Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/05/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu'r cyflog byw go iawn? OAQ52252
Cawsom ein hachredu fel cyflogwr cyflog byw yn 2015. Mae GIG Cymru wedi talu'r cyflog byw ers mis Ionawr 2015, ac mae cynnydd cryf yn cael ei wneud ar draws cyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat.
Mae hynny'n swnio'n wych, Prif Weinidog, ond byddai gweithwyr ym Maes Awyr Caerdydd yn gwerthfawrogi gweithredoedd yn hytrach na geiriau gwresog. Prynwyd y maes awyr hwn gennych chi yn 2013, ac eto mae gennym ni weithwyr o hyd, rhai ohonynt yn byw yn y Rhondda, sy'n cael eu talu llai na'r cyflog byw hwn. Bydd cytundeb gyda'r Gwneuthurwyr Bwyleri Bwrdeistrefol Cyffredinol yn golygu y bydd y maes awyr, a dyfynnaf,
yn gweithio tuag at fod mewn sefyllfa i gyflwyno'r Cyflog Byw Sylfaenol erbyn diwedd 2020.
Os bydd hynny yn digwydd, yna bydd hynny wedi bod yn saith mlynedd lawn ar yr hyn a alwyd yn gyflog tlodi wedi ei ariannu gan y cyhoedd. Mae llawer o'r gweithwyr hyn yn staff diogelwch, sy'n cyflawni swyddogaethau hanfodol gan gadw mesurau diogelu'r maes awyr ar waith a chadw teithwyr yn ddiogel. Pa bwysau allwch chi ei roi nawr i sicrhau bod yr ased hwn yn dod yn gyflogwr cyflog byw sylfaenol achrededig erbyn yr Wythnos Cyflog Byw nesaf ym mis Tachwedd?
Mae'r maes awyr wedi gwneud ymrwymiad pendant i weithio tuag at sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol. Cyflwynwyd cynnig i'r ddau undeb cydnabyddedig—y GMB ac Unite—erbyn hyn, y bydd y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei dalu fel isafswm i holl staff y maes awyr a gyflogir yn uniongyrchol erbyn mis Ebrill 2020. Nawr, bydd yr undebau yn cynnal pleidlais ar y cynnig hwn ac rydym yn deall y bydd yr undebau yn gwneud argymhelliad cadarnhaol i aelodau. Bwriedir i'r codiad hwnnw gael ei wneud mewn dwy gynyddran—y gyntaf ym mis Ebrill 2019 a'r ail ym mis Ebrill 2020—ac mae hynny'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes yn y maes awyr, sy'n cynnwys cael gwared ar gontractau dim oriau a chyflwyno gwell cyfraddau cyflog am oramser a gweithio ar wyliau banc.
Fel aelod o'r grŵp arweinyddiaeth cyflog byw gwirioneddol, roeddwn i'n falch o glywed gan y corff achredu Cynnal Cymru bod 143 o gyflogwyr wedi cael eu hachredu yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr preifat yn ogystal â chyflogwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod angen i ni ymsefydlu ymrwymiad a chynnydd tuag at y cyflog byw gwirioneddol yn y cynllun gweithredu economaidd ac, yn wir, yr adolygiad rhywedd, gan ei bod hi'n eglur y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru?
Wel, rydym ni wedi ymrwymo'n gadarn i fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru. Rydych chi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod cyflogau isel yn effeithio'n anghymesur ar fenywod, a bydd ein hadolygiad rhywedd yn rhoi sylw i hyn. O ran y cynllun gweithredu economaidd, bydd yn cyflwyno contract economaidd newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy'n ceisio cymorth busnes gan Lywodraeth Cymru ymrwymo i fuddsoddi yn eu gweithlu trwy gyflogaeth o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg.
Prif Weinidog, 20 mlynedd yn ôl roedd gan weithwyr yng Nghymru a'r Alban yr un pecynnau cyflog o oddeutu £301 yr wythnos. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae pecyn cyflog Cymru yn cynnwys £498 yr wythnos, tra bod pecyn cyflog yr Alban yn cynnwys £49 yn fwy, sef £547. Er gwaethaf cyfraniad pwysig y cyflog byw a'r system budd-daliadau, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod angen i ni sicrhau tegwch, yn enwedig i'r rhai hynny ar incwm is. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bwlch hwn ac i sicrhau bod swyddi â chyflogau uwch, ac o ansawdd gwell i bobl sy'n byw yng Nghymru, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU o ran adolygiad Taylor ar arferion gweithio modern?
[Anghlywadwy.]—Llywodraeth y DU yw'r llanastr y maen nhw'n ei wneud o'r system budd-daliadau, yn enwedig o ran y credyd cynhwysol, a fydd yn effeithio yn anghymesur ac yn negyddol iawn ar gynifer o bobl yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld credydau treth mewn gwaith yn cael eu diddymu hefyd. Nid yw hynny wedi helpu pobl o ran eu hincwm. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, Llywodraeth y DU yn gwrthod ariannu Cymru yn briodol, ac, yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, tra bod Cymru wedi cael dim byd o gwbl. Mae llawer iawn o waith yr wyf i'n credu y gall yr Aelod ei wneud gyda'i blaid ei hun o ran gwneud yn siŵr bod Cymru yn cael tegwch, oherwydd nid ydym ni'n ei gael gan y Torïaid.
Prif Weinidog, un o hanfodion economeg yw'r ddeddf cyflenwad a galw. Os bydd y cyflenwad yn fwy na'r galw, bydd pris nwydd yn gostwng. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r cyflenwad o lafur ag unrhyw nwydd arall. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gorgyflenwad llafur rhad, yn enwedig yn y farchnad lled-grefftus a di-grefft, wedi ei achosi gan fewnfudo heb reolaeth ar raddfa fawr, sydd wedi caniatáu i fusnesau mawr gamfanteisio ar weithwyr gyda chyflogau isel?
Mae llawer iawn o sectorau yn economi Cymru sy'n dibynnu'n fawr iawn ar lafur o'r tu allan i'r DU. Os edrychwn ni ar y sector bwyd a diod, ceir llawer o gwmnïau na fydden nhw'n gallu goroesi, gan fod dewisiadau eraill ar gael i weithwyr lleol sy'n cael eu hystyried yn rhai mwy deniadol. Byddai ein lladd-dai, er enghraifft, yn cael trafferthion mawr pe na fyddent yn gallu recriwtio o wledydd eraill. Felly, nac ydw, nid wyf i'n cytuno ei fod yn gwestiwn o or-gyflenwi. Os edrychwch chi ar ddiweithdra yng Nghymru, mae'n isel dros ben yn hanesyddol—4.5 y cant. Mae hynny, i bob pwrpas, yn gyflogaeth lawn o ran economeg, a dyna pam, wrth gwrs, mae angen gallu recriwtio gweithwyr medrus, a gweithwyr sy'n lled-fedrus, o wledydd eraill. Ble fyddai ein GIG, er enghraifft, heb y meddygon yr ydym ni'n eu recriwtio o'r tu allan i Gymru? Mae'n well gen i fod mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, yn hytrach nag obsesu ynghylch o ble maen nhw'n dod.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygiad o sut y gall digido gefnogi'r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52217
A gaf i ganmol yr Aelod, yn gyntaf oll, am ei ddiddordeb yn hyn? Gwn fod ganddo ddiddordeb hynod ddwys mewn digido a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig, nid yn unig y bygythiadau yr ystyrir weithiau eu bod yn bodoli. Rydym ni'n adolygu cynnydd o ran y defnydd o'r digidol a data yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, i sicrhau ein bod ni'n sicrhau bod y potensial mwyaf posibl i'r digidol gyfrannu at ein darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n cymryd 55 diwrnod i ddechrau recriwtio nyrs, ar ôl iddyn nhw gyflwyno rhybudd eu bod yn gadael, ac rydym ni'n gwario tua £59 miliwn ar nyrsys asiantaeth. Mae Cydwasanaethau'r GIG yn amcangyfrif, gan ddefnyddio technolegau presennol, y gallan nhw dynnu 30 diwrnod oddi ar y cyfnod hwnnw, gan arbed tua £13 miliwn. Ceir cyfleoedd fel hyn ar draws y gwasanaethau cyhoeddus i ryddhau adnoddau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o awtomeiddio a'r digidol, a chefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Athro Phil Brown, sy'n arwain hynny, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n ffodus iawn o'i gael yn arwain y gwaith hwnnw a'r panel arbenigol sydd wedi ei ymgynnull. Credaf ei fod yn ddarn o waith cyffrous iawn, ond mae'n ddarn o waith sy'n ystyried sgiliau yn bennaf, a materion gweithlu, nid y llu o faterion ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Mae'r ddau yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ond, yn hollbwysig, technolegau presennol sydd ar gael i ni nawr nad ydynt yn cael ei harneisio. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymchwilio i'r sefyllfa gyfan ac nid yr elfennau marchnad lafur yn unig?
Rwy'n cytuno, a gwn ei fod yn fater y mae'r Aelod wedi ei godi gyda mi yn breifat: sut ydym ni'n edrych ar ddigido fel ffordd o wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus? Mae wedi rhoi enghraifft yn y fan yna, y mae wedi ei rhoi i mi o'r blaen, ac mae'n eithriadol o bwysig bod y broses recriwtio yn cael ei chyflymu. Y cwestiwn yw, felly, sut mae gwneud hyn. Wel, ceir nifer o adolygiadau diweddar neu gyfredol sy'n cwmpasu agweddau ar ddigido—fe'i hystyriwyd gan yr adolygiad seneddol ar iechyd, er enghraifft, ym maes iechyd; adolygiad Reid, o ran arloesi; ac adolygiad Bowen o ran y gweithlu. Nawr, ym maes iechyd, mae 'Iechyd a Gofal Gwybodus' yn cyflwyno'r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau digidol i gynorthwyo gwasanaethau a pholisïau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaeth yr adolygiad seneddol argymhelliad penodol ar wasanaethau digidol, a fydd yn cael sylw yn y cynllun gweddnewid, sy'n rhan o bapur a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet. Ac wrth gwrs, mae gennym ni Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n bwrw ymlaen â'r agenda digido. Yr hyn yr wyf i eisiau ei osgoi yw bwrw ymlaen â digido mewn gwahanol gydrannau yn hytrach na bwrw ymlaen ag ef fel cyfle ar draws Lywodraeth.
Wrth gwrs, Prif Weinidog, ystyrir erbyn hyn bod mynediad at y rhyngrwyd ac, yn wir, cyflymder band eang da yn un o'r prif gyfleustodau y dylai teulu neu aelwyd feddu arnynt. Fodd bynnag, canfu'r adroddiad marchnad gyfathrebu diweddaraf ar gyfer Cymru mai dim ond ychydig dros wyth o bob 10 o aelwydydd sy'n gallu cael mynediad at y rhyngrwyd mewn gwirionedd—83 y cant. Felly, mae hynny'n gadael 17 y cant o bobl na allant gael mynediad at y rhyngrwyd. Nawr, pan na allant gael mynediad at y rhyngrwyd ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig, yna maen nhw o dan anfantais enfawr. Nawr, ar hyn o bryd, er enghraifft, hefyd, mae cofrestru fel landlord o dan Rhentu Doeth Cymru yn costio £33.50 os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond £80.50 ar gyfer cais ar bapur. Ac yn Aberconwy, bu'n rhaid i nifer o'm hetholwyr dalu'r arian ychwanegol a chanfod bod hon yn system cwbl annheg. A wnewch chi ymrwymo i adolygu prosesau ar draws holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghysonderau o'r fath ac, yn wir, y rhwystrau naturiol hyn yn cael eu dileu?
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i'n meddwl bod yr wybodaeth y mae hi'n ei defnyddio yn hen—flwyddyn ar ei hôl hi o bosibl. Dyna fy nealltwriaeth i. Edrychwn ar Cyflymu Cymru, er enghraifft, a'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda hynny. Mae wedi golygu bod gan nifer sylweddol—bron, nid 100 y cant, ond mwy na 90 y cant—o safleoedd yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn. Ni fyddai hynny wedi cael ei wneud heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Pe byddai hyn wedi cael ei adael i'r farchnad, byddai llawer o'i hetholwyr wedi cael eu gadael heb fand eang am byth. Felly, mae'r ymyrraeth yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith fel Llywodraeth wedi sicrhau y bydd gan lawer iawn o bobl fynediad at fand eang na fyddai ganddyn nhw fel arall. Bydd canran fechan o'r boblogaeth y bydd angen iddyn nhw ystyried atebion eraill o ran cael mynediad at gyflymder band eang a fydd yn dderbyniol i bobl. Rydym ni'n falch o'n hanes o gyflwyno band eang ar draws cymunedau gwledig yng Nghymru na fyddai ganddyn nhw fynediad o gwbl fel arall.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw yn edrych ar y gwariant sy'n gysylltiedig â Chylchffordd Cymru, a chyn i mi ofyn y cwestiwn i chi, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gyhoeddodd ei fod ef a'i wraig yn disgwyl eu plentyn cyntaf ymhen ychydig fisoedd.
Pan edrychwch chi ar yr adroddiad hwn, mae wir yn ddigalon ei ddarllen, a dweud y lleiaf. Nid yw'n ystyried y safbwynt polisi a bod yn deg, oherwydd nid dyna swyddogaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; mae'n ystyried yr arian a wariwyd. Mae'n nodi diffyg goruchwyliaeth weinidogol o ran llawer o'r penderfyniadau a wnaed, ac roedd datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd yn mynd yn groes i'r dystiolaeth a ddatgelwyd gan y pwyllgor yn ddiweddarach a oedd yn dangos bod yr adran yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd gyda'r arian hwn. Chi yw pennaeth y Llywodraeth. Sut ar y ddaear y gall un o adrannau'r Llywodraeth weithredu o dan amgylchiadau o'r fath y mae'r adroddiad yn eu nodi heddiw, sydd fwy neu lai yn nodi bod yr adran yn cael ei rhedeg gan y swyddogion yn hytrach na gan y Gweinidog?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ymuno ag ef yn ei longyfarchiadau i Nick Ramsay? Cefais wybod am ei newyddion da ar Facebook. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddai pob un ohonom ni ar y meinciau hyn yn sicr yn ei longyfarch arno, wrth gwrs—ef a'i wraig.
O ran y mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid, mae cwestiynau y bydd angen i ni roi sylw iddynt yn yr ymateb i adroddiad y pwyllgor, ond, wrth gwrs, fel y mae'r pwyllgor wedi ei adrodd, mae'n gwbl briodol y dylai fod ymateb llawn ar yr amser priodol.
Ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr, Prif Weinidog, ond nodaf ymateb y Llywodraeth hyd yma, na wnaeth geisio gwadu'r honiadau mai'r swyddogion oedd yn rhedeg yr adran hon ar y pryd. Ac mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi ei chasglu. Mae'n bwyllgor trawsbleidiol, roedd yn adroddiad unfrydol ac roedd hefyd yn nodi bod rhai o'r achosion hyn o esgeulustod yn digwydd yn y weinyddiaeth bresennol hon hefyd, mor ddiweddar â 27 Ebrill y llynedd, pan oedd yr Ysgrifennydd y Cabinet presennol yn ei swydd. Mae'n cyfeirio at y datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd a datganiad ysgrifenedig y Llywodraeth.
Mae'n ofid mawr i lawer o bobl sy'n edrych ar hyn o'r tu allan, a byddwch yn ymwybodol o hyn drwy eich gwaith etholaeth—a'r holl Aelodau eraill—pan fyddwch chi'n mynd at sefydliadau sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn mynnu papur A a phapur B ac adroddiadau diwydrwydd dyladwy, fel y gallant gael grant bach iawn o fil neu ddwy o bunnoedd efallai—. Rydym ni'n sôn yn yr achos hwn am filiynau o bunnoedd a channoedd o filoedd o bunnoedd ar brosiectau penodol. Awgrymaf i chi unwaith eto mai'r hyn yr wyf i'n ceisio ei ddarganfod gennych chi, fel pennaeth y Llywodraeth, yw sut ar y ddaear y gall y swyddogion redeg yr adran heb fod gan y Gweinidog oruchwyliaeth o'r penderfyniadau hyn? Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn sydd angen ateb a does bosib, heddiw, fel pennaeth y Llywodraeth, na allwch chi roi'r ateb hwnnw i ni a'r sicrwydd hwnnw na fydd y newidiadau sydd ar waith yn caniatáu i'r sefyllfa hon ddigwydd eto.
Wel, bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o egwyddor Carltona a'r ffordd y mae'n gweithredu, ond ni fyddai'n briodol i mi ragfarnu ymateb llawn. Mae hwn yn adroddiad difrifol sy'n haeddu ymateb difrifol, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar yr adeg briodol. Bryd hynny, wrth gwrs, mae'n gwbl briodol y dylai'r Aelodau gael y cyfle i graffu ar yr hyn mae'r Llywodraeth wedi ei wneud a'r ymateb y bydd y Llywodraeth yn ei roi ar waith.
Nid yw'n ymddangos fel fy mod i'n mynd i gael ateb. Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond edrychaf ymlaen at yr ateb pan ddaw. Ond a wnewch chi roi sicrwydd i ni, felly, y prynhawn yma, Prif Weinidog, os bydd y Llywodraeth yn cydnabod y cyhuddiadau hyn, yr haeriadau hyn, ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor—y pwyllgor trawsbleidiol a ymchwiliodd i hyn—. Hyd yma, does neb, o'r hyn a ddeallaf, wedi cael ei ddisgyblu na'i gosbi oherwydd y cyhuddiadau difrifol iawn a gadarnhawyd yn yr adroddiad hwn. A wnewch chi, felly, ymrwymo i ymateb gan y Llywodraeth sy'n dangos bod cosbau wedi eu cyflwyno lle mae angen eu cyflwyno, oherwydd, fel y dywedais, ni all fod yn iawn i bobl allu cael arweinyddiaeth o'r fath mewn adran a hwythau heb fod yn Aelodau etholedig—y Gweinidogion neu Ysgrifenyddion y Cabinet—a bod y swyddogion yn rhedeg yr adrannau hynny? Mae'n ymddangos yn amlwg bod yr adran hon allan o reolaeth, Prif Weinidog.
Wel, yn gyntaf oll, mae nifer o faterion y mae'r pwyllgor yn eu codi y mae'n rhaid i ni eu hystyried, ond mae gennym ni hawl i gyflwyno ymateb fel Llywodraeth, a, bryd hynny, bydd yr Aelodau yn dymuno pwyso a mesur, wrth gwrs, yr hyn y mae'r pwyllgor wedi ei ddweud a'r pwyntiau pwysig y mae'r pwyllgor wedi eu codi, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a dyna, yn fy marn i, yw'r ffordd briodol o wneud pethau. Bryd hynny, wrth gwrs, y bydd craffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth, ond nid wyf yn credu ei bod hi'n briodol rhagfarnu unrhyw ymateb y gallem ni ei gyflwyno. Ond mae'n amlwg yn adroddiad y mae'n rhaid i ni edrych arno yn ofalus iawn, iawn, oherwydd mae materion yno y bydd angen i ni roi sylw iddyn nhw fel Llywodraeth, ond byddant yn cael sylw pan fydd yr ymateb llawn yn cael ei gyhoeddi.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. A yw'r Prif Weinidog yn credu mai ei Lywodraeth ef, neu'r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r argyfwng cenedlaethol hwn?
O ran bod yn y 'sefyllfa orau' i fynd i'r afael ag ef, nid oes amheuaeth bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gref iawn, drwy'r system lles, drwy'r ffordd mae'n gallu edrych ar gredydau treth, ond yn anffodus mae wedi troi ei chefn ar y swyddogaeth y dylai Llywodraeth ei chyflawni, sef, yn gyntaf, lleihau anghydraddoldeb mewn cymdeithas ac, yn ail, sicrhau bod arian yn mynd i le mae angen arian fwyaf o gwmpas y DU. Mae hynny'n rhywbeth nad ydyn nhw wedi bwrw ymlaen ag ef dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Prif Weinidog, chi yw Llywodraeth Cymru a gallwch chi gymryd cyfrifoldeb. Gallwch chi godi pobl allan o dlodi, ac eto rydych chi'n dewis peidio â gwneud hynny. Mae eich Gweinidogion yn honni y byddai datganoli'r broses o weinyddu lles yn tanseilio undeb cymdeithasol y DU. Nawr, gan roi o'r neilltu y ffaith fod gan bob Llywodraeth arall yn y DU rym i weinyddu lles, a yw e'n credu mai'r tanseilio di-hid hwn o'r undeb cymdeithasol sydd wedi ysgogi galwadau i ddatganoli lles gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, Shelter Cymru, pwyllgor cydraddoldeb trawsbleidiol y Cynulliad, Sefydliad Bevan, Ymddiriedolaeth Trussell, Plaid Lafur yr Alban, Plaid Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Plaid Lafur y DU, maer Llafur Manceinion—ac mae llawer mwy? A ydych chi'n credu bod pob un o'r rhain yn genedlaetholwyr dadunol sy'n ceisio tanseilio'r undeb cymdeithasol?
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol fy mod yn cael fy nghyhuddo, fel gwleidydd blaengar—ac mae pob un ohonom ni ar y meinciau hyn—ein bod ni'n dewis peidio â mynd i'r afael â thlodi plant. Mae hwnnw'n honiad—[Torri ar draws.]—honiad hynod annheg i'w wneud, ond dyna'r honiad y mae hi wedi ei wneud. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r awgrym bod hyn yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru yn gwbl anghywir. Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth y DU ysgogwyr sylweddol o ran lles, o ran y system budd-daliadau, o ran cyfraith gyflogaeth, o ran pennu'r cyflog byw gwirioneddol. Gallwn, mi allwn ei wneud, o ran y cyrhaeddiad sydd gennym ni at y sector cyhoeddus ac at y trydydd sector, i raddau, ond nid at y sector preifat. Yr hyn y mae hi'n ei wneud yw rhyddhau Llywodraeth y DU o'i chyfrifoldeb, a dyna lle mae'n rhaid i'r cyfrifoldeb fod. Nawr, un peth yw dweud, 'Gadewch i ni weinyddu budd-daliadau', ond mae dwy broblem yn ymwneud â hynny. Yn gyntaf oll, mae'r Albanwyr yn gwario arian ar fiwrocratiaeth—ar fiwrocratiaeth. Maen nhw'n gwario arian mewn gwirionedd ar weinyddu a allai fod yn mynd i dderbynwyr. Mae hynny'n amlwg yn fater y bu'n rhaid i ni ei ystyried. Yn ail, nid yw gweinyddu'r system budd-daliadau yn dda i ddim os na allwch chi reoli'r llif arian; y cwbl yr ydych chi'n ei gael yw'r bai, o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd pobl yn dweud wedyn, 'Wel, chi yw'r rhai sy'n gweinyddu'r system budd-daliadau; pam na wnewch chi roi mwy o arian ynddi, pam na wnewch chi hyn, pam na wnewch chi'r llall?' pan, mewn gwirionedd, na allwch chi wneud hynny. Felly, rwyf i wedi bod yn amharod dros ben erioed i ystyried gweinyddu rhywbeth pan fy mod i'n credu ei fod yn fagl a osodwyd gan Lywodraeth y DU.
Felly, mae'r ysgogwyr hyn yn bodoli, ond eto nid ydych chi eisiau rheolaeth drostyn nhw. Rydych chi'n sôn am strategaethau, ac rydych chi'n cwyno am bolisïau lles y Torïaid, er mai eich unrhyw weithred chi mewn gwirionedd yw torri'r budd-daliadau y mae eich Llywodraeth eich hun yn gyfrifol amdanynt: torri'r grant gwisg ysgol; torri'r grant byw'n annibynnol; torri'r grant gwella addysg; torri Cymunedau yn Gyntaf. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd am bryd digonol o fwyd, a dyma'r gorau y gallwch chi ei wneud. Prif Weinidog, mae gen i gwestiwn syml: a ydych chi'n barod i gymryd cyfrifoldeb neu a ydych chi'n hapus i barhau i roi'r bai ar y Torïaid yn San Steffan?
Gadewch i ni edrych ar hyn yn ofalus. Mae arweinydd Plaid Cymru yn cynrychioli plaid sydd eisiau gweld Cymru annibynnol—
Roeddwn i'n gwybod bod hynna'n dod. Syndod o'r mwyaf!
