Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn cychwyn, mae'n bleser gen i i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

A'r eitem gyntaf felly ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Mark Isherwood. 

Cynlluniau Amaeth-amgylcheddol

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru? OAQ52297

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu a chynnig cynlluniau amaeth-amgylcheddol llwyddiannus drwy'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'r gyllideb wedi'i hymrwymo'n llwyr ac mae tair rownd arall o grantiau bach Glastir wedi'u cynllunio. Bydd cwmpas y cymorth amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn targedu nwyddau cyhoeddus a byddwn yn ymgynghori yn ei gylch dros y misoedd nesaf.

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Mewn cyfarfod diweddar â grŵp o sefydliadau—y Gynghrair Cefn Gwlad, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru—clywais fod cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y gylfinir wedi bod ar waith ers 40 mlynedd, ond nid ydynt wedi gweithio. Rydym wedi gweld gostyngiad o 80 y cant yn y boblogaeth yng Nghymru dros y 22 mlynedd diwethaf, a byddant wedi diflannu'n llwyr yn y wlad hon erbyn 2030 os nad ydym yn ymyrryd ar frys. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Ionawr ac a fynychwyd gan 120 o arbenigwyr o'r sectorau cadwraeth, ffermio, anifeiliaid hela a pholisi gwledig yn Llanfair-ym-Muallt ar statws a dyfodol y gylfinir yn Nghymru, ac roedd un o'u casgliadau allweddol yn ymwneud â rhaglenni amaeth-amgylchedd. Maent yn galw am adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o argymhellion yn ymwneud â'r gylfinir mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol cyfredol, ac yn gofyn a ydynt wedi gweithio ac a ydynt yn addas, ac am bolisïau sydd o blaid y gylfinir a ymgorfforwyd mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol, fel rheoli rhagnodol wedi'i arwain gan ganlyniadau.

Rwy'n ddiolchgar fod gennyf gyfarfod gyda Hannah Blythyn cyn bo hir i drafod y materion ehangach sy'n ymwneud â'r gylfinir, ond yn benodol, mewn perthynas â materion amaeth-amgylcheddol, pa ymgysylltiad a gawsoch, neu y byddwch yn ei gael, gyda'r sector i helpu i arwain y broses o ddatblygu cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol sy'n mynd ati i wrthdroi'r dirywiad hwn ar frys?

Diolch. Fel y dywedoch, mae yna gyfarfod wedi'i drefnu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw sicrhau ein bod yn monitro ac yn gwerthuso pob un o'n cynlluniau mewn ffordd sy'n dangos y canlyniadau. Ac yn amlwg, os oes pryderon mewn perthynas â'r cynllun hwn yn benodol, byddem yn hapus iawn i edrych arno.

Pŵer Ynni'r Llanw yn y Gogledd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer ynni'r llanw yng Ngogledd Cymru? OAQ52315

Mae gwaith blaenllaw ar y gweill ym mharth arddangos morol gogledd Cymru. Gallai ynni'r môr chwarae rhan bwysig yn y broses o sicrhau economi garbon isel i Gymru, gan greu swyddi hirdymor a thechnolegau y gellir eu hallforio. Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi parth arddangos gogledd Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cynigiodd y Prif Weinidog £200 miliwn i wella rhagolygon morlyn llanw bae Abertawe. Fel arfer, mae'r ffocws cyfan wedi bod ar dde Cymru pan fo arfordir gogledd Cymru yn barod i gael ei ystyried ar gyfer y math hwn o brosiect. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed canran fach o'r £200 miliwn hwnnw yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r cysyniad y mae Ynni Llanw Gogledd Cymru yn gweithio arno. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi fel y gellir rhoi'r prosiect hwn ar waith? Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa i fod yn brosiect braenaru. Mae'n bryd edrych tua'r gogledd yn awr.

Nid wyf ond wedi cael un cyfarfod gyda'r cwmni sy'n cyflwyno cynigion môr-lynnoedd llanw i Gymru, ond yn sicr, roeddent yn edrych ac yn ystyried un yng ngogledd Cymru. Soniais ein bod yn cefnogi'r parth arddangos, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, ac mae gennym sawl datblygwr yn ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael yno. Rwy'n falch iawn fod gan Gymru ddau o'r parthau mwyaf ar gyfer arddangos araeau llanw a thonnau ac yn amlwg, byddem yn hapus iawn i edrych ar yr holl fathau o ynni morol sy'n cael eu cyflwyno. Ymwelais â Morlais yn Ynys Môn, ym mis Chwefror eleni rwy'n credu. Felly, rwy'n parhau, ac mae fy swyddogion yn parhau, i gynnal trafodaethau gyda phartïon sydd â diddordeb.

Rwyf newydd ddod o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar ynni cynaliadwy, grŵp yr wyf yn gadeirydd arno, a grŵp sy'n cael ei argymell yn fawr iawn i'r holl Aelodau, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond ymhlith y cyflwyniadau a gawsom, cafwyd un am waith y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ymysg nifer o'r clystyrau ymchwil y mae'r rhwydwaith hwn wedi'u sefydlu, mae yna un ar ynni morol yn arbennig, sy'n amlwg yn gwneud cyfraniad pwysig i arloesedd ac ymchwil yn y maes hwn. Nawr, mae cyllid ar gyfer y rhwydwaith yn dod i ben ym mis Rhagfyr; nid oes unrhyw gynllun olynol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'r rhwydwaith wedi adeiladu llawer o fomentwm—mae wedi denu ymchwilwyr enwog o bedwar ban byd, sydd bellach yn gadael oherwydd nad ydynt yn gweld dyfodol i'r rhwydwaith penodol hwnnw. Felly, o gofio pwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud yn y sector penodol hwn, sy'n arbennig o addawol i ni yma yng Nghymru, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i weld beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau gyda'r gwaith?

13:35

Rwyf wedi dechrau cynnal trafodaethau cynnar iawn a gobeithio, erbyn mis Rhagfyr, y byddwn yn gallu gweld sut y gallwn helpu, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw'r wybodaeth hon. Rwy'n hoff iawn o bolisïau clwstwr, a chredaf ein bod yn gweld hynny'n digwydd yn y maes hwn. Ond rwy'n siŵr na fyddech yn disgwyl i mi gyhoeddi penderfyniad heddiw, ond mae'r gwaith ar y gweill.

Yn ogystal â chynnig ynni llanw gogledd Cymru ar gyfer y morlyn yr ydych wedi cyfeirio ato, rydych hefyd wedi cyfeirio'n fyr at gynigion oddi ar Ynys Môn. Pan gyfarfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ag ardal fenter Ynys Môn yn gynharach eleni, cawsom gyflwyniad ar y cynigion ar gyfer technoleg 'gwyrdd dwfn' i gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn. Rydych wedi crybwyll, rwy'n credu, ymweliad ym mis Chwefror. Pa ystyriaeth rydych chi a'ch swyddogion yn ei roi i'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n dangos y manteision amlwg y gallai hyn eu cynnig, nid yn unig i gynhyrchu ynni glân, ond hefyd i economi Ynys Môn?

Fel y dywedwch, cyfeiriais at y cyfarfod a gefais gyda Morlais yn ôl ym mis Chwefror. Cefais y newyddion diweddaraf ganddynt ar y datblygiadau sydd ar y gweill a'r gwaith y maent yn ei wneud mewn perthynas â chydsynio. Ond yn amlwg ni allaf drafod agweddau penodol ar gynllun aráe lanw Morlais oherwydd gallai hynny niweidio fy ystyriaeth o'r cais arfaethedig am orchymyn trafnidiaeth a gwaith, os a phryd y caiff ei wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fis diwethaf, croesewais y cyhoeddiad y bydd contract economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyflwyno cynigion i ddod yn garbon isel neu di-garbon. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gosod safonau i wella cymwysterau gwyrdd busnesau yng Nghymru, yn enwedig os ydym am fuddsoddi a chefnogi'r cwmnïau hynny gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod nad yw cyfyngu ar gamau i leihau allyriadau carbon yn unig yn ddigon i greu Cymru gydnerth, fel y'i diffinnir gan nod 2 yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i sicrhau bod y contract economaidd newydd yn cynnig ymateb integredig i bob un o'r saith nod llesiant?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a Lywydd cyn i mi ateb, os caf dalu teyrnged i Martin Bishop, rheolwr cenedlaethol Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, a oedd yn aelod gwerthfawr o grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Ysgrifennydd y Cabinet ar Brexit, ac yn hyrwyddwr brwd i'r sector coedwigaeth, a fu farw mewn damwain dros y penwythnos yn anffodus? Rwy'n siŵr y bydd Aelodau, ac yn enwedig Aelodau a oedd yn ei adnabod, yn ymuno â mi, a Llywodraeth Cymru, wrth i ni gydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Martin. Diolch yn fawr.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt dilys iawn ei bod hi'n dda cael yr uchelgeisiau hynny i fynd i'r afael â lleihau allyriadau carbon, a'n huchelgais yn arbennig yw sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral, ond mae hynny hefyd yn wir yn gyffredinol mewn gwirionedd. Un peth o ran yr hyn y buom yn edrych arno hefyd yw sut y defnyddiwn gaffael cyhoeddus yn ogystal, ac nid yn unig o ran y cynllun gweithredu economaidd, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a chydag unrhyw gontractau a chadwyni cyflenwi, a sut rydym yn cymhwyso caffael cyhoeddus gwyrdd. Ac yn enwedig o fewn fy mhortffolio fy hun, rydym yn edrych ar sut y gallwn, drwy weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ochr yn ochr â WRAP, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ddatblygu ystod o fesurau sy'n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau'r defnydd o blastigion, gan gynnwys pethau fel gwellt o fewn y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn ysgolion. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn nifer o lythyrau huawdl a rhesymegol gan blant ysgol gynradd am eu hymgyrchoedd i gael gwared â gwellt plastig yn eu hysgolion. O ran trafodaethau am y cynllun gweithredu economaidd, yn arbennig, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth yn gweithio'n agos oherwydd rydym yn nodi bod angen i ni bellach weithio gyda'n gilydd ac ar draws y Llywodraeth ar hyn—fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, a minnau yn ogystal.

Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, a gaf fi estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Martin?

Weinidog, i ddangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio ar draws y Llywodraeth, mae'n hanfodol fod y nodau cydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu yn y contract drwy alw ar fusnesau i ddangos sut y byddant yn cyfrannu tuag at, er enghraifft, y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Pe bai'n cael ei roi ar waith, gallai contract o'r fath ei gwneud yn ofynnol i fusnesau osod targedau clir a mesuradwy sy'n gwella cydnerthedd ecosystemau o fewn y cyfnod y maent yn cael cymorth gan y Llywodraeth neu'n cyflawni contract Llywodraeth. Felly, pa fesurau penodol sydd gan y Gweinidog mewn golwg o ran y ffyrdd y gall y contract fynnu bod busnesau'n rhoi camau ar waith i gyfrannu tuag at wytnwch ecosystemau ac adfer natur?

13:40

Mae'r Aelod yn llygad ei le fod angen i ni gymryd camau i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a'i wrthdroi, yn ogystal â hyrwyddo gwerth ein hecosystemau, bioamrywiaeth a'n cynefinoedd i gymunedau a busnesau fel ei gilydd.

Mae'r contract economaidd a'r galwadau am gamau gweithredu yn rhoi llwyfan i ni i wneud yn siŵr ein bod yn ymgorffori, fel y dywedwch, y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n arbennig o awyddus i archwilio potensial—[Anghlywadwy.]—yn barod, fel caffael gwyrdd i roi cyfrifoldebau ar fusnesau i weithio gyda ni o ran Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ogystal. Byddwn yn cyflwyno Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd, a fydd yn rhoi'r un cyfrifoldebau ar fusnesau i wahanu eu gwastraff ar gyfer casgliadau fel y mae cartrefi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd.

Ond hefyd, mewn gwirionedd, sut rydym yn cymhwyso nodau bioamrywiaeth? Un ffordd yw mynd o gwmpas a gweithio gydag awdurdodau lleol yn benodol i weld sut y maent hwy wedi bod yn ei wneud, ond daw'n ôl at y sgyrsiau parhaus hyn gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet mewn gwirionedd—nid yn unig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ond yn gyffredinol—o ran sut y gallwn gymhwyso hynny.

Rydym hefyd wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl, o ran cynhyrchiant pren o fewn y sector tai. Felly, dangos gwerth —. Ac yn enwedig, i mi, o ran fy mhortffolio—[Anghlywadwy.]—mae gwerth ein heconomi gylchol, nid yn unig i gynnal ac adfer y broses o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ond hefyd o ran y gwerth ychwanegol mewn perthynas â'r manteision swyddi y gallai hynny eu creu i'n heconomi yng Nghymru.

Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i ganmol gwaith y WWF, sydd wedi edrych ar y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth a byddai'n hoffi gweld mwy o weithredu. Maent wedi cyflwyno rhai syniadau penodol iawn, gan gynnwys lleihau'r defnydd o adnoddau drwy gynyddu digonolrwydd adnoddau busnes ac adnoddau gan gynhyrchwyr cynaliadwy ardystiedig. Yn ogystal, mae WWF yn awgrymu y gallem wella bioamrywiaeth ac adfer gweithrediad ecosystemau drwy asesu'r effaith ar adnoddau naturiol a buddsoddi'n weithredol mewn gwaith adfer. Ond onid yw'n wir, hyd yma, nad yw Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sydd, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno, yn ddeddfwriaeth bwysig, wedi cael ei defnyddio'n llawn ac yn ymarferol eto? Mae gwir angen i chi gynyddu eich uchelgais a sicrhau eu bod yn deall hyn yn llawn, er enghraifft, yn adran eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a mynd ati o ddifrif i weithio, ac mae angen i chi gydgysylltu hyn gyda'r chwaraewyr allweddol yn y sector dinesig, fel WWF.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at WWF, ac rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy fel rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae yna werth mewn cydweithio, nid yn unig â WWF, ond ar draws y sector ac ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â—. Ac rydych yn amlwg yn gywir—rydym yn iawn i fod yn falch o'n deddfwriaeth flaengar a'r uchelgeisiau a'r dyheadau a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth honno, ond yn awr, mewn gwirionedd, mae angen i ni roi hynny ar waith a chydnabod, er eu bod yn faterion amgylcheddol, fod angen ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn, a dyna pam fod gwerth mewn gweithio ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn gweld y canlyniadau rydym eu heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn anffodus nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy o gynnydd wrth geisio consensws gan weinyddiaethau datganoledig ar ddyfodol cymorth ffermydd yn dilyn Brexit. Mae'n bwysig iawn fod hyn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd. Mae Michael Gove wedi dweud ei fod eisiau ceisio consensws gyda ni. Mae hefyd wedi dweud y dylid seilio cymorth ffermydd ar anghenion y diwydiant yn hytrach na fformiwla Barnett, ac rwy'n credu, unwaith eto, y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Ond bydd gan Lywodraeth Cymru, pan ddaw'r cyfnod gweithredu i ben, ryddid sylweddol i wyro oddi wrth bolisi Llywodraeth y DU, pan fo hynny er budd Cymru, ac un maes yn arbennig yr hoffwn ei ymchwilio gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw'r posibilrwydd o gyflwyno taliadau y pen ar gyfer ffermydd mynydd. Nid yw'r ffermydd hyn yn hyfyw'n economaidd ar eu pennau eu hunain—mae hynny'n amlwg o'r holl anawsterau topograffig a'r anawsterau eraill y mae ffermwyr yn gorfod ymdopi â hwy—ac os ydym am barhau i ffermio bryniau Cymru i gynhyrchu cig o ansawdd da yn arbennig, byddant angen y math hwn o gymorth. Felly, a yw Llywodraeth Cymru o blaid cyflwyno taliadau y pen ar y bryniau mewn egwyddor?

13:45

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ar gyfer cymorth ffermio yn y dyfodol. Roeddwn yn falch iawn fod Michael Gove wedi dweud hynny am beidio â defnyddio fformiwla Barnett, oherwydd dywedasom o'r dechrau na fyddai hynny'n ganlyniad da o gwbl i Gymru, ac rwy'n parhau i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n colli'r un geiniog, fel yr addawyd i ni, mewn perthynas â chyllid yn dilyn Brexit.

Credaf eich bod eisoes yn gweld gwahaniaeth mewn polisi ffermio. Yn sicr, dros yr 20 mlynedd diwethaf tra bod amaethyddiaeth wedi cael ei ddatganoli'n llwyr yma, er nad yw'n wahanol iawn, mae yna wahaniaeth, ac mae ffermydd mynydd yn amlwg yn faes sy'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o Loegr. Mae'n debyg fod yna rai ardaloedd lle y gallech ddweud ei fod yn debyg. Felly, credaf fod hwnnw'n faes y bydd yn rhaid i ni edrych arno'n fanwl iawn.

Rwyf eisoes wedi dweud yn gyhoeddus y byddaf yn lansio Papur Gwyrdd ar ddechrau mis Gorffennaf, ymhell cyn sioeau'r haf, i ymgynghori ar ddyfodol amaethyddiaeth, ac yn amlwg bydd hyn yn cael ei gynnwys ynddo.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Nid ydym yn gwybod eto pa fath o gytundeb a geir gyda'r UE yn y pen draw. Un peth rydym yn ei wybod yw mai tua 75 y cant hunangynhaliol yw'r DU yn gyfan mewn cynhyrchion bwyd. Ceir anghydbwysedd sylweddol o ran masnach rhwng Prydain a'r UE mewn cynhyrchion bwyd a diod, felly mae yna bosibilrwydd enfawr, pe bai'r UE yn ddigon ffôl i gymhwyso tariffau sylweddol ar fewnforion o'r DU, y byddwn yn dial ac y bydd bwyd sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd yn cael ei amnewid am fwyd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gyda chynnyrch llaeth, er enghraifft, tua £1 biliwn y flwyddyn yw ein hallforion i'r UE, ond rydym yn mewnforio £2 biliwn o'r UE. Yn achos cig eidion, rydym yn mewnforio tua 400,000 tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio 180,000 tunnell. Gyda phorc, rydym yn mewnforio tua 1 filiwn tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio un rhan o bump o hynny—200,000 tunnell. Felly, mae yna gyfle gwych i amnewid y cynnyrch a gaiff ei fewnforio. Nid ydym yn gwybod pa fath o drefn y byddwn yn ei hwynebu, ond byddai'n sicr yn synhwyrol i ni gynllunio ar y sail nad oes unrhyw fargen go iawn a mynd ati felly i baratoi ffermwyr Cymru a'r diwydiant yn gyffredinol i amnewid yr allforion yr ydym yn cystadlu â hwy o'r UE i Brydain. Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ffermwyr ac eraill yn y sector amaethyddol i fanteisio ar y bwlch rydym yn ei ddioddef mewn masnach ar hyn o bryd?

Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â thariffau. Rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed hynny. Yn amlwg, mae polisi masnach wedi'i ddatganoli'n gyfan gwbl i Lywodraeth y DU, ond rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen i ni fod o amgylch y bwrdd o'r cychwyn cyntaf, a chredaf eu bod yn sylweddoli hynny. Yn sicr, ddydd Iau diwethaf, cynhaliais gyfarfod ar y cyd ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyda fy ngrŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn, lle y clywsom fod Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', gan wneud yn siŵr fod ganddynt y ddeddfwriaeth ac yn y blaen. Roedd yn amlwg iawn fod pobl a oedd yn eistedd o amgylch y bwrdd yn bryderus iawn am hyn, oherwydd credaf mai dyna'r tro cyntaf iddynt glywed hynny.

Credaf eich bod yn gywir fod yna bosibiliadau, ac mae rhan o'n cefnogaeth i'r sector amaethyddiaeth a'r sector bwyd ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer Brexit yn ymwneud â hyn—edrych ar y bylchau, edrych ar y cyfleoedd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yng Nghatalonia ac yng Ngwlad y Basg gyda'r timau clwstwr bwyd, ac mae'n amlwg fod yna gyfleoedd nad ydym wedi cael y budd mwyaf ohonynt. Yn sicr, mae Gwlad y Basg yn awyddus iawn i adeiladu ar eu perthynas â Chymru.

Roedd hwnnw'n ateb llawn gwybodaeth, ac rwy'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau hynny. Y maes arall y mae'r diwydiant yn bryderus iawn amdano, wrth gwrs, yw effaith mesurau rheoli ar symud llafur rhwng yr UE a'r DU. Rydym i gyd eisiau gweld cymaint o hyblygrwydd â phosibl yn hyn o beth, heb niweidio mesurau rheoli mewnfudo cyffredinol. O ran gweithwyr medrus, ni fyddai neb yn ei iawn bwyll eisiau lleihau'r cyfleoedd i bobl o dramor lenwi'r bylchau yn y sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd. Deallaf fod 63 y cant o staff lladd-dai yn dod o'r UE, ac mae tua 90 y cant o filfeddygon lladd-dai yn hanu o Ewrop. Felly, mae'r bobl hyn yn chwarae rôl hanfodol yn y DU a'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru a dylid rhoi pob anogaeth iddynt aros yn eu gwaith. Ni waeth beth yw eich barn ar ddymunoldeb Brexit, credaf y byddai consensws eang ar y farn honno.

Ond mewn perthynas ag amnewid mewnforion gyda nwyddau a chynnyrch bwyd, yn amlwg, mae gennym gyfle, gyda mwy o hyfforddiant ac ati, i ddysgu'r mathau o sgiliau nad oes gennym ddigon ohonynt ar hyn o bryd i'n pobl ein hunain. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym beth y mae hi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar i baratoi, unwaith eto, ar gyfer Brexit lle nad oes gennym fargen synhwyrol gyda'r UE oherwydd nad ydynt yn cynnig un ac oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud ei pholisi'n berffaith glir eu bod eisiau gweld cyn lleied o densiwn â phosibl mewn perthynas â symud llafur a symud nwyddau? Yr UE yw'r rhwystr ar hyn o bryd, ac mae Monsieur Barnier ei hun yn rhwystr personol i gytundeb, ac dyna ran o'i strategaeth negodi. Ond mae'n hanfodol bwysig—nid wyf eisiau i'r cwestiwn hwn droi'n araith—mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i wella cyfleoedd hyfforddi, yn enwedig yn y meysydd lle y ceir bylchau sgiliau ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ar hynny.

13:50

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gweithlu, ac mae'r holl elfennau ar draws fy mhortffolio yn bryderus iawn am y gweithlu. Fe sonioch fod 90 y cant o filfeddygon lladd-dai, rwy'n credu i chi ddweud, yn raddedigion o'r UE; mae 100 y cant o filfeddygon yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn raddedigion o'r UE—100 y cant. Felly gallwch weld pam ein bod yn pryderu cymaint. Ac yna, ar wahân i'r llafur medrus, mae'r llafur anfedrus. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf ein bod eisoes yn gweld gostyngiad yn nifer y gwladolion o'r UE sy'n dod i wneud gwaith tymhorol cyn yr haf. Felly, mae'n amlwg yn fater o bryder mawr ac yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid wyf yn credu ei fod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r pryderon sydd gennym i'w hadrodd yn ôl wrth Lywodraeth y DU. Mae'n anodd iawn—. Mewn rhai lladd-dai, mae tua 80 y cant o'u staff yn wladolion yr UE. Mae'n anodd iawn gwneud y swyddi hynny'n fwy deniadol, felly mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn helpu i wella sgiliau, ac mae hyn wedi bod yn rhan o'r gwaith y buom yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn gwirionedd, ers pleidlais refferendwm yr UE, i sicrhau bod ein sectorau ar draws fy mhortffolio yn barod.

Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi a Phlaid Cymru ategu'r cydymdeimlad a fynegodd Gweinidog yr amgylchedd i deulu Martin Bishop? Roedd yma, rwy'n credu, dair wythnos yn ôl yn fy helpu i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth a bydd llawer ohonom yn gweld ei eisiau ef, ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth.

A gaf i droi nawr at y cynllun ymsefydlu i ffermwyr ifanc? Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn ffrwyth cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae yna £6 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y cynllun hwn. Mae ar agor ar hyn o bryd, ac rydw i'n gwybod bod yna nifer fawr o bobl wedi ymgeisio a nifer fawr o bobl yn trafod y cynllun. Yn gyffredinol iawn, mae croeso mawr wedi bod i'r cynllun. Mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi fel adwaith wrth i'r cynllun gael ei fabwysiadu, a hoffwn i jest grybwyll y rhain i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf oll, mae pobl yn holi a oes modd cael mwy o, efallai, sgwrs o bryd i'w gilydd ac ymateb gan y Llywodraeth ynglŷn â rhoi cais i mewn ac ym mha ffordd mae cais yn datblygu ac ati, i ddeall a fydd y cais yn addas yn y ffordd yna. Mae pobl hefyd yn codi yr awydd i wneud yn siŵr bod y cynllun yn ffocysu'n briodol ar ffermwyr ifanc, rhai ohonyn nhw, efallai, blwyddyn neu ddwy i mewn i fusnes ond yn gallu manteisio ar y cynllun yma i dyfu'r busnes yma, a thrwy hynny, wrth gwrs, fel rydym ni wedi trafod yn y Cynulliad, dyfu rhyw garfan o bobl a fydd yn arwain y diwydiant wrth i ni wynebu rhai o'r heriadau sydd eisoes wedi cael eu trafod yma ar hyn o bryd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni a ydy hi'n fodlon jest cadw llygad ar y cynllun wrth iddo fe nesáu at y dyddiad cau a gwneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd yn y cynllun i gwrdd â'r anghenion a'r amcanion sydd wedi'u cytuno?

Diolch. Rwy'n hapus iawn i gydweithio ar y cynllun hwn ochr yn ochr â Simon Thomas. O ran y datganiadau o ddiddordeb—caeodd y ffenestr ddoe mewn gwirionedd. Rwy'n cadw llygad barcud arno. Mewn gwirionedd, mynychais ail gyfarfod y fforwm pobl ifanc mewn amaeth, ac rwy'n siŵr y gallwch ddeall fy mod wedi cael fy holi'n fanwl iawn yno am y cynllun hwn. Fel y dywedoch, mae yna £6 miliwn yn mynd i fod ar gael. Rwy'n wirioneddol awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn targedu'r cyllid lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym yr arweinwyr ifanc nesaf, felly byddwn yn cynnig—. Ochr yn ochr â manteision eraill y cynllun, byddwn yn gweithio gyda hwy, mewn perthynas â'r fforwm amaethyddol, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu dod i gysylltiad â fy swyddogion a minnau. Credaf fod un neu ddau ohonynt yn fy nghysgodi yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn eu hannog wrth symud ymlaen. Fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn cael ei gynnig ar ffurf cyfalaf gweithio, ac eto, bydd hynny'n cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid gyda'u busnesau.

13:55

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb. Mae’n dda gen i glywed yn arbennig nad oes yna ddim stop ar y ffordd yr ydym yn cydweithio â phobl ifanc. Bydd yna rai, efallai, wedi’u siomi gyda’r cynllun yma, ond rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dal i gadw llygad ar agor ar gyfer posibiliadau eraill o gynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

A gaf fi droi yn awr at y cwestiwn o’r morlyn llanw ym mae Abertawe? Wrth gwrs, roeddwn yn meddwl, wrth feddwl am y cwestiwn heddiw, y byddem ni wedi clywed erbyn hyn, ond nid ydym wedi. Rŷm ni’n dal i aros. Beth nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw a ydym yn aros oherwydd bod yna benderfyniad heb ei wneud, neu a ydym yn aros oherwydd nad ydynt wedi penderfynu pryd i ryddhau’r newyddion yn dawel bach. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet, gan fod y Llywodraeth wedi’i wneud yn gyfan gwbl glir nawr bod yna £200 miliwn ar y bwrdd gan y Llywodraeth hon ar gyfer helpu a hyrwyddo’r cynllun yma, a ydy’r cynnig yna wedi cael ei gymryd o ddifri gan Lywodraeth San Steffan? A ydyn nhw wedi ymateb? A ydyn nhw wedi cynnig trafodaethau? A ydyn nhw wedi eich gwahodd chi, neu unrhyw Aelod arall o’r Llywodraeth, i Lundain i drafod sut y gall yr arian yma ddod â’r cynllun morlyn llanw i fwcwl? Ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r ffordd i wthio’r cynllun yma i gael penderfyniad fydd yn llesol ac yn fuddiol i Gymru?

Diolch. Wel, roeddwn innau hefyd yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud. Dywedwyd wrthym y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud ddydd Llun diwethaf mwy na thebyg, yna dywedwyd wrthym mai heddiw y caiff ei wneud. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf, bydd yn 10 diwrnod arall mwy na thebyg, felly nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi fod yn ystyriol iawn eto wrth drafod prosiect penodol oherwydd fy rôl mewn perthynas â chynllunio, a thrwyddedu morol wrth gwrs. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Greg Clark yr wythnos diwethaf. Hyd yma, nid yw wedi cael ymateb. Felly, credaf fod y cynnig ariannu yn cael ei ystyried yn gynnig difrifol, a gwn fod Prif Weinidog Cymru wedi ei drafod yn bersonol gyda Phrif Weinidog y DU. Nid wyf yn siŵr a yw wedi'i drafod yn bersonol gyda Greg Clark, ond yn sicr mae wedi ysgrifennu ato, ac rydym yn aros am ymateb.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y newyddion hwnnw er nad oedd yn galonogol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. O'i safbwynt hi, deallaf nad hi yw'r un sy'n gyfrifol am hyn, ond mae'n mynd a dod fel y llanw ei hun, mewn gwirionedd. Pe baem yn gallu harneisio'r ynni o ddiffyg penderfyniad Llywodraeth San Steffan, byddem yn gwneud yn dda iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond rwy'n credu ei fod yn gynnig difrifol, ac roedd yn gais agoriadol gan Lywodraeth Cymru, a gallai fod wedi sbarduno pob math o drafodaethau ynghylch cydberchnogaeth, datblygu'r dechnoleg, Llywodraeth Cymru yn cydfuddsoddi mewn technoleg newydd sbon yng Nghymru. Os gall Llywodraeth San Steffan gydfuddsoddi yn Hitachi yn yr Wylfa, nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth tebyg yn achos y morlyn llanw. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn barod i drafod y rhain er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect.

Gan nad ydym wedi cael penderfyniad eto, a chan fy mod yn credu'n bersonol ein bod yn cael ein paratoi am benderfyniad gwael, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a oes unrhyw gyfran o'r arian hwn sydd wedi cael ei addo i'r morlyn llanw ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill yng Nghymru, a oes ganddi bethau eraill mewn golwg y gallwn fwrw ymlaen â hwy gyda'n pwerau ein hunain, a'n pwerau cynllunio ein hunain, yn arbennig o dan Ddeddf Cymru 2017, ac a oes ganddi gyfle yn awr i ailystyried ei phenderfyniad mewn perthynas â chwmni ynni cenedlaethol i Gymru, y byddai £200 miliwn yn gallu ei sefydlu'n dda iawn, diolch yn fawr, i fwrw ymlaen â llawer o'r syniadau y mae Cymru'n barod amdanynt yn fy marn i? Os ydym am gael ein siomi gan San Steffan, ein hymateb gorau i'r gwrthodiad hwnnw yw dangos ein bod yn well na hwy a'n bod yn gallu gwneud yn well yma yng Nghymru.

Rwy'n edmygu dycnwch yr Aelod mewn perthynas â gwasanaeth ynni i Gymru. Rwy'n gwybod y bu dadl yr wythnos diwethaf yn fy absenoldeb a bod Gweinidog yr Amgylchedd wedi ymateb iddi. Rydych yn gwneud pwynt da iawn am y £200 miliwn. Wrth gwrs, mae yna lawer o sectorau ynni adnewyddadwy eraill y gallem roi'r cyllid hwnnw tuag atynt—gwynt ar y tir, ar y môr. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl eto, oherwydd, yn amlwg, roedd y cynnig a wnaeth y Prif Weinidog mewn perthynas â'r £200 miliwn yn gynnig difrifol iawn. Felly, mae angen i ni aros am benderfyniad, ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, gan Lywodraeth y DU, cyn fy mod yn cael y trafodaethau hynny.

14:00
Pryfed yn Llanelli

3. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin i oresgyn y broblem pryfed yn Llanelli? OAQ52292

Mae adran diogelu'r cyhoedd y cyngor wedi lleoli ffynhonnell debygol y pla diweddar ac wedi trefnu bod y safle'n cael ei drin. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda rheoleiddiwr y safle, Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid ydynt wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ar y pwynt hwn.

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Ers i mi gyflwyno'r cwestiwn, rwy'n falch fod safle tebygol y pla bellach wedi'i nodi a'i drosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae llawer iawn o straen a gofid o hyd, yn enwedig yn y Morfa a rhannau glan môr y dref lle roedd y broblem ar ei gwaethaf, ac roedd yn amhleserus iawn i lawer o deuluoedd. Mae llawer iawn o bryder y gallai'r broblem ddigwydd eto dros yr haf. Mae swyddogion y cyngor wedi gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ffynhonnell, ond credaf fod yna rai gwersi i'w dysgu am gyfathrebu gyda'r gymuned, ac yn ddi-os, mae yna wersi ehangach i'w dysgu hefyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Cyngor Sir Caerfyrddin i weld beth y gallant ei wneud i wella'r ansawdd amgylcheddol lleol, yn un o ardaloedd tlotaf Llanelli, ond hefyd i ystyried pa wersi y gallant hwy, a chynghorau eraill, eu dysgu rhag ofn y bydd hyn yn digwydd eto?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol? Cydymdeimlaf yn llwyr â'r gofid a achosodd hyn i drigolion yn Llanelli, ac yn enwedig yr ardal sydd agosaf at y lle y digwyddodd, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn ofnadwy i bobl ar y pryd.

Yn sicr, mae yna bob amser wersi i'w dysgu o'r pethau hyn a gallwn wella'r hyn rydym wedi'i wneud bob amser. Fel y dywedais, nid yw'r cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth hyd yn hyn, ond rydym yn agored i'r trafodaethau hynny. Deallaf eu bod wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y cyngor. Gwyddom fod y cyngor bellach wedi trosglwyddo cyfrifoldeb a chamau gorfodi posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru, a phan fydd y gwaith papur gorfodi wedi'i gyflwyno, byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor a'r gymuned leol i sicrhau nad oes digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto.

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52307

Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth hwn. Mae un enghraifft, Awel Aman Tawe, wedi derbyn cymorth uniongyrchol o dros £4 miliwn ar gyfer ei brosiect mawr cyntaf. Mae'r grŵp yn dod yn gwmni ynni lleol pwysig yn rhanbarthol ac amlwg ar lefel y DU.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Yn naturiol, roeddwn i'n mynd i fynd ar ôl y morlyn llanw—y bondigrybwyll erbyn hyn, achos mae'n edrych eto fel ein bod ni'n wynebu oedi ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiad am unrhyw ddyfodol i'r morlyn llanw ym mae Abertawe. Fel rydych chi'n gwybod, rydym ni wedi bod yn aros ers cyhoeddi adroddiad Hendry yn Ionawr 2017. Nawr, y cwestiwn ydy: a ydych chi wedi cael trafodaethau'n ddiweddar efo cyngor Abertawe ac efo'r cwmni morlyn llanw yn lleol—yn ddiweddar nawr, yn y dyddiau yma—ynglŷn ag unrhyw ffordd ymlaen? A ydych chi'n bersonol wedi cael unrhyw drafodaethau efo unrhyw Weinidogion yn Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan ers i'r papur newydd, yr 'amseroedd ariannol', y Financial Times, adrodd nad oedd y morlyn llanw yn debygol o fynd ymlaen? Yn olaf, a oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â beth sydd ei angen i gael y morlyn yn realiti? Rydw i'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r llythyru oddi wrth y Prif Weinidog i fyny at Greg Clark, y Gweinidog perthnasol, ond rydw i'n credu, gan fod y prosiect yma mor affwysol bwysig i ni yn Abertawe, mae angen bod yn fwy rhagweithiol na hynny, a mynnu bod rhywbeth yn digwydd, yn bendant, os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod £200 miliwn yn parhau i fod yn annigonol—pa swm sy'n mynd i fod yn ddigonol?

Mewn ymateb i'r pwynt olaf, nid wyf yn gwybod pa ffigur a fyddai'n dderbyniol, ond rwy'n siŵr y bydd Greg Clark yn hysbysu'r Prif Weinidog os yw hynny, yn wir, yn broblem. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn. Hwy sydd wedi oedi a gwthio'r penderfyniad am y morlyn llanw o'r neilltu. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad Hendry, ac os oes unrhyw un wedi ei ddarllen, roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn—un o'r adroddiadau mwyaf cadarnhaol rwyf erioed wedi'i ddarllen, mae'n debyg. Felly, mae'n rhaid i ni aros am Lywodraeth y DU, ond yn bendant, mater iddynt hwy benderfynu yn ei gylch yw hyn bellach.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chyngor Abertawe na'r cwmni morlyn llanw fy hun, ond rwy'n ymwybodol fod cyd-Aelodau gweinidogol eraill wedi gwneud hynny. Roedd y cyfarfod a gefais, ac rwy'n credu mai hwnnw yw'r pwysicaf yn ôl pob tebyg, gyda Claire Perry, Gweinidog ynni yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ynglŷn ag amrywiaeth o sectorau ynni adnewyddadwy. Llwyddais i fynegi pryder, er enghraifft, ynglŷn ag ynni solar—mae pobl yn dal i gwyno wrthyf am y penderfyniad i gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan; penderfyniad polisi annoeth iawn, rwy'n credu—ac yn amlwg, cawsom drafodaethau ynglŷn ag ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.

14:05

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod yn deg fod cost adeiladu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd yn cael ei chymharu â darpariaeth ynni niwclear yn Hinkley Point, pan gafodd yr orsaf bŵer niwclear gyntaf yn Calder Hall ei hadeiladu ym 1956, a lle mae'r costau datgomisiynu a gwaredu wedi'u capio, ac os yw'r gwir gost yn uwch na'r cap, bydd y gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth, h.y. ni'r trethdalwyr?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges, a dywedaf eto: mae'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn o ran yr hyn a ddywedaf am brosiectau penodol—rwyf wedi fy nghyfyngu'n fawr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe.

Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod costau pŵer môr-lynnoedd llanw yn cael eu cymharu â thechnolegau eraill ar sail deg—credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn—ac mae'n rhaid i chi ystyried oes hir môr-lynnoedd, yn ogystal â'r holl effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol eraill. Nid yw ystyried costau, allbynnau ynni a phris streic unrhyw brosiect ynni, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac felly credaf y byddai'n fwy priodol i Lywodraeth y DU, mewn gwirionedd, esbonio'r rhesymeg sy'n sail i'r cymariaethau diweddar â Hinkley Point C.

O ran y sylwadau am Calder Hall, eto, mae datgomisiynu polisi niwclear yn fater a gedwir yn ôl, felly byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU esbonio eu safbwyntiau a sut y gwnaethant y penderfyniadau hynny. Nid ydym wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU a hyrwyddwyr pŵer môr-lynnoedd llanw, er enghraifft, felly nid ydym yn gwybod sut y mae cost pŵer môr-lynnoedd yn cymharu â dewisiadau eraill y maent yn eu hystyried.

Wel, yn amlwg, rwy'n rhannu rhwystredigaeth pawb ynglŷn â chyflymder y newyddion mewn perthynas â'r morlyn llanw. Ond rwy'n credu bod angen i ni gadw golwg ar y sefyllfa o hyd mewn perthynas â ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill yn ogystal. Mae prifysgol gwyddoniaeth gymhwysol Stuttgart wedi cynghori yn ddiweddar mai cyfuniad o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl pob tebyg, yw'r ffordd orau o leihau allyriadau mewn ardaloedd trefol, ac maent wedi darganfod, os ydych yn ystyried ynni biomas neu geothermol, mae'n bosibl i'r ardaloedd trefol hynny gyfrannu bron i hanner eu hynni eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy. Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig buddsoddi yn y modelau ynni adnewyddadwy cymysg hyn, fel y gall ein dinasoedd mawr wrthbwyso eu defnydd o drydan erbyn 2030. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio mwy o ynni biomas a geothermol fel rhan o'r model cynhyrchu ynni cymysg yma yng Nghymru yn awr, pan fo gennym gyfle i wneud hynny?

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn cadw golwg ar gyfuniad o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy, ac fe grybwyllais fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe yn fy ateb cyntaf i Dai Lloyd. Mae honno'n eiddo i'r gymuned yn gyfan gwbl. Roedd yn costio £8 miliwn, a chredaf ein bod wedi cyfrannu hanner y swm hwnnw—credaf mai tua £4 miliwn ydoedd. Maent yn awr, unwaith eto, ar y blaen o ran talu eu had-daliadau yn ôl i ni. Fe fyddwch yn gwybod am brosiect Adfywio Gŵyr hefyd. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy, ac os ydym am gyrraedd y targedau uchelgeisiol iawn a osodais y llynedd, mae angen i ni weld y cyfuniad hwnnw.

Cefnogi Amaethyddiaeth ym Mynwy

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi amaethyddiaeth ym Mynwy? OAQ52302

Diolch. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r diwydiant ffermio yn sir Fynwy, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy a gwydn, ac wedi'i reoli'n fwy proffesiynol. Mae busnesau amaethyddol yn y rhanbarth yn elwa ar gymorth Cyswllt Ffermio ac maent yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o grantiau a chyngor.

Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich polisïau ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem barhaus o dwbercwlosis buchol yn fy ardal i ac yn wir, ledled Cymru. Mae ffermwyr sir Fynwy yn parhau i fod yn bryderus iawn am gyfraddau'r haint yn yr hyn sy'n ardal â phroblem TB ac sydd wedi bod ers peth amser bellach. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi mai un peth yw ymdrin â chyfraddau'r haint ymhlith da byw—mae'n rhaid gwneud hynny—ond peth arall yw ymdrin ag ef o fewn y gronfa ehangach o anifeiliaid gwyllt ac yn yr amgylchedd ehangach hefyd. Felly, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd mewn ardaloedd problemus fel fy ardal i er mwyn gwneud yn siŵr fod y broblem hon naill ai'n cael ei datrys, neu o leiaf, fod ffermwyr yn cael sicrwydd ein bod ar y trywydd iawn i'w datrys yn y dyfodol agos.

Wel, rydym yn gwneud cynnydd mewn perthynas â'r mater hwn ledled Cymru. Byddwch wedi gweld bod yr ystadegau wedi'u cyhoeddi heddiw. Credaf yn awr fod tua 95 y cant o fuchesi ledled Cymru yn rhydd o TB. Fel y dywedwch, mae sir Fynwy mewn ardal yr ydym yn ei chategoreiddio fel ardal lle y ceir llawer o achosion o TB (dwyrain), felly rydym yn ei monitro'n agos iawn ar hyn o bryd. Unwaith eto, fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen ddiwygiedig a gyflwynais, ac rwyf wedi ymrwymo i roi adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, a byddaf yn gwneud hynny.

