Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/01/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Economi Trefi Gwledig

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu economi trefi gwledig? OAQ53189

Diolch. Mae gwella argaeledd ac ansawdd gwaith ym mhob rhan o Gymru yn hanfodol i'n nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, a thrwy'r cynllun gweithredu economaidd, rydym yn gweithredu i rymuso pobl â'r sgiliau sydd eu hangen i gael y swyddi gorau y gallant eu cael ac i rymuso pob un o'r rhanbarthau yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau gwledig yn y rhanbarthau hynny.

Rydym wedi gweld cynnydd, wrth gwrs, yn nifer y manwerthwyr sydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Rwy'n credu ei fod 6 y cant yn uwch ers 2017, ac wrth gwrs, rydym yn clywed ei bod wedi bod yn Nadolig eithaf anodd i fusnesau ar y stryd fawr. Nawr, mae angen trawsnewidiad mawr mewn manwerthu ac yn y modd y mae'r stryd fawr yn gweithredu ac yn cyflwyno’i hun, rhywbeth sy’n llawer mwy heriol, buaswn yn dychmygu, mewn trefi gwledig na llawer o leoedd eraill. Ni fydd pobl yn rhoi'r gorau i brynu; mae'n debyg mai'r ffordd y maent yn gwario eu harian sy’n newid. Ond sut y mae'r Llywodraeth yn helpu'r manwerthwyr hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i ymateb i'r newidiadau a'r heriau hynny, a beth rydych chi'n ei wneud i'w cefnogi drwy’r trawsnewidiad hwnnw, fel y gallwn gadw nifer yr ymwelwyr, fan lleiaf, neu hyd yn oed gynyddu'r nifer honno, ac y gallwn ddarparu'r profiad siopa gwell y mae rhai pobl yn chwilio amdano?

Wel, credaf fod yr Aelod yn codi cwestiwn amserol iawn, o gofio ein bod ni wedi bod drwy'r amser prysuraf o'r flwyddyn i’r stryd fawr. A’r hyn sy'n amlwg iawn yw bod ymddygiad defnyddwyr yn parhau i newid, ac mae llawer o arbenigwyr yn credu nad ydym ond hanner ffordd drwy’r chwyldro, os mynnwch, y mae'r stryd fawr yn ei wynebu. Yn erbyn y cefndir hwnnw, gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo, ac mae eisoes yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd, drwy ryddhad ardrethi, drwy greu ardaloedd gwella busnes. Ac rwy'n credu ein bod yn dyblu nifer yr ardaloedd gwella busnes, gyda chymorth yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu llawer mwy o ymyriadau o'r fath. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi pennu statws blaenoriaethol ar gyfer y sector manwerthu bellach, ac wrth i fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, ddatblygu gwaith ar yr economi sylfaenol, byddwn yn profi gwahanol ymyriadau i gefnogi elfennau pwysig o’r economi sylfaenol, gan gynnwys y sector manwerthu wrth gwrs.

Yr hyn sy'n hollbwysig yw ein bod hefyd yn rhoi ffocws newydd ar ansawdd lle fel elfen sy’n denu defnyddwyr i ganol trefi ac i'r stryd fawr. Yr hyn a welsom mewn sawl rhan o Gymru, rhannau o'r DU a'r byd, lle y ceir strydoedd mawr sy’n dal i fod yn hyfyw, yw nad yw'r strydoedd mawr hynny’n seiliedig ar y sector manwerthu yn unig, ar y profiad o brynu nwyddau, ond yn hytrach ar brofiad ehangach—ar y profiad o ryngweithio â phobl, ar wasanaethau a ddarperir yn aml ochr yn ochr â gwasanaethau manwerthu. Ac felly, o ran y cynlluniau rhanbarthol, a'r rhaglen datblygu economaidd sy’n seiliedig ar le yr ydym yn bwrw ymlaen â hi yn awr, credaf fod gan y sector manwerthu yng Nghymru lawer i edrych ymlaen ato. Fodd bynnag, mae'r optimistiaeth honno sydd gennyf wedi'i gosod yn erbyn cefndir cyffredinol o newid parhaus yn ymddygiad defnyddwyr.

Cymunedau yn Islwyn

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi polisi datblygu economaidd rhanbarthol i gynorthwyo cymunedau yn Islwyn? OAQ53203

Diolch. Fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd newydd, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ymagwedd ranbarthol tuag at ddatblygu economi Cymru. Rydym wedi sefydlu prif swyddogion rhanbarthol ac unedau rhanbarthol i sicrhau ein bod yn cydlynu ein gwaith gyda phartneriaid lleol. Ac rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd er mwyn llywio ein hymagwedd tuag at fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit.

Iawn. Diolch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ar ddechrau 2019, y bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn arwain prosiect newydd i gefnogi datblygiad polisi datblygu economaidd rhanbarthol ar gyfer Cymru. Bydd y prosiect newydd hwn yn golygu y bydd arbenigwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru ac yn trafod heriau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol gyda phartneriaid. Sut y gallwn liniaru effeithiau colli buddsoddiad rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd, ac a gaf fi wahodd yr arbenigwyr a'r gweithwyr proffesiynol hyn i ymweld ag Islwyn i gyfarfod â gwleidyddion a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru hwyluso lles economaidd cymunedau fel fy un i yn Islwyn yn y dyfodol?

Diolch. Ie, rwy'n siŵr y bydd tîm y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn awyddus i ddysgu gwersi o'r profiad yng Nghaerffili, ac yn benodol, yn etholaeth Islwyn. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddent yn awyddus i gyfarfod â'r swyddogion yno. Prosiect dwy flynedd fydd hwn. Mae'r cam cyntaf bellach ar y gweill. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym her a chraffu allanol ar y dull y buom yn ei weithredu, felly rydym yn ei ailadrodd yn gyson. Ac rwy'n awyddus iawn inni ganolbwyntio ar gwmnïau â sail gadarn iddynt a'r economi sylfaenol i weld os gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd y mae pobl yn teimlo bod yr economi leol yn gweithio iddynt hwy.

Ar bwynt yr Aelod ar Brexit, yn amlwg mae'n bwysig fod addewid yr ymgyrchwyr na fydd Cymru yn waeth ei byd o ganlyniad i Brexit yn cael ei gadw, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif er mwyn gwneud yn siŵr, yn y byd a fydd ar ôl y cronfeydd rhanbarthol—os daw i hynny—na chawn lai o arian na'r hyn a gawn yn awr.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod cymunedau yn Islwyn yn rhan o bartneriaeth twf economaidd prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn eu cyfarfod bwrdd fis Tachwedd diwethaf, nododd yr aelodau a oedd yn bresennol eu cefnogaeth i adeiladu ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Dywedasant fod ffordd liniaru'r M4 yn hanfodol i gefnogi a galluogi'r strategaeth twf economaidd a diwydiannol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. A all y Dirprwy Weinidog roi gwybod pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddwyn y mater gerbron y Cynulliad hwn, a rhoi diwedd ar yr ansicrwydd sy'n niweidio rhagolygon economaidd fy rhanbarth?

Diolch. Credaf fod y Prif Weinidog wedi bod yn glir ac yn gyson yn y broses sydd ar y gwell ar yr M4. Mae'n dal i aros am gyngor cyfreithiol cyn y gall edrych ar dystiolaeth yr ymchwiliad cyhoeddus—ni chyflwynwyd adroddiad yr arolygydd iddo eto. A bydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw yn y ffordd y mae wedi'i nodi ar sawl achlysur.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch amlinellu pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer gweithredu eich cynllun gweithredu economaidd eleni?

Iawn, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy'n dymuno blwyddyn newydd dda iddo ac i'r holl Aelodau eraill.

Wrth gwrs, bellach mae timau rhanbarthol a phrif swyddogion rhanbarthol wedi'u sefydlu i fynd gyda'r cynllun gweithredu economaidd. Mae gennym fwrdd cyflawni trawslywodraethol, mae cynlluniau rhanbarthol yn cael eu rhoi at ei gilydd ar hyn o bryd, a gwahoddwyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i graffu ar, ac i asesu llwyddiant y cynllun gweithredu economaidd. Rydym wedi rhoi'r contract economaidd ar waith a chronfa dyfodol yr economi hefyd, a gyda chronfa dyfodol yr economi, wrth gwrs, y galwadau i weithredu—y lens a ddefnyddiwn yn awr ar gyfer buddsoddi mewn busnesau.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb a'i groesawu yn ôl i'r swydd yn y Llywodraeth newydd?

Wrth gwrs, fe sonioch yn y fan honno am weithredu'r cynllun, ond yr hyn rwyf am ei ddeall yw manylion hynny. Yn sicr, yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Ionawr, gofynnodd Aelodau i chi ynglŷn â chyflwyno'r cynllun gweithredu economaidd newydd, ac yn y cyfarfod hwnnw, pan ofynnwyd iddynt gan aelodau'r pwyllgor ynglŷn â manylion y gwaith o gyflwyno'r cynllun gweithredu, fe ddywedoch fod trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol ac y byddai mwy o fanylion yn dilyn yn y gwanwyn. Felly, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn y gwanwyn a gofyn pa gynnydd a wnaed ar y contract economaidd a'r galwadau am weithredu—dau o brif elfennau'r cynllun, wrth gwrs—ac yn eich ateb, fe ddywedoch chi,

'Buom yn trafod ein dull o weithredu gyda busnesau a sefydliadau eraill ledled Cymru'.

Felly, unwaith eto, gofynnais i chi mewn cwestiwn ysgrifenedig ychydig cyn y Nadolig—gwta fis yn ôl—ac yn eich ateb y pryd hwnnw fe ddywedoch fod eich mesurau arfaethedig yn cynnwys mireinio eich dull o weithredu yn 2019 a bwrw ymlaen â gwaith ar ddatblygu cynigion heriol gyda grwpiau o fusnesau. Felly, fy mhryder yma, Weinidog, yw bod sôn am gynlluniau ond nid oes dim y gallwn ei weld yn bendant. Cynlluniau yw'r unig beth a glywaf: cynlluniau i ddarparu cynllun ac yna i gyflwyno'r cynllun nesaf. Felly, rwyf am ofyn hyn, Weinidog: a yw'r gwaith o gyflwyno'r cynllun gweithredu wedi'i oedi, ac unwaith eto, pa bryd fyddwn ni a busnesau yn gweld cynnydd pendant ar lawr gwlad?

Mae'r Aelod yn hollol iawn ei fod yn ymwneud â gweithredu'r cynllun. Mae'n ymwneud â mwy na dylunio cynllun a chyhoeddi cynllun yn unig, fel y gwelodd Llywodraeth y DU yn ei hanallu i weithredu cynllun Brexit na chael cytundeb iddo hyd yn oed. Gallaf gadarnhau i'r Aelod fod y contract economaidd bellach ar waith ac mae mwy na 100 o fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi llofnodi'r contract economaidd. O ran mireinio'r cynllun gweithredu economaidd, rydym yn edrych ar sut y gallwn yn gyntaf ymestyn egwyddorion y cytundeb economaidd ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys drwy gaffael, ond rydym hefyd yn ystyried, fel y credaf imi ei ddweud eisoes mewn ymddangosiadau blaenorol gerbron y pwyllgor, sut y gallwn grynhoi cyllid pellach yng nghronfa dyfodol yr economi. Gwnaed dwsinau o ddyfarniadau eisoes drwy gronfa dyfodol yr economi. Credaf efallai ein bod wedi gweld un o uchafbwyntiau'r cyfnod rhwng lansio'r cynllun gweithredu economaidd a'i weithredu yr wythnos hon, pan fu modd inni gyhoeddi cymorth i Thales allu bwrw ymlaen â'r Ganolfan Datblygu Digidol Genedlaethol, sydd wrth gwrs yn fenter sy'n cyflawni mwy nag un o'r galwadau i weithredu. Mae'n canolbwyntio i raddau helaeth ar ddatblygu sgiliau. Mae'n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, ac mae hefyd yn canolbwyntio ar arloesi, gan ddangos sut y mae'r cynllun gweithredu economaidd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth inni ymdrechu i sicrhau bod mwy o waith medrus sy'n talu'n dda ar gael ac wrth inni fwrw ymlaen â'r agenda twf cynhwysol.

Mae'n werth imi ddweud yn ogystal â hynny, o ran y cyfleoedd heriol y byddwn yn eu hystyried cyn bo hir, ychydig cyn y Nadolig rhennais lwyfan gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, yn Llundain yn y Gymdeithas Frenhinol, lle y bu'r ddau ohonom yn siarad am bwysigrwydd datblygu economaidd sy'n seiliedig ar le a sut y gall y cynllun gweithredu economaidd gydweddu â strategaeth ddiwydiannol y DU mewn nifer o ffyrdd. Roedd un o'r ffyrdd y buom yn trafod cydweithredu pellach, neu un o'r llwybrau y buom yn eu trafod o ran cydweithredu pellach yn ymwneud â heriau mawr Llywodraeth y DU a chynigion heriau Llywodraeth Cymru gan fusnesau.

Felly, credaf fod llawer iawn o waith wedi digwydd eisoes o ran gweithredu'r cynllun gweithredu economaidd, drwy'r dwsinau o ddyfarniadau hyn, drwy gronfa dyfodol yr economi, ac mae llawer o swyddi wedi'u creu. Ond yn bwysicaf oll, rydym bellach yn sbarduno agenda twf cynhwysol eglur iawn drwy weithredu'r contract economaidd a thrwy fod busnesau'n rhoi croeso mor gynnes iddo ac yn dod yn rhan o'r contract hwnnw.

13:40

[Anghlywadwy.] darparu, wrth gwrs—mae hynny'n bwysig, yn hytrach na dim ond cynllun. Yr hyn y mae busnesau ei angen, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yw eglurder i allu gweithredu'n effeithiol, ac maent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu'r eglurder hwnnw. Felly, Weinidog, rwyf am weld rhywbeth penodol a rhywbeth ymarferol yn digwydd ar lawr gwlad, a beth sy'n mynd i gael ei gyflawni dros y 12 mis nesaf? Mae busnesau am wybod ac rwy'n meddwl ein bod ni, fel Aelodau, eisiau gwybod hynny fel y gallwn eich dwyn i gyfrif a chraffu arnoch o safbwynt hynny. Ond a gaf fi ofyn i chi ystyried gosod amserlen—amserlen o un mis i'r llall—dros y flwyddyn nesaf fel y gallwn fesur cyflawniad yn erbyn eich cynllun economaidd?

A gaf fi gyfeirio at nifer o feysydd y credaf y dylai Aelodau ddangos diddordeb ynddynt y flwyddyn hon, yn enwedig ar ôl inni adael yr UE, ac maent yn ymwneud â'r dyfarniadau a wnawn drwy gronfa dyfodol yr economi: faint o ddyfarniadau a wnawn i fusnesau sy'n ceisio sbarduno twf cynhwysol ac i ddiogelu eu hunain ac economi Cymru ar gyfer y dyfodol?

Mae'r ail yn ymwneud â'r contract economaidd: faint o fusnesau sy'n ymrwymo i'r contract economaidd? Ac yna, yn drydydd, creu unedau rhanbarthol: faint o aelodau o'r gwasanaeth sifil a ddyrennir ar gyfer sefydliadau ymchwil y contract? Ar hyn o bryd, mae timau sefydliadau ymchwil y contract yn fach iawn. Wrth inni sbarduno twf economaidd rhanbarthol—yr agenda honno sy'n seiliedig ar le—rwy'n bwriadu cynyddu'r timau hynny cyn gynted â phosibl fel bod y newid ar lawr gwlad yn amlwg iawn i fusnesau.

Yr hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthyf o hyd yw fod yna nifer fawr o wasanaethau cynghori a cheir nifer fawr o wasanaethau cymorth, ond y broblem, efallai, yw nad oes symlrwydd a thryloywder. Ac yn rhan o ethos y fenter Creu Sbarc, mae angen inni sicrhau bod mwy o symlrwydd, cydweithredu a chydgrynhoi lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, ac am y rheswm hwnnw, rydym yn sefydlu'r unedau rhanbarthol, gan ddwyn gweithgareddau Llywodraeth Cymru a gweithgareddau Llywodraeth Leol ynghyd ar sail ranbarthol a'u cysoni gyda'r gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru. Felly, ni waeth ble rydych yng Nghymru, fe fyddwch o fewn un pwynt cyswllt i gymorth ariannol, gwasanaeth cynghori a'r math o gymorth sydd ei angen er mwyn diogelu eich busnes ar gyfer y dyfodol yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, a allech ein hatgoffa sut y diffiniwch beth yw cwmni angori, a pha mor bwysig y credwch yw eu lles a'u cynaliadwyedd hirdymor i economi Cymru?

Bydd yr Aelod yn falch o wybod fy mod yn cynnal adolygiad o'r diffiniad o statws cwmni angori a chwmnïau o bwys yn rhanbarthol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cwmnïau mawr yn gwneud cyfraniad enfawr i economi Cymru. Yn 2018, Lywydd, roedd 1,675 o fentrau mawr yn weithredol yng Nghymru, sef 0.6 y cant o'r holl fentrau gweithredol yng Nghymru, sy'n llawer uwch na'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU o 0.1 y cant. Fel y gwelsom gyda chwmnïau fel Aston Martin ac Airbus, mae cwmnïau yr ystyrir eu bod yn gwmnïau angori ar hyn o bryd yn hynod o bwysig ar gyfer ysgogi twf o fewn eu cadwyni cyflenwi.

Mae'n ddiddorol nodi'r adolygiad a fydd yn digwydd, ac edrychaf ymlaen at glywed canlyniadau'r adolygiad hwnnw. Un cwmni angori, wrth gwrs, yw Ford. Deallwn yn awr fod 1,000 o swyddi mewn perygl yno. Mae Airbus yn un arall. Pwy a ŵyr pa fygythiadau a fydd i fuddsoddiad yno yn y dyfodol yn sgil Brexit. Byddai Wylfa Newydd, yn sicr, yn gwmni angori yn y blynyddoedd i ddod. Bydd cyfle i mi ddychwelyd at y mater hwnnw mewn cwestiwn amserol yn nes ymlaen. Ond beth yw eich barn ar effaith bosibl y ffaith ei bod hi’n ymddangos, ledled Cymru, fod cwmnïau angori'n llithro, ac a yw hynny'n ysgogiad i'r adolygiad y galwoch amdano?

13:45

Nid yw cwmnïau angori’n llithro, o reidrwydd. Gadewch i ni edrych ar Airbus UK fel enghraifft berffaith. Maent yn dod yn llawer mwy effeithlon, ac mae gan Airbus oddeutu 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn. Mae'n nifer debyg i’r hyn a oedd ganddo chwe blynedd yn ôl, ond yr hyn sydd wedi newid rhwng 2013 a 2019 yw bod y safle wedi dod oddeutu 40 y cant yn fwy effeithlon, a rhaid i hynny ddigwydd; mae'n rhaid cynnal ymgyrch effeithlonrwydd o’r fath ar draws pob busnes os ydynt yn mynd i lwyddo ac ymdrechu yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol—oes ddigideiddio, digido, deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth.

Mae Ford yn bryder mawr, ac yn yr un modd ag y byddaf yn Airbus yfory yn sôn am ganlyniadau a goblygiadau’r hyn sy'n digwydd yn San Steffan gydag arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru, ac yn bennaf gydag Airbus, heddiw roedd y Prif Weinidog yn Ford yn trafod dyfodol y ffatri. Yr hyn sy'n amlwg iawn yw bod y newid yn y sector modurol yn creu heriau enfawr i'r diwydiant modurol byd-eang, ac mae Ford ei hun yn edrych ar gau ffatrïoedd, cael gwared ar linellau cynhyrchu ar safleoedd yn Ffrainc, o bosibl Rwsia, yn yr Almaen. Yma yng Nghymru, yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y dywedais ddoe, mae gennym weithlu hynod ddibynadwy, rhaglen waith effeithlon iawn, a chynnyrch, injan Dragon, yr ystyrir ei bod ar flaen y gad yn y diwydiant cynhyrchu motorau tanio mewnol. Nawr, beth sy'n bwysig i’r injan Dragon yw ei bod yn cael ei hystyried ar gyfer ei hybrideiddio ar safle Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Ond mae hefyd yn bwysig i Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr fanteisio ar unrhyw gynnydd yn y galw am injan Dragon fel y mae heddiw, oherwydd rwy’n credu mai chwe chyfleuster yn unig sy'n gallu adeiladu injan o’r fath, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr yn sicr yn un o'r rhai mwyaf effeithlon, os nad y mwyaf effeithlon, gyda gweithlu hynod fedrus a theyrngar. Ochr yn ochr â hynny, bu llawer o ddyfalu ynglŷn â photensial buddsoddiad Ineos, ac unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu'r buddsoddiad hwnnw.

Rhwng y gwaith a wnaethom gyda Ford, gydag Airbus, rwy’n gobeithio bod yr ymagwedd ymyraethol a fabwysiedir gennym pryd bynnag a lle bynnag y bo modd, ac a arweiniodd yr wythnos diwethaf at greu cannoedd o swyddi mewn banc heriol newydd, ac sydd wedi arwain yr wythnos hon at greu'r ganolfan datblygu digidol genedlaethol, yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn aros yn llonydd wrth i’r byd o’i chwmpas droi. Mae'n ymddangos y tu hwnt i reolaeth oherwydd dilema Brexit.

Fodd bynnag, yr hyn a welwn, drwy lawer o'r hyn a drafodwyd gennych yn y fan honno, yw pa mor fregus yw’r sectorau angori hynny, hyd yn oed, y credwn eu bod mor bwysig. Nawr, fe fyddwch yn gwybod nad wyf yn berson 'Wyau i gyd mewn un fasged, gadewch i ni ddibynnu ar fanc buddsoddi uniongyrchol tramor ac ar gwmnïau mawr yn unig’, er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn glir ynglŷn â’r angen, er enghraifft, i ail-ffocysu ar dyfu ein mentrau cynhenid ​​bach a chanolig eu maint. Ond nid oes modd dianc rhag pwysigrwydd y cwmnïau mawr hynny, ac fel y cytunwch yn eich atebion, mae hon yn amlwg yn adeg beryglus iawn iddynt. Felly, a wnewch chi gytuno i gynnal uwchgynhadledd economaidd fawr yn awr i ddangos bod Cymru o ddifrif ynglŷn â goresgyn heriau presennol, i ddangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â goresgyn heriau, ac i drafod natur yr heriau hynny ynghyd â'n hanghenion o ran buddsoddi mewn seilwaith, ac anghenion ein mentrau bach a chanolig eu maint? Oherwydd ni allwn fforddio wynebu'r heriau hynny heb ddangos ein gallu fel cenedl, a dangos ein bod ni o ddifrif ynglŷn â’u goresgyn.

Ni fyddwn yn anghytuno â'r Aelod ar y pwyntiau hynny, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod yn ymgysylltu â busnesau drwy eu sectorau perthnasol ac ar sail ranbarthol dros y 12 mis diwethaf—uwchgynadleddau ar raddfa lai, os hoffech, i drafod yr effaith y mae Brexit yn ei chael, a hefyd yr heriau a'r cyfleoedd mwy hirdymor y mae llawer o sectorau, yn enwedig gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch a gwyddorau bywyd yn eu hwynebu. A bydd yr uwchgynhadledd nesaf yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn mewn gwirionedd. Bydd yn ymwneud ag ynni morol ac fe'i cynhelir yn Abertawe. Felly rydym yn mynd ar drywydd pob cyfle i ymgysylltu â busnesau er mwyn nodi bygythiadau, heriau a chyfleoedd y dyfodol, yng nghyd-destun y sefyllfa a wynebwn gyda Phrydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wrth gwrs.

Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn awr, er hynny, yw fod Llywodraeth y DU yn cynnig safbwynt digynnwrf a phwyllog ar yr holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn gallu ei wneud fel y gall Llywodraeth briodol gydag arweinyddiaeth go iawn ei gynnig yn San Steffan, ac yn fwy na dim, rhaid i'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit ddod i ben.

13:50

Diolch, Lywydd. Ac a gaf fi hefyd longyfarch y Gweinidog ar gael ei gadw yn ei swydd yn y Cabinet?

Safodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon—mae'n ddrwg gennyf. Safodd y Prif Weinidog blaenorol yn y Siambr hon a datgan bod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU ar 3.8 y cant. Fodd bynnag, mae'r ffigur diweddaraf bellach yn 4.2 y cant, sy'n uwch na chyfartaledd y DU. A yw'r Gweinidog yn credu bod y Prif Weinidog wedi rhoi ei asesiad cadarnhaol o'r agwedd hon ar economi Cymru ychydig yn rhy gynnar?

Na. Er tegwch i'r cyn Brif Weinidog, roedd yn dyfynnu'n ffeithiol o'r ystadegau diweithdra ar y pryd, a'r hyn sy'n hollol glir yw fod diweithdra yng Nghymru yn is nag erioed, mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yn is nag erioed, mae cyfraddau cyflogaeth yn uwch nag erioed, ac rydym hefyd yn gweld—. Rhagdybir yn aml fod gweithgarwch economaidd a chyflogaeth wedi'u cyfyngu, yn bennaf, i ardaloedd mwy trefol, ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar ardaloedd gwledig—fe welwch, ledled Cymru, mewn cymunedau gwledig, fod cyfraddau cyflogaeth yn uwch a chyfraddau diweithdra yn is na'r cyfartaledd drwy Gymru. Mewn rhannau o Gymru—os edrychwch ar ogledd Cymru er enghraifft—fe welwch nid yn unig fod y gyfradd ddiweithdra yno yn is na chyfartaledd Cymru, ac ar lefel is nag erioed—yn wir, mae ar ei lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion—mae'r gyfradd ddiweithdra yno yn is na chyfartaledd y DU hefyd.

Credaf fod gallu Llywodraeth Cymru i ostwng lefelau diweithdra wedi bod yn llwyddiant enfawr, ac mae'r holl ffeithiau, yr holl dystiolaeth, yn ategu'r datganiad hwnnw. Ers datganoli, Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ond tri mewn gwerth ychwanegol gros, mae diweithdra wedi gostwng yn ddramatig, mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng yn ddramatig. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni heddiw, ar hyn o bryd, yw fod angen inni sicrhau o hyd, yn erbyn cefndir o gyflogaeth uwch nag erioed a diweithdra is nag erioed, fod swyddi'n fwy diogel, mae angen inni sicrhau o hyd fod cyflogau'n well, ac mae angen inni sicrhau o hyd fod gan bobl lefelau uwch o sgiliau er mwyn cael swyddi o ansawdd gwell.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, fel gyda phob ystadegyn, yn y manylion y ceir y gwirionedd. Er enghraifft, gwelwn fod yr ystadegyn ar ddiweithdra'n cynnwys pobl ar gontractau dim oriau anghyfiawn fel pobl a gyflogir. Ac un ffactor arall nad yw'n cael sylw yw'r cynnydd yn nifer y bobl yn ein hardaloedd ar y ffin, yn enwedig yn Nwyrain De Cymru a dwyrain gogledd Cymru sydd, er eu bod yn byw yng Nghymru, yn gweithio yn Lloegr mewn gwirionedd, ac nid yw'r gwrthwyneb o reidrwydd yn wir. Byddai hyn yn ymddangos eto, oni fyddech yn cytuno, fel pe bai'n gwaethygu ymhellach anghywirdeb y ffigurau diweithdra a nodwyd ac felly, gwir gyflwr economi Cymru wrth gwrs?

Wel, dengys y ffigur yn ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, fod ardal ddaearyddol weithredol gogledd-ddwyrain Cymru a Chaer a Gorllewin Sir Gaer a Wirral, fod tua 25,000 o bobl yn gwneud fel y dywed yr Aelod—teithio o Gymru i Loegr bob dydd i weithio—ac mae'r ffigur sy'n teithio o Loegr i Gymru bob dydd hefyd tua 25,000. Felly, mewn gwirionedd, mae'n sicrhau cydbwysedd da iawn, a dyna pam rydym yn awyddus i sicrhau bod prosiect coridor Sir y Fflint yn mynd rhagddo i wneud Cymru yn lle mwy deniadol ar gyfer buddsoddi ynddo, fel y gallwn ennill mwy o fuddsoddiad ar yr ochr hon i'r ffin. Mae hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu'n enfawr at y ffigurau gwerth ychwanegol gros gwell rwyf eisoes wedi'u dyfynnu.

Ond mae'r Aelod yn nodi pwynt eithriadol o bwysig am gontractau dim oriau ac argaeledd gwaith teg. Wel, rydym am i Gymru ddod yn genedl gwaith teg, ac ym mis Mawrth, bydd y Comisiwn Gwaith Teg yn adrodd yn ôl gydag argymhellion ynglŷn â sut y gwireddwn ein gweledigaeth. Bydd eu hargymhellion yn cael eu hystyried yn llawn yng nghyd-destun y contract economaidd sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd. Ac mae'n fwriad gennyf allu mabwysiadu'r argymhellion hynny a'u rhoi ar waith mewn contract economaidd diwygiedig cyn gynted â phosibl.

13:55

Diolch i'r Gweinidog am yr eglurhad hwnnw. Mae'r rhagolygon diweddaraf ar gyfer Prydain ôl-Brexit yn dweud wrthym y bydd y DU yn codi uwchben Ffrainc ac yn dod yn chweched economi fwyaf yn y byd ac mae'n debygol o aros yno am o leiaf ddegawd. A all y Gweinidog ein sicrhau y bydd ef a'r Llywodraeth hon yn gwneud popeth a allant i sicrhau na fydd Cymru colli’r cyfle unigryw hwn i fanteisio ar yr ehangu disgwyliedig yn economi'r DU fel y byddwn ni yng Nghymru yn osgoi'r ffigurau diweithdra uchel difrifol a brofir ar hyn o bryd ar draws y rhan fwyaf o Ewrop?

Wel, er mwyn codi lefelau cyfoeth yn ogystal â lles y wlad, mae arnom angen i Gymru ac mae arnom angen i'r DU ddod yn fwy cynhyrchiol. Mae angen inni hefyd allu cystadlu'n well ar y llwyfan rhyngwladol. Os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, fy ofn mawr yw y bydd ein heconomi’n crebachu oddeutu 10 y cant, bydd yna ergyd i’n cystadleurwydd, gallai ein lefelau cynhyrchiant ostwng a chwympo’n sydyn, oherwydd ni fydd mor hawdd ag y mae ar hyn o bryd i ddod o hyd i lafur medrus yma ar chwarae bach nac yn wir, i adleoli pobl—rydym yn siarad am Airbus—o Frychdyn i Toulouse heb fawr o rybudd. Ni fyddwn yn gallu cludo nwyddau'n rhydd ac yn gyflym. Ac mae hyn hefyd wedi'i osod yn erbyn cefndir diwydiant 4.0, sy’n cynnig cyfle i ni wneud yn well na chenhedloedd eraill mewn gwirionedd. Ychydig iawn o gyfleoedd gwerthfawr a gaiff economïau i ragori’n sydyn mewn cyfnod byr, ond os manteisiwn ar yr holl gyfleoedd, mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn rhoi cyfle i ni wneud yn well na rhai o economïau cryf presennol y byd ond hefyd y rhai sy'n brathu wrth ein sodlau. Byddwn yn gallu llamu o'u blaenau, ond fel y dywedais, ni allwn wneud hynny heb fanteisio’n llawn ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Rôl Dinasoedd o fewn Datblygu Economaidd

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl dinasoedd o fewn datblygu economaidd yng Nghymru? OAQ53172

Ie. Mae ein strategaeth 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein camau gweithredu i bob rhan o Gymru allu cyfrannu at dwf economaidd ac elwa arno, ac mae hyn yn cynnwys galluogi ein dinasoedd i fod yn beiriannau twf a fydd o fudd i'w rhanbarthau ehangach.

Weinidog, eisoes heddiw, wrth ateb cwestiynau, rydych chi a'r Dirprwy Weinidog wedi sôn am ddatblygiad rhanbarthol, rhai o’r trefniadau newydd ar gyfer hynny a’r ysgogiad newydd yr hoffech ei weld y tu ôl iddo.

Mae Casnewydd, Caerdydd a Bryste wedi bod yn siarad ac yn cydweithio ers cryn dipyn o ran datblygiadau ar draws yr ardal honno. Credaf fod diddymu'r tollau ar bontydd Hafren yn rhoi hwb newydd o ran y posibiliadau a'r potensial, ac ar yr un pryd gwyddom fod màs critigol ar draws yr ardal o ran pobl, busnesau, sefydliadau ar draws y sectorau. Felly, o ystyried y potensial hwnnw, o ystyried y manteision hynny a'r strwythurau newydd, yr ysgogiad newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio, rôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a allech ddweud wrthyf sut y bydd yr ardal honno o Gymru yn ymddangos yn y camau cynnar rydych yn disgwyl eu gweld?

Wel, rwy'n falch iawn o ateb cwestiwn yr Aelod. Mae John Griffiths yn codi pwynt pwysig am yr ardal economaidd weithredol, sef Caerdydd, Casnewydd a Bryste, ac yn union fel y gwelwn gydweithrediad agosach yn awr ar sail economaidd, rydym wedi profi cydweithrediad ar draws y ffin yn yr ardal honno ar sail academaidd ers blynyddoedd lawer gyda grŵp G4 o brifysgolion yn aml yn cydweithio'n agos iawn ar brosiectau ar y cyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn edrych yn agos ar y cynllun gweithredu economaidd a datblygu rhanbarthol yng Nghymru. Bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn llywio'r dull rhanbarthol yn uniongyrchol, a bydd yn sicrhau bod gennym strwythurau a llywodraethiant cywir ar waith er mwyn creu a chynnal cysylltiadau trawsffiniol.

Rwy’n credu mai’r pwynt pwysig arall i'w wneud wrth i ni symud ymlaen â rhanbartholi datblygiad economaidd yw y bydd yn galluogi'r rhanbarthau i gydweithio ar sail drawsffiniol ar eu telerau eu hunain. Mae hyn yn bwysig iawn yng nghyd-destun Prydain ôl-Brexit oherwydd, os ydym wedi dysgu unrhyw beth, y ffaith bod yn rhaid inni sicrhau bod cymunedau ac ardaloedd a rhanbarthau lleol yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud yr hyn a allant dros eu pobl eu hunain a hwy eu hunain yw honno, ac nad ydynt yn gweld Llywodraeth ganolog ac ymagwedd ganolog fel gwneud pethau ar gyfer ac i bobl. Mae'n sicrhau mwy o gydgynhyrchu a chydweithredu a boed yn y de-ddwyrain neu yn y gogledd-ddwyrain, neu rhwng y gogledd-orllewin ac Iwerddon, rwy'n credu bod yn rhaid inni annog mwy o weithgaredd a chydweithredu trawsffiniol os ydym am ddod yn genedl fwy cystadleuol.

14:00

Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod chi a'ch dirprwy addawol iawn wedi cael cyfle i ddarllen strategaeth y grŵp Ceidwadol ar ddinasoedd byw. Yn wir, os ydych chi a'ch tîm ehangach eisiau inni gynnal seminar ar eich cyfer, byddem yn falch iawn o roi ein syniadau i chi.

Credaf mai un peth a'n trawodd oedd bod rhai dinasoedd o gwmpas y DU wedi bod yn wirioneddol allweddol i ddatblygiad economaidd yn eu rhanbarthau a'u gwledydd. Mae'n amlwg fod Sheffield, Manceinion, Birmingham a Chaeredin wedi gwneud hyn yn ganolog i'w datblygu, ac yn awr, gyda bargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol inni allu dechrau meddwl yn y ffordd hon—fod yn rhaid i'n dinasoedd wneud mwy na'r hyn a wnânt ar gyfer eu poblogaethau uniongyrchol yn unig. Maent yn perthyn i'r rhanbarthau ac yn wir, i Gymru gyfan. A thrwy hybu mwy o uchelgais economaidd, mae ganddynt rôl na all unrhyw weithredydd economaidd arall ei chwarae ar hyn o bryd, a rhaid inni eu gweld fel adnodd gwych, ac mae gan bob un ohonynt botensial mawr yn ogystal.

Wel, buaswn yn cytuno'n gryf â David Melding. Mae ei asesiad yn llygad ei le. Buaswn yn ychwanegu hefyd, ochr yn ochr â dinasoedd, na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd trefi lloeren. Yn yr un modd ag y cynorthwywn ddinasoedd i ddatblygu hunaniaeth gref, mae hefyd yn bwysig ein bod yn annog ein trefi lloeren i gysylltu'n well â dinasoedd y maent yn ddibynnol arnynt, ond sicrhau hefyd eu bod yn creu hunaniaeth unigryw, nid yn unig ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu ond ar gyfer y busnesau sy'n gweithredu yno hefyd.

Cefais fy nharo'n aml gan lwyddiant—a gwn fod yr Aelod wedi crybwyll nifer o ddinasoedd; cefais fy nharo gan lwyddiant Manceinion yn hyn o beth, y ffordd y mae canol Manceinion wedi tyfu mor gyflym ers y 1980au, yn seiliedig ar nifer o ffactorau. Ond ar yr un pryd, mae ardaloedd lloeren a threfi lloeren o gwmpas Manceinion a rhanbarth Manceinion fwyaf hefyd wedi dechrau ffynnu heb golli eu hunaniaeth unigryw eu hunain. Felly, gwelaf ddatblygiad dinasoedd fel rhywbeth arwyddocaol iawn, ond gwelaf ddinasoedd hefyd fel pethau sy'n gwasanaethu twf a datblygiad trefi lloeren ac ardaloedd gwledig yn y gefnwlad sydd mor ddibynnol ar y twf sy'n aml yn digwydd yn gyflymach ynghanol dinasoedd.

Gwasanaethau Bysiau Lleol i Gwm Afan

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch gwella gwasanaethau bysiau lleol i gwm Afan? OAQ53201

Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru ar nifer o feysydd i wella gwasanaethau bws lleol ymhellach, ac rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau bws lleol.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mewn gwirionedd caiff cwm Afan ei wasanaethu gan ddau awdurdod lleol ar un ystyr, oherwydd daw bysiau o Ben-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Mae'r ffocws, yn bennaf, o Bort Talbot i fyny at gwm Afan. Nawr, cymunedau cwm Afan yw rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd gennym yng Nghymru, ac nid oes ganddynt lawer o geir. Mae'r ganran o bobl sy'n berchen ar gar yn eithaf isel o gymharu â llawer o ardaloedd eraill; maent yn dibynnu ar wasanaethau bws. Nawr, yn anffodus, mae'r gwasanaeth bws o Bort Talbot i fyny cwm Afan un awr yn mynd i Lyncorrwg, a'r ail awr, mae'n mynd i Flaengwynfi bob yn ail. Felly, am ddwy awr, rhaid ichi aros am fws i ddod i fyny. Nawr, i bobl heb drafnidiaeth ac sy'n gorfod cael mynediad at wasanaethau, boed yn gyflogaeth, neu efallai'n henoed sydd angen cyrraedd gwasanaethau ysbyty 10 milltir i lawr y ffordd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gallent dreulio diwrnod cyfan yn teithio a chyrraedd yno ar gyfer apwyntiad hanner awr o bosibl. Nawr, mae'n adeg heriol. Rwyf wedi ysgrifennu at y cwmni bysiau, sydd fel petaent yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgareddau masnachol. Ond a wnewch chi gyfarfod â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i edrych ar y cyfleoedd i gefnogi trafnidiaeth bws er mwyn caniatáu i bobl gyrraedd lleoedd mewn pryd heb dreulio eu bywydau cyfan yn teithio?

Buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â'r awdurdodau lleol. Yn wir, dengys yr enghraifft y mae David Rees wedi tynnu sylw ati heddiw beth yw manteision posibl creu cyd-awdurdodau trafnidiaeth ar sail ranbarthol fel y gall awdurdodau lleol gynllunio a darparu gwasanaethau bws gyda'i gilydd mewn ffordd gydweithredol. Credaf fod David hefyd yn tynnu sylw at wendid sylfaenol yn y trefniadau presennol, sef nad oes gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol bwerau i fynnu bod cwmni bysiau'n gweithredu gwasanaeth penodol. Cyflawnir hyn drwy gontractau awdurdodau lleol, gan gynnwys cymhorthdal cyhoeddus. Nawr, rydym wedi gallu cynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn ers peth amser, a defnyddir yr arian hwn i ategu'r—dylwn bwysleisio 'ategu'—cyllidebau awdurdodau lleol at y diben hwn. Nid yw'n bodoli yn lle cyllidebau awdurdodau lleol, a chredaf ei bod hi'n hanfodol fod awdurdodau lleol yn parhau i ddangos eu hymrwymiad i gysylltedd lleol drwy gynnal eu cyllidebau eu hunain ar gyfer rhoi cymhorthdal i wasanaethau bws a chludiant cymunedol. Ond ni all y gwendid sylfaenol hwn yn y system barhau ac eir i'r afael ag ef mewn modd cynaliadwy drwy gael llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i barhau i roi cymhorthdal i lwybrau anfasnachol. Mae angen diwygio radical, ac yn ddiweddar, drwy'r Papur Gwyn, fe amlinellais y cynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chanlyniadau enbyd dadreoleiddio a'r penderfyniadau a wnaed yng nghanol y 1980au ar gyfer gwasanaethau bws. Drwy'r diwygiadau a gynigiwn, rwyf am sicrhau bod gwasanaethau bws ar hyd a lled Cymru yn gwasanaethu anghenion teithwyr a dinasyddion, yn hytrach na gwasanaethu awydd rhai i elwa o'r gwasanaeth anhygoel o werthfawr ac angenrheidiol hwn i lawer o'n cymunedau. A buaswn yn annog pob Aelod, Lywydd, i ddangos diddordeb brwd yn y Papur Gwyn ac i gyflwyno sylwadau a safbwyntiau cyn y daw'r ymgynghoriad i ben yng nghanol mis Mawrth.

14:05

Wel, wrth gwrs, mae'r cynghorau a grybwyllodd David Rees mewn dinas-ranbarthau gwahanol, sydd ag ymagwedd wahanol iawn tuag at eu hanghenion trafnidiaeth yn y dyfodol. Felly, mae sut y byddai hynny'n datblygu yn ddiddorol iawn. Ond yn y tymor byr, ym mis Mawrth 2018, fe gadarnhaoch eich bod wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer ymrwymo 5 y cant neu ragor o'u cyllideb bysiau i gludiant cymunedol, ac wrth gwrs, gall cludiant cymunedol, os yw'n dilyn y rheoliadau priodol, weithredu rhai o'r llwybrau anfasnachol. Mae blwyddyn wedi mynd heibio. A ydych yn hyderus fod cynghorau'n dilyn y canllawiau hynny?

Nid wyf yn hyderus hyd yma fod y canllawiau'n cael eu dilyn yn llawn gan bawb, a bydd graddau ymrwymiad awdurdodau lleol i gynnal eu cyllidebau eu hunain ar gyfer cymorthdaliadau bysiau wedi'u hadlewyrchu fwyfwy yn fy mhenderfyniadau ynglŷn â dyfarniad grant cynnal gwasanaethau bysiau pob awdurdod, a'r rheswm am hynny yw fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio arian trethdalwyr sy'n dod i Lywodraeth Cymru er mwyn ysgogi gwasanaethau gwell yn ein cymunedau, ac ni fyddwn ond yn gwneud hynny o fewn y trefniadau presennol ar sail fyrdymor, drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyfrannu at gyllid y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn fwy hirdymor, wrth gwrs, drwy'r diwygiadau, wrth inni ddefnyddio mwy o'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond wrth inni ddatblygu mwy o adnoddau ac ysgogiadau, credaf y byddwn yn gallu gweithredu gwasanaeth ledled Cymru sydd nid yn unig yn fwy effeithiol ar gyfer ateb anghenion teithwyr, ond sydd hefyd yn fwy cynaliadwy o ran costau.

Mae'r system wedi torri ar hyn o bryd yn fy marn i. Mae gennym sefyllfa anffodus lle y mae cynghorau'n cwtogi gwasanaethau allweddol fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yng nghwm Afan, gyda phedwar arall ar y gweill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, a disgwyl i bobl o gwm Afan, wedyn, deithio ymhellach i gael y gwasanaethau hynny, ond ni allant gyrraedd y gwasanaethau hynny am nad oes bysiau'n mynd yno.

