Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
08/01/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn. A gaf i gychwyn drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i'r holl Aelodau?
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yn y flwyddyn newydd yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ53120
Mae gan ranbarth Canol De Cymru reolaeth lwyr o gynlluniau datblygu lleol. Awdurdodau cynllunio lleol, darparwyr seilwaith a datblygwyr sy'n gyfrifol am eu gweithredu.
Prif Weinidog, yng Ngorllewin Caerdydd, yr ardal yr ydych chi i fod i'w chynrychioli, mae cefn gwlad a meysydd glas yn cael eu dinistrio ar hyn o bryd i wneud lle ar gyfer tai drud na all y rhan fwyaf o bobl leol eu fforddio. Bydd y datblygiadau yn arwain at o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd bob un dydd, ac mae'r ffyrdd hyn eisoes yn llawn lorïau sy'n taranu drwy ein cymunedau. Rydych chi wedi bod yn aelod o'r Cabinet ers 2013, ond er hynny nid ydych chi wedi gallu dylanwadu unrhyw newid i bolisi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein cymunedau rhag y dinistr amgylcheddol hwn. Wel, fel Prif Weinidog, nid oes lle i guddio mwyach, nac oes, felly pam ydych chi'n eistedd yn ôl a gadael i feysydd glas Gorllewin Caerdydd gael eu dinistrio gan ddatblygwyr corfforaethol?
Llywydd, a gaf i sicrhau'r Aelod y bydd ei gyfraniad yn cael ei ystyried gyda'r holl ddifrifoldeb y mae'n ei haeddu.
Cwestiwn ymarferol sydd gen i. Oherwydd natur gyffiniol y cynlluniau datblygu hynod uchelgeisiol ar gyfer tai ar hyd yr M4, i'r gogledd o Gaerdydd a thua'r gorllewin, o ogledd Caerdydd yn rhanbarth Canol De Cymru, drwy'r rhannau deheuol cyfagos o Bontypridd, ymlaen i ogledd Pen-y-bont ar Ogwr, ceir rheidrwydd cynyddol i wneud yn siŵr bod yr holl awdurdodau lleol yn siarad â'i gilydd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn datblygu eu cynlluniau gyda'i gilydd i osgoi sefyllfa lle mae cyfres o nodau uchelgeisiol canmoladwy mewn un ardal yn arwain at niweidio'r nodau canmoladwy mewn un arall. Felly, oni bai bod cynlluniau yn cael eu cydgysylltu, yr hyn y gallai fod gennym yn y diwedd, nid yn unig gan awdurdodau lleol, ond awdurdodau trafnidiaeth hefyd, yw tagfeydd llwyr yn hytrach na rhyddhau'r potensial economaidd. Nawr, mae arweinwyr Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr eisoes yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio eu ffordd drwy hyn, ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—a'i groesawu i'w gwestiynau i'r Prif Weinidog cyntaf hefyd, gyda llaw—pa ran strategol y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae i sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth yn bendant ar waith i hwyluso'r cynlluniau mawr ar gyfer tai newydd i arwain at gannoedd ar gannoedd o berchnogion cartrefi hapus ac nid etholwyr sarrug, wedi eu dal mewn tagfeydd?
Wel, a gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol pwysig yna? Wrth gwrs, mae'n iawn am y ffaith fod cydgysylltu rhwng gwahanol awdurdodau lleol sydd â buddiannau a rennir o wneud yn siŵr bod datblygiadau tai yn diwallu anghenion tai eu hetholwyr, a'r seilwaith sydd ei angen i wneud datblygiad llwyddiannus, a bod yr awdurdodau lleol hynny yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i greu'r amodau lle gall awdurdodau lleol ddod ynghyd i lunio cynlluniau datblygu strategol, ac roeddwn i'n falch o weld awdurdodau bargen prifddinas Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddatblygu cynllun o'r fath ar gyfer yr ardal ehangach honno. Ac edrychaf ymlaen eleni at weld sut mae'r bwriad hwnnw yn troi'n gamau gweithredu ymarferol.
Ar yr un pryd, bydd yr Aelod yn ymwybodol, mi wn, o'r holl gamau sy'n cael eu cymryd i greu gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr fel canolbwynt trafnidiaeth strategol ar gyfer yr ardal, ac i wneud yn siŵr bod pobl sy'n byw yn y tai newydd hynny—y tai newydd hynny y mae angen hollbwysig amdanynt—yn gallu cyrraedd gweithleoedd a mannau adloniant yn rhwydd ac yn gyfleus o'u cartrefi newydd.
Rwy'n credu mai'r hyn y gall y rhan fwyaf o wleidyddion gytuno arno, Prif Weinidog, yw bod y system gynllunio bresennol yn feichus iawn ac nad yw'n gwasanaethu llawer o bobl yn dda iawn, a bod yn deg. Mae cynlluniau datblygu lleol yn cael eu rhwystro ac, yn aml iawn, yn cael eu hoedi. Pa flaenoriaeth ydych chi, fel Prif Weinidog newydd, yn ei rhoi i ailwampio'r system gynllunio yma yng Nghymru, fel bod gennym ni system gynllunio sy'n addas i'w diben, sy'n sicrhau bod y tai sydd eu hangen arnom i gyd-fynd ag economi fodern, ddynamig yn cael eu hadeiladu, ac sydd, yn y pen draw, yn cymryd i ystyriaeth y pryderon difrifol y mae llawer o etholwyr yn eu codi am y ddarpariaeth o feddygfeydd teulu, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth?
A gaf i gytuno ag Andrew R.T. Davies bod cyfres o bryderon am y ffordd y mae'r system gynllunio, y system dai, y system drafnidiaeth yn rhyngweithio â'i gilydd er budd y dinesydd? Rydym ni'n gwybod bod y rhain yn heriau sy'n ein hwynebu nid yn unig yng Nghymru; bu rhywfaint o waith pwysig a wnaed gan ei blaid ef drwy'r Llywodraeth yn San Steffan, yn Llundain, er enghraifft, yn ystyried y rhesymau pam nad yw caniatâd cynllunio a roddir yn troi'n dai sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl sydd eu hangen ar frys. Rwyf i wedi gweld, wrth gwrs, y ddogfen polisi tai y mae ei blaid ef wedi ei chyhoeddi yma yn y Cynulliad. Un o'r pethau yr oedd yn galw amdano oedd aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros dai a chynllunio. A bydd wedi sylwi, mi wn, bod gennym ni Weinidog o'r fath yma yn Llywodraeth Cymru.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol yn y gwaith o asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys? OAQ53116
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru', nodiadau cyngor technegol a'r llawlyfr rheoli datblygu, i gyd yn cynnig canllawiau a chymorth i asesu ceisiadau cynllunio o'r fath. Mae gweithgor, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, yn cyfarfod i ddatblygu unrhyw ganllawiau penodol angenrheidiol ynglŷn ag unedau dofednod dwys.
A gaf i ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog, a dymuno blwyddyn newydd dda i chi a phob llwyddiant yn eich swydd newydd? Fe wnes i godi hyn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol dros gynllunio, o ran unedau dofednod dwys, a chefais ateb a oedd yn gwbl foddhaol, oherwydd cadarnhaodd yr Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd i mi y byddai'r prif swyddog cynllunio yn ysgrifennu at bob awdurdod cynllunio lleol yn cynnig y cyfarwyddyd hwnnw, ac roeddwn i'n fodlon ar hynny. A gaf i awgrymu nawr bod swyddogion Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau cynllunio lleol yn ymgynnull cyfarfod gyda'i gilydd, i drafod sut y bydd y canllawiau newydd hyn yn cael eu gweithredu yn ymarferol, oherwydd bod ffactorau sy'n gorgyffwrdd, fel llygredd aer, llygredd dŵr a cynlluniau rheoli tail? Pan wyf wedi siarad â Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw wedi dweud yn bendant y bydden nhw'n croesawu cyfarfod o'r fath hefyd. A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am ei sylwadau agoriadol. Rwyf i wedi gweld y llythyr a anfonwyd o ganlyniad i'w drafodaeth flaenorol gyda'm cyd-Aelod, Lesley Griffiths. A bydd wedi gweld, yn y llythyr hwnnw, ei fod yn cloi trwy wahodd partïon â buddiant i ddod ymlaen i gymryd rhan yn y gwaith mwy manwl, i weld a yw canllawiau penodol yn angenrheidiol o ran unedau dofednod dwys. Rwy'n falch o allu dweud wrtho bod dau grŵp wedi eu sefydlu o ganlyniad. Mae'r cyntaf, gweithgor iechyd amaethyddiaeth dwys, eisoes wedi cyfarfod, ac mae hwnnw'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Bydd hwnnw'n llywio gwaith yr ail grŵp, a fydd yn ystyried dull cyffredinol awdurdodau cynllunio o ymdrin â'r mathau o faterion y mae Russell George wedi cyfeirio atyn nhw o ran llygredd nitradau, allyriadau arogleuog ac effaith gyfunol y pethau hynny. Bydd yr ail grŵp hwnnw yn cyfarfod gyda'r bwriad o gyhoeddi nodyn cyfarwyddyd newydd yn y materion hyn erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Rwy'n falch i glywed yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn economaidd fan hyn hefyd, oherwydd, er bod yna oblygiadau cynllunio ac amgylcheddol, beth rydym ni wedi ei weld yw ffrwydrad yn nifer yr unedau o'r fath sydd wedi datblygu ar draws Cymru. Mi allem ni fod ddim ymhell o gyrraedd pwynt lle, actually, rydym ni'n gorgynhyrchu. Ac, felly, tra'i bod hi'n iawn ein bod ni'n annog ffermwyr i arallgyfeirio, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod unrhyw dwf yr ydym yn ei weld yn y sector yn dwf cynaliadwy. Felly, a gaf fi ofyn pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ar gynaliadwyedd y twf sydyn a sylweddol rydym ni wedi ei weld yn y sector yma, a beth yw'ch bwriad chi o safbwynt annog ffermwyr i arallgyfeirio i gyfeiriadau sydd yn dod â'r budd gorau i'r economi wledig ond hefyd budd a fydd yn para am flynyddoedd mawr i ddod?
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod y ffaith ein bod ni wedi gweld twf yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y maes yma. Ac mae yn rhan bwysig o'r economi yng nghefn gwlad. Ar hyn o bryd, beth rydw i wedi ei weld yw bod y bobl sy'n gweithio yn y maes yn llwyddo, a dyna pam rydym ni wedi gweld nifer fwy o bobl yn rhoi mewn am gynllunio, i wneud mwy o waith yn y maes yma. A'r sialens i'r Llywodraeth ac i awdurdodau lleol yw cael balans rhwng yr economi, y bobl sy'n gweithio yn y maes yma, a phobl leol. Dyna pam rydym ni wedi sefydlu grŵp newydd, i fod yn glir ein bod ni'n gallu gwarchod pobl leol pan fydd y gwaith yn dod ymlaen ond hefyd i warchod ein heconomi ni a swyddi rydym ni'n creu yn y maes yma.
Mae nifer o etholwyr o Bowys wedi ysgrifennu ataf yn codi pryderon ynghylch nifer yr unedau dofednod sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac rwyf i yn credu, ac rwy'n falch o glywed, ei bod hi'n bryd i ni ystyried asesu effaith gyffredinol ffermio dofednod a sut y mae'n effeithio ar yr amgylchedd ac ar gymunedau lleol hefyd. Prif Weinidog, rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu cynllun cynhwysfawr a chanllawiau i awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno'r trwyddedau hyn. Hoffwn iddyn nhw gymryd i ystyriaeth yr effaith gyfunol ar y gymuned leol a'r amgylchedd, yn ogystal â lles yr anifeiliaid sy'n cael eu magu yn yr unedau dwys hyn. Felly, yr hyn sydd wir ei angen arnom ni yma yw pecyn cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob un elfen unigol. Yn fy marn i, ni allwn barhau fel yr ydym ni ac mae wir raid i bethau newid. Rydym ni wedi gweld afonydd yn cael eu gwenwyno o ganlyniad i roi caniatâd cynllunio i rai o'r rhain a'r holl orlif yn mynd i mewn i'r afonydd hynny. Felly, edrychaf ymlaen at yr adroddiad ac edrychaf ymlaen hefyd at y newidiadau y bydd yn eu hysgogi.
Wel, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Bydd yn gwybod, o ganlyniad i'r pryderon y mae hi ac Aelodau eraill wedi eu codi yma yn ddiweddar am nifer gynyddol y ceisiadau a'r ceisiadau a ganiatawyd ar gyfer datblygu yn y sector dofednod, bod camau eisoes wedi'u cymryd i wneud yn siŵr, er enghraifft, bod unedau dwys mwy yn cael eu rheoleiddio yn ofalus gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â gofynion y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol. Tynnodd 'Polisi Cynllunio Cymru', a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths ym mis Rhagfyr, sylw penodol at yr angen i awdurdodau lleol, fel yr awgrymodd Joyce Watson, wneud yn siŵr bod effaith gyfunol datblygiadau o'r fath—cyfunol yn yr ystyr eu bod yn creu nifer o wahanol heriau amgylcheddol, ond cyfunol yn yr ystyr bod nifer gynyddol ohonyn nhw yn gyfagos yn cael effaith ychwanegol ar gymunedau lleol—yn cael ei chymryd i ystyriaeth.
Ond, fel y dywed Joyce Watson, ceir cyfres o elfennau o reoliadau y mae angen eu tynnu ynghyd yn y fan yma, nid yn unig yn y maes amgylcheddol, ond ym maes lles anifeiliaid hefyd, a dyna pam mai canlyniad llythyr prif gynllunydd llythyr at awdurdodau lleol ac eraill yw'r gwaith a nodais wrth ateb cwestiwn atodol gwreiddiol Russell George.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth yr wythnos diwethaf ei bod wedi cyfarwyddo'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i gynnal adolygiad o strategaeth economaidd Cymru. Rydych chi wedi defnyddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wrth gwrs, trwy ei raglen PISA, i feincnodi Cymru yn y cynghreiriau addysgol yn fyd-eang. A allwch chi ddweud beth yw safle Cymru o ran CMC y pen o'i chymharu ag aelod wledydd eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd? A ydych chi'n credu y byddem ni'n uwch neu'n is yn y cynghreiriau hynny pe byddem ni'n wlad annibynnol?
Wel, diolchaf i'r Aelod yn gyntaf am gydnabod y gwaith yr ydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei wneud. Mae'n rhan bwysig o'n penderfyniad, yn y cyd-destun yr ydym ni'n ei wynebu, bod Cymru yn parhau i fod yn wlad sy'n edrych y tu hwnt i'n ffiniau ein hunain, yn dysgu gwersi o fannau eraill ac yn cael y cyngor gorau posibl. Bydd rhan o'r cyngor hwnnw yn ein helpu i ymdrin â'r heriau economaidd y mae Cymru yn eu hwynebu fel gwlad. Fy marn i erioed, Llywydd, yw bod y dyfodol economaidd hwnnw yn cael ei amddiffyn yn well drwy aelodaeth o'r Deyrnas Unedig fwy, ac nid wyf i wedi newid fy safbwynt ar hynny.
Felly, o ran y tablau cynghrair, efallai y gallaf i helpu'r Prif Weinidog. Yn ôl Banc y Byd, byddem ni'n drydydd ar hugain ar hyn o bryd, o'r 36 o wledydd sy'n aelodau o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—mae hynny rhwng De Korea a Sbaen. Mae'n debyg y gallech chi ddweud felly ein bod ni ychydig yn is na'r safleoedd dyrchafiad yn ail adran economïau datblygedig y byd. Mae Iwerddon, sy'n wlad o faint tebyg mewn rhan debyg o'r byd yn bumed. Soniasoch yn eich darlith ar sosialaeth yn yr unfed ganrif ar hugain ychydig fisoedd yn ôl am ddefnyddio'r Deyrnas Unedig fel mecanwaith i ailddosbarthu cyfoeth. Wel, rydym ni bron i 20 mlynedd i mewn i'r ganrif honno, ac yng nghyd-destun mecanweithiau, nid yw'n un dda iawn, ydy hi? Yn y ddau ddegawd ers sefydlu'r Cynulliad hwn, rydym ni wedi llithro o 74 y cant o gyfartaledd y DU ar gyfer incwm y pen i 72.5 y cant. Mae hwnnw'n un o'r ffigurau gwaethaf a gofnodwyd gan unrhyw wlad na rhanbarth yn y DU. Roedd Llafur mewn grym am hanner y cyfnod hwnnw yn San Steffan ac mewn grym yma yng Nghymru yn ystod yr holl gyfnod, ac eto mae'r difidend datganoli o safbwynt economaidd wedi bod yn negyddol. Felly, pa esboniad ydych chi'n ei gredu y bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei roi am lwyddiant Iwerddon a methiant cymharol Cymru, ac eithrio'r ffaith ei bod hi'n wlad annibynnol ac nad ydym ni?
Wel, Llywydd, mae Llafur wedi bod mewn grym yn y Cynulliad yn ystod y cyfnod pan fo cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu ymhellach ac yn gyflymach nag yn y Deyrnas Unedig, pan fo diweithdra wedi lleihau ymhellach ac yn gyflymach nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, pan fo anweithgarwch economaidd wedi lleihau ymhellach ac yn gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan fo'r ffactorau cadarnhaol hynny wedi cael eu teimlo yn fwy yng ngorllewin Cymru a Cymoedd y De nag mewn rhannau eraill o Gymru.
Nid oes gen i unrhyw amheuaeth pan ddaw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i wneud y gwaith yr ydym ni wedi gofyn iddo ei wneud y bydd gwersi y byddwn yn gallu eu dysgu gan rannau eraill o Ewrop. Yn sicr, pan fyddan nhw'n ystyried enghraifft Iwerddon, y byddan nhw'n taflu goleuni ar y ffordd y mae Iwerddon wedi gallu denu cwmnïau pencadlys cragen i gael eu lleoli yn Iwerddon mewn ffordd y mae'n ymddangos fel ei bod yn cyfrannu at eu llesiant economaidd, ond yn eu gadael gydag incwm gwario is na'r rhai yma yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at glywed y Prif Weinidog yn gwneud y dadleuon hynny pan fydd yn croesawu'r Gwyddelod i agor eu swyddfa conswl yma ym mis Mehefin. Mae'n wir hefyd, onid yw, bod llwyddiant economaidd yn treiddio i bethau eraill hefyd? Oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yn Iwerddon yw bod tlodi plant yn is nag yng Nghymru a bod disgwyliad oes yn uwch yng Ngweriniaeth Iwerddon, felly mae llwyddiant economaidd yn cyfrannu at fanteision cymdeithasol hefyd.
Wrth gwrs, nid yn unig y mae'n wir bod Cymru yn tanberfformio yn genedlaethol, ond mae'r bwlch economaidd yng Nghymru yn parhau i dyfu. Addawyd strategaeth newydd i ni ar gyfer Cymoedd y De, ond does dim yn digwydd. Mae'r fargen ddinesig ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi methu â chyflwyno prosiect i'r gogledd o goridor yr M4 hyd yma. Fe wnaethoch addo y byddai gwaith ar y parc technoleg yng Nglynebwy yn dechrau ym mis Mawrth y llynedd—nid yw hynny wedi digwydd. Dyma oedd gan hyd yn oed eich cyn-Weinidog y Cymoedd eich hun i'w ddweud yr wythnos diwethaf:
Rydym ni wedi aros yn ddigon hir. Dim mwy o ddatganiadau i'r wasg, dim mwy o areithiau, mae angen gweithredu arnom ni.
Mae hyn wedi bod yn symud yn rhy araf am gyfnod rhy hir. Efallai mai hwn yw eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog cyntaf, Prif Weinidog, ond rydych chi wedi bod yn rhan o Lywodraeth Cymru yn ystod fwy neu lai pob un o'r 20 mlynedd diwethaf. Pam na chafwyd unrhyw gynnydd o safbwynt economaidd i Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw? A allwch chi enwi i ni dri pheth a fydd yn newid nawr ac y byddwn yn gallu barnu eich hanes ar eu sail?
Mae wedi bod yn baradocs o genedlaetholdeb erioed, mae'n ymddangos i mi yn y Siambr hon, Llywydd, eu bod mor ddigalon ynghylch Cymru ac mor awyddus i fod yn rhywle arall yn Ewrop. Ac mae yr Aelod yn gwneud yr un peth eto y prynhawn yma.
Gadewch i mi roi tri pheth iddo i ateb y pwynt olaf a wnaeth am Tech Valleys, ac mae hyn o ganlyniad i'r gwaith a wnaed gan y Llywodraeth hon ac o ganlyniad i'r gwaith a wnaed pan oedd yr aelod dros Flaenau Gwent yn rhan o'r Llywodraeth hon, gan gyfrannu at yr ymdrech hon. Fe wnaethom ddweud o'r cychwyn cyntaf mai cynllun 10 mlynedd oedd hwn ac y byddai'n rhaid i'r rhan gynnar fynd i'r afael â materion tir ac eiddo i ddarparu'r unedau diwydiannol modern sydd eu hangen i ddod â ffyniant pellach i'r rhan honno o Gymru.
Dyma dri pheth. Gofynnodd yr Aelod am dri; efallai yr hoffai wrando arnyn nhw. Sicrhawyd caniatâd cynllunio ar gyfer 22,000 troedfedd sgwâr o unedau cychwynnol yn Lime Avenue yng Nglynebwy—prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a luniwyd yn benodol i ddod ag entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig eu maint sy'n tyfu i leoli yng Nglynebwy—a byddan nhw'n cael eu hadeiladu eleni. Sicrhawyd caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu uwch 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew yng Nglynebwy, a bydd y gwaith adeiladu yn digwydd eleni. Roedd adeilad adfeiliedig 174,000 troedfedd sgwâr yn Rasa yng Nglynebwy ac mae'n cael ei ailwampio ar hyn o bryd i'w ddefnyddio gan y sector preifat i ddod â swyddi a ffyniant i Lynebwy. Dyna dri pheth. Gadewch iddo ein barnu ni ar y rheini, oherwydd mae'r pethau hynny yn digwydd nawr.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar ran y meinciau hyn, a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch croesawu i'ch lle? Edrychaf ymlaen at ein trafodaethau wythnosol, a hoffwn ei gwneud yn eglur y byddaf yn gweithio gyda chi mewn modd adeiladol pryd y gallaf, ond bydd fy nghyd-Aelodau a minnau hefyd yn craffu'n drwyadl ar eich Llywodraeth ar ran pobl Cymru ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am berfformiad eich Llywodraeth dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.
Felly, Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Lloegr ddoe. A oes gan eich Llywodraeth chi gynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Cymru?
Mae gennym ni gynllun, yn wir, Llywydd. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd. 'Cymru Iachach' yw ei enw. Mae'n dda gweld y cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan GIG Lloegr yn benthyg yn uniongyrchol gan y cynllun yr ydym ni eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer Cymru. [Chwerthin.]
Yn amlwg, Prif Weinidog, nid oes gennych chi gynllun 10 mlynedd. Mae cyhoeddi strategaeth 10 mlynedd yn hanfodol fel y gall defnyddwyr GIG Cymru weld map ffordd o ran sut y gellir datblygu eu gwasanaethau yn y dyfodol a'r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl o ran darpariaeth. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cynnydd mwyaf i gyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ers datganoli, bydd y cyllid hwn yn hanfodol i gyflawni gwelliannau. Ni allwn wadu bod ein gwasanaethau yn cael trafferthion o dan Lywodraethau Llafur Cymru olynol. Mae'r hanes yn gwbl eglur. O'i hystyried gyda'i gilydd, mae ein byrddau iechyd yn wynebu diffyg o £360 miliwn. Ni fodlonwyd ein hamseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys ers eu cyflwyno yn 2009. Mae cleifion yn aros yn hwy na blwyddyn am lawdriniaeth hanfodol fel mater o drefn. Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, yn destun mesurau arbennig ac wedi bod ers tair blynedd a hanner. Ac rydym ni wedi gweld gwasanaethau hanfodol yn cau ledled Cymru, fel yr uned gofal arbennig i fabanod yn fy etholaeth fy hun. Gwn eich bod chi'n gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu gwasanaeth iechyd Cymru gan fod llawer o'r heriau hyn wedi codi o dan eich goruchwyliaeth chi, o gofio mai chi oedd y Gweinidog iechyd yn 2013. Mae llawer o'r heriau yn dal i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn ystod eich stiwardiaeth chi o wasanaethau iechyd Cymru. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i fuddsoddi pob un geiniog o'r cyllid canlyniadol y bydd eich Llywodraeth yn ei gael yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru?
Llywydd, rydym ni wrth gwrs yn buddsoddi mwy na'r cyllid canlyniadol a gawsom gan Lywodraeth y DU yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn wir, mae'r arian ychwanegol y byddwn ni'n ei fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn gymesur fwy na'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Dyna pam mai'r cynnydd i fuddsoddiad yn GIG Cymru y llynedd o 3.5 y cant oedd y mwyaf o bob un o bedair gwlad y DU. Rydym ni'n gwneud yn well o ran buddsoddiad. Rydym ni'n gwneud llawer yn well na chynllun Lloegr ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol—soniwyd braidd dim am ofal cymdeithasol yn y cynllun 10 mlynedd a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr yr wythnos hon—ac oherwydd hynny rydym ni wedi gweld cydnerthedd GIG Cymru yn ystod yr hyn yw pythefnos anoddaf y flwyddyn bob amser. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, os caf, Llywydd, i ddiolch unwaith eto i'r bobl hynny sy'n gweithio yn ein GIG, a oedd yn gweithio'n galed dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, gan gadw drysau ein hysbytai yn agored, a sicrhau bod cleifion yn cael sylw da. Mae'n deyrnged iddyn nhw ac i'r GIG yng Nghymru ein bod ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth yma, wedi ei ariannu yn gyhoeddus, ar gael i'r cyhoedd, ac wedi ei lunio i ddiwallu anghenion cleifion Cymru.
Llywydd, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw wersi gan y Prif Weinidog ar fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd ei blaid ef wnaeth dorri cyllid y gwasanaeth iechyd rai blynyddoedd yn ôl, mewn gwirionedd. Yn 2016, cyflwynodd fy mhlaid i gynllun cynhwysfawr ar gyfer newid yn GIG Cymru, gweledigaeth ar gyfer GIG Cymru â mwy o adnoddau, sy'n fwy atebol i gleifion, ac sy'n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau i sefydlu cronfa trawsnewid iechyd gwerth £100 miliwn i gynorthwyo'r broses o foderneiddio gwasanaethau, i sicrhau bod timau argyfwng iechyd meddwl ar gael ddydd a nos ym mhob prif adran achosion brys, i gefnogi arloesedd ym maes gofal iechyd trwy ddarparu £50 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer ymchwil i driniaethau newydd a ffyrdd newydd o wella, ac i roi cynlluniau arbenigol ar waith i sicrhau gwell canlyniadau yn y frwydr yn erbyn pedwar lladdwr mwyaf Cymru—canser, clefyd y galon, dementia a strôc—y mae llawer ohono wedi cael ei ailadrodd yn y cynllun a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth y DU.
Prif Weinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ein cynllun i gyflwyno cronfa drawsnewid gwerth £100 miliwn, ond nid oes gennym ni gynllun gan eich Llywodraeth chi o hyd o ran sut y byddwch chi'n moderneiddio ein gwasanaethau yn y dyfodol i leihau amseroedd aros, i gyflymu amseroedd diagnostig ac i wella ein gwasanaethau iechyd meddwl yn sylweddol. O ystyried y bydd gwasanaethau iechyd a chymdeithasol Cymru yn cael y cynnydd mwyaf mewn cyllid ers datganoli, a wnewch chi gyhoeddi strategaeth ar gyfer GIG Cymru nawr, sy'n amlinellu sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i foderneiddio ein gwasanaethau a darparu'r gofal prydlon, addas i'w ddiben y mae pobl Cymru mor haeddiannol ohono?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddod yn ôl at y pwynt a wnaeth yr Aelod ar y cychwyn, a dweud wrtho bod llawer iawn yn yr hyn a ddywedodd, wrth gwrs, y byddem ni'n cytuno ag ef ar yr ochr hon hefyd. Credaf ei fod yn dir cyffredin yn y rhan fwyaf o'r Siambr hon ein bod ni eisiau gweld GIG yng Nghymru sydd ag adnoddau digonol, sy'n fodern o ran ei ddulliau ac sy'n canolbwyntio ar anghenion cleifion. Byddem ninnau yma yn cyd-fynd â llawer o'r pethau y cychwynnodd Paul Davies yn ei gwestiwn hefyd. Felly, gadewch i ni ddweud bod tir cyffredin rhyngom ni yn ein huchelgais ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, bydd gennym ni wahanol ffyrdd y byddwn ni'n credu y gellir ei gyflawni orau. Mae gennym ni gynllun ar gyfer y GIG yng Nghymru—fe'i cyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin y llynedd. Mae'n nodi'r ffyrdd y byddwn ni'n defnyddio'r adnoddau sydd gennym—yr adnoddau ariannol ac, yn bwysicaf oll, yr adnoddau staffio, neu'r bobl sef yr adnodd pwysicaf sydd gennym, a'r ymrwymiad enfawr sydd gan gleifion yma yng Nghymru i'w GIG—a defnyddio'r holl adnoddau y gallwn, mewn cyfnod anodd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i fod â gwasanaeth iechyd sy'n parhau i fod yn driw i'w egwyddorion sylfaenol ac yn darparu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu sydd, yn fy marn i, yn wyrth fodern o ran y gwelliannau y mae'n eu cyflawni, bob un dydd, i fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Hoffwn eich croesawu chi, Prif Weinidog, i'ch swydd newydd a dymuno pob lwc i chi ynddi.
Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae gordewdra yn broblem gynyddol yng Nghymru ac mae gordewdra ymhlith plant yn fygythiad arbennig. Bu arolwg diweddar gan Cancer Research UK sy'n cysylltu gordewdra yng Nghymru gyda pha mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach rhad. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? A yw'r Prif Weinidog yn teimlo bod pa mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach, a hysbysebu bwyd sothach, yn cael effaith ar ordewdra ymhlith plant?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna ac am yr hyn a ddywedodd yn ei sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, mae gennym ni gamau yr ydym ni eisoes wedi ymrwymo iddynt o ran gordewdra ymhlith plant, wedi eu harwain, i raddau helaeth, gan Iechyd y Cyhoedd Cymru. Ond, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer erbyn hyn i gyfyngu ar hysbysebu bwyd sothach i blant. Rwy'n cofio ysgrifennu dair gwaith fy hun at Jeremy Hunt, pan oedd yn Weinidog iechyd, yn gofyn iddo wneud cynnwys llai o halen a siwgr mewn bwyd a gynhyrchir ymlaen llaw yn orfodol yn hytrach na gwirfoddol.
Fe wnaethom ymdrechu i sicrhau pwerau yn Neddf Cymru 2017 i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd nifer y mannau gwerthu bwyd sothach mewn ardal benodol i ystyriaeth wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer safle manwerthu arall o'r fath, ac ni lwyddwyd i sicrhau'r pwerau hynny ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod ar gael i'r Lywodraeth yn yr Alban.
Felly, mae camau yr ydym ni'n eu cymryd eisoes. Mae mwy o gamau yr hoffem ni eu cymryd, a'n swyddogaeth mewn rhai meysydd yw lobïo Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud y pethau y maen nhw'n gallu eu gwneud a darparu'r dulliau sydd eu hangen arnom i ni fel y gallwn ni wneud mwy i ddiogelu ein plant rhag niwed hirdymor y bydd bod yn ordew a thros eu pwysau yn ei achosi yn eu bywydau.
Ie, roeddwn i'n ymwybodol o rai o'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd yn y gorffennol ynghylch lobïo Llywodraeth y DU, a chredaf ei bod yn syniad da gwneud hynny. Diolchaf i chi am y mentrau yn y gorffennol. Roeddwn i'n ymwybodol hefyd bod y Gweinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyhoeddus yn 2016 ar Lywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar hysbysebu bwyd sothach ar y teledu cyn y trothwy 9 p.m., felly roeddwn i'n ymwybodol o rywfaint o hyn.
Nawr, fel y dywedwch, mae'r rhan fwyaf o'r materion hyn wedi eu cadw, ond mae rhai camau y gall eich Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r epidemig gordewdra. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth wrthi'n ymgynghori ar reoleiddio bwyd sothach yn fwy llym a allai arwain at gyflwyno cyfyngiadau ar ddiodydd meddal mawr iawn, ail-lenwi cwpan am ddim, bargeinion prynu lluosog ac arddangosfeydd bwyd sothach wrth ddesgiau talu archfarchnadoedd. Maen nhw hefyd yn bwriadu gwahardd hysbysebu bwyd nad yw'n iachus mewn mannau a ddefnyddir gan gyfran uchel o blant, fel atyniadau i ymwelwyr, a hefyd ar gludiant cyhoeddus. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael am yr agwedd honno ar hysbysebu bwyd sothach, ac a ydych chi'n bwriadu cymryd camau fel yn yr Alban i atal marchnata bwyd sothach yn uniongyrchol i blant yn y meysydd lle gallwch chi fel Llywodraeth Cymru ddeddfu arnynt?
Diolchaf i'r Aelod am yr awgrymiadau yna. Byddwn yn ymgynghori'n fuan ar ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach ac yn dysgu gwersi gan fannau eraill, ac mae gweld sut y mae gweinyddiaethau eraill yn gallu defnyddio eu pwerau bob amser yn rhan o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Ac mae gennym ni gysylltiadau agos â chydweithwyr yn yr Alban, gan rannu gwybodaeth â nhw am fentrau yr ydym ni'n eu mabwysiadu, ac yn dysgu yn ein tro o'r pethau y maen nhw wedi rhoi cynnig arnynt yn yr Alban hefyd. Ymhlith y llawer o bethau yr ydym ni'n ei wneud eisoes y mae creu cronfa ar y cyd rhwng Iechyd y Cyhoedd Cymru a chyngor chwaraeon Cymru, oherwydd yn ogystal ag atal y ffactorau hynny a all arwain at ordewdra, mae'n bwysig hefyd cael agenda weithredu gadarnhaol y gallwn ei gwneud yn ddeniadol i blant a phobl ifanc sy'n hybu ffyrdd iach o fyw, ac sy'n caniatáu iddyn nhw losgi'r calorïau sy'n arwain fel arall iddyn nhw fod dros eu pwysau.