14:10
Codau Ymarfer Lles Anifeiliaid

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i ddiweddaru codau ymarfer lles anifeiliaid presennol yng Nghymru? OAQ52289

Diolch. Disgwylir y bydd y codau lles wedi'u diweddaru ar gyfer cŵn a cheffylau yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yr haf hwn. Y codau ar gyfer ieir dodwy, brwyliaid, moch, cathod a chwningod fydd y rhai nesaf i gael eu diweddaru. Byddaf yn darparu diweddariad ar faterion lles anifeiliaid eraill yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf.

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Mae 15 o wledydd Ewropeaidd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes, naill ai ar gyfer pob rhywogaeth neu rai rhywogaethau. Ym mis Hydref 2016, galwodd RSPCA Cymru ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'r 15 o wledydd hynny a chyflwyno'r gwaharddiad yng Nghymru. Pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i gyhoeddi ei chynlluniau i ddiweddaru'r codau ymarfer lles anifeiliaid presennol, ac a wnaiff hi ymrwymo i wahardd pobl rhag cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud y byddaf yn gwneud datganiad llafar ddydd Mawrth nesaf, a byddaf yn cyfeirio at brimatiaid yn fy natganiad llafar.

Mae'r cod ymarfer presennol ar fagu adar at ddibenion saethu yn wyth mlwydd oed, ac nid yw'n cynnwys unrhyw ofynion o ran isafswm gofod ar gyfer adar hela, ac nid yw wedi cael ei gefnogi gan unrhyw arolygiadau statudol annibynnol i wirio cydymffurfiaeth, yn wahanol i'r codau lles ar gyfer adar eraill megis ieir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y bydd camau'n cael eu cymryd i fonitro'n annibynnol y broses o orfodi'r cod er mwyn sicrhau lles yr adar hyn?

Ni allaf roi dyddiad penodol i chi o ran pryd y bydd hynny'n cael ei wneud. Rydym yn edrych ar yr holl godau ymarfer ar draws y portffolio, ac mae'r blaenoriaethau o ran y rhai y byddwn yn eu gwneud yn gyntaf yn rhywbeth rydym yn gweithio arno ochr yn ochr â'r rhanddeiliaid. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar y cynllun sydd gennym, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink

Fis diwethaf, derbyniodd Senedd y DU ddeiseb gyda 143,000 o lofnodion arni gan gefnogwyr yn ymgyrchu i wahardd pobl rhag gwerthu cŵn bach mewn siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr trydydd parti eraill. Enwyd yr ymgyrch yn gyfraith Lucy, er cof am darfgi Siarl a achubwyd o'r enw Lucy, a oedd wedi cael ei defnyddio fel peiriant magu ar fferm fridio cŵn bach heb unrhyw ystyriaeth i'w lles, ac mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r ymgyrch honno. Bydd cyfraith Lucy yn helpu i gael gwared ar fridio a gwerthu anghyfrifol, yn enwedig o ffermydd cŵn bach, gan ei bod yn ei gwneud yn anghyfreithlon i werthu cŵn bach oni bai bod y fam yn bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw cyfraith Lucy yn gyfraith y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei chyflwyno yng Nghymru?

Diolch i chi am y cwestiwn, Joyce Watson. Unwaith eto, mae hwn yn faes—gwerthiannau trydydd parti—y byddaf yn ei gyflwyno yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf. Gwn y bydd yna ddigwyddiad y mae'r Aelod yn ei noddi mewn perthynas â chyfraith Lucy yn y Senedd, ar ddechrau mis Gorffennaf, rwy'n credu. Ers i mi gael y portffolio hwn, mae gweld y galw uchel ymysg pobl sydd eisiau gwerthiannau trydydd parti wedi peri pryder mawr i mi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn. Felly, byddaf yn cyflwyno gwybodaeth bellach yn y datganiad ddydd Mawrth.

Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun gweithredu bwyd a diod i ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil Brexit? OAQ52304

Diolch. Mae gwaith ar y gweill eisoes ar ddatblygu olynydd i'r cynllun gweithredu bwyd a diod. Bydd hyn yn rhoi cyfeiriad clir i'r diwydiant y tu hwnt i 2020. Ni fydd Brexit yn effeithio ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynllun gweithredu cyfredol, sy'n amlwg yn cyflawni canlyniadau.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Brexit yn creu rhai cwestiynau mawr ynghylch cydnerthedd ein cyflenwadau bwyd i'n galluogi i fwydo ein poblogaethau. Ar hyn o bryd rydym yn mewnforio gwerth £9 biliwn o ffrwythau a llysiau ar draws y DU, ac mae hynny'n cymharu â gwerth £1 biliwn yn unig o lysiau a ffrwythau rydym yn eu tyfu yma yn y DU. Felly, mae yna rai materion go fawr yn codi mewn perthynas â diogelwch bwyd pe bai Llywodraeth y DU yn methu negodi undeb tollau di-dor. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall beth yw ein cynlluniau ar gyfer ymdrin â'r bygythiad posibl hwn.

Yn amlwg, nid oes angen i mi dynnu eich sylw at y ffaith y bydd ffrwythau a llysiau'n dirywio'n gyflym iawn os cânt eu dal yn Dover, Southampton neu faes awyr Caerdydd. Ac o ystyried pwysigrwydd ffrwythau a llysiau i ddeiet iach, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn fater strategol pwysig. Hyd yn oed heddiw, rydym yn ei chael hi'n anodd cael pobl i gasglu'r cynnyrch sy'n cael ei dyfu yn y wlad hon am fod dinasyddion Ewropeaidd yn cael eu gwneud i deimlo nad oes croeso iddynt neu oherwydd y newid yng ngwerth y bunt.

Gwyddom o'r paneli arbenigol rydych wedi bod yn eu defnyddio i'ch cynghori ar Brexit fod y dyfodol eisoes yn edrych yn heriol iawn i ffermwyr defaid o dan unrhyw un o senarios canlyniadau Brexit. Ond nid oes gennyf lawer o oddefgarwch tuag at y rhai sy'n dadlau nad yw Cymru yn addas ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau. Mae angen iddynt fod yn barod i ddweud wrth siopwyr y bydd yn rhaid iddynt naill ai wneud heb ffrwythau a llysiau neu dalu pris premiwm am adnodd prin, ac mae angen iddynt ymgynefino â ffyrdd newydd o dyfu, fel hydroponeg ac acwaponeg. Gwn fod Cyngor Caerdydd yn edrych yn weithredol iawn—

14:15

Iawn. Felly, mae angen cynllunio, hyfforddi a datblygu dulliau dosbarthu newydd er mwyn gallu arallgyfeirio i arddwriaeth, cyn i ni ddechrau sôn am brosesu bwyd hyd yn oed, sydd eisoes yn digwydd ar draws ffiniau gwledydd. Felly, sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion strategol hyn, naill ai drwy ddiwygio'r cynllun gweithredu bwyd a diod neu drwy ddull arall?

Diolch. Wel, rhan o'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu paratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Brexit, ac mae garddwriaeth yn un maes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Felly, pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriad ar ddechrau mis Gorffennaf, mae hwn yn faes a fydd yn ffurfio rhan o'r ymgynghoriad. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â ffrwythau a llysiau yn segur mewn porthladdoedd a meysydd awyr, ac rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny, ynghyd â bwyd môr. Mae oes silff ein cig yn bwysig iawn, felly mae angen i ni wneud gwaith ar oes silff hefyd, i wneud yn siŵr fod y sector yn gallu cystadlu â gwledydd eraill sydd ag oes silff hwy ar gyfer eu cynnyrch bwyd.

Fe sonioch fod hwn yn fater iechyd cyhoeddus. Yn amlwg rydym yn derbyn bod bwyd eisoes yn cael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus. Nid ydym eisiau gweld deiets afiach. Felly, mae'n faes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Fel y dywedwch, gall ein ffermwyr dyfu ffrwythau a llysiau, ac yn sicr nid wyf wedi clywed pobl yn dweud wrthyf nad yw Cymru'n gallu gwneud hynny.

Y tro diwethaf i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyfarfod, gwnaethom gyfarfod yn y Drenewydd, a buom yn siarad â nifer o fusnesau cynhyrchu bwyd—Hilltop Honey, Monty's Brewery—ac yn ein trafodaethau cyn hynny, cyn i ni gyfarfod â'r Prif Weinidog, awgrymodd y busnesau hynny y byddai dynodi bwyd a diod fel thema twristiaeth ar gyfer blwyddyn yn y dyfodol, i hyrwyddo Cymru drwy gynnyrch Cymreig, yn syniad da. Rydym wedi crybwyll hyn wrth y Prif Weinidog, a ddywedodd y byddai'n cael ei ystyried. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar hynny.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â hynny, ond yn sicr rwyf wedi cael trafodaethau gyda Ken Skates ynglŷn â thwristiaeth bwyd. Credaf fod hwn yn faes lle y gallwn wneud camau enfawr. Soniais mewn cwestiwn cynharach fy mod wedi ymweld â Gwlad y Basg y llynedd. Ym maes awyr Bilbao, mae ganddynt y siop fwyaf anhygoel yn gwerthu cynnyrch lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y gallem ei wneud yma ym maes awyr Caerdydd. Byddai'n wych gweld siop yno gyda chynnyrch Cymreig, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau i'w gyflwyno.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Cefnogaeth i Aelodau'r Lluoedd Arfog

1. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i wella'r gefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OAQ52290

Lywydd, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwnnw. Yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill, nodais y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymuned y lluoedd arfog yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Yn gynharach heddiw, roeddem yn mwynhau dathliad o ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yn y Senedd gyda grŵp o brif farsialiaid y Llu Awyr Brenhinol a'r prif Aelodau Cynulliad yno. Mae'n ddiwrnod mawr i'r Cynulliad. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymchwiliad i effaith cyfamod y lluoedd arfog ar bersonél y lluoedd arfog. Mae'r ymchwiliad hwn wedi nodi problemau'n ymwneud â sut y mae sefydliadau sector cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, gan gynnwys diffyg atebolrwydd am gyflawni'r cyfamod, diffyg ymwybyddiaeth ymysg staff y sector cyhoeddus a diffyg cynaliadwyedd o ran y ffordd y caiff gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Llywodraeth eu hariannu. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnaiff ailystyried ei benderfyniad i wrthod comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, os gwelwch yn dda?

14:20

Lywydd, nid wyf yn siŵr fod honno'n farn gwbl—sut y gallaf ddweud—gytbwys ar yr adroddiad hwnnw, ond o ran y gefnogaeth a ddarparwn ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yn gyffredinol, byddaf yn parhau i adolygu hynny. Rwyf wedi gwneud datganiad ar sut y byddwn yn ymateb i adroddiad y grŵp trawsbleidiol—adroddiad rwy'n ei werthfawrogi'n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud—a byddwn yn edrych ar sut y gallwn gryfhau'r meysydd gwahanol o gymorth.

Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod hyn yn cael ei brif ffrydio drwy ein gwaith yn ogystal. Ddoe, siaradais mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ynglŷn â sut rydym yn darparu cymorth penodol, ac angen darparu cymorth penodol, ar anghenion dysgu ychwanegol i blant sy'n dod o gymuned y lluoedd arfog. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â charchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yno siaradais ag aelodau o staff sy'n gweithio yn adain Endeavour, sydd wedi'i neilltuo ar gyfer aelodau o gymuned y lluoedd arfog. Felly, tra byddwn yn parhau i ddarparu cymorth penodol ar gyfer cyn-filwyr a'r rheini sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, byddwn hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio drwy holl waith y Llywodraeth.

'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'

2. Pa egwyddorion sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad, 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'? OAQ52319

Bwriad yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd yw cael trafodaeth adeiladol ar sut i sicrhau llywodraeth leol gryfach, sydd yn fwy grymus.

Diolch am yr ateb byr. Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi’n sôn am gydweithio yn yr ateb, a dweud y gwir, achos dyna beth sydd ar goll, mae’n ymddangos i mi, ar hyn o bryd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad. Nid wyf yn siŵr pam mae’r Llywodraeth mor frwd dros adnewyddu a diwygio ac ad-drefnu llywodraeth leol pan fo gyda nhw gynigion gan lywodraeth leol ei hunan i gydweithio yn well, i gydweithio’n fwy strategol, ac yn wyneb yr holl newidiadau sy’n mynd i ddigwydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Ym mha ffordd y mae’r Gweinidog yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad ar sail yr ymateb hyd yma gan lywodraeth leol, sy’n ymddangos eu bod nhw yn gwthio yn erbyn ei syniadau, ac nid yw ef yntau yn cynnig cydweithio gyda nhw?

Rydym ni'n trafod sut rydym ni’n gweithio gyda llywodraeth leol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser.

A gaf i ddweud hyn? Beth rwyf eisiau ei wneud drwy’r broses yma yw sicrhau ein bod ni yn cynnig nid jest diwygio llywodraeth leol, gan nad oes pwrpas gwneud hynny os nad oes pwrpas i’r peth. Felly, beth rwyf eisiau ei wneud yw cryfhau llywodraeth leol, cryfhau cynghorau, cryfhau’r ffordd rydym yn ethol cynghorwyr, cryfhau’r ffordd rydym yn cael atebolrwydd gwleidyddol yn lleol, cryfhau arweinyddiaeth leol, a chryfhau’r gwasanaethau rydym ni’n eu cael yn lleol. Felly, proses bositif yw hon, a phroses o ddatganoli grym o’r lle yma i ganolfannau gwleidyddol ar draws ein gwlad. Ac rwy’n credu y buaswn i’n gobeithio, o leiaf, y buasai hynny’n rhywbeth lle y buasai fe a’i blaid yn cytuno â ni.

Os gallaf hysbysu Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn siŵr fod llawer o fewn llywodraeth leol yn ystyried hon yn broses gadarnhaol. Yn wir, maent yn ei hystyried yn broses drahaus mewn gwirionedd.

Beth bynnag, yn eu hymateb i'ch Papur Gwyrdd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datgan mai'r gwir ddewis amgen realistig i'r cynigion yn y Papur Gwyrdd yw i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfnod o gymorth a sefydlogrwydd. Ac roeddent mor siomedig pan addawodd eich rhagflaenydd, flwyddyn yn unig yn ôl, y ceid 10 mlynedd o sefydlogrwydd o'r fath? Ar ben hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych wedi dadlau'n gryf iawn yn erbyn eich cynigion, gan ddatgan na wnaed achos credadwy dros newid, a nodi nad yw profiad rhai awdurdodau yn y gorffennol mewn perthynas ag uno gwirfoddol, ac ymateb y Llywodraeth iddynt, yn galonogol.

Rydym yn gwybod bod y cynigion a gyflwynwyd gan Conwy a sir Ddinbych wedi cael eu gwrthod yn llwyr gan eich rhagflaenydd. Felly, a allwch esbonio i'r awdurdodau lleol hynny, a welodd eu cynigion uno gwirfoddol yn cael eu gwrthod yn ystod y pedwerydd Cynulliad heb eglurhad hyd yn oed, ac a gafodd dawelwch meddwl yn sgil addewid eich rhagflaenydd o 10 mlynedd o sefydlogrwydd y llynedd, pam rydych bellach wedi penderfynu parhau gyda'r ymagwedd fyrbwyll hon tuag at uno gorfodol?

Lywydd, weithiau, gall y ddadl hon fod yn eithriadol o ailadroddus yn hytrach na dadlennol. Rwyf wedi ateb y cwestiwn y mae'r Aelod wedi'i ofyn ar sawl achlysur. Mae'n rhaid i mi ddweud, pe baem yn cynnig yr un sefydlogrwydd a gynigir i lywodraeth leol yn Lloegr i lywodraeth leol yng Nghymru, sef y sefydlogrwydd o wybod y bydd llai o adnoddau y flwyddyn nesaf na'r llynedd, llai o adnoddau y flwyddyn ganlynol na'r flwyddyn nesaf, y byddwn yn cael gwared ar y grant cynnal refeniw, y byddwn yn sicrhau bod llywodraeth leol yn colli pwerau, yn cael eu gwanychu ac yn wynebu lleihad sylweddol yn eu gallu i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau lleol, nid wyf yn siŵr mai dyna'r math o sefydlogrwydd y byddent ei eisiau. Wyddoch chi, rwy'n gwrando ar Aelodau Ceidwadol dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn dod ataf ac yn dweud wrthyf eu bod yn anghytuno â dull gweithredu Llywodraethau Cymru olynol, ond nid oes un cynghorydd Ceidwadol wedi cysylltu â mi, wedi dod ataf, wedi cyfarfod â mi, wedi ysgrifennu ataf a dweud wrthyf, 'Cyflwynwch bolisïau'r Ceidwadwyr mewn llywodraeth leol os gwelwch yn dda'? Nid oes un cynghorydd lleol yn unrhyw ran o Gymru eisiau gweld polisi Ceidwadol ar gyfer cefnogi, cynnal a thagu llywodraeth leol.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Mi fydd y gost yna yn adlewyrchu'r math o fframwaith y byddwn ni'n penderfynu arno fe.

Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n ateb y cwestiwn, ac a bod yn onest, mae o'n ateb byrrach na'r un ces i gan y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen pan wnes i ofyn yr un cwestiwn. Ond, ateb yn union yr un mor ddisylwedd â hwnnw y ces i, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae ymdrechion Gweinidogion dro ar ôl tro i wrthod ateb cwestiynau syml yn sarhad ar y Senedd yma.

Mae yna waith wedi cael ei wneud ar y gost gan nifer o gyrff gwahanol. Mi gafodd gwaith ei gyflwyno i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan arbenigwr uchel ei barch, yr Athro Malcolm Prowle, yn ddiweddar, efo rhai cyrff yn amcangyfrif y gallai'r cynigion ailstrwythuro gostio hyd at £268 miliwn. Mae'r ymchwil gan yr Athro Prowle hefyd yn dangos tystiolaeth o Loegr ac yn rhyngwladol sy'n dangos bod uno ac ailstrwythuro llywodraeth leol yn cael canlyniadau ariannol negyddol. Ai'r gwirionedd felly ydy, un ai nid ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o beth fydd y gost, neu rydych chi'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth? Mae hynny yn ei dro wedyn yn amddifadu llywodraeth leol a'r Cynulliad yma o'r ffeithiau hollbwysig rydym ni eu hangen yn ystod y drafodaeth yma.

Llywydd, beth fuasai'n hynod sarhadus fyddai pennu ymgynghoriad ddoe a dweud beth ydy'r penderfyniad heddiw, heb ystyried dim un o'r atebion rydym ni wedi'u cael yn ystod y misoedd diwethaf. Mi fuasai hynny yn sarhadus i'r bobl sydd wedi bod yn rhan o'r drafodaeth yma. Ond a gaf i ddweud hyn yn glir? Mi wnes i gyfarfod â'r Athro Prowle yr wythnos diwethaf, ac mi ges i sgwrs hir a gwelais i ei gyflwyniad e pan oedd e'n trafod y fath o ffigurau y mae'r Aelod wedi crybwyll heddiw. Ond, a gaf i ddweud hyn wrthoch chi? Mi wnaeth ef bennu ei gyflwyniad drwy ddweud buasai naw cyngor yn well i Gymru.

Wel, gadewch i ni symud ymlaen o'r cwestiwn o gost am ychydig, felly, a throi at un o'r cwestiynau y gwnes i eu gofyn i chi pan gawsoch chi eich penodi fel Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol. Y cwestiwn hwnnw oedd pa fath o steil yr oeddech chi am ei fabwysiadu wrth ddelio efo llywodraeth leol. Mae'n wir, efallai, nad ydym ni wedi gweld y fath lefel o ffraeo a checru yn y cyfryngau rhyngoch chi a'r awdurdodau lleol, ond mae'r anghytuno croch yn parhau, a'r gwirionedd ydy nad oes yna gefnogaeth gan gynghorau lleol i gynigion y Papur Gwyrdd.

Mae Debbie Wilcox, fel rydych chi'n gwybod yn iawn, wedi dweud bod unrhyw amcangyfrif synhwyrol yn dangos na fuasai uno cynghorau yn arbed arian. 'Tynnu sylw diangen', meddai arweinydd cyngor Caerffili, a ddoe, fel y clywsom ni, mi gawsom ni ymateb ffurfiol gan Gyngor Sir Ddinbych hyd yn oed, sef un o'r ychydig gynghorau a oedd yn barod i uno yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a Dinbych yn nodi nad oes achos credadwy dros newid wedi'i wneud yn nogfen ymgynghori'r Papur Gwyn. Pan ddechreuoch chi yn y rôl yma, dywedoch chi ei bod hi'n bryd cael perthynas newydd efo llywodraeth leol. Ai creu anghytundeb llwyr rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a oedd gennych chi mewn golwg?

14:30

Pan ofynnoch chi'r cwestiwn, mi wnes eich ateb chi fan hyn yn y Siambr, a hefyd ar fy mlog, ac rydych chi wedi fy nghwestiynu i ar hynny ers i mi gyhoeddi'r erthygl. Ac roeddwn i'n hollol glir ar y pryd fod gen i weledigaeth ar gyfer y dyfodol ac mae gen i weledigaeth o lywodraeth wahanol yng Nghymru—llywodraeth lle rydym ni yn datganoli o'r lle yma, ac mi rydych chi a'ch Plaid wedi gwneud digon—. Rydw i wedi clywed digon o areithiau gan Plaid Cymru ar hynny dros y blynyddoedd, ac nawr rydw i'n cynnig hynny. Rydw i'n cynnig datganoli o fae Caerdydd i Ddinbych, i sir Fôn, i Gaernarfon, hyd yn oed i Fangor. Ac rydw i'n cynnal y drafodaeth honno gyda llywodraeth leol, ond hefyd y tu hwnt i lywodraeth leol. Gormod o weithiau yn y fan hyn rydym ni'n sôn amboutu llywodraeth fel taw ni a chynghorwyr sydd ei phiau hi. Rydw i'n meddwl mai pobl Cymru sydd biau'r ffordd yr ydym ni'n llywodraethu, nid gwleidyddion. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’n syndod nad yw eich Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol yn plesio rhyw lawer ar nifer o awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector ledled Cymru. Yn wir, ar ôl derbyn nifer sylweddol o'r un ymatebion i'ch ymgynghoriad fy hun, ceir tystiolaeth glir eisoes fod eich cynigion yn cael eu hystyried yn anymarferol, heb ystyried yr heriau enfawr sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ddim mwy nag ailwampiad syml o gynlluniau Gweinidog blaenorol. Mae rhai o'r ymatebion fel a ganlyn: Bro Morgannwg—addawodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol 10 mlynedd o sefydlogrwydd; nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet hwn wedi sicrhau gwerth 10 mis o sefydlogrwydd hyd yn oed. Casnewydd: mae'r cynigion yn tynnu sylw oddi wrth yr her o ddarparu gwasanaethau a diwallu anghenion cymunedau sy'n gynyddol gymhleth. Sir Fynwy: nid yw'r Papur Gwyrdd yn trafod y materion craidd sydd wrth wraidd y ddadl. Caerffili: ni allwn weld bod ad-drefnu llywodraeth leol yn llwyr yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Mae'r manteision ariannol yn ddadleuol ar y gorau. Ynys Môn: mae angen i'r Prif Weinidog roi ei Bapur Gwyrdd yn y bin lle mae i fod.

Nawr, o gofio bod awdurdodau lleol a'r rheini sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n pobl fwyaf agored i niwed yn ddyddiol wedi'u cythruddo, eu digalonni a’u dadrithio gan eich Papur Gwyrdd, a bod y cynigion hyn, mewn termau real, yn peri ansefydlogrwydd ac yn tynnu sylw oddi wrth eu darpariaeth sydd eisoes wedi'i chyfyngu, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i adlewyrchu'r nifer o leisiau gwybodus sy'n codi llais er mwyn atal y cynigion cythryblus a thrychinebus hyn rhag mynd rhagddynt?

Mae'r Aelod Ceidwadol yn defnyddio cyni fel pe bai'r rhodd fwyaf y mae llywodraeth leol erioed wedi ei chael. Gadewch imi ddweud hyn: mae yna broblemau sylweddol yn wynebu llywodraeth leol heddiw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o ganlyniad i'r cyfyngiadau ariannol y maent yn eu hwynebu, ond nid pob un ohonynt. Mae llywodraeth leol Cymru wedi bod yn glir sawl gwaith ei hun fod 22 awdurdod lleol yn ormod ac nad yw'n gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny ar sawl achlysur. Nawr, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw edrych am ffordd ymlaen.

Nawr, nid wyf wedi clywed ymateb gan lefarydd y Ceidwadwyr ar ffordd gadarnhaol ymlaen. Y peth hawsaf yn y byd i’w wneud yw darllen y papurau newydd i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, ond buaswn yn awgrymu mai ymateb annigonol yw hynny i'r heriau sy'n ein hwynebu. Nawr, dywedais yn glir iawn fy mod am weld dadl gadarnhaol; rwyf am weld dadl gyfoethog. Rwyf am weld dadl ynglŷn â sut y byddwn yn datganoli pwerau ledled Cymru, a sut y grymuswn awdurdodau lleol, a sut y grymuswn ddinasyddion. A byddaf yn gwbl glir, fel yr oeddwn mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Arfon, nad gwleidyddion, mewn neuaddau sirol neu’r lle hwn, sy'n berchen ar lywodraethiant ein gwlad; pobl y wlad hon sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i’ch ymgynghoriad fy hun; rwy’n awgrymu nad ydych wedi ei ddarllen eto. Rydych yn parhau i ailadrodd yr un hen ddadl nad yw'r Papur Gwyrdd ond yn nodi'r ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol a chyfuno cynghorau, ond nid yw hynny'n wir, ydy e? Ym mis Ebrill, deuthum yn ymwybodol fod y Blaid Lafur ei hun yn cael trafodaethau mewnol ynglŷn â sut i orfodi'ch cynigion ac mai un o'r syniadau a drafodwyd yw haneru nifer y cynghorwyr mewn ardaloedd a unwyd, a chynyddu eu tâl 62 y cant ar yr un pryd, o £13,600 i oddeutu £22,000 y flwyddyn, er mwyn gwneud y fargen yn fwy derbyniol ar gyfer uno, a thorri niferoedd yr aelodau etholedig. Efallai y byddwch yn synnu fy mod yn gwybod hyn, neu efallai na fyddwch yn gwybod eich hun—rydych chi mor bell oddi wrth y gymuned llywodraeth leol yng Nghymru. I'r rhai sydd wedi gwasanaethu, ac sydd am roi’r gorau i fod yn gynghorwyr, cynnig arall gan Lafur Cymru yw talu tua £500 y flwyddyn yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd o wasanaeth i gynghorwyr a fyddai'n colli eu seddau sy'n golygu y byddai rhywun a wasanaethodd am 20 mlynedd yn cael cil-dwrn o £10,000. Mewn difrif, Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma’r ffordd y dylech chi, neu Lywodraeth Lafur Cymru, neu unrhyw Lywodraeth, fynd ati i ddiwygio llywodraeth leol, lle mae'n bwysicach gwneud bargeinion ystafell gefn gyda'ch cynghorwyr Llafur eich hun na thrwy gyrraedd consensws trawsbleidiol â phawb o bob cwr o Gymru? Byddech yn dechrau yn y Siambr hon; yn ystod eich cyfraniad diwethaf, roedd eich cefnwyr meinciau cefn eich hun yn siarad yn erbyn y cynigion hyn. Yn sicr, nid yw hyn yn ddim mwy na chil-dwrn dan din i gynghorwyr Llafur. Yn bersonol, rwy'n credu bod pobl Cymru'n haeddu'n well—trueni nad ydych chi.

14:35

Lywydd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennyf gyfle arall i siarad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Credaf fod yna gwestiwn yno rywle, er fy mod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddo. Gadewch i mi ddweud hyn: yn sicr ni fu unrhyw drafodaeth o fewn y Blaid Lafur o'r math hwnnw, ac fel y dywedais, mae wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Efallai ei bod hi'n cyfeirio at adroddiad panel Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol, sy'n banel annibynnol, ac, os oes ganddi unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y rheini, yna dylai eu cofnodi, ac wynebu'r hyn y mae'n ei ddweud yno. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: rwy'n ystyried adroddiad y panel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cymru; nid wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniadau yn ei gylch, a phan fyddaf yn gwneud penderfyniad arno, fe'i cyhoeddaf. A bydd yr adroddiad hwnnw'n dod gan banel annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n defnyddio ei chwestiwn nesaf fel cyfle i dynnu rhai o'i sylwadau yn ôl.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar bwynt o drefn, ni ddylech fod yn sefyll yno’n dweud wrthyf fy mod yn iselhau fy hun. Mae gennyf bob hawl i fod yma, i graffu ar eich gwaith a’ch herio chi—ac rwy’n mynd i graffu ar eich gwaith a’ch herio. Rwyf wedi bod yn siarad â'r gymuned llywodraeth leol ledled Cymru—awgrymaf y dylech chi wneud hynny. Daeth eich ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd i ben ddoe. Dyma, mewn termau real, yw’r unfed ddogfen ar bymtheg gan Lywodraeth Cymru sy'n amlinellu diwygiadau o ryw fath i strwythur neu waith lywodraeth leol ers 2004. Ac yn wir, yn yr 20 mlynedd ers datganoli, mae llywodraeth leol wedi cael ei basio o gwmpas y bwrdd 10 gwaith—mae yna 10 Gweinidog llywodraeth leol wedi bod. Nid yw hynny'n rhoi llawer o bwys ar y gymuned hon, sy'n darparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol. Nawr, yn—. Eleni, ym mis Ebrill, gofynnodd y tri awdurdod tân ac awdurdodau lleol i chi sut y bydd eich proses o ddiwygio llywodraeth leol yn cyd-fynd â diwygio eu strwythurau—gan eich bod hyd yn oed yn ceisio eu herio ar hyn o bryd—ac nid ydych wedi ateb y cwestiwn hwnnw. Yn ogystal, gwyddom fod gan lywodraeth leol gysylltiadau annatod â meysydd darparu gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis y gwasanaeth iechyd, addysg, darparu tai a gofal cymdeithasol, ac yn arbennig, y pryderon sylweddol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys prinder nyrsys a meddygon, methiannau systematig i gadw at amseroedd aros, gorwariant byrddau iechyd—

—parhad rheolaeth uniongyrchol y llywodraeth ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen, ac fe ofynnaf i chi eto, ac fe gaiff ei gofnodi eto: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch Ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru eraill, sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, ynglŷn â chydweithio mewn ffordd strategol, neu a yw'n wir nad yw'r trafodaethau hynny wedi digwydd, a’r hyn sydd gennym yma yw chi’n crwydro oddi ar y testun i ail-greu hen gynlluniau treuliedig a gafodd eu diddymu’n gadarn unwaith o’r blaen?

Efallai y bydd yn syndod i’r Aelodau ganfod ein bod yn cael sgyrsiau rhwng gwahanol Weinidogion bron bob dydd, ac rwyf wedi trafod y mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y bore yma; byddaf yn trafod yr union fater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddiwedd ein busnes heddiw. Byddaf yn trafod y materion hyn gyda Gweinidogion eraill yn wythnosol. Ond yn fwy na hynny, i ateb y cwestiwn hwn, Lywydd, rwyf am fynd yn ôl at gynnig gwahanol. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—. Ac mewn gwirionedd, bron trwy ddamwain, efallai y bydd llefarydd y Ceidwadwyr yn gywir ynglŷn ag un peth: dros gyfnod o 20 mlynedd, nid ydym wedi cyrraedd perthynas aeddfed gytûn â llywodraeth leol, ac mae hynny'n gyfrifoldeb, nid yn unig i’r Ysgrifennydd Cabinet hwn, ond yn gyfrifoldeb i’r lle hwn, y sefydliad hwn, ie, y Llywodraeth, a llywodraeth leol hefyd. I mi, nid bargen rhwng gwleidyddion sy’n bwysig, boed mewn ystafell gefn neu mewn ystafell flaen, ond gweithio er budd dinasyddion y wlad hon, er mwyn grymuso pobl, i sicrhau bod gennym atebolrwydd democrataidd mewn trefi a neuaddau sir ar hyd a lled Cymru, ac i ddatganoli pŵer o'r lle hwn i ganolfannau gwneud penderfyniadau ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gwarchod ac yn amddiffyn gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus tra’u bod yn cyflawni ein gwasanaethau. Ac a wyddoch chi beth sydd gan yr holl bobl hynny yn gyffredin? Nid oes yr un ohonynt wedi awgrymu wrthyf fod angen mwy o gyni neu fwy o bolisïau Ceidwadol.FootnoteLink

14:40

Diolch, Lywydd. Roedd gennyf ddiddordeb yn rhai o'ch sylwadau yn gynharach, Weinidog, mewn ymateb i gyfraniad Janet Finch-Saunders, yn enwedig pan siaradoch chi am rymuso'r dinasyddion ac mai'r mater allweddol sy'n wynebu llywodraeth leol yw sut i rymuso dinasyddion ac fe ddywedoch chi hefyd mai'r bobl sy'n berchen ar y wlad, sy'n syniadau urddasol iawn. 

Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y buoch yn ei ddweud yn y cyfryngau yn ddiweddar, gyda'ch galwad am ail refferendwm ar Brexit—pleidlais y bobl fel y’i gelwir. Roeddwn yn chwilfrydig ynglŷn â hyn gan fy mod yn meddwl ein bod eisoes wedi cael pleidlais i’r bobl. Yn fy niniweidrwydd, credais mai'r refferendwm ei hun oedd pleidlais y bobl, ond mae eich safbwynt cyhoeddus yn ddiddorol ac yn sicr mae'n rhywbeth y gallwn ei ddatblygu heddiw o bosibl.

Nawr, un o'r problemau sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym, ar lefel llywodraeth leol, system y cyntaf i’r felin, felly mae hynny'n tueddu i olygu y gallwn gael cynghorau wedi’u hethol—cynghorau Llafur fel arfer, mae'n rhaid dweud—sy’n ennill mwy na 50 y cant o seddi'r cyngor ar lai na 50 y cant o'r bleidlais. Nawr, rwy'n cyffredinoli, rwy’n derbyn hynny, ond mae'n ddarlun cyffredinol o’r hyn sy’n digwydd gyda llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y byddech yn cydnabod hynny. Rydych wedi argymell bod cynghorau'n ystyried symud tuag at system wahanol, sef y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn sicr, byddai'r system honno'n fwy democrataidd, ond o ystyried eich ymrwymiad enwog i egwyddorion democrataidd, pa mor bell fyddwch chi'n gwthio cynghorau lleol yng Nghymru i symud tuag at y system fwy democrataidd hon?

Mae fy marn ar gefnogaeth i gynrychiolaeth gyfrannol yn hysbys iawn ac maent eisoes wedi’u cofnodi. Nid yw polisi'r Llywodraeth hon wedi newid ers i mi wneud datganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr.

O’r gorau. Rwy'n credu y gallwn dderbyn yr anhawster o gael cynghorau lleol, a arweinir gan y Blaid Lafur, ac sy'n gwneud yn dda o dan drefn y cyntaf i'r felin, i newid i system wahanol. Rwy'n credu y gallech chi gydnabod y gallai hynny fod yn broblem. Ond fe symudwn ymlaen.

Maes arall lle mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru yw’r system gynllunio. Mae llawer o gymunedau lleol yn teimlo nad oes ganddynt rym o gwbl pan fyddant yn uno i ffurfio grwpiau protest ac ymgyrchu yn erbyn datblygiadau lleol diangen, fel priffyrdd a phrosiectau tai mawr. Ac yna fe welant, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol llwyr bron, fod y cynllun yn cael caniatâd cynllunio beth bynnag. Mae UKIP yn honni y dylem ganiatáu ar gyfer refferendwm lleol yn yr achos hwn. Byddai'r canlyniad yn gyfreithiol rwymol. Byddai'r polisi hwn yn democrateiddio'r broses gynllunio. Unwaith eto, gan feddwl am eich sylwadau yn gynharach ynglŷn â sut i rymuso dinasyddion lleol, a wnewch chi feddwl eto am fabwysiadu'r polisi hwn eich hun?

Rwy'n credu bod yna lawer o ddadleuon o blaid democratiaeth uniongyrchol a cheir enghreifftiau mewn gwahanol rannau o'r byd lle mae'n gweithio'n dda. Mae Califfornia yn enghraifft dda iawn, rwy'n credu, a rhannau o'r Unol Daleithiau, a gallai'r Swistir fod yn enghraifft lle nad yw'n gweithio cystal o bosibl. Ond mae'n rhan o ffordd o lywodraethu—nid polisi ydyw y gallwch ei osod mewn model, a gynlluniwyd fel arall i weithio mewn gwahanol ffyrdd. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod gennym atebolrwydd effeithiol ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd o ran sut rydym yn darparu llywodraeth leol ac rwyf am gryfhau'r atebolrwydd hwnnw, ond rwyf hefyd am weld sut y gallwn sicrhau bod gennym amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol. Cafwyd nifer o adroddiadau ger bron y lle hwn dros nifer fawr o flynyddoedd a ddylai ddisgrifio'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Bydd yr Aelod dros Arfon yn gwneud cyfraniad yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn edrych ar sut y bydd ein holl brosesau diwygio yn cryfhau atebolrwydd ac amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Ond i mi, yr uchelgais gwirioneddol allweddol yw grymuso a chryfhau prosesau gwneud penderfyniadau lleol.

14:45

Mae amrywiaeth yn rhywbeth yr ydym ar fin ei archwilio yn y pwyllgor llywodraeth leol, felly byddwn yn bwydo i mewn i'r broses honno gobeithio, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ymwneud â ni. Rhoesoch ateb diddorol ynglŷn â mater y refferendwm lleol, gan gyfeirio at Galiffornia fel enghraifft, felly mae hynny'n galondid. O gofio eich diddordeb yn y syniadau hyn a'r gwahanol ffurfiau ar ddemocratiaeth—democratiaeth gynrychioliadol, democratiaeth uniongyrchol ac ati—byddai'n ddiddorol gweld sut y ceisiwch ymgorffori'r syniadau hyn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, a fyddech yn derbyn bod yna broblem o ran canfyddiad y cyhoedd o'r system gynllunio yng Nghymru—nid yng Nghymru'n unig, ond yn y DU—a'i bod yn ymddangos fel pe na bai'n cynrychioli dinasyddion lleol yn ddigon da?

Na, ni fuaswn yn derbyn hynny, ac wrth gwrs, mae fy ffrind, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig newydd ateb cwestiynau ar y materion hyn, ac felly nid wyf am fynd ar drywydd unrhyw ddadl neu drafodaeth bellach ar gynllunio yn benodol. Yr hyn a ddywedaf wrth geisio ateb y cwestiwn mewn ffordd gadarnhaol yw eich cyfeirio at y pwyntiau a wneuthum ynglŷn â'r ffaith mai dinasyddion sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon ac nid gwleidyddion. A'r hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn gallu edrych am ffyrdd a dulliau newydd a gwahanol o'n dwyn ni fel gwleidyddion, fel Gweinidogion, fel Aelodau Cynulliad a chynghorwyr awdurdodau lleol i gyfrif. Ond hefyd, sut y mae grymuso gwahanol lefelau o lywodraeth leol? Cefais gyfarfod da iawn gyda phanel o gynghorau tref a chymuned y bore yma, yn dadlau a thrafod rhai o'u cynigion, a fydd, gobeithio, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Ond i mi, mae hyn yn gadarnhaol ac yn cyfoethogi dadl ynglŷn â grymuso; nid dadl syml ydyw am linellau ar fapiau, prosesau uno a sut i naill ai gynnig neu osgoi'r materion hynny. I mi, y mater gwirioneddol bwysig am y ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol yw'r uchelgais, y pen draw, y weledigaeth ac nid y broses yn unig.

Gwella Diogelwch Cymunedol

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella diogelwch cymunedol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52300

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar faterion o ddiddordeb cyffredin gyda'r nod o wneud cymunedau'n fwy diogel.

Diolch ichi am yr ateb cryno hwnnw. Mae Pwynt Help Abertawe wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol at economi nos Abertawe. Prosiect a gefnogir gan Heddlu De Cymru ydyw mewn gwirionedd, a chan gyngor Abertawe a St John Cymru yn ogystal, ac mae eu gwaith wedi helpu i gadw statws baner borffor y ddinas. Ond mae yna heriau'n parhau, gan fod troseddau treisgar, fel y'u cofnodwyd, wedi cynyddu ar Stryd y Gwynt, gerllaw lleoliad y Pwynt Help, ac yn yr achos penodol hwn, mae ardal gwella busnes Abertawe wedi cyfrannu, fel busnesau, tuag at y Pwynt Help er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddu. Ond pa lwybrau eraill a allai fod ar gael i annog partneriaid i rannu'r cyfrifoldebau hyn dros gadw canol trefi'n fwy diogel, os mynnwch, o gofio bod trefi eraill yn ceisio datblygu eu heconomïau nos?

Lywydd, rwyf wedi cyfarfod gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ddwywaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf i drafod diogelwch cymunedol a sut y symudwn ymlaen â gwahanol ddulliau o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi a materion ehangach yn ymwneud â'r gymuned gyfan. I mi, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig dros y flwyddyn ariannol hon, ond mewn blynyddoedd ariannol i ddod. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod yn gwario bron £17 miliwn eleni ar gefnogi a chynnal y rhaglen unigol honno. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod y byddai llawer o'r gwaith hwn yn cael ei wella pe bai plismona'n cael ei ddatganoli i'r lle hwn inni allu gweithredu dull mwy cyfannol o reoli gwasanaethau plismona fel rhan o ddull ehangach o fynd i'r afael â diogelwch cymunedol a materion eraill.

Carchardai

4. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddata yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'? OAQ52326

Rydym wedi darllen yr adroddiad gan Dr Robert Jones. Mae'n cyflwyno darlun defnyddiol iawn o'r hyn sy'n digwydd yng ngharchardai Cymru a materion sy'n ymwneud â phobl o Gymru a gedwir mewn carchardai yn Lloegr.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddyfyniad o'r ail baragraff:

Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch carchar. Mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau carchar yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag... yn Lloegr.