Rydych yn sôn am y Papur Gwyn. Beth, o fewn y Papur Gwyn hwnnw, oherwydd efallai y bydd llawer o bobl nad ydynt yn ei ddarllen—? Beth yw'r prif benawdau ynddo fel y gellir sicrhau pobl yn ein hardal ni, pan fydd y newidiadau hynny'n digwydd, naill ai drwy newid y gyfraith, pa un a fydd y gwaith rheoleiddio'n trosglwyddo i gwmni di-elw fel Trafnidiaeth Cymru, y bydd ganddynt fysiau mwy mynych yn eu cymunedau yn y cwm, fel y gallant barhau i fyw yno ac na fyddant yn troi'n drefi anghyfannedd gyda phobl yn symud o'r ardaloedd hyn am nad oes  gwasanaethau yno mwyach?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r system wedi torri, a dyna pam y mae cymaint o angen y diwygiadau a nodir gennym yn y Papur Gwyn. Yn gryno—ac unwaith eto, rwyf am wahodd pob Aelod i ddarllen y Papur Gwyn ac i gyflwyno sylwadau—mae'r cynigion yn cynnwys pwerau i ddyfarnu masnachfreintiau, maent yn cynnwys pŵer i allu creu cwmnïau bysiau trefol, maent yn cynnwys cynigion ar gyfer mwy o integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth, maent yn cynnwys creu awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd i ddarparu a chynllunio gwasanaethau bysiau ar sail ranbarthol, ac maent yn cynnwys cynigion i Trafnidiaeth Cymru gymryd rhan fwy gweithredol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer pobl Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, ceir newidiadau posibl y gellir eu gwneud o ran y system docynnau i deithwyr i'w gwneud yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy tryloyw yn ogystal, i integreiddio tocynnau. Mae'n dal yn ffaith frawychus nad yw 20 y cant o bobl ifanc ddi-waith mewn rhai rhannau o Gymru yn gallu fforddio, neu'n gallu cael gwasanaeth bws i'w cyfweliadau, heb sôn am i swyddi. Cânt eu cloi allan o gyflogaeth am fod y system wedi torri, a dyna pam rwy'n credu bod y cynigion yn y Papur Gwyn—dyna pam y credaf fod diwygio radical mor hanfodol.

14:10
Perthynas â Chwmnïau Mawr

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu perthynas â chwmnïau mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru? OAQ53199

Diolch. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi sut y byddwn yn adeiladu perthynas 'rhywbeth am rywbeth' gyda busnesau o bob maint, yn seiliedig ar fusnesau'n rhannu ein gwerthoedd drwy gyfrannu at achos cymdeithasol. Rydym yn mynd i wneud hyn drwy'r contract economaidd, drwy'r galwadau i weithredu, a thrwy gronfa dyfodol yr economi, ac wrth gwrs, yr achos cymdeithasol hwnnw yw hybu twf cynhwysol gyda gwaith teg i bawb.

Roedd gennyf ddiddordeb hefyd yn ei ateb yn gynharach, yn sôn am—y drafodaeth ynglŷn â'r hyn a olygwn wrth gwmnïau angori. Mae hwnnw'n ddatblygiad diddorol. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag Admiral Group, yr unig gwmni yng Nghymru ar restr FTSE 100. Maent yn cyflogi nifer sylweddol o etholwyr yng Nghaerffili a bron 8,000 o staff ar dri safle yng Nghymru. Buom yn trafod sut oedd gan y cwmni gysylltiadau strategol gyda Llywodraeth Cymru, ac o'r hyn a welais o'r drafodaeth, mae'r cysylltiadau strategol hynny i'w gweld yn weddol gyfyngedig. Un o'r pethau allweddol y gall Llywodraeth helpu i'w datblygu a'u tyfu yw sgiliau, yn enwedig anghenion sgiliau'r sefydliad hwnnw. Buont yn trafod rhai o'u gofynion sgiliau a'r ffaith bod ganddynt academi Admiral, sy'n edrych ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol staff. Nid wyf yn teimlo bod digon o gyswllt strategol rhwng hynny a'n sector addysg yng Nghymru. O gofio ymagwedd draws-bortffolio'r Llywodraeth tuag at strategaeth, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gael trafodaethau lefel uchel gydag Admiral i archwilio sut y gall y Llywodraeth ddatblygu'r cysylltiadau datblygu sgiliau strategol hynny?

A gaf fi ddiolch i Hefin David am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am y diddordeb brwd y mae wedi'i ddangos ers blynyddoedd lawer yn y system sgiliau a weithredwn? Cyfarfûm â sylfaenydd Admiral yr Hydref diwethaf. Buom yn trafod, ymhlith llawer o faterion eraill, argaeledd pobl gyda'r sgiliau cywir ar gyfer y cwmni, ac yn sicr, buaswn yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol o fewn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol ehangach yng Nghaerdydd. Wrth gwrs, mae'r Aelod yn ymwybodol fod y bartneriaeth sgiliau ranbarthol ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi dynodi mai'r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yw un o'i sectorau blaenoriaethol ar gyfer y rhanbarth wrth iddi geisio cynllunio—cynllunio'n well—y ddarpariaeth sgiliau ar gyfer economi'r rhanbarth a sicrhau bod cysylltiad agosach rhwng yr hyn y mae busnesau ei angen a beth y mae darparwyr sgiliau a darparwyr hyfforddiant yn ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Caiff uwch-reolwr cysylltiadau sgiliau dynodedig ei bennu ar gyfer cyflogwyr mwy o faint Cymru megis Admiral, ac mae'n gweithio'n agos iawn gyda hwy ar eu hanghenion sgiliau, ac maent hefyd yn cynorthwyo busnesau drwy hwyluso ymgysylltiad cynhyrchiol â'r rhwydwaith darparwyr, gan gynnwys colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch. Ond o gofio bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn dal ar gam cynnar o'u datblygiad, mae gwaith i'w wneud o hyd ar sicrhau bod y gwaith o gyfuno buddiannau busnesau a'r ddarpariaeth o unigolion medrus yn gwella.

Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac fel gyda Tata a Sony, yr allwedd i sicrhau dyfodol y ffatri yw sicrhau busnes newydd ac amrywiol. Weinidog, pan fuom yn siarad y llynedd ynglŷn â dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr, fe'ch anogais i weithio gyda Ford i ystyried newid i gynhyrchu system yriant llwyr drydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. A allwch amlinellu pa gynnydd, os o gwbl, a wnaethpwyd ar hyn, a pha un a yw Ford Europe yn agored i newid o'r fath hyd yn oed? Os felly, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ffatri er mwyn sicrhau bod ailgyfarparu'n gallu digwydd?

Wel, rydym yn barod i gefnogi Ford mewn unrhyw ffordd y gallwn. Roedd y Prif Weinidog ar safle Pen-y-bont ar Ogwr y bore yma, yn cyfarfod â rheolwyr y safle a hefyd gyda chynrychiolwyr undebau llafur. Dywedais ddoe a dywedais yn gynharach heddiw mai'r hyn a allai fod yn hanfodol bwysig i safle Pen-y-bont yw datblygiad injans hybrid, gan gynnwys injan Dragon hybrid, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gall i sicrhau bod ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn ffatri ddewisol ar gyfer hybrideiddio'r injan Dragon.

O fewn cylch blaenraglen waith Ford, nid oes unrhyw gynhyrchion injan newydd amlwg yn cael eu datblygu, a rhaid inni aros am ganlyniad trafodaethau â Volkswagen i benderfynu a fydd Ford yn defnyddio systemau gyriant trydan gan y gwneuthurwr Almaenig. Fodd bynnag, mae'n fwriad gennyf barhau i weithio'n agos gyda Ford a phartneriaid cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn sicrhau bod yr injan Dragon yn parhau i fod yn llwyddiant a bod unrhyw alw ychwanegol am yr injan Dragon yn arwain at gynyddu capasiti ac felly, at gynyddu cyfleoedd gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac er bod y gwaith yn mynd rhagddo, rydym yn chwilio am bob cyfle arall i greu cyflogaeth, naill ai drwy hybrideiddio'r injan Dragon, neu o bosibl drwy hynny yn ogystal â thrwy sicrhau buddsoddiad Ineos.

14:15
Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn anelu i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ53164

Rwy'n falch o allu cyfeirio at fy natganiad ar 21 Tachwedd 2018 ar seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.

Diolch. Wel, ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ar 27 Tachwedd, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ar ôl penwythnos o oedi a chanslo gwasanaethau trenau yng ngogledd Cymru, lle y cefais wybodaeth ddibynadwy gan bobl ar y tu mewn yn y diwydiant rheilffyrdd mai prinder darnau o offer dros ben a mynediad at durnau olwynion a'r ffaith bod y gweithredydd newydd wedi sicrhau eu bod ar gael oedd yn gyfrifol am hynny, er bod mynediad at durnau olwynion ar gael bellach yn Crewe, Bryste a Taunton. Felly, sut rydych yn ymateb, o ystyried yr ymddiheuriad a geiriau o sicrwydd a ddilynodd wedyn gan Trafnidiaeth Cymru yn sgil yr e-bost a gefais ar ddiwedd mis Rhagfyr—bron bum wythnos yn ddiweddarach—na fu unrhyw drenau ar y diwrnod penodol hwnnw ar y rheilffordd o Shotton i Wrecsam, na fyddai dim yfory, y byddai'r dydd Llun yn dychwelyd i drên bob dwy awr, fel y bu am sawl wythnos cyn hynny? Dywedwyd wrthynt nad oedd unrhyw drenau ddydd Iau chwaith, eu bod yn defnyddio storm Callum fel rhan o'r esgus, ond roedd hynny chwe wythnos yn ôl. A sut nad effeithir ar weithredwyr trenau eraill gan yr holl ddifrod i echelau olwynion sydd wedi digwydd yng Nghymru? O ystyried y sicrwydd gwreiddiol a gawsom gennych chi a Trafnidiaeth Cymru, pam oedd hynny'n dal i ddigwydd bum wythnos yn ddiweddarach?

Wel, i raddau helaeth oherwydd ein bod, ers gormod o flynyddoedd, wedi gweld diffyg buddsoddi llwyr yng Nghymru gan Lywodraeth y DU yn ein seilwaith rheilffyrdd, yn enwedig ein rheilffyrdd, sy'n dal yn gyfrifoldeb i Network Rail, ac felly, i'r Adran Drafnidiaeth, ac fel y dywedais ar sawl achlysur bellach, gellir priodoli'r broblem fawr hon i raddau helaeth i ddiffyg amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Pam? Wel, yn syml am nad oedd y contract a ddyfarnwyd i Trenau Arriva Cymru yn addas i'r diben. Nid oedd yn eu cymell i fuddsoddi mewn technoleg o'r fath, ac nid oedd yn eu gorfodi pan oedd Llywodraeth Cymru am weld amddiffyniadau a thechnoleg o'r fath yn cael eu gosod ar drenau.

Roeddwn yn falch mai'r gwasanaeth cyntaf i ddychwelyd i weithrediad llawn ac arferol oedd un o wasanaethau gogledd Cymru, ac mae'r Aelod yn cyfeirio at rywun ar y tu mewn yn y diwydiant a roddodd wybodaeth iddo am brinder turnau olwynion yng Nghymru. Wel, mae'n wir pan fo gennych alw enfawr am durnau olwynion, os na allwch ddiwallu'r galw hwnnw â'r hyn sydd gennych yn eich gwlad eich hun, rydych chi'n mynd i fannau eraill. Lywydd, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gwneud yn union hynny, ac roeddem yn gallu dod o hyd i durnau olwynion ychwanegol y tu allan i Gymru, a dyna pam y mae gennym gymaint o drenau yn ôl mewn defnydd llawn mor gyflym.

Fe allwn ni i gyd, dwi'n siŵr, groesawu'r ffaith bod yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn gorsafoedd yng nghyd-destun y rheilffordd yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r Gweinidog yn ymwybodol, ond mae Network Rail wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau sydd yn gweithio i drio atal hunanladdiadau. Mi oedd yna 237 hunanladdiad ar y rheilffyrdd ym Mhrydain yn 2016—4.5 y cant o holl hunanladdiadau Prydain. Nawr, mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd yn ystyried hunanladdiad mewn gorsaf drên yn dilyn patrwm ymddygiad tebyg, ac mae modd defnyddio goleuadau, meinciau sy'n wynebu oddi wrth y traciau, barriers ychwanegol, llinellau penodol ar y platfform ac yn y blaen. Mae modd defnyddio'r rhain er mwyn trio taclo'r tueddiadau yma tuag at hunanladdiad mewn gorsafoedd trên. Felly, wrth i ni edrych i fuddsoddi yn y gwelliannau yma yn ein gorsafoedd ni, a allwch chi roi sicrwydd y byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r dull yna o daclo hunanladdiadau er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn cael y budd gorau posib?

14:20

Lywydd, credaf fod hwn yn gwestiwn ardderchog. Credaf ei fod yn bwynt pwysig iawn. Yr hyn rwy'n mynd i'w wneud yw gofyn i Trafnidiaeth Cymru, wrth iddynt ddadansoddi ac asesu sut i wario'r £200 miliwn ar yr holl orsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau, lunio cynllun atal hunanladdiad ar fyrder gyda Network Rail, fel y gallwn fanteisio ar y math o syniadau a awgrymodd yr Aelod a'u cyflwyno i gymaint o orsafoedd ag y bo modd.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Y cwestiynau nesaf felly yw'r rhai i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweindiog Brexit. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Economi Gogledd-ddwyrain Cymru

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith unrhyw fath o Brexit ar economi gogledd-ddwyrain Cymru? OAQ53198

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn niweidio'r economi. Mae methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael y Senedd i gymeradwyo ei chytundeb yn creu risg o ddiffyg cytundeb. Rhaid i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ymrwymo i negodi ymadawiad yr Undeb Ewropeaidd yn y ffordd sydd wedi'i amlinellu yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sef y ffurf leiaf niweidiol o Brexit o hyd. 

Diolch yn fawr. Yn 2016, roedd allforion siroedd Fflint a Wrecsam yn gyfwerth â £5 biliwn ac roedd 87 y cant o'r rheini yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau o gynnal y lefel yna o allforion a'r holl swyddi a'r manteision economaidd sy'n dod gyda hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Ac os ŷch chi, beth mae eich Llywodraeth chi'n gwneud i sicrhau bod hynny’n digwydd?

Mae allforion, wrth gwrs, yn bwysig iawn i economi'r gogledd-ddwyrain ac economi Cymru yn gyffredinol. Ar y cyfan, fel mae'r Aelod yn cydnabod yn ei gwestiwn, mae canran yr allforion yn uwch o Gymru na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i Ewrop. Y ffordd orau bosib o sicrhau ffyniant allforion yn y dyfodol yw'r berthynas agosaf bosib gyda'r farchnad sengl, y math o beth dydyn ni ddim wedi gweld mewn datganiad gwleidyddol gan y Prif Weinidog yn San Steffan. Rwy'n gobeithio y bydd cyfle dros y diwrnodau nesaf. Mae'r Prif Weinidog yno wedi dweud ei bod hi'n barod i drafod gyda phleidiau eraill. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hynny'n cynnwys y posibilrwydd o undeb dollau a pherthynas agosach gyda'r farchnad sengl. 

Ar nodyn cadarnhaol, mae gennym Airbus yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sydd wedi gwneud eu pryderon eu hunain yn hysbys. Os na chawn gytundeb trosiannol, efallai y dylai'r rhai a bleidleisiodd yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog ystyried y risgiau y maent wedi'u hychwanegu na fydd hynny'n digwydd. Fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, ac er gwaethaf canlyniadau posibl yn y cyd-destun hwn, cofnododd diwydiant amddiffyn ac awyrofod y DU gynnydd o £10 biliwn mewn cytundebau dros y 12 mis diwethaf, gyda chyfanswm gwerth y cytundebau yn £31 biliwn. Y mis diwethaf, croesawodd Airbus y cyhoeddiad am gytundeb sector awyrofod—cyhyd â bod ymrwymiad cadarn i fuddsoddiad y DU mewn ymchwil a dylunio, meddent, a bod sector awyrofod cynhwysol a chynhyrchiol yn un sy'n cwmpasu technoleg y dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad i roi £125 miliwn o arian ar gyfer denu arian cyfatebol gan Airbus a'r diwydiant. Er bod hyn efallai'n ymestyn y tu hwnt i'ch briff, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru ynglŷn â beth y gallai eu rôl fod neu beth yw eu rôl eisoes yn y broses o ddatblygu'r cytundeb sector awyrofod gyda Llywodraeth y DU, Airbus a chwmnïau eraill y sector awyrofod yng Nghymru?

Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hynny. Dylwn ddweud bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cynnal cyfarfodydd bwrdd crwn gyda chyflogwyr mawr yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Airbus. Fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, mae pawb ohonom yn gwybod bod Airbus yn un o'r cwmnïau a oedd yn glir iawn ynglŷn â'u sefyllfa pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb y cytundeb trosiannol. Rwy'n anghytuno â chynsail cwestiwn yr Aelod. Nid yw'n wir mai'r unig ddewis arall yn lle cytundeb y Prif Weinidog yw dim bargen, a chredwn y byddai hynny'n newyddion drwg iawn i Gymru. Mae cyfle yn awr i'r Prif Weinidog estyn allan ar draws Tŷ'r Cyffredin a cheisio negodi cytundeb gyda phleidiau eraill sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac a gefnogwyd gan y Cynulliad hwn, yn fwyaf diweddar ar ddechrau mis Rhagfyr.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am gydnabod pwysigrwydd economi gogledd-ddwyrain Cymru? Roeddwn yn falch iawn ddydd Gwener diwethaf o groesawu Prif Weinidog Cymru a'n Gweinidog newydd dros ogledd Cymru i Alun a Glannau Dyfrdwy, ac ychydig dros ffin yr etholaeth yn Nelyn, lle y cawsom gyfle i drafod Brexit mewn cynhadledd fusnes Brexit, gyda dros 150 o gynrychiolwyr busnes yn bresennol, gan gynnwys busnesau fel Airbus. Nawr, roedd y negeseuon o'r gynhadledd honno yn eithaf clir: fod angen eglurder a chydweithrediad trawsbleidiol o hyd, a chredaf fod hyn hyd yn oed yn bwysicach yn awr wedi i Lywodraeth y DU gael ei threchu mor drychinebus yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe. Gwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi i drafod canfyddiadau'r gynhadledd Brexit ymhellach, ac i roi cipolwg i chi ar lais busnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru er mwyn eich helpu i drefnu a chynllunio ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit?

14:25

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn yn ymwybodol o'r digwyddiad ddydd Gwener 11 Ionawr, a fynychwyd gan y Prif Weinidog, a Gweinidog yr economi, a sylwais ei bod yn drafodaeth ddiddorol iawn ac yn gyfle da i glywed o lygad y ffynnon y math o bryderon y mae cyflogwyr mawr a bach yn eu teimlo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Gwn am y gwaith y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei etholaeth ei hun o ran deall y pryderon sydd gan fusnesau lleol mewn perthynas â Brexit, a buaswn yn hapus iawn i gyfarfod ag ef i drafod hynny ymhellach.

Trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon

2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda Llywodraeth Iwerddon ynglŷn â Brexit? OAQ53208

Mae Gweinidogion Cymru wedi trafod materion yn ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth Iwerddon, a hynny'n bennaf trwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fynychais i ar 9 Tachwedd 2018. Rwyf hefyd wedi cysylltu â'm Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon i gychwyn rhagor o ddeialog ac adeiladu ar y cysylltiadau agos sy'n bodoli yn barod.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. Gaf i ei annog ef i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Iwerddon? Fel y soniais i ddoe, roeddwn i a Rhun ap Iorwerth wedi medru cwrdd â gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y Weriniaeth yr wythnos diwethaf, gan gynnwys Helen McEntee, y Gweinidog Brexit. Gaf i ofyn iddo fe—a gwnes i gyffwrdd â hwn ddoe—ynglŷn ag erthygl 50, a'r galwad gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban, wrth gwrs, i Lywodraeth Prydain i ymestyn erthygl 50? Gaf i ofyn: a fyddai fe'n fodlon cyflwyno'r neges yna hefyd i Weriniaeth Iwerddon gan fod angen cael cydsyniad yr holl aelod-wladwriaethau o fewn yr Undeb Ewropeaidd pe bai'r cais yna yn dod gan Lywodraeth Prydain fel ŷm ni eisiau? Ar fater ehangach, a phe bai Brexit yn dal yn digwydd, pa waith sydd wedi cael ei wneud, er enghraifft, i edrych ar gynllun INTERREG neu rywbeth cyfatebol i'r dyfodol, fel sy'n bosib, wrth gwrs, yn achos Norwy a Sweden, hyd yn oed yn cynnwys gwledydd sydd tu fas i'r Undeb Ewropeaidd?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn. O ran erthygl 50, rŷm ni'n cymryd pob cyfle, wrth gwrs, i sicrhau bod Llywodraethau yn deall ein safbwynt ni ynglŷn â hynny. Roedden ni'n galw mwy yn ddiweddar ar y Prif Weinidog yn San Steffan i sicrhau estyniad o hynny i ganiatáu i'r trafodaethau ymhelaethu.

O ran y berthynas gydweithredol rhwng Cymru ac Iwerddon, mae'r Aelod yn sôn am INTERREG; mae gyda ni, wrth gwrs, berthynas agos gydag Iwerddon trwy hynny, a thrwy'r cynlluniau cydweithredu cyffredinol. Mae'r cynllun cyfredol yn pwysleisio gwaith o ran newid hinsawdd a diwylliant ac ati, ac mae'r pethau hynny'n bwysig iawn o ran cryfhau'r berthynas a sicrhau'r cyfleoedd economaidd yma. Rŷm ni eisiau sicrhau bod y cydweithio hynny yn parhau hyd yn oed ar ôl Brexit ac yn ymestyn tu hwnt i'r cynlluniau cyfredol os yw hynny yn bosib. Rŷm ni'n sicr yn ein barn bod gyda ni ymroddiad llwyr i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei gwefan Brexit ar gyfer busnesau ym mis Medi 2018, ac fe ddywedoch yn eich datganiad ddoe eich bod yn gobeithio cael porth pellach yn weithredol o fewn ychydig ddyddiau. Lansiodd Llywodraeth Iwerddon ei gwefan prepareforbrexit.com ym mis Mehefin 2016, o fewn wythnos i'r refferendwm, ac mae wedi bod yn cynnig grantiau o hyd at €5,000 i helpu busnesau bach a chanolig i baratoi ar gyfer Brexit ers chwarter cyntaf 2017. A oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei ddysgu gan Lywodraeth Iwerddon o ran amseroldeb yn y maes hwn?

Rydym wedi aros am ddwy flynedd i glywed beth yw barn Llywodraeth y DU ynglŷn ag ar ba sail y dylem adael yr Undeb Ewropeaidd—dwy flynedd. Ddwy flynedd yn ôl, lansiodd y Llywodraeth hon, ynghyd â Phlaid Cymru, bapur a nodai, gyda sylfaen dystiolaeth glir iawn, y math o berthynas y dylai Cymru ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit. Roeddem yn gallu gwneud hynny ddwy flynedd yn ôl, drwy weithio gyda'n gilydd, a dilynwyd hynny gan amrywiaeth o safbwyntiau polisi o sylwedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd wedi llwyddo i argyhoeddi. A'r cwestiwn yw pam na allodd Llywodraeth y DU wneud yr un peth. Ar fater amseroldeb, fel y dywedais yn y Siambr, mae gennym adnodd ar-lein y bwriadwn ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a bydd hwnnw, gobeithio, yn rhoi dealltwriaeth eglur i bobl Cymru ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran parodrwydd.

14:30

Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch o glywed eich bod yn cael cyfarfodydd neu'n trefnu cyfarfodydd gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ac yn trafod, oherwydd os cawn sefyllfa 'dim bargen', neu hyd yn oed ein bod yn cael cytundeb a bod yr ôl-stop yn dod yn weithredol, bydd ffin i lawr canol Môr Iwerddon, ac mae angen inni gydnabod hynny. Ond a gaf fi ofyn i chi hefyd gyfarfod â'ch swyddog cyfatebol—gwn nad oes gennym swyddog cyfatebol, ond yr unigolion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon? Pan euthum yno i siarad â'r partïon yng Ngogledd Iwerddon, roedd yn eithaf clir fod llawer o fusnesau'n defnyddio porthladdoedd Gweriniaeth Iwerddon i gyrraedd Ewrop drwy borthladdoedd Cymru. Fel y cyfryw, bydd her enfawr i'r sefyllfa honno, pa un a ydynt yn teithio i lawr drwy Ddulyn ac ymlaen i Gaergybi, neu'n croesi draw i'r Alban. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn rhoi sylw i'r problemau sy'n eu hwynebu hwy hefyd, er mwyn sicrhau, os oes ffin ym Môr Iwerddon, na fydd yn rhaid iddynt groesi dwy ffin i gyrraedd Gogledd Iwerddon. Ac mae'n effeithio ar borthladdoedd Cymru.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Un o'r pwyntiau y mae angen eu hegluro yng nghynigion Llywodraeth y DU yw ei chyfeiriad at gynnal archwiliadau yn y ffordd leiaf ymwthiol sy'n bosibl. Mae angen deall hynny'n well. Ond wrth gwrs, pe bai'r math o gynigion rydym wedi dadlau drostynt yma yn cael eu mabwysiadu, ni fyddai mater yr ôl-stop yn codi. Ac er bod yr ôl-stop yn bryder hollol ddilys i'r UE a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad oes ffin galed ar ynys Iwerddon, y senario orau bosibl fyddai nad oes angen hynny o gwbl gan fod gennym set o drefniadau sy'n cynnwys undeb tollau rhwng y DU a'r UE.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd.

Bydd fy mhlaid yn cefnogi'r bleidlais o ddiffyg hyder heno yn San Steffan. Yn wir, rydym wedi llofnodi'r cynnig y pleidleisir arno ymhen ychydig oriau. Ond credaf y derbynnir yn gyffredinol nad yw'r cynnig yn debygol o lwyddo. O gofio cefnogaeth ddatganedig eich Llywodraeth naill ai i etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus fel ffordd o ddatrys y dagfa seneddol, os bydd y bleidlais, yn ôl y disgwyl, yn methu heno, a yw'r Llywodraeth wedyn yn bwriadu gwneud datganiad yfory, neu yn y dyddiau nesaf, i gefnogi pleidlais gyhoeddus fel yr unig ddull sydd ar ôl o roi diwedd ar y cyfyngder gwleidyddol?

Wel, fel y dywed yr Aelod, mae cynnig o ddiffyg hyder gerbron Tŷ’r Cyffredin heddiw. Rwyf wedi darllen yr un dyfaliadau ag yntau o ran pa un a fydd y cynnig yn llwyddo neu'n methu. Dylwn ddweud y byddai'n rhyfeddol pe bai Llywodraeth y DU yn methu cael ei phrif bolisi wedi'i fabwysiadu a'i gefnogi yn Nhŷ'r Cyffredin ac yna'n parhau i fod mewn grym. Byddai hynny fwy neu lai'n ddigynsail yn y blynyddoedd diweddar yn sicr, ac o dan yr amgylchiadau hynny, rwy'n credu na ddylem ildio'r farn y dylai'r Llywodraeth golli hyder Tŷ'r Cyffredin yn y ddadl heddiw. Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd y cynnig hwnnw'n llwyddo.

O ran y pwynt ehangach, ein polisi ar hyn o bryd ac yn y gorffennol, fel y gŵyr, yw y dylai cyflwyno cytundeb sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodir gennym ym 'Diogelu Dyfodol Cymru' fod yn nod i'r Prif Weinidog, ac os nad yw hynny'n bosibl, ac os nad yw etholiad cyffredinol yn bosibl chwaith, yna, o dan yr amgylchiadau hynny, dylai'r bobl gael dweud eu dweud fel ffordd o ddatrys y sefyllfa honno.

Gallaf ddeall, yn gyffredinol, pam nad yw Gweinidogion wrth y pulpud am gael eu denu i ddyfalu ynghylch pethau damcaniaethol, ond mae hyn yn rhywbeth deuaidd mewn perthynas â phleidlais ymhen ychydig oriau'n unig, yng nghyd-destun ehangach cloc sy'n tician, sydd bellach i lawr i 73 diwrnod. Felly, credaf y bydd y Gweinidog yn deall pam fod angen eglurder arnom ynglŷn â'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ymateb i'r canlyniad sydd bron â bod yn anochel yn ddiweddarach heno.

Nawr, mae'n amlwg, o ran argyfwng cynyddol Brexit, fod ein hamser yn dirwyn i ben. Tacteg Mrs May yw gohirio penderfyniad cyhyd ag y bo modd—ceisio gorfodi dewis rhwng ei chytundeb hi a dim bargen, ac yn wir, fe fethodd y dacteg honno neithiwr. Y cwestiwn allweddol bellach yw a yw Jeremy Corbyn yn mabwysiadu'r un dacteg wrth geisio osgoi'r hyn sy'n broblem anodd iddo ef, wrth gwrs, sef pleidlais y bobl. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, o leiaf, na fyddech yn cefnogi'r syniad sy'n cael ei grybwyll mewn rhai cylchoedd o gynnal sawl pleidlais o ddiffyg hyder dros yr ychydig wythnosau nesaf, gan y gallai hynny, wrth gwrs, fynd â ni'n beryglus o agos at 29 Mawrth, heb obaith o ddatrys y broblem?

14:35

Fe geisiaf amlinellu ein safbwynt eto. Rydym wedi galw ar Brif Weinidog y DU i estyn allan ar draws Tŷ'r Cyffredin i geisio dod o hyd i sail ar gyfer cytuno ar gytundeb gwell. Mae hi wedi dweud ddoe ei bod hi'n bwriadu gwneud hynny. Dylai wneud hynny, a chynnwys meinciau blaen y gwrthbleidiau i wneud hynny. Dylai anghofio'r llinellau coch y mae wedi eu mynnu—yn ddi-fudd mewn llawer o achosion—dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dylai gydnabod mai'r hyn sydd ei angen yw ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn sylfaenol, nid tincran ar yr ymylon. Os bydd hynny'n methu, ac os nad oes modd sicrhau etholiad cyffredinol, yna, yn yr amgylchiadau hynny, rydym bob amser wedi dweud mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd orau o ddatrys y mater. Ond mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni roi lle i'r drafodaeth honno ddigwydd, a byddwn yn dal y Prif Weinidog at ei gair y bydd honno'n drafodaeth ystyrlon.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eisoes, yn dilyn y bleidlais neithiwr, ei bod yn parhau'n llinell goch iddynt hwy—y byddant yn gwrthod derbyn undeb tollau. Felly, i bob pwrpas, maent yn diystyru'r math o bolisi a amlinellwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. A dyma pam, ynte, mai'r consensws barn sy'n dod i'r amlwg at ei gilydd—yn eich plaid bellach yn ogystal; rydym wedi gweld yr ASau, y naw AS Llafur Cymreig, sy'n bendant o blaid pleidlais y bobl—yw mai dyna'r unig ffordd sydd ar gael inni o dorri'r dagfa ac yn wir, o roi diwedd ar drychineb 'dim bargen'. Mae eich cyd-aelod Cabinet Vaughan Gething wedi dweud bod yr amser am amhendantrwydd wedi hen basio a rhaid inni weithredu yn awr ar bleidlais y bobl. Gwnaeth y Gweinidog materion rhyngwladol, Eluned Morgan, ymrwymiad tebyg. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud, 'Fe fyddaf yn cefnogi refferendwm pellach os yw popeth arall yn methu'. Felly, pan fydd y bleidlais o ddiffyg hyder yn methu heno, beth arall fydd ar ôl i fethu, ac os nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu'n gyflym, yn eglur, ac yn bendant mewn ymateb i'r bleidlais heno, a ydych yn derbyn mai chi fydd yn cael eich barnu am wneud cam â phobl Cymru?

Mae'r amserlen ar gyfer deall beth yw'r cytundebau amgen posibl yn dal i fod yn aneglur ar hyn o bryd. Rwyf wedi dweud—ddwywaith bellach, rwy'n credu, mewn ymateb i gwestiynau'r Aelod—y gallai pleidlais gyhoeddus, yn rhoi'r gair olaf ar hyn i'r cyhoedd, fod yn ffordd o ddatrys hyn. Buaswn yn cefnogi hynny fel gair olaf. Ond ar ôl galw am gynnal y trafodaethau hyn, a bod Prif Weinidog y DU wedi ymateb i'r her, rhaid inni yn gyntaf ganiatáu i'r drafodaeth honno ddatblygu, ac rydym yn glir ynglŷn â'r math o gytundeb y credwn y dylai ddeillio o hynny. Os yw hi'n dweud fod ganddi rai llinellau coch o hyd, mae hi wedi cael ei hannog, yn sicr, gan y gwleidyddion blaenllaw yn ei phlaid i beidio â glynu wrth strategaeth sydd wedi bod yn fethiant iddi ers dwy flynedd.

Diolch, Lywydd. A allwch ddweud wrthym pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i hyrwyddo masnach ryngwladol â Chymru ar ôl Brexit?

Yn wir. Wrth ffurfio ei Gabinet newydd, mae Prif Weinidog Cymru, wedi cynnwys portffolio newydd mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol yn gyffredinol, ac mae rhan o'r portffolio hwnnw'n ymwneud â datblygu cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd a gwella ymhellach fyth y gwaith a wnawn mewn perthynas â gwneud Cymru'n ddeniadol fel cyrchfan masnachu.

Roeddwn yn falch iawn o weld y Prif Weinidog newydd yn pennu Gweinidog newydd dros gysylltiadau rhyngwladol, yn dilyn galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig dros nifer o flynyddoedd. A tybed a allwch ddweud wrthym, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog Brexit, pa waith a wneir yn awr i ddatblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr masnach o gwmpas y byd, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i fasnachu gyda Chymru. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, wedi gweithio'n galed ar ddatblygu cysylltiadau â Gogledd America yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bod nifer o deithiau masnach wedi bod, ond nid oes dim yn debyg i gael pobl ar lawr gwlad drwy gydol y flwyddyn mewn nifer o wledydd y Gymanwlad, er enghraifft, neu rai o'r marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg y byddem yn cael cyfle i ddatblygu cysylltiadau â hwy. Felly, a wnewch chi hefyd ddilyn ein hesiampl a phenodi rhwydwaith o gynrychiolwyr masnach yn llysgenadaethau Prydain ledled y byd, i wneud yn siŵr fod llais unigryw busnesau Cymru yn cael ei glywed?

14:40

Mae yna eisoes rwydwaith o bresenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Mae hynny wedi bod ar waith ers peth amser. Yn amlwg, mae wedi'i gryfhau'n ddiweddar. Credwn yn gryf mai'r cysylltiadau masnachu gorau yn y dyfodol i Gymru yw rhai sy'n deillio o gyfranogiad llawn yn undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd, aliniad â'r undeb hwnnw, ac aelodaeth ohono. Ond rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle posibl i hyrwyddo achos Cymru'n rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd masnachu i'n busnesau yma allu allforio mewn amgylchiadau a fydd, os ydym ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn y pen draw, gryn dipyn yn anos iddynt.

Rydym ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, neu rwy'n gobeithio y byddwn, am mai dyna y pleidleisiodd pobl Cymru drosto'n bendant iawn. Ond a ydych yn cytuno â mi ei fod yn fater o bryder fod ein masnach â gwledydd fel India a Japan wedi bod yn methu yn y blynyddoedd diwethaf, ac a wnewch chi groesawu penderfyniad Llywodraeth Japan, o ganlyniad i waith Llywodraeth Prydain mewn perthynas ag allforion cig eidion a chig oen, sydd bellach yn agor cyfleoedd i ffermwyr Cymru allu gwerthu eu cig eidion a'u cig oen i farchnad Japan o 127 miliwn o bobl? A fyddech yn cytuno â mi fod cyfleoedd i gynrychiolwyr masnach, os cânt eu sefydlu yn llysgenadaethau Prydain, wneud yn siŵr y gellir ailadrodd y math hwn o lwyddiant ac y gall cyfleoedd pellach ddeillio ohono i fusnesau Cymru?

Rydym yn amlwg bob amser yn croesawu marchnadoedd allforio ychwanegol i gynnyrch o Gymru ac felly mae hynny i'w groesawu. Sylwaf fod y symiau allforio a ddisgrifiwyd yn y cyhoeddiad yn sylweddol, ond rhaid imi ddweud hefyd fod defnyddwyr yn Japan yn mynd i orfod bwyta llawer iawn o gig oen a chig eidion i wneud iawn am y cyfyngiadau ar y farchnad y byddem yn eu dioddef o ganlyniad i Brexit.

Diolch, Lywydd. Yn hytrach na dal i ddadlau dros y gwahanol ffyrdd y gellir bradychu a gwrthdroi canlyniad y refferendwm Brexit, onid yw hi bellach yn bryd meddwl yn ymarferol am y ffordd ymlaen a dychwelyd at y cynnig a wnaeth Donald Tusk i Theresa May beth amser yn ôl i ddechrau ar drafodaethau i sicrhau cytundeb masnach rydd tebyg i Canada, a fyddai â'r fantais o gyflawni canlyniad y refferendwm—pleidleisiodd pobl y Deyrnas Unedig a phobl Cymru yn ddigamsyniol dros adael ddwy flynedd a hanner yn ôl—a byddai hefyd yn hyrwyddo i'r eithaf y cyfleoedd i fasnachu gyda'r UE nad oes neb am eu haberthu ar y naill ochr na'r llall i'r Sianel?

Tra oeddwn yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cefais gyfle i gyfarfod â'r ddirprwyaeth o Ganada i'r Undeb Ewropeaidd a chlywed ganddynt yn uniongyrchol am eu profiad yn negodi'r Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr â'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael ei ddisgrifio gan sawl un fel rhywbeth syml iawn i'w wneud yn ei hanfod, ond maent hwy'n disgrifio prosiect hynod o faith a thrwyadl iawn. Felly, rwy'n creu bod y syniad ein bod yn mynd i allu ailadrodd y math hwnnw o gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ffantasi yn fy marn i.

Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r berthynas y credwn y byddai Cymru'n elwa ohoni ar ôl Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi'i nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a dyna yw ein safbwynt o hyd, a hyd yn oed ar ffigurau'r Llywodraeth ei hun, rwy'n credu bod yr hyblygrwydd a ddisgrifiant o gael capasiti ychwanegol i ymrwymo i gytundebau masnach rydd rhyngwladol yn ddim o gymharu â'r difrod economaidd a ddeilliai o golli'r cysylltiadau masnachu presennol sydd gennym rhwng yr UE a gweddill y byd.

Yn anffodus, oherwydd bod cefn y Cwnsler Cyffredinol tuag ataf ar y diwedd ni chlywais yn union beth a ddywedodd. Dechreuodd Canada, wrth gwrs, o sefyllfa wahanol iawn i'r Deyrnas Unedig. Rydym wedi bod yn aelod o'r UE ers tua 40 mlynedd, ac mae gennym ymochredd rheoleiddiol llawn â hwy oherwydd, yn amlwg, mae gennym yr un cod cyfraith a rheoliadau. Ni ddylai fod unrhyw anhawster dod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Ond beth bynnag, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y bydd erthygl 24 o'r cytundeb cyffredinol ar dariffau a chytuniad masnach, cytuniad Sefydliad Masnach y Byd bellach, pan fyddwn wedi dechrau negodiadau â'r UE, yn ein galluogi yn y tymor byr i barhau i fasnachu gyda'r UE yn ddi-dariff tra byddwn yn trafod y cytundeb tebyg i'r un sydd gan Ganada?

14:45

Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn deall beth oedd safbwynt yr Aelod. Roeddwn wedi meddwl ei fod wedi treulio ymgyrch y refferendwm yn dadlau dros yr hyblygrwydd mwyaf posibl a pheidio â gorfod cydymffurfio â rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd. Ymddengys ei fod bellach yn dadlau dros hynny fel budd cadarnhaol.

Na, dim o gwbl. Wrth gwrs nad wyf yn gwneud hynny. Yr unig beth rwy'n ei ddweud yw na fyddem yn wynebu, wrth negodi, yr anawsterau y cyfeiriodd atynt, yn ôl honiadau'r Canadiaid y bu'n siarad â hwy'n ddiweddar. Nid oes rhaid inni negodi o sefyllfa lle nad oes gennym unrhyw gytundebau o gwbl gyda'r UE. Rydym yn rhan ohono, felly dylai fod yn llawer symlach i ni ymrwymo i gytundeb mwy hirdymor, yn enwedig gan fod gennym ddiffyg masnach o £67 biliwn y flwyddyn gyda'r UE ar hyn o bryd. Mae gallu masnachu mor rhydd â phosibl gyda ni yr un mor fuddiol iddynt hwy ag yw hi i ninnau fasnachu gyda hwythau. Mae'n wir fod gan y Comisiwn Ewropeaidd fuddiannau gwahanol i bobl a busnesau Ewrop gan eu bod ynghlwm wrth eu prosiect integreiddio gwleidyddol enfawr ar draul pobl Ewrop, fel y dengys prosiect yr ewro yn glir, a'r dinistr a gafwyd yn ei sgil mewn sawl gwlad yn ne Ewrop.

Wel, mae'n rhaid imi ddweud na fyddai busnesau ledled Cymru sy'n pryderu am eu hallforion ar ôl Brexit yn rhannu barn yr Aelod. O edrych ar ffigurau Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed, fel y soniais yn gynharach, maent yn dangos bod unrhyw werth ychwanegol posibl i'r economi yn sgil mwy o hyblygrwydd, fel y byddent yn ei ddisgrifio, yn ddim o gymharu â'r ergyd i'r economi o ganlyniad i golli marchnadoedd.

Ymadawiad y DU o'r UE

3. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE? OAQ53210

Dengys yr holl dystiolaeth synhwyrol fod manteision economaidd posibl unrhyw gytundebau masnach newydd yn ddim o gymharu ag effaith negyddol cynnydd sylweddol yn y rhwystrau i fasnachu gyda'r UE. Rydym yn parhau i alw am y berthynas economaidd agosaf sy'n bosibl gyda'r UE, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Diolch am eich ymateb. Fe fyddwch yn gwybod mai un mater sydd wedi codi'n rheolaidd yn y Siambr dros y blynyddoedd yw'r gefynnau ar ddwylo Cymru yn sgil rheolau caffael yr UE ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae llawer o'r rheolau hynny'n creu anfantais ddifrifol i fusnesau llai, gyda llawer ohonynt ledled Cymru, sy'n awyddus i gael troed yn y drws, er mwyn gallu masnachu â'r sector cyhoeddus. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i archwilio'r cyfleoedd a allai ddeillio o adael yr UE i gefnogi polisi prynu mwy lleol ar draws y sector cyhoeddus, fel y gall busnesau Cymru elwa ar wariant trethdalwyr Cymru?

Wel, wrth gwrs, un o'r problemau yw sut y caiff rheolau eu dehongli, ac yn aml, mae ganddynt fwy o ryddid nag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Felly, yr her yw sicrhau, wrth inni—. Ein barn ni yw mai'r sefyllfa orau i economi Cymru yw cysondeb rheoleiddiol cyffredinol gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond mae lle o fewn hynny i geisio'r dehongliad mwyaf hyblyg o'r rheolau a ganiateir. O ran cyfleoedd eraill yn sgil gadael yr UE, buaswn yn dweud mai un o'r materion dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd yw sut y gallwn integreiddio cyllid buddsoddi rhanbarthol yn well gyda gwariant arall y Llywodraeth. Mae hynny'n gofyn am ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydym ar ein colled o ran cyllid buddsoddi rhanbarthol, a dylid pennu'r cyfleoedd a'r rheolau a'r blaenoriaethau ar gyfer hynny yma yng Nghymru. Byddai'n rhoi sylfaen inni allu integreiddio'r cynlluniau hynny yn y dyfodol. A gan ei fod yn edrych am gyfleoedd, rwy'n gobeithio y bydd yn ymuno â mi i alw am gynnal yr egwyddorion hynny.