Felly, y strategaeth ddeublyg honno yw'r ateb, yn ein barn ni. Mae mwy yr ydym ni eisiau ei wneud ym maes hysbysebu lle mae gennym ni'r pwerau i'w wneud yn uniongyrchol, ond, ar yr un pryd, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod trefn gadarnhaol o weithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol y gall plant gymryd rhan ynddynt, i wneud yn siŵr y gallwn eu hamddiffyn rhag y niwed hirdymor y bydd hyn yn ei wneud yn eu bywydau fel arall.
Rwy'n credu ei fod yn ddull doeth ac edrychaf ymlaen at ddatganiadau pellach gan y Llywodraeth ar y materion hyn. Diolch.
3. Faint o dai cyngor y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl y caiff eu hadeiladu yn y flwyddyn ariannol 2019/20? OAQ53114
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn. Mae'r cynlluniau diweddaraf sydd gennym ni yn awgrymu bod awdurdodau lleol yn disgwyl adeiladu tua 600 o dai cyngor newydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb? Mae'r Prif Weinidog yn gwbl ymwybodol mai'r unig adeg ar ôl yr ail ryfel byd pan adeiladwyd tai digonol oedd pan ymgymerwyd â datblygiad tai cyngor ar raddfa fawr—os meiddiaf ddweud, mewn lleoedd fel Trelái. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru helpu cynghorau i gynyddu nifer y tai cyngor a gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol?
Yn gyntaf oll, dim ond i gytuno'n llwyr â Mike Hedges ein bod ni wedi ein hamgylchynu gan enghreifftiau o'r hyn y llwyddodd cenedlaethau blaenorol ei wneud i sicrhau bod digon o dai ar gael—o dai safonol ar gael, tai a adeiladwyd yn unol â safonau priodol ar gyfer teuluoedd ac eraill yn ein trefi a'n dinasoedd. Ac mae gennym ni rwymedigaeth yn ein cenhedlaeth ni i wneud hynny hefyd. Mae fy nghymorthfeydd ar ddydd Sadwrn yn llawn, fel y gwn y bydd cymorthfeydd llawer o Aelodau yn y fan yma yn llawn pobl sy'n dod drwy'r drws â phroblemau tai. Mae'n fater polisi cyhoeddus brys a dyna pam yr oeddwn i'n benderfynol y byddai Gweinidog â chyfrifoldebau uniongyrchol am dai yn y Cabinet yma yng Nghymru.
Mae cyfres o bethau yr ydym ni eisoes yn eu gwneud, wrth gwrs. Sefydlodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yr adolygiad tai fforddiadwy ac mae hwnnw'n cynnwys ffrwd waith sy'n ystyried yn benodol pa gymorth sydd ei angen ar awdurdodau lleol i'w helpu i wneud mwy i adeiladu tai cyngor yma yng Nghymru, ac rydym ni'n disgwyl argymhellion o'r adolygiad hwnnw ym mis Ebrill eleni. Rydym ni wedi croesawu codi'r terfyn benthyg gan Lywodraeth y DU, yr ydym ni wedi galw amdano ers cryn amser. Bydd hynny'n galluogi awdurdodau lleol i fenthyg o fewn y rheolau benthyg darbodus i'w caniatáu i wneud mwy. Rydym ni'n cydnabod nad yw'r capasiti gan rai awdurdodau lleol yn uniongyrchol eu hunain i wneud popeth yr hoffen nhw ei wneud, ac mae partneriaethau gyda chymdeithasau tai yn gynyddol bwysig. Mae angen i fod yn arloesol yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn mynd ati i adeiladu mwy o dai cyngor—mae angen i weithgynhyrchu oddi ar y safle, er enghraifft, fod yn rhan fwy o gyflenwad yn y dyfodol, ac mae Cyngor Abertawe yn cymryd rhan weithredol yn ein rhaglen dai arloesol ac rwy'n siŵr y bydd eisiau bod yn rhan o'r ymdrech honno y mae Mike Hedges wedi cyfeirio ati y prynhawn yma.
Unwaith eto, a gaf innau eich croesawu i'ch swydd newydd? Mae nifer gyfartalog y cartrefi newydd a ddarperir gan gymdeithasau tai bob blwyddyn yn Lloegr wedi cynyddu gan draean ers 2010, o'i gymharu â 25 y cant yng Nghymru. Mae nifer gyfartalog y cartrefi newydd a ddarperir gan gynghorau ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cynyddu gan bron i saith gwaith o'i gymharu â gostyngiad o ddwy ran o dair, hyd at 2017-18, yng Nghymru. Cyfeiriasoch at ymadael â'r cyfrif refeniw tai—gael gwared ar y terfyn benthyg—sy'n galluogi awdurdodau lleol i gadw incwm gan denantiaid a buddsoddi hwnnw mewn tai cyngor newydd. Sut y gwnewch chi sicrhau bod hwnnw'n cael ei fuddsoddi, pan fo hynny'n ymarferol, mewn tai newydd ar gyfer rhentu cymdeithasol, naill ai wedi eu darparu'n uniongyrchol gan gynghorau eu hunain neu lle gallwn ni gael y gwerth gorau am yr adnoddau sydd ar gael mewn partneriaeth â chymdeithasau tai, gan gynnwys yr 11 lle mae awdurdodau lleol eisoes wedi trosglwyddo stoc iddynt?
Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod, Llywydd, bod partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn mynd i fod yn allweddol i gyflymu pryd y bydd tai sy'n cael eu hadeiladu i'w rhentu ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae'r her ym mhobman yn y Deyrnas Unedig, fel y gwn y bydd ef yn ei gydnabod. Bydd wedi gweld yr adroddiad gan Shelter heddiw yn galw am fuddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn tai i'w rhentu'n gyhoeddus yn Lloegr. Croesawaf yr adroddiad hwnnw. Pe byddai'n cael ei fabwysiadu, byddai'n arwain at swm canlyniadol Barnett sylweddol i ni yma yng Nghymru, y gallem ni ei roi ar waith. Fel y mae hi, mae ein targed o 20,000 o dai fforddiadwy ar gyfer y tymor Cynulliad hwn ymhlith y buddsoddiad cyfalaf sengl mwyaf y byddwn yn ei wneud fel Llywodraeth. Gyda'r ymdrechion yr ydym ni'n eu gwneud gyda'r posibiliadau newydd sydd gan awdurdodau lleol, rydym ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod gennym ni raglen adeiladu sy'n diwallu'n well yr anghenion y gwyddom sy'n bodoli am dai fforddiadwy, boddhaol ym mhob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod cyfraddau adeiladu tai cymdeithasol wedi bod yn annigonol ers nifer o ddegawdau erbyn hyn, ac mae hynny'n annerbyniol. Un o'r costau mwyaf, wrth gwrs, o ran adeiladu tai, yw tir. A fyddwch chi'n fodlon ystyried sut y gall tir gael ei gaffael gan eich Llywodraeth yn gymharol rhad fel y gellir creu banc tir, gan alluogi mwy o awdurdodau lleol i adeiladu mwy o dai cyngor?
Wel, Llywydd, byddwn yn sicr yn cytuno â'r Aelod bod tir yn rhan sylfaenol a drud o ddarparu tai. Dyna pam, er enghraifft, yr ydym ni wedi sefydlu cronfa safleoedd segur gwerth £14 miliwn yng Nghymru, sy'n arbennig o werthfawr, rwy'n credu, yng nghymunedau Cymoedd y de lle mae tir sydd angen buddsoddiad er mwyn dod ag ef i safon lle gellir ei roi ar gael ar gyfer ei ddatblygu. Mae cynlluniau eraill y mae awdurdodau lleol mewn cymunedau yn y Cymoedd yn eu cynnig i ni fel Llywodraeth Cymru i gynyddu'r buddsoddiad y gallem ni ei wneud ochr yn ochr â nhw i gynyddu'r cyflenwad o dir y gellid ei ddefnyddio wedyn ar gyfer tai ac ar gyfer datblygu lleol buddiol arall. Dyna pam yr ydym ni'n mynd ar drywydd y syniad o dreth tir gwag hefyd, wrth gwrs, i wneud yn siŵr, lle ceir tir, bod gan hwnnw bob caniatâd angenrheidiol i ddod ag ef i ddefnydd buddiol, nad yw'r tir hwnnw yn cael ei ddal yn ôl yn artiffisial rhag cael ei ddefnyddio at y dibenion hynny. Felly, cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Leanne Wood wedi ei ddweud wrth ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhoi tir ar gael at y dibenion hyn, ac rydym ni'n fodlon fel Llywodraeth i ystyried pa bynnag fentrau polisi y gallem ni fwrw ymlaen â nhw y tu hwnt i'r rhai yr wyf i wedi eu hamlinellu eisoes, er mwyn gwneud yn siŵr bod cyflenwad da o dir a fydd yn caniatáu i ni gyflawni'r uchelgeisiau a nodais wrth ateb cwestiynau cynharach.
A gaf i achub ar y cyfle hwn i longyfarch y Prif Weinidog ar ei benodiad ac rwyf i'n un yn sicr sy'n edrych ymlaen at y ffraethineb sych yr ydych chi'n aml yn ei arddangos yn eich ymatebion, hyd yn oed pan mai fi yw derbynnydd rhai o'r ymatebion mwy miniog. Gan droi at fy nghwestiwn:
4. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer economi Cymru? OAQ53136
Diolchaf i'r Aelod am ei gyflwyniad, wrth gwrs.
Nodir blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ein cynllun gweithredu economaidd: codi lefelau cyfoeth a llesiant yng Nghymru, gan leihau anghydraddoldebau o ran y ddau.
Er bod pob un ohonom ni'n cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus yn narpariaeth y gwasanaethau yr ydym ni wedi dod i arfer â nhw, mae bron pob astudiaeth fanwl o economi Cymru yn nodi'r ffaith fod Cymru yn llawer rhy ddibynnol ar greu swyddi a chynhyrchu cyfoeth economaidd o'r sector hwn. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu os gwelwch yn dda y strategaethau economaidd y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i liniaru'r orddibyniaeth hon, sydd wedi eu llunio i ysgogi'r sector preifat? Wedi'r cyfan, onid yw'n wir, Prif Weinidog, bod yn rhaid i ni greu'r gacen cyn y gallwn ni ei bwyta?
Wel, Llywydd, er fy mod i'n cytuno â'r Aelod am bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod gennym ni sector preifat bywiog a llwyddiannus yng Nghymru, rwyf i fy hun yn gwrthod y math o ddadansoddiad sy'n ceisio gosod y sectorau preifat a chyhoeddus yn erbyn ei gilydd. Maen nhw'n dibynnu ar ei gilydd. Mae'r sector preifat yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus da, cymaint ag yr ydym ninnau—ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod—yn dibynnu ar fusnesau preifat da i godi'r refeniw sydd ei angen arnom ni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Felly, nid yw'r rhain yn sectorau sy'n cystadlu â'i gilydd. Maen nhw'n dibynnu yn briodol ac yn gynhyrchiol ar ei gilydd. Gwn y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith, yn y flwyddyn galendr ddiwethaf, yn 2018, bod 259,000 o fentrau yn weithredol yma yng Nghymru, y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion o'r fath, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, 2017, sefydlwyd dros 14,000 o fusnesau newydd yma yng Nghymru, ac mae hynny'n gynnydd o 72 y cant mewn cyfnod o bum mlynedd. Felly, nid wyf i'n credu y byddai yr un ohonom ni eisiau diystyru'r sector preifat yma yng Nghymru. Mae'n fywiog, mae'n llwyddiannus, ac fel Llywodraeth, byddwn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gadw yn y cyflwr hwnnw.
Rwyf innau hefyd yn dymuno'n dda i chi yn eich swydd newydd, Prif Weinidog.
Mae'n 18 mis bellach ers cyhoeddi cynlluniau ar gyfer parc modurol yng Nglynebwy. Ers y cyhoeddiad hwnnw, ni osodwyd unrhyw sylfeini, ac nid oes unrhyw arwydd o'r swyddi a addawyd. Mae ardal fenter Glynebwy wedi creu dim ond 179 o swyddi mewn saith mlynedd. A all y Prif Weinidog ddweud pryd y bydd y parc modurol yn gwbl weithredol a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflawni ei haddewidion i ddod â swyddi gwerthfawr i Lynebwy, os gwelwch yn dda?
Wel, Llywydd, fel yr esboniais mewn ateb i gwestiwn gan Adam Price, dywedodd y buddsoddiad gwreiddiol o gwmpas rhaglen Tech Valleys erioed y byddai'n rhaglen 10 mlynedd ac y byddai gennym ni £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd hynny. Ac, mewn gwirionedd, mae cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gynnar hon y rhaglen yn fwy nag y byddai rhan pro rata o'r swm hwnnw yn arwain ato. Mae'n anochel, yn ystod y cyfnod agoriadol, bod y pwyslais wedi bod ar fuddsoddi mewn seilwaith yn llwyr, gan fynd i'r afael â'r materion tir ac eiddo i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i greu'r swyddi hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yno i'w creu ar gyfer Glynebwy yn y dyfodol. Ni wnaf i gyfeirio eto at y gwahanol ganiatâd cynllunio a sicrhawyd eisoes a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yno eisoes, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi'r ateb i gwestiwn yr Aelod ac y dylai roi ffydd i bobl yn lleol nad yw'r cynllun yn aros i ddigwydd—mae'n digwydd eisoes.
Wel, dim ond i symud o Lynebwy am funud—[Chwerthin.]—roeddwn i eisiau mynd â chi ymhellach i lawr i Bort Talbot yng Ngorllewin De Cymru. Gwn y gall blaenoriaethau a chyfleoedd economaidd newid yn annisgwyl dros nos weithiau, a byddwch yn gwybod ein bod wedi cael ein bendithio ym Mhort Talbot—ond nid o safbwynt y perchennog, Ian—drwy ddarn celf newydd gan Banksy, y cyntaf o'i fath yma yng Nghymru. Rwyf i mewn cysylltiad rheolaidd â'r perchennog, ac mae'n awyddus iawn naill ai i'w gadw ym Mhort Talbot, ac yn sicr yng Nghymru, ond gwn hefyd ei fod wedi cael diddordeb eithaf sylweddol yn y darn hwn o gelf. Cefais gyfarfod â'r amgueddfa genedlaethol ddoe; gwn fod cynlluniau o safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i oriel celfyddydau gweledol genedlaethol i Gymru y mae'n bosibl y gellid ei lleoli ym Mhort Talbot. Pa drafodaethau a gafwyd, a beth allwch chi ei arwain arno erbyn hyn o ran diogelu'r darn hwn o gelf i Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi'r perchennog drwy'r holl broses o wneud y penderfyniad pwysig penodol hwnnw?
Diolch i Bethan Sayed am y cwestiwn. A gaf i ddechrau trwy fynegi rhywfaint o gydymdeimlad â'r unigolyn dan sylw, sydd, dros nos, wedi gweld bod ei dŷ yn destun cymaint o ddiddordeb eang—gwych mewn un ffordd, ond yn sicr, ar lefel unigol, yn dod â rhai effeithiau sylweddol yn ei sgil ar fywyd yr unigolyn hwnnw? Gwn y bu trafodaethau rhwng yr awdurdod lleol a deiliad y tŷ am syniadau y gall yr awdurdod lleol eu cynnig i'w gynorthwyo, a bydd fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn ystod yr wythnos hon gyda'r awdurdodau perthnasol, unwaith eto, i weld os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu. Mae'r astudiaeth o ddichonoldeb ar gyfer sefydlu oriel gelf gyfoes, a oedd yn rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi dod i law. Ceir cyfres o ddewisiadau ynddi, y byddwn yn dymuno eu harchwilio ar y cyd â chi. Nid wyf i'n cofio, o'i ddarllen rai wythnosau yn ôl, pa un a yw'n dweud unrhyw beth am Bort Talbot yn uniongyrchol, ond yn sicr mae cyfres o gynigion ymarferol ar gyfer bwrw ymlaen â'r syniad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau y gallwn ni eu cael gyda'n gilydd i weld sut y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes hwnnw.
5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnal cymunedau gwledig? OAQ53155
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Nod ein cynigon yn 'Brexit a’n Tir' yw cadw ffermwyr ar y tir, amddiffyn ein cymunedau gwledig a gwneud yn siŵr eu bod yn ffynnu mewn byd wedi Brexit.
Diolch i chi am eich ateb. Mae bron i bum mlynedd nawr ers i Arsyllfa Wledig Cymru ddod i ben—y Wales Rural Observatory. Nawr, mi oedd hwnnw, wrth gwrs, wedi cyfrannu degau lawer o adroddiadau swmpus iawn a oedd yn cyfrannu at ddatblygiad polisi gwledig yma yng Nghymru. Mi ddywedodd y Gweinidog perthnasol ar y pryd, wrth ddiddymu'r ariannu, y byddai'r gwaith yn parhau mewn ffurf llai costus. Wel, nid ydw i'n siŵr os ydy'r gwaith wedi parhau. Yn sicr, mi oedd yna erthygl ddifyr gan yr Athro Peter Midmore yn Golwg yn ddiweddar a oedd yn dweud, a dweud y gwir, nad oedd e'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad â'r un nod—yn sicr o'r un safon a'r un sylwedd—â'r rhai a oedd yn cael eu cynhyrchu gan yr arsyllfa wledig.
Nawr, rŷm ni'n gwybod bod newid sylweddol yn dod i gymunedau gwledig, boed trwy Brexit neu ddatblygiadau eraill. Felly, a gaf i ofyn beth sydd yn hysbysu polisi a datblygiad polisi gwledig Llywodraeth Cymru y dyddiau yma? Onid yw hi'n amser nawr inni edrych eto ar greu rhyw fath o arsyllfa sydd yn gallu cyfrannu at y drafodaeth gwbl allweddol honno?
Llywydd, mae Llyr Gruffydd yn gywir, wrth gwrs, wrth ddweud mae pethau yn mynd i newid yng nghefn gwlad yma yng Nghymru, fel mae pethau'n mynd i newid dros Gymru i gyd yn y cyd-destun Brexit. Mae e wedi gweld 'Brexit a'n Tir', rydw i'n gwybod, ac rydw i'n gwybod ein bod ni wedi cael llwyth mawr o bobl yn ymateb i'r polisi yna, ac mae'r Gweinidog Lesley Griffiths, ar yr amser yma, yn edrych drwy'r atebion rŷm ni wedi cael i mewn ac mae hi'n mynd i gyhoeddi adroddiad ar beth mae pobl wedi'i ddweud ar 'Brexit a'n Tir' yn y gwanwyn.
Am y tro cyntaf y prynhawn yma, Llywydd, bydd yn rhaid i mi ddweud nad ydw i'n hollol gyfarwydd gyda'r rural observatory a beth roedd y Gweinidog wedi'i ddweud yn barod am gael gwaith yn yr un maes ond yn llai costus. Rydw i'n gallu ffeindio mas, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser, ac rydw i'n fodlon ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion.
Nid wyf innau'n gyfarwydd iawn â'r arsyllfa wledig, ychwaith, Prif Weinidog, byddwch yn falch o wybod, felly fe'ch holaf am wahanol agwedd. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod cymunedau gwledig cynaliadwy angen seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy. Rwy'n aml yn cellwair y gallech chi fod wedi neidio ar drên yn fy mhentref i, Rhaglan, yn ôl ym 1955 a theithio i Gaerdydd i weithio neu i siopa. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, mae'n sefyllfa llawer mwy cymhleth, er bod gennym ni gysyniadau arloesol fel dinas-ranbarth Caerdydd erbyn hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, nawr eich bod chi yn y swydd—a llongyfarchiadau ar hynny—am gynlluniau eich Llywodraeth i ddatblygu metro de Cymru? Ble yr ydym ni'n mynd o'r fan yma, a sut ydym ni am wneud yn siŵr bod cymunedau gwledig a threfi pellennig, fel Trefynwy yn fy etholaeth i, ar y map metro hwnnw yn wirioneddol, fel bod pob rhan o'r de-ddwyrain yn gallu elwa ar ddatblygiad y metro?
Llywydd, diolch i Nick Ramsay am yr hyn a ddywedodd ac am y pwyntiau pwysig y mae wedi eu gwneud. Bydd yn falch o wybod bod ein cynlluniau ar gyfer metro de Cymru ar y trywydd iawn, y bydd y cyllid yr ydym ni wedi ei sicrhau drwy'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio'n llawn, y bydd yr arian sy'n dod drwy Lywodraeth y DU yn rhan o fargen prifddinas Caerdydd hefyd yn rhan o'r pecyn ariannu ehangach hwnnw, ynghyd â chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ei hun, ac rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen yn unol â'r amserlen ac i'r graddau yr ydym ni wedi ei gyhoeddi eisoes, cyn belled ag y mae'r metro yn y cwestiwn.
Gwn y bydd yn cydnabod hefyd bod darpariaeth cludiant cyhoeddus ar gyfer cymunedau o'r math y mae wedi cyfeirio atynt ac yn eu cynrychioli yn dibynnu ar fysiau yn ogystal â threnau. Ac mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr adran dan arweiniad Ken Skates i edrych ar y modd y gallwn ni wneud gwell defnydd o wasanaethau bysiau, gwasanaethau tacsis, dull sy'n dangos mwy o ddychymyg, weithiau, o ran y ffordd y gellir caffael y gwasanaethau hynny, fel y bydd gennym ni, ochr yn ochr â datblygiadau rheilffyrdd y metro, y rhychwant ehangach hwnnw o bosibiliadau cludiant cyhoeddus yn cysylltu trefi a phentrefi Cymru fel y gall pobl fyw, gweithio a ffynnu yn y cymunedau hynny, gyda'r ffydd o wybod bod cysylltedd â rhannau eraill o Gymru yn ddibynadwy ac yn ddiogel.
6. Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol Caerdydd rhag datblygwyr? OAQ53141
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gwarchodaeth arbennig i'n treftadaeth ddiwylliannol wedi ei darparu mewn deddfwriaeth, a gryfhawyd yn ddiweddar gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ac sydd wedi ei hatodi gan ganllawiau. Awdurdodau cynllunio lleol sydd â'r prif gyfrifoldeb dros warchod yr adnodd cyfyngedig, anadnewyddadwy ac a rennir sef amgylchedd hanesyddol Caerdydd a Chymru.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod llawer o ganol dinas Caerdydd eisoes wedi ildio i famon ailddatblygu, ac rydym ni'n wynebu bygythiad ar hyn o bryd i gilgant Fictoraidd ardderchog Guildford Crescent, sy'n eiddo i deulu Rapport. Mae cyngor Caerdydd yn ymdrechu i warchod yr ardal o ddiddordeb pensaernïol arbennig hon, a bydd angen iddyn nhw wneud cais i wneud yr adeilad yn rhestredig hefyd. Ond, yn y cyfamser, mae'r datblygwr yn dymuno dymchwel yr adeilad ac eisoes wedi rhoi rhybudd i ymadael i'r tri busnes sydd wedi bod yn ffynnu yn y cilgant.
Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, beth allwn ni ei wneud yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn Llywodraeth Cymru, i ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol rhag ailddatblygu ardaloedd fel bod canol pob dinas yn edrych yn union yr un fath, sy'n golygu'n syml na fydd pobl eisiau dod yma? Felly, ar y mater penodol hwn, a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ymdrechion achub cyngor Caerdydd?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n gyfarwydd iawn â'r gyfres o amgylchiadau y mae hi'n eu hamlinellu a gallaf gadarnhau iddi y gofynnwyd eisoes mewn gwirionedd i swyddogion yn Cadw ystyried rhinweddau'r adeiladau hynny i gael eu rhestru ac maen nhw'n gwbl ymwybodol o'r brys sy'n gysylltiedig â'u hystyriaeth o'r cais hwnnw. Cyn belled ag y mae cyngor y ddinas yn y cwestiwn, rwy'n deall bod yr ymgynghoriad y maen nhw wedi ei gynnal ar ddynodiad arfaethedig Guildford Crescent fel ardal gadwraeth wedi'i gwblhau erbyn hyn ac y gall penderfyniad gael ei wneud gan gabinet y cyngor erbyn hyn. Os bydd y cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen â'r dynodiad hwnnw, yna bydd yn dod i rym o ddyddiad penderfyniad y cabinet, ac os bydd hynny'n digwydd, yna bydd yn rhaid i'r cynnig i ddymchwel gael cais am gydsyniad ardal gadwraeth.
7. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i hyrwyddo mynediad cyhoeddus am ddim at ddŵr yfed dros y 12 mis nesaf? OAQ53147
Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i gyflwyno'r cynllun ail-lenwi sydd gennym ni ledled Cymru. Mae'r cynllun yn annog busnesau a sefydliadau i gynnig cyfleusterau ail-lenwi dŵr rhad ac am ddim i aelodau o'r cyhoedd. Mae 727 o orsafoedd ail-lenwi ledled Cymru eisoes, gan gynnwys safleoedd yng Nghwm Cynon.
Diolch, Prif Weinidog. Ychydig cyn y Nadolig, roeddwn i'n ddigon ffodus o gael cyfarfod â disgyblion Ysgol Gynradd Pengeulan, a fynegodd eu pryderon difrifol i mi am lygredd plastig. Mae ganddyn nhw uchelgais canmoladwy iawn i wneud eu tref sef Aberpennar yn ddi-blastig ac maen nhw eisoes wedi gwneud llawer o waith ac ymchwil ar hyn. O gofio eich ymrwymiad maniffesto i ddarparu rhwydwaith o ffynhonnau yfed ledled Cymru, gallai hynny wneud cryn dipyn i'w helpu gyda'u huchelgais, felly fy nghais i yw: a wnewch chi ystyried gwneud Aberpennar yn un o'r trefi cyntaf un i elwa ar yr addewid hwnnw?
Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn atodol yna ac rwy'n llongyfarch, wrth gwrs, disgyblion Ysgol Gynradd Pengeulan ar eu diddordeb yn y maes hynod bwysig hwn. Llywydd, pe byddai un o bob 10 o bobl ym Mhrydain yn ail-lenwi dim ond unwaith yr wythnos, byddai tua 340 miliwn o boteli plastig untro yn cael eu hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan wneud llawer iawn i helpu gyda'r uchelgais y mae disgyblion yr ysgol honno wedi ymgymryd ag ef.
Wrth gwrs, wrth i ni weithio ar y rhwydwaith o ffynhonnau yfed, byddwn yn sicr yn cadw Aberpennar mewn cof. Yn y cyfamser, mae gan y cynllun ail-lenwi bobl sy'n gweithio iddo sy'n gallu mynd i ysgolion i egluro i ddisgyblion yno y ffordd y mae'r cynllun yn gweithio, i esbonio lle mae ar gael yn lleol ac i'w hannog ymhellach yn eu huchelgeisiau ar gyfer dyfodol di-blastig i Gymru, ac rwy'n hapus iawn i helpu i drefnu i ddisgyblion o Ysgol Gynradd Pengeulan gyfarfod ag un o gydgysylltwyr y cynllun.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu pobl allan o ddigartrefedd? OAQ53160
Diolchaf i Rhianon Passmore am y cwestiwn. Cefnogir ein hymrwymiad i atal a mynd i'r afael â digartrefedd gan gyllid newydd sylweddol o £30 miliwn. Cyhoeddwyd camau trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, wrth i ni fuddsoddi mewn prosiectau tai yn gyntaf a chefnogi amrywiaeth o ddulliau arloesol i fynd i'r afael â'r broblem gymhleth hon.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Prif Weinidog, hoffwn innau hefyd gynnig dymuniadau gorau fy etholwyr yn Islwyn i chi ar gyfer eich ymdrechion fel Prif Weinidog ar ran pobl Cymru.
Prif Weinidog, mae o leiaf 320,000 o bobl yn ddigartref ym Mhrydain, yn ôl gwaith ymchwil gan yr elusen dai, Shelter. Mae'r amcangyfrif yn awgrymu, yn genedlaethol, bod un o bob 200 o bobl yn ddigartref. Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ychydig cyn y Nadolig gynllun arloesol sy'n helpu pobl sy'n ddigartref i symud oddi ar y strydoedd i dai ac sy'n cynnig cymorth hirdymor iddyn nhw i fyw'n annibynnol, ac mae hwn wedi cael mwy na £700,000 o gyllid Llywodraeth Cymru. Sut bydd camau Llywodraeth Cymru yn helpu i dynnu pobl allan o ddigartrefedd yn Islwyn, a sut mae'r camau hyn yn cymharu â chamau cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU y mae hyd yn oed y Cenhedloedd Unedig yn dweud eu bod wedi eu llunio i frifo pobl dlawd?
Llywydd, mae'r cynnydd i ddigartrefedd gweledol ar y stryd yn sicr yn un o ffenomenau mwyaf syfrdanol a thrallodus ein hoes ac mae wedi ei gysylltu'n uniongyrchol, yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei awgrymu, ag effaith cyni cyllidol, ym mywydau unigolion a theuluoedd, ond hefyd yn y gwasanaethau cyhoeddus sy'n ceisio eu cynorthwyo. Wrth gwrs, rydym ni'n falch o fod yn rhan o'r atebion arloesol hynny ac o fod wedi darparu arian yn uniongyrchol i awdurdodau lleol dros y gaeaf hwn i helpu gyda mentrau cysgu ar y stryd. Datblygwyd y fenter tai yn gyntaf, yr wyf i'n credu y cyfeiriodd yr Aelod ati, yng Nghonwy a Dinbych, mae'n weithredol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cael ei mabwysiadu yng Nghaerdydd hefyd erbyn hyn. Mae'r dull o ymdrin â chysgu ar y strydoedd a digartrefedd ar y strydoedd yn gymhleth. Mae'n fwy na llety, rydym ni'n gwybod. Mae'n cynnwys mwy nag un asiantaeth mewn ymateb llwyddiannus. Mae'n gofyn am fwy nag un llwybr, gan fod anghenion pobl yn wahanol iawn rhwng bod yn unigolyn ifanc neu'n rhywun sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, ac rydym ni'n gwybod y gellir cynnig mwy nag un ateb i ddatrys y broblem honno. Mae'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan y sector gwirfoddol, gan y sector cymdeithasau tai a chan awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhoi rhywfaint o anogaeth i ni, rwy'n credu, yn yr amgylchiadau anodd a thrallodus iawn hynny, bod mwy y gallwn ni ei wneud ac yr ydym ni eisiau ei wneud yma yn Cymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn bo hir ar yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y trefniadau pontio Ewropeaidd, a'r datganiad ar brentisiaethau: mae buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol wedi ei ohirio. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd wedi ei nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd, Gweinidog. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lefel y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru? Er fy mod wedi fy hysbysu nad oes terfyn swyddogol ar y codiadau trethi y gall cynghorau eu gwneud, mae terfyn anffurfiol o 5 y cant wedi ei osod. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu codi'r dreth gyngor yn y ddinas 6.95 y cant—bron i 7 y cant—sy'n rhoi mwy o faich ar drigolion lleol sydd eisoes dan bwysau yn y ddinas fawr hon. A gawn ni ddatganiad i gadarnhau a oes angen caniatâd Llywodraeth Cymru ar Gyngor Dinas Casnewydd i godi'r dreth gyngor yn uwch na'r terfyn hwn, ynteu enghraifft arall o eiriau heb weithredu gan eich Llywodraeth yw'r terfyn hwn o 5 y cant?
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Fodd bynnag, mae gosod cyfraddau a lefelau'r dreth gyngor yn fater i bob awdurdod lleol benderfynu arno yn annibynnol heb ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
A allaf i longyfarch hefyd y Trefnydd ar ei dyrchafiad i'r swydd bresennol? Hoffwn i godi dau fater. Bydd y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant yn ymwybodol bod newid polisi wedi bod gan gorff PPL—corff sy'n dosbarthu arian breindal am y defnydd o recordiau i gwmnïau a cherddorion unigol. Digwyddodd y newid polisi heb unrhyw ymgynghori nac unrhyw rybudd, a heb unrhyw astudiaeth o effaith y newid ar gwmnïau llai, yn enwedig unigolion a chwmnïau sy'n arbenigo mewn recordio caneuon yn y Gymraeg. Mae'r taliadau o dan y system newydd yn ddibynnol ar nifer y gwrandawyr, sydd yn meddwl bod recordiau Cymraeg yn derbyn llai o daliad, wrth gwrs. Mae hyn yn amlwg yn peri gofid ac yn codi pryderon am ddyfodol y diwydiant yma yng Nghymru.
Cafwyd newid tebyg gan y PRS nôl yn 2008. Mae rhai ohonom ni yn cofio'r frwydr honno. Ond cafodd y newid hwnnw ei herio hefyd gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis—yr egwyddor a ddadleuwyd yno oedd nad yw gwerth darn o gerddoriaeth yn dibynnu ar nifer y gwrandawyr, ac yn wir fod gwerth darn Cymraeg i orsaf fel Radio Cymru yn uwch oherwydd mai dyna yw arbenigedd a phrif nodwedd yr orsaf. Yn dilyn hyn, byddwn yn ddiolchgar petai'r Dirprwy Weinidog yn barod i ddod â datganiad gerbron y Cynulliad yn datgan yn glir beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater yma, i amlinellu unrhyw drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi'u cael efo'r BBC ac eraill, ac fel mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd ati i gefnogi cwmnïau recordio yng Nghymru yn y dyfodol.
Ac mae'r ail ran yn ymwneud â gwasanaethau ambiwlans. Ar 6 Tachwedd, wrth ymdrin ag adolygiad o alwadau ambiwlans categori oren, amlinellodd y Gweinidog iechyd ei fod wedi ymrwymo £140,000 i ymateb i gwympiadau ar y cyd gydag Ambiwlans Sant Ioan. Cydnabu fod yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu ers 2016, ac yn amlwg mae'n ymwybodol fod rhai pobl yn gorfod dioddef amseroedd aros erchyll nad ydynt yn dderbyniol. Nawr, cefais sefyllfa yn fy etholaeth i ar Ŵyl San Steffan pan syrthiodd un o'm hetholwyr sy'n 90 mlwydd oed yn ardal Abertawe ac roedd wedi gorfod aros dros bum awr a hanner am ambiwlans. Nawr, yn amlwg, mae'r enghraifft ofnadwy hon yn dangos, er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff ar lawr gwlad, bod y system yn methu o hyd â pherfformio i safon y byddem yn ei disgwyl ar gyfer ein hanwyliaid.
