Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/01/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Capasiti Ffyrdd a Rheilffyrdd Pencoed

1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch materion capasiti ffyrdd a rheilffyrdd Pencoed? OAQ53287

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'm trafodaethau gydag ef fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad, cynghorwyr ac Aelodau Seneddol ddydd Llun i drafod capasiti ffyrdd a rheilffyrdd mewn cysylltiad â Phencoed.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac a gaf i, drwyddo ef, gyfleu fy niolch i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Mae wedi cael ei lobïo yn ddiddiwedd gennyf i, ac rwyf i wedi dod â dirprwyaethau o arweinydd y cyngor, cynghorwyr tref o gyngor tref Pencoed ac eraill, ac mae wedi ymgysylltu'n adeiladol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda ni.

Mae dwy ochr y dref hon wedi eu gwahanu erbyn hyn gan groesfan rheilffordd a all fod ar gau yn ystod cyfnodau brig am hyd at 40 munud mewn awr a phont ffordd gul Fictoraidd sy'n caniatáu traffig unffordd yn unig a bennir gan system goleuadau traffig tair ffordd. Gall hyn arwain at dagfa lwyr yn y dref, rhwystredigaeth enfawr i drigolion a busnesau, llygredd aer a thagfeydd, a llaw farw o ran tai a datblygu economaidd ehangach. Mae ganddo enw gwael iawn hefyd, gyda llaw—y groesfan—am ei ddamweiniau ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd gyda cherddwyr a thraffig, ac, wrth gwrs, mae'r darn o reilffordd hefyd yn ddrwg-enwog am farwolaethau drwy hunanladdiad, yn anffodus.

Felly, mae'r grant o £60,000 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan grant trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i ddatrys y materion hyn yn gam pwysig ymlaen, a diolchwn o waelod calon i Lywodraeth Cymru am hyn. Prif Weinidog, rydym ni wedi treulio sawl blwyddyn i gyrraedd pwynt lle mae gennym ni'r holl garfannau priodol wrth y bwrdd: Network Rail, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cyngor tref Pencoed, cynghorwyr lleol, Aelod Seneddol, a hyd yn oed sylwedydd yn bresennol—[Torri ar draws.]

Ydw. A hyd yn oed presenoldeb sylwedydd o Swyddfa Cymru hefyd. Ond a fyddai'n cytuno â mi pe byddai cefnogaeth gyhoeddus, a dim ond ar ôl ymgynghori priodol, bod cynllun sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo, y byddai hyn yn golygu bod angen i'r holl garfannau hynny chwarae eu rhan? A tybed beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog San Steffan a'r Adran Drafnidiaeth i ymateb i'r her hefyd.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. A, Llywydd, wrth ddychwelyd yn gynnar y bore yma o Tata Steel, lle'r oedd y Gweinidog a minnau wedi bod gyda David Rees yn dathlu ailosod ffwrnais chwyth newydd rhif 5, ac yn trafod y mater hwnnw, manteisiwyd ar y cyfle i fynd oddi ar y ffordd ac i weld y groesfan reilffordd. Ac ar ôl i chi ei gweld drosoch eich hun, rydych chi'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae Huw Irranca-Davies yn eu gwneud, a hoffwn dalu teyrnged i'r ffordd ddiflino y gwn y mae ef wedi bod ar drywydd y mater hwn, nid yn unig yn y Cynulliad hwn, ond pan yr oedd yn Aelod Seneddol hefyd, yn ceisio cael ateb i'r hyn sydd, fel y mae'r Aelodau wedi clywed, yn falltod gwirioneddol iawn ar yr angen i sicrhau gwelliant yn yr ardal honno.

Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi rhywfaint o arian ar y bwrdd i ddatrys yr anghytundeb llwyr a oedd yno fel arall, ond mae'r Aelod yn gwbl gywir wrth ddweud na fydd ein harian—y £60,000 yr ydym ni wedi ei gynnig ar gyfer yr astudiaeth o ddichonoldeb—yn dwyn ffrwyth mewn gwirionedd tan fydd canlyniadau astudiaeth ddichonoldeb yn cael eu hariannu, ac, ar gyfer hynny, byddwn angen cymorth yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, yn ogystal â'n hadnoddau ein hunain.

Wel, bydd yn rhaid i mi wirio fy e-bost oherwydd nid wyf i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ngwahodd i'r cyfarfod hwnnw fel Aelod Cynulliad rhanbarthol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod diffyg buddsoddiad enbyd yn rheilffyrdd y de-orllewin. Nododd adroddiad a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi a Seilwaith, gan Rowland Pittard, bod, a dyfynnaf,

hanes maith o addewidion

o wasanaeth bob hanner awr o Faesteg, ac mae'n awgrymu bod llwybrau bysiau i'r ardal yn dipyn o draed moch hefyd. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i gynyddu hygyrchedd cludiant cyhoeddus i bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi bod yn aros am gryn amser am gynnydd yn y maes hwn?

Wel, Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi croesawu'r cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwasanaeth ar y Sul o Faesteg i Gaerdydd, yn stopio ym Mhencoed, a fydd yn dechrau eleni. Bydd hi wedi croesawu'r ffaith, o hydref eleni, y bydd cerbydau wedi'u huwchraddio, gan greu cynnydd o 45 y cant i gapasiti ar gyfer teithiau boreol o Faesteg, a gwn y bydd wedi croesawu'r ffaith y bydd yr amser teithio rhwng Caerdydd a Maesteg, erbyn Rhagfyr 2023, wedi ei leihau o 55 munud i 46 munud, o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon.

Lleihau Costau Gweithwyr Asiantaeth yn y GIG

2. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau costau gweithwyr asiantaeth yn y GIG? OAQ53329

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae fframwaith rheoli newydd wedi galluogi gostyngiad o £30 miliwn i gostau gwaith asiantaeth yn y GIG yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Nodwyd cyfres o gamau blaenoriaeth o'r gwaith hwnnw ar gyfer ail gam ein camau gweithredu yn y maes hwn.

13:35

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni gael pobl eraill os bydd aelodau o staff yn sâl, yn enwedig ar rybudd byr iawn. Ond mae'n ymddangos bod problem o ran y defnydd o asiantaethau nad ydynt yn trosglwyddo'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei dalu am y staff hynny, yn hytrach na chael gweithwyr cronfa sy'n gallu dod i mewn ar fyr rybudd. Felly, rwy'n credu bod problem benodol yma o ran cost gwaith asiantaeth, ac mae rhai byrddau iechyd yn rheoli hyn yn llawer llai effeithlon nag eraill. Rwy'n falch o glywed am y cynllun strategol newydd sydd gan y Llywodraeth, oherwydd rwy'n siŵr y gellid gwario'r arian hwn yn well ar gleifion.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith bod gwahanol fathau o wariant asiantaeth. Mae peth o wariant asiantaeth, pan fydd staff yn cael eu cyflogi yn ystod absenoldeb rhiant, neu absenoldeb astudio, er enghraifft, yn wariant asiantaeth a gynlluniwyd ac mae'n angenrheidiol mewn unrhyw sefydliad mawr fel y GIG. Lluniwyd y cynllun i leihau costau'r defnydd o staff asiantaeth heb ei gynllunio, ac yn hynny o beth, fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae rhai byrddau iechyd eisoes wedi gwneud mwy o gynnydd nag eraill. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn yr ardal y mae hi'n ei chynrychioli, yn gwario 1.8 y cant o'i holl gostau cyflog ar waith asiantaeth, a dyna'r ganran isaf o unrhyw fwrdd iechyd lleol yng Nghymru. Bydd ail ran y gwaith y cyfeiriais ato yn fy ateb cyntaf yn cynnwys pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn dysgu gan ei gilydd, ond bydd hefyd, yn y ffordd y dywedodd yr Aelod, yn ystyried manteision cronfa staff Cymru gyfan, fel y gallwn ddefnyddio'r staff sydd gennym ni yn fwy uniongyrchol o dan ein cyflogaeth er mwyn lleihau costau, ond hefyd er mwyn darparu gwell gwasanaeth.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau canmol gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod 82 y cant o'r gwariant hwn ar gyfer swyddi gwag. Ac mae hefyd yn dweud bod problem wirioneddol o brinder sgiliau a data gwael, yn enwedig y diffyg data cyson a chymaradwy, sy'n amharu ar yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom gan y byrddau iechyd. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud gyda'i sylwadau yn hynny o beth, a pha mor fuan y gallem ni weld gwell perfformiad yn y maes pwysig hwn?

Diolchaf i David Melding am hynna. Rwyf, wrth gwrs, yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Yr adroddiad hwnnw wnaeth bwysleisio'r ffaith y bu gostyngiad o £30 miliwn i gost staff gwaith asiantaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y GIG. Ac roedd yn ystyriaeth gytbwys o'r cyflawniadau a wnaed yng Nghymru, ond hefyd yn cyfeirio at ffyrdd newydd y gallwn ni fynd i'r afael â phrinder sgiliau a chostau yn y dyfodol. Yn yr ail gam, yr wyf i wedi cyfeirio ato eisoes, bydd datblygiadau pellach o ran casglu data, i ddarparu data cenedlaethol safonedig, i alluogi meincnodi a monitro gwelliant o ran gwariant, mewn ymateb uniongyrchol i rywfaint o'r gwaith a grynhowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol mai un o'r materion sy'n arwain at y problemau gyda staffio asiantaeth yw problemau o ran cadw staff yn y gweithlu nyrsio. Un o'r rhesymau am y problemau hyn o ran cadw, mewn rhai achosion, yw diffyg hyblygrwydd. Rwy'n ymwybodol o nifer o achosion lle mae nyrsys wedi gofyn am batrymau gweithio hyblyg ar y wardiau lle maen nhw'n cael eu cyflogi, ac nid yw'r byrddau iechyd lleol wedi gallu darparu, neu maen nhw wedi bod yn amharod i ddarparu, y patrymau gweithio hyblyg hynny. Mae'r nyrsys hynny wedi gadael eu swyddi wedyn, wedi mynd i weithio i asiantaethau ac wedi canfod eu hunain yn yr un wardiau yn union, yn gwneud yr un gwaith yn union, gan gostio mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond yn cael yr hyblygrwydd y maen nhw wedi gofyn amdano, i'w caniatáu, er enghraifft , i gydbwyso eu cyfrifoldebau teuluol â gweithio yn y GIG. Os oes un achos o hyn, mae hyn yn ormod, rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi. Tynnwyd fy sylw at nifer o achosion o'r fath. Beth arall all y Prif Weinidog ei wneud, gan weithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn mabwysiadu dull mwy hyblyg ac ymarferol o ddarparu cyfleoedd gweithio hyblyg i staff nyrsio ac i hybu cadw'r aelodau staff hynod fedrus hyn yn uniongyrchol yn ein gwasanaeth iechyd, yn hytrach na'u cyflogi drwy asiantaethau?

Wel, Llywydd, rwyf yn cytuno'n uniongyrchol gyda'r prif bwynt y mae Helen Mary Jones wedi ei wneud. Os meddyliwch chi am staffio yn y GIG, ceir tri mater olynol y mae'n rhaid i chi eu hystyried. Yn gyntaf oll, ceir hyfforddi staff newydd i ddod i mewn i'r GIG, ac, am y bumed flwyddyn yn olynol, mae gennym ni'r gwariant mwyaf erioed i gynorthwyo addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, gyda'r nifer mwyaf erioed o bobl yn cael eu hyfforddi i ddod i mewn i'r proffesiwn nyrsio yng Nghymru. Yr ail fater yw recriwtio. Ar ôl hyfforddi pobl, mae'n rhaid i chi eu recriwtio nhw, a chynyddodd nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yng Nghymru gan134 unwaith eto y llynedd. Mae gennym ni'r nifer mwyaf erioed yn cael eu recriwtio i'r gwasanaeth iechyd, ond wedyn mae'n rhaid i ni eu cadw nhw yn y ffordd y dywedodd yr Aelod. A'r neges yr wyf i bob amser yn ei rhoi i'r gwasanaeth iechyd, a gwn ei bod yn cael ei hailadrodd gan Vaughan Gething, yw bod yn rhaid iddyn nhw ddangos yr hyblygrwydd mwyaf posibl er mwyn cadw'r staff medrus ac ymroddedig sydd ganddyn nhw. Ac nid, 'Sut mae'r person hwn yn cyd-fynd â phatrymau'r bwrdd iechyd?' ddylai'r cwestiwn fod, ond, 'Beth all y bwrdd iechyd ei wneud i alluogi ymateb hyblyg i anghenion y person hwnnw?' fel y gallwn gadw'r person hwnnw sy'n aml wedi cael ei hyfforddi yn ddrud, lle gwnaed buddsoddiad ynddo tra ei fod yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd, a lle ceir pob rheswm pam y dylai bwrdd iechyd lleol wneud popeth o fewn ei allu, mewn ffordd mor hyblyg â phosibl, i barhau i gadw gwasanaeth y person hwnnw am gyhyd â phosibl.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn ystod eich gaeaf cyntaf wrth y llyw fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cafodd 80 y cant o'r rheini oedd yn mynychu adrannau brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr. Mae hynny, wrth gwrs, yn is na'r targed o 95 y cant. Fis diwethaf, dim ond 77.8 y cant o bobl gafodd eu gweld o fewn pedair awr. Dyma'r record waethaf ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr hyd yma. Allwch chi egluro pam mae perfformiad adrannau A&E yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog Iechyd, ac yna fel Gweinidog Cyllid, a bellach fel Prif Weinidog, wedi mynd o ddrwg i waeth? 

Wel, Llywydd, mae hwnna'n ddisgrifiad rhannol ac annheg iawn o'r gwaith y mae adrannau achosion brys yng Nghymru wedi ei wneud dros y gaeaf hwn. Mae'n sicr yn wir bod nifer y bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar sail frys yr uchaf a welwyd erioed ym mis Rhagfyr, ac, er gwaethaf hynny, mae'r system wedi bod yn fwy cydnerth y gaeaf hwn nag yn y flwyddyn flaenorol. Rydym ni wedi gweld lleihad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal; rydym ni wedi gweld lleihad o ran oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans; rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran cydnerthedd y system, gyda llai o ysbytai yn datgan eu bod nhw o dan y lefel uchaf o bwysau.

Mae'r Aelod yn iawn wrth ddewis un enghraifft lle mae'r system wedi bod o dan y straen mwyaf, sef gweld pobl o fewn y targed o bedair awr. Mewn gwirionedd, mae mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru wedi gwella eu perfformiad yn hynny o beth. Mae ffigur Cymru gyfan yn cael ei ostwng gan y ffaith bod y perfformiad wedi dirywio mewn dau fwrdd iechyd.

Llywydd, y cyfnod canolrifol y bu'n rhaid i bobl a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru aros ym mis Rhagfyr, er gwaethaf y pwysau sydd ar y system, oedd dwy awr a 25 munud, o'r amser iddyn nhw gyrraedd, nid tan yr amser iddyn nhw gael eu gweld, ond tan yr amser iddyn nhw fod wedi cael eu gweld, eu trin, a naill ai eu derbyn i'r ysbyty neu eu rhyddhau i fynd adref. Credaf fod honno'n deyrnged aruthrol i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y staff ymroddedig sy'n gweithio o dan cymaint o bwysau o ran niferoedd ac amodau, a dyna lle byddwn i'n rhoi fy mhwyslais y prynhawn yma.

Mae'n rhaid i fi ddweud, rwy'n gresynu at ateb y Prif Weinidog. Mae'r perfformiad yn Lloegr, sydd eisoes ar y blaen i Gymru, wedi parhau i wella yn ystod y 12 mis diwethaf, tra bod ffigurau perfformiad yr Alban yn gyson uchel—dros 90 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Nawr, wrth edrych o dan wyneb y ffigur cenedlaethol Cymreig, daw enghreifftiau fwy dyrys fyth o ran perfformiad i'r golwg. Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r adran A&E sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Gyfunol i gyd. Yno, bu'n rhaid i bron hanner y bobl aros dros bedair awr i gael eu gweld. Ysbyty Glan Clwyd yn Llanelwy ydy'r trydydd gwaethaf yn y Deyrnas Gyfunol, a bu'n rhaid i bron 700 o bobl fis diwethaf aros yno dros 12 awr. I roi hyn mewn bach o bersbectif, dim ond 210 o bobl fu’n rhaid aros dros 12 awr i gael eu gweld yn holl ysbytai'r Alban ym mis Tachwedd, a phan drown ni at gleifion yn sownd mewn ambiwlansys, mae bron i ddau draean o gleifion yn aros mwy na chwarter awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbytai Maelor a Glan Clwyd. A yw’r methiannau yma mor ddifrifol erbyn hyn fel eu bod nhw’n peri peryg i fywyd?

13:45

Wel, Llywydd, mae'n annerbyniol bod pobl yn cael eu cadw yn aros mewn rhai lleoedd yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod, ac nid yw'r perfformiad yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn dderbyniol i GIG Cymru, nid yw'n dderbyniol i'r Gweinidog ac nid yw'n dderbyniol i fwrdd Betsi Cadwaladr ychwaith. Mae ymdrechion aruthrol yn cael eu gwneud i wneud yn siŵr bod y sefyllfa yno yn cael ei gwella ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Aelod yn dewis cyfeirio heddiw at Loegr fel y gymhariaeth i Gymru y mae'n ei ffafrio. Gadewch i mi ddweud wrtho yr hyn a ddywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ym mis Ionawr, mis Ionawr eleni, am y perfformiad yn Lloegr, pan ddywedodd y coleg

mae'r defnydd o welyau yn dal i fod yn agos at 95 y cant

ac

mae amodau i gleifion a staff mewn Adrannau Achosion Brys

—yn Lloegr, yn anodd dros ben.

Ac maen nhw'n anodd dros ben yng Nghymru hefyd, ond nid oes ateb hawdd i gyfeirio at rywle sydd â phopeth yn iawn. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Ar y cyfan, mae perfformiad ledled Cymru yn ystod y gaeaf hwn wedi bod yn well na'n sefyllfa y llynedd, a lle ceir problemau, byddwn yn mynd i'r afael â nhw.

Wel, fe wnes i ofyn i’r Prif Weinidog a oedd y sefyllfa yma erbyn hyn yn beryg bywyd. Wel, dros y flwyddyn ddiwethaf—wnaeth e ddim ateb hynny, naddo? Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r crwner yn y gogledd wedi cyflwyno hysbysiad i’r NHS yng Nghymru i atal marwolaethau yn y dyfodol ar bedwar achlysur gwahanol. Yn yr adroddiadau hyn, mae’r crwner yn tynnu sylw penodol at bryderon ynghylch ambiwlansys yn cael eu dal yn ôl, prinder staff ac oedi cyn cael triniaeth mewn adrannau brys. Yn ei adroddiad diweddaraf, yn achos Gladys May Williams, dywed John Gittins, prif grwner y gogledd, nad oes unrhyw arwydd fod cynnydd yn cael ei wneud er gwaetha’r ffaith iddo leisio pryderon dro ar ôl tro. Mae’n dweud hefyd ei fod yn hynod bryderus bod bywydau cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl o ganlyniad.

Ddoe, gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd Andrew Goodall, prif weithredwr NHS Cymru, yn cyfaddef bod perfformiad adrannau brys Betsi Cadwaladr yn annerbyniol a’i fod wedi gwaethygu ers i chi osod y bwrdd dan fesurau arbennig ym Mehefin 2015, tair blynedd a hanner yn ôl. A hynny’n rhannol yn sgil colli golwg ar berfformiad A&E gan nad oedd yn faes wnaethoch chi flaenoriaethu ar gyfer ymyrraeth o’r dechrau.

Ydych chi’n difaru hynny erbyn hyn? Ydych chi’n derbyn bod maint y broblem yma mor ddifrifol bod gofyn inni gael adolygiad annibynnol ar fyrder i edrych ar gyflwr gofal brys drwy Gymru gyfan, gan ddechrau yn y gogledd? Neu, fel digwyddodd yn achos Tawel Fan, oes rhaid inni aros am ragor o boen a dioddef diangen cyn y byddwch chi’n barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu?

Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud ein bod ni'n derbyn hynny. Nid yw perfformiad mewn rhai rhannau o'r GIG wedi bod yn dderbyniol. Rydym ni'n ymwybodol o hynny gan fod y gwiriadau cydbwysedd yn y GIG, yr adroddiadau yr ydym ni'n eu cael gan bobl fel crwneriaid, fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, o'r tu mewn i'r system ei hun, yn rhoi'r wybodaeth i ni sydd ei hangen arnom i allu canolbwyntio ar y mannau hynny, lle nad yw'r gwelliant cyffredinol yr ydym ni wedi ei weld yn y GIG yng Nghymru dros y gaeaf hwn wedi bod yn amlwg.

Llywydd, nid wyf i'n cytuno o gwbl mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw adroddiad arall ar GIG Cymru. Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud. Rydym ni'n gwybod lle ceir mannau cyfyng. Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man, ac nid ydym ni angen i fisoedd a misoedd gael eu colli i ymchwiliad arall o'r math y mae'r Aelod yn ei awgrymu i roi'r wybodaeth honno i ni.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, taflodd arolwg diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oleuni ar y ffaith ysgytwol bod un o bob 20 o bobl yn y DU nad yw'n credu bod yr Holocost wedi digwydd mewn gwirionedd. Yng ngoleuni hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y rhoddir sylw i'r gwadiad hwn a chyffredinrwydd gwrth-Semitiaeth, a'n bod ni'n gweithio i gadw cof arswydus yr Holocost yn berthnasol fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o hanes?

13:50

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud? Mae'n syfrdanol darllen y ffigur hwnnw, ac yn anodd iawn credu mewn gwirionedd sut y gall fod yn wir y byddai'r nifer hwnnw o bobl yn cael eu denu gan yr ymdeimlad hwnnw o wadu un o ddigwyddiadau mwyaf ofnadwy yr holl ugeinfed ganrif. Mae'r gwaith o fynd i'r afael â hyn yn disgyn yn rhannol ar Lywodraeth, wrth gwrs, a bydd y Llywodraeth hon eisiau gwneud popeth y gallwn. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymuno ag Aelodau eraill y Cynulliad hwn yn y gwasanaeth cofio'r Holocost yma yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos diwethaf—achlysur hynod urddasol, lle clywsom yn uniongyrchol gan rai pobl sy'n dal yn fyw a oedd yn rhan o'r digwyddiadau brawychus hynny.

Byddwn eisiau gwneud yr hyn a allwn, ond mae'r broblem, fel yr wyf i'n siŵr y byddai arweinydd yr wrthblaid yn ei gydnabod, yn ehangach na Llywodraeth; mae'n fater diwylliannol yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae angen cymryd amrywiaeth eang o wahanol gamau gweithredu i wneud yn siŵr nad ydym byth—nad ydym byth—yn derbyn bod pobl a ddioddefodd y digwyddiadau ofnadwy hynny yn cael eu hanghofio nac, ar y gwaethaf, yn cael eu beio eu hunain am yr hyn a ddigwyddodd.

Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb. Nawr, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn dangos pa mor bell y mae angen i ni fynd i sicrhau bod gennym ni, fel cymdeithas, ddealltwriaeth gadarn o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost. Rydym ni i gyd wedi ein rhwymo gan gyfrifoldeb i sicrhau bod hynny'n digwydd. Canfu gwaith ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Polisi Gwrth-Semitiaeth bod chwiliadau ar-lein yn chwilio am wybodaeth bod yr Holocost yn ffug yn cynyddu gan tua 30 y cant bob blwyddyn ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, a bod chwiliadau gwrth-Semitiaeth yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni hefyd wedi gweld nifer y troseddau casineb a ysgogwyd gan hiliaeth yn cynyddu yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi mai ymwybyddiaeth ac addysg yw'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â hyn. Felly, a ydych chi'n ffyddiog bod digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu am yr Holocost a chanlyniadau hil-laddiad crefyddol neu ethnig yng nghwricwlwm newydd Cymru?

Rwy'n credu bod dealltwriaeth dda o'r pwyntiau hynny ymhlith y bobl hynny sy'n gyfrifol am lunio'r cwricwlwm newydd. Yn y gwasanaeth hwnnw a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Gwener, ymhlith rhannau mwyaf emosiynol y gwasanaeth oedd y ddau berson ifanc o Gymru a oedd wedi ymweld ag Auschwitz yn rhan o raglen sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru ac a ddaeth yn ôl i gyfleu i'r gweddill ohonom ni y gwersi yr oedden nhw'n teimlo eu bod wedi eu dysgu, ac i ddweud wrthym hefyd sut yr oedden nhw'n defnyddio'r gwersi hynny i siarad â phobl ifanc eraill yn eu grŵp oedran eu hunain ac yn eu sefydliadau eu hunain am yr effaith yr oedd y profiad hwnnw wedi ei chael arnyn nhw.

Bydd pobl eraill, mi wn, o gwmpas y Siambr, sydd wedi gwneud yr un ymweliad; fe wnes i hynny fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn brofiad llethol mewn llawer o ffyrdd; roedd yn anodd iawn ystyried hyd yn oed natur yr hyn yr oeddech chi'n ei weld o'ch blaen a cheisio gwneud synnwyr o'r hyn yr oeddech chi'n ei weld ac i feddwl am ba wersi y mae angen i ni i gyd eu dysgu ohono. Mae gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl ifanc yng Nghymru sy'n parhau i wneud hynny ac i helpu'r gweddill ohonom ni i ddysgu'r gwersi hynny, rwy'n credu, yn dangos y ffordd y cymerir y pethau hyn o ddifrif yn y system addysg yng Nghymru ac yn ein penderfyniad y bydd hynny'n parhau i ddigwydd.

Wrth gwrs, gan fod y rhai a oroesodd yr Holocost sy'n fyw heddiw yn brin, mae'n ddyletswydd arnom ni i barhau i addysgu ein cenedlaethau iau i fod â'r ddealltwriaeth fwyaf sylfaenol hyd yn oed o'r digwyddiadau hynny ac i gefnogi digwyddiadau coffáu a gynhelir ledled Cymru i hybu ymwybyddiaeth. Ac fel gwleidyddion, mae gennym ni gyfrifoldeb i ddangos arweiniad ar y mater hwn, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw rhethreg gwrth-Semitiaeth yn cael ei normaleiddio mewn cymdeithas ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau glas i roi terfyn ar adolygiadaeth o'r Holocost. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried ar y cyd gyd-destun sut yr ydym ni'n trafod gwrth-Semitiaeth er mwyn osgoi gwaethygu'r broblem hon ymhellach, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno a'r safbwyntiau hyn, Prif Weinidog. A allwch chi felly, amlinellu pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau coffáu a gynhelir ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol ac ymrwymo i sicrhau y bydd adnoddau priodol ar gael i alluogi'r rhain i barhau i gael eu cynnal?

13:55

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ddewis defnyddio ei gwestiynau y prynhawn yma ar gyfer y mater pwysig iawn hwn a gwneud hynny ar yr union adeg y mae'r digwyddiadau coffáu hynny ledled Cymru wedi cael eu cynnal dros y penwythnos diwethaf hwn? Mae gennym ni adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo i gynorthwyo yn hynny o beth. Byddwn yn sicr yn dymuno parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Byddaf yn meddwl yn ofalus am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud yn ei gyfraniad olaf yn y rhan hon o'n trafodion y prynhawn yma, ac mae rhai o'r pethau y mae Paul Davies wedi eu dweud yn adleisiau o'r cyfraniad a glywsom ddydd Gwener gan oroeswr y profiad hwnnw o'r Holocost, pan heriodd pawb a oedd yn y gwasanaeth hwnnw i wneud y pethau y mae angen i unigolion eu gwneud i wneud yn siŵr bod yr atgofion hynny yn cael eu cadw yn fyw, bod y seremonïau yr ydym ni wedi eu sefydlu yn parhau a'n bod ni'n gallu dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan esbonio i'r rhai a gafodd eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pethau hyn sut yr ydym ni'n parhau i dystiolaethu i'w dioddefaint.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cynllunio yn fater dadleuol yn aml. Un o'r pethau yr ydych chi wedi ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth yw symud cynllunio i'r adran llywodraeth leol a thai. Rwy'n credu bod y cam hwnnw yn beth da yn ddamcaniaethol: i gael yr un Gweinidog yn gyfrifol am dai, am lywodraeth leol ac am gynllunio. Y gobaith yw y gallai hyn arwain at ddull mwy cydgysylltiedig. Nawr, tybed a yw'r cam hwn yn arwydd bod eich Llywodraeth yn credu bod yn rhaid i'r broses gynllunio yng Nghymru fod yn fwy ymatebol i ddymuniadau pobl leol?

Wel, Llywydd, mae Gareth Bennett yn iawn wrth ddweud mai diben rhoi llywodraeth leol, cynllunio a thai yn yr un portffolio yw gwneud popeth a allwn i wneud y pethau hynny'n fwy cydgysylltiedig a gwneud y system gynllunio yn fwy effeithiol o ran cyflawni rhai o'n prif uchelgeisiau polisi yma yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o dai newydd a fforddiadwy, a dyna, yn wir, yw'r sail i'r penderfyniad i ddod â'r materion hynny ynghyd mewn un portffolio.

Gwelaf fod angen i chi wneud pethau yn fwy effeithiol o ran eich amcanion fel Llywodraeth. Weithiau, gallai hynny achosi gwrthdaro gyda'r angen i fod yn ymatebol i farn y cyhoedd. Felly, i edrych ar achos perthnasol o hynny a gododd yn ddiweddar—un o blith llawer y gallwn eu codi—mae gennym ni ddatblygiad fferm wynt Hendy a gynigiwyd ar gyfer ardal y canolbarth ger Llandrindod, fferm wynt o gryn faint a wrthodwyd gan bobl leol a gyflwynodd gannoedd o wrthwynebiadau i'r cynllun. Fe'i gwrthodwyd hefyd gan Gyngor Sir Powys, a bleidleisiodd yn erbyn y cynllun hefyd, ac, yn ogystal, gwnaeth yr arolygydd cynllunio ddatganiad yn erbyn y cynllun pan gyhoeddodd ei adroddiad. Mae'n ymddangos yn rhyfedd, felly, o ystyried y gwrthwynebiad hwn o bron bob tu, bod eich Llywodraeth Cymru chi wedi bod yn ceisio gorfodi'r datblygiad hwn i ddigwydd. Nawr, nid wyf i'n gofyn i chi wneud sylwadau ar yr achos penodol hwn, ond a ydych chi'n credu ei bod hi'n ddoeth yn y dyfodol i'ch Llywodraeth wneud penderfyniadau a allai gael effaith amgylcheddol enfawr ar ardal leol ac sy'n ymddangos fel bod yn gwbl groes i ddemocratiaeth leol?

Wel, mae'r Aelod yn iawn, nid wyf i'n mynd i wneud sylwadau ar yr achos unigol. Mae pwynt pwysig sy'n sail i'r hyn y mae'n ei ddweud, sef bod unrhyw un o'r materion hyn yn gydbwysedd rhwng llawer o wahanol ffactorau sydd ar waith. Bwriedir i'r broses gynllunio geisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ond bydd gan unrhyw berson neu grŵp buddiant sy'n cymryd rhan mewn unrhyw enghraifft benodol safbwyntiau cryf. Yn y pen draw, mae'n rhaid cysoni'r pethau hyn ac maen nhw'n cael eu cysoni mewn penderfyniad penodol yn y pen draw. Ni fydd pawb yn cytuno â hynny, mae'n amhosibl dychmygu y bydden nhw, ond credaf fod y polisi cynllunio sydd gennym ni yng Nghymru a'r polisïau a adnewyddwyd yn ddiweddar gan fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan roedd hi'n gyfrifol am y mater hwn, yn cynnig y cyfle gorau i ni wneud yn siŵr bod y broses yn gallu clywed gan bawb sydd â buddiant yn y mater, i bwyso a mesur y gwahanol ganlyniadau a geisir, ac yna gwneud penderfyniad yn y pen draw i ganiatáu i fater gael ei ddatblygu.

14:00

Rwy'n credu, Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddamcaniaethol, eich bod chi'n iawn, mae angen cydbwysedd, ond nid wyf i'n siŵr faint o gydbwysedd a fu yn yr achos penodol hwn. Wrth gwrs, nid ydym ni o reidrwydd yn ystyried yr achos hwnnw yn unig. Ond rwyf yn meddwl bod problem gyda democratiaeth leol yn y fantol yn y fan yma, ac rwy'n teimlo bod pobl sy'n byw ger Hendy angen mwy na geiriau calonogol; mae'n rhaid iddyn nhw deimlo, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth Cymru yn debygol o wrando arnyn nhw a gwrando ar eu pryderon. Wrth gwrs, safbwynt UKIP yw ein bod ni'n cefnogi refferenda lleol ar gyfer penderfyniadau cynllunio mawr fel bod trigolion lleol yn cael y gair olaf.

A ydych chi'n credu, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r cynllun tyrbin hwn, y bydd y trigolion yn yr Hendy, ac mewn achosion damcaniaethol eraill lle ceir materion cynllunio tebyg—a ydych chi wir yn credu eu bod nhw'n mynd i gredu bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw? A ydych chi'n meddwl y byddai pobl mewn unrhyw le arall yng Nghymru sy'n wynebu problemau cynllunio yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw?

Bydd unrhyw Aelod etholaeth o'r Cynulliad hwn yn gyfarwydd iawn ag achosion yn eu hetholaethau eu hunain lle bydd pobl â safbwyntiau cryf a gwahanol safbwyntiau am geisiadau cynllunio penodol yn dod i rannu'r safbwyntiau hynny gyda chi. Mae pobl y mae eu safbwyntiau yn ennill y dydd yn gadael yn teimlo bod y system wedi gweithio'n dda iawn a bod eu lleisiau wedi cael eu clywed. Mae pobl nad yw eu safbwyntiau ar yr ochr fuddugol yn tueddu i adael yn teimlo nad yw'r system wedi darparu'r hyn yr oedden nhw'n gobeithio ei gael ganddi. Mae hynny'n anochel pan fydd gennych chi faterion y mae gan bobl safbwyntiau cryf ond gwahanol yn eu cylch.

Mae'r system sydd gennym ni yn un sydd â gwiriadau cydbwysedd priodol ynddi sy'n ceisio rhoi cyfle i'r holl bobl hynny â safbwyntiau cryf gael gwrandawiad i'r safbwyntiau hynny, sy'n cymryd cyngor arbenigol i ystyriaeth ochr yn ochr â'r holl bethau hynny. Byddai'n llawer gwell gen i pe byddem ni'n ymdrin â'r materion hyn yn y modd gofalus ac ystyriol hwnnw, na chael cyfres o refferenda ledled Cymru lle byddai canlyniad o bopeth i'r buddugwr yn gadael hyd yn oed mwy o bobl wedi digalonni â'r broses na'r system yr ydym ni wedi ei harchwilio hyd yma y prynhawn yma.

Rôl Grwpiau Gorchwyl a Gorffen

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl grwpiau gorchwyl a gorffen o ran datblygu cyfrifoldebau gweinidogol? OAQ53289

Nid oes gan grwpiau gorchwyl a gorffen swyddogaeth yn natblygiad cyfrifoldebau gweinidogol yn gyffredinol, ond maen nhw'n chwarae rhan bwysig o ran hysbysu'r broses o gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ngwaith craffu diweddar y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, nododd y byddai'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i'w chynghori ar ei chyfrifoldebau gweinidogol. Dywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent, wrth holi'r Gweinidog ar y pryd, bod y papur yr oedd hi wedi ei gyflwyno yn rhyw fath o naratif, heb unrhyw uchelgais na gweledigaeth. Yn benodol, wrth gael ei chroesholi gan fy nghyd-Aelod, David Melding, cyfaddefodd y Gweinidog nad oedd y cyfeiriad yr oeddech chi wedi ei roi fel Prif Weinidog ar y disgwyliad ar gyfer y swyddogaeth honno y mwyaf eglur a bod y swyddogaeth yn ansicr braidd. A allwch chi egluro heddiw, Prif Weinidog, beth yw eich uchelgais ar gyfer y swyddogaeth hon, neu a yw eich Llywodraeth wedi ei chyfyngu gan yr uchelgais o sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen?

Rydym ni'n uchelgeisiol iawn ar gyfer y swyddogaeth y mae fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn chyflawni, ac mae hi'n hollol iawn i ddweud wrthych chi mai swyddogaeth ddatblygol yw hi. Dywedais wrthi pan yr oeddwn i mewn sefyllfa i'w gwahodd i gymryd y cyfrifoldeb yr oeddwn i'n credu oedd y cynnig mwyaf cyffrous y byddwn i'n ei wneud i unrhyw Aelod o'r Llywodraeth y prynhawn hwnnw, gan fy mod i'n gofyn iddi gymryd swydd y byddai rhan ohoni yn golygu llunio'r telerau y byddai'n cyflawni'r cylch gwaith a roddais iddi ar eu sail. Ac mae'r cylch gwaith a roddais iddi yn un pwysig iawn, rwy'n credu, a gynlluniwyd yn fwriadol, Llywydd, i wneud yn siŵr yng nghyd-destun Brexit—y cyd-destun y mae'r holwr wedi bod mor awyddus i'w greu—bod proffil Cymru yn y byd, bod ein statws yn y rhannau hynny o Ewrop lle’r ydym ni wedi gweithio mor galed am dros 40 mlynedd i greu cysylltiadau gyda Llywodraethau rhanbarthol eraill—bod y statws hwnnw a statws Cymru yn cael eu cynnal o dan y pwysau y bydd Brexit yn eu creu.

Rwy'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod Eluned Morgan wedi cael y cyfle i archwilio'r pethau hyn ger bron y pwyllgor, oherwydd bydd hynny'n cryfhau ein gallu i wneud yn siŵr bod y gwaith hollbwysig hwnnw yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac mae gen i bob hyder bod yr Aelod yn archwilio'r materion hyn gyda'r pwyllgor ac eraill, a chyda'i grŵp gorchwyl a gorffen, gyda hynny'n union mewn golwg.

14:05
Blaenoriaethau ar gyfer yr Amgylchedd

4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi ei flaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru? OAQ53324

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ymhlith fy mlaenoriaethau mae cynhyrchu a gweithredu cynllun gweithredu adfer natur cryfach sy'n dangos y camau ymarferol sydd eu hangen i wrthdroi'r dirywiad i fioamrywiaeth yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol, ac nid oes digon o fannau gwyrdd mewn llawer o'n hardaloedd trefol mewnol. Pe bydden nhw'n wyrddach, credaf y byddai ansawdd bywyd yn cael ei wella, byddai llygredd aer yn cael ei leihau, byddai pobl yn cael eu hannog i fwy bywyd mwy yn yr awyr agored, gwneud mwy o ymarfer corff a mwynhau iechyd gwell, a bydden nhw hefyd, rwy'n credu, yn teimlo bod ganddyn nhw gysylltiad cryfach â natur, felly byddai hynny'n cynyddu eu gwerthfawrogiad o natur, eu dealltwriaeth o natur a'r gwerth y maen nhw'n ei gael ohono, ac rwyf i o'r farn y byddai hynny'n cyfrannu at lawer o ymddygiadau amgylcheddol dymunol, fel peidio â thaflu cymaint o sbwriel, llai o dipio anghyfreithlon, mwy o gyfranogiad mewn cynlluniau ailgylchu, a mwynhau natur ymhellach i ffwrdd, y tu allan i'w hardaloedd uniongyrchol. Felly, gyda'r manteision hynny mewn golwg, tybed pa gamau cynnar y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud ein hardaloedd trefol mewnol yn wyrddach ac yn fwy pleserus i'n cymunedau lleol.

Llywydd, rwy'n siŵr bod John Griffiths yn iawn pan ei fod yn cyfeirio at y manteision lawer a fyddai'n deillio o bwyslais o'r newydd ar fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli yn ein hardaloedd trefol i gyfrannu at wrthdroi'r dirywiad i'n hecosystem sylfaenol a'i gwneud yn gadarn unwaith eto. Mae'r rhai hynny ohonom ni sy'n byw yn ardal fewnol dinas Caerdydd yn ymwybodol iawn o'r camau sydd eisoes yn digwydd lle mae pobl leol yn ail-hawlio darnau o fannau gwyrdd a oedd wedi cael eu hesgeuluso fel arall, gan eu troi yn lleoedd lle gellir dod o hyd i amrywiaeth fwy o rywogaethau naturiol, eu gwneud yn fwy deniadol i drigolion lleol ymweld â nhw, gan blannu ffrwythau a llysiau yno hefyd, a gwneud yr holl bethau y dywedodd John Griffiths wrth ateb y cwestiwn.

Gwn y bydd ganddo ddiddordeb mewn gwybod bod fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi gallu cyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon y gyfres gyntaf o brosiectau i elwa ar y ffrwd ariannu newydd a drafodwyd gan nifer ohonom ni o gwmpas y Siambr hon yn ystod hynt y dreth gwarediadau tirlenwi pan sefydlwyd cynllun cymunedol newydd gennym. Cyhoeddwyd saith ar hugain o brosiectau gwerth £1 filiwn gan fy nghyd-Aelod ddydd Llun, ac roedd hynny'n cynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers yng Nghasnewydd, a fydd yn elwa o £42,000 ar gyfer cynllun a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o faterion ailddefnyddio yn y gymuned leol, gan gyfrannu at well amgylchedd mewn gwahanol ffordd. Mae gan bob un o'r pethau hyn ran bwysig i'w chwarae i sicrhau'r math o adfywiad trefol mewnol, cyn belled ag y mae'r amgylchedd yn y cwestiwn, y mae John Griffiths wedi ei hyrwyddo'n aml yn y Siambr hon.

Prif Weinidog, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i gyflawni blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd. Y mis diwethaf, cafodd canlyniadau ymgynghorid staff ar gynlluniau gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ad-drefnu'r asiantaeth eu datgelu i'r BBC. Dywedodd y BBC fod 62 y cant o staff yn gwrthwynebu'r cynlluniau ad-drefnu yn gryf ac yn feirniadol iawn o'r broses. Wythnos yn ôl, dywedodd 10 o gwmnïau pren bod ganddynt, yn eu geiriau nhw, ddim hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yn dilyn adroddiad damniol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar werthu pren. Prif Weinidog, pam mae gan eich Llywodraeth hyder o hyd yn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni eich blaenoriaethau amgylcheddol pan fo'n eglur nad oes gan Aelodau Cynulliad, cwmnïau pren na staff Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain hyder? Diolch.

Daw'r hyder sydd gennym ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru o'r prif weithredwr newydd sydd gennym ni yn y swydd, y cadeirydd dros dro nodedig iawn sy'n gyfrifol am fwrdd y sefydliad erbyn hyn, a'r gwaith o ailwampio'r bwrdd a wnaed gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths tua diwedd y flwyddyn diwethaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith eithriadol o bwysig ym mhob rhan o Gymru. Mae ganddo grŵp staff ymroddedig iawn sy'n gwneud pethau sy'n bwysig bob dydd i bobl yng Nghymru, heb sôn am adegau pan fo argyfyngau, fel gwaith amddiffyn rhag llifogydd.

O ran y mater penodol a godwyd gan yr Aelod yn ymwneud â llythyr gan grŵp o sefydliadau coed—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarfod gyda'r grŵp hwnnw yn gynharach yr wythnos hon. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â nhw ddydd Iau yr wythnos hon—mae hynny cyn cyfarfod y gobeithiwn fydd yn bosibl rhwng y Gweinidog a'r grŵp hwnnw cyn 11 Chwefror, pan fydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dychwelyd at y mater hwn, a bydd dadl yn cael ei chynnal ar lawr y Cynulliad hwn yn y maes hwn ym mis Chwefror hefyd. Bydd digon o gyfle bryd hynny i ni allu rhannu gyda'r Aelodau y camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, i roi ei hun mewn sefyllfa gryfach fyth i gyflawni'r cyfrifoldebau sylweddol iawn sydd ganddo.

14:10
Contractau Mentrau Cyllid Preifat

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gontractau PFI gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? OAQ53277

Llywydd, mae 23 o gontractau menter cyllid preifat hanesyddol gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r taliad gwasanaeth blynyddol ar gyfer y cynlluniau hyn yn dod i gyfanswm o oddeutu £105 miliwn. Mae'n rhaid i'r cynlluniau hyn fod yn destun adolygiad rheolaidd, a bydd trefniadau ar gyfer yr adolygiad hwnnw yn cael eu nodi yn fuan.

Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi yn rheolaidd gyda'r Prif Weinidog yn ystod ei amser fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Mae cynlluniau menter cyllid preifat yn ddrud ac yn wastraff arian cyhoeddus, ac yn cymryd arian allan o refeniw. A wnaiff y Prif Weinidog gynnal dadansoddiad o gost a budd ar gyfer yr holl gynlluniau y telir amdanynt ar hyn o bryd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a ariennir gan y Cynulliad, ac yna ystyried defnyddio buddsoddi i arbed i brynu'r rhai y byddai'n fuddiol gwneud hynny, sef y mwyafrif ohonynt yn ôl pob tebyg yn fy marn i?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna ac am y cyngor rheolaidd y mae wedi ei roi ar y mater hwn—cyngor sydd, fel y mae'n gwybod, yn cyd-fynd â'r dull y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi ei fabwysiadu ers datganoli. Yng Nghymru, mae dinasyddion yn talu tua £40 y pen bob blwyddyn o ganlyniad i gynlluniau menter cyllid preifat, ac mae oddeutu un rhan o bump o'r hyn y mae'n rhaid i ddinasyddion mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ei dalu.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Mike Hedges wedi ei ddweud, Llywydd—y dylai fod adolygiad o gynlluniau menter cyllid preifat hanesyddol. Yn fuan, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at yr holl awdurdodau contractio yng Nghymru i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, a'i fod yn digwydd bob blwyddyn. Yn y lle cyntaf, cyfrifoldeb yr awdurdodau contractio hynny yw adolygu'r contractau a gweld lle allai fod cwmpas posibl i wneud arbedion ar eu taliadau gwasanaeth blynyddol. Er mwyn cymell yr arfer hwnnw, y polisi y byddwn ni'n ei ddilyn fydd bod yr awdurdod hwnnw'n gallu cadw unrhyw arbedion y mae'n ei gynhyrchu yn y ffordd honno.

Mewn achosion lle mae'r awdurdod yn ystyried terfynu'r contract yn gynnar, yna bydd angen deialog rhwng yr awdurdod hwnnw a Llywodraeth Cymru. Efallai y byddwn yn gallu edrych ar fesurau fel ein cronfa buddsoddi i arbed i'w cynorthwyo i wneud yn union hynny.

Prif Weinidog, rwy'n fwy na pharod i gefnogi Mike Hedges yn ei alwad am yr adolygiad hwnnw o wariant ar brosiectau menter cyllid preifat yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod rhai o'r mentrau cyllid preifat cynnar, yn arbennig, yn gostus iawn, ac rydych chi wedi cyfeirio at y ffigur cost o £100 miliwn y flwyddyn—£105 miliwn y flwyddyn—y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei ddarparu hefyd.

Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod eich Llywodraeth yn sicr yn amheus am fentrau cyllid preifat, rydych chi'n cefnogi'r model buddsoddi cydfuddiannol. A allwch chi ddweud wrthym ni pa wersi a ddysgwyd o rai o'r problemau hynny gyda'r prosiectau menter cyllid preifat cynnar i wneud yn siŵr nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat i ddarparu mentrau gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn wynebu, dros y tymor hwy, rhai o'r problemau a wynebodd mentrau cyllid preifat yn y gorffennol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y diddordeb y mae wedi ei gymryd yn y model buddsoddi cydfuddiannol, sydd yn wir wedi ei gynllunio i wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi o'r gorffennol. Mae'n cynnwys y gorau o fodel dim dosbarthu yr Alban, a nodais gyda diddordeb, Llywydd, fod Prif Weinidog yr Alban wedi cyfeirio at ddatblygu eu syniadau ar sail ein model ni wrth iddyn nhw fynd ati i fuddsoddi ymhellach yn y prosiectau seilwaith yn yr Alban.

Felly, ni fydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i ariannu gwasanaethau meddal, fel glanhau ac arlwyo, ac roedden nhw'n aml wrth wraidd y contractau rhad ac anhyblyg yn y model menter cyllid preifat hanesyddol, ac ni fydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio i ariannu offer cyfalaf ychwaith. Bydd cyfarwyddwr budd y cyhoedd yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i reoli cyfranddaliad cyhoeddus, yr ydym ni'n bwriadu ei gymryd ym mhob cynllun model buddsoddi cydfuddiannol, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn rhan o unrhyw adenillion o'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud. Yn ogystal â bod o ddiddordeb i Brif Weinidog yr Alban, Llywydd, mae'r Cenhedloedd Unedig, sydd wedi llunio casgliad o gynlluniau cyllid arloesol yn ddiweddar—cynlluniau pobl yn gyntaf yw ei enw—yn tynnu sylw at y model buddsoddi cydfuddiannol fel esiampl o ffordd o wneud pethau sy'n hybu llesiant, gwerth am arian a thryloywder yn y ffordd y mae'r cynllun wedi ei strwythuro.

14:15
Trafnidiaeth yn 2019

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn 2019? OAQ53282

Diolchaf i'r Aelod. Bydd fersiwn wedi ei diweddaru o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2019. Bydd yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws yr ystod o foddau trafnidiaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r blaenoriaethau y credaf y dylai eich Llywodraeth ei fabwysiadu yw diogelu'r seilwaith trafnidiaeth presennol. Cawsom dywydd stormus iawn dros y penwythnos ac roedd hyn yn arbennig o amlwg ar amddiffynfeydd môr Hen Golwyn a'r promenâd yn fy etholaeth i, a gafodd eu tanseilio ymhellach gan y stormydd hynny y penwythnos hwn ac a oedd, yn wir, yn golchi ceir tuag at berygl y môr agored. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi gynnig rhywfaint o fuddsoddiad er mwyn mynd i'r afael â'r problemau gyda'r amddiffynfeydd môr hynny. Fel y byddwch yn ymwybodol, maen nhw'n diogelu seilwaith rheilffordd hanfodol a chefnffordd yr A55. Nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn ddigon uchel o ran blaenoriaeth gan eich Llywodraeth ar hyn o bryd. A wnewch chi adolygu hyn cyn gynted ag y gallwch, gan fod amser yn mynd yn brin ac rydym ni wedi cael ein rhybuddio dro ar ôl tro gan beirianwyr bod y rhain yn wynebu methiant trychinebus ac y tu hwnt i'w hoes ddisgwyliedig? Rydym ni angen gweithredu nawr cyn i fywydau gael eu colli.

Diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at hynny eto. Rwy'n gyfarwydd o achlysuron blaenorol pan ei fod wedi tynnu sylw at y mater hwn am amddiffynfeydd môr Hen Golwyn ac wrth gwrs rwy'n bryderus o glywed yr hyn a ddywedodd am eu tanseilio ymhellach dros y penwythnos. Y broblem, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yw hyn: rydym ni wedi ymrwymo i wneud rhywbeth yn yr ardal honno, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, ond nid trigolion lleol, y bydd nifer bach ohonynt yn cael eu diogelu gan well amddiffynfeydd môr, fydd buddiolwyr mwyaf y gwaith y mae angen ei wneud. Y buddiolwyr mawr fydd Network Rail a Dŵr Cymru, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod at y bwrdd i wneud cyfraniad hefyd. Os bydd pwrs y wlad yn cael ei fuddsoddi yn hyn—ac mae'r Aelod bob amser yn gwneud achos cryf dros pam y dylai hynny ddigwydd—yna bydd yn rhaid i sefydliadau eraill a fydd yn elwa ar yr arian y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn ei gyfrannu fod wrth y bwrdd hefyd. Bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud ac y gall ef ei wneud i'w perswadio i ddod at y bwrdd yn y modd hwnnw yn helpu i gyflymu amseriad yr achos y mae'n ei wneud unwaith eto heddiw.

Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i'n gefnogol iawn i ddeuoli croesiad Britannia rhwng y tir mawr ac Ynys Môn, ac yn ddiolchgar i'r gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i dangos tuag at y cynllun hwnnw. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi bod y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag oedi prosiect Wylfa Newydd yn cryfhau, nid gwanhau, y ddadl dros wneud y croesiad hwnnw oherwydd mae gwytnwch, resilience, y croesiad yna'n hanfodol ar gyfer hybu datblygiad economaidd yn Ynys Môn yn ogystal â bod yn bwysig ar gyfer diogelwch y croesiad yna rhwng yr ynys a'r tir mawr yn gyffredinol? 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Dwi'n cytuno—mae'r oedi yn y cynllun i Wylfa yn creu cyd-destun newydd i'r bont hefyd. Fel mae Rhun ap Iorwerth yn gwybod, roedd y Gweinidog, cyn y Nadolig, wedi cyhoeddi'r ffordd ymlaen roedd e'n ei ffafrio a dwi wedi clywed oddi wrth y Gweinidog mae'r gwaith sydd ar y gweill yn barod, bydd hwnna yn parhau. 

Cael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran paratoi deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol? OAQ53325

Diolchaf i'r Aelod. Bydd deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yn cael ei chyhoeddi eleni. Bydd y ddeddfwriaeth yn helpu i gyflawni ein nod o gefnogi hawliau plant yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond rwy'n siŵr y bydd yn deall bod rhai ohonom ni'n rhwystredig braidd gyda'r amserlen, o gofio bod 15 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwrfa hon fynegi mewn egwyddor gyntaf ei dymuniad i ddiddymu'r amddiffyniad hwn na ellir ei gyfiawnhau. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni y bydd digon o amser yn oes y Cynulliad hwn i'r ddeddfwriaeth hanfodol hon ar gyfer plant Cymru gael ei phasio o'r diwedd?

14:20

Llywydd, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch cyfnod hir y Bil hwn. Dyna pam yr ydym ni'n benderfynol y bydd yn cyrraedd y llyfr statudau yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rydym ni'n gweithio'n galed. Rydym wedi bod yn ei drafod eto yr wythnos hon i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa i gyflwyno'r Bil cyn gynted ag y gallwn, ac yn sicr mewn amser da i wneud yn siŵr ei fod yn cwblhau ei hynt drwy'r Cynulliad hwn.

Amseroedd Aros ar gyfer Pen-glin Newydd yng Ngorllewin De Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer pen-glin newydd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53323

Diolch i'r Aelod am hynny. Er gwaethaf y cynnydd yn y galw, mae amseroedd aros ar gyfer triniaethau orthopedig yn y De Orllewin yn lleihau. Mae'r amser aros canolrifol ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Hywel Dda, er enghraifft, yn llai na 14 wythnos o'r ymgynghoriad hyd at y driniaeth. Er hynny, lle bo amseroedd aros hir yn bodoli, mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon eu bod nhw hefyd yn cael eu lleihau.

Diolch am y sylw diwethaf hwnnw, Prif Weinidog, oherwydd cafodd fy etholwraig i sy'n 87 mlwydd oed ei rhoi ar y rhestr frys am lawdriniaeth ar ei phen-glin 16 mis yn ôl, gydag addewid o driniaeth ymhen naw mis—felly, mae naw mis yn argyfwng, yn ôl pob golwg—ond chwe mis yw'r targed ar gyfer llawdriniaeth. Maen nhw wedi dweud wrthi fod ganddi flwyddyn arall i aros, ac mae hi'n 87. Roedd hi'n heini iawn fel arall ar y pryd, ond mae hi wedi disgyn sawl gwaith ers hynny oherwydd ei phen-glin ac mae hi bellach yn eiddil yn gorfforol ac yn feddyliol. Oherwydd hynny, nid yw mwyach yn gallu manteisio ar y cynnig o allu teithio i'r Undeb Ewropeaidd am lawdriniaeth breifat am gost sydd, wrth gwrs, yn llawer iawn is nag yma yn y DU. Nawr, nid cwestiwn Brexit yw hwn; y pwynt yr wyf yn ei wneud yw hyn. Oherwydd ei bod hi wedi gorfod aros, mae hi bellach yn eiddil, ac felly nid yw hi'n gallu manteisio ar y cynnig hwnnw i fynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid iddi dalu tair gwaith cymaint yma yng Nghymru nawr, gan ddefnyddio arian angladd ei gŵr er mwyn gwneud hynny. Yn 87 oed, gallwch ddeall pam ei bod hi'n teimlo'n anobeithiol. Felly, ar sail cydraddoldeb, a ddylid ad-dalu'r gwahaniaeth rhwng yr arian preifat y mae hi'n ei dalu yma a'r arian preifat y byddai hi wedi ei dalu pe byddai hi wedi mynd i'r UE? Yr unig reswm pam nad oedd hi wedi mynd oedd oherwydd addewidion gan y GIG lleol na chawsant eu bodloni. Byddai hi wedi mynd yn gynt pe bydden nhw wedi dweud wrthi pa mor hir y byddai wedi gorfod aros.

Llywydd, nid wyf mewn sefyllfa i gyhoeddi polisi newydd wrth ateb cwestiwn, wrth gwrs. Ond mae'r achos a godwyd gan yr Aelod yn bryderus, ac rwy'n siŵr, pe byddai hi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog iechyd, y byddai ef yn sicr yn barod i ystyried manylion yr achos penodol hwn ac unrhyw faterion polisi sy'n deillio ohono.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yfory, mae'r Llywodraeth yn ceisio trefnu dadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit sy'n dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin. I alluogi hyn i ddigwydd, byddaf yn awgrymu cynnig i atal y Rheolau Sefydlog angenrheidiol fel yr eitem olaf o fusnes ar gyfer heno. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Efallai fod yr Aelodau wedi sylwi ei bod yn Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel heddiw, ac, fel y gwyddom ni oll, mae peryglon yn ymguddio ar-lein, i’n pobl ifanc yn enwedig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed gan y Gweinidog Addysg ac unrhyw Weinidogion eraill yn y Llywodraeth ar ddiogelwch pobl ifanc ar y rhyngrwyd. Ac a wnewch chi ymuno â mi drwy roi ar gofnod eich bod yn cydnabod y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Childnet, Internet Watch Foundation ac eraill wrth ddwyn y mater hwn i'n sylw ni unwaith eto eleni?

A gaf i alw hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad ag iechyd meddwl amenedigol? Adroddwyd imi fod nifer yr unigolion sy'n gweithio yn y tîm iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf, ac, o ganlyniad i hynny, mae'r gallu i ymweld â’r tîm iechyd meddwl amenedigol wedi ei gyfyngu cymaint fel mai dim ond menywod â babanod hyd at chwe wythnos oed sy’n gallu gweld y tîm hwnnw ar hyn o bryd. Yn amlwg, nid yw hynny'n sefyllfa dderbyniol, a gwn nad yw hynny'n fwriad gan y Llywodraeth ychwaith. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd inni allu cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog iechyd naill ai drwy ddatganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar yn y Siambr hon i ddweud wrthym beth sy’n cael ei wneud i wella gallu'r tîm hwnnw fel y bydd mamau yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn yn ystod adeg enbyd iawn, yn aml iawn, o’u bywydau.

14:25

Diolch am godi'r ddau fater pwysig y prynhawn yma. Yn sicr, o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, gwn y byddai'r Gweinidog Addysg yn hapus i ddarparu datganiad, a byddaf yn sicr yn rhoi ar gofnod bod y Llywodraeth yn diolch i sefydliadau megis Childnet ac Internet Watch Foundation am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn, ac wrth gwrs mae gennym ddadl fer ar ddiwedd cyfarfod llawn yfory, sydd wedi cael ei chyflwyno gan Bethan Sayed, a bydd gennym gyfle i edrych ar faterion sy'n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd yno hefyd.

Ynghylch y mater iechyd meddwl amenedigol, mae'n amlwg bod hwn yn fater pwysig iawn, a gwn y bydd y Gweinidog iechyd yn falch o ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen arnoch.

Trefnydd, rwyf wedi codi'r mater o anghydraddoldeb cyflog ar gyfer hyfforddedigion histopatholeg meddygol yng Nghymru yn y Siambr hon sawl gwaith. Byddwch yn cofio fy mod i wedi codi'r mater hwn mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl ym mis Tachwedd 2016, ac mae’r mater yn dal heb gael ei ddatrys. Yn ystod y pum mlynedd o hyfforddiant fel meddygon rhwng Hyfforddeion Arbenigol blwyddyn 1 a Hyfforddeion Arbenigol blwyddyn 5, bydd meddygon histopatholeg hyfforddedig yn Lloegr wedi ennill £60,000 yn fwy na'u meddygon cyfatebol yng Nghymru. Nawr, rwyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod meddygon sy'n penderfynu hyfforddi yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb â meddygon cyfatebol dros y ffin sy’n gwneud yr un hyfforddiant, ac sy’n gwneud yr un gwaith. Mae hyfforddeion wedi dweud wrthyf eu bod nhw’n teimlo, drwy benderfynu gweithio yng Nghymru, eu bod yn cael eu cosbi'n ariannol am y penderfyniad hwnnw. Mae’r gweithlu wedi ei ddadrithio ac wedi digalonni oherwydd y ffordd y maen nhw’n cael eu trin a’u hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru.

Rydym ni’n clywed am yr angen i ddenu meddygon i Gymru oherwydd prinder yn aml, ac eto, dyma sut yr ydym ni’n trin y rhai sy'n dewis astudio yma. Er eu bod nhw’n ymwybodol o'r bwlch, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim byd o gwbl am y sefyllfa. Mae hynny'n warthus. Yn ôl ym mis Hydref 2018, pan godais y mater hwn ddiwethaf, dywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd y byddai’r Gweinidog iechyd yn barod i gyflwyno datganiad ar y mater. Mae’r rhwystredigaeth ymhlith yr hyfforddeion yn amlwg, ac, wedi gorfod disgwyl am fwy na dwy flynedd a hanner am weithredu, rwyf yn awgrymu yn barchus bod angen cymryd camau arnom cyn gynted â phosib. A gaf i ofyn, felly, i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, ar y mater hwn, a chymryd camau drwy roi hyfforddeion meddygol Cymru ar sail gyfartal â'r rhai yn Lloegr?

Mae'r mater hwn ynghlwm yn llwyr â thrafodaethau contract meddygon sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a gwn fod y Gweinidog iechyd yn cwrdd â Chymdeithas Feddygol Prydain yn yr ychydig wythnosau nesaf a byddwn yn sicr yn disgwyl i'r mater hwn gael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw.

Newyddion da iawn am gyhoeddiad y rownd gyntaf o arian gyda llwyddiant newydd Cymru ynghylch y dreth dirlenwi, ond a gawn ddatganiad ynglŷn â’r hyn y gellid ei wneud i annog yn weithredol yr ardaloedd hynny sydd o fewn y cylchoedd pum milltir hynny o amgylch ardaloedd tirlenwi nad ydyn nhw wedi gwneud cais am arian eto, gan gynnwys lleoedd yn fy ardal i fy hun fel Llanharan, Llanhari, Cefncribwr y Goetre-hen ac eraill? Ac, ar y mater hwnnw, mae'n dda gweld bod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n gweinyddu'r gronfa ar ran Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Chris Elmore a minnau ym Maesteg Celtic ar 15 Mawrth, felly gall pobl ddod yno.

A gawn ni ddadl hefyd ar sut y gallwn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gadael Caerdydd i fynd yn eu holau i'r Cymoedd ar ôl gweld digwyddiadau yn hwyr yn y nos? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae unrhyw un sy'n byw ym Mhen-coed sydd wedi bod i Opera Cenedlaethol Cymru, neu finnau ar ôl mynd i weld Stiff Little Fingers yn Tramshed neu ble bynnag, mae’n rhaid inni ddal y trên am 10:30, neu’n gynharach weithiau, i fynd adref. Wel, mae hynny’n golygu, yn blwmp ac yn blaen, mai’r dewis yw gadael y cyngerdd yn gynnar neu gael tacsi neu ffrind i fynd â chi adref. Nid yw'n ddigon da, pan rydych chi’n gallu mynd i Fryste am 01:30 yn y bore, neu Abertawe am 01:20 yn y bore, neu Bontypridd am 11:30, ond am 10:30, mae’n rhaid ichi adael i fynd i unrhyw le ar y llinell i Faesteg. Felly, a gawn ni ddadl ar hynny? Oherwydd, mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i gael pobl allan o'u ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ganmoladwy; mae angen inni wneud i hynny ddigwydd gydag amserlennu.

Diolch am godi'r materion hyn ac, yn sicr, mae'n gyffrous nawr ein bod ni'n gallu gweld ffrwyth llafur y dreth gwarediadau tirlenwi yn elwa ar gynlluniau cymunedol yn yr ardaloedd sy'n gymwys. Fel y gwyddoch, fe gyhoeddwyd y cyfnod cyntaf yr wythnos diwethaf, ond mae'r cais am yr ail rownd o gyllid newydd gau, felly byddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau am hynny maes o law. Ac fe gynyddodd nifer y ceisiadau a gawsom yn yr ail rownd hwnnw, ac rwyf yn sicr yn gobeithio y bydd cynnydd yn rowndiau'r dyfodol hefyd. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn monitro'r ceisiadau sy'n cael eu gwneud ac maen nhw'n sicr yn targedu'r ardaloedd cymwys hynny lle bu llai o geisiadau ym mhob un o'r cylchoedd cyllido, ar y cyd â'r cynghorau gwirfoddol sirol lleol. Felly, yn sicr, bydd cyfathrebiadau yn mynd allan i'r ardaloedd hynny, er mwyn sicrhau bod y cymunedau a all fanteisio fwyaf ar y cynllun hwn yn elwa arno. A gwn y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar y rheilffyrdd yn fuan iawn, felly bydd cyfle i archwilio rhai o'r materion yr ydych wedi eu disgrifio.

14:30

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog iechyd am ei ddatganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gwrdd â mi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad i drafod hyn, ac rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau gonest a defnyddiol gyda chadeirydd y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, a gawn ni ddatganiad llafar yn amser y Llywodraeth fel y gall Aelodau'r Cynulliad graffu ar yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn fater mor bwysig i'm hetholwyr, a ddylai fod yn gallu disgwyl gwasanaethau mamolaeth diogel, o ansawdd da?

Yn ail, amser cinio heddiw, euthum i ddigwyddiad ymgyrch am well cyflog Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, a chefais fraw pan ganfûm y gall pobl ar gredyd cynhwysol golli allan ar wythnos o rent yn ystod 2019-20. Mae hyn oherwydd y ffordd y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol yn cyfrifo nifer yr wythnosau yn y flwyddyn honno mewn gwahanol ffyrdd, oherwydd bod gan y flwyddyn ariannol 53 dydd Llun. Nawr, efallai mai’r gwir effaith fydd, os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, eich bod chi’n colli wythnos o rent, a gallai hyn gael sgil-effeithiau difrifol ar gyfer tenantiaid Trivallis, er enghraifft, landlord cymdeithasol yn fy etholaeth i, sy’n talu eu rhent yn wythnosol. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i hyn a sut y mae hi'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr nad yw pobl ar gredyd cynhwysol yn colli allan?

Diolch am godi'r ddau fater hyn. O ran y cyntaf, gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, gwn, ar hyn o bryd, ein bod ni'n disgwyl am yr argymhellion llawn yn yr adroddiad llawn, sy'n ofynnol yn y gwanwyn, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Aelodau gyda mwy o wybodaeth ar ôl derbyn yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion hynny.

O ran yr ail fater, credyd cynhwysol, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynghylch diffygion sylfaenol credyd cynhwysol dro ar ôl tro, ac mae hyn yn enghraifft arall o sut y mae'n siomi pobl yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i godi'r mater hwn gyda'r Gweinidog dros gyflogaeth yn Llywodraeth y DU.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gynigion i lacio deddfau cynllunio er mwyn caniatáu i fastiau ffonau symudol talach gael eu hadeiladu yng Nghymru? Cafodd cyfyngiadau ar uchder mastiau eu llacio yn Lloegr a'r Alban yn 2016 fel nad yw mastiau hyd at 25m yn gorfod mynd drwy'r broses gynllunio lawn. Addawodd Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd yn ôl y byddai'n edrych ar y dystiolaeth cyn penderfynu a ddylid cynyddu'r terfyn yng Nghymru o'r 15m presennol. Mae'r diffyg signal ffonau symudol yn achosi llawer o rwystredigaeth a dicter i bobl mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y byddant yn debygol o wneud penderfyniad ar y mater pwysig hwn i wella signal ffonau symudol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Diolch am godi'r mater hwn. O ran newidiadau i'r hawliau datblygu a ganiateir, fel y cydnabuwyd gennych yn eich cwestiwn, yn sicr mae angen dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y cyhoeddwyd 'Cynllunio ar gyfer Telathrebu Symudol: Asesiad o Hawliau Datblygu a Ganiateir yng Nghymru' ym mis Ionawr y llynedd, i lywio'r gwaith o adolygu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer telathrebu. Disgwylir i ddiwygiadau i'r hawliau sy'n ymwneud â thelathrebu ddod i rym tua diwedd y gwanwyn eleni. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod, yn fy marn i, nad yw mastiau talach yn darparu un ateb i'r broblem o wella gwasanaeth symudol gan ei wneud ar gael ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, bod ein topograffeg a dosbarthiad y boblogaeth yn golygu bod defnyddio ffonau symudol ledled Cymru yn heriol iawn, ac rwyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny wrth inni deithio o amgylch y wlad.

Rwyf yn cytuno â’r pwyntiau a wnaed yn gynharach ynghylch gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac rwyf yn cefnogi'r galwadau am ddatganiad. Rwyf hefyd yn cytuno â’r pwynt a wnaed yn gynharach ynghylch trenau i'r Cymoedd yn hwyr yn y nos, a hoffwn gefnogi'r datganiad hwnnw hefyd.

Ond rwyf eisiau dod â mater arall sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus i’ch sylw, a hynny yw digwyddiad a ddigwyddodd nos Wener ddiwethaf yng ngorsaf Pontypridd. Roedd grŵp o fenywod yn aros ar y platfform am eu trên i fynd adref i'r Rhondda, pan ddaeth criw o tua 30 neu fwy o bobl ifanc atyn nhw. Honnir bod y criw wedi dychryn, aflonyddu a sarhau’r grŵp bach hwn o fenywod ar y platfform, ac, ar un adeg, dywedir eu bod nhw wedi amgylchynu un fenyw a’u bod nhw wedi symud er mwyn ei gwthio hi tuag at y cledrau wrth i’r trên agosáu. Nawr, dywedir bod y bygythiadau a’r ymddygiad difrïol wedi parhau ar y trên a arweiniodd at sbwriel yn cael eu taflu ar y menywod, ac ni stopiodd hyn nes i’r bobl fynd oddi ar y trên. Nawr, dychrynais o glywed am y digwyddiad hwn y bûm yn ei drafod yn fanwl ddoe gyda gweithiwr pryderus o Drafnidiaeth Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru ynglŷn â hyn, ond byddwn yn ddiolchgar pe byddem ni’n gallu cael datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth i adael inni wybod pa fesurau trafnidiaeth y gellir eu cymryd i wella diogelwch teithwyr, yn ogystal â gweithwyr trenau, yn ystod gwasanaethau yn hwyr yn y nos.

Hoffwn hefyd godi’r mater o ddigartrefedd gyda chi unwaith eto. Ers imi godi'r mater hwn gyda chi yn y cyfarfod llawn yr wythnos diwethaf, mae cynghorydd Torïaidd yng Nghaerdydd sydd wedi dod o dan feirniadaeth sylweddol—ac yn briodol felly, yn fy marn i—am sefyll wrth ymyl rhai pebyll yng nghanol y ddinas a galw am iddyn nhw gael eu rhwygo i lawr gan Gyngor Caerdydd. Nawr, cafodd y farn hon rywfaint o gefnogaeth gan yr aelod cabinet Llafur dros dai, Lynda Thorne, a ddywedodd,

Mae angen i'r elusennau sy’n rhoi'r pebyll ddeall eu bod nhw’n rhoi pobl sy'n cysgu allan mewn perygl.

Yr hyn a fethodd y Cynghorydd Kelloway a'r Cynghorydd Thorne â sylweddoli yw, am wahanol resymau, nad yw hosteli yn addas ar gyfer pawb bob amser, a bod y pebyll hyn, yn enwedig mewn tywydd fel hyn, yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth pan nad oes gan rywun unman arall i droi. Felly, rwyf yn eich annog chi i gondemnio beirniadaeth ar unrhyw un sy’n rhoi pebyll i bobl ddigartref, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro safbwynt Llafur ar hyn.

Ac yn olaf, tynnwyd i’m sylw bod UKIP, mae'n debyg, wedi bod yn dosbarthu taflenni ar gytundeb ymadael y Torïaid yn Lloegr sydd tu hwnt, hyd yn oed i’w safonau isel iawn arferol. Ar waelod y daflen hon, ceir paragraff ymfflamychol sy’n dweud,

Byddwn ni’n dosbarthu unrhyw un sy’n barod i bleidleisio o blaid y cytundeb hwn yn fradwr cenedlaethol, neu’n elyn y wladwriaeth—ac rydym ni'n eich gwylio chi.

Ymddengys fod gwersi i'w dysgu o hyd yn sgil marwolaeth drasig Jo Cox AS. Nawr, efallai mai mater sydd wedi digwydd yn Lloegr yw hyn, ac rwyf wedi gofyn i Heddlu Sussex ymchwilio i'r mater, ond mae aelodau o'r blaid hon yn eistedd yn y Siambr hon. Felly rwyf yn eich annog chi i anfon neges gref na fydd iaith o'r math hwn yn cael ei oddef. Ac, ar ben hynny, a gawn ni ddatganiad gan gynrychiolydd y Llywodraeth i annog pobl, os ydyn nhw’n derbyn taflen gan UKIP sy'n cynnwys y bygythiadau hyn, i ddweud wrth yr heddlu oherwydd ni ddylid goddef y math hwn o wleidyddiaeth sy’n seiliedig ar fygythiadau?

14:35

Diolch yn fawr iawn. Clywaf cyn-arweinydd UKIP yn gweiddi ‘pathetig’ o'i sedd yn y Siambr, nad yw’n syndod imi, ond rwyf yn condemnio yn llwyr yr hyn a ysgrifennwyd yn y daflen. Mae Leanne Wood yn hollol gywir yn ein hatgoffa ni i gyd am y drasiedi a ddigwyddodd yn gymharol ddiweddar. Ac nid oes lle mewn gwleidyddiaeth ar gyfer iaith ‘bradwyr’ ac iaith sy'n fygythiol ac yn ymfflamychol o gwbl. Felly, byddwn yn sicr yn canmol yr aelod am symud y mater yn ei flaen gyda Heddlu Sussex.

Ac, wrth gwrs, mae Ceidwadaeth dosturiol yn fyw ac yn iach yng Nghaerdydd hefyd, oherwydd, unwaith eto, rydym ni’n credu bod gofyn am i’r pebyll hyn gael eu rhwygo i lawr—rwyf yn credu oedd yr ymadrodd—yn ymateb gwbl amhriodol. Unwaith eto, nid yw hyn yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni’n sôn am bobl ddynol, sydd mewn llawer o achosion, wedi cael y bywydau mwyaf anodd y gellid eu dychmygu, sydd wedi eu cael eu hunain yn y lle hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi sut bynnag y gallwn ni. Rydym ni’n cydnabod bod angen gwahanol fathau o hosteli a mathau gwahanol o letyau oherwydd nid oes un math yn addas ar gyfer pawb. A gwn fod y Gweinidog wedi ateb eich cwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf, ond bydd hi’n cyflwyno datganiad ynglŷn â digartrefedd a chysgu ar y stryd i’r Cynulliad yn amser y Llywodraeth yr wythnos nesaf.

Ac eto, rwyf wedi dychryn yn fawr wrth glywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud am y materion yng ngorsaf Pontypridd. Soniais mewn ymateb i gais am ddatganiad blaenorol y byddai’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar reilffyrdd, felly gallai hyn fod yn amser priodol i gael y drafodaeth honno gydag ef.

14:40

Trefnydd, neu arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, rwyf yn siŵr eich bod wedi eich arswydo gymaint ag yr oeddwn innau ynghylch adroddiadau yn y cyfryngau bod cinio ysgol yn cael ei wrthod i blant oherwydd nad oedd credyd wedi ei roi ar eu cardiau talu mewn pryd. Yn wir, roedd adroddiad am un plentyn a oedd wedi cael ei ginio ysgol, ac wedi mynd at y til i ganfod nad oedd arian ar gael fel y gallai'r plentyn penodol hwnnw gael cinio, a chymerwyd y cinio hwnnw oddi ar y plentyn. Nawr, dyna'r driniaeth fwyaf ofnadwy o unrhyw blentyn yn yr ysgol, ac rwyf yn siŵr y bydd yr unigolyn hwnnw yn cofio'r digwyddiad am gryn amser, os oedd hynny'n wir.

Nawr, rwyf wedi codi hyn o'r blaen—systemau talu heb arian—ac mae'n rhaid imi fod yn deg, bod Cyngor Sir Powys bellach wedi cymryd rhai camau i rybuddio rhieni pan fo eu harian wedi lleihau neu'n rhedeg yn isel iawn. Ond ni allwn glywed straeon fel hyn dro ar ôl tro. Felly, rwyf yn gofyn, arweinydd y tŷ, a allwch gael trafodaeth bellach gyda'r Gweinidog Addysg yr wyf yn gwybod ei fod wedi gweithio ar hyn, i wneud rhagor o waith a darparu addysg bellach i rieni a staff yr ysgol fel nad yw'r sefyllfaoedd hyn yn parhau i ddigwydd.

Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rwyf eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater hwn, a bydd swyddogion yn ymchwilio gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r gymdeithas leol dros arlwyo mewn addysg i weld pa mor eang yw'r mater hwn ac ystyried a oes angen inni ddarparu cyngor ac arweiniad ychwanegol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i weithio gyda theuluoedd, pe byddai'r amgylchiadau hyn yn codi.

Rwy'n credu bod dau amgylchiad gwahanol y gallai teuluoedd ganfod eu hunain ynddynt. Er enghraifft, maen nhw'n anghofio rhoi credyd ar y cerdyn, oherwydd bod bywyd yn brysur ac mae pobl yn anghofio pethau, neu efallai bod teuluoedd mewn trafferthion gwirioneddol ac nad ydyn nhw'n gallu talu. Felly, rwyf yn credu bod gan ysgolion swyddogaeth o ran deall sefyllfa'r teulu hwnnw a gallu cyfeirio at gyngor, neu'n sicr cynnig cysylltu â rhywun yn yr awdurdod lleol pe byddan nhw'n gwybod bod teulu yn ei chael hi'n anodd, a bod cymorth ar gael iddyn nhw.

Ond mae eich pwynt ynghylch peidio â dwyn plant i gyfrif yn un pwysig, oherwydd wrth warthnodi plant mewn unrhyw ffordd oherwydd biliau ysgol heb eu talu, wel, mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Rwyf yn galw am ddau ddatganiad Llywodraeth Cymru ffurfiol ar faterion sy’n perthyn i’w gilydd. Mae Cymdeithas Polio Prydain yn dathlu ei phen-blwydd yn bedwar ugain y mis hwn—Ionawr 2019—ac rwyf y galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chymorth ar gyfer y 12,000 o bobl yr amcangyfrifir yng Nghymru eu bod wedi cael polio, a’r nifer o rai eraill hefyd efallai nad oedden nhw’n gwybod bod ganddyn nhw polio.

Rwyf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Gymdeithas Polio Prydain am ofyn imi fod yn noddwr iddyn nhw yng Nghynulliad Cymru. Dri mis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch syndrom ôl-polio, gan dynnu sylw at yr angen am well ymwybyddiaeth, gyda 7 y cant yn unig o'r bobl a holwyd yn cydnabod y syndrom o gwbl. Mae’r gymdeithas yn dymuno codi ymwybyddiaeth ymhlith seneddwyr o bob plaid a datblygu’r ymwybyddiaeth hon yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel y gwna arweinydd eu grŵp yn y gogledd, Joan Deverell, ac arweinydd eu grŵp yn y de, Coral Williams. Maen nhw’n dweud, 

Mae pen y daith bellach yn brofoclyd o agos, ond mae’r ffaith ein bod ni’n dal yn cefnogi 120,000 sy’n byw â Syndrom Ôl-Polio... yn y DU—

gan gynnwys y rhai yng Nghymru—

yn dangos na fyddwn ni wedi anfon Polio i’r llyfrau hanes mewn gwirionedd nes bydd pob un sydd wedi goroesi Syndrom Ôl-Polio wedi peidio â bod. Mae gan Bolio Prydain wybodaeth flaenllaw sy’n amhrisiadwy o ran sut i drin Syndrom Ôl-Polio; gyda hunanreolaeth ofalus a llwybrau gofal diffiniedig, mae byw’n annibynnol yn bosib.

Fel y dywed eu cadeirydd cenedlaethol yn y DU, 

dyna anrheg ardderchog fyddai os mai pen-blwydd yr elusen yn bedwar ugain yn 2019 fyddai’r flwyddyn pan fo’r byd yn gweld Polio yn cael ei ddileu, gyda phen y daith bellach o fewn cyrraedd yn ôl pob golwg.

Ac rwyf yn galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Nawr, pan gyfarfûm ag arweinydd grŵp Cymdeithas Polio Prydain yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, rhannodd ei phryderon â mi hefyd am glwstwr o achosion o'r feirws newydd, myelitis llipa, yn Glasgow a'r angen i Gymru baratoi ar gyfer hwn, gan fod rhieni eisoes yn eu holi nhw ynglŷn â'r feirws hwn ac yn codi eu pryderon. Nawr, mae parlys llipa acíwt a myelitis llipa acíwt yn achosi gwendid yn y breichiau, y coesau neu’r wyneb. Yn y gorffennol, cafwyd parlys llipa acíwt oherwydd yr haint poliofirws. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gyflyrau niwrolegol acíwt sy’n gysylltiedig â hyn, gyda'r rhan fwyaf o’r achosion ymhlith plant. Mae cynnydd wedi ei gofnodi yn Ewrop ac UDA hefyd. Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr ddatgan digwyddiad cenedlaethol ym mis Tachwedd diwethaf—Tachwedd 2018—i ymchwilio i'r cynnydd ymddangosiadol hwn mewn achosion. Ond nid oedd yr achosion a archwiliwyd yn gysylltiedig â pholio, a hefyd, cafodd achosion posibl eraill eu nodi, gan gynnwys heintiau enterofirws di-bolio. Nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at unrhyw drafodaeth ar y mater hwn yng Nghymru. O gofio'r pryder cynyddol yn Lloegr, yr Alban, yn Ewrop ac UDA, rwyf yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

14:45

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn, a byddem yn sicr yn rhannu'r dyhead hwnnw sydd gan Gymdeithas Polio Prydain o weld diwedd y daith yn cael ei chyrraedd fel yr oeddech chi'n ei disgrifio hi. Gwn y byddwch yn gwneud gwaith rhagorol o ran codi'r mater hwn ymhlith Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr, fel yr ydych yn ei wneud y prynhawn yma.

O ran y clwstwr o achosion o feirws newydd yr ydych wedi siarad amdano, a gaf i awgrymu bod y Gweinidog iechyd yn cael trafodaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio'r mater o ran y ffordd orau i fynd i'r afael â hyn yng Nghymru gan ysgrifennu atoch wedyn gyda chasgliadau'r drafodaeth honno?

A gaf i ofyn i'r Trefnydd drafod gyda’r Gweinidog economi a yw'n bosib cyhoeddi datganiad pellach i’r Cynulliad hwn, mewn datganiad llafar os yw hynny’n bosib, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed bod ffatri Schaeffler yn Llanelli yn mynd i gau? Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig ddoe. Ond byddem ni’n gwerthfawrogi datganiad llafar, oherwydd byddwn i, ac Aelodau eraill, rwyf yn siŵr, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r ardal honno, yn hoffi gallu gofyn mwy am fanylion y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu i’r 220 o weithwyr a'u teuluoedd sy'n wynebu diswyddiadau. Rwyf yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn nad y mathau o swyddi y gallwn ni fforddio i’w colli o Lanelli, neu’n wir, o unrhyw le yng Nghymru, yw’r rhain. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle i holi mwy am fanylion y cymorth a’r gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r awdurdod lleol a chydag eraill i geisio dod o hyd i gyflogaeth newydd addas, o ran cyfleoedd cyflogaeth, ac ar gyfer unigolion.

Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i ofyn i'r Gweinidog pa wersi sydd wedi eu dysgu, efallai, o'r broses hon. A oedd unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ei wneud drwy weithio gyda'r cwmni hwn, yn ystod cam cynnar efallai, i'w perswadio nhw i aros ac archwilio ymhellach i'r hyn y byddai angen ei wneud mewn amgylchedd ôl-Frexit i weithio gyda chwmnïau rhyngwladol i sicrhau nad yw swyddi o ansawdd yn cael eu colli?

Diolch yn fawr iawn, ac mae'n amlwg bod y newyddion y bydd ffatri Schaeffler yn Llanelli bellach yn cau'n bendant yn hynod annifyr i'r gweithlu a'u teuluoedd ac, yn wir, y cymunedau ehangach yn yr ardal, ac wrth gwrs, mae ein meddyliau yn sicr gyda'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr hyn sy'n ergyd mawr iawn i'r ardal ac i unigolion.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw swyddi o ansawdd da yn yr ardal. Felly, fel yr ydych yn ei ddweud, rydym wedi cynnull tasglu, a fydd yn parhau i weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a chyda phartneriaid eraill yr ydych yn eu disgrifio i archwilio pob llwybr posibl er mwyn sicrhau potensial gweithgynhyrchu y safle yn y dyfodol ac er mwyn sicrhau hefyd bod gweithwyr Schaeffler yn cael gafael ar becyn cystadleuol o gyngor a sgiliau a chymorth hyfforddiant. Rwyf yn sylweddoli y byddech chi'n hoffi mwy o wybodaeth ar hynny, felly byddaf yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddarparu hynny.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, roeddwn yn falch o noddi lansiad ymgyrch Time For Better Pay Usdaw yn ystod amser cinio er mwyn rhoi terfyn ar dlodi mewn gwaith. Arolygodd Usdaw dros 10,500 o aelodau i ddeall y materion sy'n eu hwynebu nhw o ganlyniad i gyflogau isel, contractau oriau byrrach a gwaith heb sicrwydd. Mae rhai o'r canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn eithaf ysgytiol. Er enghraifft, mae dau allan o bob tri gweithiwr yn teimlo'n waeth yn awr nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl. Mae tri chwarter y gweithwyr yn dibynnu ar fenthyciadau ac yn benthyca i dalu biliau hanfodol. Mae dau allan o bob tri gweithiwr yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac nid oedd chwech allan o bob 10 gweithiwr yn gallu mynd i ffwrdd ar wyliau y llynedd. A fyddech chi'n gallu cwrdd â mi, Gweinidog, i drafod yr adroddiad hwn? A byddwn yn ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.

Yn ail, Wythnos Lleoliad Annibynnol yw’r wythnos hon, ac mae'r lleoliadau hyn yn rhoi i artistiaid eu profiad cyntaf o chwarae o flaen cynulleidfaoedd byw, a dyma yw asgwrn cefn y maes cerddorol byw. Mae Le Public Space yng Nghasnewydd yn ganolfan cerddoriaeth a chelfyddydau sydd wedi ei lleoli yng nghanol y ddinas, a dyma’r man cyfarfod annibynnol mwyaf yn y ddinas ar gyfer y celfyddydau creadigol. Daeth Le Public Space i fodolaeth gyda balchder o Le Pub, a oedd yn lleoliad cerddoriaeth bach ond gwych yng Nghasnewydd a fu’n weithredol am 25 mlynedd. Ers ei agor yn 2017, mae Le Public Space wedi trefnu rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, celfyddydau, comedi, gan ddatblygu cynlluniau i ehangu ar hyn o bryd. Mae'n cael ei redeg gan yr ysbrydoledig Sam Dabb, a chyda chefnogaeth bwrdd penodedig mae'r lleoliad yn cael ei redeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned yn ddi-elw ac er budd y gymuned. Eu cenhadaeth yw darparu man bywiog ar gyfer y celfyddydau sy’n agored i bawb, ac mae pawb sy’n gysylltiedig â'r lleoliad yn gweithio i annog amrywiaeth ac i gysylltu cynulleidfaoedd presennol a newydd â cherddoriaeth fyw, celfyddyd a sinema ragorol. Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi lleoliadau annibynnol lleol ledled Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog awgrymu bod y Gweinidog diwylliant, yr wyf yn nodi ei fod ef yma, yn edrych ar Le Public Space fel enghraifft wych o leoliad annibynnol?

