Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/12/2018

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Perfformiad Llywodraeth Cymru
7. Dadl Fer: Yr Oes Neolithig yn Stori Cymru: Gwerthfawrogi yr hyn a gyflawnwyd cyn hanes
8. Cyfnod Pleidleisio
9. Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Grŵp 1: Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 4, 4A, 4B, 20)
Grwp 2: Cymhwystra rhieni (Gwelliannau 6, 11, 8, 9, 17, 19, 10, 22, 5)
Grwp 3: Darpariaeth gofal plant Cymraeg (Gwelliant 7)
Grŵp 4: Cludo rhwng darparwyr (Gwelliant 12)
Grwp 5: Ffïoedd ychwanegol a chyfraddau talu (Gwelliannau 13, 21, 32, 33)
Grwp 6: Plant cymhwysol (Gwelliannau 14, 15, 16, 18)
Grwp 7: Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (Gwelliannau 1, 3)
Grwp 8: Offerynnau statudol: Newidiadau i weithdrefnau (Gwelliant 23)
Grwp 9: Categorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 24, 25)
Grŵp 10: Trefniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 26, 27, 28)
Grŵp 11: Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Gwelliant 29)
Grŵp 12: Adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud (Gwelliannau 30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2, 35)
Grŵp 13: Dyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth (Gwelliant 31)
Grwp 14: Cynllunio’r gweithlu (Gwelliant 34)
Grŵp 15: Cychwyn (Gwelliant 36)

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Mae heddiw yn nodi achlysur arbennig yn hanes ein Senedd ni. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu 20 mlynedd ers ethol y Cynulliad cyntaf, yn 1999, rwy’n falch o gyhoeddi bod y lle hwn ar fin dod yn gartref i senedd arall gyffrous—ein Senedd Ieuenctid gyntaf erioed. Dyma benllanw misoedd lawer o waith gan fudiadau, ysgolion, a thîm Senedd Ieuenctid ymroddgar y Cynulliad yma, ac mae ein dyled yn fawr i bawb a sicrhaodd fod y prosiect arloesol hwn yn ffynnu. Dros 450 o ymgeiswyr ifanc, a bron i 25,000 o etholwyr wedi eu cofrestru, a chynrychiolaeth o bob cwr o Gymru—mae'r ystadegau yn adrodd eu llwyddiant.

Dyma gyfle euraid i ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf, ac rwy'n hyderus y bydd y seneddwyr ifanc hyn yn lladmeryddion gwych ar gyfer y materion sydd o bwys i bobl ifanc Cymru. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi aelodau cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynrychioli etholaethau a sefydliadau partner ledled y wlad.

Dyma'r 60 enw.

Dyma enwau’r seneddwyr ifanc.

O'r gogledd—North Wales: Evan Burgess, Nia Griffiths, Brengain Glyn Williams, Talulah Thomas, Harrison James Gardner, Thomas Comber, Ifan Price, Abbey Carter, Jonathon Dawes, Jonathan Powell, Ifan Wyn Erfyl Jones, Grace Barton, Hasna Ali, Katie June Whitlow.

O'r canolbarth a'r gorllewin—Mid and West Wales: Arianwen Fox-James, Marged Lois Campbell, Cai Thomas Phillips, Caleb Rees, Megan Carys Davies, Rhys Lewis, Ellie Murphy.

O'r de-ddwyrain—South Wales East: Calen Jones, Aled Joseph, Gwion Rhisiart, Betsan Roberts, Rhian Shillabeer, Manon Clarke, Ffion Griffiths, Tommy Church, Lloyd Mann, Charley Oliver-Holland, Finlay Bertram, Maisy Evans, Abby O’Sullivan, Luke Parker, Carys Thomas, Angel Ezeadum, Greta Evans, Chloe Giles, Abbie Cooper, Levi Rees.

Ac yn olaf, finally, de-orllewin Cymru—South Wales West. Croeso i: Kian Agar, Todd Murray, Eleri Griffiths, Ffion-Haf Davies, Eleanor Lewis, Laine Woolcock, Efan Rhys Fairclough, Alys Hall, Ruth Sibayan, Ubayedhur Rahman, Lleucu Haf Wiliam, Caitlin Stocks, Casey-Jane Bishop, Oliver Davies, Sandy Ibrahim, Nia-Rose Evans, Anwen Grace Rodaway, Sophie Billinghurst, a William Hackett.

Dyna nhw, felly. Llongyfarchiadau iddyn nhw oll.

Edrychwn ymlaen at eu croesawu i gyd i'r Senedd ar gyfer eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror. [Cymeradwyaeth.]

Llongyfarchiadau, bawb. Bendigedig. Diolch yn fawr i'r Aelodau, a llongyfarchiadau i aelodau ein Senedd Ieuenctid ni.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Felly, dyma ni, ymlaen â busnes y dydd. Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Diogelu Gwasanaethau Lleol

1. Yn sgil rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am effaith toriadau i gyllid llywodraeth leol, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch diogelu gwasanaethau lleol? OAQ53050

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, er enghraifft, fe wnaethom fynychu cyfarfod o'r gweithgor llywodraeth leol ar y cyd, cyfarfod a fynychwyd hefyd gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac eraill.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r arian ychwanegol a ddarparwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer llywodraeth leol, ond o ran yr arian sy'n mynd i Gyngor Caerdydd, mae'n £1.5 miliwn yng nghyd-destun y ffaith bod Cyngor Caerdydd yn gorfod chwilio am doriadau posibl o £34 miliwn. Felly, mae'n parhau’n dirwedd heriol iawn i lywodraeth leol. Ac roeddwn yn meddwl tybed pa waith y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â'i gilydd i geisio diogelu’r gwasanaethau ataliol hyn sydd mor bwysig i les y gymuned.

A gaf fi gytuno â Jenny Rathbone, Lywydd, ei bod yn parhau’n adeg heriol iawn i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru? Wedi naw mlynedd o gyni mae llywodraeth leol yn sicr yn y rhes flaen. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am yr hyn a ddywedasant. Pan gyhoeddasom yr adnoddau ychwanegol ar gyfer cynghorau, dywedodd CLlLC ei hun fod y cyhoeddiad yn arwydd o gynnydd sylweddol ac yn arddangos yr ymdrech gyfunol sydd ar y gweill i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymheiriaid llywodraeth leol i gryfhau'r ffordd y gallant weithredu ar y cyd ac yn rhanbarthol, ac i ddarganfod ffyrdd o symud arian ymhellach i fyny, fel ein bod yn gwario arian ar atal problemau rhag digwydd, yn hytrach na gorfod ymateb ar ôl i'r niwed gael ei wneud.

13:35

Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl awdurdodau lleol yn fy ardal yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, ac maent hwy hyd yn oed yn dechrau dweud na ellir diogelu ysgolion a gofal cymdeithasol, gydag un ohonynt yn dweud hyd yn oed na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r holl etholwyr. Gyda'r sylw hwnnw mewn cof, tybed a allwch ddweud wrthyf a ydych wedi trafod gyda'r cynghorau yn fy rhanbarth, yn uniongyrchol eich hun, ynglŷn ag a fyddai newidiadau i'r fformiwla ariannu yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn y cyfamser, a ydych wedi trafod unrhyw ffyrdd penodol y gallant ddiogelu'r cyllidebau hynny ar yr arian rydych wedi'i roi iddynt eleni a'r flwyddyn nesaf. Ac os nad ydych wedi cael cyfle i wneud hynny, os ydych yn Brif Weinidog ymhen ychydig wythnosau, sut y byddwch yn cyfarwyddo eich cyd-Aelodau i wneud hynny ar eich rhan?

Diolch i Suzy Davies. Rwy’n ei llongyfarch, wrth gwrs, am fod yr holl awdurdodau lleol yn ei hardal yn rhai a arweinir gan y Blaid Lafur, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn edrych ymlaen at gael Llywodraeth Lafur ar lefel y DU yn ogystal ag yma yng Nghymru, oherwydd dyna fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i'w hamgylchiadau ariannol. Trafodwyd y fformiwla ariannu yn y cyfarfod a fynychais gydag Alun Davies ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gan gynnwys cynrychiolwyr o gynghorau yn ardal Suzy Davies. Rwy'n credu bod arweinwyr cynghorau’n cydnabod, yn y pen draw, fod y fformiwla ariannu’n tynnu sylw oddi ar y brif broblem. Mae'r fformiwla ariannu’n rhannu'r swm o arian sydd ar gael, ac mae’n eithriadol o anodd ei newid pan fo arian yn lleihau. Yr hyn y maent yn ei bwysleisio, ac rydym ninnau’n ei bwysleisio hefyd, yw bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid priodol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel mai maint y gacen sy'n tyfu yn hytrach na dadl ynglŷn â sut i rannu cacen sy’n lleihau.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau i wariant ar wasanaethau gan gynghorau yn Lloegr, ar gyfartaledd, yn ddwbl yr hyn a welwyd yng Nghymru?

Diolch i Jane Hutt am y cwestiwn hwnnw. Cododd hyn yn ystod ein dadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, a gyhoeddwyd fel y mae'n digwydd, fel y dywedais ddoe, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Ac mae'n dangos yn bendant, fel y dywed yr adroddiad ei hun, fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr gwahanol o ran y ffordd y diogelwn wasanaethau lleol yma, a bod gennym, o fewn y cyfyngiadau a wynebwn, sy'n rhai real—ac nid yw ein gweithredoedd yn lliniaru'r holl anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol, rwy'n gwybod—ond o fewn y cyfyngiadau hynny, rydym wedi diogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni, tra bo llywodraeth leol yn Lloegr wedi cael ei thaflu i'r bleiddiaid.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r ddealltwriaeth o gyfraddau treth incwm Cymru? OAQ53047

Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Ym mis Tachwedd, cafodd dros 2 filiwn o bobl yng Nghymru lythyr gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn nodi sut y bydd cyfraddau treth incwm Cymru'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ychwanegol at waith CThEM, i helpu i esbonio'r newidiadau, ac rydym yn gweithio gyda CThEM a rhanddeiliaid i barhau i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraddau Cymreig o dreth incwm yma yng Nghymru.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un o blith yr Aelodau yn y Siambr hon sy'n gorfod tawelu meddyliau etholwyr ar ôl iddynt gael y llythyr hwnnw gan CThEM nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i godi treth incwm yng Nghymru, oherwydd mae'r llythyr wedi dychryn rhai o fy etholwyr i, yn sicr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr nad oes unrhyw gynlluniau i godi treth incwm yng Nghymru? Ac er fy mod yn croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, beth arall sy'n bosibl inni ei wneud i sicrhau y ceir dealltwriaeth dda o'n pwerau treth incwm newydd yng Nghymru?

13:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n siŵr nad hi yw'r unig un sydd ag etholwyr yn gofyn ynglŷn â chyfraddau Cymreig o dreth incwm, ac mae'n dda iawn fod trigolion lleol yn troi at Aelodau'r Cynulliad am esboniad ynglŷn â'r newidiadau pwysig hyn. Rwy'n falch fod Lynne Neagle wedi gallu cynnig y sicrwydd pwysig y bydd aelodau o'i chymuned yn ei geisio—nad oes gennym unrhyw gynlluniau i godi cyfraddau treth incwm yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Rydym yn mynd ar drywydd pob ymholiad a gafodd Llywodraeth Cymru yn sgil llythyrau a anfonwyd at aelodau o'r cyhoedd. Gwn y bydd Lynne Neagle yn falch o wybod ein bod ni wedi cael llai na phump o alwadau ffôn a negeseuon e-bost i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol o ganlyniad i'r llythyr a aeth allan. Hyd yma, mae CThEM wedi cael 94 o alwadau mewn perthynas â'r llythyr hwnnw. Dyna ran fach iawn o'r 2 filiwn o lythyrau a anfonwyd. Ond byddwn yn ateb bob un, byddwn yn dysgu o'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i ni a bydd hynny'n bwydo i mewn i'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol y byddwn yn ei chynnal dros yr wythnosau nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi hefyd yn cytuno â mi mai un ffordd o gynorthwyo dealltwriaeth trethdalwyr Cymru o'u didyniadau treth fyddai cael y gyfradd Gymreig wedi'i chynnwys ar slipiau cyflog, lle mae pobl yn cael cyflogau misol neu wythnosol, a'r ffurflen P60, lle y dylai'r didyniad diwedd blwyddyn mewn amgylchiadau lle mae pobl yn gweithio yn Lloegr ac yng Nghymru, ddangos beth a dynnwyd yn Lloegr a beth a dynnwyd ar gyfer Cymru? Felly, dyna wahaniaeth o ran casglu trethi mewn dau ranbarth gwahanol yn y wlad. Felly, pa drafodaethau a gafwyd ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?

Diolch i Mohammad Asghar am yr awgrymiadau hynny, ac rwy'n hapus iawn i fynd ar eu trywydd gyda CThEM i weld a fyddent yn ffordd ymarferol o barhau i esbonio'r newidiadau y mae datganoli cyllidol wedi'u cyflwyno i ddinasyddion yng Nghymru. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod trafodaethau manwl wedi digwydd, a dadansoddiadau manwl, yn wir, gan CThEM o'r 98 cod post trawsffiniol, lle y gallai pobl fod yn byw yn Lloegr neu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod llythyrau hysbysu yn mynd i drethdalwyr sy'n byw yng Nghymru yn unig. Credwn fod llai na 900 o bobl yn y sefyllfa honno, ond bydd y gwaith manwl ychwanegol y mae CThEM wedi'i wneud yn golygu y bydd llythyrau i'r dinasyddion sy'n weddill wedi'u dosbarthu erbyn 10 Rhagfyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch yn fawr iawn i chi. Ysgrifennydd Cabinet, pa bwys neu ba werth ddylai gael ei roi i farn a sylwadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pan fydd y Llywodraeth yn dod i benderfyniadau mawr ar bolisïau gwariant?

Wrth gwrs, rydym ni'n gwrando ar beth mae'r comisiynydd yn ei ddweud. Fe wnes i siarad â hi fwy nag unwaith pan oedd y gyllideb yn cael ei pharatoi dros y gwanwyn a'r haf. Mae hi wedi bod yn adeiladol, rydw i'n meddwl, yn y broses yna, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith mae hi'n ei wneud a'r cymorth mae hi'n ei roi i ni fel Llywodraeth. 

Mae'n siŵr eich bod yn dyfalu o bosibl mai at yr M4 rydw i'n mynd i fod yn cyfeirio. Mae'r comisiynydd wedi gwneud sylwadau cryfion iawn dros beth amser erbyn hyn ynglŷn â chynlluniau ar gyfer llwybr du yr M4. Mi soniodd y llynedd y gallai cynllun yr M4 osod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy diweddar, mae hi wedi gwneud ei barn yn berffaith glir nad ydy hi'n credu bod y cynllun yma yn gymesur ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. A ddylai sylwadau mor gryf â hynny, gan gomisiynydd rydym ni wedi ymddiried yn fawr ynddi hi, fod yn ddigon mewn difrif i roi stop ar y cynllun yma? 

Wel, wrth gwrs, mae'r comisiynydd wedi rhoi ei sylwadau hi i fewn i'r ymchwil sydd wedi cael ei wneud—ymchwil annibynnol ac adroddiad annibynnol, sydd wedi dod mas o'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Lywydd, rhaid i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ ddoe. Mae proses gyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â phenderfyniadau sydd i'w gwneud ar yr M4. Fel Gweinidog cyllid, mae gennyf ran i'w chwarae yn y broses honno, ac nid wyf am wneud sylwadau ar unrhyw agwedd o'r broses o wneud penderfyniadau a fyddai'n peri i mi dramgwyddo'r paramedrau cyfreithiol y mae'n rhaid i mi weithredu o'u mewn.

13:45

Yn briodol iawn, ceir disgwyliadau mawr o ran yr hyn y gall y comisiynydd ei wneud ar gyfer Cymru. Yn y prawf mawr cyntaf hwn o'r dylanwad sydd gan y comisiynydd, does bosibl na ddylai'r Llywodraeth ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â'i rôl. Mae'n codi cwestiynau difrifol a sylfaenol ynglŷn â gwerth am arian a beth y mae hynny'n ei olygu o ran yr arian a fydd ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fel deiliad y pwrs cyhoeddus yng Nghymru a rhywun sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf am arian, a'r mwyaf o fudd o'r bunt Gymreig, tra byddwn yn dal i aros am benderfyniadau gan y Llywodraeth ar y camau nesaf ar gyfer y llwybr du, a allwch ymrwymo y byddwch yn archwilio pob posibilrwydd ar gyfer gwario'r swm sylweddol hwnnw o arian—hyd at £2 biliwn neu fwy hyd yn oed—mewn ffordd fwy synhwyrol, naill ai drwy wario llai i gael yr un canlyniadau drwy gryfhau'r rhwydwaith ffyrdd a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, neu wario'r un faint o arian hyd yn oed a chael canlyniadau gryn dipyn yn well, a fyddai'n plesio nid yn unig cenedlaethau'r dyfodol, ond Ysgrifenyddion iechyd y dyfodol, Ysgrifenyddion trafnidiaeth y dyfodol, ac yn wir Gweinidogion cyllid y dyfodol yn ogystal?

Lywydd, deallaf y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Mae pob un ohonynt yn bwyntiau difrifol a chafodd pob un ohonynt eu gwneud ger bron yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol lleol. Heb amheuaeth, byddant oll yn cael sylw yn adroddiad yr arolygydd a luniwyd yn sgil yr ymchwiliad. Nid wyf eto wedi gweld adroddiad yr arolygydd ac rwyf am gadw unrhyw sylwadau y gallwn eu gwneud ar y mater hwn hyd nes y byddaf yn gallu gwneud hynny a gweld y cyngor a ddarperir gyda'r adroddiad.

Ysgrifennydd Cabinet, pa ddarpariaeth a wnaethoch yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru?

Lywydd, rwyf ar fin gallu darparu ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny o fewn nifer fach o ddyddiau. Nid wyf wedi gallu gwneud hynny nes nawr oherwydd, yn wahanol i fargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, lle y cytunwyd ar y symiau o arian i'w darparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, dewisodd Canghellor y Trysorlys gyhoeddi'r swm o arian gan Lywodraeth y DU yn annibynnol a heb ddod i gytundeb â ni.

Rydych chi'n araf iawn yn bwrw iddi mewn perthynas â'r fargen hon, onid ydych, Ysgrifennydd y Cabinet? Oherwydd, fel y gwyddoch, rhoddwyd y cais hwn at ei gilydd a'i gyflwyno gan fwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru ar 23 Hydref. Llwyddodd Llywodraeth y DU i'w ystyried a rhoddodd ei llaw yn ei phoced a gosod £120 miliwn ar y bwrdd o fewn ychydig wythnosau'n unig. Pam eich bod chi wedi treulio cymaint o amser yn petruso ynglŷn â hyn?

Rwy'n sicr y byddai'n well gan yr Aelod weld ymagwedd adeiladol a thrawsbleidiol tuag at fargen twf gogledd Cymru. Deallaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn ei chefnogi. Yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y swm o arian y gallwn ei gyfrannu i'r fargen. Byddai'n well gennyf fod wedi gwneud hynny yn y ffordd y'i gwnaethom mewn perthynas ag Abertawe a Chaerdydd—drwy gytundeb ymlaen llaw â Llywodraeth y DU. Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu rhoi ei llaw yn ei phoced, er nad aeth yn ddwfn iawn, rhaid imi ddweud, o gofio bod awdurdodau gogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn, nid y £120 miliwn a gawsant yn y diwedd—. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fod cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ac yna byddaf yn edrych ymlaen at y consensws trawsbleidiol a fu yn y Siambr hon, ar bwysigrwydd parhad y fargen dwf.

Nodais eich beirniadaeth o'r £120 miliwn, ond mae'n £120 miliwn yn fwy nag y llwyddoch chi i roi eich dwylo yn eich poced i'w roi hyd yma. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater hwn. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU, nodais fod Aelodau Seneddol ar sail drawsbleidiol, yn cynnwys Aelodau Seneddol Llafur, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddi wneud cyhoeddiad yn y gyllideb ar fargen twf gogledd Cymru. Buaswn yn tybio eich bod chi hefyd wedi cael llythyrau tebyg. Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael rhai, naill ai gan Aelodau Cynulliad neu Aelodau Seneddol Llafur mewn perthynas â'r rôl y gallech ei chwarae.

Credaf mai'r hyn y mae pobl yng ngogledd Cymru yn edrych amdano yw penderfyniadau cyflym ynglŷn â hyn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn awyddus iawn i gael cytundeb ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig bae Abertawe, ond am ryw reswm, ymddengys eich bod wedi bod ychydig yn fwy swrth nag y buoch gyda'r ddwy fargen honno o ran ymgysylltu â'r bwrdd uchelgais economaidd ar fargen twf gogledd Cymru ac o ran rhoi arian ar y bwrdd. Rydych yn dweud yn awr y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn y dyddiau nesaf; rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi datgelu hynny inni heddiw. A allwch ddweud wrthym, cyn y cyhoeddiad hwnnw, pa un a fyddwch yn darparu digon o arian i allu cyflawni'r cais yn llawn?

13:50

Wel, Lywydd, rwyf wedi cael gohebiaeth mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru wrth gwrs. Ar y cyfan, roedd yn fy annog i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i benderfynu ynglŷn â'r fargen. Hon oedd y drydedd gyllideb. Sylwaf fod yr Aelod yn siarad am wneud penderfyniadau'n gyflym. Hwn oedd y trydydd achlysur blynyddol y bu i Ganghellor y Trysorlys gyfeirio at fargen twf gogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd wrthym ei fod yn meddwl am y peth; flwyddyn yn ôl, dywedodd wrthym ei fod wedi meddwl ychydig mwy amdano; ac eleni, roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi gwneud penderfyniad o ran ariannu. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf, fel rwy'n dweud. Bydd yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n llawer gwell inni ganolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaid sector preifat ac eraill, i sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl i'r fargen, yn hytrach na phoeni gormod pa un a wnaed penderfyniad wythnos neu bythefnos yn ddiweddarach na rhywun arall.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi gymeradwyo prif economegydd Llywodraeth Cymru am y ddogfen a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy'n crynhoi'r dadansoddiadau economaidd a wnaed gan Lywodraeth y DU o effeithiau Brexit mewn senarios gwahanol? Ond mae'r ddogfen yn cynnwys rhai o'r amcanestyniadau mwy chwerthinllyd, gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr yr wythnos hon—gan barhau prosiect ofn—a honnai y gallai cynnyrch domestig gros yn y DU erbyn diwedd 2023, yn y senario waethaf, fod rhwng 7.75 y cant a 10 y cant yn is na'r hyn ydoedd ym mis Mai 2016, rhywbeth a fyddai'n gwbl syfrdanol, oherwydd nid yn unig y byddai'n grebachu llawer mwy difrifol na'r hyn a brofwyd gennym yn nirwasgiad 2008, mae'n uwch mewn gwirionedd na'r cwymp mewn allbwn a ddigwyddodd yn ystod dirwasgiad mawr y 1930au, rhywbeth a welir yn unig mewn gwledydd fel Venezuela, sydd wedi cael dos lawn o bolisïau economaidd Corbynaidd, a lle mae crebachu o 16 y cant yn y cynnyrch domestig gros mewn un flwyddyn yn norm bellach. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y math o senarios gwaethaf a gynhyrchir gan sefydliadau swyddogol fel Banc Lloegr yn anghyfrifol tu hwnt yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd ynglŷn â Brexit, gan eu bod yn chwyddo ofnau'n ddiangen ac felly'n gwneud yr ansicrwydd hwnnw hyd yn oed yn waeth, ac mae hynny'n cael effaith go iawn ar fusnesau a bywydau a bywoliaeth pobl gyffredin?

Wel, Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod, yn gyntaf oll, am dynnu sylw at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y prif economegydd ddoe. Mae'n annibynnol ar y Llywodraeth yn y farn y mae'n ei rhoi, a gwn ei fod yn awyddus i gyhoeddi ei asesiad ochr yn ochr â'r ddadl a gawsom ddoe, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill wedi cael cyfle i ddarllen yr hyn a ddywedodd.

Rwy'n meddwl bod ei ddadansoddiad yn gytbwys. Credaf ei fod wedi'i fynegi'n fwriadol mewn iaith nad yw'n codi bwganod, ac ni allaf gytuno â'r Aelod, fel y gŵyr, a diystyru amcanestyniadau a wneir gan ddaroganwyr cwbl prif ffrwd a pharchus, nid yn unig Banc Lloegr, ond y Trysorlys ei hun, a dadansoddwyr ar y tu allan i'r Llywodraeth hefyd, ac mae pob un ohonynt yn rhannu consensws cyffredinol ar effaith bosibl Brexit caled digyfaddawd ar ein heconomi. Ac ni allaf fforddio diystyru'r amcanestyniadau hynny yn y ffordd y mae ef yn ei wneud, oherwydd mewn Llywodraeth, mae arnaf ofn fod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y gwaethaf, hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio mor galed ag y gallwch i'w osgoi.

13:55

Mae arnaf ofn fod Ysgrifennydd y Cabinet, drwy anghytuno â mi, yn anghytuno hefyd â chyn-lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, ac enillydd gwobr Nobel Paul Krugman, y mae eu safbwyntiau gwleidyddol ymhell iawn o fy rhai i a heb fod yn rhy bell o rai Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd dywedodd Mervyn King ei fod yn drist wrth weld Banc Lloegr yn cael ei dynnu'n ddiangen i mewn i ymarfer prosiect ofn o'r math hwn. Ac mae Paul Krugman—nad yw'n hoff o Brexit—yn disgrifio amcangyfrifon y banc fel 'rhifau blwch du' sy'n 'amheus' ac yn 'codi cwestiynau'. Felly, pan fo ystod mor eang o ddadansoddwyr economaidd byd-enwog yn gallu diystyru'r mathau hyn o broffwydoliaethau hysterig, ni allaf ddeall pam na all Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, er mwyn sicrhau dadansoddiadau a dadleuon cytbwys—ac rwy'n cytuno gydag ef fod y prif economegydd wedi ychwanegu'r rheini at ein trafodaethau ddoe—dawelu pethau drwy gytuno â mi nad yw'n gwneud unrhyw les o gwbl inni gael rhagolygon ar gyfer y dyfodol sydd ymhell bell o'r hyn sy'n digwydd yn y byd go iawn.

Wel, Lywydd, hoffwn geisio dawelu pethau yn y ffordd hon drwy ddweud bod dau beth wedi digwydd ddoe sy'n gwneud y rhagolygon ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn llai tebygol, ac rwy'n falch iawn o hynny. Y ffordd orau oll o dawelu pryderon fyddai i Lywodraeth y DU gymryd y cyngor a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a negodi ffurf ar Brexit sy'n rhoi cefnogaeth ddilys i economi Cymru a swyddi, fel na fyddai'n rhaid inni osod arbenigwyr yn erbyn ei gilydd i ymdrin â'r posibilrwydd damcaniaethol ond trychinebus y gallem adael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau sy'n gwneud y niwed mwyaf.

Hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad y prif economegydd, oherwydd mae'n dweud ynddo fod consensws cryf ymhlith economegwyr ynglŷn â phrif egwyddorion darogan, ac un ohonynt yw bod pellter ei hun yn rhwystr a masnach yn gyffredinol yn fwy bywiog gyda phartneriaid sy'n agos, yn ddaearyddol ac o ran eu cam datblygu economaidd. Mae model y Trysorlys a'r rhan fwyaf o'r modelau eraill y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon yn defnyddio'r hyn a elwir yn fodel disgyrchedd o ddarogan, a'r egwyddor sylfaenol yw bod swm y fasnach a gyflawnir rhwng dwy wlad yn lleihau gyda sgwâr y pellter rhyngddynt. Ond lluniwyd yr holl ddata y seiliwyd y model darogan braidd yn amheus hwn arno yn yr 1980au a chyn hynny—byd heb ryngrwyd, heb FaceTime, heb e-bost, heb Google Translate, heb amlwythiant safonedig, cyn i wladwriaethau Marcsaidd blaenorol, fel Tsieina, gael eu hagor, heb Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed—ac felly, o ystyried bod masnach mewn gwasanaethau bellach yn llawer iawn pwysicach i'n heconomi ac yn wir, i economi ein cymdogion Ewropeaidd na'r pryd hwnnw, a symudedd byd-eang yn llawer mwy a'r chwyldro digidol wedi digwydd, mae'r rhagdybiaethau y seiliwyd y modelau darogan hyn yn affwysol o hen ffasiwn, a dyna pam y maent yn cynhyrchu'r rhagfynegiadau brawychus o anghytbwys hyn, y profir bob amser wedi'r digwyddiad eu bod yn gwbl anghywir.

Lywydd, yn gyffredinol disgrifir y dadansoddiad disgyrchedd, fel y dywedodd yr Aelod, fel hyn: 'mae masnach yn haneru wrth i'r pellter ddyblu', ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych sy'n synnwyr cyffredin at ei gilydd: eich bod yn fwy tebygol o gael perthynas economaidd fwy bywiog gyda'r rhai sydd agosaf atoch, a pho bellaf y bydd eich marchnad oddi wrthych, y lleiaf tebygol y byddwch o gael masnach sydd yr un mor fywiog. Yr anhawster gwirioneddol i'r Aelod yw bod yr holl bethau y mae'n tynnu sylw atynt er mwyn ceisio tanseilio dadansoddiad disgyrchedd yn berthnasol pa un a ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Ac nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffaith berthnasol yn y dadansoddiad y mae newydd geisio'i nodi.

Strategaeth Tymor Hir ar Gyfer Lefelau Trethiant

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau trethiant yng Nghymru? OAQ53044

14:00

Lywydd, nodwyd strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru yn y fframwaith polisi treth a gyhoeddwyd yn 2017, ac fe'i hadlewyrchir yn yr adroddiad ar ein rhaglen waith ar drethiant, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft ar 2 Hydref.

Os mai Ysgrifennydd y Cabinet sydd wrth y llyw, a allwn ddisgwyl i gyfraddau treth yng Nghymru fod yn uwch neu'n is ymhen pum mlynedd?

Lywydd, rhaid barnu cyfraddau treth yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar y pryd, a dyna y buaswn yn disgwyl i unrhyw un sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb am gyllid Cymru ei wneud.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod trethiant yn bwysig er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Os caf atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet, yn y tair wythnos ddiwethaf, mae'r Ceidwadwyr wedi gofyn am fwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, mwy o arian ar gyfer addysg bellach, mwy o arian ar gyfer iechyd. Sut y maent yn bwriadu ei ariannu os nad ydynt eisiau trethiant?

Wel, wrth gwrs, mae Mike Hedges yn llygad ei le. Trethiant yw'r tâl mynediad a dalwn i gymdeithas wâr. Drwy gyfuno'r arian a ddaw drwy drethiant gall pawb ohonom fforddio'r pethau yr ystyriwn ni, o amgylch y Siambr hon, eu bod yn bwysig ym mywydau pobl Cymru. Nawr, pe baech yn dewis torri 1 geiniog oddi ar y dreth yng Nghymru, byddai'r gost gros oddeutu £200 miliwn. Pa rai o'n gwasanaethau cyhoeddus y byddai'n rhaid eu torri, Lywydd, i alluogi hynny i ddigwydd? Ni allwch wneud y math o hud a lledrith economaidd sy'n aml yn cael ei gynnig i ni gan Aelodau ar y meinciau gyferbyn, lle rydych yn torri trethi, fel bod gennych lai o arian, a rywsut eich bod yn dal i allu gwario mwy ar bopeth y maent yn dweud wrthym y byddent yn eu ffafrio.

Buddsoddi Cyfalaf yng Nghwm Cynon

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf yng Nghwm Cynon? OAQ53029

Diolch i Vikki Howells. Mae ein blaenoriaethau cyfalaf ar gyfer Cwm Cynon yn cynnwys buddsoddi mewn canol trefi, mewn atal llifogydd, yn y gwasanaeth iechyd—gan gynnwys, er enghraifft, y ganolfan gofal sylfaenol a chymunedol newydd sydd i'w chwblhau yn Aberpennar yn 2021.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn wir, mae arddangosfa ar gyfer y ganolfan gofal sylfaenol honno yn cael ei chynnal yn Aberpennar heddiw. Ond yn benodol, rwy'n awyddus i'r gwaith deuoli ar adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd gael ei gwblhau, gwaith a fydd mor bwysig i fy etholaeth. Nodais sylwadau'r Ysgrifennydd llywodraeth leol yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf o'r buddsoddiad yng nghoridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol. Roedd hwn wedi'i osod yn erbyn ffrâm amser o 12 mis, felly gyda'r gwaith ar adrannau 5 a 6 i fod i ddechrau ar ddiwedd 2019, sut y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd mwyaf i gymunedau Cwm Cynon?

Diolch i Vikki Howells am hynny. Bydd yn gwybod ein bod wedi gwahodd  tendr ar adrannau 5 a 6 o'r A465 yn ôl ym mis Gorffennaf. Rydym bellach yn cael cyfle i ystyried adroddiad yr arolygydd yn llawn, a gobeithiaf y gwneir penderfyniad cyn bo hir ar fwrw ymlaen gyda cham nesaf y broses gaffael. Yn syth yn y prosiect hwnnw, bydd gofynion cytundebol i'r cynigydd llwyddiannus gyflawni amrywiaeth o fanteision cymunedol yn ymwneud â chyflogi pobl leol, prentisiaethau hyfforddiant a chontractau gwaith ar gyfer cwmnïau lleol, a bydd pob un o'r rhain o fudd i drigolion yn ei hetholaeth. Roedd fy nghyd-Aelod Alun Davies yn cyfeirio at weithgor a sefydlwyd gan dasglu'r Cymoedd i ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau cynifer â phosibl o gyfleoedd o'r gwaith deuoli, nid yn unig yn ystod y gwaith adeiladu, ond pan fydd wedi agor hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad cyngor Rhondda Cynon Taf i lansio'r rhaglen buddsoddiad cyfalaf fwyaf yn ei hanes, ac rwy'n siŵr eich bod chi fel finnau wedi croesawu'r penderfyniad hwnnw. Mae'n £300 miliwn, a bydd £45 miliwn ohono'n cael ei wario ar dai. Mae cynlluniau arloesol yn yr arfaeth, a phartneriaethau pwysig gyda'r sector preifat a chymdeithasau tai—a'r awdurdod lleol ei hun, wrth gwrs. O ystyried bod y Trysorlys bellach yn codi'r cap benthyca ar gynghorau sy'n dymuno adeiladu mwy o dai, onid ydych yn croesawu'r dull hwn o weithredu, sef yn union y math o ffordd y dylem fynd ati o ddifrif i ysgogi ein heconomïau lleol mewn cyfnod ariannol anodd?

Wel, rwy'n croesawu codi'r cap, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, wedi bod yn gohebu gydag awdurdodau lleol am yr hyn y bydd hynny'n ei wneud i'w gallu i godi rhagor o arian i'w fuddsoddi mewn tai. Wrth gwrs mae David Melding yn gywir ynglŷn ag effaith economaidd lleol adeiladu tai mewn cymunedau, ac rwy'n cytuno ag ef fod cyngor Rhondda Cynon Taf, o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Andrew Morgan, ymhlith y cynghorau mwyaf arloesol yng Nghymru am ddod o hyd i ffyrdd o ehangu eu gallu i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, nid yn unig mewn tai ond mewn llawer o feysydd eraill yn ogystal. Ar y cyd â Jane Hutt, y Cynghorydd Morgan yw awdur y fenter benthyca llywodraeth leol y gwnaethom helpu i'w hariannu, ac rwy'n eu llongyfarch ar y gwaith a wnânt yn y maes hwn.

14:05
Rhaglen Prentisiaeth Llywodraeth Cymru

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch ariannu rhaglen prentisiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ53025

Diolch i'r Aelod. Byddaf yn cyfarfod â holl Ysgrifenyddion y Cabinet fel rhan o'n paratoadau cyllidebol ar gyfer trafod y modd y cyflawnwn y blaenoriaethau a nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae hynny'n cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau safonol ar gyfer pobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, mynegodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei siom ynghylch y diffyg tryloywder mewn perthynas â chyllid a gweithrediad y rhaglen brentisiaeth. Hefyd, mynegodd y pwyllgor bryder fod y diffyg tryloywder hwn yn creu her i graffu effeithiol ar y cynllun blaenllaw hwn gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â'r mater hwn, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod pryderon y gymuned yn cael sylw ac yn cael eu datrys?

Diolch i'r Aelod am hynny. Wrth gwrs rydym o ddifrif ynglŷn â safbwyntiau'r pwyllgor ac edrychaf ymlaen at eu hastudio'n fwy manwl i weld sut y gallwn ddweud ein stori ar brentisiaethau'n gliriach, oherwydd mae'n stori dda iawn yn wir, Lywydd. Fel Llywodraeth, byddem yn sicr yn dymuno gwneud yn siŵr nad oes unrhyw amheuaeth, er enghraifft, y byddwn yn buddsoddi £150 miliwn o arian Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf i'n helpu ar ein taith tuag at o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Dengys ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid fod prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u cyflog ar drafnidiaeth, sy'n sylweddol, o gofio mai £3.70 yr awr yn unig y bydd rhai prentisiaid yn ei gael. Roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau—neu a oes gennych unrhyw gynlluniau, o bosibl, i annog cludiant am ddim i brentisiaid fel eu bod yn gallu cyrraedd eu man gwaith yn brydlon ac mewn modd fforddiadwy, fel nad oes yn rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer trafnidiaeth pan fo'n rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer cynifer o bethau eraill yn eu bywydau fel prentisiaid?

Lywydd, rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Bethan Sayed am gost teithio i'r gwaith i bobl sy'n gorfod ymdopi ar incwm isel. Nid mater i mi yw'r polisi. Mater i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hwnnw ond fe wnaf yn siŵr ei fod yn cael clywed y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud y prynhawn yma.

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno fod yr ardoll brentisiaethau y mae Llywodraeth y DU yn ymffrostio yn ei chylch bellach wedi'i datgelu am yr hyn ydyw: dim mwy na threth ar gyflogwyr, nad yw wedi gwneud fawr ddim i wella mynediad at brentisiaethau? A fyddai'n cytuno hefyd fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith hynod o dda'n hyfforddi prentisiaid er budd ein gwlad?

Wel, mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, Lywydd. Treth ym mhob ystyr arall yw'r ardoll brentisiaethau, a threth sydd wedi'i chynllunio'n wael iawn, ac un nad oes neb yn ei ffafrio, hyd y gallaf weld, o blith gwledydd y Deyrnas Unedig ac o blith cyflogwyr yn ogystal. Roedd yn garbwl o'r dechrau. Ni chafwyd unrhyw drafodaeth ymlaen llaw gyda'r Alban na Chymru. Gallem fod wedi helpu Canghellor y Trysorlys ar y pryd i wneud gwaith gwell ohoni pe bai wedi caniatáu i ni, fel oedd yn ofynnol ym mholisi'r datganiad cyllid, i fod yn rhan o'r gwaith o lunio'r hyn y bwriadai ei gyflawni.

Yn sicr, cytunaf â Mike Hedges fod colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i anghenion economaidd lleol, a pharu pobl ifanc â'r gyrfaoedd y byddant yn gallu eu datblygu yn y tymor hir. Yn ddiweddar cyfarfûm â phrentisiaid yn Airbus ac yn Tata yn ne Cymru, ac roedd ganddynt oll straeon trawiadol i'w hadrodd am y cymorth a gawsant gan gyflogwyr mawr yng Nghymru, a sut yr ategwyd hynny gan ymagwedd wirioneddol ymatebol eu hawdurdodau addysg lleol a'r colegau addysg bellach y maent yn dibynnu arnynt.

Newidiadau i Ardrethi Busnes yng Nghymru

6. Pa newidiadau i ardrethi busnes yng Nghymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cyflwyno yn dilyn cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes yn Lloegr? OAQ53035

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y gŵyr, cyhoeddais ddoe fy mod yn bwriadu gwella ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr yn 2019-20. Dywedais ddoe, Lywydd, y buaswn yn defnyddio'r arian canlyniadol llawn o £26 miliwn at y diben hwnnw, a gallaf ddweud heddiw fy mod yn bwriadu rhyddhau £24 miliwn yn uniongyrchol i'r cynllun stryd fawr ei hun ac y byddaf hefyd yn rhoi £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i ariannu'r rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn y gallant ei ddarparu.

14:10

Gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU yn y gyllideb yn ôl ym mis Hydref, dywedai'r ffigurau a ddaeth allan o gyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU y byddai busnesau yn Lloegr yn derbyn tua £8,000 o ad-daliad ar eu hardrethi busnes hyd at werth ardrethol o £51,000 dros ddwy flynedd. O ystyried y gyfres o gyhoeddiadau rydych newydd eu gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd i'w croesawu—arian ychwanegol yn mynd tuag at ardrethi busnes—pa fanteision diriaethol a deimlir ar ein strydoedd mawr yma yng Nghymru, o gofio mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, a dro ar ôl tro mae gweithredwyr busnesau ar y stryd fawr yn dweud mai ardrethi busnes yw'r maen melin mwyaf o amgylch eu gyddfau rhag gallu ehangu a chyflogi mwy o staff ar y strydoedd mawr hynny?

Lywydd, credaf ei bod hi'n bwysig i mi wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n deall, pan archwiliwyd print mân yr hyn a ddywedodd y Canghellor ar 28 Hydref, mae'n ymddangos nad oes cynllun cenedlaethol yn mynd i fod yn Lloegr o gwbl. Yn syml, dim ond arian i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau disgresiynol a geir. Ni fydd unrhyw reolau cenedlaethol. Mater i'ch awdurdod lleol fydd defnyddio'r arian y mae'r Canghellor yn ei ddarparu fel y gwelant yn dda. Felly, mae'r ffigurau a ddefnyddiodd y Canghellor yn rhai enghreifftiol ar y gorau ac ni ddylid dibynnu arnynt fel rhai sy'n cynrychioli cynllun y gall busnesau ledled Lloegr ddibynnu arno. Ar y llaw arall, mae gan ein cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Mae yna ffordd y bydd busnesau'n gwybod faint yn union y bydd hawl ganddynt ei gael. Ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r Aelod. Gwerir pob ceiniog a gawn o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw ar gynorthwyo busnesau yma yng Nghymru, ond byddwn yn llunio cynllun sy'n cyfateb i faint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen drethiant yng Nghymru yn y maes hwn, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, a byddwn yn llunio cynllun sy'n sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o'r arian.

Rwy'n ymwybodol fod llawer o fusnesau gofal plant yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd yn bryderus iawn ynghylch ardrethi busnes. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd pob darparwr gofal plant yn cael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes yng Nghymru o fis Ebrill 2019?

Gwnaf, Lywydd. Diolch i Julie Morgan am hynny, oherwydd gallaf gadarnhau yn union hynny—fod ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ymestyn i ddarparu rhyddhad ardrethi 100 y cant i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru, a bydd y lefel uwch hon o ryddhad yn dechrau ar 1 Ebrill 2019. Mae'n enghraifft dda iawn o gysoni ein cyfrifoldebau trethiant â'n huchelgeisiau polisi, oherwydd mae gennym uchelgais, wrth gwrs, i ddarparu'r lefel orau o ofal plant i bobl yma yng Nghymru, a bwriad y penderfyniad ynglŷn â rhyddhad ardrethi yw cefnogi'r sector yr ydym yn dibynnu arno i gyflawni ein cynnig gofal plant.

Ffigurau Gwariant Cyhoeddus ar gyfer Gwledydd y DU

7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r ffigurau gwariant cyhoeddus mwyaf diweddar ar gyfer gwledydd y DU? OAQ53056

Diolch i Joyce Watson am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos bod buddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac mewn addysg wedi tyfu'n gyflymach yng Nghymru yn 2017-18 nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Roedd yn ddiddorol gwrando ar y bwletinau newyddion bore ddoe, ond siomedig oedd deall bod gwariant mewn gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl oedrannus yn Lloegr wedi'i dorri 25 y cant y pen ers 2010. Nid yw hynny, wrth gwrs, wedi digwydd yng Nghymru, am fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu'r cyllidebau hynny, ac rwy'n hynod o falch o hynny, ac rwy'n siŵr y byddai pawb am ymuno â mi i ddathlu'r ffaith honno. Ond o fis Ebrill nesaf, bydd cyfran y dreth incwm a delir gan bobl yng Nghymru yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn uniongyrchol. Sut y bydd hynny'n rhyddhau Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran blaenoriaethu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn?

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n llygad ei lle—dyna mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU yn ei ddangos, sef er gwaethaf effaith cyni a'r heriau go iawn y mae'n ei achosi i wasanaethau cyhoeddus, rydym wedi diogelu gwariant mewn awdurdodau lleol a gwariant ar wasanaethau'r henoed i raddau nas gwelwyd ar draws ein ffin yn bendant, a gwelwyd cynnydd o 3.8 y cant mewn gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda'i gilydd yng Nghymru y llynedd, a dyna'r cynnydd mwyaf o blith pedair gwlad y DU.

Mae Joyce Watson yn hollol iawn i nodi bod y cyfrifoldebau cyllidol newydd sydd gennym yn dod â chyfleoedd newydd yn eu sgil. Bydd yn gwybod am adroddiad yr Athro Gerry Holtham a edrychodd ar y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae gan y Cabinet is-grŵp wedi'i sefydlu, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, sy'n dod â chyd-Aelodau o'r Cabinet at ei gilydd i weld a fyddai'n ymarferol defnyddio peth o'r dadansoddiad hwnnw'n weithredol yng Nghymru a defnyddio ein posibiliadau cyllidol newydd i gefnogi ein hagenda o bolisïau uchelgeisiol.

14:15

A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau'r warant cyllid gwaelodol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gwariant yng Nghymru, a chymharu a chyferbynnu hynny ag unrhyw gyllid gwaelodol a oedd yn ei le o dan Lywodraethau Llafur blaenorol yn y DU?

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae'r fframwaith cyllidol yn cynnwys lluosydd—mae'n 105 y cant. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid wedi awgrymu ddoe ei fod yn 120 y cant, ond mewn gwirionedd mae'n 105 y cant. Am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, cawn 105 y cant o hynny drwy symiau canlyniadol Barnett. Mae hynny'n cyfateb i £70 miliwn hyd yma ar gyfer Cymru. Gyda'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd—[Torri ar draws.] Na—[Torri ar draws.]

