Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
12/03/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw pawb i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru? OAQ53553
Llywydd, ni ddylid byth cymryd cynnal cydlyniant cymdeithasol yn ganiataol. Mae pwysau cyni cyllidol a safbwyntiau gwahanol iawn ynghylch Brexit yn achosi heriau arbennig yn ein hoes ni. Mae cyfrifoldeb am feithrin cydlyniant cymdeithasol yn un a rennir gan bob un ohonom.
Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna. Yng Nghymru, rydym ni wedi gweld sut mae'r broses Brexit wedi cyflymu'r duedd tuag at gymdeithas lai cydlynol a mwy darniog, lle mae anoddefgarwch wedi cael ei normaleiddio, a lle mae'r anoddefgarwch cynyddol hwn nid yn unig yn cael ei gyfeirio at bobl sydd wedi gwneud eu cartref yng Nghymru yn ddiweddar, ond yn gynyddol tuag at unrhyw un sydd â gwahanol safbwynt. Mae'r duedd hon yn peri pryder mawr i bob un ohonom ni sy'n credu bod cymdeithas ddarniog yn arwain yn anochel at ddylanwad cynyddol y rhai sy'n hyrwyddo hiliaeth a gwneud y rhai sy'n derbyn budd-daliadau, y rhai ag anableddau a phobl ddigartref yn gonynnod hitio. Prif Weinidog, mae'n hanfodol, beth bynnag fo canlyniad Brexit, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthdroi'r duedd hon. Felly, rwyf yn gofyn, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ymgyrch Llywodraeth Cymru i helpu i adfer y gwerthoedd Cymreig traddodiadol o oddefgarwch, undod a chynhwysiant?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am y cwestiwn atodol yna. Rwy'n cytuno ag ef bod pwysau gwirioneddol yn ein cymdeithas tuag at anfoesgarwch ac at ystyried rhywun sydd â gwahanol safbwynt i chi nid yn unig fel rhywun y gallwch chi gael dadl briodol ag ef, ond rywsut y dylid gwneud hyn yn bersonol a'i gynnal ar delerau nad wyf i'n credu y byddai neb yn y Siambr hon yn dymuno gweld dadl gyhoeddus yn cael ei chynnal. Mae hynny'n ddigon drwg ymhlith pobl sydd, mewn rhai ffyrdd, fel y rhai ohonom ni yn y Siambr hon, yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa o ddadl gyhoeddus, ond mae'n fwy fyth felly gyda phobl sy'n canfod eu hunain yn fwch dihangol, yn cael eu neilltuo, yn cael eu gwneud yn destun sylwadau gan eraill ac, fel y dywedodd yr Aelod, ceir digwyddiadau sy'n golygu bod y risg honno'n cael ei chynyddu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfres o bethau i geisio llunio'r math o ymateb Cymru gyfan y cyfeiriodd Mick Antoniw ato. Rydym ni'n ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol ranbarthol ac rydym yn darparu £1.52 miliwn arall o gronfa bontio'r UE er mwyn gwneud hynny. Rydym ni'n bwriadu gwneud mwy i gynorthwyo'r dinasyddion hynny sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, a cheir rhai arwyddion calonogol, Llywydd, hefyd.
Efallai y bydd yr Aelodau yma wedi gweld adroddiad diweddar yr arolygwyr cwnstabliaeth, a dynnodd sylw at waith sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad bod y bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb cenedlaethol yng Nghymru yn dod â chysondeb a dull cydgysylltiedig i gamau gweithredu'r heddlu o ran troseddau casineb yng Nghymru. Cyfeiriodd yn benodol at Heddlu Gwent, lle mae ein cyn gyd-Aelod Jeff Cuthbert yn gomisiynydd heddlu a throseddu. Roedd yn dweud bod gan Heddlu Gwent ddull cynhwysfawr a soffistigedig o ymateb i ddioddefwyr troseddau casineb, nad oedd:
ar gael ar hyn o bryd yn unrhyw un o'r lluoedd eraill yr ydym wedi ymweld â nhw.
Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos, Llywydd, lle mae angen i ni weithredu ar y cyd, ein bod ni'n gallu gwneud cynnydd hyd yn oed o dan yr amgylchiadau anodd a amlinellwyd gan yr Aelod, ac, fel Llywodraeth Cymru, rydym ni'n benderfynol o barhau i wneud mwy i gyflawni yn union hynny.
Prif Weinidog, un ffordd o hybu cydlyniant cymdeithasol yw sicrhau bod mynediad llawn a phriodol at raglenni diwylliant a chelfyddydau. Tybed a ydych chi wedi gweld rhywfaint o'r rhaglen Fusion, y mae eich Llywodraeth, er tegwch, wedi ei hyrwyddo i ehangu mynediad at y celfyddydau a diwylliant, ac mae prosiect ailddarganfod treftadaeth Caerau a Threlái yn eich etholaeth chi, ar hyn o bryd, yn dod o hyd i ganfyddiadau newydd sy'n mynd yn ôl i'r oes Fesolithig, pan oedd Caerdydd a'r cyffiniau yn bwysig dros ben o ran datblygiad y rhan hon o ynysoedd Prydain. Mae hwnnw wedi cynnwys pobl o'r gymuned leol, y mae rhai ohonynt yn y brifysgol erbyn hyn, o ganlyniad i weithio ar y prosiect hwn. Hoffwn ganmol Prifysgol Caerdydd yn arbennig am ei gweledigaeth yn ymuno â'r prosiect hwn a bod yn bartner allweddol ynddo.
A gaf i ddiolch i David Melding am hynna, Llywydd, a chytuno ag ef yn ei osodiad cyffredinol bod cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a chelfyddydol yn galluogi pobl i rannu profiadau, i gynnig safbwyntiau o'u hanesion a'i diwylliannau eu hunain mewn ffordd sy'n cyfoethogi pawb? Rwy'n arbennig o ddiolchgar i David Melding am sôn am y prosiect CAER yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, ac i achub ar y cyfle hwn, felly, Llywydd, i'w llongyfarch ar ennill dyfarniad mawr Loteri Cenedlaethol, Loteri Treftadaeth mawr yr wythnos diwethaf. Bydd ysgol uwchradd newydd Gorllewin Caerdydd yn agor ei drysau ymhen pythefnos, a bydd ei chysylltiadau â'r gwaith archaeolegol sy'n cael ei wneud ar y safle rhyfeddol hwnnw yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ar yr ystâd honno nad ydynt wedi bod ar gael iddyn nhw o'r blaen i unrhyw raddau.
2. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i'r afael â'r ffordd y mae dosbarth cymdeithasol yn pennu cyfleoedd bywyd pobl yng Nghymru? OAQ53578
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni er mwyn helpu i oresgyn y ffordd y mae cyfleoedd bywyd wedi eu dosbarthu yn annheg gan amgylchiadau economaidd. Bydd y Comisiwn Gwaith Teg a benodwyd gan fy rhagflaenydd yn adrodd yn fuan ac yn ychwanegu at y rhestr o gamau gweithredu sydd ar gael i ni yn y maes hwn.
Prif Weinidog, pan ddaw babi i'r byd hwn yng Nghymru, bydd y dosbarth cymdeithasol y caiff ef neu hi ei eni iddo yn effeithio ar bob agwedd ar ei fywyd, boed ei ddisgwyliad oes, ei ddisgwyliad oes iach, y safonau a'r cymwysterau a phrofiad o addysg y mae hi neu ef yn eu cael, ei swydd, enillion gydol oes, safonau byw, ansawdd bywyd. Yn llawer rhy aml, mae'r rhai sy'n cael eu geni i grwpiau incwm is o dan anfantais ym mhob un o'r agweddau hynny ac, yn wir, llawer o rai eraill. Felly, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni'n cytuno, Prif Weinidog, bod cyfiawnder cymdeithasol, cyfle a chanlyniadau cyfartal, yn galw am strategaeth effeithiol, cyfres o bolisïau, sy'n ymdrin â'r holl anfanteision hynny y ceir profiad ohonynt yn rhy aml. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynyddu ei hymdrechion i sicrhau Cymru decach?
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud bod cyfleoedd economaidd yn pennu cyfleoedd cymdeithasol, ac mae eich perthynas â'r economi ar ddechrau eich bywyd yn cael cymaint o effaith ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi. Ond, fel y gŵyr John Griffiths, mae ein hymrwymiad i Gymru fwy cyfartal hefyd yn golygu lleihau'r bwlch rhwng y rhai sydd â mwy nag y bydd angen arnynt fyth, nac y maen nhw'n gwybod beth i'w wneud ag ef, a'r rhai sy'n cael trafferth bob dydd i ddiwallu'r anghenion mwyaf sylfaenol sydd ganddynt. Ac nid yn unig y mae cymdeithasau mwy cydradd yn hybu cyfleoedd economaidd gwell, ond maen nhw'n pennu'r cyfleoedd sydd gennych chi ar ddechrau bywyd. Bydd plentyn benywaidd sy'n cael ei eni yn Japan heddiw, ar gyfartaledd, yn byw i fod yn 100 mlwydd oed, ac mae hynny oherwydd bod y bwlch rhwng brig a gwaelod cymdeithas yn Japan y lleiaf o'r math o economïau y mae Japan yn eu cynrychioli.
Nawr, yma yng Nghymru, rydym ni'n benderfynol, yn rhan o'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o greu Cymru fwy cyfartal, ac mae hynny'n golygu, fel y mae John Griffiths wedi ei ddweud, buddsoddi yn y blynyddoedd cynharaf hynny, y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hynny o fywyd plentyn, oherwydd y ffordd y mae hynny'n parhau i wneud gwahaniaeth i weddill y cwrs bywyd. Dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r cyfnod sylfaen yn ein hysgolion, i wneud yn siŵr bod dysgu drwy chwarae yn golygu bod plant o'r cefndiroedd hynny yn dysgu o'r dechrau bod ysgol ac addysg iddyn nhw yn ogystal â phawb arall. Yn y gyllideb a basiwyd ar lawr y Cynulliad hwn ym mis Ionawr, gwnaethom fwy na dyblu'r swm o arian sy'n mynd i'r gronfa mynediad grant datblygu disgyblion newydd, ac mae hwnnw, eto, yno i wneud yn siŵr, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni'n cydraddoli rhai o'r cyfleoedd annheg a roddir i blant, fel y gall y buddsoddiadau hynny barhau i gael eu teimlo yn ystod gweddill eu bywydau.
Prif Weinidog, mae dosbarth cymdeithasol, incwm yr aelwyd a chyfoeth personol i gyd yn effeithio ar gyfleoedd bywyd rhywun ac yn dylanwadu ar eu cyfleoedd mewn ysgolion, eu ffordd o fyw a pha mor hir y byddan nhw'n byw. Rydych chi newydd sôn am brofiad Japan. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, o'r rhaglen mesur plant, yn dangos y dosberthir mwy na 1,000 o blant yng Nghymru sy'n dechrau'r ysgol fel bod yn ddifrifol ordew. Roedd y ffigurau hyn ar eu huchaf ymhlith y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, fel Merthyr Tudful—mae'r gyfradd uchaf o ordewdra difrifol ymhlith plant yng Nghymru ym Merthyr. Os bydd pethau yn parhau fel y maen nhw, mae'n bosibl iawn mai'r genhedlaeth bresennol hon o blant fydd y gyntaf i fyw bywyd byrrach na'u rhieni. Mae hwnnw'n ffigwr truenus—mae honno'n stori drist iawn. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i adolygu strategaeth gordewdra ei Lywodraeth yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn i weld beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem o blant o gefndiroedd tlotach sydd dros eu pwysau i raddau peryglus yng Nghymru?
Wel, Llywydd, mae'n gwestiwn pwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud wrth yr Aelod bod disgwyliad oes ymhlith rhai pobl sy'n fyw heddiw yn gostwng mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf un ers i'r ffigurau hynny gael eu casglu yn y ffordd y cânt eu casglu nawr. A dyna effaith y cyni cyllidol a welir yn ein cymdeithas. Ac rwyf i'n credu'n bersonol bod gordewdra ymhlith plant bach iawn yn digwydd o ganlyniad i gyni cyllidol hefyd. mae'n dod o'r ffyrdd y mae'n rhaid i deuluoedd sydd â'r lleiaf oll ar gael i'w wario brynu bwyd sy'n llenwi plant yn gyflym, gan roi hwb iddyn nhw ar unwaith. Ac os nad oes gennych chi'r dewisiadau y mae arian yn caniatáu i chi eu gwneud, yna, yn y pen draw, rydych chi'n gwneud y mathau o ddewisiadau sy'n arwain at y ffigurau y mae Mohammad Asghar wedi cyfeirio atyn nhw. Felly, dyma sut y mae'r materion hynny o gyfiawnder iechyd yr un mor gysylltiedig â chyfiawnder economaidd. Ac wrth gwrs mae angen i ni wneud gwahaniaeth ym mywydau'r plant hynny, oherwydd mae'r cychwyn hwnnw mewn bywyd, cyrraedd yr ysgol eisoes yn rhy drwm ac yn ordew, yn mynd i gael effaith ar lesiant hirdymor y plentyn hwnnw. Ond, yn y bôn, mater economaidd yw hwnnw—mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gan y teuluoedd hynny gyfleoedd gwirioneddol i ffynnu, ac nid wyf i'n credu bod mynd i'r afael ag ef ar wahân i'r amodau ffurfiannol hynny yn mynd i wraidd y broblem.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pryd fyddwch chi'n gwneud penderfyniad ynghylch dyfodol ffordd liniaru'r M4, o gofio bod adroddiad yr ymchwiliad ar eich desg erbyn hyn?
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae cyngor wedi cael ei gyhoeddi. Mae hynny'n ei gwneud hi'n eglur i mi bod penderfyniad am ffordd liniaru'r M4 yn dod o dan reolau 'purdah' y gwasanaeth sifil. Ni allaf i—ni all y Llywodraeth—wedi ei hatal gan y rheolau cwbl briodol rhag gwneud cyhoeddiad a allai gael effaith ar is-etholiad lleol o'r math hwnnw. Felly, ni fydd unrhyw gyhoeddiad gennyf i. Ni allaf wneud unrhyw gyhoeddiad tan i'r is-etholiad hwnnw ddod i ben.
Wel, mae'n ymddangos i mi fel un esgus ar ôl y llall, Prif Weinidog. Y tro diwethaf—[Torri ar draws.]—y tro diwethaf, y tro diwethaf—[Torri ar draws.]—y tro diwethaf y gwnes i eich holi am y ffordd liniaru yn y Siambr hon, roedd mor eglur bryd hynny ag y mae hi nawr, er bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi tin-droi ar y pwnc hwn ers bron i 20 mlynedd, eich bod chi'n dal i gael trafferth yn dod o hyd i'r sbardun a rhoi ateb i'r genedl. Mae busnesau, cymudwyr ac eraill yng Nghymru wedi dod ymlaen i gefnogi ffordd liniaru ar gyfer y ffordd llawn tagfeydd hon sy'n ganolog i economi Cymru. Ac eto, er gwaethaf talu £44 miliwn am yr ymchwiliad hwn, rydym ni'n dal i aros am ymrwymiad gennych chi a'ch Llywodraeth. Os nad ydych chi'n barod i roi ateb o hyd, Prif Weinidog, ar sail canfyddiadau ymchwiliad y llynedd, mae'n hen bryd i chi ychwanegu tryloywder at y broses hon drwy ganiatáu i Aelodau eraill y Siambr hon weld argymhellion yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl. A wnewch chi ymrwymo yn y fan yma heddiw, Prif Weinidog, i rannu'r adroddiad hwn cyn gynted â phosibl, y byddwn yn eich atgoffa y talwyd amdano gydag arian cyhoeddus, fel y gall y Siambr hon graffu a dadlau'r mater hwn yn briodol? Ac os ydych chi'n mynd i rannu'r adroddiad hwn, pryd fydd hynny?
Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno meddwl yn ofalus am rai o'r pethau y mae wedi eu dweud. Y rheswm y mae gennym ni is-etholiad yw nid oherwydd unrhyw beth a wnaeth Llywodraeth Cymru, ond oherwydd marwolaeth yr Aelod Seneddol presennol. Nid oes dim yn hynny y gellir rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru amdano, fel pe byddai'n oedi pethau rywsut.
Ac ynghylch yr hyn a ddywedodd ar y dechrau, does bosib nad yw'n deall bod rheolau—bod rheolau—am y ffordd y gellir gwneud y penderfyniadau hyn. Rwyf hi wedi fy rhwymo gan y rheolau hynny fel y byddai unrhyw Aelod Seneddol, unrhyw aelod o'i Lywodraeth yn San Steffan, pe byddai amgylchiadau tebyg wedi codi mewn is-etholiad mewn rhan arall o'r wlad. Dyna'r rheolau. Nid yw'n ddim i'w wneud â chael oedi yn y fan yma; mae oherwydd y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud yn briodol. O ran rhoi'r adroddiad ar gael, pan fo hynny'n bosibl, rwy'n gwbl hapus i'w roi ar gael cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Cyn gynted ag y bydd y rheolau yn caniatáu i hynny ddigwydd, bydd yr adroddiad yn cael ei roi ar gael i'r Aelodau. Ond byddwn yn ei wneud yn unol â'r ffordd y mae gweithrediad priodol Llywodraeth yn cael ei ddilyn. Rwy'n credu ei fod ef yn deall hynny, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y dylai ei gwestiynau adlewyrchu hynny.
Prif Weinidog, mae pobl Cymru yn colli amynedd gyda'r gêm hon o ddisgwyl. Dylech chi fod wedi rhoi ateb i'r cymudwyr a'r cymunedau o gwmpas yr M4 amser maith yn ôl. Mae'n bryd i chi roi'r gorau i lusgo eich traed a chynnig mwy o sicrwydd trwy ddweud wrthym ni faint o amser y bydd yn rhaid i bobl Cymru aros nawr cyn y byddan nhw'n gweld y prosiect hwn yn dod yn realiti. Nawr, rydych chi wedi cyfeirio at yr is-etholiad sydd ar fin cael ei gynnal, ond gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, dywedwyd wrthym ni yn y Siambr hon ddiwedd y llynedd bod penderfyniad yn mynd i gael ei wneud gan y Prif Weinidog blaenorol, ond rydym ni'n dal i aros. Felly, a allwch chi heddiw, Prif Weinidog, gadarnhau, felly, pa un a yw'r Siambr hon yn dal am gael cyfle i bleidleisio ar y prosiect hwn, o gofio yr addawyd pleidlais ar y prosiect hwn i ni cyn Nadolig y llynedd?
Llywydd, nid yw'r ymrwymiadau a roddwyd cyn belled ag y mae cyfranogiad y Siambr hon yn y cwestiwn wedi newid. Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud y byddai'r Prif Weinidog blaenorol wedi dymuno gwneud penderfyniad pe byddai wedi gallu gwneud hynny, ond roedd yntau hefyd yn dilyn y gweithdrefnau priodol y mae'n rhaid iddynt fod yn sail i benderfyniad o'r maint hwn. Dywedaf wrth yr Aelod eto, pan fydd yn darllen ei nodiadau am lusgo traed, nid oes unrhyw lusgo traed yn y fan yma. Mae'r amgylchiadau yn yr is-etholiad hwnnw wedi newid, mae'r is-etholiad ei hun yn rhoi cyfyngiad ar fy ngallu i i gyhoeddi unrhyw benderfyniad. Ac mae gen i ofn, mor ddiamynedd ag yw ef efallai, y bydd yn gweld ei fod wedi ei rwymo gan y llyfr rheolau cymaint ag yr wyf innau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn eich araith i gynhadledd Plaid Lafur yr Alban, dywedasoch mai dosbarth cymdeithasol, yn hytrach na damwain ddaearyddol adeg geni, yw'r un ffactor mwyaf grymus o ran llunio bywydau pobl. Ond, does bosib, o'i ystyried trwy brism profiad Cymru, mai prin y gellir dweud nad oes unrhyw gysylltiad rhwng tlodi a lle. Yn wir, tlodi yw'r un penderfynydd pwysicaf o ganlyniadau bywyd, fel y dywedodd John Griffiths, ond mae tlodi wedi'i ddosbarthu yn anghyfartal, ac wedi ei grynhoi yn arbennig yng Nghymru—ac mae hynny, wrth gwrs, ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur ddatganoledig.
Cyfeiriasoch at y gostyngiad i ddisgwyliad oes ar draws y DU, ond mae'n wir, onid yw, bod disgwyliad oes yn gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag mewn unman arall—yn wir, yn gyflymach nag mewn unman arall yng ngorllewin Ewrop. I symud oddi wrth iaith seminar yn y fan yma, gadewch i ni egluro'n blaen yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd: mae'r siawns y bydd plentyn sy'n cael ei eni heddiw, y cyfeiriodd John Griffiths ato, yng Nghymru yn byw i fod yn 90 oed yn sylweddol is nag y mae yn Lloegr. A wnewch chi dderbyn bod hyn yn cynrychioli argyfwng iechyd cyhoeddus llawn yma yng Nghymru erbyn hyn?
Rwy'n credu bod angen i'r Aelod fod yn ofalus yn y ffordd y mae'n defnyddio ffigurau, oherwydd mae'r dystiolaeth o'r gostyngiad i ddisgwyliad oes yn ddiweddar iawn, ac nid wyf i'n credu y byddech chi'n rhagweld tueddiadau yn synhwyrol i ddyfodol 90 mlynedd ar sail yr hyn yr ydym ni'n ei wybod hyd yma.
Ond hoffwn gytuno â neges sylfaenol yr hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud. Wrth gwrs, mae tlodi yn cael yr effaith o lunio bywydau pobl, a dyna pam yr ydym ni'n benderfynol fel Llywodraeth i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag amgylchiadau pobl sy'n byw mewn tlodi, ac i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth ble bynnag y gallwn. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers dechrau'r cyfnod datganoli ac yr ydym ni'n benderfynol o barhau i'w wneud, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau cyfyngedig iawn y mae cyni cyllidol yn eu cyflwyno ar ein gallu i ariannu'r holl wasanaethau cyhoeddus, i'r graddau yr ydym ni'n gwybod y byddai eu hangen ar y gwasanaethau hynny yn ddelfrydol.
Gadewch i ni dreiddio ychydig yn ddyfnach i agweddau penodol ar yr hyn yr wyf i'n sicr yn ei ystyried yn argyfwng iechyd cyhoeddus cynyddol yma yng Nghymru. Cymerwch nifer yr achosion o ddiabetes: mae'r nifer sy'n cael diagnosis o ddiabetes yng Nghymru yn cynyddu ac yn uwch nag yn unman arall yn y DU erbyn hyn. Mae'r nifer uchaf yng Nghymru gyfan ac ymhlith y gwaethaf yn y DU—8 y cant o'r boblogaeth—yng Ngwent. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd pwyllgor iechyd y Cynulliad bod Cymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant. Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd i niferoedd y plant pedair i bum mlwydd oed sy'n ordew dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda chyfanswm o 27 y cant dros eu pwysau neu'n ordew erbyn hyn, o'i gymharu â dim ond 23 y cant yn Lloegr. Mae diffyg gweithgarwch corfforol ymhlith plant yn ffactor sylfaenol, ond does bosib nad yw rhan gyfyngedig ymarfer corff yn y cwricwlwm a diffyg ymyraethau iechyd cyhoeddus ehangach yn erbyn gordewdra ymhlith ysgogiadau allweddol y duedd hon. A, does bosib, yn y cyd-destun hwn, nad yr anweithgarwch mwyaf oll fu eich anweithgarwch eich hunan fel Llywodraeth.
Roedd hwnna'n gwestiwn a oedd yn gwneud yn eithaf da tan y diwedd. Felly, edrychwch, yr hyn yr wyf i'n cytuno ag Adam Price yn ei gylch yw hyn, Llywydd—pan edrychwch chi ar nifer gynyddol yr achosion o ddiabetes, pan edrychwch chi ar nifer gynyddol yr achosion o ordewdra, nid, 'Beth mae'r gwasanaeth iechyd yn mynd i'w wneud am y peth?' yw'r ateb. Mae'r ateb yn yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach honno a amlinellodd ef, ac rydym ni'n edrych ar yr achosion llunio sydd wrth wraidd y ffigurau hynny. Ac maen nhw i'w gweld yn y tlodi sy'n peri i bobl orfod siopa mewn mathau penodol o ffyrdd. Felly, mae tlodi deiet a bwyd yn rhan o hyn i gyd. Ni all y ffigurau a gyhoeddwyd o blant yn cyrraedd drws yr ysgol eisoes dros eu pwysau fod wedi eu hachosi gan ddiffyg ymarfer corff yn yr ysgol, oherwydd nid oedd y plant hyn yn yr ysgol ar yr adeg honno. Ond mae'n ymwneud â ffyrdd y mae pobl yn byw eu bywydau a chyfrifoldeb y Llywodraeth yw creu'r amodau lle gall pobl gymryd y camau sy'n caniatáu iddyn nhw hybu eu hiechyd eu hunain yn y dyfodol. Felly, y cyfuniad hwnnw o gamau y gall pobl eu hunain eu cymryd, ond mae'n rhaid i Lywodraethau weithredu er mwyn rhoi'r cyfleoedd iddyn nhw graddau hynny, rwy'n cytuno â'r pwyntiau yr oedd yr Aelod yn eu gwneud.
Yn amlwg, mae penderfynyddion yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn yn gymhleth, yn rhyng-gysylltiedig, yn lluosog. Maen nhw'n deillio o gymysgedd gwenwynig o incwm isel, tai gwael, deiet gwael, gweithgarwch corfforol isel a llygredd uchel. Mae rhai o'r materion hyn wedi eu cadw yn San Steffan, ond mae llawer ohonyn nhw yn rhan o'ch maes rheolaeth chi. Gadewch i ni ystyried canser, er enghraifft. Yn y chwe blynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer, mae'r gostyngiad hirdymor o ran cyfraddau marwolaethau canser wedi arafu'n sylweddol yng Nghymru. Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfradd y gostyngiad yn yr Alban, sydd â phroffil amddifadedd tebyg, wedi cynyddu. Nawr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun wedi dweud nad oes dealltwriaeth lawn o achosion y rhain a newidiadau eraill i gyfraddau marwolaeth a'u bod yn cael eu harchwilio ymhellach. Nawr, a gaf i awgrymu nad yw hynny'n cyfleu synnwyr o frys yn union? A gaf i gynnig i chi bod yr angen i ddeall yr hyn sydd yn digwydd yma a dod o hyd i atebion yn fater o'r brys mwyaf? Mae bywydau pobl yn llythrennol yn y fantol. Ymateb eich llefarydd i adroddiad y pwyllgor iechyd oedd y bydd y cwricwlwm ysgol newydd, y disgwylir iddo ddod i rym yn 2022, yn cynnwys pwyslais ar iechyd a llesiant. Ond mae hynny dair blynedd i ffwrdd. A allwn ni fforddio aros tair blynedd pan fo'r argyfwng yn digwydd i'n plant nawr?
Wel, Llywydd, mae Adam Price yn iawn wrth gyfeirio at rai o'r tueddiadau hirdymor yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn y fan yma. Mae pob un genhedlaeth ers 1945 wedi bod yn drymach na'r genhedlaeth o'i blaen. Ac mae hynny wedi bod yn wir mewn cyfnodau o lwyddiant economaidd yn ogystal â chyfnodau o ddirywiad economaidd. Mae'r rhain wir yn dueddiadau hirdymor lle na ellir disgwyl i gamau gan y Llywodraeth wneud gwahaniaeth byrdymor. Ond nid ydym yn disgwyl am ddigwyddiadau penodol er mwyn gwneud gwahaniaeth. Rydym ni eisoes yn gwneud pethau. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn gwneud gwahaniaeth bob dydd i'r cyfleoedd sydd gan blant i gerdded neu feicio i'r ysgol. Mae'r camau yr ydym ni'n eu cymryd ym maes bwyd i geisio gwneud yn siŵr bod y teuluoedd hynny sydd angen y cymorth mwyaf i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael gafael ar y math o ddeiet sydd ei angen arnynt, i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i deuluoedd fel y gallan nhw baratoi bwyd sydd o ddaioni i iechyd hirdymor eu plant—mae'r rheini'n rhaglenni sy'n digwydd yng Nghymru heddiw. Os oes mwy o bethau y gallwn ni eu gwneud, fel y byddwn ni drwy'r cwricwlwm newydd, byddwn ni'n eu gwneud, wrth gwrs. Oherwydd rydym ni eisiau canolbwyntio, fel y dywedais, Llywydd, ar yr ysgogiadau hynny sydd fwyaf uniongyrchol yn nwylo Llywodraeth Cymru ac yna sicrhau bod yr effaith y gallan nhw ei chael ym mywydau teuluoedd a phlant yng Nghymru cymaint â phosibl.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gen i ddiddordeb mawr mewn neges a gyhoeddwyd gan Masnach a Buddsoddi Cymru yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, menter farchnata sy'n cael ei rhedeg gan eich Llywodraeth Cymru chi yw Masnach a Buddsoddi Cymru. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwthio’r neges i ddarpar fuddsoddwyr tramor bod gweithwyr yng Nghymru yn ennill hyd at 30 y cant yn llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ai eich strategaeth swyddogol yw marchnata Cymru i gwmnïau tramor fel economi cyflog isel, lle gall cwmnïau ddod i Gymru ac ymsefydlu yma a thalu cyflogau hynod o isel i'w gweithwyr?
Llywydd, nid oedd honno'n neges a gyhoeddwyd gan unrhyw Weinidog. Nid yw'n neges a ddylai fod wedi ei chyhoeddi, a gallaf sicrhau'r Siambr nad yw'n neges a fydd yn cael ei hailadrodd.
Felly, dim ond camgymeriad oedd hynny. Iawn. Wel, pa bynnag strategaeth y bydd eich Llywodraeth Cymru yn ei llunio, gan honni eich bod chi'n ceisio gwella amodau gwaith yng Nghymru, mae'n debygol o gael ei thanseilio gan y sefyllfa wirioneddol sydd gennym ni yma yn y farchnad swyddi, sef, yn gyffredinol, bod cyflogau yng Nghymru yn isel iawn ac nad yw 20 mlynedd o Lywodraeth Llafur Cymru wedi gwneud dim i newid hynny.
Gwelais ddoe bod eich Gweinidog Brexit wedi cyhoeddi datganiad yn honni bod angen i ni gadw'r rhyddid i symud i'r DU hyd yn oed ar ôl Brexit. Mae hyn yn golygu hyd yn oed ar ôl i ni adael y bydd mewnfudwyr sgiliau isel yn dal i gael llifo i Gymru o ddwyrain Ewrop, gan gadw cyflogau yn isel. Ni fydd cyflogau yng Nghymru byth yn codi oni bai ein bod ni'n cymryd camau gweithredol i roi terfyn ar y llif hwn o lafur rhad, di-grefft. Felly, pam mae eich Llywodraeth Lafur Cymru mor benderfynol o gadw'r llafurlu rhad yn llifo i mewn i Gymru?
Wel, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r Aelod yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n ailadrodd yr hen chwedl wag am economi Cymru. Y gwir am economi Cymru yw, er bod gennym ni fwy o swyddi cyflogau isel yng Nghymru, pan fydd unigolyn yng Nghymru yn gwneud swydd mae'n cael ei dalu'n debyg i'r hun y byddai unigolyn yn cael ei dalu am wneud yr un swydd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'n wir, fel yr awgrymodd ar y cychwyn, bod cyflogau yng Nghymru yn gyffredinol isel, rywsut.
Gadewch i mi ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod ddoe. Mae parhad swyddi yn economi Cymru—mewn busnesau, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein prifysgolion—yn dibynnu ar ein gallu i barhau i ddenu pobl o rannau eraill o'r byd i ddod i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru. Y neges yr ydym ni eisiau ei rhoi i weddill y byd yw bod croeso iddyn nhw yma. Maen nhw'n chwarae rhan bwysig iawn yn ein cymdeithas ac yn ein heconomi, ac mae negeseuon i'r gwrthwyneb yn niweidio'r bobl hynny sydd eisoes yn byw yma a'u rhagolygon economaidd.
Rwy'n credu mai'r gwir, Prif Weinidog, yw eich bod chi eisiau sefydlu eich Comisiwn Gwaith Teg y cyfeiriasoch ato'n gynharach, gan esgus eich bod yn ymrwymedig i wella tâl ac amodau gwaith yng Nghymru, pan fo'r gwirioneddol yn hollol i'r gwrthwyneb. Y gwir yw eich bod chi eisiau cadw tâl ac amodau gwaith yn isel yng Nghymru trwy ganiatáu i gwmnïau barhau i gael mynediad at weithwyr tramor rhad.
Mae'n rhyfeddol i mi mai'r Blaid Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru, sydd i fod i sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr Cymru, sy'n gwneud hyn. Rwyf i wedi gofyn hyn i chi o'r blaen Prif Weinidog, a byddaf yn ei ofyn i chi eto: oni fyddai'n fwy priodol erbyn hyn pe byddech chi'n ailenwi eich plaid y blaid 'llafur rhad'?
Wel, roedd yn sylw dirmygus y tro diwethaf y'i gwnaed gan yr Aelod—rwy'n synnu nad oes ganddo o leiaf rhywun wrth ei ochr i'w gynghori ar beidio ag ailadrodd yr un camgymeriad ddwywaith. Gadewch i mi roi'r enghraifft iddo yr wyf i wedi ei rhoi iddo o'r blaen. Mae'n enghraifft byd go iawn—fe'i rhoddwyd i mi yn uniongyrchol gan y cyflogwr. Dyma rywun sy'n rhedeg busnes mawr a llwyddiannus yng nghanolbarth Cymru, mewn man lle ceir poblogaeth denau. Er mwyn i'r busnes hwnnw lwyddo, fel y mae wedi llwyddo ers blynyddoedd lawer, mae angen 100 o bobl i sicrhau bod ei fusnes yn gweithio o un flwyddyn i'r llall. Mae'n gallu recriwtio 80 o'r bobl hynny o'r gymuned leol honno. Er mwyn i'r busnes redeg, mae'n rhaid iddo recriwtio 20 o bobl eraill ac, yn wir, ni ellir dod o hyd i'r 20 o bobl eraill hynny yn lleol, ac maen nhw'n dod o'r tu allan i Gymru. Swyddi'r 80 o bobl sydd eisoes yno sy'n dibynnu ar y 20 o bobl sy'n dod o fannau eraill. Dyna pam mae croeso i'r bobl hynny yma yng Nghymru. Ymhell o sefyllfa, fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu, lle mae'r bobl hynny rywsut yn rhoi pobl Cymru dan anfantais, mae ein gallu i ddarbwyllo pobl o fannau eraill i ddod a bod yn rhan o'n heconomi lwyddiannus yn rhan o'r llwyddiant y byddwn ni'n ei gael, ac rydym ni fel Llywodraeth yn benderfynol o barhau i gyfleu'r neges y bydd y bobl hynny yn cael eu croesawu. Mae croeso iddyn nhw nawr, bydd croeso iddyn nhw yn y dyfodol, beth bynnag fydd ein perthynas â gweddill y byd.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr y lluoedd arfog? OAQ53587
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr ar draws ystod ein cyfrifoldebau, gan gynnwys cyflogaeth, iechyd ac addysg.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae 51,000 o gyn-filwyr yn y gogledd yn unig, ac er bod gennym ni GIG Cymru y Cyn-filwyr, dim ond tri seicolegydd sydd ar gael i ofalu am eu hanghenion hiechyd meddwl. Mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigonol, ond nid dyna yr wyf i'n rhoi sylw iddo yn y fan yma. Ond wedi dweud hynny, nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg disgwyl i'r Llywodraeth a'r GIG wneud popeth, a dylem ni fod yn annog hunangymorth lle bynnag y bo'n bosibl. Prosiect yn Wrecsam oedd Tŷ Ryan lle'r oedd cyn-filwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu fflatiau un a dwy ystafell wely i'w meddiannu gan gyn-filwyr. Gwnaeth Tŷ Ryan wahaniaeth enfawr i'r cyn-filwyr hynny a gymerodd ran. Llwyddodd i wella eu hiechyd meddwl, yn ogystal â darparu tai y mae wir eu hangen. Ers cryn amser, mae fy swyddfa i wedi bod mewn cysylltiad a Woody's Lodge, elusen sy'n ymwneud â lles cyn-filwyr. Fel finnau, maen nhw'n gweld sut y gall prosiectau hunan-adeiladu fod o fudd i gyn-filwyr, a bod lleiniau tir llwyd segur ledled y gogledd y gellid eu defnyddio ar gyfer y prosiectau hyn, sy'n aml yn eiddo i awdurdodau lleol. Felly, a wnewch chi gytuno i gyfarfod â mi a chynrychiolwyr elusen Woody's Lodge ar gyfer cyn-filwyr i weld a allwn ni ddatblygu ffordd o leoli a rhyddhau tir awdurdod lleol nad yw'n cael ei ddefnyddio, ar gyfer prosiectau hunan-adeiladu i gyn-filwyr yn y dyfodol?
Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Fel y mae'n digwydd, Llywydd, roedd fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore yn siarad â mi am Woody's Lodge a'r gwaith y mae'n ei wneud yn ddiweddar iawn, felly rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae'n ei wneud a Project 360°, sy'n rhan o'r fenter honno. Ac mae'n rhan o'r ffordd hunangymorth honno o wneud pethau sydd wedi bod yn rhan amlwg iawn o'r ffordd y mae'r gymuned cyn-filwyr wedi trefnu ymhlith ei hunan i wneud yn siŵr ei bod yn gallu rhannu profiadau a chaniatáu i bobl gael nerth oddi wrth ei gilydd. Nawr, ymrwymodd fy nghyd-Aelod Alun Davies bron i flwyddyn yn ôl i ymarfer cwmpasu i nodi unrhyw fylchau tybiedig yn y ddarpariaeth o wasanaethau i gyn-filwyr a'u teuluoedd yma yng Nghymru. A bydd y grŵp arbenigol yr ydym ni wedi ei sefydlu i ymgymryd â'r gweithgarwch cwmpasu hwnnw a phethau eraill yn ymgysylltu ag elusennau lluoedd arfog, gan gynnwys Woody's Lodge a Project 360°, i weld a oes mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau dull cydweithredol rhwng yr hyn y gall gwasanaethau cyhoeddus ei ddarparu i gyn-filwyr, a'r ffyrdd niferus hynny y mae sefydliadau cyn-filwyr yn trefnu eu hunain i helpu eu haelodau eu hunain.
Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud gyda phartneriaid eraill i gefnogi ein cymuned cyn-filwyr ledled Cymru, ac i ymgorffori cyfamod y lluoedd arfog yn ein gwasanaethau cyhoeddus? Un o'r materion a drafodwyd yn ddiweddar yn y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid oedd yr anhawster weithiau y mae llawer o gyn-filwyr yn ei wynebu wrth geisio cael gafael ar gyflogaeth ar ôl iddyn nhw adael eu hamser yn y lluoedd arfog. Un o'r pethau a godwyd yn ein cyfarfod fel rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried efallai oedd bod cyfweliadau wedi'u sicrhau yn yr Unol Daleithiau gyda rhai cyflogwyr yn y sector cyhoeddus fel bod cyn-filwyr yn cael y cyfle o leiaf i gyflwyno eu hunain yn uniongyrchol i'r cyflogwr. A yw hyn yn rhywbeth y gallai'r Prif Weinidog ei ystyried ar gyfer Llywodraeth Cymru, a'i hyrwyddo yn ehangach o fewn y sector cyhoeddus yn y dyfodol?
Diolchaf i Darren Millar am y syniad yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio yn ddiweddar gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu llwybr cyflogaeth, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned, gan eu bod nhw wedi datblygu pecyn cymorth i gyflogwyr, a bwriad y pecyn cymorth hwnnw yw helpu cyflogwyr i gydnabod y rhinweddau y gall cyn-aelodau o'r lluoedd arfog eu cynnig iddyn nhw yn y swyddi sydd ganddyn nhw ar gael. Nawr, mae'r syniad o gyfweliad wedi'i sicrhau, lle gall pobl o leiaf gwneud yn siŵr y gallan nhw wneud eu cyflwyniad a bod eu lleisiau'n cael eu clywed, yn un yr ydym ni wedi ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Rydym ni wedi ei ddefnyddio, er enghraifft, ar gyfer pobl ag anableddau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyrraedd gerbron cyflogwyr ac ati. Felly, rwy'n hapus iawn i ystyried y syniad hwnnw a'i wneud yn destun trafodaeth yn y gwaith hwnnw ar lwybrau cyflogaeth a'r pecyn cymorth i gyflogwyr yr ydym ni'n ei wneud eisoes.
4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran y ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth? OAQ53536
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth profedigaeth i'w poblogaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sefydliadau'r trydydd sector yn uniongyrchol i wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef profedigaeth.
Diolch. Mae 40 y cant o'r 33,000 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn yn marw yn y gymuned, 55 y cant yn yr ysbyty. Er y cyfeirir at gymorth profedigaeth yn dilyn marwolaeth plentyn mewn unedau gofal dwys pediatrig yng nghynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael, nid yw'r cynllun yn cyfeirio at bwysigrwydd gofal profedigaeth i deuluoedd lle mae oedolyn wedi marw yn dilyn gofal critigol. Darperir cyfran sylweddol o gymorth profedigaeth gan ein hosbisau elusennol yng Nghymru, a chynorthwywyd tua 2,300 o deuluoedd yn 2017-18, ond deallir nad yw teuluoedd y mae eu hanwyliaid yn marw mewn lleoliad acíwt ar ôl derbyn gofal dwys a chritigol yn cael y gofal profedigaeth sydd ei angen arnynt oherwydd diffyg cyfeirio neu ddiffyg o ran bod gofal ar gael. Mae'n sicr yn destun pryder a godwyd gyda mi gan yr hosbisau oedolion yn y gogledd, sydd hefyd yn dweud wrthyf nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymgynghori â nhw ar eu cynllun gofal lliniarol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru, gan sicrhau bod cymorth profedigaeth priodol ar gael i bob teulu sy'n dioddef profedigaeth, ni waeth beth fo lleoliad nac amgylchiadau marwolaeth eu hanwyliaid?
Wel, diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn atodol yna a diolchaf iddo hefyd am y gwaith y mae'n ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a gofal profedigaeth, sy'n rhoi mynediad i ni at rywfaint o'r wybodaeth sy'n ein helpu ni wrth ddatblygu gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu yn y maes hwn. Nawr, bydd yn gwybod, rwy'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu darn o waith yn ddiweddar a ariennir drwy'r bwrdd gofal diwedd oes, ac astudiaeth gwmpasu yw honno i ehangder y gwasanaethau gofal profedigaeth yng Nghymru. Mae'r bwrdd wedi gofyn i Marie Curie a Phrifysgol Caerdydd arwain yr astudiaeth honno. Mae'n dechrau trwy fapio'r cymorth presennol ac yna nodi ardaloedd lle mae angen mwy o wasanaethau. Gallwn addo gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi heddiw yn cael eu cyfrannu at yr astudiaeth honno.
Prif Weinidog, mae colli rhywun annwyl i hunanladdiad yn brofedigaeth unigryw o ddinistriol yn fy marn i, ac eto nid yw gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn bodoli i raddau helaeth yng Nghymru. Mae sefydliadau fel Sefydliad Jacob Abraham yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi teuluoedd heb geiniog o arian cyhoeddus. Ceir patrwm hefyd yr wyf i'n ei weld yn fy ngwaith, ar fy nau bwyllgor, o wasanaethau statudol yn disgwyl i sefydliadau trydydd sector ddarparu gwasanaethau ar sail gyffredinol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond heb gyfrannu'r arian ar gyfer y sefydliadau hynny dan sylw. Rwy'n ymwybodol o'r ymarfer mapio yr ydych chi wedi cyfeirio ato, ond mae hynny'n mynd i gymryd amser. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i drafod anghenion penodol y rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad gyda'r Gweinidog iechyd, gyda'r nod o gymryd camau brys yn y maes hwn, sy'n arbennig o bwysig gan ei bod hi'n ffaith bod y rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad eu hunain mewn perygl llawer uwch o farw drwy hunanladdiad?
Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig, Llywydd, y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn dod â chyfres o broblemau ychwanegol gydag ef y mae'n rhaid i deuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl fynd i'r afael â nhw ac maen nhw eu hunain yn aml yn achos o bryderon iechyd meddwl i'r teuluoedd hynny eu hunain. Felly, rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Wrth gwrs, mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector, ac mewn rhai meysydd—ac mae hwn yn sicr yn un ohonynt—mae'n aml yn wir y byddai'n well gan deuluoedd fod mewn cysylltiad â sefydliad y tu allan i gyfyngiadau mwy ffurfiol gwasanaethau cyhoeddus. A thrwy Cruse Bereavement Care a thrwy'r Samariaid, rydym ni'n darparu cymorth i'r trydydd sector o ran atal hunanladdiad a chwnsela mewn profedigaeth, ac mae'r Gweinidog wedi ymrwymo cyllid o £0.5 miliwn y flwyddyn i barhau i gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol o fynd i'r afael â hunanladdiad ac atal hunan-niwed. Yr astudiaeth y soniais amdani, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol ohoni—rydym ni eisoes wedi penderfynu y bydd pwyslais penodol o fewn yr astudiaeth ar wasanaethau i gynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef marwolaeth anesboniadwy ddisymwth neu farwolaeth drwy hunanladdiad rhywun yn eu teulu neu sy'n agos atynt. Ac, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i barhau i drafod y materion hyn gyda'm cyd-Aelod Vaughan Gething wrth i'r gwaith hwnnw aeddfedu.
5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran yr adolygiad o'r gwasanaeth caffael cenedlaethol? OAQ53584
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ers cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar yr adolygiad ym mis Medi, mae gwaith wedi canolbwyntio ar leihau nifer y rhaglenni caffael cenedlaethol a datblygu camau treialu i ehangu gweithgarwch caffael ar lefelau lleol a rhanbarthol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwn fod Nick Ramsay, yr wythnos diwethaf, wedi codi'r un cwestiwn gyda'r Gweinidog cyllid yn ei chwestiynau hi, a daeth llawer o'r atebion yn ôl y byddai lleihau'r nifer i fod yn fwy rhanbarthol ond hefyd manteision cymunedol yn helpu. Er enghraifft, mae prosiect gwerth £100 miliwn yn fy etholaeth i lle mai cyflogi pobl leol oedd y budd i'r gymuned. Cyflogwyd chwech o bobl gennym mewn swyddi diogelwch—nid yw hynny'n gynaliadwy, nid yw'n welliant i'r economi. Y ffordd i wella'r economi yw sicrhau bod gan fusnesau lleol fynediad at ennill y contractau hynny yn y lle cyntaf. Mae Mike Hedges yn aml wedi codi'r cysyniad o gontractau llai, wedi eu rhannu i lawr, haws—dyna un ffordd. Ond os ydych chi'n mynd i adolygu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a'i fod yn mynd i fod y math mwyaf blaenllaw o ddull caffael, a wnewch chi sicrhau ei fod yn cael ei ledaenu ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod pob sefydliad sector cyhoeddus yn dilyn eich esiampl chi o wella buddion cymunedol i sicrhau eu bod nhw'n hirdymor ac yn gynaliadwy, i sicrhau bod y contractau hynny ar gael i fusnesau lleol, lle mae'r arian go iawn yn dod i mewn i'r economi leol o gynnal y busnesau hynny? Ac a wnewch chi hefyd edrych ar fframweithiau, oherwydd mae llawer o'n busnesau lleol yn cael eu hallgáu oherwydd y fframweithiau? Felly, mae'n becyn cyfan y mae angen ei ystyried, ac felly a wnewch chi wneud hynny ar ôl i chi gynnal yr adolygiad o'r gwasanaeth caffael cenedlaethol?
Rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod bod hyn yn becyn o fesurau y mae'n rhaid i ni ei lunio i sicrhau ein bod ni'n cael y gwerth cyhoeddus mwyaf posibl o wario arian cyhoeddus, ac mae rhai enghreifftiau da iawn o fuddion cymunedol. Nid yw'r un y cyfeiriwyd ato gan yr Aelod yn swnio fel un o'r rheini, ond rydym ni wedi cael gwerth mwy na £2 biliwn o brosiectau lle sicrhawyd buddion cymunedol—mae hynny'n fwy na 500 o brosiectau, mae hynny'n 2,500 o swyddi a dros 1,000 o brentisiaethau a sicrhawyd drwy'r dull buddion cymunedol. Ac mae sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy o hynny ac yn gwneud yn well yn rhan o'r adolygiad caffael.
Yn sicr ddigon, ein huchelgais yw y bydd contractau yn cael eu gosod mewn ffordd sy'n sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i gyflenwyr cynhenid, ac rydym ni'n ceisio gwneud hynny yn y ffordd a awgrymwyd gan David Rees, trwy gysylltu gwahanol agweddau ar ein gweithgarwch caffael. Felly bydd ef, mi wn, yn gefnogwr cryf o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud i lunio nodyn cyngor caffael o ran caffael dur i wneud yn siŵr, pan fydd arian cyhoeddus yn cael ei wario yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, lle gellir cyflenwi dur Cymru neu lle gellir cyflenwi dur y DU, ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar hynny yn y ffordd yr ymgymerir â chaffael yma yng Nghymru. Mae contractwyr cynhenid eisoes yn sicrhau 80 y cant o'r contractau sydd werth mwy na £750,000 a ddyfernir yma yng Nghymru, ac mae'r ffigur hwnnw wedi tyfu'n sylweddol yn ddiweddar. Mae mwy i'w wneud. Mae'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn rhan o hynny, ac mae'n rhan o'r ffordd y mae'r adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal.
Prif Weinidog, mae'n debyg mai fi yw un o'r bobl ddiwethaf sy'n galw am ddeddfwriaeth mewn rhai meysydd, ond yn y maes penodol hwn mae Llywodraeth Ffrainc wedi arwain y ffordd gyda Bil amaethyddol Ffrainc a ddeddfwyd yn ddiweddar ynghylch caffael cyhoeddus a'r defnydd o gaffael cyhoeddus i hybu economïau mwy lleol. Rwyf yn erfyn ar eich Llywodraeth i edrych ar yr esiampl y maen nhw wedi ei gosod, oherwydd, yn aml iawn, dywedir wrthym—a byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gobeithio, ond yn aml iawn dywedir wrthym na allwn ni ddefnyddio offerynnau penodol i ysgogi caffael cyhoeddus i roi hwb i'r economi leol oherwydd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Wel, yn Ffrainc, mae nhw wedi llwyddo i wneud hynny gyda'r Bil amaethyddol gyda lefelau gofynnol o gaffael cyhoeddus yn ogystal â diogelu cynnyrch lleol. Rwy'n credu y bydd y llwybrau hynny yn agored i'ch Llywodraeth chi ac y bydd y Gweinidog, fel yr wyf yn deall, yn cyflwyno Bil amaethyddol ac rwy'n credu y byddai hwnnw'n gyfrwng perffaith i fwrw ymlaen â'r agenda hon.
Wel, Llywydd, wrth gwrs, rydym ni'n hapus iawn i edrych ar yr enghraifft honno. Mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn ei wneud ac yn yr economi sylfaenol lle gwnaeth Lee Waters ddatganiad i'r Cynulliad yn ddiweddar iawn. Wrth gwrs, mae'r enghraifft yn cyfeirio'n benodol at y ddadl yr oedd yr Aelod yn ei gwneud. Dywedir wrthym bod yn rhaid i ni adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y rhyddid hwn, ac eto mae'r enghraifft y mae'n tynnu sylw ati o wlad yn yr Undeb Ewropeaidd ac sy'n bwriadu aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn dal i allu—
Chi sy'n cyfeirio at hynny.
—cael y manteision y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Felly, lle ceir enghreifftiau o sut y gallwn ni ddefnyddio rhyddid presennol yn well ac ymestyn y rheolau fel eu bod o fantais i economïau lleol, rwy'n cytuno y dylem ni wneud hynny. Nid oes angen i ni adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gallu ei gyflawni.
6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella perfformiad addysgol yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ53534
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad hwn yw gweithredu band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o fis Ebrill eleni. Bydd yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed i ddarparu adeiladau ysgol a choleg lle gall pob plentyn wireddu ei botensial.
Prif Weinidog, roedd yn bleser ymuno â chi ddydd Iau yn agoriad swyddogol Ysgol Gynradd newydd sbon gwerth £7.2 miliwn Cwmaman yn fy etholaeth i, dim ond y diweddaraf mewn cyfres o adeiladau ysgol newydd lle mae fy etholaeth wedi elwa ar fuddsoddiad o fwy na £100 miliwn—mwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru, rwy'n credu. Ac, fel cyn-athrawes, gwn yn rhy dda pwysigrwydd darparu'r lleoliadau addysgol hyblyg ac uchelgeisiol hyn a'r effaith y gall hynny ei chael ar gyrhaeddiad ein disgyblion. Un peth a'm trawodd yn arbennig am safle Cwmaman oedd y ffordd yr oedd y lle awyr agored yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod disgyblion yn defnyddio'r awyr agored cymaint â phosibl a'r llu o fanteision y gall hynny ei gynnig o ran cyrhaeddiad, llesiant a pherfformiad cyffredinol. Felly, ym mha ffordd arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored?
Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna. Hoffwn ei llongyfarch ar ei llwyddiant yn lobïo am wariant ysgolion unfed ganrif ar hugain yn ei hetholaeth. Roedd yn bleser gwirioneddol bod gyda hi ddydd Iau yr wythnos diwethaf yn y safle trawiadol o hardd y saif Ysgol Gynradd Cwmaman arno erbyn hyn, ac o gael gweld gan y pennaeth ac eraill y cyfleoedd newydd y mae hynny'n eu cynnig ar gyfer galluogi plant i ddysgu yn yr awyr agored. Mae'n safle gwirioneddol hardd ac mae'r cyfleoedd hynny wir yn bodoli yno. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym ni'n rhoi pwyslais mawr yn y cyfnod sylfaen yn arbennig ar ddysgu yn yr awyr agored, ond mae hynny'n parhau yr holl ffordd i fagloriaeth Cymru yn ei helfen her gymunedol, pryd, unwaith eto, y caiff pobl ifanc eu hannog i fod allan yn dysgu yn y byd y tu allan i'r ysgol.
Mae'r adeiladau newydd yr ydym ni'n eu darparu trwy fand A rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a thrwy fand B hefyd erbyn hyn, yn golygu bod gennym ni raglen adeiladu fwy helaeth ledled Cymru nag ar unrhyw adeg mewn 50 mlynedd, ac nid yw'n fater syml o nifer yr adeiladau sy'n cael eu darparu, ond hefyd ansawdd yr adeiladau hynny, ansawdd gwych Ysgol Gynradd Cwmaman a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu i alluogi plant i ffynnu yn adeilad yr ysgol a'r tu hwnt iddo.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn Sir Fynwy? OAQ53570
Bydd ein cynlluniau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd gwell yn Sir Fynwy yn arwain at drenau wedi'u hailwampio mewn gwasanaeth eleni ar reilffyrdd y Fenni a Chas-gwent, gan gynnig mwy o gapasiti a chyfleusterau modern. Bydd trenau newydd a gwasanaethau ychwanegol yn dilyn wrth i gontract rheilffyrdd Cymru a'r gororau gael ei gyflwyno.
Diolch, Prif Weinidog. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich ymdrechion i ymdrin â rhai o'r problemau cychwynnol sydd wedi taro masnachfraint Trafnidiaeth Cymru yn ei ychydig fisoedd cyntaf? Codais y mater hwn yn y datganiad busnes gyda'r Trefnydd yr wythnos diwethaf. Mae un o'm hetholwyr, sy'n astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth Henffordd wedi gweld llawer o wasanaethau yn cael eu gohirio neu eu canslo, ac mae hi'n bryderus iawn am ei arholiadau a fydd yn digwydd yn fuan, ymhen ychydig wythnosau, a'r effaith y gallai canslo trenau ei chael arni. Mae'n dal y trên o orsaf y Fenni.
Gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi dweud bod llawer o hyn yn digwydd oherwydd problemau cynnal a chadw a diffyg cynnal a chadw cerbydau yn ystod dyddiau olaf y fasnachfraint flaenorol. Beth bynnag allai'r rhesymau fod, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwr ac, yn wir, i deithwyr eraill masnachfraint Trafnidiaeth Cymru yn fy rhan i o'r wlad yn y de-ddwyrain, bod y problemau hyn yn cael sylw ac y byddan nhw'n cael eu datrys cyn gynted â phosibl?
Diolchaf i'r Aelod am hynna; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo. Fel y mae'n gwybod, yn nyddiau cynnar y fasnachfraint, roedd oedran y fflyd a'r ôl-groniad mawr iawn o waith cynnal a chadw yn achosi heriau gwirioneddol i Drafnidiaeth Cymru. Ers hynny, mae patrwm gwasanaethau wedi gwella, mae llai o wasanaethau yn cael eu gohirio a'u canslo. Mae buddsoddiad o £40 miliwn yn y fflyd bresennol i wella perfformiad y gwasanaeth, ac mae hynny'n cynnwys gosod diogelwch sleid olwyn ar y fflyd bresennol, sef un o'r rhesymau pam y cafwyd anawsterau cynnar.
Rydym ni hefyd wedi ei gwneud yn haws i deithwyr hawlio iawndal pan fydd unrhyw darfu ar y gwasanaeth, ond ein huchelgais ni, ac uchelgais Trafnidiaeth Cymru—uchelgais y maen nhw'n ei fodloni'n gynyddol—yw gwneud yn siŵr y darperir gwasanaethau ar amser, nad ydynt yn cael eu canslo, ac sy'n bodloni defnyddwyr.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Dawn Bowden.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53567
Llywydd, gwnaed i'r rhai y mae eu bywydau wedi eu heffeithio fwyaf gan dlodi ysgwyddo baich gyfan gwbl annheg oherwydd polisïau cyni cyllidol Llywodraeth y DU—polisïau sydd yn eu nawfed flwyddyn erbyn hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y mesurau ymarferol hynny y gallwn ni eu cymryd sy'n rhyddhau arian i bocedi'r rhai y mae tlodi yn effeithio arnynt ym Merthyr Tudful a Rhymni, a ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ei fod yn warthus bod sefydliadau fel Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fy etholaeth i, fel mewn cymunedau eraill yn y Cymoedd, yn cefnogi cynlluniau fel hamperi gwyliau i helpu i fynd i'r afael â newyn ymhlith plant. Hoffwn ailadrodd hynna: yn 2019, maen nhw'n rhedeg cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem o newyn ymhlith plant yn ein cymunedau.
Byddwch hefyd yn ymwybodol bod Sefydliad Bevan wedi cynnal digwyddiad ym Merthyr Tudful yn ddiweddar, gan ddod â sefydliadau sy'n ymwneud ag ansicrwydd bwyd at ei gilydd, i ystyried effaith diwygiadau lles a'u heffaith ar iechyd ac ymddygiad. A dim ond y penwythnos hwn yn fy nghymhorthfa, rhoddais docyn banc bwyd unwaith eto i fam ifanc mewn cyflogaeth llawn amser gan ei bod hi wedi mynd i ddyled oherwydd nad oedd ei chyflog, ei hincwm, yn ddigon i dalu ei halldaliadau ac i fyw arno. Nawr, yng ngoleuni hyn, ac er fy mod i'n sylweddoli'n llwyr nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar lawer o'r ysgogiadau economaidd allweddol, a allwch chi fy sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud paratoadau ar gyfer tlodi, nid yn unig o ran polisïau ond o ran pob penderfyniad, er mwyn helpu i fynd i'r afael a'r achosion sydd wrth wraidd tlodi a newyn yn ein cymunedau?
Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ddydd Llun yr wythnos hon, cefais gyfarfod ag Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru; roedd yn gyfarfod a oedd yn eich difrifoli. Wrth gwrs, mae'r ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith ardderchog gyda'r gwirfoddolwyr y maen nhw wedi eu recriwtio mewn llawer o gymunedau yng Nghymru. Ond dywedasant wrthyf fod patrwm defnydd eu banciau bwyd yn symud o fod yn wasanaeth argyfwng, lle maen nhw'n ymdrin â theuluoedd sydd rywsut yn ymdopi y rhan fwyaf o'r amser, ac yna angen cymorth bob nawr ac yn y man, i wasanaeth cronig, lle maen nhw'n gweld teuluoedd nad ydyn nhw'n gallu ymdopi wythnos ar ôl wythnos oherwydd y ffyrdd y mae eu hincwm wedi gostwng a lle mae baich dyled, yn arbennig, yn erydu eu gallu i ddiwallu hyd yn oed yr anghenion beunyddiol mwyaf sylfaenol.
Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer ein rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol ein hunain. Rydym ni wedi bod yn darparu £0.5 miliwn y flwyddyn; rydym ni'n mynd i ddarparu £900,000 y flwyddyn ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau eleni. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw gallu symud y rhaglen honno y tu hwnt i'r ysgol, lle mae wedi bod hyd yma, fel y gall weithio gydag eraill fel Cartrefi Cymoedd Merthyr, fel cymuned Caia yn Wrecsam, lle y cyfarfûm â gwirfoddolwyr ochr yn ochr â'm cyd-Aelod, Lesley Griffiths, fel y gallwn ddarparu'r cymorth hwnnw mewn mwy o leoliadau a mwy o leoedd. Rydym ni'n falch iawn o'i wneud. Rydym ni'n benderfynol iawn o'i wneud. Mae'n rhan o'n prawfesur ar gyfer tlodi. Ond i feddwl ein bod ni'n gorfod darparu gwasanaethau i atal plant rhag bod eisiau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol yn y chweched wlad fwyaf cyfoethog ar wyneb y ddaear, prin y gall hynny fod yn destun dathlu i'r un ohonom ni.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch. Mae rhai newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar strategaeth dwristiaeth wedi ei dynnu yn ôl, a bydd y datganiad ar 'Brentisiaethau: Buddsoddi mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' yn cael ei gyflwyno gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn olaf, fel yr eitem busnes olaf heddiw, mae'r Pwyllgor Busnes wedi amserlennu cynnig i gytuno ar ail-neilltuo Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i grŵp gwleidyddol gwahanol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i'r Trefnydd mewn cysylltiad â rheoli sepsis yn y gwasanaeth iechyd? Mae llawer o'm hetholwyr wedi cael eu dychryn o ddarllen yn ystod y tair blynedd diwethaf, neu rhwng 2016 a 2018, am y cynnydd sylweddol yn y gogledd o ran nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â sepsis: i fyny o 151 yn 2016 i 238 yn 2018. Nawr, gwn fod staff ysbytai yn llawer gwell bellach o ran adnabod sepsis, a bod hynny'n sicr yn un o'r rhesymau pam mae mwy o achosion wedi eu nodi. Ond mae nifer y marwolaethau yn fy mhoeni'n fawr, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall yr union gamau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth ymhellach a thrin pobl yn gyflym pan fo sepsis yn cael ei nodi. Gwn y byddai fy nghyd-Aelod, Angela Burns, pe bai hi yma, yn curo'r drwm ynghylch y mater hwn, o ystyried ei diddordeb sylweddol ar ôl dioddef sepsis ei hun yn y gorffennol. Un o'r pethau y mae hi wedi galw amdanyn nhw, wrth gwrs, yw hyfforddiant ymwybyddiaeth sepsis gorfodol ymhlith staff rheng flaen y GIG, ac rwy'n credu y byddai hynny'n mynd ymhell i dawelu meddwl rhai o'm hetholwyr bod mwy o ymdrech yn cael ei wneud gan y GIG i ddal y cyflwr hwn sy'n fygythiad mawr i fywyd.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn a hefyd am gydnabod y gwaith y mae eich cyd-Aelod, Angela Burns, wedi ei wneud ynghylch sepsis ers peth amser bellach, oherwydd, mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn bryderus ynghylch sepsis. Mae'r gymuned ryngwladol, fodd bynnag, wedi cydnabod ymdrechion sylweddol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru i wella gydag atal, diagnosis a thriniaeth gynnar. Gwn fod llawer o waith yn cael ei wneud drwy ein rhaglen 1000 o Fywydau yn benodol. Mae'r Gweinidog iechyd yn dweud wrthyf fod cyflwyno hyfforddiant sepsis yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy'n deall fod rhai o'r ffigurau sy'n awgrymu bod cynnydd wedi bod yng nghyfraddau sepsis yn ddiweddar mewn gwirionedd yn ganlyniad newidiadau codio yn 2017 yn ardal y bwrdd iechyd, ond byddaf yn sicr yn gallu darparu mwy o wybodaeth am hynny i'r Aelod.
Trefnydd, mewn datganiad Brexit ar 22 Ionawr, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol fod Llywodraeth Cymru
yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi a chynllunio ar gyfer effeithiau Brexit heb gytundeb ar draws yr holl wasanaethau.
Dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cefnogi cynghorau i baratoi ar gyfer Brexit. Caf ar ddeall, yn amlwg, fod rhai awdurdodau lleol ar wahanol gamau o ran eu cynlluniau ar gyfer Brexit, gyda rhai awdurdodau lleol yng Nghymru prin wedi gwneud cynlluniau o gwbl.
O ystyried ble'r ydym ni heddiw, gyda'r ansicrwydd parhaus o ganlyniad i ymgais ddiweddaraf Prif Weinidog y DU i wneud cytundeb, rwy'n galw ar y Gweinidog Llywodraeth Leol i ddarparu datganiad pellach, mwy manwl, ar gynnydd—neu ddiffyg cynnydd—cynlluniau Brexit ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru. Erys cwestiynau ynghylch yr effaith ar y gweithlu, cyllid a’r economïau lleol, ac rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol yn dymuno darparu eglurder ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol Cymru wedi datblygu eu gwaith cynllunio. Felly byddwn yn falch o gael datganiad.
Cymaint yw’r pryder ynghylch Brexit ymhlith aelodau cyffredin y cyhoedd, Trefnydd, fel eu bod, er enghraifft, yn cymryd camau eithafol. Mae Ed Sides, o Gilâ yn Abertawe, wedi cychwyn o Abertawe ddydd Mercher diwethaf ac mae’n cerdded yr holl ffordd i Lundain, gan siarad â phobl ar hyd y ffordd ynghylch y pryderon y mae llawer ohonom ni’n eu rhannu ynghylch Brexit. Mae ef wedi cael llond bol o'r ffordd y mae Brexit wedi cael ei drin a’r effaith drychinebus y bydd yn ei chael ar Gymru, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau iddo ar ei daith.
Yn sicr, mae gennyf gydymdeimlad mawr â'i safbwynt, sef ei fod wedi cael llond bol ar y ffordd y mae Brexit wedi cael ei drin. Rwy'n credu yn sicr y byddai cyfran fawr ohonom ni yn y Siambr yn rhannu'r pryder hwnnw, ac nad yw cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog, o ran y trafodaethau y mae hi wedi eu cael â'n cymdogion Ewropeaidd yn ddiweddar, wedi gwneud dim i'n symud ni yn ein blaenau. Nid oes unrhyw beth wedi newid yn dilyn ei hymweliad neithiwr.
O ran cymorth i awdurdodau lleol, rwy'n credu y bydd cyhoeddiad pellach yfory ynghylch ein cefnogaeth i awdurdodau lleol drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae gennym ddatganiad pellach ar Brexit gan y Gweinidog Brexit yr wythnos nesaf. Byddaf yn siŵr o ofyn iddo roi sylw ehangach i faterion cymorth i awdurdodau lleol ac argyfyngau sifil.
Trefnydd, a gaf i ofyn am bedwar datganiad? Nid wyf yn codi yn aml, felly rwyf yn mynd am bedwar y tro hwn. [Chwerthin.] Mae’r cyntaf yn ymwneud â gwaith Banksy ym Mhort Talbot. Yn amlwg, nid ydym yn dal yn glir i ba gyfeiriad yr ydym yn mynd o ran diogelu’r gwaith hwnnw na’r lleoliad y bydd y gwaith yn cael ei osod ynddo fel y gall y cyhoedd ei weld. Rwyf wedi siarad â'r awdurdod lleol ac, yn amlwg, mae cynigion yn cael eu cyflwyno. Ond mae cwestiwn cryf iawn yn codi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y lleoliadau hynny, ac maen nhw’n ceisio cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn yr achos hwnnw, gan fod gwario arian i wneud yr oriel yn barod yn hawdd, ond mae’n rhaid ei gwneud yn gynaliadwy yn yr hirdymor, ac mae rhaid ichi wneud yn siŵr ei bod yn parhau ar ôl yr amser y gwarantwyd y bydd y Banksy yno. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad inni ynglŷn â’u safbwynt o ran beth yw’r oriel gelf gyfoes, ac a ellid ei defnyddio fel un o'r canolfannau hynny sy’n cael eu trafod.
Mae’r ail ddatganiad yn ymwneud yn benodol â pherchnogaeth twnnel y Rhondda, oherwydd rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn fater parhaus rhwng cymdeithas y twnnel a Llywodraeth Cymru, o ran pwy sy'n berchen arno. Rydym yn gwybod mai Highways England sy’n berchen arno ar hyn o bryd, ond bydd rhywfaint o'r arian sydd ei angen arnyn nhw er mwyn ymgymryd â gwaith pellach yn dibynnu ar y berchnogaeth honno. Felly, a gawn ni ddatganiad ar gamau Llywodraeth Cymru hyd yn hyn ynghylch perchenogaeth y twnnel, a phryd y gallwn weld trosglwyddiad oddi wrth Highways England i Lywodraeth Cymru, neu gyrff sy'n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru?
Y trydydd datganiad yw—ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod gan ei bod hi’n mynd heibio fy etholaeth yn ddyddiol—bod llong fawr iawn yn nociau Port Talbot ar hyn o bryd—y Sertão. Fe'i gosodwyd yno gan Lys y Morlys gan ei bod hi wedi ei hatafaelu oherwydd methdaliad yn ymwneud â’i pherchenogaeth. Os ydych yn gyfarwydd â'r llong, fe fyddwch yn ei gweld hi’n sefyll uwchben y craeniau yn y dociau ac mae hi wedi cymryd angorfa. Ac o'r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae hi yno am gyfnod amhenodol bellach. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llys y Morlys er mwyn selio dyfodol y llong hon, gan ei bod hi’n cymryd angorfa? Efallai nad ydym ni’n defnyddio’r angorfa—mae’r angorfa ddadlwytho ar yr ochr arall—ond pan fo dwy long yno weithiau, maen nhw’n angori ar yr ochr honno, ac felly, mae hi wedi cymryd angorfa. Felly, beth yw'r sefyllfa tymor hir o ran y llong yn nociau Port Talbot?
Ac yn olaf, datganiad gan y Gweinidog iechyd mewn cysylltiad â thimau iechyd meddwl cymunedol. Y prynhawn yma, bûm yn cadeirio grŵp iechyd meddwl trawsbleidiol yn y Cynulliad, a chafwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch timau iechyd meddwl cymunedol, y gwn eu bod nhw wedi eu cyhoeddi, ac rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad hwnnw erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Ond bellach, byddai'n bwysig ac yn ddefnyddiol iawn pe byddem ninnau yn y Siambr hon yn cael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch yr adroddiad hwnnw, a'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Yn sicr, o ran y cynllun hirdymor i sicrhau yr ymdrinnir â mater y llong yn nociau Port Talbot yn briodol, byddaf yn gofyn i Weinidog yr Economi roi diweddariad ichi ynghylch hynny. Ynghylch y Banksy, wrth gwrs, mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y celfyddydau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd gennych, yn enwedig ynghylch yr oriel gelf gyfoes bosibl, a gwn y bydd yn rhoi ystyriaeth lawn i hynny. O ran twnnel y Rhondda, unwaith eto, byddaf yn ceisio cael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog priodol ynghylch perchnogaeth yno.FootnoteLink Ac mae'r Gweinidog iechyd wedi cadarnhau y bydd ef yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddwn yn ymateb i'r adroddiad erbyn diwedd yr wythnos nesaf.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cau llwybrau beicio mynydd o amgylch coedwig Cwm-carn? Rwyf wedi cael nifer o gwynion gan feicwyr mynydd sy'n defnyddio llwybrau coedwig Cwm-carn ac sy'n mynd yn gynyddol rwystredig oherwydd yr aflonyddwch a achosir gan y torri coed yn yr ardal. Mae'r gwaith o dorri coed afiach wedi arwain at weddillion torri coed yn cael eu gadael yno, gan gau llwybrau yn y goedwig. Mae deiseb gan Steve Harris i ailagor y llwybrau hyn eisoes wedi denu ymhell dros 800 o lofnodion. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y bydd hi'n eu cymryd i ymyrryd er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r contractwyr yn agor y llwybrau fel y gall y beicwyr mynydd barhau i fwynhau'r ased rhyfeddol hwn a thirwedd ogoneddus Cymru?
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Gallaf ddeall a chydymdeimlo â rhwystredigaeth y beicwyr mynydd yn llwyr, fel y'i disgrifiwyd gennych chi. Ar hyn o bryd, rydym ni'n cyfrannu at gynllun gweithredu clefyd coed ynn y Tree Council, sy'n amlinellu'r pedair ffordd allweddol y gall awdurdodau lleol helpu i reoli'r clefyd penodol hwnnw. A disgwylir i'r cynllun hwnnw gael ei lansio yng Nghymru ar 28 Mawrth, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth am brinder staff yn y GIG. Yn y newyddion heddiw, ceir adroddiad am wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac mae’r gwasanaethau hyn bellach wedi eu canoli. Mae nifer fawr o bobl ddig a gofidus o'r Maerdy yn y Rhondda wedi cysylltu â mi hefyd yn ystod y penwythnos ynghylch problemau â’u meddygfa leol. Am un funud i bump o’r gloch ddydd Gwener diwethaf, cefais e-bost gan yr uwch reolwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a ddywedodd:
Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad brys nas cynlluniwyd i gau meddygfa’r Maerdy dros dro am gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau ddydd Llun 11 Mawrth, fel y gall iechyd a diogelwch ymchwilio i fater rheoli plâu allanol yn nhiriogaeth y feddygfa a gerllaw. Ni all y feddygfa gynnig unrhyw apwyntiadau nac ail bresgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn.
Yn fy marn i, mae hyn oll yn wedi ei sbarduno gan brinder staff. Mae meddygfa’r Maerdy eisoes wedi cwtogi ei horiau i 20 awr yr wythnos, gan roi pwysau anhygoel ar feddygfa Ferndale gerllaw. Ac rwyf wedi cael cwynion ers ddoe, gan bobl y Maerdy, sy’n disgrifio'r anawsterau y maen nhw wedi eu cael wrth geisio ffonio meddygfa Ferndale i wneud apwyntiad.