14:50

Diolch yn fawr am godi'r ddau fater hyn ac, yn sicr, mae lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn rhan hanfodol o'n llif o dalent newydd yma yng Nghymru o ran y diwydiant cerddoriaeth. Rwy'n credu bod Le Public Space yn enghraifft berffaith o sut y gall y busnesau hyn addasu ond hefyd ffynnu mewn amgylchiadau eithaf heriol. Ond hefyd, mae'n cyfrannu mewn gwirionedd at fywyd diwylliannol ein hardaloedd trefol yn ogystal â rhoi cyfle cyntaf i dalent Cymru fynd at eu cynulleidfaoedd cyntaf. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi nodi gwerth lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad i fywyd diwylliannol Cymru.

Mae swyddogion y diwydiannau creadigol yn comisiynu ymarfer mapio o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru, a bydd yr astudiaeth ymchwil honno yn darparu map daearyddol o'r lleoliadau hyn ledled y wlad gyfan, gan nodi clystyrau, er enghraifft. Byddan nhw'n ystyried eu dichonoldeb o ran trafnidiaeth, mynediad a'r gynulleidfa, ac yn ystyried swyddogaeth yr economi liw nos yn yr ardaloedd hynny hefyd ac yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer ymyriadau neu welliannau posibl y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud. Rwy'n gwybod y bydd Le Public Space yn un o'r lleoliadau hynny a gaiff eu hystyried.

O ran yr adroddiad a lansiwyd heddiw gan Usdaw, a diolch yn fawr iawn am ganiatáu i hynny ddigwydd yma yn y Cynulliad drwy eich nawdd chi, hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae Usdaw yn ei wneud o ran bod yn llais cryf iawn dros ei aelodau. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn arbennig o ddeifiol. Mae'n dweud wrthym ni am yr effaith y mae cyflogau isel yn ei chael ar bobl, effaith swyddi ansefydlog ar bobl ac effaith contractau annheg ar bobl. Felly, o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i ymateb iddo, byddwn yn sicr yn edrych tuag at ein hymrwymiad i wneud Cymru yn genedl gwaith teg a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy'r Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar sut y gallwn ni wella'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, a sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym, ond hefyd i archwilio pa gamau ychwanegol eraill y gallai fod eu hangen, er enghraifft, gan gynnwys deddfwriaeth yn y dyfodol. Felly, bydd yr adroddiad hwn yn sicr yn ystyriaeth bwysig i'r comisiwn hwnnw sydd ar fin cyflwyno argymhellion ym mis Mawrth eleni.

A gaf i ofyn, yn sgil cyhoeddi heddiw adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sut y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ymdrin â'r ymchwiliad a'r adolygiad yn achos Kris Wade, bod y Gweinidog iechyd yn cynnal dadl yn amser y Llywodraeth ar y mater hwn, ac nid dim ond datganiad ysgrifenedig, a roddwyd inni heddiw? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym y byddai'n barod ym mis Rhagfyr, ac nid oedd, felly, yr wyf i, os nad unrhyw un arall, wedi aros yn hir i'r adroddiad hwn gael ei gyflwyno. Ynddo, mae'n dangos y bu yna fethiannau llywodraethu clir nad ydynt wedi cael sylw mewn nifer o adolygiadau ac adroddiadau eraill. Ac mae sgil-effeithiau i'r adolygiad hwn, nid yn unig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond i fyrddau iechyd eraill. Felly, hoffwn weld dadl ar lawr y Siambr hon fel y gallwn graffu ar arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o dan ei gadeiryddiaeth bresennol a hefyd deall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn wahanol nad yw wedi'i wneud hyd yn hyn yn yr holl adolygiadau eraill sydd wedi'u cynnal yn gysylltiedig â'r achos hwn, a hefyd ag achosion difrifol iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Hoffwn hefyd ofyn am ail ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ddoe, dywedodd aelod o staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth fy swyddfa y byddai copi o'r adolygiad ar gael dan embargo o 6.00 p.m. ddoe, ac roedd ar gael. Gofynnodd fy staff i AGIC pam na roddwyd yr adroddiad inni tan 6.00 p.m. a dywedwyd wrthym fod hynny er parch i'r teuluoedd er mwyn iddyn nhw allu gweld yr adroddiad yn gyntaf. Fodd bynnag, heddiw, dangoswyd neges e-bost i mi gan newyddiadurwr a oedd yn dangos bod yr adroddiad wedi'i anfon ato ef am 9 o'r gloch ddoe, cyn Aelodau Cynulliad yn y sefydliad cenedlaethol hwn, gan ddefnyddio y teuluoedd a'r rheini sy'n dioddef fel esgus dros beidio â'i ddangos i Aelodau'r Cynulliad er mwyn osgoi craffu. Rwy'n credu bod hynny'n syfrdanol. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl annerbyniol. Felly, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i ddangos sut y digwyddodd hyn a pham nad yw Aelodau'r Cynulliad yn cael eu parchu pan fydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi.

14:55

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi gwneud y datganiad ysgrifenedig hwnnw yr ydych yn cyfeirio ato heddiw. Mae'r adroddiad yn gwneud 24 o argymhellion, tri ohonynt i Lywodraeth Cymru eu gweithredu ar sail Cymru gyfan, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn pob un o'r tri argymhelliad hynny i Lywodraeth Cymru yn eu cyfanrwydd. Mae ef hefyd yn disgwyl i bob bwrdd iechyd roi ystyriaeth lawn i'r canfyddiadau ac i'r bwrdd iechyd penodol roi ystyriaeth lawn i'r argymhellion ar ei gyfer, gan sicrhau yr ymdrinnir â nhw a bod y newidiadau hynny yn cael eu hymgorffori yn y polisïau a'r gweithdrefnau.

Mae ef hefyd wedi gofyn i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol weithio gyda'r GIG i wella ymhellach y dulliau o rannu'r hyn a gaiff ei ddysgu am ddiogelu. Mae'r gwaith wedi symud ymlaen yn dda gyda'r byrddau diogelu yng Nghymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu gweithdrefnau diogelu sy'n ategu'r canllawiau statudol presennol. A bydd yn gofyn i'r byrddau diogelu hynny ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hefyd. Mae'n disgwyl i'r holl fyrddau iechyd ar y cam hwn i ystyried y canfyddiadau hyn.

Yn amlwg, mae hwn yn ddiwrnod anodd iawn i'r menywod sy'n rhan o'r achos ac i'w teuluoedd, ac mae ein meddyliau gyda nhw, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi hyn. Wrth gwrs, mae'n debyg mai'r cyfle cyntaf y byddai ganddi i'w godi ar y llawr gyda'r Gweinidog fyddai drwy gwestiynau amserol a byddai'r Gweinidog yn barod i dderbyn un pe byddai'n cael ei gytuno.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, hoffwn ofyn am dri datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar reoli traffig trefol. Bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth i yn Beaufort nos Wener, ac fe'm syfrdanwyd i glywed pobl yn siarad yno am y peryglon y maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ar hyd y ffyrdd drwy'r gymuned. Clywais am blant yn cael eu taro i lawr, am bobl yn methu cerdded ar balmentydd ac am bobl yn ofni croesi'r ffordd. Yn amlwg, ni ellir disgwyl i bobl fyw yn yr amgylchiadau hyn. Ac felly, hoffwn ddeall gan Lywodraeth Cymru: pa bolisïau a pha brosesau sydd gan y Llywodraeth ar waith i flaenoriaethu a rheoli traffig mewn amgylcheddau trefol? Ni ellir disgwyl i bobl Beaufort fyw y bywydau y maen nhw'n eu byw, ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn gallu creu'r strwythurau a'r fframweithiau i'w defnyddio i wneud penderfyniadau i'w galluogi i fyw eu bywydau.

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol bysiau a'r polisi bysiau. Clywais y newyddion dros y penwythnos am y toriadau i wasanaethau yng Nghaerdydd. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld nifer o weithiau ym Mlaenau Gwent, ac mae gwasanaethau bysiau sy'n gwasanaethu cymunedau Blaenau Gwent ac sy'n cysylltu Blaenau Gwent â chymunedau mewn mannau eraill ac â chyfleodd cymdeithasol, siopa a gwaith yn chwalu'n llwyr. Nawr, mae'n ymddangos i mi, os nad ydym ni'n gallu cynnal gwasanaeth bws sy'n gwasanaethu prifddinas Cymru mewn ardal drefol a phoblog, yna mae'n rhaid bod yr argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau bysiau mewn mannau eraill llawer yn fwy. Hoffwn weld datganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud i ddatrys, ymateb ac ymdrin â'r argyfwng hwn. Rwy'n ymwybodol bod yna ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac rwy'n ymwybodol bod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu ar y mater hwn cyn diwedd y Cynulliad hwn. Ond mae hynny'n mynd i fod yn dair, neu o bosib pedair blynedd cyn y cawn ni ateb i'r broblem hon. Nid wyf yn credu y gallwn ni aros cyhyd â hynny. Rwy'n credu bod angen inni gael ymateb gan y Llywodraeth yn gynnar ac o fewn yr ychydig wythnosau neu fisoedd nesaf i ymateb i'r hyn yr wyf i'n credu sy'n argyfwng gwirioneddol sy'n wynebu gwasanaethau bws ar hyd a lled Cymru.

Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddynodi safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a lleoedd arbennig eraill. Mynychais ymchwiliad cyhoeddus fore dydd Gwener ym Mlaenafon gyda'r Aelod dros Dor-faen, fy ffrind da Lynne Neagle, a bu'r ddau ohonom yn siarad yn yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw am y cais a allai fod yn drychinebus a dinistriol i gloddio mewn ardal a elwir yn 'Tir Pentwys', sy'n ffinio ein dwy etholaeth. Nawr, er na fyddwn i'n disgwyl i'r Llywodraeth wneud sylwadau ar unrhyw ymchwiliad cynllunio byw, yr hyn y byddwn i yn disgwyl y byddai'r Llywodraeth yn gallu ei wneud yw rhoi syniad bras inni o'i pholisi a'i dull o ddynodi ardaloedd yn gyffredinol. Nid yw mor bell yn ôl â hynny pan  oeddwn i'n sefyll yma yn lansio parc rhanbarthol y Cymoedd ac yn sôn am uchelgeisiau a dymuniadau'r Llywodraeth i'n gweld ni'n mwynhau tirwedd a threftadaeth Cymoedd de Cymru, ac rydym ni bellach yn gweld busnes sydd eisiau dinistrio'r dreftadaeth a'r dirwedd honno. Mae'r ddau beth yn gwbl anghydnaws. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu gwneud datganiad ar y mater hwn hefyd.

15:00

Diolch i chi am godi'r materion hyn. Ar y pwynt olaf ynglŷn â dynodiad SoDdGA ac ardaloedd arbennig eraill, byddaf yn sicr o ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder yr ydych yn ei geisio o ran esbonio'r polisi a'r dull o ymdrin â'r ardaloedd dynodedig.FootnoteLink

Unwaith eto, ar fater gwasanaethau bws, cefais sgwrs gyda'r Gweinidog dros drafnidiaeth i drafod pryd y byddai modd iddo geisio cyflwyno datganiad a fyddai'n ateb y cwestiynau a godwyd gennych chi. Tynnaf eich sylw hefyd at rai o'r atebion, rwy'n credu, a roddodd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, a oedd yn ymdrin â rhai o'r materion hynny ynghylch rheoli traffig trefol. Ond pe byddech yn dymuno ysgrifennu at y Gweinidog trafnidiaeth yn uniongyrchol ynglŷn â'r maes penodol y mae gennych bryderon yn ei gylch, rwy'n siŵr y byddai 'n awyddus i ymchwilio ymhellach i hynny.

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu: Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Newid Deddfwriaethol

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ddiwygio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu ac ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer newid deddfwriaethol. A dwi'n galw ar y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, i gyflwyno'r datganiad. Kirsty Williams. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae cyhoeddi Papur Gwyn y cwricwlwm ac asesu yn garreg filltir bwysig ar daith bresennol diwygio addysg yng Nghymru. Mae hon hefyd yn eiliad arwyddocaol yn ein hanes fel pobl sy'n ystyried addysg yn fenter i'r unigolyn, i'r gymuned ac i'r genedl. Am y tro cyntaf erioed, rydym yn cyflwyno cynigion deddfwriaethol a 'luniwyd yng Nghymru' ar gyfer y cwricwlwm ysgol. Ie, a luniwyd yng Nghymru, ond a ddatblygwyd gan y gorau yn y byd. Mae'n hanfodol ar gyfer cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol ein bod yn codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd.

Dyma wireddu'r alwad a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan yr addysgwraig flaengar, Elizabeth Phillips Hughes. Hi oedd pennaeth cyntaf y Coleg Addysg i Fenywod yng Nghaergrawnt, a daeth yn ei hôl adref i fod yr unig fenyw ar y pwyllgor a ddrafftiodd Siarter Prifysgol Cymru. Wrth ddadlau achos addysg ar y cyd, hyrwyddo addysg i ferched a phwysigrwydd dimensiwn Cymreig i'n system addysg, dywedodd fod

yn rhaid i addysg fod yn genedlaethol, ac mae'n rhaid iddi fod yn ein dwylo ni ein hunain.

A heddiw, rydym yn symud ymlaen ar yr addewid hwnnw.

Mae nodweddion hanfodol y cwricwlwm presennol, a ddyfeisiwyd ym 1988 gan Lywodraeth San Steffan ar y pryd, yn henffasiwn erbyn hyn oherwydd y newidiadau diweddar a'r newidiadau sydd i ddod eto o ran technoleg a datblygiad ein cymdeithas a'n heconomi. Mae'r pwyslais yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfarwyddiadau wedi tueddu i greu diwylliant sy'n llesteirio creadigrwydd. Bu cyfyngu ar addysgu a dysgu, ac ni chafodd cyfraniad proffesiynol y gweithlu ei ddatblygu'n ddigonol.

Er mwyn codi safonau i bawb ac ehangu cyfleoedd, rwy'n gwbl glir bod angen rhoi grym i'r ysgolion ac athrawon i symud i ffwrdd oddi wrth gwricwlwm cyfyng, anhyblyg a gorlawn. Bydd ein cwricwlwm newydd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau uwch o ran llythrennedd a rhifedd, i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i esblygu'n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Bydd yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion hyderus, medrus a gofalgar yng Nghymru— yn wir, yn y byd.

Ers 2016, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhwydwaith o ysgolion arloesi, arbenigwyr ac amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu cwricwlwm newydd. Rwy'n ystyried hwn yn gryfder allweddol yn ein diwygiadau ni—diwygiadau i bobl Cymru, a ddatblygwyd gan bobl Cymru. Mae'r dull hwn wedi caniatáu inni gadw ysgolion a dysgwyr wrth wraidd ein datblygiadau ni. Mae wedi hybu perchnogaeth o ran y diwygiadau, sy'n allweddol i sicrhau bod y newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn gywir a chynaliadwy.

Byddwch yn ymwybodol eisoes o'r rhan fwyaf o'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig, gan eu bod yn adlewyrchu ac yn unol â'r argymhellion a nodir yn 'Dyfodol Llwyddiannus', conglfaen ein diwygiad o'r cwricwlwm. Rydym yn cynnig deddfwriaeth i sicrhau y bydd y pedwar diben a nodir yn 'Dyfodol Llwyddiannus' wrth hanfod y cwricwlwm newydd, a dysgwyr yn elwa ar rychwant eang o addysg. Byddwn yn dychwelyd at hanfodion addysg drwy gyflwyno meysydd dysgu a phrofiad, yn cwmpasu dyniaethau, iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, celfyddydau mynegiannol, a mathemateg. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n troi oddi wrth ddyddiau'r cwricwlwm cul ac yn symud ymlaen at wahanol ddull o addysgu a dysgu, sef cwricwlwm sy'n chwalu'r ffiniau traddodiadol rhwng pynciau ac yn rhoi hyblygrwydd i athrawon ar gyfer trin gwahanol faterion o wahanol gyfeiriadau. Gan ddefnyddio'r dull hwn, bydd ymarferwyr yn gallu defnyddio eu proffesiynoldeb a'u gwybodaeth arbenigol i greu a chynllunio gwersi sy'n ymestyn ein dysgwyr—yn ymestyn eu haddysg, yn ymestyn eu gallu ac, yn hollbwysig, yn ymestyn eu gorwelion nhw.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei drefnu fel continwwm dysgu rhwng tair a 16 oed. Bydd y pwyslais ar bontio'n ddi-dor, a chaiff cyfeiriadau at gyfnodau allweddol eu dileu. Yn hytrach, bydd cynnydd yn cael ei nodi drwy gamau cynnydd ar bum pwynt yn y continwwm dysgu, yn cysylltu'n fras â'r disgwyliadau ar gyfer oedrannau pump, wyth, 11, 14 a 16. Byddant yn gweithredu fel map o daith datblygiad pob dysgwr, gan ystyried cyfraddau dysgu a dealltwriaeth a phrofiadau a galluoedd unigol. Rwy'n bwriadu deddfu i ddiffinio'r camau hyn.

A ninnau'n genedl sy'n falch o'n dwyieithrwydd, bydd Cymraeg a Saesneg wrth gwrs yn parhau'n statudol, fel y bydd astudiaethau crefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ochr yn ochr â hyn, bydd y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd o ran llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn parhau'n statudol hyd at 16 oed.

Llywydd, mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Nid yn unig yr ydym yn datblygu cwricwlwm sy'n sicrhau bod ein dysgwyr â'r gallu i ateb anghenion y dyfodol, ond rydym hefyd yn datblygu cwricwlwm drwy gydweithredu gwirioneddol â'n hysgolion a'n rhanddeiliaid allweddol. Mae angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth, fel y caiff ei nodi yn y Papur Gwyn, yn ein galluogi ni i wireddu ein huchelgeisiau ac nid yn eu mygu nhw.

Rwy'n gofyn i'r Aelodau yn y Siambr heddiw, a phobl ledled Cymru, gyfrannu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae'r Papur Gwyn yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol, ond ni fyddwn yn cyrraedd y safonau uchel hynny heb genhadaeth a thrafodaeth genedlaethol o'r iawn ryw. Bydd cynnwys a manylion y cwricwlwm newydd yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs, ar ffurf drafft ym mis Ebrill eleni. Heddiw rydym yn gosod y sylfeini, gan ymgynghori ar y ddeddfwriaeth sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer y cwricwlwm newydd, ei egwyddorion, ei ryddid, a'r strwythurau a fydd yn ei gefnogi. Diolch.

15:05

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog? Rydych chi'n hollol iawn, bydd hwn yn newid enfawr i Gymru, ond gyda phob newid enfawr ceir perygl y bydd rhai yn colli'r trywydd. A thra bod gennych chi, wrth gwrs, gefnogaeth lawn gan bawb yn y Siambr hon o ran egwyddor gyffredinol y polisi, rwy'n gobeithio, y maen prawf hyn ar gyfer hyn fydd yr hyn a gaiff ei gyflawni'n ymarferol, ac a fydd yn sicrhau'r canlyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld.

Sôn yr ydym, mewn gwirionedd, yn y fan hon am ddarn o ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n mynd i grybwyll hynny i raddau helaeth iawn yn y cyd-destun hwnnw. Roeddwn yn falch o weld bod yr egwyddorion cyffredinol—ac maen nhw wedi bod ers amser—yn fwy eglur na'r hyn sydd gennym yn y ddeddfwriaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Rydych chi eisiau symud i ffwrdd oddi wrth system sy'n rhoi cyfarwyddiadau. Rwy'n eich credu pan ddywedwch chi hynny, ac rydym ni, Geidwadwyr Cymreig, wedi dweud bob amser wrth gwrs ein bod yn awyddus i athrawon fod yn rhydd i ddysgu ac na ddylem gael gormod o gyfarwyddyd yn y cyswllt hwn. Ond, wrth gwrs, mae hynny wedyn yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar atebolrwydd gweladwy. Ansawdd yr athrawon a'r addysgu, a chredaf mai honno fwy na thebyg yw'r ffactor fwyaf—ond ni fyddaf yn siarad gormod am hynny heddiw—a gwelliant mewn safonau o ran cyrhaeddiad, o ran cyflawniad, y bydd y bobl ifanc eu hunain yn credu sy'n werthfawr, yn ogystal â'r hyn y bydd Cymru fel cymdeithas yn ei gredu fydd yn werthfawr i ni fel cenedl, yn enwedig i'n heconomi.

Felly, rydym yn sôn nawr am yr hyn fydd yn effeithiol er mwyn darparu hyn mewn ffordd sy'n ein helpu i feithrin dinasyddion cyflawn a all gyflawni er eu mwyn eu hunain ac er mwyn eu gwlad. A dyna pam yr oeddwn yn awyddus i ofyn, yn wir, pam nad yw'r gair 'cyfrifoldeb' ond wedi ymddangos mewn un man yn yr hyn y bydd ein pobl ifanc yn ei gyflawni yn y chwe maes dysgu. Rwyf i o'r farn ei bod yn beth ardderchog i ni weld geiriau fel 'hyder' a 'chydnerthedd', a'r gallu i gymryd rhan neu fod â rhan mewn penderfyniadau. Ond os nad yw ein haddysg yn helpu pobl i symud ymlaen oddi wrth barchu anghenion pobl eraill yn unig, sydd yn nod a bennir, i ystyried y gallen nhw fod â chyfrifoldeb gwirioneddol i helpu pobl i fodloni'r anghenion hynny, yna rwy'n credu y gallem gael trafferth o bosib wrth lunio polisi gwir gydgynhyrchiol yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, yn fy marn i, dyna lle mae angen y newid enfawr, y newid yn y chwarae, os hoffech, gyda pholisi cyhoeddus yn y dyfodol—ymhlith newidiadau eraill.

Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn dweud bod fy mhwynt i yn cael ei gwmpasu yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, a byddai'n wych pe gallech nodi sut yn union y credwch y bydd hynny'n digwydd. Ond nid yw'n eglur i minnau chwaith ar hyn o bryd sut y bydd y rhannau hynny o'r cwricwlwm ar y dinasyddion da, os hoffech chi, yn cydbwyso â'r meysydd addysg sy'n cael eu harholi. Rwy'n llwyr groesawu'r angen i leihau'r chwarae a all fod yn y system bresennol, ond rwy'n credu hefyd bod angen inni gadw llygad ar osgoi meysydd newydd o chwarae gemau lle mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau naill ai'n troi o blaid canlyniadau arholiadau neu'n osgoi cwestiynau anodd am ganlyniadau arholiadau drwy ganolbwyntio ar y gweithgarwch nad yw'n cael ei arholi. Oherwydd pan fyddwn ni'n sôn am ryddid i athrawon—ac, fel y dywedaf i, rwy'n cytuno â chi yn hyn o beth—dim ond ceisio darganfod pa mor rhydd yn union a fydden nhw yw hyn. A fydden nhw'n ddigon rhydd mewn gwirionedd i osgoi'r amcanion polisi a nodwyd o ran yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni yma? Felly, efallai y gallwn drafod rhywfaint ar hynny.

Cyfeiriais at yr hyn y mae'r bobl ifanc eu hunain yn ei ystyried yn werthfawr, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ryw syniad i ni ynghylch sut mae'r plant a'r bobl ifanc eu hunain wedi bod â rhan yn y cyswllt hwn hyd yn hyn. Mae'r Papur Gwyn yn sôn am sylw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), sef bod Llywodraeth Cymru a'r sector addysg wedi bod yn gweithio'n agos â'i gilydd. Ond byddai'n fuddiol iawn cael amcan o'r hyn y mae'r rhai a fydd yn derbyn yr addysg hon ar ei newydd wedd yn teimlo ynglŷn â'r peth.

Rwy'n siŵr y bydd hon yn sioc enfawr i chi, Gweinidog, ond hoffwn sôn am adfywio cardiopwlmonaidd a sgiliau cymorth cyntaf—a'u lle yn y cwricwlwm. Gwn eich bod wedi clywed y dystiolaeth i gyd—tystiolaeth sydd wedi perswadio llywodraethau eraill, nid yn unig y DU, fod hyn mor werthfawr fel nad ydyn nhw wedi rhoi'r rhyddid i athrawon benderfynu ar hyn. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad iechyd a Lles yn siarad ag unigolion am gymryd gofal o'u hunain, ond nid yw'n cyfeirio llawer iawn mewn gwirionedd at gymryd gofal o bobl eraill, sy'n mynd yn ôl at fy mhwynt cychwynnol ynghylch cyfrifoldeb y naill i'r llall. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pam, ar hyn o bryd, mae'n edrych fel pe byddai plant Cymru dan anfantais efallai o'u cymharu â'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r byd, o ran medr y bydden nhw nawr yn ei gymryd yn ganiataol.

Rwy'n ymwybodol o adael rhai cwestiynau i eraill, ond mae gennyf i rai eto. O, ie — atebolrwydd. Nawr, rwy'n derbyn y bydd y dull y caiff atebolrwydd ei fesur ynddo o hyn ymlaen yn parhau i fod yn rhywbeth a gaiff ei drafod yn y Cynulliad hwn. Ond yr hyn yr hoffwn rywfaint o arweiniad arno heddiw, oherwydd rydym yn sôn am ddeddfwriaeth, yw pa gamau a fyddech yn eu cymryd ac yn cyfeirio atyn nhw mewn deddfwriaeth os na chaiff y ddolen gyswllt wan hon, fel y'i disgrifiwyd gan yr OECD, rhwng atebolrwydd a gwelliant yng Nghymru, ei disodli a hynny'n fuan iawn, gan ddolen gyswllt sy'n gweithio, yn arbennig gan fod y Papur Gwyn yn dweud y bydd rhai o'r mesurau atebolrwydd presennol yn cael eu cadw?

Dim ond yn fyr ar y Gymraeg a'r geiriad o ran dysgu'r Gymraeg mewn gwahanol fannau yn y Papur Gwyn—credaf fod angen inni edrych ar hynny ryw ddiwrnod eto. Nid oes llawer o amser gennym ni heddiw. Roeddwn yn arbennig o awyddus i ofyn, serch hynny, am gyflwyniad dysgu Saesneg mewn mannau lle ceir addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant ifanc iawn, a gallaf ddeall ar sail tegwch efallai, wrth i ni gyflwyno cymaint o Gymraeg mewn mannau addysg cyfrwng Saesneg, y gallai hyn fod yn ymgais i beidio â thrin un iaith yn fwy ffafriol na'r llall. Ond nid yw'r rhain yn sefyllfaoedd cyffelyb, ac rwyf i o'r farn y byddai o gymorth pe gallech roi rhywfaint o dystiolaeth i ni sy'n awgrymu bod y plant ifanc iawn hynny sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gontinwwm neu fel arall, mewn rhyw ffordd dan anfantais y byddai cyflwyno Saesneg yn eu bywydau yn y cyfnod hwnnw'n ei oresgyn. Fel y dywedaf, nid yw'r rhain yn sefyllfaoedd cyffelyb, ac nid wyf i'n credu y gellir eu trin yn yr un modd. Wrth fynd heibio, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno ieithoedd tramor modern yn y Meysydd Addysg a Phrofiad mewn ffordd fwy gweladwy cyn cyfnod allweddol 3. Gwn nad yw hynny'r un peth â'r iaith Gymraeg, ond rwy'n gofidio'n fawr am ddyfodol ieithoedd tramor modern, hyd yn oed gyda'r cwricwlwm hwn.

Ac yna, yn olaf—fel y dywedaf i, byddaf yn cadw hyfforddiant athrawon i'w drafod eto. Rwy'n falch o weld y byddwch yn rhoi rhai dyletswyddau i Lywodraeth Cymru ar wyneb y Bil. Tybed a oes modd gofyn i chi ystyried dyletswydd yn hytrach na phŵer i gyflwyno canllawiau statudol i helpu Llywodraeth Leol, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgol ynglŷn â sut y gallen nhw roi tystiolaeth o'u cyflawniad o'r dyletswyddau hynny ynghylch y pedwar diben? Gwn y byddwch chi'n dweud, 'Wel, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, ac mae sôn amdano yn y Papur Gwyn mewn gwirionedd'. Ond drwy ymrwymo i ddyletswydd i gyflwyno canllawiau—ac nid wyf i'n awgrymu beth ddylai fod yn y canllawiau hynny—credaf fod hynny'n rhoi peth cysur i'r rheini sy'n chwilio am sicrwydd yn y ddeddfwriaeth. Credaf fod angen imi roi rhybudd teg i chi y byddwn yn edrych ar lunio'r dyletswyddau hynny mewn gwelliannau ryw bryd ar gyfer cyflwyno ac adolygu canllawiau statudol, i fod â rhai pwerau i amrywio'r cyfarwyddyd hwnnw ar ôl craffu gan Senedd Cymru, a hefyd, fel y soniais yn gynharach, i weld pa bwerau yr ydych yn awyddus i'w cael er mwyn cymryd camau pe na fyddai'r dyletswyddau eraill yn cael eu bodloni.

Felly, rydych yn ymwybodol eisoes o'r datganiadau o ansicrwydd ynghylch cyflawni'r polisi—rydym ni wedi trafod hynny yn y Pwyllgor ac ychydig bach ar hynny yn y Siambr. Felly, mae gennych waith i'w wneud ar hynny, ac, mewn gwirionedd, fel deddfwrfa, rydym ni'n dymuno eich helpu chi i ymateb i rai o'r pryderon hynny. Credaf y bydd hynny'n ein helpu ni oll—rwy'n golygu ni yn Senedd a chithau yn Llywodraeth—pe byddai eich Bil yn ceisio creu sicrwydd i'r rhai a fydd yn gyfrifol am roi'r Bil ar waith maes o law ac nad yw'n ymuno â'r rhestr o gawsiau tyllog o'r Swistir sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Diolch yn fawr iawn.

15:15

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y rhestr faith o gwestiynau? Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw orau y gallaf ac mor gyflym ag y gallaf. Rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod y ceir mwy o eglurder ynghylch dibenion y cwricwlwm. Wrth gwrs, canfyddiad gan Graham Donaldson oedd hwn yn ei adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus', a oedd yn mynegi bod angen i ni gael yr eglurder hwnnw, ac rwyf i o'r farn ein bod ni wedi cael hynny.

Yn ddealladwy, fel sy'n digwydd bob amser yn y trafodaethau hyn, tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ar ddiwedd y broses. Yn amlwg, bydd angen i'r cymwysterau yng Nghymru gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Un o'r pethau yr ydym wedi bod yn ofalus iawn yn eu gwneud yn ystod y broses gyfan yw ymgysylltu â Chymwysterau Cymru fel y ceir rhagolwg cynnar gan ein corff cymwysterau o'r hyn y bydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau aliniad gwirioneddol. Dyna hefyd un o'r rhesymau pam y penderfynais ohirio cyflwyno'r cwricwlwm.

Yn wreiddiol, lluniwyd hyn gyda'r bwriad o wneud popeth ar unwaith ac y byddai'r system gyfan yn symud at y cwricwlwm newydd dros nos. Yn amlwg, roedd hynny, o bosibl, yn beryglus i'r myfyrwyr hynny a oedd yn cyrraedd diwedd eu haddysg orfodol ac yn gweithio tuag at yr arholiadau tyngedfennol hynny. A dyna pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad i gyflwyno'r rhaglen yn raddol. Felly, wrth gwrs, ni fydd y cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd hwn yn digwydd mewn gwirionedd tan 2026. Mae hynny'n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, ond rydym eisoes yn y broses gynllunio ar gyfer yr hyn y bydd y newid hwn yn y cwricwlwm newydd yn ei olygu i gymwysterau.

Rhagweld yr wyf i, Llywydd, y bydd Suzy Davies a minnau'n cael dadleuon hir ynghylch dyletswyddau a chanllawiau statudol. Wrth gwrs, wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei drafftio a'i chyflwyno, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r rheini. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynghylch y dyletswyddau a fydd ar wyneb y Bil—dyletswyddau i Lywodraeth Cymru a dyletswyddau i ysgolion a phenaethiaid a chyrff llywodraethu, a'r hyn a ofynnir ganddyn nhw. Ond rwy'n awyddus i ystyried y safbwyntiau a ddaw gerbron yn ystod y papur ymgynghori hwn, yn gyntaf oll, ac yna wrth i ni symud ymlaen at y ddeddfwriaeth. Byddaf yn dechrau ar y trafodaethau hynny gyda meddwl agored.

Gofynnodd yr Aelod pa ran a gafodd plant yn y broses hyd yn hyn. Gadewch i mi roi enghraifft glir iawn i chi: byddwch yn ymwybodol o'm datganiad i, a datganiadau blaenorol yr wyf wedi eu gwneud, y byddwn yn rhoi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar wyneb y Bil. Mae hynny mewn ymateb i argymhelliad gan adroddiad y grŵp arbenigol a phwysau'r dystiolaeth a roddodd y bobl ifanc eu hunain i'r broses honno ynglŷn â pha mor bwysig oedd hyn. Mewn gwirionedd, dyma enghraifft o ymwahanu oddi wrth 'Ddyfodol Llwyddiannus'—mae hwn yn ychwanegiad newydd—ond rydym yn gwneud hyn gan fod  pwysau'r dystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain a gafodd ei fwydo i'r broses honno yn dangos eu bod eisiau gweld y newid hwn ac rydym wedi gwrando ar hynny. Ac un enghraifft yn unig yw honno.

Yn amlwg, cafwyd enghreifftiau eraill lle mae pobl ifanc wedi ymgysylltu, ond, yn hollbwysig, byddwn yn gwneud corff penodol o waith pan gyhoeddir y Meysydd Addysg a Phrofiad adeg y Pasg, pan fydd gennym rywbeth diriaethol i'w drafod gyda phlant a phobl ifanc. Wrth gwrs, mae'n demtasiwn siarad ar hyn o bryd am yr hyn a roddir yn y ddeddfwriaeth a beth sy'n briodol mewn gwirionedd i'r Meysydd Addysg a Phrofiad unigol. Bydd yn rhaid i Suzy Davies aros ychydig eto nes y bydd y Meysydd Addysg a Phrofiad hynny'n cael eu cyhoeddi adeg y Pasg. A bydd hynny, gobeithio, yn taflu rhywfaint o oleuni ar rai o'r cwestiynau eraill a godwyd ganddi hi. Ar yr un pryd, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am asesu a gwerthuso i gyd-fynd â chynnwys y Meysydd Addysg a Phrofiad. Mae'r Papur Gwyn yn nodi rhai dyletswyddau ynghylch asesu a sut y bydd asesu ar gyfer dysgu yn digwydd yn sgil y broses hon. Ac mae'n rhaid inni wahaniaethu bob amser rhwng asesu a gwerthuso—dau wahanol beth ydyn nhw, a gynlluniwyd at ddau wahanol ddiben yn ein system addysg, a chaiff manylion pellach ar y gwerthusiad a'r mesurau atebolrwydd eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

A gaf i ddod at fater iaith? Yn amlwg, nid oes dim yn y cynigion hyn a fydd yn tanseilio'r mater iaith yr wyf yn credu yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato, o ran addysg drochi, yn enwedig ar gyfer ein plant ieuengaf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod, sy'n gefnogol, rwy'n credu, i'r cyfnod sylfaen, yn ymwybodol o'r canllawiau cyfredol sydd ar gael i ymarferwyr y cyfnod sylfaen. Mae'n dweud y

dylid helpu plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad a chanddi ddwy iaith

a

Dylai sgiliau iaith a ddysgir mewn un iaith fod yn gefnogol i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall.

Mae hynny eisoes yn ein canllawiau ar y cyfnod sylfaen, y disgwylir i bob lleoliad cyfnod sylfaen ei gyflawni. Nid oes unrhyw beth yn y papur hwn y credaf y bydd yn tanseilio hynny.

Mae fy ymrwymiad i'r iaith fel rhan bwysig o'n system addysg yn un personol, oherwydd y dewisiadau a wneuthum i fy hunan—dewisiadau cadarnhaol yr wyf wedi eu gwneud i'm plant fy hun. Mae gennyf i dri tuag at darged 2050 y Llywodraeth a fydd yn ddwyieithog oherwydd y cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad proffesiynol ac yn ymrwymiad polisi.

Rwy'n falch iawn ein bod yn diwygio'r system addysg fel y bydd pob plentyn—pob un plentyn—yn cael cyfle mwy cyfartal i fod yn ddinesydd dwyieithog yn y genedl hon a dysgu mwy o ieithoedd hyd yn oed o oedran iau. Oherwydd, fel chi, rwyf innau'n rhannu eich pryderon ynglŷn ag ieithoedd tramor modern. Mae'n ddrwg gennyf os nad ydym wedi gwneud hynny'n glir yn y datganiad. Wrth gwrs, bydd cyfnod allweddol 3 yn diflannu; ni fydd unrhyw gyfnodau allweddol yn y broses newydd. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw cyflwyno ieithoedd eraill yn gynharach yn nhaith addysgol y plentyn, tra byddan nhw yn yr ysgol gynradd. Mae hynny'n golygu ieithoedd tramor modern, mae'n golygu ieithoedd o wareiddiad hynafol—roedd gan y Gweinidog blaenorol, mi wn, olwg arbennig ar Ladin. Rydym hefyd yn edrych ar ieithoedd cymunedol—felly, yr ieithoedd hynny sy'n cael eu siarad mewn gwahanol rannau o'n cymuned—ac Iaith Arwyddion Prydain hefyd. Bydd cyfle gan ysgolion, ac yn wir bydd yn ofynnol iddynt sicrhau y bydd y profiadau hynny ar gael yn y sector cynradd. Oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn rhy hwyr os arhoswch nes i'r plentyn fynd i'r ysgol uwchradd cyn cyflwyno ffyrdd eraill o gyfathrebu ac ieithoedd eraill, ac mae hynny wedi arwain at rai o'r problemau a welir o ran niferoedd ar hyn o bryd.

Rwy'n credu bod hynny'n cwmpasu, yn ddigon agos, y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod, ond rwy'n ddiolchgar am yr ysbryd cydweithredu a'r parodrwydd i fod â rhan yn y broses hon. Fel y dywedais, cenhadaeth genedlaethol yw hon ac rydym ni'n Gynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn dymuno gwneud cyfraniad.

15:20

Buaswn i'n licio mynd ar drywydd tair agwedd bwysig heddiw yma: hyfforddi'r gweithlu, trefniadau asesu, ac effaith y newidiadau ar gymwysterau. Dydy'r rhain ddim yn uniongyrchol yn ymwneud â'r Papur Gwyn, wrth gwrs, ond yn rhan o'r darlun mawr o'r newid anferth sydd i ddigwydd. Mi fydd y cwricwlwm newydd yn golygu newid chwyldroadol i ddulliau dysgu, felly beth ydy cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer ailhyfforddi'r gweithlu? Dwi yn defnyddio'r gair 'ailhyfforddi' yn hollol fwriadol er mwyn cyfleu lefel y dasg a'r newid yn fwy effeithiol na'r term 'datblygiad proffesiynol'. 

Mae ysgolion yn gweiddi allan am wybodaeth goncrit ynglŷn â pryd fydd hyn yn digwydd—hynny yw, pryd fydd yr ailhyfforddi mawr yma'n digwydd? Fydd o'n digwydd yn ystod oriau ysgol, tu hwnt i oriau ysgol, mewn diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol, neu beth? Mae angen syniad ynghylch y buddsoddiad ariannol fydd yn cael ei neilltuo i hyn—mwy o fanylion, os liciwch chi. Dŷch chi wedi clustnodi £100,000, dwi'n credu, ar gyfer datblygiad parhaus, ond ydy hynny yn ddigon? Mae rhyddhau athrawon yn gostus. Mae angen i'r cwbl fod wedi ei gynllunio yn ofalus ymlaen llaw. Mae angen cydnabyddiaeth o faint y dasg, ac mae angen pwysleisio bod hyn yn cynnwys athrawon dosbarth, cynorthwywyr dosbarth ac arweinwyr ysgol fel ei gilydd. Dwi yn ymwybodol na fydd hyfforddiant datblygiad proffesiynol yn rhan o'r Papur Gwyn, ond mae'r cwestiynau dwi'n meddwl sydd yn cael eu codi gan yr athrawon a gan yr undebau yn hollol berthnasol.  

Mae fy ail gwestiwn i ynghylch trefniadau asesu, a dŷch chi wedi sôn y byddwch chi'n cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â hynny yn y gwanwyn. Ar hyn o bryd, cyn cael y wybodaeth yna, mae athrawon yn pryderu nad ydyn nhw yn gallu cael syniad clir o natur a dull y trefniadau asesu fydd yn cydfynd â'r cwricwlwm. Dŷn ni'n gwybod am y profion ymaddasol blynyddol, a dŷn ni'n gwybod am newidiadau sylweddol a chadarnhaol yn dod o ran y trefniadau atebolrwydd ehangach, ond, o ran y camau cynnydd a'r deilliannau cyflawniad, mi fyddai'n dda cael mwy o eglurhad ynghylch hyn oll, a dwi'n cymryd mai'r bwriad fydd symud i ffwrdd o asesiadau athrawon fel maen nhw ar hyn o bryd.

Cwestiwn anferth arall lle nad oes yna unrhyw un fel petaen nhw'n fodlon mynd i'r afael ag o ar hyn o bryd ydy: beth fydd sgil-effaith y newidiadau i'r cwricwlwm ar gymwysterau, fel roedd Suzy yn sôn? Mi wnaethoch chi ddechrau ateb y cwestiwn, ond mae angen eglurder yn fuan iawn ar y mater yma. Roeddech chi'n sôn, 'O, mae 2026 yn bell i ffwrdd'. Wel, nac ydy, dydy 2026 ddim yn bell i ffwrdd, oherwydd mi fydd y garfan gyntaf o ddisgyblion sydd wedi dilyn y cwricwlwm newydd, sef y rhai fydd ym mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022, yn cyrraedd blwyddyn 10, sef yn dechrau cyrsiau TGAU, ym mis Medi 2025. Gweithio nôl o'r pwynt yna, bydd angen i'r manylebau ar gyfer y cymwysterau hynny fod wedi eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024 er mwyn i athrawon gael amser i ymbaratoi. Mae yna waith aruthrol i'w wneud yn gyntaf gan Cymwysterau Cymru o ran gosod y meini prawf, ac wedyn gan Cydbwyllgor Addysg Cymru, ac unrhyw gyrff dyfarnu eraill fydd â diddordeb cynnig cymhwyster, o ran llunio'r cymhwyster, a mynd drwy brosesau dilysu Cymwysterau Cymru. Dwi'n gwybod eich bod chi, yn ddealladwy efallai, wedi eisiau osgoi bod natur a chynnwys cymwysterau yn dylanwadu'n ormodol ar y cwricwlwm, ond mae'r amser wedi dod i fynd â'r maen i'r wal a gwneud penderfyniadau cadarn.    

Troi rŵan at fater sydd yn peri consern i mi hefyd, sef Cymreictod y cwricwlwm, ac fe hoffwn i wybod pa mor Gymreig fydd profiad y disgybl a faint o bwyslais fydd ar hanes Cymru. Dŷch chi'n sôn am ddimensiwn Cymreig; dwi'n sôn am gwricwlwm wedi ei wreiddio yn y profiad Cymreig, a dwi yn meddwl bod yna wahaniaeth yn fanna, a hoffwn i eglurder am hynny. Mae yna gwestiynau yn codi am y fframwaith ar gyfer y Gymraeg, a beth fydd y trefniadau asesu yn fan honno, a'r cwestiwn mawr sydd ddim yn cael ei ateb ar hyn o bryd ydy: beth fydd natur y cymhwyster neu gymwysterau o ran y Gymraeg? Mae diffyg eglurder ynglyn â hynny yn peri ychydig bach o ofid; mae yna wagle yn ei gylch o, ac mi fyddai'n dda cael dipyn bach mwy o gig ar yr asgwrn o safbwynt hwnnw.

