Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

26/09/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Gwella Trafnidiaeth

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ52635

Diolch. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd yn 2017, yn nodi ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt ledled Cymru.

Diolch am eich ateb. Mae'r A483, wrth gwrs, ffordd rydych yn gyfarwydd â hi—ffordd osgoi Wrecsam—yn briffordd allweddol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru ac mae angen gwelliannau ers sawl blwyddyn bellach i'r cyffyrdd sy'n ei chysylltu â'r dref, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw hynny. Credaf i chi alw cyffordd Ffordd Rhuthun yn gynharach eleni yn beryglus wedi damwain drasig lle bu farw beiciwr. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad honno yw’r unig ddamwain a ddigwyddodd yn ddiweddar ar y gyffordd honno, ac yn wir, mae’r materion hyn yn llesteirio datblygiad economaidd yr ardal. Yn ôl ym mis Mai, fe gyhoeddoch chi, wrth gwrs, y byddai'r problemau gyda'r gyffordd yn cael eu datrys o fewn tair blynedd ac y byddai arian yn cael ei ddarparu. Rydym chwe mis i mewn i'r cyfnod hwnnw o dair blynedd, bron â bod. Felly, tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn ag a fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddarparu, gan fod y bobl leol, wrth gwrs, yn awyddus i fwrw ymlaen a sicrhau bod hyn yn digwydd.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol ac ymddiheuro am beidio ag ateb ei gwestiwn cyntaf yn Gymraeg? Byddaf yn ymdrechu i wneud hynny pan ofynnir cwestiynau imi yn Gymraeg yn y dyfodol.

Mae'r Aelod yn llygad ei le o ran y tagfeydd ar yr A483 a'r ffyrdd sy'n arwain at y gefnffordd bwysig honno, a Ffordd Rhuthun yn benodol. Mae problem benodol gyda'r golau trylifo gwyrdd ar gyffordd Ffordd Rhuthun, ac mae angen i’r awdurdod lleol ei datrys. Rwy’n gohebu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â'r mater penodol hwnnw. Ond mae'r Aelod hefyd yn llygad ei le fod angen rhoi sylw i gyffyrdd 3 i 6 ar yr A483. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn datblygu astudiaeth o atebion ar gyfer lleddfu’r tagfeydd ar y cyffyrdd hynny. Rydym bellach ar ail gam proses WelTAG Llywodraeth Cymru. Mae hynny wedi'i gomisiynu a disgwylir y bydd yr ateb a ffafrir yn cael ei nodi ar ddechrau 2020, gyda’r gwaith i gychwyn wedi hynny.

Yn ychwanegol at hyn, rydym hefyd wedi nodi ymyriad, fel rhan o'r rhaglen mannau cyfyng gwerth £24 miliwn, ar gyfer yr A483 yn benodol o gwmpas cylchfan Halton i'r de o'r gyffordd benodol honno y cyfeiria’r Aelod ati. Felly, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar roi sylw i'r holl gyffyrdd hynny a chylchfan Halton.

Ddiwedd mis Mehefin, cyhoeddodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddogfen gynnig ddrafft yn rhoi gweledigaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, a nodai fod cysylltiadau trafnidiaeth gwael a’r seilwaith ffisegol yn amharu ar amser teithio, yn enwedig i ganolfannau mawr, ac yn cynnwys pum parth teithio integredig yr oeddent yn awyddus i ganolbwyntio arnynt, gan gynnwys yr A483 a chanol tref Wrecsam yn ogystal â Glannau Dyfrdwy a draw hyd at ogledd Ynys Môn. Sut ydych yn ymateb i'r datganiad yn y cynllun neu'r ddogfen gynnig hon eu bod yn ceisio cefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gael mwy o allu a hyblygrwydd i wneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol pan fo’n hymagwedd ni yn 'hyrwyddo rhanbartholdeb a datganoli'? Gwn eich bod wedi gwneud sylwadau ar hyn wrth ateb fy nghwestiynau o'r blaen, ond mae amser wedi bod bellach. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’ch ymagwedd tuag at hyn?

Yn sicr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau atodol a dweud fy mod yn croesawu'r cynnig yn y ddogfen gynnig ar gyfer y pum parth allweddol hynny yn fawr iawn? Rwyf hefyd yn croesawu’r galw yn y ddogfen gynnig i greu corff trafnidiaeth rhanbarthol. Credaf y gallai hyn fod o fudd enfawr o ran cyflymu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at y misoedd nesaf ac at herio cynigion bargen dwf gogledd Cymru yn y sesiynau herio a sicrhau ein bod yn cael bargen deg nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan Lywodraeth y DU hefyd, a bod awdurdodau lleol hefyd yn gallu cyfrannu er mwyn sicrhau bod y cyfle unigryw hwn yn cael cymaint o effaith â phosibl ar gyfer pobl gogledd Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, croesawais eich datganiad ar y buddsoddiad mewn cerbydau yng ngogledd Cymru i helpu i wella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n siomedig y bydd yn rhaid i rannau o ogledd Cymru fodloni ar drenau 30 oed a arferai fod yn drenau rheilffyrdd ardal, yn wahanol i dde Cymru, a fydd yn cael rhai newydd sbon. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n dweud bod hon yn fargen deg i ogledd Cymru?

Iawn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud y bydd y trenau newydd cyntaf a fydd yn cael eu rhoi ar y traciau ym masnachfraint Cymru a'r gororau, a fydd yn dechrau fis nesaf, yn mynd ar draciau yng ngogledd Cymru? Byddant yn gwasanaethu gogledd Cymru yn gyntaf. Ond mae'r Aelod yn nodi ateb Vivarail ar gyfer un llwybr penodol—y llwybr o Wrecsam i Bidston. Nawr, y rheswm pam y ffafriwyd yr opsiwn hwnnw yn hytrach na cherbydau eraill, ac er eu bod, yn wir, yn seiliedig ar hen gerbydau rheilffyrdd tanddaearol, mewn gwirionedd maent wedi cael eu gwagio, eu hadnewyddu, a'u hailgynllunio. Maent yn edrych, yn teimlo ac yn gweithredu fel trenau newydd sbon. Fodd bynnag, y rheswm pam y dewisom ni’r opsiwn hwnnw, Lywydd, yw nad ydym am i’r gwasanaethau ddod i ben yn Bidston; rydym am eu gweld yn parhau drwodd i Lerpwl. A’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy ddefnyddio trenau deufodd, gan fod yn rhaid i chi gludo locomotifau trydan drwy'r twnnel o dan Afon Merswy. Ac felly, am y rheswm hwnnw, fe ddewisom ni’r ateb hwnnw. Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â rhai heriau rheoleiddiol, ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni gael yr opsiwn deufodd. A phe baem wedi archebu trenau newydd ar y cam hwn, ni fyddem wedi gallu cyflymu'r broses o sicrhau bod rheilffordd Wrecsam i Bidston yn cael ei hymestyn o Wrecsam yr holl ffordd i Lerpwl.

13:35
Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Calon Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch a fydd unrhyw gerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru? OAQ52623

Gwnaf. Rwy'n falch iawn y bydd gan reilffordd y Cambrian gerbydau newydd o 2022. Byddant yn drenau CAF o gerbydau diesel, a byddant yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Bydd gan reilffordd Calon Cymru hefyd gerbydau newydd o 2022, a byddant yn gerbydau dosbarth 170 cwbl adnewyddedig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o etholwyr a sefydliadau twristiaeth wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r posibilrwydd y gall rhai o gerbydau rheilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru fod yn gerbydau arsyllu, fel y gellir mwynhau ein golygfeydd godidog—rwy'n siŵr fod y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn cytuno â mi—mewn ffordd debyg i'r hyn sy'n digwydd yng Nghanada, yn y Mynyddoedd Creigiog. A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i hyn, Ysgrifennydd y Cabinet?

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n gwneud awgrym gwreiddiol iawn. Rwy'n cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru heddiw a byddaf yn codi'r cwestiwn y mae wedi'i ofyn i mi yn y Siambr. Mae ceir arsyllu yn nodwedd ddeniadol ar nifer o drenau, gan gynnwys rheilffordd treftadaeth Llangollen, a gwn fod sawl Aelod yn y Siambr hon yn gyfarwydd iawn â honno. Ac mae'n rhywbeth y buaswn yn sicr yn awyddus i'w ystyried ar gyfer rheilffordd Calon Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi llongyfarch y Llywodraeth ar Faes Awyr Caerdydd sawl tro yn y gorffennol, ond rwy'n teimlo rheidrwydd i dynnu eich sylw, ac felly, sylw cynulleidfa ehangach, gobeithio, at gyfleuster a ddarperir gan y maes awyr fel rhan o'u cyfleuster anableddau cudd, sy'n blaenoriaethu pobl ag anableddau o'r fath. Ysgogwyd fy sylwadau gan wybodaeth a gefais am bâr a gafodd brofiad ofnadwy mewn maes awyr arall yn y DU gyda'u plentyn awtistig, ond a oedd wedi defnyddio'r cyfleuster uchod ym Maes Awyr Caerdydd wedi hynny. Roeddent yn rhyfeddu at ansawdd y gwasanaeth a gawsant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd arloesi fel hyn yn helpu i ehangu enw da Maes Awyr Caerdydd lawn cymaint â'i berfformiad economaidd?

Cytunaf yn llwyr â'r union bwynt hwnnw, ac fe'i gwnaed yn dda iawn gan yr Aelod. A gaf fi ddiolch iddo am godi pwynt hanfodol ynglŷn â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus? Ac o ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn benodol, bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd uwchgynllun newydd ar gyfer yr ased penodol hwnnw yn cael ei gyflwyno er mwyn galluogi i'r maes awyr ymdopi â mwy o lawer o deithwyr ac awyrennau yn y dyfodol. Ac a gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar gael ei ailbenodi i'r swydd benodol hon?

Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf am symud yn bell iawn oddi wrth Faes Awyr Caerdydd gyda fy nghwestiwn nesaf. Tynnwyd fy sylw, Ysgrifennydd y Cabinet, at y ffaith bod defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Trefddyn ym Mhont-y-pŵl wedi eu hynysu, i bob pwrpas, ar ôl 7.30 yr hwyr. Ymddengys mai hwn yw'r bws olaf sy'n cludo pobl o ganol y dref i'r ystâd hon. Wrth gwrs, ceir effaith ar y busnesau yn y dref, yn enwedig y tafarndai, o ystyried bod yn rhaid i'w cwsmeriaid naill ai adael mewn pryd i ddal y bws olaf neu dalu am dacsi. Ni all llawer ohonynt fforddio hynny ac felly maent yn gadael yn gynnar. Mae'r landlordiaid, felly, yn colli cwsmeriaid gwerthfawr ac mae canol y dref yn ddiffaith ar ôl yr amser hwn. Gall hyn, wrth gwrs, fod yn wir am lawer o drefi'r Cymoedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod hon yn sefyllfa dderbyniol?

Nac ydw, ac unwaith eto, mae'n bwynt a wnaed yn dda iawn. Byddaf yn codi'r pwynt hwn gyda Trafnidiaeth Cymru a chyda'r adran drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. Ond credaf ei bod yn bwysig nodi dau ymyriad a buddsoddiad pwysig a fydd yn cael eu gwneud dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Y cyntaf, wrth gwrs, yw metro de-ddwyrain Cymru, a'r ail yw'r diwygiad radical o wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, a rhyngddynt byddant yn ffurfio gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig llawer gwell a fydd yn gwasanaethu cymunedau fel y rhai a nodwyd gennych heddiw.

13:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb cadarnhaol iawn. A gaf fi droi yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet, at graffu ar brosiectau? Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cychwyn nifer o brosiectau a mentrau a luniwyd i hybu perfformiad economaidd Cymru. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r ffaith ei bod hi'n ymddangos nad oes gan lawer o'r rhain amserlenni neu dargedau penodol ar gyfer gwerthuso'r cynnydd. Ysgrifennydd y Cabinet, does bosib nad yw'n ofyniad sylfaenol ar gyfer unrhyw brosiect y dylai gynnwys dulliau mesur o'r fath fel y gellir craffu'n iawn arnynt. Nid yw fframweithiau polisi penagored yn arwydd o lywodraethu da. Onid yw hyn yn rhoi'r argraff nad oes llawer o hyder y bydd y prosiectau a'r mentrau hyn yn cyflawni fel y rhagwelwyd?

Credaf ei bod yn bwysig cytuno ar ganlyniadau ar gyfer unrhyw brosiect sy'n derbyn arian cyhoeddus. Ond yn Llywodraeth Cymru, mae gennym hefyd ddangosyddion llesiant, sy'n ddangosyddion cyson a ddefnyddir ar draws y Llywodraeth, ac o ran rhaglenni datblygu economaidd, rwy'n gobeithio fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf wrth roi sicrwydd i'r Aelodau y byddwn hefyd yn mynd ar drywydd craffu a herio rhyngwladol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyrff rhyngwladol clodfawr ac adnabyddus eraill.

Diolch, Lywydd. A yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar drefniant ffi gwarant gydag Aston Martin mewn perthynas â'u safle yn Sain Tathan?

Ni allaf ddatgelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif i'r Aelod. Fodd bynnag, gallaf roi sicrwydd iddo fy mod wedi gofyn i swyddogion adolygu'r holl ohebiaeth a'r holl gytundebau ac i sicrhau y gellir rhannu cymaint o fanylion â phosibl gyda'r Aelodau. Bydd hynny'n cael ei wneud ar fyrder a chyn gynted â phosibl.

A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno'n dda i'r Aelod yng nghyhoeddiad yr etholiad ddydd Gwener, ac os nad yw'n llwyddo i ennill yr etholiad hwnnw y mae'n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd, gobeithio y caiff ei ailbenodi i'r swydd hon?

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau caredig, ond efallai y gallwn ddychwelyd at y mater dan sylw. Roedd honno'n ddyfais dda i wyro'r sylw, oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes gan y cwmni bryderon ynglŷn â chyfrinachedd masnachol yn yr achos hwn, gan eu bod wedi cadarnhau bod cytundeb ffi gwarant gyda Llywodraeth Cymru yn bodoli yn y prosbectws y maent newydd ei gyhoeddi mewn perthynas â'r cynnig arfaethedig i gyhoeddi cyfrannau'r cwmni ar gyfnewidfa stoc Llundain. Mae'r ddogfen honno'n cyfeirio'n benodol, a dyfynnaf, ar dudalen 188, at:

drefniant ffi gwarant a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â meddiannaeth Aston Martin Lagonda o safle Sain Tathan.

Nawr, rydych eisoes wedi gwrthod cadarnhau bodolaeth y trefniant hwn mewn cwestiynau ysgrifenedig. Nid ydych wedi cymryd y cyfle i'w gadarnhau yn awr. O gofio bod y cwmni bellach wedi'i wneud yn gyhoeddus, a allwch gadarnhau pwy sy'n gwarantu beth i bwy yn y trefniant hwn, ac i bwy y telir y ffioedd? A ydym yn iawn i dybio bod Llywodraeth Cymru wedi gwarantu cyfran o ddyled Aston Martin a bod Llywodraeth Cymru yn cael ffi am hynny—y math o gytundeb a oedd ynghlwm wrth gynnig Cylchffordd Cymru? A pham fod cwmni preifat yn fwy agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â defnydd o arian cyhoeddus na'r Llywodraeth sydd i fod i warchod budd y cyhoedd?

Gan fod yr Aelod bellach wedi nodi'r union gytundeb y cyfeiria ato yn y ddogfen honno, rwy'n fwy na pharod i weithio gydag Aston Martin i sicrhau y darperir cymaint o wybodaeth â phosibl. Ond ni chredaf y dylem golli golwg ar y ffaith ein bod wedi gallu denu Aston Martin i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i negodi medrus swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae'r ffaith bod Aston Martin bellach yn cytuno y dylai Sain Tathan fod yn gartref i drydaneiddio yn deillio o'n gallu i ddenu Aston Martin i Gymru. Mae'n bwysig dathlu llwyddiant mawr pan fydd yn glanio ar garreg ein drws a phan ydym wedi ymladd yn galed amdano. Dyna'n union a wnaethom. Gallai Aston Martin Lagonda fod wedi mynd i nifer o leoedd gyda'u buddsoddiad. Yn hytrach, fe ddewision nhw fan hyn—Cymru—i fuddsoddi ac i greu swyddi gwerthfawr ac i wella brand rhyngwladol Cymru.

13:45

Edrychwch, Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn dda o gwbl—. Yn hytrach nag ychydig o eiriau o longyfarchiadau, beth am ychydig eiriau o edifeirwch gan Ysgrifennydd y Cabinet am fethu â bod yn dryloyw, wedi i'r wybodaeth, yn y bôn, gael ei llusgo allan ohonoch gan fod y cwmni wedi penderfynu ei bod iawn ac yn addas gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus, ac eto, rydych wedi gwrthod ymateb drwy gydol yr amser? Ym mhwyllgor yr economi yr wythnos diwethaf, ac mewn ymateb i gwestiynau dro ar ôl tro gan y BBC, mae eich swyddogion wedi gwrthod cadarnhau a yw Aston Martin wedi derbyn arian ychwanegol ar gyfer eu rhaglen ymchwil a datblygu y tu hwnt i'r £5.8 miliwn y cawsoch eich gorfodi i'w ddatgan gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Y rheswm a roddwyd am hynny gan eich adran oedd sensitifrwydd mewn perthynas â chyhoeddi cyfrannau'r cwmni ar y farchnad stoc. Onid yw hyn yn hynod o broblemus, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae dadansoddwyr wedi dweud yn benodol, ac wedi cyfeirio at driniaeth mantolen Aston Martin o'u cyllideb ymchwil a datblygu, eu penderfyniad i'w gyfalafu fel ased yn hytrach na'i gofrestru fel cost, fel rheswm dros amau eu prisiad o £5 biliwn. Onid oes gan y cyhoedd, fel dinasyddion ac fel darpar fuddsoddwyr, hawl i wybod os yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio o bosibl i chwyddo pris y cyfranddaliadau? Oni ddylem ddisgwyl i chi fel Llywodraeth weithredu er budd y cyhoedd, nid er budd masnachol cwmni preifat, wrth benderfynu a ddylid gwneud gwybodaeth yn gyhoeddus? Ni ddylid masnachu democratiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, hyd yn oed yn gyfnewid am addewid o swyddi.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ond fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae swyddogion yn ceisio cyngor ynghylch y wybodaeth y gellir ei datgelu ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ryddhau cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â'r cyhoeddiad diweddaraf, gan y credaf y bydd yn creu argraff fawr ar yr Aelod, ond gwn fod yr Aelod yn barod iawn i gondemnio unrhyw elfen o unrhyw gytundeb ar greu swyddi a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Buaswn wrth fy modd pe bai ychydig yn fwy parod i'n llongyfarch pan ydym yn denu buddsoddiadau enfawr i Gymru—buddsoddiadau sy'n diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol ac yn darparu gwaith i gannoedd o bobl. [Torri ar draws.] Gwelwn yno wrthodiad i gydnabod llwyddiant Llywodraeth Cymru yn denu Aston Martin Lagonda i'n gwlad i greu cannoedd o swyddi gwerthfawr.

Diolch, Lywydd. Byddaf yn teimlo fy mod yn cael fy ngadael allan os na chaf fy llongyfarch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig wythnosau, wrth gwrs, bydd y gwaith o redeg gwasanaethau rheilffyrdd yn cael ei drosglwyddo gan Arriva i weithredwr newydd y fasnachfraint, KeolisAmey. O gofio maint y buddsoddiad cyhoeddus yng nghytundeb y fasnachfraint newydd, yn ogystal â phwysigrwydd gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr a busnesau ledled Cymru, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol sicrhau gwelliannau cyflym a digonol i'r gwasanaethau hynny o ganlyniad i'r contract rheilffyrdd hwnnw sy'n werth £5 biliwn.

A gaf i eich holi, i gychwyn, ynglŷn â gohirio lansiad y gwasanaethau rhwng Caer a Lime Street yn Lerpwl? Fis Mai diwethaf, cwblhaodd Network Rail welliant gwerth £19 miliwn i'r seilwaith i ganiatáu i'r gwasanaethau ddechrau ym mis Rhagfyr, fel sydd wedi'i addo ers blynyddoedd lawer. Mae Trenau Arriva Cymru wedi recriwtio gyrwyr ar gyfer y trenau, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan yn ddiweddar iawn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf nad oes digon o drenau bellach ar gyfer y gwasanaethau newydd hynny, ac o ganlyniad, efallai y bydd oedi cyn y caiff y gwasanaethau eu darparu. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi gadarnhau os yw hyn yn wir, ac os felly, pryd y gall cymudwyr ddisgwyl i'r gwasanaethau hynny gychwyn?

Felly, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, credaf fy mod wedi amlinellu'r rheswm pam rydym yn gweld oedi, nid yn unig yn yr achos hwn ond drwy'r sector rheilffyrdd yn y DU, o ran darparu cerbydau newydd, ac mae hynny'n bennaf gan mai un ymgyrch a fu gan Lywodraeth y DU yn y degawd diwethaf, sef trydaneiddio cymaint o reilffyrdd y DU â phosibl. Rhoddwyd y gorau i hynny wedyn, ac ers hynny, nid yw'r cyflenwad diesel, neu'r cyflenwad o drenau diesel, wedi rhaeadru i lawr. O ganlyniad i'r ffaith nad yw hynny wedi digwydd, cafwyd cynnydd yn nifer yr archebion ar gyfer unedau diesel newydd, ar ôl i Lywodraeth y DU ganslo rhaglenni trydaneiddio, ac arweiniodd hynny wedyn at oedi o ran eu cyflenwi. Nid yw'n rhywbeth sy'n unigryw i Trafnidiaeth Cymru. Gallaf ddweud, fodd bynnag, o ganlyniad i'r oedi rhwng mis Rhagfyr a'r gwanwyn, ein bod wedi gallu negodi estyniad ar gyfer y gwasanaeth newydd sbon hwnnw fel na fydd y trenau yn gweithredu rhwng Lerpwl a Chaer gan ddefnyddio cromlin Halton; yn wir, byddant yn dod i mewn i Gymru. Felly, bydd y gwasanaeth newydd cyntaf i gael ei ddarparu ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, gallaf sicrhau'r Aelodau, yn gwasanaethu Cymru yn ogystal ag ardal y gororau.

13:50

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf mai'r pryder fydd bod 'newid gweddnewidiol' yn ymadrodd sydd wedi'i daflu o gwmpas, ac mae'r disgwyliadau wedi codi'n sylweddol. Yr haf hwn, fe nodoch chi y byddai gwasanaethau newydd ar ddydd Sul ac yn gynnar yn y bore yn cael eu lansio ym mis Rhagfyr. Mae amserlenni ledled y DU, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn newid ddwywaith y flwyddyn yn unig, a Rhagfyr 18 yw'r cyfle cyntaf i'r gweithredwr newydd wneud gwelliannau. Nawr, ym mis Mehefin eleni, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gadarnhaoch chi y byddai Merthyr Tudful ac Aberdâr yn cael gwasanaethau ychwanegol yn gynnar yn y bore i orsaf Caerdydd Canolog yn ystod yr wythnos o fis Rhagfyr ymlaen; yn ogystal, byddai amserlen wasanaeth brawf ar reilffordd Aberdâr yn cael ei rhoi ar waith ar sail barhaol; a byddai gwasanaeth ychwanegol ar fore Sul yn cael ei gyflwyno rhwng Llandudno a Chaer, er mwyn pontio'r bwlch yn yr amserlen bresennol. Nawr, ychydig wythnosau yn unig sydd gennym, wrth gwrs, cyn newid yr amserlen ym mis Rhagfyr, ac ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud, 'Byddwn yn cadarnhau manylion y gwasanaethau hyn cyn gynted ag y gallwn.' Unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau bod y gwelliannau hyn i'r gwasanaethau yn parhau i fod ar amser?

Dyna yw ein bwriad, ond byddaf yn sicrhau heddiw, pan fyddaf yn cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, ei fod yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Dylwn ddweud hefyd fod yr Aelod yn llygad ei le: mae'r gwersi rydym wedi'u dysgu o'r llanastr amserlennu ledled llawer o'r DU wedi ein harwain—wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer symud dyddiad cyflwyno'r gwasanaethau uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam o'r gwanwyn i fis Rhagfyr, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, fe benderfynom ni, er mwyn gwneud hynny, fod yn rhaid iddo fod yn addewid cadarn a dibynadwy. O ystyried y gwersi rydym wedi'u dysgu ynglŷn ag amserlennu tynn, fe benderfynom ni na fyddai'n sicrwydd dibynadwy inni ei roi i bobl.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ofyn, os ydych yn cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach heddiw—a gaf fi ofyn i chi roi ar y cofnod eich bod yn gwbl hyderus fod yr adnoddau rheolaethol, gweinyddol ac ariannol cywir gan Trafnidiaeth Cymru at eu defnydd i sicrhau darpariaeth a goruchwyliaeth effeithiol mewn perthynas â masnachfraint newydd Cymru a'r gororau o 15 Hydref?

Gwnaf, a thrwy'r llythyr cylch gwaith, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu yn unol â chanllawiau caeth. Maent wrthi'n recriwtio llawer mwy o bobl â sgiliau ychwanegol i sicrhau y bydd y fasnachfraint newydd yn llwyddiant. Rwy'n canolbwyntio'n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod gwybodaeth am y fasnachfraint newydd yn cael ei chyfleu'n gywir ac yn drylwyr i grwpiau cymunedol, i deithwyr, ac i aelodau etholedig. Felly, rwy'n falch fod Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig yn ystod y rhaglen recriwtio bresennol, yn ystyried cynyddu capasiti o fewn eu tîm cyfathrebu.

Tagfeydd Traffig ar yr M4

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dagfeydd traffig ar yr M4 yn rhanbarth Gorllewin De Cymru? OAQ52617

Gwnaf. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â thagfeydd ac i wella dibynadwyedd amserau teithio, drwy ein rhaglen mannau cyfyng, a thrwy welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael, eu hunain, â phroblemau lleol allweddol.

Wel, fel y gŵyr unrhyw un sy'n gwrando ar Radio Wales yn y bore, bydd tagfeydd rhwng unrhyw le o gwmpas cyffordd 47 a chyffordd 41. Mae hyn i'w ddisgwyl bob bore at ei gilydd. Mae systemau llywio â lloeren, wrth gwrs, yn rhan o'r broblem, gan eu bod, yn gyffredinol, yn darparu llwybr 'ar hyd yr M4' os ydych yn mynd i unrhyw le, bron â bod, i'r dwyrain neu i'r gorllewin. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gynnal dadansoddiad o'r llefydd mae'r traffig yn symud rhyngddynt, a hefyd i edrych ar sut y gallai system fetro leihau'r tagfeydd? Oherwydd mae'n gwaethygu, ac mae unrhyw un sy'n dod o'r gorllewin yn ddyddiol yn cael eu dal yn y tagfeydd hyn.

Rwy'n cydnabod bod cryn ddiddordeb gan yr Aelod yn y cyffyrdd rhwng cyffordd 40 a 48 ar yr M4. Mae gan ei gyd-Aelod sy'n eistedd drws nesaf iddo yr un diddordeb. [Chwerthin.] Credaf ei bod yn deg dweud bod casglu tystiolaeth o'r angen i fuddsoddi mewn gwelliannau trafnidiaeth yn hanfodol, a bydd modelu patrymau traffig presennol ac yn y dyfodol yn gymorth, yn ei dro, i lywio sut y gallwn sicrhau'r manteision mwyaf o wariant y Llywodraeth. Nawr, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod fy swyddogion, a Trafnidiaeth Cymru, yn ystyried cyfarfod yn gynnar ym mis Hydref i drafod sut i adeiladu'r model trafnidiaeth ar gyfer de-orllewin Cymru, a bydd y model hwnnw'n cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y metro, yn ogystal â'r astudiaeth goridor a argymhellir ar gyfer yr M4 i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr. Rwy'n falch o allu dweud bod y comisiwn ar gyfer astudiaeth gychwynnol WelTAG i archwilio'r tagfeydd rhwng cyffordd 35 a chyffordd 49 wedi'i ddyfarnu yn ddiweddar, a disgwylir adroddiad tuag at ddiwedd eleni neu'n gynnar yn 2019 fan bellaf.

13:55

Wel, rwy'n teimlo poen Mike Hedges yn hyn o beth, mae arnaf ofn, ac mae gennyf ddiddordeb, o ran yr astudiaeth goridor, mewn gweld a yw'n cynnwys y pwynt rwyf am ei godi â chi nawr. Yn ystod y cyfnod o wyth mis y cyfeiriodd David Rees ato ddoe, pan oedd cyffordd 41 ar gau, cododd y defnydd o ffordd ddosbarthu Ffordd yr Harbwr, a agorwyd gan y Prif Weinidog bum mlynedd yn ôl, o 14.5 car y funud i'r ffigur syfrdanol o 14.9 car y funud yn ystod adegau prysur y bore. Dywedai adroddiad y Llywodraeth ar gau'r gyffordd—wel, fe'n hatgoffodd, mewn gwirionedd—mai diben Ffordd yr Harbwr yw lleihau traffig lleol ar yr M4 rhwng cyffyrdd 38 a 41 a darparu ffordd ddeuol o safon uchel, ac mae hynny'n wir, yn gyfochrog â Phort Talbot. Credaf ein bod yn cytuno nad yw'r ffigurau hynny, a gasglwyd mewn cyfnod o ddiflastod lleol, yn adlewyrchu gwerth am arian mewn gwirionedd: costiodd y ffordd honno £107 miliwn. Ac nid oedd yn rheoli llygredd yn effeithiol chwaith. A gallaf ddweud wrthych nad oes unrhyw arwyddion ystyrlon ar y draffordd ei hun yn cymell pobl tuag at y ffordd ddosbarthu honno. Ac yn ystod y cyfnod hwn lle ceir terfyn 50 mya estynedig o Earlswood, nid oes unrhyw beth yno sy'n dweud, 'Defnyddiwch Ffordd yr Harbwr yn lle hon'. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru, a'r awdurdod lleol, a bod yn deg, ei wneud i annog pobl i ddefnyddio'r ffordd ddosbarthu honno?

Bydd Ffordd yr Harbwr yn cael ei chynnwys fel rhan o'r gwaith modelu ar gyfer metro integredig ar draws y rhanbarth. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny. Ond o ystyried y diddordeb a fynegwyd yn y Siambr heddiw, a gwn fod diddordeb wedi'i leisio'n fwy cyffredinol yn ddiweddar, a gaf fi gynnig cyfarfod ag Aelodau o'r gwahanol bleidiau gwleidyddol i drafod yr M4 i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr?

Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifir bod tagfeydd ar gyffordd 43 yn costio oddeutu £6.5 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a thagfeydd ar gyffordd 41 yn costio £5.1 miliwn yn ychwanegol. Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar fynd i'r afael â thagfeydd o gwmpas Casnewydd a chyflwyno'r metro i gynnig dewisiadau gwahanol hwylus a dibynadwy yn lle'r car. Ysgrifennydd y Cabinet, a all fy rhanbarth ddisgwyl triniaeth debyg i'r de-ddwyrain, ac a allwch amlinellu cynlluniau eich Llywodraeth i liniaru tagfeydd yng Nghymru?

Gallaf, yn bendant. Gyda'r cynllun gweithredu economaidd, rydym yn rhoi ffocws newydd a chliriach ar ddatblygu economaidd rhanbarthol i sicrhau gwell ansawdd o wariant ledled Cymru, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw y byddaf yn cyhoeddi cyllidebau rhanbarthol dangosol ochr yn ochr â'r llinellau gwariant yn fy adran, fel y gallant, yn y dyfodol, fod yn fwy tryloyw mewn perthynas â faint sy'n cael ei wario ym mhob rhan o Gymru. Credaf fod hynny'n rhywbeth yr oeddwn i, fel aelod o'r meinciau cefn, yn awyddus i'w weld ar waith, ac rwy'n falch o wneud hynny fel rhan o'r Llywodraeth.

Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, yn gyntaf oll, ein bod yn casglu'r sylfaen dystiolaeth a all lywio datblygiad y metro yn rhanbarth bae Abertawe, ac yna mae angen inni sicrhau bod y gwaith a wneir gan awdurdodau lleol yn gyson â'r gwaith rydym wedi comisiynu'r Athro Mark Barry i'w gwblhau, gwaith a luniwyd i gyflymu rhaglenni sy'n darparu atebion cyflym, os mynnwch, fel y gallant ddenu cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth y DU.

Yn y tymor hwy, mae gennyf hyder y bydd partneriaid y dinas-ranbarth, wrth gydweithio â Llywodraeth Cymru, yn dod o hyd i'r atebion cywir i'r problemau a godwyd gan Aelodau heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, y rhan o'r draffordd rydym yn ei thrafod yw 41 i 48, ond rwyf am ganolbwyntio ar 41 i 42 ar hyn o bryd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y terfyn 50 mya mewn ymgais i leihau llygredd a nitrogen deuocsid. Wel, adroddiad a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod 3 yr asesiad yw'r adroddiad sydd gennyf yn fy llaw mewn gwirionedd. Ac mae'n cynnwys argymhelliad i ystyried, fel opsiwn, cau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Rydym wedi profi hynny o'r blaen. Mae gennym y problemau yn y dref; gallwn roi'r hanes i chi; gallwn ddangos na leihawyd llygredd yn y dref. Mewn gwirionedd, gwaethygodd pethau, oherwydd wrth i blant ifanc gerdded i'r ysgol, roedd ganddynt resi o geir a cherbydau ochr yn ochr â hwy yn allyrru'r holl lygredd hwn, ac roeddent yn ei anadlu i mewn ar lefel y ddaear. A wnewch chi edrych ar hyn a dweud wrth yr awduron na ddylent fod wedi rhoi hynny ar waith? Nid ydynt wedi gwneud eu gwaith; nid ydynt wedi ymgynghori â'r bobl a oedd yn gysylltiedig â mater cyffordd 41. Yn amlwg, nid oes ganddynt ddarlun na syniad o'r problemau traffig a greodd yn y dref, ac mae'r ffaith eu bod yn awyddus i leihau llygredd yn golygu y dylent fod yn edrych ar ffyrdd amgen, ac fel y dywedaf, gallai'r metro fod yn opsiwn, sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus. A wnewch chi hefyd ailddatgan eich penderfyniad i gadw'r gyffordd honno ar agor?

Wel, a gaf fi sicrhau'r Aelod fod yr ymgynghoriad a lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf mewn perthynas ag arfarniadau cam 3 diweddaraf WelTAG mewn ymateb i'r achos a ddygwyd yn erbyn Gweinidogion Cymru, ac er fy mod yn gyfarwydd iawn â'r ddadl o blaid o cadw cyffordd 41 ar agor—yn wir, rwyf wedi ymgysylltu ag arweinwyr ymgyrchoedd ynglŷn â hyn dros y blynyddoedd diwethaf—mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno opsiynau ar y cam hwn ar gyfer lleihau allyriadau ar hyd y darn penodol hwnnw o ffordd. Mae'n un o bum llwybr yng Nghymru a gofrestrwyd ar hyn o bryd fel rhai nad ydynt yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y gyfarwyddeb Ewropeaidd ar ansawdd aer yr amgylchedd. Rwy'n awyddus i sicrhau y gallwn gydymffurfio â'r rhwymedigaethau hynny, ond dylem wneud hynny gan sicrhau'r effaith leiaf sy'n bosibl ar gymudwyr ac ar breswylwyr.

Ond a gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, mai'r hyn sydd bwysicaf i mi yw iechyd a lles y bobl sy'n byw ger y ffyrdd hynny, nid yn unig y bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd? Mae'n ffaith ddiamheuol bellach nad problemau iechyd yn unig a achosir gan lefelau uchel o allyriadau; maent yn achosi marwolaethau, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.

14:00
Brand Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth brand Cymru i’r economi? OAQ52638

Lansiwyd brand Cymru arobryn ddwy flynedd yn ôl, ac fe'i defnyddir ar gyfer twristiaeth, busnes, bwyd a diod, ac ymgyrchoedd iechyd, ac mae'n sicrhau effaith economaidd gref a gweladwy ym mhob un o'r meysydd hyn. Mae datblygu'r brand hwn ymhellach yn flaenoriaeth o dan y cynllun gweithredu economaidd.