Gwnsler Cyffredinol, eisoes o fewn yr UE mae perthynas rhyngom, naill ai fel Cymru yn ein hawl ein hunain, neu'n rhan o rwydwaith y DU, ag amrywiaeth eang o sefydliadau sydd wedi bod yn hynod o bwysig a gwerthfawr i Gymru. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y ceir mecanwaith lle y gall Cymru yn ei hawl ei hun barhau i ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd, o bosibl drwy'r Swyddfa Cymru well ym Mrwsel, ond gan sicrhau, o leiaf os yw Brexit yn digwydd, fod gennym fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â'r gwahanol gyrff tiriogaethol hynny, Pwyllgor y Rhanbarthau a'r gwahanol sefydliadau eraill y credaf y byddant yn hanfodol a phwysig i Gymru mewn dyfodol ôl-Brexit, os yw'n digwydd?

14:50

A gaf fi gymeradwyo sail y cwestiwn gan yr Aelod, mewn gwirionedd, sef y gwerth i Gymru sy'n deillio nid yn unig o'r berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd fel y cyfryw, ond hefyd o ranbarthau a gwledydd ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r gwahanol sefydliadau ledled Ewrop lle y cawn ein cynrychioli? Ac rwy'n ymwybodol o'i waith ef, er enghraifft, ar Bwyllgor y Rhanbarthau ers blynyddoedd lawer.

Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal, gymaint â phosibl, y rhwydwaith hwnnw o gysylltiadau sydd o fudd i ni mewn termau economaidd, ond hefyd mewn termau diwylliannol, yn ogystal ag o ran brand Cymru yn y byd, sy'n ffocws pwysig. Unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r gwaith y bydd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn ei ddatblygu.

Troseddau Casineb yn dilyn Brexit

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu menywod a lleiafrifoedd rhag troseddau casineb yn dilyn Brexit? OAQ53207

Rwyf wedi cael trafodaeth ragarweiniol ynglŷn â'r materion hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf i'w trafod yn fanylach. Rydym eisoes yn gweithredu ein rhaglen i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn ehangu ein gwaith ar gydlyniant cymunedol i geisio lliniaru unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb.

Cafwyd adroddiadau tua diwedd y llynedd fod nifer yr achosion o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr wedi codi 17 y cant i 94,000 dros y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd. Dywed y Swyddfa Gartref y gellir priodoli'r cynnydd mawr a welwyd dros y pum mlynedd diwethaf yn rhannol i'r gwelliannau yn y ffordd y cofnodir troseddau, ond maent yn cydnabod y bu cynnydd sydyn yn syth wedi refferendwm yr UE. Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, ac o fy mhrofiad fy hun fod cymdeithas wedi mynd yn llai cyfeillgar tuag at fenywod a lleiafrifoedd ers ymgyrch y refferendwm hwnnw, ac adlewyrchir hyn yn y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. A wnaiff eich Llywodraeth gyfleu neges gadarn yn condemnio troseddau casineb o'r fath, a sicrhau bod dioddefwyr yn ymwybodol o ba wasanaethau cymorth, os o gwbl, sydd ar gael iddynt? Ac a fyddech hefyd yn barod i gychwyn sgwrs gyda'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau y rhoddir camau ar waith ar unwaith i ddileu troseddau casineb ar-lein?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth ynghylch y cynnydd sydyn mewn troseddau casineb, sy'n rhywbeth rydym wedi'i drafod yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac mae'n gwbl arswydus fod hynny'n codi yng nghyd-destun y dadleuon rydym yn eu cael yn awr. Yn bendant, fe roddaf y sicrwydd y mae'n gofyn amdano y byddwn yn rhoi arwydd clir iawn nad oes unrhyw le i droseddau casineb yn erbyn unrhyw un o'n cymunedau yma yng Nghymru. Gwn fod ganddi ddigwyddiad yn y Senedd ymhen ychydig ddyddiau, rwy'n credu, ac rwy'n siŵr y bydd y neges honno'n mynd allan o'r digwyddiad hwnnw hefyd.

Fel rhan o'r gwaith ar barodrwydd mewn perthynas â Brexit, rydym wedi ehangu'r rhaglen cydlyniant cymunedol ac wedi ariannu prosiect hawliau dinasyddion yr UE, a fydd yn gweithio law yn llaw â'r trydydd sector a llywodraeth leol i sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael, yn ogystal ag ymgysylltiad mwy dwys â'n rhaglen i Gymru gyfan ar gyfer ymgysylltu â phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, drwy'r ffrwd ariannu ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant.

Fe fydd hefyd yn gwybod, wrth gwrs, am yr adroddiad arolygu ar droseddau casineb a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, a dynnodd sylw at arferion da iawn yma yng Nghymru, yn arbennig yn ardal Gwent.

Gwnsler Cyffredinol, yn ystod dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mynegodd nifer o'r Aelodau eu barn gadarn y dylai perthnasoedd iach fod yn rhan o'r cwricwlwm, gyda'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, bellach, yn dweud,

'ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau tuag at berthynas iach yn gynnar yn addysg plentyn... A gorau po gyntaf y ceisiwn ddarparu hyn ar berthynas iach.'

A chredaf y gellir gwneud yr un sylwadau ar bob ffurf ar droseddau casineb. A ydych yn credu, felly, y gallai fod angen deddfwriaeth i sicrhau lle i hyn ar y cwricwlwm, neu a ydych yn credu y bydd canllawiau a pholisi syml yn ddigon i wneud yn hollol siŵr fod hyn yn digwydd?

14:55

Mae angen inni fod yn ymwybodol bob amser o'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn. Ymddengys i mi mai un o'r materion pwysig yw ein bod yn cadw digon o hyblygrwydd i allu ymateb i agweddau ar droseddau casineb sy'n dod i'r amlwg. Yn anffodus, ymddengys ei fod yn un o'r meysydd hynny sydd i'w gweld yn dod o hyd i allfeydd newydd mewn gwahanol gyd-destunau, fel y nodwyd yng nghwestiwn Leanne Wood. Onid yw'r cyfryngau cymdeithasol wedi darparu llwyfan newydd i unigolion allu mynegi safbwyntiau sy'n wrthun i ni yn y Siambr hon? Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn fy marn i, i ddod o hyd i ffyrdd o gael gwared ar hynny, ac mae addysgu plant a phobl ifanc ar ffyrdd cyfrifol o fod ar-lein yn ogystal â natur perthnasoedd, gan gynnwys perthnasoedd cymunedol a pherthnasoedd personol, yn rhan bwysig o hynny.

Yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth fod ymgyrch Brexit wedi normaleiddio rhagfarn ac wedi gwneud pobl hiliol yn fwy eofn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd y poster ofnadwy hwnnw a digwyddiadau cywilyddus megis Gweinidog y DU, Penny Mordaunt, yn dweud celwydd noeth wrth y wlad ar raglen frecwast nad oedd feto gan y DU mewn perthynas â derbyn Twrci'n aelod o'r UE yn cael eu hystyried, yn hollol gywir, yn feflau ar ein gwleidyddiaeth. Felly, mae gennym lawer o wella i'w wneud. Felly, ni waeth beth fydd yn digwydd neu ddim yn digwydd yn y dyfodol agos iawn, a ydych yn gweld unrhyw botensial, Weinidog, yn y gronfa bontio Ewropeaidd, i gefnogi camau i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig pe ceid Brexit 'dim bargen'? Hefyd, ceir pryderon y byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at waethygiad, at godi muriau, yn ein cymunedau, sy'n digwydd eisoes ers yr ymgyrchoedd ofnadwy hynny dan arweiniad pobl hiliol a rhagfarnllyd.

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hithau a minnau wedi trafod natur rhai o'r posteri a'r cyfathrebiadau yr oedd pleidiau eraill yn eu hyrwyddo yn ystod y refferendwm fel rheswm pam y mae'r newid diwylliant hwn wedi datblygu.

Yn sicr, mae'r gronfa bontio Ewropeaidd yn cael ei defnyddio i wneud y mathau o benderfyniadau ynghylch cyllid buddsoddi y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn, a chredaf fod y rhaglen cydlyniant cymunedol yn arbennig wedi elwa o gael ei hehangu o ganlyniad i hynny. Rydym yn ymwybodol iawn mai un mater y mae angen inni fod yn glir iawn yn ei gylch yw sicrhau bod cydlyniant cymunedol, sydd bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, yn parhau i gael ei gefnogi, ac mae ein rhwydwaith cydlyniant cymunedol rhanbarthol yn ffordd allweddol o wneud hynny.

Trosglwyddo Cymwysterau Proffesiynol

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cynnal y gallu i drosglwyddo cymwysterau proffesiynol ar gyfer staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig nyrsys, os bydd Brexit yn digwydd? OAQ53196

Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â chydnabod cymwysterau proffesiynol ar sail gilyddol, gan gynnwys y proffesiynau iechyd. Bydd cyd-Aelodau yn y Cabinet a minnau yn parhau i ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu ac nad effeithir ar weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso yn yr UE ac sy'n gweithio yng Nghymru.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb sydd, ar ryw lefel, yn galonogol. Wrth gwrs, rydym wedi trafod o'r blaen yn y Siambr yr anawsterau y gall gwasanaethau iechyd a gofal eu hwynebu os na allwn recriwtio staff o'r UE. Tynnwyd fy sylw yn benodol at y ffaith y bydd hon yn broblem enfawr i'r sector gofal, i'r nyrsys cymwysedig sy'n gweithio, nid mewn ysbytai, ond mewn cartrefi gofal. Rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol a gweddill y Llywodraeth yn parhau gyda'r trafodaethau a amlinellwyd ganddo, gan na fyddem yn dymuno ychwanegu at yr hyn y mae llawer o ddinasyddion yr UE eisoes yn ei ystyried yn broses fiwrocrataidd, ac o bosibl, yn amgylchedd anghyfeillgar—anawsterau ymarferol a fyddai'n deillio o'r methiant i gydnabod cymwysterau yn gyson ar draws ffiniau.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae hwn yn faes pwysig iawn i'r proffesiwn iechyd a phroffesiynau eraill hefyd—mae gan filfeddygon, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon bryderon mewn perthynas â'r maes hwn. Mae'r dull o weithredu sy'n cael ei drafod gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â gosod deddfwriaeth yn y Senedd a fydd yn sicrhau, pe ceid Brexit 'dim bargen' er enghraifft, y bydd trefniadau ar waith i weithwyr proffesiynol sy'n cyrraedd y DU ac sy'n gweithredu yma allu sicrhau bod y cymwysterau hynny'n cael eu cydnabod. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod rheoleiddio'r proffesiynau iechyd yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Ac felly rydym yn gweithio gyda hwy mewn perthynas â'r rheini, ond yn sicr, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn i'r gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau perthynol i iechyd a'n gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.

15:00

Rwy'n credu bod ymateb y Gweinidog yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, ond mae gwaith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Ond hefyd a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gynlluniau peilot y statws preswylydd sefydlog ar gyfer iechyd a gweithwyr cymdeithasol a hefyd, a yw Llywodraeth y DU wedi dangos unrhyw hyblygrwydd annisgwyl ar y funud olaf tuag at fater statws preswylydd sefydlog i aelodau o deuluoedd y gweithwyr hynny, fel y gofynnwyd amdano gan gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, y Gweinidog iechyd bellach? Pa weithiwr proffesiynol fyddai'n dewis dod i weithio yma a gwneud y wlad hon yn gartref os dywedir wrthynt, 'Mae croeso i chi, ond nid i'ch teulu'? Ac ar fater pwysig teuluoedd—ac o fod yn falch o fod yn rhan o deulu mawr sy'n cynnwys un neu ddwy genhedlaeth o fewnfudwyr Eidalaidd-Gymreig a ddaeth yma o rannau tlawd o'r Eidal, nid yw hyn yn effeithio arnom yn uniongyrchol, ond a hoffai'r Gweinidog wneud sylw am yr amarch sydd bellach yn cael ei anelu tuag at bobl sydd wedi byw a gweithio a thalu trethi yma ar hyd eu bywydau gwaith ac y gofynnir iddynt bellach neidio dros glwydi i brofi eu bod yn ddigon da i gael aros? Pan fyddaf yn darllen straeon fel stori dynes 90 oed o'r Eidal sy'n byw yn Bradford, ac a ddaeth yma o ran dlawd o'r Eidal ar ôl yr ail ryfel byd, ac sydd bellach yn dioddef o glefyd Alzheimer ac yn gorfod rhoi ei holion bysedd er mwyn profi ei hunaniaeth, rwy'n meddwl tybed pa lefel o gywilydd, pa lefel o amarch, y mae'r DU fel gwlad a Llywodraeth y DU yn arbennig wedi disgyn iddi erbyn hyn.

Wel, yn hollol. Mae'r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa—sefyllfa drawmatig iawn i'r unigolion dan sylw—gydag angerdd, a hoffwn ategu ei sylwadau. Rwy'n ymwybodol fod ymateb wedi dod i law mewn perthynas â'r cwestiwn ynglŷn â statws preswylydd sefydlog a'r her i deuluoedd a ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, ac yn anffodus nid yw hynny wedi mynd â ni gam ymhellach o gwbl. Felly, rydym ar begynau hollol wahanol i'r sbectrwm mewn perthynas â hyn a beth y credwn sy'n ffordd briodol o symud ymlaen mewn perthynas â hyn. Hefyd, yn y Papur Gwyn ar fewnfudo a gyflwynodd Llywodraeth y DU cyn y Nadolig, bydd wedi gweld ymagwedd debyg tuag at deuluoedd gweithwyr dros dro, er enghraifft, sef system a fydd yn ofnadwy o ran ei chanlyniadau i ni yma yng Nghymru. Er mor ddiffygiol ydynt, rydym yn awyddus i weld y trefniadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith mewn perthynas â statws preswylydd sefydlog yn parhau, hyd yn oed yng nghyd-destun Brexit 'dim bargen', oherwydd rwy'n credu y byddai methu gwneud hynny yn rhoi mwy fyth o bwysau ar drigolion yr UE sydd eisoes sy'n byw yma yng Nghymru ac yn wynebu'r math o amarch y mae'n ei ddisgrifio yn ei gwestiwn.

Paratoi Busnesau ar gyfer Gadael yr UE

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch paratoi busnesau yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ53187

Mae'r Cabinet cyfan wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru drwy Brexit. Mynychais is-bwyllgor y Cabinet ar bontio'r UE ym mis Rhagfyr, lle y cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bapur manwl ar baratoi busnesau ar gyfer Brexit, ac rydym yn parhau i ymgysylltu'n agos â busnesau ledled Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler. Pan oedd y Prif Weinidog blaenorol yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd fod dros 100 o fusnesau yng Nghymru eisoes wedi ymwneud â phorth busnes Brexit Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod y tirwedd ar ôl Brexit yn gymaint o ddirgelwch, yn bennaf oherwydd y dull blêr a fabwysiadwyd gan Theresa May gyda'r negodiadau. Gyda hynny mewn golwg, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y porth yn gallu darparu cyngor cyfreithiol cywir ar faterion megis allforio a chyflogi staff?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Lansiodd Gweinidog yr economi y porth yn ôl ym mis Medi, rwy'n credu, a phwrpas y porth yw darparu pecyn cymorth diagnostig i fusnesau i gwmpasu'r ystod gyfan o heriau posibl a allai godi yng nghyd-destun Brexit a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer byd ôl-Brexit, ac fel y noda'i chwestiwn, un o'r prif faterion sy'n codi yw cwestiynau ynglŷn â masnachu rhyngwladol a chwestiynau ynglŷn â chynllunio'r gweithlu, sydd fel ei gilydd yn ffactorau y mae busnesau'n pryderu yn eu cylch yng nghyd-destun Brexit. Bydd gwefan Paratoi Cymru, a grybwyllais yn gynharach, yn cyfeirio busnesau at y porth hwnnw wrth gwrs er mwyn tynnu sylw pellach at ei argaeledd a hefyd at amrywiaeth o fesurau eraill y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i gefnogi busnesau drwy Brexit, ac mae'r gronfa cydnerthedd busnes, a ariennir drwy gronfa bontio'r UE, yn enghraifft berffaith o hynny.

15:05

Os caf ymhelaethu ar bwynt Vikki Howells, gwir eironi ein sefyllfa bresennol yw y bydd mwyafrif helaeth y busnesau sy'n allforio i'r farchnad sengl yn dymuno parhau i lynu wrth y fframwaith rheoleiddio sydd wedi'i osod heddiw, ac ar gyfer y dyfodol, gan yr UE.

Rwyf wedi clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud am y paratoadau, ond a wnewch chi hefyd weithio gyda sefydliadau tebyg i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, sydd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod cwmnïau sy'n allforio—a llawer ohonynt yn eithaf bach gyda llaw, weithiau, ac yng Nghymru—yn cael y wybodaeth honno fel eu bod yn gallu cadw at y fframweithiau cyfreithiol ar gyfer diogelwch a safonau ansawdd dylunio a phethau eraill i ganiatáu i allforion lifo mor rhwydd, o ystyried y sefyllfa o ran beth bynnag fydd gennym gyda thariffau ac ati? Mae'n wirioneddol hanfodol eu bod yn cael y wybodaeth honno.

Yn hollol. Un o'r elfennau ar gyfer y gwaith paratoi oedd nodi meysydd lle y gallai nodweddion Cymru—yn y cyd-destun hwn, y nodweddion economaidd—fod ychydig yn wahanol i rannau eraill o'r DU, ac felly maent angen dull penodol o weithredu, ac yn amlwg, mae cael sector busnes sy'n cynnwys sector busnesau bach a chanolig mor fawr yn un o'r agweddau hynny.

Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid eraill, ceir ymgyrch farchnata Busnes Cymru sy'n canolbwyntio ar Brexit a lansiwyd i godi ymwybyddiaeth o'r union fath o bethau y mae ef yn eu nodi, a gofyn i fusnesau gynllunio, addasu ac arloesi yn eu hymateb i Brexit. Ac mae hynny'n cynnwys galwad uniongyrchol i weithredu i ofyn i gwmnïau a busnesau gwblhau'r hunanasesiad Brexit drwy'r offeryn diagnostig ar y porth.

Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn perthynas â'r mater hwn, mae'n amlwg mai allforwyr yn bennaf yw'r busnesau sy'n cael cymorth drwy'r porth, ond ceir llawer o fusnesau'r gadwyn gyflenwi yn y cyswllt hwnnw. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda busnesau i edrych ar eu cadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau cefnogaeth i'r cadwyni cyflenwi hefyd yn y broses hon? Oherwydd rydym yn dibynnu llawer iawn ar rai o'r busnesau eraill hynny i ddal i fynd, ac mae'r sector modurol yn enghraifft. Ceir llawer o gwmnïau cydrannau moduron yng Nghymru nad ydynt o bosibl yn allforio'n uniongyrchol ond sy'n cyflenwi i gwmnïau sy'n gwneud hynny.

Yn hollol. Yn hollol. Wel, mae hynny'n hollol wir, ac mae hynny'n rhan annatod o'r cyngor sy'n cael ei ddarparu drwy'r porth. Realiti'r sefyllfa yw nad yw llawer o fusnesau'n mynd ati eto i gynllunio ar gyfer canlyniadau Brexit. Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi, wedi galw'n ddiweddar ar fusnesau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gymryd rhan yn weithredol a mynd ati i baratoi ar gyfer Brexit. Ac fe fanteisiaf ar y cyfle hwn, os caf, i ychwanegu at y galwadau i fusnesau wneud hynny.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn gan Mick Antoniw.

Pleidlais Senedd y DU ar Gytundeb Brexit Llywodraeth y DU

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15 Ionawr 2019 ar Gymru? 256

Lywydd, mae dull y Prif Weinidog o weithredu wedi'i wrthod yn bendant. Mae angen Tŷ Cyffredin newydd o dan Lywodraeth newydd i ddod o hyd i ffordd newydd ymlaen. Byddai dull o'r fath yn cau'r drws ar Brexit 'dim bargen' ac yn diogelu swyddi a'r economi yma yng Nghymru.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Am ddwy flynedd, mae Prif Weinidog y DU wedi dilyn polisi Ewropeaidd sy'n canolbwyntio ar ddiogelu buddiannau'r Blaid Dorïaidd yn hytrach na buddiannau'r wlad. Am ddwy flynedd, mae hi wedi trin pobl Cymru a Chynulliad Cymru gyda dirmyg llwyr. Mae pob addewid o ymgysylltiad a chyfranogiad wedi'i dorri. Mae'r DU bellach mewn cyflwr—[Torri ar draws.] Mae bellach mewn rigor mortis cyfansoddiadol. Mae'r Llywodraeth wedi'i pharlysu a'r DU bellach wedi dod yn destun sbort a'r Prif Weinidog yn batrwm o analluogrwydd. Mae gan yr Unol Daleithiau Trump; mae gennym ni Theresa May.

Yn sgil y grasfa drychinebus a hanesyddol neithiwr, mae hi'n dweud y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn estyn ar draws Tŷ'r Cyffredin, ond ar yr un pryd, mae'n dweud bod ei llinellau coch yn aros—felly, dim trafodaeth ar undeb tollau, dim trafodaeth ar farchnad sengl, dim trafodaeth ar ryddid i symud neu Lys Ewrop cyfiawnder, dim trafodaeth gyda gwrthblaid Ei Mawrhydi. Felly, ar ôl hepgor pawb—yn cynnwys yr UE—at bwy ar y ddaear y mae hi'n estyn allan? Dyma Brif Weinidog aflwyddiannus tu hwnt, Prif Weinidog sy'n parhau i wadu, yn arwain Llywodraeth heb ddilysrwydd, heb fandad a heb syniad. Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog, a oes gennych unrhyw hyder ym Mhrif Weinidog y DU?

15:10

Wel, Lywydd, dylai unrhyw Brif Weinidog sy'n cael ei threchu yn y ffordd y cafodd y Prif Weinidog ei threchu wrth iddi geisio cyflawni'r cyfrifoldeb pwysicaf un a ddaw iddi ymddiswyddo. Rwy'n credu mai dyna'r llwybr gweithredu sy'n gyfansoddiadol briodol a dylai wynebu hynny a'i ddilyn. Ar ôl dweud hynny, Lywydd, gadewch imi ddweud, fel rwyf bob amser yn dweud yn y Siambr yma, pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog y DU yfory, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr fod buddiannau pobl Cymru bob amser yn gwbl hysbys ac yn cael eu rhoi gerbron pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog y DU.

Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y dylai pawb yn y Siambr hon ac yn Nhŷ'r Cyffredin y DU barchu canlyniad y bleidlais ym mis Mehefin 2016 a chynorthwyo Llywodraeth y DU i weithio drwy ganlyniadau hynny wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd? At hynny, a wnewch chi gytuno hefyd mai'r bygythiad mwyaf i Gymru yw Jeremy Corbyn fel Prif Weinidog yn y Deyrnas Unedig? Mae hwnnw'n fygythiad gwaeth na Brexit 'dim bargen': trethi uwch, mwy o ddyled yn ein gwasanaethau cyhoeddus a mwy o wastraff?

Lywydd, y bygythiad mwyaf i Gymru yw ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o gwbl, gyda'r holl niwed y bydd hynny'n ei wneud i fusnesau yma yng Nghymru, i swyddi yma yng Nghymru. Os yw'r Aelod yn ofni Llywodraeth Jeremy Corbyn i'r fath raddau, nid oes amheuaeth y bydd yn cefnogi galwadau yn Nhŷ'r Cyffredin i drechu'r Llywodraeth fel y gellir rhoi hynny i bobl y wlad ei benderfynu, oherwydd, os yw mor siŵr o'i safbwynt, pam y mae'n ofni etholiad cyffredinol i'r fath raddau?

A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog beth sy'n digwydd nawr? Beth sy'n digwydd pan fydd Theresa May yn ennill y bleidlais o ddiffyg hyder heddiw? A ydych yn cytuno â mi nad oes gan Jeremy Corbyn unrhyw weledigaeth glir ar Ewrop chwaith—nid yw'n ddim cliriach na Theresa May—felly byddai etholiad cyffredinol yn gwbl ddibwrpas? A wnewch chi gefnogi refferendwm pleidlais y bobl yn lle hynny?

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gofyn beth sy'n digwydd nesaf. Yn gyntaf oll, yn sicr nid wyf wedi rhoi'r gorau i'r posibilrwydd y bydd Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod y Llywodraeth hon. Bydd ei blaid yn pleidleisio heno o blaid cynnig o ddiffyg hyder. Hoffwn pe bai ganddo hyder yn y cynnig o ddiffyg hyder y bydd ei blaid yn ei gefnogi. Dyna rwyf am ei weld yn digwydd; rwyf am weld y Llywodraeth hon yn cael ei threchu ac etholiad cyffredinol. Ac rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef fod etholiad cyffredinol yn amherthnasol, oherwydd nid yn unig y byddai gennym Lywodraeth a fyddai'n cynnig ymagwedd synhwyrol tuag at Brexit, ond byddai gennym Lywodraeth a fyddai'n troi ei chefn ar gyni a'r holl bethau yr ydym ni, ar draws y Siambr hon, yn cynnwys ei blaid ef, yn galw amdanynt yma wythnos ar ôl wythnos. Mae cymaint mwy yn y fantol mewn etholiad cyffredinol. Dyna pam y mae angen Llywodraeth newydd arnom, a meddyliwch beth y gallai honno ei wneud i Gymru.

Diolch am eich ymateb i gwestiwn Mick Antoniw yn gynharach, Brif Weinidog. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—eich bod am i Senedd y DU ddiystyru Brexit 'dim bargen'. Felly, rydych chi o leiaf wedi gwneud eich safbwynt yn glir. Yn amlwg, draw yma, mae ein safbwynt yn gwbl wahanol; nid ydym yn gweld Brexit 'dim bargen' fel ateb gwael; mewn gwirionedd rydym yn ei weld fel Brexit Sefydliad Masnach y Byd, yn hytrach na Brexit 'dim bargen'.

Nawr, cawsom ddatganiad ddoe gan eich Gweinidog Brexit, ac roeddwn o'r farn ei fod yn cynnwys rhai elfennau defnyddiol, yn yr ystyr ei fod yn amlinellu nifer o gynlluniau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu llunio, gan gynghori busnesau ac ati ynglŷn â'r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Yn amlwg, fel rydych wedi datgan, nid dyna yw'r opsiwn rydych yn ei ffafrio, ond os ydych yn cytuno â'ch Gweinidog Brexit, Weinidog, mae hwnnw'n ddigwyddiad sy'n rhaid i chi ei ystyried bellach. Ac rwy'n credu y byddai'n beth doeth ichi ganolbwyntio eich ymdrechion ar wneud cynlluniau ar gyfer pan fydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth a sut y bydd hynny'n effeithio ar Gymru, yn hytrach na gwneud yr hyn y buoch yn ei wneud fel Llywodraeth am y ddwy flynedd a hanner diwethaf a cheisio rhwystro Brexit. A fyddech yn cytuno, Brif Weinidog, y byddai hynny—[Torri ar draws.] A fyddech yn cytuno y byddai honno'n ymagwedd synhwyrol?

Cwestiwn arall sydd gennyf yw hwn: rwy'n nodi o ddilyn cyfryngau cymdeithasol Adam Price, ac rydym yn gwneud hynny'n frwd dros ben yng ngrŵp UKIP, fod yna—[Torri ar draws.] Cafwyd—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai trafodaethau trawsbleidiol a oedd yn cynnwys Adam a Paul Davies o bosibl. Felly, fel mater o ddiddordeb, ni oedd yr unig blaid a gefnogai Brexit, felly roeddwn yn meddwl tybed pam na chawsom ein gwahodd? Diolch.

15:15

Lywydd, gadewch imi ymateb i'r cwestiwn cyntaf yn gyntaf. Fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro—ac rwyf wedi ei ddweud eto yn awr—byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar yr economi yma yng Nghymru, ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac ym mywydau dinasyddion Cymru. A yw hynny'n golygu nad ydym yn paratoi rhag y posibilrwydd hwnnw, yn enwedig wrth iddo ddod yn fwy o bosibilrwydd? Wel, wrth gwrs, fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn paratoi yn erbyn y diwrnod hwnnw, ac mae ein paratoadau wedi dwysáu ers mis Medi y llynedd, ac rydym wedi adrodd arnynt yn rheolaidd i'r Cynulliad. Dyna'r pethau y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol atynt ddoe. Byddwn yn adrodd arnynt eto ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, nid oherwydd ein bod am funud yn barod i ystyried cefnogi cam o'r fath, ond mae gennym gyfrifoldeb i bobl Cymru i weithredu, os mai felly y bydd hi.

Mae'r Aelod yn gywir fy mod wedi cyfarfod ag arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn gynharach. Rwy'n ddiolchgar iddynt am ddod o hyd i amser i gael y trafodaethau hynny, a gwneuthum hynny ar y sail fod tair plaid yn y Cynulliad hwn yn ymroddedig i ffurf ar Brexit a fyddai'n lleddfu ei effaith yma yng Nghymru, tra bo'r blaid y mae Mr Bennett yn ei chynrychioli yn coleddu'r safbwynt y mae wedi'i fynegi yma y prynhawn yma. Mae'n credu nad oes angen paratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen' am ei fod yn croesawu'r posibilrwydd hwnnw. Nid yw eraill yma yn ei groesawu, a dyna pam y penderfynais y buaswn yn trafod y materion gyda hwy.

Fel chi, Brif Weinidog—roedd y modd y trechwyd Llywodraeth y DU neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin yn wirioneddol hanesyddol. Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad, a phe bai gan y Prif Weinidog unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd tuag at y wlad, byddai wedi ymddiswyddo y bore yma o ganlyniad i hynny. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig heno. Rwy'n synnu nad yw rhai o gefnogwyr y cynnig hwnnw i'w gweld mor ymrwymedig iddo. Brif Weinidog, beth bynnag sy'n digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin heno a beth bynnag sy'n digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun nesaf, onid y gwir amdani yw ein bod yn mynd yn brin o amser i gwblhau'r sgyrsiau hyn? Rydym yn brin o amser i ddod o hyd i ateb. Mae graddau a maint aflwyddiant polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig neithiwr yn golygu na allant ddychwelyd gyda mân addasiadau i'r cytundeb a gobeithio y bydd yn cael ei basio. Onid yw'n bryd i ni yn awr nid yn unig i edrych eto ar erthygl 50, ond i dynnu erthygl 50 yn ôl, i'n galluogi i gael amser i gael dadl go iawn, yn y wlad hon ac ar draws ein Seneddau, am y math o ffordd ymlaen, a bod y ffordd honno wedyn yn cael ei rhoi i'r bobl mewn refferendwm, a fydd yn refferendwm gonest, lle y bydd pobl yn gallu datgan eu hachos a gwneud eu dewis?

Wel, rwy'n cytuno gyda'r hyn a ddywedodd Alun Davies ein bod yn mynd yn brin o amser ac ni ddylai hynny fod yn syndod i neb. Rydym wedi cael ein rhybuddio ynglŷn â hynny ers misoedd lawer, fod y cloc yn tician. Rydym yn awr yn y rhan olaf o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae angen mwy o amser. Mae angen mwy o amser arnom i gael y trafodaethau y cyfeiriodd Alun Davies atynt. Ceir mwy nag un ffordd lle y gellid gwneud hynny. Gelwais heddiw am atal amserlen erthygl 50 dros dro, ac rwy'n meddwl y bydd parodrwydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd i gytuno i hynny, ar yr amod eu bod yn gwybod, yn y ffordd y dywedodd Alun Davies, nad yw'r trafodaethau sydd i'w cynnal dros yr ychydig ddyddiau nesaf yn ymwneud â thincran ar ymylon cytundeb Mrs May. Ni fydd hynny byth yn bodloni 230 o aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhaid i Brif Weinidog y DU roi'r gorau i'w pholisi aflwyddiannus a diffygiol o negodi drwy gyfres o linellau coch, a dweud yn barhaol wrth bawb arall beth nad yw hi'n mynd i gytuno ag ef. Mae angen iddi ddarganfod beth y mae pobl eraill yn barod i gytuno ag ef. Mae'n rhaid iddi ddangos yr hyblygrwydd y byddai arweinyddiaeth go iawn yn ei ddangos, ac yn y modd hwnnw, o ystyried yr amser y mae Alun Davies wedi tynnu sylw ato, mae cyfle o hyd i gael cytundeb a fyddai'n cyd-fynd â'r prosbectws a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac a fyddai'n caniatáu inni adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd sy'n diogelu ein buddiannau hirdymor.

15:20

Brif Weinidog, roedd maint aflwyddiant y Torïaid neithiwr yn ei gwneud hi'n amlwg bellach mai'r unig ddewisiadau sydd ar ôl yw Brexit y mae'r ddwy brif blaid yn ei gefnogi, trychineb 'dim bargen' neu bleidlais y bobl. O ystyried y byddai unrhyw gytundeb Brexit yn golygu y byddai Cymru yn waeth ei byd, yn dyfnhau magl tlodi ac yn gwreiddio cyni ariannol, a fyddech yn cytuno â mi mai'r unig opsiwn difrifol bellach i'r rhai sydd eisiau rhoi pobl Cymru yn gyntaf yw pleidlais y bobl?

Nid wyf yn cytuno â hynny, Lywydd. Credaf y down at y pwynt pan allai hynny'n bendant fod yn wir, ac os cyrhaeddwn y pwynt hwnnw, efallai y bydd yn rhaid i ddychwelyd at y bobl i gael y gair olaf ar y mater hwn fod yn ffordd drwy'r cyfyngder y byddai Tŷ'r Cyffredin ynddo os na allai wneud yr hyn y tynnodd Lynne Neagle sylw ato yn rhan gyntaf ei chwestiwn, sef dod o hyd i ffurf ar Brexit y gall Tŷ'r Cyffredin gytuno arno. Nawr, efallai'n wir ein bod yn teimlo nad oes llawer o bosibilrwydd o hynny, ond dywedodd y Prif Weinidog ddoe—fe ailadroddodd hyn mewn sgwrs ffôn a gefais gyda hi yn hwyr neithiwr—ei bod yn mynd i estyn allan at y pleidiau eraill a seneddwyr eraill, ei bod yn mynd i gynnwys gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau hynny, gyda'r nod o ddod o hyd i ffordd wahanol drwy'r cyfyngder hwn. Rwy'n credu—os yw hi mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl heddiw—y bydd rhaid inni ganiatáu'r ychydig ddyddiau sydd ganddi at ei defnydd i weld a ellir cyflawni hynny. Os oes cytundeb y gall ei lunio sy'n bodloni'r profion a nodwyd gan fy mhlaid, sy'n bodloni'r profion a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', gallai fod cytundeb yno i'w wneud o hyd. Os nad yw hynny'n wir, yn yr amgylchiadau hynny, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle—y bydd yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl.

Diolch i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth. 

Wylfa Newydd

2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â dyfodol Wylfa Newydd? 259

Diolch. Fel yr amlinellais yn fy natganiad ysgrifenedig at yr Aelodau ddoe, rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Ynni a Diwydiant. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rwy'n pwyso am ymateb ar frys gan Lywodraeth y DU ar y camau y mae'n eu cymryd ar y mater hwn. Rwyf hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Horizon. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd cyngor Ynys Môn yfory. Byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn mynychu cyfarfod brys o'r bwrdd uchelgais economaidd ddydd Llun. Ymhellach, rydym mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r Aelod Seneddol lleol, Albert Owen AS, yn ogystal ag Aelodau Seneddol eraill sydd am bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau buddsoddiad Hitachi.

Diolch yn fawr iawn i chi. Rydym ni'n disgwyl cyhoeddiad, rydw i'n meddwl, dros nos heno. Fel dywedodd aelod uwch o staff Wylfa wrthyf i yn y dyddiau diwethaf, dydy hi ddim yn edrych yn dda. Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i wedi dod i gasgliad ers rhyw gwpwl o fisoedd erbyn hyn bod y prosiect mewn sefyllfa ddifrifol tu hwnt. Yn amlwg, mae Brexit wedi cyfyngu ar gapasiti Llywodraeth Prydain i wthio'r cytundeb trwodd ac i chwilio am fodel ariannu. Mae pobl o fewn Wylfa'n dweud hynny'n berffaith glir wrthyf i. Yn gam neu'n gymwys, mi oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw mewn y cais cynllunio ar gyfer gwaith paratoi ar y safle hefyd yn cael ei weld fel ychwanegiad at risg y prosiect, ond y canlyniad ydy bod prosiect a oedd yn ganolog i gynlluniau economaidd ym Môn, yn y gogledd, ac, yn wir, ar gyfer Cymru gyfan rŵan yn y fantol, a dweud y lleiaf.

Mi oeddwn i'n gwerthfawrogi cael y datganiad ddoe yn dweud eich bod chi'n siarad efo Llywodraeth Prydain. Gaf i ofyn a oes yna ragor o drafod uniongyrchol wedi bod efo Gweinidogion Llywodraeth Prydain heddiw gan Lywodraeth Cymru? Ydych chi wedi ceisio dylanwadu'n uniongyrchol efo partneriaid yn Japan?

Gaf i sicrwydd hefyd bod y Prif Weinidog yn bersonol wedi bod yn rhan o drafodaethau heddiw, fel oedd yn hollol iawn i'w wneud yn achos Ford y bore yma? Mae'n bwysig iawn, rydw i'n meddwl, bod Prif Weinidog Cymru'n cael ei weld yn chwarae rhan uniongyrchol mewn trafodaethau, yn ogystal â'r rôl y gallwch chi ei chwarae, wrth gwrs, fel Gweinidog. 

Mae Wylfa'n ganolog i ddatblygiadau economaidd yn y dyfodol, ond, wrth gwrs, mae yna ddatblygiadau eraill rhagorol yn mynd ymlaen yn Ynys Môn ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl am gynlluniau ynni adnewyddol ac yn y blaen, y parc gwyddoniaeth. Ond, gaf i sicrwydd rŵan, os ydy'r gwaethaf yn dod ac yn cael ei gadarnhau, y bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio i fuddsoddi rhagor yn y cynlluniau hynny ac yn gwthio am fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Prydain i wneud iawn am ei methiant i ddelifro Wylfa, os mai dyna fydd y canlyniad?

Gaf i hefyd wthio, os mai'r gwaethaf gawn ni, am ymrwymiad, a'ch bod chi'n dechrau rŵan ar ffyrdd o weithredu hyn—ymrwymiad i roi hwb economaidd i ogledd yr ynys, yn arbennig, yn cynnwys cyfeirio datblygiad economaidd i gyffiniau Amlwch, agor lein Amlwch fel mater o fyrder, ac yn y blaen?

Weinidog, beth bynnag y farn am niwclear—a dwi'n deall yn iawn ei fod o'n bwnc sy'n rhannu barn pobl, ond mae llawer o bobl Môn, pobl ifanc, Cymry ifanc ym Môn, sy'n barod i gael eu denu i ffwrdd gan gyfleon economaidd eraill, wedi bod yn edrych ymlaen am gyfleon yn Wylfa Newydd. Os na ddaw o, mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth i sicrhau dyfodol iddyn nhw. 

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod ac yn dweud yn gyntaf, mewn perthynas â'r holl brosiect hwn, nad yw'r adroddiadau a welsom yn y newyddion dros y dyddiau diwethaf yn ddim byd mwy na dyfalu. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud, yn amser y DU, o gwmpas 10 a.m. yfory. Byddaf yn ymweld ag Ynys Môn brynhawn yfory i gyfarfod ag arweinydd y cyngor, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gwybod beth yw penderfyniad bwrdd Hitachi erbyn hynny.

Y rheswm pam y gofynnais am gynnal cyfarfod brys o'r bwrdd uchelgais economaidd cyn gynted â phosibl, ac fe fydd yn digwydd fore Llun, oedd oherwydd yr hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid yng ngogledd Cymru sut y gellid mynd ati yn y tymor byr, os mai oedi'r prosiect hwn dros dro yn unig a wneir, sut y gallem fynd ati i sicrhau bod cyfleoedd i bobl gael gwaith mewn maes tebyg yn Ynys Môn a'r cylch, hyd nes y daw buddsoddwr arall i dynnu'r prosiect oddi ar y silff, neu hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu buddsoddi rhagor yn y rhaglen ac yn ei wladoli. Eisoes maent wedi addo £5 biliwn, nid wyf yn gweld pam na ddylent ystyried darparu'r holl gymorth ariannol yn awr a gwladoli'r prosiect.

Wrth wneud hynny, hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid llywodraeth leol, arweinwyr addysg bellach ac addysg uwch, a busnesau pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnom gan Lywodraeth y DU fel rhan o raglen y fargen twf. Rwyf eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn barod i gynyddu ei chefnogaeth o £120 miliwn os yw Llywodraeth y DU yn cynyddu ei dyraniad hi yn gyntaf i'r fargen twf. Mae partneriaid yng ngogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn ar gyfer y fargen twf, ac mae Llywodraeth y DU, er gwaethaf y gofyn cynhwysfawr a rhaglen o brosiectau, wedi cynnig £120 miliwn. Yn fy marn i, os yw Hitachi yn oedi'r prosiect, dylid cynyddu'r swm hwnnw yn sylweddol.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig pwysleisio bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson â BEIS dros nifer o wythnosau a misoedd. Mae'r Aelod yn iawn i nodi bod Brexit wedi cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar drafodaethau; yn anuniongyrchol yn yr ystyr ei fod wedi dargyfeirio sylw a swyddogion allweddol yn wir o fewn Whitehall oddi ar brosiect Wylfa Newydd, ac mae hynny wedi cael effaith yn fy marn i ar hyder yn Japan.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddatblygu. Yn bwysig, byddwn yn gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr fod pobl Ynys Môn a phobl gogledd Cymru yn elwa cymaint â phosibl o'r prosiect. Yfory, fe fyddwn yn gwybod a fydd oedi'n digwydd yn y prosiect. Fy ngobaith yw na chaiff ei ganslo. Os bydd oedi'n digwydd rhaid i waith ddechrau ar unwaith ar draws Llywodraethau, gyda llywodraeth leol a'r gymuned fusnes i sicrhau bod cyfleoedd gwaith ar gael yn y tymor byr, wrth inni ddod o hyd i fuddsoddwr newydd ar gyfer y prosiect.

Rydym yn gwybod bod prosbectws seilwaith Caergybi yn dweud bod gwaith adeiladu niwclear newydd Wylfa Newydd, ynghyd â datblygiadau arfaethedig eraill yn Ynys Môn, yn gyfle unwaith mewn oes i drawsnewid economi a chymunedau'r Ynys. Fel y dywedasoch yn gywir ddoe, mae gan y prosiect hwn fanteision posibl a allai fod yn sylweddol i Ynys Môn, gogledd Cymru a'r DU. Gwyddom fod is-gwmni i Hitachi, Horizon, wedi bod yn buddsoddi'n drwm mewn prentisiaethau a chanolfannau hyfforddiant, gan gynnwys yng ngrŵp coleg Llandrillo Menai ac ym Mhrifysgol Bangor, a gwyddom fod y fargen twf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai prosiect Wylfa yn mynd rhagddo. Dywedodd Dr Jones, ym Mhrifysgol Bangor, ddoe ei fod yn credu ei fod yn fwy tebygol o bwyso'r botwm oedi na rhoi'r gorau i'r prosiect yn llwyr oherwydd y buddsoddiad o £2 biliwn eisoes. Ond rwy'n clywed hefyd mai un o'r ffactorau dilys i'r ystyriaethau cost a arweiniodd at y penderfyniad posibl hwn oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw am gynlluniau i baratoi'r safle fis diwethaf er mwyn adeiladu Wylfa Newydd, pan ddywedodd Horizon eu bod yn anghytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd o ystyried eich datganiadau ddoe a heddiw eich bod wedi siarad â'r Gweinidog ynni a diwydiant, Richard Harrington AS, yn San Steffan, a bod eich swyddogion mewn deialog agos gyda Horizon Nuclear Power, beth yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran y canlyniad tebygol a'i effaith ar bethau fel y lleoliadau prentisiaeth hynny a'r posibilrwydd mai oedi yn unig yw hyn yn hytrach na chyhoeddiad trychinebus fod y prosiect yn dod i ben?

15:30

Yn amlwg, mae'n gyfle unwaith mewn oes i ogledd Cymru, Cymru a'r DU. Cydnabyddir bod technoleg Hitachi yn fwy dibynadwy na'r un y gellid ei defnyddio, ac mae'n bwysig fod Llywodraeth y DU yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw a thechnoleg Hitachi i Ynys Môn.

