Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
19/06/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatgarboneiddio? OAQ54045
Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cynllun datgarboneiddio statudol cyntaf ar gyfer y Llywodraeth gyfan, 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Mae'n nodi 100 o bolisïau a chynigion, ar draws pob sector o'n heconomi, er mwyn cyflawni ein cyllideb garbon gyfredol, a phennu trywydd datgarboneiddio mwy hirdymor i Gymru.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch o glywed yn ddiweddar fod Llywodraeth y DU wedi gosod rhai targedau llym iawn ar gyfer datgarboneiddio erbyn canol y ganrif hon. Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod angen gweithredu eithafol. Felly byddai'n ddiddorol clywed sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu gweithredu'n unol â hynny. Yn ail, yn ddiweddar, gofynnais i'r Prif Weinidog mewn sesiwn gwestiynau ynglŷn â gwaith diddorol ar adfer yr hinsawdd a oedd yn digwydd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ac mae'r gwaith hwnnw'n cynnwys adfer yr hinsawdd nid yn unig trwy dorri allyriadau, ond trwy ddalfeydd carbon—coed i gael gwared ar garbon deuocsid o'r atmosffer. Atebodd fod gwaith yn mynd rhagddo ar brosiect coedwigoedd newydd yng Nghymru, yng nghanolbarth Cymru, rwy’n credu, ond byddai gennych chi fwy o fanylion ar hynny. A allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â natur y gwaith hwnnw? Rwy'n credu ei fod yn syniad ardderchog. Rwy’n credu bod Cymru yn dirwedd berffaith, ac fel cyrchfan i dwristiaid, ar gyfer cael llawer mwy o blannu coed a choedwigoedd newydd, ac rwy'n credu y byddai gan bobl Cymru ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am eich cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio'r hinsawdd fel hyn.
Mewn ymateb i ran gyntaf eich cwestiwn, gofynnodd Llywodraeth y DU, fy aelod cyfatebol yn yr Alban a minnau i Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd am gyngor ynglŷn â’r targedau. Ac fe fyddwch yn gwybod, yr wythnos diwethaf, fy mod wedi cael cyngor y pwyllgor hwnnw y dylem geisio lleihau ein hallyriadau carbon 95 y cant erbyn 2050. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud mai ein huchelgais yw cyrraedd sero net, felly rwy'n sicr yn mynd i weithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny.
Mewn perthynas ag ail ran eich cwestiwn, ynglŷn â’r ateb a roddwyd i chi gan y Prif Weinidog, un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog pan ddaeth yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr oedd cael coedwig genedlaethol. Felly, mae swyddogion yn gweithio ar opsiynau yn awr, ond rydym wedi cael llawer o drafodaethau dros y pedwar neu bum mis diwethaf mewn perthynas â hyn. Felly nid wyf yn credu mai'r cynllun yw cael coedwig yng nghanol Cymru; y cynllun yw ystyried cael gwahanol safleoedd fel bod y goedwig genedlaethol o ddifrif yn rhywbeth ar gyfer Cymru gyfan. A byddwn yn edrych ar sut y ffurfiwn y polisi hwnnw wrth symud ymlaen. Rwy'n credu fy mod am gael rhai opsiynau erbyn diwedd y mis hwn, felly gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i wneud rhai penderfyniadau, ac yn amlwg, gan weithio'n agos gyda'r Prif Weinidog, rwy’n gobeithio gallu rhoi’r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad, yn yr hydref mae'n debyg.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cyrraedd sero net, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol na hynny—a dechrau tynnu mwy o garbon deuocsid o'r atmosffer na’r hyn rydym yn ei roi i mewn mewn gwirionedd. Felly mae sero net yn ffordd dda, ond mae angen inni ragori ar hynny. Ac rydym yn rhagori ar hynny drwy blannu mwy o goed a mwy o blanhigion. Trwy ffotosynthesis, maent yn troi carbon deuocsid yn ocsigen—mae'n ei dynnu allan o'r atmosffer. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n croesawu'r syniad o blannu coed yn fawr iawn ond a gawn ni dargedau? A gawn ni ddweud faint o goed y bwriadwn eu plannu ym mhob ardal bob blwyddyn? Ac nid ffon i daro'r Llywodraeth â hi yw hynny—rydych chi'n dweud eich bod chi'n mynd i blannu 1,000 ond dim ond 900 a blannoch chi—ond ffordd o roi gwybod i bawb beth y ceisir ei gyflawni. Ac yn sicr ni fuaswn i yn eich beirniadu am blannu 900 pan oedd i fod yn 1,000, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn plannu'r coed hyn, i gael y carbon deuocsid allan o'r atmosffer.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen i ni blannu mwy o goed. Nid ydym yn plannu digon o goed—heb fod yn agos at y nifer o goed rwyf am eu gweld. A dywedais yn glir iawn fod angen i ni ystyried cynyddu'r nifer. Roedd gennym darged. Ni chyraeddasom y targed hwnnw. Fe'm cynghorwyd y dylem fod yn plannu o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Unwaith eto, nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddigon. Ac yn sicr, os ydym am liniaru newid hinsawdd, mae angen inni ystyried dal a storio carbon, sy’n amlwg yn elfen hanfodol o'r cynllun cyflawni carbon isel y cyfeiriais ato yn fy ateb agoriadol i Nick Ramsay. Felly mae angen i ni gynyddu coedwigoedd ledled Cymru. Soniais am y goedwig genedlaethol. Unwaith eto, credaf y bydd y cynlluniau rydym yn eu cyflwyno ar gyfer hynny yn cyflymu ailgoedwigo, a bydd hefyd yn sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol mawr. Hefyd, mae gennym gynllun creu coetiroedd Glastir, y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohono. Daeth y cyfnod ymgeisio olaf i ben ym mis Mai, ac roedd llawer iawn o ddiddordeb, felly rwy'n sicr yn awyddus i gael rownd bellach yn yr hydref, ac mae'n debyg y bydd ganddi gyllideb o tua £1 filiwn.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer bioamrywiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54053
Diolch. Mae'r cynllun gweithredu ar adfer natur a'n polisi adnoddau naturiol yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer bioamrywiaeth. Yn ddiweddar cyhoeddais gyllid i gefnogi nifer o brosiectau galluogi adnoddau naturiol a llesiant ym Merthyr Tudful a'r ardal gyfagos er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hyn ac i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth sy'n wynebu pawb ohonom.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae'r holl gyngor arbenigol a dderbyniwyd yn dynodi dirywiad llawer o'n bioamrywiaeth, felly credaf ei bod yn hanfodol parhau i gryfhau'r cysylltiadau rhwng pobl, y cymunedau lleol a'u hamgylchedd ehangach, ac mae llawer i'w gymeradwyo yn y cymunedau lleol hynny. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, er enghraifft, rydym wedi gweld y gymdeithas bysgota leol yn rheoli dyfrffyrdd a glannau afonydd, grŵp rhandiroedd Royal Crescent yn datblygu parthau pryfed ar gyfer plant ysgol, ac mae'r plant bellach wedi dod yn wenynwyr bach hefyd, a grwpiau fel Coed Actif Cymru yn darparu cyfleoedd lles yn yr amgylchedd lleol, sy'n gyfle gwych ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, a cheir llawer o fentrau tebyg eraill. Ond mae rhai o'r grwpiau hynny’n dweud wrthyf am y problemau mawr y maent yn eu hwynebu gyda chwyn ymledol, fel clymog Japan a jac y neidiwr, sy'n peryglu llawer o'r gwaith a wnânt. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i fynd i'r afael â phroblem rhywogaethau goresgynnol er mwyn gwella bioamrywiaeth?
Diolch. Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn herio goroesiad rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin ac yn niweidio rhai o'n hecosystemau mwyaf sensitif, ac mae eu heffaith ar ein bioamrywiaeth ddomestig a byd-eang yn cynyddu, ac rwy'n credu eu bod hefyd yn cynyddu o ran eu difrifoldeb. Amcangyfrifir eu bod yn costio dros £1.7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain, felly gallwch weld pa mor ddifrifol ydynt. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid, ac mae hynny'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, diwydiant y trydydd sector, a cheir ysgrifenyddiaeth rhywogaethau estron Prydain, i edrych ar ba gamau blaenoriaethol y mae angen i ni eu cymryd i reoli a dileu rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru. Efallai y byddwch yn ymwybodol, ym mis Mawrth, fy mod wedi cyflwyno Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. Daw'r Gorchymyn hwnnw i rym ar 1 Hydref, a bydd yn darparu'r troseddau, yr amddiffyniadau a'r cosbau ar gyfer y cyfyngiadau a nodir yn rheoliadau'r UE ar atal a rheoli cyflwyno a lledaenu'r rhywogaethau estron goresgynnol hynny, a bydd y Gorchymyn yn sicrhau y gellir gorfodi rheoliadau’r UE yn effeithiol.
Weinidog, mae ffermwyr Cymru’n chwarae rhan hanfodol yn diogelu a gwella cefn gwlad. Mae llawer o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau gwerthfawr a geir ar dir ffermio Cymru’n dibynnu ar reolaeth weithredol gan ffermwyr. Mae RSPB Cymru yn honni nad yw'r lefelau cymorth presennol yn diogelu'r amgylchedd ac maent yn methu cadw busnesau fferm yn hyfyw na ffermwyr ar y tir. Rwy'n siŵr, Weinidog, eich bod yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd a manteision amgylcheddol cadarnhaol i lawer o rywogaethau wedi'u cysylltu'n sylfaenol. Weinidog, rwy'n eithaf sicr fod yr hyn a wnewch i sicrhau rheolaeth weithredol gan ffermwyr yn cael ei wobrwyo'n deg yng Nghymru.
Ni allaf anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyhoeddiad a'r datganiad a gyflwynais i’r Siambr yr wythnos diwethaf ynghylch 'Brexit a’n tir' 2, fel y’i gelwir ar hyn o bryd, a fydd yn ail ran yr ymgynghoriad ar y polisi amaethyddol ar ôl Brexit. Rwyf bob amser wedi bod o’r farn fod cynhyrchu bwyd yn bwysig tu hwnt. Rwy'n credu mai ni oedd yr unig ran o'r DU a oedd yn cynnwys bwyd yn yr ymgynghoriad. Yn sicr nid wyf yn credu bod ‘Iechyd a Harmoni’ wedi gwneud hynny, oherwydd rwy'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a'n sector amaethyddol yn llwyr.
Hefyd, mae canlyniadau amgylcheddol yn bwysig iawn, a gwnaethom yn glir iawn y bydd ein system taliadau amaethyddol yn y dyfodol, ar ôl Brexit, yn gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol, a buaswn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw pan fyddaf yn ei lansio ddechrau mis Gorffennaf.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ddiwyd yn erbyn llwybr du yr M4, ac mi roeddem ni, wrth gwrs, yn croesawu'r penderfyniad, pan ddaeth e, i beidio bwrw ymlaen â'r cynllun penodol hwnnw. Roeddem ni'n teimlo y byddai gwario £1.5 biliwn o leiaf o gyllid cyfalaf ar greu mwy o draffig yn annoeth. Ond gan nad yw'r arian yna nawr yn mynd i gael ei wario i'r union ddiben hwnnw, gaf i ofyn pa achos rŷch chi yn ei wneud yn y Cabinet i'r pres gael ei ddefnyddio i gryfhau is-adeiledd gwyrdd yng Nghymru, i leihau allyriadau ac i daclo newid hinsawdd? Oherwydd mi fyddai £1.5 biliwn o bunnoedd, wrth gwrs, yn gallu, er enghraifft, trawsnewid y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac mi fyddai gan hynny hefyd botensial i gynhyrchu incwm i’r pwrs cyhoeddus mewn blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni ba achos rydych chi wedi ei wneud dros ddefnyddio’r cyllid cyfalaf yma at bwrpas amgen?
Felly, bydd y trafodaethau hynny'n digwydd. Rwyf wedi cael trafodaethau ynghylch newid hinsawdd a mwy o arian ar gyfer newid hinsawdd ar draws y Llywodraeth. Rwyf wedi cael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog Cyllid yn uniongyrchol. Y cyllid penodol y cyfeiriwch ato—yr £1.5 biliwn mewn perthynas â'r llwybr du—yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gwneud cyhoeddiad ynglŷn â'r grŵp y mae'n ei sefydlu i edrych ar ddewisiadau amgen. Felly, yn amlwg, bydd angen defnyddio rhywfaint o'r cyllid hwnnw—y rhan fwyaf o'r cyllid hwnnw; nid wyf yn gwybod beth fydd canlyniad yr adolygiad hwnnw—ar gyfer y cynlluniau amgen hynny. Ond rwy'n credu bod fy nghyd-Weinidogion i gyd, ac mae llawer ohonynt yn aelodau o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, yn derbyn, os ydym am liniaru newid hinsawdd—ac nid ysgogi eraill i weithredu'n unig oedd diben datgan argyfwng hinsawdd—yn amlwg, fel Llywodraeth, mae angen inni edrych ar ein cynlluniau a'n polisïau. Felly, bydd y rheini'n drafodaethau sy'n mynd rhagddynt.
Iawn, ac rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud mai holl bwrpas datgan argyfwng hinsawdd yw i weld newid trawsnewidiol, a dweud y gwir. Ac mae yna gryn amser ers ichi wneud y datganiad hwnnw fel Llywodraeth—nifer o wythnosau erbyn hyn. Rŷch chi wedi gwneud ambell i ddatganiad ysgrifenedig a chwpwl o gyfeiriadau ar lafar i’r datganiad hwnnw ond, wrth gwrs, dŷn ni ddim wedi gweld unrhyw beth trawsnewidiol eto o safbwynt eich gwaith chi a’ch cyfrifoldebau chi fel Gweinidog. Nawr, dwi’n siŵr y byddech chi’n cytuno, wrth gwrs, nad dim ond eich rôl chi yw hynny; mae’n rôl i bob aelod Cabinet, ac mi fyddwn i, fel y mae nifer eraill wedi sôn cyn nawr, yn dymuno gweld pob Gweinidog yn gwneud datganiad fan hyn yn y Siambr yn esbonio yn union sut mae eu gwaith nhw yn mynd i newid a’u blaenoriaethau nhw o fewn eu portffolios nhw yn newid yn sgil datgan argyfwng hinsawdd.
Ond, jest i ddod nôl at eich cyfrifoldeb chi, ac mae hwn yn rhywbeth rwyf wedi ei godi chi yn flaenorol—a dwi’n gobeithio efallai, ers i fi ei godi e'n flaenorol, eich bod chi wedi cael cyfle i bwyso a mesur—dwi eisiau gwybod pa gyfarwyddyd newydd rŷch chi wedi ei roi yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd i’r adrannau a’r cyrff sy’n dod o dan eich adain chi. Dwi’n meddwl am Gyfoeth Naturiol Cymru, Hybu Cig Cymru—mae yna ystod o gyrff rŷch chi yn eu hariannu ac yn gyfrifol amdanyn nhw. A ydych chi’n bwriadu diwygio llythyrau cylch gorchwyl y cyrff yma, oherwydd, fel rŷch chi wedi dweud eich hunain, holl bwrpas datgan argyfwng newid hinsawdd neu argyfwng hinsawdd, yw er mwyn cael yr effaith drawsnewidiol yna? Os na wnewch chi hynny, yna mi fydd pobl yn tybio bod dim byd wedi newid a'i bod hi’n fusnes fel arfer i’r Llywodraeth yma.
Wel, yn sicr nid yw'n fusnes fel arfer. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mai'r cynllun cyflawni carbon isel a lansiwyd ym mis Mawrth, ac sy'n cynnwys 100 o bolisïau ac argymhellion, yw'r sylfaen inni allu cyrraedd ein targed ar gyfer allyriadau carbon a'n cyllideb garbon, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu'r 100 o bolisïau ac argymhellion gan ystyried (1) y cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd ychydig wythnosau ar ôl i ni ddatgan yr argyfwng, rwy'n credu. Ac rydych yn llygad eich lle—credaf fod pawb, ar draws y Llywodraeth, yn gorfod edrych ar eu polisïau a'u hargymhellion a'r cynlluniau y maent yn eu cyflwyno i weld a ydynt yn cyd-fynd â'r hyn sydd angen ei newid mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.
Rwy'n credu ein bod wedi gweld eraill yn cael eu symbylu i weithredu. Rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn gweld nifer yr awdurdodau lleol a'r cynghorau tref a chymuned sydd wedi penderfynu drostynt eu hunain eu bod yn datgan argyfwng hinsawdd, felly rwy'n credu ein bod yn gweld hynny'n ysgogi'r gweithredu roeddem yn gobeithio ei weld.
Mewn perthynas â'ch cwestiynau penodol ynglŷn ag a fyddaf yn newid y llythyrau cylch gwaith, mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth rwy'n ei ystyried. Rwy'n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru bob mis, felly rydym yn sicr wedi trafod yr argyfwng hinsawdd a'r hyn y maent yn ystyried ei wneud. Felly, gwn er enghraifft fod Cyfoeth Naturiol Cymru'n edrych ar ba dir ychwanegol sydd ganddynt ar gyfer plannu coed. Credaf fod ganddynt dir y maent wedi'i fancio y gellir ei ailgoedwigo, ac mae angen inni edrych ar arian ar gyfer hynny wrth gwrs. Rwyf i fod i gyfarfod â Hybu Cig Cymru yn y dyfodol agos ac unwaith eto, bydd y mater hwn ar yr agenda.
Iawn. Wel, mi arhoswn ni eto i glywed unrhyw newidiadau penodol. Fe wnaf i awgrymu un peth ichi, efallai. Dwi’n cofio pan oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn awyddus i wrthwynebu ffracio yng Nghymru. Doedd gan y Llywodraeth bryd hynny, wrth gwrs, ddim pwerau dros yr hawl i wrthod yn benodol, ond mi ddefnyddiwyd y system gynllunio, os cofiwch chi, fel ffordd i drio creu rhyw fath o foratoriwm. Nawr, roedd rhai ohonom ni'n anghytuno ei fod e'n foratoriwm mewn gwirionedd, ond awn ni ddim ar ôl yr sgwarnog yna. Ond yn sicr mi oedd yna ewyllys gan y Llywodraeth ddiwethaf, er nad oedd ganddi'r pwerau, i drio defnyddio'r hyn oedd ganddi i atal cynlluniau ffracio.
Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o gais diweddar am brofion seismig ym mae Ceredigion, sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs, gan gwmnïoedd olew a nwy i ddod o hyd i'r lleoliadau gorau i ddrilio. Dyw hwnna ddim wedi ei ddatganoli; mae hwnna'n dal i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs, gall trwyddedau ddim ond cael eu rhoi os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu boddhau. Felly, oni ddylai Llywodraeth Cymru ddatgan, yn yr un modd ag y gwnaethpwyd gyda ffracio a'r system gynllunio, na fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn bodloni i drwyddedu unrhyw gynlluniau tebyg yn y dyfodol fel neges glir i'r sector nad oes croeso iddyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, y byddai hynny'n anghydnaws â'r argyfwng hinsawdd sydd gennym ni yng Nghymru, ac, wrth gwrs, dylem ni fod yn cadw tanwydd ffosil yn y ddaear?
Yn bendant, a byddwch yn gwybod bod y drwydded benodol y cyfeirioch chi ati wedi cael ei hatal, ond yn sicr, gwneuthum fy marn yn glir iawn i Lywodraeth y DU. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth—ac rwy'n siŵr fy mod wedi ysgrifennu at Aelodau yn y Siambr, gan gynnwys y Llywydd, ynglŷn â hynny, i amlinellu'r union safbwynt rydych newydd ei ddisgrifio. Felly, mae angen inni—. Yn sicr, mae angen inni edrych ar sut y gallwn gryfhau hynny fel bod pobl yn ymwybodol iawn o'n barn. Ond rydych chi'n llygad eich lle: byddai'n rhaid iddo ddod atom ar ryw bwynt yn y gadwyn, er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, ac rwy'n credu fy mod wedi dweud hynny'n glir iawn yn fy llythyr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi ynglŷn â hyn sawl gwaith, ac yn wir holais y Prif Weinidog yn ei gylch ddoe, sef eich bod wedi dweud yn eich datganiad a oedd ynghlwm wrth y cyhoeddiad ynghylch anelu i fod yn sero net erbyn 2050, mai'r daith honno fydd y newid economaidd mwyaf a gynlluniwyd erioed yn yr oes fodern, ac rydych hefyd wrth gwrs wedi gwneud datganiad ar argyfwng hinsawdd. Ond pan edrychaf ar gofnodion y cyfarfod Cabinet hwnnw ar 29 Ebrill, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am y datganiad o dan 'unrhyw fater arall', ac mae'n dweud:
Hysbysodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Cabinet ei bod wedi datgan argyfwng newid hinsawdd... y diwrnod hwnnw.
Go brin fod hynny'n dangos llawer o gynllunio neu gynllunio pethau y bydd angen ichi eu gwneud er mwyn newid yr economi a diogelu swyddi a chreu swyddi o safon. A ydych chi'n credu bod honno'n ffordd briodol i'r Cabinet weithio?
Wel, rydych chi'n darllen cofnodion y Cabinet; ni fyddwch yn ymwybodol o'r holl drafodaethau a ddigwyddodd cyn datgan argyfwng hinsawdd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio a gadeirir gennyf yn cyfarfod bob chwe wythnos/dau fis. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn aelod o'r pwyllgor hwnnw.
Y cynllun cyflawni carbon isel y cyfeiriais ato unwaith neu ddwy eisoes yn y sesiwn hon oedd lle y gwnaethom nodi ein 100 o bolisïau ac argymhellion. Unwaith eto, bu llawer o drafodaethau ar draws y Cabinet ar gyflwyno hynny, ac mae hyn i gyd yn rhan—. Fel y dywedais ddoe, mae'r holl rannau hyn: datgarboneiddio, lliniaru newid hinsawdd, ansawdd aer, i gyd yn hollbwysig—maent yn bethau ar wahân, ond maent yn hollbwysig. Felly, mae'r trafodaethau hynny—. Nid dim ond cyhoeddiad a wnaed gennyf fi ydoedd; roedd pobl yn ymwybodol iawn fod y cyhoeddiad hwnnw'n dod.
Diolch am hynny. Nid wyf yn beirniadu'r penderfyniadau a wnaethoch; mewn gwirionedd, rwyf wedi eu cefnogi, ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r gweithredu y tu ôl i rai o'r cyhoeddiadau hyn. Rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod cofnodion y Cabinet i fod i adlewyrchu'r drafodaeth a ddigwyddodd yn y Cabinet. Ac rwy'n cytuno bod hwn yn ymateb gan y Llywodraeth gyfan. Rydym wedi clywed ers y datganiadau hynny fod y Llywodraeth yn amlwg yn gorfod ymdrin â'r holl faterion sy'n ymwneud â'u portffolio polisïau, ond nid yw'r cofnodion hynny'n dangos yn glir i mi fod y drafodaeth honno wedi digwydd. Felly, yn amlwg, rydych chi'n dweud wrthym ei bod wedi digwydd. Er enghraifft, a allwch ddweud wrthyf faint o swyddi a gollir yn economi Cymru oherwydd y trawsnewid a faint o swyddi a allai gael eu creu yn y chwyldro gwyrdd y gobeithiwn ei weld? Mae hwnnw'n gwestiwn eithaf syml, ac os yw Ken Skates wedi bod yn aelod o'ch pwyllgor, gadewch i ni ddeall y newid hwn rydych wedi'i drafod a'r hyn y gallem ei ddisgwyl neu fel arall wrth inni symud ymlaen.
Nid cofnod o drafodaeth oedd y cofnod y cyfeirioch chi ato. Fe ddywedoch eich hun mai 'unrhyw fater arall' ydoedd, felly nid oedd yn gofnod o drafodaeth yn y Cabinet. Mae'r trafodaethau hynny'n digwydd mewn mannau eraill ar draws y Llywodraeth.
O ran eich cwestiwn am nifer y swyddi, ni allaf roi ffigur i chi. Yr hyn a drafodais gyda Ken Skates yw'r cyfle i gael mwy o swyddi os byddwn yn newid i economi carbon isel a chredaf y byddwch yn gweld bod hynny'n wir mewn rhannau eraill o'r byd sydd o'n blaenau.
Sylweddolaf na allwch roi ffigur union i mi heddiw, ond yn sicr, ymysg eich trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet, byddai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o'r goblygiadau o ran swyddi yma—y rhai a allai gael eu colli o'r hyn y gallem ei alw'n hen economi garbon a'r hyn y gellid ei greu yn yr economi werdd. Felly, roeddwn i'n gobeithio efallai y byddech yn gallu rhoi gwybod i'r Aelodau am hynny. Un o'r pethau sy'n digwydd yn San Steffan, er enghraifft, mewn perthynas â'u datganiad, yw bod y Trysorlys yno wedi darparu manylion ariannol cadarn rhai o'r ymrwymiadau y gallai'r Llywodraeth orfod eu gwneud os yw'n mynd i gyrraedd sero net erbyn 2050, a soniwyd am ffigur o £1 triliwn, a thua £70 biliwn y flwyddyn. Pa fodelu economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac sydd wedi'i ddarparu i chi pan fyddwch wedi bod yn gwneud eich penderfyniadau—ac aelodau eraill o'r Llywodraeth—fel y gallwch wneud penderfyniadau hyddysg sy'n amlwg yn ein rhoi yn y lle gorau posibl? Ac os yw'r modelu hwnnw ar gael i chi, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau ei fod ar gael i Aelodau'r Cynulliad fel y gallwn ei weld a deall sut yn union y cafodd y penderfyniadau eu gwneud?
Dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ail ateb i chi, sef fy mod yn meddwl bod mwy o gyfleoedd yn y sector economi carbon isel—neu sectorau, mewn gwirionedd. Felly, mae'r cydbwysedd—. Ni allaf roi ffigurau i chi. Yn sicr, bydd y prif economegydd sy'n cynghori holl Aelodau'r Llywodraeth wedi rhoi cyngor i ni y byddwn wedi'i ystyried. Nid wyf yn gwybod os yw'n sensitif yn fasnachol neu os oes unrhyw resymau eraill pam na chaf ei gyhoeddi, ond fe ymchwiliaf i hynny a rhoi gwybod i'r Aelod.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54055] yn ôl. Cwestiwn 4—David Rees.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda chymunedau lleol i hybu twristiaeth? OAQ54078
Diolch. Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i drafod materion amrywiol, gan gynnwys twristiaeth. Rwyf wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ddiweddar ynghylch ehangder y cymorth y mae fy mhortffolio yn ei roi i'r diwydiant twristiaeth.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae llawer o gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys y rheini yng Nghwm Afan, wedi datblygu twristiaeth fel modd o dyfu'r economi ar ôl tranc y diwydiant glo yn y cymoedd hynny. Mae llawer o'r tir o amgylch y cymunedau hynny'n eiddo i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd ac yn cael ei reoli ar eu rhan gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r tir hwn yn cynnig profiadau awyr agored i'r ymwelwyr sy'n dod i'r ardaloedd hynny. Er enghraifft, yn fy nghwm i, mae beicio mynydd yn fater pwysig ac mae'n sicr yn defnyddio tir CNC i roi profiad i ymwelwyr, ac mae rhai o'r llwybrau hynny'n enwog ledled y byd, gyda llawer o ymwelwyr yn dod o'r tu allan i'r DU i'w profi.
Nawr, mae'n bwysig, felly, fod CNC yn gweithio gyda'r cymunedau i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen yn bodoli a fyddai'n niweidio'r cyfleoedd ar gyfer twristiaeth yn y cymoedd hyn. Felly, Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod twristiaeth yn uchel ar agenda CNC ac a wnewch chi ofyn am gefnogaeth eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet, gan fy mod yn deall yr heriau ariannol y byddwch yn eu hwynebu, oherwydd bydd angen cyllid ar gyfer hyn, oherwydd, ar gyfer beicio mynydd, er enghraifft, mae angen i chi gynnal a chadw'r llwybrau ac weithiau caiff y llwybrau hynny eu fandaleiddio gan bobl sy'n defnyddio eu beiciau hefyd? Felly, a fyddwch yn cael y trafodaethau hynny i sicrhau bod yr agenda honno'n uchel ar eu rhestr?
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ymhlith eraill, ran bwysig iawn i'w chwarae yn diogelu ein hamgylchedd naturiol a chefnogi ein diwydiant twristiaeth. Os cofiaf yn iawn, mae'r llythyr a ysgrifennais at fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas—mae'n debyg fod 'CNC' wedi ymddangos mwy nag unrhyw air arall. Felly rwy'n gwybod, er enghraifft, eu bod yn ymgynghorai yn y broses gynllunio ynglŷn â'r datblygiadau presennol yng Nghwm Afan yn eich etholaeth. Gwn fod bwriad i ddatblygu canolfan antur Afan. Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Rydych chi'n iawn ynglŷn â chymunedau. Mae angen inni weithio gyda chenedlaethau'r dyfodol o fewn canllawiau Deddf cenedlaethau'r dyfodol fel y gall pawb elwa o'n hadnoddau naturiol.
Diolch am eich ateb i David Rees yn y fan honno. Rwy'n meddwl sut y gallwch weithio gyda CNC gyda phortffolios eraill o fewn y Llywodraeth yn ogystal â thwristiaeth a lle gall y posibiliadau hyn gydblethu â'i gilydd. Ym mis Ionawr, gofynnais a oeddech yn meddwl bod cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gydag ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc chwarae rhan yn ailblannu coed yn eu hardaloedd lleol, a chredaf ei fod wedi codi yng nghyd-destun Cwm Afan, a dweud y gwir, oherwydd nid yn unig fod hynny'n helpu lles cymunedau a thwristiaid, a busnesau twristiaeth hefyd yn wir, mae'n mynd yn ôl at gwestiwn Mike Hedges am ddysgu am wyddoniaeth a dal carbon yn ogystal â hanes y cwm hwnnw.
Ar y pryd, fe ddywedoch eich bod yn meddwl ei fod yn syniad da ac y byddech yn siarad â'ch cyd-Aelod Kirsty Williams ynglŷn â hynny. Clywaf eich bod wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Rwy'n meddwl tybed a allai fod yn werth rhoi atodiad i'r llythyr hwnnw er mwyn codi hyn fel posibilrwydd. Diolch.
Yn sicr. Rydych yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, ac rwyf wedi cael sgyrsiau manwl gyda chadeirydd a phrif weithredwr ac aelodau eraill CNC ynghylch plannu coed, oherwydd—atebais yn fy ateb cynharach i Mike Hedges nad ydym yn plannu digon o goed, ac yn sicr, os ydym yn mynd i liniaru newid hinsawdd yn y ffordd y byddem yn dymuno ei wneud, mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, rwy'n gwybod bod CNC yn gweithio gydag ysgolion o'r sgwrs ddiwethaf a gefais gyda hwy. Nid wyf yn gwybod a yw'n ymwneud yn benodol â phlannu coed, ond rwy'n credu ei fod yn sicr yn gyfle y gallant ei ddatblygu. Mae CNC yn rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru, ac mae'n amlwg fod hynny'n cynnwys llawer o warchodfeydd ac ardaloedd picnic a choetiroedd, felly mae'n gyfle da iawn i fynd allan i'r awyr iach a gwella lles.
Weinidog, hoffwn adleisio sylwadau David. Mae fy rhanbarth yn gartref i lawer o ryfeddodau naturiol, gan gynnwys gwarchodfa natur genedlaethol cors Crymlyn. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, sydd â'i gartref yng nghors Crymlyn, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ynglŷn â sut y gall ein bioamrywiaeth chwarae rhan yn ein cynnig twristiaeth rhyngwladol? Rwy'n siŵr fod yna entomolegwyr ar draws y byd a ddaw i'n hardal i weld ein corryn rafft y ffen gwych. Diolch.
Nid wyf wedi cael trafodaeth am y corryn arbennig hwnnw gyda fy nghyd-Aelod, Eluned Morgan—rwy'n meddwl y buaswn yn cofio pe bawn i wedi cael—ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n hapus iawn i edrych arno, ac os oes yna ymchwil a data a fydd yn ein helpu, buaswn yn falch iawn o'u gweld.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Hybu Cig Cymru mewn perthynas â'r ardoll cig coch? OAQ54033
Diolch. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Hybu Cig Cymru a hefyd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig er mwyn datrys problem hirsefydlog ailwladoli'r ardoll cig coch. O ganlyniad i hyn, mae pwerau sylfaenol bellach wedi'u cynnwys ym Mil Amaethyddiaeth y DU ac mae'r cyrff ardollau wedi datblygu cynigion cychwynnol ar gyfer cyflwyno'r cynllun.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld canlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau hynny ac i hynt y Bil Amaethyddiaeth yn San Steffan wrth gwrs, wrth i'r cyfrifoldebau hyn gael eu trosglwyddo yma i Gaerdydd.
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau na fydd yn defnyddio unrhyw godiad yn yr incwm o'r ardoll i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yng nghyllid Llywodraeth Cymru a allai ddigwydd yn y dyfodol, ac mewn gwirionedd, y bydd unrhyw arian ychwanegol sy'n mynd i Hybu Cig Cymru yn arian newydd sydd ar gael i'r corff hyrwyddo ar gyfer hybu gwerthiant cig coch naill ai yma yng Nghymru, y DU, neu ar draws y byd?
Wel, mae Bil amaeth y DU wedi dod i stop braidd yn Llundain ar hyn o bryd. Rwy'n deall y rhesymau pam—maent yn aros am ddyddiad ar gyfer dadl. Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ynglŷn â chanlyniad fy nhrafodaethau â'r Ysgrifennydd Gwladol. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cael gwelliant gan y Llywodraeth, felly rwy'n falch iawn o hynny.
Yn amlwg, mae angen inni edrych ar ba arian a fydd yn dod; yn sicr, nid wyf yn credu y byddai HCC ac eraill yn caniatáu i hynny ddigwydd, ond yn amlwg, mae angen inni gael y pwerau hynny yn y lle cyntaf. Mae fy swyddogion wedi bod yn cael trafodaethau cychwynnol gyda swyddogion DEFRA ynglŷn â sut y gweithredwn—wel, sut y drafftiwn y cynllun yn gyntaf oll. Mae angen inni gael y cynllun yn iawn ac yna ei weithredu. Byddaf yn hapus iawn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn oherwydd mae wedi bod yn llusgo yn ei flaen ers llawer gormod o flynyddoedd.
I barhau gyda'r cynllun hwnnw, Weinidog, gallaf weld o'r penawdau ddoe am yr Is-Bennaeth yn ymweld â Chymru, ac mae lle i agor ein marchnad gig eidion i Tsieina, fel y mae Andrew R.T. newydd ei ddweud. A allwch roi syniad inni o natur unrhyw sgyrsiau a gawsoch gydag ef o'r blaen, a sut y byddwch yn helpu sector cig eidion Cymru i baratoi i fanteisio ar y cyfleoedd hyn?
Wel, yn sicr, gwnaeth yr Is-Bennaeth o Tsieina y cyhoeddiad ynghylch agor y mewnforion cig eidion i Tsieina. Cefais drafodaeth gydag ef am gig oen hefyd, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym y ddau'n mynd i mewn i Tsieina. Nid oeddwn wedi cael unrhyw drafodaethau'n uniongyrchol ag ef cyn ddoe neu heddiw; cyfarfûm ag ef eto y bore yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn sicr, fod y ddwy fferm yr aethom â'r ddirprwyaeth i ymweld â hwy yn frwd iawn fod y sgyrsiau hyn yn parhau a'n bod yn adeiladu yn awr ar y berthynas rydym eisoes wedi'i dechrau.
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau a gymerir i gwblhau gweddill taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol? OAQ54056
Diolch. Mae dros 99 y cant o ffermwyr Cymru wedi derbyn eu taliadau cynllun y taliad sylfaenol, sydd ymhell uwchlaw'r gofyniad o 95 y cant a nodir yn rheolau'r UE. Mae 153 o ffermydd yn dal i fod heb gwblhau'r gwiriadau angenrheidiol cyn y gellir gwneud y taliad terfynol, ac mae 112 o'r rhain eisoes wedi derbyn taliadau benthyciad.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hwnnw'n ymateb eithaf calonogol mewn gwirionedd, oherwydd pan gyflwynais gwestiwn Cynulliad ar hyn yn ddiweddar iawn, roedd 229 o hawliadau wedi bod yn aros i'w cwblhau ers mis Rhagfyr. Felly, fel y gwyddoch, mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi bod yn weithgar yn hyrwyddo'r ffaith, am bob £1 a werir ar hyrwyddo'r ffaith—mae'n ddrwg gennyf, am bob £1 a fuddsoddir mewn cymorth i ffermydd yn y DU, mae ffermio'n rhoi £7.40 yn ôl i'r economi leol. Felly, mae'n amlwg fod—. Faint a ddywedoch chi eto, mae'n ddrwg gennyf? Cant pum deg—?
Mae 153 o ffermydd yn dal heb gwblhau.
Iawn. Felly, bydd y sector amaethyddol ehangach a chymunedau gwledig ar eu colled hefyd, yn ogystal â'r ffermwyr eu hunain. Gwyddom fod newidiadau i dir a ddarganfuwyd mewn arolygiadau a newidiadau i fanylion cwsmeriaid yn achosi oedi, ac eglurwyd hynny i ni, ond mewn gwirionedd, yr unig beth y buaswn yn ei ofyn—. Oherwydd mae gennyf ffermwyr yn fy etholaeth sy'n ei chael hi’n anodd a dweud y gwir. Felly, nid oes esgus, mewn gwirionedd, am oedi diangen wrth dalu. Felly, a wnewch chi osod targed ar gyfer mynd i'r afael â'r rhain fel bod ffermwyr ledled Cymru yn cael yr arian sy’n ddyledus iddynt?
Wel, ni chredaf fod hyn yn ‘eithaf calonogol'; credaf fod hyn yn galonogol iawn—mae 99 y cant o fusnesau fferm Cymru wedi cael taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol llawn ar gyfer 2018. Nid oes unrhyw beth yn hwyr; mae gennym tan 30 Mehefin. A hoffwn dalu teyrnged i fy swyddogion sy'n gweithio yn Taliadau Gwledig Cymru am gyflawni hynny. Dyma'r gorau yn y DU. Os edrychwch ar rannau eraill o'r DU, rydym wedi rhagori ar bob gwlad arall ac fel y dywedaf, rydym wedi rhagori ar darged y CE. Byddai'n wych pe gellid talu pawb erbyn 30 Mehefin ac yna ni fydd unrhyw un yn hwyr. Soniais fod 153 o ffermydd yn dal heb gwblhau. Mae rhai o'r rhai sydd heb gwblhau yn gymhleth iawn, a dyna'r rheswm pam nad ydynt wedi cael eu talu. Mae rhai o'r materion sy'n atal yr hawliadau terfynol rhag cael eu talu, er enghraifft, yn cynnwys newidiadau i'r tir, ac fe'u darganfyddir yn aml mewn arolygiadau. Weithiau, gwnaed newidiadau i fanylion cwsmeriaid nad oeddem yn ymwybodol ohonynt, ac mae ymholiadau tir ac anghydfodau tir ar y gweill. Felly, mae fy swyddogion yn gwneud pob ymdrech i brosesu'r hawliadau sydd heb eu cwblhau cyn gynted â phosibl.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoleiddio sefydliadau ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru? OAQ54059
Rydym yn gweithio gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ar ganllawiau gwirfoddol ar gyfer llochesau, i'w cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ceisio rheoleiddio llochesau yn well ac yn gweithio gyda'n swyddogion cyfatebol mewn gweinyddiaethau eraill i sicrhau dull cydlynus.
Diolch am eich ateb. Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal cynllun peilot i archwilio sut y gellid cyflwyno cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer y canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau. Mae'n sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ond ar hyn o bryd, fel y mae pethau, gall unrhyw un sefydlu lloches anifeiliaid neu ganolfan ailgartrefu. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth ar waith i atal hynny rhag digwydd. Er fy mod yn siŵr y bydd gan y rhan fwyaf ohonynt safonau uchel o ran lles anifeiliaid, mae'n achos pryder nad oes, felly, ar y llaw arall, unrhyw rwymedigaeth ar awdurdodau lleol i archwilio adeiladau neu i sicrhau bod anghenion yr anifeiliaid yn cael eu diwallu. A gŵyr pob un ohonom fod pobl yn gallu cael, ac yn cael eu gorlethu gan fwriadau da. Felly, mae hynny'n peri pryder i mi. Mae fy nghwestiwn yn eithaf amlwg, felly: pryd y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno rheoliadau statudol ar gyfer sefydliadau ailgartrefu a llochesau anifeiliaid i wella lles yr anifeiliaid yn ogystal â’r amodau gwaith y gall pobl eu hwynebu?
Diolch yn fawr, Joyce. Yn sicr, rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn bendant, rwy’n awyddus i reoleiddio llochesau'n well. Soniais ein bod wedi bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban wedi cynnal ymgynghoriad a’u bod wedi bod o gymorth i ni drwy rannu'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. A hefyd, fe fyddwch yn ymwybodol o werthiannau cŵn a chathod bach gan drydydd partïon. Rydym newydd gynnal ymgynghoriad, a byddaf yn cynhyrchu'r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw yn gynnar ym mis Awst, yn ôl pob tebyg, a chredaf y gallai hynny hefyd gael effaith ar ba newidiadau a wnawn i lochesau.
O ran y cod ymarfer, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda grŵp Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ddatblygu'r cod ymarfer gwirfoddol hwnnw y cyfeirioch chi ato, a bydd hwnnw’n cael ei gynhyrchu yn ddiweddarach eleni. Credaf fod angen inni edrych ar bob deddf wahanol. Byddwch yn ymwybodol fy mod yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd teithiol anifeiliaid, er enghraifft. Felly, credaf fod angen i ni edrych ar yr holl gynlluniau gwahanol rydym yn eu dwyn ynghyd, gan wella'r cod ymarfer ar gyfer anifeiliaid penodol, a phenderfynu wedyn beth arall fydd angen inni ei wneud.
Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddatblygu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer llochesau lles anifeiliaid ac mae'n eithaf calonogol y byddwch yn ei roi ar waith tua diwedd eleni. Ond hoffwn adleisio galwad gan fy nghydweithiwr, Joyce Watson AC: credaf fod angen inni wneud mwy na hynny. Mae RSPCA Cymru eu hunain wedi galw am reoleiddio brys i atal y problemau lles cyffredin sy'n deillio o asiantaethau sy'n gweithredu heb sgiliau ac adnoddau priodol. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 90 o lochesau anifeiliaid yn gwneud gwaith hanfodol i wella lles anifeiliaid ledled Cymru. Fodd bynnag, gwyddom am rai llochesau cofrestredig sy'n gweithredu o dan y radar lle nad yw safonau gofal anifeiliaid yn cyrraedd y safonau dymunol. Weinidog, a allwch egluro pa gamau rydych yn eu cymryd i fynd ymhellach na chanllawiau er mwyn cyflwyno rheoliadau cadarn a fydd yn sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn bodloni meini prawf sylfaenol addas ym mhob achos?
Credaf fy mod wedi nodi pa waith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd yn fy ateb i Joyce Watson. Roedd gennyf gryn ddiddordeb mewn gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad gan Lywodraeth yr Alban i weld a ddylem fynd ymhellach. Felly, yn amlwg, mae swyddogion yn ystyried y cyngor rydym wedi'i gael oddi yno, a byddaf yn cyflwyno'r cod ymarfer yn ddiweddarach eleni.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y grant busnes i ffermydd? OAQ54071
Diolch. Mae'r grant busnes i ffermydd yn un o ymrwymiadau 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae ceisiadau 2,970 o ffermwyr am y grant busnes i ffermydd wedi cael eu derbyn, sy'n werth £20.6 miliwn o gymorth. Mae'r buddsoddiad ar y fferm hwn yn cefnogi'r broses o wella perfformiad technegol ac ariannol busnesau fferm yng Nghymru.
Diolch. Mi fu Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyswllt efo fi ar ran un o'i aelodau ychydig fisoedd yn ôl, am fod cais etholwr am grant wedi methu oherwydd ei fod o wedi peidio â darparu llythyr gan ei gyfrifydd i gadarnhau bod trosiant ei fusnes o dan £1 miliwn. Mi ddylwn i ddweud bod ei drosiant o ymhell dan £1 miliwn ac mi ddylwn i ychwanegu bod bron pob ffermwr yng Nghymru â throsiant o dan £1 miliwn. Ond mi oedd y penderfyniad yma'n golygu ei fod o wedi colli £5,000 er ei fod o wedi darparu llythyr unwaith y daeth yn hysbys bod angen iddo fo wneud hynny. Mi apeliais i'n uniongyrchol atoch chi—diolch am eich ymateb chi—ac mae swyddogion erbyn hyn wedi addasu blaen y llythyr yn y pecyn cais er mwyn amlygu'r angen am y dystiolaeth yma. Dwi'n croesawu hynny, ond, wrth gwrs, mae hynny'n awgrymu i fi, fel dwi'n gwybod sy'n wir, nad oedd o'n ddigon clir bod angen cynnwys y llythyr cyfrifydd yna. Dwi'n deall bod sawl achos tebyg arall dros Gymru wedi dod i'r amlwg erbyn hyn, efo cyfartaledd o golled o thua £5,500, sydd yn swm sylweddol i fferm fach. Yn ôl eich ffigurau chi, dim ond un ym mhob 100 o ffermydd Cymru sydd â throsiant dros £1 miliwn. Oni ddylech chi felly edrych eto ar y mater yma, gan ei fod o'n amlwg yn broblem mwy cyffredin na dim ond fy etholwr i? Dwi am ichi edrych eto ar y ceisiadau sydd wedi cael eu gwrthod am y rheswm yma, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi pe gallech chi ddweud wrthym ni faint o geisiadau sydd wedi eu colli am y rheswm yma.
Diolch. Yn amlwg, rwy'n gwybod am eich etholwr. Fel y dywedwch, rydych chi a minnau wedi gohebu, ac mae'r FUW a minnau wedi gohebu. Fe fyddwch yn ymwybodol na allaf roi sylwadau ar yr achos penodol hwnnw oherwydd y broses apelio. Credaf fod y grant busnes i ffermydd wedi cael croeso mawr. Y syniad oedd ein bod wedi ei wneud mor syml a hawdd â phosibl i'w ddefnyddio ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer ymgeiswyr. Bu ceisiadau nifer fach o bobl yn aflwyddiannus, ac yn sicr, byddaf—. Roeddwn yn credu bod y ffigur yma gennyf, ond ni allaf ddod o hyd iddo ar hyn o bryd. Ond credaf ei fod—. O, mae'n ddrwg gennyf; ysgrifennwyd at 688 o fusnesau ar ôl iddynt wneud ceisiadau i ofyn am lythyr cyfrifydd, a chymerwyd taliadau llai nag 1 y cant o fuddiolwyr yn ôl am eu bod wedi methu â darparu llythyr cyfrifydd cyn y dyddiad cau. Ond credaf eich bod yn llygad eich lle; mae angen i hyn fod yn amlwg iawn, ac yn sicr, rydym wedi adolygu hynny, ac fel y dywedwch, rydym wedi newid hynny. Rwy'n fwy na pharod i edrych, os gallwn adolygu'r ceisiadau—nid wyf yn gwybod a yw'n rhy hwyr. Ond fe fyddwch yn deall wrth gwrs ein bod yn cael ein harchwilio ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod hyn yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus ac mae'n rhaid inni gael rhai meini prawf. Ond rydym wedi ceisio sicrhau ei fod mor syml â phosibl.
Rwy'n datgan buddiant, yn amlwg, gan fy mod yn bartner mewn busnes ffermio. Weinidog, un o'r pethau sydd mor rhwystredig, yn aml iawn, yw'r cymhlethdod, yn benodol, ynghylch y cynlluniau grantiau coetir sydd ar gael. O ystyried bod llawer o drafod wedi bod yn y Siambr hon heno—y prynhawn yma, dylwn ddweud—ynglŷn â chynyddu'r defnydd o goetiroedd, a allwch ymrwymo'r adran i edrych ar sut y gellid symleiddio'r cynllun hwnnw er mwyn ei wneud yn llawer cyflymach o ran prosesu ceisiadau fel ei fod yn annog mwy o gyfranogiad? Gwn eich bod wedi agor cyfnod newydd yn ôl ym mis Ebrill ar gyfer hyn, ac rwy'n deall ei fod yn arian cyhoeddus a bod yn rhaid i'r archwilio a'r atebolrwydd fod yn gadarn, ond pan fydd gan fusnesau gyfnodau bach o amser, yn amlwg, ar gyfer plannu coed, mae angen iddynt fod yn hyderus y gellir prosesu'r grantiau y maent yn ymgeisio amdanynt yn brydlon. Yn sicr, mae etholwyr wedi dweud wrthyf fod y broses hon yn lletchwith iawn, yn fiwrocrataidd iawn, ac yn eu hatal rhag gwneud ceisiadau mewn gwirionedd.
Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Yn amlwg, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud yn benodol â'r grant busnes i ffermydd, ac fel y dywedais yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth, holl bwynt y cynllun hwn oedd ein bod wedi sicrhau ei fod mor hawdd a syml â phosibl. Roeddwn o'r farn ein bod wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, mae'r mater a godwyd gan Rhun yn dangos nad oedd mor syml a hawdd ag y buaswn wedi gobeithio. Yn sicr, o ran grantiau eraill, bellach—mae angen i ni edrych ar sicrhau eu bod mor hawdd a syml â phosibl. Ac os yw Brexit yn darparu unrhyw gyfleoedd, yn amlwg, gan fod gennym ein polisi amaethyddol ein hunain ac rydym yn diwygio'r system daliadau, credaf fod hynny'n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Oherwydd fel y dywedwch, os yw'n gyfnod bach iawn ar adeg brysur iawn o'r flwyddyn, mae angen i ni sicrhau y gall pawb ymgeisio amdano mor syml â phosibl. Rwy'n falch eich bod wedi adleisio'r pwynt a wneuthum o ran y defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd aer? OAQ54068
Diolch. Mae mynd i'r afael â llygredd aer ledled Cymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn fy natganiad ar aer glân ddoe, tynnais sylw at gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth ac ystod o sectorau i wella ansawdd aer. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn y cynllun aer glân y bwriadaf ymgynghori yn eu gylch yn yr hydref.
Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad ar aer glân ddoe ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân. Mae Caerllion yn un o 11 ardal ddynodedig ar gyfer rheoli ansawdd aer yng Nghasnewydd. Mae'r holl draffig sy'n llifo allan ar y strydoedd cul yn aml yn cael ei orfodi i stopio oherwydd cyfyngiadau a thagfeydd yn y system ffyrdd. Mae safleoedd o bwysigrwydd archeolegol yn golygu nad oes fawr o gyfle i newid cynllun y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac mae llawer o gerbydau nwyddau trwm yn defnyddio'r ffordd yng Nghaerllion fel ffordd drwodd. Mae Cymdeithas Ddinesig Caerllion yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdod lleol i roi camau gweithredu ar waith ar wella ansawdd aer yn yr ardal. A all y Gweinidog ddweud a fydd y Ddeddf aer glân yn darparu ar gyfer ymgysylltu â chymunedau sy'n ceisio gwella ansawdd aer?
Wel, yn sicr, credaf y byddai'n rhaid iddi wneud hynny. Fel y soniais yn y datganiad ddoe, byddwn yn defnyddio'r cynllun aer glân i weld pa gynigion y credwn fod angen i ni eu cyflwyno ar gyfer y Ddeddf aer glân. Ond yn sicr, credaf fod gweithio gyda chymunedau yn gwbl hanfodol mewn unrhyw ardaloedd rydym yn ceisio'u gwella, a gobeithio y bydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn sicr, yn gweithio gyda hwy pan fyddant yn edrych ar eu dull o reoli ansawdd aer lleol a lle maent yn monitro'r safleoedd, er enghraifft. Felly, rwy'n gobeithio y byddant yn cydweithio.
Weinidog, mae'n Wythnos Carwch Eich Ysgyfaint, a gwn y byddwch yn dymuno—[Torri ar draws.] Dyma ni. Gwn fod pob un ohonom yn dymuno canmol gwaith Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Yn wir, cawsom dynnu ein llun y tu allan i'r Senedd yn gynharach pan oeddem yn sgwrsio am yr angen am Ddeddf aer glân. Ond a gaf fi ddweud wrthych ei bod hefyd yn swyddogol mai'r ffordd gyflymaf o deithio yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig yw ar feic? Cafodd grŵp o gynghorwyr Caerdydd, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr eraill ras drwy ddefnyddio'r gwahanol ddulliau o deithio i gastell Caerdydd. Mewn gwirionedd, efallai bod 'ras' yn or-ddweud ar gyfer rhai o'r dulliau hynny. Roedd y beiciau yn teithio ar gyfartaledd o bron i 12 mya, bysiau ychydig dros 6 mya, ac ar y gwaelod, ceir—prin 5 mya. Mae'n amlwg iawn mai teithio llesol yw un o'r ffyrdd gorau o hyrwyddo nid yn unig effeithlonrwydd o ran teithiau cymudo ond hefyd aer glân, ac rwy'n cymeradwyo'r holl weithgareddau sy'n hyrwyddo'r dulliau hyn o deithio.
Diolch. Yn sicr, rwy'n hapus iawn fod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi cynnal eu hwythnos. Mae hi hefyd—rwyf am roi hys-bys i hyn—yn Ddiwrnod Aer Glân yfory; credaf y dylai pob un feddwl am rywbeth y gallwn ei wneud i'w hyrwyddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £30 miliwn i awdurdodau lleol mewn perthynas â theithio llesol, ac yn sicr, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd. Credaf eu bod yn cyflwyno cynlluniau da iawn mewn perthynas â beicio, ac yn sicr, rwyf wedi gweld y cynghorwyr hynny'n gwibio o gwmpas y lle ar feiciau sawl tro.
Weinidog, wrth gwrs, un o'r ardaloedd mwyaf prysur a llygredig yw'r A470, ac wrth gwrs, mae camau ar waith, fel mesur dros dro, i geisio rheoli faint o lygredd sydd yno drwy gyfyngu ar gyflymder traffig ac ati. Ond wrth gwrs, mae yna nifer o gyfyngiadau cyflymder amrywiol yn yr ardal honno. Ymddengys bod cryn dipyn o yrwyr yn torri'r cyfyngiadau cyflymder hynny. Felly, bydd unrhyw waith monitro sy'n mynd rhagddo'n cael ei effeithio'n andwyol iawn i bob pwrpas, wrth i'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith gael eu torri. Tybed pa drafodaethau rydych wedi'u cael, neu y gallech fod eu cael, gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, efallai, ynglŷn â sicrhau bod y broses honno'n cael ei gwerthuso a'i monitro'n iawn, ac efallai hyd yn oed symleiddio'r newidiadau cyflymder eithaf cymhleth yn yr ardal benodol honno. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Ni fyddwch wedi gweld hynny, ond ymddengys i mi ei fod yn fater sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich cyfrifoldebau o ran llygredd aer.
Diolch. Fel y dywedais yn glir ddoe yn y datganiad llafar, mae trafnidiaeth ffyrdd yn sicr yn cyfrannu at ansawdd ein haer, yn fwy nag unrhyw sector arall yn ôl pob tebyg. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau a chyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a chredaf fod fy swyddogion a'r swyddogion trafnidiaeth yn cyfarfod o leiaf yn wythnosol, mae'n debyg, os nad yn amlach, i drafod hyn.
Unwaith eto, ddoe, soniais am yr angen am well arwyddion yn y safleoedd peilot—y pum safle rydym wedi'u cael gyda'r cyfyngiad 50 mya—ledled Cymru, oherwydd mae'n amlwg nad yw pobl yn deall pam fod y cyflymderau amrywiol wedi'u cyflwyno. Nid ydynt yn sylweddoli eu bod ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Maent yn credu eu bod ar gyfer gostwng cyflymder o bosibl.
Yn amlwg, rydym yn cael ymatebion cymysg i'r safleoedd hynny, a bydd swyddogion yn adrodd ar eu heffeithiolrwydd, ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref, mae'n debyg. Ond soniais ddoe fy mod wedi gwneud y safleoedd—neu bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y safleoedd—yn barhaol o ganol mis Gorffennaf. Rydym yn edrych hefyd—. Bydd gennym werth 12 mis llawn o ddata erbyn diwedd y mis hwn i edrych arno, a chredaf y bydd hynny wedyn yn ein cynghori'n well yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd tai yng Nghymru? OAQ54050
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £108 miliwn y flwyddyn i landlordiaid cymdeithasol ar ffurf y lwfans atgyweiriadau mawr i gynghorau a chyllid gwaddoli llenwi bwlch i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau y bydd pawb sy'n byw yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn byw mewn cartrefi o ansawdd da erbyn Rhagfyr 2020.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei hateb. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi y byddai'n anffodus iawn pe bai cyllid Llywodraeth Cymru o ffynonellau eraill yn cael effaith negyddol anfwriadol ar ansawdd tai yng Nghymru. Mae gennyf nifer o etholwyr sydd wedi bod yn cael anawsterau go iawn gyda deunydd inswleiddio waliau ceudod wedi'i werthu'n amhriodol neu wedi'i osod yn amhriodol. Gwn fod hwn yn fater sydd wedi cael ei godi droeon, a gan David Rees yn ddiweddar.
Yn amlwg, nid yw'r mater hwn yn rhan uniongyrchol o'ch portffolio, Weinidog, ond mae'n cael effaith wirioneddol ar ansawdd tai rhai o fy etholwyr, a gwn am lawer o rai eraill. Yr hyn sy'n anffodus yw mai'r dystiolaeth sy'n cael ei hanfon ataf yw bod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, sydd i fod i fynd i'r afael â hyn, yn fawr o gymorth mewn gwirionedd. Mae un achos penodol rwyf am ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd yn ei gylch gan nad ydynt yn ymateb, a phan fyddant yn ymateb, maent yn cynnig unioni'r gwaith yn rhannol yn unig.
Nid yw'r teulu penodol a ysgogodd y cwestiwn hwn yn bobl gefnog. Maent wedi gweithio'n galed iawn i allu fforddio eu cartref eu hunain. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog a wnewch chi, gan wisgo'ch het ansawdd tai, gael sgwrs bellach gyda Gweinidog yr amgylchedd i weld a oes mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod yr asiantaeth warantu yn addas i'r diben, a'u bod yn ymateb mewn ffordd briodol, ond hefyd mewn modd tosturiol tuag at bobl sy'n wynebu problemau lleithder anodd iawn mewn cartrefi y bu'n rhaid iddynt ymdrechu'n galed iawn i'w prynu?
Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Os anfonwch y manylion at Weinidog yr amgylchedd, rhwng y ddau ohonom, gallwn edrych ar y mater penodol rydych yn ymdrin ag ef. Mewn gwirionedd, yn llawer mwy cyffredinol, rydym ar fin derbyn adroddiad gan y gweithgor datgarboneiddio tai. Maent yn edrych ar dai yn gyffredinol, nid tai cymdeithasol yn unig. Felly, rydym yn disgwyl argymhellion ganddynt am nifer o'r pethau a godwyd gennych yn fwy cyffredinol o ran y pethau penodol yno: felly, y sgiliau sydd ar gael i ddeiliaid cartrefi preifat—mae'n ddrwg gennyf, perchnogion cartrefi preifat; baglais dros fy ngeiriau—yng Nghymru; y cyngor y gallant ei gael ynglŷn â'r ffordd orau o inswleiddio eu cartrefi heb achosi rhai o'r anawsterau y soniwch amdanynt; a materion ynghylch effeithlonrwydd ynni ac anwedd a phethau o'r fath. Felly, rydym yn disgwyl yr adroddiad hwnnw cyn bo hir, ac rwy'n disgwyl cael sgwrs dda iawn ar draws y Llywodraeth a chyda'r Cynulliad ynglŷn â'r ffordd orau o roi rhai o'r argymhellion ar waith.
Weinidog, yn gynharach eleni, arweiniodd fy nghyd-Aelod yma, David Melding, ddadl a oedd yn cydnabod bod nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn annigonol i ateb y galw, ac yn ystod y ddadl, cydnabu pob un ohonom fod prinder tai cymdeithasol yng Nghymru. Ond mae prinder hefyd o ran mathau eraill o gartrefi a fydd yn denu perchnogion tai iau, uchelgeisiol i symud i Gymru. Deallaf fod gan swydd Amwythig, er enghraifft, y sir wrth ymyl fy etholaeth fy hun, bolisi cynllunio mwy hyblyg sy'n caniatáu i dirfeddianwyr ddatblygu eu tir ar gyfer cartrefi dethol, gan ddenu gweithwyr proffesiynol iau, gan gynnwys athrawon, pobl fusnes a meddygon, y mae eu taer hangen yng nghanolbarth Cymru wrth gwrs, i symud i Gymru ac i ymgartrefu yng Nghymru, i ddilyn gyrfa ac i fuddsoddi yn yr economi leol. A gaf fi ofyn pa fwriad sydd gennych i adolygu canllawiau cynllunio er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol weithredu eu polisïau cynllunio mewn modd a fydd yn sicrhau bod y galw am y mathau hyn o gartrefi yn cael ei ddiwallu er mwyn annog teuluoedd iau a gweithwyr proffesiynol i ddod i Bowys a siroedd fel fy un i? Neu yn wir, a ydych yn credu nad oes angen yr hyblygrwydd hwnnw ar awdurdodau lleol gan fod ganddynt yr hyblygrwydd hwnnw eisoes, ac nad oes angen unrhyw newid i ganllawiau cynllunio?
Mae hwn yn gwestiwn ynglŷn ag ansawdd y cyflenwad tai, mewn gwirionedd, ac mae hwnnw'n gwestiwn ynglŷn â'r cyflenwad tai ei hun. Ond fe ailgyhoeddasom 'Polisi Cynllunio Cymru' ychydig cyn y Nadolig. Mae hwnnw'n pwysleisio ymagwedd adeiladu'n seiliedig ar leoedd, gyda phwyslais ar fodelau cynaliadwy'n seiliedig ar leoedd. Felly, yr hyn rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ei wneud, yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol, yw edrych ar greu lleoedd cynaliadwy sy'n cynnwys datblygiadau deiliadaeth gymysg. A dweud y gwir, mae holl ystadegau'r farchnad yn dangos inni ein bod yn adeiladu digon o gartrefi ar gyfer y farchnad; y pethau rydym yn brin ohonynt yw cartrefi rhent cymdeithasol. Felly, ar hyn o bryd, mae'r farchnad yn darparu mwy na digon o gartrefi ar gyfer y farchnad, ac mae ein cynllun Cymorth i Brynu wedi sbarduno rhywfaint o hynny, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni adeiladu llawer mwy ohonynt—miloedd yn fwy ohonynt—yw cartrefi rhent cymdeithasol, felly sefyllfa wahanol iawn i'r darlun rydych newydd ei ddisgrifio.
Mae gennym ormod o dai o ansawdd gwael yng Nghymru, a llawer ohonynt yn gwneud defnydd aneffeithlon iawn o ynni, sy'n golygu bod y bobl dlotaf naill ai'n oer neu'n talu mwy am wresogi eu cartrefi na chi a fi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y sector rhentu preifat a'r rhan gost isel iawn o'r sector rhentu preifat?
Ar hyn o bryd, rydym wedi canolbwyntio ar safon ansawdd tai Cymru ar gyfer tai a ddarperir yn gyhoeddus. Gŵyr Mike Hedges yn iawn fod safon ansawdd tai Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gael sgôr o 65 neu uwch yn y weithdrefn asesu safonol, neu dystysgrif perfformiad ynni sy'n cyfateb i radd D. Mae oddeutu 97 y cant o'n stoc yn cyrraedd y safon honno ar hyn o bryd, ac mae gennym ychydig yn fwy i'w wneud cyn ein bod yn bodloni'r safon ansawdd tai ar gyfer Cymru gyfan. Yr hyn rydym wedi bod yn ceisio'i wneud yn y sector rhentu preifat yw newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid a sicrhau bod tenantiaid yn cael bargen well yn gyffredinol o ran y ffordd y caiff eiddo ei osod, y mathau o eiddo sydd ar gael a'r rheoliadau drwy Rhentu Doeth Cymru. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cael unrhyw arwyddion penodol ynghylch effeithlonrwydd ynni, ond fel y dywedais wrth ateb Helen Mary Jones, rydym yn disgwyl i'r gweithgor datgarboneiddio adrodd cyn bo hir, a gofynnwyd iddynt ystyried Cymru gyfan, ac rwy'n disgwyl set o argymhellion ynghylch yr hyn y dylem ei wneud ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru i wella effeithlonrwydd ynni, ac yn wir, insiwleiddio a safonau i fynd gyda hynny.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ'r Cyffredin ar ddiwygio cyfraith lesddaliad? OAQ54065
Rwyf wedi darllen eu hadroddiad â chryn ddiddordeb. Fodd bynnag, mae'n fater datganoledig ac mae ein grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol ein hunain ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliad ar y trywydd iawn i gyflwyno eu hadroddiad i mi ym mis Gorffennaf. Byddaf yn adolygu eu hargymhellion ac yna'n penderfynu pa gamau i'w cymryd ar gyfer Cymru.
Fe'ch cymeradwyaf am ddarllen yr adroddiad. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn aml yn gyffredin yn y maes hwn, a chredaf fod gwersi i'w dysgu, a bod pwyllgor Tŷ'r Cyffredin wedi gwneud gwasanaeth gwych yma.
Mae ffioedd rheoli ystadau yn ogystal â ffioedd gwasanaeth wedi cael eu beirniadu am eu maint, eu diffyg tryloywder a pha mor anodd yw eu herio. Mae'r rheini'n sicr yn broblemau sydd gennym yng Nghymru. Ac mae Which?, y sefydliad defnyddwyr, wedi nodi na ddylai ffyrdd unrhyw ystâd o dai newydd fod yn gyfrifoldeb i'r lesddeiliad, ond mae hyn yn digwydd yn amlach ac yn amlach ar hyn o bryd. Yn aml, fel y dywed yr adroddiad, mae datblygwyr yn beio'r cyngor lleol, mae'r cyngor yn beio'r datblygwyr ac mae'n llanast anniben.
Rwyf wedi cyfarfod â phreswylwyr ar ystâd dai newydd yn fy rhanbarth i ac maent wedi dweud wrthyf eu bod yn gwrthdaro rhwng yr ystâd a'r cyngor lleol a'r datblygwr ynghylch mabwysiadu prif ffordd drwy'r ystâd, sy'n llwybr bysiau. Ac er bod y ffordd honno'n llwybr bysiau allweddol, ni fydd yn cael ei mabwysiadu ar hyn o bryd. Mae hon yn sefyllfa wallgof. Ni ddylai'r cynllunwyr ganiatáu hyn ac ni ddylid caniatáu i'r datblygwyr gynhyrchu ffyrdd o ansawdd annigonol pan fyddant wedi'u nodi'n glir fel rhai y mae'n ofynnol iddynt fod yn llwybrau bysiau.
Cytunaf yn llwyr â dadansoddiad yr Aelod o hynny. Mae gennym broblem sylweddol mewn rhai o'r cytundebau 106 a negodwyd rhwng datblygwyr a chynghorau ledled Cymru. Ac un o'r anawsterau sydd wedi codi o ganlyniad i hynny yw'r broblem ynghylch mabwysiadu ffyrdd, y safon y mae'n rhaid eu codi iddi, defnydd buddiol yr ystâd dan sylw cyn mabwysiadu'r ffordd ac ati. Felly, rydym yn mynd i'r afael â hynny mewn sawl ffordd.
Y ffordd symlaf yw fod gennym hefyd, ochr yn ochr â'r grŵp diwygio cyfraith lesddaliad, grŵp gorchwyl a gorffen sy'n gyfrifol am gynhyrchu adolygiad o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. Mewn gwirionedd, mae'n dasglu ar y cyd rhwng Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau, ac maent i fod i roi eu hargymhellion i ni cyn bo hir. Rydym wedi gofyn yn benodol iddynt edrych ar y syniad o gyflwyno cod ymarfer ar gyfer asiantau rheoli ystadau ac eiddo i wella'r safonau proffesiynol a moesegol y maent yn gweithredu iddynt.
Ar yr un pryd, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi gwneud datganiad llafar ddoe ar rai o'r awgrymiadau a gawn am fwy o weithio rhanbarthol gydag awdurdodau lleol. Un o'r meysydd roedd hwnnw'n ymdrin â hwy oedd datblygu economaidd a defnydd tir. Un o'r ffactorau penodol sy'n sbarduno hynny yw sicrhau y ceir y sgil gwerthfawr iawn a chynyddol brin yn anffodus o allu negodi'r cytundebau hynny'n briodol, fel bod y bobl sydd â'r sgiliau hynny ar gael i Gymru gyfan, yn hytrach nag i'r awdurdodau lleol lwcus sydd wedi llwyddo i'w cadw. Mae'n amlwg yn fater y mae angen i ni ei ddatrys.
Felly, rydym yn edrych ar fynd i'r afael â hyn o'r ddau ben, os mynnwch, ond credaf ein bod hefyd yn edrych ar ganllawiau newydd i awdurdodau lleol o ran yr hyn y dylent fod yn chwilio amdano wrth edrych ar sefyllfa lle mae datblygiad newydd wedi'i gwblhau i raddau helaeth, ond nid yw'r ffyrdd yn cyrraedd safonau lle gellir eu mabwysiadu.
Felly, i grynhoi, bydd y grŵp diwygio cyfraith lesddaliad yn adrodd yn ôl, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd yn ôl ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, mae cyhoeddiadau Llywodraeth y DU yn ddiddorol iawn o ran deddfu i sicrhau bod gan rydd-ddeiliaid sy'n talu ffioedd am gynnal a chadw ardaloedd cymunedol fynediad at yr un hawliau â lesddeiliaid o ran y ffordd y caiff hynny ei reoleiddio. Ac mae gennym gryn ddiddordeb mewn edrych ar hynny hefyd.
A gaf fi adleisio'r sylwadau gan David Melding, oherwydd, yn amlwg, mae lesddeiliaid yn wynebu heriau difrifol iawn, yn enwedig yn ariannol? A phan fyddwch yn dychwelyd at eich gweithgor, rwy'n gobeithio y byddant yn argymell eich bod yn gweithredu i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau—ac os nad ydynt, rwy'n gobeithio y byddwch yn ei gynnwys beth bynnag. Oherwydd, er enghraifft, mae llawer o etholwyr yn fy etholaeth sy'n berchen ar eiddo ar wahanol ystadau—nid un yn unig, llawer o ystadau—sy'n eiddo lesddaliadol. Ac mae gennyf un yma o fy mlaen sydd wedi rhoi dadansoddiad iddynt o'r bil lesddaliad y maent wedi'i gael ar gyfer eleni. Mae'n ofynnol iddynt dalu £187 y mis ar ben popeth arall—ar ben y dreth gyngor, ar ben y cyfleustodau. Ac rwyf am gynnwys yr hyn a ddywedant: mae'r rhestr yn cynnwys ffioedd y tu allan i oriau; ffi reoli, ddwywaith; ffi gyfrifyddiaeth; a ffioedd bancio. Maent wedi eu cynnwys yn y rhestr y disgwylir iddynt ei thalu.
Nawr, mae'r rhain yn gwmnïau rheoli sy'n gofalu am ystadau ar ran y rhain, ac maent yn ei ddefnyddio fel peiriant arian. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi rhoi rheoliadau ar waith, yn y cynigion hynny wedyn, ar gyfer yr asiantaethau hyn i sicrhau eu bod yn trin pobl yn deg a bod unrhyw gyllid y mae arnynt ei angen yn seiliedig ar angen gwirioneddol yn hytrach nag ar gostau y maent yn eu hwynebu beth bynnag.
Unwaith eto, rwy'n rhannu pryderon yr Aelod ynglŷn â rhai o'r arferion sydd wedi codi o ganlyniad i hyn. Y mater sylfaenol yma yw pan fydd rhywun yn prynu tŷ rhydd-ddaliadol, dylent fod yn derbyn y cyngor priodol gan eu cyfreithwyr sy'n gweithredu ar eu rhan ynglŷn â'r ffioedd eraill sy'n gysylltiedig â'r tŷ hwnnw, gan gynnwys p'un a oes ffordd fabwysiedig y bydd gofyn iddynt ddarparu gwaith cynnal a chadw ar ei chyfer. Mewn ymateb i David Melding, ailadroddais y pethau rydym yn eu gwneud i edrych ar hyn. Yn sicr, yn y tymor byr, rydym yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud ynglŷn â rhai o'r ffioedd penodol.
Yr hyn sy'n anodd, fodd bynnag, yw bod amddiffyniadau ar waith ar gyfer lesddeiliaid, ond nid yw'r amddiffyniadau hynny'n gwarchod rhydd-ddeiliaid sydd wedi ymrwymo i gytundeb rheoli o'r fath. Felly, mae Llywodraeth y DU wedi gweld bod hyn yn fwlch, felly, gydag unrhyw lwc, byddant yn camu i'r bwlch hwnnw, gan ein bod ar ffin y setliad datganoli yma hefyd.
Felly, rydym wedi gofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen edrych yn benodol ar rai o'r ffioedd hefyd, ond mewn gwirionedd, ateb gwell o lawer fyddai sicrhau bod y ffyrdd yn cyrraedd safon lle gellir eu mabwysiadu, ac yna eu mabwysiadu. Felly, efallai y bydd yn rhaid inni edrych ar gynlluniau er mwyn gallu hwyluso hynny. Ac yn sicr, byddaf yn edrych ar ein cynllun Cymorth i Brynu ein hunain, i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud yn y cynllun hwnnw i sicrhau nad ydym yn lledaenu arferion nad ydynt o gymorth, a dweud y lleiaf.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ardderchog a lansiwyd ddoe gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru. A chymeradwyaf yr adroddiad i'r holl Aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i'w weld eto. Mae'r adroddiad yn gwneud achos cryf dros ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru, a hefyd yn nodi map clir ar gyfer sut y dylem gyrraedd y sefyllfa honno. A ydych yn cytuno y dylid cydnabod yr hawl i dai yng Nghymru mewn statud?
Ydw, yn sicr. Bûm yn siarad yn y digwyddiad ddoe. Yn anffodus, bu'n rhaid imi fynychu digwyddiad arall, felly cefais fy ngwasgu i mewn rhwng dwy ran o gyflwyniad awdur yr adroddiad i'r adroddiad. Ond gwnaeth y modd eglur y nododd rai o'r materion deddfwriaethol y bu'n ymchwilio iddynt argraff fawr arnaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at drafod manylion y map gyda fy swyddogion o ran sut i gyflawni rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer Cymru. Ond yn fy nghyfraniad i'r digwyddiad hwnnw, dywedais ei bod nid yn unig yn bwysig sicrhau yn anad dim fod gan bobl dai fel hawl ddynol, ond ein bod mewn sefyllfa i ddarparu hynny mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, os oes gan unigolyn hawl i orfodi hynny, mae'n rhaid bod gennym gyflenwad digonol o dai, er mwyn iddynt allu cael y tai i fynd iddynt. Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y mecanweithiau cymorth cywir ar waith gennym i alluogi pobl sydd ag amrywiaeth o anawsterau i aros yn eu cartrefi ac yn y blaen. Felly, er fy mod yn llwyr dderbyn diben yr adroddiad yn ei hanfod, ac yn cytuno ag ef, mae gennym amrywiaeth o faterion ymarferol i'w hystyried hefyd.
Diolch, Weinidog, am yr ateb calonogol iawn hwnnw, os caf ddweud. Ac rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch fod angen strategaeth arnoch i allu sicrhau bod hawl yn bodoli yn ymarferol. Ac yn wir, mae'r adroddiad yn amlinellu'r hyn y mae angen ei wneud o ran strategaeth dai genedlaethol sy'n seiliedig ar hawliau. Ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi galw amdano eisoes—a chredaf fod eraill yn rhannu'r dyhead hwn. Ac a gaf fi ddweud, byddai'n flwyddyn wych i ni pe gallem gyflawni ymrwymiad i ddatblygu'r strategaeth dai genedlaethol hon. Wedi'r cyfan, rydym yn prysur agosáu at ganmlwyddiant tai cyngor. Derbyniodd Ddeddf Tai a Chynllunio Trefol 1919—sy'n fwy adnabyddus fel Deddf Addison—Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 1919. Ac yn wir, rwy'n credu ei bod wedi cael sylw yn y cyfarfod, yn y lansiad ddoe.
Weinidog, a fydd yr adolygiad o dai fforddiadwy yn arwain at strategaeth dai genedlaethol, a fydd yn cynnwys targedau i gynyddu'r cyflenwad o dai yn ganolog iddi, ond a fydd yn mynd i'r afael â materion eraill hefyd?
Yn sicr, mae diddordeb mawr gennyf mewn edrych ar dai yn gyffredinol. Nid yr adolygiad tai fforddiadwy yn unig sydd gennym i'w ystyried. Rydych wedi fy nghlywed yn sôn eisoes yn y Cyfarfod Llawn heddiw am yr adolygiad datgarboneiddio. Mae gennym adolygiad polisi rhent, mae gennym adolygiad diwygio cyfraith lesddaliad, mae gennym adolygiad parhaus o angen blaenoriaethol—credaf fod dau arall nad wyf yn eu cofio ar hyn o bryd. Rwyf eisoes wedi trefnu cyfarfodydd â chadeiryddion pob un o'r adolygiadau hynny, a nifer o swyddogion, fel y gallwn edrych ar y cyfan, ar draws yr holl gyngor a gawsom, i allu meddwl am ymateb cydlynol i'r gyfres o adroddiadau. Gall hynny droi'n strategaeth, neu gallai beidio, ond rwy'n bwriadu sicrhau ymateb cydlynol yn gyffredinol. Ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr adroddiad a lansiwyd ddoe yn rhan o hynny.
Credaf mai'r strategaeth fyddai'r ffordd o edrych ar yr holl bethau hyn mewn ffordd gynhwysfawr. Rydych yn llygad eich lle—nid oes a wnelo hyn â thai fforddiadwy yn unig, mae'n ymwneud â'r maes tai yn ei gyfanrwydd. Ond mae meysydd allweddol eraill y gallem sôn amdanynt yma a ddylai fod yn rhan o strategaeth dai genedlaethol: dileu digartrefedd; cynyddu diogelwch deiliadaeth ar gyfer y genhedlaeth rhent—bron i 20 y cant o'r rheini mewn tai ar hyn o bryd; diwygio cyfraith lesddaliad; a llais cryf i'r tenant. Mae'r rhain oll yn bethau pwysig y dylem fod yn gwthio amdanynt. A Weinidog, onid yw'n bryd inni greu consensws ar y materion hyn—rhwng yr holl bleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu—y gallem ddod at ein gilydd, a chael strategaeth dai genedlaethol drawsbleidiol? Oni fyddai hynny'n gyflawniad gwych, yn ystod ugeinfed mlynedd datganoli? Ac a wnewch chi wahodd cynrychiolwyr o'r holl bleidiau i drafod yr amcan hwn gyda Llywodraeth Cymru, gan y credaf y gallem gytuno arno?
Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn yn awyddus i wneud hynny. Yn wir, rwy'n fwy na pharod i ddweud nawr, Lywydd, ar lawr y Cynulliad, y buaswn yn awyddus iawn i edrych ar lle mae'r consensws ar draws y pleidiau. Rydym wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn, ac rydych yn llygad eich lle—mae nifer o bleidiau wedi cyhoeddi dogfennau tai, ac mae llawer rydym yn cytuno arno; mae pethau bychain nad ydym yn cytuno arnynt. Credaf fod David Melding yn llygad ei le yn dweud y byddai'n dda gweld lle mae'r consensws a gweld beth y gellir ei wneud, pan fydd yr holl adroddiadau wedi dod i law a gallwn edrych arnynt yn eu cyfanrwydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nhrafodaethau awdurdodau lleol. Felly, Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn olrhain gweithrediad egwyddorion y Ddeddf gan gynghorau?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn ymgorffori'r saith ffordd o weithio yn y Ddeddf, a bod egwyddorion y Ddeddf yn bellgyrhaeddol. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda gweithgor mewn llywodraeth leol i sicrhau, ym mhob dim a wnawn gydag awdurdodau lleol, ein bod yn gweithredu'r Ddeddf a'i bod yn ganolog i bopeth a wnawn.
Diolch, Weinidog, ond rydym yn dal i weld cynghorau'n methu ystyried y Ddeddf yn iawn mewn rhai ardaloedd. A gaf fi gyfeirio at enghraifft yn fy rhanbarth i, ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Yn ddiweddar, cafwyd ymgynghoriad ar fysiau mewn perthynas â chael gwared ar wasanaethau. Roedd adroddiad i'r cabinet a oedd yn argymell y toriadau wedi methu cynnal asesiad cydraddoldeb nac asesiad o'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol. Dywedasant y byddent yn gwneud y ddau beth ar ôl yr ymgynghoriad cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei gymeradwyo. Hynny yw, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud. Enghraifft arall, felly, yn yr un awdurdod, Pen-y-bont ar Ogwr—gwerthu'r unig gae chwarae a oedd yn gwasanaethu ystâd o dai cyngor er mwyn codi tai. Onid yw'r rhain yn enghreifftiau o awdurdodau lleol yn methu meddwl yn wahanol?
Nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achosion hynny. Roeddwn yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ar fysiau; nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achos arall. Os oes gan yr Aelod fwy o fanylion, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn anffodus, roedd hynny ar y diwrnod y cyhoeddwyd y byddai safle Ford yn cau, ac yn amlwg felly, newidiodd ein cyfarfod o'r cyfarfod arferol roeddwn i fod i'w gael gydag ef i fod yn gyfarfod argyfwng am Ben-y-bont ar Ogwr. Ond rwyf i fod i'w gyfarfod eto gyda hyn, felly os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i drafod yr achos gydag ef.
Ond y ffaith yw ei bod yn ymddangos naill ai nad oes unrhyw ddannedd i'r Ddeddf ei hun, neu nad oes unrhyw ewyllys yn y Llywodraeth i olrhain ei gweithrediad, oherwydd ar ochr draw'r rhanbarth, yn Abertawe, mae Cyngor Abertawe yn bwriadu gwerthu tir ar y blaendraeth er mwyn gwneud elw cyflym, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, ac nid yw parc eiconig Singleton hyd yn oed yn ddiogel rhag y sgemio a sgilio. Onid yw hyn yn gwbl groes i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac a oes digon o gapasiti yn y Llywodraeth i olrhain gweithrediad Deddf cenedlaethau'r dyfodol?
Deallaf fod y cynigion yn Abertawe yn destun ymgynghoriad. Mae gennyf innau fag post mawr ar y pwnc, ac rwy'n siŵr fod gennych chithau hefyd, a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yw'r Aelod Cynulliad etholaeth ar gyfer yr ardal honno, a gwn fod ganddi bryderon tebyg. Byddwn yn siarad â'r cyngor am y ffordd y mae'n bwrw ymlaen â rhai o'r pethau hynny, ond maent ar ddechrau proses hir iawn o gynllunio, datblygu economaidd ac yn y blaen, felly credaf ei bod yn gynnar iawn i ddweud nad ydynt yn ystyried hynny. Fy nealltwriaeth i yw mai cynigion rhagarweiniol yw'r rhain. Unwaith eto, os oes gan yr Aelod fwy o fanylion nag y gwn i amdanynt, buaswn yn ddiolchgar i'w cael.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant? OAQ54069
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae fy nghyd-Aelod, Julie James, yn arwain adolygiad o raglenni cyllido Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Yn ogystal, bydd Lesley Griffiths yn eiriolwr dros dlodi yn ystod paratoadau'r gyllideb, i nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu effaith buddsoddi cyfunol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'r gronfa cymorth dewisol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2013, yn gronfa hanfodol sy'n cefnogi'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Mae gan blant a theuluoedd yn yr amgylchiadau anoddaf ac sy'n wynebu argyfwng ariannol fynediad at y gronfa hon. Cynhaliwyd gwerthusiad yn 2015 i archwilio effeithiolrwydd y gronfa, a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar sut y gellid gwella'r gronfa a'r gwaith o'i gweinyddu. A allai'r Gweinidog amlinellu a fu unrhyw werthusiad pellach o'r gronfa cymorth dewisol, neu a fu unrhyw gynnydd o ran mynd i'r afael â'r awgrymiadau ar gyfer gwella yng ngwerthusiad 2015?
Rwyf am yn dechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r Aelod ynghylch pwysigrwydd y gronfa cymorth dewisol, boed yn daliadau cymorth i unigolion neu daliadau cymorth mewn argyfwng. A bûm yn ymweld â chanolfan Wrecsam lle caiff ei gweithredu heb fod ymhell yn ôl, ac eisteddais a gwrando ar rai o'r galwadau torcalonnus sy'n cael eu gwneud gan bobl sy'n wirioneddol agored i niwed ac sy'n ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
Fel y dywedwch, cynhaliwyd a chyhoeddwyd gwerthusiad yn 2015 a wnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys defnyddio rhwydwaith partneriaid y gronfa cymorth dewisol i roi cymorth i gleientiaid i wneud cais llwyddiannus. Mae pob un ohonynt wedi'u rhoi ar waith. Cynhaliwyd arolwg pellach hefyd yn 2016, ond yn ogystal â hyn, cynhaliwyd archwiliad gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2017 a wnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwella, ac roedd yn cynnwys pethau fel symleiddio'r broses ymgeisio er mwyn cynorthwyo cleientiaid agored i niwed, gwneud ceisiadau ar-lein am gyllid cymorth brys heb fod angen iddynt gael y cymorth partner a oedd yn angenrheidiol cyn hynny, ac rwy'n falch fod pob un o'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith.
Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn codi ers 2004. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd, pan oedd mwy nag un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 mewn tlodi difrifol. Y mis diwethaf, gwyddom fod y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant wedi dweud mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd mewn tlodi plant y llynedd, ac er i Gomisiynydd Plant Cymru ddweud ym mis Mawrth y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu cynllun cyflawni newydd ar dlodi plant i ganolbwyntio ar gamau pendant a mesuradwy, methodd Llywodraeth Cymru gefnogi galwadau am unrhyw strategaeth drechu tlodi yn ystod dadl yr Aelod unigol yn galw am hyn yma bythefnos yn ôl. Sut felly rydych yn ymateb i'r sylwadau a wnaed i mi ar ôl y ddadl honno gan gynrychiolwyr sector ynglŷn â fy mhwyslais ar yr angen i ganolbwyntio ar yr ysgogiadau polisi Cymreig sydd gan Lywodraeth Cymru o fewn ei phwerau, mai 'Dyma'r union faes yr hoffem ganolbwyntio ein dylanwad arno gan ein bod yn cytuno bod yna bwerau y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru eu defnyddio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi', h.y. o fewn cynllun neu strategaeth yn hytrach nag ymagwedd generig, sydd wedi ein gadael ar y gwaelod am dros 10 mlynedd?
Lywydd, rwy'n synhwyro awgrym o eironi yng nghwestiwn yr Aelod gan nad yw'n sôn mewn gwirionedd am effaith cyni ar dlodi plant yng Nghymru a ledled y DU a sut y mae hynny wedi cael ei chwyddo'n sylweddol nid yn unig o ganlyniad i gyni ond y diwygiadau lles atchweliadol hefyd.
Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau, ac yn y pen draw, i ddileu tlodi plant nid yn unig drwy ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni ar draws y Llywodraeth, boed hynny drwy dai, addysg, iechyd, ond hefyd mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymrwymiad y Prif Weinidog i ad-drefnu rhaglenni cyllido Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Erbyn hyn mae gennym rai cymunedau lle mae un o bob dau blentyn yn byw mewn tlodi, ac mae hynny'n gwbl warthus, ond mae'n rhywbeth y gall eich Llywodraeth wneud rhywbeth yn ei gylch. Gallai Llywodraeth Cymru gael strategaeth yn erbyn tlodi—byddai hynny'n ddechrau da—strategaeth sy'n cynnwys codi'r trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim i'r un lefel â Gogledd Iwerddon, er enghraifft. Mae newyn, sy'n gysylltiedig â chyrhaeddiad gwael yn yr ysgol ac yn ganlyniad tlodi—nid wyf yn gweld llawer o weithredu gan y Llywodraeth mewn perthynas â newyn. A byddai bod yn llawer mwy rhagweithiol ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru hefyd yn gwneud gwahaniaeth, gan fod y consensws cyni sydd wedi bodoli yn San Steffan wedi arwain at gymaint o drallod i'n cymunedau yma yng Nghymru. Ond a ydych yn cytuno â mi felly, Weinidog, nad yw'n ddigon nac yn dderbyniol cuddio y tu ôl i bolisïau niweidiol y Torïaid yn San Steffan tra bo cymaint y gellid ei wneud yma yng Nghymru i liniaru tlodi plant?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod un plentyn sy'n byw mewn tlodi yn un plentyn yn ormod, yn enwedig yn 2019. Ni ddylai hynny ddigwydd, ac rwy'n rhannu angerdd yr Aelod ynglŷn â mynd i'r afael â hyn. Ar lefel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni, fel y dywedais wrth Mark Isherwood yn awr, boed drwy'r hyn y gallwn ei wneud o ran addysg, cefnogi gofal plant—. Ac mae hwnnw'n ymrwymiad y mae'r Gweinidog yn bwrw ymlaen ag ef—fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Julie James—o ran y ffordd rydym yn sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid hwnnw a'r pethau hynny er mwyn dod â hyn ynghyd ar draws y Llywodraeth ac i gael yr effaith rydym am ei chael mewn perthynas â lleihau, lliniaru, ac yn y pen draw, dileu tlodi plant.
Cyfeiria'r Aelod at ddiwygio lles a'r posibilrwydd o ddatganoli'r gwaith o weinyddu diwygio lles. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio arno ar ran y Prif Weinidog. Rydym wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wneud gwaith ar hynny gyda ni. Byddaf yn cyfarfod â hwy yn yr ychydig wythnosau nesaf i fwrw ymlaen â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod, gan y gwn am eich angerdd a'ch diddordeb yn y maes hwn, ac i siarad â chi am hyn yn y dyfodol.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i adnewyddu tai ar gyfer pobl hŷn? OAQ54072
Gwnaf. Mae cefnogaeth sylweddol ar gael gan Lywodraeth Cymru i berchnogion cartrefi a landlordiaid, gan gynnwys pobl hŷn, ar gyfer adnewyddu eiddo. Ledled Cymru, mae £148 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn cartrefi yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Dŷn ni’n gwybod, yn Ynys Môn, o fewn y pump i 10 mlynedd nesaf, fod disgwyl cynnydd o ryw 30 y cant yn nifer y bobl hŷn—pobl dros 60 oed. Dŷn ni'n gwybod yn barod fod yna brinder tai addas ar gyfer pobl hŷn efo anghenion symudedd yn arbennig ac anghenion iechyd. Mae angen codi tai newydd, wrth gwrs, sydd yn addas, ac mae hefyd angen adnewyddu tai o fewn y stoc bresennol. Ac, wrth gwrs, mae angen buddsoddi hefyd mewn addasu tai ar gyfer pobl hŷn. Tra allwch chi, fel Llywodraeth bresennol, ddim rhoi ymrwymiad heibio’r etholiad nesaf wrth gwrs, ydych chi'n cytuno bod rhaid i lefelau grant gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol fel Ynys Môn ar gyfer addasiadau, yn sicr, gynyddu ar yr un raddfa ag y mae ein poblogaeth ni'n heneiddio?
A dweud y gwir, amser cinio, roeddwn yn lansiad yr adroddiad 'Addasiadau heb oedi' a gynhyrchwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, lansiad a noddwyd gan fy nghyd-Aelod Dawn Bowden. Cawsom sgwrs dda iawn ynglŷn â sut y gallwn gyflymu'r cynlluniau gofal a thrwsio er mwyn sicrhau—. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau, fel y gŵyr yr Aelod. Maent yn ataliol, yn amlwg, ac maent yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain fel nad oes rhaid iddynt fynd i mewn i unrhyw fath o ofal cymdeithasol neu ofal GIG, ac maent hefyd yn wellhaol yn yr ystyr eu bod yn sicrhau bod pobl yn dychwelyd o'r lleoliadau hynny i fyw yn fwy annibynnol. Mae fy nghyd-Aelod Julie Morgan a minnau wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd yn ddiweddar iawn gydag asiantaethau amrywiol sy'n darparu cynlluniau gofal a thrwsio, i weld pa ddata y gallwn wneud y defnydd mwyaf ohono i weld beth sydd angen i ni ei wneud ag ef yn y dyfodol, gan gynnwys edrych i weld a yw'r lledaeniad demograffig yn iawn gennym, a oes gennym y math cywir o addasiadau, ac a dweud y gwir, a ydym yn adeiladu'r math cywir o dai yn ein rhaglen dai arloesol fel ein bod yn adeiladu 'tŷ am oes', fel y'i gelwir, fel nad oes yn rhaid ichi ei addasu—maent wedi'u hadeiladu gyda grisiau digon llydan a phethau o'r fath.
Rwyf wedi ymweld â rhaglenni da iawn. Fel mae'n digwydd, roeddwn ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf a bûm yn ymweld â'r ffatri fodiwlar newydd sy'n cael ei hadeiladu yno ar gyfer y tŷ ynni goddefol. Roedd arweinydd y cyngor yn bresennol yn agoriad y ffatri honno, a gwn eu bod yn comisiynu byngalos yn benodol gyda hynny mewn golwg—gan ystyried y cynnydd yn y ddemograffeg hŷn—gyda'r bwriad o sicrhau eu bod mor hyblyg â phosibl fel y gall pobl aros ynddynt am gyn hired â phosibl. Rydym yn edrych i weld a allwn ddefnyddio'r data a gawn gan ein hasiantaethau gofal a thrwsio i'n helpu i benderfynu pa gartrefi sy'n werth eu haddasu, pa dai y mae'n amhosibl gwneud hynny iddynt yn economaidd, beth yw'r opsiynau gorau i bobl fel y gallwn ddarparu'r math iawn o lety ar eu cyfer yn y lle iawn, a pha raglenni gwellhaol y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod pobl yn aros mor annibynnol â phosibl am gyn hired â phosibl. Felly, credaf fod hynny'n rhyw fath o ateb 'efallai' i'ch cwestiwn, ond byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn trafod hyn ymhellach.
Mae llawer o'r bobl hŷn sy'n dod ataf wedi bod yn ddiolchgar iawn am y grantiau a gawsant i addasu neu adnewyddu eu tai, oherwydd fel y gwyddoch chi a minnau a'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma, mae sefydlogrwydd yn eich cartref yn hynod o bwysig wrth i chi fynd yn hŷn gan y gallwch barhau i fod wedi'ch cysylltu wrth eich cymuned, mae pethau'n fwy cyfarwydd, ac mae'n helpu gyda materion iechyd meddwl, unigrwydd, teimlo'n ynysig a phopeth arall—mae'n bwysig iawn. Fodd bynnag, y broblem gyda'r arian yw y bydd y cynghorau yn aml iawn yn darparu'r arian hwnnw, maent wedi dyfarnu'r contract ac yna mae'r contract ei hun, neu'r adeiladwyr sy'n ei ddarparu, yn anfoddhaol: nid yw'r gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau i'r safon iawn, nid yw'r addasiadau yn bodloni anghenion yr unigolyn, ac nid ydynt wedi gwneud yr hyn y dywedasant y byddent yn ei wneud. Rydych yn mynd yn ôl at y cynghorau ac maent yn dweud, 'Ond rydym wedi darparu'r arian; mae ein gwaith ni wedi'i wneud'. Beth y gallwch ei wneud, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn, i annog cynghorau i fod ychydig yn fwy doeth wrth ymdrin â'r sefydliadau hyn, ac i wneud pethau syml fel pennu ffioedd dargadw o 5 y cant neu 10 y cant, er mwyn sicrhau mai pan fydd deiliad y tŷ, a dim ond pan fydd deiliad y tŷ, wedi cytuno ac wedi dweud, 'Ydy, mae'r ystafell ymolchi anabl honno bellach yn addas i'r diben', neu 'Ydy, mae'r gwaith adnewyddu hwnnw'n caniatáu i mi aros yn y cartref hwn yn ddiogel', y bydd y cyngor wedyn yn talu'r hyn sy'n dal i fod yn ddyledus? Oherwydd mae hon yn sefyllfa lle mae pawb ar eu colled—mae gan y cyngor arian nad yw'n cael ei ddefnyddio'n iawn, mae'r unigolyn druan wedi dioddef straen, a hwythau'n bobl hŷn, o geisio ymdrin â chwmni ystyfnig ac nid ydynt yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.
Dywedais mewn ymateb i Rhun mai'r hyn rydym yn awyddus i'w wneud yw edrych ar yr hyn y mae'r dystiolaeth a gawn yn ei ddweud wrthym am y ffordd y rheolir rhai o'r cynlluniau gofal a thrwsio ledled Cymru. A dweud y gwir, fy nghyd-Aelod Julie Morgan sydd â'r cyfrifoldeb portffolio trosfwaol am hynny, ond rwy'n gyfrifol am yr agwedd dai, felly mae'n gorgyffwrdd bron yn llwyr. Felly, rydym wedi bod yn cydweithio i geisio cael y gorau o hynny.
Os oes gennych enghreifftiau penodol iawn, rwy'n fwy na pharod i wrando arnynt a gweld beth y gallwn ei wneud. Mae'n ddefnyddiol inni wybod ble mae'r problemau. Fel y dywedais, rydym yn edrych ar gasglu data fel y gallwn ailgynllunio'r cynlluniau'n briodol. Rydym hefyd yn edrych i weld ai'r ffordd rydym yn darparu hyn ar hyn o bryd yw'r ffordd orau o'i ddarparu neu a oes methodolegau eraill ar gael. Nid yw hyn yn cael ei wneud yn yr un ffordd ym mhob rhan o Gymru, felly bydd yn ddiddorol gweld rhywfaint o fanylion y pethau a ddywedwch wrthyf.
Weinidog, mae pob un ohonom yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn eu cartrefi am gyn hired â phosibl. Mae addasu cartrefi yn hanfodol er mwyn sicrhau hyn. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r amseroedd aros anarferol o hir ar gyfer addasiadau o'r fath?
Nid wyf yn derbyn bod yr amseroedd aros yn anarferol o hir. A dweud y gwir, dros ddau dymor diwethaf y Cynulliad, mae pethau wedi gwella'n sylweddol. Nid wyf yn gwybod ai dros fy ACau cyfagos yn unig rwy'n siarad, ond rydym wedi cael y drafodaeth hon. Yn sicr, pan ddechreuais fel Aelod Cynulliad, roedd gennyf fag post eithaf mawr yn llawn o bobl a oedd yn aros am addasiadau. Yn sicr, nid oes gennyf hynny bellach gan fod y gwasanaeth wedi gwella'n sylweddol. Felly, ni chredaf mai aros yw'r broblem.
Mae Angela Burns wedi tynnu sylw at rai materion ynghylch ansawdd, ac mae rhai problemau i'w cael ynglŷn ag ar ba lefel y byddwch yn cael y cymorth. Os ydych yn unigolyn hŷn sy'n byw yn eich cartref ac mae gennych ychydig o stepiau i lawr i'ch gardd, rwy'n credu bod rhai problemau'n codi o ran sut y byddech yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth gywir, fod pobl yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth, a bod ganddynt ffordd gymharol syml o gael gafael arno. Ond nid wyf yn derbyn bod yna oedi hir. Nid dyna y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos i ni.
Rydym wedi buddsoddi bron i £3.5 miliwn mewn cyllid craidd ar gyfer asiantaethau gofal a thrwsio i gefnogi'r gwaith hwn, gyda'r bwriad o sicrhau nad oes gennym amseroedd aros hir. Nid yw amseroedd aros hir o fudd i unrhyw un, fel y dywedais mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth. Mae'r rhain yn ataliol yn yr ystyr eu bod yn cadw pobl allan o wasanaethau eilaidd a thrydyddol drud, ac yn wellhaol yn yr ystyr eu bod yn cael pobl allan o'r gwasanaethau hynny cyn gynted â phosibl. Felly, o ran gwerth am arian, mae'n gwbl amlwg y dylid gwario'r arian ar hyn yn hytrach nag ar y gwasanaethau acíwt drytach. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw enghreifftiau penodol o amseroedd aros hir, unwaith eto, buaswn yn ddiolchgar iawn i glywed manylion ganddi, am nad dyna yw ein profiad cyffredinol ni.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai mewn awdurdodau lleol ledled Cymru? OAQ54062
Gwnaf. Mae'r angen am dai yn parhau i fod yn fwy na nifer y cartrefi sydd ar gael. Gyda San Steffan bellach wedi cael gwared ar gyfyngiadau benthyca—o'r diwedd, ac ar ôl llawer o lobïo gennym—a'r cyfraddau llog isaf erioed, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth i sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael ledled Cymru.