Mae'n ddiddorol eich bod yn ateb y cwestiwn yn y ffordd honno. Dywedwyd wrthyf yn wreiddiol y byddai'r cwestiwn yn cael ei ateb gan y Gweinidog sydd â thwristiaeth yn rhan o'i frîff, sydd efallai yn rhan o'r broblem—fod pobl, yn rhy aml, ond yn ystyried yr ochr dwristiaeth i frand Cymru, gwerthu Cymru i ddarpar ymwelwyr. Nawr, er ei bod bob amser yn wych cael ymateb gan y Gweinidog, cyfeiriwyd hyn yn benodol atoch chi, gan y credaf fod brand cryf i Gymru yn berthnasol ar draws yr economi—ie, mewn twristiaeth, lle mae'n hollbwysig, ond hefyd wrth ddweud wrth ein partneriaid masnachu pwy ydym ni, a defnyddio'r un brand ar gyfer allforion, yr un brand ar gyfer denu mewnfuddsoddiad, i arddangos ein sgiliau, ein sefydliadau addysg, ein celfyddydau, ac wrth gwrs ein bwyd, fel y sonioch chi. Nawr, gwyddom am yr hyn a ddigwyddodd yn Sioe Frenhinol Cymru yr haf hwn, a'r haerllugrwydd o weld bwyd Cymru'n cael ei frandio fel bwyd Prydeinig yn y neuadd fwyd, a gwyddom pa mor wrthgynhyrchiol oedd hynny i gynhyrchwyr bwyd Cymru, o ystyried y diddordeb cynyddol yn nharddiad bwyd. Nawr, dyma'r pwynt: gwnaeth Llywodraeth y DU hynny o dan drwynau Llywodraeth Cymru, er mai bargen breifat oedd hi rhwng DEFRA a Sioe Frenhinol Cymru. Dywedir wrthyf nad oedd Gweinidogion yn rhy hapus ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yno, ond ni ddywedodd y Gweinidogion unrhyw beth yn gyhoeddus, felly pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn herio Llywodraeth y DU ac yn dweud bod angen inni arwain ar werthu Cymru i'r byd? Ie, gweithio mewn partneriaeth ag eraill lle mae hynny'n ddefnyddiol, ond rydym am wneud hynny ar ein telerau ein hunain, yn unol â blaenoriaethau Cymru.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud pa mor falch wyf fi o ateb y cwestiwn a gyfeiriwyd ataf? Ond byddai'n esgeulus imi beidio â dymuno'n dda iddo yn yr etholiad a'r canlyniad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Credaf ei bod yn deg dweud nad oedd y Gweinidogion yn fodlon o gwbl â'r cytundeb a wnaed. Roedd yn benderfyniad masnachol gan Sioe Frenhinol Cymru. Roedd yn benderfyniad nad oedd y Gweinidogion yn ymwybodol ohono, ac o ran herio Llywodraeth y DU, wel, gallaf ddweud nad oeddem yn fodlon o gwbl â'r penderfyniad hwnnw, y cytundeb hwnnw, a mynegwyd hynny wrth Sioe Frenhinol Cymru. Yn y dyfodol, rydym am i frand Cymru fod yn gwbl amlwg, ac mae'r Aelod yn llygad ei le fod gwaith brandio nid yn unig o fudd i'r economi ymwelwyr; mae o fudd i'n heconomi yn ei chyfanrwydd, a chredaf fod ein gwaith brandio, yn arbennig, ar yr ymgyrchoedd masnach a buddsoddi, wedi arwain at gynnydd o 60 y cant yn y nifer sydd wedi ymweld â tradeandinvest.wales yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn defnyddio'r brand yng ngwaith marchnata bwyd a diod Cymru, ac rydym hefyd yn defnyddio brand Cymru ar gyfer ymgyrchoedd iechyd bellach. Ein hymgyrch iechyd gyntaf dan y brand oedd yr ymgyrch hyfforddiant meddygon teulu, ac arweiniodd hynny at gynnydd o 16 y cant o ran llenwi lleoedd hyfforddi meddygon teulu. Felly, credaf ei bod yn deg dweud nid yn unig fod y brand newydd yn frand arobryn—mae wedi bod yn ymdrech fasnachol lwyddiannus iawn—ond o ran y mater penodol y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch Sioe Frenhinol Cymru, unwaith eto, buaswn yn ailadrodd nad oeddem yn fodlon â'r cytundeb a gafwyd.

14:05

Mae'r sector diwydiannau creadigol yn cynhyrchu bron i £1 biliwn i economi Cymru, a'r rhan ohono sy'n tyfu gyflymaf yw ffilm, teledu a radio. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i gydnabod cyfraniad cwmnïau cynhyrchu fel Bad Wolf yn hyrwyddo brand Cymru fel lle i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu, ac a wnaiff groesawu'r cynlluniau gan Urban Myth Films i addasu warws yng Nghasnewydd yn stiwdio ffilm ar gyfer ffilmio cyfres deledu newydd, gan greu hyd at 120 o swyddi? Credaf nad oes prinder talent yn ne-ddwyrain Cymru, Weinidog, felly gallwn sicrhau gweithgarwch tebyg yn ne-ddwyrain Cymru a'i gyflwyno ar raddfa ehangach i wella ein heconomi ledled Cymru. Diolch.

Diolch. Credaf fod adroddiad ar benderfyniad ar fin cael ei gyhoeddi mewn perthynas ag Urban Myth Films. Mae'n fuddsoddiad rwy'n ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n cyfrannu at sector diwydiannau creadigol llewyrchus iawn yng Nghymru, sector sy'n tyfu'n gynt yma yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU—oni bai am Lundain, ond byddech yn disgwyl hynny. Ond mae hefyd yn ganlyniad i'r ffocws di-baid rydym wedi'i roi ar wella'r sylfaen sgiliau yn ogystal ag argaeledd gofod sgrin addas—stiwdios ar hyd coridor yr M4. Ac mae gwledydd eraill, rhanbarthau eraill, yn y DU yn edrych yn genfigennus yn awr ar dwf sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ond rydym yn bwriadu creu Cymru Greadigol i hybu'r llwyddiant hwnnw ac i sicrhau bod gennym lif cyson nid yn unig o gynyrchiadau—ac mae Bad Wolf eisoes wedi addo gwerth £100 miliwn o gynyrchiadau—ond fod gennym hefyd lif o bobl fedrus sy'n gallu dod i mewn i'r farchnad.

Clybiau Chwaraeon

5. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae cymorth yn cael ei ddarparu i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad? OAQ52626

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Vikki, a chan fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi dweud pa mor falch ydyw i ateb ei gwestiwn, rwy'n falch iawn o ateb yr un hwn. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd clybiau chwaraeon ar lefel y gymuned a'r rôl y maent yn ei chwarae yn datblygu chwaraeon ledled Cymru, a'r bont y maent yn ei darparu o gymryd rhan mewn chwaraeon hyd at ddatblygu athletwyr elitaidd. Darperir cefnogaeth ac arweiniad i glybiau chwaraeon, i'r oddeutu 60 o gyrff llywodraethu sydd gennym a phartneriaid eraill drwy Chwaraeon Cymru, ac mae ganddynt ystod eang o wasanaethau i gefnogi pob agwedd ar ddatblygu clybiau.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan glybiau chwaraeon ar lawr gwlad rôl hollbwysig i'w chwarae yn gwella lles corfforol a meddyliol pobl o bob oed ledled Cymru. Er mwyn parhau i ddarparu'r buddion hyn, mae clybiau lleol yn dibynnu ar gyhoeddusrwydd, ac mae gan bapurau newydd lleol rôl bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, wrth gynorthwyo clybiau i adeiladu cysylltiadau cymunedol cryf, denu cefnogaeth newydd, tynnu sylw at lwyddiant a recriwtio'r chwaraewyr newydd sy'n hanfodol iddynt. Bûm yn siarad yn ddiweddar ag ysgrifennydd clwb pêl-droed yn fy etholaeth, Clwb Pêl-droed Llwydcoed, ac fe ategodd y pryderon y mae clybiau eraill wedi'u rhannu gyda mi ynghylch y problemau y maent yn eu hwynebu gyda chael cynnwys i mewn i'r papur newydd lleol, y Cynon Valley Leader. A dweud y gwir yn blaen, nid yw'r papur newydd yn cyhoeddi unrhyw beth y maent yn ei anfon i mewn. Wrth i wir newyddiaduraeth leol farw'n araf a phoenus, buaswn yn croesawu eich sylwadau ar hyn ac unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo clybiau o'r fath i oroesi ac i ffynnu.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol cynhwysfawr. Nid wyf am ymrafael ag unrhyw bapur newydd rhanbarthol, ond buaswn yn awgrymu wrth y clwb mai'r ffordd i ddatrys y sefyllfa hon yw drwy ofyn am gyfarfod gyda newyddiadurwyr chwaraeon y papur newydd penodol hwnnw, ac yn wir, gyda'r golygydd, os oes angen. Ond efallai fod hyn yn rhywbeth y gellid mynd i'r afael ag ef yn effeithiol iawn hefyd drwy'r gweithgareddau a amlinellais yn gynharach, ac os ewch i wefan Chwaraeon Cymru, fe welech ddolenni yno at wefan arall, sef www.clubsolutions.wales, ac mae honno'n darparu amrywiaeth lawn o wybodaeth ynglŷn â sut y gellir hyrwyddo clybiau, sut y gallant ddefnyddio'r cyfryngau mewn modd effeithiol, sut y gallant greu cysylltiadau rhwng ysgolion a'r gymuned. Rwy'n sicr y bydd Chwaraeon Cymru yn awyddus iawn, drwy'r wefan honno a chyfleusterau eraill, i gynorthwyo eich clwb lleol. Ac wedyn, wrth gwrs, ceir Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd, sy'n gorff effeithiol iawn, ac os ewch i'w gwefan, sef www.fawtrust.cymru, fe welech adran a elwir yn 'Grassroots', lle mae ganddynt wybodaeth ynglŷn â sut y gall yr ymddiriedolaeth gynorthwyo a rhoi cymorth drwy'r rhwydwaith o swyddogion a sianeli hyrwyddo sydd ganddynt.

14:10

Yn gynharach eleni, Weinidog, tynnwyd fy sylw gan etholwyr at strategaeth gyfleusterau Beicio Cymru, ac roeddent yn fodlon ar y strategaeth gan ei bod yn nodi, ar dudalen 11 yn yr adroddiad hwnnw, fod yna fylchau mawr yn y ddarpariaeth—yn enwedig o gwmpas ardal canolbarth Cymru a'r Drenewydd yn benodol meddai, a'r ffaith bod poblogaeth fawr yno a chlybiau rhagweithiol iawn yno, heb unrhyw gyfleusterau o fewn awr o yrru. Roedd tudalen 13 yn y ddogfen hefyd yn awgrymu y dylid lleoli cylchffyrdd caeedig mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a chrybwyllwyd y Drenewydd yn benodol. Felly, roedd yr etholwyr yn falch iawn o weld hynny. Pan holais Beicio Cymru fy hun, yn llawn cyffro, a oeddent am weithredu eu strategaeth, dywedasant nad oes—. Dyhead yn unig ydyw; nid oes unrhyw arian ar gael iddynt ar hyn o bryd i weithredu eu strategaeth. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa gymorth y gallwch ei gynnig i Beicio Cymru—i'w galluogi i weithredu eu strategaeth, a fydd, wrth gwrs, yn arwain at greu canolfan yn y Drenewydd, fel y nodwyd yn eu strategaeth?

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n falch o ddweud—mae'n rhaid eich bod yn gwybod pob manylyn am fy nyddiadur—fy mod wedi cyfarfod â Beicio Cymru ddoe. Ac rydym wedi bod yn edrych yn benodol ar ganolbarth Cymru gan fy mod yn arbennig o awyddus i sicrhau bod datblygiad i'w gael i alluogi beicio ar y pen dwyreiniol ac ar y pen gorllewinol yn ardal Aberystwyth, a gallaf eich sicrhau bod y trafodaethau'n parhau gyda Beicio Cymru ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd. Nid oes swm enfawr o arian cyfalaf yn fy adran, yn bennaf gan nad oedd fy adran yn bodoli—rhaid imi fod yn ofalus beth rwy'n ei ddweud nawr, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn eistedd o fy mlaen—yn flaenorol ar ei ffurf bresennol. Ond mae'n amlwg i mi fod angen inni ddarbwyllo cyd-Aelodau, fel fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wrth gwrs. Ef yw fy Aelod Cynulliad lleol yng Ngorllewin Caerdydd hefyd, ac wrth gwrs, rwy'n ceisio dangos fy nghefnogaeth lawn iddo bob amser pan fydd yn ymgymryd â gweithgaredd yno. Ond i ateb eich cwestiwn, mae'r cymorth ariannol sydd ei angen arnom ar draws y Llywodraeth yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef o fewn y gyllideb hon, a buaswn yn croesawu cymorth. Gyda llaw, rwy'n eich croesawu i'r portffolio hwn, gan i mi gael amser gwych gyda'ch cyd-Aelod yn flaenorol.

Ffordd Liniaru'r M4

6. A fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru am ffordd liniaru'r M4 yn cael ei wneud o dan y Prif Weinidog presennol neu ei olynydd? OAQ52621

Rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr heddiw fod swyddogion bellach wedi derbyn adroddiad arolygydd yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn dilyn diwydrwydd dyladwy, bydd Gweinidogion Cymru, ac yn y pen draw, y Prif Weinidog cyfredol yn gwneud penderfyniad ar broses y gorchmynion statudol—i bob pwrpas, a roddir caniatâd cynllunio ai peidio. Bydd trafodaeth drylwyr ac agored yn digwydd wedyn cyn gwneud penderfyniad terfynol ar fuddsoddiad.

Felly, gan obeithio nad wyf yn bod yn ddifrïol, y Prif Weinidog cyfredol sydd ar ei ffordd allan fydd yn gwneud y penderfyniadau, ond eto, pa benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud, bydd trafodaeth drylwyr yn digwydd wedyn ynglŷn â'i benderfyniad. Onid yw'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet—? Fe ollyngoch chi'r gath o'r cwd yn gynharach mewn ymateb i Caroline Jones, pan ofynnodd am sicrwydd y byddai de-orllewin Cymru yn cael yr un faint o fuddsoddiad, mewn perthynas â'r M4, â de-ddwyrain Cymru. Ac mewn gwirionedd, ni fydd y naill le na'r llall yn cael llawer iawn o fuddsoddiad o gwbl o dan eich plaid, a dim ond gwaethygu a wnaiff y tagfeydd.

Ni chredaf fod hwnnw'n sylw teg, o gofio rhai o'r prosiectau a ariennir gennym ar hyn o bryd yn ne-orllewin Cymru, ac o ystyried y datblygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn enwedig ar raglen fetro bae Abertawe. Y Prif Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad, ond bydd trafodaeth yn digwydd, a bydd y drafodaeth honno, rwy'n siŵr, yn amlygu nifer o wahanol ddiddordebau a nifer o syniadau gwahanol ynglŷn â sut y gallwn ddatrys y tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd. Mae hwn yn fater cynhennus iawn—rwy'n parchu hynny—ond mae'n rhaid gwneud y penderfyniad ar sail tystiolaeth, a phan edrychwn ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni, nodir bod cymhareb cost a budd y cynnig yn uchel, yn enwedig o gymharu'r prosiect â rhai o'r prosiectau seilwaith mawr eraill sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd ledled y DU. Mae'n edrych yn ffafriol pan fyddwch yn ei gymharu, er enghraifft, â ffordd osgoi Côr y Cewri ar yr A303, a gafodd gymhareb gost a budd o 1.3 yn unig, neu'r A470, ar 1.05.

Fodd bynnag, i gydnabod y safbwyntiau gwahanol o amgylch y Siambr a'r angen i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn dulliau amgen o deithio, mae'n deg dweud bod angen inni edrych ar gynlluniau rhannu ceir yn ogystal â chynlluniau cynllun teithio personol a theithio llesol lle bynnag a pha bryd bynnag y gallwn, oherwydd mae'n ffaith ddiddorol, gyda chynlluniau rhannu ceir, y ceir cymhareb gost a budd o rhwng 1.95 a 6, a rhwng 4.5 a 31.8 ar gyfer cynlluniau teithio personol. Mae teithio llesol yn darparu cymhareb gost a budd uchel iawn hefyd, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi penderfynu yn y Llywodraeth i gynyddu ein gwariant ar deithio llesol yn sylweddol, er mwyn cyflymu'r gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau teithio llesol sy'n cynnig dewis amgen i bobl ar gyfer teithio o le i le.

14:15

Ni waeth pwy sy'n gwneud y penderfyniad ynglŷn â'r M4, heb os, mae dinas Casnewydd yn cael ei llesteirio gan dagfeydd traffig sylweddol. Ar yr M4 fel y mae ar hyn o bryd a phan fo damwain ar y llwybr hwnnw, mae gweddill Casnewydd yn dod i stop, ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu cyn bo hir. Mae pawb yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth. Er bod trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy yn sicr yn hollbwysig, nid dyma'r ateb cyflawn. Mae cryn dipyn o waith i'w wneud ar y cynlluniau metro o gwmpas Casnewydd cyn y byddant yn newid o fod yn llinellau lliw ar y map i fod yn llwybrau a gwasanaethau go iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys a'i bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw hyn yn trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf?

Credaf yn gryf fod angen lleddfu'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd gwahanol o alluogi pobl i basio drwy Gasnewydd, neu i deithio o fewn ardal Casnewydd. Unwaith eto, mae angen cyflawni'r gwaith hwnnw ar frys. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymchwilio iddo fel rhan o'r gwaith o ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru ac rwy'n awyddus i sicrhau, yn y dyfodol, fod Trafnidiaeth Cymru yn chwarae mwy o ran wrth gynllunio atebion trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad. Buaswn yn fwy na pharod i hwyluso trafodaeth rhwng yr Aelod a Trafnidiaeth Cymru, er mwyn ystyried ei syniadau niferus ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod tagfeydd yn lleihau, nid yn unig ar yr M4, ond ar y ffyrdd lleol yn ardal Casnewydd hefyd.

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau, wrth gwrs, i'm cyd-Aelod Plaid Cymru fan hyn, Adam Price, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig y bydd adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r penderfyniad ar y gorchmynion statudol yn destun trafodaeth a phleidlais yn y Siambr yma cyn gwneud penderfyniad. A allwch chi, felly, gadarnhau i ni i gyd a fydd y bleidlais honno'n bleidlais rwymol?

Rydym yn archwilio'r opsiynau ar hyn o bryd. Roeddem wedi penderfynu y byddai dadl 'i nodi' yn briodol, ond mae trafodaethau pellach yn mynd rhagddynt ynglŷn ag a ddylai'r ddadl, yn wir, arwain at bleidlais rwymol.

Coridorau Gwyrdd

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fenter coridorau gwyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd? OAQ52630

Gwnaf. Mae swyddogion wrthi'n cynnal ymchwiliadau i'r mesurau posibl a fyddai'n cael eu defnyddio, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau yn ddiweddarach eleni i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ar gynnydd y fenter, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r fenter hon yn fawr. O gofio ein bod yn gweld mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys glaw eithriadol o drwm, credaf ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn dechrau mynd i'r afael ag atebion ar ein cilffyrdd a'n priffyrdd ac yn helpu i leihau rhywfaint o'r llifogydd a achosir gan ddŵr wyneb. Gwn eich bod wedi dweud bod yr A470 yn un o'r ffyrdd a fydd yn elwa o'r cynllun hwn, ond a oes gennych unrhyw fanylion pellach eraill ynglŷn â'r rhwydwaith ffyrdd helaeth yn fy ardal i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?

14:20

Wrth gwrs, ac rwy'n cytuno â'r Aelod y bydd angen inni edrych yn benodol ar ba rywogaethau coed a blannwn yn y dyfodol er mwyn addasu i newid hinsawdd. Mae'n ddigon posibl y gwelwn fwy o Wellingtonia neu gedrwydd Libanus yn cael eu plannu ledled Cymru, a chredaf y byddai hynny'n gwella amgylchedd naturiol a harddwch llawer o gymunedau. Yn y tymor byr, fodd bynnag, rwy'n awyddus i sicrhau bod y fenter coridorau gwyrdd nid yn unig yn gwella edrychiad ac argraffiadau o gyrchfannau, ond eu bod hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd y lleoedd, ac felly, faint o falchder sydd gan bobl yn eu cymunedau. A chan gyfeirio'n benodol at y rhanbarth a nodwyd gan yr Aelod, rwy'n falch iawn o ddweud, o ran pyrth, ein bod yn ystyried ymestyn y fenter i gynnwys yr A483 yn Llanymynech, rydym yn edrych ar yr A458 yn Nhal-y-bont, ar ffordd yr A40 yn Abergwaun, ar yr A4076 yn Aberdaugleddau a'r A477 yn Noc Penfro. O ran Ffordd Cymru, atyniad allweddol i ymwelwyr, llwybr sy'n cynnwys Ffordd Cambria a Ffordd yr Arfordir, rydym yn ystyried yr A470 a'r A487 hefyd. Rwy'n cytuno â'r Aelod fod hwn yn ymyriad cymharol rad ond mae ganddo effaith uchel, ac o ran gallu cyflwyno Cymru fel lle hardd a lle sydd â chyswllt da â'r awyr agored, credaf fod hwn yn ymyriad hynod werthfawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y fenter hon, ond mae wedi cymryd peth amser i ni gynllunio, adeiladu a chynnal ffyrdd o safon debyg i hyn, a hoffwn wybod pam fod ein hymagwedd yn weddol ddetholgar o hyd. Tybed a fydd y gwelliannau arfaethedig rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn rhan o'r ateb hwn hefyd, gan fod ffyrdd yn ymyriad anferth yn yr amgylchedd naturiol, yn enwedig y rhai mwy bregus, ac mae llawer ohonynt, yn amlwg, i'w cael yng Nghymru. Yn aml, gall gweithredu ffyrdd ddarnio safleoedd a dinistrio cynefinoedd gwerthfawr. Felly, er fy mod yn croesawu hyn, credaf y dylid ei brif ffrydio'n llwyr, mewn gwirionedd, o ran adeiladu, cynnal a gwella ffyrdd.

Cytunaf fod angen inni weld y fenter hon yn cael ei hymestyn y tu hwnt i'n cefnffyrdd ac rwy'n croesawu'n fawr unrhyw syniadau y gall awdurdod lleol eu cyflwyno ynglŷn â sut y gall ffyrdd lleol elwa o'r fenter coridorau gwyrdd. Un o gyflawniadau mwyaf balch fy nghyfnod fel cynghorydd cymuned oedd pan gawsom ymgyrch leol yn Mhant-y-mwyn, i geisio sicrhau mai hwnnw oedd y pentref gyda'r gymhareb uchaf o gennin Pedr y pen, felly aethom ati i gynnal ymgyrch fawr iawn i blannu cennin Pedr, a phlannwyd cennin Pedr gerllaw rhai o'r prif ffyrdd i mewn i'r pentref hwnnw. Yn sicr, gwellodd yr ymgyrch falchder pobl yn yr ardal a hefyd atyniad yr ardal, yn enwedig wrth ichi ddod i mewn i'r pentref. Felly, credaf y dylem sicrhau bod y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno, nid yn unig ar fwy o gefnffyrdd, ond hefyd, os yn bosibl, ar ffyrdd lleol hefyd. Hefyd, fel roedd yr Aelod yn iawn i'w nodi, mae hefyd yn helpu nid yn unig i liniaru ond hefyd i wneud iawn am golli cynefinoedd bywyd gwyllt mewn mannau eraill. Rwy'n awyddus iawn, pan fyddwn yn datblygu cefnffyrdd newydd, nad ydym yn siarad am liniaru yn unig, sef cyfnewid un peth am rywbeth cyffelyb i bob pwrpas, ond ein bod yn edrych ar strategaeth gyfadfer decach sy'n arwain at wella'r amgylchedd naturiol o ganlyniad i adeiladu ffyrdd.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw. 

Cyfiawnder Gweinyddol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael mewn perthynas â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru? OAQ52642

Yr wythnos diwethaf, noddais weithdy yma yn y Senedd ar gyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru a drefnwyd gan ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, a daeth ag academyddion blaenllaw, ymarferwyr, deddfwyr a llunwyr polisi ynghyd i drafod heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru.

Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywydd y Goruchaf Lys, yr Arglwyddes Ustus Hale, ei rhagflaenwyr, llawer o adroddiadau gan Gymdeithas y Cyfreithwyr a sefydliadau ymchwil eraill wedi nodi'r ffaith bod newidiadau i gymorth cyfreithiol o dan y Llywodraeth hon i bob pwrpas wedi cael gwared ar gymorth cyfreithiol i'r rhan fwyaf o boblogaeth ein cymdeithas ac nad oes mynediad at gyfiawnder yn bodoli mwyach. Maent hefyd yn nodi mai'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf yw menywod, plant, pobl anabl a phobl dlawd—a byddai unrhyw un yn credu y gallai hyd yn oed fod yn un o bolisïau bwriadol y Llywodraeth Dorïaidd hon.

Yng Nghymru, ni allwn oddef system lle ceir mynediad mor gyfyngedig at gyfiawnder mwyach, a thybed a allech ystyried a ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad sy'n archwilio problem mynediad at gyfiawnder, a hefyd beth allai fod yn ateb Cymreig i ddechrau gwella'r canlyniadau. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o arian i rwydweithiau cyngor ac ati; efallai fod yna gyfle yn awr i ddwyn y rhain ynghyd mewn fframwaith cyffredin er mwyn bod yn gnewyllyn o bosibl i system cymorth cyfreithiol newydd i Gymru.

14:25

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Cytunaf yn llwyr â'i sylwadau ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol, ac yn wir, cau llysoedd a chamau eraill tuag yn ôl. Cytunaf yn llwyr ag ef fod effaith hynny, o ran mynediad pobl at gyfiawnder, yng Nghymru a ledled y DU, wedi bod yn hynod niweidiol, ac yn wir, yn waradwyddus. Roedd peth o'r drafodaeth a gafwyd yn y gweithdy yn ddiweddar yn canolbwyntio, rwy'n credu, ar y pwynt sydd wrth wraidd ei gwestiwn, sef bodolaeth system gyfiawnder gweinyddol, os mynnwch, sy'n edrych ar sut y gallwn wneud pethau'n wahanol yng Nghymru, fel y gallwch leddfu rhai o effeithiau llymach y toriadau i gymorth cyfreithiol drwy sicrhau bod mynediad at gyfiawnder gweinyddol, o leiaf, yn haws i unigolion. Credaf ei bod yn anodd meddwl am honno ar hyn o bryd fel system sy'n gwbl gydlynol. Mae wedi'i datblygu dros nifer o flynyddoedd ac mewn ffyrdd gwahanol, a chredaf fod rhan o gymhlethdod y system honno yn her i unigolion sy'n chwilio am gyfiawnder.

Yn amlwg, fe fydd yn ymwybodol fod y rhan honno o'r system gyfiawnder gweinyddol, y system dribiwnlysoedd, yn destun gwaith sydd ar gychwyn gan Gomisiwn y Gyfraith i edrych ar sut y gellir ad-drefnu a symleiddio'r system a'i gwneud yn llawer mwy cydlynol. Unwaith eto, rhoddwyd llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ar waith, cafodd ei phasio, cyn dyddiau datganoli. Felly, ein gorchwyl yw edrych mewn modd systematig a chydlynol ar y rhan honno o'n system gyfiawnder ddatganoledig—os gallaf ddefnyddio'r term hwnnw—a gwneud pethau'n haws efallai i unigolion sy'n ceisio iawn. Un o'r agweddau eraill y credaf y dylid eu hystyried yn dilyn y trafodaethau hynny yn gynharach yn yr wythnos yw'r gwaith sydd ar gychwyn gan brifysgolion Bangor a Chaerdydd ar y cyd i fapio rhai o'r llwybrau ar gyfer ceisio iawn yn rhai o'r meysydd lle mae angen i bobl wneud hynny—ym maes addysg a'r maes tai—fel ein bod yn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut y gellir mynd ati i fynnu eu hawliau.

Roeddwn yn falch iawn o weld y Cwnsler Cyffredinol yn y gweithdy cyfiawnder gweinyddol yr wythnos diwethaf, nid yn unig i gyflwyno'i araith ei hun ond yn aros wedyn. Cafodd y gweithdy ei drefnu'n dda iawn gan Sarah Nason o Brifysgol Bangor.

Wrth i'r gwahaniaeth gynyddu rhwng ein cyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr, daw'n fwyfwy pwysig i'r Aelodau ymgysylltu â hynny. Roeddwn yn awyddus i sefydlu, a chyda phobl eraill, fe sefydlais y grŵp trawsbleidiol ar y gyfraith i geisio gwella'r cysylltiadau hynny. Yn araith y Cwnsler Cyffredinol, credaf iddo nodi chwe egwyddor sylfaenol cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, a thybed a yw'n ystyried bod yr egwyddorion hynny yn ddisgrifiad o'r system fel y mae ar hyn o bryd, neu a ydynt yn cynrychioli ei ddyhead ar gyfer sut y byddai'n hoffi i'r system ddatblygu yn y dyfodol.

Wel, credaf mai'r pwynt yr oeddwn yn ceisio'i wneud yn fy sylwadau i'r gweithdy, mewn gwirionedd, oedd mai gwneud y penderfyniadau cywir yn y lle cyntaf a ddylai fod yn brif amcan, ac mai'r penderfyniadau a wneir gyda'r egwyddorion hynny mewn golwg a ddylai ein harwain at y canlyniad hwnnw. Ond roeddwn hefyd yn nodi cymhlethdod y system bresennol, a'r disgwyliad a ddylai fod gan unigolion y gall pob unigolyn geisio iawn yn y ffordd sydd fwyaf cyfleus iddynt hwy. A hefyd, yn ogystal ag egwyddor cydraddoldeb mynediad a chydraddoldeb mynediad at gyfiawnder, y gallwn ddisgwyl bod penderfyniadau gweinyddol yn ein harwain at Gymru fwy cyfartal, os caf ei roi felly, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd a chomisiynwyr ac ombwdsmyn o fewn y system gyfiawnder gweinyddol yn ein harwain at y canlyniad hwnnw, sy'n un o ddyheadau'r Llywodraeth hon.

Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn yr Alban ynghylch yr achos gerbron y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)? OAQ52640

Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion yr Arglwydd Adfocad yn yr Alban. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yn anffurfiol yn Belfast ym mis Awst, a chefais drafodaethau anffurfiol ag ef bryd hynny. Rydym yn disgwyl dyfarniad y Goruchaf Lys, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad pan fydd yn cael ei ddarparu.

14:30

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd rhan o'r hyn yr oeddwn am ei sicrhau oedd ein bod yn cael cyfle, wedi inni gael yr ystyriaeth a phenderfyniad gan y Goruchaf Lys, i'ch holi am eich barn a'ch dehongliad o'r penderfyniad hwnnw, yn enwedig gan ein bod ni, fel Cynulliad, wedi penderfynu cefnogi Bil Ymadael â'r EU, ac o ganlyniad, fod ein Bil wedi'i dynnu'n ôl o'r Goruchaf Lys gyda'r bwriad, efallai, ar ryw adeg yn y dyfodol, o ddiddymu'r Bil hwnnw, roeddem yn obeithiol iawn y byddai bargen yn cael ei tharo? Wrth inni agosáu at gyfarfodydd Cyngor mis Hydref a mis Tachwedd yr UE, mae'n llawer mwy tebygol na fydd bargen yn cael ei tharo, ac felly mae'r canlyniadau'n llawer mwy difrifol. Felly, bydd goblygiadau'r penderfyniad ar y Bil hwn a'i oblygiadau i bwerau Senedd yr Alban a ninnau yn hollbwysig o ran ble y gallai fod angen inni fynd yn gyfreithiol ar ôl y dyddiad ymadael hwnnw.

Wel, dylwn ddweud fy mod yn ffyddiog o hyd y bydd y dadleuon a gyflwynais gerbron y Goruchaf Lys yn llwyddo. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys ei hun yn achos Miller, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig, ac fel rwy'n dweud, rwy'n hyderus y bydd y ddadl honno'n drech. Mae'n crybwyll y Ddeddf barhad a basiwyd gennym, yn amlwg, yn y lle hwn, ac mae'n amlwg bod camau'n cael eu cymryd i ddiddymu honno yn unol â'r cytundeb rhynglywodraethol. Dyna'r sefyllfa o hyd.

Mewn perthynas â deddfwriaeth arall y gallai fod angen ei chyflwyno, mae’n disgrifio’r senario ‘dim bargen’. Rwyf am ailadrodd safbwynt y Llywodraeth unwaith eto, ac mae fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Prif Weinidog wedi ailadrodd hyn ar sawl achlysur yn y Siambr hon: byddai senario 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru a'r DU. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynigion sy'n adlewyrchu’r egwyddorion a gyflwynwyd gennym ar gyfer amddiffyn buddiannau Cymru a buddiannau’r DU yn ehangach er mwyn osgoi senario ymyl y dibyn 'dim bargen'.

Negodiadau Brexit

3. Pa ddadansoddiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar gyfraith Cymru os na fydd cytundeb yn deillio o'r negodiadau ar Brexit? OAQ52641

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario Brexit, gan gynnwys 'dim bargen'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi parhau, ac mae bellach wedi dwysáu, ar y rhaglen is-ddeddfwriaethol i sicrhau y gellir gwneud yr holl gywiriadau sydd eu hangen i ddeddfwriaeth Cymru cyn y diwrnod ymadael.

Diolch i chi am yr atebion hynny. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod mewn sefyllfa i ddeall goblygiadau senario ‘dim bargen’ ar gyfraith Cymru ac rydym, yn llythrennol, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 30 Mawrth 2019 heb unrhyw amddiffyniadau, ar un ystyr, ac rydym wedi colli llawer o amddiffyniadau a roddodd yr UE ni. Felly, a allwch chi gadarnhau eich bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gellid rhoi’r amddiffyniadau hynny ar waith, yn enwedig ar gyfer hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau ein dinasyddion, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau heb golli’r amddiffyniad hwnnw? Ac ar yr un pryd, a ydych hefyd yn edrych ar y sefyllfa lle mae gennym ni yng Nghymru allu hefyd i edrych ar gyfraith y DU? Rwy’n arbennig o bryderus ynglŷn â'r cytundebau masnach a’r bargeinion masnach a allai ddigwydd, a sut y gallant effeithio ar gymwyseddau datganoledig os gwneir bargen fasnach gyda’n gwlad ni, a pha hawliau a fydd gennym o ganlyniad i wneud cytundeb, a allai effeithio ar feysydd datganoledig.

Wel, gallaf gadarnhau ein bod wedi cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', fel un o'r senarios ymadael, ac wedi sicrhau ein bod wedi nodi’r holl gyfraith Gymreig sydd angen ei chadw ar ôl y diwrnod ymadael, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau, os ceir sefyllfa 'dim bargen’, fod gennym ddeddfwriaeth ar waith i gadw'r sefyllfa gyfredol er mwyn sicrhau parhad cyfreithiol a sicrwydd cyfreithiol ar ôl ymadael.

Mae gennym amserlen ar gyfer cyflwyno'r offerynnau statudol diwygiedig hynny i'r Cynulliad. Rydym wedi nodi tua 400 o offerynnau statudol y mae angen eu cywiro i ymdrin â’r canlyniad hwnnw. Mae hynny’n golygu y bydd tua 50 o offerynnau statudol, mwy na thebyg, yn cael eu dwyn gerbron y Cynulliad. Mae union amseriad a threfn a chynnwys rhai o'r rheini'n dibynnu ar drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, oherwydd gyda rhai o’r meysydd hynny mae'n gwneud synnwyr i Lywodraeth y DU wneud y newidiadau gyda'n cytundeb ni yma. A bydd hynny'n effeithio ar drefn ac union nifer yr offerynnau statudol y bydd angen eu dwyn gerbron y Cynulliad.

Dylwn ei gwneud yn glir fod hon yn rhaglen weithgarwch ddigynsail mewn gwirionedd, ar y raddfa sy'n ofynnol i fynd i'r afael â chanlyniad 'dim bargen'. Mae angen dull o weithredu ar y cyd gyda Llywodraeth y DU. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws y bwrdd. Yn sicr, ceir rhai meysydd lle mae angen gwella hynny, ond rydym yn manteisio ar brosesau rhannu gwybodaeth a drafftio ar y cyd, er mwyn hwyluso'r broses honno yn gyffredinol.

Mewn perthynas â’i gwestiwn ynglŷn â chytundebau masnach, mae'n destun pryder fod negodi cytundebau masnach yn broblem, o ystyried eu ehangder a’u dyfnder a’u cyrhaeddiad i mewn i rai agweddau ar gyfraith ddatganoledig. Fe fydd yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn ei araith ddiweddar i Sefydliad y Llywodraeth ynglŷn â sut y dylai hynny edrych yn y dyfodol, ac y dylai bargeinion masnachu gynnwys gweinyddiaethau datganoledig yn y broses o greu strategaethau negodi, fel ein bod yn gallu arsylwi ar y setliad datganoli yma yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o'r DU.

14:35
Cyfreithiau Cymru

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch? OAQ52634

Mae sicrhau bod y gyfraith yn fwy hygyrch yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym yn cwblhau Bil deddfwriaeth ar hyn o bryd, a’r bwriad yw y bydd yn ffurfioli ymrwymiad hirdymor y Llywodraeth i symleiddio cyfraith Cymru a'i gwneud yn fwy hygyrch. Rwy'n bwriadu cyflwyno'r Bil cyn diwedd y flwyddyn.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Gwn eich bod wedi siarad am y materion hyn yn ddiweddar yn nigwyddiad Sefydliad Bevan yn yr Eisteddfod, ac fe siaradoch chi ynglŷn â sut y mae mynediad at gyfiawnder, a hygyrchedd ein deddfau, yn ofynion sylfaenol mewn perthynas â rheolaeth y gyfraith. Dyna sut y mae pobl yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn arfer eu hawliau, yn herio gwahaniaethu ac yn dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif. Ond a fyddech yn cytuno, yn anffodus, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Mick Antoniw yn gynharach, o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, ein bod wedi mynd tuag yn ôl mewn perthynas â’r egwyddorion pwysig hynny? A allech chi gadarnhau felly fod hyrwyddo a diogelu mynediad at gyfiawnder yn thema gyson ar gyfer y deddfau sy'n cael eu creu gan Senedd Cymru?

Yn sicr. Yn y lle hwn, neu yn Senedd y DU, lle mae hawliau’n cael eu creu ar gyfer unigolion, a lle gosodir cyfrifoldeb ar eraill, credaf yn gryf iawn fod yn rhaid i ni sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, a bod gan bobl allu realistig i geisio iawn drwy lysoedd a thrwy dribiwnlysoedd pan dramgwyddir yn erbyn eu hawliau.

I ni yma yng Nghymru, mae gennym bwerau ffurfiol cyfyngedig mewn perthynas â’r system gyfiawnder. Felly, ystyriaf fod uchelgais y Llywodraeth hon i sicrhau bod y cyfreithiau rydym yn eu pasio yma yn haws eu deall, yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru, nid yn unig yn rhan sylfaenol o'r setliad democrataidd a rhwymedigaethau democrataidd y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhan sylfaenol o unrhyw gysyniad o gyfiawnder cymdeithasol, fel bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn gwybod sut y gallant geisio iawn pan dramgwyddir yn erbyn yr hawliau hynny. Edrychaf ymlaen at gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno maes o law.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn i Weinidog yr Amgylchedd yw cwestiwn gan Vikki Howells.

