr, felly mae angen iddyn nhw fod yn gymwysedig hefyd. Ond o ran sut ydym ni'n mynd i ddenu mwy o weinyddwyr sydd â chymwysterau clinigol ac efallai cysyniad newydd o'u cael i gyfuno eu cyfrifoldebau clinigol â'u cyfrifoldebau gweinyddol hefyd, fel nad ydynt yn colli golwg yn llwyr ar eu problemau staffio ac adnoddau.
Mae croeso mawr i'r hyn roeddech yn ei ddweud eto am y gallu i sicrhau gofal yn nes at y cartref. Hyd yn oed gyda'r holl declynnau newydd sydd ar gael i ni, does dim byd tebyg i'r cysylltiad personol yng nghartref rhywun. Ond mae hwnnw'n gynllun gweithlu penodol yn y cymunedau. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith sy'n digwydd o ran gofal sylfaenol a chefnogi'r holl bethau arloesol yr ydym ni wedi bod yn eu dweud am gael gofal yng nghartrefi pobl, yn agos at gartrefi pobl, fel y gallant aros yn y gymuned am gyhyd ag y maen nhw'n dymuno ac o bosib am byth—byth yn gorfod camu drwy ddrysau ysbyty o gwbl?
Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Fel rydych chi wedi dweud, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r sefyllfa yn y gwasanaeth ambiwlans wedi newid, gyda'r holl gynllunio a chynllunio ar gyfer y gaeaf. Serch hynny, mae etholwyr yn dal i gysylltu â mi ynghylch oedi mawr, o ran ambiwlansys unigol yn cyrraedd achosion unigol, felly mae gwaith i'w wneud o hyd. Ond o ran cynllunio'r GIG ar gyfer y gaeaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar gynllunio ar gyfer y gaeaf o ran y gwasanaeth ambiwlans, a chadarnhau cynlluniau o ran yr adolygiad oren i gyflwyno mesurau newydd 'o'r alwad i'r drws' ar gyfer ymateb ambiwlansys i achosion o strôc yn benodol—gan siarad yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc. Fel y gwyddoch chi, ymrwymodd yr adolygiad oren i fesur yr holl gyfnod gofal i gleifion, nad yw, yn amlwg, yn dod i ben wrth ddrws yr ysbyty. Nawr, rwy'n deall mai cam 1 yn unig o gyflwyno'r mesur newydd hwn yw'r mesur 'o'r alwad i'r drws', ac y bydd cam 2 yn cynnwys mesur yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael triniaeth ar ôl cyrraedd yr ysbyty, oherwydd, yn amlwg, o ran strôc, mae hynny'n rheidrwydd sylfaenol. Nid yw danfon pobl at y drws yn unig yn ddigon da, mae angen i ni eu trin hefyd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu cam 1 a cham 2 y mesur newydd yn llawn er mwyn cyflawni'r ymrwymiad a geir yn yr adolygiad oren a'r agwedd ar gynllunio'r GIG sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer y gaeaf?
Gan aros gyda'r ambiwlansys, ond symud ymlaen at ein hambiwlansys awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang—ein hambiwlansys awyr sy'n hedfan yn gyson. Mae hi'n briodol iawn ein bod yn dathlu—er y byddai hi, weithiau, yn fy marn i, yn briodol inni ddathlu ychydig yn fwy—gyflawniadau rhyfeddol ein hambiwlans awyr cymharol newydd, ein hofrenyddion sydd fel adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr awyr, mewn gwirionedd. Maen nhw'n anhygoel, yn gwbl ryfeddol ac arloesol ac maen nhw'n achub bywydau nawr yn y fan a'r lle adeg damwain fawr pan nad oedd bywydau yn cael eu hachub o'r blaen, ac roedd hynny cyn lleied â phum mlynedd yn ôl. Mae ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys wedi trawsnewid y sefyllfa'n llwyr, yn enwedig gofal iechyd gwledig, ac mewn gofal iechyd brys, nid mewn mannau anghysbell a gwledig yn unig, ond wrth gludo pobl i'r adran orau o fewn munudau. Gall hynny, o bosib, drawsnewid yn llwyr y ffordd yr ydym ni'n meddwl am gynllunio'r GIG ar lawr gwlad, mewn cysylltiad â'r berthynas â'r ddarpariaeth, dyweder, o ysbytai cyffredinol dosbarth, canolfannau trydyddol, yr hyn sydd ei angen ym mhobman, oherwydd yn aml iawn rydym yn anghofio am ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang. Mae hynny wedi'i ymgorffori weithiau yn y print mân o holl waith cynllunio'r GIG, ond rwy'n credu bod angen inni ei ddathlu gan fod hynny'n briodol a haeddiannol.