Rwy'n anghytuno gyda'r Aelod, ac rwy'n meddwl y byddai'r Aelod, pe bai ganddo wybodaeth gywir, yn cytuno nad oedd galw am y cais cynllunio yn fater o bwys o gwbl. Yr hyn sydd wedi newid yn y mis diwethaf, neu yn y mwy na mis diwethaf mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r sefyllfa yn ôl pob tebyg tua mis yn ôl—. Ond yr hyn sydd wedi digwydd yn raddol yw bod diffyg a cholli diddordeb ar ran Llywodraeth y DU, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol. Ac fe amlygwyd hynny yr wythnos diwethaf pan oedd y Prif Weinidog yn Japan a methodd grybwyll y prosiect hanfodol bwysig hwn tra oedd ar ymweliad yno. Ac yn union fel y dywedais ddoe—rwyf am ei ailadrodd heddiw—nid mater masnachol i Hitachi'n unig yw hwn. Byddai'r rhaglen hon yn darparu hyd at 10 y cant o ynni'r DU a gwaith i filoedd o bobl yn ystod y gwaith adeiladu, a channoedd o bobl am genedlaethau lawer i ddod. Ac felly, buaswn yn galw ar Lywodraeth y DU eto, hyd yn oed yn yr oriau olaf hyn, i wneud pob ymdrech i gael y penderfyniad cywir wedi'i wneud ar fwrdd Hitachi yfory.

Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn flaenorol—mae yna beryg, wrth gwrs, ein bod ni'n camddehongli diwylliant Japaneaidd fan hyn, oherwydd mae colli wyneb yn anodd i ni yn y gorllewin, ond mae'n anoddach fyth, wrth gwrs, i Japaneaid. Ac mae yna beryg, efallai, tra ein bod ni'n meddwl bod y prosiect ar hold, taw, mewn gwirionedd, dyna eu ffordd nhw o ddweud nad yw e'n mynd i ddigwydd. Felly, dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn realistig o safbwynt beth fydd y rhagolygon pan glywn ni'n union beth yw'r penderfyniad. Ond yr hyn dwi'n dod ato fe, wrth gwrs, wedyn, yw: am ba hyd fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i aros tra bod y cynllun ar hold? Mae yna gyrsiau yn cael eu hyrwyddo a'u hysbysebu. Ydyn ni'n dal i hyrwyddo a hysbysebu y rheini am y flwyddyn neu ddwy nesaf sydd i ddod? Ydy cynllun twf gogledd Cymru, neu rannau perthnasol o'r cynllun twf hwnnw, ar y silff tan inni wybod beth sy'n digwydd? Felly, ar ba bwynt fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn bod rhaid tynnu llinell a symud ymlaen? Ac, wrth gwrs, i fi, mae symud ymlaen yn golygu buddsoddi’r biliynau o bunnau arfaethedig oedd yn y project gwreiddiol i mewn i ffynonellau ynni adnewyddadwy, a datgloi y potensial aruthrol hwnnw sydd gennym ni yng Nghymru. 

Wel, yn wir. Credaf y gallai Llywodraeth y DU ystyried gwneud yn union hynny. Rydym yn edrych ar nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr a allai ddenu cyllid Llywodraeth y DU. Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar Wylfa Newydd am y tro oherwydd rhaid i ni roi ein prif sylw i hynny dros y dyddiau nesaf, ac wythnosau nesaf yn wir. Nid ydym yn gwybod eto beth a olygir wrth 'oedi', os mynnwch chi. A fyddai'n golygu oedi ym mhroses y gorchymyn caniatâd datblygu? Fy nealltwriaeth i yw efallai nad yw hynny'n wir, a byddai proses y gorchymyn caniatâd datblygu yn parhau. Buaswn yn gobeithio y byddai'n parhau. A fyddai 'oedi' yn golygu dweud wrth y prentisiaid nad oes angen iddynt gwblhau eu fframweithiau am y tro? Wel, unwaith eto, buaswn yn gobeithio na fyddai'n golygu hynny ac y gallai'r prentisiaid gwblhau eu fframweithiau a chael gwaith arall, hyd nes y gellir tynnu'r prosiect oddi ar y silff unwaith eto. Rydym yn mynd i orfod cymryd cam yn ôl yfory, os gwneir y penderfyniad i oedi'r prosiect, ac asesu pa fuddsoddwyr eraill hyfyw a allai fod ar gael, ac asesu a oes gan Lywodraeth y DU awydd i gynyddu ei chyfran yn y prosiect, er mwyn ei gael yn weithredol unwaith eto.

Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr ynglŷn â diwylliant Japan, a phwysigrwydd peidio â cholli wyneb. Yn yr un modd, o fod wedi siarad â buddsoddwyr yn Japan, ac ar ôl siarad gyda Hitachi, rwy'n gwybod eu bod yn ystyried y prosiect hwn yn un pwysig iawn. Ac nid ydynt am golli wyneb gyda'u ffrindiau ym Mhrydain, fel y maent yn ei weld, drwy gael gwared ar y cynllun hwn sy'n ennyn cefnogaeth y mwyafrif ar Ynys Môn, cynllun a allai gynnig cyfleoedd trawsffurfiol i nifer fawr iawn o bobl, ac a fyddai'n dangos cysylltiad cryf rhwng Cymru, y DU a Japan. Felly, bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn drylwyr iawn, ac os caiff ei oedi, buaswn yn gobeithio mai dyna'n union a fydd—oedi—ac y gall y prosesau, megis y broses gorchymyn caniatâd datblygu, barhau, er mwyn gallu tynnu'r rhaglen oddi ar y silff a'i chwblhau gan fuddsoddwr arall, neu er mwyn i Hitachi ei thynnu oddi ar y silff wedi i Lywodraeth y DU gynyddu ei chynnig, fel rwy'n ei obeithio.

15:35

Weinidog, fe wnaethoch honiad mawr pan ymateboch chi i'r Aelod o Ynys Môn, pan ddywedoch y dylid ystyried y safle ar gyfer ei wladoli. Ai polisi swyddogol Llywodraeth Cymru yw y dylid gwladoli'r cynllun hwn, oherwydd, fel y dywedais, mae hwnnw'n honiad mawr iawn? A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar bŵer niwclear yn fwy cyffredinol, oherwydd, yn amlwg, dywedodd y Prif Weinidog presennol y dylid trin ynni niwclear yn sgeptig. Ac a fu newid yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n cynnig ei chefnogaeth i brosiectau ynni niwclear? Oherwydd fe ddywedodd aelodau eraill o'r Cabinet—dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd, er enghraifft, fod sylwadau o'r fath yn peri gofid, a dywedodd y Gweinidog cysylltiadau allanol y byddai'n niweidiol iawn pe bai newid o'r fath yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n pwysleisio bod y Prif Weinidog wedi dweud mai ei sylw personol oedd ei fod yn sgeptig niwclear, am reswm da iawn, oherwydd digwyddiadau a damweiniau sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Fodd bynnag, credaf ei bod hi'n gydnabyddedig mai ein polisi yw cefnogi'r diwydiant ynni niwclear, fel rhan o'r cymysgedd ynni, a chymysgedd ynni angenrheidiol iawn. Ac o ran fy ngalwad am wladoli'r prosiect, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelodau'n ei gefnogi, ond hefyd, yn bwysicach, caiff ei gefnogi gan Weinidogion ac Aelodau Seneddol yr wrthblaid, sy'n ceisio pwyso ar Lywodraeth y DU i gynnig y cyfraniad uchaf a all, ac os oes angen, os na chynigir yr un opsiwn arall, i wladoli'r rhaglen.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gynharach heddiw, noddais ddigwyddiad i lansio gwobrau cymwysterau galwedigaethol 2019. Mae'r gwobrau yn awr yn eu deuddegfed flwyddyn yn olynol, a'u nod yw codi statws dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol. Yn wir, eu diben yw sicrhau ein bod yn ystyried cymwysterau galwedigaethol fel llwybr uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer pawb, a'n bod yn eu hystyried o'r un gwerth â llwybrau addysgol eraill. Yn hyn, maent yn cydgordio'n agos â nod Llywodraeth Cymru, fel y'i nodwyd yn 'Ffyniant i Bawb', i wneud yn siŵr nad oes unrhyw rwystrau artiffisial rhwng cymwysterau galwedigaethol a rhai academaidd.

Mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn un o drefnwyr y gwobrau, ynghyd â ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Heddiw yw dechrau'r broses enwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Bydd enillwyr mewn pedwar categori—dysgwyr canolradd, dysgwyr uwch, cyflogwyr, a hyfforddwyr. Bydd y broses yn dod i ben ar ddiwrnod y cymwysterau galwedigaethol—dathliad o gymwysterau galwedigaethol, a gynhelir ar 15 Mai. Tra'u bod yn cydnabod llwyddiannau eithriadol, drwy eu bodolaeth mae'r gwobrau cymwysterau galwedigaethol a'r diwrnod cymwysterau galwedigaethol yn nodi manteision un maes yn ein system addysg nad yw bob amser yn cael y sylw a ddylai, ond un sy'n hollbwysig i sicrhau bod dysgwyr, cyflogwyr a'n heconomi yn ehangach yn cael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ffynnu yn y dyfodol. Felly, llongyfarchiadau i enillwyr y llynedd, a phob lwc i ymgeiswyr 2019.

Diolch yn fawr iawn.

Symudwn ymlaen at gynigion o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl ac ar gyfer pleidleisio. O'r gorau. Iawn.

15:40
Cynigion o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i bwyllgorau

Cynnig NDM6922 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Lee Waters (Llafur).

Cynnig NDM6923 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Jack Sargeant (Llafur).

Cynnig NDM6924 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jane Hutt (Llafur).

Cynnig NDM6925 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Vikki Howells (Llafur).

Cynnig NDM6926 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Julie Morgan (Llafur).

Cynnig NDM6927 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Jayne Bryant (Llafur).

Cynnig NDM6928 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jane Hutt (Llafur).

Cynnig NDM6929 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jenny Rathbone (Llafur).

Cynnig NDM6930 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Jayne Bryant (Llafur).

Cynnig NDM6931 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Jack Sargeant (Llafur).

Cynnig NDM6932 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Julie Morgan (Llafur).

Cynnig NDM6933 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rees (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Rhianon Passmore (Llafur).

Cynnig NDM6934 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle David Rees (Llafur).

Cynnig NDM6935 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Jane Hutt (Llafur).

Cynnig NDM6936 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6938 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Lee Waters (Llafur).

Cynigiwyd y cynigion.

Rydych chi'n cynnig yn ffurfiol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol Aelod i bwyllgor

Mae gennym gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol Aelod i bwyllgor. Felly, galwaf eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6937 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw derbyn y cynnig hwnnw. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol: Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6913 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe welwch fod hwnnw'n deitl bachog iawn. Bydd yr Aelodau'n falch nad diben y ddadl fer hon yw edrych ar fwriad polisi Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 nac yn wir, i herio o ddifrif honiad Llywodraeth Cymru ei bod yn briodol i'r Cynulliad hwn gytuno i'r cynnig cydsyniad offeryn statudol hwn. Mae hyn yn ymwneud mwy â thynnu sylw'r Aelodau, unwaith eto, at allu Llywodraeth y DU i greu is-ddeddfwriaeth ar faterion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon ac ystyried pryderon ynglŷn â sut y gall y Senedd hon gynnal ei throsolwg ei hun o sut y mae deddfwriaeth sylfaenol sy'n berthnasol i ni yn cael ei diwygio drwy is-ddeddfwriaeth Senedd arall.

Hyd yn hyn, yn ddealladwy rydym wedi canolbwyntio ein sylw ar ddeddfwriaeth sylfaenol a chynigion cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig, ac rydym wedi dod ar draws Biliau ar amaethyddiaeth a gofal iechyd sydd o bosibl wedi achosi i bwyllgorau godi eu haeliau. A bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddigon i'w ddweud maes o law ynglŷn â dewisiadau Llywodraeth Cymru o ran a ddylid argymell cynigion cydsyniad deddfwriaethol ai peidio, yn ogystal ag ansawdd y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad i'n helpu i graffu ar y dewisiadau hynny.

Pa mor hawdd yw hi felly i golli golwg ar y pentwr o is-ddeddfwriaeth y dylai'r un egwyddorion fod yn berthnasol iddynt? Mae Llywodraeth y DU yn gosod llawer o offerynnau statudol, sy'n effeithio ar lawer mwy o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol, er mwyn rhoi cyfraith yr UE a gedwir mewn grym ar ôl Brexit. A gallai'r rhain drosglwyddo swyddogaethau gweithredol mewn meysydd lle y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol i Weinidogion Cymru, neu yn wir Ysgrifenyddion Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ac yn wir, maent yn gwneud hynny. Ac am ein bod yn sôn am offerynnau statudol, sy'n weithredol mewn meysydd cymhwysedd datganoledig, mae angen inni ddeall beth y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno iddo mewn gwirionedd ar ein rhan, ac wrth gwrs ar eu rhan eu hunain.

Ceir proses Rheol Sefydlog ar gyfer hyn, ond mewn gwirionedd mae'r Llywodraeth yn penderfynu a allwn ddibynnu ar offerynnau statudol Llywodraeth y DU neu a ddylent gyflwyno'u his-ddeddfwriaeth eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r adroddiadau a gawn gan Lywodraeth Cymru yn nodi y gallwn gytuno ar offerynnau statudol y DU, gan nad oes gwahaniaeth o ran polisi ac mae'n golygu bod y llyfr statud yn gliriach. Dyna yw cynnwys cyffredinol y memoranda esboniadol a ddaw i'r Aelodau yn argymell cefnogaeth y Cynulliad heb fod angen dadl: 'Nid oes dim i'w weld yma. Mae popeth mewn trefn. Pam gwastraffu amser y Cyfarfod Llawn?'

Gyda chymaint o offerynnau statudol yn dod drwodd o'r DU a meysydd datganoledig, mae angen i ni, fel Aelodau Cynulliad, fod mewn sefyllfa lle y gallwn ddibynnu ar farn Gweinidogion ac osgoi'r angen am ddadl. Fodd bynnag, mae yna achlysuron, a nifer cynyddol ohonynt, lle na allwn ddibynnu'n ddiogel ar y farn honno. Ac nid mater o fod y farn yn anghywir, ond nid oes gennym y dystiolaeth i gefnogi'r farn honno, a dyna pam rwy'n fwriadol wedi dewis yr enghraifft eithaf diniwed hon, gobeithio, i wneud fy mhwynt.

Cawn wybod yn y datganiad eglurhaol gan y Gweinidog y gallai'r offeryn statudol hwn ar gyfer y DU effeithio ar ein cymhwysedd deddfwriaethol a chymhwysedd gweithredol y Gweinidog oherwydd bod gennym rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol yng nghyswllt yr amgylchedd morol. Roedd cynnig y Gweinidog ei hun yn cynnwys ychydig mwy o fanylion ar bwerau presennol, ond dim mwy ar ein cymhwysedd deddfwriaethol, heblaw ei fod yn amodol ar ychydig o faterion a gedwir yn ôl. Rhoddir rhai enghreifftiau, ond ni cheir manylion pendant. Mae hefyd yn offeryn statudol gweithdrefn negyddol, sy'n cyfyngu ar drosolwg Senedd y DU, felly mae'r gwaith craffu eisoes yn llai na'r hyn a fyddai'n ddelfrydol.

Fy nadl i i Lywodraeth Cymru yw hyn: os credwch fod offeryn statudol y DU yn iawn a'ch bod am inni dderbyn eich cyngor heb ei drafod, rhowch gyngor llawnach i ni. Os oes rhywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol gennym, nodwch beth ydyw. Os oes gan Weinidogion Cymru bwerau Gweithredol amrywiol o dan nifer o ddeddfiadau, dywedwch wrthym beth ydynt. Ac fel y byddwch yn gweld, rwyf wedi gorfod drafftio, gyda help wrth gwrs, a gosod fy nghynnig cydsyniad tebyg iawn fy hun er mwyn gwneud hyn, ac fel AC, nid oes gennyf adnoddau i ymchwilio ac i gael gafael ar y wybodaeth y gall gweision sifil ei chael. Mae eich swyddogion yn gwybod beth yw'r cymhwysedd deddfwriaethol hwnnw a beth yw'r pwerau Gweithredol hynny i wneud yr honiadau yn y lle cyntaf. Felly, nid yw'n ddigon dweud wrthym pa ddeddfwriaeth bresennol sy'n cael ei diwygio, mae angen cyd-destun ac eglurder arnom ynghylch effaith y newid ac mae angen i Weinidogion fod yn effro i hynny cyn iddynt ei gymeradwyo.

Felly, pam y mae hyn yn bwysig? Mae cymaint o'r offerynnau statudol hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, a gallant roi pwerau i Weinidogion Cymru. Ac os yw'r unig graffu a gawn yn seiliedig ar gyngor i'r Gweinidog, mae angen i'r cyngor fod yn glir, yn gynhwysfawr a gallu goresgyn unrhyw le i amau bod gwrthdaro buddiannau, oherwydd ni ddylem ganiatáu i seneddau eraill roi pwerau i'n Gweinidogion heb i ni sicrhau ein bod yn deall sut, ble, pam a beth. Rwy'n deall yr eironi o ofyn i chi gydsynio i offeryn statudol rwyf newydd gyfaddef nad wyf yn ei ddeall yn iawn fy hun, ond rwy'n gobeithio ei fod yn profi'r pwynt. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy nghyfraniad y prynhawn yma'n nodi ystyriaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o'r memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018. Ystyriodd y pwyllgor femorandwm cydsyniad offeryn statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 yn y cyfarfod ar 10 Rhagfyr 2018. Bryd hynny, nododd y pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, a oedd yn datgan:

O ystyried faint o ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad yn ei hystyried, nid wyf o'r farn y byddai dadl am yr offeryn statudol hwn yn ddefnydd cynhyrchiol o amser gwerthfawr y Cyfarfod Llawn.

Fel a ganiateir gan y Rheolau Sefydlog, ar 31 Rhagfyr 2018, gosododd Suzy Davies AC femorandwm cydsyniad offeryn statudol pellach gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018. Ystyriodd y pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwnnw yn y cyfarfod ddydd Llun diwethaf, ac wrth wneud hynny, nodwyd rhesymau'r Aelod dros osod y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chyflwyno'r cynnig. Diolch.

A gaf fi gymeradwyo Suzy Davies am gynnig y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwn a'i chynnig cydsyniad dilynol, oherwydd—? Y darlun ehangach, rydym yn y sefyllfa hon mewn perthynas â rheoliadau Brexit ac mae'n rhaid inni ddal ati, ac nid wyf am ailadrodd ein hofnau eto ar yr ochr hon ynglŷn ag unrhyw ymgais i gipio grym yn sgil Brexit. Dyna'r darlun ehangach. Fel y clywsom, mae Rheol Sefydlog 30A yn nodi bod yn rhaid i'r Llywodraeth osod memorandwm a chynnig cydsyniad offeryn statudol os bydd offeryn statudol y DU yn caniatáu i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol yma yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Dyna pam ei bod yn bwysig, ac fel y dywedais, rwy'n cymeradwyo Suzy am gyflwyno'r mater hwn a thaflu goleuni ar bwysigrwydd hyn. Nid oes unrhyw anghytuno penodol o ran yr offeryn penodol sydd ger ein bron, nid yw ond yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft, gan fod gennym fframweithiau cyffredin bellach i roi trefn ar ddeddfwriaeth ymadael â'r UE. Fel y clywsom, mae llawer iawn o is-ddeddfwriaeth ar y ffordd.

Rydym yn sôn llawer am gydlywodraethu. Mewn geiriau eraill, nid yw'n fater syml o un Lywodraeth mewn un lle yn dweud wrth Lywodraeth arall mewn lle arall beth i'w wneud. Mae llywodraethu i fod i gael ei rannu bellach mewn ysbryd agored o barch a hyder yn ein gilydd. Ond yn amlwg, ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rydym yn poeni ynglŷn â phethau fel hyn. Rydym yn poeni nid yn unig am golli pwerau o'r sefydliad hwn i San Steffan, rydym hefyd yn poeni am y posibilrwydd o golli pwerau o'r ddeddfwrfa hon i'n Llywodraeth ein hunain. Mae'r ddau beth hynny'n mynd â llawer o'r amser, a dyna'r fframwaith lle rydym yn cael y drafodaeth hon.

Felly, mae a wnelo hyn â gallu'r ddeddfwrfa hon i ddwyn y Llywodraeth hon i gyfrif, a dyna bwysigrwydd y ddadl fach hon y prynhawn yma, gan mai memoranda cydsyniad offeryn statudol yw'r hyn sy'n cyfateb mewn is-ddeddfwriaeth i gynigion cydsyniad deddfwriaethol ac mae gennym gynnig cydsyniad deddfwriaethol diweddar ar y trefniadau iechyd cyfatebol lle rydym wedi gweld ymgais eithaf amlwg gan Lywodraeth San Steffan i ehangu cwmpas y trefniadau iechyd cyfatebol o drosglwyddo swyddogaethau yn unig—. Dyna roedd pob un ohonom yn ei ddisgwyl, dim mwy na throsglwyddo swyddogaethau oherwydd Brexit, trosglwyddiad syml, ac rydym wedi gweld ymgais gwbl amlwg i ehangu cwmpas hynny, ac ar hyn o bryd, mae'r Gweinidog iechyd yma, yn briodol, yn bwriadu gwrthod cydsyniad deddfwriaethol oni chaiff y Bil penodol hwnnw ei ddiwygio yn unol â'n holl bryderon yma. Felly, dyna bwysigrwydd y ddadl hon.

Efallai ei fod yn bwynt cyfansoddiadol mursennaidd, ond mae'n un pwysig tu hwnt gan fod nifer y memoranda cydsyniad offeryn statudol sydd ar y ffordd yn syfrdanol, ac fel y dywedodd Suzy, mae gennym lawer iawn o adroddiadau yn dweud yr un peth yn union, ac mae ein cymorth deddfwriaethol yma'n gweithio'n hynod o galed i ddal i fyny gyda phopeth, ac mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar bethau, oherwydd weithiau, o bosibl, gellid cytuno i bethau os nad ydym yn cadw llygad ar y manylion bychain.

Felly, rwy'n ddiolchgar i Suzy ein bod yn gallu taflu goleuni ar hyn. Mae'n amlygu'r posibilrwydd y gall deddfwrfa'r Cynulliad hwn, weithiau, gael ei hanwybyddu am nad oes digon o amser, am nad yw'n ddigon pwysig, am fod gormod o waith, ac am mai rhywbeth rhwng un Llywodraeth a'r llall ydyw—wel, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r ddeddfwrfa hon. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad? Lesley Griffiths.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn. Meddyliais tybed ai manylion Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 roeddech yn awyddus i'w harchwilio'n fanwl. Ni fuaswn yn ei alw'n ddiflas, buaswn yn ei alw'n dechnegol, ond—. Nid wyf yn credu ei fod yn fursennaidd, chwaith. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd yn bwysig iawn.

Hoffwn ddweud bod ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi creu rhaglen ddeddfwriaethol ddigynsail ar draws pob Llywodraeth yn y DU; mae pob un ohonom yn gweithio i ddiwygio cyfraith sy'n deillio o'r UE fel bod gennym lyfr statud cwbl weithredol pan fyddwn yn ymadael, pa bryd bynnag fydd hynny, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod modd i lyfr statud Cymru barhau i fod yn weithredol.

Mae ein hymagwedd yma'n adlewyrchu'r angen real a dybryd i ymateb i'r amgylchiadau eithriadol sydd ynghlwm wrth Brexit, yn hytrach nag unrhyw ymgais o gwbl i gyfyngu ar neu lesteirio rôl y Cynulliad fel deddfwrfa. Roedd angen gweithio gyda Llywodraeth y DU ar rai agweddau ar y broses o ddeddfu ar gyfer Brexit oherwydd maint y ddeddfwriaeth sydd ei hangen. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cynhyrchu ei hofferynnau statudol ei hun mewn rhai meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru yn unig o dan delerau'r cytundeb rhynglywodraethol. Rydym yn hysbysu'r Cynulliad pryd bynnag y gosodir offerynnau statudol y DU rydym wedi cydsynio iddynt gerbron y Senedd, a hyd yn hyn, rydym wedi hysbysu'r Cynulliad ynglŷn â 76 offeryn o'r fath. Nid yw Gweinidogion Cymru ond yn cydsynio i offerynnau statudol y DU lle na cheir unrhyw wahaniaeth polisi rhwng Cymru a'r DU, ac mae'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru wedi'u cynllunio i sicrhau cydbwysedd rhwng y gyfres anarferol o ofynion a grëwyd gan Brexit, gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleoedd ymarferol gorau posibl ar gyfer craffu ar y camau deddfwriaethol hynny sydd â diben o sylwedd yn hytrach na diben technegol yn unig.

Ddirprwy Lywydd, credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Aelodau yn cydnabod, pe baem wedi penderfynu gwneud pob cywiriad deddfwriaethol mewn perthynas ag ymadael â'r UE ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli yng Nghymru yn unig, y byddai wedi bod angen gosod 200 o offerynnau statudol ac o leiaf bedwar Bil gerbron y Cynulliad yn ogystal â'r ddeddfwriaeth arferol. Ni fyddai modd pasio'r Biliau angenrheidiol yn yr amser a fyddai ar gael heb ddilyn y weithdrefn garlam, a fyddai, unwaith eto, yn cyfyngu ar waith craffu'r Cynulliad. Hyd yn oed wedyn, hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r holl fusnes arall, byddai wedi cymryd oddeutu chwe mis o amser y Cynulliad. Felly, ni chredaf ei fod yn fater ohonof fi'n meddwl ei fod yn wastraff ar amser y Cynulliad; rwy'n credu ei fod yn ymarferol iawn, dyna i gyd.

Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd fy mod yn ystyried pob offeryn statudol ar sail unigol, sy'n rhywbeth y byddai pob un ohonoch, wrth gwrs, yn disgwyl i mi ei wneud. Mae fy swyddogion yn rhoi cyngor manwl iawn i mi. Rwyf hefyd wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'r offerynnau statudol hyn. Ond yn sicr, buaswn yn fwy na pharod i ystyried eich awgrymiadau, Suzy Davies, i weld a allwn ddarparu mwy o fanylion yn y datganiadau ysgrifenedig y byddwn yn eu cyflwyno. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am ganiatáu ychydig eiliadau ychwanegol imi ar hyn. Yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog ac i Dai Lloyd am eu cyfraniadau. Roedd rhan o'r ddadl hon yn ymwneud â rhoi cyfle i'r Gweinidog esbonio i bob un ohonom faint yn union o waith sydd o dan sylw, ond nid yw hynny'n golygu nad oes yn rhaid i Weinidogion roi'r esboniad perthnasol llawnaf i ni er mwyn ein helpu i fod yn sicr eich bod yn gwneud y peth iawn ar ein rhan. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud eich bod yn cael y cyngor llawnaf gan eich swyddogion. Er nad ydym o reidrwydd yn dymuno rhywbeth o'r un maint â stamp, os gallwch gael rhywbeth sydd rhwng yr hyn rydym yn ei gael ar hyn o bryd a'r hyn rydych chi, o bosibl, yn ei gael gan eich swyddogion, credaf y byddai hynny'n darparu rhywfaint o sicrwydd i ni fel Senedd ein bod yn gwneud y peth iawn yn ymddiried yn eich crebwyll.

Ac a gaf fi ymddiheuro bod y ddadl benodol hon wedi dod i'ch rhan chi, gan fod y pwynt hwn yn un cyffredinol i bob aelod o'r Llywodraeth, ac nid yn unig i'r Gweinidog druan sydd wedi gorfod ymateb heddiw? Diolch.

15:55

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Cyn imi alw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i wneud y cynnig, a gaf fi wneud apêl? Mae gennym lawer—llawer—o siaradwyr sy'n dymuno siarad, felly, os gallwch docio eich cyfraniadau, byddai hynny'n dda iawn; byddech yn cael mwy o bobl yn rhan o'r ddadl. Ond os na, mae arnaf ofn fy mod yn ymddiheuro yn awr i rai ohonoch; ni chewch eich galw. Felly, os gallwch gadw hynny mewn cof. Felly, fe symudwn ymlaen yn awr at y ddadl, a galwaf ar yr Aelod sy'n gyfrifol am y cynnig i wneud y cynnig hwnnw—Paul Davies.

Cynnig NDM6920 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o agor y ddadl heddiw fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Awtistiaeth (Cymru). Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn ar y cychwyn i ddiolch i Catherine Hunt a'i thîm am eu cymorth aruthrol a'u harweiniad yn ystod datblygiad a hynt y Bil hwn. A gaf fi ddiolch hefyd i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r rhanddeiliaid a'r bobl ddi-rif ar hyd a lled Cymru sydd wedi helpu i wneud y Bil hwn yn realiti?

Hoffwn ddiolch i bob un o'r pwyllgorau sydd wedi bod yn ystyried ac yn adrodd ar y Bil a'r rhai sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor drwy ddarparu tystiolaeth. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau hynny am eu gwaith yn craffu ar y Bil a'r argymhellion defnyddiol y maent wedi'u gwneud. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn amlinellu fy ymateb i'r argymhellion a chyhoeddwyd y llythyr cyn y ddadl hon. Rwyf wedi ystyried pob un o'r adroddiadau a'u hargymhellion yn ofalus, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gallu gweld fy ymateb a chydnabod fy mod wedi gwrando ar y pryderon a godwyd. Lle y bo modd, rwyf wedi derbyn yr argymhellion ac rwyf wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith ymchwil pellach neu gyflwyno gwelliannau i'r Bil er mwyn lliniaru pryderon.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau'n fyr mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynglŷn â'r rhwymedïau sydd ar gael i ddinasyddion os nad ydynt yn cael y gwasanaethau y maent yn eu disgwyl. Llwyr gefnogaf y rhesymeg wrth wraidd yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, fel yr eglurais yn fy ymateb ysgrifenedig, ni allaf ei roi ar waith ar hyn o bryd. Os derbynnir yr egwyddorion cyffredinol, gallaf sicrhau'r Aelodau y buaswn yn hapus i weithio gydag Aelodau, neu i ystyried unrhyw welliannau a gyflwynir yn ystod y cyfnodau diwygio, gyda'r nod o gryfhau'r Bil yn hyn o beth. Rwy'n cydnabod bod aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi methu cyrraedd consensws ar ba un ai'r Bil hwn yw'r ffordd orau o gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau awtistiaeth, ond pwysleisir y ffaith fod angen gwelliannau yn ei adroddiad drwyddo draw. Credaf y bydd fy Mil yn ysgogi'r gwelliannau angenrheidiol.

Fel y dywedais pan gyflwynais y Bil hwn, dangosodd tystiolaeth o'r ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd gennyf fod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn anghyson ledled Cymru ac mewn rhai ardaloedd, maent yn annigonol. Roedd hyn yn amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd, a ddywedodd fod teuluoedd y clywodd ganddynt wedi bod yn aros ers 10 mlynedd i'r strategaeth awtistiaeth ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond maent yn dal i'w chael hi'n anodd. Pobl go iawn ym mhob un o'n hetholaethau yw'r teuluoedd hyn. Nid yw plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn cyflawni eu potensial. Mae rhieni'n anobeithio am nad yw'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar gael. Ni ddylem ddal i fod mewn sefyllfa lle y mae rhieni'n dweud nad yw'r gwasanaethau yno a bod popeth yn frwydr. Mae'r teuluoedd hyn yn haeddu gwell.

Mae pobl ag awtistiaeth wedi aros yn ddigon hir. Mae angen gweithredu ar frys yn awr i sicrhau bod rhagor o wasanaethau cymorth yn cael eu rhoi ar waith. Nid fy marn i yn unig yw honno; dyna gasgliad y pwyllgor iechyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafodd yn uniongyrchol gan deuluoedd. Mae'r profiad byw a rennir gyda'r pwyllgor yn tystio i'r ffaith nad yw'r trefniadau presennol yn addas i'r diben. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yr anawsterau presennol sy'n wynebu pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd wrth geisio cael cymorth yn annerbyniol. Dyna pam y mae'r Bil hwn mor bwysig.

Bydd y Bil yn sicrhau bod strategaeth awtistiaeth genedlaethol Cymru yn ofyniad statudol, a bydd y gwasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl eu cael wedi eu hymgorffori yn y gyfraith. Rwy'n cytuno gyda'r pwyllgor iechyd fod angen dybryd i wella gwasanaethau cymorth awtistiaeth a bod rhaid rhoi sylw i hyn fel blaenoriaeth. Rwy'n credu'n gryf mai deddfu yn y modd hwn yw'r ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu. Mae fy Mil yn nodi bod awtistiaeth yn gyflwr sy'n galw am fwy o sylw, ac mae'n anfon neges gref fod Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael gwasanaethau hygyrch o ansawdd uchel lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru ar sail barhaol.    

Rwy'n rhannu pryderon a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhyngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r Bil hwn. Cytunaf yn llwyr â'r pwyllgor fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth ariannol i Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt baratoi deddfwriaeth, ac yng ngoleuni ymateb y Prif Weinidog i'r pwyllgor, mae fy mhryderon yn parhau.

Mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir nad yw'n cefnogi'r Bil hwn. Yn lle hynny, mae'n ymgynghori ar god ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Dywedodd wrth y pwyllgor y bydd y cod yn gwneud popeth y mae'r Bil am ei wneud, ond nid wyf yn credu y bydd y cod yn ddigon i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau. Caiff fy mhryderon eu rhannu gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ac eraill, ac fe amlinellaf rai o'r rheini heddiw.

Byddai fy Mil yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth awtistiaeth, yn ogystal â'i hadolygu a'i ddiwygio yn seiliedig ar asesiad annibynnol, ond nid oes unrhyw gyfeiriad yn y cod at ddyletswyddau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, adolygu neu ddiwygio'r cod neu gynllun gweithredu ar awtistiaeth. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r cod arfaethedig yn orfodaeth ar gyrff iechyd. Testun pryder pellach i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yw'r ffaith y gall Llywodraeth Cymru wrthdroi'r cod ar unrhyw adeg. Mae hyn yn wahanol iawn i'r drefn barhaol a hollgynhwysol a nodir yn y Bil.

Mae fy Mil yn clymu'r amserlen ar gyfer diagnosis o awtistiaeth wrth y rhai a nodwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), tri mis rhwng atgyfeirio a dechrau asesu diagnostig. Mae'r amser aros hir am ddiagnosis yn faes pryder enfawr i lawer o bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae safonau NICE yn seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd clinigol, ond er ei bod yn cydnabod pwysigrwydd ac awdurdod NICE mewn agweddau eraill ar ofal iechyd, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis eu hanwybyddu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer gwneud diagnosis o awtistiaeth, ac mae'n parhau i lynu at darged o 26 wythnos ar gyfer plant a hyd yn hyn, ni cheir targed ar gyfer oedolion. Rwyf eto i weld y dystiolaeth y seiliwyd y targed hwn arni.

Mae'r cod wedi ei glymu'n dynn wrth Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ond mae fy Mil i'n cynnwys darpariaethau sy'n llawer ehangach na'r Deddfau hynny. Mae fy Mil yn darparu ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth a'u gofalwyr o ran y Gymraeg, cyflogaeth, addysg ac eiriolaeth, ond nid oes unrhyw ddyletswyddau na gofynion yn y cod sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r meysydd hyn. Yn lle hynny, mae'r cod yn dweud y dylai byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn lawer yn wannach na'r ddyletswydd statudol yn y Bil, ac yn ei hanfod mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i wneud mwy o'r un peth. Rwy'n bryderus ynglŷn â chylch gorchwyl cul y cod, gan nad yw'n darparu ar gyfer yr agweddau ehangach ar fywyd unigolyn. Mae dull cyfannol ehangach yn hanfodol os ydym i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu cyflawni eu potensial, a byw bywydau gwerthfawr a chyflawn. Mae'r dystiolaeth rymus a roddwyd gan deuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth, drwy fy ymgynghoriadau ac yn ystod y gwaith craffu, yn ategu hyn a mwy.

Er bod y Bil yn cynnwys darpariaeth i sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu ac yn hwyluso'r broses o bontio rhwng plentyndod a bywyd fel oedolyn, mae'r cod yn cyfeirio at bontio wrth adael ysgol, ond ni cheir unrhyw ofynion neu ddyletswyddau yn y cod i hyrwyddo hyn mewn ffordd ystyrlon. Rydym oll yn ymwybodol o'r rôl werthfawr a chwaraeir gan deuluoedd a ffrindiau drwy ddarparu gofal anffurfiol i'w hanwyliaid, a dyna pam y mae fy Mil yn cryfhau ac yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr pobl ag awtistiaeth. Nid oes ymrwymiad o'r fath yn y cod, sydd ond yn cynnwys gofyniad i hysbysu gofalwyr am eu hawl i asesiad o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn peri pryder arbennig i mi, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion y gofalwyr hynny.

Hoffwn drafod yn awr y feirniadaeth o'r Bil sy'n dweud ei fod yn cael ei arwain gan ddiagnosis. Mae'r honiad yn gamarweiniol. Mae'r Bil yn ymwneud â mwy na diagnosis; yn hytrach mae'n cyflwyno cyfundrefn drosfwaol sy'n ceisio mynd i'r afael â holl anghenion person ag awtistiaeth cyn ac ar ôl diagnosis. Nid yw'r Bil yn nodi yn unman fod diagnosis o awtistiaeth yn ofyniad ar gyfer cael gwasanaethau, neu y dylai fod. Yn wir, nid yw cael diagnosis o awtistiaeth yn basbort awtomatig i wasanaethau. Mae fy Mil yn darparu'n benodol ar gyfer sicrhau y gellir darparu gwasanaethau cyn cael diagnosis ffurfiol.

Honnwyd y bydd y Bil yn arwain at gynnydd yn y nifer sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond pennir meini prawf diagnostig gan ddatblygiadau yn y wybodaeth wyddonol ac ymarfer proffesiynol, ac ni fydd hynny'n newid o ganlyniad i'r Bil hwn. Ac nid oes modd amddiffyn yn foesol y ddadl y dylai pobl ag awtistiaeth fethu cael diagnosis ar sail ariannol yn unig, neu oherwydd prinder adnoddau. Ar y llaw arall, bydd y gofynion casglu data yn y Bil yn helpu i nodi unrhyw duedd tuag at or-ddiagnosis gan fyrddau iechyd a fydd, yn ei dro, yn arwain at dargedu adnoddau'n fwy effeithlon.

Mae'r dystiolaeth o dreialon presennol yng Nghymru wedi sefydlu'n eglur y gall casglu data allweddol gan y GIG, fel y data a nodir yn adran 6 o'r Bil, arwain at welliannau hirdymor mewn diagnosis o awtistiaeth a darparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig. Ni fyddai'r gofynion casglu data cyfyngedig a heb eu profi yn y cod arfaethedig yn cynnig y manteision hyn. Rwy'n derbyn bod mentrau wedi'u datblygu'n ddiweddar, yn enwedig sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'r Gweinidog wedi dweud wrth y Cynulliad fod angen amser i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ymsefydlu. Eto i gyd, mae dau o'r saith gwasanaeth yn dal i fod heb eu rhoi ar waith eto—nid oes disgwyl i orllewin Cymru a'r bae Gorllewinol fod ar waith tan fis Ebrill 2019. Mae'r broses hon wedi cymryd llawer gormod o amser. Sut y gall yr Aelodau fod yn hyderus y bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu ar gyfer eu hetholwyr pan fo cynifer ohonynt yn dal i aros i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno? At hynny, nid yw'r gwerthusiad terfynol o'r cynllun gweithredu strategol a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyhoeddi eto. Bydd yr adroddiad terfynol yn darparu tystiolaeth annibynnol bwysig ar effeithiolrwydd cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar awtistiaeth. A heb weld y wybodaeth hanfodol hon, ni all yr Aelodau wneud asesiad ystyrlon o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu.

Hoffwn ddweud yn glir na fydd fy Mil yn arwain at newidiadau enfawr i strwythur a chyfluniad gwasanaethau awtistiaeth, ond mae'n ceisio ategu ac atgyfnerthu  datblygiadau sydd eisoes ar y gweill. Mae fy Mil wedi'i gynllunio i ategu a bod yn gydnaws â gweithgareddau presennol Llywodraeth Cymru, ac eithrio gwelliannau allweddol penodol megis amseroedd aros diagnostig, ac fel y cyfryw, mae'n gwbl realistig a chyraeddadwy.

Nid ymwneud â pha un a fydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn dod yn ddeddf y mae'r bleidlais heddiw, ond yn hytrach â chytuno ar yr egwyddorion cyffredinol er mwyn i graffu allu digwydd. Os na dderbynnir yr egwyddorion cyffredinol heddiw, bydd y Bil yn methu, ac ni chaiff yr Aelodau gyfle arall i siapio'r ffordd y caiff gwasanaethau awtistiaeth eu datblygu yng Nghymru. Bydd cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol yn galluogi'r Aelodau i gyflwyno ac i drafod y gwelliannau yr hoffent eu gweld i'r Bil. Dyma'r unig ffordd o sicrhau bod yr Aelodau'n flaenllaw yn y gwaith o siapio datblygiad gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol. Ni fydd cyfle arall os yw'r Bil yn methu heddiw.

Er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar god, ni fydd yn ddarostyngedig i graffu i'r un graddau ag y bydd Bil, ac ni fydd yr Aelodau'n cael y gair olaf ar ei gynnwys. Rwy'n credu'n angerddol y bydd fy Mil yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol a chynaliadwy i fywydau pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yng Nghymru, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil pwysig hwn y prynhawn yma.

16:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cafodd y Bil ei gyfeirio at y pwyllgor iechyd ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Fel rhan o hyn, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ychwanegol at y gwaith casglu tystiolaeth ffurfiol arferol a wnaed yng nghyfarfodydd y pwyllgor, ymgynghorwyd â phobl efo anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd mewn cyfres o weithdai a gafodd eu trefnu gan dîm allgymorth y Cynulliad dros yr haf. Cyfarfu aelodau'r pwyllgor hefyd efo cynrychiolwyr rhieni ac ymweld ag Autism Spectrum Connections Cymru, siop un-stop sy'n darparu lle diogel i oedolion sydd efo cyflwr sbectrwm awtistiaeth i gael mynediad at ystod eang o gyngor a chymorth, i siarad gyda defnyddwyr gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith yma.

Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol oes fel dim arall. Dŷn ni wedi siarad efo pobl gydag awtistiaeth a'u teuluoedd sy'n cael trafferth, ac sy'n dweud eu bod nhw wedi aros 10 mlynedd am y strategaethau awtistiaeth i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac nad yw wedi digwydd. Mae'r pwyllgor yn deall rhesymeg yr Aelod sy'n gyfrifol wrth gyflwyno'r Bil yma, ac yn cytuno'n llwyr efo'r angen am welliannau yn y ddarpariaeth o wasanaethau i bobl sydd efo'r anhwylder. Dŷn ni wedi gwrando ar bobl sydd â'r anhwylder a'u teuluoedd, a dŷn ni wedi'n hargyhoeddi bod angen gwneud llawer mwy yn y maes hwn, yn enwedig o ran mynediad at wasanaethau cymorth. Mae'r anawsterau presennol y mae pobl efo awtistiaeth a'u teuluoedd yn eu hwynebu'n gyson wrth geisio cael cymorth yn annerbyniol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Y neges a ddaeth yn amlwg yn ein tystiolaeth yw bod angen mwy o wasanaethau cymorth ar frys i bobl sydd efo'r anhwylder.

Un maes o bryder penodol oedd darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth ac sydd ag IQ uchel a heb anabledd dysgu na chyflwr iechyd meddwl yr ymddengys eu bod nhw'n disgyn drwy'r bwlch. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym fod ganddi'r holl bwerau sydd eu hangen arni i sicrhau gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth yn y ddeddfwriaeth gyfredol yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, Deddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Fodd bynnag, dywedodd y rhieni a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws wrthym fod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn methu â sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer eu plant am nad yw'r asesiadau'n briodol ar gyfer pobl sydd efo'r anhwylder, ac felly maen nhw'n aml yn methu â chael gofal a chefnogaeth.

