Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies. 

Cynulliadau Dinasyddion

1. Pa ddefnydd a wneir o gynulliadau dinasyddion i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru? OAQ54463

Llywydd, bu cynyddu llais dinasyddion yn bolisi yn ystod yr 20 mlynedd o ddatganoli. Cefais gyfarfod unwaith eto yn ddiweddar gyda Dinasyddion Cymru, un o'r cyrff seiliedig ar ddinasyddion mwyaf yng Nghymru. Bydd Extinction Rebellion yn arwain gweithdy ar swyddogaeth cynulliadau dinasyddion yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd yr wythnos nesaf.

Mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n wir, Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog wedi sylwi, dim ond ychydig dros wythnos yn ôl, fy mod i a nifer o gyd-Aelodau Cynulliad wedi noddi digwyddiad yn y Senedd a ddaeth â gweithredwyr ac ymgyrchwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, ac aelodau o'r cyhoedd at ei gilydd, i ganolbwyntio meddyliau a syniadau am yr argyfwng hinsawdd, ond hefyd yr argyfwng bioamrywiaeth sy'n ein hwynebu. A'r wythnos hon eto, heddiw, a dweud y gwir, rydym ni'n gweld protestiadau ar draws y byd, yn annog Llywodraethau i gymryd y camau brys angenrheidiol i ymateb i'r dystiolaeth eglur bod angen i ni fel unigolion, fel cymunedau, fel gwledydd a llywodraethau, ac yn rhyngwladol, wneud mwy, llawer mwy, i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Felly, a fydd ein Llywodraeth Cymru yn gallu parhau i weithio gydag eraill i sefydlu cynulliadau dinasyddion fel ffordd o'n helpu ni, ni wleidyddion, i ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda'r brys sydd wirioneddol ei angen arnom, ac i weithio ar hyn gyda'r gweithredwyr ac ymgyrchwyr newid hinsawdd hynny, yn ogystal, yn hollbwysig, â'r cyhoedd yn ehangach? A, Prif Weinidog, wrth geisio gweithio gydag eraill, gan gynnwys yr ymgyrchwyr, a llawer o bobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu hysbrydoli gan Greta Thunberg, beth yw ei farn ef ar y rhai a fyddai'n cyfeirio at ymgyrchwyr o'r fath fel croengwn newid hinsawdd anghydweithredol sy'n gwisgo modrwyon trwyn, yn eu gwersylloedd sy'n drewi o gywarch?

Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy longyfarch Huw Irranca-Davies a'r Aelodau Cynulliad eraill hynny a gymerodd ran yn y gwaith o drefnu'r digwyddiad y cyfeiriodd ato, ac yn enwedig am ehangder y cyfranogiad a sicrhawyd ganddyn nhw wrth ddod â phobl at ei gilydd yma yn y Cynulliad? Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i weithio gyda'r amrywiaeth eang honno o ddinasyddion y tu hwnt i'r Cynulliad ei hun sydd â diddordeb mor ymroddedig yn y newid yn yr hinsawdd a gwneud yn siŵr ein bod ni, yma yng Nghymru, yn gallu cymryd y camau sy'n dod i'n rhan yn ein hoes er mwyn ymateb iddo.

Bydd cynhadledd newid yn yr hinsawdd yr wythnos nesaf yn gyfle gwirioneddol i wneud hynny. Yn ogystal â'r gweithdai sy'n cael eu cynnal gan Extinction Rebellion, ceir ffrwd benodol ar gyfer pobl ifanc, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i wneud yn siŵr bod y mater hwn yn cael ei gadw yn llygad y cyhoedd, ac sy'n rhan o'r gweithredu y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato sy'n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn ehangach, heddiw.

Dylem groesawu'r ffaith bod cynifer o'n cyd-ddinasyddion mor ymroddedig fel eu bod nhw'n gadael eu cartrefi eu hunain ac yn cymryd rhan yn y gweithredoedd protest hynny, eu bod nhw'n dangos eu hymrwymiad yn y ffordd ymarferol honno. Dylid llongyfarch a pharchu'r bobl hynny, nid eu defnyddio fel targed i'r math o iaith a ddyfynnodd Huw. Edrychwn ymlaen yng Nghymru at barhau i gael perthynas bwrpasol gyda phawb sydd eisiau gwneud cyfraniad at fynd i'r afael â'r brif her honno yn ein hoes, i wneud hynny trwy gynulliadau dinasyddion, ond mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd, gan gynnwys ein Senedd Ieuenctid ein hunain, ac i dynnu pobl at ei gilydd i wneud y gwahaniaeth hwnnw, yn hytrach na cheisio creu rhaniadau ac esgus nad oes gan bobl sydd â gwahanol safbwynt ac sydd eisiau gwneud gwahanol fath o gyfraniad y gwerth yr ydym ni'n gwybod sydd ganddyn nhw.  

Wrth gwrs, yr ateb syml y gallech chi fod wedi ei roi i ran olaf cwestiwn yr Aelod oedd bod angen etholiad cyffredinol arnom ni, Prif Weinidog, ac mae eich plaid chi yn atal hynny rhag digwydd. Ond, o ran y prif gwestiwn o gynulliadau pobl, siawns mai'r hyn y mae angen i ni fod yn edrych arno yw sut y gallwn ni gyd-dynnu â chynghorau cymuned a chynghorau sir yma yng Nghymru, y mae llawer ohonynt wedi pasio cynigion yn cefnogi datgan argyfwng newid hinsawdd, ond sydd wir yn teimlo, weithiau, nad ydyn nhw yn rhan o'r broses, yn enwedig ar lefel cynghorau cymuned a thref. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud gyda chydweithwyr mewn cynghorau tref a chymuned, fel bod y penderfyniadau hyn, pan eu bod yn cael eu pasio, yn cael eu cyfrannu at y rhwydwaith o gyngor a chymorth a roddir i gymunedau ynghylch y newid y gallan nhw ei wneud yn eu cymunedau i chwarae eu rhan i leihau ein hôl troed carbon?

13:35

Wel, Llywydd, gadewch i mi groesawu'r ffaith bod cynifer o brif gynghorau, a chynghorau tref a chymuned, wedi pasio penderfyniadau yma yng Nghymru, yn datgan eu bwriad eu hunain i fod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu. A hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith y mae'r goreuon o blith ein cynghorau tref a chymuned yn ei wneud, ar draws Cymru gyfan. Lle mae gennym ni gynghorau tref a chymuned sydd ag uchelgais, lle maen nhw eisiau gwneud y cyfraniad ychwanegol yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ei wneud, mae gennym ni enghreifftiau llwyddiannus iawn mewn rhannau o Gymru lle mae'r cyfraniadau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Dyna pam y sefydlwyd y grŵp gennym, dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas a Gwenda Thomas, yn gynharach yn ystod y tymor Cynulliad hwn, i wneud yn siŵr bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y goreuon o blith ein cynghorau tref a chymuned yn dod yn fwy nodweddiadol o'r sector yn gyffredinol. O ganlyniad, rydym ni wedi cydweithio'n agos â nhw. Rwyf i fy hun wedi annerch eu cyfarfod cyffredinol ddwywaith yn ystod y tymor Cynulliad hwn, ac mae fy nghyd-Weinidog, Julie James, wedi cyfarfod â'r sector eto yn ddiweddar. Rydym ni eisiau cefnogi'r ymrwymiad y mae cynghorau tref a chymuned a'u haelodau yn ei wneud yng Nghymru, oherwydd mae ganddyn nhw gyfraniad gwirioneddol y gallan nhw ei wneud at yr agendâu datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd. Edrychwn ymlaen at allu gweithio gyda nhw mewn modd cadarnhaol yn y dyfodol.

Does dim amheuaeth, wrth gwrs, fod Extinction Rebellion a'r streicwyr ysgol wedi trawsnewid y naratif o gwmpas yr argyfwng hinsawdd rŷn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. A dwi'n cytuno'n llwyr â chi fod angen llongyfarch a chefnogi'r rheini am eu hymdrechion. Wrth gwrs, mi wnaeth Plaid Cymru osod cynnig fan hyn bythefnos yn ôl yn gwneud hynny yng nghyd-destun y streicwyr ysgol, ac, yn anffodus, mi wnaeth eich plaid chi bleidleisio'n erbyn ein cynnig ni, a'i wella fe i'r graddau fel ei fod e'n rhyw ddatganiad digon tila. Ydych chi'n difaru gwneud hynny erbyn hyn?

Wel, beth roeddem ni'n ei wneud ar lawr y Cynulliad oedd cydnabod y ffaith bod mwy nag un ffordd y mae pobl yn gallu gweithio yn y maes a bod mwy nag un cyfraniad ar gael i'n helpu ni i ddelio â'r argyfwng sy'n ein hwynebu ni. Rŷm ni yn cydnabod y ffaith mai pobl ifanc sydd wedi arwain y llwybr yma—wrth gwrs rŷm ni. Ond mae lot o gyfraniadau eraill y mae pobl yn gallu eu gwneud, a dyna pam roeddem ni'n rhoi'r gwelliannau roeddem ni fel plaid wedi eu rhoi i lawr, a'r gwelliannau yna oedd wedi cael eu cefnogi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwasanaethau Tocynnau Trafnidiaeth Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru? OAQ54477

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella gwasanaethau tocynnau trwy gyfuniad o ddulliau sefydledig a newydd. Bydd dau gant tri deg a chwech o beiriannau tocynnau rheilffordd newydd yn dechrau cael eu gosod mewn gorsafoedd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, bydd ap newydd i deithwyr a thocynnau ar y we yn cael eu rhoi ar gael i deithwyr hefyd.

Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod cwsmer a aeth i brynu tocyn o ap Trafnidiaeth Cymru wedi cael cynnig y pris o £30.05 ar gyfer taith drên drawsffiniol. Yna, gwiriodd y cwsmer hwnnw National Rail, gan ddod o hyd i'r un daith am £22.10. Gallai'r gwahaniaeth hwnnw fwydo ei blant am ddiwrnod neu ddau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau bod teithwyr trên yng Nghymru yn cael cynnig y prisiau tecaf pan eu bod yn teithio?

Wel, mae'r Aelod yn cyfeirio at fater cyffredinol, sef bod tocynnau trên yn ddryslyd, ac mae pobl weithiau'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r fargen orau sydd ar gael. Rydym ni'n cefnogi'r mesurau hynny a gymerwyd i symleiddio strwythurau prisiau. Dyna pam yr ydym ni yma yng Nghymru yn diddymu tocynnau ar gyfer pobl ifanc dan 11 oed, ac y bydd gennym ni docynnau hanner pris i bobl ifanc dan 16 oed ar y rhwydwaith yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni'n gostwng prisiau tocynnau yn y gogledd ac ar reilffyrdd Blaenau'r Cymoedd, a pham yr ydym ni wedi cyflwyno prisiau safonol i bobl dros 50 oed sy'n mynd ar deithiau hwy na 50 milltir. Ond rwy'n hapus iawn i ymchwilio i'r enghraifft benodol y mae'r Aelod yn ei chodi, i weld a oes unrhyw wersi cyffredinol y gellir eu dysgu o hynny. Mae angen tocynnau tryloyw a phrisiau tryloyw arnom ni, fel y gall teithwyr ddod o hyd i'r fargen orau iddyn nhw yn rhwydd.

Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, ysgrifennodd etholwr lythyr a ysgrifennwyd â llaw ataf yn amlinellu ei phrofiad o deithio ar y rheilffyrdd. Mae'r unigolyn penodol hwn yn berson anabl, sydd â phroblemau symudedd, ac sydd â bathodyn glas. Cefais yr argraff fod y person hwn yn berson oedrannus, ac yn sicr nid yw'n teimlo'n gyfforddus, ar wahân i'r problemau symudedd, yn defnyddio peiriant tocynnau mewn gorsaf, gan ei bod wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol a'i gael yn anodd ei ddefnyddio. Amlinellodd i mi yn ei llythyr hefyd nad oes ganddi ffôn—ffôn clyfar—heb sôn am wybod sut i ddefnyddio un. Felly, esboniodd ei hanawsterau i'r casglwr tocynnau pan ddaeth o gwmpas i gasglu arian a gwirio'r tocynnau, a dywedodd nad aeth yr holl ffordd a'i chyhuddo o osgoi talu. Felly, fy mhroblem i, gyda'r wraig benodol hon, yw ei bod hi wedi gorfod talu pris cosb, ac mae'n debyg mai'r cwestiwn yn y fan yma, Prif Weinidog, yw pa gymorth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig i gasglwyr tocynnau o ran sut y maen nhw'n ymateb i bobl sydd ag anableddau a phroblemau symudedd. A sut mae polisi diogelu refeniw Trafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo'r math o broblem yr wyf i newydd ei hamlinellu i chi?

13:40

Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Pan fydd y peiriannau tocynnau rheilffordd newydd yn cael eu gosod ddechrau'r flwyddyn nesaf, byddan nhw'n haws i deithwyr eu defnyddio, a gobeithio y bydd yr etholwr sydd wedi ysgrifennu atoch yn teimlo'n hyderus o ran gallu eu defnyddio. Mae gan gasglwyr tocynnau ar drenau waith anodd i'w wneud. Mae ganddyn nhw ran i'w chwarae o ran sicrhau bod pobl yn talu'r pris y disgwylir iddyn nhw ei dalu, ond byddwn yn sicr yn disgwyl iddyn nhw wneud y swydd honno mewn ffordd sy'n sensitif i amgylchiadau unigolion y maen nhw'n dod i gysylltiad â nhw. Dyna pam yr ydym ni'n cynnal rhaglenni hyfforddi i bobl sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru. Dyna pam mae gennym ni grŵp a sefydlwyd yn benodol i allu adlewyrchu profiadau pobl ag anableddau sy'n defnyddio ein gwasanaethau trên. A byddaf yn gwneud yn siŵr, drwy'r Gweinidog sy'n gyfrifol, ein bod ni'n tynnu sylw Trafnidiaeth Cymru at yr ohebiaeth y mae Russell George wedi ei derbyn fel ei fod yn gallu bod yn rhan o'r ymdrech i ddysgu o hynny ac i sicrhau nad yw digwyddiadau o'r fath yn cael eu hailadrodd.

Prif Weinidog, cyhoeddwyd yn gynharach eleni bod Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi contract gwerth £1.9 miliwn gyda chwmni offer a gwasanaethau gwybodaeth rhyngwladol, Fujitsu, i wella effeithlonrwydd ac, fel y dywedasoch, i uwchraddio peiriannau swyddfeydd tocynnau a setiau llaw symudol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, Prif Weinidog, fel y gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i ymrwymo i uwchraddio o'r fath, mae peiriannau swyddfa docynnau STAR newydd y cwmni rheilffordd yn cynnig y gobaith hwnnw o ddarparu system docynnau effeithlon i bob cwsmer mewn gorsafoedd, gan annog teithiau ar y rheilffyrdd a thynnu ceir oddi ar y ffordd. Felly, Prif Weinidog, gyda'r newyddion ychwanegol am y buddsoddiad hwn mewn mwy na 200 o beiriannau tocynnau newydd yn ogystal â gwerthu tocynnau mewn siopau cyfleustra lleol i wella mynediad, pa ffyrdd ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i sicrhau bod Cymru'n creu gwasanaeth rheilffordd modern, glân ac ystyriol o gwsmeriaid sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i genedlaethau'r dyfodol ac i'r agenda argyfwng hinsawdd?

Wel, diolchaf i Rhianon Passmore am hynna, ac yn sail i'w chwestiwn y mae'r penderfyniad sydd gennym ni ac sydd gan Trafnidiaeth Cymru i'w gwneud mor hawdd â phosibl i deithwyr yn yr amryw o wahanol ffyrdd y mae pobl yn disgwyl gallu cael gafael ar docynnau erbyn hyn i allu gwneud hynny. Boed hynny gyda'r peiriannau tocynnau newydd a gwell, boed hynny, fel y dywedodd Rhianon Passmore, drwy allu prynu tocynnau rheilffordd mewn siopau cyfleustra neu, fel y tybiaf fod llawer o bobl yn y Siambr hon yn ei wneud, drwy allu archebu tocynnau ar-lein, naill ai drwy'r ap newydd neu drwy ffyrdd ar y we. Rydym ni eisiau cael cynifer o ffyrdd â phosibl lle gall pobl ddefnyddio ein gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn effeithlon, yn hawdd ac, felly, fel y dywedodd Rhianon, mynd â cheir oddi ar y ffordd a chael pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau gwell, y gwyddom y byddan nhw ar gael wrth i Trafnidiaeth Cymru gyflwyno'r fasnachfraint y cytunwyd arni ac a fydd yn arwain nid yn unig at ffyrdd gwell o brynu tocynnau, ond gwell gwasanaethau y gellir defnyddio'r tocynnau hynny arnynt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid yn gyntaf, Paul Davies. 

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o lawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo yn GIG Cymru yn y pedair blynedd diwethaf?

Llywydd, nid yw'n archwiliad lle mae'r Aelodau yn credu y gallwn ni ganfod ffigur o 'nunlle. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrtho yw hyn—gan ragweld ei gwestiwn nesaf—mae dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn GIG Cymru yn cael eu canslo gan gleifion.

Wel, gadewch i mi eich helpu chi, Prif Weinidog. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae nifer y llawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo gan fyrddau iechyd Cymru wedi cynyddu gan 7 y cant, ac mae'r nifer anhygoel o 170,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo ers 2015 heb fod unrhyw fai ar gleifion. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgan bod pob munud o lawdriniaeth yn costio £14. Rydym ni'n edrych felly ar ddegau o filiynau o bunnoedd yn cael eu gwastraffu ar lawdriniaethau a ganslwyd, y mae ein GIG Cymru eu hangen yn ddybryd. Nawr, er ei fod o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog, y bwrdd iechyd lle cafwyd y cynnydd mwyaf yn 2015, mewn gwirionedd, oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle bu cynnydd o 31 y cant i lawdriniaethau a ganslwyd. Mae hwnnw'n ddyfarniad damniol arnoch chi a'ch Llywodraeth, gan eich bod chi'n rheoli'r bwrdd iechyd hwnnw'n uniongyrchol. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud yn benodol ynghylch lleihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo, Prif Weinidog?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn cymryd pwnc cymhleth ac yn mynd ati i geisio ei symleiddio y tu hwnt i bob synnwyr. Fel yr wyf i wedi dweud wrtho eisoes, mae dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo gan gleifion eu hunain. Nawr, os yw hwn yn brynhawn pan fo pobl eisiau darllen llythyrau a anfonwyd atynt gan etholwyr, gadewch i mi ddweud wrthych chi am lythyr a anfonwyd ataf i yn ddiweddar gan un o'm hetholwyr a aeth i gael llawdriniaeth cataract yn ysbyty'r Mynydd Bychan, lle'r oedd y llawfeddyg ar gael ac roedd nyrsys ar gael ac roedd y trefniadau gweithredu ar gael i gyflawni pum llawdriniaeth cataract y bore hwnnw, a daeth dau o gleifion i'r ysbyty. Ac ysgrifennwyd hynny ataf i yn gofyn pa gamau y gellir eu cymryd i rannu'r cyfrifoldeb.

Felly, y syniad y tu ôl i gwestiwn yr Aelod oedd yr ymdeimlad hwn mai'r gwasanaeth iechyd ei hun, rywsut, sy'n gyfrifol am yr holl lawdriniaethau hynny a ganslwyd. Fel y dywedais, caiff eu hanner eu canslo gan gleifion. Mae'r grŵp mwyaf nesaf sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo am resymau clinigol, oherwydd pan fydd pobl yn cyflwyno eu hunain ar gyfer llawdriniaeth, yr asesiad a wneir gan glinigwyr yw nad ydyn nhw yn ddigon iach ar y diwrnod hwnnw i gael y llawdriniaethau hynny. Mae'r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth nag y mae'r Aelod yn ei awgrymu, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol, efallai, yn ogystal â dyfynnu nifer y llawdriniaethau a ganslwyd sydd wedi cynyddu, pe byddai wedi dyfynnu nifer y llawdriniaethau ychwanegol a gyflawnir yn GIG Cymru hefyd, oherwydd byddai wedi canfod bod y nifer honno wedi cynyddu ar yr un pryd.

Prif Weinidog, mae'r ffigurau hyn yn cyfeirio at resymau anghlinigol. Dyna pam maen nhw wedi cael eu canslo, Prif Weinidog. Mae angen i chi gael eich ffeithiau'n gywir. Gallwch ei gam-gynrychioli’r sefyllfa gymaint ag y mynnwch, oherwydd, yn amlwg, rydych chi a'ch Llywodraeth yn methu â rhedeg y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, rydych chi'n methu â rhedeg byrddau iechyd y gogledd, a hyd yn oed y bore yma, roedd yn destun pryder clywed bod eich Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd cael gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf allan o fesurau arbennig hefyd. Ac rwy'n gobeithio nad yw hyn yn achos arall fel Betsi Cadwaladr sydd ar ddod, lle mae eich Gweinidog yn caniatáu i fwrdd iechyd arall weithredu mewn trafferthion am flynyddoedd, gan siomi'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu.

Nawr, o ran y llawdriniaethau a ganslwyd, Prif Weinidog, mae Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, yn credu bod gan GIG Cymru, ac rwy'n dyfynnu,

gapasiti annigonol i ymdopi â'r galw presennol...Tan-ariannu parhaus, bylchau rota mawr a dim digon o staff i ddarparu gofal digonol.

Ei eiriau ef yw'r rhain. A gallaf glywed y Gweinidog iechyd yn mwmian o safle eisteddog. Dyna ei eiriau. Mae'n mynd ymlaen i ddweud mai cost ddynol hyn yw cynnydd mewn

gorbryder a gofid...i gleifion a'u teuluoedd

ac i

staff GIG Cymru sy'n gwneud eu gorau i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei ddweud wrth Dr Banfield a'i gydweithwyr a beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i ddarparu GIG Cymru sy'n addas ar gyfer pobl Cymru?

Wel, yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrtho ef a'i gyd-Aelodau yw pan ddaw'r etholiad cyffredinol y mae ei ragflaenydd yn cyfeirio ato, y cyngor gorau iddyn nhw yw pleidleisio dros y Blaid Lafur, oherwydd wedyn gellir mynd i'r afael â'r argyfwng ariannu sy'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ganlyniad uniongyrchol i'w blaid ef a phopeth y maen nhw wedi ei wneud yn ystod 10 mlynedd o gyni cyllidol—gyda llaw, mae hynny cyn iddyn nhw fwrw ati gyda Brexit 'heb gytundeb' a chreu twll enfawr arall yn y cyllid cenedlaethol—yna gellir mynd i'r afael yn briodol â'r anawsterau ariannu y mae ef wedi cyfeirio atynt. Ar yr un pryd, bydd fy nghyngor iddyn nhw bleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol hwnnw hefyd yn helpu i ymdrin â'r mater sydd yr un cyfrannwr mwyaf at ganslo llawdriniaethau ar hyn o bryd, sef yr anawsterau pensiwn y mae ei Lywodraeth ef wedi eu creu sy'n golygu nad yw meddygon ymgynghorol ledled Cymru yn gallu llenwi rotas mwyach er mwyn cyflawni llawdriniaethau, yn uniongyrchol, Llywydd—yn uniongyrchol o ganlyniad i bolisïau a gyflwynwyd gan ei blaid ef, ac mae'n cael yr effaith honno.

13:50

Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diweddaru'r drefn tariffs dros dro, fydd yn effeithio ar gerbydau, nwyddau bioethanol a dillad os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ond does yna ddim sicrwydd i ffermwyr. Felly, rydyn ni'n wynebu sefyllfa lle gallai ffermwyr gael eu prisio allan o farchnadoedd tramor, ac rydyn ni'n gwybod beth allai effaith hynny fod ar ffermydd a chymunedau gwledig. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad hwnnw, a wnewch chi bwyso o'r newydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu hanghofio a'u taflu ar y domen yn sgil Brexit dinistriol?

Diolch am y cwestiwn yna. Dwi wedi gweld y diweddariad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bore yma. Dwi ddim wedi cael cyfle eto i ystyried yr effaith bydd hwnna'n ei gael yng Nghymru ym maes biodiesel yn enwedig. Rŷn ni wedi siarad o'r blaen gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am yr effaith bydd yr awgrymiadau gwreiddiol yn mynd i'w cael yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, siaradais i gyda'r Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, pan oedd e yma yng Nghaerdydd, nôl yn yr haf, am yr effaith ar gefn gwlad yma yng Nghymru o gwympo mas o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, a doedd dim lot o atebion gyda fe. Doedd dim lot o fanylion tu ôl i'r atebion oedd gyda fe i roi hyder i fi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi meddwl yn fanwl am effaith y llwybr maen nhw eisiau mynd i lawr ar ffermwyr yma yng Nghymru. Ar ôl hynny, yn bron pob cyfarfod rŷn ni wedi cael gyda nhw, rŷn ni'n codi'r pynciau mae Rhun ap Iorwerth wedi eu codi'r prynhawn yma—rŷn ni'n dal i wneud hynny.

Dwi'n falch bod yna gonsensws rhyngom ni ar y mater yma, ond dwi rŵan am apelio am ail-greu'r consensws fu rhyngom ni ar enw y sefydliad yma. Yn y gorffennol, mi ddywedoch chi y byddech chi'n ffafrio'r enw 'Senedd', ac roeddwn i'n falch iawn o glywed hynny. Gaf i ofyn pam wnaethoch chi benderfynu torri'r consensws hwnnw drwy ddweud rŵan eich bod chi am gael gwared ar yr enw uniaith Gymraeg 'Senedd', enw sydd wedi ennill ei blwyf, wrth gwrs, yn eang iawn yn barod, ac yn hytrach eich bod chi rŵan am gefnogi gwelliant i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i'w alw yn 'Senedd Cymru/Welsh Parliament', fel enw swyddogol? Mae hwn yn fater sy'n mynd tu hwnt i linellau pleidiau—dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David a Mike Hedges am gydgyflwyno gwelliant gen i i'w drafod yfory—ond gaf i apelio arnoch chi, ar yr unfed awr ar ddeg, i ddangos hyder yng ngallu pobl Cymru, o ba bynnag iaith, i berchnogi un enw sy'n perthyn i bawb ohonom ni?

Wel, Llywydd, fel dwi wedi ei ddweud yn barod, dwi'n defnyddio'r term 'Senedd' bob tro dwi'n cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol, a dwi'n meddwl, ledled Cymru, taw dyna beth fydd yr enw, a bydd pob un o bobl Cymru yn cyfeirio at le ŷn ni'n gweithio yn y ffordd yna. Ond rhywbeth i Aelodau'r Cynulliad yw e i benderfynu ar y cwestiwn yna, ac mae mwy nag un farn yn y Siambr hon. Bydd cyfle yfory i glywed gan bobl sydd eisiau ein perswadio ni i gefnogi un enw neu'r llall, a dwi'n edrych ymlaen at y ddadl.

Os mai mater i'r Aelodau ydyw, a allwch chi gadarnhau i ni y byddwch chi'n caniatáu i'ch Gweinidogion gael pleidlais rydd ar y mater hwn hefyd? Yn sicr, nid oes unrhyw rwystr cyfreithiol i'w alw'n 'Senedd' yn unig, ac wrth esbonio ei reswm am ei welliannau i gael gwared ar yr enw Cymraeg yn unig, dywedodd eich rhagflaenydd, Carwyn Jones, yn The Guardian ychydig ddiwrnodau yn ôl, bod hynny oherwydd y byddai'n achosi dryswch. Ond pwy sydd wedi drysu? Y rhai sydd wedi galw'r lle hwn yn Senedd ers talwm, sy'n cael eu hysbysu y dylid dadwneud hynny—ac, wrth gwrs, gallwn ddal i'w alw'n Welsh Parliament os ydym ni'n dymuno—rwy'n siŵr y byddwn i ar adegau hefyd—ond rydym ni'n sôn am yr enw swyddogol. Ai'r rhai nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg a fyddai'n drysu oherwydd nad ydyn nhw'n gallu deall pam mae Llywodraeth Cymru yn credu na allan nhw ymdopi, rywsut, â'r gair 'Senedd'.

Rwy'n mawr obeithio ein bod ni i gyd wir o ddifrif am greu Cymru ddwyieithog, ond nid yw hynny'n golygu rhannu pobl yn siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg. Dyma yr ydych chi'n galw eich Senedd os ydych chi'n siarad Cymraeg; dyma yr ydych chi'n galw eich Senedd os nad ydych. Gadewch i ni fod yn hyderus ynom ein hunain, gan uno'r genedl y tu ôl i'r enw sy'n perthyn i bawb waeth beth fo'u hiaith, gan adlewyrchu ein treftadaeth a dyfodiad math newydd o ddemocratiaeth. Ein Senedd ni yw hon, enw unigryw i Senedd unigryw.

13:55

Llywydd, fy mhrofiad i o fynd allan a siarad â phobl dros yr haf ac ers hynny, gan gynnwys plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, yw bod y term 'Senedd' eisoes yn boblogaidd, a dyna mae pobl yn ei ddefnyddio yn ymarferol. Dyna rwyf i'n ei ddefnyddio ac yn bwriadu parhau ei ddefnyddio. Efallai fod y term y mae pobl yn credu y byddai'n cael ei adlewyrchu orau mewn Deddf gan y Cynulliad hwn yn wahanol i hynny, fel y mae yn Iwerddon, fel y gwyddoch. Y Dáil yw'r hyn y mae pobl yn galw'r Senedd yn y Weriniaeth; yn y Ddeddf Seneddol a'i sefydlodd, cyfeirir ato fel rhywbeth mwy helaeth. Bydd cyfle yfory i bobl glywed y ddadl. Ceir safbwyntiau sy'n haeddu cael eu parchu ar bob ochr i'r Siambr hon, ac nid oes gan neb, dim un unigolyn na'r un blaid, fonopoli ar ddadleuon ar y mater hwn. Dyna pam y byddwn yn ei drafod yn y fan yma, ond bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar y cyd—dyna natur bod mewn Llywodraeth. Bydd Aelodau Llafur nad ydyn nhw yn aelodau o'r Llywodraeth yn gallu pleidleisio fel y maen nhw'n cael eu perswadio gan y dadleuon, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed y dadleuon hynny pan ddaw'r amser brynhawn yfory.

Diolch, Llywydd. Roedd fy nhad-cu yn aelod ohono—rwy'n credu mai'r Dáil yw ei enw. Llywydd, fe wnaethoch chi weithio'n galed iawn i geisio cael fersiwn o'r Bil yr ydym ni'n ei drafod yfory sydd mor agos at gonsensws ag y gallem ni ei gael, ac ni wnaethoch chi weithio'n ddim caletach, yn fy marn i, nag ar enwi ein sefydliad. Nawr, tybed, Prif Weinidog, a ydych chi'n cofio bod cam yn y broses lle mai'r bwriad oedd cael yn y fersiwn Gymraeg, 'y Senedd' neu 'Senedd Cymru', ac yna yn y fersiwn Saesneg, 'Welsh Parliament', ac awgrymwyd mai dyna oedd y dewis gorau i sicrhau'r agosaf at gonsensws. Ac eto, newidiodd hynny wedyn, a newidiodd, rwy'n clywed, yn dilyn sylwadau o'r tu mewn i'r grŵp Llafur a chan un ffigur uwch yn arbennig. Rydych chi'n dweud wrthym ni nawr mai dewis i'r Aelodau ydyw, ond onid yw'n wir bod y Bil sydd gennym ni ger ein bron ar y ffurf y mae ef o ran yr enw oherwydd y sylwadau a wnaed gennych chi, yn awgrymu y byddai hynny'n ennyn consensws, ac oherwydd hynny y mae gennym ni fersiwn o'r Bil y bydd angen i ni ei wella yfory.

Wel, nid wyf i'n adnabod y fersiwn honno o hanes, yn sicr. Nid Bil Llywodraeth yw ef, Bil i Aelodau'r Cynulliad yw ef. Rwy'n credu'n llwyr mai lle'r Aelodau yma yw cyflwyno eu dadleuon, i geisio perswadio ei gilydd. Bydd llawer o wahanol safbwyntiau, ac yna byddwn yn penderfynu arno yn y ffordd ddemocrataidd. Nid y Llywodraeth fu noddwr nag ysbrydoliaeth y Bil hwn, ac ni ddylem ni fod ychwaith.

Rwy'n gwybod nad y Llywodraeth yw'r noddwr, ond chi, Prif Weinidog, fel Aelod unigol, oedd yn gyfrifol am y sylwadau a wnaethoch chi, a dyna pam y gofynnais onid oedd hi'n wir bod gennym ni'r fersiwn a gyflwynwyd gan y Llywydd oherwydd y sylwadau hynny, ac oherwydd pa mor gryf a grymus y gwnaethoch chi gynnig y byddai cael 'Senedd' ar sail uniaith yn ennyn consensws pan ei bod hi'n amlwg nad yw hynny'n wir.

