Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/02/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle. 

Darpariaeth y Gwasanaeth SenCom

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yng Ngwent ynghylch darpariaeth y gwasanaeth SenCom? OAQ53347

Diolch, Lynne, am eich gwaith parhaus ar y pwnc pwysig hwn.

Gall gweithio ar sail ranbarthol helpu i sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu targedu'n effeithiol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ymgysylltu â SenCom i ddeall yr effaith bosibl ar ddysgwyr pe bai Casnewydd yn tynnu'n ôl o'r gwasanaeth hwnnw.

Weinidog, rwy’n parhau i gael fy siomi gan barodrwydd ymddangosiadol Cyngor Dinas Casnewydd—cyngor Llafur—i beryglu gwasanaethau ar gyfer grŵp bregus iawn o blant a phobl ifanc, drwy dynnu'n ôl o'r gwasanaeth SenCom rhanbarthol effeithiol ac arbenigol iawn. Mae Casnewydd, o’r diwedd, yn gwneud rhywfaint o ymgynghori â theuluoedd, ond mae rhieni wedi cwyno bod llythyrau yn cael eu hanfon yn uniaith Saesneg, mewn print mân, ac yn rhy hwyr i rieni fynychu digwyddiadau ymgynghori pwysig. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, er mwyn i’r ymgynghoriad fod yn un ystyrlon, fod angen iddo fod yn amserol, mewn iaith y gall rhieni ei deall, gan gynnwys rhieni o leiafrifoedd ethnig, ac mewn fformat sy'n hygyrch i rieni sydd â nam ar eu synhwyrau eu hunain? A ydych yn rhannu fy mhryder parhaus ynglŷn â’r ffordd y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymdrin â'r newid arfaethedig hwn i wasanaethau ar gyfer plant â nam ar y synhwyrau?

Lynne, mae'n hollbwysig ymgysylltu’n briodol â’r teuluoedd sy'n cael y gwasanaeth hwn, ac na chaiff diddordebau unigol dysgwyr unigol eu hanghofio ar unrhyw adeg. A buaswn yn cytuno'n llwyr â chi fod angen i unrhyw ymgynghoriad â theuluoedd fod yn ystyrlon, ac ni all fod yn ystyrlon os na all rhieni gymryd rhan. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, bydd fy swyddogion yn parhau i geisio sicrwydd gan Gasnewydd, ac yn wir, gan awdurdodau lleol eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig hwn, i sicrhau nad yw anghenion dysgu'r plant a'r bobl ifanc hynny'n cael eu peryglu.

Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais eich ateb blaenorol i fy nghyd-Aelod. Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi gofyn am ddatganiad ar y mater hwn ar 11 Rhagfyr, a bod arweinydd y tŷ wedi dweud wrthyf eich bod yn trafod gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â'r rhesymeg dros gael gwared ar y gwasanaeth ac y byddech yn adrodd yn ôl. Ers hynny, mae sawl elusen, fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru, Cyngor Cymru i'r Deillion, Cŵn Tywys Cymru a Sight Cymru wedi mynegi pryderon y gallai penderfyniad Casnewydd arwain at loteri cod post ar gyfer y ddarpariaeth hon. Cafwyd cefnogaeth unfrydol gan gynghorwyr o bob plaid yn Sir Fynwy i gynnig i wrthwynebu penderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd, gan fynegi cryn siom ynglŷn â lefel yr ansicrwydd y mae wedi’i greu mewn perthynas â’r rhwydwaith hanfodol hwn o gymorth. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau ar gyfer y plant agored i niwed hyn yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu diogelu, os gwelwch yn dda?

Wel, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod wedi ysgrifennu at y cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn ôl ym mis Tachwedd, i ofyn am sicrwydd. Cefais ymateb gan y cyngor hwnnw ym mis Rhagfyr, a dywedodd y cyngor eu bod yn hyderus y byddant yn gadael gwasanaeth sylweddol a ariennir yn briodol ac a ddylai fod â mwy na digon o allu i gynnal y lefelau darparu presennol i'r pedwar awdurdod lleol sydd ar ôl. Fodd bynnag, fel y clywsoch gan Lynne Neagle, mae'r sefyllfa'n ansefydlog, ac yn parhau i newid. Mae cyngor Casnewydd, o’r diwedd, yn ymgysylltu â rhieni plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, ond unwaith eto, fel y clywsom gan Lynne Neagle, mae ansawdd yr ymarfer ymgynghori hwnnw yn amheus ar y gorau, ac mae fy swyddogion yn parhau i siarad gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â’u camau gweithredu mewn perthynas â'r gwasanaeth penodol hwn.

Weinidog, rwy’n ymwybodol o’ch ymrwymiad personol cryf i hyn ac i sicrhau bod pob dysgwr ledled y wlad yn cael y profiad addysg cyfoethog iawn y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl. Rhannaf siom llwyr Lynne Neagle ynglŷn â gweithredoedd Cyngor Dinas Casnewydd. Teimlaf fod Cyngor Dinas Casnewydd yn troi ei gefn ar rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y wlad ac yn ymddwyn mewn ffordd gwbl ddi-hid, heb unrhyw ofal go iawn neu ystyriaeth o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddysgwyr ar draws rhanbarth Gwent. Ar adeg pan ydych yn ymgynghori ar y cod ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, mae'n drasiedi fod hyn yn digwydd ac yn peri cymaint o ofid i bobl yn y rhanbarth. Weinidog, dyma fy nghwestiwn i chi: sut y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru sicrhau bod y strwythurau gennym yn y dyfodol i sicrhau na all cynghorau beri’r gofid hwn, na allant ymddwyn yn y modd hwn, ac na allant droi eu cefnau ar anghenion rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?

13:35

Fy mhryder i yw bod gwasanaethau SenCom, sydd, fel y mae pawb wedi’i gydnabod, yn wasanaeth sy'n darparu ar sail ranbarthol i grŵp penodol iawn o blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol penodol iawn, wedi bod yn enghraifft o arfer da iawn, buaswn yn dadlau—o awdurdodau lleol yn cyfuno eu hadnoddau, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau gwasanaeth cryf a chynaliadwy. Nawr, mae'r ffaith bod Casnewydd wedi gwneud y penderfyniadau hyn—ac mae ganddynt hawl i'w gwneud—yn dangos sut y bydd yn rhaid inni ailedrych ar sut rydym yn annog ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio ar sail ranbarthol lle ceir manteision profedig o wneud hynny. Ac rwy'n parhau i gael trafodaethau o'r fath gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OAQ53370].

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Ac felly fe wnawn ni symud i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.

Diolch, Lywydd. Mynegwyd pryderon fod buddsoddiad mewn sgiliau ac addysg oedolion ar hyn o bryd yn canolbwyntio gormod ar oedolion ifanc, ar draul pobl 25 oed a hŷn. Erbyn 2022, bydd traean o weithlu Cymru dros 50 oed, felly mae dysgu oedolion yn llawer pwysicach nag erioed yng Nghymru. Weinidog, beth rydych yn ei wneud i ymestyn modelau addysg rhan-amser a hyblyg, sy'n darparu llwybr hanfodol i lawer o oedolion na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at addysg yng Nghymru?

Wel, yn gyntaf, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi awgrymu heb feddwl gwneud hynny nad yw blaenoriaethu anghenion dysgwyr iau mewn addysg bellach dros anghenion pobl eraill yn rhywbeth y mae'n ei gefnogi. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod am i ni barhau i sicrhau bod dysgwyr o oedran ôl-orfodol—17 a hŷn—yn parhau i elwa o'r ddarpariaeth. Ond mae'n gwneud pwynt gwerthfawr—fod angen inni sicrhau bod dysgwyr, drwy gydol eu hoes, yn cael cyfle i uwchsgilio, dysgu sgiliau newydd neu gael addysg i wella eu rhagolygon cyflogaeth. Dyna pam y byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy ymrwymiad gyda'r Prif Weinidog newydd i archwilio'r cysyniad o sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl ail gyfle a bod gan bob dysgwr gyfle i gael addysg ar wahanol adegau yn eu bywydau. Wrth gwrs, rwy'n falch, o ganlyniad i'n newidiadau i gymorth addysg uwch, er enghraifft, ein bod wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y dysgwyr rhan-amser sy'n cofrestru gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru eleni, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r niferoedd sy'n parhau i ostwng dros y ffin yn Lloegr.

Diolch, Weinidog. Ond mynegwyd pryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a mwy o amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr hŷn fel ffactorau cyfrannol mewn unrhyw ostyngiad yn y galw am ddarpariaeth ran-amser. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi llawer o ffocws ar bobl ifanc, gan arwain at ddiffyg gwybodaeth bwysig, cyngor a chanllawiau ar gyfer myfyrwyr hŷn presennol a darpar fyfyrwyr hŷn. Beth rydych yn ei wneud, Weinidog, i sicrhau y caiff dysgwyr rhan-amser eu trin yn deg ac yn gyfartal fel fod opsiynau cyllid rhan-amser yn cael cyhoeddusrwydd mor amlwg â rhai amser llawn yng Nghymru?

Wel, Oscar, buaswn yn dadlau bod y canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Rydym wedi gweld cynnydd o 35 y cant eleni mewn cofrestriadau ar gyfer cyrsiau gradd rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored yn unig yma yng Nghymru. Y llynedd, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â chyfundrefn hysbysebu a gwybodaeth gyhoeddus hynod lwyddiannus. O ran cyrhaeddiad ac allbynnau, hon yw'r rhaglen hysbysebu fwyaf llwyddiannus a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed mewn gwirionedd—hyd yn oed yn fwy llwyddiannus na'r ymgyrch gyhoeddusrwydd rhoi organau. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn ceisio cefnogi dysgwyr rhan-amser mewn meysydd eraill, nid y rheini sy'n astudio ar lefel gradd yn unig. Rydym wedi cael effaith fawr ar lefel gradd. Bellach, mae angen inni sicrhau bod yr oedolion sydd am astudio ar lefel is na lefel gradd yn cael cyfle i wneud hynny hefyd. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog blaenorol ar Addysg Oedolion Cymru a byddwn yn ceisio archwilio gyda'n cymheiriaid ym maes addysg bellach beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod dysgu rhan-amser ar bob lefel yn dod yn realiti i lawer mwy o ddinasyddion Cymru sy'n awyddus i ymgymryd â hynny.

13:40

Diolch, Weinidog. Nid oes amheuaeth gennyf eich bod yn gwneud gwaith gwych yn eich rôl eich hun, ond mae data newydd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod nifer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr nad ydynt o'r UE sy'n mynychu prifysgolion Prydain wedi codi. Yn 2017 a 2018, mynychodd dros 458,000 o fyfyrwyr brifysgolion ym Mhrydain—cynnydd o 16,000 ar y blynyddoedd blaenorol, ac 20,000 ers blwyddyn refferendwm yr UE. Ar nodyn cadarnhaol, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion hwn, sydd wedi'i gyflawni, fel y byddai'r BBC yn ei ddweud, 'er gwaethaf Brexit'?

Yn gyntaf, a gaf fi gymryd y cyfle hwn, Lywydd, i roi gwybod i bobl fod prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn agored i fusnes? Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau a wneir gan aelodau staff Ewropeaidd, a myfyrwyr Ewropeaidd, ac yn wir, myfyrwyr nad ydynt o Ewrop sy'n dod i astudio yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonynt yn parhau i wneud hynny.

Ond mae angen i'r Aelod wrando ar Prifysgolion Cymru a ColegauCymru mewn perthynas â'r bygythiadau gwirioneddol a achosir gan Brexit i'n sector AB ac AU. Mae'r Aelod, wrth eu hanwybyddu, yn bod yn ddi-hid gyda dyfodol y sector tra phwysig hwn. Heb amheuaeth—heb amheuaeth— bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag y bydd yn digwydd, yn effeithio ar y sector, ac nid mewn ffordd gadarnhaol.

Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau lle gorffennais i y tro diwethaf i mi gael sgwrs efo chi ar draws y Siambr, sef efo'r frawddeg anffodus a oedd yn eich Papur Gwyn yr wythnos diwethaf am ddysgu Saesneg mewn ysgolion a lleoliadau meithrin. Dwi ddim yn mynd i fynd dros yr un un tir eto, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi gwneud tro pedol ar y mater yma ac na fydd newid polisi fel yr awgrymodd Gweinidog y Gymraeg wrth ateb fy nghwestiynau i yma ddydd Mercher diwethaf ac fel cafodd ei gadarnhau mewn datganiad byr a ymddangosodd ar wefan y Llywodraeth ddydd Llun. 

Ond mae yna gwestiynau pellach yn codi yn fy meddwl i yn sgil y ffiasgo yma. Mae'n amlwg mai camgymeriad oedd cynnwys y frawddeg, ond sut yn y byd y caniatawyd i frawddeg a fyddai wedi golygu newid polisi syfrdanol i ymddangos mewn Papur Gwyn yn y lle cyntaf? Onid ydy cyhoeddiadau pwysig fel Papurau Gwyn yn cael eu darllen a'u hailddarllen drosodd a throsodd er mwyn osgoi camgymeriadau sylfaenol? Onid oes proses i sicrhau cysondeb gyda pholisïau craidd y Llywodraeth? 

A'r cwestiwn arall sy'n codi ydy: pam y byddai unrhyw un yn yr adran addysg yn ychwanegu'r fath frawddeg a sut ydych chi am wneud yn siŵr fod yr holl swyddogion addysg yn gyfarwydd â pholisïau sydd wedi cael eu cydnabod ers degawdau fel y rhai cywir ar gyfer dysgu Cymraeg i blant o dan saith oed? Dyna'i gyd y gallaf fi ei ddweud ydy bod y llanast yma'n tanseilio eich hygrededd chi fel Gweinidog, gweision sifil yr adran addysg a'r Llywodraeth yma.

Ni fu unrhyw newid yn y polisi. Dywedais hynny yn ystod y sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf. Ailadroddwyd hynny gan Weinidog y Gymraeg y diwrnod wedyn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyhoeddi eglurhad manwl lle dywedais yn glir y bydd trochi'n parhau mewn gwahanol ysgolion a lleoliadau gwahanol.

Felly, os caf, Lywydd, ar gyfer y cofnod yma y prynhawn yma: bydd ein cynigion yn y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a lleoliadau fel ysgolion meithrin i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg ac rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion ysgolion meithrin ac UCAC am eu cefnogaeth yn hyn o beth.

13:45

Diolch yn fawr am yr eglurder yna, ond dydych chi ddim yn ateb y cwestiwn ynglŷn â sut yn y byd gwnaeth y fath frawddeg ymddangos yn y lle cyntaf. 

Dwi'n mynd i droi at agweddau eraill ar eich Papur Gwyn chi, os caf i. Mae o'n nodi y bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer rhai materion penodol, gan gynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Un o'r chwech hynny ydy'r dyniaethau, ac rydych chi'n rhestru'r dyniaethau fel hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, busnesau ac astudiaethau cymdeithasol. Rŵan, dwi wedi eich clywed chi sawl tro yn trafod pwysigrwydd dysgu hanes Cymru i'n plant ni, a dwi'n credu ein bod ni'n rhannu'r un weledigaeth o gwmpas hynny. A fyddwch chi, felly, yn ystyried ychwanegu hanes Cymru i'r rhestr o bynciau o dan y pennawd 'dyniaethau'? Byddai hanes Cymru wedyn yn ymddangos ar wyneb y Bil, ac fe fyddai'n golygu ei bod hi'n statudol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno hanes Cymru fel rhan o'r cwricwlwm newydd. 

Gadewch imi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: mae'n ddisgwyliad ac yn fwriad gennyf y dylai pob plentyn ddysgu eu hanes lleol eu hunain, hanes eu cenedl, a lle eu cenedl yn hanes y byd a chyfraniad ein gwlad i hanes y byd a digwyddiadau'r byd. Y cysyniad sydd wrth wraidd y cwricwlwm, yn enwedig yn y dyniaethau, yw ffocws ar y lleol o'r oed ieuengaf, a thyfu allan o'r lleol, a fydd yn rhoi dealltwriaeth i'n plant nid yn unig o'u lle yn eu cymuned, ond o le eu cymuned yn ein cenedl, ac yn wir, yn y byd. Dyna'r ffocws. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn pryderu ynghylch y syniad hwn mai drwy'r cwricwlwm hanes yn unig y gellir darparu'r dimensiwn Cymreig—mae'n peri cryn bryder i mi, oherwydd mewn gwirionedd, hoffwn i blant ddysgu mwy na hanes Cymru yn unig o'r cwricwlwm hwn. Rwyf am i blant ddysgu am lenyddiaeth Cymru, rwyf am i blant ddysgu am gerddorion Cymru, rwyf am i bobl ddysgu am wyddonwyr Cymru. A bydd yr Aelod yn gwybod, o ddarllen y Papur Gwyn, y bydd dimensiwn Cymreig yn thema drawsbynciol mewn gwirionedd, nid yn unig ym maes dysgu'r dyniaethau—mae'n thema drawsbynciol ar gyfer ein cwricwlwm yn ei gyfanrwydd.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi, ond dydy hynny ddim yn ddadl dros beidio â chynnwys hanes Cymru fel pwnc penodol o dan y rhestr hir sydd gennych chi o dan y teitl 'dyniaethau'. 

I droi hefyd at agwedd arall ar y cwricwlwm newydd—a dwi'n dyfynnu—mi fydd y cwricwlwm yn rhoi

'rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio eu proffesiynoldeb a'u crebwyll i ddiwallu anghenion dysgwyr'.

Dyna ydy hanfod gweledigaeth Donaldson, mewn gwirionedd, yntê? Mae'r Papur Gwyn yn mynd ymlaen wedyn i ddweud y bydd yna lai o fanylder mewn deddfwriaeth o ran cynnwys y cwricwlwm na sydd yna ar hyn o bryd, ac y bydd cynnwys y meysydd dysgu a phrofiad yn cael ei amlinellu mewn canllawiau statudol.

Rŵan, rydym ni'n gwybod y bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill er mwyn cael adborth. Beth mae llawer o athrawon yn holi ydy: pryd bydd y canllawiau atodol ar gael a pha mor fanwl fydd y rheini? Mae llawer o athrawon yn dadlau bod angen arweiniad a chanllawiau clir a manwl ac maen nhw'n gofidio na fydd hynny ar gael. 

Mae'r Aelod yn llygad ei lle; bydd camau cynnydd unigol y Meysydd Dysgu a Phrofiad a'r datganiadau ynghylch 'beth sy'n bwysig' yn cael eu cyhoeddi dros y Pasg. Rydym yn gwneud hynny mewn fformat a fydd yn caniatáu i addysgwyr, ac yn wir, unrhyw un â diddordeb i roi adborth. Buaswn yn derbyn bod cydbwysedd i'w gael rhwng dod mor ragnodol yn y canllawiau hynny fel y byddai cystal inni aros lle rydym, gan na fydd natur y cwricwlwm wedi newid o gwbl pe baem yn darparu rhestrau hirfaith o bethau rydym yn disgwyl i athrawon eu gwneud.

Fe fyddwch yn gwybod o adroddiad gwreiddiol Graham Donaldson, fod y ffordd y mae ein cwricwlwm wedi'i strwythuro ar hyn o bryd yn rhwystro creadigrwydd athrawon rhag gallu diwallu anghenion eu myfyrwyr unigol. Nawr, yn amlwg, bydd yn rhaid inni ddarparu—mewn ffordd anghelfydd, efallai—sgaffaldiau ar gyfer y proffesiwn addysgu, ond ni allwn, ac ni fyddaf, yn syrthio i'r fagl o roi rhestrau hir i'n hathrawon o bethau rhagnodedig rwy'n disgwyl iddynt eu haddysgu, gan y byddai gwneud hynny'n gwneud cam â'r weledigaeth o'r hyn y ceisiwn ei wneud gyda'n cwricwlwm ar gyfer ein pobl ifanc.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi gyfundrefn addysg rhyw a chydberthynas newydd, a fydd yn orfodol i ysgolion heb fodd i rieni optio eu plentyn allan ohoni. A wnewch chi sicrhau bod y cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd yn cynnwys nodi beth a olygir wrth gam-drin, pam ei fod yn anghywir, sut i'w atal, a beth i'w wneud os bydd yn digwydd?

13:50

Yn gyntaf, mae'r Aelod yn anghywir yn dweud fy mod yn gwrthod yr hawl i rieni eithrio'u plant. Os yw'r Aelod wedi darllen y Papur Gwyn, fe fydd yn gwybod bod y Papur Gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r hawl i eithrio plant o wersi o'r fath. Ond gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod, wrth sicrhau bod ein plant yn dysgu am rywioldeb a chydberthynas, y byddant yn dysgu am faterion fel cydsyniad, trais domestig, beth yw perthynas iach, a lle i gael cymorth os ydynt mewn sefyllfa lle maent yn pryderu am eu diogelwch.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld yr euogfarn gyntaf mewn perthynas â rhiant yn anffurfio neu'n caniatáu i organau cenhedlu eu plentyn gael eu hanffurfio. Er bod y math hwn o gam-drin wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac er iddo gael ei wneud yn anghyfreithlon amser maith yn ôl, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sefydliadau o dan eu rheolaeth wedi bod yn aneffeithiol o ran ei atal a mynd i'r afael ag ef pan fydd yn digwydd. A ydych yn cytuno â mi mai'r unig ffordd efallai y gallem helpu i atal anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru yw drwy ei amlygu fel problem benodol mewn perthynas ag addysg rhyw a chydberthynas? Ni fydd neges amwys am sicrhau bod pobl yn parchu eich corff yn effeithiol yn y senario hon. Mae angen ei hamlygu fel problem benodol, onid oes?

Yn amlwg, y gwir amdani yw bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf ar gam-drin, ac mae'n anghyfreithlon yn ein gwlad. Fel y dywedais, bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan y caiff y Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol eu cyhoeddi, ond ni fyddwn mewn sefyllfa lle byddwn yn creu rhestrau hir o bynciau penodol unigol. Ond yn hollbwysig, mae gan ysgolion rôl i'w chwarae yn cefnogi, diogelu ac atal anffurfio organau cenhedlu benywod, a dyna pam, cyn toriad yr haf bob blwyddyn, rwy'n ysgrifennu at bob ysgol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau a beth y gallant ei wneud wrth i wyliau'r haf agosáu—sy'n aml yn amser perygl i lawer o'n myfyrwyr benywaidd, pan allent fod mewn perygl o wynebu'r broses a'r driniaeth hon—i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau, beth i edrych amdano, yr arwyddion o berygl, ac yn hollbwysig, beth y dylent ei wneud ynglŷn â'r peth os ydynt yn poeni am unrhyw blentyn unigol yn eu hysgol.

Deallaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â pheidio â dymuno rhoi rhestr hir o eitemau i athrawon eu haddysgu—deallaf eich safbwynt yn hynny o beth, Weinidog—ond mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn enghraifft mor erchyll o gam-drin merch. Mae bellach yn digwydd i fabanod, oherwydd, a dyfynnaf,

Nid yw'r merched yn gallu rhoi gwybod i unrhyw un, mae'r clwyfau'n cau'n gynt ac mae erlyn yn llawer anos pan ddaw tystiolaeth i'r amlwg pan fo'r ferch yn hŷn.

Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, nid yw dweud wrth ferched yn yr ysgol y dylent roi gwybod am unrhyw un sy'n ceisio ei wneud yn mynd i weithio. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy'n digwydd yn amlach yma yng Nghymru, yn y DU, felly nid yw cadw cofnod o'r merched sy'n debygol o fynd ar wyliau a'i gael wedi'i wneud dramor—efallai ei fod wedi digwydd iddynt pan oeddent yn fabanod. Buaswn yn awgrymu mai'r holl bwynt yw addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion yn y wlad hon, pob un ohonynt, yn y gwersi Addysg Rhyw a Chydberthynas, fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn erchyll ac na ddylid ei oddef. Gwneud hynny'n iawn o'r cychwyn cyntaf. Sicrhau nad yw'n cael ei dderbyn mewn rhan fach o'n cymuned. Dywed elusen Barnardo's fod ymgysylltiad cymunedol yn allweddol er mwyn rhoi diwedd ar drosedd anffurfio organau cenhedlu benywod. Felly, a wnewch chi helpu i ddatrys y broblem hon drwy addysgu cenedlaethau'r dyfodol fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn bodoli ac na ddylid ei oddef?

Ni fydd yn cael ei oddef, ac mae gan addysg ran bwysig i'w chwarae yn hynny, ond mae gan lawer o asiantaethau eraill ran bwysig i'w chwarae hefyd. Mae'r Aelod yn codi mater anffurfio organau cenhedlu benywod mewn perthynas â babanod benywaidd. Yn amlwg, mae hwnnw'n fater i fydwragedd a'r gwasanaeth iechyd gwladol fynd i'r afael ag ef. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: ar draws y Llywodraeth, ar draws pob adran, rydym yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf erchyll ar gam-drin a byddwn yn gweithio ar y cyd gyda'n gilydd i roi diwedd arno.

13:55

Diolch, Lywydd. Deallaf eich bod wedi grwpio cwestiynau 3 a 5. A yw hynny'n gywir?

Datblygu 'Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes'

3. Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau y clywir lleisiau pobl ifanc wrth ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes? OAQ53348

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes? OAQ53349

Diolch, Hefin. Wrth ateb cwestiynau 3 a 5, gallaf roi sicrwydd i chi fod barn plant a phobl ifanc yn hanfodol i'r broses o ddiwygio ein cwricwlwm. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â hwy ar ddatblygiadau allweddol megis e-bortffolios, asesiadau ar-lein a'r rhaglen addysg cydberthynas a rhywioldeb y byddwn yn ei rhoi ar wyneb y Bil. Mae ysgolion arloesi wedi ymgysylltu â dysgwyr yn ystod y broses o ddatblygu'r cwricwlwm a byddwn yn parhau i'w cynnwys yn llawn yn y broses adborth. Mae gennym fersiwn o'r Papur Gwyn ar gyfer plant a phobl ifanc a bydd eu barn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn addas.

Er gwaethaf y camau mawr hynny, mae'r comisiynydd plant wedi bod yn feirniadol nad yw lleisiau plant wedi cael eu clywed yn ddigonol wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Cynhaliais ddigwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead ddydd Mawrth gyda Fforwm Ieuenctid Caerffili, lle cyflwynwyd deiseb ganddynt a ddywedai eu bod yn awyddus i sicrhau bod gwersi 'cwricwlwm am oes' yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent yn teimlo nad yw'r cwricwlwm presennol yn darparu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt. Mae Cymdeithas y Plant hefyd wedi argymell bod lles y plentyn yn rhan ganolog o'r cwricwlwm newydd, a'r teimlad cyffredinol ymhlith y bobl y siaradais â hwy yw y gellid gwneud mwy eto i gynnwys lleisiau plant yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Felly, pa gynnydd y mae hi'n ei wneud?

Yn sicr. Buaswn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod fod hon yn broses y bydd angen iddi barhau. Mae'r grŵp rhanddeiliaid strategol sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc wedi'i sefydlu'n benodol i ystyried barn plant a phobl ifanc yn ystod y daith ddiwygio, ac mae hynny'n cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gofalwyr ifanc, addysg ddewisol yn y cartref—felly mae llawer iawn o leisiau yn gallu bwydo i mewn i'r broses honno. Nod cyffredinol y grŵp hwnnw yw cryfhau'r modd y cyfathrebwn ac yr ymgysylltwn â phlant a phobl ifanc i'n helpu i nodi'r ffordd orau y gallwn wneud hynny a sicrhau bod hynny'n ystyrlon ar gyfer pawb sy'n rhan o'r broses. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid o'r Senedd ieuenctid newydd, oherwydd unwaith eto, credaf fod hwnnw'n fforwm defnyddiol arall y gallwn ei ddefnyddio i lywio ein hadborth yn ystod y broses o lunio'r cwricwlwm. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r 60 aelod etholedig newydd i'w cynnwys yn y broses honno.

Yn ychwanegol at y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r feirniadaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, lle roeddent yn dweud bod datblygiad y cwricwlwm yn

generig, wedi'i ddiffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau.

Daeth at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Ionawr a dywedodd nad oedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi mynychu cyfarfod ymgynghori ar y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd i fynegi'r pryderon hyn yn uniongyrchol ers 2017. Gyda hynny mewn golwg, pa gynnydd a wnaed ganddi ar ailadeiladu cysylltiadau gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac a yw hi wedi cael unrhyw gyfarfodydd pellach i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?

Fel y dywedais, yr hyn oedd yn siomedig am hynny yw nid yn unig fod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru heb fanteisio ar y cyfle i fynegi eu pryderon yn ystod cyfarfodydd ffurfiol y rhanddeiliaid, ond rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn wir, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac ni fynegwyd unrhyw un o'r pryderon hynny wrthyf. Rwy'n ymwybodol na fynegwyd y pryderon hynny wrth Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol dros lywodraeth leol ychwaith. Felly, roedd yn siomedig gweld y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n falch o ddweud bod CLlLC a CCAC wedi eu cynrychioli yn y cyfarfod diweddaraf o fwrdd y rhanddeiliaid.

Weinidog, roedd yn galonogol clywed am rai o'r mecanweithiau ymgynghori uniongyrchol rydych yn eu defnyddio i wrando ar farn pobl ifanc ar y cwricwlwm a'r broses o'i ddatblygu, a chymeradwyaf yr hyn rydych wedi'i wneud yn hynny o beth. Hoffwn wybod a wnaethpwyd unrhyw beth gyda'r cynghorau ysgol, gan eu bod mewn sefyllfa dda iawn i wneud gwaith ystyried manwl lle maent yn rheoli'r broses ac yn ymgynghori â'u haelodau—y disgyblion yn yr ysgolion hynny—wedyn yn bwydo'u barn drwodd i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod yn rhan o broses reoledig, gul, benodol o nifer o gwestiynau, er enghraifft.

A dyna'n union y bydd y grŵp rhanddeiliaid strategol ar gyfer plant a phobl ifanc yn ei wneud i edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ac ystyrlon y gallwn ymgysylltu â'r grŵp hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod plant sydd mewn darpariaeth addysg y tu allan i'r ysgol hefyd yn cael cyfle i gyfrannu. Felly, er enghraifft, gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaeth ieuenctid, byddwn hefyd yn archwilio sut y gellir sicrhau cyfraniad gan bobl sy'n ymgysylltu â'r gwasanaethau ieuenctid ac yn eu defnyddio er nad ydynt mewn addysg ffurfiol mewn ysgolion o bosibl. Rydym am glywed gan bob plentyn—cynifer o blant a phobl ifanc ag y gallwn—mewn amrywiaeth o leoliadau fel y gellir clywed eu lleisiau.

14:00

Weinidog, mae'n eironig ein bod yn treulio llawer o amser yn y Siambr hon yn sôn am wrando mwy ar bobl ifanc, ac yn wir, fel rydych newydd ei grybwyll yn eich ateb blaenorol, sefydlu Senedd Ieuenctid, rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei groesawu ac yn awyddus i'w weld yn cael ei ddatblygu i'r eithaf. Fe sonioch eich bod yn credu y byddai'r Senedd Ieuenctid yn ffordd o sicrhau bod syniadau disgyblion a phobl ifanc ynglŷn â'r cwricwlwm a materion ehangach yn chwarae mwy o ran. Tybed a allwch ymhelaethu ychydig mwy ynglŷn â sut y byddech yn rhagweld y gallai hynny ddigwydd yn ymarferol mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm.

Wel, credaf fod y Senedd Ieuenctid yn gyfrwng newydd cyffrous y gallwn ei fwydo i mewn i'n gwaith. Deallaf y bydd cyfarfod rhagarweiniol y Senedd Ieuenctid lawn yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Chwefror, lle bydd cyfnod penodol o amser, rwy'n credu, wedi'i neilltuo i bob un o'r 60 Aelod drafod materion sy'n bwysig iddynt. Rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonynt yn dewis siarad am y cwricwlwm. Nid fy lle i yw dweud wrth yr Aelodau beth y dylent dreulio'u hamser yn ei wneud; eu cyfrifoldeb hwy yw penderfynu beth y maent yn treulio'u hamser yn ei wneud. Ond mae'r cynnig yn agored a buaswn yn awyddus iawn i ymgysylltu â hwy ar fater y cwricwlwm. Efallai na fydd y Senedd Ieuenctid gyfan yn gwneud hynny, ond efallai y bydd grŵp penodol o bobl ifanc sydd â diddordeb yn y Senedd Ieuenctid yn awyddus i ymgysylltu ar y mater hwn ac mae fy nrws ar agor i ymgysylltu â hwy os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Addysg Oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53338

Diolch, Dawn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mynediad gan oedolion ledled Cymru at y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn ein cymdeithas a'n heconomi. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, rydym yn ariannu'r awdurdod lleol, y coleg ac Addysg Oedolion Cymru yn uniongyrchol i ddarparu ystod o ddarpariaeth ar gyfer oedolion yn y rhanbarth.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf bob amser yn edmygu'r cyfraniad y mae addysg oedolion yn ei wneud i ansawdd bywyd yn fy etholaeth a gwn eich bod wedi ymweld â dosbarth yng Nghanolfan Soar ddydd Llun, felly byddwch wedi gweld hynny â'ch llygaid eich hun. Nid oes unrhyw amheuaeth fod addysg oedolion yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu, ond mae hefyd yn wych am gyflawni blaenoriaethau eraill y Llywodraeth—cyfeillgarwch i oresgyn problemau unigrwydd ac arwahanrwydd, manteision iechyd meddwl, yn ogystal â chadw pobl yn egnïol ac yn iach. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau gweithredu eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith ar draws y portffolios i gryfhau gwasanaethau addysg oedolion yn ein cymunedau, nid fel mecanwaith i ddarparu addysg yn unig, ond hefyd i gyflawni ein hamcanion lles?

Wel, Dawn, rydych yn llygad eich lle. Fore Llun, cefais gyfle i ymweld â Chanolfan Soar i gyfarfod â'r grŵp hanes a oedd yn astudio effaith mewnfudo ar hanes Merthyr Tudful. Dywedodd cyfranogwyr y grŵp wrthyf ei fod nid yn unig yn gymorth iddynt fynd i'r afael â materion unigrwydd, roedd hefyd yn rhoi reswm iddynt adael y tŷ, roedd yn gymorth iddynt barhau i ymgysylltu'n ddeallusol ag amrywiaeth eang o bynciau, ac roeddent yn teimlo bod hynny'n gwella'u hiechyd corfforol yn ogystal â'u hiechyd meddwl, ac mewn gwirionedd, roedd wedi eu galluogi i wneud cysylltiadau ag unigolion eraill i fynd ar drywydd gweithgareddau eraill, nid dysgu yn unig—felly, cylchoedd newydd o gyfeillion sydd wedi arwain at fwrw iddi ar weithgareddau eraill, a oedd yn hynod o werthfawr. Wrth gwrs, roedd hyn oll yn digwydd mewn ffordd a oedd yn hygyrch ac yn fforddiadwy, felly nid oedd unrhyw un yn cael eu hatal rhag cymryd rhan oherwydd costau cysylltiedig, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig.

Fe fyddwch yn gwybod bod y Gweinidog blaenorol wedi comisiynu adolygiad o ddyfodol Addysg Oedolion Cymru. Rwy'n ystyried fy opsiynau o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, ond a gaf fi roi sicrwydd i chi, fel y dywedais mewn ateb i Oscar yn gynharach, fy mod yn credu bod gan bawb hawl i addysg gydol oes ac rwy'n edrych ar ffyrdd arloesol a newydd o wireddu'r hawl honno?

Un mater a ddaeth i fy sylw yw bod y cyrsiau a gynigir gan goleg Merthyr Tudful ac sydd ar gael i oedolion sy'n ddysgwyr yn galw at ei gilydd am bresenoldeb amser llawn a phresenoldeb yn ystod y dydd yn ogystal â gyda'r nos. O ystyried yr ymrwymiadau y bydd gan lawer o oedolion o ran gofalu a chyflogaeth, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai'n wych pe bai gan goleg Merthyr Tudful, a cholegau eraill yn wir, fwy o allu i gynnig cyrsiau rhan-amser y gallai oedolion eu mynychu gyda'r nos i gael y cymwysterau hyn?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg iawn. Mae angen inni gael amrywiaeth o ffyrdd ac amrywiaeth o leoliadau i unigolion allu cymryd rhan, a byddaf yn cynnal trafodaethau gyda chymheiriaid ym maes addysg bellach ynglŷn â beth arall y gallant ei wneud i gefnogi darpariaeth ran-amser, gan sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb sy'n dymuno cymryd rhan, ac edrychaf ymlaen, fel y dywedais, at ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer dysgu rhan-amser, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl ag sy'n awyddus i wneud hynny yn cael cyfle i wneud hynny. Credaf fod hynny'n dda i'r unigolyn, yn dda i gymdeithas, ac yn y pen draw, bydd hynny'n dda i'n heconomi.

14:05
Gwella Canlyniadau Addysgol mewn Cymunedau o dan Anfantais

6. Sut y bydd y broses o ddiwygio'r cwricwlwm ysgol yn gwella canlyniadau addysgol mewn cymunedau o dan anfantais? OAQ53342

Diolch, Dawn. Mae'r cwricwlwm yn cael ei gynllunio ar gyfer pob dysgwr. Yn sail i'r gwaith datblygu, ceir cred na ddylai cefndir rhywun neu ble maent yn byw effeithio ar eu gallu i elwa o addysg. Mae'r flaenoriaeth hon wedi bod yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd.

Diolch, Weinidog, a byddwch yn gwybod, i lawer o blant yng Nghymru, fod y cymorth a gynigir gan eu hysgolion yn allweddol er mwyn trawsnewid eu cyfleoedd bywyd a rhoi siâp i'w bywydau yn gyffredinol a datblygu eu hunanhyder. A fyddech yn cytuno, felly, wrth inni ddatblygu'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, ac wrth inni feddwl am gyllido ein gwasanaethau ysgol yn y dyfodol, fod angen sicrhau bod mynd i'r afael ag anfantais yn parhau i fod yn flaenoriaeth greiddiol i bolisïau addysg y Llywodraeth hon? Ac a allwch roi rhai enghreifftiau ymarferol i mi o sut y gellir gwneud hynny?