Nawr, mae pobl yn y Maerdy yn ofni mai blaen y gyllell yw hyn a bod eu meddygfa leol yn mynd i gael ei lleihau a’i chau yn y pen draw. A yw hi’n wir yn cymryd mis i ymdrin â phla o lygod mawr, a pham na chafodd safleoedd eraill eu hystyried? Mae digonedd o adeiladau eraill, sy’n wag ac nad oes digon o ddefnydd arnynt yn y gymuned—mae cyni wedi gwneud yn siŵr o hynny. Mae pobl y Maerdy yn chwilio am sicrwydd na fydd argyfwng staffio’r GIG yn bygwth hyfywedd eu meddygfa yn y dyfodol. Mae hon yn gymuned ar ben uchaf y Rhondda Fach, sydd eisoes wedi ei hynysu oherwydd trafnidiaeth a ffyrdd gwael, ac mae pobl wedi cael llond bol o gael gwasanaethau’n cael eu cymryd oddi arnyn nhw. Byddwn yn ymgynnull wrth y feddygfa y bore Sadwrn hwn, am 10 a.m., ac rwyf yn gobeithio y bydd y bobl yn dod yno i ddangos cryfder eu teimladau ar hyn. Ond byddai croeso mawr i ddadl ynglŷn â chwestiynau staffio ehangach, gyda chyfle i'r Gweinidog roi sicrwydd a gwarantau i’r gymuned hon.
Hoffwn i hefyd longyfarch a chroesawu'r cyhoeddiad a wnaed ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, Sophie Howe, ei bod hi’n darparu amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer staff sy'n profi camdriniaeth ddomestig. Mae hyn yn dilyn datblygiadau polisi arloesol yn Seland Newydd, lle aeth y Prif Weinidog, Jacinda Ardern, â pholisi o'r fath drwy'r Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd. Mae hyn eisoes yn bolisi gan y Blaid Lafur ar lefel y DU. Pan gyhoeddwyd y polisi gan Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Fenywod a Chydraddoldebau, Dawn Butler, dywedodd hi:
Ar gyfartaledd, mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu llofruddio gan bartner presennol neu gyn-bartner sy'n eu cam-drin. Gallai’r 10 diwrnod hyn helpu i achub bywydau’r menywod hynny yn llythrennol.
Wedi gweithio'n agos gyda Chymorth i Ferched Cymru, gwn nad yw Dawn Butler yn gor-ddweud pethau yma.
O gofio mai’r Senedd hon yw’r unig sefydliad cenedlaethol yn y DU sy'n cael ei rhedeg gan Lafur, a bod Llafur mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am hyn, a dangos arweinyddiaeth a fydd yn golygu, gobeithio, y bydd eraill yn ei dilyn, pryd y gallwn ni ddisgwyl cyhoeddiad gan Weinidogion Cymru y bydd yr holl weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael yr hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i ymdrin â chamdriniaeth ddomestig? Fel arall, sut y gallwch obeithio bod yn Llywodraeth ffeministaidd, sy’n ymdrechu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fenywod?
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. Ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y byddwch yn achub ar y cyfle yn y rali ddydd Sadwrn i gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i leihau meddygfa'r Maerdy a'i chau, oherwydd rwy'n credu bod cysylltu pla â phrinder staff yn ymestyn pethau ychydig yn rhy bell, a dweud y lleiaf.
Byddaf yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog perthnasol ynghylch mater gweithwyr y sector cyhoeddus, a sut y gallwn gefnogi'r bobl hynny sy'n profi camdriniaeth ddomestig, a'u cefnogi nhw orau er mwyn eu cael nhw allan o berthynas lle mae cam-drin yn digwydd. A byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi ymateb ichi ar hynny.
Mae adroddiad pwysig y Barbican yr wythnos diwethaf ynghylch y sefyllfa druenus o'r anhawster i gael mynediad at gerddoriaeth ar draws y DU yn disgrifio’n llawn y dystiolaeth o elitaeth gynyddol o ran gallu pobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth fel pwnc yn y cwricwlwm ac fel llwybr gyrfa. Mae hyn yn wir yn enwedig yn achos plant y dosbarth gweithiol, ac mae'n amlygu diffyg cronig o ran cyfle i ddefnyddio darpariaethau cerddoriaeth a chael hyfforddiant cerddorol i'r bobl dlotaf mewn cymdeithas. Mae adroddiad ‘Land of Song’ yr Athro Carr o Brifysgol De Cymru, a lansiwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Taro’r Nodyn Cywir’, a gwahanol ddadleuon a datganiadau barn am hyn hefyd, wedi ymchwilio i’r materion gwirioneddol sy'n wynebu Cymru fel cenedl, ac yn disgrifio’n llawn y diffyg cynyddol yn y gallu i gael mynediad at gerddoriaeth, hyfforddiant, gwasanaethau cymorth cerddoriaeth a’r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil. Felly, fel gwlad sydd wedi ei gwreiddio'n gadarn yn ein hanes cerddorol, treftadaeth ac etifeddiaeth, ac sy’n mwynhau enw da yn rhyngwladol am allforio ein llwyddiant cerddorol, ac artistiaid rhyngwladol poblogaidd a chlasurol, mae colli gwasanaethau addysgu sylfaenol systemig yn golled i bob un ohonom, ac mae colli amrywiaeth gymdeithasol i’n hensembles cerddorol elît hefyd yn bryderus ar sawl lefel.
Felly, ar ben gwahanol fentrau Llywodraeth Cymru, hoffwn ofyn am ddatganiad llawn ar hyn sy’n amlinellu gwerthusiad llawn i mi a phobl megis Owain Arwel Hughes CBE, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Undeb y Cerddorion, cymdeithas gwasanaethau cerddoriaeth Cymru, CAGAC, ysgol gerddoriaeth Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Incorporated Society of Musicians ac eraill. A gaf i ofyn am statws ac iechyd ein darpariaeth addysg gerddorol anstatudol bresennol ledled Cymru, ar ôl bron degawd o gyni bellach a lleihad anochel gwasanaethau anstatudol llywodraeth leol yng Nghymru; dadansoddiad o'r camau lliniaru sydd ar waith ac sy’n cael eu cynllunio’n strategol i rwystro ac atal colled darpariaethau addysg gerddorol anstatudol ledled Cymru; statws datblygiadau am strategaeth neu gynllun addysg gerddorol perfformiad cenedlaethol; dadansoddiad o effeithiolrwydd deddfu ar wasanaethau cymorth cerddoriaeth statudol; ac yn olaf, cyflwr y datblygiadau ar gyfer cael mecanwaith ariannu a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel y gall llywodraeth leol ddarparu a/neu gomisiynu gwasanaeth cymorth addysgu cerddoriaeth ar gyfer Cymru fel rhan o strategaeth genedlaethol gyfannol ar gyfer Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Rydym yn sicr yn cydnabod y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i weithredu, a gweithredu'n gadarnhaol, cyn gynted â phosibl. Dyma un o'r rhesymau pam mae gwerth £3 miliwn o gyllid ychwanegol wedi ei ddarparu yn ystod 2018-19 a 2019-20 ar gyfer darpariaethau cerddorol ledled Cymru. Ers ymateb y Gweinidog Addysg i 'Taro'r Nodyn Cywir', gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddatblygu'r argymhellion hynny ymhellach. Elfen o'r gwaith hwnnw yw cynnal astudiaeth ar ddichonoldeb er mwyn edrych ar ddewisiadau addas i ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth yn y dyfodol yng Nghymru. Rwyf ar ddeall bod swyddogion wedi cynnal ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol er mwyn gofyn am eu safbwyntiau ar agweddau amrywiol o'r astudiaeth honno, ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gafwyd, a'r dewisiadau sydd ar gael, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo caffael yr astudiaeth ddichonoldeb. Mae'r gwahoddiad i gomisiynu contractwr i ymgymryd â'r astudiaeth honno wedi ei chyhoeddi ar GwerthwchiGymru ac mae'n agored i dendrau ar hyn o bryd.
Trefnydd, a gaf i dynnu eich sylw at neges drydar a wnaed gan Masnach a Buddsoddi Cymru? Rwy'n gwerthfawrogi bod y Prif Weinidog wedi rhoi ychydig o sylw i hyn mewn cwestiynau a gyflwynwyd iddo gan wahanol Aelodau y prynhawn yma. O ddarllen y wefan, mae'n dweud mai hi yw porth menter marchnata buddsoddiad uniongyrchol tramor swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, cangen o Lywodraeth Cymru. Felly mewn gwirionedd, nid yw dweud ei bod wedi ei gwneud heb Lywodraeth Cymru, neu ei bod wedi ei gwneud heb ganiatâd Llywodraeth Cymru yn ddigon da, a bod yn onest. Wrth ichi gyhoeddi’r neges drydar honno neithiwr ar y dystiolaeth a ddaeth y pwyllgor materion allanol i'r Siambr hon â’u hadroddiad a ddywedodd bod ein cynnig wedi bod yn dameidiog ac yn gymysglyd o ran mewnfuddsoddiad, ac yna pan welwch ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw sy'n nodi gwendidau yn y cynnig sydd ar gael er mwyn ceisio dod â buddsoddiad i mewn, rwy'n credu y byddai'n amserol inni gael datganiad gan y Gweinidog i'r Siambr hon—datganiad llafar, fel y gellir ei holi hi yn ei gylch. Gallai hynny fod yn fuddiol fel y bydd yr Aelodau’n deall sut mae negeseuon trydar o’r fath yn llithro drwy'r system, sy'n hyrwyddo’r fantais o gael cyflogau sydd 30 y cant yn is nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Byddwn i’n dweud mai methiant polisi economaidd yw hynny yn hytrach na rhywbeth i'w ddathlu. Ac felly rwy'n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno datganiad fel y gallem holi'r Gweinidog am ei strategaeth newydd bosibl a sut y gallai hi geisio rhoi hynny ar waith gyda phob brys dyladwy.
Diolch yn fawr iawn am godi hynny, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi bod yn fwy na chlir yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog nad oedd y neges drydar honno yn cynrychioli ymagwedd Llywodraeth Cymru at fasnach oherwydd, yn amlwg, ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi busnes, rydym ni'n croesawu busnes, mae Cymru'n lle gwych i wneud busnes. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn ag academia er mwyn sicrhau bod gan fusnesau y llif o sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, ac, wrth gwrs, mae Cymru'n lle gwych i fyw ynddi, yn ogystal â gweithio. Felly, mae gennym strategaeth farchnata gref iawn, rwy'n credu, o ran gwerthu ein neges i'r byd, ond mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai hi'n hapus i gyflwyno datganiad ynghylch ein hymagwedd at fasnach.
Rydym ni wedi clywed ar y newyddion yn ddiweddar bod awgrymiadau cryfion, yn ystod streic y glowyr, bod yr heddlu, drwy’r heddlu protestiadau arbennig—yr un heddlu protestiadau arbennig a dreiddiodd fywydau llawer o fenywod sydd yma yng Nghymru mewn grwpiau ymgyrchu—mewn gwirionedd wedi treiddio i Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic y glowyr, ac felly, roedden nhw’n torri'r gyfraith. Ac rwyf yn siŵr y bydd Aelodau ar eich meinciau eich hunain yr un mor bryderus ynghylch y gweithrediadau cudd hyn ac yn dymuno gwybod mwy amdanyn nhw. Bob tro pan fyddwn ni’n crafu wyneb y sgandal plismyn/ysbiwyr hyn, rydym ni’n amlygu haen arall, ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon droeon na wyddom ni i ba raddau y mae hyn wedi effeithio ar fywyd Cymru, boed hynny yn y grwpiau a dreiddiwyd, neu oblygiadau hynny i'n cymdeithas yn awr. Felly, rwyf yn galw, ac yn pwyso, am ddadl ynghylch hyn yn ystod amser y Llywodraeth, oherwydd bod angen i bobl yn ein cymdeithas fod yn ymwybodol, os oedden nhw’n cymryd rhan mewn protestiadau, na threiddiwyd i'w plith ac nad oedden nhw’n destun y math hwn o weithred, er na allwn ni fod yn siŵr nes bydd gennym ni fwy o atebion o’r ymchwiliad cyhoeddus, ac felly fe fyddai dadl sy’n rhoi ymateb ar y cyd gan y Cynulliad hwn yn cael croeso mawr.
Fy ail gais yw dadl ynghylch ceiswyr lloches. Fe hoffwn ichi, y Llywodraeth, ymuno â mi wrth gondemnio polisi bwriadol Llywodraeth y DU o orfodi ffoaduriaid sy'n dod yma er mwyn cael bywyd gwell i fyw mewn tlodi. Unwaith eto, fe’m gwnaed yn ymwybodol o fater anodd iawn yn fy ardal i, Abertawe, lle cafodd Somaliad, sy'n feichiog ers 24 wythnos, ei gwneud yn anghenus. Ni all hi hawlio o dan adran 4 na gwneud hawliad newydd nes ei bod hi wedi bod yn feichiog ers 34 o wythnosau. Felly, mae hi bellach yn byw gyda rhywun yn Abertawe, nid oes ganddi arian, nid oes ganddi dŷ, ac nid yw hi’n gallu gweithio. Mae'n gwbl warthus bod menyw feichiog yn cael ei thrin fel hyn. A gaf eich annog chi'r Llywodraeth i edrych ar yr achos penodol hwn, ond hefyd i ddechrau dadl o’r newydd arall ar y mater penodol hwn? Ceir ymgyrch dorfol sy’n galw am gyfle i geiswyr lloches allu gweithio tra byddant yma, fel y gallwn ni sicrhau bod Cymru yn datgan cefnogaeth, mewn egwyddor, yn foesol, iddyn nhw, hyd yn oed os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny.
Diolch ichi am godi hynny, ac rydym ni’n rhannu eich pryderon yn llwyr ynghylch y ffordd y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu trin pan fyddan nhw’n dod i’r DU er mwyn ceisio cael lloches. O'n rhan ni, rydym ni wedi ceisio agor y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n wynebu tlodi gwirioneddol yn gallu cael cymorth drwy hynny. Fodd bynnag, mae gennym ni bryderon mawr, fel yr wyf yn gwybod sydd gennych chithau, ynglŷn â dull Llywodraeth y DU o ddarparu tai, er enghraifft. Mae'r safonau y mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol ar gyfer tai lawer iawn yn is na'r hyn yr hoffem ei weld, a’r rhai a fyddem ni'n fodlon eu darparu ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru. Felly, ni fyddem ni’n disgwyl unrhyw safonau gwaeth ar gyfer pobl sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid. Felly, mae hyn yn peri pryder mawr inni.
Yn ddiweddar iawn, fe gawsom ni ddadl ynghylch Cymru fel cenedl o loches yn y Siambr, ond gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ateb unrhyw gwestiynau a fyddai gan bobl. Os ydych chi’n dymuno anfon rhagor o wybodaeth imi ynghylch yr achos penodol hwnnw, fe fyddwn i’n hapus i edrych ar ba sylwadau y gallem ni eu gwneud yno.
O ran y mater plismyn/ysbiwyr a goblygiadau ehangach hynny, fel y byddech chi’n dychmygu, rydym ni’n cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch materion plismona, er nad oes gennym y pŵer i ymchwilio i gwynion. Mae'n bwysig bod yr ymchwiliad sy'n mynd rhagddo yn adnabod ffaeleddau’r gorffennol gan wneud argymhellion cadarn er mwyn sicrhau nad yw arferion annerbyniol yn cael eu hailadrodd. Rydym ni wedi croesawu’r ymchwiliad, ac rydym ni’n hapus nad yw’n gysylltiedig â’r Swyddfa Gartref, er fy mod i’n deall nad ydym ni’n disgwyl yr adroddiad tan 2023. Rydym ni’n falch bod y Swyddfa Gartref wedi sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i edrych ar yr holl weithredoedd a ddisgrifiwyd gennych. Fe fyddem ni’n sicr yn dymuno adeiladu ar y berthynas gadarnhaol sydd gennym â'r heddlu yma yng Nghymru. Rydym ni’n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda'r prif gwnstabliaid, comisiynwyr heddlu a throseddu a chyfarwyddwr Cymru o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mi hoffwn i wneud cais am dri datganiad os yn bosib. Yn gyntaf, mi hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth i'n diweddaru ni am y trafodaethau efo cwmni Rehau o ganlyniad i'w penderfyniad nhw yn ddiweddar i ymgynghori ar gau eu ffatri yn Amlwch. Dwi a chynrychiolwyr lleol eraill wedi cyfarfod y cwmni fwy nag unwaith i drio sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i osgoi cau, ac mae'n galonogol clywed bod sawl opsiwn dan ystyriaeth. Ond hefyd fe hoffwn i sicrwydd bod pob cefnogaeth bosib yn cael ei rhoi i'r gweithwyr yno yn eu trafodaethau nhw efo'r cwmni. Mae'r gweithlu yn un da, maen nhw'n haeddu pob cefnogaeth. Mae'r ffatri'n un dda ac mae'n haeddu pob cyfle i gael dyfodol.
Yn ail, mi hoffwn i ddatganiad ar sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio efo ni yn Ynys Môn i geisio gwthio i sicrhau bod buddsoddiad yn y llinell rheilffordd ar draws Ynys Môn yn cael ei chynnwys yn y rhaglen fuddsoddi gan Network Rail yn y control period nesaf. Mae yna ddau reswm penodol pam mae hyn yn arbennig o bwysig rŵan. Mi gollwyd pont rheilffordd yn Llangefni yn ddiweddar oherwydd i lori ei tharo hi. Mae angen pont yn ôl. Mae angen i Network Rail wneud y buddsoddiad. Ac oherwydd ergydion economaidd yng ngogledd yr ynys, mae'r llinell rheilffordd yma'n gyfle i wneud cyswllt economaidd pwysig newydd.
Yn drydydd, mi hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg ynglŷn â'r disgwyliadau sydd ganddi hi o'r hyn y dylai banciau ei gynnig i gwsmeriaid yng Nghymru o ran bancio ar-lein. Rwy'n gwybod yn fy etholaeth i, fel etholaethau cymaint o Aelodau yma, fod canghennau wedi bod yn cael eu cau. Dwi'n erbyn cau'r canghennau. Dwi'n gwneud y pwynt hwnnw'n glir ac yn gryf. Ond, wrth i'r banciau ein hannog ni i symud tuag at fancio ar-lein, beth mae hynny’n ei olygu ydy, os nad ydy'r bancio ar-lein yna ar gael yn Gymraeg, fod cwsmeriaid sydd wedi bod yn delio efo'u banciau nhw yn y gangen yn Gymraeg yn colli'r cyswllt yna drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi wedi bod yn trafod hyn efo nifer o faniau, ac rwy'n meddwl y dylid gweld pwysau sylweddol gan y Llywodraeth rŵan, drwy'r comisiynydd iaith o bosib, i sicrhau ein bod ni'n symud tuag at wasanaethau ar-lein. Dwi'n cofio, fel ymgyrchydd Cymdeithas yr Iaith ers talwm, trafod efo un banc ynglŷn â gwneud cashpoints yn Gymraeg. Fe ddywedon nhw nad oedd o'n bosib yn dechnegol. Wrth gwrs, rŵan, 25 mlynedd ymlaen, mae'n cashpoints ni i gyd yn Gymraeg. Dŷn ni angen symud yn fuan iawn tuag at gael gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg. Fe hoffwn ddatganiad ar hynny.
Diolch yn fawr iawn. Fe fyddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog i ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Rehau, yn enwedig sut y byddem ni'n ceisio cefnogi'r gweithlu a sicrhau bod dyfodol dichonadwy ar gyfer y gwaith hwnnw. Fe fyddaf hefyd yn gofyn iddo gynnwys rhagor o wybodaeth yn yr ohebiaeth honno am y cynlluniau i fuddsoddi yn y rheilffordd ar Ynys Môn, gan ystyried y materion penodol yr ydych wedi eu disgrifio.
Gwn y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn ystyried eich pryderon ynghylch pwysigrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog ar-lein ar gyfer cwsmeriaid sy'n bancio.
Trefnydd, roedd hi’n bleser dathlu Diwrnod y Gymanwlad gydag Aelodau eraill y Cynulliad ac yn wir y Llywydd ei hun, a noddodd y digwyddiad, rwy'n credu, yn yr Oriel ar y llawr uchaf amser cinio. Roedd nifer o sefydliadau yn bresennol—gan gynnwys Future Leaders Connect, mudiad Young Women Empowered, Sub-Sahara Advisory Panel—roedd llwythi o sefydliadau, ac roedd hi’n bleser mawr mynd o gwmpas a sgwrsio â nhw. Un sefydliad nad oedd yn bresennol yr wyf wedi ymwneud llawer ag ef, a gwn fod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol hefyd wedi ymwneud ag ef, oedd Love Zimbabwe. Mae Zimbabwe, wrth gwrs, yn gyn-aelod o'r Gymanwlad ond yn anffodus nid yw’n rhan o’r sefydliad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn ogystal â dweud wrthym beth—. A gaf i ofyn am ddatganiad, y dylwn i ddweud, gan y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ynghylch yr hyn sy’n cael ei wneud i gynyddu cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y Gymanwlad? Gwn eich bod chi wedi cwrdd ag un o’m hetholwyr, Martha Holman o Zimbabwe, yn ddiweddar yn y Cynulliad. Maen nhw wedi caniatáu iddi gael dinasyddiaeth Brydeinig yn ddiweddar ac ni chlywodd hi am hynny tan yr wythnos diwethaf ac mae hi wrth ei bodd nawr bod ganddi basbort deuol. Felly, efallai y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei llongyfarch hi ar yr amser cyffrous iawn hwn o’i bywyd fel ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud pethau ar gyfer unigolion yn ogystal ag ar sail fwy cenedlaethol a rhyngwladol.
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr fe wnaf i drosglwyddo'r llongyfarchiadau hynny i'ch etholwr ac rwy'n cytuno â chi bod dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn ddathliad hyfryd iawn o'n perthynas gyda'n teulu yn y Gymanwlad. Fe wnes i fwynhau'r gerddoriaeth wych, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol y dylem ni fod yn dathlu'r diwrnod yn y ffordd honno.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i goedwigaeth. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ein cynlluniau i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd ac fe hoffwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o fewn hyn i gefnogi coedwigaeth yng Nghymru.
Mae ein coedwigoedd yn rhan bwysig o'n tirwedd naturiol. Maen nhw'n ased cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae angen coetiroedd amrywiol bach a mawr arnom ni sy'n cynnwys rhywogaethau coed conwydd a llydanddail sy'n gallu darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, megis gweithgareddau hamdden, cynefinoedd naturiol ac adnodd cynaliadwy o dannwydd a choed. Mae ehangu coetiroedd yn elfen hanfodol i'n helpu i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau statudol. Mae hi'n hanfodol felly ein bod yn cynyddu ein storfa garbon trwy ein gweithgareddau creu coetiroedd.
Rydym ni wedi defnyddio arian y cynllun datblygu gwledig ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau sy'n hwyluso'r gwaith o gyflawni amcanion ein strategaeth goedwigaeth, ac mae ein cynllun rheoli cynaliadwy yn un ohonynt. Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o gynigion a fydd yn gwella'r ffordd y caiff ein hadnoddau naturiol eu rheoli a chyfrannu at les ein cymunedau gwledig. Mae chwe phrosiect sy'n gysylltiedig â choedwigaeth wedi'u cymeradwyo ar gyfer arian drwy'r cynllun, a fydd yn cyfrannu at gyflawni llawer o'r amcanion yn ein blaenoriaethau polisi a strategaeth yn y polisi adnoddau naturiol.
Yn dilyn argymhelliad gan ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r maes coedwigaeth, fe wnaethom ni addasu ein strategaeth goetiroedd. Mae'r hanfodion wedi aros yr un fath ond nid yw bellach yn ddogfen bolisi yn unig. Mae'n ddogfen ymarferol sy'n rhoi cyfeiriad i'r rheini sy'n rheoli coetiroedd mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau'r manteision gorau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflymu'r broses o greu coetiroedd, ac mae ein strategaeth sydd wedi'i diweddaru yn rhoi arweiniad ar y mathau o goed a choetiroedd sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru a chyfeiriad clir i reolwyr coetiroedd. I ategu hyn, rydym ni ar hyn o bryd yn paratoi canllawiau creu coetiroedd ar gyfer rheolwyr tir, busnesau, a Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau gwell a chyflymach ynglŷn â pha goed i'w plannu a lle i'w plannu.
Er mwyn datblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu arwynebedd coetiroedd newydd yng Nghymru, yn ogystal ag ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i greu coedwig genedlaethol newydd ar gyfer Cymru, bydd cylch arall o gyllid Glastir ar gyfer creu coetiroedd yn agor ar 1 Ebrill. Mae arian hefyd ar gael ar gyfer plannu coed mewn ardaloedd sy'n parhau i gael eu pori fel rhan o system amaeth-goedwigaeth.
Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £480,000 tuag at ein Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth yn benodol i bobl a chwmnïau cydweithredol weithio gyda'i gilydd a chynllunio creu coetiroedd ar raddfa sylweddol a strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, drwy gefnogi camau gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol ar y raddfa briodol, y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella'r gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu.
Wrth gwrs, nid dim ond plannu coed newydd sy'n bwysig, ond hefyd rheoli, gwarchod a datblygu coetiroedd sy'n bodoli eisoes. Mae coed hynafol a hynod yn adnoddau naturiol amhrisiadwy, gyda rhai ohonyn nhw yn eithriadol o werthfawr o ran tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Rwy'n falch felly bod Rhifyn 10 o'n canllawiau newydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi mwy o ddiogelwch iddynt, yn ogystal â hyrwyddo plannu cydadferol ar gyfer unrhyw goetiroedd sy'n cael eu colli o ganlyniad i ddatblygu.
Mae hi yn bwysig cydnabod y gall fod rhai heriau gwirioneddol i dirfeddianwyr o ran rheoli coedwigoedd presennol yn enwedig os, mewn hinsawdd sy'n newid, bydd cynnydd mewn clefydau coed a allai gael effaith ddinistriol ar eu coetiroedd. Am y rheswm hwn, mae arnaf eisiau sicrhau ein bod yn cefnogi tirfeddianwyr a rheolwyr preifat sydd ar hyn o bryd yn wynebu'r clefyd phytophthora ramorum ar goed llarwydd. Felly, byddwn yn agor ffenest newydd ar gyfer ceisiadau i adfer coetiroedd drwy'r cynllun Glastir o 1 Ebrill. Bydd Aelodau'n ymwybodol fod y clefyd wedi bod yn her na welwyd ei thebyg ar yr ystad gyhoeddus, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb yn dda. Lle bu angen torri coed, rydym ni'n ailblannu rhywogaethau mwy gwydn er mwyn datblygu coetiroedd iachach a mwy amrywiol. Bydd y rhain yn darparu mwy o amrywiaeth o goed i gynhyrchu coetiroedd a fforestydd Cymreig o ansawdd uchel, yn ogystal â lleihau pa mor agored i glefyd y byddant yn y dyfodol.
Nid yw coedwigaeth yn dda i'n hamgylchedd a'n lles yn unig, mae hefyd yn dda i'n heconomi. Gall coetiroedd wedi'u rheoli'n dda ddarparu cyflenwad cynaliadwy, parhaus o goed, a dyna pam ein bod ni eisiau annog rheoli ein coetiroedd presennol yn well ledled Cymru. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £5 miliwn o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer ein cynllun poblogaidd iawn o fuddsoddi mewn busnesau coed, ac rydym ni wedi ymrwymo £2 filiwn arall ar gyfer pedwaredd gyfres o ariannu, y gwnaethom ni ei hagor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar Chwefror 1. Mae'r cynllun yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth at goedwigoedd ar gyfer gweithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu coed a phrosesu coed.
Caiff y coed o ansawdd uchel yr ydym ni'n eu cynhyrchu eu defnyddio mewn sawl ffordd. Rwy'n falch, felly, bod elfen goed i 20 o'r 24 datblygiad a gafodd eu derbyn i raglen dai arloesol Llywodraeth Cymru y llynedd. Rydym ni'n disgwyl gweld mwy o arloesi yn seiliedig ar goed yn y rhaglen eleni, nid yn unig o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy'r dyfodol, ond o ran hyrwyddo arloesi sy'n ymwneud â defnyddio coed Cymreig yn y cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi adeiladu tai yma yng Nghymru.
Bydd cynyddu'r defnydd o goed yn creu galw ac yn annog creu coetiroedd newydd a rheoli coedwigoedd yn well yng Nghymru. Gan edrych i'r dyfodol gyda'r cynnydd hwn mewn cof, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r sector coedwigaeth i weld pa sgiliau ac anghenion recriwtio sydd eu hangen i gefnogi cynnydd yn y galw am goed, ac rydym ni wedi cyflwyno cynllun arbrofol dwy flynedd ar gyfer hyd at 30 o brentisiaethau coedwigaeth.
Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â chynrychiolwyr Cydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigaeth. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i eu bod yn barod i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, ac yn ffyddiog bod atebion clir i'r pryderon y maen nhw wedi eu crybwyll yn y gorffennol. O ganlyniad, byddwn mewn sefyllfa gryfach i weld y sector coedwigaeth yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth i economi Cymru, a gall y diwydiant wneud cyfraniad mwy at ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.
Yn amlwg, Gweinidog, chi'n yw'r Gweinidog perthnasol heddiw, gyda dau ddatganiad yn dod gerbron y cyfarfod llawn, felly byddwn yn gweld llawer o'n gilydd wrth i'r prynhawn fynd rhagddo. Yn anffodus, nid oes gan y sector coedwigaeth hanes gwych yma yng Nghymru. Dylai fod â hanes gwych, oherwydd mae'n ddiwydiant anferth—mae'n cyflogi 10,000 o weithwyr ac mae ganddo drosiant o £520 miliwn. Mae hynny, ar unrhyw gyfrif, yn ddiwydiant sylweddol, yn enwedig mewn economi wledig sy'n galw'n daer am gyfleoedd newydd. Ond, yn anffodus, oherwydd mentrau methedig gan Lywodraethau olynol yng Nghymru, nid ydym ni wedi gweld y mentrau yn dod ymlaen i adfywio'r sector. Rwy'n credu efallai bod paragraff olaf y datganiad hwn yn dangos hynny gyda'r cyfarfod diweddar a gawsoch chi gyda'r diwydiant, sy'n dweud eu bod yn 'barod i weithio gyda', sy'n rhywbeth i'w ganmol, ond nid yw'n cynnig unrhyw sylwadau ynglŷn â pherfformiad yn y gorffennol, y mae'r distawrwydd mae'n debyg yn dweud ei stori ei hun.
Bu gan Lywodraeth Cymru fentrau amrywiol dros y blynyddoedd blaenorol, h.y. sefydlu 100,000 o hectarau rhwng 2010 a 2030. Fel y gwyddom ni o'r gwaith sydd wedi'i wneud, yn lle cyrraedd y targed o 5,000 o hectarau'r flwyddyn, dim ond cyfanswm o 3,700 o hectarau a gafodd eu plannu yn yr amser hwnnw. Yn 2016, plannwyd dim ond 39 o hectarau o goedwigoedd cynhyrchiol yma yng Nghymru. Mewn difrif, mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn, ac yn benodol mae'n rhaid i chi, y Gweinidog, afael yn y busnes gerfydd ei wâr a gweithio gyda'r diwydiant fel y gallwn ni adeiladu ar y niferoedd hynny y cyfeiriais atyn nhw—ar y 10,000 o weithwyr a'r trosiant o £520 miliwn. Oherwydd ei fod yn ddiwydiant gyda dyfodol—nid diwydiant mo hwn lle ceir bwriad i'w reoli tuag at ddirywiad. Ceir llawer o enghreifftiau da yn yr Alban, er enghraifft, ac yn Lloegr, lle mae'r sector coedwigaeth wedi datblygu seiliau mwy cynaliadwy. Yn anffodus, gallwn gyfeirio, yn amlwg, at yr adroddiadau ynglŷn ag ymdriniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o asedau'r Comisiwn Coedwigaeth gan eu cymhathu i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r contractau a ddygwyd ymlaen o gytundebau masnachol amrywiol sydd wedi amddifadu'r sector o incwm, oherwydd, fel yr amlygodd yr archwilydd cyffredinol, ac, fel yr amlygodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ymchwiliad, mae hynny wedi deillio o arfer gwael a cholli incwm i'r sector.
Rwy'n gwerthfawrogi'r anawsterau o ran y coed llarwydd a'r difodiant a'r amgylchiadau annisgwyl pan, bump neu 10 mlynedd yn ôl, dyweder, pan yr oedd cynlluniau strwythurol yn cael eu rhoi ar waith, ni fyddai'r mathau hyn o achosion wedi croesi meddwl cynllunwyr ar yr adeg benodol honno. Ond nid yw hynny'n dweud na fu colli cyfleoedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog i edrych ar—pe byddai'n ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol—ar wneud ceisiadau'n fwy hyblyg o ran y rhai y gellid eu caniatáu ar gyfer plannu coetiroedd. Yn Lloegr, er enghraifft, yn hytrach na chael ffenestri o gynnig ac ymgeisio, mae'n broses barhaus, oherwydd, yn amlwg, drwy'r broses gynllunio, ni all cwmnïau, a ffermwyr, yn arbennig, sydd efallai yn ystyried trawsnewid eu tir, gael eu cyfyngu gan ryw ffenest weinyddol. Mae angen cymaint o hyblygrwydd â phosib arnyn nhw yn y rheolau cynllun, a byddwn yn ddiolchgar cael deall a fydd y Gweinidog yn ystyried yr hyblygrwydd hwnnw yn y cynllun newydd a gyhoeddwyd ganddi, yn amlwg, y bydd hi yn ei ryddhau ar 1 Ebrill.
Yn yr un modd, y diffyg plannu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru—fel rwy'n deall, mae'r diffyg bellach yn rhyw 6,000 o hectarau o ailblannu ar ystad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac er bod datganiad y Gweinidog yn nodi ei ffydd o ran Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ran eu gallu i greu ystad fwy cymysg a chyfleoedd plannu mwy cymysg fel bod modd gwireddu'r potensial masnachol yn y 10, 15, 20 mlynedd nesaf, mae'n ffaith nad yw cyfraddau ailblannu'r hyn y dylen nhw fod. Pe byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwmni preifat, byddid wedi gweithredu yn eu herbyn am beidio ag ailblannu yn yr ardaloedd hynny. Felly, unwaith eto, hoffwn gael gwybod gan y Gweinidog, gyda'i hystyriaethau dros y ddeufis diwethaf, a yw hi'n ffyddiog y bydd y diffyg hwn yn cael sylw ac y bydd y 6,000 o hectarau hyd yma yn cael ei wrthdroi ac, mewn gwirionedd, y bydd ailblannu yn cyflymu?
Hefyd, dyna'r mater ynghylch rheoli ein coetiroedd hefyd, ac, o dan y model Glastir presennol, nid oes cyfle i gael arian ar gyfer rheoli, fel y deallaf, yn y cynllun. Ar hyn o bryd, o'r 300,000 o hectarau o goedwigoedd Cymru, nid yw 60,000 o hectarau wedi'u rheoli. Mae cyfle i edrych ar reoli i raddau mwy o lawer y coedwigoedd sydd gennym ni a'r coetiroedd sydd gennym ni fel y gallwn ni sicrhau'r manteision gorau. Ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn nodi a yw hi neu ei swyddogion wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gefnogi cynnwys y 60,000 o hectarau hynny sydd heb eu rheoli mewn rhyw fath o gynllun coedwigaeth a allai ddefnyddio'r ardal honno sydd ar gael o fewn yr ystad goedwigaeth yn y ffordd orau.
Mae'n amlwg yn galonogol iawn clywed am greu prentisiaethau. Mae hynny'n llwybr hanfodol i'r diwydiant, ac er imi yn ddiweddar nodi'r diffyg prentisiaethau amaethyddol—mae llai nag 1 y cant o holl brentisiaethau, yn anffodus, mewn amaethyddiaeth—byddwn yn awgrymu bod y niferoedd yn llai fyth yn y sector coedwigaeth. Yn ei thrafodaethau gyda'r diwydiant, a yw hi wedi canfod ffyrdd o gyflwyno cyfleoedd prentisiaeth newydd? Unwaith eto, rwy'n cydnabod hynny yn y datganiad, ond 30 o gyfleoedd prentisiaeth dros ddwy flynedd mewn diwydiant sy'n werth dros £0.5 biliwn—mae'n ddechrau da, ond nid yw'n mynd i newid y byd. Pan yr ydym ni'n edrych ar y cyfleoedd, yn enwedig ym maes adeiladu, i ddefnyddio cynhyrchion coed, ceir cyfle gwych yma i agor llwybrau newydd ar gyfer newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant. Diolch, Gweinidog.
