Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/06/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Cwestiwn Brys

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys, o dan Reol Sefydlog 12.67, a dwi'n galw ar Carwyn Jones i ofyn y cwestiwn brys i'r Gweinidog economi. Carwyn Jones.

Ffatri Beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad diweddar gan Ford ynghylch Ffatri Beiriannau Pen-y-bont ar Ogwr? (EAQ0007)

Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn brys? Mae hyn yn amlwg yn peri trallod a gofid mawr i'r rhai y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnyn nhw. Gallai fod y golled fwyaf o ran swyddi mewn cenhedlaeth, a'r golled unigol fwyaf o swyddi ers datganoli. Rwyf wedi dechrau'r broses o sefydlu tasglu i weithio gyda phartneriaid dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i helpu i ddod o hyd i ateb hirdymor, cynaliadwy ar gyfer y safle a'i weithlu.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gwyliais y safle hwnnw'n cael ei adeiladu. Gwyliais i'r trenau'n dod i'r safle o labordy cemeg Ysgol Gyfun Brynteg gan ei fod mor agos. A nawr, mae'n ymddangos, mae yna bosibilrwydd mawr y byddaf yn gweld y safle yn cau. Gweinidog, mae economi Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud yn dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae hyn yn ergyd i galon y dref. Ni chafwyd rhybudd, i'r gweithwyr nac i Lywodraeth Cymru, ac am 40 mlynedd, gwnaeth y gweithwyr yn Ford yr hyn a ofynnwyd iddynt, a dyma sut y cawson nhw eu had-dalu. Gweinidog, ymddengys fod y penderfyniad wedi'i wneud yn gymharol ddiweddar, ryw wythnos efallai cyn cyhoeddi'r penderfyniad. Rwy'n clywed bod cyfweliadau'n dal i gael eu cynnal yn y ffatri wythnos cyn y penderfyniad, ac yn wir, yr oedd contractau'n dal i gael eu rhoi rai wythnosau cyn y cyhoeddiad. Gweinidog, rwy'n pryderu ynghylch yr hyn a newidiodd yn y cyfamser, a'r unig beth y gallaf i feddwl amdano yw'r sôn cynyddol am Brexit 'dim cytundeb'. Mae hynny'n rhywbeth y gwn iddo fod yn ffactor a grybwyllwyd i chi mewn sgwrs breifat, a gwn ei fod yn rhywbeth a wadwyd ganddynt wedyn yn y prynhawn. Ond y realiti yw bod pryder, nid ynghylch Brexit ond ynghylch dim cytundeb yn rhywbeth, rwy'n credu, a bwysodd yn drwm iawn ar eu meddyliau.

Gweinidog, mae'r gweithwyr yn poeni. Maen nhw'n poeni am eu dyfodol. Maen nhw'n poeni am eu pensiynau, ac mae hynny'n rhywbeth y gofynnais i Lywodraeth Cymru edrych arno'n arbennig. Ond, yn anad dim, wrth gwrs, maen nhw'n edrych yn awr i Lywodraeth Cymru am arweiniad ac am gyngor ynglŷn â'r dyfodol. Yn sicr, ni fyddaf i'n rhoi'r gorau i frwydro dros y gweithwyr hynny ac i weithio gyda'r undebau llafur, ond mae'n rhaid inni fod yn barod am bob posibilrwydd. Felly, fy nghwestiwn i, Gweinidog, yw hyn: a wnewch chi roi sicrwydd i weithwyr Ford bod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud, ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi ac i'r gweithwyr hynny y byddan nhw'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio darparu dyfodol iddyn nhw ac i'r dref?

A gaf i ddiolch i Carwyn Jones am ei gwestiynau? Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd am y ffordd y mae Ford wedi trin y gweithlu. Wrth gwrs, mae'r cyfleuster hwn wedi bod yn gwbl ganolog i economi'r de ers diwedd y 1970au ar ôl ei adeiladu ym 1978 gyda chymorth trethdalwyr i gartrefu'r hyn a alwyd ar y pryd yn 'brosiect Erika', y cydrannau a fyddai'n mynd i adeiladu'r cerbyd penodol hwnnw. Gwariwyd £143 miliwn i gynorthwyo Ford dros y blynyddoedd, a mwy na £60 miliwn ers 2006 yn unig. Fel y dywedodd Carwyn Jones yn gywir, mae'n ergyd drom i'r gymuned gyfan. Ac mewn ymateb iddi, byddwn yn cymryd camau pellach nag y byddem ni fel arfer yn eu cymryd trwy ddull tasglu, a byddaf yn sôn am hynny mewn munud.

Mynegais fy marn yn rymus bod Ford wedi gwneud cam gwael â'r gweithlu a phobl y rhanbarth a'r wlad gyfan wrth wneud y penderfyniad yn y ffordd y gwnaeth hynny, heb roi ystyriaeth briodol i les a llesiant y 1,700 a mwy o bobl sy'n gweithio ar y safle, nac i'r gymuned gyfan, a heb ymgysylltu â Llywodraethau'r DU na Chymru ar ddewisiadau eraill, fel yr oedden nhw wedi bod yn ei wneud tan yn ddiweddar iawn.

Cododd Carwyn Jones y cwestiwn pwysig ynghylch Brexit yn hyn o beth. Gallaf ei sicrhau fy mod i wedi codi'r cwestiwn hwn gyda Ford, a dywedwyd wrthyf er nad hynny oedd y ffactor amlycaf yn eu trafodaethau, ei fod, serch hynny, yn hynod annefnyddiol ac wedi peri iddynt fod yn fwy agored i niwed. Ac roedden nhw'n siarad yn arbennig am y mater yn ymwneud â masnachu rhwydd ar ffiniau a sut y gallai hynny ddod i ben yn arbennig gyda Brexit 'dim cytundeb'. A dim ond edrych yn ôl ar eu neges gyson ers mis Hydref y llynedd sy'n rhaid, pan wnaethant ddweud y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn drychinebus. Nawr, rwy'n falch o weld bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sydd wedi bod o gymorth mawr ers dydd Iau, wedi cadarnhau y bore yma mewn cwestiynau bod cwmnïau yn y sector wedi bod yn gwbl glir—bod angen inni adael yr Undeb Ewropeaidd â bargen sy'n caniatáu inni barhau i fasnachu yn rhwydd. Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud am y cyfleoedd a allai fod os gellir sicrhau hynny.

Mae Carwyn Jones hefyd yn codi'r cwestiwn pwysig ynghylch pensiynau. Cefais alwad gynadledda ddoe gydag undebau llafur, gyda'r awdurdod lleol, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fe wnaethom gytuno y byddai'n rhaid rhoi cymorth ar unwaith ar ffurf cynghorwyr ariannol i'r gweithlu. A gofynnais hefyd i'r rheoleiddiwr gymryd rhan yn y mater hwn cyn gynted â phosibl. Rydym yn dymuno cadw'r siarcod o Ben-y-bont ar Ogwr, ac felly mae angen cymorth ar unwaith.

Gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r rhai y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw. Fel y dywedais yn gynharach, bydd tair agwedd ar ein dull o weithredu. Byddwn yn canolbwyntio ar y bobl y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, fel y gwnawn bob amser, gydag ymyriad tasglu, yn edrych ar gyfleoedd ac yn edrych ar eu hanghenion sgiliau. Ond byddwn hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar botensial y safle, ac yn archwilio pob opsiwn i ddenu buddsoddiad. A byddwn yn cydweithio â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa Cymru i sicrhau gwaith arall.

Fodd bynnag, bydd trydedd elfen i'n gwaith, a fydd yn cynnwys lle. Fy atgofion o dyfu i fyny yn sir y Fflint yn ystod y 1980au ac yn ystod y 1990au sydd wedi llywio'r penderfyniad hwn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl i 8,500 o bobl golli eu swyddi yng ngwaith dur Shotton, roedd arian i'w gael—roedd llawer o geir newydd, ac roedd llawer o siopau manwerthu yn llwyddiannus. Ond, o ganol y 1980au, trwy'r 1990au, a hyd yn oed hyd heddiw, daeth heriau i'r amlwg sydd wedi creithio'r gymuned gyfan honno. Ac ni fyddwn yn caniatáu i Ben-y-bont ar Ogwr gael yr un profiad ag a gafodd Glannau Dyfrdwy, yn anffodus, yn y 1980au a'r 1990au. A dyna pam yr wyf i wedi penderfynu bod yn rhaid inni gael darn penodol o waith, i ystyried sut y gallwn ysgogi economi Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a mis Medi 2020, sut y gallwn sefydlogi busnesau sy'n dibynnu cymaint ar Ford, sut y gallwn gefnogi'r gadwyn gyflenwi nid yn unig o fewn y sector moduro, ond hefyd y busnesau bach, canolig a micro niferus sy'n dibynnu ar yr arian y mae Ford yn ei roi i'r gymuned, a sut y gallwn sicrhau bod buddsoddiad y gymuned gyfan yn barod. Nid oes amheuaeth na fydd hyn wedi bod yn ergyd ofnadwy o ran balchder ac urddas y gymuned, ond byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, gyda bargen ddinesig Caerdydd, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa Cymru, gyda phartneriaid eraill, i sicrhau bod cyflogaeth arall ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyflogaeth o'r ansawdd uchaf, sy'n talu'n dda.

13:35

Ar ran Plaid Cymru, hoffwn gydymdeimlo â'r gweithwyr i'r eithaf. Ond hoffwn ddweud hefyd fy mod i'n eithaf dig ar eu rhan nhw y cafodd llawer o'r gweithwyr wybod drwy'r cyfryngau cymdeithasol fod y gwaith yn cau, yn hytrach na chael gwybod yn gyntaf gan Ford. Nawr, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym am fantra teulu Ford? Mae hefyd yn hynod eironig, yn yr wythnos y daw Donald Trump i'r DU, bod cwmni Americanaidd yn cynnig symud gwaith o Ben-y-bont ar Ogwr i Fecsico o bob man. Nawr, bydd hyn yn cael effaith fawr ar yr ardal leol, fel y dangoswyd eisoes, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ystyried yn y ddadl benodol hon. Ac os bydd y gweithwyr yn penderfynu ddydd Gwener i streicio, gallwch fod yn sicr y bydd Plaid Cymru ar y llinell biced gyda nhw yn y streic honno.

Mae'r gweithwyr yn haeddu gwell na hyn. Mae llawer o'r rhai hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn ystod yr wythnosau, misoedd, blynyddoedd diwethaf yn deyrngar iawn i Ford—yn wir, yn fwy teyrngar nag mewn rhannau eraill o waith Ford ledled y byd, ac rwy'n credu y dylid cydnabod hynny. Ond hoffwn i ofyn, yn ychwanegol at y sylwadau a wnaed eisoes, beth yn union y byddwch chi'n ei wneud o ran y pecyn cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r pecynnau hynny? Gwyddom, yn anffodus, pan fo Ford wedi cau gweithfeydd eraill yn y DU, eu bod wedi cynnig pecynnau cymorth i'r gweithwyr penodol hynny. Beth fyddwch chi'n gallu ei gynnig, a sut y byddwch yn cynnig hynny?

Mae Brexit wedi chwarae rhan. Nid oes dim dianc rhag hyn, ond mae yna elfennau eraill y mae angen i ni eu hasesu wrth edrych ar yr hyn y mae Ford wedi bod yn ei wneud. Maen nhw wedi cau ffatrïoedd yng Ngwlad Belg, maen nhw wedi cau ffatrïoedd mewn mannau eraill, ac mae angen inni edrych ar yr economi foduro yn gyffredinol a sut y maen nhw'n gweithredu yn hynny o beth.

Fel gwlad wrth symud ymlaen, i edrych yn gadarnhaol, mae angen inni ddatblygu ein seilweithiau ein hunain fel y gallwn fod yn lle sy'n ddelfrydol ar gyfer busnesau, fel y gallwn ddatblygu ein heconomïau cynhenid ein hunain hefyd. Hoffwn i wybod beth fyddai eich ymateb i syniad yr ydym mi wedi'i gynnig eisoes—i gynnal uwchgynhadledd economaidd lle mae pawb yn cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cyhoeddi tasglu, ond hoffwn i gael sgwrs genedlaethol nid â phobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Ford yn unig, ond y rhai yn y busnesau eraill sy'n bwydo Ford, y bobl yn ein cymunedau sy'n elwa ar y ffaith bod Ford yn bodoli yma yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei wneud i gynnwys pawb?

Nawr, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gyd barhau i fod yn obeithiol, ac mae'n rhaid i ni gynnal y gobaith hwnnw y gallwn gadw'r gwaith ar agor, a dyna pam rwy'n awyddus i weithio gyda phobl ar draws y bwlch gwleidyddol, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod Dr Dai Lloyd, ac eraill, yn dymuno cefnogi'r gweithlu. Gwyddom fod llawer o bobl wedi cael cynnig diswyddiadau gwirfoddol ychydig fisoedd yn ôl sydd erbyn hyn yn meddwl tybed beth yw'r cynnig iddyn nhw. Mae'r gweithwyr yn dymuno cael eglurder, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni roi hwnnw iddyn nhw a rhoi'r gefnogaeth haeddiannol iddyn nhw am fod yn weithwyr mor deyrngar.

13:40

A gaf i ddiolch i Bethan am ei chwestiynau a dweud cymaint yr wyf i'n rhannu ei dicter hi a dicter y gweithwyr? Ac ni fyddaf i'n ymddiheuro am fod mor ddi-flewyn-ar-dafod yn fy ymateb uniongyrchol yr wythnos diwethaf wrth glywed am y newyddion hyn. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod wedi'u bradychu, maen nhw'n teimlo eu bod wedi cael cam dirfawr, ac yn sicr nid oedd modd anwybyddu eironi amseriad y cyhoeddiad i lawer o bobl.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod angen i Ford gydnabod teyrngarwch ac ymrwymiad y gweithlu a'r gymuned trwy fuddsoddiad gwaddol sylweddol iawn, nid yn unig yn y gweithwyr ond yn y gymuned hefyd. Ac er mwyn eu hannog i ystyried buddsoddiad gwaddol sylweddol, byddaf i a'r Ysgrifenyddion Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ysgrifennu at Ford ar y cyd, i'w hannog i fuddsoddi swm sylweddol o arian yn y gymuned ac yn y bobl hynny y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Bydd hynny'n rhan o becyn o fuddsoddiadau. Mae swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs. Nid oes dim amheuaeth am hynny, ac rydym eisoes yn ystyried sut y gallwn gefnogi nid yn unig yr unigolion a'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi, a'r busnesau niferus ar y stryd fawr a allai ddioddef o ganlyniad i hyn, ond hefyd sut y gallwn gynorthwyo'r lle ei hun—Pen-y-bont ar Ogwr—gan wneud yn siŵr, os oes cynlluniau sy'n barod am fuddsoddiad a fyddai'n cyfrannu at dwf economaidd ac at ysgogi twf economaidd rhwng nawr a mis Medi 2020, yna byddwn yn buddsoddi pa le bynnag a sut bynnag y gallwn.

Ond mae swyddogaeth hefyd i'r awdurdod lleol, wrth gwrs, o ran nodi cynlluniau tebyg a chefnogi'r cynlluniau hynny gyda ni, ac, yn hollbwysig, mae swyddogaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig trwy strategaeth ddiwydiannol y DU. Ddoe ac yn wir, ddydd Gwener, bûm i'n trafod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y cyfleoedd a allai ddod i'r amlwg, yn benodol yr her Faraday a'r bargeinion sector, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gweithio'n agos iawn gyda ni. Mae ei swyddogion yn cysylltu, os nad pob awr, yn sicr bob dydd â'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru i nodi cyfleoedd i fuddsoddi.

Cododd Bethan y pwynt pwysig o ran arallgyfeirio economi Cymru, ac erbyn hyn mae gennym y nifer mwyaf erioed o fusnesau. Roeddwn i'n dweud wrth newyddiadurwyr y bore yma fod economi Cymru, mewn unrhyw wythnos benodol, yn colli rhyw 2,000 o swyddi, ond, yn ystod yr un cyfnod, mae economi Cymru yn creu ychydig dros 2,000 o swyddi, a dyna pam mae gennym lefelau mor isel o ddiweithdra a lefelau isel o anweithgarwch economaidd. Mae arallgyfeirio cyflogaeth, yr economi, yn digwydd, ond lluniwyd y cynllun gweithredu economaidd yn benodol i rymuso a galluogi busnesau yng Nghymru i addasu i realiti newydd awtomatiaeth, i fynd i'r afael â heriau diwydiant 4.0 a mynd i'r afael â'r angen i leihau allyriadau carbon. A dyna pam, yn y contract economaidd, mae un o'r pedwar maen prawf yn ymwneud â datgarboneiddio a dyna pam mae un o'r pum galwad i weithredu yn ymwneud â datgarboneiddio hefyd. Rydym eisoes yn cefnogi llawer iawn o fusnesau, yn eu hymdrechion i fod yn fwy modern yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym eisoes wedi gweld mwy na 200 o fusnesau yn ymuno â'r contract economaidd. Rydym yn annog ac yn galluogi busnesau i foderneiddio eu harferion, mae awydd a dyhead yn y gymuned fusnes i addasu i'r realiti newydd, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw. Ac yn benodol, byddwn yn gweithio gyda nhw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, lle gallan nhw, ac rwy'n ffyddiog y byddan nhw'n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd.

13:45

Diolch am y cwestiwn heddiw, Carwyn Jones, a'ch ymateb, Gweinidog. A gaf i ddechrau, fodd bynnag, trwy ddweud fy mod i o'r farn os byddwn yn rhoi gormod o bwyslais ar Brexit mewn unrhyw sgyrsiau o'r math hwn, y byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn beio popeth ar Brexit ac yn methu â gwerthuso effaith Brexit mewn gwirionedd? Felly, er fy mod i'n fodlon derbyn y gall fod elfen o hyn, rwy'n falch bod Bethan Sayed wedi gwneud y pwynt nad hwn yw'r prif reswm dros symud heddiw. Y gwir amdani yw ei bod £600 yn rhatach i gynhyrchu'r injan hon ym Mecsico nag y mae ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dylai fod cwestiynau yma—ac efallai y gallech chi ymdrin â hyn, Gweinidog—ynglŷn â pham na wnaeth y sgyrsiau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—rwy'n gofyn y cwestiwn i'r ddau—ragweld hyn yn digwydd ychydig yn gynt. Oherwydd un o'r pethau sydd yn sicr wedi dod i'r amlwg o'r hanes truenus yr ydym wedi'i glywed yn ystod yr wythnosau diwethaf yw bod Ford gryn dipyn ar ei hôl hi o ran nodi'r chwaeth a oedd yn newid yn y farchnad Ewropeaidd a chanolbwyntio gormod, efallai, ar chwaeth wahanol iawn yn y farchnad yn America. Pam na chafodd hynny ei gyflwyno fel math o her i Ford lawer yn gynharach yn y broses, o gofio ein bod ni wedi clywed gennych chi a gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hefyd, bod sgyrsiau gyda Ford wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn?

Tybed allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am yr arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Ford dros y blynyddoedd. Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, sef na fyddwch yn caniatáu iddynt gael rhagor o arian, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi grybwyll bod tua £11 miliwn ar gael i'w adfachu—er y dywedodd y Dirprwy Weinidog heddiw, yn y grŵp trawsbleidiol, y byddai'r gallu i hawlio unrhyw arian yn ôl yn gymedrol yn unig. Felly, tybed a wnewch chi ddweud rhywfaint wrthym am faint o arian y gellir ei ddileu yn ystod y mater hwn i Lywodraeth Cymru, ond, am unrhyw arian yr ydych yn llwyddo i'w adfer neu i beidio â'i roi i Ford yn y lle cyntaf, sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio. A fydd y cyfan yn cael ei neilltuo i waith y tasglu, neu a fyddwch yn ystyried ei wario mewn ffyrdd eraill? Gan mai un o'r pethau nad ydym wedi clywed dim yn ei gylch ar hyn o bryd yw bod Pen-y-bont ar Ogwr o fewn ôl troed prifddinas-ranbarth Caerdydd, ond mae'n eithaf agos at ôl troed bargen ddinesig bae Abertawe hefyd, a byddwn i'n trafod â'r ddau fwrdd hynny i weld pa gymorth y gallan nhw ei roi, i weld a ellir, mewn gwirionedd, ddefnyddio sgiliau'r gweithlu hwn o fewn cynlluniau prosiect y ddau fwrdd hynny. Ac yn benodol, fel y gwyddoch chi, mae Caerdydd yn dal yn bosibilrwydd ar gyfer bod yn ganolfan Heathrow; byddwn i wedi meddwl y gallai'r gallu i gyflwyno talentau'r gweithlu hwn fel budd i'r ganolfan Heathrow honno, fod yn rhywbeth a allai fod yn hwb iddo ddod i Gaerdydd.

Ac yna, yn olaf, cwestiwn bach ynghylch cyfathrebu, rwy'n credu. Fe wnaethom ni glywed gennych chi yn ôl ym mis Chwefror fod Ford yn gobeithio clywed ymhen rhyw fis am yr injan newydd ar gyfer y 4x4 Grenadier; bu'n rhaid i mi gael gwybod o dudalennau Auto Trader fod y gwaith hwnnw wedi mynd i BMW. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe byddai'r Siambr hon wedi cael gwybod hynny, gan fod gennym ddiddordeb mawr iawn yn hynny yn amlwg. Nid wyf i am ddwyn yr holl gwestiynau heddiw, ond mae cwestiwn i'w ateb o hyd ynghylch lle bydd INEOS yn ffitio yn ein darlun wrth edrych ymlaen ar hyn ac a ydych yn siarad â chwmnïau eraill ynglŷn â sut i ddatrys methiant Ford i sylwi mai trafnidiaeth werdd yw'r ffordd ymlaen. Oherwydd rydym ni'n ystyried hynny—nid ceir trydan yn unig, ond rydym yn sôn am geir hydrogen a mathau newydd o drafnidiaeth gyhoeddus, y cerbydau newydd y bydd eu hangen arnom ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus werdd yr unfed ganrif ar hugain. A ydym ni wedi ei gadael ychydig yn hwyr i gynnwys y gweithlu penodol hwn, yr arbenigedd hwn, y mae Ford ei hun yn ei gydnabod yn un gwych? A ydym ni wedi colli'r cyfle i'w cipio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar ei newydd wedd yn arbennig y mae ei hangen mor ddybryd ar Gymru? Diolch.

13:50

Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad a'i chwestiynau. Mae'n rhaid imi ddweud, yn syml iawn, nid yw'n bosibl anwybyddu'r effaith y mae Brexit yn ei chael ar economi Cymru ac y bydd yn parhau i'w chael ar yr economi, a chanlyniadau enbydus Brexit 'dim cytundeb' y mae Ford a llawer o rai eraill wedi'u cyhoeddi dro ar ôl tro. Mae dwy her yn wynebu'r sector moduro yn y DU; un yw Brexit, y llall yw'r dirywiad yn yr injan hylosgi mewnol. O ran yr injan hylosgi mewnol, nid oedd rhai gweithgynhyrchwyr wedi rhagweld y ffordd y byddai'n dirywio, ac rwy'n credu bod Ford yn un ohonynt. Dyna pam eu bod ar ei hôl hi o bosibl.

O ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynghylch pam nad oeddem ni wedi rhagweld hyn, wel, roeddem ni wedi sefydlu tasglu a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd iawn tan yn ddiweddar a oedd yn ystyried cyfleoedd ar gyfer y safle, gan weithio gyda Ford a'r undebau. Ac roeddem ni'n ystyried y cyfleoedd a allai ddeillio o raglen drydaneiddio Ford a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, a'r potensial i gynhyrchu injans hybrid yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ni nododd Ford ar unrhyw adeg fod dyfodol y ffatri dan amheuaeth; yn wir, roeddem ni'n gweithio gyda'r cwmni ac eraill, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ar gyfleoedd i fuddsoddi yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ac rwy'n cytuno â Carwyn Jones ei bod yn ymddangos bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ddiweddar iawn, a'i fod yn dipyn o ymateb i'r digwyddiadau diweddar yr amlinellodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Felly, rwyf i'n teimlo yn gryf na ddylid anwybyddu Brexit fel ffactor sy'n cyfrannu.

O ran yr amodau sydd wedi bod yn berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi ei rhoi i Ford dros y blynyddoedd, fel yr wyf wedi'i nodi eisoes, buddsoddwyd £143 miliwn o arian y trethdalwyr yn y safle, ac yn fy marn i, mae'n iawn ein bod ni wedi buddsoddi yn y safle, yn bennaf oherwydd yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig, y mae wedi cyfrannu £3.3 biliwn i'r economi leol, gan gadw llawer iawn o fusnesau bach, canolig a micro yn fyw. Mae'r amodau sy'n berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi'i rhoi ar gyfer Ford yn dal i fodoli heddiw, ond bydd llawer o'r amodoldeb wedi dirwyn i ben erbyn mis Medi'r flwyddyn nesaf. Dyna pam yr ydym yn dweud wrth Ford y dylai fod buddsoddiad gwaddol yn ôl i'r bobl sydd wedi cyfrannu at fodolaeth y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwn i'n croesawu'n fawr unrhyw ran y gallai partneriaid bargen ddinesig bae Abertawe ei rhoi i'r ymdrech i gael swyddi addas sy'n talu cyflogau uchel i'r bobl.

O ran y cyfleoedd eraill a allai ddod i Ben-y-bont ar Ogwr, ni fyddaf yn rhoi diweddariad parhaus ar yr holl drafodaethau masnachol sensitif yr ydym yn eu cael gyda darpar fuddsoddwyr—mae'r Aelod wedi nodi un—ond gallaf sicrhau Aelodau'r Siambr hon fod gan lawer o bartïon ddiddordeb yn y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n gyfleuster enfawr; mae'n wir yn ffatri o fewn ffatri ar hyn o bryd, yn cynhyrchu'r injan Dragon mewn un rhan ond gyda lle gwag i fusnesau eraill. Ac mae'n ddigon posibl y gellid defnyddio'r safle ar gyfer nifer o fusnesau. Dylai'r flaenoriaeth, yn fy marn i, fod ar weithgynhyrchu, oherwydd byddai'r 1,700 o bobl sy'n gweithio yno ar hyn o bryd yn ddelfrydol ar gyfer cyflogaeth o'r fath. Ond ni fyddem yn diystyru defnydd amgen ac ychwanegol ar gyfer yr hyn sy'n ased eithriadol.

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog am ymgysylltu ar unwaith ac yn uniongyrchol iawn â'r gweithwyr, ac mewn ffordd mor frwd, trwy gwrdd â'r undebau yn y safle yr wythnos diwethaf, ynghyd â Carwyn fy nghyd-Aelod, ASau lleol ac eraill, ac am fod yn y sedd flaen yn y mater hwn? Ac a gaf i adleisio popeth y dywedodd fy nghyd-Aelod Carwyn Jones ar ran nid y cannoedd ond y miloedd o bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn Ford, ond hefyd y gadwyn gyflenwi, nid yn Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig ond ledled y rhanbarth, a'u teuluoedd, a'r siopau, a'r caffis sy'n dibynnu ar yr economi gylchol honno lle maent yn gwario'u harian?

Mae hyn yn drychinebus. Nid oedd y gweithwyr yn haeddu hyn. Nid oedden nhw'n haeddu'r ffordd y cafodd ei gyhoeddi. Maen nhw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i bob disgwyl yn ystod y degawdau diwethaf i wneud pob un peth y mae Ford wedi gofyn iddyn nhw ei wneud—pob peth: i gynyddu cynhyrchiant; i newid y ffordd y maen nhw'n cynhyrchu ar y llinellau hynny; i gyflwyno llinellau cynhyrchu newydd. Nid oedden nhw'n haeddu hyn. Mae Ford yn ddyledus i'r gweithwyr hyn ac yn ddyledus i'r cymunedau hyn. Felly, rwyf i'n croesawu'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, Gweinidog, ynghylch gwaddol, pe byddai'n cyrraedd y pwynt hwnnw, ond a gaf i ei annog, plîs, yn gyntaf, i wneud yr union beth a ddywedodd y Prif Weinidog, sef mynd yn ôl at Ford a herio'r penderfyniad hwn? Rwyf i'n credu eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Rwy'n credu bod hwn yn weithlu cynhyrchiol, hyfedr, hynod effeithiol ac maen nhw'n haeddu'r cyfle i herio hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Ond fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw hyn: os yw'r penderfyniad yn derfynol a bod Ford yn mynd i gerdded i ffwrdd, yna dylen nhw yn wir adael gwaddol, ond gofynnaf ddau beth. Yn gyntaf, wrth groesawu'r tasglu a'r ymagwedd tuag at ddull gweithredu sy'n seiliedig ar le, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sicrhau ein bod ni yn nodi'r meysydd hynny lle gallwn gyflymu'r broses fuddsoddi nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei hun a'r cyffiniau agos, ond hefyd yn ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr? Oherwydd bydd yr effaith yn yr ardal ehangach honno sef hen ardal Morgannwg Ganol. Ac wrth wneud hynny, byddai o gymorth—ac rwy'n siŵr y bydd yn dymuno gwneud hynny—i ymgysylltu ag awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr ei hun ac arweinydd y cyngor yno a'i gabinet. Oherwydd bod ganddyn nhw—ac rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn trafod—syniadau eisoes am yr hyn a all ysgogi'r economi, yr hyn a all roi hyder i'r gymuned fusnes na fydd yn yr un sefylllfa ag yr oedd sir y Fflint ddegawdau yn ôl. Bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn ymyrryd ynddo a byddwn yn cymryd camau ac yn gwneud yn siŵr bod hon yn economi ffyniannus a bod dyfodol i'r bobl hyn. Felly, byddwn i'n gofyn y ddau beth hynny: maint y buddsoddiad, cyflymder y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a gweithio gyda'r awdurdod lleol, os gwelwch yn dda, Gweinidog.

13:55

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau ac am ei gwestiynau a dweud ein bod wedi ysgwyddo arweinyddiaeth y mater ar unwaith? Rydym wedi cydio yn y gwaith o lywio'r her hon ar unwaith oherwydd bod gennym ni brofiad helaeth o ymyrryd yn llwyddiannus drwy ein hymagwedd tasglu a brofwyd, fel y gwnaethom yng Nghaerdydd pan wnaeth Tesco y cyhoeddiad am gau, pan wnaeth Virgin yn Abertawe y cyhoeddiad. Fe wnaethom ni ymyrryd ar unwaith, gan roi'r gefnogaeth angenrheidiol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt i sicrhau eu bod yn cael gwaith arall cyn gynted â phosibl ac yn osgoi cyfnodau hir o ddiweithdra.

Wrth gwrs, byddaf i'n herio penderfyniad Ford, byddaf. Ni wireddwyd nifer y peiriannau a oedd wedi eu darogan ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, rhagfynegir y bydd y galw am injan Dragon yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Os nad ydyn nhw'n newid eu meddwl, bydd y niferoedd uwch hynny'n cael eu gwireddu ym Mecsico yn hytrach nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac nid ydym am dderbyn hynny. Byddwn yn gwrthwynebu cau'r safle. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gynllunio ar gyfer pob digwyddiad, a bydd y dull sy'n seiliedig ar le, sy'n ddimensiwn newydd i'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud, yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gymuned yn barod ar gyfer bywyd ar ôl Ford.

Rwyf i eisoes wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinydd yr awdurdod lleol, sydd wedi bod yn garedig iawn yn rhoi cyfres o gyfleoedd buddsoddi posibl i Lywodraeth Cymru. Gallai wneud yn union fel y dywedodd Huw Irranca-Davies. Ac maen nhw'n fwy na chyfleoedd sy'n gyfyngedig i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, i'r ardal gyfagos a gefnogir gan Ford ar hyn o bryd. Ymyriadau yw'r rhain ar gyfer yr ardal gyfan lle daw gweithwyr Ford ohoni a lle mae Ford yn cefnogi busnesau bach lleol. Byddwn yn arfarnu'r holl opsiynau hynny. Byddwn yn edrych ar opsiynau eraill hefyd, a byddwn, trwy'r tîm rhanbarthol newydd, yn cefnogi'r awdurdod lleol i ymateb i'r her hon.

Gweinidog, er fy mod i'n diolch ichi am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach, roeddwn i'n synnu na chafwyd datganiad llafar am benderfyniad Ford i gau'r ffatri injan ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â bod yn newyddion torcalonnus i'r gweithlu a Phen-y-bont ar Ogwr, mae hefyd yn ergyd drom i Orllewin De Cymru. Er fy mod yn gobeithio y bydd Ford yn gweld eu camgymeriad, nid wyf i'n siŵr y byddan nhw, o gofio'r economi fyd-eang a chamau i flaenoriaethu swyddi yn America. Gweinidog, rydych chi wedi nodi bod tasglu wedi'i sefydlu, a chroesewir hyn yn fawr. A fydd y tasglu yn chwilio am brynwyr eraill ar gyfer y safle, ac a ydych chi wedi trafod y posibilrwydd hwn gyda Ford? Sut y bydd yr arian a gaiff ei adfer yn cael ei ddefnyddio—£11 miliwn, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall? Mae Ford wedi dweud nad yw Brexit wedi chwarae rhan yn y penderfyniad hwn ac mae'r posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' wedi'i drafod ers y tair blynedd diwethaf, felly prin ei fod yn gysyniad newydd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar bosibiliadau eraill o ran pam y gwnaed y penderfyniad hwn. Rwy'n cydymdeimlo â'r holl weithwyr a'r teuluoedd y mae'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw.

14:00

Mae yna linell yn Jaws lle mae Chief Brody yn dweud wrth y maer y bydd yn anwybyddu'r broblem hon hyd nes iddi ei frathu yn ei ben-ôl, a dyna, rwy'n ofni, yw'r hyn y bydd pobl Brexit Cymru yn ei wneud: parhau i anwybyddu'r problemau y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn eu hachosi i bobl y wlad hon a'n heconomi nes iddi ddod a chymryd eu swyddi oddi arnyn nhw. Dyna pryd y byddan nhw'n dechrau cwyno am y problemau y mae Brexit yn eu hachosi. Ac rwy'n ofni na fyddwn ni'n sefyll o'r neilltu ac yn gadael i economi ein gwlad gael ei difetha gan bobl nad oes ots ganddyn nhw am gyflogaeth yng Nghymru; nad oes ots ganddyn nhw am swyddi yng Nghymru; ac a fyddai'n well ganddyn nhw uniaethu â'r Arlywydd Trump, sy'n addo llawer iawn i'r DU, ond y mae ei gwmnïau, fel y dywedodd yr Aelod ei hun, yn rhoi blaenoriaeth i swyddi yn America dros ein swyddi ni.

Mae Brexit yn fater real iawn i'n gwlad ni. Rwyf i wedi nodi o'r blaen gyfleoedd buddsoddi sydd wedi eu colli neu eu hatal o ganlyniad i Brexit 'dim cytundeb' ddod yn fwy amlwg a real. Ac nid yw hynny, mae arnaf i ofn, yn mynd i wneud dim ond dwysáu yn y misoedd nesaf. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu gwaith gwerthfawr i bobl yn y wlad hon, ond rwyf i yn gobeithio y bydd y rhai hynny sy'n anwybyddu bygythiad Brexit 'dim cytundeb' yn callio ac yn sylweddoli bod yn rhaid sicrhau cytundeb neu bod yn rhaid inni ofyn y cwestiwn i'r bobl eto.

A gaf i ofyn, Gweinidog, pa mor rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran sicrhau bod ei buddsoddiad yn cael ei wario'n eang gan Ford ar gyfleoedd amgen i'r safle, gan gynnwys, wrth gwrs, cyfleoedd buddsoddi i ddechrau cynhyrchu injans trydan ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydych chi wedi amlinellu'r swm mawr o gymorth cyfalaf sydd wedi'i ddarparu i Ford, ond a gaf i ofyn i chi pa fath o werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arian sydd wedi ei wario, yn yr un modd ag y mae wedi'i wneud ar gyfer Tata? Ac mae eraill wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi ac rydych chi wedi'i ateb i ryw raddau, ond nid yn hollol glir, felly efallai y gallech chi ymhelaethu ar hyn: faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gall ei gael yn ôl gan Ford a phryd y bydd yn gwybod mwy o fanylion am faint y gellir ei adennill?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar yr union ffigurau am yr amodau sy'n gysylltiedig â'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i chynnig, ac yn cyfrifo faint o'r swyddi fydd yn dal i fod dan amod ym mis Medi 2020. A dweud y gwir, roeddwn i ar fai yn peidio ag ateb un pwynt penodol a wnaed gan Suzy Davies ynghylch y newid i gerbydau hybrid a thrydanol. Rwy'n credu bod gwerth myfyrio ar y ffaith bod gan Gymru ei hun arweinydd ym maes pwerwaith modur newydd sy'n seiliedig ar dechnoleg hydrogen, sef Riversimple yn y canolbarth, sydd wedi gallu datblygu ei gynnyrch a'i dechnoleg o ganlyniad i'r gefnogaeth y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi ei rhoi iddo. Ac rydym ni'n falch iawn hefyd o gael un o'r cynigion mwyaf uchelgeisiol i gael fflyd o fysiau a thacsis dim allyriadau yn y DU, gyda fflyd dim allyriadau erbyn 2028, ac rwy'n falch bod Banc Datblygu Cymru yn gweithio ar hyn o bryd ar y cymorth y gallai fod ei angen i gyflawni'r targed hwnnw.

Yn ogystal â hyn, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod eisoes, bydd metro de Cymru—cynllun hynod uchelgeisiol—yn arwain at drydaneiddio wedi'i bweru 100 y cant gan ynni adnewyddadwy, a hanner hwnnw'n dod o Gymru. Fodd bynnag, ceir rhai gweithgynhyrchwyr cerbydau, a cheir yn arbennig, nad ydyn nhw'n gweld cyflymder y newid sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac sydd ar ei hôl hi. Gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i gymell, galluogi a grymuso'r busnesau hynny i newid, ond yn y pen draw, mater i'r penderfynwyr hynny yn y busnesau hynny yw derbyn yr hyn sy'n anochel a chroesawu'r newid a'r cymorth y gallwn ni eu cynnig. Ac rwyf i'n meddwl tybed i ba raddau y mae'r ffaith bod Ford yn gwmni Americanaidd yn cyfrannu at iddo beidio â chydnabod efallai yr argyfwng newid yn yr hinsawdd—rwyf yn meddwl tybed a ydyn nhw yn wirioneddol ymrwymedig i newid i economi werdd a cherbydau dim allyriadau.

Wrth gwrs, rwyf eisoes wedi amlinellu, o ran gwerthuso, y cyfraniad y mae Ford wedi'i wneud i'r economi leol dros y blynyddoedd. Am fuddsoddiad o ychydig dros £60 miliwn gan Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi gweld £3.3 biliwn yn dychwelyd i economi Pen-y-bont ar Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Rydym ni o'r farn bod hynny'n adenillion sylweddol a derbyniol iawn ar fuddsoddiad, sy'n dod i fwy na £300 miliwn ar gyfartaledd bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf, o'i gymharu â'r oddeutu £60 miliwn yr ydym ni wedi'i fuddsoddi yn y cwmni. Rydym ni hefyd wedi gallu gwneud yn siŵr, trwy ein buddsoddiadau, bod y gweithwyr hynny'n meddu ar sgiliau da a'u bod wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gallu defnyddio'u sgiliau mewn cyflogaeth arall, ac rwy'n hyderus, trwy waith y tasglu, y byddwn yn gallu sicrhau bod y rhai sy'n dymuno aros mewn cyflogaeth yn cael cyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau ardderchog mewn swyddi tebyg.

14:05

Hoffwn i wasgu dau gwestiwn arall i mewn, felly os gallan nhw fod mor gryno ag sy'n bosibl, ac rwy'n edrych ar y ddau ohonoch chi. David Rees.

Diolch, Llywydd, a byddaf i mor gryno â phosibl, felly, ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud eisoes. Ond, yn amlwg, byddaf i'n cysylltu fy hun â'r sylwadau gan yr Aelod dros Ogwr a'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr ar y mater hwn, a, Gweinidog, diolch ichi am yr atebion.

Dim ond un neu ddau o bwyntiau cyflym felly, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o'm hetholwyr yn gweithio yn Ford. Mewn gwirionedd, rwy'n adnabod ffrindiau a theulu ffrindiau sy'n gweithio yno. Ond pan ddigwyddodd y mater ym Mhort Talbot, sefydlwyd tasglu. Un o'r ffrydiau a sefydlwyd ganddo oedd ffrwd iechyd a lles, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhai y mae'r penderfyniad hwn gan Ford yn effeithio arnyn nhw yn gallu cael y math hwnnw o gymorth. A wnewch chi sicrhau, felly, fod y tasglu hefyd yn sefydlu ffrwd debyg yn y sefyllfa hon i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi?

O ran y sylw a wnaed ar bensiynau gan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, ac rydych chi'n tynnu sylw at y ffaith nad ydych chi'n dymuno i'r siarcod ddod i mewn, wel, gwelsom y siarcod yn dod i Bort Talbot. A fyddwch chi'n trafod gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau nad ydyn nhw'n dod i Ben-y-bont ar Ogwr hefyd? A dweud y gwir, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cynnal sesiwn ym Mhort Talbot ddydd Gwener, yn arbennig ynglŷn â hynny, ac efallai y byddai'n werth cael trafodaeth gyda nhw ynghylch y pwynt hwnnw.

O ran unrhyw setliadau diswyddo sy'n cael eu gwneud, mae'r undebau wedi dweud wrthym eu bod nhw, yn y bôn, yn credu mai llwgrwobr yw'r rhain i'r gweithlu yn rhannol er mwyn iddyn nhw dderbyn y cytundebau hynny a derbyn penderfyniad Ford, a byddwn yn gweld canlyniad hynny ddydd Gwener mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir gan yr undebau. A wnewch chi hefyd edrych gyda'r Trysorlys ar y goblygiadau o safbwynt y Trysorlys ar y taliadau hynny, oherwydd efallai y bydd llawer o bobl yn gweld ffigurau mawr, ond efallai na fyddan nhw'n deall beth yw canlyniadau'r ffigurau hynny a faint y gall fod angen iddyn nhw ei dalu i'r Trysorlys yn y pen draw, yn ôl i Lywodraeth y DU?

Yn olaf, o ran materion y gadwyn gyflenwi, rydych chi wedi sôn am y gadwyn gyflenwi eisoes, a wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar y gadwyn gyflenwi? Rydym ni wedi gweld cyhoeddiad Ford, rydym ni wedi gweld yr un yng Nghasnewydd ac rydym ni wedi gweld cyhoeddiadau Calsonic—mae hyn yn effeithio ar y cadwyni cyflenwi hefyd. A fyddwch chi'n gweithio gyda'r cadwyni cyflenwi i edrych ar sut y gallan nhw fynd i'r afael â'r dyfodol mewn gwirionedd? Rydym ni wedi sôn am injans ac injans hybrid, ond mae angen cymorth ar y cadwyni cyflenwi hefyd i newid eu cynlluniau a gweithio ar gyfer yr injans a'r gweithgynhyrchu hynny. A fyddwch chi'n gweithio gyda'r cadwyni cyflenwi i sicrhau eu bod nhw'n gallu ateb gofynion injans y dyfodol hefyd?

A gaf i ddiolch i David Rees am ei gwestiynau a'r pwyntiau pwysig y mae'n eu gwneud am iechyd meddwl a lles y rhai y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt, nid dim ond y gweithwyr, ond eu teuluoedd, a'r bobl a gyflogir mewn gwahanol fusnesau sy'n dibynnu ar y cyfraniad y mae Ford yn ei wneud i'r economi leol? Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y bwrdd iechyd yn rhan o'r tasglu, ac, ar yr amod bod Ford yn rhoi mynediad i'r tasglu, byddwn yn rhoi cymorth ar unwaith i'r rhai y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Dywedais wrth Ford dros y ffôn ddydd Iau na fyddaf i'n aros 12 mis i'r ymgynghoriad ddod i ben cyn i'r tasglu allu mynd i'r busnes i gefnogi pobl. Rwyf i eisiau cael mynediad ar unwaith i'r bobl hynny a rhoi cymorth ar unwaith o ran eu lles, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cyhoeddiadau fel hyn yn aml yn arwain at chwalu teuluoedd, ac mae'n rhaid i ni wneud pob peth posib i osgoi hynny.

Rwyf i eisoes wedi ateb y cwestiwn ynghylch y rhan y mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei chwarae yn y cwestiynau a godwyd gan Carwyn Jones.

Mae David Rees yn codi'r cwestiwn pwysig ynghylch y trethi y gellid eu talu i Drysorlys y DU. Nid fy lle i yw datgelu lefel y taliadau i weithwyr na damcaniaethu ynghylch swm y trethi a anfonir i Drysorlys y DU, ond rydym eisoes yn edrych ar yr union fater hwn, ac mae'n ddigon posibl y gallai cyfraniad Llywodraeth y DU ddod ar ffurf rhyw fath o ad-daliad o'r trethi hynny i'r gweithwyr a/neu'r gymuned.

Mae'r Aelod hefyd yn iawn i godi pwysigrwydd yr her hon i'r gadwyn gyflenwi. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn, nid yn unig gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ond hefyd gyda Fforwm Moduron Cymru, i nodi'r busnesau hynny yn y gadwyn gyflenwi modurol y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnynt. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar hynny. Mae Fforwm Moduron Cymru wedi ysgrifennu at fusnesau yn y gadwyn gyflenwi, nid dim ond y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau Ford, ond y sector modurol cyffredinol, i nodi unrhyw fusnesau y gallai fod angen cymorth arnynt gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r awdurdod lleol.

14:10

Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch am eich atebion y prynhawn yma. Nid wyf i'n gwneud hyn fel pwynt gwleidyddol—rwy'n ei wneud fel pwynt cyffredinol—mai'r golled fwyaf o ran gwaith yng nghyfnod datganoli oedd gwaith dur Llanwern a gafodd ei gau ar ddechrau'r 2000au, ac rwy'n tynnu eich sylw at hynny oherwydd, yn amlwg, gallai'r camau adferol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn yr achos penodol hwn, fod yn enghraifft dda ar gyfer gwaith Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd eich bod chi, yn amlwg, wedi cyfeirio at y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru yn achos Tesco yn tynnu allan o Gaerdydd a Virgin allan o Abertawe, ond roedden nhw'n fusnesau mawr eisoes a oedd yn gallu cyflogi llawer o'r gweithwyr hynny yn y busnesau hynny. Yn y fan yma, mae gennych chi gyfleuster peirianyddol i bob pwrpas sydd â 1,700 o swyddi mewn perygl erbyn hyn, ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, ac er ein bod yn gwybod bod Aston Martin yn mynd ati i recriwtio ar gyfer o leiaf 500 i 600 o swyddi, mae llawer o bobl yn chwilio am waith, a hoffwn i dynnu eich sylw at y tasglu a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith pan oedd Llanwern yn cau i gymharu â ffatri injans Ford.

Byddwn i hefyd yn sôn am ddatblygiad Brocastle y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gomisiynu y drws nesaf i ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r peiriannau cloddio yn llythrennol newydd fynd i wneud y gwaith seilwaith yn y fan honno. A fydd unrhyw ailfodelu ar gyfer y parc busnes hwnnw? Oherwydd yr elfen hollbwysig yn y fan yma yw bod y swyddi sydd wedi'u colli yn talu £45,000 i £50,000 ar gyfartaledd. Nid yw'n hawdd dod o hyd i'r swyddi hynny, ac rwy'n siŵr pan oeddech chi'n modelu'r parc busnes hwnnw a rhai o'r cynlluniau a oedd gennych chi, nad oeddech chi'n rhagweld y byddai'r ffatri injans yn cau yn llwyr. Felly a wnewch chi gadarnhau a yw hi'n sefyllfa busnes fel arfer gyda'r parc busnes hwnnw sy'n cael ei ddatblygu wrth ochr y ffatri injans, neu a fydd y cynlluniau a osodwyd yn wreiddiol yn cael eu hail-werthuso?

Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Mae'n codi pwynt pwysig iawn am Brocastle. Mae hwnnw'n safle cyflogaeth strategol—safle mawr sy'n cael ei ddatblygu. Mae'n gyfagos i ffatri injan Ford, i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'i leoliad. Mae'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac rwy'n falch o ddweud bod gwaith wedi dechrau ar fuddsoddiad gwerth £10 miliwn ar seilwaith y safle. Mae'r safle penodol hwn yn ddelfrydol ar gyfer pencadlys cwmni blaenllaw neu barc cyflenwi o safon, ac rydym ni'n gweithio ar nifer o bosibiliadau. Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cynigion ar gyfer cyflogwyr sy'n cynnig gwaith o ansawdd uchel ac sy'n talu'n dda, yna wrth gwrs byddwn yn addasu cynllun arfaethedig y parc, ei seilwaith, beth bynnag sydd ei angen.

Wrth gwrs, roedd Llanwern yn bryder mawr i ni, ac fe wnaethom ni ymyrryd yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i nodi. Y rheswm yr ydym ni'n credu y gallai hyn fod y golled fwyaf o ran swyddi ers datganoli yw oherwydd yr effaith luosogi, a allai fod yn dri i un. Gallai fod yn rhywbeth fel oddeutu 5,000 i 6,000 o swyddi y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw—nid o reidrwydd eu colli, ond effaith o ryw fath—yn sgil y penderfyniad a gymerwyd gan Ford, a byddai hynny'n ei roi ar lefel arall i unrhyw beth arall sydd wedi digwydd ers 1999 ac mae'n dangos, unwaith eto, yr angen i ni fynd y tu hwnt i ddull arferol y tasglu a pham mae'r elfen sy'n seiliedig ar le mor bwysig yn y gwaith yr ydym am fod yn ei wneud.

Roedd Andrew R.T. Davies yn iawn i nodi bod Aston Martin Lagonda yn gyflogwr pwysig sy'n cynnig gwaith o ansawdd uchel, sy'n talu'n dda, ac yn gyflogwr sy'n recriwtio ar hyn o bryd. Rydym ni yn credu y gellid cynnig oddeutu 500 o swyddi i weithwyr Ford yn y fan honno. Mae Aston Martin Lagonda, wrth gwrs, wedi gwneud de Cymru yn gartref byd-eang iddo i ddatblygu ceir trydan, gan ddangos ffydd yng ngallu Cymru i newid i economi carbon isel. Mae'r cwmni'n anhygoel o uchelgeisiol gyda chynlluniau ar gyfer cerbydau newydd, ac rwy'n obeithiol y bydd yn parhau i ehangu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn barod i gynorthwyo Aston Martin, yn ddiedifar, i ehangu yn y blynyddoedd i ddod, i sicrhau bod gan fwy o bobl swyddi addas sy'n darparu bywoliaeth dda i'w teuluoedd.

Ond mae buddsoddwyr posibl eraill yr ydym ni'n gweithio gyda nhw. Rydym ni'n benderfynol, ynghyd â'r Adran Masnach Ryngwladol a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, o gael cynifer o gyfleoedd â phosibl. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch nifer o'r buddsoddiadau posibl hynny, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu cyhoeddi newyddion da yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.

14:15
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.

Diogelu'r Amgylchedd

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd? OAQ54004

Llywydd, mae camau diweddaraf Llywodraeth Cymru ym maes diogelu'r amgylchedd wedi canolbwyntio ar sicrhau llyfr statud sy'n atal unrhyw ddirywiad i safonau amgylcheddol, pe byddai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rhoddwyd cydsyniad i 29 o offerynnau statudol ar gyfer ymadael â'r DU, a gwnaed wyth offeryn statudol amgylcheddol penodol i Gymru yma yn y Cynulliad Cenedlaethol rhwng mis Hydref 2018 a mis Mehefin eleni.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi cael rhai llythyrau wedi'u hysgrifennu'n dda iawn yn ddiweddar, gan ddisgyblion yn nosbarth Silverbirch yn ysgol gynradd Brynbuga yn fy etholaeth i, sydd wedi bod yn dysgu am nodau byd-eang ac, yn benodol, datgoedwigo. Ysgrifennodd y disgyblion ataf yn bennaf oherwydd eu bod yn arbennig o bryderus am y galw cynyddol am olew palmwydd, sy'n cael ei ddefnyddio mewn bwyd, cynhyrchion cosmetig a chymaint o eitemau cyffredin eraill. Mae ein galw am y cynhyrchion hyn yma yng Nghymru yn arwain yn uniongyrchol at ddinistrio coedwigoedd glaw trofannol i wneud lle i blanhigfeydd, a thrwy hynny'n dinistrio cynefinoedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys orang-wtanod.

Roedd y disgyblion yn obeithiol y byddwn yn codi'r materion hyn gyda chi fel Prif Weinidog, ac rwy'n gwneud hynny heddiw. Prif Weinidog, a fyddech chi'n dweud bod y dinasyddion moesegol a hyddysg hyn o ysgolion cynradd Brynbuga wir yn sôn am faterion a ddylai fod yn effeithio ar bob un ohonom ac sy'n berthnasol i ni i gyd? Ac a allwch chi ddweud wrthyn nhw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i frwydro yn ôl yn erbyn y galw am olew palmwydd ar y naill law ac, yn yr ystyr ehangach, yn erbyn y bygythiad i goedwigoedd ledled y byd?

Diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn yna a llongyfarchaf y disgyblion hynny yn ysgol gynradd Brynbuga am ysgrifennu ato. Rwy'n falch dros ben bod eu pryderon yn cael eu rhannu ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Mae pryder am yr amgylchedd yn sicr yn gyfres o bryderon a ysgogir ar sail cenedlaethau. Rydym ni'n gwybod faint o amser y mae pobl ifanc yn ei roi i wneud yn siŵr bod y blaned y bydd yn rhaid iddyn nhw ofalu amdani ar ôl cyrraedd eu stiwardiaeth mewn cyflwr cystal ag y gallwn ni ei sicrhau.

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud olew palmwydd o ffynonellau anfoesegol yn rhywbeth na ellir ei ddefnyddio pan fyddwn ni'n cytuno ar gontractau economaidd gyda chwmnïau yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn gwybod bod y pethau yr ydym ni'n eu gwneud i sicrhau ailgoedwigo yma yng Nghymru yn rhan o'r ymdrech gyfrifol ar sail fyd-eang honno y cyfeiriodd ef ati. Rydym ni wedi ymrwymo i blannu o leiaf 2,000 hectar o goed newydd rhwng 2020 a 2030. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y camau ymarferol y byddwn ni'n eu cymryd i greu coedwig genedlaethol newydd yma yng Nghymru.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths gyfres o fuddsoddiadau mewn cynlluniau adfer natur yma yng Nghymru, a bydd y myfyrwyr yn ysgol gynradd Brynbuga yn falch o wybod, rwy'n siŵr, fod cynllun gwerth £1.3 miliwn yn yr arfaeth ar gyfer A Resilient Greater Gwent, a fydd yn cynnwys edrych ar ffyrdd y mae cynefin wedi cael ei ddiraddio yn y gorffennol ac y bydd angen ei adfywio yn y dyfodol. Rwy'n amau, o leiaf, y bydd yr ychwanegiad diweddaraf at yr aelwyd Ramsay, erbyn hyn, wedi cael ei dystysgrif yn dweud wrtho fod coed wedi cael eu plannu yma yng Nghymru ac yn Uganda ar ei ran—

Wedi ei fframio—wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny. Mae hyn yn rhan o 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang', yr ydym ni yn ymrwymedig iddo yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mi ddes i y prynhawn yma o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio ar ynni cynaliadwy, lle clywon ni am ffynonellau buddsoddi posib mewn isadeiledd ynni carbon isel. Hefyd, mi glywon ni eto am waith y Sefydliad Materion Cymreig, yr IWA, ar ailegnïo Cymru—re-energising Wales. Nawr, mae hwnnw'n cynnig llwybr i ddatgarboneiddio ynni yng Nghymru erbyn 2035, a dwi yn teimlo bod yna gonsensws ar draws y pleidiau i weithredu ar yr argymhellion sydd yn yr adroddiad yna. Felly, mi fyddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried gosod hwnna fel sail ar gyfer y gwaith rŷch chi'n mynd i fod yn ei wneud, ac rŷm ni i gyd yn mynd i fod yn cyfrannu ato fe, gobeithio, dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn sgil datganiad ysgrifenedig y Gweinidog amgylchedd y bore yma ynglŷn â'r nod o fod yn net zero carbon erbyn 2050.

Felly, gaf i ofyn ichi i symud i'r cyfeiriad yna? Ac os wnewch chi, yna mi gewch chi gefnogaeth yn sicr o'r meinciau yma, yn ogystal, dwi'n siŵr, â meinciau eraill yn y Senedd yma.

14:20

Diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e. Dwi'n cytuno, mae consensws rhwng rhai pleidiau ar lawr y Cynulliad am beth sy'n ein hwynebu ni a'r ffaith y bydd yn rhaid inni gymryd y cyfrifoldebau sydd gyda ni i weithio, fel roedd y Gweinidog Lesley Griffiths wedi dweud y bore yma yn y datganiad ysgrifenedig mae hi wedi'i gyhoeddi. Ces i'r cyfle i siarad pan oedd yr IWA yn lansio eu hadroddiad nhw. Mae lot o bethau diddorol yn yr adroddiad, lot o syniadau rŷn ni eisiau gweithio arnyn nhw gyda'r IWA a phartneriaid eraill ledled Cymru sydd eisiau bod yn uchelgeisiol ar ran beth rŷn ni yma yng Nghymru yn gallu ei wneud i warchod ein dyfodol. 

Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, ar sail eich sylwadau cynharach, y byddech chi'n cytuno â mi bod coed yn chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd, nid yn unig o ran eu cyfraniad esthetig i'n cefn gwlad, ond hefyd o ran eu rhinweddau amsugno carbon a'r adnodd economaidd cynaliadwy y maen nhw'n ei gynrychioli. Soniasoch yn gynharach hefyd am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailblannu coed, ond, yn anffodus, mae'n destun gofid bod Llywodraeth Cymru yn methu'n sylweddol o ran ei thargedau plannu coed—yn wir, diffyg plannu 31,000 hectar ers 2010, a cholled o 18,000 hectar o goed conwydd ers 2001. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r tuedd arbennig o ddinistriol hwn?

Llywydd, rwyf i wedi cydnabod yma ar lawr y Cynulliad mewn trafodaethau blaenorol gydag arweinydd Plaid Cymru nad ydym ni wedi gwneud cystal ag yr oedd angen i ni ei wneud o ran plannu coed yma yng Nghymru. Dyna pam yr amlinellais yr ymrwymiadau newydd yr ydym ni wedi eu gwneud dros y degawd nesaf. Dyna'n rhannol pam yr ydym ni wedi ymrwymo i greu coedwig genedlaethol fel etifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd yr hyn y mae coetir yn ei wneud o ran bioamrywiaeth, diogelu pridd, rheoli dŵr, yn ogystal â'r holl bosibiliadau eraill y byddai coedwig yn eu cynnig, ym meysydd twristiaeth, cyflogaeth, ymateb yn y gymuned amaethyddol i amodau newydd y byddan nhw'n eu hwynebu yn y dyfodol. Mae llu o resymau pwysig iawn pam mae angen i ni wneud mwy i blannu coed yma yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn llwyr ymwybodol o'r dadleuon hynny.

Mynd i'r Afael â Thlodi

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei mesurau i fynd i'r afael â thlodi? OAQ53987

Llywydd, rydym ni'n defnyddio dangosyddion tlodi plant i fesur ein heffeithiolrwydd o ran lliniaru effaith tlodi a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae rhewi a lleihau budd-daliadau, cosbi plant drwy'r cap teuluol a chosbi teuluoedd drwy'r dreth ystafell wely ymhlith yr effeithiau y mae'n rhaid i ni eu goresgyn drwy ein mesurau lliniaru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Gweinidog, ond rwy'n credu mai chi yw'r un sy'n gofalu am y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil ar gyfer y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi codi gan 1 y cant y llynedd. O gofio bod eich Llywodraeth wedi addo rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, a allwch chi esbonio pam mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd? A ydych chi'n cytuno bod y gwaith ymchwil hwn yn bwrw amheuaeth ar effeithiolrwydd eich strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?

Llywydd, mae'n barth rhydd o eironi ar y meinciau i'r chwith i mi. Dyma rai ffigurau o'r adroddiad y cyfeiriodd ato: maen nhw'n dweud wrthym ni y bydd unig rieni yng Nghymru, o ganlyniad uniongyrchol—o ganlyniad uniongyrchol—i'r camau y mae ei Lywodraeth ef yn eu cymryd, yn colli tua £3,720 y flwyddyn, y bydd teuluoedd â thri neu fwy o blant yn colli £4,110 flwyddyn, y bydd 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi erbyn 2021-22, ac y bydd aelwydydd sydd ag un oedolyn anabl a phlentyn anabl yn colli £5,270 ar gyfartaledd yng Nghymru. Dyna yw ffeithiau tlodi yma yng Nghymru, ac maen nhw'n cael eu creu yn fwriadol gan weithredoedd y Llywodraeth y mae e'n ei chefnogi. Rydym ni'n gwneud pethau bob dydd i geisio lliniaru effaith y toriadau hynny i fudd-daliadau, yr effeithiau hynny ar deuluoedd o gosbi plant, trwy gosbi teuluoedd anabl trwy gredyd cynhwysol, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu. Ond mae achos sylfaenol tlodi plant yn y wlad hon yn gorwedd yn gwbl gadarn yn nwylo'r Llywodraeth y mae e'n ei chefnogi.

14:25

Roeddwn i'n hanner disgwyl i'r cwestiwn yma gael ei dynnu'n ôl gan y Torïaid ar ôl i ffigurau dychrynllyd ddod i'r amlwg yn dangos effaith bosibl ymadawiad Cymru o'r Undeb Ewropeaidd ar ein cymunedau tlotaf. Efallai y byddan nhw'n diystyru fel codi bwganod y dadansoddiad sydd wedi dangos, ar sail cymariaethau rhwng gwariant Llywodraeth y DU ar ddatblygu economaidd a dosbarthiad cronfeydd strwythurol yr UE, y gallai Cymru golli £2.3 biliwn dros chwe blynedd, os caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei dosbarthu yn yr un modd ag y mae'r Llywodraeth yn dyrannu gwariant presennol ar faterion economaidd. Roedd hyn yn cyfateb i roi siec am dros £200 i bob un o drigolion Llundain a chymryd £700 oddi wrth bob un o bobl Cymru. Ni all y Rhondda, yr wyf i'n ei gynrychioli, fforddio colli unrhyw arian, heb sôn am gymaint â hyn o arian. Felly, sut ydych chi'n mynd i atal y sefyllfa hunllefus hon rhag datblygu?

Wel, diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at yr adroddiad hwnnw. Dro ar ôl tro, ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn—a chyda chefnogaeth Aelodau Plaid Cymru hefyd, rwy'n gwybod—rydym ni wedi dweud na fyddwn ni'n sefyll o'r neilltu ac yn caniatáu i gronfa ffyniant gyffredin ddod yn esgus am rannu adnoddau a ddaw i Gymru heddiw gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig nad ydyn nhw'n gymwys ar ei chyfer fel yr ydym ni ar sail ein hangen. Mae dull Barnett o rannu arian yn gwbl annerbyniol i ni, oherwydd nid yw Barnett yn adlewyrchu angen, ac mae'r arian yr ydym ni'n ei gael drwy'r Undeb Ewropeaidd yn dod i Gymru gan ei fod yn cael ei asesu ar sail yr anghenion sydd gennym ni yma. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw pryd bynnag y cawn y cyfle. Byddwn yn ei ddadlau ochr yn ochr â'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a luniodd adroddiad yn ddiweddar yn dweud yr union beth hwnnw, ynghyd â'r grŵp seneddol hollbleidiol a gadeirir gan Stephen Kinnock, a luniodd adroddiad yn dweud yr union beth hwnnw, a byddwn ni angen cefnogaeth Aelodau ar draws y Siambr hon sy'n rhoi anghenion Cymru yn gyntaf, i'n helpu yn yr ymdrech honno i sicrhau, pan fo arian ar gael ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd, fod Cymru yn parhau, fel yr addawyd i ni, i beidio â cholli'r un geiniog.

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod cynnal budd-daliadau cynhwysol fel presgripsiynau am ddim, pasys bws am ddim, a chynnig cymorth i'r rhai sy'n talu'r dreth gyngor ac mewn angen ariannol yn ffordd well o lawer o fynd i'r afael â thlodi na thoriadau treth y Torïaid i'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf a chael gwared ar drwyddedau teledu ar gyfer pobl dros 75 oed?

Wel, diolch yn fawr i Dawn Bowden am dynnu sylw at y ddau ddatblygiad hynny o'r wythnos hon. Yr awgrymiadau cwbl ryfeddol gan ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, sef, wyth mlynedd ers dechrau cyni cyllidol, mai'r rhai sydd angen y cymorth fwyaf yw'r rhai sydd â'r mwyaf yn y lle cyntaf. Mae'n gwbl warthus, pan feddyliwch chi am yr effeithiau a gafwyd ar y teuluoedd tlotaf yma yng Nghymru, y dylai Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyhoeddi ei fod yn barod i gefnogi rhywun a fydd, nid yn unig o ran ei bolisïau ar Brexit, y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwybod yn iawn, fydd yn drychinebus yma yng Nghymru, ond sydd hefyd, mae'n debyg, yno i siarad dros Gymru ar lefel y DU, gyda phopeth yr ydym ni'n ei wybod am effaith y toriadau hynny yma yng Nghymru—ei fod yn barod i gefnogi ymgeisydd a fyddai'n rhofio arian allan o bocedi'r bobl hynny sydd â'r lleiaf a'i roi ym mhocedi'r rhai sydd â'r mwyaf. A phan ddaw i fudd-daliadau cynhwysol, rwy'n bendant eisiau cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am y drwydded deledu. Mae'r drwydded deledu wedi bod o fudd i bawb. Mae'n mynd i bob person hŷn sydd dros 75 oed. Nid oes rhaid i neb ymgeisio. Nid oes rhaid i neb gael ei fygwth â charchar gan nad yw'n ei thalu. Nid oes yn rhaid i neb yn ddiweddarach mewn bywyd feddwl tybed a oes rhaid ychwanegu'r bil hwn at bopeth arall y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu allan o incwm sefydlog. Mae'r teuluoedd hynny wedi mwynhau'r budd hwnnw ers yr adeg pan oedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn gyfrifol am y materion hyn ar lefel y DU, ac mae'n ddiwrnod gwael iawn i'r teuluoedd hynny ganfod eu hunain mewn sefyllfa lle, yn y dyfodol, nid yn unig y bydd llawer ohonyn nhw yn cael dim cymorth o gwbl, ond ni fydd hyd yn oed y rhai sydd â hawl i gymorth yn cael y cymorth hwnnw'n awtomatig. Byddan nhw hefyd yn cael eu gorfodi i ymdrin â system sy'n eithriadol o annymunol i lawer ohonynt. Bydd llawer ohonyn nhw ar eu colled. Rydym ni'n gwybod mai dyna sy'n digwydd gyda budd-daliadau ar sail prawf modd, a dyna pam mae Dawn Bowden mor gywir i dynnu sylw at y manteision absoliwt y mae darparu budd-daliadau, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, ar sail gynhwysol, yn eu cynnig i hawlwyr.  

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl sy'n aros am apwyntiadau dilynol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Mae'r ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, Llywydd, ac felly ar gael i'r Aelod, fel pob Aelod arall o'r Siambr.

Wel, gadewch i mi eich helpu, Prif Weinidog, i ateb fy nghwestiwn. Yn ôl papur newydd y Daily Post, canfu cais rhyddid gwybodaeth y bu'n rhaid i gyfanswm o 70,908 o bobl aros mwy na chwe wythnos am eu hapwyntiad fel claf allanol. Bu'n rhaid i 27,334 o bobl aros am o leiaf 53 wythnos—mwy na blwyddyn—i gael apwyntiad. A gadewch i ni edrych ar rai ffeithiau eraill, oherwydd rydych chi'n frwd iawn ynghylch ystadegau heddiw, Prif Weinidog. Mae cleifion sy'n mynd i'r adran achosion brys bellach yn aros, ar gyfartaledd, saith awr i gael datrysiad. Yn ôl ym mis Ionawr 2014, ychydig o dan bedair awr oedd hyn. Ac y tu ôl i bob ystadegyn ceir person go iawn sy'n cael ei siomi. Dylai'r ffaith bod gennych chi fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig olygu bod pethau'n gwella, ond mae mesurau arbennig, o dan eich Gweinidog iechyd chi, yn golygu bod pethau'n gwaethygu. Roedd y mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr i fod i bara dwy flynedd, ond maen nhw wedi para pedair blynedd erbyn hyn. Nid oes cynllun penodol, dim amserlen, dim arweinyddiaeth i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. Pwy sy'n atebol am y diffyg gwelliant hwn?

Wel, Llywydd, bydd mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn para cyhyd ag y bydd y Gweinidog iechyd yn credu eu bod nhw'n angenrheidiol, a chyhyd ag y bydd angen gwneud yn siŵr bod y gwelliannau yn cael eu hailadrodd mewn meysydd eraill yr ydym ni eisoes wedi eu gweld o ran gwasanaethau mamolaeth, yr ydym ni wedi eu gweld mewn gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, yr ydym ni'n eu gweld mewn gofal sylfaenol, ac, yn wir, yr ydym ni'n eu gweld ym maes iechyd meddwl hefyd. Wrth gwrs, ceir pethau y mae'n rhaid i'r bwrdd hwnnw eu gwella, ac mae hynny'n cynnwys amseroedd aros ar gyfer rhai arbenigeddau. Mae'n cynnwys cynllunio ariannol. Dyna pam mae'r bwrdd yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig, oherwydd nad ydym ni'n fodlon, ac nid yw'r Gweinidog yn fodlon, bod popeth ar waith eto i ganiatáu i ni ddad-ddwysáu'r lefel honno o ymyrraeth.

Ond mae'r Aelod yn ddetholus, fel y mae bob amser. Nid yw'n sôn, fel y gallai fod wedi sôn, pe byddai ganddo'r ffeithiau sydd o'i flaen, fod nifer y cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos am driniaeth y gorau a fu yng Nghymru ers 2013 erbyn hyn. Ni chyfeiriodd at y ffaith bod arosiadau therapi yng Nghymru yn 98 y cant yn is ddiwedd mis Mawrth eleni nag yr oedden nhw ym mis Mawrth y llynedd. Ni soniodd y bu cynnydd o 30 y cant mewn pum mlynedd yn nifer y cleifion canser yng Nghymru sy'n cael eu trin yn unol â'r amseroedd targed a bennwyd gennym.

Y pwynt yr wyf i bob amser eisiau ceisio ei wneud i'r Aelod yw nad yw'n synhwyrol, ac nid yw o gymorth ychwaith i'r nifer fawr o bobl sy'n gweithio bob un diwrnod i wneud ein gwasanaethau iechyd yn y gogledd, ac ym mhob rhan arall o Gymru, cystal ag y gallan nhw fod, i drin yr eithriadol fel pe byddai'n nodweddiadol. Lle ceir eithriadau, a lle ceir pethau y mae angen eu gwneud yn well, yna, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio i wneud hynny, ac mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu darparu iddo yn dangos sut yr ydym ni'n llwyddo yn y prif faterion hynny ym mhob rhan o'n gwlad.  

Wel, Prif Weinidog, mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu rhoi i chi yn nodweddiadol iawn, yn anffodus, oherwydd eich bod chi'n methu â darparu arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd hwn. Nawr, yr wythnos diwethaf, honnodd y Gweinidog iechyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ardal bwrdd iechyd Betsi yn gwella mewn gwirionedd—a chymeradwyaf y bwrdd am sefydlu strategaeth newydd ar ymateb i faterion iechyd meddwl i bobl o bob oed. Fodd bynnag, Prif Weinidog, cyhoeddwyd y strategaeth newydd hon ym mis Medi 2017. Nawr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y gogledd wedi cael gwybod bod y cynllun cyflawni ar gyfer y strategaeth newydd yn dal i fod ar ffurf drafft ac na fydd yn cael ei gyhoeddi tan fis Medi eleni—ddwy flynedd ers cytuno ar y strategaeth newydd hon. Nid oes amheuaeth bod hyn yn annerbyniol, Prif Weinidog. Nawr, clywsom gennych yr wythnos diwethaf, ac fe'i gwnaed yn eglur iawn gennych—pan ddaw'n fater o wneud penderfyniadau, chi yw'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau. Pryd wnewch chi benderfynu mai digon yw digon a bod eich Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am hyn ac yn dangos rhywfaint o edifeirwch am siomi pobl yn y gogledd ac y dylai eich Gweinidog iechyd gymryd y cyfrifoldeb a mynd?

14:35

Wel, Llywydd, rwy'n meddwl ein bod ni wedi ailadrodd yr hen ymadrodd ystrydebol hwn nifer o weithiau ar lawr y Cynulliad. Rwy'n falch bod yr Aelod wedi cydnabod y bu gwelliannau mewn gwasanaethau ym maes iechyd meddwl. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roedd pryderon sylweddol iawn ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, fel y bydd yr Aelodau yn y fan hon yn gwybod. Roeddwn i'n falch o weld yr adroddiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a wnaeth sylwadau ar y gwelliannau yn uned Hergest, yn yr uned yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o ran y modd y mae gwasanaethau mewn ysbytai cymunedol yn y gogledd i bobl sy'n oedrannus ac sydd â chyflyrau iechyd meddwl wedi gwella yn ddiweddar. Felly, mae'n braf gweld lle mae gwelliannau'n cael eu gwneud, oherwydd trwy gydnabod ac annog gwelliant yr ydym ni'n cael mwy o gynnydd, yn hytrach na cheisio tynnu sylw at anawsterau yn gyson a gwneud i'r rheini ymddangos fel pe byddent yn nodweddiadol o brofiad cleifion. Mae cleifion yn y gogledd yn cael, bob un dydd, mewn miloedd ar filoedd o gysylltiadau â'r gwasanaeth iechyd, rhywfaint o'r gofal gorau y byddwch chi'n ei ganfod yn unman yn y wlad. Lle ceir pethau y mae angen eu gwneud yn well, wrth gwrs byddwn yn parhau i weithio ar y pethau hynny. Ond nid yw'n helpu i sicrhau'r gwelliant hwnnw trwy fethu â'i gydnabod a thrin y gwasanaeth cyfan fel pe byddai'n rhywbeth nad yw cleifion yn ei werthfawrogi—oherwydd gallaf ddweud wrtho yn sicr eu bod nhw.

Diolch, Llywydd. Credaf ei bod hi'n deg i ddweud ei bod yn ymddangos bod penderfyniad Ford yn sioc wirioneddol i Lywodraeth Cymru ddydd Gwener. Byddai'r cyfuniad o ffactorau a gyfrannodd at y penderfyniad, fodd bynnag, wedi bod yn llai o syndod, oherwydd datganiadau blaenorol Ford, yn enwedig ei gyhoeddiad ym mis Ionawr ei fod yn cael gwared ar dros 1,000 o swyddi yn y gwaith. Cyfeiriodd Gweinidog yr economi yn gynharach at y gweithgor a oedd eisoes wedi ei sefydlu i edrych ar gyfleoedd posibl i Ford, yng ngoleuni ei anawsterau. Roeddwn i'n meddwl tybed: a allwch chi ddweud ychydig mwy am waith y tasglu blaenorol hwnnw—i ba raddau yr oedd yn cyfarfod, lefel yr ymgysylltu ag uwch reolwyr yn Ford ac amlinelliad o'r strategaeth yr oedd yn ei datblygu? A archwiliwyd ganddo, yn benodol, y cynigion y cyfeiriwyd atynt yn gynharach i helpu i achub rhai o'r swyddi yn y ffatri drwy'r diddordeb a adroddwyd gan INEOS Automotive i gydosod ei gerbyd tebyg i'r Land Rover Defender ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac, er enghraifft, cynnig i adeiladu gorsaf bŵer ar gyfer y gwaith i leihau costau ynni, yn debyg i'r cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i hymdrechion i achub gwaith dur Port Talbot? A allwch chi ddweud hefyd, Prif Weinidog, a ydych chi'n bwriadu cwrdd â llywydd a phrif swyddog gweithredol Ford ar frys? Rwy'n credu fy mod i'n cofio eich rhagflaenydd yn hedfan allan i India ar adeg argyfwng Tata. Pan gyhoeddodd Michelin, fis Tachwedd diwethaf yn yr Alban, gynllun i gau ei waith yn Dundee, hedfanodd Gweinidog Cyllid yr Alban ar unwaith i gwrdd â'i uwch reolwyr yn Ffrainc. A llwyddodd o leiaf i sicrhau ymglymiad parhaus Michelin, trwy fenter ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban a phartneriaid eraill. Yn olaf, i'n hatal rhag cael ein synnu eto gan y math hwn o gyhoeddiad cau gwaith trychinebus, a ydym ni angen, ar frys, strategaeth cydnerthedd diwydiannol i Gymru, o gofio'r cyfnod ansicr yr ydym ni'n ei wynebu? Ac a fyddwch chi fel Prif Weinidog, a'ch cyd-Weinidogion, yn siarad nawr, yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda phob un o uwch reolwyr y cwmni angori yng Nghymru?

14:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Roedd y gwaith y mae'r tasglu wedi bod yn rhan ohono yn llifo'n rhannol o'r cyfarfodydd a gefais i a'm cyd-Weinidog Ken Skates, gyda chynrychiolwyr uchaf Ford yn ôl ym mis Ionawr yma yng Nghaerdydd, a lluniwyd y rhaglen waith a ddilynwyd yno yn sicr gan yr hyn a oedd yn ymddangos fel ymrwymiad Ford ar y pryd i sicrhau dyfodol hirdymor i'r gwaith. Felly, roedd cyfres o ragolygon y buom yn eu trafod â nhw, gan ddod â nhw, yr undebau, Llywodraeth y DU a ninnau o amgylch y bwrdd i weithio ar brosbectws ar gyfer dyfodol y gwaith a rannwyd gyda ni gan y rheolwyr uchaf yn Ford ei hun, a dyna pam yr oedd y penderfyniad mor annisgwyl ar y diwrnod y daeth, gan ei bod yn ymddangos ein bod ni wedi cytuno ar gyfres o syniadau yr oeddem ni i gyd wedi ymrwymo i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd.

Ar wahân, wrth gwrs, fel y dywedodd Ken Skates mewn atebion i gwestiynau eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda chwmnïau eraill sydd â diddordeb mewn dod i'r safle hwnnw ac i'r rhan honno o Ben-y-bont ar Ogwr. Parhaodd y rheini ar wahân i'r grŵp a oedd yn trafod dyfodol Ford ar y safle hwnnw, ond, o safbwynt Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, rydym ni'n cymryd rhan yn yr holl drafodaethau hynny gyda'n gilydd. Edrychaf ymlaen, Llywydd, at gyfarfod yn fuan iawn ag uwch wneuthurwyr penderfyniadau Ford Europe, oherwydd penderfyniad Ford Europe oedd hwn, ac mae trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau ein bod ni'n cael y cyfarfodydd wyneb yn wyneb pellach hynny.

Roeddwn i'n ddigon ffodus, yr wythnos diwethaf, i gael trafodaeth gyda Phrif Weinidog yr Alban am yr hyn a ddigwyddodd yn Dundee gyda Michelin, ac roedd hi'n hael wrth gynnig rhannu rhywfaint o'r profiad hwnnw gyda ni ymhellach, i ganiatáu i ni siarad â'i swyddogion, i siarad am y ffordd yr aethon nhw ati i wneud hynny. Ac mae wedi bod yn rhan o'm trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU, pan siaradais â hi ddydd Gwener, ac rwyf i wedi ysgrifennu ati eto heddiw, i fyfyrio ar rywfaint o'r profiad hwnnw yn yr Alban a phwysigrwydd, fel y dywedodd Prif Weinidog yr Alban wrthyf, ceisio cadw rhywfaint o bresenoldeb ar safle gan gwmni sydd wedi bod â buddsoddiad hirdymor yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Yn olaf, o ran strategaethau pellach ac yn y blaen, mae gennym ni ein cynllun gweithredu economaidd. Byddwn yn ei ystyried, wrth gwrs, yng ngoleuni'r profiad gyda Ford. Ond mae gennym ni strategaeth; mae'r strategaeth honno gennym ni eisoes, a byddwn yn gweld ym mhle y mae angen ei diweddaru ymhellach yng ngoleuni'r profiad diweddaraf.

Yr amddiffyniad cyntaf yn y fan yma, wrth gwrs, yw ymladd y cynnig afresymol hwn gan Ford a hoffem ni, ar yr ochr hon yn amlwg, fel y dywedodd Bethan Jenkins, fynegi ein hundod llwyr ag aelodau undebau GMB ac Unite a fydd yn cynnal pleidlais dros weithredu diwydiannol ddydd Gwener. Ond, yn amlwg, mae'r Llywodraeth—. Un o swyddogaethau'r Llywodraeth yw paratoi cynlluniau wrth gefn, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi rannu ychydig mwy o'ch syniadau am y rhain. Gallaf ddeall pam na allwch chi drafod cwmnïau penodol, ond roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am faint yr uchelgais. Yn y bôn, a oes cyfle yma i droi'r hyn, rwy'n credu, a oedd y gwaith gweithgynhyrchu mwyaf yn Ewrop ar un adeg yn yr ugeinfed ganrif, i fod yn gigaffatri ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Rydym ni'n gwybod mai trydan yw dyfodol ceir, ac un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y maes yw Tesla. Mae wedi agor dwy gigaffatri yn yr Unol Daleithiau. Mae'n bwriadu agor un yn Tsieina ac un yn Ewrop. Felly, pam ddim yng Nghymru? Mae Elon Musk wedi dweud yn benodol, yn y misoedd diwethaf, os bydd GM yn cau gweithfeydd yn yr Unol Daleithiau, y byddai ganddo ddiddordeb mewn eu cymryd drosodd. A ellid cymhwyso'r egwyddor honno yma? Cwmni mawr arall yn y maes yw'r cwmni o Sweden Northvolt, sy'n adeiladu gigaffatri sy'n cynhyrchu celloedd batri gyda chymorth un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed gan gronfa buddsoddi strategol Ewrop yr UE a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae prif swyddog gweithredol Nothvolt wedi dweud yn ddiweddar y gallai fod lle i gynifer â saith gigaffatri o'r fath ledled Ewrop erbyn 2025. Unwaith eto, a oes cyfle yn y fan yma i ni? Prif Weinidog, rwy'n deall eich bod chi'n ymweld â Brwsel yfory. Beth am ofyn i Gomisiwn Ewrop i gronfa buddsoddi strategol Ewrop a Banc Buddsoddi Ewrop, y mae gennym ni hawl i wneud ceisiadau iddyn o hyd gan ein bod ni yn yr UE o hyd, wneud buddsoddiad tebyg ac, mewn llawer o ffyrdd, amserol yma yng Nghymru?

14:45

Diolchaf i'r Aelod am yr holl bosibiliadau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, lle bynnag y ceir syniadau am y ffordd y gellir creu dyfodol ar gyfer y gwaith hwnnw a'r gymuned honno, ein bod ni'n cyfuno'r syniadau hyn ac yn eu harchwilio i gyd. Mae popeth y mae wedi ei ddweud yn werth ei ychwanegu at y cymysgedd hwnnw yn fy marn i. Ond bydd yn mynd i gymysgedd sydd eisoes wedi bod wrthi'n cael ei ddatblygu, fel y dywedais, dros fisoedd lawer.

Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd. Roeddwn i gyda stiwardiaid siop yn y gwaith yn gynnar fore Gwener gyda'r GMB a chydag Unite. Roedd y teimlad o ddicter a brad yn gwbl amlwg ymhlith y bobl o amgylch y bwrdd hwnnw. Clywsoch y rhesymau, Llywydd, mi wn, gan Aelodau eraill yn gynharach yn y drafodaeth. Mae'r teimlad hwnnw bod y gweithlu a oedd wedi gwneud popeth a ofynnwyd iddynt, pryd bynnag y gofynnodd y cwmni i'r undebau llafur a'r gweithlu fod o amgylch y bwrdd a chytuno i welliannau a wnaed, roeddwn nhw'n teimlo na wnaethon nhw erioed fethu â gwneud y cyfraniad hwnnw, a dyna pam yr oedd yr ymdeimlad o frwydro ymhlith yr aelodau hynny yn amlwg iawn pan gyfarfûm i â nhw.

Mae gennym ni gyfrifoldeb, fel y dywedodd Adam Price, i baratoi ar gyfer pa bynnag bosibiliadau a ddaw, a dod â gwahanol gwmnïau—y cyhoeddiad diweddar o swyddi newydd o'r math a ddisgrifiodd ym Mhort Talbot drwy Onyx—a syniadau eraill, cwmnïau eraill yr ydym ni wedi bod yn gweithio â nhw. Mae cyfrifoldeb gwirioneddol, Llywydd, ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod ei strategaeth ddiwydiannol yn gweithio i Gymru a'u bod hwythau hefyd yn gwthio'r olwyn i wneud yn siŵr pan fo'r gwahanol bosibiliadau hyn a fydd yn dod i'r amlwg ac yn cael eu trafod dros yr wythnosau nesaf, eu bod hwythau hefyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod buddiannau'r gweithwyr hynny yn cael eu cefnogi, eu hyrwyddo, a bod y cymorth ymarferol, yr arian a'r ymdrech gwirioneddol y gall Llywodraeth y DU eu gwneud yn cael eu gwneud ar eu rhan.

Yn olaf, os caf i droi at fater arall, Prif Weinidog, dywedasoch wrth gael eich cyfweld yn ystod eich ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth ar 19 Tachwedd y llynedd eich bod chi'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen mwy o Aelodau Cynulliad arnom i gyflawni'r holl gyfrifoldebau sydd gan y Cynulliad erbyn hyn. Aethoch ymlaen i ddweud nad oes byth amser da i fynd allan a dweud wrth bobl eich bod chi eisiau cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu hethol, ond pe byddem ni wedi cymryd y farn honno ym 1999 ni fyddem ni erioed wedi cael y Cynulliad yn y lle cyntaf. Ai dyma eich barn bersonol o hyd, ac os yw hynny'n wir, pam nad oeddech chi'n gallu darbwyllo eich plaid?

Mae'r Aelod yn anghywir ar yr ail bwynt, oherwydd cymeradwyodd fy mhlaid yn ei chynhadledd ym mis Ebrill eleni bolisi o gael mwy o Aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwn ei fod yn cymryd diddordeb agos iawn yng ngwaith y Blaid Lafur, ond mae'n ymddangos ei fod wedi methu'r rhan honno. Felly, bydd wedi ei galonogi o wybod bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cytuno ar yr angen am fwy o Aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae fy marn bersonol i yr un fath ag a nodais bryd hynny.

Daeth comisiwn Richard i'r casgliad, yn ôl yn nhymor cyntaf un y Cynulliad Cenedlaethol, bod y cyfrifoldebau a oedd gan Aelodau Cynulliad bryd hynny wedi golygu bod angen Cynulliad o 80 o Aelodau i'w cyflawni'n foddhaol. Bymtheg a mwy o flynyddoedd ers hynny, mae'r cyfrifoldebau a gyflawnir yn y Siambr hon wedi tyfu'n aruthrol—wedi tyfu'n ddeddfwriaethol, wedi tyfu yn y penderfyniadau cyllidol yr ydym ni'n eu gwneud. Mae angen i ni sicrhau bod digon o Aelodau i allu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, i graffu ar bob un ohonynt. Rwyf i wedi dod i'r casgliad mai dyna'r ateb iawn ac rwy'n falch o allu rhoi sicrwydd i'r Aelod mai dyna oedd y farn a gymeradwywyd yn fy nghynhadledd ym mis Ebrill.

Prif Weinidog, ar ôl eich trafodaeth o bron i 12 munud gydag arweinydd Plaid Cymru, a gaf i roi cynnig ar gwestiwn mwy cryno? Beth yn eich barn chi yw'r cydbwysedd cywir rhwng rheolaeth ganolog ac ymreolaeth leol i gyrff iechyd yng Nghymru?

Cynigiaf egwyddor i'r Aelod, a byddaf yn eithaf cryno: fy marn i yw mai'r egwyddor o sybsidiaredd ddylai fod yr un sy'n ein llywio wrth lunio polisïau yma yng Nghymru. Rwyf o blaid gwneud penderfyniadau mor agos at bobl ag y gallwn ni a'n bod ni'n datblygu'r ffordd y darperir gwasanaethau yng Nghymru yn erbyn yr egwyddor honno.

14:50

Roeddwn i wedi cael ar ddeall y bwriadwyd i'r gyfundrefn mesurau arbennig fod yn ymyrraeth fyrrach neu fwy llym o leiaf, i newid corff sy'n methu neu o leiaf corff lle'r oedd problemau. Rwy'n meddwl tybed, gan fyfyrio ar y cwestiynau a gawsom gan arweinydd yr wrthblaid, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried a yw'r gyfundrefn mesurau arbennig sydd wedi datblygu yn taro'r cydbwysedd cywir, gan ei bod bellach wedi para mwy na phedair blynedd gyda'r corff penodol hwnnw ond, ar yr un pryd, rydym ni'n gweld bron i hanner byrddau iechyd Cymru yn y gyfundrefn mesurau arbennig. Onid yw hynny'n peri risg bod sylw'r Gweinidog iechyd, er cymaint y mae'r Prif Weinidog yn ei gefnogi, yn rhy wasgarog? A yw hefyd yn rhoi risg i Betsi Cadwaladr yn arbennig? Do, derbyniasom yn eich cynnig yr wythnos diwethaf bod un neu ddau o'r materion a nodwyd yn wreiddiol wedi gwella . Fodd bynnag, mae nifer o broblemau eraill, difrifol iawn ac, rwy'n credu, cyffredinol, yn hytrach nag wedi eu dyfynnu'n ddetholus—er enghraifft, bod dros 70,000 yn aros mwy na chwe mis, arhosiad cyfartalog o saith awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac ymddangosiad a gwaethygiad problemau yn y meysydd hynny, ymhlith eraill—. A yw unrhyw ran o hynny'n adlewyrchu'r ffaith ei fod wedi bod yn destun mesurau arbennig ers pedair blynedd ac nad yw rhai o'r rheolwyr lleol hynny, rhai o'r clinigwyr lleol hynny efallai, yn gweld y golau ym mhen draw'r twnnel, a bod hynny'n ei gwneud yn fwy anodd recriwtio neu gadw pobl neu ysgogi'r gwelliant lleol hwnnw ganddyn nhw tra bod y gyfundrefn mesurau arbennig yn para?

Yn olaf gen i, a gaf i ofyn am y cynghorau iechyd cymuned a'r ddeddfwriaeth arfaethedig sydd gennym ni yn y maes hwn? Un maes y maen nhw wedi gwneud yn dda ynddo yw dod â gwirfoddolwyr lleol i mewn, pobl leol, a'u hystyried fel bod yn annibynnol ac yn gallu, i raddau, dwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif. Onid yw'r Prif Weinidog yn poeni, fel y mae llawer o bobl eraill, pan ddaw'r ddeddfwriaeth newydd hon, y bydd cyrff o'r gwaelod i fyny lle mae cadeirydd pob corff ar y bwrdd cenedlaethol yn cael eu disodli gan gorff o'r brig i lawr sydd yn fwy o dan fawd Llywodraeth Cymru ac felly'n llai agored i bobl leol ac yn llai annibynnol? [Torri ar draws.] Roedd yn dal i fod yn llai na thri munud. Nid wyf i'n cael dod yn ôl.

Llywydd, yn gyfan gwbl oherwydd y ffaith nad oes gennym ni system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, y mae gennym ni'r protocolau ymyrryd wedi'u graddnodi yr ydym ni'n eu gweithredu yng Nghymru, oherwydd pan roddir corff iechyd yn y system honno, nid penderfyniad Llywodraeth Cymru yn unig yw hwnnw; mae'n benderfyniad teiran. Mae ei wneud yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, a math o ymyrraeth y cytunir arni y mae'r system deiran honno yn ei chynnwys, ac rwy'n gyfforddus iawn â hynny, oherwydd ni ddylai fod yn system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, ac nid ydyw ychwaith.

Roedd rhywbeth a ddywedodd yr Aelod yr oeddwn i'n cytuno ag ef, sef bod annog y bobl hynny sy'n gyfrifol am geisio sicrhau gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd yn wirioneddol bwysig, a dylai cydnabod pan fydd pethau'n mynd yn dda, yn ogystal â phan fydd pethau ddim yn mynd cystal ag y byddem ni'n dymuno, fod yn rhan bwysig iawn o'r drefn y mae'r Llywodraeth yn ei dilyn i gynorthwyo'r bobl hynny sydd, ar y rheng flaen honno, yn gorfod gwneud y penderfyniadau hynny bob dydd.

O ran y cynghorau iechyd cymuned, credaf fod gennym ni hanes balch yn y maes hwnnw, Llywydd. Cadwyd cynghorau iechyd cymuned gennym ni yma yng Nghymru pan gawsant eu diddymu ar draws y ffin, ac rydym ni wedi eu cefnogi erioed yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae cyfle nawr, yn y ddeddfwriaeth a fydd yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, i wneud yn siŵr, gyda'r rhan y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei chwarae yn y trefniadau ansawdd sydd gennym ni yn y GIG yng Nghymru, i ni sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl sydd gan y bobl wirfoddol leol hynny i weithredu fel llygaid a chlustiau cleifion. Bydd yr Aelodau yn cael pob cyfle yn ystod hynt y Bil i graffu ar y cynigion hynny a gweld eu bod nhw'n cyflawni'r agenda honno o sicrhau bod gennym ni bobl ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n gallu adrodd ar yr hyn y maen nhw'n ei weld, tynnu sylw'r rhai sy'n cael eu talu i redeg ein gwasanaethau iechyd ato, ac i fanteisio ar y cyfraniad aruthrol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

14:55
Cleifion Strôc yn y Rhondda

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gofal ar gyfer cleifion strôc yn y Rhondda? OAQ54007

Llywydd, rhwng 2013 a 2017, gostyngodd nifer y bobl a fu farw o strôc yng Nghymru gan 25 y cant. Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos gwelliant parhaus mewn gwasanaethau strôc yng Nghymru. Yn y Rhondda, fel mewn mannau eraill, mae hyn yn dibynnu ar arweinyddiaeth glinigol effeithiol a gweithio amlddisgyblaethol.

Bu farw Colin Rogers o Rondda Cynon Taf o strôc rhydweli waelodol yn ddim ond 55 oed, gan adael teulu torcalonnus. Cafodd Mr Rogers yr anffawd o gael ei gymryd yn wael ar fore Sul. Pe byddai wedi digwydd yn ystod yr wythnos, byddai wedi bod modd ei drosglwyddo i Fryste ar gyfer thrombectomi endofasgwlaidd, a allai fod wedi achub ei fywyd. Nid oedd trefniant o'r fath ar gael ar y penwythnos. Sefydlwyd deiseb i sicrhau bod y driniaeth hon ar gael i gleifion yng Nghymru, sy'n galw

'ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.'

