Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
06/06/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Dymunaf gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni, felly, y pryhnawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyliau a digwyddiadau yng Nghymru? OAQ52267
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau a gwyliau ledled Cymru. Yn 2018, rydym wedi cadarnhau cyllid ar gyfer 24 o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr megis Ras Cefnfor Volvo, a’n digwyddiadau diwylliannol ein hunain megis Gŵyl Gomedi Machynlleth a Gŵyl Steelhouse.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am amlinellu'r hyn sy'n amlwg yn hanes blaenorol trawiadol o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r gwyliau lleol hyn, wrth gwrs, yn gyfle i arddangos ein treftadaeth a'n hanes. Rwy'n siŵr eich bod yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch y tîm a fu’n gyfrifol am ŵyl ddiweddar Merthyr Rising. Dros bum mlynedd, maent wedi datblygu llwyddiant cynyddol i'r dref o gwmpas yr ŵyl, gan adeiladu ar ei hanes radicalaidd. Ond os ydym am ddefnyddio ein treftadaeth ochr yn ochr â'r gwyliau hyn i ddatblygu economïau lleol, sut y gallwn sicrhau ein bod yn cadw adeiladau hanesyddol ar agor i'r cyhoedd, megis peiriandy Ynysfach, a oedd mor ganolog i hanes gwrthryfel Merthyr ond sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers dechrau'r flwyddyn?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn? Rwyf innau’n cymeradwyo trefnwyr gŵyl Merthyr Rising. Mae'n hollbwysig ein bod yn defnyddio digwyddiadau mawr a digwyddiadau cerddorol, diwylliannol a chwaraeon llai i arddangos a dathlu ein hanes, ein treftadaeth a'n diwylliant, ac fe wnaeth gŵyl Merthyr Rising yn union hynny. Rwy'n falch o ddweud, o ran parhau i gefnogi digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol eraill yn y gymuned, ein bod hefyd yn ariannu her Merthyr Tudful, sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol, a dargedir yn benodol at wella cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau mewn digwyddiadau chwaraeon yn yr ardal.
O ran sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle a ddarperir gan yr economi ymwelwyr, mae'n hollbwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn gynnal modelau busnes cynaliadwy ar gyfer yr holl asedau treftadaeth a diwylliannol, gan gynnwys y rhai a nodwyd gan yr Aelod. Rwy'n awyddus i sicrhau, gyda fy nghyd-Aelod, ein bod yn edrych ar gynaliadwyedd asedau hanesyddol a diwylliannol ledled y wlad. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf yn ein hamgueddfeydd, yn ein llyfrgelloedd, yn ystâd Cadw ac rwy'n awyddus i sicrhau, wrth i ni symud ymlaen, ein bod yn defnyddio ein hadnoddau cyfalaf gwerthfawr i gynnal a gwella profiad yr ymwelwyr yn y cyfleusterau hynny sy'n denu pobl i gymunedau megis y rhai a wasanaethir gan yr Aelod dros Ferthyr Tudful.
Prynhawn da, Weinidog. Mae gwyliau yng Nghymru yn gyfle gwych i ddenu twristiaid a hybu economïau lleol. Er enghraifft, mae Gŵyl Fwyd y Fenni wedi tyfu i fod yn un o wyliau bwyd mwyaf y Deyrnas Unedig gan ddenu dros 30,000 o ymwelwyr i'r Fenni a chynhyrchu oddeutu £4 miliwn ar gyfer yr economi leol hon. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chyd-Aelodau’r Cabinet i gefnogi gwyliau bwyd, fel y Fenni, er mwyn cynyddu twristiaeth a'r economi ledled Cymru, os gwelwch yn dda?
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae’n codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â gwerth y sector bwyd a diod i Gymru, ac yn arbennig, o ran denu ymwelwyr i Gymru. Mae Gŵyl Fwyd y Fenni ymysg llawer o wyliau bwyd yng Nghymru sy'n mynd o nerth i nerth. Rydym yn cefnogi nifer fawr o wyliau bwyd a diod bellach yng Nghymru, gan eu bod nid yn unig yn cefnogi microfusnesau a busnesau bach yn y sector hwnnw, maent hefyd yn denu llawer o ymwelwyr i Gymru. Felly, yn ogystal â llongyfarch trefnwyr Gŵyl Fwyd y Fenni, hoffwn longyfarch trefnwyr y gwyliau eraill sy’n canolbwyntio ar fwyd a diod, yn ogystal â threfnwyr gwyliau lle mae bwyd a diod yn cynrychioli gwerth ychwanegol. Dylem nodi bod Gŵyl y Gelli wedi’i chynnal yn ddiweddar a bu’n llwyddiant ysgubol unwaith eto. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r trefnwyr am y digwyddiad hwnnw.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod bwyd a diod bellach yn un o'n sectorau sylfaen blaenoriaethol, ac wrth inni ddatblygu cynlluniau galluogi ar gyfer pob un o'r sectorau sylfaen, rwy'n gwbl sicr y bydd rôl gwyliau yn dod yn bwysig iawn ar gyfer arddangos ein cynnyrch.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am economi dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52269
Mae strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i wella'r economi a'r amgylchedd busnes ledled Cymru, gan gynnwys yn rhanbarth bae Abertawe.
Diolch am eich ateb. Rwy’n awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd y brifysgol fel sbardun economaidd, o ran creu cyflogaeth sgil uchel gyda chyflogau uchel. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd dinasoedd fel sbardunwyr twf. Ar y cyd â'r brifysgol, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried creu parc busnes a chanolfan entrepreneuriaeth a fydd yn darparu platfform sefydlu a deori i fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr yn y rhanbarth.
Credaf fod gan brifysgolion rôl hanfodol yn asio eu gwaith â busnesau newydd, yn enwedig yn y sector technoleg. Credaf fod rhanbarth bae Abertawe yn dangos arbenigedd o'r radd flaenaf yn datblygu cwmnïau newydd cyffrous yn y sector technoleg. Credaf ei bod yn deg dweud bod methodoleg Creu Sbarc yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio go iawn rhwng rhanddeiliaid. Mae cydweithrediad y brifysgol mewn gweithgareddau busnes yn hollbwysig. Mae'n sbarduno twf economaidd a chredaf ei fod yn rhannu ffyniant yn decach ledled y wlad. Felly, i gefnogi hyn, cyhoeddais dendr canolfannau menter gwerth £5 miliwn yn ddiweddar, a fydd yn creu'r mannau deori a ddisgrifiodd yr Aelod ac a fydd yn ysgogi cydweithrediad ac ymddygiad entrepreneuraidd ledled y wlad.
Wrth gwrs, mae'r prifysgolion yn bartneriaid allweddol yn y fargen ddinesig, ond mae mwy i’r dinas-ranbarth a’r fargen ddinesig, ac mae pob un ohonom yma, gobeithio, yn ystyried y lle yn gyrchfan wych i ymwelwyr—mae pob un ohonom yn gyfarwydd â’r Gŵyr a rhai o'r atyniadau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys cwm Afan. Ond nid yw treftadaeth a thirweddau cymoedd Castell-nedd a Dulais yn cael eu dathlu ddigon ac mae eu hawdurdod lleol yn ei chael hi'n anodd cynnal yr asedau sydd yn ei berchnogaeth, ac wrth gwrs, nid oes ganddynt dîm twristiaeth. Os ydych am i ymwelwyr ddod i aros neu ddychwelyd, mae angen iddynt deimlo eu bod yn colli rhywbeth. Felly, sut y gall potensial twristiaeth y cymoedd hyn fod yn fwy gweladwy yn ymgyrchoedd hyrwyddo Llywodraeth Cymru, ond hefyd yng ngweithgarwch tasglu’r Cymoedd?
Rwy'n awyddus iawn i weld y cynlluniau rhanbarthol sydd wrthi'n cael eu llunio ar hyn o bryd yn ogystal â'r cynlluniau galluogi ar gyfer y sectorau sylfaen, gyda thwristiaeth yn un ohonynt, er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r holl gymunedau a'r holl asedau a all sbarduno'r economi ymwelwyr. Mae'r cyrchfannau penodol a nodwyd gan yr Aelod yn gyfleoedd amlwg. Yn wir, efallai y cânt eu hystyried mewn cyfnod o gyni yn faich ar yr awdurdod lleol, ond yn y tymor hwy, rwy'n hyderus y gall asedau hanesyddol—safleoedd treftadaeth sydd wedi'i chael hi'n anodd yn ddiweddar—ddod yn nodwedd bwysicach o'r cynnig a ddatblygwn i ymwelwyr, ac felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, wrth i'r cynlluniau rhanbarthol a'r cynlluniau galluogi gael eu datblygu ar gyfer y sectorau sylfaen, y byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio twristiaeth, bwyd a diod, manwerthu a gofal i rannu ffyniant yn fwy cyfartal ledled rhanbarthau Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i'r economi dyfu, mae trafnidiaeth, yn amlwg, yn un agwedd ar hynny. Gwn fod Mark Barry yn cynnig metro de Cymru, sy'n tynnu sylw at rôl y system drafnidiaeth yn ardal de Cymru ac yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn benodol, ond mae cael gwared ar orsaf Castell-nedd, sydd yn fy mwrdeistref sirol, oddi ar y brif linell yn rhan bosibl o'r cynnig hwnnw. A allwch roi sicrwydd pendant na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gynnig ar gyfer system metro yn yr ardal honno a fydd naill ai'n cau neu'n cael gwared ar orsaf Castell-nedd oddi ar y brif linell, i sicrhau y gall y bobl yn yr ardal honno gymudo ledled y rhanbarth yn rhydd gan wybod y bydd eu gorsaf yn dal i fod yno?
A gaf fi ddiolch i David Rees am y cwestiwn pwysig hwn ar gyfer y rhanbarth cyfan, ond yn arbennig ar gyfer y gymuned y mae gorsaf Castell-nedd yn ei gwasanaethu? Gadewch imi ddweud yn gwbl glir: ni waeth pwy sy'n argymell beth, bydd gorsaf Castell-nedd yn parhau i fod ar y brif linell. Yn ogystal â hynny, nid yn unig y bydd gorsaf Castell-nedd yn cael ei diogelu; bydd gorsaf Castell-nedd yn cael ei gwella fel rhan o gytundeb y fasnachfraint rhyngom a KeolisAmey, sy'n sicrhau bod £194 miliwn yn cael ei wario ar holl orsafoedd trên Cymru, gan gynnwys gorsaf Castell-nedd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae cael mynediad llawn i'r farchnad sengl Ewropeaidd trwy aelodaeth o'r farchnad honno, gan gynnwys yr undeb tollau, yn hanfodol bwysig i fusnesau yng Nghymru. Mae 60 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi clywed yr wythnos yma fod yr Undeb Ewropeaidd wedi dechrau cynghori busnesau yn Ewrop i feddwl ddwywaith cyn defnyddio cydrannau ceir o Brydain o hyn ymlaen. Mae'r sector cydrannau ceir yn dal i fod yn un pwysig iawn yma yng Nghymru, ac mae'r potensial o'r cyngor yma rŵan o fewn y diwydiant ar gyfandir Ewrop yn un a allai fod yn niweidiol tu hwnt. A ydych chi'n cytuno efo fi, felly, fod ymdrechion y Llywodraeth Geidwadol i dynnu Prydain allan o'r undeb tollau yn debyg o fod yn niweidiol iawn o ran y sector cydrannau ceir yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod ein safbwynt yn glir iawn ac yn seiliedig ar ein Papur Gwyn ar fasnach? Mae arnom angen undeb tollau i gyflawni busnes â hwy, ac rwy'n pryderu'n fawr nid yn unig am ddyfodol y sector modurol, ond am ddyfodol yr holl sectorau sy'n dibynnu ar drefniadau tollau rhwydd. Nawr, wrth gwrs, mae cyfleoedd i'w cael ar gyfer y sector modurol o ran marchnad sengl y DU, ond ceir bygythiadau sylweddol hefyd fel y nododd yr Aelod.
Rydych yn gwneud yn fach o bethau braidd, ond fe wnaethoch chi ailddatgan safbwynt y Blaid Lafur, sef y dylai fod gennym ein hundeb tollau ein hunain wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach nag undeb tollau'r UE. Nid hollti blew yw hyn—rydych yn sôn am undeb tollau newydd gydag esemptiadau penodol rhag cyfreithiau penodol yr UE. Nawr, buaswn yn dadlau bod hynny yr un mor anymarferol ag opsiwn 'max fac' enwog Theresa May. Byddai'n amhosibl, yn fy marn i, i'r UE dderbyn sefyllfa lle y gall gwlad nad yw'n rhan o'r UE fwynhau manteision llawn masnach ddiffrithiant gyda'r UE heb ddilyn holl reolau'r UE. Nawr, yn syml, nid yw safbwynt y Blaid Lafur, yn fy marn i, yn gwneud mwy na safbwynt y Torïaid i ddiogelu, yn yr achos hwn, y sector cydrannau ceir yng Nghymru. Ond i symud ymlaen, ni fyddai aelodaeth o'r undeb tollau ynddi'i hun hyd yn oed yn sicrhau masnach ddiffrithiant. Mae aelodaeth o'r farchnad sengl hefyd yn angenrheidiol ar gyfer hynny. A yw Llywodraeth Cymru yn dal i gredu mai bod yn aelod o farchnad sengl yr UE sydd orau er budd economi Cymru?
Wel, unwaith eto, rydym wedi dweud yn gwbl gyson ein bod yn credu y bydd arnom angen mynediad at y farchnad sengl wrth inni adael yr UE. Mewn perthynas â threfniant tollau, rydym hefyd wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid inni gael amgylchedd rheoleiddiol cyson ledled y DU ac Ewrop er mwyn sicrhau y gall nwyddau a gwasanaethau gael eu cludo'n rhwydd, a bod arnom angen trefniadau tollau rhwydd a di-dor hefyd.
Unwaith eto, rydych yn gwneud yn fach o derminoleg benodol: 'mynediad at y farchnad sengl Ewropeaidd'. Unwaith eto, nid hollti blew yw hyn. Yr wythnos nesaf, bydd gan Dŷ'r Cyffredin gyfle, fel y gwyddoch, i drechu Llywodraeth y DU ar nifer o welliannau a allai ddiogelu buddiannau economi Cymru. Bydd un ohonynt ar welliant gan yr Arglwyddi i gadw'r DU yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Nawr, pe bai Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi'r gwelliant ynghyd ag Aelodau Seneddol Plaid Cymru a fydd yn gwneud hynny, byddai'r Llywodraeth yn debygol o gael ei threchu, gan orfodi'r Llywodraeth, i bob pwrpas, i gyflawni'r hyn y gellid ei ystyried yn Brexit meddal, sy'n fwy buddiol i economi Cymru. Mae Jeremy Corbyn, fodd bynnag, wedi gorchymyn ei Aelodau Seneddol i ymatal rhag pleidleisio, gan ddewis ei syniad ei hun, sydd yr un mor anymarferol, yn fy marn i, o ofyn i'r UE adael i'r DU ei chael hi bob ffordd—y math o wleidyddiaeth ffantasi na chredaf y gallwn gamblo economi Cymru arni. Nawr, ar yr hyn a fydd yn un o'r pleidleisiau pwysicaf am genhedlaeth er budd swyddi, cyflogau a diwydiant Cymru, pa gyngor y byddwch yn ei roi i'ch cyd-Aelodau Llafur yn San Steffan i'w perswadio i gefnogi aelodaeth o'r AEE ac i'w darbwyllo i beidio â chael eu cofio fel galluogwyr Brexit caled y Torïaid?
Rydym wedi bod yn gwbl gyson, ac mae'r Aelod yn fy nghyhuddo o wneud yn fach o'r hyn a allai fod yn semanteg. Mewn gwirionedd, mae ein hymagwedd wedi bod yn glir iawn ac ni fydd yn newid. A bydd hynny'n llywio pob safbwynt y byddwn yn ei fabwysiadu o ran hysbysu ac annog Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ'r Arglwyddi. Rydym am weld mynediad at y farchnad sengl yn parhau ac rydym am fod yn aelod o undeb tollau. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y gambl fwyaf. Ar hyn o bryd, y gambl fwyaf wrth inni adael yr UE fyddai pe bai Cymru yn gadael yr undeb rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Yr hyn sy'n hollbwysig ar hyn o bryd yw ein bod yn cynnal—[Torri ar draws.]. Mae'n wir—mae'n wir mai'r gambl fwyaf a allai ddigwydd ar hyn o bryd fyddai annibyniaeth i Gymru wrth inni ymadael â'r UE. Mae angen i ni gynnal cysylltiadau cryf a da gyda gweddill y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac mae angen inni ddiogelu economi Cymru, yn yr un modd ag y mae angen gwarchod economi'r DU.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o bosibl, bydd y don newydd sydd ar y ffordd o ran datblygiadau technolegol mewn cerbydau trydan yn darparu llu o gyfleoedd economaidd newydd i Gymru. Rydych wedi dweud o'r blaen na fydd cynllun gweithredu economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodol, ond a ydych yn cytuno â mi y byddai'n anghywir pe na bai'n rhagnodol mewn rhai sectorau er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o effaith gadarnhaol gan dechnolegau newydd, gan gynnwys cerbydau trydan, ar swyddi ac ar dwf yng Nghymru?
Mae'r Aelod yn codi pwynt hanfodol bwysig, o ran y ffaith mai awtomatiaeth, mae'n debyg, yw'r her fwyaf sy'n wynebu llawer iawn o sectorau economi Cymru, ac y bydd pethau'n parhau i fod felly am flynyddoedd lawer, os nad degawdau. Ni fyddai busnesau am i ni fod yn rhy ragnodol yn y ffordd rydym yn cefnogi eu datblygiad yn y dyfodol, ond yr hyn a wnaethom yw creu galwad i weithredu, sef pum pwynt, yn y bôn, yn y meini prawf a osodwyd gennym er mwyn i fusnesau allu cael cymorth uniongyrchol gennym, sy'n cyfateb i'r pum ffactor a fydd yn sbarduno cynhyrchiant—ac wrth gwrs, mae croesawu awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn un o'r galluogwyr allweddol hynny.
Credaf ei bod yn gwbl hanfodol inni gydnabod bod llawer o fusnesau bach, micro a chanolig eu maint yn ddigon hyblyg i allu addasu i oes awtomatiaeth, ac y gall cwmnïau mwy gymryd mwy o amser i newid, er y gallant archwilio'r dyfodol yn well mewn rhai ffyrdd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau bod y galwadau i weithredu yr un mor berthnasol i fusnesau bach a chanolig a'n cwmnïau angori a'n cwmnïau sydd o bwys yn rhanbarthol hefyd. Mae'n hanfodol fod pob cwmni o bob maint, ledled Cymru, yn croesawu awtomatiaeth yn hytrach na cheisio'i gwrthsefyll.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond o ran fy meirniadaeth flaenorol, credaf fod angen i'r cynllun gweithredu economaidd gynnwys targedau diriaethol y gellir eu cyflawni. Ond rwy'n deall yr hyn a ddywedwch o ran peidio â bod yn rhy rhagnodol o ran beth fyddai busnesau ei eisiau, ond nid yw hynny'n golygu nad yw hyn yn waith y gall y Llywodraeth ei wneud yma. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad rydych wedi'i wneud o gynhwysedd cynhyrchiant trydan presennol Cymru ac o'i rhwydwaith ffyrdd presennol mewn perthynas â gallu'r seilwaith hwnnw i gynnal nifer fawr o gerbydau trydan yn y dyfodol yng Nghymru?
Rwyf wedi cyfarfod â'r Grid Cenedlaethol ac mae'n eithaf clir fod angen buddsoddiad sylweddol i gryfhau'r grid os ydym am i ddatblygiad cerbydau trydan fynd rhagddo fel y byddem yn dymuno, ac yn sicr fel y byddem yn dymuno er mwyn lleihau allyriadau carbon. Dylid darparu'r buddsoddiad hwnnw yn ganolog a dylid ei ddarparu'n gyflym. O'n rhan ni, rydym yn ystyried datblygu mwy o bwyntiau gwefru trydan, ond o ran y grid, os ydym am sicrhau bod y targedau a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd yn cael eu cyflawni, bydd rhaid cryfhau'r grid.
O ran trafnidiaeth a'r rhwydwaith ffyrdd, cefais fy nghofnodi'n dweud y buaswn yn hoffi gweld gwaith datblygu cefnffyrdd yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith o brofi cerbydau awtonomaidd, cerbydau trydan a cherbydau cysylltiedig hefyd. Hoffwn weld Cymru'n achub y blaen ar wledydd eraill sy'n awyddus i ddefnyddio'r dechnoleg hon, ond sydd eto i ddangos dyhead cryf i wneud hynny.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, lansiwyd ein rhaglen 'Dinasoedd Byw' gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig, lle roeddem yn amlinellu nifer o ymrwymiadau polisi mewn perthynas â cherbydau trydan. Yn benodol, amlinellwyd cynigion i greu cronfa ffordd i ffyniant a fyddai'n galluogi i 10,000 o bwyntiau gwefru ceir trydan gael eu gosod ledled Cymru erbyn 2030 ac yn sicrhau bod canolfan ragoriaeth newydd yn cael ei chreu i gefnogi'r gwaith o greu technoleg cerbydau trydan newydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gynnig eich cefnogaeth i'r cynigion hyn ac ymrwymo i gyflwyno polisïau i gefnogi'r uchelgais hwn?
Buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod—. Dylwn ddweud y buaswn yn falch o gyfarfod â'r Aelod i drafod y cynigion, gan y credaf eu bod yn cyd-fynd yn daclus â'n cynigion ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg ac ar gyfer y sector modurol yn gyffredinol. Ac yn wir, o ran hynny, maent yn cyd-fynd yn berffaith â'r gwaith y mae'r Athro Brown wrthi'n ei wneud mewn perthynas ag awtomatiaeth a digido. Felly, buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod yr union gynigion a geir yn yr adroddiad, ac i weld lle y gallwn sicrhau, gyda'n gilydd, ar sail drawsbleidiol, y gallwn weithio gyda'n gilydd i hybu'r economi yn y modd y mae'n rhaid ei hybu yn oes awtomatiaeth, sef drwy groesawu technoleg ddigidol.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau'n cadarnhau yn gyson mai yng Nghymru y mae'r nifer uchaf o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi, sef yr uchaf yn y DU ar 24 y cant, serch hynny, mae'r rheini sydd yn y Siambr hon ac ar gyflogau da wedi penderfynu na fydd nwy siâl yn cael ei echdynnu yng Nghymru, a dyna ni. Fodd bynnag, o gofio'r sefyllfa a nodir uchod, onid yw'n bryd ailwerthuso'r dystiolaeth helaeth sy'n bodoli bellach mewn perthynas â'r diwydiant hwn? Dylwn ychwanegu fy mod yn gofyn y cwestiwn hwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan y gallai arwain at fuddion economaidd enfawr i'r wlad hon.
Wrth gwrs, nid wyf yn gyfrifol am ynni, ond atebaf y cwestiwn gan y credaf ei fod yn gwestiwn pwysig iawn. Na, ni fyddwn yn newid ein hymagwedd mewn perthynas â nwy siâl. Yn hytrach, a nodir hyn yn glir iawn yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym yn awyddus i weld lles a chyfoeth yn gwella yn gyffredinol ledled Cymru, ond rydym hefyd yn awyddus i weld anghydraddoldeb o ran y ddau beth yn lleihau. Rydym yn dymuno gweld ffyniant yn cael ei rannu'n decach ledled Cymru, a gall pob agwedd ar Lywodraeth gyfrannu at yr agenda honno. O ran ynni, mae Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig wedi dweud yn glir iawn, fod yn rhaid i brosiectau ynni yn y dyfodol fod yn seiliedig a chanolbwyntio ar egwyddor gryfach o berchnogaeth gymunedol, er mwyn darparu cyflenwadau ynni rhatach, mwy hygyrch, mwy fforddiadwy a mwy dibynadwy ar gyfer cartrefi pobl. Mae'n gwbl gywilyddus fod pobl yn dal i fyw mewn tlodi ynni, ac rydym yn mynd i'r afael â hynny drwy sicrhau bod perchnogaeth gymunedol yn ganolog mewn rhaglenni ynni yn y dyfodol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei esboniad, sydd, wrth gwrs, yn ailadrodd yr un hen bolisïau. Mae'r Unol Daleithiau ar flaen y gad o ran y diwydiant echdynnu nwy siâl, ac mae hynny wedi arwain at gyfoeth enfawr i'r wlad honno. Mae llawer o wledydd eraill ledled y byd bellach yn ceisio manteisio ar yr adnodd newydd hwn, gan gynnwys Tsieina, Canada, Mecsico ac Indonesia, yn ogystal â gwledydd eraill yn Ewrop, sy'n cynnwys Iwerddon, Gwlad Pwyl, yr Almaen a Denmarc.
Mae pob un ohonynt yn anghywir.
Mae tanwydd nwy yn llawer glanach nag unrhyw danwydd ffosil arall, ac yn wir, o ystyried tystiolaeth ddiweddar, mae'n llawer glanach, o bosibl, na'r sglodion coed rydym yn eu defnyddio i wresogi'r adeilad hwn. Mae'r peryglon sy'n ymwneud ag echdynnu wedi'u gorliwio i raddau helaeth, fel y mae ystadegau o'r Unol Daleithiau wedi'i brofi dros nifer o flynyddoedd. Does bosib, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes gan bobl Cymru hawl i weld yr adnodd enfawr hwn yn cael ei archwilio'n briodol o leiaf, yn enwedig o gofio bod gan y diwydiant echdynnu botensial i greu cannoedd o swyddi â chyflogau da.
Buaswn yn dadlau mai ynni adnewyddadwy, mewn gwirionedd, sydd â photensial i greu mwy o swyddi a swyddi sy'n gynaliadwy. A hefyd o ran ynni adnewyddadwy, gallwch warantu y bydd ar gael yfory, ond pan fyddwch wedi echdynnu'r holl nwy siâl, bydd wedi mynd. Yn fy marn i, ateb cyflym yw safbwynt yr Unol Daleithiau, ymagwedd yma heddiw ac wedi mynd tuag at ynni, echdynnu cymaint o ynni ag y gallwch neu gymaint o nwy ag y gallwch er mwyn darparu twf economaidd yn y tymor byr. Mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'r contract economaidd sy'n edrych ar arferion busnes cyfrifol, a'r cynllun gweithredu economaidd sy'n edrych ar dwf cynaliadwy hirdymor. Felly, buaswn yn dal i ddadlau y dylem ganolbwyntio ar ddatblygu ynni adnewyddadwy, yn hytrach na mynd ar drywydd yr ateb cyflym tymor byr hwnnw i broblemau economaidd, sef yr hyn a geir yn yr Unol Daleithiau wrth iddynt fynd ar drywydd nwy siâl.
Rydych yn amddiffyn y mater yn huawdl, fel y gwnewch bob amser, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gofynnaf eto: a yw'n iawn ein bod yn caniatáu i chwarter ein poblogaeth fyw mewn tlodi pan fo gennym adnodd naturiol gwerth biliynau o bunnoedd yn segur o dan ein traed? Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifir y gall fod hyd at 34 triliwn o droedfeddi ciwbig o nwy yng Nghymru, gydag o leiaf 12 triliwn yn gwbl hygyrch. Pe manteisid ar yr adnodd hwn, ni fyddai arnom angen gorsaf bŵer niwclear wedi'i hadeiladu gan uwchgwmnïau o Ffrainc a Tsieina; ni fyddai'n rhaid inni weld ein tirwedd yn cael ei anharddu gan araeau enfawr o felinau gwynt neu filoedd o erwau o gaeau glas wedi'u gorchuddio gan baneli solar; ac ni fyddai angen inni fewnforio miloedd o dunelli o nwy petrolewm hylifedig wedi'i gludo ar longau o ben draw'r byd, ac ar ba gost i'r amgylchedd? Does bosib, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi buddiannau pobl dlotaf Cymru o flaen athrawiaeth wleidyddol.
Credaf ei bod bwysig iawn cadw'r cwestiwn ynglŷn a thlodi ynni, a sut rydym yn datrys tlodi ynni, ar wahân i'r syniad o fanteisio ar adnoddau naturiol sydd yma heddiw, ond pe baem yn manteisio arnynt ni fyddent yma yfory a byddent wedi mynd i bob un o genedlaethau’r dyfodol. Nid ydym yn cefnogi echdynnu nwy siâl. Ni fyddwn yn cefnogi echdynnu nwy siâl. Yr hyn y byddwn yn parhau i'w gefnogi yw datblygiad systemau datblygu ynni a all ddarparu ynni fforddiadwy a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ynni yn ein cymunedau. Wrth gwrs, mae prosiectau fel morlyn llanw Abertawe yn brosiectau braenaru i Gymru, byddant yn brosiectau newydd, ond gallant arddangos Cymru fel darparwr ynni adnewyddadwy ar gyfer miliynau o gartrefi, ac yn yr un modd ag y mae nwy siâl wedi rhoi rhywfaint o annibyniaeth ynni dros dro i'r Unol Daleithiau, yn y tymor hir, credaf y gallai cynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy ynni'r llanw roi rhywfaint o annibyniaeth ynni i Gymru hefyd, yn ogystal ag ynni fforddiadwy i bobl y wlad.
3. Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cyflawni o'r buddsoddiad o £60 miliwn mewn teithio llesol a gyhoeddwyd ym mis Mai? OAQ52275
Bydd yr arian yn darparu newid sylweddol o ran y gwaith o ddatblygu seilwaith teithio llesol ledled Cymru, a byddaf yn cyhoeddi sut rwy'n bwriadu dyrannu'r arian ychwanegol hwn cyn bo hir.
A fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod taer angen newid sylweddol arnom? Rwy'n edrych ar y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac nid yw'n braf i'w ddarllen, oherwydd yn 2013-14, roedd 53 y cant o'n plant yn cerdded i'r ysgol gynradd a 2 y cant yn beicio, a phedair blynedd yn ddiweddarach mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 42 y cant yn cerdded ac 1 y cant yn beicio. Mae gennym ostyngiad tebyg yn nifer y bobl dros 16 oed sy'n gwneud un daith teithio llesol o leiaf unwaith yr wythnos. Felly, mae gennym agenda heriol iawn yma. Felly, buaswn yn awyddus iawn i wybod pa ganlyniadau rydych yn disgwyl eu cyflawni o'r buddsoddiad sylweddol hwn.
Roedd yn amlwg yn siom clywed y Prif Weinidog yn dweud nad oedd yn teimlo'n ddiogel yn beicio o gwmpas Caerdydd—rhywbeth rwy'n ei wneud y rhan fwyaf o ddyddiau—felly beth yw'r canlyniadau rydych yn disgwyl eu cyflawni? Ar y naill law, a fyddech yn disgwyl iddi fod yn ddigon diogel i'r Prif Weinidog deimlo y gall feicio o gwmpas Caerdydd, ac a fyddech yn disgwyl bod gan bob ysgol mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd gynlluniau teithio llesol, fel bod dewis gan bob person ifanc i fynd i'r ysgol naill ai drwy feicio neu drwy gerdded yn ddiogel?
Iawn. A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn ac am ei diddordeb a'i hangerdd parhaol mewn perthynas â'r pwnc hwn? Yn fras, y canlyniad yr hoffem ei weld yw newid diwylliannol ac ymddygiadol o ran trafnidiaeth, ac er mwyn cyflawni hynny, mae arnom angen y seilwaith cywir a'r cymorth cywir ar ffurf hyfforddiant, er mwyn cael gwared ar y pryder sydd gan lawer o bobl o hyd ynglŷn â diogelwch, yn enwedig rhieni.
Bydd y £60 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn amlwg yn cynorthwyo i ddatblygu llwybrau mwy diogel, yn enwedig llwybrau mwy diogel i gerdded a beicio i ysgolion. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol yng nghanran y plant mewn ysgolion cynradd sy'n cerdded i'r ysgol fel arfer yn peri cryn bryder, felly rwyf wedi ymestyn y rhaglen teithiau iach, sydd wedi sicrhau bod swyddogion yn gweithio mewn ysgolion i annog y defnydd o feiciau yn ogystal ag annog cerdded i ysgolion, gan gynnig yr hyfforddiant cywir hefyd. Ond nid yn unig y byddwn yn ei hymestyn am flwyddyn arall; byddwn hefyd yn ymestyn y rhaglen i gynnwys rhieni. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod nid yn unig yn annog pobl ifanc i ymgymryd â theithio llesol, ond ein bod yn sicrhau hefyd fod eu rhieni yn ymgymryd â theithio llesol ac yn ddigon hyderus i ganiatáu i'w plant ymgymryd â theithio llesol.
Dylwn ddweud bod y £60 miliwn o gyllid yn ychwanegol at y cyllid blynyddol a ddyrennir drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd o ddiddordeb arbennig i'r Aelod mewn perthynas â llwybrau diogel i ysgolion. Hefyd, mae'n ychwanegol at y cyllid a ddyrennir i gynlluniau teithio llesol a'r gwaith rhagarweiniol drwy'r gronfa trafnidiaeth leol, ac wrth gwrs, y symiau sylweddol rydym yn eu gwario ein hunain, ar ein prosiectau ein hunain ar gefnffyrdd. Felly, at ei gilydd, rydym yn disgwyl gweld oddeutu £92 miliwn yn cael ei wario ar y seilwaith teithio llesol eleni a dros y ddwy flynedd ganlynol.
Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn parhau i gefnogi hyfforddiant a chyrsiau sy'n annog pobl i ymgymryd â theithio llesol. Mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi yn y bwrdd teithio llesol nesaf, a fydd yn cael ei gynnal yr wythnos hon, rwy'n credu. Mae'n rhywbeth y mae aelodau'r bwrdd wedi bod yn arbennig o awyddus i'w drafod, yn enwedig y rhaniad rhwng refeniw a chyfalaf, sy'n pennu i ba raddau y gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer pobl ifanc ac oedolion.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai yr hoffech ymuno â mi i longyfarch is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, a lansiodd eu strategaeth gynaliadwyedd heddiw a'r modd y maent am gynorthwyo staff y brifysgol a'r myfyrwyr i feicio rhwng cyfleusterau—ac fe feiciodd ef at y morglawdd, lle y lansiwyd polisi hwn ganddynt—a dyna sydd ei angen. Hefyd, mae angen i bobl allu beicio o gwmpas a rhwng eu cymunedau, nid rhwng cymuned a chanol dinas fawr yn unig, fel y gallwn gael mynediad da drwy lwybrau beicio at asedau cymunedol allweddol fel ysgolion, siopau ac amwynderau, ac yna byddwn yn normaleiddio hyn—mewn dinas fel Caerdydd, na allai fod wedi'i chynllunio'n well, mewn gwirionedd, ar gyfer beicio—fel ffordd ddewisol o deithio.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Credaf y dylid canmol is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am y cynllun a'i ganmol hefyd am fod yn feiciwr brwd. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar y gwaith o ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy'n rhan o'r mapiau rhwydwaith integredig fel galluogydd i bobl symud nid yn unig rhwng eu cartref a'u gwaith, ond hefyd o ran eu bywyd cymdeithasol—gallu cael mynediad at sinemâu, bwytai, siopau ac unrhyw fath arall o wasanaeth yr hoffant. Credaf, felly, ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar gynllunio seilwaith cymdeithasol drwy lens cliriach y teithio llesol y gellir ei ddarparu er mwyn mynd â phobl o'u cartrefi at seilwaith cymdeithasol.
Credaf fod sylwadau'r Prif Weinidog, waeth beth yw ei amgylchiadau personol, yn anffodus, gan fod hynny'n ychwanegu at y myth fod cerdded a beicio yn beryglus a bod y car yn ddiogel er mai'r car, mewn gwirionedd, yw'r peth peryglus yn ein cymunedau ac yn ein dinasoedd.
Rydych wedi cael eich holi'n dwll ynglŷn â beicio, felly gadewch imi eich holi ynglŷn â cherdded. Yn y £60 miliwn newydd hwn, beth fydd yn cael ei ddyrannu'n benodol er mwyn annog pobl i gerdded, sef y dewis hawsaf yn lle'r car, ac yn sicr, y ffordd orau o wneud ychydig o ymarfer corff hefyd? Ac wrth wneud hynny, a fyddwch yn nodi targedau ar gyfer yr hyn rydych yn disgwyl i'r arian a'r gwariant hwn ei gyflawni, oherwydd er mwyn atal y dirywiad, er enghraifft—fel y dywedodd Jenny Rathbone—o ran cerdded i'r ysgol, mae arnom angen targedau gweithredol yn ogystal â rhywfaint o arian y tu ôl i hynny.