Diolch i Andrew R.T. Davies am y gyfres honno o gwestiynau a sylwadau. Rydych chi'n gywir—mae yn ddiwydiant enfawr, ac rwy'n credu ei fod yn un y mae angen inni ei werthfawrogi a gofalu amdano. Soniais am fy nghyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Confor yn benodol oherwydd mae'r anawsterau yn hysbys iawn. Fe gawsom ni ddadl hir ar adroddiad Grant Thornton ac, yn amlwg, mae pethau wedi'u dweud yn gyhoeddus yr oeddwn i eisiau sicrhau na fyddent yn rhwystr i'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei wneud o ran y diwydiant coedwigaeth. Ac rwy'n falch iawn bod Confor a Cyfoeth Naturiol Cymru, y bu imi gyfarfod â nhw ar wahân, bellach wedi cael y cyfle i gyfarfod â'i gilydd a'u bod yn mynd i gydweithio i wneud yn siŵr bellach ein bod ni'n mynd i ddechrau gweld llawer mwy o goed yn cael eu plannu. Rwy'n gwbl gytûn o ran y targed a osodwyd gennym ni. Nid ydym ni wedi gweld plannu nifer y coed y byddem ni'n dymuno eu gweld, ac, er fy mod i'n sylweddoli ei fod yn ddyhead tymor hir, rwy'n credu bod angen inni fynd ati mewn sawl ffordd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd yn y tymor byr, a dyna'r hyn y byddwn ni yn ei wneud â'n strategaeth.
Rydych chi'n gywir—rydym ni wedi cael amryw o fentrau ac yn sicr mae gennym ni nifer o gynlluniau, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynlluniau a'r modd y cânt eu hariannu. Rwy'n fodlon iawn edrych a oes cyfle i gyflawni'r cynlluniau hynny mewn ffordd wahanol. Rwy'n sicr yn credu, ar ôl Brexit, amaethyddiaeth—felly, 'Brexit a'n tir', er enghraifft; byddwch yn ymwybodol ein bod yn cyflwyno taliadau o ran nwyddau cyhoeddus. Mae'r rhain yn feysydd lle nad oes marchnad ar hyn o bryd, felly fe allwn ni yn sicr edrych ar sut y caiff hynny ei ariannu, er enghraifft, yn y ffordd y gwnaethoch ichi gyfeirio ati.
Ynghylch targedau, ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun; mae llawer iawn o goedwigoedd mewn perchnogaeth breifat. Credaf fod yn rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd yn hyn o beth. Pan oeddwn i yn Seland Newydd y llynedd yn edrych ar gynlluniau amaethyddol yn bennaf, cefais sgwrs hir iawn gyda'r Gweinidog yno sy'n gyfrifol am goedwigaeth, ac mae eu targed nhw, rwy'n credu, yn eithriadol o uchelgeisiol, ond, pan roeddech chi'n craffu'n fanylach, nid y Llywodraeth yn unig oedd yn gwneud hynny ar ei phen ei hun—roedd hi'n gweithio gyda rheolwyr tir, ffermwyr. Mae llawer o goedwigaeth yn Seland Newydd yn eiddo preifat a, phan ddarganfyddai fod oddeutu 5 y cant o dir yng Nghymru hefyd yn eiddo preifat, rwy'n credu ei fod ynglŷn â dod â phawb at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau ohono. Rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am brentisiaethau. Rwy'n falch iawn o weld bod gennym ni 30 dros ddwy flynedd, ond, unwaith eto, yn fy nhrafodaethau gyda Confor, credaf eu bod nhw hefyd yn derbyn bod angen inni edrych ar gynyddu'r nifer hwnnw'n sylweddol.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru fanc tir sylweddol ar gyfer coed—lle bu'n rhaid iddyn nhw dorri coed oherwydd y clefyd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond am resymau eraill. Fe wnes i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr rai wythnosau yn ôl ac maen nhw yn sicr wedi ymrwymo i ailgoedwigo'r tir hwnnw—rwy'n credu mai erbyn 2022 oedd y flwyddyn yr oedden nhw'n obeithiol amdani. Rwy'n sicr yn edrych i weld a allaf i roi rhywfaint o arian ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi hynny oherwydd rwy'n credu mai dyna yn wir yw'r ffordd ymlaen a bydd yn ein helpu i gyflawni ein targedau.
Wrth gwrs, does dim amheuaeth bod y diffyg plannu coed a methiannau'r Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru yn y blynyddoedd mwy diweddar yma—bod hynny wedi tanseilio a lleihau gallu Cymru i daclo newid yn yr hinsawdd, i reoli'r risg llifogydd, i roi hwb i gynefinoedd a bioamrywiaeth a'r holl fanteision sy'n dod yn sgil polisi coedwigaeth llwyddiannus. Yn amlwg, dŷn ni ddim yn gwireddu yr hyn y bydden ni i gyd yn dymuno ei wireddu ar hyn o bryd. Felly, mae yn hen bryd, dwi'n meddwl, i'r Llywodraeth ailafael yn y maes yma ac edrych unwaith eto ar sicrhau bod yr hyn sydd yn uchelgais gan y Llywodraeth yn addas ac, yn bwysicach fyth, wrth gwrs, fod modd cyflawni hynny mewn modd ystyrlon a realistig.
Nawr, os ydw i'n deall yn iawn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio’r 20 y cant arall. Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi am greu canllaw, neu guidelines, i reolwyr tir, busnesau a Chyfoeth Naturiol Cymru wneud penderfyniadau gwell ac i wneud penderfyniadau yn gynt. Mae hynny i'w groesawu, ond ydych chi yn hyderus bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni hynny yn effeithiol? Oherwydd, yn amlwg—dwi wedi codi sawl gwaith gyda chi y gofid bod mwy a mwy o ofynion arnyn nhw a nad yw'r cynnydd yn eu cyllideb yn adlewyrchu hynny; yn wir, i'r gwrthwyneb, mewn termau real, mae'r gyllideb yn crebachu. Dwi'n dal i boeni bod dim y profiad digonol gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r arweiniad angenrheidiol sydd ei angen ar y sector yma.
Mae hefyd galw—. Byddwn i â diddordeb i glywed a ydych chi, yng nghyd-destun gosod y targedau, neu drio cyrraedd y targedau rŷn ni am eu cyrraedd dros y blynyddoedd nesaf, yn barod i ymrwymo i greu asesiad amgylcheddol strategol i gyd-fynd â'r targedau newydd yna er mwyn cefnogi, cryfhau ac atgyfnerthu bioamrywiaeth yn y coedwigoedd hynny. Oherwydd mae yna gyfleoedd mawr iawn, nid yn unig o safbwynt rheoli'r coedwigoedd sydd gyda ni ar hyn o bryd, ond, yn sicr, o safbwynt creu coedwigoedd newydd hefyd—eu bod nhw'n cael eu creu mewn ffordd, a bod yna gymysgedd o goed addas ac yn y blaen ar gyfer creu cynefinoedd a chryfhau bioamrywiaeth.
Rŷch chi'n cyhoeddi rowndiau newydd o Creu Coetir Glastir ac Adfer Coetir Glastir. Wrth gwrs, mae cynlluniau coetir Glastir wedi cael eu ceryddu yn y gorffennol am fod yn rhy gymhleth ac yn rhy ragnodol. Ydych chi felly yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau, neu ydych chi jest yn parhau â'r cynlluniau fel maen nhw wedi bod?
Hefyd, wrth gwrs, arian RDP sydd yn talu am lawer o'r rhain. Rŷn ni i gyd yn gwybod—neu ddim yn gwybod, efallai—beth sy'n dod yn y cyd-destun yna. Felly, dwi ddim yn gwybod os rŷch chi wedi ystyried pa ffynhonnell ariannu ar ôl Brexit y byddwch chi'n ei defnyddio, neu ydych chi jest yn dibynnu ar yr addewid yma na fyddwn ni ddim gwaeth i ffwrdd yn ariannol? Oherwydd mae hwn yn sector mwy tymor hir na'r rhelyw, ac felly mae cael dilyniant ac ymrwymiadau tymor hir, o safbwynt ariannu ac yn y blaen, wrth gwrs, yn gwbl, gwbl allweddol. Byddwn i'n galw arnoch chi i ymgorffori targedau sydd yn mynd â ni i 2050 a 2100 hyd yn oed, oherwydd dyna yw mesur tymor hir llawer o'r gwaith sy'n digwydd yn y sector yma a dyma sydd ei angen i greu yr hyder o fewn y sector i'w dyfu e yng Nghymru. Nawr, rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at fethiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes yma yn y blynyddoedd diwethaf, ac fe fyddwn innau hefyd yn eich annog chi i wneud popeth y gallwch chi i ailadeiladu’r berthynas yna rhwng y sector a’r Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Un o’r pethau dwi wedi galw amdanyn nhw, wrth gwrs, yw adolygiad annibynnol i sefydlu a yw hi dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli’r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru. Mi fyddwn i’n ategu’r alwad honno a phetai yna gasgliad nad yw hynny’n addas, yna, yn amlwg, byddwn i’n dymuno bod yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn ystyried modelau amgen posib. Nawr, mi ddylai ystâd goedwigaeth gyhoeddus yng Nghymru gael ei reoli mewn ffordd sydd yn exemplar o safbwynt coedwigoedd cynaliadwy yn dangos sut mae bioamrywiaeth, newid hinsawdd, ffactorau cymdeithasol ac economaidd i gyd yn gallu cwrdd â’i gilydd, a hefyd sut mae rhai o’r tensiynau yna’n gallu cael eu rheoli’n addas. Ond, hyd yma, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu yn hynny o beth. Ydych chi felly’n cydnabod bod yna ffordd bell i fynd cyn ein bod ni’n cyrraedd lle y byddem ni’n licio bod?
Diolch, Llyr Huws Gruffydd am y cwestiynau hynny. O ran Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedais yn fy ymateb i Andrew R.T. Davies, yn amlwg, rydym ni wedi cael dadl hir iawn yn y Siambr amdano, a byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi anghytuno â chi bod adolygiad annibynnol yn angenrheidiol, ac rwy'n dal o'r farn honno. Yn amlwg, aeth Grant Thornton yno, fe wnaethon nhw adroddiad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn yr argymhellion a wnaed gan Grant Thornton mewn cysylltiad â'u rhan nhw o'r gwaith. Fe gawsom ni, y Llywodraeth un, ac rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw'n llawn. Mae gennyf pob ffydd yn y cadeirydd, y prif weithredwr a'r bwrdd newydd—byddwch yn ymwybodol inni newid hanner aelodau'r bwrdd—i ddatblygu hyn, ond rwyf yn credu eich bod yn llygad eich lle wrth ddweud bod angen ailadeiladu'r berthynas. A dyna pam yr oeddwn i mor awyddus i gael ymrwymiad gan Confor a Cyfoeth Naturiol Cymru ac wedyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyfarfod â'i gilydd. Mae fy swyddogion wedi bod yn cadw golwg ar hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod gyda Confor ar wahân er mwyn sicrhau y gellir ailadeiladu'r berthynas honno, ac, fel y dywedais yn y datganiad agoriadol, mae Confor wedi dweud eu bod yn falch iawn i ddatblygu'r gwaith hwnnw. Fodd bynnag, byddaf yn cadw—rwy'n cyfarfod bob mis gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr dros dro, a byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, gan fy mod yn credu eich bod yn llygad eich lle: fe ddylem ni fod yn esiampl yn y maes hwn, felly mae'n bwysig iawn bod y berthynas honno yn un ffrwythlon.
Unwaith eto, fe wnaethoch chi sôn yn y ddadl honno, rwy'n credu, eich bod yn pryderu am y diffyg profiad sydd gan y bwrdd ym maes coedwigaeth. Fel y soniais, fe wnaethom ni newid chwe aelod yn ôl ym mis Tachwedd. Mae gan un o'r aelodau ar y bwrdd, rwy'n credu, y sgiliau o ran llywodraethu a'r agwedd fusnes ar goedwigaeth, felly rwyf yn credu bod gennym ni'r cyfuniad cywir o bobl ar y bwrdd, ond, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf hefyd yn awyddus iawn i gadw llygad barcud arno.
Fe wnaethoch chi sôn am y cyfuniad o goed, ac mae hyn yn rhywbeth—pan ddeuthum i'r portffolio i ddechrau, dywedwyd wrthyf gan amrywiaeth o bobl ein bod yn plannu'r coed anghywir yn y mannau anghywir, a gan bobl eraill ein bod yn plannu'r coed cywir yn y lleoedd cywir. Felly, rwy'n cofio cael pawb at ei gilydd mewn ystafell i ddweud, 'Iawn, mae angen imi wybod pa goed sydd angen inni eu plannu ym mha le i wneud yn siŵr ein bod ni bob amser yn plannu'r coed cywir yn y lle cywir.' Ac rwy'n credu, pan fyddwn ni'n cyflwyno ein strategaeth, ac mae'n amlwg iawn yn gysylltiedig â'n polisi amaethyddol ar ôl Brexit, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cael y cyfuniad hwnnw'n gywir.
Oherwydd ei fod yn sector mor hirdymor, rwy'n credu y byddai 2050 yn darged da, a soniais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, fy mod wedi siarad â Gweinidog Seland Newydd ynglŷn â hyn, ac roedd eu targed ar gyfer yr un—rwy'n credu ei fod 50 mlynedd yn ddiweddarach, a gallaf weld y manteision o wneud hynny oherwydd credaf y byddai'n gyfle i bawb ei deall. Yn sicr, pan rwy'n siarad yn arbennig â ffermwyr ynglŷn â sut y gallan nhw ein helpu ni efallai i gyflawni ein targedau, un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud yw, oherwydd ei fod yn fenter mor hirdymor, maen nhw'n bur amharod i blannu coed ar dir amaethyddol, oherwydd eu bod yn gwybod y byddant wedi ei golli am 30 mlynedd. Ond, unwaith eto, mewn trafodaethau ac yn sicr yn llawer o'r ymatebion a gawsom ni i 'Brexit a'n tir', rwy'n credu bod hynny efallai yn newid ychydig a bod ffermwyr eisiau ein helpu ni i gyflawni ein targedau coedwigaeth.
Yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Gwledig, rydych chi'n gywir, rydym ni i ryw raddau yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair o ran yr addewid hwnnw na fyddai Cymru yn colli ceiniog petai ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol ein bod yn sicrhau ei bod yn cadw at ei gair ynglŷn â hynny, ond, yn amlwg, bydd angen inni roi arian bob amser i'r rhan hon o'r portffolio. Ond, yn amlwg, nid ydym ni wedi edrych yn fanwl ar gynllun i ddisodli'r Cynllun Datblygu Gwledig mewn manylder oherwydd disgwyliwn gael yr arian yr ydym ni'n ei gael o Ewrop ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth. Dim ond methu deall yr wyf i pam nad yw pawb arall yn credu ym mhwysigrwydd coedwigoedd, oherwydd fy mod i'n credu mewn gwirionedd eu bod un o'r pethau pwysicaf sydd gennym ni. Nid wyf yn credu y gallwch chi mewn gwirionedd gael gormod o goed, ac mae hi wastad yn ofid imi pan welaf nifer o goed yn cael eu torri. Yn etholaeth Rebecca Evans, mae cochwydd anferthol wedi ei thorri ym Mhenlle'r-gaer. Mae hynny'n fater o bwys aruthrol yn lleol, ac mae hefyd yn fater o bryder—nifer y coed yn yr ardal honno sy'n cael eu torri. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni warchod coed yn fwy nag yr ydym ni'n ei wneud yn awr. Mae gorchmynion cadw coed yn dda iawn. Maen nhw'n rhoi mwy o argraff o amddiffyniad nag amddiffyniad gwirioneddol, ond pan fo rhywun wedi cael damwain, ac maen nhw wedi taro coeden i lawr, ni allwch chi ddadwneud y ddamwain. Fe ddywedaf i wrthych chi hyn, os oes dau beth y gwn i amdanynt: bod adeiladau rhestredig gradd II yn mynd ar dân yn ddigymell, a bod pobl sy'n gyrru o amgylch coed yn cael damweiniau yn eithaf rheolaidd, gan daro coed i lawr sydd â gorchmynion cadw coed arnynt. Rwy'n gweld y ddwy ffaith yma'n anhygoel, a rhaid mai serendipedd sy'n eu hachosi.
A gaf i groesawu'r Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigoedd, yn benodol i bobl a chwmnïau cydweithredol gydweithio a chynllunio creu coetiroedd ar raddfa sylweddol a strategol? Rwy'n cefnogi plannu coedwigoedd cymysg yn hytrach nag un cnwd o goed conwydd. Bu nifer o glefydau coed fel clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, coed ynn yn marw, a'r un y crybwyllodd y Gweinidog yn gynharach, nad wyf i am geisio ei ynganu. A yw'r Gweinidog yn derbyn bod coedwigoedd cymysg yn darparu rhywfaint o ddiogelwch rhag clefydau coed, ac y dylai coedwigoedd cymysg o'r fath gynnwys coed llydanddail? A yw'r Gweinidog yn derbyn fod angen inni gael targedau rhanbarthol blynyddol o ran coedwigaeth? Rydym yn tueddu i fod â thargedau tymor hir, ond mae'r tymor hir, fel y bydd pobl sy'n ymwneud â chynllunio ariannol yn dweud wrthych chi, yn cynnwys llawer o dymhorau byr. Felly, os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth yn y tymor hir, rhaid ichi ymdrin yn llwyddiannus â nifer o dymhorau byr i gyflawni hynny.
Yn olaf, rhywbeth nad wyf i erioed wedi ei ddeall, ac fe arferai fodoli o dan yr hen gynllun sirol pan nodwyd tir ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau: pam na all cynlluniau datblygu lleol nodi tir ar gyfer coedwigaeth yn y fath fodd fel bod pobl yn gwybod bod y tir hwnnw'n addas?
Diolch, Mike Hedges, am y rhestr honno o gwestiynau. Rwy'n cytuno â chi: nid wyf yn credu y gallwch chi gael gormod o goed. Nid wyf yn ymwybodol o'r rhesymau pam fod y coed yn cael eu torri yn etholaeth fy nghyfaill Rebecca Evans, ond rhaid imi ddweud, un o'r profiadau dwysaf imi ei gael yn ddiweddar oedd imi fod yn ffodus iawn i ymweld â Choedwig Muir yn San Francisco pan oeddwn yno fis Medi diwethaf ar gyfer yr uwchgynhadledd fyd-eang ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd yr aer y gallech chi ei anadlu yn y goedwig gochwydd honno yn wirioneddol anhygoel. Gwnaeth imi sylweddoli mor ffodus ydyn nhw i gael y math hwnnw o goeden yng Nghaliffornia.
Rwy'n credu eich bod yn gywir ynghylch y cyfuniad o goed, ac fel y dywedais yn fy ymateb i Llyr Huws Gruffydd, mae'n bwysig iawn eich bod yn plannu'r coed cywir yn y mannau cywir ac, felly, boed hynny'n goed conwydd mewn rhai ardaloedd neu goed llydanddail mewn rhai eraill, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny'n iawn. Rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigoedd. Soniais yn fy natganiad agoriadol ein bod wedi buddsoddi £480,000 yn hynny. Rydym ni wedi cael dwy rownd, ac mae mewn gwirionedd yn annog cynllunio ar gyfer creu coetiroedd ar raddfa sylweddol iawn a strategol nad ydym ni wedi ei weld cyn hyn.
Rwy'n credu bod y targed hirdymor yn angenrheidiol iawn ar gyfer y diwydiant, ond, wrth gwrs, os oes gennych chi darged blynyddol, mae'n llawer haws ei fonitro, sef yr hyn a oedd gennym ni a lle gwnaethom ni sylweddoli nad oeddem ni'n plannu nifer y coed y byddem i gyd eisiau eu gweld. O ran coed hynafol, hynod a threftadaeth, mae'r strategaeth goetiroedd yn cydnabod pwysigrwydd coetiroedd hynafol ac, yn amlwg, mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ymrwymiad i reoli'r coed a'r coetiroedd hynny yn ofalus sydd mor werthfawr yn amgylcheddol, a soniais, unwaith eto, bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn sicr wedi rhoi canllawiau i gryfhau'r agwedd honno.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ar y pwnc pwysig iawn hwn? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn un o'r cynhyrchwyr mwyaf yn y DU o ran pyst pren a choed. Ac rwy'n gwybod ichi ymweld â Clifford Jones eich hun i siarad am rai o'u pryderon ynglŷn â chyflenwi coed, yn arbennig faint o goed conwydd sy'n cael eu plannu ac effaith hynny ar y cyflenwad coed, a buont yn pryderu ers tro ynglŷn â'r mater penodol hwnnw. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad yn y blynyddoedd sydd i ddod a chymell perchnogion tir i blannu mwy yn y dyfodol.
A wnewch chi ddweud wrthyf, fodd bynnag, Gweinidog—? O ran y gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud, rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i bwyslais hynny, yn fwy eang, fod ar fuddiannau'r tir sydd ganddyn nhw, nid yn unig o ran datblygu cnwd ac yna ei gynaeafu a defnyddio'r cnwd hwnnw o ran cyflenwad, ond o ran, hefyd, cyfleoedd hamdden ar eu tir. Unwaith eto, Gweinidog, rwy'n gwybod y buoch chi i'r goedwig o amgylch Llyn Brenig—coedwig Clocaenog yn fy etholaeth i yn y gorffennol, a byddwch wedi gweld y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yno o ran hamdden. Nid wyf yn credu ein bod yn manteisio digon ar y cyfleoedd hynny; credaf y gellid dweud yr un peth, hefyd, am rannau o goedwig Llandegla gyda rhai o'u llwybrau seiclo a'u llwybrau certiau hefyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gwybod sut ydych chi'n bwriadu sicrhau na chaiff y pethau hynny mo'u hanghofio yn rhan o'r cynllun rheoli coedwigoedd.
Ac yn ail, a gaf i ofyn a yw'r Llywodraeth wedi ystyried diweddaru gofynion Deddf Coedwigaeth 1967, yn arbennig o ran trwyddedau torri coed? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'm diddordeb brwd ym mhoblogaeth y wiwer coch yma yng Nghymru, ac roedd rhai o'r pryderon a fynegwyd gan y rhai sy'n ymwneud â chadwraeth y wiwer goch yn ymwneud â chyfundrefn y trwyddedau torri coed sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, pryd, fel rwy'n deall, ni ellir gwrthod trwydded er mwyn gwarchod neu wella fflora neu ffawna o dan ofynion Deddf 1967. Mae hynny'n peri pryder i unrhyw un sy'n frwdfrydig dros fywyd gwyllt, nid yn unig y rhai sy'n pryderu ynghylch poblogaethau'r wiwer goch.
Nawr, yn amlwg, yn yr Alban, fel y caf ar ddeall, mae camau ar waith i ddiweddaru gofynion y Ddeddf fel y gall fod rhai amodau ynghlwm wrth drwyddedau sy'n diogelu buddiannau bywyd gwyllt, ac rwy'n credu ei bod hi fwy na thebyg yn bryd inni ddechrau edrych ar gyfleoedd i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr mai bwriadau Cyfoeth Naturiol Cymru a'ch Llywodraeth yw gwneud yr hyn a allant i warchod bywyd gwyllt. Tybed a allwn ni achub ar y cyfle hwn bellach i gael rhyw fath o ymrwymiad gan y Llywodraeth o ran edrych ar y gofynion hyn yn y dyfodol. Diolch.
Diolch. Do, yn sicr cefais ymweliad addysgiadol iawn â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, lle'r oedden nhw'n arbennig o gymwynasgar yn egluro'r rhwystrau sydd yn sicr ganddyn nhw, ac yn amlwg, y diwrnod yr es i yno, mae'n debyg bod eu hiard yn hanner llawn, ond fel arfer, bydden nhw'n storio 100 y cant. Felly, unwaith eto, roedden nhw'n gymwynasgar iawn. Es i â swyddogion a phobl o Cyfoeth Naturiol Cymru gyda mi felly, unwaith eto, roeddem ni'n gallu deall y pryderon anodd iawn oedd ganddyn nhw.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch hamdden, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol, ac yn sicr, unwaith eto, ymwelais â choedwig y Brenig i weld y gwaith a oedd yn cael ei wneud er mwyn i'r cyhoedd fwynhau, ond hefyd, y bobl a oedd yn gwirfoddoli ac yn gweithio yn y goedwig, fe allech chi weld y manteision i'w iechyd ac i'w lles hefyd. Ac wrth gwrs, mae Llandegla yn agos iawn at fy nghartref; rwy'n ymweld â'r lle yn aml iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n enghraifft o ble maen nhw wedi manteisio i'r eithaf ar y goedwig honno. Ni allech chi hyd yn oed gael i mewn i'r maes parcio, heb sôn am unrhyw le arall, oherwydd y beicio mynydd, y cerdded a'r caffi sy'n gwneud y frechdan cig moch orau yn y wlad, mae'n debyg.
O ran yr hyn yr oeddech chi'n sôn amdano ynghylch torri coed, rwy'n credu y cydnabyddir bod y Ddeddf Coedwigaeth yn gyfyngedig o ran natur yr amodau y gall eu cymhwyso i drwyddedau torri coed ac wedyn eu gorfodi. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae'r Alban yn ei wneud, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn i ar fy rhan. Wyddoch chi, mae fy mriff i'n cyfeirio at wiwerod llwyd a cheirw, ond rwy'n siŵr bod gwiwerod coch yn cael eu heffeithio yn yr un modd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad oherwydd mae'n bwysig iawn, yn enwedig o ran tynnu sylw ynglŷn â sut yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r afael â'r clefyd phytophthora ramorum, ac yn enwedig y dinistr a welsom ni yng Nghwm Afan o ganlyniad i hynny. Rydym ni'n dal yn gweld bod cyfran fawr o'r coed yn y cwm hwnnw wedi eu torri ac nad oes rhai newydd wedi eu plannu yn eu lle. Ac rwy'n croesawu'r sylw yn eich datganiad, yn sôn am gyfuniad o wahanol goed o ran plannu rhai newydd, ond ceir rhai ardaloedd hefyd, ac mae rhai o'm hetholwyr mewn gwirionedd yn dweud eu bod yn hoffi gweld bod y coed wedi mynd oherwydd bod ganddyn nhw olygfa ehangach a mwy o olau, fel y mae'n digwydd—. Ond mae angen inni ystyried pa un a oes ardaloedd lle na chaiff coed newydd eu plannu, am ba reswm bynnag—gallai fod yn ariannol fel posibilrwydd—mae gennym ni strategaeth ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r ardaloedd hynny er mwyn inni wybod beth fydd yn mynd ar y tir hwnnw, ond gallwn ni edrych hefyd, ar sut y gallwn ni ddefnyddio—? Rwy'n cytuno â Darren Millar bod y gweithgareddau hamdden yn enfawr, y cyfleoedd yn hynny o beth. Os ydych chi eisiau mynd i rywle arall, dewch i gwm Afan a gweld y beicio mynydd yn y fan honno. Efallai nad oes gennym ni'r brechdanau cig moch gorau, ond byddwn ni'n sicr yn rhoi croeso cynnes iawn i chi. Ond mae'r cyfleoedd hyn yn enfawr i gymunedau lleol a'r Cymoedd cyn-lofaol sydd erbyn hyn yn gweld y newid o'r gorffennol diwydiannol i ddyfodol mewn twristiaeth, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni ystyried a mynd i'r afael â'r agwedd honno.
Ond, yn ail, a gawn ni hefyd edrych ar—nid ydych chi wedi sôn amdano—coed gwastraff a chontractio ar gyfer coed, oherwydd mae gennym ni weithfeydd biomas sydd yn amlwg yn elwa ar rai o'r coetiroedd sy'n bodoli? Yn fy etholaeth i, mae gennym ni ddau safle biomas, un ar gyfer coed halogedig ac un ar gyfer coed newydd, ac yn amlwg, roedd y contract ar gyfer coed newydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae angen i ni ystyried sut y gallwn ni barhau i gyflenwi coed newydd, nad oes eu hangen mwyach ond y gellir eu defnyddio o hyd at ddiben buddiol. Nid ydych chi wedi trafod hynny yn eich datganiad. Efallai y gallwn ni ystyried sut y gallwn ni weld sut mae modd i'r agwedd honno ar y gwaith gynnal y maes coedwigaeth, oherwydd mae'n helpu i gynnal y maes coedwigaeth. Mae'n sôn am ailblannu, ond mae hefyd yn defnyddio coed prysgwydd a adewir ar y tir pan fydd llawer o goed wedi eu torri.
Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ardal yn eich etholaeth chi sydd wedi colli nifer fawr o goed oherwydd haint, ac fe grybwyllais i mewn ateb cynharach fy mod yn gwybod bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn sgil fy nhrafodaethau gyda'r Prif Weithredwr, rai sylweddol—. Credaf eu bod nhw yn y fan honno; rwy'n credu eu bod yn cadw tua 4 y cant o dir ar gyfer coedwigaeth, ac rwy'n credu eu bod ar gyfradd o 4.75 y cant ar hyn o bryd, a dyna pam fy mod yn ystyried a fyddaf i'n gallu rhoi cyllid ychwanegol iddyn nhw, oherwydd, yn amlwg, mae cyllidebau pawb dan bwysau. Felly, byddai'n dda iawn gennyf wybod a oes modd imi roi cymorth iddyn nhw i ailgoedwigo yn y dyfodol agos iawn.
Rwy'n ymwybodol o'r datblygiad hamdden sydd wedi ei gynnig yn eich etholaeth. Gwn fod fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot ar hynny. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gynllun marchnata coed, sy'n ymestyn o 2017 i 2022, ac mae hwnnw'n esbonio eu dull nhw o gynaeafu a marchnata coed o ystad coetir Llywodraeth Cymru. Fe fyddan nhw'n parhau i gyflenwi coed yn unol â'r cynllun hwnnw, a byddwn i'n hapus iawn i ofyn iddyn nhw edrych ar y pwynt a godwyd gennych chi.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae'r eitem nesaf wedi'i thynnu yn ôl.
Felly, eitem 5 yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol, ac dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, ar gyfer pob oedran erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Diolch i ymdrech ryfeddol gan gyflogwyr, darparwyr a gwasanaethau cynghori, rydym wedi darparu 56,635 o brentisiaethau rhwng mis Mai 2016 a mis Gorffennaf 2018. Fel yr addawyd, rydym wedi canolbwyntio ar wella ansawdd y prentisiaethau, a'u gwneud yn gydnaws ag anghenion economi Cymru, gan ein rhoi ni mewn sefyllfa well i ymdrin ag effeithiau globaleiddio, datblygiadau o ran awtomatiaeth a chanlyniadau a achosir gan Brexit.
Cawsom ein beirniadu am beidio â chymryd yr un agwedd â'r Llywodraeth yn Lloegr, ond mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod ein dull strategol ni wedi ei gyfiawnhau. Mae ein cynllun prentisiaeth ni ar y trywydd iawn. Mae'r cynllun yn Lloegr yn mynd i'r gwellt. Mae nifer y rhai sy'n dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru wedi cynyddu. Yr wythnos ddiwethaf, nododd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod nifer y rhai sy'n dechrau ar brentisiaethau yn Lloegr, yn hytrach na chynyddu fel y gobeithiwyd, 25 y cant yn is nag yr oedden nhw ddwy flynedd yn ôl, a dywedodd bod Llywodraeth y DU yn 'annhebyg iawn' o gyrraedd ei nod. Mae'r wrthblaid wedi ein gwawdio ni gryn dipyn yn hyn o beth, ac mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos mai ni sy'n iawn a nhw sy'n anghywir.
Mae prentisiaethau Cymru yn cael eu dylunio mewn ffordd wahanol, i wella cynhyrchiant ac ateb yr anghenion am sgiliau strategol. Mae ein buddsoddiad ni yn cael ei deilwra i anghenion cyflogwyr ym mhob rhanbarth, yn seiliedig ar yr argymhellion gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, gwybodaeth am y farchnad lafur ac adolygiadau o'r sector sy'n cael eu cynnal gan Gymwysterau Cymru. Mae anghenion y busnesau sy'n rhoi pŵer i'n heconomi yn ganolog. Rydym wedi creu bwrdd cynghori ar brentisiaethau i Gymru i ddarparu her gadarn ar y cynnwys o ran sgiliau, a chyngor ar gwmpas ac ystod fframweithiau prentisiaeth. Mae'r bwrdd yn cael ei gadeirio gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n cynnwys cyflogwyr mawr a busnesau bach a chanolig ledled Cymru.
Nid ydym yn rhoi talebau ar gyfer cyrsiau y byddai'r cyflogwyr yn eu cynnal beth bynnag mewn llawer o achosion, ond rydym yn darparu dilyniant clir o ran sgiliau, fel y gall gweithwyr Cymru symud i gyflogaeth uwch ei gwerth sy'n talu'n well, gyda gwell cyfleoedd mewn bywyd. Rydym wedi edrych ar y dystiolaeth o wledydd eraill yn Ewrop ac rydym yn rhoi'r flaenoriaeth i ehangu prentisiaethau uwch mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a phynciau technegol i greu cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol i symbylu arferion arloesol, creu cynhyrchion newydd ac ysgogi cyfraddau cynhyrchiant. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 3 ac yn uwch, lle mae'r adenillion ar fuddsoddiad yn uchel. Wrth inni ddatblygu ein dull ni o feithrin yr economi sylfaenol, byddwn yn parhau i roi ystyriaeth i anghenion cwmnïau sefydlog a gwasanaethau hanfodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Rydym wedi ein hymrwymo i ddilyniant sgiliau yn gyffredinol, ac yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid cymdeithasol mewn undebau llafur ac mewn diwydiant. Rydym yn creu swyddi gwell yn nes i gartref, drwy ymestyn ac ehangu prentisiaethau a rennir yn ardal tasglu'r Cymoedd i gefnogi busnesau bach wrth gael gafael ar hyfforddiant. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau drwy gynnig cymhelliant o hyd at £3,500 i recriwtio unigolyn ifanc, cyn belled nad yw'r cyflogwr hwnnw wedi cynnig prentisiaeth o'r blaen. Nod hyn i gyd yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn arfer busnes normal.
Dyma'r pwynt allweddol i'n dull ni o weithredu, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, nid oes angen taleb er mwyn cael prentisiaethau sy'n darparu ar gyfer anghenion strategol eich busnes chi. Rydym yn dweud wrth unrhyw rai o'r 700 o gyflogwyr a amcangyfrifir sy'n talu ardoll, 'Os nad yw eich anghenion chi'n cael eu diwallu, dewch i siarad â ni.' Rydym wedi sefydlu tîm o ymgynghorwyr i gefnogi cyflogwyr sy'n talu ardoll, gan ymgysylltu yn agos â chyrff sy'n cynrychioli cyflogwyr, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ffeithiol ar gyfer y rhai sy'n talu'r ardoll a chyflogwyr eraill fel ei gilydd ar y modd y gallan nhw fod â rhan yn y rhaglen yng Nghymru.
Rydym wedi cyflwyno prentisiaethau digidol i lenwi'r bylchau sgiliau a nodwyd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, i ddechrau mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, ac, yn fuan, yn y sector peirianneg uwch. Ac, fel y daw'r dystiolaeth i'r amlwg, rydym yn gobeithio ymestyn y ddarpariaeth i sectorau eraill hefyd. Os caf i, Dirprwy Lywydd, rwy'n mynd i sôn am ychydig o'r mentrau yr ydym yn eu cynnal yn y maes hwn.
I ddatgloi'r galw, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr o dan glystyrau sgiliau, mewn meysydd fel iechyd, coedwigaeth, peirianneg a thechnoleg ddigidol. Mae'r gwaith hwn yn ysgogi gwelliant o ran gwasanaethau cyhoeddus wrth inni fod mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i rannu arbenigedd. I ategu hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er mwyn deall sut y gallwn ni glystyru'r cyflenwi o amgylch rhai sectorau, fel y gall busnesau bach a chanolig gael gwell defnydd o'r rhaglen.
Rydym yn adolygu ac yn atgyfnerthu ansawdd comisiynu, ac yn datblygu ac yn rhyddhau fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru i ddiwallu anghenion cyfnewidiol ein heconomi. Bydd hyn yn sicrhau bod ein fframweithiau yn parhau'n berthnasol ac yn gludadwy ledled y DU, wrth ateb anghenion penodol Cymru hefyd. Rydym yn atgyfnerthu goruchwyliaeth reoleiddiol y system hefyd, a byddwn yn lansio ymgynghoriad cyn bo hir ar gynnwys y prentisiaethau, gan ganolbwyntio ar alwedigaethau technegol.
Ar gyfer pobl ifanc, byddwn yn lansio llwyfan TG newydd i egluro'r daith prentisiaeth yn well ac yn fwy hwylus i'r defnyddiwr. Mae ein rhaglenni, Prentisiaethau Iau, Paratoi ar gyfer Prentisiaethau a Rhoi Cynnig Arni, yn gweithredu mewn ysgolion a phob un yn paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg alwedigaethol. Byddwn yn cefnogi pobl wrth fynd i brentisiaethau drwy'r rhaglenni Cymru'n Gweithio a Chymorth i Waith Cymru, gan ddarparu llwybr i yrfa a chyfleoedd bywyd.