Gwaharddiad ar Saethu ar Dir Cyhoeddus yng Nghymru

3. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd saethu ar dir cyhoeddus yng Nghymru? 213

Rwy’n falch fod safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar saethu ffesantod a gweithgareddau cysylltiedig ar dir cyhoeddus wedi cael eu hystyried gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy’n croesawu penderfyniad eu bwrdd ar 20 Medi i roi terfyn ar y gweithgareddau hyn ar ystâd Llywodraeth Cymru pan ddaw'r cytundebau prydles cyfredol i ben.

Diolch i chi, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn newyddion gwych, ac nid yw ond yn briodol na fydd tir mewn perchenogaeth gyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mwyach i ganiatáu creulondeb a lladd yn enw chwaraeon. Hefyd, hoffwn ddiolch i chi'n bersonol am eich ymyrraeth bendant, gan roi arweiniad moesol clir, a gwn fod hyn wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau lles anifeiliaid. Ond mae’r rhan fwyaf o'r saethu yn digwydd ar dir preifat. Felly, a allwch roi unrhyw wybodaeth bellach am gynlluniau i gynnal ymgynghoriad ar y cod ymarfer ar fagu adar hela? Mae hwn yn fater brys ac angenrheidiol, o ystyried y pryderon am les adar yn y diwydiant saethu, sy'n aml yn cael eu magu mewn amgylchiadau gwaeth na ieir batri.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei diddordeb yn y maes hwn. Mae'n gywir y bydd y penderfyniad yn rhoi diwedd ar brydlesu tir ar gyfer saethu ffesantod ar dir Llywodraeth Cymru pan ddaw'r cytundebau prydles cyfredol i ben. Mewn perthynas â’r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon, mater i Ysgrifennydd y Cabinet yw hwnnw mewn gwirionedd. Ond gallaf ddweud bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu codau ymarfer cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer ieir dodwy, brwyliaid a moch, ac o ganlyniad i fwy o alw am gymorth cyfreithiol a pholisi yng ngoleuni trafodaethau Brexit, mae oedi wedi bod yn y broses o gyhoeddi’r codau hyn. Fodd bynnag, bydd y gwaith o adolygu’r codau y cytunwyd arnynt gyda rhanddeiliaid a gwaith ar ddiweddaru’r cod ymarfer cyfredol ar les pellach adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon yn parhau ar ôl cyhoeddi’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

14:40

Weinidog, credaf eich bod wedi gwneud penderfyniad anffodus iawn. Mewn llawer o gymunedau sy'n agored i niwed, bydd hysbysiadau diswyddo yn cael eu cyflwyno i lawer o weithwyr sy'n dibynnu ar y diwydiant saethu i ddarparu gwaith lle nad oes ond ychydig o opsiynau amgen ar gael iddynt. Felly, bydd eich gweithredoedd yn helpu i gyflwyno’r hysbysiadau diswyddo hynny, Weinidog.

Ond hoffwn ofyn cwestiwn syml i chi, os caf: comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiad ar y pwnc hwn a gostiodd £45,000 iddynt. Yn seiliedig ar yr adroddiad hwnnw, fe wnaeth bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru benderfyniad unfrydol ym mis Gorffennaf i beidio â chefnogi diddymu neu drwyddedu saethu ar dir sy'n eiddo cyhoeddus. Fe wnaethoch chi ymyrryd fel y Gweinidog, sef eich hawl chi fel y Gweinidog, fel perchennog y tir hwnnw, er mwyn rhoi arweiniad iddynt newid y penderfyniad hwnnw. Felly, a allwch chi gadarnhau mai penderfyniad gwleidyddol a wnaethoch ac nad yw’n seiliedig ar wyddoniaeth, neu os oes gennych wybodaeth ychwanegol, a allwch ryddhau'r wybodaeth honno, oherwydd yn amlwg, fe wnaeth yr adroddiad a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gost o £45,000 lywio eu penderfyniad unfrydol a gafodd ei ategu gan eu bwrdd?

Er mai'r tirfeddiannwr fydd yn penderfynu ynglŷn â saethu ar dir preifat, mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i ystyriaeth ehangach o farn y cyhoedd wrth ystyried beth sy'n digwydd ar ein hystâd. Mae arwynebedd cyfunol y tri heldir yr effeithir arnynt gan benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i atal saethu ffesantod yn llai na 300 hectar ac yn cynrychioli llai nag 1 y cant o gyfanswm nifer y mentrau saethu ffesantod yng Nghymru. Dywedasoch fod gennyf bob hawl i ymyrryd. Nid wyf yn ystyried hon yn ymyrraeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i gwneud yn glir o'r dechrau y byddai ystyriaethau moesegol a pholisi ehangach yn fater i Lywodraeth Cymru fel tirfeddiannwr. Ar ôl cael yr argymhellion drafft, roeddem yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn werth nodi bod—[Anghlywadwy.]—safbwynt Llywodraeth Cymru yn fater ar gyfer ystyriaeth barhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw'n eu rhwymo i dderbyn a chytuno â’r safbwynt hwnnw.

Croesawaf y penderfyniad a wnaed ac roeddwn am longyfarch y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon ar y gwaith a wnaethant ar yr ymgyrch benodol hon. Rwyf eisiau deall beth fydd eich ymgysylltiad, fel Gweinidog, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â grwpiau sy'n ymwneud â hyn o bob sector yn y gymdeithas yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, oherwydd mae gennyf bryderon difrifol am y ffaith bod y Gynghrair Cefn Gwlad wedi trydar yn galw ar ddau aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, a siaradodd o blaid rhoi diwedd ar y trwyddedau saethu, i ymddiswyddo, er nad oedd ganddynt fuddiant, ac ni wnaethant alw ar aelodau eraill o’r bwrdd sydd â buddiant yn yr agenda saethu i ymddiswyddo hefyd. Felly, gallant ddewis a dethol lle maent yn credu bod buddiant a lle nad oes buddiant. Ac roedd buddiant yn yr adroddiad dan sylw, a grybwyllwyd gan Andrew R.T. Davies, oherwydd roedd hwnnw’n rhywun ar yr adroddiad comisiwn penodol hwnnw a oedd yn rhan o'r frawdoliaeth saethu mewn gwirionedd, ac felly, gallai fod rhagfarn yno, a chodais hynny yn y Siambr heddiw hefyd. Sut y gallwn ymddiried yn y penderfyniadau a wneir os yw sefydliadau sydd â dylanwad sylweddol ar y gymdeithas Gymreig yn mynd i wneud yr honiadau gwarthus hyn wedi i benderfyniad a ystyriwyd yn ofalus gael ei wneud, a phenderfyniad rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn ei gefnogi?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei chwestiynau blaenorol wrth godi'r mater hwn yn y lle hwn a thu hwnt. Gallaf glywed o’r heclo yn y cefndir fod hwn yn fater sy'n ennyn teimladau cryf ac yn cynhyrchu barn gref ar y ddwy ochr. Fodd bynnag, rydych yn iawn: gwelwyd bod yna farn gyhoeddus sylweddol, yn enwedig mewn perthynas ag argymhelliad 3 a nodai nad oedd 60 y cant o drigolion Cymru o blaid parhau i brydlesu ar gyfer saethu ffesantod ar dir y Llywodraeth.

O ran gweithio gyda rhanddeiliaid, credaf ei bod yn hollbwysig fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar draws y bwrdd gyda'r holl randdeiliaid, boed hynny gyda rhanddeiliaid o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, y Gynghrair Cefn Gwlad, a’r elusennau lles anifeiliaid a hawliau anifeiliaid hefyd, a chyda Llywodraeth Cymru. Rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y materion hyn.

Croesawaf y penderfyniad yn gryf iawn ac rwy’n llongyfarch y Gweinidog ar ei safbwynt cadarn ar y mater hwn. Oni fyddai'r Gweinidog yn cytuno ei fod yn cyd-fynd yn glir â barn y cyhoedd ar y mater mewn gwirionedd? Canfu arolwg barn gan Cymorth Anifeiliaid a’r Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon ym mis Ebrill fod o leiaf 71 y cant o bobl ledled Cymru—gan gynnwys yn ardaloedd gwledig canolbarth a gorllewin Cymru, lle mae saethu, unwaith eto, yn gyffredin iawn—yn gwrthwynebu saethu adar hela at ddibenion chwaraeon ar dir cyhoeddus ac ar dir preifat. Credaf felly nad oes unrhyw amheuaeth fod y Gweinidog yn gweithredu yn unol â theimladau'r bobl, felly hoffwn ei llongyfarch am wneud y safiad hwnnw. Rwyf hefyd yn bryderus ynglŷn â'r cod ymarfer ar gyfer adar hela, a gofynnais am adolygiad brys o'r cod ymarfer hwnnw ym mis Mehefin, ond deallaf efallai fod diffyg archwiliadau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i wirio cydymffurfiaeth yn broblem. Nid wyf yn gwybod a fyddai’r Gweinidog yn gallu gwneud sylwadau ar hynny.

14:45

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei sylwadau. O ran y pwyntiau penodol mewn perthynas â'r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela, hoffwn eich cyfeirio'n ôl at fy ateb blaenorol i'n cyd-Aelod Vikki Howells. Mewn perthynas â'r pryderon penodol a godwyd gennych—efallai y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion am hynny, ac efallai y byddech yn hoffi gohebu yn y modd hwnnw.

Diolch i chi, Lywydd, am ganiatáu i mi ofyn cwestiwn ar y mater hwn, oherwydd mae'n effeithio'n sylweddol ar fy etholaeth i, ac yn sicr nid wyf yn croesawu'r penderfyniad nac yn llongyfarch y Gweinidog. Mae sôn wedi bod am yr effaith negyddol ar y diwydiant, ond a gafodd y sgil-effeithiau ar sectorau eraill eu hystyried hefyd? Rwy'n meddwl am sefydliadau gwely a brecwast, gwestai bach, sy'n dibynnu'n fawr ar y diwydiant hwn. Yn ystod misoedd y gaeaf, wrth gwrs, maent yn dibynnu ar y fasnach hon, ac yn enwedig yn y misoedd penodol hyn, y tu hwnt i'r tymor twristiaeth arferol. A gaf fi ofyn pa effaith—? Pa asesiad a wnaed o effaith y penderfyniad hwn ar y Gymru wledig, ar swyddi, yr economi leol a thwristiaeth? Mae ciperiaid yn cyflawni cannoedd o oriau o waith cadwraeth. Maent hwy hefyd mewn perygl bellach. Pwy fydd yn gwneud y gwaith cadwraeth hwn? A oes ystyriaeth wedi'i rhoi i hyn? Yn olaf, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog: a wnewch chi ymweld â Sir Drefaldwyn gyda mi, ac ymweld ag un o'r nifer o fusnesau sydd bellach yn gorfod diswyddo staff o ganlyniad i'r penderfyniad rydych wedi'i gefnogi?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. O ran edrych ar yr effaith economaidd, mae nifer o ffigurau wedi cael eu crybwyll yn ddiweddar, yn dweud bod gwerth y diwydiant saethu i economi Cymru oddeutu £75 miliwn. Ond mae hynny ledled Cymru gyfan, nid yn benodol ar gyfer y tair prydles ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ac rwyf eisoes wedi dweud nad ydynt ond yn cynrychioli 1 y cant o'r mentrau saethu yng Nghymru. O ran edrych ar yr effaith, yn argymhellion Cyfoeth Naturiol Cymru, roeddent yn ei gwneud yn glir y byddai'n bosibl cael cyfnod pontio er mwyn ceisio lliniaru unrhyw effaith ar y gymuned leol. O ran y gost i Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd y penderfyniad i beidio ag adnewyddu prydlesi saethu ffesantod yn costio tua £4,500 mewn incwm blynyddol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi awgrymu y bydd colli costau gweinyddu ar gyfer rheoli prydlesi yn ei wneud yn niwtral o ran cost iddynt. O ran y materion penodol a godwyd gennych mewn perthynas â'ch etholaeth, efallai y byddai'n syniad i'r Aelod ysgrifennu atom gyda'r pryderon hynny a manylu arnynt fel y gallwn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i'r afael â hwy.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y digwyddiad hwn yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn cadw Cyfoeth Naturiol Cymru hyd braich mewn gwirionedd, neu a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhwym i farn ei feistri gwleidyddol ym Mharc Cathays. Yn ôl ym mis Gorffennaf, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru benderfyniad unfrydol yn erbyn gwaharddiad. Nid oeddech yn hoffi'r penderfyniad hwnnw. Fe wnaethoch ymyrryd, ac wythnos yn ddiweddarach, newidiwyd y penderfyniad. Nawr, mae'n ymddangos i mi fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff hyd braich pan fo hynny'n gyfleus i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, llanastr mwd Hinkley—rydych yn dweud wrthym o hyd, 'Wel, wyddoch chi, nhw yw'r arbenigwyr. Ni allwn ymyrryd. Nhw sy'n gwybod orau.' Ond ar y mater hwn, nid oeddech yn hoffi'r penderfyniad, felly fe wnaethoch yn siŵr ei fod yn cael ei newid. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd. Felly, pa un ydyw am fod, Weinidog? Gwyddom yn awr na fydd adar yn cael eu saethu uwchben coetir cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, ac onid ydych yn cytuno, ar ôl y llanastr hwn, fod uniondeb a hygrededd ac enw da Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael ei saethu'n ddarnau mân?

Rwy'n anghytuno â honiadau'r Aelod. Hoffwn gyfeirio'n ôl at y ffaith na châi hyn ei ystyried yn ymyrraeth. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru hi'n glir y byddai'r ystyriaethau moesegol a pholisi ehangach yn fater i Lywodraeth Cymru fel y tirfeddiannwr.

14:50

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r cwestiwn gan Anglea Burns.

Cyflogau Meddygon a Deintyddion yng Nghymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i gyflogau meddygon a deintyddion yng Nghymru? 214

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch o gyhoeddi fy mod wedi derbyn argymhellion y corff adolygu meddygon a deintyddion annibynnol yn llawn. Mae hyn yn rhoi codiad cyflog i feddygon a deintyddion yng Nghymru sy'n uwch na'r hyn a roddwyd i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mae'n brawf pellach o faint y mae'r Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi ein meddygon a'n deintyddion.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. A diolch i chi, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol. Hoffwn fod wedi gallu cael datganiad ar hyn lle gallem fod wedi gofyn rhai cwestiynau i chi, oherwydd, fel chithau, rwy'n croesawu'r cynnydd yng nghyflogau meddygon a deintyddion yng Nghymru, ond ceir un neu ddau o feysydd lle mae angen rhywfaint o eglurder.

Rydym wedi gweld gostyngiad o 4.6 y cant yn nifer y practisau meddygon teulu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf a 10 y cant yn fwy o feddygon teulu locwm yng Nghymru yn 2017. A ydych yn credu y gall y dyfarniad cyflog hwn ein helpu i fynd i'r afael â'r prinder cronig sydd gennym yn y maes hwn? Ac a ydych yn credu y bydd y dyfarniad cyflog hwn hefyd yn mynd i'r afael â'r prinder cronig a wynebwn mewn ardaloedd gwledig yn arbennig? Ac a ydych yn credu y bydd y dyfarniad cyflog hwn yn ein galluogi i gynyddu, efallai, neu adfer rhai o'r practisau sydd wedi cau yn y 24 i 48 mis diwethaf?

A allech chi hefyd gadarnhau a fydd y cynnydd arfaethedig mewn cyllid yn effeithio ar weithwyr proffesiynol locwm ac asiantaeth? A beth fyddai eich barn, o ystyried faint o arian a wariwn yn y GIG ar staff locwm mewn ysbytai ac mewn ymarfer cyffredinol, ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio ar faint o arian rydym yn ei wario ar weithwyr proffesiynol locwm ac asiantaeth?  Oherwydd rwy'n pryderu'n fawr, os yw'r cynnig locwm yn mynd yn fwy a mwy deniadol, y byddwn yn ei chael hi'n fwyfwy anodd recriwtio swyddi amser llawn, parhaol o fewn GIG Cymru.

Hoffwn ofyn hefyd i chi gadarnhau yn union beth fydd y cynnydd ar gyfer meddygon ymgynghorol. Mae pwynt 4.5 yn adroddiad y corff adolygu cyflogau yn sôn na ddylid cynyddu cyflogau meddygon ymgynghorol dros y gyfradd sylfaenol, a hoffwn ddeall rhai o'r newidiadau rydych wedi'u gwneud i gontractwyr annibynnol a rhai o'r swyddogion cyswllt arbenigol a meddygon a meddygon ymgynghorol arbenigol. Byddai'n ddefnyddiol iawn os gallwch egluro hynny i ni.

Ac yn olaf, rwy'n derbyn eich bod yn teimlo'n hapus iawn eich bod yn talu mwy o arian na Lloegr a'r Alban, ond roeddech yn glir iawn wrth y bwrdd iechyd, roeddech yn glir iawn wrth y corff adolygu, a dyfynnaf:

Rydym wedi nodi barn Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn fod ystyriaethau o degwch yn mynnu y dylid alinio cyflogau ledled y DU ar gyfer yr unigolion sy'n cyflawni rolau cyfatebol ar draws GIG y DU er mwyn osgoi cystadleuaeth fewnol ddi-fudd rhwng staff o fewn gweithlu'r GIG.

A ydych yn teimlo y gallai hyn danseilio hynny? Diolch.

Diolch i chi am hynny. Credaf fod pedwar cwestiwn yno yn fras. O ran ai'r dyfarniad cyflog hwn yw'r ateb i'r ystod o heriau a nodwyd gennych mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, ar ei ben ei hun, na, wrth gwrs nad dyma'r ateb, ond mae'r dyfarniad ei hun yn rhan bwysig o'r ateb mewn perthynas ag annog meddygon, deintyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres o fesurau, mae'n rhan o'r dull rydym wedi'i fabwysiadu a'r bartneriaeth gymdeithasol ddilys sydd gennym, ac nid yn unig gyda meddygon a deintyddion, ond mae'n gyson â'r dull a fabwysiadwyd gyda'n staff 'Agenda ar gyfer Newid', lle roeddem yn gwrando ar yr hyn a oedd gan y corff annibynnol i'w ddweud, lle roedd negodiadau rhwng staff a chyflogwyr, a llwyddasom i ddod o hyd i ffordd i fuddsoddi yn eu cyflog, oherwydd, fel y byddwch yn gwybod, Angela Burns, ni ddarparodd Trysorlys y DU gyllid ychwanegol i dalu am argymhellion y corff adolygu annibynnol. Bu'n rhaid inni fuddsoddi adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn y cynnig cyflog hwn, fel gyda chynnig yr 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, rydym wedi gwneud dewis bwriadol gydag adnoddau Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n ddewis Llafur Cymru rwy'n falch o fod wedi'i wneud.

O ran cyflogau locwm, mae cyflogau locwm yn wahanol. Yn gyffredinol, cânt eu negodi ar wahân i drefniadau cytundebol arferol, ond bydd gennyf fwy i'w ddweud am gyflogau locwm yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fyddaf yn adrodd ar effaith y cap a gyflwynais yng Nghymru a'i effaith ar gyflogau newidiol ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol—unwaith eto, mesur a gyflwynais y llynedd—ac rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl wrth yr Aelodau ar effaith hynny ar ôl blwyddyn lawn o weithrediad.

Mewn perthynas â chyflogau meddygon ymgynghorol a meddygon arbenigol, rwy'n falch o gadarnhau bod hwn yn gynnydd sylfaenol o 2 y cant yng nghyflog meddygon a deintyddion, gan gynnwys meddygon dan hyfforddiant a meddygon ymgynghorol. Ceir 2 y cant yn ychwanegol ar gyfer ymarfer cyffredinol. Hefyd, ceir 1.5 y cant yn ychwanegol ar gyfer meddygon arbenigol. Felly, rydym yn mynd i'r afael â'r argymhellion a ddarparwyd ar ein cyfer.

O ran eich pwynt ynglŷn ag osgoi cystadleuaeth fewnol ddi-fudd, mae'r ffordd rydych wedi geirio'r cwestiwn yn awgrymu y dylem fod wedi dilyn yr hyn a wnaeth Lloegr neu'r Alban wrth ddewis peidio â gweithredu cyngor y corff adolygu annibynnol ar ôl ei gael. Dewis gwneud toriad a wnaethant yn hytrach na dilyn argymhelliad y corff adolygu, a dewisodd eich cydweithwyr yn Lloegr nid yn unig eu bod am dorri'r hyn a argymhellwyd, ond eu bod am ei roi ar waith ym mis Hydref yn hytrach na mis Ebrill, fel yr argymhellwyd. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn eich datganiad i'r wasg, roedd awgrymu ein bod wedi dal hyn yn ôl yn beth go wael i'w wneud ac nid oedd yn gwbl gywir. Rydym wedi cael sgwrs go iawn mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ac rwy'n falch o gadarnhau bod y Llywodraeth hon yn parchu argymhellion cyrff adolygu cyflog annibynnol, ac rydym wedi buddsoddi yn ein staff, yn nyfodol ein gwasanaeth iechyd, ac ni ellid cael cyferbyniad cliriach rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a'r Torïaid dros y ffin.

14:55

Diolch, Llywydd. Wrth ddatgan eich penderfyniad ar gyflogau, mi ddywedasoch chi nad yw Trysorlys Prydain wedi rhoi unrhyw gyllid ychwanegol ac felly eich bod chi wedi trafod efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid er mwyn i'r cytundeb cyflog yma allu cael ei ddelifro heb effeithio ar wasanaethau. Fy nghwestiwn i, yn syml iawn, ydy: beth sydd wedi newid? Peidiwch â fy nghamddeall i—rydw i'n hapus iawn bod y cyflog yn mynd i fod yn uwch ar gyfer meddygon a deintyddion yma, ond safbwynt y Llywodraeth yn y gorffennol fu i ddweud, 'Dim codiad cyflog oni bai bod yna ragor o arian yn dod gan y Trysorlys.'

Rydw i'n falch iawn eich bod chi wedi derbyn rŵan fod modd i chi weithredu heb yn wastad aros am y Trysorlys. Rydw i'n meddwl am enghreifftiau eraill fel y cytundebau sero oriau neu'r cap ar gyflog gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus, ac mae'ch plaid chi hefyd wedi gwrthod yn y gorffennol y syniad o ganiatáu neu gefnogi gwahaniaethu cyflog mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ar y sail y byddai hynny'n siŵr o yrru cyflogau is yng Nghymru. Drwy deilwra pethau i'n hanghenion ni yng Nghymru, rydym ni'n dangos, fel yn yr achos yma, fod modd i gyflogau fod yn uwch yng Nghymru. Felly, a ydy'r egwyddor sylfaenol y mae'r Llywodraeth yn gweithredu wrthi hi wedi newid?

Na, credaf ein bod wedi bod yn gwbl gyson. Yr hyn rydym wedi'i wneud, fodd bynnag, yw defnyddio arian o'r cronfeydd wrth gefn i ariannu'r dyfarniad cyflog am y flwyddyn hon, a bydd yn rhaid i ni amsugno'r gost ychwanegol honno yn y dyfodol. Daw hyn yn sgil dewisiadau anodd iawn y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i'w gwneud, ac mewn hinsawdd o wyth mlynedd o gyni parhaus mae ein dewisiadau yn mynd yn fwyfwy tynn ac yn anos bob blwyddyn. Rydym yn deall cymaint yw gwerthfawrogiad ein cyhoedd o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae pawb ohonom wedi gweld hynny eleni a hithau'n ddeng mlynedd a thrigain ers creu ein gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, dyna pam rydym yn parhau i wneud y penderfyniadau anodd hynny, ond mae'r gost yn fawr; nid oes unrhyw ddewis y gall y Llywodraeth hon ei wneud heb ganlyniadau ynghlwm wrtho. Dyna pam rwy'n dweud, nid yn unig wrth yr Aelodau y tu ôl i mi, ond wrth yr holl Aelodau yn y Siambr hon: os ydym eisiau parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn niferoedd y staff, ac yn eu cyfraddau cyflog wrth symud ymlaen, bydd angen i ni barhau i wneud mwy a mwy o ddewisiadau anodd. Mae ein gwerthoedd yn parhau i'n harwain. Rwy'n falch ein bod wedi gwneud y dewis cywir, nid yn unig ar gyfer staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, ond y dewis cywir ar gyfer pobl Cymru.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn gan Steffan Lewis.

Effaith Uwchgynhadledd Salzburg ar Gymru

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith uwchgynhadledd Salzburg ar Gymru? 215

Diolch i chi, Lywydd. Mae gwrthod cynigion y Prif Weinidog yn Salzburg wedi arwain at asesiad gan Lywodraeth Cymru fod hyn yn cynyddu'r risg o 'ddim bargen'. Byddai hyn yn drychinebus i Gymru, fel rydym yn ei ddweud bob amser, ac mae'n rhaid ei osgoi. Nid dewis rhwng cynnig Chequers a 'dim bargen' yw'r negodiadau, ac mae angen eu cynnal mewn ysbryd o gyfaddawd er mwyn amddiffyn ein heconomi a'n swyddi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, diflannodd safbwynt negodi'r DU yn Salzburg yn gyflym iawn yr wythnos diwethaf, a llwyddodd Prif Weinidog y DU i uno 27 arweinydd yr UE yn eu diffyg amynedd. Wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y posibilrwydd o wahanu 'dim bargen' yn fwy, nid yn llai tebygol, ac mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r effaith drychinebus y bydd hynny ei chael ar swyddi yng Nghymru ac ar gymunedau Cymru. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn cytuno bod Brexit 'dim bargen' yn fwy tebygol yn awr nag yr oedd cyn uwchgynhadledd Salzburg, a all Ysgrifennydd y Cabinet, yn y lle cyntaf, roi sicrwydd i'r Cynulliad hwn y bydd paratoadau ar gyfer 'dim bargen' yn cael eu gwella? Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr nad oes unrhyw ffordd o liniaru 'dim bargen', ond a oes camau'n cael eu cymryd yn awr i wella ein paratoadau ar gyfer canlyniad 'dim bargen'? Credaf fod yna lefel gynyddol o bryder yng Nghymru nad ydym mor barod ag y gallem fod. Nodaf, er enghraifft, y pryderon a godwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol sydd wedi dweud eu bod yn pryderu bod paratoadau Cymru ar gyfer Brexit yn gymharol gynnar o ran eu datblygiad, ac efallai nad oes digon o amser i fwrw drwy'r holl fanylion. Felly, a yw'n gallu ein sicrhau ei fod yn cynyddu'r ymdrechion i baratoi ar gyfer 'dim bargen' cymaint ag y bo modd?

Ac yn olaf, Lywydd, mae canlyniadau Salzburg wedi cynnwys Prif Weinidog y DU yn rhoi feto i'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd ar ffin galed yn Iwerddon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a'i gyd-Aelodau Cabinet wedi dweud wrthyf ar sawl achlysur fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth rhwng unedau cyfartal, ond nid oes gan Ogledd Iwerddon Lywodraeth hyd yn oed, ac eto mae gan un o'i phleidiau gwleidyddol feto ar ffin, ond byddwn ni yng Nghymru yn cael ein gorfodi i dderbyn y ffin galed ym Môr Iwerddon pe bai trefniant ôl-stop yn dod i rym. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban yn ymladd ymdrechion San Steffan i gipio grym yn y llysoedd. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: beth am Gymru? Yn ei farn ef, sut y gallwn osgoi ffin galed ym Môr Iwerddon, o ystyried y ffaith bod 'dim bargen' yn fwy tebygol, a sut y bydd ef, yn bwysig—ac mae hwn yn bwynt allweddol yn y cyd-destun cyfredol—sut y bydd yn creu dylanwad gwleidyddol yn y wlad hon sy'n un o'r gwladwriaethau mwyaf canoledig er mwyn amddiffyn buddiannau economaidd a gwleidyddol Cymru?

15:00

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau dilynol hynny. I roi'r sicrwydd y mae'n gofyn amdano, rydym yn parhau i gymryd pa gamau bynnag a allwn ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn paratoi ar gyfer trychineb na fyddem wedi bod ag unrhyw ran yn ei greu, ac rydym yn gwneud hynny yn y ffordd a ddywedodd—rydym yn gwneud ein gorau glas yn yr amgylchiadau anffafriol iawn hynny. Os oes unrhyw sefydliadau yng Nghymru sydd â syniadau penodol ynglŷn â sut y gallem baratoi yn well ar gyfer y posibilrwydd hwnnw, rydym yn awyddus iawn i drafod hynny gyda hwy, a gwnawn hynny ar draws yr ystod lawn o gyfrifoldebau Cabinet.

Yn ei ail set o gwestiynau, mae Steffan Lewis yn cyfeirio at un o'r gwendidau allweddol ym Mhapur Gwyn Chequers, ac yn dweud nad yw'n darparu ateb i'r broblem fwyaf anhydrin yn y negodiadau, sef ffin galed ar ynys Iwerddon. Pan ddywedais ei bod yn ddyletswydd ar y rheini sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau i fynd i'r afael â hynny heb fod ar sail llinellau coch a safbwyntiau diysgog, gwneuthum hynny'n llwyr er mwyn canolbwyntio ar y nifer fechan o faterion sy'n hanfodol er mwyn bwrw ymlaen â Chequers, ac mae ffin Iwerddon ar frig y rhestr honno. Yn yr holl fforymau a fynychaf ar ran Llywodraeth Cymru, gresynaf yn fawr nad oes gennym gynrychiolwyr o weinyddiaeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon yno i helpu yn y trafodaethau hynny; rydym yn gweld eu colli bob tro. Yn eu habsenoldeb, gwnawn bopeth a allwn i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar bob cyfle i arfer y dylanwad y cyfeiriodd Steffan Lewis ato, gan ddibynnu ar rym ein dadl, ar y dystiolaeth a ddarparwn, ac ar ein gallu i ffurfio cynghreiriau gydag eraill o amgylch y bwrdd.

A wnewch chi gytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Prif Weinidog y DU wedi cael ei thrin yn hollol amharchus yn Salzburg yr wythnos diwethaf, a'i bod yn ceisio'i gorau glas i amddiffyn buddiannau'r wlad hon, gan gynnwys diogelwch y Deyrnas Unedig, sy'n gwbl hanfodol wrth gwrs?

Fe fyddwch yn gwybod mai dwy fargen yn unig a gyflwynwyd, os mynnwch, sy'n cael eu hystyried yn dderbyniol gan yr UE. Byddai'r gyntaf yn golygu y byddai'n rhaid i ni dderbyn mewnfudo heb reolaeth, y byddai'n rhaid i ni dderbyn pob un o reolau yr UE, na fyddem yn gallu gwneud bargeinion masnachu ar ein pen ein hunain gyda gwledydd eraill o gwmpas y byd, ac wrth gwrs, byddai hynny'n gwneud y refferendwm a gynhaliwyd, pan bleidleisiodd pobl dros adael yr UE am lawer o'r union resymau hynny, yn destun gwawd.

Y peth arall a gynigir gan yr UE, wrth gwrs, yw cytundeb masnach rydd ar gyfer Prydain Fawr, ond ar gyfer Prydain Fawr yn unig, gan eithrio Gogledd Iwerddon, a fyddai'n parhau o fewn yr undeb tollau sydd eisoes yn bodoli fel rhan o'r farchnad sengl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn tanseilio undod y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Nawr, wrth gwrs, mae Senedd y DU—[Torri ar draws.] Gallaf glywed pobl yn achwyn ar feinciau'r cenedlaetholwyr, fel y buaswn yn ei ddisgwyl a minnau'n ceisio sôn yn ffafriol am Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ond y realiti yw bod Senedd y DU eisoes wedi gwrthod yn hollol unfrydol yr awgrym y dylai fod ffin ym Môr Iwerddon.

Felly, mae'n bryd i'r UE newid eu safbwynt yn awr i un sy'n fwy derbyniol i'r Deyrnas Unedig. Mae Prif Weinidog a Llywodraeth y DU yno, maent ar gael, maent eisiau siarad, maent eisiau taro bargen. Ond buaswn yn cefnogi'r Prif Weinidog, a buaswn yn gobeithio y byddech chithau hefyd, yn ei hymdrech i sicrhau na fydd unrhyw fargen yn tanseilio undod y Deyrnas Unedig. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym: a wnewch chi gefnogi'r Prif Weinidog wrth iddi geisio amddiffyn y Deyrnas Unedig? Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y bleidlais a gynhaliwyd yma, pan bleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE, yn cael ei hanrhydeddu'n llwyr? 

15:05

Wel, Lywydd, fel y gŵyr yr Aelod, byddem yn cefnogi bargen gan y Prif Weinidog ar yr amod ei bod yn bodloni'r chwe phrawf a nodwyd gan y Blaid Lafur. Os yw hi'n dychwelyd gyda bargen sy'n sicrhau perthynas gref a chydweithredol gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol, os yw hi'n dychwelyd gyda bargen sy'n darparu'r un manteision ag sydd gennym ar hyn o bryd fel aelodau o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, os yw hi'n gallu sicrhau bod mewnfudo'n cael ei reoli'n deg er budd yr economi a chymunedau, ac os yw hi'n gallu diogelu hawliau ac amddiffyniadau, mae gobaith y gallwn gefnogi bargen o'r fath. Yn ôl y safbwynt y mae hi ac eraill yn ei Llywodraeth wedi'i arddel hyd yn hyn, ni fydd yn taro bargen o'r fath. 

Mae'r Aelod yn cyfeirio at wawd. Mae'r gwawd y mae'r Prif Weinidog yn ei wynebu, i'w deimlo gryfaf o'i meinciau cefn ei hun, lle mae'r syniadau a gyflwynir ganddi yn cael eu gwawdio yn yr iaith gryfaf gan bobl a oedd, ychydig wythnosau ynghynt, yn eistedd o gwmpas bwrdd ei Chabinet ei hun. Dyna yw'r gwawd sy'n wynebu'r Prif Weinidog.

A phan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn yn syml mewn perthynas ag Iwerddon er enghraifft, am i'r trefniant ôl-stop a gytunwyd—a gytunwyd—gan ei Llywodraeth gael ei anrhydeddu yng ngham nesaf y negodiadau, ni ddylem synnu eu bod yn disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r hyn y maent wedi cytuno arno.

Clywaf y thema sy'n datblygu ymysg cefnogwyr Brexit, ac mae ef wedi'i hailadrodd yma y prynhawn yma, mai mater i'r Undeb Ewropeaidd yn awr rywsut yw datrys y llanastr a grëwyd gan ei Lywodraeth. Nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn gadael y Deyrnas Unedig. Mae'r Deyrnas Unedig wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n llawn o bobl a ddywedodd wrthym mai hwn fyddai'r cytundeb hawsaf i'w negodi erioed—cyfrifoldeb y Llywodraeth honno yw meddwl am atebion a pheidio â cheisio rhoi'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau eraill.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener, fel AC lleol ac aelod o Gymdeithas Hanes Cwm Cynon, byddaf yn ymuno ag aelodau'r gymdeithas i ddadorchuddio plac glas i Neuadd George yn Athrofa Penrhiwceibr.

Ganed Hall yn y pentref yn 1881, a dechreuodd weithio yn y pwll glo lleol pan oedd ond yn 11 mlwydd oed. Ag yntau wedi cael ei ethol yn atalbwyswr gan ei gydweithwyr ar ôl 18 mlynedd ar wyneb y gwaith, roedd Hall yn undebwr llafur brwd.

Arweiniodd hyn ef i mewn i wleidyddiaeth Lafur, ac yn 27 mlwydd oed, ef oedd cynghorydd Llafur cyntaf ei ward ar gyngor Aberpennar. Yn 1922, daeth Hall yn AS dros Aberdâr, gan ddal swydd is yn Llywodraeth 1929 a Llywodraethau clymblaid adeg y rhyfel, a chafodd ei gydnabod fel un o'r rhai cyntaf i rybuddio ynglŷn â ffasgiaeth ryngwladol.

Ag yntau wedi chwarae rhan mewn negodiadau ar ffoaduriaid ac ailadeiladu adeg y rhyfel, penodwyd ef i Gabinet cyntaf Clement Attlee fel Ysgrifennydd trefedigaethol. Rhoddodd hyn gyfle iddo roi llawer o'r diwygiadau y bu'n eu hyrwyddo ers tro ar waith. Yn ddiweddarach, cafodd ei enwi'n Is-iarll Hall a'i benodi'n bennaeth gwleidyddol y llynges.

Aeth Hall ati i sicrhau bod pobl eraill yn cael y cyfleoedd addysgol na chafodd ef ei hun, roedd yn llywodraethwr ysgol a phrifysgol, a sefydlodd gronfa fel y gallai pobl ifanc deithio. Pan gafodd ei wneud yn Arglwydd, cododd etholwyr £2,000 i anrhydeddu ei wasanaeth, a rhoddodd yr arian i'r achos hwn.

Fel y nodwyd pan gafodd ei benodi i Dŷ’r Arglwyddi, roedd Hall yn alluog mewn amrywiaeth eang o feysydd, ond roedd hefyd yn arbenigwr cymwys iawn. Wrth i'w blac gael ei ddadorchuddio, gallwn fyfyrio ar ei hanes aruthrol.

15:10
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgor, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Julie James.

Cynnig NDM6802 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dawn Bowden (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynnig NDM6803 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Lee Waters (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynnig NDM6804 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Vikki Howells (Llafur).

Cynnig NDM6805 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Lee Waters (Llafur).

Cynnig NDM6806 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jenny Rathbone (Llafur).

Cynnig NDM6807 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jack Sargeant (Llafur).

Cynnig NDM6808 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dawn Bowden (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle John Griffiths (Llafur).

Cynnig NDM6809 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Dawn Bowden (Llafur).

Cynnig NDM6810 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jack Sargeant (Llafur).

Cynnig NDM6811 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Rhianon Passmore (Llafur).

Cynnig NDM6812 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Jayne Bryant (Llafur).

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol a Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.

Cynnig NDM6798 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich Gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ac yn benodol, y rhai a rannodd eu profiadau personol o wahaniaethu yn y gweithle.