16:10

Fyddech chi’n cymryd—? Fyddech chi’n cytuno gyda fi fod rhai pobl yn ein rhanbarth ni wedi gorfod teithio i lefydd fel Norwich er mwyn cael cymorth preifat oherwydd eu bod nhw’n aros mor hir am asesiadau? Petasai yna Fil o’r fath sy’n cael ei gyflwyno yma heddiw, byddai modd i sicrhau eu bod nhw’n cael y driniaeth yn gynharach a’u bod nhw’n cael asesiad yn gynharach, a bod hynny yn rhoi rhyw fath o obaith i’r teuluoedd sydd yn dioddef ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr, Bethan. Mi fuaswn i’n cytuno. Dyna’r fath o dystiolaeth roedden ni’n ei chael drosodd a throsodd drwy’r ymgynghoriad yma wrth i ni graffu. Dywedodd y rhieni wrthym nad yw'r holl bobl uchel-weithredol sydd efo'r anhwylder yn gymwys am wasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf, ac er bod ganddyn nhw IQ uchel efallai y bydden nhw'n cael anhawster mawr wrth wneud tasgau dyddiol.

Dywedodd oedolion sydd ag awtistiaeth a gymerodd ran yn ymweliad y pwyllgor ag Autism Spectrum Connections Cymru yma yng Nghaerdydd wrthym eu bod nhw'n teimlo eu bod yn grŵp anweledig yn y gymuned awtistiaeth, gan nad oedden nhw'n perthyn i'r categori plant nac oedolion sydd angen gofal o ddydd i ddydd ac nad ydyn nhw'n effeithio ar ystadegau cyflogadwyedd ac anabledd. Clywsom eu bod nhw'n awyddus i weithio ond yn methu â chael swydd ac mae angen cymorth arnyn nhw i'w helpu i gael gwaith.

Nid ydym ni, fel pwyllgor, wedi gallu dod i gonsensws ynghylch ai'r ddeddfwriaeth hon, ar yr adeg benodol hon, yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflawni'r gwelliannau sydd ddirfawr eu hangen. Mae rhai Aelodau'n cefnogi cyflwyno'r Bil yma nawr, gan gredu ei bod yn amserol ac yn angenrheidiol rhoi gwasanaethau ar sail statudol i gyflawni gwelliant lle mae strategaethau blaenorol wedi methu â gwneud hynny, a sicrhau'r newid sy'n ofynnol i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae Aelodau eraill o'r farn bod angen rhoi mwy o amser i fentrau a deddfwriaeth bresennol ddod i rym. Roedd rhai hefyd yn pryderu ynghylch ffocws y Bil, y mae rhai o'r farn ei fod yn ddiagnosis yn hytrach nag ar sail anghenion, a'r canlyniadau posibl ar bobl na fyddan nhw'n derbyn diagnosis ar gyfer anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu sydd â chyflyrau niwrolegol eraill. Fodd bynnag, dŷn ni’n cytuno bod angen pwysig i wella gwasanaethau cymorth i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd ledled Cymru, a chredwn fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn fel mater o flaenoriaeth. 

I'r perwyl yma, dŷn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad o ddatblygu'r gwelliannau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth anhwylder sbectrwm awtistiaeth uniongyrchol ledled Cymru, y tu hwnt i’r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd gan y gwasanaeth awtistiaeth integredig, a sicrhau bod gwasanaethau’r trydydd sector yn derbyn cyllid cynaliadwy er mwyn gallu parhau â’u gwasanaethau cymorth arbenigol i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a’u hehangu. Yn ail, rhoi cyfarwyddyd i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i wella cysondeb y gwasanaethau ar draws y rhanbarthau, er mwyn sicrhau dull gweithredu cenedlaethol. Cymryd camau ar fyrder i fynd i'r afael â'r angen clir am gymorth cyflogaeth ar gyfer oedolion sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Nesaf, rhoi cyfarwyddyd i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau bod nifer o lwybrau atgyfeirio priodol a chlir ar gael i bawb, gan gynnwys llwybr gofal sylfaenol penodol, a bod y rhwystrau sy’n bodoli rhwng y sectorau iechyd, y sector gofal a’r sector addysg yn cael eu rhoi i’r neilltu, er enghraifft er mwyn galluogi meddygon teulu i allu atgyfeirio plant i gael cymorth addysgol. Gofyniad gorfodol i bob aelod o staff mewn ysgolion, yn enwedig athrawon a chynorthwywyr addysg, gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol athrawon ac fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.

Gwnaethom hefyd argymhelliad i'r Aelod sy'n gyfrifol, fel dŷn ni wedi ei glywed, pe bai'r Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod 2, y dylid cyflwyno gwelliant i sicrhau nad adolygiad barnwrol yw'r unig ffordd sydd ar gael i unigolion fynnu eu hawliau. Nodaf fod yr Aelod sy'n gyfrifol yn derbyn yr egwyddor y tu ôl i'r argymhelliad hwn, ond nid yw wedi gallu nodi ateb ymarferol i fynd i'r afael â'r mater. Mae hyn yn siomedig—ond gellir deall y rhesymau—am ei fod wedi dod o ganlyniad i'n sgyrsiau gyda rhieni a soniodd wrthym am eu pryder ynghylch eu gallu i gael atebion priodol pan fo angen, o ystyried cymhlethdodau proses yr adolygiad barnwrol.

Nid ydym eto, fel pwyllgor, wedi cael ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i’n hargymhellion, ac rwyf yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i gael cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru).

Nawr, ar yr achlysur hwn, nid oedd modd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Dyw hwn ddim yn safbwynt y mae'r pwyllgor am ei chymryd, gan, wrth gwrs, nad yw'n helpu Aelodau'r Cynulliad i graffu ar y ddeddfwriaeth dan sylw.

Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau presennol i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. Yn sgil hynny, ni chafodd y pwyllgor gyfle i drafod gwerth am arian opsiynau 1 a 2 yn llawn, gan nad oedd llawer o wybodaeth ar gael am gostau cyfredol Llywodraeth Cymru i lywio trafodaethau o'r fath. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth, fel prif ffynhonnell y wybodaeth ariannol, i ymgysylltu â'r broses hon, ac mae gennym ni bryderon sylweddol ynglŷn â diffyg ymgysylltu Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Nawr, fe roddwyd gryn sylw i'r honiad mai cyfrifoldeb yr Aelod sy'n gyfrifol yw cynhyrchu'r asesiad effaith rheoleiddiol a darparu costau ar ei gyfer e, ond mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb hefyd i ymgysylltu ac i gydweithio'n llawn â'r broses yma. Nawr, mae ein profiad ni ar yr achlysur hwn yn awgrymu nad yw hyn wedi digwydd. Mi ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet, fel oedd ei deitl e ar y pryd, i sesiwn dystiolaeth, gan gwestiynu nifer o'r ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, ni chawsom ni wybod am ei bryderon tan y cyfarfod hwnnw, ac roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn amharod i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys manylion am ei bryderon ynghylch y costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, cyfyngwyd ar allu'r pwyllgor i gwestiynu ac i graffu ar y tybiaethau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd eglurder ynghylch gwariant penodol y Llywodraeth ar anhwylder sbectrwm awtistiaeth o fewn y darlun ehangach o wariant ar gyflyrau datblygu niwrolegol. Mae'r diffyg gwybodaeth hwn yn peri pryder i'r pwyllgor. Sut y gallwn ni ystyried effeithiolrwydd un o bolisïau'r Llywodraeth heb wybod faint o arian sydd wedi'i wario arno fe? Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod ei chynllun strategol diwygiedig ar ASD yn cwmpasu pob un o rannau allweddol y Bil hwn, ac eto, nid oes ganddi unrhyw wybodaeth ariannol am yr hyn sy'n cael ei wario yn y maes yma. Roedd y diffyg gwybodaeth a'r diffyg ymgysylltu hwn yn golygu ei bod hi'n anodd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliadau. Er enghraifft, roeddem ni'n ansicr a oedd y galw ychwanegol posib am adnoddau a allai ddeillio o ddull gweithredu diagnosis wedi'i adlewyrchu'n llawn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid oedd modd inni brofi'r ansicrwydd hwn yn sgil diffyg gwybodaeth glir am yr arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau ASD.

Felly, ar yr achlysur yma, dyw'r pwyllgor ddim yn gallu gwneud penderfyniad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn. Dyw'r Aelodau ddim wedi cael unrhyw reswm ariannol sylweddol i'r ddeddfwriaeth beidio â symud yn ei blaen, ond dŷn ni ddim wedi gallu pennu a oes unrhyw werth am arian yn y ddeddfwriaeth hon yn sgil y diffyg gwybodaeth ariannol. Nawr, mae llwyddiant deddfwriaeth yn dibynnu ar wybodaeth gywir, ac roedd methu â darparu'r wybodaeth ar yr achlysur hwn wedi rhwystro'r broses graffu.

Rŷn ni'n credu bod hwn yn gynsail sy'n peri pryder, ac yn gynsail na ddylid ei ailadrodd. Mi fydden ni'n annog y Llywodraeth, os yw o'r farn ei bod yn briodol pleidleisio o blaid caniatáu i Fil Aelod symud yn ei flaen ar y cam 'caniatâd i fwrw ymlaen', hynny yw 'leave to proceed'—mi ddylai sicrhau ei bod yn barod i ymgysylltu'n llawn â'r Aelod sy'n gyfrifol. Gall beidio â gwneud hynny arwain at waith craffu gwael, gall arwain at ddefnydd gwael o amser y Cynulliad ac, yn wir, adnoddau'r Cynulliad, ac yn bwysicaf oll, wrth gwrs, gall arwain at annhegwch i randdeiliaid sydd â diddordeb dilys a gwirioneddol yn y pwnc sydd o dan sylw. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cyflwynwyd adroddiad gennym ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) ar 7 Rhagfyr ac fe wnaethom chwe argymhelliad. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein holl argymhellion, ac os yw'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2, edrychwn ymlaen at weld y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno. Bydd fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar ddau o'n hargymhellion: argymhellion 3 a 5. Y cyntaf o'r rhain: yn absenoldeb darpariaethau gorfodi yn y Bil, rydym yn bryderus ei bod hi'n ymddangos mai'r unig rwymedi posibl a allai fod ar gael fyddai camau i ofyn am adolygiad barnwrol, a chredwn fod hynny'n anfoddhaol oherwydd ei gymhlethdod, ei gost uchel a'r perygl o oedi. Mae ein hargymhelliad 3 yn awgrymu y dylai'r Aelod cyfrifol ailystyried a yw'r rhwymedïau sydd ar gael i ddinasyddion o dan y Bil yn briodol, ac os oes angen, dylid cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu ffordd fwy effeithiol o orfodi darpariaethau'r Bil.

Nodaf fod yr Aelod cyfrifol wedi dweud ei fod, ar hyn o bryd, wedi gallu nodi ffordd ystyrlon o ddiwygio'r Bil yn y cyswllt hwn. Fodd bynnag, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i weithio gydag Aelodau ac arbenigwyr eraill gyda'r nod o gryfhau rhwymedïau sydd ar gael o dan y Bil, os yw'n mynd ymlaen i'r cyfnod nesaf. Fodd bynnag, deil hwn i fod yn faes pryder pwysig i'r pwyllgor ac yn wendid yn y Bil ar ei ffurf bresennol.

Gan symud ymlaen, mae'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn adran 9 i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn eithriadol o eang. Rydym yn pryderu ynglŷn â'r ymagwedd hon am nifer o resymau. Mae'n amlwg o femorandwm esboniadol yr Aelod cyfrifol fod cryn dipyn o feddwl a gwaith ymchwil wedi mynd i baratoi Bil sy'n ymwneud yn unig ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu defnyddio is-ddeddfwriaeth i ymestyn darpariaethau'r Bil i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol—term nad yw'r Bil yn ei ddiffinio—amhenodol eraill heb warant y bydd y ddeddfwriaeth honno wedi'i hategu gan yr un lefel o dystiolaeth a dadansoddiad i'w chynnal. Pe bai'r Bil yn cael ei roi mewn grym, a phe defnyddid y pwerau yn adran 9(1), gallai ddod yn Ddeddf awtistiaeth sy'n berthnasol i amrywiaeth o anhwylderau niwroddatblygiadol ac nid awtistiaeth yn unig. Mae potensial i hyn achosi dryswch. At hynny, byddai'n golygu na fyddai is-ddeddfwriaeth a fo'n ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn ddarostyngedig i'r un lefel o graffu â'r Bil awtistiaeth, ond yn hytrach fel darn o is-ddeddfwriaeth, ac y byddai ehangu cymhwysiad y ddeddfwriaeth weithredol yn amodol ar bleidlais i'w derbyn neu ei gwrthod, heb gyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth honno. O ystyried ehangder y pŵer, nid ydym yn credu y byddai hyd yn oed cymhwyso gweithdrefn uwchgadarnhaol yn goresgyn ein pryderon.

Yn ein barn ni, nid yw dull gweithredu'r Bil yn ymarfer deddfwriaethol da ac ni fyddai'n arwain at ddeddfwriaeth dda. Am y rheswm hwnnw, awgrymodd ein hargymhelliad 5, os yw'r Bil yn symud ymlaen i'r cyfnod nesaf, y dylai'r Aelod cyfrifol gyflwyno gwelliant i adran 9(1) o'r Bil er mwyn dileu paragraff (b) ar y diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Wrth ffurfio'r farn hon, rydym yn cydnabod bod y darpariaethau wedi'u cynnwys ar sail ymatebion ymgynghoriad a ddaeth i law'r Aelod cyfrifol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, y ffordd briodol o fod wedi cyflawni hyn fyddai cyflwyno Bil yn ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn gyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y byddai hyn wedi bod y tu allan i delerau'r bleidlais ar gais gwreiddiol yr Aelod cyfrifol, ac roedd ei allu i wneud hyn yn gyfyngedig. Felly, mae'n destun pryder fod hyn yn ymddangos yn rhan o'r Bil.

Rwy'n nodi ac yn croesawu'r ffaith bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein casgliadau a'n hargymhellion ar y mater hwn. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

16:20

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau fod pawb yn y Siambr hon am wella canlyniadau ac ansawdd bywyd i bobl awtistig a'u teuluoedd. A chytunaf fod angen i gymorth i bobl awtistig fod yn well. Nid yw'r cymorth hwnnw ar gael yn gyson eto, ac i rai teuluoedd mae'n teimlo fel brwydr i gael y cymorth cywir ac fel pe bai'r system yn gweithio yn eu herbyn. Bydd llawer, os nad pob un ohonom ar draws y Siambr hon, wedi clywed am y profiad hwn yn uniongyrchol gan ein hetholwyr, ac yn cydnabod yr effaith y gall hyn ei chael ar deuluoedd y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu, ac yn fwy na hynny, mae nifer o bobl ar draws y Siambr yn gyfarwydd â'r profiad hwnnw yn ein teuluoedd ein hunain.

Ceir pryderon dilys a difrifol y mae'r Llywodraeth a minnau o ddifrif yn eu cylch ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n sylweddol, a bydd yn parhau i fuddsoddi, mewn gwasanaethau newydd. Nid a ddylem wella gwasanaethau i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad byw pobl awtistig a'u teuluoedd sydd wrth wraidd y gwahaniaeth rhyngom yn y Siambr hon; mae'r gwahaniaeth rhyngom yn ymwneud â sut y gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am ddwyn ynghyd ystod eang o safbwyntiau wrth iddynt graffu ar y ddeddfwriaeth. Mae adroddiadau'r pwyllgorau'n dangos consensws eang ar gyfer ceisio gwneud gwelliannau yn ein gwasanaethau awtistiaeth. Nid oes unrhyw un o adroddiadau pwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud argymhelliad cadarnhaol y dylai'r Bil fynd rhagddo. Credwn fod gennym yr holl bwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnom i gyflawni'r gwelliannau gofynnol mewn gwasanaethau awtistiaeth, ac rydym yn cyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd gennym yn y strategaeth awtistiaeth. Os na wireddir y gwelliannau rydym wedi ymrwymo i'w gwneud, mae'r drws ar agor i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, os byddai hynny'n gwneud y gwahaniaeth y mae pawb ohonom am ei weld.

16:25

Rwy'n derbyn efallai eich bod yn ffeithiol gywir pan ddywedoch yn awr nad oedd argymhellion yr un o'r pwyllgorau'n nodi y dylai'r Bil fynd rhagddo, ond dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn huawdl yn ei gyfraniad yn gynharach nad oeddem ni fel pwyllgor yn gallu penderfynu y naill ffordd neu'r llall. Felly, ni wnaethom wrthod y Bil chwaith, dim ond dweud nad oedd digon o gostau wedi'u darparu ar ein cyfer, gan Lywodraeth Cymru yn bennaf, er mwyn iddo allu mynd rhagddo.

Fe ddof at hynny. Mae'n bwynt sy'n destun dadl rhwng y Llywodraeth a'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â darparu gwybodaeth. Rwyf am wneud rhywfaint o gynnydd cyn imi dderbyn ymyriadau pellach.

Rydym wedi dechrau ar gyfres o ddiwygiadau i wneud gwasanaethau'n fwy ymatebol i anghenion unigol pobl awtistig a'u teuluoedd. Cred y mwyafrif clir o'r clinigwyr, y grwpiau proffesiynol, y GIG a llywodraeth leol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod y diwygiadau yr ydym wedi eu cyflwyno angen cyfle i weithio a chael eu gwerthuso. Dyna hefyd oedd barn rhai o aelodau'r pwyllgor yn eu hadroddiad. Credaf fod rhaid i'n ffocws yn awr fod ar gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethom: cwblhau'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, cwblhau gwaith terfynol ar y cod statudol a fydd yn pennu safonau newydd ar gyfer gofal a gwasanaethau, a'n hymrwymiad i werthuso a dysgu o'r hyn a wnaethom hyd yma.

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau yr wythnos hon yn amlinellu ystod o'n hymrwymiadau i wella a gwerthuso. Rydym yn cydnabod y galw am fwy o gysondeb a wnaed gan y pwyllgor iechyd, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn union hynny, ond ni fydd ein hymrwymiad i wella yn dod i ben adeg y cyfnod pleidleisio heddiw. Mae hwn yn ymrwymiad ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni'r ymrwymiadau hynny. Y dewis arall sydd gennym ger ein bron heddiw yw deddfwriaeth sydd mewn perygl, er gwaethaf ei bwriad, o wneud niwed yn hytrach na daioni. Os yw'r Bil hwn yn symud ymlaen heddiw, byddai'n rhaid i waith ar y cod statudol arafu gan y byddai angen i swyddogion ganolbwyntio ar y Bil yn lle hynny. Mae'r ymgynghoriad ar y cod statudol hwnnw'n agored tan 1 Mawrth, a buaswn yn annog pawb i leisio barn, gan gynnwys y pwyntiau a wnaeth yr Aelod cyfrifol wrth agor.

Credwn y bydd y cod yn mynd i'r afael â llawer o'r materion craidd a nodwyd yn y Bil, gan gynnwys safonau gwasanaeth statudol a lefelau cymorth y gall pobl ddisgwyl eu cael. Hefyd, fe'i hysgrifennwyd mewn iaith glir a hygyrch na allwn ei gyflawni mewn deddfwriaeth, ac wrth gwrs bydd y cod ar waith yn gynt na'r mesurau a awgrymir yn y Bil. Yn amodol ar ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n disgwyl y bydd y cod mewn grym cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Mae'r hyn rwyf newydd ei glywed yn ymwneud â dyhead, ac rydych wedi dweud os nad yw eich diwygiadau'n gweithio y byddwch yn ystyried deddfwriaeth, ond bod angen i chi weld a yw'r gwaith a wnewch yn awr yn gwreiddio. Eto i gyd, fe gyflwynwyd y Bil isafbris am alcohol gennych ac fe fynnoch chi ei fod yn angenrheidiol—fod y ddeddfwriaeth yn angenrheidiol—heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny o gwbl. Pam fod gennych set wahanol o reolau ar gyfer hwn i'r hyn sydd gennych ar gyfer eich deddfwriaeth eich hun?

Rwy'n gwrthod y gymhariaeth yn llwyr; maent yn faterion hollol wahanol. Mae'r mesurau iechyd y cyhoedd roeddem eisiau eu rhoi ar waith gyda'r Ddeddf isafbris uned o alcohol wedi eu cefnogi gan ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd gennym i'r pwyllgorau, ac yn wir, cefnogwyd diben a phwynt y Bil hwnnw gan y pwyllgorau yn y Cynulliad hwn yn ystod eu gwaith craffu. Ond os caiff y Bil hwn ei basio, rydym mewn perygl o ganolbwyntio ein hadnoddau clinigol ar ddiagnosis yn hytrach na gwasanaethau cymorth parhaus. Roedd y comisiynydd plant, colegau brenhinol y meddygon teulu, nyrsys, therapi iaith a lleferydd, seiciatreg, pediatreg ac iechyd plant, a therapi galwedigaethol, Cydffederasiwn y GIG, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oll yn cydnabod yr angen am gysondeb a gwella pellach. Roeddent oll yn unedig hefyd nad y Bil hwn yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Fe gymeraf ymyriad pellach os caniatewch amser i mi wneud hynny, Ddirprwy Lywydd.

Yn fyr iawn, Weinidog. Credaf eich bod yn camddarlunio safbwynt y comisiynydd plant. Yr hyn y mae hi wedi'i ddweud yw ei fod yn fater dadleuol, ac mae gennyf ei hymateb yma o fy mlaen. Mae'r angen am ddeddfwriaeth yn fater dadleuol. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich bod yn gywir o ran yr hyn a ddywedoch am y cyrff eraill a grybwyllwyd gennych, ond credaf y dylech adolygu'r hyn a ddywedoch am y comisiynydd plant, gan nad yw hynny'n gywir.

Rwy'n credu hefyd y gwelwch fod y comisiynydd plant wedi cyfeirio at y risg y byddai cael dull o weithredu a arweinir gan ddiagnosis yn cael ei weld fel tocyn aur i wasanaethau. Roedd y chwe choleg brenhinol yn glir y dylid darparu gwasanaethau ar sail angen, nid diagnosis. Roeddent hefyd yn dweud y byddai'r ymarferwyr arbenigol y byddai eu hangen er mwyn cyflawni cynllun y Bil yn anodd i'w recriwtio, ni waeth a fyddai arian ychwanegol ar gael ai peidio. Ac awgrymai'r dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd y byddai'r Bil yn arwain at ddargyfeirio cyllid ac adnoddau staff i roi sylw i gynlluniau i fynd i'r afael â rhestrau aros ac oddi ar ddarparu gofal mawr ei angen ar ôl diagnosis i blant, oedolion, rhieni a gofalwyr, ac wrth gwrs, fel rheol bydd yr un staff yn darparu gofal sy'n diwallu anghenion pobl nad ydynt wedi cael diagnosis o'r cyflwr neu sydd wedi cael diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol gwahanol. Mae cynrychiolwyr ar ran anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn poeni am yr effeithiau andwyol ar wasanaethau os cyflwynir deddfwriaeth ar gyfer awtistiaeth yn unig ar draul darparu gwasanaethau ehangach. Gwnaethpwyd y pwynt hwnnw'n glir gan glinigwyr a chynrychiolwyr anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd.

Nid oedd y Pwyllgor Cyllid yn gallu ffurfio safbwynt ynglŷn ag i ba raddau y mae'r Bil yn cyflawni gwerth am arian ac roeddent yn ein beio ni i raddau helaeth, ac rydym yn anghytuno â hynny yn y modd cryfaf. Ni allwn ddarparu gwybodaeth nad ydym yn meddu arni, ac nid gwaith y Llywodraeth yw gwneud gwaith yr Aelod cyfrifol i geisio profi rhinweddau ei gynnig. Fel aelod o'r meinciau cefn, bûm yn cydweithio ar waith newydd i ddeall effaith ariannol y Bil.

Rwyf wedi cyfarfod â phobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a gofalwyr sy'n cefnogi ein dull o weithredu fel Llywodraeth. Nid yw'n wir fod yr holl bobl awtistig a'u teuluoedd yn cefnogi'r Bil hwn, ac mae fy masged i mewn i'n cadarnhau hynny. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wrando a gweithredu ar yr adborth a'r gwerthusiad o'r mesurau rydym yn eu rhoi ar waith. Rydym yn ymrwymedig i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen arnom drwy gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n seiliedig ar anghenion.

Rwyf am gloi drwy ddweud eto fod cytundeb yn y Siambr hon gyda'r Aelod cyfrifol ac ar draws y pleidiau ynglŷn â'r angen i wella gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig, ac mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn gwelliant hirdymor, ond ceir anghytundeb o hyd ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu. Barn gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n gweithio gyda ac ar ran pobl awtistig yw y byddai canlyniadau anfwriadol ac annymunol i'r Bil. Mae hynny'n cynnwys y tebygolrwydd o ailgyfeirio adnoddau a fyddai'n lleihau, nid yn gwella, gofal a chymorth i bobl awtistig a phobl eraill â chyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym yn rhannu'r asesiad hwnnw. Nid ydym yn credu y byddai'r Bil hwn yn sicrhau'r gwelliant hirdymor i wasanaethau a chanlyniadau y mae pawb ohonom eisiau ei weld. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein hymgyrch i wella gwasanaethau yn y cyfnod nesaf o ddiwygio, sy'n cynnwys cod statudol. Mae hwn yn ddewis anodd i'r Aelodau ei wneud, ond rwy'n credu o ddifrif na fydd y Bil yn cyflawni yn erbyn y gobeithion a'r dyheadau sydd gan lawer ar ei gyfer. Rwy'n derbyn na fydd Aelodau eraill yn rhannu fy marn. Beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais heddiw, rwy'n rhoi fy ymrwymiad, unwaith eto, i weithio gyda phobl ar draws y Siambr a thu hwnt i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol gyda ac ar ran pobl awtistig ar draws y wlad.

16:30

Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth ym mis Tachwedd 2014, dywedodd aelodau o'r gymuned awtistiaeth o bob rhan o Gymru wrthym nad oedd strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru yn cyflawni a bod pobl yn cael eu gwthio ymhellach i sefyllfa argyfyngus. Pleidleisiodd y cyfarfod yn unfrydol o blaid Deddf awtistiaeth. Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a alwai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru. Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Ym mis Hydref 2016, arweiniais ddadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Fe'i trechwyd gan chwip plaid. Felly roeddwn yn falch iawn pan gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, gynigion ar gyfer y Bil Arfaethedig Aelod hwn.

Rhaid i awtistiaeth gael hunaniaeth statudol yng Nghymru, gyda dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ymhlith eraill. Fel arall, mae dibyniaeth ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar anhwylderau sbectrwm awtistig a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn addo mwy o'r un peth. Bob dydd, mae pobl awtistig neu aelodau o'u teuluoedd yn cysylltu â mi a fy swyddfa mewn argyfwng am nad yw darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn deall, neu eisiau deall, beth yw awtistiaeth, er eu bod wedi dilyn y cwrs hyfforddi. Rydym yn gorfod cynghori darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y gwasanaeth awtistiaeth integredig, ynglŷn â sut y mae angen gwneud pethau mewn ffordd wahanol gyda phobl awtistig. Fel y mae arweiniad y neuaddau brawdlys yn datgan:

Er mwyn i bobl ag awtistiaeth allu cyfathrebu'n effeithiol, rhaid i'w hanghenion gael eu nodi'n gynnar; rhaid caffael gwybodaeth gefndirol gynhwysfawr am yr unigolyn; rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r amgylchedd cyfathrebu; rhaid paratoi'r unigolyn yn briodol ar gyfer yr hyn a ddisgwylir ac arfer dull cynlluniedig a hyblyg.

Maent yn ychwanegu:

Rhaid ystyried nid yn unig y mathau o gwestiynau a ofynnir, ond hefyd y modd o wneud hyn. Mae amseriadau, newidiadau i amserlenni a ffactorau amgylcheddol (megis adeiladau prysur) oll yn debygol o effeithio ar ansawdd cyffredinol tystiolaeth yr unigolyn.

Felly, mae'n ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i sefydlu ac addasu i anghenion cymdeithasol ac anghenion cyfathrebu unigolion awtistig, cydnabod achosion pryder cynyddol unigolyn awtistig ac felly osgoi trin yr unigolyn awtistig fel y broblem, rhywbeth sy'n digwydd bob dydd wrth inni drafod hyn, ac wrth inni symud ymlaen.

Fel y clywsom gan yr eiriolwr awtistiaeth, 'Agony Autie' yng nghyfarfod diwethaf y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, ceir gormod o ffocws ar ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad, nid beth sy'n llywio'r ymddygiad. Y peth cyntaf i'w ofyn yw: a ydynt mewn poen? Fel y dywed y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth,

daeth yn amlwg fod y darlun a baentiwyd gan Lywodraeth Cymru a rhai cyrff proffesiynol, megis y Colegau Brenhinol, yn bur wahanol i brofiadau byw pobl awtistig a'u teuluoedd.

Mae hyn yn wir am CLlLC hefyd.

Fel rhiant i bobl â chyflyrau niwroamrywiol a nam ar y synhwyrau, nid wyf yn galw am ddeddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol ar eu cyfer, am nad ydynt yn dioddef yr un graddau o wahaniaethu, trawma ac artaith ag y mae pobl awtistig yn eu dioddef yn rhy aml heddiw. Fel y dywedodd mam i fab awtistig a gyflawnodd hunanladdiad yn 2018 wrthyf:

Roedd i'w weld yn ddyn ifanc tawel a siriol—nid ydynt yn gweld y frwydr y mae'r plant hyn yn ei hwynebu bob dydd i oroesi mewn byd niwronodweddiadol.   

Yn nodweddiadol o sawl un, dywedodd un fam wrthyf fod ei merch 13 oed wedi bod allan o addysg ers pedair blynedd oherwydd diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Dywedodd un arall wrthyf fod ei merch awtistig 240 milltir i ffwrdd mewn ysbyty iechyd meddwl o ganlyniad i flynyddoedd o orbryder oherwydd diffyg dealltwriaeth, a dywedodd un arall fod

adnabod awtistiaeth yn gynnar yn hanfodol gan fod llawer o'r anawsterau cysylltiedig yn elwa o ymyrraeth gynnar. Ni chafodd fy mab 11 oed hyn a bydd ei fywyd yn llawer anos o ganlyniad i hynny.

Dywedodd eraill, er enghraifft,

mae bod yn Awtistig fel bod yn rhywbeth nad yw'n berson,

fod

gan bobl ar y sbectrwm awtistig gyfraniad enfawr i'w roi i gymdeithas ond nid pan fyddant ar goll heb gael eu deall yn iawn, a heb gymorth a chyfleoedd

ac

fel rhiant i blentyn Awtistig a nyrs ysgol broffesiynol mae'n deg dweud bod gwasanaethau ar gyfer pobl Awtistig yn ddiffygiol.

Fis Ebrill diwethaf, siaradais mewn digwyddiad a gynhaliwyd gennyf yn y Cynulliad, Going Gold for Autistic Acceptance, lle roedd oedolion awtistig yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut y gallwn oll gydweithio gyda'n gilydd yn gydgynhyrchiol i sicrhau ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu yn erbyn pobl awtistig sydd bellach, ac rwy'n dyfynnu,

yn norm yn hytrach nag eithriad.

Dim ond gwleidydd haerllug iawn a fyddai'n credu eu bod yn deall anghenion pobl awtistig yn well na phobl awtistig eu hunain.

16:35

Gwnaf yr apêl unwaith eto fod gennyf lawer o siaradwyr, ac mae hyd yn oed munud dros yr amser yn golygu eich bod yn amddifadu rhywun arall o gyfle i siarad. Hefin David.

Yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod sedd wag Steffan Lewis. Ni chefais gyfle ddoe, a byddaf yn ei golli'n anfesuradwy.

Hoffwn rannu gyda chi, Ddirprwy Lywydd, rai o'r cwestiynau sydd gan riant plentyn ag awtistiaeth. Gallai'r cwestiynau gynnwys: 'A fydd hi'n gallu aros yn ei hysgol? Sut y gallaf ei helpu i oresgyn ei rhwystredigaeth am nad yw hi'n gallu dweud wrthyf beth mae hi eisiau? A fyddwn ni byth yn gallu cael sgwrs? Sut y gallwn ei hyfforddi i fynd i'r toiled ar ei phen ei hun os nad yw hi'n deall y cysyniad? Pwy all fy nysgu sut i'w helpu hi? A fydd hi byth yn gallu dweud wrthyf ei bod hi'n fy ngharu? Rwy'n dweud hynny wrthi hi bob dydd.' Dyma rai o'r cwestiynau sydd gan y rhiant, a fi yw'r rhiant hwnnw, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n datgan buddiant yn y ddadl hon.

Ni fydd fy mhenderfyniad ynglŷn â sut y pleidleisiaf heddiw wedi ei ddylanwadu gan y cyngor pleidleisio a gefais gan y Llywodraeth. Dywedais wrth y prif chwip beth amser yn ôl, pe bawn i'n teimlo ar ôl llawer o feddwl a thrafod gyda rhanddeiliaid fod y Bil hwn yn briodol, y buaswn yn cefnogi ei symud i Gyfnod 2. Bob tro y byddwn yn pleidleisio yn y Siambr hon, rydym yn gwneud hynny er mwyn gwneud bywydau'r bobl a gynrychiolwn yn well. Nid yw fy niddordeb personol yn gorbwyso'r ystyriaeth honno, ond mae'n ei llywio.

Tra bûm yn ystyried, cefais drafodaethau gyda'r Gweinidog—sydd wedi bod mor garedig â chyfarfod â mi ddwywaith—gyda Paul Davies AC, gyda Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, gydag arbenigwyr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, gydag etholwyr yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, a chydag aelodau o staff uwch yn ysgol arbennig Trinity Fields lle rwy'n llywodraethwr.

Rwyf wedi ystyried y Bil yn fanwl, yn ogystal â holl adroddiadau'r pwyllgorau. Yn dilyn y trafodaethau hyn, at ei gilydd, nid wyf yn teimlo bod y Bil fel y'i cyflwynwyd ar hyn o bryd yn un y gallaf ei gefnogi, ac mae hwnnw'n benderfyniad a wneuthum yn sgil ystyriaeth fanwl a thrwyadl iawn.

Hoffwn rannu llythyr gyda chi gan rywun rwy'n ei barchu'n fawr iawn—. [Torri ar draws.] Ie.

16:40

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad, ac mae hwn yn gyfraniad pwysig iawn. A ydych wedi ystyried y gallai gwelliannau yng Nghyfnod 2 ddatrys y pryderon sydd gennych?

Rwyf wedi ystyried i ba raddau y byddai gwelliannau'n effeithiol ac o gofio am y sicrwydd a gawsom gan y Gweinidog iechyd, pe bai angen Bil yn y dyfodol, nid wyf yn meddwl—o ystyried y camau y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd, credaf ei bod yn briodol i ni beidio â symud y Bil hwn i Gyfnod 2, o gofio cymaint o amser wedyn y byddai gwelliannau'n ei gymryd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn hynny—dweud 'shame' wrthyf pan fo gennyf brofiad personol o hyn. Credaf fod dweud hynny'n amhriodol.

Hoffwn rannu llythyr gyda chi oddi wrth Ian Elliot, sy'n bennaeth ysgol Trinity Fields, a Michelle Fitton, sy'n bennaeth cynorthwyol ac arweinydd ar ran gwasanaeth sbectrwm awtistig Caerffili sy'n uchel iawn ei barch. Dyma bobl y mae gennyf barch anfesuradwy tuag atynt, ac maent wedi codi pryderon yn y dystiolaeth i'r pwyllgor a ddaeth i law. Maent o'r farn nad yw'r Bil yn rhoi digon o bwyslais ar farn plant a phobl ifanc yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i CCUHP, ac maent yn dweud, mewn llythyr ataf ddoe, y dylid canolbwyntio o bosibl ar ddatblygu'r cod ymarfer a sicrhau adnoddau i hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer unigolion ag anhwylderau sbectrwm awtistig ochr yn ochr â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Felly, maent yn argymell peidio â bwrw ymlaen gyda'r Bil.

Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi ysgrifennu ataf i ddweud

hoffem hefyd ail-bwysleisio pryderon ynglŷn â deddfwriaeth ar gyfer diagnosis penodol. Mae yna bryderon na fydd y diffiniad ehangach o anhwylderau sbectrwm awtistig a ddefnyddir yn y cynigion yn ddigon hyblyg i adlewyrchu ac ymateb i'r ddealltwriaeth sy'n datblygu'n barhaus o niwro-anableddau. Wrth i gategorïau newydd ddod i'r amlwg byddai angen diwygio'r ddeddfwriaeth yn rheolaidd i adlewyrchu'r ddealltwriaeth newydd hon.

Felly, awgrymir bod hyn yn cadarnhau'r awgrym y dylai unrhyw amddiffyniad, er cymaint o groeso a fyddai iddo ar gyfer anhwylderau sbectrwm awtistig, fod yn seiliedig ar angen ac nid ar ddiagnosis neu gyflwr.

Ceir myrdd o symptomau y mae pobl â chyflwr sbectrwm awtistig yn eu dangos, ac mae'r ffaith nad oes dau unigolyn yn union yr un fath yn ei gwneud yn anodd iawn cynhyrchu deddfwriaeth ymarferol. Rwyf bob amser yn gweithio ar ran unigolion ag awtistiaeth a chyfrifoldebau gofalu am unigolion ag awtistiaeth, a hoffwn annog y Gweinidog i weld yr alwad hon am y Bil fel galwad i weithredu gan bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth. Fe'm calonogir gan ei lythyr ddoe, a amlinellodd y camau gweithredu cynhwysfawr parhaus y mae wedi'u rhoi ar waith, a chaf fy nghalonogi gan yr araith a wnaeth heddiw.

O'm rhan i, tra byddaf yn disgwyl am ddiagnosis ar gyfer fy merch, ni allaf ond canmol y cymorth arbenigol a gafodd gyda datblygu lleferydd ac iaith, ond bu'n rhaid i ni fel rhieni ymladd amdano. Rwyf hefyd yn croesawu'r cwrs hwyluso cyfathrebu a fynychais fel rhiant, sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu cyfathrebu gweledol gyda fy merch. Ond mae'n wir fod llawer o gwestiynau a llawer o ansicrwydd yn parhau i mi a fy nheulu. Nid wyf yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol a beth yw'r camau nesaf, ond rwyf mor hyderus ag y gallaf fod fod y Llywodraeth yn gweithredu i ddarparu mwy o gymorth i bawb ohonom yr effeithir arnom gan awtistiaeth a'r anghenion a ddaw yn ei sgil.

Rhaid imi ddweud, fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dechreuais y broses hon yn teimlo bod gennyf rywfaint o ymwybyddiaeth o'r materion, ond roeddwn ymhell o fod wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth oedd yr ateb a thrwy'r broses o dderbyn tystiolaeth, rwyf wedi newid fy meddwl.

Cefais fy nigalonni, a fy nhristáu weithiau, gan y dystiolaeth a gawsom gan bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd am yr heriau y maent yn eu hwynebu i gael rhyw fath o ddiagnosis, i ddod o hyd i gymorth lle y mae angen cymorth, a lle y mae'n bodoli, i gael mynediad at y cymorth hwnnw. Roedd rhai o'r straeon yn dorcalonnus, ac mewn rhai mannau yng Nghymru, mae arnaf ofn fod gwasanaethau i bobl ifanc, yn arbennig, fawr gwell nag yr oeddent pan oeddwn yn athrawes anghenion arbennig yn y 1980au. Ceir diffyg cysondeb syfrdanol yn genedlaethol, a lle mae pethau'n dda, maent yn aml yn dibynnu gormod ar unigolion medrus a gofalgar mewn proffesiynau penodol.

Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg o'r ddadl heddiw y gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i hyn barhau a bod yn rhaid gwneud rhywbeth, felly pam rwyf fi mor argyhoeddedig fod angen deddf arnom? Nawr, mae'n wir mai cymysg oedd y dystiolaeth a gawsom gan ein pwyllgor, ac mae'r gwahaniaethau wedi'u crynhoi gan eraill. Yn fras, roedd y rhai sy'n darparu gwasanaethau neu sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn erbyn deddfu. Caiff eu pryderon eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Ni cheisiaf ateb eu pwyntiau i gyd, ond hoffwn ddweud hyn: mae'n amlwg nad yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn darparu fframwaith cyfreithiol digonol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r holl bobl sydd ag awtistiaeth. Mae'r pryderon a godwyd ynglŷn ag adnoddau yn rhai dilys, wrth gwrs, ac mae angen rhoi sylw iddynt. Ond rhan o drafodaeth ehangach yw hon ynglŷn â darparu adnoddau ar gyfer gofal a chymorth i bawb sydd eu hangen, ac nid yw'n rheswm naill ai dros beidio â deddfu neu dros ddeddfu. Ac wrth gwrs, a siarad yn gyffredinol, anaml y bydd darparwyr gwasanaethau'n dymuno gweld eu gwasanaethau yn ddarostyngedig i fwy o ddeddfwriaeth nag y credant sy'n angenrheidiol.

16:45

O fy nghefndir fy hun, a gaf fi ddweud, fel meddyg teulu, yn aml pan fyddaf yn wynebu claf lle nad oes gwasanaeth—a'i fod yn ddibynnol ar y diagnosis—nid oes unfrydedd barn broffesiynol chwaith, ac rwy'n cefnogi Bil awtistiaeth?

Diolch am eich ymyriad, Dai—a minnau hefyd, wrth gwrs. Nawr, ar ochr arall y ddadl hon mae gennym y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Drwy'r broses hon, yn bersonol ni chlywais unrhyw leisiau o'r grŵp hwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth, er fy mod yn derbyn yn llawn na all hynny gynnwys pob barn, ac fe glywais, a gwrandewais yn ofalus iawn, ar beth oedd gan Hefin David i'w ddweud—er bod llawer o aelodau o deuluoedd yn dweud yn glir, wrth gwrs, na fyddai deddfwriaeth yn ddigon ar ei phen ei hun.

Fel y dywedais, roeddent yn disgrifio'r heriau enfawr a wynebir o ran mynediad at wasanaethau. Fe'm trawyd yn arbennig gan rieni a oedd wedi cyfrannu at ymgynghoriadau blaenorol, a oedd wedi eistedd mewn gweithgorau cenedlaethol a lleol, wedi cyfrannu cannoedd o oriau o gyngor a chymorth am ddim—a chlywed ganddynt wedyn nad oes unrhyw beth wedi newid yn eu canfyddiad hwy. Heb rym cyfreithiol nid ydynt yn credu y bydd unrhyw beth yn newid. Rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog fod y teuluoedd hyn yn teimlo eu bod wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.

Nawr, mae safbwynt y Llywodraeth, yr hoffwn gyfeirio ato'n fyr, yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Ar y naill law, dywed y Gweinidog nad oes angen diagnosis, a bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn pennu sut y dylid darparu cymorth i bobl, yn seiliedig ar angen, heb ddiagnosis ffurfiol. Buaswn yn rhoi cefnogaeth lwyr i'r safbwynt hwnnw, ond mae'r holl dystiolaeth a gawsom ar y pwyllgor iechyd yn dangos nad yw hynny'n wir. Yn enwedig i blant ag awtistiaeth, heb ddiagnosis, nid oes unrhyw beth yn digwydd. Nid yw'n digwydd, a hyd yn oed pe bai'n digwydd, ni fydd rhai o'r bobl sydd ag awtistiaeth byth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer y math o gymorth y lluniwyd y Ddeddf honno ar ei gyfer.

Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod deddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol yn ddi-fudd ac nad oes mo'i hangen. Eto, ar yr un pryd, mae'n argymell cyflwyno cod statudol ar gyfer cyflwr penodol. Nawr, wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, nid yw hyn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Rwy'n eithaf cyfarwydd â chael negeseuon cymysg gan y Llywodraeth hon, ond nid yn aml y maent yn gwrth-ddweud ei hunain yn agored fel y gwnaeth y Gweinidog yn un o'n cyfarfodydd.

