Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/12/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni am y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Blaenoriaethau Economaidd

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn darparu ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53102

Rydym ni'n cymryd ystod o gamau, gan gynnwys sefydlu tasglu'r Cymoedd, i gefnogi economi gryfach a thecach, ac i ganiatáu i fusnesau ddatblygu, tyfu a ffynnu nid yn unig ym Merthyr Tudful a Rhymni, wrth gwrs, ond ar draws Cymru gyfan.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwn, ar draws lawer o elfennau'r rhaglen lywodraethu, y gallwch chi ymfalchïo yn y ffaith eich bod wedi arwain Llywodraeth sy'n cyflawni gwelliannau yn fy etholaeth i. Byddwch yn cofio ein bod ni wedi agor ysgolion newydd ac wedi ailwampio ysgolion, ein bod ni wedi croesawu buddsoddiadau newydd, gan gynnwys General Dynamics ym Mhentre-bach, Sharp Clinical yn Rhymni, ac, wrth gwrs, gwaith deuoli parhaus ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydym ni'n buddsoddi dros £130 miliwn mewn ailwampio Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac mae £200 miliwn arall i ddilyn, ac rydym ni'n gweld y gwaith adfywio sydd wedi gweddnewid canol ein tref, a chymorth i atyniadau twristiaeth lleol mawr, fel BikePark Cymru a Rock UK. Felly, a gaf i roi ar y cofnod fy niolch i chi, Carwyn, am eich cyfnod fel ein Prif Weinidog, ac am y cymorth yr ydych chi wedi ei roi i'm hetholaeth i? A gaf i ofyn i chi fy sicrhau y byddwch chi'n parhau i helpu i gefnogi'r ddarpariaeth o'n gwerthoedd a'n hymrwymiadau Llafur Cymru yr mor groch o'r meinciau cefn ac yr ydych chi wedi ei wneud yn y Llywodraeth?

Wel, mae hwnna'n gwestiwn arbennig o anodd y mae fy nghyd-Aelod newydd ei ofyn i mi, ond diolchaf iddi am ei sylwadau ac, wrth gwrs, yr hyn y mae hi wedi ei ddweud. Mae'n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni wedi gweld newid aruthrol i economi Merthyr a Rhymni dros y degawd diwethaf, byddwn i'n dadlau, gyda Merthyr bellach yn cael ei ystyried yn arbennig erbyn hyn fel man lle ceir buddsoddiad a swyddi wrth i Tenneco a General Dynamics, wrth gwrs, gael eu denu i'r ardal.

Byddaf yn parhau i fod mor groch ag y gallaf o'r meinciau cefn—ond heb godi trafferth—wrth gefnogi gwerthoedd yr wyf i'n credu sy'n cynrychioli tegwch, cyfiawnder a chyfle. Ac mae hynny'n rhywbeth y gwn sy'n cael ei rannu yn ddwys dros ben rhyngof i ac arweinydd Llafur Cymru, a gobeithio yfory, Prif Weinidog Cymru.

Gan mai dyma'r achlysur gorau, neu'r achlysur olaf, y byddwch chi'n ateb cwestiynau yn y Cynulliad hwn fel y Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi dderbyn fy nymuniadau gorau diffuant i a ninnau ar gyfer eich dyfodol oddi wrth yr ochr hon i'r Siambr. Yn yr ysbryd hwn o ewyllys da tymhorol, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith, diolch i bolisïau economaidd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain—[Torri ar draws.]—yn Llundain, bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 55 y cant ers 2010, diolch i'n polisïau ni? Diolch.

Wel, bu achlysuron, wrth gwrs, pan ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU—mae'r bargeinion dinesig yn enghraifft o hynny. Ond os edrychwn ni, er enghraifft, ar ddiweithdra yng Nghymru, mae ar lefel sy'n cyfateb i gyfartaledd y DU. Mae anweithgarwch economaidd ar ei isaf erioed, mae cyfraddau cyflogaeth ar eu huchaf erioed, roedd 18,000 o bobl ifanc yn gallu elwa ar Twf Swyddi Cymru, ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad a wnaed ym Merthyr a chymunedau eraill dros flynyddoedd lawer iawn. Ac rydym ni'n gweld yr hyn sy'n digwydd pan fo Llywodraeth yn ymrwymo i gymunedau Cymru, yn buddsoddi ynddyn nhw ac yn darparu swyddi i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.

Y Grid Cenedlaethol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddaraf gyda'r Grid Cenedlaethol am gysylltiad gogledd Cymru? OAQ53103

Mae swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd gyda’r Grid Cenedlaethol am amryw o faterion, gan gynnwys y prosiect arfaethedig ar gysylltiad y gogledd, sy’n mynd drwy’r broses Gorchymyn caniatâd datblygu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei sylwadau ar gyfer y broses hon.

Diolch yn fawr iawn. Mi hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn ei sesiwn holi olaf, ac i ddiolch am ei gwrteisi yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf yn ateb cwestiynau ar ran fy etholwyr i.

Roedd etholwraig o ardal Star, Gaerwen yn ei dagrau ar y ffôn efo fy swyddfa i ddoe, fel mae'n digwydd, yn teimlo ei bod hi o dan warchae o dan gynlluniau'r grid—dyna'r teimlad sydd yna yn Ynys Môn. Ac mae'r grid, wrth gwrs, yn dal, yn groes i ddymuniadau pobl yr ynys a'i chynrychiolwyr etholedig hi, am fwrw ymlaen efo codi rhes newydd o beilonau ar draws yr ynys. Ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma wedi pleidleisio yn erbyn cael peilonau ac o blaid tanddaearu fel mater o egwyddor. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion rŵan, yn y fforwm yma, fel un o'ch gweithredoedd olaf fel Prif Weinidog, i gysylltu ac ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio i annog gwrthod caniatáu y peilonau yma, a hefyd i ysgrifennu at Ofgem, fel rydwyf i wedi gwneud yr wythnos yma, i fynnu bod rhaid i'r grid roi ystyriaeth go iawn i roi eu gwifrau ar bont newydd dros y Fenai, yn hytrach na thyllu twnnel ar gost o bosib o £200 miliwn? Mi fyddai'n arbed arian i Lywodraeth Cymru drwy gael cyd-fuddsoddwr yn y bont, ac yn arbed arian i'r grid, a allai wedyn gael ei fuddsoddi mewn tanddaearu. 

13:35

Rwy'n cytuno'n hollol gyda hynny. Un o'r problemau sydd wedi bod ym Mhrydain dros y blynyddoedd yw nad oes digon o ystyriaeth wedi cael ei rhoi i sicrhau, os yw un project yn mynd ymlaen, fod rhywbeth arall yn gallu mynd ymlaen o achos hynny. Un enghraifft, wrth gwrs, yw'r ffaith bod gyda ni bont Hafren a dim ond ceir sy'n mynd ar draws y bont, ac nad oes deck felly i'r rheilffordd yna. Ond, gyda'r bont dros y Fenai, mae'n hollbwysig i'r grid sylweddoli bod hwn yn opsiwn sy'n dda dros ben. Mae'n safio arian i bawb, ac, wrth gwrs, mae'n ffordd i sicrhau bod y costau ynglŷn ag adeiladu'r bont newydd yn cael eu lleihau. 

Ynglŷn â'r grid ei hunan, rydym ni'n dal i bwyso ar y grid i leihau'r impact o unrhyw linellau newydd, ac, wrth gwrs i sicrhau bod tanddaearu yn cael ei ystyried o ran materion amgylcheddol a hefyd gymunedol, ac, wrth gwrs, iddyn nhw ystyried tanddaearu fel rhywbeth o ddifrif, achos rwy'n deall y consýrn sydd gan bobl ar Ynys Môn, a dyna pam mae'n hollbwysig bod y grid yn ystyried y ffaith bod rhaid iddyn nhw feddwl am sicrhau, mor belled ag sy'n bosib, bod unrhyw linellau newydd yn cael eu claddu. 

O ran eich swyddogaeth yn y dyfodol, gwn fod hwn yn ddiwedd pennod, ond nid y llyfr. Rwyf ar ddeall hefyd efallai fod gan Mrs Jones rai syniadau i chi, ynghylch pa weithgareddau y gallech chi fod yn ymgymryd â nhw yn y dyfodol, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau.

Roeddwn i'n falch o fod yn bresennol yng nghyfarfod 28 Medi ac i siarad yng nghyfarfod cyhoeddus 'Dim Peilonau ar Ynys Môn' ym Mhorthaethwy, i drafod y cam nesaf, nawr bod y Grid Cenedlaethol wedi cyflwyno cais am ganiatâd datblygu i'r arolygiaeth gynllunio. Fel y dywedais, mae manteision o ran cost i'r cynigion ar gyfer peilonau, ond nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y ddadl gyffredinol o blaid claddu ceblau mewn ardaloedd o harddwch naturiol aruthrol a helpu'r economi leol gymaint â phosibl. Fodd bynnag, mae hyn i gyd yn seiliedig ar Wylfa yn y bôn, a Wylfa Newydd yn y dyfodol. Pa ymgysylltiad neu drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi eu cael yn dilyn cyhoeddusrwydd ddoe yn nodi bod sïon erbyn hyn, ac y byddai bwrdd Hitachi yn cyfarfod yn Japan heddiw i drafod y mater hwn oherwydd pryderon ynghylch amcanestyniadau o gynnydd i gostau adeiladu yn y dyfodol?

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod ac eraill am eu dymuniadau caredig? Rwy'n credu fy mod i wedi cynnal 320 o sesiynau cwestiynau i'r Prif Weinidog a gofynnwyd 3,000 a mwy o gwestiynau i mi. Gadawaf i bobl eraill farnu pa un a wnes i ateb y rhan fwyaf ohonynt, neu unrhyw un ohonynt, yn wir. Rwy'n siŵr y bydd gan bawb ei farn ar hynny.

Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r sïon yn y wasg ynghylch buddsoddiad Hitachi. Sïon yn y wasg yw'r rhain. Mae'n broses gymhleth. Mae Horizon wedi bod mewn trafodaethau ffurfiol gyda Llywodraeth y DU ers datganiad cadarnhaol yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Mehefin eleni ynghylch ariannu Wylfa Newydd, mewn modd, wrth gwrs, sy'n gweithio i fuddsoddwyr a marchnad drydan y DU. Nid oes dim y tu hwnt i'r sïon yn y wasg i awgrymu bod y prosiect mewn perygl mewn unrhyw ffordd, ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd.

Prif Weinidog, yn eich naw mlynedd yn y swydd, beth ydych chi'n teimlo yr ydych chi wedi ei ddysgu a pha gyngor fyddech chi'n ei roi i'r Prif Weinidog newydd?

Wel, mae rhywun bob amser yn dysgu. Rydych chi bob amser yn dysgu. Nid oes byth adeg pan fyddwch chi'n gwybod popeth, yn amlwg. Pa gyngor fyddwn i'n ei roi i'm holynydd? Rwyf i wedi ei ddweud o'r blaen: mae'n hynod bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng y swydd a'ch bywyd, oherwydd mae'n bwysig cael amser i feddwl, ac nid yw gweithio ddydd a nos bob un dydd yn ffordd dda nac yn ffordd gynaliadwy o weithio. Ond mae wedi bod yn anrhydedd mawr cael gwneud y swydd hon am naw mlynedd, ac mae naw mlynedd yn ddigon.

Diolch am yr ymateb yna. Fel y gwyddoch, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb yn fuan am godi cyfran o'i refeniw trwy dreth incwm, a dyma'r maes polisi olaf yr hoffwn i ei godi gyda chi yn y Siambr hon. Diolch i Lywodraeth y DU, mae cyfraddau treth incwm i bobl sy'n gweithio ledled y DU wedi lleihau'n sylweddol ers 2010. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cadw mwy o'r hyn y maen nhw yn ei ennill a bydd y lwfans personol di-dreth yn cynyddu i £12,500 yn fuan. Mae dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru wedi elwa ar y cynnydd a wnaed i'r lwfans personol a'r trothwy cyfradd uwch, ac mae 41,000 o bobl yng Nghymru nac ydyn nhw'n talu unrhyw dreth incwm o gwbl erbyn hyn. Ynghyd â'r cynnydd cyson i'r cyflog byw cenedlaethol, y mae 81,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa arno, nid oes amheuaeth bod hyn wedi helpu i gryfhau marchnad lafur ac economi Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod buddiannau economaidd hirdymor Cymru yn cael eu bodloni orau trwy ddarparu sicrwydd cadarn i aelwydydd a busnesau y bydd cyfraddau treth incwm yn parhau i fod yn isel yma yng Nghymru?

13:40

Wel, bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, mai'r ymrwymiad maniffesto a roddwyd gennym fel plaid yn 2016 oedd na fyddem ni'n newid cyfraddau treth incwm. Ond, wrth gwrs, rydym ni wedi sicrhau ein bod ni wedi bwrw ymlaen gyda chymdeithas decach. Mae'n sôn am y ffaith bod llai o bobl yn talu treth, ond mae gennym ni dlodi o hyd, mae gennym ni bobl yn defnyddio banciau bwyd o hyd—mae gennym ni bobl mewn gwaith cyflogedig sy'n defnyddio banciau bwyd. Mae hynny o ganlyniad, wrth gwrs, i roi terfyn ar gredydau treth plant fel yr oedden nhw o'r blaen. Ni allwn, fel cymdeithas, does bosib, fod yn hapus pan, mewn blynyddoedd a fu, yr oeddem ni'n arfer dweud, 'Cael swydd yw'r ffordd allan o dlodi'. Nid yw hynny'n wir mwyach. Oherwydd diffyg sicrwydd sydd gan bobl yn eu swyddi a'r ffaith bod gan bobl fwy nag un swydd weithiau, ni allwn ddweud yn onest, o ddifrif calon, ei bod hi'n anochel y bydd pobl yn canfod eu hunain mewn sefyllfa well os byddant yn cael swydd. Ac mae honno'n her, wrth gwrs, i pob plaid yn y dyfodol.

Prif Weinidog, er yr holl groesi cleddyfau ar draws y Siambr hon, ni all neb fod ag unrhyw amheuaeth am yr ymdrechion a'r aberthau yr ydych chi wedi eu gwneud mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol, cawsom ein huno gan ymrwymiad disyflyd i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu ac rydych chi wedi cyflawni'r ddyletswydd honno gydag ymroddiad a selogrwydd. Felly, ar ran y meinciau hyn ac ar ran plaid Geidwadol Cymru, a gaf i ddymuno'n dda i chi a'ch teulu a dymuno pob llwyddiant i chi yn beth bynnag y byddwch yn ei wneud yn y dyfodol?

Wel, mae hynna'n garedig iawn. Yr un peth y gwnaf i ei ddweud—dim ond i dynnu ei goes—yw fy mod i'n meddwl mai dyna'r tro cyntaf mewn pedair sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog nad yw wedi defnyddio'r gair 'shambles' [Chwerthin.]. Ond rwyf yn diolch yn fawr iawn iddo am ei eiriau. Bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, bod angen dadl rymus yn y Siambr hon. Mae gennym ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon wahanol safbwynt o'r byd ac yn y Siambr hon y mae'n rhaid cynnal y ddadl rymus honno a phrofi syniadau. Ond bydd hefyd yn gwybod mai anaml y mae'n wir, os o gwbl, bod hynny'n cael ei barhau ar lefel bersonol. I mi, ydw, rwyf i wedi bod yma ers naw mlynedd yn ateb cwestiynau ac efallai y gwnaf i aros ar ôl hynny—pwy a ŵyr? Ond, rwy'n ddiolchgar iddo am yr hyn a ddywedodd a dymunaf yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn y maniffesto a gyhoeddwyd yn ystod eich ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2009, 'Amser i arwain', fe ddywedoch chi, yn hollol gywir, a minnau'n dyfynnu, fod arnom angen diwylliant buddsoddi, nid diwylliant grantiau o ran ein polisi economaidd ni. Eto, rai dyddiau nôl, dywedoch chi taw'r cyflawniad economaidd rŷch chi'n fwyaf balch ohono oedd helpu achub cwmni dur Tata ym Mhort Talbot a dod ag Aston Martin i Sain Tathan. Ai dyna'r weledigaeth fawr newydd, y model newydd, yr oedd gennych chi mewn meddwl naw mlynedd yn ôl?

Roedd hi'n hollbwysig i sicrhau swyddi gweithwyr Tata, ac rwy'n falch dros ben ein bod ni wedi sicrhau hynny. Mae'n hollbwysig i sicrhau y byddwch chi'n gallu denu buddsoddiad o dramor ac o weddill y Deyrnas Unedig, ac rŷm ni wedi bod yn llwyddiannus iawn ynglŷn â gwneud hynny. Os rwy'n deall, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yw beth, felly, ydym ni'n ei wneud i fusnesau bach. Beth ydym ni'n ei wneud i hybu diwylliant o entrepreneuriaeth yng Nghymru? Ac nid wyf i'n gweld ein bod ni'n gallu gwneud yr un a heb wneud y llall. Felly, wrth gwrs, mae gennym ni'r banc datblygu sydd wedi cael ei sefydlu. Rŷm ni'n gweld mwy o fusnesau'n cael eu creu yng Nghymru, a hefyd, wrth gwrs, yr her fwyaf yw sicrhau nad yw'r busnesau hynny sydd yn tyfu yn gwerthu i gwmni mawr ond yn gweld eu bod nhw eisiau tyfu ac yn gallu tyfu i mewn i gwmnïau a busnesau mawr. Un o'r gwendidau sydd gennym ni yn economi Cymru yw taw bach iawn o gwmnïau mawr neu sefydliadau mawr sydd gennym ni yng Nghymru lle mae pencadlys gyda nhw yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i weld yn newid yn y dyfodol.

13:45

Naw mlynedd yn ôl, yn eich maniffesto hefyd, roeddech chi wedi dweud bod tlodi plant yn parhau i fod yn bla ar ormod o'n cymunedau. A ydych chi'n difaru, felly, fod tlodi plant o dan eich gofal chi wedi cynyddu, gan effeithio nawr ar dros un ym mhob tri o blant yng Nghymru? Ac os felly, sut ydych chi'n cyfiawnhau'r ffaith eich bod chi, yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, wedi gollwng eich targed chi ar gyfer lleihau tlodi plant erbyn diwedd y ddegawd yma? Ble oedd y ddegawd o ddelifro mewn gwirionedd ar gyfer plant Cymru? Wrth gwrs, mae arweinydd newydd gyda'r Blaid Lafur nawr, sydd hefyd wedi dweud bod tlodi plant yn mynd i fod yn flaenoriaeth, ac mae hynny i'w groesawu. Ond onid yw hyn yn nodweddiadol, a dweud y gwir, o weinyddiaethau Llafur, yn mynd yn ôl dros 20 mlynedd: datganiadau mawr o fwriad, camau bach, diffyg cynnydd, ac ar gyfer cannoedd o filoedd o'n plant a'n pobl, dim gobaith o gwbl?

Wel, yn gyntaf fe allaf i bwyntio, wrth gwrs, at beth rydym ni wedi'i wneud i sicrhau lleihad mewn tlodi plant a theuluoedd, er enghraifft, a beth rydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, gyda gofal plant. Mae hynny'n hollbwysig i sut gymaint o deuluoedd, ond, wrth gwrs, nid ydym ni'n rheoli'r system les, nid ydym ni'n rheoli'r system drethu. Mae'r gwasgiad wedi cael effaith, wrth gwrs, ar deuluoedd, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y newidiadau yn y credydau sydd ar gael yn y system drethu. Mae'n dangos, wrth gwrs, ein bod ni fel Llywodraeth Llafur yng Nghymru yn gallu gwneud llawer, ond mae yna limit—mae hynny'n wir. Dyna pam, wrth gwrs, mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweld Llywodraeth Lafur ar draws y Deyrnas Unedig i weithredu yn y pen draw.

Ie, ond, Prif Weinidog, nid yw'n ddigon, nad ydyw, i roi'r bai ar San Steffan am ein holl ofidiau? Nododd adroddiad diweddar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar dlodi yng Nghymru bod cyfraddau tlodi yng Nghymru wedi wedi cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag ar draws y DU, a nododd adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi y mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth yr Alban y gellid bod wedi eu cymryd yma yng Nghymru i ddarparu o leiaf rhywfaint o ddiogelwch i'n pobl, pe byddech chi wedi dadlau'r achos dros ddatganoli.

Nawr, naw mlynedd yn ôl dywedasoch hefyd yn eich maniffesto, gan nodi eich dyheadau arweinyddiaeth—mynegwyd gennych mai un blaenoriaeth fyddai, a dyfynnaf,

buddsoddi mewn strategaeth drafnidiaeth werdd

ac archwilio

ymarferoldeb ailagor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth.

Ac eto, yn ystod eich cyfnod yn y swydd, yr un fenter trafnidiaeth i chi gael eich cysylltu fwyaf â hi yw adeiladu ffordd liniaru 14 milltir yr M4—cynnig yr wyf i'n awgrymu yn dringar nad yw'n dangos dull gwyrdd o ymdrin â thrafnidiaeth. Ac nid yw ychwaith wedi bod yn un y mae eich Llywodraeth wedi gallu gwneud penderfyniad ynglŷn ag ef. Roedd rhai yn meddwl mai'r ffordd liniaru fyddai eich penderfyniad olaf yn y swydd, er ein bod ni'n gwybod erbyn hyn nad yw hynny'n mynd i fod yn wir. Felly, a gaf i gynnig dewis amgen i chi, Prif Weinidog? Mae'r astudiaeth a addawyd gennych naw mlynedd yn ôl ar reilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth newydd gael ei chyhoeddi. Gwelsom y lluniau o Aberystwyth—tref eich alma mater, wrth gwrs—ar y rhaglen neithiwr. Os nad ydych chi eisiau gwneud argymhelliad i'ch olynydd ynglŷn â ffordd, beth am wneud hynny ynglŷn â rheilffordd? Oni fyddai honno'n etifeddiaeth y gallech chi fod yn haeddiannol falch ohoni?

Wel, wrth gwrs, mae temtasiwn direidus i ymrwymo i unrhyw beth yn eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf, ond mae'n well i mi beidio â gwneud hynny. [Chwerthin.] Mae rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth yn brosiect sy'n agos at fy nghalon, er bod iddo gost aruthrol yn amlwg. Codwyd y rheilffordd ei hun i raddau helaeth ym 1975, er bod rhan ohoni allan o ddefnydd o'r 1960au ymlaen, a cheir bylchau sylweddol ar y rheilffordd hefyd y byddai angen eu hystyried. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn dweud, 'Wel, nid ffyrdd yw'r ateb.' Mae ffordd osgoi Llandeilo yn un ffordd, wrth gwrs, y gwn y bydd yn ei chefnogi, ac nid wyf i'n anghytuno ag ef—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n anghytuno ag ef. Rwy'n adnabod Llandeilo ac rwy'n ymwybodol o'r problemau traffig yno, felly rwy'n deall y pwynt, ond mae'r cwestiwn—[Torri ar draws.] Mae'r cwestiwn y mae'n ei ofyn am bolisi trafnidiaeth gwyrdd. Wel, wrth gwrs, roedd metro de Cymru yn rhywbeth yr oeddwn i'n arbennig o awyddus i'w gyflwyno, os mai dyna'r—wel, nid dyna'r ymadrodd cywir. Ond i ddechrau, roedd yn brosiect a grybwyllais gyntaf flynyddoedd lawer yn ôl yng nghlwb rygbi Bedwas, o bob man, a nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gweld map ymlaen ar gyfer y metro. Rydym ni'n gwybod na ellir datrys y problemau traffig, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol, gyda ffyrdd; nid yw hynny'n bosibl. Ni fyddai ateb metro yn iawn i Landeilo, gadewch i ni fod yn onest am hynny, ond i lawer o'n cymunedau yng Nghymru—. Y gwir amdani yw nad oes unrhyw ffordd o ledaenu'r ffyrdd i mewn i Gaerdydd. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau amlach, gwasanaethau gwell, trenau â systemau aerdymheru, pris priodol y mae'n rhaid i bobl ei dalu am y gwasanaethau hynny i annog mwy o bobl oddi ar y ffyrdd. Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros flynyddoedd lawer i ddod.

13:50

Diolch, Llywydd. Fel y gwyddom, Prif Weinidog, heddiw yw eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf. Credaf efallai nad yw hwn yn achlysur i fod yn rhy ddadleuol, ac efallai y gallai'r ddau ohonom ni fod ychydig yn fwy myfyriol heddiw. Nawr, rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am naw mlynedd, roeddech chi'n Weinidog am bron cymaint o flynyddoedd cyn hynny, felly rydych chi wedi bod yn ganolog i Lywodraeth Cymru am bron cyhyd ag y mae wedi bodoli. Faint o farciau allan o 10 fyddech chi'n eu rhoi i berfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod eich amser yn y swydd?

Ai dyna'r ateb? [Chwerthin.] Mae hwnnw'n ateb diddorol, ond efallai y bydd gen i  werthusiad gwahanol. A oes meysydd efallai lle'r ydych chi'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi perfformio yn well?

Rwy'n credu mai'r un her sydd ar ôl, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, yw llywodraeth leol. Rwy'n credu nad ydym ni wedi gorffen y gwaith o ran llywodraeth leol. Mater i'r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, yw penderfynu sut i fwrw ymlaen â phethau, ond rydym ni'n gwybod bod gweithio rhanbarthol wedi bod yn llwyddiannus dros ben, ac ni allwn gymryd cam yn ôl pan ddaw i hynny. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau ym maes addysg; mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd ym maes cynllunio, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn y gwasanaethau cymdeithasol. Efallai fod hwnnw'n un maes yr wyf i'n credu nad yw wedi ei ddatrys o hyd—maes pwysig hysbys nad yw, yn fy marn i, wedi ei ddatrys eto a mater, wrth gwrs, i'r Llywodraeth nesaf.

Cawsoch sylw ar raglen BBC Wales neithiwr, Being First Minister—rhaglen ddiddorol iawn—pryd y dywedasoch:

Yr hyn y mae'r cyhoedd yng Nghymru eisiau ei weld yw cyflawni. Nid oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mecaneg; lol yw'r gweddill. Nid yw'n cyfrif cyn belled ag y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn y cwestiwn.

Diwedd y dyfyniad. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd ar sut i leihau'r lol, fel yr ydych chi'n ei alw, a beth yw'r ffordd orau i gyflawni ar ran y cyhoedd yng Nghymru?

Wel, fel y dywedais yn y rhaglen, yr hyn sy'n cyfrif i unrhyw bolisi neu unrhyw ddeddfwriaeth yw eu bod nhw'n cael sylw cadarnhaol gan bobl allan y tu allan i'r fan yma. Wrth gwrs, mae'r broses o fireinio'r ddeddfwriaeth honno yn bwysig, ond nid yw'r cyhoedd yn sylwi ar hynny. Yr hyn sy'n bwysig, pan fyddwn ni'n gwneud rhywbeth yn y fan yma, yw bod pobl yn dweud, 'Mae hynna wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau.' Nawr, nid wyf i am fynd trwy restr fel yr wyf i'n ei wneud fel arfer mewn sesiynau cwestiynau i'r Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Iawn. [Chwerthin.] Ond yr un darn o ddeddfwriaeth yr wyf i'n credu y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, a rhoddaf glod i Dai Lloyd amdano, oherwydd ei syniad ef oedd e'n wreiddiol, yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. Mae pobl yn fyw heddiw, yn llythrennol, o ganlyniad i'r Ddeddf honno. Gwn fod pryderon ac amheuon ymhlith rhai Aelodau. Nid oedd pawb yn gwbl gyfforddus â'r cyfeiriad a oedd yn cael ei ddilyn, ond rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth yr wyf i'n ymfalchïo ynddo fel Prif Weinidog, ond credaf hefyd y gall y sefydliad hwn ymfalchïo ynddo o ran arwain y ffordd ar draws y DU gyfan ac o ran  sicrhau bod gobaith i bobl nad oedd unrhyw obaith iddyn nhw o'r blaen. Nid wyf i'n credu bod dim byd pwysicach y gallwn ni geisio ei gyflawni, ac mae hynny'n rhywbeth, fel y dywedais, y gall y Siambr hon fod yn falch ohono, a hynny'n gwbl briodol.

Cefnogi Teuluoedd

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi teuluoedd? OAQ53110

Fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb', mae cymorth i blant a theuluoedd ledled Cymru yn flaenoriaeth. Dangosir hynny, wrth gwrs, drwy raglenni fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, ochr yn ochr â'n cynnig gofal plant a'r ymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo.'.

Diolch, Prif Weinidog. Mae ymrwymiad i wella cyfleoedd bywyd plant ledled Cymru wedi bod yn nodweddiadol o'ch gweinyddiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei roi ar y cofnod fy niolch a'm gwerthfawrogiad ohono. Mae'r cyhoeddiad fis diwethaf o £15 miliwn i ehangu gwasanaethau i gynorthwyo teuluoedd ac i helpu i leihau'r angen i blant dderbyn gofal yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw. Rydym ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith gydag Ymddiriedolaeth WAVE ar eu gwaith i ddileu cam-drin plant. Mae ateb WAVE yn seiliedig ar atal sylfaenol, gan gynnig cymorth i rieni a darpar rieni cyn i niwed ddigwydd. Gwn fod swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth WAVE, felly sut mae eu gwaith wedi ei ymgorffori yn negeseuon Llywodraeth Cymru ar rianta cadarnhaol?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater Ymddiriedolaeth WAVE? Rwy'n cefnogi gwaith sefydliadau fel Ymddiriedolaeth WAVE. Wrth gwrs, maen nhw wedi ymrwymo i ddileu cam-drin plant. Fel llawer o gyrff trydydd sector eraill sy'n gweithredu ledled Cymru, mae dull  yr Ymddiriedolaeth yn ategu nifer o raglenni yr ydym ni'n eu rhedeg a'u datblygu ar hyn o bryd, er enghraifft Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Maen nhw, wrth gwrs, yn helpu rhieni i fabwysiadu arddulliau rhianta cadarnhaol ac i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal effeithiol i alluogi teuluoedd a'u plant i ffynnu a gwireddu eu potensial. Ond, wrth gwrs, yn anochel mewn Llywodraeth, mae'n hynod bwysig gweithio gyda phobl ar lawr gwlad, i gael yr arbenigedd hwnnw, a cheisio peidio ag ailadrodd neu ddisodli'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ond ategu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud eisoes er mwyn, wrth gwrs, cael y canlyniadau gorau.

13:55

Prif Weinidog, a gaf i ddymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer yr amser y byddwch chi'n gallu ei dreulio gyda'ch teulu hefyd, yn dilyn eich gwasanaeth fel y Prif Weinidog? Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n cydnabod gwaith sefydliadau trydydd sector o ran cynorthwyo teuluoedd. Un sefydliad llwyddiannus iawn sy'n dathlu ei ddegfed pen-blwydd ar hugain eleni yw Care for the Family, sydd wedi'i leoli yn Ffynnon Taf. Mae wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol o ran rhianta cadarnhaol, a chynorthwyo rhieni mewn gwirionedd, nid yn unig ledled Cymru, ond ar draws gweddill y DU ac, yn wir, y byd ehangach. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Care for the Family ar eu pen-blwydd yn ddeg ar hugain? Pa gymorth penodol ydych chi'n ei roi ar waith i gynyddu capasiti sefydliadau fel Care for the Family ac eraill tebyg iddyn nhw i sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael yn fwy eang yma yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud pan fydd gwleidyddion yn ymadael i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd mai gair llednais am gael eu diswyddo ydyw. [Chwerthin.] Felly, gobeithio nad dyna'r achos eto heddiw.

Wrth gwrs, os edrychwn ni ar y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £290 miliwn yn y rhaglen honno ers ei chyflwyno. Ei bwriad yw darparu lefel gydlynol o gymorth i deuluoedd ac, yn wir, i blant. Wrth gwrs, rydym ni'n ceisio gweithio gydag unrhyw sefydliad sy'n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru o rianta cadarnhaol, gan ein bod ni'n gwybod y gall hynny gyflawni'r canlyniadau gorau i blant ac i rieni.

A gaf innau ddymuno'n dda i chi i'r dyfodol?

Onid y gwir ydy fod y teuluoedd tlotaf yng Nghymru wedi cael eu gadael lawr gan eich Llywodraeth chi, o dan eich arweiniad chi? Mae yna lawer o enghreifftiau, a'r diweddaraf ydy'r cynigion gofal plant—Bil gwallus sy'n gwahaniaethu yn erbyn rhieni a theuluoedd sydd yn stryglo, achos bydd rhieni sydd ddim yn gweithio ddim yn gymwys am ofal plant am ddim o dan eich cynigion chi. Mae hynny yn annheg ac yn anghyfiawn, ac fe fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Bil yna fory.

Ai'r diffyg cefnogaeth i'r teuluoedd tlotaf yn ein cymdeithas ni ydy un o'r materion yr ydych chi fwyaf siomedig amdanyn nhw wrth edrych yn ôl ar eich cyfnod fel Prif Weinidog?

A gaf i ddweud, ynglŷn â'r Bil gofal plant, y nod yw sicrhau ei bod yn rhwyddach i bobl gael gwaith? Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, mai un o'r problemau mae pobl yn eu hwynebu yw'r ffaith bod gofal plant mor brid, so nod y cynllun yw sicrhau bod hynny yn cael ei ddelio ag e—bod gofal plant ar gael am ddim. Wrth gwrs, nod y rhaglen yw sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn i waith, so, felly, os yw pobl yn moyn mynd i mewn i waith, maen nhw'n gallu cael y cyfle hynny, a dyna pam mae'r cynllun ei hunan wedi cael ei 'craft-io' yn y ffordd mae e, er mwyn cael gwared â'r wal sydd o flaen pobl—y wal gyllidol—a sicrhau bod y wal yna yn mynd, a'u bod nhw'n gallu mynd i'r gwaith wedyn, a hefyd, wrth gwrs, wrth wneud hynny, leihau tlodi dros Gymru.

Datblygu Economaidd yng Ngorllewin De Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53101

Mae ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu ar yr economi yn amlinellu’r camau rydym ni wedi'u cymryd i gefnogi datblygu economaidd dros Gymru gyfan. 

Gan ddiolch i chi am eich geiriau caredig jest nawr am roi organau, sydd yn Ddeddf allweddol bwysig i ni fel cenedl, a hefyd am bob cymorth i'm hetholwyr i dros y blynyddoedd, Brif Weinidog, a allaf i ddweud: mae bargen ddinesig bae Abertawe yn ganolog i ddatblygiad economaidd y de-orllewin, fel rydych chi'n gwybod? Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ddatganiad ysgrifenedig yn nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnal adolygiad annibynnol cyflym i'r fargen, a fydd yn edrych ar y cynnydd hyd yn hyn, a hefyd yn edrych ar y ffordd y mae'r fargen yn cael ei llywodraethu. Nawr, mae Aelodau etholedig ar draws fy rhanbarth i am weld y fargen ddinesig yn creu'r swyddi disgwyliedig cyn gynted ag y bo modd. Felly, a allwch chi ymhelaethu ar ddatganiad yr wythnos diwethaf, ac a allwch chi hefyd roi cadarnhad i Aelodau heddiw o'r amserlen sy'n gysylltiedig â'r adolygiad cyflym yma? Pryd ydych chi'n disgwyl iddo adrodd yn ôl?

14:00

Wel, ar hyn o bryd, beth rydym ni moyn sicrhau, wrth gwrs, yw bod yr adolygiad yn un sydd yn gyflym, sy'n annibynnol ac, wrth gwrs, un a fydd yn sicrhau sylfaen i'r llwyfan nesaf o weithredu. Mae pawb, wrth gwrs, wedi ymrwymo i sicrhau bod y fargen ei hunan yn llwyddiannus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n erfyn, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod yr adolygiad felly ar gael. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ei fod e'n rhywbeth sy'n gyflawn ond hefyd yn rhywbeth sydd ddim yn rhy araf.

Prif Weinidog, y gobaith yw bod bargen ddinesig bae Abertawe yn mynd i fod yn rhan o'r etifeddiaeth y gallwch chi fod yn falch ohoni, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi bod yn bryderus braidd yn sgil yr adroddiadau yr ydym ni wedi eu gweld yn y wasg, fel y soniodd Dai Lloyd, dros y diwrnod neu ddau diwethaf. Nid wyf i'n disgwyl i chi achub y blaen ar yr adolygiad cyflym, ac rwy'n ddiolchgar bod y ddwy Lywodraeth yn cynnal adolygiad cyflym, ond a oes unrhyw—? Mae dau brosiect sydd o bwysigrwydd arbennig i mi: un yw glannau digidol Abertawe a'r llall yw'r ganolfan arloesedd dur, ac rwyf i'n edrych—. A oes unrhyw beth sy'n peri unrhyw bryder o gwbl i chi—o gofio bod y prosiectau penodol hyn wedi cael cadarnhad pendant—y byddai angen i ni wybod amdano nawr, neu a allwch chi roi sicrwydd i ddarpar fuddsoddwyr na ddylai pryderon ynghylch un rhan o'r fargen effeithio ar eu ffydd yn y gweddill ohoni?

Gallaf. Wrth gwrs, mae'r Aelodau yn gyfarwydd iawn â'r mater hwnnw ac ni wnaf sylwadau pellach arno, ond mae'r fargen, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhywbeth sy'n hynod bwysig ar gyfer cyflawni ym mae Abertawe. Ond mae'n bwysig, pan fo amgylchiadau yn codi, bod adolygiad yn cael ei gynnal, dim ond i wneud yn siŵr bod pethau yn symud ymlaen fel y dylen nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn ni'n gweithio arno gyda Llywodraeth y DU.

Prif Weinidog, mae gan y fargen ddinesig ran fawr i'w chwarae o ran gwella economi fy rhanbarth i, ac felly hefyd cydweithio gwirioneddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae mentrau bach a chanolig eu maint y rhanbarth angen Llywodraeth sy'n deall eu hanghenion pan ddaw i seilwaith a rheoleiddio. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd pan ddaw i greu'r amgylchedd iawn i fusnesau Cymru oroesi?

Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud hynny eisoes, a chredaf mai'r hyn sy'n bwysig, yn fwy nag unrhyw beth arall, yw bod y byd busnes yn gwybod bod y Llywodraeth yno i'w helpu, i'w gynorthwyo, ond nid i ymyrryd ag ef. Mae llywodraeth yn gweithio orau pan fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r byd busnes, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ymdrechu i'w wneud dros y degawd diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ffigurau economaidd yn dangos bod y dull hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Wrth gwrs, mater i'r Llywodraeth newydd yw penderfynu pa gyfeiriad y bydd yn ei ddilyn, ond mae'n eithriadol o bwysig—ac mae hyn yn rhywbeth y mae busnesau wedi ei ddweud wrthyf i lawer iawn o weithiau—ein bod ni'n cydweithio'n agos. Gwlad fach ydym ni; rydym ni'n gweithio'n agos rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.

Prif Weinidog, fel y nododd Suzy Davies, un o'r agweddau ar y fargen ddinesig yw'r sefydliad dur a, gadewch i ni siarad yn blaen, pe na byddai wedi bod am Lywodraeth Cymru yn camu ymlaen o dan eich arweinyddiaeth chi, efallai na fyddai gennym ni ddiwydiant dur yma yn y de i fod â sefydliad o'r fath—yn ôl yn 2016. A allwch chi roi sicrwydd, cyn i chi ddychwelyd i'r meinciau cefn, y byddwch chi'n cyfarfod gyda'ch olynydd i sicrhau ei fod yn deall pwysigrwydd dur i'r diwydiannau yng Nghymru, i sicrhau ei fod yn parhau i weithio dros bobl Cymru, bod y gwaith ym Mhort Talbot yn hollbwysig i'r sector hwnnw, gan gynnwys y pen trwm, fel y gallwn weld, yn y dyfodol, nid yn unig pen trwm dur, ond hefyd y dulliau arloesol ym maes dur, a sut y gallwn—? Gallwn ni yng Nghymru arwain y maes cynhyrchu dur ar draws y byd.

Wel, diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rydym ni i gyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r diwydiant dur, wrth gwrs, ledled Cymru. Rwy'n cofio'n iawn ym mis Mawrth 2016 y cyhoeddiadau a wnaed bryd hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod y dyfodol yn edrych yn llwm iawn ar yr adeg honno, yn arbennig felly i'r pen trwm ym Mhort Talbot. Roedd perygl gwirioneddol y byddai'r pen trwm yn cael ei golli, a Shotton, Trostre a'r Orb—roedd yn ymddangos eu bod nhw mewn gwell sefyllfa gan eu bod yn cael eu bwydo o Bort Talbot. Pan euthum i Shotton, un o'r pwyntiau a wnaed ganddynt wrthyf i yno oedd, 'Rydym ni'n cael ein cyflenwi o Bort Talbot. Os na fyddwn ni'n cael ein cyflenwi o Bort Talbot, mae gennym ni chwe mis i ddod o hyd i gyflenwr arall.' Ac roedd honno'n broblem wirioneddol. Er bod Shotton ei hun yn gwneud yn dda yn ariannol, mewn gwirionedd, heb Port Talbot, ni allai weithredu'n iawn. A gwnaed y pwynt hwnnw yn eglur dros ben i mi ar y pryd. Rydym ni mewn sefyllfa well o lawer. Nid ydym ni allan o berygl eto. Mae'r diwydiant dur yn—mae'r farchnad bob amser yn anodd ac yn ddibynnol iawn ar amrywiadau mewn arian cyfred. Ond golygodd lawer o waith, gan weithio gyda Tata—ac, er tegwch, roedd Tata fel cwmni bob amser yn agored i weithio gyda ni. Rwy'n credu, pe byddai gennym ni rai busnesau o wledydd eraill, na fydden nhw wedi siarad â ni. Ond roedd gan Tata synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol, a gwnaeth hynny gryn argraff arnaf i gan cwmni o'i faint. Roeddem ni'n gallu gweithio gyda nhw yn gyntaf oll i leihau colledion ac yna, wrth gwrs, i ddod o hyd i lwybr ar gyfer y dyfodol, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Gwn pa mor bwysig yw'r Abaty, fel yr ydym ni i gyd yn ei alw, i'r economi, nid yn unig Port Talbot, ond—. Yn fy etholaeth i, Corneli, adeiladwyd y rhan fwyaf o'r pentref i ddarparu llety i weithwyr a oedd yn gweithio yng Ngwaith yr Abaty, a bydd yn parhau i fod yn rhan aruthrol o bwysig o ddiwydiant Cymru ac, ni waeth pwy sydd mewn Llywodraeth, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd y cymorth hwnnw'n parhau yn y dyfodol.

14:05
Gwella Safonau Addysg

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau addysg yng Nghymru? OAQ53104

Wel, ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i'n pobl ifanc. Rydym ni'n datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd, a fydd yn cynorthwyo gwelliant ysgolion ymhellach. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw ystyried sut i gynorthwyo ein hysgolion sy'n peri'r pryder mwyaf ar gam cynnar, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn diweddaru'r aelodau yn y flwyddyn newydd ar y pwynt hwnnw.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ôl Estyn, dim ond hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru sy'n cael eu dyfarnu'n 'dda' neu'n 'ardderchog'. Nid yw disgyblion yn datblygu gwybodaeth a sgiliau yn ddigon da nac yn gwneud digon o gynnydd mewn oddeutu hanner ysgolion uwchradd Cymru, ac nid yw mwyafrif y disgyblion yn yr ysgolion hyn yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddyn nhw gyrraedd diwedd addysg orfodol. Mae hyn yn effeithio ar eu rhagolygon cyflogaeth ac yn ychwanegu at y pwysau ar golegau addysg bellach, ac mae'n rhaid i'r rheini unioni methiant y system addysg i baratoi'r myfyrwyr hyn ar gyfer gwaith. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn cynghori ei olynydd i'w cymryd i fynd i'r afael â'r methiannau hyn cyn i genhedlaeth arall o blant yng Nghymru gael ei chondemnio i fod yn dangyflawnwyr?

Wel, nid wyf i'n cytuno bod plant yn tangyflawni. Rwy'n credu bod canlyniadau rhagorol yng Nghymru o ran Safon Uwch a TGAU, ac rydym ni'n gweld safonau da iawn o addysgu yng Nghymru. Rwy'n credu mai'r hyn y mae hi'n iawn ei ddweud yw bod cysondeb wedi bod yn broblem erioed. Nawr, wrth gwrs, yr hyn sy'n allweddol i ymdrin â hynny yw llywodraeth leol, gan mai llywodraeth leol sy'n darparu addysg. Nawr, mae'n gwbl briodol, wrth gwrs, y gofynnir cwestiynau i mi, ac y gofynnir cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, am addysg yn y Siambr hon, ond mae gan lywodraeth leol ran fawr i'w chwarae, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i lywodraeth leol weithio gyda'i gilydd, yn rhanbarthol, i ddarparu addysg. Rydym ni wedi gweld gwelliannau. Byddai'n gwbl anghywir i unrhyw awdurdod lleol geisio darparu addysg ei hun neu i dynnu allan o strwythurau rhanbarthol. Mae hwnnw'n gam yn ôl a byddai addysg plant yn cael ei waethygu o ganlyniad. Felly, ydym, rydym ni eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, ond mae'n eithriadol o bwysig hefyd bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu addysg ar draws ardal ehangach o lawer.

Fel rydym ni newydd ei glywed, mae disgyblion sy'n mynychu hanner ysgolion uwchradd Cymru yn methu â chyrraedd eu llawn potensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol. Estyn sydd yn dweud hynny, er gwaethaf beth roeddech chi'n ei ddweud rŵan. Bum mlynedd yn ôl, fe wnaethoch chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso addysg yn y gorffennol, ac fe gytunoch chi bryd hynny—ac rwy'n dyfynnu—eich bod chi wedi 'taken our eye off the ball'. Bum mlynedd ers ichi ddatgan hynny, a ydych chi'n siomedig gyda'r canlyniadau diweddar gan Estyn ac arafwch y cynnydd yn ein hysgolion uwchradd ni'n arbennig?

Wel, fe ddywedais i hynny, ond dywedais i hynny tua naw mlynedd yn ôl. So, felly, beth mae hynny'n ei ddweud—wrth gwrs, mae pethau'n newid ac yn newid am y gorau. Os edrychwn ni, wrth gwrs, ar y canlyniadau, rydym ni'n gweld canlyniadau'n gwella. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod pobl ifanc Cymru yn dda dros ben yn lefel A, rydym ni'n gweld cynnydd, wrth gwrs, yn y graddau y mae pobl yn eu cael yn TGAU ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod pobl Cymru yn bles gyda'r system addysg sydd gyda ni. Nid yw hynny'n meddwl, wrth gwrs, ein bod ni'n eistedd yn ôl a dweud, 'Wel, mae hynny'n iawn, te.' Mae yna waith i'w wneud, wrth gwrs, rydym ni'n deall hynny, ac mae'r gwaith yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond, ynglŷn â symud ymlaen, ynglŷn â sicrhau bod cyllid ar gael i ysgolion, ynglŷn â sicrhau bod y cyllid ar gael i awdurdodau lleol i dalu athrawon, maen nhw wedi cael yr arian hwnnw, ac mae'n hollbwysig eu bod nhw'n gwario'r arian hwnnw ar dalu athrawon. Rwy'n credu bod llawer wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni nawr yn gweld pethau'n symud yn y cyfeiriad iawn. 

Prif Weinidog, mae'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gyfleoedd addysg a bywyd drwy gydol bywyd, felly a gaf i eich canmol chi a Llywodraeth Cymru ar ddatblygu rhaglen Dechrau'n Deg, yr wyf i'n credu sy'n werthfawr ac yn effeithiol? Ond, fel erioed, mae mwy i'w wneud, ac rwy'n credu bod y meini prawf cymhwysedd cod post ar gyfer Dechrau'n Deg yn codi cwestiynau o ran pa un a ellir gwneud mwy i gyflwyno'r rhaglen hon i lawer mwy o deuluoedd yng Nghymru. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n credu ddylai ddigwydd?

Wel, mae hwnnw'n fater—mae'n fater i'r Llywodraeth nesaf. Dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi defnyddio'r ymadrodd yna, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ond, wrth gwrs, mae'n—. Yr anhawster yw ein bod ni'n gwybod bod llawer o raglenni yn cael eu darparu mewn ardaloedd, ond rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, y bydd teuluoedd mewn ardaloedd eraill nad ydyn nhw'n elwa ar yr un cynlluniau. Y rhan anodd fu nodi'r teuluoedd sydd efallai'n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny fel eu bod yn gallu elwa. Rwy'n siŵr bod hwn yn rhywbeth a fydd yn cael sylw yn y misoedd i ddod.

14:10
Pennu Targedau ar gyfer yr Economi

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull Llywodraeth Cymru o bennu targedau ar gyfer yr economi? OAQ53078

Rydym ni'n datblygu fframwaith mesur eglur a chyson ar draws y Llywodraeth gyda'r dangosyddion llesiant. Byddwn yn defnyddio'r rheini i olrhain ein cynnydd economaidd dros y tymor hwy, ac rydym ni'n gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid eraill i ddysgu o arfer gorau ledled y byd.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am hynna, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy nymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol? Gan gymryd coedwigaeth fel enghraifft, mae gennym ni dargedau hirdymor wedi eu pennu ond ni chyhoeddwyd targedau blynyddol na thargedau ardal. Oni fyddai'n helpu craffu a pherfformiad pe byddai targedau o'r fath yn cael eu pennu a'i cyhoeddi, fel y gallem ni weld y camau ar y daith, nid dim ond ble'r ydym ni'n ceisio ei gyrraedd yn y pen draw?

Rwy'n credu os edrychwn ni ar yr ystadegau economaidd—y rhai a gyhoeddwyd heddiw yn sicr—byddwn yn gweld bod pethau wedi gwella'n helaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt. Wrth gwrs, mae'r cynllun gweithredu economaidd wedi gwneud cynnydd da ers ei gyflwyno. Mae gennym ni'r model gweithredu newydd. Ers mis Mai, rydym ni wedi cwblhau mwy na 70 o gontractau economaidd gyda busnesau, ac maen nhw'n fusnesau o wahanol feintiau. Dydyn nhw ddim i gyd yn fusnesau mawr, maen nhw mewn gwahanol sectorau ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rydym ni'n derbyn llif o gynigion buddsoddi gan fusnesau sy'n cyfochri â nhw.

O ran targedau, wel, yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, wrth gwrs, yw gwella economi Cymru ledled Cymru. Gallwn weld hynny yn yr ystadegau—mae'r ystadegau yn adrodd yr hanes i ni. Maen nhw'n dargedau y byddem ni eisiau eu gwella yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym ni wedi gweld gwelliant aruthrol yn ystod y degawd diwethaf.

Mae gan Gymru heriau economaidd strwythurol sylweddol, ac rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn iawn dros y blynyddoedd i dynnu sylw at y rhwystrau hynny i dwf. Mewn ysbryd o gyd-gydnabyddiaeth o heriau Cymru, o ran dymuniad i hynt economaidd Cymru ffynnu, beth ydych chi'n ei gredu yw'r prif wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o reoli economi Cymru dros y naw mlynedd diwethaf? Beth ydych chi'n ei gredu yw'r meysydd polisi economaidd a fyddai'n elwa fwyaf ar fwy o gydweithrediad rhwng y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru?

Mae hyn yn dechrau swnio fel cyfweliad am swydd, o ystyried y cwestiwn yna. I mi, mae dau beth sy'n hanfodol, ac mae'r rhain yn faterion a godwyd gyda mi lawer iawn o weithiau. Y cyntaf yw ei bod hi'n hynod bwysig cyfleu delwedd Cymru ledled y byd—i fynd allan a gwerthu Cymru. Ni wnaiff neb arall ei wneud, ac mae'n aruthrol o bwysig bod gennym ni deithiau masnach. Bydd rhai o'r teithiau masnach hynny yn cael eu harwain gan Weinidogion, neu gan Brif Weinidog. Maen nhw'n agor drysau na fyddai'n cael eu hagor fel arall, ac mae hynny wedi arwain at i ni allu, er enghraifft, gyrraedd sefyllfa lle mae Qatar Airways yn hedfan o Gaerdydd. Mae'r gwaith rhyngwladol yn bwysig, ac mae ein swyddfeydd rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod Cymru yno a'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig.

Ond sgiliau yw'r ail bwynt. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi'n aml pan oeddwn i'n arfer siarad â busnesau mewn gwledydd eraill—ac, yn wir, busnesau yng Nghymru—oedd, 'O ble ydym ni'n mynd i gael y sgiliau? A yw'r biblinell sgiliau sydd ei hangen arnom er mwyn ffynnu yng Nghymru gennym ni?' Yn gynyddol, roeddem ni'n gallu gwneud hynny. Roeddem ni'n gallu dweud—oherwydd ein bod wedi edrych ar sectorau penodol lle'r oedd gennym ni fusnesau llwyddiannus eisoes, roeddem ni'n gallu dweud, 'Mae piblinell sgiliau ar gael—mae yno, ac, a dweud y gwir, gallwch weithio gyda'ch gilydd i greu'r biblinell sgiliau honno gyda busnes sy'n debyg i'ch un chi.'

Mae hwnnw wedi bod yn newid mawr. Ystyriwyd Cymru fel economi cost isel, cyflog isel a sgiliau isel ar un adeg. Ni allwn fforddio bod yn y sefyllfa honno eto, ac ni fyddai neb eisiau i ni fod yn y sefyllfa honno eto yn y Siambr hon. Yr hyn y gallwn ni ei wneud yw cael mwy fyth o bwyslais ar sgiliau, oherwydd, drwy wneud hynny, dyna'r ffordd yr ydych chi'n dod â swyddi tra medrus i Gymru. Dyna'r ffordd hefyd yr ydych chi'n annog entrepreneuriaid i ddod yn eu blaenau, oherwydd eu bod yn gallu gweithio gyda phobl eraill i ddatblygu busnesau yng Nghymru ac i wireddu eu breuddwydion. Oherwydd rydym ni'n gwybod, yn hanesyddol, nad ydym ni wedi gwneud yn dda yng Nghymru gydag entrepreneuriaid yn teimlo y gallan nhw ddatblygu eu busnes. Mae llawer o bobl wedi cael syniadau da ac nid ydynt wedi bwrw ymlaen â nhw. Rwy'n credu ein bod ni wedi mynd heibio'r cam hwnnw erbyn hyn, yn enwedig gyda phobl ifanc, ond y pwyslais yw sgiliau, sgiliau, sgiliau.

Datblygu Maes Awyr Caerdydd

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer datblygu Maes Awyr Caerdydd? OAQ53108

Gwnaf. Rwy'n cofio fy rhagflaenydd, Rhodri Morgan, yn ysgrifennu erthygl yn y Western Mail pryd y dywedodd y byddai fy holl amser fel Prif Weinidog yn cael ei farnu ar berfformiad Maes Awyr Caerdydd. Ar y sail honno, rwy'n gwbl fodlon i gael fy marnu, felly, ar hynny. Bydd gan bobl eraill wahanol safbwyntiau—rwy'n deall hynny—ond, wrth gwrs, mae gan Faes Awyr Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a gweledigaeth hyd at 2040. Maen nhw i'w gweld yn uwchgynllun y maes awyr a lansiwyd ar y cyd gennym ni a'r maes awyr ym mis Gorffennaf.

14:15

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd, a hefyd croesawu, fel y mae ef wedi ei wneud, y ffigurau teithwyr diweddaraf, sy'n dangos yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, bod cyfanswm y teithwyr wedi tyfu gan 9 y cant o un flwyddyn i'r llall i gyrraedd 1.48 miliwn. A hefyd, dim ond i ddilyn sylwadau y gwn eich bod chi wedi eu gwneud yn gyson, Prif Weinidog, i Lywodraeth y DU ynghylch datganoli toll teithwyr awyr—mae cefnogaeth drawsbleidiol i hynny, wrth gwrs—mae'n eglur y byddai'n cael effaith fuddiol i Faes Awyr Caerdydd ac i Gymru, felly beth ydych chi'n ei gredu yw ein cyfeiriad o ran y trafodaethau hynny?

Yn gyntaf oll, mae wedi bod yn bleser mawr i mi yn bersonol gweld y twf yn y maes awyr. Hoffwn dalu teyrnged i Roger Lewis, i Debra Barber ac i bawb sy'n gweithio yn y maes awyr sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau ei ddyfodol. Roeddwn i'n gwybod bod dyfodol yno pe byddai'n cael ei redeg yn iawn, a dyna'r oeddem ni'n bwriadu ei wneud, a dyna pam, wrth gwrs, na wnaethom ni geisio ei redeg ein hunain trwy wleidyddion neu weision sifil; cafodd ei redeg ac mae'n cael ei redeg gan gwmni hyd braich. A gwelwn, wrth gwrs, y twf mawr i nifer y teithwyr a fu yn y cyfnod hwnnw.

Mae'r doll teithwyr awyr yn siom enfawr. Mae yn etholaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac mae'n drueni mawr nad yw wedi gallu darparu'r doll teithwyr awyr i'r maes awyr. Mae ef gan yr Alban; mae trafodaethau yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Y gwir reswm—. Mae dau reswm pam nad ydym ni wedi ei chael. Yn gyntaf, mae'r Trysorlys yn edifarhau'n fawr iawn ei rhoi i'r Alban, felly nid ydyn nhw eisiau ei rhoi i ni. Yn ail, mae Liam Fox yn cynrychioli, os cofiaf yn iawn, yr ardal y mae Maes Awyr Bryste ynddi, ac nid wyf i'n meddwl ei fod wedi bod yn arbennig o gefnogol i'r doll teithwyr awyr. Mae Bryste wedi dweud bod Caerdydd yn fygythiad i'r maes awyr. Nid wyf i'n ei gweld hi felly. Mae angen Bryste arnom ni oherwydd os bydd digwyddiadau mawr yn y stadiwm, mae angen Maes Awyr Bryste arnom ni; nid ydym ni'n ceisio achosi niwed i Faes Awyr Bryste. Ond credaf bod gan Gaerdydd botensial enfawr o ran teithiau pell, yn arbennig. Mae manteision mwy sydd gan Fryste, a hyd yn oed pe byddai toll teithwyr awyr teithiau pell yn cael ei datganoli, byddai hynny'n hybu twf aruthrol i nifer y teithwyr yn y maes awyr a hefyd, wrth gwrs, yn cymryd rhywfaint o bwysau—gadewch i ni beidio â gor-ddweud—ond rhywfaint o bwysau oddi ar Heathrow. A Chaerdydd yw'r maes awyr yn rhan orllewinol yr ynys sydd yn y sefyllfa orau i ymdrin â'r traffig teithiau pell hwnnw. Mae'n drueni mawr na all Llywodraeth y DU weld hynny, ac na all weld y byddai'n helpu i gymryd y pwysau oddi ar feysydd awyr Llundain.  

Mae'n eironig, rwy'n credu, gyda'r cloc yn symud yn ei flaen, efallai mai hwn fydd y cwestiwn olaf, a gadawaf fy sylwadau ar y datganiad nesaf ar eich cyfnod fel Prif Weinidog, os caf i, Prif Weinidog. Ond rydych chi a minnau wedi dadlau lawer gwaith yn y Siambr hon ynghylch Maes Awyr Caerdydd, a bydd yn ddiddorol gweld, ar ôl y £100 miliwn a mwy y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi yn y maes awyr—hirhoedledd y cyfleuster hwnnw. Mae'n hanfodol bod gennym ni faes awyr, ond mae hefyd yn hanfodol eich bod chi'n dod â phartneriaid preifat i mewn i gynorthwyo'r maes awyr, yr wyf i'n credu, er tegwch i chi, Prif Weinidog, eich bod chi wedi cyfeirio ato fel nod i Lywodraeth Cymru. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran denu partneriaid preifat i ddod i mewn a chymryd cyfran, neu gymryd rhyw fath o ecwiti yn y maes awyr, a fydd yn hwyluso mwy o fuddsoddiad? Dychwelaf at fy sylwadau bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100 miliwn yn y maes awyr hyd yma. Yn amlwg nid yw hynny'n gynaliadwy ynddo'i hun, felly mae angen ecwiti preifat.

Yn gyntaf oll, roedd prynu'r maes awyr, os cofiaf yn iawn, yn costio £52 miliwn, ac yna, wrth gwrs, bu cyfres o fenthyciadau a roddwyd ar gael i'r maes awyr. Nid yw'r arian hwnnw wedi ei golli. Fy mwriad erioed oedd y byddai'r maes awyr yn cynyddu mewn gwerth, ac mae wedi gwneud hynny, ymhell y tu hwnt i'r pris prynu a dalwyd gennym. Ac y byddai adeg yn dod pan fyddai ecwiti preifat yn cymryd rhan. Mae'n anodd gweld sefyllfa lle na fyddai gan Lywodraeth Cymru gyfranddaliad euraidd mewn unrhyw gwmni, ond yn sicr, byddem yn croesawu buddsoddiad preifat yn dod i helpu'r maes awyr i ddatblygu. Pryd fyddai hynny'n digwydd fu'r cwestiwn erioed. Pan siaradais â Qatar Airways ar ddechrau'r flwyddyn, gofynnais am farn eu prif weithredwr. Ei farn ar yr adeg honno oedd, 'Wel, peidiwch â'i wneud eto.'  Mae amser i'r maes awyr dyfu o hyd, ond daw amser pan fydd edrych ar bartneriaid preifat yn dod yn rhan o ddyfodol y maes awyr.

Mae ganddo ddyfodol cyffrous, a'r un peth, eto, y gofynnwyd i mi ers talwm oedd, 'A oes gan Gymru faes awyr rhyngwladol?' Gwn ei fod yn y de, a gwn nad yw pobl y gogledd yn mynd i ddefnyddio Caerdydd rhyw lawer, ond roedd yn hynod o bwysig yn symbolaidd bod gennym ni faes awyr rhyngwladol. Nid oedd hynny'n golygu y dylem ni gymryd cyfrifoldeb am rywbeth a oedd yn anobeithiol nad oedd byth yn mynd i weithio, ond rydym ni wedi gweld gyda'r holl deithiau sy'n hedfan i mewn i Gaerdydd nawr, gyda gwaith ailwampio'r maes awyr, bod gennym ni faes awyr yn y de y gallwn ni fod yn falch ohono. Ac os oedd Rhodri yn iawn o ran fy marnu i ar fy mherfformiad ar sail y maes awyr, yna gallaf ond bod yn fodlon.

14:20

A dweud y gwir, mae maes awyr Ynys Môn yn dibynnu ar Faes Awyr Caerdydd a llwyddiant Maes Awyr Caerdydd. Mae Brexit yn fygythiad i’r ddau ohonyn nhw o ran rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus, y public service obligations. Efo’r Undeb Ewropeaidd yn ymddangos yn eiddgar i roi mwy o hyblygrwydd i gyflwyno rhagor o hediadau, mae Llywodraeth Prydain yn gwrthod hynny. Mi gawsom ni ddatganiad ar hyn ddoe gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth. A wnewch chi annog y Prif Weinidog newydd a phwy bynnag fydd yr Ysgrifennydd trafnidiaeth newydd i bwyso mor drwm â phosib ar Lywodraeth Prydain rŵan i wneud y cais i’r Undeb Ewropeaidd i ganiatáu'r hyblygrwydd yma er mwyn annog a chaniatáu rhagor o hediadau yn Ynys Môn a Chaerdydd o dan y trefniadau Ewropeaidd yma cyn Brexit?

Bydd y gwaith yn parhau. Mae’n wir i ddweud bod dyfodol Maes Awyr Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd a dyna pam, wrth gwrs, rwyf i wedi bod mor gefnogol dros y blynyddoedd o’r gwasanaeth awyr rhwng y ddau faes awyr. Rwy’n gwybod bod yr hanes wedi bod yn anodd, nawr ac yn y man, ond mae yna wasanaeth ar hyn o bryd sydd gyda’r gorau. Rydym ni’n gweld bod mwy o bobl yn dechrau defnyddio’r awyrennau achos y ffaith bod yr awyren yn fwy. Mae rhai pobl ddim yn hoffi mynd ar awyrennau sydd yn llai. Mae yna gyfleoedd hefyd yn fy meddwl i i Faes Awyr Môn—ym mha ffyrdd a allwn ni gysylltu Môn mewn i Gaerdydd er mwyn bod pobl yn hedfan o Fôn i Gaerdydd a mas eto, yn yr un ffordd ag y maen nhw’n hedfan o Gaerdydd efallai i Schiphol, neu nawr i Doha? Mae yna gyfleoedd fanna i ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael o Faes Awyr Môn, nid dim ond i gysylltu Cymru o’r gogledd i’r de ond i gysylltu Ynys Môn a Gwynedd, trwy Gaerdydd, i weddill Ewrop.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

A gaf i alw nawr ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad ymddiswyddo? Y Prif Weinidog.

Diolch, Llywydd. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddaf i'n ysgrifennu at Ei Mawrhydi'r Frenhines i ymddiswyddo ar ôl naw mlynedd fel Prif Weinidog Cymru. Roedd hi yn fraint i olynu fy nghyfaill a’m mentor Rhodri Morgan, ac mae wedi bod yn fraint enfawr i wasanaethu Cymru yn y swydd ac i fod wrth y llyw mewn cyfnod heriol tu hwnt, cyfnod allweddol yn ein hanes hefyd fel cenedl. Wrth baratoi i ildio’r awenau, mae’r teimladau yn gymysg, wrth gwrs. Teimladau chwerwfelys, os yw hwnnw’n air yn y Gymraeg, i gyfieithu o’r Saesneg. Dyna’r teimlad sydd gyda fi, fel pawb arall sy’n gadael swydd a fu’n ganolog i’w bywyd, rwy’n siŵr. Tristwch wrth sefyll i lawr, ond ar y cyd â balchder am y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau. 

Llywydd, yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad i'w Mawrhydi y Frenhines, wedi naw mlynedd yn Brif Weinidog Cymru. Braint oedd dilyn fy ffrind a'm hathro Rhodri Morgan. Braint enfawr fu gwasanaethu Cymru yn y swydd hon a bod wrth y llyw mewn cyfnod heriol iawn, cyfnod tyngedfennol yn hanes ein cenedl. Wrth i mi ymbaratoi i drosglwyddo'r awenau, mae'r teimladau, rwy'n tybio, yn felys ac yn chwerw, sy'n brofiad cyffredin i bawb, rwy'n siŵr, sy'n gadael swydd a fu'n ganolog i'w bywydau. Ceir tristwch, wrth gwrs, wrth ymadael â'r swydd, ynghyd â balchder yn y gwaith sydd wedi'i gyflawni.

Mae'r swydd yr ymgymerais â hi yn 2009 wedi newid yn sylweddol ers i mi ddechrau arni, a'r byd o'n cwmpas ni hefyd. Roedd pobl yn fwy tebygol o ysgrifennu llythyr na thrydar, ac roedd 'selfie' yn fwy perthnasol i Paris Hilton na gwleidyddion, a gellid dadlau mai felly y dylai fod o hyd. [Chwerthin.] Efallai, yn bwysicach, mae'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau gwahanol iawn hefyd, gyda mwy o bwerau, mwy o ysgogiadau a disgwyliadau uwch o ran cyflawniad. Pe byddai rhywun wedi dweud wrthyf i ym 1999 y byddwn yn gadael swydd Prif Weinidog—wel, byddai hynny wedi fy synnu i, ond yn gadael swydd Prif Weinidog Cymru mewn Senedd sydd â phwerau amrywio trethi ac yn deddfu, byddwn wedi fy synnu ac yn falch iawn o'r herwydd.

Mae gennym yr arfau hynny. Rydym wedi cyflawni llawer iawn, hyd yn oed yn yr amseroedd anodd iawn hyn. Mae datganoli wedi ymsefydlu, nid yn unig yn y gyfraith, nid yn unig mewn ffaith, ond bellach yng nghalonnau pobl Cymru, a'r holl amheuon wedi eu chwalu.

Ond, os wyf i wedi cyflawni unrhyw beth yn ystod y cyfnod hwn, mae hynny wedi digwydd gyda chymorth gan lawer, lawer un arall. Rwyf wedi dysgu mai dim ond ychydig iawn y byddwch chi'n ei gyflawni ar eich pen eich hun yn eich bywyd. Gall ein Senedd ni fod yn fwy pwerus, ond mae'n dal yn ifanc ac, yn fy marn i o leiaf, mae'n rhy fach ei maint. Ac mae hynny'n golygu fod yna bwysau enfawr ar bawb yn y Siambr hon i rymuso Llywodraeth. Y ddyletswydd ddemocrataidd hanfodol o graffu priodol, sef yr orchwyl yr ydych chi i gyd wedi ymroi iddi'n ddifrifol iawn—yn rhy ddifrifol weithiau at fy nant i—. Ond serch hynny, dyna'r hyn yr wyf i yma i'w wneud. Ond rwy'n rhoi teyrnged i bawb yn y Siambr am yr hyn yr ydych yn ei wneud i'n herio ni i wneud yn well.

Fe hoffwn i, os caf i, grybwyll rai pobl. Yn gyntaf oll, fy nheulu: fy ngwraig Lisa, sydd yma heddiw, ac rwyf wedi bod yn briod â hi ers 24 mlynedd; Caron, fy nhad, sydd yma heddiw hefyd ac roedd ef yma naw mlynedd yn ôl; roedd fy mam yn fyw yr adeg honno, ond bu farw chwe diwrnod ar ôl imi ddod yn Brif Weinidog, ac mae hi yn un, wrth gwrs, sydd ar fy meddwl heddiw; a'm dau blentyn, Seren a Ruairi, sydd wedi gorfod byw gyda thad a oedd bob amser yn y Llywodraeth a'r embaras a ddaw gyda hynny. Felly, mae fy niolch iddyn nhw hefyd.

Diolch yn fawr, blant, a diolch yn fawr, Lisa a dad.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifenyddion Parhaol sydd wedi gwasanaethu yn ystod fy amser i—dau Forgan ac un Jones—ac i'r gwasanaeth sifil? Oherwydd, wrth gwrs, gwleidyddion sy'n dyfeisio polisïau a syniadau ac, weithiau, gweision sifil sydd yn gorfod rhoi'r rheini ar waith. Nid y peth hawsaf yn y byd mo hyn bob amser, ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n diolch i'r grwp Llafur a Phlaid Lafur Cymru am y cymorth y maen nhw wedi ei roi i mi dros y naw mlynedd diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i'm holynydd hefyd, ac afraid dweud hynny, wrth gwrs. I chi, Llywydd, wrth gwrs, nid yw bob amser yn hawdd rheoli'r Siambr hon, mae tipyn o golli tymer weithiau—credaf fod Adam a minnau'n euog o hynny, yn fwy na thebyg, a gwelsom ni hynny neithiwr yn y rhaglen ddogfen—[Torri ar draws.] Cwm Aman, wel, pen uchaf Cwm Aman—fe allem ni drafod pa ben o Gwm Aman sydd orau. Ac, wrth gwrs, holl Aelodau'r Cynulliad, oherwydd, fel y dywedais i, mae craffu yn rhan hynod bwysig o Lywodraeth. Pe na fyddai unrhyw waith craffu, yna i'r gwellt yr âi'r Llywodraeth a mynd yn aneffeithiol. Dyna pam mae craffu ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon yn bwysig i roi min ar Lywodraeth a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth yn deall beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud deddfwriaeth neu bolisi yn effeithiol. 

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd—ergyd ddwbl cyllidebau llai ac effaith y toriadau i fudd-daliadau ar Gymru, ac yna, wrth gwrs, fater bychan Brexit. Er y byddai wedi bod yn anghyfrifol i unrhyw arweinydd anwybyddu'r materion hyn, rwyf i bob amser wedi siarad â'm Cabinet am bwysigrwydd cyflawni, er gwaethaf y materion amlwg hyn, a beth yw hwnnw? Wel, mae'n aros yr un peth: mae pobl yn awyddus i weld ysgolion da, swyddi da a GIG da, i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim; maen nhw'n awyddus i weld yfory gwell ar gyfer eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Felly, mae 118 o ysgolion newydd sbon yng Nghymru a 41 arall yn cael eu hadeiladu ac mae'r plant yn yr ysgolion hynny'n ennill mwy o'r graddau uchel. Yn y dyfodol, byddan nhw'n dysgu mwy eto, nid pynciau traddodiadol yn unig, ond sut i fod yn ddinasyddion da. Nid yw ein system addysg yn doredig oherwydd cystadleuaeth ddinistriol. Mae ein hysgolion a'n hathrawon yn gweithio gyda'i gilydd er budd y wlad i gyd.

Ac mae degau o filoedd o bobl yn fwy mewn gwaith heddiw, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton; mae degau o filoedd o bobl ifanc yn ymgymryd â phrentisiaethau sy'n newid bywyd; mae gennym ni'r mewnfuddsoddi mwyaf erioed; rhoddwyd cyfleoedd i 18,000 o bobl ifanc drwy ein rhaglen Twf Swyddi Cymru; mae 20,000 yn llai o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant. Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o'r blaen; mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar ei lefel isaf erioed; rydym wedi gwella cyfraddau goroesi oherwydd ein model ymateb ambiwlans newydd; ac mae'r rhain yn fwy na geiriau slic, maen nhw'n wirioneddau sylfaenol ynglŷn â'r modd y mae bywyd yn newid i bobl yng Nghymru. Oherwydd, beth mae ysgol newydd yn ei olygu? Nid cadw at ryw addewid wleidyddol yw hyn; mae'n golygu dyfodol gwell i blentyn. Boed hynny yn y Rhyl, Aberdâr neu yn nwyrain Caerdydd, mae plant 11 mlwydd oed yn cerdded i mewn i ysgolion newydd, llachar gyda chaeau chwarae'r drydedd genhedlaeth y tu allan a'r dechnoleg ddiweddaraf ar flaenau eu bysedd y tu mewn.

Nid yw buddsoddiad ychwanegol yn ein GIG yn golygu mwy o feddygon a nyrsys a dyna i gyd, mae hefyd yn golygu bod 700 o bobl wedi gallu cael gafael ar feddyginiaeth i atal HIV yn ein gwlad. Nid oes unrhyw un o'r bobl yng Nghymru sydd wedi cael proffylacsis cyn-gysylltiad wedi mynd ymlaen i gael HIV. Ac un o'r newidiadau rhyfeddol, ers i mi fod yn fy arddegau, ac yn y brifysgol, oedd trechu AIDS. Roedd cysgod y clefyd hwnnw'n frawychus yn ôl yn yr 1980au. Ni fyddai neb yn y cyfnod hwnnw erioed wedi credu y byddai ffordd, nid yn unig o ddileu AIDS, ond ei reoli. A thros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid mawr yn hynny o beth, ac mae hynny, i mi, wedi bod yn brawf anhygoel o'r ymchwil feddygol a gyflawnwyd.

Rydym wedi bod yn esiampl i'w hefelychu drwy'r byd: cyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau; diddymu ffioedd i gladdu plant; arwain y byd o ran ailgylchu; deddfu i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd; diddymu'r hawl i brynu yng Nghymru; ac rydym wedi diwygio'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac rydym wedi ailddiffinio'r iaith. Bu'r iaith, ar yn adeg, a bydd llawer ohonom yn cofio hynny, yn gocyn hitio gwleidyddol; nid felly nawr. Bellach mae iaith y mae pawb yn gwybod ei bod yn destun balchder cenedlaethol, p'un a ydyn nhw'n siarad Cymraeg neu beidio. Ac rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop ar gyfer menywod. Ni chyflawnwyd hynny eto, mae tipyn i'w wneud o hyd, a dyna nod y Llywodraeth nid yn unig ar hyn o bryd, ond nod y Llywodraeth yn y dyfodol.

Pan gawsom ein cythruddo fel cenedl, fe wnaethom sefyll yn gadarn. Yr ymosodiadau hynny ar ein GIG yng Nghymru, y llinell rhwng bywyd a marwolaeth, fe wnaethom ymateb gydag urddas, a chefnogi ein meddygon a'n nyrsys diwyd, nid yn unig gydag arian ychwanegol, ond gyda rhywbeth mwy gwerthfawr, a pharch yw hwnnw. Llunio polisi ar gyfer Cymru, nid ar gyfer y cyfryngau yn Llundain.