Ac, yn olaf, dwi'n troi at yr hyn roedd Suzy wedi cychwyn sôn amdano fo—yr hyn sydd ar dudalen 35 yn yr adroddiad yn y ddogfen ymgynghori, ac yn fan hyn mae o'n dweud y bydd:

'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'

Rŵan mae hwnna yn taro rhywun fel rhywbeth chwithig iawn yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae cylchoedd meithrin y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cyflwyno eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae pob barn arbenigol yn pwysleisio bod trochi plant yn y Gymraeg yn yr oed cynnar yna—dyna ydy'r ffordd i gynhyrchu plant sydd yn rhugl yn y Gymraeg. Ac mae datganiad fel yna yn codi llawer iawn o gwestiynau, dwi'n meddwl, ac mae o wedi dychryn y Mudiad Ysgolion Meithrin yn sicr, ac mae'n ymddangos i mi yn mynd yn hollol groes i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, hoffwn i wybod ai camgymeriad ydy o mewn gwirionedd. Mae o'n ddatganiad mor od ac annisgwyl yn y cyd-destun dŷn ni ynddo fo yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n fy nharo i efallai mai camgymeriad ydy o, beth bynnag. 

Felly—

15:30

Gadewch i'r Gweinidog felly ateb rhai o'r cwestiynau. Dwi'n meddwl bod yna ddigon yn y cyflwyniad yna. 

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau. Mae hi'n hollol iawn, wrth gwrs, nad mater i'r Papur Gwyn yw gofynion dysgu proffesiynol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm. Ond er mwyn tawelu meddwl yr Aelod ni all unrhyw system addysg fod yn well nag ansawdd y sawl sy'n sefyll o flaen ein plant yn feunyddiol yng Nghymru, ac, felly, mae'n gwbl hanfodol bod â gweithlu proffesiynol sydd mewn sefyllfa i wireddu gweledigaeth y cwricwlwm. Dyna pam yr ydym wedi ymgymryd â phroses ddiwygiedig ar gyfer addysg gychwynnol athrawon. Nid yw wedi bod yn fêl i gyd, ac rydym yn hyderus y bydd y canolfannau darpariaeth addysg gychwynnol athrawon newydd sydd wedi eu dewis trwy'r broses drwyadl honno mewn sefyllfa i sicrhau y bydd y rhai sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn o'r newydd yn meddu ar y sgiliau sy'n angenrheidiol.

Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar lwybrau arloesol eraill at gymhwyster ar gyfer dysgu, a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran addysgu athrawon, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiadau ynglŷn â hynny cyn bo hir. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni roi sylw hefyd i anghenion y rhai sydd yn y gweithlu eisoes, a fydd, rwy'n gobeithio, yn parhau i fod yn y gweithlu am flynyddoedd lawer eto. Rwyf wedi cyhoeddi'r pecyn ariannol cymorth dysgu proffesiynol mwyaf erioed yn hanes datganoli yn y Siambr hon o'r blaen. Bydd rhai adnoddau sylweddol yn mynd i mewn nawr ac yn y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yr adnoddau hynny ar gael i ysgolion yn uniongyrchol, a bydd y penaethiaid, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth yw anghenion dysgu proffesiynol eu cydweithwyr yn eu hysgol, yn gallu gwneud cynlluniau unigol ar gyfer y defnydd o'r adnoddau hynny.

Rwy'n chwilio am ddull newydd, dull newydd ac arloesol o ddysgu proffesiynol. Credaf fod pethau wedi newid ers y cyfnod pan allem ddibynnu ar anfon pobl, i Gaerdydd fel arfer, i dreulio'r diwrnod yn gwrando ar bobl ddoeth ar lwyfan, ac yn mynd oddi yno gyda dim ond syniad prin o sut y gellid rhoi hynny ar waith mewn ystafelloedd dosbarth unigol. Mae angen i ni fod yn fwy clyfar na hynny.

Mae'r Aelod yn codi mater pwysig—ac rwy'n gwybod o siarad mewn cynadleddau penaethiaid cyn y Nadolig, fod mater diwrnod HMS, diwrnod HMS ychwanegol, yn un uchel ar yr agenda. Bydd yr Aelodau hynny sydd yn gyfarwydd â phrosesau is-ddeddfwriaeth yn gwybod, mewn gwirionedd, nad oes gennyf i mo'r pŵer i gyhoeddi diwrnod HMS ychwanegol. Rwyf wrthi'n ystyried a ddylid ei roi, ond bydd yn rhaid mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus a bydd yn ddarostyngedig i'r prosesau yma o fewn y Cynulliad ei hun. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad yn fuan ynghylch a gynhelir y broses honno. Ond rwy'n deall y bydd angen cyfle ar athrawon i baratoi eu hunain ar gyfer yr her newydd hon, fel y bydd ei angen ar ein harweinyddion ysgol, a dyna pam yr wyf wedi bod yn gwbl glir i'n Hacademi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, wrth gomisiynu rhaglenni i gefnogi penaethiaid presennol a darpar benaethiaid, y dylai eu gallu i gefnogi diwygio'r cwricwlwm yn eu hysgolion eu hunain fod yn rhan bwysig o hynny.

Pan ddywedais i fod 2026 ymhell i ffwrdd, nid bod yn wamal yr oeddwn i. Yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddweud mewn gwirionedd—nid yn ddigon eglur, mae'n amlwg—oedd y daw hynny cyn inni sylweddoli. A dyna pam mae wedi bod yn gwbl hanfodol i mi ein bod wedi cael Cymwysterau Cymru yn cymryd rhan yn y broses o'r cychwyn cyntaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n barod i ddeall y goblygiadau i gymwysterau o ganlyniad i'r newidiadau hyn i'r cwricwlwm. A phe carai'r Aelod gael rhagor o fanylion, byddwn yn hapus i hwyluso cyfarfod rhyngddi hi a Chymwysterau Cymru, fel y gall hi glywed, gyda mwy o amser nag yr wyf i'n gallu ei roi yma'r prynhawn hwn, a thrafod natur y gwaith hwnnw, gan gofio, wrth gwrs, fod cymwysterau bellach hyd braich oddi wrth Weinidogion.

Daw hynny â mi at fater asesu. Bydd angen newid manylion a phwyslais ein trefniadau asesu ni ar gyfer rhoi'r gefnogaeth orau i'r cwricwlwm newydd. Prif ganolbwynt asesiad yn y dyfodol fydd sicrhau bod yr holl blant a'r bobl ifanc yn deall sut y maent yn perfformio, ac, yn hollbwysig, yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud nesaf ar gyfer gwneud cynnydd a dod yn eu blaenau. Felly bydd yna fwy o bwyslais yn cael ei roi ar asesu ffurfiannol, i lywio'r camau nesaf ar gyfer dysgu ac addysgu. I gryfhau'r berthynas rhwng y cwricwlwm ac asesu, a chanolbwyntio ar gynnydd pob plentyn, ni cheir lefelau mwyach. Yn hytrach, caiff asesiad ei seilio ar ddeilliannau cyflawniad, a gyhoeddir ochr yn ochr â chynnwys y Meysydd Addysg a Phrofiad. Ac fe fyddan nhw'n nodi'n bendant yr hyn y mae cyflawniad yn ei olygu ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad hynny. A'r hyn yr wyf yn ei gynnig—ac sy'n cael ei gynnwys yn y Papur Gwyn—yw y bydd gan benaethiaid ddyletswydd i bennu deilliannau cyflawniad ar gyfer cefnogi'r holl blant a'r bobl ifanc yn eu hysgol, i deithio yn eu blaenau ar hyd y continwwm dysgu. Ac i sicrhau y ceir cysondeb rhwng ysgolion, rydym yn cynnig y bydd yn rhaid iddyn nhw roi ystyriaeth i'r deilliannau cyflawniad, a fydd, fel y dywedais, yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Felly, bydd y canolbwyntio ar asesiadau athrawon yn parhau, ac asesu ar gyfer dysgu, ochr yn ochr â'n cyfundrefnau asesu eraill, fel y profion ymaddasol ar-lein. O ran gwerthuso, sydd, fel y dywedais i'n gynharach, yn rhywbeth gwahanol—a dyna sut yr ydym yn dal y system i gyfrif, yr ysgolion unigol a'r system yn ei chyfanrwydd—caiff manylion am hynny eu cyhoeddi yn nes ymlaen.

O ran yr iaith Gymraeg, roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael cefnogaeth Cymdeithas yr Iaith ddoe, sydd wedi croesawu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran y continwwm dysgu Cymraeg yn fawr iawn. A byddwn yn pellhau oddi wrth y gwahaniaeth hwn rhwng yr hyn a ddosberthir yn 'iaith gyntaf', a'r hyn sy'n 'ail iaith'. Mae'n hen bryd inni weld hynny'n digwydd yn ein system ni, ac rwy'n falch iawn ein bod cyrraedd y sefyllfa o fod yn sefydlu continwwm. Bydd y continwwm hwnnw'n bodoli hefyd, wrth gwrs, ar gyfer yr iaith Saesneg, a byddem yn disgwyl i blant deithio ar hyd y naill gontinwwm neu'r llai, ar gyfradd ac mewn ffordd sy'n gymesur â natur iaith yr addysgu yn eu hysgol. Felly, wrth reswm, byddem yn disgwyl plentyn sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae iaith y dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—y byddai'r plentyn hwnnw fwy na thebyg yn symud ymlaen ar hyd y camau cynnydd yn gyflymach. Ond ein bwriad ni yw adolygu'r camau cynnydd yn barhaus fel y gallwn ni ychwanegu trylwyredd ychwanegol at y system wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

Byddaf i'n gwbl glir, fel yr oeddwn i gyda Suzy Davies: mae'n ofynnol yn y cyfnod sylfaen eisoes i blant ddatblygu ymwybyddiaeth o'n dwy iaith ni, ac mae sgiliau iaith a ddysgir mewn un iaith yn cefnogi datblygiad a gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall. Nid oes dim yn y fan hon a fydd yn tanseilio mater trochi. Ac mewn gwirionedd—yn y 'cylchoedd' yr wyf yn eu hadnabod orau, yn sicr, mewn ardaloedd o Gymru lle mae angen i fwy o bobl wneud dewis cadarnhaol, i ddewis cylch, a dewis cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant—mae'r 'cylchoedd' hynny'n gweithio mewn ffordd ddwyieithog, yn arbennig ar gyfer plant fel fy mhlant i, sy'n dod o deulu cwbl ddi Gymraeg, i allu ymgartrefu, a gallu mwynhau eu hamser yno, a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Ac nid oes dim yn y cynigion hyn a fyddai'n tanseilio hynny.

Mewn gwirionedd, byddwn hyd yn oed yn mynd cyn belled â dweud nad yw'n gredadwy dweud y byddai unrhyw gynnig yn y papur hwn yn niweidio ein huchelgais ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg, a pheth arall a ddywedaf yw y dylech weld fy mewnflwch Gweinidogol. Rwy'n ceisio cadw at fy egwyddorion a sicrhau bod ansawdd y dysgu yng Nghymru cystal ag y gallai fod. Ond mae hynny'n golygu fy mod i'n cael rhai negeseuon e-bost cas iawn yn fy mewnflwch, ac mae'n dangos i mi fod gennym ffordd bell i'w theithio eto—ffordd bell i'w theithio—i ennill y ddadl o ran profi mai cael plant sy'n ddwyieithog yw'r rhodd orau bosib y gallwn ei rhoi i'n plant a'n pobl ifanc.

Ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn am rywfaint o'r iaith a ddefnyddiwn ni ein hunain wrth drafod y materion hyn. Rwy'n cael fy synnu'n aml yn fy mewnflwch fod gennym ni rieni sy'n ysgrifennu ataf nad ydyn nhw'n credu y dylai eu plant gael gwersi Cymraeg o gwbl—o gwbl—yn ein system ni. Wrth inni gyflwyno system sy'n—. Fel y dywedais i, rwy'n awyddus i sicrhau bod ein plant i gyd yn cael cyfle cyfartal i fod yn siaradwyr dwyieithog—. Wedyn, mae angen inni symud ymlaen yn ofalus, a sicrhau nad ydym yn codi bwganod, nac yn teimlo bod mater yr iaith yn cael ei danseilio mewn unrhyw ffordd.

15:40

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich datganiad yn rhoi disgrifiad crand iawn o gynllun crand iawn ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac ni allaf fi ddweud fy mod i'n anghytuno ag amcanion y cwricwlwm hwnnw. Ond, fel y gwyddoch chi, mae Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi dweud y gallai addysgu disgyblion ddigwydd trwy hap a damwain, gan fod y cynlluniau mor amwys. Rydych chi wedi dweud, heb unrhyw brofiad addysgu o gwbl—. Rydych chi wedi bod mor feiddgar â dweud nad ydyn nhw'n deall y cynigion neu eu bod yn gweithio ar wybodaeth henffasiwn. Wel, os nad ydyn nhw'n deall y cwricwlwm newydd, neu eu bod yn gweithio ar wybodaeth sy'n henffasiwn, mae'r bai ar y broses a roddwyd ar waith i esbonio'r cwricwlwm newydd a darparu'r wybodaeth amdano. Os yw'r bobl hanfodol ar ei hôl hi neu heb ddeall y cwricwlwm, yna cyfrifoldeb y Gweinidog yw cywiro hynny. Felly, byddwn i'n gofyn beth pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud hynny.

Byddwn i'n awgrymu mai'r broblem wirioneddol yn y fan hon yw bod y CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yn deall y cwricwlwm newydd, ond yr ymddengys eu bod nhw'n bryderus ynghylch a yw'r cwricwlwm yn ddigon eglur i alluogi athrawon i'w gyflawni, a gwneud hynny'n gyson ledled Cymru. Maen nhw wedi dweud ym maes dysgu iaith a llythrennedd

Ceir llawer o themâu uchel ael a mawreddog ar draul hanfodion datblygu sgiliau iaith–siarad, darllen ac ysgrifennu

a'i bod yn ymddangos mai gwyddoniaeth a thechnoleg yw'r maes 'lleiaf datblygedig'. Dylai hyn beri pryder i bawb. Mae'n ymddangos hefyd bod hanfodion dysgu—fel y maen nhw'n eu galw nhw—yn ail i'r uchelgais am themâu mawreddog.

Fy nghwestiwn i yw a fydd y Gweinidog yn ystyried y beirniadaethau hyn neu'n parhau i wadu y gallai problem fodoli yma? Rwy'n deall bod y Gweinidog yn awyddus i gael mwy o ymreolaeth i athrawon ac ysgolion. Onid yw hynny'n gwrthdaro â'r penderfyniad i orfodi ysgolion i fabwysiadu eu gweledigaeth hi o asesiadau wedi eu personoli ac addysg cydberthynas a rhywioldeb? Felly, Gweinidog, faint yn fwy o ymreolaeth wirioneddol yr ydych chi'n dymuno gweld yr ysgolion ei chael? A beth yw'r meysydd na fyddech chi'n fodlon iddyn nhw gael mwy o annibyniaeth ynddyn nhw?

Nid yw cymwysterau ond mor werthfawr â'r enw da sydd iddyn nhw. Bydd yn rhaid i'r cwricwlwm newydd anelu at gymhwyster ar ei ddiwedd. Ond nid yw'r cymwysterau hynny ond mor werthfawr â'r enw da sydd iddyn nhw, fel y dywedais. Ac yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cyflogwyr yn colli rhywfaint o ffydd mewn rhai graddau prifysgolion, a rhai prifysgolion yn amau gwerth rhai arholiadau a gymerwyd yn yr ysgol. Felly, i ba raddau yr ydych chi wedi rhoi prawf ar sut dderbyniad sydd i'r cwricwlwm newydd gan brifysgolion a chyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt?

Mae pobl ifanc heddiw yn gorfod sefydlu eu hunain mewn marchnad swyddi sydd wedi globaleiddio yn llawer mwy nag y bu'n rhaid i neb yma ymdopi â hi. Felly, i ba raddau yr ydych chi wedi edrych ar gwricwla gwledydd fel India a Tsieina sy'n cynhyrchu rhagor eto o bobl ifanc gyda sgiliau eithriadol? Un peth yw edrych ar wledydd eraill yn Ewrop, ond y gwledydd sy'n datblygu sy'n dominyddu'n gynyddol yn y farchnad swyddi fyd-eang. [Chwerthin.] Gallwch chwerthin, ond dyma'r gwir. Felly, tybed a ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fod yn edrych ar sut y gall ein pobl ifanc ymdopi â'r gystadleuaeth oddi yno, yn hytrach nag oddi wrth y gwledydd sydd eisoes yn cael anhawster cystadlu'n fyd-eang.

Ac ar bwnc cyflogadwyedd, er ei bod yn amlwg bod eisiau inni ddatblygu'r ochr honno o bethau, ni ddylai'r Gweinidog golli golwg ar y ffaith fod angen system addysg ar Gymru sy'n annog pobl ifanc i fod yn ddyfeiswyr, yn arloeswyr, yn arbrofwyr a thorrwyr tir newydd. Rwy'n cytuno bod sgiliau digidol, llythrennedd a rhifedd yn feysydd pwysig i gyd, oherwydd eu bod yn arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen i ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd a chyflogaeth. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf i beth yr ydych wedi ei wneud, os oes unrhyw beth, i sicrhau na fydd ein cwricwlwm yn y dyfodol yn ymwneud yn unig â hyfforddi pobl i ennill sgiliau cyflogadwyedd, ond y bydd yn rhoi'r anogaeth a'r sgiliau sydd yn angenrheidiol er mwyn bod yn feddylwyr y tu allan i'r bocs a bod yn entrepreneuriaid y dyfodol? Pa arweiniad yr ydych chi wedi ei roi o ran y mater arbennig hwnnw, Gweinidog?

Ac yn olaf, mae cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn rhoi digon o gyfle yn y blynyddoedd i ddod i'r Gweinidog haeru y gallai perfformiad gwael ddigwydd oherwydd bod yr ysgolion yn mynd i'r afael â'r cwricwlwm yn hytrach na bod diffyg yn y cwricwlwm ei hunan. Felly, pa fesurau a wnaiff y Gweinidog eu rhoi ar waith fel y byddwn yn gallu mesur ei lwyddiannau a'i fethiannau, a'r rhesymau amdanynt, o'r cychwyn, yn hytrach nag mewn blynyddoedd wedyn, pan na fydd y Gweinidog yn ei swydd mwyach i fod yn atebol am ei rheolaeth hi o luniad y cwricwlwm newydd? Diolch.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dechreuodd yr Aelod drwy ofyn sut ydw i'n ymateb i faterion a godwyd gan CLlLC a CCAC. Wel, wrth gwrs, buom yn ymarfer y rhain yn helaeth yng , maen nhw wedi atgyfnerthu fy marn i. Y dydd Llun canlynol, roeddwn mewn digwyddiad yn eistedd yn ymyl dau o'n cyfarwyddwyr awdurdodau addysg lleol a gwadodd y ddau eu bod wedi gweld y papur hwnnw ac nid oeddent yn gwybod pwy oedd wedi ei ysgrifennu. Ond, yn amlwg, rwy'n derbyn os oes diffyg eglurder gan y gymdeithas cyfarwyddwyr neu CLlLC, yna mae'n rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i weithio ochr yn ochr â nhw, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n digwydd heddiw. Mae yna fwrdd newid sy'n cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr addysg Llywodraeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd CCAC a CLlLC yn bresennol pan fydd y bwrdd newid yn cymeradwyo'r holl feysydd dysgu a phrofiad yn derfynol.

Mae'r Aelod yn gofyn a ydw i wedi ystyried effeithiau globaleiddio. Globaleiddio yw un o'r ffactorau sy'n ein hysgogi i wneud y diwygiadau i'r cwricwlwm. Dyma un o'r rhesymau pam yr ydym yn gorfod gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud, i sicrhau ein bod wedi paratoi ein plant i gystadlu'n fyd-eang. Mae'r Aelod yn gofyn a yw materion yn ymwneud â chreadigrwydd a meddwl yn feirniadol yn rhan o'r broses hon. Byddwn yn cyfeirio'r Aelod at y pedwar diben, a bydd y ddyletswydd drostynt yn flaenllaw ym meddyliau Llywodraeth Cymru a'n hysgolion wrth ddatblygu cwricwla unigol.

Nawr, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch gallu cymwysterau Cymru i fod yn basbort i gyfleoedd unrhyw le yn y byd. Rwy'n gwbl hyderus, drwy weithio ochr yn ochr â Chymwysterau Cymru, sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am greu a rheoli'r cymwysterau hynny, na fyddwn ni, mewn unrhyw ffordd yn rhoi plant a phobl ifanc Cymru dan anfantais. Ni fydd eu gallu nhw i ddefnyddio'r cymwysterau hyn fel pasbort, fel y dywedais i, i brifysgolion, profiadau gwaith, cyfleoedd cyflogaeth unrhyw le yn y byd—ni fyddan nhw'n cael eu hatal oherwydd y cymwysterau hyn. Mae'n bosib y bydd llawer o resymau eraill pam na allan nhw fynd i leoedd i weithio ac astudio, ond ni fydd hynny o ganlyniad i'r diwygiadau hyn i'r cwricwlwm.

Nid yw dim newid yn opsiwn—nid yw'r swyddi wedi'u dyfeisio eto ar gyfer ein plant ysgol gynradd, felly mae'n rhaid inni newid y cwricwlwm yn sicr. Nid oes pwrpas mewn dysgu ffeithiau ar gof pan fo pawb yn gallu chwilio am ffeithiau ar eu ffôn symudol. Felly, rwy'n cefnogi'n llwyr athroniaeth a dull y Llywodraeth ar y mater hwn. Roeddwn i eisiau cyfyngu fy sylwadau i ychydig o gwestiynau. Yn gyntaf oll, nid yw cyflwyno hyn yn statudol ym mis Medi 2022, mewn gwirionedd, yn bell iawn i ffwrdd. Felly, tybed sut yr ydym ni'n lleihau pryderon staff sy'n wynebu newid, sydd bob amser yn achosi—. Nid oes gen i ddiddordeb yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r cyfarwyddwyr addysg; mae gen i ddiddordeb yn y rheng flaen. Oherwydd mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol bod problem ddifrifol o ran cadw staff mewn ysgolion yn Lloegr, ac oherwydd bod y gwaith mor hollgynhwysol os ydych chi'n athro amser llawn. Felly, a fydd y cwricwlwm mwy creadigol ar gyfer disgyblion hefyd yn cynnig llwybrau gyrfa mwy creadigol a hyblyg i athrawon? Dyna un cwestiwn.

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â dogfen eithaf torcalonnus, 'Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2018', a laniodd ar ein desgiau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu. Cymharol ychydig o ysgolion—. Mae hyn yn ymwneud â'r gostyngiad enfawr i ddysgu ieithoedd tramor modern ac effaith Brexit, y mae'r adroddiad hwn yn ei grybwyll. Mae mwy na thraean o'r ysgolion yn adrodd bod proses Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau tuag at astudio ieithoedd tramor modern. Wrth gwrs, dylem fod yn dathlu ein dwyieithrwydd yng Nghymru, ond ni allwn fod yn ddysgwyr Cymraeg a Saesneg yn unig; mae'n rhaid inni fod yn ddysgwyr ieithoedd tramor eraill er mwyn inni barhau i allu ymdrin â'r amgylchedd byd-eang. Felly, tra'r ydym yn ymwreiddio'r cwricwlwm newydd—ac rwy'n dymuno'n dda i chi â hynny i gyd—sut ydym ni'n mynd i atal y gostyngiad o ran ieithoedd tramor modern, oherwydd nid wyf i hyd yma wedi gallu dod o hyd i unrhyw beth am hynny yn y Papur Gwyn?

15:50

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau? Weithiau, mewn dadleuon ynghylch dyfodol polisi addysg, ceir dewis artiffisial a ffug, credaf, rhwng bod â chwricwlwm sy'n canolbwyntio ar sgiliau a bod â chwricwlwm sy'n canolbwyntio ar wybodaeth. Nawr, er gwaethaf y ffaith y gallwn ni i gyd chwilio yn Google i weld pryd yr oedd brwydr Hastings neu beth a ddigwyddodd ar ddyddiad penodol, nid yw hynny'n disodli'r ffaith, mewn gwirionedd, bod angen rhywfaint o wybodaeth arnom yn ein cwricwlwm o hyd. Ni allwn  osgoi hynny. Nid yw'n sefyllfa o 'naill ai/neu'. Mae hwn yn gwricwlwm a fydd yn cynnwys y ddau.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle bod addysgu yn broffesiwn heriol iawn, ac mae dau beth y mae angen inni eu gwneud. Yn gyntaf oll—ac mae ffrwd waith yn Llywodraeth Cymru i wneud hyn—beth bynnag am y cwricwlwm newydd, mae'n rhaid inni edrych ar broblemau llwyth gwaith athrawon yn y cwricwlwm presennol yn ogystal â'r cwricwlwm yn y dyfodol. Nid yw cynnig arian ychwanegol i bobl os byddan nhw'n aros yn y proffesiwn yn mynd i weithio. Nid wyf erioed wedi cyfarfod ag athro a aeth i mewn i ystafell ddosbarth oherwydd ei fod yn credu y byddai'n ei wneud yn gyfoethog. Maen nhw'n gwneud hynny oherwydd eu bod wedi'u hysgogi oherwydd cariad at eu pwnc a'r awydd i rannu gwybodaeth am y pwnc hwnnw â phobl eraill neu oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth cynhenid cyfrannu at eu cymdeithas, at eu cymuned, at eu gwlad drwy ymgymryd â'r swydd bwysig hon, ac mae angen inni wneud honno'n swydd hwylus iddyn nhw ei gwneud.

Felly, nid yw hyn yn ymwneud â thaflu arian atyn nhw, fel yr ydym ni wedi ei weld yr wythnos hon. Mewn gwirionedd mae'n ymwneud â deall a mynd i'r afael â'r problemau llwyth gwaith hynny. Ond rwy'n credu y bydd y newidiadau hynny i'r cwricwlwm yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw yn y fan hon yn gwneud Cymru yn lle deniadol i fod yn athro. Oherwydd byddwn yn cydnabod eu sgiliau, eu creadigrwydd a'u gallu i lunio gwersi sy'n wirioneddol addas i'r plant o'u blaen ac nid dim ond gorfod gweithio o restr wirio y mae gwleidydd yn rhywle wedi dweud y mae'n rhaid iddyn nhw eu haddysgu. Gwyddom hefyd, wrth edrych ar astudiaethau rhyngwladol gan yr OECD, mai ffordd o gael gwared ar  straen i'r rheini sy'n gweithio yn y proffesiwn rhoi lefel uwch o ymreolaeth iddyn nhw. Mae'r ymarferwyr hynny sydd â lefelau uwch o ymreolaeth mewn systemau, fel yn y Ffindir lle ceir llawer o ymreolaeth i athrawon unigol—dyna lle mae gennych chi'r lefelau uwch o foddhad â'r proffesiwn ac mae gennych chi gyfraddau cadw gwell a llai o bobl yn gadael. Ac mae hyn yn rhan o'r broses yr ydym ni ynddi—rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd i athrawon yn eu hystafelloedd dosbarth unigol.

Nawr, o ran ieithoedd tramor modern, nid wyf yn credu bod yna lais sy'n anghytuno—wel, nid wyf yn gwybod beth yw barn UKIP—ond nid oes yna lais sy'n anghytuno, rwy'n credu, ar ran y Blaid Geidwadol na Phlaid Cymru nac ar y meinciau hyn yn y fan hon am bwysigrwydd ieithoedd tramor modern. Rydym ni i gyd yn rhannu hynny. Wrth gwrs, y broblem yw, os ydych chi'n berson dwyieithog, pan fyddwch chi wedi dysgu dwy iaith, mae'r drydedd, y bedwaredd, y bumed, chweched, seithfed, yn wir, yn haws eu dysgu. Felly, mewn gwirionedd, fel system gyfan, gan ei bod yn system ddwyieithog, rydym yn rhoi ein plant mewn sefyllfa wybyddol well i gaffael ieithoedd eraill. Ond rydych chi yn llygad eich lle: rydym ni yn gweld her barhaus o ran argyhoeddi pobl ifanc i ddewis yr ieithoedd hynny pan fyddan nhw'n dod yn bynciau dewisol—fel arfer, yn y rhan fwyaf o ysgolion, pan fyddant yn 14 oed. Rwyf wedi gweld hynny yn fy nheulu i fy hun; rwyf wedi gweld yr her honno yn fy nheulu i fy hun. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma, yn ein cwricwlwm newydd, yw eu cyflwyno i ieithoedd eraill—ieithoedd cymunedol yma yng Nghaerdydd, cydnabyddiaeth ar gyfer y plant hynny sy'n siarad ieithoedd gwahanol yn y cartref, cydnabod ieithoedd cymunedol, ieithoedd tramor modern, yr ieithoedd clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain—a'r disgwyliadau yn y cwricwlwm newydd yw y bydd yn dod i lawr i'r hyn yr ydym yn ei alw'n oedrannau cynradd. Ac, yn wir, mae eu cyflwyno yn gynnar yn hytrach na'u gadael nes bydd y plant yn 11 oed, sef pryd mae'r rhan fwyaf o blant, nid yr holl blant—. Oherwydd mae gennym ni rai ysgolion cynradd sy'n gwneud gwaith gwych gyda Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Tsieinëeg. Trwy ddod â hynny i lawr fel bod cyfle i'r holl blant oedran cynradd ddod i gysylltiad â'r iaith honno, rwy'n gobeithio y gwelwn newid mewn agweddau, angerdd  a dealltwriaeth bod caffael llawer o ieithoedd, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sy'n achosi twf yn bersonol, ond hefyd mae cyfleoedd economaidd enfawr yn codi o hyn os gallwch wneud hynny.

15:55

A gaf i ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau ac, yn amlwg, gynnwys y cyfraniadau y prynhawn yma. Yn amlwg, gan ganolbwyntio ar yr arwyddocâd hanesyddol yn gyntaf, y Parchedig Griffith Jones o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin a sefydlodd ysgolion Sul cylchynol yn y ddeunawfed ganrif fel templed ar gyfer pob ysgol fodern. Roedd yr ysgolion cylchynol mor llwyddiannus fel mai Cymru oedd un o'r gwledydd mwyaf llythrennog o wledydd Ewrop gyfan, ar y pryd, yng nghanol y ddeunawfed ganrif, i'r graddau y gwnaeth Catherine Fawr, Ymerodres Rwsia, anfon cennad yma i Gymru fach i ddarganfod sut yr oedd yr ysgolion hynny'n gweithredu. Efallai na fyddwch yn dod o hyd i hynny wrth chwilio yn Google, a dyna pam mae angen inni addysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwneud y ple hwnnw, ond, yn amlwg, rwyf wedi gwneud hynny o'r blaen.

O ran amser, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un pwynt yn eich Papur Gwyn, ac mae'n bwynt y cyfeiriwyd ato eisoes gan Suzy a Siân Gwenllian. O ran y ddyletswydd ar yr holl ysgolion—rwy'n ei weld o dan adran 3.79 yma, pwynt bwled 4:

'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'

Gallaf ddeall hynny o safbwynt cydraddoldeb, ond mewn gwirionedd nid yw'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n gam yn ôl pe byddai ein meithrinfeydd a'n grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a'r blynyddoedd cynnar mewn ysgolion yn dechrau cyflwyno Saesneg nawr oherwydd mae hyn yn ymwneud â throchi iaith. Mae'n sefyllfa anghyfartal ar hyn o bryd. Rwy'n siarad fel cadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, lle mae 92 y cant o'r plant yn dod o gefndir di-Gymraeg. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol i ddysgu Cymraeg. Felly, dim ond 8 y cant ohonyn nhw sydd â rhywfaint o Gymraeg yn y cartref, ac, yn wir, dim ond hanner o'r rheini sydd ag un rhiant. Felly, mewn geiriau eraill, mae gan 4 y cant un rhiant yn siarad Cymraeg. Felly, mae 92 y cant o gefndir hollol ddi-Gymraeg. Mae'n sefyllfa anghyfartal wedyn, oherwydd mae'n ymwneud â dysgu iaith yn gynnar a throchi yn yr iaith honno.

Roedd yr ysgol yr wyf i bellach yn gadeirydd y llywodraethwyr ynddi—yn arfer bod, dros 20 mlynedd yn ôl, yn ysgol ddwyieithog. Nid ysgol cyfrwng Cymraeg oedd hi, roedd hi'n ddwyieithog—Cymraeg a Saesneg. Yr hyn a ganfuwyd gennym oedd nad oedd rhai o'r plant bob amser yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y pen draw, erbyn eu bod yn 11 oed. Maen nhw erbyn hyn. Maen nhw'n dechrau, mae popeth yn Gymraeg, mae Saesneg yn cael ei chyflwyno pan fydd y plant yn saith oed—erbyn eu bod nhw'n 11, mae pawb yn ddwyieithog, ac yn dod o'r cefndir 92 y cant di-Gymraeg hwnnw neu beidio. Ac, yn amlwg, mae'n haws dysgu iaith arall fel Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, yn enwedig os caiff ei chyflwyno ar lefel cynradd. Felly, byddwn yn erfyn arnoch—mae'r holl brofiad rhyngwladol ynghylch dysgu iaith mewn sefyllfa leiafrifol yr ydym ni ynddi nawr, nid yw'n gyfartal, ac mae'n rhaid inni unioni'r anghydraddoldeb hwnnw drwy wneud yn siŵr mai Cymraeg yn unig a geir hyd at saith oed, ac yna rydych chi hefyd yn cyflwyno ieithoedd eraill ar ôl hynny, oherwydd bod ganddyn nhw'r dylanwad Saesneg llethol hwnnw yn y cartref, o'u cwmpas i gyd, ar y teledu. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol am y Gymraeg. Edrychwch eto, os gwelwch yn dda, Gweinidog, ar adran 3.79. Diolch yn fawr.

Diolch, Dai. Y profiad yr ydych chi newydd ei ddisgrifio yn yr ysgol yr ydych chi'n gadeirydd y llywodraethwyr arni yw'r profiad sydd gen i yn fy nheulu fy hun. Mae fy mhlant i yn blant dwyieithog. Cymerais yr amser i ofyn i fy mhlentyn 14 mlwydd oed neithiwr a oedd yn edifar ganddi, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd i riant wneud y dewis hwnnw. Nid yw wedi bod yn ddi-broblem pan wyf wedi eistedd wrth eu hymyl, a sylweddoli bod eu Cymraeg yn llawer gwell na fy un i yn gyflym iawn, iawn, iawn. Nid yw bob amser yn sefyllfa gyfforddus i fod ynddi ac nid yw heb ei phroblemau. Ond gofynnais iddi neithiwr a oedd yn edifar am unrhyw beth, a dywedodd 'Rwy'n falch. Rwy'n hynod falch fy mod yn gallu siarad dwy iaith ac, fel y gwnaeth fy atgoffa i, 'Mae hynny'n rhywbeth na alli di ei wneud'. A phan maen nhw'n uno gyda'i gilydd yn fy erbyn i a phan nad ydyn nhw eisiau i mi ddeall beth maen nhw'n ei ddweud amdanaf—wel, gallwch chi ddychmygu sut maen nhw'n siarad â'i gilydd. Gadewch imi fod yn gwbl glir yma. Nid wyf i mewn unrhyw ffordd eisiau tanseilio'r egwyddor trochi, sy'n ffordd bwysig o sicrhau y gall plant fod yn blant dwyieithog.

A gaf i wneud y pwynt ynghylch dimensiwn Cymreig y cwricwlwm hwn? A gaf i ddweud bod dimensiwn Cymreig yn gorfod bod yn fwy na dim ond hanes Cymru, Dai? Ymddengys bod dadl lle'r ydym bob amser yn sôn am y dimensiwn Cymreig dim ond o fewn cyfyngiadau gwersi hanes Cymru. Nid wyf i eisiau i blant ddysgu am hanes Cymru yn unig—ac, wrth gwrs, rwyf eisiau iddyn nhw ddysgu am hanes Cymru—ond rwyf eisiau iddyn nhw ddeall am gyfraniad Cymru i'r byd ehangach, rwyf eisiau iddyn nhw ddeall am awduron, actorion, cerddorion Cymru, y bobl hynny sydd wedi rhagori yn y celfyddydau mynegiannol; y ffaith mai Cymro yn Genefa sy'n rhedeg y peiriant gwrthdaro hadron. Felly, nid wyf eisiau i'r dimensiwn Cymreig fod yn fater o wersi hanes Cymru yn unig. Rwyf eisiau i ddimensiwn Cymreig ein cwricwlwm ymestyn i bob maes profiad a dysgu, oherwydd nid oes un maes dysgu a phrofiad lle nad oes gan Gymru stori falch i'w hadrodd am ei chyfraniad at yr holl agweddau pwysig iawn, iawn hynny. Ac ni allwn ei gyfyngu i ddysgu am ein hanes yn unig.

16:00

Diolch. Mae gennyf ddau siaradwr arall ac, fel y gallwch chi weld, rydym ni wedi mynd dros amser. Ond fe wnaf i alw'r ddau siaradwr hynny, ond byddwn yn gofyn iddyn nhw fod yn gryno a dim ond i godi pwyntiau ychwanegol nad ydyn nhw wedi'u codi eisoes. Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i hepgor fy rhagymadrodd i'r cwestiwn. Yn fyr roeddwn i, felly, Gweinidog, os gaf i, eisiau canolbwyntio ar un o'r pedwar diben a nodir yn y newidiadau strwythurol arfaethedig i'r cwricwlwm—sef sicrhau bod ein plant yn ddinasyddion moesegol, gwybodus ac, yn arbennig, eu bod yn llawn gwybodaeth am eu diwylliant, eu cymuned a'u cymdeithas yn y byd nawr ac yn y gorffennol. Mae amcanion y diben hwn yn amlwg yn ganmoladwy, ond hoffwn i, rwy'n credu, ddilyn ymlaen o'r pwynt a wnaed gan Paul Davies yn gynharach yn ei gyfraniad, pan oedd yn gofyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynghylch y diffyg gwybodaeth am yr Holocost, neu wadu ei fodolaeth hyd yn oed.

Treuliais yr wythnos ddiwethaf yn myfyrio ar yr Holocost a hil-laddiad a sut y gellir creu'r amodau ar gyfer hynny drwy anwybodaeth a rhagfarn. Gan wybod, fel yr ydym ni i gyd, bod poblyddiaeth ac anoddefgarwch yn cynyddu, byddai gennyf ddiddordeb i wybod beth yn benodol yr ydym ni'n debygol o'i weld yn y cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau ein bod yn gweld mwy o unigolion goddefgar, cynhwysol a pharchus yn gadael yr ysgol, sydd â gwell dealltwriaeth o effaith eu geiriau a'u gweithredoedd. Rwy'n siŵr y byddwch, fwy na thebyg, yn dweud bod hyn yn fwy priodol i'w drafod neu ei gwestiynu pan rydym yn sôn am y cwricwlwm drafft. Ond byddwn i'n dal i groesawu eich meddyliau ar hyn o bryd o ran beth yn benodol y gallwn ni ei wneud o fewn y cwricwlwm i wneud yn siŵr bod ein plant yn gadael yr ysgol â barn, gwerthoedd ac agwedd llawer mwy cytbwys tuag at eu lle mewn cymdeithas.

A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am y cwestiwn hwnnw? Wrth gynllunio'r cwricwlwm a chynnwys unigol y meysydd dysgu a phrofiad mewn ysgolion, bydd dyletswydd ar ysgolion i allu barnu'r cynnwys hwnnw yn erbyn cyflawniad y dibenion hynny. Felly, mae'r ffaith bod y diben hwnnw yno yn ganolbwynt i'n cwricwlwm—a'r disgwyliadau o ran pa fath o bobl yr ydym yn disgwyl iddyn nhw adael ein system addysg orfodol, rwy'n credu, yn eithaf clir.

Rwy'n gwybod, dros y penwythnos, fod yr Aelod wedi bod yn gysylltiedig i raddau mawr â'r materion yn ymwneud â chofio'r Holocost. Ac roeddwn yn falch iawn yr wythnos ddiwethaf o ddefnyddio fy sianel gyfathrebu swyddogol i hyrwyddo a thynnu sylw at yr adnoddau gwych sydd gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost ac i hyrwyddo'r defnydd o'r adnoddau hynny yn ysgolion Cymru. A gaf i roi enghraifft ymarferol iawn i chi o sut y mae hyn yn digwydd eisoes o ran ein fframwaith cynhwysedd digidol? Weithiau bydd pobl yn meddwl ein bod ni, wrth sôn am y fframwaith cymhwysedd digidol, yn sôn yn unig am sut yr ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur, ond mae'n llawer mwy na hynny. Un o'r pethau yr ydym ni'n gweithio arno yn y fframwaith yw'r gallu i adnabod newyddion ffug: i allu mynd ar-lein, gweld darn o wybodaeth a gallu gofyn y cwestiynau hollbwysig hynny i'ch hunain ynghylch a yw hyn yn wir neu'n ffug neu sut y gallwch chi gael gafael ar wybodaeth arall er mwyn cadarnhau yr hyn yr ydych newydd ei ddarllen. Mae'r gallu hwnnw i gwestiynu'r wybodaeth sydd ar gael ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, rwy'n credu, yn bwysicach nag y bu erioed ac mae hwnnw'n bwynt hollbwysig, er enghraifft, o'r hyn yr ydym ni'n gweithio arno ar hyn o bryd o ran y fframwaith cymhwysedd digidol, ac, wrth gwrs, bydd yn rhan statudol o'r cwricwlwm yn y dyfodol.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog. Yn wir, mae potensial a chyfle mawr yn y cwricwlwm newydd hwn, ac, rwy’n credu, gwobrau gwych: rwy’n croesawu’n fawr iawn y bwriad strategol o amgylch datblygiad cynnar a chyn-ieithyddol ledled Cymru. Mae angen y datblygiad ieithyddol hwnnw arnom. Gallwn ni fod yn genedl ddwyieithog i raddau mwy, ond mae angen inni fod yn wlad amlieithog i gymryd ein gwir le yn y byd—ac ni wnaf sôn am y meysydd profiad a dysgu o ran cerddoriaeth a'r celfyddydau heddiw. A allwch chi amlinellu imi sut yr ydych chi’n credu y bydd y consortia gwella addysg yn cyfrannu at gyflenwi hyn a helpu o bosibl i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yng Nghymru?

Diolch, Rhianon, am hynny. Yn amlwg, bydd gan yr haen ganol, sy'n cynnwys ein hawdurdodau addysg lleol, Estyn a’r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol, ran hanfodol i'w chwarae i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fabwysiadu a’i gyflenwi at safon uchel iawn. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud yw sicrhau'r ysgolion y byddwn ni'n defnyddio'r cyfnod hwn rhwng cyhoeddi’r meysydd dysgu a phrofiad, pasio’r ddeddfwriaeth hon, a’r cyflwyno statudol yn 2022 i wneud yn siŵr bod pob agwedd ar ein system addysg yn ddigon da a bod unrhyw ddyfarniadau y gallai’r gwasanaeth gwella ysgolion eu gwneud neu beidio o ran effeithiolrwydd yr ysgol—y bydd y personél y maen nhw’n eu hanfon i’r ysgol honno’n gyfarwydd iawn ag egwyddorion addysgeg ac ethos y cwricwlwm hwn.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach: Cymru Iach—Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ‘Pwysau Iach: Cymru Iach—Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru’. Rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno’r datganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n hapus i ddiweddaru'r Aelodau heddiw ar lansiad ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’. Fe ges i’r pleser o lansio ymgynghoriad â rhanddeiliaid ar 17 Ionawr. Roedd hwn yn amlinellu ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Mae'r ymgynghoriad yn dechrau cyfnod o ymgysylltu, herio a myfyrio wrth inni ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.

Mae gordewdra yn un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein cenhedlaeth, ac wrth gwrs, cytunodd y Cynulliad i wneud cynhyrchu’r strategaeth hon yn ofyniad statudol drwy basio ein Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017. Rydym yn gwybod bod gan y DU un o'r lefelau gordewdra uchaf yng Ngorllewin Ewrop. Mae’r her o fynd i'r afael â gordewdra’n un sy'n wynebu gwledydd ledled y byd. Felly, dydyn ni ddim yn eithriad yma yng Nghymru. Mae saith ar hugain y cant o'n plant pedair i bum mlwydd oed a 60 y cant o’n hoedolion naill ai’n rhy drwm neu'n ordew.