Nid yw'r teuluoedd yn credu, ar y cyfan, fod cod yn ddigon. A yw'r ddeddfwriaeth hon yn berffaith? Wel, mae'n bosibl nad ydyw, ac mae'r Aelod sy'n ei chyflwyno wedi cydnabod hyn. Mae yna bryderon ynglŷn â'r anhawster i orfodi hawliau, a gwn ei fod wedi cytuno i edrych ar hyn. Efallai bod gorbwyslais ar asesu a diagnosis, yn hytrach na'r hawl statudol i gael gwasanaethau. Unwaith eto, mae'r Aelod sy'n noddi wedi dweud yn glir ei fod yn hapus i weithio gydag eraill i fynd i'r afael â hyn drwy gyfnod nesaf y broses.

Fel y teuluoedd, mae arnaf ofn nad wyf yn argyhoeddedig, ar ôl bod drwy'r broses flaenorol o greu'r strategaeth, fod unrhyw beth heblaw deddfwriaeth yn mynd i sicrhau'r hyn y maent yn eu haeddu i'r cyd-ddinasyddion hyn. Ar y sail honno, ac ar ran y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, gan gynnwys y rheini yn yr oriel yma heddiw, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd. Gadewch i ni ganiatáu i'r ddeddfwriaeth symud ymlaen i'r cyfnod nesaf.     

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n cefnogi'r Bil yn llwyr ac yn cytuno â phopeth a ddywedwyd hyd yma o'i blaid, felly fe geisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes.

Ond i droi at un o'r cyflwyniadau a gawsom yn erbyn y Bil, rwy'n siŵr fod pawb yma wedi cael yr e-bost ynglŷn â'r Bil, wedi'i ysgrifennu gan nifer o glinigwyr sy'n pryderu, os caiff y Bil ei basio, y collir ffocws ar gyflyrau y mae eu heffaith yr un mor fawr ag i'r rhai sy'n dioddef o anhwylder sbectrwm awtistig ond nad ydynt wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistig, ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn a'r targedau a'r atebolrwydd a gyflwynir gan y Bil hwn. I'r clinigwyr hynny, buaswn yn ateb nad bai'r Bil fydd unrhyw fethiant ar ran GIG Llafur Cymru i ddiwallu anghenion plant nad ydynt wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistig. Bai'r Llywodraeth fydd hynny, a'i methiannau olynol hyd yma sydd wedi golygu bod angen y Bil hwn. Deallaf y pryderon sydd gan glinigwyr ynglŷn â chanlyniadau anfwriadol posibl y Bil. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wylio bob amser, yn amlwg, ond gallai'r cyfraniad llawn bwriad da i'r ddadl hon weithredu i osgoi rhoi'r bai ar y Llywodraeth am gamreoli GIG Cymru mewn gwirionedd. Mater i'r Llywodraeth Lafur fydd i ba raddau y caiff plant sydd ag anghenion eraill eu hanwybyddu. Ni fydd y Bil hwn yn peri i unrhyw un gael ei anwybyddu; dim ond y ffordd y mae Llafur yn rhedeg GIG Cymru fydd yn peri hynny.

Ni allwn bleidleisio yn erbyn y Bil hwn am ein bod yn ofni nad yw'r Llywodraeth yn ddigon cymwys i allu ymdrin ag ef. Mae pobl Cymru angen i anallu'r Llywodraeth gael ei amlygu a'i herio, nid ei oddef a'i dderbyn. Felly, gyda phob dyledus barch i'r clinigwyr a nododd y pryderon, mae arnaf ofn na fydd dilyn eu cyngor ond yn gwneud i Lywodraeth Cymru deimlo'n well, yn hytrach na'r bobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig y mae eu hanghenion wedi eu hesgeuluso ers cyhyd.

Byddai'n well gan bawb ohonom pe na bai angen y Bil hwn. Byddai pawb ohonom yn dymuno gweld y GIG yn diwallu anghenion unigolion ag anhwylderau sbectrwm awtistig, ond gwyddom hefyd nad yw hynny'n digwydd. Nid yw'n ddigon da inni ddweud, 'Gadewch i ni beidio â gwneud dim yn ei gylch am fod angen ymdrin â diffygion eraill hefyd'—y ddadl diagnosis yn erbyn angen. Pe baem yn teimlo'r angen i gyflwyno Biliau ychwanegol i fynd i'r afael â dffygion y GIG dan arweiniad Llafur, dylem wneud hynny. Mae gwrthod mynd i'r afael â phroblem ar y sail nad yw'n ymdrin â holl ddiffygion y GIG ychydig fel meddyg yn gwrthod trin symptomau hirsefydlog claf hyd nes y doir o hyd i wellhad i'r clefyd gwaelodol. Ni allwn adael i'r rhai sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig ddioddef yn hwy tra doir o hyd i wellhad i'r ffordd ddi-glem y mae Llafur yn rhedeg y GIG, felly rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil hwn.

I droi at yr ail bwynt a wnaeth y clinigwyr, gwelir yn fwyaf amlwg fod y GIG yn gwneud cam â theuluoedd mewn angen yn yr ail bwynt a godir ganddynt, pan ddywedant fod yna berygl y bydd unigolion neu deuluoedd yn teimlo mai eu gobaith gorau o gael y cymorth sydd ei angen arnynt yw drwy gael y diagnosis penodol hwnnw, h.y. anhwylder sbectrwm awtistig. Pe bai'r GIG a gwasanaethau cymorth yn gweithredu fel y dylent, ni fyddai hyn yn broblem, ond nid yw'r ffaith ei bod yn broblem yn golygu na ddylem wneud unrhyw beth. Fel y dengys ffiasgo Betsi Cadwaladr, nid yn unig nad yw'r Llywodraeth yn gallu rhedeg y GIG ar lefel strategol, ni allant wneud hynny ar lefel uniongyrchol chwaith. Ategir y farn honno gan yr e-bost a gawsom gan y clinigwyr.

Felly, mewn gwirionedd, yr unig reswm pam fod angen y Bil hwn yw oherwydd bod y Llywodraeth Lafur wedi methu argyhoeddi GIG Cymru a sefydliadau eraill i ddarparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar unigolion ag anhwylder sbectrwm awtistig. Rydym yn gwybod bod yna unigolion eraill, grwpiau o bobl a chymunedau yn cael eu siomi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth Lafur ond, heddiw, anhwylderau sbectrwm awtistig sydd o dan sylw, ac er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i rai sy'n byw ag anhwylderau sbectrwm awtistig, rwy'n annog pawb i gefnogi'r Bil hwn heddiw. Diolch.   

16:50

Mae rhieni plant ag awtistiaeth y siaradaf â hwy'n teimlo nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen, er bod y rhai sydd â phlant yn mynychu Ysgol Pen-y-Bryn, sy'n ysgol arbennig o dda yn fy etholaeth, yn canmol yr ysgol. Nid oes gennyf amheuaeth fod y Bil presennol yn ddiffygiol. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau nifer o gynlluniau, ac mae yna ddadl dros aros iddynt gael eu gwerthuso. Yr hyn rwyf am i'r Gweinidog ei ddweud yn hollol bendant wrthyf heddiw er mwyn i mi beidio â phleidleisio dros y Bil yw, os gwelir bod y gwerthusiad yn dangos nad yw'r cynlluniau hyn a gyflwynodd y Llywodraeth yn gweithio, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei Bil ei hun yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Credaf fod angen inni sicrhau bod yr hyn sydd ei angen ar gyfer y bobl yn cael ei gyflwyno, ac y caiff Bil wedi'i gynhyrchu gan y Llywodraeth ei lunio yn y fath fodd fel y byddai'n cael y budd llawn o gefnogaeth y Llywodraeth, ac yn cael ei basio. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ag anhwylderau sbectrwm awtistig wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, camau y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig wedi methu eu cyflawni hyd yma.

Ar nifer o achlysuron, mae'r Gweinidog wedi gwadu bod unrhyw angen am y Bil hwn, ond mae'n amlwg mai ychydig iawn a wnaeth strategaethau blaenorol a deddfwriaeth bresennol i wella gwasanaethau ar gyfer plant ac oedolion ar y sbectrwm awtistig. Dylai fod yn destun cywilydd cenedlaethol mewn sawl rhan o Gymru na cheir llwybrau clir i gael diagnosis o awtistiaeth, er i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig gael ei gyflwyno.

Yn ôl arolwg gam Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, bu oddeutu chwech o bob 10 o bobl yn aros am fwy na blwyddyn i gael diagnosis, a bu traean yn aros am bron i ddwy flynedd. Bydd Bil Paul yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod llwybr clir i ddiagnosis ar gael yn gyhoeddus. Bydd y Bil yn sicrhau bod staff sy'n gweithio yn ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi'u hyfforddi a'u paratoi'n well i gefnogi'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig ac yn helpu i roi diwedd ar y bylchau yn y gwasanaethau hyn. Mae pobl ar y sbectrwm yn cael gwasanaethau sydd naill ai'n canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol neu ar ddarpariaeth iechyd meddwl, ac mae llawer, yn anffodus, yn disgyn rhwng y bylchau sy'n bodoli rhwng ein gwasanaethau iechyd a gwasanaethau addysg.

Aeth ychydig dros ddegawd ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac ychydig iawn sydd wedi newid i'r rhai sydd ar y sbectrwm. Gwelwyd methiant systematig Gweinidogion Llywodraeth Cymru olynol i gyflawni unrhyw welliannau amlwg i wasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, ac eto maent yn gwrthwynebu'r Bil hwn, yn dweud bod deddfwriaeth yn ddiangen. Wel, ni fyddai'r bobl a gynorthwyais yn fy rhanbarth i yn cytuno â'r geiriau hynny. Rydym wedi hen basio'r angen am eiriau. Mae'n amser gweithredu yn awr. Mae pawb ohonom wedi cael cannoedd o negeseuon e-bost gan rai sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig a'u teuluoedd yn ein hannog i gefnogi'r Bil hwn. Maent yn gwybod yn rhy dda, gwaetha'r modd, nad yw geiriau caredig yn ddigon. Mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru ac mae ei hangen yn awr. Rwy'n cefnogi Paul a'i Fil yn llawn ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch. Rydym wedi mynd dros yr amser, ac felly, rwy'n ymddiheuro i weddill y bobl a oedd eisiau siarad yn y ddadl bwysig hon. Galwaf yn awr ar yr Aelod cyfrifol, Paul Davies, i ymateb i'r ddadl.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Yn anffodus, ni fydd gennyf amser i gyfeirio at y pwyntiau a wnaed gan bob un o'r Aelodau.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Gadeiryddion y pwyllgorau perthnasol am roi eu safbwyntiau'n glir? Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon nad oedd y pwyllgor wedi cyrraedd consensws ar y Bil hwn, ond mae'r pwyllgor yn glir, mae angen inni weld gwelliannau go iawn i wasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi dweud yn glir heddiw pa mor bwysig yw cael y wybodaeth gywir a phriodol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth, a mynegodd bryder y pwyllgor nad oedd y Llywodraeth wedi rhoi gwybodaeth berthnasol i mi, fel yr Aelod cyfrifol, ac felly mae hyn wedi bod rhwystro'r pwyllgor rhag gallu dod i gasgliad. Yn sicr, mae gwersi i'w dysgu yma o ran y Llywodraeth.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl hon, ond rwy'n hynod siomedig y bydd yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Gwn fod y Gweinidog wedi ceisio dadlau nad yw pwyllgorau'r Cynulliad yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon yn gadarnhaol, ond mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn nad oedd y pwyllgorau yn erbyn y Bil chwaith. Fe'i gwnaethant yn glir ei fod yn fater i'r Cynulliad hwn yn awr.

Unwaith eto, dadleuodd y Gweinidog fod y cod yn rhagori ar y ddeddfwriaeth hon, ond wrth gwrs, rwy'n anghytuno ag ef ar hynny ac nid wyf am ailadrodd y dadleuon gan fy mod wedi rhoi'r rhesymau yn fy sylwadau agoriadol. Fodd bynnag, y cyfan y buaswn yn ei ddweud wrtho yw y byddai'r cod yn cael ei gwmpasu yn y ddeddfwriaeth hon yng Nghyfnodau 2 a 3. Felly, dyma fy neges iddo: adeiladir fy Mil ar rai o'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, bydd yn ategu rhywfaint o waith da y Llywodraeth, ac felly rwy'n ei annog ef a'i Lywodraeth i ailystyried eu safbwynt.

Rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am ddadlau'n bwerus pam y dylid cefnogi'r Bil hwn, ac mae'n enghraifft dda o rywun a berswadiwyd mai deddfwriaeth yw'r ffordd orau ymlaen. Ac mae hi'n llygad ei lle fod y Llywodraeth yn gwrth-ddweud ei hun, oherwydd, ar y naill law, mae'n dadlau nad ydym angen deddf ar gyfer cyflyrau penodol, ond ar y llaw arall mae'n cyflwyno cod penodol. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd.

Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn gwella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth ledled Cymru a hoffwn annog yr Aelodau nid yn unig i wrando arnaf fi, ond i wrando ar y llu o elusennau, o ymgyrchwyr, o deuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth sy'n effeithio arnynt drwy'r dydd bob dydd. Mae'r gymuned awtistig wedi bod yn gwbl glir ar y mater hwn ac wedi rhannu eu straeon a'u profiadau niferus gyda mi. Mae cymaint o straeon yn dorcalonnus, ac maent yn ymgyrchu am ddeddfwriaeth i roi amddiffyniad a sicrwydd iddynt i'w cyfeirio at wasanaethau a fydd yn helpu i wella ansawdd eu bywydau hwy a'r bobl o'u hamgylch. Mae'n gwbl hanfodol ar gyfer diffinio'r gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru i'w gweld yn awyddus i'w gael a'r hyn y mae'r gymuned awtistig ei eisiau. Mae perygl yma y bydd mesurau'r Llywodraeth yn caniatáu i'r Llywodraeth wneud rhagor o'r un peth. Byddai'r gyfraith yn amddiffyn anghenion yr unigolion a'u teuluoedd.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cofio'r stori a adroddais wrth y Siambr y llynedd am fam y gallwn ei galw'n 'Sarah'. Newidiwyd ei henw i ddiogelu ei chyfrinachedd. Soniais sut y byddai ei phlentyn yn cael pwl difrifol o dymer, sut y byddai'n colli pob rheolaeth a dechrau crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah ei hatal a sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. Roedd gan Sarah swydd, roedd hi'n gofalu am ei theulu ac yn ymladd—nid wyf yn defnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn—i gael diagnosis. Dywedodd wrthyf ei bod hi'n gorfod ymladd am bopeth. Ni ddylai orfod ymladd. Dylai gael yr hyn sydd ei angen arni i gefnogi ei merch a'i theulu i'w helpu i fyw bywyd mor normal ag y gallent. Un enghraifft drist yn unig yw hon. Ceir llu o rai eraill yng nghymunedau pawb ohonom.

Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn gymorth mawr i wella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ledled Cymru. Mae gennym ddyletswydd gofal i'r holl breswylwyr, ac mae angen inni roi cyfleoedd wedi'u teilwra iddynt a fydd yn rhagori ar eu disgwyliadau ac yn rhoi cyfleoedd iddynt wireddu eu potensial. Rwy'n annog pob Aelod i feddwl am eu hetholwyr ac i fwrw eu pleidleisiau drostynt heddiw. Anogaf yr Aelodau i ystyried yr ohebiaeth a gawsom, a fydd yn dangos cryfder y teimlad ar y mater hwn. Os yw'r Bil yn methu heddiw, dyna hi. Galluogi'r Bil i fynd ymlaen at y camau nesaf o'r gwaith craffu fyddai hyn y prynhawn yma, nid pasio'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn.

17:00

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A gaf fi ddweud wrth y Siambr, gyda phob parch, mai dyna'r ail dro i mi glywed rhywun yn dweud 'shame' pan na fydd pleidlais at eu dant? Rydym yn ceisio siarad—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Rydym yn ceisio siarad am wleidyddiaeth fwy caredig. Rydym yn ceisio arfer gwleidyddiaeth fwy caredig yn y Siambr hon, ac mae i Aelodau eraill weiddi pan fydd gan rywun farn wahanol, o ystyried yr hyn rydym newydd fynd drwyddo, rwy'n cael hynny'n dipyn o embaras i'r Cynulliad hwn, ac rwyf am ofyn i'r Aelodau hynny ystyried eu hymddygiad.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn'

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6917 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Gallwn i gyd gytuno bod diogelwch y lle rydych yn ei alw 'gartref' yn un o'r sylfeini mwyaf pwysig i fywyd hapus ac iach. Cafodd pawb eu harswydo gan ddigwyddiadau trasig Tŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017. Ers hynny, rydym ni fel pwyllgor wedi bod yn ystyried diogelwch adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru i helpu i atal digwyddiad mor ofnadwy rhag digwydd eto.

I ddechrau, fe ganolbwyntiwyd ar y sector tai cymdeithasol. Ar ôl cymryd tystiolaeth gan y partneriaid allweddol a Llywodraeth Cymru, cawsom ein sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd, ond wrth inni barhau i edrych ar ddiogelwch tân yn fwy manwl, daeth yn fwyfwy amlwg fod pryderon yn parhau yn y sector preifat—er enghraifft, cladin ACM ar adeiladau lai na thafliad carreg o'r Senedd—a chafwyd datblygiadau ehangach, megis cyhoeddi adolygiad Hackitt. Rydym felly wedi troi ein sylw at adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Cynhyrchwyd ein hadroddiad i helpu i lywio gwaith y grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau ac ymateb Llywodraeth Cymru i unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn. Rydym yn deall bod disgwyl i'r grŵp gyhoeddi map i nodi sut y dylem ni yng Nghymru ymateb i argymhellion adolygiad Hackitt. Mae disgwyl i hwn ddod i law yn gynnar eleni, a buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog heddiw ynglŷn â sut y mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a phryd y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi.

Mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn hunanfodlon ynglŷn â materion yn ymwneud â diogelwch adeiladau a thân. Dengys tân Tŵr Grenfell a thanau blaenorol, fel y tân angheuol yn Lakanal House, y gall y pethau hyn ddigwydd, a'u bod yn digwydd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dysgu gwersi a bod newidiadau'n cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.

Rwyf am symud ymlaen yn awr at rai o'r meysydd allweddol yn ein hadroddiad. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'n hargymhellion, ond yn hytrach, fe ganolbwyntiaf ar reoli adeiladau, yr angen i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth diogelwch tân a'r angen am reoli adeiladau'n drylwyr. Mae rheoli adeiladau'n effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel iawn. Cawsom ein calonogi gan y dystiolaeth a gafwyd gan asiantau rheoli. Roedd hi'n amlwg fod y rhai a roddodd dystiolaeth i ni o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau a rhoesant dystiolaeth inni ynglŷn â sut roeddent yn sicrhau diogelwch eu hadeiladau. Ond gwyddom mai gan ran o'r farchnad yn unig y clywsom. Rydym yn pryderu efallai nad oes gan rai o'r bobl sy'n rheoli adeiladau lefelau digonol o gymhwysedd a phrofiad, neu eu bod o bosibl yn torri corneli er mwyn lleihau costau. Felly, gwnaethom argymhelliad 1: mae hwn yn galw am reoleiddio asiantau sy'n rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Roeddem yn derbyn y gallai hyn fod yn gymhleth a gallai gyflwyno rheoliadau o'r fath gymryd peth amser. Felly, yn y cyfamser, roeddem yn awgrymu y dylid edrych i weld a allai Rhentu Doeth Cymru fabwysiadu'r rôl hon. Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Yn eu hymateb, roeddent yn manylu ar yr adolygiadau a edrychai ar ddiwygio lesddeiliadaeth yn ehangach, ac mae disgwyl eu hadroddiad erbyn yr haf. Byddai'n dda pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad clir heddiw y bydd gweithredu'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau yn cael blaenoriaeth fel y gallwn ddechrau gweld newidiadau'n digwydd ar y cyfle cyntaf. Cydnabûm sylwadau'r Gweinidog efallai na fydd y  mesurau dros dro a awgrymwyd gennym yn gweithio'n ymarferol, ond ar y cam hwn, a all roi mwy o fanylion ynglŷn â pha gamau y gellir eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â 'n pryderon?

Rwyf am symud yn awr at fater sy'n ymwneud â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Buom yn galw am ei ddiwygio ers inni ddechrau edrych ar y mater hwn ym mis Gorffennaf 2017. Roedd yn faes a oedd yn destun pryder sylweddol ar y pryd ac mae'n parhau i fod. Fel pwyllgor, teimlwn fod angen mwy o frys ar ran Llywodraeth Cymru. Er ein bod yn derbyn nad oedd cynnwys y Gorchymyn yn rhan o gymhwysedd y Cynulliad tan fis Ebrill 2018, mae cyfle yn awr i geisio diwygio neu gael rhywbeth yn ei le cyn gynted â phosibl.

Yn argymhelliad 3, rydym yn galw am gyflwyno deddfwriaeth newydd i gymryd lle'r Gorchymyn diogelwch tân yn y tymor Cynulliad hwn. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd y teimlwn y dylai'r ddeddfwriaeth newydd eu cynnwys. Mae'r Gweinidog yn cytuno â ni fod angen diwygio'r Gorchymyn yn radical neu gael rhywbeth yn ei le ond mae'n dweud bod hwn yn fater cymhleth a bod angen amser i roi ystyriaeth i sicrhau bod unrhyw system newydd yn effeithiol a chydgysylltiedig. Fodd bynnag, mae'n rhwystredig nodi efallai na fydd hyn yn digwydd yn ystod y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod y rheoliadau sy'n rheoli diogelwch adeiladau lle mae pobl yn byw yn addas at y diben, ac rwy'n parhau i ddweud y dylai'r Llywodraeth wneud ymrwymiad clir i gyflawni'r newid deddfwriaethol hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn fel blaenoriaeth yn y rhaglen ddeddfwriaethol.

Gan symud ymlaen at rai o fanylion y Gorchymyn diogelwch tân, clywsom ym mis Gorffennaf 2017, ac roeddem yn dal i'w glywed yn yr hydref y llynedd, ei bod yn aneglur pa un a oedd drysau ffrynt fflatiau, sy'n chwarae rhan bwysig yn atal ymlediad tân, yn rhan o'i gylch gorchwyl. Roedd hyn yn peri pryder arbennig oherwydd mae preswylwyr yn aml yn gwneud addasiadau i'w drws ffrynt, gan gynnwys gosod drysau yn eu lle nad ydynt yn cynnig unrhyw ddiogelwch tân o gwbl. Yn amlwg gallai hyn gael effaith nid yn unig ar y trigolion sy'n byw yn y fflat dan sylw ond ar eu cymdogion hefyd drwy danseilio'r mesurau diogelwch tân a roddwyd ar waith. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir eu bod yn credu bod y drysau ffrynt hyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn diogelwch tân, ond roeddent yn cydnabod nad oedd hyn wedi ei brofi yn y llysoedd. Nid oedd y gwasanaethau tân eu hunain yn glir ynglŷn â hyn, a'r cyngor cyfreithiol a gawsom oedd na fyddai'r Gorchymyn yn cynnwys drysau ffrynt. Felly, roeddem yn bryderus ynglŷn â'r amwysedd sylweddol a'r diffyg eglurder mewn perthynas â'r mater pwysig hwn. Nid oedd hwn ond yn un o'r newidiadau y dymunem eu gweld pan ddisodlir y Gorchymyn.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn siarad am rôl rheoliadau adeiladu. Un o'r themâu mwyaf cyson a ddaeth i'r amlwg drwy gydol y gwaith hwn oedd y derbyniad cyffredinol y gallai fod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr adeilad fel y'i cynlluniwyd ar bapur a'r un a adeiladir mewn gwirionedd. Gall y datgysylltiad hwn ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith y gall anawsterau a heriau annisgwyl ddigwydd wrth droi dyluniadau'n realiti. Ond yr hyn sy'n achosi mwy o bryder i ni oedd y drefn arolygu, yr ymddengys nad oes ganddi ddigon o adnoddau, ac mae'n ymddangos mai pwerau cyfyngedig a geir ar gyfer monitro beth sy'n digwydd ar safleoedd adeiladu unigol. Clywsom gan un datblygwr sut y ceisiodd leihau'r datgysylltiad drwy gyflogi'r pensaer mewn swyddogaeth sicrwydd ansawdd drwy gydol y gwaith adeiladu. Ond ni allem weld a oedd yr arfer hwn yn digwydd yn eang ledled y diwydiant ai peidio, am mai un datblygwr yn unig a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd hyn yn siomedig a golygai nad oedd modd inni ddeall yn well beth y mae datblygwyr yn ei wneud neu beth nad ydynt yn ei wneud. Felly, fe wnaethom argymhelliad 8, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd trefniadau sicrhau ansawdd drwy gydol y cyfnod adeiladu, a pha un a ddylid gorfodi arferion gorau drwy reoleiddio. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn ond maent wedi nodi mai'r bobl sydd ynghlwm wrth ei ddylunio a'i adeiladu sy'n bennaf gyfrifol am ddiogelwch adeilad. Rydym yn deall ac yn cytuno gyda'r pwynt hwn fod rheoliadau a rheolaeth adeiladu'n chwarae rhan bwysig o ran sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Yn amlwg, mae adolygiad Hackitt wedi darparu set fanwl o argymhellion ar gyfer newidiadau i broses a system y rheoliadau adeiladu yn Lloegr, ac rydym yn edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn. Er ein bod yn cydnabod na all y Gweinidog ymrwymo i lawer ar y cam hwn o waith y grŵp arbenigol, byddem yn ei hannog i sicrhau, pan fydd y grŵp wedi gwneud ei argymhellion, fod ymateb y Llywodraeth a'i weithrediad yn cael ei wneud yn gyflym ac ar fyrder.

Fel y bydd pawb yn cytuno, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn rhy bwysig i ganiatáu iddo lithro, ac edrychaf ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau.

17:10

Rwy'n credu bod cyhoeddi'r adroddiad hwn yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau fel Tŵr Grenfell, ond yn y sector preifat, yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn yn barhaus am y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at weithredu'r argymhellion. Credaf mai ymateb i'r adroddiad oedd un o'r gweithredoedd cyntaf i chi ei wneud yn eich cyfrifoldebau newydd, ac mae'n gadarnhaol ar y cyfan.

Rhywbeth a oedd yn glir iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, drwy gydol y sesiynau tystiolaeth oedd nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben. Ac mae'n boenus ei bod hi wedi cymryd digwyddiad fel tân Grenfell inni sylweddoli hynny, ond mae'n golygu yn fy marn i fod yn rhaid inni gael dull cynhwysfawr a chadarn o ddiwygio yn y maes hwn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno'n llwyr â chasgliadau'r adroddiad hwn ac yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'w argymhellion am system newydd a mwy cadarn o'r fath. Rydym yn cytuno â'r alwad am fwy o eglurder ac atebolrwydd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch adeiladau yn ystod y gwaith o adeiladu, adnewyddu a rheoli cartrefi mewn adeiladau uchel iawn ar sail barhaus.

Hefyd a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth i un o'r ymchwiliadau pwyllgor pwysicaf i mi gymryd rhan ynddo? Clywsom dystiolaeth o'r ansawdd uchaf yn fy marn i a chryn dipyn o gysondeb o ran yr hyn a ddywedodd y tystion wrthym.

Hoffwn ddewis rhai o'r argymhellion a chanolbwyntio ar y rheini, ac yn wir, dadleuais yn gryf dros y rhai a ddewisais yn yr adroddiad, a chredaf fod yr holl Aelodau wedi eu hargyhoeddi gan y dystiolaeth a glywsom yn eu cylch. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy o eiriau yn ei hymateb i'r ddadl ar y materion hyn, ac yn wir, cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer ohonynt eisoes.

Felly, roedd argymhelliad 3 yn arbennig yn agoriad llygad go iawn i mi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud argymhelliad cryfach nag a geir yn adolygiad Hackitt. Ni chredaf y byddai llawer o bobl yn credu nad yw'r Gorchymyn diogelwch tân yn gosod unrhyw ofynion o ran cymhwysedd neu gymwysterau'r sawl sy'n cynnal asesiad risg tân, neu yn wir o ran amlder yr asesiadau hynny. Byddai argymhelliad 3 ein hadroddiad yn unioni hyn, ac mae i'w weld yn ddiwygiad amlwg a synhwyrol i sicrhau bod adeiladau'n cael eu monitro'n gyson ar gyfer risgiau tân.

Yn y pwyllgor, credwn fod diffyg gofynion sylfaenol yn y ddeddfwriaeth yn fwlch amlwg, ac nid oedd yn cyd-fynd â gwaith tebyg arall megis gwiriadau diogelwch nwy, er enghraifft, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, er fy mod yn nodi'r hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru am amserlen a chymhlethdod y gwaith hwn, ac mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei hymateb yn amlinellu sut y mae'n bwriadu symud ymlaen ar hyn a beth yw'r amserlen y mae'n ei rhagweld ar gyfer ei gyflawni. Rwy'n credu ei fod yn un o'r newidiadau mwy ymarferol y gallwn ei roi ar waith yn gyflym, gobeithio, ac rwy'n hyderus y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch tân adeiladau uchel iawn. Ac rwy'n rhannu dyhead y Cadeirydd i weld deddfwriaeth o fewn y Cynulliad hwn, a gallaf eich sicrhau y byddech yn cael cydweithrediad llawn gan Blaid Geidwadol Cymru—a'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Siambr hon rwy'n siŵr—os gosodwch hynny'n uchelgais ar gyfer y Cynulliad hwn.

Ddirprwy Lywydd, yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi strategaeth dai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar, cefais nifer o drafodaethau gyda'r diwydiant adeiladu mewn perthynas â'r diffyg cyfleoedd i wella sgiliau yng Nghymru fel y gall gweithwyr hŷn foderneiddio eu dulliau, a chredaf fod hwn yn fater sy'n codi ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru. Dyma rywbeth y credaf fod y Gweinidog wedi'i grybwyll hefyd yn ei hymateb i argymhelliad 8, sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd gwaith adeiladu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld a fyddai'r Gweinidog yn barod i ymhelaethu yn ei hymateb, yn ysgrifenedig efallai, neu'n uniongyrchol heddiw, er mwyn tynnu sylw at y sgyrsiau y mae swyddogion yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i gael y cyfleoedd hyfforddiant hyn ar waith.

Rwy'n siomedig mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhelliad 6. Credaf fod y model cyd-awdurdod cymwys wedi cael cefnogaeth gyson yn y dystiolaeth. Mae'r model yn edrych ar gylch bywyd cyfan adeilad ac mae'n cynnwys awdurdodau lleol, rheolaeth adeiladu, tân ac achub a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i oruchwylio'r gwaith o reoli diogelwch, ac rwy'n credu mai'r newid mwyaf yno oedd edrych ar gylch bywyd cyfan adeiladau.

Felly, buaswn yn gwerthfawrogi ymateb llawn, os yn bosibl, o leiaf ar gyfeiriad teithio'r Gweinidog yn awr, pa mor gyflym y bydd yn cyflawni'r argymhellion, a rhagor o wybodaeth hefyd am y rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig. Credaf y bydd hyn yn mynd yn bell i sicrhau y gall y rhai sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn gael cartref diogel a chael y tawelwch meddwl a'r sicrwydd y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon, er bod yn rhaid i lawer o'r clod am y gwaith hwn fynd i fy nghyd-Aelod, Bethan Sayed, a weithiodd yn ddiflino i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei osod yn uwch i fyny ar yr agenda, lle y mae'n haeddu bod.

Bellach mae ychydig dros 18 mis ers i drychineb Grenfell ddangos pa mor agored i niwed yw rhai unedau preswyl mewn adeiladau uchel iawn, a hefyd y graddau nad yw safonau sylfaenol o ran iechyd a diogelwch yn berthnasol i bobl sydd ar incwm isel, yn enwedig pobl sy'n perthyn i grwpiau lleiafrifol. Cefais fy syfrdanu, er enghraifft, nad oes rheoliadau statudol yn bodoli o hyd ar gyfer pobl sy'n dymuno rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Hefyd, cefais fy syfrdanu ein bod wedi clywed yn ystod ein sesiynau tystiolaeth fod yna ddeunyddiau yn Ffrainc a'r Almaen a waherddir yn benodol mewn adeiladau uchel iawn, ac nid yw hynny'n wir yma. Efallai mai'r rheswm am hynny yw bod gan Ffrainc a'r Almaen systemau gwleidyddol sy'n llai tebygol o roi blaenoriaeth i elw dros bobl. Cawsom enghraifft fach o hyn ddegawd yn ôl, wrth gwrs, pan wynebodd cynnig cymharol fach gan y Dirprwy Lywydd presennol i osod systemau chwistrellu mewn cartrefi lefel anhygoel o hysteria ar ran y diwydiant. Nawr, mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â diogelwch tân a fyddai'n dechrau mynd i'r afael â'r diffyg cydbwysedd hwnnw, ac a dweud y gwir, mae angen iddynt gael eu gweithredu ar fyrder. Felly, rwy'n falch fod pob un ond un o'r argymhellion hyn wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf yn hollol siŵr fod ganddynt lawer o ddewis, o ystyried canlyniadau peidio â gweithredu'r argymhellion hyn. Ond hyd yn oed pan weithredir pob un o'r argymhellion, mae gwaith ehangach sy'n rhaid ei wneud o hyd i godi lefelau diogelwch ledled y sector tai preifat. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae adeiladau uchel iawn wedi bod yn fannau lle mae pobl ar incwm isel wedi bodoli yn hytrach na byw. Maent wedi gorfod dygymod ag amodau gwael a thanfuddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi eu cymunedau a landlordiaid absennol. A yw'n syndod felly ein bod wedi gweld cymaint o broblemau y mae angen mynd i'r afael â hwy ar frys? Ac onid yw'n drueni bod y drasiedi hon wedi gorfod digwydd i roi cyfle i ni edrych o ddifrif ar hyn?

17:20

Roeddwn am ychwanegu un neu ddau o sylwadau at yr hyn a ddywedwyd eisoes gan y Cadeirydd ac Aelodau eraill. Yn ystod y toriad, ymwelais â safle Tŵr Grenfell, ac rwy'n credu ei fod yn parhau i fod yn dirnod torcalonnus sy'n nodi'r ffaith waradwyddus nad yw'r rhan fwyaf o'r preswylwyr heb gael cartref iawn o hyd, er mai Kensington and Chelsea yw un o'r bwrdeistrefi cyfoethocaf ym Mhrydain ac mae'n ymddangos eu bod yn rhy brysur yn gwneud cytundebau datblygu gyda phobl sydd eisiau adeiladu cartrefi gwerth miliynau o bunnoedd. Pe na bai Llywodraeth y DU mor brysur gyda Brexit, dylai fod wedi cyfarwyddo Kensington and Chelsea drwy orfodaeth i ailgartrefu'r bobl hyn.

Beth bynnag, rwyf am bwysleisio'r diffyg eglurder ynghylch drysau ffrynt fflatiau oherwydd, fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi amlinellu, rydym wedi cael llawer o dystiolaeth sy'n gwrthdaro, a—. Gwyddom, yn anecdotaidd, gan fod pob un ohonom wedi ymweld ag eiddo, fod llwythi o bobl yn newid eu drysau ffrynt ac nid oes neb yn goruchwylio i weld a ydynt yn gwrthsefyll tân, ac yn amlwg, mae hynny'n rhoi pobl eraill, yn ogystal â hwy eu hunain, mewn perygl. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai'r Llywodraeth weithredu ar fyrder yn ei gylch.

Rwy'n credu hefyd bod yna bwynt ynglŷn â'r angen i ddefnyddio'r pensaer fel aswiriwr ansawdd, oherwydd mae'r gwaith o adeiladu adeiladau'n fusnes mor gymhleth y dyddiau hyn, ac os nad ydych ar y safle'n weddol aml, ni fydd gennych unrhyw syniad a yw'r gwaith yn cael ei wneud i'r safonau a bennwyd yn y contract. A phan gwblheir y rhan gyntaf o'r gwaith, mae'n gwbl amhosibl gweld a yw adeilad yn ddiogel rhag tân neu a yw'n creu perygl tân. A chawsom dystiolaeth dda iawn gan y gwasanaeth tân, a siaradodd yn benodol am adeilad penodol lle'r oedd ganddynt reswm dros dynnu'r hyn a oedd y tu ôl i'r paneli oddi wrth ei gilydd a gwelsant ei fod yn bendant yn berygl tân. Felly, sawl adeilad uchel iawn arall sydd mewn cyflwr tebyg? Rhaid inni—. Rôl y Llywodraeth yw sicrhau y glynir at y rheoliadau ac y gall pobl ragdybio'n rhesymol, os ydynt yn mynd i fod yn byw mewn adeilad uchel iawn, ei fod yn mynd i fodloni'r rheoliadau i'w galluogi i ddianc mewn tân.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch i'r pwyllgor am ystyried yn ofalus iawn yr hyn sy'n amlwg yn bwnc allweddol ond sydd hefyd yn gymhleth iawn. Yn dilyn y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato, a'r llu o broblemau sydd wedi codi ers hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymwneud yn drylwyr â'r materion hyn. Rydym wedi chwarae rhan ar lefel polisi ac ar lefel ymarferol. Drwyddi draw, ein prif ystyriaeth bob amser oedd bod yn rhaid i bobl sy'n byw mewn adeiladau preswyl uchel iawn, boed yn y sector preifat neu'r sector cymdeithasol, fod mor ddiogel ag y dylai fod hawl ganddynt hwy a ninnau ei ddisgwyl, fel y nododd nifer fawr o'r Aelodau, a Jenny Rathbone yn awr.

Mae'r adroddiad, yr ymatebais iddo yn gynharach y mis hwn—ac fel y dywedodd David Melding, dyna oedd un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais y portffolio hwn—yn ychwanegiad sydd i'w groesawu'n fawr i'r corff o wybodaeth sy'n datblygu wrth inni roi camau ar waith i wneud yn siŵr y gallwn sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn byw mewn adeilad uchel iawn, gan gynnwys beth yw adeilad uchel iawn mewn gwirionedd ac ar ba uchder y mae'r problemau penodol hyn yn codi. Cefais gryn dipyn o drafodaethau yn yr amser byr y bûm yn y portffolio hwn, a gwn fod fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, wedi cael nifer o drafodaethau o'r blaen pa un ai uchder neu gyfansoddiad neu beth bynnag yr adeilad sy'n bwysig, a'r llwybrau dianc a dosbarth y meddianwyr a'r holl bethau felly. Fel y nododd y Fonesig Judith Hackitt yn ei hadroddiad, 'Building a Safer Future', system effeithiol a chydlynol yw'r allwedd i'r sicrwydd hwnnw. Comisiynwyd adroddiad y Fonesig Judith gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn adnabod y darlun y mae'n ei baentio yn iawn. Yr hyn a wnawn yn awr yw ystyried a yw'r argymhellion yn gywir mewn cyd-destun Cymreig. Mae'n hanfodol, felly, fod ein penderfyniadau ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwn maes o law a'r system y maent yn sail iddi yn cyflawni rhywbeth real a chydlynol, rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac i'w lles, fel y mae pob Aelod a gyfrannodd wedi dweud. Mae hynny'n golygu gwella dylunio mewn prosesau adeiladu, egluro cyfrifoldebau, sicrhau cydymffurfiaeth yn ystod gwaith adeiladu ac ar ôl i bobl symud i mewn, a diogelwch parhaus adeiladau uchel iawn yng Nghymru, ac mae hefyd yn golygu cyfundrefn orfodi gref lle bynnag y bo angen.

Rwyf am ymdrin yn fyr iawn â mater y drysau ffrynt—dim ond i ddweud bod yna gwestiwn yn dal i fod ynglŷn â hynny. Rwy'n ymwybodol iawn ohono. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau ar hynny, ac mae'r grŵp arbenigol yn ymwybodol ohono hefyd. Ceir rhai problemau ynghylch yswiriant ac ati sydd hefyd yn gymhleth a gwn fod y pwyllgor wedi mynd ar drywydd y rheini. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Nid oes gennyf ateb iddo ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol iawn ohono ac mae'n rhan o'r hyn rydym yn edrych arno.

Cyfarfûm â grŵp arbenigol y Gweinidog yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf. Mae'r grŵp hwnnw'n dod ag ystod o arbenigedd ynghyd, gan gynnwys datblygwyr, cyrff rheolaeth adeiladu, penseiri, landlordiaid cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol diogelwch tân, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chynrychiolwyr amrywiol o'r sector. Maent wedi clywed gan gynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ac arbenigwyr technegol, ac o ganlyniad i fewnbwn arbenigol y grŵp rydym ar y trywydd cywir i gynhyrchu'r hyn a alwn yn fap gwaith, a fydd yn rhoi ffurf a chydlyniant i'n dulliau o weithredu ar y problemau a ddisgrifiwyd gan adroddiad y Fonesig Judith. Felly, maent wedi cael eu cyfarfod olaf ond un, sef yr un a fynychais er mwyn eu cyfarfod, ac yna byddant yn cael eu cyfarfod olaf cyn bo hir. Felly, bydd gennym fap gwaith yn fuan iawn ar ôl hynny—yn sicr erbyn diwedd tymor yr haf, ond rwy'n gobeithio erbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei alw'n 'wanwyn'; gadewch inni obeithio mai mis Mai fydd hynny—cyn gynted â phosibl. Maent yn bobl ymroddedig iawn. Rhoesant lawer o'u hamser eu hunain i'r gwaith dros doriad y Nadolig i gynhyrchu'r pethau interim roeddent yn ymdrin â hwy yn eu cyfarfod olaf ond un. Felly, rwy'n hyderus y cawn hwnnw'n gyflym.

Hefyd, roeddwn am roi mwy o deimlad o ble'r ydym yn awr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid llywodraeth leol a thrydydd sector i nodi nifer a manylion yr holl adeiladau preswyl uchel yng Nghymru. Roedd honno'n dasg anoddach o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl, yn enwedig yn y sector preifat, ond bellach mae gennym ddata llawer mwy cadarn a mwy dibynadwy. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth drwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa fwy cadarn o ran y wybodaeth a gedwir ac yr adeiladir arni. Yn anecdotaidd, Ddirprwy Lywydd, dywedir wrthyf, yn y pen draw, ein bod wedi gorfod anfon pobl allan i edrych i weld lle'r oedd pethau tal am nad oedd cofrestr ar gael mewn gwirionedd. Felly, mae honno'n wybodaeth sydd gennym bellach.

Ond nid yw'r wybodaeth honno, wrth gwrs, ond yn mynd â chi beth o'r ffordd. Gwelwyd bod tri adeilad tal yn y sector cymdeithasol a 12 yn y sector preifat wedi eu gorchuddio mewn deunydd cyfansawdd alwminiwm, neu ACM, y cladin penodol a achosodd yr anhawster o ran lledaeniad cyflym y tân yn Nhŵr Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda pherchnogion adeiladau a datblygwyr i sicrhau bod penderfyniadau cyfrifol wedi'u gwneud. Fel y mae, mae'r gwaith naill ai wedi'i gwblhau, neu mae ar y gweill ar dynnu ac ailosod cladin ar bob un ond dau o'r adeiladau hynny. Yn achos y ddau sydd ar ôl, argymhellwyd y dylid cynnal profion ar raddfa fawr ar union natur y cladin a'i berfformiad ac mae'r datblygwr wedi ymrwymo i gydymffurfio ag unrhyw argymhellion dilynol ac mae'n rhoi gwybod inni am gynnydd y broses. Felly, rydym yn falch iawn fod hynny'n digwydd yn gyflym.

Yn y trafodaethau gyda fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, dynododd datblygwyr a pherchenogion y byddent yn gwneud y peth iawn ar gyfer y trigolion. Fe'i gwnaethom yn glir iawn nad oedd Llywodraeth Cymru am weld cost y gwaith hwnnw'n cael ei drosglwyddo i breswylwyr. Rwy'n falch o weld na ofynnir i breswylwyr ysgwyddo'r gost o dynnu ac ailosod cladin ACM. Dyna yw'r penderfyniad cywir, mae'n amlwg, ac rydym yn ei groesawu, a bydd yn rhyddhad i'r bobl sydd wedi prynu'r adeiladau penodol hynny neu sy'n byw ynddynt.