Mae'r Aelod y llygad ei le o ran niferoedd. Gallai nifer y bobl sy'n cerdded ar hyn o bryd, er ei fod yn sylweddol, fod yn fwy o lawer, yn enwedig mewn perthynas â theithiau byr iawn. Ac mae'r Aelod yn llygad ei le hefyd mai pryder ynglŷn â diogelwch sy'n atal pobl ar hyn o bryd rhag cerdded teithiau bach yn hytrach na mynd mewn ceir.
Bydd y £60 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau sy'n cyflawni amcanion cerdded ac amcanion beicio, ond o ran yr anogaeth y nododd yr Aelod sy'n ofynnol i bobl gerdded mwy, bydd y cynllun teithiau llesol mewn ysgolion yn annog pobl ifanc i gerdded yn ogystal â beicio. Yn yr un modd, bydd y cynllun teithiau llesol a fydd yn cael ei gyflwyno i gynnwys rhieni yn annog rhieni i gerdded a beicio hefyd.
Wrth symud ymlaen, mae angen imi drafod gyda'r bwrdd teithio llesol pa drefniadau newydd y gellir eu rhoi ar waith er mwyn annog a chefnogi pobl nid yn unig i feicio, ond i gerdded yn amlach hefyd.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i wella diogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru? OAQ52271
Gwnaf. Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi'r camau y byddwn ni a'n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni ein targedau i leihau anafiadau. Ym mis Ebrill, cyhoeddais dros £4.5 miliwn o gyllid i ogledd Cymru drwy ein grantiau trafnidiaeth, i wella diogelwch, lleihau tagfeydd, creu twf economaidd a hybu teithio llesol.
Diolch. Rhwng mis Ebrill a mis Mai eleni, mewn cwta bythefnos, collodd saith unigolyn eu bywydau ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn anffodus, cafodd unigolyn arall ei ladd. Nawr, er gwaethaf lansiad cynllun diogelwch beiciau modur blynyddol Ymgyrch Darwen yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, mae o leiaf bum beic modur wedi bod yn rhan o'r digwyddiadau trasig hyn, pob un yn hynod o drallodus i deuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau. Mae Beicio Diogel yn gynllun eithriadol o dda ac wedi bod ar waith yng ngogledd Cymru ers peth amser. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y marwolaethau hyn y clywsom amdanynt, sydd wedi cael cryn dipyn o gyhoeddusrwydd—tybed a fyddech yn ystyried cynyddu'r cyllid ar gyfer y cynllun Beicio Diogel fel y gellir darparu hyfforddiant am ddim ledled canolbarth a de Cymru, oherwydd, wrth gwrs, pan fo damweiniau fel hyn yn digwydd, nid pobl gogledd Cymru sy'n colli eu bywydau bob tro; mae hyn yn effeithio ar Gymru gyfan. Rwy'n teimlo, pan fo gennych fenter mor dda â Beicio Diogel ar waith yng ngogledd Cymru, gydag ychydig o gyllid ychwanegol, efallai y gall estyn allan er mwyn lleihau marwolaethau ar ein ffyrdd yng ngogledd Cymru, ond felly hefyd ledled Cymru gyfan.
A gaf fi gydymdeimlo â theuluoedd y rhai a fu farw ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf? Rydym wedi gweld nifer sylweddol o feicwyr modur, yn arbennig, yn marw ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru eleni hyd yn hyn, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio'r adolygiad canol tymor o'r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd i wella nid yn unig darpariaeth camerâu GanBwyll ar ffyrdd gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod beicwyr modur yn gyrru'n ddiogel, a bod gyrwyr eraill hefyd yn gyrru'n ddiogel, gan nad beicwyr modur sydd ar fai bob amser pan fydd damweiniau'n digwydd—. Nawr, dangosodd adolygiad canol tymor y fframwaith diogelwch ar y ffyrdd fod dilyniant da—cynnydd da, yn hytrach—yn cael ei wneud o ran y targedau ar gyfer gostyngiad cyffredinol yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, ond roedd un ystadegyn penodol yn frawychus iawn, ac roedd yn ymwneud â chynnydd parhaus yn nifer y marwolaethau ymhlith beicwyr modur.
Gallaf roi gwybod i'r Aelod, yn ogystal â chynllun Beicio Diogel, ein bod bellach wedi dechrau cael trafodaethau gyda sefydliad diogelwch ar y ffyrdd dielw cenedlaethol ynglŷn â'r posibilrwydd o ddarparu eu cyrsiau beicio modur Two Wheels yng Nghymru, ac rydym yn edrych hefyd ar weithio gyda'r adran addysg ar y potensial i gynnwys diogelwch ar y ffyrdd ym maes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Mae'n hanfodol nad ydym ond yn edrych ar ddatrys y broblem hon heddiw, ond dylem edrych ar ddatrys y broblem am flynyddoedd i ddod, felly yr amcan ar gyfer y tymor byrrach fydd lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol drwy wella'r ddarpariaeth o gyrsiau. Yn y tymor hwy, hoffem sicrhau bod pobl ifanc, pan fyddant yn cyrraedd oedran lle gallant yrru beic modur, wedi cael yr addysg a'r hyfforddiant iawn a ddylai eu galluogi i yrru'n ddiogel.
Mae trigolion wedi bod yn ymgyrchu dros ostwng y terfyn cyflymder ar Ffordd Parc-y-fron yn Nhreffynnon i 30 mya ers peth amser bellach. Maent wedi bod yn ymgyrchu dros hynny er diogelwch y trigolion a cherddwyr a defnyddwyr y ffordd. Mae'r ffordd yn ffordd breswyl, gyda lleoedd parcio ar hyd-ddi gerllaw ysgolion, ac ar nifer o ffyrdd ymyl. Mae'n sefyllfa hurt, a dweud y gwir: mae'r terfyn cyflymder wrth fynd i mewn i'r rhan honno o Dreffynnon yn 30 mya wrth arwain i mewn i'r dref, yna mae'n codi i 40 drwy ran uchaf y dref ac yna mae'n newid i 60. Nawr, gwn fod—. Adolygwyd y terfyn cyflymder yn ddiweddar, ac mae'r terfyn wedi'i gadw ar 40, nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i'r trigolion, ac nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i minnau chwaith. Gwnaed y penderfyniad anghywir, a'r trigolion sy'n gorfod byw gydag ef. Gwn na fyddwch yn awyddus i roi sylwadau ar achos penodol, felly rwy'n defnyddio Treffynnon fel enghraifft, ond fel mater o egwyddor, a ydych yn cytuno y dylai preswylwyr gael y gair olaf ar derfynau cyflymder ar eu ffyrdd?
O dan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n gwbl hanfodol fod ymgynghori'n digwydd â thrigolion ar faterion sy'n gysylltiedig â'u diogelwch a'u lles, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys terfynau cyflymder yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad o weithredu parthau 20 mya, a lle bo hynny'n briodol, o ostwng terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya, er enghraifft y tu allan i ysgolion. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r ardal y cyfeiria'r Aelod ati. Rwy'n ymwybodol o'r amrywio yn y terfynau cyflymder heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Byddaf yn mynd ar drywydd y mater gyda'r awdurdod lleol, gan nad ein cyfrifoldeb ni, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol, oedd bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Fe roddaf wybod i'r Aelod beth yw esboniad yr awdurdod lleol am y penderfyniad hwnnw ac i weld a fydd dadansoddiad pellach o'r terfynau cyflymder yn yr ardal yn ystod y misoedd nesaf.
5. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ninas ranbarth bae Abertawe? OAQ52259
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd yn 2017, yn nodi ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'r rhan fwyaf o'r symud yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn digwydd o fewn y rhanbarth, nid allan ohono. Credaf fod angen cwblhau'r llwybrau beicio, ailagor gorsafoedd trenau megis Glandŵr a chreu cyfnewidfeydd bysiau a threnau. Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau o'r fath i wella trafnidiaeth yn ninas-ranbarth bae Abertawe?
Wel, a gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud bod cynnydd aruthrol wedi'i wneud yn ardal bae Abertawe o ran gwella'r ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus a gwella darpariaeth ffyrdd ar gyfer modurwyr, gan liniaru tagfeydd. Rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddatblygu model traffig manwl ar gyfer de-orllewin Cymru, sy'n cynnwys ardal bae Abertawe, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall y problemau sydd angen eu datrys yn llawn er mwyn sicrhau y datblygir y model gorau. Rydym wedi darparu £1.4 miliwn ar gyfer y rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a bron i £2 miliwn o'r gronfa trafnidiaeth leol ar gyfer cynlluniau teithio llesol yn y flwyddyn ariannol hon, ac mae £1 filiwn yn ychwanegol wedi'i ddyrannu i ddinas-ranbarth bae Abertawe yn benodol ar gyfer gwaith rhagarweiniol ar gynlluniau teithio llesol, i ddatblygu ffrwd o brosiectau teithio llesol. Wrth gwrs, gellid defnyddio'r £60 miliwn a ddarparwyd ar gyfer rhai o'r prosiectau hynny, ac rwyf hefyd yn falch iawn o allu rhoi gwybod i'r Aelod heddiw y byddwn yn cynnig Glandŵr fel un o'r opsiynau posibl i'w hystyried fel rhan o'r ymarfer agor gorsafoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn rhoi cyfle inni wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y dinas-ranbarth. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Sir Benfro. Fel y gwyddoch, rwy'n cefnogi deuoli'r A40 yn Sir Benfro, ac rydych wedi dweud yn glir mewn datganiadau blaenorol y byddwch yn datblygu rhaglen maes o law, ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly ynglŷn â lle mae Llywodraeth Cymru arni mewn perthynas â gwireddu'r cynllun hwn?
Fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda'r amserlen benodol a'r manylion ynglŷn â pha rannau o'r A40 a fydd yn cael eu deuoli.FootnoteLink Cafwyd addewid clir yn ein maniffesto y byddem yn ystyried deuoli rhannau o'r A40, a bellach mae gennym y cynllun mannau cyfyng hefyd a fydd yn galluogi i hynny ddigwydd. Fe wnaf hynny cyn gynted â phosibl.
Yn troi yn ôl at ardal dinas-ranbarth Abertawe yn benodol, a theithio i mewn a mas o hynny, rydym ni wedi canolbwyntio, dros y dyddiau diwethaf, lawer ar y fasnachfraint sydd yng ngofal Llywodraeth Cymru, ond wrth gwrs mae yna, o hyd, drafnidiaeth bwysig i mewn i Abertawe, a hefyd Caerfyrddin, gyda First Great Western a gyda chwmnïau sydd yn dod i mewn i Gymru, a Network Rail o hyd sy'n berchen ar hynny. Mae'r awgrym wedi cael ei wneud gan bobl fel Stuart Cole y dylid nawr bwyso i gyflymu trenau hyd at 100 milltir yr awr ar hyd y daith yna, a gwneud y daith o Abertawe i Gaerdydd, er enghraifft, yn 40 munud yn unig. A ydy hynny'n rhywbeth mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen gydag e, gyda thrafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan?
Ydy. Rydym wedi dweud yn glir ein bod yn disgwyl amseroedd teithio gwell rhwng Llundain a Chaerdydd, a hefyd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae'n ffaith ei bod yn cymryd mwy o amser heddiw nag yn y gorffennol i fynd o Lundain i Gaerdydd, ac felly o Lundain i Abertawe. Mae hyn yn warthus, o ystyried faint o arian sydd wedi'i ddarparu dros y degawd diwethaf neu fwy ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd mewn mannau eraill o'r DU. Felly, rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod amseroedd teithio yn lleihau, ond dylwn ddweud nad ydym mor awyddus i weld gorsafoedd yn cael eu hosgoi gan unrhyw un o wasanaethau'r brif linell. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gan gymunedau ledled de Cymru fynediad at y brif linell, ond rhwng gorsafoedd, dylid gwneud gwelliannau i'r signalau, er enghraifft, er mwyn lleihau amseroedd teithio rhwng y cymunedau hynny.
6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o’r effaith y bydd cau ffactri prosesu llaeth Arla yn ei chael ar economi leol Llandyrnog? OAQ52270
Rwy'n cydymdeimlo â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad siomedig hwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gofyn am gyfarfod brys gyda'r cwmni ac mae ein gwasanaeth Busnes Cymru wedi gwneud y cysylltiadau priodol i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt yn sgil cau'r ffatri.
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, rydw i wedi edrych yn ôl ar y cynllun gweithredu ar yr economi sydd gennych chi, 'Ffyniant i Bawb', ac mae hwnnw'n sôn am sectorau sylfaen. Mae bwyd, wrth gwrs, yn un o'r rheini, ac rydych chi'n sôn yn hwnnw eich bod chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i gael yr effaith mwyaf posib ar y sector penodol hwnnw. Wrth gwrs, rydym ni’n gwybod pa mor allweddol yw prosesu llaeth. Roedd Andy Richardson yn dweud mewn adroddiad bedair blynedd yn ôl bod angen gwneud mwy i dyfu hynny; mae’n creu swyddi, mae’n ychwanegu gwerth, mae’n dod â budd o safbwynt marchnata labeli Cymreig, a budd amgylcheddol, hefyd, yn lle eich bod chi’n gorfod trosglwyddo cynnyrch o un pen o’r wlad i gael ei brosesu a dod ag e'n ôl.
Ond y gwir amdani yw, wrth gwrs, nid tyfu capasiti prosesu yr ydym ni’n ei wneud yng Nghymru; mae e’n crebachu, ac yng ngoleuni Brexit a’r hyn sydd o’n blaenau ni, mae ychwanegu gwerth i fwyd yn gorfod bod yn flaenoriaeth glir. Felly, byddwn i’n erfyn arnoch chi i droi pob carreg. Yn amlwg, roeddech chi’n cyfeirio at yr Ysgrifennydd materion gwledig. Mae ganddi hi rôl, ond byddwn i yn licio gweld—. Rydych chi wedi, fel Llywodraeth, wrth gwrs, cefnogi buddsoddiadau eraill ar draws Cymru, a byddwn i yn awyddus ichi ystyried pob opsiwn yn y cyd-destun yma, oherwydd mae yn bwysig ein bod ni nid yn unig yn amddiffyn y bron i 100 o swyddi uniongyrchol a fydd yn cael eu colli, ond hefyd y sector llaeth ehangach yn y gogledd-ddwyrain.
Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Mae'r sector bwyd a diod wedi dangos twf cryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n tyfu tuag at y targed o £7 biliwn o gyfraniad i economi Cymru. Ond yn y dyfodol, bydd mater prosesu yn ystyriaeth bwysig nid yn unig i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ond hefyd i'r cynllun galluogi sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer y sector bwyd a diod. Credaf ei bod yn hanfodol, yn y tymor byr, ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y cyfleuster arbennig hwn, ein bod yn edrych ar bob cyfle posibl i achub y swyddi hynny, ac rwy'n ymwybodol o adroddiadau newyddion y gallai'r cwmni fod yn ystyried cynhyrchion amgen ar gyfer y safle. Byddaf yn cyfarfod ag aelodau'r tasglu a fydd yn ymgynnull y mis hwn i drafod dyfodol y safle ac opsiynau inni allu cynorthwyo naill ai'r busnes presennol i arallgyfeirio, neu fusnes arall i gymryd meddiant ar y gwaith, os yw hynny'n bosibl.
Yn amlwg, mae'r pellter i gynhyrchwyr rhwng y safle newydd arfaethedig a'u safleoedd hwy yn golygu eu bod dan fwy o fygythiad. Ar ddiwedd eich sylwadau blaenorol, fe gyfeirioch chi hefyd at adroddiadau rwyf innau wedi'u gweld y bydd Arla yn cadw'r safle presennol yn Llandyrnog wrth iddynt archwilio cyfleoedd eraill. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd felly yn eich trafodaethau gyda hwy i ymchwilio'r cyfleoedd hynny ymhellach a'u cefnogi o bosibl, yn ogystal â'r cynnyrch a allai fod ynghlwm wrthynt, a sut y gallai hynny roi diogelwch i'r gweithlu sy'n gweithio ar y safle ar hyn o bryd, a'u teuluoedd?
Wel, yn gyntaf oll, credaf fod angen inni ddeall beth yn union y gall Arla ei ddarparu yn lle'r cynhyrchion sy'n cael eu cynhyrchu yno ar hyn o bryd, ac yna, os oes modd, gallwn lunio pecyn pwrpasol o gymorth a allai gynnwys, er enghraifft, ailhyfforddi sgiliau neu raglenni hyfforddiant sgiliau a allai gynnwys cymorth i ddatblygu cyfleusterau. Ni wyddom beth yn union yw'r cynigion hynny ar hyn o bryd a pha mor o ddifrif yw'r cwmni ynglŷn â datblygu cynhyrchion amgen ar y safle, ond gallaf roi sicrwydd y byddwn yn edrych ar bob cyfle i ddiogelu'r swyddi hynny, ac os oes modd, yn cynorthwyo i dyfu'r cwmni a'i gadw ar ei safle presennol.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth treftadaeth a diwylliant yng Nghymru? OAQ52278
Diolch yn fawr. Ers imi gymryd y cyfrifoldeb yma, rydw i wedi chwilio am bob cyfle i gynyddu a chryfhau partneriaethau rhwng y gwahanol agweddau y mae gennyf i gyfrifoldeb amdanyn nhw ar ran y Llywodraeth, sef treftadaeth a diwylliant, yn ogystal â’r celfyddydau, yn ogystal â chwaraeon a thwristiaeth. Fe welsom ni’n glir iawn yr wythnos ddiwethaf fel y mae pobl yn teithio oddi fewn a’r tu fas i Gymru i wyliau mawr fel rhan hanfodol o’n twristiaeth ni.
Diolch am yr ateb hwnnw. Fel rydw i wedi ei ddweud yn ystod cwestiynau yma yn y gorffennol, mae’r sector yma’n bwysig iawn. Yn ddiweddar, fe wnes i fynd i ganolfan glowyr Resolfen i weld yr hyn y maen nhw’n ceisio ei wneud i adnewyddu’r ganolfan honno. Mae’n mynd i gymryd cryn dipyn o waith, nid yn unig cyllid ond o ran gwaith caib a rhaw gan bobl leol, ac maen nhw’n dweud, heb fod yna gyllid mewn argyfwng er mwyn ceisio mynd ati i’w hadnewyddu hi, y bydd yna botensial y bydd yn cau oherwydd bod angen iddyn nhw roi ceisiadau sydd yn cymryd lot o amser i gael y cyllid hirdymor. Felly, yr apêl sydd gennyf i ar eu rhan nhw yw eich bod chi yn edrych i mewn i bosibiliadau o gyllid byrdymor er mwyn cadw’r lle ar agor, hyd nes bod yna ddigon o gyllid i’w gadw ar agor mewn ffordd gynaliadwy i’r dyfodol ar gyfer y gymuned yn lleol. Hefyd, rydw i wedi ysgrifennu atoch chi i gynnig eich bod chi'n dod i ymweld â phobl leol—ac rwy'n hapus i hynny fod yn rhywbeth trawsbleidiol—er mwyn gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal, ac i ennyn adnewyddiaeth o'r ganolfan honno.
Wel, diolch yn fawr i chi. Fel y gwyddoch, rwyf bellach yn drawsbleidiol iawn, ac felly rwy'n hapus iawn i ymweld â Resolfen, a gobeithio y gallwn ni drefnu hynny yn eithaf cyflym. Rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau sy'n ymwneud â henebion, ac mae'r cysylltiad rhwng henebion a hanes diwydiannol yn bwysig iawn imi. Mae etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru yn dathlu ein gorffennol ni, a hefyd yn dathlu crefft Cymru yn hanesyddol. Rwy'n sicr y byddai cefnogi'r math hwnnw o ddatblygiad yn ddefnyddiol. Ond y peth cyntaf y mae angen i'r bobl leol ei wneud yw sicrhau eu bod yn trafod gyda'n swyddogion ni yn Croeso Cymru ac yn Cadw. Mi allaf i hyrwyddo hynny, dim ond imi gael manylion a chyfeiriadau.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—David Melding.
8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae cwmnïau cydweithredol yn ei chael ar economi Cymru? OAQ52279
Mae'r adroddiad 'Mapio’r Sector Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru' yn nodi bod y sector bellach yn werth y swm anhygoel o £2.37 biliwn i Gymru ac yn darparu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i oddeutu 100,000 o bobl. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y sector yng Nghymru yn gwneud cyfraniad aruthrol, nid yn unig i'n heconomi ond i'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, sylwaf o adroddiad blynyddol diwethaf Canolfan Cydweithredol Cymru eu bod wedi helpu i ddatblygu pedwar cynllun tai cydweithredol, ac mewn gwirionedd, credaf fod hwn yn sector sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Nawr, gwyddom fod cyd-berchenogaeth yn arwain at arloesedd, ac mae 70 y cant o dwf economaidd hirdymor y DU yn seiliedig ar arloesedd, a chredaf y byddai'r defnydd o gydweithrediaethau yn y maes hwn yn rhoi model tai newydd i lawer o bobl yn seiliedig ar eiddo rhent. Yn ychwanegol at hynny, gallent ddefnyddio plotiau llai o dir, a defnyddio busnesau bach a chanolig, gan wella lefelau sgiliau a swyddi i bobl leol. Ymddengys i mi fod hwn yn faes â chryn botensial ar gyfer twf ac arloesedd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac rwy'n siŵr y byddai fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn cytuno'n gryf hefyd. Credaf fod y rhaglen tai arloesol a ddisgrifiwyd gan y Gweinidog eisoes yn darparu cyfle enfawr i fenter gymdeithasol gymryd mwy o ran mewn adeiladu cartrefi newydd ac adfywio cymunedau cyfan drwy wneud defnydd o eiddo sy'n wag ar hyn o bryd. Yn benodol, yn y tirweddau trefol—mewn trefi ac yn enwedig ar y stryd fawr—credaf fod cyfle enfawr i'w gael i ddatblygu tai newydd yn yr amgylcheddau hynny er mwyn hybu lefelau ffyniant o fewn trefi.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i annog bargeinio cyflog mewn gweithleoedd yng Nghymru? OAQ52276
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi lansio'r Comisiwn Gwaith Teg yn ddiweddar, sy'n adeiladu ar waith y bwrdd gwaith teg, a nododd hawl i gael eich clywed drwy gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn y gweithle fel egwyddor allweddol. Bydd gwaith y comisiwn yn adeiladu ar hynny ac yn edrych yn agosach ar y dulliau sydd ar gael i ni allu sicrhau gwaith teg yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod TUC Cymru wedi gofyn i'n cyd-Aelod, Mick Antoniw—mae e newydd adael—i gadeirio grŵp i edrych ar ffyrdd y gellir ymestyn bargeinio cyflog ar draws sector cyhoeddus Cymru yn ogystal ag yn y sectorau lle mae cwmnïau'n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru. O ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud, a allwch amlinellu'r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i archwilio'r opsiynau hyn gyda chyflogwyr ac undebau llafur?
Rwy'n croesawu gwaith TUC Cymru mewn perthynas â hyn, a'r gwaith y maent yn ei gynllunio gyda'r cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda TUC Cymru yn rheolaidd mewn perthynas â'n hymrwymiad ar y cyd i wella amodau gwaith ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys mewn perthynas â mynediad at waith. Bydd wedi clywed y datganiad a wnaeth Arweinydd y Tŷ ddoe yn y Siambr, er enghraifft, mewn perthynas â'r fenter Swyddi Gwell yn Nes at Adref, sy'n dangos beth y gellir ei gyflawni gan y math hwnnw o weithio mewn partneriaeth.
Mae'r comisiwn gwaith teg y soniais amdano i fod i gyflwyno adroddiad yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd yn edrych ar yr ystyriaeth o'r pwerau sydd gan Weinidogion i ddatblygu gwaith teg, gan gynnwys mewn perthynas â datblygiad cyflog yn y gweithle yn fwy cyffredinol. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at waith y comisiwn mewn perthynas â hynny. Fel Cwnsler Cyffredinol, mae sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn ei phwerau bob amser yn rhan o fy rôl, ond yn yr un modd, ei bod yn gweithredu hyd eithaf ei phwerau pan fydd angen iddi wneud hynny er mwyn cyflawni ei hamcanion polisi.
Bydd yn gwybod hefyd am y gwaith sy'n mynd rhagddo mewn perthynas â chaffael moesegol ar draws y Llywodraeth. Disgwylir i'r holl sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus ymrwymo i'r cod ymarfer caffael moesegol. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod yn ateb cwestiynau fel rhan o'i fenter newydd gyda'r contract economaidd. Mae cyflog a chyfranogiad a dilyniant yn elfennau allweddol o'r contract hwnnw fel rhan o'r agenda ehangach ar waith teg, a bydd gwaith y comisiwn yn dylanwadu ar hynny hefyd maes o law.
Mae'r ail gwestiwn gan Bethan Sayed.
2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar unrhyw ymgyfreitha yn y dyfodol sy'n deillio o wrthdaro ynghylch awdurdodaeth, o ganlyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? OAQ52281
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol ar y Bil ymadael â'r UE, a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Ebrill, yn darparu sail gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol. Mae'r cytundeb yn parchu confensiynau cyfansoddiadol sefydledig, ac yn unol â'r rheini, ceir ymrwymiad gan bob ochr i geisio symud ymlaen drwy gytundeb.
Diolch am eich ateb. Nid yw union baramedrau'r hyn a fydd yn cael ei ddatganoli a'r hyn a fydd yn cael ei gadw o'r newydd o ran polisïau fframwaith cyffredin o dan delerau'r Bil ymadael â'r UE wedi eu sefydlu'n ffurfiol, a'r hyn a wyddom yw y gallai'r 24—26 bellach—o feysydd sy'n cael fframweithiau cyffredin gynyddu heb ein caniatâd. Mae gan Gymru, wrth gwrs, lysoedd i ymdrin â'r materion hyn pe baent yn dod yn destun ymgyfreitha yn y dyfodol, ond o dan y trefniant awdurdodaeth ar y cyd, nid yw'n glir lle y dylid cychwyn achosion ac a fydd cyfreithwyr yng Nghymru hyd yn oed yn cael eu cyfarwyddo gan y partïon mewn unrhyw anghydfod yn y dyfodol. Pa gamau rydych chi fel Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i baratoi ar gyfer yr hyn a fydd, mae'n debyg, yn ymgyfreitha anochel?
Wel, rwy'n anghytuno â rhagdybiaeth yr Aelod na fydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar y materion a fydd yn destun trafodaethau fframwaith rhwng y Llywodraethau. Fel y gŵyr o ddatganiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, bydd pwerau ychwanegol yn dod i'r Cynulliad hwn o ganlyniad i'r cytundeb a sicrhawyd gan y Llywodraeth, a cheir mecanwaith cydsyniad a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol.
Un o'r materion y mae angen eu datrys mewn trafodaethau yn y dyfodol rhwng y Llywodraethau yw cynnwys y fframweithiau cyffredin y mae'n eu crybwyll yn ei chwestiwn. Un o ddimensiynau hynny yw sut y caiff anghydfodau rhwng Llywodraethau, fel partneriaid cyfartal yn y set honno o fframweithiau, eu datrys yn y dyfodol. Mae'r mecanwaith ar gyfer datrys yr anghydfodau hynny yn un o'r materion y mae'r Llywodraethau eto i gytuno arnynt. Nid yw'r trefniadau presennol yn addas at y diben, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno'n llwyr â mi ynglŷn â hynny.
Fe fydd yn ymwybodol o'r fforwm gweinidogol newydd ar drafodaethau'r UE, sy'n bodoli fel y gall y pedair Llywodraeth gyfrannu at y safbwynt negodi mewn perthynas â thrafodaethau'r UE yn y dyfodol. Ac efallai hefyd ei bod yn ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r trefniadau rhynglywodraethol sy'n bodoli eisoes o dan y memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Mae'r ddogfen honno bellach bron yn 20 mlwydd oed ac mae angen ei diwygio, ac mae'r pedair gwlad ddatganoledig yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Ein huchelgais yw ein bod yn newid i fodel cydlywodraethu. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â chreu cyngor Gweinidogion y DU, a fyddai'n bodoli er mwyn osgoi anghytundeb lle bo modd ac i ddatrys anghydfod lle mae'n digwydd. Unwaith eto, mae'r cwestiwn o ysgrifenyddiaeth i gefnogi gwaith Cyngor y Gweinidogion, a mecanwaith datrys anghydfodau, yn allweddol yn hynny o beth.
3. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i chael ynghylch prynu gorfodol tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ52277
Mae fy swyddogion wedi ystyried y cwestiwn hwn. Y sefyllfa yw y caiff tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ei gyfrif fel tir y Goron, ac felly nid oes modd i gorff arall y Goron ei gaffael o dan bwerau gorfodol heb ganiatâd Llywodraeth Cymru.
Ocê. Diolch am hynny. Mae hynny'n helpu, achos rŷm ni wedi cael ar ddeall, o'r sefyllfa bresennol o ran tir Llywodraeth Cymru, eich bod chi wedi gwneud penderfyniad i beidio â chaniatáu i Baglan Moors gael ei ddatblygu ar gyfer carchar newydd. Wrth gwrs, rŷm ni'n croesawu hynny. Mae'r cyngor cyfreithio yr ŷm ni wedi ei dderbyn fel swyddfa yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu hwyluso pryniant gorfodol, ond yn ôl beth rydw i'n ei gofio, nid oedd y cyngor hwnnw'n dweud bod angen cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Jest i gadarnhau, felly, er ei fod yn dir y Goron, mae'n rhoi, yn ôl y gyfraith wedyn, gofyniad arnynt i hwyluso proses lle yr ydych chi'n cael deialog wedyn, neu yn rhoi rhywbeth mewn statud, sydd yn sicrhau eich bod chi yn cael y drafodaeth honno, jest er mwyn gwneud yn siŵr, os bydd y mater hwn yn dod gerbron unwaith eto, ein bod yn deall bod pob proses yn eu lle.
Rydw i'n ceisio ateb cwestiynau pan rydw i'n gallu, gyda llaw. Mae pwerau sydd ar gael i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol brynu yn orfodol yn deillio o Ddeddfau, ac nid oes dim yn y Ddeddf sy'n berthnasol yma—nid oes pwerau sy'n ymestyn at dir y Goron. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'r math yma o gwestiwn yn codi yn y llysoedd yn aml, a'r hyn sy'n bwysig cofio yw, petasai cynnig yn dod i brynu'n orfodol, buasai gallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud hynny yn rhywbeth y byddai'r llys yn penderfynu arno fe. Petasai corff y Goron, fel Llywodraeth Cymru, yn gwrthwynebu hynny, ein barn ni yn glir yw bod y gyfraith yn y cyd-destun hwnnw yn golygu y byddai'n rhaid i'r Gorchymyn hwnnw gael ei ddileu.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y mae cyfreithiau yng Nghymru yn gymwys i'r Goron? OAQ52282
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cymhwyso Deddfau'r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y Goron yn fater sy'n ffurfio rhan o ymgynghoriad y Llywodraeth ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 12 Mehefin, a buaswn yn annog Aelodau i ymateb os nad ydynt eisoes wedi gwneud.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'r Goron wedi'i heithrio'n awtomatig o dan ddeddfau a basiwyd yn y lle hwn oni bai bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnwys yn benodol. Yn y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft mae yna gynnig i wrthdroi hyn fel y bydd y Goron a'i holl eiddo yn ddarostyngedig i gyfraith Cymru yn awtomatig. A allwch chi esbonio'r rhesymeg dros y newid arfaethedig hwn ac a ydych yn dal i fwriadu bwrw ymlaen?
Mae'n fater rwy'n ymgynghori yn ei gylch, a chredaf ei fod yn fater sy'n deilwng i ni ei ddilyn. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn yr ymgynghoreion ar y mater. Mae hwn yn gam a gymerwyd, er enghraifft, yn yr Alban yn 2010. Fel y dywed yr Aelod yn gywir, â siarad yn gyffredinol, y sefyllfa ddiofyn yw nad yw Deddf yn rhwymo'r Goron oni bai ei bod yn nodi'n benodol ei bod yn gwneud hynny. Y Goron yn y cyd-destun hwnnw yw'r Goron a Llywodraethau hefyd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae nifer o Ddeddfau'r Cynulliad, wrth gwrs, yn rhwymo'r Goron yn benodol—deddfwriaeth dreth, er enghraifft, a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016—ac mae eraill yn dawel, a phan fyddant yn dawel gallwch ragdybio nad yw'r Goron wedi'i rhwymo.
Y sail resymegol dros ymgynghori a hyrwyddo'r safbwynt hwn yw y byddai'n dangos, y tu hwnt i amheuaeth, a yw Deddf yn rhwymo'r Goron a byddai'n creu sefyllfa newydd lle byddai'r gyfraith, yn ddiofyn, yn gymwys i'r Goron yn union fel y mae'n gymwys i ddinasyddion, fel y mae'r Aelod yn awgrymu yn ei chwestiwn. Y sail resymegol dros wneud hynny, yn gyntaf, yw eglurder, oherwydd os ydych yn ystyried Deddf ac angen gwybod nad yw ond yn gymwys i gategorïau penodol o sefydliadau a dinasyddion, nid yw hwnnw'n ddarlleniad clir a hygyrch o'r Ddeddf. Ond mae'r rhagdybiaeth honno, os mynnwch, fod y gyfraith yn gymwys i bawb yn rhagdybiaeth synnwyr cyffredin, ac mewn democratiaeth byddai pawb ohonom yn rhagdybio bod pob sefydliad a phob rhan o'r wladwriaeth yn ddarostyngedig i'r gyfraith oni bai bod y gyfraith yn dweud fel arall.
Hoffwn egluro, fodd bynnag, mewn statudau unigol yn y dyfodol, y bydd y ddeddfwrfa hon yn rhydd i wrthdroi'r rhagdybiaeth honno, yn amlwg, a buaswn yn disgwyl iddi wneud hynny pan fydd amgylchiadau'n galw am hynny fel canlyniad cywir.
Wrth gwrs, mae'r gyfraith hefyd yn ymwneud â thiroedd y Goron yng Nghymru, sy'n cael eu dal gan Ystad y Goron, sydd heb ei datganoli o gwbl, ac sy'n gymhlethdod pellach yn hynny o beth. Mae Ystad y Goron yn codi rhywbeth fel £0.25 biliwn y flwyddyn o'i ystad yng Nghymru, sy'n cyfeirio nôl at y ddadl a gawsom ni ar ffracio. Pe bai ffracio yn digwydd yng Nghymru, byddai llawer o hyn yn digwydd ar Ystad y Goron ac ni fyddai ceiniog yn dod i Lywodraeth Cymru, a dweud y gwir, nac i bobl Cymru. A ydy hi'n bryd i ni gael y drafodaeth ehangach yma ynglŷn â gwaith y Goron yng Nghymru, Ystad y Goron, tiroedd y Goron a chyfraith sy'n ymwneud â'r Goron? Ac a ydy hi'n bryd efallai i'r Cynulliad cyfan gael trafodaeth ynglŷn â sut rŷm ni'n bwrw ymlaen, mewn ffordd sydd yn addas i'r unfed ganrif ar hugain, yn y ffordd rŷm ni'n ymwneud â'r Goron a'r arian a godir o gyfoeth naturiol Cymru ac a ddylai fod ar gael yn ei dro ar gyfer pobl Cymru?
Fel mae'r Aelod yn gwybod, rwyf newydd ateb y cwestiwn ynglŷn â'r ymgynghoriad ar Ddeddfau Cymru yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gael ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw wrth yr Aelod, a fydd yn rhoi cyfle i fi gysidro ymhellach yr hyn y mae e wedi ei ddweud.