Wel, Dawn, rydych yn llygad eich lle y bydd angen i'r cwricwlwm gael ei gefnogi gan gynigion cymorth ehangach yr ysgol; ni all y cwricwlwm fynd i'r afael â'r materion hyn ar ei ben ei hun. Mae materion megis anghydraddoldeb ac anfantais yn mynd y tu hwnt i gwmpas y cwricwlwm, ac mae'n rhaid i ysgolion unigol, awdurdodau lleol unigol, ac yn wir, Llywodraeth Cymru, eu hystyried yn ehangach. Mae torri'r cylch hwnnw o dlodi ac anfantais yn ymrwymiad hirdymor, ac rwyf wedi datgan yn glir fy ymrwymiad personol i'r grant datblygu disgyblion ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, a cheisio cynyddu cyfleoedd eraill, megis Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, sy'n ceisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol a sut y gall effeithio ar rieni.

O ran y grant datblygu disgyblion, rydym yn buddsoddi swm digynsail—dros £190 miliwn yn 2018-19 a 2019-20—i gefnogi addysg plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb rydych newydd ei roi, ond a wnewch chi gydnabod rôl ardderchog cymunedau ffydd ledled Cymru, sy'n aml yn gweithio'n agos iawn gydag ysgolion i drechu tlodi ymhlith y teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu? Cafwyd digwyddiad arbennig ddoe a noddwyd gan Huw Irranca-Davies gyda Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, ac roedd yn syndod ac yn rhyfeddod gweld y cyfoeth o weithgareddau y mae'r Eglwys Gatholig ei hun yn eu gwneud gyda'r ysgolion y mae'n eu gwasanaethu. Felly, a wnewch chi eu cymeradwyo, a pha waith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu'n ehangach â sefydliadau ffydd i helpu i drechu'r tlodi y mae rhai o'n plant yn byw ynddo?

Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn flin iawn nad oedd modd i mi fynychu'r digwyddiad ddoe? Ond rwy'n falch iawn fod Steve Davies, cyfarwyddwr addysg Llywodraeth Cymru, wedi gallu mynychu ar fy rhan, gan ein bod yn werthfawrogol iawn o waith ein holl sefydliadau gwirfoddol, boed yn seiliedig ar ffydd neu fel arall, sydd wedi ymrwymo i helpu ein plant. Pan soniaf am genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwy'n golygu hynny o ddifrif, gan nad oes grŵp unigol neu wirfoddol na allant ychwanegu at y genhadaeth genedlaethol a'n helpu i sicrhau ein bod yn codi safonau yn ein hysgolion ac yn cau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt, gan gynnwys yr eglwysi Catholig, am y gwaith a wnânt. Mae gennyf berthynas gadarnhaol iawn â chyrff ein hysgolion ffydd, a fydd yn parhau i'n helpu i ddatblygu ein cwricwlwm, ac wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yng Nghymru drwy ddarparu addysg, yn ogystal â gwasanaethau cymorth.

Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, ac maent wedi gofyn am ran yn y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant. Weinidog, a ydych yn cynnwys diwydiant wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd?

14:10

Caroline, dyna'n union pam y mae'n rhaid inni symud oddi wrth y cysyniad o restr hir o'r hyn y mae'n rhaid i bobl ei wneud, oherwydd, yn amlwg, yn y gymuned honno, bydd sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd gan gyflogwyr lleol yn wahanol iawn i'r math o gwricwlwm ar gyfer pobl, efallai, yng nghanol Sir Faesyfed, fy etholaeth i, na fyddant o reidrwydd yn awyddus i weithio yn y gwaith dur penodol hwnnw. Felly, mae angen inni allu caniatáu i'n hysgolion a'n hathrawon sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n bodloni uchelgais gyrfa a'r dewisiadau cyflogadwyedd mewn ardaloedd unigol.

Rydym yn ymgysylltu â nifer o sefydliadau mewn perthynas â diwydiant i'w galluogi i helpu i lywio datblygiad ein cwricwlwm. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i rai o'n cwmnïau angori mawr sy'n gweithio mor agos gydag ysgolion yn eu hardaloedd unigol, ond byddaf yn sicrhau ac yn gofyn i swyddogion unwaith eto beth arall y gallwn ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i ddeall ganddynt beth y gallant ei wneud i'n helpu i gefnogi addysg yn eu hardaloedd.

Blaenoriaethau Cyllido yn y Portffolio Addysg

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido yn y portffolio addysg? OAQ53350

Diolch, Nick. Rwy'n rhoi nifer o flaenoriaethau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb' ar waith, yn bennaf o dan thema allweddol 'Cymru sy'n Uchelgeisiol ac sy'n Dysgu'. Mae ein cyllideb ar gyfer 2019-20 yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwyddiant a lles pob dysgwr, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol.

Diolch, Weinidog. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar gam nesaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Mae ysgol newydd Ysgol Gyfun Trefynwy yn fy etholaeth wedi'i chwblhau fwy neu lai, ac mae'n cael ei defnyddio ac yn edrych yn wych. Rydych wedi ymweld â'r lle eich hun mae'n siŵr. Fel rhan o'r gwaith o adeiladu'r ysgol honno, fe wnaeth yr adeiladwyr gynnwys pobl ifanc a oedd â diddordeb mewn peirianneg ac adeiladu yn rhan o'r broses, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi deillio o brosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fy ardal na chafodd ei ragweld yn wreiddiol.

A allwch roi gwybod inni pryd fydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer ysgolion eraill yn fy ardal, megis Ysgol Brenin Harri'r VIII, sydd mewn cyflwr strwythurol eithaf gwael? Ac a ydych yn rhagweld sgil-fanteision tebyg o ran galluogi pobl ifanc i ddysgu yn y gwaith, fel petai, a mynd ar drywydd gyrfa ym maes adeiladu neu beirianneg sifil, rhywbeth na fyddent wedi'i wneud fel arall o bosibl?

Diolch, Nick. Rwy'n falch o glywed am gynnydd yr ysgol y cyfeiriwch ati. Nid yw'n sgil-fantais annisgwyl—mae'n gynllun dyfeisgar. Yn wir, wrth ddyrannu contractau i gwmnïau i adeiladu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ceir disgwyliad, yn wir, gofyniad, eu bod yn ymgysylltu â phlant yr ysgol honno wrth adeiladu'r ysgol, ac y byddant hefyd yn ceisio ehangu cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc hŷn wrth ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Felly, nid cyd-ddigwyddiad hapus mohono—mae wedi'i gynllunio.

Rydym bellach yn dod tuag at ddiwedd cam cyntaf band A rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rydym eisoes yn dechrau asesu cynigion gan awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â'u gofynion ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud hyn hyd yn oed yn fwy fforddiadwy i awdurdodau lleol drwy godi'r gyfradd ymyrraeth. Hynny yw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo mwy o gyfalaf i raglen band B, gan alluogi awdurdodau lleol i arbed ar gostau refeniw sy'n gysylltiedig â benthyca ac i sicrhau y gall awdurdodau lleol fod mor uchelgeisiol â phosibl gyda'u cynlluniau. Hwy sy'n cynnig yr ysgolion, ac rwy'n siŵr y byddwch yn trafod â'ch cydweithwyr yn Sir Fynwy i weld a fydd Ysgol Brenin Harri'r VIII yn un o'r ysgolion a gaiff eu cynnig, ac edrychaf ymlaen at gael argymhellion gan y bwrdd buddsoddi cyfalaf annibynnol o ran beth y gallwn ei wneud yn Sir Fynwy.

Wrth gwrs, nid dyna'r unig raglen y mae Cyngor Sir Fynwy yn elwa ohoni. Mae'r rhaglen cyfrwng Cymraeg hefyd yn rhywbeth y mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais llwyddiannus amdani, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn talu 100 y cant o gost yr adeiladau newydd hynny.

Weinidog, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan fy awdurdod lleol, undebau llafur, cymunedau lleol ynghylch arian y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig gan Lywodraeth Cymru. Deallaf eich bod wedi cadw'r ffigur yr un fath eleni â'r llynedd a'ch bod wedi'i roi i bedair o'r dinasoedd mawr yng Nghymru er mwyn edrych ar sut y'i dosberthir. Ond mae'r ddemograffeg yn newid yn y trefi a'r ardaloedd a'r awdurdodau lleol, ac felly mae anghenion yn newid. A'r hyn a welwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn arbennig, yw dirywiad yn y gwasanaeth o ganlyniad i golli cyllid. A wnewch chi ailedrych ar y blaenoriaethau ar gyfer y grant hwn er mwyn sicrhau bod y cymunedau sy'n ei haeddu ac sy'n elwa'n fawr ohono yn gallu ei gael?

14:15

Diolch, David. Rydym yn gallu cynnal lefelau buddsoddiad y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y flwyddyn ariannol newydd, fel yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Byddwn yn ceisio gwneud gwaith ar sut i sicrhau bod yr arian hwn yn cyrraedd y cymunedau sydd ei angen fwyaf ac i edrych ar y cyfleoedd i greu sail fwy cynaliadwy ar gyfer darparu'r cyllid hwnnw yn y dyfodol.

Y Dimensiwn Cymreig o fewn y Cwricwlwm Newydd

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dimensiwn Cymreig o fewn y cwricwlwm newydd? OAQ53364

Diolch, Llyr. Mae datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant a hanes Cymru a'i lle yn y byd yn elfen hanfodol o daith ddysgu person ifanc ym mhob maes dysgu a phrofiad drwy gydol eu haddysg. A gallaf roi sicrwydd ichi, nid ychwanegiad symbolaidd at y cwricwlwm yw hwn; mae'n elfen hanfodol.

Diolch ichi am eich ateb. Rŷch chi, mewn ymatebion i Aelodau eraill y prynhawn yma, wedi’i gwneud hi’n glir eich bod chi’n sicr ddim eisiau darparu rhestr faith o bynciau a meysydd y dylid bod yn eu dysgu nhw. Dwi'n deall y sentiment ac yn cytuno i raddau helaeth â’r sentiment yna, ond yr hyn dwi’n stryglo rhywfaint gydag e wedyn yw sut, felly, ŷch chi’n mynd i daro’r cydbwysedd yna drwy sicrhau bod gan athrawon yr hyblygrwydd i ddysgu’r hyn y maen nhw’n teimlo sy’n addas yng nghyd-destun y meysydd profiad a dysgu tra ar yr un pryd, wrth gwrs, yn sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn dysgu'r agweddau hynny y mae angen iddyn nhw wybod amdanyn nhw, boed yng nghyd-destun hanes Cymru neu lenyddiaeth Gymreig, neu unrhyw agwedd ar y dimensiwn Cymreig. Mi sonioch chi am ryw sgaffald benodol yn gynharach. Ydy hynny’n awgrymu efallai y bydd yna restr fer ac nid rhestr faith? A allwch chi ymhelaethu?

Diolch yn fawr iawn, Llyr. A gaf i ddarparu rhywfaint o sicrwydd ichi fod gweithgor Maes Dysgu a Phrofiad y dyniaethau yn arbennig wedi rhoi ystyriaeth lawn i adroddiad y Cwricwlwm Cymreig, yn ogystal â nifer o arbenigwyr, gan gynnwys Elin Jones, sydd wedi rhoi llawer o gymorth i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn er mwyn sicrhau bod Cymru a hanes a'r dimensiwn Cymreig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Yr hyn sy'n bwysig pan fyddwn yn cyhoeddi'r meysydd dysgu a phrofiad a'r canllawiau statudol yw y bydd hynny'n darparu'r sgaffaldiau ar gyfer athrawon ysgol unigol, a bydd yn bwysig iawn darparu'r canllawiau ar y cam hwnnw ynghylch yr angen i sicrhau dimensiwn Cymreig ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, gyda rhai enghreifftiau ymarferol, o bosibl, o sut y gall hynny ddigwydd.

Wrth gwrs, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig gyda'r cwricwlwm hefyd yw bod hyn yn ymwneud â dysgu a phrofiadau, ac felly, byddem yn disgwyl i lawer o gyrff Cymru, megis Cadw a'r amgueddfa genedlaethol, barhau i helpu i ddarparu adnoddau i athrawon a chyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru, nid i eistedd yn eu hystafell ddosbarth a phrofi'r dimensiwn Cymreig, ond i fod allan yn ei brofi mewn ffordd real iawn. Ond unwaith eto, ni all hynny ymwneud â hanes yn unig; mae'n rhaid i hynny ymwneud ag iaith, cyfathrebu, diwylliant, cerddoriaeth, gwyddoniaeth. Ni ellir ei neilltuo ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y dyniaethau, neu fel arall, byddwn wedi colli'r cyfle gwirioneddol bwysig hwn.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn y sesiwn gwestiynau yn dilyn eich datganiad ar y Papur Gwyn ar addysg yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch, ac rwy'n dyfynnu:

y 'tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau'.

A bydd eich cyhoeddiad ar un cwricwlwm iaith Gymraeg, gobeithio, yn arwain gydag amser at well cyrhaeddiad iaith Gymraeg yn seiliedig ar arholiadau hefyd, ond at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg ym mhob lleoliad fel modd o gyfathrebu fel bod y moddau hyn na ellir eu harholi yr un mor bwysig os nad yw'r Gymraeg yn sownd y tu ôl i ddesg ysgol. Felly, sut rydych yn bwriadu cyfleu hyn i arweinwyr ysgolion sydd eisoes yn ceisio ymdopi ag adnoddau cyfyngedig iawn, ac a fydd, hoffi hynny neu beidio, yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau arholiadau da gan eu plant?

Wel, wrth gwrs, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd gennym gontinwwm iaith, a byddwn yn disgwyl i blant symud ar hyd-ddo. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd y ffocws hwnnw ar ddefnyddio'r iaith fel modd o gyfathrebu, nid rhywbeth y byddwch yn ei ddysgu er mwyn gallu ysgrifennu'n unig. A'r hyn rydym am ei wneud yw gwella gallu ieithyddol plant yn y ddwy iaith i sicrhau, pan fyddant yn gadael yr ysgol, fod cymaint â phosibl o'n pobl ifanc yn gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio a mwynhau'r iaith yn y byd gwaith ac yn y gymdeithas.

Mae'n ymwneud hefyd â deall pwysigrwydd y sgiliau ieithyddol hynny mewn rhai cymunedau, a chydnabod bod y rhain yn sgiliau gwerthfawr i'w cael yn y byd gwaith. Ac felly, mae gallu sicrhau gofal plant yn ddwyieithog, gallu bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol dwyieithog, gallu cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog, mewn gwirionedd, yn wirioneddol—nid yn unig y ceir mantais ddiwylliannol yn sgil bod yn unigolyn dwyieithog—ond mewn gwirionedd, ceir manteision economaidd gwirioneddol i fod yn unigolyn dwyieithog. Credaf fod hynny'n un o'r ffyrdd y mae angen inni ddadlau'r achos a'i gefnogi gydag addysg Gymraeg o ansawdd da. Ac mae hynny'n nodwedd o'n rhaglen ddiwygio i sicrhau bod profiad pobl ifanc, sy'n cael eu haddysg drwy'r Saesneg yn eu hysgolion—fod eu profiad o ddysgu'r iaith yn un cadarnhaol, ac wedi'i ddarparu gan staff brwdfrydig, medrus a hyderus.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r cwestiynau nesaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.

Trafodaethau â Theuluoedd Cleifion Ward Tawel Fan

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda theuluoedd cleifion ward Tawel Fan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ53343

Rwyf wedi cyfarfod â grŵp teuluoedd Tawel Fan yng ngogledd Cymru ddwy waith, unwaith yn fy rôl flaenorol fel dirprwy Weinidog iechyd ac yn fwy diweddar ym mis Hydref.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod adran reoli bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod yn ddiweddar wrth deuluoedd Tawel Fan mai uned asesu dementia oedd yr uned mewn gwirionedd, ac felly, ni ddylai neb fod wedi bod yn byw yno ar sail hirdymor, er bod rhai cleifion wedi bod yno am fwy na chwe mis. A all y Gweinidog esbonio: a ydym yn deall pam y caniatawyd i hyn ddigwydd? Ac a yw'n hyderus nad oes unrhyw gleifion eraill yn Betsi Cadwaladr mewn unrhyw leoliad arall yn byw ar sail hirdymor mewn unedau a gynlluniwyd ar gyfer arosiadau asesu tymor byr?

Mae hwn yn fater a godwyd yn ystod y cyfarfod â'r teuluoedd ym mis Hydref. Cafwyd ystod o ohebiaeth mewn perthynas â diben a phwynt yr uned. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at yr hyn y disgwyliaf y bydd yn achos amlinellol dros ddiwygio'r ystâd ar y safle penodol hwnnw, a bydd yn cynnwys newidiadau i safle presennol Tawel Fan hefyd, ynghyd â strategaeth y mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno arni bellach gyda rhanddeiliaid ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol ar draws gogledd Cymru hefyd.

Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol yr holwch amdano ac ysgrifennu atoch—a chopïo Aelodau eraill i mewn—ynghylch y pwynt ehangach ynglŷn a'r unedau presennol a chleifion arhosiad byr a sut y cânt eu defnyddio ar hyn o bryd.

Cawsom sicrwydd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn newid ac yn gwella yn gyflym iawn yng ngogledd Cymru o ganlyniad i sgandal Tawel Fan, ond wrth gwrs, rydym yn agosáu at bedair blynedd ers rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Ac yn sicr, mae mwy na phedair blynedd wedi bod ers i'r bwrdd gael adroddiad cychwynnol Ockenden. Rwy'n falch iawn fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, yn ôl pob golwg, o ran y strategaeth bellach, ac wrth weld peth o'r buddsoddiad cyfalaf a wneir i geisio datrys rhai o'r problemau yn y bwrdd. Ond beth y mae hyn yn ei ddweud am y ffordd y mae mesurau arbennig Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn gwirionedd?

Os cofiwch, dywedwyd wrthym y byddai cynllun 100 diwrnod yn trawsnewid y sefyllfa hon pan benodwyd Simon Dean yn brif weithredwr dros dro y bwrdd. Felly, aeth y 100 diwrnod heibio heb unrhyw gynnydd. Gwyddom fod Donna Ockenden, awdur gwreiddiol yr adroddiad a dynnodd sylw at y pydredd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, wedi mynegi pryderon mor ddiweddar â'r haf diwethaf—a hyd yn oed yn gynharach eleni, yn gyhoeddus, ynghylch y diffyg cynnydd. Ac yn wir, cyfeiriodd at aelodau staff a ddywedodd fod y sefyllfa wedi gwaethygu hyd yn oed. Pryd y gallwn ddisgwyl gwahaniaeth go iawn i gleifion ar lawr gwlad? Oherwydd mae arnaf ofn fod y diffyg cynnydd wedi bod yn halen yn y briw i'r teuluoedd a grybwyllwyd gennym heddiw.

Wel, mae honno'n farn benodol, ac nid wyf yn cytuno â phob honiad ffeithiol a wnaeth yr Aelod. Bwriad y cynllun 100 diwrnod ar ddechrau'r mesurau arbennig oedd ailosod y llwybr gyda'r bwrdd iechyd. Nid oedd unrhyw awgrym y byddai'r holl faterion yn cael eu datrys o fewn 100 diwrnod; ni honnwyd hynny erioed gan unrhyw un o fewn y bwrdd iechyd neu'r tu allan iddo. Nid yw awgrymu hynny yn awr yn gywir o gwbl.

Yn fwy felly, o ran yr adroddiadau a ddarparwyd, rydym wedi mynd drwy nid yn unig yr adroddiad gwreiddiol, ond mewn gwirionedd, adroddiad dros amser maith iawn a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae hwnnw wedi arwain at amrywiaeth o feysydd gweithredu. Ac atgoffaf yr Aelod a phawb arall yma nad oedd hynny'n golygu bod y bwrdd iechyd yn holliach—ddim o bell ffordd. Roedd yn nodi nifer o heriau, rhai hanesyddol a rhai sy'n dal i fodoli, i'r bwrdd iechyd eu datrys, ac rwy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Mewn gwirionedd, mae aelodau o deuluoedd Tawel Fan yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid i ddarparu sicrwydd ynghylch y cynnydd a wneir a'r cynnydd y mae angen ei wneud o hyd, a chredaf y dylai'r holl Aelodau gael cysur o'r negeseuon diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ein harolygiaeth ni. Maent yn dweud bod gwelliannau gwirioneddol wedi bod o ran ansawdd; nid ydynt yn pryderu ynghylch ansawdd fel yr oeddent ddwy neu dair blynedd yn ôl. Mae llawer o'r diolch am hynny i'r cyfarwyddwr iechyd meddwl, ac yn wir, i'r cyfarwyddwr nyrsio am ei harweiniad mewn perthynas â hyn, ond hefyd i'r staff sy'n ailymgysylltu'n briodol â phobl y maent yn gofalu amdanynt a chymunedau ar draws gogledd Cymru.

Nid wyf yn disgwyl unrhyw gam sylweddol ymlaen mewn perthynas â'r mesurau arbennig oni bai a hyd nes y bydd y bwrdd iechyd yn cyflawni'r cerrig milltir a osodais yn fframwaith gwella'r mesurau arbennig. Byddaf yn cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaeth i weld a ydynt wedi gwneud hynny ai peidio. Ni wneir unrhyw benderfyniad sy'n gyfleus i unrhyw wleidydd yn y Siambr hon, oni bai ei fod yn benderfyniad sy'n iawn ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru ac wedi'i gefnogi gan dystiolaeth.

14:25
Parcio am Ddim ar Safleoedd Ysbytai

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barcio am ddim ar safleoedd ysbytai yng Nghymru? OAQ53366

Mae parcio yn rhad ac am ddim yn holl ysbytai'r GIG yng Nghymru. Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG sy'n gyfrifol am weithrediadau rheoli lleol a'r trefniadau ar gyfer meysydd parcio ar eu safleoedd.

Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan etholwr a ysgrifennodd ataf mewn perthynas â phrofiad a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd wedi parcio mewn parth a nodwyd yn amlwg ar wefan bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel un ar gyfer cleifion ac ymwelwyr. Roedd yn synnu, felly, pan gafodd ddirwy o £40 gan gwmni gorfodi parcio o'r enw ParkingEye, a ddywedai mai parth ar gyfer parcio staff yn unig oedd y parth hwnnw. Talodd y ddirwy am ei fod yn ofni'r costau cynyddol posibl yn sgil camau cyfreithiol. Ymddengys bod dryswch rhwng yr hyn y mae'r bwrdd iechyd a ParkingEye yn ei ystyried yn barthau parcio penodol a'r rhai a ddynodir ar gyfer mathau penodol o ddefnydd.

Yn y cyfamser, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fyddant yn ymyrryd mewn unrhyw apeliadau i ddirwyon parcio a orfodwyd gan gwmnïau gorfodi parcio. Credaf fod parcio am ddim mewn ysbytai yn un o lwyddiannau allweddol Llywodraeth Cymru, ac yn ei ateb, dywedodd y Gweinidog ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd ym mhob man. A all roi sicrwydd, felly, fod byrddau iechyd yn gweithredu'r polisi hwn yn effeithiol, gan gynnwys bwrdd Caerdydd a'r Fro, ac y ceir deialog clir, lle bo angen, rhwng y byrddau iechyd a chwmnïau parcio preifat i wneud hyn yn iawn?

Dyna'n union rydym yn ei ddisgwyl. Wrth gwrs, mae her i'w chael o ran sicrhau nad yw parcio am ddim ar safleoedd ysbytai yn arwain at bobl yn parcio am ddim ar safleoedd ysbytai heb eu bod yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn yr ysbyty hwnnw. Felly, yr her yw sut y gallwn sicrhau bod y bobl sydd yno'n gallu parcio am ddim fel y dylent allu ei ddisgwyl.

Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â dryswch rhwng parth yr ymddengys ei fod wedi'i nodi fel parth parcio ar gyfer cleifion, a'u bod wedi parcio yno a chael dirwy. Os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater i sicrhau bod y polisi'n cael ei roi ar waith yn union fel y bwriadwyd. Ond credaf mai'r gwir amdani, pan gyflwynwyd parcio am ddim ar draws yr ystâd yng Nghaerdydd a'r Fro—un o'r olaf i newid oherwydd problemau hirdymor roeddent wedi'u cael o'r blaen—cafwyd rhai heriau, a bydd Aelodau o Gaerdydd a'r fro wedi gweld hynny yn eu bagiau post. Cawsant eu lleihau'n sylweddol, ond mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw achosion pellach er mwyn sicrhau y rhoddir y polisi ar waith yn gywir. Felly, os gwelwch yn dda, ysgrifennwch ataf, a byddaf yn sicrhau y caiff y mater ei archwilio.

Weinidog, croesawaf y cyhoeddiad fod parcio ym mhob un o ysbytai'r GIG yng Nghymru wedi bod yn rhad ac am ddim ers diwedd mis Awst y llynedd. Ers i'r Gweinidog iechyd ar y pryd, Edwina Hart, gyhoeddi parcio am ddim mewn ysbytai am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2008, yn gyntaf oll, pam ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i roi hyn ar waith? Yr ail beth yw, mae'n dipyn o anhrefn mewn rhai ardaloedd, mae angen ei reoli'n briodol—y parcio—gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan staff, ac i rai ohonynt, mae'n bwysig iawn dod i mewn ar yr adeg iawn ac nid oes lle, maent yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd, yna cleifion ar frys, ac yna ymwelwyr. Mewn rhai ardaloedd, trafodwyd defnyddio technoleg ANPR gyda'r bwrdd, sef systemau adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig. Felly, a ydych yn trafod gyda chwmnïau o'r fath i sicrhau bod parcio yn ein hysbytai yn rhad ac am ddim ac yn deg i gleifion, staff ac ymwelwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

14:30

Rwyf am ymateb i'ch pwynt cyntaf ynglŷn â'r amser y mae wedi'i gymryd. Rwy'n falch iawn fod ymrwymiad Llafur Cymru wedi'i gyflawni. Nid oedd modd inni ei gyflawni mor gyflym ag y gobeithiem oherwydd y contractau hirdymor a oedd ar waith—pe baech yn gwrando ar fy ateb cyntaf byddech wedi fy nghlywed yn dweud hynny—ac roedd pwynt ymarferol ynghylch cost prynu'r contractau hynny i bwrs y wlad. Bellach, mae gennym ystâd lawn ar gyfer parcio am ddim i gleifion, ac edrychwn ymlaen at weld Lloegr yn dal i fyny â ni. Er gwaethaf addewidion hirdymor gan y Llywodraeth bresennol, nid yw eu cyflawniad ar yr un lefel â'r hyn y gallwn ei ddathlu yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i gydnabod hynny.

O ran y pwynt mwy cyffredinol ynglŷn â rheoli traffig, mae hon yn her wirioneddol, nid yn unig o ran sicrhau y gall cleifion barcio, ond y gall staff barcio hefyd. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â defnydd effeithlon o'n safleoedd mawr a sylweddol—mae llawer o symudiadau traffig i mewn ac allan yn ystod y dydd—yn ogystal ag annog pobl i ddewis ffyrdd gwahanol o gyrraedd safleoedd ysbytai, boed hynny yng Nghaerdydd, lle y ceir cyfleuster parcio a theithio, neu yn wir, yr un a ddefnyddiais gyda'r Dirprwy Lywydd yng Nglan Clwyd. Felly, mae'n ymwneud ag amrywiaeth o fesurau i sicrhau bod y bobl sydd angen cyrraedd y safle yn gallu gwneud hynny a gwneud defnydd priodol o hynny. A dyna rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ei gyflawni wrth reoli ystâd pob ysbyty yn briodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones. 

Diolch, Lywydd. Hoffwn droi at berfformiad ein system gofal brys, a thynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad dwy o'r tair uned damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yn ardal Betsi Cadwaladr wedi bod mor wael fel eu bod wedi llusgo ffigurau cyfartalog Cymru i lawr yn sylweddol. Cydnabu'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod y lefel hon o berfformiad yn annerbyniol. Nawr, gan fod y Gweinidog, drwy'r mesurau arbennig, yn uniongyrchol gyfrifol am y perfformiad hwn, a all esbonio'r ffactorau sydd wedi arwain at hyn?

Nid wyf am ailadrodd yr her ynglŷn ag a wyf yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn uniongyrchol drwy fesurau arbennig ai peidio; rydym yn parhau i ddychwelyd at hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'r perfformiad mewn gofal brys yng ngogledd Cymru yn dderbyniol, a dyna'r neges uniongyrchol a roddwyd i'r bwrdd iechyd. O ran y rhesymau am hynny, a'r ffactorau sydd ynghlwm wrth hynny, mae rhai o'r ffactorau'n ymwneud â'r ffaith, er ein bod wedi cael gwell tywydd y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf, mewn gwirionedd, mae'r tymor ffliw ychydig yn waeth y gaeaf hwn, ac yn anarferol, ym mis Ionawr, cafwyd mwy o ddigwyddiadau mawr na mân ddigwyddiadau o gymharu â'r llynedd. Ond yn y bôn, mae'r her, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut nad yw'r system yng ngogledd Cymru, yn enwedig mewn dau o'n safleoedd mawr, yn gallu ymdopi yn yr un modd â gweddill y wlad, ac mae hynny'n gymhleth. Mae'n ymwneud â'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth glinigol, ac mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn gyffredinol. A cheir her o ran deall, mewn rhannau eraill o Gymru—mae pwysau sylweddol ar ein system yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn deall hynny—fod safonau perfformiad yn well. Felly, mae'n ymwneud â mwy na dweud, 'Mae hyn yn annerbyniol, datryswch y broblem'; mae'n ymwneud â gweithio gyda'n staff, gan mai'r peth gwaethaf y credaf y gallwn ei wneud yw dweud, 'Mae'n annerbyniol ac rwyf am i bobl fynd.' Mewn gwirionedd, mae arnom angen y staff hynny yn ein system, eu tosturi a'u hymrwymiad i ddarparu. Mae angen inni gadw staff gyda ni wrth inni ddeall, ac wrth iddynt hwy ddeall, ynghyd â'u cydweithwyr a'u cymheiriaid clinigol, sut y gallant wella'r gwasanaeth y maent am ei ddarparu gyda'u cydweithwyr ac ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Dyna pam hefyd fod rôl y swyddog arweiniol gofal heb ei drefnu, sy'n ymgynghorydd adran achosion brys ei hun, yn bwysig iawn mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau'r hygrededd clinigol hwnnw i gyflawni'r gwelliannau y mae pob un ohonom am eu gweld.

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, er fy mod yn dal i fod braidd yn ddryslyd yn ei gylch. Roeddwn yn credu mai holl bwynt y mesurau arbennig oedd sicrhau bod y Llywodraeth yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd. Ond ar wahân i hynny, a boed hynny fel y bo, rwyf hefyd yn synnu braidd wrth glywed y Gweinidog yn dweud bod y ffactorau'n gymhleth, ac yn sgil hynny, nad ydynt yn gwybod beth yn union sy'n digwydd, oherwydd mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Adam Price, yr wythnos diwethaf, honnodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad manwl i gyflwr unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae eich cymheiriaid Llafur yn Llundain yn galw amdano, er bod y system yn Lloegr, yn anffodus, yn perfformio'n well na system Cymru ar gyfartaledd. Un o'r rhesymau a roddodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad, wrth gwrs, oedd:

'Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud.'

Dyna'n union a ddywedodd, a:

'Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man'.

Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon a minnau yn awyddus i eilio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud ynglŷn â'r gwaith rhagorol a wna'r staff rheng flaen, mewn amgylchiadau anodd iawn weithiau. Ond naill ai mae'r Prif Weinidog yn iawn a'n bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac os felly, buaswn yn awgrymu y dylai'r Gweinidog a'i swyddogion fwrw ati i'w wneud, neu nid ydym yn gwybod, ac os felly, mae angen inni ddod i wybod.

Wel, nid yw hynny'n adlewyrchiad hollol gywir o'r hyn a ddywedais na'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog chwaith. Yn sicr, nid wyf erioed wedi dweud, 'Ni wyddom beth sy'n digwydd o fewn y system gofal brys.' Gwyddom fod her i'w chael ynghylch arweinyddiaeth glinigol ac ymgysylltiad ac ymrwymiad. Ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar draws gogledd Cymru, ni allwch wahaniaethu rhwng y niferoedd sy'n mynd i Ysbyty Gwynedd o gymharu â Glan Clwyd neu Wrecsam Maelor er mwyn esbonio'r gwahaniaethau mewn perfformiad. Felly, mae her yn hyn o beth ynghylch sut y cawn bersbectif positif gyda'n staff nad yw'n dweud, 'Nid ydych yn gwneud eich swydd yn iawn'. Dyna'r neges waethaf bosibl. Felly, mae'n ymwneud â'r ymgysylltiad rydym yn ei ddisgwyl. Dyna pam fod yr arweinyddiaeth glinigol, gan swyddog arweiniol cenedlaethol, yn bwysig—rhywun â hygrededd gyda'r gweithlu hwnnw, i ddeall manylion pob safle, yn ogystal â'r pwyntiau ehangach ynglŷn ag arweinyddiaeth glinigol ac ymddygiad o fewn ein system. Ac mae'r holl bethau rydym yn eu gwneud dros y gaeaf hwn, o ran sicrhau nad oes gennym bobl yn mynd i ysbytai'n ddiangen, sicrhau mwy o allu o fewn ein gwasanaeth gofal sylfaenol, maent yn bwysig ym mhob rhan o'n system. Ond rydym yn cydnabod yr heriau a'r problemau penodol yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac mae hynny'n ffocws, wrth gwrs, ar gyfer ein system gyfan.

14:35

Welwch chi, Lywydd, rwy'n cael hyn braidd yn anodd, oherwydd, ar y naill law, dywed y Gweinidog wrthym nad oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng effaith yr hyn sy'n digwydd yn Ysbyty Gwynedd a'r hyn sy'n digwydd yn y ddwy uned damweiniau ac achosion brys arall, ac ar y llaw arall, mae'n dweud wrthyf fod y ffactorau'n wahanol, a bod angen inni eu hystyried. Nawr, yn sicr, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw un ar reng flaen y gwasanaethau hynny'n methu gwneud eu gwaith yn iawn. Efallai y dylem ofyn i ni'n hunain a oes unigolion yn y Siambr hon sydd, yn hyn o beth, yn gwneud eu gwaith yn iawn neu fel arall, ond nid wyf o reidrwydd am fynd i'r lefel honno. Mewn perthynas â damweiniau ac achosion brys, a'r ddau ysbyty penodol hyn, mae'n amlwg nad yw beth bynnag y mae'r Gweinidog yn ei wneud o dan fesurau arbennig, fel y saif pethau, yn gweithio, oherwydd fel arall byddent yn dysgu o'r arferion da y mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw atynt mewn mannau eraill yng Nghymru. O ystyried y pwerau sydd ganddo o dan y mesurau arbennig, a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod bellach yn bryd gwneud rhywbeth mwy radical, fod angen inni edrych ar y system gyfan drwyddi draw mewn perthynas â'r ddau ysbyty, ac edrych ar bopeth sy'n digwydd gyda derbyniadau a derbyniadau diangen, hyd at yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty'n ddiangen? Ni all fod yn wir fod Ysbyty Gwynedd yn gallu ymdopi, ac na all y ddau ysbyty arall ymdopi. Credaf ei bod yn bryd i'r Gweinidog gamu i mewn ac edrych ar hyn mewn ffordd radical a chyson.

Unwaith eto, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o'r ffeithiau rwyf wedi eu nodi. Mae angen i chi ddeall beth sy'n benodol i bob safle penodol fynd i'r afael ag ef, ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth sy'n esbonio'r gwahaniaeth sylweddol mewn perfformiad rhwng y tri safle yng ngogledd Cymru, a phan ewch y tu hwnt i hynny, y gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o Gymru hefyd. Dyna pam fod gennym ffocws gwirioneddol ar arweinyddiaeth glinigol. Am y trydydd tro rwyf am ddweud hyn: mae arweinyddiaeth glinigol yn bwysig, a pherfformiad, a gall hynny, a bydd hynny, yn gwneud gwahaniaeth. Ein gwaith ni yw gallu annog a chefnogi'r bobl hynny i ddatgan eu disgwyliadau o ran y bwrdd yn glir, a'u sefyllfa hwy o ran atebolrwydd a chyflawniad—a byddant yn cael eu dwyn i gyfrif, ac mewn gwirionedd, mae'r cadeirydd wedi perchnogi ac ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros y nod o sicrhau gwelliant yn y maes hwn—i ddeall y cynllun gwella a thrawsnewid 90 diwrnod, i adael inni weld beth sydd wedi newid, a beth sydd angen ei newid ymhellach. Oherwydd nid yw dweud, 'Gwnewch rywbeth radical a gwahanol, Weinidog'—wel, nid yw hwnnw'n ateb. Dyna'r peth hawsaf i'w ddweud, ond nid yw'n ateb i fynd i'r afael â pherfformiad a'r math o wasanaeth y mae ein staff yn awyddus i'w ddarparu, ac y mae ein cyhoedd yn ei ddisgwyl. Rwy'n benderfynol o wneud y peth iawn—mae hynny'n ymwneud â gwrando ar ein staff, edrych ar y dystiolaeth, a sicrhau y gwneir y peth iawn. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy nwyn i gyfrif, pa un a ydym yn gwneud yn dda ai peidio.

Diolch. Credaf fod fy nghwestiynau—diolch. Diolch, Lywydd. A gaf fi eich croesawu i'ch sesiwn gwestiynau gyntaf, rwy'n credu, Weinidog? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol yn y portffolio hwn. O fy amser gyda chi ar bwyllgorau, gwn eich bod yn ddiffuant iawn yn eich gwaith.