Mewn gwirionedd roedd mwy o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Fel y data yn yr adroddiad, mae hynny'n sicr yn dangos cyflwr a natur anhrefnus y gwasanaeth carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn wir, mae'n effeithio'n andwyol ar garcharorion o Gymru a'u teuluoedd a'u bywydau pan fyddant yn gadael carchar o ganlyniad i hynny. Mae'n tynnu sylw mewn gwirionedd at dwpdra llwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflwyno cynnig ar gyfer carchar ym Maglan, sydd wedi'i dynnu oddi ar yr agenda bellach. Ond nododd eich datganiad ar 6 Ebrill eich bod am drafodaethau ystyrlon ar ddyfodol y polisi cosbi yng Nghymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i sicrhau bod gennym ateb Cymreig ar gyfer carcharorion o Gymru. Pa mor bell y mae hynny wedi mynd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? A gawsoch drafodaethau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatganoli'r system gosbi fel y gallwn sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref, yn nes at eu teuluoedd, ac nad ydynt yn cael eu cadw mewn rhyw fath o warws yn rhywle arall?

14:50

Ymwelais â charchar y Parc yr wythnos diwethaf a siaradais â chyfarwyddwr y carchar ac aelodau eraill o'i staff sy'n ymdrin yn uniongyrchol â phobl sy'n cael eu cadw yno, a thrafodwyd yr holl faterion hynny gyda'r cyfarwyddwr. Rwy'n ymweld â charchar Berwyn bore yfory a byddaf yn cael sgyrsiau tebyg gyda'r staff yno. Rhannaf eich pryder. Rhannaf y pryder am yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, y credaf ei fod yn dilyn wrth sodlau nifer o adroddiadau beirniadol ynghylch yr amodau mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf fod angen dull sylfaenol wahanol o weithredu. Siaredais mewn cwestiwn cynharach am yr angen i gael ymagwedd fwy cyfannol yn y materion hyn, ac mae hynny'n wir yma yn ogystal.

Roedd gennyf gyfarfod yn fy nyddiadur gyda Dr Phillip Lee, a thybiaf y caiff ei aildrefnu bellach, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae Dr Lee yn un o'r grŵp o bobl sydd wedi sefyll etholiad ym Mlaenau Gwent, felly mae gennym rywbeth yn gyffredin. Rwy'n talu teyrnged iddo ef ac i'r gwaith a wnaeth yn ei swydd. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n newid braf cael siarad â Gweinidog Ceidwadol a oedd yn deall llawer o'r materion rydym yn ymdrin â hwy, ac mae'n flin iawn gennyf ei fod wedi teimlo'r angen i ymddiswyddo ddoe.

Ond byddaf yn mynd ar drywydd y materion hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Gweinidog carchardai, Rory Stewart, ac rydym yn aros i glywed a fydd hynny'n gallu mynd rhagddo. Ond mae'r angen i fynd i'r afael mewn modd cyfannol â pholisi cosbi yng Nghymru yn greiddiol i'r mater hwn i mi. Nid wyf yn credu y gallwn fynd i'r afael â'n dull o ymwneud â pholisi cosbi yng Nghymru yn iawn cyhyd â'i fod yn cael ei reoli gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n dilyn blaenoriaethau ac athroniaethau Llywodraeth wahanol a dull sylfaenol wahanol o weithredu. Mae angen polisi cosbi sy'n seiliedig ar barch, dyngarwch ac adsefydlu, ac un sy'n gwasanaethu pob rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.

Fel un arall o gyn-fechgyn etholiadol Blaenau Gwent, os mai dyna'r ffordd iawn o'i roi, credaf mai llwyddiant cyfyngedig a gafodd pawb ohonom. Cafodd hynny ei drawsnewid gennych chi yn ddiweddar, ond yn sicr apêl gyfyngedig a oedd i mi a Mr Lee. A gaf fi gymeradwyo gwaith Robert Jones, gŵr yr wyf yn ei adnabod—ac rwyf wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr yma yn y Cynulliad—a gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd? Mae hwn yn ddeunydd o ansawdd gwirioneddol dda ac mae angen inni ei ystyried.

Rwy'n falch o weld bod nifer y plant o Gymru mewn carchardai wedi gostwng o 116 yn 2010 i 32 yn 2017. Credaf y dylai rhoi plant yng ngharchar fod yn ddewis pan fetho popeth arall. Mae'r duedd honno'n disgyn ac mae hynny'n beth da. Ond mae'n golygu bod mwy a mwy o blant yn gorfod teithio i sefydliadau troseddwyr ifanc, sydd eu hunain yn cau. Felly, mae gennym ganran uwch o blant Cymru bellach yn teithio pellteroedd mawr, ac mae rhai ohonynt yn adrodd nad ydynt byth yn cael ymweliad gan rieni oherwydd y caledi y mae hynny'n ei achosi. A wnewch chi edrych ar hyn a gweld a allwn wella sefyllfa'r teuluoedd hyn?

Yn bendant. Ceir cydberthynas arwyddocaol rhwng y pellter o adref a nifer yr ymweliadau cartref a gafwyd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i ni ei ystyried. Mewn gwirionedd, o ran llawer o'r bobl ifanc a phlant a gedwir yn sefydliad troseddwyr ifanc y Parc, er enghraifft, y rhai sydd bellaf oddi cartref yw'r bobl sy'n hanu o Loegr, o Lundain neu Birmingham neu fannau eraill. Er nad oes gennyf broblem gyda chyfeiriad neu genedligrwydd y bobl, fy mhroblem yw'r pellter o adref, ac mae angen inni gael cyfleusterau—yn achos plant a phobl ifanc, canolfan lle y gallant barhau mewn addysg, lle y gellir darparu cymorth ar eu cyfer. Mae gan lawer o'r bobl hyn anghenion cymhleth, boed yn salwch meddwl neu'n gamddefnyddio sylweddau, ond hefyd dônt o gefndiroedd, weithiau, sy'n anodd iawn, ac maent angen cymorth a chefnogaeth yn hytrach na charchariad llym. Yr hyn y gobeithiaf y byddem yn gallu ei wneud mewn polisi cosbi Cymreig yw gwreiddio hynny mewn ymdeimlad o adsefydlu, cymorth, dyngarwch a pharch er mwyn ein galluogi i symud ymlaen mewn ffordd wahanol iawn.

14:55
Mynediad at Wasanaethau Cyhoeddus

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad trigolion yn Nhrefynwy at wasanaethau cyhoeddus? OAQ52303

Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yn sir Fynwy.

Rwy'n falch o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwrandewais gyda diddordeb ar eich trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders yn gynharach. Cefais fy nharo ein bod wedi cael y ddadl a gawsoch sawl gwaith o'r blaen. Rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â'ch sylw y dylech fod—fel rwy'n ei wneud yn aml, mewn gwirionedd; ar y pethau mawr yn unig yr ydym yn anghytuno. [Torri ar draws.] Rwy'n cyrraedd yno. [Chwerthin.] Nid wyf yn gyfarwydd â chael fy heclo gan fy ochr fy hun. [Chwerthin.] Dylem ddatganoli pwerau i ganolfannau democratiaeth leol effeithiol, sef, rwy'n meddwl, yr ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych. Hefyd, credaf eich bod yn iawn i ddweud eich bod chi, fel Llywodraeth Cymru, angen perthynas ystyrlon â llywodraeth leol. Credaf y byddai llywodraeth leol wrth eu bodd yn cael perthynas ystyrlon gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal. A chredaf y ceir dwy ochr i'r geiniog hon.

Rwy'n credu mai lle rydym yn anghytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, yw, er bod pob un ohonom yn derbyn y dylai fod newid organig dros amser, a diwygio llywodraeth leol a strwythurau darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru—mae gennym y dinas-ranbarthau fel enghraifft glasurol o sut y mae pethau yn newid—yr hyn sy'n rhaid ei wneud yw rhoi'r dinesydd ynghanol hyn. Lle mae ein hochr ni yn wahanol i'ch un chi yw ein bod yn teimlo eich bod yn rhoi'r strwythur yn gyntaf, ac mae hynny'n anghywir. Nid yw hynny wedi gweithio yn y gorffennol ac ni fydd yn gweithio yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi ailfeddwl, cael trafodaethau gyda'ch cydweithwyr llywodraeth leol, gobeithio, neu bwy bynnag y mae angen i chi gael y trafodaethau hynny â hwy, ond dychwelyd â chynigion ar gyfer sut rydych yn mynd i roi'r dinesydd yn y canol a chael system sydd o ddifrif yn darparu'r math o newid trawsffurfiol, adfywiol mewn llywodraeth leol y mae pawb ohonom am ei weld yn ddirfawr, ond newid nad yw'n aberthu popeth ar allor ad-drefnu?

Roeddwn i'n credu hynny hefyd. Mae yna wahaniaeth o ran cywair a geiriau, onid oes? Gadewch imi ddweud hyn: clywaf yr hyn sydd gan fy nghyfaill a fy nghymydog etholaeth i'w ddweud, a deallaf y pwynt y mae'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno, er y perygl ofnadwy i mi fy hun o bosibl, nad yw rhoi'r dinesydd ynghanol ein democratiaeth a'r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau yn dibynnu'n unig ar strwythurau. Cytunaf â hynny, fel mae'n digwydd. Ond rhaid inni allu cael strwythurau sy'n gadarn ac yn gynaliadwy er mwyn datganoli'r cyfrifoldebau a'r gwasanaethau iddynt. Rydym angen hynny ac nid oes gennym hynny ar hyn o bryd, ac mae llywodraeth leol yn derbyn hynny. Felly, mae angen inni ddod o hyd i strwythur a fydd yn ein galluogi i ddatganoli'r pwerau, ac i sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny'n bodoli ar lefel fwy lleol, ac rwy'n hapus i gael y sgwrs honno. Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur nad wyf yn gaeth i unrhyw fap penodol ac nid wyf yn gaeth i unrhyw strwythur penodol. Ond yr hyn rwy'n gaeth iddo yw cynaliadwyedd. Rwy'n ymrwymedig i warchod y gweithlu. Rwy'n ymrwymedig i wasanaethau o ansawdd uchel, ac rwy'n ymrwymedig i atebolrwydd democrataidd effeithiol.

Yr hyn na allwch ei ddweud yw eich bod eisiau'r holl amcanion hyn ond nad ydych yn barod i dderbyn unrhyw fodd o'i wneud. Felly, mae angen cael sgwrs ddifrifol am hynny, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfraniad o sir Fynwy ar y mater hwn, ond rwyf am ddweud wrtho yn ddifrifol iawn fod yn rhaid i'r sgwrs, er mwyn cyflawni'r pethau hynny, symud ymlaen o'r ddadl ynglŷn â map a dadl ynglŷn â llinellau ar fap. Mae'r hyn a ddisgrifiodd yn debyg iawn i'r math o uchelgais sydd gennyf fi, un sy'n mynnu newid; nid yw'n galw am aros fel yr ydym. Aros fel yr ydym yw'r ateb gwaethaf posibl i lywodraeth leol yng Nghymru, oherwydd bydd hynny'n golygu, dros y blynyddoedd nesaf, y bydd pwy bynnag sy'n eistedd yn y sedd hon a phwy bynnag sy'n eistedd yn y lle hwn yn rheoli dirywiad ac nid ehangiad. Rwyf am weld dadeni llywodraeth leol yng Nghymru; nid wyf am fod yn gyfrifol am ei ddirywiad.

Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl llywodraeth leol yn y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52328

Mae rôl llywodraeth leol yn hanfodol bwysig ar gyfer ein cymdeithas a llesiant ein cenedl. Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, ac yn cynnwys dinasyddion a phartneriaid yn y broses.

15:00

Diolch. Ddechrau'r wythnos, mi gyhoeddodd eich cyd Aelodau o'r Llywodraeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol gynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal, ac un o'r amcanion ydy sicrhau gwell cydweithio ac, yn wir, integreiddio rhwng gwaith llywodraeth leol a byrddau iechyd. Un cwestiwn sydd ar fy meddwl i, ac rydw i'n gwybod sydd ar feddwl rhai mewn llywodraeth leol yng Nghymru, ydy: siawns, wrth roi cynllun iechyd a gofal newydd at ei gilydd, fod angen sefydlogrwydd mewn llywodraeth leol er mwyn delifro hynny. Nid ydy ad-drefnu llywodraeth leol, ac felly ad-drefnu adrannau gwasanaethau gofal cymdeithasol, ddim yn debygol o helpu efo'r broses integreiddio. Yr awgrym fel rydw i'n ei gweld hi—mi ddymunwn i gael eich barn chi—ydy bod gwahanol adrannau o'ch Llywodraeth chi ddim i'w gweld yn siarad efo'i gilydd. 

Nid ydym ni jest yn siarad gyda'n gilydd, ond rydym ni'n cytuno gyda'n gilydd. Mi ges i gyfarfod gyda Vaughan ddechrau'r wythnos i drafod hynny, ac rydw i'n ei weld e yn nes ymlaen y prynhawn yma i barhau i drafod hynny. A gaf i ddweud hyn? Nid ydw i'n cytuno gyda'r dadansoddiad rydych chi'n ei wneud. I fi, os ydy cydweithio rhanbarthol yn y ffordd rydych chi wedi'i ddisgrifio ac yn y ffordd mae'r ymateb i'r adroddiad seneddol yn mynnu ac yn gobeithio ei weld ac yn cynllunio ar ei gyfer yn dibynnu ar gapasiti awdurdodau lleol ac adrannau i gyfrannu at hynny, nid yw e'n fater o un yn gwneud gwaith y llall; mae'n fater o greu capasiti a chreu cryfder y tu fewn i'r cynghorau. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau eu hunain yn dweud nad yw'r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy, felly nid yw e'n bosibl adeiladu cydweithio ar system sydd ddim yn gynaliadwy ei hun. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r fframwaith mewn lle sydd yn creu capasiti, sydd yn creu'r capasiti i gydweithio ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau dyfodol gweithwyr cymdeithasol, a hefyd y capasiti i ddelifro ar gyfer y cynllun rydym ni wedi'i gyhoeddi. Felly, nid ydw i'n ei weld e fel dewis; rydw i'n ei weld e fel proses. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn sôn am adeiladu capasiti, ac rwy'n cofio bod llawer o'r sgyrsiau pan aildrefnwyd y byrddau iechyd yn ôl yn 2009 yn ymwneud â 'chreu sefydliadau mwy o faint er mwyn creu capasiti'. Ni fu hynny'n llwyddiant digamsyniol. Ond un o'r pethau y gallech ddweud a fyddai o fudd i awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn enwedig po bellaf yr ewch o Gaerdydd, fyddai datganoli pwerau a chyfrifoldebau arbennig yn ymwneud â datblygu economaidd. Gyda datblygiad meiri metro a meiri dinasoedd yn Lloegr, mae'r cysylltiadau hyn, yn drawsffiniol, yn hanfodol bwysig a phan edrychwch ar ddatblygu economaidd yn arbennig, lle mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, cânt eu grymuso i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol ac o fudd i'w cymunedau lleol. Pa asesiad, yn yr amser y buoch yn Weinidog, a wnaethoch ynglŷn â pha bwerau a fyddai'n fuddiol ar lefel leol yn hytrach na'u bod yn cael eu cadw ar lefel Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd?

Rwy'n ofni, Lywydd, y gallai fod gormod o gytundeb rhyngof fi a mainc flaen y Ceidwadwyr ar rai o'r materion hyn. Rwy'n gryf o blaid datganoli pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol; dyna rwyf eisiau ei weld. Rwyf am weld mwy o bwerau'n cael eu cadw yn lleol a mwy o atebolrwydd yn lleol. Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cofio mai un o fy ngweithredoedd cyntaf ar ôl fy mhenodi oedd ysgrifennu at yr holl arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac at yr holl Aelodau yma yn gofyn pa bwerau y credent y dylid eu datganoli i lywodraeth leol a pha bwerau y byddent am eu gweld yn cael eu cadw'n lleol. Yn bersonol, hoffwn weld safbwynt mwy strategol a mwy hael ynglŷn â'r pwerau y dylid eu cadw'n lleol. Caf fy nenu gan fodelau llywodraethu lle mae cymunedau lleol a siroedd—yn niffyg term gwell—yn gallu gwneud penderfyniadau arwyddocaol iawn, ac yn gallu mynd ar drywydd dulliau gweithredu sy'n briodol i'r ardal leol a'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd sy'n grymuso rhanbarthau Cymru i weithredu yn y modd hwn mewn gwirionedd. Rwy'n gweld hynny fel rhan o broses ar gyfer grymuso rhanbarthau gwahanol a gwahanol rannau o'r wlad i wneud yr union benderfyniadau y sonioch chi amdanynt. Gwnaeth yr Aelod dros Ynys Môn bwynt tebyg iawn, mewn sawl ffordd, ynghylch gweithio rhanbarthol. Y pwynt a wnaf i chi yn gwbl o ddifrif yw na allwch adeiladu cestyll ar dywod. Os nad oes gennym y strwythurau a'r blociau adeiladu sylfaenol, sef awdurdodau lleol cynaliadwy, yna ni ddaw dim o'r gweithio rhanbarthol hwnnw, oherwydd ni fyddwn yn gallu cynnal y gwasanaethau. Felly, i mi, mae angen inni fynd drwy broses o ddiwygio a newid, a phan fyddwn wedi gwneud hynny, byddwn yn gallu darparu'r math o ddatganoli cyfrifoldebau a phwerau y mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi'i ddisgrifio ac y mae eraill wedi'i ddisgrifio heddiw hefyd.

15:05
Cysylltiadau Rhwng Pobl Ifanc a'r Heddlu

7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu yn ne Cymru? OAQ52317

Mae cyllid Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, yn darparu ymyrraeth gynnar a phrosiectau dargyfeiriol ar gyfer pobl ifanc mewn cymunedau.

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Heddlu Gwent wedi bod yn treialu cynllun arloesol gyda thair ysgol yng Nghasnewydd, lle mae 58 disgyblion o ysgolion cynradd Millbrook, Pillgwenlly a Ringland wedi dod yn aelodau o'r Heddlu Bach. Mae'r plant, gyda chaniatâd, yn mynd allan i helpu swyddogion mewn digwyddiadau cymunedol a byddant yn dechrau trafodaethau i addysgu eu cyfoedion gartref, yn yr ysgol, a chyda'u ffrindiau. Ac yn wir, heddiw, mae ysgol gynradd Pillgwenlly wedi bod allan yn gwirio'r cyfyngiadau cyflymder yn eu hardal. Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o heddlu a gweision cyhoeddus, ac mae'n cael effaith amlwg ar y plant sy'n rhan o'r cynllun, gydag athrawon a rhieni yn cofnodi newidiadau mawr yn llawer ohonynt, ac mae'n boblogaidd iawn. Ac nid cyfle ar gyfer gwella'r berthynas â'r heddlu yn unig yw hyn; mae'r effaith ar y plant hynny, yn ddi-os, yn para gydol oes, gan hyrwyddo dinasyddiaeth dda. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arferion rhagorol hyn sy'n digwydd gyda Heddlu Gwent, a'r ysgolion hyn, ac edrych ar beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ymestyn cyrhaeddiad prosiectau fel hyn ymhellach drwy ein holl gymunedau?

Yn hollol. Lywydd, mae'r prosiect yng Nghasnewydd yn un gwych, a chredaf ei fod yn dyst i greadigrwydd yr heddlu, gan weithio gyda sefydliadau gwahanol yn y ddinas i ddarparu yn union y math hwnnw o broses. Rwy'n talu teyrnged i Heddlu Gwent yn y ffordd y maent wedi gweithio i gyflawni hyn. Yn ogystal â chyfarfod â chomisiynydd de Cymru, cyfarfûm â chomisiynydd Gwent ddwywaith yr wythnos diwethaf hefyd, unwaith yn fy etholaeth ac unwaith yma. Mae'r sgyrsiau a gawn yn rhai cadarnhaol iawn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y caiff gwaith yr heddlu ei integreiddio yng ngwaith gwasanaethau eraill, gan gyflawni yn union fel y mae'r Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ei awgrymu. Hoffwn yn fawr dalu teyrnged i waith Heddlu Gwent—y dyfeisgarwch, y creadigrwydd—ond hefyd o ran y dull sy'n ymwreiddio'r cysyniad o ddinasyddiaeth weithredol yr oeddem yn ei drafod yn flaenorol, ac ymdeimlad o ddinasyddiaeth ac ymdeimlad o bobl yn ein cymunedau yn gallu mynd ati eu hunain i wella ac i fod o fudd i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Dyma'n union y math o fenter yr ydym am ei chefnogi a'i chynnal yn y dyfodol.

Tybed a fedrwch chi roi ystadegau inni am yr hyn sydd yn digwydd o ran stopio a chwilio pobl ifanc yma yng Nghymru hyd yn hyn. Mae ymchwil rydw i wedi’i ddarllen yn dangos bod pobl ifanc yn dueddol o eisiau mynd ati i dorri’r gyfraith neu gymryd rhan mewn gweithred droseddol oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi cael triniaeth wael gyda’r heddlu o ran stopio a chwilio. A hefyd, mae yna sectorau gwahanol o gymdeithas yn fwy tueddol o gael eu stopio—dynion Asiaidd neu ddu, er enghraifft—ac mae hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo fel nad ydynt yn rhan o’r gymdeithas oherwydd yr agwedd negyddol wedyn maen nhw’n ei datblygu tuag at yr heddlu. Sut ydych chi’n gallu ennyn cymdeithas lle mae'r heddlu a phobl ifanc yn teimlo fel eu bod nhw ar yr un lefel, a bod yna feithrin rhywbeth positif rhyngddynt, yn lle bod yna deimlad bod yr heddlu yn eu herbyn nhw mewn nifer o agweddau ar gymdeithas?

Rydw i’n cyd-weld â dadansoddiad yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond a gaf fi ddweud hyn? Yn gyntaf, nid yw'r heddlu wedi’i ddatganoli, felly mae ein gallu i ddylanwadu ar y pethau yma yn gallu cael ei amharu arno fe, ambell waith, ond rydw i'n gweld bod yr heddlu yn gweithio’n galed iawn i estyn mas i rannau gwahanol o’r gymdeithas. Mae yna enghreifftiau arbennig o dda yn Heddlu Gwent o'r gallu i wneud hynny. Hefyd, rydw i wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd mae heddlu’r de yn delio gyda'r pethau yma hefyd. Felly, mae gen i hyder bod gennym ni'r arweinyddiaeth yn ei lle yn yr heddlu i allu cyrraedd y nod y buasech chi a minnau'n ei rannu. Ond, y pwynt sylfaenol yw hyn: nes bod yr heddlu'n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus Cymreig, wedi'i ddatganoli i'r lle yma, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni ddatblygu'r math o bolisïau holistig sydd eu hangen arnom ni.

15:10

Diolch, Lywydd. O fod eisiau datganoli plismona i Gymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet serch hynny'n cefnogi parhad y model comisiynydd heddlu a throseddu etholedig? Mae'n iawn i gymeradwyo Heddlu Gwent a Jeff Cuthbert am y cynllun penodol hwn, ond a yw'n cydnabod bod natur atebol ac etholedig y rôl honno'n hanfodol ar gyfer yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn?

Gwelaf fod y rôl wedi darparu atebolrwydd. Gwelaf hynny a chredaf fod hynny'n bwysig, ond rydym newydd fod yn trafod dyfodol llywodraeth leol yn ogystal, a gresynaf yn fawr iawn at y mewnbwn uniongyrchol a gollir gan lywodraeth leol i blismona yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn sôn am ddatganoli pwerau i'r lle hwn. Rydym mewn gwahanol leoedd yma; rwyf wedi treulio fy oes gyfan fel oedolyn yn ymgyrchu dros ddatganoli a datganoli pwerau i Gymru. Ond nid wyf am eistedd yma yn bod yn gyfrifol am adeiladu gwladwriaeth unedol yng Nghymru ychwaith. Yr hyn yr hoffwn allu ei wneud yw sicrhau datganoli o fewn Cymru, ac mae hynny'n golygu edrych yn greadigol ar sut y gallwn gynnwys llywodraeth leol yn rhai o'r union benderfyniadau y gallai'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru fod yn cyfeirio atynt. Yn sicr, ym mhrofiad fy etholaeth i, gwn fod yr heddlu'n dibynnu'n helaeth iawn ar waith cynghorwyr lleol ac ar allu cynghorwyr lleol i drosglwyddo negeseuon cryf i'r heddlu. Felly, pan ddatganolir plismona i Gymru, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs gyfoethog a da ynglŷn â sut y gallwn sicrhau atebolrwydd, ac rwy'n glir yn fy meddwl fy hun, pa swyddogaeth bynnag neu ba strwythur bynnag a ddarparwn, ni all yr atebolrwydd gychwyn a gorffen yn y lle hwn; mae'n rhaid iddo fod yn atebolrwydd yn lleol yn ogystal ag atebolrwydd yn genedlaethol.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Rydw i wedi cytuno i gwestiwn amserol eto i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae'r cwestiwn i'w holi gan Mick Antoniw.

Plismona yn ystod Streic y Glowyr

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr? 183

Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref i gynnal adolygiad o blismona yng nghymunedau Cymru yn ystod streic y glowyr. Gwrthodwyd y ceisiadau hynny. Rwy'n edrych yn ofalus ar ymchwiliad yr Alban. Byddaf yn siarad â fy aelod cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yr wythnos hon ac yn ysgrifennu, unwaith eto, at yr Ysgrifennydd Cartref.

Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y digwyddiadau yn Orgreave ym mis Mehefin 1984 yn ystod streic y glowyr yn un o'r achosion mwyaf difrifol o gamddefnyddio grym y wladwriaeth yn y cyfnod diweddar. Roedd digwyddiadau yn ystod streic y glowyr, yn fy marn i, yr agosaf y daeth y wlad hon at fod yn wladwriaeth heddlu. Gorchmynnwyd swyddogion yr heddlu i ddefnyddio cymaint o rym â phosibl yn erbyn y glowyr, a llawer ohonynt yn dod o Gymru, ac ymosodwyd yn dreisgar ar nifer o lowyr Cymru, gan eu curo nes eu bod yn waed drostynt. Wedyn, cawsant eu cyhuddo â chyhuddiadau cyfraith gyffredin ffugiedig o derfysg a chynulliad anghyfreithlon, a fyddai, pe baent wedi'u profi, wedi arwain at garchariad hir i lawer o'r glowyr. Cafodd y dystiolaeth ei ffugio a'i cham-drafod mewn ymgais i sicrhau euogfarnau, ac er gwaethaf hyn oll, Ysgrifennydd y Cabinet, methu a wnaeth yr holl achosion. Dyfarnwyd bob un o'r glowyr yn ddieuog, methodd ymgais y wladwriaeth i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, gorfodwyd Heddlu De Swydd Efrog i dalu £0.5 miliwn mewn iawndal a chostau cyfreithiol am erlyniadau maleisus a restiadau ar gam, ac eto ni chafodd neb erioed ei ddwyn i gyfrif.

Mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod cynnal ymchwiliad. Mae tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg a chanfu Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod yna sail resymol dros gynnal ymchwiliad. Mae'r mater hwn yn bwysig yn yr ystyr y gallai digwyddiadau eraill dilynol yn Hillsborough a Rotherham yn hawdd fod wedi datblygu mewn ffordd wahanol pe bai ymchwiliad wedi'i gynnal i Orgreave. Mae'r Alban yn cynnal ei hymchwiliad ei hun, ond yng Nghymru, yn anffodus, nid yw plismona wedi'i ddatganoli eto, ac eto cafodd yr alwad am ymchwiliad ei chefnogi gan bob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu.

Mae'r cof am streic y glowyr yn parhau yng Nghymru. Nid anghofir am y modd y gwnaeth Margaret Thatcher erlid y glowyr a'u cymunedau—mae hynny wedi'i ysgrifennu ar lechen ein cof ac yn rhan o'n hanes. Fodd bynnag, mae effaith anghyfiawnder Orgreave, cam-drin pŵer y wladwriaeth a thanseilio rheol y gyfraith yn aros ac yn parhau i danseilio hyder yn ein system farnwrol ac yn wir, mewn cyfiawnder yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU ddatgelu'r holl ffeiliau, cynnal ymchwiliad cyhoeddus a darganfod unwaith ac am byth beth a ddigwyddodd, pwy a roddodd y gorchmynion, pwy oedd y prif gynllwynwyr a sut y gellid tanseilio rheol y gyfraith i'r fath raddau mewn gwlad y mae ei chyfansoddiad yn honni bod yn seiliedig ar oruchafiaeth rheol y gyfraith. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gydweithredu ag ymchwiliad Llywodraeth yr Alban a'i gefnogi, a galw unwaith eto ar yr Ysgrifennydd Cartref i ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau yn Orgreave.

15:15

Lywydd, fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac o ganlyniad, nid ydym wedi cynnal asesiad o'r materion a godir ganddo, gan fod hwn yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Amber Rudd, ym mis Gorffennaf 2016 ynglŷn â'r posibilrwydd o ymchwiliad i'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd. Yn Hydref 2016, ar ôl ystyried yr holl safbwyntiau a gyflwynwyd, penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref beidio â sefydlu ymchwiliad. A gaf fi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr at y penderfyniad hwnnw? Roedd pawb ohonom a oedd yn weithgar yn cefnogi'r glowyr yn ystod y streic honno—roedd llawer ohonom yn sefyll ar y llinellau piced ar y pryd, yn cefnogi ffrindiau, ffrindiau ysgol, cydweithwyr a chymunedau yn y frwydr—safasom gyda'r glowyr yn y dyddiau hynny ac rydym yn sefyll gyda hwy heddiw. Gwelais y trais hwnnw, gwelais ef â fy llygaid fy hun. Gwelais yr hyn a ddigwyddodd pan oedd y cymunedau hynny'n wynebu rhyfel bron gan eu Llywodraeth eu hunain. Roedd y cymunedau hynny'n haeddu gwell bryd hynny, roedd y bobl yn haeddu gwell bryd hynny ac maent yn haeddu cyfiawnder heddiw. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fy hun fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod ei chyfrifoldebau yn y mater hwn. Dioddefodd pobl yr oeddwn yn eu hadnabod, pobl yr oeddwn yn yr ysgol gyda hwy, effeithiau'r gweithredoedd hynny. Maent yn haeddu chwarae teg, maent yn haeddu cyfiawnder.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Yfory, bydd hi'n flwyddyn ers y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell a hawliodd fywydau 72 o bobl, sef y nifer fwyaf o farwolaethau o un tân ers cyn cof. Y tu ôl i bob un o'r 72 o farwolaethau, mae teuluoedd wedi'u torri a'u distrywio, mae cymuned uniongyrchol Tŵr Grenfell wedi'i chwalu, ac mae cymunedau cyfagos yn ymdopi â'r pryder a'r ofnau yn sgil y digwyddiad. Hefyd, nid yw gweithwyr y gwasanaethau brys yn rhydd o orfod ymdopi ag effeithiau'r pethau a welsant y diwrnod hwnnw.

Heddiw, fel y gwnaethom 12 mis yn ôl, gallwn sefyll gyda chymuned Tŵr Grenfell i gofio'r rhai a fu farw ac i gynnig ein hundod a'n cefnogaeth i'r rheini yr effeithir cymaint arnynt o hyd gan y digwyddiad hwnnw. Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni fod yn ddiolchgar bob amser am yr ymateb o bob rhan o'r DU, gan gynnwys nifer o Gymru—llawer iawn o bobl gyffredin a geisiodd helpu yn y dyddiau cyntaf wedi'r tân—a'r rhai sy'n dal i fod yn y gymuned honno yn cynnig cymorth ac yn helpu, boed yn wasanaethau brys, boed yn sector cyhoeddus neu'r trydydd sector, cymunedau neu bobl gyffredin a deimlodd angen i helpu a chefnogi Grenfell. Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r 72 o bobl a gollodd eu bywydau y diwrnod hwnnw yw darparu etifeddiaeth trwy ymdrechu i weithio i sicrhau ein bod yn gwneud beth bynnag a allwn i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd. Dyna'r lleiaf y gallwn ei wneud i anrhydeddu'r cof amdanynt, ac ni fyddwn yn eu hanghofio.

Lywydd, a gaf fi gymryd y cyfle hwn i ganmol menter Joanne Cheek o ymgyrch Beautiful Barry? Mae Joanne wedi arwain y ffordd fel dinesydd gweithredol, gan annog y Barri i ddod yn dref ddiblastig. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae Joanne am leihau'r defnydd o boteli dŵr plastig, gan ei bod hi wedi canfod, fel codwr sbwriel brwd, mai dyma yw'r rhan fwyaf o'r plastig y mae'n ei godi. Mae hyn wedi arwain Joanne i gychwyn ymgyrch i gael ffynhonnau dŵr yn y Barri.

Gyda dychymyg a dawn, mae Joanne wedi tynnu sylw at ffynonellau hanesyddol fel rhan o'i hymgyrch dros gael ffynhonnau dŵr yn y Barri. Mae hi wedi tynnu sylw at erthygl yn Barry Dock News ym mis Medi 1906 o dan y pennawd,

Haelioni Cerflunydd y Barri. Ffynnon yfed yn cael ei chyflwyno i'r dref. Enghraifft wych i eraill.

Roedd yr erthygl yn tynnu sylw at gyfraniad F. T. Mossford, cerflunydd meini coffa, a gyflwynodd ffynnon ddŵr ithfaen hardd i'r dref yn 1906. Mae modd dod o hyd i rai o'r rheini o hyd, er nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

A gaf fi groesawu ymatebion cynnar, ymatebion cadarnhaol, Cyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg i ymgyrch gadarnhaol a llawn dychymyg Joanne Cheek, drwy arwain tîm o wirfoddolwyr i ddarparu ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus ar draws tref y Barri, gan arwain y ffordd yng Nghymru gydag enghraifft glir o weithredu gan ddinasyddion i ddatblygu'r polisi poblogaidd a phwysig hwn?

15:20
Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad, ac rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Gareth Bennett.

Cynnig NDM6744 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Caroline Jones (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig i alw Neil Hamilton ar gyfer y Comisiwn. Mae rôl y Comisiynydd yn mynd i galon y lle hwn—sut y caiff ei redeg, sut y mae'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a sut y caiff ei weld gan y cyhoedd. Mae'r Comisiwn—a dyfynnaf oddi ar ein gwefan—

'yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau'r Cynulliad'.

Un o'r geiriau allweddol yno yw 'staff'. Y staff yw ein prif gymorth. Maent yn gwneud i'r lle hwn weithio, ac a dweud y gwir, ni fyddai dim o hyn yn digwydd hebddynt. Dylem eu gwerthfawrogi yn y ffordd y maent yn ei haeddu. Mewn gwirionedd, dylem werthfawrogi ein gilydd yn yr un modd.

Ceir llawer o resymau pam y buaswn yn gwrthwynebu i Neil Hamilton ddod yn Gomisiynydd. Fodd bynnag, y rheswm yr hoffwn ei gofnodi yw bod Neil Hamilton, ar 16 Mai, wedi ymatal ar y bleidlais i gefnogi'r polisi urddas a pharch sy'n cael ei ddatblygu. Roedd hi'n ymddangos mai prif hanfod ei ddadl oedd mai am ran o'r amser yn unig y dylai'r polisi fod yn gymwys. Mae dod yn Aelod o'r Cynulliad yn anrhydedd, a dylid parchu hynny fel y cyfryw. Nid swydd ran-amser yw hi. Ni ellir cael gwared ar egwyddorion Nolan a'r cod ymddygiad yr addawodd pob un ohonom gydymffurfio â hwy wrth dyngu llw fel tynnu côt wlyb pan fydd yn mynd yn rhy anghyfforddus. Nid wyf yn gweld sut y mae ei safbwynt yn gydnaws â rôl Comisiynydd y Cynulliad. Diolch.

Diolch ichi, Lywydd. Doeddwn i ddim yn rhagweld gorfod gwneud yr araith hon, gan na roddodd Mandy Jones unrhyw rybudd i mi ynglŷn â'i gwrthwynebiad, ond wedi dweud hynny, fe fanteisiaf ar y cyfle yn awr i ymateb.

Gwneuthum fy nadleuon yn y ddadl ar y polisi urddas a pharch, a gwneuthum y pwynt y dylai'r holl bobl mewn bywyd cyhoeddus gael hawl i fywyd preifat ac yng nghyd-destun y ddadl honno, cyfeiriais yn benodol at achos Michelle Brown, lle y cafodd ei dwyn gerbron y pwyllgor safonau yn sgil sgwrs a gafodd ar y ffôn, sgwrs a gafodd ei recordio'n gyfrinachol a'i chyhoeddi'n faleisus wedyn gan gyn-gyflogai. Nid wyf yn ceisio amddiffyn y geiriau y cwynwyd yn eu cylch, ond roeddwn o'r farn, yng nghyd-destun ein polisi urddas a pharch, y dylid cael prawf rhesymoldeb a phrawf cymesuredd yn y gosb a osodid pe canfyddid bod rhywun yn torri'r rheolau. Wedi dweud hynny, dyna'r safbwynt a gyflwynais yn y ddadl. Roedd gan y Cynulliad farn wahanol. Ac un union fel y pleidleisiais dros lawer iawn o flynyddoedd yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn wir, yn y Cynulliad hwn ar ddeddfau arfaethedig y wlad, os oeddwn ar yr ochr a oedd yn colli, roeddwn yn derbyn fy mod wedi colli'r ddadl wrth gwrs, neu o leiaf wedi colli'r bleidlais, ac felly byddwn yn cydymffurfio'n ufudd â'r rheolau y pleidleisiwyd drostynt, ac mae hynny'n wir yn yr achos hwn hefyd. Rydym yn anghytuno'n anrhydeddus ymysg ein gilydd mewn Cynulliad democrataidd, ac mae gennym hawl i arddel safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pha mor ddymunol yw camau gweithredu arfaethedig. Nid yw hynny'n golygu bod unrhyw un ohonom yn cymeradwyo math o ymddygiad neu eiriau ceryddadwy neu sarhaus ac sy'n debygol o achosi tramgwydd enbyd, nac ymddygiad neu eiriau hiliol neu beth bynnag yn enwedig.

Yr oll a ddywedaf yw os yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r penodiad hwn y prynhawn yma, byddaf yn cyflawni rhwymedigaethau Comisiynydd hyd eithaf fy ngallu, gyda'r math o broffesiynoldeb, gonestrwydd ac uniondeb y credaf fy mod wedi ei arddangos yn y ddwy flynedd y bûm yma. Credaf fod digon o Aelodau wedi gweithio gyda mi mewn pwyllgorau, yn ogystal ag yn y Cyfarfod Llawn, i wybod fy mod bob amser wedi gwneud fy ngorau i gynnal yr egwyddorion y seiliwyd y lle hwn arnynt. Mae fy mhlaid, a wrthwynebai ei greu yn y lle cyntaf, wedi derbyn canlyniad y bobl, ac mae ewyllys y bobl yn bwysicach na dim. Buaswn yn mabwysiadu'r un safbwynt ynghylch ewyllys y Cynulliad mewn perthynas â'r rheolau y mae'n eu mabwysiadu ar gyfer ymddygiad ei Aelodau ei hun. Felly, dyna ddatganiad byr o fy safbwynt—y byddaf yn cydymffurfio â'r polisi urddas a pharch, fel y'i cymeradwywyd gan y Cynulliad hwn.

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru'

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6736 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ebrill 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gysgu ar y stryd. Hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad, gan gynnwys y staff a'r gwirfoddolwyr y cyfarfuom â hwy mewn prosiectau yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Cawsom ein taro gan eu hymroddiad, eu tosturi a'u hymagwedd gadarnhaol. Dywedasant wrthym nad ydynt byth yn rhoi'r gorau i helpu'r rhai sydd angen cymorth. Mae'r dyfalbarhad hwn, y parodrwydd hwn i ddygnu arni, yn hollbwysig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a rannodd eu profiadau uniongyrchol a'u hanesion trawiadol ynglŷn â sut y daethant i fod yn cysgu ar y stryd. Roedd llawer yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau y byddai hyd yn oed y mwyaf gwydn yn ein plith yn ei chael hi'n anodd eu goddef. Diolch byth, cawsant eu cynorthwyo i ddod oddi ar y stryd ac maent yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a dymunwn yn dda iddynt.

Ddirprwy Lywydd, rhoddodd eira trwm, gwynt rhynllyd a thymereddau rhewllyd y gaeaf diwethaf ffocws clir ar y peryglon sy'n bygwth bywyd o gysgu yn yr awyr agored, ond ni ddylai ein pryder ddibynnu ar y tymor. Mae'n bryd ateb yr her o atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein hadroddiad yn darparu arweiniad clir ar gyfer y ffordd ymlaen.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol ac wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 23 allan o 29 o'n hargymhellion. Hoffem arwydd clir o amserlenni ar gyfer eu gweithredu. Mae rhai o'r rhain yn ceisio adeiladu ar a chryfhau cynllun gweithredu'r Llywodraeth a'i chanllawiau ar dai yn gyntaf, a chyhoeddwyd y ddau pan oedd ein hymchwiliad eisoes wedi cychwyn. Mae'r adroddiad yn cwmpasu ystod o feysydd, ond heddiw byddaf yn canolbwyntio ar ein prif argymhellion.

Mae angen blaenoriaethol yn parhau i fod yn destun llawer o drafodaeth. Mae'n anodd nodi grŵp o bobl sydd â mwy o angen tai na'r rhai sy'n byw ar y strydoedd. Eto, mae'r categorïau presennol a'r ffordd y cânt eu cymhwyso yn golygu nad yw llawer o bobl yn cael y cymorth y maent ei angen mor daer. Mae angen newid hyn.

Rydym yn argymell dull graddol o fynd ati i ddiddymu angen blaenoriaethol. Dylai'r cam cyntaf gynnwys ychwanegu pobl sy'n cysgu ar y stryd fel categori newydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Yn ei hymateb, dywedodd y Llywodraeth wrthym ei bod yn cynllunio i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i lywio unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Hoffwn gael syniad clir gan y Gweinidog ynglŷn â'r llinell amser ar gyfer y gwaith hwn.

Os na fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i'w ddiddymu, gwnaethom gyfres o gynigion pellach gyda'r nod o wella diogelwch statudol. Argymhellwyd y dylai'r Llywodraeth ddiwygio ystyr 'agored i niwed' o fewn y Ddeddf Tai, a chadarnhau angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y ddau ar y sail y dylai aros am ganlyniadau ei ymchwil annibynnol yn gyntaf. Ond nid yw darparu ystyr cliriach i 'agored i niwed' i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar draws awdurdodau, y clywsom ei fod yn brin, yn ymwneud â newid y dull cyfredol o weithredu. Nid ydym yn credu bod cryfhau'r cod arweiniad a darparu ymarfer gorau yn ddigon i gyflawni hyn. Cawsom dystiolaeth fod dileu'r statws awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar wedi cael effaith andwyol. Ceir cysylltiad rhwng cysgu ar y stryd ac aildroseddu, gyda'r holl gostau personol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth hynny. Felly rydym yn siomedig ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth.