Wel, rwy'n gwybod. Ie, gwn mai dyna'r achos. A'r gwir amdani yw—[Torri ar draws.] Y gwir amdani yw ein bod ni'n dderbynwyr trosglwyddiadau arian drwy'r system budd-daliadau oherwydd ein haelodaeth o'r DU. Os yw hi eisiau dadlau'r achos i bobl Cymru y dylem ni fod yn annibynnol, ac felly bod â llai o arian nag sydd gennym ni ar hyn o bryd, llai o arian i dalu budd-daliadau, llai o arian i gefnogi swyddi, llai o arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd, llai o arian ar gyfer addysg, gadewch iddi ddadlau'r achos. Dyna'r rheswm y mae ei phlaid hi'n bodoli. I mi, rwy'n ddatganolwr. Rwy'n credu bod pobl Cymru yn haeddu llais cryf, ond mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n rhan o undeb cymdeithasol y DU sy'n cynnig cynifer o fuddion i gynifer o'n pobl. A'r hyn a fyddai'n ei wneud yn well fyth fyddai ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penodwyd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r bwrdd cyfiawnder troseddol cenedlaethol ac mae wedi addo brwydro i gael plismona wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ddweud bod yr amser yn iawn a bod y polisi yn cael ei gefnogi gan bob comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru. A ydych chi'n cefnogi'r safiad hwn a gymerwyd gan eich dau gomisiynydd heddlu a throseddu? A pha fath o amserlen ydych chi yn ei rhagweld ar gyfer datganoli plismona i Gymru? A yw gweithredoedd comisiynwyr heddlu a throseddu'r Blaid Lafur yn tanseilio eich Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ei chroesawu hi i'w swydd newydd fel arweinydd UKIP?
Diolch.
Mae'n wir i ddweud bod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, Llafur a Phlaid Cymru, o blaid datganoli plismona, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei gefnogi ers blynyddoedd lawer iawn. Wrth gwrs, bydd hyn yn rhan bwysig o'r hyn y mae'n rhaid i gomisiwn Thomas ei ystyried. Credaf y bu'n wir erioed nad yw'n gwneud fawr o synnwyr i blismona beidio â chael ei ddatganoli pan fo pob gwasanaeth brys arall wedi ei ddatganoli. [Torri ar draws.] Mae hyn yn newyddion i Blaid Cymru. Dylen nhw ddarllen y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf, oni ddylent? Byddan nhw'n darganfod wedyn. Ond mae'n wir—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Mae'n anhygoel, onid yw? Rydym ni'n cael ein cyhuddo o weiddi ac wedyn mae gennym ni—[Anghlywadwy.]—yn y Siambr. Dyna ni. Nid oes ots gen i gael ychydig o fywyd yn y Siambr; mae hynny'n rhywbeth sy'n ychwanegu at ei chymeriad. Ond yr ateb yw 'ydw'. Rwyf i'n cefnogi datganoli plismona, a gwn fod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yn ei gefnogi hefyd.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ers eu creu, mae cyllideb y comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cynyddu'n aruthrol. Yn wir, mae gan gomisiynydd heddlu a throseddu Llafur de Cymru gyllideb o £1.3 miliwn a 28 aelod o staff, yn ogystal â dirprwy gomisiynydd. Felly, mae hyn wedi golygu cynnydd o 40 y cant i'r gyllideb a dwbl y nifer o staff, ac eto, yn y tair blynedd diwethaf, bu cynnydd o 33 y cant i droseddau treisgar yn ardal Heddlu De Cymru. Felly, pe byddech chi'n cael eich dymuniad a bod plismona yn cael ei ddatganoli, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddiddymu'r swyddogaeth comisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth blismona rheng flaen?
Wel, mae'n iawn i ddweud, pe byddai plismona yn cael ei ddatganoli, y byddai'n fater i'r lle hwn benderfynu ar ba un a ddylid cadw comisiynwyr heddlu a throseddu ai peidio. Mae hwnnw'n benderfyniad y byddai'n rhaid ei wneud pan—yn hytrach nag os, hyderaf—fydd plismona yn cael ei ddatganoli.
Diolch. Roedd swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu i fod i ddod ag atebolrwydd lleol i wasanaeth yr heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru wedi ymddieithrio yn y bythau pleidleisio, a phrin y mae'r ffigurau yn cyrraedd ffigurau dwbl pan fydd pobl yn pleidleisio dros gomisiynwyr heddlu a throseddu. Bydd etholiadau mewn llai na dwy flynedd, felly beth y gellir ei wneud i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru? A ydych chi'n credu y dylai'r swydd gael ei hailwampio i gael gwared ar wleidyddiaeth plaid a rhoi mwy o lais i arweinyddion cymunedol yn hytrach na gwleidyddion?
Wel, materion i Lywodraeth y DU yw'r rhain, o ystyried y ffaith nad yw comisiynwyr heddlu a throseddu wedi eu datganoli—
Ie, mae hynny'n wir, ond pe byddai hyn yn cael ei ddatganoli.
—felly, mater iddyn nhw yw ystyried y ffordd orau o gynyddu nifer y pleidleiswyr dros gomisiynwyr heddlu a throseddu a'r etholiadau a gynhelir ar gyfer y swyddi hynny. Ond mae fy safbwynt i yn eglur iawn: credaf y dylai fod yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad hwn—Senedd fel y bydd yn fuan, hyderaf—wneud y penderfyniad ynghylch pa fath o strwythur ddylai fodoli o ran goruchwylio'r heddlu.
3. A wnaiff y Prif Weinidog nodi amcanion allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn ne Cymru? OAQ52223
Gwnaf. Mae ein hamcanion a'n blaenoriaethau ar gyfer y rheilffyrdd ledled Cymru a'r gororau yn y dyfodol wedi eu hamlinellu yn y ddogfen 'Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol' a gyhoeddwyd y llynedd.
Diolch, Prif Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol, mewn ymateb i fy ymgyrch i, bod Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi pedwar o wasanaethau trên ychwanegol o Aberdâr ar y Sul, gan gynnwys gwasanaeth cyntaf sy'n cyrraedd Caerdydd cyn 10.00 a.m. erbyn hyn. Mae hyn yn newyddion gwych i gymudwyr o Gwm Cynon. Pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu parhau ac yn cael eu cynnwys mewn unrhyw amserlennu yn y dyfodol o dan y fasnachfraint newydd?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch yr Aelod ar yr hyn y mae hi wedi ei wneud? Gwn, yn y datganiad i'r wasg a anfonwyd allan ar 24 Ebrill, bod Trenau Arriva yn cydnabod y gwaith y mae hi wedi ei wneud i gael y gwasanaethau i redeg ar ddydd Sul. Bydd cyhoeddiad yfory, wrth gwrs, ar y fasnachfraint rheilffyrdd, ond, yn rhan o'r gwaith a wnaed yng nghyswllt hynny, byddem ni eisiau gweld gwell gwasanaethau ar y Sul.
Prif Weinidog, rydw i'n siŵr mai un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru yw i uwchraddio'r isadeiledd presennol er mwyn gwella profiad teithwyr. Mae'n holl bwysig bod pob rhan o Gymru yn teimlo manteision unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ac, ers i chi fod yn Brif Weinidog, rydw i wedi codi achos gorsaf drenau Aberdaugleddau gyda chi, sydd angen gwelliannau mawr. Yn anffodus, unwaith eto, nid yw'r orsaf yma ar restr gwelliannau'r Llywodraeth. Nawr, rydw i'n deall bod yna griteria penodol yn cael eu defnyddio i benderfynu pa orsafoedd sy'n derbyn buddsoddiad, ond mae yna bryderon nad yw'r criteria yma'n briodol wrth ystyried bod gorsafoedd fel Aberdaugleddau yn cael eu gadael ar ôl. Yn yr amgylchiadau, a ydych chi, felly, fel Llywodraeth, yn fodlon edrych ar y criteria yma i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn derbyn y buddsoddiad maent yn ei haeddu?
Wel, mae yna enghreifftiau lle mae gorsafoedd wedi cael buddsoddiad cyfalaf mewn llefydd gwledig a threfol. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw beth sy'n rhwystro gorsaf Hwlffordd rhag cael buddsoddiad. Efallai, os gall yr Aelod ysgrifennu ataf i, gallaf i ystyried y peth i weld a oes yna rywbeth sy'n gallu cael ei wneud er mwyn symud Hwlffordd lan y rhestr—Aberdaugleddau, rydw i’n flin, lan y rhestr.
Prif Weinidog, mae yna lot o gonsern yn ardal Castell-nedd ynglŷn â'r syniad posibl i eithrio gorsaf Castell-nedd o'r prif lein reilffordd wrth adeiladu lein newydd. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cadarnhau i fi mewn e-bost mai'r rheswm y mae'r deiseb ynglŷn â'r syniad yma wedi cael ei arfarnu’n ddilys yw taw Llywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu gwaith cychwynnol, hynny yw, gwaith sgopio, ar y syniad yma. A ydy'r Pwyllgor Deisebau'n gywir yn hynny o beth?
Wel, o beth rwy'n gallu ei weld, daeth hwn o rywbeth a gaeth ei ddweud gan unigolyn nad oedd â chysylltiad â'r Llywodraeth, ddim yn aelod o'r Llywodraeth nac yn rhywun oedd yn gweithio fel gwas sifil i'r Llywodraeth. Fel y dywedais yn y Siambr hon wythnos diwethaf, mae Castell-nedd yn orsaf bwysig dros ben ac nid oes unrhyw fath o fygythiad i wasanaethau yng Nghastell-nedd.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth fawr ynghylch y diffyg cynnydd o ran sefydlu gwasanaeth trên cyswllt rheilffordd i deithwyr o Gasnewydd i Lynebwy. Mae hynny wedi bod yn wir ers cryn amser, ac mae llawer iawn o bryder yn yr ardal. O ystyried y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hirsefydlog rhwng Casnewydd a Glynebwy, a ydych chi'n deall y pryderon hynny ac a oes unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud heddiw a fyddai'n tawelu meddwl y rhai sydd â'r pryderon hyn?
Ein dyhead o hyd yw cael dau drên yr awr yn gweithredu ar hyd rheilffordd Glynebwy o 2021 ymlaen. Rydym ni eisiau gweld trenau yn mynd i mewn i Gasnewydd, ond mater i Network Rail yw hynny, sy'n sefydliad na allwn ni hyd yn oed ei gyfarwyddo. Mae hynny'n rhan o'r broblem sydd gennym ni gyda'r setliad presennol. Gall yr Albanwyr ei wneud; ni allwn ni. Wedi dweud hynny, rydym ni eisiau gweithio i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol agos a gweithio gyda Network Rail i nodi'r atebion technegol sydd eu hangen er mwyn i hynny ddigwydd.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o lawdriniaeth orthopedig? OAQ52221
Gwnaf. Darperir llawdriniaeth orthopedig ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac rydym ni'n disgwyl i bob claf allu cael ei weld cyn gynted â phosibl ac yn unol â safonau amseroedd aros Cymru.
Ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi gweld adroddiad newyddion ar y teledu y noson gynt am amseroedd aros o gyhyd â 18 mis ar gyfer llawdriniaethau clun. Ond nododd nad oedd hwn yn sôn am lawdriniaethau pen-glin, ar ôl iddi gael ei hysbysu na fyddai'n cael apwyntiad am o leiaf dwy flynedd, ond os oedd hi eisiau, neu'n gallu ei fforddio, wrth fynd yn breifat gallai gael y llawdriniaeth o fewn chwe wythnos am gost o £11,000. Sut yr ydych chi'n ymateb, felly, i'w datganiad i mi, a beth wnewch chi ei ddweud wrthi am y datganiad hwn, 'Mae hi'n ymddangos mor annheg bod yn rhaid i mi ddioddef poen cyson, colli cwsg a llawer iawn o drafferth dim ond oherwydd na allaf i fforddio talu dros £11,000 am fy llawdriniaeth gyntaf'? Mae hi'n wraig 75 mlwydd oed.
Wel, yn amlwg, mae hi mewn llawer iawn o boen ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth na fyddai neb yn ei groesawu. Mae'n anodd iawn rhoi barn ar achos unigolyn heb wybod mwy amdano. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf, yna, wrth gwrs, fe edrychaf ar y mater. Yn gyffredinol, os edrychwn ni ar Betsi Cadwaladr, wel, mae BC wedi derbyn £11 miliwn o'r arian perfformiad a bennwyd ar gyfer amseroedd atgyfeirio i driniaeth y llynedd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw bod y sefyllfa ym mis Mawrth 2018 39 y cant yn is na'r proffil gwreiddiol. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, gostyngiad ers mis Hydref 2017 yn nifer y bobl sy'n aros mwy na 38 wythnos, a gallaf ddweud bod BC yn datblygu cynllun orthopedig ar gyfer y rhanbarth, gan edrych ar fodelau gofal ac ailgynllunio gwasanaethau. Mae hynny wedi bod at eu bwrdd ar sawl achlysur, rwy'n deall, ac mae swyddogion yn trafod y cynnig hwnnw gyda BC.
Rhun ap Iorwerth.
Cwestiwn 5, Mick Antoniw.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau iechyd cyhoeddus o gamblo cymhellol? OAQ52247
Mae gan gamblo cymhellol y potensial i niweidio nid yn unig gamblwyr unigol ond teulu, ffrindiau a'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd hefyd. Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, gall caledi gynnwys caledi ariannol, trallod seicolegol a chwalu cydberthnasoedd personol. Rydym ni'n cefnogi amrywiaeth o fesurau i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys cymorth, eiriolaeth, gwybodaeth a rheoleiddio priodol.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Fel pawb yma ar draws y pleidiau, croesawyd cyhoeddiad Llywodraeth y DU wythnos neu ddwy yn ôl gennym, am y bwriad i leihau uchafswm y fet ar gyfer peiriannau betio ods sefydlog i £2—rhywbeth yr ydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon ar sail drawsbleidiol ers bron i bum mlynedd. Wrth gwrs, bydd angen i ni weld deddfwriaeth, rydym ni angen amserlen i wneud yn siŵr y bydd y peth yma'n digwydd mewn gwirionedd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ba un a oes gan hyn oblygiadau o ran Deddf Cymru 2017 yng nghyswllt ein cyfrifoldeb datganoledig, pa un a fydd angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a pha un a oes cyfle trwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar gyfer datganoli gamblo yn iawn. Oherwydd, o ran ymdrin â'r goblygiadau iechyd, rydym ni'n ymwybodol o'r broblem sylweddol o ran gamblwyr ifanc, 11 i 15 mlwydd oed, mae gennym ni bwerau eisoes o ran addysg a chynllunio, a'r hyn sydd wir ei angen arnom ni yw datblygu strategaeth i ymdrin â'r broblem gynyddol, a gydnabuwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, sef gamblo cymhellol, gamblo ar-lein, gan ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, ond hefyd y cyfle i gael datganoli cyfrifoldebau gamblo yn llawn fel bod yr holl ddulliau gennym ni mewn gwirionedd i fynd i'r afael â'r epidemig hwn sy'n dod i'r amlwg.
Rwy'n cytuno. Mae'n ymddangos bod y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf yn golygu bod y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cymru yn mynd yn amherthnasol. Yr hyn y mae'r pwerau yn ei ddweud mewn gwirionedd yw eu bod nhw'n rhoi'r gallu i ni gyfyngu ar nifer y peiriannau â ffi betio o fwy na £10 o ran trwyddedau safleoedd betio newydd. Wel, os mai dim ond £2 yw uchafswm y fet, yna mae'r pwerau hynny yn academaidd. Felly, credaf ei bod hi'n briodol i ni edrych eto ar yr hyn a fyddai'n briodol i Gymru o ran pwerau ychwanegol dros gamblo.
Prif Weinidog, nid yw adnabod symptomau gamblo bob amser mor hawdd â hynny ac nid yw darparu'r cymorth priodol yn hawdd ychwaith, gan fod pobl yn ymateb yn wahanol i ymyraethau, ond ar gyfer y problemau mwy anhydrin, os mynnwch chi, tybed a allwch chi ddweud wrthyf a all Llywodraeth Cymru nodi faint o bobl yng Nghymru y neilltuwyd gweithiwr cymdeithasol iddynt i'w helpu â'u problem, neu sydd mewn gwirionedd wedi manteisio ar ganolfannau adsefydlu preswyl, naill ai yng Nghymru neu yn rhywle arall. Rwy'n sylweddoli efallai na fydd yr ateb gennych chi heddiw, ond pe gallech chi ysgrifennu yn ôl ataf gyda'r ateb hwnnw byddwn yn ddiolchgar, oherwydd hoffwn i wybod pwy sy'n talu'r bil am y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig.
Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r wybodaeth honno, a byddaf yn gwneud hynny.
Yn dilyn y cwestiynau a'r atebion hyd yn hyn, mae adroddiad o 2016 a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn awgrymu bod y gamblo cymhellol hwnnw yn costio rhwng £40 miliwn a £70 miliwn bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru. Gan fod gamblo a hysbysebu yn bwerau a gadwyd yn ôl, ni allwch chi fod yn rhagweithiol o ran gamblo, y cwbl y gallwch chi ei wneud yw ymateb i'r problemau. Felly, i gael eglurder, ac yn dilyn yr hyn a ddywedasoch wrth Mick Antoniw, pam na wnewch chi fynnu bod San Steffan yn rhoi'r pwerau i ni sydd eu hangen arnom i gadw cost ariannol, ac yn bwysicach cost ddynol, gamblo cymhellol mor isel â phosibl?
Yr hyn y byddai angen mynd i'r afael ag ef yw hysbysebu ar-lein ac ar y teledu, oherwydd dyna o le y mae llawer o gamblo yn dod nawr. Ers amser maith, ni fu'n bosibl hysbysebu tybaco ar y teledu. Ers amser maith, ni fu'n bosibl hysbysebu alcohol ar y teledu. Ac eto, mae hysbysebion gamblo wedi cynyddu. Os ydym ni'n dweud bod gamblo, i lawer o bobl, yn ddibyniaeth, fel y gall alcohol a thybaco fod i rai pobl, pam mae'n wir bod hysbysebion gamblo wedi cynyddu? Er enghraifft, roedd 152,000 o hysbysebion yn 2006 ond dangoswyd 1.3 miliwn o hysbysebion yn 2012—ac mae'r ffigurau hynny eisoes yn chwe blwydd oed.
Bydd unrhyw un sy'n gwylio unrhyw fath o ddigwyddiad chwaraeon yn sylwi ar y gwahoddiadau i bobl wneud bet yn y fan a'r lle ar bwy sy'n mynd i sgorio'r gôl nesaf yn yr ail hanner, pwy sy'n mynd i sgorio'r cais nesaf, beth fydd y sgôr terfynol. Mae ganddo'r potensial i achosi dibyniaeth enfawr. Felly, os edrychwn ni ar gamblo, mae'n rhaid i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd o ran rheoleiddio'r rhyngrwyd, yr hyn sy'n digwydd o ran darlledu. Felly, mae yn effeithio ar feysydd eraill. Y ffordd rwyddaf o bell ffordd, yn fy marn i, o ymdrin â rheoleiddio gamblo yw ei wneud ar sail y DU gyfan, ond yn sicr un o'r pethau y byddwn ni'n dymuno ei ystyried yn y dyfodol yw'r hyn y byddem ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru sy'n mynd â ni y tu hwnt i'r pwerau a roddwyd i ni yn Neddf 2017, nad yw'n ymddangos bod unrhyw werth iddyn nhw erbyn hyn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rhaglen Cymru o Blaid Affrica? OAQ52215
Mae'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn cynorthwyo unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi yn Affrica mewn ffyrdd sy'n sicrhau manteision i Gymru ac i Affrica. Dyfarnwyd grant tair blynedd gennym yn ddiweddar i Hub Cymru Affrica a sefydlwyd cynllun grantiau bach gennym i gynorthwyo gweithgarwch ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n hyrwyddwr brwd o'r rhaglen, ac rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol. Yr wythnos diwethaf, dychwelais o orllewin Kenya, lle gwelais y gwaith sy'n cael ei wneud gan Just Earth, sy'n elusen sydd wedi ei lleoli yng Nghymru sy'n helpu ffermwyr ymgynhaliol yn y rhan honno o'r wlad; mae hefyd yn gwneud rhywfaint o waith yn Uganda. O ganlyniad, maen nhw'n cynyddu maint eu cnydau ac mae'n helpu i ddileu tlodi yn y rhan honno o'r byd. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Just Earth ar eu gwaith? Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i nodi sefydliadau eraill fel hwy efallai nad ydyn nhw'n rhan o'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica, fel y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall gweithio gyda'n gilydd ar y cyd eu cynnig yn Affrica is-Sahara?
Rwy'n cefnogi unrhyw sefydliad, wrth gwrs, sy'n darparu cymorth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Gofynnodd y cwestiwn, 'Beth ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth?' Wel, fel y dywedais, dyfarnwyd grant tair blynedd gwerth £349,000 y flwyddyn i Hub Cymru Affrica ar gyfer 2018-21. Mae'r ganolfan yn cynnig cyngor, hyfforddiant a chymorth i gannoedd o grwpiau yng Nghymru sy'n gweithredu yn Affrica—mae'r cymorth hwnnw ar gael i unrhyw sefydliad. Gallaf ddweud o ran cyllid grant, ein bod wedi derbyn 105 o geisiadau grant yn ystod 2017-18, felly mae'n dangos bod ymwybyddiaeth eang o'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig o ran cymorth grant. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i gymryd rhan yn y broses honno.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â Darren Millar, a chyda llawer ar draws y Siambr, am werth y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwyf innau hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weld drosof fy hun yn Mbale yn Uganda gwerth y cysylltiadau addysg ac iechyd. Yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei grybwyll eisoes, o ran Hub Cymru Affrica a'r cynllun grant, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwneud rhagor o waith i adeiladu ar y cysylltiadau rhwng cymunedau? Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb ledled Cymru yn ein cymunedau, o ran sut y gall pobl chwarae eu rhan mewn adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes.
Gallaf, mi allaf. Yr hyn y byddwn yn cyfeirio cymunedau a grwpiau cymunedol i edrych arno yw cynllun grantiau bach Cymru o Blaid Affrica. Fe'i lansiwyd yn ddiweddar ac mae wedi ei gynllunio i ganolbwyntio ar wella cyfraniad Cymru at fynd i'r afael â thlodi yn Affrica, ond mae hefyd wedi'i gynllunio, wrth gwrs, i helpu grwpiau cymunedol a chysylltiadau cymunedol i gyfrannu at yr agenda honno. Mae'r cynllun grant hwnnw ar gael i sefydliadau sefydledig—ceir llawer ohonynt ledled Cymru—ond hefyd sefydliadau newydd sydd â syniadau newydd. Felly, dyna'r cynllun y byddwn i'n awgrymu i bobl ei ystyried er mwyn gweld sut y gellir eu helpu i helpu pobl eraill.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n gwbl ymwybodol o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan elusen PONT ym Mhontypridd, sydd wedi datblygu cysylltiadau â Mbale yn Uganda, a'r ffordd sylweddol y mae hynny wedi datblygu er lles y bobl yn Uganda a Mbale. Mae fy nghanmoliaeth arbennig, rwy'n credu, i'r gwaith addysgol y mae'r elusen honno'n ei wneud mewn ysgolion yn Nhaf Elái, fel eich bod chi'n gweld ym mhob ysgol yr ewch chi iddi yn y fan honno erbyn hyn, myfyrwyr ifanc sydd mewn gwirionedd yn ymwneud â monitro'r hyn sy'n digwydd—o ran deall ac ymgysylltu ag ef, a datblygu rhyw fath o ysbryd Cymreig traddodiadol o ryngwladoldeb, o ran ein cyfrifoldebau i weddill y byd, ac i'r gwrthwyneb. Ar adeg pan fo rhwystrau yn cael eu codi ledled y DU ac yn y blaen, onid yw hon yn enghraifft wych i'n plant ysgol o sut y gallwn ni gyfrannu at yr holl faterion byd-eang sy'n effeithio arnom ni i gyd?
Rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i weld gwaith PONT drosof fy hun yn Mbale—roeddwn i yno yn 2014. Er enghraifft, gwelais wasanaeth ambiwlans beic modur PONT. Mae'n darparu triniaeth frys i fenywod sy'n esgor, i'w cludo i'r prif ysbyty o ardaloedd tra anhygyrch â ffyrdd gwael—gwelais hynny'n cael ei ddangos. Ceir cydgysylltydd PONT, sy'n treulio amser yn Mbale yn gweithio gyda phartneriaid i godi safonau. Ac rwyf i wedi gweld, wrth gwrs, yr hyn y mae PONT wedi ei wneud o ran darparu seilwaith yn Mbale hefyd. Mae'n stori ardderchog dros flynyddoedd lawer iawn, ac yn un a oedd yn fraint i mi gael ei gweld.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ynni niwclear? OAQ52226
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddatblygu polisi niwclear. Rydym ni'n cefnogi niwclear newydd ar safleoedd presennol i sicrhau'r manteision etifeddiaeth mwyaf posibl o unrhyw fuddsoddiad arfaethedig. Felly, mae'n golygu cynnal gorsaf bŵer yn y lle iawn yn ogystal â thwf cadwyn gyflenwi a datblygu sgiliau ac ymchwil, gan ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a'n hamgylchedd ar yr un pryd.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wrthi'n trafod y pecyn ariannu ar gyfer Wylfa Newydd gyda Hitachi ar hyn o bryd, a bod y canlyniadau yn y fantol ar hyn o bryd. Byddwch yn gwybod bod pobl y gogledd yn aros yn amyneddgar am y swyddi adeiladu yn yr orsaf bŵer ac yn y gadwyn gyflenwi a fydd yn cael ei chreu gan y cynllun hwn. Pa eiriau o gysur allwch chi eu cynnig iddyn nhw?
Mae'n fater i Lywodraeth y DU yn hytrach nag i ni, ond mae dau bwynt yr wyf i'n credu y mae'n bwysig eu gwneud. Yn gyntaf oll, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol bod angen i ni adael Euratom. Does gen i ddim syniad o gwbl pam y byddem ni'n gadael Euratom—ni allaf gofio unrhyw un yn dweud hynny wrthyf i ar garreg y drws yn 2016—a sefydlu'r hyn sy'n ymddangos fel rheoliadau yn union yr un fath i ddim pwrpas o gwbl. Nid wyf i'n credu bod hynny'n helpu, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y lefel yr ansicrwydd y gallai hynny ei greu.
Ond yn ail, credaf ei bod hi'n bwysig dros ben bod dealltwriaeth yn Whitehall bod yn rhaid i ni dalu i gyfrannu at adeiladu gorsafoedd pŵer; ni allwn ddisgwyl i bobl eraill eu hadeiladu ar ein rhan drwy'r amser. Roedd problemau o ran Hinkley, ac rydym ni'n dal i fod heb glywed dim am y morlyn llanw, sy'n un o'r cynlluniau mwyaf arloesol yn y byd ar hyn o bryd, yn ôl pob tebyg. Gadewch i ni weld a all Llywodraeth y DU fod yn arloesol ac yn fentrus yn y dyfodol, ond mae'n hynod bwysig bod y problemau ariannol yn cael eu datrys fel bod gorsaf bŵer ac, yn bwysig, bod swyddi ar Ynys Môn.
Prif Weinidog, mae rheoli gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig, ac nid oes gennym ni unrhyw safle gwaredu gwastraff lefel uchel yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, lansiwyd ymgynghoriad ym mis Ionawr i weld a fyddai unrhyw le yng Nghymru yn gwirfoddoli i fod yn gartref i safle gwaredu gwastraff niwclear. A ydych chi wedi cael unrhyw ymatebion ac a allwch chi hysbysu'r Siambr am unrhyw gynnydd?
Nid yr wyf i'n ymwybodol ohono. Rwy'n cofio gwneud hyn pan oeddwn i'n Weinidog yr amgylchedd. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ymchwilio iddo o bryd i'w gilydd. Wrth gwrs, mae'r cyfleusterau ailbrosesu yn Sellafield ar gael i Wylfa. Maen nhw'n eithriadol o bwysig i'r diwydiant niwclear yn y DU. Ond na, nid oes unrhyw gymuned wedi gwirfoddoli, hyd y gwn i.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn cymunedau yn y cymoedd? OAQ52232
Os edrychwn ni ar 'Ffyniant i Bawb' a thasglu'r Cymoedd, er enghraifft, eu diben nhw yw gwella bywydau pobl trwy ddarparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, ac, wrth gwrs, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus gwell a chryfhau cymunedau'r Cymoedd.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Mae sicrhau llesiant a ffyniant ein trefi a'n cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i fod yn her sylweddol, fel y dangosir gan nifer o ddangosyddion lles iechyd, cymdeithasol ac ehangach, ac roedd yr adroddiad diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a oedd yn awgrymu y byddai mwy o bobl yn cael eu gyrru i dlodi gan ddiwygiadau lles y DU yn peri pryder mawr i mi. Mae hynny'n dilyn yn agos ar sodlau adroddiadau gan Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan, sy'n datgan y bydd y don nesaf o ddiwygiadau lles yn gwthio hyd yn oed mwy o bobl yn ein cymunedau yn y Cymoedd i dlodi. Nawr, wrth i'm hetholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, baratoi ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol y mis nesaf, a wnewch chi ymuno â mi unwaith eto i annog y meinciau gyferbyn i godi eu lleisiau ochr yn ochr â'n rhai ninnau i berswadio eu Llywodraeth yn San Steffan i roi terfyn ar y polisi di-hid hwn o gyni nawr, cyn i fwy o niwed gael ei achosi i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Byddan nhw wedi clywed yr alwad honno. Rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw ailystyried y newidiadau niweidiol y mae eu polisïau diwygio treth a lles yn eu hachosi i aelwydydd yng Nghymru. Y cyfan yr wyf i'n pryderu yn ei gylch, os edrychwn ni ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, bod hwnnw'n awgrymu y byddwn ni'n gweld y diwygiadau y maen nhw'n eu cynnig yn Whitehall yn gwthio 50,000 o blant eraill i dlodi erbyn 2021-22. Nawr, holl bwynt Llywodraeth, does bosib, yw ceisio dod o hyd i ffyrdd o leddfu anghydraddoldeb a cheisio ei leihau cymaint â phosibl, nid ei gynyddu, ond dyna'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU ynddi. Ac rwy'n bryderus iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol—maen nhw wedi cael eu trafod droeon yn y Siambr hon—ond er gwaethaf y diffygion hynny, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r rhaglen. Mae angen i ni gael system fudd-daliadau yn y wlad hon sy'n helpu pobl yn hytrach na'u cosbi, sef yr hyn y mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU eisiau ei wneud.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gwaith yw un o'r ffyrdd gorau allan o dlodi? A wnaiff ef ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 52 y cant ers 2010?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod gwaith yn bwysig, ond mae gwaith sy'n talu'n dda yn hanfodol. Rydym ni wedi dweud erioed—. Roeddem ni'n arfer dweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd', ac eto pam mae pobl mewn gwaith yn defnyddio banciau bwyd? Pam mae hanesion am bobl sydd mewn gwaith ond eto'n methu â fforddio hanfodion sylfaenol bywyd? Pam? Oherwydd y toriadau i fudd-daliadau, yn enwedig toriadau i fudd-daliadau mewn gwaith, yr ydym ni wedi eu gweld gan y Llywodraeth Geidwadol, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Geidwadol nad yw'n gwerthfawrogi gwaith, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Geidwadol nad yw'n credu mewn gwaith teg. Rydym ni'n credu yn yr holl bethau hynny. Rydym ni eisiau gweld gwaith teg i'n pobl ym mhob rhan o Gymru yn y dyfodol.
9. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod gan weithwyr lais cryf mewn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud ag ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52253
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig ac undebau llafur trwy gyngor partneriaeth y gweithlu er mwyn sicrhau bod materion strategol, fel newidiadau i wasanaethau cyhoeddus, yn cael eu trafod. Yn lleol, mae cyflogwyr sector cyhoeddus wedi ymrwymo i drefniadau partneriaeth gymdeithasol tebyg.
Rydw i wedi codi gofidiau ynglŷn â phreifateiddio gwasanaethau dialysis gyda chi yn flaenorol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y posibilrwydd o staff yn symud o’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i’r sector breifat i weithio, rhywbeth maen nhw wedi bod yn gwbl glir nad ydyn nhw eisiau i ddigwydd. Nawr, mae yna gwestiynau mawr wedi cael eu codi gan y gweithwyr hyn ynglŷn â’r broses sydd wedi cael ei ymgymryd â hi ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, i’r pwynt eu bod nhw wedi ysgrifennu llythyr at y bwrdd, ac mi ddyfynnaf i'n sydyn o hwnnw:
Mae'n ffordd warthus i gyflogwr cyfrifol ymddwyn mewn proses o'r fath.
—meddai’r gweithwyr.
Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw. Mae'r staff yn gofyn felly i chi ymchwilio i ddiffygion a'u datrys yn y prosesau a amlygwyd i chi.
Nawr, mae Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, felly a wnewch chi hefyd ymrwymo i ymchwilio i pam mae'r staff mor ddig ynghylch y broses hon, oherwydd roeddech chi'n dweud y geiriau cywir yn eich ateb blaenorol; oni ddylech chi gymryd y camau cywir nawr?
Wel, gallaf ddweud na fydd unrhyw aelod o staff yn cael ei orfodi i symud i'r sector annibynnol. Mae'n hynod bwysig gwneud y pwynt hwnnw. Yn ail, fy nealltwriaeth i yw bod cynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr adnoddau dynol wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan trwy gydol y broses o ddatblygu gwasanaethau arennol yn y gogledd. Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch y model gwasanaeth terfynol. Fodd bynnag, mae ef wedi darllen yn syth o lythyr, ac rwy'n teimlo bod angen i mi edrych ar y llythyr hwnnw i roi sicrwydd i'r bobl hynny sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwnnw bod y mater hwn yn cael sylw, a rhoddaf y sicrwydd hwnnw iddo.
Ac yn olaf, cwestiwn 10—Julie Morgan.
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amgylchedd naturiol Cymru? OAQ52254
Rydym ni'n parhau i weithredu saith rhan allweddol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae honno'n cyflwyno cynllun i reoli adnoddau naturiol ac amgylchedd Cymru mewn modd rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roedd yn braf iawn gweld y dyfarnwyd 47 o draethau baner las i Gymru, sy'n golygu bod gennym ni fwy fesul milltir o arfordir nag unrhyw wlad arall yn y DU. Felly, roedd hynny'n newyddion braf iawn. Ond beth, Prif Weinidog, ydych chi'n ei gredu fydd effaith gadael yr UE ar safonau amgylcheddol, gan ei fod wedi golygu tan nawr y bu'n rhaid i ni gael safon uchel ar gyfer pethau fel dŵr ymdrochi a rheoli'r arfordir?
Wel, mae'n rhaid dweud mai ein haelodaeth o'r UE wnaeth wella safonau amgylcheddol yn y DU. Roedd ein safonau ni'n ofnadwy; roedd yr afonydd yn ofnadwy. Roedd un afon ym Manceinion fwyaf a oedd yn fflamadwy yn y 1980au pe byddech chi'n taflu matsien i mewn iddi. Byddai fy afon fy hun, Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn llifo mewn gwahanol liwiau yn ôl yr hyn a oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi i fyny'r afon. Roeddwn i'n edrych arni ddydd Sul—clir fel grisial. Roeddem ni'n arfer gweld pysgod marw yn yr afon yn aml yn y 1980au. Bu digwyddiad llygredd mawr yno a laddodd yr holl fywyd gwyllt o amgylch yr afon. Rydym ni ymhell o'r sefyllfa honno, a'r peth diwethaf y dylem ni fod yn ei wneud yw dychwelyd i'r dyddiau hynny.
O ran traethau baner las, croesawaf yn fawr iawn y ffaith—ac mae gen i bron i 10 y cant ohonyn nhw yn fy etholaeth i—y gallwn ni ddweud bod ein traethau yn bodloni safon Ewropeaidd sy'n safon uchel. Y peth olaf y dylem ni ei wneud yw cael safon is ar gyfer ein traethau. Yn fy marn i, mae'n gwneud synnwyr perffaith i barhau i fod yn rhan o gynllun y faner las neu, os nad yw hynny'n dderbyniol neu'n gymeradwy i'r Brexiteers digyfaddawd, dylid cael cynllun cyfatebol o leiaf, a gydnabyddir yn gyfatebol gan bawb arall yn y byd, ond dylem beidio â mynd tuag at yn ôl a dychwelyd i'r dyddiau yr wyf i'n eu cofio yn y 1970au a'r 1980au pan oedd ein traethau yn fochaidd a'n hafonydd yn llygredig, yn y bôn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynghylch y stori erchyll sy'n cael ei hadrodd heddiw am faetio moch daear yma yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli bod hyn yn draws-asiantaeth ac yn draws-sector, a bod rhai o'r cyfrifoldebau yn San Steffan, bod rhai o'r cyfrifoldebau hynny o ran iechyd a lles anifeiliaid yma yn y Cynulliad. Ond pwy bynnag sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw, mae'n stori erchyll o gam-drin anifeiliaid na ddylid ei oddef mewn unrhyw wlad wâr, ac mae angen i ni weithredu ar sail y dystiolaeth hon a gyflwynwyd gan y BBC heddiw. Yn arbennig, mae'n dynodi—ac rwy'n gwerthfawrogi'r unigolyn sydd wedi nodi ac wedi dweud nad yw'n cymryd rhan yn hyn o gwbl—bod gan unigolyn orchymyn yn ei erbyn yn ymwneud â bod yn berchen ar gŵn at ddibenion bridio, ac eto mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn bridio cŵn.
Mae angen i ni fel gwlad ddangos arweiniad ar y mater hwn, a byddwn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar sut y gallai hi, gyda'i swyddogion, ddod ag asiantaethau at ei gilydd sy'n gallu edrych ar hyn, a, lle bynnag y mae'n digwydd ledled Cymru, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddileu ac yn cael ei atal ar unwaith.
Rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n rhannu eich pryderon; rydym ni i gyd wedi clywed yr hysbysebion ac ati ar gyfer y rhaglen, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei darlledu yn ei chyfanrwydd heno. Byddwn ni'n edrych arni'n ofalus iawn ac yn edrych ar y dystiolaeth, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei bod hi, wrth gwrs, yn rhannu eich pryderon ac y byddwn ni'n ymateb yn briodol i hynny, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein brawychu gan rai o'r straeon o greulondeb, tuag at y moch daear a'r cŵn dan sylw, mewn gwirionedd.
Hoffwn wneud tri chais ar gyfer datganiadau, os yw hynny'n iawn; fe geisiaf fod yn gryno. Rwyf wedi clywed gan drigolion a chynghorwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr nad ydyn nhw wedi gallu mynd ar borth cynllunio'r cyngor ers nifer o fisoedd bellach, ac mae wedi bod ar-lein ac all-lein mewn modd ad-hoc iawn. Rwy'n codi hyn yma oherwydd bod yr etholwyr yn dod ataf i yn dweud bod arnynt eisiau edrych ar geisiadau cynllunio presennol—i roi barn arnyn nhw, neu i apelio yn eu herbyn—ac ymddengys na allan nhw wneud hynny. Felly, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i gynghorau yn gyffredinol, gan roi arweiniad ynghylch sut y dylai'r pyrth cynllunio hynny weithredu, oherwydd gallai fy etholwyr i golli'r cyfleoedd i roi eu barn ar geisiadau cynllunio os yw'r sefyllfa bresennol yn parhau.
Mae'r ail gais am ddatganiad yn ymwneud â'r syrcas deithiol gydag anifeiliaid gwyllt sy'n mynd ar daith ar hyn o bryd. Mae yna daith yn y de ac yn y gogledd—roedd ym Mhorthcawl yr wythnos diwethaf. Cefais gyfarfod ag RSPCA Cymru yr wythnos hon, ac roedden nhw'n dweud wrthyf mai'r rheswm dros gynnal y sioe ym Mhorthcawl yw bod gan gyngor Pen-y-bont ar Ogwr brydles ar gyfer digwyddiadau sy'n ei glymu i gontract hirdymor â'r arddangoswr penodol hwn. Tybed a wnewch chi roi datganiad i ni ar ba ymchwil yr ydych chi wedi'i wneud yn y cynghorau eraill, ac yn y cyngor penodol hwn, sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, oherwydd, os oes ganddyn nhw brydlesoedd tymor hir o'r fath, ac os oes yna gais i wahardd anifeiliaid gwyllt rhag bod yn rhan o syrcasau—cais yr wyf yn gobeithio y byddwn ni'n cael datganiad arno cyn bo hir—yna mae angen inni fod yn ymwybodol y gallai'r prydlesoedd hirdymor hyn fynd yn erbyn y broses benodol honno.
Mae fy nhrydydd cais yn ymwneud â datganiad—adroddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf—ar gladin allanol ar adeiladau yn sgil Grenfell. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw'n mynd i ymgynghori ar wahardd cladin fflamadwy, ac ar lefel y DU, mae grŵp Plaid Lafur y DU wedi dweud, 'Peidiwch ag ymgynghori arno, ewch ati i'w wahardd', ac yn y fan hon mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod hi'n mynd i gymryd rhywfaint o amser i ystyried y dewisiadau. Hoffwn gael datganiad cyn gynted â phosibl i ddeall beth fydd safbwynt Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae pobl yn dod ataf i, fel llefarydd ar dai, i ofyn beth sy'n digwydd yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i'r perwyl hwnnw.
Diolch i chi am y tri mater hynny, sy'n rhai pwysig iawn. O ran y cyntaf, y porth cynllunio, byddai'n ddefnyddiol iawn, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, pe byddech yn ysgrifennu a rhoi gwybod beth yw'r manylion. Mae canllawiau yn bodoli eisoes ar gynnal y pyrth cynllunio, felly byddai'n ddiddorol gweld a oes rhyw fater penodol sy'n ymwneud a pheidio â chydymffurfio â'r canllawiau hynny. Felly, nid wyf yn siŵr a ydych chi eisoes wedi ysgrifennu—os nad ydych chi wedi gwneud hynny, yna byddwn i'n awgrymu eich bod yn gwneud hynny. Ac yna, os oes problem gyffredinol â'r canllawiau, gallwn ni edrych ar hynny.
O ran y syrcasau a'r anifeiliaid, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym wrthi'n ystyried beth i'w wneud. Mae yna gonsensws yn y fan hon nad yw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn beth da i'w weld. Rwy'n siŵr y bydd rhan o'r ddeddfwriaeth a gyflwynir yn ymdrin â threfniadau lesddaliadol presennol a'r amddiffyniad ar gyfer pobl a allai gael eu dal mewn sefyllfa o'r fath. Ond mae'n werth chweil tynnu sylw at y mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gwrando'n astud i chi wrth i chi sôn amdano. Fe fydd yna broblemau cysylltiedig eraill hefyd—a bydd angen inni wneud yn siŵr bod unrhyw waharddiad yn cael effaith gyflawn, a'n bod ni'n gwneud y ddeddfwriaeth yn briodol yn hynny o beth, a dyna beth y mae'r Gweinidog yn ei ystyried.
Ac yna, o ran Grenfell, ac mae'r Gweinidog yn brysur nodio y tu ôl imi, byddwn ni'n edrych yn ofalus ar yr hyn sy'n digwydd ac yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny, oherwydd dyna—. Yn amlwg, rydym ni i gyd wedi cael ein hatgoffa o drychineb arswydus Grenfell dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ac wn i ddim amdanoch chi, ond roeddwn i yn fy nagrau unwaith eto o glywed rhai o'r adroddiadau yn y cyfryngau ddoe. Felly, yn amlwg, mae angen inni wneud rhywbeth i wneud yn siŵr na all trychineb o'r fath ddigwydd byth eto.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad—y datganiad cyntaf ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella diogelwch trydanol, yn dilyn tanau trydanol yng nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Achoswyd 121 gan offer neu gyfarpar diffygiol, 119 gan gyflenwad trydan diffygiol, 15 gan geblau diffygiol a 52 gan orboethi. Mae'r rhain yn broblemau difrifol. Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar hynny.
Nid wyf yn ymddiheuro dim am fynd yn ôl at y colledion swyddi yn Virgin, unwaith eto, yn yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano, oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae'n fater o bryder difrifol yn ein rhan ni o'r byd. Cyfarfuom â chynrychiolwyr y gweithlu yr wythnos diwethaf, ac fe ddaethant i'n gweld, ac roeddent yn pryderu ynglŷn â phryd y byddai pobl, yn gyntaf, yn dechrau mynd i mewn i'w gweld a siarad â hwy, ac yn ail, mae nifer o gwmnïau, gan gynnwys Admiral—sydd wedi dweud hynny'n gyhoeddus—wedi cynnig siarad â hwy a gweld a yw eu sgiliau yn bodloni prinder sgiliau Admiral. Ond os ydyn nhw'n gadael oherwydd eu bod nhw ar fin cael eu diswyddo, yna maent yn credu y dylent gael eu tâl dileu swydd, oherwydd y gwneir datganiad eu bod wedi'u diswyddo, yn hytrach na gorfod aros tan y diwrnod olaf. Y trydydd yw y byddai rhai ohonynt yn dymuno defnyddio eu tâl diswyddo er mwyn talu costau hyfforddiant ychwanegol, na fyddai ond cyfran benodol ohonynt yn cael eu talu gan ReAct, er mwyn gwella eu sgiliau. Os cânt eu tâl dileu swydd, efallai y bydd y cyrsiau yn dechrau cyn i'r broses gau ddod i ben. Felly, mewn gwirionedd, byddai unrhyw ddiweddariadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y—mae'n ddrwg gennyf, pam wyf i'n dweud hyn wrthych? Rydych yn gwybod hyn. [Chwerthin.] Byddai unrhyw ddiweddariadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y bobl sy'n gweithio yno.
Yn hollol. Diolch i chi am y ddau fater pwysig hynny. Ar ddiogelwch tân trydanol, fel yr wyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cofio, dywedodd Carl Sargeant wrth y Cynulliad y llynedd bod ganddo bryderon gwirioneddol am y cynnydd mewn tanau domestig sy'n tarddu o'r cyflenwad trydan, a chomisiynodd ymchwil fanwl i'r broblem, sydd bellach wedi'i chwblhau. Mae'n archwilio graddau'r duedd a'r achos posibl yn fanwl ac yn argymell pa gamau pellach y dylid eu cymryd gan y gwasanaeth tân ac eraill. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar fin cyhoeddi'r gwaith ymchwil hwnnw, ac wedyn byddwn yn gallu ymateb yn briodol i'r ymchwil a rhoi mesurau priodol ar waith. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi bod yn pryderu ers tro am faterion o'r fath.
