Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
12/02/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Hoffwn groesawu Aelod newydd i'n plith y prynhawn yma, Delyth Jewell, sef yr Aelod newydd dros ranbarth de-ddwyrain. Rŷn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed dy gyfraniadau di yma yn y Senedd ar ran y bobl yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru i gyd. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud datganiad i ni. [Cymeradwyaeth.]
Diolch, Llywydd.
Popeth sydd gen i, byddwn i wedi ei roi yn hapus i beidio â bod yn sefyll yma heddiw.
Nid fy ngeiriau i, ond rhai'r Arlywydd Johnson i'r Gyngres ar ôl iddo gymryd drosodd oddi wrth y gwladweinydd arall hwnnw, Kennedy. Popeth sydd gen i—nid wyf i'n dyfynnu'r geiriau hyn o ganlyniad i ddiffyg diolchgarwch wrth ddod i'r sedd hon, nac yn wir o ddiffyg penderfyniad i wneud y gorau y gallaf, ond rwy'n eu dyfynnu yn hytrach gyda thristwch dwys o golli fy ffrind. Mae'r golled honno yn rhywbeth sy'n ein huno.
Mae Cymru'n galaru. Mae Gwent yn galaru am y gwrol un a gâr wlad, fel y soniodd Gerallt am y dyn arall hwnnw ar y gorwel—Saunders. Anodd rhoi mewn i eiriau maint y golled hon. Roedd Steffan mor falch ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru, ardal Dic Penderyn, S.O. Davies, Phil Williams. Nawr, mae Steffan ymhlith y cewri hyn, ac rŷn ni yn cerdded ar eu holau nhw, yn ymbil arnynt i estyn llaw ac i'n rhoi ni i eistedd ar eu hysgwyddau.
Pan oeddwn i'n meddwl am beth i'w ddweud yma heddiw, gwnes i feddwl am yr oriau dreuliais i gyda Steffan yn cerdded hyd a lled y de-ddwyrain yn 2016, ac am y daith gerdded ffantastig yna yr oedd ei chwaer, Nia, a Rhuanedd, wedi ei threfnu y llynedd. Dod â phobl ynghyd yr oedd Steffan yn ei wneud wastad. Nid dim ond cawr, ond cyfaill.
Rwyf i wedi siarad am gewri a chredaf fod hynny'n briodol gan fod y lle hwn wedi ymddangos fel lle hudolus i mi erioed. Mae pethau yn dod i fodolaeth yma nad oedden nhw'n bodoli cynt—ie, deddfau, ond hefyd syniadau, cynghreiriau. Mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yma ers amser maith, nid erioed o dan yr amgylchiadau hyn, ond yn freuddwyd serch hynny. Dysgodd Yeats i mi bod cyfrifoldebau yn dechrau mewn breuddwydion. Mae gen i gyfrifoldeb i bobl Dwyrain De Cymru i wneud y gorau y gallaf, i fy mhlaid ac i'm grŵp, ac mae gen i gyfrifoldeb i Steffan. Nid wyf i'n ei gymryd yn ysgafn. Gwn fod yn rhaid i mi roi'r cwbl sydd gennyf drosto ef. Gwn hynny, ni waeth ble yn y Siambr hon yr wyf i'n eistedd, bydd llawer ohonoch chi'n meddwl fy mod i yn lle Steffan, ac nid oes ots gen i am hynny. A dweud y gwir, byddaf yn ei ystyried yn anrhydedd. Oherwydd er mai fi yw aelod mwyaf newydd y Siambr, yn lle Steffan, rwyf i wedi cael y sedd orau yn y tŷ.
Rwyf i yn lle Steffan, ond ni wnaf i byth ei ddisodli. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi fodloni i mi ei rannu ag ef. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ53395
Diolch, Llywydd. Mae camau i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl ifanc yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru, mewn ysgolion a cholegau drwy'r gwasanaeth ieuenctid, yn y gweithle ac yn y GIG, a thrwy bartneriaethau â sefydliadau trydydd sector ac eraill.
Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU un o'r treialon iechyd meddwl mwyaf yn y byd yr wythnos diwethaf i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Bydd 370 o ysgolion Lloegr yn cymryd rhan yn y treialon hyn, gan brofi gwahanol ddulliau, a bydd naw o ardaloedd yn treialu ffyrdd newydd o sicrhau bod plant sy'n dechrau derbyn gofal yn cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt ar yr adeg honno pan fyddant yn arbennig o agored i niwed. Bydd ysgolion yn Lloegr hefyd yn darparu addysg iechyd meddwl o 2020 ymlaen, rhywbeth y mae Samariaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru ei wneud hefyd. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n datblygu arfer gorau ac yn gwella gwasanaethau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a fyddwch chi hefyd yn edrych ar y mentrau hyn yn Lloegr, i weld ble bydd y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg a lle mae eu harferion gorau yn dod i'r amlwg hefyd, a hefyd rhannu'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu yma yng Nghymru gyda'n cydweithwyr yn Lloegr?
Wel, Llywydd, yn sicr byddwn yn awyddus i ddysgu unrhyw wersi a geir o fentrau newydd mewn mannau eraill. Mae'n rhan o bleser datganoli ein bod ni'n gallu rhoi cynnig ar bethau mewn ffordd wahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ac yna rhannu'r dysgu rhyngom. Fel y dywed yr Aelod, mae gennym ni eisoes ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yma yng Nghymru. Fe wnaeth 11,558 o blant elwa ar y gwasanaeth cwnsela ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer. Ac unrhyw beth y gallwn ni ei rannu gydag eraill, o'n profiad ni, rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae wedi ymddangos i mi erioed mai'r dull synhwyrol o ddatganoli yw ei ystyried, fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith yn y fan yma, fel math o labordy byw lle mae arbrofion sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill ar gael i ni i gyd, i ddysgu oddi wrthynt.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc, ein bod ni'n clywed eu lleisiau nhw yn y broses honno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod ein Senedd Ieuenctid eisoes wedi nodi iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau. A hoffwn eich gwahodd chi i ymrwymo heddiw fel Llywodraeth i weithio gyda'r Senedd Ieuenctid, gan roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r awgrymiadau a ddaw ganddyn nhw, a sicrhau, wrth i ni wella gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ein pobl ifanc yng Nghymru, bod lleisiau'r bobl ifanc hynny yn gwbl ganolog. Fel y bydden nhw'n ei ddweud, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'.
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu ein gwasanaethau cyhoeddus gyda llais y defnyddiwr yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n meddwl am y gwasanaethau hynny ac yn ceisio eu datblygu yn y dyfodol. Ceir rhai grwpiau yn y boblogaeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac mae lleisiau pobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn sicr yn y categori hwnnw. Cefais y cyfle i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, y daeth Helen Mary Jones â nhw i'r Senedd, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle hwnnw a'r wybodaeth yr oedd y bobl ifanc hynny yn gallu ei rhoi i ni. Ac ym maes iechyd meddwl, mae hynny'n arbennig o bwysig, Llywydd, gan ein bod ni'n gwybod o'r ffigurau diweddaraf yn Lloegr, er enghraifft, y bu cynnydd o chwe gwaith yn fwy yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl dros y ddau ddegawd diwethaf. Ac eto, dim ond rhyw fymryn yn fwy y mae cyflyrau iechyd meddwl â diagnosis clinigol wedi cynyddu ymhlith y grŵp hwnnw o bobl. Felly, mae rhywbeth i'w ddysgu yma o'r neges y mae pobl ifanc yn ei gyfleu i ni pan fyddant yn dweud bod ganddyn nhw anhwylder iechyd meddwl. Ac mae cyfarfod y bobl ifanc hynny wyneb yn wyneb ymhlith y ffyrdd gorau i ni allu gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny.
Rydym ni bob amser yn cael ein temtio i edrych ymhellach i ffwrdd am yr enghreifftiau gorau posibl o sut i wella ein gwasanaethau o ran iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond, wrth gwrs, yn ôl yn yr hydref, roedd yr Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, a minnau yn falch iawn o fod yn etholaeth Jayne Bryant, yn y lansiad o £13.4 miliwn o gyllid drwy'r gronfa weddnewid yng Nghanolfan Serennu, ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi ei seilio i raddau helaeth ar le, â phwyslais cymunedol, gan fanteisio ar holl adnoddau, holl alluoedd yr ardal honno, i gynorthwyo a meithrin ein pobl ifanc. Dyddiau cynnar yw hi eto, ond pe byddai hwnnw'n profi i fod yn llwyddiant—ac nid wyf i'n amau y bydd, yn rhannol oherwydd y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwthio'r agenda hon—os bydd yn profi ei fod yn gweithio, ai'r bwriad wedyn fydd cyflwyno hynny nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, nid yn unig ar draws y de-ddwyrain, ond i ddefnyddio hwnnw fel y model y byddwn ni'n ei gyflwyno ledled Cymru fel bod pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl gorau oll?
Wel, mae'r model, Llywydd, y mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn sicr yn un yr ydym ni eisiau ei ddatblygu ymhellach, gan ei fod yn darparu ar gyfer dull gwahaniaethol o ymdrin ag iechyd meddwl. Rydym ni wedi arfer yn llwyr â dulliau gwahaniaethol ym maes iechyd corfforol. Os oes gennych chi annwyd—fel sydd gen i—mae angen paracetamol arnoch chi; os oes gennych chi ffliw, mae angen gwahanol fath o ateb arnoch chi; ac os oes gennych chi niwmonia, yna gallech chi ganfod eich hun mewn uned gofal dwys. Rydym ni'n deall bod gwahanol lefelau o angen yn gofyn am wahanol fath o ymateb. Roedd yn sicr yn un o'r gwersi yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae cael gwasanaeth o'r math y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddisgrifio, pan fo sbectrwm o wahanol wasanaethau ar gael, sy'n gallu darparu'r cymorth wedi'i deilwra hwnnw a'r ymateb wedi'i deilwra i angen ein pobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, yn fodel yr ydym ni'n awyddus iawn i'w weld yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredinol yng Nghymru.
2. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud o’r effaith y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn ei chael ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OAQ53402
Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, a gofyn am estyniad i erthygl 50. Drwy wneud hynny, byddai modd lleddfu’r effaith ariannol a deddfwriaethol ar Gymru. Yn y cyfamser, rydyn ni’n symud ymlaen i gywiro diffygion mewn cyfraith sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd.
Diolch i chi am eich ateb. Mae yna ganfyddiad, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru wedi mynd nawr i ddibynnu'n ormodol ar ganiatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu ar ein rhan ni. Felly, allwch chi gadarnhau mai polisi'r Llywodraeth yw mai fan hyn fydd yn deddfu ar ran Cymru, oni bai bod yna resymau penodol i beidio gwneud hynny, ac nid, fel mae rhai y awgrymu, fod yna orddibyniaeth nawr ar San Steffan i ddeddfu ar ein rhan ni, oherwydd mae hynny'n bwysig oherwydd mae'n torri mas rôl graffu bwysig sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad yng nghyd-destun y deddfau hynny? Ac o gofio bod y Dáil yn edrych ar eistedd chwe diwrnod yr wythnos i ddelio gyda'r sefyllfa allai godi, a bod San Steffan, wrth gwrs, yn sôn am eistedd yn ystod hanner tymor, ydych chi'n rhagweld y bydd angen i'r Senedd hon eistedd yn amlach hefyd er mwyn dygymod â'r rhaglen ddeddfwriaethol fydd ei hangen yn wyneb diffyg cytundeb?
Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn arall yna. Jest i ddweud, ein polisi ni yw'r polisi mae e wedi ei roi mas y prynhawn yma—mae'r cyfrifoldebau i ddeddfu yn nwylo'r Cynulliad. Rŷn ni eisiau gweld y Cynulliad yn delio gyda'r cyfrifoldebau hynny oni bai bod rheswm penodol nad ydym yn gallu ei wneud e fel yna, ac, wrth gwrs, mae Brexit yn creu cyd-destun ble mae rheswm penodol yn codi.
Beth rydym ni'n ei wneud yw yr un peth ag y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban. Ble mae Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud pethau sy'n hollol dechnegol sydd ddim yn newid ein polisi ni o gwbl, achos does dim digon o amser i ni ail-wneud pethau maen nhw'n ei wneud, rydym ni'n dweud ein bod ni'n fodlon iddyn nhw, gyda'r cytundeb sydd gyda ni, i ddeddfu ac yn y blaen. Os yw polisïau yn newid, rydym ni'n dod at lawr y Cynulliad, a dyna beth rydym ni wedi ei wneud, ac mae mwy o bethau i'w gwneud, mwy o offerynnau statudol o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd i ddod at lawr y Cynulliad. So, pan fydd polisïau yn newid, rŷn ni'n dod yma ac yn rhoi cyfleon pwysig i'r Cynulliad graffu ar beth rydym ni'n ei awgrymu.
Yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, ble mae cymaint o bethau i'w gwneud, pan fydd y newidiadau ddim ond yn bethau technegol, rydym ni'n rhoi cyfle i Dŷ'r Cyffredin wneud hynny ar ein rhan ni, fel maen nhw'n gwneud yn yr Alban. Jest i ddod at y cwestiwn olaf, dwi'n gallu gweld sefyllfa ble fydd rhaid i ni roi mwy o amser ar lawr y Cynulliad i ddelio gyda'r effaith os ydym ni yn mynd i ddod mas o'r Undeb Ewropeaidd.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod gan yr Ysgrifennydd materion gwledig y bydd yr oedi yn ymateb ei Llywodraeth i 'Brexit a'n tir' yn gwthio'r ymateb hwnnw i'r haf. Un peth y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo iddo yn amlwg yw cyflwyno Bil amaethyddol ar gyfer Cymru. Mae gennym ni oddeutu dwy flynedd ar ôl o eistedd yn y sefydliad hwn. A allwch chi gadarnhau nad oes unrhyw oedi i fwriad y Llywodraeth i gyflwyno Bil amaethyddol Cymru o'r fath, er bod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' wedi cael ei wthio i'r haf erbyn hyn, oherwydd, i roi cyfle teg i'r Bil hwnnw ac iddo fod yn destun ymgynghoriad a chael ei weithredu, mae'n hanfodol bod yr amser yn cael ei neilltuo yn amser busnes y Llywodraeth er mwyn i ni ystyried rhinweddau neu beidio yr achos y bydd y Llywodraeth yn ei wneud yn y Bil hwnnw?
Wel, Llywydd, rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'u pwysigrwydd o ran sicrhau y gall Bil amaethyddiaeth ein hun i Gymru gael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnig yr amser y bydd angen arno i'r Cynulliad ystyried Bil mor bwysig. Bydd Andrew R.T. Davies yn hapus, rwy'n credu, i gydnabod y ffaith ein bod ni wedi gallu gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU o ran y Bil Amaethyddiaeth, sy'n mynd trwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, ein bod ni, o ganlyniad i'r cytundebau yr ydym ni wedi eu sicrhau gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn, yn ffyddiog y bydd y Bil yn darparu'r holl arfau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru sydd eu hangen arnom i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol gadael yr Undeb Ewropeaidd ac na fydd unrhyw fwlch yn y llyfr statud i Gymru o ganlyniad i'r cytundebau hynny. Ond, fel y dywed, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud yn eglur, drwy ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' a'r deialog parhaus y mae'n ei gael gyda'r undebau amaethwyr ac eraill, mai ei bwriad yw cyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru. Ac, o ystyried holl ansicrwydd y byd yr ydym ni'n byw ynddo, ein bwriad yw gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio'r 20 y cant arall. Fel corff ei hun, mae'n cynhyrchu 800,000 o dunelli o bren bob blwyddyn. Ac eto, yn rhyfeddol, fel y clywsom ddoe gan brif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes gan neb ar y bwrdd presennol wybodaeth am bren na choedwigaeth na phrofiad ohonynt. Yn eu hadroddiad ar y problemau yn is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfeiriodd yr archwilwyr Grant Thornton at endid cyfunol heb unrhyw ddiwylliant sefydliadol a swyddogaeth goedwigaeth ar wahân wedi ei phlagio gan ddiffygion difrifol gan gynnwys llywodraethu gwael, rheolaeth wael o bobl, cyllidebu gwael a diwylliant archwilio nad oedd gymaint yn oediog ond nad oedd yn bodoli o gwbl. Mae'n rhaid i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru dderbyn eu cyfran o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa erchyll hon, ac yn wir fe ymddiswyddodd y cyn-gadeirydd. Ond, gan mai eich Llywodraeth chi wnaeth eu penodi, a ydych chi hefyd yn derbyn eich cyfran o'r bai am greu bwrdd yr oedd yn gwbl amlwg nad oedd yn gallu gwneud y gwaith?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei gryfhau. Dyna pam mae gennym ni gadeirydd dros dro newydd a nodedig ar y bwrdd. Dyna pam mae'r bwrdd wedi cael ei atgyfnerthu gan bum aelod newydd, rwy'n credu, a benodwyd gan y Gweinidog, gan gynnwys aelodau â phrofiad o reoli tir. I'r bwrdd hwnnw y mae'n rhaid i ni edrych nawr i gymryd y camau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau yn adroddiad Grant Thornton ac i weithio gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac eraill i wneud yn siŵr bod y diffygion a nodwyd yn cael eu hunioni, a bod y sefydliad pwysig iawn hwn sy'n gwneud gwaith angenrheidiol a phwysig ledled Cymru bob un dydd yn gallu bwrw ymlaen â'r dyletswyddau pwysig hynny, gyda ffydd yn y diwylliant sydd ganddo ac yn y strwythurau sydd yno i'w gefnogi.
Mae'n codi'r cwestiwn pam mae wedi cymryd chwe blynedd a phedwar adroddiad ar wahân i'r methiannau dwys hyn gael eu datgelu yn y modd hwn. Nawr, yr ymateb safonol yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth mewn sefyllfaoedd fel hyn yw bod hwn yn gorff ymreolus nad oes gennych ond cyfrifoldeb hyd braich amdano, ond mae gennych chi gyfrifoldeb uniongyrchol dros strategaeth eich Llywodraeth eich hun ar gyfer coedwigaeth a choetiroedd. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadwyd gennych y targed uchelgeisiol ac a ganmolwyd yn eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn hyd at 2030. Fe wnaethoch chi lwyddo i blannu cyfartaledd o ddim ond oddeutu 500 hectar y flwyddyn, felly gostyngwyd y targed gennych i 2,000 hectar. Erbyn hyn, rydych chi wedi codi'r targed yn ôl i fyny i 4,000 hectar. Ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa mor bell o gyrraedd y targed blaenorol ydych chi wedi disgyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol nad ydym ni wedi cyrraedd y targedau a fwriedir gennym ar gyfer coetir a phlannu coed yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael ag ef. Yn yr ymgyrch a gynhaliwyd yn ystod yr hydref ar gyfer arweinyddiaeth fy mhlaid, cyflwynais gynnig ar gyfer coedwig genedlaethol newydd i Gymru. Mae hwnnw'n syniad yr wyf i'n ymrwymedig iawn iddo a gwneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen ag ef yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn a thu hwnt er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod coetir Cymru yn gallu gwneud ei gyfraniad i'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ac at y pethau eraill y gall syniadau o'r math hynny ddod â nhw i'r rhannau hynny o Gymru y mae eu dyfodol yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan Brexit.
Rwy'n credu bod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da ac i'w groesawu, ond mae'n rhaid i chi ofyn i'r Prif Weinidog: rydych chi wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y sefydliad hwn mewn gwahanol ffyrdd—a ble ydych chi wedi bod o ran y targedau hyn? Nid oeddech chi'n gallu ateb, ac mae rheswm da iawn, efallai, oherwydd roeddech chi'n arfer cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddangosyddion 'Coetiroedd i Gymru'; rhoesoch y gorau i wneud hynny, ac rwy'n credu fy mod i'n gwybod pam, oherwydd, yn y pedair blynedd diwethaf, rydym chi wedi sicrhau cyfartaledd o ddim ond 200 hectar y flwyddyn o blannu coetiroedd newydd—dim ond 10 y cant o'r targed. A allwch chi feddwl am faes polisi cyhoeddus arall, Prif Weinidog, lle'r ydych chi wedi tanberfformio mor wael â hyn? Dyma'r ffigur pedair blynedd gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion modern ym 1971. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu unrhyw goetiroedd newydd o gwbl ers ei greu chwe blynedd yn ôl. Mae'r Alban wedi cynhyrchu 10 gwaith gymaint o goetir newydd yn y cyfnod hwnnw. Mae cyfraddau ailstocio yng Nghymru ar eu hisaf ers 1990.
Nawr, gallai hon ymddangos i rai fel problem benodol mewn sector cymharol fach. Serch hynny, mae'n un pwysig i'r economi wledig, yn sylweddol ar y raddfa genedlaethol o ran ein strategaeth lleihau'r newid yn yr hinsawdd, ond, Prif Weinidog, onid yw'r methiant dwys hwn wrth wraidd corff cyhoeddus mwyaf Cymru yn adrodd gwirionedd mwy o lawer sy'n crynhoi 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur—strategaethau sgleiniog, nodau uchelgeisiol, ond dim cyflawni a dim atebolrwydd?
Llywydd, symudodd yr aelod o bwynt penodol pwysig i bwynt cyffredinol na ellir—ni all lunio ei bwynt cyffredinol ar sail y manylion a nodwyd ganddo. O ran y manylion, rwy'n cytuno ag ef bod coetir yng Nghymru yn rhan wirioneddol bwysig o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, bod yn rhaid i ni wneud yn well yn hynny o beth, bod rhesymau da iawn pam mae'n arbennig o bwysig nawr i ganolbwyntio ar y rhan honno o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud; rwyf i wedi ymrwymo'n bersonol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny.
Mae'r pwyntiau cyffredinol y mae'n eu gwneud am Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu symud ymlaen drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a byddan nhw'n cael eu codi mewn dadl yma yn y Cynulliad, a bydd datganiad gan y Gweinidog ar goedwigaeth ar 12 Mawrth, fel yr ydym ni'n ei gynllunio ar hyn o bryd. Mae honno'n enghraifft o Lywodraeth sy'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn i wneud y gwahaniaeth y mae angen ei wneud, a dyna hanes Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru yn cael effaith niweidiol ar ein pobl ifanc?
Lle'r wyf i'n cytuno â nhw yw pan fyddan nhw'n cyfeirio at y ffaith bod y cyni cyllidol a orfodwyd ar Gymru gan ei Lywodraeth ef yn cael yr effaith y maen nhw'n ei resynu, ac rwyf innau'n gresynu'r ffaith, ac yn gresynu bob dydd, nad ydym ni'n gallu buddsoddi i'r graddau y byddem ni'n hoffi ei wneud yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, mewn tai ac yn yr holl bethau eraill yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Ond mae'r gymdeithas y mae'n cyfeirio ati—ac rwyf i wedi gweld eu llythyr—yn rhoi eu bys ar ble mae'r bai, ac mae'n gorwedd gydag ef a gyda ei Lywodraeth ef.
Prif Weinidog, mae angen i chi roi'r gorau i roi esgusodion a dechrau cymryd cyfrifoldeb. Chi sy'n gyfrifol am addysg yma yng Nghymru, a, Prif Weinidog, mae'r llythyr agored hwn at eich Gweinidog Addysg yn adlewyrchiad damniol o'r ffordd y mae eich Llywodraeth wedi rheoli addysg yma yng Nghymru. Er bod gennym ni £1.20 i'w wario ar addysg yma yng Nghymru am bob £1 yn Lloegr, rydym ni'n dal i weld diffyg sylweddol mewn cyllidebau ysgolion, sydd wir yn tanseilio gobeithion ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.
Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, rydym ni'n gwybod bod disgyblion yng Nghymru yn cael £645 yn llai y pen na disgyblion yn Lloegr, ac mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £291 miliwn yn eu cyllidebau, ac nid yw gwerth £450 miliwn o gyllid addysg byth yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, pam ydych chi wedi dewis darparu i ysgolion yr hyn a ddisgrifiwyd fel lefel hollol cwbl annigonol o gyllid, sydd wedi gwthio ysgolion i sefyllfa o argyfwng?