Mae cyfraddau uchel o blant pedair a phum mlwydd oed sydd dros bwysau neu'n ordew yn fater o bryder cenedlaethol. Nid yw’r Llywodraeth hon yn barod i sefyll o'r neilltu a gwneud dim. Gallai hynny adael i ddeiet gwael neu anweithgarwch corfforol fod yn nodweddion sy’n diffinio bywydau ein plant a’n pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod bod dros bwysau’n cynyddu ein risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Rydym ni hefyd yn gwybod bod hyn yn risg i’n hiechyd meddwl sy’n gallu arwain at ddiffyg hunan-barch, iselder a gorbryder.

Er mwyn cynaliadwyedd ein GIG yn y tymor hir, bydd angen inni wella iechyd y cyhoedd a’r boblogaeth, annog pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain, i golli pwysau ac i fod yn egnïol. Y llynedd, lansiais ‘Cymru Iachach’, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r cynllun yn nodi’r ymagwedd tuag at bob mater gofal iechyd yng Nghymru o hyn ymlaen. Yn y cynllun hwnnw, amlinellais weledigaeth ar gyfer pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Mae pwysau iach yn elfen allweddol i wireddu'r weledigaeth honno. I ddatblygu’r ymgynghoriad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal ymchwil helaeth i ddatblygu achos cryf dros newid, ac mae hwnnw wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu pedair thema allweddol.

Arweinyddiaeth a galluogi yw ein thema gyntaf. Rydym yn cydnabod y bydd ymagwedd systemau cydlynol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol yn hanfodol. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae cynlluniau mawr wedi methu â chyflawni eu canlyniadau arfaethedig oherwydd diffyg dealltwriaeth o sut y caiff y polisi ei weithredu. Rwy’n edrych ymlaen at glywed gan bartneriaid ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn darparu mesurau sy’n cael eu cyd-gynhyrchu gyda chymunedau ac y maedd eu cyflwyno ar raddfa fwy, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael eu gwerthuso’n barhaus i ysgogi’r gwelliant parhaus rydym ni’n gwybod bod angen inni ei weld.

Mae'r thema amgylchedd iach yn ystyried sut y gallwn ddarparu mwy o gyfleoedd ym mywyd bob dydd unigolion i'w galluogi i wneud dewisiadau iachach. Hoffem ni sicrhau bod ein hamgylcheddau byw, ein siopa bob dydd, ein dewisiadau bwyta, ein cymudo dyddiol neu ein hamser hamdden yn gallu cael eu trefnu i’n cefnogi ni i symud mwy a bwyta'n iachach. Mae ein cynigion yma’n cynnwys cyflwyno deddfwriaeth am y tro cyntaf i helpu i fynd i'r afael â gordewdra—mae hyn yn cynnwys ar hyrwyddiadau pris, labelu calorïau ar fwydydd sy’n cael eu bwyta y tu allan i'r cartref, a gwahardd gwerthu diodydd egni i blant. Hoffwn hefyd inni weithio'n rhagweithiol gyda'r diwydiant i sbarduno newid drwy ailfformwleiddio ac i gyfyngu ar hysbysebu bwydydd afiach. Gallai datblygu amgylcheddau pwysau iach drwy ein cynllunio a'n seilwaith ein helpu i greu cyfleoedd go iawn i annog dewisiadau iachach ar ein strydoedd ac i gynyddu'r cyfleoedd am weithgarwch corfforol dyddiol.

Mae ble rydym ni’n treulio ein hamser yn aml yn gallu arwain y dewisiadau bwyd a gweithgarwch rydym ni’n eu gwneud, a bydd gwleidyddion yn gwybod hynny eu hunain. Yn y thema lleoliadau iach, rydym ni’n ystyried sut gallai newidiadau i’n haddysg, ein gwaith a’n hamdden ein helpu i gynnal pwysau iach. Rydym ni’n treulio llawer o'n hamser mewn addysg, yn y gwaith neu mewn lleoliadau cyhoeddus, a gall pob un o’r rhain chwarae rhan allweddol i roi hwb inni tuag at wneud dewisiadau afiach. Yn benodol, rydym ni’n cynnig cymorth cryfach ar gyfer lleoliadau ysgolion a blynyddoedd cynnar er mwyn galluogi bwyta'n iach a chyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol dyddiol.

Fodd bynnag, rwy’n glir hefyd na all ysgolion yn enwedig ysgwyddo holl faich o fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant. Maent yn rhan bwysig o'r ateb, ond, drwy drydedd thema ein hymgynghoriad, sef pobl iach, hoffem ni ystyried sut y gallwn ni gymell a chefnogi cymunedau ac unigolion i gyrraedd a chynnal pwysau corff iach. Mae hynny'n cynnwys ystyried adegau allweddol yn ein bywydau yr ydym ni’n gwybod y byddent yn lle da i gynnig cymorth ychwanegol. Yn hanfodol, hoffem ni ymgorffori arferion iach o ran bwyta a gweithgarwch o'r cychwyn, er enghraifft, helpu menywod i reoli eu pwysau yn ystod beichiogrwydd, drwy’r 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd y plentyn, a darparu’r cymorth sydd ei angen ar bobl. Byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod gennym lwybr clinigol cyson ar waith hefyd.

Ceir cysylltiadau cryf â lefelau gordewdra mewn ardaloedd o amddifadedd uwch a hoffem ni ystyried sut i gau'r bwlch anghydraddoldebau iechyd. Mae ein cynigion yn amlinellu sut hoffem ni weithio gyda chymunedau i gynyddu cefnogaeth. Yn benodol, hoffem ni feddwl am sut i dargedu ymyriadau gyda phlant a theuluoedd a’u hwyluso mewn ffordd sy'n helpu i gyflawni dewisiadau ffordd o fyw sy’n gadarnhaol a chynaliadwy.

Yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru, gan gynnwys trafodaethau gydag aelodau o'r cyhoedd mewn canol trefi, colegau a lleoedd gwaith. Rydym yn ymrwymedig i gyhoeddi strategaeth derfynol ym mis Hydref eleni. Rwy’n croesawu eich barn heddiw ar draws y Siambr ac rwy’n edrych ymlaen i weithio mewn modd rhagweithiol ar draws y Siambr i sicrhau ein bod yn datblygu cyfres o gynigion a chamau gweithredu a ddylai roi Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrechion i atal gordewdra ac yna i’w leihau.

16:10

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am roi copi ymlaen llaw ohono inni? Mae gordewdra, fel rydym ni’n gwybod, yn her iechyd cyhoeddus fawr yng Nghymru, ac rydych chi wedi cyfeirio at nifer o ystadegau pwysig heddiw ac effaith gordewdra ar iechyd pobl, gan gynnwys, yn bwysig iawn, eu hiechyd meddwl a'u lles.

Rydym ni’n gwybod, yn ôl yn 2017, Gweinidog, bod cynghrair gordewdra Cymru wedi gwneud 18 o argymhellion ar eu barn am sut i fynd i'r afael â gordewdra ac ymdrin â’r dybiaeth bod, ac rwy’n dyfynnu, 'bod dros bwysau wedi dod yn normal yng Nghymru'. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydych chi’n ei ailadrodd yn eich dogfen ymgynghori. Mae eich strategaeth wedi cynnwys nifer o faterion o’r argymhellion a wnaeth cynghrair gordewdra Cymru, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfeiriad at y rheini ac yn falch iawn o weld bod y Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â chymryd camau i fynd i'r afael â nhw.

Un o'r pwyntiau maen nhw wedi eu codi, yn ddigon teg, yw bod angen mwy o reoleiddio yn y cyfryngau ynghylch hysbysebu cynhyrchion bwyd afiach, ac rwy’n gwybod bod hynny'n rhywbeth nad oes gennym ni fel Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb datganoledig drosto eto. Ond tybed a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd iechyd dros y ffin yn Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd a allai fod i weithio gyda nhw, fel y gallwn ni gael rhyw fath o ffordd i’r DU gyfan i ddatrys y mater hwn o hysbysebu yn y cyfryngau, oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn destun pryder mawr i lawer o bobl.

Wrth gwrs, hoffem ni i gyd weld pobl yn bwyta bwyd iachach. Hoffem ni i bobl leihau eu dibyniaeth ar brydau parod, sy’n aml iawn yn cynnwys llawer o halen a chyfran uchel o fwydydd wedi'u prosesu, ac mae’r gynghrair gordewdra wedi awgrymu bod darparu gwersi coginio, nid yn unig mewn ysgolion ond hefyd i oedolion, i’w haddysgu nhw sut i fanteisio i'r eithaf ar fanteision paratoi eu bwyd eu hunain, yn un ffordd o helpu i newid ymddygiad pobl. Yn amlwg, mae hon yn broblem eithaf cymhleth, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod pa fath o strategaeth a allai fod gan y Llywodraeth i gyrraedd y bobl hynny sydd eisoes yn oedolion, ond sydd ddim yn gynulleidfa gaeth yn ein hysgolion, fel y gallwn ni eu harfogi nhw i wneud y dewisiadau ffordd o fyw hynny i baratoi mwy o’u bwyd eu hunain mewn ffordd fforddiadwy, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle gall tlodi fod yn broblem weithiau, a lle mae fforddiadwyedd bwyd mewn siopau ac archfarchnadoedd yn uwch nag mae rhai pobl yn gallu ei fforddio.

Roedd yr ‘Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Mamolaeth’ yn ôl yn 2018, a lansiwyd ym mis Tachwedd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, hefyd yn tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â chyfraddau gordewdra a beichiogrwydd, ac, unwaith eto, roeddwn yn falch o glywed eich datganiad heddiw’n cyfeirio at hynny. Tybed beth allwch chi ddweud wrth yr Aelodau heddiw ei fod ar waith, fel petai, neu ba gynigion rydych chi'n eu cynnig, i helpu i fynd i'r afael â chyfradd uchel gordewdra. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o doriadau Cesaraidd mewn rhai rhannau o Gymru yn ein hysbytai nag sydd ei angen efallai, ac mae rhywfaint o hynny’n gysylltiedig â gordewdra. Felly, pa gamau rydych chi’n eu cymryd i ddatrys y broblem honno, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae gennym ni glwstwr o broblemau gordewdra mewn perthynas â beichiogrwydd?

Mater arall a godwyd gan y gynghrair gordewdra oedd bod angen inni gyhoeddi data am gyfraddau gordewdra i sicrhau y ceir tryloywder fel y gallwn ni fesur cynnydd a llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fyddai’r dangosyddion perfformiad allweddol fel y gallwn ni yn y Siambr hon ddal y Llywodraeth i gyfrif am wneud rhywfaint o gynnydd ar fater sy’n un pwysig dros ben.

A gaf i ofyn hefyd ichi edrych ar yr holl fater o ragnodi cymdeithasol ac a yw hynny’n effeithiol? Rwy’n gwybod bod llawer o feddygon teulu y dyddiau hyn yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol drwy ragnodi ymarfer corff neu fynd i gampfeydd lleol. Ond dydw i ddim yn meddwl, a dweud y gwir, bod hyn yn cael ei hyrwyddo mor eang ag y gallai fod. Rydym ni’n gwybod bod rhagnodi cymdeithasol yn gallu cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn ogystal â’u helpu nhw gyda’u pwysau, a byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa mor gyffredin wir yw defnyddio rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, ac a allwch roi unrhyw wybodaeth inni ynglŷn â sut y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad ddwyn ein byrddau iechyd lleol a’n gwasanaethau meddygon teulu ein hunain yn ein hardaloedd i gyfrif am gyflawni hynny.

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, hefyd, roedd dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn diystyru rhywfaint o'r cyngor roedden nhw wedi’i gael gan y Llywodraeth ynglŷn â gwahardd bwydydd llawn braster a siwgr rhag cael eu gwerthu mewn peiriannau gwerthu, yn enwedig ar yr ystad ysbytai. Roedd data ar y pryd yn dangos bod 18 o beiriannau gwerthu yn Ysbyty Treforys Abertawe Bro Morgannwg a oedd yn gwerthu diodydd meddal, melysion, ac ati, a bod gan Ysbyty Singleton ac Ysbyty Tywysoges Cymru, sydd hefyd yn gweithredu yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw, 16 o beiriannau diodydd meddal rhyngddynt. Dywedodd Cwm Taf fod chwech o'u hysbytai nhw hefyd yn cynnig diodydd tun, siocledi a melysion mewn 37 o beiriannau gwerthu. Gwnaethoch gyfeirio yn eich datganiad at yr angen i ddangos arweinyddiaeth, ac nid wyf yn siŵr bod hynny'n cynrychioli'r math o arweinyddiaeth yr hoffech chi na fi ei gweld gan y GIG. Felly, a allwch chi gadarnhau y gwnaiff eich Llywodraeth chi, yn y dyfodol, ddileu diodydd llawn siwgr, siocled, byrbrydau afiach eraill mewn peiriannau gwerthu ac ysbytai?

Ond hoffwn i—

16:15

Hoffwn i gofnodi ein bod yn croesawu cyhoeddi’r datganiad hwn. Hoffem ni ymgysylltu'n gadarnhaol â chi i fynd i'r afael â’r broblem hon yng Nghymru, ac mae gennych ein cefnogaeth lawn o ran yr ymgynghoriad sy'n cael ei wneud.

16:20

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rydych yn iawn nad yw rheoleiddio hysbysebu wedi'i ddatganoli, er bod swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Maen nhw'n mynd i ymgynghori ynglŷn â mesurau ychwanegol o gwmpas hysbysebu a'r potensial ar gyfer, yn enwedig, bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a halen—yn y bôn, i gyflwyno trothwy amser ar gyfer hysbysebu. Rydym ni o blaid, yn fras, cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei hysbysebu ar amser penodol, ac, yn benodol, sut mae wedi’i dargedu. Yna, rydym ni hefyd yn ystyried a oes yna bethau y gallem ni eu gwneud o ran sut y mae gwahanol gynhyrchion yn cael eu hysbysebu mewn digwyddiadau rydym ni ein hunain yn eu noddi a’u hyrwyddo.

O ran eich pwynt am goginio ar gyfer oedolion, os edrychwch chi drwy'r ddogfen ymgynghori, rydym ni’n cydnabod, a dweud y gwir, bod helpu pobl i baratoi bwyd iachach yn ffactor allweddol. Yn wir, mae bron bob un o'n rhaglenni gwrthdlodi wedi edrych ar helpu pobl i baratoi bwyd iachach hefyd. Mae'n rhan arferol o'r sgwrs—mae hefyd yn rhan o beth rydym ni’n ceisio ei wneud i hyrwyddo neges bwyta'n iach drwy ysgolion. Nid dim ond mater o addysgu plant yw hyn—mae’n berthnasol i holl gymuned yr ysgol. Rhan o'r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn yr ymgynghoriad yw, yn ogystal â’r grwpiau rydw i wedi eu hamlinellu, yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n siarad â rhieni sy’n cymryd rhan yn Dechrau'n Deg. Rydym ni hefyd yn mynd i gael rhai sgyrsiau o amgylch cymunedau ysgol yn ogystal â siarad â disgyblion a rhieni, yn hytrach na dim ond bod ar un pen neu’r llall i'r sgwrs.

O ran gordewdra a beichiogrwydd, mae hyn yn berthnasol i'r her gyffredinol sydd gennym ni o gynnal pwysau iach drwy fywyd. Os mai dim ond yn union cyn beichiogrwydd neu pan fydd rhywun eisoes yn feichiog rydych chi am gael y sgwrs honno, gallwch chi ddal i wneud rhai pethau i helpu pobl i reoli eu pwysau. Ond, a dweud y gwir, hoffem ni achub y blaen ar hynny i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael sgwrs ehangach yn hytrach na llwytho hyn i mewn i addysg cyn geni.

Ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni wedi cynyddu niferoedd ein bydwragedd i wneud yn siŵr ein bod ni’n cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae hynny’n bennaf oherwydd y cymhlethdod ychwanegol wrth gyflawni geni. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod menywod yn tueddu i fod yn hŷn nawr wrth roi genedigaeth, ond hefyd oherwydd heriau gordewdra hefyd. Felly, mae gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu geni’n ddiogel yn her, ac rydym ni wedi ymateb i hynny drwy gynyddu nifer ein bydwragedd yn sylweddol a chynnal y buddsoddiad yn eu hyfforddi.

Ond, fel y dywedais i, yn hyn o beth, rwy’n meddwl bod gennym ni fwy o ddiddordeb mewn sut i wneud i bob cyswllt gyfrif, pan fydd pobl yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn y newid diwylliannol mwy cyffredinol yr hoffem ni ei weld yn datblygu. Mae hynny'n golygu gweithio gyda phobl, a dyna pam nad ydym ni'n cyfeirio at hyn fel strategaeth gordewdra, oherwydd y gwir yw bod yr iaith a’i fframio yn y sgwrs yn bwysig iawn. Os yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu barnu, maent yn annhebygol o ddangos diddordeb, gan gynnwys y bobl hynny sydd ag eisiau help i wneud gwahaniaeth.

O ran y mesurau yr hoffem ni eu mabwysiadu, mae hynny’n rhan o bwynt cynnal yr ymgynghoriad—i weld beth sy'n gweithio, ac yna, pan fydd gennym ni hynny a phan fyddwn ni’n cyflawni strategaeth, byddwn ni'n glir ynglŷn â sut y bydd gennym ni gerrig milltir a meincnodau i ddeall a ydym ni wir yn gwneud cynnydd a sut y mae'n briodol i fesur y Llywodraeth a pha uchelgeisiau y dylem ni eu gosod ar gyfer y wlad. Mae hwnnw'n gwestiwn ehangach yma, oherwydd ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun ddatrys y mater hwn—pe gallem ni, byddem yn sicr wedi gwneud hynny erbyn hyn.

Ynglŷn â’ch pwynt am bresgripsiynu cymdeithasol, rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y Siambr ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol, am ei ddefnyddio nid yn unig, er enghraifft, yn y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, ond yn y buddsoddiadau ychwanegol rydym ni wedi eu gwneud, ynghyd â’r trydydd sector, sydd wedi’u targedu’n bennaf at iechyd meddwl. Fe wnaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr eto, pan fyddwn ni wedi gwerthuso’r prosiectau rwyf i wedi eu cyhoeddi eisoes.

O ran eich pwynt ehangach am ddileu peiriannau gwerthu, mae her bob amser o ran y cydbwysedd yn yr hyn rydym ni’n ei wneud. Rwy’n disgwyl y bydd rhai mesurau’n dod o’r ymgynghoriad a fydd yn heriol ynghylch sut yr ydym ni’n bwrw ymlaen â hynny. Bydd safbwyntiau cryf iawn ar y ddwy ochr. Os ydym ni’n dweud yn syml, ‘Chaiff ysbytai ddim gwerthu siocled’, er enghraifft, rydym ni’n gwybod y bydd pobl yn mynd i’w brynu o leoedd eraill hefyd.

Felly, mae'n rhan o'r newid diwylliannol, ond os edrychwch chi ar sut y mae byrddau iechyd wedi symud dros y blynyddoedd diwethaf, y gwir yw bod y bwyd y byddwch chi’n ei weld ar gael o fewn ein safleoedd ysbyty wedi gwella'n fawr, ac mae llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r cynnig a’r ffaith ei fod yn gynnig iachach hefyd. Rwy’n disgwyl i’r symudiad hwnnw barhau, ond rwyf wir yn edrych ymlaen i glywed beth a fydd gan Aelodau yma a'r tu allan i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriad.

Rwy’n falch iawn o groesawu datganiad y Gweinidog heddiw a'r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y darn pwysig iawn hwn o waith, sydd, wrth gwrs, yn deillio o welliant gan Blaid Cymru i'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Byddwn yn fy nghysylltu fy hun â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud ei hun ac y mae Darren Millar wedi'i ddweud am bwysigrwydd y mater hwn i iechyd a lles ein cymuned.

Mae hon yn agenda bosibl â chwmpas eang iawn, ac allaf fi ddim ond cyffwrdd heddiw ar nifer bach o faterion, ond, fel y dywedodd Darren Millar, hoffwn roi sicrwydd i’r Gweinidog y bydd Plaid Cymru yn awyddus i'w gefnogi i ddatblygu’r gwaith hwn ac i gydweithredu mewn unrhyw ffordd sy’n briodol.

Mae’r cwestiwn cyntaf yr hoffwn i ei ofyn i’r Gweinidog yn ymwneud â chyflymdra’r gwaith hwn. Nawr, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cymryd amser i’w wneud yn iawn, ond rwy’n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gytuno â mi bod pob diwrnod o beidio â chymryd y camau sydd eu hangen ddiwrnod yn ormod. Felly, rwy’n ceisio sicrwydd gan y Gweinidog heddiw na chaiff amserlen mis Hydref lithro ac y bydd ef yn cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau hynny, o gofio pwysigrwydd y materion.

Unwaith eto, o ran gwerthuso cynnydd y strategaeth pan fydd hi ar waith, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog y bydd angen targedau penodol. Bydd angen targed cenedlaethol ar gyfer sut yr ydym ni’n mynd i leihau’r canrannau y mae’r Gweinidog wedi eu nodi’n gywir o’n cyd-ddinasyddion sy'n ordew neu dros bwysau. Ond hefyd bydd angen targedau penodol i sefydliadau penodol weithredu arnynt, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir ei hun, does dim angen mwy o eiriau cynnes am y materion hyn ac rydym yn gwybod bod yr hyn sy'n cael ei fesur yn cael ei wneud.

O ran pennawd amgylchedd iach y Gweinidog a’r awgrymiadau ar gyfer deddfwriaeth, tybed a fyddai’r Gweinidog yn rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellid defnyddio'r system gynllunio i sicrhau, er enghraifft, nad oes gennym ni mwyach gymaint o siopau bwyd cyflym yn agos iawn i ysgolion. Rwyf ar ddeall nad oes gan awdurdodau lleol y gallu ar hyn o bryd i gyfyngu ar y rhain ar sail iechyd ac rwy'n credu y byddai llawer ohonom yn gryf o blaid cyfyngiad. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hyn yn arbennig o wir mewn cymunedau tlotach lle gall pobl ifanc ddewis prynu sglodion yn hytrach na thalu am ginio ysgol iachach, fel bod ganddyn nhw ychydig mwy o arian yn eu pocedi.

O ran lleoliadau iachach, hoffwn i gael sicrwydd gan y Gweinidog, er bod llawer o bwyslais yma ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion, y bydd yn ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chwaraeon am weithgarwch corfforol. A wnaiff sicrhau—gan weithio gyda'r Gweinidog Addysg, sydd yma—y caiff hyn ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd? Rwy’n arbennig o awyddus i’n gweld ni’n cymryd camau i sicrhau bod gan athrawon, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, y sgiliau a'r hyder i gynnwys hyder corfforol a gweithgarwch corfforol yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud gyda phlant mor ifanc â hynny.

Hefyd, o ran lleoliadau iachach, rwy’n ceisio sicrwydd y Gweinidog y byddwn yn sicrhau bod hyn yn cynnwys colegau addysg bellach. Rydym yn gwybod bod gostyngiad mawr o ran gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith menywod a merched, rhwng 16 a 25 oed, ac mae'n ymddangos i mi y gallai sicrhau bod lleoliadau addysg bellach yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc yn yr ystod oedran hwnnw fod yn bwysig iawn, iawn o ran helpu i ddatblygu a chynnal arferion iach, yn enwedig ar gyfer menywod a merched.

Mae datganiad y Gweinidog yn tynnu sylw, yn briodol, at y cysylltiad rhwng lefelau gordewdra ac ardaloedd o amddifadedd uwch, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ystyried y dylai’r strategaeth edrych ar y gallu i gael gafael ar fwyd iach. Byddwn i’n cynnig, Dirprwy Lywydd, nad oes llawer iawn o famau a thadau yng Nghymru sydd ddim yn gwybod bod afal yn well i’w plentyn na sglodion. Ond y gwir amdani yw bod tatws yn rhatach nag afalau. Felly, a wnaiff ystyried archwilio, wrth ddatblygu’r strategaeth, y gallu i gael gafael ar fwydydd iachach? Rwy’n meddwl yn benodol am gwmnïau bwyd cydweithredol. Rwyf wedi gweld rhywfaint o waith arloesol yn ardal Llanelli lle mae ffermwyr lleol yn dod ynghyd â chymunedau lleol—i nodi pwynt Darren Millar am yr angen am sgiliau coginio, wrth gwrs—ond yn defnyddio’r cynnyrch dros ben a fyddai fel arall yn cael ei daflu i’w ddarparu’n rhad iawn i gymunedau lleol.

Dim ond dau bwynt byr iawn arall. O ran pobl iachach, rwy’n falch iawn o weld y Gweinidog yn cyfeirio at y 1000 Diwrnod Cyntaf. Bydd y Gweinidog, rwy’n siŵr, yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd bwydo ar y fron i sicrhau iechyd cynnar plant a lleihau peryglon gordewdra. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n hyrwyddo hynny mewn modd cadarnhaol i fenywod, ond heb roi pwysau arnyn nhw ychwaith. Rwy’n credu y byddai'n rhan hanfodol o'r strategaeth hon i sicrhau bod cymorth ar gael i fenywod, yn y dyfodol—nid pwysau, oherwydd gwyddom nad yw hynny o gymorth—ond cymorth i fenywod, yn y dyfodol.

Yn olaf, hoffwn fynd ar drywydd y pwynt a wnaed gan y Gweinidog ei hun am dôn y ffordd yr ydym yn trafod y materion hyn gyda’n cyd-ddinasyddion. Mae'r Gweinidog yn gywir iawn i ddweud, os yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu barnu, na fyddant yn barod i gydweithredu, na wnant gymryd rhan—yn wir, mae'r rhai sydd mewn perygl uchel yn troi at fwyta am gysur. Ond byddwn i hefyd yn ychwanegu at yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud—ei bod hi’n bwysig iawn nad oes dim byd yn nhôn y trafodaethau hyn sy’n gallu cyfrannu at y math o bryder ynghylch pwysau a’r ddelwedd o’r corff yr ydym ni’n gwybod eu bod nhw’n cael effaith mor ofnadwy, yn enwedig ar fenywod ifanc, ond yn fwyfwy hefyd ar ddynion ifanc, ac, os na chaiff ei reoli’n briodol, sy’n gallu arwain at anhwylderau bwyta. Mae’r Gweinidog ei hun wedi cyfeirio at effaith materion pwysau a gordewdra ar iechyd meddwl. Mae hynny, wrth gwrs, yn wir am bobl sy'n cario gormod o bwysau, ond gall hefyd fynd y ffordd arall. Felly, rwy’n ceisio sicrwydd gan y Gweinidog heddiw, pan fyddwn ni’n edrych ar yr iaith i’w defnyddio, na fyddwn ni’n ein rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle’r ydym ni mewn perygl o waethygu’r agenda honno.

16:30

Rwy’n hapus i gadarnhau’r ymrwymiad a roddais eisoes i ddyddiad ym mis Hydref ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth. Rwy’n disgwyl y bydd yn cynnwys mesurau a cherrig milltir, ond cerrig milltir, mesurau a thargedau doeth, nid rhai uchelgeisiol. Rwy’n awyddus iawn i gael rhywbeth y gellir ei gyflawni, yn ogystal â mesurau lle gallwn olrhain ein cynnydd, fel y bydd pobl yn gallu gweld y cynnydd a wnawn nid yn unig fel Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn dylanwadu ar ymddygiad ac yn helpu i’w newid. Mae llawer o'r hyn yr ydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut yr ydym ni’n helpu i newid ymddygiad pobl, yn ogystal ag un o'r pwyntiau y gwnaethoch chi am sut i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Mae hynny'n bwysig iawn inni hefyd.

Ac ar un o'r pwyntiau hynny, wrth gwrs, yn anffodus, nid yw’n glir o gwbl—yn wir, barn y mwyafrif yw nad oes gennym ni’r pwerau i ystyriaethau iechyd y cyhoedd fod yn ddyfais gynllunio ddilys, felly nid oes modd cyfyngu ar nifer y siopau bwyd cyflym o gwmpas ysgolion, canolfannau hamdden neu ardaloedd eraill. Credaf fod hynny'n broblem. Mae'n faes lle cafwyd dadl rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod hynt y Ddeddf Cymru ddiwethaf, ynghylch pwerau a gedwir yn fwriadol gan Lywodraeth y DU. Rwy’n credu y gallem wneud llawer mwy o gynnydd pe gellid ystyried hynny yn ystyriaeth gynllunio ddilys, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd mewn sefyllfa lawer gwell. Ond eto nid yw hynny'n golygu, pan fyddwn yn ystyried cynllunio amgylcheddau iach i fanteisio ar yr hyn sydd gennym ni, na fyddem ni’n gallu gwneud mwy eisoes yn y ffordd yr ydym yn cyflenwi gwasanaethau ac yn y ffordd yr ydym yn cynllunio datblygiadau newydd.

O ran eich pwynt ehangach ar leoliadau iach a’r gweithgarwch mewn ysgolion, ceir pwynt yma am lythrennedd iechyd fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Rydym newydd gael datganiad yn para dros awr gyda chwestiynau am ddatblygiad y cwricwlwm newydd. Rydym yn glir iawn ynglŷn â swyddogaeth iechyd a llythrennedd iechyd o fewn y cwricwlwm newydd. I fod yn glir am y gweithgarwch mewn ysgolion, nid dim ond sôn am y filltir ddyddiol yw hyn ac nid dim ond sôn am chwaraeon mewn ysgolion ychwaith, oherwydd mae pobl fel fi a oedd wrth eu bodd â chwaraeon ac yn eu mwynhau, ond, a dweud y gwir, mae pobl eraill sydd ddim erioed wedi eu hoffi. Serch hynny, mae angen inni ddeall bod gweithgarwch yn rhan bwysig o symud o gwmpas a byw bywyd, ac nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n mynd i ddweud bod yn rhaid i bawb orfod gwisgo rhy ychydig o ddillad ar ddiwrnod oer iawn i gael rhywun i weiddi arnoch chi; dydy hynny ddim yn ffordd wych o wneud i bobl syrthio mewn cariad â chwaraeon nac unrhyw fath arall o weithgaredd penodol. Sut i normaleiddio gweithgarwch sy’n bwysig, yn fy marn i.

Ac ar eich pwynt am newid diwylliannol—wrth gwrs, dyna'n union yr hyn a ddywedais yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelod dros Lanelli yn bwrw ymlaen â’i ddiddordeb parhaus mewn teithio llesol, er enghraifft. Soniais am hynny yn y datganiad ynglŷn â sut rydym ni’n mynd o gwmpas ac yn symud o gwmpas. Bydd hynny’n bwysig iawn hefyd. Ond hefyd, rwy’n siŵr y cofiwch chi, wrth gwrs, y gronfa iach ac egnïol, gwerth £5 miliwn, yr oeddwn i’n falch iawn o’i lansio gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog diwylliant—. Mae’r teitl wedi'i ddiweddaru ychydig bellach—Dirprwy Weinidog y Gymraeg a materion rhyngwladol. Na? Dyna’r Gweinidog. Yr Arglwydd Elis-Thomas beth bynnag—[chwerthin.]—a fi a lansiodd y gronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Mae’n ymwneud â defnyddio'r holl asedau sydd gennym ni ac, unwaith eto, mae'n gobeithio hybu newid diwylliannol, yn ogystal â defnyddio’r holl gyfleoedd ar gyfer mwy o weithgarwch corfforol yn y modd gorau posib.

Yn olaf, ar eich pwynt am fwydo ar y fron, mae'n bwnc yr ydym ni’n dychwelyd ato’n rheolaidd yn y Siambr, fel y dylem ni. Mae'n her symud o 'y fron sydd orau' i 'mae’r fron yn normal', a normaleiddio bwydo ar y fron a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dderbyn a’i gefnogi, ac, ar yr un pryd, nad yw merched sy'n gwneud dewisiadau gwahanol am fwydo eu plant yn cael eu barnu ychwaith. A dyna eich pwynt olaf am beidio â barnu pobl, am geisio helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, heb ddymuno gwthio pobl i rywle lle mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta naill ai oherwydd bwyta gormod neu ddim digon, ond am sut yr ydym yn dweud, 'Beth yw pwysau iach a meddwl iach i allu cynnal a chadw pwysau iach?', a dyna sy’n hoelio ein sylw. Dyna sut yr hoffwn i’r sgwrs ddigwydd.

Rwy’n anghytuno â chi am un peth, lle rwy’n credu eich bod chi wedi dweud na ddylai deiet gwael fod yn nodwedd ddiffiniol. Yn anffodus, mae'n un o nodweddion diffiniol Cymru. Ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop, ac mae hwnnw'n ystadegyn eithaf syfrdanol. Felly, rhaid inni roi'r gorau i siarad am y peth a rhaid inni wneud rhywbeth gwirioneddol am y peth.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwyslais ar y 1,000 diwrnod cyntaf; rwy’n cytuno bod hynny’n lle da iawn i ddechrau. Ond, fel yr ydych chi’n ei gydnabod, allwn ni ddim gadael i ysgolion ysgwyddo'r baich o fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant ar eu pen eu hunain; rhaid inni weithio gyda nhw. Ond yn bendant mae’n rhaid inni fynd i'r afael â bwyd mewn ysgolion. Gwnaeth fy rhagflaenydd fel yr Aelod dros Ganol Caerdydd, Jenny Randerson, ymladd yn hir ac yn galed i gyflwyno Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 ac roedd ganddi’r weledigaeth hon o sefydlu bwyd ffres, newydd ei wneud mewn ysgolion. Nid yw hynny wedi digwydd. Mae gennym lawer o gwmnïau arlwyo mawr o hyd yn dod â bwyd o bwy a ŵyr ymhle ac, a dweud y gwir, does prin ddim monitro’n digwydd. Roedd yn ofnadwy clywed bod Sir y Fflint wedi cefnu ar y rhaglen Bwyd am Oes a sefydlwyd ganddyn nhw ynghyd â Chymdeithas y Pridd oherwydd bod hynny’n cynnwys elfennau o fonitro o ble roedd y bwyd yn dod. Does dim monitro’n digwydd nawr yn unrhyw un o'r sefydliadau arlwyo sy'n gwasanaethu ein hawdurdodau lleol. Ers 2013, mae gan Estyn rwymedigaeth i adrodd ar fwyd a diod, ond dydyn nhw ddim yn ei archwilio. A does neb arall yn gwneud hynny oni bai bod gennych chi lywodraethwyr neu gynghorau ysgol arbennig o wyliadwrus. Felly, mae angen deddfwriaeth.

Ni allwn gael sefyllfa lle mae cwmnïau arlwyo'n gwerthu poteli dŵr yn yr ysgol oherwydd yn syml nad ydyn nhw’n ei ddarparu mewn jwg. Mae hyn yn warthus. A rhaid inni gofio bod pobl fel Gareth Wyn Jones wedi cael anhawster i wneud prydau o fwyd ffres pan geisiodd wneud hynny yn Nhreganna yng ngorllewin Caerdydd, oherwydd nad oes digon o lysiau ffres ar gael o fewn 50 milltir. Mae gennym eisoes nodweddion yr hyn sydd angen ei wneud yn adroddiad Kevin Morgan, 'Bwyd Da i Bawb', a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn 2015, sef caffael cyhoeddus mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai ac adeiladau'r llywodraeth. Mae hynny'n rhywbeth y mae gan y Llywodraeth bwerau drosto eisoes, ac mae angen inni ddechrau gweini bwyd iach yn yr holl sefydliadau hynny fel un ffordd o ddechrau newid i'r sgwrs.

Yn olaf, rwy’n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gefnogi syniad diweddaraf Veg Power i wneud llysiau’n hwyl i blant, oherwydd does dim pwynt dweud wrth blant bod yn rhaid iddyn nhw fwyta 5 y dydd—dydy hynny ddim yn mynd i weithio, yn enwedig os nad yw eu rhieni’n gwybod am y neges pump y dydd. Felly, ‘mae bwyta llysiau’n hwyl’ yw'r ffordd ymlaen yn fy marn i. Rwy'n credu bod hysbyseb fach ragorol wedi mynd allan ar ITV yr wythnos ddiwethaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei gysylltu ei hun â’r math hwnnw o ffordd greadigol o ennyn diddordeb plant yn y syniad mai’r hyn y maen nhw'n ei fwyta y byddan nhw’n troi iddo.

16:35

Diolch am y sylwadau a'r pwyntiau. Hoffwn egluro nad yw'r Llywodraeth yn derbyn y dylem ni ganiatáu i ddeiet gwael barhau i fod yn nodwedd ddiffiniol yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau a bod yn rhaid i’r Llywodraeth anelu at nodi hynny. Ac rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych wedi ei ddweud am fwyta'n iach o fewn ysgolion a heriau caffael, am brydau bwyd iach a chadw at y rheoliadau presennol sydd gennym ni wrth ystyried newid deddfwriaethol pellach. Nid mater o’r cwricwlwm yn unig yw hyn, ond a oes angen newid deddfwriaethol hefyd. Ac wrth gwrs, rydym ni'n cael sgwrs i roi cnawd ar beth yw'r camau mwyaf priodol i wneud y gwahaniaeth mwyaf. Bydd hynny’n golygu bod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol i feddwl am beth yw'r canllawiau, beth sydd ei wir angen i sicrhau'r canlyniad iawn.

Ond dylwn ddweud, pan ewch chi i'r ysgolion cynradd yn enwedig, mai un peth sy’n fy nharo i’n rheolaidd yw pa mor gyson yw’r neges ynghylch bwyta'n iach. Negeseuon am ormod o siwgr, gormod o fraster, gormod o halen, a'r ffordd y mae eich pwynt olaf am normaleiddio gwneud bwyd iach, a’i bod hi’n hwyl bwyta bwyd iach yn hytrach na rhywbeth sy’n weithred o benyd, yn hytrach na rhywbeth y dylech chi wir ei fwynhau. Ac rwy’n gwybod hyn gan fod gen i blentyn fy hun yn y system ysgol a phrosiect presennol y tymor yw 'blasus'. Felly maen nhw’n ceisio rhoi cynnig ar flasau newydd a gwahanol a’u gwneud nhw’n ddiddorol a normaleiddio’r peth i blant ifanc. Ac rwy’n falch iawn o ddweud ei fod yn mwynhau’r thema hon ar ei siwrne ddysgu yn fawr, a hoffwn i blant eraill gael yr un cyfle. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych ar yr hyn a wnawn, sut yr ydym yn ei wneud, a sut yr ydym yn ei wneud yn fwy cyson i wneud y newid diwylliannol gwirioneddol y mae pawb yn ceisio ei gyflawni.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gordewdra yn fater pwysig, fel y mae’r siaradwyr i gyd wedi’i wneud yn glir, ac mae'n mynd i fod yn fwy a mwy o broblem, yn ariannol, os na allwn ni fynd i'r afael ag ef. Nid wyf yn credu fy mod yn anghytuno â dim byd a ddywedodd neb arall yn y Siambr heddiw. Ond mae pobl wahanol yn dod o onglau gwahanol, a bydd yn waith anodd dwyn pob un o'r dulliau hyn ynghyd mewn rhaglen gydlynol. Felly, mae yna anawsterau o’n blaenau ni. Mae Jenny Rathbone newydd sôn am bwysigrwydd deiet ysgol, a soniodd hefyd am gaffael cyhoeddus, sy'n rhywbeth sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar bwyllgor yr amgylchedd, sy’n cael ei gadeirio gan Mike Hedges; mae yntau’n awyddus iawn i gynnig defnyddio caffael cyhoeddus fel ysgogydd. Felly, mae hyn yn rhywbeth y gallem ni ei wneud, a gallai hefyd gael ei gysylltu â chynhyrchwyr bwyd mewn amgylchedd ar ôl Brexit sy’n ceisio dod o hyd i farchnad ar gyfer eu cynnyrch. Felly, rwy’n gobeithio y gall y syniad hwnnw o gaffael cyhoeddus rywsut gyfrannu at eich rhaglen o fynd i'r afael â gordewdra. Wrth gwrs, dim ond un ongl yw honno. Mae gweithgarwch corfforol yn sicr yn fater mawr arall a'r angen i gynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc, ac rwy’n credu bod angen ei gyflwyno mewn ysgolion gymaint â phosibl. Ond rydych chi eich hun wedi codi rhai o'r materion a gafodd sylw gan bobl eraill hefyd, sef na allwn ni gyfyngu gweithgarwch corfforol i bobl sy’n gallu ei wneud yn dda. Y broblem, a dweud y gwir, yw perswadio pobl sydd ddim cystal â hynny am wneud gweithgarwch corfforol, y rheini sydd o bosib ddim yn credu bod ganddynt gorff deniadol iawn neu gorff addas i chwaraeon, i wneud gweithgaredd corfforol ystyrlon. Mae Angela Burns wedi codi'r mater hwn o’r blaen wrth siarad am y peth o feinciau'r Ceidwadwyr. Felly, mae hyn yn un o'r problemau.

Roedd Darren Millar yn sôn am bresgripsiynau cymdeithasol, sydd wrth gwrs yn beth arall y gallwn ni ei ddefnyddio mewn ffordd ystyrlon. Ond eto y broblem â phresgripsiynau cymdeithasol yw, os ydych chi'n mynd i berswadio pobl i fynd i gampfeydd, os yw pobl yn credu eu bod nhw'n dew, fwy na thebyg, lawer ohonynt—bydd yn anodd eu perswadio nhw i fynd i'r gampfa oherwydd bydd ganddyn nhw rai pryderon am siâp eu corff. Felly, mae'r rhain yn anawsterau enfawr, a sut rydym ni’n mynd i’w goresgyn nhw, wn i ddim. Mae angen dull gweithredu cydgysylltiedig.

Mae teithio llesol hefyd yn sicr yn rhan ohono, ac rwy’n bryderus braidd ynghylch y ffordd y mae teithio llesol wedi cael ei basio o amgylch y Llywodraeth yn y gorffennol. Mae wedi mynd rhwng gwahanol bortffolios a gwahanol adrannau a gwahanol Weinidogion. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei gymryd o ddifrif. Yn ôl pob golwg, efallai mai Lee Waters, rwy’n credu bod rhywun wedi awgrymu hynny, sy’n gyfrifol am hynny erbyn hyn. Nawr, nid oes gennym dystiolaeth wirioneddol, ers cyflwyno’r Ddeddf teithio llesol, bod lefelau cyfranogiad wedi gwella rhyw lawer. Felly, rwy’n credu bod angen inni ddefnyddio'r Ddeddf honno, cael gafael arni, ei gweithredu'n gywir a’i defnyddio'n rhan o'ch rhaglen. Mae'n fater eang, a byddwn i’n falch o glywed eich barn ar y mater heddiw.

16:40

Diolch i chi am yr ystod o feysydd yr ydych chi wedi sôn amdanynt. Ynglŷn â delwedd y corff, teithio llesol a chaffael, er enghraifft, rwy’n credu fy mod i wedi sôn am y rheini yn y datganiad ac wedi bod yn glir eu bod yn feysydd y mae angen inni roi sylw iddynt. Maen nhw'n rhan o'r ymgynghoriad ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud am y cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt. Mae gennyf wir ddiddordeb yn yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud ac mewn tystiolaeth o'r hyn sydd â’r gobaith gorau o weithio, oherwydd nid ni yn unig sy’n wynebu’r her hon. Mae gan bob cenedl orllewinol arall her debyg, ac nid yw gwneud dim yn opsiwn. Bydd hynny'n golygu y bydd angen inni ddysgu wrth weithio hefyd, oherwydd does dim un wlad yng ngorllewin Ewrop y gallwch chi ddweud ei bod hi wedi cael hyn yn iawn ar lefel genedlaethol. Ceir peth tystiolaeth, serch hynny, ynghylch rhannau o'r Iseldiroedd fesul dinas lle mae arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rwy’n anghytuno’n gwrtais â chi ar eich pwynt am weithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc. Wrth gwrs mae'n bwysig ein bod ni’n ceisio hybu patrymau oes ar gyfer pobl ifanc, ond, mewn gwirionedd, mae gweithgarwch corfforol yn bwysig i bob un ohonom, pa un a ydych yn ifanc, yn eich gweld eich hun fel rhywun canol oed neu hŷn. Nid wyf yn mynd i ofyn i'r bobl yn y Siambr hon roi eu hunain mewn categorïau fel yna, ond rydym yn gwybod bod manteision i bob un ohonom o aros yn egnïol yn gorfforol drwy bob cyfnod yn ein bywydau. Mae'n ymwneud â'r math o weithgarwch a sut rydym yn ei wneud yn haws ac yn beth normal i'w wneud ac, unwaith eto, ddim yn fath o benyd neu gosb.