Iawn, mae yna o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sy'n fwy na phoblogaeth Caerdydd. A bydd oddeutu tri o bob pump ohonom yn dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. I lawer o bobl ifanc, fodd bynnag, daw'r adeg hon yn rhy gynnar o lawer. Yn wir, fel y gwyddoch, mae gennym fyddin anhunanol o ofalwyr dan 18 mlwydd oed ledled Cymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, a cheisiodd sawl un ohonom fel Ceidwadwyr Cymreig godi ymwybyddiaeth o hyn, a'r rôl hanfodol y mae'r sêr ifanc hyn yn ei chwarae wrth gefnogi aelodau o'u teuluoedd sy'n sâl ac yn anabl. Un pwynt pwysig sy'n peri pryder yw'r ffaith na all rhai gofalwyr ifanc barhau mewn addysg neu brentisiaethau, gan eu bod yn ofni colli eu lwfans gofalwr. A wnewch chi, felly, gymeradwyo, cefnogi a sicrhau ein bod yn rhoi polisi rydym yn awyddus i'w gyflwyno ar waith, sef grant o £60 yr wythnos i oedolion ifanc sy'n ofalwyr tuag at eu dyfodol?

14:40

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei geiriau caredig a chalonogol iawn. Mewn ymateb i'w sylwadau am ofalwyr ifanc, rydym yn gwbl ymrwymedig i gefnogi gofalwyr o bob oedran, gan gynnwys gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Credwn fod addysg yn yr ysgol yn un o'r meysydd allweddol er mwyn nodi a helpu gofalwyr ifanc ac rwy'n ymwybodol fod sefyllfa ariannol gofalwyr ifanc yn aml yn achos pryder, ac mae ei hargymhelliad yn rhywbeth y gallwn ei ystyried.

Diolch, mae hynny'n galonogol iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credaf y byddai ein grant yn gwneud llawer i helpu i sicrhau y gall gofalwyr ifanc barhau mewn addysg. Mae hyn yn allweddol, ond mae mwy y gallwn ei wneud eto. Yn wir, mae'n ffaith frawychus fod YoungMinds yn awgrymu bod 68 y cant o ofalwyr ifanc wedi cael eu bwlio ar ryw adeg oherwydd eu cyfrifoldebau yn y cartref. Felly, maent wedi rhoi arwyddion clir nad yw gweithwyr proffesiynol, ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ysgolion, yn gallu nodi a sylwi ar anghenion hyfforddi, nid yn unig ar gyfer y gofalwyr eu hunain, ond ar gyfer eu cyfoedion. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd y cerdyn adnabod yn cyrraedd yr holl ofalwyr ac y rhoddir digon o hyfforddiant i oedolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel y gallwn nodi pwy yw ein gofalwyr yn llawer cynt yn y system a rhoi'r cymorth sydd ei angen?

Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â gofalwyr ifanc ac mae'n wirioneddol bwysig, yn enwedig mewn ysgolion, fod yna ymwybyddiaeth ehangach o lawer, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio arno.

Mewn gwirionedd, mae swyddogion yma yn y Llywodraeth wrthi'n gweithio ar y cynnig ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac maent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ystyried y cynigion ar gyfer cynllun o'r fath ac yn gweithio hefyd gyda'r adran addysg. Mae nifer o gynlluniau adnabod gofalwyr eisoes ar waith mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, a chredaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw archwilio sut y maent yn gweithio, ond yr hyn yr hoffem ei wneud yw cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc. Ond yn amlwg, gallwch gyflwyno'r cerdyn, ond mae'n rhaid ichi sicrhau bod pobl yn deall beth y mae'r cerdyn yn ei olygu. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fod pobl yn y Llywodraeth yn gweithio ar y mater hwn ar hyn o bryd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y byddai'r gofalwyr ifanc eu hunain yn ei groesawu.

Diolch, unwaith eto. Un o nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 yw gwella lles gofalwyr sydd angen cymorth. Yn dilyn hyn, mae gan ofalwr o unrhyw oedran yr un hawliau i gael eu hasesu ar gyfer cymorth â'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt. Cynhelir yr asesiadau hyn gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw cyfanswm nifer y staff gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers 2014-15, yn enwedig o ystyried y lefelau uchel o salwch a straen sy'n bodoli yn yr adrannau hynny. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu cael eu hasesiad o anghenion yn llawn—a'i fod yn asesiad dilys—ac yna'n cael y cymorth dilynol sydd ei angen arnynt, a'u bod yn ei gael yn ddiymdroi?

Mae'n hollol hanfodol, fel y dywed yr Aelod, fod asesiadau cywir yn cael eu cynnal ar gyfer gofalwyr ifanc, ac mae hynny'n ofynnol o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond gwn nad yw llawer o ofalwyr ifanc wedi cael asesiadau a gwn fod y modd y caiff yr asesiadau eu rhoi ar waith yn amrywio. Felly, mae'r Llywodraeth yn edrych ar hyn—yn edrych ar sut i wella hyn ac yn edrych ar hyn drwy grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ac mewn ffyrdd eraill. Ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gofalwyr ifanc yn cael eu hasesu, oherwydd un o'r pethau sy'n rhaid ichi eu hystyried mewn asesiad yw sut y mae bod yn ofalwr yn effeithio ar fywyd arferol o ddydd i ddydd fel y bydd unigolyn ifanc ei angen, ac mae gwir angen i'r asesiadau ystyried hynny. Felly, mae'r asesiadau yn hollbwysig, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn fwy cyson ac ar gael yn ehangach.

Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar wariant GIG Cymru ar staff asiantaeth, fod y swm o arian sy'n cael ei wario wedi cynyddu 171 y cant dros saith mlynedd, ac yn £135 miliwn yn 2017-18. Mae hon yn ffordd ddrud iawn o recriwtio staff. Yn Betsi Cadwaladr yn 2017, roeddent yn gwario 7 y cant o gyfanswm eu cyllideb staff ar staff asiantaeth, ac yn Hywel Dda roedd yn 10 y cant. Dengys y ffigurau diweddaraf fod Betsi Cadwaladr yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth, a Hywel Dda yn gwario £23 miliwn. Yr ymateb a welais hyd yma gan Lywodraeth Cymru yw y bydd yr adroddiad hwn yn llywio gweithgarwch yn y dyfodol i gryfhau arweinyddiaeth er mwyn llywio'r gwaith o sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol a datblygu un ffynhonnell ar gyfer casglu data. Yn hytrach na iaith rheoli, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno y dylid rhoi camau gweithredu ymarferol ar waith i leihau'r ffigurau hyn fel y gellid gwario'r arian mewn ffyrdd eraill sy'n fwy buddiol i gleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

14:45

Mewn gwirionedd, os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Gwneuthum ddewis nid yn unig i gyflwyno cap ar gyfraddau, ond amrywiaeth o fesurau eraill a gynigiwyd gan y gwasanaeth o ran dewisiadau polisi. Golygodd hynny ein bod wedi gwario o leiaf £30 miliwn yn llai ar staff asiantaeth nag yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond gwyddom fod angen inni wneud mwy. Ac mewn gwirionedd, mae her i bob un ohonom yn hyn: os ydym am weld gostyngiad yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen inni newid y ffordd rydym yn darparu gofal. Golyga hynny y bydd angen i'r ffordd rydym yn darparu gofal ar hyn o bryd newid i'w wneud yn fwy deniadol ar gyfer recriwtio staff parhaol i'r gwasanaeth. Ac wrth gwrs, mae Aelodau ar draws y Siambr o dan bwysau rheolaidd i gefnogi cadw'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, hyd yn oed pan fo'r gwasanaethau hynny'n dibynnu ar lefelau uchel o wariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Felly, mewn gwirionedd, mae newid gwasanaethau yn ymwneud â mwy na lleihau gwariant; mae'n ymwneud â darparu gwell gofal, gydag aelodau staff parhaol sydd ar y tîm gofal ar sail barhaol.

Wrth gwrs, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud yn well o lawer na'r byrddau rwyf newydd eu crybwyll. Yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, oddeutu 1.5 y cant yn unig o'u cyllideb staffio a werir ar staff asiantaeth. Felly, os gallant hwy wneud hynny, pam na all y byrddau iechyd eraill ei wneud? Mae'r arian yn cael ei wario i raddau helaeth ar staff meddygol a deintyddol, a nyrsio a bydwreigiaeth. Unwaith eto, yn Betsi Cadwaladr, mae 65 y cant o'r arian y maent wedi'i wario ar staff asiantaeth wedi mynd ar staff meddygol a deintyddol—dyna £19 miliwn. Ond nid yw Caerdydd a'r Fro, ar y llaw arall, ond wedi gwario £360,000 ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau hyn? Mae'n amlwg nad cyflog yw'r achos, gan fod cyfraddau cyflog yn cael eu pennu ar sail genedlaethol i raddau helaeth. Dyma achos arall lle mae arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl angenrheidiol er mwyn datrys problem sylweddol sy'n ychwanegu at y beichiau eraill ar y gwasanaeth iechyd.

Mewn rhan fawr o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, gwyddom ei bod yn haws denu a recriwtio i rai canolfannau nag eraill mewn gwahanol rannau o'r wlad. Nid oes angen i chi fy nghredu i; siaradwch â phobl sy'n gweithio yn y rhannau eraill hynny o'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â pha mor hawdd neu ba mor anodd yw gwneud hynny. Mae Caerdydd a'r Fro, a rhannau eraill o gornel y de-ddwyrain, wedi cael ffordd fwy sefydlog o ddarparu a thrawsnewid eu gofal. Mae gwaith gwahanol i'w wneud, er enghraifft, yng ngorllewin a gogledd Cymru o ran trawsnewid y ffordd y darperir gofal. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â staff asiantaeth a staff locwm a gwariant uwch. Dyna realiti anochel ein sefyllfa. Felly, os yw'r Aelodau yn dymuno gweld gostyngiad go iawn yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen i bob un ohonom gael trafodaeth aeddfed ynglŷn â ble y darperir y gofal hwnnw, i'w wneud yn lle mwy deniadol i staff weithio. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau naill ai i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, neu eu gweld yn diwygio ac yn newid ar adeg o argyfwng, yn hytrach na chynllunio'n fwriadol i wneud hynny. Dyna oedd un o negeseuon canolog 'Cymru Iachach', ac yn wir, yr adolygiad seneddol yr ymrwymodd pob plaid yn y Siambr hon iddo.

Wrth gwrs, mae perfformiad rhai byrddau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf yn ei gwneud yn anos recriwtio staff o bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd fel gogledd Cymru. Serch hynny, ni ellir dweud mai dyna'r unig reswm dros yr anhawster, gan fod yr un broblem i'w gweld gyda staff locwm meddygon teulu ag sydd i'w gweld ymhlith staff y GIG mewn meysydd eraill o weithgarwch proffesiynol. Er enghraifft, o ran Blaenau Ffestiniog, dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2017 eu bod yn dal i wynebu problemau sylweddol yno mewn perthynas â recriwtio meddygon teulu gan fod yno gryn ddibyniaeth ar feddygon locwm, ac roedd angen gwella. Wel, ar wefan Primary Care Professionals heddiw, ceir hysbyseb ar gyfer 32 o swyddi meddygon teulu ym Mlaenau Ffestiniog, gyda 22 ohonynt ar gyfer staff locwm. Felly, yn yr 16 mis rhwng adroddiad yr arolygiaeth gofal iechyd yn 2017 a heddiw, ychydig iawn o newid a fu. Ar dudalen 39 o'r adroddiad hwnnw, roedd yn dweud y dylai'r cyfarwyddwr ardal cynorthwyol ar gyfer gofal sylfaenol a'r rheolwr datblygu gofal sylfaenol, erbyn 31 Ionawr 2018—flwyddyn yn ôl—gynyddu argaeledd meddygon teulu cyflogedig drwy recriwtio er mwyn lleihau newidiadau mynych yn niferoedd y staff a'r staff locwm sydd ar gael i gwblhau eu tasgau eu hunain. Felly, pryd y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol, nid yn unig o ran staff asiantaeth mewn ysbytai, ond hefyd o ran recriwtio meddygon teulu i wasanaethu ardaloedd sydd wedi dibynnu'n rhy hir o lawer ar staff locwm yn mynd a dod drwy'r amser? Mae'r rhan fwyaf o gleifion eisiau gweld eu meddyg teulu arferol; nid ydynt am fod mewn sefyllfa lle maent yn gweld rhywun newydd bob tro y maent yn mynd i'r feddygfa.

14:50

Mae hynny'n wir i rai cleifion, ac mae gan eraill farn wahanol. Os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar gynllun y GIG yn Lloegr, er enghraifft, pan fyddant yn sôn am y ffordd y maent yn awyddus i feddygon teulu weithio gyda'i gilydd, mae hynny'n swnio ac yn edrych yn debyg iawn i'r clystyrau sydd gennym yma yng Nghymru. Efallai nad ydynt yn rhoi clod inni am hynny, ond mewn gwirionedd, maent yn copïo nifer o'r pethau rydym yn eu gwneud gan y bydd gweithlu'r dyfodol yn wahanol, ac wrth feddwl am staff asiantaeth a staff locwm, rwy'n sicr yn meddwl am ofal sylfaenol—y gallu i recriwtio digon o feddygon teulu, yr hyfforddiant sydd gennym, cyflawniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gwneud yn dda iawn o ran llenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu, ond yn fwy na hynny, am yr amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo gyda mathau gwahanol o staff.

Ac mae nifer gwahanol o feddygon teulu yn gweithio mewn ffordd wahanol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Dyna pam fod y buddsoddiad mwyaf erioed a wnawn mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, y £114 miliwn rydym yn ei fuddsoddi—. Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, cynnydd o £7 miliwn yn y math hwnnw o hyfforddiant, ar gyfer mwy o staff, ar gyfer y ffisiotherapyddion, y nyrsys, y parafeddygon. Dyna'r her y mae'n rhaid inni ei hwynebu. Ac mewn gwirionedd, mae ein gweithlu meddygon teulu yn cefnogi'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo at ei gilydd. Yr her, fel arfer, yw hon: a ydym yn gallu symud yn ddigon cyflym i gadw gwasanaethau ar agor ac yn weithredol, a darbwyllo digon o bobl i ddod i weithio mewn ffordd wahanol? Ac yn hynny o beth, rwy'n derbyn nad fy llais i yw'r mwyaf darbwyllol. Mae meddyg teulu yn fwy tebygol o wrando ar feddyg teulu arall ynglŷn â'r ffordd y maent wedi newid eu hymarfer, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gwahanol, nag unrhyw wleidydd yn y lle hwn. Ac mae gennym amrywiaeth o arweinwyr ym maes ymarfer cyffredinol sy'n gwneud y gwaith hwnnw ac yn dangos gwir arweinyddiaeth ymhlith eu cymheiriaid. Felly, er yr heriau sy'n ein hwynebu, mae lle i fod yn optimistaidd ynglŷn â'r llwybr rydym arno, ac yn wir, ynglŷn â'r clod o weld GIG Lloegr yn efelychu rhannau sylweddol o'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru.

Ariannu Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu gofal iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ53334

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, fel y gwelwyd gyda'r dyraniad o £1.4 biliwn yn 2018-19. Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol penodol eleni, i sicrhau cyfanswm o bron £20 miliwn i gefnogi perfformiad, pwysau'r gaeaf, capasiti a gallu o fewn y sefydliad.

Wel, mae un bob o bump o gleifion Ysbyty Iarlles Caer yn dod o Gymru, a'r wythnos diwethaf, holais eich cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ar ôl i Ysbyty Iarlles Caer adrodd ym mis Rhagfyr fod oedi wrth drosglwyddo gofal—sy'n fwy cyfarwydd i rai fel blocio gwelyau—yn achos cleifion o Gymru wedi codi 26 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, er ei fod wedi gostwng 24 y cant yn achos cleifion yng ngorllewin Cymru. A dywedodd eu prif swyddog cyllid fod system gorllewin swydd Gaer yn darparu capasiti ychwanegol a bod yn rhaid i Gymru ddarparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd. Dywedodd y Gweinidog cyllid y byddai'n cyfeirio hynny atoch.

Y bore yma, cefais i a phump o ACau eraill e-bost gan chwythwr chwiban a oedd yn disgrifio eu hunain fel 'un o gefnogwyr pryderus y GIG yn Betsi Cadwaladr', a ddywedai nad yw'n syndod fod y bwrdd iechyd wedi methu adennill eu costau yn unrhyw un o'r blynyddoedd ers i chi eu rhoi mewn mesurau arbennig, a bod yr adran reoli'n gwastraffu adnoddau gwerthfawr ac arian cyhoeddus ar systemau TG, megis system TG HealthRoster ar gyfer rheoli gweithgarwch clinigol, sydd wedi costio dros £200,000. Ni wnaed unrhyw ddadansoddiad o'r treial cychwynnol, ni chyflawnwyd achos busnes priodol, mae methiant y prosiect wedi'i guddio rhag y cyhoedd, treialwyd hyn yn aflwyddiannus yn 2015 gydag adborth negyddol, a'r consensws ymysg arbenigwyr meddygol oedd nad yw'r system yn addas i'r diben, ond fe'i rhoddwyd ar waith serch hynny. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf wrth holi'r Gweinidog cyllid, beth sy'n digwydd, Weinidog, gan mai chi sy'n gyfrifol am hyn yn y pen draw?

Wel, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar e-bost a gawsoch heddiw gan chwythwr chwiban ynglŷn â'i safbwynt, ond rydym am roi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw un a phawb sy'n mynegi pryderon ynglŷn â'r defnydd o arian. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r prosiect a grybwylloch yn mynd i mewn i ran gyntaf eich cwestiwn a'r anghytuno rhwng ymddiriedolaeth Iarlles Caer a'r system iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, y gwir amdani yw ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng ngogledd Cymru. Y rheswm am hynny yw bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hynny. Bu'n rhaid imi gael cyfarfodydd personol ag iechyd a llywodraeth leol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o weld cyflawniad gwirioneddol a pharhaus. Dylem gydnabod hynny, a pheidio â bod mor barod i lyncu dadl ymddiriedolaeth Iarlles Caer. Os edrychwch ar eu heriau ariannol hwy, ychydig iawn sydd a wnelo hynny â'r system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Er enghraifft, pe bai diffyg ymddiriedolaeth Iarlles Caer yn cael ei drosglwyddo i fwrdd Betsi Cadwaladr, byddai'n dyblu'r diffyg, bron â bod, ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Nid problem Cymru yw eu heriau ariannol hwy. Rwy'n dechrau colli amynedd gyda'r ffordd y maent yn ceisio beio gogledd Cymru am yr heriau y maent yn eu hwynebu. Rwyf am weld system iechyd a gofal sy'n gweithio i'r unigolyn—partneriaeth wirioneddol gydweithredol dros y ffin, ond mae hynny'n galw am lefel well o ymddygiad gan gymheiriaid yng Nghaer.

14:55

Wel, os ydyn nhw wedi gorffen toethan ar draws y Siambr, fe wnaf i ofyn fy nghwestiwn.

Mae myfyrwyr nyrsio ym Mangor yn pryderu ynglŷn â bygythiad posibl i'w cyrsiau nhw oherwydd toriadau yn y brifysgol. Ar adeg pan fo angen llawer mwy o nyrsys arnom ni yn y gogledd i lenwi cannoedd o swyddi gwag, mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn ag a ydy adrannau o fewn y Llywodraeth fan hyn yn siarad â'i gilydd. Oherwydd heb arian digonol i brifysgolion ar gyfer darlithwyr, mi fydd yna lai o nyrsys yn cael eu cynhyrchu, ac yna mi fydd dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar staff asiantaeth a locyms costus a drudfawr yn dwysáu. Felly, onid yw hyn yn enghraifft o ddiffyg cydweithio ar draws y Llywodraeth, sydd, o ganlyniad, yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth?

Rydym yn talu am gyrsiau nyrsys a ddarperir ym Mangor. Maent yn rhan o'r niferoedd a'r niferoedd hyfforddi rwyf wedi buddsoddi ynddynt, a chyfeiriais atynt yn fy ateb i Neil Hamilton. Rwy'n disgwyl y cynhyrchir y niferoedd ac y sicrheir ansawdd yr hyfforddiant a'r gofal. Os oes pryderon difrifol a dilys, fel y dywedoch chi, buaswn yn falch iawn o glywed gennych yn uniongyrchol ynglŷn â manylion hynny, gan fy mod yn awyddus i sicrhau, fel y dywedaf, fod y niferoedd a'r ansawdd yn cael eu diogelu. Wedi'r cyfan, rydym yn buddsoddi yng ngweithlu'r dyfodol.

Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghanol De Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau meddygon teulu yng Nghanol De Cymru? OAQ53339

Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ac mae'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru yn allweddol i gyflawni ein nodau ar gyfer ymarfer cyffredinol. Rydym yn gweithio gyda GIG Cymru a chyrff cynrychiadol i barhau i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau i bobl Canol De Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf i lawer o gleifion wrth geisio cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw gwneud yr alwad ffôn gyntaf honno i gael apwyntiad gyda'r meddyg teulu. Defnyddiodd un o fy etholwyr—Mr Owen Smith o Bontypridd, a chredaf eich bod yn ei adnabod—ei gyfrif Twitter yn ddiweddar i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi ffonio ei feddygfa 300 o weithiau dros y pum wythnos ddiwethaf. Yn ei eiriau ef, nid oedd unrhyw apwyntiadau ar ôl erbyn 08:35 ar bob achlysur. Nid Owen Smith yn unig sydd wedi wynebu hyn; mae'n digwydd ar draws ardal Canol De Cymru, lle mae llawer o gleifion yn ei chael yn anodd cael apwyntiad. Pa hyder y gallwch ei roi inni fod eich adran yn ymdrechu i wneud y system apwyntiadau mewn meddygfeydd yn fwy hygyrch fel y gall cleifion sydd angen yr apwyntiadau hynny eu cael, ac nad ydym yn gweld y math o refru a welsom gan Owen Smith ar Twitter, sy'n tynnu sylw at lawer o'r rhwystredigaethau y mae etholwyr eraill nad ydynt yn defnyddio Twitter neu'r cyfryngau cymdeithasol yn eu teimlo bob dydd?

Wel, nid wyf yn siŵr a yw'r unigolyn y cyfeiriwch ato wedi rhoi caniatâd i chi dynnu sylw at ei brofiad personol yn y ffordd y gwnewch, ond ceir—[Torri ar draws.]

Ni chredaf fod y darlun a ddisgrifiwch yn gwbl deg, ond rwy'n cydnabod yr amrywiaeth profiadau rhwng practisau, ac mae'n rhywbeth sy'n codi'n rheolaidd mewn bagiau post. Os edrychwch ar yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, mae'n nodi dirywiad mewn boddhad o ran cael mynediad at ofal iechyd lleol. Felly, ceir her wirioneddol yn hyn o beth. Mae'n her a gydnabuwyd gan bwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach hefyd. Mae'n rhan o'r sgwrs. Mae'n ymwneud â diwygio contractau. Mae hefyd yn rhan o'r hyn rydym yn ceisio'i ddarparu yn y model gofal sylfaenol newydd. Pan soniwn am y model newydd, mae'n gydnabyddiaeth fod mynediad yn rhan bwysig iawn o hynny. Ac nid yw'n digwydd am fy mod i wedi eistedd yn fy swyddfa a phenderfynu fy mod yn credu mai dull 'ffôn yn gyntaf' sydd orau; mae'n ganlyniad uniongyrchol rhaglen o weithgareddau a gynhelir gan feddygon teulu eu hunain ac sy'n cael ei llywio gan y meddygon teulu hynny sydd wedi datrys yr heriau y mae amryw o bobl yn cwyno amdanynt a'r gallu i gael apwyntiad gyda'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol. Mae'n ymwneud yn rhannol â phobl yn gwybod i ble y gallant fynd yn lle meddyg teulu, ond mae'n ymwneud hefyd â gallu siarad â rhywun ynglŷn â'r her o fewn amser rhesymol. Rwy'n cydnabod y bydd hyn yn parhau i fod yn destun trafod ymysg ymarferwyr cyffredinol—nid yn unig gyda'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach, ond ymhlith yr ymarferwyr cyffredinol eu hunain, gan fod rhai meddygon teulu yn gryf o blaid system newydd 'ffôn yn gyntaf' ac eraill yn amheus iawn ac yn diystyru hynny. Felly, mae gwaith mawr i'w wneud yma o ran darbwyllo meddygon teulu fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod eu swyddi'n well, ond yn y pen draw yn wasanaeth gwell i'r cyhoedd.

15:00
Gwella Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru

5. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53355

Mae cryn dipyn o waith ar y gweill i sicrhau bod cleifion sydd ag angen clinigol am ymateb ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Roedd yn galonogol gallu nodi bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod yr ardal, unwaith eto, ymhlith yr ardaloedd sy'n perfformio orau yng Nghymru ar gyfer cleifion yn y categori coch.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wneir i wella amseroedd ymateb. Hoffwn godi mater mewn perthynas â hynny a sut y gallwn ei helpu efallai, oherwydd yn fy amgylchiadau personol, bu angen i aelod o'r teulu ffonio am ambiwlans dros y penwythnos, ac aeth yr unigolyn i mewn i ffibriliad atrïaidd gartref. Fe ffoniom am ambiwlans a dywedwyd wrthym fod yr ambiwlans ar ei ffordd. Er eglurder, gofynnais—'A allwch roi syniad i mi pryd?'—oherwydd gwyddwn y gallwn gyrraedd Treforys mewn llai na hanner awr o bosibl. Ni chawsom wybodaeth. Buom yn aros am 20 munud a phenderfynais yrru i Dreforys, a chyrhaeddais yno cyn y byddai'r ambiwlans wedi cyrraedd. Canslais yr ambiwlans ar y ffordd mewn gwirionedd.

Ond mae etholwyr hefyd wedi dweud wrthyf faint o weithiau y maent wedi bod yn aros am ambiwlans. Pe bai staff ambiwlans a chriwiau ambiwlans, neu'r bobl ar y gwasanaeth 999, yn gallu rhoi syniad i ni—maent yn gwrthod, oherwydd dywedasant, 'Ni allwn ragweld pryd y bydd yn cyrraedd'. Ond pe baem yn gallu cael syniad o ble maent yn dod, gallwn weithredu i fynd â rhywun i'r ysbyty yn gynt, a chael triniaeth yn gynt. Yn achos unigolyn â ffibriliad atrïaidd, mae angen i chi gyrraedd yno'n gyflym.

Nawr, nid oeddwn yn gwybod pa gategori roedd ynddo. Ni ddywedwyd wrthyf a oedd yn y categori coch neu oren. Yr unig beth a ddywedwyd wrthyf oedd, 'Ni allwn roi unrhyw wybodaeth i chi, ond mae eich galwad wedi'i chofnodi ac mae wedi'i phasio ymlaen'. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae angen i mi wybod pryd y bydd yn dod, ac os bydd oedi, gallaf weithredu i gael y claf yno. A allwch chi edrych ar hyn er mwyn sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth orau i wneud y penderfyniadau y maent angen eu gwneud i gael cleifion i'r lle gorau? 

Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad oren a'r sgwrs ynglŷn ag a ddylech roi syniad o pryd y bydd ambiwlans yn cyrraedd, a'r cyngor oedd na ddylid gwneud hynny. Mae prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans hefyd yn gweithio i ddatblygu'r adolygiad oren i geisio gwella profiad pobl tra bônt yn aros.

Er hynny, buaswn yn hapus i siarad â'r Aelod yn uniongyrchol am y profiad a gafodd, i geisio deall a oes mwy o bethau y gallai'r gwasanaeth ambiwlans ei wneud, hyd yn oed os yw'n sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallai'r unigolyn ei wneud os ydynt yn gallu cludo rhywun yn ddiogel i ganolfan y maent yn debygol o orfod mynd iddi beth bynnag os yw'r ambiwlans yn cyrraedd. 

Diolch am eich cwestiwn, David, oherwydd rwy'n meddwl unwaith eto am rôl cyd-ymatebwyr, mater rwyf wedi'i godi yn y Siambr sawl gwaith. Maent yn amlwg yn gymwys i ymateb yn gyflym i'r union fath o sefyllfa a grybwyllodd David Rees. Mae ganddynt rôl enfawr i'w chwarae o ran effeithlonrwydd ymateb brys, ac rwy'n credu bod y ddadl ynglŷn â sut y telir am y gwasanaeth hwnnw yn tynnu sylw oddi wrth hynny.

O ystyried y newidiadau i'r categorïau coch ac oren yn ogystal, hoffwn godi mater ymatebwyr cyntaf, sy'n amlwg yn wahanol. Rwy'n siŵr eich bod yn falch fod grŵp ymatebwyr cyntaf Llandeilo Ferwallt a Phennard wedi denu llu enfawr o wirfoddolwyr newydd yn ddiweddar, ond unwaith eto—ac nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd iddynt—maent yn dal i aros am hyfforddiant gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae pobl yn colli diddordeb yn yr amser hwnnw. A allwch chi ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r gwasanaeth ambiwlans i fanteisio ar y cyfalaf cymdeithasol hwn i'w helpu i lunio ymateb gwell yn hytrach na'i wastraffu? Diolch.

Ar y ddau bwynt—. Mae yna ddau bwynt gwahanol, ac o ran cyd-ymatebwyr, nid yw'n ymwneud ag arian yn unig. Mae'n ymwneud â chytundeb ar rôl diffoddwyr tân hefyd, er enghraifft, a chytundeb sy'n ymwneud â thelerau ac amodau ac mewn gwirionedd, sut y darparwn ac y gwnawn well defnydd o bersonél hyfforddedig o fewn system ehangach ein gwasanaethau brys.

Mae'r pwynt am ymatebwyr cyntaf yn un rydym wedi'i godi gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn y gorffennol mewn perthynas â'u cynllun ar gyfer ymatebwyr cyntaf a defnyddio pobl sydd eisiau bod yn ymatebwyr cyntaf i gynnal eu sgiliau a sicrhau bod hynny'n cael ei gynnwys a'i gynllunio'n rhan o'n system. Rwy'n hapus i ystyried hynny ac ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â ble mae'r gwasanaeth ambiwlans arni mewn perthynas â hynny, oherwydd nid wyf eisiau colli golwg ar y bobl sydd eisiau cyfrannu ac a fyddai'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn mewn amryw o gymunedau ledled y wlad.FootnoteLink

Ymgysylltu a’r Cyhoedd ynglyn â Newidiadau i Wasanaethau

6. Pa ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd o ran ymgysylltu a’r cyhoedd ynglyn â newidiadau i wasanaethau? OAQ53344

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol i GIG Cymru ar ymgysylltu ac ymgynghori pan fyddant yn ystyried gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd. Rwy'n disgwyl y byddant yn ystyried y canllawiau'n llawn ac yn cynnwys rhanddeiliaid—gan gynnwys y cyhoedd, wrth gwrs—yn llawn pan fyddant yn argymell unrhyw newidiadau.

15:05

Diolch yn fawr. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar fin trafod newidiadau pellgyrhaeddol i'r ffordd mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws y gogledd. Mae'r newidiadau yn cynnwys darparu gwasanaethau wroleg ar ddau safle yn lle tri, symud gofal strôc o ddau safle a symud gwasanaethau orthopedig o ddau le. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno fod angen i'r bwrdd iechyd fod yn gwbl dryloyw efo'r cyhoedd pan mae newidiadau mawr fel hyn yn cael eu trafod. Yn anffodus, maen nhw'n ceisio cyflwyno'r newid drwy'r drws cefn. A wnewch chi sicrhau fod ymgynghori trwyadl yn digwydd ac asesiadau effaith manwl yn cael eu gwneud cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd? 

Nid wyf yn credu fy mod yn derbyn y disgrifiad fod y rhain yn newidiadau y ceisir eu cyflwyno drwy'r drws cefn. Yn y tri maes rydych wedi siarad amdanynt—niwroleg ac orthopedeg, mae pwysau mawr ar y niferoedd sy'n mynd drwy ein system ac ar ein gallu i gyrraedd y rheini. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r cynnydd yn y galw—er enghraifft, ym maes niwroleg, o ran cael y cyfarpar cywir a'r bobl gywir wedi'u recriwtio i'r gwasanaethau hynny i'w gwneud yn gadarn, ac ym maes orthopedeg, lle nad yw'n ymwneud yn unig â chael ffordd fwy effeithlon o wneud rhagor o lawdriniaethau, ond hefyd â pha ganolfannau y dylech wneud llawdriniaethau ynddynt, pa rai sy'n cael eu gwneud, ac yna hefyd, beth sydd angen i chi ei wneud o ran y bobl nad ydynt angen llawdriniaeth yn y lle cyntaf. Ym mhob un o'r meysydd hynny, mae angen siarad â staff a'r cyhoedd ynglŷn â beth allai fod yno. Gwn mai cynigion drafft yn unig sydd wedi'u cyflwyno i'r bwrdd. Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniadau terfynol ac rwy'n disgwyl y ceir ymgynghoriad llawn a phriodol.

Ar wasanaethau strôc, er hynny, mae sgwrs hirfaith wedi bod ac mae'r Gymdeithas Strôc, y prif lais dros ac ar ran cleifion, yn glir iawn eu bod eisiau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws gweddill y wlad, wneud cynnydd go iawn gydag unedau hyperacíwt—nifer llai o ganolfannau derbyn gyda gwell canlyniadau i staff. Mewn gwirionedd, mae arweinydd clinigol y gwasanaethau strôc yng Nghymru, ym Mronglais, yn glir iawn fod angen newid nifer ein gwasanaethau lle caiff pobl eu derbyn yn dilyn strôc hefyd er mwyn darparu gwell gofal. Nawr, mae honno'n sgwrs y mae angen i glinigwyr ei chael a chytuno arni, ond mae hefyd yn sgwrs y mae angen iddynt ei chael gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynnig a pham fel rhan o'r ymgysylltiad priodol hwnnw gyda'r cyhoedd. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond drwy'r gwasanaeth cyfan.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, o ran canllawiau, a ydym yn cael ein rhwystro mewn unrhyw ffordd gan y cyfyngiadau sydd ar fyrddau iechyd o ran ymgynghoriadau? Cyn y Nadolig, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar fater yn ymwneud ag ysbyty Maesteg. Ni chafodd ei fframio fel 'dyfodol ysbyty Maesteg; sut y gallwn edrych ar ei ddyfodol hirdymor, beth allwn ni ei wneud o ran ad-drefnu gwasanaethau'. Roedd yn fawr ar yr uwchdaflunydd ar neuadd y dref ym Maesteg gyda rhai cannoedd o bobl yn ei wylio: 'Cau ysbyty dydd', ac roedd llawer o bobl, gyda llaw, o dan yr argraff fod hynny'n golygu cau'r ysbyty ei hun yn hytrach na'r uned ddydd a'r gofal seibiant a ddarperir. Maent wedi oedi ar hynny oherwydd y gwrthwynebiad llethol i'r cynigion ar gyfer y dyfodol, ac maent yn bwriadu ail-ymgynghori. Ond un o'r pethau y maent yn ei ddweud wrthyf yw eu bod wedi'u cyfyngu o ran sut i fframio hynny. Mae'n rhaid iddynt ei fframio mewn ffordd sy'n dynodi cau uned yn hytrach na gofyn i bobl, 'Beth hoffech chi ei weld yma i ddiwallu anghenion modern Maesteg a chwm Afan uchaf?' ac ati. Felly, a oes problem gyda'n canllawiau sy'n cyfyngu ar y modd y gall byrddau iechyd ymgynghori â phobl ar yr hyn y maent eisiau ei weld yn y dyfodol mewn perthynas â'u cyfleusterau lleol hollbwysig?

Rwy'n barod i ystyried yn ddifrifol y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac edrych eto ar y canllawiau i weld a oes iddynt ganlyniad anfwriadol. Ond mewn gwirionedd, y man cychwyn yw ei bod yn bwysig cael trafodaeth lawn gyda'r cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei gynnig: beth yw'r cynnig ar gyfer y dyfodol, beth y mae hynny'n ei olygu am wasanaethau yn awr? Ac i wneud yn siŵr nad ydym yn cael sgwrs artiffisial sy'n gwneud i bobl boeni mwy am ddyfodol gwasanaethau a fydd yn cael eu diddymu, yn hytrach na'r cymysgedd yn y dyfodol lle bydd pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Felly, rwy'n fodlon siarad ag ef am yr enghraifft benodol a grybwyllwyd ganddo ac edrych i weld a oes angen newid y canllawiau neu beidio, a'r cydbwysedd sydd angen i fyrddau iechyd ei sicrhau er mwyn gallu symud mor gyflym â phosibl, ond sicrhau hefyd fod yna frys a chyflymder sy'n ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd drwy gael sgwrs go iawn ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Mynd i'r Afael ag Apwyntiadau a Gollwyd yn y GIG

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag apwyntiadau a gollwyd yn y GIG? OAQ53351

Mae byrddau iechyd yn defnyddio amrywiaeth o offer gwahanol i atgoffa cleifion i fynychu apwyntiadau, gan gynnwys negeseuon testun a negeseuon atgoffa dros y ffôn, a chefais un o'r rheini fy hun ddoe. Mae'n costio arian i'r GIG pan fo cleifion yn colli apwyntiadau, ac mae gan gleifion ran i'w chwarae i sicrhau eu bod yn mynychu apwyntiadau a drefnwyd.

Weinidog, yn ddiweddar, cafodd fy apwyntiad ysbyty ei aildrefnu ar fyr rybudd. Yn ffodus, cefais y llythyr hysbysu y noson cyn yr apwyntiad. Fodd bynnag, gwn nad yw eraill wedi bod mor ffodus. O gofio ein bod yn cael ein hatgoffa'n gyson o'r gost i'r GIG pan fo apwyntiadau'n cael eu colli, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'w hapwyntiadau, ac a wnewch chi ystyried defnyddio technoleg fel galwadau awtomataidd?