Credaf fy mod—[Torri ar draws.] Ie, ie. Y pwynt a ofynnodd yr Aelod i mi oedd a oes mecanwaith yn y fframwaith cyllidol sy'n gwarantu bod Cymru'n cael cyfran sefydlog o'r cyllid a gyhoeddir yn Lloegr. Yr ateb yw bod mecanwaith o'r fath yn bodoli. Mae wedi rhoi £70 miliwn yn ychwanegol hyd yn hyn, yn dilyn llofnodi'r fframwaith cyllidol, ac os ystyriwch y cyllid ychwanegol a addawyd ar gyfer y GIG dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd hynny'n rhoi £270 miliwn inni ar ben yr hyn y byddem wedi ei gael fel arall heb gwblhau'r cytundeb hwnnw.

Dyfodol Lefelau Treth yng Nghymru

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol lefelau treth yng Nghymru rhwng nawr ac etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ53030

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn. Roedd y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 2 Hydref, yn argymell bod cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn aros yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20, yn unol ag ymrwymiad maniffesto fy mhlaid i beidio â chodi lefelau treth incwm yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Rwyf wedi gwrando'n ofalus arnoch yn ymateb i gwestiynau tebyg hefyd yn ystod y sesiwn gwestiynau hon, a'r hyn na wnaethoch ei nodi oedd beth fyddai eich cynlluniau neu gynlluniau eich plaid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd inni ynglŷn â'ch ymrwymiad personol i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm cyn etholiad nesaf y Cynulliad, gan gynnwys yn y blynyddoedd wedi 2019-20.

Wel, Lywydd, rwyf eisoes wedi ailadrodd ymrwymiad maniffesto fy mhlaid i beidio â chodi lefelau treth incwm yn y tymor Cynulliad hwn. Buaswn mewn sefyllfa lawer yn well pe bai Llywodraeth y DU yn gallu dweud wrthyf faint o arian a fydd gan y Cynulliad hwn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Cynhelir adolygiad cynhwysfawr o wariant, na fydd yn dechrau hyd yn oed tan fis Ionawr, ac nid oes gennyf ffigurau o gwbl ar gyfer cyllideb y Cynulliad y tu hwnt i 2019-20. Bydd hwnnw o gymorth mawr i bawb ohonom o ran gallu darparu'r math o sicrwydd ar gyfer y dyfodol y gofynnodd yr Aelod i mi amdano.

Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y cwestiwn wedi'i ofyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod trethdalwyr Cymru wedi cael eu llythyr CThEM ynghylch cyfraddau Cymreig o dreth incwm?

Nid dyna'r cwestiwn o fy mlaen i. Credaf y gwnawn ei gadael hi ar hynny a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyfraniad.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Ac felly dyma ni'n dod at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Y cwestiwn cyntaf—Helen Mary Jones.

Cefnogaeth ar gyfer Cynghorau Gwledig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau gwledig? OAQ53046

14:20

Darperir y rhan fwyaf o gymorth Llywodraeth Cymru i gynghorau gwledig drwy'r setliad llywodraeth leol gwerth £4.2 biliwn. Mae fformiwla ariannu'r setliad yn cynnwys nifer o ddangosyddion sydd i gyfrif am wahanol raddau o deneurwydd poblogaeth ar draws pob un o'n hawdurdodau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond dyma'r gwirionedd: mae Powys yn edrych ar fwlch yn y gyllideb o £14 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae sir Gaerfyrddin wedi gorfod gwneud gwerth £50 miliwn o doriadau ar yr un pryd â chodi ei threth gyngor 22 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae dinasyddion yn sir Benfro yn wynebu cynnydd o 12 y cant yn eu treth gyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â chyllideb anodd a sylweddolaf nad bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith bod y setliad yn dynn, ond does bosibl, o ystyried y ffigurau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwch weld bod yn rhaid bod rhywbeth o'i le ar y ffordd y caiff yr arian ei ddyrannu. Oherwydd os cymharwch hyn â chymunedau mewn ardaloedd mwy trefol yng Nghymru, nid yw'n ymddangos yn gyfartal nac yn deg.

Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, ein bod yn ymdrin â setliad ariannol anodd iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau wedi bod yn hollol glir yn ein hymateb i hyn. Mae hwn yn setliad anodd a byddai'n well gennym allu neilltuo mwy o arian i bob awdurdod lleol. Ond gadewch imi ddweud hyn: rwy'n gresynu at y tueddiad cynyddol ymhlith nifer o'r Aelodau i osod gwahanol gymunedau yn erbyn ei gilydd. Yn y cwestiwn gan yr Aelod dros Lanelli, roedd hi'n gosod cynghorau gwledig yn erbyn rhai trefol. Yn y gorffennol, rydym wedi gosod y gogledd yn erbyn y de, y dwyrain yn erbyn y gorllewin. Rwy'n gresynu at y duedd hon yn ein trafodaethau, oherwydd nid yw'n adlewyrchu'r dadleuon a gawn gyda llywodraeth leol, ac nid wyf yn credu ei bod yn adlewyrchu realiti ychwaith. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod yr is-grŵp cyllid, sy'n darparu cynrychiolaeth ar gyfer yr holl awdurdodau ledled y wlad, wedi cymeradwyo fformiwla'r setliad cyllido ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn ei gyfarfod ar 27 Medi. Yn ogystal â hyn, siaradais â chynrychiolwyr o'r holl grwpiau gwleidyddol mewn llywodraeth leol yr wythnos diwethaf ac ailadrodd wrthynt y pwynt a wneuthum yn y Siambr hon yn ystod dadl gan y Blaid Geidwadol ar y fformiwla ariannu a'r setliad, os caf lythyr gan y pedwar grŵp gwleidyddol mewn llywodraeth leol yn gofyn am adolygu'r fformiwla, yna byddaf yn ei roi ar waith. Rhaid imi ddweud nad oedd yr ymateb ddydd Gwener yn gadarnhaol iawn o blaid hynny.

Credaf eich bod yn ffodus iawn ar y pwynt hwn nad yw'r Aelod dros Lanelli yn y Siambr; credaf mai at yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y dymunech gyfeirio.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar 31 Ionawr, bydd arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yn dod yma i'r Senedd fel rhan o ddirprwyaeth Tyfu Canolbarth Cymru a noddir ar y cyd gan y Llywydd, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a minnau. Bydd cyfle i arddangos cynnyrch a gwasanaethau busnesau lleol ar draws y ddau awdurdod lleol gwledig. Nawr, rwy'n sylweddoli nad chi sy'n arwain ar fargen twf canolbarth Cymru, ac mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yw hwnnw, ond a gaf fi ofyn i chi beth rydych yn ei wneud i gefnogi'r ddau awdurdod lleol gwledig er mwyn rhoi hwb i economïau canolbarth Cymru?

Fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw hynny'n rhan o fy nghyfrifoldebau, ond dywedaf wrtho fod y materion hyn wedi'u trafod y tro cyntaf y cyfarfûm ag arweinwyr Cyngor Sir Powys. Cyfarfûm ag arweinwyr yr awdurdod a dywedais wrthynt fod y Llywodraeth hon am fod yn Llywodraeth weithredol a geisiai hyrwyddo a chefnogi datblygiad economaidd ar draws y wlad gyfan, ac y byddem yn cefnogi hynny'n weithredol. Yn sicr, yn y sgyrsiau a gefais gyda'r holl arweinwyr llywodraeth leol ledled y wlad, rydym bob amser wedi pwysleisio y byddwn yn parhau i ddarparu'r lefel honno o gefnogaeth.

Effaith Toriadau i Gyllid Awdurdod Lleol

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith toriadau i gyllid awdurdod lleol? OAQ53053

Mae fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau'n ystyried cyllid llywodraeth leol gydag awdurdodau lleol drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, yn ogystal â chysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol eraill.

Gwn y byddwch yn ymwybodol o ganfyddiadau gan yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar fater tlodi eithafol, ac ymhlith llawer o'i gasgliadau enbyd oedd y ffaith bod toriadau San Steffan wedi effeithio fwyaf ar y tlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Dadleuai y byddai gwreig-gasäwr yn ei chael hi'n anodd gwneud mwy. A yw eich Llywodraeth wedi cyflawni asesiad effaith llawn o'ch toriadau i gyllid awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad ydych yn ailadrodd penderfyniadau dideimlad y Torïaid ac yn gwaethygu'r sefyllfa i'r bobl sydd â'r lleiaf yn ein cymdeithas?

14:25

Yn sicr byddwn yn adolygu'r adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, a rhaid imi ddweud fy mod wedi darllen ei adroddiad ac rwy'n cytuno â chasgliadau'r Aelod dros y Rhondda ar y mater. Ond gadewch i mi ddweud hyn: nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn ateb i gwestiwn cynharach fod Prifysgol Caergrawnt wedi cyhoeddi adolygiad yn ddiweddar o ddull gweinyddiaethau gwahanol y DU o weithredu mewn perthynas â llywodraeth leol, ac mae'r adolygiad hwnnw'n dweud yn glir iawn fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr tebyg iawn, sy'n wahanol iawn i'r un yn Lloegr, ac mae canlyniadau hynny'n glir iawn i bobl Lloegr.

Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: roedd un o'r adroddiadau a ddarllenais y llynedd, sydd wedi dylanwadu'n fawr arnaf, yn dweud bod yr awdurdodau lleol sy'n cynrychioli cymunedau tlotach a mwy difreintiedig yn cael mwy o anhawster i godi arian, ac yn dibynnu mwy ar gyllid Llywodraeth ganolog nag ardaloedd cyfoethog a mwy ffyniannus. A dyna un o'r rhesymau pam fy mod bob amser, ers i mi ddod i'r swydd hon, yn ceisio cael y strwythurau ar waith sy'n sicrhau'r effaith fwyaf o wasanaethau rheng flaen ac yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau'n cael eu darparu ar raddfa sy'n gallu gwrthsefyll pwysau ariannol yn y dyfodol yn ogystal. Ac edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth gan Blaid Cymru ac o fannau eraill i fynd ar drywydd yr agenda honno.

Pa drafodaethau a gawsoch gyda phrif weithredwr Cyngor Sir y Fflint ers iddo ysgrifennu at yr holl gynghorwyr yno ar 16 Tachwedd i ofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch #CefnogiGalw i gael cyfran deg o gyllid cenedlaethol Cymru, ac a gafodd gefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar 20 Tachwedd i fynd â'r frwydr, ac rwy'n dyfynnu, 'i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd'?

Nid wyf wedi siarad â'r prif weithredwr, Colin Everett, ar y pwnc hwn yn y ffrâm amser honno, ond rwyf am ddweud hyn: pan oedd y prif weithredwr yn gwneud y datganiad hwnnw yn sir y Fflint, roedd arweinydd Cyngor Sir y Fflint gyda mi yng Nghaerdydd ym Mharc Cathays, yn dweud wrthyf nad oedd ganddo unrhyw ddymuniad i ailagor y fformiwla cyllido na dadl na thrafodaethau ynghylch y fformiwla honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?

Diolch yn fawr am y cwestiwn, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad ynghylch y dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd oddeutu 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth, gyda'n trothwy o £180,000. Dyma'r un gyfran o brynwyr tro cyntaf ag yn Lloegr, wrth gwrs, gyda'u treth dir y dreth stamp. Ar hyn o bryd, mae pris tŷ cyfartalog yma yng Nghymru yn £140,000, felly yn fy marn i  mae'n anghywir ac yn annheg awgrymu ym Mhapur Gwyn y Blaid Geidwadol a ryddhawyd yr wythnos hon nad oes unrhyw ryddhad ar gyfer prynwyr tro cyntaf, gan fod hynny'n gamarweiniol—mae oddeutu 80 y cant brynwyr tro cyntaf yn cael eu gwarchod rhag y dreth honno.

Wel, Weinidog, pan gyflwynwyd y polisi hwn, roedd yn dilyn llwybr gwahanol i'r opsiwn a oedd ganddynt yn Lloegr. Yno, mae prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad hyd at £300,000, ac ar eiddo sydd wedi'i brisio ar y lefel honno, nid oes treth stamp o gwbl. Rydych yn nodi pris tŷ cyfartalog—rwy'n credu eich bod wedi dweud £140,000; nid wyf yn credu bod hynny'n gywir. Ar hyn o bryd, rwy'n credu mai'r pris cyfartalog yw £180,000 neu oddeutu hynny, ac mae hwnnw'n swm sylweddol. Ar gyfer eiddo sydd rhwng £180,000 a £250,000, sef y pris cyfartalog mewn llawer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ni fydd prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad llawn; byddant yn cael rhan o hwnnw ar £180,000, ond ni fyddant yn cael yr un fargen ag y byddai'r prynwyr hynny yn ei chael yn Lloegr.

Gadewch imi egluro beth y mae hynny'n ei olygu. Yng Nghaerdydd, mae'n golygu bod ein prynwyr tro cyntaf, o gymharu â rhai cyfatebol yn Lloegr, yn talu £1,700 yn fwy mewn treth. Yn sir Fynwy, maent yn talu £5,400 yn fwy mewn treth, a hyd yn oed ar Ynys Môn, mae prynwyr tro cyntaf yno yn talu mwy na £1,000 mewn treth yn ychwanegol at yr hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr. A gredwch ei bod yn deg nad yw ein prynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn cael cystal bargen ag y maent yn ei chael yn Lloegr?

14:30

Wel, mae asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r rhyddhad i brynwyr tro cyntaf wedi dangos na fyddai'n gwneud llawer i helpu prynwyr tro cyntaf, a byddai'n codi prisiau tai ac yn arwain at fawr iawn o bryniannau ychwanegol gan brynwyr tro cyntaf. Felly, nid ydym eisiau ailadrodd rhyddhad nad ystyrir ei fod yn effeithiol. Ac yn wir, mae ein dull o weithredu yn llawer tecach yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i gynorthwyo pawb sy'n ei chael hi'n anodd prynu tŷ i wneud hynny. Felly, nid oes rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa ar y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n beth teg i'w wneud. Mae pobl yn cael trafferth prynu eu hail dŷ, mae pobl yn cael trafferth symud, a'n dull o weithredu yw helpu pobl sy'n cael trafferth, yn hytrach na phrynwyr tro cyntaf fel grŵp cyfan.

Wel, mae rhyddhad naill ai'n ddefnyddiol, neu nid yw'n ddefnyddiol, felly rwy'n credu bod angen i chi benderfynu ynglŷn â hynny. Ac ni fuaswn yn hoffi mynd allan ar strydoedd Caerdydd, neu i Fynwy neu Ynys Môn, a dweud wrth y prynwyr tro cyntaf yno, sy'n talu llawer mwy na'r hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr, fod y dreth ychwanegol hon nac yma nac acw. Credaf fod honno'n neges wael iawn. Rwy'n cytuno â'r pwynt arall ein bod angen ystod ehangach o bolisïau, a'r gyfradd adeiladu yw'r peth allweddol, mewn gwirionedd, o ran darparu gwell marchnad a marchnad fwy cystadleuol ar gyfer ein prynwyr tro cyntaf. Felly, yn eich barn chi, sut y mae'r gyfradd adeiladu isaf erioed bron, yn helpu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru?

Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu graddau a chyflymder adeiladu, ac un o'n hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' oedd gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Ac rydym yn gallu gwneud hynny yn awr o ganlyniad i'r cynnydd—neu o ganlyniad i gael gwared ar y terfyn benthyca, y bu Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu o blaid ei wneud ers peth amser. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod y Cynulliad hwn, a heddiw byddwch wedi sylwi ein bod wedi cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n amlwg yn ein symud ymlaen, o ran chwalu rhai o'r rhwystrau mewn perthynas â chynllunio. Felly, sicrhau bod adeiladu'n digwydd yn yr ardaloedd sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynllunio, yn hytrach na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda lleiniau o dir yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau datblygu lleol, ac yn codi gwerth y tir hwnnw wedyn, ond heb wneud fawr ddim i wella'r gyfradd adeiladu tai mewn gwirionedd. Felly, buaswn yn dweud bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gam pwysig ymlaen o ran gallu chwalu rhai o'r rhwystrau a welwn yn arafu'r broses o adeiladu tai ledled Cymru.

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe siaradoch chi yn y gynhadledd Crisis yn ôl ym mis Mehefin ar roi diwedd ar ddigartrefedd, ac rwy'n siŵr eich bod wedi darllen yr adroddiad a gynhyrchwyd yn y digwyddiad hwnnw, sy'n amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn, gydag argymhellion ar gyfer yr holl Lywodraethau, gan gynnwys eich Llywodraeth chi. A allwch chi ddweud wrthym beth a ddysgoch o'r digwyddiad hwnnw ac o'r adroddiad, a sut y mae'n dylanwadu ar eich penderfyniadau?

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Fel rydych yn ei ddweud, mynychais y digwyddiad hwnnw, ac rwyf wedi darllen y ddogfen helaeth iawn—credaf ei bod tua 2 fodfedd o drwch. Felly, mae'n sicr yn llawn tystiolaeth, ac rydym o ddifrif ynglŷn â'r dystiolaeth honno. Dysgais yn y gynhadledd honno am bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd yn uniongyrchol a gwrando ar bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, arhosais am fwy o amser na fy slot fy hun yn y gynhadledd honno, a llwyddais i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref, a chredaf mai dyna'r ateb sy'n mynd i lywio ein hymateb. Dyma un o'r pethau cyffrous y mae Abertawe yn ei wneud, gyda'r cyllid ychwanegol y gallasom ei ddarparu iddynt ar gyfer mynd i'r afael â chysgu ar y stryd. Maent yn gwneud gwaith gyda Shelter ar gasglu straeon unigol pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall ar ba bwynt y gellid bod wedi ymyrryd er mwyn atal y bobl hyn rhag cysgu ar y stryd, sut y gallem fod wedi helpu pobl rhag cysgu ar y stryd yn llawer cynt, a sut y gallwn atal pobl rhag colli eu deiliadaeth yn y dyfodol.

Diolch i chi, Weinidog. Ers rhai blynyddoedd bellach, ym Mhlaid Cymru, rydym wedi bod yn dadlau'r achos dros gael gwared ar angen blaenoriaethol yn raddol. Nawr, bythefnos yn ôl, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, dywedasoch fod hynny'n destun adolygiad. Ond wrth gwrs, yn 2012 comisiynodd eich Llywodraeth chi Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith digartrefedd, ac argymhellodd y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol, argymhelliad a gymeradwywyd eleni gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac wrth gwrs, ceir yr argymhelliad hwn yn adroddiad Crisis. Felly, pam y mae eich Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion yr adolygiadau hyn, ac wedi gofyn am un arall yn lle hynny?

Wel, rydym yn edrych o ddifrif ar angen blaenoriaethol, a deallaf yn llwyr o ble y daw'r alwad ar hyn, ac rwy'n cydymdeimlo â'r alwad honno, ond ar yr un pryd, mae angen i ni ddeall unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl. Er enghraifft, pan edrychwn ar y sefyllfa yn yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, fe welwch fod grwpiau mwy o bobl yn aros yn llawer hwy mewn llety dros dro, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddem eisiau ei weld yma yng Nghymru. Felly, mae angen i ni wneud hyn ochr yn ochr â chynyddu'r cyflenwad tai, yn ogystal â chyflwyno tai yn gyntaf, er enghraifft.

Yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn edrych arno, ond ni ellir gwneud hynny ar ei ben ei hun, oherwydd mae yna ganlyniadau anfwriadol yno. Ac os edrychwch chi ar yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, gallwch gerdded o gwmpas Caeredin neu ddinas arall, a bydd yna bobl yn cysgu ar y strydoedd, felly nid yw'n ateb pob problem o bell ffordd. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan o ddarlun mwy o faint.

14:35

Rydych wedi cael ers 2012 i ddatrys canlyniadau anfwriadol hyn, ac mae niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn codi. Mae pobl yn mynd yn ddigartref ac yn aros yn ddigartref oherwydd eich tactegau oedi, ac mae angen gweithredu ar hyn yn awr. Nawr, mae eich cydweithiwr Andy Burnham ym Manceinion wedi addo cael gwared ar gysgu ar y stryd erbyn 2020, wyth mlynedd yn gynt na'ch Llywodraeth chi, saith mlynedd yn gynt na tharged y Torïaid, ac yn rhan o hynny, treuliodd yr hydref yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwely ar gyfer pob person sy'n cysgu ar y stryd y gaeaf hwn, bob nos, mewn amrywiaeth o letyau, gan gynnwys lleoedd ar gyfer menywod yn unig a lleoedd sydd hefyd yn caniatáu i bobl fynd â'u cŵn. Gall aelodau o'r cyhoedd lawrlwytho ap y gallant ei ddefnyddio i gyfeirio pobl sy'n cysgu ar y stryd at leoedd lle y gallant gael cymorth. Pam fod uchelgais a gweithredu fel hyn yn bosibl ym Manceinion, ond nad yw'n bosibl gan eich Llywodraeth chi?

Wel, mae'n amlwg nad ydych yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud drwy ein rhaglen tai yn gyntaf, a hefyd, drwy'r cynllun gweithredu ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a gyhoeddwyd y llynedd, a'r ffaith ein bod wedi gofyn i bob awdurdod lleol unigol yng Nghymru gyflwyno cynllun lleihau digartrefedd a chynllun i fynd i'r afael â digartrefedd sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysgu ar y stryd. Pan edrychwch ar nifer y lleoedd sydd ar gael, o'i gymharu â nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, mewn llawer o achosion mewn gwirionedd, mae'r gwelyau ar gael. Ond rwy'n deall nad ydynt yn ddeniadol i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd oherwydd, mewn llawer o achosion, mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn dweud wrthyf nad ydynt eisiau mynd i fannau penodol am na allant fod o gwmpas pobl sy'n cymryd cyffuriau neu'n yfed alcohol, neu mae pobl eisiau aros gyda'u cŵn, neu mae pobl eisiau mynd fel pâr. Felly, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn yn eu cynlluniau gweithredu ar dai, y byddant yn eu cyflwyno i'r Llywodraeth cyn diwedd y mis.

Diolch, Lywydd. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos mai cyngor Caerdydd yw'r ail gyngor uchaf yn y DU gyfan mewn perthynas â chasglu dirwyon lonydd bysiau. Cafodd tua chwarter miliwn o yrwyr ddirwy mewn cyfnod o flwyddyn. Cyngor Glasgow yn unig a roddodd fwy o ddirwyon i yrwyr na Chaerdydd mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n derbyn yr angen i lynu wrth y cyfyngiadau gyrru lleol, ond weithiau mae camgymeriadau diniwed yn digwydd am nad yw gyrwyr yn gyfarwydd ag ardal. Gyda chymaint o bobl yn cael dirwy, mae'r RAC yn dweud ei bod yn debygol fod pethau fel arwyddion a chynlluniau ffyrdd yn achosi problemau go iawn i yrwyr. A ydych yn credu bod perygl efallai fod cynghorau fel Caerdydd yn rhy barod i gosbi wrth gasglu dirwyon gan yrwyr am y mathau hyn o fân droseddau gyrru?

Lywydd, nid oes gennyf gyfrifoldeb am y materion a godwyd gan yr Aelod. Yr hyn a ddywedaf yw mai mater i'r awdurdod lleol yw cyflawni eu cyfrifoldebau fel y gwelant yn dda, a mater i breswylwyr ac etholwyr yng Nghaerdydd yw dwyn y cyngor i gyfrif am y penderfyniadau hynny.

Rwy'n derbyn yr angen am ddemocratiaeth leol ac i benderfyniadau gael eu gwneud yn y blwch pleidleisio, fel y dywedwch. Ond wrth gwrs, mae pobl yn gwneud penderfyniadau yn y blwch pleidleisio yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, nid yn unig ar ba un a ydynt wedi cael dirwy am yrru ar lôn fysiau neu beidio. Felly, gan fod gennych drosolwg ar lywodraeth leol yng Nghymru, tybed a ydych yn effro i'r posibilrwydd y gallai cynghorau fod mewn perygl, heb enwi unrhyw gyngor penodol, yn yr achos hwn efallai—[Torri ar draws.] Wel, gadewch i ni anghofio fy mod wedi enwi'r cyngor hwnnw, a oes posibilrwydd damcaniaethol—? I blesio'r Gweinidog ac efallai i geisio cael ateb mwy goleuedig, a oes posibilrwydd damcaniaethol y gallai cynghorau fod yn rhy barod i gosbi, efallai, wrth gasglu'r mathau hyn o ddirwyon?

Mae'n bosibl fod hynny'n wir yn ddamcaniaethol. Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n amlwg yn cael trafferth gyda'r mater hwn: nid wyf yn credu ei bod yn iawn i Weinidogion sy'n sefyll yma yn y lle hwn wneud sylwadau ar y penderfyniadau y mae llywodraeth leol yn eu gwneud wrth gyflawni ei swyddogaethau. Rydym yn atebol yma am benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, nid gan awdurdodau lleol unigol.

14:40

Yn wir, rydych yn gywir yn dweud hynny. Mewn perthynas â dirwyon yn gyffredinol—rwy'n credu y gallwn gytuno ar y pwynt hwn—fe wyddom fod llywodraeth leol mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd yn ariannol. A yw'n bosibl efallai fod cynghorau'n rhy barod i gosbi weithiau gyda sawl math o ddirwy ac y gallent fod yn defnyddio'r trethdalwyr lleol fel peiriannau pres?

Lywydd, fe ddarparaf restr o gyfrifoldebau Gweinidogion i arweinydd UKIP cyn ein sesiwn nesaf yn y lle hwn [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn glir iawn gydag ef, ac Aelodau eraill, a bod yn deg, sydd wedi ymdrechu yr un mor galed i fy nhemtio i ddweud rhywbeth annoeth iawn—[Torri ar draws.] Ond ni chaf fy nhemtio ar yr achlysur hwn i wneud sylw ar benderfyniadau unrhyw gyngor lleol mewn unrhyw ran o'r wlad. Mae'n iawn ein bod wedi trafod yr anawsterau sy'n wynebu llywodraeth leol mewn perthynas â threfniadau ariannol a sut y bydd yn arfer ei chyfrifoldebau yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny eto, ond fy mholisi i o hyd yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol. Mater iddynt hwy yw hwn, ac maent yn atebol i'w hetholwyr, nid i'r lle hwn.

Arloesedd mewn Llywodraeth Leol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog arloesedd mewn llywodraeth leol? OAQ53059

Buaswn yn annog pob awdurdod i arloesi yn eu cynlluniau i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae arloesedd a chreadigrwydd bob amser yn ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy i bob un o'n dinasyddion.

Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn cytuno'n gryf â hynny, ac yn y cyfnod hwn o gyni a achoswyd gan Lywodraeth y DU, mae'n fwy pwysig byth, rwy'n credu, ein bod yn canfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, ac o ddarparu mwy gyda llai yn aml, ond yn amlwg mae honno'n dipyn o her. Mewn perthynas â llywodraeth leol yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner allweddol eraill, tybed a allwch ddweud rhywbeth am brofiad cynnar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn arbennig, sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu gwaith ar y cyd, ac yn fwy arbennig, sut y mae swyddogaeth gan Lywodraeth Cymru i nodi arferion da o fewn y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rwy'n credu eu bod yn amrywio o un i'r llall—sut y gallai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu rhannu ledled Cymru.

Lywydd, rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y pwyllgor perthnasol yn y lle hwn, fy mod yn edrych ymlaen at adroddiad ei bwyllgor ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi cryn dipyn o sylw iddo pan fyddaf yn gallu gwneud hynny.

Ond mae'n iawn i nodi byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel cyfle i ddod ag awdurdodau at ei gilydd i arloesi ac i ddarparu atebion newydd a gwahanol i lawer o'r anawsterau rydym yn eu hwynebu. Rwyf newydd gytuno ar becyn cymorth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwnnw maes o law, Lywydd. Fel rhan o hynny, rwy'n credu y dylem osod uchelgeisiau clir iawn ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran yr hyn rydym eisiau iddynt ei gyflawni, ac mae'r agenda ataliol y mae'r Aelod wedi'i disgrifio, rwy'n credu, yn gwbl ganolog ac yn hanfodol i rôl y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gallwn weld llywodraeth leol yn gweithio gyda'i chydweithwyr i gyflawni dull gwell o ddarparu gwasanaethau ataliol nag a welwyd yn y gorffennol. Ac rwy'n credu bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol i hynny, i'w gallu i'w gyflawni ar draws ardal benodol, ac rwy'n gobeithio y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae dulliau a ffyrdd newydd o weithio yn ei gynnig i ni.

Rwyf am ddweud, Lywydd, fod yr Aelod dros Lanelli, Lee Waters, ar yr achlysur hwn, wedi cynhyrchu adroddiad rhagorol ar y mater hwn mewn perthynas â gwasanaethau digidol, ac rwy'n edrych ar hwnnw'n fanwl iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio y byddwn, ochr yn ochr ag arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn gallu ymateb yn llawn i'r sylwadau y mae'n eu gwneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffyrdd newydd o weithio yn allweddol er mwyn cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n wynebu cyfyngiadau cyllidebol. Mae hyn yn golygu bod angen mabwysiadu atebion arloesol, ynghyd â datblygu technoleg newydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen arweinyddiaeth gref o'r brig i'r bôn i allu cyflawni hyn, ac a fyddai'n cefnogi cael hyrwyddwr arloesedd cydnabyddedig ym mhob cyngor, gan fod syniadau newydd yn aml yn deillio o angerdd unigolion yn hytrach na mater o broses?

14:45

Rwy'n cytuno bod arweinyddiaeth yn bwysig, ond nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno mai arweinyddiaeth o'r brig i'r bôn sydd ei angen. Credaf fod gennym bobl dalentog dros ben yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill ledled Cymru, ac mae'r gweithgor a ddisgrifiais mewn ateb cynharach yn darparu adroddiad heriol iawn i ni sy'n ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb yn llawn i'r heriau sy'n deillio o newid technolegol yn ogystal. Ac rwy'n gobeithio, drwy gydweithio â phob rhan o'r sector cyhoeddus, y byddem yn gallu gwneud hynny.

Cyllidebau Llywodraeth Leol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllidebau llywodraeth leol? OAQ53038

Mae awdurdodau lleol Cymru yn gosod eu cyllidebau yng nghyd-destun eu cynlluniau ariannol tymor canolig. Maen nhw’n seiliedig ar gymysgedd o refeniw a godwyd yn lleol a darpariaeth Llywodraeth Cymru o grantiau penodol a chyllid heb ei neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw. Eleni, cyllidebwyd dros £7 biliwn o wariant gan awdurdodau lleol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y byddwch yn gwybod, gwelwyd toriad o £1 biliwn i gyllid llywodraeth leol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae llawer o gynghorau yn sôn am bwysau difrifol ar ysgolion a gofal cymdeithasol. Maent yn sôn am flinder a diffyg morâl ymhlith y gweithlu ac yn rhagweld y bydd 7,000 o swyddi eraill yn cael eu colli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn mantoli'r cyfrifon yn unig. Mae'r alwad am gymorth ariannol angenrheidiol gan arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Cymru i'w gweld yn syrthio ar glustiau byddar. A ydych yn falch o'r rôl y mae eich Llywodraeth yn ei chwarae yn llethu llywodraeth leol ac ysgolion yn llwyr?

Lywydd, mae'n hawdd iawn i ni ddisgrifio'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol, ond ar y meinciau hyn, rydym yn ceisio disgrifio atebion yn ogystal. Mae cyflwyno datganiad i'r wasg yn galw am arian ychwanegol ar gyfer holl feysydd gwariant y Llywodraeth yn ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn heddiw. Mae'n ymateb annigonol ac anaeddfed. Rwyf am ddweud hyn wrth yr Aelod: rwyf wedi cyfarfod â phob arweinydd gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda hwy ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu. Ond rwyf am ddweud hyn yn ogystal: yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl yn galetach ynglŷn â sut y trefnwn ac y strwythurwn ein gwasanaethau i ymateb i heriau newydd. Ac mae honno'n her nid yn unig i'r Llywodraeth â'r blaid sy'n llywodraethu, ond hefyd, buaswn yn awgrymu, i bob plaid a gynrychiolir yn y lle hwn, oherwydd yn rhy aml, pan gyflwynir cynigion ar gyfer diwygio yma, gwelwn yr un bobl ag a gyhoeddodd ddatganiad i'r wasg i ddweud pa mor anodd yw pethau, yn sefyll i gymryd eu tro i wrthwynebu pob cynnig ar gyfer diwygio. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld llawer iawn o aeddfedrwydd ar y meinciau yn y lle hwn wrth wynebu heriau i lywodraeth leol, yn hytrach na dim ond rhestru'r heriau hynny mewn areithiau.

Wrth gwrs, nid yw o reidrwydd yn hawdd i gynghorau sy'n ceisio gwneud y gorau o'r arian sydd ganddynt er mwyn adfywio canol eu dinas—yn achos Abertawe—a gwella'r economi leol yno. Mewn adroddiad cabinet gan y cyngor yno fis diwethaf, nodwyd bod perygl nad oes gan yr awdurdod lleol ddigon o adnoddau i gwblhau cam 1 ei gynllun i adfywio canol y ddinas—Canol Abertawe. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe wrth gynghorwyr, ac rwy'n dyfynnu, y 'bydd y cyhoedd yn ein saethu'—ychydig yn anffodus, rwy'n credu—gan gyfeirio at gabinet Llafur Cyngor Abertawe, os caiff y cynllun adfywio ei ddiddymu. Mae pawb ohonom am weld canol dinas Abertawe yn ffynnu, a dywedaf hynny er bod lliw gwahanol i'r cyngor yno. Sut y gallwch fod yn hyderus, o gofio'r setliad y maent newydd ei gael, fod y cabinet yno'n gallu rheoli ei arian a'i gyllidebau'n briodol fel y gallant ymateb yn briodol i rybuddion ariannol o'r fath?

Mae gennyf hyder llawn yn arweinyddiaeth Cyngor Abertawe i reoli'r cronfeydd sydd ar gael iddo mewn modd priodol. Credaf fod arweinyddiaeth Cyngor Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth go ysbrydoledig o ran eu huchelgeisiau ar gyfer y ddinas honno ac mae'n rhoi camau ar waith i'w cyflawni. Credaf fod yr arweiniad a ddangoswyd gan Rob Stewart, fel arweinydd y cyngor, yn gosod esiampl ar gyfer llawer o arweinwyr eraill, ond hefyd yr arweiniad a ddangoswyd gan yr holl awdurdodau yn yr ardal honno wrth lunio bargen ddinesig bae Abertawe. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld yr uchelgeisiau hynny'n cael eu gwireddu, ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru nad y fformiwla ariannu yw'r her fwyaf sy'n wynebu Abertawe ond y polisi cyni sydd wedi golygu, ers wyth mlynedd, nad yw Abertawe, nac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, wedi cael y lefel o gyllid y byddem yn dymuno ei rhoi iddynt. A buaswn yn awgrymu i'r Aelodau Ceidwadol, yn hytrach na dod yma a rhestru'r problemau hynny, y dylent fynd i Lundain i restru'r problemau hynny.

14:50
Gweithio Rhanbarthol ymysg Awdurdodau Lleol

5. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd gweithio rhanbarthol ymysg awdurdodau lleol? OAQ53039

Rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio ac asesu effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Pan fo trefniadau rhanbarthol yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru, gall y Gweinidog perthnasol oruchwylio effeithiolrwydd y trefniadau hynny.

Byddwch yn ymwybodol bod awdurdodau lleol Cymru yn aml yn danfon eu deunydd ailgylchadwy i gyfleusterau yn Lloegr neu’r tu hwnt i gael eu prosesu. Mae allforio’r deunydd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegu at ein hôl troed carbon, ond mae hefyd yn meddwl ein bod ni’n colli ar gyfle i greu swyddi. A ydych chi’n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy o ran gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol yng Nghymru a sicrhau bod holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu trin yma yng Nghymru?

Rydym ni wedi bod, ers rhai blynyddoedd, yn cydweithio â llywodraeth leol a chynghorau gwahanol i greu’r union fath o rwydwaith rhanbarthol y mae’r Aelod yn awgrymu ein bod ni’n gwneud, ac mae hynny’n bodoli yn y rhan helaeth o’r wlad. Rydw i’n fodlon iawn gyda'r math o drefniadau y mae’r cynghorau wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei ailgylchu neu ei drin yn y ffordd briodol.

Dylai bargen ddinesig bae Abertawe alluogi'r prosiectau posibl sy'n cael eu cynnig i ddod â budd economaidd sylweddol i'r pedair ardal awdurdod lleol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod potensial gan y prosiectau hyn i gyflwyno cyfleoedd cyflogaeth mawr ar draws y rhanbarth? A yw hefyd yn cytuno y gellid ystyried y math hwn o gydweithio, os yw'n cael ei wneud yn iawn, fel glasbrint i awdurdodau lleol allu gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol yn y dyfodol, ac felly ni fyddai angen gorfodi uno fel y dymunai ei wneud yn wreiddiol?

Rwy'n cefnogi'r dull cydweithredol a amlinellwyd gan yr Aelod dros y Preseli. Mae'n bwysig i awdurdodau lleol o ba bynnag faint neu siâp allu gweithio gyda'u cymdogion i gyflawni'r math o uchelgais y byddai ef a minnau'n cytuno arno yn ôl pob tebyg o ran bargen ddinesig bae Abertawe. Fodd bynnag, mae'r materion sy'n ymwneud ag uno neu strwythurau o fewn awdurdodau lleol ychydig yn wahanol, wrth gwrs, ac mae'r rheini'n ymwneud â chynaliadwyedd yr unedau llywodraethu hynny. Fy marn i, a barn llywodraeth leol, yw nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, fel Gweinidog, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod y ffeithiau hynny'n cael eu cyflwyno i'r lle hwn a llywodraeth leol a'n bod yn gallu symud tuag at benderfyniad ar hynny.

Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod ei bod yn iawn ac yn briodol wedyn iddo gefnogi'r cynigion hynny i sicrhau bod ei etholwyr, a'n holl etholwyr, yn cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maent eu hangen, a bod awdurdodau lleol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod yn cytuno â phopeth y mae Paul Davies newydd ei ddweud? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig i bob gwasanaeth cyhoeddus weithio o fewn yr un ôl troed rhanbarthol, sy'n wir am brifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid yw'n wir am ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac a yw'n cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod awdurdodau lleol yn dod i arfer â gweithio gyda'i gilydd? Mae'n bosibl bod gwahanol bleidiau gwleidyddol wrth y llyw yn y pedwar awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru, ond maent wedi dangos arweinyddiaeth gref yn yr ardal wrth weithio gyda'i gilydd.

Rwy'n credu ein bod yn gwneud llywodraeth yn rhy gymhleth ar adegau. Credaf fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn yma ac mewn mannau eraill. Credaf fod angen i ni edrych am eglurder yn y ffordd rydym yn strwythuro'r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau ond hefyd yn y ffordd y strwythurwn yr atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ôl troed rhanbarthol sy'n ddealladwy, nid yn unig i'r rhai ohonom sy'n gorfod gweithio gydag ef, ond hefyd i'r etholwyr y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu. Ond nid wyf yn credu bod hynny, ynddo'i hun, yn ymateb digonol i rai o'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd pawb ohonom yn ymwybodol o'r anawsterau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol heddiw, ond rydym hefyd yn gwybod bod Brexit a materion eraill yn golygu y byddant yn wynebu penderfyniadau hyd yn oed yn anos yn y dyfodol, ac felly, mae gennym gyfrifoldeb i feddwl yn galed am y dyfodol hwnnw ac i sefydlu strwythurau sy'n gynaliadwy yn y dyfodol.

14:55
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru? OAQ53036

Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi comisiynu'r gwaith o ddatblygu glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rwyf wedi rhannu'r glasbrintiau hyn gydag aelodau o'r Cabinet, ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ystod yr wythnos nesaf.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac edrychaf ymlaen at ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r ffigurau diogelwch diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn dangos bod nifer y digwyddiadau o hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru yn cynyddu ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys carchar y Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc sydd yno, lle y credaf fod nifer syfrdanol o ddigwyddiadau wedi bod eisoes eleni: 777 o ddigwyddiadau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun carchar y Parc i gyflogi dadansoddwyr ymddygiad i wella lefelau diogelwch?

Rwyf wedi ymweld â CEM Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc yn y carchar, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda'r cyfarwyddwr yno. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi wedi cadarnhau bod yna ddadansoddwyr rheoli ymddygiad yn y Parc sy'n gweithio i leihau'r lefelau o hunan-niweidio a thrais yn y carchar. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni fynd ymhellach na hyn. Credaf fod angen polisi cosbi penodol ar gyfer Cymru, sy'n edrych, yn y lle cyntaf, ar y problemau sy'n ymwneud â throseddu ymhlith yr ifanc a throseddu gan fenywod, a bod angen i ni edrych ar fuddsoddi o fewn yr ystâd ddiogel ond hefyd, yn hollbwysig, ar ymagwedd gyfannol tuag at bolisi sy'n ceisio lleihau troseddu, gwella adsefydlu a sicrhau nad yw menywod, yn enwedig, yn cael eu trin yn y ffordd y cânt eu trin heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig yn ôl, rhoddodd yr Arglwydd Laming gyflwyniad ar ei adolygiad o'r system cyfiawnder troseddol ieuenctid i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Soniodd am y canfyddiad brawychus fod plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â'u cyfoedion, yn aml oherwydd bod y rhai sy'n gysylltiedig—yr heddlu, athrawon a'r llysoedd—yn tybio bod ymateb penodol yn briodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn wahanol i'w hymateb i blant o gefndiroedd eraill, ac mae'r rhagfarn gynhenid hon yn amlwg yn peri pryder. Mae'n adolygiad ardderchog ac yn un tosturiol iawn, ac rwy'n gobeithio bod yr holl asiantaethau perthnasol wedi ystyried yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad hwnnw.

Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliadau'r Aelod dros Ganol De Cymru. Cefais gyfarfod â Charlie Taylor, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn yr ychydig wythnosau diwethaf i drafod y materion hyn gydag ef a sut yr awn i'r afael â throseddau ieuenctid. Mae'r dadansoddiad a ddisgrifiodd yr Aelod yn gwbl gywir a chredaf ei fod yn argyfwng sy'n rhaid i ni roi sylw iddo. Pan fydd yn darllen y glasbrint, pan gaiff ei gyhoeddi, yr wythnos nesaf, gobeithio, rwy'n gobeithio y bydd yn cael sicrwydd ein bod yn gwneud hynny. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i fynychu'r grŵp trawsbleidiol i drafod y materion hyn yn fwy manwl os yw'n dymuno i mi wneud hynny. Ond craidd fy nadansoddiad yw fy mod yn credu bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd lawer mwy cyfannol tuag at bolisi. Mae'r setliad toredig sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd yn rhwystr i hynny, a buaswn yn hoffi gweld y system gosbi a chyfiawnder troseddol yn cael eu datganoli i Gymru er mwyn ein galluogi i ddatblygu a mabwysiadu'r ymagwedd gyfannol honno tuag at bolisi.

Rhannaf y pryderon a amlinellwyd yma gan ganfyddiadau adroddiad diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru ar drais a hunan-niweidio mewn sefydliadau ieuenctid. Chi sy'n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond wrth gwrs, mae'r gwasanaethau eraill sy'n gweithredu yng ngharchar y Parc yn wasanaethau oedolion, ac maent yn perthyn i gylch gwaith San Steffan. Felly, yr hyn rydym ei angen yn fawr yw gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli. Nawr, mae hwnnw'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers cyn cof, ac mae'n braf gweld bod rhai o'n gwrthwynebwyr gwleidyddol bellach yn cefnogi'r ddadl honno. A fydd y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru o dan y Prif Weinidog nesaf? Ac a yw eich Llywodraeth wedi llwyddo i berswadio eich cymheiriaid Llafur yn San Steffan i gefnogi'r achos dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru? Oherwydd gwelais fod yna griw o ASau'r Blaid Lafur a oedd lawn mor amheus o ddatganoli â rhai o'r Torïaid yn ystod fy ymwneud â hwy ynghylch Rhan 2 o gomisiwn Silk.

15:00

Er gwaethaf ymdrechion yr Aelod o'r Rhondda, credaf ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno ar lawer mwy nag y byddai hi'n ei gredu o bosibl. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r lle hwn—

—ac i greu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi. Ar gais yr heddlu, rydym wedi creu bwrdd plismona i Gymru, a gyfarfu am y tro cyntaf fis diwethaf, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r heddlu. Rwyf wedi cyfarfod â'r Swyddfa Gartref ar nifer o achlysuron i fynd ar drywydd y materion hyn, ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd ar drywydd y materion hyn yn ogystal. Rwyf o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion rydym yn eu trafod y prynhawn yma yw mewn modd cyfannol yn y lle hwn. Dyna yw barn y Llywodraeth hon, a dyna fydd barn y Llywodraeth hon.

Cefnogi Cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ53057

Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rheini sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno bod fy natganiad diweddar ar y materion hyn yn adlewyrchu hynny.

Yn wir, rwy'n croesawu eich datganiad diweddar ac rwyf hefyd yn credu bod ein cyn-filwyr wedi cyflawni eu dyletswyddau dros ein gwlad, ac y dylem ni yn ein tro roi rhywbeth yn ôl iddynt felly, nid yn lleiaf mewn perthynas â'r modd y maent yn dychwelyd i fywyd sifil. Rhan o hynny wrth gwrs, yw ceisio dod o hyd i waith. Ond rwy'n credu bod cyflogaeth ystyrlon yn ganolog i'r daith honno, a chanfyddiadau hefyd y bydd yn cefnogi eu hiechyd meddwl. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud mwy wrthym am y llwybr cyflogaeth a gyhoeddwyd gennych ddoe fel rydych newydd ei ddweud.

Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi lansio'r llwybr cyflogaeth mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal ag elusennau milwrol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu opsiynau i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog o ran ble y gallant ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth i sicrhau cyflogaeth sy'n berthnasol iddynt hwy. Dylwn ddweud hefyd wrth yr Aelodau fy mod, cyn dod yma heddiw, wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer cyflogwyr, ochr yn ochr â Busnes yn y Gymuned ac eraill, i ategu'r llwybr cyflogaeth. Mae hwn yn ceisio sicrhau bod cyflogwyr eu hunain yn deall y manteision o gyflogi cyn-aelodau'r lluoedd arfog a sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cyfleoedd cyflogaeth gorau ar gyfer pawb sy'n gadael ein lluoedd arfog.