Roeddem yn gallu clywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol, drwy ein fforwm ar-lein, grwpiau ffocws, a thrwy'r rhai a rannodd eu straeon â'r dylanwadwr cymdeithasol enwog a'r ymgyrchydd dros weithio hyblyg, Anna Whitehouse, a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'n bwysig clywed profiadau bywyd pobl, ac fe gyfoethogodd y dystiolaeth hon ein dealltwriaeth yn fawr.

Yn 2016, canfu arolwg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth eang o wahaniaethu yn y gweithle tuag at fenywod beichiog a rhieni. Canfu fod hyd at 54,000 o fenywod ym Mhrydain yn colli eu swyddi bob blwyddyn—[Torri ar draws.]. Ymddiheuriadau, Lywydd. Ac wrth gwrs, mae pob un o'r swyddi hynny a gollir yn drychineb bersonol i'r bobl yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd yn wir. Ac o edrych ar y cyfanswm, mae'n golled fawr i'r economi.

Ym mis Mawrth, Lywydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rydym yn credu bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn nodi materion hollbwysig y mae angen rhoi sylw iddynt er mwyn cyflawni'r nod hwn. Mae atal cyfran fawr o'r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a'u profiadau i'r gweithlu yn annheg ac nid yw'n gwneud synnwyr economaidd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai cydraddoldeb i fenywod arwain at gynnydd o 10% yn economi'r DU. Er nad yw cyfraith cyflogaeth wedi'i ddatganoli, mae digon o arfau ar gael at ddefnydd Llywodraeth Cymru, fel sy'n cael ei gydnabod yn ei hymateb i'n hadroddiad.

Mae gweithio hyblyg yn allweddol i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Clywsom dystiolaeth rymus gan amrywiaeth o dystion ar ba mor bwysig yw ei gynnig i weithwyr. Eto, yn anffodus, ymhlith gwledydd y DU, Cymru sydd â'r gyfran isaf o gyflogwyr sy'n sicrhau ei fod ar gael. Mae'n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ond un o'n hargymhellion ar y materion arbennig hyn. Ac mae hefyd yn galonogol fod Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr, eisoes yn hysbysebu pob swydd fel swyddi hyblyg yn ddiofyn. Credwn y dylai awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu'r arfer ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n chwilio am waith yn gwybod bod gweithio hyblyg yn opsiwn a'i fod yn eglur yn hysbyseb a disgrifiad y swydd. Mewn gwirionedd, byddai'n dda cynnwys slogan debyg i slogan Llywodraeth yr Alban, 'hapus i drafod gweithio hyblyg' ar gyfer pob un o hysbysebion swyddi Llywodraeth Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau sector cyhoeddus eraill i ddilyn ei hesiampl.

Clywsom am yr heriau penodol sy'n wynebu athrawon. Mae argymhellion 5, 6 a 7 yn galw am fwy o hyblygrwydd iddynt. Mae ymateb y Llywodraeth yn galonogol, ond byddem yn croesawu rhagor o eglurhad mewn perthynas â phryd y bydd y canllawiau recriwtio perthnasol yn cael eu hadolygu a'u diweddaru.

Er ein bod yn gweld arwyddion calonogol yn y sector cyhoeddus, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn mentrau preifat, felly mae angen i ni newid agweddau a chyfleoedd ar gyfer gweithio hyblyg yn y sector hwn hefyd ac mae nifer o ysgogiadau ar gael i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar newid o'r fath, yn bennaf drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd, caffael, a'r cyngor a'r cymorth a gynigir gan Busnes Cymru.

Os yw Llywodraeth Cymru am arddel yr uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n rhaid iddi weithio'n galetach i sicrhau bod gweithio hyblyg ar gael ar draws y sector preifat. Gydag arweiniad da a meddwl creadigol, dangosodd ein tystiolaeth y gall weithio ym mhob math o weithleoedd, gan gynnwys ffatrïoedd fel ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion perthnasol, a chredaf mai dyma lle mae'r ymateb braidd yn wan. Mae argymhelliad 9 yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod busnesau sy'n manteisio ar eu cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a bod hwn yn cael ei wneud yn ofyniad allweddol yn y contract economaidd. Caiff hyn ei dderbyn mewn egwyddor, ond byddem yn hoffi ymrwymiad cryfach i sicrhau bod cwmnïau sy'n derbyn cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg mewn gwirionedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o bwyslais ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, mewn perthynas â'r argymhelliad hwn ac eraill. Byddem yn hoffi cael ymrwymiad i ddarparu ymateb pellach i'r argymhellion perthnasol ar ôl cael adroddiad y Comisiwn. Clywsom fod gan Busnes Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn darparu cymorth a chyngor i'r sector preifat ond nad yw'n cyflawni'n ddigonol ar hyn o bryd, a gellid sicrhau newid cadarnhaol yn hawdd.

Derbyniwyd argymhellion 4 a 23, sy'n galw ar Busnes Cymru i roi cyngor arbenigol i gyflogwyr ar sut i ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg, ac i'r gefnogaeth gynnwys cyngor a chymorth ar recriwtio niwtral o ran y rhywiau, ond rydym yn credu y dylai fod ymrwymiad clir i adolygu sut y mae Busnes Cymru yn darparu'r cyngor a'r cymorth hwn. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen yr adolygiad hwn yn awr.

Yr ochr arall i'r un geiniog yw pa mor bwysig yw hi i rieni a darpar rieni gael mynediad at gyngor manwl o ansawdd da am eu hawliau a rhwymedigaethau eu cyflogwyr. Mae hwn yn faes arall lle teimlwn y gellir gwneud llawer mwy. Mae Maternity Action yn gweithredu llinell gyngor ledled y DU, ac nid oes digon o bobl i ymdopi â nifer y galwadau. Dywedwyd wrthym nad ydynt ond yn gallu ateb un o bob pump galwad. Adlewyrchwyd hyn yn y dystiolaeth a glywsom gan unigolion a geisiodd gael gafael ar gyngor a chymorth arbenigol. Felly, mae argymhelliad 28 yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i gynyddu'r ddarpariaeth o gyngor arbenigol ar faterion rhianta a chyflogaeth. Wrth dderbyn yr argymhelliad, mae'r Llywodraeth yn datgan bod Busnes Cymru yn darparu cyngor ac y bydd y Llywodraeth yn ystyried darparu cyngor sy'n ymwneud â chyflogaeth ar ôl i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg gael ei gyflwyno, ond nid ydym yn cyfeirio at gyngor i gyflogwyr yn yr adroddiad hwn, ond yn hytrach, at gyngor i gyflogeion, ac nid ydym yn credu bod angen i hynny aros am adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Byddem yn gofyn i ystyriaeth bellach gael ei rhoi i'r mater pwysig hwn yn awr. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru'n cymryd camau i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ansawdd cyngor gyrfaoedd ar gyfer rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith. Rydym yn falch o weld yr ymrwymiad i ofyn i Gyrfa Cymru ystyried rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith wrth ddatblygu porth cyngor cyflogaeth. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini a fydd yn darparu cymorth gyrfa i bobl yn meddu ar arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â rhianta a gwaith.

Wrth gwrs, wrth wraidd yr holl faterion hyn mae syniadau diwylliannol sydd wedi hen ymwreiddio ynglŷn â menywod a rhianta, ac maent yn creu rhwystr aruthrol i ymdrechion i newid deddfwriaeth a blaenoriaethau'r Llywodraeth oherwydd y realti sylfaenol hwnnw sy'n galw am newid yn y gymdeithas ehangach a chymorth ar gyfer newid angenrheidiol, boed drwy ddeddfwriaeth neu strategaeth a pholisi. Rydym yn gwybod na fyddwn yn dileu gwahaniaethu ar sail mamolaeth neu feichiogrwydd tra bo gofal di-dâl yn cael ei ystyried fel cyfrifoldeb i fenywod yn unig. Codwyd y materion hyn dro ar ôl tro. Clywsom am achosion o wahaniaethu yn erbyn pobl ar y cam recriwtio a rhoi dyrchafiad oherwydd eu bod yn fenywod ac oherwydd ei bod yn bosibl y byddent angen absenoldeb mamolaeth ar ryw adeg yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, gall hyn weithio'r ddwy ffordd, gydag agweddau sydd wedi ymwreiddio ynglŷn â rolau rhywedd yn atal dynion rhag gallu ysgwyddo cyfrifoldebau gofal plant pan fyddant yn dymuno gwneud hynny.

Mae gan bawb rôl i'w chwarae yn herio'r stereoteipiau hyn sy'n atal menywod a dynion fel ei gilydd, ond y dull gorau yw atal y syniadau hyn rhag dod yn norm yn y lle cyntaf, ac addysg yw'r arf gorau i wneud hynny. Felly, rwy'n falch fod argymhelliad 22, sy'n galw am gynnwys rolau rhywiau a rhianta yn yr addysg rhyw a pherthnasoedd newydd, wedi cael ei derbyn.

Fel rhan o'n gwaith craffu, buom yn ystyried cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, a gwnaethom argymhellion 13 i 15. Derbyniodd y Llywodraeth un o'r rhain mewn egwyddor, a gwrthod y ddau arall. Wrth gwrs, cafodd y materion hyn eu gwyntyllu yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan drafodwyd y ddeddfwriaeth, ac nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd, ond gan fod yr egwyddorion cyffredinol wedi'u cytuno bellach, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu polisïau a fydd yn ehangu mynediad at ofal plant fforddiadwy, gan fod hwn yn arf hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Yn olaf, daethom i'r casgliad fod angen data gwell mewn perthynas â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyfraddau cadw staff ar famolaeth. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn yr ymateb i gyhoeddi data cyflogaeth a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn un lleoliad, ac rydym yn falch o weld y bydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth fanwl i argymhelliad 24, lle roeddem yn galw am gasglu cyfraddau cadw staff ar famolaeth fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn croesawu'r adolygiad o'r dyletswyddau cydraddoldeb hyn, a fydd hefyd yn ystyried lleihau'r baich gweinyddol ar y sector cyhoeddus. Hoffem eglurder ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer yr adolygiad hwn ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd a phenderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Ddirprwy Lywydd, os yw Cymru am fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, bydd gwneud newidiadau mewn perthynas â rhianta a chyflogaeth yn cyfrannu'n sylweddol tuag at wireddu hyn. Ni allwn ganiatáu i bethau barhau fel y maent. Mae'n bryd i'r byd gwaith addasu a newid er mwyn ystyried y newidiadau yn y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Rwy'n edrych ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr.

15:20

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd—yn sicr, am yr amser yr oeddwn ar y pwyllgor hwnnw—i'r clerc ac i aelodau eraill y pwyllgor. Roedd hwn yn waith diddorol iawn i'w wneud, ac i mi roedd yn dda iawn oherwydd ei fod, wrth gymryd tystiolaeth, yn dod â phobl ynghyd o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Gwnaeth ein hadroddiad 34 o argymhellion cynhwysfawr, a bwriad pob un yw mynd i'r afael â rhai o'r materion cyfredol sy'n ymwneud â hyblygrwydd swyddi, gwahaniaethu ar sail mamolaeth a rhagfarn ar sail rhywedd o fewn cwmpas cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn y gweithle.

Mewn Cymru ddatganoledig, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'n gweithleoedd ddod yn arweinwyr byd mewn hawliau menywod, cydraddoldeb rhwng y rhywiau—uchelgais rwy'n gobeithio y bydd llawer yn y Siambr hon yn ei rhannu. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae angen uchelgais, arloesedd a dyhead. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 30 argymhelliad mewn egwyddor allan o 34 argymhelliad. Gan ddechrau mor gynnar ag argymhelliad 1, os caiff ei roi ar waith, bydd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn hysbysebu pob swydd fewnol fel rhai hyblyg yn ddiofyn, a bydd hefyd yn darparu canllawiau i annog awdurdodau cyhoeddus—yr holl awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru—i wneud yr un peth. Mae argymhelliad 4 yn sicrhau y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i annog Busnes Cymru i ddarparu cyngor priodol ac arbenigol i gyflogwyr ynglŷn â sut i ymdrin â cheisiadau i weithio'n hyblyg mewn modd effeithiol—cam pwysig, o ystyried y gwacter a amlygwyd gan lawer o dystion. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, nid gweithio rhan-amser yn unig y mae gweithio hyblyg yn ei olygu. Mae'n cynnwys unrhyw ffordd o weithio sy'n gweddu i anghenion y cyflogai: rhannu swydd, amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, gweithio yn ystod y tymor a threfniadau eraill. Bydd y gwelliannau hyn yn rhoi dewis i ddynion a menywod fel bod rhieni yng Nghymru yn gallu gweithio mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy a'u teuluoedd, tra'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyfredol rhwng y rhywiau. Bydd hefyd yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.

Yn bwysig, rwy'n falch o weld y bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o hysbysebu swyddi addysgu fel rhai hyblyg yn ddiofyn yn y Canllaw i'r Gyfraith i Lywodraethwyr, a amlinellwyd yn argymhelliad 6. Mae hyn yn gynyddol bwysig, gan fod dadansoddiad gan y Gyfnewidfa Bolisi wedi awgrymu y dylai ysgolion groesawu gweithio hyblyg er mwyn atal menywod rhag rhoi'r gorau i addysgu yn barhaol ar ol cyfnod mamolaeth. Bydd hyn eto yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er bod addysgu'n cael ei ystyried yn sector sy'n cael ei ddominyddu gan fenywod, 33 y cant yn unig o benaethiaid ysgolion uwchradd sy'n fenywod. Gyda dynion yn dal y swyddi uchaf o hyd, bydd caniatàu i fenywod ddychwelyd i'r gwaith ar eu telerau eu hunain yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y sector yn helaeth heb fod angen i fenywod aberthu eu teuluoedd.

Os bydd rhiant yn gallu dychwelyd i waith hyblyg, bydd angen gofal plant yn ddi-os. Mae argymhelliad 14 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau pellach y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am ofal plant ar gyfer plant rhwng un a thair blwydd oed. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwn i gynorthwyo rhieni sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithle'n gynt. Roeddwn yn siomedig am hynny, o ystyried faint o dystiolaeth a gawsom lle mae menywod yn dymuno dychwelyd i'r gwaith pan fo'r plentyn tua blwydd oed.

Nawr, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad heddiw ynglŷn â sut y bydd mwy a mwy o awdurdodau lleol yn gweithredu'r cynnig cyfredol, ac rwy'n falch o weld y bydd fy awdurdod fy hun, Conwy, yn symud ymlaen i awdurdod llawn o fis Ionawr 2019 ymlaen. Ond rwy'n dal i deimlo nad ydych yn llwyddo i fynd i'r afael â'r gwaith o ddarparu cymorth o oedran iau, er gwaethaf y dystiolaeth a gafodd ein pwyllgor yn tynnu sylw at yr angen am y cymorth estynedig hwn. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd bod digon o gymorth ar gael eisoes i helpu rhieni gyda chostau gofal plant, gan ddefnyddio credyd cynhwysol fel enghraifft. Er bod gofal a ariennir gan y Llywodraeth ar gael i bawb ar gyfer plant rhwng tair a phedair oed, ac ar gael i rai sy'n gymwys ar gyfer plant rhwng dwy a thair oed, nid oes unrhyw gymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant o dan ddwy oed ar hyn o bryd—cyfle a gollwyd. Awgrymodd YESS (Your Employment Settlement Service) y dylai'r cynnig gofal plant fod ar gael o naw mis oed ymlaen. Galwodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru am i'r cynnig fod ar gael o chwe mis oed ymlaen. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y galwadau hyn, ac i blaid sydd wedi ymrwymo i weithredu gofal iechyd ac yn fwy diweddar, addysg, o'r crud i'r bedd, mae'n ymddangos yn eironig eu bod yn rhwystro plant a theuluoedd rhag derbyn cymorth pan fo'i angen fwyaf, gan ddisgwyl i rieni aros dwy neu dair blynedd cyn derbyn y cymorth ariannol mawr ei angen hwn. Felly, hoffwn wybod pa sail resymegol sydd wrth wraidd y penderfyniad hwn i gefnogi cynlluniau rhwng dwy a phedair oed yn unig.

Roedd argymhelliad 15 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu'r cynnig, gan ddefnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth a gwybodaeth—ac unwaith eto, cafodd ei wrthod. Clywodd y pwyllgor gan Chwarae Teg, a bwysleisiodd na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwbl gaeth i'r cynnig presennol. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwbl gaeth i delerau eu cynnig gofal plant presennol ac nid ydynt yn barod i newid cwmpas y cynnig er bod galw clir amdano. Yn eu hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn deall y ddadl ynglŷn â pharamedrau'r cynnig, ond yn amlwg nid oes ganddynt unrhyw fwriad o fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

Yn gyffredinol, rwy'n fodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru, ond mae mwy i'w wneud. Darparwch y gofal angenrheidiol i blant o flwydd oed ymlaen i rieni sy'n dychwelyd i'r gwaith os gwelwch yn dda. 

15:25

Rydw i yn falch iawn o gyfrannu at y drafodaeth yma ar rianta a chyflogaeth. Mae fy mhrofiad i fel menyw yn magu pedwar o blant ar fy mhen fy hun a'r rheidrwydd i barhau i weithio drwy'r cyfnod hwnnw yn gefndir defnyddiol, rydw i'n credu. Nid ydy cymryd rhan yn yr ymchwiliad gan y pwyllgor ddim wedi bod yn brofiad pleserus, mae'n rhaid dweud, achos rydym yn canfod bod menywod yn dal i wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar lefelau cwbl annerbyniol yn y byd gwaith hyd heddiw. Mae'n achos pryder bod peth o'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor yn awgrymu bod pethau yn gwaethygu yn lle gwella, gydag ACAS, er enghraifft, yn adrodd y bu cynnydd o 10 y cant mewn galwadau yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae yna un peth yn hollol amlwg: mae bod yn fam yn arwain at gosb ariannol gan greu anghyfartaledd cyflogau ar sail rhywedd a'r anghyfartaledd yna yn gwrthod shifftio. Nid ydy enillion tadau, ar y llaw arall, ddim yn cael eu heffeithio yn gyffredinol gan fagu plant. Mae yna gamau ymarferol y gellid eu cymryd ac mae'r pwyllgor yn nodi gweithio hyblyg a gofal plant fel dau fater penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Law yn llaw â hynny, mae angen creu newid diwylliannol anferth er mwyn creu newid pellgyrhaeddol a llawn. Fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ei grybwyll, mae gan y byd addysg rôl amlwg iawn i chwarae yn hynny ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn gwreiddio yn y maes perthnasau a rhyw.

Mae'r angen am y newid diwylliannol yma i'w weld yn reit glir pan rydym yn trafod gweithio'n hyblyg, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys rhannu swyddi, ac yn bwnc rydw i wedi ei godi yn fan hyn sawl gwaith. Wrth ymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn derbyn yr egwyddor o weithio hyblyg ar gyfer eu staff. Ond yn y pwyllgor mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai dim ond chwarter o staff y Llywodraeth sydd yn gweithio ar sail polisïau gweithio'n hyblyg. Nid ydy hynny'n unigryw i'r Llywodraeth; mae'n debyg ei fod yn wir ar draws sefydliadau yng Nghymru. Hynny yw, mae modd, efallai, gwneud rhywbeth mewn theori—gweithio'n hyblyg mewn theori—ond nid ydy o wedyn yn trosglwyddo i rywbeth sydd yn digwydd ar lawr gwlad.

Rŵan, rydw i'n gredwr cryf bod angen i Lywodraeth arwain drwy esiampl. Ac, felly, rydw i'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darn o waith i ganfod pam fod cyn lleied o'u staff nhw yn dewis gweithio'n hyblyg. Beth ydy'r rhwystrau rhag symud ymlaen i wneud yr hyn mae gan bobl yr hawl i wneud? Beth sy'n dal pobl yn ôl? Ac o ganfod rhai o'r rhwystrau yma, sydd, mae'n debyg, yn wir i ddynion yn ogystal â merched—beth ydy'r rhwystrau sydd yn dal pobl yn ôl? Ac o ganfod hynny, efallai y gwnawn ni symud tuag at sefyllfa lle mae gweithio'n hyblyg yn llawer mwy naturiol fel rhan o fywyd y gweithlu yng Nghymru. A beth am gynnig hynny fel ffordd dda iawn o roi ffocws i ddyhead y Prif Weinidog i greu Llywodraeth ffeministaidd? Rydw i'n deall bod yna grŵp o weision sifil wedi gwneud 12 o argymhellion ar rannu swyddi a gweithio'n rhan amser yn y gwasanaeth sifil uwch. Buaswn i'n licio clywed mwy am sut mae'r gwaith yna yn mynd ymlaen. A ydy'r argymhellion yma wedi cael eu derbyn? Ac a ydyn nhw'n cael eu gweithredu yn llawn erbyn hyn?

Yn y maes addysg, rydw i'n siomedig nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl y gall hi ddiwygio taliadau neu lwfansau addysgu a dysgu er mwyn caniatáu i gyfrifoldebau gael eu rhannu rhwng dau neu ddwy aelod o staff. Mae'r pwyllgor wedi nodi bod menywod yn y proffesiwn dysgu yn wynebu llawer o rwystrau ac nid wyf yn deall y rhesymeg dros wrthod yr argymhelliad yma. Roedd yr argymhelliad yn galw am ddiwygio'r taliadau, ond beth gawn ni gan y Llywodraeth ydy esboniad nad ydy'r system bresennol yn caniatáu hynny. Wel, dyna'r union bwynt o roi'r argymhelliad ymlaen—er mwyn creu newid o fewn y system.

A jest i droi, ar y diwedd fel hyn, at ofal plant. Ac mae argymhellion y pwyllgor, sydd â'u bwriad o wella'r polisi gofal plant y mae'r Llywodraeth wrthi'n ei gyflwyno ar hyn o bryd—mae'r argymhellion yma wedi cael eu gwrthod. A dyma'r ail bwyllgor i ddod i ganlyniadau tebyg ond, eto, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn benderfynol o lynu at y polisi diffygiol. A rhan o'r rheswm sy'n cael ei gynnig dros wneud hynny ydy bod y cynnig gofal plant yn rhan greiddiol o faniffesto'r Blaid Lafur, ac yn nodwedd ganolog o'r rhaglen ar gyfer llywodraeth. Wel, yn fy marn i, nid ydy gwrthod argymhelliad oherwydd ymrwymiad maniffesto ddim yn arwydd o agwedd aeddfed tuag at waith craffu, ac mae yna dystiolaeth sylweddol erbyn hyn bod polisi'r Llywodraeth yn anghywir. Mae barn yr arbenigwyr yn glir, mae barn y comisiynydd plant yn glir, ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau ar hyd llwybr a fydd yn creu system gofal plant na fydd yn addas i bwrpas.

Rwy'n tawelu efo hynny. Mae llawer o argymhellion eraill y pwyllgor wedi cael eu derbyn, ac rwyf yn edrych ymlaen rŵan at ddod yn ôl at y pwnc pwysig yma, ac i weld mwy o gynnydd y tro nesaf.

15:35

Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwy'n cefnogi'r holl argymhellion, sy'n cyd-fynd â fy ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau chwarae teg yn y gweithlu yng Nghymru. Yn wir, mae'n mynd â mi yn ôl i fy amser fel cydgysylltydd cyntaf Chwarae Teg ar ddechrau'r 1990au, ac mae llawer o'r materion a oedd gyda ni bryd hynny yn dal i fod gyda ni heddiw. Ond mae yna gynnydd, a chyfle yn awr, drwy'r Cynulliad, i ddod â'r dystiolaeth hon at ei gilydd. Roeddwn yn falch hefyd o chwarae fy rôl fel Gweinidog wrth gyflwyno'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol, fel y'u pennwyd yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Ac rwyf wedi croesawu'r adolygiad cam 1 o gydraddoldeb rhywiol. Felly, mae gennym Lywodraeth Cymru yn awr sy'n gallu ymateb i'r dystiolaeth hon, a'r argymhellion hyn—Llywodraeth Cymru flaengar i ymateb i argymhellion y pwyllgor.

Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1, 2 a 3, sy'n ymwneud â gweithio hyblyg yn ddiofyn, ac argymhellion ac anogaeth i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl—i arwain o'r brig. Rwy'n cytuno'n gryf â safbwyntiau Siân Gwenllian ar y pwynt hwn. Mae angen inni weld hynny ar waith yn awr, drwy annog rhannu swyddi mewn rolau arweinyddol; beth yw'r rhwystrau i fwrw ymlaen â hyn? Yn wir, mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 yn dderbyniol iawn—fod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â swyddogaethau gweinidogol, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisoes yn croesawu ceisiadau i rannu swyddi ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Ond byddai'n rhaid imi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a oes gennym unrhyw enghreifftiau o hyn mewn gwirionedd? Os oes, rwy'n falch iawn; gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei phen. Ond nid wyf yn siŵr faint o bobl sy'n ymwybodol fod hyn—. Ac wrth gwrs, mae hyn ar gyfer dynion yn ogystal â menywod, o ran y cyfleoedd.

Nawr, rwy'n ymwybodol fod aelodau o gabinet cyngor dinas Abertawe yn rhannu swydd, Mike Hedges—ac efallai ei fod am wneud sylw ar hyn yn ogystal. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i hwyluso rhannu swyddi rolau cabinet mewn llywodraeth leol. Ac rwy'n dweud, Ddirprwy Lywydd, fod hwn yn fater y buom yn ei drafod ers degawdau. Yn wir, cyfeiriais mewn dadl flaenorol at lyfr a ysgrifennais yn 1992, 'Gwneud Cyfleoedd: Canllaw i Fenywod a Chyflogwyr', a byddai'n dweud yr un pethau heddiw, er y gallai'r iaith newid ychydig:

Mae rhannu swyddi'n cael ei weld fel atyniad mawr wrth recriwtio a chadw gweithwyr benywaidd, yn enwedig i'r rheini sy'n cael, neu sydd wedi cael seibiant gyrfa. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan weithwyr gwrywaidd fel ffordd o gyfuno cyfrifoldebau'r cartref a gwaith, ac arallgyfeirio profiadau gwaith.

Wel, yn 1992 oedd hynny, ac rydym yn dal i ddweud yr un pethau heddiw. Mae gwir raid inni symud hyn yn ei flaen.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn gofyn cwestiynau am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac yn wir, Fforwm Economaidd y Byd a ddywedodd y byddai'n rhaid i fenywod aros am 217 o flynyddoedd cyn eu bod yn ennill cymaint â dynion, a hynny yn ôl yr adolygiad byd-eang o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Unwaith eto, sut y gallwn sicrhau nad ydym yn colli golwg ar y ddyletswydd statudol, a gafodd gyhoeddusrwydd yn gynharach eleni wrth gwrs, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddatgan eu proffil o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau? Felly, hoffwn wybod hefyd a fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i faniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i haneru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 15 y cant i 7 y cant erbyn 2028. Byddai'n dda hefyd pe bai'r Llywodraeth yn cefnogi hynny.

Yn olaf, rwy'n croesawu argymhellion 9 a 10, o ran cydnabod y cyfleoedd a'r ymateb i'r argymhellion yn ogystal—i Lywodraeth Cymru ysgogi newid fel meini prawf allweddol yn y cytundeb economaidd. Contractau cyllido, cod caffael—y rhain yw'r ffactorau sy'n sbarduno newid. Rwy'n croesawu, yn ogystal, o ran gofal plant, argymhelliad 16 yn arbennig ynghylch gofal plant cofleidiol. Buaswn yn dweud, rwy'n credu, bod darparu brecwast ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd—rwyf wedi dweud bob amser y byddai wedi bod yn dda gennyf fod wedi cael hynny pan oedd fy mhlant yn ifanc, oherwydd mae'n darparu gofal plant am ddim o 08:15 yn y bore, yn ogystal â brecwast maethlon, yn rhad ac am ddim.

Yn olaf, hoffwn groesawu'r dystiolaeth a'r argymhellion ar absenoldeb rhiant, i archwilio'r defnydd gwirioneddol o absenoldeb rhiant a rennir, gan ei fod yn ymwneud â'r ddau riant; nid â hawliau menywod yn unig y mae'n ymwneud, ond â newid yn y gymdeithas a dull gwaith/teulu o weithredu, fel y gwelwch yn glir iawn yn Sweden wrth gwrs. Rwy'n croesawu'r argymhelliad ar ddatblygu gwasanaethau cynghori arbenigol. Dylem allu cymryd yr awenau o ganlyniad i'r adroddiad pwyllgor hwn, ac rwyf hefyd yn gobeithio y gellid ei adlewyrchu yn y ffordd yr edrychwn ar faterion ehangach amrywiaeth a chydraddoldeb, nid yn unig yn y gweithlu, ond yma yn y Senedd hon.

15:40

Rwy'n croesawu'r adroddiad, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno â'r cyfan ohono bron, ond ar y pwynt hwn buaswn yn anghytuno rhywfaint â Jane Hutt, nid ar y peth diwethaf a dywedodd—rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am absenoldeb rhiant a rennir a'r lefelau isel o ddefnydd ohono—ond ar argymhelliad 3. Cyn i mi ymhelaethu ar hynny, hoffwn nodi'r cyflwyniad—paragraff 1, tudalen 15:

'Mae cael plant yn cael effaith gydol oes ar gyfraddau cyflogaeth menywod, eu cyfleoedd gyrfa a’u hincwm. Nid yw cyfran syfrdanol o fenywod yn mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cael plant, neu maent yn dychwelyd i swyddi rhan-amser am dâl is sy’n cyd-fynd â gofal plant.'

Yn hollol. Mae'n sicr yn wir, ac mae'r dystiolaeth yn ei ategu'n bendant ac yn eglur, a'r ffaith na theimlir yr un peth gan dadau. Ond hoffwn ychwanegu at hynny, oherwydd rhagdybiaethau'n ymwneud â'r rhywiau mewn perthynas â gofal plant, fod gan dadau—a chredaf fod John Griffiths wedi cydnabod hynny—fath gwahanol o bwysau yn eu bywydau sef gadael eu plant i fynd i weithio a darparu incwm sy'n llai o ganlyniad i gael plant, ac roeddwn yn teimlo hynny fy hun. Rwy'n dal i'w deimlo—rwy'n dad i ddau o blant bach. Ac o ran argymhelliad 3, gadewch imi ddweud pe bawn i mewn sefyllfa i gael cynnig lle yn y Llywodraeth, ni fuaswn yn ei dderbyn. Ni fuaswn yn gallu derbyn swydd yn y Llywodraeth yn y tymor Cynulliad hwn, ac nid oes unrhyw aelodau o ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yma i ddweud, 'Wel, ni fyddem yn cynnig un iddo beth bynnag'. Ond os wyf fi eisiau chwarae rhan ym mywydau fy mhlant, rhaid i mi i wneud yr aberth hwnnw. Felly, rwy'n cydnabod yr aberth hwnnw, ond os edrychaf ar argymhelliad 3, ni allaf weld sut y byddai rhannu swyddi'n gweithio i Weinidogion, yn yr ystyr nad yw'n swydd yn yr ystyr gonfensiynol. Ac mae'r un peth yn wir am Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol. Gyda Llywodraeth gyfrifol a Llywodraeth sefydlog, credaf y gallwch weithio'n hyblyg o fewn eich rolau ac nid wyf yn gweld sut y byddai'n dderbyniol i'r cyhoedd weld rhannu swyddi ar adeg etholiad. Ond gwn fod gan Aelodau yn y Siambr farn wahanol. Y rheswm pam rwy'n sôn am fy sefyllfa bersonol yw oherwydd fy mod yn dweud hynny o brofiad, rwy'n credu.

O ran argymhelliad 6—pob swydd addysgu i gael ei hysbysebu fel swydd hyblyg—mae'r Llywodraeth wedi derbyn hynny, ond mewn gwirionedd maent yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd mater i gyrff llywodraethu ydyw'. Hoffwn rywfaint o eglurder lle maent yn dweud:

'Bydd yn hanfodol bod yr adolygiad o dâl ac amodau athrawon yn ystyried yn llawn yr hyblygrwydd sydd ei angen i gynnal yr amrywiaeth o batrymau gwaith sydd ei angen ar ysgolion.'

Hoffwn wybod beth y mae hynny'n ei olygu. Rwy'n cymryd ei fod yn golygu hyblygrwydd o ran darparu cyflog, ond hoffwn fwy o wybodaeth am hynny. Mae'n dda gweld bod argymhelliad 8 yn adeiladu ar yr economi sylfaenol ac yn sôn am yr economi sylfaenol a'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yno. Mae'n braf gweld y ddeialog ar yr economi sylfaenol yn cael ei hystyried mewn pwyllgorau y tu hwnt i'r rhai y mae'r Aelodau sy'n hyrwyddo'r economi sylfaenol yn aelodau ohonynt.

Mae argymhelliad 16 yn annog y Llywodraeth i adolygu argaeledd presennol a chost gofal cofleidiol. Rydym wedi cael llawer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog mewn perthynas â'r cynnig gofal plant, ac yn gwybod bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar gael hyn yn gywir. Unwaith eto, o brofiad personol, rwyf wedi'i weld yn digwydd ac rwy'n credu bod angen i gyd-leoli gofal plant y cyfnod sylfaen, mewn ysgolion a chan ddarparwyr gofal, gael ei nodi a bod yn rhan o egwyddorion yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud.

Mae argymhelliad 30 yn annog Llywodraeth Cymru i greu ffynhonnell o gyngor ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â rhianta a chyflogaeth, gyda chymorth penodol wedi'i deilwra ar gyfer busnesau bach a chanolig. Wel, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi siarad llawer am fy mhrofiad gyda busnesau bach a chanolig, yn enwedig drwy fy ymchwil, a bûm yn siarad â rheolwr-berchennog ar un achlysur, a ddywedodd, 'Byddai fy staff yn bendant yn gweithio'n hyblyg. Nid gwneud y cyfrifon yn unig y mae fy nghyfrifydd, ef hefyd sy'n glanhau'r toiledau.' Ac o ran hynny, nid yw gweithio hyblyg wedi ei ddeall yn llawn ym mhob un o'r cymunedau sector preifat yr ydym wedi sôn amdanynt. Rhaid i weithio hyblyg fod er budd y gweithiwr, nid y cyflogwr. Nid yw hynny wedi'i ddeall. Rydym yn sôn am weithio hyblyg ac ar unwaith, mae cyflogwyr yn meddwl 'hyblygrwydd o ran sgiliau'. Nid dyna ydyw; 'hyblygrwydd o ran oriau' ydyw, ac mae angen i hynny gael ei ddeall yn iawn.

O'm rhan i, rwy'n cydnabod—ac rwyf wedi bod â diddordeb yn hyn ers amser maith fel athro mewn prifysgol—fod swydd naw tan bump y tu ôl i ddesg yn dod yn rhywbeth mwyfwy prin, a swyddi hyblyg sydd eu hangen arnom, nid yn lleiaf oherwydd problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn fy swyddfa, rwy'n annog gweithio hyblyg. Felly, caiff fy staff eu hannog i weithio'n hyblyg ac i weithio mor hyblyg â phosibl. Nid oes raid iddynt fod i mewn ar ddiwrnod pan nad yw'n ofynnol iddynt fod i mewn, gallant weithio o adref cymaint ag y bo modd, a chânt eu hannog i fynd ar drywydd datblygiad proffesiynol y tu allan i'r gwaith, ond datblygiad proffesiynol y maent yn eu dymuno ei weld.

Credaf y gall pawb ohonom, fel Aelodau Cynulliad, roi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn a'i ddefnyddio fel esiampl yn y ffordd y cyflogwn ein staff a'u galluogi i weithio'n hyblyg. Felly, gydag un cafeat bach iawn, rwy'n cefnogi'r adroddiad hwn.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn a chynhyrchu adroddiad mor gynhwysfawr ac ystyriol. Mae'n faes pwysig iawn o ystyried y goblygiadau pellgyrhaeddol i gynifer o bobl yng Nghymru. A hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Cadeirydd, John Griffiths, a lywiodd yr ymchwiliad mewn modd sensitif a diwyd drwyddo draw. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch hefyd i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, rhywbeth nad yw bob amser yn dasg hawdd, ond sy'n werthfawr dros ben serch hynny wrth lunio argymhellion y pwyllgor, fel y gwnaed yn eglur gan bawb o'r siaradwyr a gyfrannodd at y ddadl.

Mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i wella amodau i'r holl bobl sy'n gweithio yng Nghymru, ac rydym yn arbennig o awyddus i leihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn gwaith a gofal plant o fewn cwmpas ein cyfrifoldebau datganoledig. Fel y nodwyd gennym yn ein hymateb ffurfiol i'r pwyllgor, mae Prif Weinidog Cymru wedi arwain y ffordd o ran lleihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae wedi pennu targed beiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer Llywodraeth Cymru i ddod yn arweinydd byd mewn hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. I'r perwyl hwnnw, mae'r adroddiadau o gam 1 yr adolygiad cydraddoldeb rhywiol a gynhaliwyd gan Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno canfyddiadau heriol i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn ystyried y rheini ymhellach wrth inni symud at gam 2. Wrth gwrs, yr her yw sicrhau gweithio trawslywodraethol effeithiol a gwaith amlasiantaethol di-dor. Mae'r rheini'n ymadroddion hawdd i'w dweud, ond yn llawer anos eu cyflawni. A hefyd, ar yr un pryd, ceisio dylanwadu ar y meysydd hynny lle nad yw cymhwysedd wedi'i ddatganoli ond sydd er hynny'n rhan bwysig iawn o'n heconomi.