Diolch, Weinidog. Fel y soniwyd yma yn y Senedd ddoe, rydym wedi gweld datblygiadau tai yn cael eu cymeradwyo er eu bod y tu allan i ffiniau aneddiadau cynlluniau datblygu lleol. Ystyriaeth allweddol sy'n caniatáu hyn yw'r angen amlwg am gartrefi newydd. Fodd bynnag, er bod ceisiadau dadleuol yn cael cydsyniad, mae'n wir fod gan Gymru broblem gydag eiddo gwag. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru strategaeth gartrefi gwag a chynllun gweithredu. Serch hynny—a buaswn yn ychwanegu fy mod wedi bod yma ers wyth mlynedd bellach, ac ers fy wythnos gyntaf fel Aelod Cynulliad, roeddwn yn mynegi pryderon am nifer yr eiddo gwag yng Nghymru a fyddai'n troi'n gartrefi da iawn i bobl sy'n aros—ar hyn o bryd mae oddeutu 27,000 eiddo gwag yn y sector preifat a 1,400 yn y sector cymdeithasol yng Nghymru. Felly, a wnewch chi egluro pa gymorth pellach y byddwch yn ei roi i awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill—landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—i fynd ati i'w helpu i droi'r eiddo gwag hyn yn ôl yn gartrefi pwrpasol i'r rhai sydd eu hangen yn daer?
Nid oes unrhyw esgus o gwbl fod gan unrhyw un yn y sector tai cymdeithasol broblem ag eiddo gwag. Rydym yn darparu mwy na digon o grantiau iddynt i ddod â'r eiddo gwag hynny yn ôl i ddefnydd buddiol. Felly, unwaith eto, os oes gennych enghreifftiau penodol o dai cymdeithasol yn y sefyllfa honno, buaswn yn falch o'u gweld, gan fod rhywbeth mawr o'i le yno. Gallaf eich sicrhau na ddylai unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig neu gymdeithas drosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr fod mewn sefyllfa lle na allant ddod â'u tai gwag yn ôl i ddefnydd buddiol.
O ran y sector preifat, mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar gynllun i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol drwy edrych ar gynlluniau benthyg a chyfres o gynlluniau grant fel y gallwn ddarganfod pam ei fod yn wag, darganfod pwy yw'r perchnogion, ac yna darganfod beth fyddai ei angen naill ai i'w brynu ganddynt neu ddod ag ef yn ôl i ddefnydd buddiol. Mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn i roi nifer o gynlluniau peilot ar waith yn y maes hwnnw.
Rydym hefyd yn annog awdurdodau lleol i weithredu'n briodol mewn perthynas â'u treth gyngor er mwyn sicrhau eu bod yn codi'r symiau cywir o dreth ar gartrefi gwag. Mae'n dibynnu pam fod y cartref yn wag ac mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn gweithio'n galed iawn ar oblygiadau rhywfaint o'r gwaith hwn o safbwynt treth ar dir gwag. Rydym yn awyddus iawn i awdurdodau lleol ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ganddynt o ddod â chartrefi yn ôl i ddefnydd buddiol. Hefyd, mae gennym nifer o gynlluniau grant. Mae gennym gynlluniau a gynlluniwyd i ddod â chartrefi yn ôl i ddefnydd buddiol y gall perchnogion preifat fanteisio arnynt, ac mae gennym gynlluniau i landlordiaid allu gwneud defnydd ohonynt hefyd. Ac os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf, rwy'n fwy na pharod i roi manylion y cynlluniau hynny iddi.
Tybed pa rôl y mae'r Gweinidog yn gweld tai modiwlar yn ei chwarae yn diwallu anghenion o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Roeddwn yn falch iawn o allu ymuno â hi yn ddiweddar ym Maes Glas yn Ynysawdre i edrych ar fenter Cymoedd i'r Arfordir gyda thai modiwlar ar y thema honno o dai am oes y gellir eu haddasu a'u newid wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Nawr, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ddatblygu gan gwmni o Bort Talbot, Wernick, sy'n newydd i'r farchnad breswyl hon ond sydd â hanes hir ym maes adeiladu modiwlar. A tybed faint yn fwy y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud ag ansawdd, cartrefi am oes a bodloni'r anghenion cyflenwi enfawr sydd gennym gyda gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol, ac adeiladu swyddi lleol, rhaid dweud, ym Mhort Talbot ac yn lleol gyda mi.
Roedd hwnnw'n gynllun ardderchog ac yn ymweliad da iawn, ac roeddwn yn llawn edmygedd, fel Huw Irranca-Davies, rwy'n gwybod, o gyflymder yr adeiladu, pa mor ddeniadol oedd y tŷ—ni allaf feddwl am air arall, ond mae'n gartref hyfryd iawn. Ond roeddwn hefyd yn llawn edmygedd o'r gallu i ychwanegu uned arall os oedd eich teulu'n tyfu, ac i godi'r tŷ cyfan i fyny a'i osod yn rywle arall pe bai angen. Roedd yn ymweliad hynod ddiddorol ac addysgiadol yn fy marn i, ac mae'n llygad ei le—yr hyn rydym yn gobeithio'i wneud yng Nghymru, drwy ddefnyddio deunyddiau Cymreig ag ôl-troed carbon mor isel â phosibl, yw adeiladu tŷ i safon ynni goddefol os yw hynny'n bosibl, fel bod y biliau'n £100 neu lai bob blwyddyn, gan ddefnyddio gweithwyr lleol mewn ffatrïoedd lleol.
Ac un o'r pethau hyfryd am ffatrïoedd modiwlar—nid wyf wedi ymweld â'r un hwnnw, ond ymwelais ag un ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf—ni waeth beth yw'r tywydd—ac er bod Ynys Môn yn hyfryd iawn, credaf ei bod yn deg dweud bod y tywydd braidd yn arw; glaw llorweddol yr wythnos diwethaf—wrth gwrs, yn y ffatri, roedd hi'n gynnes ac yn sych a gallai'r bobl barhau i weithio, nid oedd yn rhaid iddynt weithio ar uchder, ac yn y blaen. Roeddent yn adeiladu'r tŷ a fyddai wedyn yn cael ei godi ar y safle ar y cam olaf, yn union fel y rhaglen a welsom.
Felly, credaf mai dyna ddyfodol tai yng Nghymru, ac ar hyn o bryd, rydym ar fin dechrau'r hyn a elwir yn drydydd iteriad y rhaglen dai arloesol, felly dyna oedd canlyniad rhan gyntaf y rhaglen. Bydd hynny'n darparu 1,000 o gartrefi newydd ledled Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae 45 o gynlluniau ganddo ar waith, ac rydym yn disgwyl dysgu llawer o wersi am y ffordd y gallwn adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym gan ddefnyddio'r math hwnnw o adeiladu modiwlar.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwys a roddir ar ystyriaethau amgylcheddol yn y system gynllunio? OAQ54075
Mae datblygu cynaliadwy'n ganolog i'r system gynllunio. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn datgan yn glir fod materion amgylcheddol yr un mor bwysig ag ystyriaethau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ac ynghyd â chyngor technegol a chanllawiau ategol, mae'n rhoi sylw cynhwysfawr i ystyriaethau amgylcheddol yn y system gynllunio.
Diolch i chi am yr ateb, achos dyna yw'r theori, ond rwy'n credu bod y practis damaid bach yn wahanol, oherwydd gan fod y Prif Weinidog wedi dweud yn glir mewn perthynas â'i benderfyniad ynglŷn â'r M4 fod y pwysau mae e wedi'i roi ar ystyriaethau amgylcheddol yn wahanol i'r pwysau roddwyd ar yr ystyriaethau hynny gan yr Arolygiaeth Gynllunio, dwi'n meddwl bod hynny yn amlygu anghysondeb pwysig o fewn y gyfundrefn, ac mae rhywun yn cwestiynu faint o benderfyniadau eraill fyddai wedi bod yn wahanol petai'r arolygydd cynllunio efallai wedi rhoi yr un pwys ar ffactorau amgylcheddol ag yn amlwg y mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn ei wneud erbyn hyn. Felly, sut ydych chi'n bwriadu diwygio neu gywiro canfyddiad anghywir, os caf i ddweud, yr Arolygiaeth Gynllunio ar y weighting sydd angen ei roi ar faterion amgylcheddol, yn enwedig, wrth gwrs, yn sgil datgan argyfwng hinsawdd?
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond ni chredaf ei fod yn gwbl deg. Yn amlwg, pan fydd unrhyw unigolyn yn ffurfio barn ar set o ffeithiau, ceir elfen o oddrychedd yn hynny o beth, ni waeth pa mor wrthrychol yw'r rheolau. Ac mae un unigolyn yn rhoi pwys ychydig yn wahanol i rywbeth arall am amryw o resymau. Ond yr hyn y ceisiwn ei wneud yng Nghymru—ac rydym ar fin ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac fel y dywedais ddoe yn fy nghyflwyniad am weithio rhanbarthol i awdurdodau lleol, rydym yn rhoi haen gynllunio strategol i mewn hefyd—yma yng Nghymru, rydym yn awyddus i gael system wedi'i harwain gan gynlluniau lle mae gan bobl leol lais cryf yn yr hyn y mae eu cynllun lleol yn ei ddweud, ein bod yn eu cynorthwyo i gael y llais cryf hwn yn yr hyn y mae eu cynllun lleol yn ei ddweud—dylai pob ardal edrych fel y mae ei phobl leol am iddi edrych; dyna bwynt y system gynllunio—ond bod yna set o reolau rydym yn cytuno arnynt yma yn y Cynulliad ac yn ein gwahanol haenau o lywodraeth a ddefnyddir i sicrhau bod gan bobl yr ystyriaethau cywir ar waith. Felly, mae hon yn set o reolau sy'n dweud bod ystyriaethau amgylcheddol yr un mor bwysig â'r ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac yn y blaen. Dyna'r pwysau y disgwyliwn i'r arolygiaeth ei roi ar hyn, ac yn ddiweddar, siaradais â'r sefydliad cynllunio trefol brenhinol a dywedais yn glir iawn beth oedd ein disgwyliadau ar gyfer lleoedd y dyfodol, a dywedais yn glir iawn mai'r hyn rydym am ei weld yw cymunedau lleol, cynaliadwy gydag ymdeimlad o le, sy'n gwerthfawrogi eu hamgylchedd lleol a'u diwylliant lleol a'u trefniadau economaidd lleol, sydd â swyddi cynaliadwy yn agosach at eu cartrefi, mewn system sy'n ein galluogi i wneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol Cymru—felly, yr hyn a ddywedasoch, yn bendant iawn. Ond yr hyn rydym yn ei wneud yw rhoi'r system a arweinir gan gynlluniau ar waith er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd.
Nawr, yn ddelfrydol, byddech wedi rhoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol ar waith yn gyntaf, ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi. Felly, mae gennym gyfres o gynlluniau datblygu lleol sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Byddwn yn rhoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol ar waith mewn ymgynghoriad â phobl Cymru dros yr haf, ac yna byddwn yn rhoi'r darnau strategol ar waith, ac ym mhob un o'r rheini, bydd sgwrs glir gyda phobl Cymru i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn ar eu cyfer hwy, gan fod pobl mewn gwahanol leoedd yn rhoi pwyslais gwahanol ar wahanol fathau o bethau, yn dibynnu ar angen lleol.
Felly, rwy'n credu fy mod yn cytuno â chi, ond mae'r elfen o oddrychedd yno o reidrwydd. Felly, yn y pen draw, yr un sy'n gwneud y penderfyniad sy'n rhoi hynny ar waith, ond maent yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r system sydd ar waith ac na ellir ei herio yn yr ystyr eu bod yn dangos eu bod wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n gywir. Ond bydd amrywiadau cynnil o fewn hynny bob amser. Felly, bydd yr un sy'n gwneud y penderfyniad bob amser yn ystyried yr amrywiadau cynnil hynny. Ac mae hynny'n wir ar gyfer pwyllgorau cynllunio ac arolygwyr cynllunio. Hoffem weld cymaint o benderfyniadau â phosibl yn cael eu gwneud yn y pwyllgorau cynllunio eu hunain, yn y cynghorau a reolir yn ddemocrataidd sy'n cael eu hethol i wneud y pethau hyn, ac os gallwn gael y system honno'n iawn, byddwn yn gweld lleihad yn nifer yr apeliadau i'r Arolygiaeth Gynllunio a—Lywydd, os maddeuwch i mi am siarad yn bur faith ar hyn, ond credaf ei fod yn bwynt pwysig—rydym hefyd, wrth gwrs, yn ymgynghori ar wahanu arolygiaeth gynllunio Cymru yn gorff ar wahân am yr union reswm hwnnw, gan ein bod yn awyddus i gael system gynllunio yng Nghymru sy'n addas ar gyfer dyfodol Cymru.
Rwy'n ei chael yn anodd meddwl am unrhyw beth y gallai'r Gweinidog ei ychwanegu at hynny mewn cwestiwn atodol. [Chwerthin.] Os caf fi ofyn—. Roeddech yn sôn yn eich araith yn awr, Weinidog, fod angen adeiladu tai ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi bod yn gohebu ag un o fy etholwyr—. Nid wyf eisiau trafod y ceisiadau cynllunio unigol, ond mae'r awdurdod lleol wedi gwrthod tŷ eco modern—neu mae yn y broses o wneud hynny—ar y sail fod y tir y mae'n cael ei adeiladu arno hefyd yn cynnwys adeilad adfeiliedig y dylid ei adnewyddu yn gyntaf, yn ôl yr awdurdod. Mae fy etholwyr wedi codi pwynt dilys, sef, yn awr fod gennym argyfwng newid hinsawdd a'n bod yn siarad am bryderon amgylcheddol—a oes angen ailwampio canllawiau cynllunio i awdurdodau lleol fel bod yr argyfwng hinsawdd a'r angen i fynd i'r afael â materion amgylcheddol yn cael eu cynnwys ar lefel lawer uwch, ac felly, os oes rhywun eisiau adeiladu tŷ eco-gyfeillgar, oni ddylai hynny gael ei wthio fymryn yn uwch ar yr agenda fel bod gennym gartrefi sy'n helpu mwy gyda'r agenda ddatgarboneiddio?
Wel, nid wyf am wneud sylw ar y cais cynllunio unigol, rhywbeth nad wyf yn gwybod dim amdano, ac felly rwyf am wneud fy sylwadau'n llawer mwy cyffredinol. Ond rydym wedi newid—. A dweud y gwir, un o'r pethau olaf a wnaeth fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths fel Gweinidog cynllunio oedd cyhoeddi'r ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd, sy'n newid y system gynllunio yng Nghymru'n sylfaenol, ac sydd, rwy'n credu—. Mae pobl yn sôn am adolygiad; rydym newydd newid y system yn sylfaenol, ac os nad ydych wedi'i ddarllen, rwy'n ei argymell i chi. Nid dogfen gynllunio sych yw hi. Mae'n ddogfen fyw iawn, sy'n symud y tirlun rydym yn sôn amdano yng Nghymru yn sylfaenol, ac mae'n gwneud hynny yn y ffordd rydych newydd ei hamlinellu. Felly, mae'n sôn am gynaliadwyedd creu lleoedd, mae'n sôn am ddefnyddio adnoddau lleol yn y ffordd orau, mae'n sôn am ddatblygu prosesau cynllunio priodol gyda phobl leol yn greiddiol iddynt.
Ac fel rwyf newydd ddweud, rydym hefyd yn rhoi gweddill y fframwaith hwnnw ar waith yn awr. Cyn bo hir, byddwn yn ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol dros yr haf. Anogaf holl Aelodau'r Cynulliad i ymgysylltu â hwnnw a dod yn ôl atom gyda'u sylwadau eu hunain a sylwadau eu hetholwyr ar y cynllun hwnnw. Ac fel y dywedais ddoe, rwyf wedi dechrau amlinellu proses lle rydym eisiau i awdurdodau lleol roi haen strategol cynlluniau ar waith. Mae'n rhaid i bobl fod wrth wraidd y broses honno, oherwydd eu lle hwy y maent yn ei greu ac rydym eisiau sicrhau bod dinasyddion Cymru'n teimlo bod eu system gynllunio'n eu cynrychioli'n briodol. Yna, gwneir y penderfyniadau unigol yng ngoleuni pwysau'r dogfennau a roddwyd ar waith yn eu hardal leol. Felly, os nad ydych yn ymgysylltu â phroses eich cynllun datblygu lleol, ni fydd gennych lais yn y rheolau hynny pan fyddant yn dod at bob cais cynllunio unigol. Felly, mae angen cryfhau'r llais hwnnw oherwydd, yn aml, credaf nad yw cymuned leol yn sylweddoli bod problem hyd nes y cyflwynir cais cynllunio unigol ac nid ydynt yn ymgysylltu â chynllun y broses honno yn y ffordd y byddem yn ei hoffi. Felly, rwy'n falch iawn o glywed safbwyntiau ynglŷn â sut y gallem sicrhau ymgysylltiad gwell fel bod pobl yn berchen ar eu cynllun mewn ffordd lawer mwy realistig.
Nid yn unig ar gyfer pobl ond ar gyfer anifeiliaid hefyd, os gwelwch yn dda. Ar wahân i weithredu fel ffiniau a chadw anifeiliaid y tu mewn i gaeau, mae'r gwrychoedd yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion. Wrth i goetiroedd gael eu dinistrio dros y blynyddoedd, mae llawer o'r bywyd gwyllt ynddynt wedi addasu i fyw o dan berthi ac mewn gwrychoedd. A wnaiff y Gweinidog sicrhau, mewn perthynas â rheolau cynllunio, eu bod yn rhoi sylw dyledus i ddiogelu bywyd gwyllt y trefi a'r ardaloedd gwledig drwy warchod a chreu'r cynefinoedd sy'n cynnal y creaduriaid hyn?
Ie. Credaf fod hwnnw'n bwynt dilys iawn, ac wrth i bob cynllun datblygu lleol gael ei gyflwyno, dyna'r mathau o bethau y dylai'r cynllunwyr a'r cynghorwyr ym mhob ardal leol fod yn eu hystyried er mwyn diogelu eu tirwedd leol. Yn ddiweddar, bu fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd, yn ymgynghori'n eang ar ddiogelu cefn gwlad—pethau fel gwrychoedd—a byddwn yn sicr yn ystyried hynny.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses gynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol? OAQ54057
Yn sicr. Mae datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn broses benodol lle caiff categorïau diffiniedig o geisiadau cynllunio seilwaith eu cyflwyno i Weinidogion Cymru yn hytrach nag i awdurdodau cynllunio lleol. Ers i'r broses gael ei chyflwyno yn 2016, mae pedwar cais o'r fath wedi'u cyflwyno a'u penderfynu o fewn y terfyn amser statudol.
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Mae cynnig yn yr arfaeth i wneud cais am losgydd mawr yn chwarel Tal-y-bont ym Mhowys, sydd wedi fy ysgogi i edrych ar y canllawiau cynllunio perthnasol. Nawr, cefais fy synnu braidd o weld y cynnig hwn oherwydd ei fod mewn safle penodol lle nad oes unrhyw ddiwydiant mawr arall yn yr ardal wledig honno. Pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno, mae ei faint yn golygu y bydd yn cael ei benderfynu o dan broses y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. A gaf fi ofyn i chi edrych ar y strategaeth wastraff genedlaethol yn ei chyfanrwydd i sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn strategol ar gyfer anghenion Cymru, a hefyd yn y ffordd fwyaf amgylcheddol ymwybodol sy'n bosibl? Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi rhywfaint o amser i ystyried a yw'r prosesau a'r rheolau cyfredol sy'n ymwneud â cheisiadau am losgyddion mawr yn addas i'r diben, a datblygu cynllun cenedlaethol drwy wneud hynny. Ar ôl sylwi ar ddiffyg cynllun cenedlaethol fy hun, rwy'n sicr yn teimlo y dylid rhoi moratoriwm ar bob cais am losgyddion a chynnal adolygiad llawn a manwl cyn i gynllun gael ei ddatblygu.
Nid wyf am wneud sylwadau ar y cais unigol; nid wyf yn gwybod unrhyw beth amdano beth bynnag. Hyd y gwn i, nid yw'n cael ei wneud o dan y drefn ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, ond efallai ei fod. Nid wyf yn ymwybodol ohono, felly nid wyf am wneud sylwadau ar hynny.
Mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn cynnal adolygiad o'n strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o ailedrych ar yr economi gylchol yng Nghymru. Ac yn ei dadl yr wythnos diwethaf, soniodd am y gwaith y byddwn yn ei wneud tuag at hynny. Yn sicr, bydd gwaredu unrhyw wastraff diwedd oes yn rhan o'r ailystyriaeth honno. Yn amlwg, ni fyddai gan economi gylchol unrhyw wastraff ynddi ac felly byddai llai a llai o angen gwaredu gwastraff terfynol o'r math hwnnw. Felly, byddwn yn ailedrych ar ein polisi 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o weithredu cymaint o economi gylchol yng Nghymru ag sy'n bosibl.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â chyflymu'r gwaith o gynllunio a darparu addasiadau i gartrefi? OAQ54061
Mae darparu addasiadau i dai yn gyflym yn allweddol i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i fynd i'r afael â'r cymhlethdod sy'n gallu rhwystro addasiadau cyflym weithiau.
Diolch i chi, Weinidog, ac mewn rhai ffyrdd, mae'r cwestiwn hwn yn dilyn y cwestiwn cynharach gan Rhun, a soniasoch yn gynharach ein bod newydd ddod o ddigwyddiad a drefnwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, a'u bod yn siarad am yr union fater hwn. Ni wnaf ailadrodd yr hyn rydych chi ac eraill eisoes wedi'i ddweud am fanteision addasiadau, ond rydym i gyd yn wynebu'r her o ddarparu'r addasiadau hynny mewn da bryd, ac mae'r coleg brenhinol yn argymell dull o gategoreiddio gwaith addasu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i'r unigolyn, wedi'u hysgogi gan lefel cymhlethdod anghenion pob unigolyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi: a ydych yn cymeradwyo'r canllawiau i gynllunio a darparu addasiadau cartrefi mewn modd gwahanol yng Nghymru i'r coleg brenhinol? Ac a allwch ddweud wrthyf a fyddwch yn gweithio gyda hwy i weld sut y gellir cyflawni'r argymhellion yn eu hadroddiad yn effeithiol?
Ydy, mae'n dda iawn. Nid wyf wedi ei ddarllen i gyd ers amser cinio, ond rwyf wedi ei frasddarllen ac mae'n sicr yn edrych yn dda iawn. Croesawaf y canllaw yn fawr, a bydd yn sicr o helpu darparwyr tai i ystyried sut i ddarparu ystod ehangach o addasiadau i'w tenantiaid, gan ddefnyddio asesiad sy'n adlewyrchu cymhlethdod anghenion unigolyn a'r addasiad sydd ei angen arnynt. Yn amlwg, nod y canllaw yw lleihau oedi wrth ddarparu addasiadau drwy ddarparu offer sy'n cefnogi ymatebion cymesur a gwneud defnydd mwy effeithiol o therapyddion galwedigaethol yn arbennig, gan mai Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol sy'n ei wneud. Ac mae'n adleisio ein hymagwedd ataliol tuag at addasiadau a amlinellais yn fy ateb i Rhun. Credaf fod y coleg brenhinol yn gwneud pwynt perthnasol iawn am y defnydd gorau o adnoddau prin.
Felly, yr enghraifft roedd y siaradwr o fy mlaen yn ei rhoi oedd, os oes angen canllaw cydio arnoch yn eich tŷ, mae angen rhywun sy'n gallu gosod canllaw cydio a chi i ddweud lle rydych ei angen; nid oes angen therapydd galwedigaethol arnoch i ddod i ddweud wrthych ble i'w roi. Yr hyn sydd ei angen arnoch yw rhywfaint o synnwyr cyffredin. Ar y llaw arall, os oes angen addasiadau arnoch ar gyfer y ffordd rydych yn mynd i mewn ac allan o wely neu sedd gymhleth, er enghraifft, efallai y bydd angen therapydd galwedigaethol arnoch i allu nodi'r ffordd orau i chi allu parhau i fod mor annibynnol â phosibl. Ac roedd yn gwneud y pwynt dilys mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddweud pa agweddau ar y cyngor hwnnw y byddent yn y sefyllfa orau i'w rhoi, ac mae angen i amrywiaeth o arbenigwyr eraill fod yn rhan o hynny. Ac fel y dywedais mewn ymateb i nifer o Aelodau eraill sydd wedi codi'r mater hwn heddiw, rwy'n croesawu manylion o bob cwr o'r wlad, os oes gennych rai, ynglŷn ag unrhyw bethau sy'n arbennig o dda, yn ogystal ag unrhyw faterion sy'n codi. Ac mae Julie Morgan a minnau wedi cael nifer o gyfarfodydd gydag asiantaethau gofal a thrwsio yng Nghymru i edrych ar ba ddata sy'n dod yn ôl fel y gallwn wneud y defnydd gorau o adnoddau prin.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Addysg ac mae'r cwestiwn yn cael ei ofyn gan Bethan Sayed.
1. A wnaiff y Gweinidog ymateb i faterion gweinyddol parhaus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y newyddion diweddar bod y Brifysgol saith mis yn hwyr yn cyhoeddi ei hadroddiad ariannol? 327
Cyfarfûm â chadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ddoe i gael cadarnhad fod y cyngor yn ymgysylltu â'r brifysgol ac yn monitro eu sefyllfa ariannol yn unol â chyfrifoldebau rheoleiddio ac ariannol y cyngor. Gwnaeth y brifysgol, fel sefydliad annibynnol, ymreolaethol, ddatganiad cyhoeddus am yr oedi cyn cyhoeddi gan gadarnhau nad yw'n effeithio ar eu perfformiad na'u lles ariannol.
Diolch am eich ateb. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig codi'r mater hwn eto, o ystyried rhai o'r adroddiadau a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf, ac rwy'n derbyn eich bod wedi cyfarfod â CCAUC. Ond roeddwn am ddweud ar goedd fod pob un ohonom yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae'r brifysgol yn ei wneud, ond dyna un o'r prif resymau pam roeddwn yn awyddus i godi hyn eto, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones. Ac ni allwn fod yn fodlon â'r datganiadau cyhoeddus a gafwyd hyd yma ynglŷn â materion gweinyddol a rheoli yn y brifysgol. Credaf mai ein rôl ni yw craffu ar yr agwedd benodol honno, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod hynny'n digwydd. Oherwydd, er y byddai unrhyw Weinidog addysg mewn unrhyw ran o'r byd yn dweud bod prifysgolion yn gyrff ymreolaethol, maent hefyd yn derbyn arian cyhoeddus, ac felly ni allant fod uwchlaw craffu neu oruchwyliaeth, ac yn fy marn i, mae ganddynt ddyletswydd gyhoeddus i fod yn fwy clir.
Felly, dechreuodd y camau i atal yr uwch reolwyr yn y brifysgol dros dro yn hwyr y llynedd, ac oddeutu chwe mis yn ddiweddarach, ceir dryswch o hyd ynglŷn â manylion yr hyn a ddigwyddodd a pham fod unrhyw ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo. Pe gallech roi mwy o eglurder ar hynny, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae staff yn y brifysgol wedi cysylltu â mi a chyd-Aelodau gan ddweud wrthym fod yr ymchwiliad yn cael ei ohirio'n fwriadol. Nawr, nid wyf am wneud sylwadau ar gywirdeb hynny, ond dyna'r hyn y maent wedi'i ddweud wrthyf mewn e-byst. Felly, byddai amcangyfrif o ran pryd y dylem ddisgwyl canfyddiadau ymchwiliad a chyhoeddi unrhyw adroddiad yn cael ei groesawu, pe gallech ei roi. Rydych wedi sôn eich bod wedi siarad â CCAUC a'u bod yn fodlon â'r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, ond a ydych yn deall bod yr holl gamau priodol a amlinellir o fewn rheolaeth CCAUC wedi eu cymryd, ac a ydych yn credu nad dyma'r amser i feddwl am natur unrhyw ymyrraeth a ddigwyddodd hyd yma?
Rwyf hefyd yn pryderu nad yw llys y brifysgol, hyd y gwn i, wedi ymgynnull eleni. Cafodd eu cyfarfod ym mis Chwefror ei ganslo, a dywedwyd wrthyf fod cyfarfod newydd yn cael ei gynllunio ar gyfer mis Mai, ond hyd y gwn i, nid wyf wedi cael e-bost yn dweud wrthyf pryd y bydd unrhyw gyfarfod newydd yn cael ei gynnal, sef y man lle caiff Aelodau'r Cynulliad gyfle i graffu arnynt. Felly, hoffwn sicrwydd gennych—a ydych chi'n bersonol yn fodlon â chynnydd mewn unrhyw ymchwiliad, fod CCAUC yn cymryd y camau goruchwylio angenrheidiol, ac nad oes unrhyw broblemau systematig ym Mhrifysgol Abertawe? Pa amserlen y byddech yn ei chaniatáu fel y Gweinidog addysg o ran dod i gasgliadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r ymchwiliadau hyn?
I gloi, ar lefel ehangach, credaf nad yw'r digwyddiadau hyn, lle nad yw'r cyhoedd, y myfyrwyr a llawer o staff y brifysgol yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd—hoffwn i chi wneud sylwadau ynglŷn ag a ydych o'r farn fod hynny'n briodol. Rwyf wedi dweud o'r blaen y dylem gael adolygiad llywodraethu ehangach o brifysgolion Cymru mewn perthynas â'r trefniadau goruchwylio fel y gallwn ddeall yn iawn beth sy'n digwydd a deall, o ystyried y symiau sylweddol o arian cyhoeddus sy'n gysylltiedig â hwy—fod y cyhoedd a'r rheini sy'n gweithio yn y brifysgol yn deall yn iawn beth sy'n digwydd fel rhan o'r prosesau hyn. Oherwydd er ein bod yn deall nad oes gennych reolaeth uniongyrchol, mae angen i ni ddeall hefyd fod gennym yr holl bolisïau trosfwaol hyn ar waith lle gallwn graffu ar beth yn union sydd wedi digwydd yma. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy'n monitro'r sefyllfa ac rwyf wedi cael diweddariadau rheolaidd gan CCAUC. Yn fy nghyfarfod â chadeirydd y cyngor cyllido addysg uwch ddoe, gofynnais gwestiwn uniongyrchol ynglŷn ag a oedd ganddo ef a'r cyngor unrhyw bryderon ynghylch y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe wrth ymdrin â'r achosion disgyblu y mae pob un ohonom yn ymwybodol ohonynt, a chadarnhaodd y cadeirydd wrthyf nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ynghylch y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe. Rwy'n derbyn gair y cadeirydd pan ddywed hynny wrthyf.
O ran adolygiad llywodraethu ehangach o'r sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd, rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o gynnwys fy llythyr cylch gwaith i CCAUC eleni, sy'n galw arnynt i gynnal adolygiad o'r fath. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda CCAUC a'n sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod yr adolygiad hwnnw'n cryfhau llywodraethu corfforaethol yn y sector, cyn ein set ehangach o ddiwygiadau i addysg ôl-orfodol a hyfforddiant wrth gwrs, lle byddwn yn diddymu CCAUC ac yn sefydlu comisiwn newydd ag iddo rôl reoleiddio a llywodraethu, nid yn unig ar gyfer addysg uwch, ond hefyd ar gyfer addysg bellach, ac yn wir, pob darparwr addysg ôl-orfodol yn ein gwlad.
Cytunaf â Bethan Sayed fod sefydliad, boed yn gorff ymreolaethol ai peidio, pan fo'n derbyn arian cyhoeddus, yn atebol i'r lle hwn, naill ai drwoch chi neu drwom ni yn uniongyrchol. Rwyf am eich holi ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch am y trafodaethau a gawsoch gyda CCAUC, oherwydd, mewn gwirionedd, credaf mai yma, fel Cynulliad, yw'r man lle gallwn fod yn gofyn rhai cwestiynau. Dywedoch nad oes ganddynt unrhyw bryderon am y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod brawychus hwn, ac roeddech yn fodlon derbyn eu gair ynghylch hynny. Wel, mae'r ffaith ein bod yn sefyll yma yn gofyn y cwestiwn hwn yn dangos y dylid pryderu rhywfaint am y prosesau hynny. Beth yn union a ddywedasant wrthych ynglŷn â'r hyn roeddent wedi'i wneud i fod yn fodlon â'r prosesau a ddilynwyd gan Abertawe? Oherwydd mae'n ddigon posibl mai'r cyfnod hwn o saith mis o oedi cyn cyflwyno'r cyfrifon yw'r unig beth y maent wedi'i wneud yn anghywir, ond buaswn yn synnu pe bai unrhyw un yn derbyn eu gair am hynny. Felly, efallai y gallwch roi rhagor o fanylion inni ynglŷn â hynny.
Dros y blynyddoedd diwethaf wrth gwrs, mae'r brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda o ran gwella ei statws a'i henw da ledled y byd, ac mae'r gwaith a wnaeth wedi creu argraff dda arnaf dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn 2016-17, roedd ei hincwm o ffynonellau myfyrwyr eisoes wedi dechrau gostwng, a gwnaeth hynny i mi feddwl tybed a oedd rhywfaint o'r newyddion drwg mwy diweddar, os mynnwch, wedi dechrau effeithio ar hyder yn y sefydliad. Felly, tybed a oes gennych unrhyw farn ar y mater hwn o hyder yn enw da'r brifysgol, yn enwedig gan ei bod yn chwarae rhan bwysig ym margen ddinesig bae Abertawe. Felly, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r dysgwyr a'u dyfodol fel unigolion, gan nad arian myfyrwyr yn unig sy'n mynd i'r lle hwn ar hyn o bryd. Mae arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat yn mynd i'r fargen ddinesig ar y sail fod hwn yn sefydliad gwych y gallant wneud busnes ag ef. Yn amlwg, nid ydym am danseilio hynny, felly efallai y gallwch roi ychydig o sicrwydd inni ar hynny o beth.
Ac yn olaf gennyf fi, mae'r brifysgol wedi datgan uchelgais i wneud buddsoddiad sylweddol yn ei hystâd a fydd yn dominyddu ei sefyllfa ariannol am y 10 mlynedd nesaf. Nawr, rydym yn sôn am fuddsoddiad hirdymor, yn enwedig o ran ystâd gyfalaf yma. Os felly, mae'r ffaith nad oes gennym adroddiad ariannol un flwyddyn wedi'i gyflwyno mewn pryd yn achos pryder yn y tymor hwy hefyd. Ac yna rwy'n dychwelyd at y cwestiwn cychwynnol hwnnw ynglŷn â beth yn union y gofynnoch chi i CCAUC, oherwydd os nad ydynt yn poeni am y cwestiwn ariannol penodol hwnnw, fe fuaswn i'n poeni. Diolch.
Nid oes gan CCAUC unrhyw bryderon ynghylch statws ariannol a sefydlogrwydd y sefydliad. Bydd eu bwrdd risg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cyfarfod y mis nesaf, ac ni chefais unrhyw arwydd y byddant yn newid eu hagwedd a'u graddiad o Brifysgol Abertawe o ganlyniad. Yn amlwg, maent yn ymgysylltu ag Abertawe ynghylch cyhoeddi datganiadau ariannol yn hwyr. Fel y gwyddoch, mae'r brifysgol wedi gwneud datganiad cyhoeddus yn dweud nad yw'r rhesymau y tu ôl i'r oedi yn effeithio ar ei lles na'i pherfformiad ariannol. Yn hytrach, mae'r oedi'n deillio o ganlyniad i'r angen am waith pellach sy'n ymwneud ag archwiliad mewnol, a'r ymchwiliad mewnol parhaus yn y brifysgol. Mae CCAUC yn ymgysylltu â'r brifysgol i fonitro achos yr oedi, ac mae'n bwysig eu bod wedyn yn gallu mynd i'r afael â'r problemau cyn gynted â phosibl, mewn perthynas â'r ymchwiliad mewnol, ac yna byddant mewn sefyllfa i gyhoeddi eu datganiadau ariannol.
O ran y broses honno, nid wyf wedi cael unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y prosesau a ddilynwyd gan y cofrestrydd ym Mhrifysgol Abertawe yn brosesau anghywir, ac mae CCAUC yn fodlon ac wedi dweud wrthyf eu bod o'r farn mai'r prosesau a ddilynwyd gan y cofrestrydd a'r brifysgol yw'r prosesau cywir. Yn amlwg, wrth ymdrin â materion personél sensitif o'r fath sy'n ymwneud â bywoliaeth ac enw da unigolion, mae angen i'r prosesau hynny fod yn gadarn ac mae angen iddynt fod yn deg, ac weithiau, mae'n cymryd mwy o amser i weithio drwy'r gwahanol gamau nag y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno. Ond rwy'n glir ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod y prosesau a ddilynwyd wedi bod yn annheg neu heb ddilyn y gweithdrefnau cywir.
A gaf fi eilio'r sylwadau a wnaeth yr Aelod am lwyddiant Prifysgol Abertawe? Mae'r brifysgol wedi perfformio'n eithriadol o gryf mewn amrywiaeth eang o ffyrdd—yn academaidd, ac mae'r effaith y mae wedi'i chael ar y ddinas wedi bod yn sylweddol. Rwy'n hyderus y bydd y brifysgol yn parhau i chwarae rôl wirioneddol bwysig, nid yn unig wrth addysgu ei myfyrwyr ond wrth ein helpu i ddatblygu ein capasiti ymchwil i allu darparu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon a chyfleoedd busnes yn y ddinas a'r rhanbarth. Deallaf gan gydweithwyr fod materion sy'n ymwneud â'r fargen ddinesig yn symud yn eu blaenau.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Allied Bakeries yng ngoleuni cyhoeddiad y cwmni y bydd yn atal y gwaith cynhyrchu yn ei safle yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gan roi 180 o swyddi mewn perygl? 328
Wel, Lywydd, mae hwn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r cwmni a'i weithlu, ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd a'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Siaradodd swyddogion Llywodraeth Cymru â'r busnes ddoe ac maent yn barod i gefnogi'r holl staff yr effeithir arnynt drwy ein rhaglenni Cymru'n Gweithio, y Ganolfan Byd Gwaith, a'r ganolfan cyngor ar bopeth.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedoch, mae hwn yn newyddion siomedig iawn a dweud y lleiaf mewn ardal sydd wedi colli cryn dipyn o swyddi dros y blynyddoedd diwethaf: Barclays a Tesco, er enghraifft, a'r safle hwn bellach, sydd wedi bod yn fecws ers sawl degawd—nid blynyddoedd yn unig, ond sawl degawd. Mae'n gyhoeddiad sy'n dweud wrth gwrs eu bod yn bwriadu ad-drefnu'r safle a'i droi'n ganolfan ddosbarthu, felly bydd swyddi'n cael eu cadw os bydd y cynigion yn mynd drwy'r broses ymgynghori ac yn cael eu derbyn. Ond a allwch gadarnhau, Ddirprwy Weinidog, p'un a gafwyd unrhyw gysylltiad â Llywodraeth Cymru i weld a allai fod cefnogaeth ar gael i gadw capasiti gweithgynhyrchu yma? Hyd y gwelaf, mae'r capasiti gweithgynhyrchu yn symud i safleoedd eraill y mae'r cwmni'n berchen arnynt yn y DU.
Yn ail, o'r sgyrsiau hynny rydych wedi'u cael gyda'r cwmni—neu'r sgyrsiau y mae eich swyddogion wedi'u cael gyda'r cwmni—a yw'r cwmni wedi derbyn cynnig Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn, sy'n destun ymgynghoriad, rwy'n cydnabod hynny, ac yn amlwg, mae'n rhaid cyflawni'r broses honno? Ond yn ôl y cyhoeddiad, ymddengys—yn anffodus, os yw'n digwydd—y bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli, felly mae'n bwysig fod gweithwyr yn y ffatri yn deall yn iawn y bydd y gefnogaeth honno ar gael iddynt cyn gynted â phosibl, a bod y cwmni'n caniatáu mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru, pe bai ei angen.
Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais, rydym yn rhannu siom Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Gweithwyr Perthynol, sy'n siomedig iawn gyda'r newyddion hefyd. Hyd y gwelwn, mae hwn yn benderfyniad masnachol syml. Mae natur y farchnad ar gyfer bara wedi newid. Mae'r galw wedi lleihau wrth i ddeiet pobl newid ac mae pobl yn bwyta llai o fara. Mae'r cwmni, felly, yn awyddus i atgyfnerthu eu gwaith cynhyrchu ar safleoedd eraill i sicrhau bod eu holl unedau'n gwneud elw.
Rydym yn falch o leiaf eu bod yn mynd i gadw nifer sylweddol o swyddi ar y safle i'w droi yn ganolfan logisteg. Byddwn yn gweithio gyda'r cwmni, fel y soniais, drwy ein prosiectau Cymru'n Gweithio a'r Ganolfan Byd Gwaith i weld a allwn ddod o hyd i swyddi i'r rhai sy'n wynebu colli swyddi os yw'r ymgynghoriad, fel y dywedwch, yn parhau fel y disgwyliwn iddo wneud. Gan fod gennym sector datblygedig yn Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, rydym am weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau swyddi eraill yn y sector presennol ar gyfer y bobl a allai gael eu diswyddo, er mwyn sicrhau nad yw'r sgiliau hynny'n cael eu colli o economi Cymru neu'r diwydiant.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Rwy'n bryderus iawn hefyd am y gweithwyr yn Allied Bakeries, lle bu traddodiad hir iawn o bobi ar y safle hwnnw, fel y clywsom, ac yn agos ato yn y rhan honno o Gaerdydd, ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad am yr angen i ganolbwyntio ar y sgiliau sydd gan y gweithwyr yno. Er y byddai'n gadarnhaol pe bai swyddi'n cael eu cadw yno mewn canolfan ddosbarthu, nid yw hynny yr un fath â'r sgiliau sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer ym maes pobi. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn.
Dyma'r newyddion drwg diweddaraf ar ôl llawer o achosion o golli swyddi a bygythiadau i swyddi yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yn oed yn y brifddinas, mae'n nifer sylweddol o swyddi. Mae'n rhaid ystyried y pwysau y mae'n ei roi ar allu'r Llywodraeth i ymdrin â'r cyhoeddiadau hyn gan amryw gwmnïau o safbwynt rhoi cynlluniau amrywiol ar waith, gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, gweithio ar weithredu cynlluniau ReAct, ac yn y blaen. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i ddarparu adnoddau ychwanegol a chynyddu'r capasiti yn Llywodraeth Cymru i ymdrin ag ergyd ar ôl ergyd, a sicrhau bod gweithwyr, lle bynnag yr effeithir arnynt yn economi Cymru, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i chwilio am gyflogaeth newydd?
Yn sicr, cyhoeddasom ddoe yn y gyllideb atodol ein bod yn cynyddu adnoddau er mwyn gallu bod yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion newidiol yr economi wrth i ni ymdopi â chyfnod mwyfwy cythryblus. Ond yn sicr yn yr achos hwn, mater yw hwn o newid yn y farchnad yn unig. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd hon yn ffatri a oedd yn cynhyrchu bara. Nid oedd yn cynhyrchu cacennau eraill na chynhyrchion premiwm uwch. Fel y dywedodd y cwmni'n glir yn y dyfyniadau yn y wasg, fe wnaethant golli contract i gyflenwi bara i archfarchnad o dan eu label eu hunain, ac yn syml, mae'r galw'n newid, ac nid oes digon o waith i'r cwmni yn ei gyfanrwydd i gyfiawnhau cadw cymaint o ffatrïoedd sy'n cynhyrchu bara ar agor. Felly, ni chredaf fod llawer y gall y Llywodraeth ei wneud mewn sefyllfaoedd fel hynny. Dyma natur y farchnad. Fodd bynnag, mae pethau y gallwn eu gwneud i sicrhau, fel y dywedais, fod sgiliau gweithwyr Cymru yn cael eu hadleoli i sicrhau bod ein sector bwyd a diod yn parhau i fod yn fywiog ac yn hyfyw.
Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at y datganiadau 90 eiliad. Daw'r datganiad 90 eiliad cyntaf gan Elin Jones, i ddathlu 50 mlynedd o Sali Mali.
Mae Sali Mali yn 50 oed heddiw. Ar y dydd hwn yn 1969, cyhoeddwyd y llyfr cyntaf Sali Mali gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, fel rhan o gyfres Darllen Stori. Yn y dyddiau hynny, mi oedd llyfrau darllen i blant bach yn y Gymraeg yn bethau prin iawn, ac fe fues i, fel eraill, yn lwcus iawn i ddysgu darllen drwy gymorth Sali Mali.
Creadigaeth Mary Vaughan Jones oedd Sali Mali, a Rowena Wyn Jones oedd yr arlunydd. Am gyfraniad gan y ddwy yma i’r Gymraeg ac i ddarllen, drwy greu cymeriad mor hirhoedlog, ac a gydiodd yn nychymyg cenedlaethau o blant bach a’u hathrawon hyd heddiw. Mary Vaughan Jones hefyd oedd yn gyfrifol am gymeriadau Jac y Jwc, y Pry Bach Tew a Jaci Soch. Rhain oedd ffrindiau fy mhlentyndod i, ac mae meddwl amdanynt hyd heddi yn twymo fy nghalon.
Daeth Sali Mali hefyd yn tv superstar, drwy animeiddio a thrwy gyfres Caffi Sali Mali ar S4C. Ifana Savill ysgrifennodd y cyfresi teledu, a hi a’i gŵr sefydlodd Pentref Bach ym Mlaenpennal, Ceredigion, a ddaeth yn set deledu ac yn ganolfan wyliau ar gyfer teuluoedd, er mwyn i’r plant fyw bywyd Sali Mali.
Daeth Sali Mali i ymweld â’r Senedd ac eistedd yn sedd y Llywydd yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar, a heno mi fyddwn yn goleuo y Senedd yn oren i ddathlu ei phen-blwydd. Diolch i'r rhai a gafodd y weledigaeth i'w chreu, a phen-blwydd hapus, Sali Mali.
A daw'r datganiad 90 eiliad nesaf i ddilyn hynny gan Mick Antoniw ar Ddiwrnod Dyneiddiaeth y Byd, 21 Mehefin 2019.
Diolch. Mewn byd o anoddefgarwch a rhaniadau cynyddol, ac mewn byd sy'n wynebu newid technolegol a chymdeithasol dramatig, weithiau mae'n hawdd gadael i gredoau cul ymwreiddio ac anwybyddu ehangder syniadau a dychymyg a chyffredinrwydd y credoau libertaraidd sydd i'w cael yn y byd, boed hynny'n gysylltiedig â chred mewn Duw neu gred resymol nad oes Duw. Mae dyneiddiaeth yn ganlyniad i draddodiad hir o feddwl rhydd sydd wedi ysbrydoli llawer o feddylwyr gorau'r byd ac artistiaid creadigol a gwyddoniaeth ei hun.
Mae dyneiddiaeth yn foesegol. Mae'n cadarnhau gwerth, urddas ac ymreolaeth yr unigolyn a hawl pob unigolyn i'r rhyddid mwyaf posibl sy'n gydnaws â hawliau pobl eraill. Mewn sawl ffordd, mae dyneiddiaeth yn debyg i grefydd. Fodd bynnag, y gwahaniaeth allweddol yw bod dyneiddwyr yn cydnabod mai yn ein dwylo ni yn unig y mae'r pŵer i ddatrys problemau, drwy ddadansoddi rhesymegol a'r defnydd o wyddoniaeth.
Mae gan y rhai nad ydynt yn grefyddol lawer i'w gyfrannu at y gwerthoedd sy'n sail i'n cymdeithas a'i chyfeiriad yn y dyfodol. Drwy gydnabod dyneiddiaeth yn llawn fel moeseg ddinesig ym mhob un o'n sefydliadau cymdeithasol a chyhoeddus, gallwn harneisio potensial meddwl dilestair er budd pawb.
Felly, ddydd Gwener, rydym yn dathlu Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd, pan fyddwn yn cydnabod ein dynoliaeth gyffredin a'n rhwymedigaethau i'n gilydd. Mae'n ddiwrnod ar gyfer hybu a dathlu gwerthoedd blaengar dyneiddiaeth fel ymagwedd athronyddol tuag at fywyd a dull o sicrhau newid heddychlon, cyfunol a chydsyniol yn y byd.
A daw'r datganiad 90 eiliad nesaf gan Vikki Howells ar Fis Pride Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol 2019 a'r ugeinfed mlynedd ers digwyddiad Pride cyntaf Caerdydd.
Mis Mehefin yw Mis Pride LHDT, ac mae'n achlysur i bobl LHDT+ ddathlu datblygiadau yn eu hawliau ledled y byd. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gymuned. Mae digwyddiad 2019 yn arbennig o bwysig, gan fod yr un mis yn nodi hanner canmlwyddiant terfysgoedd Stonewall.
Ceir arwyddocâd yn nes adref hefyd i fis Pride eleni, wrth i Pride Cymru ddathlu eu hugeinfed pen blwydd. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf o'r fath, Mardi Gras Caerdydd fel y'i gelwid ar y pryd, ym mis Medi 1999 a denodd 5,000 o bobl i Gae Cooper yng nghanol y ddinas. Yn y cyfnod ers hynny, cafwyd llawer tro ar fyd. Ond diolch i ddyfalbarhad gwirfoddolwyr, mae Pride Cymru, fel y'i hailenwyd yn symbol cryf o'i bwysigrwydd cenedlaethol, wedi cryfhau fwyfwy. Mae bellach yn croesawu 50,000 o gyfranogwyr dros dridiau, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, y DU, a'r byd yn wir, i'r ddinas, gan gynhyrchu dros £2.5 miliwn i'r economi leol, a bydd 16,000 o bobl yn gorymdeithio drwy Gaerdydd yn enw cydraddoldeb—gyda'r orymdaith ei hun yn ychwanegiad poblogaidd ers 2012.
Yn 2019, bydd Pride Cymru yn ennill ei le fel y pumed digwyddiad Pride mwyaf yn y DU. Bydd hefyd yn edrych ymlaen at EuroPride 2025, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, ac sydd newydd ddenu 0.5 miliwn o bobl i Fienna, lleoliad y digwyddiad eleni. Ond gan fod Pride Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ill dau'n dathlu eu hugeinfed pen-blwydd, ceir cyfle i ni fyfyrio ar y cysylltiad rhwng datganoli a chydraddoldeb.