Gwnsler Cyffredinol, yn eich ateb i Bethan Sayed, dywedasoch yn gwbl glir na allai'r Goron wneud gorchmynion prynu gorfodol am dir, ond pe baent yn cael dirymiad sy'n trin y Goron yr un fath ag unigolyn, a ydych mewn sefyllfa i ddweud y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn gallu newid hynny, neu a ydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle na all y Goron brynu'r tir hwnnw?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw a'r cyfle i egluro'r ateb a roddais. Ni fyddai dirymu'r rhagdybiaeth ddeddfwriaethol, a nodir gan yr ymgynghoriad, yn effeithio ar y sefyllfa a ddisgrifiais i Bethan Sayed. Ni fyddai'r Bil yn newid ystyr y term 'Coron', er enghraifft, ac ni fyddai'n effeithio ar gyfraith bresennol. Os caf ailadrodd: mae'n dirymu'r rhagdybiaeth, fel y bydd yn rhaid i'r Ddeddf yn y dyfodol nodi bod y Goron a'r Llywodraeth wedi'u rhwymo gan statud, er mwyn i hynny ddigwydd.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ond ni dderbyniwyd unrhyw gwestiwn amserol.
Awn felly at y datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Diolch, Lywydd. Ar ddechrau mis Mehefin, daeth cystadleuwyr o bob cwr o'r byd at ei gilydd yn ninas Guimarães ym Mhortiwgal. Roeddent yno i gystadlu ym mhymthegfed Pencampwriaeth Gymnasteg Aerobig y Byd. Yn ystod y pencampwriaethau grŵp oedran blaenorol, roedd cystadleuwyr tîm Prydain yn cynnwys Seren Jones, merch 11 oed o Aberdâr. Roedd y gymnastwraig ifanc dalentog hon yn rhan o dîm a lwyddodd i greu hanes drwy sicrhau'r fedal arian AG1. Eu sgôr terfynol o 19.0 oedd y canlyniad grŵp gorau erioed i dîm o Brydain. Llongyfarchiadau i Seren a gweddill ei thîm: Lola, Bella, Molly a Nancy.
Roedd gymnastwraig aerobig arall o Aberdâr, Emily James, hefyd yn cystadlu fel rhan o dîm arall ac fe gyrhaeddodd hithau'r rownd derfynol hefyd. Ni chawsant fedal gan eu bod wedi dod yn chweched, ond rwyf hefyd eisiau cydnabod eu cyflawniad yn creu hanes yn y byd chwaraeon i dîm Prydain.
Wrth ddathlu llwyddiant y merched hyn o Gwm Cynon ym mhencampwriaethau 2018, rwyf hefyd eisiau nodi eu doniau rhyfeddol a'r hyfforddiant a'r ymroddiad sy'n eu galluogi i ragori. Pan fyddwn yn clywed yn rheolaidd am y problemau sy'n deillio o'r ffaith nad yw plant a phobl ifanc, a merched yn arbennig, yn cymryd rhan mewn digon o ymarfer corff, mae'n dda gallu canmol modelau rôl o'r radd flaenaf fel hyn. Gobeithio y bydd y gymnastwyr hyn yn cystadlu ac yn ennill mewn pencampwriaethau yn y dyfodol a gobeithio y gwnewch ymuno â mi i'w llongyfarch a dymuno'r gorau iddynt.
Diolch.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adnewyddu trefol ac rwy'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6734 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.
2. Yn credu bod gofyn am strategaeth genedlaethol uchelgeisiol ar gyfer adfywio trefol yng Nghymru a fyddai'n helpu i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
3. Yn croesawu papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n ceisio adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, yn gynaliadwy'n amgylcheddol, ac wedi’u seilio ar yr egwyddor o sicrhau iechyd a llesiant dinasyddion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn wir, rwy'n falch iawn o wneud y cynnig ac agor y ddadl hon y prynhawn yma. Am y tro cyntaf mewn hanes, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw mewn cymunedau trefol. Yn 2010, cyfrifwyd bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ei hardaloedd trefol ac mae'r ganran hon wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Ni ddylai hyn fod yn syndod i'r un ohonom mewn gwirionedd gan fod dinasoedd a threfi yn ganolfannau menter, arloesi a dysgu. Maent yn creu cyfoeth ac yn gwella safonau byw, tra'n darparu rhwydwaith a rhyngweithiad sy'n ein gwneud yn fwy creadigol ac yn fwy cynhyrchiol.
Mae'r crynhoad o dalent a chreadigrwydd yn gwneud dinasoedd yn beiriannau arloesi ac yn beiriannau twf economaidd—lleoedd y dylem eu dathlu, ac yn yr ysbryd hwnnw rydym wedi cyflwyno pwynt 1 ein cynnig y prynhawn yma, sy'n ceisio cydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn ei ystyried yn rhy eang i ddibenion y prynhawn yma. Yn sicr, mae angen triniaeth lawn, a thriniaeth gydategol, ar ardaloedd gwledig, ond daw hynny'n bennaf drwy'r polisi gwledig, a heddiw, rwyf eisiau canolbwyntio o ddifrif ar yr heriau a'r cyfleoedd trefol sydd ger ein bron.
Buaswn yn dweud nad ydym, mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru, yn derbyn y lefel o weledigaeth ac uchelgais rydym ei hangen gan y Llywodraeth i alluogi ein gwlad i gyrraedd ei photensial llawn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod hyn, ac rydym wedi cyflwyno ein gweledigaeth i greu trefi a dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol creu dinasoedd y gellir byw ynddynt ac ardaloedd trefol sy'n dda i'r economi, sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, sy'n amgylcheddol gynaliadwy, ac sydd wedi'u hadeiladu ar egwyddor iechyd a llesiant ein dinasyddion. Mae angen iddynt gynnig yr ansawdd bywyd a'r cyfleoedd sy'n gwneud i ddinasyddion fod eisiau byw ynddynt, ond hefyd sy'n gwneud i fusnesau fod eisiau buddsoddi, ac i'r busnesau hynny ddod o bell ac agos.
Mae gennym gyfle i ddenu pobl ifanc fedrus iawn sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwthio allan o Lundain a rhanbarth gorboeth de-ddwyrain Lloegr. Rwy'n credu o ddifrif fod gan y dinasoedd ar hyd arfordir de Cymru, yn ogystal â'r ardaloedd trefol yng ngogledd Cymru, botensial mawr yma pan fo cymaint o dalent na fydd yn cael yr un lefel o gyfle economaidd a chymdeithasol ag y byddent yn dymuno ei chael yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae'n gyfle gwych. Mae'n un o'r ardaloedd economaidd mwyaf gorboeth yn y byd, a dylem fod yn edrych arni fel adnodd, fel y mae llawer o ddinasoedd yng ngogledd Lloegr yn ei wneud yn barod. Mae gennym amgylchedd gwych mewn dinasoedd fel Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, felly mae'n rhaid i ddinasoedd mawr Cymru fod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer ein pobl ifanc, ac entrepreneuriaid cymdeithasol, creadigol a busnes yfory. Gallwn adeiladu dinasoedd newydd, modern o'r radd flaenaf ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd wedyn yn gosod y bar ar gyfer dinasoedd eraill yn Ewrop, Asia ac America, os oes gennym weledigaeth uchelgeisiol iawn. O ystyried maint optimwm, mewn llawer o ffyrdd, ein dinasoedd, gallwn ymestyn y safonau rydym eisiau eu gweld ar gyfer bywyd modern.
Yng Nghymru, fodd bynnag, nid ydym eto wedi gweld y twf economaidd sylweddol sydd wedi'i wireddu mewn llawer o ddinasoedd eraill ledled y DU. Rwyf eisoes wedi crybwyll Llundain, ond yn fwy penodol i ni, Manceinion, Birmingham a Chaeredin, ond hefyd gallwn grybwyll Leeds a Sheffield. Nid ein cystadleuwyr ni yw'r dinasoedd hyn mewn gwirionedd—credaf fod cymaint o gyfleoedd yno—ond maent wedi dangos mwy o fenter ac uchelgais yn y ffordd y maent yn symud ymlaen, ac nid ydym eisiau cael ein gadael ar ôl.
Nawr, gyda dyfodiad bargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, a'r cydweithrediad hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae'n wir ein bod yn gweld mwy o gyfle a mwy o uchelgais, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond er bod y bargeinion hyn yn arwyddocaol iawn, ac yn amlwg i'w croesawu'n fawr, maent hefyd yn creu heriau mawr, oherwydd rydym angen ailwampio ein polisi trefol a'n gweledigaeth fel ein bod yn gweld y math o dwf rydym ei eisiau mewn gwirionedd i rymuso a bod o fudd llawn i'n dinasyddion, yn ogystal â bod yn gynaliadwy.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod. Bydd gennyf rai geiriau caredig i'w dweud am yr hyn y mae'n ei gynnig yn nes ymlaen, ond ar y mater penodol hwn—mae wedi sôn am y bargeinion dinesig. Onid yw'n gweld nad yw'r bargeinion dinesig sy'n cael eu hyrwyddo gan ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan yn ystyried yr agenda gynaliadwyedd y mae'r ddadl hon ac i fod yn deg, y papur a gyhoeddwyd, yn ceisio mynd i'r afael â hi mewn gwirionedd?
Wel, mae angen iddi fod yn ganolog i'r weledigaeth honno, ac rwy'n sicr yn credu bod y cwmpas mwy y mae'n ei gynnig ar gyfer cynllunio a datblygu rhanbarthol yn bwysig iawn. Ond mae ein gweledigaeth ni, fel y dywedwch, wedi'i nodi yn y papur hwnnw, ac rydym yn credu ei bod yn hollol gydnaws â'r cydweithrediad rydym yn ei weld rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Ond i dynnu sylw at y pryder a adlewyrchwyd yn sylwadau Simon efallai, rydym wedi gweld yn rhy aml fod diffyg arloesi a chynllunio cynaliadwy wedi arwain at felltith amddifadedd, gorlenwi a blerdwf trefol mewn nifer o ddinasoedd o gwmpas y byd. Felly, rydym angen polisïau cynllunio mwy effeithiol, a gwn fod hynny'n destun datblygu polisi ar hyn o bryd, a byddwn yn chwarae rhan weithredol yn ei ddatblygu.
Felly, fel y dywedais, mae angen i'n dinasoedd berthyn i holl bobl Cymru, sy'n cynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen y peiriannau twf, creadigrwydd a dysgu hyn, ac yn anad dim, mae'n rhaid iddynt roi pobl yn gyntaf. Mae ein Papur Gwyn yn cyflwyno ein cynigion polisi i drawsnewid ein cymunedau drwy wella'r etifeddiaeth drefol wych a drosglwyddwyd i ni, ond i ychwanegu at hynny ymdeimlad newydd o uchelgais ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n defnyddio'r cysyniad hwn o addasrwydd ar gyfer byw ynddynt fel rhan ganolog o strategaeth drefol effeithiol, a theitl ein dogfen yw 'Dinasoedd Byw: strategaeth adnewyddu trefol Cymru'. Mae'n cyflwyno 25 o gynigion polisi i drawsnewid ein hamgylcheddau trefol.
Diolch i chi am ildio. Rwy'n sicr yn cefnogi'r agenda dinasoedd byw, ond mae yna broblem anodd yn ymwneud â pholisi cyhoeddus y mae angen i ni fynd i'r afael â hi. Mae yna dystiolaeth dda i ddangos bod dinasoedd yn tyfu ar draul ardaloedd pellennig yn aml. Mae'n gêm swm sero yn aml. Felly, beth yw'r farn ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r ardaloedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl?
Nid cyhoeddi strategaeth ar gyfer dinasoedd yn unig a wnaethom; mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio ardaloedd trefol a gallwch edrych ar ardal Cymoedd de Cymru fel ardal sydd, o bosibl, yn ardal drefol fwy cydgysylltiedig. Os edrychwch ar Abertawe ac ymestyn ar draws i Lanelli a thu hwnt, mae'n bwysig iawn. Rwy'n derbyn bod yna berygl y gallwch sugno gormod i graidd y dinas-ranbarthau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i gynllunio da sicrhau ein bod yn ei osgoi.
Felly, beth bynnag, mae ein polisïau yn ymwneud â'r tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir ac yn mynd i'r afael â phedair thema allweddol sef ffordd o fyw, trafnidiaeth, tai a dylunio. Dylwn ddweud y bydd y manylion hynny ar ein polisi tai yn cael mwy o sylw mewn dogfen strategaeth ar wahân y byddwn yn ei chyhoeddi yn yr Hydref. Ond beth bynnag, mae'r meysydd rydym wedi edrych arnynt yn cynnwys parciau a mannau gwyrdd, cysylltedd rhyngrwyd, beicio a cherdded, cerbydau trydan, effeithlonrwydd ynni mewn tai, a chynyddu'r nifer o goed a thoeau gwyrdd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod strategaeth gynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio'r angen am fwy o fioamrywiaeth ar draws eu hystâd, nid yn unig yn yr ardaloedd gwyrdd a'u gerddi ond mewn toeau gwyrdd. Felly, dyna rywbeth rydym eisiau gweld ein prifysgolion yn ei arwain ar sawl ystyr.
Wrth wraidd yr ymrwymiadau sydd gennym—fel y dywedais, mae yna 25—efallai y gellid ystyried bod y rhai craidd yn anelu at sicrhau mai Caerdydd yw dinas garbon niwtral gyntaf y DU. Drwy farchnata Caerdydd yn y ffordd hon ac arwain y ffordd, yn hytrach nag aros 10 mlynedd ac yna gwneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud oherwydd pwysau cyhoeddus a'r hyn y mae dinasoedd eraill yn ei wneud, rwy'n credu y gallwn fod ar y blaen go iawn a defnyddio hyn i hybu delwedd Caerdydd fel dinas sy'n edrych tua'r dyfodol. Rydym eisiau treialu gwaharddiad dinas gyfan ar blastig untro yng Nghymru ac rydym yn agored i gynigion o ran lle y dylid cynnal treial o'r fath. Rydym eisiau sicrhau bod gan bob datblygiad masnachol dros 1,000 metr sgwâr do gwyrdd dros o leiaf 50 y cant o gyfanswm arwynebedd to'r datblygiad. Mae llawer o ddinasoedd o gwmpas Gogledd America ac Ewrop bellach yn gwneud hyn a hoffwn gyfeirio at Sheffield yn y DU fel arweinydd yn y maes. Rydym eisiau i safleoedd tir llwyd trefol dan berchnogaeth gyhoeddus gael eu darparu ar ostyngiad er mwyn datblygu ardaloedd eco trefol. Byddai'r rhain yn ddatblygiadau tai â gerddi a rennir, sy'n ddatblygiadau dwysedd uchel, cynaliadwy ac yn cynnig cymysgedd o ddeiliadaethau. Siaradais yn gynharach am fentrau cydweithredol, ac rwy'n credu y byddai hwn yn faes allweddol ar eu cyfer. Rydym eisiau datblygu parthau aer glân yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam. Ac yn olaf, a gaf fi ddweud ein bod yn anelu i gydgysylltu ein polisïau trefol fel y gall mwy o strydoedd prysuraf Cymru ddod yn barthau cerddwyr?
Felly, dyna ein strategaeth. A gaf fi ddweud fy mod yn credu ein bod wedi darparu gweledigaeth gydlynol iawn o'r ffordd ymlaen? Ac felly, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, ond byddaf yn cefnogi gwelliant 3, sy'n cyffwrdd â mater pwysig iawn mewn perthynas â strategaeth drefol. Rydym yn hapus i ymgorffori hwnnw gan ein bod yn ei ystyried yn adeiladol. Felly, rwy'n falch iawn o gychwyn y ddadl hon y prynhawn yma, Lywydd, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi pwysigrwydd cefnogi cymunedau ledled Cymru, rhai trefol a gwledig, i sicrhau eu bod yn ddeniadol i fuddsoddi, gweithio, byw, ymweld ac astudio ynddynt.
Yn credu bod cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio, trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau.
Yn nodi bod Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt.
Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a thwf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i hyrwyddo’r broses o greu lle.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Simon Thomas, felly, i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Simon Thomas.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 3, dileu 'croesawu' a rhoi 'nodi' yn ei le.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân i fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn ninasoedd Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau, er gwaethaf ein gwelliant ni, drwy groesawu'r drafodaeth rŷm ni'n ei chael heddiw. Nid wyf i'n meddwl ei bod yn briodol ein bod ni'n croesawu'n ffurfiol papur sydd wedi cael ei gynhyrchu gan unrhyw blaid, mewn ffordd, ond rwy'n croesawu'r drafodaeth, rwy'n croesawu'r hyn sydd yn y papur ac nid oes gennyf i ddim byd y byddwn i'n bersonol yn anghytuno ag e yn y papur.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae yna ambell le lle byddwn i yn mynd ymhellach, yn enwedig ym maes ynni adnewyddol, ond rwy'n croesawu’r ffaith ein bod ni'n cael trafodaeth integredig ar sut mae'r gwahanol elfennau yma yn adeiladu i mewn i amgylchedd trefol mwy iach a mwy buddiol i'n dinasyddion ni. Rwyf i am bwysleisio 'trefol'. Mae teitl y papur yn sôn am ddinasoedd, ond, a dweud y gwir, nid oes gyda ni ddinasoedd yng Nghymru; trefi mawr sydd gyda ni yng Nghymru i bob pwrpas. Efallai y bydd pobl Caerdydd yn anghytuno, ond, o safbwynt patrwm datblygiad gorllewin Ewrop, trefi mawr yn benodol sydd gyda ni yng Nghymru. Ond, yn bwysicach, trwy dde Cymru a hefyd mewn rhannau o ogledd Cymru, cyfres o drefi yn ymwneud â'i gilydd, ac mae cysylltedd rhwng y trefi yna a chadw cydbwysedd amgylcheddol o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn hollbwysig yn y cyd-destun hynny. Mae syniadau yn y papur yma—rhai newydd, rhai hen. Nid oes dim byd yn bod ar hen syniadau. Os nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu eisoes, ar bob cyfrif ailgylchwch y syniadau nes eu bod nhw'n cael eu gweithredu.
Y prif feirniadaeth sydd gyda fi o hyn—ac fe gaf i hwn mas o'r ffordd cyn bod yn fwy adeiladol—yw ei fod yn cael ei awgrymu gan blaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth am wyth mlynedd yn San Steffan a heb wneud unrhyw gynnydd ar rai o'r pwyntiau yma. Felly, mae gorboethi dinas Llundain yn dal i fynd ymlaen o dan gyfundrefn macro-economaidd y blaid bresennol. Mae'r cwynion a'r atebion ynglŷn â datblygu seilwaith cerbydau trydan, er enghraifft, yn amlwg, ond eto nid ydym ni wedi gweld unrhyw ddatblygiad neu brin fuddsoddiad yng Nghymru o Lywodraeth San Steffan yn y maes yma. Mae'r gagendor rhwng y syniadau yn y papur yma a rhai o weithredoedd go iawn y Llywodraeth a'r Blaid Geidwadol yn Llywodraeth San Steffan yn rhywbeth i'w weld. Ond, rwy'n gosod hynny i fyny i bobl sylwi arno a gwneud eu sylwadau eu hunain.
Fel mae prif welliant Plaid Cymru yn ei wneud yn glir, rydym ni am ychwanegu—ac rwy'n falch bod David Melding wedi derbyn bod hwn yn rhywbeth adeiladol—angen am Ddeddf awyr glân ehangach yng Nghymru. Byddai hynny'n effeithio ar bob rhan o Gymru, wrth gwrs. Mae yna agweddau yn y papur y mae'n dda gennyf i eu gweld. Jest i gymryd un enghraifft, mae'r papur yn sôn am fonitro awyr tu fas i feithrinfeydd ac ysgolion ac ati. Rwy'n cefnogi hynny. Rwyf wedi sôn am hynny fy hunan. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud ar ôl ichi fonitro? Pa gamau wedyn ydych chi'n eu defnyddio i sicrhau bod yr awyr yn cael ei glanhau? Achos rwy'n amau, pe byddem ni'n gwneud monitro bywyd go iawn, yn y funud, yn yr eiliad, y byddem ni'n gweld y monitro rydym ni'n ei weld yn y ffigurau cyhoeddus. Mae yna ansawdd awyr gwael iawn tu fas i rai o'r llefydd lle mae ein pobl fwyaf bregus ni—pobl ifanc i ysgolion a phobl hŷn i ysbytai—yn mynd. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud i weithredu hynny? Dyna pam rŷm ni'n sôn am yr angen am Ddeddf awyr glân i Gymru yn fwy eang, ac nid yn unig i greu y parthau awyr glân roedd David Melding yn sôn amdano, ond i roi hawliau i gymunedau hefyd i fynnu'r wybodaeth yna a defnyddio'r wybodaeth honno i chwilio am welliant yn yr ansawdd awyr lleol.
Rhaid gwneud yn siŵr hefyd fod gan awdurdodau lleol, sydd yn gyndyn iawn ar hyn o bryd yng Nghymru i fentro ar unrhyw fath o bris i dalu naill ai i barcio neu i deithio drwy ddinasoedd ar adegau gwahanol—. Nid yw hynny'n cael ei drafod yn y papur, er bod David Melding wedi crybwyll hwn yn y gorffennol yn y Siambr, rwy'n meddwl. Os ydym ni am fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, mae'n rhaid i ni fynd yn syth i'r afael â'r ffaith fod lorïau mawr disel yn mynd drwy ganol ein dinasoedd ni ar yr adeg pan fo plant yn cerdded i'r ysgol. Mae'n rhaid stopio hynny rhyw ffordd neu ei gosbi mewn ffordd nes bod dewisiadau amgen economaidd yn dod yn ei le. Felly, dyna pam yr ydym ni am annog strategaeth fwy eang ynglŷn ag awyr iach tu fewn i'r cyd-destun hynny.
Fe wnaf i fennu jest drwy ganu trwmped Plaid Cymru, wrth gwrs, fel y byddech chi'n disgwyl mewn dadl fel hon. Rwy'n falch iawn fod y Ceidwadwyr yn sôn am y pethau hyn; mae Plaid Cymru wedi sôn am nifer ohonyn nhw ers rhai blynyddoedd. Ond, yn fwy na hynny, rŷm ni yn fodlon, er yn wrthblaid, i fynd i mewn i drafod gyda Llywodraeth Cymru i roi arian tuag at ateb rhai o'r problemau hyn. Felly, mae £2 filiwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygu seilwaith cerbydau trydan drwy Gymru, ac mae £0.5 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer mynd i'r afael â llygredd plastig, yn benodol drwy'r cynllun blaendal poteli, er enghraifft. Rwy'n credu bod gweithredoedd fel yna yn rhywbeth pwysig iawn i'w weld mewn gwleidyddiaeth. I'r blaid sydd wedi cynnig rhai o'r syniadau da yma, rwy'n gofyn iddyn nhw ystyried hefyd beth mae eu plaid hwythau yn gwneud wrth iddyn nhw fod mewn Llywodraeth.
Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r ddadl a'r ffordd y mae David Melding wedi'i chyflwyno? Gobeithiaf y bydd yn rhan o gyfres y bydd y Ceidwadwyr yn ei chyflwyno mewn modd adeiladol, fel y mae David wedi'i wneud heddiw.
Mae'n hollol wir fod angen i ni gydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru fel peiriannau twf economaidd, dysgu a gweithgarwch. Yn fwy penodol, y canolfannau trefol mawr sy'n creu cyflogaeth a chyfoeth ar raddfa fawr. Nid oes ond angen i ni edrych ar Lundain, neu ar raddfa fyd-eang, Efrog Newydd a Tokyo, neu edrych ar ddinasoedd llawer llai adnabyddus ledled Ewrop, lleoedd fel Mannheim ac Aarhus. Dyma pam rwyf mor awyddus i greu dinas-ranbarthau. Tra bod economi dinas-ranbarth Caerdydd yn cynnwys symud sylweddol o'r ardaloedd cyfagos i Gaerdydd, mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn cynnwys llawer o symud i ac o Abertawe a rhannau eraill o'r rhanbarth.
Mae trefi a dinasoedd llwyddiannus bob amser wedi bod yn ganolog i ddatblygiad economaidd a chreu ffyniant. Boed fel marchnadoedd neu ganolfannau menter, gwybodaeth, diwylliant, dysgu ac arloesi, mae economi'r wlad yn dibynnu ar eu llwyddiant. Dylai pob ardal drefol gyflawni eu potensial economaidd a mwynhau twf sylweddol a ffyniant cynyddol. Fodd bynnag, dylid sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu'n decach, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae cyfoeth a chyfleoedd yn aml yn bodoli ochr yn ochr â thlodi ac arwahanrwydd, yn aml o fewn yr un dinasoedd.
Dylai sgiliau amrywiol a chefndiroedd pawb gael eu defnyddio'n briodol, gan alluogi pawb i gyflawni eu potensial heb eithrio neb. Mae hyn yn bwysig er mwyn gallu creu cymdeithas ofalgar a chynhwysol. Mae hyn hefyd yn gwneud synnwyr economaidd da gan y bydd yn helpu i gynyddu potensial twf yr economi yn y tymor hir. Mae angen i leoedd llwyddiannus allu denu a chadw busnesau, yn seiliedig ar ddeall eu hanghenion. Mae dadansoddiad o leoedd llwyddiannus a lleoedd llai llwyddiannus yn awgrymu nifer o ffactorau sy'n hanfodol i ffyniant economaidd trefi a dinasoedd. Y pedwar ffactor canlynol yw'r allwedd i lwyddiant economaidd: yn gyntaf, diwylliant o fenter ac arloesedd, lle mae lleoedd yn addasu'n gyflym i gyfleoedd newydd a gall pawb rannu posibiliadau a gwobrau llwyddiant busnesau, ac mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y chwyldro ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, deallusrwydd artiffisial, a gwyddorau bywyd hefyd; buddsoddiad preifat, gan gynnwys mynediad at gyfalaf menter, sy'n hanfodol i gychwyn a thyfu busnesau, ac i ddarparu swyddi a chyfleoedd i bawb; pobl sydd wedi'u harfogi â'r sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, ac â chymhelliant a chyfle i weithio—diwylliant o ddysgu gydol oes, sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth gan alluogi ymateb hyblyg i gyfleoedd sy'n newid ac annog cwmnïau i ddod i drefi a dinasoedd ac aros ynddynt. Yn llawer rhy aml, mae gennym gwmnïau'n dod i mewn, yn cymryd y grantiau ac yna'n symud allan. Hefyd, system drafnidiaeth effeithlon a dibynadwy, sy'n sicrhau bod deunyddiau crai yn cael eu cyflenwi'n effeithlon i ddiwydiant, a nwyddau i'r farchnad, a darparu mynediad effeithlon at swyddi, gan wneud trefi a dinasoedd yn lleoedd gwell i fyw ynddynt a helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.
Felly, beth y mae hyn yn ei olygu'n benodol ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe? Mae angen i gynllunio economaidd a chynlluniau trafnidiaeth fod yn seiliedig ar y rhanbarth. Mae angen inni adeiladu ar gryfderau'r brifysgol. Mae gormod o fyfyrwyr, gan gynnwys llawer o'r ardal, yn symud i ffwrdd y diwrnod ar ôl iddynt raddio, neu y mis ar ôl iddynt raddio. Mae angen i ni gael parciau gwyddoniaeth ynghlwm wrth brifysgolion fel y gallwn eu defnyddio fel canolfannau arloesi ac arbenigo mewn sectorau economaidd allweddol, ac mae gwyddorau bywyd a TGCh yn ddau sy'n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer twf. Rydym hefyd angen canolfan entrepreneuriaeth ac arloesedd sy'n gallu darparu platfform sylfaen a deori i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr ddod at ei gilydd a sicrhau ein bod yn tyfu ein heconomi. Mae angen i ni ddarparu cyfleoedd i fusnesau allu cychwyn, ond pan fyddant yn cychwyn, maent angen mynediad at gyfalaf, nid yn unig ar y cam cychwynnol, ond ar y ddau gam pwysig o dwf, o fod yn fentrau bach i fod yn fentrau canolig ac yna o fod yn fentrau canolig i fod yn fentrau mawr. Fel y gwyddom, yn rhy aml, mae busnesau canolig eu maint yn gwerthu i gwmnïau y tu allan i'r ardal ac mae llai o fanteision economaidd i'n hardal. Gan weithio gyda'r prifysgolion a'r colegau addysg bellach, mae angen i ni wella sgiliau ein poblogaeth.
Yn olaf, trafnidiaeth, a allai fod yn ddadl ynddi ei hun ac a fyddai'n fy nghadw i fynd yn llawer hwy na'r pum munud a ganiateir i mi. Ond yn fyr, mae angen i ni ailagor gorsafoedd rheilffordd, ac rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach heddiw. Ond mae angen inni gael cyfnewidfeydd bws a thrên. Yn llawer rhy aml, mae'r bws yn aros mewn un lle, ac er mwyn dal y trên, mae gennych daith gerdded o 10 munud—sy'n eithaf braf ar ddiwrnod fel heddiw, ond mae dyddiau fel heddiw yn anarferol. Pan fo'n oer ac yn wlyb, mae'n daith annymunol. Mae angen i ni gael llwybrau beicio diogel. Nid yw'n ddigon da cael llwybrau beicio ar gyfer 80 neu 90 y cant o'r daith; mae'n rhaid iddynt fod ar gyfer 100 y cant o'r daith. Mae'n llwybr beicio diogel a braf cyhyd â'ch bod yn anghofio am y 100 llath lle mae'n rhaid i chi feicio ar y brif ffordd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mike, os oes gennych amser?
Gwnaf, yn sicr.
A fyddech chi hefyd yn cytuno â mi, o ran y gwasanaethau bws—ac rwyf wedi gweld hyn yn fy mhrofiad fy hun o deithio i Gaerdydd weithiau—un peth yw cael bws i'ch cludo yno yn y bore, ond mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr fod gwasanaeth bws yn ôl wedyn ar ôl 5.30 p.m., neu fel arall rydych mewn twll ac mae'n rhaid i chi ddibynnu ar dacsis a mathau eraill o drafnidiaeth?
Yn hollol. Dyna beth roeddwn am ei ddweud: rydym angen gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu ardaloedd preswyl, gwaith a hamdden, ac sy'n mynd ar yr adegau y mae pobl eisiau mynd i'r gwaith a mannau hamdden.
I gloi, er mwyn tyfu ein heconomi yn ne-orllewin Cymru, mae angen i ni ddatblygu ac ehangu'r cyfleoedd economaidd yn ninas-ranbarth bae Abertawe ac mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Felly, diolch i chi, David Melding, am gyflwyno'r ddadl hon.
Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, mae mwy na dwy ran o dair o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol. Wrth i fwy o bobl wasgu i mewn i'n dinasoedd, mae problemau yn sgil cynllunio gwael, gorlenwi a diffyg hygyrchedd yn dod yn fwy amlwg. Yr her a wynebwn, felly, yw creu dinasoedd lle mae pobl eisiau byw ynddynt: lleoedd lle y gellir cyrraedd siopau, swyddi, cyfleusterau cymdeithasol a mannau agored yn rhwydd; lleoedd lle mae'r broses gynllunio'n ystyried datblygiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Dyma pam rwy'n croesawu'r cynnig a gynhwyswyd yn ein strategaeth ar gyfer datblygu trefol neu adnewyddu trefol yng Nghymru. Mae'n rhaid i ddinas lwyddiannus sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae'n rhaid iddi sicrhau bod anghenion ei dinasyddion yn flaenoriaeth yn ei holl weithgareddau cynllunio. Ni fydd aneddiadau trefol sy'n cael eu rheoli'n wael yn gallu dal i fyny gydag ehangu trefol, a bydd mwy o iechyd gwael, tlodi, aflonyddwch cymdeithasol ac aneffeithlonrwydd economaidd yn sgil hynny.
Peryglon amgylcheddol sy'n gyfrifol am yr achosion mwyaf cyffredin o afiechydon ac afiachedd ymhlith tlodion trefol. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw o'r rhain yw llygredd aer. Yn 2016, cofnododd Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Port Talbot a Chas-Gwent lefelau llygredd aer anghyfreithlon a niweidiol. Ddirprwy Lywydd, cafwyd dros 143 o farwolaethau mewn blwyddyn yng Nghaerdydd yn 2013 oherwydd llygredd aer. Mae pum dinas yn Lloegr a phedair dinas yn yr Alban yn arwain y ffordd drwy gyflwyno parthau aer glân. Mae'r toriad sylweddol a welwyd mewn allyriadau ym Merlin—dinas yn yr Almaen—dros 10 mlynedd yn ôl yn dangos beth y gellir ei gyflawni, oherwydd mae honno'n un o'r dinasoedd glanaf yn Ewrop gyfan erbyn hyn. Dylem sicrhau bod gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth drwy gyflwyno parthau aer glân yn Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, a dylem fynd ymhellach i ddiogelu iechyd ein plant. Dylai pob ysgol a meithrinfa gael monitorau llygredd aer ar y ffyrdd prysuraf o fewn 10m i'w safle.
Gall mynediad hawdd at amwynderau trefol drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ddileu'r angen i ddefnyddio ceir a lleihau lefelau llygredd aer ymhellach. Un o'r rhwystrau mwyaf i feicio yw diogelwch: prinder lonydd beicio. Yn y Deyrnas Unedig, Ddirprwy Lywydd, yn 2013, cafwyd dros 1,700 o farwolaethau ar y ffyrdd, sy'n gwbl annerbyniol. Rydym yn cynnig datblygu seilwaith i hyrwyddo cynnydd yn nifer y rhai sy'n beicio drwy ddarparu lonydd beicio ychwanegol mewn ardaloedd trefol. Ein targed yw dyblu hyd llwybrau beicio mewn ardaloedd trefol erbyn 2040. Byddai cronfa feicio gymunedol yn galluogi cymunedau lleol i ariannu a chynllunio eu rhwydweithiau beicio eu hunain gyda'r nod o sicrhau mynediad at amwynderau lleol.
Mae mwy o ddefnydd o strydoedd ar gyfer cerddwyr yn unig yn lleihau cysylltiad pobl â lefelau gormodol o sŵn a llygredd aer. Mae astudiaeth yn Nenmarc yn dangos hefyd y gall roi hwb calonogol i'r economi a manwerthwyr lleol. Rydym eisoes yn darparu tocynnau bws teithio rhatach i'n pobl hŷn. Credaf fod pobl ifanc hefyd angen y cymorth angenrheidiol i gael mynediad at addysg, swyddi a hyfforddiant. Dyna pam ein bod yn cynnig cyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad am ddim at deithiau bws diderfyn ar gyfer bob person 16 i 24 oed yng Nghymru.
Mae mannau gwyrdd yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd bywyd yn ein dinasoedd. Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ac i wella iechyd ein dinasyddion. Rydym angen strategaeth mannau agored sy'n rhoi parciau ac adfer tir diffaith â thir heb ei ddatblygu wrth wraidd adfywio trefol. Byddai hyn yn cynnwys ymrwymiad i blannu rhagor o goed trefol. Mae coed trefol yn gwella golwg ardal ac maent hefyd yn cynhyrchu manteision fel gostwng tymereddau trefol a gwella ansawdd aer.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cynigion yn y ddogfen hon yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd y bobl sy'n byw yn ein dinasoedd, a dylem fod ar y blaen yn y Deyrnas Unedig yn rhoi'r bywyd glân gorau posibl i'n dinasyddion. Maent yn ymwneud â gwella'r economi a sicrhau amgylchedd glân a diogel ar gyfer ein dinasyddion a chenedlaethau'r dyfodol. Credaf eu bod yn haeddu cefnogaeth y Cynulliad hwn a'r genhedlaeth nesaf i ddod. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi'r hyn y maent yn galw amdano heddiw yn fras. Mae'r cynnig ei hun yn niwlog braidd, ond mae'n ein cyfeirio at eu Papur Gwyn, 'Dinasoedd Byw'. Mae'r Papur Gwyn yn ddiddorol ac mae'n canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar feysydd sylfaenol trafnidiaeth a thai, a chredaf y dylent fod wedi ychwanegu cyflogaeth, sy'n elfen gysylltiedig, at y rheini hefyd. Ac mae Oscar Asghar newydd grybwyll y mater hwnnw yn ei gyfraniad ef, felly mae'n amlwg eich bod yn ymwybodol fod hynny'n rhan o'r tapestri rydych yn ceisio'i wau yma yn ogystal.