Clywsom heddiw am gydraddoldeb yn gyffredinol a rheoliadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn benodol, ac rwy'n fwy na pharod i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Jane Hutt, am lywio'r ddyletswydd cydraddoldeb drwodd, ond bellach mae'n gyfrifoldeb i mi, ac rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn fy mod yn disgwyl i weithredu cynnar wella'r modd yr adroddir ar y bylchau cyflog rhwng y rhywiau. Fel rhan o ddull cam 2, ac i ateb Siân Gwenllian a Jane Hutt yn benodol ar y cwestiwn hwn, rwy'n bwriadu gosod targed uchelgeisiol ar gyfer haneru, neu ddileu hyd yn oed, os meiddiaf ddweud, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Yr unig reswm nad wyf wedi cefnogi'r targed 'pryd' yw am fy mod eisiau gweld a allwn fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol na hynny. Felly, rwy'n edrych ar hynny, ac erbyn diwedd y tymor hwn, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn cyflwyno adroddiad i'r Siambr ar yr hyn y credwn y gallwn ei gyflawni o fewn amserlen resymol, oherwydd nid wyf yn meddwl ei bod yn dderbyniol o gwbl fod gennym fwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Mae angen inni fod yn esiampl yn hyn o beth. Sut y gallwn annog sefydliadau eraill yng Nghymru i wneud hyn yn briodol os nad ydym yn gallu ei wneud ein hunain?

Ar sail hynny, mae'n hanfodol fod gennym sylfaen dystiolaeth gywir ar gyfer gweithredu, ac felly rwy'n ei gwneud yn glir hefyd fod egwyddorion data agored—data sy'n dryloyw, yn hygyrch, ac yn hawdd ei ddefnyddio—yn ganolog i drefniadau adrodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru fel  nad oes unrhyw le i guddio. Gyda hynny mewn golwg, rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn edrych i weld pa reoliadau sydd angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn adrodd ar y materion hyn mewn un man hygyrch, a chyda data tryloyw, hwylus a hawdd ei gael. Felly, unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn dod â hynny'n ôl fel rhan o fy adroddiad cyn diwedd tymor yr hydref y Cynulliad hwn. Ai dyna'r ffordd gywir o'i ddweud? Cyn y Nadolig eleni, beth bynnag.

Rhaid i hyrwyddo gwaith teg fod wrth wraidd yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yma o ran lleihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Fel y dywed yr adroddiad, mae hyn yn hanfodol os ydym am sicrhau economi Gymreig sy'n darparu ffyniant cenedlaethol a phersonol tra'n lledaenu cyfle ac sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, gan gynnwys anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Y flwyddyn ddiwethaf, nododd y Bwrdd Gwaith Teg beth oedd gwerthoedd sylfaenol gwaith teg, sy'n cynnwys hawl i gael eich clywed, enillion teg a fesul awr gwarantedig, diogelwch swydd a dilyniant gyrfa, ac nid yn lleiaf, gwaith o ansawdd ac amser gweithio o ansawdd. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg yn symud y gwaith hwn yn ei flaen i'r cam nesaf, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, a bydd yn edrych yn fanwl ar y dulliau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r gwaith teg hwnnw, a bydd yn nodi a ydynt yn gamau newydd neu'n gamau ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys edrych ar ddeddfwriaeth newydd. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i ddiwygio'r contract economaidd yn dilyn gwaith y Comisiwn Gwaith Teg, ac unwaith eto, mae angen inni gael y sylfaen dystiolaeth honno'n iawn fel y gallwn weithredu a gwneud yn siŵr fod gennym y ddeddfwriaeth orau, sy'n arwain y byd yn y cyswllt hwnnw yma yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio'n hollol briodol ar fater gofal plant. Cyfeirir ato'n aml fel un o'r prif rwystrau sy'n wynebu rhieni rhag cael gwaith. Fel y mae pawb wedi crybwyll, rwy'n credu, cyfeirir at ofal plant fel un o'r rhesymau pam y mae rhai rhieni'n gweithio, neu'n gweithio'r oriau y maent yn eu gweithio, neu pam nad ydynt yn gweithio o gwbl, felly mae'n dal i fod yn wirionedd cas, yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru, fod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn cartref lle mae o leiaf un person yn gweithio. Gwyddom mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi a'r amddiffyniad gorau yn erbyn tlodi, ac rydym yn gwybod hefyd, Ddirprwy Lywydd, mai anghydraddoldeb ariannol yn y cartref yw un o brif ysgogwyr peth o'r trais rhywiol a'r trais domestig a welwn. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn gwthio cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o'r diwylliant Cymreig, ac yn hynny o beth rwyf am dynnu sylw at yr ymgyrch cydraddoldeb rhywiol 'Dyma fi' y bu Llywodraeth Cymru yn ei gweithredu. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ei chyrhaeddiad, a gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus iawn o ran ei heffaith, ond o ran nifer y bobl sydd wedi'i gweld, mae ei chyrhaeddiad wedi bod yn hynod o eang.

Hoffwn bwysleisio wrth aelodau'r pwyllgor ei fod yn ymwneud yn fawr iawn â chaniatáu i chi fod y person rydych chi am fod, pa un a ydych yn wryw neu'n fenyw, gan ysgogi peth o'r newid diwylliannol y soniodd John Griffiths yn arbennig amdano, lle mae'n berffaith dderbyniol i ddyn fod yn brif ofalwr y plant ac i'r fenyw beidio â bod, a'r ffordd arall, neu ba drefniant bynnag arall sy'n addas i chi. Dylem fod yn hwyluso'r holl newidiadau hynny yn ein cymdeithas. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod pobl yn gwneud penderfyniadau ar sut i wneud gofal plant yn y cartref pan na allant fforddio talu am y gofal plant sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar wybodaeth annigonol. Felly, credaf ei bod yn deg dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch pa bartner a ddylai roi'r gorau i weithio ac ati yn ei seilio ar bethau cul yn ymwneud ag enillion presennol ac nid ar enillion gydol oes, er enghraifft, a heb lawn ddeall yr effaith economaidd y gall cyfnodau estynedig heb fod mewn gwaith eu cael ar yrfa unrhyw un.

Gyda hynny, hoffwn ddweud ein bod yn edrych yn ofalus ar y materion a godwyd gan nifer o bobl, yn enwedig Siân Gwenllian a Jane Hutt, ond credaf fod pawb a siaradodd wedi sôn amdano, ynglŷn â defnydd o absenoldeb rhiant a rennir yn Llywodraeth Cymru, er mwyn i mi allu deall beth sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, neu beth sy'n cael ei gynnig, ond beth sy'n cael ei ddefnyddio a pham, a pha effaith sydd i hynny, a pha ddata sydd gennym ynglŷn â hynny, er mwyn i mi, unwaith eto, ddod â hynny'n ôl i'r Siambr i ddweud beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar y cynigion hynny, ac os nad ydynt, beth yw'r rhwystrau posibl, o ystyried ei fod ar gael yma yn y Llywodraeth, ac oherwydd, unwaith eto, os na allwn ni fod yn esiampl, Ddirprwy Lywydd, yna rwy'n credu y byddwn yn ei chael hi'n anodd.

Nid wyf am ganolbwyntio cymaint â hynny ar ein cynnig gofal plant. Mae wedi ei ailadrodd yn y Siambr droeon ac mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog plant, eisoes wedi disgrifio'r cynnig, ymhlith pethau eraill. Ond mae'n werth dweud hyn: nad y cynnig gofal plant yw'r unig ffordd o sicrhau gofal plant y telir amdano gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym nifer o raglenni eraill y gwn fod fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies wedi'u crybwyll yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Gyda'i gilydd fel pecyn, maent yn llawer mwy na'r cynnig gofal plant presennol sydd yn y maniffesto, ac mae wedi siarad yn aml am ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, a bydd yn rhan o'r hyn y bydd y Comisiwn Gwaith Teg hefyd yn edrych arno er mwyn gweld pa rwystrau a geir rhag gyrru rhai o'r arferion gwaith teg yr ydym am eu gweld yng Nghymru.

Hefyd, rwyf am ddweud hyn am waith y pwyllgor: rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith a wnaethpwyd ar arferion gweithio hyblyg ac ati, ond ceir dadl hefyd dros wthio'r hyn a elwir yn arferion gweithio modern, a chyflogaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, lle nad yw cyflogau'n cael eu talu am bresenoldeb yn y gweithle. Mae hynny'n cynorthwyo pobl ag anableddau a materion eraill yn ymwneud â hygyrchedd. Felly, os yw eich cyflogaeth, os yn bosibl—ac nid yw bob amser yn bosibl; mae'n anos sicrhau hyn i athrawon, er enghraifft—ond mae yna lawer o swyddi yn yr economi fodern lle mae pecyn taliadau sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn gweithio'n dda iawn, ac felly i bobl sydd angen trefniadau hyblyg iawn, cyhyd â'u bod yn gallu cynhyrchu'r canlyniadau angenrheidiol, pa wahaniaeth y mae'n ei wneud ble y maent yn eu cynhyrchu, sut y cânt eu cynhyrchu neu ba drefniadau mynediad a oedd ganddynt er mwyn cynhyrchu'r canlyniadau hynny? Hoffwn gyferio at waith cyn brif weithredwr GE Aviation, La-Chun Lindsay, o ran yr hyn y gallai ddangos y gellid ei wneud hyd yn oed ar linell gynhyrchu pan edrychwch ar waith sy'n seiliedig ar allbwn i sicrhau bod amrywiaeth a chyfle o fewn y gweithlu. Credaf ei bod hi'n drueni ei bod wedi dychwelyd i America bellach, ond rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â hi, ac fe ysgogodd hi rai arferion arloesol iawn.

Felly, hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'r pwyllgor eto am yr adroddiad cynhwysfawr hwn. Mae wedi rhoi llawer i gnoi cil arno ac mae'n rhoi darlun clir o'r problemau sy'n dal i wynebu pobl yng Nghymru, yn enwedig menywod yn y gweithle. Credaf fod y pwyllgor yn hyrwyddo cydraddoldeb yn dda, ac rwy'n gobeithio fy mod innau hefyd. Nid fy nghyfrifoldeb i yn unig yw'r portffolio hwn sydd gennyf, fodd bynnag—mae'n gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth. Rydym wedi derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor ar ddatblygu'r gwaith pwysig hwn. Diolch yn fawr.     

15:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, a chredaf fod pawb wedi ategu pwysigrwydd y materion hyn i'r economi yn ogystal ag i'r unigolion a'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Soniodd Janet Finch-Saunders am yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i lywio gwaith y pwyllgor, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig fel sylfaen i'r adroddiad a'r argymhellion a wnaed gennym. Ac roedd yn dda gweld nifer o Aelodau'r Cynulliad yn pwyso ar eu profiad personol. Cyfeiriodd Siân Gwenllian, Jane Hutt a Hefin David at eu profiad personol o'r materion hyn. Cyfeiriodd Jane Hutt at 1992, pan oeddem yn wynebu'r un heriau, ar lawer ystyr, â'r rhai a wynebwn heddiw, ac er bod cryn gynnydd wedi'i wneud, mae rhai o'r heriau sylfaenol yn dal i fod angen eu goresgyn. Mae hefyd yn wir, rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, fod gennym ymwybyddiaeth fwy cyffredinol o faint yr heriau, ond syniad cadarnhaol iawn o'r modd y gallwn symud ymlaen hefyd, a'r consensws y credaf ei fod yn bodoli ynghylch yr adroddiad penodol hwn, a'r argymhellion a wnaethom.

Mae'n eithriadol o anodd sicrhau newid diwylliannol—a newid ymddygiadol—ond mae'n hanfodol i'r cynnydd sydd ei angen arnom. Yn ganolog iddo, mae'r modd y mae'n ymwneud â dynion a menywod, tadau yn ogystal â mamau, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig oherwydd os cawn fwy o gydnabyddiaeth gan ddynion a thadau o'r budd y byddent yn ei gael pe baent yn chwarae mwy o ran yng ngofal plant eu teuluoedd, byddai hynny'n helpu i symud pethau yn eu blaenau, oherwydd byddai gennym gonsensws ehangach eto ynghylch y newid angenrheidiol a ddylai ddigwydd. Felly, credaf fod yn rhaid i bawb ohonom weithio tuag at hynny, ond yn amlwg, mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom yma heddiw i ddangos arweiniad, a mwy o gyfrifoldeb byth efallai ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny.

Felly, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a oedd gan Julie James i'w ddweud wrth gydnabod cryfder yr argymhellion yn yr adroddiad a gwaith y pwyllgor, ond hefyd yr ymrwymiad i adrodd yn ôl, oherwydd yn ein hadroddiad, ac yn fy sylwadau yn gynharach, rydym wedi pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru fynd y tu hwnt i'r ymateb gwerthfawr y mae eisoes wedi'i roi drwy adrodd yn ôl wedi i'r Comisiwn Gwaith Teg gyflwyno eu hadroddiad, ond yn gyffredinol. Ac rwy'n cymryd hynny o heddiw, a chredaf y byddai hynny'n plesio'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, Ddirprwy Lywydd, os gwelwn yr ymrwymiad parhaus hwnnw gan Lywodraeth Cymru i roi gwybod i ni beth y byddant yn ei wneud i wireddu'r argymhellion hyn.         

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd'

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Mike Hedges.

16:00

Cynnig NDM6795 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylai wneud craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn un o'i flaenoriaethau, a hynny oherwydd ei bwysigrwydd i bobl Cymru. Cytunwyd hefyd y byddai'r pwyllgor yn llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal dadl flynyddol ar ei gynnwys.

Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad blynyddol cyntaf y pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd, a hoffwn ddiolch i aelodau presennol a blaenorol y pwyllgor sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Ategwyd ein gwaith craffu gan grŵp o arbenigwyr o'r byd academaidd, llywodraeth leol a grwpiau busnes a chadwraeth. Mae safbwyntiau'r grŵp yn cael eu hadlewyrchu yn ein casgliadau a'n hargymhellion. Hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau'r grŵp hwnnw.

Heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor: ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd hyd yma; a'n barn ni ar gynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Yn gyntaf, mae'r pwyllgor wedi asesu cynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd. Yn ôl yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd yn ymrwymo i leihau cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel 40 y cant islaw lefelau 1990 neu 1995, yn dibynnu ar y nwy, erbyn 2020. Roedd y rheini'n dargedau uchelgeisiol iawn. Y gwir amdani yw na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflawni'r targedau hynny. Yn fwy diweddar, pasiodd y Cynulliad Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod allyriadau net ar gyfer 2050 o leiaf 80 y cant yn is na llinellau sylfaen 1990 neu 1995. Credaf y gall pawb weld pwysigrwydd adroddiad blynyddol bellach.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i bwyllgor annibynnol y DU ar newid yn yr hinsawdd ddarparu targedau iddi hyd at 2050. Mae ei ddadansoddiad yn dangos ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran cyflawni ein targedau. Dengys yr ystadegau diweddaraf fod allyriadau Cymru wedi gostwng i 19 y cant islaw lefelau 1990, ond ledled y DU dros yr un cyfnod gostyngodd lefel yr allyriadau 27 y cant.

At ei gilydd, nid yw allyriadau o ddiwydiant wedi newid ers 2008. Mae gostyngiad o 31 y cant ar lefelau 1990 ymhell islaw'r 48 y cant a gyflawnwyd gan y DU yn ei chyfanrwydd. Mae allyriadau o'r sector gorsafoedd pŵer yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Maent wedi cynyddu 17 y cant ers 1990, a dyna pam rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r diffyg cymorth gan San Steffan i'r morlyn llanw.

Rwy'n teimlo braidd yn wael ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n beio Llywodraeth Cymru am y cynnydd yn y lefelau hyn, ond gallem fod yn eu gostwng pe bai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cefnogi'r morlyn llanw, a fyddai wedi creu ynni na fyddai'n costio cymaint o ran allyriadau. Felly, rwy'n eich beio chi am nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud yr hyn y dylent fod wedi'i wneud, sydd i'w weld ychydig bach yn annheg, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn dwyn i gyfrif yr unig bobl y gallwn eu dwyn i gyfrif. Hoffwn pe bai gennym Michael Gove yma a chynrychiolwyr Llywodraeth San Steffan i'w dwyn i gyfrif, ond yn anffodus, Weinidog, chi sydd yma.

O ganlyniad, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi awgrymu targedau llai uchelgeisiol na'r rhai a geir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010. Mae'n ymagwedd bragmataidd ac angenrheidiol o ystyried y diffyg cynnydd. Fodd bynnag, mae'n destun gofid. Nid ydym am weld hyn yn dod yn batrwm, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod targedau uchelgeisiol a llawn o ddyhead hirdymor sy'n rhaid eu gostwng pan fo realiti'n dechrau brathu, hyd yn oed os yw rhai o'r rhain yn codi o ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae angen cynllun gweithredu clir, i sicrhau bod gennym fesurau trawslywodraethol a all gyflawni gwelliant graddol ond cyson. Daw hyn â mi at elfen arloesol a gynhyrchwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru): y broses o gyllidebu carbon. O dan y Ddeddf honno, ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyfanswm uchaf ar gyfer allyriadau net, a ddisgrifir fel 'cyllideb garbon'. Rhaid pennu'r ddwy gyllideb gyntaf o'r cyllidebau carbon hyn, ar gyfer 2016-2020 a 2021-2025, erbyn diwedd eleni. Bydd y cyllidebau carbon yn cynnwys targedau interim mewn rheoliadau a rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau yn ôl y gyfraith na ddefnyddir mwy o garbon na'r hyn a geir yn y cyllidebau. Y cyllidebau carbon hyn fydd y prif sbardun ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad yn manylu ar y polisïau a'r cynigion a fydd yn cyflawni pob cyllideb garbon.

Bydd craffu ar y cyllidebau carbon hyn a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig yn flaenoriaeth ar gyfer y pwyllgor hwn. Mae angen meddwl ymhellach ynglŷn â sut y bydd y broses newydd hon yn gweithio'n ymarferol, ond mae'n sicr yn fecanwaith defnyddiol ar gyfer dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Bydd cyllidebau carbon yn ôl eu natur yn gweithredu dull trawslywodraethol. Mae newid yn yr hinsawdd yn creu her sylweddol ac mae'n hanfodol sicrhau ymgysylltiad ar draws y Cabinet ac ar draws y portffolios ar yr agenda hon. Nid rôl yr Aelod Cabinet sy'n ymwneud â'r maes hwn yn unig yw hon; mae'n rôl i bob aelod o'r Cabinet. A hoffwn ddweud, ar lefel bersonol, fy mod yn siomedig mai'r unig Aelod Cabinet sy'n bresennol ar y cam hwn mewn gwirionedd yw'r Aelod Cabinet sy'n mynd i fod yn ymateb. Efallai fod hyn wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol, ond rwy'n falch o ddweud ei bod yn ymddangos ei fod yn gwella, yn enwedig gyda dyfodiad y cyllidebau carbon. Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet ar ei chynnydd a'i hannog i ddal ati gyda'i gwaith da.

Fe drof yn awr at ein safbwyntiau ynglŷn â chynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae ein hadroddiad yn cwmpasu pedwar maes polisi allweddol. Y cyntaf yw'r cynllun masnachu allyriadau. Yn 2016 cynhyrchodd y sector diwydiannol allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, cynhyrchodd y sector diwydiannol 57 y cant o'r holl allyriadau yng Nghymru, felly mae llawer i'w ennill o fynd i'r afael ag allyriadau o'r fath. Rydym yn rhan o gynllun masnachu yr Undeb Ewropeaidd, cynllun sy'n caniatáu i allyrwyr mawr fasnachu lwfansau allyriadau yn ôl yr angen i osgoi talu dirwyon cosbol. Fodd bynnag, mae allyriadau o'r sector hwn wedi cynyddu 12 y cant rhwng 2010 a 2016 mewn gwirionedd. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd cyfleoedd i ddatblygu cynllun olynol, a gobeithiaf y bydd gennym gynllun olynol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynghylch y diffyg cynnydd ar hyn ac rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllun olynol posibl.

Yr ail faes polisi y buom yn edrych arno oedd rheoli tir. Yn 2014, amaethyddiaeth a defnydd tir oedd i gyfrif am 12 y cant o gyfanswm yr holl allyriadau yng Nghymru. Roeddem yn argymell dull llawer mwy uchelgeisiol o gynyddu gwaith plannu coed a rhoesom sylw i hynny o dan ein hadroddiad ar goed. Yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, mae gweithgaredd plannu coed wedi bod yn llawer is na'r targedau. Mae'r strategaeth goetiroedd ar gyfer Cymru a ddiwygiwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau cynnydd o 2,000 hectar y flwyddyn fan lleiaf mewn gorchudd coed yng Nghymru o 2020 tan 2030 a thu hwnt. Rydym yn falch nad yw Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn ar ei tharged, ond rydym yn pryderu mai rhagor o'r un peth yw hyn. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y strategaeth hon yn cyrraedd y targedau y methodd yr hen un eu cyflawni. Rwy'n eithaf sicr y bydd y pwyllgor am roi adroddiad blynyddol ar dargedau coed hefyd, oherwydd credaf fod rhoi adroddiad blynyddol yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif.

Gwnaethom argymhellion hefyd ynghylch amaethyddiaeth a chynllunio. Yn anffodus nid oes gennyf ddigon o amser i fanylu ar hyn, ond rwy'n falch fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen ag un o'r argymhellion yn adroddiad cyntaf y pwyllgor hwn, a soniai am sicrhau bod cyllid ar gyfer rheoli tir yn y dyfodol yn seiliedig ar gyfraniadau at dargedau ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Yn drydydd, buom yn edrych ar dai ac adeiladau. Gwyddom o'n hymchwiliad diweddar i dai carbon isel fod gan Gymru beth o'r stoc dai hynaf ac oeraf yn Ewrop, ac nid yn unig o ran ynni, ond yn nhermau cyfleoedd bywyd i blant a disgwyliad oes oedolion, sy'n deillio o fyw mewn tai oer. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, roeddem yn argymell rhaglen ôl-osod helaeth ar gyfer tai mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gobeithio y gallwn drafod yr adroddiad hwnnw maes o law.

Roedd yn galonogol gweld rhai o'n hargymhellion yn cael eu hadlewyrchu yn ymgynghoriad y Llywodraeth, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030', er enghraifft argymhellion ar gyfer safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladu a rhaglen ôl-ffitio hirdymor. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y grŵp cynghori newydd ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.

Yn olaf, buom yn ystyried polisi trafnidiaeth. Yn 2014, trafnidiaeth oedd i gyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru. Mae trafndiaeth yn un maes lle na chafwyd fawr iawn o welliannau o ran lleihau allyriadau. Bron na chafwyd unrhyw welliant ers 2007, ond gan fod cyfanswm y ceir ar y ffyrdd wedi cynyddu ers hynny, mae allyriadau'r ceir bron yn sicr wedi gostwng.

Bydd yr Aelodau wedi clywed y ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Edrychodd y pwyllgor hwn ar weithrediad y Ddeddf honno hefyd. Rwy'n cefnogi casgliadau ein cyd-Aelodau ei bod yn amlwg nad yw'r Ddeddf wedi gwireddu ei nodau. Rydym yn disgwyl gwelliannau yn y maes polisi hwn a byddwn yn ei gadw dan arolwg.

Buom hefyd yn ystyried ffordd liniaru'r M4 a cherbydau trydan a hydrogen. Yn benodol, cwestiynodd ein grŵp arbenigol yr effaith y byddai ffordd liniaru'r M4 yn ei chael ar leihau allyriadau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cyfanswm allyriadau carbon blynyddol defnyddwyr ar rwydwaith priffyrdd de Cymru yn lleihau o ganlyniad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei gadw dan arolwg.

Felly, i gloi, beth yw asesiad y pwyllgor hwn o'n sefyllfa? Dyma fyddai fy nhair neges allweddol: mae'r cynnydd ers cyhoeddi'r adroddiad ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010 wedi bod yn siomedig, ond mae cynnydd wedi bod; rhaid i'r targedau yn y dyfodol fod yn heriol ac yn ymestynnol, ond rhaid iddynt hefyd fod yn realistig ac yn gyraeddadwy, a phan ddown yn ôl i adrodd yn flynyddol, trefn y mae'n ymddangos ein bod yn symud tuag ati, disgwyliwn weld cynnydd; ac mae yna gyfleoedd cyffrous wrth inni weld arloesedd o Ddeddf yr amgylchedd, megis cyllidebu carbon, yn dod yn weithredol.

Dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar gyflawni camau i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae wedi dangos maint yr her o'n blaenau. Byddwn yn parhau i gadw'r pwnc hwn dan arolwg ac yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar y cynnydd.

16:05

Diolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol ar yr adroddiad pwyllgor hwn. Yn amlwg, rwy'n newydd i'r pwyllgor ac ni chwaraeais unrhyw ran yn llunio'r adroddiad. Rwy'n cymeradwyo aelodau blaenorol y pwyllgor—David Melding ar fy llaw dde ac aelodau eraill o'r pwyllgor sydd wedi gadael y pwyllgor wedi hynny—ar gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr, ac yn arbennig y sylwadau agoriadol gan y Cadeirydd ynglŷn ag adroddiadau blynyddol.

Un peth sy'n fy nharo, ac eraill sy'n darllen yr adroddiad hwn rwy'n siŵr, yw hyd y cyfnod o amser y caiff y targedau eu gosod ar ei gyfer. Rydych yn sôn am 20, 30, 40 mlynedd i wneud y newidiadau mawr eu heffath rydym yn sôn amdanynt yma ac mewn gwirionedd, onid yw gweithgarwch monitro cyson ar gynnydd—neu fel arall, yn ôl fel y bydd hi—yn rôl hanfodol i unrhyw bwyllgor yn y Cynulliad, a chredaf fod honno'n fenter i'w chroesawu er bod perygl y gallai oddiweddyd gweddill gwaith y pwyllgor os yw'n gyson yn adrodd yn flynyddol ar bob math o bethau.

Roedd sylwadau agoriadol y Cadeirydd yn nodi, yn amlwg, yr un anghysondeb amlwg sy'n neidio allan yn syth o'r ffigur cyntaf, sef gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon i lefelau 1999 erbyn y flwyddyn 2040, ac yn amlwg, rydym wedi mynd tuag yn ôl—erbyn 2020, mae'n ddrwg gennyf, i'r ffigur hwnnw ddod i mewn—ac rydym wedi mynd tuag yn ôl yma yng Nghymru yn methu dal i fyny â gweddill y DU yn y ffordd y maent wedi symud ymlaen at yr un targed. Felly, rwy'n gobeithio, yn y sylwadau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi yn y ddadl hon, y bydd yn dangos sut y bydd hi'n rhoi'r lori yn ôl ar y ffordd, y car yn ôl ar y ffordd, fel petai, i gyrraedd y targedau hynny—mewn ffordd gynaliadwy, dylwn ychwanegu.

Oherwydd, yn amlwg, mae rhan allweddol o'r adroddiad hwn yn edrych ar sut yr ydym yn chwyldroi ein system drafnidiaeth a sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio ar draws pob adran fel eu bod yn gosod pwyntiau gwefru trydan, ac yn arbennig yn modelu'r system o amgylch cynlluniau ffyrdd sy'n aml iawn yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau o gynyddu ein hôl troed carbon. Ond os ydych chi'n adeiladu rhai o'r gwelliannau ffyrdd hyn yn y pen draw, honiad y Llywodraeth mewn gwirionedd yw y gallent sicrhau gostyngiad sylweddol o ran rhai o'r allbynnau carbon drwy sicrhau bod traffig yn symud yn fwy effeithlon ac y gellid lleddfu'r stopio ac ailgychwyn a welwn mewn llawer o lefydd ar ein rhwydwaith ffyrdd ar hyn o bryd gan gyfrannu at lygredd aer mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy'n mawr obeithio hynny—rwyf wedi darllen ymateb y Gweinidog i'r pwyllgor—ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymroi'n llawnach heddiw i ateb rhai o'r sylwadau hynny ynghylch ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, oherwydd clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn y cwestiynau i'r Gweinidog yn dweud bod yr ymchwiliad cyhoeddus gydag ef yn awr, ei fod wedi'i gyflwyno iddo, a honiad y Llywodraeth, mewn gwirionedd, yw y byddwch drwy adeiladu'r ffordd honno yn helpu i gyfrannu at leihau allyriadau carbon yng Nghymru. Rwy'n credu bod y pwyllgor yn awyddus i weld mwy o dystiolaeth o hynny a chredaf fod hynny'n dal i'w brofi ym meddyliau rhai pobl.

Hefyd, mae'n bwynt dilys iawn i Gadeirydd y pwyllgor dynnu sylw ato. Gallaf gofio yn y trydydd Cynulliad, pan oeddwn ar y pwyllgor blaenorol, un Gweinidog Cabinet ar y pryd yn dod ger ein bron heb sylweddoli bod rhwymedigaeth amgylcheddol ar ei adran fel rhan o fenter gyffredinol y Llywodraeth—ni wnaf enwi a chodi cywilydd—ac yn sydyn iawn gafaelodd ei swyddog yn ei fraich a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, mae rhwymedigaeth arnoch fel Gweinidog i adrodd yn flynyddol i'r Prif Weinidog ynghylch y cynnydd y mae eich adran yn ei wneud.' Ac mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i gyflawni'r agenda hon.

A bod yn deg, clywsom heddiw wrth graffu ar adran comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol fod ganddi hyder y ceir mwy o gydweithio ar draws y Llywodraeth, ond mae'n dibynnu ar yr unigolion ac ar ymrwymiad yr unigolion oherwydd eu bod yn atebol am eu hadrannau. Felly, unwaith eto, yn ei hymateb heddiw, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi hyder inni fod y trefniadau cydweithio y mae hi wedi'u rhoi ar waith, a bod yn deg â hi, yn wydn, yn gadarn ac na fyddant yn newid o un unigolyn i'r llall pe bai ad-drefnu'r Cabinet yn digwydd, ac y byddant yn parhau yn y Cabinet a'r strwythurau Llywodraeth sydd gennym yma yng Nghymru.

Yn amlwg, o fy nghefndir ffermio wrth gwrs, mae tir yn rhan bwysig iawn o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt, ac mae'n peri gofid imi weld y diffyg coedwigaeth a gwaith datblygu coedwigaeth a fu. Er clod iddi, roedd gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol iawn o 100,000 hectar i'w plannu, ac nid yw hyd yn oed wedi crafu'r wyneb o ran cyrraedd y targed hwnnw ar hyn o bryd. Credaf fod 96,000 o hectarau i gael eu cyflawni o hyd os yw'r targed hwnnw i'w gyflawni yn y ffrâm amser a osododd y Llywodraeth iddi ei hun yn wreiddiol. Ac er ei bod yn dal ei gafael yn dynn ar y targed hwnnw, rwy'n meddwl efallai y dylid gosod nod mwy realistig ar waith bellach oherwydd nid yw'n ymwneud â chyfaddef methiant; mae'n ymwneud â bod yn realistig ynghylch yr hyn y gall y Llywodraeth ei gyflawni, yn hytrach na dal ei gafael ar darged a gafodd ei nodi, ac nad oes modd ei gyflawni, mae'n amlwg, oherwydd yn y cyfnod o amser a fu ers sefydlu'r targed hwn dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, dim ond 2,500 hectar a blannwyd yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd dros yr oddeutu 14 mlynedd nesaf, nid ydych yn mynd i blannu 7,000 hectar o goetir bob blwyddyn i gyflawni'r 100,000 a osodwyd gennych. Felly, gadewch inni fod yn realistig: gadewch i ni roi targed realistig i'r diwydiant coedwigaeth, i'r diwydiant tir.

Hefyd, hoffwn grybwyll cynllunio, ond rwy'n sylweddoli fy mod yn brin o amser, fel y mae'r Dirprwy Lywydd yn dynodi, ond mae hon yn eitem agenda sy'n mynnu llawer o sylw gan y rhai sy'n ein hethol i'r sefydliad hwn. Edrychaf ymlaen at fy ngwaith ar y pwyllgor ac yn benodol, at ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwysicach, at weld cynnydd yn y maes polisi pwysig hwn a gallu edrych arno yn y pen draw a dweud, 'Fe wnaethom wahaniaeth.' Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

16:15

Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma ar adroddiad ein pwyllgor newid hinsawdd ni. Diolch i'r Cadeirydd, Mike Hedges, am ei gyflwyniad agoriadol ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae yna sawl argymhelliad, ac, wrth gwrs, tra bo'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw, nid ydyn nhw'n derbyn nifer o rai eraill hefyd. Awn ni drwy'r rheini rŵan yn fuan.

Yn amlwg, ni fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd eu targed o leihau allyriadau o 40 y cant erbyn 2020. Mae hynny'n amlwg. Mae'r ystyadegau allyriadau diweddaraf yn 2015 yn dangos bod allyriadau Cymru dim ond 19 y cant o dan lefelau 1990, tra cwympodd allyriadau gweddill Prydain 27 y cant yn is na lefelau 1990. Yn amlwg, gall sefydlu targedau llai heriol rŵan gael ei weld fel gwobrwyo methiant yn y cyd-destun yma. Fel mae eraill wedi'i ddweud, ni fydd cynnydd ar daclo newid hinsawdd a'r argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n deillio o lygredd awyr nes bydd pob aelod o'r Cabinet yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif i dorri allyriadau yn eu meysydd portffolio unigol nhw.

Nawr, i droi at rai o'r argymhellion yn fyr— 

'Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru roi manylion i’r Pwyllgor am yr hyn y cred y dylai fod yn ofynion Cynllun Masnachu Allyriadau newydd yr UE'—

un o'r rhesymau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu ddweud am fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed o ostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau erbyn 2020 ydy oherwydd rôl cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, ETS. Fel mae hi'n ei ddweud,

yr allyriadau hyn yw mwy na 50 y cant o gyfanswm ein hallyriadau, mae felly'n effeithio ar ein gallu i gyflawni'r targed o 40 y cant.

Bydd y cynllun a fydd yn dilyn y cynllun masnachu allyriadau Ewropeaidd yma yn chwarae rôl allweddol felly yn sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd eu targedau lleihau allyriadau. Mae'n fater o siom, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 5 ond mewn egwyddor—yr hen dric yna o dderbyn pethau mewn egwyddor eto yn lle jest eu derbyn nhw a mynd amdani.

Nawr, mae cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd yn un o'r 24 maes datganoledig sy'n disgyn o dan y trafodaethau a fframweithiau cyffredin dan adain y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn teimlo'n rhwystredig—eu geiriau hi—am y diffyg cynnydd yn y mater yma, ond mae hyn yn ganlyniad naturiol pan ydym ni wedi gorfod derbyn rhewi ein pwerau o ganlyniad i bleidlais yn y lle yma ar Fil ymadael Ewrop. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwybod y gallant yrru'r agenda pan fo pethau'n effeithio ar Gymru heb orfod cymryd sylw o unrhyw beth rydym ni'n ei ddweud. 

A throi at argymhelliad 8—

'ymrwymo i darged cenedlaethol o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol'—

rydym ni wedi clywed cryn dipyn am y targedau coed. Af i ddim dros yr un un ffigurau, ond gall goed leihau carbon a lleihau llygredd awyr, yn amlwg. Mae Llywodraeth Cymru yn bell ar ei hôl hi yn nhermau plannu rhagor o goed, ac mae'n fater o siom eto bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 i fynd ar ôl y targed yma o blannu rhagor o goed. Dylai fod rheidrwydd naturiol ar Lywodraeth i weithredu a derbyn argymhelliad 8, yn enwedig o gofio gofyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gan droi at argymhelliad 13 yn y cyflwyniad swmpus yma—

'Dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth adolygu Deddf Teithio Llesol (Cymru)'—

yn amlwg, fel mae eraill wedi'i ddweud, mae trafnidiaeth yn faes lle gellir gwneud lleihad sylweddol mewn allyriadau carbon a helpu lleihau llygredd awyr hefyd ar yr un pryd. Eisoes, mewn dadleuon a chwestiynau cyn heddiw yn y Siambr yma, rydym ni wedi clywed rhai yn olrhain pa mor annigonol ydy ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'n fater o siom, felly, fod yr argymhelliad yma, argymhelliad 13, y dylai'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth ei chyfaill am hyn—

'adrodd yn ôl i’r Pwyllgor o fewn 6 mis'

ar sut mae'n dod i adolygu gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru)—. Mae'r argymhelliad hwn dim ond eto wedi ei dderbyn mewn egwyddor; nid yw wedi'i dderbyn bod angen adolygiad—dim ond wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Wedi'r cwbl, mae hynny'n fater o siom. Mae bron i bum mlynedd wedi pasio ers pasio'r Ddeddf yma. Erys graddfeydd teithio llesol yr un peth, ac mae llai o blant yn cerdded neu'n seiclo i'r ysgol.

I gloi, rŵan, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd o dan y Ddeddf yma—tua £10 y pen y flwyddyn—sydd yn sylweddol llai nag argymhelliad pwyllgor economi'r Cynulliad yma o £17 i £20 y pen bob blwyddyn. Cymharer hynny efo cost o £1.4 biliwn am lwybr du'r M4. Erys heriau sylweddol. Diolch yn fawr.

16:20

Rwy'n falch iawn o siarad yn adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg mae newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom yn y Siambr hon ac mae'n effeithio ar bob adran. Fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei glustnodi ar gyfer un pwyllgor penodol. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom wedi profi canlyniadau newid hinsawdd drosom ein hunain yn ddiweddar: y bwystfil o'r dwyrain a'r haf poethaf a gofnodwyd ers dros 40 mlynedd. Credaf felly fod newid hinsawdd yn amlwg yn un o'r materion mawr hynny sy'n bwysig iawn i ni i gyd, ac yn syml iawn ni allwn wadu bod ein hinsawdd yn newid. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw'n gwaethygu, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn amlygu rhai o'r ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud ein rhan, ac yn sicr mae'n tynnu sylw at y ffaith y gallwn wneud llawer mwy nag a wnawn.

Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y rhan o'r adroddiad a oedd yn ymwneud â safonau ynni tai ac adeiladau a sut y gellir eu gwella ledled Cymru, ac roeddwn yn falch o weld y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymdrin ag effeithlonrwydd ynni mewn 25,000 o gartrefi yn ystod y tymor hwn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu 1,000 o fathau newydd o gartrefi ledled Cymru drwy'r rhaglen tai arloesol. Yn fy rôl fel cadeirydd pwyllgor monitro rhaglenni Cymru, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â sawl prosiect a ariannwyd gan Ewrop sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella effeithlonrwydd ynni. Fel y mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, caiff y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) ym Mhrifysgol Abertawe ei hariannu o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a'i nod yw troi adeiladau'n orsafoedd pŵer. Mae adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain, yn wres a thrydan. Mae hyn yn golygu bod adeiladau i bob pwrpas yn strwythurau gweithredol yn hytrach na strwythurau goddefol ac mae'n golygu bod allyriadau carbon mewn adeiladau yn cael eu dileu ac yn lleihau'n ddramatig y ddibyniaeth ar danwydd ffosil a nwy.

Mae hwn yn gynnydd enfawr, a gwn ein bod wedi siarad yn y Siambr hon am y datblygiadau hyn o'r blaen, ond mae'n anhygoel, rwy'n credu, eich bod yn gallu adeiladu tai sy'n weithredol, sy'n gallu cynhyrchu ynni mewn gwirionedd, ac mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid cael ymdrech enfawr i wneud yn siŵr ein bod yn cael tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yn ôl y safonau hynny. A dyna lle nad wyf yn credu ein bod yn gwneud cymaint ag y gallem ei wneud mewn gwirionedd. Pe bai'r holl dai yn y dyfodol yn cael eu hadeiladu yn y ffordd hon, byddem yn gweld gostyngiad dramatig yn y defnydd o danwyddau ffosil, a byddai cartrefi yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy a glân. Felly, mae gennym hynny. Mae'r dechnoleg honno wedi cael ei datblygu yma yng Nghymru, yn Abertawe, ac mae'n cael ei—. Mae datblygiadau ar raddfa fach yn ei defnyddio. Ond yng Nghaerdydd, mae gennym filoedd o dai newydd yn cael eu hadeiladu, oherwydd y boblogaeth sy'n cynyddu yng Nghaerdydd, a llawer ohonynt yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, ac wrth siarad â datblygwyr tai preifat, ni fydd yr un ohonynt yn cynnwys y tai gweithredol hyn yn y datblygiadau. Felly, credaf fod hynny'n anffodus tu hwnt, a gwn fod adolygiad ar y gweill o'r rheoliadau adeiladu, felly rwy'n gobeithio y bydd y rheoliadau adeiladu'n sicrhau rhywbeth a fydd yn galluogi adeiladwyr i symud ymlaen yn y modd hwn. [Torri ar draws.] Iawn, yn bendant.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad, Julie. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylid defnyddio'r system gynllunio i orfodi datblygwyr i roi mwy o fecanweithiau ynni effeithlon ar waith a chartrefi ecogyfeillgar, ac yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. A ydych yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy rhagweithiol o bosibl, a rhoi canllawiau i awdurdodau cynllunio roi caniatâd, mewn ardaloedd na fyddai'n cael y caniatâd hwnnw, os yw'r tŷ'n bodloni'r safonau ecogyfeillgar hynny?

16:25

Yn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud yma, nid oeddwn yn cyfeirio at yr amodau cynllunio mewn gwirionedd. Roeddwn yn meddwl mwy am y rheoliadau adeiladu ar gyfer y datblygiadau ar raddfa fawr sy'n digwydd. Yn sicr, mewn ardaloedd gwledig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym y safonau uchaf fel rydych wedi'i grybwyll. Ond o ran ardaloedd sensitif, rhaid i unrhyw ddatblygiad gael ei ystyried yn ôl y sefyllfa unigol. Ond rwy'n teimlo bod cyfarfod â'r datblygwyr ar gyfer—wyddoch chi, mae miloedd o gartrefi'n cael eu hadeiladu ac nid ydym yn mabwysiadu'r ffordd newydd hon o weithio.

Mae cyngor Caerdydd mewn gwirionedd yn gallu bwrw ymlaen â rhai datblygiadau tai goddefol bach a adeiladir yn rhan o'u datblygiadau tai cyngor newydd, yn ffodus. Ond mae'n debyg fy mod am orffen ar y ffaith bod angen inni gael effaith enfawr yn y maes hwn a allai wneud gwahaniaeth go iawn er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. A rhaid imi ddweud—dof i ben drwy ddweud—fy mod wedi fy nghalonogi'n fawr gan yr hyn a glywais o'r gynhadledd Lafur yn Lerpwl, ac am y symudiad mawr yno tuag at ynni gwyrdd.

Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon, a agorwyd gan Gadeirydd y pwyllgor yn ei ffordd gadarn ac adeiladol feirniadol arferol. Mae'n dda gweld y gall y pwyllgorau hyn, sy'n gweithredu drwy gonsensws, fod yn gadarn yn eu casgliadau serch hynny. Rwy'n dod i gasgliad ychydig yn wahanol ynghylch rhai o'i sylwadau beirniadol am y Llywodraeth yn methu cyrraedd ei thargedau. Ni allwn fod yn hapusach ei bod wedi methu cyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon, oherwydd ni ellir cyflawni y rheini heb y gost fwyaf andwyol i'r trethdalwyr a defnyddwyr trydan. Ni ellir tanbrisio'r datgymalu economaidd a greodd y polisi hwn dros y degawdau diwethaf. Arferem allforio nwyddau a weithgynhyrchwyd o lawer o ddiwydiannau—yn awr rydym wedi allforio'r diwydiannau hynny eu hunain i rannau eraill o'r byd er mwyn osgoi'r costau cynhyrchu uchel y mae'r polisi hwn wedi'u gorfodi arnom.

Gallaf groesawu rhai rhannau o'r adroddiad ar seiliau eraill er ei fod yn ymwneud â lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n cymeradwyo'n frwd yr argymhellion i blannu mwy o goed. Plannais 36 o goed fy hun yr wythnos diwethaf yn fy ngardd. Credaf y dylai pawb wneud yr un fath cyn belled ag y gallant. Ac yn gwbl sicr rwy'n cymeradwyo casgliadau'r adroddiad mewn perthynas â gwella'r stoc dai. Mae hynny'n hanfodol bwysig, ac rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan yn awr yn ei haraith ddiddorol iawn.

Ond rwy'n anghytuno â Julie ynglŷn ag un peth a ddywedodd, pan gyfeiriodd at y bwystfil o'r dwyrain a'r haf poeth a fwynhasom fel adlewyrchiad o newid yn yr hinsawdd. Wel, wrth gwrs, mae'r hinsawdd bob amser yn newid i ryw raddau, ond mae i ba raddau y gallwn ddod i gasgliadau ei bod yn newid yn y ffordd roedd hi'n ei gasglu—yn awgrymu, yn hytrach—yn ei haraith yn fater arall yn llwyr. Cofiaf haf 1976 yn dda iawn, er i mi ei golli gan imi dreulio'r rhan fwyaf ohono yng Nghaliffornia, ac rwyf wedi bod yn aros am un arall fel hwnnw ers 42 o flynyddoedd. Felly, mae'r pethau hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd. Nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn fod digwyddiadau tywydd eithafol yn fwy cyffredin heddiw nag y buont ar unrhyw adeg yn ein hoes. Yn aml caf fy ngalw'n wadwr newid hinsawdd, ond nid wyf yn gwadu newid hinsawdd o gwbl oherwydd rwy'n cydnabod bod newid hinsawdd yn elfen gyson. Mae newid hinsawdd yn gyffredin ac yn anrhagweladwy, ac yn sicr yn annaroganadwy mewn ffyrdd, ac yn aml mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r byd. Mae bob amser wedi gwneud hynny a bob amser yn mynd i wneud hynny. Y cwestiwn sy'n codi yw a yw hynny'n achos pryder. Yn sicr, nid oes modd cyfiawnhau, yn ôl unrhyw ymchwil ganfyddadwy y gwn amdani, y math o bryder y mae hyrwyddwyr mwy eithafol y polisïau newid hinsawdd hyn yn ei ddangos.

System gred yw hi mewn gwirionedd ac mae angen ei gwerthuso fel—[Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Yr hyn nad wyf yn ei ddeall, pan fyddwch yn dweud nad ydych yn gwadu newid hinsawdd, yw ein bod yn gwybod bod dwywaith cymaint o garbon yn yr atmosffer yn awr nag a oedd cyn y lefelau cyn-ddiwydiannol, ac mae'n rhaid ichi fynd yn ôl lawer o filiynau o flynyddoedd cyn bod digon o weithgaredd folcanig, mae'n debyg, i fod wedi cyrraedd lefel debyg o garbon. Rydym yn gwybod hynny. Mae bron yr holl garbon ychwanegol hwnnw wedi'i greu gan bobl, ac oni bai fod ei effeithiau'n cael eu lliniaru, mae'n debyg y bydd y tymheredd yn parhau i godi. Hynny yw, dyna'r darlun mawr, ac nid wyf yn deall sut y gallwch danseilio hwnnw.

16:30

Wel, nid oes unrhyw gysylltiad llinellol rhwng lefelau cynyddol o garbon deuocsid yn yr aer a chofnodion tymheredd. Ceir pendilio, a hyd yn oed os edrychwch chi ar y llinell atchwel linellol yn y graffiau ar y data tymheredd sydd gennym, sydd ei hun yn anghyflawn mewn llawer o ffyrdd, rydych yn dal i fethu profi'r honiad rydych chi newydd ei wneud.

Dyna'r cwestiwn allweddol yma, wrth gwrs: faint y gellir disgwyl i garbon deuocsid atmosfferig cynyddol gynhesu'r ddaear. Ac mae hwn yn faes ansicr iawn mewn gwyddoniaeth, nid yn lleiaf oherwydd bod gan gymylau rôl bwysig i'w chwarae, ac am nad ydym yn deall gwyddoniaeth cymylau yn llwyr mewn gwirionedd. Yn wir, tan yn ddiweddar, barn y mwyafrif ymhlith gwyddonwyr hinsawdd oedd bod cymylau'n chwyddo'r effaith tŷ gwydr sylfaenol yn fawr, ond mae lleiafrif sylweddol bellach, gan gynnwys rhai o'r gwyddonwyr hinsawdd mwyaf blaenllaw, yn anghytuno'n gryf â'r casgliad hwnnw.

Dros filenia, mae tymheredd y ddaear wedi amrywio llawer iawn, ymhell cyn dyfodiad tanwyddau ffosil. Cawsom gyfnod cynnes yn ystod y canoloesoedd, pan gredir bod y tymheredd o leiaf cyn gynhesed, os nad yn gynhesach na'r hyn ydyw heddiw, a 300 i 400 mlynedd yn ôl cawsom oes yr iâ fechan fel y'i gelwir, pan arferai'r afon Tafwys rewi drosti a phan gynhaliwyd ffeiriau rew arni. Ac yn ddi-os, yn y cyfnod ers y 1700au, mae'r Ddaear wedi bod yn cynhesu.

Fe orffennaf gyda'r ystyriaeth hon. Yn fy mhapur ystadegau yn Aberystwyth ar gyfer fy ngradd gyntaf, roedd yna gwestiwn a oedd yn dweud, 'Tuedd yw tuedd yw tuedd. Ond y cwestiwn yw, a all blygu? A fydd yn newid ei chwrs trwy ryw rym nas rhagwelwyd ac yn dod i ben cyn pryd? Trafodwch.' Ac rydym yn dal i'w drafod heddiw, ond yng nghyd-destun newid hinsawdd erbyn hyn. Felly, rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar fethu cyrraedd ei thargedau i gyd mewn modd mor gynhwysfawr, ac rwy'n gobeithio y byddant yn dal ati i wneud hynny.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hadroddiad. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed, ac mae'r rhai sy'n gwadu ei effaith neu ein rôl yn ei greu wedi eu halltudio i'r cyrion, diolch byth, ynghyd ag eraill sy'n credu mewn cynllwynion gwallgof, megis y rhai sy'n credu bod y ddaear yn wastad neu'r rhai sy'n credu mai stori ffug oedd glanio ar y lleuad. Mae newid hinsawdd yn real. Mae'n berygl clir a phresennol, a rhaid inni wneud popeth a allwn i liniaru ei effaith ar y ddynoliaeth.

Ychydig o dan dair blynedd yn ôl, cytunodd 195 o aelodau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd i 1.5 gradd uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Yr wythnos hon, clywsom ei bod eisoes yn rhy hwyr i lawer o ddinasoedd yn Ewrop a bod y trothwy hwnnw eisoes wedi'i groesi. Mewn gwirionedd, mae pob dinas fawr yn Ewrop yn cynhesu. Yn nes at adref, clywsom fod yr A487 yn Niwgwl dan fygythiad a gallai ddiflannu ymhen 20 mlynedd oherwydd newid hinsawdd. Mae cyngor Sir Benfro yn gorfod edrych ar lwybrau amgen.

Gosododd Llywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond yn anffodus mae'n ymddangos na fydd y targedau hyn yn cael eu cyrraedd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am dynnu sylw at y ffaith y dylai rhesymau'r Llywodraeth dros fethu cyrraedd y targedau fod wedi'u cynnwys yn y polisïau o'r cychwyn cyntaf, ac rwy'n croesawu eu pedwerydd argymhelliad, a fydd yn sicrhau na fydd polisïau yn y dyfodol mor annoeth. Mae'r pwyllgor yn tynnu sylw'n briodol at y rôl y mae coedwigaeth a choetiroedd yn ei chwarae yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, ac maent yn gywir i gwestiynu targedau plannu Llywodraeth Cymru. Os ydym yn gadael yr UE, gall fod cyfle i ail-lunio ein polisïau coedwigaeth ac amaethyddiaeth i ystyried newid hinsawdd. Gallai'r polisi amaethyddol cyffredin ganolbwyntio wedyn, ar gyfer y dyfodol, ar drefniadau rheoli tir sy'n annog defnydd o ddalfeydd carbon a rheoli llifogydd.

Ar drafnidiaeth, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at y diffyg cynnydd a wnaed ar newid moddol. Prin yw'r dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r newid i gerbydau trydan. Mae cyngor Caerffili newydd ddatgelu cynlluniau i  sicrhau bod yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar drydan ac mae'n bwriadu cyflwyno nifer fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dyma'r math o weithgarwch y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo a sicrhau ei fod yn cael ei ailadrodd ledled Cymru. Yn Aberdeen, defnyddir ynni dros ben o ynni gwynt a solar i greu hydrogen, sy'n cael ei ddefnyddio i redeg fflyd o fysiau. Mae angen i Lywodraeth Cymru osod esiampl yn awr a thynnu sylw at ddewisiadau amgen yn lle petrol a diesel.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu hadroddiad ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu eu hargymhellion. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod pwysigrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diolch i'r holl aelodau dan gadeiryddiaeth Mike Hedges. Rwy'n gallu derbyn pob un ond un o argymhellion y pwyllgor. Fel y nododd Dai Lloyd, cafodd un ohonynt ei dderbyn mewn egwyddor. Ond rwy'n falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar y rhan fwyaf ohonynt.

Yn gynharach y mis hwn roeddwn yn bresennol mewn uwchgynhadledd fyd-eang ar weithgarwch hinsawdd yn San Francisco a ddaeth ag arweinwyr a phobl at ei gilydd o bob rhan o'r byd i fynd i'r afael â'r broblem ryngwladol hon, ac i godi uchelgais i'r lefel nesaf. Drwy ein targedau, ein cyllidebau carbon a'n polisi, rydym yn gosod rhan Cymru o'r ateb. Roedd yr arwyddion mewn perthynas â'n tywydd yn amlwg iawn tra oeddwn yn yr uwchgynhadledd. Soniodd Julie Morgan am y gaeaf hir, gwlyb, ac oer iawn a gawsom eleni, wedi'i ddilyn gan y tywydd poeth, ac roedd yn dangos anwadalrwydd ein tywydd. Ni allodd y ddirprwyaeth o Wlad Groeg ddod oherwydd y llifogydd yr oeddent yn eu cael yn y wlad honno. Er ein bod yn San Francisco, roedd arfordir dwyreiniol America yn cael ei daro gan stormydd nad ydynt wedi gweld eu tebyg ers sawl degawd, ac wrth siarad â chymheiriaid yng Nghanada, roeddent hwythau hefyd wedi cael gaeafau tebyg iawn i ni, ond ar lefel fwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ni waeth beth y mae Neil Hamilton yn ei draethu, mae'r dystiolaeth wyddonol yn gwbl glir: mae newid hinsawdd yn digwydd, ac mae'n debygol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr yw'r achos pennaf. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn paratoi Cymru i fod yn economi carbon isel sy'n barod i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae'n nodi llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru yng nghyd-destun rhwymedigaethau presennol y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n cynnwys targed uchelgeisiol i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050 beth bynnag am Brexit ac unrhyw ddylanwadau allanol eraill. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu'r rheoliadau ategol fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr amgylchedd.

Fodd bynnag, rhaid ystyried ymateb i fygythiad a realiti newid hinsawdd nid yn unig fel gofyniad amgylcheddol, ond hefyd fel cyfle i addasu ein heconomi, gan gefnogi mwy o gyfleoedd economaidd i bobl a busnesau yng Nghymru, cefnogi atebion tai a thrafnidiaeth gwell, mwy effeithlon ac iachach. Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', oherwydd ein bod yn cydnabod ei gyfraniad mawr posibl i ffyniant a lles hirdymor. Soniodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fy mod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar ddatgarboneiddio i ddarparu'r fframwaith llywodraethu sydd ei angen arnom i sicrhau cymaint â phosibl o gydweithio. Roeddwn yn credu bod hynny'n bwysig iawn i ddangos ein bod yn gweithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth. Gofynasoch a fydd yn goroesi ad-drefnu'r Cabinet. Wel, rwy'n credu bod y ffaith iddo gael ei gynnwys yn 'Ffyniant i Bawb'—cydgyfrifoldeb—yn dangos ei fod yn gadarn iawn.

Cyfeiriodd Mike Hedges at y grŵp hwn hefyd. Yn amlwg, nid oes gennyf yr holl ddulliau at fy nefnydd, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau at ei defnydd hithau. Fe gyfeirioch chi at y ffaith bod y dulliau hynny gan Lywodraeth y DU at ei defnydd, ond credaf hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym. Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig iawn fod swyddogion yn gweld ein bod, fel Gweinidogion, yn hapus iawn i gydweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, credaf fod sefydliu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol wedi ein galluogi i symud mewn ffordd lawer cyflymach na'r hyn oedd yn digwydd o'r blaen.

Ystyriodd y Cabinet yr holl dystiolaeth, gan gynnwys cyngor gan ein cynghorwyr statudol annibynnol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Rydym wedi cytuno ar ein targedau lleihau allyriadau interim a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Er i mi glywed cyfeiriad at y ffaith ein bod wedi methu targedau, rhaid imi ddweud ein bod wedi cyrraedd ein targed blynyddol o 3 y cant yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r ffigurau mewn perthynas â'n targedau lleihau allyriadau interim a'n cyllidebau carbon drwy reoliadau tuag at ddiwedd y tymor hwn. Rwyf hefyd wedi lansio ymgynghoriad i edrych ar y camau y mae angen inni eu cymryd ar draws y Llywodraeth os ydym i gyrraedd ein targed 2030, ac mae fy swyddogion wedi cynnal digwyddiadau i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd o wahanol sectorau a gwella'r cydweithio a'r arloesedd y bydd eu hangen arnom os ydym am lwyddo. Sylwaf ar argymhellion 1 i 3, sydd, yn gwbl briodol yn fy marn i, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws holl waith y Llywodraeth i sicrhau'r llwyddiant hwnnw, ac rydym wedi rhoi ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac adolygu a chraffu annibynnol ar y blaen yn ein gwaith.

Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn llonydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein polisau i ddatgarboneiddio cartrefi, er enghraifft. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru i gynghori Gweinidogion ar raglen weithredu i ôl-osod pob eiddo preswyl erbyn 2050 er mwyn bodloni gofynion Deddf yr amgylchedd, a bydd gennym yr adroddiad hwnnw y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn meddwl bod Julie Morgan wedi siarad yn huawdl iawn am ddefnyddio rheoliadau adeiladu i symud hyn yn ei flaen, a soniodd Andrew R.T. Davies am gynllunio hefyd. Fel y dywedaf, rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd gennym, ac rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.

Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd a gwneud cynnydd ar alinio cylchoedd cyllidebu carbon a chyllid. Rydym yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, ac rydym yn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Rhaid inni leihau allyriadau—[Torri ar draws.] Nick.

16:40

Diolch. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am yr angen i newid i gerbydau trydan, ond a gytunwch â mi fod yn rhaid i'r trydan hwnnw gael ei wneud yn rhywle, ac os ydym yn symud oddi wrth ddiesel a phetrol i wefru trydan, bydd y gwefru'n dod o danwydd ffosil ac mewn gwirionedd, gallai fod yn llai effeithlon na pheiriannau petrol modern yn y tymor hir? Felly, mae angen inni sicrhau bod cynhyrchiant trydan adnewyddadwy lleol ar gael nad yw'n cael ei golli ar hyd grid cenedlaethol sy'n aneffeithlon.

Mae'n bwysig iawn fod hynny gennym, a chyfeiriais at Andrew R.T. Davies yn sôn am gynllunio, er enghraifft. Mae'n fy ngofidio bod cynifer o'n polisïau yn ymladd yn erbyn ei gilydd, os hoffech chi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ceisio gwneud yn siŵr fod yr holl bolisïau'n gweithio tuag at y nod hwnnw, a dyna un maes lle rwy'n bendant wedi tynnu sylw at faterion sy'n codi ac rydym yn bwriadu rhoi sylw i'r rheini.

Mae'n rhaid inni leihau allyriadau, a pharatoi hefyd ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar ein cymunedau, ein ffermwyr a'n busnesau, megis effaith sychder, llifogydd a gaeafau llym, ac yn fuan byddaf yn ymgynghori ar gynllun newydd i addasu i newid hinsawdd. Rwy'n cydnabod bod angen camau mawr ymlaen er mwyn datgarboneiddio ein sector amaethyddol heb amharu ar dwf, yn enwedig yn y cyfnod ansicr hwn cyn Brexit. Ni ellir pwysleisio digon fod rheoli'r tir a'i adnoddau naturiol yn gywir yn allweddol er mwyn diogelu'r amgylchedd a chyflawni ein targedau lleihau allyriadau. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi lansio ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' ym mis Gorffennaf, a hoffwn annog pob Aelod i ymateb. Ond rwyf am dawelu meddwl Caroline Jones na fydd gennym y PAC yn y dyfodol; bydd gennym bolisi amaethyddol Cymreig penodol.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn gwneud argymhellion cadarnhaol ynghylch plannu coed, a chofiaf David Melding yn ei dweud hi wrthyf—credaf mai fy ymddangosiad cyntaf un gerbron y pwyllgor ar ôl i mi gael y portffolio ydoedd. Fe syrthiais ar fy mai, ac mae'n bwysig iawn fod gennym strategaeth goetir ymarferol a realistig iawn, a gwn fod hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn bwrw ymlaen ag ef.

Credaf fod argymhelliad 8, sef yr argymhelliad a wrthodwyd gennym—credaf fod y targed unigol hwnnw'n annhebygol o fod yn ddefnyddiol wrth weithredu ein polisïau neu gyflawni ein nodau creu coetir, ond rwyf am dawelu meddwl yr Aelodau ei fod yn rhywbeth yr ydym o ddifrif yn ei gylch; gwn ei fod yn brif flaenoriaeth i Weinidog yr Amgylchedd. Lansiwyd y strategaeth goedwigaeth newydd, 'Coetiroedd i Gymru', ar 26 Mehefin, ac mae'n manylu ar sut y bwriadwn gyflawni ei nodau dros yr 50 mlynedd nesaf.

Newid hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf a wynebwn, ac nid ydym am beryglu lles cenedlaethau'r dyfodol drwy anwybyddu'r her. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac i drawsnewid Cymru yn wlad ffyniannus mewn byd carbon isel. Diolch.   

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Andrew Davies, Dai Lloyd, Julie Morgan, Caroline Jones, Neil Hamilton ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon? Credaf mai'r hyn a gefais yn fwyaf—sut y gallaf ei egluro—yn fwyaf buddiol oedd nad dadl y pwyllgor yn unig oedd hi; nid y pwyllgor yn cael dadl yn gyhoeddus pan fyddant fel arfer yn ei chael mewn cyfarfod pwyllgor oedd hyn. Ymgysylltwyd â llawer o bobl eraill nad ydynt ar y pwyllgor. Credaf fod hynny'n hynod fuddiol.

Nododd Andrew Davies ei gefnogaeth i adrodd blynyddol a'i gefnogaeth i fonitro cyson, a thynnodd sylw at rywbeth nad ydym yn sôn digon amdano: rydym yma i wneud gwahaniaeth. Rydym yma i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, a phan fyddwn yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor, dyna rydym yno i'w wneud. Tynnodd Dai Lloyd sylw at goed—maent yn defnyddio carbon deuocsid—gorchudd canopi coed trefol o 20 y cant—. Cyfansoddwyd y pwyllgor newid hinsawdd o bobl sy'n frwd i blannu rhagor o goed, fel y profwyd gennym mewn adroddiad diweddar.

Tynnodd Julie Morgan sylw at newid hinsawdd. Gofynnwch i unrhyw un dros 50 oed, a byddant yn dweud wrthych sut y mae'r tywydd wedi newid er pan oeddent yn blant. Er enghraifft, i siarad am law yn unig, roeddwn wedi arfer â'r glaw mân cyson hwnnw a âi yn ei flaen o fis Medi tan fis Ebrill neu fis Mai. Arferem gael glaw mân cyson; bellach rydym yn cael cawodydd enfawr. Roeddwn bob amser yn gwisgo côt ond byth yn gwlychu. Nawr rwy'n gwisgo côt ac rwy'n gwlychu. Rydym yn gweld newid yn yr hinsawdd. Siaradodd Julie Morgan am Cartrefi Clyd, ac mae'n bwysig iawn o safbwynt newid hinsawdd ond mae'r un mor bwysig, neu efallai hyd yn oed yn fwy pwysig, o safbwynt tlodi. Mae gormod o lawer o fy etholwyr, llawer gormod o bobl ar incwm cyfyngedig, yn byw mewn cartrefi oer a llaith. Os gallwn wella cynhesrwydd y cartrefi hynny, byddem yn lleihau newid hinsawdd, ond byddem hefyd yn gwella bywydau llawer iawn o bobl.

Adeiladau fel gorsafoedd pŵer yw'r cyfeiriad yr ydym yn symud iddo, a chredaf ei fod yn gyfeiriad buddiol inni symud iddo, a thai goddefol—mae hynny'n rhywbeth arall hynod o fuddiol. Yr hyn sydd angen inni ei weld yw gwella technoleg batri. Rwy'n dal i'w gweld ar gyfer storio a batris sy'n defnyddio batris ceir. Rhaid bod ffordd well o'i wneud, ac yn sicr rhaid inni edrych am dechnoleg batri well, a fydd yn ein symud ymlaen at y cam nesaf.

Mae Neil Hamilton hefyd yn gwneud llawer o blannu coed. Hoffwn eich llongyfarch ar blannu 36 o goed yn eich gardd. Nid yw fy ngardd i'n ddigon mawr ar gyfer 36 o goed. [Chwerthin.] Ond gwyddom fod carbon yn ocsideiddio i ffurfio carbon deuocsid, ac rydym yn gwybod bod carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Gwyddom y ddwy ffaith honno, felly nid wyf yn siŵr sut y gallwn wadu newid yn yr hinsawdd pan fo'r ddwy ffaith yn bethau nad oes neb yn dymuno dadlau yn eu cylch, a chredaf y bydd dadansoddiad atchweliad sgwariau lleiaf yn dangos cynnydd mewn tymheredd dros y 50 mlynedd diwethaf.

Caroline Jones, croeso i ymuno â newid hinsawdd—â phobl sy'n pryderu am newid hinsawdd. Ac rydych yn iawn, mae'r A487 yn Niwgwl mewn perygl. Mae ffyrdd eraill yn mynd i fod mewn perygl. Rydym hefyd yn gwybod am y rhannau hynny o ogledd Cymru sydd dan fygythiad difrifol. Ac unwaith eto, fe sonioch am bwysigrwydd coetiroedd. Efallai fod hwnnw'n un peth y gall pawb ohonom gytuno yn ei gylch: mae arnom angen mwy o goed.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am groesawu'r adroddiad. Credaf mai un o'r gwendidau wrth i bobl fel fi godi ar eu traed yw nad ydym yn tynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn gwirionedd. Roedd yr un broblem yn union gennyf fel athro. Byddai rhywun yn cyflwyno rhywbeth i mi, ac yn lle dweud, 'Mae'n dda iawn', buaswn yn dweud, 'Wel, mae hwn yn anghywir ac mae hwnna'n anghywir.' Credaf fod tuedd i ni ac i bwyllgorau wneud yn union yr un peth. Mae yna lawer sy'n dda iawn, ond mae'n fater o, 'Wel, hoffwn gwyno am y pethau hyn.'  

Credaf fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad iawn, ac eto rydym yn mynd i orfod addasu'r economi. Hoffwn weld mwy yn cael ei wneud ar ynni yng Nghymru. Gwn fod y morlyn llanw yn hoff brosiect i'r rhai sy'n byw yn ardal Abertawe, ond gellir gwneud llawer o bethau eraill er mwyn cynhyrchu ynni gwyrdd. Os na wnawn hynny, yr hyn sy'n fy mhoeni yw y byddwn yn defnyddio mwy o nwy i gynhyrchu trydan. Wedyn, byddwn yn cwyno wrth Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes ganddi unrhyw reolaeth dros hyn, pam nad yw'n mynd i'r afael â hynny.

Mae'r targed blynyddol o 3 y cant wedi cael ei gyrraedd. Cododd Nick Ramsay bwynt pwysig iawn yn fy marn i pan ddywedodd mai'r cyfan a wnawn os ydym ond yn defnyddio trydan a gynhyrchwn o eneraduron nwy yw defnyddio mwy o allyriadau ond nid i'r pwynt lle rydych yn gwefru eich car. Yr hyn sydd ei angen, os ydym yn mynd i gael cerbydau trydan, yw defnyddio trydan adnewyddadwy i wneud hynny. Fel arall, ni fyddwn ar ein hennill ond yn fwy na hynny, byddwn yn waeth ein byd oherwydd mae'n fwy na thebyg fod ceir yn fwy effeithlon—mewn gwirionedd mae ceir yn defnyddio petrol yn fwy effeithlon nag y mae gorsafoedd pŵer yn defnyddio nwy i gynhyrchu trydan a symud y trydan hwnnw ar draws y grid. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni sylweddoli mai yn y pethau syml—. 'O ie, fe gawn geir trydan, bydd gennym yr holl eneraduron nwy hyn a bydd popeth yn wych', ond nid yw hynny'n wir.

Ond credaf ein bod yn gwneud cynnydd da iawn, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a diolch i bawb a gymerodd ran mewn dadl dda iawn yn fy marn i.

16:45

Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:50
7. Dadl ar Ddeiseb P-05-826—Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar P-05-826: 'Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!' Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6797 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!’ a gasglodd 40,045 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon ar ddeiseb sy'n ceisio gwarchod y ddarpariaeth o wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Dosbarth Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro.

Mae hon yn ddeiseb o bwys, o ran ei phwysigrwydd i bobl yn y gymuned leol a nifer y llofnodion a gasglwyd. Llofnododd 40,045 o bobl y ddeiseb i gyd. Rwy'n deall mai dyma'r ddeiseb fwyaf a gyflwynwyd i'r Cynulliad ers cyflwyno'r broses ddeisebu ffurfiol yn 2007. Cafodd lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb ei gadarnhau pan gafodd ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf, gyda nifer sylweddol o gefnogwyr wedi teithio o Sir Benfro. Rwyf am gydnabod y gefnogaeth i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rhai a ymgyrchodd i gasglu'r llofnodion.

Rwyf am droi'n fyr at rywfaint o gefndir cyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Ar 19 Ebrill eleni, lansiodd bwrdd iechyd Hywel Dda ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gynigion i newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd ar draws yr ardal. Daeth hyn yn sgil ymarferiad mewnol i geisio nodi'r heriau a wynebir gan y bwrdd iechyd a'r opsiynau ar gyfer newid. Mae'n deg nodi bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi pwysleisio bod y broses hon wedi'i harwain gan staff clinigol o'r cychwyn cyntaf.

Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys tri chynnig ar gyfer newidiadau i wasanaethau ysbyty. Mynegodd mai ei nod cyffredinol yw symud mwy o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a lle bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yng nghartrefi cleifion eu hunain. O dan bob un o'r argymhellion, byddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth i ddod yn un o rwydwaith o ysbytai cymuned. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 12 Gorffennaf. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ystyriwyd canlyniadau'r ymgynghoriad ac argymhellion mewn cyfarfod eithriadol o fwrdd iechyd Hywel Dda yn gynharach heddiw. Adroddwyd yn y cyfryngau fod cais wedi'i wneud i'r bwrdd gymeradwyo sawl argymhelliad clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu model newydd yn gyflym a fersiwn ddiwygiedig o opsiwn B o'r ymgynghoriad.

Bydd opsiwn B yn golygu, ymhlith pethau eraill, cau adrannau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili ac adeiladu ysbyty newydd rhwng Arberth a Sanclêr. Y bwriad yw addasu Llwynhelyg a Glangwili i fod yn ysbytai cymuned. Cymeradwywyd y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd a'r cam nesaf yw ystyried strategaeth iechyd ddrafft ym mis Tachwedd.

Cydnabu'r Pwyllgor Deisebau lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb pan drafodwyd hyn am y tro cyntaf yn union cyn toriad yr haf. Roedd y pwyllgor hefyd yn ymwybodol o natur sensitif i amser y mater. O gofio hyn, cytunwyd y byddai'n briodol cyfeirio'r ddeiseb ar unwaith ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon ar y cyfle cynharaf posibl. Er hynny, mae'n amlwg yn anffodus iawn, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, fod y ddadl hon yn digwydd ar ôl cyfarfod y bwrdd iechyd y bore yma.

Rwy'n siomedig hefyd fod y wybodaeth a gafodd y pwyllgor gan Hywel Dda yn anghywir. Nododd y byddai adroddiad cau ymgynghoriad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i gyfarfod cyhoeddus o'r bwrdd yfory, ar 27 Medi, yn hytrach na heddiw. Serch hynny, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dymuno rhoi sylw manwl i'r materion a godir yn ystod y ddadl y prynhawn yma ac i'r safbwyntiau a fynegir gan yr Aelodau.

Rwyf am symud ymlaen yn awr at y pryderon a fynegwyd yn y ddeiseb. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr effaith y bydd cael gwared ar yr adran damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg yn ei chael ar y pellter y byddai angen i lawer o bobl ei deithio i gyrraedd eu hadran damweiniau ac achosion brys agosaf.

O dan y cynlluniau, bydd Llwynhelyg yn cynnal uned mân anafiadau. Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn credu y bydd y newid yn arwain at amseroedd teithio o awr neu fwy i adran damweiniau ac achosion brys i bobl sy'n byw ar ochr orllewinol Sir Benfro. Maent hefyd yn mynegi pryder y gallai'r amser hwn fod yn llawer hwy mewn gwirionedd i gleifion sydd angen ambiwlans i'w cludo i'r ysbyty. Mae pawb ohonom yn gwybod cymaint y mae cymunedau lleol yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau iechyd, a pha mor emosiynol y gall argymhellion i'w newid fod. Nid yw honno'n ddadl dros beidio â gwneud newidiadau byth wrth gwrs. Ond dylai fod yn ddadl dros sicrhau y gall cynifer o leisiau ag y bo modd gael eu clywed a dros roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pryderon.

I'r perwyl hwn, hoffwn nodi ar gyfer y cofnod hefyd fod y Pwyllgor Deisebau wedi derbyn deiseb yn ddiweddar mewn perthynas â'r argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr un ymgynghoriad ar gyfer gwneud newidiadau i wasanaethau a ddarperir yn ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Bydd y pwyllgor yn ystyried hyn yn y dyfodol agos.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau a godir yma heddiw o ddiddordeb mawr i'r deisebwyr. Mae'n amlwg hefyd y bydd y penderfyniadau a wnaethpwyd gan y bwrdd iechyd yn gynharach heddiw yn siom fawr i'r rhai a lofnododd y ddeiseb hon ac i nifer o bobl yn Sir Benfro a gorllewin Cymru yn ehangach. Rwyf hefyd yn siŵr fod nifer fawr o'r Aelodau yma heddiw yn dymuno siarad ar y pwnc hwn, ac fe'i gadawaf i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sy'n ganolog i'r mater hwn. Y cyfan sydd ar ôl i mi ei ddweud yw y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ymhellach yn y dyfodol yng ngoleuni'r drafodaeth yma heddiw, ac y bydd y cyfraniadau amrywiol y byddwn yn eu clywed yn cefnogi'r ystyriaethau hynny'n fawr. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch. Fel y dynodwyd, mae nifer o bobl yn dymuno siarad, ac felly a gaf fi ddweud wrth bawb ohonoch: nid fy mrifo i fyddwch chi pan ewch dros yr amser, ond efallai y byddwch yn atal un o'ch cyd-Aelodau rhag siarad. Felly, os gallwch gadw hynny mewn cof, os gwelwch yn dda. Paul Davies.

Diolch, Ddiprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl. Ar y cychwyn cyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i drefnydd y ddeiseb, Myles Bamford Lewis, a'r nifer dirifedi o ymgyrchwyr lleol sydd wedi mynd allan o'u ffordd i ymgyrchu dros ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.

Mae heddiw'n ddiwrnod tywyll iawn i bobl Sir Benfro yn dilyn y newyddion trychinebus y bydd ysbyty Llwynhelyg yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol dosbarth ddydd a nos, ac ar y cychwyn gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymyrryd ar frys mewn perthynas â'r mater hwn a rhoi camau ar waith ar unwaith i ddiogelu ein gwasanaethau lleol. Yn wir, mae'r ffaith bod ychydig dros 40,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon ynddi'i hun yn dangos cryfder y teimlad ynglŷn â gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru ac yn ei gwneud yn gwbl glir na fydd pobl Sir Benfro yn ildio eu gwasanaethau heb frwydr.