Un o'r meysydd allweddol a ystyriwyd gennym fel rhan o'n hymchwiliad oedd achosion cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn eang ac yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a strwythurol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddau brif achos strwythurol: diwygio lles a diffyg tai fforddiadwy. Mae newidiadau i hawliau i fudd-daliadau, y cynnydd yn y cosbau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gael gwared i raddau helaeth ar y rhwyd ddiogelwch sydd ar gael i'r rhai sydd mewn perygl o ddechau cysgu ar y stryd. Mae'n destun pryder fod yr effaith lawn eto i'w theimlo yng Nghymru.

Clywsom y gallai darparu mwy o hyblygrwydd gyda thaliadau leihau'r perygl o droi allan sy'n deillio o ôl-ddyledion rhent, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ofyn am y pŵer angenrheidiol. Gwrthodwyd y cais ar y sail fod hyblygrwydd o'r fath eisoes yn bodoli, ac eto, nid yw'n ymddangos bod sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gwasanaethau i'r digartref yn gwybod am yr opsiynau talu hyn. Felly, heddiw, rwy'n gofyn: a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi ymwybyddiaeth gyda'r sector tai a digartrefedd, a chyda gwasanaethau cyngor ariannol y trydydd sector, fel mater o flaenoriaeth?

Yn ogystal â phrinder tai fforddiadwy, clywsom hefyd fod problemau iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chamddefnyddio sylweddau, yn gyffredin ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae gan lawer ohonynt anghenion cymorth lluosog a chymhleth na chânt eu datrys drwy eu helpu i ddod o hyd i lety yn unig, er mor bwysig yw hynny. Felly, mae cydweithio rhwng y sector tai a'r sector iechyd yn hanfodol. Heb hynny, mae yna berygl gwirioneddol y bydd symud i fodel tai yn gyntaf yn methu darparu'r canlyniadau a welwyd mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 17, yn galw am rannu cyfrifoldeb dros weithredu ei chynllun gweithredu ar y cyd rhwng y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n dweud hefyd fod y Gweinidog yn arwain ar weithredu, ond y bydd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ymddangos y byddai hyn yn llai na'r hyn y credwn ei fod yn angenrheidiol, a hoffem eglurhad ar hynny heddiw.

Ddirprwy Lywydd, mae yna obeithion mawr ar draws y sector digartrefedd y bydd mabwysiadu'r model tai yn gyntaf yn eang yn sicrhau newid gwerthfawr. Fodd bynnag, mynegodd academyddion amheuon cryf ynglŷn â defnyddio'r model ymgynnull, sy'n cael ei gynnwys fel opsiwn yn arweiniad y Llywodraeth. Rydym yn ceisio sicrwydd pellach gan y Gweinidog ar y pwynt hwn, ac yn benodol, ar y pryder ynghylch unrhyw ddefnydd o hosteli wedi'u haddasu.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roedd dyfodol grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael sylw amlwg yn y dystiolaeth a gawsom gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r gymuned ddigartref. Maent yn dal yn bryderus iawn ynghylch yr argymhelliad arfaethedig i uno'r grant a'r effaith ar gysgu ar y stryd. Gyda'r cylch cyllidebol nesaf ychydig fisoedd i ffwrdd, rydym yn ailadrodd yr angen i'r Llywodraeth osod amserlen ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ariannu hyblyg a rhoi syniad pendant o ba bryd y gwneir penderfyniad terfynol. A all y Gweinidog ei gwneud yn eglur y bydd canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ar gael cyn y cylch cyllidebol nesaf?

Ddirprwy Lywydd, nid ydym eisiau ailadrodd ein galwadau am weithredu mwy pendant yn dilyn cyhoeddi'r cyfrif o bobl sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019. Ond gadewch i mi fod yn glir: nid ymwneud â niferoedd, ystadegau neu dueddiadau y mae hyn. Mae'n ymwneud â gwella bywydau cannoedd o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein cymunedau. Mae'n ymwneud â chost ddynol anfesuradwy cysgu ar y stryd. Mae'n sicrhau bod pobl sy'n byw ar y strydoedd yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen arnynt a'r cyfle i fyw, yn hytrach na dim ond bodoli.

15:35

Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon, ar ôl ymchwiliad sy'n agoriad llygad i gysgu ar y stryd gan ein pwyllgor. Mae'r amcangyfrif bod 300 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru yn un sy'n peri pryder, a gwn fod nifer o drefi a dinasoedd yn enwedig wedi gweld cynnydd amlwg yn eu poblogaethau sy'n cysgu ar y stryd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gydag astudiaethau'n dangos cynnydd o rhwng 10 a 33 y cant dros y 12 mis diwethaf yn unig.

Mae'r gwaith a wnaed yn Lloegr, gan gynnwys cyflwyno Deddf Lleihau Digartrefedd 2017 yn gynharach eleni, yn ategu nod Llywodraeth y DU o haneru'r nifer sy'n cysgu ar y stryd erbyn 2022, a'i ddileu'n gyfan gwbl erbyn 2027—targedau sydd wedi bod yn hollol eglur. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw a oes gan Lywodraeth Cymru ddyddiad targed penodol mewn golwg, yn ogystal â'r cynllun gweithredu dwy flynedd ar gysgu ar y stryd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar gyfer dileu cysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn sicr, roedd ein hymchwiliad yn amlygu'r angen am uchelgais o'r fath, ac roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais y pwyllgor am weld yr adroddiad chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y gall aelodau etholedig, sefydliadau'r trydydd sector a'r cyhoedd graffu'n llawn ar gynnydd yn y mater hwn heb ddata o'r fath.

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi nifer yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn. Rhaid i mi ddweud, er hynny, nad wyf yn cefnogi nifer ohonynt mewn perthynas ag angen blaenoriaethol, gan nad wyf yn teimlo y dylid newid y model presennol o angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Roeddwn yn rhan o'r Cynulliad hwn cyn hynny, pan ddaeth llawer o dystiolaeth gerbron y diweddar Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd hyn ar y gweill, ac rwy'n credu bod y rhesymau sylfaenol dros y statws angen blaenoriaethol hwnnw yn dal yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cychwyn asesiad annibynnol o angen blaenoriaethol, ac rwy'n disgwyl yn eiddgar i weld canfyddiadau'r asesiad hwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, hoffem fod mewn sefyllfa lle nad oes angen inni gael y dosbarthiad angen blaenoriaethol, wrth inni gyrraedd sefyllfa lle y gallwn roi cartref i bawb sydd mewn angen mewn man addas.

Nodaf fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswydd i ddarparu cynnig o lety addas i bawb sy'n ddigartref. Nododd rhai ymatebwyr bryderon ariannol i awdurdodau lleol mewn perthynas ag awgrymiadau ar gyfer diddymu angen blaenoriaethol. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd y byddai dynodi dyletswydd o'r fath yn cael ei gefnogi gan gyllid a chefnogaeth briodol er mwyn i awdurdodau lleol allu cyflawni hyn yn effeithiol. Yn fy etholaeth i, gwn ein bod wedi llwyddo i ailgartrefu pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd, ond yn anffodus, heb rwydwaith o gymorth i'w cynnal drwy gydol y broses, nid yw bob amser wedi gweithio, ac maent yn ôl ar y strydoedd. Felly, credaf fod angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Fwyfwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl mawr o fynd yn ddigartref. Mae'r tîm digartrefedd lleol yn gwneud gwaith gwych pan fydd rhywun yn cysylltu â hwy, ond mae pobl yn cael trafferth gyda'r cysylltiad cychwynnol hwnnw, a gwybod ble i fynd. Yn sicr, mae yna gryn dipyn o ffordd i fynd cyn y gellir trechu digartrefedd yng Nghymru, gwella hygyrchedd timau digartrefedd o fewn awdurdodau lleol, a dod o hyd i adnoddau ariannol priodol ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen cefnogi ein pobl ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd, ond credaf yn gryf fod angen i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gref a chadarn, ac mae angen iddo fod yn rhan o raglen fonitro barhaol. Diolch.

Diolch i chi am drefnu'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor yn ogystal, oherwydd credaf fod hwn yn waith pwysig iawn. A hoffwn gofnodi mai'r hyn a oedd fwyaf gwerthfawr yn fy marn i oedd siarad â phobl mewn amryw o leoliadau yr ymwelwyd â hwy—pobl ddigartref a allai roi eu profiad o fywyd bob dydd ar y strydoedd i ni. Nid oes unrhyw beth yn fwy gwerthfawr i mi na chlywed sut y mae pobl yn brwydro i oroesi, a sut y gallwn ni fel gwleidyddion newid hynny, os oes gennym ewyllys i wneud hynny. Credaf fod eu huodledd wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn yn aruthrol, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am hynny.

Cafwyd gwahanol safbwyntiau ynglŷn â rhoi angen blaenoriaethol i rai a gysgai ar y stryd ai peidio, fel y gwelwyd, gyda rhai cynghorau'n nodi y byddent yn categoreiddio'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fel rhai ag angen blaenoriaethol a sefydliadau eraill, megis Shelter, yn dweud, yn ymarferol, nad oedd hyn bob amser yn wir. Roedd y prawf Pereira'n gysylltiedig â hyn wrth gwrs, prawf sy'n achosi problemau gan nad yw ystyr 'agored i niwed' yn cael ei ddehongli yn yr un ffordd neu'n cael ei gymhwyso'n gyson.

Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn siomedig i weld nad oedd Janet Finch-Saunders yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Yn bersonol buaswn wedi credu y byddai'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r cysyniad y dylai'r rhai sy'n byw ar y stryd fod yn flaenoriaeth ar gyfer cael to dros eu pennau. Rydym wedi ceisio bodloni Aelodau yn yr adroddiad, a gallaf ddyfynnu paragraff 64, sy'n dweud,

'credwn mai dull fesul cam i ddiddymu yw’r ffordd fwyaf pragmatig ymlaen. Er enghraifft, drwy gyflwyno categorïau newydd o angen blaenoriaethol, fel pobl sy’n cysgu ar y stryd'

Felly, os yw hi'n poeni cymaint ag y mae'n dweud ei bod, buaswn wedi meddwl y byddai dull fesul cam yn ddigon yn hynny o beth. Nid ydym yn awgrymu y gellid ei wneud dros nos. Gwyddom y byddai goblygiadau ariannol, ond credaf fod angen ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu diffinio fel rhai nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc yn bennaf—pan ddylent fod yr un mor bwysig â phobl eraill sy'n ddigartref.

Byddech yn disgwyl imi sôn am argymhelliad 10—datganoli gweinyddu lles—ac roeddwn yn falch ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, i raddau, ar hyn. Rydym wedi bod yn gwbl glir ar hyn: mae'n ddigon hawdd i wleidyddion feirniadu newidiadau lles fel un o achosion sylfaenol tlodi yn y gymdeithas, ond pan nad oes unrhyw barodrwydd i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros rai o'r pwerau lles hynny, mae'n tanseilio hygrededd y ddadl yn gyfan gwbl. A ydym eisiau cwyno am newidiadau lles neu a ydym eisiau dylanwadu arnynt a'u newid? Gadewch inni beidio â chael geiriau gwag am undod ar draws y DU mewn perthynas â'n system les ychwaith—mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau eisoes dros weinyddu lles. Mae'r awydd i weld system les unedig, ledled y DU yn ddadl sydd eisoes wedi mynd heibio. Barn semantig ydyw nad yw'n gwneud dim i helpu pobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd neu mewn unrhyw anhawster arall. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen â'r ddadl hon ac y gallwn edrych ar hyn ymhellach fel pwyllgor. Ymddengys bod y pwyllgor yn gweithio mewn modd cadarnhaol; o na bai Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y llais hwnnw mor astud ag y gobeithiem y byddai'n ei wneud.

Mewn perthynas â thai yn gyntaf, credaf ei bod hi'n dda iawn ein bod wedi gosod ein stondin drwy ddweud pa mor bwysig yw tai yn gyntaf. Ond cefais sgwrs Twitter yr wythnos hon gyda Peter Black, cyn Aelod Cynulliad, sy'n arwain y gweithgor digartrefedd ar gyngor Abertawe, ac mae ef wedi bod yn gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg ers misoedd i fynd i mewn i siarad ag ef ynglŷn â thai yn gyntaf a sut y gallant weithio gyda'i gilydd ar hyn. Ac oherwydd ein bod wedi cael y sgwrs hon ar Twitter, rwy'n credu, yn sydyn fe ddywedodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y byddent yn dod i'r cyfarfod i drafod tai yn gyntaf. Ni ddylai gymryd dau wleidydd yn cael dadl fyw ar y cyfryngau cymdeithasol i Abertawe Bro Morgannwg sylweddoli'n sydyn fod tai yn gyntaf yn rhan o'u problem, neu nid problem, ond yn rhan o'r ateb i ddigartrefedd yma yng Nghymru. Credaf fod tai yn gyntaf yn gysyniad gwych, ond rhaid inni gael cefnogaeth, nid yn unig gan y sector tai, ond o'r maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, fel y gallwn wneud i dai yn gyntaf weithio. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhan o'r dyfodol ym maes tai ac atal digartrefedd yma yng Nghymru, buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif, felly, ynglŷn â chael pobl o amgylch y bwrdd.

I orffen yn gyflym mewn perthynas â rhai o'r sylwadau. Mae The Big Issue wedi nodi mewn tystiolaeth fod cyfran fawr o'u gwerthwyr yn ddinasyddion yr ardal economaidd Ewropeaidd heb allu i ofyn am arian cyhoeddus, ac unwaith eto, dyma rywbeth nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae canlyniadau'r polisi hwn a'r awyrgylch gelyniaethus o du Llywodraeth y DU yn rhywbeth y dylai pob un ohonom bryderu yn ei gylch.

Mae angen inni ddatrys rhai o'r problemau cyfredol sy'n ymwneud â pharodrwydd landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol a phreifat i gynnig lleoedd i bobl ddigartref a phobl sy'n cysgu ar y stryd. Roedd tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos nad oedd llawer o landlordiaid cymdeithasol yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd neu rai sydd â rhai o'r problemau sy'n codi yn aml o ganlyniad i fod ar y strydoedd. Mae'n fwy na thebyg y gallwn siarad drwy'r dydd ar y mater hwn, ond ni wnaf hynny—mae fy amser ar ben—ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r argymhellion hyn a'n bod yn sicrhau y gall digartrefedd ddod i ben yma yng Nghymru, a chredaf fod yr adroddiad pwyllgor hwn wedi gwneud llawer iawn i roi hyn ar y map gwleidyddol.

15:40

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hynod bwysig hwn? Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor fy hun, ond gallaf weld o swm y gwaith sydd wedi mynd tuag at ei gynhyrchu a'r dystiolaeth sylweddol a gasglwyd, ei fod yn mynd i fod yn gymorth mawr i Lywodraeth Cymru a chredaf fod ymateb Llywodraeth Cymru iddo i'w groesawu i raddau helaeth hefyd.

Mae'n deg dweud, rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru yn darparu ffocws clir iawn ar les yn ein cymunedau ac ni allaf feddwl am gyfraniad mwy sylweddol at les personol na chartref diogel, cynnes, fforddiadwy—mae'n sylfaen i gymaint o agweddau eraill ar fywyd.

O fy mhrofiad cyfyngedig, yn seiliedig ar wirfoddoli gyda'r lloches nos ym Merthyr Tudful a siarad â'r trigolion a'r gwirfoddolwyr mwy profiadol, mae'n glir iawn fod achosion a rhesymau dros ddigartrefedd a chysgu ar y stryd, fel y nodwyd yn yr ymchwiliad, yn amrywiol ac yn gymhleth. Yn wir, mewn llawer o achosion, fel y dangoswyd yn yr adroddiad a chan siaradwyr eraill, gall sefyllfa tai unigolyn adlewyrchu llu o broblemau dryslyd eraill yn eu bywydau. Dyna pam yr oeddwn am gyfeirio'n benodol at argymhelliad 17 yn ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'n hollol iawn y dylai fod cyfrifoldeb a rennir rhwng y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog tai i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ac felly croesewir y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, er gwaethaf y cafeat a'r eglurhad y gofynnwyd amdano gan Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths. Fodd bynnag, fel y noda ymateb y Llywodraeth, mae gan yr holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion gyfrifoldeb a rennir i helpu i sicrhau mwy o gynnydd yn y gwaith o leihau cysgu ar y stryd. Felly, hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog am y dull Llywodraeth gyfan o ystyried y mater. Er enghraifft, a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn gwthio'r sector preifat yng Nghymru i gyfrannu mwy drwy eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol? A yw'r Gweinidog diwylliant yn gwthio pobl yn sector y celfyddydau i ymwneud mwy â'r sector digartrefedd er mwyn defnyddio gallu'r celfyddydau a cherddoriaeth i estyn allan at bobl? Mewn addysg, a yw'r Llywodraeth yn effro i'r plant sy'n cael eu gosod mewn perygl mawr o ganlyniad i ddiffyg cartref diogel a sefydlog? A gellid gofyn cwestiynau tebyg i holl adrannau'r Llywodraeth, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed yr ymateb i hynny.

Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau siarad am argymhelliad 28 hefyd a'r cyfeiriad at y rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym yn gwybod bod cynlluniau braenaru ar hyn o bryd yn profi'r posibilrwydd o ariannu hyblyg, ond hyd yn oed ar y pwynt hwn, fel eraill rwy'n credu, hoffwn osod marciwr. Rwy'n parhau i fod heb fy argyhoeddi na fydd darparu hyblygrwydd ychwanegol i rai awdurdodau lleol yn cynnwys risgiau sylweddol i'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac mae hwnnw'n destun pryder y gwn fod eraill yn y sector tai yn ei rannu. Er enghraifft, mewn rhai mannau, rydym eisoes yn gweld risgiau i gyllidebau ysgolion ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i glustnodi arian ar gyfer addysg. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar a dysgu oddi wrth y profiadau hynny. Os gall y rhaglen Cefnogi Pobl bresennol gyflawni gan symud hyd yn oed yn fwy eglur tuag at wella canlyniadau, byddai'n annoeth rhoi hynny mewn perygl. Gyda chlustnodi arian, gwyddom y bydd yr holl arian a ddyrannwyd yn mynd at y diben hwnnw. Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn ychwanegu ato hyd yn oed. Fodd bynnag, mae cael gwared ar glustnodi arian—mae'n glir i mi y bydd rhai cynghorau yn ymateb i'w blaenoriaethau mewn ffordd wahanol, a gallai hynny danseilio'r holl waith da yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.

Felly, unwaith eto a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a gobeithio y bydd yn mynd gryn dipyn o ffordd tuag at gynorthwyo'r Llywodraeth i ymdrin â mater sydd wedi dod yn ffynhonnell cywilydd ym Mhrydain heddiw? A gadewch i ni obeithio, yng Nghymru, y gallwn ddangos y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn neilltuo amser, egni, adnoddau ac ymrwymiad i ymdrin â'r malltod gofidus a diangen hwn ar fywydau cymaint o bobl sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas heddiw.

15:45

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys y bobl ddigartref a roddodd amser i sôn wrthym am eu profiadau personol, ac fel y crybwyllodd Bethan Sayed roedd hynny'n ddadlennol iawn—y rhan fwyaf dadlennol o'r ymchwiliad mae'n debyg.

Un ffactor a ddaeth yn amlwg i mi yn ystod y rhyngweithio hwn oedd y berthynas agos i lawer o bobl ddigartref—nid yr holl bobl ddigartref wrth gwrs—rhwng eu digartrefedd, camddefnyddio alcohol a sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl. Er na allwn ddisgrifio'r problemau hyn fel rhai sy'n cydberthyn yn achos pob unigolyn digartref wrth gwrs, mae'r themâu cyffredin hyn i'w gweld yn aml, a daeth hynny'n amlwg yn ystod yr ymweliadau—yn fy achos i, â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Bute, i lawr y ffordd oddi yma.

Nododd rhywun, yn ystod yr ymchwiliad, fod y berthynas rhwng y problemau hyn ychydig bach fel plicio haenau nionyn, lle byddwch yn plicio'r digartrefedd ac yn darganfod, o oes, mae yna gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Ond wedyn gallwch blicio hwnnw a byddwch yn darganfod mai'r hyn sydd y tu ôl i hynny, mewn llawer o achosion, yw problemau iechyd meddwl, a achosir yn aml gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac mae'n anodd dod o hyd i atebion ymarferol weithiau i broblemau mor gymhleth.

Wrth edrych ar yr agweddau ymarferol a godai o'r ymchwiliad, ceir rhai rhwystrau i bobl sy'n cysgu ar y stryd rhag dod o hyd i lety dros dro neu lety mewn argyfwng hyd yn oed. Er enghraifft, dywedodd canolfan Huggard wrthym y bydd rhai unigolion yn cael eu heithrio o'r ddarpariaeth frys o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod hynny'n cynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, yn amlwg, os yw pobl yn camddefnyddio sylweddau, mae'n ddibyniaeth, mae'n rhywbeth nad ydynt yn mynd i allu rhoi'r gorau iddo ar unwaith, felly mae'n anodd braidd pan na ellir eu cartrefu, hyd yn oed o dan y darpariaethau brys, gan y bydd yr ymddygiad hwnnw'n cael ei ddiffinio fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dyma un o'r anawsterau ymarferol sy'n ein hwynebu. Mae'r mathau hyn o bethau yn creu rhwystr i'r rhai sy'n ceisio lloches rhag digartrefedd.

O ystyried natur gymhleth y materion hyn, mae yna bryder clir iawn fod mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl yn hollbwysig. O'u gadael heb eu trin, a chydag amseroedd aros hir am rai gwasanaethau cymorth arbenigol, ceir perygl go iawn y bydd rhai pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ei chael hi'n amhosibl torri'r cylch sy'n arwain at fywyd ar y strydoedd. Felly, rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl.

Roedd adroddiad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros weithredu'r camau wedi ei rannu, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad, rhwng y Gweinidog tai a'r Ysgrifennydd iechyd. Rydym yn aros i weld beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am hynny heddiw, oherwydd mae problemau cysgu ar y stryd, ynghyd â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, mor gydgysylltiedig fel bod angen gweithio'n drawslywodraethol fel yr unig ffordd o ddatrys y broblem yn realistig.

Hefyd galwasom ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiadau chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd. Teimlem y byddai hyn yn sicrhau tryloywder ac yn gwella atebolrwydd. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â ni ar y pwynt penodol hwn a theimlai y byddai adroddiadau chwarterol yn rhy fiwrocrataidd. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag adnoddau hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid tuag at eu nod o ddileu cysgu ar y stryd, ond mae angen adnoddau dynol yn ogystal â chymorth ariannol. Er enghraifft, pan ymwelsom â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth, mynegwyd pryderon gan y staff nad oedd digon o bobl hyfforddedig ar gael i allu ymdrin â'r problemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cymhleth sy'n wynebu'r bobl sy'n cysgu ar y stryd a ddaw atynt. Felly, rhaid inni fynd i'r afael â'r prinder hwn os ydym o ddifrif ynglŷn ag ymdrin â'r mater hwn. Diolch yn fawr.

15:50

Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r fframwaith deddfwriaethol yn un eithaf cadarn bellach, a'i nod yw atal yn anad dim. Ac mae'n deg dweud ei fod wedi denu rhywfaint o sylw ledled y DU, felly dechreuwn gyda'r sylfaen honno.

Ond mae'r her wedi bod yn llawer mwy, rwy'n credu, wrth ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn enwedig rhai sydd eisoes ar y strydoedd neu ar fin mynd ar y stryd. Ar y lefel honno—a chredaf ei bod yn deg dweud, pan fydd llawer o'r cyhoedd yn meddwl am ddigartrefedd, am gysgu ar y stryd y byddant yn aml yn meddwl, yn hytrach na'r cwestiwn ehangach ynglŷn â digartrefedd ar ei amrywiol ffurfiau. Felly, roedd y cwestiwn ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r pen hwnnw i bethau, y pen difrifol iawn, yn amlwg yn thema gyffredin a ddeilliodd o'r sesiynau tystiolaeth, wrth i'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gan gynnwys y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, canolfan Huggard, Cymorth Cymru a Shelter Cymru, nodi mai effaith gyfyngedig a oedd i Ddeddf 2014 yn arbennig ar y rhai a oedd eisoes yn ddigartref, yn enwedig pobl sy'n cysgu ar y stryd. Nodaf fod Dr Peter Mackie o Brifysgol Caerdydd wedi datgan, ac rwy'n dyfynnu, fod y Ddeddf

'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref a gwella eu sefyllfa yn gyffredinol.... Serch hynny, nid yw wedi bod mor llwyddiannus â hynny gyda'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, sef y grŵp y gellir dadlau sydd fwyaf agored i niwed.'

Ac unwaith eto, rwyf am fod yn fanwl gywir ac yn gymedrol yn fy meirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd mae hon yn her anodd tu hwnt o ran polisi a bu cyflawniadau gyda'r Ddeddf na ddylem eu gwadu.

A gaf fi nodi un neu ddau o'r materion mwy dadleuol yn gyflym, gan ddechrau gydag angen blaenoriaethol? Ymysg rhai o'r argymhellion y buaswn yn anghytuno â hwy braidd yw'r syniad hwn y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid wyf yn gweld hyn fel opsiwn ymarferol ar hyn o bryd. Cyhyd ag y ceir digartrefedd a chysgu ar y stryd, bydd angen cydbwyso blaenoriaethau. Yn ddelfrydol, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, byddai pawb ohonom am weld sefyllfa lle nad oedd angen blaenoriaethol yn bodoli oherwydd ein bod wedi datrys problem cyflenwad tai. Ond nid ydym yn y sefyllfa honno, a rhaid imi ddweud bod y sylwadau a wnaed gan lywodraeth leol yn gwneud hyn yn glir iawn ac wedi tynnu sylw at y goblygiadau ariannol a allai fod yn gysylltiedig â diddymu angen blaenoriaethol. Mae'n gysylltiedig iawn â phroblem cyflenwad ac mae hynny'n mynd i gymryd cryn amser i'w ddatrys. Aeth Cyngor Caerdydd mor bell â datgan, pe bai angen blaenoriaethol yn cael ei ddiddymu, y gallai hynny gynyddu nifer yr ymgeiswyr digartref, rwy'n dyfynnu

yn hytrach na phobl sy'n ceisio datrys eu problemau eu hunain.

Nawr, rwy'n meddwl bod honno'n farn go gadarn ac efallai'n farn lem hyd yn oed, ond ceir cydbwysedd yma. Mae angen inni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â hyn.

Os edrychwn ar pam y mae pobl yn mynd yn ddigartref, a phobl yn cysgu ar y stryd ar y pen mwyaf difrifol, ar gyfer dynion sengl, mae'n ymwneud â bod yn agored i henaint, iechyd gwael, wedi'u dilyn gan adael carchar a risg o drais neu gam-drin, ac i fenywod, trais a chamdriniaeth, wedi'u dilyn gan henaint, iechyd gwael a bod yn feichiog. Rwy'n credu, fodd bynnag, y dylai cysgu ar y stryd ym mhob achos bron, wneud rhywun yn gymwys ar gyfer statws angen blaenoriaethol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac mae'n baradocs braidd ac yn her, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o aelodau o'r cyhoedd yn credu, os ydych ar y stryd, eich bod yn achos blaenoriaethol ar gyfer tai. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ymdrin yn uniongyrchol ag ef. Nodaf fod cod arweiniad Llywodraeth Cymru yn dadlau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn debygol o fod yn agored i niwed am ryw reswm arbennig arall oherwydd goblygiadau iechyd a goblygiadau cymdeithasol eu sefyllfa, ond mae'n ymddangos bod peth gwahaniaeth yn ymarferol pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Ac mae llawer, neu rai beth bynnag—nifer sylweddol—o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd nad ydynt yn gymwys i fod yn achosion blaenoriaethol. Felly, credaf fod angen archwilio'r pethau hyn yn ofalus iawn.

A gaf fi symud ymlaen i orffen at Cefnogi Pobl? Yn amlwg, mae hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau heddiw oherwydd yr adroddiad rhagorol 'Housing Matters' a gynhyrchwyd gan nifer o sefydliadau yn y sector hwn. Nawr, mae argymhelliad 28 o adroddiad y pwyllgor yn gofyn

'Os yw canfyddiadau’r Cynlluniau Braenaru Cyllid Hyblyg yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu’n amau ynghylch gallu’r sector i gynnal y gwasanaeth ar y lefelau presennol, rydym yn argymell y dylai Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl barhau i fod yn grant ar wahân sydd wedi’i neilltuo.'

Ac rwy'n cytuno â hynny. Mae hwn yn faes rhy bwysig i darfu arno ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiad yn glir fod y cynlluniau ariannu presennol yn creu risg sylweddol i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n agored i niwed drwy raglenni tai a digartrefedd yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd gofal yn y maes polisi cyhoeddus hwn. Gallwch weld hefyd o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu pryder sylweddol iawn a'r pryder ar draws y sector ynglŷn â beth fydd yn digwydd i'r rhaglenni Cefnogi Pobl. A hebddynt, bydd y rheini sydd fwyaf o angen cymorth yn eu tenantiaeth neu sydd ar fin bod yn ddigartref a chysgu ar y stryd mewn sefyllfa fregus tu hwnt. Rhaid inni ddiogelu'r ffrydiau ariannu y maent yn dibynnu cymaint arnynt. Diolch.

15:55

Credaf ei bod yn galondid fod llawer o Aelodau nad oedd ar y pwyllgor ac yn rhan o'r ymchwiliad wedi dangos diddordeb ynddo, oherwydd, yn amlwg, rwy'n gobeithio eich bod yn ei ystyried yn ddefnyddiol. Yn sicr, roedd yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono.

Roeddwn am dalu teyrnged yn fyr i un neu ddau o sefydliadau lleol yr ymdriniaf â hwy'n rheolaidd. Un yw gwasanaeth digartrefedd Cyngor Caerdydd a'r ffordd y maent wedi hyfforddi o leiaf bump o bobl i fynd allan, dair noson yr wythnos, tan hanner nos, i siarad â phobl sy'n byw ar y strydoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael asesiad o'u hanghenion, oherwydd dyma'r bobl nad ydynt yn mynd i droi at wasanaeth y digartref yn Heol Dumballs. Credaf fod hynny'n dangos eu bod o ddifrif ar y blaen o ran gweithio gyda phobl ar y broblem anodd hon.

Yn ail, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 i annog yr holl wasanaethau heddlu i ddefnyddio'r camerâu fideo y maent yn gwisgo ar eu gwisgoedd ar gyfer y sgyrsiau anodd hyn gyda phobl ar y stryd, oherwydd mae'n cofnodi'r sgwrs yn gywir, sy'n gallu bod yn anodd iawn os yw rhywun yng nghanol argyfwng iechyd meddwl neu'n feddw, ond mae hefyd yn gyfle hyfforddi gwych i'r rhai sy'n gorfod ymdrin â phobl a all fod yn anodd a heriol iawn ac sydd â llu o anghenion. Felly, credaf ei bod yn dda iawn ein bod yn ymdrechu i weld yr arfer da hwn yn cael ei ymestyn i'n holl heddluoedd sy'n cael y sgyrsiau anodd hyn.

Yn drydydd, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 4, a chytuno i ailsefydlu'r gweithgor llety ac ailsefydlu carcharorion, oherwydd cawsom dystiolaeth glir iawn fod y drws tro yn fyw ac yn iach a bod rhai carcharorion yn syrthio drwy'r rhwyd. Nid yw'r gwasanaethau digartrefedd a thai yn gwybod am bobl mewn pryd pan gânt eu rhyddhau ac mae rhai o'r bobl hyn yn mynd yn ôl ar y strydoedd ac yn anochel wedyn, yn ôl i garchar, ar gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw. Felly, rwy'n credu ei bod yn wych ein bod yn ymdrechu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

16:00

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am eu harchwiliad o gysgu ar y stryd. Fel y dywedais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, rwy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ar sawl ffurf ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ddigartref ar y strydoedd—maent yn aros gyda ffrindiau, teulu neu mewn llety dros dro arall wedi i denantiaeth neu berthynas ddod i ben neu o ganlyniad i anghydfod teuluol. Ond rwy'n croesawu'n fawr y ffocws go iawn a roddodd y pwyllgor ar ddigartrefedd ar ei ffurf fwyaf difrifol. Wrth siarad gyda'r bobl y cyfarfûm â hwy sy'n cysgu ar y stryd neu sydd wedi cael profiad o gysgu ar y stryd, clywais hanesion dirdynnol, fel y gwn y clywodd y pwyllgor, am deuluoedd yn chwalu, trais domestig, afiechyd meddwl, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth. Mae'r rhain oll yn broblemau a all arwain at golli cartref a throelli ar i lawr, gan greu cylch dieflig o gysgu ar y stryd, sef y ffurf fwyaf difrifol ar ddigartrefedd fel y gwyddom.

Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod, mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i atal digartrefedd ledled Cymru ac mae wedi'i chanmol yn eang am ei dull ataliol o weithredu. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ers iddi ddod yn weithredol, rydym wedi atal mwy na 14,000 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref, ond rydym yn cydnabod o hyd fod llawer mwy i'w wneud. Fel y nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb', nid yw'n dderbyniol y dylai unrhyw un gael ei orfodi i gysgu ar y strydoedd mewn cymdeithas ffyniannus. Fel y nodais yn gynharach eleni, rwy'n pryderu ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Hefyd, nodais ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud popeth a allwn i wrthdroi'r duedd honno. Ym mis Chwefror, cyhoeddais ein cynllun gweithredu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ynghyd â'n dogfen arweiniad ac egwyddorion tai yn gyntaf. Mae adroddiad y pwyllgor, felly, yn ddogfen hynod o amserol sy'n ein helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth i lywio esblygiad a gweithrediad y cynllun hwnnw.

Mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn nodi ein hymateb manwl i'r 29 o argymhellion yn yr adroddiad. Er bod rhai gwahaniaethau ynghylch y gwaith paratoi sy'n angenrheidiol cyn penderfynu ar gamau gweithredu penodol, mae'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Amlinellais i'r Siambr hon o'r blaen fy mharodrwydd i adolygu'r dull o weithredu angen blaenoriaethol. Fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod, mae'n bwysig na wneir unrhyw newid i'r dull presennol oni bai lle y deellir holl oblygiadau newid o'r fath yn llawn. Felly, gallaf gadarnhau ein bod eisoes wrthi'n comisiynu asesiad annibynnol o effaith bosibl a chanlyniadau anfwriadol newid y dull cyfredol o weithredu angen blaenoriaethol er mwyn llywio'r ffordd ymlaen. Mae gan hyn oblygiadau o ran cysylltiad lleol. Rhoddir ystyriaeth i hynny hefyd fel rhan o'r asesiad annibynnol.

16:05

A wnaiff y Gweinidog ildio? Roedd hi'n ddiddorol clywed y Gweinidog yn sôn am gysylltiad lleol, a hefyd y ffaith bod y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd wedi codi, oherwydd yng Nghaerdydd, ers 2014, credaf fod nifer y rheini sy'n cysgu ar y stryd wedi dyblu, ac yn amlwg mae mater cysylltiad lleol yn codi gyda nifer fach o'r bobl hynny. A yw'n credu, weithiau, fod pennu o ble y mae'r unigolyn wedi dod yn eu hatal rhag cael y cymorth gorau?

Rwy'n credu mai un o'r pethau y clywodd y pwyllgor dystiolaeth arno oedd na roddir sylw i fater cysylltiad lleol mewn ffordd sy'n gyson ac yn gydlynol ar draws Cymru. Felly, dyma rywbeth y byddaf yn bendant yn sicrhau bod yr asesiad annibynnol yn ei ystyried o ran nodi'r ffordd orau ymlaen yn hynny o beth, oherwydd gwn fod y pwyllgor wedi clywed tystiolaeth gref am y ffordd y gwneir hynny.

Ar fy ymweliad diweddar â'r Alban, cefais gyfle i ymweld â rhai o ddarparwyr gwasanaethau digartrefedd y trydydd sector, ac archwilio eu profiadau o ddiddymu angen blaenoriaethol yn yr Alban. Roedd hwnnw'n gyfle dadlennol iawn i siarad â phobl sydd wedi cael y profiad hwnnw. Trafodwyd yr effaith a gafodd ar gynyddu'r defnydd o lety dros dro ac unwaith eto tynnodd hynny sylw at bwysigrwydd deall y canlyniadau anfwriadol posibl cyn gwneud newidiadau. Yn anecdotaidd, clywais fod y boblogaeth sy'n aros am gyfnodau hir mewn llety dros dro yng Nghaeredin, er enghraifft, wedi codi o 200 i dros 600, yn dilyn diddymu'r angen blaenoriaethol. Ac wrth gwrs, wrth gerdded o amgylch Caeredin, roedd yn amlwg i mi fod cysgu ar y stryd yn parhau'n destun pryder mawr ac nid yw wedi ei ddileu yn y ddinas. Roedd fy nhrafodaethau hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd sylfaenol argaeledd tai o ansawdd da wrth fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd. Mae diwallu anghenion tai ni waeth beth yw'r flaenoriaeth yn ymwneud yn bennaf â chyflenwad tai, ac rwy'n falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru ar hyn a'r cynnydd a wnawn tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Maes pwysig arall a gydnabuwyd gan y pwyllgor oedd gwella mynediad at y sector rhentu preifat, sydd wedi gweld cyfran sylweddol o'r cyllid pontio a ddyrannwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i awdurdodau lleol i gynyddu eu cyflenwad o eiddo sector preifat sydd ar gael i bobl sy'n ddigartref. Ar gyfer pobl sy'n rhentu, mae materion fforddiadwyedd, ansawdd a diogelwch deiliadaeth yn real iawn, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi gosod, ac yn parhau i osod pwyslais mawr ar sicrhau bod y sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio a'i reoli'n dda. Ac yn y modd hwn, gallwn helpu i sicrhau ei fod yn cynnig ateb hirdymor ymarferol i bobl sy'n dewis neu sydd angen rhentu yn y sector rhentu preifat. Ddoe ddiwethaf, noddodd Bethan Sayed ddigwyddiad rhagorol yn y Cynulliad, lle roedd Tai Pawb a'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi gweithio gyda'i gilydd drwy'r prosiect Agor Drysau er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a chymorth i landlordiaid er mwyn agor cyfleoedd yn y sector rhentu preifat i bobl na fyddai landlordiaid o reidrwydd yn draddodiadol yn ystyried rhentu iddynt, a gallai hynny gynnwys pobl ddigartref yn sicr. A bydd Rhentu Doeth Cymru yn edrych ar y prosiect hwnnw o ran cynnig hyfforddiant i landlordiaid.

Felly, yn ogystal â chartref o safon, dylem hefyd sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le ar gyfer unigolion sy'n agored i niwed, ac yn briodol, roedd y pwyllgor yn cydnabod manteision dulliau wedi'u harwain gan dai, megis tai yn gyntaf, sy'n canolbwyntio ar symud pobl sy'n profi digartrefedd yn gyflym i lety a darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol wedyn fel sy'n ofynnol. Nodweddion allweddol y dull hwnnw o weithredu yw y dylai defnyddwyr gwasanaethau gael dewis a rheolaeth ac nad yw tai yn amodol ar gymorth neu driniaeth. Bwriad y dull yw gwasanaethu'r bobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, ac efallai na fyddai'n addas ar gyfer pawb sy'n cysgu ar y stryd. Mae'n un o ystod o opsiynau tai a gynigir i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, a gwyddom fod angen llawer mwy o waith er mwyn cynyddu ei ddefnydd. Ond unwaith eto, rwy'n sicr fod yn rhaid glynu at egwyddorion tai yn gyntaf. Nid yw'n ymwneud ag ailbecynnu llety â chymorth, nid yw'n ymwneud â gosod pobl sy'n cysgu ar y stryd mewn geto; mae'n ymwneud â chynnig ffordd arloesol, newydd a dilys o'u cefnogi.

Fel y dengys y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn glir, mae'r rhesymau dros gysgu ar y stryd yn hynod gymhleth ac nid yw'r atebion yn canolbwyntio'n unig ar dai. Mae gan iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, diogelwch cymunedol a phethau eraill rôl i'w chwarae, ac rwy'n derbyn sylwadau'r Aelodau ynglŷn â chael ymwneud ystyrlon gan yr holl bartneriaid. Yn sicr, rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio ar draws ffiniau traddodiadol i gyflawni'r cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd, ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd Llywodraeth gyfan. Er enghraifft, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn arwain ar gamddefnyddio sylweddau, ond yn y cynllun gweithredu yno ceir camau clir ynglŷn â digartrefedd. Mae'r un peth yn wir eto am y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl; ceir camau gweithredu penodol yno i'w rhoi ar waith ar ddigartrefedd.

Felly, i gloi, fel Llywodraeth, rydym yn buddsoddi llawer iawn yn y gwaith o fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd gyda £10 miliwn ychwanegol yn flynyddol dros y ddwy flynedd nesaf, ynghyd â £10 miliwn ychwanegol ar gyfer digartrefedd ymhlith ieuenctid yn 2019-20. Fel yr amlinellais yn y Siambr yn gynharach eleni, yn fwriadol ni nodais sut y caiff pob ceiniog ei gwario eleni. Rwyf ar hyn o bryd yn adolygu'r cynnydd a'r dystiolaeth o gynlluniau peilot y llynedd a byddaf yn ystyried y dystiolaeth hon ochr yn ochr â'r adroddiadau ymchwil sydd i'w cyhoeddi yn yr haf. Byddaf hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried sut y mae angen i'r cynllun gweithredu esblygu ac ymateb i adroddiad y pwyllgor a thystiolaeth arall sy'n dod i'r amlwg er mwyn sicrhau y caiff yr agenda hollbwysig hon ei chyflawni. Diolch.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac adleisio sylwadau a wnaed eisoes ei bod yn arbennig o dda cael cyfraniadau gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o'n pwyllgor?

A gaf fi ddechrau felly gyda Janet Finch-Saunders a chydnabod hawl Janet i anghytuno ar rai pwyntiau, ond serch hynny, diolch i Janet am ei chyfraniad i'r adroddiad yn gyffredinol? Wrth gwrs, mae'n hollol iawn fod gan yr Aelodau farn wahanol, a'r hyn y gallant neu na allant ei gefnogi yn ystod trafodion y pwyllgor a chael hynny wedi ei gofnodi yn yr adroddiad, ac mae pob un ohonom, mae'n siŵr, yn ddiolchgar am y cyfle hwnnw ar wahanol adegau ar faterion amrywiol.