Y llynedd, cyhoeddwyd pecyn cymorth cydraddoldeb cynhwysfawr i gefnogi darparwyr a chyflogwyr, sy'n cynnwys modiwlau ar hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipio a rhagfarn anymwybodol. Ac yn fwy diweddar, rydym wedi lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd, a ddatblygwyd trwy ymgynghori â chyrff anableddau, sy'n nodi agenda uchelgeisiol i ehangu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl anabl.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, yn ystod hanner cyntaf y tymor Cynulliad hwn, rydym wedi cryfhau perthnasedd, ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynigion o brentisiaethau. Rydym i gyd yn gwybod y bydd y pwysau ar Gymru yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf—yn yr wythnosau nesaf o bosibl. Mae Brexit, technolegau newydd ac awtomatiaeth i gyd yn mynnu bod gennym system o hyfforddi sy'n gydnerth. Mae ein hymrwymiad ni i'r economi sylfaenol a sicrhau bod cwmnïau o faint canolig yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol inni ganolbwyntio ar brentisiaethau, dysgu gydol oes a hyfforddiant yn y gweithle. Bydd darparu prentisiaethau perthnasol o ansawdd uchel yn ein helpu ni i ymdrin â'r heriau hyn i gyd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad yma heddiw—ar ei drydedd ymgais. Yr wythnos ddiwethaf oedd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i dynnu sylw at y budd y gall prentisiaethau ei roi i unigolion, i gyflogwyr a'r economi yn ei chyfanrwydd. Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i rywun ddysgu sgiliau newydd, i ennill cyflog wrth iddo ddysgu, a bwrw ymlaen yn ei yrfa, ac ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod gan fusnesau y gweithwyr medrus sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ehangu. Mae'n bwysig, felly, bod yr hyfforddiant a ddarperir yn berthnasol ar gyfer ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr.
Fis Medi diwethaf, cynhyrchodd Estyn adroddiad yn honni nad oedd y rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yn eu rheoli'n dda a bod llawer o gyrsiau yn hen ffasiwn. Aeth Estyn ymlaen i ddweud bod methiant ymhlith darparwyr yn golygu bod gweithwyr yng Nghymru yn gorfod teithio i Loegr i gael hyfforddiant. A wnaiff y Gweinidog ddweud pa gynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion Estyn i sicrhau bod pobl yn cael yr hyfforddiant diweddaraf o ansawdd da yma yng Nghymru?
Mae cyngor gyrfa o ansawdd da yn hanfodol er mwyn hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gam cynnar. Mynegwyd pryderon ynghylch ansawdd a phresenoldeb cyngor gyrfa, gan gyfeirio at y prinder o gynghorwyr gyrfa hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgolion. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrth y Cynulliad a yw ef yn fodlon ar y cyngor gyrfa sydd ar gael yng Nghymru a chywirdeb y cyngor ar hyfforddiant galwedigaethol ac addysgol?
Yng Nghymru, menywod oedd 60 y cant o'r prentisiaid yn 2017. Fodd bynnag, yn aml caiff menywod eu harwain at brentisiaethau sy'n cynnig llai o dâl iddynt nag i ddynion. Mewn rhaglenni adeiladu a pheirianneg, dim ond un fenyw oedd i bob 23dyn. Hefyd, mae cael pobl anabl i fod yn brentisiaid yn her sylweddol. Mae llai na 2 y cant o'r rhai sydd ar raglenni prentisiaeth yn bobl anabl. Sut wnaiff y Gweinidog fynd i'r afael â rhagfarn rhyw a diffyg cynrychiolaeth pobl anabl yn y system brentisiaeth? Mae cynrychiolaeth y lleiafrifoedd ethnig sydd ar raglenni prentisiaeth yn parhau i fod yn sefydlog, ar tua 3 y cant o'r cyfanswm. Sut wnaiff y Gweinidog sicrhau bod prentisiaethau yn adlewyrchu'n fwy cywir boblogaeth amrywiol Cymru?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bwysigrwydd hanfodol ffermio yn economi Cymru. Dim ond 1 y cant o gyfanswm y prentisiaethau ar gael yng Nghymru dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf oedd mewn amaethyddiaeth. Pa gamau wnaiff y Gweinidog eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant ffermio cystadleuol a chynhyrchiol?
Yn olaf, Gweinidog, fis Tachwedd diwethaf, mynegodd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ei siom ynghylch y diffyg tryloywder o ran ariannu a gweithredu rhaglen prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Mynegwyd pryderon ynghylch y meini prawf a ddefnyddir i wneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu cyllid, y swm o arian sydd ar gael ar gyfer pob lefel o brentisiaethau nad ydyn nhw ar lefel gradd, a'r gronfa 10 y cant a gedwir, yn ôl pob golwg, ar gyfer prentisiaethau lefel is. Yn eich ymateb, Gweinidog, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu'r tryloywder mwy eang y gofynnodd y pwyllgor amdano? Diolch.
Rwy'n credu imi gyfrif pum cwestiwn. Byddaf yn ceisio ateb cymaint ag y gallaf i.
Eich pwynt cyntaf, am yr adroddiad a wneir gan Estyn ar ddarparwyr hyfforddiant: y llynedd, canfu Estyn fod dau o'r tri darparwr yn 'dda' ac roedd y llall yn 'ddigonol'. Yn amlwg, nid yw digonol yn ddigon da ac rydym yn adolygu'r sefyllfa o ran ansawdd y safonau. Ac yn ogystal â hynny, rwy'n ymwybodol bod Pwyllgor yr Economi a Llywodraeth Cymru yn adolygu'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hefyd.
Roeddech chi'n holin am gyngor gyrfa. Byddwch yn ymwybodol o lansiad y gwasanaeth cynghori Cymru ar Waith, sydd yn rhesymoli nifer o raglenni sydd gennym ni eisoes: Twf Swyddi Cymru, ReAct ac yn y blaen. Caiff peth o'r gefnogaeth honno ei rhoi gan Gyrfa Cymru pan fydd yr ymarfer caffael wedi ei gwblhau. Yn sicr, nid ydym yn ddifater ynghylch ansawdd cyngor gyrfa, ac rydym yn cymryd camau gweithredol i wella hynny.
Roeddech chi'n holi am anableddau a chydraddoldeb, ac rwy'n credu mi ymdrin â hynny yn y datganiad, gyda chyhoeddi'r pecyn cymorth.
Ac roeddech chi'n holi, yn olaf, am amaethyddiaeth. Mae'n rhaid cyfaddef y bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny.FootnoteLink
Diolch am y datganiad yma. Mae wedi bod peth llwyddiant yn y maes yma, felly hoffwn groesawu'r prif ffigurau, ond mae'r datganiad yn darlunio llun delfrydol iawn sydd yn masgio rhai o'r problemau a'r penblethau sydd yn datblygu yn y maes yma.
Y peth cyntaf sy'n rhaid imi ofyn yw: a allem ni gael system ddelifro gwell yn nhermau y ffordd i addysgu yn y gweithle? Yn bresennol, bydd arian yn cael ei gaffael gan ddarparwyr hyfforddiant, sydd, i ryw raddau, wedi creu marchnad ffals, gan eu bod nhw yn cael eu cynnal gan arian Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n credu y byddai'n well mynd i'r afael â phrentisiaethau trwy gael gwasanaeth addysg i unigolion ac ariannu prentisiaethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu hynny? Ydych chi wedi ystyried modelau amgen a fyddai'n gweld partneriaethau newydd gydag awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach, er enghraifft, gan gysylltu cyflogwyr yn uniongyrchol, neu drwy sefydliad dielw, yn hytrach na darparwyr hyfforddiant preifat? Yn Nenmarc, er enghraifft, mae prentisiaethau a hyfforddiant yn seiliedig ar waith yn cael eu hariannu trwy'r Llywodraeth ganolog a'r Llywodraeth ranbarthol gan weithio yn uniongyrchol â chyflogwyr a sicrhau bod prentisiaethau, a'r rheini sy'n derbyn yr hyfforddiant, yn cael eu hariannu trwy wasanaethau addysg gyhoeddus? Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd a hygludedd—portability—os, er enghraifft, hoffai rywun newid eu prentisiaeth wrth aros yn yr amgylchedd addysg hynny. Felly, rwy'n gofyn ichi a ydych chi wedi edrych ar fodelau amgen.
A allwch chi hefyd amlinellu'n fyr y penderfyniad a wnaed i hepgor ymarferiad caffael presennol ar gyfer rhaglen gymorth cyflogaeth Cymru'n Gweithio? Gwnes i geisio gofyn cwestiwn wythnos diwethaf, ond nid oedd wedi cael ei ddewis, ond roedd y sector wedi cael darganfod bod y gwaith caffael yma wedi cael ei hepgor, ond nid oedd Aelodau'r Cynulliad wedi cael y datganiad hyd nes ddiwedd yr wythnos diwethaf. Os yw hon yn strategaeth newydd gydag agenda newydd, sut felly fydd parhau â'r hen system yn adlewyrchu hynny? Hoffwn i ddeall yr hyn sydd tu ôl i feddylfryd y Llywodraeth yn hynny o beth.
I symud ymlaen at brentisiaethau iaith Gymraeg, mae nifer ohonom ni yn poeni yn fawr ynglŷn â'r ffigurau dwi wedi'u gweld gan Gymdeithas yr Iaith o 2017 i 2019. Dim ond 230 allan o 58,665, neu 0.39 y cant o'r cyfanswm, oedd yn brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydyn ni wir yn ddifrifol am gyrraedd y filiwn o siaradwyr rydym ni'n trafod yma o ddydd i ddydd, yna mae angen amryw o broffesiynau a chrefftau ar gael trwy brentisiaethau yn yr iaith Gymraeg. Sut ydych chi'n mynd i fynd ati i ehangu ar y nifer yma yn sylweddol a sicrhau bod ardaloedd priodol yng Nghymru yn gallu cael mwy o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? Er enghraifft, os ydym ni'n cael cymdeithasau tai mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gryf, oni ddylai prentisiaethau gael mwy o fynediad i'r fath hynny o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud ar hyn?
Fel sydd wedi cael ei nodi yn gynharach, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud bod angen gwneud lot mwy o waith i gael menywod i mewn i brentisiaethau, ac nid dim ond yn y prentisiaethau hynny y mae menywod yn cael eu cysylltu â nhw yn hanesyddol. Mae nifer o gyfleon yn y byd adeiladu, gweithgynhyrchu, ond dynion ar hyn o bryd sydd yn cael mynediad atyn nhw, ac wedyn yn cael cyflog gwell yn sgil hynny. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod yr anghysondeb yma yn dod i ben?
Rwyf wedi dod â'r mater yma i chi o'r blaen ynglŷn â potentially rhoi trafnidiaeth am ddim i bobl sydd ar brentisiaethau, os ydyn nhw, efallai, yn byw ymhell i ffwrdd o'r lle maen nhw angen ei gyrraedd. Dwi wedi cael pobl yn fy ardal i yn dweud ei bod yn amhosib iddyn nhw fynd at brentisiaeth oherwydd dŷn nhw ddim yn gallu cyrraedd y lle maen nhw'n disgwyl gorfod ei gyrraedd i wneud y brentisiaeth hynny. Felly, beth ydych chi'n ei wneud ar hynny?
Yn olaf, fe wnes i gyfarfod â Phrifysgolion Cymru ddoe ynglŷn â phrentisiaethau gradd. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n rhwystredig iawn oherwydd y cyfyngiadau tynn iawn sydd ar bobl wrth geisio cael yr arian hwnnw o ystyried y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i dechnoleg ddigidol, ac maen nhw'n dweud wrthyf i fod pobl yn heidio i Loegr i gael rhan yn y cyfleoedd prentisiaeth hyn ar lefel gradd. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n colli ein myfyrwyr gorau a disgleiriaf i Loegr oherwydd y prentisiaethau gradd hyn. Felly, roeddech chi'n dweud eich bod o bosibl yn mynd i ehangu'r meysydd y gallai pobl gael prentisiaethau gradd ynddyn nhw. Pryd ydych chi'n bwriadu gwneud hynny? Oherwydd nid yw Prifysgolion Cymru fel arfer yn gwylltio ynghylch pethau, ond roedden nhw i'w gweld wedi eu cynhyrfu'n fawr ddoe oherwydd hyn. Os ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw wedi eu cyfyngu gan yr hyn y maen nhw'n gallu ei gynnig yma yng Nghymru, yna, yn sicr, mae angen inni ymdrin â hynny.
Diolch. Rwy'n credu bod chwe chwestiwn gyda ni yma—byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y rhain yn gryno.
Eich pwynt cyntaf am ddarparwyr hyfforddiant preifat ac a oedd yna ddadl dros economi gymysg a symud tuag at wahanol ddarpariaeth—rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol iawn. Byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i weld mwy o fentrau cymdeithasol a chydweithredol yn darparu hyfforddiant, a byddai ddiddordeb gennyf i drafod hynny ymhellach a chael unrhyw syniadau sydd gan Bethan Jenkins.
Eich cwestiwn am yr ymarfer caffael i Gymru ar Waith—bu oedi yno oherwydd pryder ynglŷn â'r fethodoleg gwerthuso a ddefnyddiwyd ac, ar sail cyngor cyfreithiol, rydym wedi penderfynu ail-redeg y fframwaith. Dyna pam y cafwyd yr oedi.
Ar gwestiwn yr iaith Gymraeg, yn y ffigurau sydd gennyf i, yn 2016-17, aseswyd ychydig dros 4 y cant o'r prentisiaethau yn ffurfiol yn y Gymraeg, a defnyddiodd 8 y cant ar ben hynny rywfaint o'r Gymraeg mewn rhan o'u hyfforddiant. Ac rwyf i o'r farn mai un o'r heriau sydd gennym ni yw nifer y bobl sy'n fodlon cwblhau eu prentisiaeth gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond rydym ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld beth y gallwn ei wneud, a chyhoeddwyd cynllun ym mis Rhagfyr, gan nodi rhai camau. Felly, yn sicr nid ydym yn ddifater yn hynny o beth.
Roedd y cwestiwn ar brentisiaethau i fenywod wedi ei lunio'n dda—yn sicr, rwy'n cytuno â'r meddylfryd. Ceir nifer o wahanol fentrau eisoes yn y maes hwn, ond yn sicr gallwn wneud rhagor, a byddwn yn hapus i ysgrifennu a nodi rhywfaint o'r gweithgarwch sydd gennym ni ar waith ar hyn o bryd. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am beth arall y gallem ni ei wneud, byddem ni'n croesawu cyfle i drafod hynny yn sicr hefyd.
Roeddech yn sôn am yr achos dros gludiant am ddim. Fel y gwyddoch, mae gennym Bapur Gwyn dan ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n demtasiwn inni edrych ar wahanol grwpiau ac awgrymu y byddai cludiant am ddim yn fanteisiol iddyn nhw, ac yn sicr mae hynny'n wir. Ond credaf fod angen inni goleddu barn fwy strategol ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n strwythuro trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru i'r dyfodol, ac a oes lle i gludiant am ddim i'r boblogaeth gyfan neu rannau o'r boblogaeth fel rhan o hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu diystyru ynglŷn â hynny, wrth i ni edrych ar gryfhau ein sector trafnidiaeth gyhoeddus.
Ac, yn olaf, o ran prentisiaethau gradd—rwy'n siŵr bod y prifysgolion wedi gwylltio oherwydd, yn Lloegr, fel y soniais i, mae'r rhaglen wedi gorwario'n wyllt, ac un o'r rhesymau am hynny yw bod cyflogwyr yn rhoi pethau fel graddau Meistr Gweinyddu Busnes, er enghraifft, yng nghategori prentisiaethau. Felly, maen nhw'n gwario arian fel dŵr ar raglenni o'r fath, gan wagio'r pwrs i gyd wrth fynd. Mae'r prifysgolion yn elwa'n fawr iawn ar hynny yn Lloegr. Fe wnewch chi faddau inni am beidio â dynwared y dull—yn ein barn ni—hedonistaidd hwnnw, a'n bod ni, yn hytrach, yn gweithredu mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran yr hyn y credwn ni sy'n strategol weddus ar gyfer economi Cymru. Rydym wedi dechrau gyda thechnoleg ddigidol fel prentisiaeth gradd, rydym ar fin lansio peirianneg, ac rydym yn edrych ar feysydd eraill. Ond credwn ein bod yn iawn i gymryd dull mwy trefnus a strategol yn hytrach na dim ond ail-gategoreiddio cyrsiau gradd yn brentisiaethau i ymdrin â'r system hon o dalebau sydd ganddyn nhw yn Lloegr, ac rwy'n siŵr y byddai'r prifysgolion yn hoffi ein gweld ni'n gwneud hynny, ond byddwn ni'n gweithredu mewn modd gwahanol yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn ddigyfaddawd, oherwydd bu llawer o bryder yn ddiweddar am bobl ifanc yn cael eu hannog i geisio addysg prifysgol, ac na fyddai hynny mewn gwirionedd yn rhoi'r math o sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael swydd dda, a'r cwbl y mae hynny'n ei gyflawni yw mynd â nhw i ddyled ariannol fawr. Felly, mae cryn berygl moesol yn y fan honno o ran yr hyn y gallai'r prifysgolion fod yn ei wneud yn achos rhai pobl ifanc nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn mynd i gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yn sgil addysg prifysgol. Ac mae'n ymddangos i mi fod prentisiaethau yn ffordd o ailgynllunio economi'r DU rywsut, lle mae pwyslais gormodol ar yr hyn sy'n digwydd yn Ninas Llundain a'r diwydiant gwasanaethau ariannol, yn hytrach na'r hyn sydd angen iddo ddigwydd yn y sector gweithgynhyrchu, yn benodol mewn diwydiannau newydd wrth i dechnoleg newydd newid ac esblygu.
Rwy'n pryderu'n fawr am nifer y menywod sy'n mynd i swyddi mewn meysydd yn yr economi sy'n talu'n well. Yn amlwg, mae cryn lawer o fenywod yn mynd i brentisiaethau, ond maen nhw'n tueddu i fod mewn swyddi â chyflogau llai fel gofal plant a thrin gwallt. Er bod gofal plant, yn amlwg, yn yrfa anhygoel o bwysig, nid yn y fan honno y mae'r arian mawr. Yn y cyfamser, mae angen enfawr am sgiliau manwl mewn adeiladu a pheirianneg. Nid oes angen ichi fod yn gryf yn gorfforol, mae angen ichi fod yn fanwl gywir a meddu ar sgiliau dylunio da. Mae'n drawiadol nad oes dim ond 360 o fenywod yn brentisiaid, o'u cymharu â 8,300 o ddynion. Dyna i ni un fenyw am bob 23 dyn. Mae'r stori'n hollol wahanol yn y gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd.
Felly, tybed a ydych chi'n cytuno â'r awgrym y gellid cymryd camau cadarnhaol, fel neilltuo lleoedd ar gyfer grwpiau gwarchodedig sy'n cael eu tan-gynrychioli mewn meysydd penodol, neu sicrhau ein bod ni, lle mae'r ymgeiswyr o'r un safon, yn derbyn yr un sy'n cael ei dan-gynrychioli. Yn yr un modd, rwyf i o'r farn ei bod yn peri pryder nad oes ond nifer fechan iawn o bobl anabl cofrestredig yn brentisiaid. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, er eu bod yn anabl, nad yw hynny'n golygu nad ydyn nhw'n alluog iawn i fod yn brentisiaid mewn llawer o wahanol feysydd. Dim ond 1.5 y cant o'r rhai sydd ar brentisiaethau, rwy'n credu, sy'n anabl.
Y maes sydd o ddiddordeb arbennig i mi, yn ogystal â'r diwydiannau adeiladu a pheirianneg, lle credaf fod ffyrdd newydd o adeiladu yn gofyn am y sgiliau manwl hynny—mae hefyd angen sgiliau newydd er mwyn ein galluogi ni i ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd. Rydym yn dda iawn gyda bod yn gynhyrchwyr bwyd sylfaenol, ond nid ydym cystal am ei brosesu yma yng Nghymru mewn gwirionedd fel y gallwn ychwanegu gwerth at economi Cymru yn hytrach nag at economi rhywun arall. Tybed a allech chi roi unrhyw arwydd i ni o ran sut y gallem wella niferoedd y prentisiaethau sy'n mynd i ddulliau newydd o ddyfrhau, gan ddeall sut y gall cyfrifiaduron fod yn olrhain beth yw cydbwysedd y pridd, ac ychwanegion—mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n gofyn am sgiliau manwl ac yn sicr nid oes raid ichi fod yn gryf yn gorfforol.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei sylwadau. Mae hi'n siŵr o fod yn iawn—a dyna pam yr ydym ni'n rhoi'r pwyslais ar brentisiaethau ar lefel 3A ac yn uwch—bod y dystiolaeth yn eglur iawn bod prentisiaethau lefel uwch yn darparu'r sgiliau gwerth uwch ac yn gwella cyfleoedd bywyd y sawl sy'n eu cwblhau, a dyna pam ein bod ni wedi cymryd y penderfyniad i flaenoriaethu sgiliau ar y lefel hon. Mae'n amlwg nad yw hynny heb ei anawsterau na'i feirniaid, ond mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu ein bod yn iawn i wneud hynny.
Yn cydbwyso â hynny mae rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi ar y diwedd, Jenny Rathbone, am yr angen i gefnogi pobl mewn diwydiannau sylfaenol sy'n draddodiadol wedi bod â sgiliau is. Mae angen inni greu cyfres o sgiliau fel y gall pobl esgyn yr ysgol. Mae'r enghreifftiau a roesoch chi yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn dangos, hyd yn oed mewn meysydd fel cynhyrchu bwyd a gofal, y ceir gweithgarwch gwerth uwch ychwanegol bob amser. Mae datblygiad amaethyddiaeth fanwl, er enghraifft, yn gofyn am fwy o wybodaeth dechnegol.
Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei adolygu'n barhaus. Mae'r garfan gyntaf o brentisiaethau gradd yn canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol a pheirianneg, a fyddai'n sicr yn agored i rai o'r dulliau yr ydych chi wedi eu trafod. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cadw llygad arno fel y mae'r dystiolaeth yn dod i'r amlwg. A dyna bwynt allweddol ein dull ni o weithredu yng Nghymru—mae hyn yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Rydym yn cymryd y dystiolaeth oddi wrth y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, oddi wrth wybodaeth am y farchnad lafur, ac oddi wrth gyflogwyr wrth gadw ein cynnig dan adolygiad, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd i'r un graddau yn Lloegr.
Mae'r pwyntiau a wnaed ar anabledd a neilltuo lleoedd ar gyfer grwpiau gwarchodedig yn rhai da. Lansiwyd ein cynllun gweithredu ar anabledd yn ddiweddar, fel y soniais i, a gwnaed hyn trwy ymgynghori â chyrff anableddau. Mae'n nodi ein hagenda uchelgeisiol o ehangu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl anabl. Ond mae hwn yn faes yn gyffredinol nad ydym ni'n cyflawni'n ddigonol ynddo, ac yn sicr byddai'n dda gennyf gael gwybod am unrhyw syniadau sydd gennych chi am bethau y dylem ni fod yn eu gwneud nad ydym ar hyn o bryd yn eu gwneud nac yn ymgynghori arnyn nhw. Ond roeddech chi'n iawn i'n herio ni yn hynny o beth. Mae'r un peth yn wir am fater y rhywiau. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Fel y dywedais, fel rhan o'n pecyn cymorth cydraddoldeb, rydym wedi cynhyrchu modiwlau ar ryw ac ar ragfarn, ac rydych chi'n iawn i nodi'r mater. Rydym wedi cymryd rhai camau; rwy'n siŵr bod mwy y gallem ni ei wneud, ac yn sicr byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw awgrymiadau sydd gan yr Aelodau.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Dirprwy Weinidog, rhoddodd UKIP groeso i'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2017 eich bod wedi ymrwymo i sefydlu 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod o bum mlynedd. Am lawer yn rhy hir bu hon yn elfen o dwf economaidd a gafodd eu hesgeuluso. Rydym ni'n credu hefyd y bu canolbwyntio ar brentisiaethau uwch lefel 3 yn benderfyniad doeth, gan fod meincnodi wedi dangos mai yn y fan hon y ceir yr elw mwyaf ar fuddsoddiad. Dywedwyd ar y pryd hefyd y byddai gwell mesur ar berfformiad, llwybrau mwy amlwg, mwy o ymwybyddiaeth, niferoedd cynyddol yn cymryd pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac integreiddio cynyddol rhwng prentisiaethau ac addysg bellach. A wnaiff y Dirprwy Weinidog gadarnhau bod y dyheadau hyn hefyd yn cael eu cyflawni, yn ogystal â'r cynnydd yn y niferoedd?
Dirprwy Weinidog, mae'r rhai a gafodd eu magu yn y 1960au a'r 1970au wedi elwa ar brentisiaethau a oedd yn para am dros bum mlynedd. Dysgodd y rhain i'r cyfranogwyr nid yn unig y sgiliau ar gyfer eu gwaith, ond sut i ymddwyn yn y gweithle a rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb iddyn nhw. Yn wir, gellid dweud fod hynny wedi gwneud i'r rhai dan sylw fod yn fwy uchelgeisiol, gan eu galluogi i gyfranogi mewn rheolaeth a swyddi uwch o fewn amgylchedd eu gwaith. Canlyniad net hyn yw ei fod wedi rhoi gwerth ychwanegol i'r gymdeithas gyfan.
Mae'n argoeli'n dda fod 31,360 o raglenni dysgu prentisiaeth wedi cychwyn yn 2017-18—cynnydd, rwy'n credu, o 30 y cant o'i gymharu â 2016-17—a 56,635 ers cyflwyno'r targed o 100,000. Ond rwy'n sylwi bod y niferoedd mwyaf yn y sector cyhoeddus a gofal iechyd. Er bod y rhain, wrth gwrs, i'w croesawu, byddai'n braf gweld cynnydd cymharol mewn prentisiaethau yn y sector preifat. Unwaith eto, mae'n hyfryd nodi bod y rhaglen hon mor llwyddiannus, a'i bod wedi rhagori ar ei thargedau gwreiddiol. Serch hynny, rydym yn clywed bod y llwyddiant hwn bellach yn rhoi straen ar gyllid. Ond, yn sicr, Dirprwy Weinidog, mae'r rhaglen hon gyn bwysiced i'n heconomi ni a'r prentisiaid sy'n ymgysylltu â hi fel ei bod yn hanfodol bod y cyllid ar gael. Nid yw hyn ar gyfer y presennol yn unig, ond hefyd ddyfodol Cymru a'r rhai sy'n dewis byw a gweithio yma. Mae'r gwobrau yno i'w gwireddu. Daw'r prawf, wrth gwrs, ar ddiwedd y prentisiaethau hyn, pan welwn faint sy'n cael swyddi amser llawn amser ac o fewn disgyblaethau eu prentisiaethau.
Un cwestiwn y mae'n rhaid imi ei ofyn yw: a yw'r ffigur o 56,635—cyflawniad o dros 50 y cant—yn cynnwys y rhai a oedd eisoes mewn prentisiaethau cyn y cynllun ac wedi cael eu sugno i'r cynllun newydd, neu a ydyn nhw'n newydd sbon?
Hefyd, onid yw'r Gweinidog yn cytuno na ellir cael cydraddoldeb mewn parch rhwng cymwysterau galwedigaethol a rhai yn y maes academaidd heb i brentisiaid gael eu hariannu yn yr un ffordd yn union â'r rhai mewn prifysgolion neu golegau?
Wel, hoffwn i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau. O ran y cwestiwn ar gyllid, mae rhywfaint o gamarweiniad wedi digwydd ar ran Llywodraeth y DU ynglŷn ag ariannu'r prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i adlewyrchu'r ardoll. Treth ar fusnesau yw'r ardoll, mewn gwirionedd, ac nid ydym wedi gweld y cyllid yn cael ei drosglwyddo—cafodd rhyw £120 miliwn ei dorri gan y Llywodraeth yn Lloegr ar brentisiaethau'r sector cyhoeddus, ac wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni er mwyn ariannu'r cynllun hwn. Felly, nid yw'r arian wedi cynyddu'n gyffredinol, ac, fel y nodais ar y dechrau, er bod ein dull ni wedi ei gyfiawnhau yn y ffordd y mae ein cynllun ar y trywydd iawn, mae'r cynllun yn Lloegr dros ei gyllideb a 25 y cant yn is na'r targed. Felly, rwy'n credu ein bod yn hyderus mai ein dull gweithredu ni yw'r dull cywir. Ac, fel y gofynnodd David Rowlands, nid canolbwyntio ar y niferoedd yn unig yw hyn, ond mae'n rhan o weithredu economaidd ehangach lle y byddwn yn teilwra ein prentisiaethau i gefnogi economi Cymru, i ddarparu sgiliau uwch sy'n canolbwyntio ar anghenion economïau rhanbarthol, i gynnig gwell llwybrau o addysg i gyflogaeth a hefyd i annog mwy o gyfraniad gan gyflogwyr. Nid mater i'r wladwriaeth yn unig yw darparu prentisiaethau; mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i fusnesau ei wneud. Rydym ni'n hapus i weithio mewn partneriaeth, ond, yn rhy aml, mae rhai cyflogwyr yn gobeithio gwthio eu costau ar y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn hyderus i'w wthio yn ôl.
O ran y cwestiwn penodol ynghylch a oedd y ffigur o 56,635 yn cynnwys pobl sydd eisoes mewn cyflogaeth neu beidio, gallaf gadarnhau nad yw'r ffigur hwnnw yn cynnwys pobl sydd wedi gadael yn gynnar neu sydd wedi trosglwyddo arnyn nhw, ac felly mae hwn yn ffigur annibynnol.
Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Mae prentisiaethau yn hollbwysig, ac rwyf i o'r farn gref mai prentisiaid heddiw yn arweinwyr y dyfodol. Fe glywsom ni'n gynharach fod yr wythnos ddiwethaf yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. I nodi hynny, cefais gyfle ardderchog i fynd yn ôl at fy ngwreiddiau fel prentis o beiriannydd. Cefais fy nhywys o gwmpas DRB Group ar stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, lle y treuliais i fy amser yn brentis, ac roeddwn i'n gallu gweld sut y mae'r cwmni wedi newid, ac wedi symud ymlaen ers i mi dreulio amser yno. Cefais gyfle hefyd i gwrdd ag un o'm hetholaeth a oedd wedi ennill gradd prifysgol, Joel Thomas, sydd bellach wedi mynd yn ôl i astudio i fod yn ddadansoddwr cymorth i brentisiaid er mwyn ennill y sgiliau gwerthfawr hynny yr ydych yn eu dysgu wrth fod yn y gweithle.
Rydym ni newydd glywed yng nghyfraniad David Rowlands nawr am gyfleoedd wrth dyfu i fyny yn yr 1960au a'r 1970au. Felly rwy'n croesawu cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol prentisiaethau i fynd i'r afael â'r bylchau mewn sgiliau a chyfleoedd, oherwydd rydym yn dal i deimlo effeithiau Llywodraeth y DU a arweiniwyd gan Thatcher yn ôl yn y 1980au ar y mater hwn.
Rwyf eisiau dechrau drwy wneud y pwyntiau yr wyf wedi eu gwneud o'r blaen gerbron yn y Siambr hon—rwy'n ymwybodol fy mod wedi eu gwneud gerbron Gweinidogion blaenorol yn y Llywodraeth a oedd â phrentisiaethau a dysgu gydol oes yn eu portffolios. Mae'n debyg i gyfraniad Bethan Sayed, sy'n ymwneud â hyfforddi prentisiaid a sut yr ydym yn eu hyfforddi nhw.
Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol ac yn bwysig iawn, iawn i ddyfodol prentisiaid a phrentisiaethau'r dyfodol i gael cydweithwyr yn y gwaith â'r sgiliau angenrheidiol i drosglwyddo eu gwybodaeth i'r prentis? Gwyddom y bydd llawer o'r rhai sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi prentisiaid yn cyrraedd oedran ymddeol mewn rhai diwydiannau, fel y gwnaeth fy mentor i pan ymddeolodd yn ddiweddar. Felly, Dirprwy Weinidog, fy marn i yw bod angen inni hyfforddi prentisiaid a raddiodd yn ddiweddar i fod yn hyfforddwyr, a bydd hynny'n ein galluogi ni i gyflawni'r canlyniadau sy'n angenrheidiol i'r dyfodol.
Felly, gyda hynny mewn golwg, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i geisio ymdrin â'r mater hwn? A wnaiff y Dirprwy Weinidog addo y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, colegau a diwydiant, er enghraifft, i greu pecyn ar gyfer prentisiaid graddedig i ddysgu'r sgiliau angenrheidiol i drosglwyddo eu gwybodaeth nhw i brentisiaid y dyfodol?
Hefyd, ar y mater o sicrhau bod gennym ni ystod wahanol o brentisiaethau, sydd hefyd yn rhywbeth pwysig iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni economi amrywiol, caiff fy etholaeth i ei galw'n gartref i beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg, a hynny'n briodol, ac mae gennyf i lawer i'w ddweud am hynny oherwydd dyna yw fy nghefndir i. Fodd bynnag, ceir cyfleoedd mewn llawer o sectorau eraill yn yr economi, ac mae angen inni wneud mwy i greu'r cyfleoedd hynny yn y sectorau na fyddai pobl yn eu hystyried yn draddodiadol yn feysydd ar gyfer prentisiaeth.
Dirprwy Weinidog, rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud hyn eisoes, ond a wnewch chi barhau i weithio i sicrhau bod pobl yn cael ystod amrywiol o gyfleoedd i greu ac ennill prentisiaethau mewn marchnadoedd nad ydyn nhw yno ar hyn o bryd? Ni ddylem byth anghofio mai buddsoddiad yn ein dyfodol yw prentisiaethau. Rydym yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol i ffynnu, rydym yn rhoi cyfle i aelodau ein cymuned ailhyfforddi a gwella eu sgiliau, ac mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i'w cefnogi nhw, i gefnogi'r diwydiant a chefnogi prentisiaethau. Diolch.
Diolch, Jack Sargeant, am y sylwadau hynny, ac mae'n rhaid imi ddweud bod tystiolaeth uniongyrchol gan rywun sydd wedi bod trwy'r system prentisiaeth yn weddol ddiweddar yn ychwanegu'n fawr at ddyfnder y drafodaeth a gawn yn ein Cynulliad Cenedlaethol. A gwn o'm profiad i, ar ôl bod mewn cyfarfodydd gyda Jack yn Tata, y gall ef dynnu ar ei brofiad ei hun i lywio'r drafodaeth honno, ac rwyf i o'r farn bod hynny'n ychwanegu llawer iawn i'n Senedd ni.
Ar bwynt gweithlu sy'n heneiddio a gwybodaeth yn cael ei cholli, rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt treiddgar iawn ynglŷn â gwerth yr hyfforddiant y gallai prentisiaid graddedig ei roi. Byddaf yn sicr o roi sylw i hynny ac yn ei drafod gyda swyddogion ac yn ysgrifennu ato gyda'n hymateb ni.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar reoli'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Lluniwyd tirwedd ac arfordir Cymru gan rymoedd naturiol grymus ac ysbrydoledig sy'n parhau i ddylanwadu ar le a sut yr ydym yn byw. Un o'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu yw sut orau i liniaru'r risgiau ac addasu i newid fel unigolion, cymunedau ac fel cenedl. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y gwaith pwysig yr ydym ni'n ei wneud i gynnal gweithgarwch rheoli risg arfordirol a llifogydd yng Nghymru.
Gall llifogydd gael effaith ddinistriol a pharhaol ar fywydau'r rhai sy'n dioddef yr effeithiau hyn, a dyna pam fod hynny'n dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yr hydref diwethaf, roedd Storm Callum yn ein hatgoffa ni pam fod ein gwaith parhaus a'r buddsoddi yn y maes hwn yn parhau i fod yn hanfodol. O ganlyniad i'r storm honno, effeithwyd ar dros 270 eiddo ledled Cymru gan lifogydd, gyda mwy o ddifrod i gartrefi, ysgolion, ffyrdd a siopau ar draws y wlad—y pethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw ac yn aml yn eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd. Mae digwyddiadau o'r fath yn ein hatgoffa pam fod angen inni fod yn barod, pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwbl hyddysg ac yn ymwybodol o'r risgiau sy'n ein hwynebu, a pham fod yn rhaid inni barhau i gynyddu cydnerthedd yn ein cymunedau.
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru risg llifogydd a gwaith amddiffyn yr arfordir ar draws Cymru. Er budd y rheini sy'n byw â'r risg fwyaf, rydym ni'n blaenoriaethu ein buddsoddi er mwyn amddiffyn eiddo. Eleni rydym ni wedi gweld cynlluniau ym Morth-y-gest yng Ngwynedd, Mochdre yng Nghonwy, Y Rhath yng Nghaerdydd, Porthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym Mhontarddulais, y bydd y Prif Weinidog a minnau'n eu hagor yn swyddogol yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'r gweithiau hyn yn unig wedi lleihau'r risg i dros 960 eiddo, sy'n golygu bod llawer o deuluoedd a chymunedau bellach yn fwy diogel nag yr oedden nhw ac yn gallu byw heb y pryderon a ddaw yn sgil tywydd garw.
Heddiw, fe rannaf drosolwg o'r rhaglenni amddiffyn yr arfordir a llifogydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac amlygu rhai o'r meysydd allweddol o waith y byddwn yn eu datblygu. Maen nhw'n cynnwys ymgynghori ynghylch strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol a sefydlu pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol statudol newydd ar gyfer Cymru. Bydd y flwyddyn ariannol sy'n dod yn gweld dechrau cyfnod adeiladu tair blynedd ar weithiau i ddiogelu ein cymunedau arfordirol yn well. Bydd y rhaglen rheoli risg arfordirol yn darparu buddsoddiad o dros £150 miliwn ar draws Cymru, gan leihau risg i dros 18,000 eiddo. Mae'r cynlluniau arfordirol sy'n dechrau'r flwyddyn nesaf yn cynnwys dwyrain y Rhyl, Aberafan a'r Felinheli. Rwyf hefyd wedi neilltuo cyllid o gyllideb gyfalaf y flwyddyn hon ar gyfer dylunio a datblygu cynlluniau yn y dyfodol. Rwy'n annog awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, gan gydnabod y cyfle unigryw y mae'r rhaglen hon yn ei gynnig.