Llywydd, y tro diwethaf yr oedd plaid Paul Davies yn barod i ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru o ble y byddent yn cymryd arian er mwyn ariannu'r llawer o bethau y maen nhw'n dweud wrthym ni, wythnos ar ôl wythnos, sydd angen eu gwneud, y gyllideb addysg a ddewiswyd ganddyn nhw fel y prif aberth ar gyfer gweddill eu cynlluniau. Felly, nid wyf i'n credu y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth rhy ddifrifol i ffug-ddagrau'r aelod ar y mater hwn y prynhawn yma. A dweud y gwir, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi ei gwneud yn eglur bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr wedi cau i bwynt lle nad yw prin yn bodoli. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni— [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, mae gennym ni bolisi bwriadol o drosglwyddo ymlaen i addysg yng Nghymru yr holl arian a ddaeth i ni gan ei Lywodraeth ar gyfer cyflogau athrawon. Edrychwn ymlaen at wneud yn siŵr bod gennym ni arian gan ei Lywodraeth i dalu am y cynnydd i bensiynau athrawon a gyflwynwyd ganddynt, a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn union fel y byddwn ni'n sicrhau bod yr arian sy'n mynd i awdurdodau lleol ac i gonsortia gwella yn cael ei drosglwyddo wedyn, yn ei dro, i ysgolion.
Prif Weinidog, mae'r ffeithiau yn gwbl eglur. Fel y gwyddoch, am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, gall eich Llywodraeth chi wario £1.20, ac ni allwch wadu'r ffeithiau hynny, o gofio mai chi—chi—wnaeth gytuno'r fframwaith cyllidol hwn gyda Llywodraeth y DU yn y lle cyntaf. Felly, a oes unrhyw ryfedd bod argyfwng yn ein hysgolion pan fyddant wedi dioddef toriadau cyson i'w cyllidebau gan eich Llywodraeth chi?
Nawr, gadewch i ni edrych ar y ffigurau, ie, Prif Weinidog? Rydym ni'n gwybod bod gwariant gros a gyllidebwyd ar ysgolion wedi dioddef, rhwng 2010-11 a 2018-19, toriad mewn termau real o 7.9 y cant. Nawr, mae'r anallu hwn i gefnogi ein sector addysg wedi golygu bod nifer sylweddol o athrawon wedi gadael y proffesiwn. Ar ôl gweld gostyngiad o ddim ond 29 o ddisgyblion ers 2010, mae'r ffigurau gan Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn datgelu, unwaith eto, bod dros 1,400 yn llai o athrawon yn gweithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Beth wnaiff hi ei gymryd—[Torri ar draws.] Beth wnaiff hi ei gymryd, Gweinidog, i'ch Llywodraeth chi sylweddoli bod ein hysgolion yn wynebu argyfwng ac y bydd y methiant hwn i wneud addysg yn flaenoriaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol i genedlaethau'r dyfodol? Ac a wnewch chi ddechrau gwrando nawr ar ein hathrawon a'n gweithwyr addysgol proffesiynol i ddechrau rhoi'r cymorth y maen nhw'n ei haeddu i'n hysgolion a'n plant?
Llywydd, mae'r Aelod yn gofyn am ffeithiau, a gadewch i mi roi 888 miliwn ohonynt iddo, oherwydd dyna nifer y punnoedd yn llai sydd gennym ni i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru heddiw o ganlyniad i'w Lywodraeth ef ers y flwyddyn 2010—£880 miliwn yn llai. Mae pob un o'r punnoedd hynny yn ffaith y gallem ni fod yn ei defnyddio i wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Os yw e'n credu nad yw athrawon yng Nghymru yn deall bod y problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn yr ystafell ddosbarth yn deillio o'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu gwneud ac yr ydym ni'n gorfod ymdrin â nhw bob dydd, yna, mae gwir angen iddo fynd allan ychydig yn amlach a siarad â'r bobl sy'n deall hyn ar y rheng flaen.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch chi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Wnaf i ddim gofyn i chi a ydych chi'n dal i fwriadu cyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gan fod yr hyn a ddywedasoch y tro diwethaf yn gwbl eglur. Dywedasoch eich bod yn benderfynol y byddai'r gwaharddiad yn mynd drwy'r Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac yn cael ei roi ar y llyfr statud. O gofio bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn amhoblogaidd iawn, pam ydych chi mor benderfynol o greu cyfraith newydd yn y maes hwn?
Wel, byddwn yn cyflwyno cyfraith newydd yn y maes hwn, Llywydd. Roedd yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur. Mae'n rhan o'r maniffesto yr etholwyd fy mhlaid ar ei sail. Rydym ni'n credu mewn cadw'r addewidion hynny i'r cyhoedd yng Nghymru a byddwn yn cyflwyno Bil, a bydd yno i'r Cynulliad graffu arno a'i drafod wedyn. Bydd fy mhlaid i yn ymrwymedig i weld y Bil hwnnw ar y llyfr statud, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill yn y Siambr hon sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw.
Wel, diolch am eich eglurder ar y mater. Nawr, dangosodd canlyniadau'r ymgynghoriad swyddogol ar y gwaharddiad ar smacio plant bod y farn ar hyn yn weddol ranedig. Roedd hanner yr ymatebwyr yn teimlo y byddai ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant, ond roedd hanner yn teimlo na fyddai. Mae'n ymddangos, ar y gorau, bod y gwaharddiad ar smacio plant yn gyfraith a fydd yn hollti etholwyr Cymru i lawr y canol. Nawr, ymgynghoriad y Cynulliad ei hun yw hwn. Mae'r holl bolau piniwn a gynhaliwyd cyn hyn wedi dangos barn gref yn erbyn y gwaharddiad ar smacio plant. Tybed a yw eich Llywodraeth Lafur Cymru wedi meddwl digon am sut y mae'r gwaharddiad ar smacio plant yn mynd i gael ei blismona. Sut y bydd yn cael ei orfodi? A fydd gennym ni blant yn hysbysu yn erbyn eu rhieni eu hunain? Ac, os bydd, pwy fydd yn gallu gwirio a yw'r honiadau yn wir ai peidio? Gallem ni fod ar ei ffordd i ryw fath o efelychiad o Rwsia Stalin yn y 1930au, pan oedd rhieni a oedd yn parchu'r gyfraith yn llwyr yn cael eu hanfon i wersylloedd carchar gan fod eu plant yn cael eu hannog i sibrwd honiadau yn eu herbyn i'w hathrawon. Ai dyma'r math o sefyllfa yr ydych chi eisiau ei gweld yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n adnabod unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y cynnig y byddwn yn ei gyflwyno. Byddwn yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Ni ellir taro unrhyw oedolyn yn y wlad hon, a chyflwyno amddiffyniad o'r fath; pam y dylid caniatáu i blentyn gael ei daro ac yna cyflwyno'r amddiffyniad hwnnw? Dyma'r sefyllfa sy'n bodoli eisoes mewn gwledydd di-rif ledled y byd, gwledydd lle nad yw'r un o'r posibiliadau codi bwganod y mae'r Aelod yn eu nodi wedi digwydd, ac nid ydym yn disgwyl i'r un ohonynt ddigwydd yma yng Nghymru.
Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwerthfawrogi ein bod ni'n byw mewn oes pan ydym wedi cael cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn cael eu gwneud yn erbyn pobl, rhai ohonyn nhw yn bobl gwbl ddieuog. Canfuwyd bod llawer o'r honiadau rhyw hanesyddol hyn yn rhithdybiau llwyr, ond rwy'n siŵr bod digonedd o bobl ddieuog wedi cael eu dal ynddynt. Os yw'r wladwriaeth yn annog plant i ddechrau gwneud honiadau, yna gallem ni gael cyfres newydd o erlyniadau anghyfiawn. A ydych chi'n wirioneddol siŵr bod eich deddfwriaeth yn mynd i fod yn ddigon cadarn i atal y posibilrwydd hwn?
Llywydd, lle mae cam-drin yn digwydd, rydym ni eisiau i bobl ddweud am hynny. Os bydd yn digwydd yn y cartref a bod gan blant stori i'w hadrodd, yna rydym ni eisiau annog sefyllfa lle maen nhw'n teimlo'n hyderus i ddod ymlaen a gwneud eu straeon yn hysbys, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn sefyllfaoedd lle mae pobl sydd wedi dioddef yn y gorffennol ac yn dawel yn teimlo bellach y gallan nhw ddod ymlaen ac adrodd eu hanesion. Ar yr ochr hon i'r Siambr, ac mewn sawl rhan o'r Siambr hon rwy'n credu, ystyrir hynny fel arwydd o gynnydd, ac arwydd bod pethau yn well heddiw nag yr oedden nhw yn y gorffennol pan oedd pobl yn ofnus, ac yn teimlo yn analluog i gael rhywun i wrando ar eu straeon. Mae'n ddrwg gen i nad yw'r safbwynt hwnnw'n cael ei rannu ym mhob rhan o'r Siambr hon.
3. Pa gynnydd a wnaed o ran sefydlu dull priodol ar gyfer datrys anghydfodau rhwng llywodraethau'r DU? OAQ53385
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud cymaint yr wyf i'n edrych ymlaen at ateb yr hyn sy'n gorfod bod ei gwestiwn cyntaf i Brif Weinidog, ers blwyddyn gyntaf un datganoli? A'r ateb i'w gwestiwn yw yr adroddwyd ychydig o gynnydd, ar y gorau, o ran y mater hwn yng nghyfarfod llawn diwethaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Rhagfyr. Nid yw'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol a gomisiynwyd ym mis Mawrth 2018, pryd y cynrychiolwyd Cymru gan yr Aelod yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, wedi cyflwyno adroddiad hyd yn hyn.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, gan ein bod ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr mewn anghydfodau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn aml yn rhan o'r achosion hynny o anghydfod? Ac os yw e'n cytuno â mi ynghylch hynny, pa fath o system yr hoffai ef ei gweld yn hytrach?
Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Carwyn Jones bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, fel llawer o'r prosesau rhynglywodraethol yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn dod o dan fwy o bwysau yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit, ac fel y mae adroddiad ar ôl adroddiad pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a phwyllgorau yn y fan yma wedi ei adrodd, ni all y prosesau presennol ddal pwysau'r problemau y mae Brexit yn eu hachosi i'r Deyrnas Unedig. Yr hyn sydd ei angen arnom, felly, yw cyfres o drefniadau sy'n seiliedig ar egwyddorion, cydraddoldeb o ran parch, cydraddoldeb o ran cyfranogiad, yr egwyddor ei bod bob amser yn well osgoi anghydfod pan fo'n bosibl gwneud hynny. Dylai'r egwyddorion hynny arwain at gyfres o reolau, a dylai'r rheolau hynny gynnwys elfen o arbenigedd a chymrodeddu annibynnol.
Llywydd, credaf y bydd yr Aelodau yn falch o wybod bod Cymru, yn y gwaith sy'n cael ei wneud o dan gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog helpu i'w gychwyn, yn arwain y gwaith o lunio'r egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Ac fel y gwelsom yn y cytundeb rhynglywodraethol, os byddwch chi'n cael yr egwyddorion hynny'n iawn, yna mae ymarferoldeb system datrys anghydfod bob amser yn debygol o gael ei sefydlu yn fwy cadarn.
Mae anghydfodau, yn gyffredinol, wedi eu canolbwyntio ar arian a grym. Prif Weinidog, ystyrir yn gyffredinol eich bod chi wedi cael hanes cymharol lwyddiannus o ran cytuno ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y cyllid sy'n dod i Gymru. Fe wnaeth eich rhagflaenydd, yn fy marn i, waith da wrth negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau'r Cynulliad hwn a'r setliad datganoli yng nghyd-destun Brexit. Onid yw hynny'n dangos mai negodi fydd y dull hanfodol ar gyfer datrys anghydfod yn gyffredinol?
Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac nid wyf i'n anghytuno ag ef mai negodi fydd y brif ffordd o ddatrys anghydfodau bob amser. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y cwestiwn hwn, yn y ffordd y'i cyflwynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd dim mwy o le i drafod. Ac mae'n rhaid i chi gael cyfres o drefniadau ar waith er mwyn ymdrin â'r adeg pan na fydd ymdrechion i ddatrys anghydfod—drwy ei osgoi, drwy ei ddatrys, drwy ei negodi—yn mynd â chi i'r diweddglo. Ac fel y dywedodd Carwyn Jones, ni allwn ni gael system lle mae'r corff sy'n gyfrifol am ddatrys yr anghydfod yn rhan o'r anghydfod hwnnw. Dyna'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw'n dderbyniol nawr, yn sicr nid yw'n dderbyniol yn y tymor hir. Pan ddaw trafodaethau i ben, yna mae'n rhaid i chi gael dull sy'n wirioneddol annibynnol ac y mae gan bawb sy'n rhan ohono ffydd ynddo.
Yn eich tyb chi, Prif Weinidog, ydy pwysau amser a phwysau gwaith delio efo'r ddeddfwriaeth ychwanegol sy'n deillio o Brexit—ydy hynna i gyd yn esgus digonol i ddwyn pwerau oddi wrth ein Senedd yma yng Nghymru ac yn ôl i San Steffan?
Wel, Llywydd, jest i ddweud unwaith eto: fel dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, does dim un pŵer wedi mynd o'r Cynulliad hwn i San Steffan. Mae popeth sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit yn mynd i ddod yma, a dim ond gyda chytundeb yma bydd pwerau yn gallu symud i unrhyw le arall. Dŷn ni ddim wedi cytuno i ddim byd i symud, a does dim byd wedi symud.
Ac yn yr adroddiad a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf, Llywydd, ar y mater a oedd yn destun dadl ar lawr y Cynulliad hwn, cadarnhaodd Llywodraeth y DU, yn ei ail adroddiad tri misol, yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud, nad oes yr un grym wedi gadael y Cynulliad hwn. Ni wnaed unrhyw ddefnydd o'r dull sydd yn Neddf Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ymdrin â phwerau yn dychwelyd ac nid oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r dull hwnnw, gan ein bod ni'n gallu—rydym ni wedi dangos gallu i ddatrys problemau sy'n gorwedd rhwng y gwahanol gydrannau o'r Deyrnas Unedig ar sail cytundeb, fel y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei wneud o'r cychwyn cyntaf.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun grantiau trydydd sector Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ? OAQ53387
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae cynllun grant trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn darparu £7 miliwn bob blwyddyn i sefydliadau trydydd sector, gan ddarparu 32 o brosiectau sy'n cynorthwyo plant, oedolion a phobl hŷn agored i niwed yng Nghymru. Mae'r grant hwn ar waith o fis Ebrill 2016 tan fis Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Mae Cronfa'r Teulu yn elusen sy'n rhoi grantiau i deuluoedd sydd ar incwm isel ac sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cronfa'r Teulu nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i helpu teuluoedd ac nad oedden nhw erbyn hyn yn gallu derbyn ceisiadau tan fis Ebrill 2019. Un rheswm am y cyfyng-gyngor yw bod eu cyllid oddi wrth cynllun grantiau trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi ei dorri yn 2016 o £2.5 miliwn y flwyddyn i lai na £2 filiwn dros y tair blynedd nesaf. A yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod y toriad ariannol hwn yn cael effaith niweidiol ar brosiectau a mentrau sy'n cefnogi strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer plant anabl a difrifol wael?
Llywydd, hoffwn gydnabod y gwaith pwysig y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yng Nghymru ac y bydd yn parhau i'w wneud yng Nghymru o ganlyniad i'r £0.5 miliwn bob blwyddyn y mae'n ei dderbyn drwy'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio ein bod ni wedi datblygu cyfres o reolau yn ôl yn 2016 a oedd yn dweud na allai un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael yn y grant hwnnw, a dyna'n union y mae Cronfa'r Teulu yn ei gael. Mae'n cael yr uchafswm posibl sydd ar gael o dan reolau'r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac, yn wir, ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, darparwyd £400,000 yn ychwanegol gennym i'r gronfa yn y flwyddyn honno i hwyluso'r cyfnod pontio o'r swm o arian yr oedd yn ei gael o'r blaen i'r swm yr ydym ni'n gallu ei ddarparu o dan y trefniadau grant newydd.
A rhan o'r rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu na allai unrhyw un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael oedd oherwydd ein bod ni eisiau caniatáu i sefydliadau eraill â phrosiectau sydd yr un mor bwysig gael eu hariannu hefyd. Felly, ymhlith y 31 o sefydliadau y mae'r grant gwasanaethau cymdeithasol yn eu hariannu erbyn hyn y mae Anabledd Dysgu Cymru, Gofalwyr Cymru, Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, a'r rhaglen Family Action, sy'n darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd. Felly, mae'r gwaith y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yn bwysig iawn, ond rydym ni'n gallu ategu hynny erbyn hyn gydag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill sy'n gweithio yn y maes y mae Cronfa'r Teulu hefyd yn gweithredu ynddo.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgynhyrchu gwasanaethau gyda'r trydydd sector a chymunedau? OAQ53383
Diolchaf i Mark Isherwood am hynna. Llywydd, hoffwn i egwyddorion cyd-gynhyrchu sbarduno dull Llywodraeth Cymru yn ei gwaith gyda'r trydydd sector ac eraill. Er mwyn cyflawni hynny, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Academi Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n annog cydgynhyrchu drwy hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein.
Diolch. Rwyf innau hefyd wedi gweithio ers blynyddoedd lawer gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. A dweud y gwir, fi oedd yr unig wleidydd, rwy'n credu, a wahoddwyd i'w lansiad swyddogol—[Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']—a oedd yn sicr yn deilwng o gefnogaeth. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais unwaith eto ag elusen fach, elusen awtistiaeth sy'n cynorthwyo teuluoedd â phlant ar y sbectrwm, sy'n gorfod neilltuo llawer iawn o amser gwirfoddoli i wneud ceisiadau am grantiau bach, heb lwyddiant yn aml. Rwy'n ymweld ag elusennau bach cyfatebol fel mater o drefn, sy'n gwneud gwaith gwych, gan gydgynhyrchu atebion gyda theuluoedd ac aelodau'r gymuned sy'n gweithio, ac eto mae miliynau yn mynd at ddarpariaeth statudol Llywodraeth Cymru neu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a rhaglenni eraill o'r brig i lawr nad ydyn nhw'n cyrraedd y sefydliadau llawr gwlad sy'n gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol hwnnw.
O gofio bod y gwerthusiad dros dro o'r IAS fis Mawrth diwethaf wedi nodi methiant cydgynhyrchu oherwydd bod dull o'r brig i lawr yn broblem sylweddol, sut gallwch chi, ac y gwnewch chi, ymyrryd yn bersonol i ysgogi eich dealltwriaeth o gydgynhyrchu, y gwn sy'n drylwyr ac yn ystyrlon, fel y gallwn ni ddechrau gwneud hyn yn iawn a sicrhau bod y cyllid sydd ar gael—ac mae llawer ar gael—yn mynd i'r lle y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn hytrach nag i neuaddau sir lle nad yw bob amser yn cyrraedd y lleoedd a allai wneud y gwahaniaeth hwnnw, sydd ei angen mor daer?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gydnabod y cyfraniad pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud i wasanaethau cyhoeddus a'r gallu sydd ganddyn nhw i ffurfio rhyngwyneb gyda'r dinesydd sy'n ystyried defnyddwyr ein gwasanaethau fel asedau a phobl sydd â chryfderau y gallan nhw eu defnyddio i ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir. Roeddwn i eisiau diolch i'r Aelod am nodi yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog adroddiad y cyfeiriodd ato, y cefais gyfle i edrych arno dros y penwythnos, ac sy'n cynnig rhai syniadau ymarferol yn y maes contractio o ran sut y gall sefydliadau bach gael gwell cyfle o ddadlau'r achos am gyllid gan gyrff cyhoeddus. Yr hyn yr wyf i'n anghytuno â Mark Isherwood yn ei gylch, o ran cydgynhyrchu, yw fy mod i'n credu weithiau ei fod yn ei ddisgrifio fel ffordd o ddisodli'r wladwriaeth fel pe byddai'n dull ar gyfer symud pethau oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus a'u disodli gyda gwaith pobl eraill. Nid wyf i erioed wedi ei weld yn y modd hwnnw fy hun; rwy'n ei weld fel ffordd o atodi, ategu, dylanwadu, rhoi siâp ac ychwanegu at waith pobl eraill, ond nid ei ddisodli.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i deuluoedd plant byddar? OAQ53397
Diolch i Nick Ramsay am hynna. Lansiwyd fframwaith gweithredu cenedlaethol yn 2017 i hybu gofal a chymorth i bobl sy'n fyddar neu'n byw gyda diffyg clyw. Mae'n ymrwymo Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau, gan gynnwys cymorth i deuluoedd plant byddar.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r stori newyddion ddiweddar bod Ros a Josh Hannam o sir Fynwy yn gorfod talu £6,000 am ddosbarthiadau iaith arwyddion i'w helpu i gyfathrebu gyda'u merch fyddar, Lola. Mae'r pâr wedi cael cyllid trwy wasanaeth synhwyrau a chyfathrebu'r awdurdod lleol, ond yn gorfod codi arian i dalu'r diffyg eu hunain—amser gwerthfawr a fyddai fel arall yn cael ei dreulio gyda'u merch. Mae Debbie Thomas o'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn dweud bod rhieni plant byddar yn wynebu loteri cod post ar hyn o bryd pan ddaw i gyllid ar gyfer y dosbarthiadau iaith arwyddion hyn sydd mor hanfodol i helpu eu datblygiad cymdeithasol ac addysgol. A gaf i ofyn bod adolygiad Llywodraeth Cymru—oherwydd gwn eich bod chi wedi ymrwymo i un—o gyllid Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gynnal cyn gynted â phosib fel bod pob plentyn byddar, ni waeth ble mae'n byw, yn cael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd?
Rwy'n hapus iawn i gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwnnw i'r Aelod. Rydym ni'n disgwyl i dendrau ar gyfer y gwaith ddod i law erbyn 25 Chwefror, y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddechrau mis Mawrth, y bydd y gwaith maes yn cael ei wneud rhwng mis Mawrth a mis Mai ac y bydd cyngor i Weinidogion yn cael ei dderbyn erbyn diwedd mis Mehefin eleni. Felly, rwy'n credu bod hynny'n weddol gyflym ar gyfer darn o waith pwysig iawn. I gytuno, Llywydd, gyda'r hyn a ddywedodd Ramsay, mae hwn yn ddarn o—awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn. Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dangos amrywiaeth eang iawn o ffioedd a orfodir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, a diben yr adolygiad yw ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth sy'n deg, yn gyfartal ac yn gydgysylltiedig, a lle nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw ar drugaredd y ddaearyddiaeth o ba le bynnag y maen nhw'n digwydd byw ynddo.
A gaf i ymuno â Nick Ramsay i sôn am bwysigrwydd iaith arwyddion, nid yn unig i rieni ond hefyd i frodyr a chwiorydd—cyfle i allu siarad ag aelodau eraill y teulu? Dywedais yr wythnos diwethaf, mai dyma iaith gyntaf llawer o bobl fyddar.
Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, nid yw'n ymwneud â chost yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sydd ar gael, a cheir problem ddifrifol o gael pobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion. Pe byddem ni'n ei wneud yn rhad ac am ddim i bawb a oedd ei eisiau, mewn llawer o achosion, ni fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd nad oes digon o bobl i'w haddysgu. Felly, beth ellir ei wneud i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion fel y gall mwy o bobl ddysgu sut i siarad â'u brodyr a'u chwiorydd, fel y gall rhieni siarad â'u plant, fel bod gennym ni sefyllfa lle mae cydraddoldeb yn bodoli?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Mike Hedges am y cwestiwn dilynol pwysig iawn yna? Cydnabuwyd Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn fel iaith yn ei rhinwedd ei hun mor bell yn ôl â 2004. Ac mae'n iawn ei bod hi gymaint o iaith ag unrhyw iaith arall i lawer o'r teuluoedd sy'n ei defnyddio, a cheir prinder cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid yma yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad yn ystyried y mater hwnnw hefyd. Bydd yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, bydd yn ystyried costau a mynediad, ond bydd hefyd yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r llif o bobl sydd â'r paratoad priodol ac sy'n gallu darparu'r mathau o gyrsiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atyn nhw ac y mae ei etholwyr yn gobeithio gallu eu defnyddio.
7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion cynradd? OAQ53414
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn darparu cymorth i ysgolion drwy bartneriaeth o awdurdodau lleol a’r pedwar consortiwm rhanbarthol. Yn dilyn y canlyniadau categoreiddio diweddar, mae’n galonogol i weld cynnydd yn nifer yr ysgolion cynradd sydd angen llai o ddyddiau o gymorth yn ystod y flwyddyn nesaf.