Fis diwethaf, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, er mwyn sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i greu'r swydd er mwyn sicrhau y gellir darparu'r strategaeth draws-Lywodraethol newydd ar gyfer cyn-filwyr yn y DU yn effeithiol?

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod y boblogaeth ddigartref yn cynnwys cyfran uwch o gyn-filwyr yn aml. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac mewn cymunedau gwledig, mae'n bosibl fod y bobl hyn yn llai tebygol o fod yn cysgu ar y stryd yn y pen draw, ond maent yn aml iawn mewn sefyllfaoedd ansicr iawn, yn mynd o soffa i soffa ac o un aelod teuluol i'r llall a mathau eraill o sefyllfaoedd. Pa drafodaethau rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r math hwn o ddigartrefedd cudd ymhlith y boblogaeth cyn-filwyr?

Un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cyfamod oedd er mwyn darparu adnoddau i'r rheng flaen pan fo'u hangen. Felly, byddwn yn gwario adnoddau sylweddol ar gefnogi'r rhwydwaith o swyddogion cyswllt awdurdod lleol ledled Cymru, sy'n darparu cymorth ar gyfer holl bersonél y lluoedd arfog, mewn perthynas â thai ac mewn ffyrdd eraill yn ogystal. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu darparu yr union wasanaethau y mae'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn eu disgrifio. Ac i mi, ac yn sicr i'r bobl rwy'n siarad â hwy ar hyn o bryd, maent eisiau gweld y lefel honno o adnoddau ar waith yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl. Rydym wedi clywed sawl gwaith yn ystod y sesiwn y prynhawn yma am yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau, ac felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych ar sut y gallwn ddarparu'r adnoddau hynny i'r rheng flaen er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y maent eu hangen. A dyna oedd y pwynt a wneuthum wrth ateb cais y Ceidwadwyr i greu comisiynydd, Lywydd. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw rhoi arian ar y rheng flaen, nid creu rhagor o fiwrocratiaeth yma. Cyfrifoldeb yr Aelodau yma yw dwyn Gweinidogion i gyfrif am y penderfyniadau a wnawn a'r gwasanaethau a ddarparwn, ac rwy'n credu bod y lefel honno o atebolrwydd democrataidd yn bwysig.

15:05
Y Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro? OAQ53037

Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2019-20. Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd arian pellach ar gael ar gyfer llywodraeth leol. Bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Pan godais y cwestiwn hwn flwyddyn yn ôl, roedd sir Benfro yn cael ei gorfodi i godi'r dreth gyngor 12.5 y cant—y cynnydd mwyaf yng Nghymru. Y flwyddyn hon, cafodd y gyllideb ddrafft ei chyflwyno ddydd Llun, ac o ganlyniad i hynny, disgwylir y bydd y dreth gyngor yn codi 10 y cant arall ac y bydd gwerth £15.5 miliwn o doriadau i wasanaethau. Cyn pennu'r gyllideb, roedd uwch swyddogion yn sir Benfro wedi rhybuddio y byddai angen i'r dreth gyngor godi 28 y cant er mwyn ateb anghenion gwasanaethau. Mae sir Benfro yn cael ei chosbi gan y setliad llywodraeth leol cyfredol ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw gymhelliant i gynghorau darbodus barhau i fod yn ddarbodus, oherwydd po uchaf yw eich treth gyngor, y mwyaf o arian a gewch gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf fi ychwanegu at apêl Helen Mary Jones yn gynharach a gofyn i chi ailystyried fformiwla'r setliad? Oherwydd nid cynghorau gwledig yn unig sy'n cael eu cosbi yn y modd hwn, mae unrhyw gyngor darbodus yn sicr o gael eu cosbi, oherwydd po uchaf yw eich treth gyngor, yr uchaf yw'r amcangyfrifon o anghenion ariannol, ac o ganlyniad, yr uchaf yw'r grantiau a gewch gan Lywodraeth Cymru, sy'n ymddangos yn groes i fel y dylai fod.

Sylwais ar sylwadau arweinydd Cyngor Sir Penfro ar y materion hyn mewn papur newydd yn ddiweddar. Hoffwn ddweud wrtho, ac wrth yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud nifer o benderfyniadau ar lefelau'r dreth gyngor dros nifer o flynyddoedd gan wybod yn iawn beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. A mater i etholwyr sir Benfro, nid mater i mi, yw penderfynu a oedd y penderfyniadau hynny'n rhai cywir ai peidio. Nid wyf yn credu bod arweinyddiaeth broffesiynol nac arweinyddiaeth wleidyddol sir Benfro yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny, ac yna dweud wrth y cyfryngau nad oedd ganddynt unrhyw syniad beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. Pa bryd bynnag y byddwn yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol, mae yna ganlyniadau, ac mae sir Benfro wedi penderfynu gostwng y dreth gyngor, mewn termau cymharol, dros nifer o flynyddoedd—sir Benfro sydd â'r dreth gyngor isaf yng Nghymru—ac o ganlyniad i hynny, maent bellach yn wynebu anawsterau gyda'u cyllideb. Mater i'r awdurdod ac etholwyr sir Benfro yw hwnnw.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn gan Suzy Davies.

Ysgolion Uwchradd Cymru

1. O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu'n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru? 242

Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi'n glir ein cynllun i godi safonau ar gyfer yr holl bobl ifanc yn ein hysgolion. Rydym yn darparu buddsoddiad mwy nag erioed i gefnogi datblygiad athrawon, i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac i wella capasiti arweinyddiaeth ac arferion da ar draws y system.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod bod Estyn yn dweud eu bod yn fodlon fod cynnydd wedi bod yn y sector cynradd. Ond rwy'n credu mai bradychu'r bobl ifanc hynny a wneir os ydynt wedyn yn symud ymlaen i ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion—ac rwy'n golygu'r rhan fwyaf—ar draws yr ystod oedran a'r ystod gallu, yn parhau i fethu datblygu sgiliau a gwybodaeth yn ddigon da, neu'n methu gwneud digon o gynnydd, neu'n cael trafferth i feddwl yn annibynnol, neu deimlo'n gyfrifol am eu dysgu eu hunain. Yn amlwg, daw'r dyfyniadau hynny o adroddiad Estyn.

Gyda hanner yr ysgolion yn tangyflawni, ac awgrym gan Estyn fod y bwlch rhwng ysgolion sy'n perfformio'n dda a'r rhai nad ydynt yn perfformio'n dda yn debygol o ehangu, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud, oherwydd ni fydd Donaldson yn weithredol tan 2022, sy'n genhedlaeth ysgol i ffwrdd bron, ac ni allwch aberthu'r garfan gyfredol hon i gyfnod arall o annigonolrwydd. Ac rwy'n credu mai chi fyddai'r cyntaf i ddweud hynny, pe baech yn eistedd ar unrhyw fainc arall heblaw am y fainc flaen yn y lle hwn.

Felly, yn gyntaf, yr ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig neu sydd angen gwelliant sylweddol o hyd: gofynnais i chi pa gamau roeddech wedi'u cymryd mewn perthynas â'r rhain yn ôl ym mis Medi, ac fe restroch chi nifer o gamau gweithredu, ond fe wnaethoch gyfaddef nad oeddech wedi arfer eich pwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd mewn ysgolion. O gofio canlyniadau'r adroddiad hwn, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn barod i wneud hynny bellach.

I rai o'r disgyblion—. Mewn traean o'r ysgolion a ymchwiliwyd gan Estyn, gwelsant fod disgyblion wedi ymddieithrio, nid oedd ganddynt lawer o ddiddordeb yn eu gwaith, byddent yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill, a bod prinder sgiliau dysgu annibynnol a beirniadol gan rai disgyblion blwyddyn 12, a olygai eu bod yn cael trafferth gyda'u pynciau Safon Uwch ac yn gadael yr ysgol ym mlwyddyn 12 mewn gwirionedd. Credaf fod nifer sylweddol o ddisgyblion yn methu cyflawni eu potensial gan nad yw eu galluoedd dysgu annibynnol a beirniadol yn cael eu datblygu'n gynharach yn eu haddysg. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n fy mhoeni y gallai'r disgyblion hyn fod yn ystyried mai methiant ar eu rhan hwy yw hyn, er mai methiant eu haddysg ydyw mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod rhai o'r ysgolion hyn angen y cymorth nad ydynt yn ei gael ar hyn o bryd. 

Nawr, ar ôl consortia, Her Ysgolion Cymru ac academi Cymru, sy'n siarad llawer am arweinyddiaeth, nid wyf yn credu eu bod wedi bod yn rhoi'r canlyniadau roeddech wedi gobeithio amdanynt. Felly, beth allwch chi ei wneud nesaf i sicrhau bod disgyblion blwyddyn 7 eleni yn camu ymlaen tuag at gyrraedd eu potensial yn hytrach na, wn i ddim, aros yn yr unfan neu fynd tuag yn ôl hyd yn oed? A allwch ddweud wrthym beth yw'r cynlluniau a ddiweddarwyd ar gyfer eich Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol? Roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig ddiddordeb mawr yn y syniad hwnnw eu hunain. Ac a wnewch chi rannu gyda ni yr atebion i'r cwestiynau miniog y byddwch yn siŵr o'u gofyn i'r consortia ar sail yr adroddiad hwn gan Estyn: pam nad ydynt wedi sbarduno'r newid mawr y gallem fod wedi'i ddisgwyl yn yr ysgolion hynny, yn enwedig gan eich bod wedi cytuno i roi £5 miliwn ychwanegol iddynt ar ganol blwyddyn o ganlyniad i le yn y gyllideb. Rwy'n awyddus iawn i glywed beth fydd yn digwydd i'n disgyblion yn awr, nid ar ôl 2022. Diolch.

15:10

Rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2017-18. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r adroddiad yn fanylach, ac wrth gwrs byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, a deallaf, Lywydd, fod hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer 19 Chwefror y flwyddyn nesaf.

Rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod y cynnydd a wnaed yn y sector cynradd, ond fi fyddai'r person cyntaf i ddweud nad yw'r cynnydd yn ein sector uwchradd yn ddigon da. Dywedaf hynny, nid yn unig oherwydd fy mod ar y meinciau hyn; dywedaf hynny fel rhiant sydd â phlant yn y system fy hun. Rwyf eisiau i'n holl blant fynychu ysgolion uwchradd da neu ardderchog yma yng Nghymru, a'n dull o weithredu yw cynorthwyo pob ysgol i fod yn dda ac yn rhagorol, yn hytrach na'r dull a welsom ar waith yn bendant iawn ddoe ar draws y ffin, pan gafodd £50 miliwn ei gyhoeddi i gefnogi 16 o ysgolion uwchradd dethol iawn yn unig. Dyna yw'r gwahaniaeth rhwng dull y Llywodraeth hon a'r dull y byddai'r Torïaid yn ei fabwysiadu, rhoi cefnogaeth i ysgolion penodol a phlant penodol, tra ein bod ni eisiau i'n holl ysgolion wneud yn dda.

Nawr, gadewch i mi fod yn gwbl glir am yr hyn a wnawn. Roedd yr adroddiad arolygu yn dweud ddoe fod angen i ni wneud mwy i gefnogi ein proffesiwn addysgu. Dyna pam y byddwn yn gwario £24 miliwn dros y 18 mis nesaf ar gefnogi dysgu proffesiynol ein staff. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf yn athrawon Cymru ers datganoli, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein holl addysgwyr, ym mhob ystafell ddosbarth, gystal ag y gallant fod.

Mae adroddiad Estyn hefyd yn cyfeirio'n gywir at wahaniaethau yn ansawdd yr arweinyddiaeth yn ein system. Dyna pam rydym wedi sefydlu'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ac a bod yn deg, Suzy, mae'n llai na blwydd oed, ac mae dweud nad yw wedi cyflawni yn annheg â'r bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod ein harweinwyr, ein penaethiaid newydd a'n darpar benaethiaid, gystal ag y gallent fod.

I mi, yr hyn sy'n gwbl allweddol yw ei bod hi'n rhy hwyr erbyn i ysgol gael ei rhoi mewn categori gan Estyn, naill ai mesurau arbennig neu welliant sylweddol. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol adnabod eu hysgolion yn ddigon da i allu ymyrryd yn gynt os ydynt yn amau bod ysgol yn cael trafferth i ateb anghenion ei disgyblion, ac ni ddylem adael i'r sefyllfa gyrraedd y pwynt o fod angen adroddiad arolygu gan Estyn i ddweud bod yr ysgol honno angen cymorth ychwanegol. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried opsiynau o ran beth arall y gallwn ei wneud i ymyrryd yn gynharach mewn ysgolion nad ydynt, o bosibl, yn ateb anghenion eu plant, ysgolion sy'n cael trafferth i ymdopi ac sy'n peri pryder. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i fonitro'r ysgolion hynny, ac rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol roi camau ar waith ar fyrder ar gyfer yr ysgolion sy'n peri pryder. Os ydynt angen mwy o gymorth i wneud hynny, naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y consortia rhanbarthol, byddaf yn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.

15:15

Pa mor heriol bynnag yw'r sefyllfa yng Nghymru, nid yw'n agos at fod mor heriol â'r sefyllfa sy'n wynebu disgyblion yn Lloegr, lle mae ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig yn cael eu gadael ar drugaredd y gwynt oherwydd bod rheidrwydd ar yr academïau i'w cymryd o dan eu hadain, ond mae'r academïau'n troi cefn arnynt. Nid ydynt yn cael eu harolygu gan arolygwyr ei Mawrhydi hyd yn oed, felly mae'n gwbl chwerthinllyd nad yw pobl ar y meinciau Ceidwadol yn gallu cydnabod ein bod mewn sefyllfa well o lawer.

Credaf fod adroddiad Estyn yn arweiniad da iawn o ran beth sy'n arferion da, ac mae ar ffurf darllenadwy iawn i'r holl arweinwyr ysgolion allu gwneud defnydd ohono. Nid yw'n wir o gwbl fod hanner yr ysgolion yn methu. Mae gennyf un pryder, sy'n ymwneud â diffyg darpariaeth blynyddoedd cynnar sy'n rhagorol. Gall hyn ymddangos yn bell iawn o addysg ysgol uwchradd, ond mewn gwirionedd, dyna ble y gallwn ddechrau mynd i'r afael ag anfantais amddifadedd. Mae'n wych fod gennym bellach bedair enghraifft o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar y bernir eu bod yn rhagorol, pedair yn fwy na'r llynedd, ond yn amlwg rydym angen llawer mwy.

O ran cefnogi rhagoriaeth yn ein haddysg uwchradd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddech, yn eich ymateb i adroddiad Estyn, yn ailystyried adfer Her Ysgolion Cymru. Nid fi yw'r unig un ar y meinciau hyn sy'n credu bod y rhaglen wedi'i diddymu cyn cael amser i wreiddio'r arfer o rannu arferion da sy'n amlwg iawn mewn nifer o'n hysgolion uwchradd ac sydd angen cael eu rhannu, yn enwedig gyda'r ysgolion sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Gwelsom pa mor ragorol a thrawsnewidiol oedd y rhaglen yn Llundain, felly roeddwn yn meddwl tybed a fyddech yn ystyried hynny.

Roedd y dystiolaeth yn gymysg mewn perthynas â'r rhaglen Her Ysgolion yng Nghymru. Yn sicr, elwodd rhai ysgolion o gyfranogi yn y rhaglen. Ceir rhai ysgolion sydd wedi methu gwneud y cynnydd y byddem wedi hoffi ei weld er gwaethaf yr adnoddau ariannol a'r cymorth ychwanegol sylweddol a gawsant. Unwaith eto, un o'r heriau gyda Her Ysgolion Cymru yw bod y cymorth hwnnw'n gyfyngedig i un grŵp o ysgolion, yn hytrach na dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ysgolion sy'n peri pryder.

Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod, Jenny, am yr argymhellion diddorol a gyflwynwyd gan Graham Donaldson yn ei adolygiad o Estyn, yr arolygiaeth. Ceir rhai sylwadau ynglŷn â sut y gallwn wella'r sefyllfa ar gyfer ysgolion sy'n cael eu categoreiddio neu sy'n destunau mesurau arbennig. I ormod o'r ysgolion hynny, nid yw'r cymorth sydd ar gael i'w helpu i wella'n gyflym yn gyson ac nid yw'n gwneud yr hyn yr hoffwn iddo ei wneud. Rwy'n dal i drafod gydag Estyn i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r ysgolion sy'n cael eu categoreiddio.

Rydym yn ymwybodol o rai elfennau hanfodol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella perfformiad ysgolion yn gyflym os ydynt yn y sefyllfa honno. Ond fel y dywedais, mae ysgol sydd wedi gorfod aros i gael ei rhoi mewn categori ffurfiol gan Estyn wedi aros yn rhy hir am gymorth. Mae angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i gael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn nodi problemau yn gynt, a sut y gallwn ddarparu cymorth i'r ysgolion hynny cyn i Estyn ddod i mewn a dweud bod angen iddynt wella.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 1938—daeth miloedd o bobl ynghyd yn y pafiliwn yn Aberpennar, gan gynnwys fy mam-gu fy hun, a fyddai'n diddanu'r teulu am flynyddoedd lawer wedyn drwy sôn am y seren anhygoel a dawnus a welodd yno. Daethant i fynychu cyfarfod coffa a chyngerdd Cymreig cenedlaethol i anrhydeddu 33 o aelodau'r Frigâd Ryngwladol o Gymru—dynion a roddodd eu bywydau'n ymladd yn erbyn ffasgaeth ac i amddiffyn democratiaeth yn rhyfel cartref Sbaen, ac un o'r rhai a ymddangosodd yn y cyngerdd hwnnw oedd y canwr a'r actor Americanaidd enwog, Paul Robeson. Roedd Robeson yn fab i gyn-gaethwas, yn dalentog yn y byd chwaraeon a'r byd academaidd, ond dewisodd ddilyn gyrfa yn y celfyddydau, gan ennill clod am ei rolau ar lwyfan ac ar sgrin. Yn ystod y 1930au, daeth Robeson i gysylltiad cynyddol ag achosion gwleidyddol. Roedd ei gefnogaeth i'r ochr weriniaethol yn Sbaen yn ganolog i hyn. Roedd Robeson yn ystyried hwn yn drobwynt yn ei fywyd. Wrth siarad mewn cyngerdd dros ffoaduriaid Sbaen, datganodd:

Mae'n rhaid i'r canwr ddewis ochr. Mae'n rhaid iddo ddewis ymladd dros ryddid neu dros gaethwasiaeth.

Yn ystod y degawd hwnnw hefyd, ffurfiodd gysylltiadau gydol oes â chymunedau glofaol de Cymru. Perfformiodd mewn clybiau glowyr, canodd mewn cyngerdd i godi arian i gronfa gymorth y glowyr a chwaraeodd y brif ran yn The Proud Valley. Gwnaeth ei gysylltiad â'r cymunedau hyn ymgyrchwr ohono fel y gwnaeth rhyfel cartref Sbaen, a ddydd Gwener, 80 mlynedd ers y cyngerdd yn y pafiliwn, byddaf yn agor arddangosfa yng nghlwb y gweithwyr Aberpennar i ddathlu'r digwyddiad hanesyddol hwn a'r cysylltiad rhyfeddol ar draws yr Iwerydd rhwng Robeson a glowyr de Cymru.

15:20

Diolch, Lywydd. Ddoe, ffarweliwyd â'r Athro Mike Sullivan, cyfarwyddwr Academi Morgan Prifysgol Abertawe, sosialydd a Chymro. Cafodd Mike ei fagu mewn teulu dosbarth gweithiol yn Rhisga, ac ef oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i brifysgol. Graddiodd o Rydychen, a bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cyn dechrau gyrfa academaidd nodedig, yng Nghaerdydd yn gyntaf, ac yna yn Abertawe. Gwasanaethodd yma fel ymgynghorydd arbennig i'r Blaid Lafur yn ystod cyfnod Llywodraeth Cymru'n Un, gan sicrhau bod y fersiwn orau posibl o Ddeddf Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cael ei phasio. Ar ôl iddo ddychwelyd i Abertawe, chwaraeodd Mike ran allweddol yn y gwaith o godi proffil rhyngwladol y brifysgol, gan gychwyn y berthynas â'r Ysgrifennydd Clinton, a sefydlodd Academi Morgan, a gafodd ei henwi ar ôl Rhodri Morgan.

Roedd Mike yn gynnes ac yn dosturiol, ond gallai fod yn gadarn pan oedd angen iddo fod. Roedd ei angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a thros Gymru yn llywio popeth a wnâi. Roedd ganddo ddawn i fod yn gyfaill, a gwn fod llawer yn y Siambr hon, Lywydd, yn falch o'i alw'n ffrind.

Bu Mike farw'n rhy fuan. Mae'n gadael ei wraig Jane, eu mab Ciaran a'i lysblant, ac mae eu colled yn anfesuradwy. I'r rhai ohonom a oedd yn ei adnabod, bydd bywyd Mike yn ein hysbrydoli wrth i ni weithio i adeiladu'r Gymru a'r byd y credai eu bod yn bosibl, a chyda'i brifysgol annwyl, sy'n wynebu heriau ar hyn o bryd, rydym yn addo diogelu ei waddol.

Yr wythnos hon yw Wythnos Dysgu Gydol Oes y Sylfaen Dysgu Gydol Oes. Dyma'r gymdeithas sifil ban-Ewropeaidd ar gyfer addysg, sy'n defnyddio'r wythnos hon i ddod â phartneriaid o bob cwr o Ewrop at ei gilydd i annog ac i siarad am syniadau ar gyfer meithrin dysgu gydol oes. O gofio bod ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gall Cymru barhau i chwarae rôl mewn rhaglenni ymgysylltu Ewropeaidd fel hon. Mae cyfnewid syniadau a gweledigaethau yn y maes hwn yn gallu ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio orau mewn gwledydd eraill, a sut y gall weithio yma hefyd. Gallwn ddysgu oddi wrth ein cyd-wledydd llai o faint sydd wedi llwyddo i wella a datblygu fframwaith dysgu gydol oes o'r crud i'r bedd go iawn. Mewn cenedlaethau blaenorol, roedd bywyd yn aml yn dilyn patrwm ysgol, gyrfa, ymddeol. Nid yw hyn yn wir mwyach, ac mewn byd lle rydym yn wynebu heriau yn sgil awtomatiaeth, cystadleuaeth gan wledydd o amgylch y byd ac economi hyblyg sy'n esblygu'n gyflym, mae'n rhaid i ni roi pwyslais ar ddysgu a hyfforddiant ar unrhyw oedran, a hyrwyddo meddylfryd sy'n pwysleisio'n gyson nad oes neb byth yn rhy hen i ddysgu sgil newydd neu i fynd ar drywydd diddordeb newydd.

Mae'r Sylfaen Dysgu Gydol Oes yn credu y dylid disgrifio amcan addysg ac hyfforddiant, nid yn unig o ran cyflogadwyedd neu dwf economaidd, ond hefyd fel fframwaith ar gyfer datblygiad personol ac er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad a dinasyddiaeth weithredol. Yn y dyfodol, ni waeth beth yw ein sefyllfa yn Ewrop, credaf ei bod yn hanfodol i ni gefnogi ac ariannu dysgu gydol oes yma yng Nghymru fel y gallwn gefnogi'r ased hanfodol hwn ar gyfer ein gwlad.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i'r Cynulliad, o dan Reol Sefydlog 22.9. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig, Jayne Bryant. 

Cynnig NDM6890 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Gareth Bennett AC. Roedd y gŵyn yn ymwneud â'i fethiant i gydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau ar y defnydd o adnoddau'r Cynulliad, gan roi enw drwg i'r Cynulliad, sy'n torri'r cod ymddygiad.

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi ystyried adroddiad y comisiynydd yn ofalus, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor mewn perthynas â'r gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhellion y pwyllgor.

15:25

Nid oes siaradwyr yn y ddadl yma. Rydw i'n siŵr, felly, nad yw'r Aelod eisiau ymateb i'r ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Perfformiad Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Ac i gyflwyno'r ddadl, rydw i'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig. Paul Davies.

Cynnig NDM6892 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:

a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;

b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;

c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;

d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;

e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;

f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;

g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;

h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;

i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;

 j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a

 k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.

 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch Lywydd. A ninnau ar fin clywed yfory pwy fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru, mae'n amserol i ni fyfyrio ar berfformiad Llywodraeth Cymru o dan arweiniad y Prif Weinidog cyfredol—y llwyddiannau, y methiannau a'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Mater i eraill fydd rhoi barn ar waddol y Prif Weinidog, ond heddiw rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar bolisi a'r bwlch cynyddol rhwng addewidion a chyflawniad.

Am wyth a hanner o naw mlynedd y Prif Weinidog, cafwyd Prif Weinidog Ceidwadol yn Stryd Downing, ac i'r Gweinidogion yma, mae'r demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth plaid wedi bod yn rhy gryf. Yn rhy aml, mae Prif Weinidog Cymru wedi chwarae rôl arweinydd yr wrthblaid i Lywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu fel arweinydd Llywodraeth yma yng Nghymru. Yn ymgyrch y Blaid Lafur ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2011, prin y cafodd meysydd datganoledig eu crybwyll, gan eu bod yn awyddus i fanteisio ar y lefelau isel o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â beth oedd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

Nawr, wrth gwrs, byddai'n anfoesgar imi beidio â chydnabod bod yna rai llwyddiannau wedi bod dros y naw mlynedd ddiwethaf a rhai mannau lle y cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau: mae'r cynllun i godi tâl o 5c am fagiau siopa, a gyflwynwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi helpu i newid ymddygiad siopwyr ac mae wedi lleihau nifer y bagiau siopa untro sydd mewn cylchrediad; cafodd y Mesur hawliau plant a'r system sgorio hylendid bwyd eu cyflwyno yn ystod y naw mlynedd diwethaf hefyd. Llwyddodd pob plaid i weithio gyda'i gilydd ar y refferendwm llwyddiannus i sicrhau mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad—penderfyniad a ddilynwyd gan ddatganoli treth, a rymusodd y Siambr hon i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer pobl Cymru. Mae'r llwyddiannau hynny, yn anffodus, wedi bod yn brin iawn.

Mae record Llywodraeth Cymru ers 2009, yn anffodus, yn un o fethiant a chyfleoedd a gollwyd, ac mae hynny'n arbennig o wir yn achos y gwasanaeth iechyd gwladol. Er iddo ymgyrchu ar sail maniffesto arweinyddiaeth a oedd yn addo diogelu gwariant ar iechyd, Carwyn Jones yw'r unig un o arweinwyr unrhyw blaid wleidyddol fodern yn y DU i orfodi toriadau mewn termau real i'r GIG. Yng nghyllideb gyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog, cafwyd toriad o £0.5 biliwn i'r GIG yng Nghymru. Erbyn 2014, roedd y gyllideb iechyd bron 8 y cant ar ei cholled mewn termau real, sy'n cyfateb i £1 biliwn.

Nid yw'r GIG wedi gallu dod dros effaith toriadau'r Blaid Lafur i'r gyllideb o hyd. Heddiw, mae byrddau iechyd yn wynebu'r diffyg cyfunol uchaf erioed, sef £167.5 miliwn. Mae'r effaith ar amseroedd aros a safonau wedi bod yn drychinebus. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yng Nghymru yn aros am fwy na 36 wythnos rhwng diagnosis a dechrau triniaeth. Eto i gyd, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 13,673 erbyn heddiw. O'r rhain, mae mwy na 4,000 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth ar hyn o bryd. Pan ddaeth Carwyn Jones i'w swydd, roedd 224,960 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dyblu i 443,789 o gleifion.

Mewn naw mlynedd, ceir rhai targedau perfformiad allweddol nad ydynt wedi cael eu cyrraedd unwaith. Nid yw'r targed i sicrhau bod 95 y cant o gleifion adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn pedair awr wedi ei gyrraedd ers 2009, ac mae perfformiad yn gwaethygu. Ym mis Hydref eleni, 80 y cant yn unig a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam, 54 y cant yn unig oedd y ffigur hwnnw—y gwaethaf erioed.

Yn frawychus, mae nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi codi 4,000 y cant ers 2009. Yn gynharach eleni, disgrifiodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y sefyllfa yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru fel un 'enbyd' ac 'arswydus' a bod y profiad i gleifion 'yn anniogel, yn anurddasol ac yn ofidus'. Mae capasiti yn y GIG wedi crebachu gyda nifer y gwelyau'n gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn nes ei bod yn is nag erioed heddiw—2,000 yn llai o welyau nag yn 2009, ac mewn rhai byrddau iechyd, mae cyfradd gyfartalog defnydd gwelyau yn torri'r terfynau diogel ar sail ddyddiol. Mae'r dirywiad hwn ym mherfformiad y GIG wedi cyd-daro â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru i barhau i israddio a chanoli gwasanaethau'r GIG, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach am ofal hanfodol, a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau a gedwir. Toriadau, cau ac israddio—dyna a welsom yn y GIG ers mis Rhagfyr 2009.

Nawr, yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, ymrwymodd y Prif Weinidog i wario 1 y cant yn fwy na'r grant bloc ar addysg bob blwyddyn hyd nes y byddai'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ddileu. Mae naw mlynedd wedi bod ers hynny ac mae'r bwlch ariannu'n dal i fodoli, ac mae'r gyllideb addysg 7.9 y cant yn llai mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2011. Yn y 10 mlynedd hyd at 2016, caewyd 157 o ysgolion, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru, ac ar draws y wlad heddiw, mae 40 y cant o ysgolion yn wynebu diffyg yn eu cyllideb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar ysgolion yn Lloegr. Mae perfformiad TGAU wedi dirywio ers 2009, gyda'r safon aur o bum gradd A* i C yn gostwng eleni i'w lefel isaf ers 2005. Mae Cymru wedi mynd ar i lawr ym mhrofion Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda sgoriau gwaeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, gyda'r canlyniadau diweddaraf yn rhoi Cymru yn hanner gwaelod system raddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a hi yw'r wlad â'r sgôr isaf yn y DU. Mae targedau ac amserlenni i wella safle system addysg Cymru i gyd wedi cael eu hanghofio, eu diddymu a'u newid yn ddistaw bach i guddio'r methiannau.

O dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog cyfredol, mae targed arall, i Gymru gyrraedd 90 y cant o werth ychwanegol gros cyfartalog y DU erbyn 2010, wedi cael ei anghofio. Cymru sydd â'r twf cyflog isaf o holl wledydd y DU o hyd. Mae cyfleoedd i greu'r amodau ar gyfer twf busnesau bach cynhenid a mwy o fewnfuddsoddi wedi cael eu colli wrth geisio rheoli a gor-drethu busnesau. Mae trefn ardrethi busnes Llywodraeth Cymru wedi arwain at y gyfradd uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr, gyda gormod o adeiladau gwag ac adeiladau wedi'u bordio. Bellach, Cymru yw'r rhan ddrutaf yn y DU ar gyfer gwneud busnes. Fodd bynnag, mae'n dda gweld, o'r sylwadau ddoe yn y ddadl ar y gyllideb, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ar ein galwadau am gamau gweithredu mewn perthynas â hyn. Serch hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dal i fethu cydnabod bod economïau treth isel yn fwy hyfyw, yn fwy cystadleuol, ac mewn gwirionedd, yn cynhyrchu mwy o refeniw oherwydd bod hynny'n ei gwneud hi'n haws sefydlu busnes. Dylai creu amodau i fusnesau allu ffynnu, a lle y caiff buddsoddwyr eu denu i ymsefydlu yng Nghymru, fod wedi cael llawer mwy o flaenoriaeth dros y naw mlynedd ddiwethaf, er mwyn ysgogi twf a chynyddu lefelau ffyniant.

Mae Llafur wedi methu darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas i'r diben, felly nid oes dewis amgen yn lle'r car o hyd. Ni allwn fesur llwyddiant neu fethiant y fasnachfraint newydd eto, ond mae'n deg dweud bod y dyddiau cynnar wedi bod yn simsan ar y gorau. Mae nifer o brosiectau ffyrdd mawr wedi cymryd mwy o amser nag y dylent o ganlyniad i din-droi gan Weinidogion, tra bod llawer o'r rhai a adeiladwyd wedi gweld gorwario enfawr, gan gynnwys y gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Mae signalau ffonau symudol a seilwaith band eang annigonol yn parhau i fod yn broblem, o ganlyniad i gynnydd araf ar fynd i'r afael â mannau gwan.

Byddai creu'r amodau ar gyfer twf economaidd wedi helpu i fynd i'r afael â thlodi cylchol, sy'n dal i ddifetha gormod o'n cymunedau. Mae'r addewid blaengar i gael gwared ar dlodi plant wedi cael ei anghofio, tra bo tystiolaeth yn dangos na chafodd y cannoedd o filiynau o bunnoedd a arllwyswyd i mewn i Cymunedau yn Gyntaf unrhyw effaith ar lefelau ffyniant, ac ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae'r cymunedau hyn yn dal i fod mor dlawd ag erioed.

Mae'r Prif Weinidog cyfredol wedi sicrhau bod perchentyaeth y tu hwnt i gyrraedd llawer, ac wedi gwadu'r hawl i denantiaid tai cymdeithasol brynu eu heiddo. Mae adeiladu tai wedi cael ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth, gan greu argyfwng cyflenwad tai sydd wedi codi prisiau a'i gwneud yn anos i bobl gamu ar yr ysgol eiddo. Yn anffodus, mae hon wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi gwario biliynau ar drin symptomau tlodi yn hytrach na buddsoddi'n briodol yn yr agenda ataliol i sicrhau rhagolygon gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r olaf. Mae'r naw mlynedd diwethaf wedi'u difetha gan gamreoli, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, heb sôn am sgandalau Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru a Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru gyfan, gan ddiffyg penderfyniad a diffyg gweithredu ynglŷn â diwygio ardrethi busnes, ffordd liniaru'r M4, a diffyg adeiladu tai, a phenderfyniadau gwael, torri cyllideb y GIG a diddymu'r hawl i brynu.

Er mwyn y 3 miliwn o bobl rydym yn eu gwasanaethu, mae angen syniadau gwreiddiol, ymagwedd ffres ac arweinyddiaeth newydd ar Gymru. Er fy mod yn dymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn y dyfodol, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed fod Cymru angen Llywodraeth newydd i gyflawni ei gwir botensial, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod:

a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos

b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen

c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed

d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018

e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010

f) Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015

g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017

h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2%  o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt—y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU

i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl

j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

2. Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n deall, wrth gwrs, beth fyddai'n cymell y Ceidwadwyr i gyflwyno cynnig fel hyn. A ninnau'n dod at ddiwedd amser y Prif Weinidog presennol, mi allem ni fod wedi cyflwyno rhestr o fethiannau—fel yr ydym yn eu gweld—gan y Llywodraeth ein hunain. Ond rydw i'n meddwl ei bod yn dweud llawer am y Ceidwadwyr, yn y rhestr hirfaith yma, nad oes yna gyfeiriad at dlodi plant, digartrefedd, allyriadau carbon, ac yn y blaen. Mae Llywodraeth Cymru, drwy eu gwelliant nhw, yn ymateb yn y ffordd, mae'n siŵr, y gallem ni fod wedi ei ddisgwyl: yn rhestru rhes hir o ystadegau heb gyd-destun, neu wedi cael eu defnyddio—waeth i ni fod yn blaen—mewn modd camarweiniol, a hynny er mwyn cyfiawnhau eu gweithredoedd. Gallaf i gyfeirio yn benodol at yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy y maen nhw'n cyfeirio atyn nhw. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys cartrefi wedi eu gwerthu drwy Gymorth i Brynu—Cymru, cynllun lle mae traean y tai wedi eu gwerthu dros £200,000 mewn pris, sydd ddim yn gallu cael ei roi dan bennawd 'fforddiadwy', pa bynnag ffordd yr ydych chi'n edrych arno fo.

Felly, mi adawn ni i'r Ceidwadwyr a Llafur chwarae eu ping-pong nhw heddiw. Mi fyddwn ni yn ymatal yn y bleidlais yma, ond mi wnaf i ddefnyddio'r cyfle yma i wneud ychydig o sylwadau fy hun hefyd—nid wrth restru yn y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud, mor foel a diddychymyg, ond wrth edrych ar rai o'r ffactorau sylfaenol yna sydd yn broblematig, rydw i'n meddwl, yn y ffordd y mae Llafur, dan y Prif Weinidog yma, wedi ceisio llywodraethu Cymru. Mae'n nhw'n batrymau ac yn themâu cyson, sydd wedi cael eu hadlewyrchu mewn cyfresi o adroddiadau pwyllgor, gan yr archwilydd cyffredinol, gan lawer o'r amrywiol gomisiynau a grwpiau gorchwyl a gorffen y mae'r Llywodraeth wedi eu creu i guddio'u diffyg gweithredu.

A dyna lle wnaf i ddechrau, o bosib—yr holl grwpiau gorchwyl a gorffen, y paneli adolygu yma, llawer ohonyn nhw yn ddiangen, ac yn hytrach—maen nhw'n cael eu gweithredu dro ar ôl tro ar ôl tro, yn berffaith blaen fel tacteg oedi, yn hytrach na gwneud penderfyniadau. Ystyriwch ddigartrefedd a'r cwestiwn o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, sydd bellach yn destun adolygiad. Pam adolygiad arall? Mi gomisiynodd y Llywodraeth Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith ddigartrefedd nôl yn 2012, a'r argymhelliad oedd i ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid oes yna ddim byd wedi digwydd o hyd, a beth sy'n digwydd ydy bod pobl yn dal, y gaeaf oer yma, i gysgu allan, yn marw ar ein strydoedd ni, oherwydd oedi gan y Llywodraeth cyn cyrraedd penderfyniad.

Mae yna themâu eraill hefyd. Targedau—mae yna gyfeiriad yn y cynnig ei hun, ac yng ngwelliannau y Llywodraeth, at dargedau. Rydym ni'n gallu gweld beth sy'n digwydd o ran targedau: mae targedau y Llywodraeth yma, dro ar ôl tro, yn cael eu gosod yn is na'r Alban a Lloegr—yn dal i gael eu methu, gyda llaw—fel ymgais i wneud i'r Llywodraeth edrych fel pe bai nhw yn perfformio. Diffyg uchelgais ydy'r broblem graidd yn y fan hyn, rydw i'n meddwl. Cymerwch honiad y Llywodraeth yn y gwelliant bod bron i naw o bob 10 claf yn cael ei drin o fewn 26 wythnos: wel, 77 y cant ydy'r ffigur hwnnw go iawn, ar gyfartaledd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl StatsCymru, nid naw allan o bob 10. Yn yr Alban a Lloegr, 18 wythnos ydy'r targed, ac, o leiaf yn yr Alban, mae bron i naw mewn 10 claf wir yn cychwyn ar eu triniaeth o fewn 18 wythnos.

Problem arall: amharodrwydd y Llywodraeth yma i ddysgu o arfer da. Mi ddywedodd Comisiwn Williams bod arfer da yn teithio yn wael dan law y Llywodraeth yma. Faint o weithiau a ydym ni wedi clywed am yr arferion da ar raddfa fach sydd wedi methu â chael eu hehangu neu eu rowlio allan? Mi allwn i fynd ymlaen—mae amser yn brin.

Un peth a wnaeth fy nharo i'n gynharach y prynhawn yma—un o broblemau sylfaenol y Llywodraeth yma ydy eu hamharodrwydd nhw i arwain. Dilyn y mae'r Llywodraeth yma, yn llawer iawn yn rhy aml. Ac roeddwn i'n clywed un Ysgrifennydd Cabinet yn siarad yn gynharach am ei gefnogaeth bybyr o i ddatganoli heddlu a'r drefn gyfiawnder. Wel, grêt—rydw i wrth fy modd yn gweld y Llywodraeth yma'n cefnogi hynny rŵan, ond tu ôl i'r curve fel bob amser, ac rydym ninnau ym Mhlaid Cymru yn falch mewn un ffordd o weld y Llywodraeth yn ein dilyn ni ac yn cefnogi'n safbwynt ni ar hynny neu ar dreth ar ddiodydd â siwgr ynddyn nhw ac ati, ond o mae o'n rhwystredig o weld Llywodraeth yn colli cyfleon i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. 

I'r Ceidwadwyr, gwrandewch, dewch â'ch syniadau eich hunain i'r bwrdd hefyd. Nid ydy rhestr negyddol fel hyn, heb gynnig syniadau yn eu lle nhw, byth yn edrych yn dda yng ngolwg y cyhoedd. 

15:40

Gwaddol y Prif Weinidog sydd o dan y chwyddwydr heddiw. Rydym ond newydd lunio ein polisi ein hunain yr wythnos hon ar sut i wella tai a darpariaeth ar gyfer hynny yng Nghymru, felly ni allwch ddweud nad oes gennym syniadau. Ond nid heddiw yw'r dydd ar eu cyfer hwy. Byddwch yn cael digon gennym dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—peidiwch chi â phoeni am hynny.

Yn ôl y disgwyl, wrth gwrs, pe bai'r Prif Weinidog wedi bod yma heddiw, byddai wedi ceisio ymateb i'r diffygion yn ei Lywodraeth drwy roi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mae addysg wedi'i ddatganoli'n llwyr ers 20 mlynedd, ac mewn gwirionedd—a chredaf fy mod yn fwy tebygol o gael hyn gennych chi, arweinydd y tŷ—byddai'n well gennyf glywed dadansoddiad o'r hyn y credwch sydd wedi mynd yn iawn neu wedi mynd o chwith o dan ei oruchwyliaeth ef mewn perthynas ag addysg.

Gallaf sôn yn gyflym am arian, gan fod cysylltiad yno â Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, tôn gron Llywodraeth Cymru ynglŷn â diffyg arian—rydym ni'n dweud cynnydd mewn cyllid o un flwyddyn i'r llall; rydych chi'n dweud toriadau mewn termau real. Ond mae'r ddau safbwynt yn codi cwestiwn ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwario'r hyn a gaiff ar roi'r cyfle cyntaf i blant gael gwell dyfodol. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, cydnabu'r Prif Weinidog fod addysg yng Nghymru yn cael bargen wael gan ei Lywodraeth ei hun ar y pwynt hwnnw, ac nid Llywodraeth y DU oedd honno. Roedd ei gynnig yn cynnwys ymrwymiad, ac rwy'n dyfynnu, 'i wario 1 y cant yn fwy na’r grant bloc bob blwyddyn hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle bydd cyllid y pen disgyblion yma yn gydradd â'r hyn a geir yn Lloegr'.

Wel, naw mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i fod heb gael cyllid y pen i ddisgyblion sy'n gydradd â Lloegr, ac mae ffigurau Lloegr ei hun wedi gostwng yn y cyfamser. Yr hyn a gawsom yn y cyfnod hwnnw, yn sicr ers i mi fod yma, yw gostyngiad mewn termau real o 7.9 y cant—a chi sy'n hoffi ffigurau mewn termau real—o ran y gwariant gros a gyllidebwyd ar gyfer addysg, a thoriad o 7.5 y cant mewn termau real yn y gwariant fesul disgybl. Rydych yn cael 20 y cant yn fwy i'w wario fesul disgybl nag yn Lloegr, ac eto, ers blynyddoedd, rydych wedi gwario llai fesul disgybl nag yn Lloegr. Ni ellir gwadu hynny, ac rydym mewn sefyllfa bellach lle mae cynghorau Llafur yn dweud nad ydynt yn gallu diogelu gwariant ar ysgolion. Cafodd Llywodraeth Cymru naw mlynedd i gadw at yr addewid yr etholwyd y Prif Weinidog arno, yn gyntaf fel arweinydd ei blaid, ac yna fel arweinydd y wlad, ac ni chadwyd at yr addewid hwnnw. Yn ei dermau ei hun, mae hynny'n fethiant.

Ond nid oes a wnelo addysg ag arian yn unig, rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl hynny; mae'n ymwneud â diwylliant ehangach o safonau cystadleuol, creu gweithlu bodlon ac uchelgeisiol, gan gynnwys yr addysgwyr eu hunain, ac yn fwyaf oll, plant ac oedolion cryf, iach, creadigol sydd â diddordeb yn y byd ac sy'n awyddus i gyfrannu ato hyd eithaf eu gallu. Ac er bod angen arian ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae a wnelo llwyddiant addysg lawn cymaint â'r athroniaeth a'r cyfeiriad polisi. Mae effeithiau blynyddoedd o bolisi Llafur—wel, rydym wedi eu hailadrodd lawer gwaith; soniodd Paul Davies am rai ohonynt. Am y pedwerydd tro mewn degawd, rydym ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU mewn perthynas â chanlyniadau PISA—gyda'r rhai mwyaf diweddar hyd yn oed yn waeth nag yn 2009—yn benodol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a graddau TGAU A i C eleni, a oedd unwaith eto'n waeth na'r llynedd, sef y flwyddyn isaf o ran cyflawniad ers 2006, roedd mathemateg, Saesneg, bioleg, cemeg a ffiseg, yn ogystal â Chymraeg iaith, yn adlewyrchu'r canlyniadau PISA hynny, er eu bod wedi eu mesur mewn ffordd hollol wahanol. Mae 45 o sefydliadau addysg ledled Cymru yn destunau mesurau arbennig neu angen eu gwella'n sylweddol; mae un ohonynt yn y sefyllfa honno ers pedair blynedd. Fel y dywed Estyn yn yr adroddiad ddoe:

'Er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio... nid oes digon yn cael ei wneud i’w cynorthwyo',

sef yr ysgolion hyn, neu i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ar gyfer ysgolion. A chyda chymaint o ymdrech ac arian yn mynd tuag at y mentrau amrywiol hyn, yn enwedig mewn perthynas â safonau—rydym yn sôn am gonsortia rhanbarthol, Her Ysgolion Cymru; roedd Jenny Rathbone yn sôn am hynny yn gynharach—pam fod mwy na hanner ein hysgolion uwchradd yn dal i gael adroddiadau arolygu nad ydynt yn dda neu'n rhagorol? Nawr, mae hwn yn fethiant o un flwyddyn i'r llall ers i mi fod yn y lle hwn.