Yn ychwanegol at y rhaglen rheoli risg arfordirol, dros y 12 mis nesaf byddwn yn buddsoddi dros £50 miliwn ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru, gan flaenoriaethu lleihau perygl i eiddo. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf o £27 miliwn ar gyfer cynlluniau newydd, cynnal a chadw asedau presennol a datblygu cynlluniau yn y dyfodol. Byd yr arian hwn, er enghraifft, yn gymorth i gwblhau cynlluniau ym Miwmares a Thalgarth, yn ogystal â dechrau gwaith adeiladu yn Llansannan, Llan-maes, Casnewydd a'r Trallwng. Yn sgil cwblhau'r cynlluniau yn y rhaglen, bydd dros 1,200 eiddo, gan gynnwys dros 850 o gartrefi, ledled Cymru yn elwa.
Yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn darparu dros £2.8 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd hyn yn cefnogi datblygu a dylunio cynlluniau newydd pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynyddu diogelwch a chydnerthedd mewn lleoedd fel Llangefni, Cwmbach, Aberteifi a Chastellnewydd Emlyn.
Byddaf hefyd yn parhau i neilltuo £1 miliwn ar gyfer y grant gwaith graddfa fechan, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol ymgymryd â mân gynlluniau a gwaith cynnal a chadw er budd cymunedau. Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £5.8 miliwn fel hyn, ac mae wedi cael effaith wirioneddol, gan helpu mwy na 2,200 eiddo ar draws Cymru.
Mae Cymru eisoes wedi gosod y meincnod o ran ei hymagwedd at systemau draenio cynaliadwy, neu SuDS, ar gyfer datblygiadau newydd. Mae hyn yn ategu ein dull o reoli dŵr mewn ffordd fwy naturiol, ac rwy'n falch o weld hyn yn dod i'r amlwg yn y rhaglen lifogydd.
Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cefnogi cynlluniau sy'n cynnwys rheoli llifogydd yn naturiol ym Metws-y-coed ac Abergele yng Nghonwy ac yng Nghwmaman yn Rhondda Cynon Taf. Rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi o weld nifer o gynlluniau nid yn unig yn edrych ar faterion mewn un lleoliad, ond yn ymdrin â dalgylchoedd cyfain, gan fynd i'r afael â risg ar draws ardal ehangach. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisiau ei hybu a byddaf yn nodi ein syniadau yn ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol.
Wrth inni edrych yn ehangach, mae cyfleoedd yn codi i weithio mewn partneriaeth ag eraill y bydd eu hasedau yn elwa o'r herwydd. Mae ceisio cyfraniadau o ffynonellau o'r fath yn hanfodol yn y cyfnod hwn o gyllidebau heriol, gwneud y gorau o'n buddsoddiad ac adeiladu cydnerthedd ehangach. Mae'n galondid gweld bod ystyriaethau o'r fath eisoes yn dechrau digwydd, gyda chymdeithasau tai, darparwyr trafnidiaeth a chyfleustodau yn cael eu nodi'n bartneriaid posibl. Mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau.
Gyda buddsoddiad sylweddol yn digwydd ar draws y wlad, rwyf eisiau gweld manteision y cyllid hwn yn cael eu gwireddu. Rhan allweddol o hyn yw dangos effeithiau asedau newydd a gwell yn ein mapiau llifogydd a'r wybodaeth ar-lein. Mae hyn yn helpu inni wireddu'r gwelliannau economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil gwneud y gymuned yn fwy diogel. Mae hefyd yn galluogi pobl Cymru i ddeall y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu, gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y lleoedd y maen nhw'n byw ynddyn nhw a gwybod sut i gynnal eu hunain petai llifogydd yn digwydd. Yn ein strategaeth newydd, rwy'n gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ganolbwyntio ar y gwelliannau hyn a sicrhau y darperir yr wybodaeth ddiweddaraf yn flynyddol i ddangos effaith ein buddsoddiad parhaus. I gefnogi'r gwaith hwn, rwyf unwaith eto yn bwriadu cynnal cyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru yn y flwyddyn sy'n dod, gan gydnabod y gwaith pwysig y mae hyn yn ei gefnogi, gan gynnwys y ddarpariaeth o wybodaeth, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, cynnal a chadw asedau a gwaith ymchwil.
Byddaf yn ymgynghori ynghylch ein strategaeth genedlaethol newydd y gwanwyn hwn, a fydd â phwyslais cryf ar wybodaeth a darpariaethau. Bydd yn egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau, ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y polisi, gan gynnwys annog rheoli risg llifogydd yn naturiol, ac ymgorffori argymhellion o adroddiadau diweddar. Bydd y strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd mapio risg llifogydd i lywio penderfyniadau ynghylch ble'r ydym ni'n buddsoddi ac yn ategu ein polisi cynllunio i gyfeirio datblygu oddi wrth ardaloedd o risg uchel. I gefnogi hyn, bydd mapiau risg llifogydd newydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
Hoffwn orffen, Dirprwy Lywydd, drwy gyhoeddi bod recriwtio ar gyfer y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol newydd wedi'i gwblhau. Bydd y pwyllgor yn darparu cyngor strategol lefel uchel i Weinidogion Cymru ac yn hybu arfer gorau, gan helpu i sicrhau ein bod yn parhau i arwain y ffordd yn y maes hwn a dysgu o waith da sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Mae'r datganiad heddiw yn nodi sut y bydd y Llywodraeth hon yn rhoi rheoli ein hamgylchedd yn gynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau er mwyn lleihau risg arfordirol a llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Cymru.
Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma—rhan 2 ein rhyngweithio y prynhawn yma. Gŵyr unrhyw un sydd yn ymdrin ag unrhyw waith etholiadol am y trallod a ddaw yn sgil llifogydd. Mae ystafell a oedd unwaith yn ystafell fyw, ar ôl dioddef llifogydd, yn ei hanfod yn garthffos. Mae distryw colli eitemau personol, teuluol am byth, ac yna'r aflwydd ariannol oherwydd yr anallu i gael morgais neu i allu gwerthu'r eiddo a symud ymlaen yn drychinebus dan unrhyw amgylchiadau.
Felly, mae'r gallu i Cyfoeth Naturiol Cymru a'i hasiantaethau partner, ynghyd â Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod adnoddau ar gael, yn ofyn difrifol, os mynnwch chi, y mae pobl yn ei roi ar Lywodraeth i sicrhau bod adnoddau ar gael. Ond mae'n gyfrifoldeb enfawr pan rydych chi'n ystyried y cyfrifoldebau arfordirol sydd gennym ni yma yng Nghymru, ynghyd â'r dyfrffyrdd mewndirol yn ogystal â'r llifogydd digymell yr ydym ni'n eu gweld. Heddiw, wrth ddod i'r Cynulliad ar yr A48, oherwydd y fflachlifoedd, gwelais gar a oedd wedi sglefrio ar y dŵr allan o reolaeth. Gellid dadlau nad oedd y system ddraenio yn addas i ymdrin â maint y dŵr a darodd ar yr adeg benodol honno. Felly, nid wyf yn genfigennus o rai o'r penderfyniadau y mae'n rhaid ichi, a chithau'n Weinidog, eu gwneud neu yn wir y cyrff noddi yr ydych chi'n amlwg yn eu hariannu, megis Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ond mae'n hollbwysig ein bod ni'n cael hyn yn gywir, ac rwy'n awyddus deall safbwynt y Gweinidog ynghylch hyn: a oes unrhyw encilio o ardaloedd yng Nghymru a allai fod ymhen 20, 30, 40, 50 mlynedd mewn perygl o erydiad arfordirol neu lifogydd parhaol? Oherwydd dim ond tair neu bedair blynedd yn ôl, cafwyd adroddiadau ein bod yn ystyried o ddifrif, o safbwynt strategol, encilio o rai ardaloedd gan y byddai hi'n rhy ddrud i atal ac i roi arian er mwyn amddiffyn rhag y llifogydd hynny. Ac rwy'n credu y byddai cael sicrwydd nad yw hyn yn ystyriaeth brif ffrwd, nid yn unig o ran y Llywodraeth ond o ran ein hasiantaethau a noddir, i'w groesawu'n fawr.
Rwyf hefyd yn sylwi yn y datganiad ichi sôn bod y gwaith o sefydlu'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol newydd wedi ei gwblhau. Byddai'n ddiddorol deall sut fydd y pwyllgor hwnnw'n gweithredu'n wahanol efallai i'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen, er yn gynharach yn y datganiad mae sôn y bydd ymgynghoriadau ynghylch dull rheolaeth strategol newydd o ran perygl llifogydd ac erydu arfordirol a sefydlu'r pwyllgor strategol newydd ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer Cymru. Nawr, efallai fy mod wedi camddarllen hynny, ond ymddengys bod cadarnhad yn ddiweddarach yn y datganiad bod y pwyllgor wedi ei sefydlu eisoes, ac eto, yn gynharach yn y datganiad mae sôn am ymgynghori ar y ffordd y bydd yn gweithio a'r ffordd y gallai gyflawni ei ddyletswyddau. Felly, byddwn yn ddiolchgar cael gwybod a fydd ymgynghori pellach, hyd yn oed os yw pawb wedi'i benodi i'r pwyllgor hwnnw. Ond, yn bwysicach, byddai'n dda cael gwybod pa gapasiti newydd fydd gan y Gweinidog a'r cynllunio ar gyfer atal llifogydd ar draws Cymru yn sgil hyn.
Mae'n bwysig ac yn hanfodol deall sut y defnyddir y system gynllunio i gynorthwyo ac i helpu mewn materion atal llifogydd. Dim ond ichi yrru o amgylch Caerdydd, er enghraifft—y Prif Weinidog yma yn ei etholaeth ei hun—cyflwynir nifer o ardaloedd arwyneb solet i fannau preswyl a fyddai'n hanesyddol wedi bod yn erddi neu ardaloedd a oedd yn gweithredu fel pwll draenio ar gyfer yr eiddo penodol hwnnw. A dyna achos cyffredin fflachlifoedd mewn llawer o gymunedau, lle nad oes gan y dŵr unrhyw le i fynd, yn y bôn. Fe wnaethoch chi sôn am y systemau draenio cynaliadwy a'r rheoliadau newydd a gyflwynwyd. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth, ond fe welwn ni ddirywiad cyson o hyd, yn enwedig mewn mannau trefol, o ran y draenio naturiol a oedd yn bodoli pan gafodd llawer o'r ystadau hyn eu datblygu 30, 40, 50 mlynedd yn ôl.
Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn argymell gwelliannau o ran mapio a deall y defnydd o fapiau. A minnau'n Aelod yn y sefydliad hwn ers rhyw 12 mlynedd bellach, rwyf wedi ymdrin â gwahanol faterion yn ymwneud â llifogydd mewn cymunedau o Nant y Rhath i Lan-maes a Llanilltud Fawr, a'r Barri hefyd, a phan rydych chi'n dechrau edrych ar y mapiau hyn—hoffwn i feddwl fy mod yn berson weddol hyddysg, ond byddai hyd yn oed pobl mewn cymdeithas, y cyhoedd yn gyffredinol, yn cael trafferth deall yr union ofynion a osodir ar y broses o wneud penderfyniadau. Felly, byddai symleiddio hynny mewn unrhyw ffordd i'w groesawu'n fawr iawn.
Yn olaf, a gaf i bwyso ar y Gweinidog i efallai ymhelaethu ar sut y mae'n ceisio rhannu cyfrifoldeb a chostau. Mae llawer o asedau o amgylch Cymru yn asedau ar y cyd. Nid yw hyn yn dod i ran—Mae gennyf i ychydig o gydymdeimlad â'r Llywodraeth pan ofynnir yn gyson iddi am arian i atal llifogydd pan, mewn gwirionedd, yr ystyriwch yr A55 a llinell reilffordd arfordir y gogledd hefyd, siawns nad oes budd ar y cyd gyda chyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat yn dod at ei gilydd gyda rhai adnoddau a rhai asedau a fyddai'n helpu i wireddu prosiectau.
Felly, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, ond byddwn yn dra diolchgar cael atebion o sylwedd i'r cwestiynau a ofynnais, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr iawn, Andrew R.T. Davies, am y cwestiynau hynny, a chredaf ichi agor a mynegi'n dda iawn yr effaith ddinistriol y mae llifogydd yn eu cael ar unigolion, nid yn unig ar faterion ariannol, ond hefyd ynghylch pethau sentimental, ac nid wyf yn credu y gallwn ni danbrisio'r effaith ar unigolyn.
Mae'n rhaid i benderfyniadau cyllideb anodd gael eu gwneud, ond credaf drwy fuddsoddi dros £350 miliwn yn ystod oes y Cynulliad hwn, rydym yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyn. Fe wnaethoch chi ofyn a oeddem yn mynd i droi cefn ar ein harfordir oherwydd anawsterau llifogydd a digwyddiadau eraill nes ymlaen. Ni welais i ddim byd yn glanio ar fy nesg a fyddai'n awgrymu hynny, felly mae'n hollol briodol ein bod yn parhau i roi arian i'n busnesau a'n cartrefi lle gallwn ni eu hamddiffyn.
Soniais am y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol newydd. Mae hwn yn disodli'r pwyllgor rheoli perygl llifogydd ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi bod yn recriwtio ar gyfer y pwyllgor hwn. Cafodd y cadeirydd ei gyhoeddi nôl ym mis Medi—na mewn gwirionedd ddechreuodd ar ei swydd ar 1 Medi 2018, ac rydym wedi cymryd ein hamser yn cael y pwyllgor hwn at ei gilydd. Bydd yn gorff cynghori a fydd yn fy nghynghori i a chydweithwyr o awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch pob ffynhonnell o lifogydd ac erydu arfordirol. Bydd ganddo swyddogaeth bwysig iawn, ond dywedais hefyd ein bod yn paratoi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi bod yn cydweithio'n agos iawn â'n rhanddeiliaid, ac mae hynny'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n cynnwys awdurdodau lleol a meysydd polisi eraill o ran y cynnwys a'r mesurau posib y bydd eu hangen wrth i ni ymgymryd â hwn.
Rydym ni hefyd yn mynd i ymgynghori ynghylch y cyngor cynllunio newydd o ran nodyn cyngor technegol 15, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny ac at y mapiau perygl llifogydd a fydd ar gael i bobl. Fe wnaethoch chi sylw am symleiddio, rwy'n credu bod hynny'n hollol briodol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi gwybodaeth dda am berygl llifogydd i unigolion a bod gennym ni gynllunio strategol. Felly, bydd y ddogfen ddrafft, y strategaeth ddrafft, mewn gwirionedd yn nodi i ba gyfeiriad y bydd rheoli perygl llifogydd yn mynd iddo yn y dyfodol. Bydd yn annog cydweithio fel dalgylchoedd i fynd i'r afael â pherygl llifogydd, a bydd yn gweithio gydag eraill. Rwy'n awyddus iawn i weld mwy'n cael ei wneud ynglŷn â rheoli llifogydd yn naturiol.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at ein deddfwriaeth newydd sy'n ymwneud â SuDS—systemau draenio cynaliadwy—a chredaf fod yr ymrwymiad i reoli dŵr yn ein hamgylchedd yn well yn sylfaen hanfodol ar gyfer cyflawni ffyniant i bawb a chyflawni ein nodau llesiant tymor hir ar gyfer pobl Cymru ac, yn sicr, bu croeso i'r rheoliadau systemau draenio cynaliadwy a gyflwynwyd gennym. Fe sonioch chi—heddiw cawsom y glaw trwm, fwy na thebyg wrth inni i gyd ddod i'r gwaith y bore yma, ac unwaith eto, gall effeithiau llifogydd dŵr wyneb fod yn ddinistriol. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gar, ond yn sicr, gall fod yn ddinistriol i ddinasyddion a chymunedau. Ac, unwaith eto, gall y gost i economi Cymru fod yn sylweddol. Cawsom storm Callum yr hydref diwethaf a dangosodd effaith honno y perygl i eiddo a ddaw yn sgil llifogydd dŵr wyneb, ac rwy'n credu bod y peryglon hynny yn amlwg yn cynyddu oherwydd newid yn yr hinsawdd a threfoli.
Credaf ichi wneud pwynt perthnasol iawn ynghylch cyfrifoldebau a chostau, a cheir enghraifft dda iawn o hynny—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at yr A55—yn etholaeth Darren Millar. Y cynllun y mae'r awdurdod lleol yn ei gyflwyno yn y fan yna: y pethau a fydd yn elwa o hwnnw yw'r promenâd, y carthffosydd a'r llinell reilffordd. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad Llywodraeth Cymru'n unig sy'n cyfrannu, dylem ni i gyd gyfrannu. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Clwyd. Rydym ni'n cael trafodaethau hefyd gydag adran Ken Skates yma a'r prif fuddiolwyr a grybwyllais: Network Rail, Dŵr Cymru, gan fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig nad y Llywodraeth yn unig sydd yn gorfod rhoi arian.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Dechreuaf gyda'r pwynt yna, rwy'n credu oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn siarad am y bobl eraill hyn yn dod ynghyd dros y rhan fwyaf o'r degawd, ac mae'n dal yn eithaf amwys, mae'n rhaid imi ddweud. Bu sôn am gwmnïau yswiriant. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Network Rail, ac, ydy, yn amlwg, mae llinell reilffordd arfordir y gogledd yn dueddol o erydu a dioddef llifogydd, a Dyffryn Conwy—faint o weithiau y mae'r llinell honno wedi cau oherwydd llifogydd ac erydu yno? Ond rydym ni'n dal i sôn am 'gyfleoedd yn codi' a 'phartneriaid posib'. Mae hyn 10 mlynedd yn ddiweddarach. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf yn ei ofyn yw—. Gallwch roi ddatganiad di-fflach inni, ond dywedwch wrthym ni: beth ydych chi'n ei wneud i ddod â'r bobl hyn ynghyd? Yn amlwg, mae arian yn y sector cyhoeddus yn crebachu, ond mae'n crebachu—. Nid yw'r sector preifat yn nofio mewn arian ychwaith, ac nid yw cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn mynd i roi inni'r trawsnewid yr ydym ni eisiau ei weld yn hynny o beth. Felly, beth yw hyn? Ai cynllunio? Ai rheoliadau? Rhowch inni rywbeth penodol yr ydych chi'n ei wneud i ddod â'r bobl hyn ynghyd ac nid yr ystrydebau hyn yr ydym ni wedi dod i arfer â nhw dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, dyna'r rhan negyddol. [Chwerthin.]
Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad, ac nid wyf eisiau ei nodweddu drwy fod yn gwbl feirniadol o bopeth sydd ynddo, er fy mod i yn ei gweld hi'n ddiddorol, mewn gwirionedd, eich bod yn dweud bod nifer o gynlluniau nid yn unig yn edrych ar faterion mewn un lleoliad ond yn ystyried dalgylchoedd cyfain. Siawns na ddylai pob cynllun ystyried dalgylchoedd cyfain, er hynny gyda gwahanol fathau o atebion a mesurau lliniaru, oherwydd, fel arall, nid yw'n ddim ond ateb dros dro i geisio mynd i'r afael â pherygl llifogydd ehangach a mwy sylfaenol. Ac er eich bod yn rhoi inni ddarlun da, mewn gwirionedd, o ran y dadansoddiad daearyddol o fuddsoddi, tybed a wnewch chi ddangos inni, nid o reidrwydd yn eich ateb, ond efallai ar ffurf ysgrifenedig, yn glir y rhaniad yn yr arian yr ydych chi'n ei fynegi yma rhwng amddiffynfeydd caled rhag llifogydd a mesurau lliniaru ysgafnach. Pa gyfran o'r arian hwn sy'n mynd i gael ei gwario ar fyndiau concrid a pha gyfran sy'n mynd i gael ei buddsoddi mewn plannu coed, mewn adfer mawnogydd a'r mesurau ysgafnach hynny sydd, wrth gwrs, yn creu budd tymor hwy na fyddai cymysgu mwy a mwy o goncrit yn ei wneud?
Ac os ydym ni eisiau edrych ar bethau yn fwy cynhwysfawr fyth, yna, pa fanteision ychwanegol eraill allwn ni eu mwynhau yn sgil y buddsoddiadau hynny? Soniwyd am y glaw yn gynharach—nid wyf byth yn cwyno pan fydd hi'n bwrw glaw oherwydd ei fod yn danwydd ynni dŵr rhad ac am ddim. Mae'n arian sy'n disgyn o'r awyr, ac mae angen inni ei harneisio. Felly, sut ydym ni'n bwriadu defnyddio a gweithredu, drwy'r prosiectau rheoli llifogydd, cyfleoedd ar gyfer ynni dŵr er enghraifft? Ac, wrth gwrs, fe wyddom ni fod cynigion y morlyn llanw yn cynnig manteision enfawr, nid yn unig o ran ynni adnewyddadwy, newid yn yr hinsawdd a chreu swyddi, ond hefyd o ran lliniaru llifogydd ar hyd yr arfordir ac erydu arfordirol hefyd. Felly, sut mae ymgorffori'r rhain i rai o'r pethau y buoch chi'n sôn amdanyn nhw yma heddiw?
Rydych chi'n dweud eich bod am gynnal cyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru yn y flwyddyn sydd i ddod; mae cynnal yn un peth, ond, wrth gwrs, os mai dim ond ei chynnal y byddwch chi, yna mewn gwirionedd mae'n doriad mewn termau real. Felly, a yw'n deg disgwyl iddyn nhw weithredu ar yr un graddau os ceir toriad mewn termau real? Ac rwy'n dod yn ôl eto, fel y gwnaf bob amser pan ymdrinnir â Chyfoeth Naturiol Cymru, at y cwestiwn a yw'n cael yr adnoddau priodol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau yn y ffordd y byddem yn dymuno ac yn disgwyl.
Yn olaf rydych chi'n dweud bod eich polisi cynllunio yn mynd i gyfeirio datblygu oddi wrth ardaloedd risg uchel. Mae hynny'n wych. A yw hynny'n golygu, mewn ystyr ddiriaethol, eich bod chi'n diweddaru canllawiau cynllunio? Nid yw hysbysiad cyngor technegol 15 wedi ei ddiweddaru ers 2004, felly onid yw hi'n bryd gwneud hynny? A'r mapiau perygl llifogydd newydd a fydd yn cael eu cyhoeddi, wel, os gwelir bod tir bellach, yn ôl y mapiau perygl llifogydd newydd, yn dueddol o ddioddef llifogydd; os yw'r tir hwnnw wedi ei neilltuo ar gyfer datblygu, a wnewch chi sicrhau na chaiff ei ddatblygu? Oherwydd os na wnewch chi hynny, yna, yn amlwg, bydd yn creu problemau i genedlaethau'r dyfodol.
Diolch, Llyr Huws Gruffydd. Felly, fe ddechreuwn ni gyda Hen Golwyn, ac unwaith eto, rydych chi'n dweud wrth Lywodraeth Cymru, 'Pryd fyddwch chi'n dod â'r bobl hyn ynghyd?' Mae hwn yn fater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y nhw yw'r rhai sy'n dod atom ni'n gyson yn gofyn am arian, a nhw yw'r rhai a ddylai fod yn siarad â'r partneriaid hyn. Mae fy swyddogion wedi siarad â'r awdurdod lleol, wedi siarad â Network Rail, wedi siarad â Dŵr Cymru, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i'r pwyslais hwn ar Lywodraeth Cymru i fod yr hwylusydd bob amser newid. Felly, mae'r sgyrsiau hynny yn mynd rhagddynt. Penderfynais i beidio â chynnwys y cynllun hwn ar gyfer ei ariannu drwy'r rhaglen gyfalaf hon gan nad yw'n bodloni amcanion y rhaglen, i leihau'r risg i eiddo, ac mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth—i leihau'r risg i eiddo a busnes. Ond rwyf yn cydnabod yr heriau yn amlwg y mae seilwaith lleol pwysig, megis yr A55, yn gorfod eu gwrthsefyll. Felly, mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhannau eraill o'r Llywodraeth—fe wnes i grybwyll bod swyddogion fy nghyd-Aelod, Ken Skates hefyd yn ymwneud â hyn, o safbwynt trafnidiaeth—a'r partïon allanol i edrych ar sut y gellir ariannu'r gweithiau amddiffyn arfordirol hyn ar y cyd.
Credaf eich bod yn eithaf cywir ynghylch amddiffynfeydd caletach ac ysgafnach. Ni allaf roi ichi'r canrannau, ond gallaf ddyfalu'n dda iawn y bydd yr amddiffynfeydd caletach yn flaenoriaeth lawer uwch oherwydd, yn anffodus, rydych chi'n meddwl am amddiffyn rhag llifogydd ac mae pobl yn meddwl am goncrid. Felly, dyna pam fy mod i'n awyddus iawn i fynd ar drywydd yr amddiffynfeydd rheoli risg llifogydd anhraddodiadol hyn. Gallant leihau'r perygl o lifogydd, a drwy'r strategaeth genedlaethol, rwyf eisiau annog llawer mwy o'r dulliau naturiol o reoli risg llifogydd. Gallai fod yn gynllun ar wahân, gallai fod yn rhan o gynllun hybrid. Credaf y gallai ategu gwaith peirianyddiaeth. Yn amlwg, mae systemau draenio cynaliadwy yn ymwneud llawer mwy â defnyddio adnoddau naturiol, ac fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, mae'r rheoliadau hynny wedi cael croeso mawr.
Fe wnaethoch chi sôn am y morlyn llanw, ac yn sicr pan oedd Llywodraeth y DU yn edrych ar forlyn llanw Bae Abertawe fel cynllun arbrofol, roeddem ni'n amlwg yn edrych ar eraill, ac roedd gan yr un yn y gogledd lawer o allu a chapasiti amddiffyn rhag llifogydd yn rhan ohono. Felly, yn sicr, nid yw'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy yn unig, onid yw? Mae'n ymwneud â'r manteision ychwanegol a allai ddod yn ei sgil.
Byddwch yn ymwybodol o'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', ac yn sicr, rwy'n credu, o dan y cynlluniau nwyddau cyhoeddus, hoffwn weld llawer mwy o adfer mawnogydd, mannau storio adeg llifogydd, byfferau glaswellt. Rwy'n credu y gallwn ni reoli llethrau mynydd mewn ffordd fwy priodol o lawer. Felly, rwy'n credu, unwaith eto, bydd y polisi amaethyddol ar ôl Brexit yn cynnig cyfleoedd hefyd.
Byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Julie James, y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio, ynghylch TAN 15. Yn amlwg os byddwn yn sylweddoli bod rhai ardaloedd sydd wedi'u neilltuo ar gyfer datblygiadau tai, a'n bod yn sylweddoli bod perygl uchel iawn o lifogydd, yna mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni edrych arno, o ran sut bydd y tir hwnnw yn cael ei drin wedyn.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Llifogydd yw un o'r trychinebau mawr mwyaf cyffredin, ac ar ben hynny gall fod yn un arbennig o ddirdynnol. Mae nifer o astudiaethau yn dangos cynnydd sylweddol mewn iselder, gorbryder a gofid ymhlith y rhai yr effeithir arnynt gan lifogydd. Mae hefyd wedi effeithio ar lawer o bobl yn fy etholaeth i. Rwy'n siŵr y cofiwch y llynedd, disgrifiwyd Aberdâr fel y dref a ddioddefodd fwyaf pan darodd storm Callum, gyda ffyrdd yn cau, trenau wedi eu canslo, mewn un achos bu raid i'r gwasanaeth tân gludo pobl o drên a gafodd ei ddal mewn dŵr llifogydd, ac—efallai yn bwysicach—eiddo preswyl a masnachol yn dioddef llifogydd hefyd. Rwy'n sicr fy mod wedi cynorthwyo nifer o drigolion sydd wedi dod i fy nghymorthfeydd gan ddangos symptomau o archoll sy'n gyffredin ymhlith teuluoedd sydd wedi dioddef llifogydd.
Croesawaf eich sylwadau ynghylch cynlluniau cefnogi yn ymgorffori rheoli llifogydd mewn modd naturiol, gan gynnwys Cwmaman yn fy etholaeth. Gall cynlluniau fel hyn roi budd aruthrol, i'r ecosystem ac i amddiffyn ein mannau gwyrdd yn ogystal â lliniaru llifogydd. Felly, byddwn yn croesawu rhai pwyntiau ychwanegol pe baech yn fodlon ymhelaethu ar hynny; a beth y gellid ei wneud i ymgysylltu â'r gymuned leol fel rhan o'r gwaith hwn.
Croesawaf hefyd eich sylwadau ynghylch gweithio gydag awdurdodau lleol. Rwy'n nodi, yn rhan o raglen fuddsoddiad RhCT, bydd gwaith lliniaru yn cael ei wneud yn Aberpennar ac Abercwmboi. Fodd bynnag, rwy'n gwybod, yn y gorffennol bod arian yr UE wedi'i ddefnyddio i ddiogelu cannoedd o eiddo ar draws Rhondda Cynon Taf rhag y perygl o lifogydd, ac roedd ymateb i storm Callum yn her ariannol benodol i'r awdurdod lleol ac i Lywodraeth Cymru, a ddaeth i'r adwy i roi cymorth ariannol ychwanegol. Felly, pa gynllun tymor hir oes gennych chi i sicrhau, os byddwn ni'n gadael yr UE na fydd bwlch ariannu yn cael ei adael i'r dyfodol?
Yn olaf, yn sgil eich datganiad cynharach ar goedwigaeth, pa fath o ran sydd gan goedwigo i'w chwarae o ran atal y perygl o lifogydd?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny, ac rydych chi, hefyd, wedi mynegi sylwadau'n huawdl iawn ynghylch yr effaith ar bobl sy'n dioddef oherwydd llifogydd. A hyd yn oed cael eich cludo oddi ar drên, gallaf ddychmygu'r straen y gallai hynny ei achosi. Ac wrth gwrs rydym yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd yn eich etholaeth adeg storm Callum.
Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol bod unigolion yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a'u bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y perygl o lifogydd yn gyflym iawn. Yn amlwg, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gallwch gofrestru a gallwch gael gwybodaeth, ac rydym yn bwriadu diweddaru hynny.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at awdurdodau lleol a grantiau gwaith ar raddfa fechan, ac yn sicr rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda'r awdurdodau lleol ynghylch yr effaith gadarnhaol iawn a gafodd y grant hwn. Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym ni wedi darparu tua £5 miliwn i awdurdodau lleol i ymgymryd â gwaith ar raddfa fechan i leihau perygl llifogydd. Rwy'n credu, ar y cyfan, ei fod wedi diogelu tua 6,000 o gartrefi a busnesau, unwaith eto, rwy'n credu os—. Mae manteision ehangach o lawer i'w cael yn sgil y cynlluniau bach, ond rwy'n credu nad oedd awdurdodau lleol, cyn inni gael y broses ymgeisio symlach o lawer, yn gwneud cais, oherwydd eu bod yn edrych ar y darlun mawr heb weld y manteision y mae'r cynlluniau bach hyn yn eu cynnig. Felly, rwy'n credu bod yr ariannu wedi cael croeso mawr ac rwy'n falch iawn o gael cyflwyno £1 miliwn arall yn y rownd nesaf. Mae 21 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi gwneud cais ac wedi llwyddo i gael gafael ar y cyllid hwnnw, felly rwy'n credu bod hyn yn dangos fod y broses symlach yn gweithio.
Soniais am goedwigo yn fy ateb i Llyr Huws Gruffydd, a dyma un o'r manteision o gael ein polisi amaethyddol ein hunain yma yng Nghymru, ac rwy'n credu, o dan y cynllun nwyddau cyhoeddus ar gyfer pethau sydd heb farchnad ar hyn o bryd, y byddwn ni'n gallu annog ffermwyr, er enghraifft, i ystyried cael mwy o goetiroedd ar eu ffermydd.
Ynghylch cyllid yr UE, ie—beth mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ei wneud i ni erioed? Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir. Mae'r arian sy'n dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd yn swm enfawr. Byddwch yn ymwybodol, cyn y refferendwm, roedd addewid na fyddem ni'n colli ceiniog, ac mae pawb ar y fainc flaen hon yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair ynghylch hynny, oherwydd byddai'n creu bwlch enfawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n croesawu llawer o'r hyn a ddywedodd heddiw. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Gweinidog am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ym Mochdre, yn Llanfair Talhaearn ac yn Abergele, sydd i gyd wedi eu nodi'n fras yn y datganiad. A gaf i groesawu hefyd y buddsoddiad sydd wedi digwydd mewn lleoedd fel Bae Colwyn a Bae Cinmel yn y gorffennol, yn fy etholaeth i hefyd? Ac yn wir yn Rhuthun. Fel y gallwch weld o'r rhestr hir o enwau, mae fy etholaeth i yn dueddol o gael llifogydd yn aml, yn enwedig ar hyd yr arfordir, ac un o'r pethau sydd wedi bod yn frawychus yn y blynyddoedd diwethaf yw ein bod wedi cael problemau rheolaidd ar hyd rhai rhannau o'r arfordir hwnnw. Felly, mae Sandy Cove, er enghraifft, yn dueddol o orlifo'n aml pan fo'r gwyntoedd ar y tir yn cyfuno â llanw uchel. Dyna sefyllfa na fydd yn diflannu. Mae rhai camau gwrthsefyll wedi'u rhoi ar waith, gyda rhai amddiffynfeydd eilaidd, ond mae angen buddsoddiad sylweddol os ydym am ddatrys y broblem unwaith ac am byth.
Nawr rwy'n clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran y fformiwla a ddefnyddir i asesu a phenderfynu ar y blaenoriaethau o ran gwariant, ac yn gwbl briodol, mae'n canolbwyntio'n fanwl ar y nifer o gartrefi a busnesau a fydd yn cael eu gwarchod. Ond wrth gwrs meysydd carafanau yw llawer o'r mannau ar yr arfordir yna sydd yn agored i lifogydd—cartrefi gwyliau ydyn nhw—ond nid ydyn nhw'n bodloni'r un meini prawf â chartref preswyl parhaol. Rwyf yn credu bod angen ystyried y gwahaniaethau bach hyn ychydig yn fwy priodol pan gaiff yr arian ei ddosbarthu er mwyn diogelu'r rhain hefyd i ryw raddau yn enwedig gan fod gennym ni drwyddedau 12 mis ar gyfer llawer o'r cartrefi gwyliau ar hyd y rhan honno o'r arfordir. Mae erydu ar hyd yr amddiffynfeydd môr yn digwydd mewn rhannau o Abergele a Phensarn, ac rwy'n bryderus iawn am eu sefyllfa fregus yn y dyfodol.
Yn amlwg, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, yn gwbl briodol, am yr angen i bartneriaid eraill ddod ynghyd er mwyn ymdrin â phryderon ynghylch ardal Hen Golwyn. Dyna ardal eto lle mae ei seilwaith trafnidiaeth a seilwaith carthffosiaeth yn agored i broblemau, ond nid llawer o gartrefi. Eto, y gwir amdani yw, oherwydd y cyfyngder presennol hwn, mae'r siawns o unrhyw beth yn cael ei ddarparu yno'n fuan yn eithaf annhebygol. Rwyf yn credu, Gweinidog, y bydd angen y math o arweinyddiaeth y buoch chi'n ei roi mewn mannau eraill yng Nghymru er mwyn gweithredu a chael y bobl briodol a'r rheini sy'n gwneud y penderfyniadau at ei gilydd er mwyn gwneud i bethau ddigwydd. Tybed a allai Llywodraeth Cymru alw uwchgynhadledd o wneuthurwyr penderfyniadau, Dŵr Cymru, Network Rail, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y rhan honno o'r arfordir er mwyn inni geisio llunio amserlen a chael y buddsoddiad hwnnw sydd ei angen ar gyfer gwneud y gwaith. Oherwydd ni allaf orbwysleisio hwn: Rwyf wedi gweld rhannau o arglawdd y rheilffordd yn cael eu golchi ymaith mewn stormydd yn y blynyddoedd diwethaf. Cawsant eu hatgyweirio, do, ond atgyweiriadau dros dro yw'r rhain ac yn anffodus, ar ryw adeg, fe fydd methiant trychinebus.
Roeddwn yn byw yn Nhywyn adeg y llifogydd yn Nhywyn, ac yno roedd amddiffyniad môr a luniwyd, mewn gwirionedd, i amddiffyn y rheilffordd, a phan ddrylliwyd hwnnw, roedd rhaid i filoedd o bobl adael a chafodd miloedd o gartrefi eu difrodi gan lifogydd. Digwyddodd hyn oherwydd esgeulustod British Rail fel y'i gelwid ar y pryd, a oedd yn bennaf gyfrifol am yr ased hwnnw. Nid wyf eisiau gweld methiant trychinebus ased amddiffyn rhag llifogydd pwysig o'r fath yn digwydd eto, ac rwy'n credu bod angen, mae arnaf ofn, rywfaint o arweiniad, rhyw fath o uwchgynhadledd wedi ei threfnu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn symud pethau ymlaen. A tybed a fyddech yn ystyried hynny fel rhywbeth y gallech ei wneud efallai er mwyn gwthio'r prosiect hwnnw ymlaen cam wrth gam a'i gwblhau.