Felly, yn ystod ei ddatganiad ym mis Tachwedd, dywedodd y Gweinidog y byddai'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar effaith y buddsoddiad o £140,000 a gyhoeddwyd ganddo. Gofynnaf yn barchus fod y Gweinidog yn gwneud hynny fel mater o frys ac yn cyflwyno datganiad sy'n amlinellu'n glir sut y mae Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael ag amseroedd aros hir a ddioddefir gan bobl sy'n syrthio. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. O ran y cyntaf, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu atoch ynghylch y mater o newid polisi, gan amlinellu'r math o drafodaethau a gafodd gyda'r BBC a phartïon eraill â diddordeb a'r ystyriaethau y tu ôl i'r newid polisi hwnnw.
Ac ar y mater o amseroedd ymateb ambiwlans, byddaf yn sicr yn cysylltu â'r Gweinidog iechyd i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf honno ar y gorwel.
Hoffwn ofyn eto am ddatganiad Llywodraeth ynghylch cymorth ar gyfer staff Virgin Media sy'n cael eu diswyddo yn Abertawe. Ar 4 Rhagfyr, dywedodd eich rhagflaenydd
Cynlluniwyd dau gam ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Mae ein tîm cymorth lleoliadau wedi cymryd y cyfrifoldeb o roi i'r staff fynediad ar y safle i bartneriaid allweddol y tasglu, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Mae fforwm canolfannau cyswllt Cymru yn bartner allweddol yn ein tasglu a drefnodd ffeiriau swyddi ym mis Hydref ar safle Virgin Media gan ddod â chyflogwyr sy'n recriwtio i'r safle yn ogystal â darparu cyngor gyrfaol ar gyfer y staff hynny sy'n chwilio am waith arall. Mae'n rhy gynnar imi roi manylion penodol am y rhai sydd wedi sicrhau cyflogaeth arall yn llwyddiannus o ganlyniad i'r ffeiriau swyddi, ond rydym yn cynnal ffeiriau swyddi ychwanegol i gyd-fynd â'r ddwy gyfran ychwanegol o staff a fydd yn gadael y cwmni y flwyddyn ganlynol. Felly, mae ein hymgysylltiad ni yn parhau er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl staff yr effeithir arnynt gan hyn yn cael y canlyniad gorau posib.
Mewn gwirionedd, rwyf yn gofyn yn awr am ddiweddariad ar yr hyn sydd wedi digwydd o ran cefnogi pobl i gael gwaith, a'r camau pellach sy'n cael eu cymryd.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac am y ffordd yr ydych wedi dwyn y mater hwn i sylw'r Llywodraeth yn gyson, ac i lawr y Cynulliad hwn. Rwyf innau'n datgan diddordeb hefyd, yn yr ystyr fy mod yn cynrychioli nifer o etholwyr yr effeithir arnynt gan benderfyniad Virgin yn Abertawe, fel y gwna fy nghyd-Aelod Julie James. Fe wnaeth y tranche cyntaf o staff adael ym mis Tachwedd, a bydd dau dranche arall yn ystod y flwyddyn hon. Mae tîm cymorth all-leoli Virgin Media wedi cymryd cyfrifoldeb am roi i staff fynediad ar y safle i bartneriaid allweddol tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd y ffair swyddi ym mis Hydref ar safle Virgin Media, a chynlluniwyd ffeiriau swyddi ychwanegol i gyd-fynd â'r tranches ychwanegol o staff a fydd yn gadael. Felly, bydd y ffeiriau swyddi ychwanegol yn cael eu hamseru mewn cysylltiad â'r tranches ychwanegol hynny, fel y dywedais, o bobl a fydd yn gadael y cwmni.
Arweinydd y tŷ — na, nid arweinydd y tŷ ydyw bellach. Trefnydd—ie, trefnydd. A wnaiff y trefnydd drefnu i ddatganiad gael ei gyflwyno gan y Gweinidog cynllunio mewn cysylltiad â'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar Fferm Wynt Hendy, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi codi'r mater hwn sawl gwaith gyda'i rhagflaenydd, ond mae dau fater sydd angen eu hegluro yma. Yn gyntaf: pwy sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd yn cael eu gwneud gan y datblygwr cyn i'r gwaith datblygu ddechrau? Ai Llywodraeth Cymru, ynteu'r awdurdod lleol, gan mai Llywodraeth Cymru a wnaeth y penderfyniad i gymeradwyo? Ac yn ail, roeddwn wedi tybio y byddai raid i ddatblygwr gydymffurfio â'r amodau cyn i unrhyw waith gael ei wneud ar y safle, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r datblygwr yn ceisio ymgymryd â'r gwaith o godi tyrbinau, er mwyn bodloni'r rhwymedigaeth gan Ofgem i gymhelliad gwres adnewyddadwy. Os nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau, siawns nad yw hynny'n torri'r cynllun Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy. A chredaf ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i egluro beth yn union y bydd yr amodau cyflawni yn eu cynnwys pan gaiff y rhain, yn amlwg, eu trosglwyddo yn eu holau i'r awdurdod lleol.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw ac i'm dau gyd-Aelod am roi cwrs carlam imi mewn cynllunio. Rwyf ar ddeall mai cyfrifoldeb Cyngor Powys yw hyn, ac nad yw'r holl geisiadau'n agored i'r gweithdrefnau cyn ymgeisio hynny a ddisgrifiwyd gennych. Credaf, fodd bynnag, ei bod yn well imi ofyn i'm cyd-Aelodau ysgrifennu atoch i roi rhywfaint o eglurder ar hynny.
Fe wnes i gwrdd heddiw â chynrychiolwyr y gymuned Gwrdaidd yn ne Cymru. Ac rwyf yn croesawu’r ffaith bod gennym Weinidog penodol bellach dros faterion rhyngwladol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Felly, hoffwn ofyn am ddadl a gofyn iddi amlinellu beth yw ei blaenoriaethau mewn cysylltiad â materion rhyngwladol, a hefyd hoffwn ofyn bod helyntion y bobl Gwrdaidd yn rhan o un o'r blaenoriaethau allweddol hynny. Rydym yn gwybod bod rhai gwleidyddion yn Nhwrci sydd wedi eu carcharu ers blynyddoedd lawer, ac nid ydym wedi clywed ganddynt ers dwy flynedd bellach oherwydd y diffyg cynnydd o ran trafodaethau gydag awdurdodau Twrci. Felly, rwyf yn annog Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y mater hwn. Mae gennym filoedd o bobl Gwrdaidd sy’n byw yng Nghymru, ac maen nhw eisiau atebion ac maen nhw eisiau cael arweiniad gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Fy ail gais yw datganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi helynt y ceisydd lloches Otis Bolamu, sy’n dod o'r Congo yn wreiddiol. Gwyddom ei fod wedi ei fygwth ag allgludiad ar ddydd Nadolig, a gwyddom fod gwleidyddion o bob plaid wedi cymryd rhan i geisio atal hyn rhag digwydd. Ac er inni weld rhywfaint o oleuni ar ddiwedd y twnnel gan Lywodraeth y DU wrth atal yr allgludiad hwnnw a oedd ar fin digwydd, mae'n dal i fod yn cael ei gadw mewn canolfan, ymhell o Abertawe, y mae bellach yn ei hystyried yn gartref. Felly, hoffwn ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a sut y gallwn atal hyn rhag digwydd, oherwydd, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae'n weithiwr gwirfoddol gweithgar yn siop lyfrau Oxfam yn Abertawe, ac rydym yn dymuno ei weld yn dychwelyd i'r ddinas y mae bellach yn byw ynddi.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Mae gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol a’r Gymraeg gwestiynau yn y Siambr ar 30 Ionawr. Credaf y bydd hynny’n gyfle i’r Aelodau ei holi ynghylch ehangder ei phortffolio. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod y portffolio hwnnw’n cynnwys yr eitemau hynny sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, felly bydd meysydd cysylltiadau rhyngwladol sydd yn sicr wedi eu cadw ar gyfer San Steffan. Fodd bynnag, mae'r swydd hon yn hynod bwysig o ran dangos mai cenedl sy’n edrych allan ar y byd yw Cymru, sy’n awyddus iawn i ymgysylltu ar raddfa fyd-eang ac ar y llwyfan byd-eang hwnnw, sy’n ddatblygiad i'w groesawu'n fawr.
O ran Otis, sydd, fel y dywedoch, yn un o drigolion Abertawe a gymerwyd o'i wely am bedwar o'r gloch y bore ychydig cyn y Nadolig ac a gafodd ei fygwth ag allgludiad ar ddydd Nadolig. Roeddwn i mewn cysylltiad â’r Prif Weinidog, yn mynegi fy mhryderon fel aelod etholaeth ar Noswyl Nadolig, a gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn gwneud sylwadau cryf iawn i'r Swyddfa Gartref ar nifer o faterion. Y ffaith yw bod Otis yn aelod gwerthfawr iawn o'r gymuned yn Abertawe—mae'n wirfoddolwr, mae’n weithgar iawn yn ei eglwys leol, ac mae ganddo gymuned fawr o bobl sy’n ei gefnogi.
Ond, mewn gwirionedd, y peth mwyaf sinistr yn yr achos hwn yw'r ffaith bod y Swyddfa Gartref wedi ceisio alltudio Otis ar ddydd Nadolig pan oeddech chi ac Aelodau eraill o'r Cynulliad, gan fy nghynnwys i, yn ei chael yn amhosibl cael unrhyw ateb gan y Swyddfa Gartref, oherwydd, yn amlwg, roedd wedi cau yn ystod cyfnod y Nadolig. Ac nid damwain oedd yr amseru hwnnw, roedd yn gwbl fwriadol ar eu rhan nhw er mwyn rhwystro ein hymdrechion i wneud sylwadau ar ei ran ac ar ran ein hetholwyr hefyd. Felly, credaf fod gan y Swyddfa Gartref gwestiynau difrifol i'w hateb am y modd y mae'n gweithredu yn y sefyllfaoedd hyn.
Fel y dywedwch, ni chafodd Otis ei alltudio ar ddydd Nadolig, ond mae'n dal i ymladd ei achos ac yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Gwn fod llawer o bobl Abertawe sy'n awyddus iawn i'w gael yn ôl.
Wrth ddymuno 2019 newydd hapus iawn i bawb, a chroesawu fy nghyd-Aelod i'w swydd newydd, a gaf i ofyn am ddadl ar y rhagolygon cymdeithasol ac economaidd ar gyfer Cymru yn 2019, yng ngoleuni dadansoddiad Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd ar ddydd Calan? Roedden nhw’n gweithio'n galed iawn yn wir. Mae'n tynnu sylw at yr effaith ddigalon a ddaw gydag ansicrwydd Brexit, wrth gwrs, ond beth bynnag am hynny, rwyf eisiau rhoi’r trychineb posib y mae'n ei ddatgan ar gyfer Brexit heb gytundeb o’r neilltu am eiliad. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, lle ceir twf economaidd yn y flwyddyn i ddod, na fydd bob amser yn cyrraedd y rhannau hynny o Gymru sydd ei angen fwyaf, lle ceir pellter oddi wrth farchnadoedd llafur bywiog, lle bo seilwaith trafnidiaeth yn brin, neu lle bo sgiliau a pharodrwydd am waith yn llai datblygedig. Mae croeso i'r rhagolwg am gynnydd cymedrol mewn cyflogau, ond hefyd, rhagwelir y bydd yr enillion hyn yn cael eu gwrthbwyso'n gyflym iawn gan y cynnydd mewn costau byw, o fwyd a thocynnau trên i filiau ynni a rhent. I'r bobl ar waelod y sbectrwm incwm, rhagwelir y bydd 2019 yn edrych hyd yn oed yn fwy anodd, gyda rhewi cyfraddau budd-daliadau yn golygu trafferthion i dalu am bethau hanfodol, felly gallai tlodi ddwysáu.
Nawr, fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol, mae angen inni brofi bod y pethau hyn a rhagfynegiadau eraill Sefydliad Bevan yn anghywir fel bod diweithdra ymhlith pobl ifanc yn y Cymoedd yn gostwng yn ddramatig, ac y bydd popeth o fewn ein pŵer yn cael ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant a theuluoedd a thlodi mewn gwaith, ac mai’r unig bethau segur fydd y banciau bwyd, nid y bobl. Nawr, mae gennym gyfle, oherwydd bod maniffesto ar gyfer arweinyddiaeth y Prif Weinidog yn cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr economi, digitaleiddio, yr economi sylfaenol, partneriaethau cymdeithasol, tai, trafnidiaeth a theithio, cydraddoldeb, tlodi plant a mwy. Dyma sail dda ar gyfer rhwystro rhagfynegiadau 2019 y Sefydliad Bevan, ond mae hefyd yn caniatáu ailaddasiad mwy sylfaenol o'r model cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Felly, byddai croeso i ddadl gynnar ar sut y mae'r Llywodraeth hon, er gwaethaf heriau Brexit a chynffon hir y sgorpion cyni, yn codi pob rhan o Gymru, yn dod â ffyniant a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i'r lliaws, nid i'r ychydig yn unig.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw ac am dynnu ein sylw at adroddiad Sefydliad Bevan sydd yn wir yn rhoi llawer o bwysigrwydd ar adeiladu economi gadarn a chynhwysol. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi a rhywbeth yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef, yn amlwg, drwy ein cynllun gweithredu economaidd, sy’n dod â syniadau newydd gwahanol i’n dull o weithredu yn y rhan honno o'r Llywodraeth, drwy hyrwyddo, annog, a chyflenwi arferion cyfrifol—contractau economaidd, er enghraifft. Roeddech yn cyfeirio at ragolygon economaidd, sydd bob amser yn agored i gamgymeriadau eang, ond yn amlwg, yr hyn y gallwn ei ddweud yn barod gyda chryn sicrwydd yw bod Brexit eisoes wedi tynnu cost economaidd sylweddol oddi wrth Gymru a gweddill y DU, gyda chynnyrch domestig gros rywle rhwng 2 y cant a 2.5 y cant yn is nag y byddai wedi bod fel arall. Mae llawer o astudiaethau credadwy yn awgrymu y bydd cosb Brexit yn cynyddu ymhellach o dan unrhyw senario Brexit yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac y bydd y gosb yn gymesur â graddfa’r mynediad y byddwn yn ei gadw i'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Felly, yn erbyn y cefndir hwnnw o ragolygon economaidd gymharol dlotach, mae'n anochel y bydd cyllid cyhoeddus yn mynd dan straen pellach, a bydd hynny'n cyfyngu ar yr adnoddau sydd ar gael i leihau tlodi ac yn cyfyngu ar yr adnoddau y gallwn eu chwistrellu i’n gwasanaethau cyhoeddus craidd hefyd. Felly, gwn fod y rhain i gyd yn faterion y bydd yr Aelodau yn awyddus i’w codi gyda Gweinidog yr economi pan fydd ef yn cymryd cwestiynau yr wythnos nesaf.
A gaf i hefyd eich croesawu chi, Trefnydd, i'ch swydd newydd? Hoffwn ofyn ichi gysylltu â’r Gweinidog Addysg i ystyried cyflwyno datganiad am y sefyllfa ddifrifol sydd yn mynd rhagddo ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, mae angen imi ddatgan buddiant fel gweithiwr diweddar iawn yn y brifysgol. Bydd yr Aelodau wedi nodi o'r sylw blaenorol, wrth gwrs, ac erthygl heddiw—ac mae'n bwysig dweud yn y cyd-destun hwn—mai rheolwyr y brifysgol eu hunain a benderfynodd wneud y mater hwn yn gyhoeddus cyn yr erthygl yn y Western Mail heddiw. Codwyd pryderon difrifol gyda mi gan aelodau o’r staff, ac rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog Addysg, a oedd yn ddigon caredig i gwrdd â mi yn breifat cyn y Nadolig i rannu’r pryderon hynny gan yr aelodau o staff. Nawr, bydd llawer o'r Aelodau, rwy'n credu, wedi bod yn bryderus iawn wrth ddarllen yr erthygl yn y Western Mail heddiw gan weld yr effaith ddifrifol ar yr Athro Richard Davies fel unigolyn—er gwaethaf yr hyn sy’n gam neu’n gymwys yn y mater na allwn fynd iddynt—ond rwyf yn gwybod, ac rwyf yn siŵr bod y Trefnydd ei hun yn gwybod hefyd, bod yr Athro Davies yn hysbys i lawer ohonom fel unigolyn anrhydeddus a chwrtais iawn. Mae'n was cyhoeddus rhagorol. Gweddnewidiodd y brifysgol drwy ei arweiniad rhagorol i’r brifysgol sydd bellach yn arwain y byd, ac wrth gwrs mae ganddi bwysigrwydd rhyngwladol i Gymru a phwysigrwydd arbennig i orllewin Cymru.
Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon bellach i ddweud mai mater mewnol ar gyfer y brifysgol yn unig yw hwn. Bellach mae'n fater o ddadl gyhoeddus, ac mae’r goblygiadau yn rhy bellgyrhaeddol, ar gyfer enw da y brifysgol ei hun, ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt ac ar gyfer y sector. Hoffwn ofyn a yw'n bosibl i'r Gweinidog—. Rwyf yn sylweddoli bod y rhain yn faterion cymhleth gan mai sefydliadau annibynnol yw prifysgolion, ond hoffwn ofyn i’r Gweinidog wneud datganiad ynghylch sut y bydd hi’n sicrhau bod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ymyrryd yn yr argyfwng hwn i ddiogelu enw da'r brifysgol ac i sicrhau cyfiawnder i'r unigolion dan sylw. Byddwn yn cynnig bod angen ymchwiliad annibynnol i lywodraeth y brifysgol yn ei chyfanrwydd a thrafod y materion penodol hyn ar frys.
Diolch yn fawr iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod ymchwiliad yn digwydd ar hyn o bryd, a chredaf y dylid caniatáu iddo ddod i gasgliad cyn y byddai gan Lywodraeth Cymru unrhyw beth pellach i'w ddweud ar hynny.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y digwyddiad llygredd olew a ddigwyddodd ym mhorthladd Dyfrffordd Aberdaugleddau rhwng 2 Ionawr a 3 Ionawr. Yn ddealladwy, mae aelodau'r cyhoedd yn bryderus iawn am y gollyngiad ac unrhyw effaith bosib y gallai ei gael ar yr amgylchedd, y bywyd gwyllt a busnesau lleol. Mae'n ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn enwog yn rhyngwladol am adar y pâl, gweilch y penwaig, adar drycin Manaw a morloi llwyd. Rwyf wedi cysylltu â Valero bob dydd ers dydd Gwener, ac rwyf wedi mynegi fy mhryderon a gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf, ac maen nhw wedi bod yn agored iawn yn yr wybodaeth ddiweddaraf honno, yn fy sicrhau bod y gollyngiad yn cael ei reoli—a bod rhwystrau yn eu lle i helpu i atal ymlediad pellach posib. Ond y gwir amdani yw hyn: mae’r tywydd yn dawel ac wedi bod yn dawel ar hyn o bryd. Mae’r gollyngiad olew, mewn gwirionedd, yn cael ei yrru i lawr i wely'r môr. Mae pethau'n mynd i newid, a byddant yn newid yn gyflym iawn ac yn fuan iawn mae'n debyg, a byddwn yn gweld yr olew hwn yn glanio—ceir tystiolaeth ohono eisoes—ar y traethau yn yr ardal leol. Rwy'n awyddus iawn i glywed bod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Valero ac asiantaethau eraill—Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Penfro, yn ogystal â’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, yr wyf yn aelod ohoni; byddaf yn datgan buddiant—mewn gwybod beth sy'n digwydd yn y ddaear ac, os oes angen, i gymryd camau cyflym ar unwaith i wella unrhyw niwed amgylcheddol pellach a all ddigwydd, a hefyd a yw Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Valero i wybod yn union beth sy'n cael ei wneud i atgyweirio'r bibell a ddifrodwyd ac sydd wedi bod yn gollwng yr olew hwn i'r amgylchedd.
Diolch i Joyce Watson am dynnu ein sylw at y mater difrifol a phwysig iawn hwn. Mae maint y llygredd yn cael ei werthuso ar hyn o bryd. Deallwn mai ychydig iawn o olew sydd wedi gweld tir hyd yma. Fel y dywedodd Joyce Watson, rydym wedi bod yn ffodus o ran y tywydd, ac nid yw’r clwt olew mwyach yn weladwy, sy’n awgrymu bod yr olew wedi suddo. Nawr, mae hynny ynddo ei hun, fodd bynnag, yn bryder, oherwydd bod rhai o gynefinoedd gwely'r môr yn sensitif iawn yn y lleoliad hwn, felly bydd angen gwerthusiad pellach yno yn sicr.
Ond mae cynllun wrth gefn ar gyfer llygredd olew ar waith. Yr awdurdod arweiniol ar gyfer gweithredu’r cynllun hwnnw ac ymdrin â’r gollyngiad olew sy’n dod i gysylltiad â’r dyfroedd a gwmpesir gan y cynllun yw Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Mae'r cynllun yn dwyn ynghyd dîm ymateb aml-asiantaeth sy'n cynnwys yr harbwrfeistr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Penfro, gwylwyr y glannau Aberdaugleddau a swyddog atal llygredd ar ddyletswydd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Fe wnaethon nhw gwrdd y bore yma a gwn y bydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd yn darparu datganiad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod. Gallaf roi sicrwydd i Joyce Watson bod Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael diweddariadau rheolaidd a sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac mae’r swyddogion yn bendant yn rhoi gwybodaeth lawn i'r Gweinidogion gyda sesiynau briffio rheolaidd.
Yn ystod y toriad, cawsom yr achos anhygoel o 32 o ffoaduriaid o Libya a oedd wedi eu dal ar y môr ers iddynt gael eu hachub ym Môr y Canoldir ar 22 Rhagfyr. Maen nhw wedi eu dal ar y môr oherwydd nad oes yr un porthladd Ewropeaidd yn fodlon caniatáu iddynt ddocio. Roedd Robin Jenkins, sydd o Fro Morgannwg yn wreiddiol, yn aelod o'r criw ar y Sea-Watch a fu'n rhan o'r gwaith achub pan ddechreuodd y cwch bach rwber ollwng tanwydd.
Atebais alwad Robin am help ar y cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennais ddau lythyr at yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, yn galw am drugaredd ac am ryw fath o ymyrraeth. Hyd yma, un ateb yn unig a gefais ac, a dweud y gwir, nid oedd yn werth y papur yr ysgrifennwyd arno. Yn y cyfamser, mae Robin Jenkins wedi ysgrifennu ar Facebook heddiw yn dweud bod y cwch Sea-Watch yn dal i fod allan ar y môr ac yn dioddef gwyntoedd grym 9 i 10, sy'n rhy gryf i lansio cychod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub hyd yn oed.
Ar wahân i fod eisiau rhoi cyhoeddusrwydd i'r ddeiseb sy’n galw am weithredu cadarnhaol ynglŷn â’r achos hwn—ac rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, nad yw mewnfudo wedi ei ddatganoli—hoffwn i wybod i ba raddau y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i San Steffan ar y materion hyn. A fyddwch chi'n barod i weithio gydag elusennau sy'n helpu ffoaduriaid er mwyn gwella'r sefyllfa ar gyfer y 32 o bobl sydd ar y cwch Sea-Watch hwn? Os gwelwch yn dda, a wnewch chi anfon neges gref o'r Senedd hon heddiw sy’n gresynu at driniaeth annynol y ffoaduriaid sy’n dianc rhag perygl sydd bellach yn beth arferol? Mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn druenus ar hyn. Gallwn wneud safiad gwahanol sy’n llawer mwy tosturiol yma yng Nghymru, felly, a wnewch chi hynny, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn am godi hyn. Roeddwn yn dilyn yn agos iawn eich sylwadau am hyn yn y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn tynnu sylw pobl at stori nad wyf yn credu y byddai unrhyw un yn ymwybodol ohoni oni bai fod yr etholwr a'r unigolyn o Gymru a oedd yn ymwneud â hyn yn cysylltu â Chymru gan dynnu sylw ati. Rydym wedi bod yn dilyn hyn yn agos iawn. Y flaenoriaeth gyntaf bob amser yw diogelu bywydau dynol, ac mae'n hollbwysig bod y gymuned ryngwladol yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion tymor byr ar gyfer y mater penodol hwn, ond hefyd atebion hirdymor ar gyfer y problemau sy'n wynebu ymfudwyr a ffoaduriaid. Fel yr ydych yn dweud, mater i Lywodraeth y DU yw polisi ymfudo, ond mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylai Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â gwledydd eraill, fod yn barod i dderbyn a chefnogi'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel fel y gallant wneud cartref ac ailadeiladu eu bywydau. Byddem yn croesawu iddynt wneud hynny yma yng Nghymru. Mae gennym ein cenedl noddfa cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a ddylai gael ei gyhoeddi ar yr ail ar hugain o'r mis hwn, pan fydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad a bydd cyfle ichi ei holi ymhellach ar sut y gall Cymru fod yn genedl noddfa wirioneddol.
Hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w swydd a gofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad ar leihau'r defnydd o gyffuriau mewn carchardai yng Nghymru? Rydym yn gwybod nad oes un carchar ym Mhrydain sy'n rhydd o gyffuriau a bod y sefyllfa hon yn gwaethygu. Mae'r defnydd o gyffuriau yn y carchar yn hybu trais, hunanladdiad, hunan-niwed ac mae'n cael effaith andwyol ddifrifol ar iechyd meddwl. Mae hyn yn tanseilio'r adsefydliad gan fod troseddwyr yn aml ynghlwm wrth gylch troseddu sy'n cael ei hybu gan gaethiwed i gyffuriau. Er fy mod i'n deall mai swyddogaeth ar gyfer Llywodraeth y DU yw hon yn bennaf, yn amlwg pan fydd pobl yn gadael y carchar maen nhw'n cael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned ac yn defnyddio gwasanaethau lleol. Byddai'n werthfawr cael datganiad ar sut y mae GIG Cymru a gwasanaethau cymorth eraill yn gweithio gydag awdurdodau carchar ar leihau'r defnydd o gyffuriau gan droseddwyr.
Yn ail, a gawn ni ddatganiad ar sut y mae digwyddiadau chwaraeon, clybiau ac unigolion yn codi proffil trefi a dinasoedd yng Nghymru? Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer canlyniad gwych Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn erbyn clwb yr Uwchgynghrair Dinas Caerlŷr ddydd Sul. Roedd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y BBC, ac o ganlyniad, gwelwyd y canlyniad ledled y byd. Nid yn unig y bydd gêm Cwpan yr FA yn erbyn Middlesbrough yn rhoi'r ddau dîm yn erbyn ei gilydd, ond bydd hefyd yn frwydr y pontydd cludo, ac mae ein rheolwr gwych Mike Flynn yn edrych ymlaen at fynd benben â Tony Pulis sy'n hanu o Gasnewydd. Gobeithio y bydd yn ddiwrnod gwych arall i'r ddinas, y cefnogwyr a'r clwb. Byddwn yn ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio llwyddiannau chwaraeon fel hyn i hyrwyddo Cymru a phopeth sydd gan ein trefi a'n dinasoedd i'w cynnig.
Diolch yn fawr i'r Aelod am godi dau fater gwahanol iawn ond pwysig iawn. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn amlwg yn fater cymhleth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael ag ef dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig drwy ein strategaeth camddefnyddio sylweddau 2008-18 a'r cynlluniau cyflawni cysylltiedig. Rydym yn gwneud gwaith sylweddol gyda'n partneriaid yn y maes hwn i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Caiff y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eu darparu mewn carchardai yn unol â chanllawiau clinigol a gwaith timau iechyd carchardai mewn partneriaeth â gwasanaethau cymunedol—felly, gyda'r rhaglen Dyfodol, er enghraifft, i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu drwy’r system cyfiawnder troseddol gyfan a thaith pobl drwy'r system. Mae ein rhaglen naloxone i'w ddefnyddio gartref yn cael ei darparu ar gyfer carchardai wrth i'r carcharorion gael eu rhyddhau. Mae hynny’n bwysig iawn o ran atal niwed wrth i bobl ddychwelyd i'r gymuned ac rydym yn gwybod ei bod wedi helpu o ran targedu a lleihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn ein cymunedau. Ceir cynllun peilot rhagnodi cyfredol yng Ngharchar EM Abertawe a fydd yn llywio gwelliannau i wasanaethau camddefnyddio sylweddau mewn carchardai yn y dyfodol.
Ac, wrth gwrs, rwy'n falch dros ben o allu dymuno’r gorau i Sir Casnewydd yn y gêm sydd ar y gorwel, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn awyddus i ddangos ei gefnogaeth ef hefyd.
Fel eraill, hoffwn innau groesawu fy nghyd-Aelod i'w swydd newydd. A gaf i ofyn am ddatganiad ar ddarparu system metro de Cymru? Rydym wedi gweld a chlywed amserlenni ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd ar lawer o reilffyrdd y Cymoedd sy'n gwasanaethu Blaenau'r Cymoedd, ond rydym yn dal i aros yng Nglynebwy i glywed am y gwasanaethau newydd ar reilffordd Glynebwy. Rydym ar ddeall y bydd gwasanaeth ychwanegol yn 2021, ond rydym yn ceisio cael pedwar gwasanaeth bob awr ar yr un sail â llinellau eraill y Cymoedd ac ardaloedd eraill Blaenau’r Cymoedd. Felly, gobeithio y gallwn gael datganiad ar hynny. Ar yr un pryd, hoffwn gael datganiad ar ddatblygu gorsafoedd rheilffordd newydd. Cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd yr economi, tua 18 mis yn ôl rwy’n credu, ar orsafoedd newydd i wasanaethu gwahanol rannau o'r system metro. Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall pryd y bydd y broses honno’n parhau i gael ei datblygu a phryd y gallwn wneud ceisiadau am orsafoedd ychwanegol i wasanaethu pob rhan o'r Cymoedd. Bydd y Trefnydd yn ymwybodol nad yw dyffryn Ebwy Fach yn fy etholaeth i yn cael ei wasanaethu gan y system metro ar hyn o bryd, ac na chefnogwyd cynnig gorsaf Abertyleri gan y Llywodraeth. Rydym ni’n awyddus iawn i allu parhau i gefnogi gorsaf yn Abertyleri i sicrhau bod y system metro yn gwasanaethu’r Cymoedd i gyd.
Diolch yn fawr iawn am grybwyll hyn. Mae Gweinidog yr economi wedi dweud y byddai'n hapus iawn rhoi briff i chi er mwyn ateb rhai o'r cwestiynau yr ydych chi wedi eu gofyn.
Croeso i'ch swydd newydd, Trefnydd—rwy'n gobeithio fy mod i wedi cael hynny'n gywir. A oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru—naill ai gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth neu ei Ddirprwy—ynglŷn â'r ddarpariaeth o fannau gwefru trydan ar gyfer ceir yng Nghymru a'r seilwaith gwefru trydan yn gyffredinol? Gwyddom fod rhai problemau wedi bod ynglŷn â hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn fy etholaeth i dros y Nadolig cafwyd rhai problemau penodol pan fethodd y mannau gwefru yng ngwasanaethau Magwyr ar yr M4, a oedd yn golygu bod pobl a oedd yn dod yn ôl o wyliau Nadolig wedi eu gadael yn hynod brin o drydan wrth gyrraedd eu cartrefi yn fy ardal i.
Ond mae problem gyffredinol gyda'r diffyg seilwaith gwefru, a gwn fod Gweinidog yr economi wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem hon. A gawn ni ddiweddariad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn hynny o beth, fel y gallwn wneud yn siŵr, wrth i bobl ledled Cymru brynu mwy o gerbydau trydan—dim ond datblygu wnaiff y broblem hon—y gallan nhw fod yn ffyddiog bod modd defnyddio'r cerbydau hyn gan wybod nad oes siawns iddynt gael eu gadael heb allu mynd i unlle?
Diolch yn fawr iawn am hynny. Fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi datganiad ar yr union fater hwn tua diwedd y llynedd, ond bydd yn sicr yn falch o roi diweddariad pellach maes o law.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y diweddaraf ar drefniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Ar ddechrau 2019, mae'n amlwg bod yna ymdeimlad o argyfwng wedi codi ynghylch Brexit. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hyn. Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i ryw ymgais ofer i geisio uno'r Blaid Geidwadol yn hytrach na chanolbwyntio ar ddyfodol y wlad.
Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud unrhyw ymgais i sicrhau consensws trawsbleidiol ar gyfer ei strategaeth, nac wedi gwneud unrhyw ymgais o ddifrif i gytuno â'r gweinyddiaethau datganoledig ar ffordd o negodi. Drwy ei diffyg effeithlonrwydd ei hun, mae wedi methu â sicrhau cytundeb sy'n medru denu digon o gefnogaeth i sicrhau mwyafrif seneddol. O ganlyniad, rhai wythnosau yn unig cyn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae'r perygl o ymadael heb gytundeb yn cynyddu, ac fe fyddai hyn yn drychinebus i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Mae'n anhygoel ein bod ni yn y sefyllfa yma, ac mae'n gwbl ddiangen. Bron yn union ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru, sef 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd yn cynnwys manylion am ffordd synhwyrol a rhesymegol o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan ddiogelu buddiannau hanfodol Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach. Y mis diwethaf, gyda mwyafrif sylweddol, cadarnhaodd y Cynulliad Cenedlaethol y dull gweithredu hwn unwaith eto.
Gadewch, Llywydd, inni ailadrodd ein blaenoriaethau. Yn gyntaf, rydym ni am weld Brexit sy'n diogelu swyddi yma yng Nghymru. Nid oes modd inni gytuno ag unrhyw ganlyniad sy'n arwain at osod tariffau neu rwystrau eraill a fydd yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau Cymru allforio, yn annog chwyddiant drwy gynyddu costau mewnforio ac, yn fwyaf difrifol, yn amharu ar y cadwyni cyflenwi integredig ar draws Ewrop y mae cynifer o'r prif gyflogwyr yn dibynnu arnynt i ffynnu ac, mewn rhai achosion, i oroesi. Mae hyn yn golygu bod angen parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau. Byddai hynny nid yn unig yn golygu ein bod yn parhau wedi integreiddio â'r farchnad Ewropeaidd, ond hefyd yn rhoi mynediad i ni at dros 60 o wledydd sydd â chytundebau masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gwbl hurt troi ein cefnau ar drefniadau masnach rydd helaeth sydd eisoes yn bodoli ar draws y byd.