Rydych yn mynd i'r afael â llawer o feysydd polisi yn 'Dinasoedd Byw', felly bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy hun i nodi rhai yn unig o'r meysydd a drafodir. Ceir cynigion yn ymwneud â throi tir nad yw wedi cael ei ddatblygu yn dir parc, mentrau gwrth-sbwriel, gwaharddiad plastigau—pethau da iawn i gyd y byddem, unwaith eto, yn eu cefnogi'n fras—a cheir cynigion i annog mwy o lwybrau beicio a mwy o gerdded. Wel, byddai pawb ohonom yma yn tueddu i gefnogi'r math hwnnw o uchelgais yn gyffredinol, ond y broblem yw sut rydym yn ei gyflawni.
Mae gan Lywodraeth Cymru raglen teithio llesol eu hunain sy'n anelu at hwyluso'r union bethau hyn, ond y broblem mewn gwirionedd yw troi amcanion da yn gamau gweithredu ystyrlon. Crybwyllwyd beicio yn y cyfraniad diwethaf. Gyda beicio, mae yna broblem o ran lle, fel y soniodd Oscar. Nid yw beicwyr eisiau beicio ar ffyrdd prysur am yr union resymau sydd newydd gael eu disgrifio: perygl gormod o draffig ar y ffyrdd a cherbydau nwyddau trwm yn eu plith, ac rwy'n credu bod Simon Thomas wedi crybwyll hynny'n gynharach heddiw—o bosibl yn y ddadl hon. Felly, oherwydd y materion hyn, mae beicwyr yn tueddu i feicio ar y palmentydd yn aml—sy'n ddealladwy.
Mae llwybrau beicio mewn dinasoedd yn tueddu i uno â llwybrau cerdded, felly mae beicwyr yn mynd i blith cerddwyr. Rwy'n cerdded 50 munud i'r gwaith bob dydd, ac yn ôl, ar hyd llwybr a ddefnyddir fel llwybr beicio hefyd. Fel cerddwr, rwy'n gwrthwynebu gorfod cael fy rhoi mewn perygl gan feicwyr sy'n mynd rhy gyflym heb ddefnyddio clychau. [Torri ar draws.] Ni chlywais hynny, Jenny. Rwy'n cytuno â'r nod o annog mwy o bobl i feicio, ond a bod yn onest, nid wyf eisiau rhannu llwybr cerdded â hwy mewn gwirionedd.
Rwyf eisiau pwysleisio, er bod beicwyr yn gallu achosi perygl i gerddwyr, nad yw hynny'n ddim o'i gymharu â cheir. Felly, credaf fod gyrru peryglus yn broblem lawer mwy sylweddol na beicio gwael.
Ie, gwnaed y pwynt gan Simon Thomas yn gynharach, a buaswn yn cytuno mai ceir sy'n achosi'r perygl mwyaf. Rwy'n credu mai'r pwynt rwy'n ei wneud yw nad yw'r tri pheth gwahanol yn cymysgu o gwbl. Ceir, beiciau, cerddwyr, yr anhawster yw ceisio dod o hyd i ffordd ymarferol o annog beicwyr a cherddwyr i wneud rhagor o ymarfer corff a defnyddio'r math hwnnw o drafnidiaeth heb i'r naill beth ymyrryd ar y llall. Felly, fel cerddwr, rwy'n credu bod hwn yn anhawster gwirioneddol. Gwn eich bod yn beicio llawer, Jenny, felly rwy'n ceisio edrych ar y mater o safbwynt cerddwr. Felly, credaf fod yna anhawster. Rwy'n credu mai'r broblem yw: lle mae'r gofod ar gyfer hyrwyddo'r gwahanol fathau hyn o drafnidiaeth mewn ffordd hyfyw?
Problem fawr yw bod gormod o geir ar y ffordd erbyn hyn. Ni chafodd ein trefi a'n dinasoedd presennol eu cynllunio ar gyfer cynifer o geir, felly mae angen i ni leihau nifer y ceir ar y ffordd, sy'n ein harwain at un o syniadau'r Ceidwadwyr, sy'n ymwneud ag annog pobl i ddefnyddio bysiau, fel roedd Oscar, unwaith eto, yn ei ddisgrifio yn ei gyfraniad.
Ceir argymhelliad i ddarparu trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar y bysiau. Byddai hwn yn gam beiddgar. Gallaf weld y gallai arwain at newid diwylliant, ac mae'n werth meddwl amdano. Yn y tymor hir, gallai esgor ar fanteision enfawr yn ddamcaniaethol. Y broblem yw, yn y tymor byr, beth fyddai'r gost gyllidebol i Lywodraeth Cymru o ddarparu'r math hwn o gyfleuster. Byddai cam o'r fath, pe baem yn ei gymryd, yn gallu annog llawer o bobl ifanc i beidio â defnyddio ceir drwy'r amser. Ni fydd yn annog pob un ohonynt, oherwydd ni fydd rhai ohonynt yn ystyried defnyddio bysiau oherwydd nad yw bysiau yn cŵl. O ran y rhai a fydd yn defnyddio'r cardiau bws arfaethedig, bydd y cardiau hyn hefyd yn eu hannog i gerdded o'u cartrefi i'r safle bws, felly gallai annog y syniad o gerdded hefyd, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes gan lawer o bobl ifanc ddiddordeb mewn gwneud dim, yn anffodus, ond cerdded o'r soffa at y car sydd wedi'i barcio y tu allan i'r tŷ. O fewn ychydig flynyddoedd, gallai llawer o'r bobl ifanc hyn fod yn ordew a bod yn draul ar y GIG, felly mae'n rhaid inni edrych ar yr arbedion hirdymor posibl. Does bosib nad dyma'r math o feddwl hirdymor y mae ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn dueddol o'i annog, felly tybed beth fyddai ei barn hi am eich polisi o gynnig teithiau bws am ddim i bobl ifanc. Tybed beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am y peth heddiw. Wrth gwrs, rydym angen prisio hyn hefyd a meddwl sut ar y ddaear y byddem yn ei ariannu.
Rwy'n credu bod fy amser yn dirwyn i ben. Roedd llawer o faterion i'w trafod. Rydym yn cytuno'n fras â'r Ceidwadwyr; o ran gwelliannau Plaid Cymru, rydym yn cefnogi'r un am aer glân. Gwyddom eich bod yn gwneud llawer o gynlluniau Llywodraeth, ond rydym yn meddwl tybed pa mor effeithiol ydynt, oherwydd mae yna lawer o amheuon ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r Ddeddf teithio llesol, felly rydym yn gwrthwynebu eich gwelliannau heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod digonedd i'w hoffi yn y strategaeth hon, ond yr hyn sy'n arbennig o ddeniadol yw pa mor berthnasol ydyw i fy rhanbarth fy hun yng Ngorllewin De Cymru, sy'n ranbarth trefol yn bennaf, ac felly rwyf am ddechrau, yn eithaf dewr, rwy'n credu, gydag un cynnig rwy'n credu y gellid ei wella, os na fyddaf yn ennyn dicter David yma.
Mae £1.3 biliwn wedi'i neilltuo ar gyfer bargen ddinesig bae Abertawe, ac mae hwnnw'n ymwneud yn llwyr â thwf economaidd, gweithgarwch economaidd a dysgu, fel sy'n cael ei nodi yn y cynnig. Mae hynny'n cynnwys buddsoddiad, yn benodol, mewn man arbrofi ar thema'r rhyngrwyd i gefnogi arloesedd gyda chysylltedd symudol 5G. Felly, hoffwn awgrymu mai ardal fetropolitanaidd ehangach Abertawe, yn hytrach na Chaerdydd, a ddylai fod yn un o'r lleoedd cyntaf yn y DU i gyflwyno 5G, oherwydd mae'r cynlluniau eisoes wedi dechrau cael eu datblygu. Mae'r arian yno, ac wrth gwrs mae'n cyrraedd y tu hwnt i'r ddinas ei hun. Rydym yn sôn am ardal drefol, ac nid yw trefol yr un peth â dinesig, sy'n bwynt a wnaed gan eraill heddiw.
Rhan o'r feddylfryd y tu ôl i ddinas-ranbarth digidol oedd gostyngiad mewn anghenion trafnidiaeth traddodiadol, a bydd hynny'n wir i ryw raddau, ond bydd pobl eisiau cysylltu â'u hamgylchedd ffisegol ehangach o hyd, rwy'n credu, sy'n datblygu i fod yn brofiad llai braf ym Mhort Talbot ac Abertawe—rhan o fy rhanbarth i—yn enwedig oherwydd y llygredd diwydiannol ynghyd â'r nitrogen deuocsid o'r traffig sydd, fel y clywsom, wedi cyrraedd lefelau anghyfreithlon, a go niweidiol wrth gwrs. Gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen gyda Gweinidog yr amgylchedd.
Nid problem i ganol y ddinas yn unig yw hon. Credaf y bydd yn ddiddorol gweld a fydd ffordd osgoi Hafod, er enghraifft, yn lleihau'r effaith ar Ysgol Pentrehafod, neu a fydd y ffaith bod y trenau'n cael eu gadael yn segur am 10 awr neu fwy yng Nglandŵr yn dileu effaith y darn hwnnw o gynllunio trefol. Felly, rwy'n falch o weld gwelliant Plaid Cymru hefyd mewn perthynas a Deddf aer glân, ond rwy'n credu y gallem fwrw ymlaen â pharthau aer glân yn awr, fel yr awgrymai'r strategaeth.
Mae cysylltu â'r amgylchedd ehangach yn golygu ein hamgylchedd cerdded hefyd, ac mae'r gwaharddiad plastigau, wrth gwrs, yn ffordd werthfawr iawn o fynd i'r afael â'r broblem o sbwriel ar y strydoedd, ond gwnaeth cynlluniau Caerdydd i dargedu'r gwaith o lanhau o flaen tai a drysau, a bagiau gwrth-wylanod argraff arbennig arnaf. Rwy'n eithaf hyderus nad oes gan wylanod y penwaig yn Abertawe unrhyw syniad o gwbl sut beth yw pennog. Maent yn gallu torri i mewn i gartonau byrgyr Styrofoam yn gyflymach na thîm pêl-droed o dan 10 oed ac mae'r rhan fwyaf ohonynt i'w gweld yn fwy o faint ac yn llawer mwy digywilydd na'r plentyn 10 oed cyffredin hefyd. Mae honno'n broblem ynddi'i hun, oherwydd gwyddom am lygod mawr a sbwriel, ond pan fydd yn amser nythu neu pan fydd yn amser i'r cywion sydd wedi'u magu ar nygets cyw iâr ddysgu sut i hedfan, mae gwylanod llawndwf yn troi'n fomiau, ac maent yn beryglus iawn. Yr unig ochr gadarnhaol i hyn yw eu bod yn hoffi beicwyr ar balmentydd yn arbennig, ond mae hynny'n wir amdanaf fi hefyd.
Nawr, cyn i bobl wylltio am hynny, pam fod rhai pobl yn beicio ar balmentydd? Weithiau mae'n deillio o anwybodaeth go iawn ac weithiau o ystyfnigrwydd, ond yn aml iawn mae'n deillio o'r ffaith bod wyneb y ffordd yn rhy beryglus, yn ogystal â'r traffig, ac mae pawb ohonom yn gwybod am hynny, ac yn aml iawn, am fod lonydd beicio wedi'u hôl-osod yn y lle anghywir neu oherwydd bod yr awdurdod lleol yn credu ei bod yn bwysicach cael gwely o lilïau llin ynghanol y ffordd, yn hytrach na defnyddio'r gofod hwnnw'n greadigol i greu man beicio diogel.
Dyna pam y caf fy nenu at y gronfa feicio gymunedol—soniodd Oscar amdani'n gynharach—oherwydd mae'n enghraifft wych o gydgynhyrchu yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n golygu mai cymunedau lleol sy'n dylunio eu rhwydweithiau beicio a'u seilwaith eu hunain, fel parciau beic diogel. Mae hefyd yn rhoi cyfle i feicwyr wneud cais i gael defnyddio rhai—ond nid pob un—o'r palmentydd presennol a'r ardaloedd i gerddwyr yn unig, oherwydd gall beicwyr a cherddwyr ddefnyddio rhai yn ddiogel os yw'r defnydd o'r gofod sydd ar gael wedi'i gynllunio'n dda, er fy mod yn cydnabod pwynt Gareth nad yw rhannu gofod yn ddelfrydol bob amser. Mae'n llawer gwell os ydynt yn cael eu cynllunio ar wahân yn y lle cyntaf.
O ran creu parthau cerddwyr, credaf fod gennym rai gwersi i'w dysgu o'r gorffennol. Mae gennym enghreifftiau gwych yng Nghaerdydd, ynghyd â pharcio cyfleus o ansawdd lle mae'n gwahodd siopwyr ac ymwelwyr eraill i aros am gyfnod hir o amser a cherdded—a beicio weithiau—yn yr ardal, ond mae yna enghreifftiau ofnadwy yn ogystal, fel Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal ag effaith y rhyngrwyd a pharciau manwerthu, mae'r stryd fawr yno yn cau yn raddol o ganlyniad i'r ffaith bod gormod o barthau cerddwyr wedi cael eu creu. Mae bellach yn llawn o bobl yn gofyn am danysgrifiadau neu roddion. Mae'r strydoedd hyn, a arferai fod yn brysur iawn, wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu cleientiaid, os mynnwch—siopwyr manion ychwanegol, pobl sy'n mynd i dorri eu gwalltiau, coffi cyflym. Nid yw'r meysydd parcio'n ganolog iawn ac mae'r ffyrdd prysur drwy'r dref yn peri i bobl a allai gael eu temtio i gerdded i ganol y dref beidio â gwneud hynny, a daw hynny â mi, wedyn, at y gofod preswyl. Nid oes gennyf amser i roi'r sylw y mae'n ei haeddu i'r mater hwn: tai sy'n pontio'r cenedlaethau, y lleoliad ac ati. Rwyf am adael hynny ar gyfer diwrnod arall.
Roeddwn eisiau sôn am y mannau gwyrdd. Mae effeithiau llesiant y rheini wedi'u cofnodi mor dda, ac mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n ei chael hi mor anodd deall penderfyniad cyngor Abertawe i adeiladu ysgol ar safle Parc y Werin—yr unig fan gwyrdd o'i fath yng nghanol tref Gorseinion—pan fo mwy nag un safle amgen ar gyfer yr ysgol honno.
Yn bwysicaf oll ac yn olaf, mae'n rhaid i ni gynllunio gyda gweledigaeth yn hytrach na phanig. Mae peidio ag adeiladu dim am flynyddoedd ac yna cyflwyno'r ystadau enfawr hyn filltiroedd oddi wrth y cyfleusterau trefol y soniodd Oscar amdanynt yn ystumio cymunedau ac yn arwain at fywyd mewn car, nid beicio a cherdded, pan allem fod yn byw mewn dinasoedd gwirioneddol dda i fyw ynddynt. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl a gyflwynwyd gan David Melding yn fawr, ac rwy'n credu bod yna lawer o syniadau diddorol iawn yn y papur a gyflwynodd yn nghynhadledd ei blaid ei hun. Rwy'n falch iawn o ddweud bod datgarboneiddio'n flaenoriaeth allweddol yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n credu bod llawer o syniadau cyffrous y gallwn fwrw ymlaen â hwy wrth wneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud i gyflawni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi gweld yr hyn y gellir ei wneud os ydym yn uchelgeisiol, fel gydag ailgomisiynu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau, sydd â llawer o nodweddion amgylcheddol, gan gynnwys y ffaith bod rhai o'r llinellau yn eco 100 y cant, a chredaf fod hynny'n arwydd pwysig iawn o'r hyn y gallwn ei wneud. Cytunaf yn llwyr fod Caerdydd o'r maint optimwm, ac yn bendant nid ydym eisiau ei gweld yn tyfu i fod yn rhyw fath o flerdwf trefol erchyll, a dyna a fydd yn digwydd oni bai bod awdurdodau lleol a'r Ddeddf cynllunio yn atal hynny rhag digwydd, oherwydd, yn sicr, dyna fyddai'r datblygwyr yn ei hoffi. Felly, mae angen i ni orfodi'r llain las yn ddi-ildio o gwmpas ein prifddinas os ydym am osgoi'r math o flerdwf trefol graddol a fyddai'n cael gwared ar bopeth rydym yn ei ddathlu ynglŷn â Nghaerdydd.
Buaswn wrth fy modd pe bai Caerdydd yn dod yn ddinas garbon-niwtral gyntaf y DU, a chredaf ei bod yn wych fod David Melding yn mynegi'r uchelgais hwnnw. Credaf fod y llwybrau gwyrdd ar o leiaf 50 y cant o ddatblygiadau masnachol yn bendant yn rhywbeth y dylem anelu ato. Mae'r fflatiau sydd wedi cael eu hadeiladu uwchben Dewi Sant 2 yng nghanol y ddinas yn arwydd da o'r hyn y gellir ei wneud wrth gynllunio'n briodol ymlaen llaw, oherwydd mae yna erddi yn yr awyr y mae preswylwyr y fflatiau hynny yn gallu eu mwynhau, er eu bod mewn ardal sy'n amlwg yn goncrid drwyddi draw, gan ei bod yng nghanol y man siopa. Ond credaf mai dyna'r math o beth y dylem ei ddisgwyl mewn unrhyw ddatblygiadau pellach eraill yng nghanol dinasoedd—[Torri ar draws.] Gwnaf.
Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud ynghylch datblygiadau fel Dewi Sant 2. Peth arall sy'n wych am y math hwnnw o ddatblygiad yw bod y meysydd parcio ceir, sy'n ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd, wedi'u hadeiladu yn y fath fodd fel y gellid eu trawsnewid yn fflatiau yn y dyfodol; gallai hwnnw i gyd fod yn ofod preswyl. Felly, mae'n bwysig diogelu adeiladau ar gyfer y dyfodol hefyd, a gwneud yn siŵr fod hynny yn y system gynllunio er mwyn darparu ar gyfer y byd yfory, nid heddiw yn unig.
Dyna syniad gwych. Nid oeddwn wedi sylweddoli hynny, ond fe af ati i edrych ar hynny ar unwaith, oherwydd un o'r problemau sydd gennym yng Nghaerdydd yw bod gennym dros 1,000 o leoedd parcio yng nghanol y ddinas, sydd, yn amlwg, yn galluogi pobl i wneud y peth anghywir. Dylent fod yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu'n defnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio, yn hytrach na cheisio parcio yng nghanol y ddinas; mae'n gwbl wallgof. Yn amlwg, mae angen lleoedd parcio ar gyfer y bobl sy'n byw yn y fflatiau hynny, ond nifer fach iawn yw'r rheini.
Roeddwn eisiau siarad ychydig am y polisi cynllunio eco-drefi a lansiwyd gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2008, ac a gynlluniwyd i ddarparu tai ychwanegol a lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Yn anffodus, yn drasig, rhwygwyd y polisi hwnnw gan y Llywodraeth glymblaid a'i holynodd—y codisil enwog i ddatganiad yr Hydref yn 2015 gan George Osborne, lle y llwyddodd i gynnwys troi cefn ar y rheoliadau adeiladu di-garbon y gallem fod yn eu mwynhau heddiw fel arall. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych o ddifrif ar gyflwyno hyn fel na fydd yn rhaid i ni ôl-osod y tai y byddwn yn eu hadeiladu yn y dyfodol gyda chladin amgylcheddol pellach pan na ddylem fod wedi caniatáu iddynt adeiladu tai o ansawdd mor wael yn y lle cyntaf.
Dair blynedd ar ôl y drychineb honno, rwy'n credu bod nifer o drefi o amgylch y DU sy'n edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu mannau trefol cynaliadwy. Er enghraifft, mae gan Solihull ardal drefol gynaliadwy newydd o gwmpas y gyfnewidfa HS2 ger yr M42, sy'n cysylltu Maes Awyr Birmingham, y Ganolfan Arddangos Genedlaethol, Gorsaf Ryngwladol Birmingham a'r orsaf HS2 newydd gyda cherbyd hollol awtomatig ar gyfer cludo pobl, sy'n cael ei ddarparu gan gwmni o'r enw Urban Growth Company. Ym Mryste—yn nes atom—mae ganddynt Grow Bristol, ac nid fferm gyffredin mohoni. Caiff ei rhedeg o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o ffermio pysgod a llysiau salad yn gynaliadwy a'u gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr Bryste a masnach fwytai'r ddinas. 'Rydym yn sôn am fetrau bwyd, nid milltiroedd bwyd', meddai un o sylfaenwyr y cwmni. Mae hyn yn rhywbeth y gwn fod rhai o aelodau cabinet Cyngor Caerdydd yn edrych arno'n agos, oherwydd mae hon yn system hydroponig, acwaponig ar gyfer tyfu llysiau gwyrdd deiliog a ffermio tilapia, gyda gwastraff y pysgod yn cael ei ddefnyddio i fwydo'r planhigion. Mae'r Cynghorydd Michael Michael, yr aelod cabinet dros yr amgylchedd, yn ystyried cynllun tebyg yma yng Nghaerdydd oherwydd mae angen i ni wneud y math hwn o beth. Gyda Brexit yn agosáu, rydym o bosibl mewn perygl mawr o golli'r rhan fwyaf o'r llysiau rydym yn eu mewnforio o Ewrop ar hyn o bryd. Felly, mae angen i ni feddwl yn gyflym iawn am hyn.
Rwy'n sylweddoli bod fy amser wedi dirwyn i ben, ond credaf fod gennym yr arbenigedd yma yng Nghaerdydd, drwy lawer o'r arbenigedd ym maes datblygu cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, i adeiladu tai cynaliadwy a chreu rhaglenni bwyd cynaliadwy. Felly, credaf fod angen i ni feddwl yn greadigol a bwrw ymlaen o ddifrif â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd.
Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a hoffwn longyfarch y prif siaradwr ar gyflwyno dogfen bolisi mor ddiddorol a deinamig, sy'n ceisio mynd i'r afael â llawer o'r cwestiynau rydym ni, fel aelodau etholedig, yn eu derbyn gan ein hetholwyr os ydym yn cynrychioli dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, neu yn wir ein trefi mwy o faint megis y Drenewydd, Wrecsam, neu'r Barri. Oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes raid i ni briodoli'r ddogfen hon i'r ardal drefol yn unig; gall ymestyn i'n trefi mwy a'n trefi marchnad ar hyd a lled Cymru. Un peth sy'n amlwg yn syth pan fyddwch yn darllen y rhagair i'r ddogfen yw bod bron 70 y cant o boblogaeth Cymru bellach yn byw mewn ardal drefol. Gallech ddweud 'Diffiniwch "ardal drefol" a thrafodwch', ond mae gan y rhan fwyaf o bobl ddelwedd o Gymru—ac maent yn gywir i fod â delwedd o Gymru—fel gwlad werdd hyfryd, oherwydd mae'r mwyafrif helaeth o dir Cymru yn wyrdd ac yn hyfryd. Ond pan fyddwch yn ei hystyried ar sail poblogaeth, mae hyn yn effeithio ar nifer enfawr o'n cydwladwyr sy'n troi at eu gwleidyddion i liniaru melltith llawer o benderfyniadau gwael a gafodd eu gwneud gan genedlaethau blaenorol, yn enwedig wrth gynllunio trefi, ac yn enwedig yn ystod cyfnod briwtalaidd y 1960au a'r 1970au, lle y cafodd jynglau concrit eu creu a phan gafodd yr atebion rydym yn dweud y dylid eu rhoi ar waith heddiw mewn perthynas â mesurau trafnidiaeth eu diystyru'n llwyr, pan oedd llawer mwy o gyfle i glirio safleoedd a chreu'r gofod trefol hwnnw, y mannau addas i fyw ynddynt, y soniodd David amdanynt yn ei sylwadau agoriadol, ac y dylem fachu arnynt yn awr a bwrw ymlaen â hwy.
Credaf ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ac ar bob plaid wleidyddol, i ganfod yr atebion a llunio'r trywydd y mae'r ddogfen hon yn ei nodi'n glir, yn sicr, fel cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i lawer o'r cwestiynau perthnasol hyn ac yn wir, rhoi llinell amser i'r atebion y byddwch yn eu rhoi ar waith, oherwydd mae'r ddogfen yn mapio llinell amser rhwng 2025 a 2040, sef pryd y byddem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn hoffi gweld llawer o'r polisïau hyn ar waith i wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni beidio ag anghofio ein bod ar ei hôl hi oherwydd y meiri metro a'r meiri dinasoedd yn Lloegr, ar hyd Clawdd Offa, o Fryste hyd at Lerpwl a Manceinion, a Birmingham rhyngddynt—caiff llawer o feiri dinasoedd eu hethol yn y blwch pleidleisio ar sail eu gallu i wneud y gwelliannau mawr hyn, yn economaidd ac yn amgylcheddol, yn niwylliannau'r dinasoedd y maent yn llywyddu drostynt yn awr. Nid yw'n bolisi canolog gan y Llywodraeth i ddarparu'r rhan fwyaf o'r mentrau hyn ar lawr gwlad bellach; cyfrifoldeb y meiri metro a'r meiri dinasoedd yw gwneud hynny.
Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â datganoli cyfrifoldebau i'n hardaloedd trefol fel y gallant ddefnyddio deinameg yr economi leol a'r atebion lleol y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer rhai o'r enillion cyflym a chynnar rydym angen eu cyflawni, ac yna'r atebion mwy hirdymor y mae angen eu rhoi ar waith gyda system gynllunio fwy cydgysylltiedig. Dro ar ôl tro, pan edrychaf ar yr amgylchedd cynllunio o amgylch Caerdydd, y cefais y pleser o'i gynrychioli yn y Siambr hon ers bron i 12 mlynedd bellach—. Nid Caerdydd yn unig ydyw; yn ei ymyriad yn gynharach, gofynnodd yr Aelod dros Lanelli 'beth am yr ardaloedd pellennig?' Nid oes ond angen i chi deithio ar hyd yr A40 yn y bore i weld y cymudo i mewn i Gaerdydd, ac yna teithio'n ôl i'r cyfeiriad arall i weld y cymudo o Gaerdydd, i ddangos mai'r dinasoedd yw'r peiriannau twf ar gyfer y rhanbarth ehangach sy'n amgylchynu'r ardal honno. Felly, mae'n rhaid i ni gael system gynllunio sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn hytrach na'r 1950au a'r 1960au, a'r trydydd degawd yr ydym ar ei drothwy o'r unfed ganrif ar hugain honno.
Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon dros y 12 mlynedd diwethaf ac wedi clywed amryw o Weinidogion cynllunio, o'r dadleuon a'r datganiadau gwych roeddem yn arfer eu cael gan y gŵr â'r un enw a mi, Andrew Davies, a'r cynllunio gofodol—beth bynnag y câi ei alw. Roedd yn arfer bod yn artaith i ni, a bod yn onest, nifer y dadleuon yr arferem eu cael.
Cynllun gofodol Cymru.
Y cynllun gofodol—beth bynnag a ddigwyddodd i hwnnw. Yna, yn sydyn, rydym yn clywed nifer o gyhoeddiadau yn awr ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn bod yn flaengar gyda'i syniadau ynglŷn â'r system gynllunio. Wel, mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod llawer o gynnydd, buaswn yn awgrymu, yn sicr yng ngorllewin Caerdydd, y mae trigolion yn gallu cyfeirio ato ar hyn o bryd i ddweud eu bod yn teimlo bod eu lleisiau a'u hanghenion yn cael eu clywed a'n bod yn cael y dinasoedd modern sydd ag atebion amgylcheddol, megis y mannau gwyrdd ar y toeau. Mae'r ddogfen hon yn pwysleisio, yn Singapôr, er enghraifft, fod yna 100 hectar o fannau gwyrdd ar doeau'r tai yn Singapôr. Dyna 240 erw i'r hen imperialwyr fel fi yn y Siambr hon, sy'n mesur pethau mewn erwau. Mae hynny, yng nghanol un o'r dinasoedd mwyaf poblog, yn dangos beth y gellir ei gyflawni os ydych yn agor eich meddwl i rai o'r atebion hyn.
Gallwn fod ar flaen y gad yn dyfeisio'r dechnoleg hon ac yn datblygu'r dechnoleg honno, ac rwy'n gobeithio mewn gwirionedd y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn cynnig map o sut y mae Llywodraeth Cymru yn ateb rhai o'r cwestiynau anodd hyn. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r gwelliant heddiw yn rhoi'r argraff fod yna lawer o weithgarwch ar y gweill, ond fel nofiwr sy'n cicio'n wyllt o dan y dŵr ond nad yw'n symud ymlaen rhyw lawer mewn gwirionedd—yn sicr dyna'r teimlad rwy'n ei gael pan fyddaf yn edrych ar lawer o weithgarwch Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o'r materion hyn. Oes, mae yna lawer o grwpiau y gallwch eu crybwyll, a melinau trafod sy'n rhoi cyngor, ond nid ydym yn gweld atebion sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol yn cael eu rhoi ar waith, ac mae angen i ni weld hynny oherwydd, fel y dywedais, mae 70 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn amgylchedd trefol ac os ydym am fod yn economi lwyddiannus a deinamig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n rhaid i ni ddatblygu'r amgylcheddau trefol hynny sy'n llefydd da i fyw ynddynt, sydd â'r deinameg economaidd hwnnw, ac yn anad dim, sy'n batrwm o ragoriaeth y mae gwledydd eraill yn edrych arnynt ar gyfer datrys y problemau y maent yn eu hwynebu. Dyna pam rwy'n annog y tŷ i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd yn enw'r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw a'r ysbryd y cafodd ei chyflwyno gan David Melding. Nid wyf yn credu fy mod wedi mwynhau dadl cymaint ag y mwynheais y ddadl hon heddiw ers cryn amser, oherwydd rydym wedi clywed cyfraniadau adeiladol ac ystyrlon iawn. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn ei gwneud yn glir fod cymunedau yn ased cenedlaethol, a byddwn yn buddsoddi ynddynt, yn gymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd, fel y mae ein gwelliant i'r ddadl yn ei nodi'n glir. Felly, byddwn yn sicrhau bod cymunedau ar hyd a lled Cymru yn ddeniadol i fyw ynddynt, i weithio ynddynt, i fuddsoddi ynddynt, i astudio ynddynt ac i ymweld â hwy. I wneud hyn, mae angen y math o ymagwedd gydgysylltiedig, drawslywodraethol sy'n seiliedig ar le yr ydym yn ei mabwysiadu yn ein cynllun gweithredu economaidd, ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio gwerth £100 miliwn, ein cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd a'r fframwaith datblygu cenedlaethol rydym yn ymgynghori arno. Felly, dyma enghreifftiau o'r pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yr oedd Andrew R.T. Davies yn chwilio amdanynt yn ei gyfraniad. Mae gofyn i ni weithio'n agos â'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a bargeinion twf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Ond mae ein ffocws heddiw ar ein cymunedau trefol, ac wrth geisio deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol ein trefi a'n dinasoedd, mae'n bwysig ein bod yn ymdrin ag ymchwil ac arbenigedd. Yn gynharach eleni, mwynheais drafodaeth ddefnyddiol iawn gydag Ymddiriedolaeth Carnegie y DU am eu gwaith ymchwil rhyngwladol 'Trefi Trawsnewid', yn ogystal â'r adroddiad penodol ar Gymru, sy'n edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu ein hardaloedd trefol yma.
Mae'r heriau wedi'u trafod yn helaeth, ac mae llawer yn ymwneud â'n patrymau newidiol fel defnyddwyr, ond mae yna hefyd gyfleoedd i'n trefi a'n dinasoedd fanteisio ar bethau na ellir eu diwallu ar-lein: ein hawydd am brofiadau, am hamdden, am ddiwylliant, am ymgysylltiad, am gysylltiad personol ac am wasanaeth cwsmeriaid rhagorol, yn ogystal â'n hangen am dai fforddiadwy o ansawdd da yn yr ardal rydym yn byw ac yn gweithio ynddi. Gyda'n cymorth ni, gall ardaloedd trefol addasu ac esblygu: trawsnewid banciau sydd wedi cau yn dafarnau, siopau gwag yn gartrefi, a thir diffaith yn fannau gwyrdd agored.
Gwyddom pa mor bwysig yw'r mannau gwyrdd agored hynny a pha mor bwysig yw darparu atebion yn seiliedig ar natur gan gynnwys seilwaith gwyrdd. Dyma un o flaenoriaethau cenedlaethol polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar adnoddau naturiol. Mae'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer creu parc tirlun y Cymoedd, sydd â'r potensial i helpu cymunedau lleol i ddefnyddio eu hadnoddau naturiol ac amgylcheddol ar gyfer twristiaeth, cynhyrchu ynni a iechyd a llesiant da, a dyna pam ein bod yn buddsoddi yng nghynllun gwobrau'r Faner Werdd. Dyna pam fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu tystiolaeth ar orchudd canopi coed trefol gyda byrddau gwasanaeth cyhoeddus i ddylanwadu ar eu cynlluniau llesiant lleol.
Dylid gofalu am fannau trefol sy'n dda i fyw ynddynt ac sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant da, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn sawl modd i fynd i'r afael â'r defnydd o blastig. Rydym yn arweinydd byd mewn ailgylchu, ac rydym eisiau sicrhau mai ni fydd y genedl ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rydym yn buddsoddi £6.5 miliwn yng nghronfa buddsoddi cyfalaf yr economi gylchol ac yn fwy cyffredinol, a hithau'n Flwyddyn y Môr, rydym yn falch o lofnodi adduned plastig Moroedd Glân Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd partneriaeth moroedd glân Cymru i greu etifeddiaeth hirdymor o'n profiad o gynnal Ras Hwylio Volvo i leihau'r defnydd o blastig.
Dylai mannau trefol sy'n dda i fyw ynddynt ac sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant da fod yn haws i gerdded a beicio ynddynt a hefyd yn haws i bobl ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth gynaliadwy. Yn ddiweddar, cyhoeddasom £60 miliwn ychwanegol o gyllid i wella rhwydweithiau cerdded a beicio lleol ac mae cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid hefyd yn cael ei ddefnyddio gyda theithio llesol mewn cof. Fel y dywedodd Simon Thomas yn ei gyfraniad, rydym yn buddsoddi £2 filiwn mewn mannau gwefru trydan ychwanegol ar gyfer cerbydau trydan gyda ffocws ar fannau gwefru cyflym, a byddwn yn chwilio am fuddsoddiad preifat cynaliadwy ar gyfer mannau gwefru i fanteisio i'r eithaf ac adeiladu ar y buddsoddiad cyhoeddus hwn, fel rhan o'n hymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd aer. Mae gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymgynghori ar barthau aer glân, yn cymryd camau i leihau allyriadau yn y lleoliadau mwyaf llygredig ac rydym wedi cyflwyno cronfa aer glân newydd gwerth £20 miliwn i gefnogi gwelliannau sydd eu hangen ar lefel leol. Mae ein cynllun aer glân ehangach ar gyfer Cymru, a fydd yn ymdrin â mwy na llygredd traffig ffyrdd, wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni.
Fel Gweinidog Tai ac Adfywio, rwy'n angerddol ynglŷn ag adfywio wedi'i arwain gan dai. Mae ein rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni hyn mewn nifer o gymunedau, ond rwy'n gweld y potensial i gynyddu hyn drwy ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio gwerth £100 miliwn. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn buddsoddi £90 miliwn yn ein rhaglen tai arloesol—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A ydych yn cydnabod mai'r ffordd orau o gael yr atebion gorau ar adfywio, yn enwedig mewn amgylchedd lleol, yw datganoli cymaint o gyfrifoldeb i lawr, o ran adfywio, i'r cymunedau a'r awdurdodau lleol a'r busnesau hynny fel y gallant benderfynu beth sy'n bwysig yn eu hardaloedd eu hunain, yn hytrach na'r model canoliaethol iawn rydych yn ei weithredu ar hyn o bryd?
Mae'r rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio yn rhoi ffocws mawr ar atebion lleol ar gyfer adfywio lleol. Caiff ei wneud ar sail ranbarthol, ond cynhelir y trafodaethau hynny ymhlith yr awdurdodau lleol yn y rhanbarth a mater i'r awdurdodau lleol yw defnyddio eu gwybodaeth leol i benderfynu sut i wario'r £100 miliwn. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo sut y buddsoddir yr arian hwnnw; caiff ei benderfynu'n bendant iawn ar sail penderfyniadau lleol a gwybodaeth leol a'r wybodaeth sydd gan ein hawdurdodau lleol.