Diolch am yr ymateb hynny. Cwpwl o wythnosau nôl, gwnes i gwrdd â nifer o brifathrawon yn ardal Abertawe, ac yn eu geiriau nhw, roedden nhw'n dweud bod y sefyllfa'n wynebu creisis o ran yr hyn sydd yn digwydd mewn ysgolion cynradd yn yr ardal benodol hynny. Mae morâl yn isel iawn—nid fy ngeiriau i yw hynny, ond eu geiriau nhw ataf i. Beth ydych chi'n ei wneud i weithio gydag ysgolion, yng nghyd-destun y sefyllfa gyllidebol anodd iawn, i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithredu mewn modd effeithlon? Maen nhw wedi dweud wrthyf i fod y system grantiau'n rhy gymhleth, fod y fformiwla'n rhywbeth sydd yn anodd iddyn nhw ei ddeall, ac maen nhw'n poeni nad ydyn nhw'n gallu edrych ar ôl y disgyblion mwyaf bregus yn sgil y problemau ariannol hynny. Beth ydych chi'n gallu dweud wrthyf i heddiw i gymryd neges bositif yn ôl i'r prifathrawon hynny?
Wel, Llywydd, dwi'n meddwl bod neges bositif i fwydo nôl i'r athrawon a phrifathrawon yn Abertawe.
Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ryw wythnos neu ddwy yn ôl, a oedd yn dangos sut yr oedd ysgolion yn ymdopi o ran y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw, yn ardal Abertawe, rhan o gonsortiwm ERW, symudodd llawer mwy o ysgolion cynradd tuag at sefyllfa pryd yr oedd angen llai yn hytrach na mwy o oriau o gymorth. Symudodd naw ar hugain o ysgolion yn yr ardal honno mewn cyfeiriad cadarnhaol, a dim ond pedair ysgol gafodd eu nodi'n rhai a oedd angen mwy o gefnogaeth—cymhareb o fwy na 7:1 o ysgolion yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae hynny'n deyrnged aruthrol, onid yw, i'r bobl hynny sy'n arwain addysg yn y rhan honno o Gymru a'r gwaith y mae'r athrawon mewn ysgolion yn ei wneud? Felly, er fy mod yn cydnabod, allan yn y rheng flaen, mae pwysau o naw mlynedd o gyni yn hollol real ac yn cael ei deimlo gan bobl wrth eu gwaith bob dydd, y neges gadarnhaol yr hoffwn ei rhoi i'r penaethiaid hynny yw eu bod nhw, gyda'i gilydd, drwy'r camau y maen nhw'n eu cymryd, yn llwyddo i ddarparu addysg well i'r plant sydd yn eu hysgolion heddiw. Gobeithio y byddant hefyd yn magu hyder yn sgil eu llwyddiant eu hunain ac y bydd hynny'n rhoi'r cryfder a'r cydnerthedd sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â'r anawsterau diamheuol y mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu.
Yn olaf, cwestiwn 8—Lynne Neagle.
8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud? OAQ53422
Diolch i Lynne Neagle am hynny. Daeth dadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, i'r casgliad y byddai gostwng ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd i sero yn gostwng cynnyrch domestig gros y DU bron 2 y cant. Byddai effaith rhoi terfyn ar ryddid i symud yn cael ei deimlo'n uniongyrchol mewn busnesau yng Nghymru, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch i chi, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n gamgymeriad difrifol iawn i adael yr UE heb unrhyw syniad clir ynghylch y gyrchfan? Ac a wnewch chi egluro wrth unrhyw Weinidogion o Lywodraeth y DU, neu, yn wir, unrhyw un sydd â dylanwad sylweddol dros Brexit, megis arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, y byddai cefnogi Brexit â mwgwd yn bolisi â risg uchel annerbyniol?
Wel, nid ydym o blaid Brexit â mwgwd yn sicr, a heb fod ers y dyddiau cynharaf yn dilyn y refferendwm. Mae'r Aelod yn gyfarwydd iawn, mi wn, â'r prosbectws a gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn sgil hwnnw: Brexit a gaiff ei lywio gan anghenion yr economi a swyddi yma yng Nghymru; Brexit sydd â syniad clir o ran aelodaeth o undeb tollau; rheoleiddio deinamig sy'n gydnaws â'r farchnad sengl; a chyfundrefn symud pobl sy'n deg. Dyna'r math o Brexit, os ydym ni i gael Brexit, sy'n gwneud y gorau yn ei allu i liniaru'r effaith ar economi Cymru wrth inni adael ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig. Ac rwy'n manteisio ar bob cyfle, fel y gwnaiff fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, i ddadlau o blaid y math hwnnw o Brexit, ar bob cyfle a ddaw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad neu ymateb i ymrwymiad y Gweinidog i wneud asesiad o'r effaith amgylcheddol ar losgydd y Barri? Rhoddwyd yr ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth nôl ym mis Chwefror y llynedd. Rydym yn awr ym mis Chwefror 2019—mae hynny'n 12 mis, credwch neu beidio—ac rydym ni'n dal i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog ynghylch a yw'n mynd i gynnal yr asesiad hwn neu fynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal yr asesiad hwn. Mae llawer o drigolion, nid yn afresymol, yn bryderus iawn ynghylch hyn, ac maen nhw'n gweld fod y Llywodraeth wedi troi ei chefn arnyn nhw. Yn benodol, nododd y Prif Weinidog blaenorol y byddai penderfyniad o'r fath wedi'i wneud erbyn mis Tachwedd y llynedd. 'Does bosib ei fod yn dal yn gorwedd ar ddesg rhywun yn aros am benderfyniad. Mae'n rhaid bod y penderfyniad wedi ei wneud. A gaiff y penderfyniad ei gyhoeddi yn awr er mwyn inni gael gwybod a fydd asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal?
Diolch i chi am godi'r mater hwn. Gwn fod y mater hwn yn amlwg yn fater cymhleth iawn ac mae angen ei ystyried yn fanwl. Byddaf yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth mwy cynhwysfawr a chyflawn ynghylch pryd y gwneir penderfyniad.
Trefnydd, byddwch yn amlwg yn ymwybodol o'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddatblygu gorsaf reilffordd barcffordd yn y gorllewin ar dir yn Felindre, Abertawe, o fewn eich etholaeth chi, sef Gŵyr. Nawr, bydd y cynnig, fel y gwyddoch, a fyddai'n gwneud defnydd o reilffordd ranbarthol Abertawe, yn sicrhau gwelliannau i deithwyr yn y gorllewin drwy gyflwyno amserau teithio llai i Gaerdydd a Llundain—o gofio bod cynlluniau trydaneiddio wedi diflannu—gan dynnu hyd at chwarter awr oddi ar y daith, gan gynnig posibiliadau ar gyfer arbed mwy o amser petai cyflymderau yn codi. Gallai hefyd helpu o ran materion tagfeydd ar yr M4 o amgylch Abertawe a Phort Talbot, a phrif rydwelïau cymudwyr i mewn i Abertawe.
Yn amlwg, fodd bynnag, ni ellir edrych ar y gwelliannau hyn i'r rheilffordd rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar wahân. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin. Mae'r de-orllewin yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus well, ac mae angen i reilffyrdd chwarae rhan allweddol yn hynny o beth. Yn ogystal â gweld gwasanaethau i orsafoedd Abertawe a Chastell-nedd yn cael eu hamddiffyn, mae angen inni hefyd weld llwybrau eraill yn cael eu defnyddio unwaith eto —llwybr rheilffordd Aman a Chwm Tawe er enghraifft—a sicrhau ansawdd cysylltiadau trafnidiaeth i gymoedd Nedd, Dulais ac Afan. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel ynghylch cynnig Llywodraeth y DU ar gyfer parcffordd gorllewin Cymru. Felly byddwn yn ddiolchgar pe byddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar ba drafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, a sut y mae'n gweld parcffordd gorllewin Cymru yn cydblethu â'r her ehangach o ddatblygu seilwaith tram a rheilffyrdd yn ehangach yn y rhanbarth fel rhan o fetro Bae Abertawe.
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi ymateb i'r cynigion hynny gan Lywodraeth y DU, ond byddai'n fwy na pharod i ailgylchredeg ei ymateb i hynny, gan hefyd roi'r newyddion diweddaraf am yr astudiaeth ddichonoldeb o ran cynigion metro gorllewin Cymru.
Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion. Mae'r ymgynghoriad 'Parchu eraill' ar fin dod i ben yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond ar ôl blynyddoedd lawer yn yr ystafell ddosbarth, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ymdrin â'r mater hwn. Yn benodol, rwy'n bryderus ynghylch ein dull ni o fynd i'r afael â bwlio LGBT+, fel y gwyddom, er enghraifft, mae mwy o bobl ifanc LGBT+ yng Nghymru yn cael eu bwlio nag yn unman arall yn y DU, yn ôl ystadegau diweddar. Gan fod mis Chwefror yn fis Hanes LGBT, rwy'n gobeithio bod hwn yn faes y gallwn wneud gwelliannau mawr iddo.
Yn ail, mae cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo polisi o gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o hyd at £400 i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. I'm hetholwyr i, fel i bobl ledled Cymru, mae tipio anghyfreithlon yn bryder mawr, felly byddai'n dda gweld y cyngor yn defnyddio'r pwerau hyn y maen nhw newydd eu cael gan Lywodraeth Cymru. A gawn ni ddatganiad yn nodi sut mae Gweinidogion yn blaenoriaethu camau yn erbyn tipio anghyfreithlon, yn benodol i asesu effeithiolrwydd y newidiadau o ran hysbysiadau cosb benodedig?
Yn olaf, roedd yn gadarnhaol iawn darllen y datganiad fod dros 150 o gyflogwyr bellach wedi ymrwymo i'r cod ymarfer arloesol ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae hwn yn gam i'w groesawu, ond a gawn ni'r newyddion diweddaraf yn y Siambr gan Weinidog yr economi ar ymyriadau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i hybu arferion cyflogaeth da? Rwy'n meddwl yn benodol yma am y ffyrdd y gellir defnyddio'r contract economaidd i annog mwy o fusnesau yng Nghymru i ymrwymo.
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r tri mater hyn. O ran y cyntaf, ynglŷn â bwlio, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad diweddar ar fin dod i ben, a gwn y bydd gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Ond mae'n werth ystyried ar hyn o bryd y bydd ein cwricwlwm newydd yn arwain y ffordd ynghylch materion LGBT+, a bydd yn rhoi cyfle i athrawon addysgu hanes LGBT+ Cymru. Cyhoeddir drafft cyntaf y cwricwlwm newydd ym mis Ebrill, a bydd ymgynghoriad llawn o fewn y gymuned addysg a'r cyhoedd ehangach ar hynny.
Rydych yn gwbl briodol yn codi'r mater o dryloywder mewn cadwyni cyflenwi. Roedd y Gweinidog yn gwrando ar eich sylwadau ac mae wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad yn ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud, yn enwedig drwy'r contract economaidd. Gallaf ddweud wrthych hefyd eich bod yn gwybod ein bod wedi lansio'r cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, gyda'r nod o wneud y cadwyni cyflenwi hynny yn fwy tryloyw a rhwystro gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ar bob cam yn y gadwyn gyflenwi. Dyma'r tro cyntaf yng Nghymru a'r tro cyntaf yn y DU i hyn ddigwydd. Rwy'n falch iawn fod gennym ni bellach 159 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r Cod, ac yn amlwg byddem yn disgwyl i bob sefydliad, busnes a sefydliad trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus ymrwymo i'r cod hwnnw.
Ac, yn olaf, fe wnaethoch godi'r mater ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau y telir y cosbau cywir am dipio anghyfreithlon. Wel, mae'n drosedd â chosb o ddirwy hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar yn dilyn euogfarn mewn llys ynadon. Gall y ddirwy fod yn ddiderfyn a gall y cyfnod yn y carchar fod hyd at bum mlynedd yn dilyn euogfarn yn Llys y Goron. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cosbau penodedig newydd i helpu awdurdodau lleol i ymdrin â throseddau dyletswydd gofal gwastraff cartref. Nod y dull gorfodi ychwanegol hwn yw lleihau maint y gwastraff domestig sy'n cael ei drosglwyddo i gludwyr gwastraff heb eu hawdurdodi.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae fy etholwyr, Mr a Mrs Harradine, a'u pedwar plentyn yn rhentu tŷ gyda Newport City Homes. Am y tair blynedd a hanner diwethaf, bu lleithder yn y tŷ gyda llwydni yn tyfu ym mhob cwr o'r eiddo. Mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd ac ar iechyd y plant, sydd wedi datblygu asthma a broncitis. Mae ymwelwyr iechyd a meddyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi ysgrifennu at yr awdurdod tai, gan bwysleisio bod cyflwr y tŷ hwn yn achosi problemau iechyd i'r plant, ond yn ofer. Nid oes camau wedi eu cymryd gan y cyngor lleol neu gyngor y ddinas y gallwch ei alw ef. Mae angen iddyn nhw symud allan yn daer, ond oherwydd bod y ddau riant mewn gwaith, nid ydyn nhw'n cael eu hystyried fel blaenoriaeth gan gyngor y ddinas. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa ganllawiau y gellir eu rhoi ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol, gan yr ymddengys nad yw bygythiadau i iechyd pobl yn ddigon difrifol i gyfiawnhau eu hailgartrefu nhw fel blaenoriaeth?
Diolch am godi'r achos hwn gyda ni yn y Siambr. Rwyf yn siŵr eich bod wedi codi'r achos penodol gyda'r landlord cymdeithasol preswyl priodol a/neu'r awdurdod lleol. A byddwn yn sicr yn argymell eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog tai gyda rhagor o fanylion am yr achos hwnnw. Gall ef roi mwy o gefndir am fanylion y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol.
Trefnydd, rwyf eisiau gofyn am ddadl ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ‘lleol’ mewn cysylltiad â datblygiad tai. Gwn na allwch roi sylwadau ar achosion lleol, ond rwyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r mater ynghylch datblygu tai ym Mhennard, ac mae Cyngor Abertawe wedi diffinio ‘lleol’ fel y Mwmbwls. Nawr, gwn am enghraifft lle mae menyw ifanc wedi symud cartref gan ei bod hi wedi colli plentyn oherwydd afiechyd y galon. Mae hi bellach yn dymuno ailymgeisio am y tŷ cyngor a gollodd oherwydd y ffaith ei bod hi wedi symud cartref, ond mae'n bosib na chaiff symud i’r ardal gyfagos oherwydd y diffiniad hwn o ‘lleol’. Mae’r caniatâd cynllunio hwn yn un o lawer lle bo pobl yn trafod, heb ddeall y diffiniad o ‘lleol a fforddiadwy’, fel y gall pobl ei ddefnyddio hyd eithaf eu gallu fel y gallan nhw aros yn yr ardal y maen nhw eisiau aros ynddi. Felly, hoffwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth fel y gallwn ni gael y diffiniadau hyn wedi eu gwyntyllu yma, fel y gall pobl leol ymgysylltu mewn ffordd fwy cadarnhaol gyda'r broses gynllunio hefyd.
Fy ail gais am ddatganiad yw cais am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, boed mewn ysgrifen neu ar lafar. Clywsom gan Weinidog y Gymraeg yr wythnos diwethaf ei bod hi’n gollwng y Bil mewn cysylltiad â sefydlu comisiwn. Clywais drwy’r cyfryngau cymdeithasol bod y cyn-Weinidog wedi dweud bod amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, ond nid yw hynny'n rhywbeth y mae’r Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn ymwybodol ohono. Felly, os oes un peth y mae Gweinidog y Llywodraeth yn ei wybod a rhywbeth arall nad yw'r Cynulliad yn ei wybod, yna credaf y dylai pob un ohonom gael gwybod am yr amserlen glir sydd gan eich Llywodraeth, fel y gallwn ni i gyd gymryd rhan mor gadarnhaol â phosib wrth graffu ar y rhaglen honno a gwybod ymhle yn yr amserlen y bydd hynny’n digwydd.
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Byddwn i'n awgrymu, ar y mater penodol y cyfeiriwch ato ym Mhennard, yn y lle cyntaf mae'n debyg mai codi'r mater ynghylch diffiniad 'lleol' a diffiniad 'fforddiadwy' gyda'r Gweinidog tai fyddai'r peth mwyaf priodol i'w wneud, fel y cewch yr holl wybodaeth o'ch blaen, er mwyn gallu rhannu hynny gyda'r etholwyr.
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai cwestiynau heddiw ynghylch yr amserlen ddeddfwriaethol, a'r effaith y gallai Brexit ei chael ar ein hystyriaethau yn y fan yna, ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad blynyddol ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Ond os oes gennych gwestiynau penodol ynghylch Biliau, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog priodol y gallu ymateb i'r pryderon hynny.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Mae un, yn gyntaf, mewn cysylltiad â Cyflymu Cymru a'r cynllun cyflwyno blaenorol. Rwyf wedi cael gwybod am fater sy’n destun pryder mawr ynghylch hyn. Mae darpariaeth band eang cyflym iawn, fel rhan o gynllun Cyflymu Cymru, wrth gwrs, wedi ei chyflawni drwy drosglwyddo’r contract i Openreach. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod Openreach wedyn wedi isgontractio i Telent, a isgontractiodd wedyn i Wavetec Limited, a gyflogodd gontractwyr unigol yn y pen draw, gan gynnwys un o'm hetholwyr i, a oedd yn gweithio'n llawrydd, ac mae e'n dal i wneud hynny, i helpu i adeiladu’r rhwydwaith ffibr. Ar ôl i’m hetholwr ddangos copi imi o hen ddadansoddiad y credydwyr, deallaf bellach fod arnynt filoedd o bunnoedd iddo ac nad yw ef wedi cael ei dalu am y gwasanaethau a roddwyd i Wavetec ers diwedd mis Tachwedd. Trefnydd, a allwch chi gysylltu â'r Gweinidog sy'n gyfrifol ac egluro i mi pam mae Cyflymu Cymru wedi arwain at gontract gwarchodedig o'r fath, sydd wedi gweld llawer o is-gontractwyr yn y gadwyn, sydd bellach yn arwain at fy etholwr i yn wynebu caledi ariannol? Hwnnw yw Rhif 1.
Ac yna, Rhif 2: a wnaiff y Trefnydd egluro pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â phob parti sydd â diddordeb pan fo deunydd newydd neu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynllunio polisi yn cael eu cyflwyno yn ystod proses yr Arolygiaeth Gynllunio? Nawr, y rheswm pam rwyf yn gofyn yw, yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd yr Arolygiaeth Gynllunio ddatblygiad preswyl, sy'n cynnwys 110 o anheddau, yng Nghyffordd Llandudno. Gwnaed hyn, yn fy marn i, ac ym marn pobl eraill, er gwaethaf y ffaith bod nifer o bolisïau cynllunio wedi eu torri, a bod dros 1,300 o wrthwynebiadau wedi eu cyflwyno. Oherwydd bod y broses wedi ei gohirio yn dilyn yr ymchwiliad ym mis Medi, pan dorrodd y penderfyniad ei dargedau gweinidogol ei hun, roedd yn rhaid ystyried cyflwyno ‘Polisi Cynllunio Cymru’, rhifyn 10. Er eu bod wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a'r apelydd, nid oedd partïon eraill â diddordeb, gan fy nghynnwys i, Aelod o’r Cynulliad wedi ei hethol yn ddemocrataidd, yn cael cyflwyno rhagor o wybodaeth, yn seiliedig ar ddehongliad ‘Polisi Cynllunio Cymru’.
Nawr, mae is-adran 47(7) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 yn datgan bod angen i unigolyn penodedig hysbysu'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad am ddeunydd newydd i'w galluogi nhw i gyflwyno sylwadau am dystiolaeth newydd, neu ofyn am i’r ymchwiliad gael ei ailagor cyn gwneud eu penderfyniad. Fodd bynnag, mae'r deunydd newydd yn eithrio polisi Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn anghywir ac yn annemocrataidd. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi y dylai polisi Gweinidogion Cymru fod yn destun y cais am sylwadau hysbysebu i ailagor darpariaethau yn yr un modd ag unrhyw fath arall o ddeunydd newydd? Ac, os felly, a fyddech chi’n barod i ystyried fy nghynnig i newid y ddeddfwriaeth ddiffygiol hon, a’r rheoliadau, fel y bydd yr holl bartïon â diddordeb yn cael cymryd rhan ym mhroses a threfn yr Arolygiaeth Gynllunio?
Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny gyda mi heddiw. Ar y mater band eang, pe byddech yn rhannu manylion penodol amgylchiad eich etholwr gyda mi, byddwn yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog a gadael i chi gael canlyniad hynny.
O ran eich cwestiynau ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' a sut y mae'n torri ar draws y ceisiadau cynllunio presennol, ac ati, mae'n debyg y dylid cyfeirio at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio.
Trefnydd, tybed a oes modd imi gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru mewn dau faes. Un, yn amlwg, yw dur. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl wych yma yn y Siambr ynghylch dur yng Nghymru, a'r goblygiadau ar gyfer y dyfodol o ran cynhyrchu dur a’r her y mae hynny’n ei wynebu o hyd. Ddoe, clywsom fod Prifysgol Abertawe yn mynd i fod yn brifysgol arweiniol mewn prosiect £35 miliwn a fydd yn edrych i mewn i'r broses o gynhyrchu dur i sicrhau y gall dur fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac yn y DU. A gawn ni ddatganiad a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda sector y brifysgol ar yr agenda ymchwil a datblygu dur er mwyn sicrhau bod yr arian sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn pethau megis y Sefydliad Dur ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i ddatblygu cynhyrchu dur a’r prosesau yng Nghymru, yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot yn enwedig, ac y bydd yn rhywbeth sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? [Torri ar draws.] Arhosaf nes bydd yr ateb wedi dod yn ei ôl.
Ar yr ail un, gwyddom am fater Banksy ym Mhort Talbot. Ymwelais â'r fan ar y diwrnod cyntaf y’i nodwyd ef, cyn y daeth yn hysbys fel Banksy. Ond ers hynny, rydym hefyd wedi cael tri darn gwahanol o gelf stryd gan Ame72: dau ar ddrysau y tu ôl i glwb rygbi Tai-bach, ac un ar ddrws garej mewn lôn ychydig o dai i lawr o’r clwb rygbi. Mae’n amlwg bod hyn yn dod yn broblem — celf stryd a diwylliant celf stryd. Amlygodd yr unigolyn y siaradais ag ef, a pherchennog blaenorol y Banksy, yr angen i sicrhau bod gennym le i gadw’r gelf stryd yma. Ond mae pryder hefyd y bydd yr ardal yn datblygu i fod yn fan i wneud graffiti ynddi, yn hytrach na chelf stryd, ac felly mewn gwirionedd rydym ni’n creu diwylliant o gelf stryd. A gawn ni ddatganiad? Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb yn gynharach, yr wythnos diwethaf, ar geisiadau blaenorol, ond mae angen inni edrych ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar gelf stryd. Beth mae’n ystyried i fod yn gelf stryd a dyfodol celf stryd? Sut y bydd yn gweithio gyda chynghorau er mwyn sicrhau bod celf stryd yn gallu digwydd heb fod yn orymwthiol ym mywydau pobl? Efallai y bydd rhai pobl yn credu bod celf stryd yn hyfryd, ac y bydd pobl eraill yn ei hystyried fel graffiti, a graffiti yw rhai ohonyn nhw—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond mae angen inni sicrhau diwylliant o gelf stryd yn ein hardaloedd i sicrhau ei bod yn goroesi. Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld fel dyfodol ar gyfer celf stryd a, hefyd, sut y gallwn sicrhau pan fydd yno ei bod yn cael ei chadw a'i diogelu ac na chaniateir iddi gael ei difrodi?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad ddoe ynghylch £10 miliwn o gyllid yn ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ar gyfer rhwydwaith ymchwil £35 miliwn â’r nod o leihau allyriadau carbon yn y diwydiannau dur a haearn yn y DU. Mae hynny'n newyddion rhagorol, a hoffwn i longyfarch Prifysgol Abertawe ar y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i ddod â’r cyllid hwnnw i Gymru. Yn sicr mae’n adeiladu ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wrth gychwyn y Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe, a agorwyd ym mis Chwefror y llynedd. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Addysg i ymateb i'r pwyntiau a godwyd gennych yn eich cyfraniad.
Ynghylch y mater o waith celf Banksy a chelf stryd yn ehangach, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cyfeirio ei buddsoddiad yn y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yno i gefnogi amrywiaeth eang o ffurfiau celf, gan gynnwys pob math o gelfyddyd weledol, felly byddai hynny’n cynnwys celf stryd. Mae'r Cyngor hefyd yn gallu darparu cyllid ar gyfer unigolion, ac mae’n gwneud hynny yn helaeth, yn bennaf, drwy’r cyllid a gaiff gan y Loteri Genedlaethol.