Y tu hwnt i hynny, Llywydd, rydym ni eisiau gweld system ymfudo sy'n deg i'r dinasyddion hynny o'r UE sydd wedi dewis neu, fel yr ydym ni'n gobeithio yn y dyfodol, y byddan nhw'n dewis byw eu bywydau yma yng Nghymru, ac yn deg i'r rhai sy'n ofni bod y perygl o gamfanteisio yn cynyddu oherwydd na fu Llywodraeth bresennol y DU yn ddigon cadarn wrth orfodi hawliau gweithwyr. Ar y llaw arall, mae agwedd ddigyfaddawd a gelyniaethus Llywodraeth y DU at ymfudo yn peryglu nid yn unig ein gallu i negodi'r berthynas hirdymor briodol gyda'r UE, ond hefyd hyfywedd y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal â rhai o'n prif sectorau economaidd—amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd, lletygarwch, a'n sector addysg uwch—ac, os caf i ychwanegu, bydd yn amddifadu dinasyddion Cymru—efallai yn anad dim, ein pobl ifanc—o'r cyfle i fyw a gweithio mewn 27 aelod-wladwriaeth arall.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon a minnau'n credu bod mwyafrif cadarn yn y Cynulliad hwn eisiau cadw'r hawliau cymdeithasol, amgylcheddol a'r hawliau o ran y farchnad lafur sydd wedi'u meithrin gydag amynedd dros nifer o flynyddoedd o aelodaeth o'r UE, ac i fanteisio ar ddatblygiadau yn y dyfodol sydd o fudd i ddinasyddion ein cyfandir. Ar ben hynny, rwy'n credu y byddai cytundeb o'r fath yr wyf i newydd ei ddisgrifio hefyd o bosib wedi bod yn fwy derbyniol i'n partneriaid yn yr UE.
Mae Michel Barnier wedi dweud, pe byddai'r Deyrnas Unedig y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond o fewn undeb tollau ac yn derbyn rheoliadau'r farchnad sengl ar gyfer yr economi yn ei chyfanrwydd, y byddai hynny'n ffurf ar Brexit y gallai'r UE ei chefnogi. Byddai ateb o'r fath yn sicrhau na fyddai angen o gwbl am gynllun ôl-stop Gogledd Iwerddon, fel y'i gelwir ef, a byddai, beth bynnag, yn osgoi'r rhan fwyaf o'r problemau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â chynigion presennol Mrs May.
Mae'n arwydd o fethiant Llywodraeth y DU a'i Phrif Weinidog bod ei chytundeb yn ildio dylanwad gwleidyddol dros ein dyfodol ond ar yr un pryd yn methu ag ennill unrhyw sicrwydd y bydd y berthynas hirdymor gyda'r Undeb Ewropeaidd yn un sy'n amddiffyn ein dyfodol economaidd. Drwy gymryd arnom y gallem ni adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n cyllid, ac ar yr un pryd cynnal y cysylltiadau economaidd gorau gyda'r Undeb Ewropeaidd, nid yw'r cytundeb y daeth y Prif Weinidog ag ef yn ôl gyda hi yn rhoi sicrwydd o'r naill beth na'r llall. A dyna pam na ellir derbyn ei chytundeb hi fel y mae.
Yn y tymor byr, rydym ni bellach yn wynebu'r posibilrwydd o anhrefn a chaledi pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb mewn prin 10 wythnos. Mae'r posibilrwydd yma yn gynyddol ac yn frawychus o real, ac rydym ni'n gwneud beth bynnag y gallwn ni i baratoi ar ei gyfer, gan barhau i ddatgan yn glir nad oes unrhyw gytundebu, unrhyw gynllun, waeth pa mor dda, yn gallu dileu'r niwed y bydd Brexit di-gytundeb yn ei greu. Fel y gŵyr Aelodau, rydym ni'n gweithio'n galed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn hwyluso hynt y ddeddfwriaeth angenrheidiol i baratoi ar gyfer Brexit. Mae hyn yn faich trwm o waith heb ei drefnu ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer y Cynulliad ei hun, ac rydym ni'n ailflaenoriaethu materion eraill y Llywodraeth i roi'r ddeddfwriaeth y mae ei hangen arnom ni ar waith cyn diwedd mis Mawrth.
Nawr, Llywydd, mae llawer o'r elfennau sy'n gysylltiedig â Brexit 'dim cytundeb' yn nwylo Llywodraeth y DU. Nhw, ac nid cyrff cyhoeddus Cymru, fydd yn gosod tariffau ac yn rheoleiddio llif nwyddau ar draws ffiniau—yng Nghaergybi, Abergwaun ac mewn mannau eraill. Rydym ni'n gweithio ar lefel ymarferol mor agos ag y gallwn ni gyda Llywodraeth y DU i rannu gwybodaeth a bod mor barod â phosib. Ni fu hyn heb ei rwystredigaeth. Ers y refferendwm, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhy niwlog, rhy araf ac weithiau'n gwbl gyfrinachol. Rydym ni wedi dweud yn glir ein bod yn barod i gydweithio mor agos â phosib ar sail rynglywodraethol i baratoi hyd yn oed ar gyfer digwyddiad y credwn ni na ddylid hyd yn oed ei ystyried. Ond nawr yw'r amser i fod yn wirioneddol agored a chydweithio'n llawn.
Mae llawer o fusnesau yma yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n mewnforio ac allforio, wedi bod yn paratoi cynlluniau wrth gefn ers peth amser. Ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, nawr yw'r amser i ddechrau gwneud hynny, ac ein porth Brexit yw'r man cychwyn ar gyfer busnesau sydd angen gwybod rhagor. Yn yr un modd, dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru—awdurdodau lleol, prifysgolion, awdurdodau iechyd ac eraill—fod yn hen gyfarwydd â'u paratoadau wrth gefn eu hunain ar gyfer 'Brexit' 'dim cytundeb'. Bydd mwy gennym ni i'w ddweud am hyn fel Llywodraeth dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Llywydd, hyd yn oed ar yr adeg hwyr yma rwy'n gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn llwyddo i gael gwell bargen, un sy'n cyd-fynd yn agosach â'n huchelgeisiau ni fel y'u nodir nhw yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Os na all Llywodraeth y DU wneud ei gwaith dylai ofyn i'r Undeb Ewropeaidd am estyniad i'r dyddiad Brexit yn erthygl 50 sef 29 Mawrth ac yna rhoi cyfle i'r DU gyfan roi mandad clir ar gyfer y ffordd ymlaen, drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus. Dyna oedd y safbwynt y cytunodd y Cynulliad hwn arno cyn y Nadolig. Dyna'r dewis gorau o hyd i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ond ni fyddwch chi'n synnu fy mod i'n dal yn siomedig â safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ar y mater hwn. Mewn datganiad a wnaeth eich rhagflaenydd ar 20 Tachwedd y llynedd, cadarnhaodd mai cymharol ychydig oedd angen ei newid er mwyn i Lywodraeth Cymru gefnogi cytundeb presennol Llywodraeth y DU gyda'r UE. Felly, ymddengys fod eich barn wedi newid cryn dipyn o'r safbwynt penodol hwnnw mewn cyn lleied o amser. A wnewch chi ddweud wrthym ni felly beth sydd wedi newid ers hynny?
Nawr, rwy'n sylwi eich bod yn cyhuddo Llywodraeth y DU o roi buddiannau'r Blaid Geidwadol o flaen buddiannau'r DU. Ni allai dim fod ymhellach o'r gwir, o ystyried—[Torri ar draws.] Llywydd, gallaf glywed Aelodau eraill o bleidiau gwleidyddol eraill yn gweiddi. Roeddwn yn gwrtais iddyn nhw wrth wrando ar y Prif Weinidog ac rwy'n disgwyl yr un cwrteisi'n ôl.
Nawr, ni allai dim fod ymhellach o'r gwir, o gofio bod Prif Weinidog y DU wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fod y cytundeb a negodwyd gan ei Llywodraeth er budd y DU gyfan, a fydd yn diogelu swyddi ac yn cynnig sefydlogrwydd yn y dyfodol, sef yr hyn yr ydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi eisiau ei gyflawni hefyd. Fodd bynnag, ymddengys i mi na all y Blaid Lafur na'ch Llywodraeth benderfynu a ddylai'r DU adael yr UE ai peidio. Mae wyth o'ch Aelodau meinciau cefn eich hun a phedwar aelod o'ch Llywodraeth wedi galw am ail refferendwm. Felly, o ran eglurder y prynhawn yma, a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw eich Llywodraeth yn awr o blaid cynnal ail refferendwm ac ai dyma bellach yw polisi swyddogol Llywodraeth Cymru?
Ac rydych chi'n eithaf hyf yn cyhuddo Llywodraeth y DU o fethu cytuno ar ddull y trafodaethau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig pan nad oedd eich rhagflaenydd yn estyn gwahoddiad i mi gwrdd i drafod effaith y cytundeb ymadael ar Gymru yn fy swyddogaeth yn arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma. Felly, ni fyddaf yn derbyn unrhyw wersi gan eich plaid chi gyda'ch honiadau am y diffyg ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon. Siawns y byddai hi wedi bod yn llawer gwell pe byddai holl arweinwyr y pleidiau wedi cwrdd a thrafod y cynigion i drafod yr effaith y bydden nhw'n eu cael ar Gymru ac ar weithrediad y Cynulliad hwn. Yn wir, rwy'n gwybod bod Prif Weinidog y DU wedi dangos cwrteisi a chynnig trafodaethau ynghylch Brexit gyda llawer o'r gwrthbleidiau, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru.
Nawr, fel y byddech chi'n disgwyl, rwyf wedi cyfarfod nifer o fusnesau bach a mawr yn ddiweddar ac mae'r neges yn glir iawn: maen nhw eisiau cytundeb. Maen nhw'n dweud y bydd 'dim cytundeb' yn cael effaith hynod negyddol ar fusnes ac y byddai'r effaith yn bellgyrhaeddol ac yn niweidiol. Os derbynnir y bleidlais yr wythnos nesaf yn y Senedd—ac rwy'n mawr obeithio y caiff hi—yna mae busnesau'n dweud y gallan nhw gynllunio'r camau nesaf. Byddai'r cyfnod gweithredu cyfyng yn bont i berthynas yn y dyfodol, gyda chaniatâd i alluogi busnesau i barhau i fasnachu fel hyn tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Prif Weinidog Cymru yn ei groesawu. Hebddo, mae llawer iawn o ansicrwydd a gallai'r goblygiadau fod yn ddifrifol iawn. Mae angen inni wrando ar eu rhybuddion dwys a difrifol.
Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi mynegi eu barn yn glir. Maen nhw wedi dweud bod
y fargen hon yn gyfaddawd, gan gynnwys ar gyfer busnes, ond mae'n cynnig y cyfnod pontio hanfodol hwnnw fel cam yn ôl o ymyl y dibyn.
Peidiwch â gwrando arnaf i ac ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn unig; gwrandewch ar Andy Palmer, Prif Weithredwr Aston Martin, sydd wedi dweud ei farn ar goedd hefyd. Mae wedi dweud bod y cytundeb Brexit sydd ger ein bron yn ddigon da. Mae hi'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar farn glir a chyson y gymuned fusnes, sydd wedi siarad ag eglurder gwirioneddol ar y mater hwn. Felly, ers eich penodiad, pa drafodaethau a ydych wedi'u cael gydag arweinwyr busnes yng Nghymru, gan fod angen inni gael gwybod yr adlewyrchir eu barn yn briodol pan fydd eich Gweinidogion yn parhau i drafod y mater hwn â'ch cymheiriaid yn San Steffan?
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir wrth ddweud mai'r peth olaf y mae hi eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Cymru a'r Iwerddon, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r safbwynt hwnnw. Soniodd eich rhagflaenydd am oblygiadau enfawr hynny, yn arbennig i strwythur y ffyrdd sy'n arwain at ein porthladdoedd. Nawr, dadleuwyd dros ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth i, er enghraifft, ers y 1950au, a byddwch yn gwybod y bûm i'n gofyn yn barhaus i Weinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon am addewidion i ddeuoli'r ffordd hon. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn ffordd unffrwd, ac rwy'n sôn am hyn oherwydd mae'n un enghraifft yn unig o agwedd lle mae'r cyfrifoldeb gan y Llywodraeth. Felly, mae'n bwysicach fyth fod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ni pa gynlluniau sydd ganddi i wella'r strwythur ffyrdd i'n prif borthladdoedd.
Nawr, rwy'n sylwi yn eich datganiad heddiw ichi gyfeirio hefyd at y llif o nwyddau ar draws ffiniau yng Nghaergybi, Abergwaun ac mewn mannau eraill, ac rwy'n deall y buoch chi'n cydweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU ar effaith Brexit yn arbennig ar borthladd Caergybi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe baech chi'n rhoi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn â chynnydd y gwaith yna.
Gyda hynny o lith, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ond mae'n hynod o hawdd i Lywodraeth Cymru feio a beirniadu Llywodraeth y DU. Hoffwn atgoffa Llywodraeth Cymru bod angen iddi hi hefyd edrych ar ei chymwyseddau ei hun, ac rwy'n eich annog chi a'ch Gweinidogion i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf.
Diolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny, Llywydd. Gallaf ei sicrhau bod holl Weinidogion Cymru yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda phartneriaid eraill ledled y Deyrnas Unedig ac y byddant yn gwneud hynny yn frwd iawn yn ystod y mis hwn wrth inni ymbrysuro gyda'r paratoadau Brexit. Dydd Llun, bydd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn Llundain eto ar gyfer trafodaethau pedairochrog ar yr economi wledig a'r amgylchedd. Bydd Gweinidogion addysg uwch o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cyfarfod yng Nghaerdydd yn ystod y mis hwn, eto yn gyfan gwbl ynglŷn â'r agenda Brexit. Rydym ni'n obeithiol y bydd cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd yn digwydd yng Nghaerdydd y mis hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i weithio mor adeiladol ag y gallwn ni, ble bynnag y bo'r cyfleoedd hynny yn bodoli.
Ein rhwystredigaeth erioed yw nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon o'r cynigion o gymorth yr ydym ni yn gyson wedi eu rhoi ger ei bron ac nad ydyn nhw wedi manteisio ar yr arbenigedd y byddem ni wedi gallu ei gyfrannu i wneud yn siŵr bod y cynlluniau, y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw yn y pen draw, wedi rhoi cymaint o ystyriaeth â phosib i anghenion y gweinyddiaethau a'r gwledydd datganoledig a'r cyfrifoldebau sy'n cael eu cyflawni yma yng Nghynulliad Cymru.
Llywydd, mae arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad yn gwybod yn iawn pan gaiff cytundeb Mrs May ei drechu yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf mai pleidleisiau Aelodau Seneddol Ceidwadol fydd yn dryllio'i chytundeb. Dyna ble bu ei methiant: mae hi wedi methu â darbwyllo ei phlaid ei hun—niferoedd mawr iawn o'i phlaid ei hun. Ac mae'r ffordd yr wyf i wedi beirniadu'r cytundeb y prynhawn yma yn llugoer iawn o'i chymharu ag iaith aelodau o'i blaid—Aelodau Seneddol ei blaid—sydd wrthi'n feunyddiol yn clochdar ar y radio a'r teledu am gytundeb ei Brif Weinidog. Felly, rwy'n credu, pan fydd Llywodraeth Cymru yn siarad â Mrs May, y byddwn ni'n cynnig rhyddhad o'r sgyrsiau y mae'n rhaid iddi eu cynnal gydag aelodau anhydrin y Blaid Geidwadol.
I ni, nid yw'r cytundeb yn ddigon da. Nid yw'n ddigon da oherwydd nid yw'n darparu cyfatebiaeth ddeinamig i'r hawliau dinasyddiaeth a fwynheir mewn rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n benodol yn rhoi cyfle i gyfranogi mewn undeb tollau. Ond fel y dywedodd Prif Weinidog blaenorol Cymru—ac roeddwn i'n cytuno'n llwyr o wrando arno—mae ein gwrthwynebiad i'r cytundeb yn gymharol fach o'i gymharu â'n gwrthwynebiad i'r datganiad gwleidyddol. Dyna'r pwynt yr oedd Carwyn Jones yn ei wneud—o'r ddau beth y bydd pleidlais arnynt gyda'i gilydd, mae gennym ni anawsterau hyd yn oed mwy dyrys a sylweddol o ran y datganiad gwleidyddol truenus nag sydd gennym ni o ran y cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gadewch imi ymdrin â'r sylw olaf a wnaeth yr Aelod, gan ei fod yn gywir wrth ddweud bod ein gwaith ar borthladdoedd gyda Llywodraeth y DU yn enghraifft o sut yr ydym ni wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU. Mae gennym ni weithgor sy'n dod â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau porthladd ynghyd, ac sy'n cael cyngor gan Gymdeithas y Gyrwyr Lorïau ac eraill, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni, fel pe byddai sefyllfa o 'dim cytundeb' yn codi, yna o ran yr effaith ar ein porthladdoedd, yn enwedig o ran Caergybi, fe fyddai gennym ni gynllun ar waith i ymdrin â hynny. Oherwydd bod hynny'n golygu defnyddio tir y tu hwnt i'r porthladd ei hun, mae'r cynlluniau hynny o reidrwydd—fel rwy'n gwybod y bydd yn deall—ar yr adeg hon yn fasnachol gyfrinachol am eu bod yn cynnwys trafodaethau gyda phartïon eraill. Ond gallaf gadarnhau'r hyn a ddywedodd Paul Davies: y bu'r cydweithio hwnnw'n gyson dros y misoedd diwethaf a bod gwaith da ac ymarferol yn cael ei wneud i liniaru'r gwaethaf o'r effeithiau y byddwn ni'n eu gweld mewn porthladdoedd yng Nghymru petai'r trychineb o gael Brexit 'dim cytundeb' yn digwydd.
Rydw i'n diolch hefyd i'r Prif Weinidog am y datganiad. Mae'n ddiweddariad o'r sefyllfa ac mae e'n cynnig dadansoddiad o sefyllfa sydd yn gymhleth ac, fel rŷm ni wedi clywed, yn dra phryderus ar y naw i ni yng Nghymru. Beth sydd angen, wrth gwrs, arnom ni, fwy na heb ar hyn o bryd gyda dim ond 80 diwrnod i fynd, wrth gwrs, tan inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ydy dau beth, am wn i, o du Llywodraeth Cymru: eglurder ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru o ran gwarchod buddiannau Cymru, ac wedyn cynllun clir i osgoi'r gyflafan y mae'r Prif Weinidog wedi darlunio. Rydw i'n ofni nad ydy un o'r ddau beth yna yn glir i fi yn y datganiad rŷm ni wedi'i weld y prynhawn yma.
A gaf i ddychwelyd at bwnc a gododd ddoe, wrth i'r Prif Weinidog gael ei gwestiynu o flaen y pwyllgor materion allanol—yr amwysedd yma ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r ieithwedd sy'n cael ei defnyddio? Fe glywom ni, a dweud y gwir, y Trefnydd gynnau fach yn defnyddio'r ieithwedd 'aelodaeth o'r farchnad sengl' ac 'o'r undeb tollau', ond, yn lle hynny, beth rydym ni wedi'i weld gan y Prif Weinidog y prynhawn yma ac yn y datganiad ydy'r iaith rydym ni wedi clywed o'r blaen gan Lywodraeth Cymru, sef:
cymryd rhan yn y farchnad sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau.
Nawr, fe wnes i ofyn iddo fe sut oedd hyn yn cyd-fynd â'r cynnig mae e wedi cyfeirio ato fe y prynhawn yma, a oedd wedi cael ei basio ar 4 Rhagfyr, achos mi oedd y cynnig yna’n hollol glir, ac fe wnaf ei ddarllen e:
'Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.'
'Y Farchnad Sengl Ewropeaidd a'r Undeb Tollau.'
Ac, eto, rŷm ni wedi gweld gwleidyddion Llafur yn San Steffan heddiw yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Brydeinig barchu cynigion a fydd yn cael eu pasio, gwelliannau a fydd yn cael eu pasio, i’r cynnig yr wythnos nesaf. Wel, does bosib y dylai fod Llywodraeth Cymru’n parchu yr un egwyddor fan hyn. Mae’r polisi wedi’i benderfynu, ac, wrth gwrs, nid gwahaniaeth semantig, fel oedd y Prif Weinidog yn dadlau ddoe, ydy hyn mor belled ag y mae’r undeb tollau yn y cwestiwn. Byddai parhau o fewn undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddai allforwyr yn gallu parhau i fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd fel nawr, heb orfod wynebu tariffau na rhwystrau di-dariff. Mae’r opsiwn arall, sef rhyw undeb tollau arall, yn ein rhoi ni yn yr un sefyllfa â Thwrci, yn gorfod llywio drwy rwystrau newydd, costus, fel rheoliadau rules of origin, er mwyn parhau i allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Ac, wrth gwrs, nid yw’r undeb tollau yna ar gyfer Twrci yn cynnwys amaethyddiaeth. Felly, dyna pam mae’r gwahaniaeth yma’n allweddol, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi pasio cynnig, a nawr mae Llywodraeth Cymru yn mynd nôl ar hynny, yn ôl yr hyn sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma—rwy'n gresynu at hynny, gan ein bod ni mewn sefyllfa, wrth gwrs, o argyfwng nawr lle dylai bod yna eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’u safbwynt nhw.
Felly, a gaf i ofyn i’r Prif Weinidog: pam fod polisi Llywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn mae e wedi’i ddweud y prynhawn yma, ar y mater yma yn wahanol i’r polisi a gafodd ei gytuno gan y Senedd hon gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar 4 Rhagfyr? A pham ŷch chi’n credu bod gadael yr undeb tollau sydd yn bodoli o fudd i allforwyr Cymreig, gan ystyried yr holl resymau rydw i wedi sôn amdanyn nhw?
Ac yn olaf, roedd y cynnig a gafodd ei gymeradwyo hefyd yn galw am ymestyn erthygl 50 heb amodau, yn wahanol i’r hyn rŷch chi wedi’i ddweud eto'r prynhawn yma yn y datganiad. Roeddech chi’n dweud eich bod chi’n gwneud popeth y gallwch chi er mwn osgoi'r dinistr yma sydd ar y gorwel. Os hynny, pam fod yna gymaint o Aelodau Llafur wedi gorfod ysgrifennu atoch chi i wneud mwy—i ymbil nid yn unig, wrth gwrs, ar y Prif Weinidog yn San Steffan, ond arweinydd eich plaid eich hun gan, ein bod ni nawr yn wynebu sefyllfa o fewn ychydig wythnosau o’r gyflafan yma? A’r opsiwn cliriach sydd ar y gorwel, wrth gwrs, ydy pleidlais y bobl. Pam nad ydych chi’n gallu dangos arweiniad yn hyn o beth ac osgoi'r hyn—yr ydych yn hollol iawn—all fod yn ddinistriol i bobl Cymru?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau, ac rwy'n siomedig ynddo, Llywydd; ni allaf osgoi dweud hynny. Rwy'n wirioneddol gredu, ac rwy'n dweud hyn o ddifrif calon wrth Adam Price, ein bod ni'n fwy dylanwadol ac yn cael mwy o effaith ar ran Cymru yn y ddadl hon pan ydym ni'n canolbwyntio ar yr hanfodion yr ydym ni'n gytûn arnyn nhw i raddau helaeth iawn, yn hytrach na dadlau ynghylch pethau nad ydyn nhw'n bwysig i bobl y tu allan i'r Cynulliad hwn ac sydd mewn penbleth ynghylch y math o sylwadau y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma, fel petai nhw'n cynrychioli rhan ddifrifol o'r ddadl. Ymdriniwyd â rhan ddifrifol y ddadl yn y ddogfen y gweithiwyd yn galed arni gyda'n gilydd, ac y byddwn yn dal i lynu wrthi, a'r cynnig y gwnaethom ni gytuno arno—y gallodd y ddwy blaid gytuno arno.
Ni allwch chi ddewis a dethol, Adam. Mae eich sylwadau terfynol yn gofyn imi pam nad oeddwn i'n barod i ddewis un o'r ddwy ffordd gydradd o weithredu y mae'r cynnig hwnnw yn eu nodi. Felly, ni allwch chi ofyn i mi ddewis un rhan o hynny ac i chi benderfynu dewis rhan arall ohono. Os yw eisiau ateb i'w gwestiwn—nid fy mod i'n credu, fel y dywedaf, fy mod i'n credu mai dyma ble dylai pwyslais y ddadl hon fod—fe wnaf i ddweud hyn ar goedd y prynhawn yma, Llywydd. Fe wnaf i hynny mewn perthynas â mater yr undeb tollau. Mae Undeb Tollau'r Undeb Ewropeaidd yn ffurfio tiriogaeth unigol at ddibenion tollau ar gyfer y 28 aelod. Mae hynny wedi'i sefydlu drwy gytuniad, cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, y TFEU. Bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn termau cyfreithiol drwy ymadael â chytuniadau'r Undeb Ewropeaidd. O gofio y sefydlir undeb tollau'r UE gan gytuniad, pa na fydd y DU yn un o lofnodwyr y cytundeb mwyach, ni fydd, yn ôl y gyfraith—ni fydd—. Ni waeth i'r Aelod ysgwyd ei ben; mae'n fater o sicrwydd cyfreithiol. Ni fydd yn rhan o'r undeb tollau. Os nad yw eisiau derbyn fy ngair, gadewch imi ddyfynnu o gyhoeddiad Llywodraeth yr Alban, 'Scotland's Place in Europe'. A dyma beth mae Llywodraeth yr Alban yn ei ddweud: 'er na allai'r DU'—er na allai—'barhau o fewn undeb tollau'r UE, gan y byddai angen iddi fod yn aelod-wladwriaeth, byddem o blaid—maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud—'creu Undeb Tollau'r UE a'r DU, sy'n dyblygu'r amodau yr ydym ni'n eu mwynhau ar hyn o bryd fel aelod o undeb tollau'r UE.'
Felly, os ydym ni eisiau sôn yn dragwyddol am ystyr, dyna'r sail gyfreithiol sy'n dangos bod y fformiwla yr wyf i'n ei defnyddio yn y pen draw yn gywir, ac na fyddai gan yr un yr hoffai ef imi ei defnyddio unrhyw ddilysrwydd cyfreithiol. Ond, i ddweud hynny eto, Llywydd, nid dyma sylwedd y ddadl hon, ac, o ran sylwedd, o ran yr hanfodion, mae'r safbwynt yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu, a'r safbwynt yr wyf wedi clywed Aelodau Plaid Cymru yn ei amlinellu'n glir iawn, yn llawer agosach at ei gilydd. Dyna pam yr oeddwn i'n falch ein bod ni'n dau fel pleidiau wedi gallu cefnogi'r cynnig a oedd gerbron y Cynulliad cyn y Nadolig. Cyfeiriais yn uniongyrchol, Llywydd, at y cynnig hwnnw yng nghyfarfod llawn Cydbwyllgor y Gweinidogion a gadeiriwyd gan Brif Weinidog y DU, gan egluro'n glir wrthi hi fy mod i'n siarad nid yn unig ar ran Llywodraeth Cymru, ond ar ran y Cynulliad, gan ddyfynnu iddi delerau'r penderfyniad hwnnw. Ac, o ran ei sylwedd, rwy'n credu ein bod ni'n agos iawn at ein gilydd, ac rwy'n credu ein bod ni'n fwy dylanwadol wrth inni ganolbwyntio ar y pethau hynny sy'n wirioneddol bwysig yn hytrach na dadlau ynghylch materion sydd yn ôl pob golwg yn ein rhannu ni ond nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, o unrhyw arwyddocâd gwirioneddol yn y ddadl hon.
Diolch i'r Prif Weinidog am gyflwyno datganiad arall inni ar Brexit. Rydych chi'n dweud, Prif Weinidog, eich bod chi eisiau Brexit sy'n diogelu swyddi. Swyddi ar gyfer pwy, tybed—swyddi i bobl Prydain, neu swyddi i'r cannoedd ar filoedd o bobl sydd wedi dod i Brydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sydd, gyda'i gilydd—[Torri ar draws.]—sydd, gyda'i gilydd yn ffurfio cronfa aruthrol o lafur rhad ar gyfer busnesau mawr? Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych chi'n cydnabod bod yn rhaid i fuddiannau pobl Prydain fod yn flaenoriaeth uwch i Lywodraeth y DU na buddiannau dinasyddion yr UE nad ydyn nhw'n Brydeinwyr?
Efallai, pan ddaw rhyddid i symud i ben, efallai y bydd rhagolygon gwaith pobl Cymru sydd ar ris isaf y farchnad lafur yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, a threfi eraill yn yr ardaloedd teithio-i'r-gwaith hynny, yn gwella'n sylweddol. Gall pethau—[Torri ar draws.]—gall pethau wella'n faterol ar gyfer y bobl hynny sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i swydd—ei chael hi'n anodd dod o hyd i swydd sy'n cynnig cyflog ac amodau da, sy'n cael trafferth dod o hyd i swydd gyda sicrwydd oriau. Mae'n bosib y gallai'r amodau hynny wella ar ôl inni gael rhywbeth sy'n cyfyngu ar y cyflenwad diddiwedd o lafur rhad, megis polisi mewnfudo priodol. Efallai y gallaf ofyn ichi a ydych chi'n cydnabod y posibilrwydd yma. Rydych chi'n dweud mai esgus oedd datgan y gallem ni adfer rheolaeth dros ein ffiniau. Felly, a ydych chi'n credu na all Llywodraeth y DU obeithio i reoli ei ffiniau, ac a ydych chi'n credu y byddai hynny'n sefyllfa dda i fod ynddi? Rydych chi'n dweud, os na all Prif Weinidog y DU sicrhau cytundeb, y dylai hi ofyn am estyniad, fel y gallwn ni gael etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus—mewn geiriau eraill, refferendwm arall. Beth fyddai diben y naill bosibilrwydd neu'r llall, rwy'n gofyn i fy hun: etholiad cyffredinol fel y gallai'r Blaid Lafur—y Blaid Lafur Cenedlaethol, o dan arweiniad Jeremy Corbyn, sydd gyda'r mwyaf taer dros adael—gyflwyno cynnig arall nad yw'n mynd â ni ymlaen, oherwydd nid oes neb yn gwybod beth mewn gwirionedd yw safbwynt Llafur yn San Steffan. Y tro diwethaf, fe wnaethon nhw arddel polisi o barchu canlyniad y refferendwm a gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, beth am bleidlais gyhoeddus arall? Pam, pan fydd hynny ynddo ei hun yn golygu anwybyddu'r mandad clir a gafwyd yn yr un diwethaf, nad yw wedi ei weithredu eto, ac, o dan eich fformiwla, efallai na fydd e byth? Pleidleisiodd y DU i adael, ac felly hefyd Cymru. Mae angen inni roi'r gorau i'r petruso yma a gadael yr UE ymhen 10 wythnos. Bydd 17 miliwn o bobl yn cymeradwyo pan wnawn ni hynny.
Llywydd, rwy'n deall bod yr Aelod wedi ailadrodd polisi ei blaid yn ei sylwadau terfynol. Gadewch imi ymateb i'w sylwadau agoriadol, pryd rwy'n credu, yn ogystal â bod yn anghywir yn ei ddadansoddiad, ei fod hefyd yn sarhaus yn y ffordd y mae'n gwneud y sylwadau hynny. Mae'r bobl o rannau eraill o'r byd y buom ni'n ddigon ffodus i'w denu nhw yma i Gymru yr un mor werthfawr i'n cymunedau ac i'n heconomi ag unrhyw un arall sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol. A swyddi'r bobl sydd eisoes yn byw yng Nghymru sydd mewn perygl os na allwn ni ddenu pobl i ddod yma i gyflawni rhannau hanfodol o'n heconomi—yn amlwg mewn mannau fel y gwasanaeth iechyd, lle mae darparu'r gwasanaethau hanfodol hynny yn dibynnu ar ein gallu i barhau i recriwtio pobl o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd yn y rhannau o'r economi y mae yntau'n canolbwyntio arnyn nhw hefyd. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr hon, Llywydd, felly fe wnaf ei ddweud yn gryno, ond dyma ichi stori a ddywedwyd wrthyf i gan berchennog llwyddiannus gwesty yn y Canolbarth, sydd wedi rhedeg y gwesty yna am gyfnod hir, sy'n cyflogi 100 o bobl. Mae wyth deg o'r bobl hynny yn bobl sy'n byw yn lleol, ac mae 20 ohonyn nhw'n cael eu recriwtio o'r tu allan i Gymru. A'r hyn a ddywedodd wrthyf i oedd, 'Os na allaf i gael yr 20 o bobl, ni all fy ngwesty weithredu, a swyddi'r 80 o bobl fydd yn y fantol.' A dyna pam mae ei ddeuoliaeth yn un mor ffug—yn cymryd arno, rywsut, bod modd gwahaniaethu fel y ceisiodd ef ei wneud. Rwy'n gwrthod hynny, rwy'n credu ei fod yn anghywir, ac rwy'n credu y bydd ei argymhelliad ef yn arwain at ragolygon economaidd nid gwell, ond gwaeth o lawer i rai o'n dinasyddion sydd eisoes yn cael y drafferth fwyaf i wneud bywoliaeth yma yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Oherwydd, yn amlwg, mae hon yn broses gyfnewidiol iawn—rydym ni'n gwybod beth a ddigwyddodd cyn y Nadolig, ac rydym ni'n dal i weld y castiau yn San Steffan heddiw. A gaf i hefyd dynnu sylw at y ffaith fy mod i'n credu bod y Torïaid ar fy llaw chwith mewn gwirionedd yn gwadu'r anhrefn yn San Steffan? Oherwydd, os na allwch chi weld yr anhrefn, yna mae'n rhaid eich bod chi'n ddall neu'n gwisgo sbectol dywyll, oherwydd mae hi'n draed moch llwyr yn San Steffan gyda'r Torïaid mewn grym. Prif Weinidog, a gaf i hefyd groesawu penodiad Gweinidog Brexit yma yn eich Llywodraeth? Oherwydd ei bod hi'n bwysig bod gennym ni rywun i gydgysylltu. Fe wnaethoch chi eich hunan ymgymryd â'r swyddogaeth honno, mewn ffordd, yn y Llywodraeth flaenorol—rydych chi'n gwybod am y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny, ac felly mae cydgysylltu hynny'n hanfodol drwy'r Llywodraeth. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.