Felly, ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn tai arloesol, rydym yn defnyddio'r rhaglen honno i gefnogi cynlluniau a fydd yn ysgogi dylunio a darparu cartrefi newydd fforddiadwy o safon er mwyn cynyddu'r cyflenwad fel rhan o'n targed o 20,000 o dai newydd fforddiadwy, a hefyd i gyflenwi cartrefi ar gyfer y farchnad yn gyflymach. Mae hefyd yn ein galluogi i dreialu modelau tai newydd a dulliau o gyflenwi sy'n mynd i'r afael â materion megis yr angen taer am dai, tlodi tanwydd, newid demograffig a newid yn yr hinsawdd. Am y tro cyntaf, rwyf wedi agor y gronfa hon i fusnesau bach a chanolig a hefyd i'r sector preifat, ond gwn y bydd yn arbennig o ddiddorol ar gyfer busnesau bach a chanolig, sydd â hanes cryf o fentro ac o fod y bobl gyntaf i arloesi. Bydd hynny, ochr yn ochr â'n cronfa safleoedd segur a'n cronfa datblygu eiddo, yn eu cynorthwyo i ddychwelyd at adeiladu tai mewn ffordd nad ydynt wedi gallu ei wneud cyn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn arbennig o bwysig yn ein hardaloedd trefol mewn safleoedd mewnlenwi a hap-safleoedd, er enghraifft.
Rydym hefyd yn cefnogi cynllun benthyciadau canol tref gwerth £27 miliwn i helpu i ddod â safleoedd ac adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd ymarferol mewn 34 o ganol trefi. Rwyf eisoes yn gweld enghreifftiau gwych o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio, gan sicrhau newid go iawn. Y peth cyffrous am y buddsoddiad hwn yw y gellir ei ailgylchu sawl gwaith, gan gefnogi mwy o brosiectau adfywio gwych dros gyfnod o 15 mlynedd.
Mae ardaloedd gwella busnes yn galluogi busnesau lleol i weithio gyda'i gilydd a sicrhau arian ychwanegol gan y sector preifat a buddsoddi yn ein hardaloedd trefol. Ar hyn o bryd, ceir wyth ardal gwella busnes ledled Cymru, a byddant yn cynhyrchu dros £500 miliwn o fuddsoddiad preifat yn ystod eu tymor, sy'n elw sylweddol iawn ar ein buddsoddiad o £240,000. Yn ddiweddar cyhoeddais £270,000 o gyllid pellach i gefnogi datblygiad hyd at naw ardal gwella busnes newydd. Mae hyn yn hynod o gyffrous oherwydd mae'r gymuned fusnes mewn sefyllfa dda i arwain adfywio a datblygu economaidd yn eu hardaloedd lleol, ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ehangach mewn ysbryd o greadigrwydd ac arloesedd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ymwneud â'r pwynt penodol ynghylch ardaloedd gwella busnes, ac mae'n bwynt allweddol. Gwn eu bod yn gweithio'n dda iawn mewn llawer o ardaloedd, ond yn sicr yn fy ardal i, gwn fod y Fenni wedi cael yr opsiwn o gael ardal gwella busnes a'u bod wedi'i wrthod. Felly, a fyddech yn cytuno ei bod hi'n bwysig, pan fyddwch yn sefydlu ardal fusnes o'r fath, ichi gael cefnogaeth ymlaen llaw gan y busnesau lleol a chan y bobl leol? Oherwydd os na chewch gefnogaeth y bobl y mae i fod i'w helpu, nid yw'n debygol o fynd i unman mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno bod yn rhaid iddo gael ei arwain a'i gyflawni'n lleol, a dyna pam y mae'n bwysig i'r ardaloedd sy'n cael cyfle i ddod yn ardaloedd gwella busnes i edrych ar y llwyddiant a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o Gymru, lle mae aelodau lleol a busnesau lleol wedi penderfynu bwrw iddi.
Gallaf weld bod amser yn brin, felly rwyf am ddod â phethau i ben drwy sôn yn fyr iawn am y ffaith ein bod yn parhau i ddefnyddio arian yr UE i gefnogi gweithgaredd adfywio drwy ein rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol gwerth £50 miliwn. Cyhoeddwyd eu prosiect cyntaf yn ddiweddar ym Mhontypridd ac edrychaf ymlaen at wneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn ceisio mabwysiadu dull unffurf o fynd ati i adfywio. Mae pob lle'n wahanol, a bydd angen dull pwrpasol ym mhob man. Mae ein cefnogaeth yn hyblyg a dyna'n union y mae'n ei alluogi i ddigwydd. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rhaid ei gyflawni mewn partneriaeth a chafodd hynny ei gydnabod yn bendant yn y gwaith Carnegie y cyfeiriais ato ar ddechrau fy nghyfraniad. Ni ellir hyrwyddo canolfannau trefol, cryf drwy waith Llywodraeth genedlaethol yn unig. Er y byddwn yn dangos arweinyddiaeth, mae angen i'r cymunedau sydd ynghlwm wrth hyn ei berchnogi, ac yn yr ysbryd hwnnw y byddwn yn parhau.
Galwaf yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd y Gweinidog yn hael iawn yno yn cymryd fy ymyriad, o gofio fy mod ar fin sefyll. Croeso i chi gymryd rhywfaint o fy amser, os dymunwch.
Na, rwy'n credu bod y Dirprwy Lywydd yn fwy hael yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Wrth gwrs. Diolch.
Fe wnaf barhau â fy sylwadau. Gosododd cyflwyniad hynod adeiladol David Melding y cywair ar gyfer y ddadl hon—ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Fe siaradoch yn huawdl fel arfer, David. Fe ddefnyddioch chi nifer o dermau allweddol megis 'dinasoedd fel peiriannau trefol' a 'chanolfannau arloesi' ac fe siaradoch am yr angen i hybu adnewyddu trefol, ac i gydnabod pwysigrwydd y dinas-ranbarth fel rhywbeth sy'n ymwneud nid yn unig â'r craidd trefol, ond â phopeth o'i amgylch yn ogystal. Credaf mai Lee Waters a wnaeth ymyrryd i wneud y pwynt am yr angen i wneud yn siŵr nad yw popeth yn cael ei sugno i mewn i'r craidd trefol hwnnw, ond yn oes fodern y dinas-ranbarth, ein bod yn cydnabod ei bwysigrwydd fel calon yr ardal, ond nid ei ben draw.
Cyfeiriodd David at ein polisi adnewyddu trefol a lansiwyd yn ddiweddar, a rhai o'n hamcanion allweddol i wneud Caerdydd yn ddinas garbon niwtral. Gallwn wneud hynny; gallwn osod yr agenda o ddifrif. Gallwn achub y blaen ar y lliaws mewn perthynas â Chaerdydd a gosod y cywair newydd hwnnw. Os ydych yn mynd i gael eich gorfodi i wneud hynny yn y dyfodol beth bynnag, pam na ddylid ceisio gosod yr agenda yma yng Nghymru? A bydd Llywodraeth Cymru yn cael ein cefnogaeth i geisio gwneud hynny.
Fe sonioch chi hefyd am y syniad o sut y bydd pobl yn y dyfodol—. Soniwn yn aml am broblem tai a phrinder tai. Yn y dyfodol, ni fydd pobl o anghenraid angen yr un mathau o dai a'r un mathau o ofod trefol ag a oedd ganddynt yn y gorffennol, ac yn sicr ni fyddai'r syniad o gartrefi dwysedd uwch gyda gerddi wedi'u rhannu yn gweddu i bawb, ond byddai'n sicr yn gweddu i bobl ifanc, yn enwedig pobl iau sydd am gael troed ar yr ysgol dai.
Edrychwch, pa un a ydych yn cefnogi polisi'r Ceidwadwyr Cymreig yn y maes hwn ai peidio—a chefais y teimlad o'r ddadl fod llawer o bobl yn ei gefnogi—credaf fod pob Aelod yn cytuno bod hon yn ddadl gwerth ei chael. Rydym wedi cael y ddadl hon ar ffurfiau amrywiol dros y blynyddoedd, a dyma agwedd arall ar hynny, a gwn fod gan bob plaid eu syniadau a'u polisïau a'u strategaethau, sydd oll yn gallu cydblethu â pholisi'r Ceidwadwyr Cymreig yn y maes hwn a bwrw ymlaen o ddifrif â'r hyn rydym am ei wneud, sef gwneud ein hardaloedd trefol yn lle gwell i'r rhai sy'n byw ynddynt.
Credaf fod un peth yn glir: ni allwn adael i ardaloedd trefol fwrw ymlaen ar eu pen eu hunain a gobeithio rywsut y byddant drwy ryw hud a lledrith yn datblygu yn y modd gorau posibl. Gwelsom yn ôl yn yr 1970au a'r 1980au yr arwyddion cyntaf o'r hyn a fydd yn digwydd os gwnewch chi hynny—yn yr Unol Daleithiau gyda dinasoedd fel Los Angeles, a dinasoedd Califfornia yn enwedig, lle y daeth y car yn frenin a'r hyn a oedd gennych yn y pen draw oedd dinasoedd ar ffurf toesenni, lle roedd datblygiadau manwerthu ar yr ymylon a dim byd yn y canol o gwbl yn y diwedd, math o dir diffaith. Ac rydym wedi dechrau—mewn gwirionedd, fe wnaethom gychwyn i'r cyfeiriad hwnnw yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd ym Mhrydain, ond gwnaethom yn siŵr ein bod yn rhoi'r gorau i'r llwybr hwnnw i ddifancoll a cheisio gwella pethau. Mae angen inni wneud yn siŵr yn y dyfodol nad yw hynny'n digwydd eto ar unrhyw gyfrif.
Felly, themâu allweddol: cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, ansawdd aer. Fel y dywedodd Suzy Davies yn ei chyfraniad, cynllunio gyda gweledigaeth. Gall y cyhoeddiad am fasnachfraint newydd Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar fod yn elfen allweddol yn y broses adnewyddu hon wrth gwrs. Ceir rhai amcanion da iawn yno; mae angen inni wneud yn siŵr y caiff yr amcanion eu gwireddu. Ond yn sicr, mae'r cyfeiriad teithio o ran Trafnidiaeth Cymru yn dda. Ac mae trafnidiaeth yn allweddol. Ymyrrais yn ystod araith Mike Hedges, oherwydd rwyf wedi ceisio fy hun—. Buaswn wrth fy modd yn teithio o fy mhentref yn Sir Fynwy i'r Cynulliad ar drafnidiaeth gyhoeddus, a gallaf wneud hynny'n hawdd iawn ar y bws o Raglan i Gasnewydd, ac yna ar y trên o Gasnewydd i Gaerdydd. Ond ceisiwch chi ddychwelyd ar ôl 17:30 o Gasnewydd i fy mhentref. Ac nid wyf yn byw mewn man cwbl anghysbell; mae ar yr A449. Ond mae bron yn amhosibl ei wneud. Felly, ceir meysydd yma lle y gall cynllunio a Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth mawr yn y dyfodol.
Rwy'n sylweddoli bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd, ac rydych wedi bod yn hael iawn wrthyf heddiw, felly nid wyf am rygnu ymlaen. Ond cymerwch y ddadl hon—
Na, peidiwch â gwneud hynny, os gwelwch yn dda.
Roeddwn yn gwybod na fyddech yn gadael i mi wneud. Cymerwch y ddadl hon o lle y daw: ymgais yw hi, fel y dywedodd David Melding ar y dechrau, i fod yn gyfraniad adeiladol at ddadl y gwn fod pawb ohonom am ei chael, dadl y mae angen i bawb ohono ei chael, a gadewch inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o wneud ein hardaloedd trefol yng Nghymru yn lle gwell i bawb sy'n byw ynddynt.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru: sefydlu cwmni ynni cyhoeddus. Galwaf ar i Simon Thomas wneud y cynnig—Simon.
Cynnig NDM6735 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi 'creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym mhob rhanbarth'.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn cofio'r tro diwethaf y cawsom ddadl yn y Cynulliad wedi'i harwain gan ddau bapur, un wedi'i gyhoeddi gan un wrthblaid ac un wedi'i gyhoeddi gan wrthblaid arall. Mae'r drafodaeth yma yn deillio o bapur a gyhoeddais i tua blwyddyn yn ôl ynglŷn â'r cynnig i sefydlu cwmni ynni i Gymru. Fel y dywedais i yn y ddadl ddiwethaf, os oes gyda chi syniad sydd yn syniad da a heb ei weithredu, nid oes cywilydd ailgylchu'r syniad yna. Felly, nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am ddod â'r ddadl yma yn ôl i'r Cynulliad, er ein bod ni wedi trafod y syniad o'r blaen.
Rwy'n dod ag e'n ôl yn y cyd-destun lle mae yna, o bosib, benderfyniad mawr iawn yn cael ei wneud ynglŷn â dyfodol ynni yng Nghymru gyda nid yn unig buddsoddiad posib yn Wylfa, Wylfa B, ond hefyd y penderfyniad posib, arfaethedig o beidio â buddsoddi yn y morlyn llanw ym mae Abertawe. Fe fyddai'n dod at hynny yn y man, achos mae e'n berthnasol iawn i’r cysyniad sydd gan Blaid Cymru yn y papur ac yn y ddadl heddiw.
Rhof ychydig o gyd-destun i’r ddadl yn gyntaf. Mae Cymru yn wlad sydd yn gyfoethog ac yn gyforiog o ynni, a dweud y gwir. Rydym ni'n cynhyrchu mwy o ynni—'casglu' dylwn i ddweud, yn ffisegol gywir—nag yr ydym ni yn ei ddefnyddio, felly rydym ni'n allforio ynni. Ond eto i gyd, mae prisoedd ynni yng Nghymru ymysg yr uchaf yn Ewrop. Mae hynny yn dangos y sefyllfa rydym ni ynddi fel gwlad. Mae tlodi ynni yn arbennig o ddifrifol i aelwydydd ag incwm isel. Tueddol ydym ni, wrth gwrs, i gael systemau talu ad hoc am ynni, ac nid ydyn nhw'n gallu mynd at y tariffs gorau. Mae gyda ni hefyd yng ngorllewin Cymru ardaloedd helaeth sydd heb fod ar y grid cenedlaethol, sy'n dibynnu ar nwy neu olew sy'n cael ei fewnforio. Mae hefyd yn wir i ddweud, er ein bod ni'n cynhyrchu ynni, fod gyda ni'r capacity i gynhyrchu llawer mwy, yn enwedig o safbwynt ynni adnewyddol. Mae yna 5 miliwn erw o dir yng Nghymru lle gallem ni gynhyrchu o'r arfordir ac o'r tir mawr. Mae economi Cymru yn galw am swm mawr o drydan—mae gyda ni weithfeydd cynhyrchu a gweithfeydd dur mawr o hyd—ac felly mae angen yr ynni arnom ni.
Mae creu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru yn gyfle i fynd at wraidd achosion tlodi ynni, trwy fuddsoddi mewn seilwaith, trwy fargeinio ar y cyd, trwy ddefnyddio grym cwmni cenedlaethol, ymchwil a datblygu ynni, a thrwy hynny greu cyfleoedd masnachol er lles poblogaeth Cymru a'r amgylchedd. Nid ffracio yw'r ateb ar gyfer defnyddio ynni er economi Cymru, ond cysyniad mawr fel hyn sy'n defnyddio holl rychwant cyfoeth naturiol Cymru.
Rydym ni hefyd yn wynebu bygythiad gwirioneddol i ddynoliaeth oherwydd newid hinsawdd. Roedd 2016 ymysg—wel, na, honno oedd y flwyddyn boethaf ers inni ddechrau cofnodion, ac rydym ni newydd gael y mis Mai mwyaf twym erioed, ers dros ganrif, ers dechrau cofnodi fesul mis. Os ydym o ddifri am dorri allyriadau Cymru o 80 y cant erbyn 2050, fel sydd wedi'i osod allan yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a chyrraedd y targed y cytunodd pob plaid arno yn y fan hyn o dorri allyriadau carbon 40 y cant erbyn 2020, sef yr hyn mae cytundeb Paris yn disgwyl inni ei wneud yn ogystal, mae'n golygu bod yn rhaid inni wella effeithlonrwydd ynni, rhyddhau llai o allyriadau o gartrefi, busnes a chludiant, ac mae hefyd yn golygu bod angen inni gynhyrchu ynni o ffynonellau glanach ac adnewyddol.
Ein gweledigaeth ni, felly, am ynni a'r amgylchedd yw un lle mae Cymru yn gostwng ei hallyriadau carbon, yn harneisio ei hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn manteisio ar gyfleoedd yn yr economïau carbon isel a chylchol. Mae'r cyswllt rhwng ynni a newid hinsawdd yn glir. Fodd bynnag, gwaetha'r modd, rydym ni eto yn y sefyllfa o orfod aros i San Steffan roi ambell friwsionyn i ni o'r bwrdd pan ddaw'n fater o bwerau dros ynni.
Yn Llundain y penderfynwyd ar y rhan fwyaf o gymhellion ariannol dros ynni adnewyddol a dyfodol y gridiau nwy a thrydan, er bod gyda ni'r hawl i gynllunio ynni, a chynllunio ynni o dan 35 MW erbyn hyn. Y ffaith amdani yw mai lle mae'r grid yn gweithio a lle mae'r arian yn mynd sydd yn gyrru datblygiadau. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu caniatáu cynllunio—ar ddiwedd y dydd, mewn ffordd, dim ond tic mewn bocs yw hynny. Mae'r penderfyniadau yn cael eu gwneud llawer ynghynt.
Nawr, beth fyddai cwmni ynni cenedlaethol yn gallu ei wneud i Gymru, felly? Wel, byddai cylch gorchwyl cwmni posib yn cynnwys lleihau cost yr uned ynni i gartrefi a busnesau yng Nghymru, lleihau swm yr ynni mewn cartrefi a busnesau, a helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a thechnoleg y mesuryddion clyfar diweddaraf. Tasg Ynni Cymru fyddai cyllido a gosod paneli solar ar raddfa eang, ar doeau tai a busnesau, ar byst lamp, er enghraifft—i orgyffwrdd, efallai, rywfaint â'r drafodaeth a gawsom ni eiliad yn ôl fan hyn. Byddai hyn yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol o dan ymbarél cenedlaethol, gan gychwyn, efallai, gydag adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol. Byddai'r cwmni yn medru cydgordio, hwyluso defnydd o dir cyhoeddus ar gyfer ynni adnewyddol. Gallai dalu am gaffael a datblygu gallu cynhyrchu a storio i raddfa fawr. Mae potensial i Gymru ddatblygu yn wlad storio ynni, yn ogystal â chasglu a chynhyrchu ynni. Gallai sicrhau bod Cymru yn dod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddol, ac yn allforio ynni adnewyddol yn ogystal. Mae Plaid Cymru o'r farn y gallwn ni wneud hyn erbyn 2035, a dyna ein targed ni.
Gallai'r dasg o ddatblygu rhwydwaith genedlaethol o gwmnïau ynni rhanbarthol neu leol fod yn nwylo bwrdeistrefol neu o dan berchnogaeth gymunedol. Nawr, mae hyn yn bwysig iawn. Ers i Lywodraeth Cymru—ac mae'n cael ei adlewyrchu yn eu gwelliant nhw i'r ddadl heddiw—wrthod y syniad yn ystod tymor yr hydref diwethaf o gwmni ynni cenedlaethol, fel yr oeddem ni wedi ei gynnig, maen nhw wedi dweud, 'Mae angen perchnogaeth gymunedol o dyrbeiniau gwynt a datblygiadau ynni adnewyddol.' Wel, sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny? A sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny heb i'r cymunedau lleol gael eu twyllo, os liciwch chi, gan rip-offs, baswn i'n ei ddweud, gan y cwmnïau mawr, enfawr yma—rhai rhyngwladol nid jest cenedlaethol. Wel, mae Ynni Cymru, rhyw gwmni cenedlaethol, yn gweithio er lles y gymuned leol ac yn enw Llywodraeth Cymru, yn gallu sicrhau nad yw hynny'n digwydd, a bod perchnogaeth gymunedol yn dod yn wirionedd yng Nghymru.
Byddwn ni ymhell ar y blaen, felly, o ran rhai o'r datblygiadau sydd gan awdurdodau lleol yn Lloegr ar hyn o bryd, wrth ddatblygu eu cwmnïau ynni eu hunain. Ac os rhywbeth, mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a hefyd marchnad ynni fewnol yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn—nid yw'n cael ei drafod lawer iawn. Mae gadael honno yn un cam ymhellach oddi wrth y ffaith ein bod ni'n gallu cael iws o interconnectors, yn gallu rhannu ynni, rhannu syniadau, rhannu'r un delfryd. Mae hynny i gyd yn golygu, yn fy marn i, y dylem ni gyflymu tuag at fod yn hunangynhaliol o ran ynni. Ac mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn, fel y dywedais i, y byddai modd gwneud hynny erbyn 2035, a defnyddio ynni a ffynonellau adnewyddol at y pwrpas hwnnw. Mae hyn i gyd yn ein harwain ni at y sefyllfa sy'n debyg o ddigwydd yr wythnos yma.
Felly, mae gennym enghraifft go iawn yn awr yr wythnos hon, mae'n debyg, oherwydd adroddwyd yn eang y bydd Llywodraeth San Steffan yn gwrthod y cynnig i gael morlyn llanw ym mae Abertawe yr wythnos hon. Rydym yn dal i aros am hynny. [Torri ar draws.] Un eiliad, os caf. Credaf eu bod yn ceisio cael yr hyn a alwant yn gyhoeddiadau da allan yn gyntaf—Wylfa, Heathrow—a bydd y morlyn llanw yn sleifio allan fel cyhoeddiad y penwythnos, o bosibl. Nid wyf yn gwybod, efallai fod gan Jenny Rathbone newyddion ar hynny.
Oes. Yn y bôn, rwy'n sicr fy mod yn rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â'r prosiect, ac a ydych yn cytuno bod y £200 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y bwrdd, cyhyd â bod Llywodraeth y DU yn barod i roi arian sy'n cyfateb i'r pris streic y maent wedi'i gynnig i Hinkley Point, yn ffordd dda iawn o symud ymlaen gyda'r prosiect pwysig hwn?
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn ar fin dod at hynny. [Chwerthin.] Ac rwy'n cytuno, ac roeddwn ar fin ei ddefnyddio fel enghraifft dda o ble y gallai'r cwmni ynni cenedlaethol hwn helpu. Oherwydd sut y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? A yw'n rhoi £200 miliwn i gwmni preifat a dyna ni? Nid wyf yn credu hynny rywsut. Os ydych yn mynd i roi arian trethdalwyr Cymru i gwmni, ac ni fuaswn yn gwrthwynebu hynny, ond gadewch inni ei wneud gyda'n gilydd, cyd-ariannu—. Credaf fod £200 miliwn yn gynnig go iawn, ond cynnig cyntaf ydyw— efallai fod angen mwy—ond os felly byddech am fynd â pheth o'r elw, byddech am fod yn rhan o'r dechnoleg, byddech am fod yn rhan o'r elw a allai ddeillio o'r dechnoleg ar gyfer morlynnoedd llanw yn y dyfodol. Mae angen corff i wneud hynny, onid oes? Wel, pa gorff a fydd gennych felly i wneud hynny? Pan oeddech yn wynebu trefniant masnachfraint Cymru a'r gororau, fe sefydloch chi Trafnidiaeth Cymru, corff di-ddifidend i wneud y gwaith hwnnw ar ran Llywodraeth Cymru. Does bosibl nad yw hon yn enghraifft o pam y mae angen cwmni ynni cenedlaethol i wneud hynny.
Nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl. Yn wir, roeddwn yn cefnogi ac yn croesawu rhyw fath o fodel cydfuddsoddi pan wnaed y cyhoeddiad gwreiddiol—ni chrybwyllwyd £200 miliwn yno. Rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwybod faint o arian a oedd yn y pot, ond ni soniwyd amdano. Bellach mae gennym ffigur. Credaf fod y ffigur yn gynnig agoriadol go iawn. Os yw'n mynd i gael ei godi o gwbl, mae angen inni gael rhan yn y cwmni, rhan yn y dechnoleg, rhan yn y datblygiad yn y dyfodol.
Ond gadewch inni wneud un peth yn glir—nid yw'r morlyn llanw yn gynnig beiddgar o ddrud yn y cyd-destun hwn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud camgymeriadau ofnadwy dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cefnu ar addewidion o fuddsoddiad ar gyfer trydaneiddio i Abertawe, er enghraifft. Mae ei fathemateg yn ddiffygiol iawn, rhaid imi ddweud. Mae dweud bod y morlyn llanw yn gofyn am ddwywaith cymaint ag ynni niwclear—nid yw hynny'n wir o gwbl. Gofynnodd y prosiect morlyn llanw yn benodol am gontract 90 mlynedd ar £89.90 y MWh. Mae'n swnio'n llawer, ond ymhen 90 mlynedd, nid yw'n llawer o arian o gwbl. Mae'n cymharu â Hinkley Point, sef £92.50 y MWh. Byddai gan y morlyn llanw gynhwysedd gosodedig o 320 MW, yn darparu pŵer i dros 150,000 o gartrefi, ac fel y gŵyr pawb, mae wedi'i gynllunio i fod yn brosiect braenaru. Mae hynny'n fwy costus, oherwydd nid yw'r dechnoleg ei hun yn newydd, ond mae'r defnydd a wneir o'r dechnoleg yn newydd. Nid yw'n arloesol i gael tyrbin mewn dŵr, ond mae'n arloesol i'w roi mewn wal sy'n mynd o amgylch amrediad llanw mawr. Mae hynny'n arloesol. Felly, y cais sy'n arloesol, nid y dechnoleg. Cymharwch rywbeth fel morlyn llanw â gorsaf ynni niwclear—mae costau cyfalaf uchel i'r ddau beth ond dros gyfnod o 100 mlynedd, sef cyfnod y morlyn llanw mewn gwirionedd, mae'r costau cynhyrchu'n gostwng, ond ein profiad gydag ynni niwclear yw mai anaml y cedwir y costau ar y lefel honno. Dyna pam y maent eisiau contractau 35 mlynedd am y costau hynny.
Felly, byddai'r morlyn yn diogelu ffynonellau ynni, ac fel y dywedodd adolygiad Hendry yn glir iawn, sef yr adolygiad annibynnol a sefydlwyd gan y Llywodraeth i ymchwilio i hyn, mae morlynnoedd llanw ac ynni niwclear yn ffynonellau cynhyrchu yn y DU, ond mae niwclear yn dibynnu ar fewnforio wraniwm, ac fel y mae technolegau eraill yn symud yn eu blaenau, a chan y gallai Tsieina gymryd rhagor o wraniwm, gallai pris wraniwm sy'n cael ei fewnforio godi. Yr hyn y mae'r morlyn llanw yn ei roi inni yw cynhyrchiant Cymreig gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ein hunain. Credaf fod hynny ynddo'i hun yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi. Nid yn unig ein bod ni'n cefnogi hynny, mae'r cyhoedd yn ei gefnogi—roedd 76 y cant yn cefnogi ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, a 38 y cant oedd yn cefnogi ynni niwclear yn yr arolwg a wnaed gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ei hun.
Nid wyf am osod un yn erbyn y llall, a dyna'r peth peryglus y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn debygol o'i wneud yma, a dweud, 'Wel, ddydd Llun rhoesom Wylfa i chi, a ddydd Gwener nid ydym am roi'r morlyn llanw i chi.' Os ydym yn mynd i gael cymysgedd ynni priodol, mae arnom angen i bob ffynhonnell gael ei defnyddio ac yn benodol mae angen inni weld y morlyn llanw'n cael cymorth y Llywodraeth yn San Steffan. Ni allaf ei roi'n well na chloi drwy ddyfynnu'r hyn a ddywedodd Hendry ei hun am y morlyn llanw:
I roi hyn mewn cyd-destun, mae disgwyl i gost prosiect braenaru... fod o gwmpas 30 ceiniog y cartref y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y 30 mlynedd gyntaf. Ymddengys hyn i mi yn swm eithriadol o fach i'w dalu am dechnoleg newydd sy'n darparu'r buddion hyn ac sydd â photensial amlwg i ddechrau diwydiant newydd sylweddol. Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru yn bolisi heb ddim y gellid bod yn edifar yn ei gylch yn fy marn i.
Credaf y dylid cefnogi'r morlyn ar y sail honno. Credaf y gallai cwmni ynni cenedlaethol fod yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru fuddsoddi a bod yn rhan o'r diwydiant newydd sylweddol hwnnw. Byddwn ninnau yma naill ai'n gwneud penderfyniad yr wythnos hon i fuddsoddi yn y morlyn llanw ac i fod yn rhan o hynny, neu byddwn yn wynebu sefyllfa lle byddwn yn ymbil unwaith eto, pan ddaw cwmni o Tsieina i mewn ymhen 10 mlynedd efallai, a dweud, 'Rwy'n dwli ar eich amrediad llanw, beth am gael morlyn llanw.'
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i archwilio dulliau eraill o sicrhau manteision i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan o’r broses o droi at economi carbon isel.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Mick Antoniw.
A gaf fi yn gyntaf oll ganmol yn fawr y gwaith a wnaeth Simon yn y maes hwn ar ynni, a hefyd y gwaith y mae'r gwahanol bleidiau ar y gwahanol bwyllgorau wedi edrych cymaint arno mewn perthynas ag ynni cymunedol? Mae hwn yn fater nad yw'n mynd i ddiflannu, ac rydym ar lwybr lle byddwn yn anochel yn wynebu ynni cymunedol ac ailwladoli neu ailberchnogaeth gyhoeddus ar ynni, ar ba ffurf bynnag, fel y byddwn yn ei wynebu gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill. Fy nghyfraniad, i ryw raddau, yw siarad am hyn o fewn y cysyniad o berchenogaeth gyhoeddus, oherwydd heb berchnogaeth gyhoeddus ni cheir atebolrwydd cyhoeddus ynglŷn â'r hyn sy'n wasanaethau allweddol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt sy'n hanfodol i fywyd.
Credaf mai'r hyn sy'n glir iawn yw bod preifateiddio yn yr holl feysydd gwasanaeth cyhoeddus wedi bod yn drychineb llwyr. Mae wedi bod yn fecanwaith ar gyfer mygio a dwyn wedi'i gyfreithloni oddi ar y cyhoedd. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw wasanaeth cyhoeddus—ac rwy'n defnyddio'r holl wasanaethau cyhoeddus fel pawb ohonom—. Rwy'n edrych o gwmpas i ganfod unrhyw un o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny—dŵr, nwy, trydan, hyd yn oed trafnidiaeth—a dweud, 'I ba raddau rwy'n well fy myd o ganlyniad i breifateiddio?' Fel pawb arall, rwy'n wynebu systemau talu am ynni a gwasanaethau cyhoeddus nad wyf yn eu deall. Ni allaf ganfod beth yn union y maent yn ei olygu i mi. Yn sicr ni allaf weld fy mod yn well fy myd. Yr hyn sy'n glir iawn yw bod angen math newydd o berchnogaeth gyhoeddus ar ba ffurf bynnag ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus, ac mae ynni yn un cwbl sylfaenol ohonynt, boed hwnnw'n drefniant dielw, yn drefniant cydweithredol neu beth bynnag.
Mewn gwirionedd mae'r hyn y mae'r Torïaid wedi'i drosglwyddo i ni o ran preifateiddio wedi arwain at newidiadau gwleidyddol cwbl ryfeddol. O ran ynni, mae 77 y cant o boblogaeth y DU bellach yn dymuno dychwelyd at berchnogaeth gyhoeddus ar ynni. Maent wedi cael llond bol ar y system o ddryswch, a diffyg atebolrwydd, heb wybod pwy sy'n rheoli, pwy sydd wrth y llyw. Ac efallai fod hynny bob amser yn rhan o ddiben preifateiddio: cael gwared ar y llwybr yn y pen draw at allu bod yn atebol i'r cyhoedd, ac efallai ei fod hefyd yn esbonio pam y cafwyd y fath ddadrithiad mewn gwleidyddiaeth, gan na allwch ddweud mwyach pwy sy'n atebol am y gwasanaethau allweddol hynny.
Nid oes ond 5.1 y cant o ynni'r DU yn adnewyddadwy. Mewn termau real mae prisiau 10 i 20 y cant yn uwch oherwydd preifateiddio ynni, mae 10 y cant yn byw mewn tlodi tanwydd, a byddai perchenogaeth gyhoeddus yn arbed £3.2 biliwn amcangyfrifedig y flwyddyn, sy'n cyfateb yn fras i'r elw gwirioneddol sy'n deillio o'r diwydiant yn flynyddol.
Bellach, mae gwledydd yn dychwelyd at y cysyniad o ddemocrateiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Almaen erbyn hyn yn dychwelyd at system o 15 y cant o berchnogaeth gymunedol gydweithredol gyhoeddus. Wrth wneud hynny, credaf mai'r maes y mae angen inni ei archwilio'n llawer pellach, mae'n debyg, yw sut y mae angen i hyn gydweddu â strategaeth DU gyfan o ran y grid, ac o ran cynhyrchiant ynni, yn ogystal â dosbarthu a chyflenwi.
Rhaid ichi ofyn pam y mae'r Torïaid yn gyson wedi gwrthsefyll a gwrthwynebu ailberchnogi, ailddemocrateiddio ynni, dŵr ac ati. Wel, gwyddom mai'r rheswm am hynny, er enghraifft, yw bod David Cameron, yn y sector ynni yn unig, wedi debyn £2.6 miliwn mewn rhoddion gan y diwydiant ynni, a chyn yr etholiad cyffredinol hwnnw, wedi derbyn £3.4 miliwn. Felly, yn amlwg, mae cwmnïau ynni yn gwybod ble mae eu buddiannau eu hunain o ran amddiffyn preifateiddio. Roedd gan naw o Dorïaid blaenllaw ail swyddi ar fyrddau cyfarwyddwyr neu fel ymgynghorwyr i gwmnïau ynni, felly mae'r system gyfan wedi bod yn llwgr ac y llosgachol.
Dyna pam mae y mae'n rhaid iddo ddigwydd mewn gwirionedd. Rydym yn gweld yr un peth gyda dŵr, rhywbeth a gafodd sylw yr wythnos hon yng nghynhadledd y GMB. Mae penaethiaid y pum neu chwe phrif gwmni dŵr yn talu £58 miliwn y flwyddyn iddynt eu hunain mewn cyflogau, cynnydd o 40 y cant yn eu cyflogau dros gyfnod o sawl blwyddyn—prif weithredwr Severn Trent Water, £2.45 miliwn; United Utilities, £2.3 miliwn—ac mae pob un o'r rhain yn gwmnïau sy'n gwneud rhoddion sylweddol i'r Blaid Geidwadol.
Gwelwn eto beth sydd yn digwydd o fewn y GIG—roedd cyllideb preifateiddio'r GIG, nad wyf yn cytuno â hi, yn £4.1 biliwn yn 2009-10, ond mae bellach yn £8.7 biliwn. Ni allai Theresa May ateb yr ystadegyn hwnnw hyd yn oed. Rydym yn edrych eto ar y system gyda'r rheilffyrdd, bysiau, telathrebu, gwasanaethau post a thai. Felly, rydych yn anelu i'r cyfeiriad hollol gywir. Credaf fod hon yn ffordd sy'n rhaid i ni ei cherdded, a chaf rywfaint o gysur o ddarllen dyfyniad yn The Spectator, cylchgrawn sy'n cefnogi'r Torïaid, sy'n dweud
Bydd pragmatiaeth yn dod i'r casgliad fod preifateiddio wedi bod yn fethiant a bod parhau i'w amddiffyn yn dechrau edrych fel ideoleg ynddi'i hun.
Felly, Simon, parhewch gyda'r gwaith da. Credaf mai ychydig iawn yr anghytunwn yn ei gylch ar hyn, ac rydym yn anochel yn symud at system lle mae'n rhaid adfer—nid wyf yn poeni a ydych yn ei alw'n berchnogaeth gyhoeddus neu beth bynnag—democrateiddio'r gwasanaethau y mae ein bywydau a phobl ein gwlad yn dibynnu arnynt.