Ar y mater penodol o waith celf Banksy, fel y gwyddoch, rydym yn talu am y costau diogelwch cyn iddo gael ei symud a'i adleoli i’r safle arall hwnnw ym Mhort Talbot. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru, y perchennog newydd, a'r awdurdod lleol i sicrhau eu bod nhw’n dod o hyd i leoliad newydd addas cyn gynted â phosib. Yn wir, deallaf y cynhaliwyd rhai trafodaethau yr wythnos hon, ac mae'r perchennog newydd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd celf newydd yn cael ei harddangos ym Mhort Talbot am ddwy flynedd o leiaf. Credaf fod croeso mawr i hynny, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried y dyfodol yn ehangach er mwyn dathlu celfyddyd gyfoes yma yng Nghymru.
O’r diwedd, yr wythnos hon, mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef bod y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd yn rhannol, o leiaf, oherwydd cyflwyniad trychinebus y credyd cynhwysol. Gwyddom hefyd fod diwygio lles yn rhannol gyfrifol am y cynnydd serth mewn digartrefedd ar y stryd. Felly, yn sicr, ar ôl cyfaddef hyn, ni all Llywodraeth y DU barhau â'r credyd cynhwysol. Felly, a wnewch chi gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ddadlau’r achos bod ei diwygiad o’r budd-daliadau yn achosi niwed mawr, ac y byddwch yn dweud wrthi mor gadarn â phosib i ddileu’r credyd cynhwysol yn awr?
Mae'r ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod llai nag un o bob pum cwyn o aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi arwain at ddiswyddiad. Defnyddir cytundebau peidio â datgelu hefyd i dawelu achwynwyr mewn achosion o aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth ddomestig. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn union pam mae angen y rhwydwaith Time’s Up newydd y bûm i'n gysylltiedig â'i sefydlu. Mae'r rhwydwaith newydd yn ceisio rhoi llais i'r rhai sy'n profi aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth yng Nghymru gyda’r nod o newid y sefyllfa. Felly, sut y gellir dod â’r diswyddiadau annheg hyn i ben? A wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad ar yr hyn y mae'n ei wneud i atal y diwylliant difäol sy'n parhau yn ein cymdeithas, ac, yn benodol, a wnewch chi ddweud wrthym beth y gellir ei wneud i atal achwynwyr rhag colli eu swyddi?
Mae dau unigolyn ar wahân wedi cysylltu â mi, yn cwyno am yr anawsterau y mae pobl drawsrywiol yn eu cael wrth ddefnyddio gofal iechyd yng Nghymru: mae profiad personol un ohonyn nhw yn dyddio'n ôl i’r cyfnod 2008-12, ond mae gan y llall brofiad mwy diweddar sy’n cadarnhau nad yw’r materion wedi newid yn y saith mlynedd ers hynny. Nid yw'n dderbyniol, nac ydy, i rywun orfod mynd i'r Alban i gyfeirio ei hun i glinig hunaniaeth o ran rhywedd oherwydd cymaint o oedi wrth gael atgyfeiriad gan Gymru—oedi a welodd yr unigolyn hwn yn ceisio cyflawni hunanladdiad oherwydd y niwed a wnaed i’w iechyd meddwl. Nid yw'n glir pam na all pobl gyfeirio eu hunain yng Nghymru na pham y mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy'r timau iechyd meddwl cymunedol pan nad yw’r ddarpariaeth honno’n bodoli yn unman arall. Ar ôl dychwelyd i Gymru, gwrthodwyd presgripsiwn amlroddadwy o HRT i’r dyn a gysylltodd â mi a dywedwyd y byddai'n rhaid iddyn nhw ddechrau ar y broses o'r cychwyn, er ei fod wedi bod ar HRT ers dwy flynedd a’i fod wedi cael mastectomi tra'r oedd yn yr Alban. Yn amlwg, roedd hyn yn annerbyniol bryd hynny ac mae'n annerbyniol yn awr. Deallaf bellach fod cynigion i ddod â Chymru yn unol â dull mwy blaengar yr Alban ar gyfer pobl drawsrywiol. Felly, a all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon ar y cynnydd gyda'r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd ar gyfer Cymru a sut y gall yr anghydraddoldebau penodol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw ddod i ben?
Ac yn olaf, disgrifiodd cyn-arweinydd UKIP yn y Cynulliad ei hen blaid fel plaid wrth-Fwslimaidd dros y penwythnos. Nawr, ers cyfnod hir, rydym wedi cydnabod y gwirionedd hwn ym Mhlaid Cymru, gan gynnwys yr amser pan oedd y cyn-Aelod Cynulliad hwnnw yn arweinydd i’r blaid yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb sy'n dethol neu’n trin pobl yn wahanol oherwydd eu crefydd, eu hiaith, neu am eu bod nhw’n perthyn i leiafrif? Ac a wnewch chi gytuno â mi nad oes gan y wleidyddiaeth hon unrhyw le yng Nghymru ac y dylai unrhyw un sy’n gwthio agenda beryglus neu wahaniaethol fod â chywilydd o’u hunain?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Cyfeiriaf atynt yn y drefn y cawsant eu codi. Y cyntaf oedd credyd cynhwysol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi codi'r mater o gredyd cynhwysol a'n pryderon di-ri yn ei gylch yn gyson ac yn rheolaidd gyda Gweinidogion y DU. Gwn fod y Gweinidog tai wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto yn ddiweddar ynghylch y mater hwn a byddai hi'n hapus i ddarparu—
Fe ddaeth yr ymateb yn ystod yr haf.
Byddai hi'n hapus i ddarparu copi o hynny i chi a rhoi copi yn y Llyfrgell ochr yn ochr â'r ymateb a gafodd y Gweinidog.
Ar y mater o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle, mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr iawn. Felly, byddwn ar fai pe na bawn yn cyfeirio at y ffaith fod yr wythnos hon yn Wythnos Undebau Llafur, ac y gall bod yn aelod o undeb llafur roi cymorth emosiynol anferthol i unigolion ond hefyd y cymorth cyfreithiol y byddai o bosib ei angen arnyn nhw er mwyn symud cwynion o'r math hwn ymlaen. Ond, yn amlwg, nid oes gan ymddygiad o'r fath le yn y gweithle nac yn unman arall yn ehangach ychwaith, byddwn i'n awgrymu.
Eich cwestiwn ynghylch pobl drawsrywiol yn gallu defnyddio gwasanaethau—mae'r Gweinidog wedi nodi y bydd yn cyflwyno datganiad pan ddaw'r tîm newydd ynghyd tua mis Ebrill eleni. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb yn eithriadol o beryglus. Mae'n amlwg nad oes gan wleidyddiaeth sy'n canolbwyntio ar wahaniaethu a chasineb tuag at bobl oherwydd eu crefydd, eu hiaith neu eu statws lleiafrifol unrhyw le yng Nghymru.
Trefnydd, y bore yma'n unig, cefais dros 40 o gwynion drwy e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch tagfeydd traffig ar yr A467 yn arwain at gyffordd 28 yr M4. Dywedodd Llywodraeth Cymru y cwblhawyd y gwaith i wella'r ffordd ar gyffordd 28 ers sawl mis bellach, ond mae'r sefyllfa yn waeth nag erioed o'r blaen. Mae cymudwyr yn wynebu oedi sylweddol i bob cyfeiriad ac rwyf wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur gyda'r Gweinidog, y swyddogion a Costain, ac yn anffodus nid yw hyn yn ddigwyddiad unigryw. Yn wir, mae'n digwydd bob dydd ac ni ellir ei briodoli i broblemau cychwynnol.
Mae hyn yn effeithio'n ddifrifol ar fy etholwyr a phobl sy'n teithio i lawr o'r Cymoedd ac i'r dwyrain o Gasnewydd, gan beri iddyn nhw gyrraedd yn hwyr i'r gwaith, ysgol, arholiadau, apwyntiadau ac yn ymestyn teithiau adref gyda'r nos. Mae cynffon y ciw yn ystod oriau brig yn cyrraedd y ffordd ymuno a lôn fewnol yr M4. Mae cymudwyr a thrigolion lleol wedi bod yn anhygoel o amyneddgar pan fu'r gwaith yn cael ei wneud, ond nid yw'n ymddangos yn welliant o unrhyw fath yn y byd ac mae'n ychwanegu at lygredd aer uchel a thagfeydd yn yr ardal.
Dywedodd un o fy etholwyr, sy'n byw yn y Tŷ du, wrthyf ei fod yn gweithio yng ngwaith dur Orb a bod yr hyn a ddylai fod yn daith 15 munud i'r gwaith yn cymryd ymhell dros awr iddo. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr busnes arall ei fod yn achosi straen i'w weithlu ac mae cwsmeriaid wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cyrraedd yno. Mae un arall newydd ddweud wrthyf i fod yn rhaid iddyn nhw adael awr a 10 munud yn gynharach na'u shifft mewn cwmni ym Mharc Tredegar, a bod hynny ar gyfer taith 20 munud.
Felly, os gwelwch yn dda a gawn ni ddatganiad brys gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y mater hwn yn ogystal â manylion ynglŷn â pha feini prawf sy'n cael eu defnyddio i fesur sut mae'r prosiect yn cyflawni ei amcanion arfaethedig?
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi cyfarfod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod y mater o dagfeydd ac i hysbysu'r Gweinidog am rai o'r profiadau personol manwl iawn hynny sy'n effeithio ar eich etholwyr ar y rhan hon o'r ffordd. Rwy'n ymwybodol y cawsoch chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, yn amlinellu'r hyn y mae'r tîm prosiect yn ei wneud er mwyn ceisio datrys y materion a ddisgrifiwyd gennych chi. Mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai'n fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bob Aelod.
Diolch i'r Trefnydd.
Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddarparu gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal heb ei drefnu'r gaeaf hwn. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad miloedd o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn. Rwyf wedi cael y cyfle i weld staff rheng flaen ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl, a hynny o dan bwysau. Rwyf wedi sôn o'r blaen am y broses gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, a oedd yn cynnwys arweinyddion o fyrddau iechyd lleol yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut roedden nhw wedi paratoi. Cytunwyd ar y cynlluniau lleol mewn partneriaeth rhwng y maes iechyd a llywodraeth leol. Rwyf wedi cefnogi sefydliadau lleol drwy roi £39 miliwn yn ychwanegol, a hynny yn gynharach nag o'r blaen, ar sail canfyddiadau o'n hadolygiad yn 2017-18 a sylwadau gan glinigwyr.
Rwy'n falch o adrodd fod pethau wedi gwella yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol hwn a gwersi a ddysgwyd o'r gaeafau blaenorol. Rwy'n ffyddiog, heb y rhain, y byddai'r gaeaf yr ydym ni wedi ei weld hyd yma wedi bod yn llawer caletach ar staff ac wedi cael effaith negyddol ar brofiad cleifion a staff. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dweud wrthym ni fod nifer yr oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o gerbydau ambiwlans wedi gostwng 30 y cant, o gymharu Rhagfyr 2018 â Rhagfyr 2017.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae ysbytai ledled Cymru wedi dweud eu bod wedi treulio cryn dipyn yn llai o amser yn y categorïau uwchgyfeirio uchaf ym mis Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 o gymharu â mis Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018. Pan oedd ysbytai yn gweld y pwysau cynyddol hynny, y gaeaf hwn fe wnaethon nhw ddod drostynt ac isgyfeirio ynghynt, ac mae hynny'n arwydd gwirioneddol o wella cydnerthedd y gwasanaethau rheng flaen.
Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol. Roedd hyd cyfartalog arosiadau ar gyfer cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty fel achosion brys ym mis Rhagfyr 2018 ar ei isaf ers mwy na chwe blynedd. Bu gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a bu gwelliannau mewn amseroedd aros; roedd nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos ar gyfer gofal dewisol ar ddiwedd mis Tachwedd 2018 yn 41 y cant yn is nag ym mis Tachwedd 2017, a bellach mae pob bwrdd iechyd mewn sefyllfa well nag yr oedd y llynedd.
Rwyf hefyd yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am nifer o gynlluniau cyflawni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y gaeaf hwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cydweithredu ag Ambiwlans Sant Ioan ar fenter cymorth cwympiadau, gan ymateb i 773 o bobl sydd wedi cwympo y gaeaf hwn. Roedd dros 85 y cant o'r galwadau hynny yn cynnwys cleifion dros 65 oed. Mae sylwadau gan gleifion yn dangos bod 94 o bobl yn fodlon ar yr ymateb a ddarparwyd.
Ers canol mis Rhagfyr, mae byrddau iechyd lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi dros 14,000 o gleifion mewn wyth adran achosion brys ledled y wlad. Diben y cynllun arbrofol yw gwella lles a phrofiad cleifion. Mae'n cefnogi cleifion a'u teuluoedd mewn adrannau achosion brys ac yn cludo cleifion adref. Mae'r cludiant cartref yn cynnwys helpu i adsefydlu cleifion drwy eu cysylltu eto i wasanaethau cymunedol. Mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl unig.
Mae'r arbrawf Adre o'r Ysbyty, sy'n cael ei gynnig ar y cyd â Gofal a Thrwsio Cymru, yn canolbwyntio ar wella ansawdd tai i gefnogi llai o oedi wrth drosglwyddo gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleihau cyfraddau aildderbyn. Mae cydweithio ac integreiddio gyda'r trydydd sector yn elfen allweddol o 'Cymru Iachach', ac mae'n galonogol gweld rhagor o gynnydd yn hyn o beth.
Rydym ni hefyd yn treialu modelau integredig newydd o ofal y gaeaf hwn drwy ddefnyddio fferyllwyr mewn adrannau achosion brys. Unwaith eto, mae arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae fferyllwyr penodedig bellach yn gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol, gyda rhai ysbytai eisoes yn dweud eu bod yn gweld hyd at 100 o gleifion yr wythnos, i helpu cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion yn yr adrannau achosion brys.
Fodd bynnag, mae'r gaeaf hwn hefyd wedi bod yn anodd i wasanaethau a staff ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bu achlysuron lle bu cleifion yn aros yn hwy am gyngor, gofal neu driniaeth nag y buasem ni neu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddymuno. Mae afiechydon stumog gaeaf fel norofeirws yn rhoi straen ychwanegol ar ein GIG, ac ers mis Hydref 2018 cafwyd 103 achos o haint gastroberfeddol mewn ysbytai a chartrefi gofal ledled Cymru.
Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y tymor ffliw diwethaf wedi gweld y nifer uchaf o ymgynghoriadau â meddygon teulu ac achosion o'r ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009. Rydym ni wedi cynyddu profion yn dilyn cyflwyno'r profion ffliw cyflym a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Y gaeaf hwn, rydym ni wedi gweld mwy o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau mewn ysbytai o gymharu â'r un pryd y llynedd.
Er gwaethaf y nifer uchaf erioed o bobl mewn adrannau achosion brys mawr, gwellodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr mewn saith o 13 o ysbytai. Fodd bynnag, mae'n glir nad yw perfformiad, yn benodol mewn tri safle yn ddigon da, ac mae hynny wedi effeithio ar y darlun cenedlaethol cyffredinol o ran perfformiad.
Gan edrych ymlaen at y tymor canolig, rydym ni'n goruchwylio nifer o raglenni i gefnogi darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy. Bydd y model gofal sylfaenol newydd yn darparu ymateb 24/7, gyda'r gwasanaeth 111 yn elfen allweddol. Wrth gyflwyno'r gwasanaeth 111 dros y ddwy i dair blynedd nesaf, bydd yn gwella mynediad trwy well arwyddion, cyngor clinigol a thriniaeth gan ddefnyddio rhif ffôn am ddim a chyfleoedd digidol eraill. Bydd mwy o weithio rhanbarthol a chenedlaethol i ddiwallu'r galw am gyngor a thriniaeth gritigol yn ystod oriau brig, a bydd y gwasanaeth 111 ar gael yn genedlaethol erbyn 2022.
Mae rhaglen weithredu'r adolygiad oren, yr wyf wedi tynnu sylw Aelodau ati mewn datganiad blaenorol, ar y gweill ers tro ac mae disgwyl iddi redeg tan fis Tachwedd 2019. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynglŷn â'r cynnydd yn y rhaglen honno dros yr haf. Mae fframwaith ansawdd a darparu ar gyfer adrannau achosion brys yn cael ei ddatblygu ac mae'n cynnwys treialu mesurau newydd a ddatblygwyd ochr yn ochr â chlinigwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma fydd cam cyntaf y gwaith ehangach i ddatblygu canlyniadau clinigol a mesurau profiad ledled y system gofal heb ei drefnu.
Gan adeiladu ar adolygiad manwl ynglŷn â sut yr ydym ni'n rhyddhau pobl ag anghenion cymhleth o ysbytai, byddwn yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal mynediadau diangen i ysbytai a lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal ysbyty ar gyfer pobl hŷn yn 2019-20. Byddaf hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y dull 'gartref yn gyntaf' hwn yn yr haf. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hangen i weithio ledled ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Ac yn olaf, byddwn ni'n lansio fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu i ddisgrifio ein disgwyliadau polisi ar gyfer byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn ystod yr haf 2019. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o fanylion pan gaiff ei gyflwyno.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y copi ymlaen llaw a gafodd fy swyddfa.
Yn amlwg, bu cynnydd mewn rhai meysydd, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd, bobol bach, roedd angen peth cynnydd arnom ni o ran y mater pwysig iawn hwn. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn briodol iawn, er bod perfformiad o gymharu â'r targed o bedair awr wedi gwella mewn rhai ysbytai, mewn rhai eraill mae'n druenus o annigonol, gan gynnwys, yn fwyaf difrifol, yn y gogledd mewn dau o'r ysbytai, sydd ar waelod y tabl cynghrair mewn bwrdd iechyd sydd, wrth gwrs, ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi.
A gaf i roi enghraifft o'r math o ofal a ddarperir yn Ysbyty Glan Clwyd i chi? Daw hyn o e-bost a anfonwyd ataf gan fy etholwr, John Cook, am ei fab Gareth Cook a oedd, yn anffodus, angen rhywfaint o sylw yn yr adran achosion brys yno yn ôl ym mis Tachwedd. Aeth yno dair gwaith mewn un wythnos, i raddau helaeth oherwydd, y tro cyntaf cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, a'r ail dro hefyd cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, oherwydd pwysau ar welyau yn yr ysbyty. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Rwyf wedi crybwyll y diffyg hylendid sylfaenol, preifatrwydd a pharch i gleifion sy'n deillio o'r amodau ofnadwy. I egluro'r pwynt hwn, cyfeiriaf at gleifion yn chwydu a hwythau'n agos iawn at ei gilydd. Mae Gareth yn sôn am brofiad o rannu bae pedair cadair gyda thri arall. Ymhlith y grŵp hwn roedd person dall oedrannus a dyn iau a oedd yn alcoholig ac yn amlwg yn anniddig. Yng nghanol y nos, dyma'r alcoholig yn estyn siswrn ac yn pwnio'r dyn dall a'i ddeffro.
Yn ogystal â hynny, caiff golygfeydd eraill eu disgrifio o ddau ŵr bonheddig oedrannus, un yn 94 a'r llall yn ei 80au, yn treulio dyddiau—nid oriau, dyddiau—ar gadeiriau, gan rannu un bae gwely sengl gyda thri arall, a phob un ohonyn nhw, eto, yn agos iawn at ei gilydd.
Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn ddisgrifiadau annerbyniol o'r math o ofal yr hoffech chi a minnau ac unrhyw un arall yn y Siambr ei weld yn cael ei ddarparu, ond rwyf yn bryderus iawn mai dyna'r math o ofal, yn anffodus, y mae nifer o bobl yn dyst iddo yn ein hysbytai, yn enwedig yn y gogledd. Ond rwy'n gwybod nad yw'r mathau hynny o olygfeydd yn gyfyngedig i'r fan honno, ac fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bryderon, gan ei fod yn ymddangos i mi mai rhan fawr o'r broblem yw nifer y gwelyau sydd ar gael yn ein hysbytai, sy'n cadw gormod o bobl yn ein hadrannau achosion brys am gyfnod rhy hir.
Rydym ni'n gwybod fod y ffigurau am y cyfnodau 12 awr a mwy y mae pobl yn eu treulio yn ein hysbytai mewn gwirionedd yn gwaethygu. Maen nhw wedi gwaethygu ym mis Rhagfyr, ac roedden nhw'n waeth ym mis Tachwedd nag yr oedden nhw 12 mis cyn hynny. Felly, er fy mod i'n deall bod cynnydd o ran trosglwyddo gofal, ac y bu rhywfaint o gynnydd o ran rhai o'r targedau eraill, yn amlwg, ni ddylai pobl fod yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys oni bai y ceir sefyllfa eithriadol pan fo angen iddyn nhw fod yno.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arian ychwanegol a fuddsoddwyd y gaeaf hwn. Rwy'n falch o weld yr arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Byddwn yn ddiolchgar iawn i wybod, Gweinidog, sut y rhannwyd yr arian hwnnw fesul ardal bwrdd iechyd, gan ei fod yn ymddangos i mi nad yw bob amser wedi'i dargedu i'r mannau lle mae'r angen mwyaf, lle mae'r problemau mwyaf yn ymddangos. Felly, fe fyddai'n ddiddorol gwybod os wnewch chi roi dadansoddiad inni yn eich ymateb heddiw.
Rwy'n awyddus iawn hefyd i glywed ychydig yn fwy am y cydweithio yma y mae'r GIG yn ei ddatblygu gyda'r Groes Goch, Ambiwlans Sant Ioan, a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n wych bod y cydweithredu hwnnw wedi dechrau. Rwy'n gwybod fod cleifion, yn sicr yn fy rhan i o'r wlad, yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth y mae'r groes goch wedi bod yn ei rhoi, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio'n hynod o dda. Ond, yn amlwg, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wybod yw: a fydd y rhain yn nodweddion parhaol yn ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol ac, os felly, a oes trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gwaith craffu priodol ar y systemau a'r trefniadau newydd hynny, ac a thelir amdanyn nhw'n briodol?
A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn manteisio ar y brechiad rhag y ffliw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y tymor ffliw yn eich datganiad, ac rydym ni'n gwybod y dechreuodd ychydig yn hwyrach eleni na mewn blynyddoedd blaenorol ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i hynny gynyddu eto. Nawr, dim ond tua hanner ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y gorffennol mewn gwirionedd sydd wedi bod yn cael eu pigiadau. Nid yw hynny'n amlwg yn ddigon da. Mae angen inni gael cyfradd uwch o weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn manteisio ar hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n mynd i gyflwyno targedau newydd, mesurau newydd sy'n gallu ysgogi ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ddiogelu eu hunain er mwyn diogelu pobl eraill.
Ac yn olaf, a gaf i eich holi ynglŷn â holl fater y gwasanaeth ambiwlans a'i dargedau—? Rydym ni'n gwybod y bu rhai newidiadau i'w croesawu o ran y targedau synhwyrol sydd wedi'u pennu bellach ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, ond un peth sy'n dod i fy nghlyw yn rheolaidd yw'r pryder nad yw rhai pobl sy'n dangos symptomau o drawiad cardiaidd, trawiad ar y galon, yn cael eu hystyried fel y categori uchaf o alwadau, ac nad oes angen i ambiwlans ymateb iddyn nhw o fewn wyth munud i amser yr alwad. Rwy'n credu bod hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Yn anffodus, mae rhai pobl, wedi colli partneriaid, wedi colli aelodau o'r teulu o ganlyniad i'r targed hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i adolygu'r trefniant penodol hwnnw o ran gofal cardiaidd yn y dyfodol. Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe wnaf i ddechrau â'ch pwynt olaf, oherwydd yr ymdriniwyd ag ef yn yr adolygiad galwadau oren. Cynhaliwyd adolygiad o'r amodau mewn dosbarthiadau gwahanol, gyda galwadau coch, oren 1 ac oren 2, ac nid yw'r clinigwyr a gynhaliodd yr adolygiad yn cefnogi eich barn bersonol chi. Rydym ni'n defnyddio tystiolaeth briodol yn sylfaen i gategoreiddio amodau gofal iechyd, ond hefyd i edrych ar welliannau yn y categori oren beth bynnag. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau'r haf hwn ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran darparu hynny ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl cyflwyno adroddiad eto ar ddiwedd y cyfnod gweithredu ar gyfer yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwnnw. Fel y nodais yn fy natganiad, mae'r gwaith i fod i fynd rhagddo tan fis Tachwedd y flwyddyn galendr hon.