O ran y sefyllfa gyda Virgin Media, yn wir, rydym ni'n amlwg yn rhannu nifer o bryderon am hyn, fel pob un o Aelodau'r Cynulliad yn y rhanbarth. Rydym ni i gyd wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd. Rydym ni wedi rhoi cymorth i'r gymdeithas staff yno erbyn hyn, i lunio cais amgen posibl, fel y trafodwyd yn y cyfarfod yr oeddem ni ynddo. Rydym ni hefyd wedi rhoi'r tasglu ar waith, fel y bydd cyllid ar gael cyn gynted ag y caniateir i'r tasglu gael mynediad, ac yr wyf ar ddeall y bydd hynny cyn gynted ag y bydd y broses ymgynghori wedi gorffen, sef unrhyw funud nawr—ddiwedd yr wythnos hon, rwy’n credu, ond byddaf yn edrych ar yr union ddyddiad yn hynny o beth. Rwyf ar ddeall, yn unol â'r holl ddigwyddiadau eraill, y bu'n rhaid i ni ymdrin â nhw, yn anffodus, bydd y tasglu yn mynd i mewn wedyn, ar ôl i'r ymgynghoriad hwnnw gael ei gwblhau. Os bydd rhywbeth yn newid ar hynny, neu os oes rhyw anhawster gyda'r cwmni o ran caniatáu mynediad at y cronfeydd hynny, byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Senedd, gan ei bod yn fater o bryder mawr i ni fod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn briodol yn ystod y broses gythryblus iawn hon, yn wir, a bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cymaint o gymorth iddyn nhw ag y gallwn ni.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar bolisi derbyn ysgolion yng Nghymru? Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol mai'r oedran ysgol gorfodol yw dechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bum mlwydd oed. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, a elwir yn blant a anwyd yn yr haf, o dan anfantais. Mae rhieni plant pedair blwydd oed, nad ydyn nhw wedi cyrraedd aeddfedrwydd emosiynol, cymdeithasol nac academaidd na pharodrwydd ar gyfer ysgol, yn cael eu gorfodi i gofrestru eu plentyn flwyddyn gyfan yn gynharach, neu i gael hawl addysgol y plentyn wedi'i lleihau o flwyddyn a gorfod dechrau'r ysgol ym mlwyddyn 1. Mae rhiant yng Nghasnewydd wedi cysylltu â mi i ddweud, er gwaethaf tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n cadarnhau y bydd ei phlentyn yn dioddef os gorfodir iddo ddechrau yn yr ysgol eleni, neu ym mlwyddyn 1 y flwyddyn nesaf, y gwrthodwyd iddo'r hawl i gael mynd i ddosbarth derbyn yn yr ysgol yn 2019. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i roi'r hawl i blant a anwyd yn yr haf gael dechrau yn y dosbarth derbyn yn bump oed. A gaf i ofyn am ddatganiad ar ba gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn eu cymryd i roi terfyn ar yr annhegwch hwn a orfodir ar blant a anwyd yn yr haf yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, wrth gwrs, mae nifer fawr o blant wedi eu cynnwys yn y cyfnod sylfaen mewn ysgolion yng Nghymru, sy'n tynnu oddi wrth rai o'r anawsterau hynny. Ond os oes gan yr Aelod broblem benodol sy'n ymwneud â phlentyn penodol, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn uniongyrchol yn nodi'r broblem benodol honno, gan nad wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na fyddai'r plentyn hwnnw yn cael ei gynnwys fel mater o drefn yn y trefniadau cyfnod sylfaen, sy'n lliniaru'r broblem benodol y cyfeiriodd ati ar gyfer y rhan fwyaf o blant yng Nghymru.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad neu gamau gweithredu gan y Llywodraeth? Yn gyntaf oll, a gawn ni ddechrau gyda Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? Ers inni basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol fel Cynulliad, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi diwygio'r Bil. Fel y digwyddodd, rhoddodd egwyddorion amgylcheddol ar wyneb y Bil, rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi, ond na wnaethant ymgynghori â ni ar hynny, felly rydym ni'n gweld at beth y mae'r broses hon yn ein harwain ni. Dywedodd yr Athro Tim Lang wrth bwyllgor y Cynulliad ddoe y gellir bellach sathru Cymru dan draed o ran polisi amaethyddol oherwydd ein hufudd-dod ar y Bil. Dywedodd Michael Gove wrth felin drafod ar gyfnewid polisi ddoe nad oedd, mewn gwirionedd, y gwaith wedi gorffen o ran penderfynu pa feysydd sy'n mynd i ba le pan fyddan nhw'n dod yn ôl o'r Undeb Ewropeaidd, gan ychwanegu o bosibl at y 26 a nodwyd eisoes yn y cytundeb rhyng-lywodraethol. Ac, yn eironig, ar ôl inni basio ein cynnig cydsyniad deddfwriaethol, mae Tŷ'r Cyffredin wedi penderfynu na fydd yn ymdrin â Bil yr UE am rai wythnosau eto, sy'n tanlinellu'n wir y pwynt a wnes i fod gennych ddigon o amser i daro bargen well.
Felly, beth nawr? A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy'n gyfrifol am hyn, yn nodi sut yn union y bydd y Cynulliad nawr yn cael gwybod am newidiadau i'r Bil? Nid oes gennym reolaeth dros hyn bellach; rydym ni wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond bydd diwygiadau yn cael eu gwneud. Bydd amseru yn digwydd. Bydd pethau wedi digwydd ar gam gwahanol yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae potensial y bydd ping-pong yn ôl ac ymlaen rhwng yr Arglwyddi a'r Cyffredin ar hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ddeall sut y byddwn ni'n cael gwybod am hynny o hyn ymlaen. Mae'r egwyddor o roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad yn y cytundeb rhynglywodraethol ac rydych chi wedi ymrwymo i hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad yn nodi sut y caiff hyn ei wneud, fesul cam, ac a fydd gennym ni efallai, os oes angen, rai dadleuon pellach yn amser y Llywodraeth ar rai egwyddorion a allai ddod i'r amlwg dros yr wythnosau i ddod, oherwydd nad ydym ni'n credu bod y gwaith wedi ei gwblhau o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn meddwl y bydd yn ei wneud ar y meysydd hyn eto? Felly, dyna un maes.
Yr ail beth yr hoffwn gael datganiad arno gan y Llywodraeth, os oes modd—neu efallai y byddai llythyr at Aelodau yn briodol yn hyn o beth hefyd—yw, wrth gwrs, o ran y refferendwm yng Ngweriniaeth Iwerddon ddydd Gwener—refferendwm o'r enw 'Diddymu'r 8fed'. Nid oes a wnelo hwn ddim â Chynulliad Cymru, wrth gwrs, nid yw'n ymwneud dim â ni, ac eithrio, mewn ffordd, fod a wnelo â ni wedi'r cyfan, oherwydd bod llawer o ddinasyddion Iwerddon yn byw yng Nghymru ac yn gallu pleidleisio yn y refferendwm hwn. Mae llawer o golegau, darllenais mewn man eraill, wedi bod yn helpu myfyrwyr i ddychwelyd adref i bleidleisio yn y refferendwm, a byddai gennyf ddiddordeb mewn deall a yw'r broses honno wedi ei dilyn yma yng Nghymru hefyd. Os nad yw Diddymu'r 8fed yn llwyddiannus, yna gallwn dybio y bydd menywod o Iwerddon yn parhau i deithio i Gymru ac i weddill y DU er mwyn cael erthyliadau. Dyma'r sefyllfa ryfedd y mae'r Weriniaeth ynddi ar hyn o bryd, sef ei bod yn goddef erthyliad, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn rhywle y tu allan i Weriniaeth Iwerddon, wrth gwrs. Felly, mae yna fuddiant yn y fan hon, a byddai gennyf ddiddordeb i gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gyswllt â dinasyddion Gwyddelig, â Llysgenhadaeth Iwerddon, wrth gefnogi gallu dinasyddion Gwyddelig i ddychwelyd i bleidleisio yn refferendwm Iwerddon. Ac efallai y gall pob un ohonom ddweud 'Tá' i Ddiddymu'r 8fed.
Ar yr hyn, mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod yr ateb i hynny, felly byddaf yn gwneud yn siŵr yr ysgrifennir at bob aelod i ddweud beth yw'r sefyllfa. Yn amlwg, mae llawer ohonom ni wedi bod yn ymddiddori'n frwd yn y sefyllfa yno, (a) oherwydd ei bod yn effeithio ar ein gwasanaethau, fel y soniodd yr aelod, ond, mewn gwirionedd, (b) oherwydd bod gennym ni ymrwymiad hirdymor i wasanaethau priodol ar gyfer menywod ac mae'r sefyllfa yng Ngweriniaeth Iwerddon y tu hwnt i nifer fawr o ddemocratiaethau rhyddfrydol a'r holl werthoedd yr ydym ni'n sefyll drostyn nhw. Felly, rydym ni i gyd wedi bod yn ei ddilyn gyda chryn ddiddordeb, ond yn anffodus dydw i ddim yn gwybod y manylion am ddinasyddion sy'n dychwelyd adref, felly byddaf yn gwneud yn siŵr y rhoddir llythyr at bob Aelod o'r Cynulliad yn dweud a ydym ni wedi gwneud unrhyw beth. Dydw i ddim yn gwybod p'un a ydym ni wedi neu beidio.
O ran Bil ymadael yr UE, oes, mae yna rywfaint o anhrefn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda'r Arglwyddi ac ati. Rydym ni'n amlwg yn cadw llygad manwl ar hynny. Rwy'n anghytuno â'r datganiadau a wnaed gan y ddau Weinidog y gwnaethoch eu dyfynnu am resymau na fyddaf yn treulio 25 munud i ehangu arnyn nhw, neu fe fydd y Llywydd yn grac. Ond wrth gwrs bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn diweddaru'r Senedd yn aml iawn wrth i'r sefyllfa newid, ac yn wir mae'n bosibl iawn y bydd rhai o'r newidiadau yn cael eu codi a'u rhoi yn y Bil nesaf, er enghraifft, ac mae nifer o bethau eraill ar y gweill. Felly, mae'n bwysig iawn bod y Senedd hon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran lle'r ydym ni. Ac, yn amlwg, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn gwirionedd, os bydd y sefyllfa yn newid mewn unrhyw ffordd berthnasol, yna wrth gwrs y byddai'n rhaid inni ei hailystyried. Felly, yn sicr, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'r sefyllfa yn—credaf mai'r ymadrodd safonol yw—'ansefydlog' a 'diddorol', a, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn awr yn byw yn y ddihareb Tsieineaidd, 'byw mewn amserau diddorol'.
Yr enw blaenorol arni oedd Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia, ond 21-27 Mai 2018 yw Wythnos Gweithredu Dementia, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny. Fel y mae'r rhan fwyaf o Aelodau yn gwbl ymwybodol, amcangyfrifir bod 45,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddementia. Disgwylir i hyn gynyddu 35 y cant dros y degawdau nesaf, ond eto dim ond tua hanner yr unigolion yng Nghymru sydd â dementia sydd wedi cael y diagnosis hwnnw. Bedair blynedd yn ôl, fe ddes innau'n gyfaill dementia. Dri mis yn ôl, bu farw fy nhad, sydd wedi dioddef o Alzheimer a dementia fasgwlaidd, ar ôl iddo gwympo. Bydd fy mab hynaf yn eillio ei wallt ar 1 Mehefin i godi arian i'r Gymdeithas Alzheimer. Dywedodd, 'ni allaf newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond fe alla' i helpu i ddod o hyd i ddatrysiad.' Pe byddai unrhyw Aelodau yn teimlo y gallan nhw fynd i Just Giving a rhoi £1 hyd oed, byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Ddydd Mercher, mae BBC One yn dangos rhaglen, The Toddlers who Took on Dementia, yn dilyn arbrawf diweddar gan Brifysgol Bangor yng nghartref gofal dementia Hen Golwyn, Llys Elian, gyda grŵp o blant bach ifanc, yn treulio tri diwrnod gyda thrigolion hŷn, i weld a yw treulio amser gyda nhw'n helpu i wyrdroi effeithiau dementia. Unwaith eto, gofynnwyd i mi ganmol y rhaglen honno i'r Cynulliad hwn, ac i eraill, gobeithio, y tu allan sy'n gwrando ar hyn.
Ym mis Mai 2016, cynhaliodd Cymdeithas Alzheimer ddigwyddiad, yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad ynddo, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, i arddangos eu gwaith ar greu cymunedau cyfeillgar i ddementia yng Nghymru. Ym mis Chwefror, cynhaliodd Cymdeithas Alzheimer a Heneiddio'n Dda yng Nghymru ddigwyddiad 'Beth nesaf ar gyfer cymunedau cyfeillgar i ddementia yn y gogledd?'.
Rydym ni'n gwybod y nododd adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'Dementia: mwy na dim ond colli'r cof', yn 2016 ddiffyg parhaus o ran gwybodaeth am ddementia a'r ddealltwriaeth ohono. Gwyddom hefyd fod y Gymdeithas Alzheimer, bryd hynny, wedi galw am i'r strategaeth dementia a oedd yn yr arfaeth ar y pryd gan Lywodraeth Cymru, i nodi targedau clir ar gyfer gwella cyfraddau diagnosio dementia, a oedd y rhai isaf o blith cenhedloedd y DU ar yr adeg honno. Ym mis Chwefror 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu ar gyfer dementia, ond y cyflawni fydd mesur ei lwyddiant, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ragair. Felly, yr her dementia yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yw'r un y mae'n rhaid i ni i gyd ei hwynebu. A galwaf felly am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn Wythnos Gweithredu Dementia 2018 yn unol â hynny.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig am ddementia. Mae'n salwch, syndrom, ofnadwy i orfod byw gydag ef, ac rydym ni i gyd wedi bod, rwy'n gobeithio, yn cefnogi'r wythnos cyfeillgar i ddementia; rwyf innau'n gwisgo'r bathodyn. Hefyd, rwyf innau’n gyfaill dementia, a gwnaeth fy swyddfa gyfan ddilyn yr hyfforddiant; i unrhyw un nad ydynt wedi gwneud yr hyfforddiant hwnnw, rwy'n argymell yn gryf y dylech wneud hynny. Wrth gwrs, rydym ni newydd gyhoeddi'r cynllun gweithredu. Rwy'n falch o ddweud bod nifer mawr o bobl sy'n byw gyda dementia, a grwpiau cefnogi neu grwpiau sy'n cynrychioli pobl sy'n byw gyda dementia, wedi bod yn rhan bwysig o'r broses honno. A chymerodd un o fy etholwyr fy hun ran flaenllaw iawn ynddo, ac mi ges i'r cyfle i drafod hynny ag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o achlysuron. Felly, mae'n fater pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi, ac rwy'n falch o weld bod gennym ni ddigwyddiad yma yn y Senedd heddiw sy'n tynnu sylw at hynny, a bod yr Aelod wedi gallu gwneud hynny.
Arweinydd y tŷ, fel aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar olwg, rydym ni'n clywed rhai hanesion eithaf torcalonnus gan gleifion gofal llygaid sy'n dioddef cyfnodau o oedi erchyll yn eu triniaeth, ac mae oedi o ran gofal dilynol yn broblem fawr ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, gofynnais i Lywodraeth Cymru ryddhau data ynghylch maint y broblem gofal dilynol yng Nghymru, fesul bwrdd iechyd, gan nad yw'r ffigurau hyn wedi'u cyhoeddi. Mae'r data'n frawychus, ac yn dangos, o'r 114,000 o gleifion sy'n aros am apwyntiad dilynol yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth eleni, fod 54,000 ohonyn nhw wedi aros y tu hwnt i'r dyddiad adolygu y cytunwyd arno yn glinigol. Pam y mae hynny'n bwysig? Wel, mae archwiliadau clinigol wedi dangos bod tua 90 y cant o gleifion ar restrau dilynol offthalmoleg yn dioddef o gyflyrau megis dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran, glawcoma a retinopathi diabetig—cyflyrau sy'n golygu bod y cleifion mewn perygl o niwed anwrthdroadwy neu ddallineb, os na chânt eu trin o fewn y cyfnod dilynol clinigol y cytunwyd arno. Mae'r sefyllfa'n gwbl warthus ac mae yna anghysondeb amlwg o ran y capasiti a'r galw o fewn y system, ac mae'n sefyllfa sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Yng ngoleuni'r ffigurau syfrdanol hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gytuno i gyflwyno datganiad i'r Siambr hon a fydd yn amlinellu sut y mae'n mynd i'r afael â'r amseroedd aros gwarthus hyn ar gyfer cleifion gofal llygaid?
Ydi, mae'n fater pwysig iawn. A dweud y gwir, Llywydd, a gaf i ddatgan buddiant personol? Mae fy ngŵr yn aros am apwyntiad ar gyfer ei olwg ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ac rwy'n gwybod bod gwahanol Aelodau yn ymwybodol o hynny. Felly, mae arnaf eisiau dweud hynny ar goedd.
Rwy'n gwybod bod cynllun peilot cenedlaethol ar waith ar hyn o bryd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf, ar ôl cael adroddiad gan y cynllun peilot cenedlaethol, ac yng ngoleuni'r materion a godwyd gan Dai Lloyd, y bydd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y pwynt hwnnw.
Rydych chi wedi sôn am y digwyddiad cyfeillgar i ddementia i fyny'r grisiau amser cinio, arweinydd y tŷ. Roedd y digwyddiad drws nesaf—. Mae'n debyg na allwch chi weld, oni bai bod gennych chi olwg eithriadol o dda, fy mathodyn ar gyfer y therapyddion galwedigaethol, a oedd yn yr ystafell drws nesaf. Roedd yn wych cael cwrdd â therapyddion galwedigaethol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a wnaeth roi gwybod i mi cymaint o waith y maen nhw'n ei wneud â materion iechyd meddwl hefyd. Felly, mae'n ymddangos i mi nad yw therapi galwedigaethol yn ymwneud â rheoli'r meysydd traddodiadol yn unig, mae hefyd yn bwysig iawn wrth gymryd pwysau oddi ar feysydd eraill y gwasanaeth iechyd, o ran ymdrin â'r bobl hynny, felly tybed a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd ar y cymorth a roddir i therapyddion galwedigaethol yng Nghymru.
Yn ail, ac yn olaf, mae toriad yr haf ar y gorwel yn awr. Tybed a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer seilwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymweld â'r cynllun hwnnw yn ddiweddar. Ymwelais i ag ef hefyd; mae'n gynllun gwych. Gwnaeth y dyluniad argraff dda iawn arnaf, yn ogystal â'r bobl sy'n gweithio ar y cynllun, ond rydym ni'n gwybod ei fod wedi cael problemau o ran mynd dros y gyllideb a thros amser, ac nid dim ond y math arferol o lithriant amser, ond cyfnod sylweddol o amser, ac mae pobl leol wedi mynegi pryderon am hynny. Felly, a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran pryd yr ydym ni'n rhagweld y bydd y cam hwnnw o'r prosiect yn cael ei gwblhau, a hefyd sut yr ydym ni'n bwriadu manteisio ar y cynllun hwnnw yn y tymor hir, fel bod yr Aelod dros Flaenau Gwent a minnau, fel yr Aelod dros Sir Fynwy, yn gallu dweud wrth ein poblogaethau lleol y bydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn bwrw ati'n syth ar ôl i'r datblygiad hwnnw gael ei gwblhau ac y gallwn ni ddatblygu'r twf economaidd yn yr ardal honno?
Ie, rwy'n credu y bu cyfres o ymweliadau felly, gan fy mod i wedi bod yno hefyd. Mae'n drawiadol iawn yn wir. Mae'r ddau Ysgrifennydd Cabinet yn nodio'n hapus ataf ac yn dweud y bydd yna ddiweddariad ar y mater hwnnw cyn toriad yr haf.
O ran iechyd galwedigaethol, yn hollol, mae'n elfen bwysig iawn o rai o'r trefniadau iechyd meddwl sydd gennym ni ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fy atgoffa ein bod ni, wrth gwrs, wedi cynyddu faint o hyfforddiant a chydnabyddiaeth yr ydym ni'n eu rhoi i ymarferwyr iechyd galwedigaethol a'u bod, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o'r strwythur clinigwyr ledled Cymru.
Mi fydd nifer ohonom ni wedi ein brawychu, rydw i'n siŵr, gan yr ystadegau a gyhoeddwyd wythnos diwethaf fod dros 77,000 o ddyddiau gwaith wedi cael eu colli ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, oherwydd stres a lefelau o ofid ymhlith y staff. Nawr, nid yn unig y mae hynny, wrth gwrs, wedi costio bron £5.5 miliwn i'r bwrdd, ond mae'n cynrychioli cynnydd o 17 y cant mewn absenoldebau mewn dim ond chwe blynedd. Mae'r bwrdd yma, fel roeddwn yn cyfeirio ato yn gynharach, o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth yma. Rydw i'n nodi yn y datganiad busnes y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad i ni ar y sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos nesaf. A gaf i felly ofyn i chi sicrhau y bydd yna ymateb uniongyrchol i'r sefyllfa rydw i wedi cyfeirio ati, oherwydd mae hynny i fi yn un o'r problemau sylfaenol? Mae'n adlewyrchu methiant eich Llywodraeth chi i fynd i'r afael â sicrhau bod yna weithlu digonol ac mae hynny, yn ei dro, yn cael yr effaith rydym newydd ei weld.
Ie, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi wrthyf y bydd ef yn gwneud yr union beth hynny pan fydd ef yn rhoi diweddariad i'r Senedd yr wythnos nesaf.
Rwy'n gresynu at godi ar fy nhraed unwaith yn rhagor, i fynegi pryderon am lywodraethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n gynyddol ddod yn orllewin gwyllt llywodraeth leol Cymru. Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod naw cyn-aelod o staff wedi eu hailgyflogi ar ôl derbyn ymddeoliad cynnar, taliad diswyddo neu dâl dileu swydd. Mae hyn, wrth gwrs, yn groes i bolisi'r cyngor ei hun ac mae'n codi pryderon difrifol fod taliadau wedi eu derbyn gan unigolion a gafodd eu hailgyflogi wedyn gan y cyngor. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud a yw'n ystyried bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol ar yr achlysuron hyn? Yn wir, a gawn ni ddatganiad ehangach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar lywodraethu yng nghyngor Caerffili yn fwy cyffredinol?
Oes, mae, wrth gwrs, fel rwy'n siŵr y gŵyr Steffan Lewis, gyfres lem iawn o reolau a rheoliadau ynglŷn â beth y gellir ei dderbyn drwy gyfrwng taliadau pan fo chi'n cael pensiwn llywodraeth leol. Mae'r cynllun yn anhyblyg iawn yn hynny o beth ac mae cyfres lem iawn o reolau ynghylch hynny. Felly, os oes gennych chi fanylion y rheini, rwy'n siŵr, pe byddech yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd yn hollol o ddifrif ynglŷn ag edrych a lynwyd at y cynlluniau hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y cynllun gweithredu economaidd. Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Pan lansiais y cynllun gweithredu economaidd, eglurais fy mod yn cyflwyno dull newydd o sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol i gefnogi ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i bawb' a'i phum maes blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl, cyflogadwyedd a sgiliau, tai, a gofal cymdeithasol. Drwy'r cynllun, rydym ni'n adeiladu ar y cynnydd ardderchog a wnaed gennym. Gyda dros 37,000 o swyddi wedi eu cefnogi ledled Cymru gyfan yn y flwyddyn ddiwethaf a thros 190,000 yn y pum mlynedd diwethaf o Lywodraeth, mae gennym ni hanes llwyddiannus. Fodd bynnag, mae ein heconomi yn newid ac mae'n rhaid inni newid gydag ef i fod yn gynhwysol ac yn gystadleuol yn y dyfodol. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi cam mawr ymlaen wrth gyflawni'r cynllun a'i weledigaeth gymhellol i gryfhau ein sylfeini economaidd, diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol a grymuso rhanbarthau cynhyrchiol a phobl.
Ers lansio'r cynllun gweithredu economaidd bum mis yn ôl, fe'm calonogwyd gan y ffordd gadarnhaol y cafodd ei dderbyn. Rydym ni wedi teithio ar hyd a lled Cymru i siarad â busnesau, cyrff cynrychioliadol ac eraill am y cynllun a cheisio eu barn ynglŷn â sut yr ydym ni yn gweithredu ac yn cyflawni ei ymrwymiadau. Bu'r sgyrsiau hyn yn gyffrous, yn heriol ac, uwchlaw popeth, yn hynod ddiddorol ac addysgiadol. Bu'r hyn a glywsom yn amhrisiadwy o ran y ffordd ymlaen, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd o'u hamser i siarad â ni. Bu natur y sgyrsiau hynny mor amrywiol â'r cyfranogwyr, ond mae nifer o negeseuon cyffredin wedi dod i'r amlwg dro ar ôl tro. Yn gyntaf, mae datblygu economaidd yn seiliedig ar berthynas gref nid yn unig rhwng busnes a Llywodraeth, ond hefyd ag amrywiaeth o bartneriaid eraill hefyd—ein sefydliadau dysgu, undebau llafur, awdurdodau lleol, y trydydd sector, ac, wrth gwrs, bobl. Yr ail yw pwysigrwydd cymesuredd a hyblygrwydd wrth ymdrin ag anghenion busnesau amrywiol o feintiau, mathau a lleoliadau gwahanol ledled Cymru. Yn drydydd, mae gwneud gwahaniaeth yn ymwneud â mwy na dim ond newidiadau mewn polisi; mae'n ymwneud â diwylliannau, arferion a ffyrdd o weithio.