Credaf fod un peth yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, sef y ceir consensws eithaf eang sy'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn: trafferthion pobl sy'n cysgu ar y strydoedd, y cynnydd sydd wedi'i wneud eisoes—ac mae'n sylweddol—ac fel dywedwyd, y Ddeddf tai newydd sydd gennym, sy'n mynd i'r afael yn effeithiol â digartrefedd, ond nad yw mor effeithiol o ran cysgu ar y stryd, sydd mor gymhleth ac yn creu heriau mor fawr. Ond rhaid inni gydnabod y cynnydd cyffredinol a wnaed, sy'n bwysig iawn ar gyfer atal, gan gynnwys atal pobl rhag cysgu ar y stryd, ond unwaith eto, credaf fod yna gonsensws fod angen i ragor gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac amrywiaeth o bartneriaid wrth gwrs. Ac mae rhywfaint o hynny yn wir yn ymwneud ag uno'n effeithiol ar draws y Llywodraeth ac uno y tu allan i'r Llywodraeth ar draws Cymru, ac roedd yn dda clywed rhai o'r enghreifftiau a roddodd y Gweinidog am y dull a weithredir gan y Llywodraeth mewn perthynas â'r materion hynny. Roedd gennym argymhellion, fel y soniais yn gynharach, a oedd yn rhoi sylw i'r angen hwn am waith trawslywodraethol a chyfrifoldeb ar y cyd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn cadw llygad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull trawsbynciol o'r fath.

Ar yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden, credaf ei bod yn bwysig inni weld cynnydd gan y sector preifat, o fyd y celfyddydau, o addysg, fel enghreifftiau o'r hyn sydd angen digwydd er mwyn gwireddu'r dull trawsbynciol hwnnw. Mae'n gyfrifoldeb a rennir ar draws y Llywodraeth, ond hefyd caiff ei rannu gan nifer o chwaraewyr eraill yng Nghymru sydd â chyfraniad i'w wneud.

Ddirprwy Lywydd, dywedais yn fy sylwadau agoriadol fod angen blaenoriaethol, yn amlwg, yn ganolog i'r ddadl hon mewn sawl ffordd, ac adlewyrchwyd hynny yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Dywedais hefyd ei fod yn ddadleuol, fel y gwyddom, a chafodd hynny hefyd ei adlewyrchu yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Rydym yn cydnabod y ceir anawsterau, nad yw diddymu angen blaenoriaethol yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos, ac yn wir mae cost i hynny, a rhaid ystyried honno yn yr hafaliad ac wrth wneud penderfyniadau. Felly, rydym yn sôn am ddull fesul cam o ddiddymu angen blaenoriaethol, gan gydnabod y byddai angen iddo ddigwydd dros gyfnod o amser, a bod pethau eraill a allai ddigwydd i fynd i'r afael â'r problemau nad ydynt yn ymwneud â diddymu angen blaenoriaethol.

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ac yn dymuno aros am ganlyniad y gwaith hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, a gallaf weld peth cryfder yn y farn honno, ond yn amlwg, rydym am weld camau'n cael eu rhoi ar waith ar frys. Ac fel y dywedaf, ceir ffyrdd y gallai gweithredu o'r fath fynd i'r afael â rhai o'r problemau heb orfod diddymu angen blaenoriaethol. Un o'r rheini yw'r prawf 'agored i niwed'. Soniodd David Melding am y ffaith y byddai pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel mater o synnwyr cyffredin ym marn y rhan fwyaf o bobl, yn cael eu gweld fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol i'w ddatrys ond nid yw hyn bob amser yn wir, fel y clywsom wrth inni gasglu tystiolaeth. Ond mae'r prawf 'agored i niwed' a allai ddynodi bod angen blaenoriaethol gan bobl sy'n cysgu ar y stryd yn drothwy anos i'w groesi yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr ar hyn o bryd, oherwydd bod cyfraith achosion yn Lloegr o dan achos Hotak, fel y'i gelwir, yn cynnig dehongliad newydd yn eu deddfwriaeth nad yw'n gymwys yng Nghymru. Felly, rydym yn awgrymu ein bod yn mabwysiadu, yn egluro ac yn dweud yn glir yr hoffem weld y diffiniad sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd yn cael ei ddilyn yng Nghymru. Felly, y cymharydd ar gyfer rhywun sy'n cysgu ar y stryd fyddai person cyffredin pe bai'n cael ei wneud yn ddigartref, nid person cyffredin sy'n ddigartref mewn gwirionedd. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth go sylweddol y byddem yn hoffi ei weld yn cael ei fabwysiadu yma yng Nghymru.

Materion eraill a oedd yn bwysig iawn i ni, rwy'n credu, oedd pobl sy'n gadael carchar, ac yn amlwg, nid yw'r Llywodraeth o blaid adfer angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Ond roeddwn yn falch fod Jenny Rathbone wedi sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, sef yr angen i ailsefydlu'r gweithgor ar lety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar, oherwydd clywsom yn aml nad oes hysbysiad amserol yn cael ei roi fod rhywun ar fin gadael carchar. Mae'n arbennig o anodd pan fydd pobl yn cael dedfryd fer. Daw pobl allan o'r carchar heb lety, ac yn amlwg, gallant ddychwelyd i drafferthion go iawn yn gyflym, ac aildroseddu yn wir, gan barhau'r cylch yr ydym yn ceisio ei dorri.

Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth gloi, gan adleisio'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden, mewn gwirionedd—rwy'n credu bod yna farn gyhoeddus glir mai ffynhonnell cywilydd yn y DU, y bedwaredd neu'r bumed economi fwyaf yn y byd, yw'r ffaith ein bod yn dal i weld pobl mor eithafol o agored i niwed yn cysgu ar ein strydoedd, gyda disgwyliad oes yn eu pedwardegau hwyr. Mae pobl yn teimlo'n gryf iawn fod angen inni wneud beth bynnag sy'n rhaid ei wneud. A dyna'r ysbryd yr hoffwn ein gweld yn symud ymlaen ynddo yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt: beth bynnag sy'n rhaid ei wneud i ddileu cysgu ar y stryd. Ac fel pwyllgor rydym yn benderfynol o ddychwelyd at y materion hyn. Byddwn yn dilyn hynt ein hargymhellion—byddwn yn sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu harchwilio'n ofalus ac yn gadarn.

16:15

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofalwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, gwelliannau 2, 3, 5, 6, 7, 8 a 9 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 4 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn at eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig. Suzy.

Cynnig NDM6738 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai 11-17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a aseswyd sydd wedi'u diwallu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig.

Aelodau, mae'n debyg mai'r ffordd hawsaf o ddechrau hyn yw dweud ei bod yn Wythnos y Gofalwyr, a gadewch inni gael dadl am ofalwyr. Mae codi ymwybyddiaeth yn werthfawr iawn, ac mae'n ddefnyddiol cael pwynt, rwy'n credu, ar gyfer nodi ein gwerthfawrogiad. Ond rwy'n tybio mai'r hyn y byddai'r rhan fwyaf o'r 370,000 o ofalwyr di-dâl yn hoffi ein gweld yn ei wneud yw dangos y gwerthfawrogiad hwnnw drwy weithredu yn hytrach na siarad amdano'n unig.

Mae 370,000 o bobl yn fwy na 11 y cant o'r boblogaeth. Mae oddeutu dwy waith y nifer sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys y deintyddion a'r staff gweinyddol, y gwyddonwyr a'r meddygon a nyrsys ac ymwelwyr iechyd, y parafeddygon, y staff technegol, y bydwragedd a'r therapyddion. Maent yn darparu gwerth dros £8 biliwn o ofal di-dâl, ac mae hynny'n cyfateb i dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Credaf fod hynny'n goblyn o 'ddiolch' sy'n ddyledus gan y genedl hon i'w gofalwyr di-dâl.

Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn fodd proffidiol ac agored o gyfnewid syniadau, a siarad yn uniongyrchol am y pethau hynny sydd o bwys i ofalwyr eu hunain, ac efallai na ddylem roi gormod o bwys ar newidiadau strwythurol heb esboniad cliriach o achos ac effaith. Ond rwy'n falch o weld ei bod wedi denu nifer o welliannau y dof atynt maes o law.

Ond hoffwn ddechrau gyda'r un y credaf ei fod wedi methu'r pwynt yn llwyr ynghylch gofalwyr ewyllys da, sef gwelliant y Llywodraeth—Rhif 1. Nid sylwedd y gwelliant, sy'n gosod stondin y Llywodraeth, ac mae hynny'n iawn, ond y ffaith ei fod yn dileu pwynt 4 y cynnig gwreiddiol—yr union bwynt sy'n eich dwyn chi, Weinidog, i gyfrif am yr addewidion mwyaf gwerthfawr, a statudol yn wir, a wnaethoch i ofalwyr hyd yma. Gallech fod wedi dod i'r Siambr hon, Weinidog, a dweud wrthym yn ddidwyll y byddech, wrth gwrs, yn cyhoeddi ffigurau ynglŷn â faint o anghenion gofalwyr sydd wedi'u hasesu a'u diwallu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gallech fod wedi dweud wrthym, yn eithaf rhesymol, gyda 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, na allai'r nifer hon o bobl fod wedi'u cyrraedd ers 2014, ond gan roi syniad efallai ynglŷn â sut yr oedd awdurdodau lleol yn recriwtio ar gyfer y gwaith, neu efallai'n gosod y gwaith ar gontract allanol—nid asesu a diwallu anghenion gofalwyr yn unig, ond nodi gofalwyr newydd y mae gennych gyfrifoldeb statudol amdanynt. Gallech fod wedi dweud wrthym, efallai, ei bod hi'n anodd dod o hyd i aseswyr hyd yn oed, neu eu talu, ac rwy'n credu, i raddau, y byddem wedi deall. Ond mae gwrthod cael eich craffu yn gywilyddus. A ydych chi o ddifrif wedi cael eich rhoi ar y droed ôl i'r fath raddau gan ganfyddiadau 'Dilyn y Ddeddf' Gofalwyr Cymru fis Medi diwethaf, a ddywedodd na chafwyd fawr o dystiolaeth fod blwyddyn lawn gyntaf y Ddeddf yn gwella bywydau gofalwyr?

Nid yw tawelwch byth yn euraid, fel y gwelodd cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth yr wythnos hon. Mae'n codi amheuon, ac rwy'n tybio bod methiant i arwain cynghorau ar gysondeb ynglŷn â beth sy'n asesiad a beth sy'n ddiwallu anghenion wedi arwain at ddryswch ynglŷn â beth y mae'r gofynion statudol hynny yn ei olygu mewn gwirionedd. Sut y gallwch fod yn sicr fod cynghorau'n gweithredu'n gyfreithlon os nad yw gofalwyr yn gwybod beth yw sail gyfreithiol gwahanol sgyrsiau y maent yn eu cael gydag awdurdodau lleol. Felly, os gwelwch yn dda peidiwch â dweud wrth y Siambr hon nad ydych yn gwybod beth y byddech yn ei gyfrif i gynhyrchu'r ffigurau hyn. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddeddfwriaeth arloesol, a dylid gallu cyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu.

Roeddwn eisoes yn poeni efallai fod yr hawliau a grybwyllwyd gennych yn eich gwelliant yn profi'n ddiystyr, er iddynt gael eu cytuno gan y Cynulliad diwethaf. Gellid dadlau bod unrhyw hawl statudol yn ddiystyr oni bai y ceir unioni statudol cyfatebol, nad yw, wrth gwrs, yn bodoli yma, ond mae'n bendant yn ddiystyr os ydych yn gwadu'r ddeddfwrfa sy'n eich dwyn i gyfrif yn ei gylch.

Byddai'n well pe bai eich corff cynghori gweinidogol, a groesewir gennym, yn gwisgo ei esgidiau cicio penolau i wneud i chi ddal i fyny â'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 5 i wneud yn siŵr y gallwn graffu ar ba mor galed y maent yn cicio. Gallwch ddisgwyl inni gadw llygad hefyd ar ba mor dda y mae'r cynlluniau gofal cymdeithasol ac iechyd yn datblygu. Hynny yw, yn amlwg, mae llawer o ewyllys da tuag at y rhain, ond rhaid mesur eu llwyddiant ar fwy nag uno gwasanaethau arloesol neu wella statws a chyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol gofal canolraddol a gofal cymdeithasol, cleifion hapusach neu hyd yn oed y rhai sy'n cael gofal. Rhaid iddynt wella bywydau'r 11 y cant o'r boblogaeth rydym yn sôn amdanynt heddiw yn ogystal. Os nad yw iechyd ein gofalwyr yn gwella, yn enwedig eu hiechyd meddwl, os nad yw ein gofalwyr ifanc yn cael mwy o amser yn yr ysgol, os yw ein gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn gadael addysg bellach, hyfforddiant neu brentisiaethau oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, os nad yw busnesau'n cael unrhyw beth ystyrlon o'r rhwydwaith cyflogwyr newydd ar gyfer gofalwyr yr edrychwn ymlaen at glywed mwy amdano, ac os ydym yn dal i sôn am fylchau mewn seibiant ar ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna bydd yr adolygiad seneddol wedi methu.

Rwy'n siomedig er nad wyf yn synnu bod cynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer grant dyfodol oedolion ifanc sy'n ofalwyr wedi cael derbyniad llai brwd gan y pleidiau yma nag a gafodd gan ofalwyr sy'n oedolion ifanc eu hunain ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, sy'n siarad ar ran gofalwyr o bob oedran. Ond er gwaethaf y datgysylltiad rhyngoch a'r polisi hwn, credaf y byddwch—mae'n siŵr y byddwch, mewn gwirionedd, yn ymuno â mi i longyfarch Lucy Prentice a phawb yn Gofal Croesffyrdd Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth y Gofalwyr am eu hymgyrch i ddiwygio lwfans gofalwyr. Dymunaf bob llwyddiant iddi wrth iddi gyflwyno'r ddadl honno i Lywodraeth y DU a byddaf yn ei chefnogi o ran ei nod.

Fodd bynnag, nid ydym yn cefnogi gwelliant 2 ar hyn, gan nad oes unrhyw sicrwydd y byddai datganoli pwerau yn arwain at ddiwygio fel yr honnir, a byddai'n well gennyf ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn awr i sicrhau'r un canlyniad, gan ganiatáu i oedolion ifanc sy'n ofalwyr baratoi ar gyfer eu dyfodol a buddsoddi yn eu dyfodol eu hunain gan gadw eu teuluoedd gyda'i gilydd ar yr un pryd.

Gan edrych yn gyflym ar y gwelliannau eraill, nid wyf yn gweld mewn gwirionedd sut y mae gwelliant 3 Plaid Cymru yn gwneud llawer o synnwyr. Nid ydym yn cefnogi camfanteisio neu gamddefnyddio opsiynau gweithio hyblyg fwy na chithau, ond does bosib na allwch weld y gallai gweithio hyblyg helpu gofalwyr ifanc sy'n oedolion nad ydynt yn gallu ymrwymo i oriau rheolaidd.

Gwelliant 4—nid oes dim y gallwn anghytuno ag ef yno. Byddem wedi cefnogi gwelliant 6, fel rydym wedi cefnogi'r ymgyrch dros gael cerdyn adnabod, pe na baech wedi drysu'r darlun drwy gyfeirio at drafnidiaeth, gan fod ein grant dyfodol ein hunain yn mynd law yn llaw â'n cerdyn gwyrdd trafnidiaeth ein hunain, sy'n galluogi'r holl bobl ifanc dan 25 oed i ehangu eu gorwelion.

Rydym yn cefnogi gwelliant 8, ond rwyf ychydig yn ddrwgdybus o welliant 9. Efallai mai'r ffordd y cafodd ei eirio yw'r broblem, ond credaf ei fod yn gofyn gormod i blant mor ifanc ag wyth oed ysgwyddo cyfrifoldeb am roi meddyginiaeth neu driniaeth uniongyrchol i rywun arall. Efallai y bydd eich manylion pellach yn rhoi rhywfaint o sicrwydd inni ar hyn, ond ni allwn gefnogi'r geiriad, mae'n ddrwg gennyf.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r aelodau o'r gymuned sy'n gofalu am ofalwyr—sydd efallai'n diwallu eu hanghenion, sydd wedi'u hasesu neu beidio. Bydd gan bawb ohonom enghreifftiau yn ein rhanbarthau neu yn ein hetholaethau, ond rwy'n hoff iawn o un Louise Barham, sydd wedi sefydlu 'caffi lôn y cof' yn y Pîl. Fel y byddwch yn sylweddoli mae'n debyg, mae'n gyfle i bobl â dementia fynd allan i gymdeithasu, a rhannu gweithgareddau o bosibl, ond ei werth mwyaf, rwy'n credu, yw ei fod yn rhoi cyfle hefyd i ofalwyr dreulio amser gyda phobl eraill sy'n wynebu'r un trafferthion, yr un euogrwydd, yr un galar, ac i gael cysur o gwmni ei gilydd. Ni fydd strategaethau Llywodraeth byth yn disodli caredigrwydd dynol, ond rhaid inni wneud yn siŵr nad oes dim yn cael ei roi yn ei ffordd. Diolch i chi.

16:25

Diolch. Rwyf wedi dethol y naw gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.

Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf yn awr ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 2, 3, 5, 6, 7, 8 a 9 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd. 

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.  

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Gwelliant 9—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 5, 6, 7, 8 a 9.

Diolch. Gan mai Wythnos y Gofalwyr yw hon, fel y dywedwyd, mae'n gyfle pwysig inni gael y ddadl hon, un sy'n effeithio'n ddwfn ar fywydau a phrofiadau cymaint o bobl, felly diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon. Cyflwynais gynnig fy hun ar ofalwyr ifanc yr haf diwethaf. A'r wythnos diwethaf, cefais y pleser o groesawu gofalwyr ifanc o YMCA Abertawe a Chaerdydd i'r Cynulliad i gyfarfod â'r Gweinidog plant fel y gallai glywed eu pryderon yn uniongyrchol. Ond fel y mae'r cynnig yn ei wneud yn glir, mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar ofalwyr o bob oed hefyd. Maent yn chwarae rhan werthfawr iawn, a heb ymdrechion gofalwyr, byddai ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau gryn dipyn yn fwy nag sy'n wir ar hyn o bryd. Ond rwy'n teimlo y gallwn gynnig mwy o gefnogaeth i ofalwyr nag a gânt ar hyn o bryd.

Ceir nifer o welliannau Plaid Cymru yr hoffwn eu cynnig yma heddiw, ac mae llawer o'r gwelliannau hynny wedi dod yn uniongyrchol gan y gofalwyr ifanc sydd yma heddiw, rwy'n falch o ddweud. Mae ein gwelliant 2 yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi'i godi ar achlysuron blaenorol, a byddwn yn parhau i'w godi, oherwydd sut y gall unrhyw un honni eu bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r problemau sy'n gynhenid i'r system les os nad ydym yn dangos unrhyw awydd i reoli o leiaf rywfaint ar y system honno ein hunain. Nid wyf yn derbyn unrhyw ddadl semantig fod yn rhaid inni ddiogelu undod y system les ar draws y DU, oherwydd mae hi eisoes yn dameidiog. Mae gan yr Alban reolau gweinyddiaeth ei hun a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwyf wedi blino ar y dadleuon nad ydynt yn gwneud dim heblaw ein hangori wrth bolisi Seisnig nad yw'n gwneud dim i helpu ein dinasyddion yma yng Nghymru.

Credwn fod gwelliant 3 yn bwysig hefyd oherwydd ei fod yn nodi'r problemau economaidd real iawn a'r ansicrwydd sy'n bodoli i gymaint o bobl. Ar gyfer oedolyn ifanc sy'n ofalwr ac sydd â chyfrifoldebau yn y cartref, mae'r ansicrwydd a'r diffyg sefydlogrwydd sy'n gynhenid mewn contractau dim oriau yn rhwystr go iawn. Mae angen cyflogaeth ar ofalwyr o unrhyw oedran a all ganiatáu iddynt barhau'n ofalwyr.

Mae ein gwelliannau eraill yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc, fel rwyf eisoes wedi sôn, gan fod eu hanghenion yn aml wedi mynd yn angof wrth lunio polisi. Y llynedd, mewn dadl ar y pwnc hwn, tynnais sylw at y ffaith nad oedd digon o gynnydd yn cael ei wneud ar weithredu canllawiau priodol a chyson ar gyfer ysgolion ac awdurdodau ar adnabod a darparu cymorth ar gyfer gofalwyr ifanc. Mae'n deg dweud bod y canllawiau a'r hyfforddiant yn dal i ddigwydd ad hoc, gyda rhai mannau'n gwneud yn llawer gwell nag eraill, fel gyda mynediad at wasanaethau seibiant ac amser hamdden. Buaswn yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf yn fwy rheolaidd gan y bwrdd cynghori gan ei fod wedi'i sefydlu bellach, oherwydd dywedodd gofalwyr ifanc wrthyf nad yw'r newid yn digwydd yn ddigon cyflym ac yn y cyfamser, maent yn gorfod gadael ysgol, fel y dywedodd Suzy Davies, heb y cymwysterau sydd eu hangen arnynt.

At hynny, hoffwn wneud y ddadl y dylid bod wedi cynnwys mwy o grwpiau fel YMCA yn y broses hon. Mae ganddynt brofiad ymarferol o allu gwneud asesiadau gofal, er enghraifft, i gael eu comisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Hefyd, rwy'n chwilfrydig braidd pam rydych yn lansio ymchwiliad arall i gardiau adnabod pan fo'r YMCA wedi gwneud y gwaith hwnnw. Ymddengys ei fod wedi diflannu.

Un o'r pethau y soniwyd wrthyf amdano gan ofalwyr ifanc yw'r agweddau ymarferol ar gyflawni eu rôl. Rydym wedi cynnwys trafnidiaeth yn hynny, oherwydd roeddent yn dweud eu bod eisiau mwy na cherdyn i'w ddangos i rywun, roeddent eisiau rhywbeth diriaethol ar y cerdyn hwnnw, a thrafnidiaeth oedd y peth allweddol iddynt. Credaf y byddai gostyngiadau mewn siopau lleol efallai, neu leoedd lleol, yn rhywbeth arall. Maent eisiau mwy na cherdyn a allai greu stigma pellach iddynt, felly roedd hynny'n rhywbeth ganddynt hwy.

Mewn perthynas â'r gwelliant ar hyfforddiant priodol ar gyfer gweinyddu meddyginiaeth, daeth hynny eto gan ofalwr ifanc, oherwydd dywedodd wrthyf ei bod hi'n chwistrellu morffin i'w thad ac nid oedd wedi cael unrhyw hyfforddiant ar hynny. Nid oedd neb wedi gofyn iddi mewn gwirionedd os oedd hi'n iawn ynglŷn â hynny, a oedd yn rhywbeth roedd hi'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud, ond yn syml iawn, roedd yn rhaid iddi ei wneud. Felly, dyna sy'n bwysig i mi. Efallai y credwch fod oedran penodol yn rhy ifanc ac efallai fy mod yn cytuno â chi, ond mae'n rhaid i'r gofalwyr ifanc hyn ei wneud gan nad ydynt yn cael cyfle i beidio â'i wneud. Fe ildiaf.

16:30

Diolch. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn rydych yn ei ddweud. Bydd gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn y sefyllfa hon. A fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: pam ar y ddaear eu bod yn y sefyllfa hon? Efallai fod yna ffordd o'i gwmpas yn y ffordd honno.

Yn wir, a gwn fod yna ganllawiau i feddygon teulu—ac rwyf wedi cael y briff hwn—ond mae gofalwyr ifanc yn dwyn y mater hwn i fy sylw: fod prif swyddog fferyllol Cymru wedi anfon nodyn cyfarwyddyd allan yn 2013 ynglŷn â gweinyddu meddyginiaethau a mynediad ar gyfer gofalwyr ifanc. Dyna fater arall—maent yn mynd yno a dywedir wrthynt na allant gael y feddyginiaeth. Yn 2013 oedd hynny, ac maent yn dal i ddweud wrthyf yn awr, yn 2018, nad yw hyn yn digwydd a bod mynediad at feddyginiaeth yn cael ei wrthod iddynt. Os nad ydynt yn ei gael, nid yw eu hanwyliaid yn cael y feddyginiaeth o gwbl. Felly, os mai dogfen ganllawiau yw hon, nid yw'n gweithio o gwbl ar hyn o bryd.

Hoffwn orffen gyda'r hyn a ddywedodd Suzy Davies yn go gryf hefyd. O ran asesiadau gofal, gwyddom fod yna rai ardaloedd nad ydynt yn eu cynnal, ac nid yw rhai ardaloedd yn gwybod faint o ofalwyr ifanc sydd ganddynt. Os nad ydym yn gwybod hynny, yn rhinwedd y ffaith mai Deddf yw hon, mae angen inni fonitro hynny, ac mae angen rhoi asesiadau ar waith. Credaf fod YMCA Abertawe, i bob golwg, yn gwybod mwy ynglŷn â faint o ofalwyr ifanc sydd yno na'r awdurdod lleol. Felly, credaf o ddifrif fod yn rhaid gwneud hyn yn glir, a buaswn yn cefnogi pe na bai'r dileu hwnnw'n digwydd oherwydd mae'n rhaid inni allu dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar hyn er budd gofalwyr ifanc. Dyna hanfod hyn oll: fel y gallant weld cynnydd, ac na fyddwn yma ymhen pum mlynedd arall yn dweud, 'Wel, beth sy'n digwydd ar y darn hwn o bapur?' Maent o ddifrif eisiau gweld newid yn digwydd yn awr.

Gwelliant 4—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cytunaf yn llwyr gyda'r cynnig ger ein bron, ac nid yw fy ngwelliant ond yn ceisio tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae byddin Cymru o ofalwyr di-dâl yn ei wneud.

Byddai'n rhaid i ni fwy na dyblu ein holl gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol oni bai am y miloedd o bobl sy'n gofalu am rywun annwyl, ffrind neu gymydog. Mae maint eu cyfraniad yn profi, heb rithyn o amheuaeth, fod Cymru'n genedl sy'n gofalu, ond pwy sy'n gofalu am y gofalwyr? Yn anffodus, nid oes digon yn cael ei wneud i gefnogi gofalwyr, ac oherwydd diffyg cefnogaeth, mae llawer yn ei chael hi'n anodd. Nid yw dau o bob tri gofalwr yn cael digon o gwsg. Nid yw dros eu hanner yn cael digon o ymarfer corff ac wedi dioddef iselder oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Os nad ydym yn edrych ar ôl y gofalwyr hyn, bydd angen gofal arnynt hwy. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i wella'r cymorth i ofalwyr, ond y gwir trist amdani yw nad yw llawer o ofalwyr yn cael yr asesiad o anghenion gofalwyr y mae ganddynt hawl iddo.

Canfu adroddiad 'Care in Crisis?' Age Cymru amrywiad eang yn nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael asesiadau o angen, a phan fo pecynnau gofal yn cael eu darparu, yn aml nid oedd unrhyw gymorth yn ystod y nos ar gael. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar ofalwyr o bob oed, ac rwy'n gobeithio y bydd adolygiad y Gweinidog o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ymdrin â'r amrywio yn y cymorth o un awdurdod lleol i'r llall. Rhaid inni roi diwedd ar ddiffyg cymorth ddydd a nos, rhoi diwedd ar aros tair i bedair blynedd am ofal seibiant dros nos, a rhoi diwedd ar ofalwyr yn darparu dros 50 awr o ofal heb fawr ddim cymorth os o gwbl.

Er nad wyf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddatganoli lles, rhaid gwneud newidiadau i'r system fudd-daliadau. Mae'n warthus fod gofalwyr ifanc yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng mynd ar drywydd addysg amser llawn, addysg bellach ac addysg uwch, neu barhau i gael lwfans gofalwr. Mae'n warthus fod lwfans gofalwyr yn is nag unrhyw fath o fudd-daliad o'i fath, ac mae'n warthus fod y rheini sy'n amlwg yn methu gweithio yn colli eu budd-daliadau, gan eu gorfodi hwy a'u gofalwyr i fyw mewn mwy o dlodi. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygiadau lles sy'n deg ac yn gyfiawn.

Wrth i ni ddathlu Wythnos y Gofalwyr, mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud mwy i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae Llywodraeth Cymru yn credu eu bod wedi gwneud hynny gyda chyflwyno'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond mae'n amlwg nad yw'n gweithio fel y bwriadwyd iddi wneud gan nad yw dwy ran o dair o'r gofalwyr wedi cael cynnig neu wedi gofyn am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr yn dweud nad ydynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl gan eu meddyg teulu. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r holl welliannau, ac eithrio gwelliannau 1 a 4. Drwy wneud hynny, byddwn yn dangos i 370,000 o ofalwyr Cymru faint rydym yn eu gwerthfawrogi ac y byddwn yn gwneud mwy i'w cefnogi yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

16:35

Hoffwn innau hefyd ddechrau fy nghyfraniad, fel y mae pawb arall wedi gwneud, drwy ddiolch o galon i holl ofalwyr Cymru sydd ar ddyletswydd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac yn anaml iawn yn cael amser iddynt eu hunain. Fel y dywedodd eraill, hebddynt yn wir ni fyddai ein cymdeithas yn gallu gweithredu. Cefais fy syfrdanu gan ffigurau Suzy Davies fod niferoedd y gofalwyr mewn gwirionedd yn fwy na'n GIG yn ei gyfanrwydd, a chredaf y dylem fyfyrio'n ofalus iawn ar hynny.

Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi bod yn ofalwyr neu'n mynd i fod yn ofalwyr yn y dyfodol—er enghraifft, drwy fod yn rhiant. Ond wrth gwrs, mae pen draw i'r mathau hynny o rolau gofalu. Mae plant yn tyfu fyny yn y pen draw ac yn gadael cartref, gobeithio, ac nid oes raid ichi fod yn gyfrifol amdanynt mwyach. Ond wrth gwrs, os ydych yn ofalwr, rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i adael cartref. Rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i wella, ac a fydd bob amser yn dibynnu arnoch chi i ofalu amdanynt. Nid oes gennych unrhyw olau ar ben draw eich twnnel. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i gynnig rhywfaint o'r golau hwnnw.

Fel Aelod Cynulliad dros etholaeth, mae llawer o fy ngwaith achos yn dod â mi i gysylltiad â gofalwyr o bob oed, ac rydym wedi trafod gofalwyr hŷn yn eithaf mynych yn y Siambr a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt. Cefais un achos a ddaeth ataf yr wythnos diwethaf. Cymydog oedd hi mewn gwirionedd, ac mae ganddi hi gymydog oedrannus iawn, sydd heb neb ar ôl yn y byd hwn. Mae angen i'r cymydog oedrannus fynd i Ysbyty Treforys am driniaeth, felly mae'r gymdoges—nad oes ganddi lawer o arian ac mae ei char yn hen ac wedi gweld dyddiau gwell—yn mynd â hi unwaith neu ddwy bob mis am y driniaeth hon. Yn y bôn cysylltodd â mi i ddweud, 'Rwy'n hapus iawn i'w wneud. Nid oes ots gennyf ei wneud. Ni allaf fforddio'r arian petrol. Sut y gallwch chi helpu?' Mae'r unigolyn yn cyflawni'r swyddogaeth ofal hon. Felly, nid yw bob amser wedi'i reoleiddio. Nid yw bob amser, wyddoch chi, yn fater o fod rhywun yn gofalu am rywun arall yn llawn amser. Mae'n fater o garedigrwydd dieithriaid, a dyna sy'n rhaid i ni ei argymell a'i ehangu, ond mae angen inni gefnogi'r caredigrwydd hwnnw gan ddieithriaid.

Am weddill fy nghyfraniad rwyf am sôn am ofalwyr ifanc yn fyr iawn, a gwn fod Bethan wedi gwneud pwyntiau da iawn. Pan oeddwn yn Aelod Cynulliad newydd iawn, euthum i gyfarfod â gofalwr ifanc yn Noc Penfro, ac roedd newydd gael ei chadw i mewn yn yr ysgol. Ar yr adeg honno, credaf ei bod tua 13 a hanner neu 14 oed. Nid oedd wedi gallu rhoi ei gwaith cartref i mewn ar amser. Pan gyrhaeddais ei chartref, cefais fraw o weld ei bod yn edrych ar ôl ei mam a oedd yn dioddef o iselder drwg iawn. Roedd ei mam yn dioddef o iselder oherwydd ei bod yn edrych ar ôl ei mab hŷn anodd, awtistig, a'i gŵr a oedd mewn cadair olwyn. Felly, roedd un ferch fach yn ysgwyddo baich y teulu cyfan hwnnw. Nid oedd gan yr ysgol unrhyw syniad fod ganddi'r fath gyfrifoldeb gofalu, felly pan ai i'r ysgol yn edrych yn hŷn na finnau mae'n siŵr, nid oedd ganddynt unrhyw gydymdeimlad â'r ffaith nad oedd hi wedi gallu gwneud ei gwaith cartref.

Felly, Weinidog, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hwn: rwyf am sôn am y pwynt a wnaeth Bethan hefyd ynglŷn â sut y mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn ymateb i bobl ifanc sy'n ofalwyr. Bydd gofalwyr ifanc yn colli gwerth tua 48 diwrnod o ysgol ar gyfartaledd. Mawredd. Os ydych yn ei ddweud yn gyflym, nid yw'n swnio'n llawer iawn, ydy e? 48 diwrnod. Dyna dros naw wythnos a hanner o ysgol. Nid colli ysgol drwy chwarae triwant neu fynd ar wyliau gyda'ch ffrindiau neu beth bynnag yw hynny. Mae hynny oherwydd eich bod yn edrych ar ôl rhywun ac rydych wedi blino gormod i ddod yn ôl i mewn. Weinidog, hoffwn weld rhyw fath o system lle mae pob plentyn ym mhob ysgol, os oes ganddynt gyfrifoldeb gofalu, yn cael eu cofrestru, yn cael eu cofnodi, yn cael cymorth bugeiliol, ac yn cael oedolyn arall sy'n fwy na hwy, gydag ysgwyddau ychydig yn fwy, sy'n gallu eu helpu i ymladd eu ffordd drwy'r sefyllfa anodd iawn y maent ynddi.

Rwyf am gyflwyno un achos arall i chi: bachgen ifanc a'i fam. Byddai'r bachgen ifanc yn dod adref bob dydd, ei galon yn curo'n galed, yn gobeithio y bydd ei fam yn iawn. Roedd ganddi salwch a olygai y byddai'n cwympo i'r llawr yn gwbl ddirybudd. Roeddent yn byw mewn tŷ â grisiau. Roedd yr unig doiled yn y tŷ i fyny'r grisiau. Felly, byddai ofn arno y byddai hi'n mynd i fyny'r grisiau yn ystod y dydd ac y byddai'n disgyn i lawr y grisiau. Ar ôl llawer o lobïo, llwyddasom i gael y cyngor sir i ddod o hyd i fyngalo i'r uned deuluol honno symud i mewn iddo. Problem wedi'i datrys, ond fe ddywedodd y cyngor, 'Na, fe allwch gael y byngalo newydd hyfryd hwn, ond wyddost ti beth, fachgen bach? Mae angen cael gwared ar dy gi anwes.' Dewch. Rhaid inni fod yn fwy caredig. Rydym yn dweud ein bod fel cymdeithas yn dibynnu ar garedigrwydd dieithriaid i helpu i unioni'r diffyg yn ein system am nad oes gennym ddigon o arian, am nad oes gennym ddigon o bobl, ond mawredd, rydym yn gosod rhwystrau yn y system honno. Ac weithiau nid yw'r wladwriaeth ei hun yn dangos y caredigrwydd y gofynnwn amdano.

Felly, Weinidog, cerdyn neu ryw fath o gydnabyddiaeth fod pob plentyn yn yr ysgol yn cael ei nodi. Ac yn olaf, ffordd integredig o sicrhau bod gofalwr ifanc yn cael rhyw fath o gymorth sy'n cydberthyn o fewn y cynghorau sir lleol neu ofalwr cymdeithasol iddynt i'w helpu i ddeall y sefyllfa. Nid ydynt am osgoi cyfrifoldeb; maent yn caru'r aelod o'u teulu, ond mae angen ein help arnynt. Plant ydynt yn gyntaf. Hyd yn oed os ydynt yn 16 neu'n 17, mae'n dal i fod yn faich anferth a thrwm.

16:40

Mae gwir raid inni ofalu am ofalwyr, oherwydd os nad ydym yn gwneud hynny, nid ydym yn gweithredu gofal iechyd darbodus, ac yn y pen draw bydd hynny'n peri i'r system fod yn llawer drutach yn ogystal ag yn llawer llai ymatebol i anghenion unigolion sydd angen y gofal hwnnw. Rwy'n meddwl am etholwr oedrannus, yn ei 80au hwyr, sy'n dal i edrych ar ôl ei mab awtistig yn ei 50au. Rwy'n poeni am hynny, oherwydd rwy'n teimlo nad oes cynllun ar gyfer y ffaith anorfod y bydd yr ofalwraig hon yn marw. Ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r gwasanaethau cymdeithasol ei ystyried.

Credaf hefyd fod angen inni gydnabod ymrwymiad gydol oes rhieni sydd â phlant nad ydynt byth yn mynd i dyfu'n oedolion annibynnol oherwydd anableddau sydd ganddynt. Rwy'n meddwl am y rhieni hyn sy'n gwybod mai gallu gwybyddol plentyn pump oed sydd gan eu plentyn, ac yn anochel, maent yn mynd i farw cyn eu plentyn, ac mae sicrhau bod ganddynt drefniadau hirdymor ar gyfer yr adeg ar ôl iddynt farw mor bwysig iddynt. Hyd yn oed os oes ganddynt arian, mae'n rhaid iddynt wybod pwy sy'n mynd i fod yn gofalu am yr unigolyn pan fyddant wedi mynd, gan nad dyna batrwm arferol pethau, ac mae'n gwbl hanfodol.

Wrth edrych ar y cynllun 'Cymru Iachach', a gyhoeddwyd ddydd Llun, nodaf ein bod yn sôn am weithio mewn gwir bartneriaeth, ond wedyn ni allaf weld fawr o ddim mewn gwirionedd ynglŷn â sut y byddwn yn gweithio ar gydgynhyrchu gyda gofalwyr i ddatblygu'r cynlluniau hyn, oherwydd credaf fod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n falch iawn o weld ar Twitter fod partneriaeth datblygu rhanbarthol Caerdydd heddiw wedi lansio eu hymrwymiad i ofalwyr, sy'n arwydd o sut y mae'r sefydliad hwnnw, o leiaf, o ddifrif ynglŷn â'r trefniant cytundebol sydd ganddynt gyda gofalwyr. Felly, hoffwn yn fawr glywed gan y Gweinidog sut rydym yn mynd i ymgysylltu â rhieni, nid yn unig siarad â hwy a gwrando arnynt, ond gweithio ar gydgynhyrchu atebion a fydd yn eu galluogi i barhau i fod yn ofalwyr llwyddiannus.

Er bod ein dadl wedi sôn am ein gofalwyr ifanc a'r gwaith gwych a chalonogol y maent yn ei wneud, fel hyrwyddwr pobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn dynnu sylw at waith ein gofalwyr hŷn yng Nghymru. O'n 370,000 o ofalwyr di-dâl, mae tua 24 y cant—dyna 90,000—dros 65 oed, sef y gyfran uchaf yn y DU. Mae 65 y cant yn dweud bod ganddynt broblemau iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Yn wir, mae dros ddwy ran o dair yn dweud bod yn ofalwr yn effeithio'n niweidiol ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Er bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi ehangu'r diffiniad o ofalwr ac wedi rhoi newidiadau ar waith i asesiadau gofalwyr, mae Gofalwyr Cymru wedi nodi nad oes llawer o dystiolaeth fod y Ddeddf wedi gwella bywydau ein gofalwyr.

Nawr, mae yna ddau bwynt allweddol yr hoffwn roi sylw iddynt o ran sut y gellid gwella bywydau gofalwyr hŷn, a gofalwyr o bob oed yn wir: asesiadau effeithiol o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i barhau i ofalu, a gofal seibiant effeithiol o safon uchel. O ran asesiadau yn benodol, mae Gofalwyr Cymru'n nodi efallai fod cynghorau'n gweithredu'n anghyfreithlon os na wneir gofalwyr yn ymwybodol o'r sail gyfreithiol i'r sgyrsiau neu'r asesiadau y maent yn eu cael, gyda rhai cynghorau yn ôl y sôn yn defnyddio sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' fel asesiad, yn hytrach na chyfarfod ffurfiol a phenodol. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn egluro hyn yn llawn i ofalwyr. Mater sy'n peri mwy o bryder hefyd oedd y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfaddef mewn cwestiwn Cynulliad y llynedd, na fyddai'n bosibl pennu faint o ofalwyr a oedd wedi cael asesiad gan awdurdodau lleol oherwydd gwahaniaethau o ran diffiniadau ac amserlenni ar gyfer casglu data. Felly, wrth gwrs, rwyf am annog Llywodraeth Cymru i roi camau ar waith o ddifrif i wella'r sefyllfa, a gofyn sut y mae'n bosibl i'r Llywodraeth fonitro canlyniadau a llwyddiant y polisi hwn heb y data perthnasol.

O ran gofal seibiant, mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wedi tynnu sylw at yr angen am fynediad hyblyg a safonol at seibiant hyblyg. Mae hyblygrwydd yn allweddol yma, oherwydd nid penwythnos i ffwrdd, neu wythnos mewn llety â chymorth yn unig yw gofal seibiant; gall olygu awr yn unig o warchod i alluogi gofalwr i daro i'r siopau, y banc, neu am baned o goffi sydyn gyda'u ffrindiau. Dychmygwch yr effaith y gallai methu gwneud y pethau hynny y byddwn mor aml yn eu cymryd yn ganiataol yn ei chael ar unigolyn.

Rydym yn siarad llawer am unigedd ac unigrwydd pobl hŷn yn y Siambr hon. Gall hyn effeithio ar ofalwyr hefyd. Er eu bod yn cael cwmni'r unigolyn y maent yn darparu gofal ar eu cyfer, gall hyn yn aml eu rhwystro rhag cael amser a hyblygrwydd i weld eu ffrindiau eraill ac aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Rydym yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer gofal seibiant, ac addewid y llynedd o gronfa o £3 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi hyn. Ond unwaith eto, ni welwn fawr o dystiolaeth o gynnydd, a buaswn yn croesawu diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, strwythur y strategaeth hon, sut y mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, a faint o bobl sy'n gweld y manteision ac wedi cael gofal seibiant o dan y cynllun.