Rwy'n deall bod darpariaeth yn cael ei gwneud i unioni'r anghyfiawnder hwn trwy wneud y llawdriniaeth ar gael yn ehangach yng Nghymru, ond, fel gyda llawer o broblemau yn y GIG yng Nghymru, mae hyn yn fater o gynllunio'r gweithlu. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gwasanaeth 24/7 yn cael ei ddarparu i gleifion yng Nghymru, a fydd, gobeithio, yn atal achosion tebyg i un Mr Rogers?

Diolchaf i'r Aelod am hynny. Mae unrhyw farwolaeth oherwydd strôc yn destun gofid mawr. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r achos y soniodd amdano, ond yn y termau y'i disgrifiwyd ganddi, wrth gwrs mae ein cydymdeimlad yn mynd i'w deulu o dan yr amgylchiadau hynny. Mae thrombectomi yn fath hynod arbenigol a chymharol newydd o ymyrraeth yn y gwasanaeth iechyd. Fe'i datblygwyd yn rhannol yma yng Nghymru, gan fod y gwaith ymchwil gwreiddiol a wnaed iddo wedi cael ei wneud mewn tair canolfan—yng Nghaerdydd, yn Birmingham ac mewn un arall. A phan oeddwn i'n Weinidog iechyd, cefais y fraint o gwrdd â'r clinigydd yng Nghymru a oedd yn arwain y gwaith ymchwil hwnnw yn y fan yma, a chyfarfûm â chlaf a fu'n arlunydd cyn dioddef ei strôc, a ddywedodd wrthyf i, wrth i'r clot gwaed gael ei dynnu o'i ymennydd—ac roedd ef yn ei wylio ar sgrin; roedd yn ymwybodol pan oedd hyn yn digwydd—y gallai weld y clot gwaed yn cael ei dynnu o'i ymennydd ac, wrth iddo ei wylio, gallai deimlo teimlad yn dychwelyd i'w fraich ac i'w law. Roedd yn gwbl ryfeddol clywed hynny, ond fel y gallwch ddychmygu, fel y gall Aelodau ddychmygu, mae'r ddawn sydd ei hangen i ymgymryd â'r math hwnnw o ymyrraeth yn sylweddol iawn ac mae'n rhaid iddo fod yn hynod o fanwl.

Felly, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn symud ymlaen yn dda o ran cynllunio gwasanaeth Cymru gyfan ar gyfer thrombectomi yma yng Nghymru. Bydd angen recriwtio. Bydd angen hyfforddiant. Yn y cyfamser, rydym ni'n comisiynu gwasanaethau o'r ochr arall i'n ffin lle mae capasiti dros ben yn brin. Ond yr ateb, nid yn yr hirdymor, ond cyn gynted ag y gallwn ni ei wneud, yw creu'r gwasanaeth Cymru gyfan hwnnw gyda'r bobl y bydd eu hangen arnom ni a chyda'r ddarpariaeth y bydd ei hangen.

Mae'n ddrwg iawn gen i glywed am eich etholwr, Leanne. Buom yn siarad yn y fan yma, neu siaradodd Leanne am sut y gellid bod wedi atal marwolaeth Mr Rogers pe byddai'r adnoddau cywir wedi bod ar waith ac, wrth gwrs, mae atal yn well na gwella. Mae'n hen ddywediad ond mae'n hollol wir, ac rydym ni'n gwybod mai yn y Rhondda ac ym mwrdd iechyd Cwm Taf, y gellir dod o hyd i'r nifer fwyaf o bobl ifanc a'r glasoed sy'n ysmygu yn yr ardal honno. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod ysmygu'n gyfrannwr mawr at strôc ac at bwysedd gwaed uchel. Felly, Prif Weinidog, yn rhinwedd eich swydd fel y sawl sy'n gorfod cydgysylltu amrywiol ganghennau'r Llywodraeth, a allech chi roi amlinelliad i ni o'r hyn y gallech chi ei wneud efallai i sicrhau bod pobl ifanc yn y Rhondda ac yn ardal gyfan Cwm Taf yn cael addysg briodol sy'n eu haddysgu am beryglon ysmygu, am y canlyniadau hirdymor i'w hiechyd? Oherwydd, os gallwn ni gael pobl yn ddigon ifanc a gwneud y newidiadau hynny i ffyrdd o fyw, yna nid yn unig y maen nhw'n elwa, ond rydym ninnau'n elwa fel cenedl oherwydd bod gennym ni adnoddau sy'n fwy rhydd wedyn i wneud pethau eraill yr ydym ni angen eu gwneud.

Diolchaf i'r Aelod am y pwynt pwysig yna, a gwn y bydd hi wedi croesawu'r ffaith bod lefelau ysmygu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ar eu hisaf erioed, ac felly hefyd ffigurau alcohol yng Nghymru. Felly, mae'r negeseuon iechyd y cyhoedd yr ydym ni wedi bod yn eu cyfleu a'r camau ymarferol a gymerwyd drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy fferylliaeth gymunedol, drwy'r hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn ysgolion, yn cael effaith gadarnhaol ar y lefelau ysmygu yn ein cymuned ac ymhlith pobl ifanc yn arbennig. Fel sy'n wir mewn cymaint o faterion iechyd, ceir graddiant economaidd-gymdeithasol i'r cyfan, ac mae'r teuluoedd hynny sy'n byw o dan yr amgylchiadau anoddaf yn dibynnu ar ysmygu a phethau eraill i'w helpu i wynebu'r anawsterau hynny i'r graddau y mae pobl sy'n byw bywydau mwy breintiedig yn gallu eu hosgoi, a dyna pam yr ydych chi'n gweld y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Ond mae'n rhaid mai'r newyddion da, Llywydd, yw bod y camau yr ydym ni wedi eu cymryd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn llwyddo. Mae gennym ni synnwyr cryf o'r pethau sy'n gweithio. Mae angen i ni wneud mwy ohonynt, mae angen i ni eu graddnodi i'r mannau hynny lle mae'r her fwyaf, ond rydym ni'n gallu manteisio ar y profiad llwyddiannus hwnnw er mwyn gwneud hynny.

15:00
Diogelwch Dŵr

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diogelwch dŵr ac atal boddi ymysg plant ac oedolion? OAQ54011

Diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi diogelwch dŵr trwy gyllid blynyddol a ddarperir i Nofio Cymru. Y llynedd, dyrannwyd £80,000 i brosiectau penodol a gynlluniwyd i ddatblygu cyfleoedd ac adnoddau dŵr i alluogi pobl Cymru i ddysgu nofio ac i ddysgu am ddiogelwch dŵr.

Diolchaf i chi am yr ateb yna. Y pedwerydd ar ddeg o Fehefin yw dechrau Wythnos Atal Boddi y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau a'r diben yw codi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch dŵr ac atal boddi. Yn drasig, mae un person yn boddi'n ddamweiniol bob 20 awr yn y DU ac mae llawer o bobl eraill yn dioddef anafiadau sy'n newid eu bywydau o ganlyniad i fod bron â boddi. Dyna pam mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mor bwysig. Mae Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau y DU, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a Dŵr Cymru yn gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a'u gwaith caled.

Gyda gwyliau'r haf ar y gorwel, dyma'r cyfnod brig i ddamweiniau o'r fath, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei bod yn hanfodol bod y negeseuon diogelwch dŵr ac atal boddi yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir. Nod strategaeth atal boddi'r DU rhwng 2016 a 2026 a ddatblygwyd gan eu haelodau yw lleihau marwolaethau trwy foddi gan 50 y cant. A chofiwch y ffigur hwnnw—ei fod yn un person sy'n boddi'n ddamweiniol bob 20 awr yn y DU. Mae hwnnw'n ffigur brawychus. Felly, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu'r rhai sy'n ceisio lleihau achosion o foddi i barhau eu gwaith da iawn yma yng Nghymru?

Diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna ac rwy'n sicr yn rhannu gyda hi ei diolch i'r mudiadau gwirfoddol hynny sy'n gwneud cymaint o ran codi ymwybyddiaeth a'r ddarpariaeth uniongyrchol o wasanaethau. Cyfarfu fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths â'r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau ym mis Tachwedd y llynedd yn rhan o'n datblygiad strategaeth diogelwch dŵr i Gymru ac mae swyddogion yn parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu'r strategaeth honno.

Llywydd, rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ceisio sicrhau'r math o welliant y mae Joyce Watson wedi cyfeirio ato. Er enghraifft, nod ymgyrch Un Anadl Olaf Dŵr Cymru yw sicrhau diogelwch mewn cronfeydd dŵr yng Nghymru a'r perygl o foddi mewn dyfroedd mewndirol, er enghraifft drwy sioc dŵr oer, pan fydd pobl ifanc yn arbennig yn plymio i gronfa ddŵr ar ôl diwrnod poeth. Mae Dŵr Cymru yn darparu sesiynau mewn ysgolion, maen nhw'n darparu cyngor uniongyrchol, maen nhw'n mynd ar y radio, ar gyfryngau cymdeithasol; yr holl bosibiliadau codi ymwybyddiaeth hynny y mae Joyce Watson yn cyfeirio atynt. Ac yna rydym ni'n ariannu gweithgarwch yma yng Nghymru yn uniongyrchol. Cymerodd dros 11,000 o blant ran mewn sesiynau ymwybyddiaeth diogelwch dŵr yng Nghymru yn 2018. Maen nhw'n cynnwys yr RNLI, maen nhw'n cynnwys y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau ac roedd y sesiynau hynny'n ganlyniad uniongyrchol o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

15:05

Yn anffodus, mae cronfa ddata digwyddiadau dŵr y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol yn dangos bod 263 o bobl wedi colli eu bywydau mewn achosion o foddi damweiniol ledled y DU y llynedd, a dim ond eleni, Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, collodd bachgen ifanc 13 oed yn fy etholaeth i ei fywyd. Fodd bynnag, mae Synnwyr Afon a'r Môr yn sefydliad gwych wedi ei leoli ym mwrdeistref sirol Conwy, ac fe'i sefydlwyd mewn ymateb cadarnhaol i foddi trasig mab Mrs Debbie Turnbull, Christopher Turnbull, yng Nghapel Curig yn 2006. Mae'r sefydliad hwn—un wraig sy'n gwneud hyn mewn gwirionedd—wedi addysgu tua 200,000 o bobl ifanc ac oedolion ledled y gogledd am beryglon dŵr agored. Mae hi wedi mynd i ysgolion. Ond llawer o'r addysgu a'r codi ymwybyddiaeth hwn, bu'n rhaid iddi ei wneud ar ei phen ei hun, heb fawr ddim cyllid, os o gwbl. Mae addysgu am beryglon dŵr agored yn hanfodol, felly rwy'n hynod ddiolchgar am waith Synnwyr Afon a'r Môr. Prif Weinidog, hoffwn weld ein hysgolion yn gwneud mwy hefyd, felly a wnewch chi esbonio pa le fydd gan ddiogelwch dŵr ac atal boddi yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol?

Diolchaf i'r Aelod am hynny. Hoffwn longyfarch, wrth gwrs, ei hetholwr am y gwaith y mae hi'n ei wneud er cof am ei mab, Christopher. Rydym ni'n gwybod, ledled Cymru, fod grwpiau ymroddedig iawn o bobl sy'n ymgymryd ag achos oherwydd eu bod nhw wedi cael y profiad personol uniongyrchol hwnnw ohono yn eu bywydau eu hunain, ac mae'r oriau a'r ymroddiad y maen nhw'n eu rhoi i'r achosion hynny yn nodwedd ryfeddol a chalonogol o'r synnwyr hwnnw o gymuned yr ydym ni'n dal yn ddigon ffodus o'i gael yng Nghymru.

Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol. Erbyn diwedd cyfnod allweddol 2, rydym ni'n eglur y dylai disgyblion allu nofio heb gymorth am gyfnod estynedig o amser, a mynychodd 64,000 o ddisgyblion yng Nghymru sesiynau nofio yn yr ysgol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae ysgolion arloesi sy'n cymryd rhan yn y cwricwlwm newydd eisoes wedi cydnabod bod pwysigrwydd nofio yn mynd ymhell y tu hwnt i'r ffaith ei fod yn fath arall o weithgarwch corfforol. Ac wrth ddatblygu'r cwricwlwm drwy'r ysgolion arloesi hynny, mae'r pwyslais ar nofio wedi symud tuag at ei agweddau diogelwch yn ogystal â'i bosibiliadau hamdden. Felly, gwn fod y Gweinidog Addysg yn ymwybodol o'r gwaith hwnnw ac yn bwrw ymlaen â hynny yn natblygiad ehangach y cwricwlwm yr ydym ni'n ymwneud ag ef ar hyn o bryd.

Addysg Ôl-16

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gryfhau addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ54029

Llywydd, mae'r sector ôl-16 yn ganolog i'n cynlluniau i wella lefelau sgiliau Cymru, ffyniant economaidd a symudedd cymdeithasol. Bydd ein diwygiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn dod â'r sector ynghyd o dan un corff rheoleiddio, gyda phenderfyniad a rennir i gryfhau ansawdd, perthnasedd a chydlyniad dysgu ôl-16.

Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n gwbl eglur bod angen i ni sicrhau bod addysg ôl-16 yn ein symud ni ymlaen. Mae darparu addysg ôl-16, fel y gwyddom, naill ai drwy'r chweched dosbarth yn ein hysgolion, neu drwy ein sefydliadau addysg bellach. Nawr, mae'r sector addysg bellach yn croesawu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud, yn enwedig o ran cangen alwedigaethol cyfeiriad addysg, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â'r agenda sgiliau, yr ydym ni eisoes wedi ei nodi. Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu llawer o'r llwybrau academaidd traddodiadol. Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn fy etholaeth fy hun—neu fy ardal fy hun; mae'n ddrwg gen i, Jeremy, mae yn eich etholaeth chi—hefyd yn sôn am gymwysterau safon uwch a'r llwybr academaidd, ond bydd hynny'n effeithio ar y cwricwlwm newydd sy'n dod i mewn i'r sefydliadau hynny. Mae angen newid arnom ni ac mae angen i ni baratoi ein pobl ifanc ar eu taith addysg, ar ôl 16 oed, pan fydd y newidiadau cyn-16 yn digwydd. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod sefydliadau ôl-16 yn barod i sicrhau bod y daith honno'n parhau yn ddidrafferth?

Llywydd, hoffwn gytuno â'r hyn y mae David wedi ei ddweud am bwysigrwydd cael y pontio di-dor hwnnw o'r cwricwlwm newydd i blant a phobl ifanc tair i 16 oed a'r hyn sy'n digwydd mewn addysg ôl-orfodol. Dyna pam mae colegau addysg bellach wedi cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o lunio'r cwricwlwm newydd, gyda chynrychiolwyr yn aelodau o bob un o'r grwpiau sydd wedi datblygu'r canllawiau ar gyfer pob un o'r pedwar maes dysgu a phrofiad newydd. Ac mae eu hadborth wedi bod yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod meysydd llafur safon uwch ac addysgu safon uwch wedi eu gwreiddio yn y cwricwlwm newydd a phopeth yr ydym ni'n gobeithio y bydd yn ei gynnig. Yn ystod yr hydref eleni, Llywydd, bydd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y dull gweithredu o ran cymwysterau i gefnogi'r cwricwlwm newydd hwnnw. Un ystyriaeth allweddol yn eu gwaith fydd sicrhau bod trefniadau newydd yn cynnal mynediad at yr ystod lawn o gyrsiau safon uwch, ac, wrth gwrs, bydd colegau addysg bellach yn chwarae rhan lawn yn y gwaith hwnnw.

15:10
Gwasanaethau Rheoli Poen yng Ngogledd Powys

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau rheoli poen sydd ar gael i drigolion yng ngogledd Powys? OAQ53984

Diolchaf i Russell George. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i gryfhau gwasanaethau rheoli poen yng ngogledd Powys. Bydd ceisiadau am swyddi arbenigol newydd ym meysydd nyrsio a ffisiotherapi yn cau yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r gwasanaeth amlddisgyblaeth presennol yn parhau i gydymffurfio'n llwyr â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb, ond byddwn i'n dweud fy mod i'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar ba wasanaethau darpariaeth rheoli poen sy'n cael eu cynnig ledled Cymru. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw eich barn ar Lywodraeth Cymru yn datblygu gwasanaeth amlddisgyblaeth wedi ei ariannu'n llawn, yn unol â chanllawiau NICE, wrth gwrs, i gynnig gwasanaethau lleol yn arbennig a fyddai'n atal pobl rhag gorfod teithio'n bell?

Diolchaf i Russell George am hynny. Mae'n gwybod, rwy'n siŵr, mai'r rheswm pam mae pwyslais arbennig ar wasanaethau rheoli poen yng ngogledd Powys yw oherwydd bod y gwasanaeth ar draws y ffin yng Nghroesoswallt wedi cau ar 31 Mawrth, ar ôl i gomisiynwyr yno benderfynu bod y gwasanaeth yn rhy fregus i barhau. Effeithiwyd ar 400 o gleifion o Gymru, ac roeddwn i eisiau diolch i Russell George am rywfaint o'r cymorth y mae ef wedi ei roi i sicrhau bod yr holl gleifion hynny yn y rhan honno o Bowys yr oedd angen cysylltu â nhw—bod eu manylion wedi cael eu rhyddhau gan ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt i fwrdd iechyd Powys.

Ond rwy'n ei sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gyda'r adrannau seicoleg, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a nyrsio i gyd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth rheoli poen, yn cydymffurfio'n llawn â NICE. Mae'n cael ei ehangu er mwyn derbyn y cleifion newydd a fydd yn dibynnu arno yn y dyfodol. Mae'n cael ei ddatblygu fel y bydd ganddo, er enghraifft, fwy o allu i gynnig ymgynghoriadau Skype fel nad oes yn rhaid i bobl deithio'r pellteroedd hir hynny. Rydym ni'n obeithiol y gallwn ni lenwi'r swyddi arbenigol hynny ym meysydd nyrsio a ffisiotherapi, sy'n swyddi newydd ac wedi eu hariannu'n llawn, er mwyn gallu ehangu'r gwasanaeth. Ond, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r bobl hyn yn brin ac nid ydyn nhw bob amser mor hawdd i'w recriwtio ag y byddem ni'n dymuno, ond nid yr arian fydd y rhwystr i'r recriwtio hwnnw.

Cynyddu Cyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54028

Llywydd, mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein cynlluniau i gynyddu cyflogaeth ledled Cymru. Mae sefydlu unedau rhanbarthol yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar gryfderau'r lleoedd penodol hyn a nodi blaenoriaethau economaidd allweddol ym mhob un o'r ardaloedd hynny.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedwyd eisoes, mae penderfyniad Ford i gau gwaith Pen-y-bont ar Ogwr yn ergyd drom i'm rhanbarth i, lle bu colledion swyddi digynsail dros y degawdau diwethaf. Gan fod ansicrwydd parhaus ynghylch gwaith dur Port Talbot, Tata, mae'n amlwg bod angen gwahanol strategaeth arnom. Mae cynlluniau datblygu economaidd blaenorol wedi methu â gwella'r rhanbarth, er gwaethaf buddsoddi miliynau o bunnau. Prif Weinidog, beth fyddwch chi'n ei wneud yn wahanol i sicrhau bod digon o swyddi sy'n talu cyflogau uchel yng Ngorllewin De Cymru?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod na fu unrhyw welliannau yn y rhanbarth. Mae gennym ni rai o'r ffigurau cyflogaeth gorau a fu gennym ni erioed yng Nghymru, ac mae'r gwelliant o ran gostwng cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf wedi bod saith gwaith yn fwy yng Nghymru nag ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Felly, mae'n amlwg bod gwelliannau, ac ni ddylem fychanu'r rheini fel pe na bydden nhw wedi digwydd.

O ran Tata, rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni i wneud yn siŵr nad oes ansicrwydd ynghylch ei ddyfodol, ac rydym ni'n canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yma yng Nghymru. Mewn ateb cynharach, cyfeiriais at y gwaith Oxis Energy sydd newydd gael ei gyhoeddi ar gyfer Port Talbot yn rhanbarth yr Aelod. Bydd yn wneuthurwr batris y gellir eu hail-wefru. Fe'i cynorthwyir gyda gwerth £3.2 miliwn o fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, ac mae'n arwydd arall—. Er gwaethaf yr anawsterau sydd wedi cael eu harchwilio'n gwbl briodol ar lawr y Siambr y prynhawn yma, mae'n rhan o'n penderfyniad i lunio dyfodol llwyddiannus i'r rhan honno o Gymru.

15:15
Rheoleiddio'r Diwydiant Amaethyddol

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru? OAQ54023

Diolch i'r Aelod am hynny. Trwy gyfrwng rheoleiddio effeithiol yr ydym ni'n diogelu'r amgylchedd ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer amaethyddiaeth drwy fusnesau cynaliadwy a chryf. Mae rheoleiddio yn rhoi eglurder i ffermwyr a busnesau, yn diogelu safonau, ac yn helpu i gynnal ein hadnoddau naturiol.

Ar 14 Tachwedd y llynedd, amlinellodd Gweinidog yr amgylchedd ei bwriad o gyflwyno dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â llygredd nitradau, a dywedwyd wrth Aelodau'r Cynulliad y byddai rheoliadau'n dod i rym fis Ionawr nesaf—sef Ionawr 2020. Mae trigolion yng nghymunedau Gelligaer, Nelson a Phen-y-Bryn, yn etholaeth Caerffili, wedi gorfod wynebu sgil-effeithiau diflas y gweithgareddau amaethyddol a achoswyd gan Grŵp Bryn ar Fferm Gelliargwellt yng Ngelligaer. Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn rheolaidd ynghylch diflastod yr arogleuon a achosir drwy wasgaru slyri yn rheolaidd. Byddai dynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, fel yr argymhellwyd gan banel arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflwyno'r rheoliadau yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, yn helpu i gyfyngu a monitro gweithgareddau o'r fath. A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog y bydd y rheoliadau newydd, felly, yn gwella'r sefyllfa yn fy etholaeth i, ac a fyddai'n barod i gyfarfod â mi i drafod hyn, ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym yn 2020?

Diolch i'r Aelod am hynny. Yr ydym ni'n ffyddiog y bydd y rheoliadau a gyflwynir ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf yn rhoi sail statudol i fesurau y mae'r diwydiant, yn flaenorol, wedi ymrwymo'n wirfoddol i'w cyflawni. Mae'r mesurau'n cynnwys cyflwyno rhwymedigaethau statudol wrth gynllunio rheolaeth maetholion, wrth wasgaru gwrtaith yn gynaliadwy, wrth ddiogelu dŵr rhag llygredd a sicrhau bod cydymffurfiad priodol â safonau storio tail. Bydd y rheini'n cael effaith wirioneddol gadarnhaol yn y diwydiant. Er fy mod yn deall bod hyn yn her i rai yn y diwydiant, a byddwn yn darparu amser ychwanegol i'r rhai fydd ei angen, bydd hyn o fantais i'r diwydiant yn y tymor hir, oherwydd y bydd yn sicrhau'r safonau hynny a fydd yn diogelu enw da y diwydiant—enw da sy'n anodd iawn ei ennill ond yn hawdd iawn ei golli—a gwyddom fod gormod o enghreifftiau yng Nghymru o'r math y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato. Ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gyfarfod ag ef a Lesley Griffiths wrth i'r safonau newydd hynny gael eu cyflwyno ac wrth i'r rheoliadau statudol gael eu gorfodi, i glywed sut y maen nhw'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ei etholaeth ef.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem, nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am ganfyddiadau'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ac Ysgol Fusnes Nottingham ar dlodi yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Dywed yr adroddiad fod rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru am fod yn dlotach yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'n codi cwestiynau difrifol am ein dinas-ranbarthau, y gwyddys eu bod yn llawer llai cystadleuol nag eraill yn Lloegr ac yn yr Alban. Yn ychwanegol, dywedodd Sefydliad Bevan fod y ffigurau'n dangos methiant modelau dinas-ranbarth i helpu ardaloedd anghysbell Blaenau'r Cymoedd. A gawn ni ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pryderon a gynhwysir yn yr adroddiad hwn? Diolch.

Wel, Llywydd, mae'n gwbl syfrdanol fod yr Aelod eisoes wedi ceisio codi mater tlodi gyda'r Prif Weinidog, a bod yr Aelod yn ceisio ei godi eto gyda mi y prynhawn yma. Rydym ni wedi ei gwneud yn gwbl glir, wrth gwrs, fod rhywbeth y gallai plaid yr Aelod ei hun ei wneud er mwyn helpu i atal tlodi, sef cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru i atal y broses o gyflwyno credyd cynhwysol, sy'n amlwg yn ddinistriol i deuluoedd ledled Nghymru, ac i atal yr agenda cyni, sy'n cael effaith hynod o niweidiol ar bobl ac sy'n uniongyrchol gyfrifol am y ffigurau tlodi hynny y mae'r Aelod yn eu dyfynnu.

15:20

Trefnydd—ac rwy'n siarad yn awr fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig—mae'r materion a wynebir gan y bobl hynny a heintiwyd ac yr effeithiwyd arnynt gan sgandal gwaed halogedig yr 1970au a'r 1980au yn rhywbeth, yn amlwg, yr ydym ni wedi rhoi sylw iddo cyn hyn yn y Siambr hon, bob blwyddyn bron ers 2001, rwy'n credu. Ond mae digwyddiadau diweddar, yn fy marn i, yn golygu bod angen i ni ailedrych ar y mater hwn. Byddwch yn ymwybodol bod yr ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal, o dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff, wedi dechrau ar ei waith, ond mae materion sy'n benodol i Gymru y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cynyddu'r arian a roddir i gleifion heintiedig yn Lloegr dim ond gan £10,000 ychwanegol y flwyddyn, ond nid oedd hyn yn berthnasol i gleifion yng Nghymru. Yn amlwg, ni all fod yn iawn fod cleifion yng Nghymru yn cael llai o arian na chleifion yng ngwledydd eraill y DU, pan fo'r sefyllfa'n deillio o sgandal o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraethau'r DU ar y pryd yn y dyddiau cyn datganoli. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i ariannu hyn ym mhob gwlad yn y DU. Mae'n gwbl warthus nad yw hyn wedi digwydd.

Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno datganiad ar y sgandal gwaed halogedig a fyddai'n cynnwys manylion y trafodaethau a'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn y dyddiau hyn, y trafodaethau ariannol sy'n digwydd ynglŷn â chyllid canlyniadol Barnett ar hyn o bryd, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddarparu cydraddoldeb o ran cymorth gwaed heintiedig yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, a chytunaf yn llwyr â'i asesiad o'r sefyllfa. Wrth gwrs, cyfeiriodd Dai Lloyd at y cyhoeddiad a wnaed ar 30 Ebrill gan y Prif Weinidog ar y pryd, ac yr oedd hwnnw'n ddatganiad cwbl annisgwyl. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r manylion er gwaethaf cytundebau Gweinidogion blaenorol Llywodraeth y DU i ddull gweithredu pedair gwlad.

Dywedir wrthym na fydd y cynnydd a gyhoeddwyd ar gyfer y rhai a heintiwyd ac yr effeithiwyd arnynt ar y cynllun gwaed a heintiwyd yn Lloegr yn golygu unrhyw gynnydd canlyniadol i'r gweinyddiaethau datganoledig, ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio ledled y DU i sicrhau cydraddoldeb o ran y cynlluniau. Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda swyddogion cyfatebol i gyflawni hyn.

Bydd yr Aelodau'n cofio bod y Gweinidog iechyd, ym mis Mawrth, wedi cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol i'r rhai â hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynnyrch gwaed halogedig. Mae effaith sylweddol heintiau o'r fath ar fywydau llawer o unigolion wedi'i thrafod yn y Siambr y Cynulliad hon, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ddarparu'r trafodaethau diweddaraf sydd wedi'u cynnal i chi ar y mater pwysig hwn.

Trefnydd, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda? Yn y bôn, mae'r un cyntaf yn un hawdd iawn, mewn gwirionedd, i'r Gweinidog Iechyd. Dros y penwythnos, gwelsom y newyddion bod GIG Lloegr yn edrych ar dreialon ar gyfer defnyddio MRIs ar gyfer sganio am ganser y prostad. Yn amlwg, byddai unigolion yn gwerthfawrogi y gallai'r dull o ganfod canser y prostad fod yn gyflymach ac yn gynt ac y byddai eu canser hwy'n cael ei ddal yn gynharach, oherwydd mae dros 6,000 achos y flwyddyn yn cael eu nodi a hynny'n ystod cyfnodau hwyr canser y prostad, ac mae dros 11,000 yn marw bob blwyddyn o ganser y prostad ledled y DU. Felly, mae unrhyw ffordd y gallwn ni fynd i'r afael â hynny fel diagnosis cynnar yn mynd i fod yn dderbyniol.

Ond mae sganiau sy'n defnyddio MRIs yn golygu bod angen sganwyr MRI arnom, mae angen radiograffwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn sganwyr MRI, ac mae arnom angen radiolegwyr sy'n gallu deall canlyniadau'r sganiau mewn gwirionedd. Mae angen inni sicrhau'r rheini oherwydd mae'r sganwyr MRI sydd gennym ni ar hyn o bryd eisoes yn cael eu defnyddio'n llawn. Felly, os ydym ni'n sôn am sganio pobl, ble'r ydym ni'n mynd i'w cynnwys o fewn yr amserlenni presennol? Felly, mae angen i ni sicrhau bod gennym ni gynllun ar waith. Felly, a all y Gweinidog roi cynllun gerbron o ran sut y mae'n bwriadu edrych ar wasanaethau radiolegol ledled Cymru er mwyn sicrhau, wrth i'r dull hwn ddatblygu, ac ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, ei fod mewn gwirionedd yn rhoi'r canlyniadau yr ydym ni eu heisiau, a'n bod mewn sefyllfa i fynd ymlaen yn ddi-oed gyda'r gwasanaeth a pheidio â gorfod aros wrth inni edrych ar gyllid ar gyfer sganwyr newydd?

O ran yr ail ddatganiad, a gaf i ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch perchenogaeth gwahanol adeileddau, gan gynnwys twnelau, sydd ym mherchnogaeth yr Adran Drafnidiaeth ar hyn o bryd? Deallaf fod Priffyrdd Lloegr mewn gwirionedd yn rheoli llawer o'r adeileddau hynny yng Nghymru ar ran yr Adran Drafnidiaeth—ac rwyf yn cynnwys twnnel y Rhondda yn un o'r rheini, ac yn amlwg mae twnelau eraill wedi'u cynnwys. Rydym ni wedi gofyn sawl gwaith am i'r berchenogaeth ddod i Lywodraeth Cymru, ond deallaf fod y contract rheoli ar gyfer y rheini yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Felly, bydd cyfle y flwyddyn nesaf, pan ddaw contract yr Adran Drafnidiaeth gyda Phriffyrdd Lloegr i ben, i edrych ar berchenogaeth y twneli a'r adeileddau eraill hyn sydd yng Nghymru—maen nhw'n perthyn yma, ond maen nhw'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth. A yw hi'n bryd erbyn hyn i ni gael datganiad i ddweud, mewn gwirionedd, pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gymryd perchenogaeth o'r rhain? Mae hynny hefyd yn mynd i'r afael â chwestiwn pwysig iawn: Os ydym ni eisiau gwneud rhywbeth â nhw, mae angen i ni gael yr arian, ac ni allwn gael yr arian nes bydd gennym y berchnogaeth, fel bod yr atebolrwydd yn dod yma. Felly, mae'n hollbwysig. Mae pethau wedi'u gohirio o ganlyniad i'r ffaith nad oes gennym ni'r berchenogaeth honno yma yng Nghymru.

15:25

Diolch am godi'r materion hynny. Llwyddais i roi diweddariad byr i'm cyd-Aelodau ar fater yr MRI a chanser y prostad ychydig wythnosau yn ôl yn y Cyfarfod Llawn yn ystod y datganiad busnes, ond yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd roi diweddariad manylach i chi, pryd y byddem hefyd yn cynnwys mwy o wybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer gwasanaethau radiograffeg yn gyffredinol.FootnoteLink

O ran yr adeileddau hynny sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd ac sy'n eiddo i'r Adran Drafnidiaeth ond sy'n bodoli yng Nghymru, megis twnnel y Rhondda, credaf fod potensial yn sicr i ni fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau hynny, ac yn sicr, credaf fod y cynlluniau ar gyfer twnnel y Rhondda yn arbennig o gyffrous. Yn amlwg, byddai'n rhaid inni gynnal rhywfaint o asesu o ran y risg y byddem yn ymgymryd â hi pe byddem yn ymgymryd ag asedau newydd, ac ymchwilio i weld pa un a ddylid cael arian ychwanegol sy'n dod law yn llaw â hynny gan Lywodraeth y DU, ond efallai pe byddech yn ysgrifennu at Weinidog yr economi yn amlinellu eich meysydd o ddiddordeb penodol, byddai ef yn gallu rhoi mwy o fanylion i chi.

Trefnydd, a gaf i weld datganiad ac efallai diweddariad ar sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ehangu eu cynigion, yn gyntaf ar y datganiad a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y bore yma mewn ymateb i'r adroddiad 'Sero Net' ar newid yn yr hinsawdd, ac rwyf yn croesawu ei gynnwys? Yn arbennig, mae'r paragraff olaf ond un yn dweud mai hwn fydd y newid economaidd mwyaf yn y cyfnod modern. Mae hwnnw'n gam mawr iawn i'r economi gyfan ac i gyfeiriad y Llywodraeth, ac i fod yn deg, nid yw'r datganiad hwn yn gwneud cyfiawnder ag ef, yn union sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y symudiad hwnnw a'r naid honno. Sylweddolaf y bu cyhoeddiadau yn y gorffennol, ond er mwyn gwella ei hymrwymiad i symud tuag at ostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau erbyn 2050, a'r datganiad arbennig hwnnw gan y pwyllgor newid yn yr hinsawdd, mae gwir angen esboniad manwl ar sut mae'r Llywodraeth yn mynd i ddod â hyn i gyd at ei gilydd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi, yn eich swyddogaeth o fod yn rheolwr busnes y Llywodraeth, nodi pa un a fydd datganiad llafar arall yn dod gan y Llywodraeth, fel y byddwn ni fel ACau ar lawr y Siambr yn gallu rhoi pwysau ar y Gweinidog a deall yn union sut bydd y newid hwn yn cael ei gynnwys o fewn paramedrau polisi a chymhellion ariannol y Llywodraeth y mae'n gallu eu darparu i'r economi gyfan.

Yn ail, fe es i ddigwyddiad yr wythnos diwethaf ar anemia dinistriol, a drefnwyd gan Huw Irranca-Davies, yr Aelod dros Ogwr, ac mae'r ffigurau'n eithaf brawychus pan edrychwch chi ar y bobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwn yng Nghymru: mae gan 350,000 o bobl y cyflwr hwn. Bu llawer o gynnydd o ran triniaeth ac atebion i bobl sy'n cael diagnosis, ac mae llawer o'r rheini'n dal i fynd drwy'r broses NICE gan baratoi ar gyfer achrediad. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Gweinidog, wedi eu cyflwyno i NICE ynghylch dod â'r triniaethau hyn i'r farchnad, fel eu bod ar gael i gleifion ar ôl iddyn nhw gael diagnosis, ac yn benodol, pan fydd y triniaethau hyn ar gael, fod gan gleifion y wybodaeth y gallan nhw gael gafael ar y triniaethau hynny, oherwydd fel y dywedais, mae 350,000 o bobl—un o bob 10, neu 10 y cant o'r boblogaeth—yn dioddef o anemia dinistriol, ac mae'n cael effaith wanychol enfawr. Rwy'n llongyfarch yr Aelod dros Ogwr am ddod â'r digwyddiad hwn i'r Senedd, oherwydd, tan i mi fod yno, nid oeddwn i'n sylweddoli bod y cyflwr yn cael effaith mor enfawr ar ein cymdeithas.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn sicr yn hapus i gydsynio o ran y datganiad cyntaf y gofynasoch amdano. Bydd y Gweinidog, Lesley Griffiths, yn gwneud datganiad am Gymru garbon isel ar y pumed ar hugain o'r mis hwn, ac mae'n amlwg y bydd hynny'n crisialu'r datganiad a wnaeth hi yn gynharach heddiw, ond hefyd y ddogfen a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ychydig fisoedd yn ôl, sy'n nodi ein 100 polisi, gweithredoedd a blaenoriaethau y byddwn ni'n eu dilyn ar gyfer cyflawni ein hagenda carbon isel.

Hoffwn innau hefyd longyfarch Huw Irranca-Davies ar ei ddigwyddiad ar anemia dinistriol, a greodd  lawer o ddiddordeb, yn sicr, a llawer iawn o ddealltwriaeth ymhlith Aelodau'r Cynulliad. Fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch chi ac at Huw ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda NICE a chydag eraill o ran triniaeth a'r cymorth yr ydym yn gallu ei gynnig i unigolion sydd â'r cyflwr.

15:30

Efallai fod Aelodau wedi clywed am honiadau bod gwastraff o Gymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, wedi'i ddarganfod wedi'i bentyrru mewn jyngl ym Malaysia. Dywedwyd bod hyn wedi ei ddarganfod gan dîm o'r BBC, cyn rhaglen ar wastraff plastig. Yr honiad oedd nad oedd y gwastraff hwn o'r DU yn cael ei ailgylchu, ond yn hytrach ddim ond yn cael ei daflu mewn man prydferth. Ers hynny rwyf wedi gweld adroddiadau eraill o Falaysia yn gwrthbrofi'r honiadau hyn, gan ddweud bod y gwastraff plastig wedi'i gadw mewn eiddo sy'n gweithredu'n gyfreithlon ac y bwriedid iddo gael ei droi'n danwydd prosesedig wedi'i beiriannu. Nawr, rwy'n pryderu y gallai fod lefel o ddrwgdybiaeth am ailgylchu nawr, ac mae'r holl waith caled sydd wedi perswadio pobl i newid eu harferion dros y 15 mlynedd diwethaf mewn perygl o gael ei ddadwneud erbyn hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth i sicrhau bod ein hailgylchu'n cael ei drin yn briodol ac yn foesegol, ac yn ddelfrydol mor agos i gartref ag sy'n bosibl? A sut gallwch chi roi sicrwydd i bobl sy'n ailgylchu yng Nghymru nad yw ein hymdrechion gwyrdd yn ofer?

Hoffwn hefyd godi methiant y Llywodraeth hon i agor clinig rhywedd yma yng Nghymru. Addawyd hyn ar gyfer mis Ebrill eleni, ar ôl y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur. Dywed Cynghrair Cydraddoldeb Cymru mewn llythyr agored fod hyn yn bygwth tanseilio'r ymrwymiad a addawyd gan y Llywodraeth hon i sicrhau gofal clinigol da i gleifion trawsrywiol a phobl drawsrywiol nad ydynt yn ddeuaidd yng Nghymru. Maen nhw hefyd o'r farn bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cymeradwyo cynnig clinigol nad yw'n addas i'w ddiben. Maen nhw'n dweud y byddai'r system bresennol, sy'n golygu bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio i Lundain, er nad yw'n sefyllfa ddelfrydol, yn well na darparu clinig yng Nghymru sy'n israddol ac o bosibl yn anniogel. Sut mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu goresgyn ofnau fod y clinig rhyw arfaethedig—? A phryd y gallwn ni ddisgwyl i chi, o'r diwedd, gyflawni eich addewidion ar gyfer gwasanaeth o'r radd flaenaf, y mae gwir angen amdano yng Nghymru?

Ar y mater cyntaf, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn pryderu os ydym yn clywed am wastraff na chafodd ei waredu mewn ffordd briodol, a dyna pam yr ydym ni'n awyddus iawn i ddatblygu ein capasiti ailgylchu a phrosesu ein hunain yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn gwneud llawer o waith er mwyn gwneud hyn yn bosibl. Yn amlwg, mae gennym ni enw da rhagorol yma yng Nghymru fel arweinwyr byd-eang ym maes ailgylchu, ac mae'n bwysig ein bod yn cynnal ymddiriedaeth y bobl ac yn ymgymryd â'u hailgylchu yn ddidwyll bob dydd, felly byddaf yn sicr o godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog. Gwn ei bod yn bwriadu cyflwyno datganiad, ond fe gaf i weld pryd y gallwn ddarparu ar gyfer hynny o fewn amserlen y Cyfarfod Llawn.

Ac ar fater y clinig rhywedd, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd gael trafodaeth uniongyrchol gyda'ch llefarydd iechyd er mwyn rhoi cig ar asgwrn eich cwestiynau a'r wybodaeth yr ydych chi wedi gofyn amdani heddiw.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Andrew R.T. Davies am godi mater y digwyddiad a gawsom ni yn y fan yma gydag anemia dinistriol, digwyddiad na allwn ei fynychu fy hunan am ei fod yn cyd-daro â chyhoeddiad dinistriol Ford? Ond, diolch i chi, Andrew, am ei godi. Rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog yn mynd i ysgrifennu atom ni ein dau, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n ddechrau ar sgwrs eithaf hir nawr, gyda'r ymgyrchu gan Martyn Hooper a Carol ac eraill a oedd yn bresennol ar y diwrnod hwnnw. A diolch i'r Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad a oedd yno; rwy'n ei werthfawrogi'n fawr.  

A gaf i ofyn am un datganiad, ac atgoffa am ddadl yr wyf wedi gofyn amdani o'r blaen, mewn gwirionedd. Y cyntaf yw datganiad gan ystyried y posibilrwydd bod Gweinidogion yn ymwybodol o unrhyw ansicrwydd ynghylch cyhoeddiad First Bus—o unrhyw berygl y gallai hynny achosi i'w gwasanaethau gyda First Cymru. Rydym wedi cael llythyr o sicrwydd gan y gweithredwyr yng Nghymru eu bod, ar hyn o bryd, yn gwbl ymrwymedig i'r gwasanaeth yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae hyn yn ychwanegu at ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch gwasanaethau bws lleol, yn bennaf oherwydd y wasgfa barhaus ar gyllid awdurdodau lleol, sy'n golygu bod rhai, gan gynnwys yn fy ardal i, yn methu â chynnig cymhorthdal erbyn hyn ar gyfer llwybrau bysiau. Felly, fyddwn i ddim eisiau gweld First Cymru yn ychwanegu mwy o ansicrwydd yn y llwybrau bysiau sy'n cynnal gallu pobl i fynd i'r gwaith a chymdeithasu ac yn y blaen.

Yn ail, a wnewch chi ein hanfon oddi yma yn gwenu cyn yr haf, os gwelwch yn dda? Byddwn yn dod at Bythefnos y Mentrau Cydweithredol cyn bo hir, sef 24 Mehefin i 7 Gorffennaf. Gwn fy mod wedi codi hyn yn y cwestiynau busnes o'r blaen, ond ni chefais ateb pendant, er ein bod ni wedi cael trafodaethau diddorol y tu ôl i'r llenni. Mae gennym ni bythefnos gyfan pryd y gallwn siarad am hanes rhagorol y Llywodraeth o ran cymorth i fentrau cydweithredol, ond hefyd am rai o'r datblygiadau arloesol sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mewn trafnidiaeth gymunedol, mewn ynni cymunedol—y digwyddiad yn adeilad y Pierhead a gynhaliwyd heddiw, beth arall allwn ni ei wneud yn hynny o beth—amrywiaeth o bethau, gan gynnwys cyfiawnder bwyd, rhwydweithiau bwyd lleol. Mae'n ymddangos ei fod yn gyfle wedi'i golli. Ac rwy'n gwybod fy mod i, fel cadeirydd grŵp cydweithredol y Cynulliad o Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal â Vikki, sef cadeirydd y Grŵp Cydweithredol a'r grŵp trawsbleidiol cydfuddiannol—rydym yn gefnogol iawn i'r syniad o gael dadl. Tybed a fyddai'r rheolwr busnes yn cael trafodaeth gyda ni i weld os gallwn ni hwyluso hyn yn amser y Llywodraeth, ac os nad yw'n gallu, efallai y gallai hi a'r Llywydd ddweud wrthym sut arall y gallwn ni sicrhau dadl o fewn Pythefnos y Mentrau Cydweithredol. Anfonwch ni oddi yma yn gwenu.

15:35

Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am y gwahoddiad yna. Fe ddechreuaf drwy ymdrin yn gyntaf â rhai o'r pwyntiau ynghylch First Cymru. Yn amlwg, mae bysiau First Cymru yn gweithredu'n bennaf yn ne-orllewin Cymru, yn Abertawe, ac, fel y dywed Huw Irranca-Davies, maen nhw eisoes wedi rhoi sicrwydd eu bod yn rhagweld y byddan nhw'n darparu busnes fel arfer o ran eu rhwydwaith bysiau, o ganlyniad i ad-drefnu busnes FirstGroup. Ond, er hynny, mae'n amlwg y byddwn ni'n cadw llygad barcud ar y sefyllfa, ac yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â'r busnes, am unrhyw oblygiadau posibl i wasanaethau bysiau o ganlyniad i gynigion y First Group ar gyfer ad-drefnu eu busnes, gan gynnwys unrhyw bosibilrwydd o werthu'r gangen bysiau. Gofynnaf i'r Gweinidog trafnidiaeth roi mwy o wybodaeth i chi am ein grant cynnal gwasanaethau bysiau, sy'n grant blynyddol o £25 miliwn i awdurdodau lleol i roi cymhorthdal i fysiau a gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol, a mwy o wybodaeth hefyd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi bysiau yn yr ardaloedd hynny sy'n fwy anghysbell, ac ar y llwybrau hynny nad ydyn nhw o bosibl yn fasnachol hyfyw.

Byddaf yn cael trafodaeth bellach gyda Dirprwy Weinidog yr economi o ran y cais am ddatganiad, neu ddadl, am gwmnïau cydweithredol. Gwn fod ganddo rai cynlluniau i wneud rhywfaint o waith ar fentrau cydweithredol yn ystod y Pythefnos Cydweithredol. Ac o ran cyfleoedd i Aelodau gyfrannu, mae gennym ni gyfle i ofyn cwestiynau i Weinidogion yn ystod eu sesiwn cwestiynau, a hefyd y potensial ar gyfer dadleuon gan Aelodau unigol ac yn y blaen, er na allaf gofio pryd fydd y cyfle nesaf i wneud hynny.

Trefnydd, dau bwynt, os caf—dau gwestiwn. Yn gyntaf, yn rhan o bartneriaeth Opera Cenedlaethol Cymru gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, yr wythnos diwethaf gwelwyd perfformiad o ddarn o theatr gerddoriaeth ddatblygol o'r enw Y Tu Hwnt i'r Enfys a ddigwyddodd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yr oedd hynny'n cynnwys tîm gydag artistiaid a oedd yn ffoaduriaid ac aelodau o Zim Voices hefyd—bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn gwneud llawer o waith gyda Love Zimbabwe yn fy etholaeth i, ac roeddent hwythau hefyd yn ymwneud â hyn. O'r hyn yr wyf wedi ei glywed am y cynhyrchiad hwn, mae wedi gwneud llawer i feithrin a datblygu cysylltiadau gyda ffoaduriaid, a hefyd i gael gwared ar stigma sy'n gysylltiedig weithiau â phobl wrth iddyn nhw ddod i'r wlad hon. Yn sicr, mae wedi cael adroddiadau da gan Love Zimbabwe, a byddai'n dda gennyf glywed gan Lywodraeth Cymru beth yr ydych chi'n ei wneud i gefnogi partneriaethau fel hwnnw gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn ail, mae'r wythnos hon yn Wythnos Iechyd Dynion, ac mae Dads Can Cymru yn gwahodd pobl i gefnogi eu hymgyrch—yn anad dim drwy sugno lemwn. Byddaf yn cymryd rhan yn y ddefod ddiddorol hon yn nes ymlaen. Nid wyf yn disgwyl i chi wneud hynny yn y Siambr, gyda llaw, Trefnydd, ond tybed a fyddai hon yn adeg amserol i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y mae'n ei wneud i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, ac yn arbennig, problemau iechyd meddwl dynion. Fel y gwyddom, yn draddodiadol, mae dynion yn llai tebygol o drafod materion iechyd meddwl na menywod, ac mae hynny wedi bod yn broblem iddyn nhw yn y gorffennol. Mae mudiadau fel Dads Can, a dyfodd fel rhan o Gymdeithas Tai Sir Fynwy, wedi bod yn gwneud eu rhan i geisio cyrraedd dynion sydd yn y sefyllfa hon. Tybed a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl, ond yn benodol o ran dynion.

Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r ddau fater pwysig yna. Wrth gwrs, mae hi'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos nesaf, a gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn bwriadu darparu datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi ffoaduriaid, ac i greu cenedl noddfa yma yng Nghymru.

O ran y cais am ddiweddariad ar iechyd meddwl, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi a hybu iechyd meddwl da ymhlith dynion.FootnoteLink

15:40

Hoffwn ofyn i'r Trefnydd drefnu gyda'r Gweinidog iechyd i gyflwyno datganiad llafar i'r Cynulliad ar y mesurau perfformiad newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Mae'r mesurau perfformiad, wrth gwrs, i'w croesawu ynddynt eu hunain, ond mae nifer o faterion yn natganiad y Llywodraeth i'r wasg—nid wyf yn ymwybodol fod yna ddatganiad ysgrifenedig hyd yn oed—a chredaf y bydd y Siambr hon yn dymuno craffu ar y Gweinidog ar hyn. Un ohonyn nhw yw'r mater o ran cyllid. Mae pennawd y datganiad i'r wasg yn sôn am £10 miliwn. Ceir cyfeiriadau mewn mannau eraill yn y datganiad i'r wasg at £3.5 miliwn, ac yna yn rhywle arall cyfeirir at £7 miliwn. Rwy'n siŵr y byddem ni'n gwerthfawrogi'r cyfle i gael holi'r Gweinidog o ran pa un a yw hyn yn arian newydd ai peidio, ac a fydd yn darparu gwasanaethau newydd.

Y mater arall o ran y datganiad yw'r amrywiaeth enfawr mewn amseroedd aros rhwng gwahanol fyrddau iechyd. Nid dyma'r lle i dynnu sylw at y rhai sy'n gwneud yn dda a'r rhai sy'n gwneud yn wael, ond rwy'n siŵr, o bosib, y gallai cyd-Aelodau ddyfalu. Ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yn y Siambr hon sy'n poeni'n fawr am gael gwybod—ac, wrth gwrs, heb y mesurau perfformiad newydd ni fyddai'r ffigur hwn ar gael i ni—fod 34,500 o'n cyd-ddinasyddion ar restrau aros ar gyfer gofal offthalmig sydd mewn perygl o niwed difrifol, gan gynnwys colli eu golwg yn barhaol. Nawr, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, Llywydd. Collodd fy nhad ei olwg o ganlyniad i aros yn rhy hir am lawdriniaeth cataract 30 mlynedd yn ôl. Fe'm syfrdanwyd yn llwyr o wybod bod dros 34,000 o'm cyd-ddinasyddion mewn perygl o fynd drwy'r hyn yr aeth fy nhad drwyddo, a chredaf fod gan y Siambr hon yr hawl i graffu ar y Gweinidog ar y datganiad hwn, gan groesawu'r mesur perfformiad ei hun, ond credaf ein bod angen edrych yn fwy manwl ar y manylion.  

Rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r mater penodol hwn ac, fel y dywed Helen Mary Jones, rydym ni'n cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i bob atgyfeiriad newydd ar gyfer gofal llygaid gael ei weld o fewn y targed atgyfeiriad i driniaeth, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol i'r rhan fwyaf o gleifion newydd. Fodd bynnag, i'r rhan fwyaf o gleifion, dim ond y pwynt cyntaf ar eu taith o ofal gofynnol yw dechrau triniaeth, ac nid oes targed ar hyn o bryd i sicrhau bod y cleifion hynny sydd angen gofal dilynol parhaus yn cael eu gweld mewn modd amserol. Felly, dyma'n union pam yr oedd y Gweinidog yn pryderu ynghylch y risg glinigol uchel i'r cleifion hynny pe byddai eu hapwyntiad yn cael ei ohirio, er enghraifft. Ac fe sefydlodd grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu rhai argymhellion yn y maes hwn, ac fe wnaeth y grŵp hwnnw argymell cyflwyno'r drefn mesur newydd ar gyfer gofal llygaid, sy'n cyfuno cleifion newydd a chleifion sy'n dod yn ôl. Ac mae'r mesur canlyniadau yn deillio o'r gwaith hwnnw, ac mae wedi'i gynllunio i roi cyfrif am gleifion newydd a chleifion presennol, ond mae wedi'i seilio'n arbennig ar angen clinigol a'r risg o ganlyniadau andwyol. Felly, gobeithio y bydd yn mynd i'r afael â'r math o faterion a nodwyd gan Helen Mary.

Fe fyddwn i'n dweud, o ran y cyllid, ein bod ni wedi dyrannu £3.3 miliwn o gyllid i fyrddau iechyd i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn iddyn nhw weddnewid y gwasanaethau gofal llygaid a gweithredu'r llwybr gofal newydd y cytunwyd arno yn genedlaethol ledled Cymru.

Trefnydd, tybed a fydd y Llywodraeth yn neilltuo amser ar gyfer dadl ar y sefyllfa yng nghyswllt y GIG yng Nghymru yng ngoleuni'r ffaith y gallem gael Brexit heb gytundeb. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg y gallai pris Brexit heb gytundeb olygu aberthu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Byddwch yn ymwybodol o'r pryderon sydd gan lawer ohonom ynghylch y potensial ar gyfer mater a gadwyd yn ôl, sef cytundeb masnach rhyngwladol gyda'r Unol Daleithiau, yng ngoleuni'r gwahanol sylwadau a wnaed gan yr Arlywydd Trump mewn cysylltiad â'r GIG, a'r ffaith fod amcanion negodi cyhoeddedig yr Unol Daleithiau ei hun yn ei gwneud yn glir iawn bod pob gwasanaeth i'w gynnwys mewn cytundeb masnach, er bod yr Arlywydd Trump wedi eu tynnu yn ôl yn frysiog. Byddwch yn ymwybodol hefyd o'r sylwadau sy'n cefnogi preifateiddio a wnaed gan bobl fel Boris Johnson a Nigel Farage. Mae'n rhaid bod gennym bryderon difrifol ynghylch sut y gallai bargen masnach ryngwladol ddiystyru cyfrifoldebau datganoledig ym maes iechyd, ac rwy'n credu bod hwn yn fater y dylem ni fod yn ei drafod fel mater o frys a chryn bwys yn y Siambr hon.

Diolch i Mick Antoniw am godi'r mater hwn, ac, wrth gwrs, rydym yn cael cyfleoedd mynych i drafod amrywiol agweddau ar Brexit a'r effaith y gallai ei gael ar bobl yng Nghymru ar draws pob rhan o fywyd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd a'r ddarpariaeth iechyd yn anad dim. Mae llysgennad UDA i'r DU, Woody Johnson, wedi dweud y bydd gofal iechyd yn bwyslais cryf mewn unrhyw gytundeb masnach ôl-Brexit rhwng y ddwy wlad, a dylai hynny fod yn destun pryder gwirioneddol i ni, oherwydd, yn amlwg, mae'r Unol Daleithiau eisiau i'r DU brynu mwy o'i gyffuriau ar ôl Brexit, ond hefyd mae eisiau i Brydain dalu mwy. Ar hyn o bryd mae meddyginiaethau yn y DU yn costio tua thraean o'r hyn y maen nhw'n ei gostio yn UDA, ac mae perygl mawr y gallai unrhyw gytundeb danseilio un o gydrannau mwyaf gwerthfawr y DU o'r system iechyd, sef yr asesiadau gwerth a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a'r Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ar feddyginiaethau newydd i gadw costau yn gymesur â pha mor dda y mae'r meddyginiaethau hynny'n gweithio. Ac mae hynny'n cyfyngu ar y swm sy'n cael ei dalu wedyn i weithgynhyrchwyr cyffuriau. Felly, mae'n amlwg bod hwn yn faes sy'n peri pryder gwirioneddol i ni. Bydd penderfyniadau am ddyfodol GIG Cymru yn parhau i gael eu gwneud yma yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn glir iawn nad yw GIG Cymru ar werth, ac mae'r rhain yn negeseuon y byddwn ni'n dal i'w gwthio i Lywodraeth y DU.

15:45
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.

Diolch, Llywydd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yr ystafell ddosbarth yn hanfodol os ydym ni am gefnogi ein hathrawon i godi safonau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn benderfynol o roi amser i athrawon wneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: cynllunio a dysgu'r gwersi gorau posibl i'w disgyblion.

Mae dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn her sylweddol, ond yn un y mae angen i ni fynd i'r afael â hi os ydym ni'n dymuno cael gweithlu addysg brwdfrydig ac o ansawdd uchel. Rwy'n falch ein bod ni wedi gwneud cynnydd da mewn cyfnod byr i gefnogi ein penaethiaid a'n hathrawon. Er enghraifft, dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym ni wedi bod yn datblygu system werthuso ac atebolrwydd newydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, deialog broffesiynol llawn parch, a chymesuredd; rydym ni wedi cynhyrchu adnoddau lleihau llwyth gwaith, deunyddiau hyfforddi a chanllawiau ar y cyd â'n rhanddeiliaid, gan gynnwys Estyn, consortia rhanbarthol ac undebau; rydym ni'n buddsoddi £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gan sicrhau bod athrawon yn gallu neilltuo mwy o amser a sylw i ddisgyblion; rydym ni'n cynnal asesiadau ar-lein llai beichus yn hytrach na phrofion ar bapur i gefnogi cynnydd ac addysg disgyblion; rydym ni wedi cyflwyno gwelliannau i sicrhau tegwch o ran darparu adnoddau a gwasanaethau digidol i athrawon drwy gyfrwng Hwb; ac rydym ni wedi sefydlu cynlluniau arbrofol ar gyfer rheolwyr busnes ysgolion, a nodwyd gan awdurdodau lleol bod dros 100 o ysgolion yn rhan o'r rhaglen honno, sydd wedi bod ar waith ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn, gan roi cymorth gweinyddol ychwanegol i arweinyddion ysgolion.

Nawr, dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r camau yr ydym ni wedi eu cymryd drwy weithio gyda'n gilydd. Ac wrth gwrs, rwy'n ymwybodol bod angen cefnogi ysgolion wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae fy swyddogion i'n parhau i nodi'r arferion gorau i leihau effaith unrhyw broblemau llwyth gwaith wrth ddechrau cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn 2022. Er hynny, er ei bod hi'n amlwg ein bod ni'n gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â llwyth gwaith, fe ellir gwneud mwy ac mae'n rhaid gwneud mwy. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd parhau i weithio ar y cyd â'r sector i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi'r gweithlu. Ac i'r perwyl hwnnw, ym mis Ebrill, fe sefydlais i grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o bob haen ac o undebau llafur. Mae'r grŵp hwn wedi ystyried y blaenoriaethau y gallwn ni ddechrau gweithio arnyn nhw ar unwaith, yn ogystal â chamau gweithredu ychwanegol byrdymor, tymor canolig a hirdymor yn rhan o gynllun eang sy'n nodi gwaith i'w gwblhau i gynorthwyo athrawon wrth reoli llwyth gwaith.

O'r camau gweithredu niferus i'w hystyried wrth symud ymlaen, rydym ni wedi penderfynu canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth allweddol ar unwaith y gallwn eu cyflawni yn ystod tymor yr hydref, cyn ailystyried cynigion tymor canolig a thymor hwy y grŵp. Y pedair blaenoriaeth hyn yw (1) datblygu siarter a phecyn cymorth llwyth gwaith a lles ar gyfer gweithlu'r ysgol, (2) adfywio a hyrwyddo'r adnoddau a'r pecyn hyfforddi sy'n lleihau llwyth gwaith ac, yn hollbwysig, monitro'r niferoedd sy'n manteisio arno, (3) datblygu ymhellach a dosbarthu'r modelau hyfforddi a'r astudiaethau achosion enghreifftiol a luniwyd ar draws y pedwar consortiwm rhanbarthol i ddatblygu dull cydlynus o weithredu ar sail genedlaethol, a (4) cynnal ymarfer archwilio sector cyfan i archwilio pa ddata sy'n cael eu casglu ym mhob haen, a sut y dylid ystyried asesiad o effaith ar lwyth gwaith yn rhan o unrhyw ddatblygiad polisi.

15:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Fe wnaeth y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth gyfarfod i drafod datblygu'r pedair blaenoriaeth hyn ar 5 Mehefin. Mae rhanddeiliaid ar draws pob haen ac undebau llafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Serch hynny, pan fydd y rhain wedi eu cyflawni, bydd y grŵp yn parhau i weithio drwy'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r camau gweithredu byrdymor, tymor canolig a hirdymor a nodwyd i helpu i reoli llwyth gwaith yn well a lleihau biwrocratiaeth lle bynnag y bo modd.

Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y dasg hon i sicrhau y caiff ein diwygiadau addysgol eu cyflwyno'n ddidrafferth wrth symud ymlaen. Rwy'n cydnabod yr ymrwymiad o ran gwaith ac amser sydd wedi ei roi gan yr holl randdeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac rwy'n edrych ymlaen at eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad yn y dyfodol. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n parhau i weithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r heriau yn uniongyrchol a sicrhau ein bod ni'n nodi pob ffordd bosibl o reoli'r llwyth gwaith yn well a lleihau biwrocratiaeth.

Yn ogystal â hyn, rydym ni'n bwriadu ceisio cefnogi'r gwaith hwn drwy gynnal arolwg arall o weithlu ysgolion o fewn y 12 mis nesaf a byddwn yn dechrau trafodaethau â rhanddeiliaid cyn bo hir ynghylch cyflawni'r arolwg hwnnw. Rwy'n ffyddiog y bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn cefnogi ein nod o ddatblygu proffesiwn addysg o safon uchel sy'n cael cefnogaeth dda. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy'n siŵr, fel pawb yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gweld athrawon sy'n parhau i ddweud wrthym ni mai'r llwyth gwaith yw un o'r materion pwysicaf iddyn nhw a bydd y diweddariad a gawsom ni heddiw yn ein helpu i ddeall ac efallai'n gofyn iddyn nhw pa un a ydyn nhw wedi cael y math o gymorth yr ydych chi wedi bod yn sôn amdano yn yr ysgolion lle maen nhw'n dysgu, oherwydd mae'n debyg mai un o'r pethau y byddai gennych chi ddiddordeb ynddo hefyd yw pa un a yw'r camau sydd wedi  eu cymryd i wella'r llwyth gwaith wedi mynd i wraidd pethau, fel petai.

Fel y gwyddom ni, mae gennym ni broblem recriwtio athrawon yn ymylu ar drothwy argyfwng ar hyn o bryd—nid yn unigryw i Gymru, wrth gwrs, ond yn arbennig o ddifrifol mewn rhai rhannau yng Nghymru, fel y dengys yr anawsterau sydd gennym ni o ran ateb y galw am athrawon cyflenwi mewn rhannau arbennig o Gymru. Yn sicr, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg â chi yn 2017 fod y llwyth gwaith yn effeithio ar y potensial i addysgu i safonau da, ond ei fod yn niweidio lles staff hefyd. Dyna pam yr argymhellodd waith ar unwaith i sefydlu'r lefel y mae llwyth gwaith yn rhwystr i recriwtio.

Ers hynny, wrth gwrs, rydym ni wedi cael yr adolygiad cyflogau ac amodau hefyd, na wnaethoch chi sôn amdano yn eich datganiad, ond rwyf i o'r farn ei fod yn berthnasol i'r pwynt cyffredinol. Hoffwn i wybod, er hynny, pam mai dim ond ym mis Ebrill y sefydlwyd y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth a pham mai dim ond nawr y mae wedi nodi'r angen i gynnal archwiliad ar draws y sector ac, os wyf i'n deall hyn yn iawn, asesu effaith asesiadau o effaith. Ydych chi'n meddwl tybed—? Wel, efallai fy mod i'n meddwl tybed a yw'r oedi wedi ymestyn y cyfnod pryd y bydd hi'n her i recriwtio athrawon.

Dim ond ar bwynt y cynllun arbrofol rheolwyr busnes ysgolion, roedd hwnnw wrth gwrs yn un o'r camau a gafodd rywfaint o sylw ar y pryd. Nid wyf i gant y cant yn siŵr pryd yn union yr aeth y rheolwyr cyntaf i'r ysgolion, ond efallai y gallwch chi roi rhyw syniad i ni o'r adrodd yn ôl a gawsoch chi yn ystod y cyfnod hwnnw, yn unol â chais y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd faint o'r gost honno o £1.28 miliwn a glustnodwyd ar gyfer y gwaith hwn, sydd wedi cael ei wario a pha mor rhwydd y bu hi, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, i gael yr awdurdodau lleol i rannu'r gost honno, gan fod hynny, wrth gwrs, yn rhan o'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol?

Rwyf i wedi siarad ag athrawon yn fy rhanbarth i sy'n canmol Hwb i'r entrychion— i'r fath raddau fel bod rhai o'r ysgolion preifat, fel y gwyddoch chi, yn awyddus iawn i dalu i gael defnyddio'r gwasanaeth hwnnw hefyd. Ond beth allwch chi ei ddweud wrthym ni am rai o'r adnoddau eraill yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad a'r niferoedd sy'n manteisio ar hynny ac efallai pwy sy'n talu am y rhain hefyd? Yn arbennig, mae gen i rai pryderon am y canllawiau un dudalen hyn a gyhoeddwyd gan Estyn i helpu athrawon i ddeall sut i leihau eu llwyth gwaith. Daeth yr adolygiad o gyflogau i'r casgliad ei fod wedi syrthio ar dir caregog, ac athrawon yn parhau i weithio hyd at 50 awr yr wythnos a chyfraddau uchel o absenoldeb athrawon.

Mae'n debyg mai'r hyn yr wyf i'n ei ofyn yw sut mae canfyddiadau adolygiad cyflog 2018, neu'r adolygiad o gyflogau ac amodau, wedi addasu eich blaenoriaethau wrth leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ac a ydyn nhw'n ysgafnhau'r gwaith ychwanegol y mae athrawon yn ei wneud ar hyn o bryd i lenwi bwlch y staff sydd wedi cael eu diswyddo gan ysgolion o ganlyniad i ddyraniadau cyllidebau craidd ysgolion yn crebachu i'r fath raddau yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Oherwydd byddai'n siomedig, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, i symud ymlaen wrth leihau'r llwyth gwaith ddim ond i hynny gael ei ddadwneud am y rheswm syml bod nifer yr athrawon mewn ysgolion wedi lleihau.

Yn gryno, gan fod athrawon cyflenwi yn chwarae rhan fawr wrth helpu i leihau llwyth gwaith—mae'n debyg bod angen datganiad arall am hynny arnom ni, ond pe gallech chi roi syniad i ni am y gwaith sy'n mynd rhagddo i gadw athrawon cyflenwi er mwyn meithrin cynhwysiant o fewn y gweithlu, os mynnwch chi. Ac yna'n olaf, yn gysylltiedig â hynny efallai, y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd newydd-ddyfodiaid, wrth gwrs, yn cael eu hyfforddi yn hyn o'r dechrau, ond fe wnaethoch chi ganfod £9 miliwn y llynedd a £15 miliwn eleni i baratoi'r gweithlu presennol tuag at y dyfodol. Gyda phrinder staff cyflenwi a phrinder maint yn yr ysgolion nawr a'r llwyth gwaith trwm sy'n bodoli eisoes, sut y gallwch chi fod yn siŵr, er eich bod wedi dod o hyd i'r arian efallai, bod yr athrawon yn gallu dod o hyd i'r amser i fod yn barod am Donaldson? Ac, os yw athrawon yn gadael eisoes oherwydd llwyth gwaith uchel, nid wyf i'n credu y bydd £24 miliwn yn eu hatal nhw rhag gadael, ac rwy'n meddwl tybed wedyn sut y gallwch chi egluro sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw i helpu athrawon i aros yn y system, oherwydd nid wyf i'n credu bod y cysylltiad yn cael ei wneud, gan yr athrawon yr wyf i wedi siarad â nhw beth bynnag, ar hyn o bryd. Diolch.

15:55

Diolch yn fawr i chi, Suzy, am y cwestiynau yna. Fel yr amlinellais i yn fy natganiad, nid ydym wedi bod yn fyddar i'r pryderon a godwyd gan undebau athrawon ynglŷn â llwyth gwaith. Amlinellais nifer o gamau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd eisoes. Diben sefydlu'r grŵp oedd symud y materion hyn ymlaen yn gynt a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae hynny'n golygu bod yr holl undebau, pa un a ydyn nhw'n cynrychioli penaethiaid, neu'n cynrychioli'r gweithlu addysgu ac, yn hollbwysig, y rhai sy'n cefnogi athrawon a chynorthwywyr addysgu yn rhan o'r grŵp hwnnw yn ogystal â chonsortia rhanbarthol ac Estyn. Y nhw sydd wedi penderfynu mai dyma'r pedwar maes y bydden nhw'n dymuno gweld cynnydd ynddyn nhw yn nhymor yr hydref ac rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth, ar y cyd â'r undebau wedi cytuno ar y ffordd ymlaen, oherwydd yr ydych chi'n iawn i ddweud mai llwyth gwaith yw'r un mater y mae'r proffesiwn wedi ei nodi fel mater sy'n gweithio yn ein herbyn ni efallai wrth i ni ymdrechu i ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn, er bod yn rhaid i mi ddweud nad yw dweud trwy'r amser pa mor anodd a heriol yw'r gwaith hwn yn helpu gyda'n hymdrechion recriwtio. Yn ddiamau, mae dysgu yn swydd heriol, ond mae hi'n yrfa hynod o foddhaus ac rydym ni'n eiddgar i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn ei dewis a bod mwy o bobl sy'n dewis hyfforddi yn aros yn y proffesiwn hwnnw drwy gydol eu gyrfaoedd.

Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau penodol am y cynllun arbrofol rheolwyr busnes ysgolion. Fel y dywedais, cafodd dros 100 o ysgolion eu nodi gan awdurdodau lleol yn rhan o'r cynllun arbrofol. Yn wreiddiol, cyflwynodd 11 awdurdod lleol gynigion i gymryd rhan. Roedden nhw'n cynnwys Ynys Môn, sir Fynwy, Caerffili, Caerdydd, Conwy, Powys, sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Ac, yn y pen draw, mae gan 10 o'r 11 awdurdod ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Ym mis Gorffennaf 2018, comisiynodd swyddogion gwmni ymchwil Miller Research i gynnal adolygiad dros dro annibynnol o berfformiad a gweithrediad y cynllun arbrofol yn ystod ei flwyddyn gyntaf, a chanfu'r adroddiad gwerthuso dros dro bod mwyafrif helaeth yr adborth gan benaethiaid ac arweinyddion ysgolion yn gadarnhaol iawn. Mae'r prif fuddion yn ymwneud ag arbedion amser, llai o lwyth gwaith a sicrhau gwerth am arian gwirioneddol yn y ffordd y mae'r ysgol yn defnyddio ei chyllideb. Roedd cael rheolwr busnes wedi cael effaith gadarnhaol o ran lleihau'r baich gwaith gweinyddol sydd ar benaethiaid ysgolion cynradd, ac mewn rhai achosion, ar benaethiaid ysgolion uwchradd. Roedd y swyddi wedi eu galluogi hefyd i weld gwelliannau o ran effeithiolrwydd systemau rheoli busnes ar draws clystyrau yn ogystal â, fel y dywedais, rheolaeth ariannol gost-effeithiol i ysgolion.

Mae rhai o'r ffigurau o ran yr hyn a gafodd ei arbed ar gontractau llungopïo ysgolion yn dod â dŵr i'r llygaid yn llythrennol, ac efallai y byddaf i'n gallu rhoi manylion pellach i'r Aelodau am hynny. Ond mae cael yr unigolyn hwnnw yno sydd â set benodol o sgiliau ac, yn hollbwysig, sydd â'r amser i droi ei sylw at y materion hyn, wedi cael effaith. Bûm yn ddigon ffodus i ymweld â'r rheolwyr busnes sy'n gweithio yng nghynlluniau arbrofol sir Fynwy a chynlluniau arbrofol Conwy, ac maen nhw wedi gweithio gyda'i gilydd fel tîm o bobl i reoli eu llwyth gwaith hefyd, i sicrhau nad ydyn nhw'n ailddyfeisio'r olwyn wrth ddylunio, er enghraifft, ymatebion i newidiadau o ran diogelu data. Felly, maen nhw'n gwneud hyn unwaith ar gyfer eu hysgol eu hunain ac yna maen nhw'n rhannu hynny gyda'r rheolwyr busnes eraill. Felly, ceir arfer rhagorol yn y fan yma. Rydym ni'n bwriadu comisiynu gwerthusiad annibynnol llawn yn ystod tymor y gwanwyn 2020, a bydd enghreifftiau o arfer gorau yn rhan o'r gwerthusiad hwnnw. Byddwn ni'n darparu achosion enghreifftiol y gallwn ni eu rhannu ar draws y system. Felly, mae'r gwerthusiad annibynnol hwnnw o'r cynllun hwnnw wedi ei wneud ar sail dros dro, a bydd yn parhau.

O ran Hwb, rwy'n falch bod yr Aelod wedi cael adborth cadarnhaol gan y proffesiwn ynglŷn â defnyddioldeb Hwb. A gaf i roi enghraifft o ddim ond un ffordd yr ydym ni'n gwella mynediad at hynny? Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais y bydd Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ariannu ceisiadau yn ganolog am feddalwedd ystafell ddosbarth Microsoft ar gyfer pob ysgol a gynhelir, diolch i fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig y bydd y buddsoddiad newydd hwn o £1.2 miliwn yn gwella tegwch o ran y meddalwedd sydd ar gael i ystafelloedd dosbarth digidol, mae'n caniatáu i athrawon gael mynediad am ddim at hynny, ac fe allan nhw ddefnyddio'r drwydded honno i ddefnyddio'r meddalwedd hwnnw ar hyd at bum dyfais. Felly, nid oes angen iddyn nhw allu talu am nifer o drwyddedau er mwyn cael y mynediad hwnnw; er enghraifft, os ydyn nhw'n gweithio o gartref neu'n gweithio o bell ar unrhyw adeg. Felly, mae hynny'n cymryd y baich oddi arnyn nhw ac yn sicrhau bod yr adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw ar gael iddyn nhw.

Mae'r Aelod yn iawn y gellid bod wedi cael datganiad ar wahân ynglŷn ag athrawon cyflenwi, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol mai'r flaenoriaeth i mi oedd gwella telerau ac amodau gwaith athrawon cyflenwi gydag asiantaeth gyswllt genedlaethol newydd ar gyfer cyflenwi, a chredaf y bydd hynny'n codi safonau ac, yn hollbwysig, yn rhoi sylfaen o ran tâl ac amodau, a fydd, gobeithio, o fudd gwirioneddol i'r rhai sy'n canfod eu hunain yn gweithio fel athrawon cyflenwi, sy'n agwedd bwysig iawn ar ein gweithlu addysg.

Ac yn olaf, ar fater addysg proffesiynol, gadewch i ni fod yn glir nad yw'r arian ynddo'i hun ar gael i berswadio pobl i ddal ati i fod yn athrawon; mae'r arian ar gael yn bennaf i sicrhau bod yr athrawon hynny wedi cael eu paratoi yn y ffordd orau ac yn gallu manteisio ar y cwricwlwm newydd. Ond yr hyn a wyddom ni o'r ymchwil sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan rai o'n darparwyr TG yw bod sicrhau bod athrawon yn gallu cael hyfforddiant datblygiad proffesiynol gydol oes yn un o'r ffyrdd y gallwn ni ddenu'r rhai gorau a'r mwyaf disglair i'r proffesiwn. Pan fyddwn ni'n meincnodi addysg yn erbyn proffesiynau eraill y gallai graddedigion medrus iawn eraill fod yn dymuno eu dilyn, un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud eu bod nhw'n chwilio amdano yw'r datblygiad proffesiynol parhaus hwnnw a'r llwybr hwnnw o symud ymlaen o fewn y proffesiwn hwnnw. Felly, mae dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â darparu'r cwricwlwm, ond mewn gwirionedd mae'r ymrwymiad hwnnw i'r unigolion hynny y byddwn ni'n cefnogi eu gyrfa drwy gydol eu cyfnod yn ein hysgolion gyda dysgu proffesiynol parhaus yn bwysig iawn.

Ac o ran amser, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni wedi ymgynghori yn ddiweddar, er enghraifft, ar un diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i ategu'r diwrnodau HMS sydd gan ysgolion eisoes ar gyfer dysgu proffesiynol, ac rwy'n gobeithio gallu symud ymlaen â'r rheoliadau hynny yn fuan.

16:00

Diolch am y datganiad. Does dim dwywaith fod lleihau baich gwaith athrawon a lleihau biwrocratiaeth yn rhan bwysig o'r gwelliannau sydd angen digwydd er mwyn codi safonau yng Nghymru. Mae'r berthynas rhwng athro a disgybl yn allweddol i lwyddiant dysgu ar lawr y dosbarth, ac felly mae unrhyw beth sydd yn amharu ar y berthynas honno angen ei gwestiynu a'i gwestiynu yn rheolaidd. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen creu proffesiwn sydd yn fwy atyniadol ar gyfer pobl ifanc, ac mae lleihau'r baich gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn rhan o'r cylch yna o geisio gwneud y proffesiwn yn fwy atyniadol, dwi'n credu.  

Gaf i ofyn yn gyntaf i chi am yr awdit data rydych chi'n sôn amdano fo yn y pedwerydd pwynt, dwi'n meddwl, gennych chi fan hyn? Beth fydd hyd a lled yr ymarferiad yma? Ydych chi yn edrych arno fo o safbwynt lleihau faint o ddata mae disgwyl i athrawon ei gofnodi? Dwi'n siŵr y byddai hynny yn cael ei groesawu. Mae'n debyg ei fod o yn faich, yr holl gasglu data yma, y gellid lleihau dipyn arno fo. Felly, dwi'n croesawu yr awdit yma fel man cychwyn ar gyfer hynny.

Yn y tymor hirach, ydych chi'n credu bod angen adolygiad mwy cynhwysfawr, efallai, i'r dyfodol, gan edrych nid yn unig ar y data sydd angen ei gofnodi a'i gasglu, ond hefyd y ffaith fod yr holl gyrff gwahanol yma angen ymatebion yn aml iawn? Hynny yw, mae angen i athrawon fod yn ymatebol i wahanol haenau ac i wahanol bobl sydd yn dod i mewn i'r sefyllfa yn yr ysgol. Ac mi fyddaf i'n meddwl weithiau, tybed a oes yna ormod o hynny'n digwydd ac a oes yna ddyblygu'r hyn sydd yn cael ei fonitro a'r hyn y mae'n rhaid i athrawon ymateb iddo fo, a bod hyn yn ddiangen, mewn gwirionedd, a bod angen, efallai, edrych ar drio tynhau'r holl agwedd yna ar waith athrawon sydd, eto, yn ymyrraeth sydd yn gallu amharu ar y berthynas yma. Mae elfennau ohono fo'n ymyrraeth sy'n gorfod digwydd, ond tybed a oes yna ormod o'r un peth yn digwydd. Dyna fy nghwestiwn i yn fanna. Yn y tymor hirach, efallai bod eisiau edrych yn fwy manwl ar hynny.

Roedd Suzy Davies yn sôn am y rheolwyr busnes mewn ysgol, ac roeddwn i'n gwrando arnoch chi'n sôn am y peilot lle mae yna 100 o ysgolion wedi bod yn rhan ohono fo ers dwy flynedd, a fy nealltwriaeth innau hefyd ydy bod rôl y rheolwr busnes yn gweithio'n dda, ac mi wnaethoch chi amlinellu rhai o'r buddion. Ond, wrth gwrs, oherwydd yr holl ofynion eraill ar gyllid ysgolion, tybed a ydy'r swyddogaeth yma'n gynaliadwy mewn gwirionedd mewn hinsawdd o doriadau. Yn anecdotaidd, beth bynnag, dwi'n clywed bod llai a llai o ysgolion yn buddsoddi yn y rôl yma, neu fod y rôl rheolwr busnes yn un o'r rhai cyntaf, efallai, i ddiflannu mewn cyfnod o orfod canfod toriadau, er gwaetha'r manteision amlwg. Ac, wrth gwrs, dydy cael rheolwr busnes ddim yn opsiwn realistig ar gyfer rhai o'n hysgolion lleiaf oll ni. Tybed a oes yna angen gweithio'n fanna ar ryw fath o reolwr busnes sy'n gweithio ar draws nifer o ysgolion. Dwi'n gwybod bod hwnna'n digwydd mewn rhai ardaloedd. Efallai bod hwnna'n arfer da i'w ledaenu.

Yn olaf, a gaf i eich holi chi am yr adolygiad a wnaed gan Mick Waters a Melanie Jones ynglŷn â datganoli tâl ac amodau i Gymru? Dwi'n cymryd bod rhan o'r datganiad yma heddiw yn ymateb i rai o'u sylwadau nhw. Ond mi roedd yna 37 argymhelliad yn yr adroddiad yna, a dwi'n gwybod eich bod chi wedi ymateb i rai ohonyn nhw ond mae yna rai dal yn sefyll, ac mi fyddai'n ddiddorol cael, efallai, datganiad pellach ynglŷn â rhai o'r materion sydd yn dal i sefyll. Er enghraifft—mae hwn werth ei ystyried, dwi'n meddwl; mae'n gallu bod yn ddadleuol—ond mi roedden nhw'n argymell system o reoli gyrfa a chefnogaeth i athrawon ac yn argymell model cyflogaeth newydd ar gyfer penaethiaid ysgol ble mae penaethiaid yn gweithio ar lefel rhanbarthol yn hytrach na bod yn gysylltiedig efo ysgolion unigol. Byddai'n ddiddorol cael eich ymateb chi i hynny. Dwi ddim yn dweud fy mod i'n cytuno neu'n anghytuno, ond byddai'n ddiddorol gweld beth ydy'r drafodaeth ac a oes yna drafodaeth ynghylch hynny. Mae'n debyg bod yna fanteision petai angen arweiniad ar lefel mwy na lefel ysgol unigol, ac mae sgiliau penaethiaid, efallai, yn gallu cael eu rhannu ar draws nifer o ysgolion neu mewn rhanbarth. Felly, pryd ydych chi'n bwriadu ymateb i'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad gan Waters a Jones?

A wedyn, yn olaf, faint o sgôp ydych chi'n ei weld rŵan yn y tymor hir i wella amodau gwaith, yn cynnwys baich gwaith a biwrocratiaeth, drwy gyfrwng y pwerau datganoledig newydd ynglŷn â thâl ac amodau? Efallai fedrwch chi egluro sut ydych chi'n gweld cylch gorchwyl corff annibynnol adolygu tâl Cymru'n datblygu wrth i ni weld y pwerau newydd yma'n gwreiddio ac wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o beth ydy posibiliadau defnyddio'r pwerau newydd wrth symud ymlaen. Diolch.

16:05

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Fe ddechreuodd hi drwy ofyn cwestiwn am ehangder yr archwiliad data. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar y flaenoriaeth hon, ac mae gwaith ar y gweill i gynnal archwiliad o'r data gorfodol sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd, fel sy'n ofynnol yn y rheoliadau, ac yn hollbwysig, i ba ddiben y defnyddir y data hynny. A ydyn nhw'n ychwanegu mewn gwirionedd at godi safonau, at gau'r bwlch cyrhaeddiad ac at amcanion y genhadaeth genedlaethol? Felly, rydym ni'n dechrau gyda'n gofynion ein hunain i ysgolion. Ar ôl cwblhau hynny, cynhelir archwiliad pellach ar ba ddata y mae'r haen ganol yn eu casglu gan ysgolion—sef awdurdodau addysg lleol a'r consortia rhanbarthol. Ac eto, yn hollbwysig, i ba ddiben y defnyddir y data hynny? A ydyn nhw'n ychwanegu at yr addysgu a'r dysgu, neu a ydym ni ond yn eu casglu er mwyn eu casglu a'u bod yn gorwedd mewn ffeil gyfrifiadurol neu mewn ffeil bapur yn rhywle? Bydd y grŵp mewn sefyllfa wedyn i adolygu'r casgliadau hyn o ddata i weld a geir unrhyw ddyblygu, a pha un a yw'r casgliadau yn parhau i fod yn angenrheidiol ac a ydyn nhw'n berthnasol, ac a ellir eu symleiddio neu, yn hollbwysig, eu dileu o'r gofynion yn gyfan gwbl. Felly, dyna ddiben yr archwiliad, gan ddechrau gyda'r hyn yr ydym ni'n gofyn amdano gyntaf fel Llywodraeth ac yna rhoi sylw i'r hyn y mae'r haen ganol yn ei ofyn.

Arweiniodd hynny, wedyn, at gwestiynau am yr haen ganol. Awgrymodd yr Aelod fod hyn efallai ar gyfer y tymor hwy. Wel, yn sicr nid ar gyfer y tymor hwy y mae hyn yn fy marn i. Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni sefydlu'r grŵp haen ganol dan gadeiryddiaeth Dylan Jones o Goleg y Drindod Dewi Sant, cyn-bennaeth profiadol a llwyddiannus iawn sydd bellach yn arwain yr ysgol addysg yng Nghaerfyrddin. Diben y grŵp hwnnw yw gwneud yn union yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian: sicrhau bod mwy o gysondeb rhwng agweddau ar yr haen ganol, i sicrhau nad oes dyblygu a bod y gofynion sydd ar benaethiaid ac athrawon yn gyson—felly ni ddylai unrhyw bennaeth ofyn iddo'i hunan, 'Gwas pwy ydw i heddiw? Ai'r awdurdodau addysg lleol, ai'r consortia rhanbarthol, ai Estyn, ai Llywodraeth Cymru?' ac fel bod cyfochri a gweledigaeth glir iawn am yr hyn sy'n cael ei ofyn gan ein hysgolion, ac, yn hollbwysig, pwy sy'n gyfrifol am wneud beth. Nid oes digon o arian yn y system i ni fod yn cwympo ar draws ein gilydd a dyblygu swyddogaethau'r chwaraewyr eraill yn y maes. Felly, dyna ddiben y grŵp hwnnw—i gael eglurder ar gyfer ein haen ganol ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am wneud beth, pryd mai eu gwaith nhw yw ei wneud, a sicrhau bod eglurder ar gyfer ein harweinwyr ysgol ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei ofyn ganddyn nhw. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

O ran rheolwyr busnes ysgolion, efallai ei bod hi'n anochel y bydd pobl yn holi pa un a yw hi'n iawn i ddefnyddio adnoddau i gyflogi gweithwyr proffesiynol nad ydyn nhw'n addysgu, ond fel y dywedais, mae gwerthusiad dros dro o'r cynllun arbrofol hyd yn hyn wedi cael ei groesawu'n fawr gan y penaethiaid dan sylw, ac mewn llawer o achosion, mae'r arbedion y gallodd y rheolwyr busnes hynny eu cyflawni, er enghraifft, yn rhai o'u penderfyniadau o ran prynu, wedi talu holl gost eu cyflogau nhw mewn rhai achosion. Nawr, wrth gwrs, ni ellir ailadrodd hynny, o reidrwydd, o'r naill flwyddyn i'r llall, ond mae gwerth gwirioneddol yn y swyddi hynny. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle; efallai na fydd hi'n bosibl i un ysgol gyflogi rheolwr busnes oherwydd maint yr ysgol honno, ac mewn llawer o'r ardaloedd arbrawf, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw un rheolwr busnes yn gweithio ar draws clwstwr o ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd bach. Ac fe wn i o'r cynllun arbrofol yn fy ardal fy hun, mai dyna sydd wedi digwydd: mae un rheolwr busnes wedi bod yn gweithio i nifer o ysgolion cynradd nad ydyn nhw, ar eu pennau eu hunain, yn gallu fforddio'r adnodd hwnnw, ond mewn gwirionedd, dyna'r ffordd fwyaf effeithlon o'i wneud a'i wneud mewn modd llwyddiannus iawn, iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar y cyfraniad y gall rheolwyr busnes ysgolion ei gyfrannu at ein system addysg. I'r fath raddau fel ein bod ni, yn ein gwobrau addysgu Cymru, yn cyflwyno gwobr i reolwr busnes ysgol y flwyddyn—yr unigolyn sydd wedi ychwanegu cymaint i'w ysgol. Ac nid ydym ni byth yn brin o enwebiadau ar gyfer y wobr arbennig honno.

Byddaf i'n sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gydag argymhellion unigol adroddiad Waters. Wrth gwrs, nid yw rhai o'r argymhellion hynny a wnaethpwyd yn fater i mi, ond mae angen iddyn nhw gael eu hystyried yn briodol gan y broses adolygu annibynnol yr ydym ni wedi ei sefydlu ar gyfer tâl ac amodau athrawon, ac maen nhw'n fater i'r corff hwnnw ei ystyried, a hynny'n briodol. Hon fydd y flwyddyn gyntaf y bydd Cymru yn gyfrifol am bennu cyflogau ac amodau athrawon, a bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o gynnwys fy llythyr cylch gwaith i'r bwrdd. Yn yr achos hwn, rydym ni'n dymuno sefydlu'r system a dangos ein bod ni yng Nghymru yn gallu rhedeg y system ein hunain. Yn bennaf, yn y flwyddyn gyntaf hon, rydym ni'n ystyried materion sy'n ymwneud â chyflogau. Rwy'n siŵr, yn y blynyddoedd i ddod, y bydd cylch gwaith Llywodraeth Cymru yn ceisio gofyn i'r bwrdd ystyried agweddau eraill ar gyflogau ac amodau athrawon yn eu cyfanrwydd. Eleni, y flaenoriaeth yw sefydlu'r system honno'n llwyddiannus ac edrych ar godiad cyflog posibl—mwy o gyflog i'n gweithlu ni o bosibl. Ond rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sydd wedi ei wneud o ran agweddau eraill ar adroddiad Waters.

16:15

Diolch yn fawr am eich datganiad ac am eich sylwadau yn gynharach, yn enwedig o ran tâl teg i athrawon cyflenwi—mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Roeddwn i eisiau holi ychydig mwy ynglŷn â pha mor safonol yw cynllunio a gwerthuso gwersi gan athrawon ar y cyd, mewn modd priodol, yn eu grŵp blwyddyn neu gyfnod allweddol, oherwydd rydym ni i gyd wedi darllen y ffigurau brawychus ynghylch y proffesiwn addysgu i gyd yn dod i ben eu tennyn, a phobl yn gadael y proffesiwn ddim ond ychydig flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn, yn amlwg. Ond yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant lle yr wyf i'n llywodraethwr, fel y gwyddoch chi, mae'r holl athrawon yn gwneud eu gwaith cynllunio a gwerthuso gwersi ar y cyd ag aelodau eraill o'r staff, sy'n eu galluogi i rannu arfer da, rhannu syniadau da a rhannu eu cryfderau a'u gwendidau. Mae'n ymddangos yn weddol amlwg i mi fod hynny'n ganlyniad cadarnhaol i'r disgyblion, oherwydd nid ydym ni angen gweld syniadau da yn cael eu monopoleiddio, mae angen eu rhannu er budd y disgyblion i gyd. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae'r siarter a'r pecyn cymorth hwn ar lwyth gwaith a lles am ledaenu'r arfer da sy'n digwydd, rwy'n siŵr, ar draws llawer rhan o'r system addysg, i sicrhau bod y cydweithio hwnnw'n dod yn rhywbeth safonol a bod pobl yn meddwl ei bod yn ddifyr gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod heriau trannoeth neu'r wythnos nesaf yn mynd i gael eu rhannu ac, oherwydd hynny, yn llai beichus.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cyfraniad yna? Yr hyn y mae hi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yw arferion da safonol. Mae llawer o'n hysgolion yn defnyddio dulliau o'r fath fel triadau addysgu ar draws disgyblaethau, ac mae llawer o ddysgu a chymorth proffesiynol yn digwydd rhwng gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion ac, yn wir, rhwng ysgolion hefyd. Felly, er enghraifft, mewn rhai o'n hysgolion gwledig, efallai y byddwch chi mewn adran lle efallai mai y chi yw'r unig un neu efallai yn un o ddau, yna, yn amlwg, gall hynny fod yn feichus. Felly, mewn gwirionedd, mae ysgolion yn cydweithio, yn enwedig o ran y dasg o ddatblygu deunyddiau newydd neu i ymateb â'r cwricwlwm newydd, ond mae haneswyr ac arbenigwyr dyniaethau mewn gwahanol ysgolion yn cydweithio i allu cynllunio yn ffordd effeithiol iawn, iawn o gyflawni hynny.

O ran y siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles i ysgolion, ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, bydd y grŵp yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau a chamau gweithredu o nawr tan dymor yr hydref, ac yna bydd y grŵp llywio yn cyfarfod drwy gydol y cyfnod hwnnw i sicrhau bod yr agwedd arbennig hon ar y siarter a'r pecyn cymorth yn cael ei chyflawni. Y rheswm pam y caiff hyn ei ystyried yn bwysig yw y gall hwn fod yn offeryn sy'n ymarferol iawn y gellir ei roi i arweinyddion ysgolion ac ymarferwyr yn ein hysgolion ledled Cymru i herio'r syniadau sydd ganddyn nhw ynglŷn â sut y maen nhw'n rheoli'r prosesau hyn o fewn eu lleoliadau unigol eu hunain, fel y gallwn ni gael yr ymagwedd genedlaethol honno, yn hytrach na gadael i arweinyddion unigol fod ar eu pennau eu hunain, efallai yn chwilio am atebion, ond herio'r meddylfryd mewn gwirionedd, a herio arferion presennol mewn ysgolion a sicrhau eu hunain eu bod nhw'n cymryd y camau sy'n angenrheidiol. Bydd hynny, wedyn, yn cael ei atgyfnerthu drwy adnewyddu'r adnoddau llwyth gwaith a'r llwybr hyfforddi sy'n bodoli eisoes, gan fod deunyddiau ar gael, ac mae angen i ni sicrhau eu bod nhw mor berthnasol a chyfredol ag y dylen nhw fod, a gwneud yn siŵr eu bod yn mynd yn ôl allan i'r ysgolion ac, yn hollbwysig, ceisio gweithio gyda'n consortia rhanbarthol i edrych ar y niferoedd sy'n manteisio ar yr adnoddau hynny. Un peth yw eu cynhyrchu nhw, ond fel y dywedodd Suzy Davies, gyda rhai o'r adnoddau sydd wedi mynd yno o'r blaen, a yw hynny'n effeithio mewn gwirionedd ar arfer mewn ysgolion? Rydym ni'n bwriadu gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i fesur yr effaith honno wrth i ni symud ymlaen.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn nodi pedair blaenoriaeth. Tybed a allai hi egluro ychydig ar y gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Mae gennym ni'r siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles, ac yna'r adnoddau lleihau llwyth gwaith a'r pecyn hyfforddi, ac yna, ar wahân, y modelau hyfforddi, rwy'n credu, sy'n dod oddi wrth y consortiwm. Tybed a allai hi ein helpu ni i ddeall ychydig yn well sut y bydd y tair menter hynny'n rhyngweithio â'i gilydd?