Fel y mae'r Aelodau eisoes yn gwybod, dyma ymgyrch rwyf wedi'i chefnogi gyda balchder ers blynyddoedd, ac yn fy rôl fel yr Aelod Cynulliad lleol byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i wrthwynebu unrhyw gynlluniau a fydd yn arwain at symud gwasanaethau o'r ysbyty. Yn fy marn i ni fydd israddio gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn arwain at wneud gwasanaethau'n fwy diogel neu'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Nawr, wrth agor y ddadl hon, tynnodd y Cadeirydd sylw at yr ymgynghoriad a lansiwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ar ei argymhellion ar gyfer newid y ffordd y darparir gwasanaethau iechyd ar draws ardal y bwrdd iechyd, a chadarnhaodd y byddai ysbyty Llwynhelyg, o dan bob un o'r tri argymhelliad, yn cael ei hisraddio o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth. Mewn geiriau eraill, ni chafodd pobl Sir Benfro unrhyw ddewis yn yr ymgynghoriad hwn gan fod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud i israddio'r ysbyty i fod yn ysbyty cymuned. Nid ymgynghoriad yw peth felly.

Yn Sir Benfro, rydym wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd diffyg tryloywder, didwylledd a hyder yn ein bwrdd iechyd, ac mae hynny'n sicr wedi cael effaith ar y ffordd y cafodd y cynigion diweddaraf hyn eu derbyn yn lleol gan bobl. Mae'r bobl leol yn cofio dogfen gynllun 'gwario i arbed' y strategaeth gwasanaethau iechyd gwledig a gafodd ei datgelu'n answyddogol i'r wasg a'i thynnu'n ôl wedyn, a'r modd y soniai am ganoli gwasanaethau i ffwrdd o ysbyty Llwynhelyg. Roedd y ddogfen honno'n ei gwneud hi'n glir mai'r unig wasanaethau craidd yr oedd y bwrdd iechyd am eu darparu o Lwynhelyg oedd canolfan gofal brys: dim adran damweiniau ac achosion brys, asesiadau pediatrig wrth aros ar gyfer trosglwyddo i Langwili, gwasanaethau llawfeddygol dewisol arhosiad byr, obstetreg risg isel, a gofal dan arweiniad bydwragedd. Wel, gwibiwch ymlaen i 2018, a dyna'n union ble rydym bron iawn.

Ymgynghoriad presennol y bwrdd iechyd yw'r ddiweddaraf mewn cyfres hir o ymdrechion i ddileu gwasanaethau'n barhaus yn ysbyty Llwynhelyg dros y blynyddoedd diwethaf, ac i fod yn gwbl onest, mae'r bobl leol wedi cael llond bol ar orfod ymladd i gadw gwasanaethau hanfodol yn eu hysbyty lleol. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gwasanaethau megis gwasanaethau orthodontig a'r uned gofal arbennig i fabanod yn cau ac yn cael eu canoli i ffwrdd o Sir Benfro, ac rydym wedi gweld gwasanaethau pediatrig amser llawn yn cael eu hisraddio.

Mae'r erydu parhaus hwn ar wasanaethau yn cael effaith ddilynol ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Er enghraifft, mae israddio gwasanaethau pediatrig amser llawn yn barhaus yn naturiol yn effeithio ar yr adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg, yn enwedig o gofio bod 25 y cant o'r rhai sy'n cael eu derbyn i adran damweiniau ac achosion brys yn blant. Yn wir, mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd hyd yn oed yn ystyried israddio'r adran damweiniau ac achosion brys yn uned mân anafiadau yn profi'r pwynt a wnaed ar y pryd y byddai israddio gwasanaethau pediatrig amser llawn yn effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Dyma roedd pobl fel fi ac eraill yn ei ddweud ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn anffodus, cawsom ein profi'n gywir. Ar y pryd, cawsom ein cyhuddo o godi bwganod.

Gadewch i ni gofio hefyd fod argymhellion y bwrdd iechyd yn golygu y bydd cleifion bellach yn gorfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau hanfodol mewn rhan o Gymru lle mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn creu nifer o heriau. Ychydig o sylw a roddwyd i rwydwaith trafnidiaeth treuliedig gorllewin Cymru, a fydd yn gorfod ymdopi â mwy a mwy o bobl yn teithio tua'r dwyrain o Sir Benfro. Unwaith eto, mae hyn yn dangos lefel y flaenoriaeth a roddir i ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru, a rhaid i Lywodraeth Cymru roi diwedd yn awr ar gynlluniau'r bwrdd iechyd ac anfon datganiad clir na oddefir camau cyson i symud gwasanaethau o Sir Benfro mwyach.

Ddirprwy Lywydd, fe wyddom hefyd nad yw bwrdd iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim i helpu i ddenu meddygon a staff meddygol i'r ardal drwy israddio a dileu gwasanaethau, ac nid yw hynny yn ei dro yn gwneud dim i ddiogelu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn rhoi diwedd ar gynlluniau trychinebus y bwrdd iechyd unwaith ac am byth.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ailadrodd eto fy nghefnogaeth i'r ddeiseb hon ac ategu safbwyntiau pobl Sir Benfro ar y mater hwn? Mae'r neges yn hollol glir: rhowch y gorau i israddio ein hysbyty. Cefnogir y neges hon gan gynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol ac ar bob lefel o lywodraeth. Yn wir, ymgyrch 'tîm Sir Benfro' yw hi, dan arweiniad pobl leol sy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â gwasanaethau iechyd lleol.

17:00

Mae'n braf gallu siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau a llefarydd Plaid Cymru ar iechyd. Rydw i'n mynd i siarad am yr egwyddorion o israddio a cholli gwasanaethau brys.

Mae'r ddeiseb yma, wrth gwrs, rydym ni'n ei thrafod heddiw yn adlewyrchiad eto fyth o'r consýrn sy'n codi'n gyson pan fyddwn yn sôn am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai, ac yn benodol yr argymhellion sydd wedi bod yn achosi pryderon yn y rhan yma o Gymru bellach ers blynyddoedd. Mae pryderon yn cael eu hanwybyddu yn aml gan wleidyddion sydd yn dweud, 'O, mae'n rhaid inni fynd drwy broses o newid. Mae'n rhaid derbyn hyn.' Efallai y clywn ni gyfeiriadau rhethregol heddiw at yr adolygiad seneddol o ofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, ond cyn ichi fynd i chwilio'ch hun, mi allaf i addo nad oes yna gyfeiriad yn yr adroddiad hwnnw at unrhyw beth tebyg i'r ad-drefnu sydd yn cael ei argymell yma ar gyfer ardal Hywel Dda. Credwch chi fi, mae'n bwysig ein bod ni yn gwrando ar y deisebwyr a'r protestwyr, achos rydw i'n meddwl bod hawl gan bobl i dderbyn gwasanaethau hanfodol o fewn pellter rhesymol i le maen nhw'n byw, ac mae adran frys ysbyty yn hanfodol, siawns.

Rydw i wedi galw yn y gorffennol am ddatblygu fframweithiau o fewn y gwasanaeth iechyd yn nodi pa wasanaethau a ddylai gael eu darparu ar ba lefel, hynny ydy, rhai gwasanaethau o fewn eich cymunedau neu yn agos iawn at eich cymunedau—eich meddyg teulu chi, fferyllfeydd ac yn y blaen. Mae angen nodi bod rhai gwasanaethau arbenigol mae'n rhaid inni dderbyn bod yn rhaid teithio ymhellach i'w cael nhw, ac rydw i'n cynnwys yn hynny—rydw i wedi cael fy argyhoeddi—gwasanaethau brys trawma arbenigol. Mi wnaf i nodi yn fan hyn ei bod hi'n adlewyrchiad gwael iawn ar benderfyniadau hanesyddol fod cleifion yn y gogledd yn gorfod mynd i Stoke am y gwasanaethau trawma yma yn hytrach na bod buddsoddiad wedi cael ei wneud mewn datblygu gwasanaeth o'r math yna a allai gwasanaethu'r gogledd yng Nghymru. Nid ar chwarae bach, wrth gwrs, mae datblygu'r gwasanaethau hynny rŵan.

Ond, o edrych ar wasanaethau brys yn gyffredinol, mi edrychais i ar adroddiad diweddar a gafodd ei gyhoeddi yn Health Services and Delivery Research—astudiaeth a oedd yn cymharu allbynnau rhwng ardaloedd sydd wedi gweld gwasanaethau A&E yn cael eu canoli ac ardaloedd eraill. Nid yw'r astudiaeth yna ddim yn gweld bod yna fudd wedi dod o ganoli. Newyddion da i chi: wrth ganoli, nid oedd cynnydd mawr yn cael ei weld mewn niferoedd marwolaethau, ond mi oedd hynny oherwydd bod camau lliniarol wedi cael eu cymryd. Oedd, mi oedd yna gynnydd yn y risg o farwolaethau o ganoli ond, yn gyffredinol, nid oedd pethau ddim llawer gwaeth ar ôl canoli, os ydych chi'n cymryd cysur o hynny. Ond, mi oedd yna dystiolaeth o bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans o ganlyniad i ganoli, ac mae'n werth nodi hefyd fod yr ardaloedd yr edrychwyd arnyn nhw fel rhan o'r astudiaeth yna yn rhai llai gwledig na'r rhan arbennig yma o orllewin Cymru.

Rydw i'n meddwl hefyd y gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar ganfyddiadau astudiaeth Prifysgol Sheffield, yn ôl o 2007, a wnaeth astudio 10,500 o achosion brys a chanfod bod 10 km yn rhagor mewn pellter o adran frys yn cyfateb i 1 y cant o gynnydd mewn marwolaethau. Ac mi oedd y ffigwr yn waeth, wedyn, ar gyfer pobl a oedd â chyflyrau anadlu neu gyflyrau anadlol. Felly, mae pellter o adran frys yn gwneud gwahaniaeth i allbynnau.

Felly, mae yna ffactorau risg ymhlith y newidiadau arfaethedig, ac mae gan bobl, felly, yr hawl i fod â chonsýrn. Ac, wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim mo'r manylion rydym ni eu heisiau ar hyn o bryd i wneud gwerthusiad llawn o'r hyn sydd yn cael ei gynnig. Nid oes argymhelliad am ofal allan o oriau; dim cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol; dim cynlluniau i fuddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans, ac yn y blaen. Yn hytrach, beth sydd gennym ni yw abwyd o ysbyty newydd sbon, ac rydw i'n addo i chi, o bawb rydw i wedi siarad efo nhw, maen nhw'n amheus iawn y caiff hynny ei ddelifro: £350 miliwn, o bosib, o fuddsoddiad—yr holl wariant cyfalaf mewn blwyddyn yng Nghymru. Beth rydym ni angen ei wneud, wrth gwrs, ydy gwella'r elfennau hynny o'r gwasanaeth sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl: cryfhau gofal sylfaenol, buddsoddi mwy mewn hyfforddiant meddygol, taclo problemau recriwtio ac ati, a chadw staff yn y ffordd yna.

I gloi, nid yw tynnu gwasanaethau hanfodol o ardaloedd helaeth o Gymru am wella ein gwasanaeth iechyd ni, mae gen i ofn, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r deisebwyr am sicrhau un o'r niferoedd uchaf erioed o enwau ar ddeiseb i gael ei hystyried gan ein pwyllgor ni, achos rydych chi'n cynrychioli nid yn unig y bobl yn ardal Hywel Dda, ond pobl ledled Cymru sy'n trysori eu gwasanaeth iechyd lleol nhw.

17:05

Yn amlwg mae hwn yn fater anodd, wynebu mecaneg newid. Yr achos a wnaed gan fwrdd iechyd Hywel Dda yw'r un dros gynaliadwyedd gwasanaethau, nid yn awr, ond ymhen 10 mlynedd, ac rydym eisoes yn gweld bod ein gwasanaethau ysbyty yn ei chael hi'n anodd o dan y galw ychwanegol a goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio heddiw. Eisoes ceir prinder gofal y tu allan i oriau ar nifer o benwythnosau yn yr unedau sy'n gysylltiedig â'r ysbytai'n unig, heb sôn am y pwysau ar y wardiau, lle mae oedran cyfartalog cleifion ysbyty'r Tywysog Philip yn 82 mlwydd oed.

Yn amlwg, mae angen adlewyrchu'r newidiadau hyn yn y gymdeithas yn y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn trefnu ysbytai. Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol ynglŷn â hynny. Daw'r anhawster o'r wleidyddiaeth ac ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r claf ar oblygiadau hynny i'n hysbytai lleol. Yn amlwg, nid yw hynny'n hawdd, ac rwyf wedi bod yn feirniadol o'r ffordd yr ymgysylltodd Hywel Dda yn hynny o beth wrth geisio rheoli'r ddadl, peidio â chymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, dosbarthu dogfen ymgynghoriad cyhoeddus a oedd bron yn annealladwy. Felly, mae'r ffordd y maent wedi cynnal yr ymgynghoriad yn amherffaith, ond credaf na ellir dadlau bod angen wynebu newid. Ond wrth gwrs, rydym am weld newid er gwell.

Rwy'n falch o'r cyhoeddiad y bore yma fod opsiwn A wedi'i dynnu'n ôl. Gyda phoblogaeth o faint Llanelli, o ystyried y rôl y mae ysbyty'r Tywysog Philip yn ei chwarae yn ecosystem ysbytai Hywel Dda fel canolfan hyfforddiant, nid wyf yn credu y byddai wedi bod er lles gorau'r bwrdd iechyd nac er budd pobl Sir Gaerfyrddin i israddio hwnnw'n ysbyty cymuned. Ac rwy'n falch fod y bwrdd iechyd wedi gwrando ac ystyried yn amyneddgar y dadleuon a gyflwynwyd, nid yn unig gennyf fi a fy nghydweithiwr, Nia Griffith AS, ond hefyd gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad, lle dywedodd eu staff eu hunain mewn ymateb i'r ymgynghoriad nad oedd opsiwn A yn dderbyniol, a bod opsiwn B yn ateb gwell. Felly, i'r graddau hynny, mae'n rhyddhad i mi fod y canlyniad fel y mae. Fel y dywedodd David Rowlands ar y dechrau, mae deiseb gan ymgyrch SOSPPAN, yr ymgyrch 'achubwch ein gwasanaethau', sydd i ddod gerbron y Pwyllgor Deisebau—deiseb o 13,000 o lofnodion—eto i gael ei chlywed.

Gan edrych ar ganlyniad y penderfyniad y bore yma gan y bwrdd iechyd, credaf fod nifer o bethau y maent wedi cytuno iddynt mewn ymateb i'r ymgynghoriad yn galonogol, ond mae angen inni gadw llygad gofalus arnynt. Un yw argymhelliad 7, sef datblygu cynllun manwl i fynd i'r afael â'r pryder mawr a glywyd ynglŷn â mynediad. Yn benodol, maent yn bwriadu gweithio gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru i edrych ar gludiant cleifion—ac edrych ar fodelau newydd ar gyfer symud pobl o gwmpas. Dyma fan gwan y newid i mi. Pan nad oes gan 25 y cant o bobl gar at eu defnydd, a phan fo'r rhai sydd â char at eu defnydd awr i ffwrdd o ysbyty—. Bydd rhai o fy etholwyr yn agosach at ysbyty Treforys; byddant yn agosach at ysbyty Tywysog Cymru; byddant yr un mor agos at ysbyty Mynydd Bychan ag y byddant i'r ysbyty yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, yn amlwg, mae mynediad yn mynd i fod yn allweddol ar gyfer gwneud i unrhyw newidiadau weithio.

Yr argymhelliad arall, argymhelliad 8, yw'r defnydd o dechnoleg, a oedd yn un na chafodd ei ddatblygu'n ddigonol o gwbl yn yr argymhellion a gyflwynwyd gan Hywel Dda. Clywais ar y gweddarllediad y bore yma Dr Alan Williams, sy'n arweinydd clwstwr ar gyfer Llanelli, yn dweud bod eu cynllun i fanteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg, a ddangoswyd ar sleidiau drwy iPhone—. Dywedodd mai'r realiti yn y GIG heddiw yw'r ffaith nad iPhone fydd hyn yn ei olygu; y gwir amdani yw mai defnydd o beiriant ffacs fydd hyn yn ei olygu. Rydym wedi trafod yn y Siambr hon o'r blaen beth yw realiti cyflwr digidol y GIG heddiw. O ystyried cyflymder y newid y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gallu ei sicrhau hyd yma, er bod hyn 10 mlynedd yn y dyfodol, rhaid bod rhywfaint o amheuaeth ynglŷn ag a ydynt yn mynd i allu ei gyflawni o ran y strwythur sydd iddo a'r adnoddau sydd ganddo ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg, rhaid unioni hynny, oherwydd mae'r potensial i leihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol, fel y gall pobl gael mynediad at wasanaethau heb orfod mynd i ysbyty, yn enfawr ac ni fanteiisir ar hynny, naill ai yng nghynlluniau Hywel Dda na chan y GIG yng Nghymru yn fwy cyffredinol.

Mae rhai pethau'n dal i beri pryder yn yr ymateb o safbwynt fy etholwyr, ac mae lefelau ymddiriedaeth yn isel. Maent yn dweud y ceir adolygiadau cynhwysfawr o hyd—. Er y bydd gwasanaethau acíwt yn aros yn ysbyty'r Tywysog Philip, bydd angen adolygiadau cynhwysfawr wrth gynllunio'r newid i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod meddygaeth acíwt yn mynd i fod ar gael ym mhob ysbyty. Felly, ar ôl dweud ar y naill law y bydd meddygaeth acíwt yn cael ei chadw yn ysbyty'r Tywysog Philip, mae yna rybudd braidd yn sinistr y gallai fod brwydrau yn y dyfodol o hyd, ac yn sicr byddaf yn cadw llygad barcud ar hynny. Diolch.   

17:10

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno hyn mewn ffordd mor bwyllog a chytbwys. Rydym yn sôn am oddeutu 40,000 o lofnodion. Y tu ôl i bob llofnod mae yna lais. Rydym yn siarad am oddeutu 40,000 o leisiau a fu'n ymdrechu i gael eu clywed am dros ddegawd; 40,000 o leisiau blinedig a rhwystredig iawn, sy'n byw mewn ofn parhaus am nad yw'n ymddangos eu bod byth yn llwyddo i effeithio mewn unrhyw ffordd o gwbl ar unrhyw gynlluniau sydd gan eraill ar gyfer eu bywydau.

Dyma'r trydydd ymgynghoriad yn fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Deuthum i mewn ar gefn y ddogfen 'Cynllun Cyflenwi', a oedd yn drychineb llwyr. Roedd rhyw nonsens o ymgynghoriad tua phum mlynedd yn ôl a aeth i'r gwellt yn ôl ei haeddiant, a bellach rydym wedi cael yr ymgynghoriad hwn.

Mae bob amser yn canolbwyntio ar israddio Llwynhelyg—un o ysbytai mwyaf anghysbell Cymru, sy'n gwasanaethu un o bobloaethau mwyaf anghysbell Cymru: poblogaeth sy'n anghymesur o oedrannus o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Beth sy'n tueddu i fod yn gyffredin ymhlith pobl oedrannus? Nid ydynt yn tueddu i fod yn hynod o llythrennog mewn TG. Yn aml nid oes ganddynt gar at eu defnydd. Maent yn ei chael hi'n flinedig ac yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 'Ond hei, dyfalwch beth, chi hen werin Sir Benfro? Rydym yn mynd i symud eich ysbyty ymhellach i ffwrdd o'r mathau o wasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch.' Mae'n boblogaeth sydd â nifer uchel hefyd o bobl dan anfantais, pobl dlawd, yn byw yn Sir Benfro—poblogaeth sydd eisoes yn cael trafferth i recriwtio a chadw meddygon teulu a nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a staff ysbyty. Ac mae'r tri cyntaf—meddygon teulu, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd—oll yn hanfodol os ydym am adeiladu ar y gwasanaethau cymunedol hyn y soniwn amdanynt. Ond rwy'n dweud wrthych: y drol o flaen y ceffyl? Oherwydd dylem adeiladu ar y gwasanaethau cymunedol hynny cyn inni ddechrau cael sgwrs am yr ysbytai hyn.

Dyma boblogaeth sydd â'r practis meddygon teulu mwyaf yng Nghymru, gyda dros 25,000 o gleifion a bron ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol o lwyth gwaith ar gyfer pob meddyg teulu yn y practis hwnnw—poblogaeth sy'n gyson yn gweld gwasanaethau'n cael eu llusgo tua'r dwyrain. A gallaf gofio prif weithredwyr amrywiol, cadeiryddion amrywiol dros fy 11 mlynedd fel Aelod Cynulliad, yn fy ffonio ar fy ffôn symudol i ddweud, 'Angela, rwyf am i chi wybod ymlaen llaw fod gennym broblem gyda haematoleg. Mae gennym broblem yn hyn, histopatholeg. Bydd yn rhaid inni fynd ag ef o Lwynhelyg, dim ond am dri mis—o, pedwar mis. O, nid ydym wedi gallu ei gael yn ôl eto'. Dro ar ôl tro—ei ladd drwy fil o doriadau.

Dyma boblogaeth sydd â seilwaith trafnidiaeth gwael iawn: ffyrdd bach, yr A477 lle bu damwain drychinebus arall eto yr wythnos diwethaf, yr A40 nad yw wedi cael ei deuoli—a gwrandewais ar y bwrdd iechyd heddiw pan gawsant eu cyfarfod mawr yn neuadd y dref Caerfyrddin, neu neuadd y sir, a dywedodd un o'r aelodau annibynnol, 'O, mae angen inni ddeuoli'r A40'. Wel, pob lwc gyda hynny. Credaf ein bod wedi dweud hynny sawl gwaith, onid ydym, Paul Davies? Ac rwyf wedi edrych ar y cynllun trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth bae Caerdydd: nid oes dim rhwng 2015 a 2020, nid oes dim yn ddyheadol ar gyfer 2020 i 2023, ar y gwaith o ddeuoli'r A40.

Dyma boblogaeth a wasanaethir gan staff ymroddedig mewn ysbyty lleol poblogaidd, ond ysbyty nad oes ganddo wasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys 24 awr y dydd, ysbyty heb siart 24 awr y dydd, felly, wyddoch chi beth? Os digwyddwch fod yn y cylch 12 awr anghywir, gallech fod mewn cryn drafferth yn ceisio cyrraedd unrhyw wasanaeth arall.

Ac yn awr, damweiniau ac achosion brys: mae hyn yn rhywbeth y mae Paul Davies a minnau wedi'i godi dro ar ôl tro yma, ynglŷn â'r ffaith, cyn gynted ag y gadawodd y gwasanaeth pediatreg Sir Benfro, y byddai damweiniau ac achosion brys yn diflannu'n syth ar ei sodlau, oherwydd mai pediatreg yw 25 y cant o dderbyniadau brys. Heb bediatreg—os nad ydych yn darparu gwasanaeth pediatreg, ni allwch gael eich gwasanaeth damweiniau ac achosion brys, ac nid ydym yn cael ein gwasanaeth damweiniau ac achosion brys. Maent yn dweud wrthym ei fod yn ymwneud yn llwyr â diogelwch clinigol, ond ymddengys ei fod yn ymwneud yn llwyr â Llwynhelyg. A oes bygythiad i'r ysbytai yn Betsi Cadwaladr sy'n perfformio'n wael, ac sydd wedi gorwario'n helaeth? A yw'r holl drafodaethau a chynlluniau a luniwyd erioed yn sôn o gwbl am ysbyty Bronglais neu ysbyty'r Tywysog Philip sy'n cael eu diogelu'n wleidyddol?

Roeddwn yn mynd i orffen drwy ddweud bod fy iselder ynglŷn â hyn wedi dwysáu pan edrychais ar y ddogfen derfynol a ystyriwyd gan y bwrdd heddiw. Ac yn y ddogfen derfynol honno, mae'n debyg, edrychodd grŵp ar wahân o randdeiliaid a staff nad oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ddatblygu'r opsiynau i weld lle byddent yn graddio'r meini prawf. Felly, ansawdd a diogelwch: 18 y cant, yn bendant. Derbynioldeb i'r cyhoedd yn gyffredinol: 7 y cant. Dyna'r maen prawf isaf ar gyfer pam y dylem gadw Llwynhelyg yn ysbyty dosbarth cwbl weithredol, mae'n debyg. Mae'r 40,000 o leisiau hynny'n chwythu yn y gwynt.

17:15

Safbwynt o'r tu allan i'r ardal, ond safbwynt rhywun arall a oedd ar y Pwyllgor Deisebau: un peth a wyddom o'r ddeiseb yw bod nifer fawr iawn o bobl eisiau gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. Mae deiseb o 40,045 o lofnodion yn ddigynsail. Mae angen ichi gael 5,000 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor Deisebau ofyn i'r Pwyllgor Busnes os gallwn gael dadl ar y mater. Gallem gael wyth dadl ar hyn, oherwydd mae'r ddeiseb yn fwy nag wyth gwaith hynny. Rwy'n meddwl ei bod yn dangos faint o ddiddordeb sydd yn hyn a faint o wrthwynebiad a geir i'r syniad o gau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. A gallaf ei ddeall. Y syniad yw na fydd adran damweiniau ac achosion brys weithredol yn Sir Benfro mwyach; caiff ei disodli gan uned mân anafiadau ar safle Llwynhelyg. Wrth wneud hynny, bydd cleifion sydd angen gofal brys yn Sir Benfro yn wynebu taith sylweddol. Ac rwy'n siarad fel rhywun sy'n aml yn teithio i ogledd Cymru, am fod fy merch ym Mhrifysgol Bangor, ac rwy'n gwybod, o fewn dwy awr a hanner, gallaf gyrraedd Machynlleth, neu o fewn dwy awr a hanner i lle rwy'n byw, gallaf gyrraedd Birmingham. Rwy'n gwybod pa un sydd bellaf, ond os gall unrhyw un deithio ar gyflymder cyfartalog o dros 40 mya mewn ardaloedd gwledig, hoffwn eich llongyfarch, ac a allwch chi egluro sut y llwyddwch i wneud hynny? Y tractorau—ers pryd y mae ambiwlansys yn gallu hedfan dros ben tractorau? Y broblem a gewch gyda lorïau Mansel Davies—heb amarch i Mansel Davies, ond mae eich lorïau'n creu tagfeydd ar y ffordd—a threlars, yn enwedig yn yr haf, pan fydd gennych lawer o garafanwyr yn symud carafanau. Mae'r rhwydwaith ffyrdd yn warthus. Angela Burns—a bydd Paul Davies yn ategu hyn—nid chi yw'r unig bobl sydd wedi bod yn gofyn am ddeuoli ffordd yr A40. Rwyf wedi gofyn am hynny, rwyf wedi ysgrifennu yn ei gylch, rwyf wedi galw am wneud hynny. [Torri ar draws.] Yn sicr.

17:20

A gaf fi dynnu sylw at yr eironi? Rydych newydd draddodi araith ar liniaru effeithiau newid hinsawdd, ac rydych yn dadlau yn awr o blaid deuoli ffordd fawr.

Gwn nad yw Lee Waters yn derbyn hyn, ond gall gwell ffyrdd leihau allyriadau. Os oes yn rhaid i chi deithio i ysbyty, sut arall ydych chi'n awgrymu bod pobl yn teithio i adran damweiniau ac achosion brys—drwy feicio neu gerdded i'r mannau hynny?

Mae Sir Benfro yn byw mewn perygl—. Mae darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn anodd, ond nid yw'n amhosibl. Mae pobl eraill yn ei wneud.

Gwyddom hefyd fod deiseb debyg ynghylch gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Llanelli wedi dod i law, ac rwy'n siŵr nad yw Lee Waters am gau rhai o'r ffyrdd deuol o amgylch Llanelli er mwyn lleihau—[Torri ar draws.]—er mwyn lleihau allyriadau.

Nid wyf yn credu bod Hywel Dda yn gweithio fel bwrdd iechyd. Rwyf wedi'i ddweud droeon. Nid wyf yn credu bod Hywel Dda yn gweithio fel bwrdd iechyd. Mae'r ardal a gwmpesir yn rhy fawr. Ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae'n gymharol hawdd i'r rhan fwyaf o bobl deithio rhwng Treforys, Singleton a Baglan. Gallwch deithio ar fws—nad yw o reidrwydd yn hawdd iawn. Gallwch deithio mewn car yn gymharol hawdd. Mae teithio o gwmpas y pedwar prif ysbyty yn Hywel Dda yn anodd iawn yn y car, ac mewn llawer o achosion, buaswn yn awgrymu ei fod bron yn amhosibl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os gall Powys gael ei bwrdd iechyd ei hun, pam na all Sir Benfro? Crëwyd Powys yn 1973, ond mae Sir Benfro wedi bodoli ers canrifoedd.

Roeddwn yn mynd i ddweud nad oes neb yn gweld Dyfed fel uned ar gyfer darparu gwasanaeth mwyach, ond nid wyf am ddweud hynny, oherwydd gwn fod un person, yr unig berson yng Nghymru mwy na thebyg, yn dweud hynny. Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o bobl sy'n byw yn yr ardal sy'n ei gweld fel uned synhwyrol ar gyfer darparu gwasanaeth. Gofynnaf i unrhyw un o'r Aelodau eraill sy'n cynrychioli ardal o fewn Dyfed, os ydynt yn gweld ardal synhwyrol ar gyfer darparu gwasanaeth, i godi ar eu traed i fy nghywiro.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi a minnau'n cynrychioli'r un ardal, lle mae Ysbyty Treforys wedi'i leoli. A ydych yn rhannu fy mhryderon, os yw'r holl wasanaethau hyn yn cael eu gwthio tua'r dwyrain, byddant yn cyrraedd cyn belled â Threforys, sydd eisoes wedi ei orlwytho gan y galwadau eraill sydd arno? Er ei bod hi'n wych fod gennym bethau, gobeithio, fel llawdriniaeth thorasig yn dod atom fel arbenigedd, pan fydd gennych wasanaethau argyfwng, mae angen i chi fod yn agos at y man lle mae'r argyfwng yn digwydd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae hynny'n rhan fawr o ran nesaf fy araith. Ond un peth a ddywedaf, cyn imi orffen, yw bod yna bethau sy'n gweithio. Y model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer y gwasanaethau arennol y mae'r ardaloedd yn Hywel Dda a'r ardaloedd yng ngweddill bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn elwa ohonynt—rwyf wedi sôn am hynny ers saith mlynedd, ac ni fu'r twf mewn modelau gwasanaeth prif ganolfan a lloerennau agos mor gyflym o ran darparu gwasanaethau ag y buaswn i, a'r rhan fwyaf o bobl eraill mae'n debyg, yn ei hoffi.

Mae'r gallu i gyrraedd adran damweiniau ac achosion brys yn rhywbeth y mae pobl am ei gael mor agos i'w cartrefi â phosibl. Does bosibl na ddylai fod yn ormod gofyn am un yn sir hynafol Penfro.

Mae llawer wedi newid mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru ers i mi siarad ddiwethaf am faterion iechyd yma yn y Siambr hon. Un peth nad yw wedi newid yw'r ffaith syml nad oes gan lawer o bobl mewn cymunedau yn y gorllewin hyder ym mwrdd iechyd Hywel Dda, nid ydynt yn ymddiried ynddo i weithredu er eu budd, ac nid ydynt yn credu, pan fydd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, ei fod yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt. A dyna'r rheswm dros y ddeiseb sydd wedi sbarduno'r ddadl hon heddiw, ac fel eraill, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn.

Peth arall, wrth gwrs, sydd heb newid yw arferiad Llywodraeth Cymru o ymbellhau o'r newidiadau arfaethedig, er bod y byrddau iechyd yn llwyr atebol i Lywodraeth Cymru a pholisi Llywodraeth Lafur Cymru sydd y tu ôl i'r ymgyrch hon i ganoli gwasanaethau.

A pheth arall eto, wrth gwrs, nad yw wedi newid yw'r ffordd braidd yn gywilyddus y mae gwleidyddion etholedig yn enw Plaid Lafur Cymru yn dal ati i ymgyrchu, ac weithiau'n arwain ymgyrchoedd, yn erbyn y newidiadau arfaethedig i wasanaethau sy'n cael eu gyrru gan bolisïau eu Llywodraeth eu hunain—annealladwy, cwbl annealladwy. Yn wyneb y newidiadau arfaethedig presennol, mae Plaid Cymru, fel y mae fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth wedi dweud eisoes, wedi ceisio mabwysiadu ymagwedd gyfrifol. Rydym wedi datblygu ac wedi cyflwyno argymhellion amgen yn dilyn ymgynghori ag aelodau o'r gymuned a gweithwyr proffesiynol yn y rhanbarth. Ac os bydd amser yn caniatáu, fe gyfeiriaf at rai o fanylion yr argymhellion hynny mewn eiliad.

Mae'n hanfodol, Ddirprwy Lywydd, fel y mae pobl eraill wedi dweud, ein bod yn cydnabod bod y pryderon a godwyd gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn ddilys. Maent yn seiliedig ar brofiad blaenorol o newidiadau i wasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg dros y 15 mlynedd diwethaf—newidiadau sydd wedi arwain at broblemau sylweddol iawn—ac mae'n bwysig myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r ad-drefnu hwnnw. Os caiff gwasanaethau hanfodol dan arweiniad meddygon ymgynghorol eu dileu neu eu hadleoli, gwyddom ei bod hi'n hanfodol fod asesiadau risg effeithiol yn cael eu cynnal a mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cleifion cywir yn cyrraedd y lle iawn i gael eu trin yn y mannau iawn, a rhaid i'r mesurau hyn fod yn gadarn.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio na ddigwyddodd hyn mewn rhai achosion trasig, yn dilyn, er enghraifft, y newidiadau i wasanaethau mamolaeth. Bydd yn cofio canfyddiad yr ombwdsmon yn 2016 fod babi wedi marw o ganlyniad i ofal gwael a methiant i asesu lefel y risg yn briodol yn ystod beichiogrwydd, pan anwybyddwyd cais y claf i roi genedigaeth mewn lleoliad mwy arbenigol yng Nglangwili. Nawr, hyderaf fod y gwersi o'r achos unigol hwn wedi'u dysgu, ond mae'n hanfodol ein bod yn cofio bod yr achos hwn yn ffurfio rhan o'r cefndir i bryderon y gymuned ynglŷn â newidiadau arfaethedig pellach i wasanaethau a arweiniodd at y ddeiseb hon. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r bwrdd iechyd yn trin y pryderon hyn y gellir eu cyfiawnhau gyda'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu. Yn anffodus, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, nid wyf yn obeithiol.

Nid yw Plaid Cymru'n credu y bydd argymhellion y bwrdd iechyd yn ymdrin â sut y bydd gwasanaethau'n gwella yn y tymor byr i'r tymor canolig. Maent yn cyfeirio, er enghraifft, yn eu datganiad heddiw at yr angen i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol, ond nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut. A buaswn yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd eraill ei bod hi'n bwysig aros am y manylion, ond does bosibl fod raid inni aros 20 mlynedd arall am y manylion hyn. Nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut, ac a dweud y gwir, rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi y byddai'r uwchysbyty newydd arfaethedig yn datrys yr holl broblemau y mae'r bwrdd iechyd yn ei obeithio, ac rydym ymhell o fod wedi ein hargyhoeddi, a dweud y gwir, y caiff ei adeiladu o gwbl, er cymaint y bydd rhai ohonom efallai'n gobeithio gweld hynny.

Nid yw amser yn caniatáu imi nodi ein hargymhellion amgen yn fanwl, ac rwy'n ymwybodol o gyfarwyddiadau'r Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, byddwn yn hapus i rannu'r argymhellion hyn eto gyda'r bwrdd iechyd a chydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae un peth yn hollbwysig: rhaid peidio ag ad-drefnu gwasanaethau acíwt hyd nes y bydd y newidiadau a ragwelir a datblygiadau mewn gwasanaethau cymunedol ac arferion gwaith yn eu lle, a hyd nes y bydd y gwasanaethau acíwt newydd yn eu lle. Rhaid inni gael dulliau newydd o weithio ar y cyd rhwng y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol, a rhaid inni gael darpariaeth iechyd a gofal integredig a chyfannol a ddarperir yn lleol, gydag un linell reoli ac atebolrwydd. A rhaid inni sicrhau, os ydym yn trosglwyddo cleifion o ysbytai i leoliadau brys, fod y ddarpariaeth briodol ar waith. Mae angen uned sefydlogi trawma y gallai claf fynd iddi ym mhob ysbyty, ym mhob lleoliad, ac mae dirfawr angen cynlluniau recriwtio a datblygu ar gyfer y sector cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn gwlad o faint Cymru, ni allaf ddeall pam na allwn gynllunio ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, a buaswn yn dadlau bod arnom angen dyblu nifer y myfyrwyr meddygol sy'n hyfforddi yn Abertawe, er enghraifft, oherwydd gwyddom y bydd y myfyrwyr hynny'n aros yng ngorllewin Cymru.

Ddirprwy Lywydd, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn awgrymu na ddylai gwasanaethau iechyd newid; nid wyf yn dychmygu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn awgrymu hynny. Mae'n wir fod gennym, i ryw raddau, batrwm ugeinfed ganrif o wasanaethau nad ydynt yn bodloni anghenion yr unfed ganrif ar hugain. Ond wrth gyflawni'r newid hwnnw, mae angen inni adeiladu'r ymddiriedaeth yn y cymunedau y mae'r gwasanaethau hynny yno i'w gwasanaethu, ac ni allwn wneud hynny os ydym yn gwrthod eu pryderon dilys. Mae angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wrando ar y pryderon a leisiwyd gan y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i wasanaethau yn Llwynhelyg nac unrhyw ran arall o'r rhanbarth hwn hyd nes y bydd gwasanaethau amgen effeithiol yn eu lle. Diolch yn fawr.