15:10

Mae hyn yn rhan o waith arferol y gwasanaeth iechyd i wneud yn siŵr fod pobl yn cael cyfle i fynychu, ac os oes newidiadau, fod pobl yn cael gwybod mewn da bryd, oherwydd nid llythyr post ail ddosbarth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gysylltu â'r rhan fwyaf o bobl o fewn y wlad. Felly, mae'n rhan reolaidd o ddysgu ar draws y gwasanaeth am y gwahanol ddulliau sy'n cael eu mabwysiadu, ond hefyd i feddwl am y dyfodol a sut y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. I mi, mae hynny'n golygu diwygio'n sylfaenol y system cleifion allanol a'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni, nid yn unig sut yr atgoffwn bobl i fynychu eu hapwyntiadau yn y lle cyntaf.

Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn achosion brys, mae'r gyfradd o bobl sy'n colli apwyntiadau dros 10 y cant bellach. Sylwais yn Lloegr mai un peth y maent yn ei wneud wrth anfon negeseuon testun—ac efallai ein bod ni yn ei wneud, ond os gallech fy ngoleuo—yw rhoi syniad bras o'r gost i'r GIG pan fo claf yn colli apwyntiad, a gwneud hynny wedyn ar sail unigol a chyfunol. Oherwydd pe bai pobl yn sylweddoli faint mae'n ei gostio—mae'r gost cyfle'n sylweddol iawn—rwy'n credu y byddent yn ailfeddwl. Ond nid yw'r ffaith bod dros 10 y cant o gleifion yn colli apwyntiad yn dderbyniol.

Ie, ac mae honno'n her go iawn. Mae'n ymwneud yn rhannol ag effeithlonrwydd, ond mae hefyd, a dweud y gwir, yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau o amser pobl, ac nid arian yn unig. Mae rhai byrddau iechyd yn darparu amcangyfrif o faint y mae apwyntiad yn ei gostio, ac mae gan y rhan fwyaf o'r ysbytai rwyf wedi bod ynddynt—ac rwy'n tueddu i fynychu tipyn ohonynt dros yr amser rwy'n ei dreulio yn y swydd—arwyddion rheolaidd sy'n dangos y gost i'r gwasanaeth iechyd pan fo claf yn colli apwyntiad. Mae digon o wybodaeth ar gael ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd am realiti'r gost. Credaf mai'r her yw sut y gallwn sicrhau dull mwy cyson o ddefnyddio pethau fel negeseuon testun i atgoffa pobl, a lle i hysbysu pobl am y gost o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd ac yn wir, o beidio â'i ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ogystal.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Sy'n dod â ni at eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6952 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, am y cyfle i agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a gallu plant byddar a'u teuluoedd i ddysgu a defnyddio BSL yn eu bywydau bob dydd. Fel y gŵyr pawb ohonom, mae cyfathrebu yn agwedd hanfodol ar fywyd. Fodd bynnag, gall achosi heriau sylweddol i rai yn ddyddiol.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon, a gasglodd 1,162 o lofnodion, gan Deffo!, fforwm ar gyfer pobl ifanc fyddar yn Abertawe. Croeso i Deffo! a sylwedyddion eraill i'r oriel gyhoeddus, a hoffwn hefyd roi gwybod i'r Aelodau fod dehonglwr yn arwyddo'r trafodion drwy BSL yn yr oriel. Mae fersiwn BSL o adroddiad y pwyllgor ar gael ar-lein hefyd, a bydd fideo BSL o'r ddadl hon ar gael yn ddiweddarach heddiw ar Senedd.tv.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr ar ran y pwyllgor—ac ar ran pob Aelod o'r Cynulliad hwn rwy'n siŵr—am eu dycnwch a'u hymrwymiad i frwydro dros welliannau i'r addysg a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Yn fwyaf arbennig, mae'r pwyllgor yn diolch i Cathie a Helen Robins-Talbot o Deffo! am yr wybodaeth y maent wedi'i darparu drwy gydol y broses, yn ogystal ag i Luke a Zoe a roddodd dystiolaeth lafar rymus iawn i'r Pwyllgor Deisebau wrth i ni ystyried y ddeiseb.

Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd i blant byddar a'u teuluoedd, ac i bobl fyddar o bob oedran. Mae oddeutu 2,600 o blant byddar yng Nghymru a nam ar y clyw yw prif angen addysgol arbennig dros 3,000 o ddisgyblion. Mae BSL yn iaith ar wahân nad yw'n ddibynnol ar, nac yn perthyn yn agos iawn i Saesneg llafar. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan bod oddeutu 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru, a 4,000 ohonynt yn fyddar. Yn 2004, cafodd BSL ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun gan Llywodraeth Cymru.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae gan y ddeiseb nifer o amcanion: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL, cyflwyno BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol, sicrhau gwell mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL, a sicrhau bod mwy o wasanaethau ac adnoddau ar gael drwy gyfrwng BSL ar gyfer pobl ifanc fyddar. Bydd gweddill y cyfraniad hwn yn canolbwyntio ar bob un o amcanion y ddeiseb yn eu tro, er mwyn amlinellu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, y casgliadau y daethom iddynt a'r ymatebion a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Yn gyntaf, mae'r ddeiseb yn galw am fwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL. Mae Deffo! wedi pwysleisio pa mor hollbwysig yw hyn fel y gall rhieni a brodyr a chwiorydd gyfathrebu â phlant byddar a'u cefnogi o fewn eu teuluoedd. Dywedasant wrth y pwyllgor y gall cost fod yn broblem sylweddol, gyda dosbarthiadau BSL sylfaenol ar gyfer oedolion yn costio £300 y person a chyrsiau uwch yn costio hyd at £1,600. Ychydig iawn o gyfleoedd a geir hefyd i deuluoedd ddysgu BSL gyda'i gilydd, gan fod y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau sydd ar gael yn cael eu darparu drwy ganolfannau addysg oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor sawl gwaith mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu'r dosbarthiadau hyn. Fodd bynnag, ymddengys mai diffyg darpariaeth yw canlyniad hyn, oherwydd ei fod yn dod yn ddewis o fewn cyllidebau addysg oedolion lleol. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn dangos, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes unrhyw gyrsiau iaith arwyddion ar gael i rieni a phlant am ddim neu am gost isel.

Nodaf fod y comisiynydd plant hefyd wedi argymell y dylai'r holl deuluoedd sydd â phlant byddar allu cael mynediad at BSL, ac mae'r pwyllgor wedi clywed bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn siomedig nad yw hyn wedi digwydd.

Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod statws presennol BSL, a'r ffaith ei bod yn cael ei hystyried yn ddewis yn hytrach nag angen meddygol, yn golygu mai dyma'r math o ddarpariaeth sy'n tueddu i gael ei golli mewn cyfnodau o bwysau ariannol. Maent wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith leiafrifol, ac y dylai awdurdodau lleol ei hystyried yn iaith gyntaf i lawer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Maent o'r farn y byddai hon yn ffordd o wella a diogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu BSL. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn cytuno. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol fod teuluoedd plant byddar yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng BSL. O ganlyniad, rydym o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy drwy arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar, fel ffordd o ail-fframio'r sgwrs ar beth a olygir wrth ddarpariaeth ddigonol. At hynny, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant byddar a'u teuluoedd. Credwn y byddai hyn yn helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad gennym yn hyn o beth, a''i bod hefyd wedi cydnabod bod aelodau o'r gymuned fyddar yn wynebu nifer o broblemau mewn perthynas â BSL, gan gynnwys prinder dehonglwyr. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth BSL yng Nghymru ac ystyried datblygu siarter genedlaethol o'r math a argymhellir gan y pwyllgor. Byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y gwaith hwn y prynhawn yma, ac yn ei hannog i sicrhau bod y gwaith yn datblygu'n gyflym er mwyn dechrau gwella'r cymorth sydd ar gael ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd.

Gan symud ymlaen, mae'r ail alwad yn y ddeiseb yn galw am gynnwys BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae'r deisebwyr wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor nad oes gan y rhan fwyaf o blant byddar mewn ysgolion prif ffrwd fynediad at BSL yn yr ysgol, ond eu bod yn dysgu Saesneg â chymorth arwyddion yn lle hynny. Nid yw hyn yn trosglwyddo y tu allan i'r ysgol, ac felly mae plant byddar yn dal i orfod dysgu BSL er mwyn cyfathrebu ag aelodau eraill o'r gymuned fyddar. Pe bai BSL yn cael ei chynnwys o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, mae Deffo! yn dadlau y byddai'n helpu dysgwyr eraill i gyfathrebu â phobl fyddar neu drwm eu clyw mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destunau eraill, yn ogystal â gwella eu cyfathrebu'n raddol mewn bywyd bob dydd.

Drwy gydol ein hystyriaeth o'r ddeiseb, mae Deffo! wedi mynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'u profiad o geisio ymgysylltu â'r Llywodraeth ar y mater hwn, ac ynglŷn â'r hyn a ystyriant yn ddiffyg ymgysylltiad â phrosesau megis adolygiad Donaldson. Wedi dweud hynny, yn ystod yr amser hwn, cawsant gyfle i gyfarfod â'r Gweinidog blaenorol ac mae'r pwyllgor wedi croesawu'r ffaith bod BSL wedi'i chynnwys ym maes ieithoedd a chyfathrebu y cwricwlwm newydd.

Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â diffyg cyfeiriad cenedlaethol mewn perthynas â sicrhau bod darpariaeth BSL ar gael yn eang mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad yn awgrymu y bydd hyn yn parhau i fod yn ôl disgresiwn ysgolion unigol ac awdurdodau lleol i raddau helaeth. A siarad yn blwmp ac yn blaen, ar hyn o bryd mae'n anodd gweld bod hyn yn addo unrhyw gam sylweddol ymlaen o ran gwella gallu disgyblion i gael mynediad at BSL drwy'r cwricwlwm. Rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth bellach i sut y gellir annog ysgolion yn benodol i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn yng ngoleuni'r ffaith bod BSL wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu TGAU mewn BSL. Ar ôl i Mike Hedges godi'r mater hwn, ysgrifennodd y Prif Weinidog blaenorol at Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yr ymateb yn awgrymu nad yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod hi'n bosibl datblygu TGAU o'r fath i'w ddefnyddio yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn ystyried datblygu TGAU mewn BSL. Rydym yn deall bod Cymwysterau Cymru yn agored i fabwysiadu unrhyw TGAU a ddatblygir a byddem yn eu hannog hwy a'r Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym er mwyn osgoi sefyllfa lle mae disgyblion byddar yng Nghymru ar ei hôl hi o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr.

Roedd mynediad at staff â chymwysterau priodol hefyd yn peri pryder sylweddol i Deffo! Roeddent yn tynnu sylw at nifer o ystadegau, gan gynnwys y ffaith nad yw disgyblion ond yn cael tair awr o gyswllt gydag athro i rai byddar bob wythnos ar gyfartaledd, llai o lawer na'r targed o 270 awr y flwyddyn, a bod nifer sylweddol o athrawon sydd wedi cymhwyso'n briodol yn mynd i ymddeol yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae Deffo! yn credu bod cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio yn lle llawer o'r rhain. Wrth ymateb, cyfeiriodd Gweinidogion at ddyletswyddau awdurdodau lleol i nodi, asesu a darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Unwaith eto, fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wireddu hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n glir sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu'n ddigonol yn ymarferol.

Yn ein pedwerydd argymhelliad, mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i edrych ar broblemau cynllunio'r gweithlu ac ystyried cynaliadwyedd hirdymor y cymorth ar gyfer disgyblion byddar. Mae ymateb y Gweinidog yn cyfeirio at ddarparu arian ychwanegol ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyfeirio at hyn fel ateb tymor byr i broblem gynyddol, ac rydym yn annog y Llywodraeth i barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru weithlu addysg sydd wedi'i hyfforddi'n briodol mewn perthynas ag anghenion disgyblion byddar.

Elfen olaf y ddeiseb yw galwad am wneud mwy o wasanaethau ac adnoddau yn hygyrch drwy gyfrwng BSL. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor fod llawer o bobl ifanc fyddar yn methu cael mynediad at wasanaethau sydd â'r addasiadau rhesymol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Er enghraifft, nododd tystion mai un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl fyddar a geir  drwy Gymru gyfan. Mae Deffo! eisiau i ddefnyddwyr BSL allu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu dewis iaith. Dywedasant wrth y pwyllgor fod methu cael mynediad at wasanaethau o'r fath yn eu digalonni.

Mae Gweinidogion wedi nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer i ddeddfu mewn perthynas â darparu ieithoedd heblaw'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y bydd ein hargymhelliad blaenorol mewn perthynas â datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn os caiff ei datblygu. Gallai fframwaith o'r fath helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a darparu mwy o atebolrwydd lle nad yw darpariaeth o'r fath yn bodloni safonau addas. Unwaith eto, rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gadarn ac ystyrlon.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Deffo! unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb ac i bawb arall sydd wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'r materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon yn niferus ac yn amrywiol, ac maent yn herio pob un ohonom yma i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc byddar Cymru yn gallu cael mynediad at yr addysg a'r gwasanaethau eraill y dylai fod ganddynt hawl iddynt. Rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio, os cânt eu datblygu, y bydd y camau hyn yn arwain at welliannau ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.

15:25

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am arwyddo. [Arwyddo mewn BSL.] Dyna'r drafferth â chael enw hir. [Arwyddo mewn BSL.] Roedd hynny'n dweud: Janet Finch-Saunders ydw i ac rwy'n dysgu BSL. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nhîm a minnau wedi mwynhau'r pleser o ddysgu BSL. Rydym eisoes wedi pasio'r lefel gyntaf ac erbyn hyn rydym yn astudio ar gyfer y nesaf. Y rheswm am hyn yw oherwydd fy mod yn cydnabod y ffaith bod nifer o'r 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru yn dibynnu ar BSL fel iaith gyntaf ac rydym yn credu y dylai'r cymorth rydym yn ei gynnig fod yn fwy hygyrch i'r gymuned fyddar. Drwy fy rôl ar y Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi bod yn hapus iawn i gefnogi'r achos a gyflwynwyd gan Deffo! i wella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn BSL.

Yn dilyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith swyddogol yn 2004, mae'n deg dweud bod y cynnydd wedi bod yn wael. Er bod gennym rai ysgolion arloesi, fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mae cryn dipyn o amwysedd ynglŷn â lle mae'r ysgolion hyn a sut y gall plant eraill mewn ysgolion gael mynediad at hyn. Wrth gwrs, mae'n galonogol gweld bod ysgolion anghenion addysgol arbennig yn cael eu cynnwys yn y grŵp treialu. Fodd bynnag, mae'n peri pryder mawr fod BSL yn cael ei chategoreiddio fel iaith ryngwladol, gyda ieithoedd clasurol a modern eraill. Nid yn unig y mae'n anghywir i ni gategoreiddio BSL fel iaith ryngwladol yn yr achos hwn, mae'n tanseilio pa mor angenrheidiol yw'r addysg hon i'r 2,642 o blant byddar yng Nghymru. Fel y cyfryw, hoffwn weld ysgolion yn gwneud defnydd ehangach o BSL fel iaith sy'n gydradd â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae Cymwysterau Cymru wedi diystyru cyflwyno TGAU mewn BSL ar hyn o bryd, gan ddadlau na fydd BSL yn denu digon o ddisgyblion. Er eu bod yn cyfaddef y gallai'r mater fod yn destun ailasesiad yn dilyn casgliadau'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg a phartneriaid BSL, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd wneud paratoadau pellach i arloesi'r gwaith o gyflwyno TGAU mewn BSL.

Gan roi TGAU i'r naill ochr, o ran adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, mae'n hanfodol bod digon o arian ar gael i sicrhau bod rhieni a pherthnasau agos unigolion byddar yn cael hyfforddiant BSL. A wyddoch chi beth? Mae'n hynod eironig fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud wrthyf am y datganiad newyddion a nodai fod

rhieni plant byddar yn wynebu 'loteri cod post',

a bod rhieni plentyn pedwar mis oed sy'n fyddar yn gorfod talu £6,000 am wersi iaith arwyddion os ydynt am gyfathrebu â hi.

Mae hynny'n warthus yn yr oes sydd ohoni. Mae anghysondebau o'r fath hefyd yn treiddio i—. O, mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi neidio ymlaen, mae'n ddrwg gennyf. Yn allweddol, rwy'n credu bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r anghysondebau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld yr amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol â fy llygaid fy hun, ac er enghraifft, cydweithredodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau gyda'r gymuned fyddar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dilyn diddymu cymorth ariannol a'r effeithiau negyddol ar y rheini sydd ond yn dymuno cyfathrebu, o ran gwasanaethau cyngor, yn yr unig ffordd y gallant ei wneud.

Mae anghysondebau o'r fath yn treiddio i mewn i addysg hefyd, gan fod data a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2018 yn dangos bod saith o bob 18 ymatebwr yn credu nad oedd gwasanaethau arbenigol anghenion addysgol arbennig yn diwallu'r galw presennol am wasanaethau i rai â nam ar y clyw. Mae hyn yn peri pryder, o ystyried bod gan 3,116 o ddisgyblion yr angen cyfathrebu hwn yng Nghymru. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblemau ac wedi dyrannu £289,000 i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd lleol, rwy'n bryderus nad yw hyn yn ddigonol i sicrhau cysondeb eang ar draws y gwasanaeth, yn enwedig pan nad oes ond un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl ifanc byddar drwy Gymru gyfan. Fel y cyfryw, rwy'n erfyn arnoch i wrando ar argymhellion yr adroddiad hwn ac i ddatblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd, a hynny ar frys, fel bod gennym feincnod cenedlaethol clir a safon y gall pob sefydliad ac awdurdod weithio tuag ati. Rydym yn ffodus. Gallwn gyfathrebu yma yn y ffordd sydd hawsaf i ni ei wneud. Mae'n hen bryd i'r bobl fyddar yn ein cymuned allu gwneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn.

15:30

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn fyddar iawn ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hefyd, fel llywydd Grŵp Pobl Drwm eu Clyw Abertawe? A chyn i unrhyw un ddweud, 'Pam ddim Iaith Arwyddion Cymru?', mae iaith arwyddion yn ddisgrifiadol. Rydych yn cyfieithu'r arwydd i unrhyw iaith arall rydych yn gyfarwydd â hi. Nid yw'n defnyddio gwyddor, ond mae ganddi arwyddion i ddisgrifio'r hyn y mae rhywun eisiau ei ddweud.

Gan droi at argymhelliad 1:

'Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth.'

I lawer o blant byddar, iaith arwyddion yw eu hiaith gyntaf, honno yw eu hiaith yn y system addysg a'r ffordd y maent yn siarad ac yn dysgu. Dylid trin iaith arwyddion fel iaith gyfartal yn y system addysg, a heb fod yn wahanol i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg yn fater o gydraddoldeb addysgol.

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dweud felly ein bod yn argymell y dylid sicrhau bod cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain ar gael i blant ar bob lefel o addysg. Yn rhan o hyn, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio'r posibilrwydd o greu TGAU mewn iaith arwyddion iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru. Unwaith eto, gobeithiaf y bydd yr argymhelliad hwnnw'n cael ei ddatblygu. Mae'n crynhoi'r hyn sydd ei angen, sef TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, fel y gellir cydnabod hyfedredd ynddi. Dylid ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg fel cymhwyster TGAU. Byddai hyn yn golygu, pan fo swyddi'n galw am radd C neu well mewn Cymraeg neu Saesneg, dylai ddweud 'neu Iaith Arwyddion Prydain' hefyd. Mae hyn yn sicrhau cyfle cyfartal i rai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif gyfrwng cyfathrebu.

Nid y gymuned fyddar yn unig sydd angen Iaith Arwyddion Prydain, ond gweddill y boblogaeth, sydd angen gallu cyfathrebu gydag unigolion byddar. Mae'r ddeiseb yn galw am well mynediad at ddosbarthiadau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer rhieni a brodyr a chwiorydd i'w helpu i gyfathrebu ag aelod byddar o'r teulu. Yn sicr, mae hwn yn gais rhesymol. Rhieni sy'n gallu clywed sydd gan y mwyafrif helaeth o blant sy'n cael eu geni'n fyddar, neu sy'n mynd yn fyddar yn ifanc iawn o ganlyniad i glefydau fel llid yr ymennydd, clwy'r pennau a'r frech goch. Mae plentyn byddar yn sioc i rieni a brodyr a chwiorydd ac maent eisiau dysgu sut i gyfathrebu â'r aelod byddar o'r teulu fel nad ydynt yn cael eu gadael allan.

Trof yn awr at argymhelliad olaf y pwyllgor:

'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gynllunio'r Gweithlu ar gyfer gwasanaethau arbenigol AAA, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o gynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaethau hyn. Fel rhan o hyn, rydym yn cefnogi'r syniad o gyflwyno cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain safonol gofynnol ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc byddar.'

Mae hyn yn hynod bwysig, oherwydd os yw pobl yn gweithio gyda phlant byddar, mae'n rhaid iddynt gael o leiaf yr un lefel o iaith â'r plant y maent yn gweithio gyda hwy. Mae pa bynnag gymwysterau a chymorth rydym yn dweud y dylid eu darparu yn ddiystyr os nad oes gennym bobl gymwys i addysgu a chefnogi dysgwyr. Gallwn basio a chytuno ar bob math o bethau yma mewn perthynas â phwysigrwydd y cymorth hwn, ond os nad oes bod gennym bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy'n gallu darparu'r cymorth, nid yw'n mynd i ddigwydd.

Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bobl ifanc fyddar mewn Iaith Arwyddion Prydain. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor nad yw llawer o bobl ifanc fyddar yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfeiriasant at arolwg a oedd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl fyddar yn ei chael yn anodd cael mynediad at ofal iechyd megis meddygfeydd meddygon teulu. Mae meddygfeydd sydd ond yn trefnu apwyntiadau dros y ffôn, neu sydd eisiau i gleifion ffonio ac yna'n eu ffonio'n ôl, yn achosi problemau enfawr i bobl fyddar nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Rwyf wedi siarad â phobl fyddar sydd wedi mynd i'r feddygfa ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ffonio. Maent yn dweud, 'Wel, ni allaf glywed', a'r ateb yw, 'Wel, dyna'r ffordd rydym yn gweithio.' Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd ddangos cefnogaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd sylweddoli bod pobl fyddar yn bodoli ac nad yw dweud wrth bawb, 'Ffoniwch, ac fe wnawn eich ffonio'n ôl', yn gweithio i bobl nad ydynt yn gallu clywed.

Mae angen gwneud llawer i helpu'r gymuned fyddar. Byddai derbyn yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor Deisebau a'u rhoi ar waith yn fan cychwyn da. Yn sicr, ni fyddai'n ddiwedd ar y mater, oherwydd mae'r gymuned fyddar yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin yn deg dros nifer o flynyddoedd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod hynny, Ddirprwy Lywydd. Ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn dechrau camu i'r cyfeiriad hwnnw yn awr.

15:35

Mae Iaith Arwyddo Prydain yn iaith bwysig, sydd ddim yn cael ei chydnabod yn ddigonol. Ar hyn o bryd, does dim darpariaeth na hawliau digonol i gefnogi pobl fyddar ar unrhyw gam o’u taith drwy fywyd, gan ddechrau yn y blynyddoedd cyntaf.

Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy’n clywed. Felly, mae rhieni newydd yn aml heb brofiad o fyddardod, ac yn gorfod dysgu sut i gyfathrebu a chefnogi anghenion penodol eu plentyn o’r newydd. Mae'n syfrdanol nad oes darpariaeth o wersi am ddim ar gael, ac felly'n aml mae'n her i deuluoedd sicrhau cyfleoedd i helpu eu plant. Ac mae'n wir dweud bod hyn yn ffurf ar amddifadedd iaith. Ni ddylai unrhyw blentyn beidio â chael hawl i’w iaith. Mae’n anochel y bydd datblygiad cynharaf plentyn yn cael ei effeithio gan wacter cyfathrebu, efo diffyg gallu cyfathrebu yn arwain at deimladau o fod yn ynysig, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd emosiynol a meddyliol unigolyn, ac o bosib cyfleoedd bywyd ehangach.

Dydy pethau ddim yn gwella pan â plentyn byddar i’r ysgol. Mae Deffo! yn dweud, ar gyfartaledd, fod plant byddar sy'n cael eu haddysg yn y brif ffrwd yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn 16 oed ag oed darllen o naw mlwydd oed. Yn aml, mae llefaredd a sgiliau darllen gwefus yn wael. Hefyd, mae bwlch cyrhaeddiad cyson wedi bodoli yng nghyrhaeddiad plant byddar o'u cymharu â phlant sy’n siarad, sydd ar ei fwyaf eang yn ystod y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. Ac mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae'r dysgwyr byddar yn eu hwynebu yn amlach na pheidio. Mae hyn yn destun pryder i'r comisiynydd plant, sydd wedi mynegi bod diffyg ymrwymiad i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr byddar a’u cyfoedion sy’n clywed yn fater sydd angen sylw gan y Llywodraeth a chan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc sydd yn fyddar, gan gynnwys cyfleoedd dysgu BSL hygyrch a fforddiadwy, ar ystod o lefelau.

Ac mae'r diffyg ffocws yma i gael ei weld hefyd o edrych ar awdurdodau lleol, efo dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i siartr BSL Prydeinig gan y British Deaf Association. Felly, mae’n bryd hoelio’r ffocws ar ddatblygu siartr cenedlaethol ein hunain ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau cyson i blant byddar a’u teuluoedd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn datblygiad plant byddar a’u teuluoedd drwy’r holl siwrnai addysg, a gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth briodol ar gael achos mae’r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Ar hyn o bryd, mae gormod o blant byddar sydd yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf yn cael eu cefnogi yn yr ysgol gan staff sydd â lefel rhy syml o arwyddo. Ac mae angen meddwl o ddifrif ynglŷn ag ysgogi athrawon i ennill cymwysterau BSL ar y lefelau priodol.

Ac i droi, felly, at y cwricwlwm newydd, mae yna gyfle fan hyn i annog llawer mwy o ddefnydd o BSL yn yr ysgolion. Ac fel dŷn ni'n ei wybod, dydy BSL ddim ar gyfer plant byddar yn unig, ac fe allai dysgu BSL yn yr ysgol roi cyfle ychwanegol i blant, ar draws, i ddysgu iaith arall.

Wedi ystyried yr holl dystiolaeth, a'r ystadegau, mae’n glir bod gwaith angen ei wneud gennym ni fel gwleidyddion i godi statws pwysigrwydd adnoddau a gwasanaethau BSL, fel bod y gefnogaeth briodol ar gael ar bob lefel, o fabandod hyd at fywyd fel oedolion. Ac mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru hefyd i ateb gofynion y ddeiseb. Diolch.

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am eu hymdrechion i dynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gwneud digon a sut y gallwn wella bywydau pobl fyddar, yn enwedig plant a phobl ifanc.

Mae yna lawer o ddeddfau ac egwyddorion cydnabyddedig sy'n ymddangos yn ddi-gwestiwn bellach, ond ni fyddent yn bodoli heb bobl fel Catherine Robins-Talbot a Deffo!, sy'n ymgyrchu'n galed i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi cael eu clywed ers blynyddoedd yn cael llais na fydd yn cael ei anwybyddu. Daw'r gymdeithas i wybod am ran o'u cymuned nad oeddent yn gwybod amdani o'r blaen a gwneuthurwyr polisi yn newid o fod yn ddifater i fod wedi’u hargyhoeddi.

Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Gwn fod adnoddau'n gyfyngedig, ond mae'n ymwneud â blaenoriaethau a lle mae pobl fyddar ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel yr unig bobl yma a all gweithredu ar hyn.

Aeth bron i ddwy flynedd heibio ers y tro cyntaf i AS yn San Steffan ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan ddefnyddio BSL, mewn ymdrech i gynnwys BSL ar y cwricwlwm cenedlaethol yn Lloegr. Aeth 16 mlynedd heibio bellach ers i BSL gael ei chydnabod fel iaith. Ceir dros 150,000 o ddefnyddwyr BSL yn y DU—ac mae mwy na 87,000 ohonynt yn fyddar. Felly, y cwestiwn i mi yw pam nad yw BSL eisoes ar y cwricwlwm yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Pe bai'r deisebwyr yn teimlo bod y ddarpariaeth ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru yn foddhaol, ni fyddent wedi mynd i'r drafferth o gyflwyno deiseb i'r Cynulliad ac argymell atebion.

Ym mharagraff 20 yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, rwy'n nodi bod y Llywodraeth yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw cefnogi teuluoedd pan fo plentyn yn fyddar neu'n drwm ei glyw. Ond mae'n rhaid i mi gwestiynu cysondeb Llywodraeth sy'n datgan ei hawydd yn gyson i gefnogi'r rheini sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n gweithredu ar hynny, ond nid y rheini nad oes ganddynt ddewis ond cyfathrebu drwy gyfrwng BSL.

Mae ein traddodiad o fod yn gymuned a chymdeithas glos sy'n brwydro yn erbyn helbulon ac annhegwch yn ein gwneud yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, a dylai sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i roi o'u gorau i Gymru, a sicrhau bod Cymru yn rhoi o'i gorau iddynt hwy fod yn rhan yr un mor bwysig o'r profiad o fod yn Gymry ag unrhyw agwedd arall ar ein diwylliant Cymreig balch. 

Pa reswm yn y byd na ddylai fod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, fel bod ein holl bobl ifanc yn gwybod bod BSL yn bodoli ac yn cael cyfle i'w hastudio fel opsiwn TGAU iaith, a fydd yn ôl pob tebyg yn cynnig mwy o bethau cadarnhaol i'n cymdeithas a'n cymunedau na rhai opsiynau iaith eraill? Ni ddylid ystyried byddardod a dibyniaeth ar BSL fel angen dysgu ychwanegol. Nid oes gan ddefnyddwyr BSL anhawster dysgu. Yr unig anhawster y maent yn ei wynebu yw'r ffaith nad oes digon o'r boblogaeth sy'n gallu clywed yn deall yr iaith y maent yn ei siarad a'n bai ni yw hynny nid eu bai hwy. Nid hwy ddylai orfod wynebu canlyniadau negyddol cymdeithas sy'n dewis peidio ag ymwneud â hwy i bob pwrpas, a bydd methiant i gefnogi'r argymhellion yn llawn yn gyfystyr â dweud, 'Rydych ar eich pen eich hun. Gobeithiwn fod gennych rieni cyfoethog sy'n gallu fforddio'r cymorth ychwanegol rydych ei angen, oherwydd ni chewch fawr ddim os o gwbl gennym ni.' 

Rydym wedi gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio ar gyfer ardaloedd chwarae cynhwysol, lle gall plant ag anableddau corfforol chwarae ochr yn ochr â phlant heb anableddau corfforol, a rhan o'r cyfiawnhad dros ariannu'r rheini oedd y bydd yn codi ymwybyddiaeth o anabledd ac na ddylai fod yn broblem yn y Gymru fodern. Yn sicr, gellir cyflawni'r un peth ar gyfer plant byddar, pe bai BSL yn cael ei chyflwyno i bob plentyn yn yr ysgol. Faint o blant byddar sy'n osgoi defnyddio mannau chwarae oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu pan fydd plentyn chwareus arall yn ceisio siarad â hwy? Faint yn fwy o blant byddar a fyddai'n cael cyfarfod a chwarae â phlant sy'n gallu clywed, ac ehangu eu cylch o ffrindiau, pe bai BSL sylfaenol iawn hyd yn oed ar y cwricwlwm cenedlaethol? Pwy all ddychmygu'r canlyniadau cadarnhaol y byddai hynny'n eu rhoi i blant byddar yn ddiweddarach mewn bywyd? 

Mae llawer o bolisïau a deddfau wedi'u creu i sefydlu hawliau cyfartal i nifer o grwpiau eraill, ond ymddengys nad oes gennym yr un hawliau cyfartal ar gyfer pobl fyddar. Mae'r bobl ifanc hyn ein hangen ni, ac rydym ni angen eu doniau hwy, doniau na wnaed defnydd teg ohonynt ers gormod o amser. Byddai Cymru'n elwa, a byddai pobl fyddar yn elwa pe baem yn agor ein llygaid i weld yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Dyna pam fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn newid ei hymateb ac yn derbyn argymhelliad 3 yn ddiamwys ac yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yn ddi-oed. Diolch.

15:40

Diolch i Deffo! ac i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i Stuart Parkinson yn ogystal am e-bostio. Diolch hefyd i Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd. Ymwelais â hwy unwaith ac roedd yn brofiad hynod addysgiadol a phleserus.

Nid wyf yn credu bod y gymuned fyddar yn cael chwarae teg. Credaf eu bod yn cael eu heithrio i raddau helaeth. Pan lansiais grŵp Propel yn yr hydref—neu yn yr haf, mewn gwirionedd—fe wnaethom yn siŵr fod gennym rywun yn arwyddo, yn ogystal â chyfieithu. Wrth wrando ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach, a'r ffaith nad oes ond un gweithiwr ieuenctid yng Nghymru gyfan—un—mae'n anghredadwy nad oes ond un gweithiwr ieuenctid sy'n rhugl yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae'n warthus, mewn gwirionedd. A 'Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes'—holl bwrpas datganoli, holl bwrpas datblygu sefydliadau Cymreig yw bod yn wahanol, bod yn deg, bod yn arloesol, ac mae gennym 'Cwricwlwm i Gymru' yn dweud nad ydynt eisiau, neu nad ydynt yn mynd o wneud iaith arwyddion yn gymhwyster, sy'n gwbl anghywir, a dylid gwneud penderfyniad gwleidyddol i gywiro hynny.

Mae problem yn codi gyda hyfforddiant i athrawon yn ogystal. Rwy'n deall nad ydynt ond yn cyrraedd lefel 3; nid ydynt yn cael hyfforddiant pellach. Nid yw athrawon plant byddar yn cael mynediad at yr holl ddulliau addysgu. Maent newydd gael gwared ar y cwrs ar gyfer athrawon y byddar ym Mhrifysgol De Cymru. Mae yna broblem fawr hefyd o ran diffyg Iaith Arwyddion Prydain a'r blinder sy'n effeithio ar ddisgyblion ysgol sy'n gorfod darllen gwefusau gydag anhawster. 

Rwy'n cefnogi'r argymhellion. Rwy'n credu y dylai Iaith Arwyddion Prydain fod yn iaith leiafrifol. Dylai fod ar y cwricwlwm cenedlaethol a dylid creu siarter. A hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd yn y ddinas hon i weld y waith da sy'n cael ei wneud, ac efallai y gallech ddod gyda mi, neu gyda'r Aelodau rhanbarthol eraill, ac rwy'n siŵr y byddai AC yr etholaeth yn dod hefyd. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud y prynhawn yma yw ymrwymo i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn. Diolch. [Arwyddo mewn BSL.]

15:45

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Deffo! Fforwm Ieuenctid Byddar Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn Iaith Arwyddion Prydain: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL; ychwanegu BSL at y cwricwlwm cenedlaethol; gwella mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL ar gyfer plant a phobl ifanc; a darparu gwell mynediad at wasanaethau mewn BSL, megis iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus.  

Iaith Arwyddion Prydain yw pedwaredd iaith frodorol y DU, a chafodd ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2003, ac mae ymgyrchwyr yn galw am sicrhau bod defnyddwyr BSL i'r byddar yn cael eu hystyried yn grŵp iaith leiafrifol. Ar hyn o bryd, ceir plant byddar mewn addysg brif ffrwd yng Nghymru heb fynediad llawn at gymorth cyfathrebu a chyfoedion byddar eraill. O ganlyniad, maent yn gadael yr ysgol yn 16 oed gydag oedran darllen cyfartalog o naw oed. Yn aml hefyd, mae eu sgiliau llafar a'u sgiliau darllen gwefusau yn wael, rhywbeth nad yw wedi newid ers y 1970au, ac mae methiannau addysg gynyddol brif ffrwd yn gwaethygu hyn. Cyfyngedig yw mynediad teuluoedd at grwpiau cymorth a theuluoedd tebyg eraill, ac nid ydynt yn gallu dysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio'r costau uchel. Nid oes unrhyw gyfle i blant a phobl ifanc byddar na'u teuluoedd ddysgu eu hiaith eu hunain, BSL, nac ennill cymwysterau BSL hyd nes eu bod yn 16 mlwydd oed, pan fyddant yn gadael yr ysgol. Maent wedi eu hamddifadu o sgiliau bywyd pwysig, sgyrsiau newid bywyd o fewn y cartref a newyddion lleol a byd-eang.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog addysg fod ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnwys o fewn ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm, ac y byddai hyn hefyd yn cynnwys BSL. Fodd bynnag, nid yw BSL yn iaith dramor, mae'n iaith frodorol. Er bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi datgan eu bod yn derbyn y bydd strwythur y cwricwlwm newydd yn hwyluso gallu ysgolion i ddysgu BSL drwy'r cwricwlwm newydd, maent wedi datgan eu bod yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd ati'n weithredol i annog ysgolion i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn. Aethant ymlaen i ddweud bod annog mwy o ysgolion i ddysgu BSL yn hollbwysig, o ystyried ei statws fel iaith swyddogol yng Nghymru. Dywedasant fod gormod o blant byddar sy'n ddefnyddwyr BSL iaith gyntaf yn cael cymorth mewn ysgolion ar hyn o bryd gan staff heb fwy na lefel sylfaenol iawn o iaith arwyddion. Maent yn siomedig iawn na dderbyniwyd argymhelliad gan y comisiynydd plant y dylid sicrhau bod mynediad at BSL ar gael i bob teulu sydd â phlant byddar, ac roeddent yn dweud bod angen neges gryfach hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dechrau ystyried darpariaeth ar gyfer dysgu BSL fel rhan o'u dyletswydd i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant byddar, gan nad oedd hyn yn digwydd ar hyn o bryd, meddent.