Rydym ni wedi defnyddio'r dysgu hwn i ddatblygu'r model gweithredu newydd yr wyf yn ei lansio heddiw. Drwy'r contract economaidd, byddwn yn datblygu perthynas newydd a chryfach â busnesau i sbarduno twf cynhwysol ac arferion busnes cyfrifol. Bydd busnesau sy'n ceisio ein cefnogaeth yn dechrau ar drafodaeth barhaus gyda ni—un sy'n symud o gydfodolaeth i gydweithio. Rydym yn disgwyl i fusnesau ymrwymo i dwf, gwaith teg, lleihau ôl troed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle. Dyma'r mathau o arferion sydd eisoes i'w gweld mewn nifer o fusnesau llwyddiannus a chyfrifol. Byddwch yn cydnabod y busnesau hynny sydd eisoes yn ymdrechu i fabwysiadu arferion cyflogaeth a busnes cyfrifol, a byddwn yn annog ac yn cefnogi eraill i fabwysiadu arferion tebyg. Mae a wnelo hyn ag ymgysylltu, cymhelliant a lledaenu arferion da—dull rhywbeth-am-rywbeth cyfatebol.
Os yw'r contract economaidd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae busnesau yn ei wneud heddiw, yna ein galwadau i weithredu fydd yn paratoi busnesau ar gyfer yfory. Rydym ni eisiau gweithio gyda busnes i gyd-fuddsoddi yn y math o fuddsoddiad a fydd yn eu paratoi i wynebu'r dyfodol a chryfhau ein heconomi heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. O heddiw ymlaen, pum galwad i weithredu fydd y lens newydd y byddwn yn sianelu drwyddo ein cyllid busnes uniongyrchol.
Mae'r galwadau i weithredu yn herio'r Llywodraeth a busnesau i ystyried buddsoddi yn y dyfodol drwy'r cyfraniad y bydd yn ei wneud i arloesi ac entrepreneuriaeth, ymchwil a datblygu ac awtomeiddio, allforion a masnach, swyddi a sgiliau o ansawdd uchel, a datgarboneiddio. Dyma rai o'r heriau strategol allweddol sydd gennym i fynd i'r afael â nhw os ydym yn mynd i sicrhau twf nid yn unig heddiw, ond twf sy'n gydnaws â'r dyfodol er mwyn manteisio i'r eithaf yn y cyfleoedd sydd o'n blaenau. Gyda'i gilydd, mae'r contract economaidd a'r galwadau i weithredu yn sail i'n model gweithredu newydd sydd wedi'i dargedu at sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol—gan sbarduno cyfoeth a lles, twf cynhwysol heddiw, a pharatoi busnes a'r economi ar gyfer yfory.
O heddiw ymlaen, byddwn yn newid yn gwbl ddidrafferth i'r dull newydd hwn. Ymdrinnir â'r holl gynigion buddsoddi busnes newydd a gyflwynir ar gyfer cymorth ariannol uniongyrchol dan fy rheolaeth uniongyrchol i yn y modd newydd hwn, gyda'r hen ffordd o weithio ond yn berthnasol i brosiectau etifeddol i warantu parhad busnes a throsi esmwyth. Wrth inni weithredu'r dull newydd hwn, rwy'n benderfynol ein bod yn manteisio ar yr hyn a ddysgir ac yn defnyddio hyn i fireinio ac ysgogi gwelliant parhaus. Mae hyn yn rhan o'n ffordd newydd o weithio, ac felly byddaf yn parhau â'r sgwrs â busnesau i gael eu barn ynglŷn â sut y mae model gweithredu newydd yn gweithio yn ymarferol fel y gall barhau i esblygu a llywio ein dull gweithredu yn unol â hynny. Fy ngweledigaeth i, ac un y Cabinet, yw, dros amser, y byddwn yn ehangu cwmpas y dull newydd hwn ac yn cofleidio cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau ar draws yr holl Lywodraeth. Fodd bynnag, mae hwn yn newid sylweddol, ac rwyf am sicrhau ein bod yn ei weithredu'n dda ac yn defnyddio ein dysgu ar gyfer gweithredu pellach.
Rwy'n cydnabod y galwadau gan fusnesau ac eraill i wneud ein dull ni o weithio yn fwy llyfn ac effeithiol lle bynnag y bo modd. Un o'r meysydd lle rydym ni'n clywed y ple hwn uchaf yw mewn cysylltiad â'n cymorth ariannol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod busnesau yn gwerthfawrogi'r cymorth ariannol a ddarperir gennym ni ac mae ganddo ran fawr yn helpu rhai busnesau i gyflawni eu dyheadau i gynnal eu hunain a thyfu. Fodd bynnag, weithiau, gall yr amrywiaeth o gynlluniau, rhaglenni a chronfeydd a gynigiwn ni fod yn ddryslyd a chymhleth. Rwy'n ymateb i'r pryderon hyn ac, yn rhan o'r model gweithredu newydd, rwyf wedi cyfuno nifer o gynlluniau presennol o fewn cronfa newydd, sef cronfa dyfodol yr economi. Rwyf eisiau i'r cymorth ariannol uniongyrchol a gynigiwn i fusnes fod yn glir, yn hawdd ei ddeall ac yn ymatebol. Bydd cronfa dyfodol yr economi yn gwneud cyfraniad pwysig yn hynny o beth.
Yn unol â'r agenda hon o symleiddio, rwy'n falch o gyhoeddi y sefydlir bwrdd cynghori gweinidogol cyffredinol newydd ochr yn ochr â phroses gyfochrog i symleiddio'r cyrff cynghori presennol pan fo'n bosibl ac ymarferol. Bydd y bwrdd cynghori gweinidogol newydd yn ategu trefniadau partneriaeth cymdeithasol presennol ac yn darparu mecanwaith allanol cryf ar gyfer herio a chynghori a chefnogi'r broses o roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith yn effeithiol. Rwy'n sefydlu'r bwrdd cynghori gweinidogol yn gyfrwng pontio er mwyn caniatáu amser i gynnal proses penodiadau cyhoeddus. Caiff ei gadeirio gan Syr Adrian Webb, a chyhoeddir rhestr lawn o'r Aelodau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nid yw gweithredu'r cynllun economaidd yn dod i ben gyda'r datganiad hwn heddiw. Mae gennym waith pwysig i'w wneud wrth weithredu agweddau allweddol eraill ar y cynllun—ein dull newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol a gweithgarwch trawslywodraethol ehangach. Y rhain fydd y meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ail gam gweithredu'r cynllun, ac, i helpu i ddatblygu hyn, rwyf yn sefydlu bwrdd cyflawni trawslywodraethol o uwch weision sifil a byddaf yn ei gadeirio .
Wrth i ni roi'r cynllun hwn ar waith, byddwn yn dysgu o'r arferion gorau yn rhyngwladol, ac mae hyn yn cynnwys cymryd y cam dewr o fod yn agored i gael ein herio yn adeiladol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chan arbenigwyr rhyngwladol eraill yn y maes datblygu economaidd. Byddaf mewn sefyllfa i roi manylion pellach am y gwaith hwn yn y cam gweithredu nesaf.
Edrychaf ymlaen at ddiweddaru'r Aelodau ar y datblygiadau hyn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch. Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai fy mhryder gwirioneddol yw bod busnesau ar hyd a lled y wlad, os ydynt yn gwrando ar hyn, yn crafu eu pennau ac yn meddwl, 'Am beth mae hyn i gyd?', ac mae hynny'n rhan o'r broblem i mi. Roedd yn aros am rywbeth diriaethol yn eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan oeddech chi hanner ffordd drwy'r datganiad ac wedi dechrau sôn am y contract economaidd a'ch amcanion, meddyliais, 'Mae hynny'n wych; nawr rydych chi'n mynd i siarad am y manylion a sut mae gwneud hynny', ond ni soniwyd am hynny—yn sicr nid yn fy marn i. Wrth gwrs, dyma'r bedwaredd strategaeth economaidd i'w lansio ers datganoli, felly tybed a yw hyn yn arwydd o gefnu ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ers tro byd wedi mynd i'r afael â pholisi economaidd yng Nghymru.
Nid yw'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud yn eich datganiad heddiw mewn gwirionedd yn cynnwys unrhyw beth y gallaf i anghytuno'n sylfaenol ag ef mewn egwyddor. Ond, i mi, does dim gwybodaeth newydd yma heddiw, ac, yn bwysicach i mi, nid oes unrhyw dargedau y gellir mewn gwirionedd dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn eu cylch, a dyna ein gwaith yn y Siambr hon ac fel aelodau o'r Cynulliad—dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Allwn ni ddim gwneud hynny oni bai bod gennym ni rai targedau pendant i roi llinyn mesur yn eich erbyn.
Nawr, rydych chi'n dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y cynllun gweithredu economaidd yn nodi agenda uchelgeisiol ar gyfer newid. Ond ni allaf weld unrhyw beth sy'n amlinellu unrhyw gynigion pendant o gwbl ynghylch cynyddu cynhyrchiant yn economi Cymru—digon o amcanion, ond dim cynigion pendant. Nawr, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Ionawr, fe wnaethoch chi ddweud bod gwaith ar y gweill i gyflawni'r cynllun gweithredu economaidd newydd hwn, a bod peth rhwystredigaeth gan yr Aelodau nad oedd dim rhagor o fanylion ar y pryd. Pan ofynnodd aelodau'r Pwyllgor i chi am hynny, a gofyn am fanylion, fe wnaethoch chi sôn sut mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol a dywedasoch y byddai mwy o fanylion yn dilyn. Ond dri mis yn ddiweddarach, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i chi yn eich holi am y cynnydd, ac fe wnaethoch chi ateb
y buoch chi'n trafod ein dull gweithredu gyda busnesau a sefydliadau eraill ledled Cymru.
Wel, mae hynny yr un peth yn union ag y dywedasoch chi wrthym ni dri mis cyn hynny. Felly, ymddengys i mi mai ychydig iawn o gynnydd a wneir. Felly, a gaf i ofyn: pryd fyddwn ni o'r diwedd yn gweld rhywbeth ystyrlon yn digwydd o ran gweithredu'r cynllun? A allwch chi amlinellu pa fesurau fydd yna ar gyfer llwyddiant, oherwydd, cyn belled ag y gallaf i weld, mae yna strategaeth sy'n cynnwys 17,000 o eiriau teg, ond dim un targed?
Nawr, cyn belled ag yr wyf i'n deall hefyd, nid yw'r contract economaidd yn rhoi unrhyw fanylion ystyrlon ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi busnesau yn y dyfodol. Yr hyn a welaf i yw llawer o dâp coch a gwaith gweinyddol. Felly, yn hynny o beth, a gaf i ofyn ichi amlinellu pa atebion polisi syml, ymarferol ac ystyrlon sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun gweithredu economaidd i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng cynhyrchiant yng Nghymru, a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i sut mae busnesau yn gweithredu o ddydd i ddydd ar hyd a lles Cymru ac, yn y pen draw, yn eu galluogi i godi cyflogau eu gweithlu, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni i gyd eisiau ei weld? Felly, rwy'n edrych am atebion yn eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Hefyd, sut mae ardaloedd menter a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn asio i'ch cynllun gweithredu? Nid oes unrhyw sôn o gwbl am hynny yn eich cynllun gweithredu nac yn eich datganiad y prynhawn yma.
Nawr, rwy'n amau bod hwn yn faes y byddwch yn cytuno â mi yn ei gylch. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod angen i economi Cymru newid i fod yn ddiwylliant buddsoddi sy'n cefnogi cwmnïau o Gymru ac yn sicrhau gwerth i drethdalwyr Cymru. Felly, sut mae eich strategaeth yn gwneud cynnydd tuag at y diwylliant buddsoddi hwnnw? Pa bwyslais sydd yna ar gefnogi ein busnesau bach a chanolig presennol? Os oes busnes bach a chanolig yn gwylio heddiw, yn gwrando ar hyn, helpwch nhw i ddeall sut mae hyn yn mynd i'w cefnogi. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth o ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru, oherwydd, yn ôl a ddeallaf i, nid yw'r cynllun gweithredu yn cynnwys unrhyw fesurau ymarferol i gynyddu faint o gymorth y mae cwmnïau yng Nghymru yn ei gael o wariant cyhoeddus yng Nghymru? Hefyd, sut y caiff strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ei hintegreiddio i'ch cynllun economaidd? A sut fyddwch chi'n rhoi sylw i'r anghydraddoldeb rhanbarthol sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o Gymru?
O ran codi cyflogau, mae gweithgarwch allforio yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, ar gyfer cynyddu twf a swyddi a chyflogau ledled Cymru. Pan holais chi am hyn mewn datganiad ysgrifenedig ychydig wythnosau yn ôl, soniasoch am gyhoeddi manylion ar eich gwefan a bod peth gwaith ymgysylltu wedi ei wneud drwy ClickShare a chysylltiadau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond ydych chi'n gwbl fodlon, Ysgrifennydd y Cabinet, bod gweithredu economaidd yn gwneud y gwaith o hybu allforion Cymru yn y tymor hir?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ar wahân, wrth gwrs, i fygythiad i gyflwyno treth newydd andwyol ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, pa fesurau penodol a geir o fewn y cynllun gweithredu a gaiff eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru yn y dyfodol? Beth all y sector twristiaeth ymfalchïo ynddo yn eich cynllun gweithredu y prynhawn yma? Felly, mae'n ddrwg gennyf ddweud, i mi, nid yw'r ddogfen yn cynnwys yr atebion ymarferol i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Dechreuaf drwy ddweud fy mod yn credu, efallai, bod camddealltwriaeth ynghylch beth yw diben cynllun gweithredu. Nid ydym yn mynd i orfodi unrhyw beth wrth fynd i'r afael â'r bwlch cynhyrchiant. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn symud o sefyllfa pan fu'r Llywodraeth yn dweud beth i'w wneud i sefyll ochr yn ochr â busnesau a chyda sefydliadau dysgu i chwilio am atebion i broblemau a allai fod yn wahanol ar gyfer agweddau penodol ar yr economi, ond hefyd atebion a allai fod yn berthnasol i'r economi gyfan.
Nawr, mae'r Aelod yn gofyn, 'Am beth mae hyn i gyd?' Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn sbarduno buddsoddiad gyda diben cymdeithasol, ein bod yn cymell twf cynhwysol, a'n bod yn paratoi'r economi ar gyfer y dyfodol. Er mwyn sbarduno twf cynhwysol, rydym wedi datblygu'r contract economaidd. Er mwyn gwella cynhyrchiant, mae gennym y galwadau i weithredu, ac mae pob un o'r galwadau hynny i weithredu yn adlewyrchu'r ffactorau sy'n cyfrannu at y ffaith bod ein cynhyrchiant ar ei hôl hi. Felly, drwy sicrhau y caiff arian gan Lywodraeth Cymru ond ei sianelu drwy'r galwadau hynny i weithredu, byddwn hefyd yn sianelu ein harian i'r meysydd hynny o weithgarwch y mae angen rhoi sylw iddyn nhw os ydym yn mynd i wella cynhyrchiant yr economi—er enghraifft, lledaenu arloesi, arweinyddiaeth cymharol wael. Bydd arweinyddiaeth cymharol wael hefyd yn cael sylw drwy weithredu a mabwysiadu'r contract economaidd, oherwydd mae gormod o bobl yn mynd i mewn i'r gweithle ac yn methu â chyfrannu mor llawn ag y gallent oherwydd eu bod yn teimlo dan ormod o straen neu'n rhy bryderus neu'n rhy isel, er enghraifft. Ymdrinnir â hynny drwy'r contract economaidd drwy wneud yn siŵr bod cyflogwyr yn ymrwymo i wella iechyd—ac yn enwedig iechyd meddwl—y gweithlu. Ymdrinnir â chodi cyflogau drwy roi pwyslais yn y contract economaidd ar waith teg a thrwy roi pwyslais yn y galwadau i weithredu ar swyddi a sgiliau o ansawdd uchel—sgiliau sy'n cyfrannu, fwy na thebyg, yn fwy nag unrhyw ffactor arall at wella cyfraddau cyflog a datblygiad yn y gweithle.
Yn awr, o ran—. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed yr Aelod yn dweud nad oedd ganddo fawr ddim i anghytuno ag ef yn y cynllun gweithredu economaidd. O ran sut y gall gyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol y DU, credaf—neu rwy'n gobeithio—y byddai'r Aelod yn cydnabod bod y pum galwad i weithredu mewn gwirionedd yn adlewyrchu'n dwt iawn, iawn alwad strategaeth ddiwydiannol y DU ar gyfer cronfa herio, ceisiadau ar gyfer arloesi, yn ei hanfod, am ffordd o wneud busnes sy'n cael gwared ar anghydraddoldeb rhanbarthol. Mae thema gyffredin yn y ddau gynllun ynglŷn ag anghydraddoldeb ledled y DU ac anghydraddoldeb ledled Cymru. Felly, bwriedir bod ein cynllun yn cydweddu â rhai o gyfleoedd y gronfa her—yr arian mawr a all ddod gan Lywodraeth y DU—gan sicrhau eu bod yn defnyddio ein cynllun fel y cyfrwng i hybu cydweithredu ymysg busnesau a rhwng busnesau a sefydliadau dysgu.
O ran beth yw llwyddiant, o ystyried bod y pwyslais yn awr ar dwf cynhwysol, caiff llwyddiant ei fesur yn ôl sut yr ydym ni'n cynyddu cyfoeth o'i gydgrynhoi, yn sicr, ond hefyd sut y mae cynyddu lles, yn ogystal â lleihau'r anghydraddoldeb rhwng y ddau. Nawr, byddwn gam ar y blaen o'r sefyllfa y mae llawer o wledydd eraill yn ymgyrraedd ati o ran twf cynhwysol. Efallai y bydd yr Aelod wedi sylwi mai un o'r rhai a benodwyd i'r bwrdd cynghori gweinidogol yw cyfarwyddwr Purposeful Capital, sefydliad byd-eang sy'n edrych ar arferion gorau ac yn lledaenu arfer gorau o ran sbarduno twf cynhwysol. Dyma un enghraifft o sut yr hoffwn i her allanol fod yn sail i ddatblygu, gweithredu a gweithredu camau eraill o'r cynllun economaidd i sicrhau y byddwn yn cyflawni yn unol â'r hyn y tybiaf yw llwyddiant yn y dyfodol.
Ar gyfer busnesau bach a chanolig, ac ar gyfer mentrau bychain, bydd Busnes Cymru yn parhau i gynnig cyngor arbenigol. Bydd Busnes Cymru yn parhau i gydweithio'n agosach nag erioed o'r blaen â Gyrfa Cymru. Mae gennym ni bellach y nifer mwyaf erioed o fusnesau'n cael eu sefydlu, y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol, a bydd holl weithgarwch Busnes Cymru yn gydnaws â'r galwadau i weithredu a'r contract economaidd. Felly, bydd unrhyw fusnes bach a chanolig neu fusnes bychan nad yw'n gallu bodloni meini prawf y contract economaidd yn cael cymorth gan Busnes Cymru i ailymgeisio am gymorth ariannol uniongyrchol.
O ran biwrocratiaeth a gweinyddiaeth, gallaf warantu i'r Aelod ein bod yn symleiddio ein dull o weithredu drwy gronfa dyfodol yr economi, ac y bydd cyn lleied o fiwrocratiaeth â phosib o ran y broses ymgeisio ar gyfer y contract economaidd a fydd yn cynnwys un ddalen o gontract. Ni fydd yn feichus. Mae'r contract yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal deialog barhaus ac adeiladol gyda busnesau fel nad ydych yn trosglwyddo arian, yn aros iddo gael ei wario, ac yna'n ei fonitro yn ystod y blynyddoedd wedyn, a'n bod mewn gwirionedd yn parhau i sgwrsio gyda busnesau am y ffordd orau i foderneiddio, y ffordd orau i fod yn fwy cynhyrchiol, y ffordd orau i fabwysiadu arferion gweithio teg. Rwy'n cydnabod bod hon yn ffordd wahanol iawn o ymdrin â datblygu economaidd ac, yn y cyfnodau yn y dyfodol, bydd newid mawr arall, a soniodd Russell George am anghydraddoldeb rhanbarthol. Wel, bydd cam nesaf ein gwaith yn cynnwys sefydlu ffyrdd newydd, gofodol o weithio yn seiliedig ar leoedd penodol a datblygu economaidd—rwyf eisoes wedi penodi prif swyddogion rhanbarthol i'r tri rhanbarth—a bydd hynny'n edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar draws y rhanbarthau yn cytuno ar y cynlluniau rhanbarthol, fel bod, yn nhri rhanbarth Cymru, yr holl bartneriaid, yn ysbryd y fenter Creu Sbarc, yn gweithio tuag at yr un nod.
Rydym bob amser yn croesawu unrhyw syniadau newydd mewn strategaeth economaidd a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i fy hun yn ceisio ymgysylltu'n gadarnhaol gydag ef. Mae er lles pob un ohonom ni, yn wir, y cyflawnir y nodau lefel uchel sydd wrth wraidd unrhyw strategaeth economaidd. Ond, mae'n rhaid imi ddweud, os mai'r hyn a gawn yw ymestyniad parhaus o gyfres o ddatganiadau annelwig, bydd y brwdfrydedd cychwynnol hwnnw, bod newid patrwm gwirioneddol yn y ffordd o feddwl yma, yn mynd ar ddisberod yn fuan iawn, a'r hyn fyddai ar ôl yw ymdeimlad cynyddol mai cynllun segurdod economaidd yw hwn.
A gaf i ofyn iddo—? Nid oedd fawr ddim manylion mewn gwirionedd yn y datganiad a ddarllenodd nac yn y datganiad i'r wasg. A oes unrhyw beth mwy na hynny? A oes mwy o fanylion yn y dogfennau ynghylch yr alwad i weithredu, ar y contract economaidd, ac ynglŷn â chronfa economi y dyfodol? Ac, os yw'r dogfennau hynny yn bodoli, pam nad ydyn nhw gyda ni, fel y gallwn ofyn cwestiynau mwy deallus ichi? Rwy'n credu bod ein Rheolau Sefydlog ein hunain, mewn gwirionedd, yn mynnu os yw datganiad yn cyfeirio at ddogfennau Llywodraeth yna rhaid eu darparu i'r holl Aelodau. Nawr, rwyf wedi gweld bod gan yr Aelodau Llafur, yn wir, ryw ddogfen sgleiniog ynglŷn â'r cynllun gweithredu economaidd, y gallai Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl ei chodi. Wel, efallai y gall gadarnhau na roddwyd copi ymlaen llaw i'r Aelodau Llafur yng nghyfarfod y grŵp Llafur, oherwydd y byddai hynny, yn wir, yn gamddefnydd o adnoddau'r Llywodraeth. Mae angen i bawb ohonom fod yn rhan o ddatblygiad polisi'r Llywodraeth.
O ran manylion yr hyn a ddywedodd, y bwrdd cyflawni trawslywodraethol a grybwyllodd—a all esbonio i mi sut mae hynny'n wahanol i, neu a yw'n disodli, y bwrdd cyflawni a pherfformio strategol, a oedd, yn sicr hyd yn ddiweddar, yn cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Parhaol? A sut mae'n wahanol i'r uned gyflawni, uned gyflawni Prif Weinidog Cymru, a lansiwyd gyda ffanffer mawr yn 2011 ac yna a ddiflannodd, gydag ochenaid, yn 2016? Onid oes perygl ein bod ni wedi gwneud hyn i gyd o'r blaen? A ble mae'r ymdeimlad o frys, Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw a beth yr ydych wedi ei ddweud o'r blaen? Mae cyfleoedd gwych: y cyfraddau llog isaf mewn hanes, cynnydd enfawr—mae'n rhaid ichi ganmol Llywodraeth y DU—o ran ymchwil a datblygu, y buddsoddiad ymchwil a datblygu mwyaf a welsom ni erioed yn y DU, a'r holl bosibiliadau o ran technoleg, diwydiant 4.0. A ydym yn deall hynny, a ble mae'r brys o ran beth a ddywedodd? Ac, yn wir, ynglŷn â mesur hefyd, sut allwn ni gael yr her allweddol y cyfeiriodd ato o ran y bwrdd cynghori gweinidogol os nad ydym yn glir beth yr ydym ni yn ei fesur?
Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adroddiad difrifol, ac y bydd cyfle i'r Llywodraeth ymateb yn llawn. Ond dywed fod y prosiect wedi creu
'argraff gref ar y Pwyllgor o adran'—
ei adran ef—
'nad oedd ganddi reolaeth briodol dros ei busnes'.