Nawr, mae agwedd arall ar y Bil hwnnw yr ydych chi'n ceisio ei newid erbyn hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio o blaid y gwelliannau sydd wedi eu nodi yn fy enw i ac enw eich rhagflaenydd, yn ymwneud â hawliau gwladolion tramor i bleidleisio. Nawr, rwy'n cofio yng nghynhadledd y Blaid Lafur y pasiwyd cynnig tua'r diwedd a ddywedodd nid yn unig bod Llafur eisiau cadw'r rhyddid i symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ond bod Llafur eisiau ymestyn rhyddid i symud i'r byd i gyd, a rhoi hawliau ar unwaith i bobl bleidleisio, waeth beth fo'u cenedligrwydd. Ac wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, rydym ni'n gweld Llywodraeth Cymru yn dod i geisio diwygio'r Bil hwn, nad yw'n Fil Llywodraeth, i weithredu polisi Corbyn a'r Blaid Lafur. Nawr, os yw'r sefyllfa fel yr ydych chi a'ch plaid yn dymuno, o godi cyfyngiadau mewnfudo ac ymestyn rhyddid i symud yn fyd-eang, a ydych chi wedi gwneud amcangyfrif o faint o bobl a fyddai dan sylw pe byddem ni'n ymestyn hawliau pleidleisio i wladolion tramor yn y modd yr ydych chi'n ei gynnig nawr?

14:00

Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn fy nghyhuddo i o gefnogi polisi'r Blaid Lafur, felly rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Edrychaf ymlaen yfory at bleidleisio o blaid caniatáu i'r bobl hynny o rannau eraill o'r byd sydd wedi gwneud eu cartrefi a'u dyfodol yma yng Nghymru i roi'r cyfle iddyn nhw fynegi eu hymrwymiad i'n dyfodol trwy gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd. Dyna'n sicr yw'r peth iawn i ni ei wneud, ac mae'n arbennig y peth iawn i ni ei wneud ar adeg pan fo'r bobl hynny'n teimlo bod eu lle yng Nghymru yn llai diogel nag y bu erioed, lle maen nhw'n cael eu gwneud i deimlo gan eraill nad oes croeso iddyn nhw fod yma, a bydd y blaid hon—ac eraill, gobeithio, ar lawr y Cynulliad hwn—yn benderfynol o anfon y neges sy'n llwyr i'r gwrthwyneb. Mae gan y bobl hynny gyfran yn ein dyfodol ac yn eu dyfodol nhw, maen nhw'n byw yn ein cymunedau, mae ganddyn nhw hawl i gymryd rhan, ac mae ganddyn nhw hawl i gymryd rhan yn ddemocrataidd hefyd.

Uwch-swyddogion Llywodraeth Leol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ddisgyblu ar gyfer uwch-swyddogion mewn llywodraeth leol? OAQ54487

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwyf i wedi bod yn eglur erioed, ar ôl i'r broses ddisgyblu yng Nghyngor Caerffili ddod i ben, y dylid adolygu'r rheoliadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2006, a'u gweithrediad, ar sail Cymru gyfan. Nid yw'r system bresennol wedi gweithio ac mae angen ei diwygio.

Enw drwg, anonest a dylai fod wedi cael ei ddiswyddo amser maith yn ôl—dyna farn trigolion Caerffili ar Anthony O'Sullivan, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd mewn anfri ac wedi ei ddiswyddo o'r diwedd. Cafodd ei ddiswyddo yr wythnos diwethaf ar ôl i'r Cyngor cyfan ei gael yn euog o gamymddwyn difrifol. Codwyd pryderon am y ffordd y cafodd ei benodi gan yr awdurdod a arweiniwyd gan Blaid Cymru ar y pryd yn ôl yn 2014, pryd na hysbysebwyd y swydd i gystadleuaeth allanol. Newidiwyd y rheol honno yn 2014 gan Lywodraeth Lafur Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi ei ymrwymiad heddiw y bydd adolygiad Oldham yn ystyried pob agwedd ar arferion recriwtio a disgyblu uwch swyddogion, a sicrhau na ellir ailadrodd y dioddefaint a achoswyd i fwrdeistref sirol Caerffili yn ystod y saith mlynedd diwethaf?

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylw parhaus i'r mater hwn? Un o'r cwestiynau cyntaf a atebais ar lawr y Cynulliad fel y Gweinidog llywodraeth leol ar y pryd oedd cwestiwn gan Hefin David yn gofyn i'r prosesau sydd wedi rheoli digwyddiadau yng nghyngor Caerffili gael eu hadolygu, a rhoddais addewid iddo bryd hynny, ar ôl i'r broses ddod i ben, y byddai adolygiad o'r fath yn cael ei sefydlu. A bydd yr Aelodau wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Julie James ddoe, yn nodi telerau'r adolygiad hwnnw, a'r amserlenni cyflym yr ydym ni'n disgwyl iddo adrodd yn unol â nhw.

Yn y cyfamser, fel y mae Hefin David wedi ei ddweud, mae'n ofynnol erbyn hyn i brif gynghorau hysbysebu swydd prif swyddog yn gyhoeddus pan fo'r cyflog yn £100,000 neu fwy y flwyddyn, a dyna'n sicr y ffordd y dylai'r swyddi pwysig iawn hynny gael eu gwneud yn hysbys i'r cyhoedd, ac y dylid cystadlu amdanyn nhw ar sail y detholiad gorau posibl o ymgeiswyr. Edrychaf ymlaen at y gwaith y bydd Peter Oldham CF yn ei wneud nawr. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl broses y cytunwyd arni'n flaenorol ar lawr y Cynulliad hwn yn cael ei hadolygu'n drwyadl. Rwyf i eisiau iddo edrych ar y ffordd y mae'r rheolau hynny wedi cael eu gweithredu ar lawr gwlad, rhag ofn bod diffygion gweithredu yn ogystal ag unrhyw anawsterau yn y llyfr rheolau ei hun. Ac edrychaf ymlaen at allu dod yn ôl i'r Cynulliad mor gyflym ag y gallwn, er mwyn sicrhau na fydd y digwyddiadau a welwyd yng Nghaerffili yn cael eu hailadrodd mewn mannau eraill.

14:05

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl annerbyniol i bawb dan sylw y gall prif weithredwr awdurdod lleol gael ei wahardd dros dro ar gyflog llawn am fwy na chwe blynedd. Rwy'n deall mai achos cyn brif weithredwr cyngor Caerffili yw'r achos disgyblu mwyaf hirhoedlog o'i fath yn hanes llywodraeth leol. Amcangyfrifir ei fod wedi costio mwy na £4 miliwn i'r cyngor eisoes, a allai mewn gwirionedd leddfu'r holl ddigartrefedd yng Nghymru—yr ydym ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd, wyddoch chi. A'r £4 miliwn hwn—. Dywedir bod Mr O'Sullivan yn mynd â'i achos i dribiwnlys cyflogaeth nawr. Rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod—rydych chi eisoes wedi nodi—bod angen adolygu a diwygio'r system. Dywedasoch hynny'n gynharach ar y teledu. A allwch chi ddweud pryd y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gychwyn a faint o amser yr ydych chi'n disgwyl i'r broses hon ei gymryd, os gwelwch yn dda? Oherwydd ni ellir caniatáu i'r sefyllfa hon godi eto yn y dyfodol, am gost enfawr i bwrs y wlad ac i fywyd ac enw da yr unigolyn dan sylw yn yr achos hwn.

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe gan Julie James, mae Peter Oldham CF wedi ei benodi erbyn hyn i gynnal adolygiad cyflym o'r trefniadau presennol. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Gobeithiwn y bydd hwnnw'n adrodd yn gynnar yn y flwyddyn newydd, felly mae'n adolygiad gwirioneddol gyflym, ac wedyn byddwn yn adrodd i lawr y Cynulliad Cenedlaethol ar y casgliadau y bydd Mr Oldham yn dod iddynt ac yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r rheoliadau presennol y mae angen i ni eu gwneud er mwyn osgoi'r anawsterau a gafwyd yn ddiweddar yng Nghaerffili.

Rheolau Lobïo Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau lobïo Llywodraeth Cymru? OAQ54503

Llywydd, mae'r rheolau o ran lobïo wedi eu nodi yn nghod y gweinidogion.

Prif Weinidog, fe'ch etholwyd i arwain eich plaid yn honni eich bod yn sosialydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond y gwir plaen amdani yw nad oes unrhyw reolau ar lobïo corfforaethol yng Nghymru, sy'n gwneud ein Senedd yr un sydd wedi ei diogelu leiaf yn y DU ac yn Ewrop, a dweud y gwir. Llafur yw'r blaid sy'n gwrthwynebu'r rheolau hyn. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r sosialydd democrataidd Alexandria Ocasio-Cortez yn gweithio gyda Ted Cruz o bawb i daro bargen ar wahardd deddfwyr rhag lobïo. Mae ymgeisydd arlywyddol yr Unol Daleithiau Bernie Sanders wedi lansio cynllun i ffrwyno lobïo corfforaethol, gan gynnwys sicrhau nad yw cyn-aelodau'r Gyngres nac uwch staffwyr yn gallu lobïo. Ond nid oes rheolau o'r fath yma yng Nghymru, nac, yn wir, cynlluniau. Mae'r cwmnïau lobïo yn llawn o gyn-Aelodau Cynulliad a chynghorwyr arbennig, sy'n sicr o arwain at lygredd. Mae eich Llywodraeth wedi gwrthwynebu cyflwyno cofrestr statudol o lobïwyr hyd yn oed, heb sôn am rywbeth cryfach. A ydych chi'n cydnabod yr angen am reolau lobïo cryfach? Ac a wnewch chi, fel sosialydd hunan-ddisgrifiedig, ymuno â'r hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau trwy gyflwyno rheolau llym ar lobïo corfforaethol?

Llywydd, mae'r materion hyn wedi eu trafod a'u hystyried yn y pwyllgor safonau, pwyllgor yr wyf i'n credu y mae'r Aelod yn gyfarwydd ag ef, ac rwyf i'n fodlon glynu wrth y cyngor y mae'r pwyllgor safonau yn ei roi.

Fel y mae Neil McEvoy wedi dweud, neu ei awgrymu, rwy'n credu os oes un peth yn eglur am lobïo yng Nghymru ar hyn o bryd y peth hwnnw yw bod diffyg eglurder amlwg, sydd wedi achosi rhai o'r problemau dros, wel, yr ychydig fisoedd a blynyddoedd diwethaf. Felly, mae'n eglur, fel y soniasoch, bod adroddiad y pwyllgor safonau—credaf fod fy nghyd-Aelod Paul Davies ar y pwyllgor ar yr adeg yr ymchwiliwyd i hynny—wedi cyflwyno cynigion amrywiol ynghylch sut i egluro materion yng Nghymru. Rwy'n credu bod y syniad o gofrestr lobïwyr wedi ei grybwyll, boed hwnnw'n wirfoddol ai peidio. A allwch chi ddweud wrthyf i, ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw—do, mae hynny wedi ei drafod gan y pwyllgor safonau, ond, yn amlwg, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu ffordd ymlaen drwy hyn—a ydych chi wedi dod i unrhyw gasgliadau o ran pa un a fyddai cofrestr yn un ffordd dda o weithredu yn y dyfodol, ac a ddylai hynny fod yn wirfoddol neu'n orfodol, a sut y byddai'n cael ei reoleiddio, mewn gwirionedd?

14:10

Wel, Llywydd, fel y dywedais, rwy'n credu bod y rhain yn faterion i'r pwyllgor safonau gynghori arnynt, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan ystyriodd y pwyllgor safonau y mater o gofrestr, penderfynodd wneud ymholiadau pellach a rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwnnw. Edrychaf ymlaen at gael unrhyw gyngor y mae'r pwyllgor safonau yn ei ddarparu, gan nad yw'r pethau hyn yn faterion i'r Llywodraeth, maen nhw'n faterion i safonau ymddygiad pob Aelod Cynulliad, a dyna pam mae gennym ni bwyllgor safonau i'n cynghori ni ar y ffordd orau o ddatrys y materion hyn.

Clefyd y Llengfilwyr

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o glefyd y llengfilwyr yn y Barri dros y 12 mis diwethaf? OAQ54496

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau partner yn parhau i ymchwilio i nifer uwch na'r arfer o achosion o glefyd y llengfilwyr yn ardal y Barri. Hyd yma, nid yw ymchwiliadau helaeth wedi gallu cysylltu unrhyw un o'r achosion hyn â ffynhonnell gyffredin.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ceir tua 30 o achosion o glefyd y llengfilwyr yng Nghymru bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ond bu 11 yn y Barri yn ystod y 12 mis diwethaf. Rydych chi yn llygad eich lle nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llwyddo i ddod o hyd i achos hyd yn hyn ac nad yw'n ei ystyried yn argyfwng clefyd y llengfilwyr swyddogol, hyd yn hyn, ond mae'n sicr yn bryder mawr i drigolion. A byddan nhw'n cofio'r marwolaethau anffodus a'r afiechydon difrifol ym 1999 a gafwyd yn yr awdurdod.

Gall aelodau'r cyhoedd, wrth gwrs, wneud llawer o bethau i leihau eu risg—yn y bôn, sicrhau nad yw dŵr llonydd yn cael ei adael mewn tapiau, a draenio tanciau dŵr a phibelli dŵr gardd, a defnyddio golchyddion sgrin masnachol yn eu cerbydau. Oherwydd nid wyf i'n credu bod llawer o bobl yn sylweddoli mai'r rhain yw'r fectorau, yn aml, a'r ffordd y mae'r clefyd yn cael ei drosglwyddo. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i asiantaethau partner, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cynghori cyflogwyr i wirio eu polisïau, oherwydd, yn anffodus, mae'r gweithle wedi bod yn fector hefyd yn y gorffennol. A allwch chi roi unrhyw fanylion penodol i ni am yr hyn sy'n cael ei wneud i godi'r proffil cyhoeddus ac, yn benodol, i sicrhau bod cyflogwyr yn gwneud yr hyn y mae'n ddyletswydd arnyn nhw ei wneud?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at y cyngor y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio arbenigedd ehangach y DU yn y maes hwn, wedi ei roi i ddinasyddion ac i fusnesau yn y Barri. Cyhoeddwyd y datganiad diwethaf i'r wasg yn cynnwys cyngor i aelodau'r cyhoedd ac i fusnesau ym mis Medi. Ers hynny, mae'r tîm rheoli digwyddiadau sydd wedi ei sefydlu wedi parhau i weithredu yn ardal y Barri. Disgwylir iddo gyfarfod nesaf ar 21 Hydref. Bydd yn edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys, er enghraifft, y profion diweddar ar bob un o'r pedwar tŵr oeri dŵr lleol sydd wedi eu cofrestru yn y Barri, na chanfuwyd bod yr un ohonyn nhw yn ffynhonnell o'r bacteria legionella.

Nawr, bydd y tîm rheoli digwyddiadau yn aros ar waith am chwe mis ar ôl y digwyddiad diweddaraf, ac roedd yr unigolyn diweddaraf y nodwyd ei fod yn dioddef o glefyd y llengfilwyr ym mis Awst eleni. Felly, bydd y tîm rheoli digwyddiadau yn aros ar waith hud at fisoedd cynnar y flwyddyn nesaf o leiaf. Bydd yn parhau i weithio gyda busnesau, bydd yn parhau i fynd ar drywydd unrhyw lwybrau ymchwilio newydd a fydd ar gael iddo, a bydd yn parhau i ddarparu cyngor i ddinasyddion lleol ar y camau y gallan nhw eu cymryd o'r math a nododd David Melding: tynnu tapiau a phennau cawod nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio, draenio tanciau dŵr a phibellau dŵr gardd, defnyddio golchyddion sgrin masnachol mewn cerbydau, ac yn y blaen—sydd i gyd yn bethau ymarferol y gall unigolion eu gwneud ac a fydd yn lleihau'r perygl o fwy o achosion o glefyd y llengfilwyr yn y Barri dros y misoedd i ddod.

Y Diwydiant Fferyllol

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol? OAQ54475

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol trwy fuddsoddi mewn gwaith ymchwil, datblygu cynnyrch, hyrwyddo arbenigol a datblygiad proffesiynol. Yn gynharach eleni, er enghraifft, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd becyn ariannu £100,000 newydd ar gyfer hyfforddiant i fferyllwyr. Mae hwn yn ariannu hyfforddiant sgiliau clinigol arbenigol ar gyfer 50 o fferyllwyr newydd ledled Cymru.

Newyddion cadarnhaol iawn yn wir, Prif Weinidog. Ac, fel y byddwch yn gwybod, mae'r diwydiant fferyllol yn y DU yn buddsoddi £4.3 biliwn y flwyddyn mewn ymchwil a datblygu, mwy nag unrhyw sector arall o'r economi, a'r DU sydd â'r prisiau isaf am feddyginiaeth yn Ewrop gyfan o ganlyniad i hynny. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau'r cymorth a'r buddsoddiad hwn ar gyfer y dyfodol, o ystyried y polisi 'Meddyginiaethau i'r Llawer' a lansiwyd yng nghynhadledd ddiweddar y Blaid Lafur yn Brighton—polisi a allai gymryd buddsoddiad y mae mawr ei angen oddi wrth ymchwil a datblygu, a pholisi y mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wedi dweud na fydd yn arwain at fwy o gleifion yn gallu cael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw, y meddyginiaethau y mae rhai eu hangen yn ddybryd?

14:15

Llywydd, mae hanes hir yma yng Nghymru o gefnogi'r diwydiant fferyllol. Gyda'ch caniatâd, hoffwn longyfarch fy hen gyflogwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'r adran fferylliaeth yn dathlu ei chanmlwyddiant yr wythnos hon, gan iddi agor ei drysau ym mis Hydref 1919. Mae'n parhau i gynnal ymchwil a hyfforddiant proffesiynol ym maes fferylliaeth. Mae llawer o ffyrdd newydd—a llawer iawn o alwadau o amgylch y Siambr hon dros flynyddoedd lawer—yr ydym yn cefnogi'r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru. Ond rydym yn gwneud hynny oherwydd bod ein sylw wedi'i hoelio'n gadarn iawn ar fudd y cyhoedd. Mae yna alwad hir—fe'i harweiniwyd gan Dr Julian Tudor-Hart yma yng Nghymru—i Lywodraethau weithredu, fel bod lles y cyhoedd yn cael blaenoriaeth wrth gynhyrchu meddyginiaethau. Er ein bod yn awyddus iawn i weithio gyda'r diwydiant fferyllol i gefnogi'r llu o bethau da y mae'n ei wneud yng Nghymru, ni ddylem droi ein cefnau ar y syniad bod, o bosibl, ffyrdd eraill o fynd ar drywydd lles y cyhoedd yn y maes fferyllol. Fel Llywodraeth, lles y cyhoedd sydd bob amser yn llywio ein camau buddsoddi, wrth gefnogi'r diwydiant ac o ran posibiliadau newydd o wneud hynny yn y dyfodol.

Byddwn yn cytuno bod lles y cyhoedd yn rhan annatod o hyn, a dyna pam, o ran y cyffur ffibrosis systig Orkambi, nad yw Vertex yn cyflwyno cais am y cyffur yn unig, mae'n cyflwyno cynllun helpu cleifion i gael gafael arno ochr yn ochr â hynny, ac wrth gwrs fe wnaeth hynny ganiatáu iddo gael cymeradwyaeth yn yr Alban. Fy nghwestiwn i yw: Pa mor aml y caiff y cynlluniau helpu cleifion i gael gwasanaeth hyn eu hystyried yma yng Nghymru ar y cyd â chais am gyffur, fel y gallwn ni nid yn unig helpu'r diwydiant cyffuriau a'r diwydiant fferyllol— oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n bodoli, ac mae'n rhaid iddyn nhw fodoli, er fy mod yn deall y gallai'r paramedrau newid—ond hefyd o ran sut y gallai'r cleifion elwa? Oherwydd weithiau, rwy'n ddiffuant yn credu ei fod mor uchel o ran pris, bod hynny'n effeithio ar sut y gall y GIG ganiatáu i'r cyffuriau hynny gael eu rhoi ar y farchnad. Felly, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd, os yw'r cyffuriau hyn wir yn newid bywydau pobl, eu bod yn gallu cael gafael arnynt, ond mewn ffordd sy'n foesegol ac sy'n helpu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Cytunaf yn llwyr â'r modd y rhoddodd Bethan Sayed y benbleth ar ddiwedd ei chwestiwn. Llywydd, a gaf i fynegi fy rhwystredigaeth ynghylch gweithredoedd Vertex yma yng Nghymru? Dywedodd y cwmni hwn, ym mis Mehefin eleni, y byddai'n cyflwyno tystiolaeth a chynnig gerbron grŵp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan, ac mae wedi methu â gwneud hynny. Ni allwn weithredu i sicrhau bod y cyffuriau ar gael yng Nghymru os nad yw'r cwmnïau sy'n eu cyflenwi'n fodlon rhoi eu cynnyrch drwy'r broses sydd gennym ni i'w cydnabod. Fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw yn ei wneud ym mis Mehefin. Byddai'n dda gennyf pe bydden nhw'n bwrw ymlaen â hynny. Rydym ni eisiau i gleifion yng Nghymru allu elwa ar feddyginiaethau lle y rhoddwyd ystyriaeth briodol i'r pethau hynny. Mae cynlluniau helpu cleifion i gael gwasanaeth yn aml yn rhan o'r pecyn yr ydym ni'n ei gytuno arno gyda chwmni. Roedd y cwmni'n fodlon ei wneud yn yr Alban, maen nhw wedi dweud eu bod yn fodlon ei wneud yng Nghymru, ac eto mae wedi methu â chymryd y camau a addawyd ganddo. Byddai'n dda gennyf pe bydden nhw'n mynd ati i wneud hynny.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54502

Diolch i'r Aelod. Ar ddiwedd y flwyddyn 2018-19, roedd amseroedd aros 36 wythnos yn y Bwrdd Iechyd wedi gostwng gan 22 y cant yn ystod y flwyddyn, a hwn oedd y ffigur isaf ers mis Ebrill 2014. Mae'r Gweinidog iechyd wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i fyrddau iechyd i barhau â'r cynnydd a wnaed yn ddiweddar ac i wella amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2020. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei gyfran o'r arian hwnnw, wrth gwrs.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n ddefnyddiol iawn deall ein bod wedi gweld gostyngiad—ac rydym ni wedi gweld gostyngiad, yn enwedig o ran cyflyrau sy'n peryglu bywyd. Rwyf i'n cofio adeg pan oedd yr amser aros am lawdriniaeth ar y galon dros 12 mis, a chanser hefyd yn amser hir, ond maen nhw wedi dod i lawr yn sylweddol. Ond wrth i ni weld y gostyngiad mewn amseroedd aros ar gyfer cyflyrau sy'n peryglu bywyd, rydym ni wedi gweld cynnydd yn yr amseroedd aros am gyflyrau eraill sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Rhoddaf ddwy enghraifft i chi. Ysgrifennais at etholwr yn ôl ym mis Chwefror yn holi am sefyllfa'r goden fustl a dywedwyd wrthyf fod rhestr aros o 143 wythnos ar gyfer y cyflwr hwnnw. Ysgrifennais yn ôl eto yr haf gan ddweud, 'Mae'n ddrwg gennyf, rydym ni'n dal i fod heb weld unrhyw gynnydd', ac roedd yr amser aros wedi cynyddu gan 26 wythnos i 169 wythnos. Felly, mewn 26 wythnos o aros, roedd wedi cynyddu gan 26 wythnos. Felly, i bob pwrpas, nid oedd y claf hwnnw wedi symud i unman ar y rhestr aros honno oherwydd y newidiadau. Ac rydym ni'n gweld pethau gyda llawdriniaeth ar y pen-glin. Ac wrth i'r bobl hyn aros am y cyflyrau hyn, efallai nad ydyn nhw'n peryglu bywyd, ond maen nhw'n newid bywyd ac maen nhw'n cael effeithiau cronig ar bobl. Mae'n bosibl y bydd rhywun sy'n aros gyda'i ben-glin yn gorfod aros dwy flynedd ar gyfer pen-glin gwael, ond wrth aros am y pen-glin gwael hwnnw, mae'r pen-glin arall yn mynd o ganlyniad i'r pwysau a roddir arno. Felly, rydym ni'n cynyddu'r heriau i'r bobl hyn ac yn gwaethygu ansawdd eu bywydau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nid yn unig bod y cyflyrau sy'n peryglu bywyd yn cael eu lleihau, ond bod yr amseroedd aros ar gyfer cyflyrau eraill hefyd yn cael eu lleihau?

14:20

Wel, mae'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn dangos y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 10 mlynedd i mewn i gyni, gyda'r ansicrwydd y mae Brexit yn ei roi ar staff hanfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a phan fo trefniadau pensiwn yn golygu bod meddygon ymgynghorol yng Nghymru yn tynnu'n ôl o weithgarwch y bydden nhw fel arall wedi bod yn barod i'w gynnal fel mater o drefn. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i bob claf gael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol a bod gofal rheolaidd i gleifion yn cael ei ddarparu mewn modd amserol, ond ni ddylai unrhyw un yn y fan yma yn y Siambr hon dwyllo ei hun ynghylch y pwysau gwirioneddol y mae ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, yn eu hwynebu a'r heriau y mae hynny'n eu hachosi wrth ddarparu gofal yn y modd amserol yr ydym ni'n dymuno ei weld. Fel y dywedais, Llywydd, llwyddodd Fwrdd Iechyd Bae Abertawe y llynedd, ar draws yr amrywiaeth o bethau y mae'n ei wneud, i leihau amseroedd aros hwy ac mae'r arian ychwanegol y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei ddarparu yn gynharach nag erioed yn y flwyddyn ariannol hon yn rhoi'r cyfle gorau y gallwn ni ei roi iddyn nhw i barhau i leihau'r amseroedd aros hynny ymhellach.

Perfformiad Trafnidiaeth Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Trafnidiaeth Cymru ar berfformiad ei wasanaethau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54468

Diolch i'r Aelod. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Thrafnidiaeth Cymru ar berfformiad gwasanaethau rheilffordd ar draws gwasanaeth Cymru a'r Gororau. Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n cwblhau eu paratoadau ar gyfer misoedd yr hydref a'r gaeaf fel sail i ddibynadwyedd eu gwasanaethau.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn ymwybodol bod 24 y cant o boblogaeth y Canolbarth a'r Gorllewin dros 65 oed a bod pobl hŷn yn arbennig yn dibynnu mwy ar wahanol fathau o gludiant cyhoeddus nag eraill i fynd o le i le. Bydd yn ymwybodol hefyd o lanast y wefan tocynnau bysiau rhatach ar gyfer y cynllun adnewyddu, a dorrodd ar 11 Medi a chymerwyd pythefnos iddi fod yn weithredol eto. A wnaiff ef roi sicrwydd i ni y bydd pawb sydd am adnewyddu tocyn bws yn gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn? Ac o gofio bod gorlenwi ar drenau ac oedi a chanslo i'w weld mor aml ar y newyddion, a all ef ein sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas i'w ddiben mewn gwirionedd?

Diolch i'r Aelod am y cyfle i dawelu meddwl eraill yn y Siambr fod y wefan bellach yn gweithredu'n effeithiol iawn, a hyd at y bore yma, bod 211,000 wedi cofrestru arni, a'i bod yn gweithio yn y ffordd yr oeddem ni wedi ei fwriadu'n wreiddiol. O ran Trafnidiaeth Cymru, bydd yr Aelodau wedi gweld y datganiadau a gyflwynwyd gan y Gweinidog trafnidiaeth ddiwedd yr wythnos diwethaf yn dangos y newidiadau a fydd yn cael eu gwneud ar 15 Rhagfyr. Byddan nhw'n gweld cynnydd o 10 y cant yn nifer y teithwyr y gellir eu cludo ar ein rheilffyrdd. Bydd hynny'n cyd-fynd â'r buddsoddiad o £194 miliwn mewn gorsafoedd ledled Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gostyngiadau mewn prisiau a grybwyllais yn gynharach ar gyfer plant a phobl hŷn. Bydd yn cyd-fynd â gwelliannau sy'n cael eu gwneud, er enghraifft, i brofiad teithwyr, o ran gwybodaeth, ac o ran Wi-Fi. Mae gan Trafnidiaeth Cymru y rhaglen fwyaf uchelgeisiol o welliannau i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a welwyd yn ystod holl gyfnod datganoli. Maen nhw wedi dechrau ar y rhaglen honno. Fel y dywedwyd bob amser, bydd yn para dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae dinasyddion a theithwyr yng Nghymru eisoes yn gweld y manteision.

14:25
Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.

Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyfleusterau cymunedol? OAQ54469

Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cytuno'n ddiweddar ar grantiau'r rhaglenni cyfleusterau cymunedol gwerth £2.72 miliwn i 22 o brosiectau. Mae'r dyfarniadau hyn yn dod â chyfanswm nifer y prosiectau a ariennir gan y rhaglen i 157, sef cyfanswm o £27.3 miliwn sy'n helpu i wella cyfleusterau a gynhelir gan  gymunedau ledled Cymru.

Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad yna. Rwyf i wir yn croesawu cyllid y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yng Nghwm Cynon. Mae wedi helpu rhai prosiectau cwbl ryfeddol i gychwyn. Ond wedi dweud hynny, o fy mhrofiad i o ymwneud â grwpiau cymunedol sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio, mae'r llinellau amser a roddir iddyn nhw yn aml yn aneglur, gall y dyddiadau y maen nhw'n disgwyl i swyddogion ymateb iddyn nhw, neu i'r arian gael ei gadarnhau lithro, ac oherwydd hynny, gall y broses achosi llawer o straen i ymgeiswyr a gall arwain at golli grantiau hanfodol eraill sy'n ddibynnol ar amser. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i broses y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol i weld beth mwy y gellir ei wneud i ddatblygu cynigion mewn modd amserol ac i leihau'r straen ar ymgeiswyr?

Diolch yn fawr i Vikki Howells am ei chwestiwn a hefyd am gydnabod yr hyn y mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi ei gyflawni o ran buddsoddi yn ei hetholaeth hi, Cwm Cynon. Ond mae hefyd yn ddefnyddiol iawn cael yr adborth hwnnw ynglŷn â'r broses ymgeisio. Rwy'n credu mai un o gryfderau'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yw ei bod yn rhaglen dreigl; nid oes dyddiad terfyn penodol. Felly, mae'n golygu y gallwn ni wneud dyfarniadau a phenderfyniadau grant drwy gydol y flwyddyn, ac yn aml, fel y dywedwch, mae'n gweithio mewn partneriaeth â cheisiadau ariannol eraill. Mae gan bob prosiect swyddog achos penodol ac mae'n rhaid iddyn nhw gadw mewn cysylltiad rheolaidd a darparu canolbwynt ar gyfer cyfathrebu. Ond mae'n dda gweld bod y tri phrosiect hynny yng Nghwm Cynon, a gymeradwywyd yn ddiweddar, gan gynnwys Cylch Meithrin Seren Fach—adeilad wedi ei adnewyddu a gwasanaethau wedi eu hehangu—sydd yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned honno.

Gweinidog, rydych chi newydd sôn am dri o'r prosiectau yng Nghwm Cynon. Wnes i ddim deall, ar ddechrau hynna, nifer yr holl brosiectau sydd wedi cael cyllid, felly os gallech chi ailadrodd hynny, byddwn yn ddiolchgar. O fy safbwynt i, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa un a oes unrhyw brosiectau yn Sir Fynwy wedi cael arian ers i'r cynllun fod yn weithredol, a beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod hyn yn cael ei rannu'n gyfartal ledled ardaloedd trefol a gwledig pan ddaw'n fater o gymunedau'n ymgeisio am y cyllid hwn? Ac yn olaf un, sylwaf ar dudalen 13 o ddogfen fyw Llywodraeth Cymru ei bod yn sôn am gaffael a bod yn rhaid darparu tystiolaeth bod prosiectau'n cael eu caffael yn briodol a bod gofal yn cael ei gymryd i sicrhau ei fod yn deg. Rydym yn aml yn sôn am yr angen i sicrhau hynny, neu geisio cael cyfran mor fawr â phosibl o gaffael Cymru ar gyfer ein busnesau ni ein hunain. Tybed a yw hynny wedi'i gynnwys yn y broses ymgeisio o gwbl.

Diolch, Nick Ramsay, am y cwestiwn yna. Rwy'n credu, gan fod rhaglen dreigl o grantiau yn cael ei dyfarnu—gwn fod Sir Fynwy wedi elwa dros y blynyddoedd, ond mae'n dibynnu i raddau helaeth ar geisiadau'n cael eu cyflwyno. Fel y dywedais, mae 22 o brosiectau newydd wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, a 157 ers i'r rhaglen hon ddechrau. Yn sicr, byddaf i'n ysgrifennu atoch am unrhyw brosiectau yn Sir Fynwy sydd wedi'u cyflwyno.FootnoteLink Mae'n wir bod materion sy'n ymwneud â chaffael yn bwysig o ran y grantiau a ddyfernir i'r grwpiau hyn sydd fel arfer yn rhai gwirfoddol sy'n gwneud ceisiadau, ond hefyd bod caffael yn deg ac yn foesegol. Ond hefyd, rydym ni bellach yn edrych yn arbennig ar faterion eraill o ran unrhyw raglenni cyfalaf yr ydym ni'n neilltuo cyllid iddyn nhw; ein bod hefyd yn edrych ar faterion yn nhermau datgarboneiddio, bioamrywiaeth, effeithiau o ran cynlluniau a all, wrth gwrs—. Nawr, mae'n rhaid i'n holl gyllid cyfalaf ei ystyried drwy lens y newid yn yr hinsawdd.