Diolch, Darren Millar, ac ydw, rwy'n ymwybodol iawn o'r anawsterau a wynebwyd gan sawl ardal yn eich etholaeth oherwydd llifogydd. Yn sicr, rwy'n cofio'r llifogydd yn Nhywyn, fwy na thebyg bron i 30 mlynedd yn ôl. Ynghylch Hen Golwyn—eglurais pam nad yw'n rhan o'r rhaglen hon. Yn sicr, mae parc carafannau yn fusnes, felly rwy'n credu y dylid edrych ar hynny, efallai, mewn ffordd fwy creadigol, a byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion wneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi dwyn pawb ynghyd, ond efallai bod angen inni ddwyn pawb ynghyd unwaith eto, ac yn sicr byddaf yn ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i weld a ellir trefnu cyfarfod, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cael gwahoddiad i fod yn bresennol hefyd.
Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth sydd wedi'i ddweud eisoes, felly byddwch yn falch o wybod hynny, ond mae un peth yn hyn i gyd na ellir ei wadu—er bod rhai yma a fydd—hynny yw, y ffaith ein bod yn gweld llawer iawn o newid yn yr hinsawdd. Rydym ni wedi cael y mis Chwefror poethaf erioed ar gofnod, a chanlyniad tymheredd uchel iawn yn y gaeaf fydd stormydd. A chanlyniad y stormydd, wrth gwrs, fydd ardaloedd yn dioddef llifogydd. Felly, rydym yn gweld mwy a mwy o ardaloedd sydd erioed wedi dioddef llifogydd, nawr yn eu dioddef am y tro cyntaf. Ac mae'n amhosibl bron i ragweld lle bydd y llifogydd yn digwydd. Felly, rwy'n croesawu eich ymagwedd wahanol o beidio â gosod concrit fel ffordd o fynd i'r afael â rhywbeth nad ydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, dim amdano.
Felly, o ran meddwl mewn ffordd wahanol, tybed a wnewch chi ystyried, pan fo gennym ni ddatblygiadau ar raddfa fawr, o ran trefniadau parcio ceir, na fydd gennym ni drefniadau parcio anhydraidd, ond mewn gwirionedd, ein bod yn symud tuag at yr atebion gwahanol sydd eisoes yn digwydd mewn datblygiadau ar raddfa lai. Gan fy mod yn credu ei bod yn hynod bwysig, os ydym yn sôn am drefi sy'n dioddef o lifogydd, a'n bod yn datblygu, mae angen inni feddwl o ddifrif am ganlyniadau'r hyn a wnawn ni, ac rwy'n credu y byddai hynny'n hynod fuddiol.
Rwy'n diolch ichi am eich datganiad ac rwy'n falch iawn o groesawu £150 miliwn ar gyfer rhaglen o waith amddiffyn rhag llifogydd ledled y wlad. Ac rwyf hefyd yn croesawu arian i gwblhau dau gynllun pwysig ym Mhowys—un yn Nhalgarth ac un yn y Trallwng—gan fod canol tref y Trallwng yn arbennig wedi dioddef ergyd drom yn y gorffennol, felly hefyd Talgarth. Felly, fe wn i y bydd y bobl hynny yn yr ardaloedd hynny yn rhoi croeso mawr i'r gronfa hon.
Ond mae'n debyg mai fy apêl gyffredinol heddiw yw y bydd angen inni feddwl—ac mae eich adroddiad yn dangos hynny—mewn ffordd wahanol, ac yma, yn bendant, bydd atal yn llawer gwell na gwella, gan nad ydym yn gwybod beth fydd y patrymau tywydd, ac nid ydym yn gwybod pryd y cawn ni lawogydd trwm eithafol. Ac yn wahanol i rai yn y Siambr hon, rwyf yn cydnabod ein bod yn mynd drwy gyfnod lle mae patrymau tywydd yn newid yn gyflym.
Diolch, Joyce Watson. Ac rydych chi'n hollol gywir—mae newid yn yr hinsawdd yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein tywydd ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y mis Chwefror poethaf a gawsom ni erioed. A gallech weld y bore yma o'r flachlifogydd a gawsom ni fod hyn yn mynd i gynyddu a digwydd yn amlach o lawer yn y dyfodol.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll dau gynllun yn eich ardal chi, ac fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn hefyd—ni allwn ni amddiffyn pob rhan o Gymru rhag llifogydd, ond rwy'n credu bod cyfleoedd ar gyfer ffurf lawer mwy cynaliadwy a naturiol o reoli arfordirol mewn rhai ardaloedd. Rwy'n credu y gall morfeydd heli, er enghraifft, twyni a llystyfiant arfordirol chwalu ynni'r tonnau a lleihau'r perygl o lifogydd arfordirol. Felly, rwyf o ddifrif eisiau annog y defnydd o dechnegau naturiol i reoli'r perygl o lifogydd fel ffordd o leihau'r risg i gartrefi a busnesau, a bydd y safbwynt hwn yn cael ei nodi yn ein strategaeth genedlaethol newydd.
Dylid bob amser ystyried rheoli perygl llifogydd drwy ddulliau naturiol, rwy'n credu. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gynlluniau ar raddfa fawr. Rwy'n credu y dylid ystyried rheoli perygl llifogydd drwy ddulliau naturiol wrth arfarnu unrhyw gynllun llifogydd. Efallai nad dyna fydd yr ateb gorau bob tro—wyddoch chi, bydd angen amddiffynfeydd caled arnom ni—ond rwy'n credu y gall rheoli tir yn effeithiol mewn ardal ddalgylch leihau'r angen am amddiffynfeydd mwy er enghraifft. Felly, rwy'n credu y dylid eu hystyried bob tro.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Roedd adroddiad Sefyllfa Byd Natur yr RSPB yn tynnu sylw at y ffaith bod effeithiau erydu yn arwain at golli 2 filiwn o dunelli o uwchbridd bob blwyddyn yn y DU. Mae colli uwchbridd yn golygu llawer mwy na'r effaith a geir ar argaeledd tir ffrwythlon ar gyfer amaethyddiaeth. Mae tir yr effeithir arno yn lleihau gallu'r pridd i ddal dŵr, a gall hyn arwain at risg gynyddol o lifogydd. Felly, Gweinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael ag erydu pridd yng Nghymru?
Mae tir ffermio'n rhan bwysig o liniaru'r perygl o lifogydd. Wedi Brexit, bydd gennym gyfle i ailffurfio ein cymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth. Gweinidog, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i gyflwyno cynllun taliadau i ffermwyr i gynnal cynlluniau rheoli llifogydd naturiol, megis plannu gorlifdiroedd newydd, neu greu pyllau newydd, ffosydd a chronfeydd dŵr gydag argloddiau?
Rydym yn wynebu risgiau cynyddol o lifogydd yn y degawdau i ddod o ganlyniad i newid hinsawdd. Gweinidog, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu newid polisïau cynllunio i sicrhau bod pob datblygiad newydd ac unrhyw brosiectau seilwaith newydd yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer daliad dŵr a lleihau dŵr ffo? Rwyf wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd o fewn fy rhanbarth i lle mae llifogydd wedi achosi difrod i etholwyr.
Yn olaf, Gweinidog, ynglŷn ag erydu arfordirol, mae fy rhanbarth i wedi dioddef erydiad enfawr o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Cymru yn caniatáu symud miliynau o dunelli o dywod o sianel Bryste, sydd wedi arwain at golli tywod oddi ar ein traethau. Gweinidog, a wnewch chi beidio â chaniatáu unrhyw drwyddedu ar gyfer carthu tywod ym Môr Hafren yn y dyfodol er mwyn amddiffyn traethau De-orllewin Cymru rhag erydu arfordirol? Diolch.
Diolch i chi, Caroline Jones, am y cwestiynau hynny. Rydych wedi mynegi sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a'n bioamrywiaeth, ac fe gyfeirioch chi at uwchbridd. Fe ddychwelaf at yr hyn a ddywedais ynglŷn â rheoli perygl llifogydd naturiol: credaf ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar yr holl dechnegau rheoli fel modd o atal pethau rhag digwydd. Rwyf wedi crybwyll ein strategaeth genedlaethol, sy'n cael ei drafftio ar hyn o bryd. Bydd honno'n edrych ar sut mae angen inni edrych ar atebion rheoli perygl llifogydd arloesol a naturiol, ochr yn ochr â chynlluniau amddiffyn mwy traddodiadol, y bydd eu hangen bob amser, fel y clywsoch fi'n dweud wrth Joyce Watson wrth ateb ei chwestiynau hi. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar arloesi newydd.
Credaf ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol yng Nghymru, mewn gwirionedd, i integreiddio dulliau o'r fath—mae gennym gynlluniau peirianneg sefydledig—a chredaf fod hynny oherwydd ein bod yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau rheoli risg a Chyfoeth Naturiol Cymru. Credaf fod yna gymaint o gyfleoedd ar gyfer dull mwy cynaliadwy a naturiol o reolaeth arfordirol ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r rheini. Soniais y byddaf yn gweithio'n agos gyda fy nghyd-aelod Julie James, sy'n gyfrifol am gynllunio, gan edrych ar bolisi cynllunio. Yn amlwg, cyflwynwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' 10 ym mis Rhagfyr, a bydd y Gweinidog hefyd yn cyflwyno cynllun datblygu cenedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y ddau beth hynny mewn cysylltiad â llifogydd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i wneud y cynnig—Eluned Morgan.
Cynnig NDM6986 Eluned Morgan
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Dwi'n gwneud y cynnig. Diolch am y cyfle i egluro ymhellach gefndir y cynnig hwn ynghylch y cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Masnach y Deyrnas Unedig. Amcan y Bil Masnach yw sicrhau bod ein cysylltiadau masnachu ni yn cael parhau a bod marchnadoedd procurement—caffael—y Llywodraeth ar gael i ni o hyd. Mae'n werth nodi y bydd y Bil yn cyflawni pedwar peth. Yn gyntaf, bydd yn rhoi pwerau i wneud rheoliadau i Weinidogion y Goron ac awdurdodau datganoledig er mwyn rhoi cytundeb caffael y World Trade Organization ar waith. Yn ail, bydd y Bil yn rhoi pwerau i wneud rheoliadau i Weinidogion y Goron yn ogystal ag awdurdodau datganoledig. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cytundebau masnach rhyngwladol gyda thrydydd gwledydd sydd eisoes â chytundebau masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd yn gallu parhau. Yn drydydd, bydd yn sefydlu awdurdod rhwymedïau masnach—trade remedy authority—i ddarparu fframwaith rhwymedïau masnach newydd y Deyrnas Unedig. Ac, yn olaf, bydd yn borth i rannu data rhwng HMRC a chyrff cyhoeddus a phreifat eraill.
Dwi eisiau bod yn glir o'r dechrau mai prif ddiben y Bil Masnach yw sicrhau parhad masnach a diogelu aelodaeth y Deyrnas Unedig yn y GPA—y Government procurement agreement. Dydy e ddim yn ymwneud â'r broses i gytuno cytundebau masnach yn y dyfodol. Rŷm ni wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd unrhyw brosesau neu ddiffyg prosesau a dderbyniwn mewn cysylltiad â chytundebau parhad masnach yn gosod cynsail ar gyfer y rôl rydym ni am ei chael wrth negodi cytundebau masnach newydd. Ac mae'n werth tanlinellu nad yw'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Unedig o ran cytundebau masnach newydd yn dod o dan gwmpas y Bil yma, a byddwn yn delio â hyn ar wahân.
Er hynny, dwi'n croesawu'r diwygiadau a basiwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac mae'r rhain yn ei wneud yn glir, pan gaiff y cytundebau masnach, yn y dyfodol, eu trafod, bydd yna rôl i Senedd y Deyrnas Unedig a hefyd i awdurdodau datganoledig, fel eu bod nhw hefyd yn gallu chwarae rôl yn nhrafodaethau cytundebau masnach yn y dyfodol.
Rŷm ni wedi esbonio'n glir yn ein polisi ni—polisi masnach a materion i Gymru—beth yw'n gofynion ni o ran cymryd rhan yn y negotiations hyn. Ac mae'n dda gen i ddweud bod y trafodaethau ynghylch sefydlu fforwm Gweinidogion ar fasnach ryngwladol a choncordat ar y pwnc yn mynd yn dda. Dwi, wrth gwrs, yn mynd i roi diweddariad i'r Cynulliad ar y trafodaethau hyn pan fydd yn briodol i wneud hynny.
Nawr, dwi wedi gosod dau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Mae'r memorandwm ategol a osodwyd fis diwethaf yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y materion y mae angen caniatâd arnynt.
Mae'n deg dweud bod gennym nifer sylweddol o bryderon pan gyflwynwyd y Bil Masnach hwn y tro cyntaf. Roedd rhai o fewn cwmpas ein cydsyniad deddfwriaethol, ac eraill nad oeddent. O ganlyniad, eglurwyd yn ein Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf na fyddem ni ar y pryd yn argymell cydsyniad deddfwriaethol. Nawr, adleisiwyd y pryderon hyn gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nawr, ar y pryd, roedd Llywodraeth Cymru ynghanol anghydfod ehangach gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r bygythiad posibl a olygai hwnnw i gymhwysedd datganoledig. Nawr, fe arweiniodd canlyniad yr anghydfod hwnnw drwy'r cytundeb rhynglywodraethol, a gymeradwywyd, rhaid dweud, gan fwyafrif sylweddol o'r Cynulliad hwn pan roddodd ei gydsyniad deddfwriaethol at y Bil, at baratoi'r ffordd ar gyfer cynnydd ar y Bil hwn.
Erbyn hyn, yn gyffredinol, rydym yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar y Bil o ganlyniad i'r gwelliannau, yn ogystal â'r ymrwymiadau blwch dogfennau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol sydd wedi'u gwneud ers ei gyflwyno. Yn benodol, gyda'n cytundeb ni, cyflwynodd Llywodraeth y DU welliannau i adlewyrchu'r gwelliannau a wnaed yn Neddf (Ymadael) yr Undeb Ewropeaidd 2018. Nawr, mewn cysylltiad â'n gwelliannau arfaethedig eraill, rydym wedi sicrhau ymrwymiadau blwch dogfennau oherwydd—unwaith eto, mae'r un pethau'n berthnasol i'r rhain ag ym Mil Ymadael yr UE.
Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ymrwymiad na fyddant fel rheol yn defnyddio'r pwerau yn y Bil mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig heb gydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn ymestyn y cymal machlud.
Yn olaf, er ei fod y tu allan i'n cymhwysedd ni ac felly hefyd, gwmpas y Memorandwm Cydsyniad hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ar yr awdurdod rhwymedïau masnach newydd. Tra rydym yn derbyn yn llwyr fod yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn gorff annibynnol, credwn fod angen sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ffordd glir o ymgysylltu â'r Awdurdod, ac rwyf yn falch gyda'r cytundeb a wnaed ynglŷn â'r Awdurdod, un sy'n mynd y tu hwnt i'n cais cychwynnol i Lywodraeth y DU.
Nawr, ynglŷn â'r ymrwymiadau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol, byddai'n well gennyf, wrth gwrs pe byddai'r rhain ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, mae ein dull ni'n adlewyrchu'r cytundeb caled yr ydym wedi llwyddo i'w gyrraedd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Rwyf yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiadau.
Sylweddolaf fod y Bil wedi bod yn un dadleuol wrth gael ei basio drwy'r Senedd, a bod yna bosibilrwydd y bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i'r Bil, gyda gwelliannau'r wrthblaid yn dal i gael eu cyflwyno. Os bydd hyn yn digwydd, byddaf, wrth gwrs, yn hysbysu'r Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r Bil bellach yn agosáu at y camau terfynol yn y Senedd a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad y prynhawn yma, gan ei bod wedi nodi rhai o'r pwyntiau pwysig yn glir? Mae'n bwysig pwysleisio nad yw hwn yn ymwneud â chytundebau masnach yn y dyfodol—mae'n ymwneud a chytundebau masnach sydd ar waith rhwng yr UE a gwledydd eraill ar hyn o bryd a sut y maent yn cael eu trosglwyddo i'r DU.
Mae'r Pwyllgor Materion Allanol wedi bod yn dilyn datblygiadau polisi Llywodraeth y DU ar gyfer masnach ryngwladol, ac rydym wedi cymryd camau fel Pwyllgor i ddatblygu arbenigedd a dealltwriaeth o'r goblygiadau posibl i Gymru o ddull gweithredu'r DU. Rydym wedi dechrau gwaith hefyd i graffu ar y goblygiadau i Gymru sy'n deillio o'r cytundebau rhyngwladol hynny sy'n cael eu trosglwyddo ac wedi ystyried tua 20 yn y pythefnos diwethaf. Bydd datblygiad nifer o'r rhain yn ddibynnol ar y penderfyniad i gymeradwyo'r Bil Masnach.
Fel Pwyllgor, fe gychwynnaf drwy ddweud nad ydym yn cydnabod bod angen y Bil masnach, neu o leiaf ryw fath arall o ddeddfwriaeth ar yr un llinellau, i sicrhau trosglwyddiad esmwyth o'r berthynas masnachu sydd gennym ar hyn o bryd drwy ein haelodaeth o'r UE i unrhyw berthynas fydd gennym pan fyddwn yn gadael yr UE. Gan gydnabod hyn, mae gennym amrywiaeth o bryderon eraill hefyd, fodd bynnag, ynghylch drafftio'r Bil i'r graddau y mae'n ceisio deddfu ar feysydd datganoledig.
Flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf ar y Bil Masnach, ac roeddem yn cytuno â Llywodraeth Cymru i beidio cymeradwyo caniatâd ar linellau tebyg, ond yr oedd gennym hefyd rai pryderon ychwanegol i'w nodi. Yn wir—credaf inni weld fod y Bil yn cael ei ysgrifennu yn yr un modd â'r Bil Ymadael â'r UE ar y pryd, a doedd y newidiadau hynny yn y Bil Ymadael â'r UE ddim wedi cael eu trosglwyddo i'r Bil Masnach ar y pryd.
Lleddfwyd peth o'n pryderon gan y gwelliannau i'r Bil—ond nid pob un. Mae pwerau cydredol yn amlwg yn un mater sy'n ein pryderu, oherwydd rydym yn credu, mewn gwirionedd, fod y Bil yn gwaethygu'r defnydd o rymoedd cydredol o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Byddaf yn canolbwyntio ar hynny yn fy nghyfraniad heddiw.
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Pwyllgor Materion Allanol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Llywydd oll wedi mynegi pryderon ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu ar gyfer Brexit, i'r graddau fod deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit yn cael ei yrru drwy Senedd y DU yn fwy na drwy'r Cynulliad, a hynny'n bennaf ar gais Llywodraeth Cymru. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn nodi'n aml mai problem o ran capasiti yw hon, ond mae'n ffaith, serch hynny.
Yn y gorffennol rydym wedi gwrthwynebu rhoi pwerau cydredol mewn meysydd datganoledig yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gan ein bod yn bryderus y byddai'n lleihau rôl y Cynulliad hwn yn y broses ddeddfu ar gyfer Brexit. Rydym wedi gwneud yr un peth mewn cysylltiad â'r Bil Masnach, felly yr ydym yn gyson yn ein pryderon. Fe wnaethom y penderfyniad hwn y llynedd, cafwyd cyfle i arsylwi sut y defnyddiwyd pwerau'r Ddeddf Ymadael â'r UE, ac rydym wedi gweld llawer mwy o'r offerynnau statudol cywiro, sy'n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad, yn cael eu gwneud yn Llundain yn hytrach na Chaerdydd. Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dweud bod rhai o'r offerynnau hyn wedi gwneud newidiadau polisi sylweddol ac nad ydynt wedi'u defnyddio i wneud newidiadau technegol yn unig.
Ymhellach, ers gosod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol, mae'r setliad datganoli newydd i Gymru, a nodir yn Neddf Cymru 2017, wedi dod i rym hefyd. Yn ôl y setliad hwn, cyfyngir ar y Cynulliad rhag dileu neu addasu pwerau gweinidogol y DU mewn meysydd polisi datganoledig lle mae'r pwerau hynny yn gydredol â phwerau Gweinidogion Cymru, neu lle mae angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad, neu ymgynghori, â Gweinidogion y DU cyn y gallant arfer y pwerau hynny. Felly, bob tro y caiff pŵer cydredol newydd ei chreu, neu pan wneir pŵer Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gydsyniad neu ymgynghoriad â Gweinidogion y DU, fe gyfyngir ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y dyfodol.
Nawr, mae'r tri datblygiad hyn—y defnydd o bwerau cydredol i gyfyngu ar swyddogaeth y Cynulliad i ddeddfu ar gyfer Brexit, y defnydd o bwerau cydredol i wneud newidiadau polisi sylweddol, sy'n mynd yn groes i ymrwymiadau Gweinidogion Cymru a chytundeb rhynglywodraethol, a'r newid i'r setliad datganoli, wedi arwain at ein pryderon yn parhau o ran rhoi pwerau cydredol yn y Bil Masnach. Daethom i'r casgliad bod sail gadarn i'n pryder gwreiddiol am y ddarpariaeth o'r pwerau cydredol ac mae'r rheini'n parhau o ran y Bil hwn.
Nawr, rydym wedi darllen y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan y Gweinidog a'r gwelliannau i'r Bil hwnnw, a daethom i'r casgliad fod y Gweinidog, efallai, wedi gweld ei hun mewn lle tebyg i ni: yn arsylwi ar gynnydd cymharol anfoddhaol ar rai o'r gofynion am newidiadau i'r Bil, ond yn gorfod cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth os ydym i adael yr UE yn esmwyth—rydym yn cydnabod hynny.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at y ffaith fod gennym bryderon llawer mwy ynglŷn â swyddogaeth y sefydliad hwn fel Cynulliad, ac i sicrhau gallu'r Cynulliad hwn i graffu ar y prosesau ac ar y penderfyniadau a wneir. Rydym wedi adrodd yn barhaus am y pryderon hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny os ydym yn eu gweld. Ac mae ein hystyriaeth o'r Bil Masnach yn dangos bod cadw'r ddysgl yn wastad yn aml yn anfoddhaol ac mae hyn yn ofynnol wrth ystyried cwestiynau am gydsyniad deddfwriaethol, gan na allwn newid rhywbeth mewn gwirionedd; mae'n benderfyniad deuaidd syml ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Rydym yn ei gymeradwyo yn ei gyfanrwydd neu ei wrthod yn ei gyfanrwydd. Felly, dyna un o'r pryderon. Nid oes a wnelo hynny ddim â'r Bil hwn, ond mae'n parhau i fod yn fater o bryder gennym.
Mae peth cynnydd wedi'i wneud; rydym yn cydnabod hynny. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno â rhai o'r gwelliannau a geisir gan Lywodraeth Cymru—rai ohonynt yn seiliedig ar ymrwymiadau yn hytrach na thestun gwirioneddol ar hyn o bryd, oherwydd, fel y dywedasoch, maent yn ymrwymiadau blwch dogfennau. Ond nid ydynt ar wyneb y Bil, mewn gwirionedd. Felly, mae gennym bryderon dwfn.
Rwy'n gobeithio, wrth gloi, fod Llywodraeth Cymru wedi clywed ein pryderon ynghylch y defnydd o'r pwerau cydredol a'r bwlch yn y broses graffu sy'n cael ei greu o ganlyniad i hynny, ac y bydd yn sicrhau ein bod ni'n gwneud llawer mwy o waith craffu yma yn hytrach na'u trosglwyddo i San Steffan.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch ichi, Llywydd. Adroddwyd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Masnach ar 16 Mawrth 2018, ac ym mis Hydref 2018 adroddwyd hefyd ar y rheoliadau i'w gwneud o dan y Bil. Buom yn ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Nid oeddem mewn sefyllfa, wrth gwrs, i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cyflwynwyd ein hadroddiad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ddoe, ac mae yna nifer o bwyntiau yr hoffwn dynnu sylw atynt.
Rydym wedi nodi sylwadau Llywodraeth Cymru ynghylch arfer pwerau cydredol yng nghymalau 1 a 2 o'r Bil, a'r ymrwymiadau a gafwyd. Mae'r ymrwymiadau hyn, fel y soniodd y Gweinidog, yn ymddangos fel petaent yn adlewyrchu'r egwyddorion a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Byddem yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i naill ai gyhoeddi dogfen sy'n nodi'r ymrwymiadau hyn yn llawn, neu i sicrhau gwelliant priodol i'r cytundeb rhynglywodraethol presennol.
Rydym, fodd bynnag, yn tynnu sylw'r Cynulliad at y pryderon a fynegwyd gennym ar y gwahaniaethau o ran dehongli rhwng y Pwyllgor hwn a Llywodraeth Cymru ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol. Yn benodol, rydym yn pryderu ynghylch y gwahaniaeth barn ar beth yw polisi newydd a'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n codi ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u nodi.
Mae yna hefyd bryderon ynghylch cais y Confensiwn Sewel gan ei fod yn berthnasol i ganiatâd deddfwrfeydd datganoledig mewn cysylltiad â mesurau Llywodraeth y DU. Mae statws Sewel a'r ddibyniaeth arno mewn deddfwriaeth sy'n ymyrryd ar feysydd cymhwysedd datganoledig yn fater o bryder, ac yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor yn rhoi sylw cynyddol iddo. Mae Confensiwn Sewel yn cynnig darpariaeth na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Yn ein barn ni, mae angen egluro beth yw ystyr hyn a'r graddau y gellir dibynnu arno bellach i amddiffyn cymwyseddau datganoledig.
Am y rheswm hwnnw, byddem yn croesawu eglurhad gan y Gweinidog ynghylch a oes yna unrhyw eithriadau i'r ymrwymiad na fydd Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rheol yn defnyddio'r pwerau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru. Rydym yn gofyn hyn gan y tynnir sylw at eithriad o'r fath mewn gofynion tebyg a nodir yn Rhan 5 o'r nodyn cyfarwyddyd datganoli sy'n ymwneud a deddfwriaeth sylfaenol Seneddol a'r Cynulliad, sy'n effeithio ar Gymru.
Mae Rheol Sefydlog 30C yn nodi rhai gofynion penodol mewn amgylchiadau lle mae Gweinidogion Cymru yn cydsynio i Weinidogion y DU yn gweithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Yn unol â'r egwyddorion sydd wedi arwain at fabwysiadu ymrwymiadau newydd yn ymwneud â'r Bil Masnach, credwn y dylid diwygio Rheol Sefydlog 30C i fod yn gymwys i'r Bil Masnach unwaith y daw i rym.
Codwyd pryderon gennym ynglŷn â chwmpas y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil yn ein hadroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol Llywodraeth Cymru ac yn ein hadroddiad ar graffu ar y Rheoliadau a wneir o dan y Bil. Ein prif bryder oedd bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gallai unrhyw reoliadau o'r fath i ddiwygio Deddf 2006 addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Ymhellach, dim ond Gweinidogion y DU allai wneud rheoliadau o'r fath a byddent yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig. Tra byddai rheoliadau o'r fath bellach yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, rydym yn ailadrodd yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylid addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU.
Er bod sicrwydd na fydd pwerau gwneud rheoliadau yn cael eu defnyddio i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nid yw'r sicrwydd hwnnw, wrth gwrs, wedi eu rhwymo mewn cyfraith. Rydym hefyd yn nodi ymrwymiadau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol a gafwyd mewn cysylltiad â gweithgareddau'r awdurdod rhwymedïau masnach. Fodd bynnag, mae diffyg eglurder ynghylch swyddogaeth y corff newydd hwn a pha wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i alluogi'r Cynulliad i graffu ar weithgareddau'r awdurdod hwnnw.
Rydym yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi manylion llawn yr ymrwymiadau ac yn darparu gwybodaeth am weithrediad yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, a chredwn y dylai wneud hynny cyn gynted â phosibl. Diolch ichi, Llywydd.
Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn caniatáu cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach heddiw. Cyn imi amlinellu ein rhesymau dros y penderfyniad hwn, hoffwn ddweud y gellid maddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n gwrando ar y ddadl hon am feddwl fod ei phwnc yn eithaf haniaethol. Gall sôn am gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, Rheolau Sefydlog a chonfensiynau ymddangos fel nad ydynt yn hygyrch, ond gallai'r egwyddorion a'r confensiynau hyn esgor ar ganlyniadau gwirioneddol a choncrit ar gyfer ein democratiaeth a'r berthynas rhwng y ddeddfwrfa hon a San Steffan, nid yn unig ar gyfer y Cynulliad hwn ond ar gyfer Cynulliadau yn y dyfodol. Felly, rhaid inni gael hyn yn iawn.
Ond, i ddychwelyd at y mater dan sylw, y rheswm cyntaf pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn caniatáu cydsyniad deddfwriaethol yw bod gennym ni—fel y mynegodd eraill eisoes —bryderon difrifol ynghylch effaith bosibl y Bil ar y confensiwn Sewel. Fel y mae wedi ei ddrafftio, mae'n caniatáu i weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos eisoes ei bod yn barod i anwybyddu confensiwn Sewel drwy yrru ymlaen gyda'r Bil Ymadael yn erbyn ewyllys Senedd yr Alban. Nid ydym yn fodlon â'r sicrwydd amwys, nad yw'n rhwymol, a roddwyd na fydd Gweinidogion y DU yn ceisio newid cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd heb ganiatâd— fel rheol. Ni all Plaid Cymru bleidleisio o blaid gweithredu heb sicrwydd cyfreithiol na fydd Llywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig.
Ymhellach, ac yn ail, mae gennym bryderon hefyd fod pwerau arfaethedig ar gyfer Gweinidogion Cymru wedi eu gosod yn rhy eang, gan roi'r pŵer iddynt wneud rheoliadau lle bynnag yr ystyrir eu bod yn briodol. Nid yw cyfiawnhad y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn ei llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol yn lleddfu ein pryderon pan ddywed y gallai'r pwerau ehangach hyn fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Dylai penderfyniad ar ddefnyddio pwerau o'r fath gael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth gan y Cynulliad ac nid Gweinidogion unigol. Wedi'r cyfan, dyna sut y dylai deddfwrfa weithredu.
Yn drydydd, credwn ei bod yn annerbyniol fod yna bosibilrwydd yn bodoli y gallai Gweinidogion y DU ymestyn y terfyn amser o dair blynedd, gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd o fewn y Bil, am byth. Gallent wneud hyn heb i'r Cynulliad gael swyddogaeth ffurfiol o graffu ar y penderfyniad i ymestyn eu pwerau unwaith eto. Rhoddwyd ymrwymiad nad yw'n ddeddfwriaethol, ond unwaith eto, nid yw hyn yn darparu'r amddiffyniad angenrheidiol ac mae'n parhau i fod yn annerbyniol.
Yn olaf, mae diffyg eglurder difrifol ynglŷn â sut y byddai'r awdurdod rhwymedïau masnach newydd arfaethedig yn gweithredu yng Nghymru a'i effaith bosibl ar feysydd polisi datganoledig, pwynt na roddwyd sylw iddo gan y Gweinidog. Eto, gwnaed ymrwymiadau ond nid ydynt yn rhwymol. Nid ydym o'r farn bod ymrwymiadau sy'n addo swyddogaeth ymgynghorol yn ddigonol ac rydym yn teimlo yn amlwg y dylid cael cynrychiolaeth o Gymru a'r Alban ar Awdurdod Rhwymedïau Masnach y DU newydd.
I gloi, Llywydd, ni all Plaid Cymru gytuno â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sydd â'r potensial i gyfyngu ar bwerau'r Siambr hon a gwadu llais ein cenedl, ac fe fyddwn yn pleidleisio yn ei erbyn. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn i ddiolch i chi am y cyfle i drafod beth sydd mewn gwirionedd yn Fil eithaf cymhleth. Mae'n eithaf anodd, rwy'n credu—rydych chi'n hollol gywir—i'r cyhoedd gymryd rhan mewn dadl o'r fath. Ond rydych chi'n hollol gywir: Mae'r rhain yn ddadleuon pwysig, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn, oherwydd mae goblygiadau posibl i ni yn y dyfodol.
Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei gofio mai'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yw'r Bil parhad masnach. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw'r cytundebau a wnaed rhwng yr UE a gwledydd eraill ledled y byd. Rydym eisiau i rai o'r rhain barhau, ac, os yw hynny'n wir, yr hyn sydd ei angen arnom yw newidiadau technegol. Mae angen arnom i Lywodraeth y DU allu trosglwyddo'r rhain drosodd i ni. Maen nhw wedi addo nad ydyn nhw'n mynd i wneud unrhyw newidiadau; dim ond technegol fydd eu natur. Dyna'r hyn yr ydym yn gofyn amdano, nid yw hyn yn ymwneud â chytundebau masnachol yn y dyfodol, ac rydym ni wedi'i wneud yn gwbl glir bod honno'n sgwrs wahanol, ein bod yn cael y sgwrs honno—mae'n eithaf adeiladol mewn gwirionedd, ac maen nhw yn cytuno i rai newidiadau dwys iawn o ran y ffordd y byddwn ni'n rhyngweithio â nhw yn y dyfodol. Felly, nid wyf i'n credu y dylem ni gymysgu'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gyda chytundebau masnach yn y dyfodol.
Nid yw'n berffaith, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw cyfansoddiad y DU yn berffaith. Felly, yn amlwg, yn enwedig ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid i ni fod yn ymarferol, a deall y ffordd y mae angen i bethau newid. Wrth gwrs, rwy'n deall y byddai'r Cynulliad eisiau swyddogaeth graffu, ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried sicrhau bod cymaint o dryloywder â phosibl fel y gall y Cynulliad graffu ar beth sy'n dod oddi wrth Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd nid oes gan yr awdurdod rhwymedïau masnach ddim byd i'w wneud â'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, ond yr hyn sydd wedi digwydd, yw eu bod wedi mynd llawer, llawer iawn ymhellach nag oedd angen iddyn nhw ei wneud. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi rhyngweithio â ni mewn maes cyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli. Ond byddwn yn fwy na pharod i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ble yr ydym ni wedi cyrraedd ar hynny.
O ran y cymal machlud y cyfeiriwyd ato, bu cytundeb ar hynny—ac ie, cytundeb blwch dogfennau oedd hwn, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall bod cynsail i gytundebau blwch dogfennau fel pethau y dylech chi allu dibynnu arnyn nhw, ac roedd hynny wedi ei gymryd yn ganiataol o ran unhyw estyniad i'r cyfnod machlud. Nawr, os nad yw hyn yn pasio, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, wedi gwneud popeth yr ydym wedi ei ofyn iddyn nhw ei wneud, rwy'n credu bod angen i ni feddwl beth fyddai goblygiadau hynny. Mae'n llai tebygol y byddwn ni'n gallu dylanwadu yn y dyfodol. A'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano ar hyn o bryd, pan ein bod yn y sefyllfa gyfansoddiadol ansefydlog hon o ganlyniad i ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd, yw bod angen i ni, mewn gwirionedd, greu peth ymddiriedaeth rhwng holl wahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Ac rydym ni'n dechrau paratoi ar gyfer byd ôl-Brexit a phe byddem ni'n gwrthod hyn, a hwythau wedi gwneud yr holl gonsesiynau hynny, rwy'n credu y byddai o bosibl yn lleihau ein cyfle i ddylanwadu ar faterion pwysig fel cytundebau masnach ar gyfer y dyfodol.
Confensiwn Sewel—mae'n rhaid i ni ddeall, ydy, wrth gwrs, ei fod yn ymwneud â deddfu 'nid fel arfer', ond os yw hyn yn mynd i weithio, ac rydym ni'n deall natur y cytundeb cyfansoddiadol ar Sewel, yna mae'n rhaid iddo fod yn un sydd wedi'i seilio ar barch o'r ddwy ochr, ac mae'n rhaid iddo fod—yn ymgais i ni fynd yn erbyn rhywbeth pan eu bod nhw wedi gwneud popeth yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud—. Os ydym ni'n mynd i wrthod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar ôl iddyn nhw wneud popeth, yna mae'n rhaid i chi ofyn sut olwg fydd ar y berthynas honno yn y dyfodol.
Nid wyf i'n credu bod angen i ni gael popeth ar wyneb y Bil. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol lawn mai'r hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw cyfaddawd lle mae Llywodraeth y DU wedi mynd yn bell iawn, i awn i'n cyfeiriad ni, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn derbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, ni dderbynnir y cynnig a dwi’n gohirio’r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy’n dod â ni at y cynnig nesaf o gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol), a dwi’n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6987 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwyf yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol). Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, wnes i ddim argymell y dylai'r Cynulliad dderbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol, a osodwyd ar 15 Tachwedd y llynedd. Mae hwn wedi bod yn ymgysylltiad hir, a chadarnhaol erbyn hyn, â Llywodraeth y DU er mwyn dod â'r Bil hwn i sefyllfa pan fy mod yn gallu argymell cydsyniad. Yn hollbwysig, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliant i greu gofyniad statudol i ymgynghori â llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ac wedi cytuno ar femorandwm o gyd-ddealltwriaeth yn sail i'r gwelliant hwnnw. Mae'r memorandwm yn nodi sut y bydd Llywodraethau Cenedlaethol datganoledig yn ymwneud â datblygu cytundebau gofal iechyd rhyngwladol yn y dyfodol a rheoliadau sy'n rhoi grym iddyn nhw, ac mae'r Memorandwm hwnnw wedi'i rannu â phwyllgorau craffu.