Mae ein hyder a'n hunan-gred fel Llywodraeth, fel gwlad, wedi datblygu hyd yn oed wrth wynebu degawd o gyni. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw un o'r polisïau a'r cyflawniadau hyn yn bodoli ar wahân. Maen nhw i gyd gyda'i gilydd, yn fy nhŷb i, yn ategu'r hyn yr wyf bob amser yn ei ddeisyfu i Gymru, a hynny yw tegwch a gobaith. Yn union fel yr oedden nhw'n eiriau pwysig yng ngolwg fy rhieni i gartref, dyna oedd fy ngeiriau pwysig innau yn y Llywodraeth. A dyna fydd y geiriau, rwy'n credu, a fydd yn agos at galon yr unigolyn y byddaf yn pleidleisio drosto i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Mark yw hwnnw, i wneud hynny'n glir. [Chwerthin.] Pleser mawr i mi fu gweithio ochr yn ochr â chi, Mark, a holl Aelodau eraill y Cabinet, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi rhoi imi'r fath gefnogaeth ardderchog am gynifer o flynyddoedd. Mae Mark yn rhywun a all gydweddu egwyddorion a phragmatiaeth yn ddidrafferth, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd yn gwneud Prif Weinidog rhagorol i Gymru.

Fe'm hysbyswyd mai Geraint Thomas yw pencampwr Cymru o ran gollwng y microffon ar ôl iddo ennill y Tour de France, felly ni fyddaf i'n ceisio gorffen yn yr un ffordd, ac mae'n debyg na fyddai'n bosibl i mi beth bynnag. [Chwerthin.] Yn hytrach, hoffwn i ddiolch i bawb sydd yma, ond yn bwysicach i bobl Cymru, y cefais y fraint o'u gwasanaethu nhw. Pob ysgol neu ysbyty, pob busnes a welais, ar faes yr Eisteddfod, neu ar faes Sioe Frenhinol Cymru, wrth siopa allan gyda'r teulu, neu'n gwylio'r rygbi, ble bynnag y bûm, deuthum wyneb yn wyneb â charedigrwydd a chwrteisi, ac ni allaf byth ddiolch digon i chi.

Mae wedi bod yn anrhydedd.

Mae wedi bod yn anrhydedd. Diolch yn fawr. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

14:30

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y dywedwyd gennych, rydych wedi arwain eich plaid a'ch gwlad am naw mlynedd, ac fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, rydych wedi bod yn aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru ers dros 18 mlynedd—bron cyn hired â'ch cyn gyd-Aelod yn y Llywodraeth, yr Aelod dros Fro Morgannwg. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydych wedi bod â llawer o bortffolios mawr—addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth a Chwnsler Cyffredinol—yn ogystal â'r swydd gyhoeddus uchaf yng Nghymru. Ychydig iawn o bobl sy'n ennill y fraint o arwain eu gwlad, heb sôn am wneud hynny am gyfnod o ddegawd bron iawn.

Mae etifeddiaeth yn bwysig mewn gwleidyddiaeth, ac mae'n wir dweud y bydd llawer o bobl yn cofio eich amser yn Brif Weinidog am wahanol bethau ac am wahanol resymau. Gall y penderfyniadau a wnawn ni'r gwleidyddion, yn enwedig pan fyddwn mewn swydd uchel, gael effaith sylweddol ar ein cenedl ac ar bobl unigol. Gallan nhw effeithio ar bobl er gwell ac er gwaeth. Ambell waith ni fyddwn yn gallu ystyried y canlyniadau y bydd ein penderfyniadau yn eu cael, ond fe fyddan nhw'n cael eu heffaith, serch hynny. Byddwn yn dymuno ein bod wedi gwneud rhai penderfyniadau ynghynt, a byddwn yn edifar am rai eraill, ond maen nhw i gyd yn rhan o'n stori a'r etifeddiaeth a fydd yn waddol ar ein holau.

Yn bersonol, yn Aelod o'r Cynulliad ers 2007, rwyf wedi eich cael chi'n hawdd troi atoch ac yn ddidwyll, yn arbennig pan wyf wedi codi materion a oedd yn peri pryder. Mae bod yn gynrychiolydd etholedig yn rhoi cyfrifoldebau ychwanegol arnom, ac mae hynny'n burion, gan ein bod yn mynd i mewn i fyd gwleidyddiaeth gyda'n llygaid yn agored. Ond mae'n rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ein teuluoedd hefyd, a gall hynny fod yn anodd iawn weithiau. Rydym yn gofyn llawer gan ein teuluoedd a'n hanwyliaid o bryd i'w gilydd. Yn Brif Weinidog, rwy'n deall y craffu ychwanegol a'r pwysau a fu ar eich teulu, ac rwy'n siŵr bod eu teimladau preifat o ryddhad yn sgil eich penderfyniad i ymddiswyddo yn hafal i'r edmygedd a'r balchder am y gwaith yr ydych wedi ei wneud yn ystod y naw mlynedd diwethaf.

Er ein bod ni wedi tynnu'n groes yn wleidyddol lawer tro ac wedi mynegi barn bendant ar benderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru, rwyf wedi bod â'r parch mwyaf atoch chi fel deiliad swydd y Prif Weinidog, a'r modd yr ydych wedi ymgymryd â'ch gwaith. Rydym wedi gwrthdaro sawl tro yn y Siambr hon, yn arbennig yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond beth bynnag fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, fel pobl, rwy'n hyderus bod yna fwy sy'n ein huno ni nac yn ein gwahanu ni. Ac yn wir, bu adegau pryd y bu i ni gydweithio er mwyn y genedl. Bu pob plaid yn y Siambr hon yn ymgyrchu gyda'i gilydd yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu, ond rydym wedi rhannu rhywfaint o dir cyffredin ar bolisi hefyd: sgoriau hylendid bwyd, iechyd y cyhoedd, gofal plant rhad ac am ddim ac ardollau am fagiau siopa i enwi ond ychydig. Ac rwy'n gwybod eich bod yn yr wythnosau diwethaf wedi ymweld â nifer o brosiectau a gwblhawyd yn ystod eich amser yn eich swydd a hefyd nifer o adeiladau ysgol newydd drwy gyfrwng awdurdodau lleol a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru.

Er ei bod yn deg dweud ichi gymryd yr awenau oddi wrth un o gewri gwirioneddol gwleidyddiaeth Cymru, bydd gan eich olynydd chi esgidiau mawr i'w llenwi hefyd. Rwyf i'n wir o'r farn bod pob un ohonom ni yn y Siambr hon, er ein bod wedi teithio yma ar hyd llwybrau amrywiol, o wahanol rannau o Gymru, rydym ni wedi ein huno gan ymrwymiad at wasanaeth cyhoeddus. Rydym i gyd yn awyddus i gael y gorau i'n gwlad. Rydym yn awyddus i weld Cymru iachach, fwy ffyniannus, fwy amgylcheddol gyfeillgar a thecach, a thrwy ddadl frwd yn y Siambr hon rydym i gyd yn pleidleisio er lles y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a gwn eich bod chi'n rhannu'r dyhead hwnnw, Prif Weinidog. Ac, ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Geidwadol Cymru, hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad aruthrol yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, a'r cyfraniad a wnaethoch yn ystod 18 mlynedd yn Llywodraeth ein Cynulliad Cenedlaethol ac ar gyfer Cymru.

Yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, gwn y byddwch yn parhau i fod â rhan weithredol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y lle hwn a thu hwnt hefyd, a gwn fod gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau. Felly, rwy'n siŵr bod dyfodol i chi wrth weithio ar gyfer pobl Cymru mewn bywyd cyhoeddus. Diolch i chi am eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, Carwyn. Llongyfarchiadau ar eich cyflawniadau yn eich swydd a hoffwn ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i chi a'ch teulu. [Cymeradwyaeth.]

14:35

Brif Weinidog, rwy'n siŵr taw chi fyddai'r cyntaf i gytuno nad ydym ni bob amser wedi gweld llygad yn llygad dros y blynyddoedd. Ond, eto i gyd, nid oes gen i ddim amheuaeth bod buddiannau ein gwlad wedi bod yn flaenllaw yn eich meddyliau chi drwy gydol eich oes fel Prif Weinidog. Pan gymeroch chi'r awenau, chi oedd dim ond yr ail Brif Weinidog yn ein hanes, ac mi fydd yr anrhydedd arbennig honno o eiddo i chi am byth, wrth gwrs.

Un o'ch prif orchwylion mewn sawl ffordd oedd adeiladu ar lwyddiant eich rhagflaenydd, a'r sawl y gwnaethoch chi ei alw'n gynharach yn fentor, sef Rhodri Morgan—un a fu'n allweddol wrth ennyn cefnogaeth y bobl i'n hegin Gynulliad Cenedlaethol, sefydliad newydd a oedd, wrth gwrs, ar seiliau simsan iawn yn y dyddiau cynnar hynny. Fe gymeroch chi'r cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif, gan gydweithio yn y glymblaid roedd fy mhlaid i yn rhan ohoni ar y pryd. Fe wnaethoch chi fwrw ymlaen â chynnal y refferendwm yr oeddem ni wedi cytuno rhwng y ddwy blaid i roi ar waith gan sicrhau bod gan y Senedd hon heddiw y pwerau sy'n caniatáu i ni ddeddfu dros Gymru a'i phobl heddiw ac i'r dyfodol. Roedd honno'n gamp fawr, Carwyn, ac rwy'n awyddus i roi hynny ar y cofnod heddiw. Drwy gydweithio rhwng ein dwy blaid ni, cafwyd refferendwm llwyddiannus yn 2011 a oedd yn garreg filltir hanesyddol o bwys. Rydym yn defnyddio'r geiriau hynny'n aml iawn fel gwleidyddion, ond roedd hwn yn hanesyddol o ran twf a datblygiad sefydliadau cenedlaethol ein gwlad. 

Rwy'n credu y bydd y ffordd huawdl rydych chi wedi amlinellu eich gweledigaeth chi o'r math o fframwaith cyfansoddiadol y mae'n rhaid i Gymru ei gael er mwyn iddi fod yn wlad mwy llwyddiannus yn cael ei gweld fel eich cyfraniad pwysicaf. Yn ogystal â datblygu pwerau deddfu'r Senedd, gwelwyd dechrau ar y gwaith o weithredu cyfrifoldebau dros amrywio trethi hefyd yn ystod eich cyfnod wrth y llyw. Bydd y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn inni gael polisi economaidd mwy cyflawn at y dyfodol. Rydych chi hefyd wedi dadlau'r achos yn gryf dros awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder a fydd yn siŵr o fwrw'r agenda hwnnw yn ei flaen. Yn wir, rwy'n hyderus y bydd arweinwyr Cymru annibynnol yn y dyfodol yn ddiolchgar i chi am eich cyfraniad yn hyn o beth.

Y tu hwnt i hynny, rydych chi wedi gwneud nifer o gyfraniadau yn fwy cyffredinol ar lefel y Deyrnas Unedig, gan alw am ragor o gydweithio rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth Prydain. Rŷch chi wedi galw am strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig, gyda'r gwledydd datganoledig yn cael eu cynrychioli mewn ail siambr wedi'i diwygio. Mae hyn, wrth gwrs, wedi agor y drws ar y camau nesaf yn esblygiad y berthynas rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn, sydd yn anochel o ddigwydd dros y ddegawd nesaf. Mae'n siŵr y bydd gennych chi gyfraniad pellach i'w wneud i'r drafodaeth honno.

Yn ystod yr amser hwn, yn nes adref, wrth gwrs, yn sefyll wrth y blwch dogfennau yn y Siambr hon, fel yr ydych wedi cyfeirio ato eisoes, rydych chi ar y cyfan—er gwaethaf ein hangerdd dros gwm Aman—wedi cynnal urddas tawel, os caf i ddweud, wrth ymwneud â'ch cydweithwyr. Rydych wedi goruchwylio briff eang iawn â hunanfeddiant meistrolgar. Rwyf i, yn un, wedi eich cael yn wrthwynebydd sy'n anodd eich tynnu'n ddarnau. A gawn ni ddweud, yn syml, ei bod yn anodd eich taflu oddi ar eich echel, Carwyn?

Bydd rhai y tu allan i ymrafaelion y bywyd gwleidyddol yn ei chael yn anodd deall y straen a'r pwysau sy'n effeithio arnom ni i gyd yn anochel, ac nid yn lleiaf ar ein teuluoedd, yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Felly, yn ogystal â rhoi teyrnged bersonol i chi, rwy'n credu ei bod yn briodol inni gydnabod hefyd y cymorth a gawsoch gan eich gwraig Lisa, a'ch plant, Seren a Ruairi, a chan eich tad, Caron.

Carwyn, drwy holl gyfnod eich swydd, rydych chi wedi amlygu gwytnwch clodwiw, sy'n rhinwedd yr wyf yn siŵr y bydd ei hangen ar eich olynydd, pwy bynnag fydd hwnnw. [Chwerthin.]

A gaf i ddymuno yn ddiffuant pob dymuniad da i chi a'ch teulu at y dyfodol, a diolch o waelod calon ar ran pobl Cymru am eich blynyddoedd o wasanaeth? [Cymeradwyaeth.]

14:40

Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog, a diolch i chi am eich sylw caredig i'r cwestiynau yr wyf i a grŵp UKIP wedi eu gofyn i chi dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Rydym wedi anghytuno o bryd i'w gilydd, ond rwy'n teimlo mai gwahaniaethau barn wleidyddol oedd y rhain, ac yn sicr, o'm rhan i fy hun, ni theimlais unrhyw ddrwgdeimlad personol yno. Rwyf wedi mwynhau ein brwydrau. Wrth gwrs byddwn yn dal i'ch gweld yn y Siambr, ond bydd braidd yn rhyfedd inni beidio eich gweld yn y sedd yr ydych wedi bod ynddi drwy gydol fy amser i yn y fan hon. Byddwn yn dweud nad wyf i wedi cytuno â'ch atebion bob amser, ond ar y cyfan yr ydych wedi dangos meistrolaeth dda o'ch portffolio eang iawn fel Prif Weinidog Cymru, fel y crybwyllodd Adam Price yn awr. Rydych chi wedi dangos cryn dipyn o wytnwch hefyd wrth aros yn y swydd cyhyd. Credaf eich bod chi a Jane Hutt ymhlith y Gweinidogion hiraf eich gwasanaeth yn hanes gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.

Cafwyd sylwadau yn y gorffennol am eich tebygrwydd i Derek Brockway, dyn y tywydd ar y teledu, a chafwyd perfformiad ar gyfer Comic Relief ychydig flynyddoedd yn ôl pan fu'r ddau ohonoch yn cyfnewid safle. Yn bersonol, nid oeddwn yn gweld y tebygrwydd hwnnw. Yn gynyddol, rwy'n drysu rhyngoch chi a hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland. [Chwerthin.] A yw'n wir nad oes unrhyw un erioed wedi eich gweld chi ac yntau yn yr un ystafell gyda'ch gilydd? Beth bynnag, wrth i chi fyfyrio ar hynny, rwy'n dymuno'n dda i chi, Prif Weinidog, yn eich gyrfa i'r dyfodol, ar ran grŵp UKIP a minnau. Diolch i chi.

Anrhydedd i mi yw cael siarad heddiw ar ran y grŵp Llafur, i roi teyrnged i'r dyn sydd wedi arwain ein plaid a'n gwlad dros y naw mlynedd diwethaf. Mae'r heriau wedi bod yn sylweddol ar adegau. Fel y gwn eich bod wedi ei ddweud o'r blaen eich hun, Carwyn, daethoch i'ch swydd yn dilyn y chwalfa ariannol fyd-eang, wedi eich llesteirio gan ymrwymiad gwleidyddol yn San Steffan i gyni, ac wrth gwrs, mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod dan deyrnasiad Brexit. Bu dyddiau duon yn wir, ond drwy'r cyfan, Carwyn, rydych chi wedi arwain yn egwyddorol ac angerddol, ag arweinyddiaeth sydd wedi sefyll dros Gymru, sydd wedi cydweithio i lunio Cymru well, ac mae'r hyn a gyflawnwyd wedi bod yn sylweddol—nid y lleiaf o'r rhain fu eich llwyddiant yn arwain Llafur Cymru i ennill dau etholiad.

Roedd yr arolygon barn yn dweud wrthym yn gyson, Carwyn, mai chi oedd y gwleidydd uchaf ei barch yng Nghymru—yn ased etholiadol i Lafur Cymru. Cefais innau ychydig o brofiad o'r hud, a melys yw cofio ymgyrchu gyda chi yn Aberpennar ychydig cyn yr etholiad yn 2016. Roedd y cymorth a roesoch chi i mi fel ymgeisydd am y tro cyntaf yn dderbyniol dros ben, fel, rwy'n gobeithio, yr oedd y croeso cynnes a gawsoch chi gan drigolion lleol yn y farchnad wythnosol brysur. Yn yr un modd, roedd y grŵp o fenywod y gwnaethom gyfarfod â nhw yn llyfrgell Abercynon ychydig wedyn yn falch iawn o gyfarfod â seren enwog. Ond roedd gennych chi ffordd o ymgysylltu â nhw a gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol—i'r fath raddau eu bod nhw, pan ddychwelais i ychydig funudau yn ddiweddarach, yn hapus i roi cyngor i chi ar sut i liwio'ch gwallt. [Chwerthin.] Yna, fe aethon nhw ymlaen i'ch canmol chi am y rhaglenni cerdded a'ch darllediadau hwyliog ar noson waith, ac yna fe gwympodd y geiniog. Roedden nhw'n credu fy mod i wedi dod â'r dyn tywydd poblogaidd am ymweliad â'r lle.

Ond, er gwaethaf yr achos hwnnw o gamadnabyddiaeth, mae eich arweinyddiaeth yn y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sydd nawr mewn gwaith neu â chymwysterau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r niferoedd uchaf erioed yn staff y GIG a'u cyflogau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n ceisio cael gafael ar driniaethau newydd, heb orfod aros mor hir am brofion diagnostig neu drosglwyddo gofal, ac yn goroesi cyflyrau fel canser.

Fel y soniais yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, rwy'n gwybod bod cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi bod yn bwysig i chi, ac mae'n amlwg bod eich Llywodraeth chi wneud gwahaniaeth yn y fan hon hefyd: cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd sydd ei angen fwyaf; y cynnig mwyaf hael o ofal plant yn y DU; camau i gefnogi myfyrwyr; cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; gwelliannau o ran canlyniadau arholiadau. Yn fwyaf amlwg, Carwyn, fel y soniodd siaradwyr eraill, mae eich ymrwymiad i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau modern sy'n addas i'r diben. Mae bron £4 biliwn wedi ei glustnodi ar gyfer hyn, a bydd dros 150 o ysgolion a cholegau wedi eu hadeiladu neu eu hadnewyddu erbyn 2019. Mae fy etholaeth i, cwm Cynon, wedi elwa'n fawr ar hyn. Mae buddsoddiad gwerth dros £100 miliwn yn golygu bod disgyblion o un ysgol uwchradd newydd sbon a saith ysgol gynradd newydd sbon nawr yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau blaengar a modern. Ac mae'r gwelliannau hyn yn ymestyn i'r sector addysg bellach hefyd. Cof arall y byddaf i'n ei drysori yw bod gyda chi wrth ichi dorri'r dywarchen ar gyfer campws £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd Aberdâr yn yr eira a'r cesair iasol. A thra byddai llawer o arweinwyr eraill wedi gadael ar frys o dan y fath amodau ofnadwy, fe wnaethoch chi benderfynu dringo ar y bws a oedd wedi dod yno ar gyfer y gweithwyr a thraddodi araith fyrfyfyr yno ar eu cyfer nhw. Credaf fod hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni am y dyn.

Carwyn, rydych hefyd wedi gwneud gwahaniaeth drwy eich gwaith yn helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol o ran ymgyrch 2011 ar bwerau deddfu ac yn y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi defnyddio'r pwerau hyn oddi ar hynny. Yr un mor bwysig fu'r pwerau trethu a roddwyd i'r Cynulliad hwn i sicrhau'r trethi cyntaf a wnaed yng Nghymru yn yr oes fodern.

Gwn na fydd eich ymddiswyddiad yma heddiw yn golygu diwedd eich cyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gwn hefyd y bydd Lisa, Seren, Ruairi a Caron wrth eu boddau o allu treulio mwy o amser gyda chi.

Fel rhywun sydd wedi astudio ac wedi bod yn dysgu hanes Cymru, rwy'n hyderus y bydd eich lle yn llyfrau hanes Cymru yn un amlwg. Felly, diolch yn fawr, Carwyn, a dymuniadau gorau i'r dyfodol. [Cymeradwyaeth.]

14:45

Prif Weinidog, mae'n bleser gennyf ddweud ychydig o eiriau yn y datganiad hwn, fel yr ydych chi a minnau wedi cystadlu yn y Siambr hon am bron saith o'r naw mlynedd yr ydych chi wedi gwasanaethu fel Prif Weinidog. Ni wnaeth y dadlau a'r etholiadau hynny yn eich erbyn fawr o les i mi—[Chwerthin.]—chi wnaeth aros yn y gadair acw ac fe arhosais i ar yr ochr hon. Ond rwy'n cofio'r tro cyntaf y gwnaethom ni'n dau gyfarfod, a hynny pan oeddwn i'n Gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, ac fe ddaethoch chi'n siaradwr gwadd i Glwb Cymdeithasol Heddlu De Cymru yn Waterton. Rhyw 17 mlynedd yn ddiweddarach, a dyma ni, yn sefyll yn y Siambr hon yn sefydliad sydd wedi ei drawsnewid ei hun yn Senedd o'r iawn ryw. Ac rydych chi'n deilwng o lawer iawn o'r clod am hynny, yn sgil eich cyfnod yn Weinidog ond hefyd yn Brif Weinidog. Ac yn eich datganiad ar ein cyfer ni'r prynhawn yma, fe wnaethoch chi roi canmoliaeth i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y daith hon ar ddatganoli, gan nodi, yn gwbl briodol, y llwyddiant yr ydych wedi ei gael fel Prif Weinidog, ac yn eich Llywodraethau. Fe nodoch chi, eto yn gwbl briodol, y bobl hynny sydd wedi eich cefnogi ar hyd y daith honno. Oherwydd fel y gwyddom ni'r gwleidyddion, taith unig yw hon yn aml iawn, a bydd rhai o'r penderfyniadau a wnewch chi, yn enwedig mewn llywodraeth, yn benderfyniadau y bydd yn rhaid i chi fel unigolyn eu gwneud. Ac felly rwy'n rhoi teyrnged i'ch cyfnod yn y Llywodraeth, a'ch amser yn Weinidog a'ch amser yn Aelod Cynulliad, a fydd, yn amlwg, yn parhau tan 2021.

Mae gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau chi, heb os nac oni bai. Nid oes neb yn rhoi'r amser na'r ymrwymiad yr ydych chi wedi eu rhoi heb fod gwasanaeth cyhoeddus yn eu gwythiennau, a gellir eich canmol yn fawr am yr ymdrechion yr ydych wedi eu gwneud i wella bywyd pobl Cymru. Rydym yn wahanol iawn yn wleidyddol, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond dyna yw natur gwleidyddiaeth—lluosogrwydd—ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, mae'n siŵr.

Rwy'n cofio'r adeg yn dda pan wnaethoch chi gyhoeddi eich bod yn ymddiswyddo yn ôl ym mis Ebrill, ac roeddech chi'n rhoi teyrnged i'r staff a oedd wedi rhoi cefnogaeth dda i chi. Rwy'n credu y gallem ni i gyd roi teyrnged i'r staff sydd wedi ein cefnogi, oherwydd, pan wnaethoch chi'r cyhoeddiad hwnnw, ar ddydd Sadwrn oedd hynny, ac fel y mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n fy adnabod i a'm cefndir ffermio yn gwybod, dyna'r amser y byddaf i'n ei dreulio yn y marchnadoedd da byw i lawr yn y gorllewin, ac roedd pennaeth fy staff mewn parti 'stag' yn Las Vegas, a'm swyddog y wasg yng ngêm bêl-droed Tottenham Hotspur yn Wembley, a rhyngom ni—er bod fy niffygion i o ran technoleg yn faen tramgwydd, a dweud y lleiaf—fe wnaethom ni lwyddo i lunio datganiad i'r wasg, ond roeddech chi wedi ein synnu ni bryd hynny, oeddech wir.

Ond nid ydych erioed wedi ein synnu ni gyda'ch ymrwymiad a'ch ymroddiad i Gymru. Rydych wedi tynnu sylw ni at un o'r swyddogaethau mawr yr ydych wedi ei chyflawni, sef codi proffil Cymru nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig, ond ledled y byd, ac rwy'n rhoi teyrnged lawn i chi am wneud hynny. Flynyddoedd lawer yn ôl, byddai llawer o bobl o Gymru yn mynd dramor, a phan fyddai rhywun yn eich holi mewn arolwg neu holiadur, 'O ble rydych chi'n dod?' a byddech chi'n dweud, 'Caerdydd', neu efallai, 'Cymru'—'Beth? Ble mae lle felly?' fyddai'r ymateb, ac yna byddech chi'n dweud 'Llundain' neu 'Lloegr', ac yna'r ymateb fyddai 'O! Rwy'n deall nawr'. Wel, heddiw mae pobl yn gwybod lle mae Cymru ac mae pobl yn gwybod rhywbeth am Gymru, ac mae llawer o'r clod am hynny i chi fel Prif Weinidog ac ymdrechion eich Llywodraeth.

Rwy'n diolch i chi'n ddidwyll iawn fel Aelod Cynulliad am eich cwrteisi i mi yn yr amser yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, ond hefyd am y cwrteisi yr ydych wedi ei ddangos i mi fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yma yn y Cynulliad. Rwy'n dymuno'r gorau i chi a'ch teulu i'r dyfodol. Pan fyddwn yn mynd adref fin nos ac yn cau'r drws, ar ôl cael diwrnod arbennig o anodd, y teulu sy'n ein cofleidio ni ac yn rhoi cysur i ni, ac rwy'n siŵr bod eich teulu chi yn ffynhonnell fawr o nerth i chi. Rwy'n dymuno'n dda i chi i'r dyfodol ac, yn y ddwy neu dair blynedd arall sydd gennym ni cyn yr etholiad Cynulliad nesaf, rwy'n gobeithio y gwelwn Carwyn Jones yn weithgar iawn yn y Siambr hon. Dymuniadau gorau, Prif Weinidog. [Cymeradwyaeth.]

14:50

Am y chwe blynedd a hanner y bûm i'n arweinydd fy mhlaid, roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog, ac mae'n deg dweud, fel y dywedodd llawer un yn barod y prynhawn yma, nad ydym wedi cydweld bob amser. Ar adegau bu anghytundeb eithaf cryf rhyngom ni, fel y dylai fod rhwng pleidiau gwleidyddol sy'n wynebu ei gilydd. Ond credaf ei bod yn deg dweud bod yr anghytundebau hynny wedi digwydd mewn ffordd barchus ar y cyfan, ac maen nhw wedi digwydd mewn ffordd sydd wedi galluogi'r ddwy blaid i gydweithio pan fo'r angen wedi codi, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y trafodaethau preifat a gawsom ni.

Carwyn, o'm profiad i o weithio ochr yn ochr â chi, gwn eich bod o ddyhead gwirioneddol i lunio Cymru lle nad yw pobl yn dioddef gwahaniaethu. Pe byddai hynny'n golygu rhoi'r adain dde eithafol yn ei lle ar gwestiwn hiliaeth ac ymraniad neu ar gwestiwn hawliau menywod, rydych chi wedi gweithredu mewn dull egwyddorol a moesegol a chredaf eich bod yn haeddu cydnabyddiaeth am hynny.

Rydych chi hefyd wedi bod yn ddiffuant yn eich awydd i weld Cymru yn symud ymlaen. Ac er fy mod wedi teimlo'n rhwystredig ynghylch y diffyg cefnogaeth i weld cynnydd cyflymach, yn enwedig ar gyfansoddiad Cymru, o ran pwerau, a'r diffyg cefnogaeth yr ydych wedi ei gael gan eich ASau yn arbennig, mae'r ffaith eich bod chi bellach wedi dechrau arni o ran datganoli'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â gweithio gydag eraill i sicrhau pleidlais 'ie' lwyddiannus yn ôl yn 2011, yn dangos ble'r ydych yn sefyll yn wleidyddol ar y cwestiynau hyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwaith yr ydych wedi ei gychwyn ar y system cyfiawnder troseddol yn dwyn ffrwyth a hynny'n fuan.

Nawr, gwn fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i chi yn bersonol, ac eraill o'ch cwmpas, a gwn o'm profiad fy hun sut y gall bywyd yn llygad y cyhoedd effeithio ar y rhai sy'n agos atom, hyd yn oed pan fyddwn ni'n ceisio eu diogelu rhag hynny. Yr agwedd honno ar y swydd, fwy na thebyg sydd fwyaf anodd. Felly rwy'n gobeithio, ar ôl heddiw, y bydd gennych fwy o amser i'w dreulio gyda'r rhai sy'n agos atoch a'ch anwyliaid. Wedi'r cyfan, dyna'r peth pwysicaf.

Felly, pob lwc i chi.

Dymuniadau gorau i chi a'ch teulu i'r dyfodol. [Cymeradwyaeth.]

Llywydd, credaf fod yna naw ohonom ni yma heddiw, naw Aelod Cynulliad—hen begoriaid—sydd wedi bod yma ers y cychwyn cyntaf, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys Carwyn, chi a minnau. [Chwerthin.]

14:55

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod ni i gyd wedi gweld datblygiad a thwf cyflymach o ran datganoli ac, yn wir, o ran Cymru ein gwlad ers 1999, ac rydym erbyn hyn yn senedd ym mhopeth ond yr enw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr enw hwnnw'n dilyn cyn bo hir. Ac mae dyfnder ac ehangder ein cyfrifoldebau, a'r offerynnau sydd gennym ni nawr i weithio er mwyn pobl Cymru, gyda chymunedau yn fwy o lawer nag yr oedden nhw, a chredaf eu bod yn cael eu defnyddio yn effeithiol er gwell.

Dros y cyfnod hwnnw, Llywydd, rydym wedi datblygu o reoliadau malltod tatws yr Aifft i'r dirgelion hynny—y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol—a Biliau Cynulliad, a bellach hyd at Ddeddfau. A wyddoch chi, rydym wedi gweld rhai Deddfau pwysig, sylweddol mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn wirioneddol gyflawni o ran y defnydd o'r pwerau hynny ar gyfer pobl Cymru: Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd, Deddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol, y ddeddfwriaeth ar roi organau, ac, fe ddywedwn i, y Ddeddf Teithio Llesol, yr oedd yn fraint i mi fod â rhan ynddi pan oeddwn i yn y Llywodraeth. Felly, rydym wedi cyflawni tipyn. Am naw mlynedd o'r amser hwnnw, y cyfnod hwnnw o ddatblygiad a thwf, darpariaeth well a mwy effeithiol ar gyfer Cymru, mae Carwyn wedi arwain Llywodraeth Cymru ac arwain ein gwlad, ac arwain y gwaith hwnnw o adeiladu datganoli yng Nghymru, yn y refferendwm fel y soniwyd yn gynharach ac yn gyffredinol, ac wedi arwain ar weithredu gwirioneddol a defnydd o'r pwerau hynny, sydd, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol.

Mae hwn wedi bod yn gyfle aruthrol i Carwyn, ac yn gyfrifoldeb, yn fraint ac yn anrhydedd aruthrol, ac yn un y gwn ei fod yn ymwybodol iawn ohono bob amser wedi amgyffred y cyfan a ddaw yn sgil y cyfrifoldebau hynny. Rwy'n credu bod Carwyn wedi cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, Llywydd, gydag ymrwymiad, ymroddiad, gallu a bri, ac mae honno'n deyrnged ardderchog i'r dyn.

Ar ddechrau'r Cynulliad, Llywydd, daeth Alun Pugh, a oedd yn cynrychioli Gorllewin Clwyd ar y pryd, a minnau'n ffrindiau da yn gyflym, y tri ohonom, ac mae'n deg dweud ei bod wedi dod yn amlwg i Alun a minnau fod gan Carwyn nodweddion cryf o ran arweinyddiaeth. Credaf, hyd yn oed yr adeg honno, fod hynny wedi ei gydnabod, nid yn unig gennym ni, ond ar draws y pleidiau yn y Cynulliad ar y pryd, ar draws Aelodau'r Cynulliad, ac yn y cyfryngau ac yn fwy eang na hynny. Deuthum i wybod am y nodweddion hynny o ran arweinyddiaeth, i'm cost fy hunan, yn gynnar iawn pan wnes i ymladd Carwyn am swydd fawreddog Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y de ddwyrain. [Chwerthin.] Roedd hwnnw'n ddyrchafiad cynnar i Carwyn, ond wnaeth hynny ddim pylu dim ar ein cyfeillgarwch ni mewn unrhyw ffordd.

Ond, y tu allan i'r Cynulliad, Llywydd, ychydig iawn o frwdfrydedd a ddangoswyd i fy ymdrechion i gael Carwyn i chwarae yn nhimau pêl-droed a chriced y Cynulliad, credaf ei bod yn deg dweud, er bod Carwyn wedi chwarae a chymryd rhan. A thra'r oedd ef yn effeithiol weithiau—[Chwerthin.]—

—roeddwn i'n cael Carwyn yn awyddus i arddangos ei wybodaeth pan ddeuai'r cyfle i gymryd rhan mewn cwis. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhannol oherwydd bod gan Carwyn wybodaeth gyffredinol sylweddol ac, yn wir, ef oedd seren ein tîm cwis. Roedden ni'n gydradd gyntaf yn y gystadleuaeth, Llywydd, a phan ddaeth hi'n amser wedyn i ddewis rhwng y ddau dîm ar y brig, roedd Carwyn yn awyddus iawn i ddangos ei wybodaeth ymhellach a bod yr aelod o'n tîm a fyddai ar y llwyfan ar gyfer y gêm a fyddai'n penderfynu'r enillwyr. Yn anffodus, ac yn annisgwyl, nid cwestiwn fyddai'n penderfynu'r enillwyr, ond dawns. [Chwerthin.] Llywydd, nid âf ymhellach na dweud nad wyf yn credu bod dawn Carwyn i ddawnsio yn gwbl hafal i'w wybodaeth gyffredinol a'i feistrolaeth o gwisiau.

Ond, beth bynnag, yn gynnar iawn, Llywydd, cymerodd Carwyn swydd yn y Cabinet a chynnal Cymru drwy argyfwng ofnadwy clwy'r traed a'r genau, y bydd, unwaith eto, llawer ohonom yn ei gofio'n dda iawn—yr anhawster ysol a ddaeth i'n cymunedau gwledig a Chymru gyfan, a chyfrifoldeb cynnar i Carwyn, yn gynnar yn ei amser ef yn y Cabinet, oedd  tywys Cymru drwy hynny. Roedd honno'n her fawr ac, unwaith eto, mae'n deyrnged i ysbryd Carwyn ei fod yn gallu ymateb i'r her a thywys Cymru drwy'r amser hwnnw o argyfwng mawr. A phan ddaeth Carwyn yn Brif Weinidog, roedd yn fraint fawr i mi wasanaethu yn y Llywodraeth gyda Carwyn a chael y cyfle, fel y dywedais yn gynharach, i gyflwyno deddfwriaeth megis y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Llywydd, credaf ei bod yn deg dweud, fel y soniodd eraill, ac fel y soniodd Carwyn ei hunan, fod Carwyn wedi adeiladu ar sylfeini cadarn Rhodri Morgan. Ac mae'r ddau ohonyn nhw, yn fy marn i, yn weddol debyg mewn nifer o ffyrdd o ran eu brwdfrydedd dros Gymru a datganoli, eu brwdfrydedd dros rygbi a chwaraeon yn gyffredinol, a'u hymrwymiad i'r gwaith o arwain Cymru a chyflawni gwaith Prif Weinidog. Ac mae'n deyrnged i'r ddau ohonyn nhw eu bod yn uchel eu parch yng Nghymru a chyfeirir atyn nhw wrth eu henwau cyntaf, eu henwau bedydd, ac mae hynny, yn fy marn i, yn dweud cyfrolau o ran yr hoffter a'r parch sydd iddyn nhw yng ngolwg pobl Cymru.

Llywydd, mae safle Carwyn yn hanes cynnydd Cymru a'r DU yn ddiogel, a gwn y bydd pob un ohonom ni yma heddiw yn dymuno'r gorau i Carwyn i'r dyfodol a hefyd ei wraig Lisa, eu plant a'i dad Caron. Diolch yn fawr, Carwyn. [Cymeradwyaeth.]

15:00

Diolch. A chyn i fi alw ar y Prif Weinidog i ymateb, a gaf i hefyd, fel old-timer—[Chwerthin.]ddiolch i'r Prif Weinidog am ei wasanaeth ar ran holl Aelodau'r Senedd yma? Ar hyd y blynyddoedd, mae wedi bod yn bleser ac yn braf i gydweithio. A gaf i anghytuno â'r Prif Weinidog ar un peth, sef ei farn e ar selfies mewn gwleidyddiaeth, a dweud wrth y Prif Weinidog taw'r selfie mwyaf poblogaidd i fi ei roi ar Twitter oedd y selfie y tynnais i ohono fe a fi yn Lille, yn y dorf yn Lille, y noson y gwnaeth Cymru faeddu Gwlad Belg yn quarter finals yr Ewros, gyda'r caption 'Please don't take me home, I just don't wanna go to work'? Ac roedd hynny'n selfie ac yn tweet poblogaidd iawn.

Felly, diolch, Carwyn, am eich cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd a hefyd am eich gwasanaeth i'ch Llywodraeth, i'r Senedd yma ac i'ch gwlad. Ac i ymateb, â'r gair olaf, y Prif Weinidog, Carwyn Jones. 

Diolch, Llywydd. Ni fyddaf yn cadw'r Aelodau yn rhy hir, dim ond i ddiolch i bawb am eu geiriau caredig iawn, iawn.

A gaf i ddiolch i Paul am beth ddywedodd e? Mae'n wir i ddweud bod yna lawer o bethau sy'n digwydd yn y Siambr hon sy'n digwydd ar lefel wleidyddol ac nid ar lefel bersonol.