Y Sector Gwirfoddol yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol yn Sir Benfro? OAQ54467

14:30

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r cynghorau gwirfoddol sirol i ddarparu seilwaith cefnogi'r trydydd sector ledled Cymru, ac mae £154,134 o'r arian hwn yn cael ei ddarparu i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Benfro, sy'n helpu i gefnogi'r trydydd sector yn Sir Benfro.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb yna. Cefais y fraint yn ddiweddar o fynd i ddiwrnod agored elusen leol o'r enw HOPE, yn Neyland, yn fy etholaeth i, sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol a chyflyrau niwrolegol eraill. Mae hyfywedd y ganolfan arbennig hon yn dibynnu yn bennaf ar y gefnogaeth a gaiff gan bobl leol, o ran rhoddion, ac o ran cymorth gwirfoddol i gleifion a'u teuluoedd. Dirprwy Weinidog, mae'r ganolfan hon yn achubiaeth i lawer o gleifion lleol sydd â chyflyrau cymhleth, ac o ystyried ei heffaith enfawr yn lleol, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth penodol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i elusennau llai fel hyn i ddiogelu eu cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol?

Wel, diolch, Paul Davies, am y cwestiwn yna. Mae HOPE yn Neyland yn swnio'n brosiect lleol, ysbrydoledig iawn. Nid wyf i'n siŵr a yw wedi'i gyfansoddi fel elusen leol, ond mae'n amlwg yn mynd i fod yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o ffynonellau cyllid. Rwy'n credu bod Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn gynghorau gwirfoddol sirol lleol yr ydym ni'n eu hariannu i helpu'r sefydliadau hynny i gael arian, a hefyd drwy'r awdurdod lleol, ac yn wir mae hyd yn oed cynghorau tref a chymuned hefyd yn cael arian ar gyfer y mathau hyn o brosiectau. Unrhyw beth i'w wneud â chyfalaf, yna, yn amlwg, rwyf eisoes wedi bod yn cyfeirio at y rhaglen cyfleusterau cymunedol o ran cyfleoedd, ond mae'n ymwneud yn fawr â sefydliadau lleol yn cysylltu â, boed hynny'n iechyd, llywodraeth leol. Mae'n bosibl y gallai hwn fod yn fudiad trydydd sector a allai fod yn gymwys ar gyfer y gronfa gofal integredig, felly byddwn yn awgrymu y gellid trafod hynny gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol leol Sir Benfro.

Hawliau Dynol

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl Cymru yn y system cyfiawnder troseddol? OAQ54486

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'i hasiantaethau yn ymgorffori ac yn cynnal yr holl faterion hawliau dynol sy'n gysylltiedig â phobl Cymru o fewn y system cyfiawnder troseddol sydd heb ei datganoli.

Diolch am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddadl am roi'r bleidlais i garcharorion, y gwnes i ei wrthwynebu a chefais fy meirniadu oherwydd hynny. Fy mhwynt i yn y ddadl honno oedd y dylem ni fod yn canolbwyntio ar adsefydlu a chymorth, a bod llawer gormod o gyn-droseddwyr yn cael eu rhyddhau heb dai nac unrhyw fecanwaith cymorth yn unol â'u hanghenion, sydd yn aml yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol cyn-droseddwyr, ac a wnaiff eich Llywodraeth sicrhau y bydd pob cyn-droseddwr yn cael llety, cymorth a lles pan gânt eu rhyddhau, ac nid dim ond bag du sy'n cynnwys ychydig o eiddo pan fyddan nhw'n gadael?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, a byddwn i'n dweud ein bod ni'n falch o dderbyn argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei adroddiad ar hawliau pleidleisio i garcharorion, a byddwn ni'n gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad i alluogi rhai carcharorion o Gymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ond cytunaf yn llwyr bod angen i ni fuddsoddi, a sicrhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn buddsoddi mewn gwasanaethau priodol ar gyfer adsefydlu. Mae hynny'n cynnwys nid yn unig cyflogaeth, ond tai, addysg a gwasanaethau iechyd hefyd. Ac rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar lefel leol, yn enwedig o ran troseddu gan fenywod a'n glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid hefyd. Ond mae'n amlwg yn hollbwysig bod gennym ni adsefydlu, yn enwedig  o ran tai, ac rydym ni'n cydweithio'n agos â'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i sicrhau bod yr adsefydlu a'r tai sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth prawf yn cael eu gweithredu.

Pan nododd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod gan Gymru'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar wedi codi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, maen nhw wedi gostwng gan 16 y cant yn Lloegr, dywedasant fod angen ymchwil i geisio egluro cyfradd carcharu uchel Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi eu datganoli, gan godi cwestiynau am effeithiolrwydd cymharol y gwasanaethau datganoledig hyn, pan, er enghraifft, y dywedodd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth y llynedd nad yw carchardai yng Nghymru, yn wahanol i garchardai Lloegr, yn cynnig systemau integredig ar gyfer triniaeth cyffuriau, a phryd y clywsom ni amser cinio, yn y grŵp trawsbleidiol ar blismona, nad yw panel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau wedi cwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu dyna a ddywedwyd wrthym ni. Pa waith ymchwil y mae Llywodraeth Cymru, neu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gomisiynu, wedi'i gyflawni neu wedi cael gafael arno ers yr adroddiad hwn i fodloni'r galw gan awdur yr adroddiad, fel bod gennym ni well ddealltwriaeth o wir achosion y gyfradd carcharu ormodol hon?

14:35

Mae hi, rwy'n credu, yn bwysig iawn ein bod ni yn ymgysylltu, gan fod gennym ni gyfrifoldebau dros y gwasanaethau datganoledig yn ymwneud â throseddwyr a'r system cyfiawnder troseddol. Wrth gwrs, rwyf i eisoes wedi sôn am bwysigrwydd ein cyfrifoldebau ynglŷn â thai, iechyd a gofal cymdeithasol, a lles, ac wrth gwrs mae camddefnyddio sylweddau yn dod o dan y cyfrifoldebau hynny. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n cadarnhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflawni ar ddisgwyliadau o ran eu cyfrifoldebau, a hefyd o ran cyllido.

Rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn edrych tuag at ailuno'r gwasanaeth prawf, ar 2 Rhagfyr eleni. Mae ailuno'r gwasanaeth prawf yn hanfodol er mwyn i ni weithio gyda'n gilydd mewn ffordd integredig o ran ein gwasanaethau. Preifateiddio'r gwasanaeth prawf oedd un o bolisïau gwaethaf y Llywodraeth Geidwadol, a wnaeth gymaint o niwed. Ond gallwn ni erbyn hyn weld yr ailuno hwn yng Nghymru. Ond byddwn i hefyd yn disgwyl i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflawni argymhellion yr arolygiadau o garchardai. Rydym ni'n gwybod y bu arolygiadau dirybudd o garchardai, yn enwedig yn y Berwyn, yn ddiweddar, a byddem ni'n disgwyl i'r argymhellion hynny gael eu cyflawni o ran gwasanaethau nad ydynt wedi eu datganoli, a byddwn ni'n chwarae ein rhan o ran ein cyfrifoldebau.

Polisïau Cyfiawnder

4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am bolisïau cyfiawnder Llywodraeth Cymru? OAQ54472

Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisïau cyfiawnder a'r system gyfiawnder yng Nghymru, mae cyswllt anorfod rhwng y broses o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder a'r gwasanaethau datganoledig. Mae'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddu ymhlith menywod, a gyhoeddais ym mis Mai, yn amlinellu ein hagwedd benodol at ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n credu, Llywydd, efallai fod yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru, yn anfwriadol, wedi gwneud achos cryfach, dros ddatganoli'r gwasanaethau hyn yn ei gwestiwn cynharach nag y gallai'r gweddill ohonom ni fyth fod wedi'i wneud. Mae'r ffaith bod gennym ni setliad sydd wedi'i dorri yn hyn o beth yn arwain at ddioddefaint dynol, ddydd ar ôl dydd ar ôl dydd, a methiant systemig system wleidyddol a system wasanaeth i ddiwallu anghenion pobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu sydd wedi bod ynddi. Yn y cyd-destun hwnnw, Dirprwy Weinidog—ac rydym ni'n deall y cefndir iddo—a yw'n bosibl i chi ddarparu diweddariad i'r lle hwn ar y modd y cyflenwir y glasbrintiau hynny? Dyluniwyd y glasbrintiau, wrth gwrs, er mwyn dod â'r gwasanaethau hyn at ei gilydd, er mwyn creu ymagwedd fwy cyfannol at bolisi, i sicrhau bod pobl ifanc a menywod, sydd yn dioddef waethaf yn sgîl y methiannau hyn yn rhy aml, yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt er mwyn cael eu hadsefydlu'n llwyddiannus yn ein cymunedau.

Diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna, a diolch hefyd iddo am y gwaith a wnaeth, fel fy rhagflaenydd, yn arwain at gyhoeddi'r ddau lasbrint hynny ar gyfer menywod sy'n troseddu a chyfiawnder ieuenctid. Byddaf i'n falch iawn o ddod â diweddariad i'r Cynulliad hwn o ran y trefniadau llywodraethu cadarn yr ydym ni'n eu datblygu—mae hynny'n fewnol, o ran polisi Llywodraeth Cymru, a'n rhanddeiliaid allanol. Mae gennym ni fwrdd rhaglen trosfwaol erbyn hyn ar gyfer y ddau lasbrint. Cyfarfu hwnnw am y tro cyntaf ar 16 Medi. Mae'n cynnwys uwch swyddogion, nid yn unig o Lywodraeth Cymru—rydym ni'n gweithredu fel Cadeirydd—ond y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Swyddfa Gartref, a hefyd cynrychiolwyr o gomisiynwyr yr heddlu a throseddu. Mae'n amlwg bod angen i ni symud ymlaen â'r glasbrintiau hyn a dangos ein bod yn gallu darparu, yn arbennig, system gyfiawnder ieuenctid sy'n trin plant â thegwch a pharch, a hefyd ateb brys i droseddu ymhlith menywod yng Nghymru. Mae tua 250 o fenywod o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr ar hyn o bryd. Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa honno. Rydym ni eisiau o leiaf un ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru. Rydym ni wedi pwyso am hyn, ac rwyf i wedi bod yn gofyn am ateb ers mis Ebrill gan Weinidogion. Mae gennym ni Weinidog newydd erbyn hyn, a byddwn yn cyfarfod â Robert Buckland yn fuan i drafod hyn ac i bwyso ymhellach.

14:40
Pobl Ifanc yn Gwirfoddoli

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn sir Gaerfyrddin? OAQ54480

Prynhawn da, Angela Burns. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi bod gwirfoddoli yn fynegiant pwysig o ddinasyddiaeth ac yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth. Ac rydym yn annog gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc trwy ein grant cymorth trydydd sector yng Nghymru, sy'n darparu cyllid a chymorth lleol.

Diolch ichi am hynny. A hoffwn i ymddiheuro'n gyflym ichi, oherwydd pan rwyf yn dweud Sir Gaerfyrddin, mewn gwirionedd, mae hyn yn berthnasol drwy Gymru gyfan, fy nghwestiwn i.

Mae angen gwirfoddolwyr arnom ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gwybod bod ein gwirfoddolwyr yn ymroddedig, ond maen nhw'n heneiddio ac mae bwlch gwirioneddol yn datblygu yn y dyfodol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa mor arloesol y gallem ni fod fel cenedl, a tybed pa drafodaethau y gallech eu cael gyda'r Gweinidog Addysg, er enghraifft, yn gyntaf i annog gwirfoddoli yn rhan o raglen yr ysgol. Oherwydd yn fy marn i, mae gennym gyfle gwirioneddol gyda'r cwricwlwm newydd, i geisio cynnwys hynny o bosibl, fel ein bod yn hyfforddi pobl ifanc o oedran cynnar iawn yn yr egwyddor gyfan o helpu eraill, mynd ati i ddod o hyd i bethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw wirfoddoli gyda nhw. Ac yn ail, pa ystyriaeth, os o gwbl, a roddwyd i'r ffaith, os byddwch yn ymgymryd â chynllun gwirfoddoli priodol, y gall hynny fod yn rhyw fath o gredyd tuag at eich cymwysterau, eich arholiadau, eich bagloriaeth, fel system pwyntiau, fel eich bod yn cael eich gwobrwyo a'ch annog i fynd allan i wirfoddoli, felly mae'n eich helpu chi ac mae'n helpu'r sefydliad neu'r bobl yr ydych yn gwirfoddoli iddynt?

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n berthnasol i Gymru gyfan. Mae Sir Gaerfyrddin, wrth gwrs, yn elwa, roeddwn i am ddweud, ar gynlluniau grant ar gyfer gwirfoddoli, ac mae cynlluniau grantiau Cymru mewn gwirionedd yn cefnogi pobl ifanc yn unig. Rwy'n siŵr eich bod wedi cyfarfod â llawer ohonyn nhw yn eich etholaeth chi, oherwydd bod gwirfoddoli, fel y dywedais, yn fynegiant pwysig o ddinasyddiaeth, ac mae'n bosibl yn achrediad ar gyfer pobl ifanc. Polisi gwirfoddoli i bobl o bob oed sydd gennym ni, ond rwy'n sicr yn gwybod bod pobl ifanc sy'n ymgysylltu, nid yn unig trwy fagloriaeth Cymru, ond yn aml drwy wobr Dug Caeredin, yn cael credydau am eu gwobr efydd, arian neu aur. Byddaf yn sicr yn codi hyn gyda'r Gweinidog Addysg o ran y cyfleoedd newydd yn sgil y cwricwlwm newydd. Ond credaf ei fod yn rhywbeth pan fydd pobl ifanc, fel dinasyddion y dyfodol, yn cydnabod bod ganddyn nhw fwy na dim ond rhan i'w chwarae—. Mae llawer ohonyn nhw hefyd yn digwydd bod yn ofalwyr ifanc yn eu teuluoedd eu hunain, ond maen nhw hefyd, yn gynyddol, fe ddywedwn i, yn siarad dros eu cymunedau, yn ymgysylltu â gweithgareddau fel gweithgareddau newid hinsawdd, fforymau ieuenctid, Senedd Ieuenctid Cymru, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod am eu cyfraniadau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad, Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar drefniadau parcio yn ysbytai Cymru? Yn amlwg, rwy'n ymwybodol ac yn cefnogi'n llwyr y fenter parcio am ddim sydd gennym mewn ysbytai ledled Cymru, ond mae hyn yn peri problemau parcio sylweddol ar lawer o'n safleoedd ysbyty, yn enwedig Ysbyty Glan Clwyd, sy'n gwasanaethu llawer o fy etholwyr i.

Mewn ymgais i liniaru rhai o'r problemau hynny, mae'r Bwrdd Iechyd yn y gogledd wedi darparu cyfleuster parcio a theithio sydd wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith cleifion a staff sy'n defnyddio'r trefniadau parcio newydd ar gyfer yr ysbyty hwnnw. Ond bwriedir ei dynnu yn ôl ar ddiwedd y mis hwn, ac rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y pwysau y gall hynny ei achosi, yn enwedig i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ysbyty yn aml oherwydd cyflyrau fel canser a chyflyrau cronig eraill neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Tybed a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad ac a oes unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael i gynnal y cynlluniau parcio a theithio hyn, sydd, fel y dywedais i, yn hynod boblogaidd ymhlith cleifion, yn hynod boblogaidd ymhlith staff ac yn ddefnyddiol iawn o ran lliniaru'r problemau tagfeydd ar safleoedd ein hysbytai.

14:45

Diolch i Darren Millar am godi'r mater. Mae'r Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'r mater yng Nglan Clwyd a'r cyfleuster parcio a theithio yn benodol. Gwn fod yr Aelod lleol, Ann Jones, wedi ei godi gydag ef, ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi cytuno y bydd yn ysgrifennu at yr holl Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.FootnoteLink FootnoteLink

Hoffwn i fynegi fy mhryder mawr ynghylch diogelwch Cwrdiaid yng ngogledd Syria. Er gwaethaf cael eu trechu mewn llawer o frwydrau, yn ogystal ag atal lluoedd y Wladwriaeth Islamaidd rhag gwthio ymlaen, mae'r Cwrdiaid hefyd wedi cael eu gorfodi i encilio. Gwnaeth y Cwrdiaid yr hyn yr oedd lluoedd y gorllewin yn anfodlon ei wneud ar lawr, ac maen nhw wedi talu pris mawr am yr aberth hwnnw. Erbyn hyn maen nhw'n rhedeg y carchardai sy'n dal miloedd o filwyr y Wladwriaeth Islamaidd sydd wedi'u cipio. Y wobr am y fath ddewrder a gwaith diflino: cael Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cefnu arnyn nhw er gwaethaf sicrwydd y bydden nhw'n cael eu hamddiffyn.

Mae Trump wedi rhoi caniatâd i Dwrci lansio ymosodiad milwrol yng ngogledd Syria trwy nodi ei fwriad i dynnu milwyr yr UD o'r rhanbarth. Rydym yn gwybod beth yw bwriad Llywodraeth Twrci. Dro ar ôl tro, y wobr am ddewrder y Cwrdiaid ac ymgyrch gyfiawn dros ymreolaeth, wedi'i hannog yn aml gan y gorllewin, fu dirymu creulon heb ddim cymorth gan y gymuned ryngwladol. Rwy'n ymwybodol iawn nad polisi tramor yw cylch gwaith y Senedd hon—dim eto beth bynnag—ond gall y Llywodraeth hon a dylai'r Llywodraeth hon anfon neges glir i'r Swyddfa Dramor na fydd y brad hwn, a fydd yn costio miloedd o fywydau Cwrdaidd ac yn peryglu bywydau pob un ohonom, yn cael ei oddef. Mae gennym gymuned Gwrdaidd sylweddol sy'n byw yng Nghymru, sy'n weithgar yn eu cymunedau lleol ac sy'n rym er daioni. Hoffai'r bobl Gwrdaidd ac unrhyw un arall yng Nghymru sy'n dymuno polisi tramor teg a thosturiol weld arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn y mater hwn. Felly a wnewch chi gytuno i ddatganiad gan y Llywodraeth ar hyn, yn amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i helpu i amddiffyn y bobl hynny sy'n deulu ac yn ffrindiau i gymuned Cwrdaidd Cymru, sydd ar hyn o bryd wedi eu siomi'n arw?

Diolch i Leanne Wood am godi'r mater difrifol hwn gyda ni'r prynhawn yma. Byddaf yn siarad yn uniongyrchol â'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol i weld beth yw'r ffordd orau o sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gennych y prynhawn yma, ond gwn eu bod yn bryderon y mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn eu rhannu.

Y penwythnos diwethaf, derbyniais i, ynghyd â fy nghydweithiwr Chris Elmore AS, wahoddiad am ddiod gan arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David. Roeddem yn falch iawn o wneud hynny oherwydd cynigiodd e brynu'r rownd gyntaf, sy'n gwbl ddieithr i ni, a dweud y gwir, ond hefyd oherwydd natur arbennig y dafarn yr aethom iddi. Ddwy flynedd yn ôl, cododd grŵp o bentrefwyr yng Nghefn Cribwr, gydag un diwrnod yn unig yn weddill, ddigon o arian i brynu mewn arwerthiant y dafarn olaf yn y pentref—tafarn 150 oed o'r enw The Three Horseshoes. Fe wnaethon nhw lwyddo. Maen nhw wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn ei thynnu'n ôl i'w chragen a'i hadnewyddu'n llwyr a'i throi'n dafarn sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael ei rheoli gan y gymuned. Mae'n hardd, mae'n fendigedig y tu mewn. Mae'n gweini coffi yn ogystal â chwrw, ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond tybed ai dyma'r adeg iawn, bellach, i ofyn am ddadl ar gyfleusterau sy'n eiddo i'r gymuned. Mae cynnydd yn y cyfleusterau hyn ledled Cymru—siopau, caffis, tafarndai—ac yn aml iawn maen nhw'n troi i fod yn ganolbwynt y pentrefi a'r trefi y maen nhw ynddynt. Felly, a gaf i ofyn am y ddadl honno, wrth inni fynd ymlaen? Byddwn i'n sicr yn ei ddathlu fel aelod o'r blaid gydweithredol hefyd, sy'n credu mewn modelau perchnogaeth a rheolaeth cydweithredol hefyd, ac os hoffai'r Gweinidog, y Trefnydd, drafod hyn ymhellach, rwy'n fwy na bodlon gwneud hynny. Byddaf yn hapus i brynu'r rownd gyntaf yn y Three Horseshoes inni allu trafod hyn ymhellach.

Diolch i Huw Irranca-Davies am y gwahoddiad hwnnw ac rwy'n sicr na allaf ddweud 'na' wrtho. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn fawr bwysigrwydd cymunedau'n cymryd yr awenau o ran asedau lleol, felly roeddwn i'n falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gyhoeddi canllaw trosglwyddo asedau cymunedol wedi'i ddiweddaru, sy'n rhoi enghreifftiau pendant i awdurdodau lleol ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn o drosglwyddo asedau cymunedol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'n edrych ar rai o'r peryglon a'r rhwystrau a allai fodoli o ran prosiectau llwyddiannus, ond mae hefyd yn darparu trywydd bron, mewn gwirionedd, o ran sut y gellir troi'r math hwn o beth yn llwyddiant gwirioneddol. A byddwn yn hapus i rannu copi o hwnnw gyda Huw Irranca-Davies, efallai dros y peint hwnnw.

14:50

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar fesurau eraill i amddiffyn anifeiliaid mewn cartrefi, ar ffermydd ac anifeiliaid sy'n byw'n wyllt? Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ymgynghori ar gam i wahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes, gan gyflwyno'r orfodaeth i osod microsglodion ar gathod a gwella lles anifeiliaid byw wrth eu cludo. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ofalus ganlyniadau'r ymgynghoriadau hyn ac yn rhoi unrhyw fesurau a argymhellir ar waith yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safon uchaf o ran lles anifeiliaid? Diolch.

Diolch i Mohammad Asghar am godi hynny, ac mae safonau da o ran lles anifeiliaid yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o angerddol yn ei gylch. Gwn fod hyn yn uchel iawn iawn ar agenda Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig. Yn amlwg, byddwn yn edrych ar ymgynghoriadau Llywodraeth y DU yn y maes hwn i weld beth y gallwn ei ddysgu o'r ymatebion a gyflwynir i hynny. Ond gwn fod gan y Gweinidog ei rhaglen uchelgeisiol ei hun o ran iechyd a lles anifeiliaid a'i bod yn cael ei chynghori gan yr arbenigwyr sy'n rhan o'r grŵp iechyd a lles anifeiliaid ar y pethau mwyaf effeithiol y gallwn ni eu gwneud yng Nghymru yn y maes hwn.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, roedd trigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig yn ardaloedd Margam, Port Talbot a Taibach, wedi bod yn agored i lygredd sŵn mawr ynghyd â chymylau enfawr o lwch du amlwg yn dod o'r ffwrneisi chwyth gan fod angen offer gollwng i ryddhau'r pwysau. Nawr, pan wnaeth Tata ei gyhoeddiad am hyn, fe wnaethon nhw roi'r bai ar gynnyrch dwrlawn yn rhan o'r mewnbwn. Nawr, efallai eu bod nhw'n byw yn eu swyddfeydd yn Tata, ond rwy'n siŵr eu bod nhw'n deall bod llawer o law yn dod i Bort Talbot ac nid yw'n unigryw, ond mae trigolion wedi gorfod dioddef cyfran eithaf mawr o lygredd a llwch niwsans o ganlyniad i rai o'r digwyddiadau diweddar yn Tata. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi ymweld â Tata yn yr haf a thrafod gyda nhw pa waith oedd yn cael ei wneud, ond mae hyn yn cyrraedd pwynt yn awr pan fo angen inni gymryd mwy o gamau i sicrhau eu bod yn ymddwyn fel cymydog rhesymol a chyfrifol, er mwyn sicrhau nad yw trigolion yr ardal yn dioddef oherwydd y llygredd di-alw-amdano a digymell hwn.

Ddoe, cawsom ddatganiad newydd gan y Gweinidog trafnidiaeth, a oedd yn sôn am gyffyrdd 41 a 42 yr M4 a'r lefelau nitrogen deuocsid sydd wedi lleihau o ganlyniad i'r camau gweithredu. Ond os yw pobl sy'n teithio ar y ffordd honno yn edrych tua'r môr, maen nhw'n gweld Tata ac maen nhw'n gweld yr allyriadau sy'n dod o Tata. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r allyriadau o'n diwydiannau diwydiannol ac, yn yr achos hwn, Tata. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa drafodaeth y mae'n ei chael gyda Tata i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto a'u bod yn parhau i weithredu fel cymydog cyfrifol, gan sicrhau bod pobl yn yr ardal honno yn gallu byw yn eu tai, heb gael eu gorchuddio â llwch du wrth fynd allan i'r ardd?

Felly, mae Gweinidog yr amgylchedd wedi bod yma i glywed eich pryderon ar ran eich etholwyr y prynhawn yma, a gwn y byddai'n hapus iawn i gyfarfod â chi yn ystod yr wythnos nesaf i drafod yn fanylach y pryderon a godwyd gennych.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb y neges Dewis Doeth yr wyf i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn ei chlywed. Fel Aelod etholaeth yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod yr uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu yn Singleton wedi ei chau dros dro—rhywfaint o aildrefnu, ond hefyd rhai materion yn ymwneud â staffio. Mewn ymateb i fy nghais rhyddid gwybodaeth diweddar, cadarnhaodd y bwrdd iechyd newydd ei fod wedi gofyn i 430 o feddygon teulu yn ardal y bwrdd iechyd a fydden nhw'n ystyried cyfrannu at y rota gan na all y llond llaw presennol o feddygon teulu ei reoli eu hunain. Dros 400 o feddygon teulu, ac ni chafwyd ateb cadarnhaol gan yr un ohonynt. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o ymchwiliad uniongyrchol gan y Gweinidog i hynny, yn ogystal â datganiad wedi'i ddiweddaru, efallai, ar gyflwr y gwasanaeth ar hyn o bryd ledled Cymru.

Yr ail: a gaf i ofyn i Weinidog yr amgylchedd, yn sgil yr adroddiad am gyflwr natur, a gwaith Llywodraeth Cymru o ran diogelu gwarchodfeydd natur o bwys cenedlaethol sy'n eiddo preifat. Mae gwarchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i yn cael ei rheoli gan yr awdurdod lleol, yn rhinwedd prydles sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr. Mae trigolion a gwirfoddolwyr lleol yn naturiol wedi bod yn pryderu'n fawr am ddyfodol y warchodfa hon sydd o bwys cenedlaethol, gan na fydd y Cyngor yn adnewyddu'r brydles honno. Ni fu ymddiriedolaeth y gorfforaeth sy'n berchen ar y tir yn barod i gyfathrebu a bod yn dryloyw ynglŷn â'i chynigion i sicrhau rheolaeth dda o'r tir hwnnw o fis Ionawr ymlaen ac, o gofio bod cymuned ehangach Cynffig yn fuddiolwr yr ymddiriedolaeth, rwy'n poeni braidd am gyflawni dyletswyddau ymddiriedol. Ond hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os gwelwch yn dda, ynghylch swyddogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfaoedd fel hyn, pan fo'n ymddangos bod y safleoedd hyn sydd o bwys cenedlaethol yn y fantol. Ai dim ond cynghori y maen nhw, er enghraifft? A hoffwn gael cadarnhad o unrhyw bwerau a all fod gan Lywodraeth Cymru, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fel sydd ganddyn nhw o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, i orfodi perchenogion i gadw gwarchodfeydd natur a ddynodir yn swyddogol i safon benodol, neu i ddiogelu hunaniaeth benodol. Diolch.

14:55

Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â'r mater hwnnw ynghylch gwarchodfa natur Cynffig a phwysigrwydd rheoli tir sydd o bwys cenedlaethol, roedd rhai agweddau eithaf manwl ar eich cwestiwn, felly fe wnaf i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ysgrifennu atoch chi i ymateb i'r pryderon penodol hynny.FootnoteLink

Unwaith eto, o ran y mater ynghylch yr uned mân anafiadau yn Singleton, a'ch pryder yn fwy cyffredinol ynghylch darpariaeth gwasanaeth mân anafiadau, a'r arolwg a wnaed o feddygon teulu o ran ceisio cael eu cytundeb i ddod yn rhan o'r rota honno i ddarparu'r gwasanaeth, rwy'n gwybod y bydd gan y Gweinidog Iechyd ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi wedi'i amlinellu y prynhawn yma ac, rwy'n siŵr, bydd yn ymchwilio ymhellach i'r mater.

Trefnydd, yr wythnos diwethaf cafodd cais cynllunio am 111 o dai ar gyrion Rhaglan yn fy etholaeth i, a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru, ei wrthod gan yr arolygydd cynllunio annibynnol, a chefais gopi o'r adroddiad a'r llythyr, yn bennaf ar sail gwrthdaro â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n fy nharo bod y ddeddfwriaeth hon a'r corff cynyddol o ddeddfwriaeth Gymreig yn y maes hwn yn cael effaith gynyddol ar benderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol ledled Cymru, tybed a ydyn nhw'n gwbl gyfarwydd â'r holl agweddau ar gymhlethdod y ddeddfwriaeth honno, gan fy mod i yn sicr wedi cael cyfarwyddyd ynghylch hynny. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol a chynllunio ynglŷn â chyngor sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol ar hyn o bryd er mwyn iddyn nhw gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion fel y ddeddfwriaeth yr wyf i wedi'i chrybwyll, a meysydd eraill—mae'r maes argyfwng hinsawdd hefyd yn cael effaith gynyddol. Mae'n ymddangos i mi y byddai'r awdurdodau'n elwa o gael eglurder ynghylch y fframwaith newydd yr ydym ni ynddo.

Yn ail ac yn gyflym iawn, o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru'r bwriad clodwiw o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag, yn fy ardal i, nid yw'r ddarpariaeth ar gael i helpu i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n credu bod gennym ni un ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae yna gynllun ar gyfer ail, ond mae'n aneglur ble fydd honno. Tybed, o ystyried hynny, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni'r addewid hwn a gwneud yn siŵr y gall awdurdodau lleol yn y de ddarparu'r addysg cyfrwng Cymraeg honno lle mae rhieni a disgyblion ac athrawon yn ei ddymuno.  

Diolch am godi'r materion. O ran y mater cyntaf, y cyd-destun yw ei fod yn gais cynllunio lleol penodol ac, yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ynghylch manylion hynny. Ond byddaf yn archwilio gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol sut yr ydym ni'n sicrhau y gall awdurdodau lleol ac adrannau cynllunio gyrchu'r holl wybodaeth, cyngor ac arbenigedd posib sydd eu hangen arnynt, o ran ymgymryd â'r swyddogaethau sydd ganddynt a'r ystyriaethau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud o ran cynllunio. Byddaf hefyd yn archwilio cyfleoedd i drafod yn fanylach gydag awdurdodau lleol pa un a ydyn nhw wedi canfod unrhyw fylchau o ran cael gafael ar wybodaeth neu arbenigedd y gallwn ni o bosib eu cefnogi nhw gyda hynny wrth iddyn nhw ymgymryd â'r swyddogaethau hynny.

Rwy'n gwybod y bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn awyddus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg cyfrwng Cymraeg i Aelodau, a byddaf yn siarad â hi am y cyfnod mwyaf priodol a hwylus i wneud hynny.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a dwi'n galw'r Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Diolch, Llywydd. Ym mis Ebrill, yn dilyn cyhoeddi adroddiad y colegau brenhinol ynghylch gwasanaethau mamolaeth yn hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ymrwymais i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau am yr ymyriadau yr oeddwn i wedi'u rhoi ar waith i sicrhau gwelliannau cynaliadwy ar unwaith. Yn ogystal â gwasanaethau mamolaeth, roedd hyn yn ymestyn i wella'r trefniadau llywodraethu ansawdd sydd ar waith ar draws y sefydliad cyfan. Yn gynharach heddiw, cyhoeddais y diweddariad chwarterol cyntaf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth a sefydlais ym mis Ebrill. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr sy'n nodi'r gwaith helaeth y mae'r panel wedi'i oruchwylio yn y misoedd diwethaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

15:00

Mae'n galonogol clywed bod y bwrdd iechyd wedi ymgysylltu'n llawn â'r broses hon, mewn ffordd agored, onest a thryloyw, ac wedi cydnabod yn llawn faint yr her sy'n eu hwynebu. Mae hon yn neges gyson yr wyf wedi'i chlywed gan bob plaid, gan gynnwys rheoleiddwyr, am ymgysylltiad y bwrdd iechyd â'r amrywiaeth eang o ymyriadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Fel sefydliad, maen nhw bellach yn dangos eu bod nhw'n benderfynol o ddysgu a gwella. Roeddent yn croesawu'r ffordd gefnogol, a heriol ar adegau, y mae'r panel wedi ymgysylltu â nhw. Mae'n gadarnhaol clywed yn arbennig bod y gwaith o gynnwys a chymell menywod a theuluoedd yn datblygu'n gyflym. Yn yr un modd, mae'r adborth gan ferched am eu profiad yn gwella, gyda phobl yn dweud eu bod yn fodlon iawn yn llawer amlach na pheidio.

Rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn falch o glywed bod tystiolaeth gynnar o welliant yn sgil nifer o'r argymhellion, a bod y sylfeini ar gyfer hyn bellach ar waith, er bod y cynnydd cychwynnol yn arafach nag yr oedd y panel wedi gobeithio amdano. Roedd yn bwysig i'r panel, yn ei ddiweddariad cyntaf, ganolbwyntio'n benodol ar chwilio am dystiolaeth, yn ysgrifenedig a thrwy arsylwi, drwy eu hymweliadau â staff er mwyn cael sicrwydd bod yr 11 argymhelliad 'diogelu' uniongyrchol o adolygiad y colegau brenhinol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer. Hefyd, mae fy swyddogion yn parhau i drafod yn wythnosol gyda'r arweinwyr mamolaeth yn y bwrdd iechyd, gan adolygu set graidd o fetrigau gan gynnwys lefelau staffio, aciwtedd ac unrhyw faterion sy'n ymwneud â risg glinigol i sicrhau diogelwch cleifion a bod menywod yn cael profiad da, a chaiff yr wybodaeth hon ei rhannu â'r panel hefyd.

Felly, heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi strategaeth adolygu clinigol y panel. Un o'r prif gyfrifoldebau a osodais i'r panel oedd llunio a chyflwyno cynllun i adolygu achosion y gorffennol. I ddechrau, bydd hyn yn ymestyn i achosion rhwng mis Ionawr 2016 hyd at ddiwedd Medi 2018, fel y cynigiwyd gan adroddiad y colegau brenhinol. Fodd bynnag, nid dyna fydd diwedd pethau. Mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod eisiau dechrau gyda dalen lân a'u bod yn achub ar bob cyfle i greu'r cyfleoedd gorau ar gyfer dysgu. Felly, maen nhw wedi cytuno ar feini prawf eang, yn ychwanegol at y rhai y mae'n ofynnol eu cyflwyno eisoes i'r systemau adolygu cenedlaethol presennol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu gwybodaeth yn ymwneud â thua 350 o achosion lle'r oedd angen trosglwyddo'r fam neu'r baban o'r uned leol i gael gofal. O'r olwg gyntaf eang hon maen nhw wedi penderfynu, ar draws yr holl feini prawf, y dylai tua 150 o achosion gael eu cwmpasu gan adolygiad amlddisgyblaethol. Mae hyn yn cynnwys y 43 o achosion gwreiddiol a nodwyd gan y bwrdd iechyd. Mae'n bwysig egluro nad yw'r rhain i gyd yn ddigwyddiadau difrifol. Fodd bynnag, mae hyn yn tanlinellu penderfyniad y panel annibynnol i edrych ar ystod gynhwysfawr o achosion fel y gall benderfynu beth sydd wedi mynd yn dda, yn ogystal â phenderfynu pryd na ddigwyddodd hynny o bosib. Mae'n bwysig dysgu o arferion da yn ogystal ag o fethiannau mewn gofal.

Cynhelir adolygiad amlddisgyblaethol annibynnol o bob un o'r achosion hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r colegau brenhinol priodol i ganfod timau ychwanegol i weithio gyda'r panel i ddechrau ar y cam nesaf hwn cyn gynted â phosib. Rwyf eisiau sicrhau pob menyw a phob teulu y cynhelir adolygiad o'r gofal a gawsant, y bydd y panel yn cysylltu â nhw ac y cânt gyfle i gyfrannu at yr adolygiad os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw o bosib. Cânt eu cefnogi i wneud hynny fel bo'r angen. Rwyf hefyd eisiau cadarnhau y gall unrhyw deulu sy'n pryderu am eu gofal gyfeirio eu hunain i'r panel i ofyn am adolygiad. Mae angen i'r broses hon gael ei gwneud yn drylwyr ac yn gadarn, ond bydd yn amlwg yn cymryd peth amser, felly nid wyf yn gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer cwblhau.

Rwy'n benderfynol bod yn rhaid i fenywod a theuluoedd fod wrth wraidd yr holl waith sydd ar y gweill i ddatblygu pob agwedd ar y gwelliannau sydd eu hangen. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am gyfarfod â theuluoedd ddoe er mwyn iddyn nhw allu clywed yn uniongyrchol am y gwaith hyd yma a'r camau nesaf. Er fy mod i eisiau sicrhau'r tryloywder a'r ymgysylltiad mwyaf yn y gwaith, rwyf hefyd yn cydnabod y gall y diweddariadau hyn fod yn dorcalonnus hefyd. Ond rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd pwyslais parhaus ar wella, er mwyn sicrhau y darperir y safonau uchaf o ofal yn y dyfodol, yn cynnig rhywfaint o gysur. Rwyf, fodd bynnag, yn cydnabod y golled a'r torcalon y bydd llawer o deuluoedd wedi'u dioddef, ac am hynny mae'n ddrwg iawn gennyf.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd a heriol i'r staff, ac mae arnaf eisiau diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad parhaus, ddydd ar ôl dydd, i barhau i ddarparu gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal.

Mae'r misoedd diwethaf wedi gofyn am lawer o hunanholi gan y bwrdd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, o'm sgyrsiau gyda'r Cadeirydd, Marcus Longley, a David Jenkins, y gofynnais iddyn nhw ddarparu cefnogaeth a chyngor i'r bwrdd ynglŷn â'i arweinyddiaeth a'i lywodraethiant, fod y bwrdd yn derbyn bod angen gwneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd flaenorol o weithio. Maen nhw wedi sylweddoli'r ffaith nad oedden nhw'n canolbwyntio digon ar ddeall ansawdd gwasanaethau, profiad cleifion nac ymgysylltu â'u staff. Maen nhw'n llawn sylweddoli'r angen i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid.

Mae'r bwrdd yn cydnabod bod angen gwelliant sylweddol o ran y trefniadau sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer rheoli pryderon a digwyddiadau. Mae nifer o ffrydiau gwaith eisoes ar y gweill i wella arweinyddiaeth a diwylliant, yn ogystal â'u trefniadau llywodraethu ansawdd. Mae'n sicr y caiff y camau hyn eu llywio ymhellach gan ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad llywodraethu ansawdd cyd-Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Yn gyffredinol, mae hi'n galondid imi weld bod arwyddion clir o welliant ac, yn bwysig, awydd cryf a'r ewyllys i'w gyflawni. Yn ddiamau, mae taith hir o'n blaenau ac nid ydym ni eto mewn sefyllfa i ystyried unrhyw newid yn statws uwchgyfeirio'r sefydliad. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am eu cyfraniad a'u hasesiad cychwynnol, ac am y cyngor a'r cymorth y mae David Jenkins wedi'u darparu. Rwy'n ffyddiog bod yr ymyriadau a weithredwyd yn profi'n effeithiol. Mae a wnelo hyn i raddau helaeth â'u proffesiynoldeb a'u hymagwedd, ynghyd â'r ymagwedd fyfyriol a fabwysiadwyd gan y bwrdd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud i ddarparu a chynnal y gwelliant parhaus mewn gofal mamolaeth y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.

15:05

Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw a hefyd am y cyfle a roesoch chi i fy aelodau staff i gael sesiwn friffio dechnegol ar yr adroddiad y bore yma. Wrth gwrs, teitl eich datganiad yw 'Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg', ac rwy'n gwerthfawrogi yn y cynnwys ichi ganolbwyntio'n bennaf ar yr adroddiad cynnydd a'r strategaeth adolygu clinigol, ac yn wir byddaf—mae gennyf nifer o gwestiynau i'w gofyn i chi yn ei chylch. Fodd bynnag, rwyf eisiau dweud ar goedd eto ei bod hi'n ddrwg calon gennym ni fod hyn wedi digwydd i'r teuluoedd hyn yn y bwrdd iechyd hwn. Mae'n ddrwg calon gennym ni eu bod wedi gorfod nid yn unig wynebu'r trallod o golli plentyn ond nawr ceisio cywiro'r ymarfer hwnnw. Byddwn yn ceisio eich cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn ni er mwyn sicrhau bod y rhieni hynny'n cael yr atebion ac, yn wir, y cyfiawnder y maen nhw'n eu ceisio. Felly, mae'n rhaid imi ofyn y cwestiwn cyntaf hwn i chi, sef: pa sicrwydd, Gweinidog, allwch chi ei roi bod yr uwch-reolwyr oedd yn rhan o hyn ar y pryd yn cael eu dwyn i gyfrif am y methiannau yn y bwrdd iechyd, yng ngoleuni datganiad clir y panel nad eu swyddogaeth nhw, a hynny'n gwbl briodol, yw canfod pwy sydd ar fai? Mae hynny'n faes ar wahân a byddem yn ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

O ran y strategaeth adolygu clinigol a'r adroddiad cynnydd chwarterol—darllen diddorol iawn. Mae'r diweddariad yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi cytuno ar yr isafswm lefelau staffio dros dro. Gweinidog, a wnewch chi egluro beth yw'r lefelau hynny ac a ydyn nhw'n bodloni unrhyw isafswm lefelau staff cydnabyddedig presennol ar gyfer y gwasanaeth hwn? Rwy'n gwybod ein bod yn aros am gyhoeddiad Birthrate Plus, nad yw'n digwydd tan yn ddiweddarach y mis hwn, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r isafswm lefelau staffio hynny uwchlaw Birthrate Plus, oddeutu'r hyn y rhagwelwch chi y byddai, neu fymryn yn is? A allwch chi daflu unrhyw oleuni ar hynny o gwbl?

Yn yr adroddiad, dywed yr awduron eu bod yn ceisio dilysrwydd annibynnol ynghylch honiadau'r bwrdd bod 30 y cant o'r argymhellion cychwynnol hynny wedi'u gwreiddio'n llawn yn arferion gwaith y bwrdd. Pa mor fodlon ydych chi? Sut allwn ni ymddiried yn y bwrdd iechyd, pan fo'r panel hwn yn gorfod cael y dilysiad annibynnol hwnnw?

Er gwaethaf adborth a geisiwyd o arolygon a sylwadau a gasglwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, mae'r diweddariad yn datgan nad yw'r data sy'n deillio o hyn i gyd wedi ei ddadansoddi'n llawn eto ac nad yw'r themâu a nodwyd yn dylanwadu eto ar welliant, ansawdd a diogelwch y gwasanaethau mamolaeth. Felly, a wnewch chi egluro, Gweinidog, a yw hynny oherwydd diffyg adnoddau wedi'u dyrannu, ynteu a yw'r ystyfnigrwydd diwylliannol cynhenid hwn yn dal i fod yn y bwrdd iechyd?

A wnewch chi roi amserlen i ni ar gyfer pryd y caiff y 150 o achosion a nodwyd eu hadolygu, fel y gall y cleifion fod yn dawel eu meddwl? Fe wnaethoch chi ddweud eich hun fod modd hunan-atgyfeirio i'r panel, a chredaf fod hynny, mewn gwirionedd, yn ffordd hynod gadarnhaol o estyn allan a cheisio ymdrin â sefyllfa anodd iawn. Ond a wnewch chi egluro pa un yw'r 39 hynny hyd yn hyn yn ychwanegol at, neu wedi eu cynnwys yn y 150? Pa adnoddau ychwanegol allwch chi eu neilltuo i sicrhau y caiff yr atgyfeiriadau hyn eu clywed yn brydlon, oherwydd bu cynnydd yn y cwynion, fel yr ydych chi eich hun wedi nodi. Ni fydd pob un ohonyn nhw'n ddifrifol, ond serch hynny, mae'n amlwg bod pryder a gofid o hyd ynghylch yr holl fater yma, felly mae'n amlwg bod angen yr adnoddau ychwanegol hynny arnom ni.

Yn olaf, a gaf i ofyn pa hyfforddiant fydd yna i ailhyfforddi pobl y gallai fod angen yr ailhyfforddi hwnnw arnyn nhw? Yn ystod y briff technegol a gynigiodd eich swyddogion y bore yma, fe wnaethon nhw siarad am y ffaith ei bod hi'n amlwg iawn y gallen nhw weld llanw a thrai o ran arferion a chanlyniadau. Mae'n amlwg iawn pwy, efallai, sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw, sydd angen y gefnogaeth ychwanegol honno. Felly, beth sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod staff penodol ar y rheng flaen wedi cael y cymorth ychwanegol hwnnw y mae ei angen arnyn nhw i wella'r ffordd y maen nhw'n darparu gofal bydwreigiaeth i famau a theuluoedd yn y bwrdd iechyd hwn?

Fy mhwynt olaf yw rhif 11 o'ch datganiad: diwylliant yn y gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn dweud:

mae gwaith yn dal i fynd rhagddo a dyna fydd y sefyllfa debygol am y dyfodol rhagweladwy.

Deallaf hynny'n llwyr. Dywedant:

mae'n afrealistig disgwyl y gellir mynd i'r afael â materion hirsefydlog yn ymwneud â diwylliant, agweddau ac ymddygiad o fewn ychydig fisoedd.

Wrth gwrs na allan nhw. Mae newid diwylliannol yn cymryd amser hir i wreiddio. Fodd bynnag, ni allwn ni aros yn rhy hir. Nid ydym ni eisiau gweld hyn yn llusgo ymlaen ac ymlaen fel problem dragwyddol, fel y gwelsom ni broblemau tragwyddol mewn byrddau iechyd eraill ynglŷn â materion eraill. A wnewch chi roi unrhyw awgrym o amserlen o ran pryd y gallech chi obeithio gweld rhai o'r newidiadau hyn yn cael eu hymgorffori yn niwylliant y bwrdd iechyd hwnnw, ac, wrth gwrs, nid dim ond mewn gwasanaethau mamolaeth ond, fel y dywedodd y panel yn un o'i ddatganiadau tyst i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mae awgrym bod rhywfaint o'r anhwylder hwn, os mynnwch chi, i'w weld mewn meysydd eraill yn y bwrdd iechyd hwn, ac mae angen inni dyrchu i weld ai dim ond mewn gwasanaethau mamolaeth y mae'n broblem neu a yw hyn yn fater systemig. Ac os yw'n fater systemig, yn wir mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Ond rwy'n eich cymeradwyo chi a'ch tîm am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud hyd yn hyn, ond ni allwn ni laesu dwylo ynghylch hyn. 

15:10

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf. Os caiff pethau eu hepgor, yna, yn amlwg, ar ddiwedd hyn, rwy'n gwybod y caf gyfle i fynd i'r pwyllgor, a bydd Aelodau, wrth gwrs, yn rhydd i, ac rwy'n siŵr y gwnant, gysylltu â mi.

Ar y dechrau, ac o ran eich sylw dechreuol, fe hoffwn i siarad am yr ymrwymiad parhaus i deuluoedd y byddwn yn parhau i gadw llygad ar welliannau. Mae llawer o deuluoedd wedi dod ymlaen ers yr adroddiad ac ers i'r gwaith ddechrau, yn enwedig y gwaith ymgysylltu. Mae hynny wedi arwain at gynnydd yn nifer y cwynion, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae her ynghylch y swyddogaeth gwyno, ond, mewn gwirionedd, mae honno'n broses gwyno nad oedd yn gweithredu mor effeithiol ag y dylai, ac mae'r prif weithredwr dros dro wedi cydnabod hynny, o ran un o'ch sylwadau am neilltuo adnoddau ar gyfer cwynion. Ond hoffwn ddiolch eto i bob un o'r teuluoedd hynny sydd nid yn unig eisiau ateb ynghylch yr hyn a aeth o'i le, o bosib, gyda'u gofal, ond sydd hefyd eisiau gweld gwelliant mwy cyffredinol, oherwydd efallai bydd rhai o'r teuluoedd hyn yn cael plant eto, ond mae rhai ohonyn nhw hefyd, mewn ffordd anhunanol iawn, dim ond eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn rhan o wella'r gwasanaeth cyfan fel nad yw teuluoedd eraill yn mynd drwy'r hyn yr aethon nhw drwyddo. Ac mae hynny'n beth eithaf anhunanol i'w wneud a pheth anodd ei wneud, o ystyried y profiadau y mae'n rhaid iddyn nhw fynd trwyddyn nhw eto.

Ynglŷn â'ch sylw am atebolrwydd uwch-reolwyr, ar y dechrau, ac eto heddiw, eglurais ac mae'r panel yn glir nad ei waith ef yw canfod y bobl sy'n gyfrifol, o ran y staff. Yr hyn y maen nhw hefyd yn glir yn ei gylch—ac maen nhw wedi cael cyfarfod ar y cyd â'r ddau reolydd, yr NMC, sef y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a'r GMC, sef y Cyngor Meddygol Cyffredinol—yw, os ydynt yn canfod materion yn yr adolygiadau clinigol a gyflawnir y dylid eu hadrodd i gyrff proffesiynol neu reoleiddiol i'w hymchwilio ymhellach, yna byddant yn gwneud hynny. Ond nid eu gwaith nhw yw mynd i chwilio am hynny. Ond, wrth iddyn nhw graffu ar yr adolygiadau, os deuant o hyd i dystiolaeth o hynny, byddan nhw'n atgyfeirio fel sy'n angenrheidiol. Yn amlwg, os bydd hynny'n digwydd, byddan nhw'n adrodd yn ôl i'r cyhoedd ynghylch pa atgyfeiriadau sydd wedi neu heb eu gwneud o ran y niferoedd.

O ran eich sylw ynglŷn â lefelau staff, o ran yr isafswm lefelau staff, maen nhw'n gweithio tuag at wneud hynny. Oherwydd bod meddygon wedi eu recriwtio i'r uned. Mae rhai pobl wedi gadael. O ran yr arweinyddiaeth, mae cyfarwyddwr meddygol newydd, sydd yn ei swydd ers tua deufis. Mae cyfarwyddwr clinigol newydd yn y gwasanaeth, sydd yn y swydd ers llai na mis. Ac, o ran niferoedd y bydwragedd, alla i ddim rhoi syniad i chi, oherwydd fy mod yn credu nad dyna fyddai'r peth cywir i'w wneud nes cwblhau'r asesiad Birthrate Plus. Bydd hynny'n rhoi dealltwriaeth briodol inni o'r modd y caiff yr uned ei staffio.

Nawr, mae'r bwrdd iechyd—. Rhan o'r her yn y gorffennol oedd—. Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn datgan eu parodrwydd i fynd ati i recriwtio i'r holl swyddi gwag. Maen nhw'n glir iawn am wneud hynny nawr. Maen nhw wedi gwneud yn well o ran recriwtio'n gynnar. Felly, yn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gennym ni asesiad Birthrate Plus, a byddaf yn sicrhau bod canlyniad hwnnw ar gael i Aelodau yn gyffredinol. Felly, yn hytrach na fy mod i'n dweud rhywbeth byrbwyll heddiw, rwy'n credu, os arhoswch chi ychydig wythnosau, yna bydd gan bawb rywbeth y gallan nhw ddibynnu arno o ran y ffigurau.

O ran yr 11 argymhelliad 'diogelu' a wnaed yn adolygiad y colegau brenhinol, mae wyth o'r 11 wedi cyrraedd y cam pan fo'r panel annibynnol yn dweud eu bod wedi'u cyflawni; mae tri yn dal i fod yn waith sydd ar y gweill. Maen nhw, i raddau helaeth, yn ymwneud â staffio ac â'r gallu i ymgorffori newid. Felly, maen nhw'n cydnabod, ym mhob un o'r meysydd hynny, bod cynnydd wedi'i wneud, ond maen arnyn nhw eisiau'r sicrwydd y gwnaed y cynnydd hwnnw dros gyfnod hwy o amser cyn iddyn nhw ddweud eu bod wedi cael eu cyflawni, ac rwy'n credu mai dyna'r ymagwedd gywir i'w choleddu.

Dof yn ôl at un o'r rheini yn benodol sy'n ymwneud ag un arall o'ch cwestiynau. O ran yr amserlen ar gyfer adolygiadau, mae'r panel eu hunain yn nodi eu bod yn disgwyl i'r adolygiadau hynny ddechrau fis nesaf—i'r adolygiadau ddechrau mewn gwirionedd. Nid ydynt yn rhoi, ac nid wyf i'n rhoi, unrhyw fath o amserlen ar gyfer pryd bydd yr adolygiadau hynny'n gorffen. Byddant yn eu cwblhau mewn sypiau, fel na chaiff pob un ohonyn nhw eu dal yn ôl hyd nes caiff yr olaf ei gwblhau. Cânt eu gwneud mewn sypiau, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda cholegau brenhinol eraill i ddarparu staff annibynnol i'w cwblhau nhw. Oherwydd nid aelodau'r coleg obstetreg a gynaecoleg a'r coleg bydwragedd yn unig fydd yn gorfod bod yn bresennol—rhai ohonyn nhw, bydd y gofal yn ehangach ac mae angen i ni gael pobl eraill i gymryd rhan yn yr adolygiadau hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y cânt eu gwneud yn iawn, yn hytrach na'u gwneud yn gyflym. Rwy'n deall y bydd yr Aelod ac eraill yn gofyn i mi geisio darparu amserlen, ond rwy'n credu mai dyna'r peth anghywir i'w wneud. Mae'n llawer pwysicach y cânt eu gwneud yn iawn, a bod teuluoedd, fel y dywedais, yn cael y cyfle i gymryd rhan.

O ran yr hunangyfeirio, hunangyfeirio ar gyfer asesiad yw hynny. Nid yw'n golygu y bydd angen i bawb sy'n pryderu gael adolygiad clinigol llawn. Ond rwy'n credu mai'r sicrwydd i aelodau'r cyhoedd sy'n pryderu yw y bydd y panel yn rhan o'r asesiad hwnnw. Felly, nid y bwrdd iechyd fydd yn penderfynu ar eu rhan pa un a oes angen adolygiad llawn neu beidio. Bydd y panel yn rhan o hynny hefyd. Felly, bydd gennym ni'r annibyniaeth honno ar y panel ynghylch a oes angen adolygiad llawn neu beidio, ond bydd cyfle iddyn nhw gael cymorth i wneud hynny.

O ran pryd ddaw'r ymyriad i ben, wel, unwaith eto, bydd y panel annibynnol yn darparu adroddiadau chwarterol ar y gwelliannau cyffredinol. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi'r rhai am y statws uwchgyfeirio. Byddwch yn gwybod y bu proses ar waith ers tro lle'r ydym ni'n ystyried y cynnydd ym mhob sefydliad. A bydd y statws hwnnw'n newid pan fo'r sefydliad ei hun wedi gwneud y gwelliant angenrheidiol. Felly, bydd rhywfaint o hyn yn fwy hirdymor, a bydd yr un peth yn wir am y newid diwylliannol sy'n cael ei amlygu yn yr adroddiad hefyd. Nid wyf yn credu y byddai'n rhesymol disgwyl i'r holl newid diwylliannol hwnnw fod wedi digwydd. Mae'n waith sydd ar y gweill. Y llanw a thrai hwnnw yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld mewn unrhyw, nid dim ond gwasanaeth cyhoeddus, ond unrhyw fusnes yn y sector preifat lle mae angen i chi wneud newid diwylliannol sylweddol gyda'ch staff. Felly, bydd angen i hynny barhau, nid ym maes bydwreigiaeth yn unig ond yn y gwasanaeth meddygol hefyd. Nid newid ar un adeg yn unig yw hyn, ond rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn niwylliant y sefydliad a disgwyliadau staff o'i gilydd, ac yn wir y modd y maen nhw'n trin ac yn gweithio gyda'r cyhoedd.  

15:15

Diolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghwm Taf. Mi fyddwch yn gwybod bod y pwyllgor iechyd hefyd yn craffu ar ddigwyddiadau Cwm Taf, achos mae hwn yn fater dyrys. Mae'r babanod wedi marw. Mae teuluoedd wedi'u rhwygo'n ddarnau. Mae'r adroddiad yma heddiw yn destun pryder enfawr. Bum mis ers y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog iechyd, mae sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddiogel yn dal heb ddigwydd. Mae gan deuluoedd yr hawl i ddisgwyl gwasanaethau sydd, bennaf oll, yn ddiogel, ond sydd hefyd yn effeithiol ac wedi'u rheoli'n dda. Gyda'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, dylai'r Gweinidog iechyd sicrhau ar fyrder fod gwelliannau'n digwydd. Mae'r Gweinidog yn dweud ei fod yn hapus bod pobl wedi derbyn yr angen am newid. Nawr, gyda phob parch, dyw hynny ddim yn ddigon. Fe alwodd Plaid Cymru a'r teuluoedd am newid bum mis yn ôl. Beth mae o wedi bod yn ei wneud ers mis Mai?

Nid siarad am welliannau sydd angen nawr, ond gweithredu. Mae gan y bwrdd iechyd job o waith aruthrol i'w wneud, ac, ar fater mor bwysig, yn enwedig pan fo'r gwasanaethau hyn dan oruchwyliaeth uniongyrchol y Gweinidog iechyd, rhaid iddo fe dorchi ei lewys yn hytrach nag eistedd yn ôl a disgwyl bod gwelliannau'n digwydd hebddo fe. Mae'r adroddiad yma heddiw yn dweud pethau fel bod adborth gan y staff a chleifion yn awgrymu, a rwy'n dyfynnu:

Mae angen o hyd i newid y diwylliant a'r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi'u datgelu mor frawychus yn yr adroddiad Gwrando ar Fenywod a Theuluoedd.

Ie, mi oedd e'n syndod enfawr bod y fath bethau wedi digwydd, ac mae angen gweithredu ar fyrder. Allwn ni ddim bod yn hapus bod pethau jest yn dechrau newid nawr a dweud bod yna ffordd bell i fynd. Mae angen gweithredu ar fyrder. A fel dŷch chi wedi cyfeirio, mae tri allan o'r 11 argymhellion brys gan y colegau brenhinol eto heb eu gweithredu—yr adolygiad o lefelau staffio mamolaeth diogel; nid yw'r bwrdd iechyd yn llawn hapus bod staff yn arfer y canllawiau diogelwch yn ddigonol; ac mae newid diwylliant yn mynd i gymryd amser hir. Ie, efallai'n wir, ond mae'n bosib newid diwylliant ac mae angen ei newid ef ar fyrder achos mae'n teuluoedd ni yng Nghwm Taf wedi dioddef yn enbyd ers blynyddoedd maith ac yn parhau i ddioddef. Mae marwolaeth baban yn ddigwyddiad echrydus i ddigwydd i unrhyw deulu. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i brysuro'r gwelliant angenrheidiol yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf?

15:20

Rwy'n credu bod dau gwestiwn cyffredinol yn y sylwadau a wnaed gan yr Aelod. Roedd y cyntaf yn ymwneud â pha mor gyflym y bu'r newid hyd yma, ac rwy'n credu mai'r ail yn fras oedd yr hyn yr wyf i yn ei wneud fy hun. Ar y tri o'r 11 argymhelliad 'diogelu' a wnaed, bu'r panel yn glir iawn ynghylch y ffaith bod gwaith yn mynd rhagddo ym mhob un o'r meysydd hynny. Nid yw'n wir dweud nad oes dim wedi digwydd mewn unrhyw un o'r meysydd hynny, ac, mewn gwirionedd, pe bawn i wedi codi heddiw a dweud bod y newid diwylliannol sydd ei angen wedi digwydd, yna ni fyddai pobl yn y Siambr hon na'r tu allan yn fy nghredu, ac ni ddylen nhw chwaith. Rwy'n gwybod o'm profiad fy hun y tu allan i fywyd yn y fan yma, os ydych chi'n ystyried cyflwyno newid diwylliannol sylweddol mewn unrhyw weithle, nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd yn gyflym ac nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd drwy fynnu ei fod yn digwydd. Mae'n rhaid i chi ddarbwyllo pobl. Ac mae hyn yn anodd. Mae'n rhaid i chi fod yn onest. Mae hyn yn anodd i bobl—[Torri ar draws.] Mae hyn yn anodd i bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r newid diwylliannol hwnnw yn y ffordd y maen nhw wedi gweithio yn y gorffennol, ac mae angen inni ddarbwyllo pobl i sicrhau bod y gwasanaeth yn gwneud mwy na dim ond cyflawni a dweud, 'Edrychwch, mae'r math cywir o bethau'n digwydd nawr', ond bod y newid hwnnw wedi gwreiddio ac yn gynaliadwy. Felly, rwy'n credu mai cam gwag iawn fyddai imi geisio dweud heddiw, 'Mewn gwirionedd, mae digon o gynnydd wedi'i wneud ym mhob un o'r meysydd hynny ac mae popeth yn iawn.'

A'r un pwynt—pan gyfarfûm â'r panel ddoe, gwnaethant y pwynt, o ran gweithredu protocolau, eu bod nhw'n glir bod llawer mwy o ymwybyddiaeth a glynu wrth yr holl brotocolau hynny, sy'n un o'r problemau gwirioneddol a nodwyd yn adroddiad y colegau brenhinol, ond roedden nhw eisiau gweld yr ymlyniad hwnnw'n parhau am gyfnod hwy cyn iddyn nhw gytuno bod y newid wedi'i gyflawni yn hytrach na'i fod yn waith sydd ar y gweill. Ac rwy'n credu mai dyna'r gonestrwydd y dylai pob un ohonom fod eisiau ei chael gan y panel a gennyf fi yn hytrach na—. Y peth cyfleus i mi fyddai dweud bod popeth yn cael ei gyflawni, ond mae angen i mi allu edrych ar fy hun yn y drych, yn ogystal â, pan fyddaf i'n cwrdd â theuluoedd ar ddiwedd y flwyddyn hon, edrych i fyw eu llygaid a dweud ein bod ni'n gwneud y peth iawn a bod yn onest am hyn.

A daw hynny'n ôl at yr hyn rwy'n ei wneud: rwyf wedi bod yn glir iawn o ran fy nisgwyliadau yn gyhoeddus ac o ran cwrdd â'r panel, mai'r peth pwysicaf yw gwneud hyn yn iawn. Y peth pwysicaf yw cyflawni'r gwelliannau. Felly, rydym ni'n darparu'r holl adnoddau y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei wneud i sicrhau bod y broses adolygu clinigol yn digwydd gyda'r arbenigedd priodol sydd ei angen, gyda'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen i sicrhau bod hynny'n digwydd, a hefyd, eglurder a disgwyliad yn y gwaith sy'n cael ei wneud, a bod craffu ychwanegol yn digwydd, nid yn unig gyda'r bwrdd, ond gyda rhanddeiliaid eraill hefyd.

Ym mhob agwedd arall ar fywyd Gweinidog, y ffactorau a'r heriau eraill ar hyn o bryd, gallaf ddweud yn onest mai hon yw un o'm blaenoriaethau pennaf ac un o'r pethau yr wyf i wedi neilltuo'r amser mwyaf iddo, fel y dylwn i. Felly, does dim diffyg dealltwriaeth, does dim diffyg ymdrech nac ymgysylltiad gweinidogaethol. Ond yr hyn na wnaf yw dweud y gallaf, ac y gwnaf, gyflwyno newid yn gynt nag y dylai unrhyw un gredu sy'n bosib ar draul gwneud y peth priodol i'r holl deuluoedd hynny a'r staff hynny sydd, yn ddealladwy, wedi cael eu siomi yn y gorffennol, ac i wneud yn siŵr na chânt eu siomi yn y dyfodol.

15:25

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Ac, yn y fan yma, a gaf i ddweud eto fy mod yn cydymdeimlo ac yn meddwl am y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiannau yn y bwrdd iechyd hwn gan orfod byw gyda'r trychinebau hynny ers hynny? A gaf i hefyd ategu'r diolch i aelodau'r panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth am eu gwaith, ac yn arbennig i Mick Giannasi, a roddodd sawl awr o'i amser yn Ysbyty'r Tywysog Siarl imi pan gefais gyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol am waith y panel trosolwg a gweld yn uniongyrchol rai o'r pethau a oedd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys siarad â rhai o'r staff a rhai o'r rheolwyr newydd a oedd yno? Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn iddo am gael y cyfle i wneud hynny.

Roeddwn hefyd yn falch o allu bod yn y sesiwn friffio y bore yma a hwyluswyd gennych chi gyda'r panel trosolwg, ynghyd â'm cydweithiwr Vikki Howells, a chawsom gyfle i ofyn cwestiynau i'r panel trosolwg yn uniongyrchol yn y briff hwnnw. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, yn wahanol i rai o'r sylwadau a glywais y prynhawn yma, rwy'n gweld hyn ychydig yn wahanol o ran yr hyn yr wyf wedi'i weld, yr hyn yr wyf wedi'i glywed a'r hyn yr wyf wedi'i brofi wrth siarad â rhai o'r staff a'r cleifion. Ac mae gennyf beth sicrwydd o ganlyniad i'r gwaith trylwyr y mae'r panel bellach wedi'i wneud ac o ganlyniad i'ch ymyriad, er na ddylai neb, fel yr ydych chi wedi dweud, ac fel y mae eraill wedi nodi, danbrisio'r heriau sy'n dal o'n blaenau. Yn wir, un o'r pethau a glywsom ni o'r sesiwn friffio y bore yma oedd, ar ôl yr ymchwiliad i wasanaethau mamolaeth Morecambe Bay, cymerodd ryw chwe blynedd o'r adeg y daeth Morecambe Bay yn destun mesurau arbennig i'r amser yr ystyrid nhw'n uned dda. Ac fe gaiff yr uned honno bellach ei gweld fel enghraifft o ddarpariaeth gwasanaethau mamolaeth. Felly, rwy'n credu mai'r pwynt rwy'n ei wneud yma yw nad yw unrhyw un sy'n credu bod ateb cyflym i hyn yn amlwg yn gyfarwydd â'r briff o ran yr hyn sydd angen ei wneud. Nid oes atebion cyflym a hawdd, mae'n ymddangos i mi.

Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod yn rhaid i brofiad menywod a theuluoedd barhau i fod wrth wraidd y daith hon i wella. Felly, i'r graddau hynny, mae'r ymateb i'r 11 argymhelliad 'diogelu' hyd yn hyn yn galonogol, er, fel yr ydych chi eisoes wedi nodi, mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud. Nawr, sylwaf fod nifer yr achosion yn yr adolygiad clinigol wedi eu hymestyn wrth i feini prawf y panel gael eu hehangu, er mwyn sicrhau y gellir dysgu'r holl wersi priodol o'r broses. Er bod hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu, arhosaf am y dystiolaeth arbenigol o'r adolygiadau hynny cyn gwneud unrhyw sylw manwl arnyn nhw. Ond mae'n galondid imi glywed am arwyddion o well perfformiad o ganlyniad i'r newidiadau sydd eisoes ar waith.

Nawr, Gweinidog, rydych chi wedi sôn gryn dipyn am adnoddau, ond, gan fod yn rhaid i'r gwaith ganolbwyntio ar wella profiad menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, a wnewch chi ein sicrhau y byddwch yn parhau i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith gyda'r menywod a'r teuluoedd hynny sy'n dymuno parhau i fod yn rhan o'r adolygiad hwn?

Ac, yn olaf, a ydych chi'n cytuno â mi, os ydym ni'n mynd i gyflawni rhai o'r newidiadau diwylliannol y mae eu hangen yn amlwg, fod yn rhaid inni greu amgylchedd lle y bydd pobl, staff, yn teimlo'n hyderus ynghylch mynegi barn a chodi llais mewn modd teg a chytbwys ynghylch arferion gwael ac ymddygiad gwael? Oherwydd, ers rhy hir o lawer, mae gwneud hynny wedi bod yn benderfyniad sy'n terfynu gyrfa gormod o staff. Ac, os ydym ni eisiau gweld y newid diwylliannol hwnnw, mae'n rhaid i bobl deimlo'n ddiogel gan wybod y gallan nhw fynd â'r pryderon hynny at yr awdurdod uchaf posib heb ofni am eu gyrfaoedd eu hunain wrth wneud hynny. 

15:30

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yr ydych chi wedi'u gofyn. O ran eich pwynt cyntaf ynghylch nad oes ateb cyflym, mae hynny'n hollol gywir, ac mae angen imi fod yn onest â phobl am hynny ar y dechrau, fel y bûm yn y datganiad cyntaf heddiw hefyd, yn hytrach nag awgrymu y bydd adeg o gyfleustod gwleidyddol yn gyrru'r hyn sy'n digwydd, yn hytrach na gwneud y peth priodol i'r gwasanaeth ac adrodd yn onest ynghylch faint o gynnydd a wnaed, yn ogystal â'r hyn sydd angen ei wneud o hyd. Unwaith eto, rwy'n hapus i ailadrodd y bydd menywod a theuluoedd yn ganolog i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y gwaith ymgysylltu sy'n cael ei arwain yn y lle cyntaf gan Cath Broderick, ac y mae gan y bwrdd iechyd bellach fwy o ran arweiniol ynddo, fel y dylai fod ganddo. Wrth fwrw ymlaen â hynny, bydd tri digwyddiad cyhoeddus—un ym Merthyr, un yn Llantrisant o fewn y chwe wythnos nesaf, ac yna un yn y flwyddyn newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn i'r bwrdd iechyd geisio cyd-gynhyrchu ei strategaeth ar gyfer y dyfodol â menywod a theuluoedd i geisio gwneud yn siŵr nad oes ymddieithrio rhwng y gwasanaeth a'r bobl sy'n ei ddefnyddio.  

Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y panel yn rhai gwir, ond nid ydyn nhw'n gyson, ac nid ydym ni mewn sefyllfa berffaith. Mewn unrhyw wasanaeth dynol, mae lle i gamgymeriadau bob amser, hyd yn oed mewn gwasanaeth da. Ond ni fyddwn i'n ceisio esgus na fydd pobl yn cael gohebiaeth fwy diweddar, lle mae rhesymau dros fynd yn ôl at y bwrdd iechyd. Ni fyddwn i'n ceisio dweud hynny wrth neb. Ond mae'n wir, serch hynny, ei fod mewn lle gwell nawr nag yr oedd cyn i'r ymyrraeth ddechrau. Fy uchelgais yw gweld y gwelliant hwnnw'n parhau a pharhau, oherwydd nid wyf eisiau clywed cwynion parhaus, y mae cyfiawnhad drostynt, am ansawdd y gofal a phrofiad menywod a'u teuluoedd yn unrhyw un o'r gwasanaethau hyn.

Dyna pam y gallaf gadarnhau y bydd adnoddau yn y dyfodol i gefnogi menywod a theuluoedd sy'n ymwneud â hyn. Mae adnoddau yn y gwasanaethau cymorth a ddarperir yn aml gan y trydydd sector. Felly, er enghraifft, mae grŵp cymorth Snowdrop a'r gwasanaeth Sands, unwaith eto, ar gael i deuluoedd, ynghyd â'r daflen ddefnyddiol iawn yn fy marn i sef 'cwestiynau cyffredin' y mae'r panel wedi'i chynhyrchu ar gyfer y cyhoedd sy'n nodi sut i gysylltu â nhw. Ond hefyd, os oes angen cefnogi menywod a theuluoedd i ymgysylltu â'r panel gyda rhywfaint o'r gwaith adolygu, yna byddwn yn ceisio gweld sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn hwyluso hynny'n briodol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi. Ac, yn amlwg, mae'r Cyngor Iechyd Cymuned wrthi'n gwneud y gwaith hwnnw hefyd.  

Ynghylch y pwynt olaf a wnaethoch chi am gynorthwyo pobl i ddweud eu dweud, mae hynny'n rhan o'r newid diwylliant y mae angen iddo ddigwydd, i symud oddi wrth ddiwylliant o gosbi, lle mae pobl yn teimlo, os ydyn nhw'n tynnu'n groes, naill ai gyda'u rheolwyr, neu mewn grŵp gyda'u cyfoedion yn y gwaith lle mae un farn yn drech—fod pobl yn teimlo y cânt eu cosbi yn eu gwaith beunyddiol—a'n bod, mewn gwirionedd, yn symud tuag at fod yn sefydliad sy'n dysgu, lle mae pobl yn cydnabod lle mae pethau'n mynd o chwith, yn ogystal â chydnabod rhagoriaeth, er mwyn gallu cyfeirio at hynny a siarad amdano mewn sefyllfa lle mae modd dysgu. A dyna ran o'r rheswm pam yr wyf i'n wirioneddol glir na all y panel gysylltu ei hun â geiriau fel 'eich gwaith chi yw mynd i ddarganfod pobl sy'n gyfrifol', oherwydd, mewn gwirionedd, bydd hynny'n troi'n ddiwylliant beio. Bydd yn atgyfnerthu diwylliant o gosbi, yn hytrach na symud ymlaen i fod yn amgylchedd dysgu gwirioneddol, lle caiff pobl eu cefnogi i ddweud pan aiff pethau o chwith, i gyfaddef o'u gwirfodd pan aiff pethau o chwith, i wneud y gwelliannau y mae pob un ohonom ni eisiau eu gweld mewn ffordd real a pharhaus.  

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. A gaf innau hefyd gydymdeimlo â'r holl deuluoedd hynny yr effeithiwyd arnyn nhw? Rwy'n croesawu'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ddiogel, ond rhaid cael atebolrwydd, oherwydd bod teuluoedd wedi dioddef galar anhygoel. Mae'r ffaith, fel y mae'r adolygiad annibynnol yn dweud, fod llawer iawn i'w wneud o hyd yn peri pryder mawr i'm hetholwyr a ddaeth yn rhan o'r bwrdd iechyd yn gynharach eleni. Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y broblem enfawr o adfer ffydd y cyhoedd yn y gwasanaeth. Yn anffodus, datrys y mater hwn fydd un o'r heriau mwyaf. Mae angen gweithredu a newid, ac mae angen hynny'n fuan yn hytrach nag yn hwyrach.

Gweinidog, sut fyddwch chi'n ymdrin â phryderon rhieni'r dyfodol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch gwasanaethau mamolaeth gan eu bod bellach yn dod o dan Fwrdd Iechyd Cwm Taf? Er fy mod i'n deall y bydd y newidiadau'n cymryd amser, a bod cynnydd yn cael ei wneud, bydd fy etholwyr yn poeni'n briodol am eu diogelwch, ac am ddiogelwch eu babanod. Gweinidog, a fydd galw ar fyrddau iechyd cyfagos i gefnogi gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf i leddfu ofnau mamau beichiog, a fydd yn poeni bod gwasanaethau'n dal yn anniogel? Sylwaf o'ch datganiad y bu eich swyddogion yn trafod yn wythnosol gyda'r arweinwyr mamolaeth yn y bwrdd iechyd i adolygu metrigau. O gofio'r feirniadaeth gan y cadeirydd sydd ar fin gadael Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n wythnosol yn llesteirio gwelliannau, Gweinidog, a ydych chi'n fodlon nad yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn llesteirio ymdrechion i wella yng Nghwm Taf?

Ac yn olaf, Gweinidog, o ystyried diffygion Cwm Taf, Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr, mae llawer o bobl yn galw am ymchwiliad pellgyrhaeddol i'r GIG yng Nghymru. A ydych chi'n fodlon bod y strwythurau presennol yn addas i'r diben, a sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw fethiannau systemig eraill yn amlygu eu hunain yn y bwrdd iechyd yma neu unrhyw fwrdd iechyd arall? Diolch yn fawr.

15:35

Ynghylch y pwynt olaf a wnaethoch chi am adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyfan y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, cawsom adolygiad seneddol annibynnol ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, ac fe wnaethon nhw ddangos bod strwythur y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n gwneud synnwyr. Roedden nhw'n glir iawn nad oedden nhw'n argymell adolygiad strwythurol eang a throi'r drol. Mae'n aml yn ddeniadol i wleidydd ddweud mai'r ateb yw ad-drefnu strwythur gwasanaeth, ac mae yna adegau pan fo angen gwneud hynny. Ond rydym ni newydd gael adolygiad annibynnol sy'n dweud nad dyna'r peth iawn i'w wneud. Ac wrth gwrs rydym ni wedi gweld yr heriau mewn ailstrwythuro cynhwysfawr ar draws y ffin, lle, beth bynnag fo'ch barn am newidiadau Lansley, bu cryn dipyn o newid yn y system yn Lloegr. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei argymell neu'n barod i'w orfodi ar y gwasanaeth yma yng Nghymru.

O ran eich pwynt ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn llesteirio'r gwelliant, o gofio ein bod wedi gwneud gwasanaethau mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn destun mesurau arbennig—ac mae'r sefydliad cyfan yn destun ymyrraeth wedi'i dargedu—byddai'n rhyfeddol pe na bai rhyngweithio rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth. Mae'n rhan o ddiben yr holl statws uwchgyfeirio a'r hyn y mae'n ei olygu: po uchaf yr ewch chi, po fwyaf y rhyngweithio, po fwyaf yr oruchwyliaeth, y mwyaf o graffu y gallwch ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru. A phe bawn i'n dweud, 'Mewn gwirionedd, ni fyddaf yn llym iawn o ran gwella', yna rwy'n credu y byddai aelodau yn y fan yma yn cwestiynu'n briodol beth ar y ddaear rwy'n ei wneud a pham nad yw fy swyddogion yn cysylltu'n fwy rheolaidd. Clywsom y sylw a wnaed i'r gwrthwyneb yn llwyr, wrth gwrs, yng nghyfraniad Dai Lloyd. Roedd yntau eisiau gweld hyd yn oed mwy o ymyrryd a gwthio hynny ynghynt. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati—rwy'n credu mai dyma'r ffordd gywir. Felly, bydd y galwadau wythnosol hynny'n parhau nes ein bod yn glir bod y gwasanaeth yn gwella'n fwy cyson.

O ran byrddau iechyd cyfagos a chymorth, mae'n wir fod byrddau iechyd cyfagos yn cefnogi'r gwasanaeth yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae penaethiaid bydwreigiaeth yn cyfarfod fel grŵp ac maen nhw'n edrych ar faterion o ran gwasanaeth mewn ffordd gyfunol iawn. Bu hynny'n gadarnhaol iawn—a'r cynigion rhagweithiol o gymorth sydd wedi'u darparu, a'r ffordd y mae materion recriwtio wedi cael eu trin o amgylch y gwasanaeth, i geisio sicrhau nad oedd tarfu ar y gwasanaeth drwy dynnu pobl allan o ardal Cwm Taf. Ond yn fwy cyffredinol, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud eu dewisiadau, oherwydd bod rhai pobl wedi gwneud dewis, gan ddweud nad ydyn nhw'n dymuno mynd i ganolfan eni yn hen ardal Cwm Taf, a rhoddwyd y dewis hwnnw iddyn nhw. Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu cynorthwyo i wneud y dewisiadau hynny a dechrau'r sgwrs honno gyda'u bydwraig gymunedol leol. Ond bu hynny'n bwysig gyda gwasanaethau cyfagos.

Nid yw Pen-y-bont ar Ogwr yn yr un sefyllfa â hen ardal Cwm Taf, nid yw'r gwasanaeth mamolaeth yn y fan yna yn destun mesurau arbennig. Rydym ni wedi rhyngweithio'n ddiweddar ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; ni chafwyd unrhyw awgrym bod hynny'n weithred ofynnol ar gyfer y rhan honno o ardal Cwm Taf Morgannwg. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i bobl sy'n mynd i roi genedigaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—nid oes angen iddyn nhw fod ag unrhyw bryderon ynglŷn â faint o welliant sy'n ofynnol yn hen ardal Cwm Taf. Ond wrth gwrs, mae pob rhan o'n gwasanaeth yn cael cyfle i ailystyried yr hyn sydd wedi digwydd, i ailystyried pa welliannau y gallai hi barhau i'w gwneud yn ei gwasanaethau ei hun.

Diolch. Mae pob un o'r prif lefarwyr nawr wedi siarad ar y datganiad hwn, ac mae gennyf nifer o aelodau o hyd sy'n dymuno cyfrannu. Felly, a gaf i ofyn i'r siaradwyr sy'n weddill nawr a fydden nhw'n gwneud cyflwyniad byr i'w un cwestiwn, os gwelwch yn dda? David Melding.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n eithaf syml beth sydd angen i ni ei wybod: pryd ydych chi'n disgwyl y bydd gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddiogel—ddim yn dda, ddim yn rhagorol, ddim yn arwain y sector—pryd fyddan nhw'n ddiogel? Mae'r adroddiad hwn yn dweud bod ffordd bell iawn i fynd. Ac a dweud y gwir, rwy'n cael eich ymagwedd yn hynod oddefol. Nid ydych chi wedi gweithredu, ni wnaethoch chi unrhyw beth ynghylch y prif weithredwr—fe wnaethoch chi aros iddi ymddiswyddo. Rydych chi'n dweud yn bwyllog wrthym ni nawr eich bod o'r farn mai'r bwrdd na allai oruchwylio perfformiad y bwrdd iechyd hwn a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu yw'r un i ddatrys ein trafferthion, a'r unig beth yr ydych chi wedi'i wneud ynghylch yr uwch reolwyr yn hynny o beth yw anfon David Jenkins yno i gadw llygad ar bethau. Rwy'n credu bod angen gwell na hyn, a dweud y gwir. Rydym ni'n dal i gael problemau, yn ôl yr adroddiad hwn, gyda'r broses gwyno ac ymateb i gwynion. Mae angen i'r diwylliant wella'n sylweddol o hyd, nid yw'r staff yn hyderus nac ychwaith y cleifion. Nid yw canllawiau a phrotocolau wedi'u hymsefydlu'n ddigonol eto. Pa fath o gynllun hyfforddi sy'n mynd rhagddo? Pa mor hir y mae hyn yn mynd i bara lle'r ydym ni'n darparu gwasanaethau iechyd nad ydyn nhw'n unol â phrotocolau a chanllawiau? Ac o ran y cynnydd presennol yn y cynllun gwella, darllenais o'r adroddiad fod cyflymdra'r cynnydd wedi dechrau pallu o ddechrau mis Gorffennaf. Gweinidog, mae angen i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb yma, oherwydd yr un peth sydd heb ddigwydd yw ein bod ni wedi cael arweiniad ac egni gennych chi.

15:40

Wel, gwrthodaf yn llwyr y cyhuddiad a wnaed gan David Melding. Fel arfer mae'n gwrtais a rhesymol yn hytrach na dangos ymagwedd braidd yn ymfflamychol fel y gwnaeth heddiw. Rwyf wedi ymyrryd yn y bwrdd iechyd. Rwyf wedi sefydlu proses briodol o graffu a goruchwylio annibynnol ar gyfer y gwelliant hwnnw, a byddaf yn parhau i fod yn onest â phobl ynghylch faint o welliant a wneir a'r hyn sy'n dal angen ei wneud. Os edrychwch chi ar yr hyn y mae'r panel ei hun yn ei ddweud am y cynnydd a wnaed, maen nhw eu hunain yn onest am y meysydd lle gwnaed cynnydd ac sydd wedi ymwreiddio a'r meysydd lle gwnaed cynnydd ond lle nad yw eto wedi cyrraedd y sefyllfa lle maen nhw'n barod i roi sêl bendith a dweud bod y cynnydd hwnnw wedi ymwreiddio. Maen nhw hefyd yn glir ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo bob dydd i roi sicrwydd ynglŷn â diogelwch y gwasanaeth. Nid wyf yn mynd i roi rhwydd hynt i neb yn y gwasanaeth iechyd laesu dwylo a chaniatáu i bethau ddigwydd; rwyf wedi gweithredu, rwyf wedi bod yn glir ynghylch beth yw hynny a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl yn onest ac yn agored am y cynnydd a wnaed hyd yma. Ac os oes angen cymorth pellach, dyna ddiben cael panel annibynnol i egluro'r hyn sydd ei angen, yn ogystal â rhyngweithio fy swyddogion, a byddaf yn parhau i weithredu i ddiogelu'r gwasanaeth.

Gweinidog, diolch am eich diweddariad heddiw. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r mater o newid diwylliant. Rydym ni i gyd yn gwybod bod newid diwylliannol yn rhywbeth sy'n anodd iawn ei weithredu, ond mae mor bwysig ac yn sail i'r holl waith sydd angen ei wneud i roi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf ar sail ddiogel a chynaliadwy. Dechreuodd y panel trosolwg ar ei waith ym mis Mai eleni, ac rwy'n gwybod eu bod ar hyn o bryd yn edrych yn ôl dros achosion hanesyddol a oedd yn peri pryder, ond os cyflwynir achosion o bryder gan deuluoedd yn ymwneud â'r cyfnod ar ôl mis Mai eleni, a gaiff y panel ei hysbysu am y rhain, neu a gânt eu trin yn fewnol yn unig gan y bwrdd iechyd? Gofynnaf hyn oherwydd mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweld tystiolaeth o newid diwylliant, ac rwyf yn pryderu os cyflwynir unrhyw achosion newydd posib, a allai awgrymu parhad rhai o'r materion diwylliannol a welsom ni o'r blaen, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi sylw manwl iddyn nhw os ydym ni i fod yn ffyddiog bod y newid diwylliannol hwn yn digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad.

Rwy'n fodlon ymdrin â hynny. Rydych chi'n gywir ynghylch yr amser y mae newid diwylliannol yn ei gymryd—nid yn unig i ddigwydd, ond i'w gynnal a'i wreiddio yn y gwasanaeth. Mae'n bwysig nodi y dylai'r broses gwyno arferol barhau, felly 'Gweithio i Wella' yw'r ffordd gyntaf o wneud hyn o hyd a gall y Cyngor Iechyd Cymuned gefnogi pobl wrth wneud y cwynion hynny fel arfer. Fodd bynnag, os yw teuluoedd eisiau cyfeirio at y broses adolygu annibynnol, gallant wneud hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad, bydd y panel yn ymwneud â phenderfynu a oes angen i'r achosion hynny gael adolygiad annibynnol ai peidio. Felly, nid yw'n wir y bydd angen i bobl ymdrin â'r bwrdd iechyd yn unig; os oes ganddyn nhw bryderon yn y maes hwn, gallant gyfeirio eu hunain a bydd y panel yn rhan o'r broses o benderfynu a oes angen cynnal adolygiad clinigol llawn ai peidio.

Mae fy meddyliau innau hefyd gyda'r holl deuluoedd sydd wedi dioddef colled ddofn a pharhaus. A gaf i ychwanegu at y sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghydweithiwr Dawn Bowden ar fater y gallu i annog a chefnogi chwythwyr chwiban yn y rheng flaen, ond hefyd i annog pobl i roi gwybod am bryderon ar lefel y bwrdd hefyd? Oherwydd y mae'n ymddangos i mi mai un o'r methiannau yma oedd y diffyg hyder i herio ar lefel y bwrdd a'r diffyg gwybodaeth a gyflwynwyd i'r bwrdd hwnnw. A byddwn yn gwerthfawrogi ei farn, gan gofio'r cynnydd a adroddwyd, ond hefyd yr angen am newid sylfaenol ar lefel bwrdd, o ran a ydym ni'n ffyddiog bellach bod aelodau'r bwrdd yn hyderus i herio, i ofyn cwestiynau, i wrth-ddweud, oherwydd mae hynny hefyd yn bwynt o fethiant yn y fan yma ac mae angen inni herio hynny. A yw'n ffyddiog bod y bwrdd bellach yn newid yn sylfaenol yn y modd hwnnw?

15:45

Os edrychwch yn ôl at adolygiad cychwynnol y colegau brenhinol, maen nhw'n cydnabod nad oedd yr wybodaeth a gyflwynwyd i'r bwrdd yn ddarlun cyflawn bob amser. Dyma un o'r heriau mawr sy'n wynebu'r sefydliad. Roedd y sylw a wnaed fod y bwrdd wedi cael ffug sicrwydd yn bryder gwirioneddol i mi wrth ddarllen yr adroddiad hwnnw. Pan ddywedais i yn fy natganiad fod llawer o hunanholi wedi bod ar lefel y bwrdd, roedd hynny'n wir iawn. Mae pobl wedi cymryd o ddifrif calon yr hyn sydd wedi digwydd ar eu goruchwyliaeth nhw a'u cyfrifoldeb nhw i'w gywiro.

Mae'r gwaith a wnaeth David Jenkins yn bwysig nid yn unig o ran cynghori'r bwrdd, ond o ran rhoi gwahanol lefel o sicrwydd i mi am y newid yn ymddygiad a dull y bwrdd o weithredu. Felly, maen nhw eisoes yn fwy heriol. Maen nhw eisoes yn chwilio am ragor o wybodaeth ac maen nhw'n glir iawn eu dymuniad eu bod eisiau gweld mwy o aelodau annibynnol yn ymwneud â gwahanol rannau o waith y bwrdd, yn ogystal ag ad-drefnu eu hansawdd, eu diogelwch a'u swyddogaeth o ran risgiau. Fe all hyn swnio, o bryd i'w gilydd, fel symud darnau o gwmpas yn unig, ond mewn gwirionedd mae hyn yn bwysig o ran sut mae sefydliad yn gweithio a beth yw ei swyddogaethau. A dweud y gwir, i'r Aelodau yn y fan hon, rwy'n credu bod David Jenkins wedi cael ei wahodd ac wedi derbyn y gwahoddiad i fynd i'r Pwyllgor Iechyd fel bod cyfle i bobl ei holi'n uniongyrchol am yr ymddygiad a welodd ef a'r symud ymlaen sy'n amlwg wedi bod yn ofynnol o'r ffordd yr oedden nhw wedi gweithio yn flaenorol.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddigartrefedd. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal a mynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn amlinellu ein gweledigaeth ni ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel sy'n diwallu ei hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a ffyniannus. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio, ar draws y sectorau cyhoeddus a'r trydydd sector, i atal digartrefedd, a phryd na ellir ei atal, gwneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth prin, byrhoedlog ac nad yw'n digwydd dro ar ôl tro.

Mae digartrefedd yn golygu llawer mwy na dim ond cysgu ar y stryd. Fe ddangosodd ffigurau gan Crisis yn 2016 fod tua 6 y cant o'r bobl sy'n ddigartref yng Nghymru yn cysgu ar y stryd, gyda 94 y cant arall yn ddigartref ar ffurfiau eraill, er enghraifft, mewn llety dros dro neu anaddas, yn syrffio soffas neu mewn hosteli argyfwng. Mae ein hystadegau ni ein hunain yn dangos bod y galw am wasanaethau yn cynyddu, gyda dros 10,000 o aelwydydd yn ymddangos i awdurdodau lleol yn 2018-19 fel rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, a 11,000 yn ymddangos eu bod nhw eisoes yn ddigartref.

Ni allwn, ac ni ddylem anwybyddu effaith cyni a diwygio lles a'r pwysau y mae hynny'n ei roi ar gyllidebau aelwydydd. Yn y bôn, tlodi sy'n achosi digartrefedd. I gydnabod maint y broblem, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn yn ystod y flwyddyn hon yn unig i atal a lliniaru digartrefedd yn benodol. Serch hynny, mae lefelau digartrefedd yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel yng Nghymru ac nid yw'r achosion sylfaenol yn dangos unrhyw arwydd o arafu, yn arbennig o ystyried yr ansicrwydd economaidd sy'n ein hwynebu ni'n barhaus.

Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Rydym wedi cymryd camau breision ymlaen o ran sefydlu dull ataliol. I raddau helaeth, mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy gyflwyno rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'i rhoi ar waith wedi hynny. Mae'r broses o roi'r Ddeddf ar waith gan awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac ers 2015 mae dros 23,000 o aelwydydd wedi eu hatal rhag bod yn ddigartref. Dros y cyfnod hwnnw, mae awdurdodau lleol, sydd ar flaen y gad yn ein hagenda atal ni, wedi gwneud gwaith clodwiw yn cynnal cyfraddau atal yn wyneb galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol mwy eang. Eto i gyd, er bod cyfraddau atal yn parhau'n uchel ar 68 y cant yn 2018-19, yn achos llawer gormod ohonynt nid yw digartrefedd yn cael ei atal ac maent yn syrthio drwy'r rhwyd.

Y gwir amdani yw ein bod ni, er gwaethaf y fframwaith deddfwriaethol newydd a'n buddsoddiad sylweddol o ran arian a pholisi, yn ymladd yn erbyn y llanw. Er ein bod ni wedi cyflwyno dulliau ffres a newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel tai yn gyntaf, ac yn eu croesawu nhw'n gyfan gwbl, rydym yn dal i ganolbwyntio'n ormodol ar ymyriadau acíwt a rheoli argyfwng. Mae ystadegau'r wythnos diwethaf ar farwolaethau oherwydd digartrefedd yn dangos y canlyniadau annerbyniol a thrasig sy'n dod o fethu â chefnogi'r rhai yn y sefyllfaoedd mwyaf enbyd a bregus. Ond, yn yr un modd, rydym yn deall na fyddwn ni'n mynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd heb inni lwyddo i orchfygu cysgu ar y stryd yn ein cymdeithas ni.

Fe ddaeth yr amser inni edrych o'r newydd ar ein dull ni o weithredu. Ataliad yw ethos ein deddfwriaeth ni, ond rydym i gyd yn gwybod bod ataliadau gwirioneddol yn dechrau'n llawer cynharach na 56 diwrnod. Mae ataliad gwirioneddol yn galw am ddull cyfannol ar draws y sector cyhoeddus: nid mater o dai yn unig yw hyn; mae'n cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus. Mae ataliad gwirioneddol yn golygu sicrhau y caiff deddfwriaeth digartrefedd ei hystyried, fel y dylid, yn rhwyd ddiogelwch ar y diwedd pan fo'r holl gamau ataliol eraill wedi methu.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd, ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol. Yn yr amgylchiadau prin hynny lle na ellir atal digartrefedd, fe fyddwn ni'n ceisio lleihau'r niwed y mae'n ei achosi, gan ganolbwyntio ar ailgartrefu'n gyflym a sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd dro ar ôl tro. Er mwyn cyflawni hyn, ein dull ni o weithredu fu cefnogi'r rhai sy'n ddigartref ar hyn o bryd i gael llety hirdymor ac addas, gan leihau'n sylweddol lif yr unigolion a'r teuluoedd sy'n mynd yn ddigartref neu mewn perygl o hynny. Bydd hyn yn golygu y byddwn ni, dros amser, yn symud ein hymdrechion a'n hadnoddau oddi wrth ddatrysiadau dros dro a llety argyfwng tuag at ddulliau ataliol cynharach a datrysiadau tai hirdymor.

Mae'r datganiad polisi strategol yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn darparu'r fframwaith polisi i bawb sy'n gweithio gyda ni i wireddu ein huchelgais. Mae'r datganiad a'r egwyddorion polisi y mae'n eu nodi wedi cael eu llywio gan drafodaeth yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddigartrefedd, sy'n cynnwys arbenigedd o'r trydydd sector, yn ogystal ag uwch swyddogion gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, addysg ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.

Ategir y datganiad gan gynllun gweithredu blynyddol, a fydd yn nodi'r mesurau a gymerir ar draws y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid, i fynd i'r afael â digartrefedd. Caiff y cynllun gweithredu ei ddiweddaru'n flynyddol a chaiff adroddiadau cynnydd blynyddol eu cyhoeddi yn ôl cynllun y flwyddyn flaenorol. Bydd y cynllun gweithredu cyntaf yn cael ei lywio gan waith y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd arbenigol a sefydlais i ym mis Mehefin eleni.

Mae'r grŵp, a gadeirir gan Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis, wedi cael y dasg o roi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru ar nifer o feysydd allweddol. Mae'r grŵp gweithredu wedi cyfarfod bedair gwaith eisoes ac mae'n gweithio'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n gwneud ei waith yn gyflym dros gyfnod o naw mis, gan adrodd ar bwyntiau allweddol rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r grŵp eisoes wedi rhoi'r cyntaf o'u hadroddiadau i mi ddoe. Mae hwnnw'n edrych yn benodol ar y camau y mae'n eu hargymell i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd y gaeaf hwn. Byddaf yn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i'w hadroddiad a'u hargymhellion gan adlewyrchu'r brys sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r math hwn o ddigartrefedd sydd fwyaf enbyd a niweidiol.

Mae'r datganiad polisi strategol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn nodi ein huchelgais ni i wneud digartrefedd yn rhywbeth prin. Mae'n amlwg, pan ddigwydd, y dylai fod yn rhywbeth byrhoedlog. Dylai unigolion neu aelwydydd gael eu cefnogi i gael llety eto'n gyflym, gyda digon o gymorth i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn ddigartref eto. Mae'n hanfodol ein bod yn sefydlu aelwydydd a fydd yn llwyddo, nid chwalu.

I hynny ddigwydd, mae angen inni helpu pobl mewn argyfwng fel y gallan nhw gael lle mewn llety hirdymor ar frys a ffynnu yn y fan honno. Mae'n hen bryd inni gydnabod yr angen i symud i ffwrdd oddi wrth y model grisiau o ennill gwobrau ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau. Rydym yn ymdrechu i ail-lunio gwasanaethau drwy ddull o ailgartrefu cyflym, gan symud canolbwynt ein polisi, ein hymarfer a'n hadnoddau tuag at atebion hirdymor a arweinir gan dai, yn hytrach na darparu gwasanaethau brys, dros dro a hostelau. Rydym wedi cychwyn arni'n dda iawn gyda'n rhaglen Tai yn Gyntaf, lle y byddwn yn buddsoddi £1.6 miliwn eleni. Er hynny, dim ond un agwedd ar ddull ailgartrefu cyflym yw Tai yn Gyntaf. Mae angen inni weithredu hefyd ar sail systemau cyfan os ydym eisiau newid ein model ni o gyflenwi gwasanaethau. Dyma un o'r meysydd lle gallaf edrych ymlaen at gael cyngor y grŵp gweithredu i helpu i nodi sut y gallwn gyflawni hynny.