A chyda hynny, a gaf i groesawu ymrwymiad rhyfeddol staff y GIG a staff gofal cymdeithasol ar lawr gwlad i wneud yn siŵr bod cynlluniau'r GIG sydd gennym ar waith yn dwyn ffrwyth? Diolch.
Diolch am y pwyntiau hynny. Dechreuaf gyda'ch pwynt cyntaf am yr academi gynllunio. Mae'n cael ei datblygu ar y cyd ag Ysgol Fusnes Caerdydd ac rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ddysgu yn ceisio cyrraedd ystod ehangach o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg nodi mai eleni yw'r flwyddyn gyntaf i ni gael clystyrau gofal sylfaenol i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain, ac mae hynny'n gam sylweddol ymlaen mewn gwirionedd, sy'n dweud rhywbeth wrthych chi am aeddfedrwydd y clystyrau hynny, sef ei fod yn datblygu. Ond hefyd rydym ni'n disgwyl y bydd cynnwys y cynlluniau hynny'n amrywio. Bydd rhywfaint o hynny yn ymwneud â deall anghenion y boblogaeth leol; bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r gwahanol raddau o aeddfedrwydd a'r gallu i ragweld a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai dyma oedd y cam nesaf yn natblygiad clystyrau, ond yn yr un modd byddant yn sail iddyn nhw, ac maen nhw'n cael eu darparu nawr i helpu i lywio cynlluniau tymor canolig integredig ar lefel y byrddau iechyd hefyd, yn hytrach na cheisio eu gwneud ar adegau hollol wahanol. Byddai wedi bod yn wirion beth bynnag pe byddai gennych chi gynllun tymor canolig integredig clwstwr ar ôl i'r bwrdd iechyd gyhoeddi eisoes yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud dros y tair blynedd nesaf. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod ein system mewn trefn ddilyniannol gywir er mwyn manteisio ar hynny a gweld y gwelliant y bydd ei angen arnom ni ac yr ydym ni eisiau ei wneud.
O ran eich pwynt am yr adolygiad oren, rwyf wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaed o ran yr adolygiad oren, a bydd hynny'n cynnwys y gwaith anorffenedig sy'n digwydd gyda rhanddeiliaid ynghylch mesurau sy'n ymwneud ag unedau strôc. Nid yw'n gyflawn, ond rwy'n fodlon sicrhau fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd diweddariad priodol i'w roi. Felly, yn sicr, nid yw wedi ei anghofio nac wedi ei roi o'r neilltu.
Rwyf wrth fy modd eich bod wedi sôn am yr hyn a alwyd ar y dechrau, am gyfnod, yn wasanaeth meddygon awyr Cymru. Wrth gwrs, mae'n fwy na meddygon yn unig. Mae gennym ni amrywiaeth o wahanol weithwyr proffesiynol sy'n hedfan mewn hofrenyddion, ond hefyd rydym ni'n defnyddio rhai o'r cerbydau sy'n addas ar gyfer pob math o dir ar gyfer y gwasanaeth adalw meddygol brys. Ac mae wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol. Mae wedi ein helpu i recriwtio a chadw staff yma yng Nghymru. Mae pobl wedi gwneud cam pendant i ddod yma i Gymru oherwydd y gwasanaeth hwnnw. Rwyf wedi cwrdd â nifer o'r bobl hynny na fydden nhw yma fel arall. Ac mae'n ddefnyddiol o safbwynt ymchwil a gwella beth bynnag o ran ein gallu i elwa ar ofal brys yn benodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi yn ymwneud â gallu cael gofal gwell ynghynt, oherwydd nid yw'n ymwneud â chael llawer o declynnau'n unig, mae'n ymwneud â chludo pobl i'r man lle ceir y gofal cywir, cael y gofal cywir i ddechrau ac yna eu cludo i ble mae'r gofal cywir, boed hynny'n ysbyty cyffredinol dosbarth neu'n ganolfan drydyddol, neu Treforys os oes ar rywun angen yr uned losgiadau, neu yn wir yn y dyfodol pan fydd angen cludo pobl i'r ganolfan trawma mawr sy'n cael ei datblygu yng Nghaerdydd. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r cynllunio sydd eisoes yn digwydd, ac rwyf wrth fy modd eich bod wedi crybwyll y stori o lwyddiant gwirioneddol y dylai GIG Cymru yn bendant ei dathlu.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl staff yn y GIG sy'n gweithio o dan amodau anodd i gyflawni eu dyletswyddau. Er mwyn sicrhau bod ein GIG yn goroesi'r heriau hirdymor y mae'n eu hwynebu, mae angen inni weithredu cynllunio tymor hir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bu'r cynllunio hyd yn hyn, mae'n ddrwg gennyf ddweud, yn dameidiog. Nid yw cynllunio priodol yn golygu gosod cynlluniau ariannol am flwyddyn neu ddwy yn unig, mae angen i ni graffu ar y gorwel yn fanwl i ganfod unrhyw ddatblygiadau a heriau yn y dyfodol. Mae angen inni ystyried y system gyfan wrth gynllunio'r gweithlu mewn modd sy'n rhagweld newidiadau demograffig yn y dyfodol, datblygiadau mewn meddyginiaethau a thechnoleg iechyd, ac sy'n darparu gweithlu sydd â'r sgiliau cywir i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn.
Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl astudio ar gyfer y diploma, oherwydd mae annog pobl sy'n cymryd rhan yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bydd hyn, drwy fuddsoddi yn eu dyfodol, yn rhoi balchder iddyn nhw barhau a gobeithio, cael gyrfa hir gyda'r GIG.
Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw atebion i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn cymryd blynyddoedd i'w gweithredu. Er enghraifft, cynhaliwyd y gwasanaeth chwyldroadol 111 yn fy rhanbarth i, cafodd ei dreialu tua thair blynedd yn ôl bellach, ond ni chaiff ei gyflwyno ledled Cymru am ddwy flynedd arall. Rwy'n credu bod hyn yn eithaf rhwystredig gan ei fod yn drefniant llwyddiannus yma. Felly, pan fyddwn yn cynllunio gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ni ddylai gymryd chwe blynedd i'w gweithredu, pan fo cydnabyddiaeth eu bod eisoes yn arferion da.
Felly mae angen gwneud llawer o waith hefyd ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gan fod llawer o bobl yn cysylltu â mi ynghylch yr amseroedd ymateb hyn a hefyd faint o amser y mae'n ei gymryd i glaf, ar ôl ei dderbyn i'r ysbyty, gael gwely ar ward yn y pen draw. Mae'n 10 i 14 awr o fod mewn ward ochr. Felly, Gweinidog, sut bydd eich academi gynllunio yn sicrhau rhagweld heriau'r dyfodol, a sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr holl heriau hyn yn cael eu gwireddu hyd eithaf eu gallu?
Hefyd, pa ran fydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i'w chwarae o ran sicrhau bod gennym ni niferoedd digonol o bobl ifanc yn astudio ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Beth mwy gellir ei wneud i helpu byrddau iechyd hefyd sy'n tanberfformio ar hyn o bryd ac sy'n wynebu heriau ariannol? Sut gallwn ni gael y byrddau iechyd sydd ag arferion gorau i feithrin y rhai nad ydyn nhw'n cyflawni eu huchelgeisiau ar hyn o bryd? Pa mor dda y mae arferion gorau yn cael eu rhannu?
Ac yn olaf, Gweinidog, gyda'r holl elfennau amrywiol sy'n gysylltiedig â darparu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sut fyddwch chi'n sicrhau bod gennym ni system hyfforddi hyblyg, addasadwy sy'n cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth wynebu, yn amlwg, heriau sylweddol y cyfnod hwn? Diolch.
Diolch am y cwestiynau yna. Yn sicr, o ran eich pwynt olaf ynghylch sut y byddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom ni greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae'n gorff strategol i helpu i ragweld anghenion y gweithlu ac i lunio'r cynllun gweithlu cenedlaethol hwnnw y cyfeiriais ato'n gynharach. A'r ffordd y maen nhw'n gweithio ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru—. Oherwydd bob tro y cawn ni her ynghylch pwysau ar wasanaethau yn y Siambr hon, siaradwn yn rheolaidd am y staff a'r staff sydd eu hangen arnom ni, ac mae cydnabyddiaeth gymysg o'r ffaith na allwn ni bob amser recriwtio staff, yn sicr o fewn y DU, i lenwi pob un o'r bylchau hynny. Mae'n ymwneud yn rhannol â chynllunio ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol, deall ble a sut y byddwn yn gallu recriwtio o fewn y DU, o fewn Ewrop a'r heriau yn sgil Brexit, a'r byd ehangach hefyd.
Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n cynllunio i gynyddu ein lleoedd hyfforddi. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cymeradwyo, hyd yn oed mewn cyfnod anodd iawn, cynnydd gwirioneddol mewn hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chlywsom yn gynharach heddiw bod mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu ac eraill hefyd. Ac mae hynny'n arwain at yr ail bwynt ynghylch yr heriau o ran lle mae byrddau iechyd yn gweithredu'n unigol ond lle rydym ni wedi deall bod angen i ni weithredu'n genedlaethol er mwyn cyflawni'r enillion mwyaf. Felly bu ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn enghraifft dda o gael dull gweithredu cenedlaethol y mae byrddau iechyd i gyd wedi'i ddefnyddio—nid dim ond y brandio cyffredin ac nid y negeseuon cyffredin yn unig, ond sut yr awn ati i wneud hynny, cael canolbwynt cenedlaethol ar gyfer amrywiaeth o'r meysydd hynny, a bu hynny'n llwyddiannus, yn enwedig o ran recriwtio meddygon teulu. Rydym hefyd wedi lansio—[Anghlywadwy.]—bydwreigiaeth i ddilyn nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd. Felly, rydym ni'n dysgu o ble y buom ni'n llwyddiannus o ran yr ymgyrch honno'n ddiweddar ac, yn yr un modd, lle'r ydym ni'n gwybod bod mwy i ni ei wneud o hyd.