A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau difrifol, oherwydd fy mod yn credu bod yr hyn a glywn ni weithiau yn fwy o faldodi eu cynulleidfaoedd eu hunain nag unrhyw beth arall? A wnewch chi roi rhyw syniad inni o'r amserlenni o ran pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno biliau newydd? Oherwydd, yn y cyfnod pontio—. Os ydym ni yn y pen draw yn gadael ar 29 Mawrth heb gytundeb, fe fydd gennym ni sefyllfa fwy argyfyngus na fydd gennym ni os cawn ni gyfnod pontio pryd— a, gadewch inni fod yn onest, y cyfnod pontio, rydych chi'n sôn am fis Rhagfyr 2020. Wel, mae etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai eleni, bydd angen penodi'r Comisiwn, felly mae'n debygol y bydd hi'n fis Hydref cyn y bydd y Comisiwn newydd yn ei le. Ac, os ydyn nhw eisiau ymestyn y trafodaethau yn ystod y cyfnod pontio, mae'n rhaid gwneud hynny erbyn 1 Gorffennaf. Mewn gwirionedd mae hynny'n rhoi tua naw mis, ac mae bron yn amhosibl mewn gwirionedd i gyflawni popeth yr ydych chi eisiau ei gyflawni yn y naw mis hynny. Felly, fe fydd amserlenni tynn iawn. Felly, pryd fyddwn ni'n gweld Biliau gan Lywodraeth Cymru—Bil diwylliant, Bil pysgodfeydd, Bil amgylcheddol a Biliau eraill—fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa lle'r ydym ni mewn gwirionedd wedi pasio Biliau sy'n adlewyrchu'r meysydd y mae gennym ni gyfrifoldeb drostyn nhw?
A gaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi ystyried pa un a oes angen cael cyrff llywodraethu amgylcheddol newydd yng Nghymru? Oherwydd bod llawer o'r offerynnau statudol sydd ar eu hynt yn cyfeirio mewn gwirionedd at 'Ysgrifennydd Gwladol' ac nid o reidrwydd at gyrff newydd yng Nghymru. Felly, a fydd yna unrhyw gyrff newydd yng Nghymru y mae'n rhaid ichi eu sefydlu i sicrhau y gallwn ni fodloni'r rhwymedigaethau presennol sydd gennym ni? Ynglŷn â'ch adolygiad o ran y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a grybwyllwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn ei gwestiynau i chi yn ystod y Cwestiynau i'r Prif Weinidog—ni wnaeth mewn gwirionedd ofyn y cwestiwn ynghylch pryd fydd yr adroddiad hwnnw, ac, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, pryd welwn ni amcan polisi yn gweld golau dydd i edrych ar sut y gall datblygu rhanbarthol yng Nghymru gysylltu â'r cynllun gweithredu economaidd, fel, wrth inni golli cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, y gallwn ni mewn gwirionedd fod â rhywbeth yn barod i ddatblygu adfywiad economaidd yr ardaloedd hynny.
A gaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi cael cyfle i gwrdd â Michel Barnier eto, neu a fyddwch chi'n cyfarfod ag ef, oherwydd mae hi'n bwysig ein bod yn cadw ein cysylltiadau yn Ewrop—[Torri ar draws.] —? Mae'n bwysig inni gadw'r cysylltiadau yn Ewrop—ar gyfer ffonau symudol os dim byd arall—[Chwerthin.]—i sicrhau bod y trafodaethau a gawn ni ar ôl Brexit yn caniatáu i Gymru fod yn aelod gweithgar o'r cymunedau yn Ewrop, yn arbennig oherwydd bod cyfran fawr o allforion o Gymru yn mynd i'r farchnad honno. Er enghraifft, rwy'n gwybod eich bod wedi sôn bod Prif Weinidog Cymru—cyn Brif Weinidog Cymru—wedi edrych ar fodel Norwy, ond, wrth gwrs, mae'n cael ei drafod bellach fel model Norwy plws. A ydych chi wedi cael cyfle i ddechrau edrych a oes unrhyw rinwedd mewn model tebyg i Norwy plws ac ym mha fodd y byddai'n fwyaf addas, ac a fyddai'n werth trosglwyddo'r agenda honno i'r DU?
A chwestiwn pellach yw'r fframweithiau. Mae fframweithiau cyffredin yn cael eu trafod. O'r hyn a wnaethoch chi ddweud wrth y pwyllgor ddoe, rydym ni'n llwyddo'n dda iawn gyda'r rheini, ac maen nhw'n mynd rhagddyn nhw'n dda, ond a fyddan nhw ar waith erbyn 29 Mawrth os byddwn yn gadael heb gytundeb? Oherwydd, yn amlwg, os ydym ni'n gadael heb gytundeb, ni fydd gennym ni unrhyw fframweithiau Ewropeaidd i ufuddhau iddyn nhw; bydd yn rhaid inni ddefnyddio fframweithiau'r DU. A fyddan nhw, felly, yn barod erbyn 29 Mawrth, sef y dyddiad ymadael, o bosib, rwy'n credu? Oherwydd mae gennyf wir ofn y byddwn yn gadael heb gytundeb os na chaiff ei chytundeb hi ei dderbyn yr wythnos nesaf, oherwydd rwy'n gweld prosiect ofn—y prosiect ofn go iawn—yn dweud wrth y rhai sydd eisiau gadael, 'os nad ydych chi'n pleidleisio dros fy nghytundeb i, ni chewch chi Brexit', ac yn dweud wrth y rhai sydd eisiau aros, 'os nad ydych chi'n pleidleisio dros fy nghytundeb i, ni chewch chi gytundeb', gan eu dychryn felly i bleidleisio dros rywbeth y gwyddom ni nad yw'n mynd i fod o fudd i bobl Cymru.
Llywydd, hoffwn ddiolch i David Rees am y cwestiynau. Dechreuaf drwy ddweud, fel y dywedais wrth Adam Price, rwy'n credu y buom ni'n fwy effeithiol yn dylanwadu ar y ddadl sylfaenol hon pan ydym ni wedi gallu siarad ag un llais, felly rwy'n credu bod gwaith y pwyllgor y mae David Rees yn ei gadeirio wedi dylanwadu hefyd ar y ffordd y mae'r pwyllgor hwnnw wedi gweithio gyda'r pwyllgorau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod cyfrifoldebau'r deddfwrfeydd yn cael eu mynegi'n briodol yn y ddadl.
Pan sefydlais Gabinet ychydig cyn y Nadolig, Brexit oedd flaenaf yn fy meddwl. Dyna pam yr oeddwn i eisiau i Weinidogion allweddol gyda chyfrifoldebau sylweddol o ran Brexit aros yn y swyddi hynny fel y byddai gennym ni barhad o ran goruchwyliaeth wleidyddol ym maes iechyd, yn yr economi wledig, ac yn ein heconomi yn fwy cyffredinol. Dyna pam yr oeddwn i eisiau penodi rhywun yn y Llywodraeth a fyddai'n gallu cydgysylltu gwaith drwy'r Llywodraeth gyfan mewn cysylltiad â Brexit ac i gynrychioli Cymru mewn fforymau allweddol, a dyna pam yr oeddwn i'n awyddus i greu portffolio Cabinet newydd, y mae fy nghyd-Aelod Eluned Morgan bellach yn gyfrifol amdano, ac sydd yn bodoli i wneud yn siŵr, ar ôl Brexit, ein bod ni'n gwneud hyd yn oed mwy o ymdrech nag a wnaethom ni yn y gorffennol i gadw enw da Cymru'n fyw, wel, yn hysbys mewn rhannau eraill o'r byd. Ac, wrth ateb cwestiwn David Rees ynghylch hynny, rwy'n siŵr y bydd yn gweld sut y mae hynny wedi'i adlewyrchu yn y ffordd y cynlluniwyd y portffolios.
I ddod at nifer fach o'i gwestiynau penodol, rwy'n cytuno ag ef nad oedd cyfnod pontio gyda therfyn arall o 31 Rhagfyr 2020 erioed yn ffordd synhwyrol i negodi hynny. Rwyf wedi dweud hynny dro ar ôl tro, ynghyd â Gweinidogion yr Alban, yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, ei fod yn ffordd ddiffygiol o lunio'r cyfnod pontio. Ond mynnwyd bod y dyddiad yn sefyll—David Davis a fynnodd hyn, pan oedd yn dal yn Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel arall byddai'n gadael y Cabinet. Wel, ni chadwodd hynny mohono yno'n hir ac mae'r gwaddol yn un y bydd yn rhaid i ni i gyd ymdrin ag ef, oherwydd nid wyf yn credu y gallwn ni gwblhau popeth y bydd angen ei wneud yn y cyfnod pontio o fewn y cyfnod hwnnw.
Rydym ni ar fin ymgynghori ynghylch creu corff amgylcheddol newydd i Gymru. Bydd adolygiad Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn adrodd o fewn ffrâm amser o ddwy flynedd. Nid yw hynny gymaint ynglŷn â chael cyngor am yr amcanion polisi, oherwydd ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi gwybodaeth am ein hamcanion polisi ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol, mae ynglŷn â'r fethodoleg o ran cyflawni'r amcanion hynny, yr arferion gorau mewn mannau eraill yn Ewrop a byddwn yn edrych ar adolygiad Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'n helpu ni gyda hynny. Rwyf eto i gwrdd â Michel Barnier. Rwy'n gwybod bod Cadeirydd y pwyllgor wedi gwneud hynny, ac, yn sicr, fe wnaeth Prif Weinidog blaenorol Cymru hynny, ac edrychaf ymlaen at allu chwarae fy rhan yn gwneud yn siŵr y cyflwynir barn Cymru gerbron uwch aelodau'r Undeb Ewropeaidd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Yn olaf, ynglŷn â'r sylw am y fframweithiau, i gadarnhau'r hyn a ddywedais wrth y pwyllgor ddoe, sef y buwyd wrthi'n ddiwyd yn gweithio ar y fframweithiau. Mae'r gwaith, ar y cyfan, wedi mynd rhagddo'n weddol dda. Mae adroddiad ynglŷn â'r cynnydd ymhob un o'r 24 o feysydd fframwaith i fod i gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd. A fydd popeth y mae angen eu rhoi ar waith yn barod erbyn 29 Mawrth? Wel, rwy'n amau hynny, ond nid yw hynny'n golygu nad yw pob ymdrech y gellir ei wneud yn cael ei wneud yn y cyfnod cyn y dyddiad hwnnw.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a hefyd y paratoadau y mae Prif Weinidog Cymru a'i Lywodraeth yn eu gwneud ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae hyn yn bendant yn achos o obeithio am y gorau, ond rhagweld a chynllunio ar gyfer y gwaethaf.
Rwy'n falch, hefyd, o gymryd yr awenau oddi wrth Julie a chael rhyw fath o ran yn dyrannu a goruchwylio cyllid rhanbarthol, ond hefyd o ran llunio dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru hefyd, a fydd yn bwysig beth bynnag fo'r canlyniad. A gaf i ddweud ei bod hi'n amlwg, rwy'n credu, yr Hydref diwethaf, fel yr oedd hi'n amlwg cyn y Nadolig, yn syth, bod cytundeb Brexit Prif Weinidog y DU, a oedd yn annelwig ar y naw, yn sicr o fethu? Nid oedd yn bodloni neb. Byddai wedi cael ei drechu wedyn yn Nhŷ'r Cyffredin a dydd Mawrth nesaf, mae'n debygol y caiff cytundeb y Prif Weinidog ei drechu. Nawr, pe byddai hynny'n digwydd, mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn taer obeithio y gall y Senedd atal y Prif Weinidog rhag tywys y wlad yn ddiarwybod dros ymyl dibyn Brexit caled. Byddai'n weithred o hunan-niwed aruthrol na ddylai unrhyw arweinydd cenedlaethol cyfrifol hyd yn oed ei ystyried mewn difrif, heb sôn am ei ddefnyddio'n fygythiad. Sy'n ein gadael ni, yn y pen draw, o bosib, gydag anghydfod seneddol, wrth i ymyl y dibyn prysur nesáu. Rydym ni'n cyrraedd yr eiliad honno yn Thelma and Louise, sydd, er ei bod yn gyffrous ac arwrol ac yn drawiadol iawn—rydym ni'n gwybod beth, yn y pendraw, yw canlyniad y naid honno oddi ar y clogwyn.
Felly, a gaf i yn arbennig groesawu datganiad y Prif Weinidog a'r rhan sy'n darllen,
Os na all Llywodraeth y DU wneud ei gwaith dylai ofyn i'r Undeb Ewropeaidd am estyniad i ddyddiad Brexit Erthygl 50, sef 29 Mawrth, ac wedyn rhoi'r cyfle i'r Deyrnas Unedig gyfan roi mandad clir ar gyfer y ffordd ymlaen, drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus?
Mae hi bron yn ymddangos fel petai'r pump neu chwe awr hynny a dreuliwyd ar gynigion cyfansawdd yng nghynhadledd Lafur Lerpwl yn werth pob munud.
A gaf i ofyn, yn eich trafodaethau gyda Gweinidogion y DU a chyda Prif Weinidog y DU, a ydych chi, Prif Weinidog Cymru, yn credu y ceir rhywfaint o ddealltwriaeth o ran sut fydd Brexit 'dim cytundeb' yn effeithio ar Gymru a'r DU, ei busnesau a'i dinasyddion? Ac os felly, pam fyddai Llywodraeth gyfrifol a Phrif Weinidog cyfrifol hyd yn oed yn ystyried y dewis hwnnw yn bosibilrwydd? Yn ail, a gaf i ofyn beth yw ei asesiad o hyn, yn y dyfodol, ar faterion bara menyn, beunyddiol, Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau difrifol iawn a diolch iddo am y gwaith y mae wedi bod yn barod i'w wneud gyda phentwr o faterion cydberthynol Brexit yn cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen ac yn cadeirio'r grŵp a sefydlwyd gennym ni i roi cyngor ar strwythur datblygiad economaidd rhanbarthol yn y dyfodol, ac yn wir, am fod yn barod i gadeirio'r grŵp cynghori Ewropeaidd. Bydd hynny'n golygu bod gennym ni rywun sydd â'r trosolwg hwnnw o'r meysydd gwahanol hynny, a fydd yn bwysig iawn yn y gwaith a wnawn ni fel Llywodraeth, ac a fydd yn bendant o ddiddordeb i'r Cynulliad hefyd.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am Brexit 'dim cytundeb'. Os yw o ryw werth, Llywydd, pan wyf wedi bod gyda'r Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi yn deall y niwed y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei wneud i'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod ganddi hi Aelodau eraill yn ei Chabinet sy'n rhannu'r farn honno. Ei phroblem yw bod ganddi bobl o amgylch yr union fwrdd hwnnw nad ydyn nhw'n rhannu'r farn honno o gwbl ac sy'n ddi-hid ynghylch Brexit 'dim cytundeb'. Y syniad y bydd rhyw fân amhariad, dros dro, ac yna, y byddwn yn sefyll mewn syndod o weld ucheldiroedd heulog Teyrnas Unedig newydd a bywiog yn ymagor o'n blaenau—wyddoch chi, mae'n hurt bost. Rydym ni'n gwybod hynny. Rwy'n credu y gŵyr y Prif Weinidog hynny, ond ei hanhawster fu—ac yn y pen draw, mae arnaf ofn, ei methiant gwleidyddol fu—i ddangos y drws i'r bobl hynny ac i greu consensws gyda phobl eraill sydd o'r un farn â hi ac a allai fod wedi llunio cytundeb gwahanol iawn.
Mae Huw Irranca-Davies yn iawn i dynnu sylw at effaith anochel hyn ar waith ehangach y Llywodraeth. Roeddwn yn ddiolchgar o gael cadarnhad dros y Nadolig y bydd gennym ni £31 miliwn o arian canlyniadol ar gael inni'r flwyddyn nesaf, o ganlyniad i staff ychwanegol sy'n cael eu penodi yn Whitehall i ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â Brexit, a bydd hynny'n caniatáu i ni gryfhau peth o'r cymorth sydd ar gael i ni fel Llywodraeth Cymru wrth inni wneud y gwaith er mwyn cyflwyno deddfwriaeth a pharatoi ar gyfer 'dim cytundeb', ochr yn ochr â phopeth arall yr ydym ni eisiau ei wneud ac a bwysleisiwyd gan Aelodau yma yn ystod y cwestiynau i Brif Weinidog Cymru. Mae cyfnod heriol ar y gorwel i'r Cynulliad ei hun wrth i ni geisio rheoli pwysau newydd deddfwriaeth ochr yn ochr â phopeth arall y mae angen inni sôn amdanyn nhw yn y fforwm yma, ac fe deimlir yr her honno i'r un graddau yn Llywodraeth Cymru.
Ac yn olaf, Mick Antoniw.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith y gwnaethoch chi sôn am nifer o bwyntiau allweddol, yr un cyntaf oedd hawliau gweithwyr, a fy mhryder i yw ein bod ni eisoes yn clywed Gweinidogion Llywodraeth y DU yn sôn yn llawen bron am y posibiliadau o ddadreoleiddio a newid safonau, yn groes i'r addewidion a wnaed.
Roedd yr ail bwynt a wnaethoch chi yn eich datganiad, yr wyf innau'n credu sy'n hanfodol bwysig, oedd mater dinasyddion yr UE yn byw yn y DU. Dros y Nadolig, roeddwn i'n edrych ar bapurau fy nhad pan ddaeth i'r wlad hon ar ôl y rhyfel. Roedd ganddo dystysgrif estron y bu'n rhaid iddo ei dangos bob tro yr oedd yn symud i rywle, bob tro yr oedd yn ceisio am waith, yr oedd yn rhaid iddo ei dangos pan briododd, ac rwy'n cofio, pan oeddwn i'n blentyn, y plismyn yn dod bob dydd Sadwrn i weld lle'r oedd e a bod popeth mewn trefn. Roedd hi'n ymddangos i mi—. Ai dyma'r math o gymdeithas yr ydym ni'n dychwelyd ati hi, pan edrychwch chi ar y math o delerau sy'n cael eu gosod ar gyfer dinasyddion yr UE—pobl sydd wedi gwneud cyfraniad teilwng i'n cymdeithas, beth fydd yn ofynnol iddyn nhw ei wneud? Rwy'n gweld hynny mewn gwirionedd yn eithaf sarhaus.
A gaf i hefyd holi am y berthynas yr ydym ni'n ceisio ei datblygu o ran sefydliadau'r UE pe baem ni'n gadael yr UE, a pha gynlluniau sydd ar waith i gynhyrchu'r rheini mewn gwirionedd ac i'w creu nhw? A gaf i hefyd ofyn ynghylch pa sicrwydd a roddwyd ichi eto am y gronfa ffyniant gyffredin a'r cyllid a fyddai'n dod i'n rhan—y 'difidend Brexit' fel y'i gelwir? A roddwyd unrhyw sicrwydd o gwbl mewn gwirionedd yn hynny o beth, hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn?
Ac yna, un sylw terfynol: onid craidd cyfansoddiadol y sefyllfa yw hyn? Pan ddywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, na allai dim bod ymhellach o'r gwir na bod Llywodraeth y DU yn rhoi buddiannau'r Blaid Dorïaidd o flaen buddiannau'r wlad, pan fo gennych chi Lywodraeth sydd â dim mwyafrif, Llywodraeth sydd â dim mandad, Llywodraeth nad oes ag unrhyw gyfreithlondeb mwyach y tu hwnt i faint o arian y gall hi ddefnyddio i ddylanwadu ar Aelodau Seneddol Gogledd Iwerddon, onid yw hynny'n awgrymu bod gennych chi Lywodraeth sy'n awr i bob diben yn gwbl amddifad o unrhyw sail ar gyfer ei pharhad, ac y byddai unrhyw Lywodraeth gwerth ei halen, unrhyw Lywodraeth sy'n rhoi lles y wlad yn gyntaf, byddai'n dweud, 'Dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, mae'n rhaid inni yn awr fynd yn ôl at y bobl am fandad newydd'? Ac mae'n debyg mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny fyddai drwy etholiad cyffredinol neu beth bynnag.
Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Mick Antoniw am ei sylw. Rydym ni bob amser, ac mewn gwahanol rannau o'r Siambr rwy'n credu, wedi rhoi pwyslais arbennig ar yr hawliau y mae dinasyddion Cymru wedi eu hennill yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, boed hynny'n hawliau amgylcheddol neu'n hawliau defnyddwyr neu'n hawliau gweithwyr, ac ni fyddwn yn cydymffurfio—ni fyddwn fel Llywodraeth yn cydymffurfio ag unrhyw brosbectws sy'n awgrymu y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at gyfyngu'r hawliau hynny y bu'r fath frwydr amdanynt.
O ran dinasyddion yr UE, gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd, ac fe wnes i fy ngorau glas i wneud y pwynt hwn mor bendant ag y gallwn mewn sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Cartref pan gyhoeddwyd y ddogfen ar bolisi mudo yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU. Dywed y ddogfen honno na fydd dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar ôl diwrnod ymadael yn mwynhau—ni fyddant yn mwynhau—yr hawliau a fydd gan ddinasyddion yr UE sydd eisoes yn y wlad hon. Gofynnais iddo sut y byddai cyflogwr yn gallu gwahaniaethu rhwng yr unigolyn sy'n cyrraedd ar ôl 29 Mawrth a'r unigolyn sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd. Ac ni allai ef roi ateb i'r cwestiwn hwnnw i mi oherwydd gwyddai mai'r ateb mewn gwirionedd yw y bydd raid i'r unigolyn sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd gyflwyno tystysgrifau a dogfennau yn y pen draw a bydd yn cael ei amau gan yr unigolyn sy'n gorfod profi rywsut fod ganddo'r hawl i fod yma. Rydym yn cael digon o anhawster dal ein gafael ar rai o'r bobl hyn yr ydym yn dibynnu arnyn nhw nawr, heb fod yna gyfundrefn newydd yn cael ei rhoi ar waith sy'n bwrw cysgod dros eu cyfraniad parhaol i'r gymdeithas yng Nghymru.
O ran sefydliadau, bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r Cabinet i wneud yn siŵr ein bod yn nodi'r rhannau eraill hynny o Ewrop, y sefydliadau Ewropeaidd hynny y bydd angen inni wneud yr ymdrech fwyaf i barhau â phresenoldeb o Gymru a chysylltiad o Gymru ynddynt. Rwyf wedi fy nghalonogi, Llywydd, gan nifer y llythyrau a gefais ers fy mhenodi'n Brif Weinidog, yn tynnu sylw at waith fy rhagflaenydd yn cynnal cysylltiadau â rhanbarthau eraill yn Ewrop, ac yn dweud cymaint y maen nhw'n gobeithio y byddwn yn parhau i fod mewn perthynas gynhyrchiol â nhw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Nid oes gennyf i ddim bron i'w ychwanegu o ran y gronfa rhannu ffyniant at yr hyn yr ydym wedi ei adrodd yn y fan hon o'r blaen. Unwaith eto, methodd y ddogfen ymgynghori a addawyd cyn y Nadolig ag ymddangos, ac rwyf wedi bod mor glir ag y gallaf gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, ac yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog, y bydd rhai o'r cynigion a welwn yn cael cyhoeddusrwydd gan Lywodraeth y DU yn gwbl annerbyniol i ni yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i chi.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg, cyflwyno asesiadau personol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i asesiadau disgyblion fod â'r prif ddiben o ddarparu gwybodaeth a llywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau i wella dysgu, a rhoi gwybodaeth i'r dysgwr, i'r athro, y rhieni a gofalwyr. Felly, dylai asesiad wella addysg y dysgwyr, addysgu'r athrawon a dealltwriaeth y rhieni.
Rwy'n falch o adrodd ein bod yn symud ymlaen yn llwyddiannus o ran newid y profion darllen a rhifedd ar bapur y mae'r dysgwyr yn eu sefyll bob blwyddyn i asesiadau ar-lein, sy'n bersonol ac yn hyblyg. Gan ddechrau gyda rhifedd gweithdrefnol, byddant yn disodli'r profion ar bapur yn llwyr erbyn 2021, ac, yn y tymor cyn y Nadolig, dechreuwyd cyflwyno'r asesiadau hyn fesul cam.
Mae gan asesiad parhaus o ansawdd uchel swyddogaeth hollbwysig o ran addysgu, dysgu a chodi safonau, ond mae cyfyngiadau i'r system gyfredol o brofion ar bapur. Mae modd addasu'r asesiadau newydd ac maent yn hyblyg yn eu hanfod, felly bydd dysgwyr yn cael cwestiynau i ddysgwyr sy'n cyfateb i lefelau eu sgiliau ac yn eu herio.
Yn ei dro, golyga hyn fod athrawon yn cael gwybodaeth lawnach o lawer ac y byddan nhw'n gallu paratoi gwersi sy'n fwy uniongyrchol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr i wella. Cynlluniwyd yr asesiadau hyn i gefnogi trawsnewidiad sylfaenol ein cwricwlwm newydd, sydd fel ei gilydd yn seiliedig ar y cysyniad o ddilyniant. Bydd y cwricwlwm yn cynnig mwy o ryddid i athrawon addysgu mewn ffordd sy'n diwallu anghenion pob un o'u disgyblion, a bydd yr asesiadau newydd yn egluro wrthynt beth yw'r anghenion hynny.
Rydym yn awyddus i roi'r offer i'r athrawon ar gyfer gwelliant parhaus gyda dysgu ac addysgu ac rydym yn awyddus i hynny fod yn hyblyg, yn ddull o asesu sy'n ffurfiannol ac yn rhoi adborth ar sgiliau a chryfderau, ar feysydd sydd ag angen gwaith eto a'r camau nesaf. Mae'r math hwn o asesiad parhaus o ansawdd yn hanfodol i godi safonau drwy'r holl gyfundrefn ac i'n helpu ni i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.
Ac mae gennym gefnogaeth y proffesiwn i'r math hwn o asesiad. Roedd yr ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda ni yn ystod y camau datblygu yn gweld yr offer asesu newydd yn ffordd bwerus o symud disgyblion yn eu blaenau gyda'u haddysg. Rydym yn gwybod mai'r dysgwyr sy'n cael adborth o ansawdd uchel, sy'n deall eu sefyllfa addysgol a lle mae angen anelu ato, ac, yn dyngedfennol, sut i gyrraedd y fan honno, yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o brofi'r gwelliant mwyaf.
Cynlluniwyd y system i raddau helaeth iawn gan roi ystyriaeth hefyd i anghenion ysgolion ac athrawon. Gellir trefnu amser i'r asesiadau ar adeg sydd fwyaf hwylus i'r ysgol. Mae hyn yn ymwneud â rhoi'r awenau yn nwylo'r athrawon a all benderfynu'r hyn sydd orau iddyn nhw a'u dysgwyr, a hefyd o ran y niferoedd sy'n gweithio orau i'r ysgol hefyd—gellir asesu disgyblion yn unigol neu mewn grwpiau bach.
Nid ydym wedi cynllunio'r asesiadau hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym wedi dysgu oddi wrth y goreuon gyda grŵp arbenigol, yn cynnwys cynrychiolaeth o Ddenmarc a'r Iseldiroedd, yn rhoi cyngor drwy'r cyfan i gyd. Mae hyn wedi rhoi'r gallu i ni arwain y ffordd. Cafodd asesiadau hyblyg ar gyfer darllen a rhifedd gweithdrefnol eu datblygu mewn man arall, ond Cymru yw'r wlad gyntaf i ddatblygu asesiad ar-lein ar gyfer sgiliau ymresymu rhifyddol.
Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod i, ers imi ymuno â'r Llywodraeth, wedi ceisio mynd i'r afael â mater hygyrchedd TG a band eang. Rydym wedi darparu £1.7 miliwn ychwanegol i'r CLlLC i'w ddosbarthu i ysgolion sydd â'r angen mwyaf o uwchraddio eu TG. Byddwn yn rhoi cymorth parhaus wrth i'r asesiadau hyn gael eu cyflwyno, bydd deunyddiau cymorth ar gael ar-lein, byddwn yn cynnal gweminarau i sicrhau y bydd ysgolion yn deall y broses a sut y gallant ddefnyddio'r adroddiadau.
Felly, mae asesiadau personol, Dirprwy Lywydd, yn darparu profiad rhyngweithiol sydd wedi'i deilwra ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr ac ar gyfer asesu lefel eu sgiliau, a bydd yn cynnig adborth o ansawdd uchel ar unwaith, gan gefnogi athrawon a disgyblion yn eu datblygiad. Felly, i gloi, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac angenrheidiol er mwyn codi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Mae'n dda gen i weld eich bod chi yma o hyd—mae hynny'n helpu gyda'r dilyniant, mae'n rhaid imi gyfaddef. Yn gyntaf, rhywbeth sydd wedi dod yn fwy eglur gyda'r datganiad hwn heddiw mewn gwirionedd o ran y dull asesu hwn yw mai rhywbeth cyfredol ydyw—ac rwy'n credu eich bod chi wedi defnyddio'r ymadrodd hwn fwy nag unwaith. Un o'm pryderon cynharaf i o ran y prawf hwn, ac rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw hyn yn ymwneud ag atebolrwydd, oedd pa mor aml y câi ei ddefnyddio. Roedd yr Athro Donaldson yn bendant yn credu y dylid osgoi profion rheolaidd, felly fy nghwestiwn cyntaf i, mae'n debyg, yw: pa mor aml y bydd plentyn unigol yn cael ei asesu mewn blwyddyn er mwyn darparu data ystyrlon i'r plentyn ac i'r athrawon fel ei gilydd am gynnydd?
Os mai diben y prawf yw arwain dysgwyr drwy gynnig iddynt gymorth mwy pwrpasol—mae'n debyg mai dyna'r ffordd orau o fynegi hynny—ac, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu yn y ffordd sy'n ateb anghenion y disgyblion orau, rhywbeth yr wyf i'n ei gefnogi, eto i gyd byddwn yn disgwyl cael clywed ychydig mwy am sut y bydd effeithiolrwydd y rhaglenni bach unigol pwrpasol hynny, os mynnwch chi, yn debygol o gael eu mesur. Oherwydd rwy'n anghytuno â'r sylwadau a wnaethoch yn ôl yn 2017 pryd y dywedasoch chi, ac rwy'n dyfynnu:
na fyddai'n deg defnyddio sgoriau profion plant unigol i farnu perfformiad yr ysgol honno.
Byddwn i'n dweud fy mod yn credu ei bod yn gwbl briodol i ysgol gael ei barnu ar gynnydd a wnaed rhwng y profion hynny yn achos plant unigol—heb eu henwi nhw, wrth gwrs—oherwydd ceir rhywbeth y gellir ei ddweud wrth rieni ac wrthym ni yma yn y Cynulliad am ba mor effeithlon ac effeithiol y bu'r darnau hynny o gymorth pwrpasol i blant. Mae'n wych cynnig hynny, ond os nad yw hynny'n gweithio chwaith mae angen inni gael gwybod am hynny hefyd.
Felly, o gofio bod yr Athro Donaldson wedi argymell bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu fframwaith gwerthuso ac asesiad cynhwysfawr, rydym ni'n gwybod rhywbeth am yr asesiad erbyn hyn. Ond a wnewch chi ddweud ychydig bach wrthym ni am sut y bydd yr ochr werthuso o hyn yn gweithio? Gan gadw mewn cof, ac rwy'n derbyn y pwynt, nad yw hwn ynddo'i hun yn offeryn gwerthuso, yn hytrach mae'n offeryn asesu, ond mae angen rhywbeth i'w drafod arnom ni o ran y cynnydd rhwng prawf Rhif 1 a phrawf Rhif 2 a phrawf Rhif 3 ac ati, oherwydd mae canlyniadau yn bwysig o hyd.
Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae'r profion newydd yn ymwneud â chodi safonau. Felly dyma gwestiwn neu ddau ar hynny—un yn ymwneud â hunanwerthuso, rhywbeth a gefnogir yn amlwg gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD). Un o'r rhesymau ein bod ni yn y sefyllfa bresennol, o bosib, yw y collwyd hyder yn rhagolygon athrawon o lefel cyrhaeddiad ar ddiwedd ysgol gynradd, cyn i'r plant fynd i ysgol uwchradd. Roedd hynny'n rhannol oherwydd yr orddibyniaeth ar hunanasesiad mewnol, mae'n debyg, neu asesiad mewnol yn sicr. Felly, heb sathru ar gyrn athrawon yn hyn o beth, a oes unrhyw fath o ganllawiau i'w cyflwyno gennych chi—neu pwy allai gyflwyno hynny hyd yn oed; a allai Estyn wneud hynny, wn i ddim—fe allai hynny helpu ysgolion, gan gynnwys y disgyblion, os wyf wedi deall hyn yn iawn, i hunanwerthuso mewn ffordd y gall pob un ohonom fod â rhywfaint o hyder ynddi?
Unwaith eto, o ran codi safonau, roeddech chi'n dweud y llynedd fod £5.6 miliwn am fynd i gonsortia ar gyfer dysgu proffesiynol, yn rhannol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hyn. Sut fyddwch chi'n gwerthuso pa mor effeithiol y bu'r consortia wrth gyfrannu at lwyddiant y rhain? Rwy'n sylweddoli nad ydyn nhw wedi dechrau eto mewn gwirionedd, ond bydd y gwaith paratoi ar eu cyfer wedi digwydd. Felly, pe byddech chi'n rhoi ychydig o wybodaeth i ni am hynny, byddai hynny'n beth ardderchog iawn.
Yr amseriad—rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai'r ysgolion ddylai bennu dull ac amseriad eu hasesiadau, ond rwy'n cytuno â chi hefyd mai peth diwerth iawn i rieni ac, yn wir, i blant yw adroddiad sy'n cyrraedd ar ddiwrnod olaf y tymor, yn arbennig felly ar ddiwedd tymor yr haf, pan fydd plant yn aml iawn yn llithro'n ôl ychydig dros wyliau'r haf. Felly, mae'n sicr na fyddwn i'n hapus pe byddech chi'n gorfodi ysgolion i gynnal yr asesiad hwn ar ddyddiad arbennig, ond a fyddech chi'n cael gair i gall â nhw o ran osgoi gwneud hynny yn ystod wythnos olaf y tymor?