Aeth miloedd o rieni a neiniau a theidiau plant a phobl ifanc drwy system addysg a oedd yn ennyn cenfigen a pharch, nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd, a bellach, nid yw'r plant hynny'n cael yr un fraint, gan fod y sytem yn cael ei gweithredu gan weinyddiaeth Lafur esgeulus, mea culpa hwyr gan y Prif Weinidog ac ymagwedd fiwrocrataidd tuag at godi safonau. Ni fydd dweud bod gan fwy o bobl ifanc gymwysterau TGAU, neu gymwysterau cyfatebol, nag yn y 1990au yn ddigon. Nid yn unig fod hynny'n wir am weddill y DU, ond mae gweddill y DU wedi gwneud gwaith gwych o gymharu. Wrth ymgymryd â'r portffolio hwn rwy'n wynebu tswnami o adolygiadau—tswnami o adolygiadau—ac ar hynny, gyda llaw, os ydych am fwy o arian—nid wyf yn gwybod ble mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd—mae'n bryd i chi dorchi llewys mewn perthynas ag adolygiad Reid. Mae digon o arian yn aros amdanom yno, os dilynwch yr argymhellion hynny.

Credaf fod y llu o adolygiadau yn arwydd fod Llywodraeth Cymru yn derbyn ei bod wedi gwneud llanastr o bethau ers amser maith, a bod yn rhaid dechrau o'r dechrau. Yn sicr, mae'n teimlo felly. I'n pobl ifanc a'u dyfodol, fodd bynnag, nid yw newid arweinydd plaid yn golygu newid o ran sylwedd. Ni wnaiff yr holl adolygiadau yn y byd newid unrhyw beth tra bo'r un llaw farw ar y llyw wrth i long Llafur Cymru suddo.

15:45

Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. O dan y Blaid Lafur, mae pobl Cymru wedi gorfod dioddef gwasanaeth iechyd diffygiol, system addysg sy'n methu a pholisïau economaidd a llywodraeth leol nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr busnes o gwbl. Unwaith eto, mae Llafur wedi cynnig cyfres o welliannau sy'n dangos eu bod yn gwadu'r problemau a achoswyd ganddynt yn llwyr, ac yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud mai eu tueddiad i wadu sy'n peri i lawer o'r problemau barhau.

Mae Llywodraeth Cymru yn brolio ym mhwynt e) eu gwelliannau fod myfyrwyr Safon Uwch wedi cael y canlyniadau gorau eleni ers 2010. Mae hwnnw'n newyddion da, wrth gwrs, ond mae canlyniadau PISA 2016, fel y crybwyllwyd eisoes, yn rhoi darlun braidd yn wahanol i'r un hyfryd a ddisgrifir yng ngwelliant y Blaid Lafur. Roedd y canlyniadau mewn darllen a gwyddoniaeth yn waeth yn 2016 nag yr oeddent yn 2006, ac er bod gwelliant ymylol wedi bod mewn mathemateg, gwahaniaeth o chwe phwynt yn unig mewn 10 mlynedd ydoedd, a go brin fod hynny'n welliant syfrdanol.

Yng Nghymru, mae canran y disgyblion yr ystyrir eu bod yn cyflawni ar y brig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn llai na hanner y ffigur cyfatebol dros y ffin yn Lloegr. Mae llythrennedd a rhifedd yn elfennau hanfodol o addysg, ac os na all Llywodraeth Lafur Cymru sicrhau bod disgyblion yn ddigon llythrennog a rhifog i'w galluogi i ddysgu'r sgiliau a'r disgyblaethau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ac i fod yn annibynnol yn ariannol fel oedolion, prin fod gobaith y gallant wneud unrhyw beth arall yn iawn chwaith.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael trefn ar ei blaenoriaethau a chanolbwyntio ar y pethau sylfaenol yn lle ceisio beio rhieni, gorchymyn pa werthoedd a ddysgir i blant ac ymyrryd â deinameg y berthynas rhwng rhiant a phlentyn heb unrhyw reswm dros wneud hynny ar wahân i nodi gwerthoedd ac agwedd elitaidd eu bod yn gwybod yn well na'r rhieni. Nid yw'n adlewyrchu'n dda ar eu gallu i lywodraethu os yw rhywbeth sydd ar ei orau ers saith neu wyth mlynedd yn dal i fod yn waeth na'r hyn ydoedd 12 mlynedd yn ôl.

Ym mhwynt f), maent yn dweud bod incwm gwario yn 2016 yn uwch nag yn 2015, ac ym mhwynt g), maent yn dweud bod cyflogau wedi cynyddu 2.1 y cant. Gallai hyn swnio'n gadarnhaol iawn hyd nes y cofiwch eu bod wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 20 mlynedd. Mae'r ymffrost ynglŷn â chodiadau cyflog yn eithriadol o wirion pan ystyriwch fod chwyddiant yn 2.4 y cant ar hyn o bryd. Mewn termau real, mae gweithwyr Cymru wedi cael toriad cyflog, ond mae Llafur nid yn unig yn gwadu hynny, maent yn ceisio'i ddarlunio fel codiad cyflog. Mae'n siŵr y bydd Llafur yn dweud bod y bobl o'u plaid gan eu bod yn parhau i'w hethol yn Llywodraeth, ac eto, ni wnaethant ennill yr etholiad diwethaf, mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, maent yn dal eu gafael ar fwyafrif yn y lle hwn drwy roi dwy swydd yn y Cabinet i bleidiau eraill i sicrhau bod eu polisïau'n cael eu derbyn, ac nid dyma'r tro cyntaf i Lafur Cymru orfod cael eu cynnal gan rywun arall.

Nid oes ffordd well o brofi eu hanallu i redeg cyrff cyhoeddus na sgandal barhaus Betsi Cadwaladr. Mae Llafur wedi cymryd rheolaeth uniongyrchol ar y bwrdd iechyd, ac mae amseroedd aros ar gyfer rhai gwasanaethau yn dal i waethygu. Os yw eu cyfraniad uniongyrchol yn gwneud pethau'n waeth, neu'n arwain at fawr iawn o gynnydd os o gwbl, sut y gallant hawlio mai hwy yw'r bobl iawn i osod y targedau a'r strategaethau cyffredinol ar gyfer y GIG neu unrhyw beth arall? Wrth i ffigurau poblogaeth gynyddu, mae nifer gwelyau ysbyty yn lleihau o gymharu â'r boblogaeth honno, ac mae'r un peth yn wir am leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llafur Cymru yn gwrthod gwneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r GIG aflwyddiannus yn ôl ar y trywydd iawn. Dyna fersiwn Llafur o'r GIG.

Wrth i gystadleuaeth gynyddu gan bobl ifanc dawnus dros y ffin, gartref a thramor, mae ysgolion Cymru ar waelod y tabl PISA ar gyfer y DU. Dyna fersiwn Llafur o system addysg. Wrth i lai a llai o bobl bleidleisio dros Lafur, maent yn gwadu bod hynny'n digwydd oherwydd eu bod yn gwneud unrhyw beth yn anghywir, ac yn mynnu nad oes angen iddynt newid, a phan yw pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr UE, maent yn ailysgrifennu hanes, yn nawddoglyd tuag at yr etholwyr, yn cyhuddo eu gwrthwynebwyr o ddweud celwydd ac yn cynllunio ffordd o lesteirio ewyllys y bobl. Dyna fersiwn Llafur o ddemocratiaeth.

Yn olaf, polisïau diffygiol ym mhob maes, diffyg parch tuag at yr etholwyr a geiriau slec diddiwedd sy’n beio pobl eraill. Dyna yw fersiwn Llafur o Lywodraeth, ac mae’n hen bryd newid er mwyn rhoi i bobl Cymru yr hyn y maent ei angen a’r hyn y maent yn ei haeddu. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

15:50

Syr Christopher Wren oedd prif bensaer y broses o ailadeiladu Llundain wedi’r tân mawr ym 1666. Fe’i claddwyd o dan lawr ei adeilad mwyaf enwog, eglwys gadeiriol St Paul. Mae cromen goeth yn nodi'r man lle’i claddwyd. Yn lle hynny, ceir arysgrif ar y llawr sy'n dweud,

Os ydych yn chwilio am ei gofeb, edrychwch o'ch cwmpas.

Ddirprwy Lywydd, pe baem yn edrych o gwmpas Cymru heddiw am gofeb y Prif Weinidog, byddai'n brofiad llawer llai dymunol. Byddem yn gweld canlyniad trist naw mlynedd arall a wastraffwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru. Naw mlynedd yn ôl, nododd y Prif Weinidog ei weledigaeth ar gyfer Cymru yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ei enw oedd 'Amser i Arwain'. Wrth lansio ei faniffesto, dywedodd y Prif Weinidog

Mae'n rhaid i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG ac addysg fod yn flaenoriaeth i ni.

Fodd bynnag, mae'r realiti ychydig yn wahanol—yn wahanol iawn.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud toriadau mewn termau real i'r gyllideb iechyd yng Nghymru. Ni chyrhaeddwyd targedau perfformiad allweddol. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw yn fwy na 13,500. Mae mwy na 4,000 o'r cleifion hyn wedi bod yn aros ers dros flwyddyn am lawdriniaeth. Ym mis Rhagfyr 2009, roedd 225,000 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Heddiw, mae bron i 444,000 o bobl yn aros ar restrau aros. Mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr a’r targed 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru wedi gwaethygu. Nid yw’r targed ar gyfer atgyfeirio achosion brys o ganser ar gyfer triniaeth, sy'n dweud y dylai cleifion a atgyfeirir drwy’r llwybr brys ddechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, erioed wedi'i gyrraedd o dan y Prif Weinidog hwn.

Yn 'Amser i Arwain', addawodd y Prif Weinidog gynyddu gwariant ar addysg 1 y cant yn uwch na'r grant bloc. Fodd bynnag, ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud toriadau mewn termau real i wariant addysg. Mae perfformiad TGAU wedi gwaethygu. Yr haf hwn, cafwyd y cyrhaeddiad gwaethaf o ran y graddau TGAU uchaf ers 2005. Mae asesiad rhyngwladol PISA yn dangos mai system addysg Cymru sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae sgorau PISA ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn waeth nag yn 2009, gan osod Cymru yn hanner gwaelod tabl byd-eang y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yn ystod y 10 mlynedd rhwng 2006 a 2016, caewyd 157 o ysgolion gan Lywodraeth Cymru, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.

A fyddech yn cytuno â barn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n symud i'r cyfeiriad iawn o ran diwygio addysg?

Nid wyf ond yn rhoi'r ffeithiau a'r ffigurau sydd i’w cael yn gyhoeddus ichi. Mewn cyfweliad gyda’r Western Mail yn lansiad ei faniffesto, dywedodd Carwyn Jones

Rydym yn gwybod bod addysg yn llwybr allan o dlodi i lawer o bobl yng Nghymru.

Diolch i'w bolisïau addysg, mae'r Prif Weinidog wedi rhoi rhwystrau sylweddol ar y llwybr hwnnw.

Hoffwn sôn am addewid arall a wnaed yn 'Amser i Arwain', sef adeiladu mwy o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd. O dan ei arweiniad, mae nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu bob blwyddyn yng Nghymru wedi gostwng. Mae gweinyddiaethau olynol o dan ei arweinyddiaeth wedi methu creu digon o gartrefi i fynd i’r afael ag argyfwng tai parhaus Cymru. Dros y degawd diwethaf, mae nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu wedi gostwng o dros 10,000 y flwyddyn yn 2008 i 6,000 yn unig eleni. Mae'r Prif Weinidog wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, ond o gofio ei hanes o fethu cyrraedd targedau mewn perthynas â’r GIG ac addysg yng Nghymru, pa hyder y gallwn ei gael yng ngallu'r Llywodraeth hon i ddarparu digon o gartrefi newydd?

15:55

Mae gennych restr siopa hir o bethau yr hoffech roi mwy o arian iddynt. A allech ddweud wrthym beth y credwch y dylai gael llai o arian er mwyn talu am hynny?

Y peth yw, nid yw Cymru wedi gweld unrhyw ochr arall i'r geiniog. Dim ond am berfformiad y Blaid Lafur rwy'n sôn. Nid oes angen Llywodraeth Lafur newydd ar Gymru. Mae angen Llywodraeth newydd ar Gymru yma.

Mae 200,000 o blant tlawd yn byw mewn tlodi yng Nghymru—200,000. O ran tlodi, yr economi, teuluoedd, ethnigrwydd ac anabledd, rydym yn waeth na'r Deyrnas Unedig. Ceir rhestr hir o amddifadedd materol, tlodi parhaus, tlodi mewn gwahanol ardaloedd ac amddifadedd yng Nghymoedd de Cymru. Nid ydych wedi dihuno ers Margaret Thatcher. Yn y bôn, gallwch ddweud llawer o bethau am y peth, ond chi yw'r rhai sy'n rhedeg y Llywodraeth ers 1999, ac nid oes dim wedi'i wneud, ac mae'n gywilydd ar Lywodraeth Lafur Cymru yn gyffredinol.

Byddaf yn pleidleisio o blaid y gwelliant i'r cynnig hwn a gynigiwyd gan Julie James AC.

Mae cynnig y Torïaid yn sinigaidd ac yn wleidyddol oportiwnistaidd. Mae cynnig y Torïaid hefyd yn sylfaenol ddiffygiol. Fe wyddom fod dau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ers 2009. Y ddau dro, mae'r Cymry wedi mynd i bleidleisio, a'r ddau dro, ffurfiwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn ddemocrataidd wedi'r etholiadau. Nid yw pobl Cymru yn ffyliaid. Nid ydynt yn cefnogi Llafur Cymru o deyrngarwch di-gwestiwn. Rydym yn sôn am boblogaeth Gymreig sy'n ymwybodol o'i hanes a'n dyfodol blaengar. Mae Llafur Cymru yn gweithio i adnewyddu'r berthynas glos iawn sy'n bodoli rhyngddi a'r Cymry, a byddwn yn parhau i wneud hynny gyda pholisïau ffres, fel eithrio meithrinfeydd rhag talu ardrethi busnes a'r cynnig gofal plant gorau yn y DU.

Mae polisïau cyni Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi tra-arglwyddiaethu dros y degawd diwethaf. Toriadau bwriadol i gyllideb Cymru, toriadau bwriadol i rwyd diogelwch lles, gan gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb, toriadau bwriadol i'r sector cyhoeddus, sy'n aml yn ymdrin â'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A chyni—mae'r enw ei hun yn enghraifft o athrylith bwriadol, mewn gwirionedd, nid polisi o ddewis toriadau, ond sefyllfa ddiofyn anochel rhywun arall. Mae cyni wedi bod yn ymosodiad ideolegol milain a phenderfynol ar allu'r wladwriaeth i ymyrryd, i gefnogi'r rhai tlotaf mewn cymdeithas gyda dulliau'r DU, fel yr amlygwyd nid mewn un ond mewn dau adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar gyflwr difrifol y tlodi a orfodwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar ei phobl.

Er gwaethaf ymosodiadau Torïaidd parhaus, mae datganoli, Llafur Cymru a'n Llywodraeth ni wedi darparu rhywfaint o amddiffyniad i bobl Cymru rhag polisïau Llywodraeth Dorïaidd asgell dde. Yng nghysgod tywyll y cyni gorfodol hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sicrhau bod 83,000 yn fwy o bobl mewn gwaith ers 2010; £1.4 biliwn o fuddsoddiad drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; 41 o ysgolion newydd, gan gynnwys Ysgol Islwyn, ysgol uwchradd wefreiddiol gwerth £22 miliwn yn fy etholaeth i; yr amseroedd aros diagnostig byrraf ers 2010; mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ac ymysg y tair gwlad orau yn y byd. Yn y Cynulliad diwethaf, darparwyd 10,000 o gartrefi fforddiadwy newydd gennym ac yn y Cynulliad hwn, rydym ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 yn ychwanegol.

Mae Llafur Cymru wedi gwneud hyn oll yng nghysgod dirwasgiad byd-eang a achoswyd gan drachwant, a'r cyfnod hwyaf o gyni bwriadol o fewn cof. A'r Ceidwadwyr a waethygodd hynny drwy wanhau ein rheoliadau ariannol yn flaenorol, ac yn gefndir i'r cyfan hyn, ansicrwydd Brexit a fydd hefyd yn arwain at ansicrwydd cenedlaethol.

Mae cyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 5 y cant yn is, neu £850 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11, rhywbeth nad yw ein pobl yn ei haeddu, a rhywbeth sydd hefyd, unwaith eto, yn ganlyniad i bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 4 y cant yn is, neu £650 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11. Mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 10 y cant yn is, neu £200 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11. O ran arweinyddiaeth, mae Llafur Cymru a'n holyniaeth o arweinwyr wedi cynnig a darparu arweinyddiaeth egwyddorol. Cymharwch hynny â nerth a sefydlogrwydd y llanastr anhrefnus a welwn yn Llundain gan Theresa May a gweddill Llywodraeth Dorïaidd anniben y DU.

Gallaf roi sicrwydd i bobl Cymru y bydd Prif Weinidog nesaf Llafur Cymru yn parhau i sefyll dros Gymru ac yn darparu arweinyddiaeth sosialaidd gref, egwyddorol a moesol, ac yn rhoi ein polisïau sosialaidd cadarn ar waith. Diolch.

16:00

Credaf ei bod yn eithaf dadlennol ar ddechrau'r ddadl hon, pan nad oedd ond un Gweinidog ar fainc y Llywodraeth, ac un aelod o'r blaid sy'n llywodraethu ar y fainc gefn i amddiffyn ei gweithredoedd mewn dadl a oedd yn edrych yn ôl dros y naw mlynedd diwethaf, yn ôl at 2009. Mae hynny'n dweud ei stori ei hun wrthych ynglŷn ag ymwneud y blaid sy'n llywodraethu mewn dadleuon yma y prynhawn yma.

Mae'n bleser sefyll yma heddiw, ac mae'n werth myfyrio hefyd ar weithgareddau a chyflawniadau'r Prif Weinidog presennol. Yr adeg hon wythnos nesaf, ni fydd yn Brif Weinidog, ac mae rhywun sydd wedi cyflawni rôl ers naw mlynedd ac wedi bod ynghanol y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers datganoli—credaf ei fod wedi dod i'r Llywodraeth yn 2000-01—yn deilwng o gydnabyddiaeth a chanmoliaeth yn ogystal, oherwydd mae hwnnw'n gyfnod mewn swydd gyhoeddus sy'n haeddu sylw digonol gan y gwrthbleidiau a'r blaid sy'n llywodraethu yn ogystal, cyfnod ymrwymiad rhywun i wasanaeth cyhoeddus.

Ond mae'n iawn myfyrio ar y cyfleoedd a gollwyd hefyd, yn enwedig dros gyfnod estynedig o amser. Weithiau, yn hytrach nag edrych ar y materion mawr, rhaid ichi edrych ar y materion bach iawn a gweithio i fyny o'r materion bach i'r materion pwysig. Heddiw, er enghraifft, roeddwn yn nhref y Barri, lle y cafwyd ymgyrch egnïol ynglŷn â'r llosgydd a leolwyd yno, sydd wedi cael caniatâd cynllunio drwy'r broses arferol. Cytunodd Gweinidog yr amgylchedd, yn ôl ym mis Chwefror, i ystyried gwneud asesiad effaith amgylcheddol ar y llosgydd hwnnw. Gofynnais y cwestiwn i arweinydd y tŷ ddoe, a thua 300 diwrnod yn ddiweddarach, mae'r gymuned honno'n dal i aros am y penderfyniad hwnnw gan y Llywodraeth. Os ydych mewn Llywodraeth, mae gennych allu i wneud pethau. Mae gennych allu—fel y cyfeiriodd Mohammad Asghar ar dudalen flaen maniffesto'r Prif Weinidog, 'Amser i Arwain'—i arwain, a chael effaith gadarnhaol mewn cymunedau mewn gwirionedd. Mewn perthynas â'r gymuned arbennig honno, mae syrthni o ran gwneud y penderfyniad hwn yn ddrych o lawer o'r pethau mwy o faint y mae'r Prif Weinidog, ac yn wir ei Lywodraethau olynol, wedi methu eu cyflawni dros Gymru.

Ni allwch gerdded oddi wrth y tablau PISA olynol sydd wedi dangos, yn anffodus, nad ydym wedi cael y llwyddiant y mae pawb ohonom am ei weld ym maes addysg—tynnwch y wleidyddiaeth allan ohono; mae pawb ohonom am weld system addysg well. Nid yw'n fawr o werth dweud, 'Gallwn aros tan 2022 pan ddaw'r cwricwlwm newydd i mewn.' Beth am y genhedlaeth sy'n mynd drwy'r ysgolion ar hyn o bryd? Rwy'n dad i bedwar o blant. Un cyfle y maent yn ei gael ac rydych am i hwnnw fod y cyfle gorau posibl. Felly, beth a ddywedwn: 'Yr 20 mlynedd diwethaf—o, wel, mae'n ddrwg gennym am hynny, ond fe'i cawn yn iawn ar gyfer y genhedlaeth nesaf'?

Nid yw ffigurau rhyngwladol yn dweud celwydd. Wyddoch chi, byddai'n werth i'r blaid sy'n llywodraethu a'r meinciau sy'n llywodraethu fyfyrio ychydig ar ble mae pethau wedi mynd o chwith a ble y gallwn unioni pethau. Fi yw'r cyntaf i gydnabod bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau gwelliant mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad hon, ond nid oes fawr o werth mewn cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau sy'n dod allan o'r adeiladau newydd sbon hynny'n cael eu hailadrodd yng nghyflawniadau ein pobl ifanc. Rwyf lawn mor uchelgeisiol â neb i weld ein pobl ifanc yn cyflawni hyd eithaf eu gallu yn eu bywydau, ond mae'n rhaid iddo fod ar y cerdyn sgorio y gallai'r Llywodraeth fod wedi gwneud yn well.

Os edrychwch ar yr economi dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'n ffaith bod gweithwyr Cymru yn mynd â llai o gyflog adref heddiw o'i gymharu â'u cymheiriaid yn yr Alban pan ddechreuasant yn 1999—£55 yr wythnos yn llai, mewn gwirionedd. Nawr, mae'r blaid sy'n llywodraethu yn sôn am gyni. Nid wyf wedi clywed awgrym amgen cydlynol yn cael ei gynnig ynglŷn â sut y gallem fod wedi glanhau'r llanastr a adawodd Gordon Brown ar ei ôl, a gofyniad benthyca sector cyhoeddus o £160 biliwn, a fyddai wedi cadw hyder y marchnadoedd fel na fyddem wedi gweld dirwasgiad mawr. Ond yr hyn a welais yw polisïau economaidd Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn arwain at gyflogau salach yn hytrach na chyflogau gwell mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffaith: ni yw'r economi sydd â'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae honno'n ffaith. Ni allwch wadu hynny.

O ran y GIG, mae'n ffaith bod penderfyniad gwleidyddol wedi'i wneud yn 2011-12 i dorri gwariant iechyd yma yng Nghymru. Roedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol a wnaed. Dyma'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir, y Prif Weinidog yw'r unig arweinydd Llywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol hwnnw i dorri gwariant. A'r ddadl ar y pryd oedd bod angen i'r arian fynd i golofnau eraill i gefnogi gwasanaethau eraill, ac mae hynny'n iawn os mai dyna yw'r dewis gwleidyddol, ond y ffaith amdani yw bod y penderfyniad wedi'i wneud ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wynebu'r canlyniadau oherwydd hynny. Yn 2009, er enghraifft, roedd yr amser aros o 36 wythnos yn GIG Cymru yn sero—sero. Heddiw, mae'n 13,500 o bobl yn aros 36 wythnos neu ragor i gael triniaeth. Dyna'r mesur y mae pobl yn ei ddefnyddio i fesur llwyddiant y GIG, o ran pa mor amserol y gallant gael eu gweld pan fyddant yn mynd at feddyg i holi ynglŷn â salwch neu gyflwr. Ac ar y cerdyn sgorio, rhaid nodi hynny fel methiant.

Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll yma a chanmol gwasanaeth cyhoeddus y Prif Weinidog presennol—record sy'n haeddu ei chanmol—ond mae'r Llywodraethau olynol y mae wedi'u harwain wedi methu cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol a addawyd ar ddechrau datganoli a thrwy gyfnod y Llywodraethau y mae wedi'u harwain. Nawr, nid bai datganoli yw hynny, ond y dewisiadau gwleidyddol a wnaed, a gadewch inni fyfyrio ar hynny, oherwydd mae'r wythnos nesaf yn adeg ar gyfer myfyrio ac yn adeg i uno a newid y record fel y gallwn newid y canlyniadau. A dyna pam y gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron y prynhawn yma.

16:05

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wel, pleser mawr yw dechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae wedi rhoi cyfle amserol inni fyfyrio ar, a dathlu cynnydd sylweddol Llywodraethau Llafur Cymru olynol—felly, Llywodraethau Llafur Cymru olynol a etholwyd gan bobl Cymru—yn ystod amser Carwyn Jones fel Prif Weinidog. Fel y mae ein gwelliant yn ei ddweud, dyma gyfle i ddiolch iddo am ei waith a'i arweiniad fel Prif Weinidog, Prif Weinidog y bûm yn falch iawn o'i wasanaethu.

Am naw mlynedd, mae'r Prif Weinidog wedi arwain Llywodraeth Cymru drwy rai o'r adegau mwyaf anodd y mae'r wlad hon a'r DU gyfan yn wir wedi eu profi ers diwedd yr ail ryfel byd: adegau anodd y byddai'r Ceidwadwyr yn awyddus iawn inni beidio â rhoi sylw iddynt byth eto. Yn ystod y naw mlynedd, gwelwyd dirwasgiad byd-eang, wedi'i ddilyn gan y cyfnod hwyaf o gyni o fewn cof, a gadewch inni beidio ag anghofio fod rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi wedi disgrifio'r cyni hwnnw y mis diwethaf fel dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

A Brexit a gafodd y prif sylw dros flynyddoedd olaf deiliadaeth y Prif Weinidog hwn, ffrae gathod ddiarhebol y Blaid Geidwadol, heb sôn am y llanastr a achoswyd gan negodiadau fflip-fflop Prif Weinidog y DU a'r aelodau o'r Blaid Dorïaidd a ddisgrifiwyd gan aelod o gylch mewnol David Cameron unwaith fel 'hurtynnod llygatgroes'. Trechwyd y Llywodraeth deirgwaith yn y Senedd ddoe: nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

Ddirprwy Lywydd, drwy hyn oll, mae Llywodraethau olynol o dan arweiniad Llafur Cymru wedi cynnal eu hymrwymiad i weithio tuag at Gymru fwy ffyniannus ac wedi cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Ddoe, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid unwaith eto yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yr effaith y mae cyni wedi ei chael ar ein cyllideb. Mae'n werth ei ailadrodd heddiw.

Gyda phob dyledus barch, rydych chi'n cynrychioli Abertawe fel etholaeth—Gorllewin Abertawe, ie—ac ni allaf fod yr unig un yma sy'n cael negeseuon e-bost yn ddyddiol am fethiant ein system iechyd yng Nghymru. Pan fydd gennych etholwr sy'n dod atoch gyda'r fath amseroedd oedi cyn cael triniaeth, y fath ddiffyg cydgysylltiad yn ein gwasanaethau iechyd, a ydych yn dweud, 'Bai Llywodraeth y DU ydyw, ar y polisi cyni y mae'r bai', neu a ydych yn dweud y gwir, yn dweud wrthynt mai chi sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru? Lle mae'r realiti yn y ddadl hon, Julie?

Wel, dyna'r realiti. Roeddwn am fynd ymlaen i ddweud. Ond mewn gwirionedd, os ydych am gael gwybod beth rwy'n ei ddweud wrth fy etholwyr yn Abertawe, Janet, rwy'n dweud bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi canslo trydaneiddio; mae wedi canslo morlyn llanw bae Abertawe; ni allant ymdrin ag unrhyw broblemau seilwaith. Mae'n draed moch llwyr. Felly, chi a ofynnodd y cwestiwn: dyna'r ateb a gewch.

Felly, fel y dywedais ddoe, unwaith eto fe nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yr effaith y mae cyni wedi'i chael ar ein cyllideb.

Mae'n werth ei ailadrodd heddiw: pe na baem geiniog yn well ein byd mewn termau real nag yr oeddem yn 2010, byddai gennym £850 miliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen heddiw. Nawr, pe bai gwariant—

Mae'n bwynt difrifol. Rydych wedi dweud yn union beth a ddywedwch wrth eich etholwyr. Cytunaf â chi'n llwyr ynglŷn â'r niwed a achoswyd gan ddegawd o gyni'r Torïaid, ond does bosibl eich bod yn gallu osgoi'r bai ac osgoi cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar iechyd a materion eraill.

Fe ddof at hynny, Rhun.

Pe bai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi codi gyfuwch â'r twf yn yr economi ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A phe bai Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi'r un lefel o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a gyflawnwyd gan bob Llywodraeth dros yr 50 mlynedd diwethaf, byddai gan Gymru £8 biliwn yn fwy i'w wario.

16:10

A beth fyddai wedi digwydd pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi cael eu hethol drachefn yn 2010 a bod cynlluniau gwariant Mr Darling wedi'u rhoi mewn grym? Sut y byddai hynny wedi effeithio ar eich gwariant presennol?

Wel, fel y gwyddoch, David, roedd Gordon Brown eisoes wedi gweddnewid yr economi ac roedd gennym dwf. Tagodd y Blaid Geidwadol y twf hwnnw ar unwaith yn ei ddyddiau cynnar. Felly, nid oes gennyf unrhyw bryderon o gwbl ynglŷn â beth a fyddai wedi digwydd. Roedd y Blaid Dorïaidd a ddaeth wedyn yn un o'r rhai mwyaf anghyfrifol yn ariannol yn hanes Prydain.

Lywydd, yn wyneb y dirwasgiad byd-eang, cyni a Brexit, mae ein Llywodraeth wedi, ac yn parhau i gyflawni dros Gymru ym mhob agwedd ar fywyd datganoledig. Mae mwy o bobl yn dechrau'r driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amser targed. Mae bron 90 y cant o gleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth; mae cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella, ac yn gyson mae'r GIG yng Nghymru'n gweld ac yn trin mwy o gleifion canser nag erioed o'r blaen. Bellach mae gennym gronfa triniaeth newydd gwerth £80 miliwn sydd wedi sicrhau mynediad cyflymach at 137 o feddyginiaethau newydd ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau sy'n bygwth bywyd ac sy'n cyfyngu ar fywyd.

Eleni, byddwn yn cwblhau canfed prosiect y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, carreg filltir go iawn mewn rhaglen uchelgeisiol a fydd wedi arwain at fuddsoddi mwy na £3.7 biliwn ar ailadeiladu ysgolion ein plant i roi amgylchedd dysgu gwell iddynt. Mae perfformiad TGAU ar y graddau uchaf un wedi gwella, ac mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer safon uwch yn uwch nag erioed. Mae Cymru bellach yn perfformio'n well na Lloegr ar y graddau uchaf.

Mae ein heconomi wedi gwella. Er gwaethaf adferiad araf y DU o'r dirwasgiad ac effaith negyddol polisïau Llywodraeth y DU, rydym wedi gweld gwelliant pwysig, ac mewn rhai meysydd, rydym yn perfformio'n well na rhannau eraill o'r DU. Roedd 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2 y cant o'r un cyfnod flwyddyn yn gynharach—y cynnydd mwyaf o blith unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. [Torri ar draws.] Mae wedi bod yn llai na degawd ers—. Roeddech am inni beidio â chymryd y clod am hynny, ond i gymryd y bai am gyni. Gwych, Darren, ond yn afresymol braidd.

Mae llai na degawd ers inni gael pwerau deddfu sylfaenol o dan arweiniad y Prif Weinidog, ac rydym yn eu defnyddio i arwain y ffordd yn y DU. Rydym wedi gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn yr awyr agored, wedi deddfu i atal, diogelu a chefnogi dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol i roi buddiannau cenedlaethau'r dyfodol ar y blaen wrth wneud penderfyniadau, ac wedi deddfu ar gyfer Cymru ddwyieithog. Cyflwynasom y system gyntaf o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn y DU, ac rydym wedi cyflwyno tâl o 5c am fagiau plastig.

Ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, nodasom raglen lywodraethu uchelgeisiol arall; fe wnaethom gynnydd da ar ei chyflawni. Rydym wedi codi'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn eu bod yn gorfod ariannu cost lawn eu gofal preswyl i £40,000. Rydym wedi ymestyn nifer y lleoedd y gall rhieni sy'n gweithio gael gafael ar 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer eu plant tair a phedair oed, gyda mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn rhan o'n cynlluniau peilot bellach.

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r rhaglen o 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed gyda 16,000 wedi dechrau yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Rydym wedi cyflwyno'r pecyn ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU wrth i ni barhau i ddarparu cymorth ariannol i'n pobl ifanc a'n dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno parhau neu ddychwelyd i addysg bellach. Bydd holl fyfyrwyr Cymru bellach yn cael cymorth tuag at gostau byw sy'n gyfwerth â'r cyflog byw cenedlaethol yn y DU.

Ddirprwy Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Dyma blaid sy'n dal i fynnu bod popeth a wnawn yng Nghymru i'w feio tra'n methu cydnabod y llanastr ofnadwy y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wneud yn San Steffan. Llywodraeth y mae'n rhaid i chi feddwl tybed, o un awr i'r llall, a yw'n dal i fod mewn grym. Yn sicr nid yw mewn rheolaeth. O'r toriadau lles i gyflwyno gorfodol y credyd cynhwysol, mae wedi gadael pobl yn amddifad ac yn llwgu. O gyflwyniad blêr yr amserlenni newydd i fethiant parhaus ei threfniadau ar gyfer masnachfreintiau'r rheilffyrdd, o ddiflaniad gofal cymdeithasol o rannau helaeth o Loegr ganol i'r dirywiad ym mherfformiad y GIG yn Lloegr, y gwir fethiant yw'r un sy'n digwydd dros y ffin o dan oruchwyliaeth y blaid gyferbyn.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi gwasanaethu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru. Fe ddeil ei waddol brawf amser, ac ni ellir dweud hynny am Brif Weinidog presennol y DU. Rydym yn cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.

Rydych wedi fy nal yn ddirybudd braidd; rwy'n dal i gael trafferth—llawer o nodiadau ofnadwy. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl gyfranwyr? Cyfeiriodd Paul Davies at beth llwyddiant a pheth cytundeb trawsbleidiol a nododd mai Llafur, o dan Lywodraeth Carwyn Jones, oedd y blaid gyntaf yn unrhyw le yn y DU a wnaeth doriadau mewn termau real i'r GIG. Cyfeiriodd at israddio, canoli a chau gwasanaethau GIG, at y bwlch cyllido sy'n dal i fodoli rhwng arian y pen i ddisgyblion Cymru a Lloegr, at gael gwared ar darged y Blaid Lafur i gau'r bwlch ffyniant â gweddill y DU a'r ffaith mai Cymru yw'r rhan fwyaf costus o'r DU ar gyfer rhedeg busnes. Tynnodd sylw at y ffaith nad yw refeniw trethi uwch i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn dod o economïau trethiant uchel. Soniodd fod Llafur wedi creu argyfwng cyflenwad tai, a gwn yn bersonol eu bod wedi anwybyddu rhybuddion yn mynd yn ôl dros 15 mlynedd o ran ble y byddai hyn yn arwain pe na baent yn rhoi camau ar waith, ac ni wnaethant hynny. Maent wedi gwario biliynau, meddai, ar symptomau tlodi yn hytrach na thargedu'r achosion a dywedodd fod angen arweinyddiaeth newydd a syniadau newydd ar Gymru.

Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at dactegau oedi Llywodraeth Cymru, eu hadolygiadau mynych yn hytrach na gweithredu, a chyfeiriodd at ddigartrefedd fel un enghraifft. Cyfeiriodd at Lywodraeth Cymru'n gosod targedau'n is nag yn Lloegr a'r Alban ac yna'n methu eu cyrraedd, ac am eu hamharodrwydd i ddysgu o arferion da mewn mannau eraill.

Clywsom gan Suzy Davies—dyma ni; cefais hyd i'r dudalen oedd ar goll—[Torri ar draws.] Mae pawb ohonom yn colli ein tudalennau weithiau, hyd yn oed aelodau o Lywodraeth Cymru. Clywsom gan Suzy Davies a ganolbwyntiodd ar sut y mae Llywodraeth Cymru'n gwario'r arian sydd ganddi i'w wario, yn hytrach na'r swm yn unig. Dywedodd eu bod yn cael 20 y cant yn fwy y pen i'w wario nag yn Lloegr ar hyn o bryd, ac eto maent yn gwario llai ar ddisgyblion ysgol, fod 45 o sefydliadau addysg yn destunau mesurau arbennig, y dull biwrocrataidd o godi safonau, a chyfeiriodd at Lafur Cymru fel llong sy'n suddo.

Cyfeiriodd Michelle Brown at Lywodraeth Cymru yn paentio darlun hyfryd i guddio'r gwirionedd, at agwedd elitaidd 'ni sy'n gwybod orau' Llywodraeth Cymru, at Lafur ond yn llwyddo i fod yn Llywodraeth drwy roi rolau i ddau Aelod Cynulliad nad ydynt yn aelodau Llafur, ac at amarch y Blaid Lafur tuag at yr etholwyr.

Nododd Mohammad Asghar nad oedd targedau perfformiad allweddol yn cael eu cyrraedd a bod perfformiad wedi dirywio mewn meysydd allweddol. A chyfeiriodd eto at fethiant Llywodraethau Cymru olynol i adeiladu cartrefi fforddiadwy a thai cyngor, nid dros bum neu 10 mlynedd, ond dros ddau ddegawd.

Os dof at Rhianon Passmore—a gaf fi ddiolch i Rhianon am beidio â rhoi araith swnllyd, er bod y cynnwys yn weddol debyg? Disgrifiodd ffeithiau fel diffygion, cyfeiriodd at gyni, felly gadewch i ni obeithio y tro nesaf y bydd Llywodraeth Lafur yn credu y gall dorri'r cylch economaidd, a gosod pwysau ar y rheoleiddwyr ariannol i beidio â bod yn rhy llawdrwm, y byddant yn cofio'r boen y mae hynny wedi'i hachosi i genedlaethau olynol. Cyfeiriodd at y cynnydd mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, pan ddaeth Llywodraeth y DU i rym wedi i Gymru fod ar ei hôl hi ers blynyddoedd lawer cyn hynny, a chyfeiriodd at wanhau'r rheoliadau ariannol. Wel, os darllenwch yr adroddiadau olynol yn dilyn y cwymp ariannol, fel y gwnes i, fe fyddwch yn gwybod bod y rheini'n nodi mai'r Meistri Blair, Brown a Balls oedd y dadreoleiddwyr ariannol mawr yr arweiniodd eu hymyrraeth wleidyddol—[Torri ar draws.]—darllenwch yr adroddiad—at gwymp y banciau, er iddynt gael eu rhybuddio flynyddoedd ymlaen llaw os na fyddent yn gweithredu, mai dyma fyddai'r canlyniad.

Soniodd Andrew R.T. Davies am golli cyfleoedd a disgyblion ond yn cael un cyfle, ac nad oes pwynt cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau'n gwneud yn well. A soniodd nad oedd neb yn aros am 36 wythnos yn y GIG yn 2009, ac mae'r nifer sy'n gwneud hynny bellach yn y miloedd.

Rhoddodd arweinydd y tŷ, gan siarad ar ran Llywodraeth Cymru, yr hyn a swniai'n araith dda iawn ar gyfer cynhadledd Llafur Cymru, ond fe osgodd y dewisiadau gwleidyddol allweddol a gymerwyd dros bron 20 mlynedd o Lafur a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, sydd wedi arwain at y methiannau a ddisgrifiwyd yn y ddadl hon. Cyfeiriodd at y £850 miliwn yn fwy a fyddai gennym ar gyfer gwasanaethau rheng flaen pe na bai'r arian wedi diflannu a llinell gredyd y DU wedi bod dan fygythiad o gau yn 2010. Cyfeiriodd at ddiffyg cyfraniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i Gymru—wel, fe roesant y cyllid gwaelodol i'r fformiwla sy'n sicrhau bod Cymru yn cael mwy y pen nag yn Lloegr, fe roesant  bron £0.75 biliwn i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru—ac rydym yn dal i aros i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gogledd Cymru—ac fe roesant £10 miliwn tuag at y prosiect cymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd, £82 miliwn ar gyfer contract amddiffyn yn sir Ddinbych, ac maent yn pwmpio miliynau o bunnoedd i mewn i RAF Sealand, drwy leoli'r rhaglen F-35 yno.

Felly, gadewch inni edrych ar rai ystadegau ffeithiol yn yr amser sydd ar ôl gennym. O adroddiadau swyddogol diweddar, Cymru yw'r wlad leiaf cynhyrchiol yn y DU. Mae lefelau tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall ym Mhrydain. Mae enillion canolrifol yr awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Mae enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU. Gan Gymru y mae'r twf cyflog hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. Mae gan Gymru gyfradd tlodi incwm cymharol sy'n uwch nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion sy'n gweithio ac sy'n byw mewn tlodi nag unrhyw wlad arall yn y DU, a chyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru sy'n llawer uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae Cymru'n dioddef yn sgil un o'r Llywodraethau gwaethaf a oddefwyd gan unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dyfodiad yr etholfraint gyffredinol. Nid yn unig hynny—un o'r Llywodraethau mwyaf adweithiol, a'i hunig weithgarwch yw adweithio yn erbyn Llywodraeth y DU a'i hunig bolisi yw beio Llywodraeth y DU am ei methiannau difrifol a chyson ei hun dros ormod lawer o amser, a megino fflamau'r dryswch ymysg y cyhoedd ynglŷn â'u cyfrifoldeb am y llanastr rydym ynddo ac ychwanegu at ddiffyg atebolrwydd cyhoeddus sydd wedi eu cadw yn eu lle ers cyhyd, a chymaint o boen.

16:20

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Fer: Yr Oes Neolithig yn Stori Cymru: Gwerthfawrogi yr hyn a gyflawnwyd cyn hanes

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl fer, a galwaf ar David Melding i siarad ar y testun a ddewisodd.

Dangoswyd cyflwyniad gweledol i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi arfer â'r fath groeso cynnes. Yn y 24 awr diwethaf neu oddeutu hynny rydym wedi trafod y gyllideb, rydym wedi trafod Brexit ac rydym newydd fod yn trafod record Llywodraeth Cymru, ond yn awr fe gawn ysbaid dawel, ac rwyf am droi at y Neolithig yn stori Cymru—

Aelod Cynulliad: Maent o'ch cwmpas ym mhob man. [Chwerthin.]

Bwm bwm. [Chwerthin.]

Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr oes Neolithig, fel rydych ar fin darganfod. Yng ngogledd-orllewin Ewrop, lle rydym ni, digwyddodd yr oes Neolithig rhwng tua 4,500 BC a 1,700 BC, er nad yw'n arbennig o ddefnyddiol inni fod yn rhy fanwl yn y materion hyn. Ni wnaeth neb ddeffro un dydd a dweud, 'A, mae'r oes Neolithig ar ben a'r Oes Efydd wedi dechrau', ond rydym yn hoffi defnyddio'r categorïau hyn. Ond yr hyn sy'n nodweddu'r cyfnod Neolithig yn anad dim yw ffermio ac aneddiadau. Ond cafwyd cyflawniadau mawr eraill hefyd: crochenwaith, cerfluniau bach, celf drosiadol, addurniadau megis troellau, sieffrynau a losenni, pictogramau, ideogramau, bwyelli a hyd yn oed dulliau elfennol o gadw bwyd. Roedd yn gyfnod hynod o ddyfeisiadau a darganfyddiadau technolegol.

Nawr, mae'r holl safleoedd y byddaf yn cyfeirio atynt yn fy nadl fer yn ymddangos ar y cyflwyniad ffotograffig sydd ar y sgrin yn awr. Rwyf am ddechrau gyda Llech y Filiast ym Mro Morgannwg. Mae'n un o fy hoff lefydd. Rwyf wedi cerdded yno ac wedi treulio amser yno, wedi darllen barddoniaeth yno, wedi trafod yn ddysgedig, gobeithio, gyda rhai o'r Aelodau yn y Siambr, yn wir, wrth bendroni dros, ac edrych ar yr heneb honno. Mae'n fy atgoffa i, beth bynnag, am gyflawniadau rhyfeddol ein cyndadau yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae'n wirioneddol bwysig yn fy marn i ein bod yn parchu ac yn dathlu'r cyflawniadau hyn.

Hoffwn droi yn awr at John Davies, a'r hyn y mae'n ei ddweud am Lech y Filiast mewn cyfrol sy'n mesmereiddio yn fy marn i, sef Hanes Cymru—y llyfr hanes un-gyfrol gorau a ysgrifennwyd hyd yma, ac mae gennym lyfrau hanes Cymru un-gyfrol gwirioneddol wych, yn mynd yn ôl at David Williams. Ond mae John Davies yn dechrau'r gwaith hwnnw â phennod o'r enw, 'Paviland, Tinkinswood a Llyn Cerrig Bach: Y Dechreuadau', a chredaf yn bendant mai dyna'r cyd-destun cywir i'w osod. Mae Llech y Filiast yn dangos y feistrolaeth gynyddol dros yr amgylchedd sy'n nodweddu'r oes Neolithig go iawn, ac rwy'n meddwl: byddai'r maen capan ar yr heneb honno wedi galw am 200 o ddynion i'w rhoi yn ei lle—trefnusrwydd rhyfeddol. Ac fe'i hadeiladwyd ar ôl i lawer o'r coetir ym Mro Morgannwg gael ei glirio gan y dechnoleg newydd—y bwyelli newydd. Oherwydd ar ôl diwedd Oes yr Iâ, cawsom gyfnod o goedwigoedd tymherus trwchus dros y rhan fwyaf o Gymru, a chliriwyd llawer ohonynt wedyn i wneud lle i ffermio. A dylanwadwyd ar weithgaredd yn y rhan hon o Gymru'n drwm gan ddiwylliant Llydaw, a dyfynnaf nawr o lyfr John Davies:

'Dyma agwedd ar 'bersonoliaeth Cymru' y gellir colli golwg arni wrth ystyried y wlad yn ddim ond rhan o Ranbarth Ucheldir Prydain. Wyneba Cymru wastadeddau Lloegr tua'r dwyrain, ond wyneba hefyd lwybrau'r môr tua'r gorllewin. Derbyniodd bobl a dylanwadau o'r naill gyfeiriad a'r llall, a bu'r cydadwaith rhwng yr hyn a ddaeth dros dir a'r hyn a ddaeth dros fôr yn thema gyffrous yn hanes cynnar Cymru.'

Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Ym mis Mehefin 2017, pan oedd Dŵr Cymru yn gwneud gwaith gwella ar safle yn Llanfaethlu, canfu archeolegwyr yn gweithio ar ran Dŵr Cymru dystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol yn dyddio'n ôl oddeutu 4,000 i 6,000 o flynyddoedd. Roedd offer fflint ymysg y canfyddiadau. Gellir ffurfio fflint llawn silica yn offer o amryw fathau, er enghraifft y cyllyll a'r bwyelli y soniais amdanynt. Roedd y safle hwn hefyd yn cynnwys bwyd wedi llosgi, megis cnau a hadau eraill, a fydd yn galluogi arbenigwyr i ddyddio'r safle gan ddefnyddio radiocarbon ac ail-lunio'r deiet Neolithig.

Yn ogystal, ar Ynys Môn, gallwch weld y twmpath yn y gelli dywyll a elwir yn Bryn Celli Ddu, a dywed Cadw am yr heneb hon ei bod yn ymddangos iddi gael ei dechrau yn y cyfnod Neolithig diweddar, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, fel clostir defodol. Mae Cadw hefyd yn nodi bod beddau cyntedd wedi disodli'r meingylch yn ddiweddarach yn y cyfnod Neolithig—math o heneb a welir yn aml o gwmpas arfordiroedd Môr Iwerddon ac mor bell i ffwrdd â Llydaw. Gwir wychder y feddrod hon yw ei bod wedi'i hadeiladu mor fanwl gywir fel ei bod wedi'i halinio'n berffaith gyda'r haul yn gwawrio ar hirddydd haf. Mae'r haul yn treiddio i lawr i mewn i'r siambr gladdu fewnol. Arweiniodd gwaith cloddio yno at ddarganfod 10 enghraifft o gerfiadau craig yn ogystal â chrochenwaith ac offer fflint. Yn rhyfeddol, mae hanes y safle'n mynd yn ôl hyd yn oed ymhellach gan fod ôl tyllau pyst yn y meingylch wedi'u dyddio drwy ddefnyddio carbon yn ôl i'r cyfnod Mesolithig. Ac mae'n dangos ein bod yn dysgu pethau o'r newydd yn gyson am y safleoedd hyn ac yn darganfod safleoedd eraill.

Safle arall o ddiddordeb arbennig i mi yw'r fryngaer yng Nghaerau, Caerdydd. Roedd hon yn arfer bod yn un o'r prif ganolfannau grym yn rhanbarth Caerdydd cyn y goresgyniad Rhufeinig, ac yn un o'r prif ganolfannau am filoedd lawer o flynyddoedd. Daeth plentyn chwech oed o hyd i grochenwaith a phennau saethau yno, a daeth yn amlwg fod Caerau'n gartref i gymuned bwerus ers o leiaf 3,600 BC. Canfuwyd pennau saethau eraill a oedd wedi torri, ar ôl cael eu defnyddio mae'n debyg, a chafwyd hyd i arfau eraill, a ddangosai fod brwydr bwysig wedi digwydd yno tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac mae'r olion hyn o weithgarwch yn mynd yn ôl lawer yn gynharach nag y credem yn flaenorol. Ac mae'n fy rhyfeddu—plentyn allan yno'n sydyn yn dod o hyd i'r darganfyddiadau rhyfeddol hyn a chanddo'r dealltwriaeth wedyn i ofyn yn eu cylch a'u bod wedyn yn dod i sylw'r amrywiol arbenigwyr. Dyma sy'n wych am y prosiect penodol hwnnw yn fy marn i, ac fe siaradaf ychydig am hynny mewn eiliad, gan ddangos unwaith eto ein bod yn cael ein harwain, gyda darganfyddiadau cyson, at ddehongliadau newydd o'r safleoedd hyn, a dyna pam eu bod mor werthfawr. Mae CAER—Datgelu Hanes Cudd Caerau a Threlái, y prosiect treftadaeth yno—yn cynnwys archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ynghyd â Cymunedau yn Gyntaf Caerau a Threlái. Eu nod yw archwilio hanes ac archaeoleg maestrefi Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, o'r cyfnod cynhanesyddol i'r cyfnod modern, gan helpu i gysylltu cymunedau â'u treftadaeth a datblygu cyfleoedd addysgol. Mae eu gwefan yn nodi bod bryngaer Caerau, cyn dechrau'r goresgyniad Rhufeinig, yn ganolfan grym bwysig ar gyfer rhanbarth Caerdydd i gyd, ac yn un o'r bryngaerau mwyaf a mwyaf trawiadol yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ystod y cyfnod canoloesol, adeiladwyd amddiffynfa gylch ac eglwys—eglwys Santes Fair—o fewn y ffiniau hynafol o'r Oes Haearn, a gellir gweld eu gweddillion trawiadol hyd y dydd heddiw, sy'n dangos parhad rhyfeddol y safle arbennig hwnnw. Unwaith eto, credaf fod honno'n agwedd werthfawr arall ar yr henebion hyn.

Dywedodd Oliver Davis, sydd wedi gweithio ar y prosiect:

Mae lleoliad a nifer y darganfyddiadau Neolithig yn dangos ein bod wedi darganfod clostir sarnau—man arbennig lle byddai cymunedau bach yn ymgasglu ar adegau pwysig o'r flwyddyn i ddathlu, gwledda, cyfnewid pethau ac o bosibl i ddod o hyd i briod.

Roedd yn ddatblygiad cymdeithasol allweddol o'r cyfnod Neolithig. Gyda llaw, mae safleoedd o'r fath yn brin iawn yng Nghymru, a dim ond pum enghraifft arall y gwyddys amdanynt, yn y de yn bennaf, fel y mae'n digwydd.

Ym mis Mehefin eleni, lansiodd rhaglen byw'n lleol dysgu'n lleol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrosiect Treftadaeth CAER, gwrs chwe wythnos, 'Hanes cudd Caerau a Threlái', sy'n darparu cyrsiau achrededig am ddim mewn cymunedau sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd. Am syniad gwych yw hwnnw. Roedd pum aelod o'r gymuned, ynghyd â nifer o gyfranogwyr o fannau eraill, yn cymryd rhan yn y cwrs, a chawsant gyfle prin i ymweld â daeargelloedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru i gael hyfforddiant gwerthfawr mewn llunio a chynnal arddangosfeydd ar gyfer amgueddfeydd.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud wrth gloi fy mod yn croesawu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, a gyflwynwyd ac a basiwyd gan y Llywodraeth hon? Mae'n bwysig tu hwnt ein bod yn gweld ffordd, drwy ddileu'r amddiffyniad o anwybodaeth ynglŷn â heneb neu ei lleoliad, o sefydlu'r cyfrifoldebau sydd gan berchnogion eiddo pan gaiff yr henebion hyn eu canfod neu, yn amlwg, pan ofalir amdanynt. Mae cymaint ohonynt i'w cael—mae gennym dreftadaeth Neolithig gyfoethog felly mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn ei chadw mor llawn â phosibl, oherwydd rydym yn ailddehongli, bydd darganfyddiadau newydd gan genedlaethau'r dyfodol, heb amheuaeth, a chyda ffotograffau o'r awyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig, gyda'r defnydd o dronau hefyd, rydym yn darganfod safleoedd newydd drwy'r amser. Mae modd arddangos cloddweithiau y gallwch eu gweld o uchder mawr, ond nid ar lefel y ddaear. Hefyd, mae angen inni wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o henebion Neolithig, a chredaf fod prosiect Caerau'n bwysig iawn yn hyn o beth.  

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi orffen drwy ddweud y dylid rhoi parch haeddiannol i'r cyfnod Neolithig, oherwydd mae iddo le arbennig iawn yn stori Cymru? Diolch.  

16:30

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr am y cyfle, Dirprwy Lywydd, i ymateb i'r ddadl ryfeddol ac annisgwyl hon. Un o fanteision y lle hwn, Senedd Cymru, yw ein bod ni'n gallu trafod, fel y dywedodd y ddeddfwriaeth a'n sefydlodd ni, unrhyw faterion yn effeithio ar Gymru. Ond rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i mi glywed dadl ac, yn sicr, y tro cyntaf i mi gymryd rhan mewn dadl fer, yn sôn am y cyfnod neu'r gorffennol y gellir ei alw yn gynhanesyddol. Ond mae hwn yn air rydw i'n cael ychydig o broblem efo fo, oherwydd mi fyddwn i yn dadlau yn athronyddol os ydym ni'n gallu sôn am y cynhanesyddol, mae'n rhaid ei fod o'n bod, ac felly ei fod, mewn rhyw ystyr, yn hanesyddol, ond fe adawn ni hwnnw i'r athronwyr.

Mi ges i gyfle mis diwethaf i amlinellu y blaenoriaethau sydd gyda ni yn yr adran ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. A'r pwyslais yn y blaenoriaethau yna oedd dadlau a dangos bod Cymru yn codi fel cenedl fodern erbyn heddiw o dreftadaeth ddiwylliannol gydag elfennau cyffredin dros filoedd o flynyddoedd. Ac felly mae'r Aelod yn saff iawn yn dweud ein bod ni yn cychwyn yn nyfnder y cyfnod cynhanesyddol. Yn wir, ymhell cyn y cyfnod Neolithig, fel y mae hwnnw'n cael ei ddyddio, a dyfodiad yr hyn a ddisgrifiodd David fel dyfodiad amaeth a chymunedau sefydlog, rydym ni'n gallu mynd â stori'r wlad sydd bellach yn cael ei galw yn Gymru yn ôl i gyfnod yr Oes Iâ ddiwethaf o leiaf, a'r olion dynol cynharaf a ddarganfuwyd o, mewn dyfnodau, 'Gymro' yn ôl yn ogof Pontnewydd gymaint â 0.25 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Felly, mae’r cynhanesyddol yn fater sydd o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru, ac fe garwn i bwysleisio beth ydy gwahanol elfennau'r etifeddiaeth yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i diogelu yn ystod y cyfnod yr ydw i wedi bod yn gyfrifol amdano fo—ychydig dros flwyddyn.

Ein blaenoriaeth ganolog ni ydy gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol drwy hyrwyddo ei fwynhad i bobl. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n gallu deall, hyd y gellir, y gorffennol yr ydym ni’n sôn amdano fo, er mwyn iddo allu apelio at bobl yn y presennol ac yn y dyfodol.

Mae’r darganfyddiadau sydd wedi’u gwneud yn y cyfnodau cynnar yma yng Nghymru yn ddarganfyddiadau sydd o arwyddocâd rhyngwladol gwirioneddol, yn ogof Pen-y-fai ar benrhyn Gŵyr, er enghraifft. Mae'r hanes o adeiladu beddrodau—. Mae’r rhain wedi’u creu, fel y dywedodd David, wrth gyfeirio at Tinkinswood—at Lech-y-filiast, neu beth bynnag yr ydym ni am ei galw hi—yn y fan honno, lle rhyfeddol iawn. Mae’r rhain yn adeiladau nodedig yn y tirwedd. Mae’r Oes Efydd wedi gweld miloedd o domenni claddu wedi’u gwasgaru ar draws tirwedd Cymru, gyda nwyddau claddu gwerthfawr ynddyn nhw—clogyn aur yr Wyddgrug, efallai, ydy’r mwyaf enwog. Mae'r Oes Haearn yn gweld newidiadau pellach—cymunedau bryngaer a'r cannoedd o olion sy'n bodoli ar draws Cymru, megis yn Nhre’r Ceiri.

I mi, mae sefydliadau sydd wedi dehongli y safleoedd yma, yn arbennig Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd wedi cofnodi safleoedd newydd dirifedi yn ddiweddar iawn, fel y cyfeiriwyd, yn ystod yr haf sych, lle canfuwyd olion wedi crino yng nghaeau y tirlun gwledig o’r newydd, fel bod y cynhanes yn gallu dod nôl yn fyw, fel petai, oherwydd y tywydd yr ydym ni’n ei oddef ar hyn o bryd—. Yn y digwyddiadau yna, rydym ni wedi gweld, drwy waith y comisiwn a drwy’r darluniau a’r ymchwiliadau rhyfeddol sydd wedi’u gwneud, y modd y mae yna glystyrau diddorol o’r cyfnodau cynhanesyddol ar draws ein gwlad. Un o’r rhai mwyaf nodedig, wrth gwrs, ydy’r clystyrau yna ar Ynys Môn, a ni fyddwn i am adael Ynys Môn allan o unrhyw drafodaeth ar y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r henebion cynhanesyddol yn Ynys Môn yn gallu hawlio’u lle gydag Ynysoedd Erch, gyda Dyffryn Boyne yn Iwerddon, gyda Chôr y Cewri yn Lloegr. Mae'r rhain ymhlith y llefydd mwyaf rhyfeddol ar ein holl wledydd Prydain ac Iwerddon. Mae yna safleoedd penodol dan ofal Cadw yn cynnwys beddrodau cyntedd Neolithig Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres, sydd ddim yn bell oddi yno.

Mae Cadw hefyd yn gyfrifol am feddrodau cerrig Neolithig yng ngogledd Penfro, gan gynnwys Pentre Ifan, ac, ym Mro Morgannwg—rydw i wedi sôn, fel y mae’r Aelod wedi sôn, am Tinkinswood ger Sain Nicolas, lle’r ydw innau wedi cael cyfle i dreulio tipyn o amser gyda’r teuluoedd ifanc sy’n perthyn i mi yn yr ardal honno, a chael y profiad rhyfedd o fod yn ceisio esbonio’r cynhanesyddol i blant ifanc. Felly, mae’n bwysig pwysleisio ein bod ni, yn y ddarpariaeth gyfoes yng ngwaith Cadw ac yng ngwaith y Llywodraeth, yn gwerthfawrogi’r etifeddiaeth yna ac yn ymdrechu i’w diogelu hi.

Rydw i am dalu teyrnged fan yma i’r ymddiriedolaethau archeolegol yng Nghymru sydd wedi ymweld ac asesu pob safle cynhanesyddol yr ydym ni’n ymwybodol ohonyn nhw. Mae yna 23,000 o’r safleoedd yna, ac mae’r wybodaeth enfawr sydd wedi deillio o hyn bellach yn gofnodion sydd ag iddyn nhw statws cyfreithiol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Rydym ni'n gweithredu'r Ddeddf ar hyn o bryd drwy'r gwaith darparu penodol sydd wedi cael ei wneud i roi cyfarwyddiadau am sut y mae gweithredu'r Ddeddf, ac fe fyddwn ni yn parhau i wylio hynny ac yn ei hadolygu hi'n ffurfiol, yn sicr, mewn blynyddoedd i ddod. 

Mae Cadw hefyd yn cynhyrchu mapiau ar-lein, Cof Cymru, sy'n cynnwys lleoliad a disgrifiad pob safle cynhanesyddol sydd wedi'u diogelu yng Nghymru. Wedyn mae'r wybodaeth yma ar gael ac mae'n bosib cael gafael ynddyn nhw, ac mae'r cyngor—y nodyn technegol cynllunio cyntaf erioed ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol—wedi cael ei chyhoeddi mor ddiweddar â'r llynedd.

Mae'r gwaith yma yn digwydd, ac mae'r gwaith hyrwyddo yn parhau yn bwysig. Ac i'r pwrpas yma, rwyf i wedi dod ag anrheg fach i'r Aelod, sef y disgrifiad dwyieithog diweddaraf ar gyfer disgyblion ifanc o Lyn Cerrig Bach, Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, ac, fel y gall yr Aelodau i gyd ei weld, mae yma ddarluniau hyfryd sydd yn atgynhyrchu'r cyfnodau Neolithig a chyn-Neolithig, ond peidiwch â gofyn i mi eu gwirio nhw, ond maen nhw, yn sicr, yn hanesyddol yn gywir. Rydym ni'n ceisio creu brwdfrydedd ymhlith y genhedlaeth nesaf yn yr hanes hir yr ydym ni'n rhan ohoni, ac fe garwn i nid jest diolch i'r ymddiriedolaethau archeolegol ond hefyd i'r amgueddfa genedlaethol. Mae'r datblygiadau aruthrol yn Sain Ffagan yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi dod i sefyllfa lle maen nhw wedi cael eu hail-agor yn swyddogol yn ddiweddar iawn. Mae'r orielau newydd yma'n rhoi statws clir ac amlwg i'r gwrthrychau cynhanesyddol o bob rhan o Gymru. Nid ydy hi'n bosib i chi fynd i mewn i unrhyw un o adeiladau'r amgueddfa heb eich bod chi'n sylweddoli bod hanes Cymru'n hen ac yn hir ac yn rhywbeth i ni i gyd ei barchu heddiw, ac rydw i'n ddiolchgar unwaith eto am y cyfle i drafod y fath bwnc yn ystod dadl yn y Cynulliad. 

16:40

Diolch. Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, bwriadaf symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.] A all tri Aelod ddangos eu bod am i'r gloch gael ei chanu? Iawn, fe ganwn y gloch. Diolch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

16:45
8. Cyfnod Pleidleisio

Wel, Aelodau, bwriadaf symud ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, roedd 5 yn ymatal, a 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6892 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 25, Ymatal: 5

Gwrthodwyd y cynnig

A galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 25, roedd 5 yn ymatal, a 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6892 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1: O blaid: 25, Yn erbyn: 12, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6892 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos

b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen

c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed

d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018

e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018—y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010

f) Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015

g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017

h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2%  o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt—y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU

i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl

j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

2. Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 25, roedd 5 yn  ymatal, a 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6892 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 12, Ymatal: 5

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Cyn inni symud at y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), rwy'n bwriadu gohirio'r trafodion am 10 munud. Cenir y gloch bum munud cyn inni ailgynnull, a hoffwn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:49.

17:00

Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Grŵp 1: Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 4, 4A, 4B, 20)

Galwaf Aelodau i drefn. Dyma ni, felly, yn cyrraedd Cyfnod 3 o Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Huw Irranca-Davies.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Huw Irranca-Davies).

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o helpu i agor y trafodion yma ar ran y pwyllgor Cyfnod 3 ar gyfer y Bil pwysig hwn. Rwyf wedi ymateb i alwadau gan bwyllgorau craffu—y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am ddyletswydd ar wyneb y Bil, ac rwyf wedi wedi cyflwyno gwelliant 4 fel sy'n briodol.

Er mwyn gweithredu'r ddyletswydd hon, bydd angen i Weinidogion Cymru nodi manylion ynghylch nifer yr oriau o ofal plant a nifer yr wythnosau o ddarpariaeth yn y rheoliadau a wneir o dan adran 1. Bydd y rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Yn ymarferol, mae gwelliant 4 gan y Llywodraeth yn cyflawni yn union yr un dibenion fel gwelliannau 4A a 4B, ond heb fod angen diwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau, pe bai angen amrywio faint o ofal plant sydd i'w sicrhau o dan adran 1 yn y dyfodol.

Mae gwelliant 4A a 4B yn ceisio cadarnhau pethau ar wyneb y Bil. Ni chredaf fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor ymrwymedig yw'r Llywodraeth hon i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwn. Eisoes rydym yn cyflawni ein dyletswydd mewn 14 o awdurdodau lleol ledled Cymru. Os gallwn osgoi'r angen i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau a chyflawni'r un diben, rwy'n credu mai dyna y dylem ei wneud. Ac am y rheswm hwn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 4A a 4B, a buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 4 y Llywodraeth yn lle hynny, sy'n cyflawni'r un diben yn union.

Mae gwelliant 20 yn ceisio diffinio'r hyn a olygwn wrth 'ofal plant' ar wyneb y Bil, drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Nawr, cawsom drafodaeth ddefnyddiol iawn, ac rwy'n ddiolchgar amdani, yn ystod trafodion Cyfnod 2, a chyfarfûm wedyn â fy nghyd-Aelodau Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn gynnar ym mis Tachwedd i drafod hyn a materion cysylltiedig. Yr hyn a olygwn wrth 'ofal plant' at ddibenion y cynnig yw gofal plant wedi'i reoleiddio, sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, yn amodol ar set o safonau gofynnol cenedlaethol, ac sy'n cael eu rheoleiddio a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau. Mae gennym ddiffiniadau o 'ofal plant' eisoes mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth, felly mae'n ddiangen cynnwys y lefel hon o fanylder yn y Bil ei hun.

Ond rwy'n cytuno ei bod yn bwysig gwneud y cysylltiad fel ei bod hi'n glir am beth rydym yn sôn pan siaradwn am 'ofal plant'. Nawr, mae'r cynllun gweinyddol fframwaith, a rennais gyda'r pwyllgor cyfrifol, yn egluro'r cysylltiad hwn, ac ynddo, rydym yn diffinio beth a olygwn wrth 'ofal plant'. Y fantais o gael diffiniad ynddo yw y gallwn ymdrin yn haws wedyn ag unrhyw newidiadau pe bai eu hangen yn y dyfodol gan sicrhau hefyd ein bod yn dryloyw ynghylch ystyr pethau. Diolch i chi, Lywydd.

Diolch i chi, Lywydd, am roi inni'r cyfle i siarad am y gwelliannau hyn. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil a'r cynnig gofal plant, gan ein bod bob amser wedi addo i etholwyr Cymru y byddent yn cael cyllid ar gyfer gofal plant. Mae'n bwysig iawn, fodd bynnag, ein bod ni fel Aelodau etholedig, yn sicrhau nad oes unrhyw rwystr i gyflogaeth yn ein cymdeithas, ac yn wir mae helpu rhieni gyda gofal plant yn rhan allweddol o'r addewid hwn. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi egwyddor y Gweinidog sy'n sail i welliant 4, sy'n rhwymo Llywodraeth Cymru at ddyletswydd i ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant. Fodd bynnag, mae'n dal yn siomedig fod y Gweinidog wedi methu gosod y cynnig gofal plant ar wyneb y Bil hwn.

Er ei bod yn ganmoladwy fod y Gweinidog am sicrhau hyblygrwydd yn y dyfodol drwy reoliadau, mae'r memorandwm esboniadol a'r cynllun gweinyddol drafft yn gosod nifer oriau o 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn. Felly mae'n bwysig fod y nifer hon ar wyneb y Bil, a gellir ei newid yn nes ymlaen wrth gwrs. Clywsom hefyd yng Nghyfnod 2 fod y Gweinidog yn credu y byddai gosod y cynnig ar wyneb y Bil yn creu mwy o anawsterau i'w newid yn y dyfodol, ond rydym ni'n dadlau bod hyn yn caniatáu ar gyfer craffu priodol ar effeithiau’r cynnig. Fel y daw'n glir drwy gydol y gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 3, mae gennym bryderon ehangach nad yw'r Bil yn rhoi proses ddigonol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru archwilio'r effeithiau.

Newid technegol yw gwelliant 4B, ond mae hefyd yn creu pwynt y dylid pennu faint o ofal a roddir fel oriau ac wythnosau y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnig.

Yn olaf, mae gwelliant 20, y bydd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC yn siarad amdano'n fanylach, yn dangos efallai fod y diffiniad statudol o 'ofal plant' yn ymestyn ymhellach nag a fwriadwyd o dan y Bil hwn, gan gynnwys y taliadau ychwanegol. Byddaf yn siarad am y rheini o dan welliannau 13 a 21.

17:05

Gelwir y Bil hwn yn Fil Cyllido Gofal Plant Cymru, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw yng Nghyfnod 2 ac rydym wedi bod, wel, yn anhapus ynglŷn â'r ffaith bod gennym Fil caws Swistir arall eto wedi'i osod ger ein bron. Er fy mod yn ddiolchgar i chi am gyflwyno'r gwelliant yn y grŵp hwn, nid yw'n rhoi eich polisi o'ch maniffesto, a'r polisi o'n maniffesto ninnau yn wir, yn berffaith benodol ac amlwg ar wyneb y Bil. Felly yr hyn sydd gennym yw Bil sy'n dal i gynnwys elfennau ansicr, a dof atynt mewn grwpiau diweddarach yn ogystal.

Ond un o'r pethau canolog sy'n ansicr yw ystyr 'gofal plant'. Nid yw'r Bil yn ei ddiffinio yn unman, ac er eich bod yn dweud, Weinidog, y gall olygu gofal plant wedi'i reoleiddio, nid yw'n dweud hynny fel y cyfryw yn y Bil. Credaf y byddai'n eithaf hawdd, mewn gwirionedd, i bob un ohonom ddweud, 'Wel, fe wyddom beth a olygwch wrth 'ofal plant'. Nid oes angen diffiniad arnom', ond daeth yn amlwg iawn yng Nghyfnod 2 nad oedd hynny'n wir, ac nid oedd yn glir o gwbl a oedd yn cynnwys gweithgareddau megis darparu bwyd, mynd ar ymweliadau ac ati. Ceir anghysondeb llwyr ar hyn o bryd ynglŷn â sut y darperir y gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim gan ddarparwyr gofal plant yng Nghymru, neu'n wir pa un a fydd hynny'n digwydd hyd yn oed.

Weinidog, roeddech yn dadlau yng Nghyfnod 2 nad oes angen diffinio 'gofal plant' gan ei fod wedi'i gynnwys yn y cynllun gweinyddol sy'n dod gyda'r Bil, ac rydych newydd grybwyll hynny. At hynny, byddai ei roi ar wyneb y Bil yn llesteirio gallu Llywodraethau i addasu neu ddiweddaru'r hyn yr ystyriwn ei fod yn ofal plant dros amser. Rwyf am ddechrau gyda'r ail bwynt hwnnw.

Gofynnir i'r ddeddfwrfa hon basio Bil ar yr hyn y deallwn yw ystyr 'gofal plant' heddiw. Os ydych yn bwriadu newid ystyr cysyniad sydd mor sylfaenol i'r Bil hwn fel ei fod yn ymddangos yn ei enw, dylech ofyn i'r Cynulliad hwn gytuno i'r newidiadau hynny. Fan lleiaf, dylech geisio dod ag unrhyw newid gerbron y Siambr hon drwy'r weithdrefn gadarnhaol, oherwydd rydym yn pleidleisio i ganiatáu i chi wario arian trethdalwyr mewn ffordd benodol iawn, ac os ydych am newid hynny, rhaid i chi ddod i ofyn i'r lle hwn.

Ar y pwynt cyntaf, ynglŷn â'r angen am ddiffiniad ar wyneb y Bil, fel y dywedwch, mae'r cynllun gweinyddol yn cyfeirio at ddiffiniad o ofal plant fel, ac rwy'n dyfynnu,

'gofal neu weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn y mae’n
ofynnol i’r darparwr gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 neu Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn
perthynas ag ef;'

Mae adran 18 o'r olaf, fel y mae'n digwydd, yn cynnwys diffiniad o ofal plant sy'n cynnwys addysg y tu allan i'r ysgol ac yn hollbwysig, ac rwy'n dyfynnu eto,

'unrhyw... weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn'.

Nid yw cynllun gweinyddol yn ddim mwy na hynny, wrth gwrs—canllawiau defnyddiol. Nid yw'n statudol, nid yw'n ddarostyngedig i broses graffu. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ddylanwad ar ei gynnwys, felly nid dyna'r lle i gael diffiniad y mae holl ddiben y Bil, a wneir drwy gyfraith yn y Cynulliad hwn, yn ddibynnol arno. Ac mae ei ddiben yn dibynnu arno, ac fe egluraf pam mewn munud.

Mae'r Gweinidog yn hyderus ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant', yn amlwg. Caiff ei gynnwys yn y cynllun gweinyddol oherwydd hynny. Ac fel deddfwrfa ni ddylem fod yn fodlon iddo newid heb graffu trylwyr. Nid yw'n briodol gwrthod rhoi'r diffiniad ar wyneb y Bil hwn ar sail yr angen i fod yn hyblyg ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant'. Dyna yw hanfod y Bil hwn mewn gwirionedd, felly rhowch ef ar wyneb y Bil os ydych chi'n hyderus yn ei gylch, neu o leiaf rhowch ddiffiniad ohono ar wyneb y Bil drwy gyfeirio at y ddau ddarn arall o ddeddfwriaeth. Prin ei fod yn newydd, os nad yn ysbryd y Bil—beth y'i galwaf—y Bil cydgrynhoi, os gwnaiff y Cwnsler Cyffredinol adael i mi ei ddisgrifio felly.

Felly, rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn oherwydd y byddai diffiniad o 'ofal plant' yn ddi-os yn gwella ansawdd y Bil. Ond wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod bod hyn yn creu cur pen mawr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diben y Bil hwn, sef darparu gofal plant am ddim. Os ydym yn mabwysiadu'r diffiniad, fel y mae'r Gweinidog ar hyn o bryd yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr ei wneud drwy'r cynllun gweinyddol, mae'n derbyn bod, ac rwy'n dyfynnu, 'gweithgaredd o dan oruchwyliaeth'—darparu cinio, mynd ar ymweliadau, ac ati—o fewn y diffiniad o 'ofal plant '. A bwriedir i ofal plant, o dan y Bil hwn, fod am ddim. Ni all fod tâl am unrhyw beth sy'n gyfystyr â gofal plant. Ond yng Nghyfnod 2 fe wnaethoch yn glir, Weinidog, eich bod yn gweld yr hyn a oedd yn eich barn chi yn ofal plant a'r gweithgareddau hyn, y gweithgareddau o dan oruchwyliaeth hyn, fel pethau gwahanol. Fe ddywedoch chi nad

30 awr o ofal plant ynghyd â phopeth arall gyda'i gilydd

oedd y cynnig, ac egluro y gallai hynny wneud y cynllun yn anfforddiadwy—ac rwy'n cytuno—ond rwy'n edrych ar Fesur 2010 a Deddf 2006, ac maent yn dweud bod gweithgareddau o'r fath yn rhan o ofal plant. Ac rydych yn dweud bod gofal plant yn rhad ac am ddim. Felly, mae angen i'r Bil hwn wahaniaethu rhwng gweithgareddau y gellir codi tâl amdanynt a'r rhai na ddylid codi tâl amdanynt ac sy'n rhaid eu cynnig am ddim. Drwy gyfeirio at y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn eich cynllun gweinyddol, rydych chi eisoes wedi cymylu'r dyfroedd drwy ganiatáu codi tâl am weithgareddau o dan oruchwyliaeth.

Pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei gynnig a'i basio, ni fyddai'r diffiniad hwn yn hwyluso eich nod polisi, ac eto rydych yn dibynnu ar yr union ddiffiniad hwnnw i gyflawni eich polisi. Felly, rwy'n gobeithio y gwelwch fy mhwynt: yn gyntaf, mae angen newid y diffiniad yn eich cynllun gweinyddol fel nad yw'n cynnwys canllawiau anghyson; ac yn ail, fel y mae hyn yn ei ddangos, nid yw'r Bil yn gwneud dim i ddweud wrthym beth sydd am ddim a beth na fydd am ddim—gan fethu cyflawni un o'i brif ddibenion.

Felly, nid wyf am gynnig y gwelliant, oherwydd byddai hynny'n ymgorffori eich camgymeriad mewn cyfraith, ond rwy'n gobeithio y dowch yn ôl i'r Siambr hon cyn Cyfnod 4 a dweud wrthym sut y byddwch yn goresgyn y camgymeriad hwnnw ac yn ei gwneud yn glir, mewn cyfraith y gallwn ei chraffu, beth yn union y gall teuluoedd ddibynnu ar ei gael am ddim o dan y gyfraith neu fel arall. Diolch.

17:10

Diolch, Lywydd. Diolch i Suzy a Janet am y sylwadau ac maent yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfodydd, ond hefyd mewn cyfnod cynharach o'r Bil yn ogystal.

Fe nodais yn fy sylwadau agoriadol pam y credaf fod yr hyn sydd gennym o'n blaenau, yn enwedig gyda gwelliant 4, yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng yr eglurder sydd ei angen arnom ar wyneb y Bil a'r dyletswyddau, a'r hyblygrwydd i ymestyn y cynnig yn y dyfodol, sy'n rhywbeth yr oedd y pwyllgorau hefyd eisiau ei weld o fewn hyn, rhaid i mi ddweud—y gallu i beidio â mynd yn ôl at ddeddfwriaeth sylfaenol, ond i'w ailystyried yn y modd y mae'r cynllun yn gweithredu mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhan bwysig o benderfynu lle rydym yn gosod rhai o fanylion hyn.

Ond gadewch i mi ddweud eto: er mwyn gweithredu'r ddyletswydd yr ydym yn ei hargymell, byddwn ni fel Gweinidogion Cymru, fi fy hun neu unrhyw un arall, yn gorfod manylu ar nifer yr oriau o ofal plant a nifer yr wythnosau o ddarpariaeth yn y rheoliadau a wnaed o dan adran 1. Ac nid oes modd celu beth yw'r cynnig: mae eisoes ar waith yn cael ei dreialu yn yr awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar, mewn 14 o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phob un ohonynt erbyn yr adeg y byddwn yn ei gyflwyno'n gyffredinol. Felly, mae'n eithaf clir, a bydd y rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Ac ar gwestiwn gofal plant ei hun, wel, fel y dywedais o'r blaen—ac rydym wedi trafod hyn yn y pwyllgor—at ddibenion y cynnig, gofal plant wedi'i reoleiddio yw hwn, gofal plant wedi'i reoleiddio a'i arolygu o dan yr arolygiaethau—gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu gan Ofsted—ac fe drof at y diffiniadau a grybwyllwch o ofal plant mewn deddfau eraill.

Ond o ran materion megis pan geir costau ychwanegol, boed yn gludiant neu gostau eraill, gwn y byddwn yn troi at hynny mewn gwelliannau eraill, ac rydym wedi eu trafod o'r blaen yng Nghyfnod 2 ac yn y pwyllgor yn ogystal, a byddwn yn ymdrin â'r rheini yno. Ond rydym yn glir iawn yn y canllawiau a ddosbarthwyd gennym, mewn perthynas â chludiant a chostau eraill, beth yn union a ganiateir a beth na chaiff ei ganiatáu a beth yw gofal plant. Byddai rhoi diffiniad o 'ofal plant' ar wyneb y Bil yn ein rhoi mewn sefyllfa lle byddem o reidrwydd yn gorfod dychwelyd i ailystyried hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol pe bai diffiniadau o 'ofal plant' yn newid mewn mannau eraill.

Mae'n ddrwg gennyf, er eglurder yn unig. A ydych yn dweud felly fod y diffiniad o 'ofal plant' yn Neddf 2006 yn anghywir?

Na, na, mae'r diffiniadau o 'ofal plant' yn gywir mewn gwirionedd, a'r hyn sy'n deillio o'r cynnig gofal plant sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd yw mai'r diffiniad hwnnw yw sail y diffiniad o 'ofal plant' a ddefnyddiwn. Ac mae canllawiau ynddo hefyd sy'n atodol i hyn, ac sydd wedi'i rannu gyda'r pwyllgor yn ogystal, sy'n dangos beth y mae'r canllawiau yn ei ddweud ynglŷn ag unrhyw gostau ychwanegol, er enghraifft. Ond gofal plant yw gofal plant, ac mae'n ddealladwy iawn ac nid oes angen inni ei ailddiffinio ar flaen y Bil hwn.

Felly, edrychwch, wrth gyflwyno gwelliant 4, rydym wedi darparu mwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto, ac rwy'n croesawu'r ffaith na fyddwch yn gwthio'r gwelliannau eraill sy'n ymwneud â hynny oherwydd rydym yn ceisio cyflawni'r un peth yma. A gadewch i ni beidio ag anghofio, fel rwy'n dweud, y bydd gofyn i Weinidogion Cymru nodi manylion y cynnig yn fanwl, o ran nifer yr oriau, faint o wythnosau, ac ati, mewn rheoliadau.

Felly, mae gwelliant 4, ochr yn ochr â gwelliant arall y Llywodraeth, sy'n ymgorffori gofyniad yn y Bil, Suzy a Janet, i adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth, yn golygu bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr nid yn unig i ymrwymiad y maniffesto, ond hefyd i dryloywder ynghylch effeithiolrwydd y cynnig hwn yn ogystal.

Ac un pwynt pwysig i'w ystyried, Lywydd, ar ddechrau'r trafodion Cyfnod 3 hyn, yw ei bod yn bwysig myfyrio eto ar ddiben y ddeddfwriaeth hon. Ei diben yw rhoi'r mecanwaith deddfwriaethol sydd ei angen arnom i ymgysylltu â Chyllid a Thollau EM ar gyfer gweinyddu'r broses ymgeisio a gwirio cymhwysedd ar gyfer y cynnig. Nid yw'n ymwneud â'r cynnig fel y cyfryw, er fy mod yn cydnabod bod yr Aelodau, yn ddealladwy, wedi canolbwyntio llawer ar y cynnig ehangach yn fwy cyffredinol drwy gydol y cyfnodau craffu, ac rydym wedi bod yn hapus i fynd i'r afael â'r materion hynny. Ac fel y Gweinidog cyfrifol, rwyf wedi ceisio mynd i'r afael â'r materion ehangach hynny ym mhob ffordd bosibl.

Ond mewn perthynas â'r set hon o welliannau, buaswn yn annog yr Aelodau yng ngoleuni fy sylwadau i wrthod y gwelliannau eraill hynny—ond os yw'r Aelod yn dewis peidio â'u gwthio, credaf y byddai hynny'n ardderchog oherwydd rydym yn ceisio cyrraedd yr un nod yma—a chefnogi gwelliant 4 y Llywodraeth fel y gwelliant sy'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng darparu gwell eglurder a sicrwydd, a rhoi disgresiwn i'r weinyddiaeth hon a gweinyddiaethau'r dyfodol o ran sut y diffinnir y ddyletswydd honno yn y dyfodol.

17:15

Gwelliant 4 yw'r prif welliant yng ngrŵp 1. Fel gwelliannau i welliant 4, caiff gwelliannau 4A a 4B eu gwaredu yn gyntaf. Janet Finch-Saunders, gwelliant 4A.

Cynigiwyd gwelliant 4A (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4A? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig ar welliant 4A. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 4A: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4B (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4B? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 4B. 

Gwelliant 4B: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grwp 2: Cymhwystra rhieni (Gwelliannau 6, 11, 8, 9, 17, 19, 10, 22, 5)

Sy'n dod â ni at yr ail grŵp. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chymhwystra rhieni. Gwelliant 6 yw'r prif welliant. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Siân Gwenllian. 

Cynigiwyd gwelliant 6 (Siân Gwenllian).

Diolch, Llywydd. Hoffwn ei gwneud yn glir o'r cychwyn cyntaf y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a hynny ar y sail ein bod ni'n credu yn yr egwyddor o ofal plant am ddim. Mae hyn yn gyson efo'r hyn a wnaethom ni yn ystod Cyfnod 1. Ond yr ydym ni wedi cyflwyno gwelliannau er mwyn ceisio cryfhau y Bil yn y gobaith bod modd iddyn nhw gael eu derbyn, hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn. 

Fe gyflwynwyd gwelliant 6 gan Blaid Cymru er mwyn ymestyn yr hawl i rieni mewn addysg neu hyfforddiant i ddod o dan y cynnig gofal plant, ac roedd gwelliannau 5, 9 a 10 yn dilyn o hynny. Mae'n gwelliant 8 ni yn ceisio sicrhau bod hawl i ofal am ddim i rieni sydd ddim yn gweithio hefyd yn dod o dan y Bil gofal plant. Rydym ni yn credu y dylid cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar neu ofal am ddim i bob plentyn rhwng tair a phedair oed, ac mi fyddai hynny'n sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. 

Rydym wedi gosod y gwelliannau yma er mwyn creu y newid pellgyrhaeddol sydd ei angen i'r cynllun gofal plant, yn unol â'n gweledigaeth ni, ac er mwyn rhoi'r cyfle i ni gyd bleidleisio dros ymestyn cynnwys y Bil yma. Efallai mai'r hyn sydd yn y Bil oedd ym maniffesto Llafur, ond roedd ein maniffesto ni ym Mhlaid Cymru yn mynd yn bellach, oherwydd bod ein ffocws ni ar fuddiannau pob plentyn, ac felly mae'n iawn ein bod ni'n dod â'r gwelliannau yma ger bron heddiw er mwyn anrhydeddu ein haddewidion maniffesto ni.

Ond hyd os nad ydych chi'n credu mai gofal plant am ddim i bawb ydy'r ffordd ymlaen, rydym yn cyflwyno gwelliant 6 er mwyn rhoi cyfle i chi fynegi'r farn y dylid cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant yn y Bil. Mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 11, er nad ydy o'n mynd mor bell ag yr hoffem ni, gan ein bod ni'n credu ei fod o'n dal i wella'r Bil. 

Mae'n gwelliant 9 ni yn caniatáu cyfyngu'r Bil i rai sydd angen y ddarpariaeth am ddim, ac yn stopio'r rhai mwyaf cyfoethog rhag manteisio ar wasanaeth am ddim pan fod modd ganddyn nhw i dalu. Nid ydy hi’n deg, ac nid ydy hi’n gyfiawn, nad ydy’r cynnig gofal plant yma yn darparu ar gyfer plentyn lle nad yw ei rieni’n gweithio tra ei fod yn cynnig y ddarpariaeth i blentyn lle mae’r ddau riant yn gweithio ac yn ennill £100,000 y flwyddyn. Yn fy marn i, mae hynny’n wallus, mae yn anghyfiawn, ac mae o jest yn anghywir. Ac mi fyddai cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd, yn cynyddu’r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ar gyfartaledd, mae plant o 20 y cant tlotaf ein cymdeithas dros 17 mis ar ôl plentyn o’r grŵp incwm uchaf o ran datblygiad iaith pan yn dair oed. Nid ydy’r Bil yma yn mynd i’r afael â hynny, ac yn wir, mae perygl iddo waethygu’r sefyllfa, gan y bydd plant lle nad yw un neu ddau riant mewn gwaith yn colli allan. Mae’r comisiynydd plant yn ategu’r farn honno, ac yn dweud yn hollol glir y bydd plant sydd ddim mewn cyflogaeth yn mynd ar eu hôl hi o’u cymharu â’u cyfoedion—hynny yw, plant â rhieni sydd ddim mewn cyflogaeth.

Mae hi yn cefnogi polisi gofal am ddim i bob plentyn tair i bedair oed, ac yn dweud ymhellach fod tystiolaeth gref, os ydych yn buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant o ansawdd uchel, yna byddwch yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyfleon bywyd y plant o’r cefndiroedd tlotaf. Os ydych chi’n cefnogi ein gwelliannau ni heddiw yma, mi fyddwch chi’n gwella’r ddeddfwriaeth ac yn creu’r newid pellgyrhaeddol i fywydau plant sydd wir angen cefnogaeth.

Oes, mae yna gynlluniau eraill ar gael, ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at Gymru’n Gweithio, cronfa ariannol wrth gefn addysg bellach, grant gofal plant addysg uwch, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ond, mae yna ddryswch. Nid ydy pobl yn gwybod eu bod nhw’n gymwys ar gyfer y cynlluniau yma. Nid oes yna ddim sicrwydd y bydd y cynlluniau yma’n parhau os yw'r ffynonellau cyllid yn sychu i fyny. Ac i ni, mae’n gwneud synnwyr llwyr i ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un cynllun syml lle mae pawb sydd yn gymwys, pawb sydd yn ffitio’r meini prawf, yn hollol glir beth ydy eu hawliau nhw, yn hytrach na rhyw ddryswch fel sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Diolch.

17:20

Mae gwelliannau 11 ac 19 wedi'u hailgyflwyno o Gyfnod 2 gan ein bod hefyd yn siomedig ynglŷn ag ymateb y Gweinidog ynghylch hepgor rhieni sy'n ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth rhag manteisio ar y cynnig. Yn ystod Cyfnod 1 y Bil, roedd gwrthwynebiad cryf i'r ffordd roedd y Bil yn gyfyngedig i rieni sy'n gweithio yn unig, gan gynnwys pryderon ynglŷn â diffyg sylfaen dystiolaeth dros gyfyngu'r cynnig, yn ogystal â'r ffaith bod bylchau cyrhaeddiad yn gwaethygu ac nad oes digon o botensial i helpu i rwystro plant sy'n byw mewn tlodi rhag llithro ar ôl eu cyfoedion yn gynnar.

Nawr, er bod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant tebyg iawn, credwn fod cyfyngu'r cynnig i rieni sy'n ymgymryd â hyfforddiant am o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf 10 wythnos mewn blwyddyn academaidd yn golygu bod pryderon Chwarae Teg ynglŷn â'i ymestyn i fod yn gynnig cyffredinol yn creu risg o ledaenu'r cynnig yn rhy denau, ac mae angen inni sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Byddai cyfyngu ar yr oriau a'r wythnosau'n lleihau beichiau gweinyddol ymhellach. Byddai prosesu cyrsiau nad ydynt yn para mwy na rhai dyddiau neu wythnosau'n cynyddu'r baich ceisiadau. Mae'r rheol 10 wythnos yn caniatáu ar gyfer cyrsiau sy'n rhedeg dros dymor academaidd. Fodd bynnag, rydym yn cefnogi gwelliant 10 Siân Gwenllian, gan y byddem ninnau hefyd eisiau diffinio 'a ragnodir'.

Nid yw ymatebion y Gweinidog hyd yma ond wedi ailadrodd yr amrywiaeth enfawr o brosiectau a geir i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, rydym yn dal i gredu bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynnu cyfyngu rhai o'r prosiectau hyn sydd eisoes yn bodoli yn ôl codau post rhieni yn peri pryder. Er bod y Gweinidog yn ymrwymo i ddod â gwaith i'r pwyllgor ar y rhaglenni cymorth hyn, nid yw hynny'n mynd i'r afael â'r bwlch sylweddol sydd eisoes yn bodoli yn y ddarpariaeth o ofal plant am ddim. Er enghraifft, mae Dechrau'n Deg wedi cael ei feirniadu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eleni am ei fod yn methu cyrraedd bron i ddwy ran o dair o'r plant sy'n byw mewn tlodi. A sawl gwaith y byddwn yn codi llais ar ran ein plant sy'n byw mewn tlodi yma yn y sefydliad hwn? Ond maent y tu allan i ardaloedd cyfyngedig iawn Dechrau'n Deg. Mae'r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth i'w dirwyn i ben yn 2020 hefyd. Felly, ni fydd yn cynnwys rhieni sy'n chwilio am gymorth gyda gofal plant cyn i'r rhaglen genedlaethol gofal plant ddod yn weithredol.

Felly, er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog wedi nodi eu cefnogaeth i ymestyn y cynnig, nid ydynt yn cefnogi'r cyfle i wneud hynny drwy'r gwelliant hwn. At hynny, mae'r gwerthusiad o'r gweithredwyr cynnar wedi nodi bod 60 y cant o rieni a gafodd eu cyfweld wedi dweud bod y cynnig wedi rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddiant mewn gwaith a chyfleoedd dysgu iddynt. Rydym yn credu, felly, y dylid ymestyn y dyhead hwn i rieni sydd wrthi'n weithredol yn chwilio am waith drwy addysg a hyfforddiant, a gofynnaf i'r holl Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.