O ran eich pwynt am integreiddio cynllunio ar draws y gwasanaeth iechyd a chyda gwasanaethau eraill, eich pwynt yn arbennig am ambiwlansys a'r heriau, mae hwn yn fater ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd—pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans a phobl nad oes angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans. Ar ôl cyrraedd drws blaen adran achosion brys, mae'n anodd iawn eu rhyddhau. Mae ambiwlansys yn cael eu cadw yno ac yn aros yn rhy hir, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl sy'n abl yn feddygol yn yr ysbyty, ble bynnag y mae hwnnw, y gellid ac y dylid eu rhyddhau a'u helpu i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Mae hynny'n rhannol o fewn pŵer y gwasanaeth iechyd. Nid yw pob un person sy'n abl yn feddygol yn aros am ofal cymdeithasol, ond rydym ni yn cydnabod bod hynny, yn bwysig iawn, yn ymwneud â'r bartneriaeth rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr un sgwrs a dull o weithredu mwy integredig. Mae hynny'n sail i'n cronfa weddnewid a'n dull o weithredu, wrth gwrs, hefyd.
Ac rwy'n credu bod hynny'n ein harwain at y pwynt a wnaethoch chi am heriau'r dyfodol. Wel, mae heriau'r dyfodol eisoes yn ein hwynebu heddiw. Nid yw teleofal a gofal sydd wedi'i alluogi gan dechnoleg yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd o ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol—mae hynny'n digwydd eisoes heddiw. Yr her i ni yw sut y gallwn ni fanteisio arnyn nhw i ddarparu'n llawer mwy cyson ledled y wlad. Nid ydyn nhw ar gyfer rhannau gwledig o'r wlad yn unig, ond ar gyfer pob un rhan o'r wlad i wella argaeledd a phrofiad. Ac rydym ni eisoes yn ystyried, er enghraifft, sut y bydd meddygaeth fanwl yn newid y ffordd y mae angen i ni gynllunio ar gyfer y gwasanaeth. Efallai'n wir fod gennym ni feddyginiaethau newydd drud y gallwn ni eu cael i'n system drwy'r gronfa triniaethau newydd, ond er hynny, gallem gael meddyginiaethau newydd drud ar gost gychwynnol lawer mwy sylweddol a allai yn wirioneddol wella pobl, a byddai honno'n sgwrs wahanol iawn ynglŷn â rhoi mwy o bwyslais ar gamau rhagarweiniol y buddsoddiad yr ydych chi'n ei wneud i allu gwella pobl, beth bynnag fo'r amgylchiadau.
Rwy'n cydnabod eich pwynt ynglŷn â chyflwyno 111, ond mae angen imi ymateb a dweud nad oeddem ni wedi cyflwyno 111 yr un pryd â Lloegr. Bu iddyn nhw weithredu'n gyflym iawn yn genedlaethol, ac roedd ganddyn nhw lawer iawn o broblemau yn Lloegr o ganlyniad i hynny—modelau gwahanol iawn, ac roedd hi'n broblem wirioneddol fawr mewn rhannau helaeth o'r system gofal iechyd i staff a'r cyhoedd. Yn fwriadol fe wnaethom ni gymryd mwy o amser i ddeall y model sydd arnom ni ei eisiau, a'r rheswm pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar ras wyllt ar draws y gwasanaeth iechyd yw oherwydd ein bod wedi cymryd o ddifrif y gallu i gael y staff priodol yn y lle priodol ar yr adeg briodol i gyflawni'r gwasanaeth priodol, oherwydd, fel arall, ni fyddem yn gwneud dim mwy nag ailadrodd y camgymeriadau a wnaethpwyd yn Lloegr, ac nid wyf yn barod i wneud hynny.
Felly, yn olaf, rydym yn sicr yn cymryd safbwynt hirdymor. Wrth gwrs, mae gennym ni gynllun hirdymor yng Nghymru—a elwir yn 'Cymru Iachach'. Mae'n gynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, a bydd cynllunio'n fwy effeithiol yn caniatáu i ni wireddu'r weledigaeth a gyflwynais ger eich bron fwy na blwyddyn yn ôl.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.