Diolch, Gweinidog. Mae gen i gwpl o gwestiynau heddiw ynghylch gordewdra ymhlith plant, sy'n fater yr wyf yn bryderus iawn yn ei glych. Wrth gwrs, rydym yn gwybod y gall fod problemau daearyddol penodol o ran mynd i'r afael â mater hwnnw, ac un ystadegyn sydd wedi rhoi sioc imi erioed yw'r ffaith bod chwarter y plant yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn ordew—nid dim ond dros bwysau, ond yn glinigol ordew. Gwn fod eich datganiad yn sôn am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond a fyddai modd ichi roi unrhyw wybodaeth bellach am hyn, neu, yn wir, enghreifftiau o arfer gorau y byddech yn awyddus i’w hyrwyddo?

Mae gordewdra ymhlith plant hefyd yn gallu gwaethygu drwy inni beidio â rhoi i'n pobl ifanc yr hyder i fynd allan i’r byd naturiol, sydd, unwaith eto, yn achos yr wyf i wedi ei hyrwyddo ers imi ddod i'r lle hwn. Yng Nghymoedd y De, mae'r byd naturiol yn union ar garreg eu drws yn aml. Dim ond 13 y cant o blant Cymru sy’n ystyried bod ganddynt gysylltiad cryf â'r awyr agored, felly sut rydych chi’n gweithio gyda chymheiriaid ar draws y Llywodraeth i weld sut y gallwn ni fynd i'r afael â’r canfyddiad hwnnw? Rwyf wedi siarad o'r blaen am sut y gall addysg awyr agored fwy ffurfiol gyfrannu at hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa drafodaethau yr ydych chi o bosib wedi'u cael ynghylch sut y gallai hynny gyd-fynd â’r strategaeth i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant.

16:45

Diolch am y sylwadau. Rydych chi’n iawn i nodi maint gwahaniaethol yr her sy'n ein hwynebu. Ac mae’n rhan o ail-normaleiddio gweithgarwch a meddwl am y dewisiadau a wnawn ni fel rhieni, oherwydd rydym ni’n gwneud dewisiadau ar gyfer ein plant, ac, wrth wneud hynny, rydym ni mewn gwirionedd yn helpu i bennu eu patrymau ar gyfer bywyd, ac mae hynny'n rhan o'n her. Unwaith eto, mae'n mynd yn ôl i beidio â barnu pobl. Os dywedwch chi wrth rieni, 'Rydych chi'n rhieni gwael oherwydd mae eich plentyn dros bwysau', wnaiff hynny byth—wel, i’r mwyafrif helaeth o bobl, bydd hynny’n eu hanfon nhw’n bellach i ffwrdd ac ni fydd yn ennyn y math o ymddiriedaeth a’r sgwrs y mae angen inni ei chael ynglŷn â sut i wneud y dewisiadau iachach hynny’n llawer haws i bobl. A cheir enghreifftiau micro-gymunedol o bethau sydd wedi gweithio. Yr her yw gwneud hyn ar raddfa, a dyna yw ein her fawr: creu newid diwylliannol sylweddol a newidiadau mewn ymddygiad cymunedol.

Mae’r cyfle bob amser yn fwy pan fydd plant yn iau, ac mae rhieni, a dweud y gwir, yn fwy tebygol o rannu straeon â'i gilydd. Rydych chi'n fwy tebygol o ryngweithio â rhieni pan fo’r plant yn iau, â’r gwahanol weithgareddau y maen nhw’n eu gwneud cyn ysgol gynradd ac wedyn hefyd. Felly, mae cyfle go iawn yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar hynny mewn bywyd. Yn wir, rydym ni’n gweld rhai newidiadau buddiol gyda, er enghraifft, rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, ond y bwriad yw cynyddu’r raddfa o ran cysondeb a gweithgarwch.

Ar y pwynt ehangach ynglŷn â sut yr ydym ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth, ar y thema iach ac egnïol, mewn gwirionedd roedd gennym ni ddwy wahanol strategaeth i ddechrau: un ar weithgarwch ac un ar bwysau iach. Rydym ni wedi dod â nhw at ei gilydd yn fwriadol oherwydd bod cysylltiadau clir yno a hoffem ni sicrhau eu bod yn fwriadol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn i a’r Dirprwy Weinidog yn bresennol mewn grŵp traws-Lywodraeth yn edrych ar sut y gallwn fwrw ymlaen â mwy o weithgarwch, i edrych ar wahanol ddulliau Llywodraeth o deithio llesol i amgylchedd iachach i bobl yn nhîm Lesley Griffiths, ac i edrych ar sut i ymdrin â hyn ar draws y Llywodraeth ac nid dim ond dweud, 'Mater iechyd ac addysg yw hwn'. Ac mae hynny hefyd yn rhan o'r rheswm pam yr oedd gennym ni’r gronfa iach ac egnïol yn gweithio nid yn unig gyda Chwaraeon Cymru ond hefyd, er enghraifft, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal i ddefnyddio’r asedau sydd gennym ni eisoes, ac, unwaith eto, i normaleiddio defnyddio'r asedau hynny sy’n bodoli o fewn cyrraedd rhwydd i bob cymuned i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod eu bod nhw yno a’u bod nhw wir yn manteisio ar y cyfle i'w defnyddio nhw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gordewdra yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r strategaeth hon, oherwydd ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop. Felly, mae croeso mawr i strategaeth. Gweinidog, rwy’n cefnogi llawer o’ch cynllun ac rwy’n croesawu'r pwyslais ar atal, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Ond, ar unrhyw oed, os oes angen newid, mae angen ei groesawu a'i annog.

Gweinidog, yn ogystal â’r strategaeth, a fyddwch chi’n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn gwneud darpariaeth i addysgu plant a phobl ifanc am fwyta'n iach? Yn ein cymunedau a'n trefi, rhaid inni hefyd sicrhau bod mamau, mamau ifanc, yn teimlo'n hyderus am y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron. Rwy’n croesawu’r gwaharddiad ar ddiodydd egni i blant o dan 16 oed. Diolch byth, mae nifer y bobl ifanc sy’n yfed diodydd llawn siwgr wedi gostwng dros chwarter yn y degawd diwethaf, ac mae'r rhai sy'n eu hyfed nhw’n yfed llawer llai na 10 mlynedd yn ôl. Mae caeau chwarae ysgolion, neu eu diffyg oherwydd adeiladu ar yr ardaloedd hyn, hefyd yn bryder mawr imi oherwydd mae gweithgarwch corfforol yn eithriadol o bwysig ac mae llai a llai ohono’n digwydd.

Mae cyflogwyr sy'n cynnig cymorth i brynu beiciau i feicio i'r gwaith hefyd i'w groesawu ac mae angen rhoi mwy o sylw i hynny. Fodd bynnag, yn ôl yr arolwg cenedlaethol deiet a maeth, mae cymeriant ffibr i lawr, fel y mae cymeriant fitaminau a mwynau, ac mae llawer o bobl yn dal i fwyta llawer llai na phump y dydd. Gweinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld feganiaeth yn mynd yn fwy poblogaidd, ac, er y gall deiet fegan fod yn iach iawn, mae angen bod yn ofalus i sicrhau’r cydbwysedd cywir o fitaminau a mwynau. Gweinidog, a fyddwch chi’n ystyried gwelliannau i labelu bwyd i helpu pobl i sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â lleihau braster, halen a siwgr, yn cael digon o fitaminau a mwynau i gadw corff iach?

A sôn am labelu bwyd, mae gen i bryderon am fandadu labelu calorïau ar gyfer bwyd sy’n cael ei brynu a’i fwyta y tu allan i'r cartref. Er bod hyn yn gymharol hawdd i siopau mawr, fel McDonalds neu Greggs, efallai na fydd y caffi lleol bach yn gallu ymdopi â’r galwadau a’r costau ychwanegol. Felly, Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gymell symudiadau fel hyn drwy gynnig, er enghraifft, gostyngiad ardrethi busnes i helpu’r busnesau bach hynny i gymryd y cam pellach hwn?

Yn olaf, Gweinidog, er fy mod i’n croesawu’r pwyslais ar atal, rhaid gwneud mwy i helpu'r bobl hynny sydd eisoes yn rhy drwm neu'n ordew. Pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol am sicrhau bod meddygon teulu’n cael y sgyrsiau anodd â'u cleifion ynghylch pwysau? A sut ydych chi’n bwriadu ymateb i bryderon Coleg Brenhinol y Ffisigwyr mai dim ond ychydig neu ddim cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl sydd eisoes yn ordew? Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd hefyd yn hynod o bwysig, fel mae Vikki Howells eisoes wedi’i ddweud.

Felly, diolch unwaith eto, Gweinidog. Rwy’n edrych ymlaen at weld eich strategaeth derfynol, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau Cymru iachach.

16:50

Diolch i chi am eich sylwadau a'r cwestiynau a'r croeso cyffredinol i'r ymgynghoriad. I geisio ymdrin â nhw o chwith i'w trefn, rydym ni'n glir y byddwn ni'n edrych ar y llwybr clinigol i fynd i'r afael â gordewdra; rydym yn cydnabod bod mwy y mae angen inni ei wneud, ac, unwaith eto, mwy o gysondeb a dysgu o'r lleoedd y bu hynny fwyaf llwyddiannus yn y wlad.

Rwy'n credu bod eich pwynt am feddygon teulu yn cael sgyrsiau anodd, mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y mae cyswllt yn rheolaidd â gwahanol rannau o'n system iechyd a gofal. Felly, mae'n fater nid yn unig ar gyfer meddygon teulu, ond, unwaith eto, pa mor sensitif yw'r sgwrs a pha un a yw'r cymorth a'r gefnogaeth ar gael. Mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod yn iachach o ran pwysau a siâp, ac maen nhw'n ymwybodol o hynny, a'r her yw sut gallwn ni helpu pobl i wneud hynny mewn ffordd sy'n grymuso ac nid yn beirniadu, fel yr wyf wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â labelu bwyd, dyna'r pwynt sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad—i ddeall bod barn wahanol, ond mae llawer o fusnesau bwyd eisoes yn darparu'r cyfartaledd o galorïau mewn dogn, pa un a ydych chi mewn cwmni cadwyn neu hyd yn oed mewn siopau llai hefyd. Felly, rydym ni'n bwriadu ymgynghori er mwyn ceisio deall sut y byddai hynny'n edrych. O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â newid deiet, dyna'n union un o'r rhesymau pam yr ydym ni yma—nid yn unig ynghylch mwy o fraster, mwy o siwgr a mwy o halen, ond mewn gwirionedd y diffygion o ran ein deiet hefyd.

A'r pwyntiau ynghylch diodydd egni, bwydo ar y fron, ac, yn wir, y cwricwlwm, sydd, rwy'n credu wedi'u gwneud mewn cyfraniadau blaenorol felly nid wyf am drethu amynedd y Dirprwy Lywydd drwy ailadrodd atebion yr wyf eisoes wedi eu rhoi.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa

Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 'Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa', a galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid'. Mae'r cynllun yn cynnwys ystod o gamau gweithredu i wella bywydau pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru, ac mae'r camau gweithredu hyn yn rhychwantu ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Maen nhw'n adlewyrchu'r dull cydgysylltiedig sydd ei angen i wella profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Mae'r cynllun yn cynrychioli cam sylweddol tuag at ein huchelgais o wneud Cymru'n genedl noddfa. Mae'r enw yr ydym wedi ei roi ar y cynllun hwn yn ddatganiad clir o'n bwriad. Mae gan Gymru hanes hir a balch o groesawu ffoaduriaid, ond rydym ni eisiau symud y tu hwnt i groesawu unigolion, drwy ddefnyddio eu sgiliau a chyfoethogi ein cymunedau.

Cyhoeddwyd ein cynllun cyflawni blaenorol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ym mis Mawrth 2016. Ers hynny, arweiniodd y pryder dyngarol a ysgogwyd gan argyfwng ffoaduriaid Syria i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gynnal ymchwiliad i hyn. Roedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chynllun i ddiwallu anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn well. Fel Llywodraeth Cymru, roeddem ni hefyd eisiau dangos arweinyddiaeth a chyfeiriad cryfach yn y maes hwn, ac fe wnaethom ni gytuno i ddatblygu ac ymgynghori ynghylch fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun.

Datblygwyd cynllun cenedl noddfa drwy gydgynhyrchu. Fe wnaethom ni gyfarfod a gwrando ar bobl a oedd yn ceisio lloches ac ymgysylltu â'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli, cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd eu cyfranogiad a'u barn yn hollbwysig wrth greu cynllun diwygiedig ac fe hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am neilltuo amser ac am gefnogi'r broses hon. Fe wnaeth yr ymgysylltiad hwn ein helpu ni i ddeall yn well yr heriau presennol sy'n wynebu'r unigolion hyn yn ddyddiol, sy'n hollbwysig os ydym ni am ddarparu cymorth effeithiol i ddatrys y problemau hyn. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu hadroddiad rhagorol, 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun', a'i argymhellion, a greodd sylfaen gref ar gyfer ein trafodaethau gyda'r rhai hynny sy'n ceisio lloches.

Fel bob amser, mae'n rhaid inni gydnabod nad yw polisi lloches a mewnfudo wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Nid ydym ni'n rheoli llawer o'r dulliau dylanwadu allweddol i wneud gwahaniaeth. Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein hymdrechion i weithredu newid cadarnhaol yn y meysydd hynny lle mae gennym ni gyfrifoldeb. Mae'n amlinellu ein hymrwymiad i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Clymblaid Ffoaduriaid Cymru—y byddwn yn cwrdd â nhw cyn bo hir—a phobl sy'n ceisio lloches i gyflawni gwell canlyniadau.

Mae'n hinsawdd heriol iawn i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU. Mae'r sgyrsiau gwleidyddol a'r adrodd ynghylch mewnfudo ar y cyfryngau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dwysáu tensiynau rhwng cymunedau. Mae cymunedau Cymru bellach wedi croesawu'n agos at 1,000 o ffoaduriaid o Syria sydd wedi adsefydlu, gyda llawer o agweddau cadarnhaol ac ychydig iawn o ddigwyddiadau negyddol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cymunedau Cymru hefyd wedi croesawu llawer mwy o ffoaduriaid o bedwar ban byd a gyrhaeddodd drwy'r llwybr lloches digymell. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r system ddwy-haen, sy'n cosbi'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r llwybr lloches. Hefyd, rydym ni'n gwrthwynebu cau cynllun Dubs, a oedd yn darparu llwybr cyfreithlon i ddiogelwch ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid yn Ewrop. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n parhau i wrthwynebu'r polisïau amgylchedd gelyniaethus neu gydymffurfiol, sy'n mynd yn erbyn ein rhwymedigaethau rhyngwladol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym yn credu'n sylfaenol mewn rhoi pobl yn gyntaf ac nid defnyddio statws mewnfudo i rwystro cymorth. Rydym ni'n clodfori'r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ni waeth beth fyddai eu gwlad wreiddiol, a'n nod yw eu helpu i gyfrannu at gymdeithas Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn meddu ar brofiad a sgiliau sydd o werth i Gymru. Os rhown ni'r gefnogaeth iawn i'r unigolion hyn, gallwn ni ddatgloi eu potensial er budd mawr i'r wlad hon. Un o'r ffyrdd allweddol o wella cefnogaeth dros y ddwy flynedd nesaf fydd drwy ein prosiect integreiddio ffoaduriaid, sef ReStart, a fydd yn darparu rhaglen uchelgeisiol i gefnogi integreiddio ar gyfer ffoaduriaid, yn bennaf yn y pedwar clwstwr didoli lloches yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cynyddu cyfleoedd i gael hyfforddiant iaith, cymorth cyflogadwyedd a gwybodaeth ddiwylliannol leol i hybu integreiddio. Bydd o leiaf 520 o ffoaduriaid yn cael asesiad cyfannol o'u hanghenion a rhoddir cymorth wedi'i dargedu i helpu eu hymdrechion i integreiddio i'r gymdeithas.

Mae'r cynllun cenedl noddfa yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol i helpu pobl sy'n ceisio lloches i integreiddio. Caiff ei gefnogi gan ein gwefan noddfa a fydd yn cael ei lansio'n fuan. Bydd y wefan yn darparu cyfoeth o wybodaeth berthnasol mewn un lleoliad hygyrch ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae sicrhau y gall pobl sy'n ceisio lloches ddatblygu eu gwybodaeth am fywyd yng Nghymru a deall eu hawliau a'r cyfleoedd yn hanfodol i'w helpu i ddod yn rhan o gymdeithas. Mae'r wefan yn cynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth, yn ogystal ag iaith a gwybodaeth gyffredinol am ddiwylliant a hanes Cymru.

Mae'r cynllun yr wyf yn ei lansio heddiw yn tynnu sylw at amrywiaeth o gymorth wedi ei dargedu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac sy'n gweddu orau ar gyfer anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ystyried yr anghenion hyn: gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i'r afael â phrofiadau anodd ac unigol pobl sy'n ceisio lloches; ymyraethau i liniaru'r perygl o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn disgyn i amddifadedd a chamau gweithredu i atal yr unigolion sy'n agored i niwed hyn rhag camfanteisio arnynt; a chefnogaeth i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu diogelu, yn enwedig plant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er enghraifft, rydym ni wedi darparu cyllid i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol i geisio sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwasanaeth gwarcheidiaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw alw am wasanaeth o'r fath a sut y gallai edrych. Mae'r cyllid hefyd ar gael ar gyfer hyfforddi gweithiwr cymdeithasol i asesu oedran, a hyfforddiant mewn cyfraith fewnfudo ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Rydym ni'n credu bod y cynllun yn gam arall i'r cyfeiriad cywir a chaiff ei fonitro'n drylwyr i gyflawni'r amcanion a'r camau gweithredu. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Byddaf yn parhau i edrych am ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau mwy cynhwysol i bobl sy'n ceisio lloches, ac rydym yn bwriadu cynnal y momentwm yn dilyn cyhoeddi'r cynllun.

Nid yw atal unigolion rhag ceisio manteisio ar gyfleoedd ac ychwanegu at amrywiaeth ein cymunedau o fudd i neb. Mae ffoaduriaid cymwys ac aelodau o'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar gymorth statudol i fyfyrwyr. Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau bod ein swyddogion hefyd yn ymchwilio i newidiadau posibl i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr statudol i alluogi ceiswyr lloches i elwa ar y cymorth sydd ar gael.

Rydym yn cydnabod bod ceiswyr lloches yn aml wedi'u hynysu, ac y gall eu hiechyd meddwl ddirywio oherwydd nad oes ganddyn nhw'r hawl i weithio a dim ond ychydig iawn o arian i gael mynediad i'r gymuned ehangach. Cadarnhaodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bod swyddogion yn ymchwilio i'r posibilrwydd y gall ceiswyr lloches ddod yn grŵp penodol o bobl sy'n elwa ar deithio ar fws am bris rhatach. Mae pobl 60 oed a hŷn neu sy'n anabl ac yn byw yng Nghymru eisoes yn gymwys i wneud cais i'r awdurdod lleol perthnasol am docyn bws, a ddylai roi'r hawl iddyn nhw deithio am ddim ar fysiau ledled Cymru.

Rydym ni'n falch iawn bod cynrychiolydd UNHCR—Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid—y DU wedi rhoi cefnogaeth lwyr i'r cynllun.  Asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yw UNHCR ac mae wedi ymrwymo i achub bywydau a diogelu hawliau pobl sy'n ceisio lloches. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r geiriau o gefnogaeth ac anogaeth gan yr UNHCR ac rydym yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth o'n hymdrechion i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydym yn bwriadu adeiladu ar y cynllun hwn i sicrhau bod Cymru yn wirioneddol yn genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er lles pawb mewn cymdeithas.

17:00

Diolch, unwaith eto, Dirprwy Weinidog, am gyfarfod â mi y bore 'ma i'm rhoi ar ben ffordd ynghylch hyn, a chydweithwyr eraill ar draws y Siambr mae'n debyg, ac am eich datganiad. Rydym ni ers tro bellach wedi darparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig a hil-laddiad o bedwar ban byd, a hir y pery hynny, oherwydd os collwn ni hynny fyth, byddwn wedi colli ein dynoliaeth a'n gwir hunaniaeth.

Yn eich cynllun, rydych chi'n darparu diffiniadau o geiswyr lloches a ffoaduriaid, sy'n dangos bod ceisiwr lloches yn unigolyn sy'n ffoi rhag erledigaeth yn ei famwlad. Ffoadur yw unigolyn sydd, oherwydd ofn rhesymol o gael ei erlid ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol arbennig neu farn wleidyddol, yn teimlo ei fod mewn perygl gartref. Rydych chi'n nodi hefyd bod y term 'ffoaduriaid' yn cynnwys unigolion, nas cydnabyddir eu bod nhw'n ffoaduriaid ond sydd wedi cael caniatâd amhenodol i aros.

Fel y rhybuddiais wrthych y bore 'ma, fe'ch holaf felly ar sail pryderon a godwyd â mi gan geisiwr lloches aflwyddiannus yn ystod digwyddiad i goffau'r Holocost ddydd Gwener diwethaf yn Wrecsam, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy'r broses apelio. A fyddai unigolion o'r fath felly yn cael eu cynnwys yn hyn neu beidio? Os na fydden nhw, a fyddech chi'n ystyried hyn eto i weld pa un a yw hi'n bosibl eu cynnwys?

Rai misoedd yn ôl, ym mis Mehefin, wrth ymateb i ddatganiad gan arweinydd y tŷ ar y pryd ar Gymru—cenedl noddfa, nodais ffigurau o'r flwyddyn flaenorol a oedd wedi dangos darlun cymysg iawn o ailsefydlu ffoaduriaid ledled Cymru. Dangosodd bryd hynny nad oedd Merthyr Tudful na Chastell-nedd Port Talbot wedi derbyn unrhyw ffoaduriaid, Sir Gaerfyrddin oedd yr uchaf gyda 51 ac Abertawe gyda 33. Yn y gogledd, roedd gan Sir Ddinbych 21 ond dim ond pump yn Sir y Fflint a dau yng Nghonwy. Atebodd arweinydd y tŷ ar y pryd,

Cododd yr Aelod y pwynt pam y ceir anghysondeb yn y nifer a fanteisiodd ar y cyfle...ond, wrth gwrs, nid ydyn nhw'n ystadegau parhaus.

A ydych chi'n gallu darparu nawr neu yn nes ymlaen ddarlun cyfredol, neu mor gyfredol â phosibl, o'r ystadegau i'r Aelodau fel y gallwn sefydlu pa un a yw'r sefyllfa yn gwella yn yr ardaloedd lle bryd hynny roedd hi'n ymddangos y ceid mwy o rwystrau?

Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Clymblaid Ffoaduriaid Cymru a phobl sy'n ceisio lloches i gyflawni canlyniadau gwell, ac wrth gwrs fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair cydgynhyrchu. Cyfeiriasoch hefyd at eich prosiect integreiddio ffoaduriaid, ReStart, i gyflawni rhaglen uchelgeisiol i gefnogi integreiddio ar gyfer ffoaduriaid yn bennaf yng Nghymru ar gyfer clystyrau didoli lloches a datgan hefyd bod sicrhau bod pobl sy'n ceisio lloches yn gallu datblygu eu gwybodaeth am fywyd yng Nghymru a deall hawliau a chyfleoedd, yn hanfodol i'w helpu i integreiddio a dod yn rhan o'r gymdeithas.

Sut ydych chi hefyd yn bwriadu ymgysylltu â'r boblogaeth ehangach, gan ei bod yn amlwg yn broses ddwy ffordd? Oni bai inni dorri'r rhwystrau rhag deall gartref, yna ni waeth pa mor dda yr ydym yn ceisio integreiddio ein cymdogion newydd, bydd y rhwystrau hynny yn parhau. Felly, mae hyn wirioneddol yn broses dwy ffordd.

Mae'r gwaith caib a rhaw eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru, yn aml am y nesaf peth i ddim, gan fyrdd o gyrff y trydydd sector a phartneriaethau rhwng y trydydd sector ac eraill. Felly, sut ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â phrosiectau o'r fath? Fe rof i ychydig o enghreifftiau ichi. Rwy'n credu fy mod i wedi sôn wrthych y bore yma fy mod i'n Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn cyflawni'r agenda hon dros nifer o flynyddoedd. Fis Mai diwethaf, yn y Cynulliad cynhaliais y digwyddiad Gadewch inni Integreiddio Drwy Gerddoriaeth a Chelf a gyflwynwyd gan Gymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a KIRAN o Gwmbrân, y rhwydwaith perthynas ac ymwybyddiaeth rhwng cymunedau ar sail gwybodaeth, sydd â'r nod o ddileu'r rhwystrau sy'n cadw pobl ar wahân a hybu'r cyd-ddealltwriaeth sy'n dod â phawb at ei gilydd. Fis Mai diwethaf, cefais gyfarfod yn y Cynulliad gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a gwasanaethau cymorth personol CAIS i siarad ynghylch sut y gallwn ni weithio mewn partneriaeth i chwalu rhwystrau a chynyddu dealltwriaeth o ddiwylliannau ein gilydd.

Fis Hydref diwethaf, siaradodd Julie James a minnau yn nigwyddiad NWAMI Dathlu Blynyddol Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Fe wnes i gloi'r digwyddiad drwy bwysleisio unwaith eto pwysigrwydd integreiddio drwy ddathlu gyda'n gilydd ein hamrywiaeth odidog, gan adeiladu cydlyniant cymunedol a chymdeithas oddefgar drwy ymgysylltu diwylliannol. Rwy'n gobeithio felly, y gwnewch chi amlinellu'n ehangach sut bydd eich cynllun yn ymgysylltu a chofleidio'r prosiectau hynny sydd eisoes yn gweithredu ar draws y genedl, yn gwneud y gwaith caib a rhaw i godi pontydd o'r ddau ben.

Yn olaf, os caf, dim ond cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi o fewn yr agenda hon y mentrau dinas a thref lleol sydd hefyd yn codi stêm. Fe gofiwch yn dda sut y daeth Cymru yn genedl fasnach deg wrth i ddarnau'r jig-so ddechrau ar wahân ac yna dod at ei gilydd, a Wrecsam y dref fasnach deg gyntaf ac eraill yn dod at ei gilydd cyn y gallai Cymru ddod yn genedl fasnach deg gyfan. Nawr, yn yr achos hwn, yr haf diwethaf er enghraifft, Synergedd yn Sir y Fflint, yn gweithio gyda'i gilydd i wneud Sir y Fflint yn noddfa i ffoaduriaid a'r rhai a oedd yn dianc rhag trais ac erledigaeth, yn uno nid yn unig aelodau Synergedd, ond Dinasoedd Noddfa Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, cynrychiolwyr yr eglwys, elusenau a grwpiau gweithredu, Theatr Clwyd a hamdden a llyfrgelloedd Aura—unwaith eto, gwaith ar lawr gwlad a allai elwa'n ychwanegol ar weithio gyda'ch cynllun chi.

Ac yn olaf—

17:05

Ddydd Gwener bydd ymgyrch i wneud Wrecsam yn dref noddfa yn cael ei lansio ac mae gwahoddiad i grwpiau ac unigolion lleol fod yn rhan ohono—enghraifft wych o waith da y gallwch elwa arno drwy gysylltu'r dotiau, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch i chi am eich geiriau agoriadol ac am y cyfle i gael trafodaeth cyn y datganiad hwn y prynhawn yma. Mi rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n cefnogi ein ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rwy'n credu ein bod yn y cynllun, fel yr ydych yn pwysleisio, yn y ffordd yr ydym ni'n cydnabod ceiswyr lloches a ffoaduriaid, yn defnyddio'r ymadrodd 'pobl sy'n ceisio lloches' yn ein cynllun, ac rydym ni'n defnyddio hwnnw fel term i gyfeirio at ffoaduriaid neu geiswyr lloches o unrhyw gefndir ac o dan unrhyw amgylchiadau. Mae angen i ni gydnabod bod yr aelodau hyn, fel y dywedwn yn y cynllun, yn bobl yn gyntaf ac yn bennaf, ac, wrth gwrs, mae eu statws mewnfudo yn allweddol o ran eu hawliau, eu cyfleoedd a'u rhwymedigaethau. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod hyn o ran lles a diogelwch.

Fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn cyntaf am y sefyllfa pan geir ceiswyr lloches a wrthodwyd efallai yn y sefyllfa y gwnaethoch chi ei chrybwyll, lle y gallent fod o dan apêl, ond yn amlwg, ceir sefyllfaoedd yr ydym wedi eu codi yn y Siambr hon, ar draws y Siambr hon, am bobl dan yr amgylchiadau hynny, ac mae pobl wedi cyflwyno sylwadau. Dim ond cyflwyno sylwadau y gallwn ni, fel y gwnawn fel Aelodau etholedig, ac yn wir fel Llywodraeth Cymru, ar ran y bobl hynny. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw dweud y byddwn yn darparu o fewn ein pwerau, gymorth hanfodol i geiswyr lloches a wrthodwyd, ac rwy'n credu mai dyna ble mae'r holl wasanaethau a'r holl asiantaethau, fel y dywedwch, yn dod at ei gilydd er mwyn darparu cymorth o'r math hwnnw, oherwydd ceir perygl o fasnachu pobl, camfanteisio, amddifadedd neu cyflyrau iechyd difrifol hyd yn oed, yn deillio o bobl nad ydyn nhw'n cael hawlio arian cyhoeddus, sydd wrth gwrs yn digwydd yn aml. Rydym yn parhau i sicrhau nad yw gofal iechyd yn cael ei atal yn achos ceiswyr lloches a wrthodwyd; mae ganddyn nhw'r un hawl i'r gwasanaethau ag unrhyw ddinesydd arall. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i geisio sicrhau na fydd pobl sy'n ceisio lloches, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw'n cael arian cyhoeddus yn dod yn ddioddefwyr masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern. Felly, mae hwn yn bwynt lle mae'n rhaid inni edrych ar ymagwedd gyfannol, o fewn ein pwerau, at amgylchiadau ffoaduriaid o ran eu hanghenion yn arbennig os cawsant eu gwrthod oherwydd eu sefyllfa.

Nawr, mae angen inni symud ymlaen, a dyna wna'r cynllun hwn, o ran y ffyrdd y gallwn ni helpu gydag integreiddio. Mae'r Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid ReStart, yr wyf yn tynnu sylw ato yn fy natganiad wrth gwrs, yn mynd i fod yn rhaglen cefnogi integreiddio uchelgeisiol iawn ar gyfer ffoaduriaid, ac yn bennaf, wrth gwrs, yn y pedwar clwstwr didoli lloches—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Mae hynny'n mynd i ddarparu cymorth penodol fel yr wyf i wedi ei ddweud, i o leiaf 520 o ffoaduriaid. Cyfanswm y gost yw £2 miliwn, ac mae hynny'n mynd i gynnwys arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru hefyd.

Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar rai o'r meysydd allweddol hynny, megis anghenion tai. Fe soniasoch chi fod cael mynediad i lety priodol yn fater allweddol i bobl sy'n ceisio lloches. Rydym yn bwriadu gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU o ran y contractau llety lloches a chymorth newydd, ond, yn amlwg, mae hwnnw'n faes lle'r ydym ni'n dibynnu ar gydweithrediad Llywodraeth y DU. Ond, gallwn weithio, yn arbennig yn ein Prosiect Tai i Ffoaduriaid, o ran cefnogi ac ariannu'r prosiect Symud Ymlaen ar ôl i statws ffoaduriaid gael ei gydnabod.

Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, Mark, am y sefydliadau, y gymdeithas ddinesig a chymunedau sy'n chwarae eu rhan. Fe wnaethoch chi ddisgrifio hynny eich hun, o ran y digwyddiadau y buoch chi ynddyn nhw a'r sefydliad yr ydych eisoes yn noddwr ohono—yn Llywydd. Rwy'n credu hefyd, bod angen inni gydnabod, o ran Clymblaid Ffoaduriaid Cymru, y ceir dros 30 o sefydliadau. Mae llawer o'r rheini yn sefydliadau Cymru gyfan, ac mae rhai yn fwy lleol.

Rydych chi hefyd yn gofyn y cwestiwn am yr ystadegau, a diweddaru'r ystadegau hynny y gwnaethoch chi holi cyn-arweinydd y Tŷ amdanyn nhw, o ran y datganiad dros dro a wnaeth ar y cynllun. Byddaf i'n sicr yn rhoi'r newyddion diweddaraf am yr ystadegau hynny i chi,FootnoteLink ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod bron â chyrraedd 1,000 o ffoaduriaid o ran cynllun dadleoli Syria yn rhywbeth i'w groesawu. Dyma ganlyniad awdurdodau lleol yn cytuno i gefnogi ac adsefydlu ffoaduriaid o Syria. Ar draws y Siambr hon, fe fyddwn ni i gyd yn gwybod beth yw sefyllfa ein hawdurdodau lleol o ran y cymorth hwnnw, ond cewch y wybodaeth ddiweddaraf am hynny gennyf i.

Rwyf hefyd yn awyddus iawn i gefnogi—mae'n mynd yn ôl i'r gymuned—gynlluniau nawdd cymunedol sy'n digwydd ledled Cymru. Rwy'n credu y gwelsom ni Gymru yn cael ei hamlygu o ran yr ymgyrch Croeso i Ffoaduriaid—dechreuodd y twf mewn mudiadau nawdd cymunedol yn y gorllewin mewn gwirionedd, yn nhref Arberth, ac mae wedi lledaenu. Yn sicr, mae Penarth ac, yn fy etholaeth fy hun, Croeso Llanilltud Fawr yn cynyddu'r un math o nawdd cymunedol. Felly, yn amlwg, mae gennym ni lawer i'w ddatblygu o ganlyniad i'r cynllun hwn, a diolchaf i chi am eich cwestiynau.

17:10

Diolch. Rydym ni hanner ffordd drwy'r datganiad ac rydym ni wedi cael un cyfres o gwestiynau. Mae gen i nifer o siaradwyr. Felly, Helen Mary Jones.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae llawer i'w groesawu yn y cynllun ei hun ac yn y datganiad. Hoffwn ymddiheuro i'r Gweinidog ac i'r Siambr am y ffaith fy mod wedi camu i'r adwy ar y funud olaf i ymateb i'r datganiad hwn, oherwydd y bu'n rhaid i fy nghyd-Aelod, Leanne Wood fynd adref oherwydd amodau tywydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Felly, os wyf i'n gofyn cwestiynau i'r Gweinidog y mae hi eisoes wedi eu harchwilio—y mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi eu harchwilio—ar wahân gyda Leanne Wood, gobeithiaf y bydd hi'n maddau i mi ac yn dweud wrthyf am fynd i ofyn i Leanne. [Chwerthin.]

Yn gyntaf oll, rwy'n credu, o ddifrif, bod yn rhaid i ni gydnabod bod rhai rhwystrau difrifol yn dal i fodoli rhag creu'r genedl noddfa yr ydym i gyd yn dyheu amdani, gobeithio, yn y Siambr hon—neu'r rhan fwyaf ohonom o leiaf. Mae'r rhwystrau hyn yn deillio o'r ffaith bod y DU wedi cael dadl gyhoeddus gamweithredol iawn ynghylch ymfudo, gan gynnwys mewnfudo a lloches, am flynyddoedd lawer iawn. Byddwn yn anghytuno rhywfaint â'r Gweinidog yn y fan yma, oherwydd nid yn unig yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae hyn. Hyd y gwn i, mae hyn yn mynd yn ôl 20 mlynedd o leiaf. Gallaf feddwl am rai colofnau nad oeddent o gymorth o gwbl a ysgrifennwyd ym mhapur newydd The Sun gan David Blunkett a oedd yn Weinidog yn y Cabinet ar y pryd, er enghraifft, codi cwestiynau ynghylch cyfreithwyr hawliau sifil a'r penderfyniad i gyfyngu ar hawliau sifil ceiswyr lloches.

Credaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod hwn yn fater hynod wleidyddol. Ac er na allai neb yn y Siambr hon fyth amau ymrwymiad personol Mark Isherwood i'r materion hynny y mae ef newydd fod yn eu codi â'r Gweinidog, mae'n ddyletswydd arnom ni i dynnu sylw at y ffaith ei fod yn eistedd yn y Siambr hon yn enw'r blaid sy'n gyfrifol am yr amgylched gelyniaethus, ac sy'n gyfrifol, er enghraifft, am yr amodau echrydus a wynebir gan bobl sy'n ceisio lloches mewn rhai o'r lletyau a ddarperir  gan y Swyddfa Gartref, er enghraifft. Gwn i ei fod yn draddodiadol yn y Siambr hon, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cefnogi hynny, i geisio bod yn gydsyniol pan y gallwn, ond ni allwn, byddwn yn ei awgrymu i'r Gweinidog, fynd i'r afael â'r materion eithriadol o anodd hyn oni bai ein bod yn cydnabod yr amgylchedd gelyniaethus—ac nid wyf i'n sôn yn unig am yr amgylchedd gelyniaethus penodol, ond yr amgylchedd anodd iawn drwyddi draw.

Felly, gofynnaf i'r Gweinidog, o ran fy nghwestiwn cyntaf: beth all pob un ohonom ni ei wneud i geisio unioni rhai o'r camdybiaethau hyn a rhai o'r rhagfarnau a arweiniodd yn uniongyrchol at rai o'r heriau y mae pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru yn eu wynebu? Mae datganiad y Gweinidog yn crybwyll bod cyd-gynhyrchu wedi bod yn allweddol wrth ffurfio'r cynllun hwn, a byddai diddordeb gennyf mewn clywed ychydig mwy am sut y mae ceiswyr lloches eu hunain wedi cymryd rhan yn natblygiad y cynllun a beth, os oes o gwbl, sydd wedi newid o ran y cynigion o ganlyniad i'w cyfraniad. Rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi bod hyn yn hollbwysig.

Soniodd y Gweinidog yn ei hymateb i Mark Isherwood am rai o'r problemau a wynebir ynghylch y llety ar gyfer ceiswyr lloches. Gwyddom fod rhywfaint ohono o ansawdd gwael iawn, iawn. Fe'm calonogwyd o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn ceisio parhau i allu cymryd rhan mewn gosod y contract newydd hwnnw, ac roeddwn i'n meddwl tybed os gallwch chi roi gwybod ychydig mwy i ni heddiw am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ynglŷn â hynny, oherwydd mae'n ymddangos i mi nad yw er budd neb, budd y Swyddfa Gartref hyd yn oed, na ddylid caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn gosod y contract hwnnw a sicrhau bod y llety a ddarperir o'r safon y byddem yn ymgyrraedd ato, fel y nodir yn y cynllun y mae'r Gweinidog yn ei gyhoeddi heddiw.

Yn gysylltiedig â'r mater hwn, mae datganiad y Gweinidog hefyd yn cyfeirio at y mater pwysig o ddigartrefedd ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r cynlluniau uchelgeisiol a lansiwyd gan Crisis y llynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd ar draws y DU. Gwn fod fy nghyd-Aelodau wedi codi hyn gyda'ch rhagflaenydd ac roeddwn i'n meddwl  i ba raddau tybed y mae'r uchelgeisiau a'r camau gweithredu a awgrymwyd gan Crisis wedi llywio'r materion llety yr ydych chi'n eu codi yn yr adroddiad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn ymrwymo ein hunain, i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y pen draw, ac yn enwedig ar gyfer y grŵp hwn sy'n hynod agored i niwed, pobl yr wyf yn hapus, ac yr wyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn hapus i'w galw'n gyd-ddinasyddion, oherwydd maen nhw'n gyd-ddinasyddion os ydyn nhw yma yn fy nhyb i .

A gaf i droi'n gyflym at ddau fater addysgol? O dan y pennawd 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu' yn y cynllun gweithredu, mae cam gweithredu 8 yn cyfeirio at fynd i'r afael â bwlio, yn amlwg mewn ysgolion, ac mae'n rhaid bod hynny i'w groesawu'n fawr. Rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi bod y bwlio yn aml yn deillio o'r anwybodaeth a'r rhagfarn y cyfeiriais atyn nhw gynnau a dyna'r union ddiwylliant hynod niweidiol yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef. A gafodd y Gweinidog y cyfle i drafod â'r Gweinidog Addysg sut bydd y cwricwlwm newydd—yr ymrwymiad yn y cwricwlwm newydd i helpu ein pobl ifanc i dyfu i fod yn ddinasyddion da—sut y gallwn ni fynd i'r afael â rhywfaint o'r rhagfarn a'r gwahaniaethu hwn drwy'r cwricwlwm newydd hwnnw ac yn wir drwy fesurau eraill cyn daw'r cwricwlwm newydd i rym, a pha fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, yn enwedig i herio twf yr asgell dde eithafol? Rwyf yn meddwl yn arbennig yma am bobl ifanc yn bod yn agored i'r negeseuon hynny pan eu bod yn eu clywed ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae cryn bwyslais, a hynny'n gwbl briodol, yn y cynllun ar integreiddio ac annog pobl i gymryd rhan yn y gymuned. Wrth gwrs, mae ceiswyr lloches yn gallu cael cyfle i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn hanfodol i hynny. Wrth gwrs, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i ddileu'r grant mawr, a oedd yn fodd hollbwysig o alluogi ysgolion i addysgu ieithoedd i newydd ddyfodiaid. Sut yr ydym ni am sicrhau bod yr adnoddau ar gael, yn enwedig ar gyfer ysgolion, a hefyd ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y cyfle i ddysgu dwy iaith y wlad hon? Oherwydd heb hynny, ni fydd unrhyw ymgais i integreiddio yn bosibl.

Rwyf wedi pwyso ar y Gweinidog i weithio'n agos â'r Gweinidog Addysg ynghylch y cymorth statudol i fyfyrwyr. Credaf ei fod yn gwbl hanfodol fod y newidiadau hynny y mae hi'n sôn amdanyn nhw yn ei datganiad yn cael eu gweithredu, a bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gallu cael mynediad at addysg uwch yng Nghymru. Ar wahân i unrhyw beth arall, nid yw er ein budd ni ein hunain i beidio â defnyddio'r sgiliau hynny.

Ac yn olaf, rydym ni'n gwybod bod Lywodraeth y DU wedi gwrthod fisâu i dros 2,000 o feddygon yn yr hyn yr wyf yn ei ystyried, a dweud y gwir, yn bolisi mewnfudo hurt a hunan-ddinistriol. Gwyddom gymaint mae angen y gweithwyr proffesiynol tra chymwysedig hyn arnom yma yng Nghymru. Hyd yma, mae eich plaid chi wedi gwrthod ein galwadau ar Lywodraeth Cymru i geisio cael cyhoeddi fisâu ei hun yn seiliedig ar ein hanghenion o ran y gweithlu, ac rwy'n meddwl tybed, yng ngoleuni'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, Weinidog, pa un a fyddech chi'n ystyried ailedrych ar hyn. Diolch.  

17:20

Diolch. Croesawaf yn fawr y nifer sylweddol o gwestiynau gan Helen Mary Jones ar ran Plaid Cymru. Hoffwn ddweud, o ran ymgysylltu a chyd-gynhyrchu ac ymgynghori eang, bod 150 o bobl sy'n ceisio lloches wedi ymgysylltu â ni yn ystod datblygiad y cynllun. Ond yn amlwg, rwyf wedi sôn bod y gynghrair o sefydliadau ar Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru ac awdurdodau lleol wedi dangos cryn ddiddordeb yn sgil adroddiad y pwyllgor. Yn 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun' dywedodd y Pwyllgor bod yn rhaid ceisio barn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a dyna beth yr ydym wedi bod yn ceisio ei wneud.

Mae eich pwyntiau ynglŷn â materion ynghylch tai yn bwysig iawn, yn arbennig oherwydd mai dyna ble mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb clir. Ac rydym ni wedi ceisio gweithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran llety newydd i geiswyr lloches a chontractau cymorth, ond, yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n ymddangos bod llawer o'n hargymhellion wedi cael eu gwrthod. A byddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, bod adroddiad diweddar gan y prif arolygydd annibynnol ffiniau a mewnfudo yn nodi bod 18.6 y cant o'r tai lloches â arolygwyd yng Nghymru a de-orllewin Lloegr yn dai na ellid byw ynddynt neu'n anniogel. Felly, o ran eich galwad i graffu ar y pwyntiau hynny—y byddaf, wrth gwrs, yn mynd â nhw ac yn eu codi â Llywodraeth y DU, oherwydd, yn rhy aml, gorfodir pobl i fyw mewn tai gwael, neu nid ydyn nhw'n cael cynnig llety o gwbl. Mae hynny'n gwbl groes i'n nodau o ran y genedl noddfa.