O ran yr ymarfer archwilio ar draws y sector, unwaith eto, a gaf i eglurhad o ba un a yw hyn wedi cael ei wneud o'r blaen, ac os felly, pa mor bell yn ôl? A oes unrhyw beth i adeiladu arno yn y fan yma?

Ceir haen ganol, mewn gwirionedd. Gweinidog Addysg, rydych chi wedi dweud cryn dipyn yn eich atebion i ddatganiadau eraill am yr awdurdodau addysg lleol, ond fe gefais i fy nharo nad oedd sôn amdanyn nhw yn eich datganiad ysgrifenedig ei hun. Rwy'n meddwl tybed, yn y maes hwn, beth yw eu swyddogaeth nhw. Beth a fyddech chi'n hoffi iddyn nhw fod yn ei wneud i helpu i leihau biwrocratiaeth? Rydych chi'n rhoi pwyslais ar gyfochri a chysondeb o ran y modd y mae athrawon ac eraill yn ymdrin â cheisiadau am ddata, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod y gall fod gan awdurdodau lleol arbennig ymagwedd benodol sy'n gweithio i'w hysgolion nhw ac yn ymdrin â'u blaenoriaethau democrataidd lleol ac anghenion yr ysgolion yn eu hardaloedd nhw? A oes meysydd o'r fath lle y gallai fod yn briodol i awdurdodau addysg lleol gael yr wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnyn nhw i fwydo'r blaenoriaethau lleol arbennig hynny?

Yn olaf, o ran rheolwyr busnes ysgolion, gwnaed argraff dda iawn arnaf gan rai o ysgolion Her Cymru, wrth edrych o gwmpas gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, o ran cymaint o argraff a wnaethpwyd arnom ni, rwy'n credu,—ac yn sicr, arnaf i—gan y rheolwyr busnes hynny a'r swyddogaethau yr oedden nhw'n eu cyflawni. O'r hyn a ddywed y Gweinidog, rwy'n credu y dylen nhw allu ailadrodd yr arbedion cost. Os ydyn nhw'n canfod arbedion cost, fe ddylen nhw barhau, gobeithio, a chymharu cyflogau wrth symud ymlaen. Ond nid oeddwn i wedi gwerthfawrogi, wrth ymweld â'r ysgolion Her Cymru hynny, pa mor anarferol oedd y rheolwyr busnes neu i ba raddau yr oedd hynny'n gynllun arbrofol. Mae gennym ni 100 o'r rhain. Ymhle y maen nhw wedi eu gwasgaru? Pa mor realistig yw hi i ysgol uwchradd fawr obeithio gwneud yr holl bethau y mae'r rheolwr busnes yn eu gwneud os nad oes ganddyn nhw'r rheolwr busnes hwnnw yn y swydd?

16:20

A gaf i ddiolch i Mr Reckless am ei gwestiynau? O ran y pedair blaenoriaeth a nodwyd gan aelodau'r grŵp, maen nhw'n adeiladu ar ei gilydd. Yn gyntaf oll, datblygiad y siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles, dyna'r cam cyntaf yn y broses o nodi ble yr ydych chi arni yn eich ysgol, ac i'ch helpu chi i hunanwerthuso, a gallu dangos fel arweinyddion ysgol i'ch staff, a darpar staff, fod hwn yn fater yr ydych yn ei gymryd o ddifrif os ydych chi wedi ymrwymo i'r siarter hwnnw. Yna, wrth gwrs, weithiau, bydd angen help a chefnogaeth arbennig ar ysgolion i roi arferion newydd ar waith. Dyna ble, wedyn, y mae gennym ni'r adnoddau a'r pecyn hyfforddi sy'n lleihau'r llwyth gwaith, gan nodi, efallai, fod angen i chi wneud mwy yn eich ysgol, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar rai ysgolion i ddeall yn union beth yw arfer gorau a sut y gallan nhw gymryd camau effeithiol os ydyn nhw wedi canfod bod angen iddyn nhw wneud hynny. Dyna lle mae'r adnoddau yn dod i'r amlwg.

Mae arferion mewn ysgolion yn newid cryn dipyn, ac felly cafodd yr adnoddau hynny eu datblygu'n bennaf yn 2017, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu hadnewyddu a'u diweddaru o ran ble'r ydym ni yn y system erbyn hyn. Mae angen hefyd i ni weithio, wedyn, gyda'n consortia rhanbarthol, ein gwasanaethau gwella ysgolion, oherwydd y mae angen i ni weld lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth yn rhan o system i wella ysgolion, yn hytrach nag er ei fwyn ei hunan yn unig. Mae'n rhaid bod diben iddo. Nhw wedyn fydd â'r cyfrifoldeb arweiniol o sicrhau eu bod yn dosbarthu modelau hyfforddi ac astudiaethau achosion enghreifftiol ar draws y pedwar consortiwm, a hynny yn gyson, felly ni waeth ble byddwch chi'n gweithio yng Nghymru, fe fyddwch chi'n gwybod eich bod yn cael cyfradd benodedig o wybodaeth a chymorth, a hefyd i helpu i roi adborth i mi ar fonitro'r niferoedd sy'n defnyddio'r deunyddiau hyfforddi hynny, fel bod gennym ni yn y canol well syniad o ran bod y prosesau hyn, mewn gwirionedd, yn cael effaith mewn lleoliadau addysg unigol.

O ran yr haen ganol a swyddogaeth awdurdodau addysg lleol, a gaf i sicrhau'r Aelod eu bod nhw wedi eu cynrychioli ar y grŵp hwn? Felly, nid ydyn nhw'n cael eu heithrio o'r grŵp hwn. Maen nhw'n aelodau allweddol o'r grŵp hwn, ac yn hollbwysig, maen nhw hefyd wedi cytuno i ymrwymo i'r archwiliad. Efallai fod cyfiawnhad mewn achos o awdurdod addysg lleol unigol yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gasglu data mewn ffordd arbennig. Mae angen iddyn nhw ddangos, er hynny, pam mae hynny'n berthnasol a pham mae hynny'n angenrheidiol, ac nad ydyn nhw ddim ond yn gofyn i'r ysgolion wneud hynny am ddim rheswm, ac nad yw'r data wedyn yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi o safbwynt yr awdurdod addysg lleol. Felly, nid oes gennyf i broblem gyda chasglu data ar yr amod eu bod yn ddefnyddiol, yn cael eu defnyddio, ac yn arwain mewn gwirionedd at godi safonau yn ein hysgolion. Felly, pe gallai awdurdod lleol unigol gyfiawnhau hynny i'w ysgolion, i'w benaethiaid, nid oes rheswm pam y dylid eu hatal rhag gwneud hynny, ond mae'n rhaid i chi dynnu'r trawst o'ch llygad eich hun yn gyntaf, a dyna pam yr ydym ni'n dechrau gyda gofynion Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod ni'n ymarfer yr hyn a bregethwn o ran y data yr ydym ni'n gofyn i ysgolion eu casglu. Oherwydd sawl gwaith yn y Siambr hon yr ydym ni wedi sefyll yma ac weithiau mae prinder data yn broblem i ni, ac yna rydym ni'n dweud, 'Wel, fe ddylem ni ofyn i ysgolion wneud mwy o hynny'? Felly, y ni ein hunain, weithiau, sy'n gyfrifol am sbarduno'r galw hwn am i ysgolion wneud mwy a mwy a mwy o waith papur, ac mae angen i ni bwyllo a myfyrio a meddwl o ddifrif am yr hyn yr ydym ni'n gofyn i ysgolion ei wneud, ac a yw hynny'n ychwanegu gwerth.

O ran y rheolwyr busnes, roedd rhai ysgolion eisoes yn cyflogi rheolwyr busnes. Mae'r arbrawf yn ymdrech i ledaenu'r arfer gorau hwnnw a, thrwy ddefnyddio rhywfaint o arian Llywodraeth Cymru, gydag arian hafal gan yr awdurdodau lleol, i allu profi'r achos efallai i rai o'r bobl hynny sy'n amau gwerth y swyddi penodol hyn, sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau llwyth gwaith ac ysgogi buddion eraill drwy gyflogi'r unigolyn hwnnw. Yn ddealladwy, weithiau, efallai y bu ysgolion unigol ac awdurdodau lleol unigol yn gyndyn o arbrofi ac ysgogi'r swyddi hyn. Drwy ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi ceisio dangos—a gobeithio y bydd y gwerthusiad yn dangos—effeithiolrwydd y swyddi hynny a pham y maen nhw'n bwysig. Mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd mawr sydd gennym ni, maen nhw'n cynnig swyddogaeth bwysig iawn sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr nid yn unig gan benaethiaid ac uwch reolwyr, ond yn aml yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y disgyblion, oherwydd bod math gwahanol o weithiwr proffesiynol yno y gall disgybl gael perthynas ag ef, a bydd plant yn dymuno siarad â rheolwyr busnes yr ysgol am eu problemau weithiau ac nid â'r athrawon proffesiynol. Felly mewn gwirionedd, nid yn unig eu bod nhw'n cael trefn ar y papur, y llungopiwyr, yr holl archebion, yn talu'r biliau, yn trefnu pethau eraill; mewn gwirionedd, mae llawer ohonyn nhw wedi sefydlu perthynas wirioneddol bwysig gyda phlant yn yr ysgolion, ac maen nhw'n aelodau gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Rwy'n cymeradwyo'r holl reolwyr busnes sy'n gweithio mor galed yn ein hysgolion yng Nghymru heddiw, a gobeithio y bydd y cynllun arbrofol yn dangos eu gwerth mewn modd hyd yn oed mwy amlwg.

16:25
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Goblygiadau Cynigion Mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Economi Ehangach

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynglŷn â goblygiadau cynigion mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r economi ehangach. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddais ddatganiad ichi wythnos diwethaf ynglŷn â Brexit a'r effaith niweidiol y mae'r parlys gwleidyddol a'r ansicrwydd parhaus yn ei chael ar yr economi. Rwy'n dra ymwybodol y bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn arbennig sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn teimlo yn ansicr iawn. Rydym ni wedi bod yn glir bob amser ein bod ni'n cydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i’n heconomi a’n cymdeithas, ac y dylai unrhyw bolisi mewnfudo newydd gael ei adeiladu ar y sail hon.

Rwy'n gwybod bod canlyniad refferendwm 2016 ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd wedi creu cryn ansicrwydd i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Hoffwn fod yn glir bod arnom ni eisiau i wladolion o'r UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw aros yma. Bydd croeso iddyn nhw yma bob amser. Ein neges iddyn nhw fel Llywodraeth yw, 'Rydym ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad at fywyd Cymru, ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymunedau, a bydd croeso i chi yma bob amser.' Rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i warchod buddiannau gwladolion yr UE yng Nghymru, yn y DU, ac i sicrhau y bydd ganddyn nhw'r un hawliau ag sydd ganddyn nhw heddiw.

Ym mis Medi 2017, fe wnaethom ni gyhoeddi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'. Roedd y ddogfen hon yn edrych ar ran ymfudo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac roedd yn dadansoddi'r modelau posib y gallai Llywodraeth y DU eu mabwysiadu ar gyfer system ymfudo yn y dyfodol, ac effaith bosibl y rhain yng Nghymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol o ran ceisio cyfrannu a llywio'r gwaith o ddatblygu polisi ymfudo yn y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd a manteision ymfudo i Gymru. Hoffwn fod wedi gallu dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y cynigion a gyflwynwyd gennym ni, ac wedi gallu ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, nid yn unig o Gymru ond ledled y DU. Ond yn anffodus rydym ni'n gwybod nad yw hyn yn wir.

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr y llynedd yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer mewnfudo ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fu unrhyw ymgysylltu blaenorol gyda Llywodraeth Cymru, er gwaethaf sicrwydd blaenorol y byddai hyn yn digwydd. Mae'r cynlluniau yn y Papur Gwyn yn anwybyddu pwysau'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ynghylch yr effaith negyddol ar yr economi o fabwysiadu ymagwedd fwy cyfyngol at ymfudo. Mae gwaith a gomisiynwyd gennym ni gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y byddaf yn cyfeirio ato'n fanylach yn y man, wedi cadarnhau ei bod hi'n briodol ein bod ni'n parhau i bryderu'n ddirfawr am y dull gweithredu hwn, sydd yn gyfyngol iawn ac a fydd yn sicr o gael effaith andwyol ar economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' fe wnaethom ni gynnig ffordd o fynd i'r afael ag ymfudo oedd yn hyblyg ond wedi'i rheoli, lle byddai pobl o Ewrop yn gallu symud i'r DU pe bai ganddyn nhw gynnig swydd blaenorol neu pe bai ganddyn nhw'r gallu i ddod o hyd i swydd yn gyflym. Fe wnaethom ni ddadlau y dylai'r ymagwedd gymharol agored hon at ymfudo gael ei hategu gan orfodaeth lem ar ddeddfwriaeth i atal camfanteisio ar weithwyr a thanseilio cyflogau ac amodau, wrth gefnogi ein heconomi. Fe wnaethom ni osod fframwaith rhesymegol ar gyfer ymfudo y credem ni y byddai nid yn unig yn diwallu anghenion Cymru, ond a fyddai hefyd yn gweithio dros y DU gyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i'n cynigion, mae'r Papur Gwyn yn cynnig cyflwyno un system fewnfudo a fydd yn rhoi terfyn ar ryddid i symud a'r driniaeth ffafriol a gaiff dinasyddion yr UE. Bydd yn rhaid i ddinasyddion yr UE a dinasyddion nad ydynt yn aelodau o'r UE sydd eisiau dod i'r DU i weithio fel arfer wneud cais am fisa, ac ni fydd y rhai sy'n ennill llai na throthwy cyflog yn gymwys. Yn y Papur Gwyn, mae'r Llywodraeth yn awgrymu y gallai'r trothwy gael ei bennu ar £30,000, er nad yw hynny eto, diolch byth, yn bolisi sefydledig.

Effaith y cynigion hynny fyddai lleihau ymfudiad o'r UE i'r DU yn sylweddol. Byddai'r newidiadau'n effeithio nid yn unig ar yr hyn y mae'r Papur Gwyn yn ei alw'n weithwyr 'sgiliau isel' a'u cyflogwyr—byddai'n debygol o effeithio hefyd ar y rheini â sgiliau canolraddol, er enghraifft nyrsys, rheolwyr gofal ac eraill. A dylwn ddweud nad ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno disgrifio gweithwyr sy'n gwneud gwaith yr ydym ni'n dibynnu arno fel rhai 'sgiliau isel'. Credwn fod gweithwyr â phob math o sgiliau yn ychwanegu gwerth i'n cymdeithas ac i'n heconomi.

Er mwyn mynd i'r afael â nifer o bryderon ynghylch cynlluniau Whitehall ar gyfer mewnfudo, roedd yn hanfodol ein bod yn casglu tystiolaeth ynghylch pa mor ddifrifol fyddai'r effeithiau. Ac felly, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ystyried sut y byddai'r system fewnfudo arfaethedig yn effeithio ar Gymru. Roedd hyn yn cynnwys archwilio effaith atal gweithwyr tramor rhag aros yn y DU am fwy na blwyddyn os ydyn nhw'n ennill llai na £30,000. Cyhoeddodd canolfan Cymru ei hadroddiad ym mis Mawrth ac, yn anffodus, ni wnaeth dim ond cadarnhau ein hofnau na fyddai cynigion Llywodraeth y DU o ran ymfudo yn gwneud dim i helpu cyflogwyr a byddai'n ergyd drom i economi Cymru. Byddai cynlluniau'r Llywodraeth yn cael effaith wirioneddol ar y sectorau preifat a chyhoeddus. Byddai'r effaith ar Gymru'n fwy anghymesur na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, o ran nifer y bobl sy'n ymfudo i gael gwaith, ac mae amcangyfrif y byddai cynnyrch domestig gros yng Nghymru yn gostwng rhwng 1 y cant a 1.5 y cant dros 10 mlynedd.

Rwy'n bryderus iawn y byddai system fewnfudo mor gyfyngol ar ôl Brexit yn arwain at brinder sgiliau gwirioneddol yn ein sectorau economaidd allweddol. Er enghraifft, mae gennym ni eisoes nifer fawr o ddinasyddion yr UE yn gweithio yn y sectorau prosesu bwyd a hylendid bwyd. Mae gennym ni hefyd sectorau eraill dan fygythiad ac sy'n wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, megis gofal cymdeithasol a gweithgynhyrchu. Mae'r galw am ofal yn cynyddu, ac mae gweithgynhyrchu'n dibynnu'n helaeth ar weithwyr o'r UE. Nid cyfyngu ar fynediad i lafur o'r UE yw'r ateb. Nid agwedd arall ar y Papur Gwyn yw'r ateb ychwaith, yr ymddengys ei bod wedi'i chyflwyno ar y funud olaf mewn ymgais ofer i dawelu meddyliau cyflogwyr—y cynnig i gyflwyno cynllun gweithwyr dros dro, a fyddai'n galluogi i unigolion o rai gwledydd weithio yn y DU am 12 mis yn unig, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddyn nhw adael. Dirprwy Lywydd, onid yw hi'n amlwg nad cynllun o'r fath yw'r ateb o gwbl i brinder sgiliau a llafur mewn sectorau megis gofal cymdeithasol, lle mae arnom ni angen lleihau ac nid cynyddu trosiant staff. Byddai cynllun o'r fath yn anfoesol ac yn aneffeithiol.

Ar y llaw arall, rydym ni'n glir, os a phan fyddwn ni'n gadael yr UE, y byddwn yn parhau i fod ag angen polisi ymfudo sy'n caniatáu i Gymru ddenu'r math priodol o weithwyr i bob maes, boed hynny'n iechyd, gofal cymdeithasol, twristiaeth, addysg uwch neu gynhyrchu bwyd. Nid wyf eisiau gweld nyrsys, meddygon iau, a gweithwyr eraill sydd eisiau gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n diwydiannau yn ei chael hi'n fwy anodd ac yn llai deniadol i ddod i Gymru yn y dyfodol. Ac nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chwtogi ar hawliau i'r rhai sydd eisiau dod i'n gwlad, mae cyflogwyr Cymru yn poeni'n ddigon teg a fyddant yn gallu recriwtio a chadw gweithwyr o'r UE. Mae cynaliadwyedd eu busnesau'n dibynnu'n aml ar y gweithwyr hynny o'r UE, yn ogystal â sicrwydd swyddi gweithwyr Cymru yn y busnesau hynny.

Hyd yn oed i'r swyddi hynny sy'n talu cyflogau sy'n uwch na'r trothwy cyflog, bydd beichiau newydd. Ar hyn o bryd, mae ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn rhoi ychydig iawn o faich gweinyddol ar weithwyr, ar gyflogwyr, neu ar Lywodraeth y DU—mae pasbort neu gerdyn adnabod yn ddigonol i brofi eich bod yn dod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir—ac nid oes costau uniongyrchol o ran mewnfudo. Yn dibynnu ar y system a weithredir a faint o reolaeth sydd, bydd beichiau ariannol a gweinyddol ychwanegol amrywiol. Mae'r peryg y caiff y costau hyn eu hehangu i gynnwys dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn creu baich sylweddol a chostus ar fusnesau ac mae'n sicr o atal twf yn y DU. Yn fwy cyffredinol, mae peryglon niferus yn ymwneud â gweinyddu, gweithredu a gorfodi unrhyw system newydd.  

Fel yr eglurais yr wythnos diwethaf, safbwynt Llywodraeth Cymru yw ymgyrchu dros refferendwm ac aros yn yr UE. Ond os ydym ni'n mynd i adael, mae'n hanfodol ein bod yn perswadio Llywodraeth y DU y byddai eu polisi ymfudo dim ond yn dwysáu'r niwed bwriadol y maen nhw'n ei achosi i economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae arnom ni angen dull hyblyg, rheoledig, o ymdrin â mewnfudo sy'n deg ac sy'n gallu cyfrannu at ein ffyniant.

Fel y mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ei gwneud hi'n glir, os oes rhaid i'r DU gael trothwy cyflog o gwbl, dylai fod yn llawer llai, efallai yn £20,000. Nid yr ateb yw cynnig rhoi rhestr ar wahân i Gymru, fel yr Alban, ar gyfer swyddi lle ceir prinder, er bod hynny i'w groesawu, os yw galwedigaethau ar y rhestr, fel sy'n wir ar hyn o bryd, yn dal i fod yn ddibynol ar yr un trothwy cyflog. Yn wir, mae'r holl gysyniad o restr swyddi lle mae prinder, fel y mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, dyddiedig 29 Mai, yn dangos yn glir, dim ond yn gwneud synnwyr mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau rhifol ar nifer y fisâu sydd ar gael—un agwedd fileinig o'r system bresennol nad yw'r Papur Gwyn yn cynnig ei efelychu ar ôl Brexit.

Dirprwy Lywydd, i gloi, rhaid inni gael polisi ymfudo teg ar waith, un sy'n amddiffyn dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw ac sy'n sicrhau y diwellir ein hanghenion yn y farchnad lafur yn y dyfodol. Dylai unrhyw drothwy cyflog fod yn llawer llai na £30,000. Mae cefnogaeth eang i wneud hyn, yn ogystal â sicrhau bod y system newydd mor hyblyg ac mor hawdd ei defnyddio â phosib. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n dal i gael ei gweld fel lle deniadol i fyw ac i weithio a'n bod yn dal yn genedl groesawgar. Mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn proses ymgysylltu 12 mis gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle mae gwahanol agweddau ar y Papur Gwyn ar fewnfudo yn cael eu trafod bob mis. Byddaf yn parhau i wneud mwy o waith ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref, ar lefel weinidogol ac yn swyddogol, a byddaf yn parhau i sicrhau y dadleuir yn drwyadl dros yr hyn sydd orau i Gymru a'n pobl. 

16:35

Mae'n amlwg iawn i mi fod y gallu i reoli mewnfudo yn rhywbeth oedd ar feddyliau llawer o bobl wrth bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym Mehefin 2016. A hyd yn oed ymhlith y rhai a bleidleisiodd dros aros, roedd llawer o bobl o hyd a oedd yn pryderu am yr hyn a ystyriant yn fewnfudo anghynaladwy i'r DU, ac, wrth gwrs, roedd rhai o'r pryderon hynny i'w gweld ymysg pobl Cymru hefyd. Yn wir, mae arolwg agweddau cymdeithasol Prydain yn awgrymu bod 86 y cant o'r ymatebwyr yng Nghymru yn credu y dylid lleihau mewnfudo, ac mae hynny'n fwy nag ar draws y DU yn gyffredinol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenllaw ym mhob un o'n meddyliau wrth inni ystyried y mater hwn o fewnfudo.

Fel chithau, mae fy mhlaid wedi'i gwneud hi'n glir iawn, er ei bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ni'r gallu i reoli ein ffiniau ein hunain a bod gennym ni ein polisi mewnfudo ein hunain, fod yn rhaid inni wneud hynny gan gydnabod cyfraniad aruthrol mewnfudo yma yng Nghymru a'r DU yn ehangach dros y blynyddoedd, sydd wedi cyfoethogi ein cymunedau ac, yn wir, dod â sawl persbectif newydd, gwahanol i fywyd a helpu i gynyddu'r twf yr ydym ni wedi'i weld yn ein heconomi yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, yn sicr, rydym ni'n gwerthfawrogi hynny. Ac roeddwn ychydig yn siomedig na wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn gwneud yr un peth â Llywodraeth Cymru o ran myfyrio ar werth mewnfudo'n ehangach.

Nawr, pan bleidleisiodd pobl Cymru i adael, un peth na wnaethon nhw bleidleisio drosto oedd parhau â'r un hen drefn ac, wrth gwrs, sylweddolaf fod safbwynt eich plaid yn un lle'r ydych chi eisiau ein gweld yn parhau yn yr UE nawr, ond, wrth gwrs, pan ofynnwyd i bobl Cymru, dydyn nhw ddim eisiau hynny, yr hyn y maen nhw eisiau ei weld mewn gwirionedd yw rhywfaint o newid. Ac maen nhw hefyd eisiau cael system fewnfudo deg, rwy'n credu. Nawr, mae eich dogfen Llywodraeth, y ddogfen 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', yn ei gwneud hi'n glir iawn mai eich uchelgais, pe bai'r DU yn gadael yr UE, yw bod â system debyg i'r un a fodolai o'r blaen. Mewn geiriau eraill, dim newid o'r system flaenorol fel bod yr ymfudwyr hynny o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac o'r Swistir sydd eisoes yn dod i weithio yn y DU yn gallu cael yr un cyfleoedd gwaith a'r un cyfleoedd o ran budd-daliadau o hyd. Nawr, nid wyf yn credu mai dyna y mae pobl yng Nghymru eisiau ei weld. Dyna pam fy mod i'n credu i hynny ddylanwadu'n fawr ar feddyliau pobl yn y refferendwm hwnnw.

Ac nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod hynny'n agwedd deg at fewnfudo, ychwaith, oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw ei fod yn ffafrio'r mewnfudwyr hynny sydd eisiau dod i'r DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac sydd, mewn gwirionedd, yn achosi problemau i'r rhai sydd eisiau dod o'r tu allan, o'r byd ehangach. Felly nid yw hynny'n deg ac nid wyf yn credu bod hynny'n briodol. Felly, a ydych chi'n derbyn nad yw'n hi'n iawn trin pobl yn wahanol yn dibynnu ar o ble maen nhw'n dod? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd a ydych chi'n croesawu'r addewidion a wnaed yn y Papur Gwyn? Clywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am yr angen i amddiffyn hawliau pobl, o ran y rhai sydd yma eisoes, ac wrth gwrs mae'r Papur Gwyn yn ei gwneud hi'n glir iawn nad ydym ni eisiau amharu ar y bobl hynny sydd eisoes wedi ymgartrefu a sefydlu cartref, pa un ai ydyn nhw'n dod o'r UE neu o fannau eraill, ac ar y sail honno, dylid caniatáu iddyn nhw barhau i aros yma. Ac, wrth gwrs, dyna un o'r pethau eraill y mae'r Papur Gwyn yn ei gynnig: y dylid cael gwarantau ynglŷn â hynny.  

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y terfyn o £30,000, ac rwy'n cytuno â chi bod rhai pryderon ar y meinciau hyn ynghylch y terfyn hwnnw ac a yw hynny'n derfyn priodol i Gymru, o gofio'r ffaith mai ni, yn anffodus, yw'r economi sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain. Felly, a ydych chi'n croesawu'r cyhoeddiadau diweddar gan yr Ysgrifennydd Cartref eu bod yn adolygu'r terfyn hwnnw, a disgwyliaf yn fawr iawn i'r terfyn hwnnw ostwng? Efallai y bydd yn rhanbarthol—credaf fod hynny'n un o'r pethau eraill sydd wedi cael ei gynnig hefyd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr awgrym o £20,000 y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi'i gyflwyno; nid wyf yn siŵr ai dyna'r lefel gywir i Gymru. Yn wir, efallai fod angen iddo fod yn is na hynny mewn rhai mannau, ond byddai'n dda deall rhywfaint o'r rhesymeg dros gyflwyno'r ffigur hwnnw o £20,000.

Ni wnaethoch chi gyfeirio at fyfyrwyr yn eich datganiad o gwbl, ond, yn amlwg, un o'r pethau y mae'r Papur Gwyn yn ei ddweud—Papur Gwyn Llywodraeth y DU—yw ei fod yn rhoi ymrwymiad clir na fydd dim cyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol a all ddod i astudio yma, a byddwn yn gobeithio'n fawr y byddech yn croesawu'r ymrwymiad hwnnw hefyd. Ni wnaethoch chi gyfeirio, ychwaith, at y cam-fanteisio y mae llawer yn ei ddioddef oherwydd caethwasiaeth fodern. Ac rwy'n gwybod y bu Llywodraethau Cymru a'r DU yn benderfynol o gael gwared ar gaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni'n gweld tystiolaeth ohono yn ein cymunedau. A allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un mor ymrwymedig i ddileu caethwasiaeth fodern a'i heffeithiau? Hoffwn dalu teyrnged i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, Joyce Watson, am ei gwaith ar hyn. Mae'n amlwg yn bwysig inni beidio â diystyru hynny drwy ganiatáu i bobl symud yn gwbl rydd. 

Ac un cwestiwn terfynol—[Torri ar draws.] Un cwestiwn terfynol—

16:40

Ac un cwestiwn terfynol, os caf i. Un o'r rhesymau pam mae bylchau yn rhai o'n proffesiynau gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal iechyd ac addysgu, mewn gwirionedd, yw methiant i gynllunio ar gyfer anghenion gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd. Ac, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl yw cynllunio ar gyfer y gweithlu a sicrhau bod gennym ni niferoedd digonol o athrawon, meddygon a nyrsys yn dod drwy'r gyfundrefn. A ydych chi'n derbyn eich bod yn gyfrifol am fethu â chynllunio ar gyfer y gweithlu, a bod hynny'n achosi'r angen i wneud iawn am rai o'r prinderau hyn yn ein gweithlu oherwydd eich methiant i gynllunio'n ddigonol? Diolch.

16:45

Diolch i Darren Millar am rai o'r cwestiynau hynny. Rwy'n derbyn, i rai pobl, efallai nifer o bobl, fod y cwestiwn o ymfudo yn ffactor allweddol yn eu penderfyniad i bleidleisio fel y gwnaethon nhw yn 2016. Ac rwyf hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i ni roi sylw i ganfyddiadau pobl o ran ymfudo. Ond siawns mai rhan o'r broses o fynd i'r afael â'r canfyddiadau hynny yw amgyffred y canfyddiadau hynny o ran y gwirioneddau ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond atgyfnerthu canfyddiadau yr ydym ni gyd yn gwybod nad ydyn nhw'n wir. Mae hynny'n rhan o'r dasg y dylem ni ei gosod i ni ein hunain fel Cynulliad ym mhob plaid—nid yn unig i dderbyn bod gan bobl gyfres o ganfyddiadau, ond i drafod â phobl a chyflwyno'r achos pam y mae'r canfyddiadau hynny, fe wyddom ni, yn seiliedig ar gamargraffiadau mewn sawl achos.

Gwyddom fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—llawer o wasanaethau cyhoeddus, nifer o sectorau economaidd, yn dibynnu'n sylweddol ar ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Does dim diben cymryd arnoch chi nad yw hynny'n wir. Felly, mae angen inni ddweud hynny wrth bobl. Mae angen i ni sôn wrth bobl mewn busnesau cynhyrchu bwyd am y peryglon o ran eu cyflogaeth a'u lles yn y dyfodol o ran y newidiadau hyn. Mae angen inni drafod â phobl a chyfleu'r safbwyntiau hynny, nid ategu'r canfyddiad hwnnw sydd gan bobl. Mae angen inni ddweud wrth bobl fod pobl sy'n symud i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd yn llai tebygol o fod ar fudd-daliadau na phobl sy'n byw yma beth bynnag, maen nhw'n fwy tebygol o fod mewn gwaith, mae eu cyfraniad i'r trethi a gesglir gan Lywodraeth y DU yn fuddiol, eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol, bod mewnfudo sylweddol yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, ar arloesi. Mae'r rhain yn rhannau sylfaenol o'r ddadl, na wyntyllwyd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, tra bo canfyddiad yn un peth, siawns mai'r hyn y dylem ni fod yn ei drafod yw'r gwirionedd ac egluro i bobl beth yw'r canlyniadau o wneud dim byd ond ategu eu tybiaethau. Mae'r rhain yn gwestiynau dyrys, ond rhaid inni seilio ein trafodaethau ar y ffeithiau, nid ar ddim byd ond canfyddiadau.  

Gwahoddodd fi i longyfarch Llywodraeth y DU o ran y ffordd y mae hi wedi mynd ati. Rwy'n mynd i wrthod y gwahoddiad hwnnw, a'r rheswm fy mod i'n mynd i wneud hynny yw—. Cymerwch un enghraifft o'r cynllun statws preswylydd sefydlog. Nid dyna'r math o gynllun y byddai Llywodraeth a oedd eisiau dangos ymrwymiad i les dinasyddion yr UE yn y DU yn ei sefydlu: cynllun sy'n codi tâl ar bobl i fod â hawl i aros yn y DU—pobl sydd wedi bod yn byw yma, mewn llawer achos, ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu teuluoedd yma.[Torri ar draws.] Wel, does dim tâl—ni ddylid erioed fod wedi codi tâl. Mae'r Llywodraeth wedi ailfeddwl ynglŷn â hynny, ond roedd hi, a dweud y gwir, yn warth gofyn i bobl dalu yn y lle cyntaf. Cynllun sy'n—. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, dim ond un ganolfan sydd yng Nghymru, yng Nghaerffili, lle, os nad oes gennych chi ffôn Android, ni allwch chi lanlwytho dogfennau sy'n ofynnol er mwyn i chi gael statws preswylydd sefydlog. Nid yw hynny'n weithred gan Lywodraeth sy'n ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gyffredinol yn gallu cymhwyso'n rhwydd a di-lol ar gyfer y cynllun hwn. Mae pobl, rydym ni'n gwybod—. Mae'r cynigion sydd gan y Llywodraeth o ran ymadael heb gytundeb hyd yn oed yn fwy didostur, felly nid fel hyn y byddai Llywodraeth yn mynd ati petai'n ceisio cofleidio cyfraniad dinasyddion yr UE i Gymru ac i'r DU yn ehangach.

Fe wnaethoch chi sôn am—. Soniodd yr Aelod yn ei gwestiwn am ymfudo wedi'i reoli. Mae 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn disgrifio math o bolisi ymfudo sydd â chysylltiad llawer agosach â chyflogaeth—pa un a oes gennych chi swydd neu'r gallu i gael swydd. Ac rwy'n croesawu ei fod yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â chamfanteisio—sy'n gwbl greiddiol i'r ddogfen bolisi honno, ac rwy'n falch o'i glywed yn sôn am hynny a'i ymrwymiad i hynny yn y Siambr.  

Rwy'n croesawu'r posibilrwydd—yn wir, yn gobeithio am y tebygolrwydd—y caiff y ffigur o £30,000 ei ddileu. Nid yw'n gweithio i Gymru; mae £20,000 yn ffigur gwell. Yn wir, rydym ni wedi argymell hynny i Lywodraeth y DU, a byddwn yn eu gwahodd i gyflwyno newidiadau cyn gynted â phosib er mwyn tawelu meddyliau cyflogwyr. Croesawaf y cyfeiriad a wnaeth at fyfyrwyr. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n well â'r gweinyddiaethau datganoledig, byddai wedi llunio cynllun a fyddai'n adlewyrchu anghenion y gweinyddiaethau datganoledig yn well o ran addysg uwch. Gyda system yr Alban, er enghraifft, graddau pedair blynedd yw'r safon. Doedd hynny ddim yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun gwreiddiol. Felly, rwy'n annog Llywodraeth y DU yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod i drafod mewn ffordd well o lawer nag y gwnaethon nhw wrth baratoi'r Papur Gwyn.

Yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ynghylch i ba raddau yr ydym ni'n barod i nodi gofidiau a phryderon pobl neu i esbonio a thrafod y maes polisi hollbwysig hwn ar sail ffeithiau, ac rwy'n annog y blaid gyferbyn i ymdrin â'r mater ar y sail honno, fel yr wyf i'n bwriadu ei wneud.

16:50

Hoffwn ddechrau gyda neges syml: bu croeso erioed i ymfudwyr yng Nghymru a dyma fydd yr achos o hyd yn y dyfodol. Mae croeso i chi, cewch eich gwerthfawrogi, a bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio i amddiffyn eich hawliau. Bob wythnos, rydym ni'n trafod yn y Siambr hon y peryglon i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Brexit, a dyma ni eto'n trafod newidiadau enfawr a gynigiwyd gan Lywodraeth San Steffan, y tro hwn ym maes ymfudo, a allai o bosib greu niwed difrifol. Ar ôl paratoi cyn y datganiad hwn, fe'm calonogir gan y ffaith bod y Gweinidog wedi sylwi ar yr un peryglon ag a wnes i o ran bygythiad cynigion Llywodraeth y DU i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwaith ardderchog a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wrth ddarparu dadansoddiad trylwyr o'r materion dan sylw.

Rhaid imi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi sôn am unrhyw beth rhagweithiol y mae'n bwriadu ei wneud. Ar ôl cyfaddef bod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu pryderon Llywodraeth Cymru yn llwyr hyd yn hyn, dywed nad oedd dim trafod blaenorol—a ddylai fod yn syfrdanol, ond nid yw felly, oherwydd dyma sut y mae San Steffan wedi trin Cymru erioed. Nid yw'n ddigon da dweud nawr ei fod yn gobeithio y byddant yn gwrando yn y dyfodol. Mae'n gwybod na fyddan nhw; rwy'n gwybod na fyddan nhw; mae pob Aelod synhwyrol yn y Siambr hon yn gwybod na fyddan nhw. Mae'r amser wedi dod i fynnu mwy o bwerau i Gymru, Gweinidog, fel y gallwn ni fynd ati ein hunain i amddiffyn yr economi yn hytrach na gwneud ceisiadau mynych sy'n cael eu hanwybyddu.

Caiff miloedd o ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw'n ddinasyddion y DU eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru ac maen nhw'n treulio eu bywydau gwaith yn gofalu am iechyd pobl sy'n byw yng Nghymru ac rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hymdrechion. Mae GIG Cymru yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o gael ei werthu gan Lywodraeth y DU ar un llaw, a gweld ei weithlu posib yn edwino ar y llall. Wrth gwrs, gellid osgoi'r ddau bosibilrwydd pe baem yn cael refferendwm ac yn penderfynu aros yn yr UE, sef yr hyn y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn ei gefnogi.

Mae nifer anghymesur o weithwyr mudol hefyd yn y sector gofal cymdeithasol, sy'n bryder enfawr, gan fod newidiadau demograffig yn golygu y bydd y gymhareb o bobl hŷn o gymharu â gweithwyr iau yn cynyddu, sy'n golygu y gallwn ni o bosib fod mewn sefyllfa lle bydd mwy o bobl sydd angen gofal a llai o bobl o oedran gweithio i'w cefnogi, sy'n bryder difrifol.

Gweinidog, cred Plaid Cymru na ddylai fisâu addysg fod yn rhan o unrhyw gwotâu mewnfudo fel na fydd ein prifysgolion dan anfantais. Felly, dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau dros reolau mewnfudo ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr. Mae rhannau eraill o economi Cymru, yn enwedig gweithgynhyrchu, arlwyo a'r sector bwyd a diod, yn dibynnu'n helaeth ar weithwyr mudol a byddwn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru ein sicrhau ni ei bod yn gwneud popeth priodol i ddiogelu eu buddiannau.

Mae Plaid Cymru yn anghytuno â Llywodraeth Lafur Cymru y dylai rhyddid i symud ddod i ben. Mae rhyddid i symud yn foesol gywir ac yn gwneud synnwyr economaidd. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn arno, cytunaf â'r Gweinidog na ddylai'r trothwy incwm arfaethedig o £30,000 fod yn berthnasol i Gymru, ac rwyf i, o leiaf, yn falch o glywed bod unfrydedd yn hynny o beth ar bob ochr i'r Siambr, gan fod cyflogau cyfartalog is yma yn golygu na fyddwn ni'n gallu denu'r gweithwyr sydd eu hangen arnom ni. Bydd nyrsys, meddygon iau, milfeddygon a llawer o rai eraill yn ei chael hi'n llawer anoddach dod i Gymru oni chaiff y cynigion hyn eu diystyru. Rydym ni eisiau Cymru sy'n croesawu pobl o bob cefndir, nid dim ond y rheini sy'n ddigon ffodus i allu ei fforddio. O ran yr hyn y carai Plaid Cymru ei weld, yn gyntaf oll, dylai Llywodraeth Cymru fod yn galw am ddatganoli polisi mewnfudo er mwyn inni allu rheoli'r broses o bennu'r cwotâu sydd yn fwyaf synhwyrol i'n heconomi. Ac, yn olaf, dylem yn sicr fod yn rheoli ein cyfran boblogaeth o fewnfudo i'r DU, sef 5 y cant, ac fe ddylem ni hefyd fod â'r hyblygrwydd i gynyddu hyn gyda newidyn canrannol os bydd angen hynny ar ein heconomi, neu os yw ein poblogaeth yn tyfu'n rhy araf. A wnewch chi gefnogi Plaid Cymru nawr wrth alw am hyn, Gweinidog?

Rwyf hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru greu cofrestr swyddi lle mae prinder sgiliau i nodi lle mae gennym ni fylchau sgiliau nawr, gan geisio rhagweld hefyd lle maen nhw'n debygol o ymffurfio mewn sectorau gwahanol, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cael y staff sydd eu hangen arnynt. Lle mae'r prinder yn ddifrifol, dylai Llywodraeth Cymru roi cynlluniau ar waith ar unwaith i hyfforddi gweithwyr ychwanegol gartref i atal diffygion niweidiol yn y dyfodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo o'r diwedd i wneud hyn?

16:55

Diolch i'r Aelod, yn benodol, am y ffordd y cychwynnodd ei chwestiwn gyda'r croeso i ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bwysig, ar adegau anodd fel y rhain, i hynny gael ei ailadrodd mor aml â phosib yn y Siambr hon, er mwyn i bobl gael sicrwydd o'n hymrwymiad i'w lles a'u croeso yng Nghymru.

Gofynnodd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â hyn. Rydym ni wedi, ac rydym ni yn gwneud sawl peth penodol. Gellid cyflawni'r math o bolisïau a ddisgrifir yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn bennaf, hyd yn oed yng nghyd-destun parhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, felly mae hynny'n gyfraniad at y ddadl ar bolisi sydd yn ein tyb ni yn dal i fod yn bwysig ac sy'n dal yn werth ei ystyried a myfyrio yn ei gylch.  

Rhoesom dystiolaeth, fel mae hi'n gwybod, i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo yn benodol o ran y sylw a wnaeth tua diwedd ei chwestiynau ynglŷn â'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer swyddi lle mae prinder penodol. Rhoesom dystiolaeth o ran gofal cymdeithasol, cynhyrchu bwyd—lle mae dibyniaeth ar y milfeddygon a hyfforddwyd yn yr Undeb Ewropeaidd yn uchel iawn, iawn, o ran gweithgynhyrchu, addysg uwch a'r gwasanaeth iechyd ac, yn wir, rhai sectorau eraill. Rhoesom y dystiolaeth honno i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a bydd hi hefyd yn gwybod bod adroddiad y pwyllgor oddeutu wythnos yn ôl wedi argymell, mewn egwyddor, rhestr swyddi lle mae prinder ar gyfer Cymru. Rhoddwyd ystyriaeth i'r sylwadau a wnaethom ni yn arbennig ynghylch milfeddygon yn y sector cynhyrchu bwyd, ond cydnabuwyd bod y prinderau hyn yn gyffredin ledled y DU, ac felly, am y tro o leiaf, mae'r pwyllgor wedi penderfynu diwygio'r rhestr o swyddi lle mae prinder ar gyfer y DU neu Gymru a Lloegr.  Rydym ni'n amlwg yn croesawu'r posibilrwydd o gael rhestr ar wahân ar gyfer Cymru o swyddi lle mae prinder, ond y gwir amdani yw, i ddweud y gwir, nad dyna'r prif ateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Y prif ateb yw edrych ar bolisi ymfudo sy'n adlewyrchu'r gwahanol anghenion cyflog a'r gwahanol anghenion sgiliau yn economi Cymru. Felly, er ei fod yn rhywbeth i'w groesawu, rwy'n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â dim ond edrych ar drefniadau gweinyddol ar wahân, pan, mewn gwirionedd, yr hyn mae arnom ni ei eisiau yw newid sylweddol sy'n effeithio ar economi Cymru.

Rydym ni wedi cyllido, drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, fel y gŵyr hi, efallai, wasanaeth cyngor mewnfudo i ddinasyddion yr UE, sy'n helpu, yn enwedig, dinasyddion yr UE sy'n agored i niwed, a allai fod yn oedrannus neu'n byw ar eu pen eu hunain, neu sydd mewn ffyrdd eraill yn anodd eu cyrraedd, fel petai, drwy ddulliau mwy confensiynol. Mae'n darparu gwasanaeth cynghori penodol i'r unigolion hynny ac yn ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hawliau fel dinasyddion yr UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgymryd ag ymarfer cydgysylltu fel bod yr amrywiol sefydliadau yng Nghymru sydd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau cynghori o'r math hwnnw, naill ai wedi'u hariannu gennym ni neu gan Lywodraeth y DU, yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd sy'n osgoi dyblygu ac yn gwneud yn siŵr bod bylchau'n cael eu hosgoi lle bynnag y bo hynny'n bosib. A bydd y fforwm hwnnw, gobeithio, yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau y caiff y cyngor a'r gefnogaeth hynny eu cydgysylltu ar gyfer dinasyddion yr UE ledled Cymru.

Fel y crybwyllais hefyd yn fy natganiad, rydym ni wedi bod yn lobïo, ar lefel gweinidogol a swyddogion, o ran cyfarfodydd Gweinidogion unigol, ond hefyd mewn trafodaethau bord gron lle bu cynrychiolaeth o'r Swyddfa Gartref a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Byddwn yn parhau i wneud hynny, a byddwn yn gwneud hynny ar sail tystiolaeth, sef y sefyllfa lle mae gennym ni—lle'r ydym ni wedi gallu newid safbwynt Llywodraeth y DU ym maes Brexit, gwnaed hynny drwy eiriol yn gref o safbwynt tystiolaeth, a bydd hynny'n parhau, gobeithio, o ran ymfudo hefyd. Mae llawer o'r cynnydd yr ydym ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn wedi ei wneud ar y cyd â Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, ac mae'r maes ymfudo yn un lle mae gennym ni nifer o ddiddordebau a phryderon cyffredin, er, efallai, bod pen draw yr hyn y mae'r ddwy Lywodraeth yn ei geisio o'r amcan polisi hwn yn wahanol.

17:00

A gaf i ddweud wrth y Gweinidog fod y pryderon a amlinellodd heddiw yn y diweddariad a'r datganiad hwn, sydd i'w croesawu, yn cael eu hategu gan lawer o'r hyn y bydd wedi ei glywed gan y grŵp ymgynghorol Ewropeaidd, y rhanddeiliaid hynny sy'n cynrychioli diwydiant, sy'n cynrychioli'r trydydd sector, sy'n cynrychioli trawstoriad eang o gymdeithas yng Nghymru ac sy'n gyfrwng gwerthuso gwych i Lywodraeth Cymru? Felly, nid yw hyn yn dod yn ddirybudd, ac nid oedd yn dod yn ddirybudd pan alwyd y cyfarfod bord gron tua deufis yn ôl, fe gredaf, ym Mharc Cathays, pan anfonodd Llywodraeth y DU eu cynghorwyr i ddod i wrando ar bryderon Cymru, ac fe wnaethom ni fynegi'r pryderon hynny a oedd gan Gymru, fel y mynegwyd nhw yma, ynghylch y ffigur mympwyol o £30,000, ynghylch y mater a ddisgrifiwyd drwy ddefnyddio'r ymadrodd erchyll hwnnw—'gwaith sgiliau isel' a'r effaith y byddai hynny'n ei gael ar bethau fel y sector gofal cymdeithasol, lle'r oedd gennym ni lawer—roedd dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun a gynhaliwyd dros y gaeaf a'r gwanwyn yn dangos i ba raddau yr oedd y sector gofal yng Nghymru, yn y cartref a gofal preswyl, yn agored i'r union gynigion hyn.