Lywydd—Ddirprwy—gwyddom am y gwaith amhrisiadwy y mae gofalwyr yn ei wneud yma yng Nghymru. Gwyddom eu bod yn arbed mwy na £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi, ond gall buddsoddi mewn gofalwyr arbed bron £4 am bob £1 a werir, ac mewn termau ariannol gallai manteision iechyd arbed £7.88 i'r system iechyd am pob £1 a werir. Rhaid i bawb ohonom weithio'n galetach i gydnabod eu hymrwymiad anhunanol i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael ein cefnogaeth lwyr.

Rwy'n disgwyl i Lywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw ac ymrwymo i wella bywydau gofalwyr o bob oed yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:45

Rydw i'n falch o gymryd rhan yn y ddadl allweddol bwysig yma. Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl gerbron. Nid ydw i'n gwybod os rydw i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i wedi bod yn feddyg teulu ers peth amser, ac wedyn yn delio, ac yn gorfod delio, yn gynyddol â'r math o sefyllfa sydd wedi cael ei olrhain eisoes, a hefyd gan gydnabod rydw i'n dal yn islywydd anrhydeddus o Forget Me Not dementia clubs yn Abertawe, a hefyd, bûm, am flynyddoedd lawer yn y gorffennol, yn ymwneud â Chymdeithas Alzheimer yn Abertawe a Crossroads—Gofalu am Ofalwyr yn Abertawe a Chastell Nedd.

Felly, rydym ni wedi clywed y ffigyrau. Rydym ni wedi clywed am y gwaith ymroddedig gan ofalwyr, a gwaith hanfodol, yn wir, gan ofalwyr o bob oed. A beth rydym ni'n sôn amdano ydy gofalwyr anffurfiol, wrth gwrs. Mae gyda ni system o ofalwyr ffurfiol, cyflogedig, ond, yn ei hanfod, brynhawn yma rydym ni'n sôn am ofalwyr anffurfiol, sydd ddim yn cael eu talu. Ac rydym ni yn sôn am beth oedd Angela Burns yn ei ddweud, am garedigrwydd naturiol, achos dyna beth yr ydym ni'n sôn amdano fo yn fan hyn—mae gyda ni ein gwasanaethau statudol, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ond mae'r gwasanaethau statudol yna yn gyfan gwbl ddibynnol ar ofalwyr anffurfiol, di-dâl, fel rydym ni wedi ei glywed, neu buasai'r system jest yn cwympo ar wahân yn deilchion—am deuluoedd ac ati sydd yn gorfod gofalu am anwyliaid, a hefyd yn ymhyfrydu ac yn falch o allu gofalu am anwyliaid, ac eisiau gwneud hynny, ond eisiau rhagor o gefnogaeth, ac, yn wir, hyfforddiant i ddelio â'r sefyllfaoedd anodd yna maen nhw'n ffeindio o bryd i'w gilydd.

Wrth gwrs, mae'r system gymdeithasol dan ormes o achos sgil effeithiau llymder, dim digon o arian, sy'n codi'r trothwy yna i dderbyn cymorth statudol oddi wrth lywodraeth leol. Mae'n rhaid i chi fod â salwch gweddol angheuol rŵan i allu cael gofal yn eich cartref, er enghraifft. Ac, o ochr y gwasanaeth iechyd, mae ein meddygfeydd teuluol ni'r dyddiau yma'n llawn o bobl sydd yn eu 80au. Ugain mlynedd yn ôl, mater prin iawn oedd gweld rhywun yn eu 80au, achos nid oedd yna lot o bobl yn eu 80au bryd hynny. Ond, nawr, mae ein meddygfeydd ni yn llawn pobl yn eu 80au, sy'n destun, wrth gwrs, dathliad llwyddiant y gwasanaeth iechyd, ond mae'r bobl hyn yn aml hefyd efo amryw o afiechydon ac yn gorfod aros gartref rŵan. Ac, wrth gwrs, mae'r gofal yn y cartref hefyd. Ac mae'r pwysau yn disgyn wedyn ar y wraig neu'r gŵr, sydd hefyd yn eu henaint, fel rydym ni wedi ei glywed gan eraill.

Felly, dyna pam—. Ac, wrth siarad efo pobl sy'n gorfod delio â'r sefyllfa yma, ac eisiau delio â'r sefyllfa o salwch yn y cartref, maen nhw eisiau i anwyliaid aros adref, ond maen nhw hefyd eisiau gwybod mwy am y sefyllfa. Maen nhw eisiau hyfforddiant, fel rydym ni wedi ei glywed—yr angen am chwistrellu morffin ac ati. Mae hynny'n sefyllfa weddol gyffredin ac mae pobl eisiau gwybod sut i wneud hynny. Nid ydyn nhw wastad eisiau galw am y meddyg neu am y nyrs—maen nhw eisiau gwneud y gofal eu hunain—ond maen nhw'n pryderu am a ydyn nhw'n gwneud y peth iawn ai peidio—nid ydyn nhw'n gwybod. Mae angen dybryd i gael y gefnogaeth yna a'r hyfforddiant lled arbenigol yna fel y byddan nhw'n teimlo yn fwy cysurus eu byd i allu gofalu am bobl adref, heb feddwl, 'O, efallai rwy'n gwneud y peth anghywir'. Mae angen y wybodaeth a'r hyfforddiant yna.

Wrth gwrs, yn naturiol, mae yna enghreifftiau clodwiw o gefnogaeth sydd ar gael o'r sector wirfoddol, ac nid jest gan y mudiadau yna yr ydw i wedi'u crybwyll, fel Cymdeithas Alzheimer ac ati, ond hefyd Age Cymru ac, yn benodol felly, y clybiau syml yma, Forget Me Not Clubs, yn Abertawe—ie, darparu panad o de ydy hynny, i ddangos cefnogaeth i ofalwyr, i jest rhoi seibiant am gwpl o oriau i'r sawl sydd gyda dementia a'r sawl sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd i allu mynd allan efo'i gilydd a chael rhyw fath o seibiant o'r pwysau sydd yn y cartref. Ac rydym ni wedi clywed am y mentrau sy'n cefnogi ein gofalwyr ifanc hefyd.

Mae'r cloc yn tician ymlaen, ond mae yna hefyd angen dybryd am fwy o seibiant. Pan ŷch chi mewn sefyllfa o dan bwysau, o dan ormes, yn y cartref, ie, rydych chi'n derbyn ychydig bach o wybodaeth gan y nyrs neu gan y meddyg, ond mae'r pwysau o orfod gofalu rownd y cloc, fel yr ydym ni wedi ei glywed. A beth yr ydych chi ei eisiau ydy seibiant. Mae angen mwy o seibiant, anffurfiol a ffurfiol. Mae yna nifer yn sector wirfoddol sy'n gallu darparu seibiant—jest eistedd efo rhywun am gwpl o oriau. Dyna beth mae Crossroads yn ei wneud, er enghraifft, i alluogi rhywun jest i fynd allan i siopa, ontefe? Mae'r pwysau mor angerddol. Mae eisiau'r rhyddid yna jest i allu delio â'r sefyllfa.

Ond, yn bennaf oll—dyna'r pwynt roeddwn i eisiau ei wneud wrth gloi—mae'r angen yna i gael mwy o wybodaeth, i roi mwy o hyfforddiant, answyddogol a swyddogol, i'r sawl sy'n gofalu yn y cartref, i'w harfogi nhw i ymdopi'n well â sefyllfaoedd. Maen nhw'n ddigon anodd fel y mae hi heb sôn bod yn rhaid iddyn nhw bryderu a ydyn nhw wastad yn gwneud y peth iawn ai peidio. Diolch yn fawr.

16:50

Mae'n amlwg fod gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas. Boed yn ariannol neu'n gymdeithasol, ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr. Nid yn unig fod mwy o bobl yn gofalu, ond maent yn gofalu am fwy o amser. Ac mae nifer y bobl sydd angen gofal a'r nifer sydd angen gofal am gyfnodau hirach o amser wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'n hanfodol felly ein bod yn cydnabod i ba raddau y mae ein heconomi yn dibynnu ar y gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a ffrindiau.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n clywed yr holl gyd-Aelodau yma. Mae fy ngwraig wedi bod yn anabl dros y 12 mlynedd ddiwethaf ac yn ddiweddar iawn fe gafodd strôc. Nid oes gofalwr—rwyf fi a fy nheulu yn edrych ar ei hôl ddydd ar ôl dydd. Yr hyn a wnawn, rydym yn rhoi ei meddyginiaeth y mae'n rhaid iddi ei gymryd bum gwaith y dydd mewn potiau gwahanol, ac yn rhoi'r amserau arnynt, ac yna, pan fyddaf yn dod yma, rwy'n rhoi larwm ar ei ffôn symudol ac yn ei roi o fewn cyrraedd iddi. Mae hi'n cael trafferthion wrth godi yn y bore—mae hynny'n beth arall. Ni all godi. Dros y 12 mlynedd diwethaf, nid wyf wedi cael gwyliau am na allaf ei gadael ar ei phen ei hun. Mae hi'n edrych yn iach fel cneuen, ond mewn gwirionedd mae hi'n gwbl anabl. Mae ei chorff yn cymryd llawer o feddyginiaeth bob dydd. Fel mae'n digwydd, gallaf ddychmygu—. Mae'r hyn y mae gofalwyr yn ei wneud yn y wlad hon yn un o'r swyddi mwyaf aruchel, di-dâl, ar ran eu hanwyliaid. Nid wyf yn meddwl y gall y genedl dalu digon iddynt, gyda phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed—mae un o bob 20 o'n pobl ifanc yn colli ysgol oherwydd eu bod yn gofalu am eu hanwyliaid. Rwy'n siŵr fod fy merch—mewn gwirionedd, pan fydd hi'n dod adref, byddaf yn mynd ar deithiau Cynulliad a phethau eraill. Fel arall, ni allaf adael y wlad.

Pe na bai cyfran fach o'r bobl sy'n darparu gofal yn gallu gwneud hynny mwyach, byddai baich y gost yn sylweddol. Mae'r ddadl hon y prynhawn yma yn ymwneud â chefnogi gofalwyr fel eu bod yn gallu parhau i wneud y gwaith hanfodol rydym yn ei werthfawrogi cymaint. Hoffwn gyfeirio fy sylwadau y prynhawn yma at un agwedd ar y cymorth hwn: yr hawl i seibiant hyblyg o ansawdd uchel. Os ydych yn ofalwr yn edrych ar ôl aelod o'r teulu neu ffrind, mae'n waith hynod o werth chweil ond yn heriol iawn hefyd. Gall seibiant, hyd yn oed am ychydig ddyddiau'n unig, roi hwb i'ch egni a'ch brwdfrydedd. Mae gwybod y gallwch ddianc am seibiant ynddo'i hun yn gymhelliant mawr, yn enwedig pan ydych yn hyderus y bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal da yn eich absenoldeb.

Ond fel y dywedodd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wrth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar, gall fod yn arbennig o anodd i ofalwyr gael gofal seibiant, er gwaethaf eu hawl i'w gael. Aeth yr ymddiriedolaeth rhagddi i awgrymu y dylai awdurdodau lleol glustnodi cyllid ar gyfer toriad byr a seibiant fel rhan o ffrwd ariannu hirdymor. Byddai hyn yn cael ei gyd-drefnu gan y trydydd sector a'i ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn amcangyfrif y byddai cronfa les i ofalwyr, yn debyg i'r gronfa seibiant byr yn yr Alban, yn fesur ataliol buddsoddi-i-arbed. Maent yn honni—ac rwy'n dyfynnu—y byddai buddsoddi

£1.4 miliwn y flwyddyn…yn cynhyrchu dros 53,000 awr o seibiannau ychwanegol i ofalwyr.

Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u lles ond hefyd ar gynaliadwyedd gofalu am anghenion cynyddol gymhleth yn y cartref. Yn gyfnewid am fuddsoddiad cymharol fach, byddai i'r gronfa hon

fantais hirdymor o helpu i liniaru galw ychwanegol neu anghynaladwy ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyflwyno a datblygu strategaeth seibiant genedlaethol. Maent wedi addo £3 miliwn o arian ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant. Ond mae cynnydd yn erbyn yr ymrwymiad wedi bod yn araf ac nid ydym yn gwybod eto sut y defnyddiwyd yr arian hwn gan awdurdodau lleol.

Ddirprwy Lywydd, awgrymodd asesiad effaith a gyhoeddwyd gan yr adran iechyd yn Lloegr ym mis Hydref 2014 y byddai pob £1 a werir ar gefnogi gofalwyr yn arbed £1.47 i gynghorau mewn costau gofal amgen ac yn creu budd o £7.88 i'r system iechyd ehangach. Mae gofalwyr yn gwneud mwy nag erioed i gefnogi eraill. Mater i ni yw sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. Diolch.

16:55

Fel llawer o gyd-Aelodau yma heddiw, rwyf finnau hefyd wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi a hyrwyddo gwaith gofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel y dywedwyd, mae yna 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sef 12 y cant o'r boblogaeth, a'r gyfran uchaf yn unrhyw ran o'r DU. Rydym yn gwybod bod gofalwyr sy'n darparu cymorth yn arbed yr hyn sy'n cyfateb i dros £8 biliwn y flwyddyn i'r wladwriaeth. Mae hwnnw'n swm syfrdanol, ac mae'n amlygu'r ddyled sydd arnom i ofalwyr. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cydnabod hyn drwy sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y gofalwyr eu hunain.

Rwy'n falch fod y ddyletswydd hon wedi ei hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Byddaf yn cefnogi'r gwelliant yn enw arweinydd y tŷ sy'n adlewyrchu hyn. Rwyf hefyd yn falch fod rôl gofalwyr ac yn bwysicaf oll, yr angen i barhau i gefnogi a buddsoddi yn eu gwaith di-dâl, sy'n aml heb ei gydnabod wedi'i gynnwys yn 'Cymru Iachach'. Er mwyn cyflawni'r nodau pwysig sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid inni fod yn ofalus na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n gosod mwy o faich ar ysgwyddau gofalwyr. Rhaid inni hefyd gofio fod bod yn ofalwr yn rhywbeth a all ddigwydd i unrhyw un ohonom. Fel y mae Gofalwyr Cymru yn ein hatgoffa, bob dydd, daw 6,000 o bobl yn ofalwyr. Mae Wythnos y Gofalwyr, sy'n cyd-daro, yn bwysig iawn, â Diwrnod Empathi 2018, yn gyfle i ni roi gofalwyr yn y canol a gwneud yn siŵr y gallwn ymateb i'r hyn sy'n gallu bod yn brofiad hynod o anodd ac unig.

Rwyf am fynd i'r afael yn awr â'r heriau penodol a wynebir gan ofalwyr ifanc. Dyma faes lle mae gennyf rywfaint o brofiad proffesiynol. Fel athrawes ysgol uwchradd, roeddwn yn ymwneud â darparu gofal a chymorth bugeiliol i ofalwyr ifanc, a gwn yn iawn am yr effaith y gall eu cyfrifoldebau eu cael ar eu hastudiaethau academaidd, eu bywyd cymdeithasol, eu hyder a'u lles. Yn rhy aml, yr her i athrawon mewn gwirionedd yw nodi pwy sy'n ofalwyr, oherwydd gall plant ddod atoch neu gael eu hanfon atoch am amryw o wahanol resymau, ond ni fyddwch yn gweld tan i chi ymchwilio a phlicio'r haenau o broblemau eu bod yn gofalu am berthynas. Nid ydynt yn ystyried eu hunain yn ofalwyr; maent yn credu eu bod yn gwneud yr hyn sy'n rhaid ei wneud i helpu i gynnal eu teuluoedd, dyna i gyd.

Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ddatblygu canllaw cam wrth gam i ysgolion ar ofalwyr ifanc. Fe'i lluniwyd i helpu i adnabod a chefnogi gofalwyr mewn lleoliadau addysgol cyn gynted â phosibl. Edrychaf ymlaen hefyd at yr adolygiad thematig y mae Gweinidogion wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei gynnal gan Estyn i'r modd y caiff gofalwyr ifanc eu nodi a'u cefnogi yn yr ysgol ac yn y colegau.

Yn fy mwrdeistref sirol yn Rhondda Cynon Taf, mae pob ysgol uwchradd yn hyrwyddwr gofalwyr ifanc dynodedig, ac mae'r broses wedi dechrau cyflwyno rolau tebyg mewn ysgolion cynradd hefyd, gan sicrhau bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc sy'n ofalwr unigolyn amlwg y gallant droi atynt am gymorth a chyngor. Ac mewn gwirionedd mae hynny mor bwysig. Rwy'n ffodus—

17:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny, os oes gennych amser? Diolch. Yr hyrwyddwyr gofalwyr rydych yn sôn amdanynt mewn ysgolion—a ydych yn rhagweld mai rhan o'u rôl fydd sicrhau eu bod yn cael asesiad ffurfiol gan awdurdodau lleol neu bwy bynnag y bydd y gwaith wedi'i roi ar gontract allanol iddynt ac y caiff anghenion y gofalwyr hynny eu diwallu yn sgil hynny? Ac a ydych chi hefyd, fel aelod o feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, yn cytuno y dylid cyhoeddi'r wybodaeth honno?

Wel, mae gan hyrwyddwyr gofalwyr rôl fwy anffurfiol yn cefnogi pobl ifanc ac wrth gwrs, mae yna wasanaethau eraill yn rhan o hyn, megis gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hwn yn fath o ymateb sylfaenol ar lawr gwlad sy'n darparu'r cymorth a'r gofal o ddydd i ddydd hwnnw.

Yn fy etholaeth fy hun, rwy'n ffodus o gael prosiect gofalwyr ifanc cryf iawn. Mae prosiect gofalwyr ifanc Gweithredu dros Blant Rhondda Cynon Taf yn gwneud gwaith arloesol a chadarnhaol sy'n wirioneddol bwysig. Ar hyn o bryd, maent yn darparu gwasanaethau i 79 o rai rhwng pump a 18 oed ar draws y fwrdeistref sirol. Plant sy'n gofalu am rieni'n unig yw'r rhain, gan fod yna brosiect arall yn cynnig cymorth i ofalwyr sy'n frodyr a chwiorydd. Efallai mai crafu'r wyneb yn unig y mae'n ei wneud gan y gallai fod llawer mwy o blant a phobl ifanc yn darparu gofal nad ydynt wedi cael eu nodi eto. Mae'r prosiect yn darparu gweithgareddau grŵp sy'n briodol i oedran mewn lleoliadau cymunedol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc fynd i ffwrdd, i gael seibiant, i gael ychydig o hwyl ac i allu bod yn blant. Maent hefyd yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol. Gallai hynny olygu mewn perthynas ag addysg, ond pethau ymarferol hefyd. Mae rhai o'r storïau am y bobl ifanc aruthrol y maent yn eu helpu yn syfrdanol, fel y plentyn ifanc a helpai ei mam i baratoi poteli, newid cewyn a golchi dillad ar gyfer ei brawd neu chwaer newydd-anedig. Roedd y fam wedi cael strôc wrth roi genedigaeth, a thair oed oedd yr ofalwraig ifanc honno.

Er mai nod y prosiect yw cynorthwyo gofalwyr ifanc a'u teuluoedd i gael y gwasanaeth gorau, rwyf am orffen drwy roi'r llwyfan i'r gofalwyr ifanc hynny. Un o'r ffyrdd y mae Rhondda Cynon Taf wedi eu helpu yw drwy sefydlu Young Carers Aloud, eu côr sydd wedi ennill gwobrau. Mae eu caneuon i gyd ar gael ar YouTube. Buaswn yn annog yr ACau i wrando arno. Fel y dywed geiriau eu caneuon, yr hyn y byddent yn ei hoffi yw i bobl eu helpu i gyrraedd yno, nid rhyw ddiwrnod, ond yn awr.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, ac fe hoffwn i ddiolch i'm cyd Aelodau Cynulliad am eu holl gyfraniadau. Mae cryfder y drafodaeth yn dangos yn glir bod rhaid i'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth i sicrhau bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i fyw yn dda. 

Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â'r prif bwyntiau a godwyd, er mai amser, fel arfer, yw'r gelyn yma, gan fod yna lawer o welliannau a nifer o bwyntiau wedi cael sylw.

Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 4. Gofalwyr di-dâl, yn wir, sy'n darparu 96 y cant o'r gofal yng Nghymru ac mae'n werth dros £8 biliwn. Mae hyn yn hollol anghredadwy; mae'n dangos y gwerth economaidd cudd sydd wedi'i ychwanegu at y tosturi a'r cariad a'r gofal y maent yn ei ddangos. Mae'n peri pryder i mi fod rhai gofalwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ond rydym bellach yn siarad fwyfwy â gofalwyr sy'n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ac sy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar lawr gwlad yn cymryd sylw ohonynt a'n bod yn rhoi camau rhagweithiol iawn ar waith i sicrhau y gallant gael cymorth ymarferol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain hefyd.

Mae ein deddfwriaeth drawsnewidiol, sydd wedi'i chrybwyll, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi hawl i ofalwyr gael cymorth sy'n gyfartal â'r cymorth y mae'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt yn ei gael. Mae hawl gan holl ofalwyr Cymru i gael asesiad gofalwr er mwyn nodi'r cymorth sydd ei angen arnynt a rhaid i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion cymwys. Ac os caf droi at bwynt Suzy: nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod am yr adroddiad blynyddol cyntaf a gyhoeddwyd ar y data sy'n ymwneud ag oedolion sy'n derbyn cymorth gofal a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017. Roedd yn dweud bod 6,207 o asesiadau o angen am gymorth wedi'u cynnal rhwng 6 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, gan arwain at ddarparu 1,823 o gynlluniau cymorth, ond hefyd ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ar ddatblygu data newydd mwy cadarn ar gyfer 2019-20 ymlaen. Rydym hefyd ar fin comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant—[Torri ar draws.] Fe drof at agweddau eraill mewn eiliad. Rwy'n mynd i fod yn brin o amser, ond os gallaf, fe ildiaf mewn eiliad—

Yn gyflym iawn, diolch i chi am y wybodaeth honno. Wrth gwrs, yr hyn na chawsom o'r adroddiad hwnnw oedd dealltwriaeth glir o beth y mae 'asesiad' yn ei olygu, felly roedd yn galonogol clywed eich sylwadau canlynol.

Yn wir. Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am yr ymyriad hwnnw.

Nawr, y llynedd—. Gyda llaw, mae'r asesiad hwn hefyd yn cynnwys y cyfeiriad at ofal seibiant ym mhwynt 5 y cynnig gwreiddiol, ac rwyf wedi bod yn rhoi camau ar waith i sicrhau bod yr hawliau ehangach hyn yn cael eu gwireddu, a dyna yw hanfod hyn. Nawr, y llynedd, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid cylchol newydd i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant ychwanegol ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, sydd wedi cael eu crybwyll. Ac o ran gwelliant 7, mae hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu gofal seibiant ychwanegol yn seiliedig ar anghenion gofalwyr yn eu hardal. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i farnu sut y dylid defnyddio hwn. Ond hefyd, gall byrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio'r gronfa gofal integredig hefyd i gefnogi gofalwyr. Rydym wedi ryddhau £50 miliwn o arian refeniw yn 2018-19, a chaiff gofalwyr eu cydnabod fel un o'r grwpiau craidd y dylai'r arian hwn fynd tuag ato.

Mewn perthynas â phwynt 4 y cynnig gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fonitro effaith y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, fel y dywedais, a chyhoeddi data a'i wneud yn fwy cadarn. Dangosodd yr adroddiad blynyddol cyntaf y cyfeiriais ato nad oes digon o ofalwyr yn cael asesiad ar hyn o bryd. Felly, o wybod hyn, ac yn seiliedig ar ymgysylltiad â gofalwyr a sefydliadau cynrychiadol, cyhoeddais dair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru, sef: cefnogi bywydau ochr yn ochr â gofalu, nodi a chydnabod gofalwyr, a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi ymrwymo dros £1 filiwn yn 2018-19 i gefnogi cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau cenedlaethol hyn. Ond yn ogystal, bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn darparu fforwm cenedlaethol yn awr ar gyfer llywio gwelliannau i ofalwyr a darparu ymateb traws-sector i'r heriau sy'n wynebu gofalwyr. Gan gyfeirio at welliant 5, ac i gydnabod y materion sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, rydym wedi gwahodd Plant yng Nghymru, y sefydliad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyllido i redeg y rhwydwaith gofalwyr ifanc, a'r comisiynydd plant, i ymuno â'r grŵp hwn. Byddaf yn mynychu'r cyfarfod cyntaf a fydd yn cyfarfod y mis hwn, a byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan grŵp y Gweinidog.

Nawr, gellir gweld effeithiau gofalu mewn sawl rhan wahanol o fywydau pobl. Felly, rhaid i gymorth i ofalwyr fod yn drawsadrannol, yn drawslywodraethol. Felly, gan gyfeirio at bwynt 3 y cynnig gwreiddiol, gwyddom fod gofalwyr ifanc yn wynebu rhwystrau ychwanegol i addysg, ac maent yn cynnwys rhwystrau ariannol. Felly, rwy'n falch iawn fod newidiadau a wnaed yn sgil adolygiad Diamond o gyllid addysg uwch a chyllid myfyrwyr yn golygu, o 2018-19, y bydd gan bob myfyriwr hawl i gymorth ariannol sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos hefyd, fel y crybwyllwyd gan Vikki ac eraill, gydag ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau nad yw gofalwyr ifanc, a allai fod yn absennol yn amlach na'u cyfoedion, dan anfantais o ran cael mynediad at grantiau addysgol. Gall gofalwyr fod yn hyderus y byddant yn derbyn cymorth ariannol priodol tra byddant yn astudio.

Gan symud ymlaen yn awr at welliant 3, rydym yn cydnabod yr anawsterau y gall pob gofalwr eu hwynebu wrth gydbwyso swydd yn erbyn y galwadau o fod yn ofalwr di-dâl. Rydym wedi dyfarnu cyllid i Gofalwyr Cymru yn 2018-19 ar gyfer rhwydwaith Cyflogwyr Gofalwyr Cymru, ac roeddwn yn falch o'i lansio y bore yma. Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo cyflogwyr mawr a bach ledled Cymru i greu gweithle mwy ffafriol i ofalwyr drwy gymorth un i un, hyfforddiant a digwyddiadau. Ar gyfer oedolion ifanc sy'n ymuno â'r gweithlu, dylai'r cymorth a gynigir gan Gyrfa Cymru fod yn addas ar gyfer yr unigolyn. Ar gyfer gofalwyr ifanc, dylai cyngor ystyried y cyfrifoldebau gofalu gan ganolbwyntio ar opsiynau sydd ar gael—codi dyheadau, meithrin hyder a chefnogi cynlluniau mwy hirdymor.

Os caf droi at welliant 6, mae gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc wedi mynegi diddordeb cryf yn y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ariannu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr—. Roedd hi'n bleser, gyda llaw, gallu cyfarfod â YMCA gyda Bethan yr wythnos diwethaf—fe drof at hynny mewn eiliad. Ond ar hyn o bryd rydym yn ariannu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i gefnogi datblygiad y cardiau hyn. Bydd y cardiau adnabod, a fydd yn atal pobl ifanc rhag gorfod datgelu gwybodaeth am eu rôl fel gofalwyr dro ar ôl tro ac yn egluro, ac yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i gymorth, yn cael eu cynllunio gyda gofalwyr ifanc a'u profi gyda gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon, meddygon a fferyllwyr. [Torri ar draws.] Os caf droi at rai o'r manylion, oherwydd mae'n—. Roedd y gwaith YMCA yn ddefnyddiol iawn ynddo'i hun, ond mae hyn yn mynd y tu hwnt i hynny. Mae'n ymwneud â darparu amrywiaeth o opsiynau i Lywodraeth Cymru ar gyfer dylunio'r cerdyn adnabod cenedlaethol, a ddatblygir gyda gofalwyr ifanc, ac a brofir gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, cynhyrchu'r pecyn cymorth, y canllawiau a'r adnoddau yn electronig ac yn ddwyieithog, hwyluso trafodaeth genedlaethol chwarterol o amgylch y bwrdd er mwyn i wasanaethau gofalwyr allu datrys problemau, cymorth gan gymheiriaid, dysgu, hwyluso'r broses genedlaethol i ofalwyr ifanc allu rhoi adborth yn ddienw am eu profiadau o ymgeisio am gerdyn adnabod a'i ddefnyddio, a darparu adroddiadau chwarterol wedyn i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau gofalwyr—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, Bethan. Mae'n wir ddrwg gennyf. Buaswn wrth fy modd, ond nid oes gennyf amser. Rydym yn hyrwyddo'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc drwy bartneriaid rhwydwaith a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chyflwynir adroddiadau cynnydd yn rheolaidd at sylw grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr.

Nawr, ychydig o bethau eraill wrth orffen. Rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, sy'n awyddus iawn i weithio gyda mi i archwilio'r cymorth sydd ar gael yn y presennol ac a allai fod ar gael yn y dyfodol i helpu gofalwyr ifanc yng Nghymru gyda chostau trafnidiaeth ac i archwilio a ellid cysylltu hyn, yn wir, â'r cerdyn adnabod. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 1 i'r prif gynnig, a gwelliannau 4, 6, 8 a 9 hefyd, yn yr ysbryd y cynhaliwyd y ddadl hon ynddo, ac ysbryd cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod Wythnos y Gofalwyr. Nid yw rhai ohonynt yn berffaith, ond mae'r ysbryd a'r bwriad yn dda a gallwn eu cefnogi.

Rwy'n brin o amser, felly—

17:10

Dirprwy Lywydd, ni allwn fforddio eistedd yn ôl ar y mater o gefnogi gofalwyr. Ni ddylai llesiant corfforol a meddyliol y bobl sy'n cyfrannu fwyaf i'r gymdeithas fod ar waelod ein rhestr o flaenoriaethau.

Ni ddylent fod ar waelod y rhestr; dylent fod ar frig y rhestr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r syniadau y mae'r Aelodau wedi eu cyflwyno heddiw—syniadau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, a grŵp cynghori'r Gweinidog—i wneud y ffordd yr ydym yn cefnogi gofalwyr, yn ifanc a hen, yn real wrth inni symud ymlaen, oherwydd gwyddom fod eu tosturi, eu cariad, a'u gofal yn amhrisiadwy, a byddai'r effaith economaidd pe bai'n rhaid inni ddarparu gofal amgen yn eu lle yn gwbl anfforddiadwy. Diolch yn fawr.

Diolch i bawb am eu cyfraniad yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Fel y dywedodd Suzy Davies ar y dechrau, rhaid inni wella bywydau'r 11 y cant o'r boblogaeth yr ydym yn sôn amdanynt heddiw. Ac fel y dywedodd, mae i Lywodraeth Cymru wrthod cael ei chraffu yn gywilyddus, yn dilyn eu methiant yn ymarferol i arwain cynghorau ar beth y mae'r canllawiau statudol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid yw'n syndod, meddai, fod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi oedolion ifanc sy'n ofalwyr wedi plesio oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn fwy na Llywodraeth Cymru, er fy mod yn nodi sylwadau'r Gweinidog ar y diwedd. Ac wrth gwrs, fe ddiolchodd i'r rhai sy'n gofalu am ofalwyr.

Crybwyllodd Bethan Sayed nifer o bwyntiau perthnasol iawn. Cyfeiriodd at gontractau dim oriau a gofalwyr ifanc—ac mae'n destun pryder dwfn mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o gontractau nad ydynt yn rhai parhaol, gan gynnwys contractau dim oriau, sy'n briodol ar gyfer rhai, ond caiff gormod o bobl eu gorfodi i ymrwymo iddynt er mai dyna'r llwybr anghywir ar eu cyfer—gan fod y canllawiau, yr hyfforddiant a mynediad at wasanaethau seibiant yn digwydd ar sail ad hoc; pwysigrwydd trafnidiaeth i ofalwyr ifanc; rhwystrau i ofalwyr ifanc rhag cael mynediad at feddyginiaeth i helpu eu hanwyliaid; a'r angen i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Gofynnodd Caroline Jones, 'Pwy sy'n gofalu am y gofalwyr?' Ac mae llawer yn ei chael hi'n anodd—nid yw dau o bob tri yn cael digon o gwsg, ac mae gormod yn dioddef o iselder, ac mae Age Cymru yn nodi amrywiadau eang o ran y gofal. Dywedodd fod angen inni wneud mwy i gefnogi gofalwyr di-dâl a galluogi gofalwyr ifanc i gyfuno gofalu ag addysg a hyfforddiant.

Diolchodd Angela Burns o galon i ofalwyr yng Nghymru y byddai cymdeithas yn dod i stop heb eu cyfraniad. Soniodd am garedigrwydd dieithriaid ac yna cyfeiriodd at un neu ddau o achosion, yn enwedig disgybl nad oedd yn cyflwyno ei gwaith cartref yn brydlon, ond nad oedd gan yr ysgol unrhyw syniad am ei chyfrifoldeb gofalu, a gofalwr ifanc arall y dywedwyd wrthynt am gael gwared ar eu ci pan gawsant eu hailgartrefu'n llwyddiannus fel arall.

Soniodd Jenny Rathbone am ofal iechyd darbodus, sy'n golygu bod yn rhaid inni werthfawrogi ein gofalwyr, a'r angen am drefniadau hirdymor ar ôl i riant gofalwr farw, ac yn allweddol, fod angen inni weithio ar gydgynhyrchu gyda gofalwyr.

Canmolodd Janet Finch-Saunders ofalwyr ifanc, ond tynnodd sylw wedyn at waith gofalwyr hŷn, gyda llawer ohonynt yn anabl neu'n dioddef problemau iechyd hirdymor eu hunain, a llawer sy'n byw mewn amgylchiadau ynysig ac unig. Tynnodd sylw at y ffaith y gallai cynghorau fod yn gweithredu'n anghyfreithlon. Soniodd am y diffyg data ar asesiadau gofalwyr, yr angen am seibiant hyblyg ac o ansawdd uchel, ac y gallai buddsoddi mewn gofalwyr arbed £7.88 i'r system iechyd am bob £1 a werir.

Cyfeiriodd Dr Dai at y ffaith bod gwasanaethau statudol yn llwyr ddibynnol ar ofalwyr di-dâl anffurfiol, fod meddygfeydd meddygon teulu bellach yn llawn o bobl hŷn sydd angen gofal yn y cartref a bod angen cefnogi eu gofalwyr gyda gwybodaeth a chymorth, ac yn allweddol eto—gwaith y sector gwirfoddol yn darparu cymorth.

Soniodd Mohammad Asghar fod mwy o bobl yn gofalu ac yn gofalu am amser hwy. Siaradodd yn deimladwy am ei brofiad personol a'i wraig hyfryd, ac rwy'n dweud hynny oherwydd fy mod yn ei hadnabod ac mae hi'n hyfryd. Soniodd am fudd seibiant hyblyg o ansawdd uchel i lesiant a dywedodd nad ydym yn gwybod sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r arian y maent yn ei gael.

Siaradodd Vikki Howells am yr angen i osgoi canlyniadau anfwriadol, am y baich ychwanegol ar ofalwyr, a gofalwyr ifanc nad ydynt yn galw eu hunain yn ofalwyr, a rôl hyrwyddwyr gofalwyr ifanc mewn ysgolion.

Yna dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog, wrth ymateb ar ran y Llywodraeth, fod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi rhoi hawl i ofalwyr sy'n gyfartal â'r hawl sydd gan yr unigolyn yn eu gofal, fod gan bob un hawl i asesiad a rhaid i'r holl awdurdodau lleol ateb y gofyniad hwnnw. Soniodd am arian seibiant cylchol i awdurdodau lleol, sut yr oedd wedi gwahodd Plant yng Nghymru a'r comisiynydd plant i ymuno â'i grŵp gweinidogol, ac o 2018-19 ymlaen, y gall gofalwyr fod yn hyderus y byddant yn cael cymorth ariannol tra'n astudio. Soniodd am ariannu'r gwaith o ddatblygu cardiau adnabod i ofalwyr, sy'n arbennig o berthnasol i athrawon, meddygon a fferyllwyr. Hoffwn nodi bod hyn wedi ei dreialu'n llwyddiannus, gyda chefnogaeth y comisiynydd plant, gan Barnardo's sir y Fflint. Flynyddoedd lawer yn ôl, daethant yma, a rhoi cyflwyniad yn ei gylch ac ni ddigwyddodd dim. Felly, gobeithio, y tro hwn, nad yw hanes yn ailadrodd ei hun. Oherwydd fel y casglodd y Gweinidog, ni allwn eistedd yn ôl ar fater cefnogi gofalwyr.

Nawr, dywed cod ymarfer Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

'Un peth sy’n hollbwysig i’r dull a’r system gyfan yw bod ymarferwyr yn cyd-gynhyrchu gyda phlant, pobl ifanc, gofalwyr a theuluoedd, a chydag oedolion, gofalwyr a theuluoedd... i sicrhau bod pobl yn bartneriaid cyfartal yn y gwaith o gynllunio a darparu eu gofal. Bydd hyn yn cynnwys pennu’r hyn sy’n bwysig iddynt a’r canlyniadau lles y maent am eu cyflawni. Rhaid i awdurdodau lleol beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau yn seiliedig ar ragdybiaethau ynglŷn ag amgylchiadau person.'

Ac unwaith eto:

'Dylai pobl fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau'.

Fodd bynnag, gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd â chylchlythyr y gaeaf Cynghrair Henoed Cymru—credaf eu bod wedi cyfarfod ag ef wedyn i drafod y mater. Gan gyfeirio at y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, roeddent yn dweud nad yw'r gwirioneddau sy'n deillio o'r Ddeddf yn cyflawni'r disgwyliadau cychwynnol; fod yna ddiffyg parhaus yn y ddarpariaeth eiriolaeth; nad yw sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' yn digwydd fel y rhagwelwyd; fod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth awdurdodau lleol yn dal i gael eu gweld fel rhai problematig mewn sawl rhan o Gymru; fod cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn nodi eu bod yn teimlo fel pe baent yn cael eu hallgáu; fod y trydydd sector yn cael eu gweld fel rhai sy'n chwarae rhan ymylol, heb fawr o gyfranogiad strategol os o gwbl a heb fawr o fewnbwn yn y broses o gynllunio rhaglen; a'i bod yn ymddangos bod anghenion unigolion yn dal heb eu diwallu mewn gormod o achosion.

Yr unig reswm pam y setlwyd achos adolygiad barnwrol y mis diwethaf a oedd yn ymwneud â methiant i asesu a diwallu anghenion oedolyn ifanc awtistig ac i ystyried parodrwydd a gallu gofalwr ei rhiant i ddiwallu angen cyn cynnal gwrandawiad llawn oedd oherwydd bod Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i ddarparu ymddiheuriad ffurfiol a rhoi iawndal. Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd asesiadau cynhwysfawr i bobl sydd angen gofal a chymorth a'u gofalwyr, yn unol â'r ddeddfwriaeth. Ac er i'r achos gael ei setlo cyn cynnal gwrandawiad llawn, mae'n darparu cipolwg gwerthfawr er hynny ar sut y bwriedir i'r ddeddfwriaeth hon gael ei chymhwyso, ond sut y mae awdurdodau lleol yn dal i wneud camgymeriadau mawr yn aml.

Ddoe ddiwethaf, cefais e-bost gan riant sy'n gofalu a ddywedai hyn:

Fel oedolyn awtistig fy hun, rwy'n cael trafferth i nodi pan na chyflawnir y ddyletswydd.

Cyfeiriodd at ei thri o blant ei hun, ac mae dau ohonynt eisoes wedi cael diagnosis eu bod ar y sbectrwm, a daeth i'r casgliad:

Gan fod yr ysgol i'w gweld yn benderfynol nad yw'r problemau y mae'r bechgyn yn cael trafferth â hwy yn gysylltiedig â'u hawtistiaeth, nid oes gennyf syniad sut i sicrhau'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Cefais e-bost gan riant arall sy'n gofalu yn sir y Fflint yn ystod y ddadl hon, rhiant plentyn awtistig gydag amryfal anghenion heb eu diwallu, ac roedd hi'n dweud hyn:

Rwy'n dal heb gael asesiad gofalwr o fy anghenion ac anghenion fy merch, er fy mod wedi gofyn am un gyntaf ym mis Ionawr 2014 ac wedi codi'r mater dro ar ôl tro.

Gwyddom fod y gwerthusiad dros dro o'r strategaeth awtistiaeth integredig wedi dweud bod y dull o'r brig i lawr, yn hytrach na chydgynhyrchu, wedi llesteirio'r ffordd ymlaen. Mae gennyf lawer o enghreifftiau eraill mewn llawer o siroedd eraill.

Gallwn fod wedi mynd ymlaen i sôn am Wrecsam a Chonwy ac amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd lle nad yw pethau'n gweithio fel y bwriada'r ddeddfwriaeth iddynt wneud, oherwydd bod gormod o bobl mewn grym yn amharod i rannu'r pŵer hwnnw ac yn dewis a dethol o'r canllawiau, y codau a'r ddeddfwriaeth. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn barod i ddangos arweiniad a'u hwynebu, a gwneud iddynt gydnabod beth y mae hyn yn ei olygu, gyda hyfforddiant priodol a chymorth pan fo angen, mae straeon fel hyn yn mynd i barhau, yn anffodus.

17:20

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Ariannu Ysgolion

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ariannu ysgolion, a galwaf ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Llyr.

Cynnig NDM6739 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.

2. Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer ysgolion;

b) sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac

c) sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n codi i gynnig y ddadl yma ar ariannu ysgolion yn enw Plaid Cymru. A gaf fi ddweud, reit ar y cychwyn fan hyn, nad ydw i'n ddall i realiti llymder, ac mi fyddwch chi'n sylwi nad yw hwn yn gynnig sydd jest yn dweud, 'Rhowch mwy o bres i ysgolion'? Ond nid ydw i chwaith yn fyddar i'r rhybuddion sy'n dod o gyfeiriad y sector ein bod ni'n cyrraedd pwynt, ar ôl blynyddoedd o doriadau a chyllidebau yn lleihau, gyda chostau, wrth gwrs, yn aml iawn yn dal i gynyddu, lle ei bod hi bellach yn anghynaladwy i barhau i ddarparu'r lefel o wasanaeth rŷm ni wedi dod i'w ddisgwyl dros y blynyddau. Ac, wrth gwrs, nid jest fi sy'n dweud hyn. Mi fydd pob un ohonoch chi, rydw i'n siŵr, fel Aelodau etholedig, wedi derbyn gohebiaeth a chyswllt gan benaethiaid, gan lywodraethwyr, gan rieni, gan gynghorwyr a chan undebau athrawon, i gyd yn dweud yr un peth. Maen nhw, wrth gwrs, erbyn hyn yn defnyddio'r geiriau 'creisis ariannu' yn agored yn y cyd-destun yma.