Yn olaf, ar y £1.7 miliwn ar gyfer yr ysgolion sydd â'r angen mwyaf i wella eu technoleg gwybodaeth, tybed a wnewch chi ddweud wrthym a yw hynny wedi cael ei neilltuo a phryd allem ni ei weld yn cael ei ddosbarthu. Oherwydd gallaf feddwl yn syth am un ysgol yn fy rhanbarth i a fyddai'n awyddus iawn i gael ffrwd ariannu newydd ar gyfer yr union beth hwnnw. Byddai'n ddefnyddiol gallu dweud wrthyn nhw ei fod wedi ei dargedu ar gyfer TG yn hytrach na'i fod yn diflannu i'r grant cynnal refeniw neu i ariannu'r ysgolion yn gyffredinol. Diolch.
A gaf i ddechrau trwy ddiolch i Suzy Davies am y gyfres hon o gwestiynau? Yn gyntaf, a gaf i sôn bod yr Aelod wedi galw'r asesiadau yn 'brofion' sawl gwaith yn ystod ei chyfraniad? Nid profion mo'r rhain; asesiadau ydyn nhw. Mae prawf â llawer yn y fantol yn wahanol i asesiad a ddefnyddir at ddibenion llywio addysgu a dysgu wrth symud ymlaen.
Os caf i fentro dweud, ceir ychydig o groes-ddweud yn y materion a godwyd gan yr Aelod. Ar y naill law, dywedodd yr Aelod y byddai hi'n dymuno gweld canlyniadau'r profion hyn ar gael i'r cyhoedd. Gwyddom mai hyn yn union sy'n cynyddu'r perygl o ran atebolrwydd cyhoeddus ynglŷn ag asesiadau ac mai dyna sydd wedi arwain at rai o'r pryderon ynghylch ansawdd hunan-asesiad yr athrawon eu hunain. Pe bydden nhw'n teimlo bod yr asesiadau hyn yn cael eu defnyddio'n gyhoeddus i asesu eu galluoedd nhw fel athrawon unigol neu mewn ysgol, ceir y demtasiwn ddynol—ceir temtasiwn ddynol—i beidio â gwneud hynny yn y ffordd iawn.
Felly, y mater yn y fan hon yw—mae'n rhaid i ni fod yn eglur—nid profion mo'r rhain. Asesiadau yw'r rhain sydd yno i asesu sefyllfa plentyn o ran ei addysg, i allu rhoi adborth i'r plentyn hwnnw ac, ie, yn bwysig iawn, i'r rhieni. Suzy, gallaf gytuno'n gryf â chi: rwy'n siŵr ein bod ni i gyd sydd wedi bod yn rhieni yn y system wedi bod yn ymwybodol bod yr amlen honno'n cyrraedd y tŷ yn ystod wythnos olaf y tymor gyda sgoriau profion blaenorol ynddo, heb roi dim amser i'r rhieni gael y cyfle i fynd yn ôl i'r ysgol a thrafod canlyniadau'r profion hynny gydag athro'r dosbarth.
Y peth gwych am y profion hyn yw eu bod nhw wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer plant unigol. Ni fydd profion dau blentyn yn union yr un fath â'i gilydd, oherwydd bydd y cwestiynau a ofynnir yn ymateb i'w gallu i'w hateb nhw. Bydd y canlyniadau yn dod ar unwaith, a bydd y canlyniadau hynny ar gael i rieni o fewn diwrnod neu ddau i'r plentyn sefyll y prawf.
Roedd yr Aelod yn gofyn pa mor aml y bydd y plant yn sefyll y prawf. Rydych chi'n llygad eich lle: dywedodd Graham Donaldson y dylid cyfyngu ar amlder y profion hyd y gellir, ond roedd Donaldson yn argymell dull arloesol o asesu hefyd, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol. Felly, mewn gwirionedd, rydym wedi ystyried cyngor Graham Donaldson, a phenderfyniad yr athrawon dosbarth unigol fydd pryd ddylai'r plentyn sefyll prawf, neu gael ei asesu—rwyf innau'n cymysgu'r ddau nawr hefyd—a pha mor aml y gallai'r asesiad hwnnw fod, oherwydd gallai'r athro benderfynu cynnal yr asesiad hwn ar adegau amrywiol yn y flwyddyn i adrodd yn ôl ar gynnydd sydd wedi bod neu beidio. Ond caiff yr athro dosbarth unigol sy'n adnabod y plant hynny orau wneud fel y gwêl yn dda yn hynny o beth.
Eto, y fantais fawr i'r system hon yw, yn hytrach na gorfodi pob ysgol i gynnal y prawf o fewn cyfnod wythnos yr un adeg o'r flwyddyn, y bydd hyn yn caniatáu i athrawon unigol benderfynu'r amser gorau i ddefnyddio'r adnodd strategol hwn i gynorthwyo eu plant. Ond, wrth gwrs, un agwedd yn unig yw hon ar asesiad o sefyllfa plentyn a bydd hunanwerthuso yn dal i ddigwydd, a bydd gwerthuso athrawon yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o'n system addysg. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr ac ysgolion a'r OECD i ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso fel y bydd ysgolion yn dod i ddeall yn llawer, llawer gwell sut y maen nhw'n perfformio a sut y mae'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn eu hysgol yn effeithio ar eu dysgwyr. A'r hunanwerthuso hwnnw fydd yn gonglfaen i'n system atebolrwydd.
Rydym yn gweithio gydag Estyn i edrych ar y posibilrwydd o gael Estyn i achredu hunanwerthuso'r ysgolion. Os yw Estyn yn argyhoeddedig bod ysgol yn gwneud hyn yn iawn ac yn briodol, yna caiff yr ysgol drwydded, ar ryw ystyr, i barhau i wneud hynny am rai blynyddoedd eto. Pe byddai pryderon gan Estyn—pe na fyddai Estyn yn sicr o allu'r ysgol i hunanwerthuso—yna gallai hynny arwain at fwy o ymweliadau gan Estyn i ysgol benodol. Felly, daw hunanwerthuso yn un o'r egwyddorion craidd o ran y modd y byddwn yn dal ysgolion i gyfrif am eu perfformiad. Ond nid yw hynny yr un peth â defnyddio data plant unigol a pherfformiad plant unigol, gan fod hynny'n arwain at y broblem ynglŷn â phrofion â llawer yn y fantol y soniais i amdani'n gynharach.
O ran datblygiad proffesiynol, byddwch yn ymwybodol y rhoddwyd arian ar gyfer y flwyddyn hon, sydd wedi mynd allan drwy gyfrwng y consortia, ac ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Bydd y consortia yn adrodd yn ôl ar sut y cafodd yr arian ei ddefnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol ac, wrth gwrs, mae pob un o'n consortia yn ddarostyngedig i arolygiad gan Estyn ac adolygiad parhaus gan Lywodraeth Cymru ei hun.
O ran seilwaith, mae'n amlwg fod yr £1.7 miliwn wedi cael ei roi i CLlLC, ac maen nhw fel grŵp o awdurdodau lleol yn datrys sut y gellir dosbarthu'r arian hwnnw yn y ffordd orau yn eu barn nhw. Un rhan yn unig yw honno o'r buddsoddiad a wnawn ni yn seilwaith TG. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau y bydd pob ysgol wedi cael ei chysylltu â band eang cyflym iawn ac yn gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn. Felly, dyna'r seilwaith y tu allan i'r ysgol, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddeall rhai o'r cyfyngiadau o fewn systemau'r llywodraethau lleol eu hunain a systemau'r ysgolion unigol sy'n golygu na allant ddefnyddio'r cyflymder hyd yn oed os yw'r ffibr wedi cael ei gysylltu. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol i edrych ar fuddsoddiadau cyfredol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod ein holl sefydliadau â chyflymder band eang a thechnoleg yn eu hysgolion i ddiwallu eu hanghenion, nid yn unig i allu cynnal asesiadau ymaddasol ar-lein, ond i ddarparu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd hefyd.
Diolch i chi am y datganiad. Rwy'n siarad ar ran Siân Gwenllian am nad yw hi yma heddiw, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n dymuno mynd ar drywydd unrhyw gynnydd gyda chi pan ddaw hi yn ei hôl. O wrando ar y ddadl hyd yma a darllen y datganiad, mae'n amlwg ein bod yn fras yn cefnogi gwerthusiadau personol pe byddai hynny'n golygu ysgafnhau'r baich ar bobl ifanc o ran y profion dwys sy'n digwydd ar ddiwedd cyfnod penodol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n rhiant, rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi clywed gan ein hetholwyr neu gan aelodau'r teulu am bobl ifanc yn teimlo dan straen oherwydd y strwythurau prawf hynny.
I'r perwyl hwnnw, roeddwn yn awyddus i gael deall gennych chi beth fydd paramedrau'r gwerthusiadau personol hyn o ran y cymorth a roddir i athrawon. Oherwydd os ydym am unigoleiddio llawer mwy, ac os ydym am roi gwahanol linellau amser i athrawon ar gyfer gwneud gwahanol bethau gyda gwahanol ddisgyblion, rwyf am fod yn sicr y bydd ganddyn nhw'r gallu o fewn yr ystafell ddosbarth i wneud hynny. Gwyddom fod llawer o athrawon ystafell ddosbarth dan bwysau o ran cyllidebau fel ag y maen nhw ac felly mae angen sicrwydd arnaf i. Er enghraifft, a fydd y cynorthwywyr dysgu ac addysgu yn cael y cymorth hwnnw yn ogystal â'u huwchsgilio i allu cefnogi'r athro yn yr ystafell ddosbarth lle bydd yr asesiadau hyn yn digwydd? Rydym ni o blaid unigoliaeth, rydym yn gwybod y bydd pobl yn symud ymlaen ar hyd gwahanol lwybrau ar wahanol adegau. Ond sut fyddwn ni'n gallu bod yn systematig yn hyn o beth drwy gyfrwng y gyllideb yr ydych chi'n ei rhoi i'r awdurdodau lleol.
Pwynt neu ddau o eglurhad gennyf i—. Nodir yn yr wybodaeth sydd yn y cefndir i'r cynlluniau hyn y rhoddir gwybodaeth i athrawon gyda chanlyniadau'r asesiadau yn syth ar ôl eu hanfon. Fe hoffwn i ddeall sut y caiff yr asesiadau eu barnu a pha system a gaiff ei defnyddio i roi canlyniadau sydyn fel hyn, oherwydd yr hyn a dynnodd fy sylw i gan yr ymadrodd 'ar unwaith' oedd: a oes raid i hynny ddigwydd ar unwaith bob amser? A oes modd inni roi amser i'r athrawon eistedd i lawr a thrafod hyn ar lefel ehangach yn hytrach na rhoi adborth ar unwaith nad yw efallai mor ddefnyddiol ag y bwriadwyd yn y lle cyntaf. Efallai mai'r geiriad yw hyn yn unig, ond hoffwn gael eglurhad ar hynny—ar sut y bydden nhw'n cael eu cyfrifo, er enghraifft.
Gan gyfeirio'n fyr at yr hyn a ddywedodd Suzy Davies: a ddefnyddir canlyniadau'r asesiadau personol i dywys athrawon ac ysgolion o ran sut i symud ymlaen gyda disgyblion, neu a ddaw rhai canlyniadau gyda chamau gweithredu penodol sy'n fwy canolog ar lefel genedlaethol? Er enghraifft, pe byddech yn gweld tueddiadau mewn un ardal, a fyddech yn dymuno gwneud newidiadau ar sail canlyniadau'r asesiadau hynny ai peidio? A fydd hyn yn y bôn yn rhoi mwy o ryddid i athrawon? Byddwn i'n cefnogi hynny, yn ddelfrydol.
Fy nghwestiwn olaf—hoffwn ofyn hefyd a fydd hyn yn diddymu asesiadau athrawon yn llwyr neu beidio wrth inni symud tua'r dyfodol ac a oes cynlluniau neu beidio i ehangu'r dull hwn i flynyddoedd diweddarach mewn ysgolion. Diolch i chi.
A gaf i ddiolch i Bethan am y cwestiynau hynny? Y bwriad yw y bydd y profion ymaddasol ar-lein yn disodli'r profion papur presennol y mae pob plentyn yn eu sefyll o flwyddyn 2 hyd flwyddyn 9. Felly, bydd y profion ymaddasol ar-lein hyn ar gael i'r un cyfnod amser, a bydd plant yn gallu cymryd yr asesiadau hyn o flwyddyn 2 hyd flwyddyn 9. Y peth pwysig am y profion ymaddasol yw bod y cwestiynau a ofynnir i'r plentyn yn adlewyrchu gallu unigol y plentyn. Nid yw'n seiliedig ar eu hoedran, nid yw'n seiliedig ar eu grŵp blwyddyn nhw, ond yn wirioneddol seiliedig ar allu plant unigol i ymdrin â'r cwestiynau hynny. Mae hynny'n golygu, i rai rhieni—a byddwn i'n cytuno â chi, mae yna rai rhieni sydd wedi mynegi pryderon am addasrwydd y profion ar bapur sy'n trin pob plentyn yr un fath sydd wedi bodoli hyd yma—. Os na fydd y plant hynny, am ba reswm bynnag, yn gallu ymdopi â'r prawf papur hwnnw, gall hyn fod yn siom fawr iawn a pheri gofid i'r plentyn o bosib. Y ffaith yw bod yr asesiad ymaddasol mewn gwirionedd yn newid gan ddibynnu ar allu'r plentyn, felly nid oes unrhyw ragdybiaeth o ran oedran neilltuol unrhyw blentyn neu ei fod ar unrhyw gyfnod yn ei yrfa academaidd, y bydd y cwestiynau i gyd yr un peth. Dylai hynny ddileu rhywfaint o'r pryder y gwn y bydd rhieni yn ei deimlo weithiau. Y ffaith na fydd y plant yn gorfod sefyll prawf mewn sefyllfa a reolir—felly, unwaith eto, weithiau mae hynny'n ychwanegu at y pryder a'r ymdeimlad bod llawer yn y fantol yn yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol—lle mae'r dosbarth cyfan wedi gorfod eistedd i lawr ar amser penodol i wneud y papur—gall hynny weithiau greu awyrgylch a all fod yn straen i blant. Fel y dywedais i, yr athrawon dosbarth unigol fydd yn penderfynu a fydd grŵp bach o blant yn cael yr asesiad ar amser penodol neu a fydd plentyn unigol yn ei gael. Felly, unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â cheisio sicrhau bod y materion hynny sydd weithiau'n achos gofid i blant a rhieni yn cael eu dileu.
Ni allaf ddweud digon am hyn—oherwydd rwy'n credu weithiau fod yna gamsyniad o hyd yn y proffesiwn ei hunan—nid yw'r asesiadau hyn a'r data sy'n deillio ohonyn nhw yn mynd i gael eu defnyddio fel unrhyw ddull o fantoli atebolrwydd yr ysgol honno. Weithiau mae hyd yn oed y gweithwyr proffesiynol eu hunain yn tybio bod y data a gesglir o'r profion blaenorol a'r asesiadau hyn nawr yn cael eu defnyddio rywsut i'w barnu nhw. Y diben yw dwyn dysgwyr yn eu blaenau.
Nawr, yn gwbl briodol, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r llwyth gwaith i'n hathrawon. Bydd hyn mewn gwirionedd yn ysgafnhau llwyth gwaith yr athrawon yn yr ystyr eu bod yn llai biwrocrataidd i'w gweinyddu. Pan ydym yn sôn am adborth ar unwaith, caiff y canlyniadau eu gyrru'n llythrennol gan ganlyniadau'r profion ac maen nhw ar gael ar unwaith. Nid yw hynny'n golygu bod angen i'r athro wedyn eistedd i lawr gyda'r plentyn ar unwaith. Yn amlwg, bydd angen i athro edrych ar yr hyn a ddywed yr asesiad am y plentyn hwnnw a gwneud cynnydd, ond mae hyn yn llawer llai biwrocrataidd i'r athrawon na'r hyn yr oeddem yn ei wneud o'r blaen ac, yn wir, mae'r buddsoddiad a wnawn ni yn yr asesiadau ar-lein hyn yn tarddu o gyllideb gwario i arbed Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni o'r farn y bydd hyn yn arbed arian i ni yn y tymor hir o'i gymharu â'r hyn yr ydym ni'n ei wario ar hyn o bryd ar y profion papur. Ar adeg o angen gwirioneddol, mae angen inni fod yn ofalus ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wario, ac mae hwn yn ddull mwy cost-effeithiol mewn gwirionedd, yn ogystal â bod yn ffordd well o ddarparu'r system.
Caiff athrawon a chynorthwywyr ystafell ddosbarth eu cynorthwyo drwy gydol y broses hon. Bydd cymorth a deunyddiau hyfforddi ar gael. Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau fel na fydd yn rhaid i athrawon deithio hyd yn oed. Bydd y rhain ar gael o fewn eu cymunedau a'u cysylltiadau eu hunain, ac mae cymorth ar gael dim ond i rywun godi'r ffôn. Mae llinell gymorth ar gael, felly os oes ysgol yn cael trafferth gyda rhai materion TG neu o ran sut i gynnal y prawf mewn gwirionedd, mae help ar-lein ar gael.
Dechreuodd asesiadau cyn y Nadolig, a hyd yn hyn yr adborth a gawsom yw fod yr ysgolion sydd wedi eu rhoi ar waith ac wedi eu defnyddio ddim yn rhagweld unrhyw broblemau. Mae hefyd yn bwysig cofio—ac rwy'n siŵr y byddai hyn o ddiddordeb i Siân Gwenllian pe byddai hi yma—bod yr asesiadau ar gael yn gwbl ddwyieithog. Mae'r athrawon yn gallu dewis pa iaith i'w defnyddio i gynnal yr asesiad, ac mae hynny'n amlwg yn fater pwysig iawn o degwch i bob un o'n dysgwyr.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Un peth yw cyhoeddi'r adnodd asesu newydd gwych hwn ac, mi warantaf, rwy'n credu bod adnodd ymaddasol yn welliant ar brawf papur, ac mae'ch esboniad o'r adnodd—mae'n swnio fel adnodd ar-lein da iawn, iawn, ond ydych chi ddim o'r farn mai lle'r ysgolion unigol yw penderfynu sut y maen nhw'n mynd ati i asesu eu dysgwyr? Yr athrawon ysgol sydd â'r profiad yn yr ystafell ddosbarth a'r wybodaeth, nid chi, Gweinidog, â phob parch, ac eto dyma chi yn dweud eich bod yn gwybod yn well na nhw sut y dylen nhw fod yn asesu eu dysgwyr. Os ydych chi'n awyddus i ddarparu profiad rhyngweithiol arbennig ar gyfer dysgwyr, nid oes dim yn well na'r hyn a ddarperir gan athro sydd â'r amser i eistedd i lawr gyda'r dysgwr a darparu'r profiad dysgu cadarnhaol hwnnw. Bydd athro yn casglu gwybodaeth am gynnydd y dysgwr mewn llawer o wahanol ffyrdd wrth ryngweithio gyda'r dysgwr hwn, gan wneud asesiadau uniongyrchol a greddfol weithiau.
Mae adborth di-oed o ansawdd uchel yn rhywbeth sy'n rhan annatod o addysgu dysgwyr unigol, ar yr amod, wrth gwrs, fod gan yr athro ddigon o amser i'w dreulio gyda'r dysgwr hwnnw, a dyna yw gwreiddyn y mater yn fy marn i. O ystyried sylwadau'r Gweinidog yn ei datganiad am effaith y profion neu'r asesiadau ar wella safonau addysgu, ni all rhywun ddianc rhag y teimlad fod y system hon yn awtomeiddio rhywbeth sy'n rhan annatod o addysgu ac yn cymryd y gwaith o osod y meini prawf asesu oddi ar yr athrawon ac yn ei roi i grewyr ap diwyneb.
Mae athrawon da eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth o anghenion a galluoedd plant unigol ac nid oes angen cyfrifiadur arnyn nhw i ddweud hynny. Nid yw'r asesiad hwn, ar-lein neu beidio, yn gallu disodli asesiad athro o gig a gwaed gyda digon o amser i wneud y gwaith yr aeth i mewn i fyd addysg i'w wneud. Mae'n demtasiwn gweld hyn yn bleidlais o ddiffyg hyder yng ngallu'r ysgolion i asesu cynnydd y plant y maen nhw'n eu dysgu. Neu, a ddylai pob un ohonom gymryd hyn yn arwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflogi'r nifer sylweddol o athrawon ychwanegol sydd eu hangen ar Gymru, gan wneud awtomatiaeth o rai agweddau ar swydd athro yn rhywbeth angenrheidiol?
Os yw ysgol yn hyderus nad oes angen iddi ddefnyddio'r system newydd, neu fod ganddi ffordd well o wneud hynny, pam y dylid eu gorfodi nhw i ddefnyddio'r asesiad hwnnw gan Weinidog sydd heb ei hyfforddi'n athro na phrofiad mewn ysgol? Yr wythnos hon, roedd adroddiad ar wefan y BBC yn dweud bod un o bob 10 dysgwr yn ein hysgolion uwchradd yn cael eu bwlio'n wythnosol. Ac er bod y Comisiynydd Plant ac elusennau gwrth-fwlio wedi gofyn am gofnod statudol o achosion ledled y wlad, mae'r Llywodraeth hon yn dweud mai lle'r ysgolion unigol yw penderfynu pa ddull sy'n gweithio orau ar eu cyfer nhw. Ond os gellir ymddiried yn yr ysgolion i gofnodi ac ymdrin â bwlio fel y maen nhw'n gweld yn dda, pam na allant yn yr un modd fesur y cynnydd a wna eu plant wrth ddysgu?
Rhai cwestiynau i gloi: ble fydd asesiad personol yr athro o blentyn yn sefyll yn y system newydd? Beth fydd yn digwydd pe byddai asesiad yr athro yn wahanol i'r asesiad ar-lein? A fydd canlyniadau'r asesiad ar-lein yn gyfrwng i'r athro neu athrawes unigol ei ddefnyddio i lywio eu hasesiad personol eu hunain o gynnydd plentyn neu a fydd hynny'n cael ei fwydo i mewn i broses arall? Ac a fydd canlyniadau'r asesiadau ar-lein yn llywio'r penderfyniadau a wneir gan weithwyr proffesiynol eraill heblaw am athro'r dysgwr unigol? Diolch.
Gadewch i mi fod yn gwbl glir wrth ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau a wnaeth Michelle Brown: mae athrawon yn deall sefyllfa'r disgyblion o ran eu haddysg gan eu bod nhw, mae'n hollol iawn, yn treulio pob diwrnod gwaith yn gwneud hynny. Ond mae'r asesiadau ar-lein yn rhoi arf ychwanegol i athrawon, ac adborth personol o ansawdd uchel ar sgiliau'r dysgwr, fel bod modd rhoi'r cymorth a'r ymyriadau priodol ar waith. Nid y bwriad yw disodli'r asesiad gan athrawon. Mae'r asesiadau ymaddasol hyn ar-lein yn welliant ar y system profion ar bapur sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru. Maen nhw'n fwy defnyddiol ar gyfer addysgu a dysgu. Byddwn i'n dadlau eu bod yn fwy defnyddiol i rieni. Maen nhw'n rhoi mwy o reolaeth yn nwylo ein hathrawon yn hytrach na llai, yn yr ystyr eu bod yn gallu penderfynu pryd fydd y plant yn ymgymryd â'r asesiad, a phryd a sut y byddan nhw'n ei gynnal. Ac, felly, mae hyn yn gwbl groes i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud sy'n digwydd.
Mae hi'n gwneud pwynt dilys ynghylch rhoi'r amser i athrawon wneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn athrawon ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda'r proffesiwn a'u hundebau i sicrhau y gallwn leihau'r llwyth gwaith lle bo hynny'n bosib fel y bydd athrawon yn cael yr union beth hwnnw: yr amser sydd ei angen gyda phlant unigol fel y gallan nhw ymarfer eu dawn ochr yn ochr â'r wybodaeth y bydd yr asesiadau ymaddasol hyn yn ei roi iddyn nhw, ar gyfer rhoi profiad wedi'i deilwra ar gyfer dwyn addysg y plentyn ymlaen.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Mae eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma wedi ei gohirio.
Felly, symudwn at eitem 6, sef Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Cynnig NDM6912 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r Rheoliadau diwygio hyn heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei adroddiad ar y rheoliadau. Mae'r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2013. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth uniongyrchol i gartrefi ledled Cymru drwy ostwng eu biliau treth gyngor. Fe ddiddymodd Llywodraeth y DU fudd-daliadau'r dreth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a throsglwyddo'r cyfrifoldeb dros ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ar y cyd â'r penderfyniad bu toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddiwallu'r bwlch cyllido i gynnal yr hawl i gael cymorth ar gyfer oddeutu 300,000 o'r aelwydydd llai cefnog yng Nghymru.
Mae angen diwygio deddfwriaeth bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i gael gostyngiad yn cael eu cynyddu er mwyn cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn costau byw. Mae'r rheoliadau gweithredu felly yn cynnal yr hawl presennol i gael cymorth. Mae'r ffigurau ariannol sy'n berthnasol i bobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr ar gyfer 2019-20 yn cael eu cynyddu yng Nghymru yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr sef 2.4 y cant. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â pholisi Llywodraeth y DU i rewi budd-daliadau oedran gweithio hyd at ddiwedd 2019-20. Mae'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn parhau i gael eu cynyddu yn unol â gwarant isafswm sylfaenol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu uwchraddio'r budd-dal tai. Rwy'n awyddus i amddiffyn teuluoedd ar incwm isel sydd wedi eu heffeithio gan ddiwygio lles rhag toriadau pellach i'w hincwm.
Wrth wneud y rheoliadau hyn, rwyf hefyd wedi achub ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol a gwneud newidiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig â budd-dal cymdeithasol newydd, taliad cymorth profedigaeth. Er enghraifft, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, rydym wedi gwneud geiriad y rheoliadau yn gliriach er mwyn sicrhau bod y rheoliadau yn unol â rheoliadau budd-dal tai. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod awdurdodau bilio yn asesu'r hawl i gael gostyngiad i'r dreth gyngor mewn modd cyson. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal hawliau aelwydydd yng Nghymru i gael gostyngiadau i filiau'r dreth gyngor. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd oddeutu 220,000 o'r aelwydydd sydd dan fwyaf o bwysau yn parhau i beidio â thalu unrhyw dreth gyngor yn 2019-20. Mae gostyngiad i'r dreth gyngor yn parhau i fod yn gonglfaen ein cymorth wedi ei dargedu ar gyfer pobl a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio'n andwyol gan ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018, ac, eto, rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM6911 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Fe wnaf i siarad yn awr am y Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018, sy'n ymwneud â gosod cyfraddau treth 2019-20 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y cyfraddau safonol, is, a'r cyfraddau gwaredu anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn dibynnu ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau hyn yn cadw cost briodol i waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi er mwyn cymell rhagor o weithgareddau sy'n amgylcheddol sensitif, megis lleihau ac ailgylchu gwastraff. Pan gyflwynwyd y dreth gwarediadau tirlenwi y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i osod yr un cyfraddau â Llywodraeth y DU ar gyfer dwy flynedd gyntaf datganoli i gydnabod y risgiau a'r cymhellion o ran y dreth hon, gan gynnwys twristiaeth gwastraff. Hon yw'r ail flwyddyn o bennu cyfraddau'r dreth. Rwy'n falch o allu dweud wrth Aelodau, yn ystod blwyddyn gyntaf y dreth, y cafodd y cyfraddau hynny eu cyflwyno'n llwyddiannus a chyflawnwyd y broses o bontio rhwng cyfundrefn dreth tirlenwi'r DU a chyfundrefn dreth gwarediadau tirlenwi Cymru yn unig yn ddidrafferth, gyda chyfraddau cyson ar draws ffin Cymru-Lloegr.
Yn unol â chyhoeddiad y gyllideb ddrafft gan fy rhagflaenydd ym mis Hydref, bydd cyfraddau safonol ac is y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau'n gyson â threth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud yn glir wrthym ni fod ei angen arnynt. Cyhoeddwyd y cyfraddau drafft gennym ni yn y gyllideb ar 2 Hydref—yn y gyllideb ddrafft, esgusodwch fi. Ail-gadarnhaodd Llywodraeth y DU y cyfraddau a gyhoeddwyd eisoes ganddi ar gyfer 2019-20 yn Hydref 2017 yng nghyllideb yr hydref ar 29 Hydref. Yr unig wahaniaeth i'w nodi yw nad oes gan Lywodraeth y DU gyfradd ar hyn o bryd ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig. Mae cyfraddau gwaredu anawdurdodedig yn unigryw i Gymru ac fe'u cyflwynwyd drwy lunio deddfwriaeth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi i adlewyrchu'r gost ychwanegol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â gwaredu anghyfreithlon. Mae'n cydnabod nad yw pobl sy'n rhedeg safleoedd tirlenwi anghyfreithlon yn ysgwyddo'r un costau â'r rhai sy'n gysylltiedig â safleoedd tirlenwi cyfreithlon ac mae'n creu rhwystr ariannol ychwanegol i sefydlu safle heb ei awdurdodi. Rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.
Diolch. Unwaith eto, nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, ac felly y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Os felly, derbynnir y cynnig felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar.
Rwy'n symud ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar adroddiad Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol, a sylwaf nad yw Aelodau'n bresennol yn y Siambr. [Torri ar draws.] Wel, mae hynny'n iawn, felly. Os bydd Aelod o'r Llywodraeth yn cynnig y cynnig, yna rwy'n hapus i fwrw ymlaen. Cymeraf fod hynny'n dderbyniol o ran trefn. A ydych chi'n fodlon cynnig y cynnig yn ffurfiol, neu a ydych chi eisiau siarad amdano, o ran gofal cymdeithasol? O. Dyna ni.
Ymddiheuriadau.
Roeddwn i'n credu efallai ar ddechrau'r flwyddyn newydd y gallem ni i gyd fod wedi llwyddo i gyrraedd yn brydlon. Felly, rydym ni'n dweud unwaith eto ein bod ni nawr yn symud at y ddadl ar adroddiad Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol, ac rwy'n gofyn yn awr i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol agor y ddadl—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6906 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, 'Talu am Ofal Cymdeithasol'; a
c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac ymddiheuriadau am fod yn gaeth mewn cyfarfod arall, pan feddyliais fod digon o amser ar y cloc, ond nid felly yr oedd hi, ac rwy'n ymddiheuro i Aelodau sydd wedi bod yn aros i'r ddadl ddechrau. Ond rwyf yn falch o gael y cyfle hwn i agor y ddadl ac i gynnig y cynnig sydd ar y papur, sy'n canolbwyntio ar adroddiad yr Athro Gerry Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol. Cyhoeddwyd yr adroddiad a'r dadansoddiad economaidd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ym mis Mehefin. Bydd yr Aelodau'n cofio mai ardoll gofal cymdeithasol oedd un o bedwar syniad treth newydd a ddaeth i'r amlwg o'r ddadl genedlaethol am drethi newydd yn haf 2017. Mae sut y gallwn ni dalu costau gofal poblogaeth sy'n heneiddio yn her sy'n berthnasol i bob etholaeth yng Nghymru ac, yn wir, y cenhedloedd niferus iawn fel ein un ninnau sydd â phroffil demograffig sy'n heneiddio.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella gofal iechyd a mynd i'r afael â salwch, sy'n ein helpu i fyw yn hirach. Yn yr un modd, rydym ni'n gwella darpariaeth gofal cymdeithasol yn sylweddol, gan weithredu'r dull a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae natur gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw yn anelu at fod yn gyd-gynhyrchiol, yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i bobl, gan hyrwyddo atal ac ymyrraeth gynnar. Er bod gofal cymdeithasol yn newid ac yn gwella, nid yw'n bosib osgoi heriau poblogaeth sy'n heneiddio. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i ddatblygu modelau newydd i gefnogi costau gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Mae'r ymrwymiad yma wrth wraidd gwaith grŵp rhyngweinidogol y Llywodraeth ar dalu am ofal cymdeithasol, y byddaf yn ei gadeirio bellach, gan ymgymryd â gwaith fy nghyd-aelod, Huw Irranca-Davies, a dylwn ddweud y gwnaethpwyd hynny'n fedrus ac mae hynny'n ein gadael mewn lle da.
Mae adroddiad yr Athro Holtham, sy'n sail i'r ddadl hon heddiw, wedi bod yn allweddol yn ffurfio ein syniadau cynnar. Yn ehangach, mae'r adroddiad hwn yn gwasanaethu fel catalydd i roi pwyslais newydd i'r ddadl ehangach ynghylch talu am ofal, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Ardoll gofal cymdeithasol yw'r dull y mae'r Athro Holtham wedi'i awgrymu, ac mae ei gyngor yn gofyn am ystyriaeth ofalus ochr yn ochr â'r holl ddewisiadau eraill, gan gynnwys modelau sy'n seiliedig ar yswiriant. Cyn bo hir, gallai'r dull hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol, sydd wedi'i addo ers tro, a chynigion posib ar gyfer system DU gyfan o dalu am ofal.
Cyn imi ddychwelyd at adroddiad yr Athro Holtham, rwyf eisiau dweud ychydig am ofal cymdeithasol a'r gwaith hanfodol y mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud heddiw i ddiogelu oedolion a phlant sy'n agored i niwed, i helpu pobl i gadw'u hannibyniaeth ac i fyw bywydau cyflawn a mwy llesol. Mae'r degawd o gyni sydd ohoni a'n hadnoddau sy'n prinhau yn golygu bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ym mhob agwedd ar ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2019, y gwariant refeniw o ddydd i ddydd, 7 y cant yn is, neu £1.2 biliwn yn is mewn termau real, nag yn 2010-11 ar sail gyfatebol. Er gwaethaf y cyd-destun heriol hwnnw, yng Nghymru, diogelwyd gwariant ar ofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn mewn cysylltiad â'n cyllideb gyffredinol. Bu cynnydd o 13 y cant mewn termau arian parod o ran ariannu gofal cymdeithasol rhwng 2010-11 a 2017-18—bron i dair gwaith cyfradd y cynnydd yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn na Lloegr, ond, hyd yn oed ar ôl caniatáu ar gyfer hynny, yn 2017-18 roedd gwariant y pen dros 65 oed 23 y cant yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr—i fyny o oddeutu 8 y cant yn uwch yn 2010-11. Ni ddylai beri syndod, felly, na fyddwn yn cefnogi gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr sy'n ceisio symud y bai oddi ar gyni'r Torïaid. Byddwn, fodd bynnag, yn cefnogi'r ail welliant.