Rwyf am symud ymlaen at eitem 5, cynnig i ddirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. A galwaf ar Dai Lloyd i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM7057 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno y dylai Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2019, gael eu dirymu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A dwi'n codi i symud y cynnig ar ddirymu'r rheoliadau gofal sylfaenol a'r Gymraeg. Mae'r sector gofal sylfaenol—deintyddion, optegwyr, fferyllwyr, a meddygon teulu—yn gyfrifol am hyd at 90 y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd, ac, yn wir, y man cychwyn i'r rhan fwyaf ar eu taith ar hyd y llwybr gofal. Dyma bobl ar eu mwyaf bregus, yn yr angen mwyaf, lle mae derbyn triniaeth yn y Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol, megis yn achos pobl sydd efo dementia, neu blant ifanc nad ydyn nhw'n medru unrhyw iaith heblaw'r Gymraeg.
Addawodd y Llywodraeth yn y gwanwyn y llynedd, wrth eithrio darparwyr gofal sylfaenol o'r safonau ar gyfer gweddill y gwasanaeth iechyd, y byddai rheoliadau penodol er mwyn sicrhau hawliau i'r Gymraeg ym maes gofal sylfaenol drwy'r contractau gwasanaeth. Ond, rydym ni yma heddiw yn edrych ar reoliadau nad ydyn nhw'n rhoi dim un hawl statudol, na hyd yn oed hanner disgwyliad statudol, o dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y Gymraeg i gleifion. Ar y gorau, fe gawn ni, dros amser, ambell i arwydd Cymraeg newydd o ganlyniad i'r rheoliadau hyn. Does dim byd yma: dim hawliau, dim disgwyliad, dim newid.
Chwarter canrif ers pasio Deddf Iaith 1993, wyth mlynedd ers pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a sefydlodd statws swyddogol i'r iaith, a saith mlynedd ers i'r Llywodraeth fabwysiadu 'Mwy na Geiriau', a oedd yn ei hymrwymo i gynnig gwasanaethau iechyd Cymraeg yn rhagweithiol, dyw'r rheoliadau pitw yma ddim hyd yn oed yn sicrhau'r pethau mwyaf sylfaenol â chofnodi angen iaith y claf—rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn cynllunio gwasanaeth yn Gymraeg. Beth yw diben anogaeth? Hyd yn oed pe bai'r ewyllys, yr amser a'r adnoddau gan fyrddau iechyd i sicrhau bod anogaeth, dyw'r rheoliadau hyn ddim yn sicrhau bod cofnod. Dydy'r rheoliadau ddim yn sicrhau yr un hawl cyfreithadwy o werth. Ac nid ydyn nhw chwaith yn rhoi sicrwydd i wasanaeth Cymraeg, hyd yn oed pan fo hynny'n fater o angen clinigol. Mae hynny ynddo'i hun yn dangos pa mor ddiffygiol ydy'r rheoliadau yma, a pham bod angen eu dirymu a'u hail-lunio.
Ond ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi dangos yr un difaterwch at y Senedd hon, ac at ddemocratiaeth, wrth gyflwyno'r rheoliadau yma, ag y mae o yn ei ddangos at anghenion ieithyddol pobl mwyaf bregus cymdeithas o ran cynnwys y rheoliadau. Ni ddaeth i'r pwyllgor i ateb cwestiynau. Mae hyd yn oed wedi gwrthod cais fy nghyd-weithiwr Delyth Jewell, sy'n aelod o'r pwyllgor, i drafod y ffordd ymlaen cyn y ddadl heddiw. Cymaint yw ei ddifaterwch am y Gymraeg, doedd ei adran ddim hyd yn oed wedi trafferthu cyfieithu memorandwm esboniadol y rheoliadau hyn i'r Gymraeg adeg cyflwyno'r rheoliadau, er bod dim ond pump tudalen i gyd. Felly, wrth gyflwyno'r dyletswyddau iaith, mae'r adran wedi torri ei dyletswyddau iaith ei hun. Allech chi ddim gwneud y peth i fyny.
Ond beth sydd yn glir yw bod y Llywodraeth yn poeni am farn y proffesiwn. Yn wir, yr unig gyrff sy'n cael eu rhestru yn y memorandwm esboniadol fel cyrff a gafodd wrandawiad y Llywodraeth yw'r pump corff proffesiynol. Mae'n glir bod eu barn nhw yn bwysicach na chynrychiolwyr etholedig y lle hwn. Fe gawson nhw lawer iawn mwy na 21 diwrnod i ddweud eu dweud; yn wir, fe gawson nhw dros flwyddyn. Roedd yn rhaid i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fynnu cynnal ymchwiliad byr iawn o fewn y 21 diwrnod a oedd gyda nhw, a saith o'r dyddiau hynny yn y toriad. Os nad yw Cadeirydd pwyllgor yn haeddu parch y Llywodraeth hon, pwy sydd? I bwy maen nhw'n atebol? Dyw hi ddim y ffordd i drin ein Senedd genedlaethol.
Yn lle trafodaeth agored, dryloyw, ar y materion hyn, er mwyn sicrhau'r gorau i gleifion a defnyddwyr y Gymraeg, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi gwneud popeth i osgoi atebolrwydd y Senedd hon am gynnwys y rheoliadau yma. Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cwyno, ond dydych chi ddim yn gwrando. Mae'n ddamniol. Mae'r strategaethau, mae'r geiriau cynnes, wedi methu. Nid nawr yw'r amser am y camau cyntaf ac anogaeth; mae'n bryd am reoliadau llawer cadarnach i warchod ac ehangu hawliau i'r Gymraeg. Mae gan Aelodau'r Cynulliad gyfle i sicrhau hynny'r prynhawn yma drwy bleidleisio i ddirymu'r rheoliadau yma.
Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn i ddirymu'r rheoliadau hyn, nid ar sail eu cynnwys, ond oherwydd eu bod yn anwybyddu rôl graffu'r Senedd hon. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn hawdd i ymarferwyr fodloni gofynion y rheoliadau—mae rhywun arall yn talu amdanyn nhw a dydyn nhw ddim yn heriol. Dwi ddim am osod safonau ar fusnesau bach, hyd yn oed yn uniongyrchol, ond camau syml yw'r rhain sy'n costio bron dim byd, a, mewn ffordd, mae'n destun embaras bod angen deddfwriaeth o gwbl ar gyfer y camau yma. Ond fe fydd pobl eraill sy'n meddwl y dylen nhw fod yn fwy heriol neu'n llai heriol neu'n wahanol yn gyfan gwbl. Dŷn ni ddim yn gwybod gan nad oes digon o amser wedi bod i graffu ar y rheoliadau hyn. Os yw Cadeiryddion dau bwyllgor yn dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen mwy o amser ar y Cynulliad hwn, wel, fe ddylem ni gael mwy o amser. Ni sydd yn deddfu; ni sydd yn penderfynu ar y ddeddfwriaeth.
A hefyd, rydym eisoes wedi bod yn dal ein trwynau yn derbyn sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch derbynioldeb peth is-ddeddfwriaeth gan y Deyrnas Unedig, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n barod, heb edrych arnyn nhw ein hunain, mewn gwirionedd. Ni ddylem ni orfod gwneud hyn gydag is-ddeddfwriaeth a gyflwynir gan ein Llywodraeth ein hunain. Rydym wedi gwrthwynebu dro ar ôl tro ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gyfiawnhau defnyddio'r weithdrefn negyddol ar gyfer is-ddeddfwriaeth ar sail nad oes gan y Senedd hon ddigon o amser i graffu neu oherwydd mai dim ond rhai technegol y byddai unrhyw newidiadau, ac rydym wedi cael digon o hynny. Mae'r modd y cyflwynwyd y rheoliadau hyn yn profi ein pwynt. A wnewch chi barchu'r Senedd hon a chefnogi'r cynnig heddiw? Diolch.
Galwaf ar Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Diolch i Dai Lloyd am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwyf am ddechrau drwy bwysleisio pwysigrwydd y rheoliadau hyn. Maent i fod i fynd â ni’n agosach at ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn y Gymraeg—rhywbeth y gwnaeth pawb a ddaeth i siarad â’r pwyllgor ei gydnabod fel rhywbeth sy’n angenrheidiol i rai pobl, ac nid dim ond dewis a ffafrir. Gall fod yn hanfodol i gleifion sy’n agored i niwed siarad â’u meddyg yn eu hiaith gyntaf. Er fy mod yn credu’n bersonol y dylai’r rheoliadau cael eu dirymu, mae aelodau’r pwyllgor mewn dau feddwl ar y mater hwn a dylwn ei gwneud yn glir fy mod yn siarad ar ran y pwyllgor.
Cyn siarad am gynnwys y rheoliadau, hoffwn drafod y ffordd y cawsant eu gosod gerbron y Cynulliad. Ym mis Mawrth y llynedd, craffodd y pwyllgor ar reoliadau’r safonau yn ymwneud â’r Gymraeg a’r sector iechyd, a dywedodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd wrthym y byddem yn cael mwy na’r isafswm o 21 diwrnod i drafod y rheoliadau hyn.
Ysgrifennodd clerc y pwyllgor at Lywodraeth Cymru dair gwaith i ofyn am amserlen y rheoliadau a chadarnhau y byddai gennym fwy na 21 diwrnod i graffu arnynt. Ar ôl dim ateb, dywedwyd wrth glerc y pwyllgor dros y ffôn y byddent yn dod 'cyn y Pasg' ac wedyn 'cyn diwedd Mai'. Heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, fe’u gosodwyd ar 9 Mai a daethant i rym ar 30 Mai.
Mae’r Llywodraeth wedi methu’n llwyr yn ei thriniaeth o’r rheoliadau hyn. Pan ysgrifennais at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi bod yr amserlen yn golygu mai dim ond 10 diwrnod gwaith oedd gan y pwyllgor i ymgynghori â rhanddeiliaid, i drafod y rheoliadau ac i adrodd yn ôl arnynt cyn iddynt ddod i rym, cefais ateb anfoddhaol iawn. Atebodd y Gweinidog:
'dan Reolau Sefydlog 21 a 27, does dim darpariaeth i Bwyllgor ac eithrio Pwyllgor cyfrifol...roi gwybod am offeryn sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.'
Mae hyn yn anwybyddu’r ffaith ein bod ni, fel pwyllgor, wedi bod yn nodi ein bwriad i graffu ar y rheoliadau hyn ers dros 12 mis.
Rhoddodd y Gweinidog iechyd ymateb mwy graslon i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr un mater. Dywedodd wrth Mick Antoniw:
'Ni chafwyd yr un math o ddiddordeb yn y diwygiadau blaenorol i’r Rheoliadau hyn, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sicrhau yn y dyfodol, os byddant yn ymwneud â’r Gymraeg, ein bod yn rhybuddio’r Pwyllgor Diwylliant ac yn ymgysylltu â hwy yn gynharach yn y broses.'
Mae Dai Lloyd eisoes wedi trafod y ffaith bod y memorandwm esboniadol i reoliadau ar ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi’i gyflwyno yn Saesneg yn unig. Byddai hynny’n ddoniol pe na bai mor amharchus. Nodaf fod y Gweinidog iechyd hefyd yn nodi bod ei swyddogion wedi, a dwi'n dyfynnu,
‘cytuno mewn egwyddor y byddwn yn cynyddu yn raddol nifer y memoranda esboniadol ar gyfer offerynnau statudol sy’n cael eu gosod gerbron y Cynulliad yn Gymraeg.’
Ai ymrwymiad mor wan â hyn yw’r gorau y gallwn ei ddisgwyl gan Lywodraeth sydd ag uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050?
Fel pwyllgor, rydym am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi’r cyfle inni graffu ar yr holl ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â dyletswyddau’r Gymraeg ar ddarparwyr gofal sylfaenol cyn iddi gael ei gwneud neu ei gosod yn y Cynulliad. Ni ddylai fod angen dweud y dylid cyflwyno’r holl ddogfennau ategol yn ddwyieithog, ond yn yr achos hwn byddaf yn dweud hynny er mwyn iddo fod ar gofnod.
O ran ymgynghoriad, cyn symud ymlaen at gynnwys y rheoliadau, rwyf am nodi ein pryderon am y broses ymgynghori. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol â chyrff cynrychioliadol meddygon, deintyddion, optegwyr ac yn y blaen. Ond wedyn, gwnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod nhw wedi cael trafodaethau gyda'r comisiynydd, ond nid oes unrhyw beth o'r cofnod hynny yn gyhoeddus. Rwy’n synnu bod y Llywodraeth wedi methu ag ymgynghori â’r grŵp pwysicaf, sef y cleifion. Mae’r ffaith na ofynnwyd i gleifion am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn adrodd cyfrolau am ba randdeiliaid y mae Llywodraeth yn eu blaenoriaethu. Mae’r pwyllgor yn galw am i’r rheoliadau gael eu diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach a fydd yn cynnwys grwpiau cleifion a Chomisiynydd y Gymraeg.
O ran y gofynion, hoffwn siarad am ba ddyletswyddau fydd yn cael eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol a barn y darparwyr hynny ar y dyletswyddau perthnasol. Nid yw’r rheoliadau ond yn mynd mor bell â mynnu bod darparwyr yn trefnu bod ffurflenni ar gael yn Gymraeg a bod arwyddion newydd ar gael yn Gymraeg, a’u bod yn annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i wisgo bathodyn, yn annog staff i fynd ar gyrsiau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ac yn nodi dewis iaith claf.
Yn ein hadroddiad blaenorol, gwnaethom ysgrifennu am ein pryderon nad oes hawl o hyd i dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, ac y dylai’r hawl i dderbyn gwasanaethau yn newis iaith yr unigolyn fod yn egwyddor sefydlog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n dal i gredu hyn, ac rwy’n falch o ddweud bod aelodau’r pwyllgor wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at ddatblygu’r capasiti hwn.
Mae gen i lot fawr i'w ychwanegu, ond dwi'n ymwybodol o amser. Rydyn ni yn siomedig â gwendidau'r rheoliadau hyn, a’r diffyg goruchwyliaeth, y pryderon a fynegwyd gan y cyrff proffesiynol, a’r diffyg ymgynghori â chleifion a’r comisiynydd. Mae’r holl elfennau hyn yn arwain at reoliadau sy’n llwyddo i fod yn hwyr ac wedi’u rhuthro.
Disgrifiwyd hyn fel 'cam cyntaf’ ar daith tuag at ddarparu mwy o wasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hyn yn peri pryder. Os na chytunir ar gyfeiriad y daith, os nad yw’r costau’n dryloyw ac os nad yw’r darparwyr yn rhan o’r broses, yna ni all y daith hyd yn oed gychwyn. Dwi'n annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori eto ac i ddiwygio’r rheoliadau yma.
Galwaf ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 20 Mai 2019 ac adroddasom ar y pwyntiau technegol a theilyngdod i'r Cynulliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt adrodd technegol sy'n ymwneud â drafftio'r rheoliadau, a'i bod yn cynnig unioni'r mater drwy slip cywiro.
O ran y pwyntiau teilyngdod, nodasom fod y rheoliadau hyn yn gosod chwe dyletswydd gytundebol sy'n ymwneud â'r Gymraeg ar gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol i'r GIG. Roedd hyn yn cyferbynnu â'r 121 o safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd eraill. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi mai'r dyletswyddau a osodir gan y rheoliadau hyn yw'r dyletswyddau cyntaf sy'n ymwneud â'r Gymraeg i fod yn berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'u bod yn wahanol i'r safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG.
Nodasom hefyd fod y rheoliadau y mewnosodir y dyletswyddau ychwanegol hyn ynddynt yn ei gwneud yn glir eu bod yn rhan o ddyletswyddau cytundebol contractwyr o 30 Mai 2019 ymlaen. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y memorandwm esboniadol nac yn dod gyda'r memorandwm esboniadol i esbonio bod y gwelliannau'n berthnasol i bob contract o'r dyddiad hwnnw ymlaen ac nad ydynt wedi'u cyfyngu i gontractau newydd yr ymrwymwyd iddynt ar ôl y dyddiad hwnnw. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn drwy ddweud ei bod wedi ymgynghori a gohebu â chyrff cynrychiadol perthnasol y darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'i bod yn fodlon fod y cyrff perthnasol yn ymwybodol nad yw'r dyletswyddau'n gyfyngedig i drefniadau newydd a wnaed ar ôl y dyddiad y daeth y rheoliadau i rym.
Yn ogystal â'n hadroddiad arferol, ysgrifenasom at y Gweinidog hefyd i gefnogi'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, pwyllgor rwyf hefyd yn aelod ohono. A nodaf fod y Gweinidog wedi dweud, yn ei ymateb i ni yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gofyn i'w swyddogion sicrhau eu bod yn ymgysylltu â phwyllgorau yn llawer cynharach yn y broses ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto, i bob rhan o Lywodraeth Cymru, pa mor bwysig yw ymgysylltu â'r pwyllgorau pwnc perthnasol ar reoliadau arwyddocaol, yn enwedig pan fo pwyllgor wedi gofyn am yr ymgysylltiad hwnnw.
Ac mae gennyf bwyntiau pellach. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r pwyntiau a wnaeth Dai Lloyd ac mewn perthynas â'r diffygion gweithdrefnol sydd wedi digwydd, yn enwedig o ran y gallu i graffu'n briodol ar reoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad hwn. Mae honno'n rhan sylfaenol o'r broses seneddol, ac mae'r pryder a godwyd yn un a rennir gan bawb rwy'n credu, yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd yn y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg rwy'n aelod ohono. Rwy'n credu bod rhai ohonom wedi methu cefnogi'r syniad o ddirymu, yn bennaf oherwydd y difrod y teimlem y gallai ei wneud, neu oblygiadau peidio â bwrw ymlaen â rheoliadau sy'n ceisio hybu buddiannau'r Gymraeg. Ond ni ddylai hynny olygu nad oes rhybudd i bawb ohonom ar draws y Llywodraeth, os na ddilynir gweithdrefnau'n briodol, os nad oes cyfle priodol i graffu, credaf fod dirymu'n fater y mae ein strwythur pwyllgor yn rhoi sylw difrifol iddo. Ac rwy'n credu y gallai fod yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn y dyfodol. Felly, buaswn yn sicr yn ceisio sicrwydd heddiw fod y gwersi hynny wedi'u dysgu, fod y pwysigrwydd cyfansoddiadol hwnnw'n cael ei gydnabod, ac na fydd hyn yn digwydd eto yn ystod prosesau seneddol yn y Cynulliad hwn.
Mae darparu gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. I rai cleifion, nid mater o ddewis iaith ydyw—dyna eu hunig ddewis. Dyna pam fod fy ngrŵp a minnau'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r rheoliadau hyn. Fel y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei ddweud yn gywir, mae'r rheoliadau hyn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir ar gyfer diwallu anghenion cleifion heb atgyfnerthu'r canfyddiadau bod yn rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl er mwyn gweithio yn GIG Cymru. Dyma un o'r pryderon a fynegwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yng nghyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf. Ac er fy mod o'r farn fod y rheoliadau hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir, rwy'n derbyn nad fi yw'r unig un sydd angen ei argyhoeddi—mae angen i'r rheini sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, y rheini sydd ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau, gefnogi'r rheoliadau.
Roedd yn siomedig felly fod Llywodraeth Cymru wedi dewis defnyddio'r weithdrefn negyddol, a chaniatáu'r lleiafswm o 21 diwrnod yn unig ar gyfer craffu. Nid oedd hyn yn caniatáu amser i ymgynghori â grwpiau cleifion, y cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli'r gweithlu iechyd a gofal na'r darparwyr gwasanaethau. A dyna pam y bydd fy ngrŵp yn ymatal ar y cynnig i ddirymu. Nid wyf yn credu y dylai'r Llywodraeth ddiddymu'r rheoliadau hyn, ond buaswn yn annog y Gweinidog i weithio gyda darparwyr i sicrhau eu bod yn gefnogol.
Os ydym am wella'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth gyffredinol i'r rheoliadau, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i siarad—Vaughan Gething.
Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, am gyflwyno'r cynnig hwn a rhoi'r cyfle i nodi'r rhesymeg a phwysigrwydd sefydlu'r dyletswyddau iaith Gymraeg hyn ar gyfer contractwyr gofal sylfaenol annibynnol yn ogystal â'r gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarperir yn uniongyrchol gan y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs.
Mae Aelodau'r Cynulliad wedi dangos llawer o ddiddordeb yn ddeddfwriaeth hon, fel rydym wedi'i glywed y prynhawn yma. Ar ôl cydnabod diddordeb penodol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, cynigiais gyfarfod briffio technegol i'r pwyllgor, gyda fy swyddogion, a chynhaliwyd hwnnw ar 6 Mehefin. Rwy'n croesawu'r adroddiad rwyf bellach wedi'i gael gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o'r cyfarfod ar 6 Mehefin, ar y rheoliadau, ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried yr adroddiad o'r cyfarfod yn llawn ac yn ymateb iddo.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed heddiw. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau, yn y dyfodol, pan fyddwn yn gwneud rheoliadau ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg drwy iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod yn rhybuddio ac yn ymgysylltu â'r pwyllgor pwnc penodol ond hefyd â'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gynharach yn y broses. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed, nid yn unig am bolisi iechyd a gofal cymdeithasol a pholisïau a rheoliadau pellach, ond am y sylwadau a wnaed am ddull ehangach y Llywodraeth, oherwydd rwy'n croesawu craffu gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n dal i gofio bod yn aelod o'r meinciau cefn a fy awydd i gymryd rhan briodol yn y broses graffu, i herio a hefyd i wella deddfwriaeth hefyd.
Ond hoffwn gofnodi fy siom wirioneddol a diffuant na chafodd y fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol ei chyflwyno ar yr un pryd â'r fersiwn Saesneg, fel y dylai. Ond ni fuaswn eisiau i'r amryfusedd diffuant hwnnw—ac rwy'n cydnabod nad wyf yn ceisio gwenieithio na cheisio dweud na ddigwyddodd hynny—ni fuaswn eisiau i hynny dynnu oddi ar y manteision y bydd y dyletswyddau hyn, yn fy marn i, yn eu sicrhau i gleifion er mwyn iddynt allu cael gofal iechyd mewn lleoliad gofal sylfaenol. Ac yma, rwy'n credu, mae yna wyro oddi wrth y ddadl a wnaeth Dai Lloyd wrth wneud y cynnig.
Ar bwynt cyffredinol, fodd bynnag, o ran cyfieithu'r memorandwm esboniadol, mae swyddogion yn trafod hyn gyda swyddogion Comisiwn y Cynulliad ac maent wedi dod i gytundeb mewn egwyddor y byddwn yn cynyddu nifer y memoranda esboniadol yn raddol ar gyfer offerynnau statudol sy'n cael eu gosod yn Gymraeg gerbron y Cynulliad. Mae gwaith pellach ar y gweill i edrych ar arwyddocâd hynny o ran yr amser sydd ei angen i gyflwyno deddfwriaeth a dogfennau ategol gerbron y Cynulliad yn y ddwy iaith swyddogol.
Fel y nodwyd, daeth y dyletswyddau i rym ar 30 Mai mewn gwirionedd, felly gan fod y rheoliadau eisoes wedi'u gwneud, byddai derbyn y cynnig yn golygu dirymu'r rheoliadau a'u hail-wneud, a byddai hynny'n gohirio'r broses o gyflwyno'r dyletswyddau. Efallai na fydd rhai Aelodau yn cefnogi'r cynllun neu'r rheoliadau, ond rydym wedi gweithio, nid yn unig gyda darparwyr, nid yn unig gyda rhanddeiliaid i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys y cyrff sy'n eu cynrychioli, ond mae Comisiynydd y Gymraeg, a'r Comisiynydd blaenorol, yn cefnogi'r cynllun sydd gennym.
Felly, gan symud ymlaen at y dyletswyddau eu hunain, mae'r ymagwedd tuag at ddyletswyddau iaith Gymraeg yn y contractau, o ran gwasanaethau i gontractwyr annibynnol, yn deillio o ystyriaeth ac ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector iechyd yn 2016. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi bod yna gred gyffredinol nad oedd yn rhesymol gosod safonau ar fyrddau iechyd lleol a fyddai'n eu gwneud yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gydymffurfio ar ran un o'r contractwyr gofal sylfaenol annibynnol. Mae hynny, wrth gwrs, yn deillio o'r ffordd y darperir gwasanaethau o dan delerau gwasanaethau a chontractau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Ond bydd gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg a nodir yn yr hysbysiadau cydymffurfio ar gyfer byrddau iechyd unigol.
Ceir rhesymau ymarferol sydd angen eu hystyried ymhellach—[Torri ar draws.] Ie.
Yn rhyfedd ddigon, dyma'r union bwynt a wneuthum i'ch swyddogion. Os gallwn osod safonau sy'n uwch ar gyfer y gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarparwn yn uniongyrchol drwy'r gwahanol fyrddau iechyd lleol, pam na edrychwyd ar y safonau uwch hynny'n fanwl mewn ymgynghoriad llawn â chleifion a grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gerbron y pwyllgor neu'r pwyllgorau perthnasol—oherwydd, yn yr achos hwn, rydym yn sôn am hawliau'r Gymraeg yn ogystal â darpariaeth gofal iechyd effeithiol? Rydych wedi osgoi hynny. Mae'n ddiddorol eich bod yn dweud—ac rydych yn llygad eich lle, ei bod yn hwyrfrydig iawn, a dweud y lleiaf, na chyhoeddwyd y memorandwm esboniadol yn Gymraeg ar yr un pryd ag y gosodwyd y rheoliadau hyn gennych. Ond y broblem go iawn yw eich bod yn gosod lefel o safon heb graffu yma. Dylem gael y ddadl lawn honno yma. Gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yw'r gwasanaethau mwyaf uniongyrchol a gawn, a byddem yn sicr eisiau gweld hawliau Cymraeg effeithiol yn cael eu hyrwyddo yn y gwasanaethau hyn.
Mae yna benderfyniad gonest i'w wneud ynglŷn â sut i gyflwyno'r dyletswyddau cam cyntaf hyn, fel y maent wedi cael eu disgrifio. Roedd yna gwestiynau ymarferol roedd angen eu harchwilio ymhellach ynglŷn â sut i osod a rheoleiddio rhwymedigaethau iaith Gymraeg ar gyfer miloedd o feddygon teulu, optegwyr, fferyllwyr a deintyddion sy'n gweithio ac yn darparu gofal yma yng Nghymru—[Torri ar draws.] Rwy'n cofio pan oedd yr Aelod yn y Gadair, roedd yn sôn yn rheolaidd am synau o'r cyrion ac Aelodau'n siarad o'u seddau.
Wel, atebwch y cwestiwn canolog.
Rwy'n ceisio egluro'r dull rydym wedi'i fabwysiadu, ac rwy'n bod yn ddidwyll ac yn onest yn hynny o beth. Efallai na fydd yr Aelodau'n cytuno â'r dull a fabwysiadwyd gennym, ond dyma'r dull rydym wedi'i ddefnyddio i gyflwyno'r dyletswyddau hyn ar draws gofal sylfaenol am y tro cyntaf. Ac roedd consensws yn yr ymgynghoriad mai'r ffordd fwyaf priodol o osod dyletswyddau iaith Gymraeg ar ddarparwyr gofal sylfaenol oedd cytuno ar y rhain yn genedlaethol a'u cynnwys yn y telerau gwasanaeth cytundebol rhwng contractwyr a byrddau iechyd. A defnyddiodd y dull hwnnw systemau cofnodi contractau cyfredol sy'n gyfarwydd i'r sector. Nodwyd—[Torri ar draws.] Ni allaf; rwyf eisoes wedi cymryd gormod o amser.
Nodwyd, yn wahanol i'r mwyafrif o gyrff y sector iechyd sy'n gorfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, nad yw darparwyr gofal sylfaenol annibynnol wedi bod yn ddarostyngedig i gynlluniau iaith Gymraeg o'r blaen. Felly, rydym wedi ystyried hyn ochr yn ochr â sgiliau yn y Gymraeg, gallu, materion recriwtio a chadw staff ym maes gofal sylfaenol. Mae'n bwysig cyflwyno'r dyletswyddau cam cyntaf mewn ffordd sy'n gymesur ac mewn amgylchedd cefnogol. Mae'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, fel safonau ar gyfer y sector gofal iechyd, yn rhan o jig-so o ymyriadau sy'n cefnogi ac yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn 'Mwy na Geiriau...'.
Roeddwn am ddweud mwy, ond rwy'n gweld ein bod ymhell dros yr amser, Lywydd. Ond hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y dyletswyddau hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran hyrwyddo a chefnogi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a gwasanaethau ym maes gofal sylfaenol. Ac rwy'n falch fod cyrff cynrychioliadol darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, er iddynt godi rhai heriau, wedi cytuno ar y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu. Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, a pheidio â dadwneud y cynnydd ymarferol pwysig y mae'r rheoliadau hyn yn ei gyflwyno.
Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Does dim lot o amser. Gwnaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu: Suzy Davies, Bethan Sayed, Mick Antoniw, Caroline Jones, David Melding—roeddwn i'n hoffi hynna—ac, wrth gwrs, y Gweinidog, er doeddwn i ddim yn cytuno.
I gloi, roeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r amser jest i esbonio yn ehangach pam mae hyn mor bwysig a pam mae'r rheoliadau mor annigonol. Achos mae yna fater ehangach yn fan hyn, a hynny ydy gwerth clinigol darparu gwasanaeth mewn mamiaith y claf—y bobl oedd yn absennol o'ch araith chi—sef gwella ansawdd y gofal; dyna ydy'r pwynt, ar ddiwedd y dydd.
Mae'r dadansoddiad, mae'r diagnosis, dŷn ni'n ei wneud yn dod ar sail y hanes mae'r claf yn ei ddarparu i'r meddyg neu'r nyrs mewn 90 y cant o achosion. Felly, y pwynt allweddol yn fan hyn ydy: dŷn ni'n dod i'r ateb wrth wrando ar iaith y claf, ac mae hynny'n dibynnu ar ruglder—hynny yw, pa mor rhugl ydy'r person, fel rheol yn Saesneg, achos dyna ydy'r sefyllfa efo pobl Cymraeg iaith gyntaf. Mae pobl yn credu,
'O, rydych chi i gyd yn gallu siarad Saesneg'. Mae hynny'n wir, ond nid pawb sy'n hyderus ac yn rhugl, neu'n hyderus rugl hyd yn oed, ac nid pawb sy'n meddu ar ddealltwriaeth Felding-aidd o fanylder a chystrawen yn eu hail iaith.
Achos, yn enwedig efo plant, efo'r henoed, efo pobl â dementia a strôc—dŷn ni'n colli ein hail iaith. Mae darpariaeth yn y Gymraeg yn hanfodol i wella safon y gofal iechyd, iddyn nhw allu dweud wrthych chi beth sydd yn bod arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, o ddarparu'r gofal yna, dŷch chi'n lleihau y defnydd o brofion costus fel profion gwaed, uwchsain, pelydr-x ac ati, achos dŷch chi eisoes wedi dod i'r casgliad, i'r dadansoddiad, ar sail hanes y claf yn ei mamiaith.
Nawr, mae'r gwasanaeth iechyd wedi dod yn hwyr yn y dydd i'r busnes cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg. Mae pobl wastad wedi dweud wrthyf i ei bod yn ddigon anodd cael meddyg o gwbl, heb sôn bod yn rhaid iddyn nhw siarad Cymraeg, ac rydyn ni wedi clywed hynny pnawn yma. Dyna ydy'r gri groch arferol. Ond ŷch chi'n gwybod beth? Hyd yn oed yn ninas Abertawe mae pedwar meddyg yn fy mhractis bach i yn siarad Cymraeg, heb sôn am y nyrsys ac eraill, yn Abertawe—'scersli belif' buasai pobl yn dweud, ond dyw e ddim yn syndod o gofio bod 31,000 o gleifion dinas Abertawe hefyd yn siarad Cymraeg ac yn haeddu darpariaeth safonol gan y tîm gofal sylfaenol, heb balu amheuon am y peryglon o'r fath ddarpariaeth. Pleidleisiwch o blaid y cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ddysgu hanes Cymru, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7068 Sian Gwenllian, Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, a hoffwn i gynnig yn ffurfiol.
Hoffwn i, cyn dechrau, ddiolch ar ddechrau'r drafodaeth yma i ambell i berson. Diolch i Suzy Davies am gefnogi a hybu'r ddadl. Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich sylwadau cloi chi'n nes ymlaen. A diolch i'r rheini a ddaeth ac a gyfrannodd i seminar diweddar wnes i ei gynnal fan hyn yn y Senedd ar hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd. Fe gawsom ni drafodaeth ddifyr a chynhyrchiol gan arbenigwyr yn y maes, a chlywed cyflwyniadau gan Eryl Owain, o Ymgyrch Hanes Cymru, Euryn Roberts, hanesydd o Brifysgol Bangor, Martin Johnes, hanesydd o Brifysgol Abertawe, ynghyd ag athrawon ac eraill. Buaswn i hefyd yn leicio diolch i'r rheini sydd wedi dangos diddordeb mawr yn y ddadl yma heddiw yma. Mae'n amlwg bod yna dân yn y bol i gael trafod y pwnc yma, a dwi'n gwybod bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cynnal balot i weld pa bwnc ddylai gael sylw ganddyn nhw, ac roedd hanes Cymru ymhell ar y brig. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld argymhellion y pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad.
Mae'n amserol cynnal y ddadl yma heddiw yma oherwydd bod cwricwlwm Cymru'n cael ei ail-gynllunio. Mae'r cwricwlwm yn cylchdroi o amgylch sgiliau yn hytrach na chynnwys. Mae yna gryfder yn hynny o beth, ond mae o'n gallu codi problemau, ac mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny. Mae hanes—yn hytrach na hanes Cymru—yn cael ei enwi mewn rhestr o bynciau sydd i'w dysgu o dan y pennawd 'dyniaethau', sef un o'r ardaloedd dysgu a phrofiad newydd. Mae'r dyniaethau'n cynnwys daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, cymdeithaseg ac yn y blaen. Maen nhw wedi'u plethu i'w gilydd, ac felly dydy cwricwlwm Donaldson ddim yn gosod unrhyw sylfaen ar gyfer dysgu hanes Cymru fel y cyfryw. A beth sy'n fy mhoeni i am hyn ydy, wrth beidio â chynnwys hanes Cymru o fewn y fframwaith, does yna ddim seilwaith na sicrwydd y byddai hanes Cymru a digwyddiadau hanesyddol o fewn hanes Cymru yn cael eu cynnwys mewn gwersi wrth ddilyn y cwricwlwm newydd. Mae angen troi hynny ar ei ben, ac fe all y cwricwlwm fod yn gyfle arbennig i sicrhau nad yw unrhyw ddisgybl yn colli'r cyfle i ddysgu am hanes Cymru.
A dwi'n awgrymu gwelliant bach syml: dwi'n awgrymu bod 'hanes' yn y rhestr yna o bynciau yn cael ei newid i 'hanes Cymru a'r byd' fel bod ein hasesiad a'n hastudiaethau o hanes y byd yn dod o lens ein persbectif Cymreig. Mae dysgu am hanes Cymru yn allweddol ar gyfer ein cenedlaethau nesaf a'u gwneud nhw'n ddinasyddion gwybodus ac ymgysylltiedig, sef un o ddibenion mawr y cwricwlwm newydd. Yn bresennol, mae yna ofyniad yn y cwricwlwm drafft am ddimensiwn Cymreig, a hynny'n rhedeg drwyddo fo, ond dydy hwnnw ddim yn ganolog i'r cwricwlwm ac mae o'n un llinyn o nifer.
Yr egwyddor tu ôl i'r cwricwlwm newydd ydy rhoi rhyddid i athrawon i fod yn greadigol pan yn dysgu eu pwnc, ac, yn sicr, mae hynny'n ganmoladwy ac yn dangos cydnabyddiaeth o allu ein hathrawon ni, ond mae perig i argymhellion y Llywodraeth arwain at anghysondeb, ac fe fyddai arferion da sy'n cael eu gweithredu mewn mannau ar hyn o bryd ddim yn cael eu lledu. Felly, mae angen manylder ar sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu, ac yn enwedig o gofio'r toriadau sydd yn digwydd i gyllidebau ysgolion.
Pwynt pwysig i gadw mewn cof ydy bod dysgu hanes Cymru yn rhan o'r cwricwlwm presennol—i fod. Ond dŷn ni'n gwybod bod miloedd ar filoedd o ddisgyblion wedi bod yn gadael yr ysgol efo dealltwriaeth manwl o hanes yr Almaen Natsïaidd ac enwau chwech gwraig Harri'r VIII, ond nid am hanes eu gwlad eu hunain. Felly, dim deddfwriaeth, dim cynnwys a geiriau cwricwlwm o angenrheidrwydd sydd yn mynd i wneud y gwahaniaeth, ond mae'n bwysig bod hanes Cymru'n cael ei wreiddio yn y ddeddfwriaeth newydd. Ond, fel dwi'n ei ddweud, dydy deddfu ar ben ei hun ddim am greu'r newid dŷn ni am ei weld. Yr un mor bwysig ydy magu arbenigedd o fewn y gweithlu, hyfforddiant priodol, ac, yn bwysig iawn, datblygu adnoddau newydd, cyffrous, gan adeiladu ar yr hyn sydd ar gael yn barod. A rhan o’r broblem ydy'r diffyg gwybodaeth, hyder ac ymwybyddiaeth o fewn ein gweithlu. Efallai nad ydy’r athrawon eu hunain wedi cael cyfle i astudio hanes Cymru yn yr ysgol, ac mae’n rhaid inni dorri ar y cylch yna.
Sôn am yr adnoddau, mae nifer o’r adnoddau yn rhai sydd yn Lloegr-ganolig ac mae yna lawer o adnoddau sydd ddim yn berthnasol, mewn gwirionedd. A beth sydd yn anodd ydy i athrawon gael amser i greu defnyddiau addas ac i ddatblygu syniadau efo athrawon eraill. Mae’r toriadau ar gyllid ysgolion a phrinder staff yn gwneud hynny’n gynyddol anodd, ac mae yna le i brifysgolion hefyd helpu efo’r gwaith o greu’r adnoddau ar y cyd â’r athrawon, ond mae hynna angen ei gefnogi efo arian, ac mae angen rhoi digon o amser i hynny ddigwydd, ac mae angen rhaglen hyfforddiant mewn swydd hefyd, a hynny ar raddfa eang efo cyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud ddydd Mawrth wrth fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd—mi ddywedodd e hyn: bydd hanes Cymru yn rhan ganolog o’r cwricwlwm newydd gydag adnoddau digonol i gefnogi’r gwaith. Gwych. Ond sut mae sicrhau hynny? Mae angen cynllun a ffrydiau gwaith a meini prawf sydd yn mynd i droi’r datganiad yna yn realiti.
Mae hunaniaeth Gymreig yn fyw ac yn iach; mae mwy a mwy o bobl yn falch o’u Cymreictod. Mae pobl yn falch o’u gwreiddiau ac eisiau canfod mwy am bwy ydyn ni fel Cymry. Mae yna ddyletswydd i ymateb i hynny; mae’r dyhead yn amlwg. Rydym ni wedi gweld y diddordeb ymhlith ein pobl ifanc wrth i’r murluniau i gofio boddi cwm Tryweryn godi ar draws y wlad. Ac mae yna ddiddordeb mawr yn y cyfrif Trydar @1919race riots sy’n trydar fel petai ddigwyddiadau terfysgol hiliol y Barri a Chasnewydd ym Mehefin 1919 yn digwydd heddiw. Mi oedd yna gyffro o gwmpas sioe gerdd Tiger Bay, a ddatblygwyd gan Ganolfan y Mileniwm, am hanes dociau amlddiwylliannol a diwydiannol Caerdydd. Tair enghraifft o ddod a’n hanes yn fyw mewn modd creadigol, dirdynnol a real sydd wedi tanio’r awydd yma ym mhobl ifanc i ddysgu mwy. Mae pob cenedl angen gwybod ei stori—beth sydd wedi ei ffurfio, beth yw ei gorffennol.
Dylai pob disgybl dderbyn yr un cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn ei holl ffurfiau a’i ddehongliadau mewn ffordd sy’n eu herio nhw ac yn eu hysbrydoli nhw. Mae yna gyfle gwirioneddol efo’r cwricwlwm newydd ac efo’r gwaith sydd yn digwydd o gwmpas hynny i unioni’r cam. Mae’n bryd i’r genhedlaeth nesaf gael gwybod ein stori ni a’n lle ni yn y byd. Diolch.
Wel, mae'r gorffennol yn hysbysu'r dyfodol. Mae llawer o'r mythau a'r chwedlau sydd wedi ffurfio treftadaeth a diwylliant Cymru yn cyfeirio’n ôl at orffennol cyffredin yr Hen Frythoniaid a oedd yn byw ledled Prydain, ac a elwid yn 'Wælisc', neu 'Welsh' neu 'estron' gan y goresgynwyr, ond a gyfeiriai at ei gilydd fel cydwladwyr, fel 'Cymry'. Weithiau, clywn am oes y Rhufeiniaid, goresgyniad Ynys y Derwyddon, caer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon, ac yn fwy diweddar, y filâu Rhufeinig a ddarganfuwyd mewn anheddiad ar lannau gorllewinol y Gymru fodern. Clywn am y goncwest Normanaidd yng Nghymru a'r cestyll a adnewyddwyd neu a adeiladwyd ganddynt. Mae angen i ni glywed mwy am y darn tywyll hwnnw o hanes rhwng y cyfnodau hynny, sy’n ymwneud â chymaint o dreftadaeth wych ac sy’n cynnwys gwir darddiad chwedlau Arthur.
Dywedir, am gyfnod byr o amser, fod y Brythoniaid Rhufeinig o'r gorllewin, o Ystrad Clud i Gernyw a Llydaw, wedi sefyll yn unedig yn erbyn y goresgynwyr a feiddiodd gyfeirio atynt fel 'estroniaid' yn eu gwlad eu hunain. Adennill y tiroedd a gollwyd ac aduno llwythau Prydain oedd eu hetifeddiaeth. Ysgogwyd y Goncwest Normanaidd yn Iwerddon a Phrydain gan chwedlau Brutus ac Arthur, fel y cawsant eu hailysgrifennu gan Sieffre o Fynwy ar gyfer ei feistri Normanaidd. Yn ystod gaeaf 1069-70, bu farw 100,000 o wŷr Prydain yn yr ymgais i gyflawni hil-laddiad yng ngogledd Lloegr gan y Normaniaid—anrhaith y gogledd—naill ai yn y laddfa gychwynnol neu o ganlyniad i'r newyn a ddilynodd. Ac eto, ni saif unrhyw gofeb i nodi'r golled ofnadwy hon. Roedd y gwrthryfeloedd yn 1070 gan Hereward Effro yn Lloegr, yn 1294 gan Madog ap Llywelyn yng Nghymru, ac yn 1297 gan William Wallace yn yr Alban oll yn wrthryfeloedd gan wŷr Prydain yn erbyn gormes y Normaniaid.
Ymladdodd tad ac ewythr Robert I, brenin yr Alban, dros frenin y Normaniaid, Edward I, 'morthwyl yr Albanwyr', yn ngoresgyniad Cymru ym 1282-84, gan fod arnynt wasanaeth milwrol yn gyfnewid am eu tiroedd yn Lloegr. Credir bod Robert ei hun wedi treulio peth amser yn llys Edward yn ystod y cyfnod hwn ac efallai ei fod ef ei hun wedi bod yn rhan o’r ymladd. Wrth wasanaethu marchog o sir y Fflint, Syr Gregory Sais, treuliodd Owain Glyndŵr a'i frawd Tudur gyfnod yn gwarchod Caerferwig ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban, ac ym 1385, ymunodd Owain a thri aelod arall o'r teulu â'r fyddin a arweiniodd brenin olaf y Normaniaid, Rhisiart II, yn erbyn yr Alban. Ar ôl gwasanaethu'r brenin Plantagenetaidd olaf yn ufudd, aeth ati wedyn i gynllwynio gyda theulu Percy a theulu Mortimer i rannu'r deyrnas yn dair rhan.
Roedd Harri VII yn hanu o hen deulu ar Ynys Môn, a oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Gadwaladr, brenin hynafol olaf Prydain yn ôl y chwedlau. Roedd yn ddisgynnydd ar ochr ei dad i Ednyfed Fychan, distain neu stiward Gwynedd, a thrwy wraig y distain i Rys ap Tewdwr, brenin Deheubarth yn ne Cymru. I feirdd Cymru, roedd cred mai Harri oedd y mab darogan a fyddai'n rhyddhau'r Cymry rhag gorthrwm. O'r herwydd, pan esgynnodd i'r orsedd, fe adunodd y Brythoniaid Rhufeinig yn y gorllewin â'u cydwladwyr—y Cymry yn y tiroedd coll i'r dwyrain.
Priododd merch Harri VII, Marged, aelod o'r teulu brenhinol yn yr Alban. Ei disgynnydd uniongyrchol oedd Iago VI o'r Alban, a olynodd Elisabeth I ar orsedd Lloegr ym 1603 ac felly daeth yn Frenin Iago I ar y Deyrnas Unedig, gan uno'r Alban â gweddill y DU drwy etifeddiaeth yn hytrach na choncwest, yr undeb gwleidyddol ac economaidd a basiwyd gan Seneddau Lloegr a'r Alban 104 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae Elisabeth II yn ddisgynnydd uniongyrchol i Harri VII drwy ei ferch Marged, chwaer hŷn Harri VIII.
Roedd boddi pentref Capel Celyn yng ngogledd Cymru ym 1965 i greu cronfa i ddarparu dŵr i Lerpwl yn adleisio digwyddiadau yn swydd Gaerhirfryn ganrif yn gynharach pan adeiladwyd cadwyn o gronfeydd dŵr Rivington i gyflenwi dŵr i Lerpwl, pan foddwyd llawer o anheddau mewn cymunedau lleol a thir melino a thir ffermio, a do, cafwyd protestiadau yn Lerpwl.
Mae achosion economaidd ac effaith gymdeithasol hanes diwydiannol modern hefyd yn ddall i ffiniau. Ar ôl 1970, diflannodd y diwydiant glo i bob pwrpas yng ngogledd a de Cymru, yn ogystal ag yn Northumberland a Durham, swydd Efrog, canol yr Alban, swydd Gaerhirfryn, Cumbria, dwyrain a gorllewin canolbarth Lloegr a Chaint. Caewyd gweithfeydd dur yn 1980 yn Shotton, Consett a Corby. Mae mythau’r gorffennol a gwirioneddau’r presennol fel y rhain yn cyfuno i greu chwedlau sylfaenol ein gwlad. Mae hanes Cymru a hanes y Prydeinwyr, felly, yn cydblethu ac yn anwahanadwy, a dylid eu haddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru ar y sail hon.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, oherwydd rwy'n gobeithio bod hanes yn fwy i ni na dim ond rhestr o ddyddiadau a dealltwriaeth o'r bonedd a'r uchelwyr. I mi, mae hanes yn llawer mwy na hynny. Mae'n cynnwys hanes ein pobl, hanes ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein heconomi. Ni allwn gael hanes economaidd heb Robert Owen a'r effaith y mae'n dal i'w chael heddiw, ac rwy'n siarad fel Aelod Cydweithredol o'r Senedd hon. Cefais fy magu yn y diwylliant a grëwyd o ganlyniad i ddiwydiannu, ac yn sicr mae'n rhaid i ni ddeall hanes strwythurol ein gwlad, os mynnwch.
Bydd y Gweinidog yn gwybod hanes Cilmeri a'i bwysigrwydd i ni, ac mae'n bwysig fod fy mab yn gwybod yr hanes hwnnw hefyd. Ond yr wythnos diwethaf wrth gwrs, ymwelodd y Gweinidog â thramffordd Brinore yn ei hetholaeth yn Nhal-y-bont. Nawr, pe bai'r Gweinidog wedi cerdded ar ei hyd, byddai wedi cyrraedd fy etholaeth i yn Nhredegar, a phe bai wedi cerdded ar draws y bryniau a cherdded drwy Drefil, byddai wedi mynd heibio i'r Ogof Fawr. Nawr, treuliais 30 mlynedd yn chwilio amdani, rwy'n gobeithio y byddai hi'n cael mwy o lwc. Byddai wedi gwybod hanes yr Ogof Fawr lle cadwyd arfau cyn i Zephaniah Williams siarad â'r bobl yn Nhredegar yn Twyn Star—mwy na thebyg mai yn Gymraeg y siaradodd—a'u harwain i Westy'r Westgate yng Nghasnewydd ar y penwythnos gwlyb hwnnw ym mis Tachwedd. Dyna'r pethau sy'n ein cysylltu. Maent yn cysylltu sir Frycheiniog a Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.
Pan oeddwn yn yr ysgol, dysgais am y chwyldro diwydiannol—glo, mwyn haearn, coed a dŵr yn cyd-ddigwydd ym Mlaenau'r Cymoedd gan sbarduno chwyldro diwydiannol—ond dysgais hefyd am hanes pobl a grëwyd o ganlyniad i'r chwyldro diwydiannol hwnnw a diwylliant a grëwyd gan y bobl hynny. Dysgais am y faner goch yn cael ei chwifio yn yr awyr gan weithwyr Merthyr, a dysgais pam roeddent yn gwneud hynny. Dysgais hefyd am 'black domain' y Teirw Scotch a orfododd y streiciau yn Nhredegar.
Dysgais hefyd lle roedd y gweithfeydd haearn yn Nhredegar. Nid oes arwydd yno heddiw, ond mae yna giât i hen weithfeydd yr NCB, sy'n dweud stori arall wrthym am ein hanes. Mae hwnnw'n hanes nad oedd o reidrwydd ar y cwricwlwm, ond fe'i clywais gan athrawon ysbrydoledig. Rwy'n dal i alw 'Mr Darkins' yn Mr Darkins ac nid 'Jeff'. Fe wnaeth fy ysbrydoli i ddysgu am y Siartwyr ac fe wnaeth fy ysbrydoli i ddysgu am bwy oeddem ac o ble y daethom. A PJ—Peter Morgan Jones—a ddysgodd bob un ohonom am hanes yr hyn yw Cymru'n digwydd bod; treuliodd amser yn siarad â ni am y Tad Ignatius, wrth gwrs, yng Nghapel-y-ffin, yn ogystal. Felly, mae gennym hanes diwylliannol, hanesyddol a chrefyddol, llawer mwy na rhywbeth sy'n digwydd mewn ystafell ddosbarth ac sy'n cylchdroi o gwmpas dyddiadau.
Gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn siarad â ni am yr hyn y mae wedi'i alw yn ei gwaith yn 'gynefin', sy'n air bendigedig yn fy marn i, gair na ellir ei gyfieithu, sy'n dweud wrthym o ble rydym yn dod, lle rydym yn byw, lle mae ein teulu'n byw a lle mae ein pobl yn byw. Gobeithio bod y cysyniad o gynefin, y syniad mai'r hyn y cawsom ein gwneud ydym ni, yn rhywbeth na chaiff ei gyfyngu i wers hanes. Gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi economaidd, gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi daearyddiaeth, gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi iaith, gobeithio y bydd yn rhan o greu dinesydd sy'n deall, nid yn unig yr hyn a ddigwyddodd a phryd y digwyddodd, ond sut y mae hynny wedi effeithio arnom heddiw.
Gadewch i mi ddweud hyn wrth gloi. Rwy'n credu bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o wneud hyn y tu allan i'r ysgol hefyd. Oherwydd fe ddysgodd Mr Darkins a PJ fi y tu allan i'r ystafell ddosbarth lawn cymaint ag y gwnaethant yn yr ystafell ddosbarth, drwy ein hysbrydoli i ddarganfod mwy. Mae pawb o fy nghenhedlaeth i yn deall ac yn cofio Gwyn Alf a Wynford Vaughan-Thomas yn dadlau ar draws y wlad a thrwy'r cenedlaethau yn The Dragon Has Two Tongues. Un o'r protestiadau cyntaf y bûm ynddi oedd protest i gofio terfysg Merthyr ac i gofio'r hyn a ddigwyddodd yno. Siaradodd bryd hynny am ei hanes personol fel un o feibion Dowlais, ond siaradodd hefyd am ei brofiadau ar draethau Normandi, wrth iddo ymladd mewn rhyfel a ddisgrifiodd fel rhyfel y bobl yn erbyn ffasgiaeth—unwaith eto, mae hynny'n atseinio drwy'r oesoedd.
Nid yw hanes bob amser yn gyfforddus ac nid yw bob amser yn gyfleus ac nid yw bob amser yn hawdd. Ar hyn o bryd, rydym yn cofio'r terfysgoedd hil yng Nghaerdydd. Siaradais â phobl gartref yn Nhredegar ynglŷn â chofio canrif wedi'r terfysgoedd gwrth-Iddewig ym 1911. Nid oeddent eisiau cofio hynny. Roedd cywilydd arnynt am yr hyn a ddigwyddodd yn ein tref yn ein henw ni a chywilydd am yr hyn a wnaeth hynny i ni, yn enwedig yn awr a ninnau'n dal i frwydro yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn y wlad hon. Felly, mae ein hanes yn cynnwys mwy na'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, mae'n cynnwys pwy ydym ni heddiw, a'n cyfrifoldeb ni fel seneddwyr ac fel arweinwyr y wlad hon yw sicrhau bod ein hanes yn aros yng nghalonnau a meddyliau ein pobl wrth i ni geisio creu dyfodol i'n pobl.
Ar 13 Ebrill eleni, fe wnaethom ddihuno i'r newyddion fod fandaliaid wedi dinistrio rhan o furlun 'Cofiwch Dryweryn' ger Aberystwyth. Yn ddiau, roedd yn weithred wleidyddol, ac mae wedi arwain at ymdrechion i atgynhyrchu'r murlun ledled Cymru. Ond yr elfen fwyaf barbaraidd i mi oedd y ffaith eu bod wedi chwalu drwy'r gair 'cofiwch'—ymgais i ddileu a chwalu ein cof am ein gorffennol.
Nawr, mae lle i godi henebion. Rydym yn dda am wneud hynny yng Nghymru. Ond er mwyn i ni deimlo ymdeimlad o berchenogaeth ar yr adegau canolog hynny yn ein hanes, yn dda a drwg, mae'n rhaid i ni gael ein dysgu amdanynt. Mae hyn yr un mor wir am hanes diweddar ag ydyw am ddysgu am Brythoniaid cynnar. Er mwyn deall lle rydym, beth ydym, mae'n rhaid i ni wybod beth a'n lluniodd. Yr hyn sy'n ddiymwad yw ein bod yn genedl o storïwyr, yn ôl i benillion Aneirin a Taliesin yn y chweched ganrif i'r cyfarwyddion a'r Gogynfeirdd a adroddodd ein chwedlau, hanesion yr aelwyd a straeon gwerin i dorfeydd o bobl a'u tywysogion. Straeon dychmygol, fel y dywedodd Gwyn Alf Williams, oedd y ffordd gyflymaf dros y mynyddoedd. Mae straeon wedi ein maethu. Maent wedi ein rhwymo gyda'n gilydd. Ac mae hynny'n sicr yn wir am ein straeon ein hunain, ein hanesion ein hunain.
Rwy'n defnyddio'r gair lluosog 'hanesion', ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig dod o hyd i gyfleoedd yn y cwricwlwm newydd i gyfleu'r hanesion nad ydym yn gwybod cymaint amdanynt: y rhannau y mae'r Cymry wedi'u chwarae mewn digwyddiadau hanesyddol gwych mewn rhannau eraill o'r byd, fel y chwyldro Americanaidd, a cheisio dadorchuddio ffynonellau newydd hefyd, ffyrdd newydd o adrodd hanesion pobl na wnaeth ysgrifennu'r llyfrau hanes. Buaswn i'n cysylltu fy hun hefyd â galwadau i sicrhau bod ysgolion yng Nghaerdydd yn addysgu disgyblion am y terfysgoedd hil a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl. Mae Cymru'n parhau i gael ei chyfoethogi gan y llu o ddiwylliannau sydd wedi cyfrannu at ein straeon, ac ni ddylem osgoi digwyddiadau hyllach yn ein gorffennol er mwyn i ni allu dysgu oddi wrthynt.
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at y bardd hwnnw o'r chweched ganrif, Aneirin. Mae ei gampwaith, 'Y Gododdin', yn record lenyddol o luoedd y Gododdin a fu farw mewn brwydr yn yr Hen Ogledd, ardal ger Catterick, neu Catraeth, i roi ei enw Brythoneg. Mae'n amhosib gorbwysleisio arwyddocâd llenyddol a hanesyddol y gerdd hynod hon, gan ei bod ymysg yr hynaf o'i math yn Ewrop—ac mewn sawl ffordd, hap a damwain oedd y ffaith iddi oroesi. Mewn un llinell hynod ddirdynnol, mae Aneirin yn dweud mai 'tawelwch fu' ar ôl y frwydr. Ychydig iawn o dystiolaeth hanesyddol sy'n bodoli ynghylch pobl y Gododdin a'r frwydr a'u dinistriodd. Mae hanes yn dawel yn eu cylch. Mae hyn ond yn profi pa mor bwysig yw adrodd yr hanesion sydd wedi goroesi.
Allwn ni ddim bod yn rhy gyfarwyddol, wrth gwrs, ac mae'n rhaid cael gofod i ysgolion ac athrawon benderfynu'r ffordd orau i blethu hanes lleol i mewn i'w gwersi. Mae sawl ffordd o ddysgu hanes. Nid oes anghenraid iddo fod yn gronolegol nac yn ganonaidd. Gellir dadlau bod llawer gormod o hanes yn rhoi gormod o bwyslais ar weithredoedd brenhinoedd a breninesau, gan esgeuluso profiad pobl gyffredin o wrthryfeloedd lleol a'r newid yn y ffordd oedd y werin yn gweld eu hunain a'u pwysigrwydd o fewn cymdeithas—straeon fel helyntion Beca, Siartwyr Casnewydd a Dic Penderyn. Os yw'r cwricwlwm yn rhy amwys o ran creiddioldeb hanes Cymru, mae peryg y bydd yn cael ei israddio i'r cyrion, neu gael ei ddefnyddio fel troednodyn i hanes byd-eang.
I gloi, Lywydd, hoffwn ddyfynnu rhagor o eiriau gan Gwyn Alf Williams, a dynnodd sylw at y ffaith bod y Cymry wedi creu eu hunain drwy adrodd ac ailadrodd eu stori o un genhedlaeth i'r llall. Dywedodd mai arteffact yw Cymru, un y bydd y Cymry'n ei gynhyrchu os dymunant wneud hynny. Mae'n galw am weithred o ddewis. Nawr, rwyf wedi siarad am furluniau ac arteffactau yn fy nghyfraniad heddiw, ond rwy'n gobeithio fy mod hefyd wedi egluro nad yw hanes Cymru ond yn ymwneud â cherrig a meini'n unig; mae'n ymwneud â gwrthryfeloedd, munudau annisgwyl, newidiadau ar amrantiad. Dylai plant ledled Cymru ddysgu amdano yn ei holl ogoniant.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn mwynhau'r areithiau yn y ddadl gyfareddol a phwysig hon. Pan oedd Alun yn sôn am brofiadau Gwyn Alf yn Normandi—mae 75 mlynedd ers hynny; roedd yn briodol iawn ein bod wedi clywed hynny—roeddwn yn meddwl efallai y byddech yn symud ymlaen at Wynford Vaughan-Thomas a'i hunangofiant bendigedig lle mae'n disgrifio sut y glaniodd yntau gyda'r cynghreiriaid yn ne Ffrainc cyn ymladd ei ffordd drwy Fwrgwyn, dan fygythiad achlysurol gan y Wehrmacht a bygythiad cyson lletygarwch Ffrengig. Mae'n gofnod anhygoel o'i brofiadau, ond am gymeriadau bendigedig oeddent.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r ffaith bod Alun wedi cyfeirio at athro, ac rwyf am dalu teyrnged i Roy Adams, a oedd yn bennaeth hanes yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin pan oeddwn yno yn y 1970au hwyr. Nawr, rwy'n sylweddoli bod honno'n adran hanes ragorol. Ar y pryd, rydych yn credu ei bod yr un fath ym mhobman. Roedd y cysyniad o addysgu hanes Cymru wedi'i integreiddio drwy'r cwricwlwm cyfan, o ran y pwysigrwydd a roddwyd iddo, ond hefyd o ran y teimlad a'r modd y cysylltai â hanes Prydain ac Ewrop—a dyna a ddylai ddigwydd, wrth gwrs. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siŵr fy mod wedi profi ei alwedigaeth, ond byddai'n falch o wybod, rwy'n credu, i mi wneud cwis y BBC—gobeithio eich bod chi i gyd wedi gwneud hwnnw—ac fe gefais bob un yn gywir, yn rhyfeddol. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf; rwyf wastad wedi bod yn orchestwr i ryw raddau ac ni ddylwn frolio, ond fe gefais i bob un yn gywir.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynwesu'r hyn sy'n ein creu ni. Mae hanes bob amser yn cael ei greu. Y tu hwnt i ffeithiau moel a thrychinebau naturiol a'r digwyddiadau creulon, mae'n ymwneud â phwysigrwydd yr hyn a ddigwyddodd, sut rydym yn deall mwy. Mae'r ffordd yr edrychwn ar frwydr Bosworth yn wahanol iawn i'r ffordd yr edrychai'r Edwardiaid arni. Mae'r olwg a gawn ar y diwygiad yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn a gredid ar anterth anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae angen archwilio'r pethau hyn yn gyson.
Ond trof yn ôl at y Cwricwlwm Cymreig, a gyhoeddwyd yn 2012, a chredaf ei fod yn eithaf arloesol yn ddweud bod angen archwilio pwysigrwydd hanes Cymru. Roedd yr adroddiad hwnnw'n gytbwys iawn gan ei fod yn dweud fod addysgu hanes y gwledydd cartref yn y DU yn wael at ei gilydd. Credaf mai hyn sydd i gyfrif hefyd am ddiffyg dysgu hanes Lloegr, hanes yr Alban a hanes Iwerddon yn ogystal, efallai, er bod hyn yn mynd y tu hwnt i fy nealltwriaeth fanwl i. Ond ym Mhrydain, rwy'n credu ein bod wedi bychanu pwysigrwydd y gwledydd cartref fel rhan o brofiad Prydeinig ehangach. Nawr, ni fydd rhai pobl yn cytuno â dimensiwn gwleidyddol hynny, ond mae'r dimensiwn cymdeithasol, diwylliannol a daearyddol wedi bod yno erioed, a chredaf fod angen i hynny fod yn amlwg wrth addysgu hanes Cymru.
Ond rwy'n cymeradwyo'r hyn a ddywedodd yr adroddiad yn 2012, oherwydd credaf ei bod yn eithaf heriol, mewn gwirionedd, y dylai hanes Cymru fod yn ganolog i brofiad myfyrwyr Cymru, fel bod pawb yn cael y profiad a gefais yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin. Rwy'n credu ei fod yn bendant yn rhywbeth a all ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar ganllawiau. Dylai'r deunyddiau—rwy'n credu, unwaith eto, fod yr adroddiad hwnnw wedi dweud y dylai sefydliadau sy'n cael eu hariannu ar sail treftadaeth yng Nghymru fod yn rhan o ddatblygu deunyddiau cwricwlwm yn ogystal â—. Lle cefais fy magu, gallech fynd i Fynachlog Nedd a gweld canlyniad ffisegol y diwygiad, ac mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc yn cael y profiad hwnnw.
Rwyf am orffen, fodd bynnag, drwy sôn am bwysigrwydd dealltwriaeth y cyhoedd o hanes Cymru, sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol ac ymhell y tu hwnt i Gymru. Rwy'n credu bod dealltwriaeth y cyhoedd o hanes Cymru yng ngweddill y DU yn fychan iawn yn ôl pob tebyg, o ran y rheini nad ydynt yn Gymry a'r hyn a gânt hwy. Credaf eu bod ar eu colled. Faint o bobl yn Lloegr sy'n sylweddoli arwyddocâd eu henwau lleoedd? Faint o bobl yng nghanol yr Alban a'r cyffiniau—Glasgow a llefydd tebyg—sydd ag unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o deyrnas Ystrad Clud? Euthum i Amgueddfa Genedlaethol yr Alban unwaith a gofyn, 'A oes gennych unrhyw gasgliad neu ddeunydd ar deyrnas Ystrad Clud?' a dywedwyd wrthyf, 'Na, amgueddfa'r Alban yw hon.' Nid yw eu cysyniad hwy o'r Alban yn cynnwys teyrnas Ystrad Clud. Credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei gwestiynu gan nad wyf yn credu y gallwch ddeall hanes Prydain a hanes Cymru heb ddeall bod y gweithiau mawr y cyfeiriwyd atynt yn gynharach, y rhai gwreiddiol, yn tueddu i gael eu canfod yn y rhan honno o'r wlad rydym yn ei galw'n Alban yn awr.
Yn olaf, roedd gan yr Amgueddfa Brydeinig arddangosfa eithaf da ar y gwareiddiad Celtaidd ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond prin iawn oedd ei thriniaeth o Gymru. Roedd yna rywfaint bach, ond roedd hi bron fel pe bai'r gwareiddiad Celtaidd wedi anweddu. Nid chaech unrhyw ymdeimlad o, 'O, fe wnaeth barhau, mewn gwirionedd, drwy iaith, diwylliant a llenyddiaeth Cymru—ac yn wir, mewn rhannau eraill o'r DU, Sbaen a Ffrainc.' Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei herio. Mae'n bwnc gwirioneddol dda ar gyfer y ddadl meinciau cefn hon, ac rwy'n canmol Siân am ei gyflwyno.
Nid wyf yn meddwl y dowch o hyd i Aelod yn y Siambr hon heddiw sy'n fwy angerddol ynglŷn â hanes Cymru ac addysgu hanes Cymru na fi, fel rhywun sydd â gradd mewn hanes a hanes Cymru o Brifysgol Caerdydd a gradd Meistr yn hanes modern Cymru o'r un sefydliad, ac yn bwysicach, rhywun a fu’n addysgu hanes mewn ysgol uwchradd yng nghyfnod allweddol 3, TGAU a Safon Uwch am 16 mlynedd i ddisgyblion o bob gallu, gan gynnwys y rheini mewn dosbarthiadau ADY penodol. Roedd hanes Cymru bob amser yn rhan allweddol o fy mywyd gwaith proffesiynol cyn i mi gyrraedd y lle hwn, ac rwy'n falch iawn o'r rôl y gallais ei chwarae'n bersonol yn helpu i addysgu miloedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd ynghylch angerdd, drama a hunaniaeth hanes ein cenedl.
Ac eto heddiw rwy'n ansicr a fyddaf yn gallu cefnogi'r cynnig hwn ai peidio, oherwydd credaf efallai nad ydych wedi meddwl drwyddo'n iawn. Fe wrandawaf yn astud ar sylwadau'r Gweinidog ar y mater cyn gwneud fy mhenderfyniad, ond hoffwn dynnu sylw at y pwynt mwyaf amlwg. Mae'n bwynt sensitif iawn, ond yn bwynt y mae angen ei wneud mewn gwirionedd.
Mae'r cynnig yn nodi y dylid addysgu hanes Cymru i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddieithriad. Nawr, mae hwn yn amlwg yn gynnig cyffredinol sy'n ystyried pobl ifanc fel màs unffurf, a chredaf fod hynny'n afrealistig mewn gwirionedd. Mae'n diystyru’r ffaith bod gennym rai disgyblion yn ein system ysgolion arbennig, nid pob un ohonynt, ond nifer, gydag anableddau dysgu cymhleth iawn. Er enghraifft, cymerwch ddisgybl sy’n ddall ac yn fyddar efallai, gydag anableddau dysgu sydd mor gymhleth fel y gallai cyflwyno sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol fod yn her sylweddol iddynt. I rai, mae eu haddysg yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd sylfaenol, ac yn briodol felly. Fel grŵp o wleidyddion, a bron bob un ohonom heb arbenigedd ym maes addysg, a ydym yn mynd i ddweud ein bod yn gwybod beth yw'r ffordd orau o addysgu'r disgyblion sydd â'r anghenion dysgu mwyaf cymhleth? A ydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr i weld a fyddai'r dull hwn yn bosibl neu'n fuddiol yn wir? Credaf mai'r ateb yw nad ydym wedi gwneud hynny, ond rwy’n mynd i wrando'n astud ar yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, a gobeithiaf y bydd yn gallu gwneud sylw ar y pwynt penodol hwnnw.
Nid yw hynny’n gyfystyr â dweud wrth gwrs mai carfan benodol yn unig a ddylai ddysgu hanes Cymru, a buaswn yn dadlau'n gryf na fu hyn yn wir erioed. Mae hanes Cymru bob amser wedi ei wreiddio'n gadarn yn y cwricwlwm cenedlaethol ar draws y cyfnodau allweddol, ac yn fy holl flynyddoedd o addysgu, nid wyf erioed wedi cyfarfod ag athro a fethodd wneud defnydd llawn o bynciau ac astudiaethau achos hanes Cymru yn eu holl wersi. Yn aml iawn y rhain oedd y rhai mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr hefyd. Felly rwy'n gwrthwynebu sylwadau Siân Gwenllian pan ddywedodd fod miloedd o ddisgyblion yn gadael yr ysgol bob blwyddyn heb ddealltwriaeth lawn o hanes Cymru, a tybed pa dystiolaeth a ddefnyddiodd ar gyfer y sylwadau hynny a ninnau’n gwybod nad yw Estyn erioed wedi gwneud unrhyw feirniadaeth systematig o’r modd y caiff hanes Cymru ei addysgu yn ein hysgolion.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi rôl ein sefydliadau hyfforddi athrawon yn y maes hwn hefyd. Treuliais flynyddoedd lawer yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, gyda Met Caerdydd a chyda’r Drindod Dewi Sant fel mentor ar gyfer myfyrwyr TAR mewn hanes. Yr hyn a welais oedd arferion da yn gyson, gyda nifer fawr o oriau o amser y dosbarthiadau prifysgol yn cael eu neilltuo i sicrhau bod myfyrwyr TAR, yn enwedig y rhai o'r tu allan i Gymru, wedi cwblhau eu cwrs gyda sylfaen drylwyr iawn mewn hanes Cymru ar ôl cael eu hasesu'n drwyadl yn yr ystafell ddosbarth mewn perthynas â chyflwyno hwnnw hefyd. Nid oes unrhyw reswm o gwbl dros awgrymu y bydd dim o hynny’n newid wrth i'r cwricwlwm newydd, 'Dyfodol Llwyddiannus', gael ei gyflwyno, hyd yn oed i'r sylwebydd mwyaf sinigaidd, ac yn anffodus mae'n ymddangos bod gennym rai o'r rheini yn y Siambr heddiw.
Mae'n wir ers amser maith y bydd athrawon yn addysgu'r pynciau y bydd eu myfyrwyr yn cael eu hasesu arnynt. Mae hanes Cymru bob amser wedi'i wreiddio'n gadarn yn y TGAU hanes, ac mae'n nodwedd gymharol gryf mewn meysydd llafur Safon Uwch hefyd, er fy mod yn cytuno y gellid gwneud mwy i'w wneud yn nodwedd fwy amlwg yma. Mae cynnwys y maes llafur diwygiedig ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch i gyd yn dal i fod angen datblygu persbectif Cymreig, ar adegau trwy fodiwlau hanes Cymru unigol ac ar adegau eraill drwy gysylltu hanes Cymru â phersbectif cenedlaethol neu ryngwladol. Cyhyd â bod hanes Cymru yn parhau i fod ar y maes llafur ar gyfer dosbarthiadau lefel arholiad, gallwch fod yn sicr y bydd yn cael ei addysgu, a'i addysgu'n dda—nid yn unig yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5, ond hefyd mewn cyfnodau allweddol cynharach wrth i athrawon baratoi eu disgyblion ar gyfer y dyfodol.
Fodd bynnag, buaswn hefyd yn dadlau'n gryf iawn mai’r cariad a'r brwdfrydedd naturiol dros hanes Cymru ymhlith y rhai yn y proffesiwn addysgu yw ei ased mwyaf, ac rydym yn gwneud cam mawr ag athrawon drwy awgrymu nad ydynt yn meddu ar y brwdfrydedd neu'r sgiliau i ymchwilio a chyflwyno gwersi ar bynciau sydd efallai’n anghyfarwydd. Enghreifftiau o hanes lleol yw'r ffordd orau oll o gael myfyrwyr i ymddiddori mewn pwnc. Mae athrawon yn gwybod hyn, cânt eu hysbrydoli gan hyn, ac maent yn gweithio'n galed iawn i gyflwyno gwersi’n seiliedig ar hyn hefyd. Felly, gadewch i ni ymddiried yn ein gweithwyr proffesiynol, gadewch i ni ymddiried yn ein system arholiadau, a gadewch i ni ymddiried yn ein pobl ifanc hefyd.
Ceir rhai stereoteipiau cysurus nad ydynt yn fygythiol pan fydd pobl y dyddiau hyn, yn y DU yn gyffredinol, yn teimlo bod angen cydnabod bodolaeth Cymru. Nid yw'n digwydd yn aml—fel arfer caiff Cymru ei hanwybyddu. Cafodd hyn ei nodi. Mae pobl yn dweud mai mythau a chwedlau yw ei hanes unigryw, hynafol hi. Nid oes unrhyw wirionedd o gwbl yn perthyn iddo, oes yna? Yr wythnos hon, rhoddwyd llawer iawn o sylw i’r ffaith bod Tom Watson AS yn cyhoeddi cynnig i newid polisi Llafur i ymgyrchu dros ail refferendwm a phleidlais dros aros. Dywedodd Mark Drakeford hynny eisoes bythefnos yn ôl. Ond digwyddodd hynny yng Nghymru; nid yw'n cyfrif. Nid yw hyd yn oed yn cael ei nodi.
Beth bynnag, y stereoteipiau cysurus hynny sydd gan bobl wrth iddynt geisio siarad am eu ffrindiau yng Nghymru: rydym i gyd yn canu mewn corau; rydym i gyd yn chwarae rygbi, pêl-droed bellach; rydym i gyd yn bwyta caws Caerffili, cawl, cennin. Stereoteipiau nad ydynt yn fygythiol, maent hyd yn oed yn deimladwy yn eu lle. Ond peidiwch, da chi, â chamgymryd rhwng hynny a mynegiant o ryddid cenedlaethol gwleidyddol.
Bu bron i mi dagu ar fy mhryd o fara lawr, cennin a theisennau cri yr wythnos hon pan ddarllenais yn y South Wales Evening Post am yr hen dafodiaith yn Abertawe—a'r hyn a olygai oedd Cymraeg, yr iaith Gymraeg. Nid hen dafodiaith, ond Cymraeg byw, ac un o ieithoedd byw hynaf Ewrop, a fu’n cael ei siarad ar lannau'r Tawe ers 2,000 o flynyddoedd, ac sy’n dal i gael ei siarad gan 31,000 o bobl yn Abertawe heddiw.
Mae dros 1,000 o eiriau Lladin yn y Gymraeg, achos roedd yr ieithoedd yma yn cydfyw efo'i gilydd pan oedd y Rhufeiniad mewn grym bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Cymraeg a ysgrifennwyd 1,500 mlynedd yn ôl i’w gweld yn Aberystwyth heddiw, Cymraeg a ysgrifennwyd yng Nghaeredin, a hen Gymraeg yn cael ei siarad dros ynys Prydain o Glasgow—fel y dywedodd David Melding, mae 'Glasgow' yn hen air Cymraeg—i lawr weddill ynys Prydain.
Ond fel sawl gwlad arall, wrth gwrs, mae gyda ni hanes o orthrwm hynod waedlyd drwy law'r Sacsoniaid ac eraill a gyrhaeddodd ynys Prydain o’r chweched ganrif ymlaen. A bu i ni frwydro am ein hannibyniaeth lawr y canrifoedd. Hywel Dda, Gwenllian, Llywelyn, Owain Glyndŵr—dyna ein hanes. Nid myth neu legend. A'n hanes gwerinol fel cadarnle anghydffurfiaeth a Christnogaeth, a phobl yn stopio yfed alcohol a chwarae rygbi adeg diwygiad 1904-05 ac am flynyddoedd wedyn. Dyna ein hanes. Nid myth na legend.
A therfysgoedd cyfrwng Cymraeg Merthyr Tudful, terfysgoedd y Siartwyr a therfysgoedd Rebeca—terfysgoedd yn hanes cydnabyddedig Prydain; gwrthryfeloedd yng nghof y werin, yng nghof gweithwyr. Terfysg Merthyr a Dic Penderyn yn dweud, 'Duw, dyma gamwedd' wrth iddo gael ei arwain at y sgaffald yn ddyn diniwed. Ac arweiniodd y gwrthryfeloedd hyn, fel y dywedodd Alun Davies, gwrthryfeloedd a gafodd eu cydlynu yn Gymraeg, at frad y llyfrau gleision wedi hynny a’r 'Welsh not', i guro'r iaith Gymraeg allan ohonom yn blant.
Roeddwn yn Dubrovnik rai blynyddoedd yn ôl, a dywedodd cychwr Croataidd yn yr harbwr, 'Ie, y Cymry, trigolion brodorol gwreiddiol ynysoedd Prydain. Rydym yn dysgu hynny yn ysgolion Croatia.' Byddai'n dda pe bai'n cael ei addysgu yn ysgolion Cymru.
A 'Cofiwch Dryweryn', yr achosion diweddar—. David
Rwy'n gyndyn i dynnu sylw at hyn, ond rwy'n credu ei bod yn ddadleuol iawn mai ni oedd pobl gynhenid ynysoedd Prydain. Roedd pobl wedi ymsefydlu ar ynysoedd Prydain yn union wedi'r oes iâ ddiwethaf. Er mor wych yw ein hetifeddiaeth Geltaidd, roedd pobl yma cyn hynny.
Roeddwn yn cyfeirio at y profiad ieithyddol cenedlaethol yn Croatia.
Cofiwch Dryweryn—gadewch i mi eich symud ymlaen rai milenia, David. Yr holl furluniau a baentiwyd yn ddiweddar i gofio am y modd y gorfodwyd pentref cyfan Cymraeg ei iaith yn 1965 i symud er mwyn darparu dŵr i Lerpwl—dŵr na chafodd ei ddefnyddio gan y ddinas honno wedyn yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig. Cafodd y wal hirsefydlog honno yng Ngheredigion, yn etholaeth y Llywydd, ei fandaleiddio'n ddiweddar, fel y gŵyr pawb ohonom. Ac mae pobl yn dweud, 'Ond mae pobl yn gwybod am Dryweryn, siŵr iawn—onid ydynt?' Wel, nid yw cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gwybod. Maent yn honni bod 'Cofiwch Dryweryn' yn hysbyseb a bod gofyn cael caniatâd cynllunio ar ei gyfer. Mae angen i bobl wybod hanes Cymru. Ni ddylai ddibynnu ar brofiadau athrawon unigol. A gadewch i ni beidio â bod ofn. Mae pobl yn dweud bod hanes y mwyafrif o ddiwylliant Prydain yn addysg—1066 a hynny i gyd—ond mai ideoleg yw hanes Cymru. Does bosibl. Gwirionedd anghyfleus, efallai. Mae hanes Cymru yn wirionedd anghyfleus, ond yn addysg serch hynny. Diolch yn fawr.
Wel, mae'n anodd dilyn hynny, mewn gwirionedd, ond fe wnaf fy ngorau. [Chwerthin.] Ceisiaf osgoi ailadrodd rhai o'r pethau a ddywedwyd, a chytunaf â llawer ohonynt. Siân, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi cyflwyno'r ddadl hon yma. Mae'n rhywbeth yr ysgrifennais amdano beth amser yn ôl ar ôl gwneud nifer o sgyrsiau i ysgolion ar faterion hanesyddol a chefais fy synnu mewn gwirionedd i ba raddau nad oeddent yn gwybod am ddigwyddiadau hanesyddol lleol o bwys anhygoel, nid yn unig y disgyblion ond yr athrawon hefyd.
Rwy'n credu fy mod yn cyflwyno pryder penodol, gofal, gwyliadwriaeth, ynglŷn â dysgu hanes. Oherwydd pan fyddwn yn sôn am yr hanes, rydym yn sôn am hanes pobl. Rydym yn sôn am hanes cymdeithasol. Rydym yn siarad hefyd, yn bwysig iawn yn y cyd-destun Cymreig, am ddosbarth. Mae'r rhain yn faterion sy'n berthnasol i fwy na Chymru'n unig. Maent yn berthnasol i Loegr. Gallwch feirniadu'r modd y dysgir hanes yn Lloegr ac mewn llawer o rannau eraill o'r byd yn hallt, a'r modd y cyflwynir hanes yr ymerodraeth Brydeinig. Ac mae'n rhannol oherwydd bod hanes wedi tueddu i fod yn ddetholus, gan y rhai a oedd yn rheoli, ac yn cyflwyno mater penodol. Felly, wrth addysgu digwyddiadau yn ystod yr ymerodraeth Brydeinig, cyflafan Amritsar, y newyn yn Iwerddon, cyflafan Peterloo yn Lloegr—rwy'n credu eu bod oll yn faterion sydd ond wedi dod i'r amlwg yn awr mewn gwirionedd wrth inni ddechrau cael trafodaeth fwy manwl gywir ar hanes. Felly, nid yw hanes yn ymwneud â fersiwn arbennig o hanes neu hyd yn oed â dehongliad penodol o hanes; mae'n ymwneud â darparu'r wybodaeth, y dadansoddiad, y wybodaeth leol, y ffeithiau lleol, a galluogi pobl i ddatblygu'r gallu i ddehongli hanes.
Un o'r materion a oedd yn fy mhoeni, er enghraifft, oedd yr addysgu yn ardal Taf Elái pan oeddwn yn yr ysgol. Buom yn sôn am Dr William Price, ac wrth gwrs, mae pawb yn gwybod mai dyna'r dyn a amlosgodd ei fab, onid e? Ond yr hyn oedd yn bwysig oedd ei fod yn cynrychioli her a thoriad rhwng cyfraith yn seiliedig ar gyfraith eglwysig yn hytrach na chyfraith gyffredin, am fod amlosgi yn ymosodiad uniongyrchol ar y gred yn yr ailymgnawdoliad, atgyfodi'r corff—roedd yn newid sylfaenol. Ac nid wyf erioed wedi clywed hynny'n cael ei drafod neu rywun yn siarad amdano neu'n ei ddehongli mewn unrhyw ffordd arbennig. Nid wyf wedi clywed unrhyw drafodaeth yn ein hysgolion am bwysigrwydd pobl leol neu bwysigrwydd pobl fel Arthur Horner, pobl fel Will Paynter a arweiniodd Fudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith—ffactor arwyddocaol iawn yng Nghymru.
Rwy'n byw yn Nhonyrefail yng nghwm Elái. Yng nghwm Taf, wrth gwrs, y digwyddodd un o'r achosion cyfreithiol mawr a ddeilliodd o anghydfod diwydiannol ac a arweiniodd at un o'r prif faterion yn ymwneud â rhyddid pobl i drefnu a arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Masnach 1906. Nid wyf erioed wedi clywed hynny'n cael ei drafod. Eto i gyd, mae'n rhan sylfaenol iawn o'n dealltwriaeth o ddatblygiad prosesau democrataidd mewn gwirionedd. Felly, dyna fy sylwadau ar hynny, oherwydd rwy'n cytuno, mae yna lawer o addysgu da ar hanes Cymru rwy'n siŵr, ond mae bylchau enfawr ynddo hefyd ac mae yna wendid enfawr o ran lleoleiddio'r addysgu, ac yn enwedig addysgu hanes dosbarth, hanes mudiadau, pobl a dosbarth. Dyna'r hyn yr hoffwn ei weld yn cael ei atgyfodi.
Y pwynt a wneuthum yn ystod un o'r sesiynau pwyllgor ar hyn, pwynt sy'n bwysig iawn yn fy marn i, yw mater hyfforddi athrawon a sut y caiff hynny ei addasu a sut y byddwn yn cymryd yr holl safbwyntiau arbennig hyn o ran addysgu hanes lleol a hanes Cymru yn fwy effeithiol. Mae hynny'n ymddangos yn broblem i mi. A hefyd, y diffyg adnoddau sydd ar gael—diffyg deunyddiau penodol sy'n hyrwyddo, sy'n dadansoddi, sy'n sôn am y mudiadau cymdeithasol hyn, sy'n sôn am gydymddibyniaeth a chydweithrediaeth. Gwelwyd un o brif ddatblygiadau cydweithrediaeth yn ardal Ynysybwl, ac arweiniodd at sefydlu mudiad cydweithredol mawr. Felly, mae'r pethau hyn i gyd sy'n sylfaenol bwysig i ni yno.
Felly, yr hyn y buaswn yn ei obeithio, wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd o ran yr addysgu, yw ein bod yn addysgu am Gymru. Nid oes gennyf broblem gyda geiriad y cynnig, ond bod angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â'n dehongliad o beth yn union rydym yn sôn amdano, beth y mae'n ei olygu. Ond yr hyn ydyw, yn bwysig iawn rwy'n credu, yw cydnabyddiaeth fod yna ffordd bell i fynd yng Nghymru ac yng ngweddill y DU, ac mewn rhannau o Ewrop a gweddill y byd, ynglŷn ag ymagwedd newydd, fodern a gonest tuag at addysgu hanes.
Hoffwn ddiolch i Siân am gyflwyno hyn heddiw. Mae deall a dysgu'r gwersi o'n hanes fel cenedl, fel cymuned ac fel unigolion, yn hynod o werthfawr, ac fel y dywedwyd, os nad ydym yn gwybod o ble y daethom, sut y gwyddom i ble rydym yn mynd?
Mae Cymru'n wlad sydd â hanes cyfoethog ac amrywiol, ond nid yw hynny'n golygu y dylem edrych i mewn ar ein hunain yn unig. Mae hanes y byd yn anhygoel o bwysig ac mae Cymru wedi bod yn ddylanwadwr allweddol, boed hynny yn ein rôl yn y chwyldro diwydiannol neu lowyr Cymru yn ymladd yn rhyfel cartref Sbaen. Fe ddylem ddefnyddio hyn gymaint ag y gallwn er mwyn astudio digwyddiadau'r byd drwy enghreifftiau Cymreig lleol. Gall canolbwyntio ar hanes lleol yn arbennig ei wneud yn fyw iawn.
Mae hynt a helynt yr Ymerodraeth Rufeinig bob amser yn ffefryn gyda phob oedran, ac mae'n bwnc sy'n cael llawer o sylw mewn ysgolion, a hynny'n briodol. Yn bersonol, fe wnaeth athro ysgol gynradd gwych ddod â'r peth yn fyw i mi a chynnau fy hoffter o hanes. Fodd bynnag, rhaid inni fanteisio ar y digwyddiadau a'r dylanwadau hanesyddol sydd wedi digwydd yma ar garreg ein drws. Mae ymweliad â'r amffitheatr yng Nghaerllion yn gyfle i gerdded o amgylch yr unig farics lleng Rufeinig sydd ar ôl i'w weld yn unman yn Ewrop. Mae Caerllion yn dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf OC, ac roedd yn un o ddim ond tair caer barhaol yn y Brydain Rufeinig. Mae gennym safleoedd Rhufeinig eraill, gan gynnwys Caer-went, Caerfyrddin a Chaernarfon.
Mae teilwra addysg hanes i ardaloedd lleol yn rhoi cyfle enfawr i ddisgyblion ymgysylltu go iawn â'r cwricwlwm. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, roedd preifatiriaid yn rhan allweddol o'r DU, yn datblygu ei statws yn y byd. Roedd y Capten Harri Morgan drwgenwog yn aelod o deulu Morgan Tŷ Tredegar. Mae gan lawer o enwau strydoedd yn yr ardal o gwmpas yr ystâd gysylltiadau â Jamaica a'i anturiaethau yn y Caribî, ond tybed faint o bobl leol sy'n gwybod beth yw arwyddocâd yr enwau hyn?
Mae gan Gasnewydd hefyd le pwysig yn ein treftadaeth ddemocrataidd a seneddol, rhywbeth y dylem wneud y mwyaf ohono pan fydd disgyblion yn astudio'r pynciau hyn. Mae dilyn ôl traed y Siartwyr i Westy'r Westgate yn galluogi plant i ddychmygu'r union daith a wnaeth John Frost, Zephaniah Williams a'r deisebwyr eraill yn 1839. Mae trip i'r blwch post ar ffordd Rhisga y ceisiodd y swffragét, y Fonesig Rhondda, ei ffrwydro mewn protest, yn enghraifft arall o fan diriaethol i ymweld ag ef. Er bod llawer o bobl wedi mynd yn angof, mae'r tirnodau a'r llwybrau hyn yn gallu clymu pobl wrth le a gwneud hanes yn llawer mwy na phwnc mewn gwerslyfr.
Fel hen dref borthladd, Casnewydd, ar ôl Caerdydd, yw ail gymuned fwyaf amlddiwylliannol Cymru. Mae ganddi hanes balch, ond mae yna agweddau anodd hefyd y dylid eu dysgu yn ein hysgolion ac mae 2019 yn nodi canmlwyddiant y terfysgoedd hil yng Nghasnewydd. Dywedir bod 5,000 o bobl wedi cymryd rhan yn nherfysgoedd George Street, rhywbeth na fyddai'r rhan fwyaf o bobl Casnewydd yn ymwybodol ohono—terfysgoedd a ddechreuodd yng Nghasnewydd ac a ymledodd wedyn i Gaerdydd a thrwy rannau eraill o'r DU. Eleni, soniodd prosiect hanes y doc a'r Bigger Picture, mewn cysylltiad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli, am yr hyn a ddigwyddodd a'r cysylltiadau cymunedol cryf sydd gennym heddiw.
Dim ond rhai enghreifftiau o fy rhan i o Gymru yw'r rhain, ac mae llawer mwy ar gael ar hyd a lled Cymru, a rhaid inni ddysgu a rhannu ein treftadaeth. Mae hanes yn rhoi ymdeimlad o gysylltiad â lle, amser a chymuned i ni, ac mae athrawon angen y gefnogaeth a'r rhyddid i archwilio ffyrdd o ennyn diddordeb pob plentyn yn hanes Cymru. Os na addysgwn ein hanes, sut y gallwn ddisgwyl iddynt ddysgu ohono?
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Siân a Suzy am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a chaniatáu i ni hel atgofion—aneglur, rhaid i mi gyfaddef—am y trafodaethau rhwng Wynford Vaughan-Thomas a Gwyn Alf Williams ar hanes Cymru y bydd llawer ohonom yn eu cofio o'r 1980au ac y cyfeiriwyd atynt mor aml y prynhawn yma, ac mae'r ffaith eu bod wedi cael sylw'n dangos yn glir yr effaith a gafodd y rhaglen honno yn arbennig, a'r ddau unigolyn hynny, ar ein dealltwriaeth ni o'n hanes.
Ar y dechrau, gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig heddiw. Fodd bynnag, defnyddiaf y cyfle hwn i egluro cynlluniau ar gyfer y cwricwlwm newydd ac i edrych ar yr heriau o ddiffinio un hanes Cymru a amlinellir yn y cynnig. Yn gyntaf, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol yn hanfodol i bob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd. Mae'r cwricwlwm newydd—Vikki, gallaf roi sicrwydd pendant i chi—wedi'i gynllunio gan y proffesiwn addysgu ar gyfer y proffesiwn addysgu a phlant Cymru, ac mae wedi cynnwys y rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion arbennig gyda rhai o'r plant gyda'r anghenion mwyaf difrifol—cwricwlwm a fydd yn gynhwysol ac yn hygyrch—ac rwy'n falch o ddweud ei fod wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gan addysgwyr mewn ysgolion arbennig. Credant fod y cwricwlwm newydd hwn yn rhoi mwy fyth o gyfleoedd i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy.
Nawr, ni ddylai dadansoddi, deall a chwestiynu hunaniaeth a hanes rhywun fel dinesydd Cymru, a'r berthynas honno â gweddill yr ynysoedd hyn ac yn wir, â'r byd, fod yn gyfyngedig i wers hanes. Mae thema ac egwyddor arloesol 'cynefin' yn un sy'n rhedeg drwy bob un o'r meysydd dysgu a phrofiad drafft. Y cynefin yw'r man lle rydym yn teimlo ein bod yn perthyn, lle mae'r bobl a'r tirlun o'n cwmpas yn gyfarwydd, a'r golygfeydd a'r synau'n gysurus o gyfarwydd. Nid dim ond lle mewn ystyr ffisegol neu ddaearyddol yw cynefin. Mae'n lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi siapio ac sy'n parhau i siapio'r gymuned y mae'n bodoli ynddi, ac o'r mannau hynny, byddwn yn disgwyl i ddysgwyr wybod a deall eu cymunedau, eu cenedl a'r byd. Felly, er enghraifft, bydd dysgwyr yn dysgu am Robert Recorde yn y maes dysgu a phrofiad mathemateg, bydd iaith a hanes llenyddol Cymru yn y ddwy iaith yn cael sylw yn y maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llenyddiaeth a chyfathrebu, ac mewn technoleg gwyddoniaeth, bydd dysgwyr yn archwilio sut y mae daearyddiaeth Cymru, ei hadnoddau, ei gweithlu—y rhai a aned yma yng Nghymru a'r rhai a ddewisodd wneud eu cartref yma yng Nghymru—yn llywio gweithgarwch gwyddonol a diwydiant technolegol y wlad. Ond wrth gwrs, mae egwyddor cynefin yn golygu y bydd gan ddysgwyr fannau cychwyn gwahanol ar gyfer gwerthfawrogi hanesion a straeon Cymru. Ac rwyf am—ac mae hi wedi gadael ei sedd—rwyf am bwysleisio i Delyth mai hanesion a straeon yw'r rhain yn wir, nid un naratif nac un stori genedlaethol.
Nawr, fel y clywsom, eleni mae'n gan mlynedd ers y terfysgoedd hil yng Nghaerdydd, y Barri a Chasnewydd. Mae'n rhan o'n hanes sydd wedi cael ei diystyru'n aml, ac rwy'n llongyfarch myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn trydar ar ffurf newyddion byw o'r terfysgoedd hynny. Mae'n bennod sy'n herio'r hunaniaeth sydd gennym weithiau fel cymuned, fel cenedl, ac felly mae'n bwysig i unrhyw astudiaeth o hanes Cymru.
Nawr, efallai fod rhai yn y Siambr hon yn gwybod bod gennyf ddiddordeb personol yn hanes Cymru-America. Mae'n adlewyrchu stori fy nheulu fy hun, pan benderfynodd fy nhad-cu, a enwyd ar ôl Gerallt Gymro, gyfnewid pyllau glo sir Gaerfyrddin am rai Gorllewin Virginia. Felly, rwyf wedi nodi gyda diddordeb fod S4C ar hyn o bryd yn ailddangos rhaglen Dr Jerry Hunter ar y cysylltiadau rhwng Cymru a'r fasnach gaethweision yn America. Yn rhy aml, gallwn fod yn euog o gydnabod cyfraniad cadarnhaol Cymru a phobl Cymru i Ogledd America drwy'r rheini a lofnododd y datganiad o annibyniaeth yn unig, a'r rhai a sefydlodd sefydliadau Yale a Brown, ac rydym yn falch—fe ddylem fod yn falch o'r cyflawniadau hynny ac maent yn werth eu hastudio—ond—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Wrth gwrs.
Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac fe wnaeth fy nharo, wrth deithio o amgylch America, ac yn enwedig y de, faint o Americanwyr o dras Affricanaidd sydd â chyfenwau Cymreig—Williams, Evans, Jones, Davies. Mae'n wirioneddol frawychus meddwl am oblygiadau hynny.
Wel, mae'r Aelod wedi rhagweld yn berffaith—
O, mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.]
—beth yw rhan nesaf fy nghyfraniad. Ni allwn—ni allwn, David, anwybyddu'r ffaith bod llawer o Gymry'n gysylltiedig â bod yn berchen ar, a chludo caethweision i America, ac fel y dywedodd David yn gywir, nid oes ond rhaid inni edrych ar y poblogaethau mawr Affricanaidd-Americanaidd gydag enwau fel Davies, Jones a Williams sy'n adlewyrchu'r hanes hwnnw, gan gydnabod hefyd fod y boblogaeth o Americanwyr Cymreig hefyd wedi chwarae rhan fawr ym mudiad y diddymwyr a'r newid agwedd cyn y Rhyfel Cartref. Nawr, mae'r enghreifftiau hyn, ar garreg ein drws yma yn hen ardal y dociau ac ar draws yr Iwerydd, yr un mor hanfodol i hanes Cymru â'r Deddfau uno, Terfysg Merthyr, boddi Tryweryn, neu glirio Epynt. Ac wrth gwrs, ni ddylem anghofio bod digwyddiadau mawr y DU neu'n fyd-eang, fel y ddau ryfel byd neu ddatblygiad y wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd gwladol, hefyd yn rhan o hanes Cymru.
Mae astudio hanes a hanesion Cymru yn bwysig er mwyn cyflawni dibenion y cwricwlwm newydd. I fod yn ddinasyddion gwybodus a moesegol sy'n cymryd rhan, bydd dysgwyr yn gwneud synnwyr o'u hunaniaeth a sut y mae ein hanes, ein diwylliannau a'n daearyddiaeth yn ei siapio. Fodd bynnag, rwyf am ei gwneud yn glir y byddai ychwanegu gofynion statudol at y cwricwlwm yn gwbl groes i'r strwythur a'r fframwaith sy'n cael ei gynhyrchu ar lefel genedlaethol. Fodd bynnag, mae pob maes dysgu a phrofiad yn nodi dimensiwn Cymreig amlwg yn ogystal ag egwyddor bwysig cynefin. Felly, wrth gefnogi'r cynnig hwn, rwy'n ailymrwymo i'r ffaith y bydd hanesion a straeon Cymru yn agwedd graidd ar bob maes dysgu a phrofiad ar draws ein cwricwlwm newydd. Diolch yn fawr.
Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch, pawb, hefyd.
Rwy'n wirionedddol—. Mewn chwe munud, nid oes unrhyw ffordd y gallaf wneud cyfiawnder â phawb ar hyn. Ond rwy'n falch iawn fod hyn wedi'i dderbyn ar gyfer dadl heddiw. Ni allaf feddwl am y tro diwethaf i mi fwynhau dadl cymaint, yn ogystal â dysgu oddi wrthi. Mae'n debyg mai'r cwestiwn yw pam ein bod yn ei chael o gwbl, ac mewn gwirionedd, fe'm trawodd, ar ôl dilyn rhywfaint o ddarllediadau Twitter o'r hyn y buom yn ei wneud heddiw, fod un sylwebydd wedi dweud, 'Mae'n anghredadwy ein bod yn trafod a ddylai—neu sut y dylai—hanes Cymru gael ei addysgu yn ein hysgolion. Heb hunanymwybyddiaeth, rydym heb wladwriaeth a heb wreiddiau ac yn anwybodus ynghylch ein gwlad ein hunain, sut y cafodd ei siapio, yr arwyddocâd a'r cyfraniadau y mae pobl o Gymru wedi eu gwneud, a byddwn yn cael ein gadael gyda'r argraff o amherthnasedd a diddymrwydd.'
Nawr, rwy'n meddwl efallai fod hynny'n gor-ddweud pethau—yma o hyd ac ati; rydym yma o hyd—ond mae rhai cwestiynau difrifol yn codi ynglŷn â pham rydym lle rydym, ac mae'n debyg ei bod yn werth atgoffa'r Siambr fod hyn yn mynd yn ôl mewn gwirionedd i—roeddem yn siarad am hyn yn 1952, ac roedd y Weinyddiaeth Addysg bryd hynny, ymhell cyn datganoli, eisoes wedi nodi bod hanes Cymru yn cael ei wthio i'r cefndir yn yr hyn a oedd yn cael ei ddysgu bryd hynny. Erbyn Deddf Diwygio Addysg 1988—mae hyn gryn dipyn wedyn—roedd yna ddealltwriaeth o hyd fod angen cwricwlwm Cymreig penodol i ysgolion yng Nghymru. Felly, gallwch ddychmygu, erbyn inni gyrraedd 1995, heb fod yn hir cyn datganoli—mae angen cynnwys diwylliannau Cymraeg a Saesneg yn y wlad yn y cwricwlwm fel y'i dysgid bryd hynny, a'r teimlad oedd nad oedd hynny'n digwydd. Ac erbyn 2013, ymhell ar ôl datganoli ac ymhell i mewn i'r cwricwlwm newydd ar y pryd, roeddem mewn sefyllfa lle—gwaetha'r modd, Vikki, efallai mai chi yw'r paragon yn hyn o beth, gan mai 10 y cant i 15 y cant yn unig o gyrsiau TGAU hanes oedd yn cynnwys deunydd ar Gymru, a hoffwn yn fawr iawn pe bai gweddill Cymru, a'r plant yng ngweddill Cymru, wedi cael y profiad y mae eich plant chi wedi'i gael. [Torri ar draws.] Os rhowch amser ychwanegol i mi. Diolch.