Felly, beth yw'r realiti cyllidebol? Wel, rydym ni'n gwybod bod cyllidebau ysgolion a chyllid fesul disgybl wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf yma. Yn y flwyddyn academaidd yma, mae'r gyllideb addysg yng Nghymru wedi cwympo, o £1.75 biliwn yn 2016-17, i £1.6 biliwn. Yn ôl BBC Cymru, mae cyllidebau ysgolion wedi gostwng gan tua £370 fesul disgybl mewn termau real mewn chwe blynedd. Rydym ni'n gwybod 10 mlynedd yn ôl fod cyllideb ysgolion unigol cyfartalog fesul disgybl yn rhyw £3,500 y flwyddyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd cyllideb pob ysgol unigol, ar gyfartaledd fesul disgybl, yn £4,234, a gyda llaw, roedd yna wahaniaeth o hyd at £1,000 rhwng ambell sir o fewn y ffigur yna, sydd yn ei hun yn dweud stori arall am y sefyllfa ariannu, ac efallai y down ni at hynny yng nghwrs y ddadl yma, rydw i'n siŵr. Ond pe bai'r gwariant fesul disgybl yna wedi codi gyda chwyddiant, wrth gwrs, mi fyddai fe dipyn yn uwch. Yn wir, mi fyddai fe bron i £400 yn uwch fesul disgybl. Felly, mae hynny yn adlewyrchu y toriad termau real yr ydym ni wedi'i weld. Nid oes rhyfedd, felly, fod cyllidebau ysgolion wedi dod yn ansefydlog a bod risg y bydd addysg y disgyblion yna yn dioddef oni bai fod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng cyllido yma.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A ble mae hyn yn ein gadael ni? Wel, rŷm ni'n gwybod bod ysgolion ar draws Cymru yn wynebu sefyllfa lle nad oes modd osgoi gwneud toriadau sylweddol er mwyn ymdopi â’r diffyg ariannol, ac y mae hynny yn golygu, wrth gwrs, toriadau i lefelau staffio, i adnoddau, i gyfleoedd dysgu proffesiynol athrawon, a nifer fawr o agweddau eraill ar weithgaredd yr ysgolion. Mae’r undebau athrawon wedi tynnu’n sylw ni at rai o’r enghreifftiau yma. Mae llai o athrawon, yn anochel, yn mynd i olygu bod maint dosbarthiadau yn mynd i gynyddu—rhywbeth rydw i'n gwybod sy’n agos at galon yr Ysgrifennydd Cabinet; llai o sylw unigol i’r dysgwyr; a chynnydd mewn llwyth gwaith i staff, wedyn, wrth gwrs, yn enwedig o safbwynt marcio ac asesu, a hynny yn ei dro—ac mi ddown ni at hyn hefyd yn nes ymlaen—yn arwain at fwy o straen a mwy o salwch tymor hir mewn sawl achos.

Mae yna ddibyniaeth gynyddol ar staff cynorthwyol yn hytrach nag athrawon cymwysedig. Mae’r gymhareb staff-plant yn gwaethygu, fel yr oeddwn i'n sôn, ac mae’n gynyddol heriol i roi’r sylw dyledus i bob plentyn. Mae yna ddibyniaeth gynyddol hefyd, wedyn, wrth gwrs, ar benaethiaid, yn enwedig mewn ysgolion bach. Nawr, mae gan benaethiaid yn aml amserlen ddysgu eu hunain, wrth gwrs, ond yn gorfod gwneud oriau dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu staff nhw yn cael eu hamser cynllunio, paratoi ac asesu statudol. O ganlyniad, nid ydyn nhw'n derbyn yr amser y mae ei angen arnyn nhw i reoli yr ysgol fel y dylen nhw ei gael.

Mae yna effeithiau negyddol ar y cwricwlwm yn benodol hefyd, wrth gwrs. Mae lleihad yn nifer yr oriau cyswllt i bynciau cwricwlaidd yn un amlwg, athrawon yn aml yn gorfod dysgu ystod ehangach o bynciau, sydd wedyn yn golygu eu bod nhw’n dysgu llai o oriau o fewn eu harbenigedd hefyd, wrth gwrs, a phynciau weithiau, yn ôl rhai o’r undebau, yn diflannu’n llwyr o’r cwricwlwm—cerddoriaeth, drama, ieithoedd tramor modern, pynciau galwedigaethol—am nad oes modd, yn aml iawn, cyfiawnhau rhedeg cwrs gyda nifer cymharol fach o ddisgyblion hefyd. Mae hynny’n cael effaith.

Rydym yn gweld dwysáu cystadleuaeth ddiangen, yn fy marn i, am ddisgyblion, oherwydd yr arian sy’n dod gyda nhw, nid yn unig rhwng ysgolion ond yn enwedig, wrth gwrs, rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach yn y sector ôl-16. Mae yna effeithiau negyddol ar amodau gwaith hefyd. Rydym yn gweld defnydd amhriodol o athrawon yn cyflenwi yn lle eu cydweithwyr weithiau, pan maen nhw mewn sefyllfa o fod dan bwysau. Mae yna ailstrwythuro lwfansau yn digwydd, er bod y cyfrifoldebau ychwanegol yna yn dal yn angenrheidiol. Mae staff yn cytuno i leihau oriau mewn rhai amgylchiadau yn hytrach na chael eu diswyddo, ac, wrth gwrs, os ydyn nhw wedyn yn cael eu diswyddo, mae’r tâl diswyddo hwnnw yn seiliedig ar y cyflog rhan-amser. Mi allwn i fynd ymlaen. 

Yn naturiol, mae’r bygythiadau parhaol yma i swyddi yn creu awyrgylch o ofn ac o ddigalondid ymhlith y proffesiwn. Maent yn tanseilio amodau gwaith ac yn achosi straen a salwch, fel roeddwn yn ei ddweud. Rydw i wedi cyfeirio at y ffigurau yma yn y gorffennol: mae 90 y cant o athrawon yn dweud erbyn hyn na fedran nhw reoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau y maen nhw wedi eu cytundebu i’w gweithio. Mae Estyn yn dweud bod athrawon yng Nghymru yn gweithio, ar gyfartaledd, 50 awr yr wythnos, ac nid oes rhyfedd, felly, ein bod ni wedi gweld nifer y dyddiau gwaith y mae athrawon yn eu colli o ganlyniad i stres wedi mwy na dyblu yn y blynyddoedd diwethaf i dros 50,000 o ddyddiau gwaith y flwyddyn.

A’r eironi pennaf, wrth gwrs, yw bod hyn oll yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn uchelgais Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at y cwricwlwm newydd—rhywbeth yr ydym i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i’w weld: cwricwlwm a fydd yn eang, yn hyblyg ac yn rhyngddisgyblaethol—heb sôn, wrth gwrs, am awydd y Llywodraeth i hyrwyddo pethau fel ieithoedd tramor modern, y pynciau STEM yr oeddwn i’n sôn amdanyn nhw, lle'r ydym ni'n awr yn stryglo i weld y rhannau yna o’r cwricwlwm yn cael eu delifro fel y liciem ni. Mae uchelgais y Llywodraeth i roi cefnogaeth i’n disgyblion mwyaf bregus yn cael ei danseilio, ac i drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol, fel rŷm ni wedi ei weld, a chyrraedd yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—mae hyn oll yn cael ei danseilio gan y sefyllfa ariannu sydd yn wynebu yr ysgolion.       

Nawr, mae’r toriadau yma, fel yr ŷm ni i gyd yn ei wybod, eisoes wedi effeithio ar lawer o weithgareddau anstatudol—mae gwersi offerynnol ac yn y blaen yn cael eu codi yn y Siambr fan hyn yn gyson—ond nawr mae’r toriadau yn brathu i’r fath raddau fel eu bod nhw yn bygwth y gofynion statudol.

Nawr, mae pawb yn deall bod y sefyllfa yma yn deillio o'r setliad ariannol y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod setliad Llywodraeth Cymru, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Ond, erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle bydd yr effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion, fel ei gilydd, mor niweidiol fel bod yn rhaid inni ystyried y sefyllfa yma yn argyfwng. Mae'n rhaid inni felly godi llais yn erbyn y parhad yma o safbwynt y toriadau, ac mae'n rhaid inni hefyd weld beth allwn ni ei wneud i gydweithio yn fwy effeithiol i leihau'r effaith andwyol yma y mae'n ei chael ar ein hysgolion ni.

Felly, mae cynnig Plaid Cymru, yn ei hanfod, yn galw am dri pheth. Mae'r amser wedi dod inni ddwyn ynghyd holl randdeiliaid allweddol y system addysg yng Nghymru i ystyried pa opsiynau sydd yna, mewn gwirionedd, i edrych eto ar y modd y mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu. Rwy'n dweud hynny oherwydd yr ail bwynt sydd yn y cynnig, sef bod y tirlun ariannu ysgolion yng Nghymru, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn un dyrys, yn un aml-haen a biwrocrataidd ac, yn wir, yn un anghyson ar draws Cymru. O ganlyniad, wrth gwrs, nid yw hynny'n gydnaws â chyfundrefn sydd yn dryloyw, lle mae modd sicrhau atebolrwydd a dal pobl i gyfrif hefyd. Mi ymhelaethaf ychydig ynglŷn â hynny.

Rwyf wedi codi yn y gorffennol y modd y mae'r Llywodraeth yn ariannu'r gyfundrefn addysg, a sut y mae'r pres yn cyrraedd ysgolion mewn sawl ffordd wahanol—yn bennaf, wrth gwrs, drwy awdurdodau lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd drwy'r grant cefnogi refeniw, yr RSG, a pheth yn mynd ar ffurf grantiau penodol at ddibenion penodol, wedi cael eu 'ring-fence-io'. Mae'r Llywodraeth hefyd yn darparu peth arian ar gyfer y consortia addysg. Mae peth arian yn mynd yn fwy uniongyrchol at yr ysgolion drwy grantiau a rhaglenni eraill. Wedyn, mae ariannu chweched dosbarth, wrth gwrs, yn digwydd drwy gyfundrefn wahanol eto, ac rŷm ni'n dechrau gweld, rwy'n credu, pa mor ddryslyd y mae'r dirwedd yna yn gallu bod. Wedyn, ychwanegwch chi at hynny y ffaith bod gennych chi 22 awdurdod lleol, 22 fformiwla ariannu gwahanol ym mhob sir, ac mae'r sefyllfa'n dwysau.

Mae anghysondebau hefyd i'w gweld, os caf i ddweud, yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y modd y mae cyllid yn cael ei dargedu i wella canlyniadau addysgol. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor addysg wedi cyfeirio ato a thynnu sylw ato ar sawl achlysur. Rŷm ni'n cofio'r modd yr aeth y Llywodraeth ati i ddileu'r grant gwella addysg ar gyfer dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr a lleiafrifoedd ethnig, a'i brif-ffrydio i mewn i'r RSG, gan honni nad oedd hynny'n mynd i arwain at golli'r canlyniadau addysgiadol yr oedd y Llywodraeth yn dymuno eu sicrhau pan oedd y grant wedi'i neilltuo.

Ond wedyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amddiffyn yn gryf yr angen am arian penodol wedi'i neilltuo ar gyfer y PDG er mwyn sicrhau canlyniadau addysgol ar gyfer y rhai sydd yn gymwys am ginio ysgol am ddim. Felly, mae'r ddau safbwynt yna gan yr un Llywodraeth yn gwrth-ddweud ei gilydd i bob pwrpas, ac rwy'n meddwl bod hynny'n enghraifft, efallai, o'r anghysondeb rydym yn dod ar ei draws yn gyson o fewn y gyfundrefn ariannu.

A gaf i fod yn glir fan hyn? Nid yw Plaid Cymru, yn sicr, yn galw am ariannu uniongyrchol i ysgolion—rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl mai dyna le rwy'n mynd ar hwn. Rŷm ni'n gweld rôl allweddol i awdurdodau lleol yn hyn o beth fel modd i sicrhau bod mwy o gydlynu, bod mwy o gysondeb. Mae'n dod â chyfle i rannu arbenigedd, rhannu adnoddau, yr holl economies of scale, a'r holl resymau eraill mae eraill eisoes yn y gorffennol wedi'u hamlinellu dros sicrhau bod yna gydgordio yn digwydd ar lefel leol. Ond, rwy'n meddwl bod yna le i edrych ar greu cyfundrefn fwy syml a mwy cyson. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi bod yn galw hefyd, er enghraifft, am gyllidebu mwy tymor hir, a fyddai'n caniatáu iddyn nhw gynllunio'n fwy effeithiol a defnyddio'r pres yn fwy effeithlon yn sgil hynny, yn enwedig o safbwynt materion staffio.

Rwy'n sylweddoli bod yr amser yn mynd. Mae rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys rhai o'r undebau athrawon, wedi galw am fformiwla ariannu genedlaethol er mwyn dod â'r loteri cod post yna i ben—roeddwn yn sôn amdani gynnau: y £1,000 o wahaniaeth yna—a rhoi i bob disgybl yr un hawl, medden nhw, a chyllideb deg. Mae hynny'n dod â ni at drydydd pwynt y cynnig: beth fyddai'n cynrychioli cyllid teg? A oes gan y Llywodraeth syniad o faint y maen nhw'n credu y dylid ei wario fesul disgybl er mwyn sicrhau bod pob un yn derbyn addysg safonol? Nid wyf yn siŵr. Mae pobl yn cymharu'n aml iawn Cymru a Lloegr, ac rwy'n meddwl bod honno'n ddadl ffug, ond mi wnaf i ymateb i rai o'r gwelliannau eraill ar y diwedd.

Mae’r NAHT wedi dweud bod angen archwiliad cenedlaethol o gyllid ysgolion er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn y system i alluogi ysgolion i gyflwyno’r agenda o ddiwygio cyffrous yma yr ydym ni i gyd am ei weld. Rwy’n meddwl y byddai hynny yn syniad da. Mi fyddai archwiliad neu awdit cenedlaethol yn rhoi darlun cliriach, mwy gonest i ni o’r sefyllfa gyfredol ymhob rhan o Gymru, ac yn fan cychwyn, rwy’n meddwl, ar gyfer y drafodaeth genedlaethol yma sydd ei hangen ar ariannu ysgolion yng Nghymru.

Fel yr oeddwn i’n dweud, gwnaf i ddelio â’r gwelliannau wrth gloi, ar ôl clywed yr holl gyfraniadau. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, nid jest dadl yn dweud, 'Rhowch fwy o arian i ysgolion' yw hon. Rwyf i yn deall realiti llymder, ond rwyf hefyd yn grediniol mai adeg o lymder yw’r amser pwysicaf i fuddsoddi yn ein plant a’n pobl ifanc, er mwyn eu harfogi nhw a’u hymbweru nhw i adeiladu dyfodol gwell a mwy llewyrchus na’r un y maen nhw wedi ei etifeddu. Ac os na fydd y Llywodraeth yma yn blaenoriaethu ariannu addysg yn ddigonol, yna mi fyddwn ni i gyd yn talu’r pris.

17:35

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:

a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;

b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;

c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;

d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a

e) buddsoddi mwy na  £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Reckless.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20 o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. 

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Rwyf hefyd yn canmol Plaid Cymru ar eu cynnig, ac rydym yn cytuno ag ef. Fe ofynnaf iddynt ddeall mai ein hunig reswm dros bleidleisio fel arall fydd er mwyn sicrhau pleidlais ar ein gwelliant ein hunain.

Mae'r argyfwng ariannu ysgolion yng Nghymru yn ddifrifol. Mae NASUWT Cymru yn cyfrif bod £678 o fwlch cyllid y disgybl bellach rhwng Cymru a Lloegr. Credwn ei bod yn bwysig nodi bod hynny er gwaethaf y fframwaith cyllidol newydd a gytunwyd gyda San Steffan sydd ar hyn o bryd yn darparu £1.20 o wariant y Llywodraeth yng Nghymru am bob £1 a werir yn Lloegr. O ystyried yr anghysondeb ymddangosiadol hwn, rhaid inni ofyn beth y mae'n ei awgrymu ynglŷn â lle mae addysg ar restr flaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Llywodraeth, ond mae'n bwysig nodi mai'n anfoddog y cytunwyd i lawer o'r arian ychwanegol y cyfeiriant ato yn y gwelliant gyda ein hunig AC Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn sicrhau bod y Blaid Lafur yn parhau mewn grym.

Gwn fod Llafur bellach yn rhedeg oddi wrth unrhyw beth a ddywedodd neu a wnaeth Tony Blair erioed, ond credaf y byddai llawer ohonom o amgylch y Siambr hon yn gwerthfawrogi pe baent yn gwneud eithriad ar gyfer 'Addysg, addysg, addysg'. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, efallai y dylai agor trafodaeth gydag eraill yn y Siambr hon ynglŷn â sut y gallwn wneud addysg yn flaenoriaeth uwch nag y byddai arweinydd Llafur newydd yn ei ganiatáu.

Yn ymarferol, beth y mae llai o arian y disgybl wedi ei olygu? Yn fwyaf amlwg, mae'n effeithio ar safonau, ac rydym wedi ei drafod droeon yn y Siambr hon. Rydym wedi llithro ymhellach y tu ôl i Loegr ym mhob un o sgoriau'r tair Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae'r gyfradd sy'n pasio TGAU ar raddau A* i C yn is nag y bu ers mwy na 10 mlynedd. Rydym hefyd yn gweld llai o ddewis i ddisgyblion. Rydym wedi gweld ysgolion yn cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan leihau'r dewis o ran lle y gall plant gael eu haddysgu a chynyddu'r pellter y mae'n rhaid iddynt deithio. Dros 10 mlynedd, cafodd 157 o ysgolion a gynhelir eu cau, yn ôl ateb ysgrifenedig i Darren Millar, ac roedd 60 y cant o'r rheini mewn ardaloedd gwledig.

Ar wariant, sylweddolaf fod yr Aelod yn newydd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ond heb fod mor bell yn ôl â hynny, roedd gan y Ceidwadwyr addewid i glustnodi gwariant iechyd yng Nghymru. Y canlyniad fyddai toriad enfawr yn y gwariant ar addysg. Felly, mae cryn dipyn o wyneb gan yr Aelod yn pregethu wrthym ynglŷn â lefelau gwariant ar iechyd a ninnau wedi ei amddiffyn ac wedi ei gynyddu.

Wel, y gwir amdani, yn gyffredinol, yw y ceir 20 y cant yn fwy o wario yng Nghymru a chafodd hynny ei ddiogelu o dan fframwaith cyllidol a gytunwyd gan Lywodraeth San Steffan. Os ydych am gymharu lefelau gwariant yng Nghymru a Lloegr, y gwahaniaeth mawr—a chlywsom beth o hyn yn gynharach—yw bod llywodraeth leol yn cael dyraniadau uwch yng Nghymru—buaswn yn cwestiynu pa mor effeithlon y defnyddir yr arian hwnnw mewn llawer o awdurdodau lleol—ac rydym wedi gweld toriadau yn y gwasanaeth iechyd nas gwelwyd yn Lloegr mewn termau real. Ac mae gennym y bwlch sylweddol iawn hwn yn y gwariant ar addysg. Lafur, rhaid i chi benderfynu beth yw eich blaenoriaethau, ac os yw addysg yn llai o flaenoriaeth i chi yng Nghymru nag ydyw i'r Ceidwadwyr yn Lloegr, ac yn llai o flaenoriaeth nag y byddem yn hoffi ei wneud yng Nghymru, yna dyna'r sefyllfa.

Rydym hefyd yn gweld llai o ddewis mewn addysg ôl-16. Yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, y duedd yw i'r holl addysg ôl-16 mewn awdurdod lleol gael ei ddarparu gan un sefydliad addysg bellach. Nid wyf yn beirniadu sefydliadau penodol, ond mae llawer o resymau pam y gallech fod eisiau mynychu sefydliad penodol ar gyfer Safon Uwch, parhau i chweched ysgol neu beidio â bod eisiau mynychu coleg penodol. Oni bai bod myfyrwyr yn barod i deithio pellteroedd mawr y tu allan i ardal eu cyngor am addysg, yn rhy aml, caiff y dewis hwnnw ei gymryd oddi arnynt.

Ni ddylem gyfyngu ar allu plant yng Nghymru i gyflawni eu potensial ac i fynd ar drywydd eu breuddwydion a'u dyheadau eu hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod nad yw'r lefelau cyllido presennol yn ddigonol i gynnal system addysg gystal â gweddill y DU, heb sôn am yr un well y byddem oll yn dymuno ei gweld. Mae angen inni weithredu o ddifrif ac yn bendant yn awr os ydym am achub ein system addysg sy'n gwegian. Mae'n bryd i'r Ysgrifennydd addysg edrych y tu hwnt i'r meinciau Llafur os yw'n dymuno darparu system o'r fath.

17:40

Galwaf ar Michelle Brown i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Michelle Brown.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried:

a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a

b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig ein gwelliant yn enw Caroline Jones.

Mae UKIP yn credu mai'r bobl yn y system addysg ar bob lefel sydd â'r syniad gorau o ble mae'r gwastraff a lle y ceir unrhyw flaenoriaethau gwariant anghywir. Dyna'r bobl sy'n gwybod pa newidiadau sydd eu hangen i ryddhau mwy o arian ar gyfer addysgu rheng flaen. Un o'r pethau sydd wedi mynd o'i le yn y system addysg yng Nghymru yw bod penderfyniadau wedi'u gwneud hyd braich oddi wrth y rhai sy'n gwybod yn iawn beth sy'n digwydd. Rydym yn cefnogi llawer o gynnig Plaid Cymru felly, ond y rheswm yr ydym yn cynnig gwelliant, a'r rheswm pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru, er bod angen ailystyried modelau ariannu, yw ein bod yn credu mai'r bobl sydd â'r atebion pragmatig a mwyaf effeithiol yw'r rhai sy'n gorfod gweithio gyda'r modelau ariannu hynny bob dydd. Dylid rhoi cylch gwaith digon eang iddynt fel eu bod yn rhydd i feddwl yn greadigol.

Mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn sôn am edrych ar fodelau ariannu eraill yn awgrymu i mi fod ganddynt eisoes fodel ariannu dewisol dan ystyriaeth. Rydym yn cytuno y byddai lleihau biwrocratiaeth yn beth da, ac yn amlwg mae pawb ohonom am i'r system fod yn dryloyw, felly nid oes yr un o'r amcanion yn newydd. Ond unwaith eto, nid yw'r atebion ynglŷn â ble y dylid gwneud toriadau mewn biwrocratiaeth, a sut y gellir gwneud y system yn fwy tryloyw, i'w gweld yn y lle hwn; maent i'w canfod ymysg y rhanddeiliaid sy'n gorfod gweithio gyda'r system hon ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos.

Nid yw gwelliant Llafur yn ddim llai na chyfaddefiad eu bod wedi mynd ati yn y ffordd anghywir, ac mae'n dweud eu bod yn rhoi camau ar waith i leihau'r llwyth gwaith ychwanegol y maent wedi ei greu, i leihau'r fiwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth y maent hwy eu hunain wedi ei gynyddu, ac i roi hwb i'r dysgu proffesiynol y maent wedi gadael iddo lithro dros yr 20 mlynedd diwethaf. Am y rheswm hwnnw, y ffaith mai hwy sydd wedi gadael i addysg lithro yng Nghymru, ni ellir ymddiried ynddynt i wybod sut i'w drwsio pan nad ydynt wedi gwybod sut i wneud hynny dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae gwelliant Llafur yn rhestru nifer o gamau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, ond buaswn yn awgrymu, pe bai'r mesurau hyn yn dwyn y ffrwyth sy'n ofynnol, na fyddem yn cael y ddadl hon bellach. Felly, er bod UKIP i raddau helaeth yn gefnogol i'r cynnig hwn, rydym wedi cynnig ein gwelliant i'w gwneud yn glir mai'r rhanddeiliaid perthnasol a ddylai wneud yr argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn dod ag academyddion i mewn—academyddion teilwng iawn, rhaid i mi ddweud, ond unwaith eto, mae'r atebion ar y rheng flaen—i roi cyngor iddynt, fel mewn meysydd eraill o bolisi addysg.

Mae ein gwelliant yn cynnig bod rhanddeiliaid yn cael eu dwyn ynghyd ac yn darparu ar gyfer cylch gwaith ehangach ar gyfer y gwaith hwnnw, o ran ystyried sut y gellir symleiddio cyllidebau, yn hytrach na gofyn i'r rhanddeiliaid hynny ganolbwyntio ar faterion penodol biwrocratiaeth, er mwyn gwthio arian i ffwrdd oddi wrth reoli annirnadwy ac i mewn i addysg ddiriaethol. Felly fe ddywedaf eto: gadewch i'r rhanddeiliaid roi eu cyngor a gwneud eu hargymhellion yn rhydd oddi wrth unrhyw hoff gynnig a argymhellir oddi fry. Felly, gofynnaf i chi gefnogi ein gwelliant. Diolch.

Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau ar gyfer y cwricwlwm, y targed i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac adnewyddu'r system ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Hoffwn weld llawer o'r dyheadau hyn yn cael eu cyflawni. Heb ariannu digonol, er hynny, nid yn unig ni fydd yr uchelgeisiau hyn yn cael eu gwireddu, ond byddwn yn gwneud cam â'r genhedlaeth nesaf. Yn ôl rheng flaen addysg, gan gynnwys yr undebau addysg—UCAC, NEU a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon—mae yna argyfwng ariannu yn ysgolion Cymru.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri mater allweddol. Yn gyntaf, rwyf am gwestiynu sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i unrhyw gwricwlwm newydd weithredu ochr yn ochr â thoriadau mor llym. Fe symudaf ymlaen i dynnu sylw at gyflwr ffisegol ofnadwy ein hysgolion a grëwyd gan y wasgfa ariannol hon. Ac yn olaf, rwyf am ddangos yr effaith y mae'r argyfwng cyllido hwn yn ei chael ar ysgolion yn y Rhondda.

Mae llawer o gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer y newid i'r cwricwlwm i'w croesawu, ond gyda chyn lleied o arian, nid wyf yn rhy obeithiol ynglŷn â'i weithrediad. Rydym yn gwybod y bydd llai o oriau addysgu ar gyfer rhai pynciau, a gallai rhai pynciau ddiflannu'n gyfan gwbl. Mae cerddoriaeth, drama, ieithoedd tramor a phynciau galwedigaethol yn wynebu risg. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr anawsterau i recriwtio athrawon arbenigol ac ysgolion yn methu cyfiawnhau cynnal cyrsiau gyda niferoedd bach o ddisgyblion. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at lai o opsiynau i ddisgyblion, yn enwedig ar gyfer Safon Uwch a TGAU, a cholli mwy byth o staff arbenigol yn sgil hynny. Hyd yn oed lle mae cyrsiau o'r fath ar gael, yn aml bu'n rhaid lleihau oriau addysgu gan na all ysgolion fforddio talu am athrawon arbenigol. Er mwyn gwrthbwyso'r toriadau, gofynnir i rai athrawon addysgu amrywiaeth ehangach o bynciau y tu hwnt i lefel eu harbenigedd, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hyn yn annheg i athrawon a disgyblion.

Efallai mai canlyniad mwyaf trawiadol yr argyfwng ariannu hwn yw cyflwr adeiladau ysgol. Nod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru oedd darparu ysgolion modern diogel at y dyfodol, gyda phaneli solar a'r holl gyfleusterau gorau. Ni wireddwyd yr uchelgais hwnnw. Mae hen adeiladau ysgol annigonol yn lleoedd annymunol a pheryglus weithiau hyd yn oed i ddisgyblion a staff. Nawr, gwn nad oes angen imi argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag effaith gadarnhaol adeiladau ysgol, ond rwyf am dynnu sylw'n fyr at—[Torri ar draws.] Iawn.

17:45

Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y ceir ysgolion sydd mewn cyflwr tebyg i'r hyn yr ydych yn siarad amdano, a dylent fod ar fand A neu fand B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond a ydych hefyd yn derbyn y ffaith bod yna ysgolion newydd sbon yn cael eu hadeiladu? Mae gennyf dair ysgol gyfun yn fy etholaeth, ynghyd â dwy ysgol gynradd newydd, sy'n gyfleusterau modern o'r radd flaenaf ar gyfer ein plant ifanc.

Wel, mae'n wych pan fydd plant yn cael yr ysgolion newydd hynny, ond mae yna lawer gormod o blant sy'n cael eu haddysgu mewn adeiladau annigonol a pheryglus. Canfu arolwg barn diweddar ledled y DU fod 90 y cant o athrawon yn credu bod ysgolion sydd wedi'u hadeiladu a'u cynllunio'n dda yn gwella canlyniadau addysgol. Felly, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein plant yn cael eu haddysgu mewn adeiladau nad ydynt yn niweidio eu haddysg neu eu hiechyd, waeth beth fo'r cyfyngiadau ar y gyllideb.

Rwy'n croesawu eich cyfeiriad at y Rhondda, ac yn wir at Rondda Cynon Taf, ond bydd eu rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn golygu, erbyn 2020, y byddant wedi buddsoddi £0.5 biliwn mewn ysgolion newydd. Dyma'r rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf aruthrol ers cenedlaethau. Does bosib nad ydych yn croesawu hynny'n fawr iawn fel rhywbeth sy'n gweddnewid y system addysg, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf.

Ond ni wnaiff hynny sicrhau bod pob plentyn yn cael ei addysgu mewn adeilad digonol, a dyna'r pwynt rwy'n ei wneud.

Mae'r wasgfa ariannol hon yn creu penderfyniadau anodd i ysgolion ar draws Cymru, nid yn unig yn y Rhondda, ond ysgrifennais at ysgolion yn fy etholaeth yn ddiweddar ac roeddwn am nodi un neu ddau o'r ymatebion yma heddiw.

Mae un ysgol gynradd yn y Rhondda wedi gorfod gwneud toriadau o dros £15,000, gan gynnwys cwtogi oriau'r gofalwr ysgol i arbed £5,000. Mae'r pennaeth yn rhagweld toriadau pellach dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hon yn ysgol newydd, ond mae angen paentio'r tu mewn a gosod carpedi newydd, ac ni ellir fforddio gwneud hynny. Er bod yr ysgol honno'n wynebu toriadau, mae nifer y disgyblion yn cynyddu.

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn wynebu penderfyniadau yr un mor anodd—cafodd £230,000 ei dorri eleni, heb unrhyw ostyngiad cyfatebol yn nifer y disgyblion. Byddai hyn yn waeth o lawer pe na baent wedi treulio llawer iawn o amser ac ymdrech yn cynhyrchu incwm annibynnol drwy staff a gwirfoddolwyr. Disgwylir toriadau pellach, gyda'r awdurdod lleol yn nodi y bydd yn gwneud yr hyn y mae'n ei alw'n 'arbedion effeithlonrwydd yn seiliedig ar ysgolion'.

I ryw raddau, rwy'n cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cydnabod bod San Steffan, drwy ei pholisi cyni, wedi gweithredu toriadau didostur sydd wedi rhoi pwysau ar ein cyllid, ond faint yn rhagor y gall ein hysgolion ei gymryd? Ni allwn fforddio gweld addysg cenedlaethau'r dyfodol yn dioddef oherwydd cyni. Rwy'n erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet felly i edrych eto ar y toriadau hyn sy'n cael eu gorfodi ar ein hysgolion ac i wneud popeth yn ei gallu i'w gwyrdroi.

17:50

Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod â diddordeb brwd iawn mewn materion cyllido ers inni gael ein sefydlu. Roedd un o'n hymchwiliadau cynharaf yn ymwneud â'r penderfyniad i gyfuno cyllid y grantiau a oedd wedi'u clustnodi'n flaenorol ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy'n Sipsiwn a Theithwyr yn y grant gwella addysg newydd ac ers i'r penderfyniad gael ei wneud yn y gyllideb fwyaf diweddar i roi'r arian hwnnw yn y grant cynnal refeniw, rydym wedi cynnal deialog gyson gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn parhau i graffu ar effaith y penderfyniad hwnnw ar y grwpiau hynny o ddysgwyr.

Yma, ar 4 Gorffennaf, rydym yn mynd i fod yn trafod ymchwiliad mawr y pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc. Mae'r argymhelliad cyffredinol yn hwnnw yn galw am sicrhau bod cyllid wedi'i glustnodi ar gael i ysgolion fel y gallant ddod yn ganolfannau cymorth iechyd emosiynol a meddyliol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, oherwydd pan fydd y system dan bwysau, rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl i'n hathrawon fuddsoddi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw a hefyd fel rhan o'r ymchwiliad, roedd hi'n amlwg fod yna lawer iawn o ymarfer da yng Nghymru o ran cefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl ond bod llawer o hynny hefyd yn cael ei ariannu drwy bethau fel y grant amddifadedd disgyblion. Clywsom fod yna ysgolion nad oeddent yn gallu cyflawni'r rôl honno am nad oedd ganddynt fynediad at y grant amddifadedd disgyblion.

Bydd ein hymchwiliad diweddaraf i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, ac roedd digon o gyllid i ysgolion yn thema gref iawn drwy gydol yr ymchwiliad hwnnw, gyda llawer o dystiolaeth yn cael ei rhoi i'r pwyllgor fod pethau fel y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddefnyddio bellach o ganlyniad i'r pwysau ar gyllidebau ysgol mwy cyffredinol. Felly, o ganlyniad i hynny, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi penderfynu mai dyma'r amser i ni edrych yn fwy trylwyr ar ariannu ysgolion. Fel y bydd Llyr a Mark yn gwybod, yfory byddwn yn trafod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad— ymchwiliad eang a phellgyrhaeddol—i ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i'r gwaith hwnnw gael ei wneud yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a chredaf mai ein pwyllgor fydd y bobl iawn i wneud y gwaith hwnnw.

Mae'n rhaid imi anghytuno â chyfraniad Mark Reckless. Credaf fod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb i ddod i'r Siambr a rhoi pregeth i ni ar record y Llywodraeth hon yn ceisio diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb mwy nag erioed o gyni o San Steffan. Buaswn yn awgrymu, Mark Reckless, y byddai'n well i chi ddefnyddio eich ymdrechion yn pregethu wrth y rheini yn San Steffan sy'n trosglwyddo'r toriadau cyllidebol parhaus hyn i ni.

A wnaiff yr Aelod ildio? Mae ein hymdrechion wedi cael eu defnyddio i gael cytundeb cyllidol lle rydym yn cael £1.20 o wariant Llywodraeth yng Nghymru o gymharu â £1 yn Lloegr ar hyn o bryd. Nawr, fe ofynnaf iddi: a yw hi'n credu bod gwario mwy na £600 yn llai fesul disgybl yng Nghymru nag yn Lloegr yn iawn neu'n rhywbeth y mae hi a'i Llywodraeth yn falch ohono?

Wel, rhaid i mi ddweud nad wyf yn cydnabod yr haelioni rydych wedi'i ddisgrifio gan Lywodraeth San Steffan, a chredaf ei bod hi'n anodd iawn gwneud cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr ar ariannu ysgolion, a dyna un o'r rhesymau pam y credaf fod yr ymchwiliad hwn mor bwysig. Rhaid inni fynd at wraidd beth yn union sy'n cael ei wario, faint sy'n mynd i'r grant cynnal refeniw, faint mewn gwirionedd sy'n cyrraedd y rheng flaen ar gyfer ein disgyblion, oherwydd lle rwy'n cytuno'n llwyr gyda Leanne Wood yw bod gennym agenda ddiwygio uchelgeisiol iawn yng Nghymru—nid yn unig y cwricwlwm newydd ond hefyd y cynlluniau ar gyfer hyfforddiant athrawon, datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae'n sicr yn wir y bydd angen cyllid ychwanegol ar y cynlluniau hynny. Rwy'n cydnabod ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu'r cynlluniau hynny. Mater i Lywodraeth Cymru gyfan yw hyn. Rwy'n gobeithio y caiff gwersi eu dysgu wrth i ni fynd i mewn i'r cylch cyllidebol am rai o'r penderfyniadau a wnaed i roi pethau yn y grant cynnal refeniw, ac ni chredaf fod hynny wedi gweithio er lles ein disgyblion mwyaf agored i niwed y tro hwn. Ond mae angen inni edrych yn ehangach yn awr ar sut yr ariannwn ein system addysg gyfan yng Nghymru—

17:55

A wnaiff yr Aelod ildio? Ar y pwynt hwnnw, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â'r pwyllgor yn edrych ar ariannu addysg. Credaf y byddai gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb mewn edrych ar eich casgliadau yn ogystal. Ond ar y pwynt y mae newydd ei wneud, fe fydd hi'n gwybod—oherwydd mae hi wedi ysgrifennu ataf fel Cadeirydd y pwyllgor cyllid—fod ei phwyllgor wedi gofyn y cwestiynau cywir am symud arian o fewn y grant cynnal refeniw, ond i fod yn onest, ni chawsant yr atebion cywir o ran esboniad eglur a llawn o ble'r oedd yr arian hwnnw'n mynd. A yw hynny'n rhywbeth y byddai'n edrych i weld yn awr yn y cylch cyllidebol newydd—esboniad cliriach o lawer ynglŷn â sut y mae'r arian hwn yn cael eu defnyddio?

Wel, fel y mae Simon Thomas yn gwybod, mae un o'r materion allweddol yr ydym wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â holl dryloywder y ffordd y pennir y gyllideb, ac rwy'n gobeithio, yn y cylch cyllidebol y byddwn yn mynd i mewn iddo, y byddwn yn fwy tryloyw ac y gallwn graffu'n well ar y penderfyniadau hynny. Hefyd, rwy'n gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn gwneud gwahaniaeth mawr, oherwydd mae buddsoddiad mewn addysg yn fuddsoddiad yng nghyfleoedd bywyd ein pobl ifanc, ac nid oes dim sy'n bwysicach na hynny.

Fe ddylai lles ac addysg ein disgyblion mewn ysgolion ar draws Cymru fod ar flaen ein meddyliau ni yn y Cynulliad yma. Mae ysgolion Cymru wedi wynebu sefyllfa ariannol heriol ers nifer o flynyddoedd, ac yn barod wedi gwneud arbedion mawr. Mae'r arweinwyr a staff yr ysgolion wedi gwneud eu gorau o sefyllfa anodd dros ben er mwyn diogelu addysg a lles disgyblion, ond mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt ble mae'r effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion fel ei gilydd mor niweidiol fel bod yn rhaid ystyried y sefyllfa fel un o argyfwng erbyn hyn.

Mae'r sefyllfa yn deillio o'r setliad ariannol mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, ond mae angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb dros geisio taclo'r argyfwng sy'n wynebu'r byd addysg heddiw. 

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyllido ysgolion, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol ar gael ar gyfer anghenion pob dysgwr. Er mwyn sicrhau hynny, wrth gwrs, mae angen sicrhau bod y cynghorau yn derbyn digon o arian. Mewn adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, fe edrychwyd ar gyllidebau cynghorau rhwng 2009-10 a 2016-17. Dros y cyfnod yma, roedd cynnydd o 48 y cant ar wariant y gwasanaeth iechyd, ac roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwariant ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Ym maes addysg, roedd ymrwymiad penodol i gynyddu gwariant ar ysgolion dros 1 y cant uwchben y newid yng nghyllideb bloc Cymru, bloc a oedd yn crebachu.

Nid oedd dim ymrwymiad i amddiffyn cyllidebau cynghorau, ac erbyn 2016-17 roedd grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 17.1 y cant, gostyngiad o bron i draean yr holl wariant ar ysgolion gan gynghorau Cymru. Er i gynghorau ddefnyddio trethi cyngor a mesurau eraill i wneud i fyny am hyn yn rhannol, roedd yn dal i fod £529 miliwn yn llai o arian yn 2016-17 o'i gymharu â 2009-10. Mae hyn bron gymaint â'r holl wariant gan gynghorau yng Nghymru ar wasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn. O ganlyniad, fe ddisgynnodd gwariant llywodraeth leol ledled Cymru tua £223 y pen, ac, er gwaethaf ymdrech cynghorau Cymru i osgoi salami-slicing a diogelu ysgolion a gofal, fe ddisgynnodd gwariant ar gyllidebau ysgolion 4.4 y cant, neu £254 y pen. Fe ddefnyddiwyd arian wrth gefn yn yr ysgolion, ac fe ddisgynnodd cronfeydd wrth gefn ysgolion 41.3 y cant yn y cyfnod dan sylw. Mae hyn i gyd yn arwydd clir o’r argyfwng ariannol sy’n wynebu ein hysgolion ni.

Yn ôl yr un un adroddiad, fe wnaeth ymrwymiad y Llywodraeth flaenorol i warchod cyllidebau ysgolion rywfaint o wahaniaeth, ond nid oes ymrwymiad o’r math mewn lle gan y Llywodraeth bresennol, ac felly mae’n ddealladwy bod undebau, y gweithlu addysg, rhieni a disgyblion yn bryderus iawn ynglŷn â’u hysgolion.

Yn y tymor byr, mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael i ysgolion mor llawn â phosib, mor dryloyw â phosib, fod y wybodaeth yna yn gyflawn, ac maen nhw angen cael y wybodaeth yna mor gynnar â phosib fel bod ysgolion yn gwybod beth ydy’r gyllideb yn mynd i fod. Mae UCAC, er enghraifft, wedi galw am ystyried y posibilrwydd o osod cyllidebau bob tair blynedd, ac mae rhai awdurdodau lleol yn llwyddo i fedru cynllunio ymlaen ar hyd y graddau yna.

Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o sefyllfa ariannol ysgolion Cymru, ar y cyd â rhanddeiliaid, a hynny fel y cam cyntaf tuag at geisio datrys yr argyfwng ariannol yn ein hysgolion ni.

18:00

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ddydd Llun, cefais y fraint fawr o ymweld ag Ysgol Gynradd Adamsdown, ychydig i fyny'r ffordd yma, yng nghymuned Sblot. Diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £2.8 miliwn, mae disgyblion ac athrawon yno yn elwa o estyniad newydd i'r ysgol a chyfleusterau awyr agored sydd wedi'u gwella'n fawr mewn ymateb i dwf sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn y rhan honno o'r ddinas. Mewn trafodaeth gyda'r pennaeth, Mrs Thomas, a chyfarfod â staff a disgyblion, cefais fy nharo gan yr ymrwymiad i ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr ar draws yr hyn sy'n boblogaeth gyfnewidiol ac amrywiol. Roedd hyn yn cynnwys disgyblion o gefndiroedd ffoadurol, ac roeddwn wrth fy modd yn cael cyfarfod â bachgen ifanc o Syria. Roedd wedi ei barlysu o'r canol i lawr, ac ni allwn ond dechrau dychmygu'r trawma y mae'r bachgen bach hwnnw wedi bod yn dyst iddo yn ei fywyd. Yn wir, pan gyraeddasom yr ysgol, cyrhaeddodd ef mewn pram, nid oedd yn gadair olwyn briodol hyd yn oed. Ond gyda'r Saesneg y mae wedi ei ddysgu, mae wedi dweud wrthyf sut oedd ei addysg yn Adamsdown, sut oedd y system addysg yng Nghymru, yn ei wthio ymlaen ac yn caniatáu iddo osod nodau ac uchelgeisiau newydd. Dywedodd wrthyf am y synau newydd yr oedd yn eu dysgu y diwrnod hwnnw.