O ran eich pwynt ehangach am y pigiad ffliw, unwaith eto, rwy'n disgwyl, yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r gaeaf hwn, y byddwn ni'n edrych eto ar y llwyddiant cyffredinol wrth berswadio'r cyhoedd a'n staff i fanteisio ar y cyfle a gynigir i gael eu diogelu gan y pigiad ffliw. Fe wnawn ni edrych eto ar y rhannau mwyaf llwyddiannus o'n system, ar gyfer gweithwyr yn ogystal â'r gallu i ddarbwyllo pobl i gael eu pigiadau ffliw, boed mewn meddygfeydd teulu neu mewn fferyllfeydd. Yn wir, y bore yma roedd yn rhaid imi alw yn fy meddygfa deuluol fy hun, ac roedd y wal yn blastr o bosteri ynglŷn â chael brechiad rhag y ffliw ar gyfer y bobl hynny sydd mewn mwy o berygl. Felly, yn sicr, roedd yr wybodaeth a oedd yn cael ei darparu yn y fan honno yn y ddwy iaith yn weladwy iawn, iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ac a gaiff ei drafod eto gyda chyflogwyr, ynglŷn â llwyddiant, neu fel arall, darbwyllo staff i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw ym mhob rhan o'n system. A byddwch yn gwybod y gaeaf hwn, wrth gwrs, ein bod ni wedi rhoi cyfle i staff gofal preswyl gael brechiad rhag y ffliw gan y gwasanaeth iechyd hefyd, felly byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch llwyddiant a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud ar ddiwedd y gaeaf hwn hefyd.
O ran y Groes Goch, rwy'n falch bod croeso cyffredinol iddo, ac mae wedi cael croeso gwresog iawn, iawn gan staff a'r bobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth eu hunain hefyd. Mae'n gynllun treialu, ac mae'n gynllun treialu sydd i fod yn weithredol ar ddiwedd mis Mawrth, ac yna byddwn yn gwerthuso i ddeall yr effaith a gafodd. Wedyn bydd angen inni—wedyn bydd angen imi wneud penderfyniad ynghylch p'un ai i ailgomisiynu hynny, a fydd hynny yn ailgomisiynu rheolaidd, a fydd yn ailgomisiynu tymhorol os bydd y dystiolaeth yn cefnogi hynny yn y gaeaf, neu a yw'n rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Bydd angen i ni ddeall gan y Groes Goch beth yw eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, os yw'r gwerthusiad yn dangos ei fod yn werth ei gynnal.
O ran eich sylw ehangach am arian, fe wnes i gadarnhau mewn datganiad blaenorol mai o'r gyfran o'r arian a roddwyd, y gogledd gafodd y gyfran uchaf o'r arian a gyhoeddwyd. Rwy'n fodlon iawn ailgylchredeg i Aelodau y gyfran o'r arian hwnnw rhwng gwahanol fyrddau iechyd a'u partneriaid.
O ran eich sylw ehangach am y profiad o ofal wrth ichi ddechrau eich cyfraniadau a'ch sylwadau, Ni wnaf i geisio dweud bod y darlun a roesoch chi yn eich etholaeth yn un y byddem yn dymuno i unrhyw un ei gael mewn unrhyw adran achosion brys mewn unrhyw ran o'r wlad. A'r her i ni yw nid dim ond deall fod hynny wedi digwydd, ond ein gallu i wneud rhywbeth yn wahanol am y peth. Nawr, i mi, nid yw hynny dim ond ynglŷn â'r drws ffrynt, ac rydym ni'n ymarfer hyn yn rheolaidd—nid yw'n ymwneud ag ambiwlansys a'r drws ffrynt yn unig. Ac mewn gwirionedd, nid yw bob amser ynglŷn â nifer y gwelyau. Ac un o'r pethau diddorol am y sgwrs gyda'r coleg meddygaeth frys fu eu pwyslais ar, ie, yr angen am fwy o staff, ond mewn gwirionedd, eu pwyslais mawr arall fu mwy o adnoddau i'r maes gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod y bobl sy'n feddygol heini mewn unrhyw un o'r ysbytai bron bob amser yn cyfateb i'r pwysau sydd ganddyn nhw wrth y drws ffrynt, ac mewn gwirionedd mae gallu cael rhai o'r bobl hynny sy'n feddygol heini allan o'r ysbyty angen cymorth gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i hynny ddigwydd.
Nawr, i mi, y rhwystredigaeth yw pa mor gyflym y gallwn ni wneud hyn, gan gadw mewn cof y galw yr ydym ni'n parhau i weld yn dod drwy'r drws ffrynt. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi llwyddo i gefnogi mwy o bobl y tu allan i adrannau brys y gaeaf hwn. Pe na byddem ni wedi gwneud hynny, byddai gennym ni fwy o bobl yn ein hadrannau achosion brys. Mae angen inni wneud mwy yn gynyddol bob gaeaf dim ond i ateb y galw y gwyddom ni'n sy'n bodoli yn ein system gyfan. Ond nid adrannau achosion brys yn unig sy'n gweld y pwysau hynny, ond ein cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol hefyd.
Felly, os hoffech chi roi'r manylion gan eich etholwr imi, rwy'n hapus i sicrhau eu bod nhw'n cael sylw, ond bydd y pwyslais ar y system gyfan ac, yn benodol, ar sut yr ydym ni'n cefnogi pobl i adael yr ysbyty a chael cefnogaeth, fel nad ydyn nhw'n cael eu haildderbyn ac nad ydyn nhw'n dychwelyd i'r ysbyty heb gael y cymorth a'r gofal priodol y tu allan i'n system ysbytai.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac, wrth wneud hynny, ategu ei werthfawrogiad am y gwaith rhagorol y mae ein staff yn ei wneud, weithiau o dan amgylchiadau anodd iawn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn, fel rwy'n dweud.
Mae hi, fel y dywedodd Darren Millar, yn gadarnhaol i weld rhai tueddiadau. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o fanylion am rai o'r penawdau y mae'n sôn amdanyn nhw. Felly, mae'r datganiad yn sôn bod ysbytai ledled Cymru yn dweud iddyn nhw dreulio llawer llai o amser yn y categori uchaf o uwchgyfeirio ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Ionawr eleni. Mae'n dda clywed hynny yn amlwg, ond fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion gan y Gweinidog. Efallai y gallai ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd mae 'llawer llai o amser' yn derm eithaf amwys a byddai'n ddiddorol gwybod a oedd y gwelliant yna mewn perfformiad yn gyson ar draws yr holl ysbytai yng Nghymru, a oedd amrywiadau, ac os oedd amrywiadau, beth oedd i gyfrif amdanyn nhw a sut gellid mynd i'r afael â nhw.
Felly, cwestiwn pellach ynglŷn â manylion ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal. Unwaith eto, mae'n braf iawn clywed y bu lleihad, ond byddai'n ddefnyddiol, o safbwynt craffu, i wybod gostyngiad o beth i beth, ac eto, pa un a yw'r perfformiad yn gyson drwy'r holl wasanaeth neu, fel yr ydym ni'n amau, a oes yna wahaniaethau sylweddol. Ac eto, os oes gwahaniaethau, beth sydd i gyfrif am hynny. Ac fe ddylwn i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, nad wyf yn disgwyl i'r Gweinidog fod â hyn i gyd ar flaenau ei fysedd, er fy mod yn siŵr y bydd ganddo rywfaint ohono. Ond byddai'n ddefnyddiol cael y manylder hwnnw.
Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad y trydydd sector, lle bo'n briodol, i helpu yn y maes hwn o waith. Fe wnaf i ddweud, fodd bynnag, wrth y Gweinidog ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y gwasanaethau trydydd sector hyn unwaith—. Oherwydd rwy'n sylweddoli i'r Gweinidog ddweud wrth Darren Millar, bod rhai o'r rhain yn gynlluniau treialu, ac mae angen inni weld a ydyn nhw'n gweithio ac yna a yw'r Llywodraeth eisiau eu comisiynu'n barhaol. Ond mae hi'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n trafod gyda'r trydydd sector fod hynny'n cael ei wneud yn gynaliadwy a bod y patrwm cyllido yn ddigon i'r sefydliadau allu cynnal eu hunain yn ogystal â darparu gwasanaeth penodol. Er enghraifft, bûm mewn rhai trafodaethau gyda gwasanaeth hosbis yn y cartref yn fy rhanbarth fy hun lle mae cyllid sy'n cael ei gynnig iddyn nhw gan y bwrdd iechyd ar sail ddigyfnewid, er gwaethaf y ffaith fod cyflogau nyrsio teg, yn gwbl briodol, yn cynyddu. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog edrych ar sut y mae'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn ymgysylltu gyda'r trydydd sector ac a yw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwasanaethau hynny, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint, fel y dywedodd Darren Millar, yn wirioneddol gynaliadwy.
Roedd datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at y sefyllfa o ran damweiniau ac achosion brys, ond mae hynny'n bur gyffredinol, er fy mod i'n sylweddoli ein bod ni wedi trafod hyn eisoes. Ond y gwir amdani yw, ynte, fod bron i 4,000 o bobl—3,887—wedi gorfod aros yn hwy mewn canolfannau damweiniau ac achosion brys mawr fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd hynny'n fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod y ffigurau yn cael eu hystumio gan berfformiadau arbennig o wael mewn lleoedd penodol—cyfeiriodd Darren Millar at y gogledd—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig yn fwy heddiw ynglŷn â'r hyn y mae yntau a'i swyddogion yn ei wneud i fynd i'r afael â'r perfformiad hwnnw yn y tair canolfan hynny lle'r ydym ni'n gwybod fod yna faterion difrifol iawn.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n weddol amlwg i ddweud bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae'n ymddangos ein bod ni'n clywed bod rhai pethau fel ffliw a norofeirws i fod i beri syndod inni, tybed a all y Gweinidog ein sicrhau ni—ac edrychaf ymlaen at weld y fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael fframwaith polisi cenedlaethol—. Ond a wnaiff y Gweinidog sicrhau, yn y fframwaith hwnnw, ein bod yn ystyried y ffaith bod y pwysau hwn yn dod bob blwyddyn? Mae rhai blynyddoedd yn waeth nag eraill; mewn rhai blynyddoedd mae'r ffliw yn waeth, mewn rhai blynyddoedd mae'r norofeirws yn waeth. Ond mae angen inni ddeall y bydd y pwysau ychwanegol hynny yno bob amser. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau ni y bydd y fframwaith polisi hwnnw yn ystyried yr amrywiad hwnnw mewn pwysau fel nad ydym ni'n chwilio am argyfyngau pan, mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yw dim byd ond y tywydd, a'r ffaith ein bod ni'n byw yng Nghymru? Diolch.
Os caf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, rydym ni'n cydnabod ein bod ni'n byw yng Nghymru a bod y tywydd yn amrywio ac felly hefyd y pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae tywydd oer yn tueddu i beidio ag arwain at gynnydd mawr yn nifer y derbyniadau ar y pryd; mewn gwirionedd mae hi oddeutu wythnos neu fwy yn ddiweddarach pan fo'r tywydd oer yn cynhyrchu'r effaith o ran y nifer ychwanegol o bobl yn mynd i ysbytai. Gwyddom fod wythnos gyntaf mis Ionawr bron bob amser yn gyfnod o bwysau mawr iawn ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol ac ysbytai. Ceir rhannau mewn gwirionedd lle y gallwn ni eu rhagweld a rhai lle na allwn ni'n fanwl gywir. Gwyddom, wrth i fwy ohonom ni fyw'n hwy, y gallwn ni ddisgwyl y bydd mwy o bwysau ar draws y system gyfan ac, yn benodol, drwy'r gaeaf. Dyna pam mai un o'r pethau calonogol ynghylch y gwahaniaeth eleni yw nifer y bobl dros 85 oed yn gostwng o ran derbyniadau brys, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn, ond mae'n dangos bod angen inni wneud mwy fyth i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, a dyna pam y mae hi mor ddealladwy, y ceir nid yn unig cyfeiriad polisi ond amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn dweud bod angen iddyn nhw nid yn unig siarad am y ffordd yr ydym ni eisiau i fwy gael ei wneud yno ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn darparu adnoddau i'r timau hynny i ddarparu'r gofal yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei ddarparu'n lleol a'i gynnal yn lleol hefyd.
O ran eich sylw ehangach am y tair canolfan lle mae her benodol, ceir cyfuniad o herio a chefnogi. Mae'n rhaid i'r cymorth a ddarperir, nid yn unig mewn termau ariannol ond mewn gwirionedd o ran cyngor gan swyddogion, gael ei ategu gan her ar lefel y bwrdd, ac mae hynny mewn difrif calon yn digwydd. Mae'n rhan o'r sgwrs a gefais yn ddiweddar gyda chadeiryddion y byrddau iechyd a chadeiryddion yr ymddiriedolaeth a'r prif weithredwyr yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni edrych ar berfformiad eu hadrannau achosion brys, gan ganolbwyntio yn benodol ar y meysydd hynny lle maen nhw'n cydnabod bod ganddyn nhw heriau gwirioneddol a sylweddol, a cheir arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol hefyd. Mae terfyn i beth y gall gwleidyddion yn mynnu atebion mewn gwirionedd ei wneud i helpu ymarfer ar lawr gwlad ac yn wir yn y system gyfan ehangach ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, oherwydd mewn gwirionedd mae cael y perthnasoedd hynny'n gywir yr un mor bwysig ag arweinyddiaeth glinigol mewn unrhyw adran achosion brys.
Felly, nid oes byth un ateb unigol i ddatrys yr holl faterion hyn, ond rydych chi'n codi pwynt am y trydydd sector, ac mewn gwirionedd mae cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn bwysig i ni yn ogystal ag i'r trydydd sector. Pan ydym ni'n comisiynu gwasanaeth gan y trydydd sector, rydym ni eisiau gwybod bod y sefydliad yn gadarn ac yn gallu darparu ei wasanaeth. Mae gennym ni ddangosyddion allweddol ar gyfer y gwasanaeth fel eu bod yn deall ein bod ni'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, ac nid yw'r trydydd sector yn anghytuno â hynny. Maen nhw eisiau rhywfaint o sicrwydd ynghylch y dyfodol, ac mae terfyn i faint o sicrwydd y gallwn ni ei ddarparu. Pan ydych chi'n byw o flwyddyn i flwyddyn ar gyllidebau mewn Llywodraeth genedlaethol, mae'n anodd rhoi i bobl y cylchoedd cyllid tymor hwy y byddent yn eu dymuno eu hunain, ond mewn gwirionedd, fe gawsom ni sgwrs adeiladol iawn gyda'r trydydd sector yng Nghymru ar y pwnc hwn yn union ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ychydig wythnosau yn ôl pan wnaeth y Dirprwy Weinidog a minnau gyfarfod â grŵp a gafodd ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i edrych ar yr holl bobl hynny sy'n ymwneud â darparu ac yn gweithio mewn rhannau amrywiol o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
A'r agwedd galonogol i'r trydydd sector ei harddel yw, pan edrychwch chi ar y ffordd y mae 'Cymru Iachach' nid yn unig wedi ei ysgrifennu a beth sydd yn yr iaith ond mewn gwirionedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG yma yng Nghymru—y tri phartner allweddol a gyd-gynhyrchodd y strategaeth honno—. Felly, maen nhw'n wirioneddol yn rhan o ddechrau'r sgwrs, nid yn bethau sy'n cael eu hatodi ar y diwedd. Ac maen nhw hefyd yn rhan o'n byrddau partneriaeth rhanbarthol ledled y wlad. Mae cynrychiolaeth o'r trydydd sector yno bob amser. Felly, nid yw hi byth yn adeg berffaith mewn amser; bydd hi wastad yn angenrheidiol i herio a thrafod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond maen nhw'n wirioneddol yn rhan o'r sgwrs ac yn rhan o'r dyfodol hefyd.
O ran eich dau bwynt mwy manwl—ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, oes, mae amrywiadau rhwng partneriaethau bwrdd iechyd. Rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny yn rheolaidd. Gallaf ddweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld y lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y 13 blynedd diwethaf ers inni ddechrau casglu'r ffigurau hyn, ac yn 2018 roedd traean yn llai o oedi wrth drosglwyddo gofal nag yn 2006. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni yn gwneud cynnydd gwirioneddol a chyson, ac mae Cymru'n cymharu'n gadarnhaol â Lloegr, lle mae oedi wrth drosglwyddo yn cynyddu.
Ac ynglŷn â'ch sylw am y categorïau uwchgyfeirio uchaf, wel, ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n arbenigwyr ar iechyd, mae gennym ni bedair lefel o uwchgyfeirio: lefel 1, sef yr isaf, a lefel 4, sef yr uchaf—efallai y gwyddoch chi hyn, efallai nad yw eraill yn gwybod hyn. Ac o ran yr amser a dreuliwyd gennym ni ar lefel 4 ar gyfer mis Ionawr eleni o'i gymharu â mis Ionawr diwethaf, mae gwahaniaeth o bron iawn i 12 pwynt canran. Ac, yn yr un modd, pan fydd adrannau wedi bod ar lefel 4, maen nhw wedi isgyfeirio i lefel 3 neu'n is yn llawer cyflymach hefyd. Felly, y rheswm dros hyn yw nid y Gweinidog yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud hyn', ond oherwydd bod mwy o afael a gwell perfformiad, ac mae hynny oherwydd bod ein staff mewn sefyllfa well, ac mae hefyd oherwydd bod y system gyfan yn y meysydd hynny mewn sefyllfa well i gyflawni.
A gaf i adleisio geiriau'r Gweinidog ac eraill sydd wedi cyfrannu hyd yma mewn ymateb i'r datganiad hwn am y gwaith aruthrol y mae pobl yn ei wneud mewn gwahanol ddisgyblaethau, yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid y trydydd sector hefyd? Ac fe hoffwn i gyfeirio rhai cwestiynau a rhai sylwadau at un o'r sefydliadau penodol hynny a grybwyllwyd yn y datganiad. Ac mae'r sefydliad hwnnw'n un a ddechreuodd, mewn gwirionedd, yn fy ardal fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl yn 2013–14, rwy'n credu, sef y cymorth a roddodd gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr i'r fenter adre o'r ysbyty. Ac fe brofodd ei werth yn gyflym iawn, iawn bryd hynny—y gallu i ryddhau pobl yn llawer cynt o'r ysbyty i le saff a diogel gyda gofal cofleidiol, ond hefyd i geisio sicrhau nad yw pobl yn dod yn ôl i ysbytai yn rhy gynnar drwy ddarparu'r cymorth addas hwnnw o ran gofal cofleidiol yn y cartref. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, ceir rhai cynlluniau treialu diddorol yn hynny o beth erbyn hyn—mae wedi'i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal honno i chwe ardal wahanol yn y de a'r gorllewin, ac rydym ni'n aros i weld y canlyniadau. Ond fe dynnaf sylw'r Gweinidog at yr adroddiad perfformiad o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018, sy'n edrych ar rai o'r canlyniadau eithaf cadarnhaol bryd hynny: oddeutu 1,500 o atgyfeiriadau a fu drwy'r fenter benodol hon. O fewn hynny, un o lwyddiannau nodedig y gwasanaeth, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw, oedd cyflymder y gwasanaeth hwnnw yn ymateb yn gyflym i atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth, yn enwedig o ran rhyddhau cleifion. Cyfartaledd cyflymder y gwasanaeth oedd un diwrnod o atgyfeirio i gwblhau'r gwaith er mwyn i bobl allu mynd adref yn gyflym. Ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, dyna'r gwasanaethau eraill sy'n rhan o hynny, gan gynnwys nid yn unig yr ymweliadau asesiad llawn o'r cartref a'r asesiadau risg cwympiadau, gan ddefnyddio'r pecyn asesu, y gwiriad cartrefi iach, ond gwiriad budd-daliadau lles llawn hefyd. Cafodd dros 230 o gleifion gynnydd yn eu hincwm wythnosol yn ystod y cyfnod hwnnw: cyfanswm cynnydd ar gyfer y garfan gyfan o £657,000 yn adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. Felly, mae'r effeithiau yn enfawr, a phan glywch chi sylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch beth mae hyn yn ei wneud—yn therapyddion galwedigaethol, yn ffisiotherapyddion ac eraill—yr effaith ar fywydau pobl, yn ogystal ag atal pobl rhag gorfod dychwelyd yn gynnar i'r ysbyty, ynghyd â chael eu rhyddhau yn gynnar, yn sylweddol.
Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog—yn y chwyldro tawel hwn yr ydym ni'n ceisio ei gynnal yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r holl bartneriaid ynddo, sydd angen, byddwn yn dweud, chwyldro parhaus, sydd wastad yn ceisio gwella—sut ydym ni'n symud oddi wrth gyllid treialu? Hon yn wreiddiol oedd y gronfa gofal integredig, bellach mae peth arian trawsnewid arian ac ati yno—os yw'n profi ei hun, a yw'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen inni ei wneud yw gwneud hwn yn arferol, gwneud hwn yn rhan o'r busnes craidd? Os yw'r math hwn o ymagwedd a welwn ni o'n blaenau yn gweithio, ac yn arbed arian drwy fod yn fwy ataliol, yna, does bosib, dylai hynny fod yn rhan o fusnes craidd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles. Ac, yn ail, efallai y gallwn ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon gwneud hyn, ar adeg briodol, a fyddai'n derbyn gwahoddiad i ddod i weld y gwaith sy'n cael ei wneud gan gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwasanaeth adre o'r ysbyty? Oherwydd rwy'n credu y byddai yntau, fel fi, yn cael ei syfrdanu, nid yn unig o weld y canlyniadau ond o weld proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn. Maen nhw wedi bod wrthi ers amser maith—maen nhw'n gwybod eu stwff. Felly, os gwelwch yn dda, dewch i weld; byddent wrth eu boddau yn eich gweld ac i weld yn uniongyrchol y canlyniadau y maen nhw'n eu cyflawni ar lawr gwlad a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud i ansawdd bywyd eu cleientiaid hefyd.
Diolch am dynnu sylw at lwyddiant y maes penodol hwnnw o waith, ac, unwaith eto, mae'r syniadau'n dod ac yn cael eu cefnogi, ond, mewn gwirionedd, mae pobl angen eu cyflawni a gwneud y gwahaniaeth. Ac mae hi yn galonogol clywed y manylion ac am nifer y bobl sy'n elwa, ac yn elwa'n gyflym, ar y gwasanaeth newydd—y sylw hwnnw ynghylch rhyddhau pobl yn gyflym a chefnogi pobl i adael, ond yna'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac mor annibynnol â phosib. A dim ond eisiau dweud yr wyf i fod hyn ynglŷn â phartneriaeth rhwng y trydydd sector, tai a gwahanol grwpiau o staff y sonnir amdanyn nhw'n achlysurol, yn enwedig y therapyddion—cymorth i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd. Fy uchelgais yn llwyr yw deall pa fodelau o ofal a chymorth sydd â'r posibilrwydd mwyaf i wneud y gwahaniaeth mwyaf, a'r gallu i'w cyflwyno yn llawer ehangach. Rwyf wedi bod yn glir iawn nad wyf i eisiau parhau i ariannu prosiectau micro nad oes modd eu trosglwyddo i rannau eraill o'r wlad. Mae gennyf ddiddordeb nid dim ond mewn dadl ehangach, ond mewn newid ehangach yn ymarferol ac i fanteisio ar yr arferion gorau fel bod hynny'n dod yn arfer safonol—nid rhywbeth yr ydych chi'n cyfeirio ato sy'n sefyll ar wahân i bopeth arall, ond, mewn gwirionedd, dyna'r ffordd i gyflwyno busnes ar sylfaen safonol i wneud y math o drawsnewid yr ydym i gyd ei eisiau. Mewn egwyddor, byddwn yn hapus iawn i dderbyn ei gynnig, ac os gwnaiff ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallwn ni drefnu amser a dyddiad cyfleus yn y dyddiadur.
Fel pawb arall, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn ac i fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun i staff y GIG am y gwaith aruthrol a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac ingol iawn. Ac a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones yn ei chwestiynau yn gynharach, gan ofyn i'r Gweinidog am fwy o dryloywder mewn datganiadau o'r math hwn? Rwy'n gwybod fy mod i'n newydd i'r briff hwn ac nad wyf i felly yn meddu ar yr un wybodaeth gefndirol sydd gan eraill efallai, ond fe'i cefais yn eithaf anodd deall beth sy'n mynd ymlaen mewn gwirionedd. Mae'r datganiad yn iawn, o ran yr hyn y mae'n ei gynnwys—yn yr adran ynglŷn â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rydym ni'n clywed bod ysbytai yn treulio llawer llai o amser ar y lefelau uwchgyferio uchaf; bod llai o bobl dros 85 oed yn cael eu trin fel achosion brys; bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar gyfer achosion brys ar ei isaf ers dros chwe blynedd; y bu gostyngiad yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Ond heb ystadegau, nid ydym yn gallu arfarnu beth yn union mae'r datganiadau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac er fy mod i wedi treulio peth amser gyda fy ymchwilydd heddiw yn ceisio canfod beth oedd y sefyllfa'r llynedd yn fanwl, cefais fod rhai ystadegau i'w canfod ar wefan StatsCymru, eraill ar wefan GIG Cymru a bod eraill ym meddiant cynghorau iechyd cymuned Cymru. Ac weithiau, nid yw'r tablau bob amser yn hawdd eu defnyddio, gan orfodi'r defnyddiwr i greu tabl ar gyfer pob mis o bob blwyddyn, gan wneud dehongli tueddiadau aml-flwyddyn, felly, yn anodd iawn. Tybed a yw hi'n bosib, yn y fersiwn ddigidol o'r datganiadau hyn, i ddarparu dolenni i'r wybodaeth a fydd mewn gwirionedd yn rhoi cig ar esgyrn sychion datganiadau cyffredinol. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn bob amser yn bosib, ond lle gwyddys ymlaen llaw ers peth amser y bydd datganiad neu angen am ddatganiad ar rai meysydd, ni ddylai hi fod y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i sefydlu system sy'n ein galluogi i wneud ein gwaith yn well yn y Cynulliad o ran craffu, mewn ffordd adeiladol, sef yr hyn y dylai'r sgyrsiau hyn fod yn ei gylch.