Mewn ymateb, dywedodd Deffo! Cymru mai

dim ond y rheini sydd yn yr ysgol uwchradd sy'n elwa o'r TGAU, ond bydd dysgu o'r dosbarth meithrin yn paratoi pob un o'r rhai fydd yn gwneud TGAU mewn BSL yn y dyfodol, neu yn wir, y system gyfredol o Gymwysterau BSL.

Er eu bod yn croesawu gweledigaeth y Gweinidog addysg ar gyfer addysgu ieithoedd mewn ysgolion, maent yn bryderus mai dewis yr ysgol ydyw, nid dewis y plentyn,

er mwyn eu galluogi i wella mynediad at ddysgu, addysg bellach, sgiliau cymdeithasol, gweithgareddau hamdden, cyflogaeth a chyflawniadau bywyd.

Ddeuddeng niwrnod yn ôl, ymwelais â grŵp trefnu cymunedol Cymru yn Ysgol St Christopher yn Wrecsam, ar eu cais, i drafod eu gwaith ar archwilio'r posibilrwydd y gallai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a chynnwys BSL yn y cwricwlwm.

Mae etholwyr byddar yng ngogledd Cymru wedi e-bostio'n dweud:

mae pobl fyddar rwy'n eiriolwr drostynt yn dioddef ledled Cymru ac mae llawer mewn argyfwng iechyd meddwl,

gan ychwanegu bod Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar flaen y gad yn brwydro am gydnabyddiaeth gyfreithiol i BSL yng Nghymru, ac mae'n gofyn i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus lofnodi eu siarter ar gyfer BSL, a gwneud pump addewid i wella mynediad a hawliau ar gyfer defnyddwyr BSL. Mae gennym siarter eisoes—gadewch i ni ei defnyddio—ond ar hyn o bryd, dau yn unig o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi llofnodi.

Fis Hydref diwethaf, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ymateb i alwadau am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru a wnaed yng nghynhadledd Clust i Wrando 2018 gogledd Cymru, gan edrych ar Ddeddf BSL yr Alban 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol ar gyfer 2017 a sefydlodd grŵp cynghori cenedlaethol yn cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu eu hiaith gyntaf. Er bod Deddf Cymru 2017 yn gwneud cyfle cyfartal yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, byddai Bil BSL (Cymru) yn cydymffurfio pe bai'n ymwneud â'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf. Heb ddeddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau penodol, nid yw deddfwriaeth generig Llywodraeth Cymru yn mynd i unman.

15:50

Lywydd, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. [Arwyddo mewn BSL.] A hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn y maes hwn ac am ei adroddiad a'i argymhellion. Ysgrifennais at y Cadeirydd fis Tachwedd diwethaf gydag ymateb Llywodraeth Cymru, felly nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr ymateb hwnnw'n fanwl y prynhawn yma. Ond i fod yn gwbl glir, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, naill ai'n llawn, neu yn achos un argymhelliad, mewn egwyddor, oherwydd bod yr argymhelliad hwnnw'n ymwneud â mater cymwysterau ar lefel TGAU.

Mae gan Lywodraeth Cymru gorff cymwysterau annibynnol ac fel y mae'r Aelodau wedi'i grybwyll, mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud gyda Cymwysterau Cymru mewn perthynas â TGAU. Penderfynwyd na fyddai TGAU annibynnol i Gymru yn ymarferol, ond y gallai TGAU Cymru a Lloegr ddwyn ffrwyth yn sicr. Yn y cyfamser, mae'n bwysig cydnabod bod cymwysterau cyfatebol ar lefel 1 a lefel 2 ar gael, a bod y cymwysterau hynny'n cyfrif tuag at fesur atebolrwydd ysgolion. Ond byddaf yn ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i gael y newyddion diweddaraf am y gwaith y maent yn ei wneud ar y cyd â byrddau arholi yn Lloegr, a byddaf yn hapus i roi copi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell.

Cydnabu Llywodraeth Cymru Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, a fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y gellid gwneud mwy i ddatblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo a chefnogi BSL, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gydnabod hyn. Rydym yn parhau i roi sylw i'r problemau a'r anawsterau y mae aelodau o'r gymuned fyddar yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwysedig yng Nghymru, ac rydym wrthi'n tendro am adolygiad o'r ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, a daw adroddiad yr adolygiad i law ym mis Mehefin. Rydym yn ymwybodol fod y ddarpariaeth bresennol yn gyfyngedig. Mae'n gyfyngedig o ran y cynnig, mae'n gyfyngedig o ran mynediad a'r gallu i'w ddarparu hefyd. Er hynny, yr hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw fy mod eisiau datblygu system deg a chyfiawn. Felly, bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar y ddarpariaeth bresennol. Byddwn hefyd yn edrych ar y galw cudd am ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, pa ffactorau sy'n hwyluso ein Deddf fel rhwystr i'r galw hwnnw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried BSL fel sgil cyfathrebu hanfodol, ac fel y cyfryw, faint fydd cost ei ddarparu i lefel 2 ac a oes gennym weithlu i'w ddarparu i lefel 2. Felly, bydd y gwaith hwn yn parhau, ac fel y dywedais, cyflwynir adroddiad yn ei gylch ym mis Mehefin.

Mae siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yn un o'r opsiynau rydym yn eu hystyried. Rydym yn rhagweld y byddai'r siarter honno, rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, yn ein helpu i ddeall y ddarpariaeth bresennol. Byddai hefyd yn adlewyrchu'r canllawiau arferion da a'r safonau sy'n cael eu datblygu ar fyddardod a cholli clyw i gefnogi'r gwaith o weithredu ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Yn hollbwysig, byddai hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r prinder dehonglwyr a thiwtoriaid ar hyn o bryd.

Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol ymhellach i gynllunio eu gweithlu a nodi anghenion hyfforddi, rydym wedi cyhoeddi data, a gomisiynwyd gennym oddi wrth Uned Ddata Cymru, i ddarparu gwybodaeth am weithlu arbenigol awdurdodau lleol. Yn sicr, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod BSL ar gael i blant y nodwyd eu bod ei hangen. Fodd bynnag, bydd y cwricwlwm newydd, y byddwn yn ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, yn caniatáu i ysgolion ddatblygu cwricwla sy'n ateb anghenion ac yn adlewyrchu diddordebau eu disgyblion. Bydd maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn cwmpasu ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, iaith nad wyf erioed wedi'i disgrifio fel 'iaith dramor'.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a gyflwynwyd y llynedd, yn rhoi mantais i ni hefyd. Bydd yn sicrhau gwelliannau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai â nam ar y clyw. Mae tegwch a chydraddoldeb yn greiddiol i'r Ddeddf, ac mae'n anelu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag yw'r potensial hwnnw. Disgwylir y bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Medi 2020, a bydd y cyfnod cyflwyno fesul cam yn para tan 2023. Tan hynny, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt gan Ddeddf Addysg 1996, a'r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig ar gyfer Cymru.

Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, rwyf hefyd yn gweithio i godi lefelau cyrhaeddiad dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Dylid nodi anghenion yn gynnar a dylid mynd i'r afael â hwy yn gyflym fel bod pawb yn cael cyfle, fel y dywedais, i gyrraedd eu potensial. Rwyf eisiau i bob disgybl allu mwynhau eu haddysg, i fod yn uchelgeisiol ac i lwyddo beth bynnag y maent yn dewis ei wneud, a dyna pam rydym wedi datblygu rhaglen drawsnewid ynghyd â'r Ddeddf ADY, oherwydd ni fydd unrhyw beth yn llai na thrawsnewidiol yn dderbyniol. Rwyf wedi ymrwymo £20 miliwn i hyn dros gyfnod y Cynulliad hwn i ddarparu cymorth, cyngor a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt baratoi i weithredu'r diwygiadau ADY. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid yn mynd tuag at ddatblygu'r gweithlu. Yn unol â'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwyf wedi dyrannu £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd yr awdurdodau lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant BSL ar amrywiol lefelau, a hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon y byddar.

Rydym hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol gydol gyrfa—dull sy'n adeiladu capasiti addysgwyr o bob math, gan gynnwys staff cymorth addysgu, athrawon dosbarth ac arweinwyr ysgolion. Yr hydref diwethaf, buom yn ymgynghori ar safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu, ac rydym yn disgwyl y byddant yn barod ym mis Medi eleni. Mae dysgu proffesiynol gydol gyrfa yn un o bum dimensiwn y safonau hyn, ac mae'n berthnasol er mwyn ateb anghenion pob dysgwr. Cyfeirir at bwysigrwydd hyn yn y gwerthoedd a'r ymagweddau trosfwaol a ddaw gyda'r safonau. Rydym wedi sicrhau bod cyfrifoldebau penaethiaid i hwyluso hyn wedi'u cynnwys yn eu safonau arweinyddiaeth ffurfiol.

Mae ein blaenoriaethau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pob myfyriwr a meithrin hyder y cyhoedd yn ein system addysg yn ganolog i'n gweledigaeth a'n gweithredoedd ar gyfer addysg yng Nghymru. Caiff pob un o'r diwygiadau rydym yn gweithio arnynt gyda'n gilydd eu gyrru gan y tair blaenoriaeth, a bydd eu cyflawni'n sicrhau bod ein holl ddysgwyr a'n holl athrawon yn cael eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod. Rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan ddaw'r adroddiad a gomisiynwyd i law. A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain? [Arwyddo mewn BSL.]

16:00

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ymddiheuro am fethu ymateb i'r Aelodau'n unigol, ond mae'r amser sydd ar gael yn gyfyngedig iawn. Felly, rwyf am ganolbwyntio ar ymatebion y Gweinidog. Mae'n braf iawn gwybod y gallwch gael lefelau 1 a 2 mewn BSL, ac mae hefyd yn braf canfod bod yna gronfa o £20 miliwn bellach yn cael ei rhoi—ond eto, yn anffodus, i gynghorau lleol heb fod rhan ohono wedi'i neilltuo. Felly, mae'n gwbl amlwg nad yw llywodraeth leol yn bod mor gyfrifol ag y dylai fod a'u bod yn amlwg yn methu darparu cyfleoedd BSL.

Diolch ichi am dderbyn fy nghwestiwn. Fy nghwestiwn yw—. Mae fy nhîm a minnau wedi gallu cael hyfforddiant BSL drwy'r fan hon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'n tîm datblygu staff, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt. A fyddech yn cytuno, mewn gwirionedd, ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom fel Aelodau i ystyried dysgu BSL efallai? Mae'r tîm datblygu staff yma yn fwy na pharod i ddarparu hyn. Credaf y dylai pawb ohonom fod yn hyfedr ein hunain wrth inni symud ymlaen. Diolch.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Janet, ar y sail honno, ond rydym yn sôn yma am addysg ar sail ehangach o lawer, a'r hyn rydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yw darparu BSL i blant yn arbennig o fewn y system addysg, a'r gwir amdani yw nad oes unrhyw lwybr penodol i'r plant hyn ei ddilyn. A diolch i'r Gweinidog am ei bod yn dweud ein bod yn mynd ar drywydd y posibilrwydd o TGAU mewn BSL, ond rydych yn dilyn o'r hyn y mae Lloegr yn ei wneud. Nawr, rydym i fod i fod yn arloesol yng Nghymru ac yn sicr, dylem fod ar flaen y gad ar y sail honno.

Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gobeithio bod y ddadl hon a'r broses ddeisebau yn gyffredinol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Deffo! a'u cefnogwyr, a diolch iddynt unwaith eto am eu hymwneud â'r pwyllgor a'r Cynulliad cyfan. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, ac yr eir ar drywydd yr holl argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diwydiant Dur

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y diwydiant dur, a galwaf ar David Rees i wneud y cynnig. David.

Cynnig NDM6950 David Rees, John Griffiths, Bethan Sayed, Russell George, Suzy Davies, Jayne Bryant, Huw Irranca-Davies, Caroline Jones

Cefnogwyd gan Alun Davies, Dawn Bowden, Jack Sargeant, Mike Hedges, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Fel y gŵyr yr Aelodau, y gwaith dur ym Mhort Talbot yw curiad calon fy etholaeth i, fy nhref enedigol, ac mae'r ffwrneisi chwyth yn anadlu'r tân a ddaw o'r ddraig Gymreig hon. I fod yn onest, ni allaf ddychmygu nenlinell Port Talbot heb y ffwrneisi chwyth hynny'n rhan ohoni. Dyna yw hi wedi bod erioed i mi. Felly, mae dur yn rhan o fy DNA ac yn agos iawn at fy nghalon.

Ddirprwy Lywydd, mae'n teimlo fel ddoe pan oeddem yn trafod dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yma yn y Siambr—ac rwy'n cofio, yn y Siambr yn Nhŷ Hywel, pan gawsom ein galw yn ôl—ond mae bron i dair blynedd er pan oedd y diwydiant yn y sefyllfa enbyd honno. Roedd Tata ar werth, yn ystyried cau gweithfeydd Port Talbot, ac roedd y marchnadoedd byd-eang yn taro cynhyrchwyr dur—pob un ohonynt—yn galed. A heddiw, rwy'n falch o ddweud bod y diwydiant mewn sefyllfa well. Rhaid canmol camau gweithredu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y pwynt hwn. Hefyd, gwelsom Tata yn buddsoddi yn eu gweithfeydd, gan gynnwys Port Talbot. Heddiw ddiwethaf cawsom gyhoeddiad gan y cyngor lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot ynglŷn â chymeradwyo cynlluniau i leihau allyriadau llwch yn y ffatri. Mwy o fuddsoddi yn y gwaith ym Mhort Talbot. Ond mae hefyd yn edrych ar wella sgiliau ac adeiladu'r gweithlu yn ogystal, gan gynnwys rhaglen brentisiaethau fywiog yn y gwaith hwnnw—arwydd clir fod gan Tata hyder yn nyfodol ein gwaith dur. Mae'r diwydiant dur yng Nghymru, nid yn unig ym Mhort Talbot, yn rhan hanfodol o economi Cymru, a rhaid inni ei warchod.

Fodd bynnag, er ein bod wedi gobeithio bod dyfodol dur yn ddiogel yn dilyn gweithredoedd y sector a Llywodraeth Cymru, rydym bellach yn wynebu adegau mwy heriol. Mae'r costau ynni uchel yn parhau i greu heriau economaidd anodd o fewn y diwydiant, ac yn awr mae ansicrwydd Brexit yn gwneud yr heriau hynny'n fwy ac yn ddyfnach. Mae'n hollbwysig i bob plaid weithio gyda'i gilydd ar yr adeg hon i sicrhau dyfodol y diwydiant dur wrth iddo wynebu cyfnod ansicr unwaith eto, a sicrhau ein bod yn diogelu economïau lleol Port Talbot, Llanelli, Caerdydd, Casnewydd a Shotton, heb sôn am ddiogelu ein nenlinellau diwydiannol.

Yn ystod y cyfnod anodd diweddar sydd wedi wynebu ein cymunedau dur, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi canolbwyntio ar sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru, un sy'n targedu cadw cynhyrchiant dur a swyddi dur. Maent wedi buddsoddi ym mhob un o'r tri phrif gynhyrchwr dur, wedi darparu cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu, wedi rhoi ymrwymiad i ddatgarboneiddio, ac wedi parhau i roi cymorth i weithwyr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos na fydd yn cefnu ar y diwydiant dur yma yng Nghymru.

Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru ddatrys yr heriau i'r sector gan Brexit a chostau ynni uchel. Mae'n bryd bellach i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad i gynhyrchwyr dur a'u gweithwyr. Maent eisiau sicrwydd na chaiff y diwydiant dur ei anghofio yn ystod Brexit ac y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn gwireddu ei haddewidion ynglŷn â mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng costau ynni yn y DU ac yn yr UE. Dyma'r meysydd y byddaf yn canolbwyntio arnynt heddiw, ond rwy'n siŵr y bydd mwy. Fel arall, fe fyddaf yma drwy'r prynhawn. Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd.

Gwta bythefnos yn ôl, mynychodd cynhyrchwyr dur a chynrychiolwyr undebau llafur gyfarfod y grŵp dur trawsbleidiol yma yn y Cynulliad a gadeirir gennyf. Yn y cyfarfod hwnnw, clywsom dystiolaeth ddamniol gan y sector am yr anfanteision y maent yn eu hwynebu bob dydd mewn perthynas â chostau ynni. Gwaethygwyd hyn ymhellach yr wythnos hon gan adroddiad blynyddol UK Steel ar gostau ynni yma yn y DU o gymharu â Ffrainc a'r Almaen. Yn 2017, ymrwymodd maniffesto'r Torïaid Lywodraeth San Steffan i geisio darparu'r costau ynni isaf yn Ewrop ar gyfer defnyddwyr domestig a diwydiannol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r diwydiant yn dal i aros. Yn 2018, rhyddhaodd yr un Lywodraeth Dorïaidd ei strategaeth ddiwydiannol, a oedd unwaith eto'n addo gwneud y DU yn lle gorau ar gyfer dechrau a thyfu busnes, ac eto is-destun yn y ddogfen honno oedd dur.

Cafwyd peth gweithredu ers hynny o ran effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw wella a wneir ar effeithlonrwydd ynni yn gwneud iawn am orfod talu 50 i 100 y cant yn fwy am eich trydan na'ch cystadleuwyr. Yn ein grŵp trawsbleidiol, dywedwyd wrthym fod costau ynni yn y DU 110 y cant yn uwch na Ffrainc a 55 y cant yn uwch na'r Almaen. Ceir pryderon fod hyn yn mynd i waethygu yn hytrach na gwella. Roedd angen cymorth o £65 y MWh i gau'r bwlch sydd yno heddiw, heb sôn am beth allai ddigwydd yn y dyfodol.

Rydym wedi dadlau ers blynyddoedd lawer mai'r cyfan y mae ein gweithwyr dur yn gofyn amdano yw chwarae teg, er mwyn eu gwneud yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang. Yn fy marn i, ein gweithwyr dur yw'r gorau yn y byd, ac mae eu hymrwymiad i'r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos y gallant chwarae eu rhan. Ond maent angen i Lywodraeth y DU wneud eu rhan yn awr. Maent am i Lywodraeth y DU ymateb i adroddiad UK Steel ar gostau ynni. Mae hwnnw'n amlinellu naw mesur i Lywodraeth y DU eu gweithredu ar unwaith er mwyn rhoi cyfle teg i'r diwydiant mewn economi fyd-eang sy'n newid.

Er mwyn rhoi cymhelliant i Lywodraeth y DU weithredu, gwnaeth pum cwmni dur mwyaf y DU ymrwymiad pendant ac uniongyrchol y byddai'r holl arbedion ar gostau trydan yn cael eu buddsoddi'n ôl yn y diwydiant yn y DU, gan wneud y gost yr un fath â'r Almaen, a sicrhau £55 miliwn o fuddsoddiad y flwyddyn y tu hwnt i fusnes fel arfer. Dyna gynnydd o 30 y cant. Gyda'r ymrwymiad hwn gan y sector dur, i mi, mae'n gwbl amlwg y dylai Llywodraeth y DU ddangos yr un ymrwymiad. Byddai cyllid o'r fath yn darparu cyllid ymchwil a datblygu hanfodol ar gyfer y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig gan y byddwn yn gweld colli tua £40 miliwn y flwyddyn o'r grant ymchwil glo a dur a weinyddir gan yr UE, a fydd, fel y soniais yr wythnos diwethaf, yn cael ei ad-dalu i Drysorlys Llywodraeth y DU. Talwyd yr arian hwn i'r UE gan y diwydiant dur a glo ac mae'n arian y mae ganddynt hawl iddo a dylent gael mynediad llawn ato, ac eto mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod clustnodi hwn ar gyfer y diwydiannau hynny. Mae ymchwil a datblygu'n hanfodol wrth inni symud ymlaen i sicrhau ein bod yn aros ar y blaen i gystadleuwyr byd-eang. Yn y DU, rydym wedi gweld cynlluniau ymchwil a datblygu gwych yn mynd rhagddynt, yn enwedig yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau am sôn am beth o hynny, yn enwedig gan ei fod yn fy etholaeth. Nawr, rwy'n ystyried hyn yn gwbl warthus. Rwyf am barhau i ymladd ochr yn ochr â'r diwydiant i sicrhau bod yr arian hwn—arian a ddaw o'r diwydiant ei hun—yn mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant. Dyna lle mae'n perthyn, dyna lle y dylai aros ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae'n fy arwain at y gair B. Roeddwn wedi gobeithio ei osgoi yr wythnos hon, ond dyna ni.

Ddydd Llun, cyhoeddodd UK Steel ei adroddiad, 'Implications of a No-Deal Brexit for UK Steel Companies'—ofnau gwirioneddol ynglŷn â Brexit 'dim bargen'. Ac rwy'n derbyn nad ydym yno eto, ond mae'n edrych yn fwy tebygol. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd saith maes allweddol a gâi eu heffeithio i raddau amrywiol o ganlyniad i Brexit: symud nwyddau, tariffau UE, cytundebau masnach rydd a thariffau y tu allan i'r UE, rheolau tarddiad—ac rydym yn anghofio am y rheini weithiau—rhwymedïau masnach, mesurau diogelwch ac ymchwil a datblygu. Nid wyf yn mynd i drafod pob un o'r rheini yn y cyfraniad hwn, ond fe ganolbwyntiaf ar dri, sef y rhai mwyaf amlwg: symud nwyddau, rheolau tarddiad a mesurau diogelwch. A byddant yn effeithio'n uniongyrchol ar y diwydiant dur yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot, oherwydd aiff 30 y cant o ddur Port Talbot i'r diwydiant modurol, ac mae 80 y cant o hwnnw wedi'i leoli yn y DU, sy'n swnio'n gadarnhaol—mae yma yn y DU, felly nid oes raid inni boeni amdano—ond pan ystyriwch fod y ceir hynny'n cael eu hallforio i'r UE, ac y bydd tariffau ar y ceir hynny, gallwch weld yr effaith. Gwelsom benderfyniad Nissan y penwythnos hwn i leihau neu gael gwared ar gynhyrchiant X-Trail yma, a gallai Nissan fod yn gleient posibl i Tata. Gwn eu bod yn gwneud y Juke, ond yma mae gennym sefyllfa lle rydym eto'n gweld y diwydiant modurol yn symud o'r DU.

Nawr, mae goblygiadau hynny i ddur Cymru sy'n cael ei werthu ar y farchnad fyd-eang yn fawr, oherwydd rydym am weld mwy o ddur Cymru ar y farchnad fyd-eang o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n mynd i fod yn heriol. Nawr, bydd tariffau'r UE ar y dur a allforir os na chawn gytundeb, ac amcangyfrifir y bydd y tariff rhwng 4 a 5 y cant. Ar hyn o bryd rydym yn allforio 2.6 miliwn tunnell i'r UE, a bydd Twrci am fachu peth o'r farchnad honno. Rydym yn allforio 300,000 tunnell o ddur iddynt, a gallent osod 15 y cant yn fwy o dariffau ar ben hynny. Felly, os oes cytundeb, ni fydd unrhyw risg. Os nad oes cytundeb, rydym yn wynebu trafferthion difrifol, a byddwn hefyd yn wynebu tariffau'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill, a hyd yn oed yn wynebu tariffau'r UE, oherwydd ni fydd gennym unrhyw amddiffyniad mwyach. Mae'r rhain yn bosibiliadau gwirioneddol drychinebus.

Byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at gydrannau UK Steel neu gydrannau wedi'u cynhyrchu yn y DU—oherwydd peidiwch ag anghofio, mae dur yn mynd i mewn i gydrannau ac agweddau eraill, a daw rheolau tarddiad i mewn—. Felly, bydd gweithgynhyrchwyr yr UE yn edrych ar faint yn union o ddur sydd yn eu cydrannau, oherwydd lle bydd y rheolau tarddiad yn weithredol, a fydd yn rhaid iddynt gynyddu dur o'r UE ar draul dur o'r DU? Gallech ddweud bod gan Tata leoedd yn y ddau, ond rydym yn edrych ar y diwydiant yma yng Nghymru, a bydd yn effeithio ar y diwydiant yma yng Nghymru. Nawr, gwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu atgynhyrchu cytundebau masnach rydd yr UE sy'n bodoli eisoes, ac o ganlyniad, mae 50 y cant o gar a gynhyrchir yn y DU wedi'i wneud o ddur y DU. Bydd tariff arno, a rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus iawn.

Ddirprwy Lywydd, mae angen inni amddiffyn mesurau diogelwch, ynghyd â thariffau amrywiol. Rwy'n pryderu ychydig am y Bil Masnach a'r rhwymedïau masnach yn hwnnw, oherwydd mae 97 y cant o'n hallforion presennol yn mynd allan o dan gytundebau masnach rydd yr UE ac os nad oes gennym amddiffyniad o ran hynny, byddwn yn wynebu heriau gwirioneddol. I gloi fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, mae dur y DU ar ymyl y dibyn unwaith yn rhagor, mae arnaf ofn. Rwy'n falch fod hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod yn rhagweithiol, ond rwy'n poeni bod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â'n diwydiant. I mi, mae'n bryd iddynt sefyll a gweithredu i achub ein diwydiant dur. Ni wnaethant hynny y tro diwethaf, ac mae'n bryd iddynt wneud hynny yn awr. Dyna mae ein gweithwyr dur gwych ei eisiau, dyna mae ein cynhyrchwyr ei eisiau, a dyna mae ein cymunedau lleol yn ei haeddu.

16:10

A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod gennym y gweithwyr dur gorau yn y byd yma, ac maent yn haeddu'r sylw rydym yn ei roi iddynt yn awr? Oherwydd rydym yn sôn am ddiwydiant sylfaenol i economi'r DU, yn enwedig yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, ac er ein bod bellach yn cydnabod efallai y peryglon sy'n deillio o gymunedau cyfan yn dibynnu ar un diwydiant, megis mewn lleoedd fel Port Talbot, nid yw ystyried colli cynhyrchiant fel difrod ystlysol mewn byd sy'n newid yn opsiwn o gwbl.

I mi, credaf mai'r risgiau o ddympio dur a methu rheoli costau y gellir eu rheoli yw'r peryglon mwyaf eglur a phosibl, ynghyd â'r syrthni neu'r rhwystrau a allai effeithio ar y cyfle i Gymru naddu lle iddi ei hun yn y byd arloesi sy'n symud yn gyflym. Dyna agwedd ar Brexit y credaf y byddai'n gamgymeriad ei anwybyddu ar adeg pan fo'r brif stori'n ymwneud â thariffau. Fel y soniodd David, mae effaith dosbarthiad gwlad tarddiad ar gyfer dur a chynnyrch yn ben tost ôl-Brexit enfawr ac mae angen inni gael iachâd ar ei gyfer cyn iddo heintio gweddill yr economi. Ac er y gallai gweithwyr fod wedi gweld diffyndollaeth yr Unol Daleithiau yn fwy o fygythiad i gynhyrchiant yn ffatri Ford yn fy ardal na Brexit ar y cychwyn, gyda diwydiant dur y DU mor ddibynnol bellach ar ddiwydiant modurol ffyniannus, a all ymladd brwydr ar ddau ffrynt mewn gwirionedd? Credaf fod papur briffio UK Steel, a oedd yn dangos peth dewrder heddiw, yn eithaf clir pam fod Brexit 'dim bargen' yn newyddion drwg i ddur.

Oherwydd nid yw Llywodraeth y DU—wyddoch chi, nid hi sy'n gyfrifol am y ffaith bod Tsieina'n gallu cynhyrchu dur am bris sy'n is nag unman ar y blaned, buaswn yn dychmygu. Felly, rwy'n falch nad yw'r ddadl hon wedi'i fframio mewn ffordd sy'n dweud yn syml, 'Gadewch inni feio Llywodraeth y DU'. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig, ar wahân i ddisgwyl cytundeb ymadael, cytundeb ar hynny, yn disgwyl i gytundebau masnach atal cystadleuaeth annheg hefyd ac unrhyw ddympio dur yma. Oherwydd Cymru, fel y clywsom, sy'n cynhyrchu dros hanner y dur yn y DU, a chymunedau Cymru, felly, sy'n fwyaf agored i niwed.

Y gost arall y gellir ei rheoli, wrth gwrs, yw ynni, a chrybwyllodd David Rees honno hefyd. Ond mae yna gwestiwn difrifol yma ynglŷn â sut i flaenoriaethu. Rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi croesawu cyfyngiad diweddar Llywodraeth y DU ar daliadau ynni domestig—rhaid dweud wrth y defnyddwyr yn awr lle y gallant ddod o hyd i'r bargeinion rhataf—a digwyddodd hynny fwy neu lai ar yr un pryd ag yr oedd pob un ohonom yn y Siambr hon yn codi i ddweud, 'Gadewch inni gael morlyn llanw Bae Abertawe', ac rwy'n dal i gredu bod hwnnw'n syniad gwych, ond er gwaethaf ei fanteision niferus, nid oedd yn cynhyrchu trydan rhad. Mae'r un pwyntiau yn hofran dros Wylfa, a Hinkley Point ar y pryd wrth gwrs. Rydym yn gofyn yn awr am drydan rhatach ar gyfer diwydiant trwm; mae gwir angen hynny arno, ond heb unrhyw reolaeth dros brisiau olew, sy'n effeithio ar brisiau tanwydd, sut y gallwn helpu Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.]—gadewch i mi orffen hyn—i flaenoriaethu'r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ar ei bolisi ynni?

16:15

Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno ac yn deall y pwynt hwnnw, ond pe bai Llywodraeth y DU yn barod i fuddsoddi yn Tata, er enghraifft, mae'n bosibl edrych ar sut y gallwn ailgylchu'r nwyon gwastraff. Gallai ddod yn hunangynhaliol, felly nid yw'n dibynnu ar brisiau olew na nwy o'r tu allan oherwydd gall wneud hynny ei hun.

Rydych wedi rhagweld yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, David. Oherwydd, yn y cyfamser, bydd y sector yn dymuno gwybod beth y gall yr holl weithredwyr yn y gofod hwn ei wneud i oresgyn y ffaith eu bod yn talu ddwywaith cymaint am eu trydan ag y mae gwneuthurwyr dur Ffrengig. Felly, mae'n galonogol iawn mewn gwirionedd fod Tata yn arwain ar hyn—maent eisoes wedi mynd gryn bellter i ailgylchu ynni o fewn y safle ei hun, ac wrth gwrs, os yw Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir, yn aros gyda'r rhaglen, bydd arian yn mynd tuag at sicrhau bod yr orsaf bŵer yn cael ei chwblhau ac yn cyfrannu at gynhyrchiant ynni sy'n llawer rhatach, ac yn fwy cynaliadwy wrth gwrs.

Yn bersonol, hoffwn weld ychydig mwy o gynnydd ar gytundebau sector dur y DU—wyddoch chi, cafodd ei gyflwyno fel rhywbeth pwysig o'r diwedd. Ond rwyf am ddod yn ôl at y cyfle hanfodol a mwy optimistaidd efallai i Gymru gael ei gweld fel canolfan ymchwil a datblygu, rhagoriaeth ac arloesedd yn y diwydiant dur. Gallwn edrych ar wlad fach fel Israel, nad yw fawr mwy o ran poblogaeth na ni, ac mae hi ar y blaen ym mhob maes arloesi ar draws nifer o sectorau er ei bod yn wynebu her ddyfnach o ran hunaniaeth a diogelwch nag y mae Brexit yn ei chreu i ni.

Er fy mod yn rhannu pryderon David Rees am gronfa ymchwil yr UE ar gyfer glo a dur, rwy'n cytuno â chi mewn gwirionedd—am ei fod wedi'i godi o'r sector hwnnw, dylid ei ddychwelyd i'r sector hwnnw. Ond rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer hynny. Dyma lle rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu, a'r sector yng Nghymru ei hun. Mae gennym gronfa ynni diwydiannol y DU, cronfa her weddnewidiol newydd y diwydiannau sylfaenol gwerth £66 miliwn sydd ar fin cael ei chyhoeddi, a hoffem pe bai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar yr holl gyfleoedd hynny i wthio ei hagenda datgarboneiddio ei hun yn ogystal â helpu'r diwydiant dur yn uniongyrchol.

Ac er bod y Llywodraeth yn llusgo'i thraed o bosibl mewn perthynas ag argymhellion adolygiad Reid a fyddai'n helpu i godi ein statws fel cenedl ymchwil o ansawdd, rydym eisoes yn gwybod bod y fargen ddinesig wedi ymrwymo i ganolfan arloesi dur genedlaethol, gan adeiladu ar lwyddiant sefydliad dur a metelau Prifysgol Abertawe. Ac er fy mod yn derbyn, Weinidog, na allwch ildio'n ddi-gwestiwn ar bethau fel hyn, ni allwch adael i ffrygydau bach dros dir ddal cynnydd mawr yn ôl. Rydym yn edrych ar ddarlun mawr sy'n wynebu heriau mawr. Credaf y gallech sgorio rhai pwyntiau drwy fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau llai a allai fod yn bygwth cynaliadwyedd dur yma yng Nghymru. Diolch i chi.

Diolch, David Rees, am gyflwyno'r cynnig. Siaradaf ar ran Bethan Sayed, sy'n un o gyflwynwyr y cynnig, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi.

A bu ein hymrwymiad i'r diwydiant dur yn ddigon clir, rwy'n credu, nid yn lleiaf drwy'r ffaith bod elfennau o'r cymorth a ddarparwyd i Tata Steel gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd drwy gydweithrediad rhwng ein dwy blaid. Rydym wedi bod yn glir, rwy'n credu, cyn, yn ystod ac ers yr argyfwng yn Tata Steel yn 2016 fod sicrhau dyfodol y diwydiant yn hanfodol, yn allweddol, os ydym am i Gymru barhau i fod yn ganolfan weithgynhyrchu a diwydiant. Ac aeth Bethan Sayed mor bell â dweud nad oedd hi eisiau byw mewn Cymru nad oedd yn meddu ar gynhyrchiant dur gan mor ganolog yw'r diwydiant i'n gorffennol a'n dyfodol economaidd. Mae pob cenedl lwyddiannus yn economaidd angen sector diwydiannol er mwyn iddi allu ffynnu.

Felly, rydym wedi bod yn awyddus i roi pwysau ar, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddur, oherwydd er y byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd o bosibl, fe wyddom, os gallwn gydweithredu, fod yna feysydd y dylem wneud hynny ynddynt er budd pobl y wlad hon. Mae cydweithredu â'r Llywodraeth ar hyn a dull trawsbleidiol o weithredu wedi golygu bod cyllid allweddol ar gael, megis y £30 miliwn i gefnogi gorsaf bŵer wedi'i huwchraddio ar gyfer Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn gwella cynhyrchiant, gostwng allyriadau, helpu i reoli costau ynni, sy'n faich ariannol mawr ar y gwaith dur, fel y clywsom eisoes. A gyda llaw, rwy'n ailddatgan cefnogaeth hirsefydlog Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y credwn y gallai helpu pethau ymhellach, ond rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur wedi parhau i'w wrthwynebu hyd yma.

Ond er cymaint yr ydym yn croesawu byrdwn y cynnig hwn, efallai nad yw'n adlewyrchu'n union pa mor agored i niwed yw ein sector dur a'n sector diwydiannol ehangach. Ond yn sicr, wrth gyflwyno'r cynnig heddiw, mae Dai Rees wedi mynegi pryderon rydym ninnau hefyd yn eu rhannu yma. Credaf ein bod y tu hwnt i ymddiheuro am ddefnyddio'r gair B erbyn hyn—daw i mewn i bopeth a wnawn. Rydym yn nesáu tuag at adael yr UE. Rydym yn syrthio tuag at adael heb fod cytundeb yn ei le, nac unrhyw fath o amddiffyniad na chytundeb tollau neu fynediad at y farchnad. Mae gweinyddiaeth Trump, os ydym eisiau edrych ar beth sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, yn parhau ei defnydd niweidiol a chibddall o dariffau i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn enwedig ar nwyddau fel dur. A chyn bo hir, bydd y DU mewn amgylchedd economaidd byd-eang sy'n fwyfwy bregus heb ein partneriaid Ewropeaidd i sefyll ochr yn ochr â ni. Felly, credaf fod sylfeini cadarn a chael sylfeini cadarn ar gyfer ein diwydiant dur yn bwysicach nag erioed erbyn hyn.

Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ynddi yn 2016. Unodd Tata Steel â chwmni dur Ewropeaidd mawr, ThyssenKrupp. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, gobeithio, am y math o sicrwydd hirdymor y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'u cael, y math o sicrwydd sydd eu hangen arnom bellach, am ymrwymiad y cwmni newydd i'w gweithfeydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n deg dweud y gallwn deimlo'n falch fod rhai o'r buddsoddiadau a wneir gan y sector dur i'w gweld fel pe baent ar gyfer y tymor hwy; maent yn awgrymu bod disgwyl i ddur barhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru am y degawd nesaf o leiaf. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio. Ni all fforddio tynnu ei llygaid oddi ar y bêl mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â dur. Mae ein hamgylchiadau presennol yn aneglur. Mae llawer o ddryswch ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn anelu tuag ato, diffyg sicrwydd, ac mae pethau'n edrych yn ansicr ar gyfer gweithgynhyrchu a'r sector diwydiannol cyfan ledled y DU.

Ond fel y dywedodd Dai Rees, rwy'n bryderus iawn am yr hyn y gallai newyddion sy'n dod o'r diwydiant modurol ei olygu i'r gwneuthurwyr dur sy'n ei gyflenwi. Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig ac o arwyddocâd mawr i ddyfodol economi Cymru. Felly, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, gobeithio y gall gynnig rhywfaint o sicrwydd inni y bydd hyn yn parhau'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth dros y tymor hir, fel bod dur yn parhau i gael ei gydnabod fel diwydiant angori, gan mai dyna ydyw mewn gwirionedd, a dyna sy'n rhaid iddo barhau i fod i economi Cymru yn fwy cyffredinol.