Mae'r gyllideb derfynol ar gyfer 2018-19, y byddwn yn ei thrafod yr wythnos nesaf yn y Cynulliad yma, yn cynnwys £7 miliwn ychwanegol i godi'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000 o fis Ebrill eleni. O fis Ebrill, bydd pobl yn gallu cadw mwy o'u cynilion haeddiannol cyn gorfod cyfrannu tuag at gost eu gofal. Dyma'r trothwy mwyaf hael o blith unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Addawodd Llywodraeth bresennol Cymru, dan arweiniad Llafur, y byddem yn fwy na dyblu terfyn y cyfalaf yn nhymor presennol y Cynulliad, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n union.
Mae rhagolygon poblogaeth swyddogol yn rhoi hwb pellach i'r ddadl ynghylch sut yr ydym ni'n talu am ofal. Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y boblogaeth yn heneiddio'n gyflym dros y 10 i 15 mlynedd nesaf a fydd yn cynyddu'r galw ar ein gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ac yn rhoi pwysau ar gyllidebau sydd eisoes yn gwegian. Mae'r rhai sydd dros 75 oed yng Nghymru yn debygol o gynyddu gan fwy na 40 y cant erbyn 2030 a mwy na 70 y cant erbyn 2040. A rhagwelir y bydd nifer y bobl sy'n byw i fod dros 85 oed yn mwy na dyblu erbyn 2040, ac, mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond mae hefyd yn rhywbeth i gynllunio ar ei gyfer. O ystyried y rhagolygon hyn a'r cynnydd a ragwelir yn y galw am ofal cymdeithasol fe gynigiodd yr Athro Holtham ardoll ar incwm er mwyn helpu i dalu am ofal. Byddai elw o'r ardoll yn helpu i ariannu'r costau gofal uniongyrchol ar gyfer pobl hŷn, gyda'r gweddill yn cael ei roi mewn cronfa wedi'i neilltuo a'i fuddsoddi er mwyn helpu i dalu am y cynnydd a ddisgwylir yn y galw am ofal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ein hamcan allweddol wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw gwahodd Aelodau i fynegi eu barn ar fodel yr Athro Holtham ac, yn benodol, i ystyried y pedwar cwestiwn sylfaenol y mae'r Athro Holtham yn eu holi yn ei adroddiad. Yn gyntaf, mae'n gofyn a ddylai'r ardoll gofal cymdeithasol gael ei chlustnodi neu ei neilltuo i dalu costau'r gofal cymdeithasol. Wrth gwrs, gall neilltuo arian leihau hyblygrwydd cyllidebol drwyddi draw, ond mae ei adroddiad yn awgrymu y dylid neilltuo'r enillion er mwyn helpu i wneud y dreth newydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd. Yn ail, mae'r Athro Holtham yn gofyn a ddylai'r model ardoll gofal cymdeithasol gael ei seilio ar yr egwyddor gyfrannol: felly, a oes angen cyfrannu at y cynllun er mwyn mwynhau ei fanteision? Gallai system o'r fath greu costau gweinyddol uwch, ond mae ef hefyd yn dod i'r casgliad, fodd bynnag, y dylai'r system fod o natur gyfunol, lle cynigir manteision sy'n anghysylltiedig â maint cyfraniadau pobl. Nesaf, mae'n ystyried sut mae modd sicrhau tegwch i'r rhai sydd mewn gwahanol garfannau incwm ac oedran. Gyda model yr Athro Holtham, byddai cyfraddau'r ardoll yn amrywio rhwng 1 a 3 y cant. Byddent yn uwch ar gyfer pobl hŷn ar y dechrau, oherwydd y byddent yn cyfrannu am gyfnodau byrrach, a byddai hynny'n caniatáu elfen o degwch rhwng y cenedlaethau, ond byddai system o'r fath yn dod ar gost weinyddol.
Yn olaf, mae'n gofyn: a ddylai'r cynllun fod ar sail talu wrth ddefnyddio, neu a ddylai refeniw gael ei dalu i gronfa a'i fuddsoddi i ddiwallu galw'r dyfodol? Mae'r Athro Holtham yn dadlau o blaid dull ariannu. Mae'n bosib y gallai treth gychwynnol sy'n gysylltiedig ag oedran gyda chyfraddau o 1 i 3 y cant, yn gostwng dros amser i 1 y cant, gefnogi cynnydd o 20 cant y pen mewn gwariant ar ofal ar gyfer pobl hŷn a gallai ymdopi â'r effeithiau heneiddio a ragwelir hyd at o leiaf 2040, ond byddai hyn ond yn bosib gydag enillion digonol o'r buddsoddiad ac os cedwir costau gweinyddu a chasglu'n rhesymol.
Mae'r rhain, wrth gwrs, i gyd yn gwestiynau pwysig. Fel yr eglurodd yr Athro Holtham ei hun i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, mae ei asesiad yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau y bydd angen inni eu hystyried o ddifrif wrth inni lunio polisïau.
Rwy'n wirioneddol groesawu barn yr Aelodau ar yr holl fodelau posib o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn ogystal â'r cwestiynau sylfaenol hynny y mae'r Athro Holtham yn eu holi o ran ardoll gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd heddiw'n nodi dechrau dadl fwy cytbwys rhwng y pleidiau, nid yn unig yn y Siambr, ond y tu allan, ac, yn wir, o bosib ym mhwyllgorau eraill y Cynulliad. Bydd galw am aeddfedrwydd ac ymrwymiad gan bob plaid wleidyddol i gyflawni'r agenda heriol ond anochel hon. Rydym ni'n gobeithio gwneud cynnydd gyda chynllun clir a phenodol i ddatblygu'r gwaith yma. Nid oes unrhyw atebion hawdd i'r her o dalu am ofal, fel y mae Papur Gwyrdd gohiriedig Llywodraeth y DU yn ei ddangos, ond, at ei gilydd, rwy'n ffyddiog ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu datblygu dull sydd wedi'i deilwra i'n hanghenion ac sydd yn addas i'w ddiben yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y ddau welliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Janet.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:
'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Siawns fod pawb yn gwybod bod gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn wynebu pwysau digynsail a'u bod yn cael trafferth i ddiwallu gofynion ariannol a chymdeithasol cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio. Fel y dywedodd Gomisiynydd Pobl Hŷn blaenorol Cymru, Sarah Rochira, wrth y Pwyllgor Cyllid, mae cymorth gofal cymdeithasol yn beth tyngedfennol, yn helpu pobl agored i niwed i fyw'n annibynnol. Fodd bynnag, mae'r cymorth tyngedfennol hwn yn gwegian wrth geisio ymateb i'r galw presennol. Er enghraifft, mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod dros 800,000 o'r 3.1 miliwn o bobl sy'n byw yng Nghymru yn awr yn 60 oed neu hŷn, gydag oddeutu traean o'r rhain dros 75 oed—dim ond cynyddu a wnaiff hyn yn y blynyddoedd i ddod. Hefyd, ar hyn o bryd mae gan Gymru y gyfradd uchaf o salwch hirdymor yn y DU, hon yw'r agwedd fwyaf costus o ofal y GIG, lle gwelwyd cynnydd blaenorol o 105,000 i 142,000 rhwng 2001 a 2010. O ganlyniad, disgwylir i'r pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion gynyddu tua 4.1 y cant bob blwyddyn. I ariannu hyn yn llawn byddai angen £1 biliwn ychwanegol erbyn 2030, yn ôl y Sefydliad Iechyd. Mae hyn yn anghyraeddadwy ar y lefelau presennol o fuddsoddi a chymorth. Fel y cydnabu Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae'r pwysau hyn wedi arwain at ddiffyg ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fethu ag ariannu rhai gwasanaethau hanfodol yn ddigonol. Nid yw'r addewid o £60 miliwn ychwanegol a roddwyd yng nghyllideb 2019 hyd yn oed yn dechrau cyflawni'r angen. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu hefyd y gellid gwario'n well drwy edrych ar rai o'r gostyngiadau o wariant gwastraffus gan Lywodraeth Lafur bresennol Cymru. Nid oes ond rhaid inni edrych ar y mesurau arbennig sydd mewn grym yn awr yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, lle mae £10 miliwn wedi ei wario, ac eto, mewn tair blynedd a hanner, nid ydym ni wedi gweld unrhyw welliant. Oni fyddai hi wedi bod yn llawer gwell petai'r gwariant hwn wedi ei gynnwys mewn cyllideb gofal cymdeithasol a'i roi i awdurdodau lleol? Mae'r awdurdodau lleol eisoes yn gwario dros £550 miliwn ar ofal cymdeithasol i'r henoed ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darogan yn awr y bydd pwysau ychwanegol o £344 miliwn ar wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn 2021-22. Mae'r rhain yn ffigurau anhygoel o uchel ac yn rai sy'n peri pryder mawr.
Ar wahân i'r diffyg ariannu uniongyrchol, mae'r Llywodraeth dro ar ôl tro wedi camreoli arian y gellid a bod wedi ei ddefnyddio i wella ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol. Pa fanteision sydd yna i'r bobl agored i niwed hynny sydd â gwir angen am y gwasanaethau hyn o'r £221 miliwn a wariwyd ar ardaloedd menter anghystadleuol? Hefyd, onid oes 18 mis ers i'r parc moduro £100 miliwn yng Nglynebwy gael ei gyhoeddi? Nid ydym ni wedi gweld unrhyw sylfeini wedi eu gosod nag un swydd wedi ei chreu yn sgil y buddsoddiad honedig. Yn wir, mae hyn yn dechrau digwydd yn rheolaidd gyda'r Llywodraeth Lafur hon.
Mae'r bwlch ariannu wedi ymestyn i'r graddau fod angen i'r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i oedolion gynyddu o 4 y cant bob blwyddyn, gan gynyddu'r gwariant i £2.3 biliwn. Ac mae hyn yn ôl y Sefydliad Iechyd.
Nawr, ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU ar fin cyhoeddi Papur Gwyrdd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o faterion, yn cyfleu eu gweledigaeth ehangach ar gyfer system gynaliadwy o ofal cymdeithasol. Byddai hyn yn cael ei weithredu drwy feysydd megis cynllunio gweithlu, gan gefnogi'r sector gyda buddsoddiad o £2 biliwn rhwng 2018 a 2021 er mwyn cael y bobl briodol i'r swyddi priodol, neu ystyried gwasanaeth gofal sy'n fwy cyfannol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Yn ei adroddiad diweddaraf, mae'r Athro Holtham yn cyflwyno achos dros ardoll gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynghori, a bydd hyn yn cael ei drafod eto yfory, bydd angen i Lywodraeth Cymru allu cyfiawnhau sut y defnyddir unrhyw arian a godir ac i ddangos ei effaith. Mae rhybuddion eraill yn cynnwys ei gyfaddefiad y bydd angen ymchwil pellach i atal dibyniaeth ar ffigurau dros dro yn ogystal â rheoli effaith materion gweinyddol cymhleth a chostus, neu gadewch i ni edrych ar y pryderon a soniodd Age Cymru amdanyn nhw o ran neilltuo arian, sy'n pryderu y byddai arian yn cael ei ddargyfeirio gan fympwy Gweinidogion megis y gronfa yswiriant gwladol.
Er gwaethaf y pryderon hyn, mae'r neges sylfaenol yn parhau i fod yr un fath—mae'r gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn gwegian. Mae'r rhai sy'n gweithio yn ein sector gofal dan straen aruthrol ac mae ein gwasanaethau yn wynebu galw cynyddol a phwysau ariannol cynyddol.
Rwy'n credu, ac rwy'n deall ac yn cytuno â chi, Gweinidog, bod angen inni edrych ar hyn mewn ffordd wirioneddol gynhwysfawr, gwirioneddol aeddfed, ac rwy'n credu ei bod hi bellach yn ddoeth i ni symud ymlaen, i weithio ar y cyd, ar draws y ffiniau gwleidyddol ac mae gwir angen inni ddechrau cael trafodaethau difrifol ac anodd ynglŷn â gofynion ariannu ein gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Diolch.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma. Darpariaeth gofal cymdeithasol—yn sicr, fel y cyhoeddwyd, mae'r her yn fawr ac yn mynnu blaenoriaeth, ac mae adroddiad Holtham yn gyfraniad gwerthfawr at y ddadl honno.
Nid wyf yn siŵr a wyf wedi sôn yn y gorffennol y bûm i'n feddyg teulu am oddeutu 35 mlynedd, ond rwyf wedi bod yn gyn ymddiriedolwr o Ofal Croesffyrdd i Ofalwyr hefyd, felly, mae gen i brofiad helaeth o weld anghenion dwys fy nghleifion sydd angen gofal cymdeithasol ac mae hyn yn wir o hyd. Nawr, yn amlwg, mae pobl yn byw'n hirach, o ganlyniad i lwyddiant y GIG i raddau helaeth, er gwaethaf y feirniadaeth gan rai. O'r gorau, mae gennym ni ddŵr glân a thai gwell hefyd, ond mae'r cynnydd diweddar mewn disgwyliad oes wedi cynyddu oherwydd y GIG. Fe ddathlodd 250 o bobl eu penblwydd yn 100 oed yn y DU yn 1950, 2,500 yn 1990 a dwy flynedd yn ôl fe ddathlodd 13,700 eu canfed penblwydd. Er hyn, byddai canolbwyntio'n unig ar ariannu'r system gofal cymdeithasol bresennol sydd dan gryn bwysau yn bradychu ein poblogaeth oedrannus hefyd, ac yn ymateb cyfyngedig iawn i'r her yr ydym yn ei hwynebu.
Un o'r rhesymau pam fy mod i'n hoff o'r gwleidydd Llafur, Aneurin Bevan, yw'r ffaith iddo lwyddo i greu gwasanaeth iechyd cenedlaethol cydlynol a oedd yn cyflogi nyrsys, meddygon, ffisiotherapyddion; a oedd yn cynnig contractau; telerau cyflogaeth; hyfforddiant; a phopeth arall, yn wyneb y gybolfa o ddarpariaeth iechyd yn y 1930au, a oedd yn rhannol yn ddarpariaeth gyhoeddus, yn rhannol yn ddarpariaeth breifat neu'n ddarpariaeth elusennol, lle nad oedd neb â chyfrifoldeb lawn a lle'r oedd cymaint o bobl yn cael eu hamddifadu o ofal iechyd cyffredinol. Goresgynnodd y buddiannau enfawr yr oedd gan rhai pobl yn yr hen drefn gan ffurfio'r GIG i fod yn wasanaeth annibynnol cydlynol, er gwaethaf gwrthwynebiad gan feddygon.
Gan symud ymlaen 70 mlynedd ac edrych ar y system gofal cymdeithasol heddiw, mae'n ymddangos ei bod yn debyg i'r hyn oedd y gwasanaeth iechyd yn y 1930au, gyda darpariaeth sy'n rhannol gyhoeddus, yn rhannol breifat, ac yn rhannol elusennol. Mae angen inni greu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn yr un modd ag yr ymatebodd Aneurin Bevan i'r gwrthwynebwyr a oedd yn dweud, 'bydd yn rhy gostus, yn llawer rhy gymhleth, fydd meddygon ddim eisiau colli eu gwaith preifat, bydd awdurdodau lleol yn colli eu swyddogaeth.' Fe arweiniodd ewyllys a phenderfyniad gwleidyddol enfawr at greu gwasanaeth iechyd cwbl genedlaethol, darpariaeth a oedd yn rhad ac am ddim, wedi ei ariannu drwy drethiant cyffredinol, a'r holl fygythiadau i'n hiechyd yn cael eu hwynebu gyda'i gilydd. Mae angen inni efelychu ysbrydoliaeth a gweledigaeth Aneurin Bevan a chreu gwasanaeth gofal gwladol yn y unfed ganrif ar hugain.
Mae siarad dim ond am gyllid yn gyfyngedig ac yn oeraidd oherwydd rydym ni'n ymdrin â phobl yma—pobl fregus, oedrannus ac agored i niwed. Oni ddylem ni wella gofal? Talu staff gofal yn well, eu cyflogi mewn gwasanaeth cenedlaethol gyda thelerau ac amodau, eu hyfforddi a'u cofrestru, yn union fel y GIG. Sefydlu gwasanaeth gofal gwladol sydd â'r un parch â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwasanaeth gofal gwladol sy'n cael ei ariannu drwy drethiant cyffredinol, yn union fel y GIG. Gofal sy'n rhad ac am ddim, yn union fel y GIG. Ni fyddai unrhyw wahaniaeth rhwng gofal nyrsio am ddim ac, yn y dyfodol, gofal personol am ddim. Ar hyn o bryd mae yna wahaniaeth, mae prawf modd ar gyfer gofal personol a rhaid talu am y gofal. Dychmygwch y fath sefyllfa chwyldroadol lle nad oes gwahaniaeth rhwng gofal nyrsio a gofal cymdeithasol. Bydd pobl yn dweud, 'Ond allem ni byth ei fforddio', gan anghofio bod 80 y cant o gost gofal cymdeithasol heddiw yn cael ei dalu gan y Llywodraeth. Mae eisoes yn cael ei ariannu'n gyhoeddus—mae 80 y cant o'r gost wedi cael ei dalu yn barod.
Dychmygwch y gwrthwynebiad pe baech chi'n mynd at eich meddyg teulu heddiw a chlywed y byddai arnoch chi angen gofal iechyd cymhleth, drud ac y byddai angen i chi werthu eich tŷ i'w ariannu. Dychmygwch y gwrthwynebiad, pobl ar y strydoedd yn protestio, cwestiynau amserol yn y Senedd, yn sicr, ond rydym ni'n derbyn yn ddi-gwestiwn fod pobl yn gorfod gwerthu eu cartrefi i ariannu gofal cymdeithasol hirdymor. Ni fyddai ardoll gofal cymdeithasol yn golygu ad-drefnu'r gwasanaeth gofal nac yn eich atal rhag gorfod gwerthu eich cartref i ariannu gofal.
Fy mhwynt olaf—beth am roi diwedd ar edrych ar ofal cymdeithasol fel cost yn unig. Rydym ni wedi cael nifer o areithiau dros y misoedd diwethaf o'r meinciau Llafur am yr economi sylfaenol, ac mae gofal cymdeithasol yno ynghanol yr economi sylfaenol. Mae'r GIG yn ei gydnabod yn ffactor sy'n datblygu'r economi, yn enwedig yng Nghymru wledig, gyda 80,000 o swyddi yn y GIG a nifer tebyg ym maes gofal cymdeithasol. Mae'r GIG yn cael ei gydnabod yn sbardun economaidd pwysig o ran cyflogaeth, y tâl yn uwch na'r cyfartaledd cyflogau mewn ardaloedd lle mae rhagolygon am swyddi yn aml yn llwm. Byddai'r un peth yn wir mewn gwasanaeth gofal gwladol fyddai'n cyflogi gofalwyr mewn gwasanaeth cenedlaethol ledled Cymru, yn gwarantu cyflogaeth a chyflogau teg mewn ardaloedd o Gymru sy'n brin o ddewisiadau cyflogaeth eraill, lle na fyddai gweithwyr gofal ar gontractau dim oriau, cyflog isel a hyfforddiant prin. I gloi, felly, ni ddylai unrhyw drafodaeth am ofal cymdeithasol fod ynghylch y gost yn unig. Mae cyfle yma hefyd i ddatblygu'r economi, a chreu budd economaidd, sydd, o bosib, yn gwrthbwyso'r costau hynny. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu fod hon yn ddadl bwysig iawn a gobeithio ei bod y cyntaf o lawer, oherwydd mae'n bwnc cymhleth iawn. Cyn y Nadolig, fe ymwelais â phob cartref gofal i'r henoed yn fy etholaeth i, ac ar y cyfan roeddwn i'n fodlon iawn ag ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartrefi hyn ynghyd ag ymroddiad eu staff. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y mater hwn o ganlyniad i'r ffaith fod un o'r cartrefi yn fy etholaeth wedi gorfod cau ei gwelyau nyrsio fis diwethaf gan nad oedd ansawdd y ddarpariaeth nyrsio yn ddigon da. Mae'n rhaid imi ddweud fod hyn yn enghraifft dda o sut mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gweithio fel system i sicrhau bod gofal gwael yn cael ei amlygu, ac o ran y cysondeb yn y modd yr ymatebodd y nyrsys ardal i'r pryderon a nodwyd a thynnu sylw at y methiant i wella. Felly, fe wnaeth arweinyddiaeth y cartref hwn y penderfyniad cywir i gau'r gwelyau nyrsio hyn, ond yn amlwg, mae'r diffyg arweinyddiaeth a arweiniodd at y gofal gwael i ddechrau yn rhywbeth a ddylai fod yn achos pryder i ni i gyd. Yn yr achos hwn, fe lwyddodd pob un o'r trigolion i ddod o hyd i leoliad addas arall, ond wrth i'r system gofal wynebu pwysau cynyddol, fe allai hynny fod yn llawer anoddach yn y dyfodol.
Wrth siarad â staff, mae'n berffaith amlwg i mi fod cyflogau ar gyfer gofal cymdeithasol yn gwbl annigonol. Mae'n waith cymhleth iawn ac mae gofyn am ymroddiad enfawr. Mae'n gwbl annerbyniol fod pobl yn gwneud y swydd bwysig hon, yn gofalu am bobl oedrannus a bregus, ac yn cael eu talu'n is na'r cyflog byw. Wyddoch chi, mae o'n—
Mae'r system ymgeisio sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn gwarantu bod cyflogau'n aros yn isel, oherwydd ar gyfer pob unigolyn maen nhw'n dymuno eu gosod mewn lleoliad preswyl, byddant yn gwahodd pawb i gyflwyno tendr. Mae'n bosib fod person wedi dewis cartref penodol, ond os nad hwnnw yw'r un rhataf yna rhaid iddyn nhw ddod o hyd i'r arian, naill ai o'u hadnoddau eu hunain neu gan rywun arall o'u hanwyliaid, i dalu am y gwahaniaeth rhwng y lle rhataf a'r cartref y maen nhw'n dymuno mynd iddo. Felly, does gan y bobl hynny sydd heb adnoddau o'r fath ddim dewis o gwbl. Nid wyf yn credu bod hynny'n ffordd gysurus iawn o sicrhau bod gofal da yn cael ei wobrwyo ac o roi terfyn ar ofal gwael.
Dywedodd un metron wrthyf ei bod yn teimlo fod ei thâl mor wael nes ei bod yn ystyried ymddiswyddo er mwyn ymgyrchu dros gyflogau teilwng i ofalwyr cymdeithasol, ac rwy'n credu ei bod hi yn llygad ei lle. Dywedodd, 'Mae'n iawn ar hyn o bryd. Mae'r grŵp o hen bobl eiddil eu meddwl yr wyf i'n gofalu amdanyn nhw ar hyn o bryd yn iawn ac yn hapus—yn hawdd eu trin. Yn y gorffennol, rwyf wedi mynd adref yn ddu-las wedi i bobl ymosod yn dreisgar arnaf.' Yn amlwg nid bai y cleifion yw hyn, ond mae'n enghraifft dda o'r angen am ofalwyr medrus iawn, iawn wrth ymdrin â phobl sydd wedi anghofio'n llwyr beth yw ymddygiad cymdeithasol arferol.
Felly, rwy'n credu y gallem ni, ac y dylem ni, roi pwysau ar ein hawdurdodau lleol i gomisiynu gwasanaethau dim ond gan ddarparwyr sy'n cydnabod undebau llafur, gan nad yw'r sefyllfa hon byth yn mynd i newid os yw unigolion yn dweud yn syml, 'Fe hoffwn i gael fy nhalu'n well am y swydd yr wyf yn ei gwneud.' Ni fyddant yn cael eu galw'n ôl—bydd pobl eraill yn cymryd eu lle.
Rydym ni'n sôn am system gaffael i gyflawni'r amcanion hyn mewn meysydd eraill o gyfrifoldeb, ac fe ddylem ni fod yn gwneud hynny yn achos gofal cymdeithasol hefyd. Ond, rwy'n cydnabod yn llwyr mai hyn a hyn o arian sydd gan awdurdodau lleol. Os byddwn yn cynyddu cyflogau i fod yn gyflog teilwng i bobl mewn gofal cymdeithasol, bydd yn arwain at awdurdodau lleol yn gorfod codi safonau'r meini prawf i bobl gael gofal preswyl. Bydd hynny, yn ei dro, yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd. Bydd gwelyau ysbyty yn llenwi gyda phobl na fedrant fyw yn eu cartref ond nad ydyn nhw ychwaith yn gallu dod o hyd i unrhyw le sy'n gallu darparu gofal da yn y gymuned.
Fe hoffwn i weld gweddnewidiad llwyr yn y ffordd yr ydym ni'n edrych ar hyn. Fe hoffwn i weld llawer mwy o ddychymyg, creadigrwydd ac ymwneud â'r gymuned yn y ffordd yr ydym ni'n darparu gofal cymdeithasol. Rwy'n siomedig nad ydym ni wedi gallu gwneud cynnydd ar y prosiectau peilot Buurtzorg, ac yr wyf wedi clywed adroddiadau siomedig iawn amdanynt. Byddai gennyf ddiddordeb mawr clywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am ei farn ef am y datblygiad yma, oherwydd dyna un o'r ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod y gymuned yn gyffredinol—y gall unigolyn fod â rhan yn ei ofal ei hunan, yn ogystal â'u gofalwyr a'r gymuned yn gyffredinol. Ar hyn o bryd, mae gennym ni system sy'n gweithredu'n gyfan gwbl o'r brig i lawr nad yw'n gwneud hynny'n bosib.
Rwy'n falch o ddilyn araith ystyriol ar y pwnc pwysig hwn gan Jenny Rathbone. Rwy'n cytuno â hi am y cyflogau a delir i bobl sy'n gweithio mewn cartrefi nyrsio. Roedd fy mam mewn cartref nyrsio am y 18 mis diwethaf o'i bywyd—yn dilyn strôc lle na fedrai hi wneud unrhyw beth drosti hi ei hun o gwbl. Roeddwn i'n rhyfeddu at ymrwymiad y staff a oedd yn gofalu amdani hi ac eraill yn ei chartref, ar y cyflog tlodi a dderbynient, a'r oriau hir yr oedden nhw'n eu gweithio. Roeddwn i wedi syfrdanu'n llwyr ar yr hyn a gawsom ni am yr hyn a gostiai'r gwasanaeth, ac rwyf yn credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl, os gallen nhw fforddio gwneud hynny, yn barod i fynd i'w pocedi i godi mwy o arian ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol o'r math yma, i'w rhoi nhw ar fwy na'r cyflog byw technegol. Dyna un o'r nifer o'r pynciau pwysig hynny yr ydym ni'n mynd i orfod ymrafael â nhw yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy'n mynd i barhau ar hyd y trywydd yma o gonsensws, gan fy mod i'n credu, fel y dywedodd y Gweinidog, fod angen inni fod yn aeddfed yn y ddadl hon. Ni ddylai fod yn gêm wleidyddol. Efallai ceir anghytuno, wrth gwrs, ynghylch y ffordd orau ymlaen, ond rwy'n credu na ddylem ni drin y mater hwn fel rhyw fath o ysgarmes wleidyddol pleidiol er mwyn sgorio pwyntiau er mwyn eu hunain, oherwydd mae'n broblem sydd â'i natur anhydrin gynhenid ei hun y mae'n rhaid inni ymdopi â hi, ni waeth pwy fydd yn y Llywodraeth, a phob un ohonom ni ym mhob plaid. Ac wrth i mi fy hun nesáu at fy mhen-blwydd yn 70, rwyf wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r hyn a allai fod ar y gorwel. Rwyf yn y sefyllfa ffodus lle gallwn i fforddio talu am ofal cymdeithasol, ond wrth gwrs ceir miliynau a miliynau o bobl yn ein gwlad ni na allan nhw fforddio talu amdano, ac mae'n bwysig ofnadwy inni sefydlu nawr—ac mor gyflym ag y gallwn ni—system gynaliadwy ar gyfer y dyfodol a fyddai'n sicrhau urddas a pharch i bobl yn eu henaint, yn y blynyddoedd pryd maen nhw'n agored i niwed, pan fydd yn amhosib iddyn nhw edrych ar ôl eu hunain.
Rwy'n canmol y Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac, yn wir, am gomisiynu adroddiad Holtham, sydd, rwy'n credu, a siarad yn gyffredinol, yn dangos y ffordd ymlaen. Mae'n arfarniad aeddfed o'r sefyllfa, ac mae'r ffeithiau'n amlwg iawn. Yn y crynodeb gweithredol o adroddiad Holtham, mae'n werth tynnu sylw at rai o'r pethau hyn. Mae'r gymhareb rhwng y rhai dros eu 70 oed â'r rhai sy'n 20 i 69 oed yn mynd i gynyddu erbyn y 2040au cynnar o 23 y cant i 37 y cant, felly mae hynny'n gynnydd o 50 y cant o fewn y boblogaeth. Rhagwelir y bydd y galw am wariant ar ofal cymdeithasol yn cynyddu dros 85 y cant erbyn 2035 ar sail prisiau 2016-17, felly dyna gynnydd o 20 y cant mewn gwariant y pen a chynnydd o dros 55 y cant yn y niferoedd fydd angen gofal.
Ac felly, hyd yn oed os bydd cyllideb Cymru ac economi'r DU yn tyfu 1.5 y cant y flwyddyn yn gynt na'r costau gofal, bydd gwario cyfran gyson o'r gyllideb ar ofal yn arwain at gynnydd gwirioneddol mewn cyllid sydd ond tua 30 y cant o'r hyn sydd ei angen arnom ni. Felly, bydd bwlch cynyddol rhwng yr hyn y mae angen ei wario a'r hyn y rhagwelir y bydd yn cael ei wario os ydym ond yn cadw pethau fel y maen nhw.
Yn 2007-08—cymharwch ffigurau heddiw gyda'r blynyddoedd hynny—mae'r rhai sydd dros 65 oed wedi cynyddu 16 y cant yn y boblogaeth, ond o'r rheini sydd dros 65 oed ac mewn gofal cymdeithasol, mae'r nifer mewn gwirionedd wedi gostwng o 14.9 y cant i 12.9 y cant. Nawr, gellir priodoli rhan o hynny i welliannau mewn gofal iechyd neu mwy o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn y ffordd y mae'r system ofal yn gweithio, ond mae'n llawer mwy tebygol nad yw anghenion iechyd sydd eu hangen ar hyn o bryd yn cael eu diwallu, ac mae hynny'n rhywbeth arall y bydd yn rhaid inni geisio ymdopi ag ef yn y blynyddoedd i ddod.
Felly, rwyf yn credu bod llawer iawn o ewyllys da ym mhob plaid i ddod o hyd i ateb derbyniol. Pa un ai'r ffordd ymlaen yw awgrym Dai Lloyd o gael model GIG ar gyfer gofal cymdeithasol, nid wyf i mor sicr, oherwydd rwy'n credu mai'r broblem wirioneddol sydd gennym ni yma yw, er gwaethaf yr holl ddadleuon am gyni, nid hynny mewn gwirionedd yw'r broblem. Y broblem yw y bydd yn rhaid inni roi mwy o flaenoriaeth i wariant yn y maes hwn, sy'n golygu, oherwydd bod adnoddau'n brin, y bydd yn rhaid inni israddio rhai meysydd eraill o wariant mewn blynyddoedd i ddod, neu fel arall ni fyddwn ni'n gallu talu'r biliau. Wedi'r cyfan, rydym ni wedi dyblu'r ddyled genedlaethol yn yr wyth mlynedd diwethaf, ac rydym ni mewn sefyllfa lawer gwaeth heddiw i ymdrin â phroblemau dirwasgiad yn y dyfodol nag yr oeddem ni yn ystod yr argyfwng ariannol diwethaf yn 2008.
Felly, nid yw'r problemau hyn yn mynd i ddiflannu. Mae'n rhaid inni fod yn ddewr a siomi rhai pobl er budd eraill, ond rwyf yn credu y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i'r problemau cynyddol o dalu am ofal cymdeithasol gyda chyllideb y Llywodraeth, yn y DU ac, yn wir, yng Nghymru.
Cyn gwneud ychydig o sylwadau am adroddiad yr Athro Holtham ei hun, mi hoffwn innau wneud sylw neu ddau ynglŷn â'm mhrofiad i a rhai o'm hargraffiadau i ynglŷn â'r gofal sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Rydw innau, yn fy etholaeth i, cyn y Nadolig ac ar adegau eraill o'r flwyddyn, wedi gweld gofal annwyl iawn yn cael ei ddarparu i bobl mewn cartrefi gofal yn fy etholaeth i gan bobl sydd ar gyflogau isel iawn, ond eu bod nhw'n gwneud hynny oherwydd eu bod nhw'n gweld y swydd honno fel galwad iddyn nhw. Rydw i'n gweld diffyg gwlâu yn lleol ar gyfer pobl sydd yn methu fforddio talu am eu gofal eu hunain. Rydw i'n gweld adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn ein hawdurdodau lleol ni yn methu fforddio talu am y math o ofal y bydden nhw'n hoffi ei ddarparu ar gyfer pobl ar hyd a lled Cymru. Rhywsut, mae'n rhaid i, onid oes, anelu am y math o drefn gynaliadwy yma y mae pob un ohonom ni'n dymuno ei gweld.