Tybed a all y Gweinidog o bosib roi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r datganiadau a wnaethpwyd. O ran oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o'r ambiwlans, mae'n newyddion da iawn y bu gostyngiad o 30 y cant bob blwyddyn, ond o ran cleifion yn aros dros awr, yn ôl arolwg profiad cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys a gynhaliwyd ychydig yn ôl, ym mis Ionawr y llynedd, bryd hynny roedd oddeutu 30 y cant o bobl yn aros am ambiwlans am fwy nag awr. Felly, mae gostyngiad o 30 y cant yn dal i olygu bod nifer sylweddol o bobl yn gorfod aros am fwy nag awr, ac roedd 10 y cant y llynedd yn gorfod aros am dair awr neu fwy am ambiwlans. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i a yw'r gwelliant y cyfeirir ato yma wedi bod yn weddol gyson drwy gydol y cyfnodau amser y mae pobl yn gorfod aros, neu a oes problem benodol mewn rhai meysydd? Unwaith eto, caiff llai o bobl dros 85 oed eu trin fel achosion brys; wel, o blith yr 80,000 fwy neu lai o dderbyniadau'r llynedd, roedd 5,000 o'r rheini dros 85 oed—nid yw'n syndod, mae'n nifer sylweddol. Ond beth fu'r pwysau eleni? A yw'n gysylltiedig â'r tywydd ac efallai llai o bobl yn cael clefydau a fyddai fel arall wedi achosi iddyn nhw gael eu derbyn ar frys, rhywbeth nad oes gan y Llywodraeth unrhyw reolaeth drosto, ac felly ni ddylai gymryd y clod, neu a yw'n dangos gwelliant gwirioneddol yn y system? Unwaith eto, hyd cyfartalog arhosiad i gleifion a gafodd eu derbyn fel achosion brys y llynedd, os oeddent yn 75 i 84 oed, oedd saith awr a chwarter, ac, ar gyfer 85 a throsodd, wyth awr a hanner. Felly, tybed a allwn ni ddangos gwelliannau ystyrlon, oherwydd dim ond dweud yr ydym ni bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar ei isaf ers dros chwe blynedd, ond beth yw'r gwahaniaeth yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma? A yw'n rhywbeth sy'n ostyngiad sylweddol iawn ai peidio? Mae'r rhain yn faterion hollbwysig, y mae'n anodd eu gwerthuso yn ôl y ffordd y gwneir y datganiad hwn.
Rwy'n derbyn y bu gwelliannau o ganlyniad i ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; byddai'n anodd peidio, o ystyried yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd, ac o ystyried y sylfaen isel yr ydym ni'n dechrau arni mewn llawer o achosion. Ac fe ddywedodd y Gweinidog, yn bwysig iawn, mewn gwirionedd bod nifer fach o ysbytai yn ystumio'r darlun ar gyfer Cymru gyfan. Tybed, felly, i ba raddau y mae Betsi Cadwaladr yn benodol yn dal yn tanberfformio ac yn llusgo'r system gyfan i lawr gyda hi. Sylwaf yn arbennig, o'r llwybrau gofal cleifion, o ran aros mwy na 36 wythnos—yn y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, roedd tua hanner yr achosion hynny yn ardal Betsi Cadwaladr. Bydd angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell na'r cyfartaledd os ydym ni am wneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r ffigurau brawychus hyn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu bod Betsi Cadwaladr yn gwneud digon o gynnydd i wella'r system er mwyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol cyfan yng Nghymru ymddangos yn well.
Gan droi at eich pwynt olaf yn gyntaf, rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell yn y maes gofal heb ei drefnu a gofal wedi ei gynllunio hefyd. Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am oddeutu hanner nifer y bobl sy'n aros mwy nag y dylen nhw am 36 wythnos. Nid yw eu canran 26 wythnos gystal ag y dylai fod ychwaith. Mae'r cynlluniau diwygiedig y maen nhw wedi eu rhoi imi, gyda'r cadeirydd a'r Bwrdd, sydd wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, yn craffu o'r newydd, yn rhoi rhywfaint mwy o ffydd imi, ond rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen iddyn nhw gyflawni'r gwelliant mewn perfformiad y maen nhw wedi ei nodi cyn y byddaf yn dod yma ac yn rhoi'r math o sicrwydd y byddwch chi ac aelodau eraill yn edrych amdano. A bydd gwneud y gwahaniaeth hwnnw yn y gogledd yn gwneud gwahaniaeth i bobl y gogledd ac i'r darlun ledled Cymru hefyd. Ac yn yr un modd, gofal heb ei drefnu hefyd.
Ac mae a wnelo hynny â'r cydbwysedd priodol rhwng cymorth a her, oherwydd fy mod i'n credu, fel y dywedais o'r blaen, mai'r peth hawsaf i mi ei wneud yw dweud mai bai rhywun arall ydyw, a disgwyl iddyn nhw wneud yn well, pan, mewn gwirionedd, bod angen i'r staff hynny gael eu cefnogi hefyd. A dyna pam mae arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol yn wirioneddol bwysig, a pham fod y cymorth ar gyfer y system gyfan ac ymgysylltu yn bwysig hefyd. Rwyf eisiau gweld pobl yn aros yn y system, ac, mewn gwirionedd, mae gennyf fwy o reswm i fod yn obeithiol ynghylch yr ychydig fisoedd nesa a ble byddwn ni arni ar ôl hynny, ond rwy'n gobeithio y cyflawnir hynny. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael cwestiynau i'w hateb am hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf, ond drwy weddill y flwyddyn, tra bo ffigurau perfformiad yn aros fel y maent.
O ran eich pwyntiau ehangach am lefel y manylion, wel, rydym ni bob amser yn gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn sydd yn y datganiadau. Pe byddwn i wedi darparu'r ffigurau ystadegol penodol drwy'r datganiad sy'n gysylltiedig â hynny, yna fyddwn i wedi bod yn chwydu amrywiaeth o ffigurau ac nid yn rhoi dadansoddiad. Ceir cydbwysedd, ac, mewn ateb i gwestiwn gan Helen Mary, rhoddais ragor o ffigurau, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych chi, o ran hyd arhosiad ar gyfer derbyniadau brys, y bu gostyngiad o 3 y cant y gaeaf hwn o'i gymharu â'r gaeaf diwethaf, ac o ran derbyniadau brys ar gyfer pobl dros 85 oed, bu gostyngiad o 7 y cant—felly, gostyngiad gwirioneddol a sylweddol mewn canran. Yr her yw cynnal hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf ond drwy weddill ein blwyddyn, ac i wneud yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Helen Mary ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd yn cyflawni o ran cael adnoddau digonol yn y maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartref a chadw pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno. Mae mwy i'w wneud o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â phroffesiynau wrth wneud hynny, ac, mewn gwirionedd, mae'r cynllun treialu fferylliaeth yn rhan bwysig iawn o'r flwyddyn hon, nid yn unig yn y ddarpariaeth gymunedol, a gofyn i bobl fynd i'r fferyllfa yn gyntaf, ond o ran cael fferyllwyr yn yr adran achosion brys, oherwydd, fel rydym ni'n dweud droeon—ac mae David Melding yn gwneud hynny'n rheolaidd pan fo'n sôn am fferylliaeth gymunedol, ac eraill—mae nifer sylweddol o dderbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â chamgymeriadau wrth roi meddyginiaeth. Felly, po fwyaf y gallwn ni wneud o ran cael cefnogaeth fferylliaeth briodol, gorau oll y bydd ar gyfer y system gyfan.
Ac, ynglŷn â'ch sylw am amseroedd aros ambiwlans, wel, rwy'n dechrau gan gydnabod bod gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir—nid dim ond am awr, ond mae rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir beth bynnag, ar lefel unigol. Ond mae'r 30 y cant yn welliant gwirioneddol, ac mae'n cynnwys Betsi Cadwaladr hefyd—maen nhw wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn lleihau, os mynnwch chi, y nifer o oriau ambiwlans coll. Mae hynny'n rhan o'r her ynghylch ein system, ein bod ni'n gwneud yn well ym maes ambiwlansys mewn ffordd gynaliadwy—ond fodd bynnag nid yw'n cael ei drosglwyddo drwy'r system gyfan. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond, unwaith eto, ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith mai dyma'r deugeinfed mis yn olynol i wasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd ei darged ar gyfer galwadau coch, er gwaetha'r ffaith y bu mwy nag erioed o alwadau coch lle'r oedd bywyd yn y fantol hefyd. Ac mae hynny'n deyrnged sylweddol i'r ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans.
Ac, ar eich pwynt olaf ynglŷn â lefel y galw sy'n dod i mewn a beth allai hynny fod, wel, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â niferoedd yn unig. Mae cyfran y niferoedd yn newid. Rydym ni'n categoreiddio cleifion sy'n dod i mewn i adrannau achosion brys yn rhai mân, o ran mân anafiadau ac anhwylderau mân, neu'n sylweddol, pan fyddan nhw'n wirioneddol sâl iawn. Ac, mewn gwirionedd, mae'n wir, yn y gaeaf, ein bod yn tueddu i weld mwy o bobl yn y categori sylweddol; ac maen nhw'n tueddu i fod yn hŷn. Mewn gwirionedd, y gaeaf hwn, mae canran ein cleifion yn y categori sylweddol, felly'r pobl sydd fwyaf sâl, wedi newid unwaith eto. Felly, rydym ni'n gweld hyd yn oed mwy o bobl sydd mewn gwirionedd yn sâl iawn, iawn, ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty ar gyfer triniaeth. Ac, mae mwy a mwy o'r bobl hyn yn cyrraedd yno eu hunain—maen nhw'n cyrraedd ar eu pen eu hunan neu'n bobl y mae cyfeillion a pherthnasau yn eu cludo yno—yn ogystal â'r niferoedd uwch nag erioed sy'n cael eu trosglwyddo gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae mwy i'w wneud ynghylch sut y gallwn ni ymdopi â'r darlun cyfnewidiol hwnnw o alw. Dyna'r cyd-destun i ni ei gyflawni, ond rwy'n cydnabod y bydd Aelodau yn disgwyl imi fod yn atebol ar gyfer y system gyfan, ac i'r system gyfan allu adnabod ac ymdrin â'r pwysau sy'n bodoli yn ein poblogaeth.
Diolch i chi, Gweinidog.
Eitem 4 ar yr agenda yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru)(Diwygio)2019. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James.
Cynnig NDM6963 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad i'w cymeradwyo. Ar 1 Ebrill, bydd pwerau cydsynio ynni pellach o dan Ddeddf Cymru 2017 yn dechrau. Y rheoliadau hyn yw'r cyntaf mewn cyfres o offerynnau statudol sy'n pennu sut y byddwn yn gweithredu'r pwerau newydd hyn. Mae Deddf Cymru yn codi'r terfyn uchaf datganoledig ar gyfer rhoi caniatâd i orsafoedd cynhyrchu, o 50 MW ar y tir yn unig i 350 MW ar y tir ac alltraeth. Mae hefyd yn datganoli'r caniatâd i Weinidogion Cymru ar gyfer gwifrau trydan uwchben cysylltiedig hyd at a chan gynnwys 132 kV. Mae'r rheoliadau hyn yn ehangu cwmpas y broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol i gynnwys y pwerau datganoledig newydd hyn. Mae'r broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol eisoes yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ar y tir o rhwng 10 MW a 50 MW. Pe na fyddai'r rheoliadau hyn ar waith, yr awdurdodau cynllunio lleol fyddai'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio ar gyfer y prosiectau newydd datganoledig hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Byddai hyn yn arwain at sefyllfa lle byddai ceisiadau cynllunio llai o faint ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu o rhwng 10 MW a 50 MW yn cael caniatâd gan Weinidogion Cymru, a gorsafoedd cynhyrchu mwy o faint a mwy sylweddol yn cael caniatâd ar lefel leol. Mae'r rheoliadau hyn yn atal y sefyllfa honno rhag codi.
At hynny, heb ymyrraeth, efallai y byddai angen caniatâd gan ddau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer gwifrau trydan uwchben. Mae pob cyswllt â'r grid, beth bynnag ei faint, yn seilwaith cenedlaethol pwysig, ac felly fy mwriad i yw bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, er mwyn i benderfyniadau gan ddatblygwyr a chymunedau gael eu symleiddio. Mewn diwygiad cysylltiedig, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn hepgor y rhan fwyaf o'r technolegau storio ynni o'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, ar gyfer penderfyniadau ar lefel leol. Nod allweddol yw datgarboneiddio'r diwydiant ynni yng Nghymru a datblygu technolegau carbon isel, sy'n aml yn fach o ran maint ag effaith fechan iawn ar yr amgylchedd. Nid oes prosiectau storio wedi cael caniatâd eto drwy'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol; mae'r dystiolaeth yn awgrymu yr ystyrir y gost a'r amserlen ar gyfer penderfyniadau yn rhwystr mawr i wneud cais. Mae'r newid hwn yn cael gwared ar y rhwystrau hynny, gan hyrwyddo agenda datgarboneiddio ein Llywodraeth ni.
Ac, yn olaf, mae'r rheoliadau yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol hefyd sy'n ymwneud â'r ffioedd ar gyfer y ceisiadau newydd hyn a cheisiadau tybiedig. Yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoliadau hyn, rwyf hefyd yn bwriadu gosod rhagor o offerynnau statudol sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol i gynnwys y pwerau newydd hyn. Cafodd y newidiadau yn y rheoliadau hyn gefnogaeth eang yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y llynedd.
Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr i'r ddadl. Gan hynny, felly, oni bai bod gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu, byddwn yn symud at y bleidlais. Felly, y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw dadl setliad yr heddlu 2019-20. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Julie James.
Cynnig NDM6960 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2019-20 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno heddiw i'r Cynulliad ar gyfer eu cymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru am 2019-20.
Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd heddlu am y gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru yn cadw ein cymunedau yn ddiogel, yn cynnal y safonau uchaf o ddyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad ar gyfer y lle hwn.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei roi drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei osod a'i symbylu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn seiliedig felly ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 24 Ionawr, cyfanswm y refeniw cymorth heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2019-20 yw £357 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy grant cymorth refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosbarthwyd, yw £143.4 miliwn, a hwnnw yw'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu y bydd pob comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant yn eu cyllid yn ystod 2019-20 o'i gymharu â 2018-19. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £4.1 miliwn i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.
Fel y byddwch yn ymwybodol, yn ystod 2019-20, bydd gan homisiynwyr heddlu a throseddu y pwysau ychwanegol o ariannu costau cynyddol pensiynau. Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau yn llawn. Amcangyfrifir y bydd y gost tua £330 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa Gartref wedi dyrannu grant ychwanegol o £143 miliwn yn benodol i helpu gyda'r costau pensiwn uwch hyn, ac mae £7.3 miliwn o hwn wedi ei ddyrannu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid adeg cyllideb y DU yn 2016.
Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu hefyd y gallu i godi arian ychwanegol drwy braesept eu treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu hyblygrwydd y praesept i ganiatáu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yn Lloegr godi praesept eu treth gyngor hyd at £24 yn 2019-20, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi hyd at £500 miliwn ychwanegol. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor, heb fod yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth setlo eu helfen nhw o'r dreth gyngor, rwy'n disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd sy'n rhesymol ac ystyried y cyfyngiadau sydd ar aelwydydd dan bwysau.
Rydym yn gwerthfawrogi bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar ddiogelwch cymunedau Cymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn ei chyllideb 2019-20 ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan yr ymrwymiad rhaglen lywodraethu flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr un lefel o gyllid i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel yr oedd yn 2018-19, gyda £16.8 miliwn wedi'i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Defnyddiwyd y cyflenwad llawn o swyddogion ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Un o'r prif ffactorau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu presenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw Cymru wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer y swyddogion ag a welwyd yn Lloegr, ac mae ein swyddogion ychwanegol yn ymdrin â mân droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus.
Llywydd, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Bydd pob heddlu yng Nghymru yn derbyn cynnydd mewn termau gwirioneddol yn 2019-20, cynnydd o 4.9 y cant yng Ngwent, 5 y cant yn y de, 5.3 y cant yn y gogledd a 6.1 y cant yn Nyfed-Powys. Fel y clywsom, mae Swyddfa Gartref y DU yn parhau i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un cynnydd o 2.1 y cant mewn cymorth refeniw unwaith eto, fel y clywsom, gyda chyfanswm o £357.3 miliwn o gymorth refeniw gan y Llywodraeth i heddluoedd Cymru yn 2019-20, gan gyfuno cyllid o £213.9 miliwn gan y Swyddfa Gartref a'r £143.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel y soniodd y Gweinidog.
Wrth gwrs, mae'r drydedd elfen—praesept treth gyngor yr heddlu—yn cynyddu 6.99 y cant yng Ngwent, neu 32 ceiniog yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn helpu i ariannu 40 o swyddogion newydd; 7 y cant yng Ngogledd Cymru, neu 38c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn golygu y bydd modd recriwtio 34 o swyddogion ychwanegol a chwe aelod o staff; 10.3 y cant yn Ne Cymru, gydag addewid o fuddsoddi mewn plismona rheng flaen; a 10.7 y cant yn Nyfed-Powys. Mae'r cynnydd yn Ne Cymru a Dyfed-Powys yn golygu codiad o 46c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog. Gyda Ffederasiwn Heddlu De Cymru yn nodi, yn 2016, fod y bwlch o ran praesept y dreth gyngor gyda heddluoedd eraill Cymru wedi cau erbyn hyn, mae'n rhaid inni ofyn pam mae eu cynnydd nhw y flwyddyn hon gryn dipyn yn uwch na chynnydd Gwent a Gogledd Cymru. Pan bennodd Dyfed-Powys y cynnydd uchaf yng Nghymru o'r blaen, roedd yn beio'r rhewi cyllid blaenorol, er i'r comisiynydd heddlu a throseddu o blith y Ceidwadwyr Cymreig nodi wrth ymadael ei fod wedi darparu mwy o heddweision ar ein strydoedd gwledig am fwy o amser am lai o arian.
Mae Llywodraeth y DU, ers 2015 wedi codi ei chyfraniad at gyllido cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol megis seibrdrosedd, gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddi ymrafael â gwerth £545 miliwn o doriadau yn yr heddlu, a etifeddwyd o gyllideb derfynol y Blaid Lafur yn 2010, i'w gwneud erbyn 2014.
Mae arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi'r trosolwg gorau o newidiadau hirdymor, gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod mewn troseddau dwyn, a chafwyd gostyngiad o 33 y cant mewn troseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Ar gyfer y mathau o droseddau y credir iddyn nhw gael eu hadrodd yn gywir a'u cofnodi'n gywir, gall data cofnodi'r heddlu helpu i nodi newidiadau byrdymor, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos darlun cymysg—er enghraifft, cynnydd mewn troseddau lladrad ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y tramgwyddau sy'n ymwneud â drylliau tanio.
Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos, er bod achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 3 y cant yn y flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018, yr effeithir ar y tueddiadau o ran dynladdiad gan y modd y cofnodir digwyddiadau eithriadol gydag amrywiol ddioddefwyr, fel yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, ac mae'r ffigur yn dal i fod yn is na'r penllanw ym mis Mawrth 2008.
Canfu asesiad arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod lefel y troseddau treisgar gyda niwed llai, er enghraifft, trais heb anaf a thrais gyda mân anafiadau, yn sefydlog. Mae cyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar droseddu yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018, yn nodi, dros y degawdau diwethaf, ein bod yn parhau i weld gostyngiad yn lefelau troseddu yn gyffredinol, ond yn y flwyddyn ddiwethaf ni welwyd unrhyw newid. Fel y dywed, yr arolwg troseddu yw'r dangosydd mwyaf dibynadwy o dueddiadau hirdymor, ac nid yw ystadegau troseddau a gofnodir gan yr heddlu bob amser yn cynnig mesur dibynadwy o lefelau a thueddiadau.
Ni fu unrhyw newid yn y mathau o droseddau treisgar sy'n digwydd yn fwyaf cyffredin. Er bod cynnydd yn nifer y cyfaddefiadau o ymosodiadau, roedden nhw'n parhau i fod 33 y cant yn is nag yn 2008. Yn sesiwn briffio Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom fod y gogledd yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw, bod yr heddlu yno yn canolbwyntio ar ataliad, ond fod troseddau yn esblygu tuag at seibrdroseddu, camfanteisio ar blant yn gorfod cadw gormod o bobl yn y ddalfa o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 oherwydd nad oedd yr asiantaethau datganoledig eraill ar gael i'r bobl dan sylw, a bod y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd ymateb yn arwain atynt yn cael eu brysbennu, er nad ydyn nhw'n barafeddygon effeithlon.
Ceir pryder parhaus hefyd ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r ardoll prentisiaeth, gyda heddluoedd Cymru yn cael eu rhwystro rhag defnyddio'r £2 filiwn y maen nhw'n ei gyfrannu'n flynyddol ar gyfer hyfforddiant. Er iddi gael mwy o gyllid net gan y Trysorlys nag o'r blaen ar gyfer hyn—£600,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyfforddiant yr heddlu yn 2018-19, ac addewid o £400,000 ar gyfer hyfforddiant heddlu—mae gan Lywodraeth Cymru arian parod sy'n parhau i fod ar goll o gyfraniadau'r blynyddoedd blaenorol a ddylai fod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.
Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn ceisio cymeradwyaeth i setliad ariannol yr heddlu hyd at 2019-20 yn ein hatgoffa unwaith eto, mewn ystyr ymarferol iawn, o annigonolrwydd y fframwaith cyfansoddiadol presennol o ran plismona a chyfiawnder. Mae cyfrifoldebau polisi a chyllid yn gyffredinol yn aros gyda San Steffan. Ond mae elfennau hanfodol o gyllid yr heddlu, o ran materion megis diogelwch cymunedol, a fyddai'n gyfrifoldeb i'r adran cymunedau yn Lloegr, yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru y mae honno'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn amdanynt. Ac eto, nid yw cyfiawnder, yn ei ystyr ehangaf, yn gyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, ac nid yw'r trefniadau craffu wedi cael eu datblygu'n ddigonol.
Gan droi at y setliad ei hun, mae hwn yn dilyn cyfeiriad cyffredinol y setliad ariannu y cytunwyd arno yn San Steffan fis diwethaf. Fel y gwnaeth datganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ein hatgoffa ni ym mis Rhagfyr pan gyhoeddwyd y cynigion cychwynnol, seilir y fformiwla gyfan ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Er hynny, gwyddom pe byddai plismona yng Nghymru yn cael ei ariannu ar sail poblogaeth, fel y gwneir gyda gwasanaethau datganoledig eraill, y byddai gan yr heddluoedd yng Nghymru dros £20 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ni allaf weld sut y gall Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu pan fo'r system yn gwarantu annhegwch o'r fath i Gymru a'r heddluoedd plismona yng Nghymru. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut mae hyn yn gyson â safbwynt Llywodraeth Cymru o blaid datganoli plismona a chyfiawnder. Yn ddiamau, mae'r trefniadau presennol yn groes i degwch a chysondeb.