16:25

Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac mae'n bleser gennyf gymryd rhan. Mae dur yn y gwaed yn fy rhanbarth. Roedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol, a thrawsnewidiodd dde Cymru yn bwerdy'r byd. Heb y gwaith dur, ni fyddai rhannau mawr o Orllewin De Cymru yn bodoli. Tyfodd Port Talbot allan o'r chwyldro i ddod yn un o gynhyrchwyr dur pwysicaf Prydain. Roedd lleoliad y gwaith dur yn rhoi mantais iddo wrth i gynhyrchiant newid o ddefnyddio mwyn haearn Prydain heb fod o ansawdd cystal i ddeunydd o ansawdd gwell o ffynonellau tramor.

Mae hanes y gweithfeydd haearn yn ardal Port Talbot yn ymestyn yn ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, pan roddodd Arglwydd Gogledd Corneli hawliau i fynachod o Abaty Margam echdynnu mwynau haearn a phlwm o'i diroedd. Hefyd, rhoddodd tirfeddiannwr cyfagos, Philip de Cornelly, hawliau i'r mynachod gynhyrchu haearn o'r mwynau a echdynnwyd o'i diroedd. Parhaodd cynhyrchiant haearn ar hyd y canrifoedd tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol, pan grëwyd doc newydd i hwyluso mewnforio mwynau ac allforio cynnyrch gorffenedig. Enwyd y doc ar ôl ei adeiladwr, Christopher Rice Mansel Talbot, a daeth i gael ei alw'n Port Talbot. Tua 180 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Port Talbot yn dal yn ddibynnol ar gynhyrchiant dur. Wrth fyw dan gysgod y gwaith dur, mae'r gwaith nid yn unig yn dominyddu'r gorwel ond holl ysbryd ein tref. Ar un adeg byddech naill ai'n gweithio yn y gwaith neu'n adnabod rhywun a weithiai yno. Y dyddiau hyn, efallai fod llai o bobl yn gweithio yn y gwaith dur, ond mae'n dal yn gyfrifol am gyflogi llawer o bobl yn y rhanbarth oherwydd y gadwyn gyflenwi ehangach sydd wedi ymddangos o amgylch Port Talbot.

Mae'r gostyngiad mewn cynhyrchiant dur wedi bod yn destun pryder mawr yn y blynyddoedd diwethaf wrth i'r farchnad fyd-eang orlifo gan ddur israddol o Tsieina ac wrth i'r UDA ddechrau rhyfel masnach ar gais ei Harlywydd diffyndollol. Felly roedd yn rhyddhad mawr pan ddaeth y rhôl gyntaf o ddur torchog oddi ar y llinell gynhyrchu yn dilyn ailosod ffwrnais chwyth 5 ym Mhort Talbot.

Mae buddsoddiad Tata Steel o £50 miliwn yn tanlinellu ymrwymiad y cwmni i'r gwaith, y bobl sy'n gweithio yno a'r gymuned ehangach. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru a Llywdoraeth y DU weithio gyda'i gilydd yn awr i sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith. Mae Tata wedi dangos eu hymrwymiad, a rhaid i'r Llywodraeth wneud yr un peth. Mae dur yr un mor hanfodol i seilwaith y DU ag ydyw i Bort Talbot, ac mae'n rhaid i'r Llywodraethau yma yng Nghaerdydd ac ar ben arall yr M4 wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y DU yn parhau i gynhyrchu dur.

Ar ôl Brexit rhaid inni gael chwarae teg mewn perthynas â thariffau. Rhaid i'r UE wrthsefyll yr awydd i gosbi'r DU am fod â'r hyfdra i adael. A siarad yn rhesymegol, mae tariffau'n niweidio'r ddwy ochr. Rwy'n annog Llywodraeth y DU i geisio cytundebau masnach teg, di-dariff â gweddill y byd, gan agor marchnadoedd newydd ar gyfer ein dur Cymru o ansawdd uchel. Efallai na allwn gystadlu â dur o Tsieina ar sail pris, ond yn sicr gallwn ragori arnynt o ran ansawdd. Mae Tata wedi adnewyddu eu ffydd ym Mhort Talbot, a mater i Lywodraeth y DU bellach yw sicrhau chwarae teg a chreu dyfodol cadarn i'r gwaith dur yng Ngorllewin De Cymru.

Mae angen inni gael ynni rhatach, mynediad rhydd at farchnadoedd rhyngwladol ac ymrwymiad i ddefnyddio dur o Gymru mewn prosiectau seilwaith newydd. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud ei rhan a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gweithfeydd dur yn cael eu diogelu. Mae fy nghymdogion a'u teuluoedd yn ddibynnol ar gyflogaeth gwaith dur Port Talbot. Mae Tata yn gwneud eu rhan, a'r gweithwyr hefyd, ac mae'r gweithwyr yn gweithio oriau hir iawn i sicrhau dyfodol. Tro'r ddwy Lywodraeth yw hi yn awr i weithio gyda'i gilydd, ac ar ôl Brexit, rhaid inni oll gydweithio a sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled.

A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddweud fy mod yn falch iawn o gefnogi'r cynnig heddiw? A diolch i David Rees, fy nghyd-Aelod, am gyflwyno'r ddadl hon, ond nid yn unig am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond am eich ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru drwy eich gwaith yn y Siambr a'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw dros y diwydiant dur yn gyffredinol, ond yn enwedig y gwaith dur yn Shotton yn fy etholaeth, sy'n cynhyrchu llawer o gynnyrch dur o ansawdd, fel duroedd galfanedig, metelig a chyn-orffenedig.

Ddirprwy Llywydd, rhaid imi ddweud pan welais fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, aeth â mi yn ôl i'r dyddiad y'i cyflwynwyd a fy ymgyrch isetholiadol y llynedd, pan wneuthum ymrwymiad i sefyll dros ddur, dros y diwydiant dur. Felly, credaf ei bod yn braf dweud, flwyddyn yn ddiweddarach, y gallaf ddod yma a sefyll dros ein diwydiant dur yng Nghymru. Aeth â mi yn ôl i'r ymgyrch Achub ein Dur a'r gwaith a wnaeth fy nhad ar y pryd i sefyll dros y diwydiant a'r gweithwyr, yn enwedig ar y safle hwnnw yn Shotton. Roedd datblygiadau yn y diwydiant dur yn un o'r materion gwleidyddol uchaf eu proffil yn 2016, ac yn briodol felly, a chofiaf ef yn glir yn gweithio ddydd a nos, yn cysylltu â swyddogion undebau llafur ac yn lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn galed i gefnogi'r diwydiant pwysig. Mae pawb a gefnogodd yr ymgyrch honno yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant i Shotton, ond i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, fel y mae David Rees wedi'i nodi'n briodol ar sawl achlysur.

Fel y gŵyr pawb ohonom, wynebodd Glannau Dyfrdwy eu diwrnod tywyllaf ym mis Mawrth 1980, pan gafodd Dur Prydain wared ar 6,500 o swyddi yng ngwaith dur Shotton ar ôl degawd o wrthsefyll pwysau undebau a gwleidyddion. Dyma oedd y nifer fwyaf o ddiswyddiadau diwydiannol ar un diwrnod yng ngorllewin Ewrop, a chafodd teuluoedd cyfan eu gwneud yn ddi-waith; cafodd cymunedau eu dinistrio. Mae'r effaith ar y diwydiant i'n hardal ni a Chymru gyfan yn enfawr. Canfu uned ymchwil economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru yn £3.2 biliwn y flwyddyn, a oedd yn cynnal gwerth ychwanegol gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cynnal 1.22 o swyddi ychwanegol ar draws economi Cymru.

Ddirprwy Lywydd, gadewch inni beidio ag anghofio bod dur ym mhob un cynnyrch neu ym mhob un broses yn ein byd fel y mae, felly mae'r diwydiant dur yn haeddu pob cymorth y gall ei gael. Ac rwy'n falch o Lywodraeth Cymru, ac yn credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o gefnogi'r diwydiant dur, ac o dan arweiniad Mark a Ken, gwn y bydd yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n amlwg i mi nad pan fydd argyfwng yn digwydd yn unig y dylid rhoi cymorth, ac fel y dywedodd sawl Aelod o bob rhan o'r Siambr, gall Llywodraeth y DU ddysgu, ac fe ddylai ddysgu, o wersi'r gorffennol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn roi amser i sôn am y gweithwyr yn y diwydiant dur, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn Shotton. Cefais y pleser o ymweld â'r safle ar sawl achlysur, a gwn ein bod wedi mynd â sawl Aelod o fy mhlaid i fyny i'r safle y llynedd hefyd. Ac mae'n amlwg i mi fod y gweithwyr yn hynod o falch o'r hyn y maent yn ei wneud a beth y maent yn ei gyflawni yno bob dydd, ac rwy'n falch o'r cyfraniad y mae'r diwydiant yn ei wneud i fy nghymuned ac i Gymru gyfan. Felly, i gloi, mae fy neges derfynol i weithwyr y diwydiant dur: fe fyddwn ni yn y Siambr hon yn ymladd drosoch yn y cyfnod anodd hwn, a diolch ichi am bopeth a wnewch i wella economi Cymru. Diolch.

16:30

Diolch Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r cynnig hwn i'w groesawu'n fawr ac mae'n cyd-fynd yn agos â safbwynt Llywodraeth Cymru ar y diwydiant dur, ac felly mae'n bleser gennyf ei gefnogi. Mwynheais yr ystyriaethau niferus a roddwyd i hanes ein gweithgarwch dur yma yng Nghymru, gyda David Rees, Jack Sargeant a Caroline Jones yn rhoi asesiadau gwych o werth cymdeithasol yn ogystal ag economaidd ein gweithfeydd dur. Credaf fod David Rees wedi croesawu gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ein dur, ond hefyd gwnaeth y pwynt pwysig iawn ein bod, unwaith eto, yn sefyll ar ymyl y dibyn. Rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon y prif heriau sy'n effeithio ar y sector dur, ac mae'r rhain yn cynnwys, wrth gwrs, prisiau trydan diwydiannol anghystadleuol, gorgapasiti byd-eang ac arferion masnachu dur rhyngwladol sy'n annheg. Mae'r materion hyn yn parhau i fod yn destun pryder enfawr i'r sector, ond fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, ceir cryn ansicrwydd bellach ynghylch Brexit. Mae tariffau adran 232 yr Unol Daleithiau ar ddur wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y sector dur yn cael ei ddiogelu rhag arferion masnachu rhyngwladol annheg. Rydym wedi sicrhau bod pryderon cynhyrchwyr dur yng Nghymru wedi'u lleisio ar y lefel uchaf yn San Steffan.

Ar ôl y DU ac Iwerddon, y brif farchnad ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU yw Ewrop wrth gwrs. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n hanfodol felly nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru o dan anfantais yn sgil rhwystrau masnach diangen megis tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu, neu rwystrau technegol i fasnach. Mae'r sector dur yn ddibynnol iawn ar fasnach rydd, ond yr un mor bwysig, mae'n ddibynnol ar y rheolau megis rhwymedïau masnach sy'n sail i'r fasnach rydd hon. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, yr effeithir ar y diwydiant dur gan unrhyw aflonyddu ar ei gadwyn gyflenwi o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys, yn bwysig, yn y sector modurol, fel y nododd Suzy Davies a Rhun ap Iorwerth. Yn wir, roedd y ddwy rhôl gyntaf o ddur a ddaeth o ffwrnais chwyth 5 yr wythnos diwethaf yn mynd i weithgynhyrchwyr modurol yng ngorllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr. A chlywais bryderon y sector drosof fy hun yr wythnos diwethaf yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddur. Mae'r sector wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol ag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU er mwyn lleisio ei bryderon ac i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod rhwymedïau masnach yn gadarn yn y DU yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU ar Brexit, ac rydym yn dadlau'r achos dros ddarparu cymaint o sicrwydd ag y bo modd i ddiwydiannau Cymru, gan gynnwys y diwydiant dur wrth gwrs. Mae effaith y gwahaniaeth rhwng pris trydan diwydiannol yn y DU o gymharu â gwledydd eraill, yn enwedig Ffrainc a'r Almaen, yn fater arall yr ydym yn parhau i'w ddwyn i sylw Llywodraeth y DU ac mae'r Aelodau wedi nodi hynny y prynhawn yma. Mae hyn o'r pwys mwyaf os yw'r sector i gystadlu'n deg yn rhyngwladol ac er mwyn denu buddsoddiad mewn gweithfeydd ac ymchwil a datblygu. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos mai gan y DU y mae'r prisiau trydan diwydiannol uchaf yn yr UE. I ddefnyddwyr diwydiannol mawr, mae'r prisiau'n 90 y cant—90 y cant yn uwch na chanolrif yr UE.

Nawr, roedd yn bleser ymweld â Tata Steel Port Talbot yr wythnos diwethaf wrth ochr y Prif Weinidog i ddathlu aildanio ffwrnais chwyth 5. Mae cwblhau'r prosiect hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol y gwaith ac yn ei weithlu, ac yn dangos ymrwymiad Tata Steel i gynnal cynhyrchiant dur yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi llofnodi cytundeb diffiniol i ymrwymo i fenter ar y cyd â Thyssenkrupp. Ar hyn o bryd mae hyn yn amodol ar archwiliad rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym yn parhau ein hymgysylltiad â Tata Steel UK ynghylch y potensial pellach o gefnogi cysylltiadau er mwyn galluogi i'w gwaith ddod yn fwy cynaliadwy yn hirdymor. Hyd yma, rydym wedi cynnig £17 miliwn o gyllid ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru sy'n cefnogi datblygu sgiliau yn y gweithlu ac wrth gwrs, buddsoddiad o £8 miliwn yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot.

Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon, ochr yn ochr â Tata Steel, yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu lefelau ymchwil a datblygu ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y busnes, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys dros £600,000 o arian ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes datblygu cynnyrch newydd yn unig. Ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio, yn rhannol, i helpu Cymru i ddatblygu llwyfannau a phartneriaethau newydd rhwng Llywodraeth, prifysgolion, colegau, busnesau ac ati a allai ein galluogi i dargedu cyllid a ddyfernir yn fwy cystadleuol yng nghyllid her strategaeth ddiwydiannol y DU. Ceir synergeddau amlwg rhwng ein cynllun gweithredu economaidd a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae trydedd don cronfa her y strategaeth ddiwydiannol yn cynnwys dwy her sy'n arbennig o berthnasol i'r sector dur: yn gyntaf, her gwerth £170 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol, ac fel y dywedodd Suzy Davies, her gwerth £66 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y rhain a chyfleoedd eraill sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

Mae sector dur y DU wedi nodi caffael sector cyhoeddus fel cam gweithredu allweddol craidd y gallai'r Llywodraeth ei roi ar waith i gryfhau'r sector ac i wella ei allu i gystadlu, ac ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddwyd nodyn cyngor caffael i gefnogi cyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru, ac fe'i cynlluniwyd i annog y defnydd ehangaf posibl o ddur o Gymru a'r DU mewn contractau sector cyhoeddus.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n cydnabod yn llwyr yr heriau parhaus y mae cwmnïau dur yng Nghymru yn eu hwynebu, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan Brexit, ond yn yr un modd, gallaf sicrhau'r sector dur y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio wrth ei ochr i sicrhau dyfodol hirdymor i bob gwaith dur yng Nghymru, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan ac wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n teimlo na all fod llawer o amheuaeth ynglŷn ag ymrwymiad yr Aelodau i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y gwelwyd yn rheolaidd yn y Siambr hon mewn dadleuon ac yn ystod cwestiynau'n gyffredinol.

Yn amlwg, mae cyfraniad Dai Rees bob amser yn flaenaf ymysg y cyfraniadau hynny, felly roedd yn gwbl briodol mai David Rees a agorodd y ddadl hon heddiw. Hoffwn ymuno â Jack Sargeant i dalu teyrnged i David Rees am ei waith yn y grŵp trawsbleidiol a'i ymrwymiad cyffredinol. Drwy gyfraniadau David, credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli'n dda iawn pa mor bwysig yw gwaith dur Port Talbot i'w etholaeth a'i benderfyniad i ymladd er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r diwydiant yn gwneud popeth y gellid ei wneud, gan weithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu i sicrhau bod y swyddi hynny'n cael eu diogelu a'u datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicr yn ymrwymiad a chryfder teimlad y gallaf yn hawdd ei ddeall, a minnau'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd gyda gwaith dur Llanwern, a hefyd gweithredwyr dur pwysig yn fy etholaeth, fel Cogent a Liberty Steel. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hynny er mwyn datblygu'r diwydiant a dod â buddsoddiad newydd a swyddi newydd ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n fater o weithio gyda'r diwydiant, y Llywodraeth ar wahanol lefelau, yr undebau llafur a'r gweithlu. Dyna'r negeseuon a glywsom heddiw a'r negeseuon rydym yn ei clywed yn rheolaidd iawn, rwy'n credu, ac yn briodol felly.

Ceir rhai themâu cyffredin iawn o fewn y ddadl gyffredinol, Ddirprwy Lywydd. Un newydd, mae'n debyg, yw pwysigrwydd Brexit ac osgoi risgiau enfawr Brexit 'dim bargen'. Ceir problemau mawr iawn ynghlwm wrth Brexit ynddo'i hun, ond ceir llawer mwy o risg ynghlwm wrth Brexit 'dim bargen', a gwnaethpwyd hynny'n gwbl eglur gan UK Steel yn ddiweddar, ond ymhellach yn ôl, hefyd, gan yr undebau llafur, gan Aelodau yma a gan Ken Skates fel y Gweinidog perthnasol. Ni all fod fawr o amheuaeth nad yw'r ansicrwydd andwyol, fel y'i disgrifir, Ddirprwy Lywydd, yn ansefydlogi'r diwydiant yn aruthrol ac o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ceir pryderon penodol mewn perthynas â'r diwydiant modurol, fel y clywsom, y sefyllfa gyda thariffau, gydag arian cronfeydd ymchwil a llawer o bethau eraill hefyd. Yn amlwg, gorau po gyntaf i bawb y cawn ryw raddau o sicrwydd ynglŷn â'r materion hynny.

Mae cost uchel ynni hefyd bob amser yn codi ei ben, a hynny'n gwbl briodol, yn y dadleuon hyn, a gwnaeth hynny eto heddiw. Ddirprwy Lywydd, credaf fod pawb ohonom yma yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth hwnnw, yr annhegwch yn y gystadleuaeth rhwng diwydiant dur y DU a'r diwydiant dur mewn gwledydd eraill a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hynny'n derfynol. Rydym wedi gweld buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni; rydym yn gweld symudiadau pwysig tuag at gynhyrchu ynni gan y diwydiant ei hun, fel y clywsom, ac mae hwnnw'n fater pwysig i Liberty Steel yng Nghasnewydd, er enghraifft, lle mae ganddynt gynlluniau pwysig ar gyfer gorsaf bŵer bresennol Aber-wysg. Felly, mae'r diwydiant yn cymryd y camau y mae'n gallu eu cymryd ei hun, ond mae angen cymorth gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog i'r holl faterion hynny a sicrwydd eto o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant, i weithio gyda'r undebau llafur, i weithio gydag Aelodau yma i ymateb i'r heriau hyn. Unwaith eto, fel y dywedodd y Gweinidog, mae caffael yn fater arall hollol ganolog i allu sicrhau'r cynnydd angenrheidiol, ac rwy'n croesawu datblygiad newydd y polisi a'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n addawol iawn a bydd pawb ohonom am weld y rheini'n cael eu cyflawni.

Ddirprwy Lywydd, mae'r buddsoddiad gan Tata, wyddoch chi, yn ddatganiad gwych o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac mae pawb ohonom yn croesawu hynny, ac mae'r gweithlu'n croesawu hynny'n fawr. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud, o ran gweithredu gan y Llywodraeth, yw chwarae ein rhan. Fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod hi'n barod i wneud ei rhan. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn i'w chwarae hefyd, ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan yn ogystal.

16:45

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. 

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6959 Darren Millar

1. Nodi bod anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA diweddaraf.

2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru.

3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru;

b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac

c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae eithaf tipyn y gallwn gytuno yn ei gylch yng nghynnig y Llywodraeth heddiw, ond ni allwn ei gefnogi oherwydd ei fod yn dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 5, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 3, a hoffem glywed mwy o fanylion am gynnig Plaid Cymru ar Fil buddsoddi rhanbarthol, sydd wedi'i gynnwys yn eu gwelliant 4.

Ddirprwy Lywydd, mae allbwn economaidd y pen yn amrywio'n fawr ledled Cymru. Ceir cyferbyniad amlwg rhwng gwerth ychwanegol gros y pen yng nghorneli gogleddol a de-ddwyreiniol Cymru, ein cymunedau yn y Cymoedd, a'n cymunedau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Os gallaf roi rhai enghreifftiau o hyn, mae gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn ychydig o dan hanner gwerth ychwanegol gros y pen Caerdydd, ac mae nifer o ranbarthau o Gymru yn llusgo ar ôl rhannau mwy cyfoethog o'r wlad. Ceir rhaniad daearyddol clir o ran cyfoeth yng Nghymru hefyd, ac yn anffodus, rhaniad trefol a gwledig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod rhanbarthau ac ardaloedd awdurdodau lleol llai cefnog Cymru yn dioddef cyfraddau twf gwael iawn, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn wrth gwrs. Mae angen inni roi strategaeth economaidd ar waith sy'n gallu cau'r bwlch a gwella ffyniant economaidd Cymru gyfan. Ar y llaw arall, gwelodd rhai rhanbarthau tlawd sy'n wynebu heriau economaidd mawr iawn yn Lloegr dwf yn eu gwerth ychwanegol gros y pen, felly nid yw'n gywir dweud, fel yng gwelliant 2—yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni—mai polisïau economaidd Llywodraeth y DU sy'n cyfrannu at yr anghydraddoldeb rhanbarthol mewnol hwn yng Nghymru. Ac mae'n amlwg fod nifer o ranbarthau tlawd yn Lloegr yn profi twf cadarn er gwaethaf heriau strwythurol tebyg, ond bod rhanbarthau tebyg o Gymru nid yn unig yn methu tyfu'n sylweddol, ond mae rhai'n crebachu hyd yn oed, sy'n destun pryder. Felly, nid wyf yn derbyn dadl Plaid Cymru fod polisïau economaidd Llywodraeth y DU rywsut yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn.

Gadewch i ni edrych yn agosach adref hefyd ar bolisi economaidd Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu nifer o ysgogiadau yma. Rydym eisoes wedi cael tair strategaeth economaidd fawr, wrth gwrs, wedi'u lansio gan Lywodraeth Cymru ers creu Senedd Cymru. Ac rwy'n cynnig heddiw fod pob un wedi methu hybu'r twf rhanbarthol, wedi methu ysgogi economi Cymru, wedi methu creu digon o swyddi sy'n talu'n dda, ac wedi methu creu cynhyrchiant. Ar hyn o bryd Cymru yw'r economi wannaf, sy'n tyfu arafaf, yn y DU, ac mae'n dal i lusgo gryn dipyn ar ôl yr Alban. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom yn y Siambr hon am weld hynny, felly nid wyf yn dweud hynny gydag unrhyw foddhad. Rydym am i hynny newid. Dylai cwmnïau sydd wedi buddsoddi yn y wlad hon fod wedi'u hintegreiddio i gadwyni cyflenwi domestig er mwyn helpu i sefydlu'r mewnfuddsoddiad mewn cymunedau lleol, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau'r mewnfuddsoddiad hwnnw'n iawn, sydd wedi golygu bod eu strategaeth wedi methu cau'r bwlch economaidd rhwng rhanbarthau Cymru a hefyd wedi methu cynyddu ffyniant yng Nghymru yn gyffredinol. Er enghraifft, er gwaethaf chwistrelliadau enfawr o arian cyhoeddus i'n hardaloedd menter ledled Cymru wrth gwrs, maent wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol. Diben yr ardaloedd oedd meithrin capasiti mewn sectorau penodol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu, ynni a gwasanaethau proffesiynol. Hefyd, roeddent i fod i ddenu cwmnïau i rannau penodol o'r economi. Cafwyd rhai enghreifftiau o feysydd llwyddiannus o fewn yr ardaloedd menter, ond mae'n ddarlun eithaf cymysg. Dyna y buaswn i'n ei ddadlau. Ond mae'r data economaidd yn nodi'n glir nad yw'r ardaloedd menter a'r cyllid sy'n gysylltiedig â hwy wedi effeithio ar dwf economaidd yn y modd y byddem wedi'i ddisgwyl.

Felly, ar y meinciau hyn, rydym hefyd yn croesawu'r cyfraniad y bydd bargeinion twf Caerdydd, bae Abertawe, gogledd Cymru a chanolbarth Cymru yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Mae'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf hyn yn newid y dull datblygu rhanbarthol yn llwyr yn fy marn i oherwydd bod ganddynt botensial i helpu i ddatblygu busnesau bach a chanolig, cwmnïau mwy o faint a seilwaith trafnidiaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru. Ac rwyf am roi un enghraifft: yr wythnos diwethaf, ymwelodd partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru â'r Senedd i arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau gan fusnesau ledled Powys a Cheredigion. Roedd hwnnw'n gyfle gwych yn fy marn i i danlinellu'r angen am fuddsoddiad cyhoeddus a thwf ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Diolch i'r Gweinidog am gyfarfod â'r ddirprwyaeth, am gyfarfod â busnesau, a siarad yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Mae'r bargeinion twf hyn, wrth gwrs, yn cynnig ffocws rhanbarthol cryf ac maent yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cydweithredol rhwng awdurdodau lleol cyfagos er mwyn cynyddu'r twf rhanbarthol a'r ffyniant hwnnw. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â mi a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Ac yn y cynnig hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adeiladu perthynas gadarnhaol, agored a chydweithredol gyda Llywodraeth y DU ac adrannau gwasanaeth sifil mawr y DU i helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor y mentrau bargeinion twf ledled Cymru.

Ddirprwy Lywydd, ni fyddai'r Gweinidog yn disgwyl i mi ei ganmol yn ormodol, ac wrth gloi, mae yna nifer o feysydd lle rydym yn teimlo bod yn rhaid gwella ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bolisi economaidd yn sylweddol. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru yn dechrau troi sylw Llywodraeth Cymru tuag at hybu cymorth busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru, atgyfnerthu'r mecanwaith cyllid hwnnw, gwella caffael cyhoeddus a chryfhau'r gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, rwy'n dadlau bod yn rhaid ei ddatblygu ymhellach hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn amlinellu'n glir sut y bydd ei themâu a'i gynnwys canolog yn helpu i godi cyflogau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae angen adnoddau priodol ar y swyddfeydd rhanbarthol newydd hefyd ac mae angen i'w gynlluniau gwaith gydweddu â mesurau polisi presennol i hybu twf rhanbarthol. Ac rwy'n credu bod angen mwy o arian ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru hefyd, wrth inni symud ymlaen. Felly, er bod y cynllun gweithredu economaidd yn arwydd o newid cyfeiriad sydd i'w groesawu mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu economi Cymru, ceir llawer o feysydd sy'n rhaid eu hychwanegu at y strategaeth honno os yw Cymru i ffynnu ac os yw economi Cymru i ffynnu yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n parhau i fod â meddwl agored ynghylch gwelliant 4 Plaid Cymru, o ran y ffordd y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma.

16:50

Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

16:55

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol.

2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru.

3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.

4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol.

5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.

6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.

7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod polisi llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Yn is-bwynt (a) ym mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf.

Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.

Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf cael cymryd rhan yn y ddadl hon. A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun hwn o'n blaenau ni heddiw? O ystyried bod gen i'r gwaith o drio perswadio’r Ceidwadwyr i gefnogi ein gwelliant 4 ni, mi ddylwn i, mae'n siŵr, beidio â dweud unrhyw beth rhy negyddol am y Ceidwadwyr, ond mae gen i ofn bod rhaid imi ddechrau efo pwyntio allan yr eironi fod y Ceidwadwyr yn y fan hyn yn dod â chynnig o'n blaenau ni'n beirniadu Llywodraeth Cymru am fethiant i greu tegwch a chydbwysedd rhanbarthol yng Nghymru, pan mae record y Ceidwadwyr eu hunain, fel Llafur, rhaid dweud, ar lefel Prydain, yn un o fod wedi creu lefel ryfeddol a anghyfartaledd.

Mewn ffordd, beth mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud heddiw ydy fod Cymru yn neilltuol o fewn y Deyrnas Unedig o ran y math o anghyfartaledd sydd yma. Ond edrychwch ar sut mae Prydain yn anghyfartal o'i chymharu â llawer iawn o'n partneriaid Ewropeaidd ni: mae Prydain, neu'r Deyrnas Unedig, yn llawer mwy anghyfartal yn economaidd na'r Eidal, er bod yr Eidal yn cael ei hadnabod fel gwladwriaeth lle mae yna anghyfartaledd enfawr a gwahaniaeth traddodiadol rhwng y gogledd cyfoethog a'r de tlotach. Mae Prydain yn fwy anghyfartal na'r Almaen, lle mae yna'n dal, chwarter canrif a mwy ar ôl uno'r wlad honno, anghyfartaledd sylweddol o hyd rhwng yr hen ddwyrain a'r gorllewin, lle mae GDP yn y dwyrain yn dal ddim ond rhyw ddwy ran o dair o'r gorllewin. Ond dal, mae'r Deyrnas Unedig yn fwy anghyfartal na hynny. 

Os ydyn ni'n edrych ar y realiti yma yn y Deyrnas Unedig ar lefel isranbarthol, mae allbwn y pen wyth gwaith yn fwy yng ngorllewin Llundain nag yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Does yna ddim gwahaniaeth tebyg i hynny nunlle arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, all y Ceidwadwyr, mae'n ddrwg gen i, ddim dadlau eu bod nhw mewn rhyw ffordd yn blaid sydd yn hybu cyfartaledd, achos mae'r Ceidwadwyr fel plaid Brydeinig a Llafur fel plaid Brydeinig wedi methu â sicrhau y math yna o gyfartaledd yr ydw i yn dymuno ei weld yn cael ei greu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gen i hyder yng ngallu Cymru i fod yn genedl-wladwriaeth sydd yn gallu anelu at greu y math o gyfartaledd sydd ond yn freuddwyd ar lefel y Deyrnas Unedig, a'r peth olaf rydw i eisiau ei weld ydy Cymru mewn rhyw ffordd yn datblygu yn wlad lle mae anghyfartaledd yn ein gwlad ni yn troi allan yn debyg i'r hyn sydd yna yn y Deyrnas Unedig yn gyflawn. Dydw i ddim—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. 

Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond rydych hefyd yn awgrymu ein bod ni ar y meinciau hyn a meinciau Llafur yn bleidiau'r DU a'ch bod chi'n blaid Gymreig, ac eto mae ein cynnig yn ymwneud â'r anghydraddoldebau yng Nghymru. Rydym yn sôn am yr anghydraddoldebau ar draws y wlad.

Mae'n ddyletswydd arnaf i dynnu sylw at yr eironi yn eich safbwynt fel plaid sydd wedi methu'n gyfan gwbl â chyflwyno'r math o gydraddoldeb ar lefel y DU y dywedwch ein bod am ei weld yng Nghymru. Nid oes cuddio rhag y ffaith bod y ddwy brif blaid yn y DU, drwy lywodraethu am ddegawdau, am genedlaethau, wedi methu sicrhau cydraddoldeb yn y DU. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen inni siarad ynglŷn â sut y gallwn ddod â'r math hwnnw o gydraddoldeb i Gymru.

Dydw i ddim yn un, gyda llaw, sydd yn licio siarad am bopeth yn mynd i'r de. Hynny ydy, mae o'n beth populist iawn i'w wneud yn y gogledd. Nid sblit de/gogledd sydd gennym ni yng Nghymru, ond mae yna wahaniaeth rhwng y dwyrain a'r gorllewin, lle mae yna gyfoeth yn y gogledd-ddwyrain ac yn y de-ddwyrain sydd angen cael ei ledaenu i rannau eraill o Gymru. Ond mae'n rhaid inni chwilio am ffyrdd o wneud hynny. 

Mi soniaf i yn fyr am y regional renewal Bill yma, y Bil adnewyddu rhanbarthol, yng ngwelliant 4, yr ydym ni yn eiddgar iawn i'w weld yn digwydd. Mae ffigurau yn dangos i ni fod buddsoddiad mewn isadeiledd, mewn trafnidiaeth ac ati yn anghyson iawn yng Nghrymu ar hyn o bryd. Rydych chi wedi cyfeirio, Russell George, at ffigurau ynglŷn â'r diffyg tegwch yna rhwng buddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru. Beth fyddwn i'n dymuno ei weld ydy Bil yn cael ei ddatblygu lle y byddai yna reidrwydd ar Lywodraeth i ddangos ei bod hi'n ystyried tegwch a chyfartaledd rhanbarthol yn ei phenderfyniadau gwariant hi, yn yr un ffordd, mewn ffordd, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gorfodi'r Llywodraeth i feddwl a ydy ei phenderfyniadau hi yn llesol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mi ddylem ni fod yn meddwl yn rhanbarthol yn y ffordd yma, ac mi fyddwn i'n croesawu cael eich cefnogaeth chi i'r egwyddor o gael y math yna o Fil.

Mae'r cloc yn fy erbyn i, er fy mod i wedi cymryd ymyriad gan Russell George. Mae Siân Gwenllian yn mynd i fod yn siarad yn benodol am y cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer creu bwrlwm economaidd yng ngorllewin Cymru, ond mae'n rhaid inni fod yn glir pa fath o Gymru dŷn ni'n dymuno ei gweld. Mae'n gorfod bod yn Gymru sydd yn llewyrchus, wrth gwrs, ond sydd yn dod â'r llewyrch yna i bob rhan o'r wlad. Dyna pam dwi'n apelio arnoch chi gefnogi ein gwelliannau ni heddiw. 

17:00

Roedd cefnogwyr datganoli ar ddiwedd y 1990au yn honni na ellid mynd i'r afael â methiant cymharol economi Cymru heb greu atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru. Yn anffodus, o dan weinyddiaethau Llafur Cymru olynol, nid yw hynny wedi digwydd. Mae economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi methu dal i fyny ag economi'r DU yn ei chyfanrwydd. O ganlyniad, Cymru yw'r wlad dlotaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu cau'r bwlch gwerth ychwanegol gros rhwng Cymru a Lloegr yn sylweddol, mae wedi methu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol sy'n dal i fodoli yng Nghymru.

Mae'r cyferbyniad yn amlwg iawn. Rhennir Cymru'n economaidd rhwng gogledd, de, dwyrain a gorllewin, trefol, gwledig a pha ffordd bynnag yr hoffech feddwl amdano. Yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, mae'r rhaniad yn glir. Yn 2017, roedd gwerth ychwanegol gros y pen yn llai na £15,000 yng Nghymoedd Gwent. Yng Nghasnewydd, roedd y ffigur dros £23,000 y pen. Os cymharwch werth ychwanegol gros y pen yr holl awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig, mae Blaenau Gwent ymhlith y pump isaf. Mae enillion yng Nghymru wedi aros yn is na gweddill y Deyrnas Unedig. Gan gymryd Blaenau Gwent fel enghraifft eto, telir llai na'r cyflog byw gwirfoddol i fwy na 30 y cant o weithwyr y fwrdeistref.

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fentrau i geisio ymdrin â phroblem anghydraddoldeb rhanbarthol. Cafwyd teitlau mawreddog i bob un: 'Cymru'n Ennill', ' Cymru: Economi yn Ffynnu ', ' Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd ', ond nid oes yr un wedi cyrraedd y nod ac wedi cyflawni'r gweddnewidiad sydd ei angen ar economi Cymru.

Un enghraifft o'r methiant hwn yw'r adenillion gwael a gafwyd o bolisi Llywodraeth Cymru ar ardaloedd menter. Ers creu'r ardaloedd hyn yn 2012, dyrannwyd £221 miliwn o arian cyhoeddus i gefnogi'r polisi. Yng Nglyn Ebwy yn unig, gwariwyd bron i £95 miliwn ar greu, diogelu neu gynorthwyo 390 o swyddi'n unig. Er gwaethaf y chwistrelliad o arian cyhoeddus mawr, mae ardaloedd menter wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol.

Ddirprwy Lywydd, eu nod oedd meithrin gallu sectorau penodol o economi Cymru a denu arian i'r ardaloedd dynodedig hynny, ond maent wedi methu gwneud unrhyw effaith sylweddol ar dwf economaidd. Mae strategaethau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi addo archwilio a manteisio ar botensial creu swyddi buddsoddiadau seilwaith mawr. Fodd bynnag, mae un prosiect o'r fath gyda photensial i sicrhau manteision enfawr i'r economi yn dal i fod wedi'i fwrw o'r neilltu. Mae ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd wedi'i llethu gan ddull o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru sy'n gyfuniad o din-droi ac amhendantrwydd.

Mae'r Llywodraeth hon wedi colli ei diben a'i synnwyr o gyfeiriad. Nid yw'n syndod bod Alun Davies AC, nad yw yma ar hyn o bryd, wedi dweud ei bod, yn ei eiriau ef—ac rwy'n dyfynnu—

'yn symud i ffwrdd oddi wrth yr ymrwymiad hwnnw i ddiwygio ac… yn edrych ar y cyfenwadur lleiaf.'

Ddirprwy Lywydd, mae Cymru angen strategaeth economaidd ar gyfer twf, un sy'n gwneud cynigion clir ac yn gosod targedau fel y gellir mesur y cynnydd tuag at y nodau hynny. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, bydd economi Cymru yn parhau i dangyflawni a byddwn yn parhau i nychu ar waelod y gynghrair economaidd.

Mae cydraddoldeb economaidd yn ymwneud â mwy nag arian a datblygu, ond hefyd ag addysg, cyflogaeth, gallu i ennill, incwm, tlodi a chyfoeth yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n byw o dan lefel tlodi yn llawer uwch yng Nghymru nag unrhyw genedl ddatganoledig arall yn y Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, o ran tlodi ymhlith plant dyma'r ardal waethaf yn y Deyrnas Unedig. Dosbarthiad cyfoeth—mae enillion y bobl gyfoethocaf yng Nghymru, y 10 y cant uchaf, yn is na £100,000. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf fod llawer o bethau y mae angen i'r Llywodraeth hon ei wneud cyn y gallwn ddweud bod gennym gydraddoldeb yng Nghymru—cydraddoldeb o ran dosbarthiad cyfoeth ymhlith pobl Cymru. Diolch i chi.