A gaf i hefyd ddiolch i Adam? Roeddwn i yng nghanolfan y mileniwm ddydd Sul ac fe welais i lyfr yna a oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa: erthyglau ysgrifenedig Adam o 2001 hyd nawr. Mae amser gen i nawr i'w ddarllen e, felly efallai y gwnaf i wneud hynny. Ond ei wyneb e roeddwn i'n ei weld pan es i i mewn i'r ganolfan ei hunan. 

A gaf i ddiolch i Gareth am ei sylwadau? Ac i Andrew. Dros lawer o flynyddoedd, rydym ni wedi cystadlu—yn ffodus i mi, nid yn gorfforol—[Chwerthin.]—ar ochr arall y Siambr. Ond, yn sicr, mae'n hollol iawn i ddweud bod llawer o sgyrsiau wedi digwydd y tu ôl i gadair y Llefarydd, fel y maen nhw'n galw hynny yn San Steffan, yr oedd eu hangen i gwblhau busnes, ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn iddo.

A Leanne—gwn fod Leanne wedi treulio llawer wythnos yn rhwystredig oherwydd yr atebion a roddais i, a dylai fod hynny'n destun balchder i mi, mae'n debyg. [Chwerthin.] Ond gwn o'i safbwynt hi, fel y dywedais wrthi o'r blaen, mae hi wedi gwneud gwaith aruthrol i godi proffil menywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Gyda chenfigen fawr y bûm yn ei gwylio yn darlledu ym mhob un o'r darllediadau hynny ar gyfer arweinyddion y pleidiau, pan oedd hi ar deledu'r rhwydwaith a 'doeddwn i ddim—[Chwerthin.]—a daeth â chlod mawr iddi ei hun pan gymerodd ran yn y dadleuon hynny. Ac yn sicr, am amser hir wedi hynny, roedd pobl yn meddwl mai hi, mewn gwirionedd, oedd Prif Weinidog Cymru—a phwy a ŵyr yn y dyfodol.

Ac yn olaf, wrth gwrs—. O, Vikki, wrth gwrs, diolch i chi am y geiriau a ddywedoch chi.

Ac yn olaf, John. Pan glywais fod John yn mynd i siarad, cefais yr un teimlad a phan oeddwn yn priodi ac roedd fy ngwas priodas ar fin siarad—[Chwerthin.]—oherwydd mae John yn gwybod am lawer iawn o bethau yr ydym wedi eu gwneud dros y blynyddoedd. Ond o'r holl bethau y gallwn i ei ddweud wrthych chi am John, un cyngor bach y byddwn yn ei roi i chi fyddai peidiwch byth â gadael iddo drefnu llety ar eich cyfer chi. Fe aethom ni i Blackpool rai blynyddoedd yn ôl, a John oedd wedi trefnu'r llety am £10 y noson. Roeddem ni'n rhannu ystafell. Pan gyrhaeddom ni, dywedodd y gwestywr wrthym ni, 'Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes gan y gwesty unrhyw fesuryddion yn yr ystafelloedd', a dyna oedd yr atyniad, mae'n debyg. Roedd gan y gwesty gawod—un gawod—ac roeddech yn mynd i mewn iddi gan gerdded yn syth o'r coridor drwy'r llen, os cofiaf yn iawn. [Chwerthin.] Profiad eithaf diddorol oedd hynny, wir. Felly, mae John yn llawer o bethau, ond rwy'n amau nad gyrfa trefnydd teithiau moethus sydd o'i flaen ef. [Chwerthin.] John, rwyf wedi eich adnabod am yr holl flynyddoedd hynny, ac rydym wedi cael llawer o hwyl, y drwg a'r da, wrth gwrs. Ond bron 20 mlynedd yn ddiweddarach, byddai'n syndod inni yn wir i feddwl y buasem yn eistedd yma yn y Senedd gyda'r fath bwerau, o gofio ein sefyllfa yn ôl yn 1999, Y Gorchymyn tatws yn tarddu o'r Aifft oedd hi, a buom yn sôn am wyniaid rhy fach—dyna'r hyn yr oeddem yn ei drafod yn y Siambr. Pwy fuasai wedi meddwl y byddai'r dydd yn dod pan fyddem yn sôn am drawsblaniadau dynol a newid y system gydsyniad?

Diolch yn fawr i chi i gyd. Pob lwc i chi i gyd yn y dyfodol.

Llawer o ddiolch i chi i gyd, a phob hwyl i chi i gyd yn y dyfodol.

Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu fy ngwlad fel Cymro i'r carn.

Bu'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi wasanaethu fy ngwlad yn Gymro balch. [Cymeradwyaeth.]

15:05
3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cwestiynau nawr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy.

Anheddau Gwag yng Nghaerdydd

Diolch, Llywydd. Rwy'n datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghaerdydd .

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael ag anheddau gwag yng Nghaerdydd? OAQ53075

Diolch. Mae angen i awdurdodau cynllunio lleol ddeall y ffactorau sy'n dylanwadu ar anghenion tai yn eu hardal, gan gynnwys anheddau gwag. Mae asesiadau o'r farchnad dai leol yn ddarn allweddol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol, sy'n ymdrin â'r holl farchnad dai, gan gynnwys cyfraddau anheddau gwag.

Diolch. Mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol, felly hoffwn ddechrau drwy anrhydeddu'r Tywysog Llywelyn, tywysog brodorol olaf Cymru sofran, a gafodd ei ladd ar y diwrnod hwn ym 1282 yng Nghilmeri.

Ysgrifennydd y Cabinet, ymwelais yn ddiweddar â thŷ yn Nhrelái a oedd yn dechrau edrych fel jyngl. Roedd yr ardd wedi tyfu mor wyllt fel mai prin y gallech chi weld bod tŷ yno. Yn yr ardd, roedd sbwriel yn cael ei waredu, roedd y ffenestri wedi malu ac roedd planhigion yn tyfu i mewn i'r tŷ, ac mae'n un o 1,300 o gartrefi gwag yng Nghaerdydd y dylai teulu fod yn byw ynddo.

Mae gan Gaerdydd y record waethaf yng Nghymru am ailddechrau defnyddio tai gwag—llai nag 1 y cant yn 2016-17. Rydych chi'n gadael iddyn nhw wneud fel y mynnon nhw yn hynny o beth, ond ar yr un pryd yn caniatáu i'r cyngor Llafur adeiladu miloedd o dai newydd ar gaeau glas na all pobl leol eu fforddio. Felly, pam nad ydych chi'n mynnu bod Cyngor Caerdydd yn defnyddio eu pwerau i ailddefnyddio'r tai gwag hyn, oherwydd nid oes dim yn dangos esgeuluso ein cymunedau yn fwy na thai yn cael eu gadael i bydru am flynyddoedd lawer?

Rwy'n gwybod bod dyhead gan Gyngor Caerdydd i leihau nifer yr anheddau gwag, ac ystyriwyd hynny yn rhan o'r archwiliad annibynnol parthed y cynllun datblygu lleol. Fe wnaf i ddweud bod anheddau gwag, yn gwbl ddi-gwestiwn, yn wastraff ar adnoddau. Fe allan nhw'n aml fod yn darged i fandaliaid, sy'n amlwg yn effeithio ar ansawdd bywyd cymdogion a chymunedau lleol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi rhoi arian—rwy'n credu ei fod bellach tua £40 miliwn—ar gyfnod ailgylchu parhaus. Rwy'n credu bod hynny dros 15 mlynedd, ac mae hynny wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol weithredu cynlluniau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn credu bod hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus. Gan ddibynnu ar sut yr ydych chi'n cyfrif cartrefi gwag—p'un a ydyn nhw'n wag ar ôl chwe mis, neu gyfnod byrrach—mae rhywle rhwng 23,000 a 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Yn fy ardal i, mae gan Rhondda Cynon Taf bron i 500 o adeiladau sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd—dyna'r gwaethaf o unrhyw awdurdod ar wahân i Abertawe. Mae'n eithaf rhyfeddol bod ymhell dros 1,100 o anheddau a fu'n wag ers 10 mlynedd ledled Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn, gan fod angen inni bwysleisio'r angen i adeiladu mwy o gartrefi, ein bod ni yn defnyddio'r cartrefi sydd ar gael eisoes mor effeithlon â phosib.

15:10

Ni allaf anghytuno â dim a ddywedodd David Melding. Rwy'n credu y dylai nifer yr anheddau gwag mewn ardal awdurdod cynllunio lleol fod yn ystyriaeth pan fyddant yn ystyried nifer y cartrefi mewn datblygiad newydd. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Neil McEvoy am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno. Rydym ni wedi gweld y cynllun Troi Tai'n Gartrefi, rydym ni wedi gweld y cynllun benthyciadau gwella cartrefi, ac mae hynny yn rhoi'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol allu ymateb i ofynion eu hardal benodol.

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OAQ53086].

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Y cwestiynau nesaf, felly, gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru—Llyr Gruffydd. 

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi ddweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin a'r taliadau sylfaenol yn rhoi inni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld. Pa dystiolaeth sydd gennych chi y bydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig yn 'Brexit a'n tir' yn gwneud hynny?

Wel, rwyf wedi siarad â Llyr yn y Siambr am y cynllun hwn o'r blaen. Rwy'n credu mai un o'r prif bethau yr ydym ni wedi ei weld eleni yw bod y cynllun taliad sylfaenol yn gyfrwng anneffeithiol nad yw'n diogelu ffermwyr rhag anwadalrwydd yn y ffordd y byddem ni eisiau iddo ei wneud—soniais am y tywydd pan oeddem ni'n siarad am hyn. Yr wythnos diwethaf o flaen y pwyllgor, soniais am y ffaith nad yw'n gwobrwyo perfformiad y ffermwyr nac yn cynorthwyo gyda chynhyrchiant.

Nid oeddwn yn gofyn i chi ddadelfennu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r taliadau sylfaenol; gofynnais i chi a fydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig mewn gwirionedd yn cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi'n feirniadol o'r system bresennol am beidio â'u cyflawni, oherwydd, wrth gwrs, dydych chi ddim yn gwybod, nad ydych chi? A dyna'r gwir amdani, oherwydd nid ydych chi wedi gwneud y gwaith modelu, nid ydych chi wedi gwneud y gwaith arbrofi—nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd eich cynigion, nad ydyn nhw erioed wedi cael eu treialu o'r blaen, mewn gwirionedd yn cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi eisiau eu cyflawni. Yn wir, rydych chi'n anfon ffermydd a'r holl economi wledig ar daith lle nad ydym ni'n gwybod yn iawn i ble'r ydym ni'n mynd, neu o leiaf nid ydym ni mewn gwirionedd yn gwybod sut yr ydym ni'n mynd i gyrraedd yno, oherwydd nid ydych chi wedi gwneud y gwaith cartref. Nawr, onid ydych chi'n derbyn y dylai'r modelu a'r arbrofi i gyd fod wedi digwydd cyn i chi gyflwyno'ch Papur Gwyn, oherwydd os bydd y gwaith modelu yn dweud wrthych chi yn y gwanwyn, neu bryd bynnag y bydd hynny'n digwydd, na fydd hyn yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni eisiau eu gweld, yna byddwch chi wedi gwastraffu blwyddyn gyfan o baratoi ar gyfer Brexit, a bydd hynny'n gwneud i record Llafur Cymru edrych cyn waethed ag un Theresa May?

Wel, nid wyf yn cytuno â chi, oherwydd nid ydym ni wedi cyflwyno'r Papur Gwyn eto; byddwn yn gwneud hynny yn y gwanwyn. Pe byddwn i wedi gwneud y gwaith modelu ac asesu effaith cyn inni ymgynghori, byddem ni wedi cael ein beirniadu am roi'r drol o flaen y ceffyl. Mae'n llawer gwell cael y 12,000 o'r ymatebion hynny yr ydym ni wedi eu cael i 'Brexit a'n tir' ar y ddau gynllun hynny yr ydym ni'n eu cyflwyno. Felly, y cynllun cydnerthedd economaidd—mae hynny ynglŷn â chynhyrchu bwyd. Mae ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein busnesau fferm yn gydnerth a chynaliadwy, yr union beth y maen nhw ei eisiau—maen nhw eisiau iddyn nhw fod yn ffyniannus. Ac o ran y cynllun nwyddau cyhoeddus, rydym ni eisiau gwobrwyo ffermwyr, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd, am yr adnoddau cyhoeddus y maen nhw'n eu cynhyrchu—yr ansawdd aer gwych hwnnw, ansawdd pridd, ansawdd dŵr, y gwaith atal llifogydd y maen nhw'n ei wneud. Felly, pan rydym ni'n cyflwyno'r Papur Gwyn yn y gwanwyn, bydd y gwaith modelu hwnnw a'r asesu effaith hwnnw wedi'u gwneud.

Felly, pan fydd y modelu hwnnw, pan fydd yr asesiad effaith a phan fydd yr arbrofi wedi eu gwneud, os bydd hynny yn y pen draw yn dangos bod cadw math o daliad sylfaenol yn angenrheidiol mewn gwirionedd i gyflawni rhai o'r canlyniadau yr ydych chi wedi eu rhestru, neu o leiaf i gadw ffermwyr ar y tir er mwyn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ydych chi wedi bod yn awchu i ddweud wrthym ni eich bod eisiau eu darparu—os yw'r holl dystiolaeth, ar ôl gwneud y gwaith hwnnw, yn dweud wrthych chi bod cadw'r taliad sylfaenol yn angenrheidiol i gyflawni hynny, a wnewch chi gadarnhau i'r Cynulliad heddiw mai dyna fyddwch chi'n ei wneud?

Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gweld beth fydd y modelu a'r asesu effaith yn ei gyflwyno. Gan i'r cynllun taliad sylfaenol fod yn gymaint o gyfrwng aneffeithiol—ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda ffermwyr dros y misoedd diwethaf, gyda llawer ohonyn nhw'n dweud wrthyf i eu hunain nad ydyn nhw'n credu bod y cynllun taliad sylfaenol yn eu galluogi i fod yn gydnerth ac yn gynhyrchiol yn y ffordd y maen nhw eisiau bod—fe fyddwn yn synnu'n fawr pe bai hynny'n wir. Soniais yr wythnos diwethaf pan yr oeddwn i ger bron y pwyllgor y byddaf yn hyblyg iawn. Felly, gadewch inni weld beth a ddaw o'r ymgynghoriad, a beth wedyn gaiff ei gynnwys yn y Papur Gwyn cyn inni greu cam nesaf y polisi.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, yn ôl yn y cwestiynau i'r Gweinidogion ym mis Chwefror, fe wnaethoch chi ddweud, o ran cyhoeddi asesiadau effaith amgylcheddol, eich bod yn bwriadu gofyn am asesiad o'r fath ar y llosgydd yn y Barri. Roedd hynny yn ystod y cwestiynau i Weinidogion. Mae'n bwysig, pan fo Gweinidogion yn siarad yn y Siambr hon, fod pobl o'r tu hwnt i'r Siambr hon, yn ogystal ag Aelodau sy'n gofyn y cwestiynau hynny, wrth gwrs, yn gweld camau gweithredu. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pa gynnydd yr ydych chi wedi ei wneud, oherwydd, fel y dywedais, ym mis Chwefror, roedd hi'n fwriad gennych a chi, yn Weinidog i ymgymryd â hyn ac rydym ni yn awr ym mis Rhagfyr heb unrhyw welliant yn y sefyllfa?

15:15

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n gwybod y bu'n uchel ei gloch yn dadlau dros hyn ochr yn ochr â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg. Er y buom ni'n disgwyl penderfyniad erbyn diwedd Tachwedd, roedd hi'n angenrheidiol cael eglurhad cyfreithiol ynglŷn ag agweddau ar yr achos. Rwyf eisiau gwneud penderfyniad i gyhoeddi hyn cyn gynted â phosib, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa barhaus a'r pryder sydd wedi'i grybwyll, ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n gwneud hyn, ein bod yn sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn unol â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o ran cynal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, mae swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth ofalus i gydymffurfio â chyfarwyddeb yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan ystyried sylwadau gan yr Aelod ei hun ac aelodau eraill, y datblygwr, ac, wrth gwrs, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.

Fe glywaf, Gweinidog, beth yw eich rhwymedigaethau rhyngwladol, ac ni fyddai neb ar yr ochr hon i'r Siambr, rwy'n tybio, neu yn wir yn unrhyw le yn y Siambr hon yn galw arnoch i dorri rhwymedigaethau o'r fath, ond mae rhyw 300 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers ichi wneud yr ymrwymiad hwnnw ym mis Chwefror. Boed hynny yn y Barri neu yn unrhyw ran arall o Gymru, pan fydd Gweinidog yn gwneud datganiad o'r fath, siawns ei bod hi'n fanteisiol i'r Gweinidog hwnnw gyflawni cyn gynted ag y bo modd y diwydrwydd dyladwy y gallai fod ei angen yn rhan o'r penderfyniad hwnnw ac yn dod yn ôl â phenderfyniad ar yr adeg briodol. A wnewch chi roi ymateb mwy pendant o ran pryd y cawn ni ymateb gennych chi, o gofio, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, y dywedodd y Prif Weinidog yn ei lythyr wrthyf i y byddai'r penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud ym mis Tachwedd? Fel y dywedais, bu rhyw 300 o ddiwrnodau ers ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw. Faint mwy o amser mewn gwirionedd sydd ei angen arnoch chi?

Fel y dywedais i, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad cyn gynted â phosib. Rwy'n cydnabod y pryderon ynghylch hyn, ond, fel y mae'r Aelod ei hun wedi dweud, mae diwydrwydd dyladwy o'r pwys mwyaf gyda mater ac achos mor gymhleth â hyn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn dilyn holl—yn cael y cyngor cyfreithiol perthnasol ac yn gwneud popeth posib o fewn ein gallu i wneud y penderfyniad gorau.

Wel, mae hynny'n ateb siomedig ar y naw, o gofio y gallwn i ddeall y math hwnnw o ateb yn cael ei roi i mi efallai mis, dau fis, efallai dri mis ar ôl i chi datgan eich safbwynt ar y dechrau, ond wyth mis ar ôl hynny ac rydych chi'n dal i roi'r ateb hwnnw. Nawr, fe ges i ateb ysgrifenedig gan y Gweinidog ddoe sy'n awgrymu bod ystyriaethau cyfreithiol y mae'r Llywodraeth yn gweithio drwyddyn nhw ar hyn o bryd. A wnewch chi o leiaf roi awgrym inni—ac nid wyf yn edrych am y cyngor cyfreithiol a roddwyd i chi, gan fy mod i'n sylweddoli na allwch chi roi hynny inni, ond a wnewch chi o leiaf ddweud wrthym ni am rai o'r meysydd y mae'r cyngor cyfreithiol hwnnw yn cyfeirio atyn nhw? Ac a yw'n benodol i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef eich cynghorwyr ar y mater hwn, neu a yw'r cyngor cyfreithiol ynglŷn â materion cynllunio ehangach?

Rwyf yn credu—ac rwy'n gobeithio y cytunwch chi â mi—bod angen mwy o eglurder ar drigolion y Barri na'r atebion yr wyf i wedi eu cael gennych chi ar ddau achlysur allan o dri yn awr, ac rwy'n gobeithio, wrth inni dorri ar gyfer y Nadolig yn y dyddiau nesaf, y gallwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i mi ac Aelodau eraill ein bod ni o fewn cyrraedd penderfyniad.

Fel y dywedais, ni allaf bwysleisio digon i'r Aelod fy mod i'n llwyr ymwybodol o bryderon trigolion ar y mater hwn a'r Aelod ei hun, ond mae'n bwysig iawn, iawn i mi ac i'r Llywodraeth hon i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd pob cam cyfreithiol angenrheidiol ac yn gwneud y penderfyniad cywir, nid yn gyfreithiol yn unig, ond er mwyn trigolion y Barri hefyd.

Diolch, Llywydd. Wel, rydym ni'n byw mewn cyfnod gwleidyddol ansicr iawn, ac mae'n debyg y gallai hyn fod y tro diwethaf y byddwn yn wynebu ein gilydd ar draws y Siambr yn rhinwedd swydd bresennol Ysgrifennydd y Cabinet, er y byddai'n ddrwg gennyf pe byddai hi'n cael ei symud. Rwyf wedi dod yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i edmygu a pharchu sut y mae hi wedi ymdrin â chryn dipyn o faterion â meddwl agored, yn gwrando ar randdeiliaid a phobl leol, yn enwedig o ran penderfyniadau ynglŷn â nitradau a hefyd y diciâu mewn gwartheg, ond mae'n rhaid imi ddweud yn ddiweddar bod yr enw da yma y mae hi wedi ei ennill wedi cael ambell i dolc oherwydd sawl penderfyniad y bu hi'n gyfrifol amdanyn nhw: un, wrth gwrs, yw'r gwaharddiad ar saethu, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gyflwyno ar dir cyhoeddus; y cyfreithiau pysgota llym ar eogiaid a sewin, a gynigiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto ar dystiolaeth amheus; ac wrth gwrs yr hyn a grybwyllais i y tro diwethaf, fferm wynt Hendy, gan wyrdroi dyfarniad Cyngor Sir Powys ac adroddiad ei harolygydd ei hun.

Mae Theresa May wedi cael ei beirniadu, yn deg, rwy'n credu, am beidio â gwrando ac mae hi wedi cael ei hun i lanastr enfawr, y bydd hi'n anodd iddi ddod allan ohono. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn edifaru am roi ei hagenda polisi o flaen buddiannau pobl leol a rhanddeiliaid lleol?

Wel, os ydych chi'n cyfeirio at sefyllfa fferm wynt Hendy, yr ydych chi, fel y dywedwch chi, wedi ei grybwyll yn y Siambr, yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn bod hawliad wedi ei gyflwyno i'r Uchel Lys. Felly, ni allaf ddweud unrhyw beth ychwanegol ynglŷn â hynny. Rwy'n falch iawn gyda'r targedau ynni adnewyddadwy yr wyf i wedi eu llywio drwy'r Siambr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym ni dargedau adnewyddadwy uchelgeisiol. Rwy'n ymwybodol iawn o'm rhwymedigaethau i a rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru o ran newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu bod y targedau ynni adnewyddadwy yr ydym ni wedi eu cyflwyno—. Cawsom ddadl yr adeg hon yr wythnos diwethaf ynglŷn â rheoliadau carbon; byddaf yn cyflwyno'r cynllun cyflawni allyriadau carbon yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n falch iawn o'r pethau hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:20

Wel, rwy'n derbyn bod y cais am adolygiad barnwrol yn achos Hendy yn cyfyngu'n sylweddol ar yr hyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud, ond rwyf yn credu bod y penderfyniad a wnaeth hi yn peri gofid fel mater o egwyddor gyffredinol. Mae lleoliaeth yn egwyddor bwysig o lywodraeth, yn fy marn i, a byddwn yn synnu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn anghytuno â hynny. Yn achlysurol, mae'n rhaid i ystyriaethau cenedlaethol fod yn drech na buddiannau lleol. Unwaith eto, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Yn achos adalw penderfyniad cynllunio i'w wneud ganddi hi yn hytrach na gan awdurdod lleol neu, yn wir, penderfyniad gan arolygydd, beth yw'r egwyddor pryd y bydd hi'n diystyru penderfyniadau'r rhai sydd mewn swyddogaethau llai dylanwadol?

Wel, nid wyf yn credu y gallaf i roi ateb cyffredinol i'r cwestiwn hwnnw i chi. Yn amlwg, caiff pob achos sylw yn unigol. Mae gennyf ddau ar fy nesg ar y funud y darllenais am y tro cyntaf dros y penwythnos, darllenais nhw eto ddoe, a byddaf fwy na thebyg yn eu darllen eto heddiw. Mae'n rhywbeth y mae angen ichi roi ystyriaeth ddwys iawn iddo, yn amlwg, ond nid wyf yn credu y gallaf i roi ateb cyffredinol ichi i'r cwestiwn penodol hwnnw.

Wel, mae'n ddrwg gennyf na all Ysgrifennydd y Cabinet ateb, gan fy mod yn credu bod cwestiwn pwysig o dryloywder o dan sylw yma, bod y penderfyniad ynglŷn â Hendy yn wahanol iawn i'r penderfyniad a wnaeth hi ynglŷn â Rhosgylyddwr. Penderfynodd hi beidio ag ymyrryd yn yr achos hwnnw, ac felly mae gennym ni bellach fferm wynt yn cael ei chodi. Ymwelais â'r lle fy hun yr wythnos diwethaf. Mae'r dirwedd yn cael ei chreithio, a fydd yn difetha'r golygfeydd ysblennydd ar draws y bryniau. Yn Rhosgylyddwr, wrth gwrs, roedd y dirwedd a'r morlun wedi eu diogelu. Yn yr amgylchiadau hyn, onid yw hi'n briodol i'r Llywodraeth gyhoeddi'r rhesymau pam ei bod hi'n gwneud penderfyniad mewn un achos ond nid mewn un arall fel y gall pobl ddeall ar ba egwyddorion y mae'r penderfyniadau pwysig iawn hyn, sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd, yn seiliedig?

Wel, caiff y llythyr penderfyniad ei gyhoeddi bob tro ac, yn amlwg, mae hynny ar gael i unrhyw un sydd eisiau ei ddarllen. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud y system gynllunio mor syml ac mor rhwydd ag y bo modd. Fe fyddwch yn ymwybodol yr wythnos diwethaf imi lansio 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10', sef argraffiad newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae hwnnw wedi'i ddiwygio'n drwyadl erbyn hyn i ystyried, mewn modd llawer mwy cyfannol, rwy'n credu, y penderfyniadau a wneir ynglŷn â'r amgylchedd adeiledig.

Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru? OAQ53067

Diolch. Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gorff apeliadol hyd braich a noddir ar y cyd â'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru yn gwneud penderfyniadau cynllunio a phenderfyniadau eraill ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â deddfwriaeth berthnasol sy'n seiliedig ar y cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd a pholisi cynllunio cenedlaethol. 

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwch yn ymwybodol y bu dicter yn Aberconwy ynglŷn â chais cynllunio Lôn Marl ac, yn wir, y broses hyd yma. Roedd hwn yn benderfyniad cynghorwyr cynllunio, aelodau'r awdurdod cynllunio, a wrthododd y cais, ond wedyn awgrymwyd ei fod yn mynd i ymchwiliad cyhoeddus. Roedd hyn ym mis Mawrth eleni, ac yna cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei ohirio tan fis Medi eleni, ac mae'n deg dweud ei fod yn ddadleuol iawn, iawn. Yn wir, y penawdau oedd, 'Battle of words at Marl Lane planning inquiry'. Oherwydd bod y safle, a dweud y gwir, yn safle cyfyngedig, nad yw yn y cynllun datblygu lleol, ac amlygwyd yn ystod y cyflwyniadau i'r ymgynghoriad, yn ystod y cyfarfodydd, ac mewn gohebiaeth i'r ymchwiliad, nad yw'n cydymffurfio â TAN 24, TAN 5, 'Polisi Cynllunio Cymru' 6.5, treftadaeth ddiwylliannol CTH/1, datblygiad sy'n effeithio ar asedau treftadaeth, DP/6, ac nad yw'n cydymffurfio â pholisi a chanllawiau cenedlaethol. Nawr, mae teimlad yn Aberconwy, ac mae'r bai yn cael ei roi mewn gwirionedd, am newid, ar y lle hwn—yn hytrach na Llywodraeth y DU yn cael y bai gan y Llywodraeth hon—ond, yn wir, Llywodraeth Cymru sydd, i bob pwrpas, yn caniatáu i un unigolyn ddod i mewn a gwneud penderfyniadau gan ddiystyru aelodau etholedig lleol, gan gynnwys fi fy hun, ond ein hawdurdod cynllunio lleol etholedig—miloedd o wrthwynebwyr. Nawr, rydym ni'n dal i aros am benderfyniad ynglŷn â'r safle hwn, ac fe hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddangos ychydig o gydymdeimlad tuag at y rhai sy'n bryderus iawn am y safle hwn. Nid oes gennym ni'r lleoedd mewn ysgolion, nid oes gennym ni'r capasiti ar gyfer ein gwasanaeth iechyd. Mae yna nifer o resymau pam na ddylai'r cais cynllunio hwn fynd rhagddo. Ni ddylai fod wedi cael ei ymestyn mor hir, ac rwy'n meddwl tybed pryd fyddwch chi mewn gwirionedd yn sicrhau bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn dangos tipyn mwy o barch i'r broses ddemocrataidd yn ein hawdurdodau lleol, ac, yn wir, i'n trigolion ni ein hunain.

15:25

Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelod Cynulliad yn ymwybodol, yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cyfrifoldeb dros gynllunio, na allaf wneud sylw ar gais cynllunio penodol.

Mesurau Ansawdd Aer Lleol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y caiff mesurau ansawdd aer lleol, fel parthau aer glân, eu hariannu? OAQ53084

Caiff gwelliannau i ansawdd yr aer lleol eu cefnogi drwy nifer o ddulliau cyllido, gan gynnwys cronfa ansawdd awyr bwrpasol, gwerth dros £20 miliwn. Gall hyn gefnogi costau parthau aer glân lle cânt eu dynodi gan awdurdodau lleol fel y dewisiadau gorau i gydymffurfio'n gyfreithiol â gwerthoedd terfyn llygryddion aer.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich ateb. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru ac mae wedi ei ddisgrifio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i weithredu i sicrhau bod cynghorau yn cyflwyno parthau aer glân os nad yw gweithredu lleol yn ddigonol, neu ddim yn ddigon amserol yn eich barn chi? Ac a wnaiff y Llywodraeth ailystyried y posibilrwydd o gyflwyno Deddf aer glân i Gymru os nad yw'r parthau aer glân lleol hyn yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni'n gobeithio eu cael? Dyma 2,000 o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn gyfan gwbl, ac rwy'n cefnogi'n gryf mynd ati i weld pa fath o weithredu sy'n digwydd yn lleol yn gyntaf, ond, yn y pen draw, mae rhai pethau mor bwysig fel bod angen deddfwriaeth genedlaethol.

Diolch. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'n bwysig bod—. Mae'n hollol gywir nad yw hyn dim ond ynglŷn â chydymffurfiaeth gyfreithiol yn unig, oherwydd dyma yw'r peth iawn i'w wneud i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a'r goblygiadau i iechyd a lles pobl ledled Cymru.

O ran awdurdodau lleol, fe fyddwn i'n disgwyl i'r holl awdurdodau lleol asesu'r potensial o ran beth sydd angen ei wneud er mwyn cyflawni lefelau llygredd is a gwella iechyd y cyhoedd, a hefyd, i weithio gydag ysgolion drwy'r prosiect eco-ysgolion, er mwyn datblygu eu hymgyrchoedd eu hunain gyda'r plant ac i sicrhau bod arferion yn newid yn y gymuned leol hefyd. Ond, yn amlwg, fe geir pethau yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn ei wneud, sy'n cynnwys ein rhaglen aer glân, ein cynllun aer glân a sefydlu'r rhaglen drwy'r Llywodraeth gyfan.

Rwyf wedi egluro o'r cychwyn bod hon yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon a'n bod ni eisiau gweithredu nawr oherwydd ein bod ni'n gwybod bod hyn yn fygythiad uniongyrchol, a dyna pam yr ydym ni'n gwneud yr hyn a allwn ni o fewn y terfynau amser sydd gennym ni a'r pwysau sydd arnom ni. Ond, yn yr un modd, rwyf wedi bod yn glir, os ydym ni'n ystyried y rhain—y rhaglen aer glân, y cynllun aer glân, gan gefnogi awdurdodau lleol i weithredu'r parthau aer glân ac i weithredu'n lleol—os ydym ni'n gweld bod yna ddiffygion a bod angen i ni ddeddfu ymhellach, yna mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gellir ei ystyried yn y dyfodol.

Gweinidog, rhaid imi ddweud fy mod i ychydig yn siomedig na ddiddymwyd yr estyniad terfyn cyflymder dros dro 50 milltir yr awr i'r gorllewin o Bort Talbot yr haf hwn, fel y gwnaethoch chi ddweud mewn araith yn gynharach eleni. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd o ran yr achos llys hwn ynghylch ansawdd aer a gorfod lleihau, yn enwedig allyriadau tagfeydd traffig, o ganlyniad i'r achos llys hwnnw. Er hynny, rwy'n credu bod angen i ni weld pethau yn eu gwir oleuni yn hyn o beth, oherwydd, yn amlwg, ceir llawer iawn o lygredd diwydiannol yn ardal Port Talbot hefyd. Felly, rwy'n meddwl tybed a allwch chi ddweud wrthyf i sut y byddwch chi'n cydbwyso cyllid rhwng ymdrechion y Llywodraeth ganolog a llywodraeth leol i fynd i'r afael â llygredd aer traffig a llygredd aer diwydiannol, ac, yn benodol, yr arian yr ydych chi'n ei roi i awdurdodau lleol—sut ydych chi'n sicrhau y caiff ei wario mewn difrif ar wella ansawdd yr aer, fel oedd y bwriad.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei grybwyll o'r blaen yn y fan yma, ochr yn ochr â'r Aelod dros Aberafan hefyd. Rydych chi'n gwybod bod her arbennig o gymhleth a dyrys yng nghyswllt ansawdd aer ym mharthau Port Talbot, oherwydd natur hanesyddol y gwaith dur, sy'n gyflogwr mawr yn yr ardal hefyd, a'r M4 hefyd. O ran—. Rydych chi'n cydnabod, o ran y terfyn cyflymder, mai edrych ar hynny yw'r hyn yr ydym ni wedi ei nodi fel modd o fodloni'r gydymffurfiaeth gyfreithiol honno yn yr amser byrraf posib wrth symud ymlaen. O ran sut yr ydym ni'n edrych ar—. Rydych chi'n llygad eich lle, er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd aer, mae angen gwneud mwy nag ystyried allyriadau nitrogen deuocsid yn unig; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r deunydd gronynnol, yr holl faterion ynglŷn ag ansawdd aer yn yr ardal, a dyna pam y bydd ein rhaglen aer glân, cynllun aer glân, yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol i edrych ar hynny yn ei gyfanrwydd ac i ymdrin â hynny. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n hapus i'w drafod gyda'r Aelod yn fwy manwl, pe byddwn i mewn sefyllfa i wneud hynny yn y dyfodol hefyd.

15:30

Gweinidog, fel y dywedodd Suzy Davies, mae'r materion llygredd aer ym Mhort Talbot, yn benodol, a'r parth rheoli aer peryglus, yn ddeublyg. Mae ynglŷn â'r M4 ac allyriadau traffig ac mae hefyd yn ymwneud ag allyriadau diwydiannol. Ac fe wnaeth Suzy a minnau gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ddoe i drafod mater yr M4. Y tro diwethaf imi siarad â chi a holi'r cwestiwn, roeddech chi'n dweud eich bod yn mynd i gwrdd â Tata i drafod yr agwedd ddiwydiannol. A ydych chi wedi cyfarfod â Tata, ac os felly, a wnewch chi roi manylion y trafodaethau hynny a'r canlyniadau hynny inni?

Diolch i'r Aelod am ei ymrwymiad parhaus yn y maes hwn. Rydych chi'n iawn: fe wnes i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi gyfarfod nid yn unig â chynrychiolwyr Tata, ond gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y cyfarfod hwn yn rhannol er mwyn edrych ar y mater a welsom ni dros yr haf, o ran, yn enwedig, y niwsans llwch, ond hefyd, sut y gallen nhw efallai weithio'n well i gyfathrebu â thrigolion lleol a meithrin y cysylltiadau hynny, ond hefyd, yr hyn y byddai angen ei wneud i liniaru effaith ansawdd aer gwael a gynhyrchir yn sgil allyriadau diwydiannol yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo yn amlwg. Rwyf eisiau adolygiad ar y cynllun gweithredu tymor byr ynglŷn â Phort Talbot a gwneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol, ac rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn awyddus i ymweld â Tata i weld yn uniongyrchol beth fyddai modd ei wneud o bosib, a beth yw'r heriau mwyaf, fel petai. Felly, rwyf yn hapus i wneud yn siŵr bod yr Aelod yn clywed y newyddion diweddaraf am hynny ac yn rhan o hynny hefyd. 

Llygredd yn Afonydd Cymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i fynd i'r afael â llygredd yn afonydd Cymru? OAQ53073

Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn dangos bod ansawdd dŵr ledled Cymru wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 37 y cant o'r cronfeydd dŵr yng Nghymru bellach yn cyrraedd statws da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu hyn i 42 y cant yn y tair blynedd nesaf.

Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r gymdeithas bysgota wedi cyfeirio cwyn at Gomisiwn yr UE yn dadlau bod symiau enfawr o slyri a thail dofednod yn cael ei daenu'n ddiwahân ar ardaloedd mawr o dir fferm, a bod y rheolau a'r canllawiau llywodraethu ynglŷn â sut y dylid gwneud hyn yn cael eu hanwybyddu'n gyson. Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith sylweddol ar ecoleg ein hafonydd. A allwch chi ein sicrhau ni y gwneir popeth i fonitro'r arfer yma, ac felly i sicrhau cyflwr ein hafonydd?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn. Mae'n crybwyll mater pwysig iawn. Mae unrhyw achos o lygredd yn ein hafonydd yn un achos yn ormod, am amryw o resymau, a dyna pam fod y Llywodraeth hon wedi gweithredu o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â llygredd amaethyddol. Rydym ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cadw at yr arferion gorau, ac mai'r lleiafrif sy'n gyfrifol am yr achosion yr ydym ni'n gweithredu i'w datrys. Dim ond yr wythnos hon, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig—anghofiais ei theitl am eiliad wedyn—wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach ar gyfer y grant cynhyrchu cynaliadwy, sydd er mwyn cefnogi cyflawni canlyniadau amgylcheddol, gan gynnwys llygredd amaethyddol, a rhoi cymorth i ffermwyr sy'n wynebu heriau sylweddol Brexit. Felly, dyna un peth yn unig. 

Rydym ni hefyd yn gweithio gyda—. Wrth gwrs, nid yw llygredd yn cyfeirio'n unig at slyri. Gallai ysbwriel a halogyddion eraill fod yn ein hafonydd, a dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda sefydliadau megis Cadwch Gymru'n Daclus a Groundwork Cymru i fynd i'r afael â hynny hefyd.