[Anghlywadwy.]—pan fo pob TGAU hanes unigol sy'n cael ei ddarparu gan CBAC yn cynnwys dimensiwn hanes Cymru.
Iawn. Wel, mae'r ymchwil ar gyfer hynny wedi dod o waith Dr Elin Jones, a wnaeth y gwaith rhagarweiniol ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig yn ôl yn 2013 a 2015, ac mae tystiolaeth lawer mwy diweddar wedi dod gan Martin Johnes, rwy'n credu, o Brifysgol Abertawe, sy'n dangos, er bod hynny ar gael i athrawon ei addysgu, nid yw'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gwneud defnydd o'r modiwlau hynny. A'r mwyafrif enfawr—ac mae'n fwyafrif enfawr; mae'n ddrwg gennyf, nid yw'r manylion gyda mi, ond rwy'n siŵr y gallwn eu cael i chi—yw fod—. Mae'r Natsïaid ac America yn mynd â'r rhan fwyaf o amser y cwricwlwm. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, mae yna elfennau yn hynny lle mae'r cysylltiad â Chymru a sut y mae hynny'n ein helpu i edrych arnom ein hunain yn bwysig iawn mewn gwirionedd, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi, ar sail yr arolwg bach a wneuthum heddiw, fod hynny'n dod trwodd o gwbl. Oherwydd er hyn i gyd—ac nid yw hyn yn wyddonol o gwbl, ond bûm yn siarad â phobl iau na fi heddiw ar y llawr yma yn Nhŷ Hywel, ac o'r un, dau, tri, pedwar, 10 o bobl y siaradais â hwy a oedd yn iau na fi, nid oedd dau ohonynt yn cofio unrhyw beth o gwbl heblaw dysgu am y 'Welsh not' yn yr ysgol gynradd—roedd llawer ohonynt yn cofio hynny—roedd rhai'n cofio cael eu dysgu am derfysg Rebecca, rhai am y Siartwyr—roedd yn dibynnu o ble roeddent yn dod yng Nghymru—ond mewn gwirionedd, ni allai'r rhan fwyaf ohonynt gofio dim roeddent wedi'i ddysgu yn yr ysgol am hanes Cymru. A dyna pam rydym yn cael y ddadl hon, oherwydd, fel y gwyddoch, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â—wel, mwy na chydymdeimlad, rhyw obaith o—y cwricwlwm newydd, ac mae popeth rydych wedi'i ddweud heddiw, Weinidog, yn wir, mae'n mynd i fod yn agored i athrawon ledled Cymru ymgorffori hanes Cymru i raddau mwy neu lai, cymaint ag y dymunant, y geiriad sydd ynddo ar hyn o bryd—ac rwyf wedi darllen yr arweiniad ar y maes dysgu a phrofiad, fel y mae ar hyn o bryd; rwy'n deall y gallai ddatblygu—nid oes dim ynddo sy'n dweud bod angen i hyn ddigwydd am y rhesymau hynny, fel nad ydym yn cael ein gadael gyda'r argraffiadau o amherthnasedd a diddymrwydd.
Nid oes gennyf lawer—. Hoffwn orffen gyda phwynt yn nes ymlaen, ond rwyf am ymdrin â rhai cyfraniadau yn gyntaf. Siân, fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud am hanes, fod yna dân yn y bol ynglŷn â hyn—oes, mae hynny'n wir ar hyn o bryd, ond os na wnawn rywbeth am hyn yn awr, mae'n mynd i fynd allan, oherwydd, fel roedd Delyth yn dweud, wyddoch chi, 'cofiwch', wel, os nad ydym dysgu unrhyw beth, beth ar y ddaear rydym ni'n mynd i'w gofio? Ac mae'n ymwneud â chwestiwn hunaniaeth—yr hyn sydd ar goll o wybodaeth pobl na allwn ei gofio. Rwy'n meddwl ei fod wedi fy nharo fod mwy o bobl wedi dweud eu bod wedi dysgu mwy o raglen Huw Edwards am hanes Cymru yn weddol ddiweddar nag a wnaethant o'u cwricwla ysgol eu hunain.
Ond lle rwy'n mynd i gytuno gyda'r Gweinidog, a siaradwyr eraill yma mewn gwirionedd, yw na ddylem or-bennu'r cynnwys. Pan wnaeth Mark Isherwood ei gyfraniad, roeddwn yn meddwl bod hynny yr un mor bwysig â chael 'Cofiwch Dryweryn' fel rhywbeth y dylem ystyried ei wneud. Yr ymateb i'r ddadl hon yw y dylem gael cymaint â phosibl am hanes Cymru ar y cwricwlwm. Nid un hanes a geir yng Nghymru—credaf mai chi efallai oedd y person a ddywedodd hynny, Weinidog. Pwy sydd i ddweud bod diddymu'r mynachlogydd wedi cael mwy o effaith neu lai o effaith na boddi Capel Celyn? Nid wyf yn gwybod. Dyna bwynt cael cyfle i'w drafod yn y cwricwlwm hwn, ond rhaid i'r cynnwys fod yno i'w drafod, a chredaf mai dyna sydd y tu ôl i'r ddadl hon—wel, mae hynny'n wir i mi yn sicr.
Yr un cwestiwn a oedd gennyf amdano yw, pan fyddwn yn sôn am hanes Cymru, i mi, rhaid i hynny gynnwys hanes Prydain—Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol—gan fod Cymru a Phrydain, unwaith eto, yn ddarn arall o dir ffrwythlon yn y cwricwlwm hwn, ein bod yn gallu siarad am yr hyn y mae hunaniaeth Cymru yn ei olygu. Ac i ymateb i rywbeth a ddywedodd Mick Antoniw—rydych chi'n llygad eich lle am arwyr lleol, ond mewn gwirionedd nid oes gennyf broblem gyda siarad am Nelson a Wellington, er nad ydynt yn swnio'n arbennig o Gymreig. Maent yn arwain at drafodaeth ynglŷn â pham fod gennym frenhiniaeth o hyd, a pham fod gennym frenhiniaeth o hyd a ninnau wedi ein hamgylchynu gan Weriniaethau. A'r cwestiwn wedyn fyddai: pam fod cymaint o bobl yng Nghymru yn cefnogi'r frenhiniaeth? Gallwch weld o ble rwy'n dod.
Nid oes ffordd y gallaf ymdrin â hyn i gyd, mae'n ddrwg iawn gennyf. Roedd yr holl syniad o brofi hanes, cyffwrdd â hanes, y soniodd Alun Davies amdano, a'i ddilyn gan Jayne Bryant—yn hollol. Pan welais y Deddfau Uno—ac mae'n rhaid eu bod yn wenwyn i'r bobl ym mhen arall y Siambr hon—roeddent yn fy nghyffroi'n fawr, oherwydd, am y tro cyntaf, roeddent yn dangos i mi mai dyna'r darn o bapur a oedd yn caniatáu i'r Cymry fynd i'r Senedd, ac roedd hynny'n rhywbeth a oedd yn wirioneddol bwysig i mi, o safbwynt hanesyddol. Felly, unwaith eto—[Torri ar draws.] Nid oedd gennym Gymry yno—[Torri ar draws.] Dyna ni; edrychwch, rydym yn gwneud yn union beth y dylai'r cwricwlwm cenedlaethol ei wneud, cyhyd â bod y Gweinidog yn derbyn y cynnig hwn, ac rydych wedi gwneud hynny.
Ac os caniatewch i mi wneud y pwynt olaf hwn, mae hyn yn wych, y ddadl hon, ond oni fydd gan athrawon adnoddau i addysgu hyn, ni ddaw dim o'r holl uchelgeisiau hyn ar gyfer trosglwyddo'r cynefin trwy'r cwricwlwm cyfan, ac mae'n dal i fod yn destun pryder i mi, os nad oes adnoddau gan yr athrawon sydd gennym yn y system ar hyn o bryd, os nad ydynt yn gwybod sut i wneud yr hyn rydych am iddynt ei wneud, byddant yn dal i ddysgu'r un pethau ac yn gwthio rhywfaint o'r uchelgais hwn i mewn ato wedyn. A bydd hynny'n fethiant, o ran dyhead ac o ran y cwricwlwm ei hun. Os ydym yn dal i sôn am Natsïaid ac America ymhen 10 mlynedd, heb gyd-destun priodol, rwy'n credu y bydd yn siom i bawb ohonom.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at y ddadl ar ddeiseb ar ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7076 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi’ a gasglodd 6,148 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi diolch, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i agor y ddadl hon heddiw? Cyflwynodd Matthew Misiak y ddeiseb 'Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi' ar ran ymgyrch Extinction Rebellion. Denodd y ddeiseb hon 6,148 o lofnodion, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei chyflwyno heddiw o dan y broses lle rydym yn ystyried gofyn am ddadleuon ar ddeisebau sydd â mwy na 5,000 o lofnodion, a byddem ar fai pe na baem yn diolch i aelodau'r Pwyllgor Busnes am eu penderfyniad i weld y ddeiseb hon yn cael ei chyflwyno ar gyfer dadl.
Mae'n amlwg na all yr un Senedd na Llywodraeth anwybyddu brys yr her sy'n codi yn sgil newid hinsawdd. Ni allwn ni ychwaith fel gwleidyddion a llunwyr polisïau fethu cydnabod lefel pryder y cyhoedd yng nghyswllt hyn a materion amgylcheddol eraill fel bioamrywiaeth, llygredd plastig ac ansawdd aer. Caiff pob un o'r materion hyn eu codi'n fynych yn y Siambr hon a thrwy'r broses ddeisebu, a chaiff pob mater ei gynnwys yn y ddeiseb benodol hon. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r brotest a'r ymgyrchu ehangach a drefnwyd gan fudiad Extinction Rebellion, ac sy'n ffurfio cefndir i'r ddeiseb hon.
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi nodi, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ystod y cyfnod ers drafftio'r ddeiseb hon. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2019, mynegodd Gweinidog yr amgylchedd ei gobaith y byddai'r datganiad yn
'helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol.'
Roedd y datganiad hefyd yn cydnabod bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn galw am
'weithredu ar y cyd, ac mae gan y Llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth.'
Nawr, mae'r deisebwyr yn disgrifio hwn fel cam pwysig ac maent wedi llongyfarch Llywodraeth Cymru am fod ymhlith y Llywodraethau cyntaf yn y byd i gymryd y camau hyn. Mae nifer o awdurdodau lleol, trefi a dinasoedd ar draws Cymru wedi gwneud datganiadau tebyg hefyd, ac rwyf wrth fy modd fod fy awdurdod lleol fy hun wedi gwneud hynny. Felly, mae'n amlwg fod yna gydnabyddiaeth gynyddol o'r rôl sy'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ei chwarae wrth ymateb i her ar raddfa newid hinsawdd.
Fodd bynnag, ni cheir unrhyw ddiffiniad y cytunir arno'n gyffredinol o'r hyn y dylai datgan argyfwng hinsawdd ei olygu yn ymarferol, a pha gamau y dylid eu cymryd o ganlyniad i hynny. Felly, gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn helpu i daflu goleuni ar faint yr her honno, ac yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ymarferol a fydd yn codi o ganlyniad i ddatganiad argyfwng Llywodraeth Cymru ei hun ar yr hinsawdd.
Yn wir, er bod y Pwyllgor Deisebau yn llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi gymryd y cam hwn, credwn hefyd fod y camau gweithredu neu'r newidiadau sy'n dilyn yn bwysicach na'r datganiad ei hun. Newid ymarferol yw'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod hyn yn llawer mwy na cham symbolaidd yn unig. Y tu hwnt i brif ddatganiad o argyfwng hinsawdd, mae'r ddeiseb hefyd yn argymell nifer o gamau y mae'r deisebwyr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Symudaf ymlaen yn awr i roi amlinelliad bras o'r rhain yn eu tro.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei holl bolisïau'n gyson â'r bwriad o osgoi rhagor o newid hinsawdd a chwalfa ecolegol. Mae'r deisebwyr am weld cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu cynhyrchu, gydag amserlenni ar gyfer gwneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn wlad garbon niwtral. Maent yn amlygu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel enghraifft dda o Gymru'n arwain ar ddatblygu polisi blaengar, ond yn dadlau hefyd nad yw'r Ddeddf hon ar ei phen ei hun yn symbylu'r Llywodraeth, yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus a phreifat, i weithredu'n unol â'r brys y mae'r sefyllfa yn galw amdano. Mae'r deisebwyr yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud buddsoddiadau pellach yn natblygiad yr economi werdd, a phwysleisio'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd ym maes technolegau gwyrdd.
Gan symud ymlaen, mae'r ddeiseb yn galw'n benodol ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau polisi sy'n rhwymo mewn cyfraith mewn grym i leihau allyriadau carbon i sero net, nid erbyn 2050 ond erbyn 2025. Afraid dweud bod hon yn alwad hynod o heriol. Mae deddfwriaeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys targed i leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050, gyda thargedau interim ar gyfer y degawdau sy'n arwain at hynny. Ym mis Mai, argymhellodd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y dylid targedu gostyngiad o 95 y cant erbyn 2050. Byddai hyn yn ffurfio rhan o fwriad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU i sero net erbyn 2050. Fel y gŵyr yr Aelodau, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn yn ffurfiol yr wythnos diwethaf, a bydd yn cyflwyno rheoliadau i ddiweddaru'r targed mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, dylwn nodi bod y deisebwyr wedi disgrifio terfyn amser 2050 fel un truenus o annigonol. Mae'r ddeiseb yn datgan—ac mae ymgyrch Extinction Rebellion wedi dweud yn hyglyw iawn—fod angen rhoi'r camau hyn ar y gweill erbyn 2025. Rwy'n siŵr y bydd cyflymder yr ymateb i heriau newid hinsawdd yn bwnc a gaiff ei drafod ymhellach y prynhawn yma.
Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sefydlu cynulliad dinasyddion i oruchwylio'r newidiadau sydd eu hangen. Mae'r deisebwyr yn dadlau y dylai dinasyddion Cymru allu helpu i ddatblygu a chraffu ar y polisïau a fydd yn sail i raddau'r newid sydd ei angen. Credant y bydd dull o weithredu o'r fath yn lleihau gwrthdaro buddiannau, ac yn cynorthwyo gwleidyddion i wneud penderfyniadau er lles hirdymor pawb. Unwaith eto, mae'r cynnig hwn yn rhywbeth y bydd yr Aelodau am ei ystyried yn ystod eu cyfraniadau y prynhawn yma o bosibl.
I gloi, mae'r Pwyllgor Deisebau yn cydnabod y camau pwysig y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd, yn anad dim drwy ei datganiad argyfwng hinsawdd a'r ymrwymiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud. Serch hynny, mae angen i bob un ohonom barhau i graffu'n drwyadl ar y camau pendant sy'n rhaid eu cymryd, a rhaid i bawb ohonom gydweithio i ddatblygu atebion effeithiol a fydd yn gwireddu'r ymrwymiadau heriol hyn. Felly, edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Mi gychwynnaf i jest drwy atgoffa Aelodau, efallai, o rai ystadegau a ffeithiau. Mae tymheredd ar gyfartaledd yn fyd-eang wedi cynyddu ym mhob degawd dros y 50 mlynedd diwethaf, ac mae'r 10 mlynedd gynhesaf ar record, wrth gwrs, wedi dod yn y 22 diwethaf, felly mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni. Mae yna amcangyfrif bod y trychineb hinsawdd eisoes yn lladd dros 300,000 o bobl bob blwyddyn, ac mae gwyddonwyr, fel rŷm ni'n gwybod, o'r farn y byddai unrhyw gynnydd dros 2 radd yn y tymheredd byd-eang yn arwain at ganlyniadau trychinebus. A beth yw'r rheini? Wel, rhagor o lifogydd, rhagor o afiechyd, rhagor o sychder, rhagor o ryfel, wrth gwrs, yn sgil hynny, a newyn, a chreu cannoedd o filiynau o ffoaduriaid a dinistrio ecosystemau a rhywogaethau cyfan.
Felly, mae'n gwbl, gwbl addas fod y Llywodraeth a'r Senedd yma ac eraill wedi datgan argyfwng hinsawdd. Dwi'n falch bod Cadeirydd y pwyllgor wedi cyfeirio at y gwaith sydd wedi digwydd yng nghyngor Conwy. Dwi'n siŵr y byddai hi'n ymuno â fi i longyfarch Aaron Wynne, cynghorydd Plaid Cymru, wrth gwrs, a wnaeth gynnig y cynnig hwnnw, a diolch iddo fe am ei waith yn perswadio ei gyd-gynghorwyr i gefnogi'r cynnig, fel y mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi gwneud yn sir Gaerfyrddin, ym Mhowys ac yn nifer o siroedd eraill ar draws Cymru. Ond wrth gwrs, un cam yw datgan argyfwng hinsawdd. Yr hyn mae hynny yn gorfod ei olygu, wrth gwrs, yw bod hynny yn arwain at newid go iawn. Ac mi fydd ymgyrchwyr, fel y rhai sydd wedi bod ar risiau'r Senedd yma yn gyson, mi fyddwn ni fel Plaid ac mi fydd eraill, wrth gwrs, dwi'n gwybod, yn y Siambr yma a thu hwnt nawr yn craffu'n fanwl ar ymateb y Llywodraeth, yn enwedig, i'r datganiad hwnnw.
Mi gafodd nifer ohonom ni ychydig o fraw pan ddywedodd y Prif Weinidog, dwi'n meddwl, ddiwrnod ar ôl datgan argyfwng newid hinsawdd nad oedd hynny o reidrwydd yn golygu newid polisi ar ran y Llywodraeth. Mi oedd yn destun pryder i mi, dwi'n gwybod. Ond, y peth pwysig nawr yw ein bod ni'n derbyn bod y status quo ddim yn aros. [Torri ar draws.] Ie, Joyce, wrth gwrs.
Rwy'n falch eich bod wedi derbyn ymyriad a diolch i chi am hynny. A allech egluro pam, yn ôl adroddiad yn y Cambrian News, pan awgrymais y dylem wneud rhywfaint o ddad-ddofi a phrosiect £3.4 miliwn i ddad-ddofi rhan fawr o ogledd Ceredigion a dyffryn Dyfi—O'r Mynydd i'r Môr—fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu hynny?
Nid wyf wedi darllen yr erthygl, ond os gofynnwch i'r bobl y credaf y byddent wedi gwneud sylwadau ar hynny, y pwynt yw fod yr agenda ddad-ddofi yn cael ei gyrru gan rymoedd allanol ac nad yw'n broses sydd wedi'i gwreiddio yn y gymuned leol ac sy'n tyfu o'r gwaelod i fyny. Yn sicr, chi fyddai'r person olaf a fyddai am weld lluosfiliwnyddion yn dweud wrth bobl leol yng ngorllewin Cymru beth i'w wneud. Does bosibl nad yw'n ymwneud â bod y bobl yn perchnogi'r broses honno ac yn gwneud iddi ddigwydd eu hunain. Fel arall, nid yw'n gynaliadwy, a gallem ei alw'n bob math o bethau, ond ni fyddai'n ddemocratiaeth. Ond rwy'n crwydro. [Torri ar draws.] Ydw, ac rwy'n credu i chi gyflawni eich pwrpas drwy ymyrryd. Iawn. Ble roeddwn i?
Y pwynt yr oeddwn i yn ei wneud, wrth gwrs, yw dŷn ni ddim yn sôn am risg hinsawdd; dŷn ni ddim yn sôn am broblem hinsawdd fan hyn. Rŷm ni'n sôn am argyfwng hinsawdd. Mae hynny'n golygu ymateb, ydy, ond ymateb sydyn a gweithredu ar frys. Mae panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd wedi dweud mai 12 mlynedd sydd gennym ni i gyrraedd y nod. Felly, mae'n rhaid inni weithredu ar fyrder.
Nawr, mae'r Llywodraeth, cyn datgan argyfwng, wedi cyhoeddi'r papur 'Cymru Carbon Isel'. Mi oedd hwnnw'n gasgliad o nifer fawr o ddatganiadau a mentrau a oedd wedi cael eu cyhoeddi'n flaenorol. Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion i edrych eto ar hynny. Dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mi fydd angen diwygio. Mi fydd angen cryfhau. Dwi'n gobeithio'n fawr nad dim ond tincro gawn ni. Dwi wedi cyfeirio'n gyson at waith y Sefydliad Materion Cymreig ar ailegnïo Cymru. Mae hwnnw, i mi, yn gosod llwybr i gyrraedd y nod o Gymru i fod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Dwi'n meddwl bod hwnnw'n darged y dylai'r Llywodraeth ei ystyried fel un i gyrraedd tuag ato.
Yr hyn rŷm ni'n ei gael yn y ddogfen honno gan y Llywodraeth—'Cymru Carbon Isel'—ar hyn o bryd yw ymrwymiadau i ymgynghori, i ystyried, i ddechrau archwilio. Mae'r dyddiau hynny wedi pasio. Mae'r amser wedi dod i weithredu. Dwi hefyd eisiau dweud fy mod i'n falch iawn bod y Cynulliad yma yn mynd i ymgynnull cynulliad y bobl—citizens' assembly. Mae hwnnw'n gam positif. Byddwn yn licio gweld hynny'n dod yn nodwedd fwy parhaol o'n democratiaeth ni. Ond, i hwnnw fod yn llwyddiant, mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion, y Cynulliad hwn ac, yn sicr, y Llywodraeth, wrando, cymryd ystyriaeth lawn ac i weithredu ar sail yr hyn sy'n cael ei wyntyllu yn y cynulliadau hynny. Fel arall, y perygl yw y byddan nhw'n ddim byd ond siop siarad.
Rwy'n llongyfarch yr oddeutu 6,000 o ddeisebwyr am ddod â hyn i'n sylw heddiw. Rwy'n meddwl bod nifer debyg wedi llofnodi deiseb pan gefais fy ethol i gadeirio'r pwyllgor ar newid hinsawdd yn wreiddiol. Roedd yna bryderon tebyg ynghylch diogelwch ar y pryd, a chefais fy ngalw i mewn i gael trafodaeth arbennig ynglŷn â sut roeddem yn mynd i ymdrin â phryder fod protestwyr yn mynd i oresgyn y pwyllgor, ac mae'n dda gennyf ddweud na ddigwyddodd hynny, ac ni ddigwyddodd hynny'n fwy diweddar chwaith—er, yn achos y pwyllgor cyntaf a gadeiriwyd gennyf, fe'i trefnwyd i ddechrau am 9 a.m. ar y dydd Iau yn syth wedi i Gymru fod yn chwarae yn rownd gynderfynol Ewro 2016 y noson cynt. Ni chawsom unrhyw brotestwyr o gwbl.
Ond yn y ddeiseb, gwelwn yr alwad ein bod yn cael pwyslais ar sero net. Un peth yr hoffwn ei ddeall am hyn, ac nid wyf yn gwybod a fydd unrhyw Aelodau eraill yn gallu fy nghynorthwyo yn eu hareithiau, neu fel arall, neu a yw hyn yn glir o'r ddeiseb. Wrth 'sero net', a ydynt yn golygu sero net o fewn y Deyrnas Unedig? Felly, mae hynny'n cynnwys twf coed ychwanegol—sy'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn ei weld a'r gwrthbwyso a fyddai'n digwydd drwy hynny—ond heb gynnwys gwrthbwyso rhyngwladol. Nid wyf yn deall yn iawn am beth y gofynnir. Ymddengys mai safbwynt y DU oedd eu bod yn cynnwys y gwrthbwyso rhyngwladol, sy'n ei gwneud yn llawer rhatach i gyrraedd y nod hwn. Pan fyddwch yn agos iawn at ddileu allyriadau carbon, hyd yn oed os caiff rhai eu gwrthbwyso yma, mae'n mynd yn llawer drutach i wneud hynny yn agos at y nod oherwydd eich bod eisoes wedi sicrhau'r enillion hawdd.
Un peth sy'n bwysig iawn yn y ddadl hon yn fy marn i—a chredaf fod rhai o'r deisebwyr yn cydnabod hyn—yw deall pa mor bell y mae'r Deyrnas Unedig wedi dod ar hyn ers ymrwymiad Kyoto. Rwy'n credu ein bod bellach ar ychydig dros 40 y cant islaw lefelau allyriadau 1990, a dyna'r gostyngiad mwyaf fwy neu lai a welwyd yn unman yn y byd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei gydnabod ac ymfalchïo ynddo. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol tan 2050, y gostyngiad o 80 y cant—yn y bôn, byddai hynny'n golygu'r un gostyngiad eto, ond mewn gwirionedd fel cyfran neu ganran, mae hwnnw'n ostyngiad uwch. Mae hefyd yn anos oherwydd bod y gwelliannau hawdd o gau'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd pŵer a oedd yn llosgi glo a llawer o'r diwydiant trwm a oedd gennym yn y 1980, i raddau o leiaf, ond nad ydynt gennym bellach—mae hynny eisoes wedi digwydd. Felly, hoffwn ofyn i ba raddau rydym eisiau cyflawni hyn drwy dalu i wledydd eraill wneud hyn drosom ar y sail eu bod yn gallu gwneud gostyngiadau carbon am lai o gost nag y gallwn ni ei wneud yn y wlad hon ar ôl i ni fynd mor agos at y targed a ragwelir.
Hefyd, hoffwn gael pobl i ystyried y goblygiadau mewn gwirionedd os ydym am gyrraedd y lefel hon. Un peth yw datgan argyfwng hinsawdd—. Ac i ddechrau credais fod y Prif Weinidog yn dweud mai datganiad yn unig ydoedd, ac nad oedd yn cynllunio unrhyw newidiadau polisi, ond pan wnaeth ddatganiad yn y Siambr am benderfyniad yr M4, fe bwysleisiodd agweddau'n ymwneud â newid hinsawdd, er nad oedd wedi sôn am y rheini yn yr hysbysiad ynglŷn â'r penderfyniad. Felly rwy'n dal i fod ychydig yn aneglur ynglŷn ag i ba raddau y mae hyn yn newid polisi Llywodraeth Cymru neu'n parhau i fod yn ddim ond datganiad.
Ond ar gyfer rhai o'r materion mawr, os ydych am symud i unrhyw beth tebyg i'r targed hwn, bydd yn rhaid i chi gael gwared ar foeleri nwy o filiynau o gartrefi a rhoi rhywbeth yn eu lle. Nawr, mae pympiau gwres o'r ddaear yn un opsiwn y mae rhai pobl wedi manteisio arno, ond yn gyffredinol, os ydych am wneud hyn yn gyflym, os ydych yn mynd i gael gwres canolog trydan yn hytrach na gwres canolog nwy, ar hyn o bryd mae hwnnw'n costio o leiaf dair gwaith cymaint, ac nid wyf ond yn gofyn i Aelodau ystyried pa mor gredadwy yw mynd ati i berswadio neu hyd yn oed orfodi etholwyr o bosibl i wneud y newid hwnnw. Credaf fod angen inni ystyried hyn yn ogystal ag edrych ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud yn rhyngwladol, ac rwy'n credu i'r graddau fod pobl yn troi atom am arweiniad—ac nid wyf yn gwybod i ba raddau y maent yn gwneud hynny ai peidio—efallai fod rhywfaint o werth yn hynny.
Credaf ein bod ar 1.8 y cant o'r allyriadau byd-eang yn awr, ac os mai effaith hyn fydd hunan-niwed economaidd o'r fath fel na fyddwn bellach yn allforio llawer o'r nwyddau rydym yn eu hallforio, neu y byddwn yn cael trafferth i gystadlu â gwledydd eraill nad ydynt yn cymryd yr un camau, bydd yn llai deniadol nag fel arall. Yn yr un modd, os gwelwn dechnoleg yn datblygu i'r fath raddau fel y gallwn ddileu carbon o'r atmosffer yn gost-effeithiol, mae hynny'n gwneud dilyn y llwybr hwn yn llawer mwy deniadol. Ar y llaw arall, os nad yw honno'n dechnoleg sy'n dod yn gost-effeithiol neu'n gyflawnadwy, bydd y cydbwysedd cost a budd ar gyfer mynd i'r cyfeiriad hwn yn llai deniadol. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon yn fawr a'r cyfle i siarad amdani. Pan fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddant yn synnu faint o amser a dreuliwyd ar sut rydym yn masnachu â gwledydd eraill a chyn lleied o amser rydym wedi'i roi i'r bygythiad i'n byd a phob rhywogaeth, gan gynnwys ni ein hunain. Mae y tu hwnt i ddadl ddifrifol yn awr ein bod yn gweld newid yn yr hinsawdd, ac oni weithredir yn awr, byddwn yn ei weld yn gwaethygu fwyfwy.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd. Mae'r datganiad hwn yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru'n deall bod newid hinsawdd yn bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith, ein hamgylchedd naturiol, a ni ein hunain yn y bôn. Nid yw gwrthsefyll newid hinsawdd yn fater y gellir ei adael i unigolion neu i'r farchnad rydd. Mae'n galw am weithredu ar y cyd ac am i'r llywodraeth gael rhan ganolog yn sicrhau bod gweithredu ar y cyd yn bosibl.
Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymrwymiad i sicrhau sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau gweithredu i helpu rhannau eraill o'r economi i symud yn bendant oddi wrth danwyddau ffosil, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant a'r trydydd sector. Os edrychwch ar y wyddoniaeth, yn gyntaf, mae carbon yn ocsideiddio'n garbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Sut y gwyddom hynny? Cymharwch y blaned Gwener â'r blaned Mercher. Mae Mercher tua 58 miliwn cilomedr o'r haul, mae Gwener tua dwywaith mor bell, 108 miliwn cilomedr. Felly, byddech yn disgwyl i wyneb y blaned Mercher fod yn boethach na wyneb y blaned Gwener. Y gwrthwyneb sy'n wir. Pam? Mae'n ymwneud â mwy na'r atmosffer. Mae atmosffer Mercher yn cynnwys cyfeintiau bach o hydrogen, heliwm ac ocsigen. Mae atmosffer Gwener yn haenau o nwyon sy'n amgylchynu Gwener. Mae'n cynnwys carbon deuocsid yn bennaf. Mae hynny'n golygu ei fod yn dal y tymheredd. Rydym yn gwybod hynny. Nid yw'n fater o ddadl neu, 'Nid wyf yn credu mewn newid hinsawdd', neu 'Nid wyf yn credu mewn carbon deuocsid a nwy tŷ gwydr' —mae'r ffeithiau yno. Mae hyn yn brawf pendant fod carbon deuocsid yn dal gwres ac yn gwneud yr arwyneb yn boethach.
'Ond mae gennym garbon deuocsid yn ein hatmosffer yn awr', medd pobl. Oes, a phe na bai gennym garbon deuocsid, ni fyddai gennym yr hinsawdd dymherus sy'n bodoli ar y rhan fwyaf o'r ddaear. Mae'n dal gwres. Yr hyn a wyddom yw, os cawn fwy o garbon deuocsid, bydd y blaned yn mynd yn boethach ac yn boethach.
Wrth i newid hinsawdd ddigwydd, bydd ein tywydd o ddydd i ddydd a'n tymereddau arferol yn newid, a bydd hyn yn effeithio ar gartrefi planhigion ac anifeiliaid ledled y byd. Mae eirth gwyn a morloi yn enghraifft dda o anifeiliaid yr effeithir arnynt gan newid hinsawdd. Bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i dir newydd ar gyfer hela a byw os bydd y rhew yn yr Arctig yn toddi, ond y gwir amdani—yn fwy realistig—yw y bydd y rhywogaethau hyn bron yn sicr o ddiflannu.
Bydd unrhyw un dros 50 wedi sylwi ar sut y mae ein tywydd wedi newid yng Nghymru. Mae pethau syml fel glaw mân parhaus—yr arferem ei gael am ddyddiau bwy'i giydd—wedi troi bellach yn gyfnodau byr o law trwm iawn, sydd wedi arwain at lifogydd mewn sawl ardal.
O edrych ar weddill y byd, gan ddechrau gydag Unol Daleithiau America—sef y lle gorau i ddechrau, oherwydd mae'n gartref i lawer o'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd—mae gwres a sychder yn Texas a'r gorllewin canol wedi arwain at dymereddau cyfartalog misol uwch nag a welwyd o'r blaen. Ceir digwyddiadau o wres eithafol digynsail sy'n para am sawl mis ar lefel waeth nag ers dechrau cadw cofnodion ag offer dibynadwy yn 1895. Mae tymereddau uwch yn arwain at gynyddu cyfraddau anweddu. Yn ddiweddar fe brofodd Texas ac Oklahoma fwy na 100 diwrnod dros 100 gradd Fahrenheit. Mae'r ddwy dalaith wedi gweld hafau poethach nag a welwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 1895. Mae glawiadau trwm wedi cynyddu'n genedlaethol, yn enwedig dros y tri i bump degawd diwethaf. Mae'r digwyddiadau glaw trymaf wedi mynd yn drymach ac yn fwy mynych, ac mae faint o law sy'n disgyn ar y dyddiau pan fo'n glawio drymaf wedi cynyddu hefyd. Ers 1991, mae faint o law sy'n disgyn mewn digwyddiadau glaw trwm iawn wedi bod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd. Mae America yn dioddef; mae gweddill y byd yn mynd i ddilyn.
Gan droi at Affrica. Mae ymchwil newydd yn dweud y bydd y cyfandir yn profi llawer o achosion eithafol o law trwm dros yr 80 mlynedd nesaf gan arwain at lifogydd, stormydd a methiant ffermio, gan newid o law trwm iawn bob 30 i 40 mlynedd i law trwm iawn bob tair neu bedair blynedd. Bydd hyn yn digwydd am yn ail â sychder llethol a fydd hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant bwyd.
Bydd byd sydd bedair gradd yn gynhesach yn arwain at foddi dinasoedd, boddi ynysoedd, moroedd llonydd, tywydd annioddefol o boeth, ardaloedd enfawr o dir na ellir byw arno a thros 11 biliwn o bobl yn ceisio byw ynddo. Byd sydd bedair gradd yn gynhesach yw'r hyn a geir mewn ffilmiau arswyd—math o apocalyps sydd ar ei ffordd yn fuan. Yn anffodus, dyma'r cyfeiriad rydym yn anelu iddo os methwn leihau'r carbon deuocsid sy'n cynyddu yn yr atmosffer i atal cynhesu byd-eang. Nid yw geiriau da a gweithredu cyfyngedig yn opsiwn. Dim ond un byd sydd gennym. Am y 200 mlynedd diwethaf rydym wedi ei gam-drin. Oni weithredwn yn awr, rydym mewn perygl o ddinistrio'r byd a'r rhan fwyaf o'r pethau sy'n byw ynddo, ac mae hynny'n ein cynnwys ni.
Newid hinsawdd yw un o'r problemau pwysicaf ar hyn o bryd, ac mae'r gweithgarwch ledled y byd yn rhywbeth i'w edmygu a'i annog. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni'n wirioneddol am Gymru yw bod gennym Lywodraeth sy'n datgan argyfwng newid hinsawdd, ac eto mae'r polisïau real ar lawr gwlad yn mynd yn gwbl groes i'r datganiad hwnnw.
Fel arfer, byddaf yn sôn am gynlluniau datblygu lleol, oherwydd dyna'r glasbrint ar gyfer dyfodol Cymru, dyfodol ein cymunedau. Ac os edrychwn ar gynllun datblygu lleol Caerdydd, mae cae ar ben cae yn cael ei orchuddio gan goncrid ar hyn o bryd, cynefinoedd yn cael eu dinistrio, cynefinoedd na ellir byth mo'u hadnewyddu, adeiladu ar orlifdiroedd, a thrychineb llwyr i'r amgylchedd. Felly, maddeuwch i mi, ond rydym yn sôn am yr argyfwng newid hinsawdd ac rydym i gyd yn cytuno arno, mae'n ymddangos, bron iawn, ac eto mae'r hyn sy'n cael ei wneud yn mynd yn groes i hynny, fel y dywedais.
Rwyf am ddatgan buddiant, oherwydd yn agos iawn at lle rwy'n byw, bydd 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd bob diwrnod. Ac mae'r nifer yn cynyddu'n barod. Gwelwn dagfeydd. Mae gennym geir sy'n gwasgaru mygdarth gwenwynig. Mae'n ymddangos y dyddiau hyn fod pawb rwy'n siarad â hwy'n dioddef o asthma. Mae pobl yn eu 40au hwyr a'u 50au yn datblygu asthma y dyddiau hyn.
Yr hyn y byddai'n braf iawn gennyf ei weld gan y Llywodraeth yn y Cynulliad hwn yw polisïau rhagweithiol. Tramiau—beth am gael tramiau trydan yn y ddinas hon. Beth am wneud yn siŵr fod pob bws sydd ar y ffordd yn fws trydan. Pam nad ydym yn gwyrddu seilwaith cyhoeddus? Mae gennym bontydd ym mhobman yn cario degau o filoedd o geir bob dydd. Y drosffordd yn Gabalfa—gwyrddwch hi. Edrychwch beth maent yn ei wneud ym mhob cwr o'r byd. [Torri ar draws.] Iawn.
Un rheswm o ran bysiau trydan yw eu bod yn costio tua dwywaith cymaint â bysiau confensiynol. Efallai y bydd y gost honno'n gostwng, ond yn y cyfamser sut y byddai'r Aelod yn hoffi talu am y gost ychwanegol honno?
Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ei wneud yn flaenoriaeth wleidyddol, oherwydd os yw'n argyfwng newid hinsawdd i'r Llywodraeth hon, yna dylid rhoi blaenoriaeth iddo. Faint o arian a wariwyd ar y M4, er enghraifft? £115 miliwn. Gallwn sefyll yma a rhestru gwastraff ar ôl gwastraff ar ôl gwastraff. Cyfle a gollwyd ar ôl cyfle a gollwyd. Pan nad ydych eisiau gwneud rhywbeth, mae dweud nad oes arian bob amser yn esgus. Yr hyn y dylem ei wneud yw buddsoddi mewn trafnidiaeth lân. Os derbyniwn ei fod yn argyfwng, rhaid inni wneud rhywbeth yn awr yn hytrach na dim ond siarad am y peth. Diolch yn fawr.
Rwy'n cytuno â Neil McEvoy fod rhaid i ni newid y ffordd y gwnawn bethau. Yn amlwg, mae angen i ni gyflwyno tramiau a bysus trydan. Cytunaf yn llwyr fod angen inni dynnu sylw at yr angen i newid polisi cynllunio fel nad ydym yn adeiladu datblygiadau tai mewn ardaloedd lle nad oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus i alluogi pobl i symud o gwmpas, ond buaswn yn gwahodd y Cynghorydd McEvoy i ganolbwyntio ar sicrhau bod yr awdurdod lleol lle mae'n cynrychioli ei gymuned leol yn cadw hynny mewn cof hefyd. Oherwydd nid dim ond yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli y mae tai'n cael eu codi mewn ardaloedd lle mae'r system drafnidiaeth yn annigonol i ddygymod â hwy.
Yr hyn sydd ei angen yw polisi trawsnewidiol er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym system fetro sy'n sicrhau bod datblygiad yn digwydd o amgylch y prif ganolfannau a lloerennau metro. Oherwydd ni allwn fforddio cael mwy o allyriadau carbon o gerbydau ac mae'n rhaid i ni gynllunio mewn ffordd wahanol i wneud yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud ar newid hinsawdd. Oherwydd mae'n rhaid inni gofio bod panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn ein rhybuddio mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym i achub y byd. Mae hwnnw'n gysyniad eithaf brawychus. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan Lywodraeth Cymru ar argyfwng hinsawdd, ond mae angen inni ddilyn hynny â chamau gweithredu.
Cawsom ein hatgoffa ddoe gan Darren Millar ei bod hi'n 30 mlynedd ers llifogydd Tywyn, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud bod y math hwnnw o ddigwyddiad yn mynd i fod yn fwy cyffredin oni bai ein bod yn newid ein ffyrdd. Rhaid inni gofio mai'r hyn sy'n digwydd yn y Deyrnas Unedig yn unig sydd o dan ein rheolaeth. Ni allwn wneud dim am yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar wahân i ymuno â sefydliadau rhyngwladol a'u hannog i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan gytundeb Paris.
Ond i fynd yn ôl at yr hyn y gallwn ddylanwadu arno, credaf fod Mark Reckless yn hollol iawn i ofyn y cwestiwn, 'A allwn fforddio tynnu boeleri nwy a chael pympiau gwres o'r ddaear a'r aer yn eu lle?' A'r ateb yw, 'Yn bendant. ' Rhaid inni allu gwneud hynny, oherwydd po fwyaf o bobl sy'n defnyddio pympiau gwres o'r ddaear ac o'r aer, bydd y gostyngiad yn y pris yn mynd gyda hynny. Rhaid inni gael bargen newydd werdd i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac mae hynny'n golygu mynd ati o ddifrif i drawsnewid y ffordd y gwnawn bethau.
Mae'n rhaid i ni gael y tramiau trydan a'r bysys y soniodd Neil McEvoy amdanynt. Sut y talwn amdanynt? Wel, ar hyn o bryd, mae angen inni dalu amdanynt drwy drethu pobl sy'n gwneud y peth anghywir. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth yn y DU sy'n gwrthod cynnal y cymal codi prisiau ynni a dalwn am betrol. Dylem wneud trafnidiaeth ceir yn ddrutach o'i gymharu â chludiant cyhoeddus. Yn bersonol, hoffwn weld trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei darparu am ddim gan fy mod yn credu bod hwnnw'n fesur angenrheidiol, yn unol â'r hyn y mae David Attenborough ac arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig yn ein rhybuddio yn ei gylch. Rhaid inni gael llwybrau teithio llesol i bob un o'n hysgolion er mwyn i'n holl blant allu cerdded neu feicio, oherwydd rhaid i hynny fod yn brif ddull o deithio ar gyfer plant sy'n byw o fewn pellter rhesymol i'r ysgol.
Felly, credaf fod angen gweddnewid y ffordd rydym yn cynllunio gwasanaethau, y ffordd rydym yn addasu ein holl dai. Mae gan Gymru fwy o dai hynafol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i ganiatáu i adeiladwyr tai ar raddfa fawr adeiladu tai nad ydynt yn effeithlon o ran eu defnydd o ynni, a bydd angen eu hôl-osod. Felly, mae angen i ni roi diwedd ar hynny a newid Rhan L y polisi cynllunio. Mae'n cyd-fynd yn llwyr â'r fargen newydd werdd y mae'n rhaid inni ei chael.
Nid wyf yn meddwl bod gan yr un ohonom belen wydr i weld beth yw'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol, ond mae angen i bawb ohonom roi ein pennau at ei gilydd i weld beth sy'n rhaid i ni ei wneud, ac mae'n rhaid i ni gael newid radical. Rwy'n falch o fod yn noddi—
A wnewch chi ildio?
O'r gorau.
Diolch. Rwy'n dweud hyn mewn ysbryd cydweithredol, am mai eich plaid chi a gyflwynodd y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd. Felly, tybed a fyddech yn ymuno â mi a phobl eraill i ofyn iddynt newid y cynllun, ac i atal camau 3, 4 a 5, lle bydd llawer iawn o ddifrod amgylcheddol yn cael ei wneud. Felly, a fyddech chi'n ymuno â ni, yn drawsbleidiol, i wneud hynny?
Diolch i chi am yr ymyriad hwnnw. Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy’n credu bod rhaid i ni newid ein meddwl, a chredaf mai dyna pam y gwnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad cywir ar yr M4. Credaf y bydd angen inni ailedrych ar y cynllun datblygu lleol, oherwydd mae'r argyfwng hinsawdd yn llawer gwaeth bellach nag yr oeddem wedi'i ragdybio pan weithredwyd y cynllun datblygu lleol. Felly, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar bob dim.
Roeddwn ar fin dweud fy mod yn falch o gynnal y seminar Extinction Rebellion ar 4 Gorffennaf gyda Llyr Gruffydd, oherwydd rwy'n credu y bydd ganddynt syniadau gwirioneddol egnïol ynglŷn â rhai o'r pethau y mae gwir angen inni eu gwneud. Mae dyfodol ein planed yn ein dwylo ni. Gallwn fodloni ar wneud dim fel deddfwyr a chaniatáu i drychineb daro ar gyfer ein hwyrion, neu gallwn ddeddfu i newid.
Weinidog, mae cryfder y teimlad ynglŷn â’r mater hwn yn amlwg yn ôl faint o ohebiaeth y mae pawb ohonom wedi’i chael, rwy'n siŵr, a'r ffaith bod ein pobl ifanc yn cael eu cymell i fynd ar streic a bod Extinction Rebellion wedi meddiannu rhannau o Lundain yn ddiweddar ac yn bygwth cau meysydd awyr mawr trwy ddulliau teg neu fel arall. Ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru wedi cyfleu teimladau’r genedl pan ddatganodd ei hargyfwng newid hinsawdd ei hun. Weinidog, roeddwn mor bryderus ag Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond rydych chi bellach wedi egluro bod yr argyfwng hwn wedi’i drafod mewn amryw o gyfarfodydd eraill cyn i chi wneud y datganiad, ar wahân i fod yn eitem ‘unrhyw fater arall’ yn y Cabinet ar 29 Ebrill, gan fod y datganiad hwn yn effeithio ar bawb ohonom a phob maes Llywodraeth yn ddiwahân.
Gwrandewais ar gyfweliad ar Talk Radio, lle roedd cynrychiolydd ar ran Extinction Rebellion yn awgrymu bod gan bawb yn y DU hawl i un daith awyr ddwyffordd y flwyddyn, ac er fy mod yn derbyn nad ydynt wedi’u hethol eto, ymddengys eu bod yn gyrru'r agenda. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes, ond gwn fod teithiau awyr yn un o'r pethau sy’n defnyddio fwyaf o adnoddau, felly tybed sut y mae'r datganiad argyfwng newid hinsawdd yn cyd-fynd â pherchnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru ar y maes awyr a hyrwyddo teithiau awyr yn weithredol, gan gynnwys y cymhorthdal i gyswllt awyr Ynys Môn?
Mae'r datganiad wedi ateb y ddeiseb hon yn rhannol. Fodd bynnag, rwy’n cwestiynu ymarferoldeb y gofynion eraill, yn sicr o ran cyflymder, a chredaf fod rhywbeth yma ynghylch rheoli disgwyliadau ar draws holl Lywodraethau'r DU. Byddwch yn onest am yr hyn y gellir ei gyflawni, a nodwch fod dillad rhad a bwyd rhad i gyd yn costio rhywbeth yn rhywle.
Rwy'n wniadwraig frwd, ac nid oes dim yn well gennyf na dod o hyd i rywbeth prydferth ac unigryw mewn siop elusen a'i wneud yn rhywbeth i mi fy hun. Yr un peth gyda dodrefn. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar ailddefnyddio pethau, ond gadewch i bawb ohonom wneud yn well. Mae camau wedi’u cymryd eisoes: yr ardoll ar fagiau siopa yng Nghymru—gwych—ailgylchu ac ati. Ni sydd ar frig y rhestr yn y DU o ran cyfraddau ailgylchu. Fodd bynnag, credaf fod angen i rai enillion cyflym ddigwydd. Nodaf fod adroddiad diweddar yn awgrymu mai Cymru yw un o'r ardaloedd gwaethaf o ran y ddarpariaeth o bwyntiau gwefru ceir trydan, ac rydym wedi bod yn siarad am hyn ers oesoedd.
Mae yna rywbeth hefyd ynglŷn â’n cylch dylanwad, ac mae'n ymddangos yn synhwyrol i mi ddechrau gydag adeiladau ac arferion sector cyhoeddus: gwnewch y rhain yn garbon niwtral, ymgorfforwch arferion da, ac anogwch ein hetholwyr i wneud yr un peth. Os na wnawn ni hynny, nid ydynt hwy’n mynd i'w wneud. Wedi'r cyfan, mae hon yn broblem i bawb ac rydym i gyd yn rhan o'r ateb.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy'n falch iawn o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn derbyn y cynnig ac yn nodi’r ddeiseb, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r miloedd o bobl a lofnododd y ddeiseb a'r nifer fwy a roddodd gymaint o sylw i'r mater hollbwysig hwn yn yr wythnosau diwethaf.
Ddiwedd mis Ebrill, fel y nodwyd, cyhoeddais argyfwng newid hinsawdd ar ran Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddarach yr un wythnos, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn o blaid datganiad o'r fath a hwy oedd y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Rwyf wedi egluro'r rhesymau pam y gwnaethom hynny sawl gwaith yn y lle hwn, ond fe wnaf eu hailadrodd am fy mod yn credu ei fod yn bwysig iawn ac rwyf hefyd am adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny.
Felly, nod y datganiad oedd symbylu pobl, sefydliadau, busnesau i weithredu hefyd, ac rwyf am roi ychydig o enghreifftiau. Soniais mewn cwestiynau yn gynharach y prynhawn yma fod sawl awdurdod lleol bellach wedi datgan argyfwng hinsawdd ynghyd â nifer o gynghorau tref, a chredaf fod y mwyafrif ohonynt wedi dweud eu bod wedi gwneud hyn yn dilyn ein harweiniad ni. Busnesau hefyd, ac roeddwn yn falch iawn fod y busnesau sy'n aelodau o gyngor economaidd fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi gofyn i mi fynychu'r cyfarfod diweddaraf i wrando ar yr hyn y maent am ei wneud i helpu i liniaru newid hinsawdd. Felly, rwy'n credu ei fod wedi cael yr effaith roeddem ei heisiau o ran symbylu pobl, ond wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud.