17:30

Rwy'n credu mai lle'r ydym yw ein bod wedi cael dogfen ymgynghori, rydym wedi cael argymhellion ac rydym wedi cael deisebau, gyda phobl yn amlwg yn mynegi pryderon am y argymhellion hynny. Rwy'n byw yn Hwlffordd. Gwn yn iawn lle mae ysbyty Llwynhelyg, a gwn hefyd am y cryfder teimlad a'r ofn sy'n bodoli mewn pobl a allai fod angen gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn gyflym. Wrth symud ymlaen, fel y dywedwyd yn yr araith hir dros chwe munud o hyd gan Helen Mary, rwy'n credu ein bod cydnabod yr angen i newid ffurf gyfredol y ddarpariaeth iechyd i ateb y galw a wynebwn yn y dyfodol i gyflawni hynny. Ac mae llawer iawn o newidiadau y bydd yn rhaid eu gwneud, gydag ymagwedd systematig, i ateb yr heriau hynny.

A'r her fwyaf oll—. Wel, mae yna ddwy her, ond os ydym yn canolbwyntio ar y bobl rydym yn ceisio eu gwasanaethu, mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio—mae llawer o bobl wedi dweud hynny—pan fyddant yn mynd i'r ysbyty, mae ganddynt anghenion lluosog, ond nid yw bob amser yn golygu nad oes cyfleoedd ar hyd y ffordd i'r anghenion hynny gael sylw cyn inni gyrraedd yr ysbyty ac iddynt gael sylw wedi i bobl adael yr ysbyty. Ac mae'n ymddangos i mi, ble bynnag y bûm yn siarad â phobl, fod yr un ofn gwirioneddol sydd ganddynt yn ymwneud â'r ddarpariaeth o welyau cymunedol, neu welyau yn y gymuned, fel y gallant ymweld â chleifion oedrannus a'u cadw yn nes at adref hefyd, oherwydd bydd y cleifion hynny'n gwneud yn llawer iawn gwell os ydynt mewn lleoliad lle y gall eraill ddod i'w cefnogi.

Yr her fawr sy'n ein hwynebu mewn lleoliad meddygol sy'n esblygu yw'r staff i gyflawni hynny. Yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd, yn amlwg, yw prinder mawr o staff meddygol ar bob lefel. Nid yw hynny'n unigryw i Gymru, i Sir Benfro, i Ddyfed nac i unman arall. Mae'n wir ar draws y wlad. Ni allwn esgus nad yw Brexit yn digwydd, ac nid oes neb wedi crybwyll hynny heddiw mewn gwirionedd, a'r pwysau y gallai hynny ei greu ymhellach inni o ran—

—nid ar hyn o bryd, na wnaf—cael gafael ar y staff meddygol hyfforddedig sydd eu hangen arnom a'r profiadau y gallai'r staff hynny eu cael o rannau eraill o'r byd. Felly, rwy'n mynd i gynnwys hynny yn y gymysgedd, oherwydd mae'n bendant iawn yn rhan o'r gymysgedd ar hyn o bryd.

Yr hyn y credaf sydd ei angen arnom o'r ymgynghoriad hwn ar hyn o bryd yw ychydig o gig ar yr esgyrn. Sut beth ydyw mewn gwirionedd? Pan fyddwn yn sôn am ganolfannau cymunedol, beth yn union a olygwn? Ble maent yn mynd i fod, a beth y maent yn mynd i'w ddarparu ar gyfer pobl sy'n wahanol i nawr? A yw hynny hefyd yn mynd i helpu i gadw a dod o hyd i feddygon teulu yn ein cymunedau, sydd hefyd yn her anferth arall? A oes angen inni fynd i'r ysbyty bob tro ar gyfer pob un o'r apwyntiadau y bydd pobl yn eu cael ar hyn o bryd a theithio'r milltiroedd y maent yn eu teithio ar hyn o bryd? Credaf fod angen inni gael dadl resymegol yma ac edrych ar yr ad-drefnu go iawn y bydd yn rhaid ei gael.

A'r cwestiwn arall rwy'n ei ofyn yw hwn: a ddylem wrthod yn ddifeddwl yr hyn a allai fod yn gyfle pendant i adeiladu ysbyty yng ngorllewin Cymru a allai ddatrys yr holl broblemau a dod â buddsoddiad enfawr yn y newid y bydd pobl ei angen mewn 10 neu 20 o flynyddoedd a fydd yn para am y 30, 40 neu 50 mlynedd nesaf, pan na fydd llawer ohonom yn y Siambr o gwmpas i weld y newid hwnnw, mae'n debyg? Rhaid inni feddwl yn awr, yn amlwg, a ran y bobl a fydd angen inni wneud hynny yn awr, i fod ychydig yn ddewr, ond i sicrhau ar yr un pryd nad oes newid ar hyn o bryd i wasanaethau cyn bod cyfle i fanteisio ar y systemau newydd sydd ar waith.

17:35

Rwy'n cytuno â Joyce Watson; mae angen i ni gael dadl resymol am y gwasanaethau iechyd, a chredaf fod y ddadl hon wedi bod yn rhesymol. Bu rhai areithiau angerddol, wrth gwrs, yn anochel, oherwydd mae pobl yn teimlo'n gryf iawn, yn Sir Benfro yn arbennig, eu bod yn cael eu hanghofio, eu hesgeuluso a'u hamddifadu gan y gwasanaeth iechyd ac nad yw eu hanghenion yn cael sylw priodol yn awr, heb sôn am yn y dyfodol pe bai'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.

Nid oes neb yn gwadu'r problemau anhydrin sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig—mae cyllid yn broblem ym mhob man ac mae'r anghenion, fel y gwyddom, yn tyfu. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol, ond nid yw'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ddim os nad yw'n wasanaeth lleol hefyd. Nid oes ond angen i chi edrych ar fap i weld daearyddiaeth ardal Hywel Dda. Mae Sir Benfro'n gwthio allan i'r môr, ac rwy'n credu bod pobl Sir Benfro yn teimlo fel pe bai Hywel Dda yn palu anferth o ffos rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a'u bod yn arnofio ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o ganol pethau. Ni all neb fychanu'r ymdeimlad dilys o bryder ac ofn a gynrychiolir gan y ddeiseb ddigynsail hon yr ydym yn ei thrafod heddiw.

Y broblem sylfaenol sy'n ein hwynebu yma yw bod y gwasanaeth iechyd yn gwbl annemocrataidd, a chaiff y penderfyniadau pwysig eu gwneud gan dechnocratiaid anetholedig na allwn eu diswyddo, ac anatebol yn y pen draw. Ni chaiff y cynghorau iechyd cymuned eu hethol a gellir yn hawdd eu llenwi ag aelodau ufudd nad ydynt yn cyrraedd disgwyliadau'r bobl y maent yno i'w gwasanaethu. Rwy'n credu bod yr ymarfer hwn o ymgynghoriad rydym yn edrych arno heddiw yn enghraifft o hyn hefyd. Cyfeiriodd Lee Waters ati fel dogfen annealladwy ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—mae hi gennyf yn y fan hon. Nid oes ond angen ichi edrych arni i weld bod y penderfyniad, i bob pwrpas, wedi'i wneud hyd yn oed cyn i'r ymgynghoriad ddechrau. Nid yw'n syndod ym mharagraff 1.106 mai'r casgliad yw bod cefnogaeth y cyhoedd i'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i'w hyrwyddo bellach wedi'i yrru gan leoliad. Wel, beth fyddech chi'n ei ddisgwyl? Mae pobl am gael gwasanaethau ysbyty sy'n agos at ble maent yn byw. Hynny yw, mae'n ffaith amlycach na'r un y gallech ei dychmygu; nid oes angen ymgynghoriad â'i holl gost er mwyn dod i'r casgliad hwn. Ychydig baragraffau cyn hynny, mae'r bwrdd iechyd yn dweud:

Mae'n bwysig cydnabod bod cefnogaeth gyhoeddus gref iawn i ddewis arall amgen ar draws sawl rhan o Sir Benfro.

Mewn geiriau eraill, nid yw pobl Sir Benfro eisiau'r un o'r dewisiadau—ac nid yw hynny'n cael ei gynnig. Pe bai hwn yn ymgynghoriad go iawn, byddai wedi cynnwys y dewis amgen a allai fod wedi bod yn dderbyniol i bobl Sir Benfro. Mae wedi bod yn ymgynghoriad eithriadol. Mae'n 'anymgynghoriad' i'r rhan fwyaf o bobl yn Sir Benfro, ac mae hynny, fe gredaf, yn gwbl annerbyniol.

Rwy'n cytuno'n llwyr hefyd â'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru. Mae gan bobl hawl i ddisgwyl bod y prif wasanaethau y maent yn mynd i fod eu hangen, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn wael, lefelau tlodi'n uwch ac oedran y boblogaeth yn tueddu i fod yn uwch hefyd—mae ganddynt hawl i ddisgwyl i'w gwasanaethau fod o fewn pellter rhesymol.

Rwy'n cytuno hefyd gyda'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones, ac mae eraill wedi cyfeirio at hyn hefyd, na allwn roi'r drol o flaen y ceffyl. Rhaid inni beidio â chynllunio i gau cyfleusterau pwysig sy'n diwallu angen hanfodol hyd nes y bydd gennym y blociau adeiladu ar gyfer yr hyn sy'n mynd i gymryd eu lle. Felly, credaf fod hyn wedi cael ei drin yn y ffordd fwyaf ansensitif.

Ac yna, wrth gwrs, down at yr eliffant yn yr ystafell ar ffurf yr Ysgrifennydd iechyd, oherwydd yn y pen draw, mae Hywel Dda bellach o dan ei oruchwyliaeth ef, fel y mae Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, ac ni all Llywodraeth Cymru olchi ei dwylo rhag bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yma. Yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r arian ar gyfer pob un o ardaloedd y byrddau iechyd, ac nid wyf yn bychanu'r problemau sy'n wynebu'r Ysgrifennydd cyllid wrth wneud i'w rifau wneud synnwyr. Mae'n amhosibl gwneud popeth y mae pobl yn ei ddisgwyl ac am ei gael gan y gwasanaeth iechyd. Iaith blaenoriaethau yw sosialaeth fel y dywedodd rhywun enwog amser maith yn ôl—yn wir, os cofiaf yn iawn, rwy'n credu mai'r dyn a sefydlodd y gwasanaeth iechyd, Aneurin Bevan, a ddywedodd hynny mewn gwirionedd. Wel, mae pobl Sir Benfro yn disgwyl y byddant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac os cânt eu hamddifadu gan yr Ysgrifennydd iechyd, caiff ei gofio nid fel y cofir am Aneurin Bevan heddiw, fel achubydd a sylfaenydd y gwasanaeth iechyd, ond fel Pontiws Peilat y gwasanaeth iechyd, a wnaeth gam â phobl Sir Benfro yn y pen draw.

17:40

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai dim ond yn gynharach heddiw y cyflwynodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ganlyniadau eu hymgynghoriad diweddar ar drawsnewid gwasanaethau clinigol, ac maent wedi cadarnhau'r ffordd ymlaen y maent hwy yn ei hargymell ar gyfer newidiadau i wasanaethau ar draws ardal y bwrdd iechyd. Cyflwynwyd yr argymhellion gan glinigwyr sy'n gweithio yng ngorllewin Cymru, ac mae'r clinigwyr hynny'n gwneud achos dros ddyfodol gofal iechyd yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chredaf eu bod yn haeddu ein parch. Beth bynnag yw ein barn am y dyfodol, maent yn haeddu ein parch am wneud achos dros newid mewn amgylchedd anodd a hynod ddadleuol.

Fe fyddwch yn gwybod hefyd nad yr argymhellion y mae'r bwrdd iechyd ond newydd eu cadarnhau yw diwedd y broses. Mae'r trefniadau ar gyfer argymell newidiadau sylweddol i wasanaethau iechyd yng Nghymru wedi'u nodi yn y canllawiau ar gyfer ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd, ac mae'r canllawiau hynny'n nodi'n glir beth yw fy rôl i yn y broses, yn cynnwys y gellir galw arnaf i wneud penderfyniadau terfynol ar gynlluniau bwrdd iechyd os na ellir dod i gytundeb yn lleol. Felly, fe fyddwch yn deall, er gwaethaf yr holl anogaeth garedig a thyner—a llai caredig a thyner—na fyddaf yn rhoi sylwadau penodol ar unrhyw un o'r argymhellion y mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi'u cadarnhau heddiw, gan y gallai gwneud hynny beryglu unrhyw rôl a allai fod yn rhaid i mi ei chwarae yn y broses yn y dyfodol.

Felly, y prynhawn yma bydd fy sylwadau yn gyfyngedig i atgoffa'r Aelodau pam y mae'n rhaid i wasanaethau ar draws Cymru newid—

—na, rwy'n mynd i fwrw ymlaen gyda fy sylwadau—os ydym am ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu, oherwydd mae newid gwasanaeth yn galw am aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth gan bob un ohonom. Mae'r heriau sy'n wynebu iechyd yng Nghymru heddiw yn hysbys. Maent yn cynnwys poblogaeth oedrannus sydd ar gynnydd, anghydraddoldebau iechyd parhaus, niferoedd cynyddol o gleifion â chyflyrau cronig ac wrth gwrs, hinsawdd ariannol heriol. Ni allai'r ddihareb 'os nad yw wedi torri, peidier â'i drwsio' fod yn fwy amhriodol, oherwydd mewn gofal iechyd, mae aros hyd nes y bydd wedi torri yn golygu aros hyd nes yr achosir niwed go iawn y gellir bod wedi'i osgoi ac ni ddylai unrhyw was cyhoeddus ystyried gwneud hynny.

Derbynnir yn gyffredinol fod prinder gweithwyr iechyd proffesiynol mewn rhai arbenigeddau ledled y DU sy'n achosi anawsterau o ran recriwtio, fel y crybwyllwyd yn y ddadl. Rydym hefyd yn gwybod lle y darperir gwasanaethau mwy arbenigol, fod angen i feddygon weld nifer ofynnol o gleifion er mwyn cynnal eu sgiliau a'u harbenigedd i fodloni safonau ansawdd gofal. Ceir cyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos bod canoli rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ganolfannau yn gwella canlyniadau i gleifion. Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny: dyna un o'r negeseuon clir a diamwys o'r adolygiad seneddol annibynnol a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol.

Felly, mae'r rhain yn heriau ledled Cymru, a dro ar ôl tro rwyf wedi bod yn glir fy mod am weld cynnydd yng nghyflymder diwygio yng Nghymru, oherwydd ni ellir osgoi'r realiti y bydd yna bob amser ddewisiadau dadleuol i'w gwneud ym mhob ardal o Gymru. Felly, rydym naill ai'n cymryd rhan yn y ddadl honno yn awr ac yn wynebu rhai o'r heriau hynny ac yna'n helpu i wneud dewisiadau dan arweiniad clinigol, neu rydym yn gohirio hynny ac yn ei gwneud hyd yn oed yn llai tebygol y bydd newid yn digwydd tan bwynt o argyfwng pan fydd gwasanaeth yn methu, ac ni chredaf mai dyna'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac unwaith eto, dyna neges glir iawn a ddaeth o'r adolygiad seneddol annibynnol, a ddywedodd wrthym nad yw ein system gyfredol yn addas ar gyfer y dyfodol. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i gymryd Nick ac Angela wedyn.

Rwy'n siŵr eich bod, yn eich swydd, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd, ond a fyddech chi'n cytuno, ar wahân i ofyn a yw'n iawn diwygio'r gwasanaethau yn y ffordd a argymhellwch ai peidio, fod yna gwestiwn ehangach a godwyd gan Neil Hamilton ymhlith eraill—nad ydych chi'n mynd â phobl gyda hi yn y broses hon, felly mae gennym y ddeiseb hon, sydd wedi'i chyflwyno gyda'r holl lofnodion hyn, ac felly rydym yn cael y ddadl hon heddiw? Yn ne-ddwyrain Cymru, yr ardal a gynrychiolaf, mae gennym Dyfodol Clinigol Gwent, a gefnogir yn unfrydol bron ar draws Gwent, heb y mathau hyn o gwynion. Felly, hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod yn gywir gyda'r penderfyniadau a wnewch, y rhai mae'r bwrdd iechyd yn eu gwneud, beth sydd wedi mynd o'i le gyda'r broses hon a pham fod yna gymaint o bobl nad ydynt yn ymddiried yn eich Llywodraeth?

17:45

Wel, nid yw hwn yn ddewis y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Y dewis eang yw inni ddiwygio neu beidio. Rwy'n glir fod angen diwygio ein system iechyd a gofal. Dywedodd yr adolygiad seneddol wrth bob un ohonom fod angen diwygio ein system iechyd a gofal. Nid yw aros fel yr ydym yn addas ar gyfer y dyfodol. Yng Ngwent gwneuthum benderfyniad i alluogi ysbyty newydd i gael ei adeiladu yng nghanol y system ddiwygiedig honno o iechyd a gofal. Mae gwahanol sgyrsiau'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ni allwch orfodi'r ffordd y mae pobl yn ei wneud mewn un rhan o'r wlad ar ran arall. Ond rhaid i ymgysylltu â'n staff ac ymgysylltu â'r cyhoedd fod yn allweddol yn hyn i gyd. Mae angen inni fod yn ddigon gonest i ddweud na fydd yr holl bobl o reidrwydd yn cytuno yn y pen draw, ond mae angen gwneud penderfyniad er hynny.

Fe gymeraf ymyriad Angela ac yna byddaf yn symud ymlaen ac yn gwneud mwy o gynnydd.

Diolch. Dim ond pwynt o eglurhad oedd gennyf mewn gwirionedd, oherwydd gallaf dderbyn, mewn ffordd, eich sylwadau eich bod yn dweud nad ydych am roi sylwadau ar y cynlluniau manwl hyn oherwydd gallai fod yn rhaid ichi wneud penderfyniad terfynol ar ryw bwynt. Mae hynny ar yr un llaw. Ar y llaw arall, fodd bynnag, ni fydd y bwrdd iechyd yn gallu bwrw ymlaen â'u hysbyty newydd gwerth miliynau o bunnoedd—dywedodd Rhun £350 miliwn, maent wedi dweud £500 miliwn wrthyf fi—heb gael arian ychwanegol, a bydd yn rhaid iddo ddod gan y Llywodraeth. Felly, sut y gallwch chi gysoni'r ddau beth os oes yn rhaid i chi gadw'n annibynnol, a phenderfynu wedyn mewn gwirionedd a ydych yn ymrwymo i'r cynllun hwnnw ai peidio?

Efallai y dylech wrando ar eich cyd-Aelod, Nick Ramsay, oherwydd cafwyd cytundeb ar draws Gwent ar sail drawsbleidiol eto, ar draws y gymuned, ynglŷn â chynllun newydd ar gyfer darparu iechyd a gofal. Cytunwyd ar hynny cyn i'r Llywodraeth ddweud bod yna swm pendant o arian ar gyfer cyflenwi ysbyty newydd yn ganolog iddo. Credaf mai'r pedwerydd neu'r pumed Gweinidog iechyd a wynebodd y dewis hwnnw oeddwn i, ac fe wneuthum benderfyniad. Rwy'n awyddus inni wneud dewisiadau er mwyn cadw ein system i ddal ati i ddiwygio ac wynebu'r heriau a wynebwn heddiw a heriau'r dyfodol. Felly, nid wyf yn gweld unrhyw her o gwbl mewn peidio â gwneud sylw ar y dewisiadau manwl yn awr, ond rwyf hefyd yn rhoi sicrwydd, wrth gwrs, ar gyfer unrhyw fenter Llywodraeth—gallai fod gofyn i mi, neu gallai fod gofyn i rywun arall wneud dewis ynghylch gwariant cyfalaf a chefnogaeth i gyflawni'r cynllun hwnnw'n derfynol. Oherwydd bydd newid yn digwydd ar draws iechyd a gofal. Naill ai ein bod yn gadael i'r newid hwnnw ddigwydd mewn modd anhrefnus wedi'i arwain gan argyfwng neu rydym yn grymuso ein GIG, ein staff a'r cyhoedd i gymryd perchnogaeth ar y dyfodol. Oherwydd nid oes unrhyw ffordd hawdd o gael sgwrs am weddnewid ein GIG. Bydd yna farn bob amser—a barn onest, rwy'n derbyn—ynglŷn â pham na ddylai newid, yn enwedig ar lefel leol neu unigol, ddigwydd mewn unrhyw ran a phob rhan o'r wlad lle yr argymhellir newid.

Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, 'Cymru Iachach', yn disgrifio sut y byddwn yn gweithredu argymhelliad yr adolygiad. Mae'n nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac yn esbonio sut y dylem addasu i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn trawsnewid y ffordd y darparwn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n golygu esblygu ffyrdd traddodiadol o weithio i ddarparu dull o weithredu sy'n fwy rhagweithiol. Dylai hynny gael cleifion ifanc, hen neu fregus, a phawb yn y canol ac o amgylch y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.

Wrth gwrs, bydd yna adegau pan gaiff newidiadau eu hargymell i wasanaethau ysbyty, a gwn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladau. Mae gan bobl ymlyniad emosiynol grymus i'r lleoliadau lle y darperir gofal iechyd, ond mae'n ymwneud â buddsoddi mewn cymunedau, denu meddygon, nyrsys, therapyddion, gwyddonwyr, drwy weithredu system gofal iechyd fodern i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol ac i gadw ysbytai ar gyfer y rhai sydd eu gwir angen. Dyna pam y mae angen inni adeiladu capasiti mewn gofal sylfaenol a chymunedol, er mwyn darparu mwy o ofal yn nes at adref, mewn gwir bartneriaeth â gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Gwelir enghraifft ardderchog o hyn mewn gofal llygaid, sy'n arbennig o berthnasol gan mai'r wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mae gwasanaeth gofal llygaid GIG Cymru yn galluogi optometryddion i ddarparu gofal lleol, hygyrch, o ansawdd uchel ac i leihau nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio i ysbytai. Cefais y pleser o ymweld â phractis stryd fawr heddiw.

Fe geisiaf ddirwyn fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. I ateb yr heriau sy'n wynebu Hywel Dda, dechreuodd y bwrdd iechyd ymgysylltu â'r cyhoedd ar raglen weddnewid gwasanaethau clinigol y llynedd. Derbyniodd yr ymgynghoriad dros 5,000 o ymatebion holiadur, 275 o gyflwyniadau, a chynhaliwyd dros 160 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Daeth pum deiseb i law, gan gynnwys un y ddadl heddiw. Ond yn dilyn y broses honno, mae'r bwrdd iechyd wedi bod drwy broses arall o ailystyried. Cafodd yr ystod lawn o safbwyntiau a goblygiadau eu hasesu a chyflwynwyd yr opsiynau eraill, ac mae canlyniad hynny wedi'i gyflwyno i'r bwrdd iechyd heddiw. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid dyma ddiwedd y broses, ac o ystyried y rôl y gallai fod gennyf i'w chwarae o hyd, fel y disgrifiais yn gynharach, gŵyr yr Aelodau na allaf roi sylw ac ni wnaf roi sylw ar y penderfyniadau a wnaed gan y bwrdd iechyd heddiw.

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaf fy ngorau—. Yn gyntaf oll, rhaid diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn amlwg, mae teimladau angerddol iawn ynghlwm wrth y ddadl hon, felly rwy'n mynd i gymryd peth amser i geisio ailadrodd rhai o'r pethau y mae pobl wedi bod yn eu dweud.

Yn gyntaf, gofynnodd Paul Davies i Ysgrifennydd y Cabinet ymyrryd a gwrthwynebu cau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, ond roedd y penderfyniad wedi'i wneud eisoes, felly ni allai hon fod yn broses ymgynghorol. Hefyd, soniodd am yr erydu parhaus ar wasanaethau yn Sir Benfro, ac na allai hyn barhau. Ailadroddodd Rhun ap Iorwerth honiad Paul Davies ynglŷn ag israddio gwasanaethau, gan nodi hefyd fod gwasanaethau brys yn hanfodol i bob cymuned. Soniodd hefyd am y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn sgil canoli gwasanaethau ysbyty. Unwaith eto, tynnodd sylw at y canfyddiad o ddiffyg cynlluniau amgen.

Siaradodd Lee Waters am broses ymgynghori Hywel Dda, ac roedd yn falch fod opsiwn B wedi'i gymryd yn hytrach nag opsiwn A. Roedd mynediad yn allweddol ar gyfer gwneud i unrhyw newidiadau weithio—hynny yw bod mynediad i ysbytai yn allweddol i wneud i unrhyw newidiadau weithio. Soniodd am ddefnyddio cyfathrebu digidol i gynnig rhyw fath o ateb i broblem teithiau pellach. Soniodd Angela Burns am rwystredigaeth y 40,000 a lofnododd y ddeiseb wrth i Hywel Dda fethu cymryd sylw ohonynt dros yr amrywiol brosesau ymgynghori fel y'u gelwir. A soniodd hefyd am gau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg fel rhywbeth sy'n anochel.

Siaradodd Mike Hedges am y gwrthwynebiad mawr i gau'r adran damweiniau ac achosion brys, a nododd anhawster teithio mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yn Sir Benfro yn ystod misoedd yr haf. Mynegodd ei bryder ynghylch maint yr ardal a gwmpesir gan Hywel Dda hefyd.

Nododd Helen Mary Jones fod yna lawer o bobl heb unrhyw hyder ym mwrdd Hywel Dda, a siaradodd am fethiant i gadw addewidion yn y gorffennol a bod argymhellion amgen gan ei phlaid y dylid eu hystyried cyn i Hywel Dda roi unrhyw gamau pellach ar waith.

Siaradodd Joyce Watson am ofn y bobl yr effeithir arnynt gan y newidiadau, yn enwedig yr argymhelliad o welyau cymunedol. Soniodd am brinder staff clinigol fel rhywbeth sy'n rhan o'r gymysgedd. A yw'r newidiadau arfaethedig hyn yn gwneud recriwtio meddygon a nyrsys yn anos, a'r posibilrwydd o gael ysbyty newydd sbon yng ngorllewin Cymru?

Soniodd Neil Hamilton am bwysigrwydd trafod y materion hyn mewn ffordd gynhwysfawr, gyda'r gymysgedd gyffredinol o wasanaethau clinigol yn cael eu symud o'r dwyrain i'r gorllewin, a beirniadodd gymhlethdod y ddogfen ymgynghorol. Nid oedd unrhyw ddewis amgen priodol yn lle cau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, ac ni roddir unrhyw seilwaith go iawn yn ei le.

Os caf droi at Ysgrifennydd y Cabinet a'i ymateb, mae'n dweud bod Hywel Dda yn haeddu parch am eu hymdrechion i newid y gwasanaethau iechyd ar draws y bwrdd, a soniodd am yr angen i ganoli gwasanaethau arbenigol a staff clinigol arbenigol. A mynnodd fod angen diwygio, ac y bydd yna bobl bob amser yn anghytuno â'r hyn a gaiff ei argymell. Soniodd am yr angen i gael gofal yn nes at adref ac os yn bosibl, yn y cartref.

Credaf fy mod wedi ymdrin yn gynhwysfawr â sylwadau'r rhan fwyaf o bobl ar hyn, felly unwaith eto, diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n addo iddynt y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio ystyried ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried y penderfyniadau a wneir heddiw gan fwrdd iechyd Hywel Dda. Felly, ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau ac am y cyfle i drafod y mater hwn heddiw. Diolch.

17:55

Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio
9. Dadl Fer: Cynnydd mewn cyflogau o fewn awdurdodau lleol

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar David Rowlands i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? David.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch o glywed y bydd fy ymdriniaeth yn fyr ac i'r pwynt. Mae'n ffaith nodedig fod sefydliadau sydd â bwlch cyflog mawr rhwng y gweithwyr uchaf ac isaf yn profi mwy o absenoldeb oherwydd salwch a throsiant staff na'r rhai gyda gwahaniaethau cyflog tecach.

Mae bylchau cyflog mawr hefyd yn amharu ar recriwtio staff, yn enwedig i swyddi rheolwyr canol. Felly, er bod gwrthwynebiad ar sail foesol yn aml i fylchau cyflog o'r fath, gellir gwneud achos economaidd ac ar sail busnes yn ddi-os o blaid dosbarthiad cyflog mwy cyfartal mewn sefydliadau. Gellir dweud hefyd fod gwahaniaethau cyflog mawr yn lladd ysbryd staff, sy'n aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rôl. Yn ei dro, gall hyn effeithio'n andwyol ar y sefydliad cyfan.

Er bod rhaid cydnabod y pennir gwahaniaethau cyflog yn gwbl briodol i adlewyrchu statws, setiau sgiliau a chyfrifoldeb, caiff y rhain eu sicrhau fel arfer drwy osod bandiau cyflog a cholofnau cyflog gwahanol, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyfrifo i sicrhau system gyflogau deg a chyfartal. Mae problemau'n codi pan fydd y gwahaniaethau hyn yn cael eu gwaethygu gan godiadau canrannol mewn cyflogau, yn aml ar sail flynyddol. Er enghraifft, os cymerwn ddau weithiwr, un ar gyflog o £20,000 y flwyddyn ac un arall ar gyflog o £100,000 y flwyddyn, a gosod codiad canrannol o 2 y cant, dyweder. Mae'r gweithiwr cyntaf yn cael £400 yn ychwanegol bob blwyddyn, tra bod yr ail yn cael £2,000 yn ychwanegol y flwyddyn. Mae hyn yn amlwg yn cynyddu'r gwahaniaeth rhwng cyflogau'r ddau weithiwr—yn yr achos hwn, mae'n £1,600. Yn amlwg, os ceir codiad cyflog blynyddol o'r fath, dros amser bydd y gwahaniaeth yn cynyddu'n sylweddol. Felly, mae'n ymddangos yn hurt mai'r math hwn o godiad cyflog canrannol yw'r system y mae cynghorau lleol dan arweiniad Llafur yn ei ffafrio, o ystyried ei bod yn amlwg yn annheg i'r rhai sydd ar gyflogau is. Mae rhywun yn meddwl hefyd tybed pam nad yw'r undebau llafur yn herio'r arfer hwn, sy'n amlwg yn gadael gweithwyr ar gyflogau is dan anfantais. Mae'n wir hefyd fod menywod yn tueddu i fod yn y categori cyflog is ac felly'n dioddef gwahaniaethu pellach o dan y system hon.

O ystyried yr alwad a glywir yn aml gan y Blaid Lafur o blaid dosbarthu cyfoeth yn decach, pam eu bod hwy, a'r undebau llafur, yn fodlon gweld codiadau cyflog canrannol yn parhau mewn awdurdodau lleol ac yn wir, yn holl sefydliadau'r Llywodraeth? Rai blynyddoedd yn ôl cyflwynodd y gwrthbleidiau ar gyngor bwrdeistref Torfaen gynnig a oedd yn rhoi diwedd ar y math hwn o ddosbarthiad cyflog, o blaid codiad cyflog ar gyfradd wastad. Cafodd ei basio'n unfrydol, ac eto, yn rhyfedd iawn, ni chafodd ei roi ar waith, sy'n gwneud i ni ofyn y cwestiwn, 'Pam?' Felly, galwn ar yr holl awdurdodau lleol ac yn wir, ar holl sefydliadau'r Llywodraeth i ymatal rhag defnyddio codiadau cyflog canrannol a chyflwyno system lawer tecach y codiad cyflog ar gyfradd wastad i bawb.

Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl. 

18:00

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fe ddechreuaf, gyda'ch caniatâd chi, drwy ddatgan fy mod yn aelod o Unsain rhag ofn bod unrhyw un o'r materion hyn yn cyffwrdd ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn amlwg eisiau cydnabod gwaith caled pawb sy'n gweithio mewn llywodraeth leol ar bob lefel? Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gyfrifol am wasanaethau i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn ogystal â gwasanaethau y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt ac weithiau'n eu cymryd yn ganiataol. Mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r gwaith caled a wneir mewn llywodraeth leol drwyddi draw ar draws y wlad gyfan. Rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud mae'n debyg y bydd rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon ar bob ochr yn cydnabod hefyd fod hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i sicrhau mai'r gweithwyr mwyaf agored i niwed bob amser, y gweithwyr ar y cyflogau isaf, yw'r rhai y ceisiwn ganolbwyntio fwyaf arnynt.

Gadewch imi ddweud hyn: rydym yn canolbwyntio ar gyflogau uwch reolwyr heddiw, ond mae eraill yn pryderu mwy am y wasgfa barhaus ar gyflogau'r rhan fwyaf o weithwyr awdurdodau lleol ar gyflogau is, sy'n cael eu llywio gan bolisïau cyni. Hoffwn gydnabod yn y ddadl hon ynglŷn â chyflogau cynyddol mewn awdurdodau lleol fod yna wasgfa o hyd ar gyflogau awdurdodau lleol, ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn fwy eang, a yrrir gan bolisi cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n effeithio fwyaf ar y gweithwyr sy'n ennill cyflogau is.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud a bydd yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf cyni, ond erydwyd ein gallu i wneud hyn yn glir gan doriadau i'n cyllid ein hunain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. A gadewch imi ddweud hyn, Ddirprwy Lywydd: mae'n werth gwneud y pwynt yn awr, yn y tymor canolig a hwy, i mi fel Gweinidog llywodraeth leol, nid cyflogau gormodol syml yw un o'r problemau mwyaf difrifol sy'n ein hwynebu—er y gall fod yn broblem weithiau, rwy'n derbyn hynny—ond yn hytrach y potensial ar gyfer toriadau sylweddol iawn yn y dyfodol o ganlyniad i doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn dilyn polisi trychinebus Brexit a'r negodiadau trychinebus sydd ar y gweill dan arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Gwyddom eisoes—fe wyddom eisoes—fod mesurau cyni wedi gwneud cam â Chymru. Rydym eisoes yn gwybod bod ein cyllideb yn sylweddol is na'r hyn oedd yn 2010—yr hyn sy'n cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn—ac ni cheir unrhyw arwyddion bod Canghellor presennol y Trysorlys ar fin newid cwrs a rhoi diwedd ar economeg cyni. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ledled Cymru, mai'r hyn y mae pobl eisiau mewn gwirionedd yw etholiad cyffredinol i gael gwared ar Lywodraeth bresennol y DU a rhoi Llywodraeth yn ei lle sydd wedi ymrwymo i sicrhau tegwch ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif.

Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: nid yw'r Llywodraeth hon yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan blaid sy'n dod i'r Siambr hon pan fo'n trafferthu i wneud hynny er mwyn dadlau o blaid dadreoleiddio, o blaid cyflogau is, er mwyn cael gwared ar hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau gweithwyr, er mwyn cael gwared ar—

—yr amddiffyniadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth yma a Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig. Fe ildiaf.

Diolch. Nid wyf yn meddwl eich bod wedi mynd i'r afael â holl fyrdwn y ddadl hon o gwbl. Rydych wedi'i gwneud yn bregeth erbyn y Llywodraeth Dorïaidd. Nid ydych wedi ymdrin â'r hyn rwy'n ceisio'i ddweud, sef bod y Llywodraeth Lafur yn berffaith hapus i ganiatáu i'r gwahaniaeth anferth hwn mewn codiadau cyflog barhau. Rwyf wedi nodi'r ffigurau. Nid ydych wedi rhoi sylw i'r rheini o gwbl. A wnewch chi ateb fy mhwynt os gwelwch yn dda?

Credaf fy mod wedi rhoi sylw i'r ffigurau ac rwyf eisoes wedi dweud bod gennym £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus a gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus bob blwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i bolisi aflwyddiannus cyni ac wrth gwrs, rydym wedi clywed lleisiau o'r ochr arall i'r Siambr sy'n credu bod gan gyni ffordd bellach i fynd eto. Felly, rwy'n petruso rhag rhoi sylw difrifol i rai o'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud y prynhawn yma.

Ond wrth ymateb i hyn, fel undebwr llafur, rhywun sydd, drwy gydol ei oes, wedi bod yn aelod o undeb llafur, rwy'n credu mewn cydfargeinio. Rwy'n credu bod Llywodraethau—ac rwy'n falch fod gan y Llywodraeth hon ddull gwaith teg o fynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n sicrhau ein bod yn negodi gydag undebau llafur, ein bod yn negodi gyda chyfeillion a chydweithwyr. A'r hyn a wnawn yw sicrhau bod llais undebaeth lafur wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Gadewch imi ddweud hyn hefyd: fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn rolau gwahanol yn y Llywodraeth hon ac ar y meinciau cefn, rwy'n gobeithio y bydd y lle hwn bob amser yn rhywle sy'n cydnabod pwysigrwydd undebaeth lafur ar gyfer sicrhau bod gweithwyr, lle bynnag y maent yn digwydd gweithio, boed mewn awdurdodau lleol neu rywle arall, yn cael y fargen orau sydd ar gael iddynt. Ac undebau llafur wedi'u trefnu'n effeithiol a'u cydnabod yw'r elfen bwysicaf o hyd wrth sicrhau bod strwythurau cyflog, beth bynnag fo'r strwythurau cyflog hynny, yn deg ac yn darparu'r amddiffyniad sydd ei angen ar y gweithwyr mwyaf agored i niwed ac ar y cyflogau isaf.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, gadewch imi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gallu talu'r cyflogau teg sydd eu hangen arnynt i'n gweithwyr. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos hon, o glywed y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd iechyd i sicrhau bod cyflogau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael eu codi, ac rydym yn rhagori ar y codiadau a welir ar draws y ffin. Rwy'n gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn gallu sicrhau cyflog teg a chodiadau teg i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf, a byddaf yn parhau i weithio, fel Gweinidog yn y Llywodraeth hon, gyda chydweithwyr yn y mudiad undebau llafur i sicrhau ein bod yn diogelu cyflogau ac amodau gweithwyr ar draws y sector cyhoeddus drwyddo draw, ond ein bod hefyd yn talu teyrnged iddynt, nad ydym yn eu cymryd yn ganiataol, ein bod yn eu gwerthfawrogi, a'n bod yn sicrhau bod gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ganolog i'n dull o weithredu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

18:05

Daeth y cyfarfod i ben am 18:06.