Ym mis Hydref, fe wnaethom ni ohebu ynghylch llygredd yn Afon Clywedog lle mae hi'n cwrdd ag Afon Dyfrdwy ger Wrecsam. Wrth gwrs, mae achosion o lygredd penodol yn fater i Gyfoeth Naturiol Cymru. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod y drefn hunan-adrodd gan gwmnïau dŵr, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei defnyddio bellach, yn gwneud i ffwrdd â'r arolygiadau rhagweithiol yr arferai staff Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eu cynnal, a'r pryder y bydd yr adleoli presennol o swyddogion gorfodi pysgodfeydd medrus yn lleihau effeithiolrwydd diogelu pysgodfeydd tri rhanbarth y de-ddwyrain, y de-orllewin ac ardaloedd gogleddol, gan gynnwys yr Afon Hafren uchaf, ac, yn arbennig, y gwaith trawsffiniol ar ddwy ochr Afon Hafren, a chydag Afon Gwy a'i hisafonydd, sydd eto'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr?

15:35

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ei ohebiaeth gynharach unwaith eto ar y mater pwysig hwn? O ran mynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau ac yn atal effaith unrhyw lygredd o unrhyw fath neu unrhyw achos yn ein basnau afonydd ledled Cymru, lle bynnag y bo hynny, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy a gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth yr wyf yn hapus i gadw llygad gofalus iawn arno, yn y dyfodol, i sicrhau y cawn ni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ni.

Gwrthfiotigau mewn Amaethyddiaeth

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth? OAQ53093

Diolch. Mae rheoli ymwrthedd i gyffuriau yn flaenoriaeth yn fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Ledled y DU, mae'r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid fferm wedi gostwng o 62 mg/kg yn 2013 i 37 mg/kg yn 2017. Cyflawnwyd hyn drwy fabwysiadu meddygaeth ataliol a chadw anifeiliaid mewn amodau sy'n hybu eu hiechyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac, wrth gwrs, mae lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ar gyfer pobl ac anifeiliaid yn hanfodol os ydym ni'n mynd i amddiffyn ein hunain rhag y bygythiad o ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae'r Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau mewn Amaethyddiaeth wedi dweud yn ddiweddar eu bod yn pryderu a yw'r data sydd ar gael yn ddigonol, yn enwedig i ffermwyr llaeth, cig eidion a defaid. Yn wyneb y bygythiad sylweddol iawn y mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn ei beri i iechyd cyhoeddus, beth yn fwy a all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gennym ni'r data sydd ei angen arnom ni i gymell gwelliannau yn y maes hwn?

Diolch, Lynne Neagle, am y cwestiwn yna. Yn Llywodraeth Cymru, rydym ni yn ceisio mynd i'r afael â'r bygythiad y mae ymwrthedd i gyffuriau yn ei greu i'r amgylchedd, pobl ac anifeiliaid gyda'i gilydd mewn un modd. Ar hyn o bryd dim ond data lefel uchel ar gyfer DU ynglŷn â gwerthiannau gwrthfiotig sydd gennym ni, ac mae datblygu data sector-benodol ynglŷn â defnyddio gwrthfiotigau yng Nghymru yn sicr yn flaenoriaeth ar gyfer y cynllun pum mlynedd nesaf sy'n ymdrin ag ymwrthedd i gyffuriau. Rwy'n gwybod fod gennym ni ddau bartner cyflenwi milfeddygol yn gweithio yma yng Nghymru gyda'n ffermydd i arwain y ffordd o ran sefydlu grŵp i gydlynu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar reolaeth ymwrthedd i gyffuriau. Rwy'n gwybod, am y tro cyntaf, eu bod nhw wedi cynhyrchu gwybodaeth ar ragnodi gwrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid fferm yng Nghymru, ac maen nhw'n defnyddio hynny yn awr ar gyfer meincnodi a rhannu arfer gorau.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae angen defnyddio llai o wrthfiotig, heb rithyn o amheuaeth, ond mae ganddo hefyd swyddogaeth effeithiol, yn amlwg, wrth ofalu am iechyd a lles anifeiliaid. Mae angen cydbwysedd. Pa ymarferion y mae Cyswllt Ffermio yn arbennig wedi eu cynnal i hybu ymwybyddiaeth ynghylch y defnydd o wrthfiotigau yn y gymuned amaethyddol? Ac os na threfnwyd ymgyrch drwy'r rhwydwaith Cyswllt Ffermio, a fyddech chi'n ystyried cychwyn ymgyrch o'r fath, oherwydd rwyf wedi sylwi'n aml pan fo pobl yn sylweddoli beth yw'r effaith a beth y gallan nhw ei wneud, maen nhw'n fwy na pharod i gymryd rhan yn y broses honno, oherwydd bod mantais gyffredinol i bawb?

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi o ran y sylw olaf yna, ac yn sicr dyna fy mhrofiad i. Mae Cyswllt Ffermio wedi blaenoriaethu defnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid mewn modd cyfrifol ac, yn hollbwysig, sut i osgoi eu gorddefnyddio. Felly, cafwyd—nid wyf yn siŵr a yw'n ymgyrch benodol, rwy'n credu ei fod yn rhan o'u gwaith bob dydd. Ond yr hyn y maen nhw wedi ei wneud yw gweithio gyda phobl fel y gallan nhw atal yr angen am wrthfiotigau ymhellach yn y dyfodol drwy atal afiechyd yn y lle cyntaf. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod y byddai peidio â rheoli ymwrthedd i gyffuriau yn cael effaith sylweddol. Fe fydden nhw'n hynod o gostus, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran ein hiechyd byd-eang a'n lles amgylcheddol, er enghraifft.

Newid yn yr Hinsawdd

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gall newidiadau i reoliadau cynllunio helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53083

Diolch. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fersiwn newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd â phwyslais clir ar ddatgarboneiddio. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn sefydlu hierarchaethau ar gyfer ynni a thrafnidiaeth i hybu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn hytrach nag echdynnu tanwydd ffosil ac i annog cerdded a beicio yn hytrach na theithio mewn cerbydau modur.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rheoliadau cynllunio ac adeiladu sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i dai gael eu diddosi mor dda fel na fydd angen cymaint o wresogi arnyn nhw. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae disgwyl i'r DU brofi cyfnodau poeth yn amlach, mae cael hafau fel eleni dri deg gwaith yn fwy tebygol. Yn ystod yr haf, mae llawer o eiddo newydd yn gorboethi ac wedi arwain at gynnydd yn y galw am system awyru. Ysgrifennydd y Cabinet, sut fydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod cynllunio a rheoliadau adeiladu yn ystyried newid yn yr hinsawdd ac nid yn arwain at alw cynyddol am ynni?

15:40

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni, yn sicr, yn rhoi sylw i'r mater hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn ynghylch y problemau a wynebwyd gennym ni yn ystod yr haf diwethaf. Ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n adeiladu tai yn awr y bydd yn rhaid gosod cyfarpar ynddyn nhw 25 mlynedd yn ddiweddarach, gan ein bod ni'n ymdopi â thai hanesyddol eisoes. Felly, soniais fy mod i wedi cyflwyno 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd—Polisi Cynllunio Cymru 10—yr wythnos diwethaf ac mae hynny i raddau helaeth iawn yn rhoi pwyslais clir ar yr effeithlonrwydd ynni hwnnw y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.

Fe fyddai gennyf i ddiddordeb gwybod—. Rwy'n cefnogi'r holl fater o fod yn fwy effeithlon o ran; dros gyfnod hir, rwyf wedi bod yn dweud y dylem ni fod yn dilyn egwyddorion Merton a, gyda phob eiddo newydd a godwn ni, y dylem ni yn awtomatig fod wedi rhoi gwres ffynhonnell daear ynddo neu ryw ffordd arall o allu gwneud iawn am ein hallyriadau carbon. Sut, fodd bynnag, gan ddefnyddio'r rheoliadau hyn, ydych chi'n mynd i allu cyflawni'r her anodd iawn o wella ein hallyriadau sy'n effeithio ar yr hinsawdd, ond, ar yr un pryd, sicrhau nad yw ein prisiau adeiladu tai yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth, gan fod gennym ni ormod o bobl yng Nghymru sydd â dirfawr angen tai priodol arnyn nhw?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw pwysig iawn ynghylch cydbwysedd, ac, yn sicr, yn fy nhrafodaethau gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai ac Adfywio—rydym ni'n cyfarfod â datblygwyr, er enghraifft, ac yn amlwg, maen nhw'n bryderus iawn y bydd unrhyw beth y byddwn ni'n ei gyflwyno yn cael effaith ar gost. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni edrych ar sut yr ydym ni'n adeiladu ein tai newydd; sut ydym ni'n ystyried datgarboneiddio; sut ydym ni'n ystyried newid yn yr hinsawdd. Byddwch yn ymwybodol inni basio rheoliadau newydd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, pryd gosodwyd targedau ar gyfer Cymru sydd wedi eu rhwymo mewn cyfraith, ac yn amlwg, mae gan dai ran fawr i'w chwarae wrth ein helpu ni i gyflawni'r targedau hynny.

Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynhyrchu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ53096

Diolch. Drwy Tyfu Cymru a Chyswllt Ffermio, rydym ni'n ceisio meithrin capasiti a gallu sector garddwriaethol Cymru. Gan weithio gydag ein partneriaid yn y gadwyn gyflenwi, rydym ni'n paratoi tyfwyr i addasu i heriau amgylcheddol y dyfodol ac i roi eu hunain mewn sefyllfa i fanteisio ar botensial twf y sector.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar hyn o bryd rydym ni'n cynhyrchu 60 y cant o'n bwyd ein hunain ac fe gaiff llawer llai o ffrwythau a llysiau eu cynhyrchu yn y wlad hon. Er nad oes gennym ni unrhyw syniad o gwbl beth fydd canlyniad y negodiadau Brexit, mae'n ymddangos i mi fod angen inni baratoi ar gyfer y posibilrwydd gwaethaf o Brexit heb gytundeb, a fyddai, wrth gwrs, yn rhoi terfyn yn syth ar ein cyflenwad o lysiau a ffrwythau ffres. Felly, yng ngoleuni'r bygythiad difrifol hwn i'n diogelwch bwyd, roeddwn i'n meddwl tybed beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo pethau fel y system hydroponig a ddatblygwyd gan un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, Adam Dixon, sydd wedi dyfeisio rhywbeth o'r enw Phytoponics yn Aberystwyth. Gan ddefnyddio tŷ gwydr bach, maen nhw wedi tyfu 2 dunnell o domatos hyd at fis Tachwedd, sydd, i mi, yn enghraifft bwysig iawn i ffermwyr sy'n dweud wrthyf i, 'Ni allwn ni gynhyrchu llysiau a ffrwythau yn y wlad hon, gan nad yw ein tywydd yn ddigon da, oherwydd nad yw ein pridd yn briodol.' Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n enghraifft  amlwg o sut y gallwn ni yn wir gynhyrchu ein ffrwythau a'n llysiau ffres ein hunain i'n galluogi i wasanaethu ein hysgolion, ein hysbytai, ac, yn wir, ein holl fusnesau twristiaeth, yn ogystal â'n poblogaeth leol.

Felly, meddwl oeddwn i tybed beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i adeiladu ar lwyddiant Phytoponics. Mae Adam bellach yn mynd i fod yn cynrychioli Ewrop yn yr Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd yn San Francisco oherwydd rhagoriaeth ei waith, y bydd, yn amlwg, gobeithio, llawer o wledydd eraill yn adeiladu arno. Ond mae'n ymddangos i mi fod hyn yn rhywbeth y mae angen i Gymru ei wneud hefyd os ydym ni'n mynd i wrthwynebu'r cynigion i werthu bwyd gwael o'r Unol Daleithiau.

Diolch. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ac, yn sicr, rydym ni'n gwneud llawer iawn o waith ynghylch cyflenwadau bwyd. Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o grŵp cyswllt brys y gadwyn fwyd a gafodd ei alw ynghyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, oherwydd rwy'n credu ein bod ni yn cydnabod efallai y bydd llai o ddewis o ffrwythau a llysiau oherwydd tarfu posib ar fewnforion o'r UE.

Rwy'n credu bod garddwriaeth yn un maes ble mae gennym ni gyfleoedd i wneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol. Roedd hi'n ddiddorol clywed am y darn o waith y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ac Adam—byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein cynllun gweithredu bwyd a diod, yr un presennol a'r un yr ydym ni ar hyn o bryd yn gweithio arno i gefnogi'r un a oedd gennym ni, o ran sicrhau bod ein bwyd a diod—. Rwy'n credu bod targedau uchelgeisiol iawn o fewn hynny, ac fel y gwyddoch chi, rydym ni eisoes wedi cyrraedd y targed ar gyfer 2020. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud o fewn hynny yw helpu tyfwyr garddwriaethol i wneud yn siŵr y gallan nhw chwarae eu rhan, ac un o'n blaenoriaethau yw cefnogi'r diwydiant hwnnw a chynyddu cynhyrchu cnydau garddwriaethol 25 y cant. Byddai hynny, wedyn, yn caniatáu llawer mwy o hunangynhaliaeth.

15:45

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cymaint yn fwy cystadleuol yw ein ffermwyr ffrwythau a llysiau bellach o gymharu â chynhyrchwyr Ewropeaidd oherwydd y gyfradd gyfnewid is?

Wel, rwy'n credu y gallai hynny fod wedi creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch ynddyn nhw braidd, yn sicr yn achos rhai o'r ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi bod i rai ffermydd garddwriaethol da iawn. Ymwelais ag un yn y gorllewin yn ystod yr haf, ac roedd yn hyfryd gweld y ffrwythau a'r llysiau di-ri y maen nhw'n eu cynhyrchu. Fel y dywedaf, mae'n rhan o'n strategaeth i'w helpu nhw i gynyddu'r cynnyrch hwnnw 25 y cant.

Cadwraeth Forol a Bioamrywiaeth

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cadwraeth forol a bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ53085

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn hybu bioamrywiaeth forol drwy gyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol a chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys cwblhau ein cyfraniad tuag at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig sy'n ecolegol gydlynol a threfnus, yn unol â strategaeth forol y DU a'r Confensiwn er Diogelu Amgylchedd Morol Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd.

Diolch. Roeddwn i eisiau, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet, dwyn eich sylw at y ffaith y gallem ni fod ar fin gweld diwydiant newydd yn blodeuo yng Nghymru, a gwaith Fforwm Gwymon Cymru, gan wybod bod dyframaethu gwymon yn dda i'r economi ac, yn wir, yn dda i'r môr. Y cysyniad: er bod gan Gymru draddodiad hir a balch o gynaeafu gwymon gwyllt a'i ddefnyddio fel bwyd a gwrtaith yn bennaf, nid yw erioed wedi'i fasnacheiddio'n sail ar gyfer datblygu diwydiant hyfyw ar draws cadwyni cyflenwi a gwerth amrywiol, ac mae damcaniaeth y gallem ni fod ar ein colled. Rhai o fanteision datblygu'r prosiect hwn yw: targedau newid yn yr hinsawdd—mae modd i ddyframaethu gwymon leihau allyriadau carbon, lleihau allyriadau amaethyddol a diogelu glannau rhag erydu; arallgyfeirio cyflogaeth a'r cyfle i bysgotwyr arallgyfeirio i farchnad sy'n tyfu; mewnfuddsoddi, gan hybu, yn wir, cyfleoedd yn y gadwyn gwerth cyflenwi—mae'n newid cywair i ddiwydiant Cymru, yn ysgogi cyflenwi ar gyfer set newydd o is-sectorau; cystadleurwydd; cwmnïau yng Nghymru sy'n prosesu bwyd, diod, cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion maeth-fferyllol a phroteinau gwyrdd; mae ganddo botensial enfawr o ran enillion allforio; a phartneriaeth—helics triphlyg diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth. Felly, beth wnewch chi yn hyn o beth, fel ein Hysgrifennydd Cabinet, er mwyn sicrhau yr ystyrir dyframaeth yng Nghymru efallai fel posibilrwydd newydd a diwydiant sy'n tyfu? A wnewch chi weithio gyda'r asiantaethau hynny sy'n gweithio yn y maes hwn?

Wel, rwy'n credu bod gan ddyframaethu le cyffrous iawn yn ein sector eisoes, ac yn sicr fe fyddwn i'n hapus iawn—. Mae'r hyn yr ydych chi newydd ei ddarllen yn ticio'r holl flychau, os mynnwch chi, felly byddwn yn hapus iawn i weithio gyda phobl i ddatblygu hynny.

Hawliau Datblygu a Ganiateir

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OAQ53080

Diolch. Daeth yr ymgynghoriad ar wella a chydgrynhoi'r Gorchymyn datblygu a ganiateir i ben ar 28 Hydref. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn 2019, gan ymestyn hawliau datblygu a ganiateir i gefnogi cyflwyno mannau trydanu ceir trydan, rhwydweithiau telathrebu'r genhedlaeth nesaf, a datblygu ynni adnewyddadwy.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb. A ydych chi'n cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth wrth greu'r amodau cynllunio priodol fel y gall gweithredwyr ffonau symudol oresgyn, wrth gwrs, yr achos busnes heriol o wasanaethu ardaloedd gwledig yma yng Nghymru, lle mae'r boblogaeth yn wasgaredig mewn llawer o ardaloedd a chostau yn llawer uwch oherwydd prinder cyflenwadau pŵer a chysylltiadau trawsyrru? A gaf i ofyn pa ystyriaethau a ydych chi wedi eu rhoi i ymestyn hawliau datblygu a ganiateir, fel sydd wedi digwydd eisoes yn Lloegr a'r Alban?

Ydw. Rwyf yn credu, heb unrhyw amheuaeth, fod gennym ni swyddogaeth. Felly, rydym ni wedi cael yr ymgynghoriad cyffredinol ar hawliau datblygu newydd a ganiateir, ac roedd hynny'n cynnwys seilwaith ffonau symudol. Fel y dywedaf, daeth hynny i ben ym mis Medi. Roedd yn cynnig newidiadau i uchder mastiau, lled mastiau, a defnydd brys telathrebu symudol. Rwy'n ystyried a ddylid cyflwyno Gorchymyn diwygio. Byddai hynny'n cael ei wneud ym mis Ionawr ac wedyn yn dod i rym yn y gwanwyn.

15:50
4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Eitem 4 ar yr agenda yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, ac mae cwestiwn 1 gan Janet Finch-Saunders.

Band Eang Cyflym Iawn

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau y cyflwynir band eang cyflym iawn yn ehangach yn Aberconwy? OAQ53091

Ie. Wrth inni gyflwyno band eang ffibr cyflym yn barhaus, rydym wedi nodi tua 3,773 safle ar draws y rhanbarth a allai weld signal cysylltedd dan y cynllun newydd. Mae cymorth gyda chysylltedd hefyd yn parhau gydag Allwedd Band Eang Cymru a chynlluniau talebau cysylltedd cyflym iawn.

[Anghlywadwy.]—pryderon i chi ynghylch eiddo unigol ac mewn rhai achosion, rydych wedi gallu fy helpu fi. Gwn fod y ffigur o 96 y cant yn swnio'n dda iawn, mewn gwirionedd, ond os yw rhywfaint o'r 4 y cant yn eich etholaeth chi, ac maent yn byw drws nesaf i bobl sydd â'r band eang cyflym, ychydig iawn, iawn o gysur fydd yn ei roi iddynt. Roeddech chi'n bresennol mewn cymhorthfa band eang llawn iawn yn fy etholaeth i, ac fe wnaethoch gyhoeddi eich bod yn mynd i gyflwyno cam 2. Cawsom eich datganiad diweddar, ond gofynnir i mi drwy'r amser, 'Pam nad ydych yn cyflwyno'r cyfnod nesaf?' Mae'n fater o, 'Wel, mae Llywodraeth Cymru yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall.'

Mae gennyf blant ysgol sy'n methu gwneud eu gwaith cartref. Mae gen i ffermwyr sy'n methu mynd ar-lein. Mae gennyf gymunedau cyfan, mewn gwirionedd, yn rhai o'r ardaloedd mwy gwledig, ynysig sy'n credu mai myth a breuddwyd fydd iddynt gael band eang cyflym iawn. Felly, pryd ydych chi'n mynd i ddangos rhywfaint o ymrwymiad a gwneud y cyhoeddiad newydd hwnnw yn y dyfodol? Ac os na, pryd ydych chi'n mynd i gyfathrebu'n well? Gwyddom fod y cyflwyniad cyntaf yn ffars o ran gwybodaeth. Roedd yn cael ei gyflwyno, ond nid oedd pobl yn gwybod pryd na sut. Ac rwy'n teimlo y gallech wneud mwy i ymgysylltu nawr â'r bobl yn y poblogaethau hynny nad oes ganddynt fand eang ffibr cyflym o gwbl, oherwydd, ar hyn o bryd, maent yn ddigalon iawn, iawn gyda'ch Llywodraeth chi oherwydd hyn.

Iawn, wel, diolch i chi am hynny, rwy'n credu. Roedd y cyfarfod yn llawn yn wir. Eglurais yn fanwl—fel y gwneuthum yn yr holl gyfarfodydd o gwmpas Cymru y bûm ynddynt, a chredaf fy mod wedi bod i bron pob etholaeth bellach—mai'r broblem fawr yw nad ystyrir hyn fel seilwaith; mae hyn yn dal i gael ei ystyried i fod yn gaffael cynnyrch moethus. Ac felly, rhaid inni fynd drwy broses gymhleth iawn, gan gynnwys gyda Broadband Direct UK, i gael sicrwydd ynghylch cymorth gwladwriaethol ar gyfer yr hyn a wnawn. Ac, fel yr eglurais yn y cyfarfod, o na fyddai modd i fi wneud hyn. Pe bai gennyf y pŵer i'w ledaenu fel seilwaith, yna byddwn yn gwneud hynny, ond ni allwn. Rhaid inni fynd trwy'r broses gaffael, mae'n rhaid inni wneud adolygiad o'r farchnad agored, rhaid inni ganfod i ble mae'r cwmnïau masnachol yn mynd, ac yna mae'n rhaid inni gaffael. Rhaid inni weld beth y mae'r caffael yn ei ddwyn yn ôl, ac mae hynny wedi dwyn y 3,773 safle yn ôl. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o nodi'n union ble mae'r safleoedd hynny, ac wedyn byddwn yn ceisio llenwi'r bylchau ar gyfer y gweddill.

Mewn gwirionedd, ers y tro diwethaf imi siarad am hyn yn y Siambr—rwy'n cael y teimlad fy mod yn dod yn ôl i'r unfan bob tro rwy'n sefyll i wneud y cwestiynau— ers y tro diwethaf, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi cyhoeddi ffordd ymlaen ar gyfer ei rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Felly, mae'n edrych yn debyg y byddwn yn cael rhywfaint o eglurder ar hynny yn y dyfodol agos. Mae rhai problemau'n codi. Mae cap ar y costau ac, mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o'r safleoedd yr ydych yn sôn amdanynt y tu allan i'r cap cost. Felly, mae rhywfaint o waith i'w wneud, ond credaf y ceir rhywfaint o symud o gwmpas y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a fydd yn rhoi llinyn arall i'n bwa ynghylch cyrraedd y nod.

Ond, os oes gan yr Aelodau gymuned gyfan, neu bump neu chwech o dai gyda'i gilydd sydd wedi'u hynysu, yna hoffem eich gweld yn mynd ati'n rhagweithiol i ddweud wrthym amdanynt, oherwydd rydyn ni'n hapus iawn i gael ein timau ymelwa busnes allan atynt i weld a allwn gael atebion i'r cymunedau hynny. Ac mae'r atebion cymunedol hynny wedi bod yn effeithiol iawn ar draws Cymru; gallant fod yn unigryw i'r gymuned benodol, ac mae trefniadau gwahanol ar gyfer gwneud hynny. Felly, rwy'n annog yr Aelod i fynd ati'n rhagweithiol i ddweud wrthym am unrhyw glystyrau o bobl y gallwn efallai eu helpu.

Gyda'r gweddill, byddwn yn gallu dweud yn fuan iawn erbyn hyn pa safleoedd yn union. Bydd hynny'n amlwg yn nodi'r rhai nad ydynt yn ei gael hefyd, ac yna byddwn yn gallu gwneud rhywfaint o waith mwy rhagweithiol gyda nhw. Ond, gyda'r ewyllys gorau yn y byd, Dirprwy Lywydd, mae'n costio degau o filoedd o bunnoedd i fynd at rai o'r safleoedd, a bydd yn rhaid dod o hyd i atebion eraill.

Band Eang Cyflym Iawn

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ53065

Ie. Er nad oes gennym wybodaeth benodol ar gyfer Preseli, o dan y prosiect Cyflymu Cymru darparwyd mynediad i fand eang ffibr cyflym i 54,500 safle ar draws Sir Benfro, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o 77.6 Mbps a buddsoddi dros £15.8 miliwn.

15:55

Arweinydd y Tŷ, fel yr ydych yn gwbl ymwybodol, mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i lawer o bobl, yn enwedig pobl sy'n rhedeg busnesau a phobl sy'n byw ar eu pen eu hunain sy'n dibynnu arno fel achubiaeth. Ar 23 Hydref, dywedasoch y byddech yn rhoi manylion inni am y rheini fyddai'n gallu cael band eang cyflym iawn nesaf. Yn wir, dywedasoch, a dyfynnaf,

Rwy'n gobeithio, o fewn y mis nesaf, y byddwn yn gallu rhyddhau'r manylion hynny i Aelodau'r Cynulliad fel y gallant gysylltu â phobl yn eu hetholaeth a rhoi gwybod iddynt lle maent yn y rhaglen.

O ystyried y datganiad penodol hwn, a oes modd ichi nawr roi diweddariad inni a dweud wrthym pan fydd yr wybodaeth hon ar gael er budd y bobl sy'n byw yn fy etholaeth i sydd eisiau gosod band eang cyflym iawn cyn gynted â phosibl?

Roedd hynny'n obaith gennym. Roeddwn yn obeithiol y gallwn fod yn gymharol sicr am hynny, ond mewn gwirionedd trodd allan i fod yn fater mwy cymhleth, gyda thrafodaethau rhyngom ni ein hunain ac amrywiol aelodau eraill o fater y ddarpariaeth cymorth gwladwriaethol. Felly mae'r caffael wedi troi i fod yn llawer mwy cymhleth nag y gobeithiwyd yn y lle cyntaf. Rydym yn gobeithio, fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, gallu cael yr wybodaeth honno yn fuan iawn nawr. Gwn ei bod yn swnio braidd fel fy mod i'n dod yn ôl i'r unfan fy hun wrth ddweud hynny, ond rydym yn mawr obeithio cael hynny. Rydym eisiau bod yn wirioneddol benodol yn ei gylch, fel nad ydym yn cael yr un problemau ag  o'r blaen gyda phobl yn disgyn allan o'r rhaglen. Rydym eisiau bod yn benodol, felly rwy'n mawr obeithio y bydd gennym yr wybodaeth honno cyn bo hir.

A byddwn yn annog yr Aelod, oherwydd gwn fod cymunedau gennych yn eich ardal chi hefyd a allai ddod at ei gilydd ac o bosib ei gael yn gyflymach—cysylltiad cyflymach rwyf yn ei olygu, yn hytrach nag yn gyflymach o ran amser— gan ddefnyddio cynlluniau talebau. Rydym yn gweithio i weld beth y gallwn ei wneud ochr yn ochr â chynllun talebau gigabit y DU hefyd i wella'r system fel bod gan bobl yng Nghymru ychydig bach mwy o fynediad iddo. Ond byddwn yn annog pobl i fod yn rhagweithiol a chysylltu â ni os oes gennych y cymunedau hynny, neu gymunedau busnes, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i gyfuno'r talebau i weld beth y gallwn ei wneud.

Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â grŵp o fusnesau ffermio teuluol, tua 20 o fusnesau yn gyfan gwbl, yn fferm Trecelyn Isaf yn Eglwyswrw. Tynnwyd fy sylw at rai problemau sydd gan fusnesau ffermio nad oeddwn mewn gwirionedd, i fod yn onest, wedi eu hystyried, os na allant gael mynediad at fand eang o ansawdd uchel iawn. Roedd hynny'n cynnwys methu â gallu defnyddio'r dechnoleg orau i reoleiddio'r defnydd o fewnbynnau—pob math o bethau felly.

Yng ngoleuni'r hyn a ddywedasoch yn y Siambr yn flaenorol ynghylch bod yn barod i gwrdd â phobl â phryderon penodol, rwyf wedi gwahodd y busnesau a gafodd y problemau hynny i ysgrifennu ataf. Os gwnawn ni ddarganfod bod gennym glwstwr daearyddol, a gaf i eich gwahodd chi i ddod i gyfarfod â nhw a gweld pa atebion arloesol y gallem eu rhoi? Oherwydd, fe 'm trawyd yn arbennig gan y manteision posibl i'r amgylchedd. Mae'n amlwg yn dda i'w busnesau os ydynt yn cyfyngu ar eu mewnbynnau, oherwydd mae'n costio llai o arian iddynt, ond hefyd mae manteision posibl i'r amgylchedd i wneud yn siŵr bod llai o berygl o arllwysiadau a phethau felly. Felly rwy'n mawr obeithio, os cawn nifer digonol, y dewch i gwrdd â nhw. Os yw'n un busnes yma ac un busnes acw, efallai yr ysgrifennaf atoch gyda'r manylion.

Mae'n werth edrych ar glwstwr o bobl hyd yn oed os ydyn nhw'n eithaf gwasgaredig yn ddaearyddol. Mae'n syndod beth y gellir ei wneud gyda rhai o'r technolegau, ac amaethyddiaeth fanwl yw un o ddefnyddwyr mawr iawn hyn. Felly mae gennym nifer o enghreifftiau o gymunedau ledled Cymru lle mae un ffermwr wedi'i gysylltu ac wedi gallu darlledu'r signal, er enghraifft, i nifer o ffermwyr eraill. Byddai hynny'n caniatáu pob math o dechnegau amaethyddiaeth manwl, gan gynnwys tractorau clyfar, gwrtaith a chwistrellu manwl a phethau o'r fath, sy'n hynod ddiddorol pan welwch ef wedi'i osod allan. Rydym yn awyddus iawn ynghylch hynny.

Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf unrhyw syniad ai fi fydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn yn yr ychydig wythnosau nesaf, ond byddaf yn dweud, yn hytrach nag aros am Weinidog, ai fi fydd y Gweinidog ai peidio—ac os mai fi yw, byddwn yn fwy na pharod i ddod—mae tîm o bobl sy'n arbenigo ar hyn a allant fynd drwy'r manylion. Felly os ydych yn ysgrifennu i fy swyddfa i, byddant yn gwneud yn siŵr bod y tîm ei hun yn cysylltu, a chredaf y cewch chi gyfarfod da iawn gyda'r tîm hwnnw o bobl, sy'n dda iawn am gael y grŵp gyda'i gilydd ac esbonio'r hyn y gellir ac na ellir ei wneud o fewn y prosiect. Rydym wedi cael llwyddiant da ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  'A yw Cymru'n decach?' yn nodi nad oes digon o sylw'n cael ei roi i gam-drin domestig o hyd. Mae'n ffaith drist bod mwy o droseddau trais domestig yn cael eu cyflawni nag sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu neu eu cofnodi gan yr heddlu. O ystyried hyn, a yw arweinydd y tŷ yn rhannu fy mhryder fod yr arolygiaeth cwnstabliaeth wedi canfod bod dau o luoedd yr heddlu yng Nghymru wedi methu â chofnodi 8,400 o droseddau yn y pedair blynedd diwethaf, gan gynnwys 110 o achosion o gam-drin domestig?

16:00

Ie, rydym yn gwybod bod llawer o gam-drin domestig yn cael ei guddio. Rydym yn gwybod bod pobl nad ydynt yn dod ymlaen a bod anghysondebau o dystiolaeth drwyddi draw. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, ac mewn gwirionedd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol, sydd yn gyn-gydweithiwr y byddwch oll yn gyfarwydd ag ef, sef Jeff Cuthbert, sydd wedi cymryd yr awenau yn hyn o beth ar ran yr heddluoedd ynglŷn â'r gweithdrefnau cywir, nodi ac annog pobl i ddod ymlaen ac yna'r prosesau cywir.

Ac un o'r pethau y mae'r ymgynghorwyr cenedlaethol wedi bod yn ein cynghori arno yn eu blwyddyn gyntaf nawr yn y swydd yw gwneud yn siŵr bod gennym gysondeb yn gyffredinol yng Nghymru, oherwydd caiff llawer o'r gwasanaethau hyn eu darparu gan sefydliadau'r trydydd sector. Ac felly, maent yn edrych i weld bod gennym gysondeb gwasanaeth. Dim ond i roi enghraifft i chi, os byddwch yn ymddangos yn rhywle fel dioddefwr cam-drin domestig—os byddwch yn ymddangos fore Mercher yng Ngheredigion, byddech chi'n mynd ar yr un llwybr â phe byddech yn ymddangos ar nos Wener yn adran achosion brys a damweiniau Ysbyty'r Waun Ddyfal A gwneud yn siŵr bod gennych y dull gweithredu cyson hwnnw ar draws y darn yw'r cyfeiriad yr ydym yn ei gymryd, a rhaid inni gael cydweithio da gyda'r heddluoedd. Ond mae'r gwaith yn barhaus.

Rydym yn gwybod na chofnodir pob achos o gam-drin. Rydym yn falch iawn bod y ffigurau yn dod i fyny. Dirprwy Lywydd, mae bob amser yn anodd gwybod a yw'r cynnydd mewn ffigurau yn digwydd oherwydd bod cynnydd mewn digwyddiadau neu a yw'n gynnydd yn nifer y bobl sy'n dod ymlaen a bod yn fwy diogel yn y system. Rwy'n amau ei fod yn ychydig o'r ddau mewn rhai ardaloedd. Rydym yn dadansoddi'r ffigurau i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwersi iawn o'r data.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Roedd 'A yw Cymru'n Decach?' hefyd yn crybwyll 

'Nododd astudiaeth gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru doriadau i bron hanner y gwasanaethau arbenigol ar gyfer 2016/17'.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud

'mae diffyg cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol plant a phobl ifanc yn bryder penodol'.

Pa gamau y mae arweinydd y tŷ yn eu cymryd i sicrhau y darperir cyllid digonol i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei gynnal yng Nghymru?

Felly, yr hyn sy'n digwydd gyda'n Ddeddf—Deddf  Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015— yw bod hynny'n ysgogi datganiad gan awdurdodau lleol o ran asesiad o anghenion yn eu hardal, ac wedyn yr asesiad o anghenion yw sut yr ydym yn cynllunio'n gwasanaethau, ac mae hynny yn ei fabandod. Dim ond newydd gael y fersiwn gyntaf o hynny ydym ni. Holl gynnig y Ddeddf honno yw goresgyn rhai o'r materion yr ydych yn sôn amdanynt. Felly, mae gennym asesiad anghenion am y tro cyntaf y gallwn asesu cyllid yn ei erbyn, a hefyd mae gennym weithgor cyllid cynaliadwy,. Oherwydd rydym am wneud yn siŵr nad yw'r grwpiau ariannu yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd wrth gystadlu am adnoddau sy'n prinhau, ond mewn gwirionedd yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio i'r eithaf ar faint y gallant ei wneud gyda'r arian sydd ar gael. Y cadeirydd yw un o'r ymgynghorwyr cenedlaethol, Yasmin Khan. Rydym newydd ohirio cychwyn hynny oherwydd bod yr holl grwpiau rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig ag ef wedi gofyn inni wneud hynny, fel y gallent wneud yn siŵr bod y gwaith a wnaethom yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae Yasmin, rwy'n gwybod, wedi bod yn cadeirio'r grŵp hwnnw'n effeithiol iawn a bydd yn adrodd yn gynnar y flwyddyn nesaf ar ei ganlyniad.

Diolch. Y llynedd, mynegodd Cymorth i Ferched Cymru bryder ynghylch y diffyg cymorth mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig a'u plant. Gwnaed cyfeiriad penodol at fenywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl ac, mewn nifer fach o achosion, at ddynion. Ar hyn o bryd, nid yw'r data ar nifer y llochesi yn cael eu casglu neu eu cadw'n ganolog  yng Nghymru. A yw arweinydd y tŷ yn cytuno â mi y dylid casglu'r data hyn, a pha gamau y mae hi'n eu cymryd i unioni hyn?

Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r un darn yr oeddwn yn sôn amdano o ran yr asesiad o angen. A dyna'n union beth yr ydym yn ceisio ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod gennym asesiad priodol o'r angen ar draws Cymru gyfan, a'n  bod yn darparu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad o anghenion ac nid dim ond—. Tyfodd y gwasanaethau hyn, yn gyffredinol, oherwydd eu bod wedi dod at ei gilydd yn ôl yn y 1970au a'r 1980au a chychwyn rhywbeth oherwydd eu bod yn ystyried yr angen yn lleol, ac rydym wedi parhau yn y ffordd honno. Ond holl bwynt y Ddeddf a basiodd y Cynulliad, a'r asesiad o anghenion sy'n gysylltiedig â hynny, yw cael y darlun cywir hwnnw o Gymru gyfan, fel y gallwn gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny. Yn wir, yr wythnos diwethaf, lansiais safonau'r cyflawnwr. Felly, rydyn ni'n ceisio safoni'r gwasanaeth, fel bod pobl, fel y dywedais, yn cael yr un gwasanaeth ni waeth ble maent yn byw na pha lwybr y maent yn canfod eu hunain arno.

16:05

Rydym wedi cael nifer o gwestiynau ar fand eang cyflym iawn eisoes heddiw, ond yn amlwg rydym yn gwybod ein bod wedi cael datganiad gan Cyflymu Cymru yn amlinellu amrywiaeth o lwyddiannau yn y rhaglen gyflymu, ac mae'n werth nodi y bu cynnydd mawr yn nifer yr eiddo sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn hyd at 34 Mbps. Felly rydych wedi gwneud cynnydd yn y maes. Mae technoleg, fel erioed, yn symud yn gyflym, felly hoffwn ofyn pa gynllunio ymlaen llaw a wneir i ehangu ar gapasiti cyflymder a lled band wrth inni symud ymlaen. Mae capasiti yn fater hynod bwysig, oherwydd bydd pobl am gael mynediad o fwy nag un ddyfais, a bydd angen i fusnesau fod yn rhedeg ar led band penodol, felly hoffwn  ddeall, o ran capasiti yn benodol, beth yr ydych yn ei wneud yn hyn o beth.