Mi oedd Simon Thomas yn cyfeirio at y ffaith ein bod ni yn ailgyflwyno rhai o'r syniadau yma, a bod dim eisiau gwneud esgus am hynny. Yn sicr, rwyf innau eisiau achub ar y cyfle i ailgyflwyno i Aelodau'r Cynulliad yma rhai o ganfyddiadau adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf. Dadl olaf y Cynulliad diwethaf fan hyn oedd dadl ar yr adroddiad 'Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru' a blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru. A'r ddadl fer gyntaf yn y Cynulliad presennol oedd fy nadl fer i a oedd yn ailgyflwyno rhai o'r argymhellion a oedd yn yr adroddiad yma, sydd yn cynnwys, wrth gwrs, yr angen i fynd ati i sefydlu endid tebyg i Ynni Cymru.
Mae'r adroddiad yna yn dangos yr her sydd o'n blaenau ni, ond hynny i gyd yng nghyd-destun y pwerau sydd gennym ni'n barod wrth gwrs. Nid mater o ryw, 'Os cawn ni'r pwerau ychwanegol yma, mi allwn ni wneud hyn.' Roedd y cyfan yn yr adroddiad yna wedi'i seilio ar beth fyddai'r Llywodraeth bresennol yn gallu gwneud o fewn y setliad presennol hefyd.
Nawr, mi oedd yn cyfeirio at yr Almaen, wrth gwrs, lle mae'r uchelgais yn glir: erbyn 2050, sicrhau bod 80 y cant o'u hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ond ar yr un pryd hefyd, erbyn hynny, eu bod nhw'n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant, yn sgil hynny'n creu miliynau o swyddi, ac yn sgil hynny, wrth gwrs, yn ychwanegu at eu GDP. Mae'n rhaglen drawsnewidiol yn y wlad honno.
Mae'n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Uruguay, sydd â phoblogaeth debyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau mewn llai na 10 mlynedd fod 95 y cant o'u trydan yn dod o ynni adnewyddadwy, a hynny, wrth gwrs, yn lleihau ôl troed carbon, ond hefyd yn lleihau biliau i'w pobl ar yr un pryd. Nid yw e fel nad oes gennym ni'r adnoddau naturiol i efelychu llawer o hyn; mae gennym ni'r adnoddau crai y byddai eu hangen i fod yr un mor uchelgeisiol, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yr un mor rhagweithiol a nid jest disgwyl ei fod e'n mynd i ddigwydd heb ein bod ni'n gwneud hynny yn fwriadol.
Mae angen inni fod yn llawer mwy rhagweithiol, ac mae Ynni Cymru, fel rydym wedi clywed, yn un cyfrwng penodol y gallwn ac y dylwn ei ddefnyddio i wneud i rywfaint o hyn ddigwydd. Ac wrth gwrs, nid yw ynni a reolir gan y wladwriaeth yn beth anghyfarwydd yn y farchnad. Yn sicr nid yw'n anghyfarwydd i ni yma yn y DU. Mae'n debyg mai'r cwmni mwyaf enwog yw EDF—neu ddrwgenwog, efallai, yn dibynnu ar eich barn—ond mae'n eiddo Ffrengig, neu mae 85 y cant ohono'n eiddo i'r wladwriaeth. Mae'r gyfran honno o'r cwmni'n eiddo i wladwriaeth Ffrainc. Ond mae yna gwmnïau sy'n eiddo i wladwriaethau yn gyfan gwbl hefyd, megis Vattenfall yn Sweden a Statkraft yn Norwy.
Roedd Simon Thomas yn sôn am y potensial sydd gennym yng Nghymru i gael rhan yn y morlyn. Wel, dyna'n union pam y sefydlwyd Statkraft: nid yn unig i gynhyrchu elw ar gyfer dinasyddion y wlad honno, ond i ddiogelu eu hadnoddau naturiol rhag y camfanteisio a welent yn digwydd gan gwmnïau amlwladol, ac roeddent yn awyddus nid yn unig i'w diogelu, ond os oeddent yn mynd i gael eu defnyddio, roeddent am iddynt gael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, er mwyn cynhyrchu incwm a chael eu defnyddio er budd eu pobl. Ac wrth gwrs roeddent yn dal i ymrwymo i fentrau ar y cyd â chwmnïau preifat—wrth gwrs eu bod—ond gwnaed hynny ar eu telerau hwy, felly roedd y seilwaith, er enghraifft, yn dychwelyd i berchnogaeth y wladwriaeth ar ôl nifer penodol o flynyddoedd. Roedd unrhyw ymchwil a datblygu; unrhyw arloesi; unrhyw eiddo deallusol naill ai'n eiddo i'r wladwriaeth neu'n eiddo ar y cyd â'r wladwriaeth, fel y gallent ddefnyddio hwnnw wedyn i arloesi gyda'r genhedlaeth nesaf o gyfleoedd a chael y symudiad a'r fantais gyntaf honno y mae taer angen i ni ei wireddu gyda'r morlyn posibl yma yng Nghymru. Wrth gwrs, y gogoniant yw mai pobl Cymru a fyddai'n gyfranddalwyr y fenter hon.
Ac nid yw'r model dielw hwnnw ar gyfer defnyddio ein hadnoddau naturiol yn anghyfarwydd i ni yng Nghymru mewn perthynas â dŵr, ydy e? Dŵr Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn rheolaidd yn canmol y model dielw hwnnw fel un rydym yn falch iawn ohono, ac yn briodol iawn, felly gadewch i ni ailadrodd hynny yn y cyd-destun hwn yn ogystal.
Nawr, ar draws Lloegr, wrth gwrs, rydym ni'n gweld awdurdodau lleol yn sefydlu cwmnïau cyflenwi ynni di-elw. Mae'r enghraifft wedi bod yn y gorffennol o Nottingham, sef Robin Hood Energy, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnig tariff ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn wahanol i'r cyfraddau sy'n cael eu talu gan eraill. Mae yna gamau yn cael eu cymryd yng Nghymru: rydym ni wedi gweld sut mae Pen-y-Bont, er enghraifft, wedi bod yn trio datblygu rhwydweithiau gwres lleol, ac mae Wrecsam wedi bod ar flaen y gad o safbwynt ynni solar. Wel, pam ddim creu endid cenedlaethol er mwyn rhannu'r arfer da yma, er mwyn dod â'r cynlluniau yma at ei gilydd, er mwyn sicrhau bod mwy ohono fe'n digwydd ac, o bosib, fod peth ohono fe hefyd yn digwydd ar lefel genedlaethol?
Felly, mae'r cyfleoedd a all ddod i Gymru o gael Ynni Cymru, fel rydym ni'n ei alw e, yn eithriadol o gyffrous: mae yna fuddion a manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol arwyddocaol iawn, iawn, iawn. Mae'r her wedi'i osod yn y cynnig yma, ac mi fyddwn i'n eich annog i ddangos yr un uchelgais â Phlaid Cymru drwy gefnogi'r cynnig yma.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Credaf fod Simon wedi crwydro ymhell ac yn sicr y tu hwnt i eiriad y cynnig, ond rwy'n credu ei fod wedi amlinellu'r holl faes polisi a'r heriau a'r diffygion a wêl ynddo, ac roedd yn ddiddorol iawn, a gallaf gydymdeimlo â pheth ohono.
Ond a gaf fi gofnodi'n ddigamsyniol, fel y gwneuthum y llynedd pan gawsom ddadl ar yr union fater hwn—nid beirniadaeth mo hynny; mae hyn yn bwysig iawn ac mae'n briodol ei fod yn ôl yma—nid ydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig, fel Llywodraeth Lafur Cymru yn wir, er gwaethaf yr hyn y mae Mick Antoniw newydd ei ddweud, yn cytuno â phwynt 3 ac felly ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig? Ond byddwn yn cefnogi'r cynnig os derbynnir gwelliant 1.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud ein bod yn rhannu'r nod o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a phrisiau mwy cystadleuol? Ond rydym o'r farn y gellir cyflawni hyn heb ymyrraeth drom ar ran y Llywodraeth neu wladoli. Mae graddau rhwydweithiau sy'n eiddo i'r cyhoedd—nid wyf yn hollol siŵr os yw Plaid Cymru yn credu mewn gwladoli, rwy'n eithaf sicr fod Mick Antoniw, felly mae angen ychydig mwy o fanylder yn y ddadl hon yn fy marn i, o ran yr hyn sy'n cael ei gynnig. Ond er bod hwn yn faes pwysig, ac mae angen inni ei gael yn iawn, rwy'n credu ein bod ar y trywydd iawn i ganfod ateb a sicrhau cydbwysedd a fydd yn galw am gyfres o fesurau cynhwysfawr.
A wnaiff yr Aelod ildio? Er eglurder, i'w wneud yn gwbl glir, rwyf yn bendant o blaid cyfleustodau cyhoeddus wedi'u gwladoli, ond mae'r cynnig ger ein bron heddiw, yng nghyd-destun marchnad wedi'i phreifateiddio lle nad oes gennym ni yn y Cynulliad bwerau, yn galw'n unig am sefydlu ein cwmni cenedlaethol ein hunain a allai fod yn rhan o'r chwaraewyr yn y maes hwn.
Rwy'n derbyn hynny, ond rwy'n meddwl y byddai canlyniadau ymarferol yr hyn rydych yn ei gynnig yn mynd yn llawer dyfnach na hynny, ac os bydd gennyf amser, fe soniaf am y rheini.
Nid wyf yn siarad yn ysgafn am hyn. Mae prisiau ynni'n uchel ac maent yn anodd eu deall, ac efallai fod lle i sicrhau gwell cydweithredu rhwng y wladwriaeth a'r sector preifat. Felly, mae'n sicr fod angen diwygio yn y maes hwn. Nid wyf yn siŵr os caf ganiatâd i ddyfynnu Will Straw—ond rwy'n mynd i geisio, beth bynnag—sydd bellach yn gyfarwyddwr cyswllt y felin drafod chwith-canol IPPR. Dadleua am fwy o ymwneud ar ran yr awdurdodau lleol, i hyrwyddo
marchnad sy'n llawer mwy cystadleuol a thryloyw na'r un sydd gennym yn awr.
Ac mae'n datgan, ac rwy'n dyfynnu:
Mae angen cyfres o ddiwygiadau marchnad arnom i wella tryloywder, lleihau grym marchnad y chwe chwmni mawr ac annog cystadleuwyr newydd i ddod i mewn i'r farchnad.
Ac mae'n parhau:
Gallai hyn gynnwys rôl bwysig i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn cystadlu ar lefel leol drwy gynhyrchiant, gan gynnig gwasanaethau arbed ynni er mwyn lleihau'r galw a hyd yn oed darparu consortia cyflenwi lleol er mwyn sicrhau'r fargen orau i ddefnyddwyr.
Yn sicr, gallai hynny fod yn rhan o farchnad ynni iach, mae'n ymddangos i mi, ac mae'n llawer gwell cael y dulliau mwy cymhedrol hyn.
Mae'r pwynt ynglŷn â chynhyrchu ynni'n lleol yn un pwysig, a chredaf fod angen inni ddarparu mwy o adnoddau a chymorth yn y maes hwn. A gaf fi ddyfynnu Archie Thomas, llefarydd y Blaid Werdd ar ynni? A gaf fi wneud hynny yn gyntaf cyn imi ildio, Jenny? Mae yntau hefyd yn credu mai:
cynhyrchiant ynni lleol yw'r allwedd—ac mae'n trosgynnu'r cwestiwn ynglŷn ag a yw'r cewri pŵer fod mewn dwylo cyhoeddus neu breifat.
A dyfynnaf:
Nid cwmnïau ynni preifat neu wedi'u gwladoli yw'r dyfodol go iawn i ynni ond ynni carbon isel sy'n eiddo i gymunedau lleol ac wedi'i reoli ganddynt.
Mae ar bobl angen pŵer dros eu hynni eu hunain, ac nid ydych o reidrwydd yn cael hynny mewn system wedi'i gwladoli. Fe ildiaf.
Er fy mod yn derbyn nad ydych yn frwd dros wladoli, a gytunwch nad yw'r Almaen yn economi sosialaidd i'r carn ac yno, yr hyn sydd gennym yw cwmnïau ynni lleol yn blodeuo sy'n darparu cystadleuaeth briodol o fath nas gwelir yn y DU? A fyddech chi a'r Blaid Geidwadol yn cytuno bod hwnnw'n fodel y dylem fod yn anelu tuag ato yma yng Nghymru?
Fel y clywsom, maent yn symud tuag at system gymysg—mwy o ymyrraeth y wladwriaeth, ond heb hepgor y sector preifat. Rwy'n hapus i edrych ar y modelau sy'n gweithio, ac fel Tori empiraidd, ni allaf weld bod unrhyw bolisi arall yn briodol heblaw ei fod wedi'i weld yn gweithio'n ymarferol. Fel y dywedais, rwyf o blaid diwygio a chredaf fod hynny'n dangos nad yw'r model presennol a ddominyddir gan y chwe chwmni mawr yn cyflawni'r lefel o effeithlonrwydd, cystadleuaeth a phrisiau teg y byddai eu hangen arnom.
Mae fy amser eisoes ar ben, ond credaf efallai y byddwch—
Fe adawaf i chi gael amser am yr ymyriad, ond peidiwch â bod yn rhy hir.
Credaf mai'r cwestiwn go iawn yw graddau'r hyn y mae Plaid Cymru yn galw amdano: beth y byddai'n ei olygu? A sylwais yn eich cynhadledd wanwyn fod Adam Price ychydig yn fwy gonest, yn galw am Gymru gysylltiedig, a chreu grid ynni cenedlaethol gyda chwmni ynni cenedlaethol i gysylltu cwmnïau cynhyrchu trydan sy'n eiddo lleol ym mhob rhan o Gymru. Nawr, ymddengys i mi y byddai'r cwmni hwn yn mabwysiadu gweithrediadau'r Grid Cenedlaethol. Sut y gall unrhyw gyflenwr ynni preifat obeithio cystadlu gyda chwmni wedi'i wladoli sy'n darparu manteision sefydliadol mor annheg? Mae'n ymddangos i mi fod y cynigion hyn yn mynd ymhellach o lawer na'r hyn a gyflwynwyd gennych ger bron y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Nawr, mae hynny'n iawn, rydych yn datblygu eich polisi, ac mae gennych berffaith hawl i wneud hynny, ond rhaid imi ddweud bod y weledigaeth hon o'r dyddiau hapus pan oedd yr holl gyfleustodau'n gyhoeddus, ac wedi'u gwladoli, y rhan fwyaf ohonynt, ac yn creu buddsoddiad effeithiol, lefel dda o wasanaeth a phrisiau isel yn llwyth o ddwli a dweud y gwir yn onest.
Credaf y byddai ond yn deg imi heddiw ddechrau nodi, unwaith eto, fel y dywedodd Simon Thomas eisoes, y fath gyfle enfawr a gollwyd ym mae Abertawe yn ddiweddar. Mae'n ymwneud â mwy na'r manteision ynni y gallai morlyn fod wedi'u sicrhau, os yw'n cael ei wrthod; mae'n ymwneud hefyd ag enghraifft arall mewn rhestr hir o enghreifftiau lle mae'r Llywodraeth yn Llundain wedi anwybyddu Cymru, wedi dileu Cymru o'u meddyliau. Yn syml, mae llanastr y morlyn llanw yn dangos nad yw Cymru'n cyfrif i Lywodraeth y DU.
Mae manteision morlyn llanw'n gadarnhaol: ynni cost isel, hirdymor a fyddai wedi gwneud Cymru'n arweinydd byd yn y sector; buddsoddiad cyfalaf yn fy rhanbarth i o werth ychwanegol a fyddai wedi bod yn anodd ei fesur, gan nad ydym bron byth yn cael unrhyw fuddsoddiad cyfalaf mawr yn ein gwlad mwyach, yn enwedig yn fy rhanbarth; ac wrth gwrs, i fae Abertawe, fel y byddai fy nghyd-Aelod Dr Dai Lloyd yn ei ddweud, daw hyn ar ôl y sarhad o golli buddsoddiad mewn trydaneiddio gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae'r morlyn llanw yn dangos nad oes unrhyw ddiddordeb gan Lywodraeth y DU yng Nghymru.
Os yw Cymru am symud ymlaen, mae'n amlwg fod yn rhaid inni edrych ar ein sgiliau ein hunain a chreu ein cyfleoedd ein hunain, fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd mor huawdl yn gynharach. Sut y gallwn ddatblygu'r sylfaen ynni a sgiliau ar gyfer y dyfodol? Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gwmni ynni cenedlaethol ers peth amser, fel y dywedwyd yn gynharach—ynni cost is a mwy o reolaeth, mwy o gyfleoedd buddsoddi ac arloesi mewn sector sydd wedi'i fonopoleiddio'n drwm. Pan grybwyllwyd preifateiddio yn gyntaf, y pwynt oedd caniatáu dewis, cystadleuaeth a bwriad i godi safonau, ond fel cymaint o ymgyrchoedd preifateiddio eraill, nid dyna sydd wedi digwydd. Nawr, yma yng Nghymru, er ein bod yn bwerdy ynni o gymharu â llawer o leoedd eraill o'r un maint, rydym yn wynebu rhai o'r costau ynni uchaf, ac ni ddylai fod fel hyn.
Felly, rydym yn argymell y dylid rhoi diwedd ar fonopoli'r cwmnïau ynni mawr yng Nghymru. Gallai'r manteision posibl fod yn enfawr. Dychmygwch sut y gallem fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Yn Aberdeen, mae'r ddinas wedi sefydlu Aberdeen Heat and Power, cwmni ynni dielw, wedi'i gefnogi'n wreiddiol gan fenthyciadau awdurdod lleol a gwarantau i ddarparu gwres ar gost is i denantiaid awdurdod lleol a thai cymdeithasol. Erbyn hyn mae AHP yn cyflenwi gwres a dŵr poeth i fflatiau mewn 33 o flociau aml-lawr a 15 o adeiladau cyhoeddus. Roedd sgoriau ynni llawer o'r blociau hynny'n isel iawn, roeddent yn anodd ac yn ddrud i'w gwresogi, ac roedd 70 y cant o'r blociau aml-lawr yn Aberdeen mewn tlodi tanwydd. Nawr, mae allyriadau carbon wedi gostwng 45 y cant, ac mae'r gost i denantiaid wresogi a phweru eu cartrefi wedi gostwng tua 50 y cant. Bellach, ni cheir y nesaf peth i ddim tlodi tanwydd, ac mae hyn yn dangos beth y gellid ei wneud i dorri pŵer y monopolïau ynni. Ac os gall dinas yn yr Alban wneud hynny, pam na all Cymru? Byddai corff ymbarél, cwmni cenedlaethol, yn hwyluso'r mentrau cymunedol sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithredu fel hwb enfawr i'r sector hwn. Fel y nododd Jenny Rathbone eisoes, mae dinas Hamburg yn yr Almaen, dinas â bron i 2 filiwn o bobl, yn y broses o brynu grid ynni'r ddinas a newid i wasanaethau dielw. Gallai Ynni Cymru hefyd weithredu fel cyflenwr a buddsoddwr yn y sector ynni adnewyddadwy sydd ei angen yn ddybryd ar ein gwlad. Rydym wedi gweld cyfleoedd yn syrthio ar fin y ffordd, a rhai prosiectau dan ystyriaeth ers amser mor hir nes eu bod yn dod i ben ohonynt eu hunain yn y pen draw.
Gallai cwmni ynni cenedlaethol fuddsoddi'n briodol mewn ynni solar. Dangosodd ymchwil ar gyfer y Gymdeithas Fasnach Solar yn 2014 y gallai uchelgais beiddgar ar lefel y DU mewn perthynas â chynlluniau domestig a masnachol ar gyfer ynni solar ar y to ar raddfa fawr gynnal bron 50,000 o swyddi y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2014 a 2030. Nawr, 2014 oedd hynny. Mae'r costau'n gostwng wrth i dechnoleg gamu yn ei blaen ac wrth i botensial cynhyrchu ynni gynyddu, ond rydym yn colli cyfle ac rydym ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill. Yn yr Almaen, unwaith eto, mae tua 20,000 o aelwydydd eisoes yn rhan o fenter sy'n cysylltu cartrefi sy'n cynhyrchu ynni'n annibynnol. Mae rhwydwaith rhithwir yn caniatáu iddynt brynu a gwerthu unrhyw drydan dros ben i'w gilydd am gost is. Mae micro-gridiau eraill yn datblygu mewn mannau eraill, fel yn Brooklyn yn yr Unol Daleithiau.
Nawr, ceir rhai prosiectau gwych yng Nghymru eisoes, ac mae angen inni eu hannog a'u cefnogi. Soniodd Llyr am Wrecsam, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddechrau. Os gallwn gael awdurdodau lleol i osod paneli solar ar eu tai cyngor—gwn y byddai UKIP yn amlwg yn anghytuno â hyn, ond credaf y byddai hynny'n rhywbeth y gallem ei weld fel rhywbeth cadarnhaol, fel y gallai pobl gael biliau is am yr ynni a ddefnyddiant. Ymwelais â phrosiect twnnel Rhondda unwaith eto yr wythnos hon, a'u cynllun yw datblygu microgynlluniau ynni dŵr lleol yn Nant Gwynfi, a fyddai'n goleuo'r twnnel a safleoedd lleol, ac yn rhoi incwm o'r hyn sydd dros ben wedyn i Rhondda Tunnel Ltd, wedi iddynt ddod yn gwmni.
Nawr, mae'r rhain yn gysyniadau gwirioneddol wych y dylem fod yn eu cefnogi yma yng Nghymru. Hyd yn oed pan fo pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud argymhellion, fel y gwnaeth y pwyllgor ynni a chynialadwyedd ar y mater hwn, gan argymell cwmni ynni ymbarél dielw cenedlaethol, ni welai Llywodraeth Cymru achos dros weithredu ar y pryd, a hoffwn ofyn pam. Mae parhad y mentrau bach ad hoc yn briodol o bryd i'w gilydd, ond pe bai ganddynt gwmni cenedlaethol a fyddai'n eu cefnogi ac yn gallu buddsoddi ynddynt, byddai hynny'n dangos gweledigaeth feiddgar gan ein Llywodraeth genedlaethol ac yn dangos arweinyddiaeth yn hynny o beth. Felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i fentro yn y cyswllt hwn a sefydlu'r cwmni hwn er mwyn dangos bod gennym weledigaeth ar gyfer Cymru ac na fyddwn yn llusgo ar ôl datblygiadau ar draws Ewrop. Ar hyn o bryd, rydym ymhell ar ei ôl hi, ac ni ddylem orfod bod, oherwydd y cyfoeth o ynni sydd gennym yma yng Nghymru.
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi'r cynnig hwn ar lefel bersonol? Bydd gan fy mhlaid bleidlais rydd ar y cynigion, a bydd fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn fyr ac yn gryno.
Credaf ei bod yn hanfodol fod gan bobl Cymru yr ystod ehangaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Credaf ei bod yn hanfodol fod gan bobl Cymru yr ystod ehangaf bosibl o ddewis mewn perthynas ag ynni a chyflenwyr, ond rwyf hefyd yn anghytuno'n sylfaenol â rhoi ein cyfleustodau yn nwylo gweithredwyr preifat. Ategaf holl sylwadau Mick Antoniw ar berchnogaeth gyhoeddus ar gyfleustodau. Felly diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr. Mae'n rhaid i sefydlu cwmni ynni dielw—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. Dywedir yn aml am economegwyr, os gofynnwch i bedwar economegydd am eu barn, y byddant yn rhoi pump ateb i chi. A yw'r un peth yn wir am safbwynt UKIP ar y polisi ynni?
A gaf fi ddweud ein bod yn blaid sy'n meddwl y tu allan i'r bocs? [Chwerthin.] Ac felly rydym yn blaid o feddyliau agored yn ogystal.
Wel, diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr, a rhaid i sefydlu cwmni neu gwmnïau ynni dielw weithio er budd y cyhoedd yng Nghymru. Mae llawer o'r cwmnïau preifat sy'n cyflenwi cartrefi Cymru dan berchnogaeth dramor. Mae hyn yn golygu bod o leiaf beth o'r refeniw a enillir yn gadael y wlad, er budd i rai sy'n ei dderbyn mewn mannau eraill.
Dylai cwmni dielw olygu yn y bôn ei fod yn gallu bod yn gystadleuol iawn a gallai arwain hyd yn oed at leihau prisiau cyflenwi ynni, ac wrth gwrs gallai ddefnyddio holl ysgogiadau unrhyw gynhyrchiant a grybwyllodd Simon—er na fuaswn yn cytuno gyda'r holl systemau cynhyrchu ynni a grybwyllodd wrth gwrs. Felly, ategaf alwad Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.
Yn fy etholaeth i yn Arfon, mae gennym ni dri cynllun ynni dŵr cymunedol llwyddiannus, a chynlluniau ar y gweill ar gyfer mentrau newydd. Dyma’r union fath o fentrau sydd angen cefnogaeth, ac mi fyddai sefydlu cwmni Ynni Cymru, fel y mae Plaid Cymru yn ei argymell heddiw, yn gallu rhoi hwb sylweddol i’r sector yma, ar ben y buddion eraill sydd wedi cael eu hamlinellu.
Mae’r sector cymunedol wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd diwethaf: o’r cyfnod cyn y feed-in tariffs, pan oedd grantiau 100 y cant ar gael, i gyfnod y FIT, pan welwyd cymunedau yn elwa ar ynni gwyrdd, i ddiflaniad y FIT a chyfnod llai sefydlog yn sgil hynny.
Mae’r dyfodol braidd yn ansicr ar hyn o bryd, felly, ond fe allai Ynni Cymru roi ffocws pendant i waith y cynlluniau cymunedol, rhoi pwyslais ar gydweithio rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol, a’r cymunedau eu hunain. Os nad ydy cynllun morlyn Abertawe i ddigwydd, yna fe ddylid buddsoddi’r arian mewn mentrau ynni adnewyddol, gan gynnwys prosiectau sy’n berchen i’r gymuned.
Cynllun o'r math yna ydy Ynni Ogwen. Pobl leol ydy 85 y cant o’r cyfranddalwyr, ac fe godwyd bron i £0.5 miliwn mewn deufis mewn cyfranddaliadau lleol. Nid ydym ni'n sôn am ardal gyfoethog yn y fan hon. Rydym ni'n sôn am gymuned ôl-ddiwydiannol, gymharol dlawd, ond cymuned falch a chymuned sydd wedi gweld gwerth mewn cynhyrchu ynni glân er budd y gymuned leol.
Mae Ynni Ogwen yn fwy na chynllun dŵr. Mae'r cynllun hefyd wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol a newid hinsawdd, a'r gymuned ei hunan sydd wedi cynhyrchu’r ynni glân yma. Nhw biau fo, ac mae hynny yn rhoi hyder i'r gymuned yma.
Mae’r rhai sydd yn gysylltiedig â mentrau fel Ynni Ogwen a’u tebyg yn dweud yn glir bod angen mwy o fuddsoddiad ariannol, ond hefyd mwy o gefnogaeth strwythuredig gan lywodraeth leol a chanol, yn cynnwys cefnogaeth ymarferol. Nid oes gan grwpiau cymunedol mo’r arbenigedd peirianyddol ac amgylcheddol yn aml iawn, ac mae prynu i fewn y math yna o arbenigedd yn gallu bod yn gostus. Dyma rôl y gallai Ynni Cymru ei chyflawni: darparu’r gefnogaeth ymarferol ac arbenigol mewn ffordd hygyrch.
Mewn cyfres o gyfarfodydd ar ynni cymunedol a gafodd eu cynnal ar draws Cymru efo cefnogaeth Prifysgol Bangor yn y gwanwyn eleni, fe gafwyd cyfle i drafod cyfleon a heriau’r dyfodol ar gyfer ynni cymunedol yng Nghymru. Mi oedd Ynni Ogwen, Awel Aman Tawe a chynllun ynni cymunedol Abertawe yn rhan ganolog o’r digwyddiad. Mi oedd y trafodaethau yn arwain at nifer o gasgliadau. Mae'r sector yn dweud bod angen cefnogaeth strategol gadarn ar gyfer ynni cymunedol yng Nghymru; mae angen cysondeb yn y lefel o gefnogaeth sydd ar gael, a symud i ffwrdd o newidiadau cyson; mae angen datblygu dull i alluogi masnachu uniongyrchol rhwng y cynlluniau lleol a busnesau a defnyddwyr lleol; mae angen ymrwymo llywodraeth leol a byrddau iechyd i brynu ynni yn lleol; mae angen i adrannau megis datblygu economaidd, cynllunio ac ynni weithio’n llawer agosach efo’i gilydd; ac mae angen hybu’r sector llawer mwy ar draws Cymru, gan dynnu sylw at yr holl fuddiannau. Dyma waith a allai gael ei wneud yn gwbl effeithiol gan gwmni Ynni Cymru.
Mi ddylai taclo tlodi tanwydd fod yn ganolog i ddatblygiad ynni cymunedol. Efo 23 y cant o gartrefi Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd, mae'n rhaid i’r ffocws fod ar daclo tlodi. Mae’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy wedi canfod bod mwy o brosiectau yn deillio, mewn gwirionedd—y prosiectau cymunedol—o'r ardaloedd mwy cyfoethog. Fel y mae’n diwgydd, mae Ynni Ogwen yn gwrthbrofi'r pwynt yna, ac yn eithriad yn hynny o beth, ond mae angen mwy o gefnogaeth yn y cymunedau incwm isel i gefnogi mentrau ynni cymunedol er mwyn i’r cymunedau hynny gael gwir fudd economaidd, cymdeithasol a iechyd sy’n dod yn sgil y prosiectau.
Byddai creu Ynni Cymru yn gallu dwyn hyn oll ynghyd a rhoi ffocws a chyfeiriad clir i’r gwaith y mae angen ei ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan ddod â grwpiau at ei gilydd, gan gefnogi a chynnig arbenigedd, a hynny ar draws Cymru—yn yr ardaloedd trefol a gweledig fel ei gilydd. Drwy hynny, gellid gweld y sector cymunedol yn tyfu’n gyflym, gan gyfrannu at greu sector ynni adnewyddol cyffrous yng Nghymru, yn defnyddio ein hasedau naturiol i’w llawn potensial er lles ein gwlad.
A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod yr achos yma heddiw, a hoffwn roi diolch i Plaid Cymru am gynnig y ddadl hon.
Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am ddadl ddiddorol a difyr heddiw. Dywedodd Simon Thomas wrth agor nad yw'n ymddiheuro am ailgylchu'r ddadl hon. Wel, mae gennym record anrhydeddus am ailgylchu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir ein huchelgais i drawsnewid y system ynni yng Nghymru, er mwyn inni symud at system garbon isel. Drwy wneud hyn, credaf y gallwn sicrhau mantais economaidd a chael effaith gadarnhaol ar les pobl Cymru.
Fel y dywed y cynnig, sefydlodd y Blaid Lafur weledigaeth glir ar gyfer ynni yn ein maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2017, a gynhwysai gamau gweithredu ar lefel y DU a Chymru. Nid yw'r cam cyntaf, sef cymryd rheolaeth ar rwydweithiau cyflenwi ynni ar lefel y DU, wedi cael ei gymryd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Gellir cyflawni'r ail gam, sefydlu cwmnïau ynni cyhoeddus, atebol yn lleol a mentrau cydweithredol i gystadlu â chyflenwyr ynni preifat presennol, mewn llu o wahanol ffyrdd, ac rydym wedi bod ar drywydd llawer ohonynt. Un dull yn unig sydd wedi'i ddiystyru'n llwyr, sef sefydlu cwmni cyflenwi ynni ar gyfer Cymru gyfan. Eglurodd Llywodraeth Cymru ein rhesymau dros hyn mewn datganiad ysgrifenedig fis Awst diwethaf, a oedd yn adeiladu ar dystiolaeth o weithdai ledled Cymru dros yr haf hwnnw. Ein casgliad oedd na wnaed achos cryf dros sefydlu cwmni cyflenwi ymbarél ar gyfer Cymru. Mae hyn wedi'i gadarnhau gan dystiolaeth ers hynny, sy'n dangos bod y cwmnau cyflenwi cyhoeddus a astudiwyd gennym y llynedd yn dal yn ddibynnol ar gymorth o'r sector cyhoeddus ac maent eto i gynhyrchu refeniw. Gwnaeth Bristol Energy golled o £7.7 miliwn y llynedd, a gohiriwyd y dyddiad adennill costau hyd nes 2021. Hefyd yn ddiweddar, collodd gontract i gyflenwi cyngor Bryste.
Rhoddodd y bobl a gyfrannodd at y sgwrs ynghylch cwmnïau ynni y llynedd syniad cryf i ni o'u gweledigaeth ar gyfer rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni. Roeddent yn gofyn inni ddarparu amgylchedd polisi cefnogol, cydlynu gweithgaredd ledled Cymru a gweithredu fel llais gonest ac annibynnol y gellid ymddiried ynddo, gan edrych ar y materion strategol a rheoleiddiol sy'n effeithio ar y system ynni. Dyma y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud.
Mae adroddiad Plaid Cymru, 'Ynni Cymru', yn amlinellu gweledigaeth ynglŷn â Chymru'n lleihau allyriadau carbon, yn harneisio adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ac yn bachu ar gyfleoedd mewn economïau carbon isel a chylchol. Mae'r weledigaeth hon yn gyson â blaenoriaethau ynni Llywodraeth Cymru, fel y'u nodwyd ym mis Tachwedd 2016: defnyddio ynni yn fwy effeithlon, cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, a sicrhau manteision lluosog o'r newid. Gyda thystiolaeth fod ein dull yn gweithio, rydym wedi gweld cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn codi o 8 y cant o'r trydan a ddefnyddiwyd gennym yn 2006 i 43 y cant yn 2016. Er mwyn i hyn allu parhau i gynyddu, rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i adfer y cymorth ar gyfer cynlluniau newydd ynni solar ac ynni gwynt ar y tir. Mae eithrio'r technolegau cost isaf profedig hyn o fecanwaith y farchnad ynni yn codi prisiau ynni. Yn ddiweddar, cyfarfu fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths, â Claire Perry, y Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Glân, ac atgyfnerthodd yr hyn y gofynnwn amdano'n barhaus, sef bod Llywodraeth y DU yn adfer cymorth i'r datblygiadau adnewyddadwy mwyaf fforddiadwy. Mae methiant i wneud hynny'n cyfyngu ar ein gallu i ddatgarboneiddio ac yn codi costau ynni.
Mae eraill heddiw wedi cyfeirio at y cyd-destun rydym ynddo ar hyn o bryd, gyda'r cyhoeddiadau mewn perthynas â Wylfa Newydd a chyhoeddiadau posibl ar y morlyn llanw. Roedd y Prif Weinidog yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar Wylfa Newydd. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas waith agos a sefydlwyd gyda chyngor Ynys Môn a rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol eraill, gyda'r nod o sicrhau etifeddiaeth barhaus ar gyfer Cymru. Rydym yn gwybod y gallai morlynnoedd llanw hefyd chwarae rhan yn nyfodol ynni Cymru. Gwn y bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Greg Clark yr wythnos hon yn cynnig ystyried buddsoddi ecwiti neu fenthyciad ym mhrosiect morlyn llanw bae Abertawe pe ceid ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gontract gwahaniaeth priodol.
Nid Llywodraeth Cymru sy'n dal yr holl ddulliau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag incwm isel a phrisiau ynni, sy'n gwneud dileu tlodi tanwydd yn her sylweddol. Pan ddaw data tlodi tanwydd ar gael tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, byddwn yn cynnwys rhanddeiliaid wrth fynd ati i ddatblygu camau gweithredu ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn y dyfodol. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru yw'r modd mwyaf cynaliadwy o leihau biliau ynni, lleihau allyriadau carbon o'n stoc dai a gwella iechyd a lles y preswylwyr. Mae hyn, yn ei dro, yn lleihau'r baich ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi pobl ar incwm isel sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf economaidd ddifreintiedig ac agored i niwed yng Nghymru. Yn ystod tymor y Llywodraeth hon, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £104 miliwn i wella hyd at 25,000 o gartrefi pellach. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn ysgogi—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Roeddwn am ofyn os gallech sôn efallai am rai o'r syniadau a gyflwynasom i chi heddiw. Nodais un yn Aberdeen. Mae Siân wedi nodi un yn Ogwen. Mae Llyr wedi nodi un yn Wrecsam. Pe gallech roi syniad inni beth yw eich barn am eu potensial, o bosibl gallem geisio edrych ar gwmni cenedlaethol pan fyddwch yn meddwl efallai y byddai'n fwy ymarferol. Clywaf yr hyn a ddywedwch am Fryste, ond efallai nad yw edrych ar un enghraifft yn ddarlun o sut y byddai pob un ohonynt yn gweithio. Gallem wneud rhywbeth gwahanol a gwell, efallai.