Ond hefyd, yr hyn sy'n peri pryder i mi yn y datganiad heddiw yw'r hyn sy'n ymddangos fel diffyg dealltwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gweld yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol, diriaethol ac ystyrlon ynghylch sut y mae anghenion Cymru, o ran mewnfudo—nad ydynt yn wahanol iawn i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud, yn hytrach na dinistrio eu cynigion, ond chwilio mewn gwirionedd am rywfaint o hyblygrwydd a fyddai'n adlewyrchu anghenion Cymru yn y cynllun cenedlaethol. Ond anwybyddwyd hynny, does dim wedi cael ei wneud, ac mae hynny'n siomedig iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid yw'n argoeli'n dda ar gyfer trafodaethau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, yr ydym ni i gyd yn disgwyl clywed yn ei chylch hefyd.

Felly, un neu ddau o gwestiynau, Gweinidog. Un yw: a gaf i ei annog i beidio ag ildio'r ddadl, y drafodaeth â Gweinidogion y DU? Oherwydd ar rai o'r meysydd hyn na fu penderfyniad terfynol yn eu cylch eto, megis y terfyn £30,000, os ydym yn dal i bwyso, efallai y bydd y diffyg dealltwriaeth hynny'n peidio a bydd gennym ni rywfaint o hyblygrwydd yn hynny o beth. Oherwydd y mae arnom ni angen cynllun cenedlaethol ar gyfer y DU, nid cynllun ar gyfer y fan yma, cynllun ar gyfer y fan acw, cynllun i bobman arall; mae arnom ni angen cynllun cenedlaethol ar gyfer y DU a all adlewyrchu'r hyn y mae'r Llywodraethau datganoledig yn gofyn amdano.

A gaf i ofyn hefyd beth mae hyn yn ei olygu, yn y dyfodol, o ran y trafodaethau ynghylch diwygio trefniadau rhyngweinidogol, rhynglywodraethol y DU? Oherwydd siawns nad yw'r diffyg dealltwriaeth yma o du Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn argoeli'n dda, nid yn unig o ran y gronfa ffyniant gyffredin, ond o ran agweddau cyffredinol ynglŷn â thrafodaethau masnach yn y dyfodol ar amrywiaeth eang o bethau. Siawns bod yn rhaid iddyn nhw wrando ar yr hyn y mae'r Alban a Gogledd Iwerddon a Chymru'n ei ddweud. Byddai o fantais inni. Mae rhai, rwy'n sylweddoli, a fydd yn dweud bod hyn yn cyfateb, mewn un ystyr, i'r hyn yr wyf wedi clywed rhai Brexitwyr brwd yn ei ddadlau ynghylch sector cig oen Cymru, sef, 'Does dim ateb iddo. Os byddwn mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb', bydd marchnad cig oen Cymru'n cael ei dinistrio, yn syml iawn. Ond, hei, wyddoch chi, mae e'n bris gwerth ei dalu.' Ymddengys ein bod ni mewn sefyllfa debyg yn y fan hon, gyda Llywodraeth y DU yn dweud, 'Wel, rydym ni'n deall eich pryderon, ond nid ydym yn mynd i wrando arnoch chi.' Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i hynny. Beth mae hyn yn ei olygu i'r cysylltiadau rhynglywodraethol hynny?

Felly, y ddau gwestiwn hynny: a wnewch chi barhau i ddadlau dros hyn ac, yn ail, sut mae hyn yn argoeli ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Gallaf roi ymateb pendant i'w gwestiwn cyntaf: y byddaf yn parhau ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn o beth. Mae'n gywir yn dweud, wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, nad ydyn nhw wedi gwrando ar y sefyllfa yr oeddem ni'n ei hargymell—yn wir, o ran lefelau cyflog, ond hefyd o ran y cynllun gweithwyr dros dro 12 mis hwnnw a'r union syniad o gael cynllun integredig ar gyfer yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac un arall ar gyfer mannau y tu hwnt i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sydd yn amlwg yn mynd at wraidd—. Rydym ni bob amser wedi cefnogi cynllun gwahaniaethol, sy'n galluogi cyfatebiaeth agosach gyda'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.

O ran y pwynt y mae'n ei wneud—a dylwn fod wedi cydnabod hyn yng nghwestiwn Delyth Jewell hefyd—am y cwestiwn hwn o ryw fath o ddimensiwn gofodol, os mynnwch chi, dimensiwn sy'n benodol i Gymru, byddai'n well gennym ni weld cynllun sy'n adlewyrchu anghenion economi'r DU yn ei chyfanrwydd, gan gydnabod mor integredig yn enwedig yw economi Cymru i rannau o economi Lloegr yn benodol. Ond fe ddylwn i fod yn hollol glir; os na fydd gennym ni gynllun o'r fath, byddwn yn pwyso am ddimensiwn gofodol i gydnabod y trefniadau sy'n gweithio i Gymru. Ond y gwir amdani yw, er enghraifft, ar fater lefel cyflog, mewn gwirionedd, nid yw £30,000 yn gweithio i unrhyw ran o'r DU mewn gwirionedd heblaw am dde-ddwyrain Lloegr. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin â rhannau eraill o'r DU ar wahân i dde-ddwyrain Lloegr.

O ran yr ail gwestiwn hwnnw a ofynnodd, am y cysylltiadau rhynglywodraethol a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am hynny, credaf ei fod yn dweud rhywbeth eithaf pwysig wrthym ni am hynny, sef bod sefyllfa lle gallwn ni ystyried pethau fel rhai neilltuedig neu ddatganoledig yn cael ei hesgeuluso gan Brexit. Yr hyn sy'n gynyddol amlwg yw bod gennym ni fuddiannau cyffredin mewn nifer o'r meysydd hyn pa un a yw'r setliad cyfansoddiadol yn dweud wrthym ni fod mater yn un neilltuedig neu wedi'i ddatganoli. Felly, mae ymfudo'n berthnasol i hynny i gyd, onid yw, fel y buom ni'n trafod heddiw. Mae darparu'r gwasanaeth iechyd, darparu gofal cymdeithasol, darparu addysg uwch yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y polisi ymfudo. Felly, nid yw'n bosib, ar un ystyr, gwahanu'r ddau gwestiwn hynny, a chredaf fod hynny'n mynd at wraidd y ffordd y mae angen inni fwrw ymlaen â'r trafodaethau yr ydym ni'n eu cael mewn cysylltiad â'r adolygiad rhynglywodraethol, er enghraifft, un sy'n cydnabod hynny er na fyddem ni efallai'n disgwyl, yn y realiti cyfansoddiadol yr ydym ni'n ei wynebu, fod gennym ni feto ar y materion hynny, y dylem ni bob amser fod yn ceisio, fel pedair rhan o'r Deyrnas Unedig—y dylem ni bob amser geisio, o leiaf, cael dealltwriaeth ar y cyd o'r modd y dylai'r polisïau hyn weithredu ym mhob un o bedair rhan y DU. Nid felly y bu hi hyd yma o ran ymfudo, ond byddwn yn parhau i ddadlau'r achos yn glir ac yn gadarn ar ran Cymru.

17:05

Cwnsler Cyffredinol, onid yw hi'n wir fod y cyfan o'ch datganiad yn cadarnhau i'r sefydliad hwn ac i bobl Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisi drws agored ar fewnfudo? Nid yw'n cyfrif sut y byddwch yn ei addurno gyda chyfeiriadau megis gostwng sylfaen gyflog cynigion Papur Gwyn Llywodraeth y DU neu beidio â chwtogi ar hawliau gweithwyr yr UE. Byrdwn llwyr y ddogfen hon yw bod y Llywodraeth hon, Llywodraeth bresennol Cymru, eisiau gweld mewnfudo torfol yn parhau. A gadewch i ni ddiffinio'r busnes hwn o fewnfudo. Nid oes neb ohonom ni yn y naill na'r llall o'r ddwy blaid yr wyf i erioed wedi eu cynrychioli, wedi siarad am ddim mewnfudo. Nid ydym ni wedi sôn erioed ond am fewnfudo torfol: y math o fewnfudo torfol sydd yn caniatáu cam-fanteisio ar fewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r wlad, y math o fewnfudo torfol sydd yn caniatáu i bobl ddod i mewn i'r wlad hon nad oes ganddyn nhw unrhyw gyfle na phosibilrwydd o gael swydd, y math o fewnfudo torfol sy'n caniatáu i bobl sydd ond â dyheadau troseddol ddod i mewn i'r wlad hon. Dyna beth yr ydym ni'n sôn amdano—mewnfudo torfol, nid mewnfudo fel y cyfryw. Rydym ni wastad wedi dadlau y dylem ni adael i'r bobl sydd eu hangen arnom ni, ddod i mewn i'r wlad hon.

Yn ôl eich datganiad eich hun, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n dweud y bydd sylfaen gyflog o £30,000 yn effeithio ar Gymru'n fwy na gweddill y DU. Onid yw hyn yn gyfaddefiad llwm bod gormodedd o weithwyr di-grefft a lled-grefftus, sef y sefyllfa yng Nghymru ers cynyddu gwledydd yr UE sydd â mynediad digyfyngiad i'n marchnad lafur, wedi cyfrannu at gadw cyflogau gweithlu cynhenid Cymru yn annerbyniol o isel? Yn wir, mae eich datganiad yn llawn sôn am gyflogau isel, ac rydych chi hefyd yn anwybyddu'n llwyr y ffaith bod gennym ni 68,000 o bobl ddi-waith yng Nghymru o hyd, a'r rhan fwyaf mewn ardaloedd sgiliau isel.

Unwaith eto yn y ddogfen hon rydych chi'n dadlau yn erbyn system fewnfudo a fydd yn dileu rhyddid i symud a thriniaeth ffafriol i ddinasyddion y DU. Cwnsler Cyffredinol, onid yw hynny eto'n gyfaddefiad noeth bod eich Llywodraeth yn erbyn unrhyw gyfyngiadau ar ymfudwyr economaidd, pa un a oes eu hangen ar yr economi neu beidio? Rydych chi'n sôn am ganiatáu i ymfudwyr ddod i'r wlad os oes ganddyn nhw swydd, neu os byddant yn cael swydd yn y dyfodol agos. A allwch chi egluro wrthym sut ar y ddaear y byddid yn cadw golwg ar hyn? A sut fyddech chi'n mynd ati i alltudio'r rhai nad oedd yn dod o hyd i waith? Sefyllfa eithaf torcalonnus.

Ni allwch chi wadu, Cwnsler Cyffredinol—. Mae'n ddrwg gennyf i. Ar ddechrau'r datganiad hwn fe wnaethoch chi sôn am gynnal hawliau dinasyddion sy'n hanu o'r UE. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd diamwys y byddai eu hawliau yn cael eu gwarchod, ond onid yw'n wir mai'r Undeb Ewropeaidd sy'n gwrthod rhoi'r un hawliau i ddinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE, ac mai dim ond hynny sy'n destun anghydfod? Unwaith eto, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sôn am yr un hen gân, sef bod arnom ni angen meddygon a nyrsys tramor a gweithwyr gofal i redeg ein gwasanaeth iechyd. Wel, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r rhain yn dod o wledydd y trydydd byd, nid yr UE, ac am sefyllfa yw honno. Oherwydd penderfyniad Llywodraeth Blair i dorri 50 y cant o'r lleoedd hyfforddi meddygon a nyrsys mae angen o hyd inni ysbeilio'r economïau trydydd byd hyn i gael gafael ar eu clinigwyr y mae eu dirfawr angen.

Ni allwch ni wadu, Cwnsler Cyffredinol, fod y ddogfen hon i gyd yn dyst i Lywodraeth sy'n gwadu'r gwir. Sy'n gwadu'r dystiolaeth lethol bod pobl Cymru eisiau gweld mewnfudo torfol yn dod i ben, yn gwadu canlyniad y refferendwm, yn gwadu canlyniad yr etholiad Ewropeaidd diweddaraf—a dweud y gwir, yn gwadu bron iawn bopeth mae etholwyr Cymru wedi pleidleisio drosto yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Yn olaf, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n dweud bod cefnogaeth eang i'ch cynigion. A allech chi egluro o ble y daw'r gefnogaeth eang honno? Efallai mai dyna'r achos yn y fan yma ond yn sicr nid yw'n wir o ran pobl Cymru y tu allan i'r sefydliad hwn. Ond wrth gwrs mae'n ymddangos un ai nad yw eu barn yn bwysig, neu ei bod i'w chyfrif fel rhywbeth sy'n seiliedig ar anwybodaeth.

17:10

Cwnsler Cyffredinol, byddwch yn sylwi bod amser wedi cael y gorau arnom ni hefyd, felly efallai y gallech chi ateb dim ond yr un cwestiwn yna.

Byddaf yn fyr, Dirprwy Lywydd. Awgrymaf i'r Aelod, yn hytrach na threulio'i amser yn paratoi ei rethreg o negeseuon cudd sy'n ymhonni bod yn gwestiwn, y gallai dreulio ychydig mwy o amser yn gwrando ar y datganiad a'r cyfraniadau blaenorol yn y Siambr, sy'n gwrthbrofi'n llwyr y rhethreg ddifrïol a gwahaniaethol y bu ef yn ymroi iddi dros y pum munud diwethaf.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Mae eitem 5 ar yr agenda'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip—y wybodaeth ddiweddaraf am hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Yn Swyddfa'r Prif Weinidog, mae gennyf y cyfrifoldeb a'r cwmpas i wneud newid ein hamcanionn yn sylweddol er mwy creu Cymru decach, fwy cyfartal.

Rydym yn parhau i fyw mewn cyfnod anodd ac ansicr, lle mae cyni yn cael effaith anghymesur ar y rhai sydd leiaf abl i'w oddef. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar eu hawliau dynol. Yn rhy aml, y bobl hynny sydd â'r anghenion mwyaf sy'n cael eu hamddifadu o'u hawliau gyntaf: y tlodion, menywod, lleiafrifoedd ethnig ac o ran hil, plant, rhieni sengl a phobl anabl. Rydym ni hefyd yn parhau i fyw ynghanol ansicrwydd Brexit. Rhaid inni baratoi'n ofalus i sicrhau na chollir yr hawliau a'r buddiannau y mae pobl Cymru wedi'u cael drwy fod yn aelodau o'r UE.

Yn y cyd-destun heriol iawn hwn, rydym yn ceisio cyflwyno dull newydd, sy'n unigryw i Gymru o hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae hyn yn rhan annatod o'n deddfwriaeth sefydlu. Rhaid i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y'u nodir yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn cynnwys saith confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan wladwriaeth y DU. Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n unol â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, fel yr adlewyrchir yn ein cyfraith ddomestig gan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Rydym ni'n cymryd rhan lawn ym mhroses adrodd y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwaith craffu, adborth ac arweiniad gan bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig.

Er mwyn dangos ac ailddatgan ein hymrwymiad i'r egwyddorion hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ystyried dewisiadau i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd hyn yn dechrau drwy weithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu a chryfhau rheoliadau Cymru ar gyfer dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Rydym ni hefyd yn comisiynu ymchwil i archwilio dewisiadau ehangach, gan gynnwys sut y gallem ni ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Byddwn yn ymdrin â gwahanol agweddau ar gydraddoldeb a hawliau dynol mewn modd cynhwysol, gan ddefnyddio'r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y data o'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth ar ethnigrwydd, statws anabledd, statws priodasol a chrefydd sydd wedi'i ryddhau'r bore yma ar wefan StatsCymru. Ac rwy'n disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd 2020.

Bydd dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010—wrth wraidd y gwaith newydd yr ydym ni'n ei wneud yn y maes hwn. Gwyddom yn rhy dda fod tlodi brawychus yn bodoli ledled Cymru ac yng ngweddill y DU, oherwydd mesurau cyni a diwygio lles gan Lywodraeth y DU, fel y mae rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston, wedi'i nodi mor glir. Roedd dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ynghyd â chyflogau byw a theg a gwelliannau mewn caffael, yn cael eu hystyried fel cam cyntaf y gwaith i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, sef dulliau i drechu tlodi. Hefyd mae angen cymorth ymarferol ar frys ar bobl i roi'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol ar waith, i'w galluogi nhw i ddwyn asiantaethau i gyfrif a cheisio iawn os torrwyd hawliau. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi datgan yn glir ei ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori model o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a chyfnerthu ein gwaith a'n swyddogaethau partneriaeth gymdeithasol o fewn fframwaith statudol newydd.

Rwy'n disgwyl cynnydd cyflym yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o ddechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â chanlyniadau anghyfartal a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd hyn yn darparu egwyddor ar gyfer ystyried dewisiadau eraill ar gyfer cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni eisoes ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau posib o ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n bodoli eisoes. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn arf hanfodol, ac rydym ni'n ystyried sut y gellid cryfhau rheoliadau 2011 Cymru. Rydym ni wedi ysgrifennu'n ddiweddar at gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw fod yn bartneriaid i ni yn y prosiect hwn. Roedd yr ymatebion cychwynnol i fod i gyrraedd ar 31 Mai, i'w dilyn gan ddata o'u hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2017-18, ac rydym ni wedi gofyn amdanyn nhw erbyn diwedd mis Mehefin.

Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu rheoliadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar fylchau cyflog o ran rhyw, anabledd a hil, yn ogystal ag agweddau eraill ar y rheoliadau. Rydym yn cyd-gynnal symposiwm ar 11 Gorffennaf lle edrychir ar hyn yn fanwl. Rwy'n ystyried hyn yn elfen bwysig o'n dull cyffredinol o gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae'r comisiwn newydd gyhoeddi cyfres o bapurau briffio yn deillio o'r gwaith a gomisiynwyd ganddynt y llynedd i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw'n cysylltu â'r holl gyrff cyhoeddus i gyfarfod a thrafod sut y gall y comisiwn gynghori a chefnogi'r sector er mwyn sicrhau y bodlonir rhwymedigaethau ac yr eir i'r afael ag anghydraddoldeb yn effeithiol. Ac rwy'n argymell yn gryf y dylid manteisio ar y cynnig hwn.

Cyhoeddwyd ein fframwaith newydd, o'r enw 'Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol', ar gyfer ymgynghoriad fis Hydref diwethaf, a daeth i ben gyda 67 o ymatebion. Mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu ers 2017 drwy ymgysylltu â phobl anabl, o dan arweiniad y grŵp llywio byw'n annibynnol, sy'n cynnwys rhanddeiliaid anabledd ac sy'n cael ei gadeirio gan brif weithredwr Anabledd Cymru.

Mae'r fframwaith newydd wedi'i wreiddio yn y model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod bod rhwystrau sefydliadol, agweddol ac amgylcheddol i gydraddoldeb a chynhwysiant, y mae'n rhaid eu dileu fel bod tegwch. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru, yn edrych ar y model cymdeithasol o anabledd, a fydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni newydd.

Mae ein dull yn parhau'n drawsbynciol o ran yr holl nodweddion gwarchodedig a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Yn benodol, rydym ni wedi ymrwymo i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn y ffordd y caiff holl wasanaethau cyhoeddus Cymru eu darparu. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni nodi sut i ddefnyddio hawliau fel dull ymarferol o fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ac anghydraddoldebau, a gwella bywydau pob dydd pob person hŷn. Yn rhan o'n hagenda hawliau dynol, byddaf hefyd yn cyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran Teithio Ymlaen, sef ein cynllun gweithredu ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae'r adolygiad parhaus o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn canolbwyntio'n fanwl ar y gwahaniaeth mewn cyflogau, ond rydym ni eisoes yn gweithio i gael gwared ar rai o'r rhwystrau. Ymhlith y camau gweithredu mae darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â gwahaniaethu a chefnogi menywod i gael gyrfaoedd annhraddodiadol. Mae'r adolygiad yn cydnabod bod ffactorau croestoriadol, gan gynnwys anabledd, hil a thlodi, yn cael effaith fawr ar ganlyniadau bywyd. I'r gwrthwyneb, mae gan bwyslais cryf ar gydraddoldeb rhywiol y potensial i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

Byddaf hefyd yn cyflwyno adroddiad yn fuan ar y cynnydd a wnaed o ganlyniad i Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Croesawaf ganlyniad achos Sally Challen, i gydnabod effaith ddinistriol rheolaeth gymhellol. Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch bwerus ar y pwnc, o'r enw 'Nid Cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn'.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol ac wedi'u targedu i gynyddu amrywiaeth penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae strategaeth amrywiaeth yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â grwpiau nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, cyhoeddais £40,000 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru fel y gall grwpiau cymunedol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nodi Diwrnod Windrush, gan ddathlu cyfraniadau'r genhedlaeth Windrush a phob ymfudwr i gymdeithas, economi a hanes Cymru.

Ar 19 Mehefin 2019, bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Cymru'n Cofio a Race Council Cymru, hefyd yn cynnal digwyddiad coffa i nodi canmlwyddiant terfysgoedd hiliol 1919. Yr wythnos nesaf, byddaf hefyd yn adrodd ar gynnydd 'Cenedl o Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ystod wythnos y ffoaduriaid. Rwyf hefyd yn ystyried ein glasbrintiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar droseddu ymhlith menywod a chyfiawnder ieuenctid fel rhan o'm cenhadaeth i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rwyf wedi gwneud yn glir fy mwriad i roi blaenoriaeth uchel iawn i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Fel y gwelwch chi, mae hyn yn ysgogi amrywiaeth eang o waith mewn cysylltiad â sawl agwedd ar gydraddoldeb. Dirprwy Lywydd, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud, ac y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol, yn anfon neges gref ynglŷn â phwysigrwydd cydraddoldeb a hawliau dynol i Gymru. Ond, mae canlyniadau'n bwysicach na symbolau. Mae'n hanfodol bod hawliau'n cael eu gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi effaith ymarferol iddyn nhw, fel eu bod yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau pobl Cymru.

17:20

Diolch, Dirprwy Weinidog. Fel y soniais pan wnaethoch chi fy rhoi ar ben ffordd yn gynharach, rwyf wedi bod allan y prynhawn yma i ail gyfarfod panel rhyngwladol NWAMI, a gynhaliwyd yn adeilad undeb myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru oedd NWAMI, ond bellach ei deitl yw'r Rhwydwaith dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio Amlddiwylliannol. Darllenwyd datganiadau gennych chi a'r Prif Weinidog yno gan uwch swyddog, na fyddaf yn codi cywilydd arno drwy ei enwi, oni bai eich bod chi'n dymuno i mi wneud hynny, ond fe'u darllenodd yn dda iawn.

Yn fy araith, cyfeiriais at lansio menter gan Lywodraeth y DU y llynedd i adeiladu cymdeithas fwy integredig a chydlynol, y 'Strategaeth Cymunedau Integredig', a ddisgrifiwyd gan yr Athro Cantle, a oedd wedi gweithio o'r blaen gyda Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, fel:

newid gwirioneddol mewn dull gweithredu lle bydd y Llywodraeth yn cefnogi camau ymarferol i hyrwyddo cydlyniant ac integreiddio.

Mae Cynllun Gweithredu Cymunedau Integredig 2019 yn mynd â strategaeth 2018 Llywodraeth y DU yn ei blaen drwy ddarparu manylion ymarferol am y cynlluniau y mae'n eu datblygu a'u cefnogi. Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â hynny, naill ai drwy wahoddiad neu ymyriad rhagweithiol, os o gwbl?

Gwnaeth adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'A yw Cymru'n Decach?' ar gyfer 2018 gyfres o argymhellion, gan gynnwys cryfhau'r seilwaith hawliau dynol yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru ac i sicrhau bod amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu a'u gwella yn ystod y broses Brexit a thu hwnt. Ac wrth gwrs, yn eich datganiad, gwnaethoch gyfeirio at y broses Brexit. 

Roedd y cytundeb ymadael rhwng y DU a Gogledd Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd, nad yw wedi mynd drwy San Steffan, yn datgan bod y DU yn:

sicrhau na fydd unrhyw leihad mewn hawliau, mesurau diogelu a chyfle cyfartal fel y nodir yn y rhan honno o gytundeb 1998 o'r enw Hawliau, Diogelwch a Chyfle Cyfartal yn sgil ymadael â'r Undeb.

Felly, unwaith eto, wrth inni fynd ymlaen—ac rwy'n sylweddoli ein bod mewn sefyllfa o ansicrwydd ac nid wyf eisiau cyflwyno gwleidyddiaeth plaid—ond wrth i ni symud ymlaen, sut byddwch chi'n ymgysylltu ymhellach â Llywodraeth y DU yn y cyd-destun hwnnw?

Cyfeiriasoch at yr angen i gynnwys confensiynau'r Cenhedloedd Unedig a sut y gallai Llywodraeth Cymru wneud hynny, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Pan drafodasom hyn yma fis Medi diwethaf, dywedais nad oes rhinwedd mewn ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo'r hawliau—. Mae'n ddrwg gennyf, y mae rhinwedd. Mae'n ddrwg gennyf:

'mae budd mewn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyda hawliau plant drwy ymgorffori'r confensiwn ar hawliau'r plentyn yng nghyfraith Cymru yn 2011.'

Felly, pa ystyriaeth allech chi ei rhoi i fabwysiadu model tebyg, pan ddywedwch eich bod yn comisiynu ymchwil i archwilio dewisiadau ehangach, neu a oes gennych chi well ffordd nawr o bosib yn eich tyb chi, o edrych ar hyn?

Cyfeiriasoch, a hynny'n briodol, at y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Gwyddom, unwaith eto, fod hyn wedi'i drafod yma heb fod mor bell yn ôl. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi bod Deddf Cymru 2017 wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol, gan alluogi cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phrif achos anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi. Yn ei ymateb fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y materion hyn, felly pa waith a wnaed gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ystod yr 11 mis dilynol?

Cyfeiriasoch at rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston. Fel y gwyddoch, dywedodd fod Cymru'n wynebu'r gyfradd dlodi gymharol uchaf yn y DU ac nad oedd gan strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb':

bwyslais strategol na chyfrifoldeb gweinidogol dros leihau tlodi, ac nid oes ganddi dargedau perfformiad na dangosyddion cynnydd clir.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymateb i'r adran yn yr adroddiad hwnnw sydd wedi'i thargedu'n benodol at Lywodraeth Cymru ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau penodol?

Cyfeiriasoch yn briodol at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, at y gweithredu ar fframwaith hawl anabledd i fyw'n annibynnol a model cymdeithasol o anabledd. Rwyf wedi disgrifio hyn o'r blaen yng nghyd-destun cyd-gynhyrchu, ynghylch gweld pawb fel partneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio, gan fynd y tu hwnt i fodelau ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau i sicrhau gwell darpariaeth o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaeth sy'n heneiddio, pobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, y rhai sy'n economaidd anweithgar a'r rhai sy'n byw mewn unigedd cymdeithasol. Ond nid wyf eto wedi dod ar draws uwch swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol neu fwrdd iechyd sy'n cyfaddef bodolaeth y materion hyn na Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 tan y byddaf yn sôn amdanynt wrthynt ac yn eu hatgoffa o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Felly, yn ogystal ag edrych ymhellach ar hyn, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r gweithredu ac yn ymyrryd? Nid o reidrwydd beirniadu gyda ffon fawr, ond er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o weithredu, fel bod y rhai ar loriau uchaf y sefydliadau cyhoeddus hyn yn deall nad yw hyn yn fygythiad, mae hwn yn gyfle iddyn nhw wneud pethau'n well, i wella bywydau, ac os cânt bethau'n iawn, bydd yn eu helpu i reoli eu cyllidebau'n well, hefyd.  

17:25

Iawn. Dof i ben gyda chwestiwn gan Cymorth i Ferched Cymru. Maen nhw wedi gofyn: a all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gost yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol o'r ddarpariaeth ar gyfer trais domestig a rhywiol a phryd y bydd yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol yn ymgysylltu â darparwyr yng Nghymru, ac yn gwneud sylwadau ynghylch pa un a ellid gwario'r arian a ddyrennir i adolygiadau o'r fath yn well ar sicrhau ac ehangu gwasanaethau lleol i fodloni'r galw cynyddol am gymorth yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, ac fe wnaethoch chi ddweud wrthyf y bore yma eich bod yn mynd i ddigwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n sicr y byddai'r datganiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn un i'w groesawu oherwydd, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn croesawu'r ffaith bod rhwydwaith Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn bartner pwysig o ran bwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Credaf eich bod yn ymdrin â llawer iawn o bethau yn eich cwestiynau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar fater hawliau dynol, yn enwedig mewn cysylltiad â'r cyfleoedd sydd gennym ni i adeiladu ar ddeddfwriaeth sefydlol Llywodraeth Cymru. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, ein bod yn edrych ar ddull cyfannol o ymdrin â hawliau dynol yng Nghymru, oherwydd ein bod eisiau cefnogi'n llwyr yr angen i gynnal a diogelu hawliau dynol ein holl ddinasyddion. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awyddus iawn i ymgysylltu ag ef o ran edrych ar ffyrdd y gallwn ni o bosib ymgorffori confensiynau, yn enwedig, fel y dywedwch, confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar bobl anabl. Rydym wedi cael seminar i edrych ar y ffordd ymlaen ac, yn wir, i edrych ar yr ymchwil a wnaed.

Mae angen inni edrych, wrth gwrs, ar sut y gallwn ni adeiladu ar ddeddfwriaeth bresennol a dyletswyddau penodol, a chredaf fod hynny'n rhywbeth lle gallwn ni gydweithio o ran ein gwaith gydag asiantaethau eraill. Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol fel y'u nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ac mae hynny'n cynnwys trefniadau ymgysylltu, adolygu a chyflwyno adroddiadau yn ogystal ag asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Ond mae'n bwysig ein bod wedyn yn adolygu hynny ac, fel y dywedwch chi, nid yn unig yn monitro sut y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni'r dyletswyddau hynny, ond yn ystyried a allwn ni fwrw ymlaen â hyn o ran ei gryfhau ac edrych ar y ffordd ymlaen. Mae 'A yw Cymru'n Decach?', adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu tystiolaeth werthfawr o ymdrechion ein holl gyrff cyhoeddus i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru.

Rydych yn codi materion o ran effaith Brexit, a chredaf ei bod yn bwysig, yr wythnos diwethaf, i'r Cwnsler Cyffredinol a minnau fynd i gyfarfod â'r fforwm dinesig sy'n dod â phobl anabl ynghyd, a'u bod wedi mynegi pryderon am effaith Brexit. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod o ran effaith Brexit, yn enwedig ar bobl anabl, eu bod yn edrych ar yr effeithiau arnyn nhw. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r datganiad blaenorol. Roedd llawer ohonyn nhw'n poeni am effaith colli pobl sy'n gweithio gyda nhw o ran pobl anabl, a'r ffaith na fyddan nhw'n gallu recriwtio'r staff hynny sy'n gweithio gyda nhw. Ond bydd hefyd yn effeithio ar fynediad i driniaeth feddygol, fel y dywedais, rhwystrau rhag dod o hyd i gynorthwywyr personol a gofalwyr o'r UE ar ôl Brexit, prinder bwyd, cludadwyedd bathodynnau glas, ac effaith ehangach ar gyllid mewn cymunedau lleol o ran cydlyniad cymunedol a throseddau casineb.

Yn wir, mae Disability Rights UK wedi datblygu maniffesto Brexit y mae Anabledd Cymru wedi cyfrannu ato ac wedi ymrwymo iddo. Mae'n bwysig ein bod yn ymgynghori â'n cydweithwyr, y rhai sydd fwyaf agored i niwed ar draws yr holl grwpiau cydraddoldeb yr ydym yn eu cefnogi, o ran effaith Brexit, ond hefyd ein bod yn cefnogi'r rhai sy'n dioddef oherwydd troseddau casineb. Rydym ni wedi defnyddio cyllid pontio'r UE i gefnogi ein cydlynwyr cydlyniant cymunedol, a gwn y byddwch yn croesawu'r digwyddiadau sy'n digwydd yr wythnos nesaf, nid yn unig o ran cenedl noddfa—Wythnos Ffoaduriaid—ond hefyd digwyddiad Windrush y credaf eich bod yn ei gefnogi yn y gogledd hefyd.

Mae'n rhaid imi ddweud, yng nghyd-destun adroddiad y Cenhedloedd Unedig a gwaith y rapporteur, ei bod hi'n wir fod yr arbenigwr blaenllaw hwn ar dlodi wedi cymharu polisïau lles y Ceidwadwyr â chreu tai gwaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a rhybuddiodd, os na ddaw cyni i ben, y bydd pobl dlotaf y DU yn wynebu bywydau sy'n unig, yn wael, yn gas, yn greulon ac yn fyr. Gallwn liniaru, gallwn benderfynu ar ein blaenoriaethau, ond credaf, hefyd, os edrychwch chi ar adroddiad 'Cyflwr y Genedl' gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, fod yn rhaid inni gydnabod, unwaith eto, eu darganfyddiadau, lle y maen nhw'n dweud, unwaith eto:

Mae'r dosbarth canol yn cael ei gefnogi tra bod y rhai mwyaf difreintiedig yn cael eu gadael ar ôl.

Ac mae hynny'n mynd yn ôl at rai sylwadau'n gynharach ynglŷn ag ymgeiswyr am arweinyddiaeth yn eich plaid. Ond maen nhw'n dweud hefyd fod y gwaith hwn y maen nhw'n ymgymryd ag ef yn fwy tyngedfennol nag erioed, gan fod:

Ymchwil yn dangos bod safonau byw yn gwaethygu i'r dosbarth gweithiol ac i bobl ifanc. Os nad ydym yn mynd i'r afael â chostau cynyddol tai, lles ein cenedl a'r cynnydd yng nghyfraddau tlodi plant, rhagwelir y bydd symudedd cymdeithasol yn gwaethygu hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r dystiolaeth hon a sicrhau hefyd ein bod yn edrych ar ffyrdd o gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yn ogystal â'u ddiogelu a'u hamddiffyn.

17:35

Nid oes dim byd, mewn gwirionedd, yn y datganiad hwn sy'n dweud unrhyw beth newydd wrthym am ddull y Llywodraeth o weithredu, felly, os caf i, hoffwn fynd i'r afael ag un agwedd benodol ar yr agenda cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen llawer mwy o sylw arni nag y mae'n ei chael ar hyn o bryd, a'r agwedd yw niwroamrywiaeth, ac, yn benodol, y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn dal i weithredu ar y dybiaeth fod pawb yn niwronodweddiadol. Credaf y dylai'r cwestiwn hwn gael ei ystyried yn gwestiwn ynghylch cydraddoldeb.

Mae cydnabyddiaeth gynyddol nad yw ymennydd pawb yn gweithio yn yr un ffordd. Gyda dealltwriaeth newydd a chynyddol yn codi o niwrowyddoniaeth, mae'n debygol y bydd y ddealltwriaeth hon yn tyfu, ac mae hyn oll, wedyn, yn amlwg yn cael effaith ar hawliau dynol. Nawr, mae'r dadleuon ynghylch deddfwriaeth ar awtistiaeth wedi'u hailadrodd yn y Siambr hon droeon. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod angen deddfwriaeth i wella gwasanaethau ac i amddiffyn hawliau pobl nad ydyn nhw'n niwronodweddiadol. Nid yw'r Llywodraeth yn credu y dylem ni gael deddfwriaeth o'r fath. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl ar y sbectrwm awtistiaeth yn gallu aros am flynyddoedd am ddiagnosis. Mae'n golygu bod diffyg llwyr yn y gwasanaethau cymorth awtistiaeth i oedolion sydd ar gael, a chyfeiriodd llawer o bobl yn aml at wasanaethau amhriodol sy'n ystyried bod eu cyflwr niwrolegol yn gyflwr iechyd meddwl neu'n broblem ymddygiad, gan eu rhwystro rhag derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei hangen.

Hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft lle nad yw cyrff cyhoeddus yn parchu hawliau pobl nad ydyn nhw'n niwronodweddiadol. Cafodd merch 15 oed ar y sbectrwm yn fy etholaeth i ei chyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ar ôl aros, roedd yn amlwg nad oedd angen ymyrraeth CAMHS arni, ond nid oedd fawr ddim arall ar gael. Felly, mae hi bellach wedi rhoi'r gorau i fynd i'r ysgol, anaml y mae'n gadael ei chartref, ac nid yw ei mam yn gwybod i ble i droi. Ble mae'r cydraddoldeb i'r ferch ifanc hon? Ail enghraifft yw penderfyniad Pen-y-bont ar Ogwr i ad-drefnu cludiant i'r ysgol, a oedd yn cynnwys newid trefniadau cludiant ar gyfer disgyblion ar y sbectrwm awtistiaeth. Cafodd y newid ei gyfleu'n wael heb unrhyw ystyriaeth bod newid sydyn i'r drefn arferol yn arbennig o ingol ac o bosibl yn niweidiol i rai plant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.

Felly, mae fy nghwestiynau fel a ganlyn: a ydych chi'n credu, Gweinidog, fod angen ystyried niwroamrywiaeth fel mater o gydraddoldeb yn ei hawl ei hun, a sicrhau bod ymennydd nad yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig? A ydych chi'n derbyn, ar hyn o bryd, fod llawer o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a'u darparu o amgylch y dybiaeth bod pawb yn niwronodweddiadol ac felly'n methu ag ystyried anghenion pobl â nodweddion niwro gwahanol? A ydych chi'n credu bod angen i ymateb gwasanaethau cyhoeddus symud y tu hwnt i drin awtistiaeth fel cyflwr meddygol ac, yn lle hynny, ddechrau gweld nad yw meddu ar ymennydd sy'n wahanol yn niwrolegol yn ddiffyg, ond, yn hytrach, yn fath o niwroamrywiaeth sy'n gofyn am dderbyniad cymdeithasol, a chynhwysiant cymdeithasol gymaint ag y mae am gefnogaeth ymarferol? Ac a wnewch chi felly sicrhau y bydd y Llywodraeth i gyd yn cydnabod y newid hwn mewn ffordd o feddwl? Ac a ydych chi'n derbyn fod hon yn hawl ddynol sylfaenol ac y bydd cyflawni'r hyn a amlinellais yma'r prynhawn yma yn galw am ddeddfwriaeth ac na fydd dim yn digwydd gydag ymagwedd 'busnes fel arfer'? Ac, yn olaf, a ydych chi'n cytuno mai pobl nad ydynt yn niwronodweddiadol sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli ac eiriol dros eu dosbarth niwro nhw, ac y dylai'r holl ymgyrchoedd addysg a chodi ymwybyddiaeth sicrhau bod y llais awtistig dilys yn rhan flaenllaw a chanolog o ffurfio polisi a darparu gwasanaethau, drwy gynnwys aelodau o'r mudiad hunan-eiriolaeth niwroamrywiaeth sy'n tyfu'n gyflym?

17:40

Hoffwn ddiolch i Leanne Wood am godi dimensiwn pwysig iawn. Rwy'n credu ei fod yn ddimensiwn o ran deall ac atgyfnerthu cydraddoldeb a hawliau dynol y mae'n amlwg bod angen i ni edrych arnyn nhw nawr ar draws y Llywodraeth, nid dim ond o ran fy mhortffolio i. Yn ddiddorol, cododd hyn yr wythnos diwethaf pan aeth Jeremy Miles a finnau i'r fforwm dinesig i siarad â phobl anabl am effaith Brexit. Dyna lle'r oedd y pwyslais, ond cyflwynwyd llawer o faterion o ran effaith polisi ar fywydau pobl anabl. Ac, wrth gwrs, siaradais eto am y model cymdeithasol o anabledd, sydd, mewn gwirionedd—ac roedd rhai pobl yma yn 2002, pan wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn fabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, ac mae wedi'i ymgorffori yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Ond mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei gynnwys yn llawn nawr yn ein holl waith llunio polisïau a'i fod yn galluogi, wrth gwrs, i Aelodau'r Cynulliad, pwyllgorau a phobl anabl graffu arnom ni ar sail darparu'r model cymdeithasol o anabledd.

Felly, mae'n rhaid mynd i'r afael yn glir â'r mater yr ydych yn ei godi o ran pobl nad ydynt yn niwronodweddiadol a niwroamrywiaeth. Rydych wedi codi mater pwysig ac rwyf o'r farn nad yw'n fater y gallem fod eisiau ei ystyried o ran y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn unig, ond y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, gan ei fod yn rhywbeth—mae angen codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn. Ond, yn sicr, mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno.

Rwyf yn gobeithio, hefyd, y byddech yn ystyried, Leanne Wood, fod y cyfle sydd gennym ni yng Nghymru i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'i amlinellu yn y datganiad heddiw. Mae'n ymdrin â llawer o bethau ac mae gennym ni lawer i'w wneud i ddiogelu hawliau, yn enwedig hawliau pobl anabl a'r rhai hynny y mae sefyllfaoedd nad ydynt yn niwronodweddiadol yn effeithio arnyn nhw pan fyddant yn cael eu hunain ynddyn nhw, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'w hawliau. A gobeithio y gallwn ddilyn y drafodaeth hon.

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw'n fawr iawn. A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, mae'r materion hyn yn ganolog i'n gwaith, ac, yn wir, yn ein hadroddiad ar hawliau dynol yng Nghymru, yn yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym, gwnaethom lawer o argymhellion y credaf eu bod yn berthnasol i'r datganiad hwn heddiw. Ac, wrth gwrs, yn y ddadl ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r ohebiaeth yn sgil hynny, rydym ni wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio bwrw'r agenda hon yn ei blaen.

Un o'n prif bryderon oedd y mesurau amddiffyn a ddarperir gan Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE a cheisio sicrhau eu bod yn aros yn eu lle, ar ôl Brexit, os digwydd hwnnw. Ac ar y pryd, roedd y cyn Brif Weinidog yn gohebu â Llywodraeth y DU er mwyn ceisio bwrw ymlaen â rhyw fath o gytundeb gwleidyddol a fyddai'n ategu'r fframwaith presennol hwnnw o ddeddfwriaeth trin yn gyfartal. A byddai gennyf ddiddordeb, Dirprwy Lywydd, i glywed a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw o ran y trafodaethau hynny—sut y maen nhw'n datblygu a'r cam ac unrhyw ddealltwriaeth a gyrhaeddwyd, a hefyd a allem ni gael mwy o wybodaeth am ymarferoldeb cychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb, oherwydd credaf fod y materion ymarferol hynny'n arwyddocaol iawn o ran gweithredu'n effeithiol.

Hefyd, o ran ymchwiliad fy mhwyllgor i rianta a chyflogaeth yng Nghymru, gwnaethom nifer o argymhellion yn ymwneud â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, gan gynnwys galw am gasglu data ar gyfraddau cadw mamolaeth, ac i Lywodraeth Cymru fireinio'r data cyflogaeth sy'n ofynnol gan ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, gyda'r nod o leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau. Derbyniwyd yr argymhellion hyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r Comisiwn Gwaith Teg hefyd wedi argymell gwella'r dyletswyddau hyn. Felly, byddai rhagor o wybodaeth, Gweinidog, am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiweddaru'r dyletswyddau a phryd ydych chi'n disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn ddefnyddiol.

Dim ond dau fater arall, yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd—mae'n dda iawn clywed yr hyn yr ydych wedi'i grybwyll ynglŷn ag Wythnos y Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches sy'n digwydd yr wythnos nesaf, Gweinidog. Unwaith eto, fe wnaeth fy mhwyllgor adroddiad, ac rydym yn frwd iawn dros waith cenedl noddfa, y gwn eich bod yn ymwybodol ohono. Edrychaf ymlaen yn fawr at yr wythnos nesaf, a gobeithio, rhai cynigion ystyrlon a sylweddol a gwaith gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r agenda bwysig iawn honno.

Yn olaf ynghylch Windrush, unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedasoch am hynny, Gweinidog. Tybed, o ran perthynas Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, a ydych yn cynrychioli rhai o'r pwyntiau a gyflwynwyd gan aelodau o'r gymuned Windrush yng Nghymru, a, gobeithio, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU. Un enghraifft, fe gredaf, yw'r uchafswm iawndal, oherwydd rwy'n ymwybodol o achosion lle cafwyd cryn dipyn o golledion o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU, ac mae pobl wedi colli eu cartrefi, er enghraifft, o ganlyniad i hynny. Felly, mae unrhyw uchafswm iawndal nad yw'n adlewyrchu maint a graddfa'r golled yn fater real ac ymarferol iawn i aelodau ein cymunedau yma, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r pwyntiau hynny i Lywodraeth y DU.

17:45

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths, ac a gaf i ddiolch i'ch pwyllgor am fod yn rym mor bwysig—grym craffu a hefyd ymchwilio a darparu tystiolaeth o ran y ffordd y dylem fod yn mynd i'r afael â'r materion hyn o ran cydraddoldeb a hawliau dynol? Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor materion allanol lle buom yn gweithio gyda'n gilydd ar y llythyr hwnnw i'r Prif Weinidog ac wedi cael yr ymateb hwnnw, a byddaf yn cael ymateb wedi'i ddiweddaru ar hynny gan ein Prif Weinidog, o safbwynt i ble'r ydym yn mynd â hyn yn enwedig o ran Brexit. Rydym yn pryderu am y posibilrwydd y bydd hawliau dynol yn cael eu herydu yn y DU os yw Brexit yn digwydd. Rydym ni wedi bod yn glir—Llywodraeth Cymru—na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr UE arwain mewn unrhyw ffordd at wanhau diogelwch hawliau dynol—wrth gwrs, mae hynny wedi'i wneud yn glir iawn ar gynifer o achlysuron—ond, yn wir, mewn unrhyw agweddau eraill o amddiffyn cymdeithas, yr amgylchedd neu gyflogaeth, sydd hefyd yn hollbwysig o ran cryfhau a diogelu cydraddoldeb. Felly dyna pam ein bod yn edrych ar sut y gallwn ni helpu i gryfhau hawliau pobl Cymru ar ôl Brexit er mwyn asesu manteision camau gweithredu posib. Rwyf wedi sôn nid yn unig am y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, ond hefyd am gryfhau'r rheoliadau presennol. Mae deddfu o ran y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn bwysig, ond mae angen i ni hefyd edrych ar ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n ymwneud â chytuniadau rhyngwladol perthnasol.

Rydym ni wedi darparu £150,000 i ariannu ymchwil i sut y gallai proses Brexit effeithio ar wasanaethau cymunedol yng Nghymru a helpu'r trydydd sector i gynllunio ar gyfer unrhyw ddigwyddiad posibl. Ac y maen nhw wedi—. Rwyf wedi sôn am grŵp a fforwm Anabledd Cymru y cyfarfuom ni â nhw, ond mae ganddyn nhw fforwm dinesig sy'n edrych ar gydraddoldeb a'r effaith ar gydraddoldeb, a gwn eich bod wedi cwrdd â hwy.

Mae'n bwysig inni geisio—o ran cyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus, ein bod yn edrych hefyd ar ein cynllun cydraddoldeb strategol, sydd bellach yn cael ei—. Bydd ymgynghoriad a byddwn yn symud ymlaen o ran ymgysylltu ynglŷn â chynllun wedi'i ddiweddaru. Mae'n sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau sydd o wir bwys: dileu gwahaniaethu, meithrin cysylltiadau da. Mae hynny'n mynd i ysgogi camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan ymateb yn gryf i faterion a godwyd yn eich pwyllgor o ran y pryderon hynny, a'r dystiolaeth sydd gennym ni a'r pryderon sydd gennym ni o ran y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod yr wythnos nesaf, Wythnos Ffoaduriaid, fel amser hefyd i bwyso a mesur y cynllun ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, 'Cenedl Noddfa', ac mae gennym ni ffoaduriaid yn dod yr wythnos nesaf. Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y camau a gymerir i gyflawni 'Cenedl Noddfa' ac, yn wir, o ran y gymuned Windrush, rydym yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru, ond rwyf hefyd wedi mynegi fy mhryderon ynghylch y ffordd annheg y caiff cymuned Windrush ei thrin, ac rwyf wedi cyfarfod â'r hynafgwyr, yn enwedig o ran yr uchafswm iawndal. Rwy'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn. Ond credaf fod y ffordd y mae'r pwyllgor yn gweithredu fel ffynhonnell dystiolaeth bwysig, yn ymgysylltu â phobl sy'n agored i niwed, a dwyn y Llywodraeth i gyfrif hefyd o ran cryfhau a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, yn allweddol i'r gwaith yr wyf yn ei wneud.