Ydyn, mae demographics yn newid ac mae costau yn mynd i fynd yn uwch wrth i ni gael mwy o boblogaeth hŷn, ond y cwestiwn sylfaenol yn fan hyn ydy: sut ydym ni'n gallu rhannu'r gost honno ar draws y gymdeithas a sicrhau bod pawb yn cyfrannu tuag at y gost ychwanegol yn hytrach na gadael i'r bobl sydd yn gallu fforddio talu am eu gofal eu hunain—pobl ffodus iawn, fel y rhan fwyaf ohonom ni yn y Cynulliad yma—gadael i ni dalu wrth adael i'r bobl eraill sy'n methu fforddio obeithio bod yna ryw drefn newydd yn dod? Mae'n rhaid i ni gael trefn newydd, ac mi hoffwn i weld diwylliant gwahanol. Rwy'n cytuno'n fawr efo Jenny Rathbone fod angen i ni gael gwedd mwy cymunedol, mewn rhyw ffordd, i'r gofal rydym ni'n ei ddarparu ar gyfer pobl a chyflwyno llawer mwy o elfennau o systemau cydweithredol ac ati ar gyfer darparu gofal yn ein cymunedau ni. Felly, mae angen newid diwylliant, ond oes, mae angen newid polisïau hefyd.
Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r Athro Holtham am ddarparu ei syniadau o ynglŷn ag un model y gallem ni fod yn edrych arno fo. Mae angen meddwl y tu allan i'r bocs oherwydd bod yr heriau yn mynd i fod yn tyfu gymaint mewn blynyddoedd i ddod. Mae gen i nifer o amheuon ynglŷn â'r math o fodel y mae o yn ei argymell. Nid ydy o'n berffaith glir i mi ai lefi sy'n cael ei argymell yma i gymryd lle y costau y mae pobl yn eu talu am ofal cymdeithasol ar hyn o bryd ynteu ffynhonnell ychwanegol o arian. Os mai sôn ydym ni am gyflwyno lefi a gofyn i bobl gario ymlaen i dalu am eu gofal eu hunain, wel, yn amlwg mae hynny yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni sylweddoli sy'n her wleidyddol i drio ei gwerthu i bobl. Os, ar y llaw arall, beth sydd yma ydy lefi sydd i fod i dalu am yr holl gostau sy'n dod o'r pwrs cyhoeddus ar hyn o bryd, rydw i'n meddwl o bosib fod yna aneglurder yn y ffigurau ariannol sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad. Mae'n sôn am £550 miliwn fel cost gofal cymdeithasol—mae'r gost mewn difrif yn £750 miliwn jest ei bod hi'n digwydd bod £200 miliwn o hynny'n dod mewn costau gan bobl. Felly, mae'r ffigur sy'n ganolog i'r cynnig yma gan yr Athro Holtham, i mi, ychydig bach yn aneglur. Felly, o bosib gall y Llywodraeth egluro—a ydych chi'n deall mai lefi i gymryd lle costau neu i greu cronfa ychwanegol ydy hwn?
Hefyd, mae'r ffigurau'n ymwneud â gofal cymdeithasol ar gyfer pobl dan 65 oed yn yr adroddiad yma. Mae yna lawer o alw am ofal, wrth gwrs, ar gyfer pobl dan 65—sori, dros 65 ydy'r adroddiad yma. Mae'r mater hefyd o'r blynyddoedd y byddwn ni'n aros i'r gronfa yma fod yn talu allan. Tybed beth ydy barn y Llywodraeth ynglŷn â sut y byddem ni'n talu am ofal rŵan tra'r ydym ni'n disgwyl i'r gronfa gyrraedd at bwynt lle y byddai'n gallu talu allan.
Ond yn olaf, rwy'n meddwl, yn dod yn ôl at sylwadau Dai Lloyd, mae'n dweud llawer rwy'n meddwl ei bod hi wedi cymryd degawdau ers sefydlu y gwasanaeth iechyd i ni ddod at y pwynt yma rŵan lle rydym ni'n meddwl, 'O, sut ydym ni'n gallu cael gwasanaeth gofal hefyd?' Mewn difri, o bosibl, beth ddylem ni fod yn ei wneud go iawn ydy nid sôn am sut rydym ni'n mynd i greu £400 miliwn yn flynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond sut rydym ni'n gallu edrych ymlaen at greu biliynau yn rhagor ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r ffaith ein bod ni yn trafod yr elfen gofal cymdeithasol yma yn ynysig, ar ei ben ei hun, yn dangos i fi ein bod ni'n llawer pellach nag y dylem ni fod o feddwl am wasanaeth integredig ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Ond fel rydw i'n dweud, rydw i'n ddiolchgar am gael y papur yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at drafodaeth ehangach yfory yn sgil adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Athro Holtham am gynhyrchu adroddiad craff arall, a fydd yn helpu i lywio un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl: sut ydym ni'n talu am ofal cymdeithasol? Ni all neb wadu bod hyn yn bryder dybryd. Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng, fel y nododd y pwyllgor iechyd. Mae lefel presennol y cyllid yn annigonol i ddiwallu'r galw presennol, heb sôn am yr angen yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar gyni. Mae'r wrthblaid yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru. Ond mae'r ddau yn gywir. Mae cyni wedi arwain at doriadau anghynaladwy, ond mae'r ffordd y cafodd y toriadau eu gweithredu yn amlwg yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Leol wedi torri gwasanaethau gofal cymdeithasol at yr asgwrn yn y blynyddoedd diwethaf, ac eto fe gawsant rwydd hynt i greu cronfeydd wrth gefn enfawr. Caniatawyd i fyrddau iechyd gamreoli eu harian, ac nid y nhw yn unig. Mae cyrff Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn y penawdau yn y misoedd diwethaf o ganlyniad i gamreolaeth ariannol. Ni fydd neb yn ennill yn y gêm yma o fwrw'r bai. A thra bo gwleidyddion yn ymgecru ynghylch pwy sydd ar fai, mae pobl sydd mewn angen dybryd am ofal cymdeithasol yn dioddef. Un peth y mae pob ochr yn gytûn yn ei gylch yw yn y dyfodol bydd y galw yn fwy na'r hyn y gallwn ni ei dalu am ofal cymdeithasol.
Mae Cymru'n wynebu newid demograffig anferthol yn y degawdau i ddod. Bydd y nifer o oedolion o oedran gweithio yn llai o lawer na'r nifer o bobl wedi ymddeol, a bydd nifer y bobl sy'n byw gyda salwch cronig hirdymor yn cynyddu'n sylweddol yn ôl pob argoel. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n cynllunio ar gyfer y newidiadau sydd i ddod, i sicrhau bod gennym ni ddigon o arian i ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd gwych a sicrhau beth bynnag fo ffynhonnell y cyllid hwnnw, ei fod yn deg.
Mae adroddiad Gerry Holtham yn rhoi un syniad inni ynghylch sut i dalu am ofal, ond nid ni, y gwleidyddion, ddylai benderfynu mewn gwirionedd, gan fod angen sgwrs genedlaethol ynghylch y ffordd orau o dalu am ofal—ffordd sydd yn dderbyniol i bawb. Yn bersonol nid wyf yn credu mai codi treth incwm yw'r ateb, ond eto i gyd nid fy mhenderfyniad i yw hynny. Mae gan y cyhoedd yng Nghymru yr hawl i benderfynu beth fyddai'r dull mwyaf teg a chyfartal o dalu am ofal cymdeithasol. A ydym ni am gwtogi ar feysydd eraill o wariant? A ydym ni am godi treth incwm? A ddylem ni gynyddu yswiriant gwladol? A fyddai yswiriant gofal cymdeithasol newydd yn ateb? Dylai'r holl ddewisiadau gael eu trafod, a beth bynnag fo dewis y rhan fwyaf, dyna'r dewis y dylem ni ei weithredu. Ein gwaith ni yn awr yw dechrau'r sgwrs honno, ei hwyluso a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.
Beth bynnag fydd y modd o dalu am ofal cymdeithasol a gaiff ei ddewis, mae'n rhaid inni sicrhau tegwch rhwng y cenedlaethau a sicrhau y defnyddir yr arian a godir i dalu am ofal cymdeithasol rheng flaen, nid am fwy o fiwrocratiaeth llywodraeth leol. Fel y dywedodd Dai Lloyd, nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig; mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n darparu'r gofal. A allwn ni ddarparu gofal mewn ffordd fwy cynhwysfawr? Sut allwn ni wella'r gofal a dderbynnir a sut allwn ni sicrhau bod ein gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael yr hyfforddiant priodol? Mae gennym ni argyfwng ar y gorwel, ac mae angen inni fel cenedl benderfynu sut y byddwn yn ei wynebu. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dim ond cyfraniad byr iawn, iawn gennyf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dim ond i fynegi siom, a dweud y gwir, fod y Llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r ddadl yma heddiw, oherwydd yr ŷm ni, fel rŷm ni eisoes wedi clywed yn gynharach, yn cael dadl yfory ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio, sef adroddiad y pwyllgor ar union yr un testun. Mi wnes i ofyn i'r Llywodraeth ystyried, efallai, drio bod yn fwy arloesol yn y modd rydym ni'n delio â'r sefyllfa yma, a'n bod ni, efallai, yn cyfuno'r ddwy ddadl i un, neu ein bod ni'n eu cynnal nhw un ar ôl y llall, fel ein bod ni'n gallu cael dadl fwy swmpus, mwy crwn, yn hytrach na'n bod ni'n cael dwy ddadl ar wahân. Yn anffodus, gwnaeth y Llywodraeth benderfynu peidio â gwneud hynny, felly rydw i eisiau jest roi ar y cofnod fy siom yn hynny o beth, a'r ffaith ein bod ni wedi colli cyfle, oherwydd nawr byddwn ni'n cael yr un ddadl, gyda'r un bobl yn cyfrannu, fwy na thebyg, ar yr union un pwnc, 24 awr yn unig rhwng y ddwy ddadl. Felly, mae e yn golli cyfle, ac, yn wir, nid ydw i'n meddwl ei fod e'r defnydd mwyaf effeithiol nac effeithlon o'n hamser ni fan hyn yn y Cynulliad. Mae e jest yn golli cyfle.
Nawr, pan ysgrifennir hanes y pumed Cynulliad, rwy'n credu mai ein parodrwydd ni i ddefnyddio ein pwerau dros drethiant fydd yn nodi rhaniad clir, rhaniad clir sy'n dangos aeddfedrwydd gwleidyddol y Senedd hon, arwydd o'n hymrwymiad i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni ac addewid i bobl Cymru y byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i greu Cymru fwy llewyrchus. Nid yw hyn yn fwy clir nag yn y gyfres uchelgeisiol o drethi newydd posib y cyflwynodd y Prif Weinidog yn ôl ym mis Hydref 2017, ac yn allweddol ymhlith y rhain mae awgrym o ardoll i ariannu gofal cymdeithasol. Ond ni ddylem ni fod o dan unrhyw amheuaeth: mae'r her i ddarparu gofal cymdeithasol priodol i ddiwallu anghenion ein cymdeithas yn un sylweddol, rhywbeth, rwy'n credu y mae pob siaradwr yn y ddadl hon hyd yma wedi ei grybwyll mewn gwirionedd.
Nawr, dyrennir tua un rhan o dair o wariant llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer gofal cymdeithasol i'r rhai dros 65 oed, a phetaech chi'n siarad ag unrhyw arweinydd Cyngor, byddai'n pwysleisio mai hyn sy'n ei bryderu fwyaf ynghylch cyllidebau wrth gamu i'r dyfodol. Ac awgryma tueddiadau poblogaeth mai dim ond cynyddu a wnaiff y baich hwn. Bydd y niferoedd dros 65 oed yn cynyddu'n absoliwt ac fel cyfran dros y degawd nesaf a gallai'r niferoedd sydd angen gofal gynyddu chwarter gwaith yn fwy. Bydd poblogaeth sy'n heneiddio, ynghyd â chostau cynyddol a chyflyrau cronig a chymhleth cynyddol, yn gosod heriau economaidd. Nododd y Sefydliad Iechyd yn 2015 bod Cymru yn gwario bron i £400 y pen ar ofal cymdeithasol, a hynny heb gynnwys gwasanaethau plant a theuluoedd. Roedden nhw hefyd yn amcangyfrif y byddai costau'n cynyddu dros 4 y cant y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf, a byddai hynny'n golygu erbyn 2030-1 y byddwn ni'n gwario £1 biliwn ychwanegol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae penderfynu ar ateb sy'n ymarferol bosib o fewn hualau cyni hefyd yn achosi problemau. Ni fyddaf i'n cefnogi'r gwelliant cyntaf. Mae'n methu'r pwynt amlwg iawn bod ein cyllidebau yn cael eu cyfyngu gan y penderfyniadau ynghylch gwariant a wneir yn San Steffan. Yn ei dro, mae hyn yn cyfyngu ar y cyllidebau y gellir eu trosglwyddo i lywodraeth leol. Petai ein cyllideb wedi tyfu ar yr un raddfa â thwf cynnyrch domestig gros, byddai gan Gymru £4 biliwn ychwanegol i fuddsoddi mewn llywodraeth leol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill, ond er gwaethaf y pwysau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i flaenoriaethu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys £50 miliwn yn ychwanegol i leihau'r pwysau rheng flaen ar lywodraeth leol.
Mae'n amlwg bod agwedd ddigyfaddawd a ffaeledig San Steffan tuag at gyni yn amharu ar ein gallu i ddarparu ar gyfer anghenion y presennol a'r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r broblem yn ddyfnach na hyn. Hyd yn oed pe byddai ein heconomi a'n cyllideb yn tyfu ar raddfa gyflymach na chost gofal, byddem yn dal i wynebu bwlch gwariant y byddai angen inni ei bontio. Felly, mae angen i ni chwilio am atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ymateb i'r heriau ac mae adroddiad yr Athro Holtham yn gyfraniad hollbwysig at y ddadl hon ac yn cynnig un ffordd o ateb y broblem. Mae Holtham yn edrych ar y dadleuon a'r gwahanol fodelau i benderfynu ar ganlyniad cynaliadwy wedi'i ariannu'n deg, ond mae ei gasgliad yn glir: byddai codi ardoll i dalu am ganlyniad penodol yn mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd, yn enwedig pe byddai ardoll o'r fath yn dibynnu ar oedran ac incwm ac yn gyfrannol, gyda'r system nawdd cymdeithasol yn helpu'r rhai sydd ei angen. Mae Holtham hefyd yn egluro'n rymus pam y byddai system wedi'i ariannu yn fwy effeithlon na system o dalu wrth ddefnyddio. Gallai'r cyfraddau fod yn wastad a chyfartal rhwng y cenedlaethau. Byddai'r swm neilltuedig a delir allan yn rhoi sicrwydd pendant o ran y swm neilltuedig a gyfrannwyd a gallai o bosib gynnig manteision economaidd ehangach drwy weithredu fel cronfa gymunedol i hybu twf cenedlaethol. Fel y noda Holtham i gloi, gallai cynllun cyfrannol wedi'i ariannu gynnig ateb ymarferol i'r broblem o ariannu gofal cymdeithasol mewn cyfnod o newid demograffig. Byddai cynllun o'r fath yn bodloni newidiadau ym mhroffil oedran dinasyddion Cymru. Unwaith eto, fe fyddai hefyd yn hunan-gynhaliol.
Fe geir cwestiynau a fydd angen eu hystyried ymhellach wrth gwrs, ond mae hyn yn cynnig un ateb ymarferol i angen mwyaf tyngedfennol y dyfodol: sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymgorffori urddas a'r safonau gorau oll. At hyn, mae Holtham yn rhoi ateb y mae'n ymddangos bod consensws o'i blaid—yn fy mhlaid i, o leiaf. Yn sicr, cynhyrchodd ein hetholiad arweinyddiaeth diweddar amrywiaeth o syniadau gwych gan yr holl ymgeiswyr, ond un maes lle cafwyd cryn dipyn o gytundeb oedd yr un yn ymwneud â Holtham ac ardoll gofal cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at weld y syniadau hyn yn cael eu datblygu.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, ac fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Mae trafodaeth heddiw wedi helpu i barhau â dadl, os nad agor dadl y mae angen i ni ei chael ynghylch talu am ofal cymdeithasol. Ac mae ein nod wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yn ddeublyg: i barhau i nodi'r materion a'r goblygiadau o ran y dewisiadau ar gyfer ariannu costau gofal cymdeithasol yn y tymor hir ac i ddechrau datblygu cyfrwng fydd yn fodd o feithrin consensws ehangach ynghylch ateb neu atebion posib. Ac fel rwyf wedi dweud, nid oes atebion hawdd ac nid oes unrhyw atebion cyflym, ond fe'm calonogir heddiw gan fod nifer o safbwyntiau a fynegwyd yn y ddadl yn cydgyfarfod yn yr ymdrech gyson i ymdrin â'r agenda hon, gan ei bod hi'n amlwg bod angen dadl genedlaethol ynglŷn â ffurf sector gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o safon uchel yng Nghymru. A golyga hynny, wrth gwrs, parhau i ddatblygu ein hagenda i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau a phrofiad.
Roedd pob plaid yn y fan yma, wrth gwrs yn rhan o helpu i gomisiynu'r farn seneddol y gwnaethom ni ei derbyn wedyn ac adeiladu arni, ac sy'n ganolog i'n hagenda 'Cymru Iachach'—y cynllun tymor hir ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Ond dylai'r ddadl am ofal cymdeithasol, wrth gamu i'r dyfodol, yn briodol, gynnwys dewisiadau ar gyfer cyllid, gan gynnwys trethu, a byddwn yn ystyried ymchwil presennol a gwaith blaenorol. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae'n rhaid i'r ddadl gydnabod y swyddogaeth sydd gan lywodraeth leol gan mai hi sy'n darparu ac yn comisiynu llawer o'r gofal yr ydym ni wedi'i drafod heddiw. Bydd yn rhaid i bobl yn yr holl wahanol bleidiau a darparwyr eraill hefyd gael eu cynnwys, ac rwyf eisiau amlygu'r ffaith bod y sgwrs gyda llywodraeth leol yn digwydd ar draws sawl haen wahanol o arweinyddiaeth wleidyddol: Mae cynghorau dan arweiniad y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, Annibynnol a Llafur Cymru yn rhan o'r drafodaeth yr ydym ni eisiau ei chael, ac yn ei chael, gan gynnwys trafodaeth â Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n ystyried y pwynt a wnaeth Vikki Howells—pan fyddech chi'n siarad ag arweinwyr ac aelodau cabinet awdurdodau lleol, fe welwch chi mewn gwirionedd bod eu prif bryder ynghylch cyllid yn y dyfodol yn ymwneud â gofal cymdeithasol ac addysg, y ddau floc mawr o ran gwariant, a sut y byddan nhw'n llwyddo i gynnal gwariant yn y maes hwn, nid yn unig o safbwynt ariannol, ond, mewn gwirionedd, o safbwynt ansawdd y gofal y bydden nhw'n dymuno ei weld yn cael ei ddarparu yn eu cymunedau lleol. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i ystyried syniadau newydd ac unrhyw ddulliau creadigol sy'n bodoli, yn enwedig wrth inni ddatblygu modelau gofal newydd—i barhau i hybu dull ataliol, i wneud defnydd llawn o'r dechnoleg sy'n bodoli eisoes a thechnoleg newydd i helpu pobl cymaint â phosib i aros yn annibynnol a chael cefnogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Ac wrth gwrs bydd cwestiynau ynghylch faint o refeniw newydd yr ydym ni'n disgwyl ei godi. Felly, nid yn unig sut y defnyddiwn ni'r refeniw sydd gennym ni yn awr, ond sut i godi refeniw newydd a beth fyddai, neu y dylai hynny ei ddarparu. Ac mae cwestiynau wedi eu holi a nifer o sylwadau wedi eu gwneud ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. I ddisodli refeniw neu i godi refeniw newydd? Rydym ni'n dymuno i i fwy o refeniw fod ar gael. Fe drof i at rai o'r sylwadau a wnaed—ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un—ond mae gennym ni'r ddadl hon ynghylch pa un a fyddwn ni'n mynd i rigol a dim ond siarad yn unig am ariannu gwasanaethau hanfodol. Felly, fe ddywedaf i mai £1.2 biliwn yw cost isaf cyni—dim ond cadw ar yr un raddfa â chwyddiant, nid cadw ar yr un raddfa â chynnyrch domestig gros. Cawn wedyn ein beio gan bleidiau eraill. Rydym ni'n ymateb drwy ddweud mewn tri etholiad cyffredinol olynol o hyrwyddo cyni, ni chawn ni mewn gwirionedd gyfle i fynd i'r afael â'r heriau sydd gennym ni, naill ai yng Nghymru neu yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae dewisiadau i'w gwneud o fewn ein cyllideb, ac rydym ni wedi gwneud dewisiadau, oherwydd does dim dewis nad oes effaith iddo wedyn. Fe wnaethom ni ddewis, o fewn cyllideb gyffredinol a oedd yn crebachu, i fuddsoddi mwy yn ein GIG, ac mae hynny'n effeithio ar bob llinell gyllideb a ariennir gennym ni. Does dim diben cymryd arnom ni na ddigwyddodd hynny. Ond o ran gofal cymdeithasol, os na allwn ni gynhyrchu refeniw ychwanegol, yna bydd yn rhaid inni dderbyn y bydd ein gwasanaeth gofal yn crebachu a'r ansawdd yn gostwng. Felly, nid yw hyn dim ond yn ymwneud â chodi refeniw ychwanegol i gynnal gwasanaeth; rydym ni eisiau codi refeniw ychwanegol i gynnal a hefyd i wella gwasanaeth. Felly, nid yw'n ymwneud ag ymateb i'r her ddemograffig yn unig. A'n pryder mwyaf, wrth gwrs, yw bod gofal cymdeithasol bob amser wedi dibynnu ar brawf modd, pan nad yw'r GIG ers ei greu wedi dibynnu ar brawf modd. Ac mae llawer o'n dinasyddion yr ydym ni'n eu cynrychioli wedi synnu bod gofal cymdeithasol yn dibynnu ar brawf modd—ar yr adeg y mae angen gofal cymdeithasol arnyn nhw, maen nhw'n synnu bod yn rhaid iddyn nhw gael rhyw fath ar brawf modd.
Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Dai Lloyd ynglŷn â'i ddymuniad i gael gwasanaeth gofal gwladol a'r pwynt ehangach ynghylch gwella gwasanaethau i ddinasyddion—y dinesydd sydd angen urddas yn y gofal y mae'n cymryd rhan ynddo ac yn ei gael, ond hefyd urddas yr aelod o staff sy'n darparu'r gofal hwnnw. Roeddwn yn falch iawn, yn y ddadl, bod nifer o Aelodau wedi gwneud y sylw eu bod wedi gweld gofal cymdeithasol ar waith, maen nhw wedi ymweld â phobl ac wedi cael profiadau personol eu hunain, ac maen nhw'n llawn edmygedd o ansawdd y gofal y mae ein staff yn ei ddarparu, ac yn aml staff nad ydyn nhw'n cael eu talu'n dda iawn. Nid yw'r her, rwy'n cytuno, yn fater o gyllid yn unig, ond mae angen inni symud ymlaen gyda modelau ariannu newydd os ydym ni'n mynd i ymateb i heriau demograffig a heriau ansawdd ar gyfer y dyfodol.
Fel y dywedais yn gynharach, Llywydd, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr, ond yn cefnogi'r ail. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac edrychaf ymlaen at barhau â'r sgwrs hon i lywio ein dewisiadau ar gyfer datblygu modd o ariannu costau gofal cymdeithasol yma yng Nghymru yn y dyfodol ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at allu gwneud hynny yn fy mhlaid fy hun, ac ar draws gwahanol bleidiau a gyda gwahanol bartneriaid o fewn a'r tu allan i'r lle hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef y cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau ar Gyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Rydw i'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Cynnig NDM6910 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) adrannau 2-4;
b) atodlen 1;
c) adrannau 5-9;
d) atodlen 2;
e) adrannau 10-26;
f) adran 1;
g) teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Nid oes siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM6904 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hyn â ni at yr eitem ei hunan, sef y cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM6905 Mark Drakeford
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
David Melding.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddweud nad yw'r sylwadau yr wyf yn mynd i'w gwneud yn adlewyrchu ar yr unigolyn mewn unrhyw ffordd, sy'n rhywun y mae gennyf lawer o barch tuag ato? Ond mae Jeremy Miles wedi'i restru ar wefan Llywodraeth Cymru fel, ac rwy'n dyfynnu, 'y Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit'. Mae ei ddyletswyddau fel Gweinidog, hyd y gwelaf i, yn cynnwys cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar bontio Ewropeaidd, cronfeydd strwythurol yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin. Cafodd y Prif Weinidog ei longyfarch gan un o Aelodau meinciau cefn y blaid Lafur y prynhawn yma ar benodi Gweinidog Brexit ac ymatebodd y Prif Weinidog i hynny wedyn drwy ddweud ei fod yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y swyddogaeth o gydgysylltu gan y Gweinidog hwnnw.
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dwyn y teitl 'Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion', gyda'r is-deitl 'Gwybodaeth am Weinidogion Llywodraeth Cymru a Dirprwy Weinidogion'. Nid yw swydd y Cwnsler Cyffredinol wedi ei rhestru ar wahân ar y dudalen honno. Mae 14 o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion wedi eu rhestru, gan gynnwys y Prif Weinidog. Llywydd, mae angen inni gael eglurhad o'r canlynol: sut mae'r trefniant hwn yn cydymffurfio ag adrannau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n cyfyngu ar nifer y Gweinidogion i 12, heb gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol? Fy nehongliad i o hynny yw ei fod yn caniatáu ar gyfer 13 o Weinidogion yn ogystal â Chwnsler Cyffredinol. Yn ail ac yn ychwanegol at hynny, sut mae'n cyflawni gofynion adran 49(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006? Ac, os caf i ddarllen o honno:
Ni cheir penodi unigolyn sy'n cyflawni swydd y Prif Weinidog, Gweinidog Cymru a benodwyd o dan adran 48 na Dirprwy Weinidog Cymru yn Gwnsler Cyffredinol na'i ddynodi o dan is-adran (6); ac ni cheir penodi'r Cwnsler Cyffredinol nac unigolyn a ddynodir i'r swydd honno i unrhyw un o'r swyddi hynny,
h.y. ni chaiff fod yn Weinidog. Yn amlwg, byddwn yn cael rhyw fath o esboniad, ond rwyf yn gweld y cynnig hwn yn dra afreolaidd ac yn un sydd angen eglurhad pellach o leiaf, oherwydd fy mod yn credu ein bod yn torri Deddf Llywodraeth Cymru. Felly, bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar y cynnig hwn y prynhawn yma.
Rwyf innau'n codi i ddatgan y byddwn ni fel grŵp yn methu â chefnogi'r cynnig yma. Mi fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yma. Mi wnaf innau egluro fy rhesymau i, ac, fel David Melding, mi wnaf innau egluro nad oes gen i broblem efo Jeremy Miles yn bod yn Gwnsler Cyffredinol, na phroblem efo Jeremy Miles yn bod yn Weinidog Brexit. Y cwestiwn yn y fan hyn ydy: sut y gall hi fod yn gymwys i un person fod yn gwneud y ddwy swydd, pan fo'n ymddangos yn berffaith glir mewn deddfwriaeth i ni na ddylai hynny allu digwydd, oherwydd mae yna wrthdaro amlwg yma?
Mae Llywodraeth Cymru ar eu gwefan, Cyfraith Cymru, yn egluro yn glir beth ydy rôl Cwnsler Cyffredinol. Y Cwnsler Cyffredinol, mae'n dweud, yw:
'Swyddog y Gyfraith Llywodraeth Cymru, sef prif gynghorydd cyfreithiol a chynrychiolydd y Llywodraeth yn y llysoedd. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio hefyd i gynnal trefn y gyfraith. Mae gan y rôl nifer o swyddogaethau statudol penodol pwysig, a bydd rhai’n cael eu hymarfer yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac er budd y cyhoedd.'
Heddiw, rydym ni'n cael ein gofyn i gymeradwyo penodiad un sydd yn methu â gweithredu yn wirioneddol annibynnol ar Lywodraeth Cymru, oherwydd ei fod o'n cael ei nodi gan Lywodraeth Cymru eu hunain, fel y clywsom ni gan y siaradwr blaenorol, fel un o'u Gweinidogion nhw—a Gweinidog, wrth gwrs, yn un o'r meysydd mwyaf dyrys a chymhleth mae Llywodraeth Cymru'n gorfod ymwneud â fo ar hyn o bryd.
Mi allwch chi ddadlau bod synnwyr yn hyn, gan fod cymaint o'r gwaith sy'n ymwneud â Brexit yn faterion cyfreithiol cymhleth. Ond rôl y Cwnsler ydy i roi cyngor cyfreithiol i Lywodraeth, i roi cyngor cyfreithiol i'r Gweinidog Brexit. Gan gymryd bod Brexit yn ymwneud â chymaint o waith y Llywodraeth, mi fyddai'r Cwnsler Cyffredinol, rydw i'n cymryd, yn treulio rhan helaeth o'i waith yn rhoi cyngor cyfreithiol iddo fo ei hun. Mi wnaf i ofyn y cwestiwn yma i'r Llywodraeth: pa drefniadau sydd wedi cael eu gwneud i sicrhau bod y Cwnsler Cyffredinol, sydd hefyd yn Weinidog Brexit, yn gallu mynd at ffynhonnell annibynnol o gyngor cyfreithiol? Mae'r ffaith bod y cwestiwn hwnnw'n gorfod cael ei ofyn gen i yn brawf nad ydy Cwnsler Cyffredinol sydd hefyd yn Weinidog Brexit yn gallu gwneud y gwaith hwnnw yn iawn.
Fel y dywedodd David Melding yn gwbl glir, mae Deddf Llywodraeth Cymru yn nodi:
Na cheir penodi unigolyn sy'n cyflawni swydd y Prif Weinidog, Gweinidog Cymru a benodwyd o dan adran 48 na Dirprwy Weinidog Cymru yn Gwnsler Cyffredinol...ac ni cheir penodi'r Cwnsler Cyffredinol nac unigolyn a ddynodir i'r swydd honno i unrhyw un o'r swyddi hynny.
Nawr, rwy'n tybio y dywedir wrthym na chafodd ei benodi'n Weinidog o dan adran 48, ond, a dweud y gwir, mae ef ei hun yn dweud, fel y sawl a enwebwyd ar gyfer y swydd Cwnsler Cyffredinol, ar ei dudalen Twitter ei fod yn Weinidog Brexit, ac nid bod ganddo gyfrifoldebau dros Brexit. Felly, os yw hynny'n gamgymeriad cyfreithiol, fe adawn ni'r mater yn y fan yna, ond mae ef ei hun yn galw ei hun yn Weinidog Brexit, mae'r Llywodraeth eisoes yn ei alw'n Weinidog Brexit, ac mae'r ddeddfwriaeth yn datgan yn eglur na chaiff Gweinidog gael ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol hefyd.
Y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi codi'r pwyntiau hyn. Maen nhw'n bwyntiau cwbl briodol i'r Aelodau eu codi, wrth gwrs. Ond rwyf i eisiau eu sicrhau nhw a'r Aelodau yn fwy cyffredinol, bod y materion hyn, wrth gwrs wedi eu nodi'n fanwl iawn ac wedi eu hystyried yn ofalus ac wedi bod yn destun cyngor llawn a roddwyd i mi cyn i benodiadau i'r Cabinet gael eu gwneud. Ac mae'r Cabinet wedi ei lunio mewn modd sy'n gwbl gyson â Deddf Llywodraeth Cymru. Felly, fel yr ydych chi wedi ei glywed eisoes, ni cheir penodi'r unigolyn a benodwyd i swyddogaeth y Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru ar yr un pryd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac nid yw hynny wedi digwydd yn yr achos hwn. Ac mae'n dilyn felly na chaiff yr unigolyn a benodir yn Gwnsler Cyffredinol arfer unrhyw swyddogaethau a roddir drwy statud ar Weinidogion Cymru, ac mae'r swyddogaeth a gyflawnir gan Jeremy Miles wedi ei llunio i sicrhau nad oes unrhyw ddyletswyddau o'r math hwnnw yn berthnasol iddo ef. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae swyddogaeth y Cwnsler Cyffredinol, ar wahanol adegau, eisoes wedi ymestyn i feysydd polisi ehangach i gefnogi Gweinidogion Cymru, yn fwyaf diweddar, er enghraifft, ynglŷn ag agweddau ar bolisi cyfiawnder. Pan fo hynny wedi digwydd, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithredu mewn swyddogaeth eirioli a chydgysylltu ac nid yw'n ymwneud â swyddogaethau statudol sy'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Yn y Llywodraeth hon, bydd Jeremy Miles yn arfer y cyfrifoldebau canlynol fel Gweinidog Brexit: cyngor ar bolisi i Lywodraeth Cymru ar strategaeth Brexit; cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau; gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n deillio o'r cytundeb rhynglywodraethol a phrotocolau eraill; a chydgysylltu gweithgareddau yn y modd y cyfeiriodd David Melding ato—cydgysylltu gweithgareddau o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau ymagwedd gydlynol a chyson tuag at Brexit. Nid oes yr un o'r rhain yn cynnwys swyddogaethau Gweithredol. Felly, nid oes yr un ohonyn nhw yn mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Pe byddai achosion pryd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â mater sy'n gofyn am benderfyniad ffurfiol lle mai dim ond Gweinidogion Cymru gaiff ei wneud, yna, wrth gwrs, bydd y penderfyniadau hynny yn cael eu trosglwyddo i mi yn y lle cyntaf, ac, os na fyddaf i'n mynd â nhw at Weinidog perthnasol arall, eu cyflawni. Yn y modd hwnnw, caiff gofynion y Ddeddf eu diogelu'n ofalus, a'u gwahanu yn y ffordd y lluniwyd y swydd, ac rwyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn derbyn bod hyn wedi ei wneud mewn modd gofalus a deallus iawn, ac nad yw'n gwrthdaro â'r pryderon dilys y mae'r ddau Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol a'r bleidlais ar welliant 1. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, un yn ymatal, 30 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
NDM6906 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 30, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
NDM6906 - Gwelliant 2: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6906 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, 'Talu am Ofal Cymdeithasol'; a
c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, tri yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
NDM6906 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 38, Yn erbyn: 10, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A'r bleidlais nesaf ar y cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, 14 yn ymatal, chwech yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.
NDM6905 - Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol: O blaid: 31, Yn erbyn: 6, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, felly, yn cyrraedd diwedd ein trafodion am y dydd heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:39.