Cyfnodau esemptio dros dro—gwelliant 17—unwaith eto, rydym wedi gorfod ailgyflwyno gwelliant 17 i dynnu sylw at ein pryderon ynghylch dibyniaeth y Gweinidog ar y cynllun gweinyddol anstatudol i gyflawni'r rhan hon o'r cynnig. Mae'r gwelliant yn cynnwys rhieni sy'n colli'r cymhwysedd presennol dros dro  drwy ddarparu cyfnod o ras. Er gwaethaf galwadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, NASUWT a Chwarae Teg i gynnwys hyn yn y Bil, rydym yn pryderu nad yw ymatebion y Gweinidog yn ystod Cyfnodau 1 a 2 wedi bod yn ddigon cryf. Drwy israddio'r maes hynod bwysig hwn i'r cynllun gweinyddol anstatudol unwaith eto, nid oes cyfle i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddadlau a thrafod sut y gall weithredu'n ddidrafferth ar sail genedlaethol.

At hynny, er mwyn sicrhau bod darpariaethau'r ardaloedd peilot yn cael eu cyflwyno'n llyfn ar sail genedlaethol, dylai rhieni gael gwybod am fwriadau Llywodraeth Cymru ar wyneb y Bil. Felly, Aelodau, cefnogwch y gwelliant hwn.

Yn olaf, ar welliant 22—mae hwn yn galw am gynnwys diffiniad o 'ofal' yn y rheoliadau a wnaed o dan adran 1. Fel y bydd Suzy Davies yn ei ddangos wrth ddarparu mwy o fanylion yn ei gylch, mae'n bryder fod Llywodraeth Cymru wedi gadael cymaint o fanylion allan o gymhwysiad y Bil, i'r graddau bod rhai o'r adrannau'n mynd yn ddiystyr mewn gwirionedd. Felly, rydym yn argymell, fan lleiaf, fod 'gofal' yn cael ei ddiffinio'n glir yn yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil er mwyn inni wybod pwy fydd yn elwa o'r cynnig. Diolch.

17:25

Wrth gwrs, nod y Bil yw cael rhieni plant o oedran amhenodol i mewn i waith neu eu cadw yn y gwaith drwy gyflwyno cyfnod amhenodol o ofal plant wedi'i gyllido, ac yn naturiol, mae angen iddo fod yn glir beth a olygir wrth 'rhiant', ac mae'n llwyddo i wneud hynny yn adran 1(7)(a) drwy gyfeirio at gyfrifoldeb rhiant fel y'i diffinnir yn Neddf Plant 1989, ac yna'n llai llwyddiannus yn 1(7)(b) drwy gynnwys, ac rwy'n dyfynnu,

'unrhyw unigolyn a chanddo ofal am y plentyn'.

Nawr, beth yw 'gofal am y plentyn'? Hynny yw, yn fy marn i, ni waeth pa mor anghydlynol yw diffiniad y Llywodraeth o 'ofal plant', mae'n amlwg fod 'gofal' yn golygu rhywbeth arall yma, gan mai rhieni yw'r rhai sy'n elwa o fod eraill yn darparu gofal plant. Nawr, nid yw'n cynnwys rhianta corfforaethol, gan ei fod yn cyfeirio at unigolyn a chanddo ofal am y plentyn. A yw'n golygu rhiant maeth, swyddogol neu answyddogol? Beth sy'n rhaid i unigolyn ei wneud i brofi bod ganddo ofal am y plentyn? Credaf fod yr is-adran hon yn eithaf diystyr fel y mae, ac mae'r gwelliant hwn yn caniatáu i'r Gweinidog gael ffordd o roi ystyr iddi, er fy mod yn dal i gredu y dylai fod wedi bod yn glir ar wyneb y Bil.

Os yw'n bwriadu peidio ag argymell cefnogi'r gwelliant hwn, rwy'n gofyn i chi, Weinidog, i egluro sut y bwriadwch unioni'r gwendid hwn, o gofio nad oes dim yn y Bil ar hyn o bryd sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno rheoliad er mwyn egluro'r sefyllfa. Nid wyf yn meddwl y bydd sicrwydd syml gennych chi'n foddhaol, oni bai ei fod yn cael ei ategu gan ymrwymiad ac amserlen ar gyfer datrys y broblem. Pa bryd fyddwch chi'n cyflwyno rheoliad? Oherwydd nid wyf yn credu bod esboniad o 'hyblygrwydd' yn mynd i weithio mewn perthynas â hyn ychwaith, oherwydd bydd pawb ohonom eisiau gwybod pwy all honni eu bod yn arfer gofal. Diolch.

Diolch eto, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod y cynnig gofal plant hwn yn glir iawn ynglŷn â beth y mae'n ei wneud. Credaf mai peth o'r drafodaeth yma yw'r hyn a nodir ar wyneb y Bil mewn deddfwriaeth sylfaenol a'r hyn a nodir mewn rheoliadau neu mewn cynlluniau gweithredu ac ati. Mae'r Bil hwn yn gul iawn mewn gwirionedd. Os caf ailadrodd: dyma'r mecanwaith sy'n sefydlu gweithgarwch CThEM i drafod cymhwysedd rhieni i geisio am y cynnig gofal plant. Fodd bynnag, buaswn yn dweud hyn—ac mewn ymateb i uchelgeisiau Siân ar gyfer yr hyn y gallai cynnig gofal plant fod, beth y gallai cynnig ar gyfer y blynyddoedd cynnar fod—mae yna bob amser drafodaethau ynglŷn â ble yr awn yn y dyfodol, ond buaswn yn dweud hyn: peidiwch â chael gwared ar yr hyn sy'n dda iawn yn yr ysfa am berffeithrwydd. Oherwydd dangosodd ymatebion y gweithredwyr cynnar—yr ymateb blwyddyn 1 i hyn—pa mor llwyddiannus y bu a pha mor dda y bu'r ymateb iddo, a'r ffaith ei fod yn rhoi £200 i £250 i aelwydydd, gyda rhai ohonynt ar y cyflogau isaf hefyd—felly mae hwn yn gweithio, mae'n effeithiol. Ond rwy'n deall y dyheadau i wneud mwy yn y dyfodol ac ati, ac mae llawer ohonom wedi mynegi'r dyheadau hynny ar gyfer yr hyn a wnawn yn y dyfodol, ond mae'r cynnig gofal plant hwn yn glir iawn, mae'r Bil yn gul iawn. Fodd bynnag, mae peth o'r drafodaeth hon yn ymwneud â'r hyn sydd ar wyneb y Bil ac yn y blaen. Gadewch imi droi at hyn: mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp hwn, yn enwedig gwelliannau 6, 11, 8 a 5 a gwelliannau canlyniadol 19 a 10, yn ymwneud â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig ac maent yn cyd-fynd yn agos â rhai o argymhellion y pwyllgor cyfrifol ynglŷn ag ehangu cwmpas y cynnig i gynnwys rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Nawr, fe drafodwyd hyn yn eithaf helaeth yn nhrafodion Cyfnod 2, ac yn ddiweddar iawn mewn gwirionedd, ysgrifennais at Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn amlinellu'r cynlluniau amrywiol sydd ar gael i rieni sydd y tu allan i baramedrau'r cynnig hwn.

Felly, gadewch imi atgoffa'r holl Aelodau am hynny'n fyr. Ceir amryw o raglenni eraill sydd eisoes ar waith i ddarparu cymorth i gategorïau eraill o rieni. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen rhieni, gofal plant a chyflogaeth—PaCE—Dechrau'n Deg, cymorth ar gyfer dysgu seiliedig ar waith ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gyflogedig, y gronfa ariannol wrth gefn ar gyfer unigolion sy'n mynychu addysg bellach, a'r grant gofal plant i fyfyrwyr mewn addysg uwch. Mae PaCE yn darparu £13.5 miliwn o arian prosiect Llywodraeth Cymru a chronfa gymdeithasol Ewrop. Mae'n targedu ei wasanaethau tuag at rieni anweithgar yn economaidd ledled Cymru sy'n ystyried mai gofal plant yw'r prif rwystr rhag gallu cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant neu gyflogaeth. Ac ers mis Gorffennaf, mae wedi gweithio gyda dros 3,400 o rieni ac mae wedi helpu 1,100 o'r rheini i gael gwaith. Mae 590 o rieni wedi cael cymorth ariannol drwy PaCE er mwyn i'w plant gael mynediad at ofal plant cofrestredig. Mae hyn wedi galluogi'r rhieni hynny i ymgymryd â hyfforddiant, profiad gwaith, gwirfoddoli, a chynyddu hyder a sgiliau cyflogadwyedd, sydd wedi gwella eu gobaith o gael gwaith—[Torri ar draws.]. Gwnaf mewn munud, Siân. Mae hefyd wedi talu dros £400,000 mewn costau gofal plant, ac wedi cynorthwyo rhieni i baratoi ar gyfer gwaith yn ogystal â'u helpu i bontio i gyflogaeth am yr ychydig wythnosau cyntaf, ac fel yr amlinellais yn y llythyr, mae'r trafodaethau'n parhau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ynglŷn ag ymestyn y prosiect PaCE wedi 2020. A bydd canfyddiadau'r gwerthusiad sydd gennym fel rhan o'r cynnig gofal plant hwn yn ffurfio rhan o'r ystyriaeth honno. Siân.

17:30

Rydw i jest eisiau gwybod faint o'r cynlluniau yma sydd yn rhai statudol a faint sy'n ddibynnol ar ffynonellau ariannol tymor byr?

Wel, soniais mewn perthynas â PaCE ein bod wedi mynd y tu hwnt i lle y gellid disgwyl yn rhesymol inni fynd mewn gwirionedd gan ein bod yn edrych ar ymestyn y tu hwnt i 2020 bellach, y tu hwnt i'r gyfran bresennol o arian, ac rydym wrthi'n gweithio ar hynny. Ond nid dyna'r unig un wrth gwrs. Mae gennym Dechrau'n Deg hefyd, er enghraifft, sy'n darparu gofal plant o ansawdd i rieni plant cymwys dwy a thair oed am ddwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Ac mae gwaith yn mynd rhagddo yn y Llywodraeth ar ystyried beth y gallwn ei wneud ymhellach na hynny hefyd, y tu hwnt i'r 10 y cant a addaswyd gennym eleni er mwyn ymestyn hyblygrwydd Dechrau'n Deg. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau.

Mae'r gronfa ariannol wrth gefn yn darparu cymorth i fyfyrwyr mewn addysg bellach sydd angen help gyda chostau gofal plant. Yn 2016-17, dyfarnwyd cyfanswm o £2.7 miliwn i 901 o fyfyrwyr addysg bellach sy'n rhieni i helpu gyda chostau gofal plant, a cheir eraill a nodais yn y llythyr yn ogystal. Ond bydd angen inni gadw'r ddarpariaeth hon yn gadarn yn ein golygon er mwyn gwneud yn siŵr ei bod ar waith ochr yn ochr â'r cynnig hwn, nid yn rhan o'r cynnig hwn.

Felly, er fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r holl heriau y mae pob rhiant, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i ofal plant fforddiadwy pan fo'i angen arnynt, rwyf wedi dweud o'r cychwyn fod y cynnig—y cynnig hwn—wedi'i dargedu'n benodol ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni sy'n gweithio.

Nawr, pwrpas gwelliant 9 yw sicrhau bod yr uchafswm enillion wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, gan fanylu ar yr amodau sy'n rhaid i rieni eu bodloni er mwyn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cynnig. Ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn, am nad yw'r gwelliant yn wahanol o ran ei effaith ymarferol i'r hyn sydd yn y Bil eisoes, ac felly, nid wyf yn ystyried bod ei angen. Mae'r uchafswm enillion yn rhan sylfaenol o'r meini prawf cymhwysedd ac fel y cyfryw, bydd yn rhaid pennu manylion y cap mewn rheoliadau o dan adran 1—mae hyn yn ailadrodd yr un drafodaeth a gawsom o'r blaen—er mwyn gallu gwneud y gwiriadau cymhwysedd. Ac mewn ymateb i'r cap ei hun, yn y dyfodol, Siân, gallwn newid y cap pe baem yn dymuno gwneud hynny, ond ceir cwestiynau dilys yma ynglŷn â'r ymrwymiad i gyflwyno'r cynnig hwn yn llawn ledled Cymru erbyn 2020, a'r galw sydd am wneud hynny hefyd.

Mae cysoni hyn â'r cynnig presennol CThEM sydd yno ar hyn o bryd yn ein galluogi i'w gyflawni gyda llai o risg o ran amser, y gost, ac i'w gael yn weithredol. Yn y dyfodol, gallwn ddychwelyd yn wir, ar sail canfyddiadau'r gwerthusiad, i edrych ar hyn eto, ac os penderfynwn fel Aelodau Cynulliad ein bod am ei ostwng i 80 neu 60—a gyda llaw, rydym wedi gwneud rhywfaint o'r dadansoddi a'r cwmpasu cychwynnol ac mae materion yn codi o ran dadansoddiad cost a budd, faint y byddai'n ei gostio i wneud hynny, a faint y byddech yn ei arbed drwy wneud hynny—gadewch i mi eich atgoffa, fel y dywedais o'r blaen yn y pwyllgor, mae dros 60 y cant o'r rhai sydd yn derbyn y gofal plant hwn yn ei gyfnodau gweithredu cynnar yn cael llai na'r cyflog canolrifol. Nid yw hyn yn arwain at y math o gamddefnydd y clywsom sôn amdano mewn perthynas â'r system, lle mae pobl yn byw yn eu plastai gyda'u pyllau nofio ac ati ac yn defnyddio hwn. Pobl sy'n ennill cyflogau bach sy'n gwneud defnydd ohono, ac mae'n eu helpu i gynyddu eu horiau gwaith ac ati.

Nawr, pwrpas gwelliant 17, yw sicrhau bod manylion ynghylch cyfnodau esemptio dros dro yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau o dan adran 1(2). Cyfnod esemptio dros dro yw'r cyfnod o amser y byddai person yn parhau i elwa ar y cynnig er ei fod wedi peidio â bod yn gymwys. Nawr, rwyf wedi darparu nodyn ac rwyf wedi siarad gyda'r pwyllgor ynglŷn â hyn o'r blaen hefyd. Rwyf wedi darparu nodyn i'r pwyllgor cyfrifol yn ystod Cyfnod 1. Cefais drafodaethau pellach gyda Suzy a Janet ar hyn, ac rwy'n siomedig nad fu modd i mi dawelu eu meddyliau, er bod y cyfnod hwnnw gennym ar waith eisoes gyda'r cynnig sy'n ymdrin â'r union fater hwnnw. Rwy'n dal i gredu mai'r cynllun gweinyddol yw'r lle gorau ar gyfer materion gweinyddol fel hwn. Nid yw hynny'n golygu nad wyf am i Aelodau'r Cynulliad gael unrhyw lais yn y materion hyn, ac rwyf wedi cynnig dod â'r cynllun gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwanwyn er mwyn inni allu ei drafod ymhellach mewn gwirionedd. Felly, ar y sail hon, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 17.

Mae gwelliant 22 yn ceisio diffinio beth a olygir wrth 'ofal' yn y rheoliadau. Rydym newydd grybwyll hyn. Cafodd ei drafod yng Nghyfnod 2, ac fel y dywedais ar y pryd, nid wyf yn gweld beth sydd i'w ennill drwy ddiffinio beth yw ystyr 'gofal' o dan reoliadau o dan y Bil hwn. Bydd is-ddeddfwriaeth o dan adran 1 yn manylu'n glir iawn ar yr amodau y bydd yn rhaid i riant neu bartner rhiant eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid o dan y cynnig hwn—ac mae'n cynnwys rhieni a gwarcheidwaid sy'n gweithredu in loco parentis megis gofalwyr sy'n berthnasau neu ofalwyr maeth.

Buaswn yn annog Aelodau'r Cynulliad i beidio â chefnogi gwelliannau 6, 11, 8, 19 a 10, sy'n ymwneud ag ehangu cwmpas y Bil i gynnwys rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Mae'n hollol iawn fod gennym hynny ar waith, ond mae tu allan i gwmpas y cynnig hwn. Yn ogystal ag ysgrifennu at y pwyllgor cyfrifol am yr ystod o gynlluniau a ddisgrifiais sydd eisoes ar waith i gefnogi categorïau gwahanol o rieni, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych hefyd ar y ffordd orau o dynnu hyn i gyd at ei gilydd a gwella cyfathrebu yn ei gylch er mwyn iddi fod yn gliriach i bobl, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, pa gymorth y gallant fanteisio arno i gynorthwyo gyda'u hanghenion gofal plant. Felly, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 9, gan ei fod yn ddiangen yn ein barn ni.

Rwy'n credu mai dyna'r cyfan, Lywydd. Diolch yn fawr.

17:35

Jest yn ffurfiol i fynd ar ôl y pwynt ynglŷn â'r holl gynlluniau eraill yma—mae'r rhain yn creu'r dryswch rhyfeddaf i bobl, nid ydy pobl yn gwybod amdanyn nhw, ac, i mi, mi fyddai o'n gwneud synnwyr cyffredin i ddod â'r cwbl at ei gilydd fel bod pawb sydd efo plant o oed tair a phedair oed yn gallu cael yr hawl, wedyn, i gael gofal am ddim.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 6: O blaid: 8, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 11. 

Gwelliant 11: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 3: Darpariaeth gofal plant Cymraeg (Gwelliant 7)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp ar ddarpariaeth gofal plant Cymraeg. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp. Rydw i'n galw ar Siân Gwenllian i gynnig ei gwelliant ac i siarad iddo. Siân Gwenllian.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Siân Gwenllian).

Diolch yn fawr. Mae gwelliant 7 Plaid Cymru yn ymwneud â sicrhau bod y Gweinidog yn rhoi sylw dyledus i'r iaith Gymraeg ym maes gofal plant. Mae cychwyn ar addysg Gymraeg, neu ofal plant cyfrwng Cymraeg, o oedran cynnar, yn hanfodol er mwyn cyrraedd at y miliwn o siaradwyr, ac, yn wir, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ym mis Gorffennaf eleni, wedi cadarnhau hynny, ac mae argymhelliad 37 gan y pwyllgor yn gofyn i'r strategaeth miliwn o siaradwyr a'r Bil gofal plant gael eu hintegreddio.

Rydw i yn falch bod y Llywodraeth wedi ystyried y darn yma o waith gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ddarpariaeth gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, a gafodd ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl, a bod yna ychydig o gynnydd wedi cael ei wneud. Mi wnaeth yr adroddiad yma ganfod mai Saesneg yw prif iaith 77 y cant o ddarparwyr gofal plant, efo 13 y cant yn Gymraeg, a 10 y cant yn ddwyieithog. Mi ddywedodd yr adroddiad yma nad oedd cynlluniau pendant na chadarn ynglŷn â sut i integreiddio'r cynllun 30 awr a gweledigaeth 2050. Ac oes, mae yna rywfaint o gynnydd wedi bod, ac oes, mae yna, diolch i bwysau gan Blaid Cymru, arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer 40 o brosiectau newydd drwy'r Mudiad Meithrin, ond 40 o brosiectau ar draws Cymru—nid yw hynny ddim yn llawer. Ac, yn sicr, nid yw'n mynd i fod yn gwneud y daith tuag at y miliwn o siaradwyr. Rhyw gynnydd bach iawn ydy hynny. Felly, rydw i yn gwybod bod gan y Gweinidog gydymdeimlad â'r hyn rydw i yn ei ddweud, ac mi fyddaf i'n gwrando'n astud ar ei sylwadau fo rŵan, ac yn gweld yn union beth mae o'n fodlon ei roi ar y record. Diolch.

17:40

Diolch, Lywydd, a diolch hefyd i Siân. A gaf fi ddiolch ichi am y trafodaethau adeiladol a gefais gyda chi ar y mater hwn yn flaenorol, a hefyd gyda Llyr? Ac yn sicr mae gennym lawer o gydymdeimlad ag ysbryd y gwelliannau a gynigiwyd ac rydym yn croesawu'r cyfle i gofnodi rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i gyflawni'n union hynny, ac os yw'r Aelodau'n fodlon bod yn amyneddgar, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig amlinellu lle y gallwn fynd â hyn.

Y man cychwyn yw ein bod yn cytuno'n llwyr fod cynyddu argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgais ar gyfer Cymraeg 2050, ac mae angen inni ddod o hyd i ffordd o wneud i hyn ddigwydd. Nawr, mae'r gwelliant sydd gennych ychydig yn wahanol o ran y modd y mae wedi ei ddrafftio i'r gwelliant cynharach a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, ac mae'r ffocws wedi symud ychydig o osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddiwallu anghenion iaith Gymraeg y plant sy'n manteisio ar y cynnig i sicrhau bod pwysigrwydd y Gymraeg yn cael ei ystyried wrth ddarparu gofal plant o dan is-adran 1 y Bil. Nawr, mae hyn yn ddefnyddiol o ran ein cael i drafod hyn yn awr, ond mewn gwirionedd, mae'r gwelliant, o ran y modd y cafodd ei ddrafftio, ychydig yn amwys o ran ei ddiben a'i effaith, ac fe ddof at hynny mewn eiliad. Nid yw'n ddelfrydol fel gwelliant, ond credaf eich bod wedi ei roi yno er mwyn cael y ddadl hon ac rwy'n ei groesawu.

Rwy'n cefnogi'r amcan yn llwyr, a dyna pam y gwerthfawrogais y cyfle i drafod y materion hyn gyda Siân a Llyr. Nawr, buaswn yn awgrymu, fodd bynnag, mai'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn yw dod â rhywfaint o egni a ffocws ychwanegol i'r mecanweithiau sydd gennym ar waith yn hytrach na thrwy greu dyletswydd newydd yn y Bil hwn. Nawr, mae gennym ddyletswyddau ar awdurdodau lleol eisoes o ran cynllunio a chyflenwi darpariaeth ar draws y blynyddoedd cynnar. O dan Ddeddf Gofal Plant 2006, rhaid i awdurdodau lleol—ac rwy'n ailadrodd rhaid—roi sylw i anghenion rhieni am ofal plant sy'n ymwneud â'r Gymraeg er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth gofal plant yn eu hardaloedd.

Rwy'n mynd drwy rai o'r pethau sydd ar waith cyn symud ymlaen. O dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol nodi, yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg sut y byddant yn gwella cynlluniau'r ddarpariaeth a safonau addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Ond unwaith eto, rydym yn gwybod mai'r gwir amdani yw nad oes digon o gapasiti cyfrwng Cymraeg a dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth yn buddsoddi yn awr, wrth inni siarad, mewn cynlluniau i ehangu'r sector gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer y sector gofal plant, ac yn bwysig, mewn mwy o gasglu a dadansoddi data ar y galw am fwy o ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a'r capasiti i'w ddarparu.

Nawr, drwy weithredu'r cynnig hwn yn gynnar, rydym yn profi ymhellach lle y ceir bylchau, ac o hyn, lle y gallwn geisio gweithio gyda'r sector ac â sefydliadau partner ac ymbarél—nid un yn unig, ond pob un ohonynt—i gynyddu'r capasiti hwn yn y farchnad. Byddwn yn parhau i fonitro bwriad rhiant i ddefnyddio a manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn ystyried hyn, gyda llaw, ym mlwyddyn 2 y gwerthusiad annibynnol. Mae rhan o hyn yn seiliedig ar yr adborth a gawsom gan aelodau'r pwyllgor ac o'r trafodaethau a gawsom.

Nawr, yn y cyfamser, yn ôl ym mis Medi, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes fod £46 miliwn wedi'i ddyrannu o'r grant cyfalaf addysg cyfrwng Cymraeg a grant cyfalaf y cynnig gofal plant—y ddau ohonynt—i gefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg. Nawr, mae tynnu'r rheini at ei gilydd ac annog darparwyr lleol ac awdurdodau lleol i wneud defnydd ohonynt yn y ffordd gydgysylltiedig honno'n dangos yr ymagwedd draws-Lywodraethol sydd ei hangen arnom er mwyn cyflawni'r amcanion sydd gennym ar gyfer y Gymraeg. Nawr, bydd y grant hwn ar ei ben ei hun yn cefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 o awdurdodau lleol. Bydd yn creu bron i 3,000 o leoedd ysgol a gofal plant ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a dyna rydym ei eisiau—llwybr llyfn yr holl ffordd drwodd.

Nawr, yn ôl yn yr haf hefyd, yng ngoleuni trafodaethau yr oeddem yn eu cael, cyhoeddais raglen gyfalaf gwerth £60 miliwn dros y blynyddoedd rhwng 2018 a 2021. Un o nodau allweddol y rhaglen hon yw cefnogi cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unol â strategaeth Cymraeg 2050.

Fel Llywodraeth—fe sonioch chi, Siân, am y Mudiad Meithrin—rydym hefyd wedi dyfarnu £1 filiwn y flwyddyn yn ychwanegol i'r Mudiad Meithrin dros y ddwy flynedd nesaf i helpu i sefydlu lleoliadau newydd mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn brin, er mwyn llenwi rhai o'r bylchau hynny. Mae'r grŵp cyntaf o leoliadau newydd yn agor yn ystod y flwyddyn academaidd hon, ac rydym wedi ymrwymo i gynnydd o 150 yn nifer y grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf. Ac fel y trafodwyd, gyda llaw, yn ein cyfarfod diweddar, mae'n galonogol iawn gweld niferoedd gynyddol o awdurdodau lleol yn dod ag elfennau gwahanol o gyllid at ei gilydd yn awr ac yn meddwl yn gydgysylltiedig drostynt eu hunain sut y gallant wella ac ehangu gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar mewn ffordd gydgysylltiedig. Byddem yn annog hynny fel Llywodraeth yn y ffordd y trefnwn ein cyllid a'n cynlluniau.

Ond hefyd, mae bwrdd cynghori ar hyn o bryd yn edrych ar gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac mae wedi bod yn ystyried sut i gryfhau'r cysylltiadau rhwng cynllunio darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg statudol drwy ddefnyddio'r data sy'n deillio o'r asesiadau digonolrwydd gofal plant. Byddaf yn awyddus i weld sut y gellir defnyddio'r data hwn yn effeithiol i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn benodol, credwn fod lle i wneud mwy i sefydlu cyswllt clir rhwng asesiad digonolrwydd gofal plant yr awdurdod lleol a sut y defnyddir y wybodaeth honno i gynllunio ar gyfer addysg gynnar cyfrwng Cymraeg.

Mae'n bwysig—hoffwn gofnodi hyn—fod awdurdodau lleol yn gweld twf yr iaith Gymraeg drwy lens hirdymor, gan ddechrau gyda'r plant ieuengaf. Byddaf yn ystyried ymhellach gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes sut y gallwn annog awdurdodau lleol i ymateb yn fwy gweithredol i'r hyn y mae eu hasesiadau'n ei ddweud wrthynt ynglŷn â bylchau a phroblemau gyda'r ddarpariaeth yn eu hardaloedd o ran y Gymraeg.  

Nawr, pe bai gwelliant 7 yn cael ei basio—a dyma lle mae ei amwysedd a'i gulni'n achosi problemau—ni fyddai ond yn ymwneud â'r ddarpariaeth gofal plant o dan y cynnig hwn: hynny yw, gofal plant ar gyfer plant cymwys rhieni sy'n gweithio, fel y disgrifir yn y cynnig. Ni fyddai'n berthnasol i ddarpariaeth gofal plant yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n wendid yn y gwelliant. Gwn nad yw'n wendid bwriadol, ond mae'n culhau'r hyn y dylem anelu i'w wneud gyda gofal plant cyfrwng Cymraeg. Buaswn yn dadlau bod edrych ar y cysylltiadau y gellir eu gwneud rhwng asesiadau digonolrwydd presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn darparu ffordd lawer mwy strategol ymlaen sy'n ehangach ond hefyd yn ddyfnach.

Ac ar y sail honno, a chyda'r sylwadau hynny, buaswn yn annog Siân a chyd-Aelodau'r Cynulliad i weithio gyda ni i nodi a defnyddio'r dulliau mwyaf pwerus a ddisgrifiais yma, nid yn unig i gefnogi ysbryd y gwelliant hwn, sydd ag elfen o amwysedd yn ei gylch, ond i wireddu ein huchelgais gyffredin ar gyfer y Gymraeg wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gobeithio bod y sylwadau hynny'n tawelu eich meddwl, Siân, yn ein hawydd i fod yn agored i barhau i weithio ar hyn, i edrych ar beth yr ydym yn ei werthuso wrth gyflwyno'r cynllun, ac i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni yn y ffordd yr edrychwn ar y cydgysylltiad rhwng addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg, a'r ffordd y defnyddiwn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a'r ffordd y defnyddiwn ffrydiau cyllido i gymell partneriaid lleol ac awdurdodau lleol i wella ac ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg mewn gwirionedd.   

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Torri ar draws.] 

Gwrthwynebiad. Os deellais yr araith honno'n iawn, roeddech yn gwrthwynebu.

Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 7.

17:50

Gwelliant 7: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Cludo rhwng darparwyr (Gwelliant 12)

Grŵp 4 yw’r grŵp nesaf o welliannau, sy’n ymwneud â chludo rhwng darparwyr. Gwelliant 12 yw’r prif welliant, yr unig welliant. Rydw i’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant—Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 12 wedi cael ei ailgyflwyno o Gyfnod 2. Mae'n hanfodol fod Gweinidogion o dan rwymedigaeth i ddarparu'r cynnig gofal plant yn rhydd o rwystrau posibl. Yn ystod Cyfnod 1, daeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymwybodol o bryderon nifer o sefydliadau ynglŷn â symud plant rhwng safleoedd sy'n darparu'r cynnig a safleoedd sy'n darparu addysg y blynyddoedd cynnar. Mae Estyn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi sylweddoli ei bod hi'n bwysig ymchwilio i drefniadau cludo plant, a gwneud peth gwaith mewn partneriaeth mewn rhannau o Gymru. Eto, mae Estyn wedi cyfaddef nad oeddent yn arsylwi ar symud plant o un safle i'r llall, a dangosodd tystiolaeth y Gweinidog yng Nghyfnod 1 ddarlun tameidiog ledled Cymru mewn perthynas â chludo plant. Naill ai bod rhieni'n gwneud trefniadau i gludo plant eu hunain neu roedd rhai darparwyr gofal plant yn dod o hyd i ffyrdd o gysylltu â lleoliadau gwahanol.

Hefyd nododd y Gweinidog ei hun y dylid canolbwyntio yn y dyfodol ar gynyddu cydleoli a chydweithio mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir. Yng Nghyfnod 2, cadarnhaodd ei safbwynt drwy honni ei fod am gynyddu'n sylweddol y gyfran o ofal plant a ddarperir mewn safleoedd wedi'u cydleoli, ac eto gwrthododd y gwelliant ar y sail nad oedd angen gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r mater. Mae'n braf fod y Gweinidog wedi cadarnhau cwestiynau ymchwil ychwanegol ar werthuso blwyddyn 2 y cynlluniau peilot er mwyn archwilio'r mater ymhellach, yn ogystal ag addo ystyried cludiant gyda'r gwerthusiad cenedlaethol o'r gwaith ar gyflwyno'r cynnig. Fodd bynnag, credwn nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell, yn enwedig oherwydd yr argymhelliad a amlinellir yng ngwerthusiad y flwyddyn gyntaf—yn benodol, mae gwerthusiad blwyddyn 1 yn argymell bod angen ystyried ymhellach yr aliniad rhwng darparu gofal plant a darparu meithrinfeydd cyfnod sylfaen. Gallai hyn gynnwys cludiant i ac o leoliadau. Argymhellir hefyd y gallai fod angen perthynas waith agosach rhwng meithrinfeydd cyfnod sylfaen a darparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig.

Fel y cyfryw, mae'n bwysig fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i oruchwylio'r argymhellion hyn er mwyn atal rhwystrau pellach i rieni rhag gallu manteisio ar y cynnig gofal plant. Felly, gofynnwn i'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn.

Diolch, Lywydd. Wrth agor, credaf ei bod hi'n bwysig atgoffa ein hunain nad yw hyn yn rhywbeth newydd; nid yw'n codi o ganlyniad i'r cynnig. Nid yw'n anghyffredin bellach—ac rwyf fi'n ei wneud, fel rhiant—i gael addysg a gofal plant mewn gwahanol leoedd ac i wneud trefniadau o ran cludiant. Nid yw'r angen i gludo plant yn rhywbeth sy'n codi ym mhob lleoliad, fodd bynnag, neu ym mhob rhan o Gymru. Ond mae'n nodwedd o'r gwasanaethau a ddarperir mewn rhai lleoliadau, ac yn rhannol, mae'n codi o ganlyniad i hanes y sector a phwysau'r farchnad. Mae darparwyr gofal plant weithiau'n ymateb i'r hyn y mae rhieni'n gofyn amdano. Mae'n bwysig cofio efallai y bydd rhieni weithiau eisiau neu angen defnyddio mwy nag un darparwr ar gyfer gwahanol rannau o'r cynnig neu rannau gwahanol o ofal plant. Meddyliwch am rieni sy'n gweithio, er enghraifft, shifftiau hwyr neu gynnar, neu hyd yn oed ar benwythnosau. Felly, mae'n bwysig inni ymrwymo i sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y sector ac yn y cynnig i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd.

Ond edrychwch, gadewch imi ei gwneud yn glir fy mod wedi dweud ar hyd yr amser y byddaf yn rhoi camau ar waith lle bynnag y gallaf i sicrhau bod y cynnig hwn mor ddi-dor â phosibl—rwy'n dweud hynny eto heddiw—er budd rhieni a phlant. Nawr, fel y dywedais yn ystod Cyfnod 2, nid wyf yn meddwl mai gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i leihau effaith cludo plant rhwng darparwyr ar wyneb y Bil yw'r ffordd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae'n aml yn codi o ganlyniad i amgylchiadau teuluol penodol neu amgylchiadau lleol, sydd y tu allan i gylch gwaith a phŵer y Llywodraeth. Ond ar gais yr Aelodau, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ychwanegu cwestiynau ymchwil sy'n ymwneud yn benodol â chludiant at y gwerthusiad annibynnol o flwyddyn 2, ac rwy'n gobeithio—. Janet, gallaf eich gweld yn nodio eich pen. Rwy'n gobeithio y byddwch yn croesawu hynny. A byddaf yn ystyried hyn eto fel rhan o'r adolygiad o'r broses o gyflwyno'r cynllun yn genedlaethol yn ogystal.

Bydd gwerthuso blwyddyn 2 o weithrediad cynnar y cynllun yn cynnwys cyfweliadau manwl ac arolwg cyfrifiad ar-lein o rieni a darparwyr, a byddwn yn gofyn i rieni a ydynt yn cael problemau o ran manteisio ar y cynnig sy'n ymwneud â chludiant neu ofal cofleidiol, a byddwn yn gofyn i rieni a ydynt yn teimlo bod unrhyw gludiant neu ofal cofleidiol y mae eu plentyn yn ei gael yn effeithio'n gadarnhaol neu'n negyddol, a buaswn yn dweud—oherwydd rwyf wedi ymweld â llawer o'r lleoliadau hyn, fod rhai ohonynt lle y cânt eu cydleoli, neu lle maent yn symud rhwng lleoliadau—ac i rai o'r rhieni, dyma'n union y maent ei eisiau. Felly, ni ddylem geisio cael gwared ar amrywiaeth. Ond credaf fod cael mwy o gydleoli yn darparu cynnig llawer mwy di-dor. Nawr, gofynnir i ddarparwyr yn yr arolwg hefyd ynglŷn â'r galw am ddarpariaeth, gan gynnwys cludiant a gofal cofleidiol, unrhyw heriau a allai fod ganddynt mewn perthynas â darparu hyn, a'u canfyddiad ynglŷn ag a yw hyn wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y plant yn eu gofal.

Nawr, fel y dywedais, rwy'n llawn sylweddoli nad yw'r sefyllfa hon wedi codi dros nos. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd. Yn rhannol, mae'n deillio o'n hymagwedd tuag at addysg a gofal plant yn hanesyddol, ac oherwydd nad yw addysg gynnar ond ar gael mewn lleoliadau penodol mewn rhai rhannau o Gymru. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau wedi'i drafod ac yn awyddus iawn i fynd i'r afael ag ef.

Felly, dosbarthwyd canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ym mis Medi, yn dweud yn glir yr hoffem weld mwy o hyblygrwydd yn y trefniadau darparu addysg gynnar. Os caniatawn i ragor o ddarparwyr gofal plant gynnig hyn, dylai gynyddu'r dewisiadau ar gyfer darpariaeth un safle, sef yn union yr hyn rydych chi'n ceisio ei gyflawni yma, fel finnau. Ac ochr yn ochr â hyn, ym mis Gorffennaf, cyhoeddais £60 miliwn ar gyfer rhaglen grant cyfalaf dros y tair blynedd hyd at 2021, ac un o brif ddibenion y cyllid hwn yw hwyluso a chefnogi cydleoli'r ddarpariaeth addysg gynnar a gofal plant lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn unol â'n hymrwymiad yn 'Ffyniant i Bawb' i gyflwyno model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, i ddarparu gwasanaethau estynedig gyda gofal plant, cymorth rhianta, dysgu fel teulu, mynediad cymunedol at gyfleusterau wedi'i adeiladu o gwmpas y diwrnod ysgol. I'r cyfeiriad hwnnw yr ydym yn teithio. A byddaf yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda'r pwyllgor am ganlyniad y rhaglen grant honno yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Drwy ganllawiau, rhannu arferion da, a defnyddio'r ysgogiadau ariannol sydd gennym at ein defnydd gyda phethau fel y gronfa gyfalaf, rydym yn annog awdurdodau lleol a darparwyr i feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gallent ddarparu'r cynnig. Ceir llawer o fodelau da. Yn wir, rwyf wedi cynnig i aelodau'r pwyllgor fy mod yn nodi'r rheini iddynt a hyd yn oed trefnu iddynt i fynd i'w gweld. Nawr, yng ngoleuni'r sylwadau hynny a wneuthum ar fonitro effaith cludo plant fel rhan o'r gwaith o werthuso blwyddyn 2, ymagwedd fwy strategol tuag at leihau'r angen am gludiant rhwng lleoliadau, i fwy o gydleoli, atebion mwy arloesol, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 12, a gofynnaf i'r Aelodau eraill wneud yr un peth.

17:55

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn cynhesu at y syniad mai cydleoli ac i ryw raddau, mai cludiant gwell yw'r ffordd ymlaen, ond fel rhan o'r ymchwil y dywedwch eich bod yn mynd i'w gyflawni, a gaf fi ofyn i chi edrych ar dystiolaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a gasglwyd gan nifer o famau'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth. Roeddent yn glir iawn eu barn eu bod yn ei chael hi'n anodd bellach—y rhai a allai fanteisio ar y cynllun gofal plant mewn gwirionedd—roeddent yn ei chael hi'n anodd iawn symud rhwng darparwyr. Felly, credaf fod yna broblem gyda hynny, a hoffwn ailadrodd y pryderon rydym wedi'u lleisio a gofyn i chi ddangos rhywfaint o barodrwydd mewn gwirionedd i'n cefnogi yn awr ar y gwelliant hwn.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 12. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symud i bleidlais electronig, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 12. 

Gwelliant 12: O blaid: 17, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 5: Ffïoedd ychwanegol a chyfraddau talu (Gwelliannau 13, 21, 32, 33)

Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â ffioedd ychwanegol a chyfraddau talu. Gwelliant 13 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad iddo ac i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 13 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Yn ystod Cyfnod 2 o drafodion y Bil, gwnaethom dynnu sylw at anghysondebau rhwng nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil i leihau rhwystrau i gyflogaeth drwy'r cynnig gofal plant a natur dechnegol y Bil. Gwelir hyn ar ei fwyaf amlwg yn y taliadau ychwanegol am fyrbrydau a nwyddau traul, y credwn y byddant yn dal i fod yn rhwystr ychwanegol i rieni, yn enwedig rhieni ar incwm isel, rhag gallu manteisio'n llawn ar y cynnig. Yn y pen draw, mae hyn mewn gwirionedd yn mynd yn groes i brif amcanion y Bil, fel y cânt eu hamlinellu yn y memorandwm esboniadol, felly rydym wedi ailgyflwyno gwelliannau 13 a 21. Nodaf unwaith eto fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd peilot yn caniatáu i ddarparwyr gofal plant godi taliadau ar rieni o hyd at £37.50 yr wythnos, sef cyfanswm o £7.50 y diwrnod, yn seiliedig ar gost tri phryd bwyd y dydd. Felly, i rieni sy'n manteisio ar y cynnig llawn, byddai hyn yn golygu dod o hyd i £1,800 ychwanegol y flwyddyn. Gweithwyr Cymru sy'n cael y cyflogau isaf yn y DU, a hefyd incwm eithriadol o fach sydd gan y rhai sy'n cael budd-daliadau ac sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n golygu bod hyn yn anfforddiadwy.

Er gwaethaf sicrwydd gan y Gweinidog yng Nghyfnod 3 y byddai rhieni sy'n manteisio ar y cynnig yn cael 15 i 20 awr yr wythnos o ofal plant mewn gwirionedd, gan olygu uchafswm tâl ychwanegol o £13.25 yr wythnos, mae hyn yn dal i fod yn £636 y flwyddyn. Felly, rydym yn parhau i gefnogi safbwynt Arolygiaeth Gofal Cymru, a nododd y gallai taliadau ychwanegol wneud y cynnig yn anfforddiadwy i rai teuluoedd ar incwm isel.

Rydym hefyd wedi clywed tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg mewn un ardal beilot fod rhai darparwyr gofal plant wedi dechrau codi tâl ar rieni pan nad oeddent wedi gwneud hynny'n flaenorol. Mae gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r cynnig wedi dangos bod 15 y cant o ddarparwyr gofal plant a gafodd eu cyfweld wedi cyflwyno taliadau ychwanegol o ganlyniad i'r cynnig hwn. Yn waeth byth roedd rhai darparwyr gofal plant yr oedd eu taliadau'n uwch na'r £4.50 yr awr a ddarperir gan y cynnig wedi cyflwyno taliadau ychwanegol i wrthbwyso diffyg yn y refeniw.

Nawr, yn amlwg, rydym yn croesawu ymatebion y Gweinidog yng Nghyfnodau 2 a 3 a nododd y byddai'r canllawiau ar daliadau ychwanegol yn cael eu diwygio i gryfhau safbwynt Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol. Mae hefyd yn arwyddocaol fod y cynllun gweinyddol drafft yn cynnwys cyfeiriadau at ganllawiau newydd i awdurdodau lleol ar ffioedd ychwanegol, a nodwn ymdrechion Llywodraeth Cymru i rybuddio darparwyr i beidio â chodi ffioedd ychwanegol ar gyfer plant tair i bedair oed, gyda'r bygythiad o gael eu gwahardd o'r cynnig am fethiant i gydymffurfio. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus fod y diffiniad o 'ofal plant' y mae'r Gweinidog yn pwyso cymaint arno yn y cynllun gweinyddol drafft, a ddisgrifiwyd yn fedrus mewn mwy o fanylder gan fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC, yn cynnwys gweithgareddau o dan oruchwyliaeth mewn gwirionedd. Rydym yn dadlau felly y dylai taliadau a godir am y rhain gael eu talu'n rhan o'r cynnig. At hynny, mae'r gwerthusiad cyntaf ar gyfer gweithredwyr cynnar wedi dangos yn glir nad yw darparwyr sydd wedi cyflwyno taliadau ychwanegol yn gwybod nad yw gosod taliadau yn y modd hwn yn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'r gwerthusiad hefyd yn nodi, mewn rhai achosion, fod y taliadau ychwanegol mewn gwirionedd yn cymryd lle rhai o'r rhwystrau i fforddiadwyedd y mae'r cynnig yn anelu i'w dileu.

Er bod y cynllun gweinyddol drafft yn sôn na chaniateir gosod taliadau ychwanegol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir, mae'r taliadau atodol yn dal yn bresennol, sy'n golygu bod modd i ddarparwyr gofal plant adennill y gwahaniaeth. Ac ni ddarparir y canllawiau, sy'n golygu nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn gallu asesu a fyddai modd atal hyn rhag digwydd. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau yma heddiw i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn. Nid yn unig y byddech yn bod yn deg wrth rieni ar incwm isel sy'n ymdrechu i dalu costau gofal plant, ond byddai o gymorth i ddileu rhai o'r rhwystrau i gyflogaeth a achosir gan y cynnig, yn anffodus.

Nawr, mae gwelliant 33 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a monitro gwybodaeth sy'n ymwneud â thaliadau ychwanegol, gan gynnwys byrbrydau. Fel yr eglurwyd o dan welliant 13, gall taliadau am ddarpariaethau ychwanegol atal rhai rhieni rhag manteisio ar y cynnig a gorfod dod o hyd i hyd at £1,800 y flwyddyn pe bai gofyn iddynt dalu pris llawn am 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn. Fodd bynnag—a bydd hon yn thema sy'n rhedeg drwy'r rhan fwyaf o'r gwelliannau a gyflwynais—nid oes modd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru graffu ar, neu ddadlau ynglŷn ag unrhyw sicrwydd a roddir gan y Gweinidog yma ar gam diweddarach yn sgil y ffaith eu bod yn cael eu hepgor o'r Bil hwn. Rydym yn ailgyflwyno'r gwelliant hwn, am fod y Gweinidog, drwy ei wrthod yng Nghyfnod 2 ar sail creu baich ychwanegol ar awdurdodau lleol a darparwyr, wedi gwrthddweud ei haeriadau ei hun yng Nghyfnod 1. Yn ogystal, mae cynnwys canllawiau ar daliadau ychwanegol mewn cynllun gweinyddol drafft, yn ogystal â'r ffaith bod y Gweinidog wedi dweud y byddai'n rhoi camau ar waith os codir taliadau ychwanegol ar gyfer plant tair i bedair oed drwy wahardd darparwyr gofal plant rhag cael darparu'r cynnig, yn awgrymu y bydd rhwystrau posibl yn cael eu monitro. Felly, rhaid defnyddio trefniadau i gasglu data er mwyn ategu hyn.