Felly, gadewch imi egluro, Dirprwy Lywydd: ni ellir atal digartrefedd yn unig drwy dai. Agwedd allweddol ar ddull gweithredu system gyfan yw'r cymorth cofleidiol i unigolion, yn arbennig o ran gwasanaethau iechyd. Mae hyn yn gofyn am fodelau amgen i ddarparu gwasanaethau a fydd yn eiddo i, ac yn cael eu hariannu gan, wasanaethau cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, gofal sylfaenol, diogelwch cymunedol a thai, a thimau amlddisgyblaethol arbenigol i gynorthwyo unigolion i fynd i'r afael â'u hanghenion nhw ac i ddefnyddio dull sydd wedi'i lywio gan drawma. Mae dull gwirioneddol ataliol yn dechrau cyn i unigolyn neu deulu fod mewn perygl o  ddigartrefedd. Mae'n ymwneud â'r dull system gyfan hwnnw ac yn golygu buddsoddi mewn camau ataliol sylfaenol ac eilaidd.

Mae ein dull ni o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gwneud hynny'n union. Mae'r dulliau ataliol sylfaenol ar waith ers amser, gyda chefnogaeth diwygio addysgol i geisio cyflawni pedwar diben ein cwricwlwm newydd a chyflwyno'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles. Bydd gwaith ataliol eilaidd, drwy'r gwasanaeth ieuenctid ac mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid, yn ceisio cefnogi pobl ifanc sy'n dechrau arddangos rhai o'r ffactorau risg a all arwain at ddigartrefedd. Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau yn ystod y cyfnod cynnar hwn i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yn mynd i'r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu.

Mae gan yr holl wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector eu rhan i chwarae i wireddu'r weledigaeth hon, ac rwy'n galw ar bawb yma yn y Siambr hon a'r holl arweinyddion yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i addo gweithio'n unol â'r egwyddorion polisi hyn. Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd, fe allwn ni ac fe fyddwn ni yn atal digartrefedd, ac fe allwn ni ac fe fyddwn ni'n dod â digartrefedd i ben yng Nghymru.

15:50

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Bydd yn Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Iau. Rwy'n cytuno hefyd yn fras â'r dull gweithredu, y cyfeiriadau at Dai yn Gyntaf, gan ddileu cysgu ar y stryd o'n cymdeithas a chael diwedd ar bob math o ddigartrefedd a symud oddi wrth lety argyfwng a'r dull grisiau o ennill gwobrau, a symud tuag at ddull sy'n seiliedig ar drawma. Rwy'n credu'n wirioneddol fod hwn yn gyfeiriad y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno ag ef.

Rwy'n falch hefyd y bydd grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog yn cyhoeddi cyngor rheolaidd ac yn llywio eich cynllun gweithredu chi. Rwy'n awyddus i wybod pryd y byddwch chi'n cyhoeddi'r cynllun gweithredu, ac wedyn pa fath o adroddiad blynyddol y byddwch chi'n ei roi ar ei gynnydd, oherwydd rwy'n credu y bydd y data a gawn ni gyda hynny'n bwysig iawn. Rwy'n gobeithio ei fod wedi ei seilio'n gadarn ar dystiolaeth, oherwydd bydd hynny'n bendant yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r mater hwn, sydd ymysg yr heriau mwyaf dybryd yn y gymdeithas.

Roeddwn i'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at blant a'r rhai sy'n arbennig o agored i niwed, ac fe fyddwn i'n dweud bod plant sy'n derbyn gofal yn grŵp allweddol iawn yma. Mae llawer ohonyn nhw'n ddeiliaid tai yn 18 oed ac yn aml bydd eu tenantiaethau nhw'n mynd ar chwâl—nid ydyn nhw'n addas iawn, ac am ba reswm bynnag nid yw'r mecanweithiau cefnogi'n gweithio. Llawer o resymau. Ond, wyddoch chi, mae hwnnw'n un grŵp sydd angen ei fonitro, ei helpu a'i gynorthwyo'n ofalus.

Rwy'n croesawu hefyd y cyfeiriadau at swyddogaethau'r sector addysg. Rwy'n croesawu'r dull yn y cwricwlwm newydd, sy'n ehangach ac yn seiliedig ar sgiliau, gan gynnwys sgiliau bywyd ac iechyd a lles. Mae hon yn ffordd naturiol o addysgu'r disgyblion hŷn, beth bynnag, am yr heriau y byddan nhw'n eu hwynebu o ran sicrhau tai, a dod yn ddeiliaid tai yn y pen draw.

Ac yn olaf, a gaf i ddweud mai rhywbeth na chafodd ei grybwyll yn eich datganiad chi heddiw yw bod ansawdd y data ymhell o fod yn foddhaol hyd yn hyn? Rydym yn dibynnu llawer ar dystiolaeth arolygon, ac rwy'n credu bod angen inni symud tuag at system y gallem ni, ar dir Cymru, fod yn fwy hyderus yn ei chylch.

Dim ond er gwybodaeth i'r Gweinidog, fe fyddaf i'n gwneud fy natganiad bach Bydd y grŵp Ceidwadwyr Cymreig yn cyhoeddi ei agenda a'i strategaeth ddigartrefedd ei hun yn fuan iawn, ac rwyf i o'r farn y bydd yn cyd-daro â'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano'r prynhawn yma. Credaf yn wir fod dull trawsbleidiol o weithredu ar y mater hwn yn bwysig iawn, oherwydd bydd yn dangos bod y Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn wirioneddol ymrwymedig i bobl Cymru.

15:55

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cyfraniad. Rwy'n croesawu ysbryd eich cyfraniad yn fawr iawn. Dim ond rhyw bwynt neu ddau, a dweud y gwir. O ran y data, rwy'n cytuno â chi yn llwyr. Rydym newydd gyflogi dadansoddwr data arall i wneud cyfiawnder â nhw, felly rydym yn cael dadansoddiad o'r bylchau a'r hyn sydd angen ei wneud. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi cael fy synnu'n fawr iawn gan rai o'r pethau sy'n anhysbys i ni, felly rydym yn rhoi cyfres o bethau ar waith y mae angen i ni eu deall nhw'n well. Ac un o'r pethau y mae'r grŵp gweithredu yn edrych arnyn nhw yw pa setiau o ddata sydd eu hangen i allu llenwi'r bylchau hyn. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaethoch chi am hynny.

Ac o ran digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac yn benodol mater y rhai sy'n gadael gofal, rwy'n gweithio ar addewid ar draws y sector cyhoeddus y gobeithiaf y gallwn ei chyflawni—mae'n fwy defnyddiol pe bai'n drawsbleidiol—lle byddwn ni'n cytuno ledled y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nad oes neb byth yn cael ei droi allan i fod yn ddigartref. Felly, os gallwn gyflawni hynny, credaf y byddwn wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran ein sefyllfa ni.

Mae'r darlun o ddigartrefedd yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod â chywilydd mawr ohono. Mae mwy o bobl wedi marw ar strydoedd Cymru a Lloegr yn y pum mlynedd diwethaf na holl golledion Byddin Prydain yn rhyfeloedd Afghanistan ac Irac. Dewis yw digartrefedd, nid damwain mohoni, ac fe allwn ni ddewis gwneud rhywbeth yn ei gylch, neu fe allwn ni ddewis gwneud dim.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gweithio o'r diwedd gyda Crisis i weithredu cynlluniau sy'n anelu at ddileu digartrefedd. Bydd dileu digartrefedd yn arbed arian. Bydd gweithredu adroddiad Crisis yn costio tua £900 miliwn i Gymru dros yr 20 mlynedd nesaf, ond fe fydd yn dod â manteision o £1.5 biliwn. Ar gyfer y DU gyfan, mae'r ffigurau hyd yn oed yn fwy, gyda gwariant o £40 biliwn yn angenrheidiol i gael manteision o £60 biliwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ac adroddiad Crisis yn eu cyfanrwydd.

Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer pob unigolyn digartref—mae pob unigolyn yn unigryw. Mae'n amlwg bod rhywun sydd â phroblemau difrifol o ran camddefnyddio sylweddau yn gofyn am ddull a chymorth gwahanol i rywun sy'n ddigartref oherwydd cam-drin domestig, ac fe fydd arnyn nhw yn eu tro angen cymorth gwahanol i rywun sydd mewn gwaith ac wedi cael ei droi o'i gartref.

Felly, hoffwn i weld cynllun gweithredu clir sy'n gwneud y canlynol: yn gyntaf oll, yn hytrach nag angen blaenoriaethol, rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llety diogel a chymorth i bawb y gwelir eu bod nhw'n ddigartref, ynghyd â'u dyletswyddau i atal digartrefedd; ariannu rhaglenni allgymorth a llety mewn argyfwng i dynnu'r rhai sy'n cysgu allan oddi ar y strydoedd; mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n defnyddio llochesi drwy ddiwygio'r llochesi a'r amgylchedd a all fodoli mewn llochesi; darparu amrywiaeth o wahanol fathau o lety y gall pobl ddigartref fynd iddyn nhw fel bod mannau diogel ar gael i bawb; diogelu a chynyddu'r cyllid ar gyfer yr holl lochesi a'r llochesi ar gyfer y rheini sy'n dianc rhag perthynas lle mae camdriniaeth yn digwydd; adolygu a chynyddu'r gefnogaeth i gyllideb Cefnogi Pobl, sy'n helpu i atal digartrefedd; a chefnogi darparwyr datrysiadau Tai yn Gyntaf i'r bobl ddigartref hynny sydd â'r anghenion mwyaf dyrys.

Rwy'n croesawu'r sylw a roddwyd i gysgu ar y stryd yn ystod y gaeaf yn eich datganiad chi, gan fod y mater hwn wedi cael ei ddisgrifio fel trychineb cenedlaethol gan Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis. Roeddech chi'n sôn eich bod wedi cael argymhellion gan arbenigwyr o'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ddoe ar y broblem benodol hon, ac y byddwch chi'n ymrwymo i'w hystyried nhw ar fyrder. Rwy'n gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gymorth i weld gostyngiad yn effaith niweidiol tywydd y gaeaf ar y rhai sy'n cysgu allan eleni.

Felly, cwestiynau, Gweinidog: sut y gallwch chi fy sicrhau eich bod am gymryd argymhellion ddoe ac unrhyw argymhellion yn y dyfodol gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd o ddifrif? A sut y byddwch chi'n monitro llwyddiant y Llywodraeth wrth weithredu'r argymhellion yn y gwanwyn?

Un darn o ddeddfwriaeth arbennig o ddinistriol sy'n ymwneud â'r rhai sy'n cysgu allan yw Deddf Crwydreiaeth 1824, sy'n gorfodi'r rhai sy'n cysgu ar y stryd i symud o ganol dinasoedd. Mae trin pobl ddigartref fel troseddwyr am eu bod nhw'n cysgu allan ac yn cardota yn rhywbeth o'r oes o'r blaen ac mae'n achosi i unigolyn digartref golli unrhyw urddas a allai fod ganddo o hyd. Fe hoffwn i, fel llawer un arall, weld y Ddeddf Crwydreiaeth yn cael ei diddymu gan ei bod hi'n weithredol yng Nghymru. Ond hyd nes y digwydd hynny, fe hoffwn i wybod pa drafodaethau swyddogol sydd wedi bod gyda'r heddlu ynghylch gweithredu'r Ddeddf hon. A yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau i'r heddluoedd a'r awdurdodau lleol yng Nghymru i annog a hyrwyddo dulliau mwy caredig o helpu pobl ddigartref, yn hytrach na gorfodi'r Ddeddf Crwydreiaeth ymhellach? Fe allen nhw, er enghraifft, benderfynu peidio â gorfodi Deddf Crwydreiaeth yn eu gweithrediadau nhw. A fyddech chi'n cefnogi cymryd cam o'r fath?

16:00

Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau hynny. Unwaith eto, rydym ni'n gytûn i raddau helaeth—ar y pwynt olaf, yn bendant. Rydym yn gweithio ar ddau beth o ran y Ddeddf Crwydreiaeth. Yn gyntaf, pa mor bell y gallwn ni fynd yng Nghymru i ddatgymhwyso'r Ddeddf—ni allwn ei diddymu, ond pa mor bell y gallwn ni fynd i'w datgymhwyso'n ffurfiol. Ac yna, yn ail, i ba raddau y gallwn ni weithio gyda phartneriaid i sicrhau nad yw'r Ddeddf yn cael ei defnyddio, hyd yn oed pan nad ydym wedi gallu gwneud hynny'n ffurfiol. Felly, gallaf eich sicrhau bod y rhain yn drafodaethau sy'n digwydd yn barhaus. Rwyf i o'r un farn â chi ei bod hi'n perthyn i'r oes o'r blaen ac yn ddull hynod ddigydymdeimlad o drin pobl mewn sefyllfa fregus.

Yn ogystal â hynny, rydym yn gobeithio cyflwyno ein dull ni o weithredu yn seiliedig ar drawma ar draws y gwasanaethau cyhoeddus mor gyflym â phosibl. Felly, mae sicrhau bod yr hyfforddiant yn seiliedig ar drawma ar gael i'r heddlu, sydd ar y llinell flaen, a'r amrywiaeth o dimau yng nghanol dinasoedd, a'r math hwnnw o beth, yn rhan bwysig o hyn hefyd. Felly, rwyf i o'r un farn â chi yn hynny i gyd.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad y grŵp gweithredu tua dechrau'r wythnos nesaf a byddaf yn rhoi datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad yn amlinellu'r camau y byddwn ni'n eu cymryd wrth ymateb i hynny ar yr un pryd. Felly, bydd gennych chi'r adroddiad yn ysgrifenedig, Dirprwy Lywydd, gyda datganiad ysgrifenedig gennyf i yn dweud beth fydd y camau cyntaf i fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n awyddus iawn i fod yn atebol am fy ngweithredoedd ynglŷn â hyn, ac felly byddwn yn cyhoeddi'r camau gweithredu a'r amserlenni, ac yna—rwy'n disgwyl bod Aelodau'r Cynulliad i gyd o'r un meddylfryd yn hyn o beth—sicrhau ein bod ni'n gweithio mor gyflym â phosibl i gael gwared ar y pla o gysgu ar y stryd.

Yna, rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad Leanne Wood ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud. Felly, ar hyn o bryd mae gennym ddarn o waith ymchwil academaidd sy'n cael ei wneud ynglŷn â disodli angen blaenoriaethol, y rhaglenni allgymorth ac ati. Pan welwch chi adroddiad y grŵp gweithredu, fe welwch eu bod nhw o'r un meddylfryd i raddau helaeth iawn—nid oes dim yn annisgwyl yn hynny—ac fe fyddwn yn ystyried pa fesurau dros dro y gallwn ni eu cyflawni i gael gwared ar rai o'r rhwystrau yn y byrdymor wrth inni roi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith i wneud hynny yn y tymor hwy.

Ond y peth sylfaenol yw tywys gweinyddwyr y system, yn eu calonnau a'u meddyliau, hyd at y safbwynt sy'n gymwys. Nid yw'r deddfu'n ddigonol heb i bawb fod o'r un meddylfryd. Felly, mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol yn benodol, eu grwpiau digartrefedd, ynghylch yr hyn y maen nhw'n eu gweld yn rhwystrau a sefydlu'r meddylfryd cywir yn eu plith nhw ac, ochr yn ochr â'm cydweithiwr Vaughan Gething, sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yno gyda'i gilydd ar yr un pryd. Oherwydd, nid oes dim yn annisgwyl yn hyn, Dirprwy Lywydd, os ydych chi'n cael eich hunan yn ddigartref, buan iawn y byddwch chi'n sylwi bod eich iechyd meddwl yn gwaethygu, hyd yn oed pe bai'n berffaith iach ar y dechrau. Mae pob un ohonom yn yfed gwydraid o win o bryd i'w gilydd os ydym wedi cael diwrnod annifyr. Mae pobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio hynny'n troi'n gyflym iawn at fathau eraill o sylweddau i'w defnyddio ar gyfer lleddfu'r sefyllfa annerbyniol y maen nhw ynddi. Ni allwch ond cydymdeimlo â nhw. Gyda'n gilydd, fe allwn ni sicrhau bod y gwasanaethau angenrheidiol yn eu cofleidio ar gyfer rhoi eu bywyd ar y trywydd iawn unwaith eto.

16:05

Rwy'n croesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog. Mae digartrefedd yn fater cymhleth sy'n cael ei achosi gan nifer o wahanol ddigwyddiadau. Gall colli swydd, sy'n cyd-ddigwydd â pherthynas yn dod i ben, olygu bod rhywun yn cael ei hun yn ddigartref nad oedd erioed wedi ystyried y byddai hynny'n digwydd iddo ef.

Er bod pobl yn aml yn cysylltu digartrefedd â chysgu ar y stryd, mae llawer mwy o bobl ddigartref yn cysgu ar soffas a lloriau ffrindiau a theulu neu mewn llety dros dro. Y peth pwysicaf—ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog—yw atal pobl rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf drwy ymyrryd yn gynnar—ataliad, ymateb brys a thai, llety a chymorth, ac yna darparu tai a chymorth parhaus fel ffordd o symud pobl allan o ddigartrefedd.

I rai pobl ddigartref, ni fydd darparu tŷ neu fflat yn datrys eu problemau. Mae eu problemau nhw'n fwy o lawer na hynny, a'r cyfan a wnewch yw eu paratoi ar gyfer methiant. Rydych yn eu rhoi mewn tŷ neu fflat nad ydyn nhw'n gallu ymdopi ag ef. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am bobl 18 mlwydd oed; yn 18 oed, nid oeddwn i'n gallu edrych ar ôl fy hun mewn plwc iddyn nhw yn mynd i arwain bob amser, neu mewn llawer iawn o achosion, at lawer o fethiant.

Hoffwn i ychwanegu fod yna waith da yn cael ei wneud gan elusennau fel y Wallich, gan gynnwys eu prosiect trawsffiniol nhw ar gyfer menywod yn Birchgrove, Abertawe. Ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno, hyd nes y dechreuwn ni adeiladu mwy o dai cyngor a defnyddio tai gwag unwaith eto, a hyd nes y bydd y cyflenwad o dai yn bodloni'r galw am dai, yna bydd gyda ni bob amser ryw fath o ddigartrefedd, oherwydd mae'r hyn sydd gennym ni'n anghydnaws â'r sefyllfa ar hyn o bryd? Mae llawer mwy o alw nag o gyflenwad. Gwn fod y Llywodraeth yn rhoi arian i mewn o ran y galw am dai, ond pe gallem roi mwy o arian i mewn o ran y cyflenwi fel bod gennym ddigon o dai mewn gwirionedd, yn y pen draw gallai hynny arwain at gylch rhinweddol, yn hytrach na'r cylch dieflig yr ydym ynddo ar hyn o bryd.

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf yna. Mae Mike Hedges yn ymwybodol iawn ein bod ni wedi bod yn rhoi mwy o arian i'r math priodol o gyflenwad. Ymwelais yn ddiweddar â phrosiect tai arloesol da iawn yn ei etholaeth ef, a gwn iddo fod yn gefnogol iawn i hwnnw, gyda'r bwriad o gael y cyflenwad o dai cymdeithasol o ansawdd da yn y lle y mae ei angen. Ac nid yw hyn yn golygu tai ar gyfer deiliadaeth yn gyfan gwbl, ond y math cywir o dai deiliadaeth ac yn y lle iawn hefyd. Felly, rwy'n derbyn y pwynt hwnnw'n llwyr. Hyd nes y byddwn ni'n cael trefn ar yr ochr gyflenwi, byddwn bob amser yn ceisio ymdopi â galw na ellir ei ateb. Mae fy nghydweithiwr Lee Waters hefyd yn gweithio gyda mi ar gyfres o raglenni arloesol sy'n ymwneud â hawlio eiddo gwag ar gyfer defnydd buddiol unwaith eto, ac rwy'n awyddus iawn i gyflwyno hynny ledled Cymru. Ac fe fydd Mike Hedges yn falch iawn o wybod bod Cyngor Abertawe yn edrych yn ffafriol iawn ar y cynllun hwnnw yn ei ardal ef—ac yn fy ardal innau hefyd, o ran hynny.

Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynd gyda'r Wallich ar un o'u tripiau dosbarthu brecwast yn Abertawe i weld drosof fy hun y gwaith da y mae'r trydydd sector yn ei wneud ar lawr gwlad i gefnogi pobl. Ac nid pobl sy'n cysgu ar y stryd yw'r rhain o reidrwydd, ond pobl sydd â thai annigonol neu'n anniogel. Ac maen nhw'r un mor ddigartref, mewn gwirionedd, â'r bobl sydd ar y stryd. Felly, mae angen inni gael dull gweithredu system gyfan i atal digartrefedd, gan weithio ar draws y Llywodraeth, fel y dywedais i'n gynharach, gydag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, diogelwch cymunedol a gofal sylfaenol, i ddarparu model o wasanaeth cyhoeddus sy'n mynd i'r afael ag anghenion pawb.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn ddigartref yn yr unfed ganrif ar hugain ym Mhrydain yn foesol resynus. Mae Llywodraethau olynol, yma ac yn San Steffan, wedi methu â sicrhau digon o dai o safon uchel i ateb y galw. Ac er bod Llywodraethau bellach yn derbyn bod angen iddyn nhw wneud mwy, nid ydynt byth yn gwneud digon. Mae ateb y galw yn gofyn am flaengynllunio, sydd yn ddiffygiol yn y maes hwn yn anffodus, ac nid yw geiriau'n ddigon.

Yng Nghymru, nid ydym yn adeiladu digon o dai fforddiadwy i gyrraedd targedau'r Llywodraeth ei hunan, heb sôn am ateb y galw gwirioneddol. O'r cartrefi a oedd yn gymwys i gael cymorth digartrefedd yn ystod y 12 mis diwethaf, dim ond 80 y cant a gefnogwyd yn gadarnhaol. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, dim ond tua hanner y cartrefi sy'n cael y cymorth angenrheidiol. Rwy'n falch eich bod ni'n gweithio gyda Crisis, ond yn nodi bod nifer yr anheddau newydd sydd wedi dechrau cael eu hadeiladu yn y 12 mis diwethaf wedi gostwng, yn ogystal â nifer yr anheddau a gwblhawyd.

Mae llawer gormod o bobl yn cael eu gorfodi i fyw mewn llety dros dro neu, yn waeth na hynny, yn gorfod cysgu wrth ddrysau siopau neu bebyll ar dir diffaith. Mae plant bach a phobl eraill sy'n agored i niwed yn dioddef.

Gweinidog, rwy'n croesawu eich cadarnhad chi y dylai digartrefedd fod yn rhywbeth prin. Wrth gwrs, ni ddylai hynny orfod cael datganiad polisi strategol. Pa wahaniaeth yr ydych chi'n ei awgrymu y bydd datganiad o'r fath yn ei wneud i wasanaethau ar lawr gwlad? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad na all tai yn unig ddatrys digartrefedd, ac mae hynny'n wir, yn enwedig o ystyried cysgu ar y stryd. Mae gan y rhan fwyaf o bobl ddigartref anghenion cymhleth.

Gweinidog, mae mwyafrif helaeth y rhai sy'n cysgu ar y stryd yn y DU wedi bod yn aelodau o'r lluoedd arfog. Beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud ar y cyd ag elusennau'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r lluoedd i wella'r cymorth i gyn-bersonél y lluoedd arfog, gan fod rhai o'r rhain yn cyflawni hunanladdiad oherwydd diffyg cefnogaeth, gyda thai yn broblem enfawr? Ni allwn ond dychmygu'r diffyg gwerthfawrogiad y mae'r cyn-filwyr hyn yn ei deimlo ar ôl gwasanaethu eu gwlad, gan ddod adref i fod heb unrhyw sylw'n cael ei roi i'w hawliau dynol sylfaenol nhw.

Yn olaf, Gweinidog, un rheswm mawr pam y mae nifer o gyn-droseddwyr yn aildroseddu yw diffyg gwasanaethau tai a chymorth. Ni cheir unrhyw fecanwaith cefnogi ar gyfer y mwyafrif sy'n dod allan o'r carchar. Yn ystod fy amser i'n swyddog carchar, fe welais i lawer o bobl ifanc—ac nid pobl ifanc yn unig, ychwaith—yn dod yn ôl drwy ddrysau'r carchar am eu bod wedi cael eu hanfon allan gyda'u heiddo mewn bagiau duon a heb unrhyw le i fynd. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i leihau digartrefedd ymhlith cyn-droseddwyr? Diolch i chi eto am eich datganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â digartrefedd yn ystod y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr.

16:10

Wel, rwy'n credu i chi nodi rhai o'r materion yr ydym ni'n ymdrin â nhw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n anghytuno â rhai o'r datrysiadau y gwnaethoch chi eu cyflwyno. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sefydlu'r llwybrau ar gyfer cyn-garcharorion. Mae'r llwybr yn ddigonol. Rydym wedi rhoi prawf arno. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod pawb yn ei weithredu yn y ffordd gywir. Ar hyn o bryd mae gennym ni grŵp gorchwyl a gorffen yn gweithio yma yng Nghaerdydd i weld pa rwystrau sydd i weithrediad y llwybr, a phan fydd y gwaith hwnnw wedi ei gwblhau, byddaf i'n diweddaru'r Senedd yn unol â hynny, fel na fyddwn ni'n rhyddhau pobl o'r ddalfa i ddigartrefedd. Felly, rwy'n cytuno â hynny i raddau helaeth.

O ran y cyfraddau ar gwblhau tai, maen nhw wedi gostwng yn y chwarter olaf, ond mae hynny oherwydd ein bod ni ar fin profi dirwasgiad. Rydym wedi cael nifer o gwmnïau adeiladu bach a chanolig yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar iawn, ac rwy'n ofni bod hynny o ganlyniad uniongyrchol i Brexit a'r gostyngiad yng nghyfraddau'r bunt. Felly, rwy'n ei chael hi'n eironig iawn eich bod chi'n fy nghyhuddo i o fod â rhywfaint o ran yn hynny. Oherwydd os siaradwch chi â chwmnïau bach a chanolig, yn benodol, maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw broblem wirioneddol o ran cael gweithwyr a chael deunyddiau am y prisiau iawn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eironig tu hwnt yn wir.

O ran y galw, fel y dywedais wrth ateb Mike Hedges, rydym yn adeiladu cymaint o dai fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol ag y gallwn ni. I egluro, rydym wedi cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn rhwydd iawn. Felly, nid ydym wedi methu yn ein targed ni ein hunain. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw uwchraddio ein targed er mwyn ateb y galw cynyddol yr ydym ni'n ei weld. Felly, hoffwn i fod yn eglur iawn ynglŷn â hynny.

Mae problemau'n bodoli ynghylch cyfamod y lluoedd arfog. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu comisiwn yr ydym ni'n awyddus iawn i gydweithio'n agos ag ef. Mae fy nghydweithwraig Hannah Blythyn wedi bod yn cydweithio'n agos i sicrhau ein bod ni'n cadw ein dyletswyddau ni yn ôl y cyfamod ar gyfer personél y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Mae Cymru yn rhoi cyfran uwch o'i phoblogaeth i'r lluoedd arfog na'r budd a gawn ni drwy fuddsoddiad y fyddin, felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r cylch hwnnw'n ôl yn ei le.

Dirprwy Lywydd, pe caf i ond dweud—. Rydw i wedi bod yn meddwl sôn am hyn sawl gwaith erbyn hyn wrth i bobl ei godi: rwy'n cytuno'n gryf nad yw pobl ifanc 18 oed o reidrwydd yn abl i edrych ar eu holau eu hunain yn eu llety. Un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w wneud yw gweithio'n galed iawn ar y sgiliau sydd eu hangen ar bobl os ydyn nhw'n cael eu rhoi mewn llety. Rhaid pwysleisio nad oes a wnelo hyn â bod yn brin o lety i'w roi i bobl. Mae a wnelo hyn â bod yn brin o sgiliau, arian, cyflenwadau ac ati i'w cadw nhw yno. Nid oes pwynt i mi roi fflat i chi os nad oes ynddo welyau neu lestri neu lenni. Ni fyddwch chi'n gallu aros mewn lle felly. Ond hefyd, mae'n rhaid  chi fod â'r sgiliau i allu talu biliau'r cyfleustodau a'r rhent ac ati. Felly, yn amlwg, fel y dywedais i o'r blaen, mae hwn yn ddull system gyfan o atal digartrefedd.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ddiweddaru'r Siambr hon ar fater pwysig iawn—un sy'n flaenoriaeth allweddol yn fy marn i? Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod yn rhaid i bob un ohonom ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd o bob math, felly rwy'n croesawu cyfraniadau gan yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon, oherwydd yn sicr mae angen cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater hwn.

Gweinidog, fel yr oeddech chi'n dweud, mae iechyd meddwl yn un o'r problemau mwyaf y mae pobl sy'n eu cael eu hunain yn ddigartref yn eu hwynebu bob dydd, ac yn enwedig yn ystod y gaeaf, yn ystod y nosweithiau oer hynny, maen nhw'n dioddef yn wirioneddol. Nawr, pryd bynnag y byddaf i wedi cael wythnos anodd neu wedi bod yn dioddef gyda fy iechyd meddwl fy hun, sy'n digwydd yn llawer rhy aml y dyddiau hyn, prin fod unrhyw beth yn well na chael fy nghroesawu gartref gan Joseph. Nawr, i'r Aelodau hynny nad ydyn nhw'n gwybod, fy nghi Apso Lhasa yw Joey. Felly, fe fyddaf i'n arwain dadl fer ar y pwnc hwn yn yr wythnosau nesaf, oherwydd mewn gwirionedd mae hyn yn bwysig iawn i bobl sy'n ddigartref. Fe drafodais i hyn pan gysgais i allan ar strydoedd Caer am un noson y llynedd. Ac, i'r Aelodau sy'n gwrando heddiw, fe fyddwn i'n eich annog chi o ddifrif i fynd i dreulio ychydig amser allan ar y strydoedd ac yna fe fyddwch chi'n sylweddoli'r hyn y mae'r bobl hyn yn ei brofi'n ddyddiol.

Dirprwy Lywydd, i lawer, mae bod yn berchen ar gi yn un ffordd o wneud cysylltiad, ac mae'n rhoi'r nerth iddyn nhw i'w cefnogi drwy'r noson honno a thrwy nosweithiau eraill y gaeaf. Nawr, yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr llety yn y DU yn dal i weithredu polisi 'dim cŵn, dim anifeiliaid anwes', sy'n golygu bod pobl ddigartref sy'n berchen ar gi yn cael eu hamddifadu o'r lloches a'r cymorth gwirioneddol sydd eu hangen yn fawr arnyn nhw. Nawr, mae prosiect Hope yn gweithio gyda hosteli a darparwyr tai dros dro i'w hannog nhw i dderbyn cleientiaid gyda chŵn. Felly, Gweinidog, cyn y ddadl fanylach yn ddiweddarach y mis hwn, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud mewn gwirionedd i gefnogi prosiectau fel prosiect Hope, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Cŵn?

16:15

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch chi nawr. Rydym ni'n ymwybodol na fydd pobl yn bodloni mynd i lety dros dro os yw'n golygu bod rhaid gadael eu cydymaith hoff y tu allan, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy. Felly, rydym ni'n gweithio i sicrhau bod gennym ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ag anifail anwes hoff yn gydymaith. Rydych chi'n dweud yn ddigon teg mai'r rhain yw eu hunig gydymaith yn aml, eu hunig gyfaill dibynadwy, felly mae hi'n gwbl briodol bod angen inni wneud yn siŵr y gall pobl fynd â'r cydymaith hwnnw gyda nhw i ba lety bynnag y maen nhw'n cael lle ynddo. A dyna lle mae Tai yn Gyntaf yn camu i mewn, oherwydd nid sôn am lety dros dro yr ydym ni; rydyn ni'n sôn am lety parhaol a diogel i bobl lle mae croeso i'w hanifail anwes a lle y gall hwnnw ymgartrefu hefyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl fer. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y bydd pobl yn deall yr hyn y mae'r anifail anwes yn ei olygu a pham mae'n bwysig ei gadw gyda'i berchennog.

Hoffwn i groesawu eich datganiad chi heddiw, Gweinidog ac, yn wir, gyhoeddi'r strategaeth. Fel y gwyddoch, mae cysgu ar y stryd ac, yn wir, fater digartrefedd yn fwy eang, yn ofid canolog i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, yr wyf i'n ei gadeirio, ac rwy'n gwybod y cawn ni gyfle'r wythnos nesaf i ofyn mwy o gwestiynau i chi a chyflwyno rhagor o safbwyntiau wrth ystyried y materion hyn.

Ond, fel y mae hi arnom ni heddiw, Gweinidog, hoffwn i wneud ychydig o sylwadau a gofyn ambell i gwestiwn ar y cam hwn. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r Pwyllgor wedi cwrdd â rhai sydd wedi cael profiad gwirioneddol o gysgu ar y stryd a digartrefedd ac, yn wir, â rhanddeiliaid allweddol sy'n gysylltiedig â'r materion hyn. Roedd clywed eu hanesion personol nhw ac am y profiad o fyw fel hynny'n drawiadol iawn. Fe wnaed llawer o awgrymiadau ymarferol, mewn gwirionedd, o ran sut y gellid tywys pethau yn eu blaenau ac rwy'n falch iawn o ddweud bod llawer o'r rhain yn cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu heddiw. Rwy'n siŵr bod cyfansoddiad eich gweithgor chi a'u mewnbwn nhw wedi bod yn gwbl allweddol yn hynny, gyda'u profiad nhw ar lawr gwlad.