O ystyried y cymhlethdod ynghylch pwy sy'n gyfrifol am bolisi ac ariannu, ac yn aml, y gwahaniaethu camarweiniol yn rhaniad y pwerau a'r cyfrifoldebau rhwng Cymru a San Steffan, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech roi eglurder ar rai materion manwl yn eich ateb. Yn arbennig, caiff cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol hanner ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. A oes modd ichi roi sicrwydd, Gweinidog, y bydd hyn yn parhau, ac, os felly, am ba hyd, gan mai'r swyddogion hyn yw sylfaen ein system o blismona cymunedau? Caiff swyddogion SchoolBeat eu hariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Maen nhw'n darparu cyswllt ag ysgolion ac maen nhw'n bwysig iawn o ran cyfiawnder adferol. A wnaiff hi roi sicrwydd ynghylch cyllid i'r dyfodol ar gyfer y rhain? Dyrannwyd £2 biliwn i'r GIG yn Lloegr ar gyfer iechyd meddwl, gyda phwyslais arbennig ar leihau'r galw am blismona. Pa sicrwydd a all hi ei roi i ni y bydd y setliad hwn yn lleihau pwysau tebyg ar heddluoedd Cymru?
Mae rhaid dweud na all fod yn dderbyniol nac yn gynaliadwy i gyllid ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol yn ei ystyr ehangaf gael ei rannu rhwng dwy Senedd a dwy Lywodraeth yn y modd hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Siomedig yw gorfod dweud wrthych chi, Gweinidog, bod eich cymheiriaid Llafur yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ychydig wythnosau'n ôl wedi gwrthod gwelliant gan Blaid Cymru yn galw am ddatganoli'r heddlu er mwyn gallu goresgyn rhai o'r anghysondebau hyn. Tybed a oes gan y Gweinidog farn ynglŷn â'i chymheiriaid yn pleidleisio yn erbyn polisi'r Blaid Lafur yn y modd hwn. Yn ddiamau, mae'r amser wedi dod yn awr i ni gyd gytuno y dylai polisi plismona Cymru, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, fod yma yn ein Senedd genedlaethol ni, nid ym mhrifddinas gwlad arall, ymhell o'r mannau y mae'r heddluoedd yn gweithio mewn gwirionedd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno?
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl?
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wel, codwyd nifer o faterion yno, dau neu dri ohonyn nhw'n deilwng, yn fy marn i, o'u trafod rywfaint ymhellach. Mae'r cyntaf yn ymwneud â datganoli plismona. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood: nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ymatebwyr golau glas beidio â chael eu datganoli i Gymru, ac rydym wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli plismona ynddo'i hun yn ogystal ag yn rhan o drosglwyddiadau cyfiawnder troseddol. Ond rwyf i o'r farn y dylai plismona ynddo'i hun gael ei ddatganoli. Ceir nifer o faterion sy'n ymwneud â rhaniad y cyfrifoldebau; fe dynnodd sylw at sawl un ohonyn nhw. Mae honno'n drafodaeth barhaus ac mae'n un y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cyd-fynd â hi hefyd, ac nid wyf i'n cael dim i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd hi am hynny.
Rydym wedi parhau i warchod y cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol oherwydd ffurfiad y setliad datganoli ar hyn o bryd. Dywedais ein bod am barhau i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yn y gyllideb nesaf. Rydym yn chwilio am adolygiad cynhwysfawr o wariant ar ddiwedd y flwyddyn hon, ond ein bwriad yw parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol, er nad wyf mewn sefyllfa i ddweud yn bendant y byddwn ni'n gwneud felly hyd nes y gwelwn beth ddaw—os daw hwnnw byth—yn sgil yr adolygiad eang o gyllid.
Credaf, o ran cyfraniad Mark Isherwood, mai'r unig beth yr oeddwn yn awyddus i'w godi mewn gwirionedd oedd ailadrodd fy sylwadau yn fy natganiad agoriadol ynghylch—. Os yw ef yn bryderus iawn ynghylch yr heriau gydag ariannu y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ymrafael â nhw ar hyn o bryd, yna dylai fod yn lobïo'n galed i weld y ddarpariaeth pensiwn gyfan yn cael ei chynnwys oddi mewn i'r setliad. Yn sicr nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, a honno yw'r brif broblem i'r heddluoedd, ac yn wir mewn nifer fawr o feysydd eraill. Nid yw Llywodraeth y DU yn ymddangos ei bod yn gallu deall os ydych chi'n datganoli telerau ac amodau i bobl yna mae eu pensiynau nhw'n dod gyda nhw, a dylai'r cyllid hwnnw lifo. Felly, fel yn yr holl sgyrsiau eraill o ran datganoli, rydym yn croesawu datganoli, ond byddem hefyd yn croesawu'r cyllid i ategu'r datganoli, ac yn sicr nid ydym wedi cael hwnnw.
Soniodd ef yn benodol am yr ardoll prentisiaeth, ac mae honno, wrth gwrs, yn enghraifft nodweddiadol o Lywodraeth y DU yn ymatal rhag datganoli'r arian i fynd â'i pholisïau—[Torri ar draws.] Ni wnaeth hynny. Cymerodd yr arian o'i chyllideb adrannol a'i roi mewn man ar wahân. Felly, roedd y swm cyflawn a gawsom y nesaf peth i ddim. [Torri ar draws.]
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi nodi, yn rhinwedd fy ngweinidogaethau blaenorol, y mater ynghylch cyllid yr ardoll prentisiaeth: mae'n eglur iawn na wnaeth Llywodraeth y DU ddarparu arian ychwanegol i Gymru ar gyfer cyllid yr ardoll prentisiaeth i'r heddlu, nac ar gyfer unrhyw un ardal ddatganoledig arall, mewn gwirionedd. Mae'r ffigurau yn amlwg iawn i bawb eu gweld.
Dirprwy Lywydd, mae diogelwch cymunedol yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er bod y setliad yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl, ceir heriau yn ei sgil o hyd, fel y dywedais, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona ar y rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosodd y defnydd llwyddiannus o'n 500 o swyddogion cymorth cymunedol ni.
O gofio nad oes unrhyw ddadl yn gyflawn y dyddiau hyn heb gyfeirio at Brexit, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw'r Aelodau at gyllid gwerth bron £0.5 miliwn ar gyfer gwaith yr heddlu gyda phartneriaid drwy fforymau Cymru Gydnerth lleol ar gyfer posibilrwydd Brexit heb gytundeb. Daw hyn o'n cronfa bontio'r UE gwerth £50 miliwn, yr ydym wedi ei defnyddio i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus, cyrff y sector gwirfoddol a busnesau. Nid ydym yn gwario arian Llywodraeth Cymru i ariannu pethau sydd mewn gwirionedd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond fel yr ydym wedi ei gydnabod bob amser, mae gan luoedd yr heddlu swyddogaeth bwysig wrth baratoi gyda phartneriaid ar gyfer goblygiadau Brexit, ac yn arbennig felly'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rydym ni'n falch o'u cefnogi drwy'r fforymau Cymru Gydnerth lleol.
Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gan hynny, rydym yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Rydym yn symud nawr at eitem 6, sef dadl ar yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6961 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl heddiw ar yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau 2018. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn faes sylweddol i ganolbwyntio arno os ydym yn dymuno cyflawni ein huchelgeisiau o weld Cymru fwy iach. Mae hwn yn fater o bwys o ran iechyd sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Ein nod cyffredinol o hyd yw parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod lle y gallan nhw fynd am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth pe byddai ei angen arnyn nhw. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.
Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ymrwymiad hwn ag adnoddau ychwanegol yn ddiweddar. Fis diwethaf, cyhoeddais fod £2.4 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i'n saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am gomisiynu'r gwasanaethau rheng flaen yn lleol. Mae hynny dros 10 y cant o gyllid ychwanegol. Mae'r cyllid ychwanegol hwn, mewn cyfnod o gyni parhaus, yn golygu ein bod ni bellach yn gallu cefnogi'r byrddau cynllunio ardal gyda'r arian ychwanegol i ymdrin â heriau'r dyfodol. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn codi ein cyllid blynyddol i gamddefnyddio sylweddau i dros £50 miliwn.
Yng Nghymru, bydd ein dull ni o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn seiliedig ar leihau niwed gan ganolbwyntio ar iechyd pobl. Mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'n strategaeth 10 mlynedd ni, ynghyd ag adolygiad annibynnol yr arolygiaeth iechyd o wasanaethau, fel ei gilydd yn cydnabod y gwnaed cynnydd yn gyffredinol, a bod hynny wedi ei gyflawni yn erbyn cefndir heriol natur newidiol camddefnyddio sylweddau.
Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y bydd rhagor i'w wneud bob amser. Rydym yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a byddwn yn parhau i wynebu her. Wrth inni gyrraedd diwedd cyfnod y strategaeth gyfredol a'r cynllun cyflawni, rydym yn troi ein sylw at y meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn ymgysylltu ar hyn o bryd â'r byrddau cynllunio ardal a phartneriaid rheng flaen a defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain i gyd-gynhyrchu'r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun nesaf.
Rwyf eisoes wedi sôn wrth fyrddau cynllunio ardal am y meysydd blaenoriaeth sydd i'w hystyried ar gyfer buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith cymorth ar gyflyrau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, a gwaith ar gefnogi plant a theuluoedd. Yn benodol, rwy'n dymuno iddyn nhw weithio gyda'r rhai sydd ar ymylon gofal. Bydd angen parhau hefyd i ganolbwyntio ar y gwaith o leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, gan edrych ar gymorth ar gyfer y rhai a allai fod yn ddigartref neu â phroblemau o ran tai. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran amseroedd aros yn erbyn ein targedau. Yn 2017-18, gwelwyd 90.9 y cant o'r bobl yn dechrau ar driniaeth o fewn 20 diwrnod, o'i gymharu ag 86.7 y cant yn y flwyddyn flaenorol. A hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn am eu gwaith campus.
Rwy'n falch hefyd o adrodd ein bod ni'n parhau i weld canlyniadau cadarnhaol i'r rhai sy'n cael triniaeth: dywedodd 86.5 y cant o bobl eu bod wedi lleihau eu triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2017-18, ychydig yn uwch na'r flwyddyn cyn hynny. Er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud gydol yr agenda. Er enghraifft, mae'r data yn dangos cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig yn benodol ag alcohol, o 388 yn 2016 i 419 yn 2017. Mae hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan fod alcohol a chyffuriau fel ei gilydd yn parhau i fod yn achosion cyffredin o farwolaeth ac afiechyd.
Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 yn rhan hanfodol o ymateb i'r hyn sy'n broblem bwysig o ran iechyd y cyhoedd. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o alcohol ymhlith y rhai sy'n yfed yn beryglus a niweidiol. Bydd hefyd yn helpu i leihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau. Bydd isafswm pris fesul uned yn rhan o hynny ac yn ategu ein gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym eisoes yn gweithio i fynd i'r afael â goryfed alcohol drwy addysg well, ataliad a gwasanaethau triniaeth i gefnogi'r rhai sy'n yfed yn fwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i gefnogi teuluoedd y rhai sy'n camddefnyddio alcohol hefyd.
Gan droi at farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, mae'r gostyngiad bach cyffredinol yn 2017 i'w groesawu, ond mae 185 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn parhau i fod yn ormod o lawer o bobl yn marw'n ddiangen yn ein cymunedau. Rwy'n arbennig o bryderus am yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli ac rwy'n glir ei bod yn rhaid inni weithio gyda'n partneriaid i ganolbwyntio'r ymdrechion yn sylweddol ar hyn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid mewn nifer o feysydd i geisio lleihau eto nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae ein prosiect WEDINOS arloesol ni—prosiect cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd Cymru—yn parhau i chwarae rhan allweddol yn lleihau'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, drwy ddadansoddi ystod o gyffuriau. Mae cynnal profion ar sylweddau yn ein galluogi ni i ddadansoddi cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna, yn hollbwysig, i hysbysu'r unigolion sy'n eu cymryd am y ffactorau risg ehangach sy'n gysylltiedig â nhw. Mae rhannu naloxone, cyffur sydd dros dro yn gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau, wedi bod yn elfen allweddol o'n dull ni i leihau niwed ers nifer o flynyddoedd, a bydd hynny'n parhau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros 19,000 o becynnau naloxone ledled Cymru ers 2009, a nodwyd bod 2,186 wedi eu defnyddio. Mae hyn ar gael gan bob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol, ynghyd â'r holl garchardai yng Nghymru. O ystyried ei lwyddiant, byddwn yn gweithio'n agos gydag ardaloedd o Gymru i ehangu'r ddarpariaeth o naloxone ymhellach, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydyn nhw'n cael triniaeth. Er enghraifft, mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos gyda dalfeydd yr heddlu, adrannau damweiniau ac achosion brys a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod naloxone ar gael i unigolion sy'n anodd mynd atyn nhw am nad ydyn nhw'n cysylltu â'r gwasanaethau fel arfer. Gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill fel cyffuriau i wella perfformiad a delwedd. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwysau mawr sy'n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw o ran delwedd y corff, a lle camddefnyddir sylweddau er niwed i iechyd a lles yr unigolyn.
Mae cynnig gwybodaeth ac addysg yn elfennau allweddol o'n strategaeth, a byddwn yn parhau i gefnogi DAN 24/7, sef llinell gymorth camddefnyddio sylweddau rhad ac am ddim a dwyieithog sy'n cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n ceisio rhagor o wybodaeth neu gymorth o ran problem â chyffuriau neu alcohol. Yn ystod 2017-18, cafodd DAN 24/7 dros 5,000 o alwadau, sy'n golygu cynnydd o 26 y cant dros y flwyddyn flaenorol. Mae defnydd o'r wefan hefyd wedi cynyddu 92 y cant yn ystod yr un cyfnod, gyda gwefan ryngweithiol DAN 24/7 yn cael dros 145,000 o ymweliadau. Cymerodd DAN 24/7 ran mewn llawer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf, yn unol â'n dull ni o leihau niwed yn barhaol.
O ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau, ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn aruthrol o arwyddocaol, ond rydym yn gwybod y bydd pobl yn aml yn wynebu llawer o rwystrau i gael gwaith, gan gynnwys diffyg addysg a sgiliau, problemau iechyd meddwl a diffyg hunanhyder. Mae ein gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith, a ariennir gan gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, yn ddull unigryw yng Nghymru o fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol hyn i gyflogaeth drwy gyfrwng un gwasanaeth. Mae hwn yn rhoi cymorth yn rhad ac am ddim yn yr hirdymor gan fentoriaid hyfforddedig sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Ac ers ei lansio ym mis Awst 2016, mae dros 4,200 o bobl sy'n adfer o gamddefnyddio sylweddau yn unig neu'n adfer o gyfuniad o gamddefnyddio sylweddau a salwch iechyd meddwl wedi cofrestru yn y gwasanaeth.
Rydym ni'n buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn, gan gynnwys £11.6 miliwn o gymorth o'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, i gefnogi darpariaeth y gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith. Bydd hyn yn caniatáu inni gefnogi dros 14,000 o bobl ar eu siwrnai tuag at adfer erbyn haf 2020. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn y gwasanaeth tan 2022 a rhoi mwy o gefnogaeth i fwy o bobl. Mae camddefnyddio sylweddau yn achos mawr o salwch, colli swydd, neu i bobl deimlo na allan nhw gael gwaith, ac mae'r gwasanaeth hwn yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl, i chwalu'r rhwystrau y mae afiechyd yn eu rhoi ar gyflogaeth.
Gan droi at y gwelliannau yn gryno iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Darren Millar, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng, ac nid yn cynyddu. Hefyd, ar fater adsefydlu preswyl, yn ei hanfod mater i'r byrddau cynllunio ardal, yn unol â chanllawiau clinigol a mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, yw penderfynu ar yr ymyriad mwyaf priodol wrth gomisiynu gwasanaethau, boed yn ddarpariaeth haen 4 neu, er enghraifft, yn adsefydlu cymunedol.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 3 gan Rhun ap Iorwerth. Dylid cydnabod bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn edrych ar brofiadau pobl ar adeg yr adolygiad. Eto i gyd, mae swyddogion yn monitro amseroedd aros yn drylwyr drwy gyfrwng ein hystadegau cyhoeddedig, a chaiff dros 90 y cant o bobl, fel y soniais, eu gweld o fewn ein targed o 20 diwrnod gwaith. Er hynny, byddwn yn parhau i ganolbwyntio a gweithio gyda phartneriaid ar y materion a godwyd. Ac, fel y gwelwyd yn y gwerthusiad diweddar, rydym ni'n gwneud cynnydd ar faterion sy'n gymhleth ac yn heriol.
Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Rhun ap Iorwerth. Ystyrir camddefnyddio sylweddau yn fater o iechyd, ac mae'r dull o leihau niwed yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolbwynt i'n gwaith ar gamddefnyddio sylweddau dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn hytrach na gwneud unigolion yn droseddwyr, dylid canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar adsefydlu a chanolbwyntio ar leihau niwed. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr Aelodau yn ystod y ddadl.
Diolch. Rwyf i wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynir yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n benodol gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu defnyddwyr cyffuriau ac alcohol ar sail preswyl haen 4 yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Wel, yn ôl ei adroddiad blynyddol 2018 ar gamddefnyddio sylweddau, mae strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, yn nodi agenda genedlaethol a chlir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'n ychwanegu ei bod wedi dechrau ar waith i ddatblygu blaenoriaethau o ran camddefnyddio sylweddau o 2019 i'r dyfodol. Ond mae 'Adolygiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: Adroddiad Thematig ar y Cyd', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliannau 2 a 3, yn nodi:
'Fodd bynnag, roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth a oedd ei hangen arnynt gan wasanaethau rhagnodi amnewidion, dadwenwyno, adsefydlu a chwnsela—oherwydd bod amseroedd aros hir a phrinder capasiti gan wasanaethau',
gan ychwanegu
'Gall fod aros hir hefyd (misoedd mewn rhai achosion) i gael mynediad at raglenni cwnsela ac atal atglafychu mewn rhai ardaloedd.'
ac
'Mae angen i'r gwahaniaeth rhwng yr ystadegau cenedlaethol hyn a'r profiadau mae pobl wedi'u hadrodd i ni gael ei archwilio ymhellach'.
Byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 felly.
Mae ffigurau swyddogol diweddaraf—swyddogol diweddaraf—y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru 2015-17 wedi codi 15 y cant yn uwch na'r ddwy flynedd flaenorol, a 32 y cant ers dechrau strategaeth Llywodraeth Cymru yn 2008—ac nid gostwng. Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru wedi codi 8 y cant dros ben y flwyddyn flaenorol. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynnydd o dros 7 y cant hefyd wedi bod yn y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn 2017. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan resynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru.
Mae gwelliant 1 yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu preswyl Haen 4 oherwydd cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Fel y dywed adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru,
'Roedd argaeledd gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu Haen 4 yn anghyson ledled Cymru...nid oes gan nifer o ardaloedd eu cyfleusterau dadwenwyno a/neu adsefydlu eu hunain ar gyfer cleifion mewnol. Yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw, gallai fod angen iddynt deithio cryn bellter i gael triniaeth mewn ardal arall o Gymru neu Loegr.'
Yn ystod yr ail Gynulliad, cafodd adroddiadau annibynnol ar wasanaethau preswyl haen 4 oherwydd dadwenwyno ac adsefydlu yng Nghymru 4 eu datgelu i mi ar ôl cael eu claddu gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn canfod bod y gwasanaeth cyfan wedi ei danariannu ac yn nodi nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu fel y gallen nhw gael eu dadwenwyno yn y carchar, ac o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd gwasanaeth dadwenwyno cleifion mewnol nac adsefydlu preswyl. Maen nhw'n galw am gynnydd sylweddol o ran capasiti, ac am ddatblygu tair o unedau dadwenwyno ac adsefydlu oherwydd cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, gan weithio gyda darparwyr trydydd sector.
Roedd adroddiad pellach a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 yn atgyfnerthu hyn, a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu tair uned ym Mrynawel, Tŷ'n Rodyn a Rhoserchan. Wel, bu'n rhaid i Roserchan a Tŷ'n Rodyn gau ers hynny, ac mae Brynawel yn dweud bod parhad ei darpariaeth o'r gwasanaethau hyn dan fygythiad. Fel y dywed Brynawel, ymddengys ei bod yn loteri cod post i rywun sy'n byw yng Nghymru gael mynediad i leoliad ailsefydlu preswyl.
Ar ôl i mi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am hyn, atebodd ef fod fframwaith Cymru gyfan ar gyfer adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau, ar waith o fis Ebrill 2015, wedi cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar y cyd â chyllid haen 4 a glustnodir gan Lywodraeth Cymru o £1 miliwn a ddyfernir i fyrddau cynllunio ardal yn flynyddol er mwyn prynu lleoliadau adsefydlu preswyl. Gofynnodd Brynawel, felly, a yw'r £1 miliwn hwn wedi ei glustnodi o hyd, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau o ran asesiadau cyffuriau ac alcohol ar gyfer ailsefydlu preswyl, ac a allai'r Gweinidog gadarnhau nifer yr asesiadau gofal cymunedol ar gyfer adsefydlu preswyl a gynhaliwyd yn 2017-18 gan awdurdodau lleol, oherwydd mae profiad y darparwyr yn wahanol iawn i'r darlun a roddwyd gan y Gweinidog.
Wedi iddyn nhw gau Tŷ'n Rodyn ym Mangor, mae CAIS wedi gwneud darpariaeth arall yn swydd Gaerhirfryn ac yn Parkland Place ym Mae Colwyn, sydd ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer unigolion sy'n ceisio ailsefydlu preswyl o ansawdd ac sydd â'r modd i dalu amdano'n bersonol. Dywedant, er y byddent yn ystyried atgyfeiriadau statudol cyn bo hir, nid yw'n amlwg ar hyn o bryd faint o ddefnydd fydd ar hynny. Mae polisi Llywodraeth Cymru felly wedi gorfodi darparwyr elusennol yng Nghymru i mewn i'r sector preifat ac i Loegr. Mae'r darparwyr hyn yn dweud wrthyf i y ceir cydnabyddiaeth ym mhobman nad yw'r fframwaith ailsefydlu preswyl haen 4 yn cynnig y manteision a ragwelwyd i'r comisiynwyr na'r darparwyr, ac nad oedd llawer o awdurdodau yn ymgysylltu'n llwyr â'r llwybr, gan arwain at atgyfeiriadau i unedau nad ydyn nhw o fewn y fframwaith, lawer y tu allan i Gymru, ac nad ydynt yn siŵr a yw'r fframwaith hyd yn oed yn bodoli ar hyn o bryd.
Er gwaethaf yr holl waed, chwys a dagrau dros lawer gormod o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dod â ni'n ôl unwaith eto i'r un fan.
Diolch. A gaf i alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth?
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ‘Adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysonderau rhwng ystadegau swyddogol ar amseroedd aros, a phrofiadau amrywiol y bobl y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r aros hir am wasanaethau cwnsela a gwasanaethau atal ail bwl o salwch, y cyfeirir atynt yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
Diolch. Cynigiaf welliannau Plaid Cymru, ond rwy'n awyddus i ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio ar welliant 4 yn benodol.
Nawr, mae'r ddadl hon yn amserol oherwydd dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynnal adolygiad o bolisi cyffuriau, gan gynnwys dewisiadau triniaeth. Yn anffodus, eu penderfyniad rhag llaw oedd peidio ag ystyried materion dad-droseddoli a chyfreithloni yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Nawr, rwyf i o'r farn bod cyfyngu eu hadolygiad yn y fath fodd yn dangos diffyg gwelediad, ac yn debyg iawn o hepgor rhai datrysiadau effeithiol o bosib.
Gadewch inni edrych ar y darlun ym Mhortiwgal, lle maen nhw wedi gwneud yr hyn na ellir ei ddychmygu. Ystyrir bod Portiwgal ar flaen y gad o ran newid o'r frwydr yn erbyn cyffuriau at fodel o leihau niwed, a ddechreuodd yn 2001, ac, o ganlyniad, mae gennym ni ddigon o ddata bellach i wneud gwerthusiad. Nid dad-droseddoli yn llwyr mo hyn. Nid yw bod â chyffuriau yn eich meddiant at ddefnydd personol yn dorcyfraith erbyn hyn. Mae'n parhau i fod yn drosedd weinyddol, y gellir ei chosbi gan gosbau fel dirwyon neu wasanaeth cymunedol. Penderfynir ar y gosb benodol gan y comisiynau ar gyfer darbwyllo yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, sef paneli rhanbarthol yn cynnwys staff proffesiynol cyfreithiol, iechyd a gwaith cymdeithasol. Yn achos mwyafrif llethol y rhai a gyfeirir at y comisiynau gan yr heddlu, caiff yr achosion yn eu herbyn eu hatal, sy'n golygu i bob pwrpas nad ydyn nhw'n cael unrhyw gosb. Nod y comisiwn yw cael pobl i ddechrau triniaeth yn wirfoddol; ni chânt eu gorfodi i wneud hynny—byddai hynny'n wrthgynhyrchiol.