Credaf fod lefel y gefnogaeth gyhoeddus i'r ymgyrch argyfwng hinsawdd yn adlewyrchu'r awydd i wleidyddion ddweud y gwir am y sefyllfa, ac nid yw Llywodraeth Cymru dan unrhyw gamargraff ynglŷn â’r peryglon a wynebwn yn ogystal â'r atebion sydd o fewn ein cyrraedd. Bydd angen i bob Gweinidog edrych ar eu polisïau. Rwyf wedi dweud bod y cynllun cyflawni carbon isel—a buaswn yn annog pob Aelod i ddarllen y cynllun hwnnw—mae ganddo 100 o bolisïau ac argymhellion, ac weithiau, rwy’n credu efallai na chafodd ei ddarllen yn ddigon manwl. Fe'i cyflwynwyd gennym ym mis Mawrth, ond er mai ym mis Mawrth y cafodd ei gyflwyno, rwyf wedi gofyn i swyddogion ei adolygu yng ngoleuni'r cyngor a gefais gan bwyllgor newid hinsawdd y DU.
Felly, ochr yn ochr â hynny, rwyf hefyd yn edrych ar reoli tir yn gynaliadwy. Yn wahanol i Blaid Cymru, rwy'n credu y dylem symud oddi wrth gynlluniau taliadau sylfaenol oherwydd rwy'n credu y bydd yr argymhellion sydd gennym, sy’n gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol, sy’n gwobrwyo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn helpu gyda'r allyriadau carbon amaethyddol, ac rwy'n falch iawn o weld y ffordd y cynhaliodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr gynhadledd yn ddiweddar ar gynhyrchu bwyd a rheoli tir yn gynaliadwy, ac maent wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer bod yn garbon niwtral erbyn 2040, ddeng mlynedd yn gynt na ni. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar yr argymhelliad hwnnw hefyd.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i daflu ataf lawer gwaith. Fe'i taflwyd ataf eto heddiw. Dylwn ddweud, unwaith eto: darllenwch y cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Yn wahanol i unrhyw wlad arall yn y DU, rwy’n credu, mae ein cyllidebau carbon yn cynnwys yr holl allyriadau o awyrennau yng Nghymru, sef yr holl deithiau awyr domestig a rhyngwladol. Rwy'n credu mai ni yw'r unig wlad i wneud hynny. Felly, nid yw Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi rhagdybio unrhyw ostyngiad mewn allyriadau o deithiau awyr rhyngwladol sy'n deillio o weithredu polisi unochrog Cymru neu'r DU.
Rydym yn cytuno â'r deisebwyr fod yn rhaid i ni sicrhau bod pob polisi yn y presennol a’r dyfodol yn gydnaws â’r angen i osgoi newid hinsawdd a chwalfa ecolegol bellach, a chredaf fod y ddau Aelod Llafur a siaradodd wedi cyfeirio at hynny. Rhoddwyd ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar waith gyda golwg ar yr union ddiben hwnnw. Mae Deddf yr amgylchedd, er enghraifft, yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Ceir gofyniad iddynt gynhyrchu eu hadroddiad cyntaf ar sut y maent yn cyflawni eu dyletswydd erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac mae Deddf yr amgylchedd hefyd yn cynnwys targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws economi Cymru.
Ond wrth gwrs, er mwyn i dargedau fod yn ystyrlon, rhaid eu gosod ar sail y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael, a rhaid iddynt gael eu hategu gan gamau gweithredu er mwyn eu cyrraedd. Dyna pam rwy'n derbyn cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, y corff cynghori statudol annibynnol a ffurfiwyd o arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth hinsawdd, economeg, gwyddor ymddygiad a busnes. Soniais fy mod wedi cael y cyngor gan y pwyllgor y gofynnodd Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a minnau amdano, ac roedd yn ymwneud â phennu targed allyriadau sero net ar gyfer y DU a'n cyfraniad at y nod hwnnw. Rwyf wedi derbyn eu cyngor, rwyf wedi ymrwymo i ddeddfu y flwyddyn nesaf i gynyddu targed lleihau allyriadau Cymru o 80 y cant i 95 y cant erbyn 2050, yn unol â chyflawniad targed sero net ar gyfer y DU.
Wrth gwrs, mae'r deisebwyr yn gofyn i ni fynd ymhellach a gosod targed sero net ar gyfer Cymru cyn y dyddiad hwnnw. Felly, ymateb Llywodraeth Cymru i'r alwad honno yw dweud: rydym ninnau hefyd yn cydnabod yr angen i fynd ymhellach. Dyna pam ein bod wedi derbyn y cyngor, a phan wnaethom hynny, nodasom ein huchelgais i ddatblygu targed sero net i Gymru. Felly, nawr mae angen i ni weithio gyda Phwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a chyda rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, i nodi'r ffyrdd y gellir cyrraedd targed mwy uchelgeisiol. [Torri ar draws.] Iawn.
Tybed a gaf fi ofyn am eglurhad. Gyda'r uchelgais sero net, a yw'r sero net hwnnw ar gyfer Cymru neu a yw’n caniatáu ar gyfer gwrthbwyso rhyngwladol a thalu gwledydd eraill a allai leihau allyriadau carbon deuocsid yn rhatach na ni?
Roedd hwnnw ar gyfer Cymru, ond rydym yn cymryd cyngor ar y pwynt olaf a wnaethoch hefyd.
Rydym yn rhannu'r farn a fynegwyd gan y deisebwyr fod yn rhaid i ddinasyddion Cymru gael rôl ganolog yn cyflwyno syniadau a chynlluniau newydd. Pan fydd grwpiau o ddinasyddion yn dod at ei gilydd i ysgogi gweithredu ar newid hinsawdd, bydd y Llywodraeth hon yn gwrando ac yn gweithio gyda hwy i wneud iddo ddigwydd. Mae cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni feithrin cydweithrediad newydd ar draws ein cymdeithas a'n heconomi. Mae gan bawb ran i’w chwarae, ac mae hynny'n cynnwys pob Aelod Cynulliad.
Ceir llawer o ffyrdd i ddinasyddion gyfrannu at yr agenda hon drwy ymgysylltu â ni fel eu Haelodau Cynulliad, gyda'u cynghorau lleol wrth gwrs, neu drwy ysgogi newid ymhlith busnesau drwy'r dewisiadau a wnânt fel defnyddwyr. Ceir mentrau Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo dinasyddion i fanteisio ar y cyfleoedd a'r adnoddau i weithredu'n lleol, fel ein menter eco-ysgolion a'n cynllun grantiau galluogi adnoddau naturiol a llesiant. Felly, ein neges i ddinasyddion Cymru yw hon: os ydych chi'n rhannu ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, ac os ydych am gyflwyno eich syniadau, ni fu erioed amser gwell i wneud hynny na nawr.
Diolch, Weinidog. A galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, gadeirydd. Diolch yn gyntaf oll i'r Aelodau ac wrth gwrs, i'r Gweinidog, am ymateb i hyn, ac fe gyffyrddaf â rhai o'r pwyntiau sydd wedi ychwanegu ymhellach at y ddadl hon.
Roedd Llyr Gruffydd yn llygad ei le pan dynnodd sylw at dymereddau cynyddol a phwyslais gwirioneddol ar y ffaith y byddai cynnydd o 2 y cant yn drychinebus mewn gwirionedd—sychder, a rhyfeloedd dinistriol hyd yn oed, a dinistr ein hecosystemau. Roedd Mark Reckless yn hollol iawn mewn gwirionedd hefyd i godi cwestiynau ynglŷn â sut y mae'r ffigur sero net hwn yn cymharu, a’r hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod Llywodraeth y DU, yn eu cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mai 2009, yn argymell y dylai’r DU a'r Alban osod targed sero net erbyn 2050 ar gyfer y DU, 2045 ar gyfer yr Alban, ond roeddent yn nodi eu hargymhelliad hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer gostyngiad o 95 y cant fan lleiaf ar gyfer yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yn erbyn llinell sylfaen 1990 erbyn 2050. Gellid rhoi deddfwriaeth mewn grym ar gyfer y targed newydd yn 2020, ochr yn ochr â thrydedd cyllideb garbon Cymru. Ac mae'n dweud:
Mae'r targed hwn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru at darged y DU, a Chytundeb Paris yn sgil hynny. Nid yw'n awgrymu bod llai o uchelgais neu ymdrech o ran polisi yng Nghymru, ond mae'n adlewyrchu'r gyfran fawr o allyriadau amaethyddol yng Nghymru a llai o fynediad at safleoedd addas i ddal a storio CO₂.
Mae'r Gweinidog wedi mynd ymhellach mewn gwirionedd ac wedi dweud
O ystyried hyn a’r datganiad argyfwng hinsawdd yn sgil cyhoeddi'r cynllun, er ein bod yn derbyn cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd—
pwyllgor Llywodraeth y DU,
credwn fod yn rhaid i ni fynd ymhellach. Felly, ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n datgan ein huchelgais heddiw i gyflwyno targed i Gymru gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 fan bellaf.
Felly, mae angen eglurhad, rydych yn llygad eich lle i ddweud hynny, ynglŷn â sut y mae'r ffigur sero net hwnnw—beth y mae'n ei olygu.
Tynnodd Neil McEvoy sylw at lygredd aer. Rydym bellach yn gweld mwy o blant ag asthma arnynt, ac roeddwn yn falch eich bod wedi galw am wyrddu seilwaith cyhoeddus, pwynt da iawn.
Jenny Rathbone AC a'r angen am systemau metro—ni allwn fforddio mwy o allyriadau carbon, ac rydych yn llygad eich lle i nodi hynny wrth inni symud ymlaen i adeiladu tai—rhaid i hynny hefyd gwmpasu a gwireddu'r cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth hynny a'i ran yn y gwaith o leihau ein hallyriadau carbon. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, roeddwn i'n hoff iawn o'ch pwynt ynglŷn â 12 mlynedd i achub y byd. Nid ydym yn siarad am 2050 yma, rydym yn siarad am amser nad yw mor bell i ffwrdd â hynny.
Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r holl sylwadau'n fawr, ac wrth gwrs, Mandy, fe wnaethoch chi bwyntiau da iawn hefyd am gryfder teimladau'r cyhoedd, nid Extinction Rebellion yn unig, ond hefyd y ffaith bod plant bellach mor ymwybodol yn ein hysgolion—fel gwleidyddion, ni allwn eu siomi.
Mike Hedges, wrth gwrs—hoffais y pwynt a wnaethoch ynglŷn â sut rydym yn wynebu—ac nid yw'n air y gallaf ei ddweud yn hawdd iawn—apocalyps. Ond mewn gwirionedd, mae hynny i mi’n crisialu mewn un gair yr hyn y mae'r ddadl heddiw'n ymwneud ag ef a sut y mae angen i ni symud ymlaen gyda hyn.
Dywedodd rhywun wrthyf—plentyn mewn digwyddiad y bûm ynddo. Dywedodd plentyn wrthyf, 'Pam rydym yn ei alw'n newid hinsawdd? Mae newid yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud dros gyfnod o amser. Rydym bellach yn wynebu argyfwng hinsawdd.' Ac roeddwn i'n meddwl mor ddoeth oedd y geiriau hynny gan ferch fach.
Felly, yr unig beth sydd ar ôl gennyf i’w wneud, gadeirydd, yw diolch i Matthew Misiak, Extinction Rebellion, a phob unigolyn a lofnododd y ddeiseb ac am gael hyder yn y system ddeisebau y byddai eu pryderon, eu safbwyntiau, yn cael eu gwyntyllu a'u trafod, gan ennyn sylwadau gan y Gweinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Brexit: gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n galw ar—pwy sy'n dechrau gyda ni? Mark Reckless. Mae'n ddrwg gyda fi. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7071 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.
3. Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.
4. Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.
5. Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:
a) yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b) yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch am fy ngalw, gadeirydd, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser hwn i gyflwyno dadl gyntaf Plaid Brexit yn y Cynulliad Cenedlaethol, lle rydym yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn ddelfrydol, ni ddylai hynny fod yn angenrheidiol, ond fe wnaethom bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid os yw'r UE yn cytuno neu'n amodol ar gael cytundeb gwych. Mae'r rhain yn amodau y ceisir eu gosod yn ôl-weithredol gan y rhai sydd eisiau aros ac sydd ddim eisiau derbyn canlyniad y refferendwm. Nawr, rydym yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth eleni, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU y byddent yn gwneud hynny a’r 498 AS a bleidleisiodd dros sbarduno proses erthygl 50 i adael ar y dyddiad hwnnw gyda neu heb gytundeb.
Rwy’n gresynu hefyd at welliant y Ceidwadwyr i'n cynnig, yn enwedig gan ei fod yn dechrau gyda 'Dileu popeth', ac i'r graddau y gallwn gyfleu'r pethau hyn, hyderaf y bydd llawer o'u cefnogwyr yn y gorffennol yn nodi mai dyna eu bwriad. Prif ran yr hyn y maent am ei ychwanegu yw, ar bwynt 1, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn rhoi dyddiad Mehefin 2016 i mewn, mae'n debyg, ac yna ym mhwynt 2, mae'n hynod o bwysig ein bod yn tynnu’r dyddiad 29 Mawrth allan. Cawn glywed maes o law efallai pa un a yw hyn ond er mwyn rhoi esgus i ddiwygio'r cynnig ar ôl dileu'r cyfan neu am fod rhyw reswm ofnadwy o bwysig pam fod angen dyddiad arnom ar un ac nid y llall. Ond yr hyn y credaf sydd mor bwysig am hyn yw y dylem adael yr UE ar 31 Hydref eleni. Wrth gwrs, dyna'r trydydd dyddiad gadael; cawsom 12 Ebrill fel un yn y cyfamser hefyd. Mae'n ofid gweld yr ymgyrch etholiadol hon am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn mynd rhagddi, oherwydd roedd gennym un ymgeisydd a oedd yn dweud yn glir iawn—Dominic Raab—y byddem yn gadael yr UE ar 31 Hydref, gyda neu heb gytundeb, doed a ddelo. Ni allai fod wedi bod yn gliriach ar hynny. Ond yn anffodus, mae'r ffaith na chafodd ond 30 o bleidleisiau, o'i gymharu â 37 i Rory Stewart, yn dweud llawer wrthym, rwy'n meddwl, am gyflwr y blaid seneddol Geidwadol a phwysau cymharol gwahanol garfanau o’i mewn. Nawr, wrth gwrs, mae Boris Johnson ymhell o flaen y gweddill. Cafwyd awgrym ei fod ef hefyd yn dweud bod yn rhaid i ni adael ar 31 Hydref, neu y byddai'n hoffi gwneud hynny, ond nid yw'n gwbl glir y bydd yn gwneud hynny. Ychydig iawn o gyfweliadau a wnaeth. Clywais yr un a wnaeth ar The World at One, a phan ofynnwyd iddo beth oedd ganddo i’w ddweud am hynny, dywedodd ei fod yn credu ei bod yn bwysig iawn na ddylem ddynodi ar hyn o bryd efallai na fyddem yn gadael ar y dyddiad hwnnw. Ac yna neithiwr, mewn dadl arall, gofynnwyd iddo a fyddai'n diystyru unrhyw beth heblaw gadael ar y diwrnod hwnnw. Gwrthododd wneud hynny, ac yna dywedodd ei bod yn 'eithriadol o ddichonadwy' y gallem adael ar 31 Hydref.
Felly, hynny yw, yn ein plaid ni, ond yn bwysicach fyth, yn fy marn i, ymhlith ei negodwyr Ewropeaidd, mae'n ymddangos nad yw Boris Johnson mor ddifrifol â hynny ynglŷn â gadael ar 31 Hydref, ac mae'n ddigon posibl—. [Torri ar draws.] Gall hynny fod yn wir neu beidio. Ond gallai’n hawdd ystyried newid y dyddiad hwnnw—edrych am estyniad arall. Credaf mai'r broblem sylfaenol, o leiaf, yw fod y Blaid Geidwadol wedi—ac fe drof at y Blaid Lafur maes o law—ar gyfer 29 Mawrth, roeddent yn wynebu dewis rhwng dim cytundeb a dim Brexit, ac fe wnaethant ddewis dim Brexit. Credaf eu bod yn dechrau deall canlyniadau etholiadol posibl hynny, ond rwy'n credu, ar ddiwedd mis Mawrth yn ôl pob tebyg, y gallent fod wedi gadael heb gytundeb pe bai ganddynt Brif Weinidog a Chabinet, a phlaid seneddol o bosibl, a oedd yn ddigon cryf i wneud hynny. Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, a phob tro y caiff ei ohirio, bob tro y caiff y dyddiad hwnnw ei ymestyn, mae'n dod yn llai tebygol y byddwn yn gadael, ac wrth gwrs dyna yw bwriad cynifer ar ochr Llafur nad ydynt eisiau inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y rhai a ymgyrchodd dros 'aros', a honni ar ôl y canlyniad eu bod yn derbyn a pharchu'r canlyniad, ond sydd byth ers hynny, ac yn fwyfwy amlwg, wedi ymgyrchu dros wrthdroi canlyniad y refferendwm hwnnw, rhwystro Brexit a gwadu democratiaeth.
Rydym hefyd yn nodi rhai o ganlyniadau gadael heb gytundeb, nad yw'n opsiwn a ffefrir gennym. Fodd bynnag, rydym wedi dod i fan lle mae'n fwyfwy tebygol, oherwydd methiant y Llywodraeth Geidwadol i adael a llwyddiant y Blaid Lafur i’n rhwystro rhag gadael. Pe baem yn gadael heb gytundeb, mae'n bwysig sylweddoli na fyddai arnom £39 biliwn i'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn wrth ddarllen cymaint gan y rhai sydd o blaid 'aros' ynglŷn â sut na fyddai neb byth yn benthyg unrhyw beth i ni eto ac y byddem yn dinistrio ein statws credyd rhyngwladol. Nid dyled sofran yw hon. Nid oes rhwymedigaeth arnom i dalu unrhyw beth y tu hwnt i'r hyn a bennir gan broses erthygl 50, y cytuniad sy'n nodi sut y gall aelod-wladwriaeth adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych yn parhau i fod yn atebol am eich holl rwymedigaethau—gyda'r holl fanteision tybiedig o aros, yn rhannol, gellid dadlau, yn gwrthbwyso'r rheini—am y cyfnod rhybudd o ddwy flynedd, ond ar ôl y ddwy flynedd hynny, heb gytundeb, mae'r cytundebau’n peidio â bod yn gymwys. Ni fydd arnom arian iddynt. Byddwn yn arbed y £39 biliwn. Yn wir, dylem fod yn arbed rhywfaint o'r £39 biliwn hwnnw eisoes.
David Rees a gododd—
Fe ildiaf i Gadeirydd y pwyllgor.
Diolch i'r Aelod am ildio. Gwrandewais ar yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn amlwg dangoswyd yn Nhŷ'r Arglwyddi fod yr achos cyfreithiol—nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu’r £39 biliwn. Mae yna gwestiwn ynghylch gofyniad moesol. Ond rydych chi newydd grybwyll bod yna rai rhwymedigaethau. A ydych wedi cael ffigur ar gyfer y rhwymedigaethau hynny, o ran y swm y mae'n ofynnol i ni ei dalu oherwydd y rhaglenni rydym wedi ymrwymo iddynt? Daw hynny allan o'r £39 biliwn rydych chi'n sôn amdano.
Gallaf roi’r union ffigur i'r gŵr bonheddig, sef dim. Ar ôl i'r cyfnod rhybudd o ddwy flynedd ddod i ben, daw ein rhwymedigaethau o dan y cytuniad i ben. Yn union fel pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, pan na wnaethant hwy ein digolledu am swm tybiannol ar gyfer cyfraniadau pensiwn pobl a oedd wedi bod yn gweithio iddynt ond nid i ni cyn i ni ymuno. Pan fydd rhywun yn gadael cwmni, mae gennych gytundeb contract. Mewn cyfraith ryngwladol, mae gennych gytuniad rhyngwladol, yn seiliedig ar gytuniad Rhufain a'r cytuniadau a’i holynodd. Ers cytuniad Lisbon, maent wedi darparu mecanwaith cytuniad penodol a gytunwyd ymlaen llaw ar gyfer gadael, sef eich bod yn rhoi dwy flynedd o rybudd dan erthygl 50. Nid yw'r cytuniadau’n gymwys wedyn. Nid oes arnoch unrhyw rwymedigaethau ariannol pellach, fel y nodwyd yn gywir gan Dŷ'r Arglwyddi.
Wrth gwrs, os ydych chi eisiau aros mewn rhai rhaglenni a chymryd rhan ynddynt, byddwch yn negodi pris am wneud hynny. Ond mae'r syniad fod arnom y swm hwn a'n bod yn torri rhwymedigaeth dyled sofran yn gwbl hurt. Daw gan bobl sydd am aros, ac sydd i’w gweld yn hoffi'r syniad o roi arian eu hetholwyr i sefydliadau tramor. Nid oes arnom yr arian hwn. Mae’r cwestiwn a ydym am dalu rhywbeth yn gyfnewid am rywbeth arall yn fater cwbl wahanol.
Nodaf hefyd, o ran masnach, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—mewn senario ‘dim bargen’ neu reolau Sefydliad Masnach y Byd—nid oes rheidrwydd arnom i osod y tariffau mawr hyn ar sectorau penodol. Mae'r syniad y bydd prisiau bwyd yn codi i’r entrychion yn sydyn yn rhagdybio y byddem yn dewis cymhwyso'r un tariff y mae'r UE yn ei gymhwyso ar gyfer nwyddau nad ydynt yn dod o'r UE. Nawr, os ydym yn gweithredu yn ôl rheolau Sefydliad Masnach y Byd, mae’n briodol fod angen i ni fod yn anwahaniaethol. Felly, beth bynnag yw'r tariff, byddai'n cael ei gymhwyso ar sail gyfartal i'r UE â’r hyn a fyddai y tu allan i'r UE os na cheir cytundeb masnach neu os na cheir trefniant erthygl 24 Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT). Ond nid oes rhaid i'r tariff hwnnw fod yr uchafswm y caniateir i'r UE ei osod, yn ôl ei atodlenni Sefydliad Masnach y Byd.
David Rees a gododd—
Fe ildiaf unwaith eto.
Unwaith eto, rwy’n derbyn y cwestiwn a roesoch i mi ar erthygl 24 y GATT, sy’n amlwg ond yn berthnasol os ydych chi mewn trafodaethau ar gytundeb masnach gan nad yw'n berthnasol os nad ydych yn cael y trafodaethau hynny. Hefyd, os ydych yn mynd i leihau tariffau i ganiatáu mewnforio masnach yn rhatach—rhywbeth y gallai’r DU ei wneud, fel y dywedwch yn gywir—fe nodwch fod yn rhaid eu cymhwyso ar draws holl aelodau Sefydliad Masnach y Byd, sy'n golygu felly, ei bod hi’n debygol y bydd gennych fewnforion ar lefel is ac yn arwain at golli swyddi yn y DU. Bydd mewnforion o wledydd y byddem wedi bod â chytundebau a thariffau uwch â hwy yn dod i mewn bellach ar dariffau is ac yn peryglu swyddi yn y DU. A ydych yn derbyn bod hynny'n bosibilrwydd o ganlyniad i ostwng prisiau'n unochrog?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Wel, mae'n dibynnu beth yw'r tariff, ond ymddengys mai safbwynt yr Aelod yw bod unrhyw gytundeb masnach yn wych cyn belled â bod yr Undeb Ewropeaidd yn ei negodi a’n bod yn rhan ohono fel yr UE, ond bod unrhyw drefniant arall yn ddrwg yn awtomatig, heb edrych ar rinweddau maint a chydbwysedd y tariffau. [Torri ar draws.] Dywed yr Aelod yn ei sedd nad oedd wedi dweud hynny, ac fe dderbyniaf hynny. Ond mater i ni yw’r hyn a wnawn.
Yn y bôn, mae Llywodraeth y DU wedi pennu rhestr o dariffau i'w gosod. Yn rhai o'r sectorau mwyaf sensitif, yr hyn y mae'n ceisio'i wneud yw cael tariff i roi rhywfaint o amddiffyniad i gynhyrchwyr domestig, ond un sy'n is na'r tariff a osodir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd hynny'n arwain at gydbwyso'r ddwy effaith a nodwyd. Mewn rhai o'r meysydd lle ceir tariffau uchel, megis dillad ac esgidiau, heblaw ym mhen uchaf y farchnad, nid ydym yn cynhyrchu dim yn y wlad hon, ac eto mae gennym dariffau anferth i ddiogelu mesur cyfyngedig o gynhyrchiant yn ne Ewrop, ac rydym yn atal Tsieina rhag mewnforio ar y tariffau hynny, lle rydym yn rhoi eithriadau i rai gwledydd eraill. Pe baem yn cael gwared ar y tariffau hynny ar ddillad ac esgidiau, byddai gostyngiad sylweddol iawn yn y gost, a byddai hynny'n fwyaf pwysig i'r rhai tlotaf yn ein cymunedau, sy'n gwario'r gyfran uchaf o incwm ar y nwyddau hynny.
Os caf dynnu tua'r terfyn, cawsom werth £172 biliwn o allforion y llynedd i'r UE yn erbyn £266 biliwn o fewnforion. Pe bai tariffau'n cael eu gosod ar y rheini y ddwy ffordd, a'r tariff wedi'i bwysoli yn uwch mewn gwirionedd ar yr hyn a fewnforiwn na'r hyn a allforiwn, byddai hwnnw'n swm sylweddol iawn o gynhyrchiant yn lle mewnforio a fyddai ar gael i'r economi ddomestig. Yn ogystal ag unrhyw amharu tymor byr a'r dadansoddiad economaidd hirdymor sydd o fudd i fasnach rydd, yn y tymor byr, os ydych wedi symud i sefyllfa o dariffau lle nad oedd gennych ddim o'r blaen gydag economi lle mae gennych ddiffyg masnach enfawr o £94 biliwn, mae'r effaith ar eich economi ddomestig yn y tymor agos o ran galw yn debygol o fod ag elfen gadarnhaol cynhyrchu yn lle mewnforio, nad yw prin yn cael ei drafod yn y ddadl hon ac mae angen ei osod yn erbyn y costau y mae eraill yn eu nodi.
Felly, i gloi, hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, a byddem yn hoffi cael cytundeb os gallwn. Mae amser yn brin, ond dylem adael ar 31 Hydref gyda neu heb gytundeb, ac os yw'r UE am gael cytundeb, dylai gynnig o leiaf yr hyn y bu'n barod i'w gynnig i Ganada o ran cytundeb masnach rydd, nid un lle mae'n rhaid inni ildio Gogledd Iwerddon, neu un lle rydym yn cael ein cloi i mewn i undeb tollau na allwn ei adael heb eu caniatâd hwy.
Rwyf wedi dethol un gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Darren Millar i gynnig y gwelliant hynny a gyflwynwyd yn ei enw ei hunan. Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto.
3. Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar waith.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant. Rhaid i mi ddweud, mae'n teimlo'n debyg iawn i sawl diwrnod arall yn y Siambr hon. Dadl arall ar Brexit pan nad yw'r sefyllfa y tu allan i'r Siambr hon wedi newid rhyw lawer ers ein dadl ddiwethaf. Fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn sefyll unwaith eto rhwng dau begwn eithaf, os caf eich cyflwyno felly. Mae gennym begwn eithaf Plaid Brexit, sydd am fynd â ni allan ar 31 Hydref heb gytundeb fel eich hoff ddewis, gan mai dyna mae Nigel Farage wedi ei ddweud. Mae arno eisiau Brexit glân erbyn 31 Hydref. Nid yw wedi dweud mai ei nod yw sicrhau cytundeb. [Torri ar draws.] Gwnaf, â phleser.
Diolch i Darren Millar. Pa begwn eithafol rydych chi'n ei gefnogi—pegwn eithafol Rory Stewart neu begwn eithafol Boris Johnson?
Fe wnaf fi feddwl am hynny yn nes ymlaen, efallai. Felly, mae gennym y pegwn eithafol hwnnw a fynegwyd gan Nigel Farage, arweinydd eich plaid. Mae wedi dweud yn hollol glir mai Brexit glân yw ei nod.
A wnaiff yr Aelod ildio? Rwyf am ddweud bod Rory Stewart wedi cael ei fwrw allan, felly mae'n ddiogel iddo gefnogi Boris.
Fel cefnogwr Boris Johnson a wnaeth ddatgan hynny cyn heddiw, yn amlwg byddai hynny'n plesio.
Ac ar yr ochr arall mae gennym y pegwn arall, sef y rhai sy'n gwadu Brexit, ac sydd ond yn credu mewn democratiaeth mewn refferendwm pan fydd yn mynd eu ffordd hwy. Grŵp o wleidyddion sydd eisiau mynd yn ôl i'r dechrau a chael refferendwm arall am nad ydynt yn hoffi beth ddywedodd pobl Cymru wrthynt yn yr un cyntaf. Ac wrth gwrs dyna'r union reswm pam nad ydym wedi gadael yr UE fel yr addawyd ar 29 Mawrth, am nad yw'r naill ochr na'r llall, ar y ddau begwn—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gwneud llawer o gynnydd. Fe gymeraf un ymhen ychydig eiliadau, os caf.
Nid yw'r naill ochr na'r llall yn y pegynau eithafol hynny wedi gallu cyfaddawdu nac ildio dim, a chlywn yn y Siambr hon dro ar ôl tro fod pobl wedi blino ar yr ansicrwydd, fod yn rhaid inni roi diwedd ar y cyfan, ac eto rydym wedi cael cyfle i roi diwedd ar y cyfan. Cawsom gyfle gyda'r cytundeb ymadael a negodwyd, a dyma'r unig gytundeb a negodwyd rhwng yr UE a'r DU, ac eto pleidleisiodd eich ASau, yn enwedig ASau Plaid Cymru a Llafur, yn erbyn y peth hwn. Felly, mae'n rhyfeddol i mi, mewn gwirionedd, ein bod yn y sefyllfa hon, ac os caf eich cywiro, y rheswm pam ein bod wedi rhoi Mehefin 2016 yn y cynnig yw ein bod am atgoffa pobl ei bod yn dair blynedd ers y bleidlais a'i bod yn hen bryd i ni fwrw ati a chyflawni'r canlyniad, a oedd yn glir—pleidleisiodd pobl dros adael yr UE. Fe gymeraf yr ymyriad gan Helen Mary.
Diolch i'r Aelod. Hoffwn ddweud wrtho mai'r rheswm pam nad ydym wedi gadael yr UE yw am fod ei Lywodraeth wedi methu'n lân â chael sgyrsiau gyda Llywodraethau eraill yn y DU, sgyrsiau gyda phleidiau eraill a allai fod wedi arwain at ryw fath o gyfaddawd â'r rheini ohonom nad oedd eisiau canlyniad y refferendwm hwnnw ond a oedd yn barod i'w dderbyn yn y lle cyntaf, ond ni chynigiwyd cyfle i ni, na'r pleidiau eraill, i gymryd rhan. Dim ond ar y funud olaf y digwyddodd y sgyrsiau hynny. Mae'n rhaid i'w blaid gymryd cyfrifoldeb am hynny, a hoffwn ddweud wrtho fod gan y bobl ifanc a gyrhaeddodd oedran pleidleisio yn y tair blynedd ddiwethaf hawl i gael llais yn eu dyfodol eu hunain bellach am na allai ei blaid ef gael trefn arni ei hun.
Y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, wedi treulio ei hamser yn negodi gyda'r UE a oedd yn cynrychioli 27 o wladwriaethau. Ond beth am ddychwelyd at y ddadl hon, oherwydd mae'n bwysig iawn. Yn wahanol i'ch plaid chi, Helen Mary, ac yn wahanol i'r Blaid Lafur yma, rydym ni'n parchu canlyniad y refferendwm ac yn credu y dylid gweithredu ewyllys y bobl. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant hwn heddiw. Rydym bob amser, fel gwlad, wedi gweithredu canlyniadau refferenda. Nid ydym yn credu y dylem fod yn nawddoglyd wrth bobl Cymru a dweud wrthynt, 'Rydym yn gwybod yn well na chi, ac rydym yn mynd i'ch gorfodi chi i ddychwelyd i'r blwch pleidleisio, ac mae'n rhaid i chi bleidleisio yn y ffordd rydym am i chi bleidleisio y tro nesaf'.
Nawr, rydym wedi datgan yn glir ein bod yn cefnogi'r nod o adael yr UE erbyn 31 Hydref, yn gynt os yn bosibl. Hoffwn ei weld cyn gynted ag y bo modd, ac rydym wedi dweud yn gwbl glir yn y Siambr hon ar sawl achlysur y byddai'n well gennym adael gyda chytundeb, a dyna pam ein bod wedi cefnogi'r cytundeb ymadael, a oedd yn gyfaddawd rhwng y ddau begwn a welwn yma yn y Siambr ar ffurf Plaid Brexit ac echel Llafur a Phlaid Cymru, os caf ei alw'n hynny. Ond fel yr eglurais yn y Siambr hon yn y gorffennol hefyd, er mai'r hyn fyddai orau gennym fyddai gadael gyda chytundeb—ac rydym yn sicr am weld pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau un—os na fydd yr UE yn barod i newid eu safbwynt, efallai na fydd dewis heblaw'r gadael heb gytundeb er mwyn parchu canlyniad y refferendwm. I mi, mae'n bwysicach parchu canlyniad y refferendwm nag ymestyn y cyfnod hwnnw a pheidio â chyflawni ewyllys y bobl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwy'n hapus i dderbyn—.
A allai egluro: ai safbwynt y Blaid Geidwadol o hyd yw cefnogi'r cytundeb ymadael, neu a yw ei safbwynt yr un fath ag un ei harweinydd tybiedig, Boris Johnson, fod y cytundeb yn un taeogaidd ac yn fest hunanladdiad o amgylch y wlad?
Mae'n gwbl glir nad oes unrhyw obaith y gall y cytundeb ymadael ar ei ffurf bresennol fynd drwy Senedd y DU, felly bydd yn rhaid cael trafodaeth gyda'r UE i weld a oes modd negodi rhywbeth gwahanol a fyddai'n dderbyniol. Felly, rydym wedi—. Ac oherwydd y bragmatiaeth hon ar ein hochr ni rydym wedi cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i baratoi a gwneud ymdrech ychwanegol i baratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen', oherwydd mae'n ddigon posibl mai dyna fydd y canlyniad y byddwn ei eisiau, er nad ydym eisiau gweld hynny'n digwydd o gwbl mewn gwirionedd. Felly, rwy'n dweud wrth bawb yn y Siambr, yn lle eich eithafion—a dyna ydych chi; rydych i gyd yn eithafwyr o'm rhan ni—[Torri ar draws.]—mae angen i chi ddychwelyd—[Torri ar draws.]—mae angen ichi ddychwelyd at safbwynt lle rydych yn cyfaddawdu yn yr un ffordd ag yr ydym ni ar y meinciau hyn wedi'i wneud er mwyn symud y sefyllfa yn ei blaen a sicrhau'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto.
Ni fydd llawer o achlysuron y prynhawn hwn nac unrhyw brynhawn arall lle caf reswm i ddiolch i Blaid Brexit, ond rwy'n gwneud eithriad heddiw i ddiolch iddynt am eglurder eu cynnig, sy'n galw'n benodol am Brexit 'dim bargen' ac i'r diawl â'r canlyniadau i gymunedau fel Torfaen. [Torri ar draws.] Ydy, mae. Mae cyfuno'r brwdfrydedd newydd hwn o blaid dim cytundeb gan wrthod cydnabod yr angen am bleidlais gadarnhaol yn ailysgrifennu hanes refferendwm 2016 ac mae'n gwbl annemocrataidd. Dywedwyd wrth bleidleiswyr yn Nhorfaen y byddai cael cytundeb yn haws na dim yn y byd, y byddai gwledydd yn curo ar ein drysau i lunio cytundebau masnach cyffrous â ni. Cannoedd o filiynau o bunnoedd yn llifo i mewn i'r GIG—dyna'r camargraff a werthwyd ar garreg y drws. Nid ydym wedi pleidleisio ar realiti eto.
Ni ddywedwyd wrth y bobl sy'n dibynnu ar y sector gweithgynhyrchu yn fy etholaeth mai'r pris am bleidlais 'adael' fyddai eu bywoliaeth o bosibl—y gwaith a'r glud sy'n dal cymunedau at ei gilydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Make UK wrth y pwyllgor dethol ar Brexit fod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwleidyddion yn sôn am y posibilrwydd o 'ddim bargen' a chwmnïau Prydeinig yn colli cwsmeriaid tramor a phobl Prydain yn colli eu swyddi. Ni ellir diystyru hyn fel prosiect ofn—prosiect ffaith yw hyn. Mae'n digwydd yn awr. Mae ffatrïoedd yn cau, mae swyddi'n mynd, mae cymunedau'n wynebu dyfodol llwm. A dim ond yr hyn y mae'r posibilrwydd o 'ddim bargen' yn ei wneud i ni yw hyn. Dychmygwch beth sy'n digwydd pan ddaw'r rhagolygon yn realiti, a dyna y mae'r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw yn galw amdano.
Ar yr union foment y mae ein gweithgynhyrchwyr yn dweud wrthym fod galw am Brexit 'dim bargen' yn weithred o fandaliaeth economaidd, dyma'r foment pan fo Plaid Brexit yn cyflwyno cynnig yn galw amdano. Dyma'r adeg hefyd pan fo Boris Johnson yn lansio ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, sy'n rhoi 'dim bargen' yn gadarn ar y bwrdd fel canlyniad posibl i'w wneud yn Brif Weinidog. A chydag un arall o'r rhai sydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yn cefnogi 150 y cant y ffordd hiliol y sarhaodd Katie Hopkins faer Llundain, nid yw natur wenwynig dadl Brexit yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Nawr, nid wyf yn disgwyl y byddaf yn argyhoeddi Plaid Brexit ynghylch y dadleuon economaidd yn erbyn y llwybr y dewisant ei ddilyn heddiw, ond rwy'n gobeithio eu hargyhoeddi o un peth. Wedi'r cyfan, dyma'r wythnos y cofiwn am farwolaeth ein cyd-Aelod, Jo Cox—AS ifanc a siaradai o blaid amrywiaeth fel cryfder ac a lofruddiwyd ar y stryd gan derfysgwr asgell dde. Mae'r iaith y dewiswn ei defnyddio yn y Siambr hon yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r iaith y mae ein Haelodau a'n cefnogwyr yn ei defnyddio ar y stryd ac ar-lein yn bwysig. Mae'n wirioneddol bwysig. Mae'r labeli a roddwn i wleidyddion eraill a phobl eraill yn ein taflenni, ein colofnau papur newydd a ffrydiau Twitter yn bwysig iawn. Ni ddowch o hyd i feirniad mwy croch yn erbyn rhai sy'n cyflawni camweddau o fewn ei phlaid ei hun na fi. Ni fyddaf byth yn esgusodi ymddygiad bygythiol, bwlio neu ymddygiad rhagfarnllyd gan neb. Felly, rwyf am roi'r un cyfle i arweinydd Plaid Brexit heddiw i egluro lle mae ef a'i blaid yn sefyll ar hyn. Ers i Mark Reckless fy nghyhuddo yn y Siambr hon o amharchu fy etholwyr, dioddefais lif parhaus o gam-drin geiriol gan giwed fechan ond swnllyd iawn yn lleol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae un o Aelodau Plaid Brexit newydd ochneidio a dweud, 'O God', pan sonioch am farwolaeth drasig Jo Cox. A ydych yn ymuno â mi i gondemnio hynny?
Ydw, yn sicr, a chredaf fod hynny'n gwbl warthus.
Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau a ddywedwch yn y fan hon—[Torri ar draws.] Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau rydych chi'n eu dweud yma yn cael effaith go iawn. Wel, maent yn cael effaith. Gallwn anghytuno—anghytuno'n angerddol—am yr hyn y credwn sydd orau i economi Torfaen, ond mae fy nghyhuddo o beidio â malio am farn pobl Torfaen yn hollol anghywir. Gallwn fod wedi cael gyrfa haws o lawer mewn gwleidyddiaeth pe na bawn wedi rhoi Torfaen yn gyntaf bob tro, ond nid dyna oedd fy ffordd. Eisoes, bu'n rhaid ailwampio'r trefniadau diogelwch yn fy swyddfa. Yn ystod rali Plaid Brexit ym Merthyr Tudful, cefais fy nghondemnio gydag Aelodau Llafur eraill yn y Siambr hon o'r llwyfan. Cafodd swyddfa Dawn Bowden ei fandaleiddio y diwrnod wedyn. Mae pobl yn cael eu harwain gan yr hyn y gwelant ac y clywant eu harweinwyr yn ei ddweud. Pan ddywedodd Nigel Farage ei fod yn barod i wisgo dillad caci er mwyn sicrhau Brexit, efallai ei fod wedi meddwl ei bod yn jôc wych. I bobl sy'n cael eu targedu gan gam-drin treisgar, mae'n unrhyw beth ond jôc. Dyma wleidyddiaeth o fath arall, mae'n beryglus, a galwaf ar arweinydd Plaid Brexit i gondemnio'n ddiwyro y rhethreg a'r ymddygiad bygythiol a threisgar hwn.
Rwy'n tybio bod yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd bod yr Aelod eisiau imi ymyrryd. Rwy'n condemnio trais a bygythiadau gwleidyddol o bob math. Rwyf wedi ymladd isetholiad lle dioddefais gryn dipyn o fygythiadau ac rwy'n credu bod angen i ni dynnu sylw ato pryd bynnag y byddwn yn ei weld. Rwy'n cytuno'n llwyr â hyn. Rwy'n credu mewn democratiaeth. Rwy'n credu bod angen inni weithredu canlyniadau democrataidd. Dyna sut y dylem wneud gwleidyddiaeth yn ein gwlad.
Wel, gobeithio y byddwch hefyd yn ystyried yr iaith a ddefnyddiwch yma yn y dyfodol felly, nid dim ond cyhuddo rhai ohonom o amharchu pobl, ond rwyf wedi clywed y term 'brad' yn rhy aml, ac mae'r term 'brad' yn arwain at gyhuddo pobl o fod yn fradwyr. Fe ildiaf eto.
Nid wyf yn credu fy mod i wedi defnyddio'r gair hwnnw. Os ydw i'n anghywir ac os hoffech ddangos i mi lle y defnyddiais y gair hwnnw erioed mewn cyd-destun gwleidyddol i gondemnio unrhyw un, gwnewch hynny. Ond nid wyf yn credu fy mod wedi'i ddweud.
Wel, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, ond yn sicr mae rhai Aelodau wedi gwneud. Nid oes angen—
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am gymryd—
Rydych wedi gwneud eich araith, Mark. Rwy'n siarad—
Mae angen i mi—. Hoffwn gywiro'r hyn rwyf newydd ei ddweud. Nid wyf yn credu fy mod wedi defnyddio'r gair 'bradwr'. Nid yw hwnnw'n air rwy'n ei ddefnyddio.
Na, rwy'n—
Rwy'n defnyddio'r gair 'bradychu' mewn rhai cyd-destunau. Ond dylem feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y byddwn yn defnyddio geiriau, rwy'n cytuno.
Ni wneuthum eich cyhuddo o ddefnyddio'r gair 'bradwr', roeddwn yn siarad am y gair 'brad' sy'n—
Nid wyf yn gwadu defnyddio'r gair hwnnw.
O'r gorau. O'r gorau.
Dylwn ddatgan ar gyfer y cyd-destun fy mod—. Nid wyf wedi defnyddio'r gair 'bradwr'.
Iawn. Rwy'n credu eich bod wedi egluro hynny.
Diolch yn fawr, ond hoffwn orffen fy araith yn awr, a gobeithio y byddwch yn ystyried y sylwadau a wneuthum.
Afraid dweud na fyddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Rwy'n aros ar ochr y cynhyrchwyr sy'n gweld unrhyw fath o Brexit fel rhywbeth niweidiol a 'dim bargen' fel fandaliaeth economaidd syml. Ymhell o ddangos diffyg parch at bobl Torfaen, y parch mawr sydd gennyf at wead pob cymuned yn yr etholaeth sy'n rhoi egni i mi frwydro dros gael llais terfynol, pan all pobl ddweud eu barn go iawn ar y dewisiadau go iawn sy'n wynebu'r wlad hon ac nid ar y telerau annelwig ac anonest a gawsom yn 2016.
Cyn imi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn ofyn am y parch rwy'n ei haeddu fel un o'ch cymheiriaid hefyd. Rwy'n ystyried bod heclo a beirniadaeth—a ddaw i raddau helaeth o gyfeiriad y meinciau Llafur—yn blentynnaidd ac yn aflonyddgar. Yn yr ysbryd hwnnw o barch cydradd y gwnaf y sylwadau hyn.
Nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn y DU neu sy'n gwylio ffiasgo Brexit o'r tu allan yn anghytuno ei fod yn llanast—llanast mawr. Ni wnaf ailadrodd yma y dadleuon, y gwrthddadleuon, yr ystadegau, yr arolygon barn un ffordd a'r ffordd arall a fu'n sylfaen i lawer o'r dadleuon yma yn y Siambr neu unrhyw le arall. Mae pawb ohonom wedi'u clywed o'r blaen, ac mae ein hetholwyr wedi eu clywed o'r blaen, a gallwn oll eu troi i gyd-fynd ag unrhyw un o'n naratifau.
Yn amlwg, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac ni allaf ond meddwl mai dyma ben draw naturiol y tair blynedd diwethaf o ddadlau, ailystyried, arweinyddiaeth wael, agenda gudd, diffyg paratoi a chymryd yr etholwyr yn ganiataol. Mae gennym wlad ranedig iawn sydd bellach yn ymddangos i mi ei bod wedi'i hollti ar hyd llinellau gadael/aros. Rydym i gyd yn gwybod hynny, ac mae'n ymddangos bod y llinellau hyn yn goresgyn teyrngarwch pleidiol arferol.
Un enghraifft a welais ddoe: cyfarfûm â chwpl y tu allan yn siarad, a chawsom hwyl arni am 20 munud tu allan yn siarad am y defaid a'r moch, a'r hyn yr arferwn ei wneud ym maes ffermio yn flaenorol a phethau felly. Ac yna, wrth i mi ysgwyd eu llaw—roeddem wedi cytuno ar bethau fel rheolau'r UE hefyd, am drogod a ffermio a phethau felly—ac yna wrth i mi anelu i fynd i mewn, fe wnaeth hi ysgwyd fy llaw a dweud, 'O, mae'n hyfryd eich cyfarfod, pa blaid rydych chi'n ei chynrychioli?' a dywedais, 'Plaid Brexit', ac roedd fel pe bawn i wedi tyfu cyrn. Camodd yn ôl a dywedodd, 'Wel, mae'n ddrwg gennyf, fe bleidleision ni dros 'aros' a bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno', ac eto roeddem wedi cytuno am yr 20 munud diwethaf pan ddywedais bethau wrthi. Roedd hi'n cytuno â phopeth, wyddoch chi—felly, mae'n rhyfedd iawn.
Ni fyddwch yn synnu clywed fy mod yn credu bod llwyddiant cymharol parhaus ein democratiaeth yn golygu fy mod yn credu bod angen gweithredu'r bleidlais a gynhaliwyd yn 2016. Mae holl gynsail ein democratiaeth wedi ei seilio ar gydsyniad y collwr. Dyna'r egwyddor sylfaenol. Os nad yw hynny'n berthnasol bellach, beth wedyn? Clywais ormod o bobl yn dweud wrthyf na fyddant byth yn pleidleisio eto oherwydd bod eu pleidlais yn 2016 wedi'i diystyru, ac mae llawer o'r rheini ar ochr Llafur. Maent yn dweud wrthyf fod pleidleisio'n ddibwrpas ac yn ddiystyr. Ac mae pawb ohonom yn colli os yw ein democratiaeth wedi'i hadeiladu ar ddifaterwch a diffyg ymddiriedaeth ynddi. Nid yw hon yn sylfaen gynaliadwy.
Mynychais fy nghyfarfod cyntaf o bwyllgor Brexit ddydd Llun, a hoffwn ddiolch i'r clercod a'r Aelodau am eu croeso cynnes iawn. Diolch. Roedd yn sesiwn dystiolaeth ddiddorol, lle buom yn trafod datblygiad parhaus fframweithiau cyffredin. Yr eiliad a safai allan i mi oedd y cyfaddefiad nad yw'n ymddangos bod cytundeb ar draws gwahanol Lywodraethau'r DU ynglŷn â beth yw fframwaith cyffredin mewn gwirionedd a beth mae'n ei wneud. Yn ffodus, mae'r pwyllgor yn ceisio eglurhad ar hyn bellach drwy ysgrifennu at San Steffan, Llywodraeth Cymru a'r Alban hefyd, gobeithio. Mae'n ymddangos bod yna broblem gyfathrebu fawr yr holl ffordd drwodd, ac mae hyn yn gwneud anghymwynas â'n gwlad. Yn wir, roedd adroddiad fy nghyn bwyllgor ar lywodraethu'r DU ar ôl Brexit yn tynnu sylw at hyn a gwnaeth argymhellion ynglŷn â hyn yn 2018.
Yn fy marn i, rydym ar bwynt di-droi'n-ôl ar hyn o bryd o ran ein hymadawiad â'r UE—a rhaid i hynny ddigwydd—o ran ein cysylltiadau go gamweithredol â Llywodraethau eraill y wlad hon, rhywbeth sydd angen ei ddatrys, ac o ran adfer hyder yn ein democratiaeth. Am y rhesymau hyn, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn gennym heddiw. Diolch yn fawr.
Lywydd, nid yw Plaid Cymru wedi ceisio diwygio'r cynnig hwn gan Blaid Brexit; mae mor bell oddi wrth realiti fel mai'r peth mwyaf caredig i'w wneud yw ei wared o'i ddioddefaint cyn iddo suddo o dan bwysau ei wrthddywediadau ei hun. Ag ystyried mai un peth yn unig sydd o bwys i Blaid Brexit—Brexit—mae'n gwbl ryfeddol wynebu dyfnder eu hanwybodaeth ynglŷn â sut y byddai'n gweithio. Mae'n weddol debyg i weld cystadleuydd ar Mastermind yn methu sgorio pwynt ar eu pwnc arbenigol addefedig eu hunan. Mae'r cynnig yn nodi bod 498 o ASau wedi pleidleisio dros sbarduno erthygl 50 yn ôl ym mis Mawrth 2017. Mae hynny, o leiaf, yn gywir. Dyna 498 o ASau Torïaidd a Llafur yn bennaf a bleidleisiodd o blaid cychwyn ar daith antur heb fap, cwmpawd nac unrhyw syniad lle roeddent yn gobeithio ei gyrraedd. [Torri ar draws.] Na, ni wnaf ildio, Mark.