Yn amlwg, mae hon yn drafodaeth barhaus o ran beth sy'n gweithio yng Nghymru. Gobeithio y gallaf sôn ymhellach am hynny yn yr ymateb hefyd.
Ers 2011, mae Cartrefi Clyd Nyth wedi darparu cyngor diduedd a chymorth i dros 98,000 o aelwydydd. Er nad oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol, mae'n debygol fod y cyngor hwn wedi helpu i hybu cyfraddau newid cyflenwr, sy'n isel yng Nghymru, i sefyllfa lle mae 19 y cant o'n trigolion wedi newid yn ddiweddar, o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr.
Mae ein gwasanaeth Twf Gwyrdd Cymru wedi adeiladu ar lwyddiant blaenorol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r gwasanaeth wedi darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael i'r sector cyhoeddus allu darparu amrywiaeth o gynnyrch ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Roedd y buddsoddiad a addawyd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig dros £28 miliwn, gan ddangos manteision ein dull hirdymor o adeiladu capasiti. Mae'r prosiectau a gefnogir yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau goleuadau stryd, gan gynnwys ymrwymiad o £1.5 miliwn mewn prosiect yn Sir y Fflint a £3.3 miliwn arall—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ac rwy'n ddiolchgar ichi am dderbyn ymyriad, ond yn debyg i Bethan Jenkins, rwy'n sylweddoli fod gennych araith i fynd drwyddi, ond beth yw eich barn? Pa mor bell y credwch y gallai Cymru fynd o ran gwthio'r agenda ar adeiladu dyfodol ynni newydd a bod yn arloesol wrth wneud hynny?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei ymyriad? Mae'n debyg mai fi yw'r dirprwy actor heddiw. Edrychwch, dywedais ar gychwyn y ddadl fod hyn yn creu llawer o syniadau diddorol ac arloesol a chreadigol, a chredaf fod angen i bob un ohonom ddatblygu'r ddadl honno i weld sut y gall Cymru arwain y ffordd o ran ein hymagwedd tuag at ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni yn y dyfodol.
Os caf symud ymlaen at brosiectau cymunedol, o ystyried y diddordeb yn y maes, mae ein gwasanaeth Ynni Lleol wedi arloesi gyda dull benthyciadau uniongyrchol i brosiectau y barna benthycwyr masnachol fod gormod o risg ynghlwm wrthynt, gan alluogi adeiladu cynhyrchiant sy'n eiddo i'r gymuned, gan gynnwys fferm wynt Awel Aman Tawe, a dod â datblygiadau adnewyddadwy eraill i berchnogaeth gymunedol. Mae ein cymorth wedi galluogi grwpiau cymunedol i ddod yn ddatblygwyr gyda ffocws cymdeithasol mewn rhanbarthau ledled Cymru. Credaf fod pryder wedi'i fynegi o ran sut y gall grwpiau cymunedol fod yn siŵr nad ydynt yn cael eu twyllo, yn niffyg gwell ymadrodd na'r un a ddefnyddiwyd gan Simon Thomas. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni cymunedol yn uniongyrchol gydag arbenigedd technegol a masnachol, ac rydym eisoes wedi gwneud hynny drwy ein gwasanaeth Ynni Lleol i'w helpu i ddeall y modelau masnachol ac ariannol a gwneud penderfyniadau ar sail hynny. Yn wir, soniodd Siân Gwenllian am dri phrosiect cymunedol yn ei chyfraniad, a deallaf fod pob un ohonynt wedi cael cymorth Llywodraeth Cymru.
Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gosod targed i 70 y cant o'r trydan a ddefnyddir yng Nghymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae hi hefyd wedi gosod targed i 1 GW o gynhwysedd trydan adnewyddadwy yng Nghymru fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2030, a disgwyliad y bydd pob prosiect ynni adnewyddadwy newydd a ddatblygir o 2020 ymlaen yn cynnwys elfen o berchnogaeth leol. Rydym yn credu bod perchnogaeth leol yn cadw budd yn lleol. Yn ddiweddar galwasom am dystiolaeth i ategu'r safbwynt hwn a deall yn well beth sydd ei angen i helpu pobl yng Nghymru i ddod yn fwy annibynnol o ran ynni. Byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yr haf hwn.
Rwy'n ymwybodol fy mod yn brin o amser nawr, felly rwyf am grynhoi'n gyflym, ond ni fydd yn syndod i'r Aelodau ar y meinciau gyferbyn ein bod yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar atlas ynni, ac rydym yn credu y bydd hyn yn greiddiol i sicrhau'r dyfodol ynni cywir ar gyfer Cymru, gan ddarparu tystiolaeth a mewnwelediad i helpu penderfynwyr lleol i fwrw ymlaen a gwneud i bethau ddigwydd. Credwn mai ein ffocws ar gefnogi arloesedd a gweithredu lleol yw'r ffordd gywir o baratoi Cymru ar gyfer dyfodol ynni ffyniannus.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Os caf ymateb yn fyr iawn i'r ddadl ac yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi, gan fy mod wedi crybwyll y morlyn llanw, fy mod yn gyfranddaliwr cymunedol yn y morlyn llanw, fel y mae llawer o bobl eraill wedi bod. Nid yw'n fuddiant sy'n rhaid ei ddatgan, rhaid i mi ddweud; nid yw mor fawr â hynny. Ond mae'n dangos bod cannoedd lawer o bobl yn yr ardal wedi rhoi eu harian eu hunain lle nad yw Llywodraeth San Steffan yn barod i fynd. Rydym yn credu yng Nghymru. Rydym yn credu yn ein hadnoddau naturiol. Rydym yn credu y gall hyn weithio. Rydym yn credu y bydd y dechnoleg hon ar gael am gannoedd o flynyddoedd i ddod, a dylem ei defnyddio. Rwy'n mawr obeithio yn y pen draw y bydd Llywodraeth San Steffan yn wir yn ymateb i'r cynnig gan y Llywodraeth hon, a hefyd yn ymateb i'r gefnogaeth eang i'r morlyn llanw yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, yn enwedig y rhai a wnaeth fy nghefnogi? [Chwerthin.] Ond hefyd, hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yn fy marn i yw enghreifftiau Bethan a Siân o fuddsoddiad cymunedol a syniadau cymunedol—ac mae enghraifft Aberdeen yn ffordd ardderchog o ddangos sut y gellid gweu hyn at ei gilydd.
Mae Llyr a Mick Antoniw wedi sôn am y ffaith fod hyn, mewn gwirionedd, yn fusnes mawr. Mae llawer o arian mewn ynni, ac mae'r elw hwnnw'n mynd i fannau eraill. Ni ddaw i mi. [Chwerthin.] Yn eironig, yn aml cymerir yr elw hwnnw ar hyn o bryd gan Lywodraethau eraill sydd wedi buddsoddi yng Nghymru, ac nid gan ein cymunedau ein hunain. Mae'r un fath yn digwydd gyda threnau Arriva a pethau eraill hefyd, wrth gwrs. Felly, mae angen inni wneud hyn yn well, a dyna pam na allaf gytuno â safbwynt David Melding. Rwy'n deall o ble mae'n dod, ond mae ei Lywodraeth Geidwadol wedi bod yn gwladoli rheilffyrdd ar bob llaw—neu o leiaf yn y dwyrain, y gorllewin a'r canol—ac mae'n rhaid i ideoleg ddadfeilio'n ddim pan fyddwch yn wynebu'r realiti.
Yr hyn sydd gennym mewn ynni—gadewch i ni gamu oddi wrth y safbwyntiau braidd yn ideolegol yma—yw bod angen rhyw fath o drylwyredd preifat yno i sicrhau bod effeithlonrwydd yn cael ei yrru drwy'r broses, ond os nad oes gennych chi hynny, mae'n rhaid i chi gael rhywbeth sy'n cydnabod bod y farchnad wedi methu pan fydd gennych brisiau ynni uchel mewn gwlad sy'n gyfoethog mewn ynni. Felly, rhaid ichi gael ymyrraeth.
Os caf gloi drwy droi at Ysgrifennydd—. Nid Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf; y Gweinidog, sy'n siarad ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Ei hymyriad—rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd, ond fe ddywedodd fod yr ymgynghoriad wedi gwrthod y syniad hwn. Wel, do, fe ddywedodd 38 allan o 72 o bobl 'na' wrth y syniad hwn. Dyna fath Brexit o ganlyniad mewn gwirionedd. Ond yn bwysig iawn, beth y dywedodd yr ymgynghoriad a oedd ar goll hefyd? Dywedodd mai'r hyn sydd ar goll yw: methiannau cyfunol yn y farchnad, e.e. gweithredu cynlluniau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, annog cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, cau'r bylchau rhwng cynhyrchiant lleol a defnydd lleol—model Ynni Ogwen—parhau i flaenoriaethu lleihau'r galw, gan gynnwys drwy well effeithlonrwydd ynni a newid ymddygiad, a sicrhau bod y system ynni a phontio'n gweithio ar gyfer dinasyddion Cymru ac yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Gellid hyrwyddo rhai o'r amcanion hyn gan gwmni gwasanaethau ynni ar gyfer Cymru gyfan, ond nid gan gwmni cyflenwi ynni o bosibl. Yng ngoleuni'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, a yw'r pethau hyn yn cael eu gwneud mewn gwirionedd, ac onid yw hi'n meddwl ein bod ni angen strategaeth genedlaethol i gyflawni hyn?
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 7 yw dadl UKIP ar gyllid prifysgolion, a galwaf ar Michelle Brown i wneud y cynnig. Michelle.
Cynnig NDM6731 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gyllid prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.
2. Yn nodi'r adroddiadau gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu: 'Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market' a 'The graduate employment gap: expectations versus reality'.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol;
b) diddymu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac
c) ehangu cwmpas Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd ar gyfer enillion disgwyliedig, a chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar fyfyriwr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ar ran UKIP.
Mae llawer o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael eu twyllo. Gall fod yn annymunol i'w ddweud, ond mae'n ffaith, ac mae digon o ymchwil annibynnol i'w brofi. Bwydir ffigurau sydd wedi dyddio i fyfyrwyr chweched dosbarth am yr enillion uwch a gaiff graddedigion i'w hannog i ddilyn cyrsiau gradd. Yn aml, nid oes ffigurau manwl gywir ar gael ynglŷn â faint yn rhagor y gallent ei ennill yn eu dewis yrfa os ydynt yn graddio, dim ond cyfartaledd diystyr ar draws y sbectrwm cyfan o alwedigaethau a phroffesiynau. Mae'r system benthyciadau myfyrwyr yn costio llawer mwy na'r disgwyl i'r trethdalwr am nad yw enillion graddedigion yn agos at fod lle yr awgrymai'r cyfrif y byddent. Mae hyn oherwydd y dirywiad economaidd, ond hefyd oherwydd bod llawer o alwedigaethau gyda chyflogau dechrau is a arferai fod yn seiliedig yn berffaith briodol ar ddiplomâu, bellach yn ddibynnol ar gymwysterau angenrheidiol sydd wedi'u troi'n gyrsiau gradd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae Llafur, yn eu gwelliant, yn ceisio troi hon yn ddadl ynglŷn â mynediad at gyrsiau prifysgol. Mae honno'n sgwarnog lwyr. Nid ymwneud â chynwysoldeb, amrywiaeth neu fynediad y mae hyn. Mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd i'r rhai sy'n dilyn cyrsiau gradd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn trin yr israddedigion a'r graddedigion hyn yn deg, ac nid yn eu camarwain drwy roi gobaith di-sail iddynt.
Y llynedd, cododd dyled benthyciadau myfyrwyr i fwy na £100 biliwn am y tro cyntaf, ac mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dweud na fydd y rhan fwyaf o raddedigion byth yn talu eu dyled benthyciad myfyrwyr gyfan cyn iddi gael ei diystyru 30 mlynedd ar ôl iddynt raddio. Mae hwnnw'n ffigur mawr iawn, £100 biliwn. Dywedodd uwch economegydd gyda NatWest fod dyledion myfyrwyr yn cynyddu'n gyflymach nag unrhyw fath arall o ddyled, ac yn bwrw dyledion cardiau credyd o £68 biliwn i'r cysgod. Dywedodd yr uwch economegydd gyda NatWest,
Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod dyled myfyrwyr yn dod yn fwy o flaenoriaeth bob blwyddyn. Dyled myfyrwyr yw'r math o fenthyciad sy'n tyfu gyflymaf ac mae'n prysur ddod yn bwysig yn economaidd.
Mae'n rhagweld, dros y tymor hwy, fod dyled benthyciadau myfyrwyr yn debygol o ddyblu i £200 biliwn o fewn chwe blynedd.
Rydym yn aml yn cymharu ein hunain â gwledydd yr ystyriwn eu bod yn llai hael na ni. Gwelwn fod pobl yn aml yn cymharu ein GIG â chost gofal iechyd yn UDA ac rydym yn tybio bod gan y gwledydd hynny system addysg uwch lai cynhwysol na ni, ac eto y ddyled gyfartalog ymysg myfyrwyr yn yr Unol Daleithiau yw £27,000, o'i gymharu â chyfartaledd dyled myfyriwr yn y DU, sy'n fwy na £32,000. Felly, hyd yn oed os yw'r ddadl yn ymwneud â hygyrchedd, mae'n methu o'r cychwyn pan fydd gennym system addysg uwch sy'n llai hygyrch nag un America oherwydd y ddyled uwch a fydd gan y myfyrwyr hynny. Yn amlwg, mae gorfodi graddedigion i ysgwyddo dyled na fydd y mwyafrif ohonynt byth yn gallu ei thalu'n ôl yn mynd i niweidio eu pŵer prynu a'r penderfyniadau y byddant yn eu gwneud ynghylch pensiynau, buddsoddiadau a phrynu tŷ.
Mae'r system bresennol, lle mae bron bawb yn cael eu hannog ar lwybr prifysgol llawn dyledion, hyd yn oed ar gyfer galwedigaethau gydag incwm is na'r hyn a gysylltir yn draddodiadol â graddedigion, yn fom sy'n tician i'r economi, heb sôn am yr unigolyn sydd â chyllideb bersonol wedi'i niweidio am ei oes. Mae gwelliant y Torïaid yn sôn am fynd i'r afael â draen dawn o Gymru, ac nid wyf yn amau bod problem gyda'r draen dawn, ond y prif achos drosto yw prinder swyddi priodol yng Nghymru. Felly, mae'n gwyro oddi ar y pwynt, yn sgwarnog braidd, os caf ddweud. Er fy mod yn cytuno mewn egwyddor ag argymhelliad Diamond, mae cymell graddedigion i aros yng Nghymru yn ddiwerth i raddau helaeth os na allant ddod o hyd i swydd addas yng Nghymru, felly mae gwelliant Plaid Cymru yn dipyn o sgwarnog hefyd.
Mae Alistair Jarvis, prif weithredwr Universities UK, wedi honni, ac rwy'n dyfynnu, y bydd
rhywun sy'n mynd i brifysgol yn ennill ar gyfartaledd tua £10,000 y flwyddyn yn fwy na rhywun sydd heb gael gradd.
Diwedd y dyfyniad. Ond lai na blwyddyn yn ôl, nododd y BBC ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu bod y bwlch cyflogau o ran graddedigion rhwng 21 a 30 oed ychydig yn llai, ar £6,000. A dangosodd arolwg yn 2014 nad oedd un o bob pedwar o raddedigion ond yn ennill £20,000 ddegawd ar ôl graddio, pan oedd y cyflog cyfartalog ar gyfer pob gweithiwr, yn raddedigion a rhai heb radd, yn £26,500. Mae'n amlwg yn annerbyniol hefyd nad oedd chwarter y graddedigion ond wedi ennill £11,500 yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cwblhau eu gradd a £16,500 yn unig ar ôl tair blynedd. Felly, mae'r honiadau hyn sy'n cael eu gwneud am gyrsiau gradd, ac rwyf wedi gofyn cwestiynau am hyn yn y lle hwn o'r blaen—wyddoch chi, lle mae'r dadansoddiad o ba mor ddefnyddiol y bydd y cyrsiau gradd hyn? Faint o arian y mae pob cwrs gradd yn mynd i'w greu i'r unigolyn graddedig sy'n graddio o'r cwrs hwnnw? Oni bai bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr chweched dosbarth ynglŷn â pha fath o fuddsoddiad y maent yn mynd i orfod ei wneud a'r enillion a gânt ohono ar ffurf cyflog, maent yn gweithredu ar ddyfalu pur, ac maent yn cael cam.
Mae'r syniad fod cynnydd yn nifer y graddedigion yn brawf ein bod yn fwy cynhwysol ac wedi cynyddu symudedd cymdeithasol yn nonsens llwyr. Mae angen archwiliad trylwyr o gyllid prifysgolion fel y gallwn gadw pobl ddisgleiriaf Cymru yng Nghymru ac fel nad ydym yn llethu miloedd ar filoedd o'n pobl ifanc â dyledion a fydd yn effeithio ar eu bywydau cyfan. Bydd cynigion UKIP yn sicrhau'r canlyniadau y mae ein myfyrwyr yn eu haeddu, ac rwy'n annog yr Aelodau i'w cefnogi. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi 2016.
2. Yn nodi i Adolygiad Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol.
3. Yn croesawu’r pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol—y cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Galwaf ar Darren Millar nawr i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Cymru yn profi draen dawn, gyda mwy o raddedigion prifysgol yn gadael Cymru nag yn ymgartrefu yn y wlad.
Yn cydnabod llwyddiant sefydliadau addysg bellach Cymru o ran cefnogi cadw talent yn economi Cymru.
Yn gresynu at y diffyg rhaglenni prentisiaethau lefel 6+ sydd ar gael yng Nghymru i wella sgiliau'r gweithlu.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu mwy o gymhellion i raddedigion prifysgol ymgartrefu yng Nghymru unwaith y byddant wedi gorffen eu graddau;
b) annog mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i hyrwyddo cadw talent; ac
c) hyrwyddo argaeledd mwy o raglenni prentisiaethau lefel 6+ yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies ar y papur trefn.
Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedodd Michelle Brown, a rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch o ran yr angen i wneud yn siŵr fod gennym y swyddi hynny yma yng Nghymru i bobl sy'n gorffen eu cyrsiau prifysgol allu mynd iddynt. Oherwydd mae gennym ystadegau brawychus iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r draen dawn, gyda degau o filoedd yn fwy o raddedigion yn gadael Cymru nag sy'n aros yng Nghymru mewn gwirionedd—colled net, rhwng 2013 a 2016 yn unig, o dros 20,000 o fyfyrwyr, sy'n nifer enfawr, ac rydym am gadw'r dalent honno. Yn ogystal, mae 40 y cant o'r graddedigion sy'n aros yng Nghymru i weithio mewn swyddi nad ydynt yn swyddi ar gyfer graddedigion, a chredaf fod hynny hefyd yn drychineb, oherwydd, wrth gwrs, nid ydynt yn defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth y maent yn eu dysgu pan fyddant yn y prifysgolion hynny.
Felly, yn sicr mae angen inni wneud mwy, ond nid yw'n ymwneud yn unig â chreu swyddi, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod gennym gyrsiau sydd hefyd yn ddeniadol i gyflogwyr, sy'n rhoi'r sylfaen wybodaeth iawn i bobl ac yn rhoi'r sgiliau y mae'r cyflogwyr eu heisiau i bobl. Oherwydd, wrth gwrs, rydym yn derbyn pobl o brifysgolion eraill o'r tu allan i Gymru sy'n dod i weithio yma, ac er bod croeso mawr iddynt, byddai'n wych cael ein doniau ein hunain yn mynd i mewn i'r swyddi hynny. Felly, gwyddom fod yn rhaid inni wneud rhagor. Roedd 72 y cant o'r busnesau a arolygwyd yn ôl yn 2015 yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd i bobl gyda'r sgiliau cywir pan oeddent yn chwilio am unigolion yn y farchnad. Felly, yn amlwg, mae bwlch rhwng yr hyn a gaiff ei ddarparu gan ein system addysg yn ehangach a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein busnesau mewn gwirionedd.
Ymddengys bod colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwell o sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw'r cysylltiadau cryfach sydd ganddynt o fewn eu heconomïau lleol a rhanbarthol gyda busnesau. Credaf efallai fod angen mwy o dystiolaeth o'r mathau hynny o gryfderau a geir o fewn y sector addysg bellach yn y sector prifysgolion, o ran y ffordd y maent yn ymgysylltu â busnesau. I fod yn deg â Prifysgolion Cymru a'r prifysgolion sydd gennym yma, gwn fod gwaith da yn mynd rhagddo gyda'r sector preifat o ran ceisio sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl, ond yn amlwg, mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r gwaith hwnnw'n dwyn ffrwyth fel sydd angen iddo wneud.
Felly, o ran y pynciau STEM, roeddwn yn falch iawn o nodi'r cyfeiriad yng nghynnig UKIP at yr angen i ddarparu cyrsiau am ddim ar gyfer myfyrwyr meddygaeth a nyrsio. Un o'r pethau a gyflwynodd fy mhlaid yn ein maniffesto diwethaf ar gyfer y Cynulliad, mewn gwirionedd, oedd y dylai fod rhyw fath o gynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr meddygol. Wrth gwrs, roeddem yn cefnogi parhad y cynllun bwrsariaeth nyrsio yma yng Nghymru, ond rhaid ichi wneud yn siŵr fod yna elw ar y buddsoddiad hwnnw i drethdalwyr Cymru. Felly, un peth na fyddem yn hoffi ei wneud yw rhoi'r arian hwnnw a chaniatáu iddynt wneud y cyrsiau a mynd i weithio mewn mannau eraill wedyn. Felly, rhaid cael cyfle i'w cadw unwaith eto o fewn GIG Cymru fel y gallwn gael elw i'r trethdalwr, a dyna pam y cyflwynasom y gwelliannau yn y ffordd y gwnaethom heddiw.
O ran prentisiaethau, rydym wedi cyfeirio at brentisiaethau lefel 6 yn ein cynnig. Un o'r pethau y credaf ei fod yn dangos gwahaniaeth cynyddol rhwng Cymru a Lloegr yw bod nifer enfawr o gyrsiau prentisiaeth lefel 6 ar gael dros y ffin y gall pobl gael mynediad atynt. Am ryw reswm, rydym wedi bod yn araf iawn yn darparu'r cyfleoedd hynny i bobl yma yng Nghymru, ac rydym yn gwybod bod cyflogwyr yn chwilio am brentisiaethau lefel uwch o'r fath. Felly, buaswn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud wrthym yn eich ymateb i'r ddadl hon beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ehangu'r ddarpariaeth o brentisiaethau lefel 6. Rydym wedi gwneud gwaith da iawn yng Nghymru, a bod yn deg, o ran creu'r prentisiaethau eraill ar lefel 4, ond o ran codi'r rheini i lefel 6 a 7, mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud eto, rwy'n credu.
Felly, wrth gloi, buaswn yn annog pobl yn y Siambr hon i gydnabod y pethau da sy'n digwydd, ond i fod yn fwy gofalus ynglŷn â'r diffyg ymgysylltiad rhwng y sector preifat a sector y prifysgolion, a'r ffaith y gallai gwaith ganolbwyntio llawer mwy ar hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod ein prifysgolion yn cynhyrchu'r graddedigion a all fynd yn eu blaenau wedyn i weithio mewn busnesau yng Nghymru er mwyn inni allu cadw'r dalent honno a pheidio â dioddef yn sgil y draen dawn y buom yn dioddef ohono yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
d) gweithredu argymhellion adolygiad Diamond ar gyfer Llywodraeth Cymru i annog myfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma ac i gynnig y gwelliant yn enw Plaid Cymru? Ni fydd testun y gwelliant yn syndod, rydw i'n siŵr, i nifer. Mae'n bwnc rŷm ni'n ei godi yn gyson fel plaid yn y cyd-destun yma. Mae e yn bwnc pwysig iawn, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y sylwadau rŷm ni wedi clywed yn y ddadl hyd yma, sef yr angen i sicrhau, ie, bod myfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle gorau posib i fynd i brifysgolion gorau'r byd ac i gael y profiadau pwysig yna, ond y pwysigrwydd hefyd, wedyn, ein bod ni'n gwneud pob peth posib i sicrhau bod y buddsoddiad yna yn eu dyfodol nhw yn dod â rhyw fath o fudd i ni yma yng Nghymru.
Nawr, mae angen inni fynd i'r afael â'r broblem sydd gennym ar hyn o bryd—y golled net o raddedigion y clywsom amdani, a hefyd y bwlch sgiliau sydd gennym mewn sectorau hanfodol megis meddygaeth a'r pynciau STEM. Mae data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau wedi dangos gostyngiad o tua 14 y cant rhwng 2015 a 2017 yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth ar gyfer pob cwrs meddygaeth yn y DU, felly mae'n amlwg fod angen mynd i'r afael â'r broblem. Ac yn fwy cyffredinol, clywsom gyfeirio'n gynharach at yr adroddiad gan felin drafod Resolution Foundation ym mis Awst y llynedd yn dweud wrthym fod Cymru wedi denu bron 24,000 o raddedigion rhwng 2013 a 2016, ond bod dros 44,000 wedi gadael, sef y gwahaniaeth net y cyfeiriodd Darren Millar ato—dros 20,000 o fyfyrwyr. Yn wir, dwy ran arall yn unig o'r DU a oedd â ffigur gwaeth na Chymru, sef Swydd Efrog a Humber a gogledd-ddwyrain Lloegr. Nid yw hyn wedi'i gydnabod fel problem, rwy'n gwybod, ac yn sicr roedd yr Athro Diamond yn ei adolygiad yn cydnabod yr angen i ddenu graddedigion i fyw a gweithio yng Nghymru. Yn wir, fel rhan o'i waith, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gymell myfyrwyr i ddod â'u sgiliau i Gymru neu eu cadw yng Nghymru er budd Cymru, ac amlinellodd sut y dylai Llywodraeth Cymru ystyried caniatáu i fenthyciad gael ei ddileu yn rhannol ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn swyddi yng Nghymru ac sydd angen talu benthyciad. Ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros am weithredu pendant gan y Llywodraeth yn hynny o beth.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r newid yn y ffordd y caiff cyllid ei roi, wrth gwrs, o'r grant ffioedd dysgu i grant cynhaliaeth, ac rydym yn ymwybodol iawn fod y costau ymlaen llaw hynny'n rhwystr, neu fod y costau byw yn rhwystr i lawer rhag cael yr addysg brifysgol y maent ei heisiau. Ond rhaid inni fynd i'r afael â cholli sgiliau a gwybodaeth hanfodol o fewn economi Cymru, wrth inni weld pobl ifanc yn gadael i astudio mewn mannau eraill ac yn aml yn peidio â dychwelyd i Gymru.
Nawr, rydw i eisiau cydnabod bod y Llywodraeth, i raddau, wedi derbyn yr egwyddor fod angen gweithredu yn y maes yma, oherwydd fe allwn ni weld beth sy'n digwydd yng nghyd-destun cyllido graddau Meistr yn y flwyddyn nesaf. O beth rydw i'n ei ddeall, bydd y Llywodraeth yn darparu £3,000 i fyfyrwyr o Gymru i astudio yng Nghymru, a bydd hynny yn cael ei weithredu mewn gwahanol ddulliau mewn gwahanol brifysgolion yn y flwyddyn i ddod, ac wedyn, wrth gwrs, mi fydd yna ryw broses fwy unffurf ar draws Cymru, os ydw i wedi deall yn iawn, yn cael ei darparu o hynny ymlaen.
Ond mae eisiau i ni weld, felly—os ydym yn derbyn yr egwyddor yna, mae angen sicrhau ein bod ni'n dysgu'r gwersi wedyn ac yn gweld o safbwynt y data pa effaith mae y math yna o incentive yn ei gael ar benderfyniadau y cohort penodol yma. Fe fyddwn i'n licio clywed sut fydd Llywodraeth Cymru yn mesur effaith yr incentive yma ar y penderfyniadau mae'r myfyrwyr yma yn eu gwneud o safbwynt ble maen nhw yn gwneud eu Meistri. Wedyn, efallai, wrth gwrs, y byddai hynny yn cryfhau'r ddadl ynglŷn ag efallai estyn rhywbeth ar gyfer y cohort ehangach israddedig hefyd. Ond yn sicr, mae hynny hefyd yn rhywbeth roedd Diamond yn sôn amdano fe, fel roeddwn yn ei ddweud.
Ond wrth gwrs, nid Diamond yn unig sydd wedi wedi bod yn tynnu sylw at rai o'r materion hyn. O ran targedu bylchau sgiliau penodol, awgrymodd y gwerthusiad o rwydwaith Seren, a dyfynnaf,
'mae'r duedd at i lawr yn nifer yr ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio ar gyfer Meddygaeth yn awgrymu bod angen ymyrraeth wedi'i thargedu i gefnogi myfyrwyr sy'n ymgeisio am leoedd penodol, cystadleuol mewn prifysgolion.'
Ac argymhellodd y gwerthusiad hwnnw y dylid rhoi ystyriaeth i gytuno ar restr gyflawn flynyddol o adrannau a chyrsiau prifysgolion i'w cynnwys yn rhwydwaith Seren, a allai gynnwys yr holl gyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth a chyrsiau milfeddygol.
Nawr, mae targedu pobl ifanc ar gyfer y cyrsiau penodol hyn yn bwysig wrth gwrs, ond mae gwneud hynny ar y cyd â'r mathau o gymhellion y mae Diamond ac eraill wedi bod yn siarad amdanynt yn rhywbeth y credaf fod angen inni fynd ar ei drywydd. Byddai hynny hefyd yn cryfhau ein sefydliadau addysg uwch, wrth gwrs, yn yr ystyr y byddai'n sicrhau bod nifer fwy o fyfyrwyr yn eu sefydliadau. A pho fwyaf o fyfyrwyr y gallwn eu hannog i aros yng Nghymru, yn amlwg, nid yn unig y bydd hynny o fudd i'r sector addysg uwch, ond mae o fudd i economi Cymru yn ogystal.
Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae bron draean o'r holl raddedigion, a dwy ran o dair o'r rhai sy'n astudio'r gyfraith, yn mynd i swyddi sy'n talu llai nag £20,000 y flwyddyn, ac er bod graddedigion yn llai tebygol o fod yn ddi-waith, mae llawer ohonynt yn y pen draw yn gweithio mewn sectorau lle mae eu gradd yn amherthnasol. Rhaid inni sicrhau nad yw'r costau sy'n gysylltiedig â chael gradd yn fwy na'r manteision o astudio am flwyddyn neu fwy yn ychwanegol. Rhaid inni hefyd sicrhau bod y cyflenwad o gyrsiau prifysgol yn cyfateb i'r galw yn y farchnad swyddi. Wrth gwrs, dylai pobl ifanc fod yn rhydd i astudio beth bynnag y dymunant, ond dylent gael y ffeithiau i gyd, a dyna pam y galwn ar CCAUC i adolygu cyrsiau gradd o safbwynt enillion disgwyliedig a chyhoeddi'r canlyniadau. Dylai darpar fyfyrwyr feddu ar yr holl ffeithiau i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.
Hefyd, dylem ddefnyddio cyllid myfyrwyr i gymell pobl ifanc i astudio am raddau mewn pynciau lle y ceir prinder. Mae prinder enfawr yng Nghymru o feddygon teulu, nyrsys, radiograffyddion ac endosgopegwyr, ac eto nid ydym yn gwneud digon i annog mwy o bobl ifanc i mewn i'r meysydd hyn. Pe baem yn dileu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr meddygol, ar gyfer myfyrwyr nyrsio a rhai sy'n astudio pynciau STEM, byddem yn cymell mwy o bobl i ddod yn radiograffyddion neu endosgopegwyr. Byddai mwy o bobl ifanc yn ystyried dod yn feddygon neu nyrsys pe baent yn cael eu rhyddhau o ddyled myfyrwyr. Mae prinder mewn sawl maes yn ein GIG, a thrwy gael gwared ar ffioedd dysgu, gallem annog pobl ifanc i astudio ar gyfer gradd briodol, yn hytrach na wynebu'r risg o faich dyled a swydd ar gyflog isel ar ddiwedd blynyddoedd o waith caled ac astudio.
Hefyd mae gennym brinder gofalwyr ac amrywiaeth o alwedigaethau o fewn ein sector iechyd a gofal lle nad oes angen gradd. Rhaid inni estyn allan at bobl ifanc a thynnu sylw at y ffaith nad oes angen gradd i gael swydd dda bob amser. Rhaid inni roi cymaint o bwyslais ar hyfforddiant galwedigaethol ag a wnawn ar addysg uwch. Mae ein system addysg i fod i arfogi pobl ifanc â'r sgiliau i gael mynediad at y farchnad lafur. Rydym yn gwneud cam â llawer o bobl ifanc drwy ganolbwyntio ar addysg uwch yn unig. Rhaid inni arfogi pobl ifanc â'r sgiliau cywir a'r darlun cyfan o ran y farchnad lafur. Rydym angen mwy o feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, rhaglenwyr cyfrifiadur a dadansoddwyr data, nid rhagor o bobl ifanc gyda gradd yn y gyfraith, miloedd o bunnoedd o ddyled ac sy'n ennill llai na'r cyfartaledd cenedlaethol o ran enillion graddedigion.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ger eich bron heddiw, fel y gallwn roi camau ar waith i sicrhau ein bod yn cymell pobl ifanc i astudio pynciau lle bydd galw am eu sgiliau ac y cânt eu gwobrwyo'n unol â hynny. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roeddwn yn synnu rhywfaint, ond wrth fy modd serch hynny, yn cael testun y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP ar gyfer y ddadl y prynhawn yma oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo ymagwedd arloesol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, ac i dynnu sylw at ddiffygion ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at gymorth i fyfyrwyr yn Lloegr. Mae hefyd yn dangos sut y byddai UKIP yn hoffi troi Cymru'n genedl sydd ond yn darparu cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd â'r mwyaf o adnoddau, a phan agorodd Michelle Brown y ddadl hon drwy ddweud nad oedd yn ymwneud â mynediad neu degwch, wrth gwrs nad ydyw: nid yw byth yn ymwneud â mynediad neu degwch i UKIP. Yn wir, rwy'n amau a ydynt yn gwybod ystyr y geiriau.
Rwy'n falch felly, Lywydd, o ddechrau gyda chrynodeb o'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ym mis Medi eleni. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i adolygiad annibynnol o gymorth i fyfyrwyr ac addysg uwch, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond, a groesawyd gan brifysgolion, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a llawer o randdeiliaid ar draws y genedl.
Bydd y system newydd yn darparu'r canlynol: system deg a blaengar o gymorth sy'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio—o dan y system hon, bydd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael y cymorth mwyaf gan y Llywodraeth hon; hawl gyffredinol i grant o £1,000 y flwyddyn ar gyfer pob myfyriwr, yn ogystal â hawl i ddiddymiad rhannol o hyd at £1,500 oddi ar fenthyciadau cynhaliaeth pan fydd myfyrwyr yn dechrau ad-dalu eu benthyciad; model ariannu cynaliadwy ar gyfer addysg uwch a chyllid myfyrwyr; ac ateb synhwyrol a chynaliadwy i gynyddu'r cyllid a ddarperir ar gyfer pynciau STEM. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cymorth cyfartal i israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser ac amser llawn—y cyntaf o'i fath yn y DU; yn wir, y cyntaf o'i fath yn Ewrop—a mwy o arian i'r sector addysg uwch, fel y gall weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis ehangu pynciau drud, ehangu darpariaeth ran-amser, buddsoddi mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd, ehangu trosglwyddo gwybodaeth ac ehangu mynediad at addysg uwch.
Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau ar y trefniadau cymorth i fyfyrwyr meddygol a gofal iechyd, ac rwyf wedi dychryn braidd fod Aelodau UKIP i'w gweld yn gwbl anymwybodol o'r cynllun bwrsariaeth GIG presennol sy'n cefnogi nid yn unig ein nyrsys, ond amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ac efallai yr hoffai UKIP edrych ar ymgynghoriad presennol y Llywodraeth ar ddyfodol y trefniadau hyn. [Torri ar draws.] Darren.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n cydnabod bod cynllun bwrsariaeth ar gael, ond wrth gwrs, nid yw'r cynllun presennol yn ad-dalu costau pobl ifanc sy'n mynd i brifysgol yn llawn. Credaf mai dyna'r gwahaniaeth yma, a buaswn yn eich annog, fel Llywodraeth, i edrych ar y cyfle ar gyfer ad-daliad llawn o gostau dysgu ac unrhyw gostau ychwanegol sy'n wynebu pobl ifanc sy'n mynd i brifysgol yn gyfnewid am gontract hyfforddi. A dyna'r peth rwy'n credu: rhaid i chi gael yr ailfuddsoddi hwn yn ôl yn y gwasanaeth iechyd yn gyfnewid.
Wel, wrth gwrs, mae'r rhai sy'n derbyn bwrsariaeth GIG Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio yn GIG Cymru, ac rwy'n ystyried ehangu hynny, er enghraifft, o ran lleoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr addysg, a ariannir gennym. A hoffwn nodi, Darren, nad wyf am gymryd pregeth gan wleidydd Ceidwadol am fwrsariaethau nyrsio a ninnau wedi gweld dinistrio addysg nyrsys dros y ffin oherwydd bod eich Llywodraeth wedi diddymu'r cynllun bwrsariaeth nyrsio. [Torri ar draws.]
Nawr, os caf fwrw ymlaen, Lywydd. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus—y camau nesaf,' sy'n amlinellu'n fwy manwl ein cynigion ar gyfer strwythur a gweithrediad y comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol newydd ar gyfer Cymru. Mae'r dull hwn o weithredu gryn dipyn yn wahanol i'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr Lloegr. Yn Lloegr, ni cheir unrhyw grantiau cynhaliaeth, mae llai o gymorth cyffredinol ar gael, a myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf sydd â'r lefel uchaf o ddyled. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, un rhan yn unig o'n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio er mwyn priodi tegwch a rhagoriaeth yn ein system addysg yw sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ar gyfer myfyrwyr a sefydliadau addysg uwch. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn rhoi camau ar waith mewn pedair thema wahanol, gan ddarparu cymorth cyflogaeth ar gyfer yr unigolyn, pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i gefnogi staff, cau'r bwlch sgiliau a pharatoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid yn sylfaenol.
Mae cymorth unigol yn rhoi annibyniaeth i gynghorwyr a hyblygrwydd i fynd i'r afael ag anghenion, cryfderau a dyheadau unigolion i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion a Gyrfa Cymru i nodi sut y gallant annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau a fyddai o fudd iddynt ac o fudd i economi Cymru. A byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn gadw myfyrwyr a hyfforddwyd yng Nghymru i aros yng Nghymru, neu annog y rhai sy'n hyfforddi mewn mannau eraill i ddychwelyd.
Cyn dilyn cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, mae'n bwysig fod myfyrwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith a'r potensial ennill cyflog ar ddiwedd eu cwrs. Ac unwaith eto, rwy'n synnu braidd nad yw llefarydd UKIP i'w gweld yn gwybod am y data canlyniadau addysg hydredol. A dweud y gwir, Lywydd, fe anfonaf y ddolen ati fel y gall weld y data drosti ei hun.
Mae gan addysg bellach ac uwch yng Nghymru lawer iawn i fod yn falch ohono a dylem fachu ar bob cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiant pan fyddwn yn ei weld. Mae'r heriau sydd bellach yn wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru, a gweddill y DU yn wir, yn fwy sylweddol nag y buont erioed o bosibl. Credwn fod ymagwedd gydweithredol wedi'i chynllunio tuag at addysg uwch yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd a wynebwn yng Nghymru; mae'n fwy effeithiol ar gyfer adeiladu ar gryfderau sefydliadol presennol ac yn decach wrth gyflawni canlyniadau i fyfyrwyr a'r gymdeithas yng Nghymru.
Darren, gallaf gadarnhau ein bod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i CCAUC ar gyfer buddsoddi a datblygu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig ym maes TGCh, cyfrifiadureg a pheirianneg.
I gloi, Lywydd, fel Llywodraeth, mae gennym weledigaeth gynhwysfawr, gynhwysol ac arloesol ar gyfer dyfodol addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru sy'n cynnwys cryfhau strwythur, cyflwyniad ac ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach; gwella ein sylfaen ymchwil a'n gallu ymchwil; gwella arweinyddiaeth a llywodraethu ar lefel sefydliadol a chenedlaethol; trefniant newydd ar gyfer cyllid a chymorth i fyfyrwyr sy'n gyson â'n darpariaeth wedi'i chynllunio; a chreu sector addysg uwch ac addysg bellach sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr ac yn diwallu anghenion a disgwyliadau myfyrwyr ac yn gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy groesawu adolygiad Llywodraeth y DU o addysg ôl-18, a hoffwn wahodd y panel adolygu i ystyried y dull blaengar, teg a chynaliadwy a fabwysiadwyd gennym yma yng Nghymru.
Galawf ar Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl. Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at ddadl go fywiog. Fe gynhesodd rywfaint ar y diwedd, ond roedd yn ddiddorol ar ei hyd, rhaid imi bwysleisio hynny.
Michelle Brown a agorodd y ddadl. Soniodd am y diffyg gwybodaeth berthnasol i ddarpar fyfyrwyr pan fyddant yn mynd drwy'r system ysgolion a diffyg gwybodaeth ynghylch pethau fel cymharu cyrsiau a manylion cyflogau tebygol—y math o wybodaeth y byddwch eisiau i ddarpar fyfyrwyr allu ei chael fel y gallant gymharu prifysgolion gwahanol, a gwahanol gyrsiau. Mae hyn yn sicr yn beth da. Yn amlwg, nododd y Gweinidog y pwynt hwn yn ei chyfraniad ar y diwedd, felly fe af ar ôl yr hyn a ddywedodd pan fyddaf yn crynhoi ei sylwadau. Felly, nodwyd y pwynt hwnnw gan Michelle, sy'n dweud nad oes digon o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd drwy'r system—darpar fyfyrwyr prifysgol. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn dechrau mynd i'r afael â hyn, felly arhoswn i weld y datblygiadau yn y cyfeiriad hwnnw.
Pwyntiau eraill a wnaeth Michelle: nid yw'r system benthyciadau myfyrwyr yn gynaliadwy yn ariannol gan nad yw'r enillion y mae graddedigion yn eu cael yn awr fel y rhagwelwyd pan fodelwyd y cynlluniau hyn yn ôl yn y 1980au, felly, i bob pwrpas, bydd yn rhaid dileu llawer o fenthyciadau yn y tymor hir. Pwynt arall a wnaed oedd bod dyledion myfyrwyr yn cynyddu'n gyflym, ac mae'n bosibl mai dyma'r ffurf fwyaf ar ddyled sydd gennym yn y DU, neu o leiaf mae'n fwy na llawer o fathau o ddyled yr arferid eu hystyried o'r blaen yn beryglus, megis dyledion cardiau credyd ac ati. Rydym bellach yn cyrraedd y lefelau peryglus hynny gyda dyled benthyciadau myfyrwyr. A'r pwynt arall a wnaed oedd nad oes digon o swyddi graddedigion i'w cael, felly mae gennym ormod o fyfyrwyr yn graddio bellach ac nid oes swyddi graddedig sy'n talu'n dda ar eu cyfer. Buaswn yn ychwanegu ei bod yn broblem yn y DU yn gyffredinol ac nid yng Nghymru'n unig.
Darren Millar: credaf ei fod yn cytuno'n fras â llawer o'r pwyntiau a wnaed gennym ni. Canolbwyntiodd hefyd ar fater y draen dawn—gormod o raddedigion yn gadael Cymru. Ond wrth gwrs, mae hynny hefyd yn gysylltiedig, ac rwy'n siŵr ei fod wedi gwneud y cysylltiad hwn yn fwriadol, â'r prinder swyddi graddedig da yng Nghymru, oherwydd soniodd am yr ystadegau fod 40 y cant o raddedigion o Gymru sy'n aros yma yn mynd i swyddi nad ydynt yn swyddi ar gyfer graddedigion, gan arwain at y term anffodus sydd gennym heddiw—ni chrybwyllodd y term—sef GINGO: pobl raddedig mewn galwedigaethau nad oes angen gradd i'w gwneud. Gwnaeth Darren bwynt da arall: pwysleisiodd rôl colegau addysg bellach o ran y modd y maent yn rhyngweithio â busnesau, gan fod ganddynt gysylltiadau gwell, yn draddodiadol, gyda'r sector preifat. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig. Cyfeiriwyd at fwrsariaethau ar gyfer nyrsys fel ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Ceidwadwyr yn y gorffennol, a hefyd nodwyd yr angen am brentisiaethau lefel uchel yng Nghymru, ac roedd pawb yn cytuno â hynny. Nid yw hynny yn ein pwyntiau, ond rydym yn cytuno.
Roedd Llyr Gruffydd dros Blaid Cymru yn cydnabod bod y mater yn bwysig iawn wir. Nododd ystadegau sy'n dangos bod y bwlch sgiliau mewn meddygaeth yng Nghymru yn tyfu a bod angen i Lywodraeth Cymru wneud asesiad o ystadegau myfyrwyr ar ymyrraeth wedi'i thargedu i weld pa mor dda y mae hynny'n gweithio. Gallai hynny gynnwys pethau fel deintyddiaeth a chyrsiau milfeddygol ar gyfer cyllid ychwanegol i fyfyrwyr, ac rydym yn cytuno â'r syniadau hynny. Byddem yn cefnogi'r mentrau hynny'n fras, fel yn wir y byddem yn cefnogi galwad Plaid Cymru yn y gorffennol am goleg meddygol yng ngogledd Cymru—pethau felly. Mae'r rhain yn bethau pwysig y dylai Llywodraeth Cymru feddwl amdanynt.
Soniodd Caroline ein bod angen i CCAUC adolygu'r holl wybodaeth sy'n ymwneud â graddedigion a chyhoeddi'r canlyniadau fel bod gennym drosolwg tryloyw o ganlyniadau graddedigion sy'n gadael cyrsiau a beth fydd eu henillion tebygol. Hefyd, nododd Caroline y prinder arbenigwyr GIG mewn amryw o ddisgyblaethau yng Nghymru, nid meddygon a nyrsys yn unig, a gellir mynd i'r afael â hyn drwy ddiddymu ffioedd dysgu yn y meysydd penodol hyn. Mae angen annog pobl ifanc, unwaith eto, i addysg alwedigaethol hefyd, a dau fater a ddaeth i'r meddwl o gyfraniad Caroline—yr ymadrodd 'parch cydradd', y gwn fod y Gweinidog wedi'i ddefnyddio, ac mae Gweinidogion eraill wedi'i ddefnyddio yn ddiweddar, felly mae angen i hynny fod yn rhywbeth ystyrlon, nid geiriau'n unig; ac rwy'n credu bod angen inni adolygu'r cyngor gyrfaoedd a roddir i ddisgyblion ysgol wrth iddynt fynd drwy'r system, ac efallai fod angen i swyddogion gyrfaoedd ryngweithio mwy â cholegau addysg bellach a'r ochr alwedigaethol, fel bod myfyrwyr ysgol yn cael eu cyfeirio i'r sianeli hynny, yn hytrach na chael eu cyfeirio tuag at brifysgolion bob amser.
Nawr, bwriodd Gweinidog y Llywodraeth, Kirsty Williams, ati i wrthod ein cynigion a dywedodd fod polisau'r Llywodraeth yn gweithio. Nododd adroddiad Diamond a'r croeso iddo gan y gwahanol randdeiliaid yn y sefydliad addysg, ond wrth gwrs, mae llawer o'r bobl yn y sefydliad addysg yn hoffi'r syniad o sianelu mwy a mwy o fyfyrwyr i addysg uwch, felly efallai fod honno'n elfen a fethwyd gennych. Pwysleisiodd y ffaith hefyd mai'r myfyrwyr lleiaf cefnog fydd yn cael y cymorth mwyaf, ond mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio mwy ar gael mwy o fyfyrwyr i mewn i addysg uwch. Holl bwynt ein dadl heddiw yw nad yw ehangu addysg uwch yn gweithio.
Hefyd cawsom ychydig—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig o—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig o anghydweld—. Cawsom ychydig o anghydweld ynglŷn â thryloywder gwybodaeth. Mae'r Gweinidog wedi gwneud achos nad oes digon o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr. Heriodd Darren Millar hynny yn ei ymyriad, felly mae hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno'n fanylach mewn fforwm arall. Diolch ichi eto, bawb, am gyfrannu at y ddadl, a diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a heblaw fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, dyma ni'n symud i'r bleidlais gyntaf.
Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adnewyddu trefol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6734 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 18, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, ac, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, un yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6734 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 sydd nesaf, felly. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwyf yn arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Ac felly gwrthodwyd y gwelliant.
NDM6734 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6734 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.
2. Yn nodi pwysigrwydd cefnogi cymunedau ledled Cymru,rhai trefol a gwledig, i sicrhau eu bod yn ddeniadol i fuddsoddi, gweithio, byw, ymweld ac astudio ynddynt.
3. Yn credu bod cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio, trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau.
4. Yn nodi bod Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt.
5. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a thwf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i hyrwyddo’r broses o greu lle.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, 12 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.
NDM6734 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar sefydlu cwmni ynni cyhoeddus. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6735 - Dadl y Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, dau yn ymatal, 11 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6735 - Dadl y Plaid Cymru - Gwelliant 1: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 2
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6735 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r
cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi 'creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym mhob rhanbarth'.
3. Yn nodi bod y gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i archwilio dulliau eraill o sicrhau manteision i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
4. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan o’r broses o droi at economi carbon isel.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, pedwar yn ymatal, naw yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.
NDM6735 - Dadl y Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 9, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Y bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar gyllid prifysgolion. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6731 - Dadl y UKIP - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 6, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rydw i’n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6731 - Dadl y UKIP - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Pleidlais, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6731 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi 2016.
2. Yn nodi i Adolygiad Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol.
3. Yn croesawu’r pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol—y cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.
NDM6731 - Dadl y UKIP - cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Rŷm ni’n symud ymlaen i’r ddadl fer—felly, os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, os ydych yn dymuno gadael, er mwyn i’r ddadl fer gael cychwyn. Rydw i’n galw ar Neil McEvoy i gyflwyno’r ddadl fer.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rydw i’n sefyll yma fel Cymro sy’n ymladd dros ddemocratiaeth yma yng Nghymru.
Mae ar Gymru angen Senedd y bobl, un sofran sy'n deddfu er lles cenedlaethol Cymru. Mae'n hen gysyniad a elwir yn ddemocratiaeth. Yn y ddadl hon mae gennym ddemocratiaeth uniongyrchol ar waith. Roeddwn am i'r cyhoedd benderfynu beth y dylid ei drafod heddiw, felly, ar gyfryngau cymdeithasol gofynnwyd i etholwyr ddweud wrthym beth yr oeddent am ei drafod. Cafwyd llwyth o sylwadau diddorol gan etholwyr, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. Siaradodd George Atkinson am yr angen i ddatganoli'r cyfryngau a phlismona; mae Chris Piper eisiau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o awdurdod ym maes cyfraith a threfn; mae Matt Davies a Sue Fortune eisiau gweld gwell cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru; ac mae Joanne Davies yn galw am waharddiad ar gynhyrchion nad ydynt yn fioddiraddadwy. Roeddent oll yn awgrymiadau gwych. Ond daeth y sylw mwyaf poblogaidd gan y Welsh Independence Memes for Angry Welsh Teens —ac mae gennym rai o'r rheini yma weithiau. Roeddent am drafod Cymru sofran.
Felly, teitl y ddadl heddiw yw 'Cymru sofran: adeiladu'r wlad falch, sofran ac unedig y gall Cymru fod ac y dylai fod'. Hoffwn ychwanegu heddiw, 'y genedl fydd Cymru'. Cefais fy nghynghori gan yr adran ymchwil nad oes unrhyw gofnod o drafodaeth ffurfiol ar sofraniaeth Cymru yn y Cynulliad hwn cyn hyn. Wel, mae'n hen bryd, onid yw? Rwy'n falch o fod yr AC cyntaf i gyflwyno dadl fer ar sofraniaeth Cymru, ac rwy'n fwy balch byth mai'r cyhoedd a roddodd hyn ar yr agenda heddiw. Mae ymgyrchu ar lawr gwlad yn hanfodol i ddemocratiaeth yng Nghymru, a dyna pam rwyf fi yma.
Mae ymraniad mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw rhwng y rhai sy'n gweld Caerdydd fel ein prifddinas ddihafal a'r rhai sy'n gweld Llundain felly. Gwn lle rwy'n sefyll. Mae gan Gymru hanes gwych. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop i gael system cyfraith sifil o dan Hywel Dda mor bell yn ôl â'r ddegfed ganrif. Roedd Owain Glyndŵr, y gweledydd mawr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, yn gweld Cymru fel gwlad â lle iddi yn y byd, gyda Senedd a sefydlodd ymhell cyn i Seneddau ddod yn norm. Yn ystod y chwyldro Americanaidd, roedd mwy o lofnodwyr y datganiad annibyniaeth yn hanu o Gymru nag o unrhyw wlad arall. Terfysgoedd Beca yn y gorllewin: ar y diwrnod hwn yn 1839, dinistriwyd y tollborth yn Efailwen. Cawsom wrthryfel Merthyr a'r Siartwyr yng Nghasnewydd—Cymry bob un yn awchu am sofraniaeth.
Rwy'n credu mewn sofraniaeth, ac rwyf am fyw mewn Cymru sofran, lle rydym yn sofran fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl. Mae sofraniaeth yn golygu dod â llywodraethu yn agosach at y bobl, gwneud Llywodraeth yn beiriant ar gyfer dymuniadau a dyheadau pobl. Mae Llywodraeth dda, democratiaeth dda, yn ffordd o sianelu syniadau ac egni pob un ohonom. Nid corff oeraidd sydd ond yn dweud wrth bobl beth i'w wneud ydyw. Mae pawb yma yn berchen ar dŷ, ond a oes unrhyw un yma yn gadael i'w cymydog drws nesaf reoli eu cyllideb, cadw eu cyflogau, rhoi'r arian mewn cyfrif banc na allwch gael mynediad ato, gwrthod gadael i chi siarad â'ch cymdogion, a siarad â'ch cymdogion ar eich rhan? Wrth gwrs nid yw hyn yn digwydd ar lefel unigol, felly pam rydym yn caniatáu iddo ddigwydd ar lefel genedlaethol?
Gall Cymru sefyll ar ei thraed ei hun, ond yn fwy na hynny, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i lywodraethu ein gwlad ein hunain. Ceir 100 o genhedloedd sofran yn y byd sy'n llai na Chymru. Mae gan bump allan o 10 o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn y byd boblogaeth lai na Chymru. Mae gan bob un o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn 10 uchaf y byd boblogaeth o dan 6 miliwn, ac mae gan saith gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd boblogaeth lai na ni yng Nghymru. Yng Nghymru, oherwydd bod ein heconomi'n wael, rhaid i'n pobl ifanc dalentog ac economaidd weithgar adael. Yn eu lle daw pobl hŷn, economaidd anweithgar oherwydd bod Cymru'n lle rhatach a harddach ar gyfer ymddeol.
Y peth gorau y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn yw dod yn gyfoethog. Bydd Senedd Cymru sofran yma yng Nghaerdydd yn galluogi Cymru i ddod yn gyfoethog. Mae sofraniaeth yn broses sydd eisoes wedi dechrau. Rhaid inni ddal ati ac ysgwyddo rhagor o bwerau, a herio San Steffan. Gallai Cymru sofran gael trethi teg, gyda threth gwerth tir. Gallem ddeddfu ar ddosbarthiad tir radical a theg. Gallem gynhyrchu incwm ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru gyda threth dwristiaeth. Gallai Senedd wirioneddol sofran rymuso pobl i greu busnesau a gwneud yn siŵr fod modd gwneud busnes yn hawdd a chyflym yng Nghymru. Gellid ystyried isafswm incwm o ddifrif. Gallem ofalu am angen a pheidio â chosbi pobl am fod yn dlawd.
Rydym yn bobl mor entrepreneuraidd. Cafwyd y cytundeb £1 miliwn cyntaf ar y blaned yng Nghaerdydd, dafliad carreg o'r Cynulliad hwn, yn yr hen Gyfnewidfa Lo. Yn y gorffennol, pan oedd ein plant angen addysg, ni oedd y cyntaf i sefydlu ysgolion—Griffith Jones a'i ysgolion cylchynol enwog, a sicrhaodd mai Cymru oedd y wlad fwyaf llythrennog yn y byd erbyn 1761. Hefyd, sefydlodd gweithwyr sefydliadau ledled ein cenedl, gyda theatrau a llyfrgelloedd, a ffyrdd o helpu ei gilydd. A phwy all anghofio llwyddiant glofa'r Tŵr yn y cyfnod modern—pobl yn dod at ei gilydd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn bachu ar eu cyfle ac yn llwyddo. Roedd glofa'r Tŵr wedi'i dynghedu i gau hyd nes i'r gweithwyr gymryd meddiant arno fel cwmni cydweithredol, a gwnaeth elw am flynyddoedd. Nid oes unrhyw un yn mynd i newid Cymru ar ein rhan; rhaid inni ddod at ei gilydd a'i wneud ein hunain.
Mae'r sefyllfa ôl-Brexit ar gyfer ffermio yng Nghymru yn edrych yn llwm. Gallai senedd sofran gymryd yr awenau drwy wneud canabis yn ddiwydiant tyfu newydd. Mae cymaint o ffyrdd o ddefnyddio'r planhigyn yn feddyginiaethol, ac mae'n ddiwydiant sy'n dod i'r amlwg mewn sawl rhan o'r byd. Gallai Cymru sofran reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain, ac yn hollbwysig, gallai gael incwm ohonynt. Cefais ddigon ar weld ein hadnoddau naturiol yn cael eu hysbeilio a'u rhoi ymaith. Caiff ein dŵr ei gymryd a'i werthu yn ôl i ni. Caiff ein tai eu prynu'n un fflyd a'u rhentu yn ôl i ni. Mae'n bryd cael economi gylchol, cael lleoliaeth, a rhoi diwedd ar neoryddfrydiaeth a diwedd ar galedi.
Mae Estonia sofran newydd gyflwyno teithio am ddim i bawb yn y wlad honno. Pam? Am fod 75 y cant o'r boblogaeth wedi pleidleisio o'i blaid. Daw sofraniaeth ag opsiynau yn ei sgil. Yng Nghymru ar hyn o bryd, nid oes gennym bŵer hyd yn oed i sicrhau bod ein plant yn gallu teithio i'r ysgol yn ddiogel, oherwydd ni allwn ddeddfu ar roi gwregysau diogelwch ar fysiau gwasanaeth. Byddai gan Gymru sofran awdurdodaeth gyfreithiol annibynnol. A byddai gan bawb ran mewn Cymru sofran, byddai gan bob dinesydd hawliau a chyfrifoldebau, gyda chydraddoldeb radical i bawb. Mae gan bob talaith yn UDA gyfansoddiad, felly pam na chaiff Cymru un? Gellid seilio'r system cyfiawnder troseddol ar degwch ac adsefydlu—dim carcharu mawr, llai o garcharorion, ond cadernid pan fo angen.
Gallai Cymru sofran gael rheolaeth dros bolisi ynni. Rydym eisoes yn fwy na hunangynhaliol gyda thrydan. Gallem fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, morlynnoedd llanw—nid niwclear—a gallem allforio trydan, unwaith eto gan sicrhau elw. Gallai Senedd Cymru sofran greu chwyldro gwyrdd gydag ynni, ynni glân, sy'n costio ceiniogau inni bob mis yn hytrach na'r ffortiwn fach y mae'n ei gostio nawr. A byddai hynny'n cael effaith ganlyniadol o ran gwneud ein diwydiannau a'n busnesau yn fwy cystadleuol. Gallai Cymru sofran ailddyfeisio ac adfywio mwyngloddio, ond mewn ystyr rithiol, drwy fwyngloddio arian digidol, gan wneud elw mewn diwydiant newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae gan Gymru gymaint o botensial. Rydym yn genedl gref a gwydn, fel y profodd yr 800 mlynedd diwethaf. Yn yr ynysoedd hyn, mae angen inni droi democratiaeth ar ei ben—o'r gwaelod i fyny yn lle o'r brig i lawr. Dylem alluogi seneddau sofran yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gyda democratiaeth bellach yn dod i'r amlwg drwy'r seneddau hynny: adnewyddu democrataidd o gymunedau i fyny, datganoledig eu natur. Ar rai materion, byddai'n gwneud synnwyr i'n gwledydd rannu sofraniaeth, ond mater i bobl y gwledydd hynny fyddai penderfynu hynny.
Fe ddof i ben gyda stori am daith bws yr euthum arni yng Ngwlad yr Iâ, lle roeddem yn pasio mynyddoedd. Gallwn eu gweld ar y chwith, a chododd y tywysydd y meicroffon i egluro mai Gwlad yr Iâ, yn 1935, oedd y wlad dlotaf yn Ewrop. Roeddent mor dlawd bryd hynny fel bod pobl yn byw mewn ogofâu yn y mynyddoedd y pwyntiai atynt. Ond wedyn, eglurodd, yn 1944, daeth Gwlad yr Iâ yn wlad sofran, gan roi diwedd ar dra-arglwyddiaeth Denmarc. A dywedodd, fod ganddynt lywodraeth yng Ngwlad yr Iâ bryd hynny yn gwneud penderfyniadau er budd pobl Gwlad yr Iâ, yn cynllunio ar gyfer Gwlad yr Iâ ac nid Denmarc. Dywedodd gyda balchder mai Gwlad yr Iâ bellach yw un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. Nawr, ni chredai neb ar y bws hwnnw fod y fenyw yn genedlaetholwr, ac nid oedd hi'n honni mai dyna oedd hi. Dynes normal oedd hi, dynes a oedd eisiau'r gorau i'w theulu, i'w chymuned ac i'w gwlad, fel y pob un ohonom sy'n credu mewn sofraniaeth i Gymru. Diolch yn fawr.
Credaf eich bod wedi rhoi munud o'ch amser i Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, oherwydd credaf yn gryf fod y sylfeini yno ar gyfer cenedl sofran yma yng Nghymru. Rydym wedi treulio'r rhan orau o awr y prynhawn yma yn trafod pa mor gyfoethog ydym ni yma yng Nghymru o ran ynni. Rydym yn allforio trydan. Rydym yn cynhyrchu ddwywaith cymaint ag a ddefnyddiwn, ac eto wrth gwrs rydym yn gorfod talu mwy am ein trydan ein hunain nag eraill yn y DU. Yn yr un modd gyda dŵr; rydym yn genedl sy'n gyfoethog o ran dŵr ond mae'r dŵr rydym yn ei allforio yn rhatach yn y pen draw i'r rhai sy'n defnyddio dŵr Cymru nag a dalwn amdano ein hunain mewn gwirionedd.
Rydym yn genedl sy'n gyfoethog o ran bwyd yn ogystal. Mae oddeutu 95 y cant o arwynebedd tir Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae gennym hinsawdd i allu manteisio i'r eithaf ar y potensial hwnnw, ac eto rydym yn gweld banciau bwyd yn codi ledled y wlad a gwelwn y BMJ yn rhybuddio mai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn y DU o bosibl fydd diffyg maethiad ymhlith plant—mewn gwlad sy'n gyfoethog o ran bwyd. Nawr, beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym am y sefyllfa sydd ohoni?
Ond beth, hefyd, y mae'n ei ddweud wrthym am y potensial sydd gennym fel cenedl? Cyfoethog o ran ynni, cyfoethog o ran dŵr, cyfoethog o ran bwyd: arian cyfred y dyfodol. Mae rhyfeloedd yn cael eu hymladd o gwmpas y byd am yr asedau hyn, ac mae digonedd ohonynt gennym, ac mae hynny'n golygu y gallwn sefyll gyda balchder ar ein traed ein hunain a pheidio â gorfod derbyn pobl yn dweud wrthym ein bod yn rhy fach neu'n rhy dlawd.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Lywydd. Roeddwn yn cytuno â llawer yn araith Neil McEvoy, ac a dweud y gwir doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Ond rhestrodd nifer fawr o bethau rwyf innau hefyd yn cytuno'n sylfaenol â hwy, ac roeddwn yn cytuno'n sylfaenol â llawer a ddywedodd Llyr hefyd. Ond rydym yn anghytuno'n sylfaenol yn wleidyddol ynghylch annibyniaeth. Nid wyf yn cytuno y byddai Cymru'n well yn annibynnol. Rwyf o'r farn, fel y mae Llywodraeth Cymru, fod llwybr datganoli o fewn y Deyrnas Unedig, ac o fewn Ewrop pe bawn yn cael dewis, yn ffordd well. Ond yn y bôn, cytunaf yn sylfaenol gyda llawer o'r syniadau a gyflwynwyd yn yr araith, ac yn enwedig gyda barn gadarn Llyr ynghylch ynni a dŵr.
Barn gadarn iawn Llywodraeth Cymru yw bod y setliad datganoli yn broses, a bod llawer iawn mwy i'w wneud o ran yr hyn y gall Cymru ei benderfynu yma. Ond rwy'n credu yn y bôn fod bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig o fudd i'n heconomi mewn ffyrdd sylfaenol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae o fudd i'n heconomi yn deillio o'r ffaith ei bod bob amser wedi bod yn ailddosbarthol. Cyfrannodd Cymru swm enfawr o'i chyfoeth i lwyddiant y Deyrnas Unedig, ac yn enwedig Llundain a de-ddwyrain Lloegr fel y prif ganolfannau masnachu dros y blynyddoedd, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y dylai llawer o'r llwyddiant hwnnw gael ei ailddosbarthu yn ôl i Gymru pan fo'i angen.
Credaf mai dyna'r gwahaniaeth gwleidyddol sylfaenol. Nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r pwyntiau sy'n ymwneud â dŵr ac ynni. Mae'r Llywodraeth yma yn awyddus iawn i gael y pwerau angenrheidiol i wneud llawer o bethau gwirioneddol ddiddorol, arloesol, a derbyniol yn gymdeithasol gyda phŵer a dŵr. Rhestrodd Neil McEvoy nifer o bethau yr oeddwn yn cytuno ag ef yn eu cylch o ran yr hyn y gallem ei wneud yng Nghymru, a buaswn yn dweud, mewn gwirionedd, ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r pethau y mae Neil McEvoy yn eu rhestru. Rwy'n siŵr na fydd yn cytuno â mi ynglŷn â hynny, ond credaf, er enghraifft, ein bod wedi cael llwyddiant mawr gyda mewnfuddsoddi yma, ac mae llawer iawn o'r llwyddiant hwnnw yn deillio o'r ffaith ein bod yn gallu ymateb i anghenion busnesau'n gyflym ac yn sydyn—un o'r pethau a grybwyllwyd gennych, er enghraifft.
Cawsom nifer o lwyddiannau eraill, Lywydd, ac rwy'n meddwl y byddai llawer o bobl yn yr ystafell hon yn awr, a'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, yn cytuno â hynny. Ond nid yw'r cyhoedd ehangach yng Nghymru wedi cytuno mewn polau piniwn blaenorol—er y cytunaf nad yw wedi'i gyflwyno mewn refferendwm—y byddai annibyniaeth yn fuddiol i Gymru ar hyn o bryd. Credaf fod y dull datganoli wedi bod yn wych hyd yn hyn. Roeddwn yn gadarn o'i blaid pan fethodd yn ôl yn y 1970au, ac rwy'n dangos fy oed yn y fan hon, ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd datganoli ei le haeddiannol o'r diwedd yma yng Nghymru gyda sefydlu'r Cynulliad. Mae'r daith hyd yma wedi bod yn un dda. Ceir problemau gyda'r setliad datganoli presennol ac rydym oll yn gyfarwydd â hwy—yr ymylon brau ynghylch ynni, rhai o'r pethau dŵr y mae pobl wedi'u hawgrymu, rhai o'r materion a awgrymodd Neil McEvoy mewn perthynas â theithio, er enghraifft, a rhai o'r problemau lle mae'r setliad yn anodd ei ddeall ar gyfer pobl Cymru, ynglŷn â pham y gallwn ac na allwn wneud rhai pethau.
Lywydd, gwn eich bod yn frwd iawn ynglŷn â'r comisiwn cyfiawnder rydym yn edrych arno. Fel y gŵyr pawb, mae'r Llywodraeth wedi gofyn inni ystyried datganoli polisi cyfiawnder troseddol yn arbennig, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny fy hun, oherwydd mae'r hyn y bu modd ei wneud yn yr Alban ynghylch polisi dedfrydu ac adsefydlu troseddwyr yn wirioneddol ddiddorol. Felly, pan allwch gamu'n ôl oddi wrth beth o'r polisi dedfrydu sydd gan Lywodraeth Dorïaidd bresennol y DU, y credaf ei fod yn hynod annoeth ac y dengys yr holl dystiolaeth nad yw'n gweithio, a chyrraedd system sy'n llawer mwy blaengar yn gymdeithasol, fe gewch ganlyniad llawer gwell ar gyfer eich pobl. Hoffwn yn fawr iawn weld hynny'n cael ei ddatganoli.
Ond mae gennym bethau llwyddiannus o ran polisi tramor yn ogystal—ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica lwyddiannus. Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael cysylltiadau cryf â gwledydd ledled Affrica is-Sahara, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog pobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau yn ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a pheidio â gwrthod y cyflawniad hwnnw a dechrau eto.
Rydym yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn undeb y Deyrnas Unedig, ac rydym yn parhau i fod yn gyfranogwr gweithredol yn undeb Ewropeaidd y dyfodol. Gobeithio y gallwn gyrraedd setliad, ac mae Cymru wedi bod yn allweddol iawn yn y trafodaethau ar hyn, a fydd yn caniatáu inni gael fframwaith cyfansoddiadol da yn y DU ac yn Ewrop. Nid yw'n golygu bod y status quo cyfansoddiadol yn iawn. Nid wyf yn credu bod status quo cyfansoddiadol ein perthynas bresennol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn iawn er enghraifft, a'r dicotomi hwnnw a oedd gennym, yn Ewrop neu allan, fel pe na bai unrhyw ddewis arall, yw un o'n hanawsterau.
Rwy'n credu bod y ffaith fod y ddadl hon wedi cael ei llunio yn y ffordd ddu a gwyn honno yn beth anodd. Credaf ei bod yn sgwrs fwy hyblyg ynglŷn â beth y gallai sofraniaeth ei olygu mewn gwirionedd ar gyfer democratiaeth o'r gwaelod i fyny, fel y dywedodd Neil McEvoy. Nid yw'n golygu annibyniaeth lawn o reidrwydd ar gyfer pob gwlad unigol. Soniodd am Unol Daleithiau America a chyfansoddiad y taleithiau, ond wrth gwrs maent wedi dod at ei gilydd mewn ffederasiwn i roi cryfder iddynt yn y byd, a dyna'r setliad datganoli, setliad y ffederasiwn ffederal, y byddai'n well gennyf fi a'r Llywodraeth ei weld.
Rydym wedi cyflwyno'r cynigion hynny droeon yn y Siambr hon, felly nid wyf am eu hailadrodd yn awr, ond byddwn yn parhau i edrych ymlaen fel rhan lwyddiannus o undeb y Deyrnas Unedig a byddwn yn canolbwyntio ein sylw, ein hadnoddau a'n galluoedd ar yr heriau gwirioneddol, fel Brexit, sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Nid wyf yn meddwl y dylem ddargyfeirio ein sylw ar hyn o bryd drwy sôn am chwalu'r Deyrnas Unedig. Dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein gallu i aros yn unedig gyda'n gilydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn fy marn bersonol i.
Daw hynny â thrafodion y dydd i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:42.