Dau fater y clywsom ni amdanyn nhw'n benodol yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf oedd digartrefedd bwriadol a chysylltiad lleol a'r rhwystrau y gallan nhw eu gosod ar ffordd pobl a'u gallu nhw neu fel arall i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn y lle mae arnyn nhw ei angen ac ar yr adeg y mae arnyn nhw ei angen. Felly, byddai o ddiddordeb cael clywed gennych pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion penodol hynny. Ac, fel y dywedasoch, mae'n amlwg bod angen cydbwysedd rhwng camau gweithredu uniongyrchol, ac yn amlwg gyda'r gaeaf o'n blaenau nawr, a dull tymor hwy, mwy ataliol. Felly, byddai'n dda cael clywed gennych chi, mewn gwirionedd, sut y gallwn ni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng y newidiadau hirdymor, mwy systemig sydd eu hangen i gefnogi gwasanaethau a'r heriau mawr sy'n ein hwynebu gyda'r gaeaf sydd wrth y drws. Yn ogystal â hynny, Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi sylw i faterion cynaliadwyedd, yn wir, fel rhan o hynny, oherwydd, yn amlwg, mae angen newid cynaliadwy arnom a all roi rhywfaint o gysur i bob un ohonom ni, yn enwedig y rhai sy'n ddigartref neu'n cysgu ar y stryd neu mewn perygl o hynny, y byddwn ni yn mynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd gynaliadwy a all atal y problemau hyn rhag digwydd unwaith eto.

16:20

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r dadansoddiad yna. Pan gyhoeddir y cynllun gweithredu yr wythnos nesaf gan y grŵp, fe welwch eu bod yn mynd i'r afael â bwriadoldeb a chysylltiad lleol, ac maen nhw'n gwneud rhai cynigion i ni allu ymdrin â hynny yn y tymor byr ac yna yn y tymor hwy. Ac, fel y dywedais, mae gennym ymateb cadarnhaol iddo. Ddoe ddiwethaf fe'i gwelais, ond byddaf yn rhoi ymateb manwl i hynny'r wythnos nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd hynny digwydd cyn i mi ddod i'r pwyllgor fel y byddwn yn gallu ei weld, ond, os na fydd hynny'n digwydd, byddaf yn sicr yn gallu ei rannu gyda'r pwyllgor.

Cyfarfûm â Jon Sparkes, sy'n cadeirio'r grŵp hwnnw, ddoe ddiwethaf i drafod yr hyn y gallwn ei wneud, a nododd lawer o'r pethau yr ydych chi newydd sôn amdanynt. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r system yn ei chyfanrwydd, ond does dim modd osgoi hynny: yr anhawster sylfaenol yma yw bod pobl yn syrthio i dlodi. Felly, mae angen inni wneud rhywbeth am hynny hefyd, ac mae problemau mawr yn y system les fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd sy'n achosi problemau.

Un o'r pethau rydym ni wedi bod yn pendroni yn ei gylch yw beth y gallwn ei wneud i gefnogi hynny yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r grŵp i edrych ar rai o'r materion hynny, ac rwy'n fodlon eu harchwilio gyda'r pwyllgor hefyd. Felly, bydd tri pheth i'w dweud, mewn gwirionedd: beth allwn ni ei wneud yn y tymor byr i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau'r nifer sy'n cysgu ar y stryd y Nadolig hwn—dydw i ddim yn barod i ddweud y gallwn ei ddileu nes y byddaf yn sicr, ond yn sicr rydym eisiau ei leihau gymaint ag sy'n bosib o fewn gallu dyn—yr hyn a allwn ei wneud i sicrhau nad yw'r atebion o ran llety dros dro yn bethau y mae pob un ohonom yn eu hystyried yn annerbyniol a dewis pethau mwy derbyniol yn y tymor byr hwnnw; a'r hyn y gallwn ei wneud i gael gwared ar rai o'r rhwystrau deddfwriaethol anfwriadol yn y tymor byr ac yna yn y tymor hwy.

Ond mae hefyd yn bwysig ei roi yn y cyd-destun ein bod yn y broses o weithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi. Aeth y Ddeddf ffioedd drwy'r Senedd hon. Rydym ni wedi newid y sefyllfa dai yng Nghymru yn sylweddol, a bydd y newidiadau hynny, wrth iddynt ymsefydlu, hefyd yn gwneud gwahaniaeth i atal pobl rhag dod yn ddigartrefedd, oherwydd mae'n ymwneud â'r ymyriad aciwt, ond mae hefyd yn ymwneud ag atal—felly, atal y llithro. Ac, fel y dywedais yn ystod fy natganiad, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r naill ben a'r llall o hynny ar yr un pryd, neu byddwn dim ond yn atal llif sy'n cynyddu'n barhaus.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio rhatach, a galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer teithio rhatach ar fysiau yng Nghymru. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig cyn toriad yr haf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru a Bil sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae sawl elfen i'r ddeddfwriaeth arfaethedig, ac mae'r rhain i gyd yn cael eu creu i wella teithio ar fysiau yng Nghymru. Bydd yn rhoi darpariaethau ar waith a fydd yn darparu cyfres o ddulliau i awdurdodau lleol ystyried eu defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, gan gynnwys gwell trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, masnachfreintiau a gwasanaethau bysiau a weithredir gan awdurdodau lleol.

Bydd yn rhoi trefniadau rheoli a rhannu gwybodaeth newydd ar waith fel y bydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn fwy dibynadwy ac yn haws i'r cyhoedd gael gafael arni, a bydd awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i wneud trefniadau i fynd i'r afael â newidiadau yn narpariaeth gwasanaethau. Bydd hefyd yn diwygio'r oedran cymhwysedd ar gyfer y cynlluniau pris teithio rhatach gorfodol a dewisol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i siarad â chi am hyn yn fwy manwl heddiw.

Mae'r cynllun pris teithio rhatach gorfodol wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Fe'i cyflwynwyd yn 2002, pan ddaeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno teithio ar fysiau am ddim i bobl wedi ymddeol yma yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn ymrwymedig o hyd i'r egwyddorion a fu'n sail i'r cynllun yng Nghymru dros yr holl amser yna, gan roi cyfle i bobl hŷn a phobl anabl, sy'n cynnwys rhai o gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol, deithio am ddim ar fysiau yn unrhyw le yng Nghymru ar wasanaethau bysiau a drefnwyd yn lleol.

Mae nifer y teithwyr â thocynnau teithio rhatach gorfodol wedi cynyddu ers cyflwyno'r cynllun yn 2002. Ar hyn o bryd, mae deiliaid cardiau'n cynrychioli tua 47 y cant o'r holl deithiau ar fysiau, ac mae bron i dri chwarter miliwn o'r tocynnau mewn cylchrediad.

16:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn anochel, mae llwyddiant y cynllun wedi arwain at gynnydd yng nghostau'r cynllun. Gyda newidiadau i'n demograffeg poblogaeth ers cyflwyno'r cynllun, ein gwir her nawr yw sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol. Mae rhagamcaniadau'n dangos y bydd nifer y bobl sy'n gymwys i deithio am ddim o dan y cynllun presennol yn 880,000 erbyn 2021 a thros filiwn erbyn 2030. Mae'r cynnydd hwn o bosibl yn peryglu hyfywedd y cynllun yn y dyfodol.

Mae proffil oedran ein poblogaeth yn cynyddu. Mae'r rhai dros 60 yn gynyddol weithgar, yn gorfforol ac yn economaidd. Dyna pam rydym ni wedi bod yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer rheoli costau cynyddol heb effeithio ar gymhwysedd y bobl hynny sydd â hawl ar hyn o bryd i gael tocyn teithio rhatach, mewn ffordd sy'n sicrhau cynllun teg sy'n cyflawni ein bwriadau polisi yn y tymor hir. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gadw'r hawl i deithio am ddim ar unrhyw adeg ac rydym yn cydnabod ei bwysigrwydd i annibyniaeth deiliaid cardiau, ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried gwneud newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr newydd er mwyn cadw'r cynllun yn gynaliadwy.

Felly, rydym yn bwriadu cynyddu'r oedran ar gyfer cael yr hawl i gael cerdyn teithio rhatach dros nifer o flynyddoedd yn raddol er mwyn ei gysoni ag oedran pensiwn y wladwriaeth yn y pen draw. Bydd cynnydd graddol yn yr oedran ar gyfer cael yr hawl yn golygu na fydd newid sydyn. Ni fydd yn rhaid i'r bobl hynny fydd bron yn 60 pan fydd y newidiadau'n dod i rym ac yn disgwyl derbyn eu cerdyn teithio pan fyddant yn 60 orfod aros nes iddyn nhw gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth i gael un. Gyda chynnydd graddol yn yr oedran cymhwysedd, bydd y bobl hynny yn cael cerdyn teithio cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Rydym hefyd yn cynnig gwneud diwygiadau tebyg i gymhwysedd ar gyfer cynlluniau consesiynau dewisol sy'n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol. Wrth wneud y diwygiadau hyn i'r cynllun gorfodol, byddwn yn gallu parhau i gynnig cynllun sy'n fwy hael nag yn Lloegr, lle gall deiliaid cerdyn teithio ddal unrhyw fws ar unrhyw adeg yng Nghymru am ddim.

Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd pryderon ynghylch y cynigion hyn, gan gynnwys yr hyn y maen nhw'n ei olygu i ddeiliaid cerdyn teithio presennol. Fodd bynnag, hoffwn ei gwneud hi'n gwbl glir na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach pan wneir y newidiadau i'r gyfraith yn colli ei hawl i'r cerdyn teithio hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau.

Mae'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i'r gofynion preswyliaeth ar gyfer y cynlluniau yng Nghymru. Cyfyngir cymhwysedd i berson hŷn neu anabl y mae ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yn ardal yr awdurdod. Ar hyn o bryd, mae gan y rhai sy'n 60 oed a throsodd hawl i wneud cais am drwydded os oes ganddyn nhw breswylfa mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Ar ôl i'r newidiadau newydd ddod i rym, dim ond y bobl hynny sydd â'u hunig breswylfa neu eu prif breswylfa yng Nghymru fydd yn gymwys i gael trwydded. Unwaith eto, bydd unrhyw berson sydd ar hyn o bryd yn meddu ar drwydded nad yw ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yng Nghymru yn cadw ei gerdyn teithio nes iddo ddod i ben. Ni fydd y newidiadau a ddaw yn sgil y darn hwn o ddeddfwriaeth yn dod i rym cyn Ebrill 2022. Felly, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw un sy'n cyrraedd 60 oed cyn y dyddiad hwn.

Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw teithio am ddim ar ei ben ei hun yn ddigon i gymell teithwyr i ffeirio eu ceir am drafnidiaeth gyhoeddus. Ymhlith pethau eraill, mae gwell dibynadwyedd o ran bysiau, gwell integreiddio a gwybodaeth hygyrch hefyd yn ffactorau allweddol a all ein helpu ni i gyflawni'r newid hwn. Nod ein casgliad ehangach o fesurau diwygio bysiau, yn ddeddfwriaethol ac yn anneddfwriaethol, a'n huchelgeisiau o ran y Metro aml-foddol yw mynd i'r afael â'r pryderon hyn. Felly, er bod temtasiwn i edrych ar y cynllun tocynnau teithio rhatach ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl ar eu pen eu hunain, mae'n gwbl hanfodol ei ystyried mewn cyd-destun ehangach o lawer er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

Hoffwn droi at bwnc ar wahân ond sy'n gysylltiedig â'r rhaglen i adnewyddu cardiau teithio rhatach, a ddechreuodd ar 11 Medi, ac y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei chynnal ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Ers lansio'r rhaglen adnewyddu, mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn dros 210,000 o geisiadau ar-lein erbyn hyn, sef tua 95 y cant o'r holl geisiadau a dderbyniwyd hyd yn hyn. Oherwydd y cynnydd enfawr yn y galw yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, cafodd y wefan ei thynnu i lawr ac yn ystod y cyfnod hwn, crëwyd llawer mwy o gapasiti a chynhaliwyd profion capasiti helaeth, mewn partneriaeth ag Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Roedd ceisiadau papur ar gael i'w lawrlwytho o wefan Trafnidiaeth Cymru, drwy'r post ar gais drwy'r llinell gymorth, a hefyd, wrth gwrs, ar gael drwy'r awdurdodau lleol.

Mae awdurdodau lleol wedi cymryd rhan ym mhob cam o'r gwaith dylunio ac adeiladu dros y naw mis diwethaf. Mae bwletinau rheolaidd wedi'u dosbarthu i awdurdodau lleol a phartneriaid er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw drwy gydol y rhaglen er mwyn darparu cymaint o gymorth â phosibl. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymateb i ymholiadau gan filoedd o aelodau'r cyhoedd, cyfryngau Cymru a chydweithwyr etholedig i'w sicrhau bod digon o amser i wneud cais a bod y cardiau teithio bws presennol yn ddilys tan 31 Rhagfyr eleni. Rwyf wedi bod yn fodlon â'r lefel o ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, gan ddangos diffuantrwydd a thryloywder a dull gweithredu cysylltiedig, yr wyf yn ei groesawu'n fawr.

Mae'r rhaglen wedi cael ei rhannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol, sydd wedi creu nifer fawr o geisiadau ac ymholiadau gan ymgeiswyr a'r rhai sy'n gwneud cais ar ran pobl. Mae tîm Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi awdurdodau lleol a chydweithwyr, a bydd yn mynd i ddigwyddiadau cymunedol a lleoliadau perthnasol wrth i'r rhaglen barhau drwy'r hydref hwn. Rwy'n annog cydweithwyr i gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes digwyddiadau lleol a chyfarfodydd yn cael eu cynnal er mwyn iddyn nhw gael cyfle i hyrwyddo'r newidiadau ymhellach ar draws cymunedau, wyneb yn wyneb.

16:30

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar ddwy agwedd yn gysylltiedig â theithio rhatach. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydych chi wedi ystyried rhai o'r pryderon a fynegwyd i osgoi'r canlyniadau anfwriadol i ddeiliaid cardiau megis gofalwyr a phobl hŷn sydd â phroblemau iechyd neu anableddau. Byddwn hefyd yn ddiolchgar am ragor o fanylion ynghylch sut rydych chi wedi ystyried yr effeithiau negyddol posibl ar hyfywedd gwasanaethau bws os yw'n arwain at ddefnyddio llai o fysiau a'r effaith bosibl ar yr amgylchedd os gwelwn newid moddol o bobl dros 60 efallai'n mynd yn ôl at yrru ceir wedyn yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf fod hyn yn rhywbeth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill wedi'i nodi fel canlyniad posibl, felly a wnewch chi ddweud ychydig yn rhagor am yr ymchwil y cyfeiriasoch ato yn eich datganiad sy'n awgrymu na fydd hyn yn digwydd.

Rwy'n falch o glywed bod y problemau ynghylch y wefan tocynnau teithio rhatach wedi cael eu datrys. Rwy'n deall y byddai cefnogaeth gynhwysfawr ar gael drwy'r gwasanaethau cymdeithasol a llyfrgelloedd, ynghyd â cheisiadau ar-lein. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni chafodd lawer o gynghorau gopïau papur o'r ffurflenni cais i'w dosbarthu i'w llyfrgelloedd a'u canolfannau cymunedol tan yr wythnos a oedd yn dechrau ar 23 Medi, neu hyd yn oed yn ddiweddarach mewn rhai achosion. Tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynghylch pam ddigwyddodd hynny. Byddai'n ddefnyddiol gwybod beth mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn ei wneud i hysbysebu'r newid. A fydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol pan na fyddant wedi cael cais gan eu bod yn gwybod bod pobl yn gymwys drwy eu cronfa ddata a'u gwybodaeth eu hunain? O ganlyniad i fethiant y wefan, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn y cyfnod ar gyfer gwneud cais a, beth bynnag, a fydd cyfnod caniataol ar ôl 1 Ionawr? Os felly, am ba hyd fydd y cyfnod caniataol hwnnw'n para?

Hoffwn hefyd ofyn i chi, Gweinidog, i ddweud sut rydych chi'n ceisio sicrhau nad yw'r cynigion yn gwaethygu'r anawsterau trawsffiniol sy'n wynebu'r deiliaid tocynnau teithio rhatach hynny sydd â gofynion teithio penodol sy'n golygu teithio ar draws ffiniau. Mae hyn, wrth gwrs, yn bryder arbennig i etholaethau ar y ffin—fel fi ac fel chi eich hun. Rwy'n meddwl yn arbennig am ofal iechyd, er enghraifft. Mae llawer o'm hetholwyr yn mynd dros y ffin i gael gofal iechyd, i Loegr. Yn olaf, ac fel y dywedais o'r blaen, pobl ifanc sy'n tueddu i fod â'r cyflogau isaf a'r mae'r yswiriant car drutaf, ac mae costau teithio'n rhwystr sylweddol rhag cyrraedd swyddi a chyfleoedd hyfforddi. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried rywbryd y syniad o gyflwyno cynllun, fel yr un yr wyf wedi'i hybu fy hun yn y gorffennol, i ddarparu'r un consesiynau teithio i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed?

16:35

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad adeiladol iawn, a'i gwestiynau? Byddaf yn cymryd pob un yn ei dro, mor gryno ag y gallaf, Llywydd. Yn gyntaf oll, o ran yr ymgynghoriadau sydd wedi digwydd—ac mae sawl ymgynghoriad wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—rydym wedi ceisio ymdrin â'r holl bryderon y mae unigolion a sefydliadau sy'n cynrychioli teithwyr wedi eu cyflwyno. Mae Russell George yn codi'r pwynt pwysig am rai unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig neu ofalwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Byddwn yn dychmygu, o dan y cynllun dewisol, y byddai'r un broses ymgeisio a'r un ystyriaethau'n cael eu datblygu, fel na ddylai pobl fod mewn sefyllfa lle na allan nhw gynorthwyo'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, neu sefyllfa lle cânt eu hamddifadu o'r cyfle i deithio ar wasanaethau bysiau lleol. Dylai'r meini prawf aros yr un fath; yr oedran cymhwysedd sy'n mynd i newid.

O ran pryderon sy'n cael eu mynegi ynglŷn â chanlyniadau cynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mae'n wir fod pris yn gymhelliad mawr i gael pobl allan o'u ceir ac ar fysiau. Gwelsom hynny'n glir yn y cynllun arbrofol a gynhaliwyd ar rwydwaith TrawsCymru. Fodd bynnag, un rhan yn unig yw hyn. Fy ngweledigaeth i ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd ond yn digwydd o ganlyniad i flaenoriaethu adnoddau yn y ffordd briodol, a hefyd cyflawni'r diwygiadau sy'n angenrheidiol i wasanaethau bysiau lleol, yw datblygu gwell seilwaith, er mwyn sicrhau bod teithiau ar fysiau'n ddibynadwy ac yn fyrrach na theithiau mewn ceir preifat, ac yn ail, sicrhau bod cynllun pris siwrnai teg ar gael i unrhyw un nad oes ganddyn nhw naill ai docyn gostyngol—h.y. pobl ifanc—neu bobl sy'n elwa o dan y drefn tocynnau teithio rhatach. Fy marn i yw y byddai pris siwrnai safonol, teg a rhad, er enghraifft £1 y siwrnai unrhyw bryd, unrhyw le ar draws Cymru, yn ddigon o gymhelliad i bobl adael eu ceir gartref, os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn mynd i deithio o A i B yn gyflymach nag y bydden nhw mewn car.

Felly, bydd blaenoriaethu adnoddau i wella'r seilwaith a sicrhau ar yr un pryd bod gennych chi ffordd dryloyw a fforddiadwy o deithio, yn arwain at y newid moddol hwnnw. Ond bydd hefyd angen blaenoriaethu adnoddau ar gyfer gwasanaethau bysiau, a dyna pam ein bod yn cymryd camau cyfrifol nawr ynghylch cymhwysedd y cynllun tocynnau teithio rhatach. Oherwydd os na wnawn ni hynny, dim ond cynyddu a wnaiff. Bydd yn cynyddu, yn eithaf sylweddol, a byddai hynny yn ei dro yn ein hamddifadu ni o'r cyfle i gyflwyno'r pris siwrnai safonol is fforddiadwy hwnnw ar ôl gwneud y diwygiadau. Byddai'n ein hamddifadu o'r cyfle i gyflwyno lonydd bysiau pwrpasol a mathau eraill o seilwaith sy'n ei gwneud hi'n fwy deniadol i bobl deithio ar fws. Felly, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn beth cyfrifol o fewn gweledigaeth llawer ehangach ynghylch y ffordd yr ydym ni'n mynd i gael mwy o bobl allan o geir ac ar fysiau ledled Cymru.

Mae'r broses o wneud cais ar gyfer adnewyddu'r cardiau wedi bod yn broses yr ydym ni wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol arni. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd y cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau pob un o'r 22 awdurdod lleol, gan gydnabod nad oes gan gynghorau y gallu na'r adnoddau i wneud ymdrech mor fawr. Yn ddiweddar ysgrifennais i, a'r Cynghorydd Andrew Morgan, at bob awdurdod lleol yn eu hatgoffa o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau i gynorthwyo pobl i wneud cais am docynnau teithio rhatach, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod ganddyn nhw ffurflenni papur ar gael yn rhwydd a ffurflenni cais y gall unigolion eu defnyddio, a'u bod yn cael cymorth mewn llyfrgelloedd, er enghraifft. Nawr, rwy'n cydnabod bod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn llai effeithlon nag eraill o ran darparu gwybodaeth a chefnogaeth a dosbarthu gwybodaeth i lyfrgelloedd a gwasanaethau eraill, ond rwy'n gobeithio, rhwng y camau a gymerais i, a'r camau a gymerodd y Cynghorydd Andrew Morgan, y byddwn yn gweld pob cyngor yn camu ymlaen ac yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl wrth wneud cais am y cardiau hyn.  

16:40

Mae'n ddrwg gen i. Rwy'n falch o—. Ymddiheuraf—dim ond tri chwestiwn arall a godwyd gan yr Aelod.

O ran cyfnod caniataol, gallaf ddweud wrth Aelodau heddiw ei bod yn fwriad gennyf gael cyfnod caniataol byr o hyd at fis. Rwy'n ffyddiog, yn seiliedig ar 210,000 o geisiadau sydd eisoes yn cael eu gwneud, y byddwn yn gweld prosesu'r mwyafrif helaeth o geisiadau erbyn diwedd mis Tachwedd. O ran gwasanaethau trawsffiniol, ydw, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod gennym ni system yn ei lle sy'n galluogi pobl i groesi rhwng Cymru a Lloegr. Y peth allweddol yw bod angen i'r system yn Lloegr fod yn fwy hael, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi yn y gorffennol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi eto yn ystod y misoedd nesaf. Ac o ran budd-daliadau a hawliadau i bobl iau, rwy'n falch ein bod wedi gallu ymestyn hawliau i bobl iau o ran y cynllun 'FyNgherdynTeithio' gwreiddiol. Ond, fel y dywedais yn gynharach, byddai'r weledigaeth ehangach ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn gweld prisiau tecach, mwy fforddiadwy, a chyfraddau sylfaenol os oes modd, yn cael eu cyflwyno ledled y wlad a fyddai'n galluogi pobl iau i deithio ar fws heb orfod dewis y car mewn unrhyw gymuned.

Mae'r cerdyn teithio am ddim, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae pawb yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori. Mae pobl yn edrych ymlaen, dwi'n meddwl, at gyrraedd 60 oed—[Torri ar draws.] Mae yna broblem. Na, mae'n iawn. Ydy hynny'n gweithio? Ydy o'n gweithio bellach? Rydyn ni'n iawn. Dweud oeddwn i fod y cerdyn teithio ar y bysys am ddim yn rhywbeth y mae pobl yn ei drysori, ac yn iawn felly, hefyd. Mae pobl yn edrych ymlaen at gyrraedd 60 a chael y cerdyn am ddim. A dweud y gwir, a finnau ond yn ifanc, dwi'n edrych ymlaen yn barod at allu manteisio yn y ffordd dwi'n gweld llawer o bobl yn manteisio arno fo wrth ddefnyddio’r cerdyn yma. Ac felly nid rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn, wrth gwrs, ydy cynyddu'r oedran.

Dwi yn cydnabod nad rhywbeth fyddai'n digwydd mewn un cam ydy hyn—y byddai o'n digwydd dros gyfnod o amser. Ond, er hynny, mae yna gwestiynau dwi'n meddwl y mae'n bwysig eu gofyn ynglŷn â beth fydd effaith hyn. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriadau at ambell un ohonyn nhw'n barod. Mi hoffwn i sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â'r math o fesur fydd yn cael ei wneud i geisio rhagweld y costau allai godi yn sgil codi'r oedran—y costau'n amgylcheddol, o bosib, os ydy pobl yn dewis peidio â defnyddio'r bws ac yn defnyddio'u car eu hunain. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod o fantais fawr o gael y cerdyn teithio am ddim, sef bod mwy o bobl wedi dewis defnyddio dulliau teithio torfol. Ond hefyd, mi fyddwn i'n licio clywed am y math o fesur sydd yn neu sy'n mynd i gael ei wneud o'r costau cymdeithasol o bobl yn dewis peidio â mynd allan o'u cartrefi. Bues i'n siarad neithiwr, yn digwydd bod, ag un person a oedd yn fregus—yn fregus iawn—a oedd yn dychwelyd yn ôl i'w gartref ar ôl diwrnod ar y bws o gwmpas Ynys Môn, ac yn amlwg wedi cael pleser mawr o wneud hynny. Felly, mi hoffwn i sicrwydd ar y meysydd hynny.

Ar y mater o ddarparu'r pasys newydd, mi oedd yr anawsterau efo'r system ar-lein yn rhywbeth wnaeth achosi pryder mawr i lawer iawn o'm hetholwyr i. Edrych ymlaen sy'n bwysig, nid edrych yn ôl, ond tybed pa fath o 'stress test-io' gafodd ei wneud ar y system, o ystyried gymaint o bobl oedd yn cael eu gofyn i adnewyddu eu pasys nhw? Ac mi glywsom ni un Gweinidog—y Gweinidog cyllid, dwi'n meddwl—yn dweud ychydig wythnosau'n ôl, 'O, mae ganddyn nhw ddigon o amser; mae ganddyn nhw tan ddiwedd mis Rhagfyr'. Nid fel hynny mae pobl yn gweithio. Dwi wedi dod ar draws wn i ddim faint o bobl yn fy swyddfa i sydd eisiau sortio hyn heddiw, oherwydd eu bod nhw'n poeni eu bod nhw'n mynd i golli eu pasys, a dwi wedi gweld y loes yn llygaid pobl. Dyna pam dwi yn fy swyddfa i efo fy staff i wedi bod yn cynnig gwasanaeth i bobl, yn gwneud y cais ar eu rhan nhw, ac mae yna ugeiniau o bobl wedi bod yn dod i mewn i'm swyddfa i, ac mae wedi bod yn braf iawn gallu eu helpu nhw.

Felly, mi fuaswn i'n dymuno sicrwydd bod popeth yn cael ei wneud i ymgysylltu â phobl yn fuan i sicrhau eu bod nhw yn gallu cael adnewyddu eu pasys, a hefyd y sicrwydd, pan fydd diwrnod olaf mis Rhagfyr yn agosáu, fod y gwaith yn cynyddu o sicrhau bod pawb wedi cael y pasys newydd. Achos dwi'n gwybod am y pryder sydd yna mewn llywodraeth leol. Mae'ch ffigurau chi o'r datganiad heddiw yn dweud bod 47 y cant o bob siwrnai bws erbyn hyn yn cael eu cymryd gan bobl efo pàs. O golli'r siwrneiau hynny, mae hynny'n golled o incwm i lywodraeth leol ar adeg pan na allan nhw fforddio colli yr incwm yna. Felly, mi hoffwn i sicrwydd y bydd pethau'n dwysáu o ran yr ymdrechion i gael pawb i gael pàs newydd wrth i ddiwrnod olaf Rhagfyr agosáu.

16:45

A gaf i fod yn glir, a diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau, a dweud nad yw Llywodraeth Leol yn gwneud arian o'r cynllun tocynnau rhatach? Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Leol yn cyfrannu tuag ato. Yr allwedd yw sicrhau bod yr 80 a mwy o gwmnïau bysiau ar draws Cymru sy'n cael eu had-dalu ar hyn o bryd am y cynllun consesiynau yn gweithredu ar fodelau busnes sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A'r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, oherwydd bod 47 y cant o deithiau'n gysylltiedig â'r cynlluniau teithio rhatach, h.y. yn rhad ac am ddim ac yn seiliedig ar ad-daliad, nid oes digon o dwf yn y raddfa adennill pris taith—pobl sy'n talu am eu teithiau mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n arwain at yr elw bychan iawn hwnnw a diffyg cynaliadwyedd yn y farchnad.

Yn ei dro, dyna pam mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy'n talu i ddefnyddio bysiau, a dyna pam rydym ni'n edrych ar weledigaeth eang o wneud teithio ar fws yn fwy deniadol. Rydym yn edrych ar systemau tocynnau sy'n gweithredu ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o'r byd, sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i, er mwyn gwneud teithio ar fysiau yn fwy fforddiadwy i'r unigolyn, ond i gynyddu nifer y cwsmeriaid i'r fath raddau fel bod gwasanaethau bysiau a chwmnïau bysiau yn gynaliadwy ac yn ennill digon i oroesi drwy werthu tocynnau.

Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae pobl yn trysori eu pàs bws ac ni fydd neb sydd ag un yn awr yn cael eu hamddifadu ohono erbyn diwedd y flwyddyn. Mae digon o amser o hyd i wneud cais am y tocyn teithio rhatach, ond rwyf yn derbyn bod pobl eisiau cael y dasg honno allan o'u bywydau cyn gynted ag y gallant a gwneud cais a dyna ni. Arweiniodd hynny, ar 11 Medi, at lawer iawn o bobl yn ymweld â'r wefan, ac yn anffodus, gyda'r lled band a roddwyd iddi, fe fethodd. Dros y diwrnodau canlynol, cynyddwyd lled y band yn sylweddol a chynhaliwyd rhagor o brofion straen. Rwy'n falch na fu unrhyw broblemau ers hynny, ac rydym ni bellach wedi gweld tua 210,000 o geisiadau ar y wefan mewn cyfnod byr iawn o amser—rydym yn sôn am nifer fach o wythnosau yn unig—a dyna pam fy mod i'n ffyddiog, erbyn diwedd y flwyddyn, y byddwn wedi gallu prosesu'r holl geisiadau hynny.

O ran symud o'r car i'r gwasanaethau bysiau a'r perygl i'r gwrthwyneb ddigwydd, pobl yn penderfynu peidio â thalu am wasanaethau bysiau a symud yn ôl i'w ceir, y broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, hyd yn oed gyda theithio am ddim ar fysiau, i lawer o bobl sydd dros 60 ond sy'n dal i weithio, nid yw gwasanaethau bysiau'n atyniadol oherwydd nad ydyn nhw mor ddibynadwy â rhywbeth y byddai ei angen arnyn nhw i gyrraedd y gwaith yn brydlon, neu oherwydd nad ydyn nhw'n eu gwasanaethu yn y gymuned y maen nhw'n byw ynddi. Yn syml, nid yw'r system yn gweithredu'n gywir. Dyna pam ein bod ni'n cyflwyno'r diwygiadau drwy'r Bil bysiau. Ac ymhen amser, byddwn yn gallu darparu rhwydwaith sy'n llawer mwy integredig, lle y gallwn ni gymhwyso safonau o ansawdd uwch, lle y gallwn ni weithredu cyfundrefn brisiau decach. Ac rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, gyda'r buddsoddiad mewn seilwaith bysiau a llwybrau cludiant a bysiau cyflym, y byddwn yn gallu denu llawer mwy o bobl o'u ceir ac ar fysiau.

O ran y gost o gynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mewn gwirionedd, bydd y gost yn codi os na fyddwn yn cynyddu'r oedran cymhwyster. Rydym ni'n gwybod ar hyn o bryd bod tua 750,000 o docynnau mewn cylchrediad. Yn seiliedig ar y cynnydd canrannol yn y boblogaeth dros 60 rhwng nawr a 2030, byddai'n gyfystyr, pe baem yn gwneud dim, â chyfraniad ychwanegol o tua £17.5 miliwn o bosib rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Yn sicr, fel lleiafswm, byddem yn disgwyl gweld cost uwch o tua £10.5 miliwn, ond mae hynny hefyd, yn ei dro, yn seiliedig ar y ffaith mai dim ond 420,000 o'r 750,000 o'r tocynnau hynny sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd mewn gwirionedd. Pe bai pawb yn dechrau defnyddio eu tocynnau yn fwy rheolaidd, yna byddai'r gost yn codi hyd yn oed yn fwy a byddai'r system, yn ei thro, yn dod hyd yn oed yn llai cynaliadwy. Ac mae gennym ni adnoddau cyfyngedig. Byddwn yn gwahodd unrhyw Aelod yn y Siambr i ddweud sut y byddem yn sicrhau £17.5 miliwn neu fwy yn ychwanegol y flwyddyn, er mwyn cynnal y cynllun fel y mae, wrth i bobl weithio'n hirach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol am gyfnodau helaethach o'u bywydau.