A yw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yn gyfaddefiad gonest fod hon yn adran nad yw'n gweithio fel y dylai, ac onid y cam cyntaf ar gyfer newid hynny yw cyfaddefiad o fethiant blaenorol?
Diolch. A gaf i sicrhau'r Aelod fod y newidiadau yn yr adran eisoes wedi digwydd cyn cyhoeddi'r adroddiad y cyfeiria ato? Ac mae newidiadau yn cynnwys ffordd newydd o weithio ar ddatblygu economaidd rhanbarthol. Fel y gwyr yr Aelod, gwnaed newidiadau ar lefel uwch hefyd. Mae gennym ni swyddogion newydd sy'n gyfrifol am fusnes a rhanbarthau sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino er mwyn cynhyrchu'r cynllun gweithredu, ac mae gennym ni swyddogion newydd yn gweithio ar y strategaeth hefyd. Felly, roedd y newidiadau hynny eisoes wedi digwydd.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth cymryd cam yn ôl ac edrych ar ble'r ydym ni'n sefyll yn awr, gyda'r niferoedd mwyaf erioed mewn gwaith, y lefelau diweithdra isaf erioed—y gyfradd anweithgarwch ar ei hisaf erioed, neu'n agos at hynny, ac mae economi Cymru yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw genedl arall yn y DU. Ond beth mae'r cynllun hwn yn ceisio ei wneud yw sicrhau, o sefyllfa gymharol gref heddiw o'i chymharu â'r 1980au a dechrau'r 1990au, ein bod yn achub y blaen ar rai o'n cystadleuwyr, yn hytrach na'u galluogi i gofleidio newid technolegol, i groesawu ffyrdd newydd o weithio, yn gyflymach na ni. Oherwydd, a dweud y gwir, os nad ydym ni'n newid, os nad ydym ni'n symud tuag at dwf cynhwysol, os nad ydym ni'n symud tuag at groesawu'r hyn a ddisgrifir yma fel galwadau i weithredu, byddwn yn cael ein gadael ar ôl gan economïau a gwledydd mwy deinamig a mwy ystwyth.
Does arnom ni ddim eisiau gweld hynny'n digwydd, a dyna pam rydym wedi datblygu ffordd o weithio gyda'r galwadau i weithredu, gyda'r contract economaidd, bod—. Yn sicr, nid yw'n galluogi'r Llywodraeth i ddatgan beth yw'r atebion i gyd i bob anhawster a her y mae busnesau yn eu hwynebu. Yn hytrach, yr hyn y mae'n ein galluogi ni i'w wneud yw gwahodd busnesau i weithio gyda ni ar y cyd, ac â'i gilydd, a chyflwyno cyfleoedd ar y cyd i herio'r Llywodraeth i ddatrys y materion penodol sy'n eu dal yn ôl, sy'n eu hatal rhag mynd o'r da i'r gwych. Felly, nid wyf yn credu y dylai'r Aelodau o reidrwydd droi at y Llywodraeth ar gyfer yr holl atebion i bob un broblem busnes unigol sy'n bodoli ym mhob un rhan o Gymru. Mae hwn yn gynllun a luniwyd i alluogi a grymuso busnesau a rhanbarthau i weithio gyda'i gilydd er mwyn cyflwyno'r heriau sy'n eu hwynebu, ac i ni wedyn eu hariannu, i weithio gyda nhw, er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym dwf economaidd cynaliadwy.
Mae'r manylion y cyfeiria'r Aelod atyn nhw mewn gwirionedd yn y daflen sgleiniog. Mae gennyf focs cyfan ohonyn nhw heddiw ac rwy'n hapus i'w dosbarthu i gymaint o'r Aelodau â phosib. Roeddwn yn credu bod yr Aelod wedi cymryd un y bore yma, ond os na, yna mae gennyf un yma iddo ar hyn o bryd. Yr hyn y mae'n ei gynnwys ar gyfer busnesau—mae'n cynnwys gwybodaeth am yr amrywiol fentrau sy'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Ond, fel y dywedais, rydym ni bellach yn symud ymlaen â'r ail gam gweithredu, sy'n cynnwys twf economaidd rhanbarthol, er mwyn cael yr ymwneud mwyaf posib gan y Llywodraeth, ar draws yr adrannau.
Rwy'n credu fy mod i eisoes wedi dweud yn y Siambr bod llawer o Weinidogion eisoes wedi croesawu egwyddorion y cytundeb economaidd. Ond, er mwyn sicrhau y cawn ni'r diddordeb mwyaf posib, rwyf wedi penderfynu cadeirio bwrdd trawslywodraeth o swyddogion. Bydd hwn yn gweithio ochr yn ochr â bwrdd perfformiad yr Ysgrifennydd Parhaol, a gynlluniwyd ar gyfer yr Ysgrifennydd Parhaol i sicrhau, ymhob agwedd ar 'Ffyniant i bawb', bod gweithgarwch trawslywodraeth yn digwydd. O ran y cynllun gweithredu economaidd, mae gweithredu hwnnw yn bwysig iawn i mi, a dyna pam rwyf eisiau cadeirio bwrdd trawslywodraeth, i sicrhau bod yr holl adrannau yn gweithio tuag at weithredu'r holl gydrannau yn llwyddiannus o fewn y cynllun.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad pwysig iawn hwn heddiw a'i ganmol am y gwaith y mae wedi ei wneud hyd yma ar y mater hwn? Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddod i fy etholaeth i yr wythnos diwethaf i uwchgynhadledd swyddi a ffyniant, a gynhaliais yng nghanolfan chweched Glannau Dyfrdwy. Roedd yn gyfle gwych i drafod gyda'r gymuned fusnes leol ac eraill rai o'r materion a amlinellir yn y cynllun hwn. Ac mae hefyd yn wych gweld Airbus Beluga ar flaen y llyfryn.
Rwyf eisiau canolbwyntio rhan o'm hamser ar yr adran o'r cynllun sy'n ymwneud â'r galwadau i weithredu, yn enwedig o ran awtomatiaeth a digideiddio. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod y cyfeiriais yn ddiweddar at y ffaith bod Alun a Glannau Dyfrdwy wedi cael ei hadnabod fel yr ardal gyda'r ganran uchaf o swyddi mewn perygl o awtomeiddio, gyda 36 y cant. Mae effaith awtomatiaeth ar waith yn fwyaf amlwg ym maes gweithgynhyrchu, ond yn effeithio'n gynyddol ar swyddi gwasanaethau coler wen traddodiadol. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am rai o'r cynlluniau i ymdrin ag awtomatiaeth a rhai o'r buddsoddiadau y gallai'r Llywodraeth eu gwneud i ymdrin â heriau a chyfleoedd awtomatiaeth—pethau fel buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol a sgiliau, ond hefyd rai syniadau mwy radical, hirdymor a datblygiadau, efallai, fel incwm sylfaenol cyffredinol, gan ddefnyddio ein pwerau treth yn y dyfodol ac edrych ar fath o warant swyddi gan y Llywodraeth.
Ynglŷn â digideiddio, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut mae'n gweithio gydag arweinydd y tŷ, y gymuned fusnes a'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU i archwilio'r cysyniad o ganolfannau gigabeit; er enghraifft, gallai sir y Fflint a Wrecsam ddod ynghyd i fod yn ganolfan gigabeit, yn gweithio'n agos gyda dinasoedd y ffin fel Caer. Drwy gynllunio a defnyddio'r math hwn o seilwaith ffibr cyflawn sy'n paratoi ar gyfer y dyfodol, gallem helpu i ddod â manteision cysylltedd lled band a chyflymder gigabeit diderfyn i gymunedau cyfan.
Yn olaf, os oes gennyf ddigon o amser, hoffwn gyfeirio'n fyr at ddatblygu economaidd rhanbarthol. Bydd yn gwybod, ag yntau'n gyd-aelod o'r gogledd, fod pobl weithiau yn teimlo'n ynysig, ac weithiau ceir teimlad o raniad rhwng y gogledd a'r de—rwy'n siŵr y gellid dweud yr un peth am lawer o rannau eraill ledled Cymru. Mae gennym ni ddatblygiadau gwych eisoes yn digwydd yn y gogledd, fel y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn fy ardal i fy hun. Ond a yw'n cytuno â mi bod y cynllun gweithredu economaidd yn gyfle gwirioneddol i wireddu potensial y gogledd hyd yn oed ymhellach gan gofleidio'r cydweithio rhanbarthol effeithiol, ond hefyd gan ddefnyddio'r dulliau, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu hwn, i weithio gyda'n cymdogion yng ngogledd-orllewin Lloegr? Diolch.
A gaf i ddiolch Jack Sargeant am ei gyfraniad? Roedd hi'n bleser gallu ymuno ag ef yn ei uwchgynhadledd ffyniant a swyddi diweddar ac yn lansiad y sefydliad ymchwil a gweithgynhyrchu uwch, lle torrwyd y dywarchen, ac a fydd yn sefydliad ymchwil o'r radd flaenaf gan gyfrannu tua £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth i'r economi rhanbarthol.
Rwy'n gwybod fod hwn yn gynllun penodol y bu Aelodau eraill yn awyddus i ddysgu mwy yn ei gylch—rwy'n gwybod bod Steffan Lewis wedi sôn amdano beth amser yn ôl yn y Siambr. Mae'n enghraifft wych o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ymateb i alwadau'r ardal fenter leol. Mae hyn, efallai, yn enghraifft o'r gwaith da a all ddod o weithgarwch yr ardaloedd menter, y cyfeiriwyd ato gan Russell George. Heb fwrdd ardal menter Glannau Dyfrdwy, ni fyddai'r prosiect hwn yn y sefyllfa y mae ynddi heddiw—mae'n debyg na fyddem ni wedi ei ystyried. Roedd hwn yn brosiect pwrpasol penodol a gyflwynwyd gan Fwrdd a oedd yn gweithredu mewn ffordd ddeinamig a gwybodus iawn.
Roeddwn hefyd yn falch, ar yr un diwrnod, o lansio Canolfan Menter Wrecsam—canolfan a gefnogir gennym ni, Lywodraeth Cymru, a fydd yn creu 100 o fusnesau newydd ac y disgwylir iddo greu 260 o swyddi newydd. Mae'n deg dweud na fydd llawer o'r busnesau hynny yn datblygu i fod yn arwyddocaol o ran maint, ac efallai y bydd rhai methiannau—byddem yn disgwyl hynny. Fodd bynnag, dim ond un neu ddau o'r busnesau sy'n cael eu creu yn y ganolfan sydd angen bod fel y Moneypenny neu'r Chetwood Financial newydd er mwyn cyfiawnhau nid yn unig ein cyfraniad ariannol, ond hefyd ychwanegu'n sylweddol at y gyfradd gyflogaeth yn ardal Wrecsam. Mae'r rhain yn ddwy enghraifft dda iawn o sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian yn strategol a doeth er mwyn sbarduno diwydiannau yfory. Mae'r materion penodol hynny yn cydymffurfio'n berffaith â'r contract economaidd a'r galwadau i weithredu, gyda phwyslais clir ar ymchwil a datblygu, sgiliau, entrepreneuriaeth a chroesawu technoleg ddigidol newydd.
Yr wythnos hon, rydym wedi gweld yr Ŵyl Ddigidol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae hynny'n ddigwyddiad penodol sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Fe'i hadwaenir bellach nid yn unig fel gŵyl ddigidol i Gymru ond fel gŵyl ryngwladol sydd yn digwydd yng Nghymru, cystal yw safon y bobl sy'n dod yno o bedwar ban byd. Rwy'n credu bod presenoldeb gŵyl o'r fath yng Nghymru yn flynyddol yn amlygu sut mae'r sector technoleg sy'n ymddangos yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, yn aml gyda chymorth uniongyrchol drwy Busnes Cymru neu drwy ein rheolwyr datblygu busnes.
Rwy'n credu hefyd bod enghraifft wych arall o sut yr ydym ni'n buddsoddi yn niwydiannau yfory—cofleidio awtomatiaeth a chroesawu deallusrwydd artiffisial—i'w gweld yn y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud ym menter y Cymoedd Technoleg, gyda £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf a £100 miliwn dros y degawd nesaf, wedi'i gynllunio i ddenu busnesau ac i dyfu a sefydlu busnesau hollol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar dechnoleg ac ar dechnoleg ddigidol sy'n datblygu. Wedi ei chynnwys yn y rhanbarth penodol hwnnw, yn y maes hwn o weithgarwch, fydd canolfan menter nid annhebyg i'r un a agorais yn Wrecsam.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig i ddysgu am y cynnig ar gyfer canolfannau gigabeit yn y gogledd. Credaf y gallai hwn fod yn brosiect y dylai bwrdd y fargen twf ei ystyried yn y gogledd, nid yn lleiaf oherwydd byddai'n asio gyda rhai o'r rhaglenni sy'n cael eu hystyried yn union dros y ffin, a bu cyfeiriad clir iawn y dylai unrhyw fargen twf yn y gogledd asio gyda'r fargen twf ym mhartneriaeth menter leol swydd Gaer a Warrington er mwyn elwa ar gydweithio a chydweithredu, ac i osgoi unrhyw gystadlu diangen.
O ran datblygu economaidd rhanbarthol, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn awyddus iawn i sicrhau bod y gogledd yn cael ei chyfran deg. Bydd ail gam y cynllun gweithredu yn ymwneud â datblygu economaidd rhanbarthol a datblygu cynlluniau economaidd rhanbarthol, a gynlluniwyd i rymuso rhanbarthau Cymru ac i sicrhau bod awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, busnesau a rhanddeiliaid eraill i gyd yn buddsoddi yn y meysydd o arbenigedd sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac mewn meysydd o weithgarwch economaidd a fydd yn barod ar gyfer y dyfodol.
Mae'n braf gweld bod gan Lywodraeth Cymru bellach syniad clir ynghylch ei swyddogaeth yn cefnogi'r gymuned fusnes yng Nghymru, yn enwedig o ran buddsoddi. Ymddengys erbyn hyn fod gennym fframwaith ar gyfer cyflawni amcanion y Llywodraeth. Mae hyn yn rhan hanfodol o roi'r hwb hwnnw i ffyniant y mae angen dybryd amdano ymysg bobl Cymru, yn enwedig y rhai yn y sector sgiliau is. Mae'r contract economaidd newydd i'w groesawu hefyd. Rydym yn arbennig o hoff o amcan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau, gyda phob contract, fod pawb yn cael rhywbeth yn gyfnewid am rywbeth arall, ac mae hynny'n cynnwys deialog barhaus gyda busnesau. Rydym i gyd yn cydnabod yr her sylweddol sy'n wynebu Cymru gyda'r swm cymharol fychan o arian y mae cwmnïau yn ei fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Felly, roedd yn braf gweld yr ymdrinnir â'r pwynt hwn yn y contract ariannol a fyddai'n sicrhau bod cwmnïau yn gwella cynhyrchiant, uwchsgilio gweithluoedd ac yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.
Gan droi at fuddsoddiad y Llywodraeth yn y sector busnes, bûm yn galw ers tro ar y Llywodraeth i'w gwneud hi'n haws i fusnesau buddsoddi, ac mae'n rhaid dweud mai dyma oedd un o'r materion allweddol a grybwyllwyd yn eich ymgynghoriadau gyda'r sector busnes. Mae gennyf rai pryderon y teimlwch mai'r ffordd orau i ymdrin â'r materion hyn yw, ynghyd â chydgrynhoi rhywfaint o arian dan gronfa dyfodol yr economi, creu bwrdd cynghori arall eto. A yw hyn yn cyflwyno haen arall o fiwrocratiaeth? Nid oes unrhyw amheuaeth y dylai galwadau i weithredu roi pwyslais sylweddol iawn ar roi cymorth ariannol i'r busnesau hynny sy'n ymwneud â datblygu'r nodau a amlinellwyd gan y Llywodraeth mewn datganiadau eraill ynglŷn â pholisi economaidd. Ond mae sawl math o fusnes na fydd efallai, oherwydd natur y busnes, yn gallu cydymffurfio â'r meini prawf a nodir dan y galwadau i weithredu. A ddylid eithrio'r rhain o'r buddsoddiad yn gyfan gwbl yn sgil rhoi'r cynllun gweithredu hwn ar waith?
Rydym yn cydnabod y gwaith sylweddol a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda'r diwydiant wrth ddatblygu'r strategaeth economaidd newydd hon ac yn croesawu'r broses adeiladol hon, yn enwedig gan yr ymddengys bod gan y sector busnes ran lawn yn hynny. Gobeithio y bydd y broses ymgynghori hon yn parhau er mwyn helpu i hwyluso'r nodau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru. Er ein bod, fel y dywedwyd, yn croesawu llawer o'r cynigion hyn, mae'n rhaid imi gytuno â dau o fy nghyd-Aelodau Cynulliad Russell George ac Adam Price. Nodwn, fodd bynnag, nad oes unrhyw dargedau wedi'u diffinio'n eglur ac eithrio'r nod datganedig o weld cynhyrchiant a gwerth ychwanegol crynswth y pen yn cynyddu i 90 y cant o gyfartaledd y DU erbyn 2030. Rydym yn annog y Llywodraeth i roi mwy o eglurhad ynghylch amserlenni a thargedau, fel y gall y Siambr graffu ar gyflawni'r targedau hynny. Wedi'r cyfan, mae'r gallu i fesur yn allweddol ar gyfer sbarduno camau unioni i ddod â chynlluniau yn ôl ar y trywydd iawn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad ac am groesawu'r datganiad heddiw yn hael? Rwy'n falch iawn, yn arbennig, o'i gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad cyhoeddus sydd â diben cymdeithasol iddo ac sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd. Roedd eglurder a symlrwydd wrth fuddsoddi yn rhywbeth y galwodd llawer iawn o grwpiau rhanddeiliaid busnes amdano. Rwy'n falch ein bod wedi ymateb drwy sefydlu cronfa dyfodol yr economi, ac y bydd Busnes Cymru yn gweithio'n fwy agos gyda Gyrfa Cymru, fel y bydd gennym ni ddull llawer cliriach a symlach o lawer o roi nid yn unig cymorth ariannol ond hefyd cyngor gan fusnesau.
Dylwn sicrhau'r Aelodau na fydd gan y bwrdd cynghori gweinidogol swyddogaeth wrth benderfynu ar geisiadau am arian. Ni fydd unrhyw fiwrocratiaeth ychwanegol yn gysylltiedig â sefydlu'r bwrdd cynghori gweinidogol o ran unrhyw geisiadau a gyflwynir gan fusnesau ar gyfer cronfa dyfodol yr economi, neu unrhyw gronfa arall yn hynny o beth. Swyddogaeth y bwrdd cynghori gweinidogol yw ein herio a'n cynghori wrth inni weithredu rhannau eraill y cynllun ymhellach ac wrth inni brofi ei effaith.
Un o'r darnau cyntaf o waith y bydd y bwrdd cynghori gweinidogol yn ei wneud fydd cynnal adolygiad o effaith y contract economaidd. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gallu dangos bod y contract yn wir yn arwain at welliannau o ran ansawdd gwaith ac arferion gwaith, ei fod yn arwain at gyfradd gyflymach o ddatgarboneiddio yn y gweithle, a'i fod yn cyfrannu at dwf—naill ai yn uniongyrchol i un o'r busnesau dan sylw neu yn y gadwyn gyflenwi. Ac rydym ni wedi ymgysylltu'n llawn gyda'r gymuned fusnes—mae'r Aelod yn gywir—yn ystod y broses o lunio'r cynllun a chynllunio sut i'w weithredu. Gallaf sicrhau aelodau bod unrhyw fusnes sy'n methu â chydymffurfio gyda'r contract economaidd—er na fyddant efallai yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol uniongyrchol yn yr achos hwnnw, yr hyn a roddir iddyn nhw yw cymorth a chyngor er mwyn gwella eu dulliau gweithio fel y gallan nhw ymgeisio rywbryd eto.
Rwy'n gwybod bod nifer fawr o bobl eisiau siarad, felly byddaf yn gryno. Mae tua 20 y cant o'r bobl sy'n gweithio yn fy etholaeth i yn ennill llai na'r cyflog byw gwirioneddol, a hefyd, mae cyfran sylweddol ohonynt ar gontractau dim oriau. Mae hynny'n broblem enfawr o ran lles eu plant, oherwydd os nad yw pobl yn gwybod pryd maen nhw'n gweithio ni allant wneud trefniadau gofal plant addas os nad oes ganddyn nhw'r arian i dalu amdano. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut yr ydych chi'n mynd i'r afael â'r mater o waith teg ac yn arbennig swyddogaeth y bwrdd gwaith teg—sut y byddant mewn gwirionedd yn dylanwadu ar yr agenda hon ac yn lleihau'r agwedd ffwrdd â hi tuag at ein holl weithluoedd?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone a chydnabod anhawster cyflogau bychain a hefyd gontractau dim oriau ar gyfer y boblogaeth sy'n gweithio yn ei hetholaeth a thrwy Gymru gyfan? Bydd y bwrdd gwaith teg yn dod yn gomisiwn gwaith teg, a bydd yn gyfrifol am gyflwyno argymhellion a diffiniad clir o waith teg erbyn gwanwyn 2019. Yn y cyfamser, rydym wedi mabwysiadu diffiniad o waith teg y cytunwyd arno gan bartneriaid cymdeithasol. Bydd yn berthnasol i'r contract economaidd hyd nes bydd y comisiwn gwaith teg yn cyflwyno diffiniad clir. Ond mae'n amlwg y bydd y cyflog byw gwirioneddol, contractau dim oriau, yr hawl i gael eich clywed, yr hawl i gymryd rhan—bydd y rhain oll yn ffactorau y bydd y comisiwn yn eu hystyried yn ofalus iawn ac edrychwn ymlaen at fabwysiadu'r diffiniad newydd hwnnw pan gaiff ei gyflwyno yng ngwanwyn 2019.
A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pam nad yw'r cysyniad o'r effaith lluosydd drwy'r gadwyn gyflenwi mor sylfaenol nad ystyriwyd ef i fod yn bumed colofn diben cymdeithasol?
Wel, mae effeithiau lluosydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu—
Nid yn golofn.
Mae'n un rhan o'r contract economaidd, yn sicrhau nad ydym yn gweld twf mewn busnes yn ei hawl ei hun, ond mewn gwirionedd yn edrych y tu hwnt i hynny ar y gadwyn gyflenwi, a'r effaith y gall busnes ei chael ar y gymuned fusnes ehangach mewn unrhyw ardal neu yn y sector cyfan.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pleser oedd cael ymuno â chi ddoe yn Pinkspiration yn Abercynon ar gyfer lansiad y contract economaidd. Rwy'n siŵr, fel fi, y gwnaed argraff arnoch chi gan y ffordd y mae Pinkspiration yn cefnogi menywod yn y byd busnes drwy fentora a hefyd eu cefnogi i ymhél â meysydd gwaith lle na fuont yn gwneud hynny yn draddodiadol, megis adeiladu. Er enghraifft, fe'm trawyd gan y ffaith bod 50 y cant o'r gweithwyr ar eu safleoedd adeiladu yn ddynion, a bod 50 y cant yn fenywod. Sut mae modd cynnwys y math hwn o ddatblygiad yn y contract, ac ym mha ffordd y caiff ei ddefnyddio i annog cyfranogiad menywod yn benodol yn yr economi?
Yn ail, rwy'n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am sefyllfa cwmnïau llai o faint nad ydyn nhw efallai yn uniongyrchol yn manteisio ar gontractau neu gymorth Llywodraeth Cymru, ond sydd o bosibl yn rhan o gadwyn gyflenwi ehangach. Sut gaiff profiadau'r busnesau hyn eu hymgorffori yn y contract, a hefyd sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y cânt eu cefnogi i sicrhau'r manteision mwyaf yn eu tro i'w gweithluoedd?