Prif amcan y polisi oedd mynd i'r afael ag iechyd gynyddol ddifrifol wael y gyfran o'r boblogaeth a oedd yn defnyddio cyffuriau ym Mhortiwgal, yn enwedig y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau. Yn y blynyddoedd yn arwain at y diwygio, roedd nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau wedi codi i'r entrychion, ac roedd cyfraddau HIV, AIDS, TB a hepatitis B ac C ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau yn cynyddu'n gyflym iawn. Roedd consensws cynyddol ymysg swyddogion iechyd fod troseddoli ac ymyleiddio pobl sy'n defnyddio cyffuriau yn ychwanegu at y broblem ac y gellid rheoli fframwaith cyfreithiol newydd a mwy gwâr yn well.
Yn ogystal â dad-droseddoli, mae Portiwgal wedi dyrannu mwy o adnoddau ar draws y maes cyffuriau, gan ehangu a gwella ataliad, triniaeth, lleihau niwed a rhaglenni ailintegreiddiad cymdeithasol. Roedd cyflwyno'r mesurau hyn yn cyd-daro ag ehangu'r wladwriaeth les ym Mhortiwgal, a oedd yn cynnwys isafswm incwm gwarantedig. Felly, mae'n debygol nad y dad-droseddoli oedd yr unig reswm am y llwyddiant—mae'n fwy tebygol ei fod o ganlyniad i gyfuniad o bolisïau ar draws pob adran, gan ganolbwyntio ar leihau niwed ac iechyd y cyhoedd. Mae arbrawf Portiwgal wedi bod yn llwyddiant ysgubol—bellach mae cyfraddau defnyddio cyffuriau yn is na'r cyfartaledd Ewropeaidd; mae defnyddio cyffuriau wedi gostwng ymysg rhai rhwng 15 a 24 oed. Mae defnydd cyffuriau gydol oes ymysg y boblogaeth yn gyffredinol wedi cynyddu rhyw ychydig, yn unol â thueddiadau mewn gwledydd cyffelyb. Fodd bynnag, ystyrir mai defnydd gydol oes yw'r mesur lleiaf cywir o sefyllfa defnydd cyffuriau presennol gwlad.
Felly, pam na fyddem ninnau'n gwneud fel hyn? A pham na fyddem ni o leiaf yn cychwyn arni yn hyn o beth o ran yr hyn y gellir ei wneud heddiw? Mae rheswm da iawn o ran iechyd cyhoeddus dros ddarparu amgylchedd mwy diogel i bobl ddefnyddio cyffuriau, megis parthau chwistrellu mwy diogel. Mae'r safleoedd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr cyffuriau chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon dan oruchwyliaeth gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n gallu ymyrryd mewn achosion o orddosio. Byddai darparwyr ar y safle yn gyfrifol hefyd am gyfeirio defnyddwyr at driniaeth, yn ogystal â darpariaeth o nodwyddau glân a hylendid i atal heintiau. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth wnaiff achub bywydau. Nawr, rwy'n gwybod yn iawn na fydd pawb sydd yma'n cefnogi'r datrysiadau yr wyf i wedi eu cynnig yma heddiw. Ond pan welwn ni gynnydd yn y problemau a wynebir gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn anniogel, yn sicr fe ddylem ni ystyried hyn.
Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy rannu atgof, ac nid atgof dymunol mohono. Bûm yn gweithio i'r gwasanaeth prawf yn ystod canol yr 1990au, ac, mewn un flwyddyn, collasom dros ddeuddeg o bobl ifanc yn sgil heroin mewn swyddfa brofiannaeth fechan leol. Ac rwy'n cofio un achos arbennig o ddirdynnol, lle'r oedd menyw ifanc a oedd wedi dod allan o'r carchar â'i phlentyn bach yn glynu wrth ei chorff am benwythnos cyfan a hithau'n farw. Roedd hynny'n gwbl erchyll. Roedd hynny cyn bodolaeth y Senedd hon. Mae gennym y sefydliad hwn erbyn hyn, ac onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud yn siŵr nad yw rhywbeth fel hynny byth yn digwydd eto? Gallem, ac fe ddylem.
Credaf fod hon yn foment ddefnyddiol i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei gyflawni a'r hyn nad ydym yn ei gyflawni. Mae'r cynnydd, sydd bron a bod yn driphlyg, yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, yn amlwg yn destun pryder, a gwyddom fod pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau na'r rhai o ardaloedd llai difreintiedig.
Synnais wrth weld gwelliant 1, gan ei fod yn cysylltu camddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru â'i gilydd, ac mewn gwirionedd bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau. 4 y cant yn unig yw hyn ac, yn amlwg, mae pob marwolaeth yn drychineb ynddi ei hun, ond, serch hynny, mae'n bwysig ein bod yn deall y tueddiadau.
Un o'r materion sy'n peri pryder yw'r cynnydd yn y camddefnydd o opioid ymhlith y boblogaeth hŷn. Mae hynny, os dymunwch, yn adlewyrchu'r defnydd gormodol o alcohol gan bobl hŷn hefyd. Felly mae yna rai negeseuon clir yno ynglŷn â'r pethau y mae angen inni feddwl amdanynt o ran sut yr ydym—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Ydych chi wedi edrych ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod y ffigurau, y rhai diweddaraf a gyhoeddwyd, yn cynyddu? Hynny yw, ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Naddo, mae arnaf ofn—dim ond ar yr adroddiad hwn yr wyf i wedi edrych. Felly, sylweddolaf fod gennych chi ffigurau gwell, ond mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos bod yna ostyngiad. Os ydych chi'n credu bod cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi bod ers hynny, yna yn amlwg mae hwnnw'n fater y mae angen inni ei gymryd o ddifrif.
Yn fy marn i—. Yn ddi-os, mae'r dirwedd wedi newid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ers inni lansio'r strategaeth gyffuriau. Mae fy etholaeth i yn enwedig wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y Llinellau Cyffuriau—pobl sydd yn targedu rhai sy'n agored i niwed, sy'n defnyddio'r bobl hynny er mwyn gwneud symiau mawr iawn o arian. Felly, mae cyni wedi creu gwagle sy'n cael ei lenwi gan gangiau troseddol. Maen nhw'n dod yma o ddinasoedd mawr fel Llundain, Birmingham a Lerpwl ac yn manteisio ar blant ac oedolion ifanc, hynny'n aml gan ddefnyddio gorfodaeth dreisgar, er mwyn eu perswadio i ddelio mewn cyffuriau. Ac mae hyn yn beth sy'n codi ofn dwys ar bobl, nid yn unig y bobl sy'n ymwneud â hynny ond hefyd ar gymunedau cyfan, a all fod yn gwbl ddiniwed un funud a'r funud nesaf yn ddioddefwyr.
Felly, mae trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghaerdydd wedi llamu i fyny. Ddwy flynedd yn ôl, trywanwyd dyn ifanc, Lynford Brewster, i farwolaeth ganol dydd gan dri dyn ifanc arall ar ystad yn Llanedeyrn, a hynny o flaen nifer o dystion a geisiodd achub ei fywyd. Flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon, saethwyd dyn yn ei wyneb mewn fflat yn y Rhath pan ddaeth tri arall i'w weld. Yn ffodus, goroesodd y dyn ond yn amlwg roedd y profiad yn un arswydus i'r holl bobl eraill oedd yn byw yn y bloc hwn o fflatiau. Rai misoedd yn ddiweddarach, dau floc i ffwrdd yn unig, cafodd deliwr cyffuriau y tro hwn, ei drywanu drwy ei galon wedi i fargen cyffuriau gael ei chwblhau. Mewn man arall yn y Rhath, daeth preswylydd arall i gysylltiad â gang oedd yn delio mewn cocên gan ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd ei ddefnydd o mariwana, ac roedd yn rhoi caniatâd i'r gang ddefnyddio ei dŷ er mwyn gwneud gwerth £70,000 o fargeinion dros gyfnod byr o amser.
Fis Mehefin diwethaf, bu'n rhaid inni ddefnyddio adnoddau'r heddlu i arestio pobl mewn cyrchoedd dros bum diwrnod. Defnyddiwyd cannoedd o heddlu mewn cyrch a gafodd ei alw'n Operations Red Line, pan ddefnyddiwyd llifiau cadwyn i dorri drysau'r delwyr a chipio cannoedd o eitemau, yn cynnwys cyllyll, cleddyfau a machete—yr holl adnoddau yna'n cael ei wario gan ein heddluoedd er mwyn ceisio ymdrin â phroblem sydd, a dweud y gwir, wedi dechrau mynd allan o reolaeth. Felly, rwyf am ddefnyddio'r hyn sy'n weddill o fy amser i annog pobl i feddwl am ymatal ac, yn benodol, i sicrhau bod ysgolion yn ymdrin yn ddigonol â'r mater hwn a hefyd bod gwasanaethau ieuenctid ar gael, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf agored i niwed, fel bod oedolion cymeradwy y gall pobl ifanc droi atynt os ydynt yn dechrau cael eu tynnu i mewn i gael eu perswadio i werthu cyffuriau. Oherwydd, fel arall, mae'r canlyniadau i bobl ifanc yn ddifrifol iawn ac yn gyffredinol, yn difetha eu bywydau. Felly, credaf fod yn rhaid inni bwysleisio'r agwedd ymatal o hyn er mwyn ceisio sicrhau nad oes rhagor o bobl ifanc yn difetha eu bywydau, naill ai drwy gymryd cyffuriau ond hefyd drwy fod yn werthwyr cyffuriau.
Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy'n bwriadu canolbwyntio'n benodol ar alcohol. Dengys yr adroddiad fod rhai newidiadau cadarnhaol wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf a bod yna feysydd lle gallwn yn sicr wneud mwy i helpu i atal niwed wrth gamddefnyddio sylweddau, yn enwedig gan fod yr adroddiad yn dweud bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi codi 7.1 y cant yn 2017, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a chredaf fod hynny'n achos o bryder. Mae'r adroddiad hwn yn nodi mai alcohol yw'r sylwedd sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf a gellir dadlau hefyd, yr un sydd fwyaf niweidiol i'r unigolyn, i deulu, cymuned ac ar lefel gymdeithasol. Mae'n achosi niwed drwy salwch corfforol a meddyliol, mae'n achosi damweiniau, ac mae'n fan cychwyn ar gyfer llawer o droseddu treisgar. Ond roeddwn wedi dychryn o glywed yn ddiweddar fod Drinkaware, elusen addysgu alcohol sy'n gweithio â chyrff iechyd y cyhoedd i godi ymwybyddiaeth ynghylch defnyddio alcohol ac yfed cyfrifol, yn cael ei gefnogi drwy gyfraniadau gan y diwydiant diodydd. Y llynedd, ymddiswyddodd cynghorydd Llywodraeth y DU, Syr Ian Gilmore, o ganlyniad i benderfyniad Iechyd y Cyhoedd Lloegr i weithio gyda Drinkaware ar gyfer eu hymgyrch Diwrnod Heb Yfed. Roedd yr ymgyrch honno yn annog yfwyr rhwng 45 a 65 oed i gael dyddiau rheolaidd heb yfed alcohol. Dywedodd, a chytunaf ag ef, ei bod yn anghydnaws i gorff sy'n rhoi cyngor iechyd cyhoeddus gael ei ariannu gan y diwydiant alcohol. A rhaid imi ddweud y byddwn i'n mynd mor bell â dweud y credaf ei fod yn anfoesegol.
Wrth gwrs mae gan bobl yr hawl i ddewis faint maen nhw'n dewis ei yfed, ond credaf y dylai'r wybodaeth addysg alcohol y maent yn ei dderbyn ddod o ffynhonnell annibynnol o leiaf, yn arbennig mewn cyfnod pan gaiff pobl cymaint o gyngor anghyson drwy'r cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau eraill yn barod. Felly, fe wnes i waith ymchwil byr iawn y bore yma—ni chymerodd amser hir—ac, ar wefan Drinkaware, fe ddywed, yn bur amlwg, ac rwy'n dyfynnu, eu bod yn cael:
eu hariannu i raddau helaeth gan roddion gwirfoddol a dilyffethair cynhyrchwyr alcohol y DU, manwerthwyr ac archfarchnadoedd.
Felly rhaid imi ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod gweithio gyda'r rheini a chymryd unrhyw ymchwil o'u heiddo o ddifrif yn gam y dylem fod yn ei gymryd, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn yr wyf newydd ei ddweud. Rwy'n ymwybodol eu bod wedi gwneud gwaith ymchwil i batrymau cymdeithasol mewn cysylltiad ag arferion yfed ymhlith myfyrwyr yn 2009-10 ar draws prifysgolion yng Nghymru, a bod yr ymchwil honno i fod i gael ei chyhoeddi yn 2012. Yn awr, gallwch fy ngalw i'n sgeptig, ac mae hynny'n wir yn yr achos hwn, ond sut ydym ni i fod i ddibynnu ar y dystiolaeth honno pan fo cost y dystiolaeth honno'n amlwg yn cael ei thalu a'i phrynu gan y bobl hynny sydd mewn gwirionedd yn gwerthu alcohol? Gobeithio, Gweinidog, nad ydym yn dibynnu ar dystiolaeth a gefnogir ac a ariennir gan bobl sy'n hyrwyddo eu diwydiant ar gost enfawr i gymdeithas.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf yn cydnabod y cynnydd a wnaed. Fodd bynnag, mae gennym gymaint mwy i'w wneud.
Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas; yfodd 34 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn cartrefi yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm nag oedolion yn y braced incwm isaf. Mae pobl hŷn yn tueddu i yfed yn amlach na phobl iau. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd cyffuriau na phobl hŷn. Mae un o bob pump o rai rhwng 16 i 24 mlwydd oed wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o'i gymharu ag ychydig dros 50 yn y grŵp 55 i 59 mlwydd oed.
Mae dynion canol oed yn fwy tebygol o fod yn gaeth i boen laddwyr presgripsiwn yn unig, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gaeth i feddyginiaeth dros y cownter. Mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth am gamddefnyddio sylweddau yn parhau i godi, ac mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â diod a chyffuriau ar ei uchaf erioed. Mae timau iechyd meddwl yn dweud bod cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd, a'r defnydd o NPS yn endemig ymysg carcharorion, ac mae gan hyd at 90 y cant o garcharorion ryw fath o broblem iechyd meddwl. Felly, mae'n hanfodol bod gennym y polisïau cywir ar waith er mwyn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae angen inni roi sylw i'r cynnydd enfawr yn y camddefnydd o cannabinoid. Mae angen inni fynd i'r afael â'r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cael eu hasesu gan ddarparwyr arbenigol camddefnyddio sylweddau. Ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rhesymau dros amseroedd aros mor hir ar gyfer gwasanaethau cynghori ledled Cymru.
Mae perthynas rhwng camddefynddio sylweddau ac iechyd meddwl, ond eto i gyd mae'r amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl wedi cynyddu. Mae'r amser aros ar gyfer therapïau siarad wedi sicrhau bod cyfraddau presgripsiynau gwrth-iselder yr uchaf yng ngorllewin Ewrop. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn rhagnodi digon o feddyginiaeth gwrth-iselyddion fel y gall pob aelod o'r boblogaeth gael cyflenwad 19 diwrnod. Rhaid rhoi sylw i hyn fel rhan o strategaeth camddefnyddio sylweddau'r Llywodraeth ar frys.
Byddaf yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau ger ein bron heddiw. Mae yna angen hanfodol am ganolfan adsefydlu cyffuriau ac alcohol breswyl haen 4 yng Nghymru—angen nad yw'n cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau swyddogol. Byddaf yn ymatal ar welliant 4, oherwydd gallaf ddweud, gan fy mod wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai, na welsom erioed bobl yn cael eu carcharu am ddefnyddio cyffuriau; byddent yn cael eu carcharu am ddelio neu am droseddu difrifol i fwydo eu harfer. Cytunaf ag ysbryd y gwelliant, ond mae dad-droseddoli cyffuriau yn anfon y neges anghywir. Yn y carchar, mae pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn cael triniaeth o'r radd flaenaf—triniaeth a ddylai fod ar gael y tu allan i'r carchar. Caiff carcharorion eu hanfon i uned adsefydlu, cânt gefnogaeth a phrofion parhaus yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl un i un yn ôl yr angen. Pe byddai'r opsiwn o'r math hwnnw o driniaeth ar gael i'r boblogaeth ehangach efallai na fyddem yn gweld cymaint o droseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn cael eu cyflawni. Felly, credaf mai sicrhau gwell triniaeth ac nid dad-droseddoli yw'r ateb. Diolch yn fawr.
Diolch. A allaf i nawr alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am yr hyn a fu i raddau helaeth yn ddadl adeiladol ac ystyriol ar adroddiad blynyddol camddefnyddio sylweddau 2018. Ceir cytundeb ar draws y Siambr bod hwn yn faes heriol, gyda phroblemau cymhleth i fynd i'r afael â nhw. Mae ein hymrwymiad i wasanaethau cyllid ychwanegol yn hanfodol, ac fel y dywedaf, wedi cael ei ddangos gan y cyllid ychwanegol—cynnydd o 10 y cant yn y gyllideb—hyd yn oed yn y cyfnod ariannol mwyaf anodd hwn; rydym yn wynebu cyni parhaol.
Mae'n rhaid imi ymdrin â'r sylwadau gan y llefarydd Ceidwadol yn y ddadl hon. Unwaith eto, cewch wleidyddion Ceidwadol yn cwyno am ddewisiadau cyllid a wneir o ganlyniad uniongyrchol i gyni. Mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon wedi gorfod wynebu dewisiadau ofnadwy; pethau y byddem yn dymuno parhau i'w cyllido, gyda gwerth gwirioneddol i'r cyhoedd—roedd yn rhaid inni wneud dewisiadau rhyngddyn nhw o ganlyniad uniongyrchol i gyni'r Ceidwadwyr—polisi y mae Mark Isherwood a'i gydweithwyr wedi ymgyrchu drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol. Mae fy neges yn glir, oherwydd nid ydym ni'n mynd i symud ymlaen yn hyn o beth: cymerwch gyfrifoldeb am gyni Torïaidd, cymerwch gyfrifoldeb am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud a pheidiwch â phregethu am gyllidebau, ynglŷn â dewisiadau a wneir oherwydd eich dewisiadau chi.
Nawr, fe wnaeth Mark Isherwood rai—. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, cyfraniad Leanne Wood—nid oeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd hi, ond mae angen dadl ystyriol ac aeddfed ar y materion yr oedd hi'n eu hannog; dadl gyda'r heddlu, y Swyddfa Gartref, gyda gwleidyddion, ond yn anad dim, gyda'r cyhoedd hefyd, am yr hyn sydd i'w ddisgwyl. Nawr, nid oes gennym ni'r holl bwerau i wneud yr hyn y mae Leanne yn ei annog, ond rydym wedi edrych ar y dystiolaeth yn Ewrop ac o fewn y DU. Rydym wedi cael golwg ar gyfleusterau chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol, ac edrychodd y cyn-banel cynghori annibynnol ar gamddefnyddio sylweddau ar hyn ac fe gyhoeddodd adroddiad. Cyhoeddwyd hwn gennym ar wefan Llywodraeth Cymru yn 2017. Er gwaethaf y dystiolaeth a ystyriwyd yn yr adroddiad, maen nhw'n cydnabod bod pryderon yn parhau ynghylch pa mor gydnaws yw cyfleusterau chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol â'r gyfraith droseddol gyfredol sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau. Mae hwn yn faes sydd yn fater i Lywodraeth y DU ac mae'r gorfodi yn nwylo'r heddlu. Daeth yr adroddiad i'r casgliad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, na allant ar hyn o bryd argymell bod chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol yn cael ei weithredu yng Nghymru. Ond maen nhw'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud yn y maes hwn i weld a yw'n debygol o fod yn ddichonadwy yng Nghymru. Felly, nid yw'n ddrws sydd wedi ei gau am byth, ond credaf ei fod yn gydnabyddiaeth o'n sefyllfa ni a'r modd y mae gwahanol gyfrifoldebau yn cael eu rhannu. Er hynny, fe barhawn ni i edrych—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A ydych yn derbyn bod yn rhaid ichi symud yn gyflymach ynglŷn â hyn i atal mwy o farwolaethau?
Y realiti yw nad oes gennym ni'r pwerau i gyflwyno'r cyfleusterau y gwn i yr hoffech chi eu gweld yn cael eu creu o ddifrif yma yng Nghymru. Ni allaf greu'r cyfleusterau nad oes gennyf y pwerau i ymdrin â nhw. Dyna pam y dywedaf fod yn rhaid cael sgwrs wirioneddol aeddfed am yr hyn y gallwn ni ei wneud, yr hyn a wnawn gyda'n pwerau, yn ogystal â'r sgwrs honno gyda'r Swyddfa Gartref a'r heddlu.
Nawr, rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan Joyce Watson a Jenny Rathbone—yn enwedig sylwadau Joyce Watson am gyllidwyr ymchwil a sut yr ydym ni'n ymgysylltu â nhw. Gwyddom yn sgil y Bil isafbris uned —fel yr oedd bryd hynny—nad oedd gwerth a chadernid peth o'r dystiolaeth honno a gyllidwyd gan actorion penodol yn y maes hwn yn gallu gwrthsefyll y craffu mwyaf cadarn. Ond mae'n rhaid inni barhau i ymgysylltu â manwerthwyr ynghylch eu hymddygiad, y ffordd y maen nhw'n hyrwyddo alcohol, yn benodol, a'r ffordd y mae gennym ni negeseuon amgen ynghylch rhoi dewisiadau ar sail gwybodaeth i bobl.
Nawr, wrth gloi, rwy'n cymryd y bydd yr Aelodau, unwaith eto, yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sy'n gweithio ar yr agenda hon a'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud o hyd. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn gofyn am ymrwymiad ar draws y Llywodraeth a phartneriaid sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen, i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ac yn cefnogi pawb mewn angen i gael y cymorth priodol. [Torri ar draws.] Fe wnaf yn gryno.
Diolch yn fawr, ac rwy'n ymddiheuro, doeddwn i ddim yma ar gyfer yr araith agoriadol. A allaf i ofyn iddo—? Rwyf wedi ysgrifennu ato gyda chyfres o gwestiynau ynghylch y cymorth y mae Tŷ Brynawel yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Tybed, o ystyried y ffaith bod rhai canolfannau adsefydlu yn cau yng Nghymru, ac mai Tŷ Brynawel yw'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth Cymru, a'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith iechyd meddwl ac anableddau dysgu Cymru, pa drafodaethau, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid—awdurdodau comisiynu—ei rhoi i Dŷ Brynawel i sicrhau ei gynaliadwyedd.
Rydym wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Thŷ Brynawel a chomisiynwyr gwasanaethau, i dynnu sylw at yr amrywiaeth o wasanaethau sydd eisoes ar gael, nid yn unig adsefydlu ym maes alcohol a chyffuriau, ond hefyd ym maes niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, maes sy'n datblygu. Felly, mae yna sgwrs barhaus i ni ei chael. Nid wyf yn dymuno i Frynawel beidio â bodoli. Rwy'n credu ei fod yn gyfleuster defnyddiol. Mae angen inni wneud yn siŵr bod ei wasanaethau yn cyd-fynd nid yn unig â'n strategaeth ni, ond bod y comisiynwyr mewn gwirionedd yn comisiynu'r gofal y mae'n ei ddarparu. A bydd y gofal hwnnw i gyd, y gwasanaethau yr ydym yn dal i'w hariannu, yn parhau i sicrhau bod lleihau niwed yn elfen graidd. Bydd y cyllid ychwanegol a nodwyd gennyf yn helpu i gefnogi'r gwaith hwnnw.
Yn y maes cymhleth hwn, mae angen inni weithio'n agos gyda'n gilydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y sbectrwm, er gwaethaf ein gwahaniaethau barn ar amrywiaeth o bynciau, ond yn gyffredinol i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i symud i gyfeiriad cadarnhaol yma yng Nghymru i helpu pobl mewn angen gyda chymorth priodol lle bynnag y gallwn ni.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rwyf yn awr yn cynnig mynd i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na.
Felly, rydym ni'n mynd i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw pleidlais ar y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch—[Torri ar draws.] Ie, iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019: O blaid: 35, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar setliad yr heddlu, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, un yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20: O blaid: 38, Yn erbyn: 8, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar adroddiad blynyddol camddefnyddio sylweddau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
NDM6961 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
NDM6961 - Gwelliant 2: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
NDM6961 - Gwelliant 3: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.
NDM6961 - Gwelliant 4: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12
Derbyniwyd y gwelliant
Rydym nawr yn galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NDM6961 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).
Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 36, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
NDM6961 - Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 36, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A daw hynny â busnes heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:41.