Rhybuddiodd Plaid Cymru ar y pryd mai camgymeriad aruthrol oedd gosod y cloc ar gyfer gadael, pan nad oedd gan Lywodraeth y DU set glir o amcanion. Gwyddai'r Llywodraeth fod problemau difrifol gyda phob math o Brexit, felly, yng ngoleuni'r anhawster hwnnw, penderfynasant beidio â phenderfynu pa un i'w ddilyn yn y gobaith na fyddai neb yn sylwi. Nid oeddent am ddewis Brexit meddal, gan y byddai'n golygu'n syml y byddai'n rhaid iddynt barhau ag aelodaeth o'r UE heb rai o'r manteision. Nid oeddent am ddewis Brexit caled, am fod eu hasesiadau effaith eu hunain yn dangos yn glir y byddai hynny'n achosi niwed difrifol dros gyfnod maith i'r economi. A chan nad oedd unrhyw Brexit cyfaddawdol i'w gael, ni wnaethant ddewis yr un o'r ddau, a bwrw iddi i negodi cytundeb nad oedd yn plesio neb.
Nawr, yn ôl y cynnig hwn gan Blaid Brexit, gallai gadael yr UE heb gytundeb ar noson Calan Gaeaf ostwng cost bwyd, dillad a—gwrandewch ar hyn—esgidiau. Gadewch inni adael i hynny suddo i mewn. Rydym wedi mynd o £350 miliwn ychwanegol yr wythnos i'r GIG i'r gobaith niwlog y gallwn gael £3.50 oddi ar ein pâr nesaf o esgidiau. Ac nid yw'r honiad llai na beiddgar hwn hyd yn oed yn dal dŵr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe gymeraf ymyriad.
Mae ar yr union bwynt hwnnw. Fe sonioch chi am wrthddywediadau yn gynharach ac wrth gwrs, rydym wedi clywed am yr effaith bosibl ar bris dillad. Rydym newydd gael dadl ar newid hinsawdd a diffyg cynaliadwyedd, ac eto i gyd ymddengys bod y cynnig yn gwahodd dillad ffasiwn rhad wedi'u mewnforio, yn y bôn, fel ffordd o ddenu pobl i gefnogi Brexit 'dim bargen'. A fyddech chi'n rhannu fy marn fod hwnnw'n wrthddywediad arall nad yw Plaid Brexit i'w gweld yn ei ddeall?
Ar hynny, o leiaf, efallai y gallwn gytuno, o ran Brexit.
Byddai gadael heb gytundeb yn debygol o arwain at ddirywiad sydyn yng ngwerth sterling, a fyddai'n golygu na fyddai dim byd yn rhatach, felly beth yw ateb Plaid Brexit i hyn? Sut y byddent yn cadw prisiau i lawr? Eu polisi, hyd y gellir gweld, fyddai lleihau tariffau'n unochrog i sero. Wrth gwrs, o dan reol 'cenedl a ffefrir fwyaf' Sefydliad Masnach y Byd, byddai'n anghyfreithlon i wahaniaethu ar dariffau y tu allan i gytundeb masnach. Felly, byddai'n rhaid i'r DU ollwng tariffau ar nwyddau dewisol ar gyfer y byd i gyd. Byddai hyn, yn amlwg, yn drychineb i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn, ac yn boddi'r farchnad â nwyddau rhad ac yn gwneud cynnyrch o Gymru yn anghystadleuol dros nos.
A wnaiff yr Aelod ildio? Nid ydym wedi cynnig torri pob tariff i sero. Yn gyffredinol, roeddem o'r farn fod rhestr dariffau'r Llywodraeth yn un synhwyrol. Ceir achos cryf ar ddillad ac esgidiau. Ar fwyd, byddem yn gweld achos dros gael rhywfaint o amddiffyniad i gynhyrchwyr domestig.
Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw i'n goleuo, Mark.
Serch hynny, byddai Brexit Sefydliad Masnach y Byd yn arwain at embargo masnachol, gan arwain at atal allforio cynhyrchion anifeiliaid o'r DU fel cig, wyau a chynnyrch llaeth i'r UE—tybed a fyddech chi'n anghytuno â hynny hefyd—ergyd ddwbl i ffermwyr Cymru trwy garedigrwydd Plaid Brexit. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym yr honiad truenus hwn y gallai'r DU arbed £39 biliwn drwy atal y Bil ysgaru fel y'i gelwir. Byddai hyn yn atal cytundeb masnach â'r UE, rhywbeth y mae Plaid Brexit ei eisiau yn ôl pob golwg, byddai'n niweidio statws credyd y DU, ac fel y mae Llywodraeth Ffrainc wedi dweud yn glir, byddai gwledydd yr UE yn ystyried hynny'n fethiant i dalu dyled sofran. Gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch beth sy'n cael ei gynnig yma. Mae Plaid Brexit yn argymell gwneud y DU yn wlad mewn trafferthion economaidd dwys.
Nawr, gadewch i mi droi at fy hoff ran o'r cynnig rhyfeddol hwn, pwynt 5, sy'n galw am adael yr UE heb gytundeb oni bai eu bod yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU ac yn derbyn trefniadau amgen yn lle'r protocol ar gyfer Gogledd Iwerddon. Wel, mae'r rhain yn alwadau am bethau y mae'r UE eisoes wedi'u cynnig a phethau y mae Plaid Brexit yn eu gwrthwynebu. Cynigiodd yr UE gytundebau masnach cynhwysfawr heb unrhyw dariffau ac maent wedi derbyn trefniadau amgen ar gyfer y ffin—mae yn y protocol Gwyddelig, a wrthodir gan Blaid Brexit. Ni ddaw'r trefniadau 'backstop' i rym oni bai fod y trefniadau amgen hynny'n methu gwneud yr hyn y mae cefnogwyr Brexit yn dweud y byddant yn ei wneud, sef creu ffin ddiffrithiant. Felly, dyna ni. Mae'r llanast o gynnig o'n blaenau yn gwneud addewidion cwbl chwerthinllyd. Esgidiau rhatach—a'n gwaredo—ac nid yw hynny hyd yn oed yn gyflawnadwy. Mae'n mynnu bod yr UE yn cynnig cytundeb y mae eisoes wedi'i gynnig, a bydd yn sefyll fel prawf ar hyd yr oesoedd nad oedd Plaid Brexit yn ddim mwy na phlaid un pwnc heb unrhyw ddealltwriaeth o'r un pwnc y bodolai er mwyn dadlau drosto. Rhag ofn nad oedd yn amlwg, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn a byddwn ni'n sicr yn gwneud hynny.
Unwaith eto, rwy'n cytuno â Darren; rydym yn ôl gyda'r un peth unwaith eto. Clywn eto mai'r cynnig cyntaf gan Blaid Brexit yw cynnig i gefnogi eu cred fod gadael yr UE heb gytundeb yn weithred rinweddol ac y bydd yn gwella bywydau pobl Cymru. Er hynny, y tro hwn, maent wedi ychwanegu mân bethau er mwyn ceisio ein hannog drwy ddweud y bydd gostyngiadau ar fwyd, dillad ac esgidiau, fel y nodwyd. Mae gennyf fy esgidiau amdanaf; fe fyddaf i'n iawn.
Ond yn y drafodaeth honno, maent yn dweud na fyddwn ni'n talu'r £39 biliwn. Wel, cawsom y drafodaeth a'r sgwrs a gawsom yn gynharach, a dangoswyd nad oes gofyniad cyfreithiol am y £39 biliwn cyfan, ond fel y mae Delyth Jewell wedi nodi rwy'n credu, fe allai ac fe fydd y methiant i gyflawni eich rhwymedigaethau moesegol—a cheir rhwymedigaethau moesegol yma—yn debygol o gael ei weld gan y byd fel methiant i anrhydeddu cytuniadau y maent yn ymrwymo iddynt. Ac yna, rydych chi'n ceisio dweud, 'Wel, rydym eisiau masnachu gyda chi a negodi cytundeb gyda chi, ond ar yr un pryd, ni fyddwn yn rhoi'r hyn y credwn y dylech fod yn ei gael'.
Mae'r cynnig hwn yn llawn o ffantasïau, ac mae'n adlewyrchu anallu llwyr y blaid gyferbyn i lunio dadl gydlynol dros adael yr UE. Maent am anwybyddu rhwymedigaethau. A chredaf fod y pwynt olaf, mewn gwirionedd, yn sôn am flacmelio'r UE: 'Ni chewch eich arian oni bai eich bod yn ymrwymo i gytundeb â ni'. Mae hynny'n ffurf ar flacmel. A ydych yn credu bod gwledydd eraill yn mynd i fodloni ar hynny? [Torri ar draws.] Nid negodi ydyw, ac mae'r Aelod sy'n ceisio dweud o'i sedd mai dyna ydyw yn gwybod hynny'n iawn. Pe bai erioed wedi bod mewn negodiadau, byddai'n gwybod yn well na hynny. Mewn ffordd, rwyf wedi bod mewn negodiadau ychydig yn wahanol—nid gyda gwledydd, ond yn bwysicach, gyda fy aelodau.
Lywydd, rwy'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yn refferendwm 2016. Yn wir, yn fy etholaeth i, pleidleisiodd y mwyafrif dros adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, nid wyf yn sefyll yma i herio'r hyn roeddent eisiau ei wneud. Roeddent eisiau gadael. Efallai ein bod yn gwahaniaethu o ran yr hyn oedd 'gadael' yn ei olygu, ond roeddent eisiau gadael. A rhaid i ni feddwl am ffordd o gyflawni hynny gymaint â phosibl, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny gan ddiogelu pobl Cymru rhag y canlyniadau gwaethaf posibl, oherwydd rydym am ddiogelu eu safonau byw yn ogystal.
Roedd y cyn-Brif Weinidog, a oedd yn eistedd yma y prynhawn yma, yn ei gwneud yn gwbl glir, ar ôl y refferendwm, y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at gyflawni canlyniad y refferendwm, ond ar ôl bron i dair blynedd o ymgais flêr yn San Steffan i ddyfeisio cynllun ar gyfer Brexit, bellach fe'n gadawyd gyda phlaid lywodraethol yn San Steffan mewn cythrwfl, a ras am arweinyddiaeth y Llywodraeth gyda phedwar ymgeisydd ar ôl—pob un ohonynt, gyda llaw, yn y Cabinet yn ystod y ddwy flynedd—yn ceisio ailnegodi cytundeb y dywedwyd wrthynt na allant ei ailnegodi, na gadael heb gytundeb, ac mae pawb ohonom yn gwybod y byddai gadael heb gytundeb yn niweidiol iawn i'r wlad hon.
Nawr, mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad hwn i gymryd pob cam posibl i ddiogelu economi Cymru, ac rydym bellach mewn sefyllfa sy'n golygu nad oes gennym fawr ddim opsiynau yn hynny, ond un opsiwn sy'n rhaid inni ei dderbyn yw brwydro yn erbyn gadael yr UE heb gytundeb. Dyna'r sefyllfa waethaf posibl. Mae'r dystiolaeth a glywais yn adlewyrchu hynny'n glir. Nawr, clywsom straeon heddiw gan yr Aelodau gyferbyn y daw pethau mawr o adael yn y fath fodd ac y cawn gytundebau masnach gwych gyda gwledydd eraill, gyda'r UE yn ymrwymo i gytundeb â ni o bosibl, caiff ein tariffau eu defnyddio ar draws y byd, yn unochrog ar draws pawb, i roi esgidiau am bris is i ni a dillad ym mhen uchaf y farchnad am brisiau is. Wel, ni fydd y rhan fwyaf o fy etholwyr i'n prynu dillad ym mhen uchaf y farchnad.
Clywsom hefyd y ddadl gan arweinydd y blaid gyferbyn yn genedlaethol y gellir rhoi erthygl 24 y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach mewn grym a byddwn yn parhau i fasnachu heb unrhyw dariffau ar draws yr UE. Wel, nid wyf yn credu ei fod wedi darllen erthygl 24 mewn gwirionedd, achos os darllenwch erthygl 24—ac mae'r holl dystiolaeth yno; ewch at y bobl sy'n ymchwilio yn Nhŷ'r Cyffredin os ydych am ei ddarllen—caiff erthygl 24 ei rhoi mewn grym pan fyddwch wrthi'n negodi, nid ar y cam hwn. Nid ydym wrthi'n negodi. A phan fyddwn yn gadael, ni fyddwn wrthi'n negodi, felly ni fyddwn yn rhoi erthygl 24 mewn grym. Felly, ni fyddwn mewn sefyllfa lle gallwn ddweud mewn gwirionedd, 'Gadewch inni gadw'r status quo', oherwydd ni fydd yn berthnasol.
Cofiwn hefyd nad yw erthygl 24 ond yn berthnasol i nwyddau'n unig. Nid yw'n berthnasol i wasanaethau. Felly, nid yw un o elfennau mwyaf ein heconomi wedi'i chynnwys yn erthygl 24. Felly, unwaith eto, ni fydd gennym status quo yn ein heconomi. Bydd yn rhaid inni dalu tariffau, a dywedodd Delyth fod rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn gymwys i bob gwlad sy'n aelod o reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac os ydych yn cael gwared ar unrhyw dariffau i geisio annog mewnforion, rydych yn cael eu gwared ar gyfer pob gwlad, a gallai hynny roi ein swyddi yn y wlad hon mewn perygl, gan nad oes gennych amddiffyniadau rhag rhai o'r nwyddau sy'n dod i mewn, nad ydynt o bosibl o'r safon neu'r ansawdd a ddymunwn am nad oes unrhyw gwestiwn o reoleiddio chwaith ar gyfer yr agweddau hynny.
Datganiad anghywir arall sy'n cael ei ledaenu gan Blaid Brexit—rwyf wedi darllen eu herthyglau—yw y gallwch yrru ar draws Ewrop heb unrhyw broblem: 'Peidiwch â phoeni; gall cerbydau nwyddau trwm fynd ar draws, maent i gyd yn iawn'. Rydym wedi cael 102 o drwyddedau ECMT—edrychwch i weld os nad ydych yn gwybod beth yw ystyr ECMT. Mae'n golygu bod 5 y cant o system cludo nwyddau'r DU yn gallu teithio ar draws Ewrop. Ni all 95 y cant wneud hynny. Faint o gludwyr nwyddau Cymru fydd hynny'n eu peryglu? Mae'n rhaid i'r ffantasi hon fod gadael heb gytundeb yn dda i'n heconomi gael ei dangos yn glir i'r cyhoedd—mai ffantasi ydyw. Y realiti yw bod gadael heb gytundeb yn niweidio'r economi hon yn ddirfawr. Ac rydym yn cynrychioli pobl, pob un ohonom, hyd yn oed y pedwar Aelod acw, ac yn gorfod sicrhau nad yw eu safonau byw yn gostwng. Mae gadael heb gytundeb yn gwneud i hynny ddigwydd. Mae'r cynnig hwn yn llawn o ffantasi, yn llawn o anwiredd ac yn llawn o anobaith i bobl ac economi'r wlad hon, a hoffwn awgrymu bod pawb yn ei wrthwynebu.
Y Gweinidog Brexit i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mewn datganiad bythefnos yn ôl fe ddywedais i, er gwaethaf yr estyniad pellach i broses erthygl 50, nad ydym ni damaid yn agosach at ddod o hyd i ffordd ymlaen ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â delifro ar y mater pwysicaf oll yn ein hanes mewn cyfnod o heddwch, ac wedi methu gwella'r rhaniadau yn ein cymdeithas. Yn 2016, yn dilyn blynyddoedd o gyni llethol gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, roedd sawl un yn ein cymdeithas yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, a'u hanghofio, gan y rhai sydd â chyfrifoldeb i amddiffyn y bobl mwyaf agored i niwed.
Yn ôl rhai, ymgyrch y refferendwm yn dilyn hynny oedd y digwyddiad democrataidd mwyaf yn ein hanes, ond dyma'r digwyddiad a achosodd y mwyaf o raniadau, hefyd. Fe gafodd y rhaniadau a oedd eisoes yn bodoli eu porthi gan yr ymgyrch 'ymadael', a oedd yn ceisio perswadio etholwyr mewn unrhyw ffordd bosib y byddai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn datrys y problemau yn ein cymdeithas. Roedd hon yn ymgyrch a gafodd ei hadeiladu ar ddelweddau effeithiol ond gwbl ddisylwedd, fel 'taking back control'. Fyddwn ni ddim yn gweld y Deyrnas Unedig yn cael £350 miliwn yr wythnos, fel cafodd ei honni; i'r gwrthwyneb, mae'r ymgais aflwyddiannus i gyflawni Brexit eisoes wedi costio biliynau o bunnoedd—punnoedd y gellid bod wedi'u gwario ar ysbytai, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, ac wedi eisoes arwain at economi sy'n dipyn yn llai na'r hyn y byddem ni wedi'i weld fel arall.
Fe honnwyd y byddai cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd gyda'r hawsaf yn hanes dynoliaeth i'w gytuno, ond doedd hynny ddim yn wir. Dŷn ni wedi cael ein llethu mewn trafodaethau sydd wedi profi pa mor anghywir oedd y camargraff bod yr Undeb Ewropeaidd ein hangen ni yn fwy nag ydym ni eu hangen nhw. Dydyn ni ddim wedi hyd yn oed dechrau eto ar drafodaethau go iawn gyda rhannau eraill o'r byd, a dydy Liam Fox ddim hyd yn oed wedi medru sicrhau y bydd gyda ni unrhyw beth yn debyg i'r un mynediad at gwledydd fel Canada a Japan, lle rŷn ni'n manteisio ar hyn o bryd ar gytundeb masnach rydd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn codi o hyd sy'n dangos y bydd unrhyw fath o Brexit yn niweidiol ac y bydd Brexit heb gytundeb yn drychinebus.
Wrth inni nesáu at ymyl y clogwyn cyntaf ym mis Mawrth buom yn trafod goblygiadau gadael heb gytundeb ar sail ein dealltwriaeth o'r dystiolaeth a'r graddau y gallai llywodraethau, y sector preifat a'r gymdeithas ddinesig ehangach geisio lliniaru'r effeithiau hynny. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn amcangyfrif y byddai economi'r DU rhwng 6.3 y cant a 9 y cant yn llai yn y tymor hir mewn senario 'dim bargen'. Yn frawychus, mae'r ffigur cychwynnol ar gyfer Cymru cymaint ag 8.1 y cant yn llai, ac nid yw'r ffigurau hynny hyd yn oed yn cyfrif unrhyw amharu yn y tymor byr a fyddai'n debygol o waethygu effeithiau senario 'dim bargen' yn ddifrifol.
Mae Mark Carney, llywodraethwr Banc Lloegr, wedi rhybuddio y gallai prisiau bwyd godi'n barhaol, ac mae Consortiwm Manwerthu Prydain yn amcangyfrif y gallai teuluoedd yn y pen draw dalu £1,000 y flwyddyn yn ychwanegol am eu siopa. Mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn dweud bod Brexit 'dim bargen' yn gamblo gyda busnesau, bywoliaeth a swyddi pobl eraill. Byddwn dan anfantais, a chaiff hynny effaith ar benderfyniadau busnes a phenderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd y farn honno'n taro tant gyda gweithwyr modurol ledled Cymru. Gallwn fynd ymlaen.
Rwy'n gwybod nad yw arweinwyr yr ymgyrch dros 'adael' yn hoffi arbenigwyr a thystiolaeth, ond mae gennym ddewis. Gallwn wrando ar asesiadau rhesymol yn seiliedig ar y ffaith y byddai gadael heb gytundeb yn rhoi diwedd ar fasnachu diffrithiant, neu fel Plaid Brexit, gallem roi ein bysedd yn ein clustiau a dweud wrthym ein hunain fod adegau da ar fin dod i'n rhan. Lywydd, mae'n rhyfeddol a dweud y gwir, er gwaethaf y dystiolaeth sydd gennym am oblygiadau llym Brexit 'dim bargen', fod gennym y cynnig hwn ger ein bron heddiw, yn gwneud yr un honiadau di-sail a gamwerthwyd i'r cyhoedd yn ystod y refferendwm yn 2016. Mae'n syndod, a dweud y gwir, mai newydd daro Mandy Jones y mae fod yna broblemau enfawr wrth geisio trafod yr anawsterau sy'n ein hwynebu wrth inni edrych ar Brexit.
Mae'r Llywodraeth yn gwrthod y cynnig hwn a galwaf ar y Cynulliad i wneud hynny hefyd. Nid oes neb yn gwadu'r ffaith bod mwyafrif yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ceisiodd llawer ohonom ddod o hyd i ffordd o adael yr UE a oedd yn parchu canlyniad y refferendwm heb ddinistrio ein heconomi. Nododd Llywodraeth Cymru ein hymagwedd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a manteisiodd ar bob cyfle i gyflwyno ein hachos sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth y DU a'r UE. Ond yn yr un modd nad oes neb yn amau canlyniadau'r refferendwm, does bosibl nad oes neb yn credu bod y rhai a bleidleisiodd dros adael yr UE yn gwneud hynny gan ddymuno chwalu'r economi yn y ffordd y byddai canlyniad 'dim bargen' yn ei wneud. Ni wnaeth neb ddadlau o blaid gadael heb gytundeb, ni wnaeth neb bleidleisio o blaid gadael heb gytundeb, nid oes mandad i adael heb gytundeb.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â Senedd yr Alban, wedi gwrthod canlyniad 'dim bargen'. Mae mwyafrif yr Aelodau Seneddol hefyd yn parhau i bleidleisio yn erbyn gadael heb gytundeb dro ar ôl tro. Mae'r rhai sy'n parhau i anwybyddu realiti canlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen' yn gweithredu'n ddiofal gyda bywoliaeth ein dinasyddion a'u diogelwch yn y dyfodol. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau i'r cynnig hwn. Mynegwyd safbwynt y Llywodraeth yn glir yn y cynnig a basiwyd bythefnos yn ôl.
Mae datblygiadau diweddar yn yr ornest i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid wedi cadarnhau ein safbwynt ymhellach, sef y bydd Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, naill ai drwy fwriad neu drwy ddiffyg, yn mynd â'r DU tuag at ganlyniad 'dim bargen'. Yn wyneb y dewis syml hwnnw rhwng 'dim bargen' trychinebus neu'n aros yn yr UE, rydym yn bendant yn cefnogi 'aros' ac rydym yn parhau i alw ar y Senedd i gymryd rheolaeth ar y broses hon a deddfu ar gyfer refferendwm fel modd o aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Galwaf ar Caroline Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn, mae pob cyfraniad yn y ddadl hon wedi bod yn werthfawr ac yn haeddu parch.
Wrth agor, tynnodd Mark Reckless sylw at gynnig 'dileu popeth' y Ceidwadwyr. Hoffwn ddweud bod dryswch ac anhrefn Llywodraeth Geidwadol y DU bellach wedi'i drosglwyddo i Gymru. Gwnaeth Helen Mary Jones bwynt dilys yn ei hymyriad a dywedodd, pe bai negodiadau llwyddiannus wedi bod gan y Llywodraeth Geidwadol, efallai y gallai pobl, sut bynnag roeddent wedi pleidleisio, fod wedi dod at ei gilydd, wedi negodi, wedi siarad, ac y byddem wedi cael rhyw fath o ganlyniad a fyddai wedi bod yn dderbyniol i bobl Cymru. Dywedodd Mark yn ei gyfraniad y byddai'n well ganddo gael cytundeb, ond nid ydym yn gwybod a yw hynny'n bosibl oherwydd pŵer negodi'r DU.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae gennyf dri munud, Darren; mae'n ddrwg gennyf.
Felly, er bod llawer ohonoch efallai'n anghytuno â'n safbwynt, ac rydych chi'n anghytuno, rhaid i chi dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio yn un o'r prosesau democrataidd mwyaf yn hanes ein cenedl. Fe wnaethant bleidleisio'n bendant dros adael y fiwrocratiaeth a'r ddiffynnaeth ac o blaid dyfodol yn rhydd o fod yn yr UE. [Torri ar draws.] Fe fyddaf.
Felly, i'r rhai sy'n gwneud popeth yn eu gallu i rwystro Brexit, cofiwch fod ein hetholwyr am i ni adael yr UE ac wedi ymddiried yn Llywodraeth y DU i gyflawni'r broses hon, rhywbeth nad ydynt wedi gallu ei wneud. Mae pobl yn dweud wrthyf lawer o'r amser eu bod wedi cael llond bol ar wleidyddion yn dweud wrthynt nad oeddent yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio a bod gwleidyddion yn gwybod yn well. Dangosodd canlyniad diweddar etholiadau'r UE yn wir fod pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio. Daeth fy mhlaid i, Plaid Brexit, nad oedd yn bodoli tan ychydig fisoedd yn ôl, yn gyntaf mewn 86 y cant o ardaloedd cyngor yng Nghymru, a dylai hynny ddweud wrth bobl yn awr pa mor gryf yw'r teimlad yma yng Nghymru.
Felly, credaf fod cyfle i bawb yma roi gwahaniaethau o'r neilltu er mwyn anrhydeddu'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto, a gadewch inni geisio gyflawni'r gorau sy'n bosibl i'r bobl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r bleidlais.
Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dai Lloyd. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
NDM7057 Cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019: O blaid: 19, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf, felly, yw'r bleidlais ar y ddadl Brexit ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
NDM7071 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 4, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Sy'n dod â ni at y gwelliannau. Gwelliant 1 yn gyntaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, dau yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
NDM7071 - Gwelliant 1: O blaid: 9, Yn erbyn: 38, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, dyw'r gwelliant na'r cynnig wedi eu derbyn, ac felly does yna ddim pleidlais bellach.
Sy'n dod â ni wedyn at eitem olaf y prynhawn yma. Os caf i ofyn i Aelodau i adael yn dawel, yn gwrtais ac yn gyflym.
Dwi'n galw ar y ddadl fer. Mae'r ddadl fer yn cael ei chyflwyno gan Mike Hedges. Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Dawn Bowden yn y ddadl hon. Mae'r ddadl yn ymwneud â thlodi mewn gwaith. Mae cydberthynas rhwng cyflwr economi Cymru, tlodi a chyflogau isel.
Dylai economi Gymreig lwyddiannus godi cyflogau a lleihau tlodi. Mae gormod o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau 'hyblyg'—contractau a alwaf yn rhai 'camfanteisiol'—contractau heb unrhyw sicrwydd o incwm wythnosol yn seiliedig ar oriau amrywiol a'r isafswm cyflog a bennir gan y Llywodraeth. Er bod llawer o'r drafodaeth ddiweddar wedi canolbwyntio ar gontractau dim oriau, yn anffodus nid dyma'r unig arfer cyflogaeth 'hyblyg' a ddefnyddir gan gyflogwyr. Mae arferion cyflogaeth hyblyg eraill yn cynnwys oriau gwarantedig byr, rhannu sifftiau, oriau blynyddol a defnyddio staff asiantaeth. Yn ogystal â'r contractau byrdymor a dros dro traddodiadol, gwelwyd cynnydd yn nifer yr arferion cyflogaeth newydd hyn.
Mae nifer gynyddol o gwmnïau yn cyflogi staff ar gontractau dim oriau, lle mae pobl yn cytuno i fod ar gael i weithio yn ôl yr angen, ond heb unrhyw oriau nac amseroedd gwaith gwarantedig. Mae contractau dim oriau yn darparu cronfa o bobl ar alwad i gyflogwyr, ac mae hynny'n rhoi'r holl risg ariannol ar ysgwyddau'r cyflogai nad yw eu hincwm wedi'i warantu. Dyma enghraifft o'r hen 'aros y tu allan i'r dociau i gael eich galw', ond nawr rydych yn aros gartref am neges destun.
Un amrywiad ar gontractau dim oriau yw lle ceir gwarant o gyn lleied ag awr y dydd, a phan fydd pobl yn cyrraedd y gwaith byddant yn darganfod bryd hynny pa mor hir fydd y sifft. Gan ddechrau am 8 a.m., efallai y byddwch yn gorffen am 9.00 a.m. neu efallai bydd rhaid i chi weithio tan yn hwyr gyda'r nos, tan 9.00 p.m. o bosibl, yn dibynnu ar y llwyth gwaith a nifer y bobl sydd ar gael y diwrnod hwnnw. Mae hwn yn batrwm gwaith aflonyddgar iawn gan na allwch wneud cynlluniau ar gyfer unrhyw ran o'r diwrnod tan y diwrnod ei hun, ac mae cyflogau hefyd yn amrywio o wythnos i wythnos. Un pryder, os caiff contractau dim oriau eu gwahardd, yw mai dyma a ddaw yn eu lle, ac i lawer gormod o bobl—byddant yn mynd i mewn, yn dechrau gweithio, ac yna'n darganfod pryd y byddant yn mynd adref. Ond os ydych yn gofalu am blant neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu am rieni neu bobl eraill, mae'n gwneud bywyd yn eithriadol o anodd pan nad oes gennych unrhyw oriau gwarantedig. Pan ddeuthum i mewn y bore yma, roeddwn yn gwybod fy mod yn mynd i adael tua 7.30 p.m., a phan fyddaf yn dod i mewn yfory rwy'n gwybod y byddaf yn gadael tua 1.30 p.m. Mae gormod o bobl yn mynd i'r gwaith ac nid oes ganddynt syniad pryd y byddant yn mynd adref. Mae'n amharu'n llwyr ar eu bywydau.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Mae dim oriau ac oriau wythnosol neu ddyddiol gwarantedig byr yn golygu nad oes sicrwydd incwm ar sail wythnosol neu fisol. Mae hyn yn arwain at broblemau ariannol difrifol pan nad oes llawer o oriau, os o gwbl, yn cael eu gweithio mewn unrhyw wythnosau. A'r peth pwysig yw: peidiwch byth â bod yn sâl, oherwydd pan fyddwch yn sâl byddwch yn mynd yn ôl naill ai i'ch lleiafswm o un awr neu ddim oriau, a'r banc bwyd yw'r unig obaith o gael bwyd.
Mae defnyddio staff a gyflogir drwy asiantaeth yn golygu mai'r asiantaeth sydd â'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau cyflogaeth. Ar ôl 12 wythnos yn yr un rôl yn gweithio i'r un cyflogwr, mae hawl gan weithwyr asiantaeth i gael yr un amodau cyflogaeth a gwaith â staff parhaol. Yn hollbwysig, fodd bynnag, nid oes gan weithwyr asiantaeth hawl i gael budd-daliadau megis tâl salwch galwedigaethol, tâl dileu swydd ac yswiriant iechyd, yr hawl i wneud cais am ddiswyddo annheg, a rhybudd diswyddo lleiaf lle byddant yn gweithio. Mae hyn yn golygu bod staff asiantaeth yn llawer haws i'w diswyddo na staff a gyflogir yn uniongyrchol oherwydd eu bod yn cael eu cyflogi gan yr asiantaeth, nid y cwmni lle maent yn gweithio. A hefyd, mae'r 12 wythnos yn bwysig iawn, oherwydd ar ôl 11 wythnos os byddwch yn eu symud ymlaen a'u bod yn dychwelyd bythefnos yn ddiweddarach, mae'r 12 wythnos sy'n rhaid i chi ei weithio i gael yr hawliau hynny'n ailddechrau unwaith eto gyda'r diwrnod cyntaf.
Mae ailenwi'r isafswm cyflog yn gyflog byw wedi achosi peth dryswch yn amlwg, gan fod cyflog byw cenedlaethol eisoes wedi'i gyfrifo gan y Living Wage Foundation. Ar hyn o bryd, mae bron i 6 miliwn o weithwyr yn y DU yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Credaf fod yr achos dros dalu o leiaf y cyflog byw go iawn, fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation, i bawb yn ddadl wirioneddol gref. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gwneud synnwyr fod y Llywodraeth yn gorfodi isafswm cyflog nad ystyrir ei fod yn ddigon i allu byw arno, a bydd ei ailenwi'n gyflog byw yn arwain at ddrysu rhyngddo a'r cyflog byw go iawn, a dyna pam y credaf fod angen dybryd i bawb gael y cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Nid oes a wnelo hyn â chael ffyrdd o fyw egsotig; mae ond yn golygu eich bod yn gallu byw.
Un o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw yw tlodi mewn gwaith, sy'n rhywbeth y byddai'r cyflog byw yn helpu i fynd i'r afael ag ef, ac un o broblemau mwyaf Llywodraeth San Steffan yw talu budd-daliadau mewn gwaith, rhywbeth unwaith eto y byddai talu cyflog byw yn helpu i'w ddatrys. Credaf fod gan y Llywodraeth ddyletswydd foesol i sicrhau safon byw sy'n weddus i bawb.
Gwyddom hefyd ein bod yn gwneud yn dda iawn o ran nifer y bobl sy'n ddi-waith, ond os oes gennych rywun sy'n gweithio 40 awr ac yna fod dau berson ar gontractau 15 awr yn dod yn ei le, ac un person ar 10 awr, rydych wedi sicrhau bod dau yn fwy o bobl yn cael eu cyflogi, sy'n dda o ran diweithdra, ond yn hytrach na chael un gweithiwr sy'n cael ei dalu'n gymharol dda, mae gennych dri gweithiwr ar gyflog isel iawn, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar y bobl, mae'n effeithio ar y budd-daliadau y maent yn eu cael, ac mae hefyd yn effeithio ar dderbyniadau treth y Llywodraeth yn San Steffan.
Mae manteision hefyd i gyflogwyr yn ôl adroddiad y Living Wage Foundation. Mae cyflogwr cyflog byw yn sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael y cyflog byw fan lleiaf; mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gweithio ar sail reolaidd ar eich safle i gontractiwr neu is-gontractiwr, fel glanhawyr neu staff diogelwch. Mae cyflogwyr cyflog byw yn nodi bod morâl yn well, trosiant staff yn is, llai o absenoldeb, mwy o gynhyrchiant a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.
Rhaid i ni anelu i greu economi cyflog uchel a sgiliau uchel, a byddai dod yn wlad cyflog byw yn un cam pellach ar hyd y ffordd honno. 'Ni allwn ei fforddio a bydd yn arwain at lai o swyddi' yw'r ddadl a ddefnyddiwyd yn erbyn pob newid blaengar, o ddiddymu caethwasiaeth i'r isafswm cyflog. 'Na, ni allwn ei fforddio, bydd yn arwain at fethdaliad.' Pan oeddem yn ymladd am yr isafswm cyflog, un o lwyddiannau mawr Tony Blair a'r Llywodraeth Lafur yn 1997, rwy'n cofio pobl yn dweud, 'O, bydd yn rhaid inni ddiswyddo pobl; bydd yn rhaid i ni dorri staff', fel pe bai cyflogi pobl yn weithred ddyngarol y byddai cyflogwyr yn ei gwneud, ac y byddent yn rhoi'r gorau i'w gwneud am y byddai'n rhaid iddynt dalu mwy. Yr hyn a ganfuwyd mewn gwirionedd oedd bod mwy o bobl yn cael eu cyflogi am fod gennych fwy o arian yn yr economi leol, ac roedd yn cynyddu galw.
Enillasom y frwydr dros yr isafswm cyflog; ni chollwyd y swyddi. Efallai ei fod wedi lleihau gwerthiant y ceir mwyaf crand, ond rhoddodd arian ym mhocedi pobl a bu'n help mawr i economïau lleol. Os ydym yn talu mwy o arian i bobl sy'n gymharol dlawd, maent yn ei wario'n lleol. Os ydych yn talu mwy o arian i bobl sy'n gyfoethog iawn, maent yn tueddu i'w wario mewn mannau eraill. Mae gwir angen inni ddod yn wlad cyflog byw, ond mae angen mwy na hynny. Credaf y byddai bod yn wlad cyflog byw yn gwneud Cymru'n wlad decach, ac mae hwn yn bolisi y gallai pob un ohonom sy'n byw yng Nghymru fod yn falch ohono ac yn un y dylem ni fel sosialwyr, ar ein hochr ni, ymgyrchu drosto.
Camau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith, ac rwyf wedi gofyn am hyn o'r blaen a byddaf yn gofyn amdanynt eto, a byddaf yn dal i ofyn amdanynt: sicrhau bod pob gweithiwr sector cyhoeddus a gyflogir gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn cael y cyflog byw go iawn; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod ar gyfer contractio gyda chyrff sector cyhoeddus a ariennir drwy Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod i grantiau a benthyciadau i gwmnïau preifat; gwahardd contractau camfanteisiol gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'u contractwyr a'u his-gontractwyr. gwneud cymorth ariannol i gwmnïau, yn grantiau a benthyciadau, yn ddibynnol ar gontractau nad ydynt yn gamfanteisiol.
Dim ond at ryw bwynt y bydd hyn yn mynd â ni, ond mae'n mynd â ni'n bell—. Ni ddylem annog a chefnogi cyflogau tlodi. Ni ddylem annog a chefnogi camfanteisio.
Yr hyn sydd ei angen arnom, fodd bynnag, yw mwy o swyddi ar gyflogau uwch. Mae economi Cymru yn hynod o wan. Rwyf wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru droeon ein bod yn brin iawn o sectorau cyflog uchel a phan gawn adroddiadau'n dod i mewn yn nodi lle rydym yn wan, mae'n dweud pethau fel 'TGCh', ac mae'n dweud pethau fel 'bancio ac yswiriant', ac mae'n dweud pethau am wasanaethau proffesiynol—y meysydd ar y brig gyda chyflogau uchel.
Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru? Credaf fod angen inni weithio'n agosach gyda'r prifysgolion: Aarhus, er enghraifft, a model y parc busnes, ac mae gan Manheim ganolfan ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth. Gwyddom eu bod yn gweithio yn y dinasoedd hynny. Nid oes unrhyw rheswm pam na allant weithio yma. Mae'n hawdd dweud, 'O, mae Caergrawnt yn llwyddiannus iawn; mae ganddi barc gwyddoniaeth.' Abertawe, Caerdydd a Chaergrawnt? Na. Ond a allem fod yr un fath â Manheim ac Aarhus? Nid oes unrhyw reswm pam na allem. Manheim yw'r ail ddinas o fewn ei Länder ac Aarhus yw'r ail ddinas yn Nenmarc—nid yn annhebyg i Abertawe.
Er bod y term 'technium' wedi dod yn gyfystyr â methiant, roedd y syniad gwreiddiol o'i ddefnyddio yn Abertawe i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau newydd a ddoi allan o'r brifysgol yn un da, ond roedd labelu pob ffatri ddatblygedig fel canolfannau technium yn sicr o fethu.
Ceir rhai camau syml a chyflym y gellid eu cymryd i wella economi Cymru: darparu benthyciadau mwy drwy'r banc masnachol i gwmnïau canolig eu maint. Nid ydym yn tyfu cwmnïau o faint canolig i fawr. Yn wir, yr unig gwmni y gallaf feddwl amdano sydd wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd diwethaf yw Admiral. Mae gwir angen inni wthio cwmnïau o fod yn ganolig i fod yn fawr, gan fod llawer gormod o gwmnïau canolig eu maint, yn anffodus, yn gwerthu allan.
Gallem ddarparu benthyciadau yn erbyn asedau tramor a gosod contractau Llywodraeth o faint y gall cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru ymgeisio amdanynt. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i ficrogwmnïau ehangu. Mae angen inni dyfu mewn sectorau economaidd allweddol. Pam fod Dundee yn gynhyrchydd gemau cyfrifiadurol pwysig? Dyna ddinas arall—rwyf wedi ceisio dewis dinasoedd nad ydynt yn ddinasoedd mawr y byd, ond dinasoedd y mae gennym ni yng Nghymru ddinasoedd tebyg iawn iddynt.
Gellir cynhyrchu gemau cyfrifiadurol yn unrhyw le yn y byd. Daeth Abertay o hyd i gefnogaeth wleidyddol ac ariannol i sefydlu adran newydd a gynigiai'r radd gyntaf yn y byd mewn gemau cyfrifiadurol yn 1997. Erbyn hyn ceir dyrnaid o raddau cysylltiedig, gan gynnwys dylunio gemau a rheoli cynhyrchu, a chwrs BSc diddorol o'r enw 'hacio moesegol'. Caiff cannoedd o raddedigion gemau eu cynhyrchu gan Abertay bob blwyddyn, gan gynnwys David Jones, sylfaenydd DMA Design. Ar ôl Lemmings yn 1991, rhyddhaodd yr argraffiad cyntaf o'r gêm ddadleuol Grand Theft Auto yn 1997. Gwerthwyd miliynau, ac mae fersiynau newydd yn parhau i ddod i frig siartiau'r gemau. Mae galw am wneuthurwyr gemau hyfforddedig yn y diwydiant gemau ym mhob rhan o'r byd. Mae nifer sylweddol ohonynt yn aros yn yr ardal, yn creu gemau ac yn adeiladu cwmnïau newydd gyda thimau y gwnaethant gyfarfod â hwy wrth astudio.
Creu parc busnes tebyg i Aarhus neu ganolfan Manheim ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth, neu Dundee yn datblygu diwydiannau ar y cyd â'r Brifysgol—nid yw'r rhain yn bethau anodd; dyma sy'n rhaid inni ei wneud os ydym am dyfu ein heconomi. Yr hyn sydd arnom ei angen yw polisïau sy'n gweithio i gefnogi twf cwmnïau yng Nghymru a sefydlu rhai newydd. Nid ydym ni yng Nghymru yn meddu ar lai o sgiliau, entrepreneuriaeth a gallu nag unman arall yn y byd. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau y gallwn greu'r cwmnïau hyn yng Nghymru, a gadewch inni sicrhau cyflogau da i bobl a byddai hynny o ddifrif yn hybu ein heconomi. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac yn y funud honno, ni allaf ymdrin â'r holl resymau dros dlodi na siarad yn fanwl am y modd y gallwn ei leddfu? Ond roeddwn eisiau sôn am ddau beth y credaf fod angen i ni eu cydnabod. Yn gyntaf, rôl amhrisiadwy mudiad yr undebau llafur yn y frwydr yn erbyn tlodi. Y profiad o dlodi ymhlith gweithwyr a arweiniodd at ffurfio undebau llafur, ac mae undebau llafur yn parhau i fod ar flaen y gad yn y gwaith hwn heddiw ac yn parhau i chwarae rôl hanfodol yn helpu i frwydro yn erbyn malltod presennol tlodi mewn gwaith. Yn ail, gwyddom am yr ystadegau'n ymwneud â gwaith banciau bwyd neu nifer y bobl sy'n cael eu taro gan gredyd cynhwysol neu nifer y bobl ar gontractau dim oriau anniogel, a grybwyllwyd gan Mike eisoes, ond mae angen inni gydnabod pwysigrwydd parhau i gefnogi'r alwad ar i'r Llywodraeth flaenoriaethu ei hagenda gwrthdlodi, oherwydd mae'r bobl rwy'n eu cyfarfod yn fy nghymorthfeydd etholaethol bron bob wythnos yn mynnu hynny gennym—pobl sy'n cael trafferth gyda dyled, pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni, pobl sy'n methu talu eu rhent yn y sector preifat ac sy'n methu dod o hyd i ddewis arall mwy addas, ac mae'r plant a welaf mewn cynlluniau gweithgareddau gwyliau hefyd yn cael cymorth i gael pryd o fwyd y diwrnod hwnnw i oresgyn chwant bwyd dros y gwyliau. Os na allwn drechu tlodi, ni allwn fynd i'r afael â diffyg arian yn yr economi leol mewn ardaloedd lle ceir yr amddifadedd mwyaf, a bydd ardaloedd o'r fath yn parhau i ddirywio, a rhaid inni wrthdroi hynny. Mae gwrthdroi hynny'n dechrau gyda blaenoriaethau'r Llywodraeth, drwy brawfesur pob agwedd ar ei pholisi o safbwynt tlodi. Mae'n gwneud synnwyr economaidd da i wneud hynny.
Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.
Ddirprwy Lywydd dros dro, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n falch o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy'n mynd i ddechrau drwy amlinellu peth o'r pwysau amlwg iawn sydd ar unigolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae'r pwysau cyntaf yn glir iawn: naw mlynedd o gyni. Mae'n ddrwg gennyf ddweud mai polisi ariannol Llywodraeth y DU dros ddegawd bron fu cael gwared ar lawer o'r strwythurau hanfodol sydd wedi cefnogi cymunedau dros nifer o ddegawdau. Mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu colli cyfleusterau lleol, megis llyfrgelloedd, adeiladau cymunedol a mannau cyhoeddus, ac mae wedi arwain at ddisbyddu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel plismona. Nid rhethreg wleidyddol yw hyn. Mae'r rapporteur arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol wedi cyflwyno adroddiad ar hyn yn ddiweddar ar ôl ei ymweliad â'r DU. Ac mae o'r farn fod
llawer o'r glud sydd wedi dal cymdeithas Prydain at ei gilydd ers yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei dynnu'n fwriadol ac ethos llym ac angharedig wedi'i osod yn ei le.
Dywedodd nad yw
economi ffyniannus, cyflogaeth uchel a gwarged cyllideb wedi gwrthdroi cyni, polisi a ddilynir yn fwy fel agenda ideolegol nag un economaidd.
Gadewch i mi roi mewn cyd-destun pa mor wahanol y gallai pethau fod wedi bod pe na bai'r polisi hynod niweidiol hwn wedi cael ei ddilyn. Byddai ein cyllidebau wedi tyfu mwy na £4 biliwn rhwng 2009 a 2019 pe bai'r economi a'n cyllidebau wedi tyfu'n unol â hynny. Pe bai ein cyllidebau wedi dilyn y tueddiad o dwf mewn gwariant cyhoeddus ers 1945, byddem wedi denu £6 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol at ein defnydd yng Nghymru. A chredaf ei bod yn annirnadwy i unrhyw Aelod o'r Siambr hon awgrymu, yn y cyd-destun hwn, a chyda'r lefel honno o doriad yn ein cyllidebau, nad yw cyni wedi cyfrannu'n sylweddol at dlodi yng Nghymru.
Nawr, yr ail ffactor sydd wedi cael effaith fawr ar lefelau tlodi yng Nghymru yw rhaglen ddiwygio trethi a lles Llywodraeth y DU. O ganlyniad i'r diwygiadau, rhagwelir y bydd 50,000 yn rhagor o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn iddynt gael eu cyflwyno'n llawn. Ac rwy'n credu ei bod yn warthus fod y rhai sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu targedu yn y fath fodd gan y polisïau niweidiol hyn. Beth y gallwn ei wneud felly yn erbyn y cefndir hwn? Wel, gwyddom nad oes gennym y prif ddulliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth i'r prif ffigur tlodi. Wrth gwrs, y dreth a'r system les sy'n dylanwadu ar hyn. Fodd bynnag, heb newid cyfeiriad gan Lywodraeth y DU, rydym yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth iddynt geisio ymdopi ag effaith anghymesur y polisïau dinistriol hyn. Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, wedi cynnwys tlodi fel maes blaenoriaeth ychwanegol ym mhroses gynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adolygu rhaglenni cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.
Rydym wedi bod yn gwbl glir. Ni ddylai amgylchiadau economaidd ei rieni bennu cyfleoedd bywyd plentyn. Nid ydym yn derbyn bod bywyd mewn tlodi'n anochel. Mae amcanion ein strategaeth tlodi plant yn canolbwyntio cymaint ar gynorthwyo rhieni i gynyddu incwm eu cartrefi ag y maent ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a ddaw yn sgil tlodi. Rydym yn cymryd camau i leihau nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith, ac i wella sgiliau rhieni a phobl ifanc. Rwy'n credu hefyd ei bod yn hanfodol bwysig cydnabod bod 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru bellach ers 1999. Ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn gymharol debyg i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed.
Gwnaeth Mike Hedges y pwynt ei fod yn credu nad oes digon o swyddi uchel eu gwerth yn cael eu creu yn yr economi. Rwy'n anghytuno â'r honiad hwn. Yn y gorffennol, buaswn yn dweud ei bod yn wir yn aml mewn llawer o amgylchiadau fod swyddi gwerth isel, sy'n talu'n wael, yn cael eu creu, ond roedd hynny mewn ymateb uniongyrchol i'r lefelau anhygoel o uchel o ddiweithdra. Heddiw, mae'n amlwg ein bod—ac rydym wedi mynegi hyn drwy'r cynllun gweithredu economaidd—yn canolbwyntio ar godi ansawdd a gwerth cyflogaeth yng Nghymru, yn enwedig drwy'r system sgiliau, gyda'n ffocws ar gefnogi hyfforddiant sgiliau lefel 3 ac uwch. Ac nid oes ond angen inni edrych ar rai o'r sectorau sy'n darparu'r lefelau uchaf o gynhyrchiant a chyflogau—gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, er enghraifft, gyda thwf yma yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru ar lefel syfrdanol o gymharu â gweddill y DU. Awyrofod yw'r sector mwyaf cynhyrchiol yn economi Prydain, ac yma yng Nghymru mae gennym nifer anghymesur o uchel o bobl yn gweithio yn y sector hwnnw erbyn hyn—mwy nag 20,000 o bobl mewn swyddi gwerthfawr iawn.
Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng o bron 0.25 miliwn i 173,000. Dyna ostyngiad o 22.4 y cant, sydd unwaith eto'n well na pherfformiad y DU. Ynghyd â hyn, rydym yn cymryd camau i greu economi a marchnad lafur gref sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy gwirioneddol hygyrch i bawb, ac mae hyn yn greiddiol i'n hymagwedd tuag at drechu tlodi. Mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith o sicrhau economi gref, gwydn a deinamig, ac mae'n gynllun i dyfu'r economi yn gynhwysol a lleihau anghydraddoldeb. Mae'n sbarduno twf cynhwysol drwy sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar yr economi sylfaenol a thrwy fodel newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol yn seiliedig ar le sy'n fwy addas ar gyfer goresgyn anghyfartaledd economaidd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac mae'r cynllun yn ceisio sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd da ar gael a grymuso cymunedau gyda'r sgiliau a'r seilwaith economaidd a all gefnogi swyddi gwell yn nes at adref. Un o gonglfeini'r cynllun yw'r contract economaidd sy'n ysgogi arferion busnes tecach a mwy cyfrifol gyda photensial i gefnogi cyfleoedd cynhwysol ar gyfer gwaith a chamu ymlaen mewn gwaith ac wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn gwaith anniogel, annibynadwy, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r partneriaid cymdeithasol hynod o bwysig hynny, gan gynnwys y mudiad undebau llafur y siaradodd Dawn Bowden amdano.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod gan unigolion, cartrefi a chymunedau y cryfder a'r gwydnwch sydd ei angen i oresgyn yr heriau hyn. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod heddiw am eu cyfraniadau ac ailddatgan fy ymrwymiad i weithio gyda hwy wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hynod bwysig hwn.
Diolch. A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.