Mae'r arwyddion cynnar o werthusaid Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod rhai darparwyr gofal plant wedi cyfaddef eu bod yn codi taliadau ychwanegol ers i'r cynnig gael ei gyflwyno, a chredwn yn gryf, fel y cyfryw, fod gwir angen dyletswydd i gyhoeddi gwybodaeth er mwyn sicrhau y cynhelir adolygiad cadarn. Felly, rhaid i'r Gweinidog roi cyfle i'r sefydliad hwn weld y data y bydd Llywodraeth Cymru yn anochel yn ei gasglu ar daliadau ychwanegol, yn hytrach na'i israddio'n bosibilrwydd o dan weithrediad y cynllun gweinyddol. Ac rwy'n annog yr Aelodau eto i bleidleisio gyda'ch cydwybod a phleidleisio'n unol â hynny.

Mae gwelliant 32 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a monitro'r cyfraddau fesul awr a delir am ofal plant ac elfennau cyfnod sylfaen y cynnig. Fel y caiff ei weithredu ar hyn o bryd, caiff cynnig gofal plant 30 awr yr wythnos Llywodraeth Cymru ei gynnal ar ffrwd ddeuol—addysg feithrin cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar a'r cynnig gofal plant—gydag o leiaf 10 awr yr wythnos i'w ariannu gan ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar drwy grantiau cymorth refeniw llywodraeth leol. Nawr, clywsom yn ystod Cyfnod 1 y gall lleoliad deuol greu canlyniadau anfwriadol, megis cludiant rhwng y darparwr sy'n cynnig gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar.

Fodd bynnag, testun pryder arbennig yw nad oes gwahaniaeth enfawr rhwng y cyfraddau fesul awr a delir am addysg y blynyddoedd cynnar nas cynhelir a'r cyfraddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu talu am y cynnig gofal plant, gyda'r cynnig yn darparu cryn dipyn yn fwy nag a delir tuag at addysg y blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd y cyfnod sylfaen. Mae'r cynnig yn rhoi £4.50 yr awr i ddarparwyr am ofal plant, sy'n llawer uwch na'r £1.49 i £3.50 yr awr y mae Cwlwm a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif ei fod yn cael ei gynnig i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar. Felly, mae'n amlwg y gallai'r amrywiadau hyn effeithio'n negyddol ar addysg y blynyddoedd cynnar drwy wthio darparwyr allan. Mae'r gwerthusiad wedi gweld hyn yn digwydd yn y camau peilot. Gallai amrywiadau o'r fath effeithio'n negyddol ar addysg y blynyddoedd cynnar—rhywbeth a gyfaddefodd y Gweinidog yng Nghyfnod 1 mewn gwirionedd. Felly, drwy wahaniaeth o'r fath yn y taliadau, nododd y CLlLC hefyd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pryderon eisoes wedi'u mynegi mewn ardaloedd peilot y gallai addysg y blynyddoedd cynnar gael ei gwthio allan oherwydd elfen gofal plant y cynnig hwn.

Rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant hwn fel nad yw haeriad y Gweinidog y byddai'n rhy feichus ar Weinidogion Cymru yn gorbwyso pwysigrwydd craffu ar effaith y cynnig ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen. Rydym yn ymwybodol hefyd o addewid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghyfnod 1, ond rydym yn edrych yn ofalus ar yr effaith bosibl ar ddarpariaeth y cyfnod sylfaen, gan gynnwys materion strwythurol ac ariannol a allai effeithio ar gyflawniad effeithiol ac ansawdd y ddarpariaeth. Rydym yn dal i ddadlau bod cyhoeddi cyfraddau fesul awr yn rhan bwysig o'r gwerthusiad hwn. Diolch.

18:05

Diolch, Lywydd. Gadewch imi ddweud rhai pethau pwysig ar y cychwyn. Yn gyntaf oll, o ran y gyfradd o £4.50 yr awr, roedd y rhan fwyaf o'r darparwyr yn ystyried honno'n gyfradd yr awr ddigonol a phriodol pan ddaethom at hyn. Mewn gwirionedd, mae'r flwyddyn gyntaf wedi dangos bod darparwyr yn ei hystyried yn  gyfradd briodol ar gyfer darparu gofal plant ac un sy'n fasnachol hyfyw.

Nawr, rydym wedi edrych ar yr opsiwn o ariannu darparwyr ar gyfradd uwch i wneud iawn am rai o'r taliadau ychwanegol, ond gadewch inni fod yn onest yma, rydym yn wynebu problemau a chwestiynau ar unwaith, o fewn yr amlen gyllido, sydd naill ai'n cyfyngu'r cynnig i lai o rieni neu i lai o amser—dyna'r dewis sydd i'w wneud. Ein bwriad, wrth lunio'r cynnig, oedd creu cynnig gofal plant sy'n cynnig cymaint o ofal plant ag y bo modd i gymaint o rieni ag y bo modd o fewn yr amlen gyllido sydd ar gael, a phe bawn i'n gallu ysgwyd y goeden arian a chael yr £800 miliwn y dylem fod wedi'i gael dros y degawd diwethaf, efallai y byddai gennym fwy i'w wario ar hyn, a gallem wneud mwy eto hyd yn oed, a gallem ymdrin â'r awgrymiadau cynharach gan Siân Gwenllian, ac ati. Gallem wneud y pethau hynny, ond nid oes gennym arian o'r fath.

Felly, nodwn fod nifer o'r gwelliannau hyn, neu rai tebyg, wedi'u cyflwyno yn ystod Cyfnod 2. Mae gwelliant 13 a gwelliant canlyniadol 21 yn ymwneud ag eithrio rhieni plant a allai fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhag talu taliadau ychwanegol. Credaf fod gennym fesurau digonol ar waith eisoes i ddiogelu rhieni rhag taliadau afresymol, a buaswn yn dweud bod hynny'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd gyda'r cynnig yn Lloegr. Felly, rydym wedi cyhoeddi canllawiau clir iawn i ddarparwyr ynglŷn â thaliadau ychwanegol, y cyfeiriodd Janet atynt. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yn ogystal ynglŷn â beth ddylai'r uchafswm fod ar gyfer taliadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir o fewn ystod resymol, ac mae'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn Lloegr, lle na cheir uchafswm.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gryfhau ein safbwynt, gan ddysgu o'r cyfnod gweithredu cynnar mewn perthynas â thaliadau ychwanegol cyn cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol. Felly, byddwn yn dysgu, byddwn yn ei drafod gyda'r pwyllgor, gyda'r Cynulliad, gan ddysgu o ganfyddiadau'r gwerthusiad. Yma, yn ein cynigion, rhaid i'r darparwyr ystyried—rhaid iddynt ystyried—ein canllawiau ar godi tâl ychwanegol. Rydym wedi dweud, er enghraifft, fod yn rhaid i rieni gael yr opsiwn i ddarparu bocs bwyd yn hytrach na thalu am bryd o fwyd a ddarperir gan y darparwr, a chofiwch nad yw rhai darparwyr yn darparu bwyd nac yn coginio bwyd ar eu safle, ac ati. Mae'n amrywio o ddarparwr i ddarparwr.

Hefyd, dylai rhieni gael dewis peidio â thalu i'w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y safle y codir tâl amdanynt na chymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath. Ni ellir eu gorfodi i gymryd rhan a gorfod talu am hynny. Dywedwyd wrth y darparwyr yn eglur iawn nad ydynt i godi unrhyw dâl ychwanegol yr awr ar rieni plant tair a pedair oed sy'n defnyddio'r gwasanaethau o dan delerau'r cynnig. Mae hyn yn wahanol iawn ac yn llawer mwy eglur yn y canllawiau nag yn Lloegr. Os gwelir bod darparwr yn torri'r cytundeb hwn ac yn codi cyfraddau ychwanegol yr awr, byddwn yn gweithredu. Gallent gael eu gwahardd yn y pen draw rhag darparu'r cynnig gofal plant. Ac rydym wedi dweud wrth ddarparwyr hefyd, Janet, na ddylent drin rhieni sy'n cael gofal plant o dan y cynnig hwn yn wahanol mewn unrhyw fodd i rieni eraill sy'n defnyddio'u gwasanaethau. Ni ddylai darparwyr godi mwy o dâl ar rieni sy'n manteisio ar y cynnig hwn am unrhyw elfennau ychwanegol nag y maent yn ei godi ar rieni nad ydynt yn manteisio ar y cynnig.

Nawr, dylwn ddweud hefyd y dylem fod yn ofalus yn awr rhag neidio i gasgliadau ar y cam cynnar iawn hwn o weithredu'r cynnig. Mewn gwirionedd, mae nifer yr oriau o ofal plant y bydd plentyn yn elwa ohonynt o dan y cynnig yn debygol o amrywio rhwng 15 ac 20 awr yr wythnos. Yn y sefyllfa waethaf, lle mae plentyn yn elwa o'r 20 awr lawn o ofal plant bob wythnos, ni ddylai fod gofyn i riant dalu mwy na £15 yr wythnos o daliadau ychwanegol os yw darparwyr yn gweithredu'n unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'n debygol o fod yn llawer llai mewn gwirionedd, a dyna rydym yn ei glywed. Dyna'r hyn a awgrymodd y gwerthusiad ar gyfer y flwyddyn gyntaf—nid yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn codi taliadau o gwbl. Nawr, cofiwch fod hyn yn groes i'r rhieni sy'n dweud hyn wrthym yn uniongyrchol, wyneb yn wyneb, eu bod yn arbed arian oherwydd natur y gofal plant hwn a ariennir gan y Llywodraeth—eu bod £200 i £250 yr wythnos ar eu hennill oherwydd y gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth.

Nawr, byddwn yn cadw taliadau ychwanegol dan adolygiad wrth gwrs—adolygiad rheolaidd. Ond o'r gwerthusiad o weithredwyr cynnar y cynnig, gwyddom mai canran fach o ddarparwyr yn unig sy'n codi tâl am bethau ychwanegol. Pe baem yn gwrando ar y sector ei hun—er enghraifft, yr hyn a ddywedodd Cwlwm mewn ymateb i'r argymhelliad Cyfnod 1—ni ddylem fod yn dweud wrth ddarparwyr beth y gallant ac na allant ei wneud mewn perthynas â thaliadau ychwanegol. Felly, rhaid sicrhau cydbwysedd. Mae ein canllawiau'n gryf ac yn eglur iawn, ond mae dweud 'dim taliadau' wrthynt, wel, mae goblygiadau i hynny, ac ni fyddent yn cytuno i hynny.

Nawr, mewn ymateb i welliant 32, gallaf roi sicrwydd y byddwn yn cyhoeddi'r gyfradd yr awr a delir i ddarparwyr yn y cynllun gweinyddol, felly mae gennym bob bwriad o fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â hynny. Byddai gwelliant 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y taliadau ychwanegol a godir ar rieni o dan y cynnig. Nawr, edrychwch, rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus i fonitro taliadau ychwanegol wrth inni symud ymlaen, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallwn ei brofi'n ddigonol drwy ein hymarferion gwerthuso. Yn hyn o beth, buaswn yn amharod iawn i gefnogi gwelliant sy'n gosod gofynion biwrocrataidd a beichus ar Weinidogion Cymru lle nad oes unrhyw fudd i'r bobl a wasanaethir gennym drwy'r cynnig hwn. Byddai cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar daliadau ychwanegol, er enghraifft, yn dibynnu'n drwm ar y trydydd sector a thrydydd partïon i ddarparu'r wybodaeth ar gyfer yr adroddiadau, gan roi baich biwrocrataidd ar eu hysgwyddau hwy yn ogystal â ninnau, ac ni fyddai gennym unrhyw ffordd o warantu pa mor gywir na pha mor ddibynadwy fyddai'r data.

Felly, nid wyf yn barod i gefnogi'r grŵp hwn o welliannau, ar y sail ein bod yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol eisoes—yn wahanol iawn i'r cynnig yn Lloegr—er mwyn rheoli a monitro taliadau ychwanegol. Rydym eisoes yn bwriadu cyhoeddi'r gyfradd yr awr yn y cynllun gweinyddol. Mae'r gwerthusiad o'r flwyddyn gyntaf o weithredu wedi argymell canllawiau pellach i ddarparwyr er mwyn sicrhau dull cyson o godi tâl am oriau ychwanegol ar draws pob lleoliad gofal plant, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud. A byddwn hefyd yn adolygu ein strwythur codi tâl ar gyfer y cynnig cyn ei gyflwyno'n llawn yn 2020. Felly, ar y sail honno, efallai ein bod yn anghytuno ar hyn, ond buaswn yn annog yr Aelodau felly i wrthod y grŵp hwn o welliannau.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 13. 

Gwelliant 13: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agorwn y bleidlais, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 8.  

Gwelliant 8: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 6: Plant cymhwysol (Gwelliannau 14, 15, 16, 18)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 6, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â phlant cymhwysol. Gwelliant 14 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant, i siarad iddo, ac i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 14 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd.

Mae gwelliannau 14 a 18, a ddygwyd ymlaen o Gyfnod 2, yn gosod oed y plentyn cymwys ar wyneb y Bil, ac yn caniatáu i Weinidogion newid yr oed yn ddiweddarach drwy reoliad. Er bod y memorandwm esboniadol a'r cynllun gweinyddol drafft yn amlinellu'n glir y byddai plant tair a phedair oed â hawl i gael gofal plant am ddim, nid yw'r Bil yn gosod oed y plentyn yn amlwg yn ei ddarpariaethau, ac yn lle hynny yn ei adael i is-ddeddfwriaeth.

Er ein bod yn deall safbwynt y Gweinidog ynglŷn â hyblygrwydd, credwn fod angen o hyd i'r Bil ei hun fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y modd y caiff ei gymhwyso. Rydym yn cydnabod fod y Gweinidog wedi cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i ddweud na fydd cyllid ond ar gael i'r rhai o dan oedran ysgol gorfodol yn unig, ac mae wedi cynnwys yr oed yn amlwg yn y cynllun gweinyddol drafft. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein symud gam ymhellach ymlaen at ddarn tryloyw o ddeddfwriaeth, gan ei fod yn cael ei adael unwaith eto i is-ddeddfwriaeth neu ganllawiau anstatudol.

Felly, mae gwelliant 18 yn gyfaddawd o fath i ddymuniadau'r Gweinidog i weld hyblygrwydd yn y dyfodol, gan alluogi Gweinidogion Cymru i newid yr oed pe bai tystiolaeth yn dangos bod angen i blant iau allu manteisio ar y cynnig. Er enghraifft, mae tystiolaeth o ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i rianta a chyflogaeth yn tynnu sylw at yr angen i ymestyn y cynnig gofal plant i gynnwys plant rhwng dim a dwy oed, er mwyn sicrhau cyfraddau cyflogaeth uwch. Canfu hefyd fod y rhwystrau mwyaf i gyflogaeth yn digwydd i rieni sy'n chwilio am waith yn fuan ar ôl geni eu plentyn cyntaf. Er bod pryderon ynghylch pwerau Harri VIII, mae hyn yn gosod y nod presennol yn amlwg ar wyneb y Bil, gan ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru allu newid yr oedran yn nes ymlaen, pe bai'r dystiolaeth yn dangos bod angen ymestyn y cynnig ymhellach.

Gan droi at welliant 15, amlinellodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC yn fedrus pam y bu'n rhaid inni gyflwyno hyn yng Nghyfnod 2, ac mae'n nodi'r rhesymeg pam y byddwn yn gwneud hynny eto yng Nghyfnod 3. Yn y bôn, mae hyn yn ymwneud â pha gamau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn i'r Bil allu gweithredu hyd yn oed, ac os nad yw hynny'n digwydd, byddai'n gwneud y Bil yn llestr gwag. Ceir dyletswyddau yma sy'n rhaid i Weinidogion Cymru eu cyflawni er mwyn gwneud i'r Bil weithio. O ganlyniad, galwn ar Lywodraeth Cymru i dderbyn y gwelliant hwn yn yr ysbryd y'i bwriadwyd.

O ran gwelliant 16, nod hwn yw sicrhau bod unrhyw ofynion cymhwysedd y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt er mwyn ymgeisio am y cynnig yn cael eu hategu drwy roi gwybodaeth i rieni. Yn y bôn, mae'n ymwneud â helpu rhieni sy'n gymwys ar gyfer y cynnig i ddeall drostynt eu hunain beth yw plentyn sy'n gymwys. Mae'n peri gofid fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu pennu rheoliadau'n hysbysu grwpiau o bobl am eu cymhwysedd ar gyfer cynnig neu grant penodol heb ddarparu gwybodaeth glir ynglŷn â beth sydd angen iddynt ei ddangos yn dystiolaeth ar gyfer eu cais. Diolch i chi.

18:20

Aelodau, nid yw gwelliant 15 ond yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion i gyflwyno'r rheoliadau hynny er mwyn diffinio oed y plant y gall eu rhieni wedyn ddibynnu ar y ddeddfwriaeth hon. Er gwaethaf y ddyletswydd sydd i'w chroesawu'n fawr yng ngwelliant 4, sydd mewn gwirionedd yn rhwymo Gweinidogion i ariannu'r cynnig gofal plant, mae methiant tebygol ein gwelliant 22 yn golygu nad ydym fymryn yn agosach at gael sicrwydd pa rieni fydd yn gymwys gan nad ydym yn gwybod beth yw ystyr 'gofal', ac yn awr, oherwydd nad ydym yn gwybod beth yw ystyr 'plant cymwys'. Felly, Lywodraeth Cymru, wrth gwrs ein bod yn gwybod y gallant gyflwyno'r rheoliadau i egluro hyn, ond nid oes unrhyw reidrwydd arnynt i wneud hynny. Ac er mwyn gallu gweithredu'r Bil hwn mewn gwirionedd, ei wneud yn weithredol, mae angen inni gael yr ystod oedran, ac felly, rhaid inni gael y rheoliadau hynny. Felly, os nad oes gennym y rheoliadau, mae'r Bil yn parhau i fod yn anaeddfed a heb fodd o'i orfodi.

Mae gwelliant 16 hefyd yn gwella'r is-adran sy'n ein helpu i ddeall ystyr 'plentyn cymwys'. Mae adran 1(7)(d) yn cyfeirio at blentyn sy'n destun datganiad a wnaed yn rhinwedd rheoliadau nad ydynt yn bodoli eto. A chredaf y gallai fod yn bosibl drwy ddehongliad hael, i'r is-adran honno weithredu heb y rheoliadau, ond ni fuaswn am roi arian ar hynny. Felly, os ydynt yn mynd i gael eu gwneud, credaf fod yn rhaid iddynt gynnwys—. Os ydynt yn mynd i gael eu gwneud, mae'r Bil eisoes yn dweud y 'gallent' gynnwys amrywiaeth o ofynion i'w bodloni gan berson sy'n gwneud datganiad o'r fath. Nid yw'r gwelliant ond yn dweud yma, os cyflwynir rheoliadau, gan osod amodau ar berson sy'n gwneud datganiad, yna rhaid iddynt nodi hefyd beth sydd angen i'r person hwnnw ei gynhyrchu neu ei brofi, neu ei ddweud, i ddangos eu bod wedi bodloni'r amodau hynny mewn gwirionedd. Nid wyf yn awgrymu beth y gallech fod eisiau ei gyflwyno fel tystiolaeth, ond yn y bôn, nid wyf yn credu y dylech osod gofynion cyfreithiol ar bobl oni bai eich bod yn glir ynglŷn â sut y gallant gydymffurfio â'r gofynion hynny. Dyna'r cyfan y mae hwn yn ei ddweud. Mae'r gwelliant yn diogelu rhieni neu eraill rhag ansicrwydd posibl ynglŷn â sut y mae'r Bil hwn yn effeithio arnynt. Diolch i chi.

Diolch, Lywydd. A gaf fi groesawu'r croeso a gawsom yn awr i fy ngwelliant Cyfnod 2, er nad yw'n ymddangos ei fod yn mynd yn ddigon pell? A gaf fi hefyd groesawu'r ffaith ein bod wedi cyrraedd grŵp 6 cyn i bwerau Harri VIII gael eu crybwyll yn y Siambr? [Chwerthin.] Nawr, pasiwyd gwelliannau'r Llywodraeth yng Nghyfnod 2, gan roi mwy o fanylion am blant cymwys ar wyneb y Bil. Roedd y rhain yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid i blant cymwys fod o dan oed ysgol statudol, ond roeddent yn darparu hyblygrwydd i Weinidogion Cymru bennu'r ystod oedran hwnnw yn y rheoliadau. Nawr, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei gwneud yn glir iawn yn ein trafodaethau nad yw'n dymuno cau'r ddadl ynglŷn ag oedran plant cymwys. Buaswn yn dadlau bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn rhoi'r hyblygrwydd inni amrywio oedran plant cymwys yn y dyfodol, pe bai'r dystiolaeth yn dweud wrthym mai dyna sydd angen inni ei wneud, gan wneud gwelliannau 14, 15 a 18 yn ddiangen ac yn y modd hwnnw, yn ddi-fudd. Ond ar ben hynny, buaswn yn dadlau bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau y math o wybodaeth y gallai fod angen i berson sy'n gwneud datganiad ei darparu. Felly, nid oes angen pasio gwelliant 16 i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Nawr, pasiwyd gwelliant Cyfnod 2 ac mae'r Bil, fel—

Mae'n ddrwg gennyf, cyn inni symud ymlaen—diolch ichi, Weinidog—yr holl bwynt yw, os oes angen cyflwyno'r rheoliadau hyn, nid yw'r pŵer yn ddigon cryf; dylai fod gennych ddyletswydd. Dyna oedd holl ddiben fy ngwelliannau 15 ac 16.

Rwy'n deall yn llwyr, ond fy nadl, Suzy, yw nad ydynt yn angenrheidiol mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi gwneud ein hymrwymiad i gyflwyno hyn yn glir, ac nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond os caf droi'n fyr at y gwelliant a basiwyd gennym yn ystod trafodaethau Cyfnod 2, a'r Bil fel y'i drafftiwyd, mae'r ddau bellach yn ei gwneud hi'n ofynnol i blentyn cymwys fod dan oedran ysgol statudol. Mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru, yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru bennu'r ystod oedran hon drwy reoliadau. Mae'n caniatáu inni bennu hefyd, drwy reoliadau, y math o wybodaeth y dylai rhieni ei darparu pan fyddant yn gwneud datganiad am gymhwysedd plentyn. Nawr, rwy'n derbyn nad yw hyn yr un fath â phennu'n union pa wybodaeth y mae'n rhaid i berson ei darparu, ond gallai bod yn benodol iawn ynglŷn â natur y wybodaeth sydd i'w darparu mewn rheoliadau lyffetheirio CThEM o ran beth y gallant ei dderbyn fel prawf o gymhwysedd. A CThEM—nid damwain yw hi ein bod yn eu defnyddio hwy, oherwydd maent yn darparu'r cynnig tebyg iawn ar draws y ffin. Felly, mae dweud wrth CThEM, 'Wel, os yw pethau'n newid, bydd yn rhaid inni ddychwelyd at ei ein deddfwriaeth a'i newid', mae hynny'n ymddangos fel y cydbwysedd anghywir.

Nawr, nid wyf yn gweld beth y mae'r gwelliannau hyn yn ei ychwanegu, gwelliannau sy'n ceisio pennu bod yn rhaid i blentyn fod yn dair oed i allu manteisio ar y cynnig ond yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru newid yr oedran hwnnw, a'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnwys manylion y wybodaeth sydd i'w darparu i gefnogi datganiad yn y rheoliadau. Felly, nid wyf yn gweld eu bod yn angenrheidiol y tu hwnt i'r hyn rydym eisoes yn ei wneud a beth rydym wedi ymrwymo i'w wneud. Ac ar y sail honno, er fy mod yn croesawu eich croeso i'r gwelliant a gyflwynwyd gennym yng Nghyfnod 2, buaswn yn annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn—14, 15, 16 a 18.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, yn erbyn 30. Gwrthodwyd gwelliant 14.

Gwelliant 14: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 15.

Gwelliant 15: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 9 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 9: O blaid: 8, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 16: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 17.

Gwelliant 17: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd gwelliant 18.

Gwelliant 18: O blaid: 13, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 19 (Janet Finch-Saunders). 

Gwelliant 19 heb ei gynnig. Felly, rydym yn cyrraedd gwelliant 20. Janet Finch-Saunders.

Ni chynigiwyd gwelliant 20 (Janet Finch-Saunders). 

Cynigiwyd gwelliant 21 (Janet Finch-Saunders).

Mae gwelliant 21 wedi'i gynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 21.

Gwelliant 21: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 10 (Siân Gwenllian, gyda chefnogaeth Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 10: O blaid: 17, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 7: Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (Gwelliannau 1, 3)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 7, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad i'r gwelliant hwnnw a'r gwelliant arall yn y grŵp. Huw Irranca-Davies.

18:30

Cynigiwyd gwelliant 1 (Huw Irranca-Davies).

Diolch, Lywydd. Geiriau olaf enwog, ond gobeithio na fydd y gwelliannau hyn yn rhai dadleuol. Dau welliant technegol ydynt. Eu diben yn syml yw ei gwneud yn glir fod rheoliadau o dan adran 1 ac adran 10 y Bil yn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Nid oes neb i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy'n cymryd bod y Gweinidog ddim eisiau ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Janet Finch-Saunders).

Mae wedi'i gynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 17, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 22.

Gwelliant 22: O blaid: 17, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 8: Offerynnau statudol: Newidiadau i weithdrefnau (Gwelliant 23)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 8 ac y mae'r grŵp yma yn ymwneud ag offerynnau statudol a newidiadau i weithdrefnau. Gwelliant 23 yw'r brif welliant a'r unig welliant, ac rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Janet Finch-Saunders).

Diolch i chi, Lywydd. Ar ôl gwelliant Llyr Gruffydd yng Nghyfnod 2 y Bil, credwn y dylai'r weithdrefn uwchgadarnhaol ar gyfer y Bil barhau i gael ei dilyn, a dyna'r rheswm dros gyflwyno gwelliant 23.

Yn ystod ymchwiliadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yng Nghyfnod 1, roedd hi'n amlwg fod yna bryderon difrifol ynghylch natur y Bil a dibyniaeth y Gweinidog ar reoliadau yn y dyfodol i ddarparu hyblygrwydd. Rydym yn ystyried bod y pryderon hyn wedi cael eu dwyn ymlaen i Gyfnod 2 a Chyfnod 3 y Bil. Yn amlwg iawn, nid yw'r Gweinidog yn bwriadu ymgynghori fel mater o drefn ar y rheoliadau drafft, sy'n cynnwys cyfeiriadau polisi pwysig, megis y cynnig ei hun, a lle y caiff ei gyfeirio. Oherwydd dibyniaeth y Bil ar is-ddeddfwriaeth, drwy reoliadau, mae'n hanfodol fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhanddeiliaid cysylltiedig, yn cael cyfle i graffu ar ddeddfwriaeth yn briodol yn y lle hwn.

Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o blaid y rheoliadau uwchgadarnhaol, pe bai llai o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar wyneb y Bil. Felly, credwn y dylai hyn fod yn rhan annatod o bwerau gwneud rheoliadau, o leiaf o'r camau cyntaf un o weithrediad y Bil. Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch, Janet.

O'r cychwyn cyntaf, fe fuom yn gwbl agored am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig hwn. Cawsant eu rhannu gyda'r pwyllgor fel rhan o'r memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil. Maent allan yno yn awr ac maent yn gosod y sylfaen yn wir ar gyfer gweithredu'r cynnig byw yn gynnar. Nid ydynt wedi'u cuddio—maent yn dryloyw iawn. Bydd y meini prawf cymhwysedd manwl ar gyfer y cynnig yn cael eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth, o dan y pwerau yn adran 1 o'r Bil, a bydd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, a chredaf fod hynny'n gymesur, o ystyried yr ymgysylltiad a gawsom eisoes ac sy'n parhau.

Felly, sut rydym wedi bod yn agored ac wedi ymgysylltu? Fe restraf rhai o'r ffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ymgysylltu â rhieni a darparwyr ac awdurdodau lleol ynglŷn â'r cynnig. Rydym yn gwerthuso'n barhaus ac yn sicrhau bod gwersi a ddysgwyd o'r ardaloedd peilot ar gyfer gweithredu cynnar yn parhau i ddylanwadu a llunio a llywio agweddau ar y polisi mwy hirdymor. Yn wir, cyhoeddwyd canfyddiadau'r flwyddyn gyntaf o weithredu ar 22 Tachwedd. Rydym wedi clywed yn uniongyrchol hefyd gan filoedd o rieni ers i ni lansio ein hymgyrch #TrafodGofalPlant. Ac mae rhieni'n dweud wrthym bod dod o hyd i ofal plant sydd ar gael yn hygyrch ac yn fforddiadwy yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu teuluoedd yng Nghymru. Maent hefyd yn dweud wrthym fod jyglo gwaith a logisteg addysg gynnar a gofal plant yn bell o fod yn hawdd, fel rydym wedi clywed.

Hefyd, rydym wedi cynnal proses ymgysylltu helaeth â darparwyr gofal plant a sefydliadau ymbarél sy'n cynrychioli'r sector. Rydym hefyd ym mlynyddoedd cynnar cam 2 ein hymgyrch #TrafodGofalPlant, a fydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â darparwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar, wrth iddynt ddechrau darparu'r cynnig, ac maent yn ymwneud yn llawn ag awdurdodau lleol sydd eto i ddechrau darparu'r cynnig.

Felly, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen inni ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth o dan adran 1, o ystyried ein bod wedi rhoi mwy o fanylion ar wyneb y Bil ynglŷn â beth a olygwn wrth 'plentyn cymwys', gan fynd i'r afael ag un o bryderon sylfaenol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Rydym eisoes ar gamau cynnar gweithredu'r cynnig byw. Ymgynghoriad cenedlaethol yw hwn i bob pwrpas, a phrawf o'r cynnig. Nid ydym yn dechrau ar rywbeth hollol newydd a dieithr yma. Rydym yn rhoi camau rhesymol ar waith i werthuso'r cynnig, ceir ymgysylltiad parhaus ac adeiladol â rhanddeiliaid allweddol drwy ein grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid, ac rydym hefyd wedi gwrando ar yr hyn y mae Aelodau wedi bod yn ei ddweud am yr angen am gymal adolygu yn y Bil.

Mae gwelliant 2 y Llywodraeth, a gaiff ei drafod yn rhan o grŵp diweddarach, grŵp 12, yn argymell ein bod yn ymgorffori gofyniad yn y Bil i oedi ac adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth. Ond a gaf fi atgoffa'r Aelodau unwaith eto mai Bil technegol cul i hwyluso'r broses ymgeisio a gwirio cymhwysedd yw hwn? Bydd y rheoliadau a wneir o dan adran 1 y Bil yn manylu ar y meini prawf cymhwysedd, a fydd wedyn yn sail ar gyfer y system gwirio cymhwysedd.

Felly, byddem yn dadlau bod y weithdrefn a argymhellir gennym ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn yn gwbl gymesur, a buaswn yn annog cyd-Aelodau i ymuno â mi a pheidio â chefnogi'r gwelliannau hyn os cânt eu gwthio—y gwelliant hwn, mae'n ddrwg gennyf.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 23. 

Gwelliant 23: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 9: Categorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 24, 25)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 9. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chategorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir. Gwelliant 24 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad am y gwelliant arall yn y grŵp. Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 24 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Rydym wedi ailgyflwyno gwelliannau 24 a 25 o Gyfnod 2 oherwydd, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi gwrando ar y pwyllgor a'r rhanddeiliaid ac wedi cynnwys perthnasau a gofrestrwyd yn warchodwyr plant o fewn y cynllun gweinyddol drafft a'r rheoliadau, mae hyn eto'n cael ei adael i is-ddeddfwriaeth a chynllun anstatudol ei benderfynu. Fel y gwnaethpwyd yn glir yng Nghyfnod 2, mae hyn yn ymwneud nid yn unig â'r mathau o ddarparwyr a gofrestrir, ond â'r broses gofrestru hefyd.

Rydym yn cytuno y dylai gwarchodwyr plant gael eu cofrestru, a chlywsom y Gweinidog yn rhoi sicrwydd ynglŷn ag ysgolion a neiniau a theidiau, ond mae hyn yn methu'r pwynt sylfaenol ynglŷn â'r broses gofrestru bresennol ar gyfer bod yn ddarparwr gofal plant. Nid yw neiniau a theidiau'n cael cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os mai edrych ar ôl eu perthnasau eu hunain yn unig a wnânt. Rhaid imi ddweud, Weinidog, pan gawsom gyfarfod â chi, fe ddywedoch chi eich hun mai'r rhai nad ydynt yn manteisio ar y cynnig weithiau yw neiniau a theidiau sy'n edrych ar ôl eu plant. Fel y nododd PACEY Cymru, y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, yng Nghyfnod 1, caiff amrywiaeth helaeth o bobl sydd hefyd yn gofalu am eu perthnasau eu hepgor drwy hyn, gan arwain at bryderon ynghylch cynaliadwyedd y sector gofal plant, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig.

Mae hyn yn cysylltu i ryw raddau â'n pryderon parhaus ynghylch cynllunio'r gweithlu, a bydd hynny'n cael sylw o dan welliant 34. Nododd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 nad oes unrhyw amod fod yn rhaid i berthnasau ofalu am blant eraill o dan y cynnig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei wneud yn glir ar wyneb y Bil nac o fewn y cynllun gweinyddol drafft. Yn yr un modd, un o sgil-effeithiau'r esemptiad ar gyfer ysgolion o dan y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yw bod hynny'n atal nod y Gweinidog o ofal cofleidiol, gan y byddai'n rhaid i ysgolion weithio mewn partneriaeth gyda gwarchodwr plant cofrestredig i ddarparu'r elfen gofal plant neu greu endid cyfreithiol ar wahân i gynrychiolwyr gofrestru. Er inni gael sicrwydd yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3 y caiff y rhain eu hadolygu, mae angen gwneud hyn yn glir yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Dyna pam rydym ni yma heddiw. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn dal i aros am ganlyniadau'r alwad am dystiolaeth i adolygu Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, a allai leddfu'r broses o gofrestru perthnasau ac ysgolion fel darparwyr gofal plant.

Mae'n hynod o siomedig fod y Gweinidog wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth yn ystod y camau olaf o daith y Bil, sy'n golygu na allwn ni fel Aelodau Cynulliad graffu ar y dystiolaeth hon cyn y caiff y Bil ei basio. Dyma lle mae prosesau'r Bil yn ddiffygiol. Rydym yn trafod Bil fframwaith, ac mae'r Gweinidog yn honni mai mater technegol yn unig ydyw, ond yn ei hanfod mae'n cyflawni rhan o'r cynnig gofal plant drwy CThEM. Roedd y Bil yng Nghyfnod 1 chwe mis ar ôl dechrau treialu'r ardaloedd peilot; yng Nghyfnod 2 cyn yr alwad am dystiolaeth ar gofrestru gofal plant; ac yng Nghyfnod 3 cyn cyhoeddi'r gwerthusiad cyntaf o weithredwyr cynnar y cynnig. Mae'n sicr yn teimlo fel pe baem yn mynd yn ôl at y Bil hwn ymhen blwyddyn pan gyhoeddir yr adroddiad gwerthuso nesaf, a'r flwyddyn ar ôl hynny, pan fydd wedi dechrau cael ei gyflwyno'n genedlaethol. Nid rhoi'r cert o flaen y ceffyl yn unig yw hynny, ond carafán cyfan. Lyw—. Iawn. Diolch. Bu bron i mi ddweud 'Llywydd'. [Chwerthin.]

18:40

Diolch Lywydd. Roeddwn yn deall beth oeddech chi'n ei feddwl—roeddwn yn deall.

Un o'r manteision o dreialu'r cynnig, lle rydym wedi symud o saith i 14, a byddwn yn symud i fyny o ran nifer yr awdurdodau lleol, yw ein bod yn dysgu wrth inni fynd ac rydym yn datblygu ac yn addasu'r cynllun. Ond y cwestiwn yma yw beth i'w roi ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol. Rwy'n deall, oherwydd mae'n her barhaol gyda hyn, ond mae hwn yn Fil technegol cul i ganiatáu i CThEM gyflawni'r cynnig gofal plant, a bydd y gweddill yn cael ei ddisgrifio yn y rheoliadau neu yn y cynllun gweithredol ac yn y blaen a'r cynllun gweinyddol. Rwyf wedi dweud yn glir y byddaf yn dod â'r cynllun gweinyddol gerbron y pwyllgor a byddaf yn hapus i'w gael wedi'i adolygu a'i drafod a'i ddadansoddi. Ond edrychwch, rydym wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn ynglŷn â phwy all ddarparu gofal plant o dan delerau'r cynnig hwn. Darparwyr cofrestredig yn unig a gaiff ddarparu'r cynnig gofal plant hwn. Rheoleiddir y darparwyr hyn a chânt eu harolygu—i ni, mae hynny'n bwysig fel mesur o ansawdd a safonau. Mae'n rhoi sicrwydd i ni fod yr arian a ddefnyddir ar gyfer y cynnig gofal plant yn cael ei wario ar ofal plant sy'n bodloni nifer o ofynion.

Nawr, bydd darparwyr sy'n ymrwymo i bethau fel cynlluniau cymeradwyo gwirfoddol, sydd i'w croesawu'n fawr iawn, fel yr un a weithredir ar gyfer nanis gan Arolygiaeth Gofal Cymru—maent yn gynlluniau defnyddiol iawn wir, ond nid ydynt wedi'u cofrestru, ni chânt eu harolygu, ac felly ni chânt ddarparu'r cynnig hwn. Fodd bynnag—i egluro—rydym wedi ystwytho'r rheolau, wedi dysgu o flwyddyn gyntaf y cynllun gweithredydd cynnar, er mwyn sicrhau y gellir ariannu gwarchodwyr plant drwy'r cynnig i ofalu am blant sydd hefyd yn berthnasau. Clywsom gan y pwyllgor, cawsom sgyrsiau uniongyrchol wyneb yn wyneb â neiniau a theidiau a oedd yn dweud, 'Wel, rwy'n warchodwr plant cofrestredig mewn gwirionedd, hoffwn wneud hyn.' Rydym wedi siarad am hyn yn fewnol, daethom gerbron y pwyllgor a'i drafod, ac rydym wedi newid yr hyn rydym yn ei wneud ar sail dysgu'n fyw ar lawr gwlad.

Ond rydym yn sylweddoli bod y ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys rhai gwaharddiadau mewn perthynas â'r trefniant hwn yn y cyd-destun ehangach, ac am y rheswm hwn rwyf eisoes wedi ymrwymo i adolygu'r agwedd honno ar y ddeddfwriaeth bresennol, fel y gallwn edrych ar bwy a all ddarparu. Ond mantais y cynlluniau peilot yw y byddaf yn parhau i ddychwelyd at y Cynulliad a dweud, 'Rydym wedi dysgu hyn bellach—a ydych yn credu ei bod hi'n syniad da i ni ei addasu eto cyn ei gyflwyno'n llawn?' Nawr, mae'n bwysig cadw hynny mewn cof. Diffiniwyd gwarchod plant a gofal dydd eisoes mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth. Nid oes angen ei ailadrodd yn y cyd-destun hwn—rwyf wedi dweud hynny eisoes. Mae'n creu risg y gallai'r diffiniadau hynny dyfu'n fwyfwy anghyson yn y dyfodol, gan arwain at ddryswch neu orfod ailedrych ar ddeddfwriaeth sylfaenol.

I fod yn glir hefyd, fel Llywodraeth rydym yn gwerthfawrogi'n fawr—mawredd, fel rhiant sydd wedi cael tri o blant, rwy'n sicr yn gwerthfawrogi cyfraniad llawer o neiniau a theidiau drwy ofalu am eu hwyrion a'u hwyresau. Ond ni fyddai fy nonno a fy nonna wedi gallu manteisio ar y cynnig gofal plant hwn fel darparwyr am nad oeddent wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru; ni chawsant eu harchwilio. Rwy'n eu caru'n fawr, ac roeddent yn darparu gofal plant gwych, ond ni fyddent wedi gallu manteisio ar y cynllun ac mae hynny'n iawn. Felly, dyna lle mae'r eglurder.

Nawr, ni allaf weld beth fyddai i'w ennill o'r pwerau hyn i wneud rheoliadau yng ngwelliannau 24 a 25, ac i bob pwrpas ni fyddent ond yn datgan ac yn diffinio categorïau o ddarparwyr sydd eisoes wedi'u datgan a'u diffinio mewn deddfwriaeth arall. Felly, ar y sail honno, er fy mod yn deall eich rhesymau, ni allwn gefnogi'r gwelliannau hyn.

Diolch. Rwy'n arbennig o siomedig ynglŷn â hyn ac fe ddywedaf wrthych pam. Yn fy etholaeth i, ac rwy'n sicr fod hyn yn wir ledled Cymru, mae gennym lawer o bobl yn byw yn ein cymunedau gwledig, ynysig sydd â neiniau a theidiau sy'n Gymry sy'n addysgu eu plant ac yn darparu gofal plant yn awr, heddiw, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n ffaith na fyddant yn gallu manteisio ar hynny ac rwy'n gweld amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, ac ni allaf ddeall o gwbl sut na allwch gefnogi'r gwelliant hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 18, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 24.

18:45

Gwelliant 24: O blaid: 18, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 25 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 25. 

Gwelliant 25: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Trefniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 26, 27, 28)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 10. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â threfniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir. Gwelliant 26 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill. Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 26 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Rydym wedi ailgyflwyno gwelliant 26 fel hyn i helpu i egluro pwy fydd yn gyfrifol am ddarparu'r cynnig gofal plant ar adeg ei gyflwyno'n genedlaethol. Nid yw'r Bil yn dweud dim ar hyn o bryd pa un ai Llywodraeth Cymru ar lefel ganolog neu ein hawdurdodau lleol a fydd yn gwneud hynny. Er bod asesiad effaith rheoleiddiol y Bil yn sôn am hynny, heb yr angen am ddeddfwriaeth, gellid cyflwyno'r model gweithredu a gyflawnir gan awdurdodau lleol ar y cam treialu ar lefel genedlaethol. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod angen deddfwriaeth i greu un system genedlaethol ar gyfer ymgeisio a gwirio cymhwysedd sy'n osgoi unrhyw wahaniaethau. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r opsiwn y mae'n ei ffafrio yw defnyddio CThEM fel cyfrwng i dderbyn a gwirio ceisiadau. Yng Nghyfnod 2, roeddwn yn teimlo bod ymateb y Gweinidog wedi methu pwynt y gwelliant hwn i raddau. Nododd y Gweinidog nad oedd unrhyw beth i'w ennill drwy ailddatgan dyletswydd sydd gan yr awdurdodau lleol eisoes, a dywedodd fod y ddyletswydd hon sy'n bodoli eisoes yn ehangach, gan ei bod yn cynnwys dyletswyddau ar gyfer plant anabl a'r Gymraeg. Er fy mod yn sylweddoli hynny, nid yw'r Bil yn dweud dim ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynnig ar y cam cyflwyno cenedlaethol. O ganlyniad, rhaid i'r Gweinidog ddarparu eglurder ar y mater hwn, gan mai'r Bil yw'r mecanwaith i fod ar gyfer asesu ceisiadau am y cynnig gofal plant. Ar hyn o bryd, bydd CThEM yn gyfrifol am yr ochr honno o ddarparu'r cynnig. Felly, rhaid i'r Gweinidog gadarnhau ai Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol sydd i'w dwyn i gyfrif yn y pen draw am weinyddu'r cynnig hwn.

Hefyd ni allaf bwysleisio digon pa mor bryderus yr ydym y bydd mwyafrif llethol y cynnig gofal plant yn cael ei adael i'r cynllun gweinyddol a heb fod ar wyneb y Bil. Mae gwneud hynny'n hepgor manylion allweddol, gan gynnwys oedrannau, oriau'r cynnig, sut y gall rhieni fanteisio ar y cynnig gofal plant, a'r amodau sydd angen i ddarparwyr eu bodloni. Mae'n destun pryder mawr na fydd gan y cynllun gweinyddol a amlinellir gan y Gweinidog unrhyw statws cyfreithiol, nac unrhyw weithdrefn graffu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r ddau welliant a ailgyflwynwyd, sef gwelliannau 27 a 28, yn ymwneud ag amodau sy'n rhaid i ddarparwyr eu bodloni—gwelliant 28—a sut y maent i gael eu hariannu—gwelliant 27—materion sy'n cael eu gadael ar hyn o bryd i'w penderfynu o dan y cynllun gweinyddol. Mynegodd rhai rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu pryder ynglŷn â phwy fyddai'n gallu darparu'r gofal plant, sut y gwneir taliadau, ac ar ba gyfradd yr awr. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen sicrhau bod rolau awdurdodau lleol a CThEM wedi eu diffinio'n glir ar gyfer penderfynu ar drefniadau ôl-gymhwysedd ar gyfer gofal plant, felly nid yw gweithrediad ymarferol y Bil a'r cynnig gofal plant wedi'u heffeithio'n benodol. Nodwyd bod anghysondebau wedi codi yn Lloegr wedi i CThEM archwilio'r meini prawf cymhwysedd mewn gwirionedd.

Rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn gwrthddweud ei hun gan y Gweinidog a'i swyddogion yn ystod Cyfnod 1. Er bod y Gweinidog wedi honni y byddai'r system dalu'n cael ei datblygu ar wahân i'r system wirio cymhwysedd yn y Bil, dywedodd ei swyddogion y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ganfod pa bryd y bydd angen i awdurdodau lleol gael gwybodaeth am gymhwysedd er mwyn gwneud eu penderfyniadau ar ddyrannu lleoedd ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn awgrymu bod trefniadau cymhwysedd ac ôl-gymhwysedd eisoes yn cael eu cysylltu. Yn ystod pob cam o'r Bil hwn mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro ei fod eisiau hyblygrwydd. Fodd bynnag, drwy roi llawer o feini prawf cymhwysedd y cynnig o dan y cynllun gweinyddol, daw'r angen hwn am hyblygrwydd ar draul pwerau craffu sylfaenol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Felly, unwaith eto mae'n galondid fod rhai consesiynau wedi'u gwneud, ond nid yw  gosod y cynllun gweinyddol gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwanwyn yn golygu y bydd yr un prosesau craffu yn cael eu cyflawni ag a fyddai pe baent yn cael eu gosod ar wyneb y Bil. Felly, mae angen mwy o eglurder ar gyfer trefniadau ôl-gymhwysedd er mwyn sicrhau y bydd y system gofal plant newydd yn gweithredu'n llyfn. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod trefnu i dalu darparwyr gofal plant lawn mor bwysig â sicrhau y gweinyddir y system ymgeisio ar gyfer y cynnig yn gywir. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch.  