Ond rwyf eisoes wedi sôn ein bod yn gwneud mwy i gefnogi'r Prosiect Tai i Ffoaduriaid, ac rydym yn holi dro ar ôl tro—a diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth yn hyn o beth—Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod symud ymlaen i 56 diwrnod, oherwydd mae hynny'n ei gysoni â chymorth digartrefedd arall, yng Nghymru a Lloegr. Ond hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod mabwysiadu ein hargymhellion. Nid yw'r rhain yn fawr o gymorth o ran y ffaith fod yna deimlad negyddol, er ein bod yn ennill parch mewn sawl ffordd, fel y gwelsoch chi gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig o ran y ffordd yr ydym yn defnyddio'r pwerau a'r sgiliau sydd gennym, gan gydnabod rhinweddau'r bobl sy'n dod a sut y byddan nhw'n ychwanegu at ein cymunedau yng Nghymru, a sut yr ydym ni wedi eu croesawu, ac wedi gwrthweithio'r canfyddiadau negyddol nad ydynt, wrth gwrs, o gymorth o gwbl.

Dywedais yn fy natganiad bod hinsawdd heriol iawn i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn wir, oherwydd y drafodaeth wleidyddol, mae gan y cyfryngau ran i'w chwarae yn ogystal â pholisïau'r Llywodraeth. Credaf fod angen i ni fynd yn ôl unwaith eto, mae arnaf ofn, at rai o'r datganiadau a newidiadau deddfwriaethol sydd wedi arwain at y polisïau amgylchedd gelyniaethus, sydd, yn anffodus, yn cael eu gweithredu, ac maen nhw wedi eu cynnwys, wrth gwrs, yn Neddf Mewnfudo 2014. Cyfeirir ato nawr fel 'polisi amgylchedd cydymffurfiol', ond roedd hyn yn ymwneud â mesurau i nodi a lleihau nifer y mewnfudwyr yn y DU. Gwn fod Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin wedi mynd i'r afael â hyn.

Yn olaf, gwnaf y pwynt am fwlio, oherwydd bod hwn yn fater lle, unwaith eto, ynghyd â'r Gweinidog Addysg, ein gweledigaeth, yn amlwg, yw mynd i'r afael â bwlio mewn ffordd gyfannol, mynd at wraidd y mater, gan gynnwys y rhai o deuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yr hyn sy'n wych am Gaerdydd Dinas Noddfa yw fy mod i'n credu, erbyn hyn, bod sefydliadau yn cael eu hachredu. ysgol gyfun Llys-faen hyd yn oed, rwy'n credu—fy nghyd-Aelod o Ogledd Caerdydd. Mae eraill yn cael y math hwnnw o gydnabyddiaeth. Mae angen i ysgolion fod yn rhan ohono.

Ac o ran eich pwynt olaf ynghylch meddygon a gwrthod fisâu, rwyf yn falch iawn o'r ffaith ein bod ni, yng Nghymru, wedi goresgyn llawer o rwystrau i feddygon sy'n ffoaduriaid—a dywedais hynny yn fy natganiad—i ddod i weithio, ers i mi fod yn Weinidog iechyd, i sicrhau bod gennym ni erbyn hyn nifer fawr o feddygon sy'n ffoaduriaid, sydd eisoes, mewn gwirionedd, wedi eu derbyn gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a bellach yn ymarfer ledled y DU.

17:25

Fe geisiaf fod yn gyflym iawn yn y fan yma. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu uchelgais ac ysbryd y datganiad hwn, a hefyd gwaith y pwyllgor yr wyf bellach yn aelod ohono, a'i adroddiad blaenorol, 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun', sydd wedi rhoi sail ar gyfer peth o'r drafodaeth hon. Rwy'n croesawu hyn gan ei fod yn cydnabod bod y rhai sy'n ceisio lloches, y rhai sy'n ffoaduriaid, yn gaffaeliad, yn rhodd i ni ac nid yn faich. Yn hytrach na'u trin fel unigolion y mae'n rhaid inni eu cymryd o dan ein hadain yn gyndyn ac yn erbyn ein hewyllys, ein bod yn gweld mewn gwirionedd eu galluoedd a'r hyn y gallan nhw ei gynnig i ni hefyd. A fyddai hi'n cytuno â mi y gall rhai o'r enghreifftiau gorau o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, mewn cymunedau unigol, ddangos y ffordd i ni, mewn gwirionedd?

Fe siaradais yn Ystradgynlais ym mis Mehefin y llynedd, yn neuadd lles y glowyr yno, mewn digwyddiad a oedd yn rhan o Sefydliad Josef Herman gan gydweithio gydag uned ffilm sydd wedi gweithio yno i adrodd stori bywyd Josef Herman, un oedd wedi ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid o wlad Pwyl yn ystod yr ail ryfel byd i'r gymuned Cymoedd de Cymru honno, heb adnabod neb. Ymgartrefodd yno, cafodd ei wahodd yno, ac erbyn hyn, mae'n un o'r artistiaid Cymreig-Pwylaidd enwocaf gyda'i gelfyddyd i'w weld yn yr oriel genedlaethol ac mewn mannau eraill hefyd, yn ogystal â'r Sefydliad. Ond fe adroddwyd y stori gan blant sy'n ffoaduriaid o Syria—ganddyn nhw y clywsom y stori. Ac roedd y gymuned honno wedi agor ei breichiau unwaith eto. Roedd cymuned Cymoedd de Cymru wedi agor ei breichiau a dweud, 'Rydym nid yn unig yn eich croesawu chi, rydym yn eich croesawu chi a'r rhoddion a ddowch gyda chi a'r hyn yr ydych yn ei gyfrannu i ni hefyd.' A dyna'r hyn yr wyf yn ei hoffi am y datganiad hwn; yr ysbryd sydd ynddo yn ogystal â'i weithrediad ymarferol hefyd.

A fyddai hi'n cytuno â mi, yn ogystal â symud ymlaen i weithio gyda Llywodraeth y DU, rhywbeth y credaf fod angen i ni ei wneud—a fyddai hi'n ymrwymo i dynnu sylw mewn gwirionedd at yr hyn y mae angen iddyn nhw wneud yn sylweddol well hefyd? Nid yn unig o ran safonau llety a'r amgylchedd elyniaethus yr ydym wedi ei drafod, ond pethau fel gwelliant Dubs ar gyfer plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae angen inni nodi hefyd y mannau hynny lle maen nhw'n methu os ydym ni am fod yn DU groesawgar yn ogystal â Chymru groesawgar.

Fe soniwyd am y wefan noddfa. Gaf i ofyn am eglurder ynglŷn â phryd y bydd honno'n weithredol? Oherwydd bydd hynny'n ddefnyddiol iawn. Gaf i ddweud yn olaf, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n croesawu hynny hefyd gan nad yw'n dangos unrhyw agwedd hunanfodlon? Mae'n cydnabod bod hyn yn gam mawr ymlaen, ond fod yna fwy o waith i'w wneud. Nid yw'n hunanfodlon. Felly, beth yw ein camau nesaf, lle gall hi ein harwain i ddweud, ar lefel Cymru, ond hefyd o fewn cymunedau lleol, awdurdodau lleol, y trydydd sector, a phartneriaid eraill—ble ddylem ni fod yn ceisio gwneud mwy i ddod y genedl groesawgar hon sy'n cydnabod y bobl yma am y rhodd y maen nhw'n ei roi i Gymru ac i'n cymunedau?

Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau ac am adrodd ar ei brofiad, yn arbennig y profiad hwnnw gyda Sefydliad Joseph Herman. Credaf fod neuadd lles y glowyr yn Ystradgynlais a'r ffaith, fel y gwyddoch, fod cymunedau o bob rhan o Gymru yn croesawu ffoaduriaid o Syria—fod hyn yn gweddnewid cymunedau yn ogystal â gweddnewid bywydau'r ffoaduriaid hynny.

Hoffwn ddweud, ynglŷn â gwelliant Dubs, fod ein hystadegau diweddaraf yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn cefnogi 105 o blant sydd ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, gan gynnwys nifer fach sydd wedi cael eu hadleoli drwy'r gwelliant Dubs. Ond rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU—. Rydym wedi mynegi ein gwrthwynebiad i'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cau cynllun Dubs yn 2017 gan ein bod yn gwybod bod llwybrau cyfreithlon o ran diogelwch yn hanfodol i'r plant hyn ac fe hoffem ni wneud mwy. Unwaith eto, mae'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, gan eu bod hwythau hefyd eisiau gwneud mwy o ran sicrhau'r lleoliadau a'r cymorth hynny.

Ac mae gennym ni gynllun gwarcheidwadaeth sy'n datblygu. Mae hwn yn ddatblygiad newydd, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn cael ei gefnogi gennym ni ledled Cymru ar gyfer plant sydd ar eu pennau eu hunain. Bydd y wefan noddfa'n cael ei lansio'n gynnar eleni. Mae'n wefan newydd. Mae ar wahân i wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n wefan Gymraeg a Saesneg, ond bydd gennym feddalwedd sy'n trosi testun i siarad mewn llawer o wahanol ieithoedd, er mwyn hygyrchedd. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Adnodd ar-lein i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw Noddfa.

Pan gyfarfûm â Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths, cefais fy herio ganddo ac meddai 'Gallwch ddweud yr holl bethau hyn, ac fe allwch gytuno y byddwch yn cefnogi'r argymhellion, ond mae'n rhaid i chi gyflawni arnynt mewn gwirionedd.' Credaf y bydd yn gofyn hynny i mi nawr. Mae'n gwbl glir beth sydd yn ein hwynebu, ond mae'n rhaid i ni adnabod hyn, fel y dywedwch, fel cyfle a chydnabod yr asedau a'r rhoddion sydd gennym gan y rhai yr ydym yn eu croesawu i Gymru, gwlad a ddylai wir fod yn genedl noddfa.

17:30

Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad ac yn cytuno'n llwyr y dylem wneud yn siŵr bod Cymru wir yn genedl o noddfa i'r rhai sydd ei angen. Fel cenedl sy'n gymharol ffyniannus, mae gennym ni ddyletswydd foesol i gynnig lloches i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth neu ryfel, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu ein gallu i wneud hynny ac i gynnig i bawb sydd yma, boed yn ddinesydd, yn fudwr, yn geisiwr lloches neu'n ffoadur, well ansawdd bywyd. Ni allwn ac ni ddylem droi ein cefnau ar ein cyd-ddinasyddion ac ar bobl pan eu bod angen cymorth, ac rwyf yn siŵr bod pawb yma yn cytuno â hynny.

Ym mis Mawrth y llynedd, dywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd:

Rwy'n falch o'r ymateb y mae cymunedau Cymru a'r awdurdodau cyhoeddus wedi ei ddangos ers cyhoeddi ein cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches diwethaf yn 2016.

Ond sut gall eich Llywodraeth fod yn falch o'r ffaith nad oedd dau o'r awdurdodau lleol wedi derbyn yr un ffoadur, dim un, i'w hailsefydlu yn ystod y flwyddyn flaenorol? A yw hynny wir yn rhywbeth y dylai eich Llywodraeth fod yn falch ohono, Dirprwy Weinidog? Yn ystod yr un flwyddyn honno, mewn gwrthgyferbyniad, fe ymrwymodd Cyngor Thanet, a oedd ar y pryd dan reolaeth UKIP, i ailsefydlu wyth teulu o ffoaduriaid, mwy na bron bob awdurdod lleol yng Nghymru o dan reolaeth Llafur. Felly, fy nghwestiwn i chi, Dirprwy Weinidog, fyddai: beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i unioni'r anghydbwysedd hwn, ar wahân i gyhoeddi cynllun arall?

Fel y dywedais, credaf fod gennym ni ddyletswydd foesol i gynorthwyo'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel, ond mae adnoddau'n brin, ac mae'n rhaid i bawb gofio, am bob mudwr economaidd sy'n cael lle mewn tŷ, ysgol, ysbyty ac ati, mae hynny'n golygu bod un lle yn llai ar gyfer person sydd heb ddim, sydd yn ffoi rhag erledigaeth neu ryfel, efallai mewn ofn am ei fywyd. Gall y Llywodraeth Cymru hon hawlio drosodd a throsodd ei fod yn cefnogi mewnfudo am resymau o degwch, ond mewn gwirionedd mae'r rhesymau yn rhai economaidd, sinigaidd. Mae eisiau rhyddid i symud oherwydd ei fod yn helpu i gywasgu cyflogau, sy'n golygu, i lawer, fod yr isafswm cyflog wedi dod yr uchafswm cyflog sydd ar gael iddyn nhw. Wel, yn fy marn i, pan fod ystyried pwy ddylai fod yn cael dod i Gymru yn y cwestiwn, fe ddylai fod am fwy na'r hyn sy'n dda i elw busnesau mawr. Allwn ni ddim cael drws agored i fudwyr economaidd a pharhau i gyflawni'r uchelgeisiau, yr uchelgeisiau da iawn, iawn, iawn, a nodir yn natganiad y Dirprwy Weinidog. Allwch chi ddim cael y ddau, Dirprwy Weinidog.

Pe byddem ni'n cyfyngu ar y nifer o fewnfudwyr economaidd, gallem dderbyn mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, heb achosi straen ar ein GIG sydd eisoes yn gwegian, rhestrau hir am dai a phrinder lleoedd mewn ysgolion. Yn fyr, gallem helpu mwy o geiswyr lloches a ffoaduriaid pe gallem reoli mudo economaidd. Er gwaetha'r holl sôn ein bod ni'n genedl ofalgar, yn 2017, y flwyddyn olaf y llwyddais i ganfod ffigyrau ar ei chyfer, dim ond 325 o ffoaduriaid a dderbyniwyd gan Gymru, o'i gymharu â'r miloedd o fewnfudwyr economaidd o'r UE yr oedd yn rhaid i ni eu cartrefu, sy'n defnyddio ein GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Pe na byddem ni'n cael ein gorfodi i gymryd mewnfudwyr o'r UE, pob un ohonyn nhw yn dod o wledydd diogel, fe ddylwn ychwanegu, sy'n penderfynu eu bod eisiau dod yma, yna fe allem ni gymryd mwy o ffoaduriaid  sydd angen lle diogel ar eu cyfer eu hunain a'u teuluoedd.

Nid yw'n ymddangos i mi bod Llafur Cymru yn poeni o gwbl, pan fo Cymru dan reolaeth Llafur ddim ond wedi adsefydlu nifer fach o ffoaduriaid wrth barhau i ymgyrchu dros ryddid i symud sy'n arwain at gynghorau ddim ond yn gallu derbyn nifer gyfyngedig iawn o ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ni allwch ddisgwyl i bobl eich credu pan ddywedwch eich bod yn poeni am geiswyr lloches tra eich bod ar yr un pryd yn cefnogi  rhyddid i symud llwyr o'r UE, dim ond am eich bod yn meddwl bod hyn o fudd i'n heconomi, pan fo hynny'n arwain at orfod rheoli nifer y ffoaduriaid yr ydym yn eu derbyn. Fel y dywedais eisoes, mae gennym adnoddau cyfyngedig, ac felly mae'r cwestiwn yn codi: i bwy ydym ni'n rhoi'r flaenoriaeth? I'r ceiswyr lloches neu'r mudwyr economaidd? Gweinidog, fe fyddwn i'n blaenoriaethu—wel, Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf—byddwn i'n blaenoriaethu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn hytrach nag ymfudwyr economaidd bob tro. A dyna pam yr wyf yn gofyn i chi gyfaddef os ydym ni eisiau cynnal gwasanaethau cyhoeddus sy'n perfformio ar gyfer pawb yng Nghymru, yn ddinasyddion neu'n ymfudwyr, mae'n rhaid inni gytuno i reoli mudo economaidd er mwyn inni flaenoriaethu'r ffoaduriaid a cheiswyr lloches—rhai sydd angen inni gynnig noddfa iddynt, ac fel y gallwn ni sicrhau bod y noddfa honno'n sefydlog gydag adnoddau da.

Felly, fy nghwestiwn olaf, Ddirprwy Weinidog yw: a fyddech chi'n barod i reoli mewnfudiad y rheini sydd yn dymuno dod yma fel y gallwn gynyddu'r nifer a rhoi bywyd gwell nag a wnawn ar hyn o bryd i'r rhai sydd angen dod yma? Diolch. Atebwch y cwestiwn.

17:35

Wel, rwy'n credu, wyddoch chi, eich bod wedi dechrau mewn ffordd addawol ond mae gen i ofn na wnaeth hynny bara'n hir. Ac rwyf eisiau dweud rhywbeth am y math o sylwadau yr ydych yn eu gwneud a'r hyn y mae'n ei olygu o ran ymateb yn ein cymunedau. Yn ystod y mis yn dilyn refferendwm yr UE, roedd cynnydd o 72 y cant yn yr atgyfeiriadau i Ganolfan Genedlaethol Cefnogi ac Adrodd am Droseddau Casineb a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn union oherwydd y math o farn ddi-sail a glywyd gan y rheini sy'n arddel y safbwyntiau hynny. Roedd y cynnydd sydyn yn cynnwys cynnydd ar draws pob math o droseddau casineb, ac os yr edrychwn, felly, ar y cyfleoedd sydd gennym ni i gael gwared â'r math yna o droseddau casineb, mae'n rhaid edrych tuag at ysbryd y cynllun 'Cenedl Noddfa', sydd, wrth gwrs, yn gynllun ar gyfer yr holl bobl sy'n gweithio ac yn gwneud cyfraniad yn y wlad hon: ar gyfer meddygon, y nyrsys, y rhai sy'n gweithio yn ein cartrefi gofal, y rhai sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth; nhw yw'r bobl yr ydym ni'n eu cefnogi ac maen nhw'n rhan o'n cymuned ac o'n gwlad. Ac mae'n hynod siomedig eich bod chi'n dewis dod â'r safbwyntiau di-sail yma sy'n gallu arwain at y cynnydd sydyn hwnnw mewn troseddau casineb sydd mor wrthun i ni yn y Siambr hon.

Rwyf eisiau dweud stori fer iawn wrthych am fy nhad a gafodd ei eni a'i fagu yn Llanbrynmair ac y galwyd arno i ymladd yn yr ail ryfel byd gan gael ei garcharu yn Stalag 22 am bedair blynedd a llwyddo i ddianc o Wlad Pwyl i'r Alban. Yr unig ffordd y llwyddodd i wneud hynny oedd oherwydd iddo gael cymorth a charedigrwydd gan ddieithriaid mewn gwlad ddieithr. Parhaodd ar hyd ei oes gan ymroi i frwydro a helpu i gadw heddwch a chyd-ddealltwriaeth yn hytrach na hyrwyddo casineb ac anwybodaeth. Ac o ganlyniad i hynny, fe barhaodd i fod yn gefnogwr mawr o'r Undeb Ewropeaidd a seiliwyd ar yr egwyddorion hynny o heddwch a chyd-ddealltwriaeth.

Rydym wedi clywed heddiw fod yna nifer fawr iawn o ffoaduriaid o Syria yn y wlad hon, ac maen nhw yma, yn yr un modd, oherwydd canlyniadau rhyfel. Rydym ni, yn gwbl gywir, yn rhoi croeso i'r bobl yma. Ond y mater yr hoffwn i ei godi yn y fan yma heddiw yw'r ffaith, wrth inni groesawu'r unigolion hynny, ein bod yn cydnabod, ac rydym wedi gwneud hynny, yn y datganiad hwn heddiw, y plant sydd ar eu pennau eu hunain. Rwyf yn hynod, hynod falch ein bod ni yng Nghymru yn rhoi cefnogaeth gwarchodaeth a gwasanaeth i'r unigolion hynny, oherwydd wn i ddim faint o bobl yn yr ystafell hon fyddai'n deall pa mor anodd yw adrodd ac ailadrodd eich stori am sut y gwnaethoch gyrraedd mewn gwlad a'ch bod yn dioddef trawma dwys.

Gwn y byddai fy nhad yn deall hynny, gan na allai siarad am y peth. Felly, mae angen inni gadw'r bobl hynny, y plant hynny yn ddiogel. Mae cau'r cynllun Dubs yn gwbl warthus gan ei fod, yn arbennig, ar gyfer nodi plant ar y cychwyn a nodwyd fel rhai oedd mewn perygl fel y gallent deithio tuag at ddiogelwch. Ni allaf ddeall sut y gallai unrhyw un gau cynllun yr oedd ef ei hun wedi cydnabod ei fod yn fyw heddiw o ganlyniad iddo. Ni wna hynny ddim ond gadael y drws ar agor i fasnachwyr mewn pobl, ac i bobl ifanc yn mynd yn gaethweision. Ac mae digon o dystiolaeth i gefnogi'r ffaith mai dyna'n union sy'n digwydd. Mae digon o dystiolaeth hefyd i ategu'r ffaith fod plant ar eu pennau eu hunain sy'n cyrraedd y system gofal yn mynd ar goll. Ac mae digon o dystiolaeth hefyd sy'n cefnogi'r ffaith fod 86 y cant o fenywod ifanc sy'n mynd ar goll yn diweddu yn y fasnach rhyw yn y pen draw.

17:40

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am yr hanes emosiynol a phersonol yna. Mae'n hanes nad wyf i wedi ei glywed o'r blaen, na neb arall yn y Siambr hon o bosib. Mae'n hanes sydd wedi ei gofnodi am brofiad eich tad. Mae'n dweud y cwbl am yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud i'n galluogi ni ac i fynd i'r afael â'r mater, mewn teyrnged er cof am yr hyn y mae ef ei hun wedi sefyll drosto—. Ac rydych chi, Joyce, yn gynnyrch o hynny ac rydych chi yma, rwy'n siŵr, o ganlyniad i'w ddaliadau ef.

Mae'n bwysig eich bod chi wedi crybwyll y cynllun Dubs, oherwydd yr oedd yn cynnig arwydd bach iawn ond un hanfodol bwysig er hynny, ein bod ni yn y DU, yn pryderu'n fawr am helynt y plant hyn, ac roedd teimladau cryf iawn pan wnaed y penderfyniad gan Lywodraeth y DU i ddod a'r cynllun i ben. Mae angen inni fynd yn ôl i ailagor y cynllun hwnnw, i alw am i'r cynllun gael ei ailagor, ond fe allwn ni wneud pethau yng Nghymru, a dyna pam yr ydym ni wedi ymateb i argymhelliad ymchwiliad y pwyllgor, fel y dywedais, i ddatblygu'r gwasanaeth gwarchodaeth hwn ar gyfer plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches.

Ac mae'r cynllun 'Cenedl Noddfa' yn cynnwys y cam gweithredu hwn. Bydd yn ariannu awdurdodau lleol eleni, bydd yn cefnogi mesur arbrofol yn ymwneud â gwarchodaeth ac mae ganddo'r nod o sefydlu anghenion cyfreithiol plant sydd ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ac archwilio'r galw am wasanaeth gwarchodaeth a sut y byddai gwasanaeth felly yn edrych. Ac rydym eisoes wedi cytuno ar gyllid; rydym wedi darparu £550 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf i helpu gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, ariannu lleoliadau, hyfforddiant gwaith cymdeithasol a hyfforddiant gofal maeth. Felly, mae hwn yn ganlyniad pwysig iawn o waith y pwyllgor a'n hymgynghoriad â'r rhai yng Nghlymblaid Ffoaduriaid Cymru i'n harwain at y pwynt hwn.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, gan fod ei adroddiad wedi ei grybwyll sawl gwaith, ond, John, a allwch chi ofyn dim ond un neu ddau gwestiwn, neu un cwestiwn, mewn gwirionedd? Diolch.

Iawn, yn sicr, Dirprwy Lywydd. Croesawaf eich datganiad yn fawr iawn heddiw a'r cynllun gweithredu, Dirprwy Weinidog, a chredaf fod cryn groeso i deitl y cynllun, 'Cenedl Noddfa' oherwydd rwy'n credu ei fod yn arwydd o uchelgais Llywodraeth Cymru i ysgogi cynnydd wrth ddarparu croeso a'r cymorth a'r gwasanaethau y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid eu hangen.

Dim ond i sylwi ar yr hyn a ddywedasoch yn gynharach, byddwn yn gofyn fod y math o fanylder ynghylch monitro a gwerthuso, dangosyddion, amserlenni ar gyfer cyflawni camau gweithredu, cyllid a nodwyd a chyfrifoldeb arweiniol yn cynnwys cymaint o fanylion ag sy'n bosib ar gyfer pob un o'r camau gweithredu, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n ddisgyblaeth hanfodol i sicrhau cwblhau'r tasgau. Hoffwn wybod hefyd pa fath o ddiweddariad y byddwch chi'n gallu ei ddarparu, Dirprwy Weinidog, o ran diweddariad y cynllun cydlyniant cymunedol, y modd y gallwn ddatblygu perthynas addas â'r cyfryngau i fynd i'r afael â'r materion hynny a nodwyd, a pha un a yw gwiriadau'r asesiad o effaith hawl i rentu wedi eu cynnal. Ac yn olaf, a fydd cyllid ar gyfer y cynllun gwarchodaeth arbrofol ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Diolch ichi am y cwestiynau yna, John Griffiths. Rydym yma gyda chynllun wedi ei adnewyddu ar noddfa yng Nghymru o ganlyniad i'ch gwaith chi a'ch pwyllgor. Gobeithiaf eich bod yn cytuno â'r ffordd yr ydym ni wedi amlinellu'r cynllun—y camau gweithredu a phwy sy'n gyfrifol, ac mae hynny'n cynnwys adrannau o Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill sydd wedi cael eu nodi'n glir yn y cynllun. Rwy'n disgwyl cael fy monitro'n drylwyr ar y cynllun hwn, fel ag yr wyf yn disgwyl i'r Glymblaid Ffoaduriaid Cymru fy monitro arno, hefyd. Ond mae'n rhaid i'r ddarpariaeth gael ei gwneud ar draws y Llywodraeth wrth gwrs, Gweinidogion, ac fe fydd yn cael ei fonitro'n glir, mi wn, gan eich pwyllgor chi. Rydych yn codi mater ynghylch y rhaglen cydlyniant cymunedol: rydym yn gweithio yn unol â rhaglen cydlyniant cymunedol genedlaethol. Mae wedi cael ei datblygu eisoes, fel yr ydych yn ymwybodol, rwy'n siŵr. Rydym yn ei rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad er mwyn adnewyddu, ac rydym wedi parhau i ariannu ein rhwydwaith o gydgysylltwyr cydlyniant cymunedol ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n hollbwysig o ran rhai o'r materion a godwyd mewn ymateb i'r datganiad hwn heddiw: y bygythiad gwirioneddol i bobl o ran cydlyniant, a hefyd y materion allweddol sydd wedi deillio o'r hinsawdd heriol iawn hwn sydd gennym ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ni allwn fod yn hunanfodlon am y ffaith, er bod y rhan fwyaf ohonom, yn y Siambr hon, yn cytuno ac yn cefnogi ac yn ysgogi camau gweithredu, fod yr her i hyn yn wirioneddol ac yn ddwfn, fel yr ydym eisoes wedi ei glywed heddiw.

Credaf fod y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cynllun gwarchodaeth a'r cynllun plant ar eu pennau eu hunain sy'n geiswyr lloches yn mynd i fod ar gael i'r holl awdurdodau lleol, ond, yn amlwg, rydym angen eu cydweithrediad o ran darparu tai.

A'ch pwynt olaf: rydym yn edrych yn arbennig ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn ein pwerau o ran tai, ac yn edrych ar faterion, yn arbennig, er enghraifft, ar god ymarfer Rhentu Doeth Cymru. Yn wir, mae hynny'n hollbwysig o ran sut y gallwn ddiogelu llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid ac i wneud yn siŵr, pan fo pobl yn cael eu hailgartrefu, eu bod gyda phobl addas a phriodol i gael trwydded. Ac mae hynny'n allweddol yn enwedig pan fo camfanteisio yn y cwestiwn, ond byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU o ran contractau gwell a'u bod hwy'n derbyn ein hargymhellion am y contractau hynny o ran llety i geiswyr lloches.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Rheoliadau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019—yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cynigiaf fod y tri chynnig canlynol o dan eitemau 6, 7 ac 8 ar ein hagenda yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.

6., 7. & 8. Rheoliadau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion. Julie Morgan.

Cynnig NDM6944 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Cynnig NDM6945 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Cynnig NDM6943 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.  

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynigion.

Cafodd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio'n unfrydol dair blynedd yn ôl. Drwy weithredu'r Ddeddf fesul cam, rydym yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu darparwyr gofal cymdeithasol sy'n gadarn, sydd wedi'i symleiddio ac sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae'r system newydd yn galluogi Arolygiaeth Gofal Cymru i gymryd golwg cyffredinol o'r gwasanaeth cyfan yn well, mae'n gwneud cofrestru gyda'r arolygiaeth yn haws, ac mae'n helpu dinasyddion i gael gafael ar wybodaeth allweddol wrth ddewis eu gofal a'u cymorth. Hefyd, mae'n ceisio sicrhau y bydd y gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru yn cael eu cofrestru a'u harolygu yng Nghymru.

Mae sicrhau cysondeb yn y gofynion ar wasanaethau a reoleiddir o dan y Ddeddf wedi bod yn un o'n prif amcanion polisi. Felly, pan fo'n bosibl, mae'r gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau lleoli oedolion, eirioli a maethu drwy'r rheoliadau hyn sydd ger ein bron ni heddiw yn cyfateb i'r rhai hynny a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn ac y daethpwyd â hwy i rym yng nghyfnod 2.

Ond mae'n rhaid inni gofio bod gan bob gwasanaeth ei nodweddion unigryw ei hun ac y dylid ei reoleiddio yn unol â hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n helaeth gyda rhanddeiliaid i deilwra gofynion penodol i sicrhau bod hyn yn cyd-fynd orau â'r ffordd y darperir pob gwasanaeth yn ymarferol heb beryglu'r safonau cyffredinol a ddisgwylir. Mae pob un o'r rheoliadau hyn yn cynnwys gofynion craidd o ran llywodraethu'r gwasanaeth, y ffordd y mae'n cael ei gynnal, ei staffio, a sut y mae'n diogelu ac yn cefnogi pobl. Maen nhw hefyd yn sicrhau pwyslais ar ganlyniadau a lles unigolion ac yn cynnwys materion sy'n sail i ansawdd, diogelwch a gwelliant. Pan nad yw darparwyr neu unigolion cyfrifol yn cyrraedd y safon, mae'r rheoliadau yn pennu'n glir pa dor-rheoliadau a gaiff eu trin fel troseddau, neu y gallent gael eu trin fel troseddau. Cefnogir y rheoliadau gan ganllawiau statudol, sy'n nodi mewn mwy o fanylder sut y gall darparwyr ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion.

Mae Deddf 2016 yn gweld rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau eirioli am y tro cyntaf. Yn dilyn ymgynghoriad yng nghyfnod 1 a gyda chymorth y sector, rydym ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar eiriolaeth a drefnir gan awdurdodau lleol o dan eu dyletswyddau i gynorthwyo plant, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, a rhai pobl ifanc sy'n gadael gofal sy'n dymuno gwneud sylwadau ynghylch eu hangen am ofal a chymorth. Rwy'n credu bod hwn yn gam cyntaf cymesur, sy'n rhoi cyfle i ddysgu cyn ystyried estyniad i'r sector ehangach.

Mae swyddogion wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol o gam cynnar wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn. Mae hyn wedi helpu i nodi addasiadau hollbwysig i lasbrint cyfnod 2 i'w wneud i weithio yng nghyd-destun gwasanaethau penodol. Gan fod newidiadau ar ôl ymgynghori ac eglurhad pellach yn y canllawiau, rwy'n credu ein bod wedi cyflawni hyn. Mae un enghraifft o hyn yn cynnwys newidiadau i eiriad y rheoliadau lleoli oedolion i adlewyrchu pwysigrwydd paru unigolion â theuluoedd sy'n gydnaws, yn hytrach na dim ond trefnu lleoliad. Mae'r rheoliadau hyn hefyd erbyn hyn yn cynnwys yr angen i ddarparwyr fynnu bod gofalwyr lleoliadau oedolion yn eu hysbysu o fewn 24 awr ar ôl defnyddio unrhyw ddulliau rheoli ac atal. Mae'n ofynnol i'r darparwr gwasanaeth wedyn wneud cofnod o'r digwyddiad ar unwaith, gan leihau'r risg o oedi cymaint â phosibl. Mae gwelliant tebyg wedi ei wneud ar gyfer gwasanaethau maethu.

Gan ymateb i adborth, mae'r eithrio rhag cael ei reoleiddio ar gyfer unigolyn sy'n eirioli ar ran pedwar neu lai o bobl mewn blwyddyn wedi ei ddiwygio fel y gellir ystyried grwpiau o frodyr a chwiorydd fel un digwyddiad. Mae hyn bellach yn berthnasol pa un a yw darparwr yn unigolyn neu yn sefydliad. Fe wnaeth yr ymgynghoriad hefyd hybu newid i'r dyletswydd o onestrwydd, gan waredu'r gofyniad i weithredu mewn modd agored a thryloyw â chomisiynwyr gwasanaeth, gan fod ymgyngoreion yn teimlo y gallai hyn fod yn groes i brif bwrpas eiriolaeth, sef i ystyried a helpu i gynrychioli barn unigolion wrth sicrhau eu hawl i gyfrinachedd.

Bu nifer o newidiadau allweddol a ysgogwyd gan randdeiliaid i wella gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu rheoledig, ac mae'r rhain yn cynnwys: ehangu'r gofyniad i hysbysu partïon perthnasol am unrhyw ddigwyddiad o gamfanteisio ar blant yn rhywiol i gynnwys camfanteisio troseddol hefyd; ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gynnwys gwybodaeth am eu polisïau a'u gweithdrefnau sy'n berthnasol i anghenion plant yn y canllawiau ysgrifenedig i'r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc; ehangu gofynion ynghylch iechyd a datblygiad plant i gynnwys eu hiechyd a'u datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol; a chynnwys cyfeiriad pendant at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, erthygl 31, yr hawl i chwarae, ac i gynlluniau llwybr ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed.

Mae gofyniad wedi'i ychwanegu hefyd i bolisïau a gweithdrefnau darparwr sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol o gynilion a wneir ar ran plant, gan gynnwys trosglwyddo cofnodion ar ddiwedd eu lleoliad, ac mae hyn yn ymdrin â materion a godwyd gan achos ombwdsmon yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn olaf, mae darpariaeth drosiannol wedi'i chynnwys yn y rheoliadau ar gyfer cofrestru rheolwyr gwasanaeth â gofal cymdeithasol Cymru. Ar gyfer lleoliadau oedolion a maethu, mae'r gofyniad hwn wedi'i ohirio tan fis Ebrill 2022 ac eiriolaeth tan fis Medi 2022 er mwyn rhoi amser i reolwyr newydd a phresennol i ennill y cymwysterau i gofrestru os nad yw'r rhain eisoes wedi'u cwblhau. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad a'i sicrhau hi y bydd Plaid Cymru yn cefnogi, yn amlwg, y rheoliadau hyn heddiw. Rwy'n dymuno crybwyll un defnydd penodol o iaith yn y rheoliadau gwasanaethau maethu rheoledig gyda'r Dirprwy Weinidog. Rydym yn cyfeirio yn y rheoliadau at 'rieni maeth'. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn nad dyna'r term a ddefnyddir fel rheol yn y sector erbyn hyn a bod rhesymau da iawn am hynny. Mae defnyddio'r term 'gofalwr maeth' yn cydnabod proffesiynoldeb gofalwyr maeth, ac rwyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o hynny. Gall defnyddio'r term 'rhieni maeth' hefyd greu anawsterau yn enwedig i blant hŷn, sydd efallai yn dal i fod â theimladau cryf iawn tuag at eu rhieni biolegol—mae'n bosib eu bod nhw'n gobeithio dychwelyd, bydd llawer ohonyn nhw yn dychwelyd—a gallai defnyddio'r term 'rhiant maeth' fod yn rhwystr mewn gwirionedd rhwng y gofalwr maeth a'r plentyn neu'r person ifanc y mae'n gofalu amdano. Gall hefyd fod yn derm a allai achosi dryswch i blant sy'n cael eu mabwysiadu yn y pen draw, oherwydd yn aml iawn, nid eu gofalwr maeth  fydd eu rhiant hirdymor mewn gwirionedd. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog egluro pam yr ydym ni'n dal i ddefnyddio term sydd yn fy marn i yn un nad yw'r sector ar y cyfan, ac yn enwedig pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, yn rhy hoff ohono, nid yn arbennig o hapus ag ef, ac a fyddai'n bosibl—nid yw'n rheswm, yn sicr, i wrthwynebu'r reoliadau hyn heddiw, ond pa un a fyddai'n bosibl, wrth symud ymlaen, i ystyried geiriad mwy priodol a mwy cyfoes. Rwyf yn amau y gallai'r geiriad fod yn briodol i'w defnyddio yn y rheoliadau hyn oherwydd gallai ddisgyn drwy rwyd y ddeddfwriaeth sylfaenol, ond rwyf yn credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ofalus iawn ohono. Nid yw gofalwyr maeth yn rieni, ac nid ydyn nhw'n ceisio bod yn hynny, er eu bod yn cynnig, wrth gwrs, yn aml iawn, y math o gariad a chefnogaeth y mae'r rhieni gorau yn ei wneud.

17:55

Diolch yn fawr iawn. A diolch yn fawr iawn i Helen Mary Jones am ei chyfraniad i'r ddadl. Mae hi'n llygad ei lle—y rheswm yr ydym ni'n defnyddio'r geiriau 'rhiant maeth' yw oherwydd dyna'r geiriad a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth, ac felly dyna pam mae'n rhaid inni ddefnyddio hynny yn y rheoliadau hyn. Ond mae hi'n gwneud sylw pwysig iawn, ac, wrth gwrs, ar gyfer pobl ifanc yn benodol, nid ydyn nhw'n gweld eu gofalwyr maeth fel rhieni, oherwydd bod ganddyn nhw eu rhieni eu hunain, ac yn aml mae'n anodd iawn iddyn nhw ymdopi ag iaith fel yna. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr y sylw a wna, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gefnogi ar adegau eraill, pan rydych chi'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw. Ond yma ni allwn ni wneud hynny oherwydd dyna'r ddeddfwriaeth. Felly, gyda'r sylwadau hynny, rwy'n cynnig y cynigion.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit

Eitem 9 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i gynnig y cynnig—David Rees.

Cynnig NDM6946 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.

3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi ein tri adroddiad ynglŷn â pha mor barod yw tri sector ar gyfer Brexit: porthladdoedd, gofal iechyd a meddyginiaethau, a bwyd a diod. Daw'r rhain yn sgil ein hadroddiad fis Chwefror diwethaf, a oedd yn gofyn am eglurhad ynglŷn â pharatoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adeg pan fyddai'r DU yn gadael yr UE.

Yr wythnos diwethaf fe gawsom ni gyfres o ddatganiadau gan Weinidogion ynglŷn â'r paratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn eu meysydd cyfrifoldeb, yn benodol mewn cysylltiad â Brexit heb gytundeb. Ni wnaed peth fel hyn erioed o'r blaen, ac mae hynny'n arwydd o'r pryderon sy'n bodoli yn ein cymunedau a chyrff sector cyhoeddus ynghylch sut y byddai dilyniant o ran busnes a gwasanaeth ar ôl gadael yr UE. Mae ein pwyllgor yn gobeithio y bydd heddiw'n cynnig cyfle i drafod rhai o'r materion hynny.

Mae'r adroddiadau hyn yn egluro, heb flewyn ar dafod, y risg i'r tri sector hyn o sefyllfaoedd Brexit amrywiol. A chyn i unrhyw un godi ar ei draed a dweud, 'Dyma ni eto, codi bwganod eto', mae adroddiadau'r pwyllgor yn seiliedig ar dystiolaeth a gafwyd gan arbenigwyr a rhanddeiliaid, a dyna'r sail i'n casgliadau.

Ar ôl gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol bythefnos yn ôl, nid codi bwganod yw dweud mewn difrif ein bod ni bellach yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Nawr, rwy'n sylweddoli ein bod ni'n dal i ddisgwyl canlyniad pleidleisiau heddiw yn San Steffan, a allai arwain at daro bargen ynghyd â datganiad gwleidyddol sy'n gweithio i economi Cymru a dinasyddion Cymru, ond ni allwn ni beidio ag ailadrodd y dywediad drwgenwog hynny bellach, 'Mae'r cloc yn tician', ac rydym ni'n agosau'n gyflym at yr awr dyngedfennol. Yn wir, os darllenwch chi flaen ein hadroddiad, mae'r llinellau agoriadol yn dweud:

Gyda llai na phum mis nes bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd

—heddiw, mae hi'n ddau fis cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae amser yn cerdded.

Nawr, mae gadael heb gytundeb yn rhywbeth y mae ein pwyllgor wedi rhybuddio'n gyson yn ei erbyn. Nid yw hi naill ai'n angenrheidiol nac yn ddymunol i dorri'r cysylltiadau ag Ewrop mewn ffordd mor afreolus ac o bosib anhrefnus. Felly, cyn troi at gynnwys yr adroddiadau yn fanwl, efallai y byddai'n werth atgoffa'r Siambr hon o'r hyn a olygwn ni wrth Brexit heb gytundeb, ac fe wnaf i geisio symleiddio hynny cymaint â phosib.

Byddai gadael heb unrhyw gytundeb yn gweld degawdau o gydweithredu gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben yn ddisymwth. Byddai gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol i sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru. O ran masnach, byddai'n golygu ein bod yn codi llu o rwystrau masnachu newydd lle nad oes dim yn bodoli ar hyn o bryd—popeth o drethi newydd ar fewnforion ac allforion i wiriadau a rhwystrau newydd ar y ffin. Fe allem ni golli mynediad i asiantaethau a rhaglenni'r UE, rhywbeth yr ydym ni wedi elwa arno ers cryn amser. Y neges glir a phendant a gawsom ni gan randdeiliaid yn ystod ein hamser yn ystyried y materion hyn yw y dylid osgoi peidio â chael cytundeb. 

18:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Llywydd, trof yn awr at ein tri adroddiad gydag ychydig mwy o fanylder. Mae'r adroddiadau sy'n cael eu trafod heddiw yn edrych yn fanwl ar rai o'r materion y mae'r tri sector yn eu hwynebu—tri sector sy'n bwysig i economi Cymru. Maen nhw hefyd yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol y Pwyllgor. Er na fyddai hi'n bosib ystyried y materion i gyd yn yr amser sydd ar gael imi heddiw, rwy'n annog aelodau o bob rhan o'r Siambr i'w hastudio'n ofalus os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.

Mae ein hadroddiad dilynol ar oblygiadau Brexit ar gyfer porthladdoedd yn ailystyried rhai o'r materion y daethom ni â nhw'n gyntaf i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Awst 2017. Cawsom dystiolaeth gan randdeiliaid sy'n ymwneud â rhedeg porthladdoedd Cymru, gan gludwyr nwyddau, ynghyd â chynrychiolwyr o'r sectorau awyrennau a thwristiaeth. Mae'n werth nodi bod porthladdoedd Cymru nid yn unig yn cyflawni swyddogaeth bwysig yn ein heconomi fodern, maen nhw mewn gwirionedd hefyd yn cefnogi dros 18,000 o swyddi yng Nghymru.

Y mater sylfaenol ym mhorthladdoedd Cymru ble mae fferïau cerbydau yn mynd a dod yw hyn: nad oes ganddyn nhw'r gallu materol na'r seilwaith i ymdopi â gwiriadau ffiniau a thollau newydd, ynghyd â'r gofynion parcio y byddai hynny i gyd yn ei olygu. Dyna pam ein bod ni'n galw ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau wrth gefn o ran rheoli traffig ym mhorthladdoedd Cymru pe byddai oedi a gwiriadau newydd yn angenrheidiol ar ôl 29 Mawrth 2019.