17:50

Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni yn rhannu dymuniad y Llywodraeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mae wedi bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu datganiad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, ac rydym ni wedi dod yn bell iawn yn y saith degawd diwethaf. Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod eich Llywodraeth yn ystyried ymgorffori rhai o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Rwy'n nodi eich bod yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. A wnewch chi ddweud ar hyn o bryd a ydych yn disgwyl gosod dyletswyddau a amlinellir ym mhob un o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Weinidogion Cymru, ac a fyddwch yn ystyried ymestyn y dyletswyddau hynny ar draws y sector cyhoeddus?

Croesawaf y newid i fodel cymdeithasol o anabledd. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi egluro sut y mae newidiadau i'r gronfa byw'n annibynnol yn cyd-fynd â fframwaith y Llywodraeth ar anabledd? Rwy'n falch eich bod wedi penderfynu gwreiddio hawliau pobl hŷn ar draws y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A ydych yn credu y bydd y cam hwn yn helpu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu rhoi ar waith ac yn cael eu gwella hefyd, ac a fydd y cam hwn yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr asesiadau hawliau gofalwyr y mae hawl ganddyn nhw eu cael?

Gan aros gyda phobl ag anabledd, a hyd yn oed y rhai heb anabledd, gyda chau ein gwasanaethau cyhoeddus, cyfleusterau cyhoeddus, mae rhai o'n henoed yn teimlo eu bod yn gaeth i'w cartrefi, felly mae hyn yn arwain at anweithgarwch cymdeithasol. Mae llyfrgelloedd yn cau, ac unwaith eto, dyma oedd corff y gymuned gyfan wrth ddod â phobl at ei gilydd. Felly, tybed sut y gallwn ni ddod â gwasanaethau fel y rhain yn ôl, er mai gwasanaethau a phenderfyniadau llywodraeth leol ydynt, yn aml. Ond rwy'n poeni bod pobl yn gaeth i'w cartrefi, hyd yn oed y rheini sydd â phlant ifanc a theuluoedd, oherwydd y diffyg gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael iddynt. Felly, tybed sut y mae'r rheini sydd ag anabledd hefyd yn mynd i gael eu hystyried o ran y diffyg gwasanaethau cyhoeddus hyn, os gwelwch yn dda, a sut y gallwn ni ymdopi â hyn.

Yn fy rhanbarth i, mae tlodi plant ar raddfa uchel mewn llawer etholaeth ar draws fy rhanbarth, yn cyrraedd 26 y cant yn aml, ac yn sgil tlodi plant a thlodi teuluol daw anghydraddoldeb, diffyg cyfleoedd, a thybed sut y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i wella hyn er mwyn i blant, a hyd yn oed teuluoedd, gyrraedd eu llawn botensial. Fel y mae Leanne Wood wedi cyfeirio, mae llawer o blant—. Rwyf wedi cael pobl yn dod ataf i sôn am gael eu cyfeirio at y gofrestr CAMHS, ond mae'r amser aros am ddiagnosis o awtistiaeth neu ADHD mor hir, ac mae teuluoedd yn pryderu eu bod yn aml iawn yn methu ymdopi 24 awr y dydd gyda phlentyn sydd heb gael diagnosis. Felly, tybed a allwn ni wella yn y meysydd hyn, os gwelwch yn iawn.

Diolchaf i'r Dirprwy Weinidog unwaith eto am ei datganiad, ac edrychaf ymlaen at graffu ar ei chynigion manwl ar gyfer gwella cydraddoldeb yn ein cenedl. Diolch yn fawr.  

17:55

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Wrth gwrs, bu galwadau dros y blynyddoedd diwethaf inni ymgymryd â'n camau deddfwriaethol ein hunain i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun y DU yn gadael yr UE. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir o ran cryfhau'r hawliau hynny, gan gynnwys materion a allai godi yng ngoleuni galwadau i ymgorffori confensiynau a chytundebau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Ond rwy'n credu bod angen i ni hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau eraill, edrych ar sut y gallwn ni gryfhau ein rheoleiddio o dan y dyletswyddau, y canllawiau a'r monitro sy'n benodol i Gymru, gan fwrw ymlaen â'r canlynol—. O ganlyniad i ymgynghoriadau a gawsom—mae teimlad cryf iawn y dylem edrych ar y gyfraith a'r rheoleiddio presennol, gweld sut mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, deddfwriaeth arloesol, a hefyd deddfu ar ddyletswyddau fel y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, a fydd wrth gwrs yn mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd yn ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus ac rydym ni nawr yn dechrau gweithredu'r Gorchymyn a'r canllawiau statudol a fydd, wedi inni gael y drafftio—. Rydym ni hefyd yn ystyried sut y maen nhw wedi bwrw hyn ymlaen yn yr Alban o ran bod yr Alban eisoes wedi deddfu o ran y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, felly rydym yn dysgu oddi wrthyn nhw. Mae'n aml yn ddefnyddiol dysgu oddi wrth eraill. Maen nhw wedi dysgu oddi wrthym ni mewn ffyrdd eraill o ran polisi, ond mae hyn hefyd yn gysylltiedig iawn â'r adolygiad o gydraddoldeb rhywiol, felly rydym yn ymgynghori ar y modelau deddfwriaethol a allai ddeillio o'r ymchwil hwn a hefyd i edrych ar y cyfleoedd y bydd hyn yn—sut y bydd hyn yn mynd â ni ymlaen.

O ran byw'n annibynnol, mae'r ffordd ymlaen o ran byw'n annibynnol, y mae fy nghyd-Aelod Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio arno, yn gwbl gyson â'r model cymdeithasol o anabledd. Mae hon yn ffordd ymlaen sydd hefyd yn seiliedig i raddau helaeth ar y profiad a'r farn a'r dystiolaeth gan bobl, gan bobl anabl eu hunain, ac, o ran ein fframwaith gweithredu ar gyfer anabledd, mae a wnelo hyn â sut y gallwn ni sicrhau bod pobl anabl yn ein hysbysu o ran polisi. Wrth gwrs, mae'n golygu bod yn rhaid inni sicrhau ein bod ni, y Llywodraeth, yn mabwysiadu hyn fel blaenoriaeth ac yn ei gyflawni mewn partneriaeth â'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf.

Mae llawer o faterion yma, ac rwyf eisoes wedi rhoi fy marn a thystiolaeth pobl eraill, megis rapporteur y Cenhedloedd Unedig ac yn wir y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a chynghrair Dileu Tlodi Plant heddiw. Clywsom y dystiolaeth o ran tlodi plant ac effaith polisïau Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at waethygu tlodi plant yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae hwnnw'n fater gwleidyddol iawn, ond nid dim ond ein tystiolaeth ni, a thystiolaeth gan y rhai sy'n ein cynghori a'n galluogi i ymateb i'r polisi hwnnw ydyw, ond tystiolaeth rapporteur y Cenhedloedd Unedig, ac i'r rhai sy'n gallu deall yr hyn y mae'n ei olygu o ran y lefelau hynny o dlodi sy'n ysgytiol ac yn gwaethygu. Ac amlinellodd y Prif Weinidog hynny'n glir iawn yn ei atebion i gwestiynau y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn ichi—diolch, Dirprwy Lywydd.

Roedd hwnnw'n ddatganiad llawn iawn, a gwerthfawrogaf eich atebion heddiw. Ond, mewn ymateb i'r hyn yr oeddech yn ei ddweud wrth John Griffiths, fy nealltwriaeth i yw bod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros hawliau dynol a chydraddoldeb yn berthnasol i holl adrannau'r Llywodraeth. Nid mater i'r Cynulliad yn unig yw hyn, ac un o'r pethau yr hoffwn eich holi yn ei gylch heddiw, efallai, yw gweithgarwch economaidd. Nawr, mae hwn yn faes y byddwn yn disgwyl i bobl gymryd rhan ynddo er mwyn helpu i greu cymdeithas fwy cyfartal a theg, ond nid yw'n gwneud hynny. Dim ond cyfeirio yr wyf at adroddiad Chwarae Teg 'Cyflwr y Genedl 2019', sy'n dangos—ac nid yw hyn yn newydd, Gweinidog—fod ein hetholwyr yn dal i fod heb gyfleoedd cyfartal i gyfrannu at economi Cymru a chael budd ohoni, gan ddibynnu'n benodol ar nodweddion personol neu gyfuniadau o'r rheini, a hynny cymaint â damwain daearyddiaeth neu addysg. Nawr, yn bersonol, byddwn yn dweud bod y rhain yn elfennau o strategaeth wrthdlodi ehangach, ond, os na fyddwn yn cael un ohonyn nhw, efallai y gallwch ddweud wrthym beth yr ydych yn disgwyl i adran yr economi ei wneud, i brif ffrydio rhai ymyriadau wedi'u targedu sy'n datblygu'r cysyniad o fod o blaid cydraddoldeb yn hytrach nag yn erbyn gwahaniaethu, gweithio i sicrhau bod y geiriau hynny o 'gyfle cyfartal' yn dod yn gyfleoedd sy'n wirioneddol yr un mor hygyrch. Ac er mwyn rhoi enghraifft i chi, mae adroddiad cyflwr y genedl yn dangos bod y rhan fwyaf o ddynion sy'n economaidd anweithgar yn dioddef felly oherwydd afiechyd, ac o ran—ac mae'n werth cofio hyn yn ystod wythnos y gofalwyr—o ran menywod, y rheswm yw cyfrifoldebau cartref a gofal. Ac i'r adran economi yn arbennig fod yn edrych ar y ddau reswm gwahanol hynny dros weithgarwch economaidd—hoffwn gael rhyw sicrwydd na fydd un o'r rhesymau hynny'n cael mwy o sylw na'r llall. Diolch.

18:00

Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt allweddol, Suzy Davies. O ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, mae'n rhaid iddo fod yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod yn berthnasol iawn os edrychwn ni ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, o ran deall sut y gallwn ni fynd i'r afael â hyn. Soniais yn fy natganiad, mewn gwirionedd, o ran cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—a fydd, yn fy marn i, yn cael effaith ddofn ar anfanteision economaidd-gymdeithasol sy'n effeithio ar yr holl nodweddion gwarchodedig a chymunedau difreintiedig—mae'n gyflog teg ac yn gyflog byw, gwelliannau mewn caffael sy'n hollbwysig, a dyna fydd rhan gyntaf ein gwaith ni o ran cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, ond mae hefyd yn datblygu'r gwaith, sydd hefyd yn gyfrifoldeb i'r Gweinidog cyllid yn ogystal â Gweinidog yr economi a seilwaith o ran y cod moesegol ar gaffael a chadwyni cyflenwi, ac mae ein contract economaidd yn hybu gwaith teg a thwf cynhwysol. Mae'n hanfodol, o ran datblygu economaidd, ein bod yn ystyried ansawdd swyddi, ein bod yn ystyried materion o ran cyflogau isel, sgiliau isel a swyddi ansicr. Ac rwyf i hefyd, wrth gwrs, wedi sôn am y bwlch cyflog—nid yn unig o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond y bylchau cyflogau o ran anabledd a hil, a'r croestoriadedd sy'n amlwg yn cael effaith, o ran mynd i'r afael â chydraddoldeb a hawliau dynol. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ef, o ran y pwerau sydd gennym ni a'r pwerau sy'n ein symud ni ymlaen o ran deddfwriaeth cyflogaeth ac, yn wir, diogelu, wrth gwrs, cyfraith cyflogaeth flaengar yr UE yn y modd yr wyf i wedi'i ddisgrifio.

6. Dadl: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar y gronfa ffyniant gyffredin, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7062 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod Cymru yn cael tua £370m o gyllid strwythurol a buddsoddi bob blwyddyn o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE;

b) yr addewidion a wnaed yn ystod refferendwm yr UE na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE;

c) cefnogaeth Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyllid ar ôl Brexit ar gyfer Cenhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd Lleol, a'r rhan fwyaf o randdeiliaid, ar gyfer trefniadau i'r dyfodol sy'n parchu'r setliad datganoli.

2. Yn gresynu at ddiffyg manylder Llywodraeth y DU ynglŷn â'i chynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r ffaith ei bod wedi methu â pharchu'r setliad datganoli wrth ddatblygu'r cynigion hyn.

3. Yn gwrthod y syniad o gronfa ganolog neu gronfa dan gyfarwyddyd y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig ar ôl Brexit.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) cyflawni'r addewidion na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadael â’r UE;

b) parchu datganoli a sicrhau bod Cymru'n cadw'r ymreolaeth i ddatblygu a darparu trefniadau olynu ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi sydd wedi'u teilwra i sefyllfa arbennig Cymru o ran polisi, deddfwriaeth a phartneriaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod o anhrefn lwyr yn sgil y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymwneud â Brexit. Nid yw'r Senedd yn gallu gweithredu, ac mae ethol arweinydd Ceidwadol newydd yn golygu bod posibilrwydd Brexit 'dim cytundeb' trychinebus yn fyw iawn. Rydym ni'n debygol o wynebu dewis syml rhwng Brexit 'dim cytundeb' neu aros yn yr UE. Wrth wynebu'r posibilrwydd hwn, byddwn ni'n ymgyrchu i aros yn yr UE ac rydym ni o'r farn bod yn rhaid i'r Senedd ddeddfu cyn gynted ag sy'n bosibl i gynnal refferendwm i benderfynu ar y mater hwn.

Mae'r anrhefn sy'n cael ei hachosi gan Lywodraeth y DU hefyd yn ymestyn i'r diffyg eglurder o ran sut y bydd y £370 miliwn hanfodol y flwyddyn o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r UE yng Nghymru yn cael ei ddisodli. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae cyllid yr UE wedi helpu i ddod â swyddi newydd a gwell i Gymru, ac mae wedi rhoi'r sgiliau i bobl eu gwneud. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan Gymru rai o'r lefelau uchaf o fod heb waith yn y DU. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae diweithdra ac anweithgarwch economaidd wedi bod ar eu hisaf erioed ac yn well na'r rhan fwyaf o rannau'r DU. Mae cronfeydd yr UE wedi rhoi cefnogaeth i greu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd. Maen nhw wedi helpu 25,000 o fusnesau gyda chyllid neu gymorth, ac wedi helpu 86,000 o bobl i gael gwaith. Mae dros 300,000 o gymwysterau newydd wedi eu darparu.

Mae arian yr UE wedi gwella cwmpas band eang, wedi adeiladu cynhwysedd ymchwil, wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac wedi datblygu seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth, twristiaeth a busnes. Mae'r rhain, ac ystod eang o fanteision eraill, mewn perygl heb fuddsoddiad parhaus hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion.  

Er gwaethaf y gwelliannau sylweddol ledled Cymru ers datganoli, mae anghydraddoldebau o fewn y DU yn parhau a'r rhain yw'r uchaf yn yr UE o gryn dipyn. Ni fydd y problemau hyn yn diflannu gyda Brexit. Mae'r mwyafrif helaeth a llethol o ddadansoddiadau economaidd credadwy yn awgrymu mai'r ardaloedd sy'n fwyaf agored i niwed economaidd a gaiff eu taro'n galetaf gan Brexit. Felly, mae angen inni sicrhau buddsoddiad parhaus er mwyn osgoi dad-wneud y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud.

Beth yw neges Llywodraeth y DU i'r bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru y mae'r cyllid hwn, bob dydd, yn cefnogi eu dyfodol? Cynigiodd Llywodraeth y DU gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU gyfan i ddisodli arian yr UE dros ddwy flynedd yn ôl ac addawodd y byddai'n ymgynghori arni droeon yn ystod 2018. Nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Yn y cyfamser, maen nhw dro ar ôl tro wedi gwrthod ymwneud yn ystyrlon â ni o ran  disodli'r cyllid hwn yng Nghymru. 

Ers y refferendwm, mae ein gofynion wedi bod yn gyson ac yn glir. Rydym ni wedi galw am beidio â chael ceiniog yn llai na'r hyn y byddem ni wedi'i ddisgwyl o fewn yr UE, gan ofyn dim ond am gadw'r addewidion a wnaethpwyd i bobl Cymru yn ystod refferendwm 2016. Rydym ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn annibynnol wrth ddatblygu a chyflawni trefniadau olynol, gan ofyn yn unig bod datganoli, y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ddwywaith, yn cael ei barchu. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo sawl gwaith i barchu datganoli wrth ddatblygu'r gronfa ffyniant gyffredin, ond yn bendant nid yw eu camau gweithredu wedi gwneud hynny.

Felly, gadewch inni fod yn glir—mae'r diffyg penderfyniad a'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU yn peryglu bywoliaeth pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn y dyfodol. Mae anwybyddu confensiynau hirsefydlog ar weithio rhynglywodraethol a thanseilio setliadau datganoli yn rhoi ein hundeb cyfan mewn perygl. Yn gwbl groes i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati ar unwaith, yn glir ac yn eangfrydig i ddatblygu dull o fuddsoddi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi ymgysylltu'n eang â phwyllgorau'r Cynulliad a grwpiau Seneddol yr holl bleidiau. Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, CLlLC, prifysgolion Cymru, CCAUC, a CGGC, a melinau trafod gan gynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil dros Bolisi Cyhoeddus, i gyd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru.  

Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau'n parhau i godi mater cyllid cyfnewid, gan atgyfnerthu ein sefyllfa a phwyso am eglurder gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn wedi cynnwys yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, cyfarfodydd pedairochrog y Gweinidogion cyllid, a thrwy ohebiaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r materion hyn gyda Phrif Weinidog y DU, ac, wrth gwrs, byddwn yn dal i hyrwyddo ein sefyllfa gyda'r Prif Weinidog a'r Cabinet newydd.  

Dywedwyd wrthym y bydd penderfyniadau ar gyllid disodli yn cael eu gwneud yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gan fod hyn yn debygol o gael ei ohirio erbyn hyn, mae angen eglurder arnom ni ar frys ynghylch setliad ariannol hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion. O fewn yr UE, byddem ni eisoes wedi cael y sicrwydd hwn, a byddem ni'n cynllunio rhaglenni newydd yn ffyddiog o gael arian newydd ar gael a'r ymreolaeth i'w ddarparu. Yr hyn na allwn, ac na fyddwn, ni'n ei wneud yw sefyll yn ein hunfan tan y bydd y materion hyn yn cael eu datrys. Nid hyn y byddai ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau yn ei ddisgwyl gennym ni, ac mae dyfodol Cymru yn rhy bwysig.  

Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym ni wedi cael cyfraniadau manwl i'r ddadl ar drefniadau olynol yng Nghymru gan randdeiliaid a chan bwyllgorau'r Cynulliad. Mae'r rhain yn datblygu cyfeiriad y trywydd a nodwyd yn ein papur polisi Brexit, 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Rydym ni wedi sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru i roi cyngor i ni ar y trefniadau olynol, gan fanteisio ar arbenigedd o fyd busnes, llywodraeth leol, academia a'r trydydd sector. Bydd gwaith manwl yn parhau gyda phartneriaid yng Nghymru a'r tu hwnt yn ystod yr haf, wrth i Lywodraeth y DU edrych tuag at i mewn unwaith eto.

Diolch i'r cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ac aelodau'r grŵp llywio am eu hymrwymiad hyd yn hyn. Mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, nododd fy rhagflaenydd yr egwyddorion a oedd yn sail i'r dull a ffefrir gennym ym mis Hydref y llynedd. Byddwn yn sicrhau bod arian disodli yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb. Byddwn ni'n gwneud hyn sawl gwaith y flwyddyn o fewn ein fframwaith cyllideb ein hunain. Rydym ni eisiau gweld canolbwyntio mwy cadarn ar ganlyniadau, sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n cynllun gweithredu economaidd. Yn rhan o hyn, byddwn yn cryfhau swyddogaeth rhanbarthau Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau. Rydym ni hefyd yn edrych tuag allan. Bydd ein gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn sicrhau bod arfer gorau rhyngwladol ar ddatblygu a llywodraethu rhanbarthol yn rhan o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Felly, i gloi, rydym ni angen sicrwydd ar frys ynghylch y cyllid hwn. Gobeithiaf y bydd Prif Weinidog newydd yn ailystyried agwedd Llywodraeth y DU ac yn parchu datganoli drwy ei weithredoedd yn ogystal â'i eiriau. Mae ein llais yn y dadleuon hynny'n gryfach pan ei fod yn unedig, ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

18:10

Diolch. Rwyf i wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Nick Ramsay.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am agor y ddadl hon? Rwyf yn falch o gyfrannu ati, ac o gytuno, mewn gwirionedd, â sawl un—ond nid pob un, fel na fyddwch yn synnu fy nghlywed i'n ei ddweud—o'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud, ond, er hynny, roedd nifer o'r pwyntiau a wnaethoch yn rhywbeth, fe gredaf, y gallai pob un ohonom ni gytuno â nhw, Gweinidog, o ran datblygu system sy'n deg, sy'n gwarantu cyllid i Gymru yn y dyfodol, sy'n lliniaru rhywfaint o ansicrwydd y broses Brexit, yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohono, ac sydd yn y pen draw yn darparu cyllid effeithiol i Gymru y gellir dibynnu arno gan Lywodraeth Cymru a gan bobl Cymru a gan fusnesau.

Mae'r cynnig yn cydnabod bod Cymru yn cael tua £370 miliwn bob blwyddyn mewn cronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE ac mae hefyd yn galw arnom ni i gofio'r addewidion a wnaed yn ystod refferendwm yr UE na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i Gymru'n gadael yr UE. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gyflawni. Pa ffordd bynnag yr ydych yn ei eirio a pha iaith bynnag yr ydych yn ei defnyddio, mae sôn am beidio colli ceiniog yn achosi cynnwrf, ond mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda ein bod wedi cael addewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol o ran yr arian y byddem yn ei gael yn lle'r arian Ewropeaidd ar ôl i'r broses Brexit ddod i ben, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon yn credu y dylai ddigwydd. Dylai Cymru barhau i gael y cymorth ariannol sydd ei angen arnom ni.

O ran mater y gronfa ffyniant gyffredin, y sonnir amdani'n benodol yn y cynnig, wrth gwrs y byddem i gyd yn hoffi gweld mwy o fanylion am y gronfa honno ac ar y cyfle cyntaf. Yn amlwg, mae hynny'n hanfodol yn fy marn i, ond er hynny, rwy'n credu ei fod yn annoeth ac afrealistig i ddiystyru’r gronfa'n llwyr ar ba wedd bynnag y mae hi ar hyn o bryd, fel y mae'n ymddangos bod y cynnig hwn yn ceisio ei wneud. Mae o leiaf yn ymgais i geisio disodli cyllid Ewropeaidd gyda mecanwaith sy'n deg ac sydd nid yn unig yn cefnogi—mae yna ymgais i wneud hynny—Cymru a'r Alban a chenhedloedd y DU, ond hefyd rhanbarthau'r DU. Credaf mai dyna oedd yr egwyddor wreiddiol y tu ôl i hyn. Ac fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, ar hyn o bryd mae cwestiynau heb eu hateb, yr ydym ni'n ei dderbyn, ac rwy'n credu y byddai Llywodraeth y DU yn ei dderbyn, nad ydyn nhw wedi'u datrys eto, a dim ond pan gaiff y rheini eu datrys ac y gallwn ni weld ffurf derfynol ar gronfa ffyniant y DU y gallwn ni ddweud, 'O'r gorau, nid yw'n mynd i ddarparu yn y ffordd y dymunwn', neu byddwn yn gallu dweud ei fod yn mynd yn bell ar hyd y ffordd tuag at ddarparu'r math o gefnogaeth y mae ei hangen ar Gymru.

Mewn egwyddor, mae'n syniad da, ond mae'n rhaid iddo gael ei weld fel un sy'n gydnaws â datganoli, ac roedd hwnnw'n bwynt a wnaeth y Gweinidog, rwy'n credu, drwy gydol yr holl ddadl a thrafodaeth hon, rydym ni wedi cael y ddadl barhaus hon ynghylch pa un a ddylid—. Ar y naill law, mae gennych chi gronfa ffyniant y DU. Sut y mae hynny'n gydnaws â datganoli? A oes rhyw fath o dynnu yn ôl ar ddatganoli? Nid dyna oedd y ddealltwriaeth o gwbl ar ddechrau'r broses hon, ynglŷn â sut y byddai hyn yn mynd rhagddo, ac yn sicr ni ddylai hynny fod yn wir. Ni ddylai disodli arian yr UE arwain at dynnu datganoli a phwerau'r Cynulliad hwn yn ôl. Nid dyna yr oeddem ni wedi'i ragweld ac nid dyna wnaeth pobl Cymru bleidleisio drosto.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Felly, pam ydych chi'n cynnig gwrthod paragraff 3 y cynnig, sy'n dweud yn y bôn y dylid gwrthod

y syniad o gronfa ganolog a gyfarwyddir gan y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r weinyddiaeth ddatganoledig,

oherwydd, i bob pwrpas, yr ydych chi newydd ddweud eich bod yn cytuno'n llwyr â hynny? Felly, pam ydych chi'n ei wrthod?

[Anghlywadwy.]—cyfreithiwr weithiau. Wel, yn gyntaf, dydw i ddim yn hoffi tôn y cynnig. Credaf, pe byddem ni i gyd yn trafod—. Gwn eich bod wedi cael trafodaeth glos gyda Phlaid Cymru ynghylch sut y byddai'r cynnig yn cael ei eirio a'ch bod chi'n fodlon iawn ar hynny, ond credaf y byddai wedi bod yn bosibl ceisio cael cytundeb ehangach ar y cynnig hwnnw, a dweud y gwir, a chredaf y gallem ni fod wedi cael gwell tôn. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth y Gweinidog fy mod i'n credu, er bod rhai manylion am y gronfa ffyniant gyffredin yn dal yn ansicr, rhai ohonyn nhw yn ddealladwy felly, ei bod hi'n annheg felly i ddiystyru'r gronfa gyfan ar hyn o bryd. Rwyf yn derbyn yn nes ymlaen efallai y byddwch eisiau dweud na ddylid ei derbyn ac y gallwch chi gael gwared arni, ond ar hyn o bryd nid wyf yn credu y dylai pwynt 3 fod yna. Mewn gwirionedd, rydym ni yn derbyn pwynt 4, sy'n dilyn o bwynt 3—rhywbeth amlwg i ddweud wrthych chi mae'n debyg,—ond mae pwynt 4 yn dweud bod angen tegwch. Mae'n dweud—. Gallaf weld bod Mick Antoniw nawr yn darllen y pwynt 4 hwnnw. A byddwch yn gweld bod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud ym mhwynt 4 yn fy marn i yn gwneud pwyntiau pwynt 3 mewn ffordd llawer mwy effeithiol a gyda gwell tôn, a dyna pam y gwnaethom ni bleidleisio i ddileu pwynt 3. [Torri ar draws.] A gaf i wneud dim ond ychydig bach o gynnydd? Yna, fe wnaf i eich gadael chi i mewn.

Rydym ni i gyd yn cytuno bod angen setliad teg i genhedloedd a rhanbarthau'r DU gyfan, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thanfuddsoddi ar hyd a lled y wlad. Rydym ni hefyd yn cytuno bod angen i'r trefniadau newydd barchu datganoli a sicrhau bod Cymru yn cadw'r ymreolaeth i ddatganoli a chyflawni trefniadau llwyddiannus ar gyfer cronfeydd olynol—y pwynt a wneir ym mhwynt 4. Ildiaf.

18:15

Diolch am ildio, Nick. Os ydw i'n gwrando'n iawn ar yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, rydych chi'n cefnogi o leiaf yr egwyddor y tu ôl i bwyntiau rhif 2 a rhif 3, ond dydych chi ddim yn hoffi'r tôn. Mae egwyddor rhif 2 ynghylch y diffyg manylder yr ydych chi newydd sôn amdano yn fwy huawdl nag y gallaf i; rydych chi hefyd yn gresynu at y diffyg manylion. Ac rydych chi'n gwrthod y syniad o gronfa wedi'i chanoli neu o dan gyfarwyddyd y DU; rydych chi eisiau iddi gael ei rheoli yma yng Nghymru. Felly, a gaf i o leiaf gael eglurder ar y cofnod, er nad ydych chi o bosibl yn hoffi tôn rhywbeth yn y fan yma, eich bod yn derbyn egwyddor cynnig y Llywodraeth?

Yn gyntaf oll, oes, mae yna broblem yn ymwneud â thôn. O ran pwynt 2, mae'n dweud:

'Yn gresynu at ddiffyg manylder Lywodraeth y DU'.

Rwyf eisoes wedi dweud ein bod eisiau gweld mwy o fanylion, a bydd hynny'n dod yn fuan. Iawn. Gan adael hynny i'r naill ochr, mae pwynt 3:

'Yn gwrthod y syniad o gronfa ganolog neu gronfa dan gyfarwyddyd y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig ar ôl Brexit.'

Nid ydym ni'n derbyn bod ymgais i osgoi. Yr iaith—efallai y byddech yn dweud y tôn—sy'n annerbyniol i ni, gan ei bod yn pwysoli'r ddadl i ryw gyfeiriad nad yw'n dderbyniol yn ein barn ni. A byddai wedi bod yn llawer gwell pe byddem ni i gyd wedi cytuno ar iaith y cynnig hwn, fel y gallem ni i gyd fod wedi ei dderbyn. Ond cedwir pwynt 4. [Torri ar draws.] Os oes gen i amser, fe wnaf i ildio. Rwy'n credu eu bod yn gwneud pwynt pwysig, ond mae'n fater i'r Llywydd.

Yn wir, ac rwyf yn croesawu eich bod chi'n ildio am fod hynny'n helpu'r ddadl.

Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw po fwyaf o ymyriadau sy'n digwydd, y llai tebygol y bydd rhai pobl yn cael eu galw yn nes ymlaen yn y ddadl.

Ac os bydda i'n dioddef, byddaf i'n derbyn hynny, Llywydd.

Y cyfan y mae'n ei wneud yw dweud nad ydych chi'n derbyn y syniad bod Llywodraeth y DU yn rhif 3 yn ceisio osgoi hynny. Ond y syniad o gronfa wedi'i chanoli neu o dan gyfarwyddyd y DU, gwrthod hynny—a ydych chi'n derbyn bod hynny'n cael ei wrthod?

I fod yn gwbl glir ynglŷn â hyn, rwyf i'n credu bod pwynt 3, ac rydym ni'n credu bod pwynt 3, yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ceisio osgoi yn fwriadol er mwyn tynnu pwerau yn ôl, rhywbeth nad ydyw'n ei wneud. Mae'r ffaith y gallai hynny—[Torri ar draws.] Mae'r ffaith y gallai'r canlyniad hwnnw fod yn ganlyniad anweledig ymhellach i lawr y ffordd yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod, a dyna pam rwy'n credu bod pwynt 4 yn fwy effeithiol o lawer wrth wneud y pwynt, ond nid wyf i'n credu bod pwynt 3 yn gwneud hynny Rwy'n sylweddoli bod fy amser i bron ar ben, felly os caf i orffen.

Rwyf yn cytuno'n llwyr—mae'r ymgyrch 'gadael' yn llafar iawn draw yn y fan yna—gyda sylwadau'r ymgyrch 'gadael' cyn y refferendwm na ddylai Cymru fod yr un geiniog ar ei cholled ar ôl i hyn i gyd fynd heibio. Gobeithio mai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac nid geiriau'n unig ydoedd hynny. Rwyf yn gwerthfawrogi bod rhai rhesymau dealladwy pam mae gennym ni'r dryswch presennol hwn, ond credaf os byddwn i gyd yn cydweithio yma y gallwn ni gyflwyno neges i Lywodraeth y DU sydd, yn fy marn i, yn dderbyniol i bob un ohonom, a bydd hynny'n dweud bod Cymru eisiau cael ymreolaeth ac atebolrwydd ariannol yn y fan yma, ac nad yw eisiau gweld hynny'n cael ei golli i'r DU.

Wythnos neu ddwy cyn y refferendwm yn 2016, llofnododd grŵp o ymgyrchwyr 'ymadael' lythyr nid yn dweud y dylai Cymru gael yr un faint o arian ar ôl Brexit, ond y byddai'r arian y mae Cymru eisoes yn ei gael o Frwsel yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Byddaf i'n garedig ac yn hytrach na dweud eu bod nhw'n dweud celwydd—er y gall eraill ddod i'w casgliadau eu hunain—rwyf am ddweud mai dweud rhywbeth rywbeth oedden nhw. Efallai eich bod yn gyfarwydd â rhai o lofnodwyr y llythyr hwnnw—Boris Johnson, Michael Gove a Dominic Raab yn eu plith. Tair blynedd ymlaen, rydym ni'n dal i fod heb addewid o gyllid i Gymru ar ôl Brexit. Yn union fel y mae'r dystiolaeth wedi bod yn pentyrru y byddai Brexit yn achosi niwed dwfn i economi Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi digon o dystiolaeth nad oedd yn malio dim am yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru fod yn derbyn arian yr UE yn ôl angen—rhywbeth, wrth gwrs, nad yw fformiwla Barnett, sydd wedi dyddio, yn ei wneud.

Nododd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017 y byddan nhw yn defnyddio arian y gronfa strwythurol a ddaw'n ôl i'r DU yn dilyn Brexit i greu cronfa ffyniant gyffredin yn y Deyrnas Unedig, a gynllunnir yn arbennig i leihau anghydraddoldeb rhwng cymunedau ledled ein pedair gwlad. Byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal a byddai'n cael ei gwblhau cyn diwedd 2018. Cyfle i ni amheuwyr, efallai, herio Llywodraeth y DU, i'w gwthio ar eu haddewidion. Ond rydym ni'n dal i fod heb gael ymgynghoriad. Nid oes addewidion mwyach. Dim cynllun, dim manylion, dim cynnig. Yn gynharach eleni, fe gyhoeddais i a'm cyd-aelod o Blaid Cymru, Ben Lake AS, yr adroddiad hwn, 'Dim Ceiniog yn Llai'—ein hymateb i'r ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin. Roedd yn rhywbeth braidd yn anarferol i'w wneud, oherwydd ein bod ni’n ymateb i bapur ymgynghori nad oedd hyd yn oed wedi'i gyhoeddi eto. Ond roedd yn rhaid i ni wneud hynny.

Roedd y cyhoeddiad am y gronfa ffyniant gyffredin wedi cael ei groesawu yn ôl yn 2017 gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar y pryd, Andrew R.T. Davies, y dywedwyd wrthyf nad yw'n gallu bod yma y prynhawn yma. Roedd croeso mawr iddo, meddai, ac yr oedd yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru'n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n fath rhyfedd o 'well ei byd'. Un o'r breuddwydion rhamantus Brexitaidd hynny, rwy'n tybio, yn hytrach na bod yn well ein byd yn yr ystyr y byddem ni mewn gwirionedd yn well ein byd—wedi ein cyllido'n well, mewn sefyllfa well yn economaidd. Oherwydd bod y dystiolaeth nawr yn glir—[Torri ar draws.] Na, dywedodd na allai fod yma'r prynhawn yma, felly rwy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw yma y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Roeddwn i'n sôn am Andrew R.T. Davies, ac yn egluro nad yw yma y prynhawn yma.

18:20

Mae'r dystiolaeth yn glir erbyn hyn. Mae'r risg yn amlwg y bydd Whitehall ddim ond yn ailadrodd ei fformiwla arferol o ddosbarthu arian datblygu economaidd. Ac edrychwch ar yr hyn y mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ddoe gan y mudiad Communities in Charge yn ei ddweud wrthym am yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Dywedodd un o drefnwyr yr ymgyrch y byddai'n debyg i roi siec am dros £200 i bob un o drigolion Llundain a chymryd £700 oddi wrth bob person yng Nghymru. Mae'n bosibl y gallai Cymru golli dros £2.3 biliwn dros chwe blynedd, gydag arian yn llifo i dde-ddwyrain ffyniannus Lloegr. Felly, yn hytrach na lleihau anghydraddoldeb, byddai Llywodraeth busnes fel arfer y DU ddim ond yn cynyddu'r anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau'r DU a gwledydd y DU. Dyma yw realiti Brexit, dyma sy'n wynebu Cymru, a hynny heb gymryd i ystyriaeth y difrod a fyddai'n llifo o drychineb economaidd Brexit 'dim cytundeb'.

Llywydd, mae'r adroddiad yma dwi wedi'i grybwyll yn pwysleisio gwerth cronfeydd Ewropeaidd i Gymru, o ran sgiliau, o ran isadeiledd ac yn y blaen. Allwn ni ddim derbyn colli ceiniog os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd. Ond ar hyn o bryd, does yna ddim sicrwydd o hynny, ac mae hynny, i fi, yn brawf o gyn lleied o flaenoriaeth ydy lles Cymru yng nghanol hyn oll. Mae gennym ni gyfres o ofynion. Mae angen sicrwydd y bydd arian yn cael ei neilltuo yn llawn ymlaen llaw, nid ei ddyrannu drwy broses fidio gystadleuol. Mae eisiau iddi fod yn rhaglen gyllido aml-flynyddol. Mae eisiau iddo fo adlewyrchu’r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, lle mae arian yn cael ei roi yn ôl galw, nid poblogaeth. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn 22 y cant o arian cronfeydd strwythurol Ewrop. Rydych chi'n clywed ein neges ni—dim ceiniog yn llai.

Ond nid dim ond sicrwydd am y symiau o arian rydym ni'n chwilio amdano fo—ac mae hyn wedi cael ei gyfeirio ato fo eisoes. Mae angen sicrwydd y byddai'n cael ei reoli gan Gymru. Rydym ni'n gweld yn barod beth sy'n gallu digwydd drwy'r bargeinion dinesig a'r fargen ranbarthol i'r gogledd, er enghraifft. Wrth gwrs fy mod i'n mynd i groesawu unrhyw arian ddaw o'r Trysorlys i gefnogi datblygiadau yng Nghymru, ond beth sy'n digwydd ydy bod Gweinidogion yn Whitehall eisiau rheoli a chael y gair olaf ar wariant. Mae'n rhaid parchu y setliad datganoli a sylweddoli mai yma yng Nghymru ddylai'r penderfyniadau gael eu gwneud ar osod blaenoriaethau ar gyfer creu Cymru fwy llewyrchus. Ac mae'n ddrwg gen i; mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn eu gwelliant yn tynnu'r cymal sy'n dweud bod rhaid grymuso y gweinyddiaethau datganoledig yn dweud y cyfan am y bygythiad sydd o'n blaenau ni.

18:25

Rwyf eisiau cefnogi cynnig y Llywodraeth, felly roeddwn i'n gobeithio y gallwn i wneud sylwadau cydsyniol, ond mae'n rhaid imi ddweud ar y dechrau bod y Gweinidog wedi dweud ei bod hi eisiau gweld addewidion o refferendwm 2016 yn cael eu hanrhydeddu. Iawn, a beth am inni ddechrau drwy anrhydeddu canlyniad y refferendwm? Soniodd hi ei bod hi eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gynnal refferendwm ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, heb dynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi cynnal un. Pleidleisiodd Cymru i adael, a'r broblem yw ei bod hi a'r carfannau y tu ôl iddi yn credu eu bod yn gwybod yn well na'r bobl sydd, ar y cyfan, yn eu hethol nhw, ac nid ydyn nhw eisiau gweithredu'r canlyniad. Dyna'r cwbl sydd ar y pwynt hwnnw. Mae'r materion—[Torri ar draws.] Mae'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu—[Torri ar draws.]

A gawn ni ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gyfraniadau mewn tawelwch, os gwelwch yn dda?

Wedi dweud y ddau bwynt cychwynnol hynny, fe wnaf i geisio dychwelyd at y dull mwy cydsyniol yr oeddwn i wedi'i fwriadu. Rwy'n cytuno â chynnig y Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod wedi'i eirio â phwyll ac, yn gyffredinol, synnwyr da. Pwynt 1(a)—rwy'n nodi'r gymhariaeth, hyd yn oed os ydym yn derbyn y ffigur hwnnw o £370 miliwn y flwyddyn, ei fod yn cymharu â'r swm yr ydym yn ei dalu i'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, gall fod naill ai'n ffigur gros, gall fod yn ffigur net, ac mae amryw o wahanol ffynonellau y gallwn ni eu ddefnyddio i amcangyfrif. Ond, hyd yn oed ym mhen isaf yr amcangyfrifon ar gyfer y cyfraniad net, rydym yn edrych ar ryw £9 biliwn y flwyddyn, a gan fod poblogaeth Cymru yn cyfrif am 5 y cant o boblogaeth y DU, mae ein cyfran ni o hynny yn isafswm o £450 miliwn—h.y. mwy nag yr ydym yn ei dderbyn yn ôl hyd yn oed ar sail y rhifau hyn.

Mae pwynt 1(b) yn gwbl gywir y gwnaed yr addewidion hyn. Nodwyd llythyr penodol yn gynharach. Rwy'n credu mai ymgyrchwyr 'ymadael' ar y cyfan, ac nid Llywodraeth y DU, a wnaeth yr addewidion hyn. Mae'n wahaniaeth pwysig, ac rwy'n credu ei fod yn un y dylem ni ei gofio. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw bod llawer o'r bobl a wnaeth y datganiadau hynny—ac eto, soniodd yr Aelod, rwy'n credu, am Boris Johnson, Michael Gove a Dominic Raab—yn gwneud cais ar hyn o bryd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ac felly, mae'n bosibl o leiaf, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu un peth da, o bosibl, am yr oedi—. Rwy'n cytuno ac yn gresynu at y diffyg manylion a welsom am y gronfa ffyniant gyffredin, ond tybed a yw er gwell, oherwydd yr hyn a welsom oedd rhywun a oedd yn dymuno aros yn yr UE, Theresa May, yn cymryd awennau'r Llywodraeth, yn rhoi rhai ymadawyr mewn swyddi penodol fel addurn, er mwyn ymddangos fel eu bod yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â Brexit, ond wedyn yn trafod rhywbeth drwy sianel gefn gyfrinachol, drwy weision sifil, yn gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn yr oedd y Gweinidogion Brexit hynny yn credu eu bod yn ei arwain. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe wnaf ildio.

Diolch am dderbyn ymyriad. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n ei weld fel symptom arall o'r diffyg eglurder ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo. Un o'r materion mawr i mi ynglŷn â'r refferendwm yn 2016 yw nad ydym ni'n gwybod o hyd beth y pleidleisiodd pobl drosto. Efallai fod gennych chi syniad; efallai y bydd gan bobl eraill yn yr ystafell hon syniad. Unwaith eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gasgliad ynglŷn â hynny, nid ydym ni ychwaith, ar ôl tair blynedd, wedi dod i gasgliad ynglŷn â sut y gallai cronfa ffyniant gyffredin weithio.

Fe wnaethom ni bleidleisio i adael, ac mae'n ddrwg gen i nad yw'r Aelod yn parchu hynny mwyach. Rwy'n sylwi na wnaeth ei aelodau bleidleisio yn erbyn sbarduno erthygl 50, ac eto dyma nhw yn ceisio dadwneud y canlyniad.

Fodd bynnag, yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw, i ddatblygu'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, os bydd Boris Johnson, Michael Gove, Dominic Raab, neu yn sicr os bydd Boris Johnson neu Michael Gove yn dod i mewn—mae'n ddrwg gen i, nid Michael Gove, ond Dominic Raab—a fu'n glir iawn ynglŷn â hyn, gall y pethau hyn ddod yn ôl at ei gilydd, gobeithio, a bydd yr union bobl sy'n gwneud yr addewidion hynny, sy'n gwneud yr ymrwymiadau hynny, yn arwain Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mewn sefyllfa i roi'r ymrwymiadau hynny ar waith. Ac rwy'n credu, felly, y gallai fod yn beth da nad ydym ni wedi gweld y manylion yn y gronfa ffyniant gyffredin, i'r graddau ei bod yn bosibl yn awr y bydd gennym ni, cyn hir, Lywodraeth dan arweiniad y bobl sy'n gwneud yr addewidion hynny, ac y gallwn ni ddweud, 'Wel, edrychwch, dyma wnaethoch chi ei ddweud wrthym bryd hynny; gwnewch yn siŵr bod Cymru'n cael yr hyn y gwnaethoch chi ei addo.' Nid oedd yn ymddangos bod Theresa May yn dymuno cyflawni hynny. Gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n ennill yr etholiad arweinyddiaeth hwn yn dymuno cyflawni hynny.

O ran pwynt 1(c), rwyf wedi gweld, David Rees, eich bod wedi rhoi cryn dipyn o gyhoeddusrwydd i'r grŵp seneddol hollbleidiol hwn y mae Stephen Kinnock yn ei arwain. Nid wyf i'n gwybod a yw hynny oherwydd eich bod yn rhannu etholaeth, neu a yw Stephen wedi cael mwy o ddewis ar gyfer y grŵp seneddol hollbleidiol hwn. Rwy'n gobeithio ei drafod gydag ef yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ond, yn sicr, rwy'n credu ei bod yn galonogol ei fod yn dod â phobl i mewn i hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o ochr y Ceidwadwyr hefyd yn cysylltu â'r grŵp seneddol hollbleidiol hwnnw. Gwnaf.

18:30

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Er mwyn egluro: o ran fy ngyd-gynrychiolydd Stephen Kinnock, sef AS fy etholaeth i, fel y gwnaethoch ei nodi, mae gan y grŵp hollbleidiol seneddol aelodaeth drawsbleidiol—yr SNP, y Ceidwadwyr, grwpiau amrywiol—ac felly barn dorfol ydyw, nid ei farn ef yn unig, ac mae hefyd yn farn academyddion sydd wedi cyfrannu ymchwil at yr adroddiad. Mae hyn yn seiliedig ar ymchwil academaidd, ac felly mae'n amlwg bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y pryderon sydd ganddynt.

Da iawn. Wel, rwy'n dymuno'n dda iddo ac rwy'n llongyfarch Stephen Kinnock ar y gwaith y mae'n ei wneud yma, a hefyd ar gysondeb ei safbwynt ar Brexit. Yn wahanol i'r Aelodau yma, nid yw ef wedi ei newid, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n annog y Ceidwadwyr hefyd, gobeithio, i gysylltu â'r grŵp hollbleidiol seneddol hwn, i ystyried ble y gallan nhw ddylanwadu ar y ddadl fel y mae'n digwydd. Mae yna ornest am yr arweinyddiaeth. Mae pobl yn trafod materion. Beth am geisio gwneud yn siŵr bod polisi Llywodraeth y DU yn cysylltu â pholisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chael yr arian a addawyd?

Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, oherwydd mae pwynt 3, yn fy marn i, wedi ei eirio'n dda mewn gwirionedd. Nid ydym ni eisiau cronfa wedi'i chanoli na'i chyfarwyddo gan y DU; rydym ni eisiau un y mae gennym ni fwy o ddylanwad arni nag a fu gennym pan gafodd ei rhedeg gan yr UE. Nid ydym ni eisiau osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig; rydym ni eisiau ceisio cytuno ar rywbeth sy'n gweithio i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwyf i'n edrych ymlaen at gefnogi'r cynnig.

O ran bwrw ymlaen â'r ddadl hon, nid wyf i mewn gwirionedd yn diystyru'r cyllid fel a awgrymodd yr Aelod dros Sir Fynwy mewn cyfraniad cynharach, ond yr hyn sy'n peri pryder mawr i mi yw nad oes gennym unrhyw weledigaeth nac uchelgais amlwg ar gyfer y gronfa hon. Flynyddoedd ar ôl ei chyhoeddi, nid ydym ni'n gwybod beth yw amcanion y gronfa, heblaw am ambell frawddeg yn etholiad 2017 y Ceidwadwyr. Nid ydym yn gwybod beth yw'r arian fydd ar gael, nid ydym yn gwybod sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu, nid ydym yn gwybod pa fesurau a ddefnyddir i ddosbarthu'r arian hwnnw, ac nid ydym yn deall sut y caiff datganoli ei gydnabod na'i ystyried, wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi. Mae hynny'n rhan bwysig o'r ddadl hon, gan fod y ddadl hon yn dweud mwy wrthym am y Deyrnas Unedig nag y mae'n ei ddweud am gyllid yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd. Fe gymeraf ymyriad.