Dilynwyd y rhaglen gyflwyno cyflym iawn gan raglen ymelwa busnes a rhaglen ymelwa domestig—efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld fod mellten gartŵn felen fawr sy'n cyrraedd eich pentref gydag arwydd mawr—ac yna rydym yn cynnal rhaglenni i bobl ddod i ddeall sut i gael y gorau allan o'r gwasanaeth sydd wedi cyrraedd a sut i asesu'r angen ar gyfer eu busnes yn benodol. Felly, defnydd domestig—oni bai fod gennych nifer enfawr o blant yn eu harddegau sydd i gyd am gael mynediad ar yr un pryd, mae'n iawn ar 24 Mbps, fwy neu lai, ond mae gan y rhan fwyaf o fusnesau angen pwrpasol. Ac felly, un o'r pethau gydag unrhyw ymelwa ar dechnoleg newydd yw gwneud yn siŵr bod y busnesau yn gwneud eu hasesiad busnes o'u hangen a'r angen iddynt fuddsoddi yn y gwasanaeth yn gywir, oherwydd mae angen iddynt ddeall pa dwf esbonyddol all ddod o rai o'r mynedfeydd.

Mae'r tîm ymelwa busnes yn dilyn y cyflwyniad cyflym iawn o gwmpas—gan wneud dau awdurdod ar y tro ledled Cymru, mewn gwirionedd. Rydym yn ysgrifennu at bawb yn yr awdurdod, ac mae hynny'n eu rhybuddio o'r ffaith y gallent ei gael ac, yn achlysurol, mae'n ein rhybuddio o'r ffaith y credwn y gallai rhywun ei gael ac nid ydynt wedi ei gael. Ac o ran y gyfran ar hynny, rydym yn ysgrifennu miloedd o lythyrau a chawn ddegau yn ôl. Ond mae'n wirydd defnyddiol, os hoffech chi—yn wirydd ychwanegol. Ond mae Bethan Sayed yn hollol gywir, oherwydd weithiau mae pobl yn aros i'r rhaglen gyflym iawn gyrraedd, maent yn cael 30 Mbps neu rywbeth tebyg, ond maent yn rhedeg busnes fferm fawr neu safle carafanau mawr ac, mewn gwirionedd, mae angen 100 Mbps er mwyn cael eu hangen busnes. Felly, mae'r system yn gallu cyflawni hynny, ond rhaid iddynt ddeall beth sydd ei angen ac yna gallwn eu helpu i gael y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd gorau, er enghraifft, a system gyda chynllunio ar gyfer hynny. Felly, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwynt y mae hi'n ei godi, ac mae'n bwynt da iawn. Rydym yn ceisio diogelu'r system i'r dyfodol yn y ffordd honno.

A'r peth olaf i'w ddweud yw y bu adroddiad da iawn gan y Brifysgol yn Ne Cymru— Prifysgol De Cymru; rwyf bob amser yn dweud hynny o chwith—am beth sy'n digwydd i fusnesau bach pan maent yn manteisio ar y rhyngrwyd yn iawn a beth sy'n digwydd pan nad ydynt. Rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith, ac mae yn llyfrgell yr Aelodau. Mae'n werth edrych arno, gan fod y gwahaniaeth mewn gwirionedd yn eithaf syfrdanol, ac felly rydym yn defnyddio hynny fel ffordd o annog pobl i ddeall bod y buddsoddiad yn fuddiol ar gyfer eu busnes. Gallai ymddangos yn llawer, ond mewn gwirionedd mae'n werth chweil ar gyfer twf busnes.

Iawn, diolch. Fe wnaf yn siŵr fy mod bod yn cael copi o hwnnw.

Gan symud ymlaen, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar dechnoleg yn gyffredinol, gan nad yw band eang fel opsiwn unigol yn aml yn ddigon i lawer o bobl, hyd yn oed gyda'r cynnydd mewn capasiti. A allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu gwella cysylltedd 4G? Y llynedd, dangosodd adroddiad gan Which?  mai Cymru oedd â'r gwasanaeth 4G gwaethaf yn y DU, gyda chwsmeriaid 4G yng Nghymru ar gyfartaledd ond yn gallu cael signal 4G a hynny ddim ond 35 y cant o'r amser. Rydym bellach yn edrych ar y pwynt lle'r ydym yn cael 5G yn cael ei gyflwyno. Ond rydym mewn perygl o gael ein gadael ar ôl yma yng Nghymru oherwydd rydym yn dal i fod ddim yn cael mynediad i 4G, ac felly gallai hynny olygu bod llawer o bobl yn cael eu gadael gyda thechnoleg sydd wedi hen ddarfod. Felly, sut ydych chi'n mynd i'r afael â hyn i'n helpu ni fel cenedl?

Ie, mae hynny'n fater enfawr o rwystredigaeth i mi, rhaid i mi ddweud, oherwydd mae a wnelo hynny â'r ffordd y gwerthodd Llywodraeth y DU y sbectrwm a'r gwahanol gwmpas daearyddol y gwnaethant neu na wnaethant ei roi arno. Felly, mae'n amlwg yn annigonol. Rwyf wedi crybwyll droeon yn y Siambr hon fy rhwystredigaeth nad oeddent yn gallu sicrhau eu bod yn gweld bod cael un darparwr ar draws 98 y cant o dir Cymru, sef yr hyn sydd gennym, yn amlwg yn ddiwerth. 'Dewch i ymweld â'm busnes twristiaeth gwych, ond peidiwch â dod oni bai eich bod ar rwydwaith penodol'—hynny yw, mae'n amlwg nad yw hynny'n gweithio. Felly, buom yn gweithio'n galed iawn gydag amrywiaeth o awdurdodau eraill yng ngogledd Lloegr a'r Alban sydd i gyd â'r un broblem. Oherwydd y tu allan i'r cytrefi, mae gwir angen trawsrwydweithio fel y gallwch gysylltu ag unrhyw rwydwaith.

Y peth arall yw nad yw pobl yn sylweddoli y gallant ddal i wneud galwad 999. Felly, rydym wedi cael rhai enghreifftiau lle gallai rhywun fod wedi gwneud yr alwad honno oherwydd bydd eu ffôn yn cysylltu i unrhyw rwydwaith os ydynt yn ffonio 999, hyd yn oed os yw'n dweud 'dim gwasanaeth' arno, oherwydd gallai fod mai eu rhwydwaith benodol nhw sydd heb wasanaeth. Mae rhwydwaith ar draws Cymru ar gyfer cwmpasu 98 y cant, ond nid yw'n ddigon da, felly rydym yn gwneud y pwynt hwnnw.

Yn wir, un o'r pethau eraill i'w ddweud yw, wrth inni gyflwyno'r band eang ac wrth inni gael signalau Wi-Fi yn cael eu darlledu o lawer o'n rhwydwaith, wrth gwrs, daw galw Wi-Fi ar gael i bobl na fyddent yn cael 4G, felly ceir rhywbeth wrth gefn o gyflwyno band eang. Un o'r rhesymau ein bod wedi strwythuro'r ail gyfres o gyflymu yn y ffordd honno yw ein bod wedi targedu pobl nad oedd ganddynt fand eang neu 4G, fel nad oeddent yn gallu mynd ar y rhwydwaith mewn unrhyw ffordd, ac mae hynny'n benodol iawn lle nodwyd bod y cyfrannau hynny i fynd.

Dau beth arall i'w ddweud am hynny, serch hynny: rydym wedi lobïo’n galed iawn am y ffordd y mae'r setiau nesaf o sbectrwm—sbectrwm isel a sbectrwm uchel—i gael eu gwerthu, gan ein bod yn credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall bod hynny'n broblem, ac yr ymunir â ni yn hynny gan nifer fawr o feiri'r dinasoedd mawr, yn rhyfedd ddigon, a rhywfaint o'r consortiwm awdurdodau lleol yng ngogledd Lloegr a'r Alban, gan fod yr un broblem gennym oll.

16:10

Wel, mae honno bob amser yn broblem pan mae monopolïau yn y system, ac mae angen inni geisio mynd i'r afael â hynny a  sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ein clywed yn uchel ac yn glir yma yng Nghymru.

Hoffwn orffen drwy godi'r mater o niwtraliaeth net. Bu tua blwyddyn ers diddymu rheolau niwtraliaeth net yn yr Unol Daleithiau, o bosibl yn caniatáu i ddarparwyr roi cyflymderau ffafriol ar gyfer rhai safleoedd partner—nid wyf eisiau eu henwi yma heddiw, ond rwy'n siŵr y gallwch feddwl amdanynt—tra'n lleihau cyflymder ar gyfer cystadleuwyr.

Mae cyfreithiau mynediad agored cryf gan yr UE. Fodd bynnag, nid oes dim i atal Llywodraeth y DU rhag newid y cyfreithiau hynny pan fydd y pwerau hynny yn dychwelyd o Frwsel. Rydym eisoes yn gweld cynnydd graddol mewn triniaeth ffafriol i rai platfformau ar ddyfeisiau symudol. Nid wyf eisiau gweld unrhyw beth fel hyn yn digwydd pan ddaw i niwtraliaeth net. A ydych chi wedi ystyried beth fyddwch yn ei wneud ar yr agenda hon yn Llywodraeth Cymru? Yn amlwg, os bydd bargen fasnach gyda'r Unol Daleithiau, efallai y byddant eisiau gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd, ond bydd hyn yn cosbi pobl ac yn creu mwy o farchnad mewn maes sydd eisoes wedi'i amlygu yn fawr i rymoedd y farchnad. Felly, beth ydych chi'n ei wneud, o bosibl, i liniaru hyn?

Rydym wedi bod yn gwneud sylwadau i'r perwyl hwnnw, ac mae honno'n enghraifft dda iawn o un o'r manteision a ddaw yn yr Undeb Ewropeaidd—yr un arall, wrth gwrs, yw trawsrwydweithio yn Ewrop, na fydd o reidrwydd yn digwydd ar ôl Brexit. Felly, fel rhan o'n parodrwydd ar gyfer hynny, byddwn yn lobïo Llywodraeth y DU ac yn negodi ag Ewrop ei hun ynghylch sut orau i gael y gallu hwnnw i ryngweithredu, credaf mai dyna'r ymadrodd—felly, sut y gallwn ni, yn y bôn, basio'r cyfreithiau hynny yn ein cyfraith. Rydym yn mynd ati i edrych ar hynny.

Mewn gwirionedd, mae niwtraliaeth net yn debygol iawn o fod yn bwnc yn Sefydliad Masnach y Byd hefyd, oherwydd mae'n dod yn beth mawr ar draws y byd. Felly, rydym yn cadw llygad ar hynny, oherwydd rydym wedi elwa'n fawr o safonau'r Undeb Ewropeaidd yn hyn o beth.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, arweinydd y tŷ, a gaf i gyfeirio at eich datganiad ar y cynllun Cyflymu Cymru, a chydnabod llwyddiant gweithredu tasg enfawr ac anferthol o'r fath, ac, yn wir, y ddarpariaeth o fwy o ddarpariaeth ffôn symudol yr ydych wedi'i chael?

Yn dilyn ymlaen rywfaint o sylwadau Bethan Sayed, gwn y byddwch yn ymwybodol bod technoleg 5G eisoes yn dechrau dyddio rhywfaint ar y cynnydd a wnaed mewn technoleg gwybodaeth a seilwaith symudol Cymru. Felly, a oes modd ichi, os gwelwch yn dda, ein diweddaru ar statws presennol y paratoadau ar gyfer gweithredu 5G yng Nghymru? A fyddai'n bosibl darparu rhywfaint o wybodaeth ar y ffynonellau o dechnoleg a ddefnyddir i weithredu'r cyflwyniad hwnnw?

Ie, mae 5G yn ddiddorol iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, mae arnoch angen 4G er mwyn gallu symud ymlaen ato. Felly, yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud yw gweithio i wneud yn siŵr nad oes raid i bobl ddechrau gyda dim ac yna dringo i fyny'r ysgol, fel y gallant neidio drosto. Mae llawer o broblemau yno, felly mae gennym nifer o welyau prawf ledled Cymru—mae Caerdydd mewn gwirionedd yn rhan o'r rhaglen gwely prawf cenedlaethol. Rydym wedi penodi Pwynt Arloesi, sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgaredd 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau arian o gronfa gwely prawf a threialon gan Lywodraeth y DU. Felly, rydym yn cymryd rhan weithredol iawn yn hynny o beth.

Byddwn yn dweud, fodd bynnag, nad 5G yw'r unig beth y mae'n werth buddsoddi ynddo. Mae technoleg arall, sydd yn dechnoleg amledd isel, a elwir yn rhwydwaith ardal eang pellgyrhaeddol— LoRaWAN—yr ydym hefyd yn awyddus iawn i fuddsoddi ynddi. Byddai honno, er enghraifft, yn sylfaenol iawn i amaethyddiaeth fanwl. Bûm ar ymweliad gwych â Choleg Glynllifon y dydd o'r blaen i edrych ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud gydag amaethyddiaeth fanwl. Ac er nad yw'n dechnoleg boblogaidd iawn ar hyn o bryd, mae'n dal yn dechnoleg bwysig iawn i Gymru, ac rydym yn arweinydd y byd ynddi i raddau helaeth.

16:15

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Rwy'n siŵr bod arweinydd y tŷ yn ymwybodol o bryderon rhyngwladol ynghylch cwmnïau Tsieineaidd, y dywedir sydd yn arweinwyr y byd yn nhechnoleg y bumed genhedlaeth. Pa gamau fydd arweinydd y tŷ yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r materion a arweiniodd at weld yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn gwahardd rhai cyflenwyr cynnyrch Tsieineaidd yn digwydd yng Nghymru?

Rydym wedi bod yn rhan fawr o gystadleuaeth Llywodraeth y DU, lle gall consortia dan arweiniad busnes, gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau academaidd, wneud cais i gael cyfran o werth £25 miliwn o arian, fel y dywedais, gan DCMS. Ac mae hynny'n ceisio cefnogi datblygiad yr holl dechnoleg; nid  y cysylltedd yn unig—ond yr holl ddyfeisiau, os mynnwch, sy'n mynd gyda hi. Felly, nid yw 5G yn mynd yn bell iawn; mae'n signal eang nad yw'n mynd yn bell iawn, felly mae angen llawer o ddyfeisiau ar ddodrefn stryd ac ati. Felly, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y cadwyni cyflenwi yn hyfyw yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ac nad ydym yn dibynnu gormod ar dechnoleg allanol. Yn wir, Dirprwy Lywydd, bu'n nod gan y Llywodraeth hon bob amser i lenwi'r bylchau mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer cwmnïau Cymru os yw'n bosibl, ac yn amlwg mae hwn yn gyfle.

Unwaith eto, diolch i chi, ond credaf y byddwch yn gweld mai byrdwn fy holi yw, er enghraifft, bod Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Andrus Ansip, yn dweud ei fod yn pryderu bod angen i gwmnïau technoleg Tsieineaidd gydweithredu â gwasanaethau cudd-wybodaeth Tsieineaidd ar bethau megis drysau cefn gorfodol, sydd wedi eu cynllunio i ganiatáu mynediad i ddata wedi'i amgryptio. Gyda'r pryderon hynny mewn cof, arweinydd y tŷ, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd yr holl gyflenwyr trydydd parti yn destun craffu trylwyr?

Ie, yn wir, ac rydym yn perthyn i'r rhwydwaith diogelwch seiber cenedlaethol, ac rydym wedi ymrwymo i strategaeth diogelwch seiber cenedlaethol. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd da iawn gyda'r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol, ac maen nhw wedi ymweld â ni ddwywaith i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau cydnerthu seiber mewn trefn. Mae Swyddfa'r Cabinet wedi sicrhau bod arian ar gael i Gymru ar gyfer cydnerthedd seiber, ac rydym wedi dyrannu arian i brosiectau ledled Cymru i gryfhau cydnerthedd seiber drwy ein grant refeniw cydnerthedd seiber, sydd yn eithaf anodd ei ddweud. Rydym hefyd wedi dyfarnu arian i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y 22 o awdurdodau lleol i gyflawni hanfodion seiber yn ogystal ag ardystio, i'w helpu i gryfhau diogelwch seiber o fewn eu sefydliadau i safon gydnabyddedig gan y Llywodraeth. Felly, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym yr holl gydnerthedd seiber ar waith i sicrhau nad ydym yn cael y math o broblemau y mae David Rowlands yn eu disgrifio.

Pobl Anabl

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cael triniaeth a chyfleoedd cyfartal? OAQ53090

Mae ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', ar hyn o bryd allan ar gyfer ymgynghoriad, yn nodi camau gweithredu â blaenoriaeth sydd ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol i gyfle cyfartal a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, addysg, iechyd, tai a hygyrchedd.

Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr yn mynegi siom am eu hanallu i deithio ar gludiant cyhoeddus gyda ffrindiau, oherwydd mae pob un angen lle i gadair olwyn. Ac, os ydych chi'n lwcus, mae gan y rhan fwyaf o gludiant cyhoeddus un neu ddau le ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol y gallu i deithio gyda'n gilydd, ac eto gwrthodir yr hawl honno i bobl anabl yng Nghymru. Arweinydd y tŷ, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau'r un hawliau i deithio gyda'i gilydd ag y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol?

Ie, rwy'n ymwybodol iawn o'r broblem honno. Fe'i codwyd gyda mi gan nifer o etholwyr hefyd. Rydym yn cael trafodaethau parhaus gyda gweithredwyr teithio gwasanaethau cyhoeddus amrywiol i weld beth y gellir ei wneud am hynny; yn aml ar fws, er enghraifft, ceir un lle cadair olwyn, nid dau, ac, os ydych yn teithio gyda dau o bobl gyda'i gilydd, yn aml rhaid iddynt ddal bysiau dilynol, ac yn y blaen. Felly, rwy'n ymwybodol iawn o hynny. Mae'n rhan o'n hymgynghoriad, ac mae'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd presennol dros yr economi a fi wedi siarad llawer iawn amdano. Byddaf yn sicr yn argymell yn y Llywodraeth newydd ein bod yn cymryd camau ymlaen gyda'n gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyfartal. Yn aml, mae gan bobl fwy nag un person anabl yn eu teulu, a mwy nag un plentyn anabl, ac mae'n fater o bwys iddyn nhw; gall fod yn ddrud iawn fel arall. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth ar ein radar.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw i Caroline; roedd yn ddefnyddiol iawn. Bron flwyddyn yn ôl, cynhaliais ddadl fer yn seiliedig ar awgrym clymblaid Ogwr o bobl anabl ar gyfer system 'sgoriau ar y drws', a fyddai'n helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i arddangos manylion am y math o fynediad sydd ganddynt ar gyfer pobl anabl. Mae grwpiau a sefydliadau—gan gynnwys chi eich hun, arweinydd y tŷ—wedi bod yn gefnogol i'r ymgyrch Hyderus gydag Anabledd. Mae Julian John, sydd, fel y gwyddoch, fel etholwr cyffredin i ni, wedi bod yn fachgen poster gwirioneddol ar gyfer hyn. [Torri ar draws.] Wel, rydym yn ei rannu; mae'n wych.

16:20

Ie. Allwch chi ddweud wrthyf a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gynnydd ar yr awgrym am y syniad 'sgoriau ar y drws' a hefyd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd fel y gall hi ei hun fod yn gyflogwr Hyderus gydag Anabledd?

Gallaf. Felly, ar yr ail un, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch y gwasanaeth sifil, a gwn fod y Comisiwn hefyd wedi cael ychydig o sgyrsiau am y peth o ran bod yn Hyderus gydag Anabledd. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Yr anhawster gyda hyn yw bod yn rhaid ichi gael safon ar waith. Felly, gallwch ddatgan eich bod chi'n gyflogwr Hyderus gydag Anabledd, ond rhaid ichi allu dangos safon, ac mae'r un broblem gyda'r peth 'sgoriau ar y drws'. Y broblem yw bod yn rhaid inni i ddatblygu'r safon yr ydych yn sgorio'r eiddo yn ei herbyn. Felly, mae gennym ddiddordeb mawr mewn gwneud hyn. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Anabledd Cymru ac eraill i ddod o hyd i'r hyn fyddai'r safonau hynny er mwyn cael rhyw fath o system o farnu eich hun yn eu herbyn. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny, ond ni chredaf fod y safonau ar waith inni fod yn gallu gwneud hynny yn y bôn. Mae angen inni wneud y gwaith. Bydd yn rhan o'r ymgynghoriad, ac yn rhan o ddarn o waith y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod pawb yn hapus ynghylch y safon erbyn y byddwch chi'n sgorio pobl yn ei herbyn fel y gall pob un ohonom fynd ymlaen ar yr un—yn y bôn yr un maes chwarae gwastad. Cymysgais tua phedair cyfatebiaeth wahanol yn y fan honno, ond roeddech yn deall beth yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddweud.

Felly, yn y bôn, mae'n syniad gwych ond mae'n rhaid inni ddatblygu safonau a barnu pobl er mwyn rhoi'r sgôr iddynt yn y lle cyntaf, felly rydym wrthi'n gwneud hynny. Mae hynny'n ffordd symlach o'i fynegi. [Chwerthin.]

Un o brif ganfyddiadau adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018 yw bod pobl anabl yn syrthio'n ôl ymhellach a gwrthodir eu hawl i fyw'n annibynnol i lawer. Canfu'r adroddiad hefyd bod bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol a chyflogaeth, ac mae'r bylchau hynny yn ehangu. Nawr, yn groes i bolisi'r Blaid Lafur, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwneud i ffwrdd â grant byw'n annibynnol Cymru, ac mae pobl sy'n derbyn y grant hwn yn pryderu y byddant ar eu colled, y bydd eu cymorth yn cael ei dorri gan awdurdodau lleol sydd eisoes yn cael trafferth â chyllidebau llai. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod neb yn colli pan fydd awdurdodau lleol yn cymryd y cyfrifoldeb dros dalu'r grant hwn o fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac a wnewch chi ymgymryd i wrthdroi'r newidiadau hyn, os gwelwn fod unigolion yn colli arian?

Ydw, rwyf mewn gwirionedd yn hapus iawn i ymrwymo i hynny. Yn sicr does dim bwriad o gwbl y bydd unrhyw berson, unrhyw unigolyn, yn waeth ei fyd o ganlyniad i'r trosglwyddo. Dylai'r rhan fwyaf o bobl fod yn well eu byd, a dylai pobl fod yr un fath o leiaf, felly rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Gwn ein bod, yn ein cynigion cyllideb terfynol, yn edrych i warantu hynny. Fy mhrofiad i yn fy etholaeth i yw bod pobl yn amharod i ymgysylltu rhag ofn iddynt ddioddef niwed ohono. Felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn teimlo'n hyderus wrth ymgysylltu, oherwydd rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y sicrwydd hwnnw neu beth bynnag y dymunwch ei alw—gwarant; dwi ddim yn gwybod beth yw'r gair iawn ar ei gyfer—na fyddai neb yn waeth eu byd. Byddai pobl yr un fath o leiaf, ac, mewn gwirionedd, rydym yn credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn well eu byd, felly rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw.

Yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau

4. Sut y bydd adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn helpu i wella canlyniadau ar gyfer menywod o Gymru a geir yn euog o droseddau? OAQ53097

Rydym wedi bod yn gyson iawn yn y cyfathrebu ynghylch pwysigrwydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwy'n falch o nodi y bydd y glasbrintiau drafft ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddu benywaidd sydd wedi'u datblygu yn cyfrannu at sicrhau mwy o gydraddoldeb ar gyfer y rhai sydd o fewn, neu mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y glasbrint troseddau benywaidd drafft, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn siarad amdano ychydig yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Diolch. Edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw. Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y gwahaniaethir yn erbyn menywod ar hyn o bryd ar bob lefel o'r system cyfiawnder troseddol. Maen nhw'n fwy tebygol o gael eu harestio am droseddau a fyddai'n gwarantu rhybudd pe byddent yn ddynion, yn fwy tebygol o gael gwrthod mechnïaeth, yn syml oherwydd na allant ddod o hyd i unrhyw un sy'n barod i ddal mechnïaeth ar eu rhan, maent yn fwy tebygol o fod yn y carchar am droseddau di-drais, ac maen nhw'n fwy tebygol o golli eu cartref. O ganlyniad i fenywod yn mynd i'r carchar, mae dros 17,000 o blant yn colli eu cartref ac yn cael eu rhoi mewn gofal oherwydd mai menywod sy'n gofalu am y plant, hyd yn oed os yw eu dynion yn mynd i'r carchar. Wrth gwrs, cofnodwyd hyn i gyd yn adroddiad Corston, a gyhoeddwyd bron 12 mlynedd yn ôl, ac mae dadleuon cymhellol iawn ynghylch pam mae angen inni wneud rhywbeth gwahanol. Felly, gobeithio bod y datganiad yr ydym ni'n mynd i'w glywed yn mynd i roi sylw i'r angen brys am ganolfannau i fenywod, lle gall menywod gael y gwasanaethau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'u troseddau. Yn aml, maent yn ddioddefwyr yn ogystal ag yn droseddwyr. Mae o leiaf hanner y menywod wedi'u cam-drin fel plant ac mae'n gylch dieflig oherwydd mai plant troseddwyr sy'n fwy tebygol o fod yn droseddwyr. Felly, gobeithio y bydd gennym—. Edrychaf ymlaen at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet a gobeithio y gallwn gymryd ffordd flaengar ymlaen a mynd i'r afael â'r mater hwn.

16:25

Yn wir, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael perthynas waith dda iawn dros y mater hwn ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwirionedd, onid ydym ni? Ac rwy'n credu bod y datganiad yn adlewyrchu hynny'n gryf. Rydym yn awyddus iawn bod menywod yn cael eu gwyro oddi wrth y carchar neu system cyfiawnder troseddol os oes modd, ein bod yn gweithio'n galed gyda'r farnwriaeth, gan gynnwys yr Ynadon, i sicrhau nad ydynt yn cael—nad oes unrhyw ragfarn ddiarwybod yn y dedfrydu. Mae'n amlwg y ceir hynny ar hyn o bryd: mae ystadegau yn dangos yn glir bod merched yn mynd i'r carchar ar lefel llawer is o droseddu na dynion, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael llawer o drafodaethau am y broblem o golli teulu, plant a'r hyn sy'n digwydd yn y cylch dieflig yr ydych chi'n ei ddisgrifio. Ac rwy'n siŵr y bydd yn ymdrin â phob un o'r materion hynny yn ei ddatganiad yn ddiweddarach heddiw.

Arweinydd y tŷ, ym mis Chwefror, galwodd y cyn-brif arolygydd carchardai am agor carchar i fenywod yng Nghaerdydd i ganiatáu i garcharorion benywaidd gael eu carcharu yng Nghymru. Dywedodd yr Arglwydd Ramsbotham ei bod yn warthus nad oes unrhyw ddarpariaeth yng Nghymru a bod yn rhaid i garcharorion benywaidd gael eu hanfon i Loegr, oddi wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau. Credaf nad yw'n dderbyniol yn y ganrif hon, beth bynnag. A ydych chi'n cytuno â'r Arglwydd Ramsbotham bod—? Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder ar ddarparu carchar i fenywod i Gymru, os gwelwch yn dda?

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â hyn, ond hoffwn ddweud, yn fyr, na chytunaf y dylem gael carchar i fenywod yng Nghymru, oherwydd nid yw cael carchardai i ddynion yng Nghymru wedi rhwystro dynion Cymru rhag cael eu hanfon dros y DU. Yr hyn sydd ei angen yw i fenywod gael eu gwyro oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, ac eithrio yn yr achosion mwyaf eithafol o drais. Felly, nid oes angen carchar mwy a fydd yn caniatáu i fwy o fenywod gael eu cadw mewn llety diogel. Yr hyn sydd ei angen arnom yw'r ddarpariaeth iawn yng Nghymru, felly os oes angen i rywun fod mewn llety diogel, maent mewn canolfan i fenywod, lle gall eu plant fod hefyd. Felly, cytunaf â'r teimlad y tu ôl i'r hyn a ddywedwch, y dylai pobl gael eu cartrefu yn lleol ac amharu cyn lleied â phosibl arnynt, ond rwyf mewn gwirionedd yn chwyrn yn erbyn adeiladu carchar, a chredaf y byddai ond yn arwain at fwy o fenywod yn cael eu carcharu yn hytrach na gwyro oddi wrth y system. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael llawer o drafodaethau cadarn ar y pwynt hwn, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn sôn am hynny yn ei ddatganiad y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Trafodaethau hwyliog, yn wir.

Mae cyfiawnder yn dal heb ei ddatganoli. Ni all y cyfrifoldeb hwnnw ddod i Gymru yn ddigon buan, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn. Pan ddaw at garcharu menywod, rwy'n cytuno'n gryf â Chynghrair Howard er Diwygio Cosbau, a ganfu fod gormod o lawer o fenywod yng Nghymru yn cael eu hanfon i'r carchar ac nad oes cyfleuster yma yn y wlad hon. Maent yn dweud, a dyfynnaf:

'Mae yna gwmpas sylweddol i wella'r gwasanaethau a chanlyniadau drwy ddatblygu rhwydwaith bach o ganolfannau i fenywod yng Nghymru a lleihau'n sylweddol nifer y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar'.

Nawr, yn ychwanegol at y rhwydwaith hwn o ganolfannau i fenywod, un ffordd o leihau nifer y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar fyddai buddsoddi mewn gwasanaethau prawf fel y gall fod yn ddewis amgen gwirioneddol i'r ddalfa. O gofio nad yw'r gwasanaeth prawf wedi'i ddatganoli, ac o gofio ei bod fwy neu lai wedi ei hanner breifateiddio, sut allwch chi, yn ymarferol, ddylanwadu ar yr agenda hon?

Rydym wedi cael llawer o drafodaethau ar yr union bwynt hwn. Cytunaf yn llwyr â Chynghrair Howard er Diwygio Cosbau. Rwyf wedi bod yn gyd-deithiwr iddynt ers llawer iawn o flynyddoedd. Ac mae hynny'n hollol ar bwynt y  drafodaeth yr ydym wedi bod yn ei chael. Rydym yn awyddus iawn i gael system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli cyn gynted â phosibl, gan gynnwys y gwasanaethau prawf. Mae'r gwasanaethau prawf yn gwbl hanfodol i fynd gyda hynny, a'r gwyriad hwn oddi wrth y carchar yr ydym yn sôn amdano, rhaid ichi gael y gwasanaethau hynny ar waith ac, mewn gwirionedd, rhaid ichi gael darpariaeth system cyfiawnder cyn-droseddol ar waith. Dyna pam rydym yn ceisio cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau ieuenctid hefyd, oherwydd mae'n gyfres o bethau sy'n mynd gyda hyn.

Mae angen inni sicrhau bod llai o blant yn cael eu derbyn mewn gofal o ganlyniad i garcharu eu mam am rywbeth, fel y dywedaf, na fyddai unrhyw ddyn byth yn mynd i'r carchar amdano, a'u bod, lle maent wedi mynd i'r carchar—neu mewn cyfleuster diogel, yn hytrach—eu bod yn rhai bach pwrpasol, sy'n canolbwyntio ar fenywod sy'n agos at ble maent yn byw. Nid dim ond un yng Nghymru, oherwydd nid yw hynny'n dda i ddim os ydych yn byw yn unrhyw le heblaw'r lle mae'n digwydd bod, ond rhwydwaith o'r canolfannau hynny, yn union fel y disgrifiodd Leanne Wood, fel y gallwn wneud yn siŵr y cawn y canlyniad gorau posibl nid yn unig ar gyfer y menywod eu hunain, ond ar gyfer eu plant a'u teuluoedd, y gwyddom yr effeithir arnynt yn  aruthrol gan y canlyniad anghywir. A gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet—. Rwy'n dwyn ei glodydd braidd, oherwydd rydym wedi cael y drafodaeth hon— byddwch yn gwybod, rydym yn gytûn ar hynny. Rydym yn cytuno'n llwyr â'r agenda honno, a dyna i ble'r ydym ni'n ceisio mynd â hyn.

16:30
Cysylltedd 5G yng Nghaerdydd

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd 5G yng Nghaerdydd? OAQ53095

Gwnaf. Croesawaf yn fawr iawn y cyhoeddiad diwydiant diweddar yn datgan y buddsoddiad arfaethedig 5G yng Nghaerdydd.

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Yn wir, cyhoeddodd EE fod Caerdydd yn un o chwe dinas yn y DU a fyddai'r cyntaf i gael rhwydweithiau symudol 5G. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer gwella gwasanaethau, nid yn unig drwy ddyfeisiau personol, a bydd hynny'n drawsnewidiol, ond i gynnig seilwaith integredig ar gyfer adeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau cyhoeddus, darparu buddion nas gwelwyd o'r blaen ar gyfer dinasyddion, busnesau a'r ddinas. Fodd bynnag, i weld gwerth llawn y manteision hyn, bydd lefel uchel o gydweithredu yn angenrheidiol i gysylltu'r dechnoleg â seilwaith ein dinas, ac mae perygl y gallai hyn fod yn rhywfaint o ôl-ystyriaeth. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda rhai fel EE a darparwyr ffonau symudol eraill i sicrhau bod Caerdydd yn dod yn fodel, nid yn unig ar gyfer trefi a dinasoedd ledled Cymru, ond, yn wir, ledled y DU?

Ie, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Eisoes rwyf wedi cwrdd ag arweinydd cyflwyno'r cwmni yn y cyswllt hwn, a buom yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd i wneud yn siŵr, ochr yn ochr â phobl bargen y ddinas, ein bod yn llwyr yn y gofod hwnnw. Mae David Melding yn llygad ei le—bydd technolegau wedi'u galluogi gan 5G yn gweddnewid y ffordd y mae dyfodol diwydiannau Cymru yn tyfu. Os ydych yn meddwl am y gwahaniaeth a wnaeth y ffôn clyfar i'r ffordd yr ydym yn gweithio, mae'n debyg na fyddai neb ohonom wedi ei ragweld lai na thair blynedd yn ôl. Rydym yn edrych ar yr un math o chwyldro unwaith eto ar gyfer 5G—pethau y byddwch yn gallu eu gwneud ar eich dyfais fechan sydd ychydig y tu hwnt i'ch disgwyliad ar hyn o bryd.

Felly, rydym yn ceisio gwneud tri pheth: rydym yn ceisio elwa o'r dechnoleg ei hun, ond rydym hefyd yn ceisio bod yn gynhyrchwyr y 'widgets'—dyna'r term technegol—sydd yn ei chynhyrchu. Felly, mae gennym y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yma yng Nghaerdydd. Ni wn a yw'r Aelodau yn sylweddoli cymaint o'r dyfeisiau yn eich ffôn clyfar a wneir mewn gwirionedd yng Nghymru; mae yna gyfrannau mawr iawn ohonynt. Felly, rydym yn ceisio bod yn rhan o gadwyn gyflenwi sy'n gwneud y peth yn y lle cyntaf, a bod yn fabwysiadwyr cynnar o'r dechnoleg. Mae EE yn ceisio cyflwyno eu rhaglen gyntaf yn yr hyn y maent yn ei alw y rhannau prysuraf o Gaerdydd—ac mae hynny'n cynnwys y Cynulliad, felly byddwch yn gallu bod yn fabwysiadwyr cynnar yn hynny o beth. Rwy'n edrych ymlaen at hynny.

Trawsnewid Digidol yn y Sector Cyhoeddus

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Sir Benfro? OAQ53066

Gwnaf, rwy'n fodlon iawn i wneud hynny. Cafwyd cynnydd da ar drawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Sir Benfro. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn band eang drwy raglen Cyflymu Cymru—. Roeddwn yn mynd i ddweud yn ddiweddar iawn, ond credaf mai mis Awst oedd hi mewn gwirionedd, cyfarfûm â'r Cynghorydd Paul Miller, sydd yn aelod cabinet dros ddatblygu economaidd a chymunedol, rwy'n credu; mae ganddo gyfrifoldeb am ddigidol yn Sir Benfro, a chawsom sgwrs dda iawn am y defnydd gorau o'r rhwydwaith prosiect cydgasglu band eang y sector cyhoeddus a rhywfaint o'r cyflwyno cyflym iawn o ran manteisio ar drawsnewid sector cyhoeddus yn Sir Benfro. Gwn fod y cyngor yn awyddus iawn i weithio gyda ni yn hynny o beth.

Wel, rwy'n  falch ei bod wedi cael deialog adeiladol iawn gyda Chyngor Sir Penfro. Nawr, fel y mae arweinydd y tŷ yn ymwybodol, mae ysgolion yn dibynnu ar fand eang i helpu i ddarparu rhannau o'r cwricwlwm, ac mae'n hanfodol ei fod ar gael i bob ysgol ledled Cymru. Deallaf mai Ysgol Llanychlwydog yn Sir Benfro yw'r unig ysgol yn yr ardal sy'n methu cael band eang, a dywedwyd wrthyf fod hyn yn ganlyniad i heriau logistaidd sy'n bennaf oherwydd lleoliad yr ysgol o fewn ffiniau parc cenedlaethol sir Benfro. O ystyried yr amgylchiadau, a fydd arweinydd y tŷ, ar y cyd â'i chyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn edrych ar yr achos penodol hwn i ymchwilio i faint o le sydd ar gael i edrych ar ddarpariaeth amgen ar gyfer yr ysgol i sicrhau nad yw'r disgyblion dan anfantais oherwydd yr heriau logistaidd hyn?

Ie, rwy'n ymwybodol iawn, iawn o'r ysgol yno; mae mewn rhan brydferth iawn o Sir Benfro, ac mae ganddi dafarn fach ddiddorol iawn gyda bar yn ei hystafell flaen rownd y gornel. Ond mae'n ynysig iawn, mae'n deg dweud, a rhan o'i harddwch yw ei bod wedi'i hynysu. Rydym yn ymwybodol iawn o hyn; rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol i weld beth y gellir ei ddatblygu er mwyn eu cael ar-lein. Ond rhaid imi ddweud, os ydych yn gwybod am gwm Gwaun, mae'n logistaidd yn broblematig iawn oherwydd nid yn unig y mae'n hardd iawn, mae'n serth ac yn goediog ac yn ynysig. Felly, mae a wnelo â'r topograffi harddaf ond y mwyaf anodd y gallech ei ddychmygu. Mae'r ysgol yn eithaf bach, felly, o ran y posibiliadau economaidd, mae'n broblem anodd ei datrys, ond rydym yn ymwybodol iawn ohoni ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol a'r cyngor i weld beth y gallwn ei wneud i gael yr ysgol ar-lein cyn gynted â phosibl. Er hynny, hon yw ysgol ddiwethaf yng Nghymru lle mae 'na broblem gyda hi, sy'n wych o beth, ond mae angen inni ddatrys y broblem.

Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am rôl chwaraeon o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod? OAQ53094

16:35

Gwnaf, yn wir. Rydym yn gwybod bod astudiaethau yn dangos bod cynnydd sydyn mewn achosion o drais domestig yn dilyn digwyddiadau chwaraeon, felly rwyf yn disgwyl i'r sector chwaraeon hybu'r neges gadarn bod trais yn erbyn menywod yn hollol annerbyniol ac i gymryd camau o fewn eu rhengoedd eu hunain. Dylem ni hybu effeithiau a chanlyniadau cadarnhaol chwaraeon gan wneud yn siŵr bod yr agweddau negyddol yn hysbys.

Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw, ac rwyf yn siŵr ei bod hi’n ymwybodol, fel y mae hi wedi ei ddweud yn gwbl gywir, mae astudiaethau wedi cysylltu digwyddiadau chwaraeon mawr â chynnydd mewn adroddiadau o drais yn y cartref, heb sôn am y trais nad yw’n cael ei gofnodi. Er enghraifft, yn ystod Cwpanau pêl-droed y Byd yn 2002, 2006 a 2010, cofnododd Heddlu Caerhirfryn gynnydd o 38 y cant mewn trais yn y cartref ar y dyddiau hynny pan oedd Lloegr yn colli, ac rwyf yn deall bod hyn yn wir ar gyfer twrnameintiau mwy diweddar hefyd. Yn debyg i hynny, mae Heddlu De Cymru wedi cofnodi cynnydd mewn adroddiadau pan fo Cymru yn chwarae rygbi yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd, ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae troseddau wedi codi 79 y cant, o gymharu â’r wythnos flaenorol.

Nawr, mae'n bwysig cofio nad yw menywod yn wynebu trais a chamdriniaeth a achosir gan eu partneriaid bob dydd yn unig, dim ond ar y diwrnodau pan fo chwaraeon ar y teledu—mewn gwirionedd, mae hyn yn digwydd bob dydd; rwyf yn ymddiheuro am hynny. Dirprwy Lywydd, gall atyniad eang chwaraeon, fodd bynnag, gael ei ddefnyddio i ymgysylltu â dynion i ddod â nhw at ei gilydd a'u cefnogi nhw mewn unrhyw wrthdaro ynghylch y materion hyn ac yn sail i drais yn y cartref ar y cyd â grymuso menywod a'r dyhead am gydraddoldeb rhyw.

Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda fy nhîm pêl-droed i ar lawr gwlad—Clwb Pêl-droed y Nomadiaid yng Nghei Connah—i hybu ymgyrch y Rhuban Gwyn. Rwyf hefyd yn falch iawn fy mod wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru a Chlwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn ddiweddar, ochr yn ochr â'm cyd-Aelodau, John Griffiths a Jayne Bryant. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ groesawu ymrwymiad clybiau a sefydliadau chwaraeon, ac a wnaiff hi ymrwymo, neu’n wir, annog y Gweinidog nesaf gyda hyn yn ei bortffolio, neu ei phortffolio, i weithio ochr yn ochr â’r Gweinidog chwaraeon ar y mater pwysig iawn hwn? Oherwydd, Dirprwy Lywydd, rwyf yn credu y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn cytuno, ennill neu golli, nad oes esgus dros drais yn y cartref.

Rwyf yn llongyfarch yn fawr iawn llawer o'r clybiau chwaraeon ledled Cymru, ac yn enwedig y fersiynau gwrywaidd o'r clybiau chwaraeon sydd wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae llawer o'r clybiau o amgylch—y Gweilch yn benodol, er enghraifft, a'u rhaglen gymunedol a'r Swansea Whites a nifer o rai eraill ar draws—. Mae'n annheg eu henwi nhw, mewn gwirionedd, gan fod nifer fawr ohonyn nhw'n cymryd rhan yn yr ymgyrch.

Fe wnaethom ni ail gynnal yr ymgyrchoedd Dyma Fi a Paid Cadw'n Dawel yn ystod 16 diwrnod o gemau rhyngwladol yr hydref a chefnogi, fel y gwyddoch, ymgyrch y Rhuban Gwyn; roeddech chi'n gefnogwr amlwg iawn eich hun. Rydym yn bwriadu eu cynnal nhw unwaith eto yn y gwanwyn yn ystod y gemau rhyngwladol. Y syniad yw cael y lefel o ymwybyddiaeth a gawsom ni ar gyfer Kick It Out gyda digwyddiadau chwaraeon, fel bod dynion sy'n gefnogwyr yn deall nad yw hyn yn ymateb derbyniol i siom, neu mewn gwirionedd, yn ddigon rhyfedd, llawenydd mewn chwaraeon, gan fod y cynnydd sydyn yn digwydd pan fyddwch yn ennill neu'n colli, sy'n eithaf gofidus. Ond i bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn ohono fe; rydym yn cynnal ymgyrchoedd unwaith eto, rydym ni wedi eu hariannu nhw i wneud hynny, a byddwn yn sicr yn talu teyrnged i'r clybiau chwaraeon hynny sydd wedi ymuno, oherwydd ei bod hi'n bwysig iawn bod gan ddynion ifanc yr esiamplau cywir i'w dilyn a'u bod nhw'n gwybod nad hynny yw hanfod gwrywdod.

5. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rydym yn symud ymlaen yn awr at eitem 5, sef y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Roedd nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiadau llafar a oedd wedi eu trefnu ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gofal ar gyfer y rhai sy'n difrifol wael a gwella gwasanaethau deintyddol yn cael eu cyhoeddi mewn datganiadau ysgrifenedig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad llafar ar 'Tuag at ddull gwahanol o ymdrin â'r system gosb yng Nghymru', fel y gwnaethom ei drafod yn gynharach. Mae'r busnes drafft ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd wedi ei nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Fis Rhagfyr y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pwerau deddfwriaethol i osod Gorchymyn atal dros dro yn cael eu rhoi i Gyngor y Gweithlu Addysg—neu fwy nag un. Dri mis yn ddiweddarach, gofynnodd yr Ysgrifennydd dros addysg i'r Cyngor Gweithlu Addysg a fydden nhw'n cynnal ymgynghoriad, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw ymhen 10 niwrnod, nawr, ni wn i pam cafwyd oedi yn y fan hyn, ond rydym ni'n sôn am flwyddyn yn ddiweddarach. O ystyried hynny, tybed a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ystyried cyflymu ei hymateb i adroddiad yr ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi yn y pendraw ym mis Ionawr.

Yn ail, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018. Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4  ym mis Mehefin yn gynharach eleni gyda Chydsyniad Brenhinol yn cael ei roi ym mis Awst. Tybed, yn gynnar yn y tymor newydd, a wnaiff yr Ysgrifennydd iechyd newydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd wrth lenwi'r bylchau yn y Bil hwnnw. Efallai y bydd yr Aelodau yn cofio fy mod i wedi bod yn anfodlon iawn gydag ansawdd y Bil penodol hwnnw, a chredaf y byddai rhywfaint o wybodaeth ynghylch sut y mae'r rheoliadau hynny'n edrych bellach a'r ymchwil sy'n cael ei wneud yn cael ei groesawu'n fawr. Diolch.

16:40

Ie, ynghylch yr ymgynghoriad, nid wyf yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn achosi'r oedi, mae arnaf ofn. Rwyf yn sicr yn hapus i edrych, i weld, i argymell bod y Llywodraeth newydd yn hwyluso ei hymateb. Ni wn pa mor ymarferol yw hynny, ond rwyf yn fodlon gwneud yr argymhelliad hwnnw. O ran y Bil isafbris alcohol, gwn y bydd yr Ysgrifennydd iechyd cyfredol yn argymell i bwy bynnag fydd ei olynydd, boed ef ei hun ynteu rywun arall, bod adroddiad cynnydd cynnar yn cael ei wneud, felly gwn fod hynny eisoes yn y system.

Arweinydd y tŷ, ar 14 Chwefror, yn gynharach eleni, cynhigiais ddadl Aelodau unigol ynghylch mater y ffyrdd nad ydynt wedi eu mabwysiadu. Roedd yn ddadl a welodd gyfraniadau ar draws y Siambr a chafodd ei phasio yn unfrydol. Un o ganlyniadau'r cynnig oedd sefydlu tasglu, a wnaed o dan gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Ar ôl cwestiwn ysgrifenedig dilynol gennyf fis Ebrill eleni, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn disgwyl i'r tasglu gwblhau ei waith yn gynnar yn 2019. O gofio bod y tasglu wedi ei gefnogi gan Aelodau ar draws y Siambr, mae llawer ohonom ni'n edrych ymlaen at weld yr argymhellion a fydd yn cael eu cynnig, ond, ychydig iawn y mae'r Aelodau wedi ei glywed o ran unrhyw gynnydd a wnaed hyd yn hyn. Tybed, felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i roi datganiad ysgrifenedig i'r holl Aelodau i amlinellu'r dyddiad cwblhau disgwyliedig, ac a fydd hefyd yn rhoi manylion unrhyw ymgynghoriadau a wnaed gan y tasglu a chrynodeb dros dro ynghylch ble mae'r tasglu arni erbyn hyn gyda'i waith. Diolch.

Rwyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu hysbysu'r Senedd, Dirprwy Lywydd, cyn gynted ag y bydd y tasglu wedi cwblhau ei waith, sef—. Mewn gwirionedd, mae Dai Lloyd ychydig o'm blaen i, felly rwy'n credu mai dechrau 2019 fydd hynny, a chredaf fod gan y rhaglen ddiweddariad ar y pwynt hwnnw.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid yn ôl ar gyfer synhwyrau a chyfathrebu Gwent? Gwasanaeth ar gyfer plant â phroblemau golwg, clyw a chyfathrebu, a ariannir ar hyn o bryd gan bum cyngor yn ne-ddwyrain Cymru yw hwn. Mae penderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid yn ôl wedi achosi cryn bryder ymhlith rhieni a gwarcheidwaid y plant sy'n elwa ar y gwasanaethau hyn a gallai danseilio'r holl waith. A gawn ni ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y plant rhyfeddol hyn yn y de-ddwyrain, os gwelwch yn dda?

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod gyda chyngor Casnewydd rhesymeg ei benderfyniad i dynnu'n ôl o'r gwasanaeth, ac rwyf yn siŵr y bydd hi'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd pan fydd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau.

Hoffwn godi’r mater o ganabis meddyginiaethol. Mae llacio cyfreithiau ynghylch presgripsiynau canabis meddyginiaethol o ganlyniad i newidiadau yn neddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi creu ychydig yn unig o newid eleni. Mae hyn, yn fwy na thebyg, oherwydd canllawiau cyfyngol dros dro a gyhoeddwyd o ganlyniad i'r newid hwn yn y ddeddfwriaeth. Mae’r Gymdeithas Sglerosis Gwasgaredig yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr ar gyfer 10,000 o bobl yn y DU sy’n byw gyda sglerosis gwasgaredig a allant gael esmwythâd o’r boen a’r gwayw drwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol. Daeth hyn i'r amlwg yn ystod yr wythnos diwethaf, gydag achos Bailey Williams sy’n 16 mlwydd oed, sydd ag epilepsi difrifol sy’n achosi iddo ddioddef cannoedd o ymosodiadau ar ôl ei gilydd. Mae ei deulu yn dweud bod ei gyflwr yn dirywio'n gyflym. Maen nhw’n dweud y byddai canabis meddyginiaethol yn gwella ei symptomau yn fawr. 

Nawr, gall Sativex fod ar gael ar y GIG yng Nghymru, ond ar gyfer triniaeth sbastigedd yn unig y caiff hwn ei drwyddedu, a phryd hynny nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis gwasgaredig sy'n bodloni'r meini prawf. Nid yw hyn o unrhyw ddefnydd i bobl fel Bailey sydd ag epilepsi difrifol, nag unrhyw gyflwr arall a allai fod y tu allan i’r cwmpas cyfyng hwnnw. Hoffwn i weld y Llywodraeth hon yn gweithio tuag at sicrhau bod y canllawiau ar ragnodi canabis meddyginiaethol yn cael eu hadolygu a’u llacio yn y cyfamser, fel nad yw mynediad at driniaeth yn cael ei gyfyngu mor llym. Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i fabwysiadu ymagwedd flaengar at ragnodi canabis meddyginiaethol, ac ni ddylem ni adael i’r cyfle hwnnw ddiflannu. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr arweinydd Llafur newydd, felly, a wnewch chi sicrhau, fel mater o frys, bod y Prif Weinidog newydd yn cymryd camau i ymdrin â hyn yn ddi-oed, gan na all y teulu aros tan y Nadolig?

Hoffwn hefyd godi’r mater bod Aelod o’r Cynulliad wedi rhannu llwyfan gyda bwli asgell dde islamoffobaidd adnabyddus yn Llundain yn ystod y penwythnos. Mae’n hysbys bod Yaxley-Lennon wedi creu straeon newyddion sydd wedi helpu i ledaenu casineb yn erbyn Mwslemiaid. Mae'n annog casineb yn rheolaidd ac nid oes lle iddo yng ngwleidyddiaeth y brif ffrwd. Nid oes gan yr Aelod Cynulliad dan sylw unrhyw gywilydd, ond mae’r ffaith ei fod yn rhannu llwyfan gyda chymeriad gresynus a pheryglus o'r fath yn dwyn cywilydd ar y Senedd hon ac mae'n dwyn gwarth ar Gymru. Rwyf yn amau na fydd yr Aelod Cynulliad dan sylw yn edifarhau, gan mai dyna'r math o unigolyn yw ef, ond gobeithiaf y bydd camau’n cael eu cymryd i’w sancsiynu mewn rhyw ffordd am iddo foddio colbiwr asgell dde a'i ddilynwyr.

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth hon sy’n condemnio’r weithred hon ac sy’n egluro i bawb pam nad yw cymdeithasau o'r fath yn ddiniwed, a hefyd, a all y datganiad hwnnw amlinellu hefyd strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chynnydd y dde eithaf yng Nghymru?

16:45

Rwyf yn rhannu dicter a phryder yr Aelod ynghylch y ffaith fod Aelod o'r Cynulliad wedi rhannu llwyfan yn ystod y penwythnos. Mae'n frawychus meddwl bod rhywun yn ein plith yn credu bod rhannu llwyfan gydag eithafwr asgell dde, mewn gwirionedd, yn rhywbeth cwbl resymol i'w wneud. Rwyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon yn rhannu'r dicter y gellid gweld rhywun ar lwyfan o'r math hwnnw, a byddaf yn sicr yn siarad â'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ynghylch pa gamau sy'n briodol i'w cymryd. Ond rwyf yn sicr yn rhannu dicter yr Aelod. Rwyf yn credu bod pob un ohonom yn ei rannu.

Mae datganiad wedi ei drefnu ar gyfer pwy bynnag fydd â'r portffolio yr wyf i'n ei ddal ar hyn o bryd ar eithafiaeth asgell dde yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac rwyf yn siŵr y bydd hynny'n ystyried unrhyw gamau a fydd yn deillio o hyn, ond rwyf yn hapus i fynegi fy ngwarth eithafol ynghylch ei ymddygiad yn hyn o beth. Roeddwn yn meddwl ei fod yn gywilyddus.

O ran canabis meddygol, mae'r Aelod wedi dweud ei bod hi eisoes wedi ysgrifennu at arweinydd newydd Llafur Cymru. Byddaf innau'n dwyn hyn i'w sylw ef hefyd. Gwn fod yr Ysgrifennydd dros iechyd presennol wedi cael nifer o sgyrsiau am hyn, ac mae hi wedi gwneud gwaith da, fel bob amser, o dynnu sylw at y mater, ond rwyf yn hapus iawn i godi'r mater gydag ef hefyd.

Tybed, arweinydd y tŷ, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd nesaf i ystyried gwneud datganiad i'r tŷ hwn ynghylch potensial systemau trwyddedu ar gyfer busnesau saethu masnachol yng Nghymru. Nid wyf yn wrthwynebwr chwaraeon maes, ond mae fy nghyd-Aelod, y Cynghorydd Bryn Davies ym Mhennant Melangell yng ngogledd Sir Drefaldwyn, yn wynebu sefyllfa lle mae busnes penodol, ers degawdau wedi bod yn saethu am ddau ddiwrnod yr wythnos mewn ffordd sy'n hollol dderbyniol i'r gymuned leol, bellach, maen nhw'n saethu bedwar i bum diwrnod yr wythnos am gyfnodau estynedig, ac mae'n ymddangos nad yw'r pwerau sydd ar gael i'r awdurdod lleol yn ddigonol iddyn nhw gyfyngu ar hyn. Mae hyn yn amlwg yn dwyn anfri ar y busnes ei hun, mae'n gwneud pethau'n anodd iawn, iawn i'r cymdogion, ac mewn gwirionedd, mae'n cael effaith ar y busnesau ffermio cyfagos. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn os gall pwy bynnag yw'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr amgylchedd edrych ar y system bresennol er mwyn rheoleiddio'r busnesau hyn. A dylwn bwysleisio mai busnes masnachol yw hwn; nid rhywun sy'n saethu rywfaint ar ei dir ei hun, yn amlwg, neu fydden nhw ddim yn saethu bum diwrnod yr wythnos. Ac rwyf wir yn teimlo bod hwn yn faes lle y dylem fod yn gallu rheoleiddio'n effeithiol.

Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau yn ymwneud â hynny. Tybed a fyddai Helen Mary Jones cystal ag ysgrifennu llythyr, ac wedyn bydd yn sicr o fod ar ben mewnflwch pwy bynnag yw'r aelod newydd sydd â'r amgylchedd yn ei bortffolio.

Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mi hoffwn i wneud cais am ddatganiad ynglŷn â’r argyfwng ariannol sydd, rwy’n ofni, yn dyfnhau mewn addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eglurhad o unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r sefyllfa ariannol honno. Yr wythnos yma, mae staff ym Mhrifysgol Bangor, sydd â phresenoldeb pwysig yn fy etholaeth i hefyd, yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi bod yn derbyn cyfathrebiad gan y brifysgol yn amlinellu achosion busnes ar gyfer toriadau pellach, yn cynnwys diswyddiadau. Mae yna ofn y gallai 60 o swyddi da fynd o’r brifysgol. Nid ydy’r sefyllfa, yn amlwg, ddim yn gynaliadwy. Mae safon yr addysg a’r ymchwil sy’n cael eu cynnig yn siŵr o ddioddef ar draws ein sector prifysgolion ni yn y pen draw, ac mi hoffwn i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y mae hi am ymateb.

Mi fyddwn ni hefyd yn dymuno clywed datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros gyllid ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i’r tymor canol ynglŷn â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes stryd fawr. Mi ydym ni newydd gael datganiad yn ymestyn y cynllun rhyddhad hwnnw am gyfnod pellach. Rydw i'n croesawu hynny. Mae fy mhlaid i wedi bod yn frwd iawn, yn dod i gytundebau efo'r Llywodraeth ar gynlluniau ardrethi ac yn y blaen, ond nid ydw i'n gyfforddus â'r ffordd y mae'r rhaglen yn cael ei rolio o un flwyddyn i'r llall. Rydw i wedi bod yn trafod efo busnesau yn fy etholaeth i ynglŷn â phwysigrwydd y rhyddhad ardrethi yma i'r stryd fawr yn benodol. Mae Plaid Cymru yn Arfon wedi bod yn casglu enwau, llawer iawn o enwau, ar ddeiseb ac maen nhw yn sicr yn falch bod yr enwau ar y ddeiseb wedi cael dylanwad ar y Llywodraeth. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ynglŷn â beth y gallwn ni ei ddisgwyl yn y tymor canol. Oherwydd nid ydy blwyddyn i flwyddyn, er mor dda ydy unrhyw help ychwanegol, ddim yn ddigon da ar gyfer cynllunio hirdymor.

16:50

O ran hwnnw, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ateb yn eithaf cynhwysfawr yn ei gwestiynau yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr pan fydd y Llywodraeth newydd wedi setlo, pwy bynnag fydd y Gweinidog newydd â chyfrifoldeb am ryddhad ardrethi busnes, fe fydd eisiau ei amlinellu. Rydym ni'n ei roi yn ein cyllideb derfynol. Gan dybio y bydd y gyllideb derfynol yn pasio, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd eisiau amlinellu ei gynlluniau i fwrw hynny ymlaen, ond atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfres o gwestiynau eithaf cynhwysfawr ar hyn dim ond yr wythnos diwethaf.

O ran addysg uwch, gwn fod Rhun ap Iorwerth eisoes yn ymwybodol bod pob sefydliad addysg uwch yn sefydliadau ymreolaethol a bod y cyfrifoldeb dros faterion staffio yn gyfan gwbl yn nwylo corff llywodraethol y brifysgol. Fe ddyrannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg £10 miliwn ychwanegol i'r sector i liniaru'r effaith yn sgil cadw ffioedd dysgu yn £9,000, ac mae hynny wedi'i gynnwys yn y gyllideb. Fe wyddom ni y bu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr o ganlyniad i'n cynllun newydd, ond nid yw'n briodol i'r Llywodraeth ymyrryd ym mhenderfyniadau staffio unigol prifysgolion. Maen nhw'n gyrff ymreolaethol, sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd, ac mae'n fater iddyn nhw yn gyfan gwbl.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Ofal am y Difrifol Wael

Bydd eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y newyddion diweddaraf am y gofal ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael, yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol

Mae eitem 7, datganiad gan yr un Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch diwygio gwasanaethau deintyddol, hefyd yn ddatganiad ysgrifenedig.

8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tuag at Ddull Gweithredu Penodol o ran y System Gosbi yng Nghymru

Felly symudwn at eitem 8, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: tuag at ddull gweithredu penodol o ran y system gosb yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch personol i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio gyda mi i ddatblygu a phrofi'r glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc a throseddwyr sy'n fenywod dros fisoedd lawer.

Mae'r bobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas ni. Yn rhy aml gwelwn bobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw eu hunain wedi cael eu hesgeuluso yn gynharach yn eu bywydau, ac wedi dioddef nifer o brofiadau plentyndod niweidiol neu gam-driniaeth;  gyda llawer o'r profiadau hynny yn parhau yn eu bywydau pan fydden nhw'n oedolion. Mae'n rhaid inni roi terfyn ar y cylch hwn. Rydym ni'n siomi pobl, ond rydym ni hefyd yn creu galw ar y gwasanaethau cyhoeddus na allwn ni ei ddiwallu. Ond, Dirprwy Lywydd, yr effaith ddynol bob tro sydd yn fy sbarduno i a'm hymagwedd tuag at y polisi hwn.

Fel llawer o rai eraill, ac fel y clywyd yn y Siambr y prynhawn yma, rwyf i eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli cyn gynted â phosibl. Rwyf eisoes wedi nodi wrth yr Aelodau fy mod i'n benderfynol o ddatblygu dull gweithredu gwahanol o ran cyfiawnder yng Nghymru, i ganolbwyntio ar gamau gweithredu ataliol ac i dorri'r cylch hwn. Er ein bod ni ni'n gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol cymhleth, mae rheolaeth dros y system gyfiawnder ar hyn o bryd yn parhau yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, felly heddiw byddwn yn parhau i weithio o fewn paramedrau'r setliad datganoli presennol ar gyfiawnder er ein bod yn cydnabod, er mwyn sicrhau'r gorau ar gyfer ein pobl, fod wir angen datganoli'r system hon.

I barhau i wneud cynnydd a gwelliannau ym mhob maes cyfiawnder troseddol, mae mynd i'r afael â'r system gyfan yn hanfodol. Rwyf eisiau inni wneud cynnydd cyflymach mewn meysydd penodol yn y system, sef troseddau ieuenctid a throseddau menywod. Rydym ni wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio a phrofi modelau newydd o ddarparu ac rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd. Ers y llynedd, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru, comisiynwyr heddlu a throseddu, ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill ym maes cyfiawnder, iechyd ac addysg i ddatblygu a darparu dulliau gweithredu newydd ar gyfer troseddau ieuenctid a throseddau menywod.

O ran troseddau ieuenctid rydym ni'n credu y gall ymyrraeth ac atal cynnar helpu i gadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol. Rydym ni'n cefnogi'r dull rheoli achosion uwch sy'n cael ei lywio gan drawma gyda'r bobl ifanc mwy cymhleth hyn, gan leihau cyfraddau troseddu am y tro cyntaf ac aildroseddu yn sylweddol. Fodd bynnag, mae mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn achosion o drais a throseddu cyfundrefnol mwy difrifol. Mae twf llinellau cyffuriau yn un rheswm, ond rwy'n derbyn bod llawer o resymau eraill am hyn hefyd.

Mae ein cynigion presennol ar gyfer troseddau ieuenctid felly yn blaenoriaethu mwy o atal cynnar a gweithgareddau dargyfeirio, gan gyrraedd pobl iau hyd yn oed yn gynharach, cyn eu bod mewn perygl o droseddu. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dulliau o weithredu o ran dargyfeirio cyn y llys a chynyddu'r gefnogaeth i ddull wedi ei lywio gan drawma ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl o droseddu. Bydd angen dull o weithredu cyfannol, a byddwn yn defnyddio profiad y cynlluniau braenaru i lywio'r gwaith hwnnw. Rydym ni'n cydnabod nad yw'r un dull yn addas i bawb.

Ar yr un pryd, mae'n rhaid ystyried sut orau i osod carfan fechan o bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn aml iawn, mewn amgylchedd diogel sy'n addas i'w ddiben. Yna mae'n rhaid cael y math iawn o gymorth i helpu'r bobl ifanc hyn adfer ac ail-ymsefydlu yn eu cymunedau. Bydd yr holl waith a wnawn ni gyda phobl ifanc yn seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau, sef eu hystyried fel plant neu bobl ifanc yn gyntaf, nid fel troseddwyr neu rywun a allai fod yn droseddwr.

Mae nifer anghymesur o uchel o fenywod yn dal i gael eu hanfon i'r carchar, yn aml ar gyfer dedfrydau byr. Rydym ni'n cydnabod bod hyn yn cael effaith ddinistriol tymor hwy ar y merched eu hunain a'u teuluoedd. Felly, mae'n rhaid inni wneud mwy o ymdrech i ddargyfeirio cyn y llys. Fe hoffwn i weld mesurau ataliol hyd yn oed yn gynharach i gadw menywod allan o'r system cyfiawnder troseddol; i gadw teuluoedd gyda'i gilydd; i leihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt; ac i leihau'r effaith tymor hwy y gall bod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol ei chael ar y menywod hyn.

Dylid ystyried datblygu dulliau o weithredu wedi'u llywio gan drawma a chydnabod effaith profiadau andwyol plentyndod ar gyfer menywod sy'n troseddu a'u plant, gan ystyried anghenion y menywod hyn a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Gallwn gefnogi merched i aros yn eu cymunedau ac mewn gwaith mewn ffordd well o lawer. Rydym ni eisiau datblygu gwasanaethau sy'n angenrheidiol i gefnogi menywod fel y gallan nhw osgoi bod dan glo yn gyfan gwbl. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r llysoedd i ailystyried effaith polisi dedfrydu ac effaith dedfrydau byr ar fenywod, gan gynnwys sut y bydd hyn yn effeithio ar y plentyn a'r teulu.

Mae hefyd yn amlwg iawn ac yn fater o frys bod arnom angen ateb newydd i'r ystad carchardai menywod presennol. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r gwasanaeth carchardai a phrawf, ond rwyf yn glir pan fydd menyw yn cael ei dedfrydu i'r ddalfa, mae angen iddi hi fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi ei hanghenion; cefnogi ei hadsefydlu; a'i chefnogi hi i gadw mewn cysylltiad â'i theulu a'i chymuned.

Hoffwn roi ar y cofnod fy niolch am waith Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, am ei ran yn llwyddiant ymyrryd yn gynnar a dargyfeirio, a'r gwaith allgymorth y mae'n ei wneud ar ddedfrydu ac atal.

O ran menywod yn troseddu, rydym ni wedi cefnogi rhaglen fraenaru i fenywod, i ddargyfeirio menywod rhag mynd i'r ddalfa a darparu amrywiaeth o gymorth. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i'r partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a'r comisiynwyr heddlu a throseddau sy'n chwarae rhan mewn datblygu prosiect braenaru i fenywod a'r glasbrint drafft ar fenywod sy'n troseddu, am eu holl waith hyd yn hyn.

Dirprwy Lywydd, dros y misoedd nesaf, gyda'n hystod o bartneriaid ac ar draws y Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynigion i greu cynlluniau pendant a fydd yn rhoi bywyd i'n glasbrintiau ni. Rwyf yn rhagweld, yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi'r glasbrintiau llawn ac amlinellu ein cynigion yn fanylach drwy gyfrwng cynllun cyflawni. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

16:55

Diolch am eich datganiad—un o blith llawer ar thema debyg dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Fe wnaethoch chi alw hwn yn 'ddull gweithredu penodol o ran y system gosb yng Nghymru', er ei fod yn edrych yn rhyfeddol o debyg i'r agenda polisi sy'n datblygu ar draws y ffin yn Lloegr hefyd.

Fel yr ydych wedi fy nghlywed i'n dweud o'r blaen, ym mis Awst, bûm mewn digwyddiad ymgysylltu Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yn Wrecsam i drafod y cynigion yn y papur ymgynghori 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder'. Clywsom, yng Nghymru, mai'r cynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw oedd, o 2020, bydd pob gwasanaeth rheoli troseddwyr yn ôl yn rhan o'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ac y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried dewisiadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyraethau ac ad-dalu cymunedol. Fe glywsom ni fod yr ymgynghoriad yn amlinellu cynlluniau i sefydlogi gwasanaethau prawf a gwella'r broses o oruchwylio troseddwyr a'r gwasanaethau drwy'r giât, sy'n allweddol i'ch datganiad,

'Mae cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru a threfniadau partneriaeth presennol yng Nghymru yn gwneud darparu gwasanaethau prawf yn dra gwahanol i'r hyn yr ydyw yn Lloegr. Mae'r fframwaith deddfwriaethol yn rhoi cyfle inni ddatblygu trefniadau cyflawni amgen sy'n adlewyrchu'r cyd-destun cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn well... Byddwn wedyn yn ystyried a yw dysgu yn sgil y trefniadau newydd hyn yn berthnasol i'r system yn Lloegr.'

Wel, roedd hynny bedwar mis yn ôl. Rydych chi wedi sôn am ymgysylltu â nifer o gyrff, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi; Tybed a wnewch chi roi unrhyw gig ar yr esgyrn hynny o ran trafodaethau ynghylch yr agenda honno yr ydych chi wedi eu cael wedyn.

Nid wyf am ymateb i'r temtasiynau gwleidyddol pleidiol a roesoch o'm blaen i mewn meysydd nad wyf yn mynd i'w henwi, oherwydd bydd yn crwydro, efallai, o'r ateb y byddwch yn ei roi i mi, a cheisiaf ganolbwyntio ar eich pwyslais chi ar droseddwyr ifanc a menywod sy'n troseddu. 

Rydych yn dweud, yn gywir, o ran troseddwyr ifanc, eich bod yn credu y gall ymyrraeth gynnar helpu i gadw pobl ifanc draw o'r system cyfiawnder troseddol a sut orau i osod carfan fechan o bobl ifanc yn y ddalfa a helpu'r bobl ifanc hynny i adfer ac ymsefydlu yn eu cymunedau. Wel, fe soniodd y ddogfen ymgynghori hefyd am gynyddu integreiddio ar draws carchardai a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru gyda mewnbwn gan y trydydd sector, gan wneud defnydd o gyfalaf pobl. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, yn eithaf diweddar mewn gwirionedd fe euthum i allan gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i gyfarfod Eagle House Youth Development, cwmni buddiannau cymunedol ym Mangor, i drafod eu gwaith gyda phobl ifanc sy'n cyflawni troseddau, neu mewn perygl o gyflawni trosedd. Fe'u dewiswyd, er enghraifft, gan y ganolfan byd gwaith ar gyfer eu stondin yn y Sioe Frenhinol eleni fel corff arweiniol y trydydd sector yr oedden nhw'n gweithio â nhw i helpu pobl ifanc oedd efallai â'r nodweddion posibl hynny neu y gallent fod mewn perygl yn y dyfodol. Felly, sut byddwch chi'n ymgysylltu â sefydliadau megis Eagle House?

Hefyd, yr wythnos diwethaf, fel efallai eich bod yn ymwybodol—er yn anffodus nid oeddech chi yno—roeddwn i'n croesawu lansiad y pecyn cymorth Clean Slate Cymru mewn digwyddiad i ddathlu'r prosiect Clean Slate Cymru yn y Pierhead, gyda Construction Youth Trust Cymru, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a'r cwmni adeiladu BAM Nuttall, yn dathlu prosiect Cymru gyfan i gefnogi pobl sydd ag euogfarnau i gael gwaith ym maes adeiladu a lansio canllawiau ar sut y gall y diwydiant adeiladu ymgysylltu â chyn-droseddwyr mewn carchardai a chymunedau ledled Cymru a chyflawni gwerth cymdeithasol drwy hyfforddi cyn-droseddwyr, dod o hyd i gyflogaeth yn y sector adeiladu, drwy leoliadau gwaith, sgiliau hyfforddi a llawer o bethau eraill. Unwaith eto, a ydych chi wedi ymgysylltu, neu a ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r prosiectau blaenllaw hyn sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac wedi dwyn ynghyd y trydydd sector, y sector preifat a rhai o asiantaethau'r Llywodraeth a oedd yn bresennol ar yr agenda hon?

Rwyf am gloi drwy gyfeirio at eich cyfeiriad, yn briodol iawn, at fenywod yn cael eu hanfon i'r carchar, yn aml ar gyfer dedfrydau byr, a'r angen i ddatblygu gwasanaethau i gynorthwyo menywod i osgoi mynd i'r ddalfa a hefyd rhoi blaenoriaeth i geisio cael dedfrydau byr y tu allan i amgylchedd carchar, ond hefyd yr hyn sy'n digwydd pan fo pobl yn cael eu rhoi yn ystad carchardai menywod presennol Cymru. Pa ymgysylltiad, felly, yr ydych chi wedi ei gael gyda Llywodraeth y DU ers ei chyhoeddiad, yn hytrach na sefydlu pum carchar cymunedol i fenywod yng Nghymru a Lloegr, y bydd yn treialu pum canolfan breswyl i helpu menywod sydd wedi troseddu sydd â phroblemau megis dod o hyd i waith, camddefnyddio sylweddau ac ati; gyda'r rhai â dedfrydau cymunedol, fel y cydnabyddir yn glir gan Lywodraeth y DU yn ogystal â gennych chi eich hun, yn llai tebygol o droseddu na'r rhai sydd wedi treulio dedfryd fer mewn carchar, gyda'r bwriad o gael un o'r canolfannau hynny yng Nghymru, ond hefyd yn hygyrch yng Nghymru? Oherwydd, yn amlwg, byddai pobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cael anhawster pe byddai'r ganolfan wedi'i lleoli yn Abertawe neu Gaerdydd, ac i'r gwrthwyneb.

Yn olaf, yn y cyd-destun hwnnw, fel y gwyddoch, yn y gogledd, a rhannau helaeth o Gymru, mae menywod sy'n troseddu ac yn gorfod mynd i'r carchar yn cael eu hanfon i Styal. Rwyf i'n byw rhyw 40 milltir o Styal, felly, iddyn nhw, mae'n fwy hygyrch na rhywle yng nghanolbarth neu dde Cymru. Ond pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu yr ydych chi yn eu cymryd ynghylch y menywod sy'n troseddu, yn enwedig rhai Cymraeg eu hiaith sydd yn ystad Lloegr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol o fewn yr ystad garchardai i gyfathrebu a rhoi cymorth iddyn nhw pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau?

17:05

Rwyf yn ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am eu cwestiynau, ac rwy'n credu, eu cefnogaeth gyffredinol i'r datganiad hwn a'r dull o weithredu yr ydym yn ei fabwysiadu. Dechreuodd yr aelod dros Ogledd Cymru ei sylwadau drwy gwestiynu a oedd hwn yn ddull gwahanol o gwbl, ac yna, er mwyn cynnal ei achos, dyfynnodd o ddogfen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a oedd yn amlinellu'r angen am ymagwedd penodol yng Nghymru, oherwydd y gwahaniaethau o ran cyflenwi, y strwythurau a'r polisïau a ddilynir yn y wlad hon. Yr hyn a ddywedaf i wrtho yw hyn: Nid yw wedi preifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi gweithio—mae'n cael ei ystyried yn fethiant. Dywedodd llawer ohonom ni wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai'n fethiant ar y pryd, a bellach, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, o leiaf yng Nghymru, wedi cydnabod nad yw'r strwythurau hynny mwyach yn addas i'w diben.

Fe fydd ymagwedd benodol yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyfarwyddwr y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru. Rydym ni'n trafod sut yr ydym ni'n darparu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi, yn ystod y cyfnod yn y ddalfa, a hefyd sut yr ydym ni wedyn yn sicrhau bod gennym ni'r dulliau drwy'r giât sy'n cefnogi pobl ar eu taith allan o'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n eithaf sicr yn fy meddwl fy hun ein bod ni'n symud i ffwrdd o'r athrawiaeth breifateiddio, a'r hyn yr ydym yn symud tuag ato yw system sydd yn fwy cyson â'r gwerthoedd a fydd yn cael eu cefnogi, rwy'n credu, gan y rhan fwyaf yn y Siambr hon, pan fyddwn ni'n gweithio gyda'r trydydd sector, ond yn gweithio o fewn strwythur a fframwaith sy'n rhoi pobl ac nid elw yn gyntaf. Gobeithio y bydd modd inni fynd ar drywydd hynny a pharhau i ddilyn y dull hwnnw.