O ran adeiladau newydd neu yn y dyfodol, rydym wedi ymgynghori ar wahardd deunyddiau llosgadwy yn gyfan gwbl. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn dadansoddi'r ymatebion ac yn ymgymryd â'r gwaith asesu effaith angenrheidiol ar yr adborth ymgynghori sydd wedi dod yn ôl. Er y bwriedir gosod gwaharddiad er mwyn ychwanegu rhagor o ddiogelwch, rwy'n deall wrth gwrs fod adeiladwyr ac yswirwyr eisoes yn cymryd camau ymarferol i sicrhau nad yw adeiladau newydd yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cladin llosgadwy, ond yn amlwg mae cwestiwn anferth yn codi ynghylch ôl-osod yn ogystal.

Wrth gwrs, fel y dywedodd llawer o bobl, ceir materion cymhleth sy'n mynd ymhell y tu hwnt i broblem cladin ACM. Mae swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chymheiriaid llywodraeth leol a'r gwasanaethau tân ac achub i fabwysiadu dull gwaith achos o weithredu ar adeiladau y nodwyd pryderon eraill yn eu cylch. Un maes rydym yn dal i ddysgu ohono yw dod â gweithredwyr allweddol at ei gilydd, ac fel adroddiad y pwyllgor, bydd y profiad hwnnw'n deall ac yn datblygu systemau cadarn i wella eu diogelwch.

Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, rwyf wedi bod yn awyddus i dderbyn argymhellion lle bynnag y bo modd ac i sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried yng ngwaith y grŵp arbenigol. Roedd y Fonesig Judith yn glir iawn ynghylch yr angen am ddull sy'n gydlynol, yn hytrach na dull sy'n dewis a dethol, o gyflawni newid system gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny, oherwydd gwyddom ar hyn o bryd fod yna gyfres o reoliadau ac yn amlwg, y broblem yw bod yna fylchau, a bydd rhai pethau'n disgyn i'r bylchau hynny, fel bod dull cydlynol, system gyfan yn hanfodol er mwyn dileu'r bylchau hynny. Mae'r grŵp arbenigol yn deall hynny'n iawn. Maent wedi cadarnhau bod y system bresennol yn dameidiog, yn gymhleth ac yn aneffeithiol yn eu barn hwy. Byddwn yn ei thrawsnewid. Rhaid inni wneud hynny os ydym yn mynd i gadw pobl yn ddiogel rhag y mathau o danau a welsom yn Grenfell, neu unrhyw fath o dân yn wir.

O ran yr amser, credaf ei bod yn well—. Rhaid inni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, felly nid ydym am wneud rhywbeth yn gyflym a'n bod yn methu un o'r bylchau wedyn. Felly, rydym am gael y cyfuniad cywir o gymryd digon o amser i sicrhau ein bod wedi cwmpasu dull system sy'n gydlynol a'r cyflymdra angenrheidiol. Felly, hoffwn allu dweud y gallwn ei wneud o fewn tymor y Cynulliad hwn—yn sicr byddem wrth ein bodd—ond mae'n bwysig iawn inni gael y system yn iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod wedi llenwi'r holl fylchau eraill sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol, a'n bod wedi archwilio pob un o'r posibiliadau. Felly, nid wyf am ymrwymo i hynny heblaw dweud fy mod yn rhannu'r uchelgais, ond pa un a allwn wneud hynny ai peidio, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n bwysig iawn, ac nid wyf yn ymddiheuro, ein bod yn cael y cymhwysiad ymarferol yn iawn ac yna'n ymgorffori hynny yn y ddeddfwriaeth. Rydym am gael yr holl ymgynghoriadau priodol gyda'r gweithredwyr allweddol, wrth gwrs, gan gynnwys safbwyntiau a lleisiau preswylwyr. Rydym am fod yn glir, fel y dywedais, ynglŷn â natur yr adeiladau. Nid uchder yw'r unig broblem o reidrwydd. Ceir risgiau eraill i wahanol grwpiau. Felly, mae'n amlwg, onid yw, y bydd cartref nyrsio, er enghraifft, sydd ond yn ddau lawr, yn wynebu anawsterau penodol a gallai fod angen amddiffyniadau tân arbennig na fydd eu hangen o bosibl ar adeilad domestig preswyl cyffredin ac ati. Felly, mae'n amlwg fod yna faterion mwy cymhleth nag uchder yn unig yn codi, er bod uchder yn parhau i fod yn broblem.

Felly, fel y dywedais, rwy'n disgwyl cael yr adroddiad hwnnw yn y gwanwyn cynnar. Byddwn yn rhoi ystyriaeth drylwyr i'w argymhellion, ac rwy'n glir na fydd unrhyw oedi rhwng eu hadroddiad a'n hymateb na fydd ei angen i wneud yn siŵr fod  ein tŷ mewn trefn os caf ddefnyddio'r ymadrodd.

Rwy'n hapus iawn i dderbyn argymhelliad David Melding fy mod yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau drwy'r pwyllgor ac ar lawr y Senedd, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy swyddogion yn datblygu cynllun rhaglen a llinell amser wrth inni ymgynghori a gweithredu argymhellion tymor byr, tymor canolig a hirdymor i ddangos ein hymrwymiad.

Rwy'n glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn. Mae fy mhortffolio yn cynnwys tai, cynllunio a chyfrifoldeb am bolisi tân, felly rwy'n ymrwymedig i ddefnyddio hyd a lled y portffolio i oruchwylio a gweithredu'r agenda bellgyrhaeddol, gan ddwyn ynghyd y gwahanol elfennau i sicrhau bod y system yng Nghymru yn glir ac yn effeithiol ac yn gwella diogelwch yn y ffordd iawn. Yn hynny o beth, hoffwn ailadrodd fy nghroeso i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'i ran yn llywio'r penderfyniadau allweddol a'r camau a gymerwn, ac fel y dywedais wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a wnawn. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, Ddirprwy Lywydd, ac i aelodau'r pwyllgor am eu ffocws a'u hymrwymiad i'r gwaith hwn. Fel y dywedodd pawb sydd wedi siarad heddiw, mae'n amlwg yn eithriadol o bwysig ein bod yn deall orau y gallwn y materion yn ymwneud â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yn gyffredinol, mewn adeiladau preifat uchel iawn yng Nghymru, yn nodi camau gweithredu angenrheidiol a rhoi'r camau hynny ar waith cyn gynted â phosibl. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ddealltwriaeth ynglŷn â phwysigrwydd y materion hyn, y ffocws a roddodd aelodau'r pwyllgor, eu hymagwedd ddifrifol tuag at eu gwaith, a'r dystiolaeth a gawsom, sydd unwaith eto'n adlewyrchu difrifoldeb y materion hyn.

Fel y dywedodd Leanne Wood, yn amlwg, mae'n beth ofnadwy ei bod hi wedi cymryd trasiedi fel Tŵr Grenfell i ddod â'r problemau a wynebwn i'r amlwg a'r angen am y gwaith sydd bellach yn digwydd a'r camau sydd wedi digwydd ac a fydd yn dilyn. Mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr nad yw trychinebau mor erchyll yn digwydd eto. Dyna pam y credaf, fel y dywedodd y Gweinidog—fel roedd yn gywir i ddweud—ei bod hi'n hynod o bwysig ein bod yn ei gael yn iawn. Ond yn amlwg, mae'r pwyllgor hefyd yn credu—a gwn fod y Gweinidog yn ogystal—oes, mae angen inni ei gael yn iawn, ond mae angen inni ei gael yn iawn cyn gynted â phosibl, a dyna'r ysbryd sy'n rhaid i ni symud ymlaen ynddo. Yn hynny o beth, mae'n dda clywed am ymrwymiad y grŵp arbenigol, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a'r derbyniad fod angen cyhoeddi'r map gwaith cyn gynted â phosibl.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd a roddodd y Gweinidog mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd David Melding am yr angen inni gael y wybodaeth ddiweddaraf mor rheolaidd â phosibl, oherwydd mae llawer o waith yn digwydd. Mae llawer o waith yn digwydd ar lefel y DU, llawer o waith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a llawer o waith yma yng Nghymru. Felly, wyddoch chi, mae llawer o wybodaeth i'w diweddaru, ac unwaith eto, mae'n bwysig dros ben ein bod yn cadw llygad ar y datblygiadau hynny, a'u bod yn cael eu rhannu a'n bod yn deall beth sy'n digwydd a phryd y mae'n mynd i ddigwydd. Unwaith eto, roedd hi'n dda iawn clywed David Melding yn siarad am y cydweithrediad y mae'n gywir i sicrhau'r Gweinidog a fyddai'n amlwg ar draws y pleidiau gwleidyddol yma pe cyflwynid deddfwriaeth, a phe gwneid hynny yn y tymor Cynulliad hwn. Credaf inni glywed beth a ddywedodd y Gweinidog ar y pwnc hwnnw. Ond os yw'n bosibl, rwy'n siŵr ei bod yn bwysig i'r Gweinidog wybod y byddai'r un ysbryd o gydweithrediad gan y pleidiau eraill a fyddai'n hwyluso hynt y ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad ac yn helpu i roi tawelwch meddwl i'r Llywodraeth y gellid goresgyn rhai o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â'r ysbryd hwn o gydweithrediad.

Felly, yn fyr, Ddirprwy Lywydd, mae'r rhain yn faterion y bydd y pwyllgor yn dychwelyd atynt. Rydym wedi gwneud hynny bellach dros gyfnod o flynyddoedd gyda'n gwaith cynnar ar y problemau tai cymdeithasol, o ran adeiladau uchel iawn yng Nghymru, ac yn awr gyda'r adroddiad dilynol hwn ar adeiladau preswyl preifat uchel iawn. Byddwn yn parhau i ddychwelyd at y materion hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog, gan wybod ei bod wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth gynnar yn ei rôl bresennol, ac y bydd yn parhau i wneud hynny.     

17:35

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit Heb Gytundeb

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar Brexit 'dim bargen'. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6918 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y cynnig yn enw ein plaid ac yn falch hefyd o nodi bod y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig yn y ddadl y prynhawn yma. Cytunwn, felly, na ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau, ac rydym yn cytuno, fel mesur argyfwng, y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gynnull y Cydgyngor Gweinidogion i geisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr UE heb gytundeb.

Rwy'n credu bod y cytundeb hwn rhyngom ni a'r Llywodraeth, a chydag Aelodau eraill yma yn ogystal, gobeithio, yn arwydd da fod yna ddealltwriaeth gynyddol yn y lle hwn fod yn rhaid inni wynebu gyda'n gilydd y problemau sy'n pentyrru o gwmpas Cymru ac economi Cymru sy'n bygwth storm berffaith. Ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw'r heriau niferus sy'n wynebu, yn benodol, gweithgynhyrchu yng Nghymru, er enghraifft, ac nid yn lleiaf y diswyddiadau a gyhoeddwyd yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Schaeffler yn Llanelli, naill ai'n deillio o—neu fan lleiaf, yn cael eu dwysáu gan—yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit. Y peth mwyaf uniongyrchol y gallwn ei wneud i leihau'r ansicrwydd hwnnw yw tynnu'r bygythiad o Brexit 'dim bargen' oddi ar y bwrdd. Dyna beth y mae fy mhlaid yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd yn wir, ar ffurf Dafydd Wigley—yn gwneud ei gorau glas i'w gyflawni yn y dyddiau nesaf, drwy ofyn am gydweithrediad ar draws y pleidiau yn y Senedd yn San Steffan. Mawr obeithiaf, wrth gymeradwyo'r cynnig hwn, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfleu hefyd fel mater o frys i arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin y dylai yntau hefyd geisio cydweithio â ni a phleidiau eraill yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn atal Brexit 'dim bargen'.

17:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar ddechrau'r ddadl hon, credaf ei bod hi'n werth ailadrodd pa mor drychinebus fyddai senario 'dim bargen'. Wrth gwrs, mae'n anodd rhagweld gyda sicrwydd pendant beth fydd canlyniadau senario nad yw ei holl amrywiadau posibl, drwy ddiffiniad, wedi'u pennu hyd yn hyn. Ond credaf ei bod yn rhesymol inni ddod i gasgliad ynglŷn â natur yr effeithiau ar yr economi, ac yn y tymor byr i'r tymor canolig maent yn driphlyg—argyfwng ariannol, ergyd i fasnach a dirwasgiad domestig sy'n debygol o fod yn ddwfn ac yn hir.

O ran y marchnadoedd ariannol, mae'r bunt eisoes i lawr tua 20 y cant ers y refferendwm, heb y math o ffyniant allforio ledled y DU a ragwelai rhai pobl. Nid yw ecwiti'r DU yn ddeniadol, gan gynnwys cwmnïau ag iddynt ffocws tramor a restrir yn y DU. Mae swyddi a buddsoddiad yn anelu tramor gydag oddeutu £800 biliwn o weithrediadau staff a chronfeydd cwsmeriaid eisoes wedi symud dramor o'r sector ariannol yn unig, yn ôl adroddiad diweddar gan Ernst & Young. Yn wir, ar ein hymweliad diweddar â Gweriniaeth Iwerddon, mewn cyfarfod gydag awdurdod datblygu Iwerddon, yr IDA—wrth gwrs, maent yn brawf byw o beth allai fod yn ein hwynebu ymhellach i lawr y lôn. Mae 55 o gwmnïau eisoes wedi eu hadleoli, wrth gwrs, i Weriniaeth Iwerddon, heb y bygythiad erchyll o 'dim bargen' hyd yn oed.

Felly, ar 30 Mawrth, mewn senario lle y bydd y DU yn gadael heb unrhyw gytundeb, credaf y gallwn ddisgwyl i'r tueddiadau hyn sy'n bodoli'n barod waethygu'n gyflym ac yn sylweddol. Byddai'r bunt yn cwympo o leiaf 20 y cant arall, mae'n debyg, i'r un lefel â'r ddoler. Byddai pryder cyffredinol ynglŷn â sefydlogrwydd ariannol y DU, ynghyd ag all-lif gwyllt o gyfalaf, a byddai amrywiaeth eang o sefydliadau ariannol yn debygol o gael eu profi'n ddifrifol yn adlais o 2008, ond gyda'r dimensiwn ychwanegol fod economi'r DU a'r economi fyd-eang mewn cyflwr mwy bregus na'r adeg honno, a chanddynt lawer llai o allu i ymateb yn gadarnhaol. Mae tebygolrwydd cryf y byddai Banc Lloegr yn gorfod codi cyfraddau llog yn sydyn er mwyn ceisio cynnal hyder.

Nawr, o ran yr economi go iawn, mae'n debyg na fydd busnesau domestig yn cael eu taro mor galed â hynny ar y diwrnod cyntaf, er y byddai rhywun yn rhagweld arafu cyffredinol yn y gweithgarwch economaidd, o ystyried yr ansicrwydd ariannol, cwymp y bunt a'r cynnydd mewn cyfraddau llog, a fydd yn gyflym yn achosi hwyliau negyddol yn gyffredinol o ran hyder yn yr economi. Ar y llaw arall, er hynny, mae'r effaith ar y sector nwyddau masnachadwy yn debygol o fod yn sydyn ac yn ffrwydrol. Bydd yn effeithio ar yr holl drafodion trawsffiniol. Yn wir, bydd ffiniau newydd cyfan yn cael eu creu lle nad oeddent o'r blaen yn yr ystyr fasnachol. Bydd biwrocratiaeth, oedi, anhrefn a dryswch yn tanseilio holl sail llawer o weithgynhyrchu mewn union bryd y DU. Gellir rhagweld cwmnïau'n cau a phroblemau llif arian yn magu gwraidd yn gyflym iawn, o ystyried maint y newid a'r ansicrwydd. I wasanaethau, unwaith eto, mae hi bron yn sicr mai'r tebygolrwydd yw y ceir tarfu difrifol a bygythiad i oroesiad rhai cwmnïau, a rhagor o gatalyddion ar gyfer adleoli cwmnïau eraill. Nid oes modd mesur yn gywir faint o swyddi a fyddai'n cael eu colli yn ystod y misoedd cyntaf, ond y tebygolrwydd yw y byddai'n ffigur sylweddol, ac y byddai'r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd am byth.      

Nawr, wrth edrych y tu hwnt i'r wythnosau a'r misoedd cyntaf, mae'n wir yn hirdymor fod yr argyfyngau hynny'n datrys eu hunain yn y pen draw. Fodd bynnag, credaf ei bod yn debygol, yn yr achos hwn, oherwydd dyfnder yr effaith mewn rhai sectorau, yn enwedig y diwydiant ceir, cynhyrchion fferyllol, awyrofod, ffermio, cyllid yn ôl pob tebyg, credaf y byddai'n gadael cysgod hir o ddirywiad economaidd am lawer iawn o flynyddoedd i ddod. Ac oherwydd bod gan Gymru gyfradd uwch o'r rhan fwyaf o'r sectorau hyn, byddem yn debygol o ddioddef yn anghymesur o senario 'dim bargen'. Bydd dirwasgiad mawr yn y wlad bron yn sicr o fod yn anochel. Bydd yr ergyd enfawr i ddiwydiant, ynghyd â phrisiau cynyddol a chynnydd mewn cyfraddau llog, yn arwain at wneud pobl yn dlotach o lawer, a pheri iddynt gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Byddai cwmnïau domestig a fydd, mae'n debyg, yn osgoi'r anhrefn cychwynnol, yn cael eu taro wedyn, mae'n debyg, gan y dirwasgiad mwyaf difrifol a welwyd yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, gellid dadlau ynglŷn ag unrhyw un o'r rhagdybiaethau unigol sy'n sail i'r rhagfynegiadau a wneuthum, gallwn fod yn anghywir. Y cwestiwn yw: a yw'n risg sy'n werth ei hwynebu? A byddai'r rhan fwyaf ohonom yma, rwy'n credu, yn dadlau 'na'—mae Brexit 'dim bargen' yn annerbyniol ac mae'n ddiangen.

Ond wrth gwrs, daw hynny â ni at gwestiwn perthnasol iawn ynglŷn â sut rydym yn ei osgoi. Nawr, mae'r Llywodraeth eisoes wedi dweud ei bod yn cefnogi ymestyn erthygl 50, ac rydym yn croesawu hynny. A chlod lle y mae clod yn ddyledus—mae ar y blaen i'r Blaid Lafur yn San Steffan yn hynny o beth, sydd ar hyn o bryd ond yn dweud bod ymestyn erthygl 50 yn opsiwn sy'n werth ei ystyried. Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud am hynny, ac rydym wedi clywed iaith opsiynau yn y ddadl Brexit mewn cyd-destunau eraill, onid ydym, yr enwog—? Rwyf bron yn teimlo fel pe bawn i wedi bod yn y drafodaeth ar gynnig cyfansawdd yn yr ystafell honno, oherwydd clywsom gymaint o gyfeirio ati o gynhadledd y Blaid Lafur. Mae amser yn brin ar gyfer opsiynau. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom bellach yw ymdeimlad clir o strategaeth a pha gamau rydym yn mynd i'w cymryd.

Felly, gan ei bod bellach wedi mabwysiadu'r safbwynt hwn ar ofyn am estyniad brys i erthygl 50, rwy'n annog y Llywodraeth i gyfleu'r neges honno i'w cymheiriaid Seneddol yn San Steffan, a byddent yn gwneud cymwynas fawr â phob un ohonom. Ac yn amlwg, yn y cynnig cyn y Nadolig, ar 4 Rhagfyr, fe bleidleisiwyd yn erbyn cytundeb Mrs May. Rwy'n gobeithio y bydd y cynnig hwn heddiw, y Senedd hon, yn pleidleisio yn erbyn Brexit 'dim bargen'. Rydym wedi bod yn ddylanwadol—yn amlwg, rydym wedi arwain mewn perthynas â chytundeb Mrs May. Rwy'n gobeithio y byddwn yn arwain mewn perthynas â Brexit 'dim bargen' yn ogystal ac y bydd y Senedd yn San Steffan hefyd yn dilyn ein hesiampl.

Ond wyddoch chi, nid yw dweud beth rydym yn ei wrthwynebu ond yn rhan o'r ateb. Y rhan nesaf yw dweud beth rydym yn ei gefnogi, ac yn y pen draw, yr unig ffordd o sicrhau'n bendant nad ydym yn mynd i weld Brexit 'dim bargen' yw inni ddod o hyd i fwyafrif cadarnhaol yn y lle hwn, yn amlwg, ond hefyd yn y Senedd arall honno, o blaid dewis amgen. Ond trafodaeth ar gyfer diwrnod arall yw honno, ac wrth hynny, wrth gwrs, yr hyn rwy'n ei olygu yw dydd Mawrth nesaf.

17:45

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett—Neil Hamilton.

Gwelliant 1—Gareth Bennett

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU  yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Gareth ar yr agenda. Wel, dyma'r gwingo diweddaraf ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm ddwy flynedd a hanner yn ôl. Yn betrus ar y cychwyn, ond yn gynyddol amlwg bellach, maent yn cyflwyno cynlluniau i rwystro'r canlyniad hwnnw yn gyntaf, ac yn ail, i'w wrthdroi, i aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae pa seilwaith bynnag sy'n amgylchynu hynny i bob pwrpas yn golygu nad ydym yn gadael yr UE. Gwnaethpwyd hynny'n glir yn ymgyrch y refferendwm, lle y rhybuddiodd pob plaid pe bai pobl yn pleidleisio dros adael, y byddai'n golygu dod allan o'r farchnad sengl, dod allan o'r undeb tollau, a byddai Armagedon yn dilyn yn union fel y mae'r nos yn dilyn y dydd. Wel, ni wnaeth, wrth gwrs, fwy nag y gwnaeth pan gawsom yn union yr un proffwydoliaethau ynghylch mecanwaith y gyfradd gyfnewid pan oedd Prydain yn aelod o'r sefydliad trychinebus hwnnw 25 mlynedd yn ôl. Pan adawsom, wrth gwrs, agorodd wawr newydd a arweiniodd at gyfnod o dwf digyffelyb.

A phan fyddwn wedi cwblhau'r broses hon, fel y gobeithiaf y gwnawn, ac wedi gadael yr UE, bydd y rhyddid y bydd yn ei roi i ni, yn y tymor canolig i'r tymor hir, yn amlwg iawn. Mae'r math o ddarlun Hieronymus Bosch a baentiwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn hurt pan edrychwch ar y ffigurau, y byddwn yn mynd i mewn i'r dirwasgiad mwyaf hirfaith o fewn cof. Onid yw'n cofio dirwasgiad go iawn 10 mlynedd yn ôl? Neu edrychwch ar wlad Groeg neu'r Eidal heddiw os ydych am weld beth yw amddifadedd go iawn.

Roedd ein hallforion i'r Undeb Ewropeaidd yn £274 biliwn y llynedd—rhan sylweddol iawn o'n cynnyrch domestig gros, yn sicr. Mewnforiwyd llawer mwy ganddynt hwy, wrth gwrs, am fod gennym ddiffyg masnach gyda hwy o £67 biliwn y flwyddyn, ond nid oes neb yn sôn am wahardd masnach rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig. Y lefel gyfartalog o dariff yn y sector anamaethyddol—a 2 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros y DU yw amaethyddiaeth, ond yn y sector anamaethyddol, y tariff UE cyfartalog yw 2.6 y cant. A phan fyddwch yn ystyried, fel y nododd Adam Price, fod gostyngiad o chwe gwaith hynny wedi bod yng ngwerth y bunt ers y refferendwm, byddai gosod tariffau, pe bai'n digwydd—ac nid wyf o blaid tariffau; rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gyda'r UE—. Ond pe baem yn gweld tariffau'n cael eu cyflwyno ar y ddwy ochr, ni fyddai ond yn gyfran fach o'r ganran honno o 16 y cant a allai gael ei heffeithio.

Mae llawer o bobl yn masnachu gyda'r UE mewn sectorau lle na fyddai unrhyw dariffau o gwbl; mewn eraill, maent yn ddibwys. Wrth gwrs, ceir sectorau, megis y sector modurol, lle mae cyfradd y tariff yn 10 y cant, ond mae gennym ddiffyg enfawr mewn deunyddiau modurol. Roedd 86 y cant o'r holl gofrestriadau ceir newydd yn y Deyrnas Unedig y llynedd yn gerbydau a fewnforiwyd. Rydym wedi colli'r rhan fwyaf o'n gweithgynhyrchiant modurol yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd. Mae'r Almaen yn allforio un o bob saith o bob cerbyd a weithgynhyrchir yn yr Almaen i Brydain. Nid ydynt yn mynd i fod eisiau—byddent yn ffôl pe baent eisiau gweld tariffau'n cael eu cyflwyno rhyngom a fyddai'n cyfyngu ar fasnach. Mae problemau'r Almaen yn fwy o lawer o ran beth sy'n digwydd yn Tsieina nag unrhyw beth sy'n debygol o ddigwydd ym Mhrydain yn ystod y 18 mis nesaf. Felly, rwy'n credu bod ganddynt frwydrau eraill i'w hymladd.

Na, nid oes a wnelo ein buddiannau ni â diystyru Brexit 'dim bargen', fel y'i gelwir, os byddwn yn gadael ar 29 Mawrth heb fod wedi dechrau ar y negodiadau hyd yn oed i roi rhywbeth yn ei le. Byddem yn gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, fel sydd gennym gyda gweddill y byd. Mae 60 y cant o'n hallforion bellach yn mynd i weddill y byd, ac rydym yn masnachu'n ddigon hapus gyda hwy ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, ac ni allwn ddechrau negodiadau masnach rydd gyda phartneriaid masnachu pwysig eraill, fel yr Unol Daleithiau, hyd nes y byddwn wedi gadael yr undeb tollau, gan mai'r UE yw'r unig negodwr ar gyfer pob aelod o'r undeb tollau.

Felly, mae yna gyfleoedd, sy'n cael eu hesgeuluso'n gyfan gwbl yn y senario lawn gwae a baentiwyd gan Adam Price yn ei araith agoriadol yn y ddadl hon. Prydain yw'r bumed economi fwyaf yn y byd. Rydym yn flaenllaw ym mhob math o ddiwydiant, a diwydiannau'r dyfodol, fel deallusrwydd artiffisial a diwydiannau technolegol eraill. Llundain yw prif ganolfan ariannol y byd. Ni chaiff hynny ei danseilio gan Brydain yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Mae gennym seilwaith ariannol yn y wlad hon nad oes mo'i debyg yn unman arall heblaw yr Unol Daleithiau. Nid yw Frankfurt byth yn mynd i godi'n uwch na Llundain fel canolfan ariannol fawr. Bydd yr UE yn dal i orfod defnyddio Llundain ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgarwch codi cyfalaf mawr sydd eu hangen yn Ewrop. Wrth gwrs, bydd rhywfaint o newid strwythurol o ganlyniad i adael yr UE, a bydd angen i fanciau a sefydliadau ariannol eraill sefydlu swyddfeydd yn yr UE er mwyn bodloni eu gofynion rheoliadol, ond nid yw'n mynd i gostio dim i ni yn fwy hirdymor. Yn sicr, yn y tymor byr, bydd yna gostau trosiannol. Mae pawb wedi derbyn hynny o'r cychwyn.

Ond os awn tua'r dyfodol gan gredu'n syml ei bod hi ar ben arnom fel gwlad, ac na allwn wneud unrhyw beth yn y byd, nid yn unig y byddwn yn camfarnu ein pobl ein hunain a hefyd mewn gwirionedd yn ffugio ein hanes ein hunain, ond byddwn yn cau'r drws ar ddyfodol nid yn unig ein cenhedlaeth iau sydd yma yn barod, ond holl genedlaethau'r dyfodol, gan mai'r cyfan rydym yn ceisio ei wneud yw'r hyn y buaswn wedi credu y byddai Plaid Cymru ei eisiau yn fwy na dim arall, sef cael yr hawl i hunanlywodraeth ar gyfer ein gwlad ein hunain: y Deyrnas Unedig yn yr achos hwn, sy'n cynnwys Cymru.

17:50

Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw e—Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar waith.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Wrth gwrs, mae hon yn ddadl amserol iawn, o ystyried digwyddiadau neithiwr. Roedd y bleidlais ystyrlon ar gytundeb ymadael â'r UE Prydain yn gyfle, yn fy marn i—yn gyfle i wleidyddion o bob un o bedair gwlad y DU, o bob lliw gwleidyddol a dim lliw gwleidyddol, y rhai a oedd am aros yn yr UE, a'r rhai sydd am adael, i roi eu gwahaniaethau o'r neilltu a rhoi ideoleg ar aelodaeth o'r UE o'r neilltu, a cheisio gweithredu er lles y wlad. Ac mae'n ofid dwfn i mi, yn anffodus, na fanteisiwyd ar y cyfle a roddwyd. Nawr, gwyddom fod y cloc yn tician mewn perthynas â 29 Mawrth, y dyddiad pan fyddwn yn gadael yr UE, sef y targed, ar hyn o bryd beth bynnag, a chredaf ei bod yn bwysig ac yn hanfodol fod unrhyw Lywodraeth, yma ac yn San Steffan, yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i adael yr UE ar 29 Mawrth mewn ffordd drefnus. Ac wrth gwrs, dyna'n union y ceisiodd Llywodraeth y DU ei wneud. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.

17:55

Diolch yn fawr iawn i Darren Millar am dderbyn ymyriad. Rwy'n ddiolchgar. A fyddech chi'n derbyn y byddai Brexit 'dim bargen' yn senario y byddech hefyd yn dymuno ei hosgoi, ac yn y cyd-destun hwnnw, os nad yw'n bosibl osgoi Brexit 'dim bargen', ac nad oes angen trafodaethau pellach yn San Steffan ymhlith yr uwch-seneddwyr y soniodd Mrs May amdanynt, efallai y bydd angen ymestyn y dyddiad ar ôl 29 Mawrth? Oherwydd mae'r cloc yn tician.

Edrychwch, wrth gwrs, byddai'n well gennyf ein gweld yn gadael yr UE gyda chytundeb. Wrth gwrs y byddai'n well gennyf hynny. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y gallwch ddiystyru'r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen' yn llwyr, oherwydd os gwnewch hynny, rydych yn ildio eich holl rym bargeinio i'r UE ac yn dweud wrthynt, 'Ni waeth beth fyddwch yn ei roi inni, fe fyddwn yn ei gymryd oherwydd ni fyddwn yn diystyru Brexit 'dim bargen'. Felly, nid yw'n strategaeth negodi dda. Wrth gwrs. Rwyf eisiau cytundeb. Rwyf eisiau cytundeb da i'r Deyrnas Unedig wrth i ni adael, ac rwyf eisiau cytundeb da i Gymru. A chredaf mai dyna pam y gwelsom ymateb gan Lywodraeth y DU, sydd wedi derbyn canlyniad y bleidlais neithiwr, ond mae hefyd wedi estyn allan at bobl ar yr ochr draw ac ym mhob rhan o'r DU o ran y gweinyddiaethau datganoledig ac wedi dweud , 'Iawn, o'r gorau, rydym yn derbyn canlyniad y bleidlais. Helpwch ni yn awr i saernïo rhywbeth y gallwn oll gytuno arno fel bod yna ymagwedd tîm DU wrth inni adael yr UE.'

Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ymyriad. Mae 72, 73 diwrnod nes y dyddiad pan ydym i fod i—. Gwn eich bod yn dechrau cynhyrfu ynglŷn â hyn, ond rydym yn agos iawn at y dyddiad gadael. Onid ydych yn cytuno ei bod hi braidd yn hwyr bellach i estyn allan at bobl a ninnau wedi bod yn gweiddi yn y Cynulliad hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf am gael ein llais wedi'i glywed, gan gynnwys drwy'r ddogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac fe anwybyddodd y Llywodraeth hynny?

Nid oes dim fel nesu at ddyddiad terfyn i ddod â phobl at ei gilydd a dod â meddyliau ynghyd er mwyn dod o hyd i ffordd drwodd. Nid wyf o blaid gohirio dyddiad ymadael erthygl 50 oherwydd rwy'n credu mai'r hyn a fyddai'n digwydd yw y byddem yn dal ati i'w ohirio a byth yn gwireddu canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 pan bleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE.

Nawr, rhaid imi ddweud, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n deall pam eu bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn, oherwydd maent am inni wrthod senario 'dim bargen'. Ond mae'r hyn a wnaethant ddoe yn pleidleisio yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog a oedd gerbron Tŷ'r Cyffredin wedi gwneud sefyllfa 'dim bargen' yn fwy tebygol. Felly, credaf ei bod ychydig yn rhyfedd, yn wir, fod pobl sydd am ddiystyru Brexit 'dim bargen' wedi gwrthod cytundeb y Prif Weinidog mor hwyr yn y broses.

Ac wrth gwrs, yr hyn a welsom gan y Blaid Lafur yw sefyllfa lle nad oes ganddynt syniad clir mewn gwirionedd o beth y maent ei eisiau o ran gadael yr UE. Maent yn gwneud llawer o synau ynglŷn â beth y credant y dylai Llywodraeth y DU ei wneud a gofyn amdano gan yr UE o ran y trefniadau ar gyfer gadael, ond wrth gwrs, maent yn ofynion afrealistig. [Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn llawer o ymyriadau eisoes. Rwy'n ymddiheuro. Ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl.

Felly, ni fyddwn yn cefnogi eich cynnig heddiw. Credwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r llywodraethau datganoledig eraill, weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chydweithredu i geisio llunio cytundeb y gall pawb ohonom ei gefnogi er mwyn i'r DU allu gadael mewn modd trefnus, gyda chyfnod pontio, tuag at berthynas fasnachu yn y dyfodol a fydd yn sicrhau'r llwyddiant y mae pobl ei eisiau yn sgil Brexit. Ac mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithio i gyflawni'r nodau hynny.

Roeddwn yn awyddus i gyfrannu rhai pethau gan mai'r hyn sy'n cael ei greu yw'r argraff fod Brexit 'dim bargen' yn iawn gan y gall pawb ohonom syrthio'n ôl ar reolau Sefydliad Masnach y Byd a bod hanner y byd a hanner ein masnach o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd ac ati. Hynny yw, a dweud y gwir yn onest, mae hynny'n nonsens llwyr. Ni fyddai'r unig wlad yn y byd sy'n masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn unig. Ar un adeg, rwy'n credu bod Mauritius yn masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd; efallai mai hyd a lled ei heconomi hi yw'r hyn sydd gan Theresa May mewn golwg ar gyfer economi'r DU, ond mae'n nonsens llwyr. Yr eiliad y byddwn yn dod yn ddarostyngedig i reolau Sefydliad Masnach y Byd, yn gyntaf, ar gyfer cynnyrch anamaethyddol, ceir cynnydd enfawr yn y tariffau, ond nid yn unig hynny, ni chawn opsiwn o ddim ond masnachu gyda hwy, oherwydd ceir cwotâu ar gyfer pob math o gynnyrch. Byddai'n senario gwbl drychinebus. Byddem yn colli pob cytundeb masnach rydd rydym yn elwa ohonynt ar hyn o bryd. Ceir 35 o gytundebau masnach rydd rydym yn elwa ohonynt yn rhinwedd ein haelodaeth o'r UE, ac mae 48 ar waith yn rhannol ar hyn o bryd, mae yna 22 yn yr arfaeth a 21 wrthi'n cael eu negodi. Byddem yn colli budd pob un o'r rheini ac ni allem gael dim yn eu lle heb orfod negodi 100 a mwy o gytundebau masnach newydd gyda phob gwlad yn y byd.

Nawr, mae wedi cymryd dros ddwy flynedd i Theresa May lunio cytundeb da i ddim gyda'r UE na all ei gael drwy'r Senedd hyd yn oed. Mae'r syniad fod y Llywodraeth hon yn mynd i allu negodi 100 o gytundebau masnach rydd newydd, neu 10 hyd yn oed, un neu ddau o gytundebau masnach newydd hyd yn oed, o fewn ychydig o flynyddoedd yn nonsens llwyr. Mae'r—

18:00

Bydd hawl taid yn dod yn weithredol ar lawer o'r cytundebau masnach rydd hyn sydd gennym ni a'r UE ar y cyd, felly bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael hawl taid gyda ni'n gwahanu ac yn llofnodi ein henwau arnynt yn ogystal.

Wel, dyna ni, dyna ni'n ei weld eto. Chwedloniaeth bur. O ble ar y ddaear y daw'r syniadau rhyfedd hyn? Ai gêm UKIP o Trivial Pursuit neu rywbeth ydyw? Mae hynny'n nonsens llwyr, oherwydd ni allwn ei wneud; ceir pob math o agweddau ar gytundebau masnach yr UE sy'n cyfyngu ar allu gwledydd eraill i gael yr un telerau heb gytundeb yr UE. Ceir cymaint o gyfyngiadau, fel bod y syniad eu bod oll yn sydyn yn disgyn i'w lle yn gyfan gwbl hurt. A dyna yw'r broblem gyda UKIP—y fytholeg y maent wedi bod yn ei chreu. Fe fyddech yn meddwl, fan lleiaf, gyda'u safbwynt cenedlaetholgar diwyro, y byddent o leiaf yn dweud, 'Wel, mae'n mynd i fod yn anodd, mae'n mynd i fod yn drychinebus, ond dyma rydym ei eisiau oherwydd rydym yn genedlaetholwyr Prydeinig a dyma yw ein hideoleg'. Wel, o leiaf gallech barchu hwnnw fel safbwynt. Ond mae dweud ar y naill law, 'Dyma rydym yn mynd i'w wneud, ond peidiwch â phoeni am y peth oherwydd mae'r holl bethau hudol hyn ar eu ffordd; rydym yn mynd i wasgaru ychydig o lwch hudol, neu beth bynnag ydyw, ar bob cytundeb ac yn sydyn byddant yn trosi draw'. Byddai'n drychineb llwyr.

Roeddwn yn siarad â GE Aviation yn fy etholaeth. Un o'r problemau y maent yn eu hwynebu yw'r ffaith eu bod ar y lefel uchaf o beirianneg, ond mae ganddynt 2,000 neu 3,000 o gydrannau ym mhob injan sy'n cael eu hanfon i bob rhan o'r byd. Nawr, yn y bôn bydd unrhyw oedi yn hynny yn eu gwneud, dros gyfnod o amser, yn anghystadleuol. Nid yw'n golygu y bydd trychineb yn eu taro'n sydyn dros nos, ond gallwch fod yn siŵr, pan ddaw'r camau nesaf o ran buddsoddi, pan fydd y dyfodol  dan ystyriaeth, pan fydd ad-drefnu o fewn busnesau—. Ble fyddant bryd hynny? Ble fyddai unrhyw gwmni rhesymegol yn ei ddewis? A dyna'r dilema. Felly, yr un peth y buaswn yn ei ddweud yw bod—. Hynny yw, gallaf gefnogi'r cynnig hwn oherwydd mae'n gwneud synnwyr perffaith. Ond un peth y buaswn yn ei ddweud wrth y rheini sy'n ei wrthwynebu—

Dyma'r tro cyntaf i chi ddatgan eich cefnogaeth i'r cynnig. Os ydych yn dweud nad oes unrhyw amgylchiadau y byddem yn gadael heb gytundeb, onid ydych yn derbyn y byddai'r UE wedyn yn dal y DU ar gledr ei law, oherwydd byddem yn derbyn unrhyw beth a roddir inni am ein bod wedi diystyru'r un peth sydd gennym at ein defnydd—gallu codi a cherdded ymaith a dweud, 'Anghofiwch amdano, nid yw'n ddigon da'?

Onid yw hynny'n hollol hurt? Y syniad ein bod i gyd yn cytuno y byddai gadael heb gytundeb yn drychinebus ac nad ydym yn barod i ddweud hynny. Mae'r ysgrifen ar y mur; mae'n drychinebus. Nid ydym yn twyllo neb, nid ydym yn twyllo'r UE ynglŷn â hyn. Gwyddom fod 'dim bargen' yn drychinebus ac nid oes neb yn ei iawn bwyll eisiau dilyn llwybr 'dim bargen'. A dyna'r broblem, oherwydd—

Na, na, rwyf wedi derbyn dau. Dyna'r broblem go iawn, oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ochr y Ceidwadwyr yw bod hyn yn ymwneud â diogelu buddiannau'r Blaid Geidwadol am na wnaiff Theresa May wynebu realiti'r sefyllfa wleidyddol y mae ynddi. Pe bai ganddi unrhyw wyleidd-dra o gwbl, byddai'n gwneud y peth iawn, sef cydnabod y grasfa hanesyddol a gafodd a pharatoi i fynd at y bobl ac ymddiried ynddynt, a chael etholiad cyffredinol.

18:05

Gadael heb gytundeb—dwi ddim yn gwybod lle mae rhywun yn dechrau, mewn difri. Mi ddywedaf i, yn gyntaf, fy mod i yn parchu bod yna wahanol safbwyntiau yn y ddadl ar Brexit, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y lleiafrif bach sydd yn ffafrio gadael heb unrhyw fath o gytundeb yn barod i gymryd risg llawer rhy afresymol efo'n lles cymdeithasol ac economaidd ni, a dyna pam rydym ni fel plaid heddiw wedi cyflwyno'r cynnig digon syml yma, fel bod y Cynulliad eto yn gallu siarad yn glir yn dweud bod rhaid sicrhau, doed a ddêl, fod gadael heb gytundeb yn gorfod cael ei osgoi.

Dwi'n diolch ymlaen llaw i'r rheini, gan gynnwys ar feinciau'r Llywodraeth, sy'n mynd i fod yn ein cefnogi ni heddiw. Faint o wrando a fydd ar y Cynulliad? Mae'n profiad ni dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf yn awgrymu dim llawer. Mae holl fater Brexit wedi dangos i fi mor niweidiol a di-hid ydy'r wladwriaeth Brydeinig o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fel mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud, a Steffan Lewis ac eraill sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau Brexit ac yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd diwethaf, mae barn Cymru wedi cael ei hanwybyddu yn llawer rhy aml, a'n dyhead ni i ddiogelu dyfodol ein cenedl ni wedi cael ei anwybyddu hefyd.

Ond mae'n rhaid i ni unwaith eto heddiw godi llais, a dyna'n bwriad ni drwy gyflwyno'r cynnig yma. Do, mi bleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif bach ar yr egwyddor o adael ar sail yr addewidion a wnaed, ond dwi'n hyderus na wnaeth pobl bleidleisio i niweidio'r economi. Mi oedd yr addewidion a wnaed yn rhai gwag, wrth gwrs. Dwi'n clywed Mark Reckless yn bytheirio o'i sedd draw yn y fan acw, ac yn gweiddi yn gynharach yn y Siambr, 'Mi golloch chi—get over it.' Nid dyna lefel y ddadl sy'n mynd i ddod â phobl at ei gilydd yn dilyn hyn, beth bynnag ydy canlyniad hyn, ac mi ddylai bod gennych chi gywilydd o'r ffordd blentynnaidd rydych chi ar y pwynt yma yn ddadl yn ymwneud â hyn.

A wnaiff yr Aelod ildio? A wnaiff yr Aelod ildio? Mae'n dweud 'beth bynnag fydd canlyniad' hyn. Y canlyniad oedd bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y broblem yw nad yw pobl debyg iddo ef eisiau gweithredu'r canlyniad hwnnw a gwnânt bopeth sy'n bosibl i'w rwystro. Drwy ddweud, 'Mae'n rhaid inni adael beth bynnag; ni wnawn dderbyn Brexit "dim bargen" ', rhaid ichi dderbyn beth bynnag y byddant yn ei roi i chi. Ond dyna rydych chi ei eisiau, oherwydd rydych chi eisiau aros yn yr UE a rhwystro pobl Cymru a'r hyn y maent wedi ei benderfynu.