Rwy'n credu bod angen ychydig o realiti yn y fan yma. Dylem ni fod wedi bod â chytundeb ymadael wedi'i gymeradwyo gan y Senedd hydref diwethaf. Dyna'n amlwg yr oedd y Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Dylem ni fod wedi ymadael ym mis Mawrth ac erbyn hyn dylem ni fod mewn cyfnod pontio lle byddai'r holl daliadau presennol wedi eu gwarantu tan ddiwedd y cylch hwn, ac yn ystod y cyfnod hwn byddem wedyn wedi ffurfio'r gronfa ffyniant gyffredin, a byddai'r ymgynghoriad wedi'i gynnal. Yr holl bobl yn y fan yma sydd wedi atal, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gefnogi eich cydweithwyr yn San Steffan, gytundeb ymadael rhag mynd drwy'r Senedd, hynny sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon. Ni allwch chi drafod y materion gwirioneddol bwysig hyn sy'n deillio o'r penderfyniad i ymadael a gadael cyn i chi wneud hynny.

Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, rwy'n meddwl ei bod yn rhyfeddol bod y Llywodraeth yn beio'r gwrthbleidiau os na allan nhw gyflawni eu busnes. Dyna'r ddadl fwyaf hurt yr wyf i wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn y lle hwn. Ac rwy'n dweud hyn wrth David Melding hefyd: fe wnaeth bwynt yn gynharach, yn ystod ymyriad yn gynharach, yn dweud y byddai'n cael ei gyfarwyddo gan Frwsel—dan gyfarwyddyd Ewrop, rwy'n credu yw'r hyn a ddywedodd—o ran strwythur y cyllid hwn. Nid yw hynny'n wir. Nid yw'n wir o gwbl. Rwy'n cofio fel Gweinidog fynychu'r Cyngor Materion Cyffredinol yn Lwcsembwrg pan fyddem yn cael dadleuon ynghylch y materion hyn. Rwy'n cofio mai fy swyddogion i a helpodd i lunio rhannau o'r ddeddfwriaeth hon; mai swyddogion Llywodraeth Cymru gan weithio gyda Llywodraeth y DU, gan weithio gydag UKREP hefyd, a gynlluniodd ac a ddatblygodd y gronfa hon mewn gwirionedd. Ni fu unrhyw waith llunio polisïau anhryloyw a ddigwyddodd yn y Trysorlys nac yn Whitehall a chafwyd areithiau achlysurol gan Weinidogion. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth a'r polisi a ddaeth i fod oherwydd y ddeddfwriaeth honno.

Felly, o ran y ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw nad oes gennym ddatganoli o ran darparu polisïau, ond mae gennym gydnabyddiaeth o Deyrnas Unedig amlfodd, os yw hynny'n bosibl, wrth ddatblygu polisïau. Felly, swyddogion Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn cydweithio â'n cydweithwyr yn yr Alban ac â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, gan ddatblygu polisi a datblygu'r hyn y dylai'r gronfa fod, ac nid yw beio'r gwrthbleidiau oherwydd nad yw hynny digwydd, a bod yn onest, yn bwynt difrifol.

Ond yr hyn sydd gennym, yn hytrach na hynny, yw cuddio a chamarwain, a'r hyn sydd gennym yw rhwystro datblygiad polisi. Ac mae hynny'n digwydd o'r DU ac nid o fannau eraill, oherwydd rwy'n clywed geiriau camarweiniol Gweinidogion y DU yn dweud y byddwn yn cronni pwerau ychwanegol ar ôl unrhyw Brexit, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn deall nac yn gwerthfawrogi beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a beth y mae hynny'n ei olygu i'r modd y maen nhw'n gweithredu a sut y maen nhw'n datblygu eu polisi. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau bod gennym gronfa ffyniant gyffredin nad yw'n adlewyrchu dymuniadau Llundain, ond anghenion y Deyrnas Unedig.

Y pwynt olaf sydd gen i yw hyn: bydd llawer ohonom ni wedi gweld ffigurau yn cael eu cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe a gynhyrchwyd gan yr Huffington Post, a oedd yn ceisio rhoi enghraifft, hyd y gallwn i ei weld, o sut y byddai gwahanol rannau'r undeb yn ymdopi pe byddai'r gronfa ffyniant gyffredin hon yn cael ei dosbarthu yn ôl methodolegau ariannu presennol. A'r hyn a oedd fwyaf brawychus ynghylch y ffigurau hyn, oedd nid yn unig colli cyllid i Gymru a throsglwyddiad net arian o Gymru i rannau cymharol gefnog o'r Deyrnas Unedig, ond bod y trosglwyddiadau cyllid hyn yn adlewyrchu polisi presennol y DU a dull presennol y DU, bod cyllid yn llifo o'r tlawd i'r cyfoethog, o'r di-rym i'r pwerus ac o'r cyrion i'r canol. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am ddarlun y Deyrnas Unedig o'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd? Os yw'r DU yn golygu unrhyw beth, yna mae'n golygu nid yn unig undeb gwleidyddol, ond undeb o undod cymdeithasol lle y rhennir adnoddau, lle y dosberthir arian yn ôl yr angen a lle y ceir dosbarthu ac ailddosbarthu i'r rhannau hynny o'r Deyrnas Unedig lle mae angen y cronfeydd hynny. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sylweddoli nac yn deall hyn, ac yn sicr nid yw eu cynigion yn cydnabod hynny.

Felly, wrth gloi, Llywydd, gadewch imi ddweud hyn: prawf yw hwn yn sicr ac mae'n sicr yn brawf i'r Llywodraeth Dorïaidd hon, ond mae hefyd yn brawf, nid yn unig o'r modd y maent yn cyflawni datblygu economaidd neu ffyniant cyffredin, mae'n brawf o'u barn yn y dyfodol ar yr hyn y gall y Deyrnas Unedig fod. A ydym ni'n deulu o genhedloedd lle mae pob un yn gweithio gyda'r llall ac yn ei pharchu? Neu, ydym ni am gael gwybod beth i'w wneud a bod yn ddiolchgar am y briwsion yr ydym ni'n eu derbyn, addewidion ai peidio? I mi, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn deulu o genhedloedd lle'r ydym yn gweithio gyda'n gilydd, lle'r ydym yn parchu ein gilydd. Ar hyn o bryd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth bresennol hon yn gwneud hynny.

18:35

Yn rhy aml mewn dadleuon fel hyn sy'n canolbwyntio ar gyllid, gallwn ganolbwyntio gormod ar fanylion y canrannau a'r ffigurau yn y pellter sy'n ymddangos mor bell ei bod yn anodd olrhain eu perthynas â bywydau pobl. Mewn gwirionedd, bydd y cynigion yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, hynny yw, sut y bydd cronfeydd yn cael eu dyrannu ar ôl Brexit i helpu ein cymunedau, yn cael effaith annileadwy ar fywydau pobl. Ac, fel sy'n digwydd yn rhy aml, y bobl sydd angen y cymorth mwyaf sy'n debygol o ddioddef y gwaethaf o ba ergydion bynnag y mae ein heconomi yn gorfod eu dioddef.

Un o brif feirniadaethau refferendwm 2016 oedd bod yr ochr 'aros' wedi methu â chyfleu'r manteision enfawr a gynigiwyd i ni o fod yn aelod o'r UE. Gellid dadlau bod awdurdodau lleol a chyrff eraill, gan gynnwys y lle hwn efallai, hefyd, am flynyddoedd, wedi methu â dweud hanes sut yr oedd cronfeydd penodol yn helpu ein cymunedau. Felly, gadewch inni ddweud y stori honno nawr. Gadewch i ni egluro sut mae cronfeydd strwythurol o fudd i Gymru a'n dinasyddion sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Dosberthir y cronfeydd hanfodol hyn ar sail angen—dull sy'n ymddangos yn wrthun i Lywodraeth San Steffan, sy'n ffafrio'r boblogaeth fesul pen fel yr unig fesur o ddosbarthu cyfoeth. A nod y gronfa yw mynd i'r afael ag anghyfiawnder tlodi ac allgáu cymdeithasol.

Mae'r cronfeydd wedi cefnogi nifer o brosiectau yng Nghymru, megis STEMCymru 2, sy'n cefnogi pobl ifanc mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i annog mwy o fenywod ifanc i fynd ar drywydd peirianneg. A'r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, sy'n helpu rhieni di-waith i gael gwaith neu hyfforddiant drwy eu helpu â chostau gofal plant. Mae'r rhaglen Gweithffyrdd+, yn y cyfamser, yn helpu'r rhai dros 25 oed nad oes ganddyn nhw swydd i mewn i gyflogaeth. Mae'r rhaglenni hyn yn achubiaeth i bobl pan fo'u hangen arnyn nhw fwyaf. Mae'n rhaid i'r gronfa ffyniant gyffredin anrhydeddu'r amddiffyniadau a gynigir gan y system bresennol, ac mae'n rhaid ei dosbarthu ar sail egwyddorion tebyg. Nid mater ariannol yn unig yw ffyniant; wrth gwrs dyna'r elfen ganolog, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau lles a mynd i'r afael â gwahaniaethau strwythurol sy'n sail i annhegwch anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.

Rydym ni'n gwybod y rhan hon o'r stori, o leiaf: mae Cymru'n cael cyfran uwch o gronfeydd strwythurol y pen na gweddill y DU. Yn wir, rydym ni yng Nghymru'n cael chwe gwaith yn fwy o gyllid yr UE y pen na Lloegr. Mae hynny'n gyfystyr â £230 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, o'i gymharu ag £85 y pen yn Lloegr. Ond mae Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith mai menywod fydd yn dioddef waethaf os dilëir yr arian hwn, yn ogystal â grwpiau lleiafrifol eraill, pobl anabl, a phobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dyma'r grwpiau sy'n elwa ar hyn o bryd o raglenni a ariennir gan yr UE, fel y rhai yr wyf newydd eu crybwyll. Nhw yw'r rhai y dylem ni fod yn meddwl amdanyn nhw yn y ddadl hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar effeithiau posibl Brexit, ond nid yw'n benodol i Gymru. Mae angen archwiliad sy'n benodol i Gymru arnom ni o effaith debygol Brexit—yn enwedig, yn awr, Brexit caled—ar ein heconomi. Unwaith eto, mae gan yr UE hanes cryf o amddiffyn rhannau o gymdeithas y mae angen eu hamddiffyn fwyaf, nid yn unig drwy weinyddu cronfeydd, ond hefyd drwy ddeddfu ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hawliau dynol a hawliau gweithwyr. Nid yw San Steffan wedi rhoi unrhyw sicrwydd y bydd yn amddiffyn pob un o'r hawliau hyn. Byddai tynnu ein hunain o'r system hon o dan yr amgylchiadau hyn yn debyg i dynnu'r sgaffaldiau o amgylch tŷ pan na fydd y sylfeini wedi'u gosod. Ni fydd dim yno i'n rhwystro rhag dadfeilio i'r ddaear.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo na fydd ceiniog yn llai i'n cymunedau; rwy'n siŵr y bydd yr ymadrodd hwnnw'n eu plagio, ond mae'n rhaid inni beidio â gadael iddyn nhw ei anghofio.

18:40

Yn rhyfedd iawn, rwy'n siarad heddiw mewn dwy swyddogaeth, fel Cadeirydd y pwyllgor materion allanol, sydd wedi edrych yn ofalus iawn ar hyn, ond hefyd fel Aelod etholaeth ar gyfer etholaeth sydd wedi elwa ar yr arian gan Ewrop. Fe wnaf i ddechrau trwy fyfyrio ar y pwynt olaf hwnnw, yn enwedig ar gyfraniad Delyth Jewell, gan ein bod ni'n aml yn sôn am gyllid Ewropeaidd ar adeiladau a ffyrdd a strwythurau, ond gwir fanteision cyllid Ewropeaidd fu'r rhaglenni yr ydym ni wedi'u gweld yn gweithredu yn ein hetholaethau ni ein hunain, yn y cymunedau difreintiedig, yn helpu pobl i ennill cymwysterau, symud ymlaen gyda sgiliau, symud i gyflogaeth, yn llawn amser neu'n rhan amser, i allu datblygu eu bywydau. Dyna'r gwir fudd yr ydym ni wedi'i weld o'r cronfeydd hyn, ac yn aml iawn caiff y rhaglenni hynny eu hanghofio wrth sôn am gronfeydd strwythurol.

Mae'r cynnig yn nodi'n gywir ein bod yn derbyn £370 miliwn y flwyddyn, ac a gaf i atgoffa Mark Reckless nad yw'r cronfeydd strwythurol yn cyfeirio at unrhyw beth ar yr ochr amaethyddol? Felly, pan wnaethoch chi ddyfynnu eich ffigur, roeddem yn fuddiolwyr yn hyn, mewn gwirionedd, nid oeddem ni ddim ar ein colled o ganlyniad i gyllid i raglenni Ewropeaidd—[Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.

Beth am yr holl arian ychwanegol y mae trigolion Cymru yn ei dalu o ran y prisiau uwch am fwyd y dywedodd amdano, ond hefyd, yn wir, am ddillad ac esgidiau?

Dyma ni eto. Nid wyf i'n dymuno mynd i ddadl am reolau Sefydliad Masnach y Byd, ond rydych chi'n gwybod yn iawn y bydd y gost am nwyddau y bydd yn rhaid i bobl ei thalu yn cynyddu yn fawr iawn, os byddwn yn mynd i reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw fy etholwyr i'n dymuno'i dalu. Ond ta waeth; nid ydym ni'n sôn am y rheini. Rydym ni'n sôn am gronfeydd strwythurol, felly, gadewch inni fynd yn ôl at y pwnc yr ydym ni yma i siarad amdano.

Ni allwn anghofio, yn ystod refferendwm 2016—ac mae'n rhaid inni ddal i atgoffa pawb—am y sylwadau a wnaed na fyddem ni geiniog ar ein colled, oherwydd ein dyletswydd ni yw cynrychioli ein hetholwyr a sicrhau bod y bobl hynny sy'n gwneud yr addewid yn cadw'r addewid, a bod y bobl hynny sy'n hyrwyddo ymadael yn gwneud yn siŵr nad ydym ni geiniog yn dlotach ac nad ydym ni'n colli unrhyw bwerau. Eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud hynny, a'n cyfrifoldeb ni yw eu hatgoffa. Dylai unrhyw un sy'n dweud 'ymadael' gofio hynny.

Ond a gaf i hefyd atgoffa pobl, mewn gwirionedd, o hanfod economaidd-gymdeithasol y gwaith y mae'r cyllid Ewropeaidd yn ceisio ei gyflawni? Hynny yw codi perfformiad economaidd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r safonau gorau ledled Ewrop. Mae'n rhaid inni barhau â hynny ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn parhau â'r cyllid priodol. A phan fyddaf yn sôn am gyllid—. Fe wnaethom ni sôn am y cyllid Ewropeaidd. Rwy'n credu bod Rhun wedi sôn am yr arian—dyfynnwyd bod y swm a gawn gan Ewrop yn mynd i'r gronfa ffyniant gyffredin. Ni ddylem ni anghofio'r cyfraniad y mae'r DU yn ei wneud yn y cyllid hwnnw hefyd; ni allwn golli golwg ar hynny, oherwydd fel cynghorau ledled Lloegr—. Yn wir, cefais ymateb gan Gyngor Cernyw heddiw i'n cais ar ffyniant cyffredin, ac maen nhw'n ein hatgoffa, nid dim ond y cyllid Ewropeaidd ond cyfraniad y DU a fyddai'n cyd-fynd â hynny, yr arian cyfatebol, hefyd yn gorfod mynd i'r gronfa ffyniant gyffredin honno, fel nad ydym yn colli unrhyw agwedd ar y cyllid hwnnw.

Amlinellodd y pwyllgor ei waith ar gronfeydd strwythurol a'r risgiau amlwg o ddyrannu cyllid yn y dyfodol ar sail unrhyw beth a elwir, fel Barnett, yn bosibilrwydd. Na, mae angen dull arnom sydd wedi'i seilio ar anghenion, fel a nodwyd. Ni allwn wneud dim heblaw hynny, oherwydd dyna'r rheswm y mae'r arian hwn yno, anghenion ein cymunedau, ac mae'n rhaid parhau i fynd i'r afael â hynny.

Nawr, soniwyd yn yr adroddiad hwn—ac mae gen i gopi, os oes unrhyw un eisiau copi—mae hefyd yn adlewyrchu popeth y gwnaethom ni ei ddweud yn ein pwyllgor. Mae'r adroddiad hwnnw'n gwneud 18 o argymhellion, sydd yn y bôn yn ategu'r hyn y buom yn ei ddweud am sut y mae'n rhaid i'r gronfa hon ddiwallu anghenion y gwledydd a'r rhanbarthau ledled y DU. Ni allwn anwybyddu'r ffaith nad Cymru yn unig yw hyn—mae hyn yn effeithio ar leoedd fel Cernyw ac Ynysoedd Sili ac mae'n effeithio ar ogledd-orllewin Lloegr; mae'n effeithio ar Ogledd Iwerddon ac mae'n effeithio ar yr Alban. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y gronfa hon yn deg a bod y gwledydd a'r rhanbarthau'n cytuno arni. A dyna un broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod y manylion, fel y dywedodd Nick Ramsay—nid ydym yn gwybod y manylion, nid oes gennym ni ddim gwybodaeth amdano, ond mae angen inni sicrhau bod yn rhaid i'r gwledydd gytuno ar unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r gronfa. Ac mae Alun yn llygad ei lle: mae hyn yn ymwneud â chenhedloedd yn cydweithio ac nid yn cael eu cyfarwyddo gan San Steffan.

Nawr, rydym ni hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar y cronfeydd hyn ac felly diwallu dibenion yr hyn sydd ei angen arnom, ond, wrth gwrs, mae hynny'n golygu rhoi cyllidebau i awdurdodau lleol hefyd, oherwydd eu bod yn nes at y ddaear. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth—rhywbeth sy'n rhagorol yng Nghymru yn fy nhyb i, yn y dull ariannu Ewropeaidd hwn. Mae'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, a phenderfynu sut y mae'r cyllidebau hynny wedi gweithio, wedi bod yn rhagorol ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n parhau ac nad yw meini prawf a bennir gan San Steffan a Whitehall yn amharu arni, a'n bod yn parhau i sicrhau bod y meini prawf yn addas i Gymru a bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru a bod cyllid yn cael ei ddyrannu.

Llywydd, rydym ni'n un o'r gwledydd mwyaf anghyfartal yn Ewrop. Mewn gwirionedd, mae'r graff cynnyrch domestig gros rhwng Cymru a Llundain yn ein gwneud ni yr aelod-wladwriaeth fwyaf anghytbwys yn yr UE o ran gwahaniaethau economaidd rhanbarthol. Ac, yn wir, mewn gwirionedd, os meddyliwch chi am y peth, mae hwnnw'n ystadegyn brawychus—ein bod yn un o'r gwledydd mwyaf ffyniannus ac eto yn un o'r gwledydd mwyaf anghytbwys yn yr UE. Mae'r bwlch rhwng y cyfoethocaf, sydd yng nghanol Llundain mewn gwirionedd, a'r tlotaf, sy'n un ohonom ni mewn gwirionedd, yn fwy nag mewn unrhyw le arall yn yr UE. Felly, mae angen inni roi sylw i hynny a dyna'r oedd, ac mae'n rhaid i Lundain ddeall na all anwybyddu'r angen i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Nid yw'n gallu gorchymyn ac ni all sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei rannu ymhlith ei ffrindiau yn etholaethau mwy gwledig Lloegr; mae'n rhaid iddo, mewn gwirionedd, fynd i'r afael ag anghenion y cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli.

Llywydd, rwy'n gweld bod fy amser bron ar ben, ond rwyf i eisiau atgoffa pawb o un peth. Os gwelwch yn dda, i Aelodau'r wrthblaid, pan fyddwch yn siarad â'ch cyd-Aelodau yn Llundain, atgoffwch nhw fod y gronfa hon yn ymwneud â sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu bod yn ffyniannus. A dylai gael ei adlewyrchu a dylai ganiatáu i anghenion Cymru gael eu penderfynu yng Nghymru ac nid yn San Steffan. I'r gweddill ohonom: dylem eu dwyn i gyfrif oherwydd nhw yw'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau yn Whitehall. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod Boris, Dominic, Michael—pwy bynnag sy'n cael y swydd—yn anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed i bobl Cymru ac na fyddwn geiniog ar ein colled ac na fyddwn yn colli yr un pŵer. Dyna'r gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud.  

18:45

Roeddwn i'n awyddus, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, i wneud cyfraniad i'r ddadl yma ac i amlygu, a dweud y gwir, y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, wrth gwrs, ar y mater yma, oherwydd llynedd fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i asesu'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan ein bod ni, fel nifer o Aelodau yn y Siambr yma, wrth gwrs, yn pryderu mai ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am beth fyddai'n dod yn eu lle nhw. Nawr, fel pwyllgor fe wnaethon ni gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled ar ôl Brexit a bod sicrhau cyllid ar ôl Brexit, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol i Gymru.

Ar hyn o bryd, fel rŷn ni wedi clywed, mae Cymru'n cael y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd y pen, o'i gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr. Roedd hi'n glir o'r dystiolaeth a gawson ni yn ystod yr ymchwiliad y bydd effaith difrifol iawn ar Gymru oni bai fod cyllid yn parhau mewn modd sy'n seiliedig ar anghenion. Mi ddaethon ni i'r casgliad ei bod hi'n hanfodol y dylai Cymru barhau i gael o leiaf yr un faint o gyllid—nid jest yr un faint, ond o leiaf yr un faint o gyllid y byddai wedi ei gael drwy ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd pe na bai'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael. Mae'r un mor bwysig sicrhau hefyd, wrth gwrs, fod cyllid yn parhau i gael ei reoli a'i weinyddu yng Nghymru—mae hynny yr un mor bwysig ym marn y pwyllgor.

Ar adeg ein hymchwiliad ni, mi oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddai cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig, ond ychydig iawn o fanylion oedd ar gael am sut y byddai’r gronfa hon yn gweithredu. Fe gafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, felly, ei wahodd i sesiwn dystiolaeth gyda'r pwyllgor, ond fel ŷch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, mi wrthododd y cyfle hwnnw. Roedden ni yn siomedig â’r diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod penderfyniadau allweddol ynghylch sut y byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i’r gweinyddiaethau datganoledig eto heb eu gwneud.

Mewn ymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor, pan gyhoeddon ni ein hadroddiad, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin erbyn diwedd 2018. Mae’n siomedig iawn, ac mae'n dweud y cyfan, yn fy marn i, fod hynny dal heb ddigwydd.

18:50

Digwyddodd ddau beth yr wythnos hon a ddylai roi rhywbeth i bawb ei ystyried o ran y posibilrwydd o fod â chronfa ffyniant gyffredin wedi'i chynllunio gan Lywodraeth bresennol y DU. Y cyntaf yw'r adroddiad gan Communities in Charge, y cyfeiriwyd ato eisoes gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Mae'r ffigurau moel hynny—siec o £200 i bob unigolyn yn Llundain, bil o £700 i bob unigolyn yng Nghymru—yn dangos yr hyn sy'n wynebu'r wlad hon gyda chynllun a reolir gan Whitehall. Nid yw'r ffaith bod y ffigurau hyn wedi'u seilio ar wariant cyfredol Llywodraeth y DU ar ddatblygu economaidd ond yn tanlinellu pa mor bell i ffwrdd yr ydym yng Nghymru o gael bargen deg gan y Torïaid. Gallwch chi fod yn siŵr, os yw'r fargen yn ddrwg i Gymru, y bydd yn waeth byth i Gymoedd y de, sef yr ardal sy'n elwa fwyaf ar y cronfeydd strwythurol presennol.

Yr ail ddatblygiad, a ddigwyddodd bron ar yr un pryd â chyhoeddiad Communities in Charge, oedd penderfyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gefnogi Boris Johnson yn ymgyrch arweinyddiaeth y Torïaid. Nawr, gallwn ddadlau na ddylai'r gystadleuaeth hon fod yn bwysig i'r ddadl, ond mae yn bwysig. Mae'n bwysig iawn. Gwnaeth y sawl a ofynnodd inni ymddiried ynddo i fod yn llais Cymru wrth fwrdd y Cabinet ei benderfyniad ar bwy y dylid ei gefnogi ar ôl i Boris gefnogi toriadau treth ar gyfer pobl gwell eu byd, cam a fyddai'n arwain at roi bron i £200 miliwn ym mhocedi'r bobl gyfoethocaf yng Nghymru, tra byddai bron i £500 miliwn o golled i ysgolion ac ysbytai Cymru. A yw hynny'n swnio'n wir fel rhywun sy'n gofalu am fuddiannau Cymru? Mae torri trethi ar gyfer y cyfoethog yn anathema i nodau rhaglen y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, sy'n ymwneud ag undod a chefnogaeth economaidd i'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf.

Felly, yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd eisoes wedi goruchwylio colli'r morlyn llanw, trydaneiddio'r rheilffyrdd a Wylfa Newydd, sy'n gofyn inni ymddiried ynddo i ddarparu cronfa ffyniant gyffredin a fydd yn deg i Gymru—Ysgrifennydd Gwladol y byddai'n well ganddo gefnogi Maes Awyr Bryste na Maes Awyr Caerdydd, ac sy'n honni y dylem ni ystyried gwariant datblygu economaidd yn Lloegr yn fendith i Gymru. Nid oes dim yn hanes Llywodraeth hon y DU sy'n rhoi coel ar eu honiadau y bydd datganoli'n cael ei barchu wrth ddatblygu cronfa newydd. O'r cychwyn, bu'n ymgais amlwg i gipio pŵer gan yr Ysgrifenyddion Gwladol yng Nghymru a'r Alban mewn ymgais anobeithiol i arfer perthnasedd mewn byd sydd wedi mynd heibio iddynt.

Nid ydym yn sôn am gronfa ffyniant gyffredin, rydym yn sôn am dwyll anhrefnus, hurt. Yn wir, yr unig resymeg sydd gan y Torïaid i amddiffyn cynllun newydd, canolog, yw'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae'r cylchoedd diweddaraf o arian Ewropeaidd wedi eu gwario, ac eto mae'r dystiolaeth i'r gwrthwyneb i hyn ar gael yma i bawb ei gweld.

Diolch. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y dystiolaeth—a fyddech chi'n derbyn bod y dystiolaeth o'r ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi gwario adnoddau cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn ddiffygiol iawn? Os edrychwch chi ar setliadau awdurdodau lleol, er enghraifft, ledled y wlad hon yn ystod y degawd diwethaf, fe welwch chi fod y gogledd ar ei cholled yn sylweddol o'i gymharu ag awdurdodau lleol yn y de, ac mae llawer o'r adnoddau hynny wedi'u buddsoddi mewn awdurdodau lleol a weithredir gan y Blaid Lafur, yn hytrach nag yn deg ar draws y wlad.

Wel, nid dadl am y fformiwla llywodraeth leol yw hon. Mae'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon wedi bod o ganlyniad i gyni y Torïaid. Ac fel yr oeddwn i'n ei ddweud am gyllid Ewropeaidd, mae wedi creu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd, mae 25,000 o fusnesau wedi cael cyllid neu gymorth, ac mae 86,000 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith. Nid oedd unrhyw rwystrau rheoliadol a oedd yn atal trydaneiddio rheilffordd Abertawe, ac eto nid oedd Llywodraeth y DU yn gallu ei chyflawni. Roedd digon o heriau o ran cyflenwi campws newydd gwerth £300 miliwn Prifysgol Abertawe, ac eto gweithiodd partneriaid yng Nghymru gyda'i gilydd i'w gyflenwi gan ddefnyddio cyllid hanfodol yr UE. Dywed y Torïaid nad yw cyllid Ewropeaidd yn ddigon i gefnogi cymunedau tlotach y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd, fel petai hon yn gêm sero. Wel, os oes ardaloedd sydd o'r farn bod angen mwy o gymorth arnyn nhw, nid oes unrhyw rwystrau iddyn nhw ddarparu adnoddau ychwanegol i Gymru gyfan, ac eto maen nhw wedi dewis gwneud y gwrthwyneb. Y gwir o ran ariannu strwythurol, fel gyda llawer o addewidion eraill sy'n gysylltiedig â Brexit, yw bod yr ymgyrch 'ymadael' wedi dweud celwydd wrth bobl Cymru. Yn hytrach na chymryd rheolaeth yn ôl dros gyllid rhanbarthol, bydd cymunedau Cymru yn colli rheolaeth ar y modd y caiff yr arian hwnnw ei wario.

Mae unrhyw farn wrthrychol yn cytuno ar yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf. Mae'r paratoadau'n mynd rhagddynt yng Nghymru i ddatblygu'r rhaglenni ariannu presennol, gan gynnwys busnesau, y trydydd sector a llywodraeth leol. Mae adroddiadau gan, ymhlith eraill, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i gyd yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i raglen ariannu newydd gael ei chyflwyno'n lleol lle mae'r arbenigedd a'r ddealltwriaeth yn bodoli eisoes. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n ystyrlon â'r partneriaid hyn ar unrhyw adeg o'r broses. Unwaith eto, mae gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cloi allan o benderfyniadau y maen nhw yn y sefyllfa orau i'w llunio a'u cyflawni na'r rhan fwyaf o adrannau Whitehall sydd â dealltwriaeth brin o ddarpariaeth, sybsidiaredd a pholisi rhanbarthol.

Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn addo bod yn ddim mwy nag enghraifft arall mewn rhestr gynyddol o drychinebau economaidd a chymdeithasol a achosir yng Nghymru gan y cymysgedd anfad o Lywodraeth Dorïaidd, sydd wedi bod yn draed moch, a phleidlais Brexit a seiliwyd ar dwyll.

18:55

Mae'n bleser gen i siarad o blaid y cynnig a gyflwynwyd ger ein bron heddiw oherwydd bod y pwnc hwn yn un gwirioneddol bwysig, yn ymarferol ac mewn egwyddor—yn ymarferol gan fod hyn yn ymwneud â disodli cyllid gwerth £370 miliwn i Gymru bob blwyddyn, cyllid sydd wedi'i ddefnyddio i greu degau o filoedd o swyddi newydd yng Nghymru, i gynorthwyo a sefydlu degau ar filoedd o fusnesau, i helpu pobl Cymru fel y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon i ennill cannoedd ar filoedd o gymwysterau newydd, gan wneud gwahaniaethau mawr ledled Cymru ac mewn etholaethau fel fy un i, newid bywydau, rhoi cyfleoedd newydd a chefnogi'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Mae'r cynnig hwn hefyd yn bwysig mewn egwyddor gan ei fod yn mynd at wraidd y setliad datganoli. Mae methiant Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd Cymru'n cael dweud sut y caiff unrhyw gyllid ei ddyrannu a'i wario yn anwybyddu realiti datganoli. Mae'n hollol dwp, yn ansensitif ac nid yw'n cydnabod y cyfeiriad polisi gwahanol iawn yr ydym wedi'i gymryd yma yng Nghymru.

Yma yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar genedlaethau'r dyfodol ac ar agwedd economaidd gyfannol, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr ag obsesiwn gwleidyddion Torïaidd San Steffan â chyni. Ond nid yw'n ymwneud â Chymru yn unig. Fel yr awgrymodd cyfranwyr eraill, mae'r ymagwedd hon yn dangos diffyg dealltwriaeth o sensitifrwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn gwirionedd hefyd. Nododd y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyllid ôl-Brexit ar gyfer rhanbarthau, gwledydd ac ardaloedd lleol yn ei ymchwiliad i'r gronfa ffyniant gyffredin nad oes unrhyw reswm anorchfygol pam y dylai Llywodraeth y DU glustnodi sut y caiff arian ei wario yn y gwledydd datganoledig. Dylai dyrannu cyllid fod yn fater datganoledig i'r cenhedloedd datganoledig. Yn bwysig, dyma oedd consensws llethol y cyfranwyr i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r canfyddiadau hyn, ac rwy'n falch bod y cynnig yn cyfeirio at hyn.

Yn gynharach eleni, cafodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, yr wyf i'n gadeirydd arno, gyfle i ystyried yn fanwl ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol i'r gronfa ffyniant gyffredin. Yn wir, cafodd ei adroddiad ei lywio gan brofiadau rhanddeiliaid sy'n darparu rhaglenni cyfredol yr UE, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u harferion gorau i nodi sut y dylai unrhyw gronfa weithio yn y dyfodol, ac mae'r adroddiad hwnnw'n cynnwys llinellau coch clir. Ni ddylai Cymru gael ceiniog yn llai mewn cyllid ôl-Brexit; mae'n rhaid gwrthsefyll unrhyw ymgais gan San Steffan i gipio unrhyw arian neu bŵer. Clywsom gyfres druenus o oedi, ymraniadau a gwrthodiadau i gyfarfod, ond mae adroddiad y grŵp hollbleidiol seneddol yn amlwg yn darparu fframwaith defnyddiol wrth fwrw ymlaen ac, ar ben hynny, un sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol yn San Steffan. I'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynnig heddiw yn un gwirioneddol gydweithredol. Mae hwn yn fater y mae angen i bob un ohonom fod yn unfryd yn ei gylch. Gwneir nifer o bwyntiau pwysig yn yr adroddiad hwn—a byddwn i'n annog yr holl Aelodau i'w ddarllen, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny'n barod—gan yr Athro Steven Fothergill, sef cyfarwyddwr cenedlaethol y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Edrychodd yr Athro Fothergill ar ganlyniadau tebygol, gan ailadrodd na ddylai unrhyw gyllid yn y dyfodol fod yn llai, mewn termau real, na'r ffrydiau arian presennol, y dylid cadw'r cyfrannau presennol rhwng y pedair gwlad, ac y dylai unrhyw gronfa weithredu ar sail dyraniadau amlflwydd, gyda rheolaeth a'r gallu i bennu blaenoriaethau wedi'u datganoli. Gallai gweithrediad unrhyw gronfa, meddai, gynnig cyfle gwirioneddol i ddiwallu anghenion cymunedau a adewir ar eu hôl. Ond, i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn dryloyw a pheidio â bod ofn cydnabod realiti datganoledig y DU.

Daeth llawer o randdeiliaid i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol hwnnw, ac roedd llawer ohonyn nhw wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. A dangosodd nifer y bobl gymaint o bwys ac angerdd sy'n gysylltiedig â phwnc dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin. Yn yr un modd, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaed gan randdeiliaid wrth i gynlluniau ar gyfer cronfa ddatblygu. Er enghraifft, mynegwyd pryderon bod y cynigion a ddaeth i'r amlwg yn adlewyrchu'n gryf strwythurau llywodraethu yn Lloegr yn unig. Mae angen i drefniadau partneriaeth fod yn gadarn, ac mae'n rhaid i unrhyw ddull sicrhau bod y canlyniad yn gynhwysol ac yn gyfartal. Gallai fod cyfleoedd o ran rhanbartholi cronfeydd yng Nghymru. Dylai cronfeydd fod y tu allan i fformiwla Barnett, ac mae'n rhaid i unrhyw ddyraniadau a wneir fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Ar y cyfan, clywodd y bobl hynny a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw mor bwysig yw ymateb cyson gan Gymru, er mwyn sicrhau nad ydym ar ein colled. Mae'r cynnig heddiw'n rhan olaf o'r broses honno.

Wrth imi gloi, hoffwn ailadrodd maint yr her. Os ydym ni o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor hanfodol yw hynny, mae'r ystadegau yn yr adroddiad gan Communities in Charge a gyhoeddwyd ddoe yn dangos hynny'n glir iawn i ni. Os nad ydym yn cyflwyno ein dadleuon yn llwyddiannus, os methwn â datblygu ein hachos, gallai Cymru golli arian sy'n cyfateb i £743.11 i bob dinesydd. Ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ni ei dderbyn o gwbl.

19:00

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwyf bob amser yn ceisio cael consensws lle gallaf ddod o hyd iddo, ac rwy'n credu bod rhywfaint o hynny wedi'i ddangos yn y ddadl yr ydym wedi'i chael y prynhawn yma. Un o'r themâu, rwy'n credu, a ddaeth i'r amlwg yn gryf iawn mewn gwirionedd oedd prinder yr wybodaeth sydd gennym ni am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Roedd yn ymddangos ym maniffesto'r Ceidwadwyr, yn ôl yn hanner cyntaf 2017, ond ers hynny nid ydym wedi cael unrhyw wybodaeth sylweddol iawn. Er gwaethaf sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a hefyd, wrth gwrs, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid oes gennym ragor o fanylion o hyd. Er bod yr addewidion a ailadroddwyd yn aml i barchu setliadau datganoli ac ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch datblygu cronfa ffyniant gyffredin i'w croesawu'n fawr, nid oes unrhyw weithredu ystyrlon wedi dilyn y trywydd hwnnw. Rydym yn ymwybodol bod dogfen ymgynghori ddrafft yn bodoli, ond gwrthodir ei dangos i ni, a gwrthodir unrhyw gyfraniad iddi. Ac rwy'n credu, oni bai bod y ddogfen honno wedi'i chyfyngu'n benodol i Loegr, yna nid yw'r broses hon yn parchu datganoli, yn sicr, gan mai Senedd ydym ni, a Llywodraeth ydym ni, ac nid ydym yn ymgyngoreion mewn unrhyw ymgynghoriad y gallai Llywodraeth y DU ei gyflwyno maes o law.

Rydym yn siarad â chydweithwyr ar lefel weinidogol a swyddogol am y gronfa ffyniant gyffredin, ond mae'r sgyrsiau hynny, unwaith eto, yn rhai un ffordd i raddau helaeth. Rydym ni'n glir iawn ynghylch yr hyn yr ydym ni ei eisiau, ond mae Llywodraeth y DU yn fwriadol amwys, rwy'n credu, o ran beth yw ei chynlluniau. Mae llawer o'r hyn yr ydym yn credu ein bod yn ei wybod am y gronfa ffyniant gyffredin felly yn ddyfaliadau a sïon, ond ymddengys bod rhai o'r ofnau bod Llywodraeth y DU yn ceisio swyddogaeth newydd wrth lywio cyllid wedi'u cadarnhau mewn rhai o'r datganiadau diweddar gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Er enghraifft, yn ddiweddar, mynegodd Michael Gove rwystredigaeth yng nghynhadledd Ceidwadwyr yr Alban pan ddywedodd na all Llywodraeth y DU gyfeirio rhywfaint o arian mewn gwledydd datganoledig pan fo'n cynnwys meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Wel, wrth gwrs na allan nhw—gwaith gweinyddiaethau'r cenhedloedd datganoledig yw hynny. Ond roedd ef yn rhwystredig ynghylch hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn daer yn ceisio dod o hyd i swyddogaeth ar ei gyfer ei hun, ac mae'n llygadu'r gronfa ffyniant gyffredin yn hynny o beth.

Mae rhywfaint o wrthddweud cynhenid o ran safbwynt Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Ni all fod yn parchu datganoli os yw Llywodraeth y DU yn bwriadu pennu'r telerau cyllido, bod â swyddogaeth allweddol ym mholisi economaidd Cymru a cheisio osgoi Llywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at y bargeinion dinesig, er enghraifft, fel un enghraifft o'r ffordd y gallai'r gronfa ffyniant gyffredin weithio. Wel, wrth gwrs mae'r bargeinion dinesig wedi darparu buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru a gafodd ei groesawu, ond yn sicr nid ydyn nhw'n yn fodel ar gyfer disodli arian yr UE ac nid ar gyfer cefnogi'r polisi datblygu economaidd rhanbarthol a ddisgrifiwn drwy ein cynllun gweithredu economaidd. Felly, mae angen cadarnhad syml iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'n annibynnol o ran ble a sut i wario cyllid rhanbarthol yn y dyfodol, ynghyd ag agor trafodaethau manwl ar y setliad cyllido ar gyfer pob un o genhedloedd y DU a chyfle i drafod y meysydd lle y gallai Cymru fod eisiau cyd-gysylltu neu gydweithio.

Oherwydd, gan droi at gysylltiadau rhynglywodraethol, mae'r ffaith bod—

19:05

Mae'n bwynt priodol i gofio rhywbeth a ddywedodd Vikki Howells—yn ei chyfraniad hi—rwy'n credu mai Vikki ydoedd—y gallai fod pryderon mawr am y gronfa ffyniant gyffredin, ond ceir problemau hefyd yn ymwneud ag effaith fformiwla Barnett ar gyllid sy'n dod i Gymru. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi bod yn rhaid inni sicrhau, pan ddaw'r manylion i'r amlwg ynghylch y gronfa ffyniant, nad yw'r arian hwnnw a ddaw i Gymru, os caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, yn mynd drwy'r broses Barnett, sydd, yn y gorffennol, wedi darparu llai o arian i Gymru am nifer fawr o flynyddoedd?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ac rwy'n falch eich bod yn teimlo felly hefyd. Byddwn wir yn eich annog i gyflwyno'r sylwadau hynny i'r ymgeiswyr ar gyfer arweinydd newydd y Blaid Geidwadol. Oherwydd rwy'n siŵr bod—. Wel, rydym ni'n sicr yn cytuno a byddwn yn gobeithio y bydden nhw hefyd. Ac rwy'n bwriadu dod yn ôl i roi sylw i rai o'r sylwadau ynghylch adroddiad Communities in Charge, y mae nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio ato.

Ond roeddwn i eisiau sôn ychydig am gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r confensiynau gweithio yr ydym wedi'u sefydlu yn cael eu hanwybyddu ac mae hynny'n peri gofid mawr, o ystyried yr angen absoliwt am fwy o gydweithredu rhwng gweinyddiaethau yng nghyd-destun Brexit. Mae ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at ddisodli cronfeydd strwythurol yn mynd yn groes i'r gwaith da sy'n digwydd yn gyffredinol ledled y DU i gryfhau gweithio rhynglywodraethol mewn amrywiaeth eang o feysydd wrth i ni ddynesu at Brexit ac mae'n ei danseilio. Ac rydym ni wedi pwysleisio dro ar ôl tro, os ydym yn cael ein cynnwys yn ystyrlon mewn modd lle perchir y naill ochr a'r llall, yna bydd Llywodraeth y DU yn gweld ein bod yn bartneriaid cwbl adeiladol. Rydym ni wedi gwneud gwaith enfawr y gallwn ei rannu â nhw. Yn anffodus, nid ydyn nhw wedi manteisio ar ein cynnig ni hyd yn hyn.

Rydym ni wedi bod yn glir bod datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig, a bod y broses o weinyddu cyllid rhanbarthol wedi bod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers datganoli. Ac mae parchu'r cymhwysedd hwnnw yn awgrymu bod angen caniatáu i bob gwlad yn y DU roi ei threfniadau ei hun ar waith. Ac mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth y DU fod yn ystyried pennu blaenoriaethau neu bennu dulliau cyflenwi ar gyfer y cyllid hwn yng Nghymru.

Pe byddai Llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd ar drywydd ymgynghoriad ledled y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin, yna byddem yn amlwg yn disgwyl i unrhyw gyfeiriad at Gymru gael ei drafod a'i gytuno gyda ni ymlaen llaw, gan fod dyraniadau neu drefniadau llywodraethu yng Nghymru yn fater i Lywodraeth Cymru, mewn trafodaeth â'n partneriaid yma yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod yn fuddiol cydgysylltu dulliau ar draws y DU, ond mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail bod y gwledydd datganoledig yn cael eu trin fel partneriaid cyfartal, a bod unrhyw gytundebau yn cael eu llunio drwy gyd-drafod ac nid eu gorfodi'n unochrog. Er enghraifft, gan gydnabod bod ein heconomïau'n gydgysylltiedig, rydym wedi nodi ein bod yn cefnogi dull newydd o ymdrin â buddsoddiad rhanbarthol a fyddai'n galluogi buddsoddiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, byddai angen i'r buddsoddiadau hynny adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a dod â manteision amlwg i Gymru. Ac nid yw cael rheolaeth dros gyllid sydd wedi bod gennym ers datganoli yn ymwneud ag ymynysiaeth. Bydd cydweithio'n agosach â rhanbarthau Lloegr yn hanfodol, a bydd mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y defnyddiwn arian newydd yn ein helpu i wneud hyn yn fwy effeithiol.

Ond fe wnaf sôn yn fyr am adroddiad Communities in Charge, y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato, ac roedd hwnnw'n dangos, os yw'r dyraniadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar Barnett, y byddai Cymru ar ei cholled yn sylweddol o'r cronfeydd hanfodol hyn i gefnogi ein busnesau, ein pobl a'n cymunedau, ac, wrth gwrs, byddai Llundain ar ei hennill. Mae'r ffigurau'n gyfarwydd inni yn awr—felly, byddai Cymru ar ei cholled o fwy na £700 y pen, byddai Llundain yn ennill £200 y pen, a byddai Cymru, fel cyfanswm, ar ei cholled o £2.23 biliwn. Ond y ffaith syfrdanol nad yw neb wedi sôn amdani eto yn y ddadl hon, sy'n amlwg yn yr adroddiad hwnnw, yw bod Cymru, o'r chwe ardal arall sydd ar eu colled, yn colli mwy na phob un o'r lleill gyda'i gilydd.

Mae'r heriau hirdymor yr ydym ni'n eu hwynebu yn cael eu hadlewyrchu yn y gwahaniaethau rhanbarthol hynny sy'n amlwg ledled y DU, ac ni fydd y rheini'n diflannu gyda Brexit. Efallai os edrychwn ni'n gyflym ar yr hyn y gallem ni fod wedi'i gael, wrth i mi gloi, yn seiliedig ar ffigurau Eurostat, pe na byddai Brexit byddai cyfran y DU o'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu, o gofio'r ffaith bod cynnyrch domestig gros wedi gostwng o'i gymharu â chyfartaledd yr UE dan gyfnod y Torïaid, a byddai mwy o ranbarthau yn y DU yn gymwys fel ardaloedd llai datblygedig. A, phe na byddai Brexit, mae dadansoddiad gan Gynhadledd Rhanbarthau Morol Ymylol Ewrop yn amcangyfrif y byddai cyfran y DU o gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu 22 y cant, o ystyried perfformiad gwael y DU o gymharu â chyfartaledd yr UE. A, phe byddai Cymru yn cadw'r un gyfran o'r gronfa honno, gallai gyfateb i £450 miliwn ychwanegol dros gyfnod y cynllun, neu tua £65 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Gymru. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod addewidion a wnaed na fyddai Cymru ar ei cholled y tu allan i'r UE—byddwn yn sicrhau bod yr addewidion hynny'n cael eu cadw.

Rwy'n ddiolchgar, fel y dywedaf, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Gobeithio y bydd eu cefnogaeth i gynnwys, os nad naws y ddadl yn caniatáu inni anfon neges unedig i Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog newydd mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ymagwedd sy'n deg i Gymru, sy'n parchu datganoli ac sy'n cadw'r addewidion a wnaed.  

19:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cyfnod Pleidleisio

Sy'n dod â ni yn syth i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch. Dyma ni'n cyrraedd y bleidlais ar y ddadl newydd ei chynnal, sef y gronfa ffyniant gyffredin. A dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 34 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.  

NDM7062 - Gwelliant 1: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais felly ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

NDM7062 - Dadl: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.