17:05

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ddadl hon; nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am economi Cymru.

Ym Mhrydain, mae Llundain a de-ddwyrain Lloegr ymhlith y rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, a gorllewin Cymru a'r Cymoedd ymhlith y tlotaf. Yr unig ranbarthau a gwledydd i wneud cyfraniad net i'r Trysorlys yw Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Rydym hefyd yn gwybod bod Caerdydd yn darparu cyflogaeth sylweddol i'r ardaloedd cyfagos. Gwrandewch ar y radio yn y bore wrth deithio i Gaerdydd a siaradwch â phobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd—mae gennych dagfeydd traffig parhaus, mae gennych bobl wedi'u gwasgu ar y trenau. Pe bai Leanne Wood yma, rwy'n siŵr y byddai'n ymyrryd ac yn dweud bod ganddi hi brofiad personol o hynny. Ond a ddylai rhannau helaeth o dde Cymru fod yn cymudo i Gaerdydd yn unig?

Pe baem yn cael y drafodaeth hon 50 mlynedd yn ôl, byddem mewn gwlad lle roedd glo a dur yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl, lle byddent yn siarad am Hoover ym Merthyr ac am BP yng Nghastell-nedd Port Talbot fel cyflogwyr mawr. Mae dirywiad dur a glo a chyflogwyr mawr eraill wedi gadael bwlch enfawr yn economi Cymru, ac nid yw wedi cael ei lenwi'n ddigonol.

Gwyddom dri pheth am economi Cymru. Yn gyntaf, rydym yn wael am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawr, ond mae Admiral wedi dangos y gellir ei wneud. Yn ail, rydym yn tangyflawni o ran cyflogaeth mewn sectorau economaidd allweddol sy'n gysylltiedig â chyflogau uwch na'r cyfartaledd—TGCh a gwasanaethau proffesiynol yw dau ohonynt. Yn drydydd, nid yw'r cyfoeth economaidd hwnnw wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru.

Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi bargen ddinesig Abertawe yn frwd ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'n datblygu yn gyffredinol. Nod bargen ddinesig Abertawe yw mynd i'r afael â themâu a heriau integredig cyffredinol ynni, iechyd a lles a chyflymiad economaidd drwy harneisio pŵer trawsffurfiol rhwydweithiau digidol a sylfaen asedau bae Abertawe. Amcangyfrifir y gallai'r fargen ddinesig ddenu cyfanswm buddsoddiad o tua £3.3 biliwn o allbwn ac £1.3 biliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, a chynnal tua 39,000 o swyddi yn y rhanbarth. Hyd yn oed os yw'r fargen ddinesig yn cyflawni pob uchelgais a bod yr holl fuddsoddiadau a'r swyddi'n cael eu gwireddu, ni fydd yn datrys problemau economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe.

A gaf fi siarad, fel y gwnaf yn aml, am un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol ac sy'n meddu ar y gallu i greu cyfoeth enfawr, sef TGCh? Mae tueddiad i gwmnïau TGCh glystyru gyda'i gilydd, nid yn Nyffryn Silicon yn unig—ac os ydych chi erioed wedi edrych ar fap, nid oes dim yn arbennig am Ddyffryn Silicon ar wahân i'r ffaith bod rhai cwmnïau wedi dechrau yno a bod mwy a mwy wedi mynd yno. Nid oes unrhyw fanteision mawr yn perthyn i'r lle. Cawsom ddur yn ne Cymru am fod gennym y glo a'r mwyn haearn yma—nid oes ganddynt hwy fanteision mawr. Ond gwyddom eu bod yn clystyru gyda'i gilydd. Maent yn bodoli hefyd o amgylch prifysgol Caergrawnt—fe fyddwch yn dweud, 'Wel, ni ellir ein cymharu o ddifrif â Chaergrawnt'—ond hefyd, gemau cyfrifiadurol o amgylch Dundee. Nawr, rwy'n siŵr nad oes fawr iawn o leoedd yng Nghymru na ellir eu cymharu â Dundee. Yng Nghymru, mae mentrau canolig yn y sector wedi perfformio'n gryf gyda 92.8 y cant o gynnydd yn y trosiant rhwng 2005 a 2015. Mae angen troi rhai o'r cwmnïau TGCh canolig hyn yn gwmnïau TGCh mawr. Rydym yn gwybod bod TGCh yn sector sy'n talu cyflogau da a bod cyflwyno band eang cyflym iawn ledled rhanbarth bae Abertawe yn ei gwneud yn bosibl i gwmnïau TGCh ddatblygu.

Gydag ansawdd y graddedigion TGCh sy'n cael eu cynhyrchu ym mhrifysgolion Cymru, mae'n rhaid ei bod yn siomedig iawn fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth na gweddill y DU yn gweithio mewn cwmnïau TGCh. Os ydym i wneud dinas-ranbarth bae Abertawe a Chymru yn gartref amlwg ar gyfer TGCh, mae angen inni gadw'r graddedigion hyn. Rydym yn cynhyrchu'r graddedigion ardderchog hyn ac mae Llundain, Birmingham, Manceinion a Chaergrawnt yn cael y budd ohonynt. Mae angen i Gymru gael y budd ohonynt. Pe bai gan Gymru yr un gyfran o'i phoblogaeth yn gweithio mewn TGCh ag a geir yn y DU yn ei chyfanrwydd, byddai ganddi tua 40,000 yn fwy o weithwyr TGCh nag sydd ganddi. Byddai hynny'n cael effaith enfawr ar werth ychwanegol gros ledled Cymru.

Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly mae angen strategaeth ar gyfer buddsoddiad wedi'i dargedu er mwyn cael y swyddi cyflog uchel hyn. A yw'n bosibl? Pam fod gan Mannheim yn yr Almaen werth ychwanegol gros sydd oddeutu dair gwaith yr hyn sydd gan orllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae gan Aarhus yn Nenmarc werth ychwanegol gros sy'n agos at ddwywaith gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae'r lleoedd hyn yn llwyddiannus? Am fod ganddynt brosiectau a chynlluniau, ac maent yn dda am wneud pethau penodol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw canfod beth rydym yn ei wneud yn dda, a datblygu yn unol â hynny. Yn llawer rhy aml, rydym yn sôn am geisio cael—. Pe bawn yn gofyn beth yw prif sectorau economaidd Cymru, credaf ei fod wedi dod i gyfanswm o tua 80 y cant o economi Cymru y tro diwethaf imi edrych. Rydym angen sectorau allweddol, a hyrwyddo sectorau allweddol.

Yn olaf, os daliwch ati i wneud yr un peth, fe fyddwch yn cael yr un canlyniadau.

17:10

Ym mhwynt 1 ein cynnig, siaradwn am anghydraddoldeb cynyddol fel y'i dangosir gan werth ychwanegol gros, yna ym mhwynt 4(b) siaradwn am ein hamcan i dyfu cyflogau a thyfu ffyniant ledled Cymru. Hoffwn bwysleisio bod gwahaniaeth rhwng gwerth ychwanegol gros a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn edrych ar gynhyrchiant mewn ardal benodol. Fel y soniodd Mike, mae llawer o bobl yn cymudo i Gaerdydd o'r tu allan, a chaiff gwerth yr hyn a gynhyrchant ei gynnwys o fewn gwerth ychwanegol gros Caerdydd, yn hytrach na gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd, dyweder, yn achos rhai o'r cymudwyr hynny o'r Cymoedd. A chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio gydag ef, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ei wrthsefyll yn synhwyrol. Roedd Mike yn iawn hefyd pan ddywedodd fod diwydiannau gwahanol—a nododd TGCh fel un sy'n talu'n dda—yn tueddu i glystyru gyda'i gilydd, ac mae'r duedd honno wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd a mwy diwethaf, ac rydym wedi gweld mwy o fanteision cydgrynhoi. Mae angen inni weithio gyda'r graen yn hynny o beth, yn hytrach na'i wrthsefyll, os ydym yn mynd i hybu cyflogau a ffyniant y bobl a gynrychiolwn.

Diolch ichi am dderbyn ymyriad. A yw hynny'n rheswm digon da i chi gefnogi ein gwelliant heddiw sy'n galw am greu'r canolfannau cydgrynhoi hynny mewn sectorau amrywiol, mewn ardaloedd penodol o'r Gymru wledig yn benodol?

Nid wyf yn diystyru ei gefnogi; byddwn yn ystyried y ddadl ac yn gwneud penderfyniad. Ond mae'n anos creu manteision cydgrynhoi mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod y cydgrynhoad hwnnw'n galw am lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn lle cyfyng. Mae gennym hynny yng Nghaerdydd i ryw raddau, ac mae llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cymudo i Gaerdydd i swyddi sy'n talu'n eithaf da, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei gefnogi, ac mae parhau i lusgo traed fel hyn a methu gwneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yn un anghymhelliad mawr ac yn atal twf yn ninas-ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Yn yr un modd, rwy'n cefnogi metro de Cymru; credaf fod hwnnw'n syniad rhagorol. Edrychaf ymlaen at weld Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosibl. Eto, rydym hefyd yn gweld pobl yn cymudo i Fryste yn ne-ddwyrain Cymru, ac o ran hynny, mae dileu'r tollau ar bontydd Hafren yn hollol wych. Ac rydym yn gweld twf gwirioneddol sylweddol yng Nghasnewydd; mae mwy nag un o bob chwe chartref newydd yng Nghymru bellach yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd. Nawr, mae llawer o'r rheini'n gartrefi i bobl sy'n cymudo—unwaith eto, i swyddi sy'n talu'n gymharol dda, yn aml—yn ardal Bryste. Soniodd Mike am Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel rhai sy'n uwch na'r cyfartaledd, ond er nad yw Bryste'n rhanbarth, mae ei gwerth ychwanegol gros gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, ac unwaith eto mae'n dda ar gyfer y swyddi TG. Ac mae'n wirioneddol bwysig ar draws de Cymru—o Abertawe i Gaerdydd i Gasnewydd i Fryste—ein bod yn cysylltu'r ardal honno gyda'i gilydd fel rhanbarth yn well o lawer nag y gwnawn ar hyn o bryd, ac mae honno'n un ffordd bwysig iawn o hybu ffyniant, ar gyfer yr ardal honno o Gymru o leiaf.

A gaf fi droi'n fyr at y bargeinion dinesig? Roeddwn yn meddwl bod digwyddiad twf canolbarth Cymru yr wythnos diwethaf yn wych ac roeddwn yn falch iawn fod Russell wedi fy annog i fynd i hwnnw, a llongyfarchiadau iddo ef ac i eraill a oedd yn rhan o'r gwaith o arddangos yr holl fusnesau trawiadol hynny o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru. Ond dywedir wrthym nad oes ond tri busnes yn y rhanbarth hwnnw â mwy na 200 o weithwyr. Mae gan Geredigion a Phowys gyda'i gilydd boblogaeth lai o lawer nag unrhyw ranbarth arall rydym yn edrych arnynt ar gyfer bargeinion dinesig, ac rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen iddynt gofio hynny wrth ystyried sut i weithio gyda hwy. Ni allwn gael un templed unigol ar gyfer y modd y mae'r bargeinion hyn yn gweithio, a chredaf fod y ddau gyngor hynny angen llawer mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i weu'r fargen honno gyda'i gilydd a gwneud iddi weithio ar gyfer eu hardal leol.

17:15

Mae ganddynt ddwy brifysgol hefyd, ac efallai y gallem ddechrau defnyddio budd y prifysgolion hynny i helpu i ysgogi cyfoeth.

Cytunaf â phwynt yr Aelod. Dechreuodd y bargeinion dinesig yn ôl ym mis Gorffennaf 2012 pan gytunwyd ar yr wyth bargen gyntaf yn y DU. Nawr, roedd yr wyth yn Lloegr, ac yn cynnwys lleoedd fel Bryste a Nottingham, o faint tebyg i Gaerdydd a heb fod yn llawer mwy nag Abertawe. Pam y cymerodd gymaint o amser i'r cysyniad hwn gael ei ddatblygu yng Nghymru? Yn Lloegr, rhwng mis Gorffennaf 2012 a'r rhai cyntaf hynny, gwelsom 20 bargen arall yn dod i fodolaeth erbyn mis Gorffennaf 2014. Eto roedd hi'n fis Mawrth 2017 arnom yn gweld bargeinion Caerdydd ac Abertawe yn weithredol, ac rydym yn dal i weithio i gael bargen gogledd Cymru, a bargen canolbarth Cymru yn enwedig, i'r pwynt hwnnw. Felly, hoffwn ddweud fy mod yn falch o weld rhywfaint o ymrwymiad a chefnogaeth yn awr, ac rwy'n gobeithio y gwelwn ragor o hynny, ond pam y cymerodd gymaint o amser? A gadewch inni fwrw ymlaen a cheisio gwneud hyn ar fyrder.

Rydym newydd gael dwy araith ddiddorol iawn gan Mark Reckless a Mike Hedges, ac rwy'n cytuno â'r cyfan. Pe bai Mike Hedges yn arweinydd plaid wleidyddol, rwy'n aml yn meddwl y gallwn gael fy nhemtio i ymuno, oherwydd rwy'n aml yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yn y Siambr. Gobeithiaf nad yw'n hynny gwneud niwed angheuol i'ch gyrfa. Ond fe wnaeth rai pwyntiau cadarnhaol ac ymarferol iawn.

Mae'n rhy hawdd siarad ynglŷn â sut y mae Cymru ar waelod y gynghrair mewn cymaint o'r tablau economaidd a sut y mae wedi mynd tuag yn ôl yn yr 20 mlynedd diwethaf, a sut y ceir gwahaniaeth enfawr o ran incwm rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd, er enghraifft, a bod angen inni lenwi'r bwlch. Ond y gwir amdani yw bod angen i Gymru godi lefel creu cyfoeth yn yr economi a chodi lefelau incwm yn fwy cyffredinol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum—. Mae'n ddrwg gennyf.

Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi methu digwydd i raddau syfrdanol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, nid wyf am lwytho'r bai i gyd ar Lywodraeth Lafur Cymru oherwydd, yn amlwg, nid yw'n meddu ar yr holl ysgogiadau a phwerau economaidd. Yn wahanol i Weriniaeth Iwerddon, er enghraifft, ni all leihau'r dreth gorfforaeth na newid strwythur y dreth i ffafrio rhai o ddiwydiannau twf y dyfodol. Ac mewn gwirionedd, dros y blynyddoedd, rwyf wedi dod i deimlo'n fwy cadarnhaol tuag at ddatganoli nag yr oeddwn 20 mlynedd yn ôl, nid yn unig oherwydd fy mod wedi fy ethol i'r lle hwn, ond o ddefnyddio datganoli mewn ffordd sy'n llawn dychymyg, a'i ymestyn mewn rhai ffyrdd hyd yn oed, gallaf weld y gallem newid y cefndir economaidd cyffredinol o ran trethiant a rheoleiddio i roi mantais gymharol i ni ein hunain—[Torri ar draws.]—o'i gymharu â'n cymdogion. Iawn, wrth gwrs.

Rydych chi'n hollol iawn i nodi'r dreth gorfforaeth fel un o'r prif bethau nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt, ond mae ganddynt gyfrifoldeb dros ardrethi busnes a gallai wneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fusnesau bach ar hyd a lled Cymru, ac eto maent wedi dewis peidio â gwneud hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Gellid dweud hynny am y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth gwrs, fod ardrethi busnes yn dreth eiddo sy'n gyfan gwbl hen ffasiwn a phrin fod unrhyw gysylltiad rhyngddi ag incwm pobl, ac felly eu gallu i dalu. Nid yw cyrraedd o lle'r ydym i lle'r hoffem fod o reidrwydd yn beth hawdd i'w wneud wrth gwrs, ond er hynny, i wlad fel Cymru sydd ar waelod y tabl o wledydd a rhanbarthau Lloegr, credaf fod angen inni gael rhyw fath o ymateb dychmygus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yn ogystal â Llywodraeth Cymru—sydd ag ysgogiadau pŵer economaidd yn ei dwylo, a byddai modd iddynt lunio rhyw fath o becyn ar gyfer Cymru, ac nid Cymru'n unig, ond ar gyfer yr Alban, ac ar gyfer rhanbarthau eraill yn Lloegr yn ogystal, i roi mantais gymharol iddynt, neu i leihau'r anfantais gymharol rydym wedi'i hetifeddu o hanes.

Fel y nododd Mike Hedges, collodd Cymru lawer o swyddi diwydiant trwm a oedd yn talu'n dda ac roeddent yn gyflogwyr llafur mawr, ac ni ddaeth dim yn eu lle a allai gymharu â hwy. Yn anffodus, nid yn unig oherwydd rheoliadau'r UE ond oherwydd—ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn yn frwd—mae gennym bolisi ynni wallgof yn y wlad hon, lle'r ydym yn mynnu ychwanegu at gostau diwydiant drwy drethi a thaliadau gwyrdd, a chaiff swyddi eu hallforio, yn enwedig mewn diwydiannau ynni-ddwys, i rannau eraill o'r byd nad ydynt yn pryderu cymaint ynghylch niwed amgylcheddol, hyd yn oed os ydych yn derbyn egwyddorion cynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl. Nid oes gennyf syniad pam y mae'n rhaid i'n diwydiant dur ymdopi â hyn. Fel y nodais sawl gwaith yn y gorffennol, nid yw'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i lefelau carbon deuocsid o amgylch y blaned, ac eto, fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig ac un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop, rydym yn rhan o'r byd na all fforddio'r math hwn o hunanfoddhad. Felly, rwy'n— [Torri ar draws.] Wel, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain; nid oes gennyf amser i fanylu arnynt yn awr, ond byddaf yn gwneud araith i'r perwyl hwnnw eto cyn hir, rwy'n siŵr.

Ond mae'r hyn a wnaeth y Llywodraeth, a'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud ar seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig y seilwaith rheilffyrdd, yn beth da iawn yn fy marn i, ac rwy'n sicr yn derbyn yr hyn a ddywedodd Mark Reckless ynglŷn â datrys y problemau traffig o amgylch Casnewydd. Os yw Cymru'n mynd i wneud ei hun yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, bydd hwylustod dod i mewn a mynd allan o Gymru yn gwbl allweddol. Ond mae'n rhaid i awyrgylch cyffredinol Cymru ddod yn fwy cadarnhaol a siriol a chyfeillgar tuag at fentrau yn fy marn i. Ceir llawer o ystadegau y gallwn eu dyfynnu ynghylch anallu cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i ddenu entrepreneuriaid yma a busnesau a mentrau yn niwydiannau'r dyfodol, fel y nododd Mike Hedges yn gynharach. Ceir mwy o raglenwyr a chodwyr yn y DU nag yn Nyffryn Silicon a San Francisco ac yn y blaen. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr mai'r rhain yw diwydiannau'r dyfodol. Felly, mae arnaf ofn nad yr ateb yw mwy a mwy o wariant gan y Llywodraeth ond yn hytrach, llai o bwysau gan Lywodraethau ar bobl a busnesau. Dyna'r ffordd ymlaen i Gymru.

17:20

Dwi’n gobeithio y gall pawb ohonom ni gefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Yn 2017, fe wnaeth Adam Price a minnau gyhoeddi’r papur trafod yma, ‘Dyfodol y Gorllewin: Cydweithio er Lles yr Economi a’r Gymraeg’. Roedd yn amlinellu’r awydd i weld cynghorau sir y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr—yn gweithio efo’i gilydd ar faterion strategol datblygu economaidd.

Mae sefyllfa economaidd ac ieithyddol y gorllewin wedi cyrraedd pwynt argyfyngus—allfudo pobl ifanc, lefelau incwm y pen yn isel, ymhlith yr isaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi, y Gymraeg fel iaith gymunedol yn edwino, a Brexit yn bygwth dyfodol amaeth a’r cymunedau cefn gwlad a phrifysgolion yr ardal hefyd. Mae’r heriau yn fawr ac mae angen atebion brys.

Fe lwyddodd Plaid Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i neilltuo £2 filiwn tuag at y gwaith cychwynnol, ac mae egin rhanbarth economaidd y gorllewin—Arfor—bellach wedi ei sefydlu. Mae’r cysyniad yn cydio ac yn gwreiddio. Bydd yn gallu mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen, a gweledigaeth Plaid Cymru ydy creu rhanbarth economaidd gref yn y gorllewin, a fydd yn gweithredu ymyraethau economaidd effeithiol er mwyn taclo rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu’r ardal wledig, Gymreig yma. Mi fydd y rhanbarth yn cynnwys ardaloedd twf megis ardal y Fenai, sydd yn cwmpasu rhan o fy etholaeth i yn Arfon.

Mae’r Torïaid, ac, fe ymddengys, y Llywodraeth Lafur hon hefyd, yn rhoi llawer iawn o’u sylw ar y dinasoedd rhanbarth. Dydy hynny ddim yn mynd i gryfhau’r mwyafrif o ardaloedd sydd yn fregus yn economaidd yng Nghymru. Mae’n strategaeth datblygu economaidd wallus yn fy marn i, am ei bod yn un sy’n dilyn ideoleg y farchnad rydd. Pen draw creu’r dinasoedd rhanbarthol ydy sugno twf i ardaloedd sydd yn tyfu’n barod, gan amddifadu’r ardaloedd gwledig a’r ardaloedd difreintiedig o'r gefnogaeth economaidd sydd ei hangen. Ac i mi, dylai’r strategaeth economaidd fod yn cefnogi’r ardaloedd a’r boblogaeth sydd angen cefnogaeth. Ond, ar hyn o bryd, polisi 'i’r pant y rhed y dŵr' sydd ar waith: crynhoi adnoddau mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu.

Felly, diolch byth am yr egin Arfor. Mae bwrdd Arfor wedi cael ei sefydlu rhwng y bedair sir, ac fe gytunwyd ar ddatganiad o bwrpas, sef gweithio mewn partneriaeth i sefydlu fframwaith lle bydd datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn cael eu cydgysylltu. Fe fydd cynllun strategol yn cael ei baratoi fydd yn gosod gweledigaeth hirdymor a ffordd o weithio i gyflawni ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru. Yn ogystal, fe fydd ystod o brosiectau yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso er mwyn canfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o greu ffyniant economaidd ar lawr gwlad, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn datblygu.

Megis dechrau mae hyn. Mae Arfor yn wrthbwynt pwysig i’r dinasoedd rhanbarth a’r ardaloedd twf, ac mae’n haeddu cael ei chydnabod yn llawn fel y gall datblygu’n bwerdy grymus gorllewinol i’r dyfodol.

17:25

Wel, mae Neil Hamilton yn galw ar bawb ohonom i fod yn fwy siriol ac rydym wedi cyrraedd y pwynt gyda'r nos pan fo Mike Hedges yn cael ei annog i greu plaid wleidyddol newydd. Felly, credaf ei bod hi'n amlwg yn bryd i bawb ohonom  bacio'n bagiau a dirwyn y ddadl hon i ben, a byddaf yn caniatáu—[Torri ar draws.]—i fy nghyd-Aelod wneud hynny wedi i'r Gweinidog siarad.

Edrychwch, fel y dywedodd Mohammed Asghar, rwy'n credu, tuag at ddechrau'r ddadl hon, mae 2019 yn nodi 20 mlynedd ers datganoli, ac rydym yn cofio rhai o'r addewidion mawr a roddwyd i ni yn ôl ar ddechrau'r broses honno. Un o'r prif addewidion, wrth gwrs, oedd y byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar ei hysgogiadau economaidd ac y byddai'n gallu hybu'r economi. Wel, a bod yn deg â'r Cynulliad cynnar hwnnw, roedd y pwerau'n gyfyngedig. Rydym yn sefyll ar groesffordd yn awr gyda datganoli pwerau treth a mwy o adnoddau at ein defnydd, ac rydym wedi bod trwy lawer o refferenda i ymestyn pwerau.

Fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl hon, mae angen inni hybu ffyniant economaidd ardaloedd tlotaf Cymru—dyna yw hanfod y ddadl hon. Ac nid oes un ateb cyflym. Nid oes lle i ystrydebau ac esgus bod gan unrhyw blaid unigol yma yr atebion i gyd, ac y byddech, drwy wneud dim mwy na newid polisïau dros nos yn cyrraedd y wlad hudol honno nad yw'n bodoli. Yr unig ffordd o ddatrys y sefyllfa hon yw drwy gefnogi mentrau bach a chanolig a hefyd drwy ddatblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth, ac nid ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn unig, ond band eang hefyd, ac nid wyf yn meddwl bod hwnnw wedi cael sylw heddiw, a sicrhau bod ein seilwaith digidol—mae'n ddrwg gennyf, Mike, fe sonioch chi amdano; un o bolisïau eich maniffesto, yn amlwg, ar gyfer y blaid newydd—datblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n seilwaith band eang mewn ardaloedd trefol a gwledig. Oherwydd, oes, mae yna ddiffyg cydraddoldeb rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru, a'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin, ond nid oes modd datrys hynny ag un ateb cyflym.

Rhaid i'r pwerau trethu newydd fod yn rhan o'r ateb, gan gynyddu atebolrwydd y lle hwn ar y naill law, a defnyddio pwerau benthyca newydd i fuddsoddi mewn seilwaith—ac wrth gwrs, mae datblygu sylfaen dreth gystadleuol a chynaliadwy sy'n annog creu cyfoeth yn allweddol, oherwydd, heb ddatblygu'r dulliau hynny o greu cyfoeth, ni fydd gennych gyfoeth i'w rannu; ni fydd gennych gyfoeth i'w drethu ac i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hollbwysig. Ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd y Gweinidog Cyllid i gadw treth incwm ar yr un lefel â lefelau Lloegr tan etholiad nesaf y Cynulliad fan lleiaf. Fel y dywedodd y Prif Weinidog tuag at ddiwedd ei gyfnod fel Gweinidog Cyllid: os ydych yn codi cyfradd sylfaenol treth incwm, rydych yn mynd ag arian oddi wrth y bobl sydd leiaf tebygol o allu ei fforddio a hynny mewn cyfnod heriol. A gwyddom nad oes digon o drethdalwyr ar y gyfradd uwch yng Nghymru ar hyn o bryd—cyfran lawer is yma nag yn Lloegr—i allu trethu'r rheini mewn unrhyw ffordd sy'n debyg i'r hyn a fyddai'n angenrheidiol er mwyn codi'r math o arian y byddai ei angen heb gynyddu twf economaidd mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni dyfu'r sylfaen drethu.

Crybwyllwyd dinas-ranbarth Caerdydd, a rhanbarth Abertawe mewn gwirionedd, ac rwy'n derbyn pwynt Mike Hedges: mae'r dinas-ranbarthau'n iawn, ond rhaid inni edrych ar y cwmnïau o fewn y dinas-ranbarthau hynny, ac nid oes unrhyw werth mewn cael llawer o fentrau bach a chanolig o'r math y mae pawb ohonom am eu hannog os oes toriad wedyn rhwng bod y cwmnïau hynny'n mynd ymlaen i fod yn gwmnïau gwirioneddol fawr ar y llwyfan Ewropeaidd, ac yn wir ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, mae angen edrych ar bob math o bethau, ac fel rwy'n dweud, nid wyf yn credu bod un polisi unigol yn bodoli a fydd yn gwella hyn. Ken Skates, Gweinidog yr economi, sy'n mynd i fod yn ymateb i'r ddadl hon, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi cwmpasu pob portffolio a phob adran weinidogol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd—mae'n un o'r dadleuon hynny. Ond mae un peth yn glir: mae angen i'r 20 mlynedd nesaf o ddatganoli gyflawni twf economaidd a ffyniant cynyddol mewn ffordd na wnaeth yr 20 mlynedd diwethaf.

Credaf ein bod yn sefyll ar groesffordd o ran datganoli pan fydd yr adegau pan allwn droi a dweud, 'Nid oes gan y lle hwn bwerau i allu cyflawni hynny', y tu ôl i ni a mater i'r bobl yn y Siambr hon fydd gwneud yn siŵr y byddwn yn cyflawni'r math o welliant yn economi Cymru y mae pawb ohonom am ei weld. Nid oes raid i chi roi ffurflen aelodaeth plaid newydd i mi eto, Mike Hedges, ond rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac unrhyw Aelod o'r Siambr hon sydd am symud Cymru ymlaen yn awr ac yn y dyfodol.

17:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint ac yn anrhydedd gallu ymateb i'r Aelodau yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a chredaf fod Nick Ramsay yn llygad ei lle: mae ffyniant yn dibynnu ar fwy na'r dulliau sydd gan un adran o fewn y Llywodraeth at ei defnydd. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon.

Ar y cychwyn, hoffwn ddweud y bydd ein dull newydd o weithredu a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, yn galluogi pob rhan o Gymru i ddatblygu eu cryfderau ac i fanteisio ar eu cyfleoedd fel eu bod yn gwneud mwy o gyfraniad i gyfoeth a lles yn genedlaethol, ond er mwyn iddynt hwythau hefyd elwa mwy drwy wneud hynny. Bydd dull mwy effeithiol a chydweithredol o weithredu ar ddatblygu economaidd rhanbarthol yn sicr o helpu i fynd i'r afael â hyn, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno prif swyddogion rhanbarthol, a pham ein bod yn sefydlu tair uned ranbarthol o dan eu harweinyddiaeth. Mae Russell George yn llygad ei le i fynnu bod ganddynt ddigon o adnoddau dynol ac ariannol, ac fe ddywedaf ragor am hynny yn y man.

Bydd yr unedau'n cefnogi gwaith i atgyfnerthu strwythurau llywodraethu rhanbarthol, aliniad effeithiol y dulliau ar draws adrannau'r Llywodraeth a datblygu cynlluniau rhanbarthol wedi'u cydgynhyrchu. Credaf mai'r prif swyddogion rhanbarthol a'u timau yw'r glud sy'n helpu i rwymo'r rhanbarthau gyda'i gilydd o amgylch achos cyffredin ac undod o ran ein diben, gan sicrhau arweinyddiaeth a chydlyniant i'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar lefel ranbarthol. Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, rôl y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn sbarduno twf rhanbarthol. Nid yw bargeinion dinesig a thwf yn ateb i bopeth, ond mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, cyhyd â'u bod wedi'u cydlynu'n effeithiol ochr yn ochr ag ymyriadau ehangach, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pob rhan o Gymru'n teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn y fenter hon, a dyna pam ein bod yn cefnogi uchelgais gogledd Cymru a chanolbarth Cymru ar gyfer eu bargeinion twf.

Ni ddylid eu gweld fel cyfryngau cyllido prosiectau yn unig, er hynny. Maent yn arfau allweddol ar gyfer darparu fframwaith sy'n caniatáu i ranbarthau ysgogi ffordd newydd o weithio'n gydweithredol, gan bennu blaenoriaethau fel un llais a chyflawni swyddogaethau hanfodol ar lefel strategol. Mae angen i bob rhanbarth nodi eu blaenoriaethau ac ysgwyddo cyfrifoldeb am ysgogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Dywedwyd llawer am yr ymdrechion yng nghanolbarth Cymru a gogledd Cymru, a hoffwn annog pob partner sy'n hyrwyddo'r bargeinion i sicrhau bod unrhyw fargen yn dangos y budd i'w rhanbarth cyfan, a'u bod yn weddnewidiol, yn uchelgeisiol ac yn wirioneddol uchelgeisiol.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Yn fyr, mae yna brosiectau, wrth gwrs, nad ydynt yn ymwneud â'r bargeinion. Argymhellais un, a awgrymwyd ddoe, ar Ynys Môn—ailagor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch—math pwysig o brosiect gweddnewidiol. Roeddwn yn siomedig fod y Llywodraeth a'ch meinciau chi wedi pleidleisio yn erbyn fy ngwelliant ddoe, ond fe roddaf un cyfle arall i chi ddweud bod y Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda ni ar roi ffocws newydd i ddatblygu'r prosiect penodol hwnnw, a fyddai'n weddnewidiol, fel rwy'n dweud, i'r rhanbarth hwnnw.

Wel, a gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn? Buaswn wrth fy modd yn gweld llawer o'n rheilffyrdd yn ailagor, gan gynnwys rheilffordd Amlwch. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn mynd ar drywydd arian Llywodraeth y DU sydd ei angen er mwyn agor llinellau rheilffyrdd mewn ffordd sy'n arwain at awdurdodau lleol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, ac wrth wneud hynny, ein bod yn datblygu dulliau strategol o weithredu er mwyn cael y cyfle gorau i sicrhau cyllid sy'n gystadleuol iawn.

Ddirprwy Lywydd, anaml y byddwch yn fy nghlywed yn cytuno mor sylfaenol â Russell George o ran yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'n strategaeth economaidd, ond fe soniodd, yn y bôn, am yr hyn sy'n ganolog i'r cynllun gweithredu economaidd, sef bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn tyfu ein cyfoeth a'n lles gyda'i gilydd, gan leihau'r anghydraddoldebau yn y ddau hefyd. Ond fel y dywedais ddoe, er mwyn dileu anghydraddoldeb ar draws economi'r DU, rydym angen modelau ariannu sy'n seiliedig ar fwy na chanlyniadau economaidd yn unig, oherwydd bydd y modelau hynny bob amser yn sicrhau bod gwariant ar seilwaith a gwariant ar ymchwil ac arloesi yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd eisoes yn gyfoethog, yn ne-ddwyrain Lloegr, ac wrth gwrs, yn y triongl euraid. Yn lle hynny, mae angen inni gael model ariannu newydd sy'n cefnogi twf cynhwysol a theg. Mae hynny'n golygu ariannu tecach nid yn unig i Gymru, ond i lawer o ranbarthau Lloegr hefyd.

Ond wrth gwrs, dylem wneud mwy na phregethu am hyn, dylem ddangos arweinyddiaeth ein hunain. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau fod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu sefydlu ym mhortffolio'r economi a thrafnidiaeth. Cânt eu cyhoeddi y gwanwyn hwn, ac rwy'n ystyried hon yn rhan bwysig o'n dull o sicrhau dimensiwn mwy rhanbarthol i'n gwaith, a chyfran deg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar draws y rhanbarthau wrth gwrs. Nid yw'r datblygiad hwn yn galw am ddeddfwriaeth, fel sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru, ond mae'n galw am benderfyniad gweinidogol i sicrhau bargen deg ar gyfer rhanbarthau Cymru ar adeg pan ydym yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael bargen deg.

17:35

Gwneuthum y pwynt yn gynharach mai'r syniad y tu ôl i'n Bil adnewyddu rhanbarthol yw rhoi'r math o ffocws i Lywodraeth y mae'r Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei roi ichi. Gallech wneud hynny i gyd heb y ddeddfwriaeth, ond mae'r ddeddfwriaeth yn helpu.

Gall deddfwriaeth helpu, ond nid yw'n angenrheidiol, fel y dangoswyd gan fy mhenderfyniad i sefydlu'r cyllidebau rhanbarthol dangosol.

Ddirprwy Lywydd, fe roddaf gyfle i Rhun ap Iorwerth a Siân Gwenllian ymateb i mi, oherwydd credaf fod yna gynnig i ailddosbarthu cyfoeth o fewn Cymru, o fewn Cymru'n unig. Roedd yna sôn sut nad oes gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de, ond bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin, ac felly mae angen inni ledaenu cyfoeth o'r dwyrain i'r gorllewin. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd fod—. Rwy'n mynd i swnio'n fwy o genedlaetholwr na'n cyfeillion a'n cyd-Aelodau yn awr. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd, os oes unrhyw ailddosbarthu, unrhyw ledaenu cyfoeth, fod yn rhaid iddo fod o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru, oherwydd os ydym am dyfu cyfoeth yn ei grynswth, rhaid inni ledaenu cyfoeth i ffwrdd oddi wrth y rhan gyfoethocaf o'r DU o bell ffordd ar hyn o bryd.

Yn y pen draw, hoffwn roi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Drwy wneud hynny, fodd bynnag, y perygl yw ein bod yn mynd i efelychu'n union yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU—hynny yw, fod popeth yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr—yng Nghymru, gyda phopeth yn cael ei grynhoi mewn un cornel o Gymru. Dyna'r broblem fawr sy'n ein hwynebu.

Ddirprwy Lywydd, dyna'n union pam y dywedais ein bod yn sefydlu'r unedau rhanbarthol a'r cyllidebau rhanbarthol dangosol, er mwyn sicrhau bod gennym fodel ariannu gwahanol i'r un sy'n gweithredu o fewn Llywodraeth y DU, sydd yn ei dro yn sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi'n decach mewn seilwaith ledled Cymru. Gadewch inni wynebu'r gwir: seilwaith a'r ddarpariaeth o sgiliau sy'n hybu twf economaidd. Dyna'r ddau ffactor mawr. Felly, os oes gennych fwy o ariannu teg ar draws gwlad, bydd gennych fwy o dwf economaidd sy'n gynhwysol ar draws y wlad honno. Credaf ein bod yn dangos i'r byd pa ffordd i fynd, a dyna pam yr ydym wedi gwahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i asesu llwyddiant y cynllun gweithredu economaidd yn erbyn ein huchelgeisiau i sbarduno twf cynhwysol.

Mae'n werth dweud mewn amgylchedd ôl Brexit, wrth gwrs, ein bod yn disgwyl i Gymru beidio â cholli'r un geiniog goch o ran y buddsoddiad y byddem yn ei ddisgwyl, ac rydym am weld penderfyniadau ar ddatblygu economaidd a buddsoddi'n cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yn 2017, wrth gwrs, fe gyhoeddasom bapur ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, ac mae'r papur hwnnw yn galw am barhau i wneud penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru, gan awdurdodau lleol, a thrwy strwythurau rhanbarthol sy'n datblygu.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. A gaf fi ddweud fy mod yn credu, yn gyffredinol, ar draws y Siambr, fod yr Aelodau wedi nodi pob un o'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno twf economaidd? Caiff pob un o'r ffactorau allweddol hynny eu hymgorffori o fewn y cynllun gweithredu economaidd, a hoffwn wahodd yr Aelodau nad ydynt wedi darllen y strategaeth honno i wneud hynny ar fyrder.