Er fy mod i'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn credu y gall fod rhai agweddau masnachol sensitif ynghlwm â gwneud hyn, rwy'n croesawu'r sicrwydd a roddwyd i mi er hynny gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y mater hwn. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Llywodraeth rannu'r wybodaeth hon gyda ni yn gyfrinachol.

O ran Brexit heb gytundeb, clywsom gan weithredwyr porthladdoedd a chludwyr nwyddau fod cyfnod pontio yn hanfodol wrth inni adael yr UE. Yn benodol, dywedodd y gymdeithas cludo nwyddau ar y ffyrdd wrthym ni

nad yw, ac na fydd cludwyr ffyrdd y DU a'r UE, mwyafrif eu cwsmeriaid a'r drefn swyddogol yn barod am sefyllfa heb gytundeb a heb gyfnod pontio. 

Fy wnaethon nhw ddweud wrthym ni hefyd bod

y paratoadau cyfredol yn annigonol i osgoi tarfu trychinebus ar gadwyni cyflenwi

mewn sefyllfa o'r fath.

Nodwyd hyn gennym ni yn ein hadroddiad am y cynigion ar gyfer y trefniadau o ran tollau yn y dyfodol os cawn ni Brexit trefnus. Mae pryderon cyffredin yn bodoli o hyd am yr amserlenni ar gyfer pontio i unrhyw system newydd. Nodwn hefyd yr anawsterau a all wynebu allforwyr os yw'n rhaid iddyn nhw weithredu dwy set gymhleth o systemau ar ôl Brexit. Mae'n ddefnyddiol yn hynny o beth bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sectorau allweddol yr economi i feithrin y cydnerthedd hwnnw.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfraniad a wnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf, a atgoffodd bob un ohonom ni o'r holl heriau wrth geisio sicrhau trwyddedau cerbydau nwyddau trwm ar gyfer busnesau Cymru ac effaith bosib hynny ar ein cwmnïau cynhenid. Mae'r mater syml yr ydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol—y gallwn ni gludo ein nwyddau ar draws Ewrop heb unrhyw anhawster—erbyn hyn yn un y gallai peidio â chael cytundeb achosi niwed difrifol iddo.

Llywydd, wrth lunio ein hadroddiad ar y sector gofal iechyd a meddyginiaethau fe glywsom ni bryderon niferus gan sefydliadau yn y sector iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys goblygiadau Brexit o ran cael cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, gallu manteisio ar dreialon clinigol a chynnal y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd un o'r pryderon a fynegwyd inni ynglŷn â diffyg cyfathrebu a'r ansicrwydd sy'n dal i fod o ran Brexit. Er bod llawer o ansicrwydd o hyd, croesewir y cynnydd mewn cyfathrebu â staff rheng flaen, fel yr amlinellir yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gyfraniad yr wythnos diwethaf.

O ran cyflenwi meddyginiaethau, dywedodd Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wrthym ni mai'r

prif ddyhead yw cytundeb lle caiff cydweithredu ei reoleiddio a lle mae modd symud a masnachu'n rhwydd ar draws ffiniau.

Rydym ni wedi clywed bod 45 miliwn o becynnau meddyginiaeth i gleifion yn symud o'r DU i'r UE bob mis, gyda 37 miliwn o becynnau yn symud i'r cyfeiriad arall. Cyn i rywun ddweud eu bod nhw ein hangen ni fwy nag y mae arnom ni eu hangen nhw, maen nhw'n feddyginiaethau gwahanol ac mae ganddyn nhw wahanol anghenion, felly nid yw hi mor hawdd nac mor syml ag y mae pobl yn credu.

Yn ein hargymhelliad 2 ni, fe wnaethom ni alw ar i Lywodraeth Cymru rannu manylion gyda ni o waith sydd ar y gweill i sicrhau parhad cyflenwad. Mae'n galonogol gweld cryn fanylder o ran gwneud cynnydd gyda'r trefniadau hyn yn ymateb y Gweinidog.

Llywydd, wrth edrych ar oblygiadau Brexit ar gyfer gofal iechyd a meddyginiaethau, lles cleifion sydd wedi bod yn flaenaf yn ein meddyliau. Yn benodol, mae ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn golygu y gall Cymru fanteisio ar yr ymchwil meddygol a'r treialon clinigol gorau posib. Os yw'r cynnydd cyson yr ydym ni wedi'i wneud i wella bywydau ac iechyd ein pobl i barhau ar ôl Brexit, mae'n hanfodol inni sicrhau bod cydweithio agos wedi ei reoleiddio ym maes gofal iechyd a meddyginiaethau.

Rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio â'u cymheiriaid yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan, fel yr amlinellir yn ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, mae angen mwy o sicrwydd arnom ni gan y Llywodraeth ar ddau ben yr M4, ac efallai y gall y Gweinidog fynd i'r afael â hyn yn ei gyfraniad at y ddadl heddiw, ac rwyf yn cyfeirio at y Gweinidog Brexit yn hynny o beth.

Mater terfynol mewn cysylltiad ag effaith Brexit ar ofal iechyd yng Nghymru yw hwnnw'n ymwneud â'r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae wedi'i drafod mewn sawl pwyllgor, y mater hwnnw. Yn ei thystiolaeth, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wrthym ni fod tua 6.5 y cant o feddygon yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn dod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Fodd bynnag, o ran y gweithlu ehangach, clywsom fod diffyg data cadarn, yn enwedig mewn cysylltiad â'r gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol cysylltiedig, yn llesteirio ymdrechion i baratoi ar gyfer Brexit. Rwyf yn ymwybodol bod Cydffederasiwn y GIG wedi cyhoeddi briff sy'n rhoi ychydig mwy o ffigurau ond nid oes unrhyw ddata gwirioneddol gadarn ar gael hyd yn hyn. Fel pwyllgor rydym ni'n croesawu'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd i asesu maint yr her ac yn edrych ymlaen at adeg ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Roedd ein trydydd adroddiad a'r un terfynol yn edrych ar oblygiadau posib Brexit i'r sector bwyd a diod yng Nghymru, rhywbeth a amlygwyd ddoe gan nifer o gwmnïau mawr a oedd yn tynnu sylw at eu pryderon os ydym ni'n gadael heb gytundeb. Y neges allweddol i ni yn ein hymchwiliad oedd y gallai gadael yr UE heb gytundeb fydd yn sicrhau mynediad rhwydd i'r farchnad sengl fod yn drychinebus i'r sector yng Nghymru. Clywsom fod tua dwy ran o dair o fwyd a diod Cymru sy'n cael ei allforio ar hyn o bryd yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd ac, yn 2016, mai cyfanswm gwerth allforion oedd tua £335 miliwn.

Byddai masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd pe na byddai cytundeb yn arbennig o niweidiol i'r diwydiant cig coch yng Nghymru. Byddai'n gweld trethi newydd sylweddol ar allforio cig coch i'n cymdogion agosaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am tua 90 y cant o'n holl allforion cig coch. At hynny, clywsom y byddai'n anodd eithriadol gwneud iawn am y farchnad Ewropeaidd drwy fasnachu gyda gweddill y byd yn y tymor byr. Bydd yn cymryd ymdrech benodol dros nifer o flynyddoedd i weddill marchnadoedd y byd aeddfedu, ac mae'r pwyllgor yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn hynny o beth, ond mae'n ateb mwy hirdymor.

Yn olaf, o ran y sector bwyd a diod yng Nghymru, rydym ni wedi clywed am gynllun enwau bwyd gwarchodedig yr UE, sydd ar hyn o bryd yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i 15 o gynhyrchion Cymreig rhag cael eu ffugio. Maen nhw'n cynnwys cig oen Cymru, cig eidion, halen môr Môn a thatws newydd cynnar Sir Benfro, dim ond i enwi ond ychydig. Mae'n hanfodol bwysig y caiff statws gwarchodedig ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod Cymru ei sicrhau ar ôl Brexit ac rwy'n croesawu'r ffordd y mae pob Llywodraeth yn y DU yn cydweithio ar gynllun olynol.

Mae hi yn hanfodol, gyda maint y newid yr ydym ni ar fin ei weld yn y sectorau amaethyddiaeth a bwyd o ganlyniad i Brexit, fod y Cynulliad hwn hefyd yn cael digon o gyfle i graffu ar y cynigion polisi yn fanwl. Rwy'n siŵr y bydd pob Gweinidog yn ystyried hyn yn ddwys wrth gamu i'r dyfodol, fel y gallwn ni fel deddfwrfa graffu mewn gwirionedd ar y polisïau sy'n cael eu cyflwyno i ni.

Llywydd, mae'n bwysig ein bod ni'n codi'r ymwybyddiaeth hon heddiw yn ein fforwm cenedlaethol. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae Brexit yn fater cymhleth sy'n effeithio ar sawl agwedd ar ein bywyd cenedlaethol. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau eraill heddiw a byddaf yn ymateb yn unol â hynny.

18:05

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, David Rees, am y ffordd y mae wedi arwain y pwyllgor? Rwy'n credu ei fod wedi gwneud hynny â pharodrwydd mawr. Mae hyn yn waith brys a difrifol iawn ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ffordd yr ydych chi wedi cadeirio ein cyfarfodydd a cheisio cael consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Ond y peth cyntaf i'w bwysleisio yw, os byddwn yn gadael yr UE heb gyfnod pontio, yna mae'r tarfu yn debygol o fod yn ddifrifol, o leiaf yn y meysydd yr ydym ni'n eu canfod, ac mae hi'n bosib ein bod ni'n wynebu peryglon sylweddol, ac yn wir mae'n ymddangos bod rhai o'r peryglon hynny yn fwy difrifol yng Nghymru nag ydyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, mae hwn yn waith difrifol iawn, iawn yn wir ac rwy'n wirioneddol—un peth sy'n codi fy nghalon yw ein bod ni wedi cael arweiniad a chefnogaeth ysgrifenyddiaeth wych o ran cynhyrchu a'n helpu ni i gynhyrchu'r adroddiadau hyn.

Fe hoffwn i hefyd ganmol Llywodraeth Cymru am fod ag, rwy'n credu, agwedd pur gyfrifol wrth geisio chwilio am ffyrdd ymarferol y gall y Cynulliad drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ystod o gynlluniau wrth gefn yn barod. Rwyf yn croesawu hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n ffordd aeddfed o fynd ati.

Rwyf eisiau cyfeirio dim ond at rai o'r pryderon y mae ein Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio atyn nhw, ond caniatewch imi ymhelaethu ar un neu ddau ohonyn nhw. O ran y porthladdoedd, mae angen inni wybod mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymdopi â materion sy'n gysylltiedig â thraffig, yn enwedig yng Nghaergybi. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gwneud hyn o ran porthladdoedd y sianel yn arbennig. Felly, y sensitifrwydd masnachol, nid wyf mor siŵr a ydyn nhw mor bwysig â hynny, a, beth bynnag, yr angen mwyaf yw inni gael peth gwybodaeth a dechrau cyfathrebu. Felly, rwyf yn gobeithio y gellir ailystyried hyn. Mater i Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru roi pwysau yn ei gylch yw gallu ein porthladdoedd ar hyn o bryd i ymdrin â'r newidiadau yn y trefniadau rheoliadol a all fod yn berthnasol yn gyflym iawn, iawn. Mae hyn yn bryder mawr i'r rhanddeiliaid ac rwy'n credu, unwaith eto, bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni.

O ran gofal iechyd, fel sydd wedi'i grybwyll, mae nifer y meddyginiaethau sy'n dod i Brydain a'r nifer sy'n mynd ar draws Ewrop yn fater eithaf sylweddol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae angen cydlynu hyn yn ofalus iawn, yn enwedig o ran y rhai sy'n dirywio'n gyflym, fel inswlin. Pwysleisiwyd hyn i ni. Rwy'n gwybod bod her barhaus am warysau. Roeddem ni eisoes yn eithaf agos at y capasiti mewn rhai agweddau fel rwy'n deall, yn arbennig gyda'r rhai y mae angen eu storio'n ofalus. Mae'r meddyginiaethau hyn yn aml eu hangen gan y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, felly mae hynny'n broblem.

Mae'r goblygiadau staffio yn wirioneddol bwysig. Wnaf i ddim eu hailadrodd, heblaw dweud fy mod i'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio adrodd ar hyn yn benodol ynglŷn â staffio yn y byd gofal iechyd a chymdeithasol, ac yn disgwyl cyflwyno adroddiad rywbryd ym mis Mawrth. Rwyf yn gobeithio y gall hi gyflwyno adroddiad cyn gynted â phosib. Rwyf yn sylweddoli nad ydych chi eto yn gwybod y sefyllfa wirioneddol y byddwn yn ei hwynebu, ond mae'n bwysig iawn inni gael rhywfaint o wybodaeth glir ac, unwaith eto, bod cyfathrebu ynglŷn â hynny.

Yn olaf, o ran bwyd a diod, pe gallem ni gael rhyw fath o ddiweddariad ar fater cyflenwad bwyd Tesco a'u cyhoeddiad eu bod yn poeni. Rwy'n credu bod hyn yn pwysleisio'r holl fater o adael y gymuned Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd, beth bynnag yw eich barn yn ei gylch. Mae patrymau economaidd a masnachu yn gadarn iawn. Rydym ni wedi cael ein Hewropeiddio yn sylweddol. Mae globaleiddio yn rhan o hyn. Mae'r cadwyni cyflenwi yn anhygoel o gymhleth, ac mae angen inni gadw hynny mewn cof, a bydd tarfu anochel os caiff y rhai hynny eu torri heb gytundeb a chyfnod pontio.

Yn olaf, rwyf yn credu bod yn rhaid inni bellach egluro'n fanwl beth sy'n debygol o ddigwydd i gig oen os nad oes gennym ni gytundeb. Byddwn yn wynebu tariff o 43 y cant. Dyna'r sefyllfa orau. Fe allem ni fod mewn sefyllfa waeth na hynny. Byddwn yn colli ein marchnadoedd dros nos yn Ewrop. Bydd llawer o'r gwledydd yna yn dechrau cynhyrchu mwy o gig oen. Nawr, bydd hynny'n cymryd peth amser iddyn nhw, ond nid yw Seland Newydd ond yn defnyddio hanner ei chwota ar hyn o bryd yn y farchnad Ewropeaidd. Mae hi'n bosib iawn y gall cystadleuydd fanteisio ar y diffyg a grëir oherwydd bod cig oen Cymru yn rhy ddrud, a gallai hyn ddinistrio ein diwydiant. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i bawb yn y Siambr hon sefyll ar eu traed mewn difrif mynd i'r afael â'r gwirioneddau hyn a'u cydnabod, oherwydd byddai gweld asgwrn cefn ein diwydiant da byw yn cael ei difrodi yn syfrdanol. Mae llawer ohonom ni yn y Siambr yn cofio digwyddiad Chernobyl a'r hyn a wnaeth hynny i lawer o'n cynhyrchiant cig oen, yn enwedig yn y gogledd. Byddai gweld dyblygu hynny ar raddfa fwy yn bosibilrwydd brawychus iawn mewn gwirionedd, a dyna pam mae angen cytundeb arnom ni.

18:10

Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y gwnaed rhybuddion yn y Siambr hon am yr ansicrwydd gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yn sgil unrhyw fath o Brexit, a'r peryglon enfawr sydd o'n blaenau pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb caled iawn neu hyd yn oed heb gytundeb o gwbl. Mae'n bwysig inni gofio'r cyd-destun y mae'r ddadl hon yn digwydd ynddo heddiw a'r hyn sy'n digwydd i lawr yr M4 yn Senedd y DU, ac fe ddylem ni wastad ymdrechu, ni waeth pa mor annhebygol y bo hi'n teimlo ar adegau, i obeithio y caiff ein neges a'n pryderon yma yn ein Senedd genedlaethol ni wrandawiad gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn San Steffan ac yn Whitehall.

Nid yw hi'n gyfrinach fy mod i ymysg hanner y boblogaeth a oedd yn dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gyfrinach fy mod i'n gefnogwr balch o werth aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru—y gwerth i genedl fach o fod yn rhan o rwydweithiau Ewropeaidd. Rwyf eisiau gweld Cymru, fel y gwyddoch chi, yn genedl annibynnol o fewn rhwydweithiau ehangach: yr Undeb Ewropeaidd, Undeb Prydeinig newydd, efallai, Undeb Celtaidd—pwy a ŵyr? Felly, roedd unrhyw ymadawiad i mi yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru. Ac fe wnaethom ni, rwy'n difaru—ac rwy'n cymryd fy rhan i o'r bai amdano—fethu â phwysleisio hynny ddigon yn yr hyn a oedd, mewn gwirionedd, yn refferendwm Saesnig iawn, yn hytrach nag un Brydeinig. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon, rwy'n credu, yn dweud hynny wrthym ni, ac nid oes gennyf fawr ddim ameuaeth y byddai gennym ni bellach ganlyniad gwahanol yng Nghymru nawr ein bod ni wedi cael amser i drafod y goblygiadau penodol i Gymru. Ond cynhaliwyd y refferendwm bron dair blynedd yn ôl.

Ond mae bod mewn sefyllfa bellach lle'r ydym ni'n wynebu'r Brexit mwyaf niweidiol posib yn sefyllfa lle bydd pawb yn dioddef, ble bynnag y bo nhw yn y DU, er bod arnaf ofn y byddai Cymru ymysg y mannau fydd yn dioddef fwyaf. Bydd imperialiwyr cocsio bach Prydain yn ymhyfrydu mae'n siŵr mewn ymgyrch wyrdroëdig o arwahanrwydd gogoneddus, lle gall arwahanrwydd gwirioneddol ddim ond cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer y tlawd, ar gyfer y mentrus, ar gyfer pobl ifanc, ar gyfer busnes, ar gyfer amaeth, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer goddefgarwch, ar gyfer cydweithredu rhyngwladol—mae'r rhestr yn llawer hwy nag y byddai'r Llywydd yn caniatáu imi sôn amdani'n gynhwysfawr yn yr amser sydd ar gael.

Ond heddiw rydym ni'n nodi tri adroddiad sy'n gwneud rhagor o rybuddion—tri adroddiad gan y pwyllgor materion allanol. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi ein hatgoffa'n huawdl o rai o'r rhybuddion a wnaeth y pwyllgor hwnnw ynglŷn ag effeithiau Brexit ar borthladdoedd, ar iechyd, ac ar y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion lu a wnaed ar gyfer y gwaith paratoi sydd ei angen, ac rwy'n falch eu bod wedi eu derbyn. Ond, wrth gwrs, ni ellir paratoi'n ddigonol, hyd yn oed pe cafwyd yr holl amser yn y byd, heb sôn am yr wyth wythnos sydd ar ôl, i'n rhoi ni mewn sefyllfa lle gallem ni edrych ymlaen, yn realistig, i fod ar yr un tir ag yr ydym ni arno hyn o bryd yn dilyn Brexit caled neu un heb gytundeb o gwbl. 

Rydym ni heddiw, wrth gwrs, yn ymdrin ag effeithiau'r penderfyniadau a wnaed yn dilyn y refferendwm yn 2016, sef y penderfyniad i sbarduno Erthygl 50 mor gyflym, a oedd yn pennu dyddiad ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—dyddiad gyda thynged iddo heb unrhyw syniad ynghylch pa dynged yr oeddem ni mewn gwirionedd yn ei dymuno. Ac rwy'n falch iawn i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn San Steffan bleidleisio yn erbyn sbarduno Erthygl 50 bryd hynny, ac efallai y gall hanes farnu a oedd Llafur a'r Ceidwadwyr yn iawn i frysio, fel a ddigwyddodd, i sbarduno hynny. Ond, mae'n amlwg i mi ac i'm cyd-Aelodau—rydym ni eisiau gohirio'r dyddiad hwnnw. Rwyf eisiau oedi gydag erthygl 50, i roi amser i'n hunain, efallai i geisio Brexit llai niweidiol, efallai gan ystyried rhai o'r rhybuddion a wnaed unwaith eto yn y tri adroddiad gan y pwyllgor Cynulliad hwn. Ond gellid defnyddio'r amser hyd yn oed yn well, yn ein barn ni, drwy ofyn i'r bobl unwaith eto ai dyma beth maen nhw, a phobl fel fy merch hynaf—Ewropead angerddol sydd bellach yn gymwys i bleidleisio ers y refferendwm hwnnw—yn dal i fod eisiau mewn gwirionedd.

18:15

Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un o'r tri adroddiad, ond cyn gwneud, gan fy mod i wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar, a gaf i ganmol y gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud ar y tri adroddiad yma a pha mor drylwyr ydyn nhw, a'r ffaith eu bod nhw'n ymdrin â ffeithiau yn uniongyrchol iawn? Nid storïau brawychu neu ofn diangen mohonyn nhw; yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw disgrifio'r gwahanol bosibiliadau, yn enwedig os nad oes cytundeb, ond hyd yn oed o ran ymadael gyda Brexit rheoledig, a beth y mae angen inni ei wneud. Ond maen nhw'n ein hatgoffa'n glir o'r hyn yr ydym yn ei wynebu.

Dim ond i ymateb i sylw David ynghylch defaid ac ŵyn yng Nghymru, rydym ni'n aml yn meddwl am y gwynfydau bugeiliol hynny yn y canolbarth neu'r gogledd—cig oen ysgafn ac yn y blaen—ond, wrth gwrs, nid yw cyd-Aelodau yma sy'n eistedd ar y meinciau hyn sy'n cynrychioli Cymoedd y De, fel fy un i—. Nid ydyn nhw'n aruthrol o annhebyg i fy un i. Mae 40 y cant o ardal diriogaethol fy etholaeth i yn dir ffermydd mynydd. Roedd y ffermwyr hynny yn draddodiadol mewn gwirionedd wedi goroesi nid yn unig drwy ffermio'r mynydd, ond drwy fod y cwmni cludo nwyddau, bod y sgaffaldiwr neu redeg y becws. Dyna'r unig ffordd maen nhw wedi gallu ei wneud. Maen nhw'n gwybod yn dda iawn beth yw'r peryglon yn awr o dorri'r cysylltiadau o fynediad di-dariff i Ewrop, beth bynnag, mae'n rhaid imi ddweud, o'r posibilrwydd ehangach sydd yna, oherwydd mae gennym ni gysylltiadau bellach â gwledydd y dwyrain canol, gyda Dubai, Qatar ac ati. A dim ond un sylw ynglŷn â hynny: Mae'n seiliedig ar safon aur ein cynnyrch—safonau lles anifeiliaid uchel, y safonau lladd uchel sydd gennym ni. Felly, un peth y mae angen inni ei wneud wrth baratoi ar gyfer Brexit yw gwneud yn siŵr nad ydym ni mewn unrhyw fodd yn peryglu'r safonau hynny, oherwydd, yn rhyfedd iawn, mae'r hyn sydd wedi ei feirniadu o'r blaen fel y safon aur, goreuro ein rheoliadau a'r ffordd yr ydym ni'n gwneud hynny, dyna mewn gwirionedd yw'r union safon pam mae hi'n bosib i'n marchnadoedd allforio dyfu hyd yn oed ar ôl Brexit ac ymadael. Ond ni allwn ni golli'r farchnad Ewropeaidd honno oherwydd byddwn ni wedyn yn y pen draw yn ôl yn y sefyllfa, yng Nghymoedd y De, lle bydd gennych chi ffermwyr yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Byddwch chi wedi cefnu ar ffermio mynydd yn ucheldiroedd y de, ac mae hynny nid yn unig yn bwysig yn economaidd, mae'n bwysig yn ddiwylliannol hefyd.

Ond rwyf eisiau troi at yr adroddiad da iawn yma am barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'n dechrau gyda'r sylw na allwn ni mo'i ailadrodd yn rhy aml: pob un ohonom ni, yn ein hetholaethau, mai un o'r cyflogwyr mwyaf o ran gweithgynhyrchu a chynhyrchu bwyd sylfaenol yw bwyd, pa un a yw hynny'n gwneud platiau ffoil tin a deunydd pacio ar gyfer awyrennau neu a ydyn nhw'n ffermwyr neu beth bynnag—cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu yw hynny.

Ond fe hoffwn i grybwyll un neu ddau o bwyntiau penodol yn y fan yma, ac rwy'n croesawu'r ffaith y derbyniodd y Llywodraeth yr holl argymhellion a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwn ar fwyd. Yn gyntaf oll, a oes gennym ni, Gweinidog, unrhyw hyder y bydd gennym ni gytundebau masnach wedi'u cymeradwyo erbyn y daw 31 Mawrth ar ein gwarthaf? Rydym ni'n dal i aros i weld. Rydym ni'n gobeithio y bydd gennym ni gytundebau masnachu ar waith. Dywedir wrthym ni ein bod ni ar fin llofnodi ac y bu llawer o baratoi, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth eto. A yw'n gwybod a oes gennym ni unrhyw gytundebau yn barod i'w gweithredu?

A gaf i holi ynglŷn â swyddogaeth swyddfeydd Cymru dramor a'r presenoldeb mewn llysgenadaethau a swyddfeydd is-genhadon? Oherwydd mae'r marchnadoedd allforio posib hynny yn mynd i ddibynnu ar beth gwaith trylwyr, deheuig ac ar ddiplomyddiaeth dringar yn ogystal â chytundebau a allai gael eu negodi. Felly, beth fydd swyddogaeth ein personél yma yn Llywodraeth Cymru ond hefyd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y DU hefyd?

Soniais am y bygythiad o safonau is ar gyfer mewnforio, ond dyna'r bygythiad hefyd, fel y soniodd David, o waredu. Ers tro bu hyn yn fygythiad sef y byddem ni'n canfod ein hunain yn sydyn wedi ein gorfodi i sefyllfa o gyfaddawd ble byddai'n rhaid inni, er mwyn cadw bwyd ar y silffoedd, yn y bôn dderbyn beth bynnag a oedd ar gael. Ni allwn ni wneud hynny; does fiw inni wneud hynny. Ond dyna wirionedd plaen rhywbeth sydd bellach yn ein hwynebu ni.

A gaf i droi hefyd at y mater o fwydydd gyda statws gwarchodedig? Rwy'n croesawu'n fawr iawn y gwaith sydd wedi'i wneud ynglŷn â chynlluniau dynodiad daearyddol y DU ar ôl Brexit, y cydweithio sy'n digwydd i edrych ar hynny a'r cydgyfnewidioldeb gyda'r UE. Felly, gwneir hynny ar sail: os ydym ni'n bwrw ymlaen gyda'n henwau bwyd gwarchodedig yna byddwn wrth gwrs yn croesawu enwau bwyd yr UE, gyda rhai yn enwau sydd gennym ni eisoes. Ond fy nghwestiwn i ynglŷn â hynny, Gweinidog, fyddai: beth yw ein barn ynglŷn ag a allwn ni mewn gwirionedd gynyddu bellach nifer y cynhyrchion bwyd sy'n dod o Gymru sy'n dod o dan yr enwau bwyd gwarchodedig presennol neu newydd? Oherwydd rydym ni wedi cael rhai llwyddiannau da, ond rydym ni wedi bod yn araf iawn yn cynyddu nifer y cynhyrchion mewn gwirionedd. Felly, efallai y gallem ni wneud mwy o hynny ac yn gyflymach.

Ambell sylw wedyn o ran y gwaith sy'n cael ei wneud i liniaru effeithiau Brexit heb gytundeb ar ddiogelwch a pharhad cyflenwadau bwyd yng Nghymru. Mae un o'r rheini yn ymwneud â'r mater o ddiogelwch bwyd a diogelu'r cyflenwad bwyd. Nid yw'r adroddiad, nid wyf yn credu, yn sôn am hynny. Rwy'n troi at fy nghyd-Aelod ar y chwith, ac mae David yn ysgwyd ei ben. Rydym ni wedi dysgu er methiant inni yn y Deyrnas Unedig ar ôl y sgandal cig ceffyl—mae amser yn mynd yn drech na fi. Rydym ni wedi dysgu er methiant inni, mewn gwirionedd, am bwysigrwydd diogelwch rhyngwladol. Cig ceffyl, cig ceffyl wedi ei halogi, aeth cig nad oedd yn gig ceffyl drwy 20 o wledydd gwahanol. Wrth inni fynd drwy Brexit, yn enwedig gyda chytundeb caled, a ydym ni'n mynd i gyfaddawdu ar hynny?

A'm sylw olaf—y sylw olaf, olaf, olaf; rwy'n addo brysio drwy'r holl bethau sy'n weddill—yw argymhelliad nad yw yno yn gyfan. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar edrych tuag allan o ran yr hyn y byddem yn ei wneud yn achos ymadael â'r UE, ac mae hynny'n ddealladwy iawn. Byddwn yn dweud mai un o'n hargymhellion wrth gamu i'r dyfodol yw bod angen inni adeiladu rhwydweithiau bwyd lleol. Pan rydym ni'n sôn am ddiogelu'r cyflenwad bwyd a mewnforion ac allforion, rwy'n deall hynny a dyna lle'r ydym ni arni gyda Brexit. Ond mae'n rhaid i ran o'r cydnerthedd, wrth gamu i'r dyfodol, fod ynglŷn ag adeiladu'r rhwydwaith bwyd lleol hwnnw lle'r ydym ni'n cynhyrchu a lle'r ydym ni'n gwerthu yn ein hardaloedd ein hunain, yn ein rhanbarthau ein hunain, yn y dyfodol, hefyd. Diolch.

18:25

Weithiau, pan rwy'n eistedd yma, nid wyf i mewn gwirionedd yn sylwi bod yr amser wedi dod i ben ar gyfer y siaradwr, ond mae hi bob amser yn ddefnyddiol, wedyn, i'r siaradwr sylwi ar hynny ei hun a thynnu fy sylw at y ffaith i amser fynd yn drech nag ef.[chwerthin.]

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i ymateb i'r ddadl yma—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Cyn dechrau, rwyf am ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y tri adroddiad yn edrych ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. A diolch, hefyd, am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth hon. Rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, yn ein hymateb ffurfiol, wedi derbyn pob un o'r argymhellion ym mhob un o’r adroddiadau.

Wrth gwrs, mae’r sefyllfa o ran bob un o’r materion hyn yn newid yn gyflym, fel y soniodd David Rees, ac rwy’n croesawu’r cwestiynau a’r sylwadau ychwanegol rydyn ni wedi’u clywed heddiw. Dwi ddim wir am roi amser heddiw i drafod y ffordd druenus mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymdrin â’r negodiadau Brexit a’r argyfwng sy’n wynebu ein gwlad o ganlyniad i hynny; bydd cyfle arall i edrych ar y sefyllfa yfory. Ond, mae’n rhaid imi ddweud, unwaith eto, fel yr ydw i ac Aelodau eraill o’r Cabinet wedi pwysleisio dro ar ôl tro, bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus, fel y soniodd Rhun ap Iorwerth ac eraill. Ac ar y funud olaf hon hyd yn oed, rydyn ni’n annog Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb sydd er budd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan.

Yr wythnos diwethaf yn y Cynulliad, neilltuwyd diwrnod cyfan o Gyfarfod Llawn i amlinellu’r effeithiau ymadael heb gytundeb ar draws gwahanol sectorau. Mae hyn yn dangos mor sylweddol, yn ein barn ni, yw’r peryglon i Gymru os byddwn yn ymadael heb gytundeb, ac mor ddifrifol yw’r neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig: mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau cytundeb. Roedd y datganiadau’n tynnu sylw at rai o’r effeithiau mwyaf difrifol a allai godi o ganlyniad i ymadael heb gytundeb, ac mae’r rhain i’w gweld yn yr adroddiadau a osodwyd gan y pwyllgor. Does dim modd i mi osod ymateb Llywodraeth Cymru i’r holl argymhellion o fewn yr amser sydd ar gael, ond gallaf ddweud yn fras beth yw’n hymateb i’r materion pwysig. Mae nifer o effeithiau posib ymadael heb gytundeb yn deillio o oedi wrth y ffiniau. Rwyf am bwysleisio mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwbl gyfrifol am reoli ffiniau’r Deyrnas Unedig. Rŷn ni’n gweithio gyda nhw i ddeall a lleddfu effaith y newidiadau ar ein seilwaith drafnidiaeth, ein busnesau a’n pobl, ond does dim modd i ni, ein hunain, benderfynu ar y trefniadau tollau.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu peidio â gosod gwiriadau ychwanegol ar nwyddau o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, dros dro o leiaf, pe byddem yn ymadael heb gytundeb. Ond dydy hyn ddim yn gwarantu y bydd y nwyddau’n llifo mor rhydd ag y maen nhw ar hyn o bryd. Os byddwn ni’n ymadael heb gytundeb, bydd Iwerddon yn gorfod trin nwyddau o’r Deyrnas Unedig fel rhai o drydedd wlad, gan gynnwys yr holl wiriadau angenrheidiol, a gallai hynny achosi oedi ym mhorthladdoedd Cymru.

Yn y rhan fwyaf o’n porthladdoedd, byddai modd rheoli effaith yr oedi o fewn y gofod sydd ar gael yn y porthladdoedd eu hunain, ond byddai Caergybi’n ei chael hi’n anoddach i ddygymod. Fel y dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddydd Mawrth diwethaf—ac rwy’n cyfeirio Aelodau at ei ddatganiad ar hyn, a oedd yn gallu amlinellu ychydig yn fwy nag ymateb ffurfiol y Llywodraeth i’r pwyllgor, oherwydd gallu cyfeirio at rai o’r elfennau cyfrinachedd oedd yn gymwys ar y pryd—er bod gwaith modelu’n awgrymu ei bod yn debygol y gellid cadw’r traffig a fyddai’n oedi yng Nghaergybi o fewn y porthladd, rŷn ni’n datblygu cynlluniau wrth gefn i amharu cyn lleied â phosib ar yr ardal leol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar nifer o safleoedd y gellid eu defnyddio fel gofod wrth gefn ar gyfer lorïau os bydd oedi wrth y ffin.

Rwy'n falch, felly, i allu dweud ein bod ni'n gweithio'n ddygn yn y maes hwn, a'n bod ni'n weddol ffyddiog na fydd tarfu ar ein porthladdoedd yn arwain at broblemau difrifol ar ein rhwydwaith ffyrdd. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn lleihau'r risg y bydd anhrefn ar y ffin yn effeithio'n andwyol ar ein busnesau a'n dinasyddion, gydag anhrefn posib yn Dover yn fygythiad mwy difrifol o lawer yn hyn o beth. Yn benodol, gallai anawsterau posib yn y porthladdoedd effeithio ar y gallu i ddod â chyflenwad digonol o feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i'r wlad, fel y nodwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad ynglŷn â pharodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi niwed difrifol ac anochel i'n gwasanaethau iechyd a gofal. Fel yr amlinellodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r GIG, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol a chynrychiadol i gynllunio a pharatoi lle bo hynny'n bosib, ac rydym ni wedi cydweithio â nhw i ddeall y peryglon a sut y gellir eu lleihau. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyflenwad o feddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol os bydd Brexit heb gytundeb. O ran meddyginiaethau, unwaith eto, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol. Ond i gydnabod sylw David Rees, rydym ni wedi bod yn gwneud, ac yn parhau i wneud, popeth a allwn ni i sicrhau bod y sicrwydd y mae Gweinidogion y DU yn ei roi ynghylch gallu'r gofynion byffer a roddir ar gwmnïau fferyllol, y storfeydd ychwanegol a'r llwybrau trafnidiaeth amgen, gan gynnwys llwybrau awyr ar gyfer radioisotopau, yn rhesymol. O ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, fel yr amlinellodd y Gweinidog iechyd, byddwn yn defnyddio trefniadau'r DU os mai dyna yw'r peth priodol i'w wneud, ond rydym ni eisoes yn cymryd camau ychwanegol, gan gynnwys o ran capasiti storio, lle mae gennym ni feysydd sy'n peri pryder neu lle'r ydym ni'n teimlo y gallwn ni ddarparu sicrwydd ychwanegol yng Nghymru.

Gan droi at y sector bwyd a diod, sydd, fel y nododd Huw Irranca-Davies, yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac yn un a allai wynebu newid sylweddol pe byddid yn gadael heb gytundeb, fel y cyfeiriodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato yn ei datganiad yn y Siambr yr wythnos diwethaf, lle bu'n ymdrin â'r perygl i'r hyn y cyfeiriodd David Melding yn rymus iawn ato fel 'asgwrn cefn ein sector amaethyddol'. Rydym ni'n cefnogi busnesau bwyd a diod o ran sut i wirio eu bod yn barod ac yn deall y goblygiadau ar gyfer eu cadwyni cyflenwi pe na byddai cytundeb trwy ein porth Brexit a thrwy'r prosiect cydnerthedd busnesau a chig coch, a ariennir drwy ein cronfa bontio'r UE. Er gwaethaf ein gwahaniaethau barn cryf â Llywodraeth y DU, rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar faterion fel y dangosyddion daearyddol yr holodd Huw Irranca-Davies yn eu cylch, ac, yn y cyd-destun hwn, i sicrhau bod yna gynllun wrth gefn ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd gyda golwg ar gynnal cyflenwad bwyd i'r cyhoedd hyd yn oed pe byddai'r sefyllfaoedd gwaethaf posib yn digwydd. A gwelwn mor hanfodol yw hyn, o ystyried cynnwys y llythyr yr wythnos hon i Aelodau Seneddol gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain, y cyfeiriodd David Melding ac eraill ato. Rydym ni mewn proses barhaus o sicrwydd ynghylch y camau gweithredu ar y gweill.

Yn olaf, fe hoffwn i gydnabod bod adroddiadau'r pwyllgor i gyd yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol gyda'r cyhoedd, busnesau a phartneriaid. Mae Llywodraeth Cymru o'r un farn â'r pwyllgor, ac mae ein gwefan, Paratoi Cymru, yn ffynhonnell unigol, gynhwysfawr o wybodaeth i bobl Cymru ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit heb gytundeb. Mae'n nodi canllawiau a chyngor i ddinasyddion, sefydliadau, ac amrywiaeth o sectorau ledled Cymru, am yr hyn sydd angen ei wneud i baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, ac rwy'n gofyn am eich cymorth yn y Siambr hon i sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud defnydd llawn o'r adnodd hwn.

18:30

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a'r Cwnsler Cyffredinol am ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyfrannodd David Melding, unwaith eto, yn feddylgar ac yn ddiffuant iawn, gan geisio sicrhau ein bod ni'n barod am unrhyw ganlyniad, fel y bu erioed yn y pwyllgor. Mae wedi bod yn llais cryf iawn i'r diwydiant ffermio defaid a chig oen Cymru, ac amlygodd bryderon am y niwed y gallai hynny ei wneud i economi Cymru os nad ydym ni'n datrys hynny. Dywedodd hefyd, yn amlwg iawn, bod 'diffygion yno i'w llenwi' os nad ydym ni'n ofalus. Soniodd hefyd am un peth nad yw efallai wedi'i adlewyrchu fel arall: gallu cadw meddyginiaethau mewn warysau a storfeydd. Nawr, rwy'n deall y prynwyd llawer o oergelloedd gan gwmnïau amrywiol ar gyfer storio'r meddyginiaethau hynny. Nawr, dim ond, er enghraifft—dim i'w wneud â Brexit—ond nid gymaint â hynny yn ôl, roedd gennym ni broblem gydag EpiPens, dim ond oherwydd diffygion cynhyrchu—dim i'w wneud â Brexit, ond diffygion cynhyrchu—ac fe allem ni weld y canlyniadau ar y gadwyn gyflenwi a'r difrod i gleifion a'r anawsterau a fu i gleifion Cymru oherwydd prinder Epi-Pens. Nawr, os nad ydym ni'n ofalus, bydd hyn yn digwydd gyda mwy nag un cynnyrch penodol. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn a'n bod yn paratoi ar eu cyfer.

Cawsom ein hatgoffa gan Rhun am werth aelodaeth o'r UE i Gymru—y cyflwynodd ac y mae'n credu ynddo. Bydd llawer yn y Siambr hon fwy na thebyg yn cytuno ag ef, a bydd eraill nad ydynt yn cytuno ag ef. Dyna natur ein democratiaeth. Atgoffodd ni hefyd ein bod ni bellach yn wynebu dyfodol ansicr yn awr ac nad ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn—fe ddylem ni mewn gwirionedd fod mewn sefyllfa well bellach i wybod beth sydd ar y gorwel, ac nid ydym ni. Caiff ei ddadl ar refferendwm arall, mae'n siŵr gen i, ei thrafod yfory mewn dadl arall, oherwydd rwy'n ceisio canolbwyntio ar ein hadroddiadau a chadw at hynny.

Atgoffodd Huw ni bod yr adroddiadau, mewn gwirionedd, yn effeithio ar lawer mwy o bobl nag—. Mae pobl yn sôn am ffermio defaid ac ŵyn; nid yw hynny'n berthnasol dim ond i'r canolbarth, y gogledd neu'r gorllewin. Mae'n berthnasol i gymunedau'r ucheldir yn y Cymoedd mewn gwirionedd hefyd. Mae'n berthnasol i Gymru gyfan: gwledig, trefol, y cwbl. A bu iddo hefyd ein hatgoffa ni o'r cyfleoedd hynny fydd mewn gwirionedd yn dod i'n rhan drwy adeiladu cydnerthedd yn ein rhwydweithiau bwyd lleol a datblygu'r rheini yn rhai cryfion iawn.

Cwnsler Cyffredinol, diolch am eich ymatebion. Fe wnaethoch chi ddal sylw ar yr hyn a ddywedwyd i raddau helaeth iawn yr wythnos diwethaf ac fe wnaethoch chi atgoffa pawb eto, mewn gwirionedd, bod y cytundeb yn hollbwysig ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU hefyd fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae'n rhaid i ni o hyd i fynd i'r afael â phwy fyddai'n talu'r gost ychwanegol os ydym ni'n defnyddio llwybrau awyr; pwy fydd yn talu'r gost ychwanegol o storio a meddyginiaethau? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei ddatrys gyda Llywodraeth y DU. Ac mae llawer eto i'w ddatrys mewn cyfnod byr iawn o amser, ac rwy'n wirioneddol eisiau ichi fynd â'r neges honno yn ôl i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) pryd bynnag maen nhw'n penderfynu cwrdd eto yn y dyfodol.

A gaf i hefyd ddiolch ar goedd i'r tîm clercio a'r tystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor? Oherwydd heb y grwpiau hynny ni fyddem ni'n gallu cynhyrchu ein hadroddiadau a chyflwyno i'r Aelodau yr ystyriaethau ynghylch rhai o'r pryderon y mae angen inni roi sylw iddyn nhw er mwyn sicrhau y caiff Cymru a'i phobl eu gwasanaethu orau ag y gallwn ni eu gwasanaethu. Mae Brexit wedi ei gymharu gan rai â'r gorchwyl o gynnal y Gemau Olympaidd. Mae Sefydliad y Llywodraeth, fodd bynnag, wedi mynd ymhellach ac awgrymu bod yr ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n debyg i gynnal gemau Olympaidd heb wybod y flwyddyn, y lleoliad, neu ai gemau'r haf neu'r gaeaf ydyn nhw. Nawr, felly, mae gan holl lywodraethau'r DU, a'r UE, orchwyl anodd wrth baratoi y llu o sefydliadau a sectorau a gaiff, o bosib, eu heffeithio gan Brexit. Rydym ni'n gobeithio drwy ganolbwyntio ar ein gwaith a rhai o'r sectorau allweddol hynny sy'n bwysig i Gymru y bydd modd inni ddwyn sylw Llywodraeth Cymru at y materion hyn a gofyn i Lywodraeth Cymru, 'Gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer sefyllfaoedd—pob sefyllfa'. Wyddom ni ddim beth fydd y canlyniadau. Rwy'n dal i gredu na fyddwn ni'n gwybod bore yfory beth fydd y canlyniadau, oherwydd os derbynnir gwelliant Brady, dywedwyd wrthym ni eisoes gan yr UE a Senedd Ewrop nad oes  ots oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i newid y cytundeb. Felly, mae yna bryderon dybryd beth fydd pen draw hyn ac, felly, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein paratoadau yn gadarn. Diolch yn fawr.

18:35

Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiadau'r pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 12.20 ac 12.22 a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol er mwyn caniatau cynnal dadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin i'w gynnal fory. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NNDM6953 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar 'Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin' gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Ionawr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro, felly. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.