Llywodraeth Cymru oedd yr unig Lywodraeth genedlaethol ddatganoledig i wrthod cydsyniad yn gynnar yn y broses gan ein bod ni eisiau gweld newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Oherwydd ein hymyriad a'r newidiadau yr ydym wedi eu harwain, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth hon yn well a bod safbwynt y Llywodraethau cenedlaethol datganoledig yn cael ei pharchu a'i hadlewyrchu'n well. Dyna pam yr wyf i nawr yn argymell rhoi cydsyniad i'r Bil.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu craffu cadarn ar y Bil a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol. Mae'r gwaith craffu hwn wedi helpu i lywio safbwynt y Llywodraeth yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor mewn ymateb i'w hargymhellion, ac wedi rhannu canlyniad y trafodaethau gyda nhw. Er fy mod i'n gresynu'r amser a gymerwyd i sicrhau'r consesiynau gan Lywodraeth y DU, ar ôl brwydr galed, mae hynny wedi golygu nad oedd amser ar gael i atgyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol. Gobeithiaf, er gwaethaf hynny, y bydd aelodau'r ddau bwyllgor a'r Aelodau'n gyffredinol yn rhannu fy marn i fod yr hyn a gyflawnwyd gennym yn gam sylweddol ymlaen.
Mae'r Bil hwn yn ffurfio rhan o ymateb Llywodraeth y DU i'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, byddai hefyd modd defnyddio'r Bil i roi ar waith gytundebau gofal iechyd rhyngwladol â thrydydd gwledydd eraill, er bod gwelliant wedi'i basio yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hynny y prynhawn yma.
Mae trefniadau gofal iechyd cyfatebol presennol gyda'r Undeb Ewropeaidd o fantais i gleifion a dinasyddion Cymru mewn sawl ffordd. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio'r system Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd ar gyfer unigolion sy'n teithio dramor yn yr UE a bod gofal iechyd ar gael i bensiynwyr sy'n byw yn y gwledydd hynny. Ar hyn o bryd, gall trigolion Cymru hefyd gael triniaeth feddygol wedi'i chynllunio ymlaen llaw mewn gwlad arall yn yr UE drwy'r llwybr S2, ac, wrth gwrs, gall cleifion brynu gofal iechyd mewn gwledydd eraill a gwneud cais am ad-daliad gan ddefnyddio'r gyfarwyddeb gofal iechyd trawsffiniol. Mae'r trefniadau hyn yn darparu llawer iawn o sicrwydd i nifer o unigolion. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni, o ba bynnag blaid, yn cytuno y dylem ni geisio parhau â threfniadau gofal iechyd cyfatebol pan fo hynny'n bosibl.
Yn anochel, fodd bynnag, yn achos Brexit 'dim cytundeb', ni fyddai'r hawliau hyn yn dal i fod ar gael yn gyffredinol—dadl arall pam, fel y mae'r Siambr hon wedi'i ddweud dro ar ôl tro, y dylid diystyru Brexit 'dim cytundeb'. Mae'r Bil yn ceisio darparu'r deddfwriaeth ddomestig i roi'r trefniadau gofal iechyd hyn ar waith yn y dyfodol, pe byddai'r DU yn gadael yr UE gyda chytundeb neu beidio. Gellir ei ystyried fel rhan o gyfres o ddeddfwriaeth sy'n cynnwys is-ddeddfwriaeth a fyddai'n gwneud darpariaethau pontio pe byddem mewn sefyllfa o adael 'heb gytundeb'.
Mae'r Bil hwn yn darparu pwerau i ariannu a threfnu gofal iechyd y tu allan i'r DU, i roi grym i drefniadau gofal iechyd rhyngwladol, ac i wneud darpariaeth ar gyfer rhannu data er mwyn galluogi system gofal iechyd gyfatebol newydd. Defnyddir y pwerau hyn i weithredu'r cytundebau cyfatebol newydd y tu hwnt i unrhyw drefniadau pontio. Gellir defnyddio'r pwerau hefyd i dalu am ofal iechyd dramor i unigolion am resymau dyngarol pan nad oes cytundebau cyfatebol wedi'u sefydlu.
Ceir nifer o gymhlethdodau wrth ystyried yr agweddau datganoledig ar gytundebau gofal iechyd cyfatebol. Er mai mater i'r DU yw trafod cytundebau rhyngwladol, mae'n amlwg bod y ddarpariaeth gofal iechyd wedi ei datganoli. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn, ac yn cydnabod ei bod yn ofynnol i ddarpariaethau'r Bil hwn gael cydsyniad y Cynulliad hwn. Fel yr wyf i wedi'i ddweud, gwnaed cynnydd sylweddol erbyn hyn yn ystod ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, ac rwyf yn falch fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r gwelliannau i'r Bil yr wythnos diwethaf. Mae'r gwelliannau hyn yn rhoi sylw i'r pryderon a godais wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Yn arbennig, fe wnaethom ni bwyso am y gofyniad y byddai Llywodraeth y DU yn cael ein cydsyniad ar gyfer rheoliadau a wnaed o dan adran 2, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, fel yr eglurais pan ymddangosais gerbron y ddau bwyllgor, daethom i'r casgliad y byddai yr un mor werthfawr os nad yn fwy felly i bwyso am ymgysylltu ymhellach ymlaen yn y trafodaethau eu hunain, er mwyn sicrhau na fyddai cytundebau yn arwain at ofynion annymunol ar gyfer gofynion am newid i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig a goblygiadau annisgwyl ar gyfer GIG Cymru.
Felly, rwyf yn falch ein bod wedi sicrhau, yn y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth, sy'n ffurfio'r sail i welliannau'r Llywodraeth i'r Bil, ymrwymiadau y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch trafod cytundebau gofal iechyd, gyda swyddogaeth yn y gwaith cwmpasu cychwynnol, hyd at gwblhau cytundeb drafft; y bydd ymgynghori â ni ar y datblygu cychwynnol a drafftio'r rheoliadau dilynol o dan y Bil, a fydd yn gweithredu'r cytundebau hyn, gyda Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech i symud ymlaen drwy gonsensws gyda llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ond i beidio â gwneud rheoliadau, fel rheol, heb sicrhau cytundeb gan Weinidogion Cymru ymlaen llaw. Ac os nad yw cytundeb yn bosibl, yna bydd cyfnewid llythyrau gweinidogol yn cael ei roi ar gael i ddau Dŷ'r Senedd, yn egluro'r sefyllfa.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Gofal Iechyd (trefniadau rhyngwladol) Llywodraeth y DU yn Ionawr 2019, gan wneud saith o argymhellion, ac rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb dilynol i'r adroddiad hwnnw. Ac er nad oes gennym ni'r amser i adrodd ar y memorandwm atodol, bydd fy sylwadau yn ystyried ei gynnwys a gohebiaeth gysylltiedig gan y Gweinidog, gan gynnwys llythyr y Gweinidog a dderbyniwyd ddoe. Ond cyn i mi drafod y ddeddfwriaeth ei hun, mae'n bwysig tynnu sylw at ein pryderon mai dim ond ar y funud olaf y gwnaed Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r Bil cyn iddo gael ei gyflwyno i Senedd y DU. Ar adeg o chwyldro cyfansoddiadol o'r fath, mae'r angen i lywodraethau weithio gyda'i gilydd mewn modd ymddiriedus a chydweithredol, mewn gwirionedd, yn hynod bwysig.
Ni fu dull cyntaf Llywodraeth y DU o ran y Bil hwn mor ddefnyddiol ag y gallai fod ac mae'n atgyfnerthu'r pryderon a godwyd gennym yn ein hadroddiad 2018 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Ar ôl dweud hynny, amlygodd llythyr gan y Gweinidog ddoe welliannau i'r Bil a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n machlud pwerau i wneud rheoliadau yng nghymalau 2(1)(a) a 2(1)(b) ac yn dileu'r pŵer Harri'r VIII canlyniadol yng nghymal 5(3). Mae hwn wir yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, a chroesawaf y newidiadau a gynigir. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, maen nhw'n cynrychioli cam sylweddol iawn ymlaen.
Gan droi yn awr at ein hadroddiad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ceisio cael gofyniad ar wyneb y Bil i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei geisio pan fo Gweinidogion y DU yn gweithredu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad. Fe wnaeth hynny oherwydd ei bod o'r farn y byddai ganddi fwy o ddylanwad dros drefniadau gofal iechyd trwy gymryd rhan ar gam cynnar o'r broses o ddatblygu polisi'r DU. Yr hyn y bydd y Bil yn ei gynnwys yw dyletswydd i ymgynghori â Gweinidogion Cymru, gyda chefnogaeth memorandwm o gyd-ddealltwriaeth. Mae'r memorandwm o gyd-ddealltwriaeth yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech i symud ymlaen drwy gonsensws a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn gwneud rheoliadau heb sicrhau cydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig. Dylid cyfnewid llythyrau gweinidogol pan na ellir cyrraedd cydsyniad a'i roi yn nau Dŷ Senedd y DU, er na fyddai'n ymddangos yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym ni felly'n gofyn a allai'r Gweinidog gadarnhau y gallai'r dull a fabwysiadwyd o bosibl ganiatáu i Weinidogion y DU weithredu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru. Os yw hynny'n wir, a phe byddai hynny'n digwydd, rwyf yn gofyn a allai'r Gweinidog egluro'r goblygiadau ar gyfer polisi a chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y maes hwn. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog egluro pam nad oedd yn bosibl sicrhau ymgysylltu cynnar wrth ddatblygu polisi a dyletswydd cydsyniad statudol. Ymddengys y byddai'n ddiogelwch priodol i gael y ddau a bod yn fwy cydnaws â'r angen i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd yn adeiladol wrth i ni adael yr UE.
Nodaf hefyd nad oes ymrwymiad, naill ai yn y memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, nac yn yr ohebiaeth i ni gan y Gweinidog i ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol y cyfnewid gohebiaeth, pan na cheir cytundeb.
Rydym hefyd yn nodi bod y Gweinidog wedi gwrthod y trydydd argymhelliad yn ein hadroddiad. Roedd hwn yn ceisio sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol pan eu bod yn rhoi cydsyniad i Weinidogion y DU weithredu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol mewn sefyllfa i gyflawni ei waith craffu, gan gynnwys gweithrediad y swyddogaethau perthnasol gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig. Bwriad yr argymhelliad hwn oedd adlewyrchu'r arferion presennol o ran cydsynio i reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Nid oedd yr argymhelliad hwn yn ddibynnol ar i'r cydsyniad hwnnw fod yn rhwymedigaeth statudol yn y Ddeddf. Roedd yn berthnasol hefyd pan ddarperir cydsyniad drwy gytundeb anstatudol. Gofynnaf i'r Gweinidog, yn ei sylwadau i gloi, gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu cydsyniad, ar ryw ffurf, i Weinidogion y DU weithredu mewn meysydd datganoledig ac i ymrwymo i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol pan ei bod yn rhoi'r cydsyniad hwnnw, fel y mae'n ei wneud ar hyn o bryd o dan Ddeddf 2018; ymrwymo i roi ar gael i'r Cynulliad yr ohebiaeth pan na all Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ddod i gytundeb; ac i egluro beth yw'r cyfnod amser y mae'n disgwyl i'r trefniadau barhau. Roedd ein hadroddiad hefyd yn ymdrin â rhai egwyddorion cyfansoddiadol pwysig, sef y broses memorandwm cydsyniad offeryn statudol. Fe wnaethom ni hefyd fynegi ein pryderon yn ein hadroddiad o gynnydd, ar graffu ar reoliadau Brexit, ac ar ôl cael ymateb i'r adroddiad hwnnw ddoe, byddwn yn ystyried y mater hwn ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwy'n codi i gynghori'r Siambr hon i wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac nid ar chwarae bach yr wyf yn gwneud hynny. Rydym yn gwerthfawrogi natur frys y sefyllfa, a chredaf ei bod yn gwbl briodol i gydnabod bod y Gweinidog wedi gwneud rhywfaint o gynnydd go iawn wrth wella'r hyn, a oedd i ddechrau, ond yn ein barn ni, sy'n parhau i fod yn ddarn o ddeddfwriaeth wael a pheryglus.
I ddechrau fy nghyfraniad, rwyf eisiau troi yn fyr at y rheswm pam nad ydym yn teimlo bod y diwygiadau a nodir yn llythyr y Gweinidog ddoe yn ymdrin â'n pryderon yn llawn, er iddynt fynd i'r afael â rhai pryderon pwysig. Nid ydynt yn mynd yn ddigon pell. Croesewir gwelliant y Llywodraeth i ddileu pŵer Llywodraeth y DU i ddiddymu neu ddirymu deddfwriaeth sylfaenol Cymru, ac felly hefyd y cymal machlud, ond nid yw'r cymal machlud ynddo ei hun yn ymdrin â chwmpas eang iawn y pŵer yng nghymal 2, a gallai Llywodraeth y DU â'i bryd ar wneud hynny wneud cryn dipyn o ddifrod mewn pum mlynedd os dymunent hynny.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o safbwyntiau Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi fod y pwerau a roddwyd i Weinidogion yn y ddeddfwriaeth hon—hynny yw Gweinidogion y Deyrnas Unedig—yn ormodol ac yn anghymesur â'r canlyniadau a nodwyd. Atgoffaf y Siambr o rai enghreifftiau o hynny: nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o daliadau y gellir eu gwneud; does dim terfyn ar bwy y gellir eu hariannu ledled y byd; does dim cyfyngiad ar y math o ofal iechyd y gellir ei ariannu; gall rheoliadau roi swyddogaethau i unrhyw un yn unrhyw le—a gallwn barhau. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r pryderon hyn.
Rydym ni wedi codi pryderon ynglŷn ag ehangder y pwerau hyn ac mae'r pwerau y gallai'r Bil hwn eu rhoi i Weinidogion y DU, er enghraifft, roi mynediad llawn i'r farchnad i gwmnïau gwasanaethau gofal iechyd o bob rhan o'r byd. Unwaith eto, dyfynnaf o ddadl Tŷ'r Arglwyddi, pan fo Aelod yn pryderu bod y sicrwydd a roddwyd gan Weinidog yn methu'r pwynt a wnaed, ac wedyn yn gofyn eto am yr eglurhad y mae angen i'r Gweinidog roi sylw iddo.
Mae cwmpas a phwerau'r Bil hwn yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i drefnu contractau gyda darparwyr ein GIG o unrhyw fan.
Nawr, ni allwn weld beth sydd yn y gyfres newydd o welliannau a fyddai'n amddiffyn Cymru yn awtomatig rhag defnydd posibl y pwerau gan Lywodraeth y DU.
Rydym yn croesawu'r gwelliannau y mae'r Gweinidog wedi'u sicrhau, ond rwyf am ofyn iddo yn benodol a yw'n barod i edrych ar rai o'r gwelliannau eraill sydd, rwy'n deall wedi'u cyflwyno fel gwelliannau gan y meinciau cefn. Rwyf wedi cael fy nghynghori y gallai rhai o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y meinciau cefn ymdrin â'r mater hwnnw o gwmpas eang pwerau, sydd i bob pwrpas yn rhoi i Weinidogion y DU yr union bŵer i efelychu trefniadau presennol yr UE. Yn sicr fe fyddai hynny'n well na'r cwmpas eang iawn hwn o bwerau, y mae Pwyllgor yr Arglwyddi wedi dweud, ac rydym ni o'r farn, sy'n mynd y tu hwnt i nod datganedig y Bil. Byddwn yn pwyso ar y Gweinidog i ystyried hyn ac i weld a oes unrhyw le, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, i drafod â Llywodraeth y DU er mwyn iddi dderbyn rhai o'r gwelliannau hynny, fel ein bod yn dod â'r Bil hwn yn ôl o fewn y cwmpas y bwriadwyd iddo'n wreiddiol.
Yn fyr, rwyf am droi, cyn imi gloi fy sylwadau, at y mater o femoranda cyd-ddealltwriaeth. Felly, er enghraifft, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a rannwyd â'r pwyllgor iechyd ar 28 Chwefror—ac, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am wneud hynny—ac atodiad 2, adran c, paragraff 19:
Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech—
Pwy sy'n diffinio beth fyddai 'pob ymdrech'?—
wrth wneud rheoliadau y mae adran 5 o Ddeddf HIA yn gymwys i fwrw ymlaen ar sail consensws—
wel, byddwn i'n gobeithio hynny wir, hefyd—
ac ni fydd fel arfer yn gwneud rheoliadau na chawsant eu cytuno â Gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig.
Nawr, efallai bydd y Gweinidog yn gallu rhoi sicrwydd imi heddiw y bydd y gwelliannau arfaethedig yn ymdrin â hynny. Rwy'n amau eu bod yn gwneud hynny'n llawn. Hoffwn i ni, Llywydd, ystyried y gair 'arferol'. Beth bynnag y bônt, nid amserau arferol yw'r rhain. Mae Gweinidogion y lle hwn yn sôn wrthym yn aml pa mor frawychus ac ofnadwy yw'r Llywodraeth Geidwadol, ac nad oes modd dibynnu arnynt i wneud rhyw lawer, ac eto, ar yr anadl nesaf, maen nhw'n dweud eu bod yn credu fesul achos eu bod wedi cyflawni cytundebau y mae'n bosibl iddynt ddibynnu arnynt gyda'r unigolion ofnadwy hyn. Ni all y ddau beth fod yn wir. Ni all fod yn bosibl bod y bobl hyn ag anian ddrwg ac yn debygol o ymddwyn yn amhriodol ac y gellir ymddiried yn eu memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mawr obeithiaf fy mod yn anghywir, ac efallai y gall y Gweinidog roi sicrwydd pellach i ni ynghylch y broses honno. [Torri ar draws.] Byddwn yn hapus iawn i dderbyn ymyriad os ydy'r Gweinidog yn dymuno gwneud un. Neu, yn wir, os dymunai unrhyw un ar ei meinciau cefn wneud hynny yn ei lle.
Ond rwy'n credu bod angen i ni ofyn beth mae 'fel arfer' yn ei olygu. A allwn ni ddibynnu ar femoranda cyd-ddealltwriaeth y gellir eu newid? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn y ddadl flaenorol am yr angen i'r gweithdrefnau arferol ynghylch yr hyn a ddywedir yn Siambr Tŷ'r Cyffredin sefyll, ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod, fel y dywedaf, nid yw'r amseroedd hyn yn normal.
Nawr, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf ohonom yn dymuno peidio â bod yn y sefyllfa hon. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dymuno na fyddai'r Gweinidog mewn sefyllfa o orfod symud ymlaen mor gyflym â'r hyn sy'n fater pwysig, a byddwn yn cytuno ag ef, wrth gwrs, nad ydym eisiau cael ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw'r trefniadau cyfatebol hynny ar gael. Rydym yn gwerthfawrogi'r brys, ac rydym hefyd yn gwerthfawrogi y bu rhywfaint o symud i'r cyfeiriad cywir. Ond nid wyf i yn ymddiried rhyw lawer mewn memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mae'n well gen i roi fy ffydd mewn cyfreithiau sy'n gyfreithiol rwymol. Mae'r rhain yn amgylchiadau anodd iawn, ond nid yw amgylchiadau anodd yn esgus dros wneud cyfraith sydd o bosibl yn wael, ac anogaf y Siambr i wrthod.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Diolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl. Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyfres o gwestiynau manwl iawn na fyddaf yn gallu eu hateb yn iawn ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu gwneud cyfiawnder â nhw. Fodd bynnag, fe ysgrifennaf at y pwyllgor i godi'r pwyntiau hynny sydd ar y cofnod i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â nhw.
Ond mae'n werth adlewyrchu, ochr yn ochr â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, bod y gwelliant a osodwyd ar 5 Mawrth yn rhoi ar wyneb y Bil y gofyniad hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud rheoliadau o dan adran 2 sy'n cynnwys darpariaethau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y lle hwn. Diwygiwyd y Bil i ddileu'r pŵer i ddiwygio, diddymu na dirymu deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau neu Fesurau y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'n werth atgoffa ein hunain bod y Bil fel y'i gosodwyd yn wreiddiol wedi sicrhau cydsyniad Gweinidogion yr Alban. Y rheswm pam yr ydym ni mewn sefyllfa wahanol yw oherwydd bod y Llywodraeth hon wedi cymryd safbwynt gwahanol, a'n bod wedi negodi a sicrhau newid gwirioneddol a pherthnasol sy'n diogelu sefyllfa, nid yn unig y Llywodraeth hon, ond pob llywodraeth genedlaethol datganoledig yn y Deyrnas Unedig yn well. Fel y cyfeiriodd Mick Antoniw ato, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn ddiweddar i gyflwyno cymal machlud yn cyfyngu ar y pŵer i wneud darpariaeth unochrog am bum mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael, felly ni fydd Llywodraeth y DU yn parhau i allu gwneud rheoliadau i roi grym i gytundebau gofal iechyd y tu hwnt i'r dyddiad hwn.
Mae angen i mi geisio ymdrin â naws a sylwedd peth o gynnwys y sylwadau a wnaed gan Helen Mary Jones, oherwydd nid wyf yn cytuno â'i hasesiad hi y dylid disgrifio'r Bil hwn fel darn o ddeddfwriaeth gwael a pheryglus. Mae'n ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth er mwyn i gytundebau gofal iechyd rhyngwladol cyfatebol barhau—y rhai hynny y mae dinasyddion Cymru ac eraill yn cael budd ohonyn nhw fel yr ydym ni heddiw. Y risg yw, os nad ydym ni mewn sefyllfa i wneud hyn, ac na chaiff y Bil ei basio, yna os byddwn ni'n gadael heb gytundeb ddiwedd mis Mawrth, ni fydd gan ein dinasyddion yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw mewn rhannau eraill o Ewrop yr hawl i ofal iechyd cyfatebol. Mae'n ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth, ac nid yw diben y Bil yn ymestyn—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gadewch imi orffen y pwynt hwn. Nid yw'n ymestyn i'r holl sefyllfaoedd o bryder a godwyd yng nghyfraniad Helen Mary Jones. Nid wyf eisiau dychwelyd i fod yn gyfreithiwr unwaith eto, ond mae angen i chi edrych ar ddiben y Bil gan ddeall ei ddarpariaethau ac unrhyw gamau gweithredu a gymerir yn ei enw, yn enwedig pan fo hynny'n cyfrif fel is-ddeddfwriaeth. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Felly, a ydych chi'n gwadu barn pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a ddywedodd fod hyn yn amlwg yn mynd y tu hwnt—drafftio'r ddeddfwriaeth, hyd yn oed gyda'r gwelliannau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw—yn amlwg yn mynd y tu hwnt i fwriad y ddeddfwriaeth pan gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf? Ac onid oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch hynny?
Edrychwch, nid wyf i yma i geisio dweud bod hwn yn ddarn perffaith o ddeddfwriaeth. Y dewis yr ydym ni'n ei wneud yw pa un a ydym am roi ein cydsyniad i'r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen o gofio'r effaith a gaiff ar ein dinasyddion os ydym ni'n rhoi ein cydsyniad, neu beidio. Pe byddwn i'n drafftio'r darn hwn o ddeddfwriaeth byddai'n edrych yn wahanol, a gwn y bu gan Dŷ'r Arglwyddi bryderon ynghylch cwmpas y ddeddfwriaeth, ac mae un o'r gwelliannau a basiwyd gan Dŷ'r Arglwyddi heddiw yn cyfyngu'r cwmpas i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ehangach yn hytrach na'n cytundebau rhyngwladol ehangach. Byddai'n well gen i i ffurf derfynol y Bil fod felly, ond hyd yn oed os nad yw, rwy'n dal i gredu mai'r penderfyniad cywir ar gyfer y Cynulliad yw i roi ein cydsyniad i'r Bil fel y'i cyflwynwyd, oherwydd ei fod yn darparu mwy o drefniadau diogelu ar gyfer y lle hwn a'n pwerau, ac mewn gwirionedd, yn llawer pwysicach, mae'n diogelu sefyllfaoedd ein dinasyddion y mae gennym gyfrifoldeb drostynt. Rwyf wedi ei gwneud yn glir yn y gorffennol nad yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhwystro trefniadau gofal iechyd cyfatebol. Ond mae angen i ni gael ein cynnwys yn briodol wrth ddatblygu unrhyw gytundebau gofal iechyd cyfatebol yn y dyfodol, ac nid yw hynny wedi digwydd hyd yn hyn. Felly, mae gennym ni gytundeb ar wella ein rhan ni yn y cytundeb yn y dyfodol a rhagdybio trefniadau gofal iechyd cyfatebol. A daw'r sicrwydd deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a ddarperir gan Lywodraeth y DU â'r Bil hwn i sefyllfa lle y gallaf ac yr wyf yn argymell ein bod ni'n rhoi ein cydsyniad.
Felly, rydym wedi cynnal sefyllfa negodi gref gyda Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at welliannau cadarnhaol yn y Bil a memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n ei gwneud yn glir sut y byddwn yn rhan o ddatblygiad cytundebau gofal iechyd yn y dyfodol, ac rwy'n nodi ar gyfer y Siambr fod Gweinidogion yr Alban wedi dangos eu cefnogaeth i'r dull a negodwyd gan y Llywodraeth hon. Mae cytundebau gofal iechyd cyfatebol yn rhoi tawelwch meddwl i lawer o unigolion, ac mae'n iawn y dylai Llywodraeth Cymru fod â rhan gadarnhaol a gweithredol wrth sicrhau bod darpariaeth briodol yn bodoli ar gyfer trigolion Cymru yn y dyfodol, ac felly gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hynny â ni nesaf at yr eitem olaf, sef y cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid, a dwi'n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM6991 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R ac 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff y cadeirydd pwyllgor ei ethol ohono fydd fel a ganlyn:
(i) Y Pwyllgor Deisebau—Ceidwadwyr Cymreig.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Darren Millar yn ffurfiol. Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n ddiwrnod trist, yn fy marn i, i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod y cynnig hwn yn cael ei ddwyn ger ei fron, oherwydd cawsom ni i gyd ein hethol ar yr un sail dwy flynedd a hanner yn ôl, ac rydym ni i gyd yn ddirprwyon ar ran y bobl sydd yma, ac roedd y Rheol Sefydlog sy'n sefydlu dosbarthiad Cadeiryddion pwyllgorau, ar ôl yr etholiad diwethaf, yn fy marn i, yn cynrychioli canlyniadau'r etholiad ym mis Mai 2016 yn briodol. Yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud heddiw, os bydd y cynnig hwn yn cael ei dderbyn, yw tarfu yn sylweddol iawn ar y sefyllfa honno, mewn gwirionedd.
Un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff arnaf i ers bod yn y fan yma yw'r modd amhleidiol y mae pwyllgorau'n gweithredu, ac rwy'n credu bod pob un Cadeirydd pwyllgor, hyd yn oed y rhai sydd â safbwyntiau cadarn iawn sydd ymhell iawn o fy rhai i, fel Mick Antoniw, wedi defnyddio eu swyddogaeth fel Cadeirydd pwyllgor gyda didueddrwydd egwyddorol, ac rwy'n credu bod hynny o fudd mawr iawn i'r sefydliad hwn—y gallwn ni gael dadleuon fflamychol ar draws y Siambr, ond yn y pwyllgorau, gallwn weithio gyda'n gilydd a chydweithredu a bod yn golegol hefyd.
Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf bu newid yn y niferoedd mewn gwahanol grwpiau: mae fy ngrŵp i fy hun wedi colli tri Aelod, mae Plaid Cymru wedi colli dau Aelod, mae'r Ceidwadwyr wedi ennill un Aelod, ac mae eraill wedi dod yn Aelodau annibynnol. Felly, y sefyllfa ar hyn o bryd, yw bod gan y Blaid Lafur, yn ôl y ffigurau a gynhyrchwyd gan y staff ymchwil, 29 o Aelodau ac mae ganddi chwe Chadeirydd. Mae hynny'n 48 y cant o'r holl Aelodau ac mae ganddi 50 y cant o'r Cadeiryddion. Mae hynny'n eithaf teg. Mae hynny'n gwbl dderbyniol. Mae gan UKIP bedwar Aelod, 7 y cant o'r Aelodau, ac mae ganddi 8 y cant o'r cadeiryddion—bron yn union gymesur. 17 y cant yn unig o'r Aelodau sydd gan Blaid Cymru, ar y llaw arall, ond mae ganddi 25 y cant o'r Cadeiryddion. Mae gan y Ceidwadwyr 20 y cant o'r Aelodau a 17 y cant o'r Cadeiryddion. Felly, ydynt, mae'r Ceidwadwyr wedi'u tangynrychioli rywfaint a Phlaid Cymru wedi ei gorgynrychioli yn sylweddol. Felly, os, fel y mae'r Rheol Sefydlog yn ei ddweud, y dylai'r Pwyllgor Busnes roi sylw i'r angen i sicrhau bod cydbwysedd y Cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau yn perthyn iddyn nhw, mae'n eithaf clir y dylai Plaid Cymru fod yn colli Cadeirydd pwyllgor os yw'r Ceidwadwyr am ennill un.
Nid oes unrhyw ddadl mewn egwyddor, o gwbl, i UKIP golli ei Chadeirydd, oherwydd gadewch i ni edrych ar y Rheol Sefydlog. Sut y gallai'r Pwyllgor Busnes a'r Cynulliad sicrhau bod cydbwysedd y Cadeiryddion ar draws pwyllgorau yn adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau yn perthyn iddyn nhw pan fo UKIP yn grŵp, yr awgrym yw fod gennym ni hawl felly i fod ag un Cadeirydd pwyllgor? Yn sicr, nid yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau i amddifadu un grŵp o un Cadeirydd fel nad oes ganddo unrhyw gynrychiolaeth ymhlith y Cadeiryddion. Mae hynny, rwy'n credu, yn tanseilio yn sylfaenol y Rheol Sefydlog. Yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn y fan yma, heddiw, mae arnaf ofn, yw ymgais dan-din ac aflan gan y consensws ym Mae Caerdydd—y tair plaid fwy yn cyfuno gyda'i gilydd i gymryd oddi arnom y swyddogaeth Cadeirydd sy'n gwbl briodol yn perthyn i ni, yn fy marn i, o dan y Rheolau Sefydlog hynny y gwnaethom ni i gyd bleidleisio o'u plaid ar ddechrau'r Cynulliad hwn. Felly, mae hwn yn achos o ormes gan y mwyafrif. Rydym yn aml yn cael dadleuon yn y lle hwn pan fydd pobl yn gwneud pwyntiau gwleidyddol am fwlio. Mae hwn mewn gwirionedd yn achos o fwlio. Grŵp bach ydym ni. Mae gennych chi'r niferoedd. Nid oes gennym ni'r niferoedd. Rydych chi'n benderfynol o gymryd oddi arnom yr hyn sy'n eiddo cyfiawn inni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwyf yn ildio.
Diolch i chi am ei dderbyn. A ydych chi'n cytuno bod swyddogaethau Cadeiryddion yn cael eu neilltuo—nid dwy swyddogaeth Cadeirydd i un person? Yr hyn a oedd gennych chi oedd David Rowlands yn Gomisiynydd ac hefyd yn bennaeth y Pwyllgor Deisebau. Cafodd Michelle Brown ei hanwybyddu yn llwyr. Felly, rwy'n credu y byddai wedi bod mwy o gydymdeimlad â grŵp UKIP pe byddai swyddogaeth Cadeirydd wedi'i neilltuo i Michelle Brown.
Wel, byddai hynny wedi bod yn fater i'r Cynulliad i benderfynu neilltuo swyddogaeth y Cadeirydd iddi hi. Nid dyna'r mater yr ydym ni'n ei drafod ar hyn o bryd y prynhawn yma. Mae hyn ynghylch neilltuo Cadeiryddion i grwpiau. Nid oes gan hynny ddim i'w wneud â deiliad unigol swyddogaeth y Cadeirydd. Byddaf yn dod at David Rowlands mewn eiliad. Os ydym ni wir yn credu mewn parchu hawliau lleiafrifoedd, sy'n fater arall a glywn yn aml gan yr Aelodau sydd yn ôl pob tebyg yn mynd i bleidleisio i gael gwared â hawliau y lleiafrif heddiw, yna mae hwnnw'n safbwynt y dylid ei barchu.
Rwy'n credu bod David Rowlands yn wir yn Aelod uchel ei barch o'r lle hwn. Mae wedi cyflawni swyddogaeth Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn modd yr un mor egwyddorol â Chadeiryddion eraill yn eu pwyllgorau eu hunain. Mae wedi sicrhau bod mwy o ddeisebau yn cael eu trafod yn y Siambr nag sydd wedi digwydd yn y cyfnod diweddar, rwy'n credu, ac mae hynny'n beth da iawn. Felly, rwy'n credu ein bod mewn gwirionedd yn niweidio egwyddor sylfaenol cynrychiolaeth yn y lle hwn os byddwn yn derbyn y cynnig hwn y prynhawn yma. Mae cynsail yn cael ei osod yn y fan yma, ac rwy'n credu bod hwnnw'n un peryglus, oherwydd bydd unrhyw leiafrif yn y dyfodol mewn perygl o gael ei hawliau wedi'u bradychu yn yr un modd ag y bydd ein rhai ni o bosibl heddiw. Rwy'n gwybod bod Aelodau o grŵp y Torïaid sydd â pharch dwfn at hawliau cyfansoddiadol a thegwch ac i'r egwyddor o gynrychiolaeth deg mewn nifer o gyd-destunau. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhai Aelodau o'r grŵp Ceidwadol a fydd yn pleidleisio heddiw â'u safbwyntiau traddodiadol yn flaenllaw iawn yn eu meddyliau.
Rwy'n dod yn olaf at Blaid Cymru, sydd yn aml i'w clywed yn gresynu at annhegwch cymdeithas a llawer o ddeddfwriaeth y Llywodraeth, ac, wrth gwrs, sy'n credu'n ddwfn mewn hawliau cenhedloedd bach. Wel, os ydych chi'n credu mewn hawliau cenhedloedd bach, rwy'n credu y dylech chi gredu mewn hawliau pleidiau bach hefyd. I bob pwrpas, ni ellir gwahaniaethu rhwng y ddau beth. Mae yna lawer o Aelodau yn y lle hwn sy'n hoffi meddwl bod y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yn y Cynulliad hwn yn wahanol i'r ffordd y caiff pethau eu gwneud yn San Steffan, ac yn wir yn well na'r ffordd y cânt eu gwneud yn San Steffan. Wel, mae gen i ofn, heddiw, bod yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, os caiff y cynnig hwn ei dderbyn, yn union yr un fath. Mae yr un math o ormes aflan, creulon gan y mwyafrif, ac rwy'n cofio hynny'n dda iawn o'r dyddiau pan oeddwn innau yn San Steffan.
Rwy'n credu y dylai'r rhai hynny sy'n pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw fod ag ymdeimlad dwfn o gywilydd am yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac y dylent fyfyrio ynghylch y cynsail cyfansoddiadol y maen nhw'n ei osod a'r perygl ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd rhywun o grŵp y Ceidwadwyr heddiw, efallai y rheolwr busnes, yn codi mewn eiliad i gyfiawnhau, ar egwyddor, y penderfyniad y cyflwynodd ef yn y Pwyllgor Busnes ac sy'n destun y cynnig hwn y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, felly.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hyn â ni at y cyfnod pledleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais honno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Eluned Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6986 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach: O blaid: 43, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
NDM6987 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol): O blaid: 42, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Daw hyn â ni at y bleidlais olaf ar y cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i'r grwpiau plaid, a dwi'n galw am bleidlais. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 17.2D, ni chaniateir pasio'r cynnig yma oni bai fod o leiaf dwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio yn cefnogi'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig yna.
NDM6991 - Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i'r Grwpiau Plaid: O blaid: 44, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ar ein trafodaethau ni am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.
Mae gan Ddiwrnod y Gymanwlad arwyddocâd arbennig eleni wrth inni nodi 70 mlynedd ers Datganiad Llundain, pan gytunodd cenhedloedd y Gymanwlad i symud i'r dyfodol gyda'i gilydd fel aelodau rhydd a chyfartal. Mae'r weledigaeth a'r ymdeimlad o gysylltiad a ysbrydolodd y llofnodwyr wedi sefyll prawf amser, ac mae'r Gymanwlad yn parhau i dyfu, gan addasu er mwyn mynd i'r afael ag anghenion cyfoes.
Heddiw, mae miliynau ar filiynau o bobl ledled y byd yn cael eu dwyn ynghyd yn sgil y gwerthoedd cyffredin y mae'r Gymanwlad yn eu rhannu. Ym mis Ebrill y llynedd, croesawais arweinwyr ein 53 gwlad i Balas Buckingham ac i Gastell Windsor ar gyfer Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad. Roeddem i gyd yn dyst i'r modd y mae gweledigaeth y Gymanwlad yn cynnig gobaith, ac yn ein hysbrydoli i ganfod ffyrdd o ddiogelu ein planed a'n pobl.
Gallwn edrych i'r dyfodol gyda mwy o hyder a gobaith o ganlyniad i'r cysylltiadau yr ydym yn eu rhannu, ac yn sgil y rhwydweithiau cydweithio a chymorth ar y cyd yr ydym yn cyfrannu atynt ac yn tynnu arnynt. Gydag ymrwymiad parhaus drwy adegau o newid mawr, mae cenedlaethau olynol wedi dangos, er bod yr ewyllys da y mae'r Gymanwlad yn enwog amdani yn anniriaethol, fod ei heffaith yn wirioneddol.
Rydym yn profi hyn wrth i bobl o bob cefndir barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi'r gwerth sydd ynghlwm wrth fod yn aelodau o Gymanwlad gysylltiedig, a hynny drwy weithredu. Rwy'n gobeithio ac yn ymddiried y bydd llawer mwy yn ymrwymo i wneud hynny ar Ddiwrnod y Gymanwlad hwn.