Cawsoch eich ethol gan blaid mewn etholiad ddwy flynedd a hanner yn ôl a oedd yn ymgyrchu'n agored yn erbyn datganoli 20 mlynedd ar ôl y refferendwm i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennyf ferch a oedd yn 16 oed ar adeg y refferendwm hwnnw. Bellach mae hi'n 18, mae hi'n oedolyn, mae hi eisiau dweud ei barn ynglŷn â'i dyfodol. Rwyf fi hefyd am iddi gael dweud ei barn ynglŷn â'i dyfodol. Rwy'n credu mewn democratiaeth. Rwy'n credu mewn gwneud democratiaeth yn berthnasol heddiw. Rwy'n credu mewn gofyn i bobl beth y maent ei eisiau heddiw, yn hytrach na dim ond gwrando ar yr hyn a ddywedasant ddwy flynedd a hanner yn ôl, rhag ofn eu bod hwy, gan eich cynnwys chi, Mark Reckless—. Efallai eich bod wedi newid eich meddwl. Rwy'n digwydd gwybod beth rydych yn ei feddwl, ond nid wyf yn gwybod beth yw barn pobl y wlad, ac rwyf am i bobl gael cyfle i fyfyrio heddiw, ar sail y dystiolaeth sydd gennym ger ein bron heddiw, a ydynt yn credu mai dyma'r llwybr gweithredu cywir i ni ei ddilyn fel gwlad, ac nid oes amheuaeth o gwbl na fydd dilyn strategaeth 'dim bargen' o fudd i Gymru, ac ni allaf gymeradwyo mewn unrhyw ffordd, na chaniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gymeradwyo caniatáu i Brexit 'dim bargen' ddigwydd. Dyna pam rwy'n falch y bydd y Cynulliad hwn ymhen yr awr, neu lai nag awr, yn pleidleisio i ddweud na fyddwn mewn unrhyw amgylchiadau yn derbyn Brexit 'dim bargen'. Nawr, mae hyn yn ymwneud â democratiaeth ac mae'n ymwneud â democratiaeth heddiw a gwrando o ddifrif ar bobl, nid gweiddi am 'ddod drosti' ar eich eistedd. Dylai fod gennych fwy o brofiad na hynny o'ch dyddiau yn y Senedd.

Mae fy amser yn brin. Ar sawl lefel, rydym yn gwybod beth fydd effaith Brexit 'dim bargen'. Rwy'n cofio mynd ar draws y ffordd, ar y diwrnod dirgelaidd hwnnw pan fu'n rhaid inni roi ein ffonau symudol mewn blwch fel na allem dynnu lluniau o amcanestyniadau Llywodraeth y DU ei hun o effeithiau Brexit. Roedd yn ddeunydd darllen erchyll, hyd yn oed y ffyrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd a gâi eu rheoli. Gwyddom y byddai senario 'dim bargen' yn niweidiol tu hwnt. Ford, yr wythnos hon—a ydym o ddifrif yn meddwl y bydd Brexit yn rhoi mwy o hyder i Ford ddiogelu 1,000 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr? A ydym o ddifrif yn meddwl nad oedd gan Brexit unrhyw ddylanwad o gwbl yn yr hyn a ddigwyddodd i Wylfa a'r cyhoeddiad rydym yn ei ddisgwyl yfory ar atal y gwaith hwnnw? A ydym yn credu'n onest nad yw ein busnesau, fel ffermwyr cregyn gleision y Fenai, yn poeni os caiff y 97 y cant o'u cynnyrch sydd angen ei gyflenwi'n fyw i'r Undeb Ewropeaidd o fewn 24 awr ei fygwth oherwydd tariffau, hyd yn oed os yw'n fesur dros dro'n unig? A ydym yn poeni am yr effeithiau ar ein diwydiant amaethyddol? Mae Neil Hamilton yn sôn am dariffau—anamaethyddol. Beth am y rhai amaethyddol? Beth am amaethyddiaeth yn fy etholaeth? Beth am effeithiau colli pobl ifanc? Beth am effeithiau colli pobl ifanc o'r diwydiant amaethyddol yn fy etholaeth oherwydd eu bod yn colli'r farchnad allforio? Nid dyma'r araith yr oeddwn am ei rhoi, ond dyna pa mor gryf rwy'n teimlo ynglŷn â hyn, a dyna pam y mae angen inni egluro—[Torri ar draws.]

Caiff y Llywydd ganiatáu ymyriad, David, os ydych am wneud un.

18:10

Rydych chi'n rhy hwyr. Mae gennym Aelodau UKIP na allant benderfynu a ydynt am ymyrryd. Mae gennym gyn-Aelodau UKIP yn cyrraedd ar ôl i'r areithiau agoriadol gael eu gwneud heb unrhyw barch at y sylwadau a wnaethpwyd yn gynharach. Wel, nid dyna fel y mae'n gweithio. Beth am wneud safiad heddiw, fel rwy'n hyderus y gwnawn, a dweud na fydd Brexit 'dim bargen' yn gweithio i Gymru. Ni fydd yn gweithio i'n pobl ifanc yn y dyfodol.

Llywydd, o ystyried yr anhrefn yn y Senedd yn Llundain, ac wrth i ni aros am ganlyniad y bleidlais ar y cynnig o ddiffyg hyder heno, nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni'n gweithio tuag at un nod unedig yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwneud yn siŵr bod buddiannau allweddol Cymru'n cael eu nodi'n glir a'u diogelu. Dyna fu ein prif amcan ers y refferendwm yn 2016.

Rydw i'n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig yma. Rŷn ni'n ei gefnogi'n llawn. Mae 'dim cytundeb' yn ganlyniad hollol annerbyniol. Dyma'n safbwynt ni fel plaid yma ac yn San Steffan. Dyna'r sefyllfa waethaf bosib, a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwastraffu dwy flynedd yn ailadrodd bod, 'Dim cytundeb yn well na chytundeb gwael' pan ddylai hi fod wedi bod yn datblygu strategaeth ymarferol a cheisio cael cefnogaeth iddi ar draws y pleidiau. 'Dim cytundeb' yw'r sefyllfa waethaf oll. Rŷn ni wedi bod yn dweud hynny ers y diwrnod cyntaf. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y byddai ymadael heb gytundeb yn arwain at golli mwy o swyddi, yr economi'n crebachu, ansicrwydd, a chostau i fusnesau sy'n allforio, fel y disgrifiodd Adam Price, ond hyd yn oed busnesau cartref lle maen nhw'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi yn Ewrop. Mae bron yn anghredadwy y byddai unrhyw lywodraeth yn Senedd y Deyrnas Unedig yn gallu caniatáu’r fath ganlyniad sydd mor amlwg a phendant yn groes i fuddiannau'r wlad. Dywedir nad oes mwyafrif yn y Senedd o blaid Brexit heb gytundeb. Mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd hi'n gwrando ar y Senedd. Mae'n hen bryd, nawr, felly, ein bod hi'n ystyried yn ofalus y lleisiau sy'n cael eu codi yn erbyn 'dim cytundeb'.

O safbwynt ail ran y cynnig, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu eisoes at Theresa May yn gofyn am ailgynnull Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar fyrder ar ffurf cyfarfod llawn i drafod yr argyfwng yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr. Mae wedi nodi'n glir bod hynny ar y dybiaeth y bydd y Llywodraeth yn groes i'r bleidlais o ddiffyg hyder, ac na fydd hi wedi gwneud yr hyn y dylai hi fod wedi'i wneud ar ôl colli mor drwm, sef camu o'r neilltu. Yn ei lythyr, mae wedi gofyn i'r cyfarfod gytuno ar bedwar peth, sef: diystyru ymadawiad heb gytundeb fel canlyniad i'r negodiadau; ymrwymo i gynnal, ar unwaith, cyfres o drafodaethau trawsbleidiol yn y Senedd a chydweithio gyda'r sefydliadau datganoledig i gytuno ar ffordd newydd ymlaen—dylai hyn gynnwys ailnegodi yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn i gymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau neu roi'r dewis yn ôl i bobl y Deyrnas Unedig drwy ymrwymo i etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus; gofyn am estyn proses erthygl 50 i hwyluso hyn; a deddfu i ddileu'r cyfeiriad at 29 Mawrth fel y diwrnod ymadael yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd. 

O'n rhan ninnau, rŷn ni'n croesawu'r ymrwymiad, er mor hwyr yw e, y bydd y Llywodraeth Geidwadol, os bydd yn goroesi, yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol gyda Thŷ'r Cyffredin i ddod o hyd i'r ffordd ymlaen. Bydd rhaid i hyn wrth gwrs gynnwys meinciau blaen yr holl wrthbleidiau a'r sefydliadau datganoledig. Rhaid i'r Llywodraeth hefyd wneud yr hyn yr addawodd ei wneud wrth sefydlu'r Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r Undeb Ewropeaidd a cheisio cael consensws ar y ffordd ymlaen gyda ni a Llywodraeth yr Alban.

Lywydd, na foed inni fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa hon. Nodaf mai un peth na ddywedodd y Prif Weinidog neithiwr, er gwaethaf y grasfa ddifrifol a gafodd, oedd y byddai'n gofyn am ymestyn erthygl 50 i roi lle i anadlu ar gyfer y dull newydd o weithredu yr oedd yn ei gynnig. Yn wir, mae ffigyrau Llywodraeth wedi parhau i ddweud nad oes angen estyniad o'r fath. Yn y cyfamser, fel y dywedodd y Llywydd Tusk, mae'r risg o Brexit anhrefnus wedi cynyddu. Fel y cawsom ein hatgoffa gan Mick Antoniw, byddai Brexit anhrefnus, yn dod â thariffau a chwotâu yn ei sgil, er gwaethaf breuddwyd gwrach Neil Hamilton.

Fel y saif pethau, byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth. Dyna y mae'r gyfraith yn ei ddweud ar hyn o bryd. Ni all hyn newid oni bai bod Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn modd pendant. Galwn arnynt i ofyn i'r Undeb Ewropeaidd ohirio dyddiad gadael erthygl 50 a diwygio ein deddfwriaeth ddomestig, ond er mwyn i'r cais hwn lwyddo mae'n rhaid iddi fod yn glir fod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â sicrhau'n gyflym ffordd o weithredu a all ennyn cefnogaeth eang ar draws y Senedd a'r wlad gyfan ac un sy'n dderbyniol i'r UE-27. Yn rhy aml gwelsom y Prif Weinidog yn cyfarfod ag arweinwyr UE gyda chynigion afloyw. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae'r wlad angen cynigion cadarn a chyflawnadwy, a geilw hyn am ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn sylfaenol. Nid yw mân addasiadau'n mynd i wneud y tro ac ni fyddant yn ennyn cytundeb yn y Senedd yng ngoleuni'r grasfa neithiwr.

Yn y cyfamser, rhaid inni baratoi ar gyfer realiti Brexit 'dim bargen' orau y gallwn. Dywedais hynny ddoe yn fy natganiad, a dywedodd y Prif Weinidog hynny yr wythnos diwethaf yn ei ddatganiad ef, ac eto heddiw. Dyna'r unig lwybr gweithredu sy'n agored i Lywodraeth gyfrifol sy'n blaenoriaethu lles ein pobl yn anad dim arall. Dyna pam yr ydym yn cynnig aildrefnu busnes yn y Cynulliad hwn ddydd Mawrth nesaf i ganolbwyntio ar baratoadau 'dim bargen'. Er gwaethaf yr holl anghytuno rhyngom, rydym yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yma yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny, ond byddai canlyniad o'r fath yn warth. Dewis lleiafrif pitw o ideolegwyr a phenboethiaid yn y Senedd ac yn y wlad ydyw a byddai'n achosi niwed mawr yn y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn y Cynulliad hwn wedi'u disgrifio heddiw ac yn gyson dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.

Cydweithiodd Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru ar y cychwyn a chynhyrchu 'Diogelu Dyfodol Cymru', sef cyfres gadarn o safbwyntiau'n diffinio buddiannau Cymru, ac mae wedi dal prawf amser. Llwyddasom i wneud hyn gan barchu'r ffaith bod gwahaniaethau rhyngom wrth gwrs a bydd y rheini'n parhau, ond os gallasom gytuno ar y materion mawr, gwnaethom hynny er lles y wlad. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, os gallasom ni gynhyrchu safbwynt ar y cyd, wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad hwn ddwy flynedd gyfan yn ôl, pam na allodd Llywodraeth y DU wneud yr un peth? Rhaid i'r Prif Weinidog ymgysylltu â meddwl agored yn awr â'r Senedd a'r sefydliadau datganoledig, anghofio ei llinellau coch a rhoi budd y wlad yn gyntaf.

Lywydd, nodaf fod y gwelliant a gyflwynwyd gan y grŵp Ceidwadol yn galw arnom i weithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU i gyflawni canlyniadau refferendwm 2016. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag sydd mewn grym, fel y gwnaethom drwy gydol y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ond fel yr eglurais, cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan mewn gwirionedd yw dangos bod ei hymrwymiad i fwrw ati o ddifrif i ddechrau trafodaethau trawsbleidiol yn ymrwymiad diffuant mewn gwirionedd, os yw'n goroesi'r bleidlais o ddiffyg hyder heno wrth gwrs.

Fodd bynnag, gwrthwynebwn y gwelliant am nad yw'n mynd yn ddigon pell. Dylai'r Cynulliad ddweud yn gwbl glir yn awr y dylid diystyru 'dim bargen'. Gan nad yw gwelliant y Ceidwadwyr yn dweud unrhyw beth o gwbl ynglŷn â pha fath o ateb y gellir ei ragweld i'r argyfwng hwn, rwy'n tybio mai'r rheswm am hynny yw bod y rhaniadau yma'n ddrych o'r rhai a geir o fewn y blaid yn y Senedd. Gwn fod rhai o'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn yn deall yn iawn pa mor ofnadwy o ddinistriol fyddai Brexit 'dim bargen'. Felly, apeliaf arnynt i ymuno â ni i gefnogi'r cynnig hwn, ac yna gall Prif Weinidog Cymru gyfleu neges wirioneddol ddiamwys i'r Prif Weinidog os a phan fydd hi'n cynnull y Cydbwyllgor Gweinidogion fel y mae'r cynnig hwn yn briodol yn galw amdano.

18:15

Gaf fi ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl gyffrous yma y prynhawn yma—lliwgar iawn ar adegau? Rydw i'n meddwl bod hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu'r teimladau cryfion a'r teimladau sydd yn gynyddol gael eu polareiddio yn y drafodaeth hynny. Mae hynny yn biti, ond wrth gwrs dyna yw'r her rŷn ni'n ei hwynebu, o safbwynt ffeindio ffordd allan o'r dryswch mawr yma. Ac mi wnaeth Adam Price daro nodyn sobreiddiol reit ar y cychwyn, yn rhoi darlun inni o'r difrod y bydd Brexit heb gytundeb yn ei achosi, ac yn cyfaddef ei hunan efallai ei fod e'n anghywir, ond os ydy e'n anghywir, wel, nid fe fydd yr unig un sy'n anghywir, oherwydd mae yna sylwebwyr ac arbenigwyr a phobl yn gweithio mewn sectorau ar draws yr economi, ar draws y Deyrnas Unedig, sydd yn ofni ac yn rhagdybio'r un canlyniad, a'r Llywodraeth ei hunan hefyd. Felly, ydy e'n risg sy'n werth ei chymryd? Wel, nac ydy, a dyna pam, wrth gwrs, ŷn ni fel plaid wedi dod â'r cynnig yma gerbron heddiw.

Dwi eisiau sôn ychydig am yr impact ar y diwydiant amaeth, oherwydd mae'n sector sy'n agos iawn at fy nghalon i, ac mae e'n un, wrth gwrs, sydd yn mynd i fod yn wynebu rhyferthwy Brexit yn fwy, efallai, na nifer fawr, neu'r rhelyw o sectorau eraill.

Ac mae rhai o'r pryderon ynglŷn â ffermio wedi'u trafod droeon, wrth gwrs, ond yn fwyaf diweddar yn y drafodaeth bwrdd crwn ar ffermio yn y DU, lle y gwyntyllwyd nifer sylweddol o effeithiau mwyaf a mwyaf uniongyrchol Brexit 'dim bargen' posibl. Gwyddom, er enghraifft, y gallai fod goblygiadau enfawr i gynhyrchion anifeiliaid megis cig, wyau a llaeth sy'n cael eu hallforio i'r UE ar hyn o bryd. Ni fyddant ond yn mewnforio o wledydd cymeradwy, a gallai gymryd misoedd i ni gyrraedd statws o'r fath mewn senario 'dim bargen', wrth gwrs. Ac mae'r effaith ar ein sector cig oen yn enwedig yng Nghymru yn peri pryder mawr.

Cyfeiriwyd at y tariffau allforio. Beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Wel, gellid eu gosod ar 60 y cant o fwyd y DU, bwyd a diod sy'n mynd i'r UE, cynyddu tariff allforio i gyfartaledd o 27 y cant ar gyw iâr, 46 y cant ar gig oen, 65 y cant ar gig eidion. Dyma'r ffigurau rydym yn sôn amdanynt, a gallaf weld Mr Hamilton ar ei draed. Ewch chi.

18:20

Ond rydym yn fewnforwyr net anferth o'r holl gynhyrchion hyn, ar wahân i gig oen. [Torri ar draws.] Ar wahân i gig oen, lle y mewnforiwn gymaint ag a allforiwn—mae yna gydbwysedd masnach. Rydym yn fewnforwyr net anferth, felly bydd tariffau milain yr UE yn gymwys i'w gwerthiannau hwy i ni lawn cymaint â'n gwerthiannau ni iddynt hwy, felly byddant hwy fwy ar eu colled na ni.

Dyma ni'n mynd. Rydych chi'n ymgnawdoliad o'r rhithdyb o fawredd y mae'r ymerodraeth Brydeinig yn dal i fodoli ynddi. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. A dyna sy'n fy nghorddi ynglŷn â llawer o'r ddadl hon. Mae'n fy nghorddi oherwydd fod peth o'r rhethreg ynglŷn â Brexit a gadael yr UE—mae iddo adleisiau o'r rhethreg adeg y rhyfel, onid oes? Ysbryd Dunkirk, palu dros fuddugoliaeth. Rydym i fod yn byw mewn oes heddychlon. Mae hi i fod yn adeg o heddwch, ac mae'r math hwn o rethreg yn sawru mwy o hunan-niwed na hunanddibyniaeth. [Torri ar draws.] Ydy—ydy'n bendant. Ac edrychwch, nid fi sy'n dweud hyn i gyd. Heno mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhyddhau datganiad, ac rwy'n dyfynnu:

O ystyried canlyniad y bleidlais hon a pheryglon senario dim bargen, teimlai ein cadeiryddion a'r tîm Llywyddol mai'r unig ffordd y gallwn adfer rheolaeth ar broses Brexit yw tynnu erthygl 50 yn ôl—

Undeb Amaethwyr Cymru sy'n dweud hyn—

a diogelu dyfodol y diwydiant amaethyddol drwy wneud hynny, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.

Ac maent yn mynd rhagddynt, ac ni fyddwch yn hoffi hyn o gwbl:

Ymddengys bod cefnogaeth gynyddol i ail refferendwm ledled y wlad, ac mae'n ymddangos bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein sector ni.

Dyna ni. Beth bynnag, rwyf wedi colli fe lle yn awr, onid wyf? [Chwerthin.] Ond fe welwch beth sydd gennyf, oni wnewch? Gwyddom y bydd effeithiau ar y sector, ac wrth gwrs o ran llafur yn ogystal—byddai rhoi diwedd sydyn ar y gallu i symud llafur o'r UE yn achosi problemau difrifol o ran sicrhau llafur i gynaeafu a phrosesu cynnyrch y DU hefyd, wrth gwrs, a cheir effaith arall o ran arolygiadau milfeddygol, sy'n rhywbeth rydym wedi'i drafod yma o'r blaen yn y Siambr hon. Yn y senario waethaf, yn ddiweddar rhybuddiodd un o benseiri Brexit hyd yn oed, Michael Gove, ynglŷn â difa hyd at un rhan o dair o holl ddefaid y DU, ac roedd ganddo hyfdra i bregethu wrth eraill, ac rwy'n dyfynnu

na all neb fod yn ddiofal neu'n ddidaro ynghylch yr effeithiau real ar gynhyrchwyr bwyd yn y wlad hon o adael heb y cytundeb.

Wel, pwy oedd yn fwy diofal neu ddidaro nag ef ddwy flynedd yn ôl?

Fel gyda phopeth sy'n ymwneud â Brexit, ydy, mae'n cael ei bolareiddio ac fe fydd safbwyntiau gwahanol, ond yr hyn a wyddom yw bod consensws clir mewn gwirionedd o bob cyfeiriad mai Brexit 'dim bargen' fyddai'r Brexit mwyaf niweidiol o'r cyfan. Bydd hyd yn oed y bws Brexit gwaradwyddus, fe gredaf, yn gorffen ei oes wedi'i barcio ar lain galed ger Dover, yn ceisio mynd allan o'r wlad. [Chwerthin.] Na. Brexit 'dim bargen' yw'r gwaethaf o bob byd, ac mae'n rhaid ei wrthod, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod yna dri Aelod sydd eisiau i fi ganu'r gloch, dyma ni'n symud yn syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais hynny ar y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6920 - Egwyddorion Cyffredinol Bil Awtistiaeth (Cymru): O blaid: 24, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar Brexit heb gytundeb. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6918 - Dadl Plaid Cymru, cynnig heb ai ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Contract ar gyfer Gwell Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n symud ymlaen at yr eitem nesaf, a'r ddadl fer yw honno. Os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel, fe fyddwn ni'n symud ymlaen at y ddadl fer. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Galwaf yn awr ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis ar gyfer y ddadl fer. Jack Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn dechrau, hoffwn roi gwybod i'r Siambr y buaswn yn hoffi rhoi munud yr un o fy amser i David Melding, Mohammad Asghar a fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore.

Mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon heddiw ar iechyd meddwl yn y gweithle, yn enwedig yng ngoleuni contract economaidd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am ei holl waith caled ar y contract hwnnw, a dweud fy mod yn gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd yn agos ar fater iechyd meddwl. Gobeithiaf hefyd y gallaf weithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater hwn yn ogystal.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gwella cymorth iechyd meddwl yn rhywbeth agos iawn at fy nghalon, ac mae'r ddadl fer hon yn gyfle arall i drafod y mater ac i fynegi fy nheimladau ar y mater hwn. Ond mae hefyd yn gyfle da i dynnu sylw priodol at waith yr ymgyrch Where's Your Head At—ymgyrch sy'n anelu i sicrhau bod pob cyflogwr yn edrych ar ôl lles eu gweithlu. Yn benodol, mae'n gofyn am ei gwneud yn orfodol i gael gweithiwr cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.

Nawr, rwy'n cytuno â'r alwad honno, a dyna pam rwy'n diolch i ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch honno, Natasha Devon MBE, am ei holl waith hyd yma. Cefnogwyd ei hymgyrch yn eang ledled y DU, gyda dros 200,000 o lofnodwyr—ASau ar draws y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â dros 50 o arweinwyr busnes y DU. Mae cefnogi ymgyrch o'r fath a gwneud newid yn realiti yma yng Nghymru yn gwneud synnwyr llwyr, a dyna'r peth cywir i'w wneud. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt dynol ac ariannol i sicrhau ein bod yn diogelu iechyd meddwl yn y gweithle yn yr un modd ag y diogelwn iechyd corfforol.

Bob blwyddyn, mae problemau iechyd meddwl yn y gweithle yn costio bron £35 biliwn i economi'r DU, a cholli 15.4 miliwn o ddyddiau gwaith yn sgil straen, iselder a gorbryder sy'n gysylltiedig â gwaith. Ond nid cost ariannol yn unig yw hi. O'i adael heb ei drin, mae salwch meddwl yn effeithio ar berthynas yr unigolyn â ffrindiau, teulu, cydweithwyr, ac yn y pen draw mae'n effeithio ar ansawdd eu bywydau. Canfu astudiaeth bwysig o lesiant yn y gweithle gan yr elusen Mind fod mwy na hanner y bobl a holwyd wedi profi salwch meddwl yn eu swydd bresennol.

Mae'r contract economaidd yn un o'r polisïau allweddol yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, ac o dan y contract bydd angen i fusnesau sy'n ceisio cymorth gan y Llywodraeth ymrwymo i egwyddor twf, gwaith teg, lleihau ôl troed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle. Felly, rwy'n arbennig o falch fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn y contract economaidd ac y bydd y Llywodraeth yn cefnogi mentrau gwahanol.

Ond yn yr un ffordd ag y mae pobl sy'n dioddef salwch meddwl eisiau cymorth gwirioneddol, rwyf fi eisiau newid ac atebion gwirioneddol. Rwy'n credu bod gan yr ymgyrch hon ran bwysig i'w chwarae a buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i roi ei chefnogaeth lawn i ymgyrch Where's Your Head? a fydd yn destun dadl yn Senedd y DU, ac i ystyried yr holl opsiynau o ran beth y gellir ei wneud i sicrhau ein bod yn darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl, fel y darperir cymorth cyntaf corfforol, yn y gweithle, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tuag at eu staff, ac er bod rhai cyflogwyr ar flaen y gad yn sicrhau newid, ni allwn fforddio gadael neb ar ôl yma yng Nghymru neu yn y DU. Rwy'n talu teyrnged i Airbus yn fy etholaeth ac etholaeth Jayne Bryant, y gwn eu bod yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i fy undeb fy hun, a diolch iddynt, undeb Unite, am yr holl waith a wnânt yn darparu cymorth a hyfforddiant ar iechyd meddwl i'w haelodau a'r mater penodol hwn.

Nawr, mae angen inni rannu arferion gorau, ond mae angen inni sicrhau hefyd fod cyflogwyr eraill yn cydraddoli nifer y swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl sydd ganddynt. Ni all cost fod yn rheswm dros wrthwynebu, oherwydd bydd cael swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle yn arwain at arbedion yn y dyfodol hirdymor. Rwyf am i Gymru, ac rwyf am i Lywodraeth Cymru, arwain ar y mater hwn. Os llwyddwn yma yng Nghymru, bydd eraill yn dilyn a bydd eraill yn llwyddo hefyd.

Ddirprwy Lywydd, yn ddiweddar anfonwyd llythyr at Brif Weinidog y DU a ddywedai'n gywir y bydd llwyddiant yn sicrhau bod gweithwyr ar draws y DU yn gallu troi at aelod hyfforddedig o staff ac yn gallu cael cymorth ac arweiniad cychwynnol os ydynt yn dioddef problem iechyd meddwl yn y gweithle. Bydd llwyddiant yn sicrhau bod gan bob gweithiwr hawl i amgylchedd iach yn feddyliol—amgylchedd gwaith iach yn feddyliol. Ac o'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yma heno, rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod pawb ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld llwyddiant yn hyn o beth.

Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll beth fyddai llwyddiant yn ei olygu i mi. I mi, bydd llwyddiant yn golygu y gallwn o'r diwedd dorri stigma iechyd meddwl yn y gweithle a gallwn ei gwneud yn glir ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn. Ac os gwthiwn ymlaen gyda'r ymgyrch hon byddwn yn anelu tuag at fyd o iechyd meddwl da i bawb. Diolch.

18:30

A gaf fi ddiolch i Jack am godi mater pwysig cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle? Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl fy hun yn eithaf cyson drwy gydol fy oes fel oedolyn, ac mae wedi cael effaith yn y gweithle, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mewn ffordd anffurfiol credaf fy mod wedi cael cefnogaeth ac rwyf wedi brwydro drwyddi a'r rhan fwyaf o'r amser rwyf wedi cael iechyd da. Ond rwy'n credu bod arnom angen polisïau cyson, oherwydd mae yna adegau pan fydd pobl yn tangyflawni'n sylweddol yn ôl pob tebyg. Rwy'n sylwi bod rhai o'r amcangyfrifon diweddaraf o gost i gyflogwyr yn amrywio rhwng £33 biliwn a £42 biliwn. Mae'n rhyfeddol, ac yn amlwg, y prif beth yma yw pryder dyngarol ynglŷn â chadw pobl yn yr iechyd gorau posibl, ond yn economaidd nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Yn anffodus, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif bod hyd at 300,000 o bobl y flwyddyn yn colli eu gwaith oherwydd cyflwr iechyd meddwl. Dyna yw maint y broblem mewn gwirionedd.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog? Rwy'n deall bod strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i Iechyd Cyhoeddus Cymru edrych ar yr holl broblem hon yn y gweithle, ac maent i fod i gyflwyno adroddiad erbyn mis Mawrth 2019, felly mae ar y gorwel. Rwy'n credu bod y GIG, ein cyflogwr mwyaf yng Nghymru, mewn sefyllfa ardderchog i dynnu sylw at arferion gorau o ran sut i gefnogi gweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus. Diolch.

18:35

Rwy'n ddiolchgar i Jack am roi munud o'i amser i mi ar y mater pwysig hwn. Mewn gwirionedd, mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar y gwasanaeth iechyd gwladol i amddiffyn ein hiechyd meddwl, bobl, i wneud yn siŵr fod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gwella ac yn cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n sefyllfa drist fod bod problemau iechyd meddwl—gallant niweidio bywydau a gwanhau cymdeithas. Nid yw tri chwarter y rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael unrhyw gymorth triniaeth yng Nghymru, sy'n ffigur syfrdanol, ac mae Jack eisoes wedi'i grybwyll. Gwariwyd biliynau o bunnoedd ar ymchwil a datblygu. I'r bobl sydd mewn gwaith, ychydig iawn o waith ymchwil a geir, llai na 5 y cant, ac ar gyfer iechyd meddwl, mae'n fach iawn—nid yw'n llawer o arian. A allai'r Gweinidog wneud yn siŵr y caiff arian ei neilltuo i wneud yn siŵr fod pobl sy'n gweithio—fod datblygiad parhaus ar gyfer eu hiechyd meddwl yn y gweithle, nid cael eu diswyddo neu eu symud o'u swydd?

Mae geiriau sy'n dechrau gyda P—rhwng O a Q, P—yn hynod o—. Ceir geiriau gwenwynig iawn yno y mae iechyd meddwl yn eu rhoi ichi—. 'Poverty, prison, pressure at work, post natal'—felly, mae geiriau sy'n dechrau gyda P yn wenwynig iawn, fel y dywedodd, mewn iechyd meddwl, y bydd pobl yn ei ddioddef. Mae dementia yn un, gyda 43,000 o bobl yn dioddef ohono yng Nghymru. Rwy'n byw gydag un, perthynas yn fy nheulu, a Weinidog, mae'n bwnc maith sy'n rhaid inni ymdrin ag ef, pwnc iechyd meddwl. Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried y dylai pobl mewn gwaith gael cymorth nid yn unig gan eu cyflogwyr ond hefyd gan y Llywodraeth i wneud yn siŵr fod iechyd meddwl—pan fyddant yn mynd drwy broblemau penodol, boed yn deulu neu'n gwaith, y dylent gael gofal yn y fan a'r lle a dylai pethau gael eu datrys. Diolch.

Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Jack am gyflwyno'r ddadl fer hon ar y maes pwysig hwn ac am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw. Yn ôl yr elusen iechyd meddwl Mind, mae mwy nag un o bob pump o bobl wedi dweud eu bod wedi ffonio'r gwaith i ddweud eu bod yn sâl er mwyn osgoi gwaith, pan ofynnwyd iddynt sut oedd straen yn y gweithle wedi effeithio arnynt. Er y bydd y mwyafrif llethol o reolwyr a chyflogwyr, rwy'n siŵr, yn awyddus i gefnogi lles eu cyflogeion, yn rhy aml gall fod yn fwy na her go iawn i lawer o bobl drafod eu hiechyd meddwl gyda'u rheolwr llinell, am resymau amlwg.

Dyma pam y mae'n hollbwysig fod swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl ar gael mewn gweithleoedd—a buaswn yn cytuno'n llwyr â'r farn y mae Jack newydd ei datgan—i allu darparu cymorth lles, rhywun sydd yno inni pan nad ydym yn iawn. Gall pawb yn y Siambr hon chwarae rôl o ran darparu cymorth bugeiliol i'n cyd-Aelodau, ni waeth ym mha sefydliad y gweithiwn. Gwn fod Jack yn arfer yr hyn y mae'n ei bregethu ar ein coridor yn Nhŷ Hywel. Mae'n aml yn taro ei ben heibio'r drws, gan ddal bar o siocled weithiau, os caf ddweud hynny. Mae'n frand unigryw iawn o gymorth lles, ond rwy'n ei argymell.

Wrth inni barhau, er hynny—ar bwynt mwy difrifol—i brofi cyni parhaus, prisiau uwch, cyflogau llonydd, rhwydi lles yn chwalu, effaith barhaus diwygio lles, gyda'r mwyafrif llethol o'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau mewn gwaith, a'r pryderon parhaus ynghylch Brexit, rwy'n falch iawn o glywed y ddadl heddiw ei bod yn iawn i beidio â bod yn iawn. Mae angen inni weithredu yn awr i chwalu'r stigma ynglŷn ag iechyd meddwl yn y gweithle. Rwy'n falch o glywed am rai enghreifftiau go iawn yng Nghymru y mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn arwain arnynt ac rwy'n credu bod cynnydd go iawn yn digwydd.

Rwy'n croesawu'r flaenoriaeth a roddir i iechyd meddwl yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru. Mae hon yn elfen hollbwysig o'n gweledigaeth genedlaethol, ac rwy'n ei chroesawu'n fawr hefyd, ond yn oes y ffôn clyfar, mae'n aml yn hawdd iawn teimlo fel pe na baem byth yn rhy bell oddi wrth negeseuon e-bost y gwaith a straen gwaith. Felly, ni waeth lle mae ein gweithle, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnom ac amgylchedd gweithle iach yn feddyliol. Diolch.

A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno dadl fer ar y pwnc pwysig hwn i'r Cynulliad ac i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Mae hwn yn gyfle defnyddiol i drafod iechyd meddwl yn y gweithle, pwnc sy'n effeithio ar bob un ohonom, nid ein hetholwyr yn unig, ond pob un ohonom, ac mae'r Llywodraeth yn cydnabod yn ein rhaglen lywodraethu ei fod yn flaenoriaeth.

Rydym yn gwybod bod y gwaith a wnawn, y boddhad a'r mwynhad a gawn ohono, a'r llwyddiannau a gawn drwy ein bywydau gwaith, yn aml yn ffactor allweddol yn ein teimlad cyffredinol o les. Rydym hefyd yn gwybod, hyd yn oed gyda'r effeithiau cadarnhaol hynny, ein bod weithiau o dan bwysau neu'n gweithio gydag eraill sydd o dan bwysau am resymau'n ymwneud â'u gwaith neu eu bywydau personol. Gwn hyn nid yn unig o fy amser yma ond fy amser cyn y lle hwn pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth ac roedd llawer o'r gwahaniaethu ar sail anabledd y bûm yn ymdrin ag ef o ran rhoi cyngor a chynrychiolaeth yn ymwneud mewn gwirionedd â straen sy'n gysylltiedig â gwaith neu gyflogwyr nad oeddent yn ymdrin â ffactorau o'r tu allan i'r gwaith sy'n effeithio ar y gallu i weithio. Felly, mae hon yn thema hir a chyson am yr her a ddaw o fethu cydnabod pwysau iechyd meddwl yn briodol a sut y gall cyflogwyr a chyflogaeth fod yn ffactor pwysig yn ymdeimlad yr unigolyn o hunan-barch a lles. Mae effaith iechyd a lles gweithwyr yn cael ei gydnabod yn fwy eang yn awr fel ffactor allweddol yn nhwf busnesau mewn byd economaidd sy'n gynyddol gystadleuol. Mae'r manteision yn cynnwys cynnydd yn y cynhyrchiant, costau is a lefelau cadw staff ac ymrwymiad gwell.

Wrth gwrs, mae'r materion a'r heriau sy'n ymwneud â lles meddyliol yn y gweithle yn gymhleth, ond mae gan bawb ohonom rôl—y Llywodraeth, cyflogwyr, cyflogeion, cydweithwyr a ffrindiau—fel ffynonellau cymorth, ond hefyd drwy wneud rhan mor fawr o'n bywydau'n ffyniannus a hapus.

O ran cyfraniad y Llywodraeth, mae ein rôl yn un bwysig, sef nodi'r cyfeiriad polisi yn gyffredinol, ond helpu hefyd i weithredu ymyriadau ymarferol. Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth ar draws y Siambr ym mhob plaid, wedi rhoi llawer iawn o bwys ar wella iechyd meddwl a lles, ac o ran y Llywodraeth, mae'n cael lle amlwg yn ein blaenoriaethau cyffredinol, gan fod iechyd meddwl a lles yn un o'r pum thema allweddol yn 'Ffyniant i Bawb', ac rydym wedi nodi ystod o ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ar sut i gyflawni hynny.

Rwy'n arbennig o falch na chyfeiriodd Jack Sargeant at y gwasanaeth iechyd wrth agor y ddadl, fe gyfeiriodd at y contract economaidd a'r ymrwymiadau a wnaed yno ynglŷn â beth rydym ei eisiau gan gyflogwyr, gan gydnabod bod y gweithle'n ffactor allweddol mewn iechyd meddwl, yn hytrach na gweld iechyd meddwl fel mater ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn unig. Oherwydd rydym yn cydnabod y gall cael y driniaeth gywir yn gynnar, codi ymwybyddiaeth o gyflyrau, helpu'n aml i atal effeithiau mwy difrifol a hirdymor. Wrth gwrs, yn 'Cymru Iachach', ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol o ddull system gyfan rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch, ac nid salwch corfforol yn unig ond pob agwedd ar salwch.

Nawr, er ei bod yn hanfodol fod y cyfeiriad strategol cenedlaethol yn gryf ac yn glir, nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i wireddu ein huchelgeisiau'n llawn. Mae angen i hynny gael ei gefnogi gan ystod o bolisïau a rhaglenni ar draws y Llywodraeth er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Rwy'n nodi 'ar draws y Llywodraeth' yn fwriadol—fel rwyf newydd ei ddweud, nid mater ar gyfer y sector iechyd yn unig yw hwn. Mae gennym rôl bwysig fel cyflogwr yn ogystal â darparwr gwasanaethau. Ond fel Llywodraeth, mae hwn yn waith sy'n symud ar draws portffolios er mwyn sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn flaenoriaeth yn y gweithle. Rwyf am fynd i'r afael â rhai meysydd penodol i dynnu sylw at beth o amrywiaeth a maint y gweithgarwch.

Y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth gynllun cyflogadwyedd trawslywodraethol a nodai ein gweledigaeth i weld Cymru'n dod yn economi cyflogaeth uchel, uwch-dechnoleg a chyflogau da. Yn y cynllun hwnnw, rydym wedi ymrwymo i helpu pawb i gyflawni eu potensial drwy gyflogaeth ystyrlon, beth bynnag fo'u gallu, problemau iechyd, cefndir, rhyw neu ethnigrwydd. A rhwng adran yr economi a'r adran iechyd, rydym yn cyllido rhaglen Cymru Iach ar Waith, a ddarperir mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhaglen honno'n anelu i wella iechyd a lles er mwyn helpu pobl i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith. Rwyf wedi cyflwyno nifer o wobrau o dan y rhaglen honno i gyflogwyr bach, canolig a mawr ac mae'n gwneud gwahaniaeth pan fydd cyflogwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen honno gyda'r syniad o ddeall bod gwneud y gwahaniaeth hwnnw'n dda i'w busnes a'u gweithwyr.

Ceir amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n helpu i leihau costau a baich salwch ac absenoldeb, o gymorth un i un, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai a darparu gwybodaeth ac arweiniad ar-lein a dros y ffôn. Ac mae rhai elfennau yn ei gwneud yn ofynnol i roi hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr er mwyn gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau sy'n gysylltiedig â straen a phroblemau iechyd meddwl yn y gweithle. A dyna y byddwn yn ei alw'n gymorth cyntaf iechyd meddwl.

Nawr, rwy'n cydnabod bod Jack Sargeant, wrth gynnig hyn, wedi cyfeirio at ymgyrch Where's Your Head At? Ar hyn o bryd darperir y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl y cyfeiriais ati gan fenter gymdeithasol o'r enw Hyfforddiant mewn Meddwl. Mae ganddynt dros 100 o hyfforddwyr a gymeradwywyd yng Nghymru ac nid yw'r rhaglen yn cael unrhyw gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ond mae fy swyddogion i fod i gyfarfod â Hyfforddiant mewn Meddwl cyn bo hir i drafod eu gwaith ac i ystyried a allai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad posibl y rhaglen. Yn dilyn y ddadl fer hon, rwy'n hapus i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnawn yn y trafodaethau hynny pan fyddant wedi digwydd, yn ogystal â'r pwynt ehangach y soniodd David Melding amdano ynglŷn ag adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd i fod i ddod i law erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Gyda Cymru Iach ar Waith, rwy'n falch fod dros 3,000 o sefydliadau cyflogi yng Nghymru, sy'n cyflogi dros hanner miliwn o bobl, wedi cymryd rhan. Dyna dros draean o'r boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru o fewn y busnesau hynny. A rhaglen ategol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chronfa gymdeithasol Ewrop yw'r gwasanaeth cymorth yn y gwaith. Mae'n darparu mynediad cyflym am ddim at therapi galwedigaethol a luniwyd i helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol i aros mewn gwaith. Ac ers i ni ei lansio yn 2016, mae'r cynllun eisoes wedi darparu ymyriadau therapiwtig i 3,500 o weithwyr, gan gynnwys dros 1,300 o bobl â chyflyrau iechyd meddwl. Mae hynny wedi helpu dros 2,500 o bobl i aros mewn gwaith a 430 arall i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae hefyd wedi helpu bron i 2,000 o fusnesau bach a chanolig i leihau effaith absenoldeb oherwydd salwch ar fusnesau. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd £9.4 miliwn ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i barhau'r gwasanaeth cymorth yn y gwaith hyd at fis Rhagfyr 2022. Dylai hynny ein helpu i ymestyn y gwasanaeth yn sylweddol i gynorthwyo hyd at 12,000 o bobl a 2,500 o fusnesau ychwanegol i helpu i adeiladu a chynnal gweithle iach. Bydd hefyd yn darparu cymorth mwy trwyadl i fentrau, gan gynnwys hyfforddwyr busnes pwrpasol i gynorthwyo eu busnesau bach a chanolig i fwrw ymlaen â'r agenda lles yn eu gweithle.

Nawr, rydym wedi gwneud cynnydd ar fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae rhagor i'w wneud wrth gwrs. Dechreuodd trydydd cyfnod ymgyrch Amser i Newid Cymru fis Ebrill diwethaf gyda chyllid Llywodraeth Cymru o dros £650,000 dros dair blynedd. Y nod canolog o hyd yw herio a newid agweddau negyddol tuag at salwch meddwl. Darparodd cam 2 o Amser i Newid Cymru ganlyniadau calonogol, gyda thystiolaeth o 5 y cant o welliant yn agweddau'r cyhoedd tuag at iechyd meddwl a siaradodd mwy na 150 o hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru â dros 8,000 o bobl am iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn fod dros 100 o gyflogwyr yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi llofnodi adduned Amser i Newid Cymru ar ran dros 260,000 o aelodau o staff.

Gwahaniaeth allweddol yng nghyfnod 3 fydd canolbwyntio ar dargedu cynulleidfaoedd gwrywaidd. Mae cynulleidfaoedd targed eraill yn cynnwys cymunedau gwledig a siaradwyr Cymraeg. Felly, ceir amrywiaeth eang o weithgarwch sy'n gwneud cyfraniad pwysig i les meddyliol yn y gweithle. Ond wrth gwrs, mae angen inni ystyried hynny y tu allan i'r gweithle hefyd, a sut i annog pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw iach ac egnïol i wella eu lles meddyliol yn ogystal â'u hiechyd corfforol. Mae helpu pobl i fanteisio ar weithgareddau a gwasanaethau lles yn agwedd allweddol ar wneud hynny, a chredwn y gallai fod rôl bwysig i bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer helpu pobl i gael cymorth cymunedol nad yw'n glinigol, er mwyn newid y pwyslais o drin salwch i hybu lles gwell, a chynorthwyo pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain, a'r agenda ataliol ehangach. Er bod angen rhagor o dystiolaeth o'i effeithiolrwydd, mae'n helpu i esbonio pam ein bod yn ariannu dau gynllun presgripsiynu cymdeithasol gyda mecanweithiau gwerthuso cadarn a gymeradwywyd gennyf yn y flwyddyn ddiwethaf i ehangu ein sylfaen dystiolaeth ar effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer gwella a chynnal iechyd meddwl da.

Felly, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl. Mae'r heriau'n gymhleth a'r effeithiau ar fywydau pobl yn real. Mae llawer mwy i'w wneud bob amser, ac mae angen i ni, pob un ohonom, ymdrechu i wneud y cyfraniad mwyaf cadarnhaol y gallwn ei wneud, ond ar hyn, rwy'n credu ein bod yn rhannu ymrwymiad ar draws y pleidiau, ac ar draws y wlad, gobeithio.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:49.