Mae cost i eraill mewn cymdeithas os nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod gan bobl rhwng 60 a 64 oed incwm cyfartalog uwch na phobl 35 oed neu iau. Mae ganddyn nhw hefyd lefelau is o amddifadedd materol. Nawr, dydw i ddim yn ceisio gosod un grŵp o bobl yn erbyn un arall, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod pobl iau yn ei chael hi'n anodd iawn nawr ac, mewn rhai rhannau o Gymru, nid yw 20 y cant o bobl ifanc yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus nac hyd yn oed yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn teithio i gyfweliad am swydd. Nid yw hynny'n iawn, a bydd y diwygiadau rydym yn bwriadu eu gwneud dros y misoedd nesaf yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwnnw.

16:50

Fel arfer, Gweinidog, mae eich atebion cynhwysfawr i lawer o'r cwestiynau blaenorol yn gadael ychydig iawn o le i mi gynnig unrhyw ongl unigryw i'r ddadl, ond mae'n rhaid imi ddweud bod yn rhaid i bob un ohonom ni sylweddoli bod y boblogaeth yn heneiddio yn golygu y bydd pob agwedd ar wasanaeth cyhoeddus yn dod o dan straen gynyddol dros y blynyddoedd i ddod ac felly mae'n rhaid y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar basys bws am ddim.

Credaf fod y camau a amlinellir yn eich datganiad yn fesur teg a synhwyrol, ond a gaf i fynegi gair o rybudd, yr ydych chi eich hun wedi nodi eich bod yn ei ddeall? Mae'n hanfodol bod y cyhoedd, ac yn enwedig y genhedlaeth hŷn y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw, yn cael gwybod eu bod yn cael eu rhoi ar waith. Yn benodol, y bydd y rhai sydd bellach yn cael pàs bws yn cadw eu pasys, yn ddieithriad.

Fe wnaethoch chi gyfeirio yn ail ran eich datganiad at y problemau'n ddiweddar o ran yr angen i ddeiliaid pàs bws presennol gofrestru gyda Trafnidiaeth Cymru. Ar wahân i'r anallu i gofrestru am resymau technegol, roedd pryder eang ynghylch a fyddai pobl yn colli eu pasys yn gyfan gwbl, a mynegwyd hynny imi droeon gan bobl yn dod i'm swyddfa. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau wrthym y bydd ymgyrch addas a chynhwysfawr yn hysbysu deiliaid pasys presennol a'r rhai sydd ar fin ymuno â'r cynllun ynghylch beth yn union fydd y gweithdrefnau a'r amserlen?

Wel, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth amodol i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni? Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig iawn, bod yn rhaid i ni weithredu'n gyfrifol er mwyn paratoi'r pwrs cyhoeddus ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio a hefyd ar gyfer cymdeithas sy'n gynyddol egnïol wrth heneiddio.

Gadewch imi fod yn gwbl glir, os oes gennych chi bàs bws nawr, y byddwch yn cadw eich pàs bws yn y dyfodol. Nid oes amheuaeth o gwbl. Os cyrhaeddwch chi 60 oed cyn 2022, bydd gennych chi docyn teithio rhatach yn 60 oed. Byddaf yn rhoi tabl i'r Aelodau, yn dilyn y datganiad hwn, sy'n dangos ar ba bwynt yn ystod y 19 i 20 mlynedd nesaf y bydd pobl yn gymwys i gael y pàs bws am ddim, gan nad ydym yn mynd i gyflwyno hyn mewn cyfnod byr iawn o amser, rydym ni'n mynd i gyflwyno hyn yn raddol dros gyfnod sylweddol fel na fydd yn effeithio'n andwyol ar bobl yn y modd y mae rhai'n ei ofni.

Mae'n rhaid i mi ddweud, pe bai mwy o arian nawr, y byddai penderfyniadau anodd iawn i bobl eu gwneud ynghylch sut i'w wario ar wasanaethau bysiau. A fyddech yn cynnal y system fel y mae heddiw, gyda chostau cynyddol o flwyddyn i flwyddyn; a fyddech yn ymestyn teithio rhatach i eraill, megis pobl ifanc, fel y mae Russell George wedi'i ddweud; a fyddech yn cynyddu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, sydd yn ei hanfod yn talu am wasanaethau bysiau nad ydyn nhw'n fasnachol hyfyw; a fyddech yn cyflwyno prisiau is, cynllun pris siwrnai sylfaenol o bosib, fel yr wyf wedi sôn; neu a fyddech yn buddsoddi yn y seilwaith sy'n gwneud teithio ar fws yn fwy dymunol a deniadol? Yn bersonol, rwy'n credu mai'r pedwar olaf, mae'n debyg, yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sbarduno newid moddol a chyflawni system fysiau deg a chyfiawn yng Nghymru.

16:55

Mae teithio rhatach yn dod â manteision sylweddol i unigolion, eu cymunedau, economïau lleol a'r amgylchedd. Mae unrhyw gynnig i gynyddu'r oedran ar gyfer cael pàs bws yn debygol o gynyddu'r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd; cynyddu costau gwasanaethau iechyd a gofal; effeithio ar incwm miloedd o bobl hŷn; a thanseilio'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Fel y gŵyr pawb, rwy'n byw yn Abertawe. Mae nifer fy etholwyr sydd wedi cael pàs bws am ddim sydd, yn yr haf, yn teithio i lawr i'r Mwmbwls am fod ganddyn nhw bàs bws am ddim ac na fydden nhw'n gwneud hynny pe bai'n rhaid iddyn nhw dalu, yn nifer sylweddol.

Rwy'n gwybod fod y Gweinidog a minnau yn siarad â phobl wahanol ac â gwahanol ffyrdd o fyw oherwydd cefais bàs bws ym mis Gorffennaf ac rwyf wedi gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ers hynny nag a wnes i yn ystod y tair blynedd blaenorol. Rwy'n credu mai dyna yr wyf yn ei weld ymhlith y bobl yr wyf yn eu hadnabod: ar ôl iddyn nhw gael eu pàs bws, maen nhw'n dechrau defnyddio bysiau. Oherwydd, yn y bôn, nid yw'n costio unrhyw beth i chi ac mae'n rhaid i chi dalu i barcio. Dyna sefyllfa llawer o bobl mewn gwirionedd, ac mae gennym ni bobl sy'n gyrru i lawr i'r safle bws i ddal y bws am ddim.

Gwyddom fod cwmnïau bysiau o dan bwysau. Nid yw llawer o'r cymunedau a gynrychiolaf yn cael eu gwasanaethu'n dda gan fysiau erbyn hyn, ac ni fyddai'r newid hwn ond yn creu mwy o gymunedau heb fysiau. Hynny yw, rydych chi'n tynnu'r elfen o alw allan, onid ydych chi? Pan fydd pobl yn defnyddio pàs bws, mae'n rhoi elfen o alw i mewn i'r system. Tynnwch y pasys bws i ffwrdd, a bydd y galw, yn fy marn i, yn lleihau.

Ei ostwng i £1 neu ei ostwng i ba lefel bynnag yr ydych chi'n sôn amdani—. A gaf i ddweud: byddai ei ostwng i £1 yn golygu y byddai gostyngiad o dri chwarter yng nghostau'r 53 y cant sy'n talu am fysiau yn Abertawe, sy'n ostyngiad enfawr, ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yn cynyddu nifer y defnyddwyr. Dim ond un ffordd sydd i gael gwybod. Pam na chawsom ni brawf o hyn? Pam na chawsom ni ardal lle y gostyngwyd y taliadau bws i lawr i £1 i bawb mewn un ardal gyngor? Gallech fod wedi'i wneud ym Merthyr, er enghraifft. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?

Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf broblem gyda daearyddiaeth nawr gan fy mod bob amser wedi credu bod Lerpwl yn Lloegr, ond, ie. Hefyd, mae Lerpwl yn ddinas ac mae dinasoedd yn wahanol. Mae Caerdydd yn wahanol i Abertawe, ac mae Abertawe'n wahanol i Gymoedd y De, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn dweud hynny nes ymlaen.

Os oes rhaid torri costau, a gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 2.3 y cant mewn termau real ar y gorwel—. Ond, os gwnânt hynny, yna gellir torri ar bethau eraill: teithiau penwythnos am ddim Traws Cymru; a'r awyren gymorthdaledig o Gaerdydd i Ynys Môn. Gellid edrych ar y rhain, llawer gwell na chymryd teithio am ddim ar fysiau oddi wrth y rhai sy'n ei ddisgwyl. Bydd, bydd hynny'n peri gofid i rai pobl, nid oes gennyf amheuaeth am hynny, ond rydych chi'n peri gofid i ddegau o filoedd o bobl yn sgil yr un penderfyniad hwn.

O ran adnewyddu pasys bws—ac rwy'n siŵr nad ydym yn mynd i gytuno ar hyn ychwaith—pam na ofynnwyd i bobl roi gwybod i Trafnidiaeth Cymru am newid yn eu cyfeiriadau erbyn mis Rhagfyr? Yna, gellid bod wedi cynhyrchu pob pàs a'i ddosbarthu'n awtomatig gan ddefnyddio unrhyw newidiadau cyfeiriad. Byddai hynny wedi gwneud pethau'n llawer cyflymach, yn llawer haws ac, os meiddiaf ei ddweud, yn llawer rhatach. Rwy'n siŵr bod gan Trafnidiaeth Cymru lawer o resymau. Dywedwyd wrthyf ei fod oherwydd GDPR. Byddaf bob amser yn gwybod pan fydd pobl yn ceisio osgoi rhywbeth oherwydd eu bod naill ai'n dweud ei fod am resymau cyfreithiol neu resymau diogelu data.

Mike Hedges, rydych chi'n swnio'n amheus ac yn sinigaidd iawn ynghylch y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn diogelu data, ond dyna'r rheswm go iawn. Mae hefyd oherwydd bod y broses weithgynhyrchu sydd yn gysylltiedig â'r cardiau newydd yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau y gellir defnyddio'r cardiau mewn unrhyw le yn y DU, os cyflwynir system deg o'r fath i gymhwyso'r cynllun tocynnau teithio rhatach, fel y gallem ei ddefnyddio'n drawsffiniol.

A gaf i yn gyntaf oll ddweud fy mod wedi mwynhau helpu Mike i wneud cais am ei gerdyn teithio rhatach yr wythnos diwethaf? Rhoddodd brofiad personol i mi o ba mor syml yw'r broses. Dyna pam fy mod i'r ffyddiog, ar lawer ystyr, y bydd pawb sy'n dymuno cael pàs bws newydd yn gallu gwneud hynny mewn da bryd.

Fy nghwestiwn fyddai hyn: pan ddywedwch eich bod wedi defnyddio bysiau'n fwy nawr nag erioed o'r blaen am eu bod am ddim, a ydych chi'n dweud na fyddech yn defnyddio bysiau yn y dyfodol pe bai'n rhaid ichi dalu amdanyn nhw, gan gydnabod ein bod i gyd yn y Siambr hon yn cael cyflog eithaf da? Neu a yw'n wir, nawr eich bod wedi profi pa mor dda yw gwasanaethau bws, y byddech yn dymuno cadw'r math hwnnw o wasanaeth? Fy marn i yw mai'r olaf yw'r rheswm. Ar ôl i chi ddechrau defnyddio gwasanaeth bws, os yw'n dda, os yw'n mynd â chi o A i B mewn pryd, os nad ydych chi mewn tagfa draffig, os gallwch warantu y bydd yn cyrraedd ar amser, byddwch yn ei ddefnyddio. Byddwch yn ei ddefnyddio, ac yn benodol byddwch yn ei ddefnyddio os cewch ostyngiad o gymaint â thri chwarter, fel y gallai ddigwydd o dan y weledigaeth yr wyf newydd ei hamlinellu.

Ac o ran profi'r math hwn o ddull, wel, mae gan system ArrivaClick yn ne Lerpwl strwythur tocynnau sy'n anhygoel o fforddiadwy a dangosir bod dros 50 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth arloesol newydd hwnnw yn bobl nad ydyn nhw wedi defnyddio bysiau yn y gorffennol, ond, yn yr un modd, mae'r gwasanaeth hwnnw'n ddibynadwy ac yn gweithredu ar sail cynnig amseroedd teithio byrrach na cherbydau preifat. Felly, mae'n rhaid i chi ystyried yr holl ffactorau hyn gyda'i gilydd er mwyn sbarduno newid moddol.

17:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nawr, rwy'n credu'n gryf, o ganlyniad i bobl yn gweithio am fwy o flynyddoedd, eu bod yn mynd i fod yn fwy egniol am fwy o flynyddoedd ac y byddant yn cael gwell cysylltiad ag eraill am eu bod yn y gwaith yn hwy, ac felly nid yw'n debygol y bydd cynnydd mewn unigrwydd ac ynysigrwydd yn fygythiad gwirioneddol, yn fy marn i. Yn wir, mae oedran cyfartalog gadael y farchnad lafur heddiw bellach wedi codi i 65 ar gyfer dynion a 63 ar gyfer menywod. Felly, yn gynyddol, mae pobl yn aros mewn gwaith yn hwy, yn parhau i fod mewn cysylltiad â dinasyddion eraill ac, felly, credaf y bydd gan bobl gysylltiadau cystal â'r rhai sydd ganddyn nhw nawr, hyd yn oed gyda chynyddu'r oedran cymhwysedd.

Rwy'n credu bod pryderon y bydd y cynnig hwn yn arwain at golli pasys bws. Ni fydd yn gwneud hynny. Ni fydd unrhyw golledion o ran pasys bws rhatach yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau yr wyf wedi gallu manylu arnyn nhw heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi fod yn onest, roeddwn mewn gwirionedd yn eithaf sinigaidd yn y dyddiau cynnar pan roeddech yn cyflwyno pasys bws am ddim. Meddyliais, 'ni fyddan nhw byth yn gallu fforddio hyn.' A wyddoch chi? Mae'n rhaid i mi ganmol Llywodraeth Cymru oherwydd fy mod yn credu ei fod yn un o'r polisïau gorau yr ydych chi wedi'u cyflwyno. [Torri ar draws.] Ond mae wedi dioddef yn sgil ei lwyddiant ei hun mewn gwirionedd. Ond mae'n rhaid i mi edrych ar fy etholaeth i, ac mae gennym ni ddemograffeg hŷn yno.

Nawr, ddydd Mercher diwethaf, roedd Dr Dai Lloyd AC, minnau, a Julie, ein Dirprwy Weinidog, a Helena Herklots yn bresennol ar gyfer hystingau ar yr adroddiad ar gyflwr y genedl, adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a oedd yn cynnwys llawer iawn o ddata yr oedd hi a'i thîm wedi ei gasglu o bob rhan o Gymru, ac mae hi ei hun wedi mynegi gwrthwynebiad eithaf cryf i'r bwriad o newid yr oedran o 60 i 65. A dim ond rhai o'r rhesymau—. Rwy'n credu bod Mike Hedges wedi darllen hwn mewn gwirionedd cyn iddo ei gyhoeddi, ond, yn y bôn, bydd yn cael effaith sylweddol ar ein pobl hŷn, mae'n creu risg o gynyddu unigrwydd ac ynysigrwydd, a hefyd mae pob punt a werir ar docynnau teithio rhatach yn dychwelyd o leiaf £2.87 mewn buddion i bobl hŷn, eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Felly, mae'n dweud yma dros 150,000—[Torri ar draws.]—bydd pobl hŷn yng Nghymru naill ai'n dewis peidio teithio neu'n dewis moddau eraill o deithio. Mae'n debyg i mi, yr hyn sy'n fy mhoeni i yw eich bod wedi cyfrifo faint y bydd yn arbed i'r Llywodraeth, ond rwyf wedi—[Torri ar draws.] Iawn, iawn, wel, rydych chi wedi cyfrifo'r ffigurau, felly, o ran pam eich bod chi'n mynd i godi'r terfyn oedran—

Esgusodwch fi, chi yw'r ail siaradwr yng ngrŵp eich plaid ac mae'r siaradwr cyntaf wedi siarad fel llefarydd a dyma'r rheol a ddefnyddiais i yn y datganiad diwethaf, ac mae hynny mewn gwirionedd o fewn y Rheolau Sefydlog. Felly, rhagarweiniad byr a chwestiwn, os gwelwch yn dda.

Iawn. Nid yw dros draean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd. Felly, un o'r pryderon sydd gennyf ynglŷn ag adnewyddu'r pasys bws—codwyd hyn hefyd ddydd Mawrth diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn—felly beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i helpu'r rhai nad ydyn nhw wedi llwyddo i adnewyddu eu pàs bws? Beth ydych chi'n ei wneud i'w helpu mewn gwirionedd os nad ydyn nhw wedi cysylltu mewn unrhyw ffordd â'r rhyngrwyd? Nid yw mynd i lyfrgelloedd yn gweithio yn fy etholaeth i. Mae pobl mewn gwirionedd eisiau ei wneud drwy ddull mwy traddodiadol.

Cwestiwn Rhif 2: pwysigrwydd—

17:05

Na, na. Un cwestiwn i siaradwyr dilynol oherwydd bod eich llefarydd wedi gofyn nifer o gwestiynau, ac rydym yn brin o amser hefyd. Felly, fe wnaf ganiatáu i chi ofyn yr ail gwestiwn, gan eich bod wedi ei baratoi y tro hwn, ond yn gyflym, os gwelwch yn dda.

Iawn. Ffwrdd â ni. Cwestiwn 2: Mae'r ffaith bod 92 y cant o bobl a holwyd yn cytuno bod cael pàs bws yn caniatáu iddyn nhw fod yn annibynnol a bod 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywyd yn dioddef heb un. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gadarnhau bod digon o amser i wneud cais am y cerdyn newydd. O ystyried yr amser a gollwyd, a fyddwch chi mewn gwirionedd yn ymestyn yr amser? Fe wnaethoch chi ddweud mis; rwy'n credu mewn gwirionedd y dylech estyn hyn efallai tan fis Ebrill. A fyddech yn ystyried gwneud hynny?

Rydym yn gyson—. A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau? Rydym yn monitro nifer y ceisiadau sy'n cael eu prosesu'n ddyddiol, a dyna pam roedd hi'n bosib inni roi diweddariad ers i'r datganiad gael ei gyfieithu. Mae'r ffigur o ran nifer y ceisiadau yr ymdriniwyd â nhw bellach dros 210,000. Pan gafodd hwn ei gyfieithu, rwy'n credu ei fod yn 150,000. Mae'n dangos bod niferoedd enfawr o geisiadau yn cael eu prosesu bob dydd.

Mae tua 10,000 o geisiadau wedi'u cyflwyno ar bapur. Mewn llawer o amgylchiadau, mae pobl wedi gallu argraffu'r ffurflen gais a'i hanfon i Trafnidiaeth Cymru. O dan amgylchiadau eraill, mae unigolion wedi ceisio cymorth mewn llyfrgelloedd. Derbyniaf y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi am lyfrgelloedd yn ei hetholaeth, a gallaf sicrhau'r Aelod fod llythyr wedi'i anfon i'r awdurdod lleol gyda rhagor o wybodaeth a mwy o nodiadau i'w atgoffa o'r rhwymedigaethau sydd ar awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i sicrhau'r cerdyn newydd.

Mae'n rhaid i mi bwysleisio na fyddwn yn arbed ceiniog yn sgil y cynigion yr ydym ni'n eu hamlinellu. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn gadael y rhaglen mewn sefyllfa lle nad yw'n gynaliadwy, lle na ellir ei fforddio. Ac mae'r Aelod yn iawn, wyddoch chi, roedd llawer o bobl yn sinigaidd iawn ar y dechrau, gan feddwl na ellid byth ei fforddio. Wel, rydym ni wedi'i gwneud yn fforddiadwy hyd yma, ac os ydym eisiau iddi barhau i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu ei fforddio, a dyna pam rydym ni'n gwneud y newidiadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw.

Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall, felly, unwaith eto, a gaf i ailadrodd, efallai rhagarweiniad byr iawn a chwestiwn gan bob un o'r tri ohonoch? A byddaf yn ymestyn hyn bum munud, iawn? Rhianon Passmore.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr Economi am egluro na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach ar hyn o bryd, pan wneir y newidiadau i'r gyfraith, yn colli ei hawl i gael y cerdyn hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd hyn yn cynnig sicrwydd i unrhyw un o'm hetholwyr sydd, yn Islwyn, ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â'u cymhwysedd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am haeriad mynych y Gweinidog na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw un sy'n cyrraedd 60 oed cyn Ebrill 2022. Gweinidog, rydych yn nodi:

Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw teithio am ddim ar ei ben ei hun yn ddigon i gymell teithwyr i wneud newid moddol o'r car i drafnidiaeth gyhoeddus.

Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar fesurau Llywodraeth Cymru i wella dibynadwyedd bysiau, sicrhau gwell integreiddio a gwybodaeth hygyrch i helpu i gyflawni a datblygu newid moddol glanach a gwyrddach?

Mae'r Aelod yn llygad ei lle: ni fydd neb yn colli ei bàs o ganlyniad i'r rhaglen adnewyddu—neb o gwbl. A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore hefyd am godi pwynt pwysig iawn yr wyf innau wedi'i wneud, sef nad yw teithio am ddim, ar ei ben ei hun, yn cymell pobl i symud o'r cerbyd preifat i fws? Fodd bynnag, gyda'r diwygiadau eraill yr ydym wedi'u cynnwys yn y Bil bysiau, rydym yn ffyddiog y byddwn yn gallu cyflawni newid moddol sylweddol. Byddwn yn gwneud hynny drwy flaenoriaethu adnoddau ar gyfer seilwaith sy'n arwain at amseroedd teithio dibynadwy a byrrach a bysiau gwyrdd—ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch y cyfraniad y gall teithio ar fws ei wneud o ran lleihau allyriadau carbon. Rydym ni'n mynd i fod yn buddsoddi mewn fflydoedd o fysiau di-garbon, gan gael gwared ar beiriannau diesel budr o'n ffyrdd, o'r fflyd bysiau. A hefyd, byddwn yn cyflwyno partneriaethau ansawdd a fydd yn gwella safonau'r cerbydau y gall pobl ddisgwyl eu defnyddio.

17:10

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a byddaf yn gryno iawn oherwydd bod llawer ynghylch y mater hwn wedi'i ddweud eisoes, Dirprwy Lywydd. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am y newidiadau i'r oedran gwladol sef y caiff ei godi'n raddol, ond nid ydym yn cael unrhyw fath o gynllun ynglŷn â phryd y bydd hynny'n digwydd, dim ond y ffaith y bydd Ebrill 2022 yn fan cychwyn, ond nid oes gennym syniad pryd y bydd newidiadau o'r fath yn digwydd. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn i Aelodau gael gweld pryd yn union fydd y newidiadau a pha oed fydd—[Anhyglywadwy.]—pwyntiau, fel y gallwn weld y newidiadau graddol. Rwy'n sylweddoli'n llawn nad yw unrhyw un sydd ag un yn mynd i'w golli—mae hynny'n hollbwysig.

Y peth arall yw, er mwyn ei ddefnyddio mae angen bysiau arnoch, ac mae llawer iawn o gymunedau yn fy ardal i'n arbennig yn gweld gostyngiad mewn llwybrau bysiau, nid cynnydd mewn gwirionedd. Felly, os ydym eisiau gweld newid mewn agwedd at drafnidiaeth bysiau, mae'n rhaid inni gael y bysiau er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ddigon posibl y byddwch yn newid y consesiwn hwn, ond os nad oes bysiau, ni fydd neb yn ei ddefnyddio ac ni fydd neb yn gwneud cais am basys bws, gan nad oes bws ar gael. Felly, a wnewch chi hefyd roi sicrwydd i ni y byddwch chi'n buddsoddi yn y gwasanaethau i sicrhau, wrth i bobl lwyddo i gael pasys bws wrth iddyn nhw fynd yn hŷn—a dywedaf y bydd rhai na fyddan nhw'n ymddeol yn 67, byddan nhw'n ymddeol yn gynharach na hynny—a allwn ni wneud yn siŵr bod bysiau ar gael iddyn nhw?

A gaf i ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau? Mae'n hollol gywir yn dweud bod angen i bobl wybod pryd maen nhw'n debygol o fod yn gymwys i gael y cerdyn teithio rhatach o dan y drefn newydd. Byddaf yn dosbarthu'r tabl sydd gennyf o'm blaen sy'n dangos pob oedran o 50 i 60 ar 1 Ebrill 2022 a phryd y bydd pobl wedyn yn cael yr hawl i gael eu cerdyn teithio rhatach. Gwnaf hynny, os yw'n bosibl, Dirprwy Lywydd, heddiw.

Bydd y newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno'n golygu bod y cynllun yn gyson â chymhwysedd yn Lloegr, er y bydd y manteision gwirioneddol sydd gennych yn fwy yng Nghymru gan na fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio. Credaf fod Dai Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn nad oes diben cael unrhyw fath o gynllun consesiynol os nad oes gennych chi fysiau y gallwch eu defnyddio, a'r her fawr i'r diwydiant, ledled, yn wir, mae'n rhaid dweud, y DU gyfan yw graddfa isel adennill pris taith a'r ffaith y bu nifer y teithwyr sy'n talu'r pris llawn yn gostwng, ac ni fu gwasanaethau bysiau yn arbennig o atyniadol i ddarpar deithwyr, ac felly mae pobl wedi mynd yn ôl at eu ceir, ac o ganlyniad, mae nifer y teithiau lle telir am docyn yng Nghymru wedi gostwng. Mae angen inni sicrhau bod y nifer honno'n codi eto er mwyn cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau ac sy'n talu amdanyn nhw, er y byddwn yn dymuno, ar gyfradd lawer llai.

Yn y tymor byr, pan fyddwn wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, bydd y grant cynnal gwasanaethau bysiau yn gwbl hanfodol i gynnal gwasanaethau nad ydyn nhw'n fasnachol hyfyw. Rydym ni wedi cynnal hwnnw, y £25 miliwn, ers sawl blwyddyn bellach, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cysylltu'r hawl i gael y grant cynnal gwasanaethau bysiau â'r cyfraniad a wna awdurdodau lleol, gan gydnabod bod gwasanaethau bysiau yn hanfodol bwysig i gymunedau, ac yn arbennig cymunedau mwy gwledig ac ynysig.

Diolch. Yn gyntaf, gwnaeth Trafnidiaeth Cymru gawl o'r mater hwn, oherwydd dylent fod wedi rhoi sesiwn friffio inni o flaen llaw a hefyd i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ein llyfrgelloedd, fel ein bod yn gwybod bod y newid hwn yn dod, yn hytrach na chael aelodau o'r cyhoedd yn dweud wrthym ni beth oedd yn mynd i ddigwydd, rhywbeth a ddigwydd i mi yn sicr ar 10 Medi.

Yn ail, rydych chi'n llygad eich lle os ydym ni'n mynd i gael mwy o wasanaethau bws i alluogi pobl i ddefnyddio'r pasys hyn, yna mae angen i ni gymell mwy o bobl sydd angen defnyddio bws i ddefnyddio'r bws. Felly, sut yn union allwn ni wneud y daith ar y bws yn gyflymach na thaith car yn ein hardaloedd adeiledig, megis yng Nghaerdydd, lle mae lefelau gwarthus o lygredd aer? Oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn croes-sybsideiddio cost pobl sy'n defnyddio'u ceir i ddod i'r gwaith pan ddylen nhw fod yn defnyddio'r bws. Felly, sut yn union allwn ni wneud i bobl adael y car gartref wrth ddod i ganol y ddinas, wrth gymudo?

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Yn amlwg, roedd y galw mawr o ran defnyddio gwefan trafnidiaeth Cymru ac yn arbennig y dudalen yn ymwneud â newid y cerdyn yn peri anawsterau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cynnig sesiynau galw heibio yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelod imi ysgrifennu at bob aelod o'r Cynulliad ar 5 Mehefin eleni, gan eu cyfeirio at y ffaith y byddem yn cychwyn ar gynllun amnewid yn yr hydref, a nododd y byddai'r meini prawf yn aros yr un fath ar gyfer pob achos o adnewyddu ac y byddai pobl a allai ei chael hi'n anodd mynd drwy'r broses ar-lein yn gallu cael cymorth gan eu hawdurdodau lleol ac, yn arbennig, o lyfrgelloedd.

Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn wir yn taro'r hoelen ar ei phen, sef os nad ydych chi'n cynnig ffordd fwy deniadol o deithio dros gyfnod byrrach ar fws na gewch chi mewn car, nid ydych chi'n mynd i newid. Ni fyddwch yn dewis mynd ar y bws. Felly, er mwyn lleihau amseroedd teithio ar fysiau, yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw buddsoddi drwy'r gronfa trafnidiaeth leol a thrwy ddulliau eraill mewn lonydd bysiau; rydym yn ystyried datblygu trafnidiaeth gyflym ar fws hefyd, fel datrysiad drwy'r metro yn benodol mewn rhai cymunedau; rydym ni'n edrych ar orfodaeth hefyd—gwell gorfodaeth lle mae modurwyr anghyfrifol yn parcio mewn lonydd bysiau. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithiwr Lee Waters yn edrych arno o ran parcio ar balmentydd hefyd, sy'n gallu tarfu ar deithiau bws, lle mae pobl yn parcio'n anghyfrifol ar balmentydd lle na ddylen nhw gan rwystro ffyrdd. Felly, mae yna lawer o ymyriadau yr ydym yn eu gwneud i wneud teithiau bws yn fyrrach o ran amser a hefyd yn fwy dibynadwy.

17:15
6. Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019

Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7154 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2019. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.

Prif ddiben Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 yw cywiro diffygion yn offerynnau statudol Cymru sy'n codi yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen y newidiadau cywirol a thechnegol a wneir gan reoliadau 2019 er mwyn sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn gwbl weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae rheoliadau 2019 yn cynnwys diwygiadau sy'n mynd i'r afael â diffygion sy'n codi wrth i'r DU ymadael â'r UE ac yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

Mae rheoliadau 3 a 4 o'r rheoliadau yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2019 yn y drefn honno, a byddan nhw'n dod i rym yn union cyn y diwrnod ymadael. Mae rheoliad 2 o reoliadau 2019 yn diwygio Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, a byddan nhw'n dod i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae rheoliadau 2019 yn diwygio Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, sydd yn eu tro yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018, a'r Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2019, sydd yn eu tro yn diwygio Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, felly y cynnig yw ein bod yn cytuno â'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Eitem 7 ar ein hagenda yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig y cynnig—Dafydd Elis-Thomas.

Cynnig NDM7156 Dafydd Elis-Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle yma i gyflwyno'r cynnig yma o gymhwysedd deddfwriaethol, a diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiadau positif ar y rheoliadau yma, ac yn arbennig ar y cynigion maen nhw wedi eu hystyried.

Cafodd Birmingham, fel y gwyddoch chi, yr hawl i gynnal y gemau rhyngwladol yn 2022, ac, er mwyn cynnal y gemau'n llwyddiannus, mae Senedd San Steffan yn y broses o basio Bil Gemau Cymanwlad Birmingham, sy'n ymdrin â'r gemau a'r dibenion cysylltiedig ac yn creu trosedd dros dro am dowtio tocynnau i'r gemau.

Dyna ydy diben y cynnig yma sydd gyda ni ger ein bron: i ganiatáu ystyriaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu mewn meysydd sydd yn cael eu hystyried yn gymhwysedd i'r Cynulliad hwn ac i Lywodraeth Cymru. Ym marn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mater i Lywodraeth Cymru yw'r ddarpariaeth ynglŷn â thocynnau yn y Bil. Amcan y ddarpariaeth yma ydy diogelu brand ac enw da'r gemau a sicrhau bod tocynnau yn fforddiadwy ac yn hygyrch, ac atal troseddu. Felly, mae angen ein cydsyniad ni, oherwydd, fel y dywedais i, fod y Bil yn dod o dan gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, ac, er bod diogelu'r defnyddiwr yn fater cadw o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Atodlen 7A, pwrpas y darpariaethau yma ydy diogelu brand ac enw da meysydd chwaraeon yng Nghymru, ac mae hyn yn helpu hyrwyddo twristiaeth a'r economi, ac mae'r rheini yn faterion datganoledig.

A hefyd fe allai'r darpariaethau yn y Bil fod yn faterion i'r Cynulliad Cenedlaethol am eu bod nhw'n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol. Felly, rydw i yn gofyn i'r Cynulliad i basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma er mwyn inni sicrhau ei bod hi yn briodol—ym marn Llywodraeth Cymru—i'r ddarpariaeth yn y Bil gael ei delio â hi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac felly, drwy ymdrin â'r drosedd dowtio tocynnau, er enghraifft, ym Mil y Deyrnas Unedig, mae hynny yn golygu y daw y drosedd yma i rym yng Nghymru a Lloegr ar yr un pryd. Diolch yn fawr ichi am eich gwrandawiad.

17:20

Diolch. Unwaith eto, nid oes unrhyw siaradwyr. Y cynnig, felly, yw ein bod yn cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, cytunir ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:22.