Gofynnodd y Ceidwadwyr imi gwestiynau ynghylch ystad carchardai menywod. Os oes unrhyw un sy'n dymuno amddiffyn y setliad presennol o ran cyfiawnder, nid oes angen ichi ond edrych ar brofiad menywod sy'n troseddu i weld sut y mae'r system honno, a sut y mae'r strwythur hwnnw wedi esgeuluso menywod heddiw yng Nghymru, ac yn esgeuluso menywod yn gyson ledled y wlad. Ni all neb—neb—ddadlau bod system sydd wedi'i sefydlu heb unrhyw gyfleusterau o gwbl ar gyfer menywod yn y wlad hon, wedi ei sefydlu i ddiwallu anghenion pobl y wlad hon mewn unrhyw ffordd.

Nid yw'r system sy'n bodoli heddiw yn addas i'w diben—nid yw erioed wedi bod yn addas i'w diben. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yn wahanol i hyn yw nid dim ond mynd yn ôl i adeiladu carchardai yn y ffordd yr awgrymodd rhai pobl, ond chwilio am wahanol ddewisiadau ac atebion. Y cwestiwn oedd i ba raddau yr wyf i wedi mynd ar drywydd hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Dywedaf wrth yr Aelod fy mod wedi cyfarfod â Phillip Lee fel Gweinidog, ag Edward Argar fel Gweinidog ac rwyf wedi cyfarfod â Rory Stewart fel Gweinidog er mwyn mynd ar drywydd y materion hyn i gyd. Rydym ni wedi cytuno mwy nag yr ydym ni wedi anghytuno o ran sut i ddatblygu'r materion hyn.

Rydym yn gytûn bod angen inni gael ymagwedd newydd tuag at fenywod sy'n troseddu a thuag at ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed yn y sgwrs flaenorol ynghylch cwestiynau—bod angen canolfan i fenywod ac nid carchar i fenywod, ond mae hefyd angen amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer menywod, nad ydyn nhw'n cynnwys dalfa yn unig. Rwyf i wedi ymweld â Llywodraeth yr Alban ac wedi siarad â Llywodraeth yr Alban am y canolfannau menywod a'r cyfleusterau ar gyfer menywod sydd ganddyn nhw, a'r hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni ei wneud yw datblygu ymagwedd gyfannol, er mwyn i'r drasiedi bresennol o bobl ifanc a menywod yn y system cyfiawnder troseddol fod yn rhywbeth ar gyfer y llyfrau hanes yn unig.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, gallaf ddweud, a minnau'n gyn swyddog prawf, fy mod i'n croesawu'r cyfeiriad cyffredinol tuag at system cyfiawnder troseddol sy'n seiliedig ar adsefydlu yn hytrach na chosbi?

Mae dargyfeirio cyn y llys yn golygu buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau prawf, ac mae'n drueni mawr, o gofio eich bod wedi amlinellu'r problemau a achoswyd gan breifateiddio'r gwasanaeth prawf, na frwydrodd eich Llywodraeth yn galetach yn erbyn preifateiddio'r gwasanaethau hynny pan yr oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn rhybuddio mai dyna'n union a fyddai'n digwydd.

Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod o blaid mwy o adsefydlu, a gan nad ydwyf wedi gweld manylion unrhyw gynigion penodol, mae'r cyfraniad y gallaf ei wneud ar hyn o bryd wedi ei gyfyngu braidd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld cynigion penodol yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Fe wnaf i ddweud, er hynny, ei bod hi'n amlwg i bob un ohonom ni yn y Siambr bod eich datganiad heddiw yn dod ar adeg pan fo pryder cynyddol ynglŷn â chyflwr y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a bod consensws yn cael ei ffurfio na all pethau barhau fel y maen nhw. Mae'r llu o adroddiadau gan Sefydliad Materion Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Cynghrair Howard er Diwygio Cosbau, a'r mwyaf diweddar, adroddiad Comisiynydd y Gymraeg sy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw anghenion carcharorion Cymraeg eu hiaith yn cael eu bodloni, yn dystiolaeth bellach a phendant bod y system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei rhedeg gan y Torïaid yn San Steffan yn gosbol, yn seiliedig ar elw ac yn gwrthwynebu'n uniongyrchol nodau adsefydlu.

Mae effeithiau peidio â chael carchar i fenywod yng Nghymru yn hysbys iawn o ran yr effaith ar deuluoedd a chymunedau, ond nid sefydlu carchar i fenywod yng Nghymru yw'r ateb yn amlwg. Felly a gaf i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i gadarnhau y bydd y glasbrint a'r cynllun cyflawni yn cynnwys ymrwymiad cadarn i beidio â chefnogi adeiladu unrhyw garchar newydd yng Nghymru? A gaf i hefyd ofyn am eglurder pellach ynghylch pa fesurau penodol y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd i ddargyfeirio menywod oddi wrth y system cyfiawnder troseddol?

Rwy'n croesawu'r dull seiliedig ar hawliau ar gyfer troseddau ieuenctid a'r pwyslais ar brofiadau andwyol plentyndod ac fe fyddwn i'n croesawu rhagor o fanylion ynghylch hyn. Gyda pha asiantaethau byddwch chi'n gweithio er mwyn gwireddu eich gweledigaeth ynglŷn â hyn? A fydd gan bobl yr hawl i gael gafael ar wasanaethau cwnsela, er enghraifft, i oresgyn trawma plentyndod, a hynny pan fo'r trawma yn digwydd yn ystod plentyndod a hefyd yn ddiweddarach pan fyddan nhw'n oedolion, os oes angen hynny? A fydd hawl i driniaeth yn sgil defnyddio sylweddau, os mai dyna'r hyn sydd ei angen? Beth mae dull seiliedig ar hawliau yn ei olygu mewn termau diriaethol?

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers talwm mai yn y pen draw dim ond datganoli cyfrifoldeb dros y system cyfiawnder troseddol fydd yn caniatáu inni lunio system gynhwysfawr sy'n decach ac sy'n cynnwys adsefydlu wrth ei gwraidd. Rydym ni'n aros am argymhellion comisiwn Thomas yn hyn o beth, ond, yn y cyfamser, a gaf i ofyn i chi gadarnhau sut y mae'r cynigion hyn ar gyfer dull o weithredu penodol yng Nghymru ar gyfer troseddwyr ifanc a menywod yn troseddu yn cael eu datblygu o dan y fframweithiau cyfansoddiadol annigonol presennol a sut bydd y rheini yn cyfochri â datblygiadau yn y dyfodol yng ngoleuni comisiwn Thomas?

Yn olaf, a gaf i ofyn i chi roi ar y cofnod eich bod o blaid datganoli llwyr ar gyfer pob agwedd ar y system cyfiawnder troseddol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol a amlygwyd yn eich datganiad ac i weithredu'r egwyddorion hyn o adsefydlu?

17:10

Dirprwy Lywydd, gadewch imi ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf. Yr ateb yw 'ydw'. Yr ateb yw 'ydw'. Rwy'n gwahodd yr Aelod dros y Rhondda i geisio consensws ac i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n gilydd yn hytrach nag edrych am raniadau rhyngom. Rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol yn y fan yma. Amlinellodd yr Aelod yn dda iawn nifer o adroddiadau beirniadol am y gwasanaeth carchardai a'r amodau mewn carchardai yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Ond byddwn i'n dweud wrthi hefyd ein bod ni'n fwy pwerus wrth geisio cael cytundeb na phan yr ydym ni'n anghytuno, a byddwn i'n dweud wrthi hi bod y dystiolaeth—[Torri ar draws.]—y dystiolaeth—[Torri ar draws.]—y dystiolaeth a roddais i gomisiwn Thomas, ac rwyf yn hapus iawn iddi gael ei chyhoeddi maes o law, yn benodol ynghylch sut yr ydym ni'n darparu system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru, ond hefyd sut yr ydym ni'n darparu system gyfiawnder wahanol yng Nghymru.

Mae hi wedi gofyn imi gadarnhau nad ydym ni'n cefnogi datblygu unrhyw garchar newydd yng Nghymru. Gadewch imi ddweud hyn: nid ydym ni'n cefnogi ac ni fyddwn ni'n cefnogi adeiladu na chreu na datblygu carchar i fenywod yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ein bod ni eisiau gweld gwahanol ganolfannau a gwahanol gyfleusterau ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Ond mae angen inni fuddsoddi yn yr ystad ddiogel, yn yr ystad oedolion gwrywaidd, oherwydd bod amodau mewn rhai o'n carchardai—fel y mae hi wedi eu disgrifio ei hun—ar gyfer carcharorion sy'n oedolion gwrywaidd yn gwbl annerbyniol, ac mae angen i ni weld sut y gallwn ni ddatblygu hynny a sut y byddwn ni'n buddsoddi yn yr ystad ddiogel i gael ystad sy'n addas i'w diben yn yr unfed ganrif ar hugain. A gadewch imi ddweud hyn: nid oes neb—nid oes neb—a fyddai'n dadlau o ddifrif bod yr ystad ddiogel, yn ei chyfanrwydd sydd gennym ni yng Nghymru, mewn unrhyw ffordd wedi'i chynllunio a'i datblygu i wasanaethu pobl Cymru. Hyd at 18 mis yn ôl, nid oedd gennym ni gyfleuster y tu allan i goridor yr M4. Hyd heddiw, nid oes gennym ni gyfleusterau ar gyfer menywod ac mae'r unig sefydliad troseddwyr ifanc yn rhan o'r carchar i oedolion yn y Parc. Nid yw unrhyw un o'r meysydd hynny yn ddigonol, ac nid wyf i'n fodlon ar seilwaith nac ystâd unrhyw un o'r meysydd hynny. Felly, rwyf eisiau gweld buddsoddi yn yr ystad gyfan honno i wneud pethau'n wahanol, i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol o'i gymharu â'r hyn a welsom yn y gorffennol, ac rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol ynghylch y trywydd y mae'r gwasanaeth prawf yn ei ddilyn.

Unwaith eto, gofynnwyd imi, 'Sut byddwn ni'n cyflawni hyn?', 'Sut byddwn ni'n gweithio er mwyn darparu gwasanaeth prawf gwahanol?' Byddwn yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a byddwn yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau bod gennym y dull o weithredu o ran plismona ac o ran yr ystad ddiogel i gyflawni ein hamcanion. Nid yw'n ddigonol—nid yw'n ddigonol—i draddodi pregeth ar y cyfansoddiad yn unig, tra bod pobl yn dioddef yn y system. Ac ni fyddaf i'n gwneud hynny. Ni fyddaf i'n gwneud hynny. Nid wyf am ddweud bod y system bresennol, y strwythurau, y cyfansoddiad, yn annigonol a'i gadael hi ar hynny yn unig. Byddaf yn torchi fy llewys ac yn gwneud popeth posibl i fuddsoddi yn nyfodol pobl sydd ar hyn o bryd yn y system cyfiawnder troseddol, ac, rwy'n credu, mai dyna mae pobl Cymru eisiau i ni ei wneud.

Ond mae'r cwestiynau a ofynnwch chi yn mynd ymhellach na hynny, ac rwy'n derbyn bod angen dull mwy cyfannol a gwahanol. Mae gwir angen inni edrych ar sut yr ydym ni'n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn i'n mynd ymhellach na'r hyn a awgrymwyd gan yr Aelod, yn wir, gan fy mod i'n credu bod angen i ni hefyd weld sut yr ydym ni'n ymdrin â materion iechyd meddwl ehangach yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu'n gryf bod angen darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pobl. Mae angen i ni edrych ar sut yr ydym ni'n darparu tai ar gyfer pobl sy'n gadael y system cyfiawnder troseddol, sy'n gadael yr ystad ddiogel. Mae angen inni edrych yn fanylach ar sut yr ydym ni'n darparu hyfforddiant, sut yr ydym ni'n darparu addysg. Mae angen i ni edrych yn galetach ar sut yr ydym ni'n darparu llwybr i bobl ddod allan o'r system cyfiawnder troseddol, allan o droseddu. A'r hyn y mae'r glasbrintiau hyn yn ei wneud yw cychwyn y daith honno a sefydlu'r fframwaith, yr egwyddorion, a fydd yn ein tywys ni ar y daith honno.

17:15

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y glasbrintiau pan gânt eu cyhoeddi. Fel pwynt cyffredinol, gwn fod y glasbrintiau hyn yn cwmpasu dau faes penodol o fenywod sy'n troseddu a phobl ifanc, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod achos cryf iawn dros wneud ymdrech fawr i ostwng yn gyffredinol y boblogaeth garchar yng Nghymru? Oherwydd, yn sicr, mae'r DU yn anfon mwy o bobl i'r carchar nag unrhyw wlad arall bron, ac felly rwy'n credu bod pwynt cyffredinol yn y fan yna ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef.

Ac rwyf hefyd yn croesawu'r cynnig i gael strategaeth gosbol benodol, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli oherwydd, fel y mae hi ar hyn o bryd, rydym ni'n cwympo rhwng dwy stôl, sy'n golygu ein bod ni'n gorfod gweithio o fewn paramedrau'r setliad datganoli presennol, ac mae hynny'n anfoddhaol iawn, gan fod agweddau ar y system cyfiawnder sy'n effeithio ar garcharorion wedi eu datganoli, ond nid felly'r agweddau holl bwysig. Felly, fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud ei farn ynghylch hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai'r peth olaf yr ydym ni yng Nghymru ei eisiau yw carchar i fenywod. Rwyf wedi ymgyrchu ynghylch hyn ers blynyddoedd lawer, ac mae'r problemau y mae menywod a theuluoedd yn eu hwynebu yn sgil carcharu, rwy'n credu wedi'u cofnodi'n llawn ac wedi'u trafod yn y fan yma yn eithaf helaeth y prynhawn yma, felly ni wnaf i fanylu ar hynny.

Ond fe hoffwn i bwyso ychydig mwy ar Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y pum canolfan i fenywod hyn a pha un a yw'n credu mewn gwirionedd y bydd un ohonyn nhw yng Nghymru. Yn amlwg, fe fyddai angen, yn sicr, inni gael mynediad at fwy nag un yng Nghymru, ac efallai na fyddai un yn ddigon, ond beth yw hynt y trafodaethau hynny ar hyn o bryd? Oherwydd rwy'n credu bod gwir angen inni sicrhau bod gan Gymru y cyfle i gael gafael ar yr arian hwnnw sy'n dod oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond roedd yn peri pryder clywed bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi cyllid o £3.3 miliwn ar gyfer 12 o sefydliadau cymunedol i gefnogi menywod sy'n troseddu, ac mae'n ymddangos na fydd yr un o'r rhain yng Nghymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw wybodaeth am hynny, oherwydd rwyf ar ddeall fod £1.7 miliwn arall i'w ddyfarnu. Felly, yw e'n gallu dweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi eu cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr arian hwn ac a yw wedi cael unrhyw arwydd y bydd sefydliadau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn elwa arno? Fe edrychais i ar y rhestr o sefydliadau a oedd wedi cael yr arian hwn yn Lloegr, ac roedd yn ymddangos bod rhai prosiectau da iawn yn cael cyllid, ac rwy'n gobeithio y bydd cyfle i edrych ar hyn yng Nghymru unwaith eto.

Rwy'n credu ein bod wedi cael—. Mae'r ddadl hon am fenywod mewn carchar yng Nghymru, menywod sy'n troseddu yng Nghymru, wedi bod yn mynd ymlaen ers talwm, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd cam lle'r ydym ni'n cydnabod erbyn hyn ein bod angen ymagwedd wahanol ar gyfer menywod sy'n garcharorion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael canolfan breswyl yng Nghymru a'n bod yn cael gafael ar rywfaint o'r arian hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

17:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chefnogaeth, a gwn ei bod wedi bod yn ymgyrchydd ar y materion hyn am flynyddoedd lawer ac wedi ysgogi'r ddadl ar lawer o'r materion hyn dros gyfnod sylweddol o amser.

Hoffwn ddechrau drwy gytuno ar y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud ynghylch poblogaeth y carchardai. Yn y 13 mis yr wyf i wedi bod yn swydd hon, rwyf wedi ymweld â phob un carchar yng Nghymru, ac rwyf wedi treulio amser yn siarad, nid yn unig â'r staff, er fy mod wedi gwneud hynny, a rheolwyr y sefydliadau hyn, ond rwyf hefyd wedi eistedd mewn celloedd yn siarad â'r bobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yno ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda phobl sydd wedi disgrifio eu bywydau wrthyf, a hynny weithiau mewn manylder sy'n peri gofid mawr. A'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu yw ein bod ni wedi siomi'r bobl hynny fel cymdeithas, a'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud gormod o areithiau a ddim wedi cymryd digon o gamau gweithredu. Ac mae angen inni—. Rwy'n meddwl am rywun y siaradais ag ef yng Nghaerdydd yr haf diwethaf, a ddisgrifiodd i mi sut yr oedd wedi diweddu yn ôl yng ngharchar Caerdydd a beth oedd ei ddisgwyliadau ar gyfer ei fywyd yr hydref hwn yr ydym ni wedi'i dreulio yn y fan yma. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n meddwl amdano yn rheolaidd iawn wrth feddwl am y dull sydd gennym ni ar gyfer y polisïau hyn. Rwy'n meddwl am y sgyrsiau a gefais gyda phobl yr aethpwyd â hwy oddi wrth eu teuluoedd ac unrhyw gyfle a allai fod wedi bod ganddyn nhw i weddnewid eu bywydau wedi'i wneud yn anoddach gan sefydliadau cyhoeddus ac awdurdodau cyhoeddus na fyddant yn darparu, ac nad ydynt yn darparu, y gwasanaethau yn y modd y mae'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu ei angen a'i eisiau. Mae'r sgyrsiau a gefais gyda'r bobl hyn sy'n cael eu cadw yn yr ystad ddiogel yn ein henw ni wedi fy argyhoeddi bod angen i ni ddiwygio llawer mwy ar y system gosb a'i wneud yn llawer dyfnach nag sy'n bosibl o fewn yr amgylchiadau presennol ac o fewn y setliad presennol. A, phan fyddwn ni'n ystyried y materion hyn, problem menywod a'r ffordd yr ydym ni'n siomi menywod sy'n codi, a chredaf mai dyna fydd y prawf i bob un ohonom ni, ble bynnag yr ydym ni'n eistedd yn y Siambr hon.

Rwyf wedi'u trafod y problemau sy'n ymwneud â'r canolfannau i fenywod gyda'r Gweinidog dros droseddwyr sy'n fenywod a'r Gweinidog dros garchardai. Cyfarfûm ddiwethaf â'r Gweinidog dros garchardai tua mis yn ôl, a thrafodais y mater hwn gydag ef. Credaf fod angen o leiaf un ganolfan i fenywod yng Nghymru, ac rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr am leoliad, ond hefyd nid wyf yn credu ei bod yn iawn ac yn briodol iddi gael ei rheoli gan y gwasanaeth carchardai yn unig. Credaf y byddai'n well pe byddai'n cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y pwyslais ar ddarparu gwasanaethau a bod y pwyslais ar adsefydlu, ac nid dim ond yn brofiad o gosbi. Felly, credaf fod angen inni ystyried ar frys, nid dim ond y brics a'r morter, ond y gwasanaethau a ddarperir yn y cyfleuster hwnnw a hefyd y dull o reoli'r cyfleuster hwnnw.

Fe ddywedaf hyn hefyd: rydym ni wedi canolbwyntio ar ganolfan i fenywod yn hytrach na charchar i fenywod ac mae'n iawn ac yn briodol i ni wneud hynny. Ond mae angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o lawer o gyfleusterau, a rhai mwy amrywiol, ar gael ar gyfer menywod, nad ydynt yn ymwneud â bod yn y ddalfa yn unig, ond yn ymwneud â darparu gwasanaethau fel bod ynadon ac eraill yn cael cyfle i basio dedfrydau nad ydyn nhw bob amser yn rhai yn y ddalfa ac sy'n rhoi cyfle i ddod â gwasanaethau at ei gilydd i sicrhau nad yw menywod a'u teuluoedd yn cael eu gwahanu, eu rhannu, a'u torri gan system a ddylai fod yno i gefnogi, meithrin a chynnal y teuluoedd hynny.

Byddaf yn rhoi sylw i'r mater yr ydych chi wedi ei godi ynghylch yr arian sydd ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder; nid oedd hynny'n rhan o'r sgwrs a gefais gyda'r Gweinidog dros garchardai fis diwethaf. Ond fe ddywedaf hyn wrth yr Aelod dros Ogledd Caerdydd: y gwerthoedd sydd wedi eich ysgogi chi, dros flynyddoedd lawer, i ymgyrchu ar y materion hyn yw'r gwerthoedd sy'n ysgogi'r Llywodraeth hon i geisio ymdrin â'r materion hyn hefyd.

17:25

Diolch i chi am eich datganiad. Fel y dywedwch, mae angen mwy o weithredu a llai o eiriau. Mae polisi cosbi wedi'i ddominyddu gan y Daily Mail am ormod o flynyddoedd, nid dim ond o dan y Lywodraeth Geidwadol, ond o dan Lywodraethau Llafur blaenorol hefyd. Felly, rydym ni'n gwybod nad yw'r system bresennol yn gweithio, oherwydd, os ydym ni'n anfon pobl i'r carchar a'u bod dim ond yn dysgu sgiliau newydd fel troseddwr ac wedyn yn cael eu dedfrydu i garchar eto, rydym ni'n gwastraffu ein hamser. Felly, mae'n rhaid i adsefydlu fod yr ysgogiad allweddol yn hyn o beth, ac rwy'n croesawu eich bwriad, ond yn amlwg rwy'n bryderus nad oes gennym ni unrhyw beth pendant o ran y ganolfan i fenywod yng Nghymru, yn arbennig o ran eich sylwadau am bobl ifanc a'r dynfa gynyddol i faes troseddu sy'n digwydd ymhlith pobl ifanc sy'n cael eu denu i'r fasnach gyffuriau drwy'r llinellau cyffuriau hyn, a materion cysylltiedig ynghylch cario cyllyll, sy'n peri pryder mawr.

Nawr, rydych chi yn llygad eich lle, mae'n ymddangos i mi, i sôn am yr angen am waith a hysbysir gan drawma gyda phobl ifanc sydd wedi cael bywydau cythryblus iawn, ond meddwl oeddwn i tybed sut ydym ni'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau hyn pan fo gwaith ieuenctid wedi'i leihau cymaint gan flynyddoedd a blynyddoedd o gyni a'r toriadau i lywodraeth leol, ac oherwydd nad ydyn nhw'n wasanaethau statudol, yn aml maen nhw'n rhai o'r rhai cyntaf i fynd. Felly, byddwn yn canmol, yn sicr, y gwaith gwych sydd wedi'i wneud yn fy etholaeth i gan weithwyr ieuenctid i ddiogelu pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu sugno i'r fasnach gyffuriau ac sy'n bobl y mae pobl ifanc yn barod i fynd atyn nhw. Ni fyddan nhw'n mynd at yr heddlu, oherwydd eu bod nhw'n credu y byddan nhw wedyn yn cael eu hystyried yn rhywun sy'n rhoi gwybodaeth am bobl eraill, ond mae gweithwyr ieuenctid yn gorff niwtral o bobl sy'n gwybod sut i siarad â phobl ifanc sy'n gallu dibynnu arnyn nhw i'w diogelu ac i'w cynghori. Felly, ymddengys i mi fod hon yn un o'r problemau mawr, mewn gwirionedd, eich bod yn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau ieuenctid sy'n cael eu llywio gan drawma, ond mae niferoedd y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw yn crebachu.

Rwy'n meddwl bod Jenny Rathbone, fel y bydd yn ei wneud yn aml iawn, wrth gwrs, wedi nodi'r brif her sy'n ein hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i chi, Jenny, am eich cefnogaeth i'r dull yr ydym ni'n ei arddel, ond rydych chi yn llygad eich lle: cawn ein beirniadu am ein camau gweithredu ac nid ein hareithiau, ac rwyf i yn sicr yn cydnabod hynny. Ond gadewch i mi ddweud gair am y dull yr wyf i wedi'i arddel a sut yr ydym ni wedi ceisio mynd i'r afael â'r union her yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r anawsterau a wynebwn oherwydd bod gennym setliad sydd wedi torri, sy'n golygu nad ydym ni'n gallu darparu dull cyfannol i'r polisi.

Wrth greu bwrdd plismona Cymru, a gyfarfu am y tro cyntaf rai wythnosau yn ôl, rydym ni'n ceisio datblygu dull drwy'r heddlu a thrwy asiantaethau sy'n gweithio ochr yn ochr â'r heddlu a fydd yn trin pobl agored i niwed mewn modd na fyddai wedi bod yn bosibl ei ddychmygu 10, 20 neu 30 mlynedd yn ôl. Felly, rydym ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n plismona llawer o'n cymunedau, ac roedd sgwrs a gefais ddoe â phrif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Dyfed Powys yn adlewyrchu llawer o'r mathau o sgyrsiau yr ydym ni wedi bod yn eu cael, ac rwy'n credu y bydd y bwrdd plismona yn ein galluogi i gychwyn ar y gwaith o ddwyn ynghyd, os mynnwch chi, ganghennau gwahanol o bolisi, gwahanol weithredwyr polisi, a gwahanol awdurdodau i weithio mewn ffordd fwy cydlynol ac i drin pobl agored i niwed mewn modd na allem ni fod wedi ei wneud o'r blaen.

Yna mae angen inni ddod â'r system gosbi i fod yn rhan o hynny, a'r system cyfiawnder troseddol ehangach hefyd, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny. Credaf mai'r hyn a welais i gan bobl sy'n gweithio yn y system yw ymrwymiad llwyr i'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma, ac i'r gwerthoedd sydd wedi ysgogi'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma. Felly, credaf y gallwn ni wneud hynny hefyd. Yr hyn yr wyf i wedi ceisio ei wneud ar bob achlysur yw cael cytundeb gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda'r Swyddfa Gartref er mwyn i ni allu symud ymlaen.

Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, mae'r bobl hyn yn dioddef heddiw ac yn cael eu siomi heddiw. Nid yw rhoi araith ar gyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn ateb digonol i'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Felly, rydym ni wedi ceisio darparu dull nad yw o bosibl yn cyflawni popeth yr hoffem ni ei weld, ond mae'n dechrau cyflawni ymagwedd at gamau ataliol a fydd yn cael effaith yn y dyfodol.

Ond gadewch i mi ddweud hyn, i gloi: rwy'n credu bod enghreifftiau ledled y byd o Lywodraethau sydd wedi llwyddo i gyflawni camau gweithredu ataliol, gwirioneddol sydd wedi ymdrin â phobl sy'n agored i niwed a theuluoedd sy'n agored i niwed a chymunedau sy'n agored i niwed. Rwy'n credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu gan y Llywodraethau hynny a'r dulliau gweithredu hynny. Rwy'n credu bod y dulliau yr ydym ni wedi bod yn eu harddel o ran rhai o'r mentrau yr ydym ni wedi eu gweithredu mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill yn dechrau dod o hyd i ffordd tuag at fynd i'r afael â'r materion hynny. Ond yr hyn yr wyf am ei ddweud yw—y dylai egwyddorion cyfiawnder fod yn rhan o'n holl waith fel Llywodraeth, oherwydd yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei weld yw nad yw'r bobl sydd, fel y dywedwch chi, yn yr amgylchedd llinellau cyffuriau, yno oherwydd eu bod eisiau troseddu. Nid ydyn nhw yno oherwydd eu bod eisiau cymryd a delio mewn cyffuriau. Ond maen nhw yno oherwydd eu bod nhw wedi'u siomi ac oherwydd nad ydyn nhw'n gweld unrhyw ddewis arall yn hytrach na gwneud hynny. Creu'r dewisiadau hynny yw ein her ni a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, ac rwy'n credu, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, y gallwn ni wneud hynny.

17:30
9. Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018

Eitem 9 ar yr agenda yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) Gorchymyn 2018, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i gynnig y cynnig, Mark Drakeford.

Cynnig NDM6894 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2018. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018. Mae'r Gorchymyn yn gosod y lluosydd ar gyfer ardrethu annomestig yn 2019-20. Y llynedd, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yng Nghymru o fynegai prisiau manwerthu, RPI, i'r mynegai prisiau defnyddwyr, CPI, o 1 Ebrill 2018. Ar gyfer 2018-19, cafodd hyn ei wneud drwy Orchymyn a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae'r Gorchymyn hwn yn gosod y lluosydd ar gyfer 2019-20 ar yr un sail. Mae angen i'r Gorchymyn gael ei gymeradwyo cyn y gellir cynnal pleidlais ar yr adroddiadau cyllid llywodraeth leol a'r setliad terfynol llywodraeth leol a'r heddlu ar gyfer 2019-20. Effaith y Gorchymyn fydd cyfyngu ar y cynnydd yn yr holl filiau ardrethu annomestig yn 2019-20. Mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru wedi elwa'n barod ar arbedion o tua £9 miliwn drwy ein defnydd o CPI ar gyfer 2018-19, a byddant yn elwa ar £22 miliwn arall yn 2019-20. Rydym ni’n bwriadu parhau â’r un dull yn y blynyddoedd nesaf.

Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Gorchymyn lluosydd a’i gwneud yn bosib inni ei drafod heddiw. Cododd y pwyllgor bwynt rhinwedd ynglŷn â’r ffigur ar gyfer B, a nodir yn y Gorchymyn ac yn y nodyn esboniadol, ond nid yn y memorandwm esboniadol. Er bod esboniad o’r ffigur wedi’i gynnwys yn y nodyn esboniadol, rwy’n derbyn y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cynnwys y ffigur gwirioneddol yn y memorandwm i wneud effaith y Gorchymyn yn amlwg. Byddwn yn delio â’r pwynt hwn mewn Gorchmynion pellach.

Bydd y newid yn helpu busnesau ac eraill sy’n talu ardrethi yng Nghymru ac yn cynnal ffordd sefydlog o refeniw trethi i wasanaethau lleol. Mae’r newid wedi’i ariannu’n llawn gyda Llywodraeth Cymru, ac ni fydd unrhyw effaith ar y cyllid sy’n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau lleol. Rwy’n gofyn, felly, i’r Aelodau gytuno i gymeradwyo’r Gorchymyn heddiw.

17:35

A gaf i estyn fy llongyfarchiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar gael ei ethol yn arweinydd ei blaid?

Mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio'r gyllideb o £26 miliwn sy'n bodoli o ganlyniad i'r cynnydd mewn gwariant gan Lywodraeth Geidwadol y DU i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr am flwyddyn arall. Ond, wrth gwrs, ateb dros dro yn unig yw hwn i'r pwysau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Yn anffodus, yr hyn yr ydym yn ei wynebu heddiw yw'r lluosydd ardrethi drytaf ym Mhrydain Fawr. Bydd hwn yn cynyddu, rwy'n credu, y baich ar fusnesau bach a chanolig, ac ni all unrhyw ryddhad dros dro oddi ar y swm ardrethi atal y ffaith honno, ynghyd â rhyddhad parhaol isel iawn ar gyfer ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer gwerth ardrethol sy'n llai na £6,000. Bydd busnesau yng Nghymru yn wynebu bargen llawer gwaeth na busnesau cyfatebol yn Lloegr a'r Alban. Gobeithiaf felly y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae'n amharod i fabwysiadu'r hyn yr wyf i a chyd-Aelodau ar y meinciau hyn wedi bod yn galw amdano: diwygio ar raddfa eang y system ardrethi busnes yng Nghymru a rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000. Y pwynt yr hoffwn i ei wneud yw bod Llywodraeth y DU wedi gosod cynllun busnes ym mis Mawrth 2016 er mwyn egluro i fusnesau beth yw ei gynlluniau ar gyfer ardrethi busnes hyd at 2020 a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys ailbrisio ardrethi busnes yn amlach o fewn cyfnod o dair blynedd o leiaf.

Tybed a ydych chi'n cydnabod, os na chymerir y camau hyn y bydd eich Llywodraeth yn llywodraethu dros wlad sydd yn prysur ddod y wlad lleiaf cystadleuol yn y DU. Yr hyn sydd angen ar Gymru yn fwy nag erioed o'r blaen, yw ymagwedd newydd drwy ddeall yn y lle cyntaf bod busnesau, a buddsoddi mewn busnesau, yn arwain at gyfleoedd ar gyfer swyddi, adfywio ac, yn y pen draw, enillion trethi uwch ar gyfer y Llywodraeth.

Dywedodd y Prif Weinidog heddiw mai un o heriau mwyaf economi Cymru fyddai sicrhau bod busnesau bach yn awyddus i ehangu i fod yn gwmnïau mawr ac yn gallu gwneud hynny, ac rwyf i'n cytuno ag ef. Ond mae ardrethi busnes uwch a lluosydd ardrethi uwch yn mynd i atal y busnesau bach a chanolig hynny rhag ehangu ymhellach. Felly, nid ydym ni'n gallu cefnogi'r Llywodraeth heddiw, oherwydd bod y Gorchymyn yn gadael perchnogion busnes wedi eu llyffetheirio gan drefniadaeth ardrethi busnes hen ffasiwn Llywodraeth Cymru. 

17:40

Diolch i Russell George am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn. Dirprwy Lywydd, cefais drafferth i ddilyn sut yr oedd y rhan fwyaf o weddill yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud yn ymwneud â Gorchymyn Lluosydd Ardrethu Annomestig sydd ger bron y Cynulliad, sydd â'r effaith o leihau biliau y byddai busnesau fel arall yn eu hwynebu yng Nghymru—oherwydd ei fod yn uwchraddio'r ardrethi busnes yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, a bydd hynny'n rhoi £22 miliwn yn ôl ym mhocedi busnesau y flwyddyn nesaf—os na chaiff y Gorchymyn hwn ei basio. Mewn gwirionedd, rwyf yn anghytuno â bron bopeth a ddywedodd yr Aelod o hynny ymlaen. Rydym ni ein hunain yn ymrwymedig i ailbriso yn amlach. Byddwn wrth fy modd yn gallu rhoi mwy o sicrwydd ar y £26 miliwn a gyhoeddais ddiwedd yr wythnos diwethaf i fusnesau Cymru, ond dim ond ar gyfer y flwyddyn nesaf, a'r flwyddyn nesaf yn unig, y mae ei Lywodraeth ef yn darparu cyllideb ar gyfer Cymru. Pe byddem wedi cael yr un sicrwydd ag yr oedd y Canghellor yn gallu ei gynnig yn Lloegr, yna gallwn fod wedi cynnig yr un sicrwydd i fusnesau yng Nghymru.

Mae natur ein cymuned fusnes ni yn wahanol, mae natur ein hailbrisiadau ardrethu yn wahanol. Rydym yn darparu system lle nad yw cyfraniad ardrethi annomestig yng Nghymru wedi codi ers degawd. Yr unig beth sydd wedi cynyddu yw faint o gymorth y mae'r trethdalwr yn ei roi i'r busnesau hynny i helpu i'w cynnal nhw yma yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn sydd ger bron y Cynulliad y prynhawn yma yn gyfraniad cymharol fach ond pwysig er hynny, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau wir yn ei gefnogi.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019

Eitem 10 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019, a galwaf ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd i gynnig y cynnig, Hannah Blythyn.

Cynnig NDM6895 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn cael eu llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig hwn.

Mae Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn gweithredu gofynion y cytundeb ar safonau trapio heb greulondeb rhyngwladol rhwng y gymuned Ewropeaidd, Llywodraeth Canada a Llywodraeth Ffederasiwn Rwsia. Mae'r cytundeb yn ceisio gwella safonau lles anifeiliaid drwy wahardd y defnydd o drapiau nad ydyn nhw'n cydymffurfio â safonau trapiau di-boen. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i drapiau sy'n cydymffurfio gael eu hardystio a'u nodi o ran pwy yw'r gweithgynhyrchwyr, ac yn ei gwneud yn ofynnol i drapio gael ei wneud yn unol â'i safonau.

Mae'r UE yn llofnodwr y cytundeb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth weithredu ar lefel yr UE, felly mae'n angenrheidiol i'r rheoliadau hyn fodloni rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE. Bydd y rheoliadau yn cael effaith ar bum rhywogaeth: y mochyn daear, yr afanc, y dyfrgi, bele'r coed a'r carlwm. O'r rhain, dim ond y carlwm sy'n cael ei drapio yn eang ac yn rheolaidd yn y DU a dyma'r unig rywogaeth y defnyddir trapiau angheuol yn gyffredin ar ei chyfer. Felly, bydd canlyniad y rheoliadau hyn yn effeithio yn bennaf ar y rhai sy'n trapio'r carlwm.

Bu oedi wrth gyflwyno'r rheoliadau yn bennaf o ganlyniad i ddiffyg trapiau AIHTS addas ar gyfer y carlwm. Mae'r mater hwn bellach wedi'i ddatrys, ac mae trapiau AIHTS ar gael. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amser i weithgynhyrchwyr gynhyrchu trapiau addas ac i bobl sy'n defnyddio trapiau gael rhai newydd yn lle eu trapiau presennol, rydym wedi cynnwys darpariaeth bontio sy'n gohirio'r gweithredu ar gyfer y carlwm tan 1 Ebrill 2020. Gyda'r ddarpariaeth hon, rydym yn anfon neges glir i weithgynhyrchwyr a defnyddwyr trapiau bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio trapiau addas, ac rydym ni'n cydnabod bod angen amser i wneud hynny. Bydd y rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ardystio trapiau a gwella dyluniad trapiau, yn ogystal â gwella'r safonau y mae'n rhaid i drapiau gydymffurfio â nhw cyn y ceir eu defnyddio, gan greu meincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer lles anifeiliaid.

Bydd gweithredu'r rheoliadau hyn yn arwain at welliannau i les anifeiliaid sy'n cael eu trapio drwy gael gwared ar drapiau sydd o safon is o ran lles anifeiliaid. Rwyf yn eu cymeradwyo i'r Aelodau.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Rwyf am symud at y bleidlais. Na. Iawn. Felly—[Torri ar draws.] Rwyf angen tri Aelod i ddangos. Canwch y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

17:45
11. Cyfnod Pleidleisio

Rydym erbyn hyn wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio felly rydym nawr yn mynd i bleidleisio ar y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2)  2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, dau yn ymatal, 11 yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.

NDM6894 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018: O blaid: 36, Yn erbyn: 11, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.