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau a dweud pa mor hyfryd oedd gallu ymuno â hi yn ei hetholaeth yn Pinkspiration, a roddodd syniad clir iawn o'r hyn a olygir wrth fod yn gyflogwr teg, yn gyflogwr sy'n gwerthfawrogi gweithlu amrywiol, ac sy'n gwerthfawrogi gwaith teg ac egwyddorion gwaith teg? Bwriad y cynllun yw ysgogi newid ymddygiadol a diwylliannol o fewn busnes, ac yn achos rhai cwmnïau, rydym eisoes wedi gweld hynny'n cael ei gyflawni. Mae Pinkspiration yn enghraifft wych o gwmni sy'n cydymffurfio eisoes yn amlwg iawn â meini prawf y contract economaidd. Mae angen anogaeth ar eraill. Mae'r cynllun hwn yn rhoi'r anogaeth honno. Mae'n ei rhoi ar ffurf adnodd ariannol sylweddol pe byddent yn gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Ni fydd y newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen, serch hynny, yn digwydd dros nos. Bydd angen inni weld gwaith pellach yn cael ei wneud o ran cydweithio ledled y gymuned fusnes i ysbrydoli a dylanwadu ar y math o newid sy'n ofynnol gennym, gan fod cyflogaeth gynhwysol yn rhywbeth sydd wedi bod yn her mewn sawl rhan o Gymru, ar gyfer llawer o gymunedau, ac ar gyfer llawer o bobl. Ddoe, fe wnes i gyfarfod â Daniel Biddle sydd yn un a oroesodd y bomio ar 7/7. Bydd Daniel yn rhoi cyngor i mi ar gyflogaeth gynhwysol, a'r hyn yr oedd ef yn gallu tynnu sylw ato oedd yr heriau niferus sy'n wynebu pobl anabl wrth geisio cael gwaith ac aros wedyn ym myd cyflogaeth. I greu newid diwylliannol ac ymddygiadol, bydd yn ofynnol i arweinwyr mewn busnes ysbrydoli arweinwyr eraill mewn busnes i newid eu harferion. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn arbennig o awyddus i'w weld yn digwydd drwy'r galwadau i weithredu a'r contract economaidd.
Diolch yn fawr iawn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n allweddol wrth ennyn llwyddiant mewn unrhyw sefydliad yw arweinyddiaeth dda, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn y system addysg. Dro ar ôl tro, dengys tystiolaeth fod arweinydd da mewn ysgol yn hanfodol i drawsnewid amgylchedd yr ysgol fel y gall ei disgyblion a'i hathrawon ffynnu. Nodwedd gyffredin ymysg yr arweinwyr gorau yw eu bod yn cyfathrebu gweledigaeth glir—gweledigaeth sy'n creu syniad clir o gyfeiriad a chyrchfan. Yng Nghymru, mae ein cenhadaeth genedlaethol yn ddiamwys: rydym yn gweithio gyda'n gilydd i godi safonau, i gau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. I gyflawni'r genhadaeth hon, bydd raid i Gymru feithrin ein harweinwyr. Felly, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o lansio'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, elfen hollbwysig ar gyfer cefnogi a diwygio'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein harweinwyr.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu'r academi. Yn benodol, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen, dan arweiniad medrus iawn Ann Keane, wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy. Maen nhw wedi nodi gweledigaeth ac egwyddorion yr academi ac wedi ymgysylltu gyda'r proffesiwn ar gyfer nodi'r hyn sydd ei angen a pham mae angen hynny. Maen nhw wedi gosod sylfeini cadarn i'r academi ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n awyddus fod pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru yn gweld yr academi, y bydd ei phencadlys yn Abertawe, yn rhan sylfaenol o dirwedd addysg. Bydd hi yno i gefnogi'r holl arweinwyr ar ba gyfnod bynnag yn eu gyrfa—os ydynt yn ystyried cymryd y camau nesaf at arweinyddiaeth ffurfiol neu os ydynt yn arweinwyr profiadol. Bydd yn rhoi hyder iddyn nhw, a chefnogaeth a datblygiad fel eu bod yn gallu cyflawni a gwneud eu gorau glas. Bydd yn cefnogi'r holl arweinwyr ledled Cymru, p'un a ydynt yn gweithio mewn awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, o fewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu, yn wir, mewn sefydliadau addysgol eraill, gan wneud yr arweinyddiaeth yng Nghymru yn flaenllaw yn fyd-eang.
Un ffordd o wneud hyn yw drwy swyddogaeth gymeradwyo. Roedd lansiad yr wythnos diwethaf yn cynnwys galwad ar ddarparwyr i gyflwyno eu darpariaeth, yn y lle cyntaf ar gyfer penaethiaid newydd eu penodi a thros dro, a disgwyliaf y bydd hyd at 300 o unigolion yn y grŵp cyntaf i gael ei dargedu. Bydd y broses gymeradwyo yn un o swyddogaethau allweddol yr academi, gan sicrhau bod y ddarpariaeth sydd ar gael i'n gweithwyr proffesiynol addysg yn hygyrch, o ansawdd uchel ac yn bodloni uchelgeisiau ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol. Yn anad dim, bwriad yr academi fydd sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hategu gan dystiolaeth ryngwladol o'r hyn yw ystyr arweinyddiaeth effeithiol. Ac o ganlyniad, gall pob arweinydd fod yn hyderus y bydd y datblygiad arweinyddiaeth y byddant yn buddsoddi eu hamser ynddi yn cael effaith gadarnhaol ar y canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Efallai mai sefydliad bychan yw'r academi, ond bydd raid i'w dylanwad a'i heffaith fod—ac, yn fy marn i, felly y bydd—ar raddfa fawr. Mae'r academi eisoes yn ymgorffori ein dull gweithredu cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth—mae hyd yn oed y ffordd y crëwyd y sefydliad ynddi wedi bod yn gydweithredol. Bydd meini prawf ansawdd yr academi yn cynnwys amod hefyd i gynnwys arweinwyr yn y gwaith o ddylunio, datblygu a hwyluso'r ddarpariaeth. Er bod cydweithrediad yn nodwedd fawr o'r ddarpariaeth sydd i'w chael ar hyn o bryd yng Nghymru, bydd yn darparu cyfleoedd mwy cyson hefyd ar gyfer arweinwyr i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddatblygu arweinyddiaeth.
Bydd yr academi yn defnyddio ac yn adlewyrchu arferion yr arweinwyr ysbrydoledig, profiadol ac effeithiol sy'n gweithio eisoes yn y system yng Nghymru, yn ogystal ag yn rhyngwladol. A bydd rhaglen swyddogion cyswllt yr academi yn ymgorffori hyn. Mae'n rhaglen ddatblygu a gyd-ddatblygir gan y garfan gyntaf o arweinwyr ysbrydoledig, ac mae'n gyfle gwirioneddol i sicrhau bod y rhaglen yn ymestyn ac yn herio rhai o'n gweithwyr addysgol sy'n perfformio orau. Fe wnes i gyfarfod â'r garfan gyntaf o gymdeithion yn ddiweddar, ac roedd eu brwdfrydedd dros genhadaeth yr academi, a'u swyddogaethau ynddi, yn ysbrydoledig iawn.
Fel sy'n gweddu i sefydliad bychan, arloesol a hyblyg, bydd angen i'r academi fod â phresenoldeb mawr ar-lein. Bydd yn galluogi datblygiad rhith gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ymchwil a thystiolaeth ryngwladol ar gael i bawb. A bydd hyn yn parhau i dyfu wrth i'r academi aeddfedu.
Rwyf wedi dweud cyn hyn bod y dystiolaeth yn eglur fod ansawdd y system addysgol yn dibynnu nid yn unig ar lefelau ei chyfalaf proffesiynol ond hefyd ar lefelau cyfalaf ei harweinyddiaeth. Ac rydym wedi gweithredu ar hyn, a thrwy gydol datblygiad yr academi, bu consensws gwirioneddol ar swyddogaeth hollbwysig arweinyddiaeth, a bu'n gyfle gwerthfawr i ail-ganolbwyntio ein sylw ar arweinyddiaeth yn gydweithredol.
Mae datblygiad yr academi yn gam hanfodol ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau dysgu proffesiynol newydd, diwygiad addysg gychwynnol athrawon, a diwygiad y cwricwlwm, yn ein dull cydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth. Dirprwy Lywydd, rwy'n llawn cyffro am fod yr academi bellach ar waith, i gefnogi ein harweinwyr i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad, ac am y copi ohono o flaen llaw. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag arweinyddiaeth, o ran gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ffynnu yn ystod ei amser yn yr ysgol a'r system addysg yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod mynd i'r afael â hyn yn rhywbeth yr ydych yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, o ran y diffygion sydd yn y system. A hoffwn innau ddiolch hefyd i Ann Keane yn ei swydd yng nghadair y grŵp gorchwyl a gorffen, yn wir ynghyd ag aelodau eraill yn y grŵp hwnnw, am ei gwaith.
Mae'n ddiddorol nodi y bydd yr academi newydd wedi'i lleoli yn Abertawe. Mae'n beth da nad yw'n mynd i fod wedi'i lleoli yn swigen Caerdydd, os hoffech chi, a'i bod mewn gwirionedd mewn rhan arall o'r wlad. Ond rwy'n holi pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ac a fu unrhyw gynigion o rannau eraill o Gymru i gael bod yn gartref i sefydliad o'r fath fri. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl eraill â diddordeb i wybod pam mai Abertawe oedd y cynigydd llwyddiannus.
Rwy'n cymryd yn awr fod yna gyllideb yn ei lle ar gyfer y sefydliad hwn; ni welais unrhyw fanylion o'r gyllideb honno. Nid wyf i'n gwybod faint o weithwyr—roeddech chi'n cyfeirio ato o hyd fel sefydliad cymharol fychan, roeddwn yn sylwi, yn eich datganiad. Ond byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa fath o gyllideb fydd ar gael i'r sefydliad hwn, fel y gall yr adnoddau hynny gael eu gwario yn effeithiol ar y pethau yr ydym yn dymuno iddynt gael eu gwario arnynt, h.y. sicrhau bod datblygiad a chymorth proffesiynol digonol ar gyfer arweinwyr ysgol ac eraill yn y system addysg yma yng Nghymru.
Sylwais fod yna ganolbwyntio mawr iawn hefyd ar benaethiaid ac uwch aelodau staff yn ein hysgolion. Ond, wrth gwrs, mae'r arweinyddiaeth addysgol sydd gennym yn ein gwlad yn mynd ymhellach na phenaethiaid yn unig. Ceir llawer o sefydliadau, fel colegau addysg bellach ac ati, a allent elwa ac, yn wir, gallai fod cyfnewid cefnogaeth gan golegau addysg bellach a'r sector prifysgolion, a allai fod o fudd i'r sefydliad newydd hwn. Felly, tybed a allech ddweud wrthym sut yr ydych yn disgwyl iddynt allu ymgysylltu â'r academi genedlaethol newydd a pha fanteision y gallwch ddisgwyl eu gweld yn deillio o'u harbenigedd nhw. Un o nodweddion adroddiadau diweddar gan Estyn yw'r arweinyddiaeth dda yn ein sector addysg bellach yn arbennig, ac rwy'n daer o blaid gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r cyfle i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth dda mewn rhannau eraill o'r system addysg hefyd.
Tybed hefyd—. Rwy'n sylwi bod pwyslais ar gyd-ddatblygu, mewn ffordd o siarad, a chydweithio gydag arweinwyr i ddatblygu swyddogaeth yr academi newydd. Ond tybed i ba raddau y bydd gan bobl ddigon o amser, mewn gwirionedd, i allu cael mewnbwn i ddatblygiad y sefydliad newydd hwn, o gofio y bydd gan y rhan fwyaf ohonynt eu swydd feunyddiol, ac maen nhw'n teimlo'n gyfyngedig iawn o ran eu hamser yn barod. Ymddengys mai ychydig iawn o amser sydd gan gan bob un o'r penaethiaid yr wyf i'n siarad â nhw, a dweud y gwir, i wneud dim ar wahân i ymlafnio yn eu hysgolion eu hunain ar hyn o bryd, oherwydd y pwysau gwaith sy'n bodoli. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi am wneud yn siŵr bod y gallu ganddynt i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â'r academi newydd o ran datblygiad ei rhaglenni, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn eu bod yn cael rhywfaint o gyfle i allu gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon.
Rwy'n falch o weld y bydd pwyslais ar gynllun achredu, mewn ffordd o siarad—cynllun marc ansawdd—ar gyfer peth o'r adnoddau sy'n bodoli eisoes, ac y byddant yn cael eu hasesu yn ôl sylfaen dystiolaeth i ddangos eu bod yn adnoddau effeithiol i arweinwyr allu eu defnyddio yn eu datblygiad proffesiynol. A wnewch chi roi sicrwydd inni, felly, y ceir gwared ar y pethau hynny nad ydynt yn cyrraedd y nod ac na fyddwn yn gweld arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wastraffu ar rai pethau yr ydym wedi gwario arian arnyn nhw o'r blaen? Gwn fod llawer o bobl yn teimlo'n rhwystredig o bryd i'w gilydd am fod llawer o arian yn cael ei wario ar ddatblygiad proffesiynol, nad yw wedi gwireddu'r addewidion a nodwyd ar y dechrau.
A dim ond un cwestiwn terfynol: rwy'n gwybod mai sefydliad annibynnol yw hwn, ond mae'n amlwg ei bod yn bwysig iawn fod yna strwythur atebolrwydd ar waith yn y sefydliad, sy'n atebol yn y pen draw i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth fydd y trefniadau ar gyfer atebolrwydd yr academi newydd? A fydd yn destun arolwg gan Estyn? Sut ydych chi'n disgwyl i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn allu rhyngwynebu â'r sefydliad? Ac a ydych yn gweld swyddogaeth i awdurdodau addysg lleol a'r consortia rhanbarthol wneud hynny, neu a oes dulliau eraill y teimlwch y dylent fod ar gael i ni? Diolch ichi.
A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei groeso cadarnhaol i ddatblygiad yr academi? Mae'n iawn i ddweud bod hyn wedi bod yn flaenoriaeth i mi ers i mi fod yn fy swydd. Os edrychwn yn ôl ar gyfres o ddiwygiadau addysgol yng Nghymru, bu bwlch enfawr, mi gredaf, yn y canolbwyntio ar gymorth i arweinwyr o fewn y system. Cafodd ei nodi mewn adroddiad yn 2014 gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a phan ddeuthum i'm swydd roeddwn yn benderfynol o wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Ac roeddwn yn falch iawn o weld, pan wahoddwyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei ôl, ei fod yn ein hannog i fwrw ymlaen gyda'r gwaith o greu'r academi. Mae'n hollbwysig os ydym am drawsnewid addysg yng Nghymru ein bod yn canolbwyntio'n fwy ar ansawdd arweinyddiaeth. Felly, rwy'n ddiolchgar am ei groeso.
Fy nealltwriaeth i o'r penderfyniad i'w lleoli yn Abertawe oedd argymhelliad a roddwyd i mi gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Rwyf wedi'i gwneud yn glir mai fy awydd i oedd y dylai'r sefydliad gael ei leoli y tu allan i'r swigen, fel petai, ac fe siaradodd y grŵp gorchwyl a gorffen â nifer o leoliadau, rwy'n deall, gan edrych am gartref o ansawdd da am bris rhesymol, a daeth yr argymhelliad yn ei ôl am swyddfa yn Abertawe. Rwy'n credu y byddan nhw'n llwyr weithredol yn y swyddfa honno gyda hyn.
Rydym yn disgwyl y bydd gan yr academi nifer fechan o staff o tua saith i wyth o unigolion. Felly, nid sefydliad pendrwm yw hwn. Eto, mae hynny ar sail y gwaith a wnaed gan y grŵp gorchwyl a gorffen i geisio llunio'r ffurf ar ôl penderfynu ar y swyddogaeth. Felly, mae'r ffurf yn dilyn y swyddogaeth, a'r argymhelliad oedd mai grŵp bychan o staff oedd ei angen.
O ran ariannu—wrth gwrs, yn amodol ar unrhyw bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn—ond yn y papurau cyllideb drafft sydd eisoes wedi dod gerbron yr Aelodau, rydym wedi nodi £1 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf i gefnogi gwaith yr academi.
Darren, rydych yn llygad eich lle fod angen i'r academi hon fodoli er mwyn pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Ceir yn barod rai rhaglenni grymus iawn sy'n cefnogi arweinyddiaeth addysg bellach, ac rydych yn hollol gywir, mae arweinyddiaeth gref mewn addysg bellach wedi nodweddu llawer iawn o adroddiadau Estyn. A cheir cyfle i ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn addysg bellach, yn ogystal â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn addysg uwch, ond yn y pen draw, rwy'n awyddus i'r academi gwmpasu swyddogaethau arweinyddiaeth mewn addysg o ben bwygilydd, a byddwn yn cynnwys yn hynny swyddogaethau arweinyddiaeth addysgol ar bob lefel yn yr ysgol. Felly, nid penaethiaid neu'r uwch dîm rheoli yn unig, ond mewn gwirionedd, yr arweinyddiaeth ganol—felly, penaethiaid adrannau, penaethiaid pynciau, nid yn unig yr uwch haenau yng nghymuned yr ysgol. Rydym yn edrych hefyd ar addysg bellach. Byddwn yn cynnwys yr awdurdodau addysg lleol hefyd. Hoffwn ei ymestyn i gonsortia rhanbarthol, a hoffwn ei ymestyn i Lywodraeth Cymru hefyd, gan gynnwys y swyddogion sy'n ymwneud â swyddogaethau addysg yn fy adran i. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n awyddus i'r academi yn y pen draw allu gynnig cyfleoedd yn gyffredinol. Ond wrth gwrs, fel sefydliad newydd, mae angen inni gropian cyn cerdded, cyn inni redeg, ac mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth i'r rhai sy'n newydd i arweinyddiaeth ar hyn o bryd a'n harweinwyr presennol. Pan fyddwn wedi cael hwyl ar hynny, bydd yr academi yn edrych tuag at ehangu'r ddarpariaeth nesaf. Mae'n ddyddiau cynnar, ac mae angen inni gael y pethau sylfaenol yn iawn cyn inni symud ymlaen, ond rwy'n dymuno iddi fod ar gyfer pawb.
Darren, a allaf eich sicrhau chi yn gyfan gwbl? Un o swyddogaethau pwysicaf yr academi fydd sicrhau ansawdd y ddarpariaeth. Mae amrywiaeth enfawr o raglenni yn bodoli, ac mae angen inni wybod, ac mae angen i'n harweinwyr wybod, mai'r hyn y maen nhw'n buddsoddi eu hamser ynddo, a'r hyn yr ydym ni'n buddsoddi adnoddau cyhoeddus prin ynddo, yw rhaglenni datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gweithio. A bydd honno'n swyddogaeth hollbwysig. Nid oes gennyf unrhyw broblem o ran eich sicrhau chi, pe na fyddai'r rhaglenni hynny wedi cyrraedd y nod, na fyddwn yn dymuno gweld fy ngweithwyr proffesiynol i yn cymryd rhan yn y rhaglenni hynny; ni roddir sicrwydd ansawdd iddynt. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd y broses sicrhau yn cynnwys ein cymdeithion yn yr academi. Felly, mae'r rhain yn bobl sydd eisoes ar binacl eu gyrfa, ond hyd yn oed, maen nhw wedi nodi bod yna fwy y gallen nhw ei ddysgu am redeg sefydliadau mawr. A byddant yn rhan annatod o gynghori'r academi ar y darpariaethau hynny, fel y byddent yn diwallu anghenion gweithwyr proffesiynol. Ond yn dyngedfennol, wrth ddiwallu anghenion y gweithwyr proffesiynol, bydd yn effeithio ar ein plant.
Mae'r academi arweinyddiaeth yno i bwrpas, nid yn unig ar gyfer yr unigolion sy'n cymryd rhan, ond bydd yn caniatáu i'r unigolion hynny sy'n cymryd rhan gael effaith yn eu sefydliadau nhw eu hunain ar safon yr addysg a'r dysgu, ac yn y pen draw, y canlyniadau i'n plant.
A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma, ac ategaf y diolch i Ann Keane ac eraill sydd wedi dod â ni i'r fan hon ac, wrth gwrs, hoffem estyn ein dymuniadau gorau i'r rhai sydd bellach yn gyfrifol am symud y gwaith hwn yn ei flaen yn y cyfnod sydd ar ddod?
Fel yr ydych chi'n dweud, nodwyd mai arweiniad fu yn un o'r agweddau gwannaf ar system addysg Cymru am nifer o flynyddoedd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rydym yn gwybod—mae Estyn yn dweud wrthym, ac rydych chi wedi dweud wrthym yr hyn y bu'r OECD yn ei ddweud—bod arweinyddiaeth lwyddiannus yn ffactor allweddol wrth gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr. Felly, croesewir yr academi arweinyddiaeth yn fawr yn hynny o beth, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf ein bod yn awyddus i sicrhau bod yr holl arweinwyr a darpar arweinwyr yn gallu cael gafael ar ddatblygiad proffesiynol o ansawdd da, fel ein bod yn gallu ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion megis diffyg cynllunio ar gyfer olyniaeth.
Bydd llawer ohonom yn llywodraethwyr, rwy'n siŵr, sydd wedi bod mewn sefyllfa lle yr ydym wedi ceisio recriwtio arweinwyr ysgolion. Rydym wedi canfod bod y gronfa'n annigonol, a dweud y gwir, o'm profiad i, yn sicr, yn y gorffennol, ac mae tyfu'r gronfa honno'n hanfodol. Wnaethoch chi ddim ymdrin mewn gwirionedd—wel, ddim o gwbl, nid wyf yn credu—â'r pwynt ynglŷn â'r ffaith ei bod yn rhaid i arweinyddiaeth fod yn fenter fwy deniadol. Rydym mewn hinsawdd o gyllidebau sy'n crebachu, capasiti yn lleihau, llwythi gwaith yn cynyddu ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn siŵr a yw'n fenter mor ddeniadol ag y byddem yn hoffi iddi fod, y dyddiau hyn. Felly, gofynnaf eto am sicrhad bod y capasiti ar gael o ran adnoddau i allu rhyddhau pobl i ymgymryd â pheth o'r hyfforddiant hwn, i roi'r cyfle hwnnw i alluogi ysgolion i gael staff cyflenwi neu i dalu am rai o'r cyfleoedd hyn, os oes cost, ond hefyd o ran amser—bod athrawon yn cael mwy o amser i allu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol, fel y gallwn ddechrau gwireddu potensial nifer o'r unigolion hyn.
Hoffwn ofyn am yr CPCP—y cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Bu cryn ddadlau am hynny yn y gorffennol. Yn amlwg, rydych wedi mynegi eich bwriad iddo fod yma i aros, neu o leiaf dyna fy nealltwriaeth i, ac rwy'n siŵr y byddech yn fy nghywiro pe bawn yn anghywir. Tybed a oes gan yr academi swyddogaeth yn y drafodaeth honno hefyd erbyn hyn, a beth yw eu barn nhw, oherwydd, yn amlwg, mae rhai pobl yn ei weld yn rhwystr, mae eraill yn ei weld yn gyfle defnyddiol i ddysgu â myfyrio. Felly, byddai'n dda inni weld sut y gwelwch hynny'n rhan o waith tymor canolig yr Academi.
Nawr, ar yr ail ar bymtheg o fis Medi—na, fis Medi'r llynedd, dyna'r wyf yn ceisio'i ddweud, fe gyhoeddoch gyllid gwerth dros £1.28 miliwn i sefydlu cynlluniau peilot rheolwyr busnes ysgol mewn 11 o awdurdodau lleol, cam i'w groesawu'n fawr, i fynd i'r afael â llawer o'r beichiau gweinyddol y mae rhai o'r arweinwyr hyn yn gorfod ymlafnio â nhw. Tybed a allech chi roi diweddariad ar y cynlluniau peilot hynny a sut yr ydych yn gweld y rheini, neu pryd fyddech chi'n gweld y rheini, o bosibl, yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd eraill, neu pryd fyddech chi'n credu y byddwch mewn sefyllfa i ddod i benderfyniad ar hynny, sef a ydynt, mewn gwirionedd, yn ychwanegiad gwerthfawr at y gefnogaeth sydd gan arweinwyr yn ein hysgolion.
Roeddech chi'n sôn y byddai gan yr academi gylch gwaith eang o ran y garfan o bobl y byddai'n eu targedu—nid dim ond ysgolion, ond awdurdodau lleol, consortia, ac ati. A fyddai hynny'n ymestyn i'r gwasanaeth ieuenctid? Dim ond gofyn y cwestiwn ydw i a fyddai'n ymestyn cyn belled â hynny, gan adlewyrchu, wrth gwrs, er enghraifft, gylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg yn hynny o beth.