Lywydd, nid oes angen i neb yn y Siambr hon ddweud wrthyf pa mor galed y mae ein hathrawon yn gweithio o ddydd i ddydd ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Ac nid oes angen i neb ddweud wrthyf fod yn rhaid inni ymladd am bob ceiniog i fynd i'r rheng flaen honno yn wyneb cyni sy'n parhau gan y Torïaid yn San Steffan. Ac nid oes angen i neb ddweud wrthyf fod angen yn wir inni ddwyn ein holl bartneriaid ynghyd mewn ymdrech i godi safonau i bawb a sicrhau ein bod yn parhau i gyllido ein hysgolion a'n hathrawon yn briodol.

Felly, yn gyntaf, hoffwn gywiro ambell beth. Ar y cyd, fel Llywodraeth, rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod cymaint o adnoddau â phosibl yn mynd i awdurdodau lleol, boed hynny yn y cyfanswm cyffredinol a roddir iddynt yn y grant cynnal refeniw, neu drwy gyflwyno a gweithredu cyllid gwaelodol er mwyn sicrhau bod rhai awdurdodau lleol yn cael eu hamddiffyn yn well rhag toriadau nag a fyddent fel arall oherwydd y fformiwla ariannu.

Nawr, caiff y fformiwla ar gyfer dosbarthu arian craidd i awdurdodau lleol ei datblygu a'i chytuno mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol drwy Gyngor Partneriaeth Cymru a'i is-grŵp. O fewn y system hon, mae yna botensial i wneud newidiadau sylweddol i'r fformiwla ariannu, ond rhaid gwneud hyn gyda chefnogaeth ar y cyd gan lywodraeth leol drwy'r trefniadau partneriaeth sydd gennym ar waith. Hyd yma, nid ydym wedi cael neges gyson ar hyn gan ein partneriaid llywodraeth leol, ond byddwn yn parhau—

18:05

A fyddech yn cydnabod mai llais lleiafrifol yn unig sydd gan y lleiafrif sy'n cael leiaf ac sy'n dioddef fwyaf yn ariannol—a cheir bwlch cyllido mewn cyllidebau dirprwyedig i ysgolion o dros £1,000 y disgybl rhwng y rhai a ariennir orau a'r rhai a ariennir waethaf? Mae'n amlwg nad yw'r rhai sy'n cael budd yn mynd i gynorthwyo oherwydd nid oes digon o gymhelliant iddynt wneud hynny. Felly, mae angen inni fod yn wrthrychol ynglŷn â hyn a gweld pa mor effeithiol y defnyddir yr arian sy'n bodoli yn deg ac yn gyfartal ar draws Cymru gyfan i dargedu anghenion pob disgybl.

Mark, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn fwy na pharod i drafod unrhyw newidiadau i'r fformiwla ariannu ar gyfer gwariant cyffredinol gyda'r teulu llywodraeth leol neu, yn wir, y data a ddefnyddir i gyfrifo gwariant tybiannol ar addysg. Mae'r hyn yr ydych yn sôn amdano—y gwahaniaeth o ran ariannu rhwng ysgolion unigol—yn dangos cymhlethdod y system addysg yng Nghymru a pham y byddai'n eithriadol o anodd dod o hyd i un fformiwla ariannu genedlaethol. Sut y gallwch ddod o hyd i un fformiwla ariannu ar gyfer anghenion ysgol mewn ardal neu ysgol ddifreintiedig iawn, fel yr un yn Adamsdown, lle mae'r plant yn siarad 44 o ieithoedd gwahanol, o'i gymharu â heriau darparu addysg mewn ysgol wledig fach iawn lle mae'n anochel y bydd y gost fesul disgybl yn yr ysgol honno gryn dipyn yn uwch nag y byddai mewn sefydliad mwy o faint? Hynny yw, ni allwn, Mark—ni allwn ddefnyddio'r amgylchiadau heriol hyn mewn perthynas â chyllid fel esgus. Yn fy etholaeth i, gwn fod yr ysgol uwchradd sy'n cael y canlyniadau gorau yn gyson yn dweud wrthyf, oherwydd y system a ddefnyddir gan Gyngor Sir Powys, mai hwy yw'r ysgol sy'n cael y lleiaf o arian fesul disgybl, ond mae eu canlyniadau, y canlyniadau ar gyfer eu plant, yn well na rhai pawb arall.

Ond fe geisiaf wneud rhywfaint o gynnydd. Fe fyddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol, consortia rhanbarthol ac ysgolion i sicrhau y gwireddir ein gweledigaeth ar gyfer gwella canlyniadau addysgol i bob dysgwr yng Nghymru. Llyr, rwyf am eich sicrhau, lle y ceir pryder fod arian naill ai'n cael ei gadw mewn modd amhriodol ar lefel llywodraeth leol, neu'n cael ei gadw mewn modd amhriodol ar lefel consortia rhanbarthol, yna byddwn yn mynd i mewn i edrych i weld sut yn union y mae'r arian hwnnw yn mynd i'r rheng flaen neu fel arall, a cheir consortia rhanbarthol ar hyn o bryd lle rydym yn gwneud y gwaith hwnnw fel y gallwn fodloni ein hunain fod fy uchelgais i gael cymaint o adnoddau i gyllidebau ysgolion unigol yn cael ei wireddu.

Rydym yn darparu mwy na £187 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r grant datblygu disgyblion i helpu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a byddwn yn buddsoddi £225 miliwn drwy'r grant gwella addysg. Rydym hefyd yn buddsoddi £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau, wedi'i dargedu at yr ardaloedd a fydd yn elwa fwyaf, ac mae athrawon ychwanegol yn cael eu cyflogi ledled Cymru i'n helpu gyda'r nod hwn. Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym yn buddsoddi £100 miliwn i godi safonau mewn ysgolion, ac mae mwy na hanner y buddsoddiad hwn yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer gwella addysgu a dysgu, oherwydd rwy'n cydnabod mai ein hathrawon yw'r cyfryngau newid a gwella mwyaf un yn yr ystafell ddosbarth.

Nawr, siaradodd Leanne, yn hollol briodol yn ei chyfraniad am y diwygiadau uchelgeisiol rydym yn eu cyflawni i'r cwricwlwm, a Leanne, byddwn yn sicrhau, dros y ddwy flynedd nesaf, fod yr £20 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n benodol ar weithrediad y gwaith cwricwlwm a pharodrwydd ar ei gyfer. Gwn hefyd fod materion cynnal a chadw ysgolion yn llyncu amser a chyllid—yn wir, soniodd Leanne am hyn ei hun yn y cyfraniad a wnaeth—yn hytrach na'u bod yn mynd tuag at gefnogi dysgwyr. Nawr, rwyf am i athrawon beidio â phoeni am doeau sy'n gollwng, rwyf am iddynt fod yn meddwl am eu disgyblion, am addysgeg ac am y cwricwlwm. Felly, dyna pam, ym mis Mawrth, y rhyddhawyd £14 miliwn ychwanegol gennym i'w ddyrannu'n uniongyrchol i ysgolion. Helpodd hyn i ymdrin â materion cynnal a chadw ar raddfa fach, gan leddfu'r pwysau ar gyllidebau, ac fe elwodd pob ysgol ledled Cymru o'r arian hwnnw, ac aeth yn uniongyrchol i'r rheng flaen.

Soniodd Leanne am gyflwr adeiladau ein hysgolion hefyd. Wel, Leanne, ein rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn adeiladu ysgolion a cholegau newydd ers y 1960au—buddsoddir £1.4 biliwn dros fand—[Torri ar draws.]

Yn ddiweddar ysgrifennais atoch am ysgol yr ymwelais â hi lle y cwympodd lwmp mawr o goncrit o'r nenfwd a glanio ar y llawr, a phe bai'r disgyblion wedi bod yn yr ysgol ar y pryd, gallai fod wedi achosi anaf difrifol neu hyd yn oed yn waeth. A ydych yn dweud nad yw honno'n broblem?

Wrth gwrs nad wyf yn dweud nad yw'n broblem. Rwy'n dweud beth yr ydym yn ei wneud am y peth, ac fel y dywedais, ym mand A byddwn yn gwario £1.4 biliwn ar ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd band B y rhaglen yn gweld buddsoddiad ychwanegol o £2.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, a dyna'r buddsoddiad unigol mwyaf, fel y dywedais, yn ein hystâd ysgolion ers y 1960au. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol ar nodi'r blaenoriaethau sydd ganddynt yn eu hardaloedd lleol lle mae angen adeiladu ysgolion newydd, ac adnewyddu neu ehangu ysgolion. Os oes gennych bryderon ynglŷn ag ysgolion unigol yn eich etholaeth chi, rwy'n awgrymu eich bod yn cael sgwrs gyda'r awdurdod lleol i gadarnhau beth yw eu cynlluniau i'w cyflwyno i'r Llywodraeth hon, oherwydd bydd y cynlluniau yr wyf wedi rhoi ymrwymiad iddynt yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth hon.

18:10

Ond os nad ydynt yn rhoi blaenoriaeth i addysg cyfrwng Cymraeg, beth rydych chi'n ei wneud wedyn?

Wel, mae'r Aelod, ar ei heistedd, yn sôn am hybu addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennym gronfa newydd uniongyrchol ar gyfer ehangu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg i gefnogi uchelgais y Llywodraeth i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gennym gronfa benodol ar gyfer hynny y gall awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau iddi, ac rwy'n falch o ddweud bod awdurdodau lleol wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb yn y rhaglen gyllid cyfalaf ychwanegol honno nad oedd yn bodoli flwyddyn yn ôl.

Mae'r broses sydd ar y ffordd ar gyfer datganoli cyflogau athrawon yn rhoi cyfle go iawn inni wneud hyn yn iawn a'i wneud yn dda, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn lle deniadol i ddod i ddysgu, ac i gael dull cenedlaethol sy'n gweddu orau i anghenion Cymru.

Nawr, Lywydd, rwy'n tybio y dylwn droi at welliant y Ceidwadwyr o ran cwrteisi. Os na allant ddechrau hyd yn oed drwy gydnabod bod y gyllideb ar gyfer Cymru wedi cael ei gostwng dros £1 biliwn, nid wyf yn siŵr fod ganddynt goes i sefyll arni. Lee Waters, rydych yn hollol—[Torri ar draws.] Lee Waters, rydych yn llygad eich lle—y tro diwethaf y cafodd grŵp y Ceidwadwyr ddigon o ddewrder i gyhoeddi cyllideb amgen yn y Siambr hon, roeddent yn argymell toriadau llym i'r gyllideb addysg.

Lywydd—[Torri ar draws.]

Mae amser Ysgrifennydd y Cabinet ar ben, felly nid wyf yn meddwl bod amser i gael ymyriadau.

Lywydd, rwy'n cydnabod, hyd yn oed gyda'r adnoddau ychwanegol yr ydym yn eu rhyddhau, fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau. Rwy'n deall hynny. Mae'n golygu dewisiadau anodd er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen mewn gwirionedd, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda phenaethiaid, athrawon, undebau, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar godi safonau ar gyfer pob disgybl unigol ym mhob ysgol unigol, ac rwy'n croesawu'r sylw y mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn ei roi i'r mater hwn. Yn wir, er nad ydym wedi clywed yn uniongyrchol gan Blaid Cymru heddiw beth fyddai eu cynnig ar gyfer model amgen mewn gwirionedd, nodaf fod Llyr wedi diystyru cyllid uniongyrchol i ysgolion, felly nid y model hwnnw y maent yn ei ffafrio. Ond rwy'n hapus i weithio gyda phobl ar draws y Siambr i edrych i weld sut y gallwn flaenoriaethu anghenion plant ein cenedl gyda'n gilydd. Drwy'r ymdrech gyfunol honno, byddwn yn gosod disgwyliadau uchel, byddwn yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a byddwn yn cyflwyno system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi clywed bod gennyf 90 eiliad i gloi, felly ymddiheuriadau am fethu ymateb i'r holl bwyntiau a wnaethpwyd, ond dechreuaf drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl.

Mae angen i mi ymateb i'r gwelliannau, felly fe wnaf hynny. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru. Yn ôl arfer Llywodraeth Cymru, mae'n dechrau gyda, 'Dileu popeth,' felly dyna pa mor bell yr af, mewn gwirionedd, ar ddarllen eich gwelliannau. Ond yr hyn y mae eich gwelliant yn ei wneud mewn gwirionedd yw rhestru llu o gronfeydd a chynlluniau ychwanegol rydych wedi'u rhoi ar waith. Mae llawer ohonynt yn gadarnhaol iawn, nid wyf yn amau, ond credaf ei fod yn dangos y pwynt rydym yn ceisio ei wneud yma. Mae'n tanlinellu'r ffaith pe bai'r cyllidebau craidd yn ddigon, na fyddem angen pot ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau mawr, ni fyddem angen pot ychwanegol ar gyfer hyn a'r llall. Felly, rwy'n teimlo bod gwelliant y Llywodraeth yn gwneud ein pwynt ar ein rhan.

Mae gwelliant y Ceidwadwyr—wel, mae cymharu Cymru â Lloegr, yn y cyd-destun hwn, yn enghraifft o economeg gyntefig rwy'n credu, oherwydd nid ydych yn cymharu tebyg at ei debyg. Gadewch inni beidio ag anghofio, agenda gyni'r Torïaid sy'n gyrru ariannu ysgolion i lawr y ffordd dywyll hon yn y lle cyntaf. Mae i chi ddod yma a cheisio dweud wrthym fod y sefyllfa yn wahanol iawn yn Lloegr—wel, fe ddywedaf rywbeth wrthych: roeddwn yn darllen ychydig wythnosau yn ôl fod ysgolion yn Lloegr yn cau'n gynnar ar ddydd Gwener yn awr er mwyn torri costau. Felly, ni chymerwn unrhyw wersi gan y Torïaid ar yr hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr.

Unwaith eto, mae UKIP am ddileu'r rhan ganolog o'n cynnig, felly ni fyddwn yn eu cefnogi hwy.

Y gwir amdani yma, wrth gwrs, yw bod yr hinsawdd ariannu ysgolion presennol yn anghynaladwy. Mae cyllidebau'n lleihau, mae costau'n cynyddu, ac mae'r toriadau'n cynyddu'r pwysau ar weithlu sydd eisoes mewn trafferthion. Felly, beth a wnawn? A ydym am aros tan y gwelwn effaith hynny ar addysg ein plant, neu a ydym yn gweithredu yn awr ac yn ariannu ein hysgolion yn briodol er mwyn rhoi'r dechrau mewn bywyd y maent i gyd yn ei haeddu i'r genhedlaeth nesaf? Rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i'n symud i’r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, y bleidlais gyntaf ar y cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad. Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

NDM6744 - Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad: O blaid: 17, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar ofalwyr. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 17, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1, felly. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 1 a dad-ddetholwyd gwelliant 2.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 4: O blaid: 48, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Gwelliant 5. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 5: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 6. Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 6.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 6: O blaid: 41, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 7. Galwaf am bleidlais ar welliant 7 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 7: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 8 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 8.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 8: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 9. Galwaf am bleidlais ar welliant 9 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 9.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 9: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

18:20

Cynnig NDM6738 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai 11-17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.

3. Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.

4. Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.

5. Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.  

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6738 - Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais olaf ar ddadl Plaid Cymru ar ariannu ysgolion. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Gwrthodwyd y cynnig.

NDM6739 - Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6739 - Plaid Cymru - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly gwrthodwyd gwelliant 2. 

NDM6739 - Plaid Cymru - Gwelliant 2: O blaid: 17, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol, felly dyma ni'n cyrraedd y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM6739 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:

a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;

b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;

c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;

d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a

e) buddsoddi mwy na  £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6739 - Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

9. Dadl Fer: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan?

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Siân Gwenllian i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Siân.

Diolch yn fawr. Y pwnc ydy a fyddai caniatáu i Aelodau’r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd, ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan. Rwy’n falch o arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma. Mae Jane Hutt a Julie Morgan yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu cyfraniadau nhw.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i arwain ddadl fer yn y Siambr yma am yr angen i wella cydraddoldeb rhywedd a chynrychiolaeth o grwpiau lleiafrifol yn y Cynulliad yma. Rwy'n grediniol bod cael mwy o ferched—yn wir, nifer cydradd o ferched—mewn swyddi lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn bwysig wrth inni ymgyrraedd at genedl o gydraddoldeb, at y math o genedl ffeministaidd mae eraill wedi sôn sydd angen ei chreu yma yng Nghymru. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am ymchwil a wnaed sy’n dangos bod materion sy’n bwysig i fywydau bob dydd merched, a materion y dylid canolbwyntio arnyn nhw o ran creu cydraddoldeb, yn llawer mwy tebygol o gael eu codi mewn trafodaethau gan ferched. Mae anelu at gynrychiolaeth gydradd mewn bywyd cyhoeddus, felly, yn helpu i wella bywydau menywod yn gyffredinol. Nid dyna’r unig elfen sydd angen inni roi sylw iddo fo—a hynny o bell, bell ffordd. Nid ydw i ddim yn trio dweud hynny, ac rwy'n gwbl ymwybodol o’r rhychwant eang o waith sydd angen digwydd. Dyna pam yr hoffwn i weld cynllun gweithredu cenedlaethol ar gydraddoldeb rhywedd. Ond, mae o'n un elfen, ac yn elfen y gallwn ni fel aelodau etholedig ddylanwadu arni hi os ydym yn dymuno gwneud hynny.

Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am waith panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, sef 'Senedd sy’n Gweithio i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017. Rwy'n credu y byddai mabwysiadu’r holl argymhellion sydd yn yr adroddiad yn helpu i greu Cynulliad mwy cyfartal ac amrywiol, ac y dylid parhau i geisio consensws o gwmpas yr adroddiad hwnnw. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i dynnu sylw at argymhellion yn ymwneud â'i gwneud hi’n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cwotâu er mwyn cael nifer cydradd o ymgeiswyr. Heddiw, rwyf i am hoelio sylw ar un arall o argymhellion y panel hwnnw a oedd hefyd yn rhan o’r gwaith o ystyried sut i wella amrywiaeth yn y Cynulliad. Yn ôl yr adroddiad:

'Gallai galluogi ymgeiswyr sy’n sefyll dros yr un blaid neu fel ymgeiswyr annibynnol sefyll i’w hethol ar sail trefniadau rhannu swydd arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o gynrychiolwyr yn y Cynulliad. Gallai’r hyblygrwydd i sefyll ar sail rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.'

Mae’r Athro Rosie Campbell a’r Athro Sarah Childs—y ddwy a rannodd swydd, fel mae'n digwydd, fel aelodau o’r panel arbenigol—wedi cyfrannu llawer at y drafodaeth am rannu swyddi. Fe gyfrannodd y ddwy at waith a wnaed gan y Fawcett Society ar y posibilrwydd o Aelodau Seneddol yn rhannu swyddi, gan dynnu sylw at y manteision. Ac, yn 2012, fe gyflwynodd John McDonnell AS Fil rheol 10 Munud i Dŷ’r Cyffredin a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol iddo fo. Ond, yn ystod etholiad cyffredinol 2015, fe wrthodwyd rhoi caniatâd i ddwy aelod o'r Blaid Werdd a oedd yn gobeithio sefyll i gael eu hethol i Senedd y Deyrnas Unedig gan rannu swydd.

Mae’r wir dweud mai cyfyng fu’r drafodaeth ar rannu swyddi mewn seddau etholedig, ac roeddwn i'n falch iawn, felly, o weld argymhelliad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn y Cynulliad. Mae yn gyfle i ni gael y drafodaeth yn y fan yma. Ffurf ar weithio yn hyblyg yw rhannu swydd. Yn syml iawn, mae’n galluogi i ddau gyflogai rannu cyfrifoldebau a dyletswyddau un swydd llawn amser. Nid yw'n gysyniad newydd; mae'n deillio o'r 1970au ac mae rhannu swydd wedi cynyddu yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, yn enwedig mewn rhai swyddi rheolaethol, ac ar draws pob math o yrfaoedd. Ac mae llawer o enghreifftiau o arfer da. 

Mewn adroddiad o’r enw 'Working Families', bu ymchwilwyr yn edrych ar 11 achos o rannu swydd. Roedd y swyddi hyn yn cynnwys prif weithredwr o ymddiriedolaeth iechyd, ditectif arolygydd, rheolwr siop fawr, cyfarwyddwr yn y gwasanaeth sifil, pennaeth adran mewn banc rhyngwladol, rheolwr gyda bwrdd dŵr a phrif weithredwr elusen. O edrych yn fyr ar un o’r rhain, fe fu cyfarwyddwyr ar y cyd y Bwrdd Astudiaethau Cyfiawnder yn rhannu swydd â’i gilydd, a hynny am dros 20 mlynedd—a hynny mewn saith swydd i gyd. Roedd hyn yn llwyddiant mawr. Roedd ganddyn nhw werthoedd tebyg a’r un agwedd tuag at waith ac at arweinyddiaeth, ond personoliaethau gwahanol, ac roedden nhw yn defnyddio cryfderau ei gilydd. Roedd rhannu swydd yn werthfawr iddyn nhw o ran trafod a chefnogi ei gilydd, ac fe oedd rhannu swydd yn hybu dull mwy cydweithredol o arwain a oedd o fudd i’r tîm cyfan, gan annog dirprwyo, ac felly yn creu cyfleon grymuso ar gyfer eraill yn y tîm.

Rwy'n credu y byddai yna fanteision amlwg o gyflwyno rhannu swydd ar ein cyfer ni fel Aelodau Cynulliad. Mae ymgyrchwyr hawliau anabledd yn gweld manteision amlwg i rannu swyddi, ac mae eraill yn gweld y gallai rhai mewn swyddi proffesiynol barhau i gynnal eu sgiliau fel doctoriaid, athrawon, gwyddonwyr ac ati tra eu bod hefyd mewn rôl etholedig—gyda lleihad mewn risg petaen nhw’n colli eu seddi, a hynny'n gwneud rhoi eu henwau nhw ymlaen yn y lle cyntaf, felly, yn fwy deniadol. 

Roedd adroddiad y panel arbenigol yn nodi mai’r egwyddor arweiniol ganolog ar gyfer rhannu swydd yw y dylai partneriaid sy’n rhannu swydd gael eu trin fel petaen nhw'n un person. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai partner yn ymddiswyddo, y byddai yna ragdybiaeth awtomatig y byddai’r llall hefyd yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad. Hefyd, mi fyddai angen eglurder a thryloywder o ran y tâl a’r cymorth ariannol ar gyfer trefniant rhannu swydd o’r fath. Fe wnaeth adroddiad y panel arbenigol argymell mai’r egwyddorion wrth wraidd trefniadau o’r fath yw y dylai ymgeiswyr egluro wrth bleidleiswyr y cytundeb sydd rhyngddyn nhw i rannu’r swydd, ac y dylai’r Aelodau hynny sy’n rhannu’r swydd beidio ag achosi unrhyw gostau ychwanegol sy’n uwch na chostau un Aelod Cynulliad.

Mae gan rannu swydd fanteision amlwg o ran creu cyfleon i ferched sydd â dyletswyddau gofalu—am blant ifanc neu am aelodau oedrannus o’r teulu. Gan mai merched, o hyd, ydy'r prif ofalwyr, ydy’r mwyafrif o ofalwyr, fe allai creu cyfleon i gyfuno dyletswyddau gofalu efo gweithio fel Aelod Cynulliad arwain at gynyddu’r nifer y menywod yma yn y Cynulliad. Gallai rhannu swydd fod yn opsiwn llawer iawn haws i'w amgyffred os ydych chi'n fenyw efo plant bychain, ac yn enwedig os ydych chi'n byw ymhell o Fae Caerdydd ac angen treulio cyfnod o bob wythnos i ffwrdd o gartref.

Sut fyddai fo’n gweithio, felly, o ran Aelodau Cynulliad yn rhannu swydd? Rhai o'm syniadau i ydy'r rhain, a rhai sy'n syniadau sydd wedi deillio o waith Cymdeithas Fawcett. Mae'r rhain yn bethau inni gnoi cil amdanyn nhw, yn amlwg, os ydym ni eisiau mynd ar hyd y trywydd yma. Ond, i ddechrau, byddai angen i’r ddau berson gyflwyno eu hunain fel un tîm o’r cychwyn cyntaf. Mi fyddai angen i’r ddau ymgeisydd gael eu barnu gan eu pleidiau i fod yn gymwys ag efo’r cymwysterau priodol—y ddau fel ei gilydd. Wrth gael eu dethol gan eu pleidiau, ac eto wrth gael eu hethol, byddai angen cyflwyno datganiad clir a chynhwysfawr am yr hyn maen nhw yn credu ynddo fo, eu blaenoriaethau nhw, eu hamcanion nhw, sydd wedi eu cael eu cytuno ar y cyd. Dylai ymgeiswyr ar gyfer rhannu swydd fanylu ar y rheolau a fyddai'n cael eu mabwysiadu ar gyfer pennu eu trefniadau gwaith o ddydd i ddydd.

Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, nad oes dim angen bod yn rhy benodol. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig o ran y trefniadau gwaith. Efallai eu bod nhw yn gweithio rhannau gwahanol o’r wythnos, gwahanol rannau o’r flwyddyn seneddol, gweithio yn yr etholaeth, neu yng Nghaerdydd, rhannu gwaith etholaeth ar y penwythnos ar rota, rhannu portffolios, rhannu ymgyrchoedd. Byddai’r patrwm gwaith yn gallu amrywio yn ôl amgylchiadau a newid dros amser. Gallai un deithio i’r Senedd ganol bob wythnos a gwneud y gwaith yn fan hyn yn y Siambr ac ar bwyllgorau; gallai’r llall wneud y gwaith achos yn yr etholaeth. Ond, mewn gwirionedd, mater o drafodaeth fyddai fo, gyda hyblygrwydd yn nodwedd gwbl ganolog.

Byddai hyn yn gallu newid dros amser hefyd: efallai Aelod efo dyletswyddau gofal dros blant bychain yn treulio mwy o amser yn yr etholaeth ar y cychwyn, ond y patrwm hwnnw yn newid dros amser. Mi fyddai hi'n ffordd dda i ddenu merched efo plant at y swydd, a gall y rhannu swydd ddod i ben wrth i’r dyletswyddau gofal leihau, gan roi cyfnod o fentora a magu hyder a fyddai’n gwneud ymgeisio i fod yn Aelod Cynulliad yn y lle cyntaf yn llawer iawn mwy deniadol i lawer iawn mwy o bobl, yn cynnwys, wrth gwrs, merched.

Byddai dau berson yn rhannu’r gwaith o gynrychioli eu hetholwyr. Un bleidlais fyddai gan y ddau Aelod Cynulliad, ac fe ddylai’r cyhoedd fod yn glir pwy fydd yn pleidleisio a phryd. Byddai'r Aelodau Cynulliad yn ennill neu golli etholiad fel un, ac yn cael eu dal i gyfrif fel un gan yr etholwyr. Mi fyddai, wrth gwrs, angen cytuno protocol ar gyfer delio efo unrhyw wahaniaethau barn. Mae hyn yn bwysig, ond mae yna ffordd o'i gwmpas o. Mae cael y cyfathrebu yna yn glir o'r cychwyn, wrth gwrs, yn bwysig. A chofiwch, wrth gwrs, fod Aelodau pleidiau gwleidyddol yn atebol i’w pleidiau, ac mae gan y pleidiau ddulliau o ddelio efo a datrys anghydfod, petai'r math yna o sefyllfa yn codi. Y cyfathrebu clir rhwng y ddau sydd am rannu swydd, rhwng y ddau a’u pleidiau a rhwng y ddau a’u hetholwyr—mae hynny'n gwbl greiddiol i lwyddiant wrth rannu swydd.

Ac mae hi’n ddigon hawdd tynnu sylw at rai o’r problemau, ac rydw i'n gweld bod y busnes pleidleisio yma yn gallu bod yn un o'r meini tramgwydd, ond un mater ydy hwnnw. Mae'n ddigon hawdd tynnu sylw at y broblem, ond rydw i'n meddwl bod eisiau gwyntyllu'r cysyniad yn fanwl iawn, oherwydd rydw i'n credu bod angen troi pob carreg yn yr ymdrech i greu cenedl o gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Gall hyn fod yn rhan fechan o’r jig-sô—rhan fechan iawn—ond rhan o'r jig-sô sydd ei angen, ac mae gennym ni yma yn y Cynulliad gyfle i’w ystyried o fel rhan o’r pecyn o ddiwygiadau etholiadol sydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Felly, ystyriwn a thrafodwn a down i benderfyniad, gobeithio, a fydd yn caniatáu inni symud i'r cyfeiriad yma. Diolch. 

18:35

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, a llongyfarchiadau i Siân Gwenllian am gael y ddadl hon ac am ganolbwyntio sylw ar y maes pwysig hwn. Rwyf am siarad yma heddiw oherwydd fy mod am roi fy nghefnogaeth lwyr i—wel, rwyf am weld rhannu swydd yn cael ei gyflwyno yma ar gyfer Aelodau etholedig. Credaf fod Siân wedi gwneud gwaith da iawn yn egluro a'r holl anawsterau—wel, nid anawsterau, ond yr holl bethau cadarnhaol—a'r math o feysydd y byddai'n rhaid inni edrych arnynt pe baem yn cyflwyno hyn.

Nawr, gwn nad oes unrhyw enghreifftiau yn San Steffan, ac yn sicr nid oes unrhyw enghreifftiau yma nac mewn llywodraeth leol, nid wyf yn credu, o bobl yn sefyll etholiad gyda'r bwriad o rannu swydd mewn gwirionedd, ond ceir enghreifftiau o swyddogion gweithredol yn gwneud hynny. Er enghraifft, yng nghyngor Abertawe, mae dau gynghorydd yn rhannu swydd y portffolio cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r enghraifft yn Wandsworth, lle mae dau ddirprwy arweinydd Llafur yn rhannu swydd, sydd i'w weld yn gynnydd da iawn. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei ystyried yma hefyd. Felly, er nad oes gennym unrhyw bobl etholedig yn yr ystyr honno, ceir symudiad tuag ato gyda rhannu'r swyddi gweithredol hyn.

Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud ein Cynulliad yn fwy cynrychioliadol, fod gennym bobl anabl, menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu, dynion sydd â chyfrifoldebau gofalu, a dim ond un o'r pethau y gallwn ei wneud i alluogi hynny i ddigwydd yw hyn. Felly, rwy'n cefnogi argymhelliad y panel arbenigol yn gryf, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu symud gyda'n gilydd a gweithio tuag at wneud hwn y lle cyntaf yn y DU lle mae gennym gynghorwyr ac Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol ar sail rhannu swydd.

Iawn. Un eiliad, Jane—o, rydym wedi mynd dros yr amser. Na, fe adawaf i Jane Hutt gael munud, felly munud.

Iawn. Rwy'n wirioneddol falch o ddweud ychydig o eiriau o blaid Siân Gwenllian yn y ddadl hon. Gwnaeth i mi gofio am lyfr a ysgrifennais, Making Opportunities—A Guide for Women and Employers, pan oeddwn yn gyfarwyddwr Chwarae Teg. Credwch neu beidio, mae 26 mlynedd ers i mi ysgrifennu a chyhoeddi'r llyfr, a cheir penodau ar bopeth sydd angen i ni ei wybod a phopeth yr ydym yn dal i geisio ei wneud o ran ceisio gwneud Cymru yn lle mwy cynrychioliadol—penodau ar recriwtio a chadw, gofal plant. Ceir pwyntiau diddorol, wrth gwrs, drwy'r llyfr ynglŷn â sut y gallwn wneud Cymru'n fwy cynrychioliadol yn ein gweithle, ac fe ddarllenaf ddarn o'r bennod ar rannu swydd:

'Gwelir rhannu swyddi fel atyniad mawr wrth recriwtio a chadw gweithwyr sy'n fenywod, yn enwedig i rai sy'n cael neu wedi cael seibiant swydd neu yrfa. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan gyflogeion gwrywaidd fel ffordd o gyfuno cyfrifoldebau cartref a gwaith, ac arallgyfeirio profiadau gwaith.

Felly, efallai y gallaf estyn hwn i'r bwrdd taliadau wrth iddynt edrych ar faterion ymarferol. Ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn bwrw ymlaen â hyn. Rydych wedi gwneud llawer o waith yn egluro sut y gallem fynd i'r afael â hyn, ac rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda o sut y gallwn ymateb i'r panel arbenigol, ac rwy'n cefnogi eich dadl a'ch bwriadau heddiw yn llwyr.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl yma i'r Siambr ac am roi'r cyfle inni drafod y mater diddorol a phwysig yma, ac am y sylwadau cefnogol sydd wedi cael eu rhoi hefyd gan ddwy Aelod arall. Fel sydd wedi cael ei esbonio eisoes, mae'n amserol iawn fod Siân Gwenllian wedi dewis codi'r mater yma nawr, gan y bydd Comisiwn y Cynulliad cyn bo hir yn dechrau'r broses o drafod pa elfennau o agenda diwygio etholiadol y Cynulliad y dylid eu datblygu, a phryd y dylid gwneud hynny—ai erbyn 2021 ynteu erbyn 2026?

Bydd angen i unrhyw benderfyniad ynghylch unrhyw elfen o ddiwygio etholiadol sicrhau consensws eang ar draws y Siambr yma, wrth gwrs, a bydd angen mwyafrif o ddau draean o bleidleisiau'r Aelodau i hynny—ychydig bach yn fwy na beth sydd yn y Siambr ar y pwynt yma.

Mae Siân wedi dewis canolbwyntio ar un elfen bwysig o'r agenda yma, elfen sy'n sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Cynulliad Cenedlaethol, ac yn sgil hynny, mae wedi codi'r cwestiwn a allai caniatáu i Aelodau Cynulliad rannu swydd arwain at greu Cynulliad sy'n fwy cydradd o ran rhywedd. Bydd yr Aelod, fel mae hi wedi disgrifio, yn ymwybodol bod hwn yn fater a godwyd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn ei adroddiad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Mae adroddiad y panel yn cyfeirio at y ffaith mai:

'Un o'r egwyddorion sy'n rhan o ethos y Cynulliad yw y dylai gweithio mewn modd sy'n ystyriol o deuluoedd fod yn rhan annatod o'i ddiwylliant a'i weithdrefnau, cyn belled â phosibl.'

O'r cychwyn cyntaf, rydym wedi llunio a dilyn amserlen fusnes a gwaith sy'n ymdrechu i adlewyrchu'r egwyddor yma. Fodd bynnag, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, yn rhannol o ganlyniad i faterion capasiti a rhagor o gyfrifoldebau, nad ydym bob amser wedi cadw at ein gair ar hynny. Y gwir yw, fel mae adroddiad y panel arbenigol yn ei awgrymu, ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gan Aelodau yn y lle yma o ran eu diwrnodau gwaith, ac mae hyn yn cael ei ategu, yn fy marn i, gan y gofynion a'r cyfrifoldebau cynyddol ar sefydliad nad oes ganddo ddigon o Aelodau.

Mae'r effaith a gaiff hyn wedi'i nodi mewn nifer o adroddiadau ac astudiaethau, er enghraifft y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor yn 2014 i werthuso'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll i'w hethol i'r Cynulliad. Roedd yr astudiaeth yma yn ystyried yr effaith ar unigolion a'u teuluoedd o gael eu hethol i'r sefydliad yma a sut y gallai'r ffactorau hyn atal pobl eraill a hoffai sefyll i gael eu hethol. Mae'r atebion posibl yn niferus, wrth gwrs, ac yn esgor ar wahanol gymhlethdodau, ond mae'n werth ystyried pob un os ydym am sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Senedd genedlaethol.

Yn rhannol â hyn mewn golwg, fe wnaeth y panel arbenigol archwilio'r potensial i ymgeiswyr gael eu dewis a sefyll i'w hethol ar sail trefniant rhannu swydd. Cyfeiriodd y panel at ddadleuon a wnaed mewn pamffled gan Gymdeithas Fawcett, a oedd yn dweud y byddai rhannu swydd yn gam cymesur tuag at ei gwneud yn bosib i fwy o bobl ystyried sefyll i'w hethol ac i wneud cynrychiolaeth seneddol yn fwy amrywiol. Yn ogystal, daethpwyd i'r casgliad y gallai rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.

Argymhelliad y panel, felly, oedd y dylid newid gweithdrefnau a chyfraith etholiadol i alluogi ymgeiswyr i sefyll i'w hethol ar sail trefniadau tryloyw rhannu swydd, ac fe osododd y panel rai egwyddorion cyffredinol eang iawn y gellid eu dilyn i gyflawni hyn. O ganlyniad, penderfynodd Comisiwn y Cynulliad fod yr argymhelliad yn un diddorol ac y byddai'n werth ei gynnwys fel pwnc yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw rhwng Chwefror ac Ebrill eleni, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi'r prif ymatebion cychwynnol cyn toriad yr haf.

Mae'r gwaith hwn yn gofyn am ddadansoddiad manwl er mwyn sicrhau ei fod yn gallu llywio penderfyniad yr Aelodau. Gallaf gadarnhau yma heddiw, fodd bynnag, fod y Comisiwn wedi cael dros 3,200 o ymatebion i'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hynny'n destun calondid, bod yna ymateb sylweddol wedi digwydd i'r ymgynghoriad. Rydw i'n edrych ymlaen, felly, i ddarllen rhai o'r sylwadau i'r ymgynghoriad a chlywed sylwadau'r Aelodau ar y maes polisi cymharol gymhleth hwn. Mae'n fater sy'n sicr yn cynnig cyfleoedd, ond nid oes gennyf amheuaeth hefyd ei fod yn esgor ar nifer o heriau ymarferol, gwleidyddol a chyfreithiol.

Un rheswm dros hyn, fel y nodwyd yn adroddiad y panel, yw'r penderfyniad ar achos yn yr Uchel Lys yn 2015 na chaniateir rhannu swydd ar gyfer etholiadau San Steffan yn ôl y gyfraith etholiadol. Fel y mae, byddai hynny hefyd yn wir ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yma. Yn yr achos penodol hynny, fe wnaeth dwy fenyw gais i swyddog canlyniadau etholaeth Basingstoke i sefyll ar y cyd ar gyfer etholiad San Steffan ar ran y Blaid Werdd, fel y cyfeiriodd Siân Gwenllian ynghynt. Fe wrthodwyd y cais yma gan y swyddog canlyniadau ac fe heriwyd y penderfyniad yn aflwyddiannus yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Mae'r cyngor cyfreithiol cychwynnol rwyf i wedi'i gael hefyd yn bwrw amheuaeth ynghylch cymhwysedd y Cynulliad hwn i wneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i weithredu polisi o'r fath, yn enwedig pe byddai'r Aelodau yn dymuno i Aelod Cynulliad sy'n rhannu swydd gael bod yn Weinidog neu Ysgrifennydd Cabinet.

O safbwynt mwy ymarferol, mae'n wir o hyd nad oes cynsail yn unrhyw le arall o Aelodau etholedig yn rhannu swydd. Mae yna enghreifftiau oddi fewn i Senedd Ewrop nad ydynt yn annhebyg i drefniant o'r math yma, ond maent yn drefniadau o fewn pleidiau gwleidyddol yn hytrach na threfn etholiadol statudol. Rydw i'n ymwybodol, er enghraifft, o Aelodau Senedd Ewrop yn ildio'u sedd yn ystod y tymor a hynny er mwyn galluogi'r person nesaf ar y rhestr i ymgymryd â'r rôl am weddill y tymor. Yn etholiadau Ewrop yn 2014, enillodd cynghrair Dewis y Bobl o Galicia un sedd. Penderfynodd y gynghrair y dylid caniatáu i un Aelod wasanaethu am ran o'r tymor ac Aelod arall wasanaethu am ran arall y tymor—Ana Miranda Paz—ac mae hi yn awr newydd gael ei hethol am ail gyfnod y tymor seneddol Ewropeaidd wrth i'r Aelod arall sefyll lawr er mwyn caniatáu iddi hi gael ei hethol. Job share o fath gwahanol, wrth gwrs, ond job share, serch hynny, mewn rhyw ffordd.

Fel y soniais, sefydlwyd y drefn yma oddi fewn i gynghrair neu blaid wleidyddol yn hytrach na thrwy osod deddfwriaeth ac mae hynny dipyn yn wahanol i sefyllfa lle mae dwy neu ddau wleidydd yn cael eu hethol i gyflawni un rôl. Yn sicr, er mwyn i hyn weithio, byddai angen i etholwyr gael sicrwydd mewn perthynas ag ymarferoldeb rhannu swydd, yn enwedig o ran pwy sy'n ysgwyddo'r atebolrwydd a chyfrifoldeb, ac o ran costau.

Mae cwestiynau i'w gofyn hefyd ynghylch a fyddai creu cyfraith i ganiatáu rhannu swydd o anghenraid yn arwain at bleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu ymgeiswyr sy'n rhannu swydd. Mater o wleidyddiaeth yw hynny; nid mater o gyfraith.

Nid oes dim o'r pethau hyn yn esgus dros beidio gweithredu, wrth gwrs, nac ychwaith yn rheswm dros ddiystyru'r syniad yn llwyr. Mae'n destun balchder gen i fod y Cynulliad yma yn un sydd yn arloesol ac yn feiddgar, ond byddai angen gwneud gwaith sylweddol cyn y gallai Comisiwn y Cynulliad, yr Aelodau a'r  etholwyr fod yn hyderus y gallai polisi o'r fath gael ei weithredu'n effeithiol. Nawr, wrth gwrs, mae'r pwerau ar etholiadau'r Cynulliad yma'n gorwedd yn y Cynulliad yma, ac rŷm ni'n gallu cael trafodaeth o'r math arloesol, diddorol yma lle, mewn Cynulliadau cynt, fe fyddem ni wedi trafod rhywbeth na fyddai'n bosib i ni ei gyflawni fel Cynulliad.

Felly, rydw i'n ddiolchgar am y drafodaeth sydd yn cychwyn heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gosod cynsail clir i'r Cynulliad yma i fod yn feiddgar yn sut rŷm ni'n dyfeisio ein systemau etholiadol i'r dyfodol.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:48.