17:40

Diolch. Dechreuodd Russell George drwy nodi bod polisïau Llywodraeth Cymru dros 20 mlynedd wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau yng Nghymru, a chroesawodd fargen prifddinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth bae Abertawe, bargen twf gogledd Cymru, a'r posibiliadau ar gyfer bargen twf canolbarth Cymru. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sydd nid yn unig yn ymgorffori cynnig canolbarth Cymru, ond sydd hefyd yn cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru lle bynnag y maent. Nododd y bwlch gros y pen rhwng gogledd-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru yn enwedig. Nododd fod gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn bron yn hanner gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghaerdydd, ac yn anffodus, Ynys Môn yw'r ardal dlotaf y pen yng Nghymru o hyd o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Soniodd am gyfraddau twf gwael iawn yn y rhannau lleiaf cefnog o Gymru o'i gymharu â thwf yn rhai o'r rhannau lleiaf cefnog o Loegr, a soniodd am amlygu'r angen am strategaeth economaidd effeithiol i fynd i'r afael â hyn.

Dechreuodd Rhun ap Iorwerth gydag amddiffyniad rhyfedd o berfformiad Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y sylwadau a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn â bod cyfoeth y pen ar Ynys Môn ond yn hanner yr hyn a geir yng Nghaerdydd. Soniodd am anghydraddoldeb. Soniodd am yr angen i ddod â ffyniant i bob rhan o'r genedl Gymreig.

Nododd Mohammad Asghar fod economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf, mai hi yw'r economi dlotaf yn y DU o hyd a'i bod wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, a bod teitlau gwefreiddiol cynlluniau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwrth-ddweud y methiant i gyflawni. Soniodd am lefelau incwm is a lefelau tlodi uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Dywedodd Mike Hedges nad oedd y bwlch yn economi Cymru wedi ei lenwi, fod tangyflawniad i'w weld mewn sectorau sy'n talu cyflogau uwch, ac os ydym yn mynd i ddal ati i wneud yr un peth, fe fyddwn yn parhau i gael yr un canlyniadau. Wel, yn hytrach na ffurfio eich plaid eich hun, rwy'n credu y gallech ymuno â ni, oherwydd dyna'n union yw ein barn ninnau hefyd. [Chwerthin.] Mike.

Rwy'n gobeithio y bydd fy mhlaid i'n cefnogi twf mewndarddol, oherwydd credaf mai dyna'r unig ffordd y gallwn symud ein heconomi yn ei blaen. A ydych yn cytuno?

Wel, mae'n mynd â mi yn ôl i ddarlithoedd economaidd ar gromliniau twf mewndarddol, ond nid af i mewn i hynny yn awr.

Soniodd Mark Reckless am y gwahaniaeth o ran diffiniad rhwng gwerth ychwanegol gros—gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul y pen o'r boblogaeth—a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn nodi lle y cynhyrchir gwerth mewn nwyddau a gwasanaethau ac nid o reidrwydd o ble y bydd pobl yn cymudo. Felly, rhaid inni edrych ar y darlun cyfan.

Siaradodd Neil Hamilton am yr angen i godi lefelau incwm yn gyffredinol. Dywedodd nad yw Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael i Iwerddon, er enghraifft, ond wrth gwrs, mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl y gwledydd a'r rhanbarthau lle mae'r un polisïau ar gyfer y DU yn weithredol. Ac yna allyrrodd ei syniadau ynghylch allyriadau, ac rwy'n deall bod yn rhaid inni edrych ymlaen at ragor o hynny yn y dyfodol. Daeth i ben drwy ddweud bod angen inni atal Llywodraethau rhag rhoi pwysau ar fusnesau a'r bobl.

Soniodd Siân Gwenllian am gydweithredu economaidd rhwng cynghorau'r gorllewin, ond wrth gwrs, mae cynghorau yng ngogledd-orllewin Cymru eisoes wedi bod mor ddoeth â chefnogi bargen twf gogledd Cymru ac yn amlwg, mae cydweithrediad a chydweithio ar draws pob rhanbarth yn dda oni bai ei fod dan fygythiad, a thynnodd sylw'n briodol at yr angen am ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru.

Soniodd Nick Ramsay am yr addewidion a wnaed ar ddechrau datganoli gyda Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am ysgogiadau economaidd, ond mae angen inni dreulio'r 20 mlynedd nesaf yn cyflawni'r hyn rydym wedi methu ei wneud yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf. Mae angen inni hybu ffyniant economaidd yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ond nid oes un ateb cyflym, yn enwedig ar ôl y ddau ddegawd diwethaf. Yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig, trafnidiaeth a rhwydweithiau digidol mewn ardaloedd trefol a gwledig, a soniodd am yr angen i ddefnyddio pwerau trethu a benthyca newydd i greu'r cyfoeth y gellir ei drethu a'i wario wedyn ar wasanaethau cyhoeddus.

Cyfeiriodd Ken Skates at y modd y bydd ei gynllun gweithredu economaidd yn cyrraedd rhannau eraill y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu eu cyrraedd yn ystod ei dau ddegawd cyntaf mewn grym. Soniodd am waith da ar y lefel ranbarthol, gan gynnwys bargeinion dinesig a bargeinion twf, am ei gyllidebau rhanbarthol dangosol sy'n cael eu datblygu. Cytunai â Russell George fod angen inni gynyddu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau a dywedodd fod angen inni symud cyfoeth o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru. Ond roeddwn i'n deall mai'r trethi a delir yn ne-ddwyrain Lloegr sydd ar hyn o bryd yn llenwi'r bwlch rhwng y swm y mae Cymru yn ei dalu i mewn a'r swm yr oedd yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Yn drasig, Cymru yw'r lleiaf cynhyrchiol o 12 rhanbarth a gwlad y DU o hyd. Hyd yn oed yn fwy brawychus, o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir y pen yng Nghymru, bu'r twf yn arafach na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr unwaith eto. Yr unig beth cadarnhaol y gallaf ei weld oedd mai yn Sir y Fflint a Wrecsam y cafwyd y twf mwyaf yng Nghymru, ond roedd yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn datganoli. A dweud y gwir, mae anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru fel y mae yn frad, gyda Llywodraethau Llafur olynol yn methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o'r wlad.

Hoffwn gloi drwy ddyfynnu erthygl ar WalesOnline ddoe yn cyfweld pobl yng Nglynebwy. Cofnodwyd yr un ymatebion gan breswylwyr, perchnogion busnesau, cynghorwyr, cadeirydd fforwm busnes ac eraill fel ei gilydd: eu bod wedi cael cerflun hyfryd, canopi gwydr hyfryd yn lle'r hen un, lifft mecanyddol sy'n cysylltu un rhan o'r dref i'r llall, canolfan hamdden newydd, coleg newydd, ond er gwaethaf y miliynau a wariwyd ar brosiectau adfywio rhanbarthol, nid oedd wedi gwneud yr hyn oedd ei angen arnynt—dod â swyddi a busnesau i mewn.

17:45

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. O'r gorau, iawn.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, rydym yn pleidleisio heddiw ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Rwy'n aros i rywun bleidleisio. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, roedd un yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6959 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, roedd un yn ymatal, ac 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliant 2 a gwelliant 3 eu dad-ddethol.

NDM6959 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 17, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig pump, roedd 10 yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM6959 - Gwelliant 4: O blaid: 5, Yn erbyn: 30, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.

NDM6959 - Gwelliant 5: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6959 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol.

2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru.

3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.

4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol.

5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.

6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.

7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru.

8. Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf.

9. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.

10. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6959 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym, yn dawel, a pheidio â chael sgyrsiau gydag eraill ar y ffordd allan, os gwelwch yn dda?

17:50
9. Dadl Fer: Caerffili ddi-blastig, Cymru ddi-blastig

Symudwn yn awr at eitem 9, sef y ddadl fer, a galwaf ar Hefin David i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Hefin.

Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf roi munud o'r ddadl fer hon, yn y drefn hon, i Joyce Watson, David Melding, Rhianon Passmore a Jenny Rathbone, sy'n dangos pwysigrwydd y ddadl heddiw, rwy'n credu.

Pe baech yn gosod yr holl gwpanau polystyren a gynhyrchir mewn un diwrnod yn unig mewn rhes, byddent yn mynd yr holl ffordd o amgylch y ddaear. Pe baech yn gosod yr holl wellt plastig a ddefnyddir yn y DU bob tri diwrnod, byddent yn mynd yr holl ffordd o amgylch y ddaear ddwywaith. Yn nes at adref, os edrychwn ar Gymru, mae gwaith ymchwil diweddar gan yr Athro Steve Ormerod o Brifysgol Caerdydd wedi canfod plastigau mewn 50 y cant o bryfed dŵr croyw mewn afonydd yn ne Cymru. Mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw'r broblem.

Yn 1950, cynhyrchodd poblogaeth y byd o 2.5 biliwn 1.5 miliwn tunnell o blastig. Yn 2016, cynhyrchodd poblogaeth fyd-eang o dros 7 biliwn dros 320 miliwn tunnell o blastig, ac mae'n mynd i ddyblu erbyn 2034. Wrth i Huw Irranca-Davies adael y Siambr, fe ddywedodd wrthyf, 'Mae gennych y ddadl hon heddiw ac a ydych yn sylweddoli bod gennych ddwy feiro blastig ar eich desg?' Ac nid oes arnaf ofn codi cywilydd ar Huw Irranca-Davies heddiw drwy ddweud nad yw yma ar gyfer y ddadl, ond fe achosodd embaras i mi drwy fy atgoffa o hynny, ac mae gennyf lwyth o feiros plastig yn fy mhoced yn ogystal.

Rydym yn gaeth i blastig. Bob dydd, mae tua 8 miliwn o ddarnau o lygredd plastig yn canfod eu ffordd i mewn i'n cefnforoedd a gallai fod tua 5.3 triliwn o ddarnau macro a microblastig yn arnofio yn y cefnfor agored gan bwyso hyd at 269,000 tunnell. Mae'r rhain yn ystadegau brawychus, a lleddir 100,000 o famaliaid morol a chrwbanod ac 1 filiwn o adar y môr gan lygredd plastig morol bob blwyddyn. Mae'n broblem amgylcheddol a achosir gennym ni heddiw a'n dibyniaeth ar blastig. Ac rydym yn ei daflu i ffwrdd. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn taflu oddeutu 40 kg o blastig y flwyddyn, plastig y gellid ei ailgylchu fel arall. Mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i bweru bwlb golau 60 W am chwe awr. Caiff 75 y cant o wastraff plastig wedi ei ddefnyddio ei gludo i safleoedd tirlenwi.

Yn gymharol ddiweddar y cynyddodd ein hymwybyddiaeth o'r broblem hon, rwy'n teimlo. Roeddwn yn ymwybodol ohono, ond ni ddeuthum yn ymwybodol o ddifrifoldeb y mater a pheryglon hyn nes i mi ymchwilio i'r mater ar gyfer y ddadl hon. Ond canmolwyd rhaglen ddogfen Blue Planet II Syr David Attenborough ar ddiwedd 2017 am roi mwy o ddealltwriaeth i ni ynglŷn â hyn, ac annog Llywodraethau i weithredu, gobeithio, yn ychwanegol at y dyletswyddau amgylcheddol eraill sydd ganddynt, ond i weithredu hefyd mewn perthynas â gwastraff plastig yn arbennig. O ganlyniad, fis Chwefror diwethaf nododd Llywodraeth yr Alban gynlluniau i wahardd gwellt plastig erbyn diwedd y flwyddyn. Fis Ebrill diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn ystyried gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro fel ffyn troi, gwellt a ffyn cotwm. Meddyliwch am y plastig rydych yn ei ddefnyddio. Meddyliwch am y plastig rydych yn ei ddefnyddio bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau—ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn crybwyll hyn—i weithio gyda rhannau eraill o'r DU ar gynllun dychwelyd blaendal ac arian i helpu awdurdodau lleol gydag ailgylchu plastig a phethau eraill y byddaf yn eu crybwyll yn y man ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Rwyf wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr amgylcheddol ac maent wedi bod yn dadlau ers amser maith ynglŷn â gwastraff plastig ac wedi galw am weithredu, ond mae'n dal yn broblem enfawr ac mae gennym lawer o ffordd i fynd. Fis Gorffennaf diwethaf, pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddf newydd yn gwahardd siopau yng Nghymru rhag gwerthu cynhyrchion ymolchi sy'n cynnwys microbelenni plastig, er enghraifft, ond mae angen llunio'r gweithredoedd tameidiog hyn yn strategaeth ehangach.

Rwyf am siarad am Gaerffili a'r hyn sy'n digwydd i greu Caerffili ddi-blastig. Bythefnos yn ôl mynychodd 30 o bobl—a dyma un o'r rhesymau pam y dewisais y pwnc hwn ar gyfer y ddadl—gyfarfod o grŵp o'r enw Caerffili Ddi-blastig, sy'n dangos brwdfrydedd cynyddol i fynd i'r afael â gwastraff plastig a gwneud ein cymunedau lleol yn ddi-blastig. Mae trigolion lleol, ysgolion a pherchnogion busnesau'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfeillion y Ddaear Caerffili a grŵp o'r enw Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth i gael statws di-blastig i Gaerffili, ac fel rhan o fy ymweliad, fy ymweliad ar ddydd Sadwrn y busnesau bach—un o fy ymweliadau cyntaf pan gefais fy ethol oedd â busnes o'r enw Plant2Plate, ac maent yn gwerthu bwyd iach, wedi'i becynnu'n gynaliadwy, ac maent wedi rhoi camau mawr ar waith i fod yn fusnes di-blastig yn nhref Caerffili. Hefyd, mae The Vegan Box a The Old Library wedi gwneud yr un ymdrechion yng Nghaerffili, yn ogystal â Transcend Packaging yr ymwelais â hwy ym Mharc Busnes Dyffryn. Fis Mehefin diwethaf, daeth Transcend Packaging yn un o ddau gwmni yn unig yn y DU gyfan i ennill contract i ddarparu gwellt papur i holl fwytai McDonald's yn y DU ac Iwerddon. A gwelais y ffatri lle maent yn ei wneud—mae o fewn pellter cerdded i fy nhŷ. Ledled y DU, byddwn yn gweld y gwellt papur hyn yn mynd i McDonald's.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—roedd ar yr agenda—cefais e-bost dig iawn gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dywedai hyn, 'Hefin, rwy'n gobeithio eich bod yn mynd i sôn am yr hyn y mae cyngor Caerffili yn ei wneud. Dylech bob amser gysylltu â mi i weld beth rydym yn ei wneud oherwydd rydym yn gwneud pethau gwych yng Nghaerffili.' Ac yn sicr ddigon, fe wnes i hynny, fe welais beth sy'n digwydd. A'r hyn y mae cyngor Caerffili wedi'i wneud yw sefydlu grŵp prosiect her plastigion, sy'n cynnwys nifer o'i swyddogion ei hun, ynghyd â chynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, WRAP Cymru ac Eunomia Research. Maent yn ystyried problem plastigion problematig, yn enwedig yng nghyd-destun rheoli gwastraff ac atal gwastraff. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am adroddiad y grŵp hwnnw gan gyngor Caerffili y tro nesaf y byddaf yn cyfarfod â'r arweinydd, y Cynghorydd Dave Poole.

Hefyd, mae cyngor Caerffili wedi cyflwyno cynlluniau glanhau cyrsiau dŵr yn amgylcheddol, gwasanaeth glanhau statudol sy'n clirio dros 1,000 tunnell o blastig y flwyddyn, a gwasanaeth ailgylchu wythnosol sy'n casglu 20,000 tunnell ar gyfer ei ailbrosesu—ymhlith pethau eraill. Mae cyngor Caerffili yn gweithredu. A dylwn grybwyll Anna McMorrin AS hefyd, a gyflwynodd Fil yn y Senedd i'w gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr deunydd pacio cynhyrchion i gymryd cyfrifoldeb dros gasglu, cludo, ailgylchu, gwaredu ac adfer cynhyrchion plastig. Ac roedd gan Jenny Rathbone gynnig deddfwriaethol ar hyd y llinellau hynny ychydig wythnosau yn ôl, cynnig y cyfrannais innau ato, a dyna a fu'n ysbrydoliaeth i lawer o'r hyn rwy'n ei ddweud heddiw.

Anghofiais sôn am fagiau plastig. Roedd Llywodraeth Cymru yn arloeswyr gyda bagiau plastig, ond a wyddech mai gan Kenya y mae rhai o'r deddfau gwrth-blastig mwyaf llym yn y byd? Yn Kenya, gallech wynebu pedair blynedd o garchar am gynhyrchu, gwerthu neu ddefnyddio bag plastig. Nid wyf yn awgrymu ein bod yn mynd mor bell â hynny—nid wyf yn awgrymu ein bod yn mynd mor bell â hynny, ond mae gwledydd o ddifrif ynglŷn â hyn. Fe wnaethom arwain yma yng Nghymru a dylem fod yn falch o hynny.

Gwlad arall y gallai Cymru ddysgu ganddi ac y gallem ddilyn ei hesiampl yw Costa Rica. Yn 2015 aeth fideo o fiolegydd morol yn tynnu plastig o drwyn crwban môr yn firol—yng Nghosta Rica. Ysgogodd hyn bobl i weithredu. Ers hynny, gwnaeth Costa Rica enw iddi ei hun am fod yn ecogyfeillgar a llwyddodd i bweru ei hun drwy ynni adnewyddadwy 100 y cant am ddwy ran o dair o'r flwyddyn yn 2016. Nod nesaf Costa Rica yn awr yw dod yn wlad gyntaf i wahardd pob defnydd o blastig untro erbyn 2021, gan gynnwys cyllyll a ffyrc, poteli a bagiau. I gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, mae'r Llywodraeth yn cynnig cymhellion i fusnesau yn ogystal ag ymchwilio opsiynau amgen yn lle plastig untro. Nawr, nid yw Costa Rica yn wlad fawr ond mae'n fwy na Chymru, a dylem fod yn edrych arnynt i ysbrydoli'r uchelgais sydd gennym i fynd i'r afael â phlastigion.

Serch hynny, rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn nes at adref. Fel y nodais, mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud llawer o waith da. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol ddigwyddiad yn Nhŷ Hywel a fynychwyd gan lawer o'r Aelodau. Unwaith eto, rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld eich fideo, Jenny Rathbone—ailgylchu poteli plastig a chaniau a chael derbynneb amdanynt. Y system dychwelyd blaendal—poteli diodydd a chaniau a'u topiau yw tua 10 y cant o sbwriel a gall cynllun dychwelyd blaendal ein galluogi, neu ein hannog i ailgylchu, a chawn dderbynneb a gostyngiadau ar nwyddau siop o bosibl. Mae hynny'n creu arfer—yr arfer o ailgylchu plastig.

Byddai cyflwyno system cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr go iawn i sicrhau bod cynhyrchwyr yn llwyr gyfrifol am adfer, ailgylchu a gwaredu eu cynhyrchion, gan gynnwys unrhyw gostau yr eir iddynt am atal a chlirio sbwriel, i'w groesawu. Ar hyn o bryd, mae system y DU yn golygu mai tua 10 y cant yn unig o'r costau hyn a delir gan y cynhyrchwyr, tra bo'r gweddill yn gost i'r trethdalwr.

Yn olaf, yr un rydym wedi sôn fwyaf amdano: ardoll ar gwpanau diodydd untro. Byddai ardoll o'r fath yn annog gostyngiad yn eu defnydd, yn unol ag egwyddorion hierarchaeth gwastraff, gan arwain yn ei dro at lai o sbwriel, ac mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi.

Rydym wedi arwain mewn cynifer o feysydd—hylendid bwyd, rheoli gwastraff bwyd ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd. Pa ffordd well o gadarnhau'r cynnydd hwn a'n henw da na mynd i'r afael â gwastraff plastig? Rwy'n annog y Gweinidog yn ei hymateb i ystyried rhai o'r pethau rwyf wedi sôn amdanynt heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud am y cynnydd y gallwn ei wneud.

18:00

Diolch, Hefin, am gyflwyno'r ddadl eithriadol o bwysig hon. Credaf fod yr holl blastig rydym wedi siarad amdano'n cyrraedd un man yn y pen draw, sef y môr. Felly, mae gennym Fil pysgodfeydd morol Cymru yn mynd drwodd ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod angen inni achub ar y cyfle i fynnu na ddylai unrhyw offer pysgota morol gael ei wneud o blastig o hyn ymlaen. Dyma ein cyfle. Mae ewyllys y cyhoedd y tu ôl i hyn, ac mae gwir raid inni wneud rhywbeth i ddechrau mynd i'r afael â'r hyn sy'n drychineb llwyr ar hyn o bryd, ac mae'n mynd i waethygu.

A gaf fi ddiolch i Hefin am gyflwyno'r pwnc hwn i'r Cynulliad heddiw ac rwy'n dymuno'n dda iawn i'r ymgyrch yng Nghaerffili? Yr wythnos diwethaf, bûm yn hyrwyddo peiriant y cynllun dychwelyd blaendal, a oedd yn cael ei arddangos. Rwy'n credu bod llawer o'r Aelodau wedi rhoi cynnig arno. Ac mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio—gallaf weld pawb ohonom yn dod i arfer ei ddefnyddio, a bydd llawer o blant bach eisiau rhoi'r poteli yn y peiriant a chael y tocyn allan wedyn gyda chredyd. Nid yw'n drafferthus.

Fel y dywedodd Joyce, mae plastig yn gwneud llanastr yn ein hamgylchedd morol, ac mae gwir angen inni wneud rhywbeth i atal hyn. Gobeithio y gallwn ddilyn yr arferion da yn yr Alban, lle maent yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y cyd ar gynllun blaendal sydd ar y gweill yn awr gan y DU a Llywodraeth Cymru. Ni all ddigwydd yn ddigon cyflym yn fy marn i.

Ac yn gyflym a gaf fi orffen fy nghyfraniad drwy ganmol y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a ddaeth â'r peiriant blaendal i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, am y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud yn y maes hwn?

Yn gyntaf, diolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Fel y gwyddom, plastig untro a'r llygredd y mae'n ei achosi yw un o'r heriau amgylcheddol mwyaf difrifol sy'n wynebu'r byd heddiw, a gall fod yn anodd gweld yr effaith y gall unrhyw unigolyn ei chael go iawn, ond rhaid dechrau gweithredu, fel y dywedwyd eisoes , ar lefel leol. Rwy'n falch hefyd o groesawu'r gwaith a wneir ar draws bwrdeistref Caerffili, fel cyn-gynghorydd yng Nghaerffili, ar leihau gwastraff plastig, gyda'r cyngor yn arwain drwy esiampl. Ond ni ddaw newid dros nos, a bydd y grŵp prosiect arloesi a grybwyllwyd ac a sefydlwyd o fewn y cyngor yn helpu i leihau'r plastig a ddefnyddir ar draws yr awdurdod. Wrth ddilyn dull o weithredu'n seiliedig ar dystiolaeth, bydd y cyngor yn gallu gosod esiampl i breswylwyr ledled Caerffili, ac amlinellu'r camau y gall pawb ohonom eu cymryd i leihau ein gwastraff plastig.

Ond dangosir lle plastig a phwysigrwydd canfyddedig plastig i ni i gyd drwy'r ffaith bod gan bron bawb ohonom feiros plastig gyda ni heddiw—mae'n siŵr fod gennyf dair—ac fe'i dangosir gan y ffaith bod 60 y cant o'r ailgylchu ymyl y ffordd a godir gan gyngor Caerffili yn blastig. Er ei fod yn newyddion da fod y plastig hwn yn cael ei ailgylchu wrth gwrs, y ffordd orau o leihau ein gwastraff yw peidio â'i brynu neu ei ddefnyddio yn y lle cyntaf.

Felly, hoffwn ymuno â Hefin i longyfarch gwaith siop ddiwastraff gyntaf y fwrdeistref, Plant 2 Plate, ac rwy'n sylweddoli, o eiriau'r perchennog ei hun, ei bod hi hefyd yn bwysig inni gael ymagwedd Cymru gyfan tuag at gasglu deunydd pacio llysiau, er enghraifft, ac er nad yw'n blastig, mae'n edrych fel pe bai'n blastig ac nid yw'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd.  

Wel, rhaid imi alw ar y Gweinidog pan fydd y cloc yn cyrraedd 15 munud, felly nid ydych yn rhoi cyfle i Jenny Rathbone.

18:05

Rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at Steve Ormerod, oherwydd os ydym yn bwyta pysgod, rydym yn bwyta plastig. Mae angen inni drethu unrhyw weithgynhyrchwyr sy'n cynhyrchu plastigion nad ydynt yn ailgylchadwy yn drwm ac rwy'n cytuno bod brwdfrydedd cynyddol tuag at wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae Ripple ar Heol Albany yn llwyddiant gwych. Mae newydd agor—gallwch fynd â'ch holl boteli yno a'u llenwi â'ch nwyddau cartref.

Diolch yn fawr iawn, a diolch ichi am hynny. Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwnc sy'n ennyn llawer o sylw yn awr, fel y dywedasom, yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r ymwybyddiaeth wleidyddol, ond hefyd o ran problem llygredd plastig. Fel y mae pawb ohonom wedi'i ddweud yn y Siambr, mae plastig ym mhob man a byddwn yn ei ddefnyddio bob dydd, ac mewn rhai ffyrdd mae iddo ei ddiben a'i le, ond credaf mai'r hyn rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol ohono yw'r broblem a achosir gan blastig untro gwastrafflyd, sy'n aml yn ddiangen.

Nododd Hefin nifer o ystadegau a ffeithiau brawychus, ac nid wyf am geisio eu hailadrodd i gyd yn awr, ond un peth a lynodd yn fy meddwl yw hyn: os na weithredwn yn awr i fynd i'r afael â llygredd plastig, erbyn 2050 bydd mwy o blastig nag o bysgod yn ein moroedd. Felly, rydym yn gweld cymunedau ledled y wlad yn cymryd camau i fynd i'r afael â phlastig untro a hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i roi'r sylw y maent yn ei haeddu i'r cynnydd yn nifer yr ymgyrchoedd cymunedol, ac mae'n wych gweld Caerffili yn ymuno â'r rhwydwaith hwn tuag at newid yn ein gwlad.

Ac mae'n iawn—mae rôl i bob un ohonom ei chwarae, fel dinasyddion, defnyddwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr, busnesau, gwneuthurwyr polisi, ac wrth gwrs, fel gwleidyddion. Ac mae gan ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol ran allweddol i'w chwarae, yn gweithio gyda'i gilydd i leihau'r defnydd o blastig mewn sefydliadau a gefnogir gan y cyhoedd, yn enwedig ysgolion, ac o ran casglu a phrosesu gwastraff a deunydd ailgylchu. Gwyddom mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle y ceir targedau ailgylchu statudol. Mae pob un o'n hawdurdodau lleol yn casglu plastig ar gyfer ei ailgylchu, a dengys arolwg RECOUP ar gyfer y DU yn 2017 fod Cymru'n casglu 74 y cant o'r poteli plastig ar gyfer eu hailgylchu, a 51 y cant o'r potiau, y tybiau a'r deunydd pacio plastig yr amcangyfrifir eu bod yn cael eu gwerthu yma yng Nghymru. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn allweddol i'n dyheadau i leihau ac yn wir, i sicrhau bod gwastraff plastig yn cael ei ailgylchu. A diddorol oedd clywed am y prosiect y sonioch chi amdano yng Nghaerffili, am y rhanddeiliaid gwahanol yn dod at ei gilydd, a hefyd byddai'n dda gennyf glywed am gynnydd hynny a beth y gellid ei rannu â mannau eraill ar draws y wlad.

Hefyd, mae awdurdodau lleol yn cael cyfle i fanteisio i'r eithaf ar y dylanwad sylweddol y gallant ei gael drwy gaffael, ac rydym yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol ar nifer o brosiectau peilot yng Nghymru i ddangos sut y gall caffael gyflawni atebion mwy cynaliadwy. Mae nifer o'r rhain yn canolbwyntio ar ddefnydd mwy priodol o blastig, gydag un yn anelu at leihau plastig yn y gadwyn cyflenwi bwyd, a dau arall yn treialu newid o blastig i boteli llaeth gwydr mewn ysgolion. Ac rwy'n falch fod Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP, yn gweithio gyda ni ar y cynlluniau peilot hyn, yn asesu goblygiadau gwahanol ddeunyddiau o ran cost, defnyddwyr a chyflenwyr. Rhennir canlyniadau'r cynlluniau peilot hyn gydag awdurdodau lleol eraill i annog newid ymddygiad tebyg. A gwn ei fod yn rhywbeth sydd ar feddyliau llawer o bobl ifanc yn yr ysgolion hynny, gan fy mod wedi cael nifer o lythyrau, ac yn fy mhortffolio blaenorol hefyd, gan blant yn awyddus i weld newid o boteli llaeth plastig yn eu hysgolion er mwyn lleihau eu defnydd o blastig untro.

A gwyddom ein bod ni fel deiliaid tai yng Nghymru wedi bod yn gwahanu ein gwastraff a'n hailgylchu ar gyfer ei gasglu ers blynyddoedd, a bydd y Llywodraeth hon yn ymgynghori ymhellach fel ei bod yn ofynnol i fusnesau a sefydliadau wneud yr un peth o dan ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda diwydiant a phartneriaid awdurdod lleol ar gynyddu capasiti trin ar gyfer y plastig a gesglir yma yng Nghymru. Ond fel y clywsom yma heddiw, mae'r farn gyffredin yn symud tuag at ei gwneud hi'n ofynnol i gynhyrchwyr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am reolaeth diwedd bywyd y plastig y maent yn ei roi ar y farchnad yn y lle cyntaf, a bydd newidiadau i reoliadau'n helpu i fynd i'r afael â hynny. Fe sonioch am gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ac ar hyn o bryd, mae cynhyrchwyr [Anghlywadwy.] 10 y cant o hynny. Yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori cyn bo hir, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, ar gynigion i ddiwygio'r gyfundrefn cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio ar sail y DU gyfan.

Fel roeddwn yn disgwyl, sgoriodd cynlluniau dychwelyd blaendal yn uchel ar yr agenda, ac euthum i weld yr arddangosiad yma yn y Senedd a rhoi cynnig arno fy hun. Mae'n rhywbeth a fydd yn apelio at blant, a phan gaf sgyrsiau â chymheiriaid mewn gwledydd eraill sydd wedi cael y rhain eisoes, yn aml rydym yn clywed straeon am bobl ifanc llawn menter, ar ôl digwyddiad neu ŵyl, yn mynd rownd i gasglu'r cynwysyddion sy'n gymwys ar gyfer y cynllun dychwelyd blaendal a mynd â hwy i'r pwynt casglu lleol. Felly, wrth inni ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar ddatblygu cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cyd ar gynllun dychwelyd blaendal, a bwriadaf i hynny ddigwydd yn fuan iawn. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn ac unrhyw gynllun, credaf ei bod hi'n bwysig inni ystyried mewn modd cyfannol beth fydd yr effaith ar ddiwydiant, ar ddefnyddwyr ac ar wasanaethau casglu ein hawdurdodau lleol a thargedau ailgylchu statudol yma yng Nghymru.

Rydym yn gwybod—a gwn fy mod yn ailadrodd hyn o hyd—ein bod yn arwain y ffordd yn y DU ar ailgylchu, felly rydym yn dod at hyn o fan cychwyn gwahanol i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym am fod yn gyntaf yn y byd ar ailgylchu drwy ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yma ac adeiladu ar hynny gyda system sy'n gweithio i bawb ohonom yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn anelu at fod yn genedl ail-lenwi. Roeddwn yn falch, yn fy mhortffolio blaenorol, o gyhoeddi ein huchelgais i wneud hyn ac i weld llawer o gymunedau ledled y wlad yn gwneud hyn yn awr. Nodaf hefyd fod awdurdod lleol yr Aelod, Caerffili, yn y broses o sefydlu cynllun ail-lenwi ar draws y sir ac yn mynd ati'n rhagweithiol i annog busnesau yn yr ardal i fod yn fannau ail-lenwi. Mae'n ffordd hynod o syml ond effeithiol iawn nid yn unig o helpu pobl o ran iechyd a lles ac ailhydradu ond hefyd i leihau'r defnydd o boteli plastig untro yn y broses.

Rydym wedi sôn am drethiant yma heddiw. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yng nghyllideb 2018 wedi cyhoeddi mesurau mewn perthynas â threth ar blastig. Mae Trysorlys Cymru bellach yn gweithio gyda Thrysorlys EM ar y posibilrwydd o [Anghlywadwy.] dreth ar waredu plastig untro drwy drethiant, ac rydym yn monitro datblygiad cynigion yn y maes hwn yn fanwl i wneud yn siŵr fod rhanddeiliaid yn cael cyfle i helpu i lywio syniadau a bod unrhyw fesurau'n addas at y diben ac yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau gyda'n ffordd Gymreig o fynd i'r afael â gwastraff.

Ar dreth ar gynwysyddion diod untro, a elwir yn aml yn y wasg ac ar lafar yn 'latte levy', rydym wedi dweud o'r blaen fod cyflwyno ardoll dreth Gymreig annibynnol neu dâl ar gynwysyddion diodydd untro yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer Cymru, ac mae'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w archwilio ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn croesawu nodau cyfarwyddeb yr UE ar blastig untro ac yn cytuno â'r mesurau a gyflwynwyd at ei gilydd. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y testun drafft terfynol ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i bennu'r ffordd orau o weithredu'r darpariaethau amrywiol sydd wedi'u cynnwys.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r cyfyngiadau ar amser heddiw. Rydym wedi siarad am yr hierarchaeth wastraff a'r angen i leihau ac ailddefnyddio yn ogystal ag ailgylchu, ac mae nifer fawr o brosiectau ailddefnyddio'n digwydd ar draws y wlad yn awr, a bu'n bleser ymweld â nifer ohonynt. Ond un mater pwysig rwyf am ei grybwyll yw datblygu map ar gyfer gwella cylcholdeb plastig yng Nghymru. Prif ffocws hwn yw cynyddu cynnwys wedi'i ailgylchu mewn cynhyrchion plastig a chydrannau deunydd pacio a gynhyrchir yma yng Nghymru ond gan leihau ein dibyniaeth ar farchnadoedd tramor hefyd i ailgylchu'r plastig a gesglir yma.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol fod Cymru'n datblygu economi gylchol o ran y plastig rydym yn ei ddefnyddio, yn ei waredu ac yn ei ailbrosesu, ac rydym yn cefnogi hyn drwy ein cronfa fuddsoddi yn yr economi gylchol gwerth £6.5 miliwn. Rydym eisiau cefnogi ac annog arloesedd a thechnolegau newydd er mwyn inni allu gweld amrywiaeth ehangach o blastigion yn cael eu casglu a'u hailgylchu a chynyddu'r defnydd o blastigion wedi'u hailgylchu yn y sector gweithgynhyrchu. Bydd hyn nid yn unig yn effeithlon o ran lleihau gwastraff plastig ond gall hefyd greu mwy o swyddi a helpu i dyfu ein heconomi. Felly, pan gawn bethau'n iawn ar yr amgylchedd, gallwn weld ei fod yn gallu sicrhau manteision economaidd ehangach. Ac rydym yn gweld mwy a mwy o sefydliadau megis siopau diwastraff a phoblogrwydd hynny'n tyfu ar draws y wlad, ac mae hynny i'w groesawu. Credaf ein bod wedi dweud yma o'r blaen ein bod bron â chau'r cylch. Rydym wedi ymhyfrydu yng nghyfleustra'r diwylliant gwastraffus yn y gorffennol, ac yn awr ceir sylweddoliad cynyddol ynglŷn â'r effaith a gaiff hynny heddiw ac yn y dyfodol, felly mae mwy o bobl yn ailfeddwl am ein hymddygiad ein hunain a sut i leihau ein defnydd ein hunain o blastig untro hefyd. Soniodd yr Aelod am rai yn ei etholaeth ei hun, gan gynnwys Transcend Packaging, sy'n gwmni Cymreig a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cyflenwi gwellt papur i McDonald's ledled y wlad. Deallaf eu bod yn ei gyflwyno'n raddol ar hyn o bryd, o ran McDonald's eu hun, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â McDonald's yng ngogledd Cymru, lle cefais fy swydd gyntaf erioed, i weld y gwellt papur yn cael eu defnyddio yno.

Rydych chi'n iawn ein bod wedi arwain y ffordd gyda'r ardoll ar fagiau plastig, ac nid wyf yn hollol siŵr ond credaf eich bod yn iawn nad ydym am fynd mor bell â Kenya, ond mewn gwirionedd mae'n dangos sut y mae gwledydd eraill yn—. Mae hyn ar yr agenda i bob un ohonom, a'r pwynt gwirioneddol ddilys a wnewch yw peidio â gweithredu'n dameidiog, ond y gallwn feddwl am hyn mewn ffordd gyfannol a dod â'r holl bethau rydym wedi sôn amdanynt heddiw at ei gilydd, ac edrych ar effaith yr hyn a wnawn a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i ni yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, a chredaf y gallwn weld heddiw ein bod yn gwneud hynny. Mae'r ymwybyddiaeth yn tyfu, ac mae ein cymunedau'n arwain y ffordd. Mae ein gwlad wedi arwain y ffordd cyn hyn, ac yn bersonol, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn, ac mae'r Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth wleidyddol i barhau i arwain y ffordd er budd ein hamgylchedd, yr economi a chenedlaethau'r dyfodol.

18:15

Daeth y cyfarfod i ben am 18:15.