18:50

Diolch ichi, Lywydd. Credaf fod hynny'n helpu i egluro rhywbeth i mi. Credaf o ddifrif fod gennym gamddealltwriaeth. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw gwirio cymhwysedd rhieni, drwy fecanwaith CThEM, i fanteisio ar y cynnig gofal plant. Yr hyn roeddech chi'n sôn amdano yno, Janet, oedd yr agwedd o ddarparu'r cynnig mewn gwirionedd. Byddaf yn ôl o flaen Aelodau'r Cynulliad—wel, os wyf yn dal i fod yn y swydd hon—rywbryd yn y dyfodol pan fyddwn yn cyflwyno'r hyn y mae awdurdodau lleol wedi gofyn inni ei wneud, sef gosod strwythur y ffordd yr ydym yn cydgysylltu'r ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan mewn gwirionedd. Mae hynny'n rhywbeth ar wahân.

Felly, gadewch imi droi at y gwelliannau. Rydych yn gywir yn ailddatgan yr hyn a ddywedais o'r blaen mewn perthynas â diwygio gwelliant 26—nid wyf yn gweld beth sydd i'w ennill o ailddatgan dyletswydd sydd gan awdurdodau lleol eisoes mewn perthynas â sicrhau bod digon o ofal plant ar gael yn eu hardaloedd. Mae'r ddyletswydd bresennol, fel y dywedasoch, yn ehangach hefyd na'r hyn a gynigir, gan ei bod yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r angen am ofal plant sy'n addas ar gyfer plant anabl, ac ar gyfer gofal plant sy'n defnyddio'r Gymraeg.

Mae'n ymddangos bod gwelliant 27 yn ceisio dwyn llawer o'r manylion gweithredol rydym yn bwriadu eu cynnwys yn y cynllun gweinyddol o fewn cwmpas is-ddeddfwriaeth. Rydym yn mynd i ddysgu, rydym yn mynd i barhau i ddysgu o brofiad gyda'r cynnig hwn, a'r cynllun gweinyddol yw'r union fecanwaith sy'n rhoi hyblygrwydd pwysig inni allu addasu ac adolygu'r trefniadau gweinyddol, gweithredol, rheng flaen hynny wrth i ni fwrw ymlaen. Nid rhyw fath o esgus yw'r cynllun gweinyddol i guddio problemau rhag Aelodau'r Cynulliad. Rwyf eisoes wedi'i gyflwyno ar ffurf fframwaith i'w rannu gydag Aelodau, a buaswn o ddifrif yn croesawu craffu pellach ar y cynllun yn y gwanwyn.

O ran gwelliant 28, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen am yr angen i gofrestru ac arolygu darparwyr er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn y cynnig. Rydym bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â'n rhesymau dros wneud hyn.

Ac os caf gyfeirio at y sylwadau a wnaethoch wrth orffen eiliad yn ôl ar y set flaenorol o welliannau: os oes perthnasau, neiniau a theidiau ac eraill allan yno sydd eisiau gwneud defnydd o'r cynllun hwn mewn gwirionedd—gan gynnwys darparu ar gyfer eu plant eu hunain yn ogystal ag eraill, oherwydd rwyf wedi gweld darpariaeth dda iawn gan bobl sy'n gweithredu mewn tai gyda chwech o blant, dau ohonynt efallai'n wyrion iddynt hwy ac ati—fe allant wneud hynny. Mae angen iddynt hwy gofrestru hefyd, dyna i gyd. Ac mae yna neiniau a theidiau sy'n gwneud hynny, rhaid imi ddweud.

Nawr, rwy'n credu y dylem gadw mewn cof hefyd fod yna eisoes gyfres o safonau y mae'n ofynnol i ddarparwyr gofal plant gydymffurfio â hwy. Cânt eu rhestru'n fanwl yn ein safonau gofynnol cenedlaethol, a chawsant eu hadolygu ym mis Ebrill 2016.

Felly, ar y sail hon, gyda'r esboniadau hynny, rwy'n gobeithio bod hynny wedi egluro pam na allwn gefnogi gwelliannau 26, 27 na 28.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 26.  

Gwelliant 26: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 27 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 27. 

Gwelliant 27: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 28.  

Gwelliant 28: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 11: Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Gwelliant 29)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 11, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud ag adolygu penderfyniadau ac apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf. Gwelliant 29 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. Janet Finch-Saunders.

18:55

Cynigiwyd gwelliant 29 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Fel gyda gwelliant 15, mae gwelliant 29 yn amlygu'r camau gweithredu sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn atal y Bil rhag achosi canlyniadau anfwriadol—gan ddarparu dyletswydd y tro hwn i adolygu penderfyniadau ac apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf. Unwaith eto, bydd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC yn nodi pwysigrwydd hyn o safbwynt cyfansoddiadol a'r gwahaniaethau rhwng 'rhaid' a 'gall'. Gall pawb ohonom gytuno y dylai ac y byddai Gweinidogion Cymru wedi'u rhwymo gan eu dyletswyddau pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei basio. Felly, rhaid i Weinidogion ganiatáu hawl i apelio o gychwyn cyntaf y Bil, fel y byddai'r gwelliant hwn yn ei ganiatáu, yn hytrach na gwthio'r penderfyniad hwn i'r naill ochr o bosibl. Diolch.

Ie, diolch i chi, Janet. Mae is-adran 1 o adran 6 y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion wneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau neu apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf yn erbyn penderfyniadau ynghylch cymhwysedd i gael cyllid o dan y Bil. A buaswn yn dweud bod angen i'r Bil hwn gynnwys hawl i apelio, nid yn unig caniatáu i Weinidogion ystyried cynnwys un pan fydd ganddynt amser i wneud hynny. Fel deddfwrfa, nid wyf yn credu ein bod bob amser wedi meddwl beth y gallai ein hetholwyr ei wneud pe baent yn wynebu penderfyniad anghywir—camweinyddu cyfiawnder, os mynnwch, waeth pa mor fach. Yn rhy aml, rydym yn eu gadael gyda rhywbeth fel adolygiad barnwrol fel eu hunig lwybr ystyrlon ar gyfer ceisio iawn, ac nid yw hynny'n foddhaol. Ac yn absenoldeb proses apelio ystyrlon ar wyneb y Bil hwn, rwy'n credu'n gryf fod yn rhaid i ni orfodi Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r rheoliadau i lenwi'r twll hwnnw. Weinidog, efallai eich bod yn meddwl nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng pwerau a dyletswyddau mewn rhai achosion, ond mewn gwirionedd mae gosod dyletswydd arnoch i gyflwyno proses apelio drwy reoleiddio yn neges enfawr i'n hetholwyr eich bod yn poeni mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd iddynt os aiff rhywbeth o'i le o ganlyniad i'r Bil hwn. Ac am y rheswm hwnnw—mae'n un o'r rhesymau y rhoddais fy Mil meinciau cefn fy hun i bleidlais; gwn na chafodd ei ddewis, ond—. Mae'r hyn sy'n digwydd i'n hetholwyr pan fydd pethau'n mynd o chwith yn wirioneddol bwysig, a hoffwn i chi ystyried y gwelliant hwn o ddifrif, oherwydd credaf ei fod yn ychwanegu gwerth i'r Bil.

Diolch, Lywydd. Gallaf sicrhau'r Aelodau ac etholwyr y bydd proses ar gyfer adolygu penderfyniadau'n cael ei gwneud mewn perthynas â chymhwysedd person i fanteisio ar y cynnig, ac y byddwn yn ceisio bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut y gall unigolyn herio penderfyniad a wnaed ynglŷn â'u cymhwysedd. Yn wir, ceir achos sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r cynnig yn Lloegr, ac os caiff y Bil ei basio, a bod CThEM yn dod yn gyfrwng darparu'r system ymgeisio a gwirio cymhwysedd ar gyfer y cynnig yng Nghymru, byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl yma yng Nghymru yn gallu dilyn yr un llwybr yn union, gan gynnwys apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf.

Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am y sicrwydd hwnnw. Os gallwch roi rhyw fath o arweiniad—. O, a gaf fi ofyn i chi roi sicrwydd arall, felly, mai dyma fyddai un o'r setiau cyntaf o reoliadau y byddwch yn eu cyflwyno, cyn belled â bod CThEM yn hapus gyda'r hyn y bwriadwch ei wneud?

Ie, a byddem yn awyddus i wneud hynny. Ac eisoes mae'r trafodaethau hynny gyda CThEM wedi bod yn mynd rhagddynt, y byddem yn adlewyrchu'r mecanweithiau hyn sydd ganddynt gyda'r apêl i'r tribiwnlys haen gyntaf. Ac rwy'n hapus i fynd yn ôl at swyddogion a cheisio sicrhau bod hyn ymhlith y garfan gyntaf a gyflwynwn, os yw hynny'n rhoi peth sicrwydd.

Nawr, ymddengys i mi mai bwriad y gwelliant a gyflwynwyd gan Janet yw cyfyngu rhywfaint ar yr hyblygrwydd a fyddai gan Weinidogion Cymru i ddefnyddio eu pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Nawr, nid wyf yn argyhoeddedig fod hyn yn ddoeth. Drwy fewnosod y gair 'rhaid' yma yn y Bil, rydym yn rhwymo Gweinidogion Cymru i orfod darparu yn y rheoliadau ar gyfer proses apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf, er gwaethaf yr hyn a amlinellais yn awr, sef y bydd yno ym mecanwaith CThEM os caiff y Bil hwn ei basio. Felly, rwy'n fodlon ar y drafft presennol, sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y pwerau hyn i wneud rheoliadau, ond mae eu hopsiynau o ran sut y caiff yr apelau hyn eu trin yn y dyfodol yn cael eu cadw'n fwy agored. Felly, am y rhesymau a nodais, ni allwn gefnogi gwelliant 29, a buaswn yn gobeithio bod yr Aelodau eraill hefyd wedi eu darbwyllo ynglŷn â manteision bwrw ymlaen yn y ffordd a awgrymwn gyda'r Bil hwn, heb fewnosod gwelliant mor gaeth ar wyneb y Bil.

Credaf fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi gwneud y pwyntiau perthnasol, ac felly gofynnaf am gael symud i bleidlais.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 29.

19:00

Gwelliant 29: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 12: Adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud (Gwelliannau 30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2, 35)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 12, ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud. Gwelliant 30 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant, i siarad iddo ac i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Siaradaf am welliannau 30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E a 35. Er bod y rhain yn ymddangos ychydig fel plymio i gymysgedd o welliannau adolygu, mae pob un ohonynt yn bwysig iawn, a'r prif bwynt yr hoffem ei godi yn nad yw'n dweud 'annibynnol' yn unman yng ngwelliant 2 y Gweinidog, na 'gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru'. Fan lleiaf, byddem wedi disgwyl y dylai unrhyw adroddiad fod yn annibynnol ac ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y ddeddfwrfa, i'w graffu.

Gan droi at welliant 30, dyma welliant hollol wahanol i un y Gweinidog. Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, mae'r hollt rhwng honiadau'r Gweinidog ynghylch natur dechnegol y Bil, o'i gymharu â'r safbwynt polisi eang iawn o fewn y memorandwm esboniadol a'r cynllun gweinyddol drafft, yn amlwg iawn. Drwy gytuno i beidio â rhoi fawr o fanylion ar wyneb y Bil, byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n caniatáu i bwerau'r Weithrediaeth gynyddu, ac ar yr un pryd yn cyfyngu ar ei phwerau ei hun yn wir. Pwysleisiodd y Gweinidog drwy Gyfnodau 1 a 2 y dylid gadael manylion y cynnig i is-ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu ar gyfer hyblygrwydd. Fodd bynnag, gallai is-ddeddfwriaeth newid y cynnig a'r bwriad polisi'n llwyr heb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio'i swyddogaeth fel deddfwrfa i graffu arno'n fanwl. Hefyd cyhoeddwyd y gwerthusiad cyntaf o'r cynnig lai na phythefnos yn ôl, fwy na saith mis ar ôl cyflwyno'r Bil gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos felly ei fod yn cefnogi arsylwadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a bod Llywodraeth Cymru yn deddfu ar gyfer y cynnig gofal plant cyn diwedd y rhaglenni peilot a gwerthuso effeithiolrwydd y polisi.

O ran gwelliannau 2A, 2B, 2C, 2D a 2E, mae'r gwelliannau hyn yn ceisio gwella syniadau'r Gweinidog ei hun ynglŷn ag adolygu'r Bil. Caiff y pryderon sydd gennym ynghylch tryloywder y Bil a deddfwriaeth flaenorol Llywodraeth Cymru eu cadarnhau gan y saith pŵer a roddwyd i Lywodraeth Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, sydd wedi'u cynnwys mewn 13 o adrannau'r Bil yn unig. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy na 40 diwrnod i bleidleisio ar is-ddeddfwriaeth na ellir ei diwygio heb ymgynghori ystyrlon.

Drwy gydol Cyfnod 1 a 2, mae'r Gweinidog wedi ceisio rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pryderon allweddol ynglŷn â chludo rhwng lleoliadau gofal plant, cynllunio'r gweithlu, a chodi taliadau ychwanegol, yn cael eu hymchwilio, ac mae'r cynllun gweinyddol drafft hefyd yn gwneud rhai consesiynau ar fanylion y cynnig. Rydym felly'n croesawu rhai o'r consesiynau a'r sicrwydd gan y Gweinidog yn y meysydd hyn. Er enghraifft, rydym yn falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ychwanegu cwestiynau ymchwil at y gwerthusiad o flwyddyn 2 gweithredwyr cynnar y cynnig o ran cludiant, yn ogystal ag ychwanegu'r cynnig a thaliadau ychwanegol i'r cynllun gweinyddol drafft. Eto i gyd nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gynnwys yn y broses o werthuso'r cynnig a'i effeithiau. Wedi'u rhestru o'n blaenau yng ngwelliant 2C ceir rhai'n unig o'r meysydd y mae'r Gweinidog wedi gwrthod ystyried eu gosod ar wyneb y Bil, ac yn lle hynny mae naill ai wedi eu diystyru, wedi gwneud addewidion yn eu cylch, neu wedi eu hisraddio i'r cynllun gweinyddol anstatudol. Mae'n werth nodi hefyd fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun o weithredwyr cynnar y cynnig gofal plant, a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl, wedi argymell bod angen ymchwil pellach dros gyfnod hwy o amser, er mwyn darparu tystiolaeth bendant ynglŷn ag effaith.

Felly rydym yn dadlau bod y gwelliant hwn yn darparu fframwaith ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i graffu hefyd ar effaith y Bil a'r cynnig gofal plant. O ganlyniad, er nad yw'r rhestr yn y gwelliant hwn yn hollgynhwysol, mae'n dangos bod dymuniadau'r Cynulliad yn cael eu parchu, yn hytrach na'u hisraddio, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hadolygiad o'r Bil. Yn ogystal, dylai'r ffaith bod y Gweinidog ond wedi addo dod â chopi o'r cynllun gweinyddol drafft, a dim arall, gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwanwyn, fod yn rhybudd na chaiff ei osod gerbron y Cynulliad. Ar ben hynny, nid ydym yn cytuno â honiad y Gweinidog y bydd cyfnod o bum mlynedd yn rhoi digon o amser i'r Cynulliad adolygu'r cynnig. Bydd cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol yn dechrau yn 2020, felly dylai'r Cynulliad fod wedi gallu asesu ei ddigonolrwydd o'r dechrau. Felly, gobeithiwn y caiff gwelliannau 2A a 2D 2E eu pasio.

Yn olaf, fel y bydd Suzy Davies hefyd yn tystio, o dan welliant 35, ceir opsiwn ar gyfer darpariaeth fachlud ar gyfer y Bil, drwy ganiatáu i'r Cynulliad benderfynu a yw wedi cyflawni ei brif ddyletswydd fel mecanwaith i ddarparu'r cynnig gofal plant. Fel y nododd fy nghyd-Aelod yng Nghyfnod 2 y Bil, nid yw cymalau adolygu'n cynnwys opsiwn i benderfynu a yw deddfwriaeth wedi methu cyflawni bwriad polisi. Yn gyntaf, bydd cymal machlud yn caniatáu ar gyfer dirwyn y Ddeddf i ben os na chyflwynir rheoliadau ar ei swyddogaethau, ac yn ail, mae'n caniatáu i'r Ddeddf fachlud os nad yw'n cyflawni ei bwriadau polisi. O ystyried yr angen am y ddau, mae'n amlwg y dylid derbyn gwelliant o'r fath yn achos sgerbwd o Fil fel sydd gennym yma. Diolch.

19:05

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gwelliant 35, nid ydym wedi ymdrin ag ef, felly diolch i chi'ch dau. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i chi, Weinidog, am ymgysylltu â ni ar gwestiwn yr adolygiad? Credaf fod hwn yn wirioneddol bwysig. Credaf mai'r hyn sy'n ganolog i hyder mewn unrhyw adolygiad, fodd bynnag, yw gallu'r Senedd hon i helpu i'w lunio—i gael atebion i'r cwestiynau y credwn y byddant yn bodloni diddordeb ein hetholwyr yn ogystal â darparu gwell deddfwriaeth, os mynnwch.

Credaf fod gwelliannau Janet Finch-Saunders, fel y dywedodd, yn cynnwys rhestr nad yw'n hollgynhwysol o feini prawf synhwyrol a pherthnasol iawn, a buaswn yn disgwyl i'r holl Aelodau yma feddwl eu bod yn berthnasol ac yn disgwyl iddynt gael eu cynnwys mewn unrhyw adolygiad. Wrth gwrs, gellir ehangu'r rhestr honno, ond mae'n atgyfnerthu'r pwynt fod angen i ni, fel Aelodau Cynulliad, yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn unig, fod yn fodlon fod yr adolygiad yn ddigon cadarn. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn agored i ymestyn, neu i gynnwys pethau yn y rhestr honno wrth inni fynd ymlaen.

Nawr, gwelliant 35—cyfeiriodd Janet, yn garedig iawn, at y Bil hwn fel sgerbwd o Fil. Fe wyddoch fy marn i: fod mwy o dyllau ynddo nag yn festiau Steptoe, ac mae'n mynd i fod angen ei drwsio â rhestr o reoliadau a allai fod yn effeithiol, neu beidio, er mwyn iddo weithredu fel statud. Roeddwn yn falch o weld yn y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod rhinweddau cymalau machlud mewn is-ddeddfwriaeth, ac rydych chi, mewn gwirionedd, Weinidog, fel Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi cydnabod rhinwedd cymalau machlud mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac rwy'n cytuno gyda'r ddau ohonoch. Felly, nid yw'r ddyletswydd hon i adolygu—credaf ichi ddweud 'oedi ac adolygu', Weinidog—a gyflwynwyd o'r newydd i'r Bil yn cynnwys opsiwn i benderfynu ei fod wedi methu o ran bwriad polisi. Ac nid yw cynnwys y cymal machlud ond yn caniatáu'n syml i'r ddeddfwriaeth hon gael ei dileu, os yw rheoliadau naill ai'n annigonol ar gyfer perffeithio gweithrediad y Bil yn ymarferol neu'n caniatáu iddo gael ei ddileu os bydd adolygiad yn dangos ei fod yn methu cyflawni unrhyw un o'i fwriadau polisi ac y byddai'n parhau i fethu gwneud hynny.

Nawr, gwn eich bod wedi bod yn poeni ynglŷn â CThEM, ond y ffordd hawdd o ddatrys y broblem honno yw cyflwyno'r rheoliadau i lenwi'r tyllau, oherwydd nid ydym eisiau deddf aneffeithiol yn loetran yn ein system sydd ar fin cael ei chodeiddio. Felly, mae'r gwelliant hwn yn rhoi hawl i'r Senedd gael gwared arno heb aros i'r Llywodraeth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae'n debyg iawn i—a gaf fi ddweud 'ôl-stop' yn y Siambr hon, Lywydd? Mae'n peri pryder mawr ar hyn o bryd. Ond dyna fel rwy'n ei weld. [Torri ar draws.] Ie. Mae fel pe bai rhywun yn sefyll y tu ôl i'r wiced i wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn, yn enwedig gan nad ydych chi'n hoff iawn o'r weithdrefn uwchgadarnhaol ar gyfer gwneud hynny. Felly, rwy'n argymell hyn i Aelodau'r Cynulliad.

Diolch. Suzy, diolch yn fawr iawn. Rwy'n hapus i gael fy mhrofi ar hyn ac i gofnodi rhai sylwadau yn ogystal, a diolch am eich ymroddiad i geisio symud rhywfaint o hyn yn ei flaen yn fy ngwelliant fy hun yma hefyd.

A gaf fi gydnabod y croeso a roesoch i'r ffordd rydym eisoes wedi dysgu o, ac wedi ystwytho rhai agweddau ar y cynllun gweinyddol yn agored iawn—wedi dweud beth rydym yn ei wneud, pam rydym yn ei wneud? Rydym wedi cyflwyno'r fframwaith eisoes fel y dywedais. Dywedaf hynny eto, gan fod y Cadeirydd yn eistedd wrth fy ymyl—yn hapus iawn i ddod gerbron y pwyllgor yn y gwanwyn a chael fy mhrofi ar y cynllun gweinyddol, beth arall rydym yn ei ddysgu, ac i wneud hynny'n rheolaidd, a dweud y gwir.

Ond edrychwch, rydym yn nodi'n glir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil ein bwriad i adolygu i ba raddau y bydd y ddeddfwriaeth wedi cyflawni ei hamcanion rai blynyddoedd yn y dyfodol, ac wrth gwrs byddwn yn gwneud hynny'n unol ag arferion da, ac fe roddaf rywfaint o fanylion i chi yn awr. Ond credaf ei bod hi'n bwysig ein bod yn gadael digon o amser i'r cynnig a'r system newydd wreiddio'n llawn cyn inni gynnal yr adolygiad gwraidd a brig trylwyr hwnnw. Ac mae'n bwysig fod rhieni a darparwyr yn y sector hefyd yn cael yr amser hwnnw i addasu fel y gallwn gael darlun go iawn o'r ffordd y mae pethau'n gweithio ledled Cymru. Nawr, y cydbwysedd hwn y mae fy ngwelliant, gwelliant 2, yn ceisio ei sicrhau. Felly, efallai y gall helpu Aelodau—yr holl Aelodau—pe bawn yn nodi'r amserlen ar gyfer adolygu fel rwy'n ei gweld.

Felly, yn amodol ar basio'r ddeddfwriaeth hon, rydym yn rhagweld y bydd y pwerau hyn yn cychwyn yn ystod 2019 er mwyn galluogi'r gwaith angenrheidiol o adeiladu a phrofi'r system genedlaethol ar gyfer ymgeisio a gwirio cymhwysedd, gyda'r bwriad o gyflwyno'r system newydd yn llawn yn 2020. Rydym am sicrhau bod y system ymgeisio a gwirio cymhwysedd newydd yn weithredol ar gyfer y tair blynedd lawn er mwyn hwyluso'r adolygiad llawn, cynhwysfawr hwnnw, ar gyfer y cyfnod rhwng 2020 a 2023. Ar ôl diwedd y cyfnod profi hwnnw, mae'n rhesymol ein bod yn caniatáu amser rhesymol i ystyried y canfyddiadau'n briodol, a'u dadansoddi'n gywir ac i ysgrifennu adroddiad yr adolygiad yng ngoleuni hynny. Felly, ar gyfer rhaglen o'r maint hwn, y cymhlethdod hwn, gallai hyn gymryd peth amser. Felly, rydym wedi caniatáu hyd at—hyd at—flwyddyn arall, gan roi'r cyfnod o bum mlynedd sydd yn ein gwelliant i ni. Nawr, os gallwn ei wneud yn gynt, fe wnawn hynny, ond mae'r amserlen hon yn caniatáu ar gyfer yr adolygiad gorau a mwyaf trylwyr o'r system. Am y rheswm hwn nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau eraill yma.

Hefyd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i werthusiad annibynnol o'n rhaglen gweithredwyr cynnar. Fe drof at yr adolygiad llawn ehangach yn ogystal. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar flwyddyn gyntaf y gweithredwyr cynnar fis diwethaf. Bydd adroddiad ar yr ail flwyddyn ar gael fis Hydref nesaf. Felly, nid yw'n fater o beidio â chael gwerthusiad ac aros am y gwerthusiad llawn.

O ran y manylion y byddai Janet yn hoffi eu gweld ar wyneb y Bil ynglŷn â beth fydd yr adolygiad yn ei gynnwys, rwyf eisoes wedi ildio ar rai materion, fel y crybwyllwyd, gan gynnwys mater cludiant. Cyfarfûm â'r Aelodau Cynulliad, ac yn awr byddwn yn edrych ar hynny fel rhan o'r gwerthusiad o ail flwyddyn y gweithredwyr cynnar. Ac ar y taliadau, rwyf wedi dweud hefyd y byddwn yn cadw hyn dan arolwg, a nodais ein cynlluniau mewn perthynas â chynllunio'r gweithlu yn ogystal. Nawr, buaswn yn ofalus iawn ynglŷn â cheisio creu rhestr derfynol o nodau ar gyfer yr adolygiad llawn ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn yn dal i esblygu—bydd pobl eisiau gweld pethau eraill arni—cyn inni orffen y gweithredu cynnar yn enwedig a gweld y canfyddiadau ar y pwyntiau y mae'r Aelodau eisoes wedi holi yn eu cylch.

Nawr, gallaf gadarnhau hefyd na fydd yr adolygiad hwn, yr adolygiad mawr, yn cael ei gyflawni'n fewnol ac y byddwn yn penodi cwmni gwerthuso annibynnol allanol. Rwy'n awyddus i roi'r cylch gorchwyl ehangaf posibl iddynt a pheidio â'u llyffetheirio, ac o ganlyniad ni fyddaf, ni allaf, gefnogi eu gwelliannau 2B na 2E.

Nawr, gwelliant 35 yw'r ddarpariaeth fachlud, sy'n ceisio mewnosod y ddarpariaeth honno yn y Bil. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid wyf yn argyhoeddedig o'r angen am ddarpariaeth o'r fath yn y Bil. Mae gennyf bryderon y byddai darpariaeth fachlud yn cyfleu'r neges anghywir i ddarparwyr, i awdurdodau lleol ac i rieni allan yno ynglŷn â'n hymrwymiad fel Llywodraeth i'r cynnig hwn, felly ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Ond rwy'n cymeradwyo gwelliant 2 y Llywodraeth ac yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn, sy'n rhoi'r adolygiad llawn a thrylwyr hwnnw ar waith ar ôl cyfnod addas a phriodol.

19:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlas. Cau'r y bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 30.

Gwelliant 30: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Fel gwelliannau i welliant 2, bydd gwelliannau 2A i 2E yn cael eu gwaredu yn gyntaf yn unol â'r rhestr welliannau. Gweinidog, a ydych chi'n dymuno cynnig gwelliant 2?

Cynigiwyd gwelliant 2 (Huw Irranca-Davies).

Cynigiwyd gwelliant 2A (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2A? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2A.

19:15

Gwelliant 2A: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2B (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2B? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2B.

Gwelliant 2B: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2C (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2C? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2C.

Gwelliant 2C: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2D (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2D? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2D. 

Gwelliant 2D: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2E (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2E? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2E.

Gwelliant 2E: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fel y'i diwygiwyd. Wel, na, ni ddiwygiwyd gwelliant 2. Mae wedi'i symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 2: O blaid: 32, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 13: Dyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth (Gwelliant 31)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 13 ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r ddyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth. Gwelliant 31 yw'r prif welliant a'r unig welliant ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Janet Finch-Saunders).

Diolch. Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 31 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a chymhwysedd yng Nghymru. Mae natur ddwy ffrwd y cynnig yn amlwg, gyda'r hollt rhwng y cyfnod sylfaen, y feithrinfa, addysg y blynyddoedd cynnar, wedi'i weinyddu gan yr awdurdodau lleol am o leiaf 10 awr yr wythnos, ac mae'r gofal plant a gynigir—

Rwyf ar yr un anghywir. Mae'n ddrwg gennyf.

Yr un nesaf. Rhif 13, ie, roeddwn ar yr un cywir. Iawn.

Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd CLlLC fod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am weinyddu systemau ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar, sy'n golygu y byddai rhieni'n gorfod gwneud cais ar wahân i'w hawdurdod lleol a CThEM i allu manteisio ar y 30 awr llawn. Fodd bynnag, nodwyd gan ddarparwyr gofal plant yn ogystal ag Estyn y gallai hyn achosi dryswch mawr ymhlith rhieni.

Ar lefel genedlaethol, cadarnhaodd cynrychiolydd CThEM nad oedd unrhyw reswm o gwbl pam na allai'r ohebiaeth gynnwys yr hyn y byddai rhiant yn gymwys i'w gael, a chyfeiriodd at y ffaith y gellid diweddaru dewisiadau gofal plant i gynnwys data ar gyfer Cymru.

Rydym yn cydnabod cyfaddefiad y Gweinidog y gallai'r Bil arwain at ddryswch, ond roedd wedi sôn fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ym mhob awdurdod lleol yn yr ardaloedd peilot er mwyn gallu cyfeirio'n glir rhwng y ddwy system. Nododd ymhellach fod strategaeth gyfathrebu yn cael ei phrofi yn yr ardaloedd peilot i gyfeirio rhieni mewn perthynas â'r cynnig, yn ogystal â chymorth ychwanegol megis chredydau treth. Fel y cyfryw, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymdrechion i hysbysu rhieni ynglŷn â'r cynnig ac yn darparu dewisiadau amgen os nad ydynt yn gwbl gymwys.

Mae'r gwelliant yn cwmpasu ymrwymiad y Gweinidog a bydd yn symleiddio'r cynnig i rieni fel na osodir unrhyw rwystrau pellach yn eu ffordd wrth iddynt ymgeisio. At hynny, mae gan awdurdodau lleol systemau ar waith eisoes i gyfeirio rhieni at gynnig gofal plant y cyfnod sylfaen, gan alluogi pontio esmwyth tuag at system genedlaethol. Ymhellach, mae gwerthusiad o'r gweithredwyr cynnar wedi argymell y dylid ystyried hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth. Nododd y gwerthusiad hefyd fod angen mwy o wybodaeth gliriach i helpu rhieni plant sy'n gymwys gyfrif cost gofal plant. O ganlyniad, credwn y bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth hon yn helpu i barhau cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn hyn o beth yn ogystal â chydlynu gwasanaethau gwybodaeth ar adeg cyflwyno'r cynnig yn genedlaethol. Diolch.

19:20

Rwy'n ymwybodol yn wir fod amrywiaeth o heriau cyfathrebu wedi wynebu awdurdodau lleol, rhieni a darparwyr o ran y cynnig hyd yma, ac rwyf wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad gwerthuso ar gyfer blwyddyn gyntaf y gweithredwyr cynnar, sy'n cynnwys llawer o'r pwyntiau hyn, yn ofalus iawn.

Felly, byddwn yn lansio ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar y cynnig cyn ei fod ar gael yn genedlaethol yn 2020. Ochr yn ochr â hyn, fel y mae Janet wedi dweud, byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd i sicrhau bod manylion am y cynnig, a chymorth gofal plant ehangach arall, ar gael i rieni yn ôl yr angen.

Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, sy'n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gyfer teuluoedd a gofalwyr gan bob awdurdod lleol. Wrth gwrs, mae'n bwysig sicrhau hefyd fod gan rieni fynediad at wybodaeth am ofal plant ar y pwynt pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch swyddi a gyrfaoedd. Felly, buom yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod y wybodaeth honno gan gynghorwyr cyflogaeth, yn ogystal â'n rhaglenni cyflogadwyedd ein hunain a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Felly, o ystyried bod yr holl waith hwn eisoes ar y gweill a bod gennym wasanaeth pwrpasol ar gyfer rhoi cyngor i deuluoedd ar eu dewisiadau gofal plant, nid wyf yn gweld bod angen inni ychwanegu dyletswyddau ychwanegol yn hyn o beth drwy gyfrwng y Bil hwn, felly ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 31.

Gwelliant 31: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 32.

Gwelliant 32: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant 

Cynigiwyd gwelliant 33 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 33: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grwp 14: Cynllunio’r gweithlu (Gwelliant 34)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 14 ac mae'r gwelliannau yma'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu. Gwelliant 34 yw'r prif a'r unig welliant yn y grŵp ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Rydym yn cadw gwelliant 34, gan nad yw ymatebion y Gweinidog ar gynllunio'r gweithlu drwy gydol Cyfnod 1 a 2 wedi bod yn ddigon boddhaol. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod dyletswydd ar Weinidogion i archwilio gallu'r gweithlu gofal plant fel bod digon o ofal plant ar gael i rieni allu manteisio ar y cynnig.

Mae'n hanfodol ein bod yn gallu craffu ar gapasiti gan fod tystiolaeth wedi dangos bod problemau wedi codi, yn enwedig ar adegau penodol, yn ystod blynyddoedd academaidd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. At hynny, mae Cwlwm—y corff ymbarél ar gyfer pump o ddarparwyr gofal plant yng Nghymru—wedi nodi prinder staff cymwysedig, anawsterau o ran cadw staff oherwydd cyflogau isel ac oriau annigonol, diffyg lleoliadau cofrestradwy ac argaeledd adeiladau ysgol a chymunedol i gynnal gwasanaethau gofal plant.

Yn anffodus, ceir diffygion mewn rhai meysydd o'r sector gofal plant, gan gynnwys darparwyr sy'n gallu darparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a staff sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu gofal plant ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Cymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried setiau sgiliau'r gweithlu gofal plant mewn perthynas â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ar ben hynny, dangosodd ailwerthusiad diweddar o ardal beilot y cynnig gyfraddau isel o ddefnydd ar gyllideb anghenion addysgol arbennig Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar. Mae awdurdodau lleol yn tynnu sylw at ansicrwydd ymysg awdurdodau lleol ynglŷn â sut i ddyrannu'r gyllideb hon, a gellid ei defnyddio i hyfforddi'r darparwyr gofal plant. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn amcangyfrif y byddai angen 21,000 o leoedd ychwanegol cyfwerth ag amser llawn i ateb y galw, os yw'r nifer ddisgwyliedig o rieni'n manteisio ar y cynnig, a byddai angen 2,637 o weithwyr ychwanegol yn genedlaethol erbyn i'r cynnig gael ei gyflwyno'n llawn yn 2020. Gan nad oes capasiti ar hyn o bryd i ddarparu hyn, er mwyn mynd i'r afael â'r prinder posibl, byddai angen cynnydd o 700 y cant yn nifer y prentisiaethau gofal plant a gaiff eu recriwtio a'u cwblhau dros ddwy flynedd. Yn ogystal, mae'r gwerthusiad diweddar o weithredwyr cynnar y cynnig gofal plant wedi nodi, er nad oes llawer o ddarparwyr yn pryderu ynglŷn â chapasiti, er mwyn diwallu'r galw presennol, mae llawer yn nodi eu bod eisoes yn gweithredu ar gapasiti llawn neu bron yn llawn. Ac nid oedd eraill am ehangu gan y byddai hynny'n effeithio'n andwyol ar gymeriad eu lleoliad gofal plant. Testun pryder arall yw'r ffaith nad oes gan un rhan o dair o'r darparwyr gofal plant yn yr ardaloedd peilot gapasiti i ehangu ar hyn o bryd pe bai'r galw'n cynyddu.

Felly, yma eto, nid yn unig fod hyn yn gwrthddweud honiadau'r Gweinidog yng Nghyfnod 2 nad oedd awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar yn dangos straen o fewn y system, mae'n gwneud adolygiad o gapasiti'r gweithlu hyd yn oed yn fwy angenrheidiol. Er bod y Gweinidog yn addo adolygiadau mwy trylwyr o gynlluniau ar gyfer y gweithlu yn mlynyddoedd dau a thri o weithredu'r cynnig, mae hynny'n dal i hepgor swyddogaethau'r Cynulliad i graffu ar gapasiti'r gweithlu gofal plant i ddarparu'r cynnig hwn. Diolch i chi.

19:25

A gaf fi ddechrau drwy adnewyddu gwybodaeth yr Aelodau a'u hatgoffa am y cyfraniad sylweddol rydym eisoes yn ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd y llynedd o ran datblygu yn union yr hyn y mae'r Aelod wedi gofyn amdano, sef capasiti a gallu ychwanegol ar draws y sector gofal plant a'r sector chwarae? Nod y cynllun 10 mlynedd yw proffesiynoli'r sector, creu gweithlu medrus a all gynnig gofal plant hyblyg, fforddiadwy o ansawdd uchel. Ac o ran buddsoddi yn sgiliau ac ansawdd y gweithlu, mae cyfres newydd o gymwysterau gofal plant yn cael ei datblygu'n barod ar gyfer cyflwyno'r cynnig yn ail hanner 2019, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig gofal plant. Bydd y rhaglen brentisiaethau, sy'n darparu rhan o hyn, yn cynorthwyo darparwyr a'u gweithlu i gael mynediad at y cymwysterau hyn.

Ond eisoes hefyd rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd newydd o annog amrywiaeth go iawn yn y gweithlu. Felly, mewn partneriaeth, er enghraifft, â'r NDNA—Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dydd—rydym wedi bod yn gweithredu'r prosiect Gwaith Gofal Plant. Rwyf wedi ei weld drosof fy hun. Mae'n targedu rhai sy'n economaidd anweithgar ar hyn o bryd ond sydd â'r sgiliau cywir a'r priodoleddau personol i weithio gyda'n plant ifanc. Mae wedi cynhyrchu nifer o ganlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys creu swyddi, ac rydym bellach yn ystyried bwrw ymlaen â'r ail gam.

Ond rwyf hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu, a dyna pam rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y sector. Mae wedi ei dargedu at fesurau cymorth busnes yn ogystal â sgiliau, a bydd yn helpu'r sector i adeiladu ei gapasiti a'i allu ei hun, ac un o'r sbardunau allweddol ar gyfer hyn fydd eithrio'r holl feithrinfeydd dydd cofrestredig rhag gorfod talu ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf. Bydd yr eithrio'n digwydd am gyfnod o dair blynedd, ochr yn ochr â chyflwyno'r cynnig, a bydd yn cynorthwyo darparwyr presennol i ddod yn fwy sefydledig ac i gefnogi busnesau newydd mewn ardaloedd lleol wrth i ni barhau i gyflwyno'r cynnig gofal plant ac ehangu'r gweithlu.

Ond rhaid inni gofio bod y sector yn economi gymysg; mae'n cynnwys sefydliadau sector preifat a'r trydydd sector, yn ogystal â rhai yn y sector cyhoeddus. Ac mae creu swyddi, felly, yn y sector yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac nid yw pob un yn bethau y gall Gweinidogion Cymru ddylanwadu arnynt neu eu rheoli.

Ond byddwn yn parhau i fonitro sut y gellir gwella'r cynlluniau hyn, er mwyn cefnogi'r sector yn y ffordd orau i allu cymryd mantais lawn o'r ymrwymiad cyffrous hwn i gynnig gofal plant. Felly, yng ngoleuni'r gweithgaredd presennol ac arfaethedig gan y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu'r gweithlu ar draws sector sydd, mae'n rhaid dweud, yn amrywiol iawn, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 34.

Gwelliant 34: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 35 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw  wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 35.

19:30

Gwelliant 35: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Huw Irranca-Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 3, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 15: Cychwyn (Gwelliant 36)

Grŵp 15 yw'r grŵp nesaf, a'r grŵp olaf, ac mae'r gwelliannau yma yn ymwneud â chychwyn. Gwelliant 36 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, ac rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders is gyflwyno'r gwelliant ac i siarad iddo. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 36 wedi cael ei ailgyflwyno fel mater o egwyddor. Yng Nghyfnod 2, dywedodd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC, yn glir iawn wrth y Gweinidog y dylai fod pŵer gan y Cynulliad i atal gweithredu gan Lywodraeth Cymru dros dro os credwn ei bod wedi gweithredu y tu allan i'w phwerau. Mae adran 12(3)(b) o'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â'r Bil yn dod i rym, ac mae'r gwelliant hwn yn rhoi'r un cyfle'n union i'r Cynulliad—i Lywodraeth Cymru egluro ei gweithredoedd os gofynnir cwestiynau. Diolch.

Rydym ar ddiwedd y ddadl yma, felly nid wyf am eich cadw'n hir. Ond mae hon yn adeg berffaith i groesawu hen ffrindiau yn ôl, onid yw? Mae gwelliant 42 yn un o'r hen ffrindiau hynny. Mae'n ymwneud â Gorchmynion cychwyn. Rydym yn rheolaidd yn dod â hyn—[Torri ar draws.] Ydym, ac am reswm da, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae'n rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth roi sylw iddo, oherwydd yn aml gall anghofio mai'r Cynulliad hwn yw'r ddeddfwrfa, nid y Llywodraeth, ac os ydym am gael cyfle i graffu ar unrhyw weithgarwch gan Lywodraeth Cymru a gyflawnwyd yn rhinwedd statud, cawn wneud hynny. Os credwn efallai fod Gweinidogion Cymru wedi mynd yn rhy bell—nid wyf yn dweud y byddant, ond os ydym yn meddwl efallai eu bod wedi gwneud hynny—efallai y tu hwnt i'w hawdurdod, dylem allu atal eu gweithredoedd dros dro inni allu gweld, fel y dywedodd Janet. Dyna fyddai'r gwelliant hwn yn caniatáu inni ei wneud, oherwydd mae'r adran yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud amrywiaeth o ddarpariaethau mewn perthynas â'r Bil yn dod i rym—darpariaethau darfodol, trosiannol neu arbed; gallwn eu canu os yw'n haws. Mae'r geiriad yn eithaf safonol. [Torri ar draws.] Na, nid Peter Lilley wyf fi.

Rwy'n derbyn mai dyma'r geiriad safonol, ond gallent olygu unrhyw beth mewn gwirionedd, oni allent? Felly, yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog nad yw gwneud Gorchmynion cychwyn fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn a bod safbwynt Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir nad oes angen i Orchmynion cychwyn fod yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Wel, nid ydynt fel rheol wedi'u cysylltu wrth hyn gan fod Llywodraeth Cymru yn ein taro'n ôl o hyd gyda help y meinciau cefn. Ond mewn gwirionedd, nid barn y Llywodraeth sy'n bwysig yma, ond barn y ddeddfwrfa mewn gwirionedd—pwynt yr ydym yn ei wneud dro ar ôl tro a chaiff ei wthio'n ôl gan y Llywodraeth mewn ffordd y credaf bellach ei bod yn amhriodol yn ôl pob tebyg.

Felly, os yw'r Llywodraeth yn mynd i ddal ati i'n hatal rhag cyflwyno'r un yma, rwy'n credu ei bod hi'n bryd i mi ofyn i'r Aelodau Llafur ar y meinciau cefn wneud rhywbeth eithaf radical yma. Bu'n wythnos pan fo seneddau wedi bod yn sefyll yn gadarn yn erbyn llywodraethau, felly pam na fanteisiwch chi ar y cyfle i wneud safiad bach ac ymuno â chwyldro bach drwy gefnogi'r gwelliant hwn a gwireddu'r fuddugoliaeth fach hon yn erbyn Llywodraeth Cymru, sydd, ac mae hwn yn bwynt difrifol, yn atgyfnerthu rôl y Senedd Cymru hon vis-à-vis Llywodraeth Cymru. Diolch.

Diolch, Lywydd. A gaf fi annog cyd-Aelodau ar y meinciau hyn ac ar eu traws, 'Gadewch inni gadw'r gwrthryfeloedd hynny i ddigwydd yn San Steffan ac nid yma'? [Torri ar draws.] Er ei bod yn hwyr yn y dydd.

A gaf fi ddiolch, gyda'r gwelliant olaf hwn, i'r rhai sydd wedi cynnig gwelliannau ac wedi craffu'n dda ar y cam hwn o daith y Bil? Yn wir, cododd y mater hwn yn ystod Cyfnodau 1 a 2. Yr union welliant hwn ydoedd yn wir, felly efallai y bydd fy ymateb yn gwbl rhagweladwy. Nid yw gwneud Gorchmynion cychwyn fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn gan eu bod yn dod â materion i rym y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo eisoes. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn wedi'i egluro eisoes. Ni welaf reswm, felly, i wyro oddi wrth y confensiwn presennol mewn perthynas â Gorchmynion cychwyn.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog—rwy'n gwerthfawrogi eich caredigrwydd ar hyn. Ydy, mae'n ymwneud â Gorchymyn sy'n cyflwyno rhywbeth y mae'r Cynulliad wedi'i gytuno, ond mae angen inni wneud yn siŵr eich bod yn ei wneud yn gywir, a dyna'r tamaid bach o waith craffu ychwanegol yr oeddem yn gofyn amdano yma. Rwyf bron yn sicr, 100 gwaith allan o gant, na fydd problemau, ond ni wyddoch, a dyna sydd angen inni fel seneddwyr gadw llygad arno.

Diolch i chi, Suzy. Rwy'n credu bellach ein bod ar y cyd wedi dihysbyddu amynedd ein cyd-Aelodau. Ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn.

19:35

Mae'n bryd i mi wneud fy araith derfynol yn awr. Fe symudwn i bleidlais, ond cyn i mi wneud hynny, hoffwn ddiolch i chi, Lywydd, ac i'r Gweinidog, a'r holl gyd-Aelodau am eich amynedd a'ch haelioni yn ystod ein gwelliannau. Rydym wedi cyflwyno'r rhain gyda'r bwriadau gorau oherwydd ein bod yn credu'n gryf ein bod eisiau i'n plant ledled Cymru allu manteisio ar y cynnig hwn ac yn bwysicach, rydym am weld ein rhieni'n gallu dychwelyd i'r gwaith, dychwelyd i addysg a dychwelyd i hyfforddiant. Felly, rydym wedi gwneud ein gorau i graffu ar hyn, a hoffwn ddiolch wrth gwrs i fy nghyd-Aelod Suzy Davies am ei gwaith ar hyn hefyd. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i'r bleidlais felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 36. 

Gwelliant 36: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn felly: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar y gwelliant yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 5. 

Gwelliant 5: O blaid: 17, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyna ni, felly, yn dod at ddiwedd ein hystyriaeth o'r Cyfnod 3 o'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Rwy'n datgan y bernir pob adran o'r Bil wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:36.