Bydd ganddi, fel y dywedwch yn eich datganiad, bresenoldeb cryf iawn ar-lein, a bydd rhith gymuned yn un o gonglfeini'r ddarpariaeth hon. Tybed sut y byddwch yn cysylltu hynny neu'n ei asio gyda llwyfannau ar-lein ac adnoddau eraill sydd ar gael i lawer o athrawon ac arweinwyr, fel Hwb, fel pasbort dysgu proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, yn ogystal â hynny, sydd yn tynnu llawer o hyn at ei gilydd. Ai'r weledigaeth yw fod yr academi yn dod yn rhyw fath o ganolbwynt i'r rhain i gyd ac yn eu tynnu at ei gilydd, neu a fydd hi'n fodd o fwydo deunydd i mewn i nifer o'r rhain? A fydd yn dod a'r cydlyniant hwnnw i'r myrdd o ddarpariaeth sydd ar gael, neu a fydd yn ychwanegu at rai o'r llwyfannau hynny?
Yn olaf, sut ydych yn bwriadu mesur effaith a llwyddiant posibl yr academi? Beth, yn eich tŷb chi, yw'r cerrig milltir, y nodau a'r dyheadau sydd gennych chi a sut fyddwch chi'n gallu dangos eu bod mewn gwirionedd yn cael yr effaith yr ydym i gyd yn awyddus i'w gweld?
Diolch yn fawr ichi, Llŷr. Rwy'n credu, yn gyntaf, y byddwn yn cydnabod mai gwaith heriol yw bod yn arweinydd ysgol, y mae ei gyflawni yn cymryd llawer o amser ac yn anodd ar adegau. Ond mae hefyd yn swydd sy'n rhoi llawer o foddhad. Gall yr effaith y mae arweinydd ysgol yn ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc ac ar eu gyrfa drwy eu sefydliad fod yn enfawr. Yn ddiweddar iawn, roeddwn yn siarad â chyn-bennaeth a oedd wedi mynd am bryd o fwyd i ddathlu ei phen-blwydd gyda rhai o'i phlant ei hun ac roedd cyn-ddisgybl yn gweini. Cafodd sgwrs â'r disgybl hwnnw a ddywedodd, 'Nid wyf i'n gallu credu eich bod yn fy nghofio i. Doeddwn i ddim yn gwybod a fyddech yn cofio fy enw i,' ac aeth yn ei flaen i ddweud wrthyn nhw am yr hyn oedd yn digwydd yn ei fywyd a'r gwahaniaeth yr oedd hi wedi gwneud i'w fywyd. Ychydig o alwedigaethau, ychydig iawn o alwedigaethau, sydd yn cael effaith ar unigolyn gydol ei oes, ond mae bod yn bennaeth ysgol, a bod yn bennaeth ardderchog, yn gwneud hynny.
Mae hefyd yn hanfodol, fel y nododd yr OECD ac Estyn, o ran y proffesiwn addysg: mae cael eich rheoli gan arweinydd gwael yn ychwanegu at eich llwyth gwaith fel athro neu athrawes, yn ychwanegu at eich straen fel athro neu athrawes, ac nid yw'n eich helpu i wneud eich gorau. Ond mae arweinyddiaeth dda yn ein hysgolion yn codi pawb.
Un o ddibenion mwyaf bodolaeth yr academi yw dweud wrth bobl sydd yn ystyried arweinyddiaeth, ond ar hyn o bryd nad ydynt yn dymuno cymryd yr ymrwymiad a'r cam hwnnw, oherwydd ei bod yn swydd mor heriol, mae'r academi yno i ddweud, 'Fe wnawn ni eich cefnogi chi. Ni fyddwch ar eich pen eich hun. Mae hwn yn gam yn eich gyrfa y gallwch ei gymryd yn ddiogel gan wybod a bod yn hyderus fod yna strwythur a sefydliad a fydd yn rhoi'r cymorth ichi fod y gorau y gallwch chi fod, a gwneud eich taith tuag at arweinyddiaeth yn llwyddiant. Byddwn yn eich cefnogi i wneud hynny.'
Felly, rydych chi'n hollol iawn: mae amrywiaeth o bethau y mae angen inni eu gwneud i wneud arweinyddiaeth yn fwy deniadol. Byddwch yn ymwybodol o'n datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, am ffordd fwy soffistigedig o reoli perfformiad mewn ysgolion, sefydlu'r academi arweinyddiaeth, safonau arweinyddiaeth newydd—y cyfan gyda'i gilydd, mae'n ymwneud â gwneud arweinyddiaeth yn rhywbeth deniadol.
Rydych yn siarad am yr CPCP. Fel rhywun a fu'n ddigon ffôl i gytuno i lofnodi'n bersonol yr holl dystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus yr CPCP eleni, cefais sioc annifyr ddoe pan roddwyd blwch imi yn cynnwys 140 ohonynt. Pe byddwn wedi gwybod hynny, efallai y byddwn wedi cael fy llofnod wedi'i argraffu arnyn nhw. Ond roeddwn yn falch iawn neithiwr o lofnodi pob un o'r tystysgrifau ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau eu CPCP yn y garfan diwethaf. Felly, nid oes prinder awydd i gymryd rhan yn y rhaglen honno—ddim prinder awydd o gwbl.
Mae fy swyddogion a'r consortia rhanbarthol wedi cydweithio'n galed iawn i gynnig rhaglen CPCP well ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Ond wrth symud ymlaen, rydych yn iawn, Llŷr, mai fy mwriad i yw cadw'r CPCP, ond wrth symud ymlaen ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cyflawni gwaith caffael ar gyfer cyflwyno'r rhaglen eto, a bydd gennyf ragor o wybodaeth ar ôl cwblhau'r broses hon, y byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.
Rydym yn awyddus iawn, fy swyddogion a minnau a'r academi, i sicrhau bod yr CPCP yn adlewyrchu'r safonau arweinyddiaeth newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaglen datblygu a ystyriwyd yn ofalus i gefnogi'r rhai sy'n ymgeisio am brifathrawiaeth hyd yn oed yn well. Felly, bydd yn aros. Eisoes, o flaen yr academi, mae consortia rhanbarthol wedi bod yn cydweithio i sicrhau dull mwy cyson, gan ddibynnu ar eich lleoliad yng Nghymru, a bydd gan yr academi arweinyddiaeth swyddogaeth hanfodol i sicrhau bod yr CPCP, a'r hyn sydd y tu ôl i'r cymhwyster hwnnw, yn addas ac yn gadarn.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, Llŷr, nad wyf i wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnwys gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais wrth ateb Darren, rwy'n ystyried gwneud hon yn academi arweinyddiaeth ar gyfer y rhai sydd â swydd mewn arweinyddiaeth addysgol, ac rwy'n siŵr y bydd trafodaethau ynglŷn ag a fyddai'r gwasanaeth ieuenctid yn dymuno cymryd rhan rywbryd mewn rhaglen o'r fath. Yr hyn yr wyf yn glir amdano yw y gall gwaith ieuenctid da ochr yn ochr ag addysg wirioneddol dda gael effaith wych ar fywydau plant a phobl ifanc.
O ran amser a chyfle, byddwch yn ymwybodol ein bod wrthi'n ailfeddwl am ein cyfleodd dysgu proffesiynol o ben bwygilydd, gyda chynnig addysg broffesiynol cenedlaethol newydd gobeithio—na, nid gobeithio; fe fydd yn barod ym mis Medi, a bydd hynny'n rhoi rhagor o fanylion am y staff sydd ar gael ar bob lefel i gymryd rhan mewn rhaglenni arweinyddiaeth cenedlaethol. Ond yr hyn a welsom gan y swyddogion cyswllt, y bobl a wnaeth gais i fod yn swyddogion cyswllt, unwaith eto nid oes prinder awydd gan bobl i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Roedd mwy o ymgeiswyr i fod yn swyddogion cyswllt nag yr oedd gennym le ar eu cyfer, a chredaf fod hynny'n ein rhoi ar drywydd da iawn mewn gwirionedd ar gyfer sefydlu academi fel rhywbeth sydd yn wirioneddol werth chweil, a phobl yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Mae'r wefan ar ei thraed, er fy mod yn credu y bydd yr Aelodau yn ei chael hi'n anodd i'w Gwglo o'r cyfrifiadur hwn, oherwydd rwyf newydd drïo gwneud hynny ar fy un i ac mae system y Cynulliad wedi'i hatal. Felly, mae'n un o'r gwefannau hynny, un o'r gwefannau rhyfedd hynny, am ryw reswm, nad yw'r hidlyddion yma'n fodlon ichi edrych arni. Ond, pan fyddwch gartref heno yn defnyddio eich cyfrifiaduron eich hunain, os gwelwch yn dda edrychwch arni. Ac, unwaith eto, mae'r presenoldeb ar-lein digidol hwnnw yn rhoi cyfle inni gyrraedd pob rhan o Gymru. Nid wyf yn dymuno i neb fod dan anfantais logistaidd oherwydd eu bod yn arwain ysgol mewn ardal fwy anghysbell o Gymru. Mae'r presenoldeb ar-lein hwnnw a gwneud yn siŵr fod yna adnoddau ar-lein a chymunedau ar-lein, yn caniatáu i bawb gymryd rhan ar sail fwy cyfartal. Ond byddwn yn annog yr Aelodau i edrych, ac efallai y gallai'r Dirprwy Lywydd gael gair gyda'r technegwyr yma ynghylch dadflocio'r wefan honno, Dirprwy Lywydd.
Iawn. Gwnaf, os bydd yr Aelodau yn addo ateb cwestiynau—neu Ysgrifenyddion y Cabinet yn addo ateb cwestiynau yn eithaf cyflym a'r Aelodau i ofyn cwestiynau yn eithaf cryno. Michelle Brown.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae adroddiadau diweddar gan Estyn wedi nodi y bu diffyg cynllunio o ran ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion. Ychydig iawn o gyfleoedd datblygiad proffesiynol wedi'u teilwra'n dda a gafwyd ar gyfer arweinwyr ac athrawon lefel canol ac uwch ac nid yw arweinyddiaeth ysgol yn cael ei hystyried yn broffesiwn deniadol. Ni wnaeth arolygiadau Estyn ond nodi nifer fach o ysgolion yr oedd eu harfer mewn arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer gwella yn rhagorol. Rwy'n siŵr nad yw'r datganiadau hyn yn newyddion ichi; rydych chi wedi gweithredu arnyn nhw wrth greu'r academi, ac rwy'n croesawu'r academi honno, gan fod ei chanolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth yn gam da. Fodd bynnag, bydd raid i'r croeso eang hwn gynnwys rhai rhybuddion. Rhaid i unrhyw fentrau fod yn gost-effeithiol ac yn effeithiol hefyd o ran y canlyniadau y maent yn eu darparu. O ran sicrhau effeithiolrwydd, croesawaf yn fawr benodiad y cyn brif arolygydd ysgolion, Ann Keane, i oruchwylio, ymhlith pethau eraill, symbyliad yr academi. Mae gan Ann yn brofiad eang o weithio fel athrawes ei hun, yn cynnwys mewn ysgolion yn Lloegr. Mae hefyd wedi cyflwyno deunydd manwl a defnyddiol iawn yn ystod ei hamser gydag Estyn.
O ran cyllid a chostau, dywedodd adroddiad sioe deithiol Estyn ym mis Hydref 2017 bod ansicrwydd ynghylch a all yr academi gael digon o bŵer heb reoli holl gyllid datblygu arweinyddiaeth. Felly, mae hynny'n un peth yr hoffwn ei ofyn i chi: sut y caiff y cyllid hwnnw ei drin a sut fydd yn cael ei reoli? Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn pryderu a fyddai digon o arian ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth addas o hynny. Eto i gyd, ar y llaw arall, ceir pryder hefyd ynglŷn â threthdalwyr yn cael gwerth am arian a bod costau'r academi yn gymesur. Nid ydym yn dymuno gweld y cyllid a roddir i'r rhaglen hon yn cymryd arian sylweddol oddi wrth wasanaethau rheng flaen addysg, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi yn hynny o beth.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod yr angen i'r academi gael presenoldeb mawr ar-lein. Beth yw'r rhagolygon sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet o'r costau sy'n gysylltiedig â sicrhau'r presenoldeb ar-lein? Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd pa fecanweithiau craffu ac adolygu sydd ganddi hi ar waith i sicrhau bod y costau sy'n gysylltiedig ag academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn parhau i fod yn gymesur ac yn sicrhau gwerth am arian. Pryder a godwyd hefyd yw'r nifer gymharol fechan o fenywod mewn swyddi uwch arweinwyr yn y system addysg, sydd yn syndod, o gofio nifer y menywod sydd yn mynd i ddysgu mewn gwirionedd. A fydd yr academi yn mynd i'r afael â hyn a sut rydych yn gweld yr academi yn ymdrin â hyn?
Bwriedir hefyd i'r academi fod yn cymeradwyo'r ddarpariaeth gan ddarparwyr. Rwy'n cymryd eich bod yn golygu mai hyfforddi, datblygu proffesiynol, ac yn y blaen fydd hynny. Credaf fod hynny'n syniad da; mae'n gwneud synnwyr. Ond sut fydd hi'n sicrhau bod arweinwyr ac athrawon sy'n dymuno manteisio ar y ddarpariaeth honno yn cael yr amser i wneud yn fawr ohoni? A sut fyddwch yn sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn cael yr amser yn ystod eu diwrnod gwaith i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth? Neu a yw hyn yn rhywbeth y bydd disgwyl iddyn nhw ei wneud yn eu horiau personol, fel sy'n digwydd mor aml gyda DPP Diolch.
A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei sylwadau? Mae'n bwysig bod yr Aelodau yn deall y ffordd y sefydlwyd yr academi arweinyddiaeth, sef fel cwmni cyfyngedig drwy warant sydd hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, oherwydd roeddwn i'n dymuno gallu creu rhyw fath o annibyniaeth, ar sail weithredol feunyddiol, oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y sefydliad yn cael ei arwain gan brif weithredwr newydd, Huw Foster-Evans. Mae Huw yn rhywun a fydd yn hysbys i lawer o bobl fel—. Dechreuodd ar ei yrfa fel athro mathemateg mewn ystafell ddosbarth a symudodd i fyny drwy'r rhengoedd. Mae wedi bod yn bennaeth, mae'n deall gwaith y consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn dda iawn, ac mae'n hynod frwdfrydig o ran y posibiliadau ar gyfer arweinyddiaeth. Wedi siarad ag ef yn dilyn ei benodiad, y mae'n gweld arweinyddiaeth wrth wraidd ein diwygiadau addysgol. Mae gan y bwrdd gadeirydd annibynnol penodedig, yn ogystal â nifer o aelodau bwrdd, bob un ohonynt â phrofiad diweddar mewn busnes ac mewn addysg, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o redeg yr academi o ddydd i ddydd. Rwy'n disgwyl derbyn adroddiadau rheolaidd gan y cadeirydd a'r prif weithredwr am y gwaith ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yma, a chan eich bod yn aelod o'r pwyllgor plant a phobl ifanc, y bydd y pwyllgor ei hun yn awyddus i gael edrych o ddifrif ar waith yr academi a chael cwrdd â'r personél yno. Rhoddwyd gwahoddiad, rwy'n credu, i bobl ddod i'r digwyddiad yr wythnos diwethaf, felly gallai pobl fod wedi cyfarfod yn y lansiad swyddogol. Gwn fod ddyddiaduron pobl yn hynod o brysur dros amser cinio a bod hynny bron yn amhosibl. Roedd Llŷr yno, ac rwy'n gobeithio, Llŷr, y byddech yn dweud wrth gydweithwyr nad oedden nhw'n gallu bod yn bresennol yno fod yna deimlad o gyffro ac edrych ymlaen a brwdfrydedd am yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Mae materion cydraddoldeb mewn addysg yn rhai gwirioneddol bwysig mewn gwirionedd, Michelle. Mae'n ddiddorol iawn; rydych yn sôn am ddiffyg swyddi arweinyddiaeth gan fenywod. Wel, menywod yw llawer iawn o'r penaethiaid yr wyf i'n cwrdd â nhw mewn swyddi arweinyddiaeth—penaethiaid ysgolion—yn y sector cynradd yn enwedig, ac mae hynny'n adlewyrchu natur gweithlu'r ysgolion cynradd. Ond mae angen inni weld mwy o amrywiaeth yn ein proffesiwn addysg yn gyffredinol. Hoffwn i bob un sydd o flaen y stafell ddosbarth adlewyrchu natur yr ystafell ddosbarth ei hun. Cymuned amrywiol ydym ni gyda phoblogaeth amrywiol a hoffwn weld mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn addysg ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr academi arweinyddiaeth yn awyddus i roi cyngor i mi ynglŷn â'r hyn a ddylai ddigwydd os ydyn ni'n dymuno annog yr amrywiaeth honno a'n bod yn gallu gweithredu gyda hynny. Eto, un o'r pethau yr wyf yn disgwyl i'r academi arweinyddiaeth ei wneud yw cyfrannu at gyngor polisi cyhoeddus, a rhoi cyngor i mi, yn Weinidog, ynglŷn a'r hyn sydd angen inni ei wneud eto i gefnogi'r cynsail a ddisgrifiwyd gennych chi: arweinwyr ysgol amrywiol a llwyddiannus a system arweinyddiaeth ysgol y mae pobl yn dyheu i fod yn rhan ohoni; maen nhw'n dymuno bod yn rhan o'r system honno—yn hytrach na gweld arweinyddiaeth yn gyfle i ddod â gyrfa i ben, ond yn hytrach yn gyfle i wella gyrfa. Felly, mae hynny'n bwysig iawn i mi, ein bod yn cael yr amrywiaeth honno.
Bydd y mesurau atebolrwydd a sicrhau arferol ar waith, a bydd y prif weithredwr a'r bwrdd yn atebol i'r cyhoedd am y modd y caiff cyllideb y sefydliad ei wario. Fel y dywedais wrth ateb Llŷr Huws Gruffydd, wrth inni nesáu at fis Medi byddwn mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion i'r Aelodau am y rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol newydd sydd ar gael. Rydym eisoes yn gweithio yn galed iawn, iawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ddatblygu ein system ysgolion fel sefydliadau dysgu, ac mae'n rhaid inni gydnabod bod yr hen ffyrdd o gyflawni addysg broffesiynol, sy'n aml yn cynnwys dod allan o'ch ystafell ddosbarth am ddiwrnod cyfan, i eistedd mewn neuadd, a chael darlith o'r llwyfan, ar y llwyfan, a mynd yn ôl wedyn i'ch ystafell ddosbarth a hynny heb gael unrhyw effaith ar eich ymarfer—mae'r dyddiau hynny ar ben. Yn aml, daw'r cyfleoedd gorau un i ddysgu'n broffesiynol pan fydd y plant yn yr ystafell mewn gwirionedd. Maen nhw'n dod drwy gysylltu, nid ag ysgol arall, ond mewn gwirionedd a'ch cydweithwyr o fewn yr ysgol, neu o gael cyfle i weithio ar draws clwstwr, a bydd ein rhaglen newydd genedlaethol sy'n rhoi cyfle dysgu proffesiynol yn adlewyrchu hynny pan fyddwn yn ei lansio yn yr hydref.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pawb yn gwybod bod yr heriau o gyflwyno addysg yn yr ysgolion sy'n gwasanaethu ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn fater o bwys i ni yma yng Nghymru—ac ymhellach y tu hwnt i'n ffiniau, yn ddiamau. Rydym wedi trafod yn y gorffennol bwysigrwydd arweinyddiaeth yn yr amgylchiadau penodol hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym i gyd yn gwybod ei bod yn bwysig iawn yn gyffredinol. Ond, wrth ystyried y materion hyn, roedd rhan o'n trafodaethau blaenorol yn ymwneud â'r priodoleddau a'r nodweddion penodol sydd eu hangen i fod yn rhan o'r tîm arweinyddiaeth hwnnw a pherfformio'n effeithiol yn yr ysgolion hynny sy'n gwasanaethu ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac roeddech yn nodi sut y byddai dull pwrpasol a chanolbwynt a ffocws penodol o fewn y rhan fwyaf o'r hyn yr ydych wedi'i ddisgrifio heddiw. Felly, tybed, ar y cam hwn o ddatblygiad yr academi a'n cyfundrefn newydd ar gyfer arweinyddiaeth mewn addysg yng Nghymru, a fyddech yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sut y bydd popeth yr ydych wedi'i ddisgrifio heddiw yn cynnwys hyn yn y ddarpariaeth bwrpasol hon ar gyfer y sgiliau arwain a'r nodweddion penodol hynny.
Diolch ichi, John. Wel, mae arweinyddiaeth dda a datblygiad arweinyddiaeth dda yn effeithio ar ein holl blant, ond byddwn yn dadlau ei bod yn effeithio yn anghymesur ar y plant hynny o gefndiroedd tlotach. Yn sicr, mae arweinyddiaeth mewn gwahanol leoliadau yn gofyn am raglen benodol weithiau sydd wedi'i llunio'n arbennig i estyn cymorth. Felly, nid fy lle i yw rhoi gorchmynion trwy'r amser i'r academi, ond rwyf yn rhagweld sefyllfa lle pan fyddwn yn edrych ar gefnogaeth i arweinwyr, arweinyddiaeth, mewn ystod o leoliadau addysgol. Os mai'r genhadaeth genedlaethol yw codi safonau a chau bwlch cyrhaeddiad, a dyna ydyw, yna talu sylw i'r hyn a olygir i fod yn arweinydd mewn ysgol mewn ardal economaidd wirioneddol heriol gyda phroblemau cymdeithasol sylweddol sy'n effeithio ar fywyd yr ysgol honno a lles y plant a gallu'r plant hynny i allu derbyn y cwricwlwm, bydd hynny'n gofyn am sgiliau penodol i wneud y gorau ohoni. Felly, byddwn yn hoffi gweld hynny'n cael ei adlewyrchu.
Fel arall, rydym yn gweld mathau newydd o addysg bob amser. Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd ysgol pob oedran, er enghraifft, lle rydym wedi cael, yn draddodiadol, wahanu rhwng cynradd ac uwchradd? Rydym yn gweld twf yn nifer yr ysgolion pob oedran. Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd yn yr amgylchiadau hynny? Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd clwstwr o ysgolion cynradd? Os cewch eich hun yn bennaeth dwy, tair, pedair ysgol gynradd yn eich ardal leol, sy'n digwydd nawr mewn ymgais i gadw ysgolion gwledig ar agor, beth sydd ei angen i fod yn arweinydd yn yr amgylchiadau hynny? Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd mewn ysgol lle mae gennych ddosbarthiadau bach iawn ac rydych chi'n ceisio dysgu nifer o blant ar draws grŵp oedran eang, ac yn ogystal â hynny mae gennych gyfrifoldeb dysgu ar ben eich cyfrifoldeb arweinyddiaeth? Felly, mae yna nifer fawr iawn o wahanol nodweddion i arweinyddiaeth. Felly, os yw'n gyffredin, mae yna bethau penodol y gallwn eu gwneud i gefnogi arweinwyr sy'n canfod eu hunain yn gweithio dan amgylchiadau penodol iawn.
Roeddwn ar fai am beidio â sôn am reolwyr busnes. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn gymryd y baich oddi ar benaethiaid sydd â'u bryd ar addysg a dysgu ac nid o reidrwydd ar weithio allan sut y gallwch drwsio'r boeler neu drwsio'r to sy'n gollwng neu ymhle mae'r papur a'r papur toiled rhataf ar werth. Nid ydym yn awyddus i benaethiaid dreulio eu hamser yn gwneud hyn. Maen nhw'n dweud wrthyf yn llawer rhy aml eu bod yn treulio llawer gormod o amser yn gwneud y math hwnnw o beth ac nid yn canolbwyntio ar addysg a dysgu ac addysgeg. Rydym eisoes yn buddsoddi mewn cynlluniau peilot rheolwr busnes. Byddwn yn aros i weld canlyniadau'r cynlluniau peilot hynny. Ond, unwaith eto, mae'n ymwneud â chefnogi arweinyddiaeth mewn amrywiaeth o raglenni polisi fel bod pobl yn awyddus i fod yn arweinydd mewn ysgol yng Nghymru, ac rwyf wir yn gobeithio y bydd pobl yn dymuno bod yn arweinydd rhagorol yn rhai o'n hysgolion mewn cymunedau mwy heriol. Oherwydd nid yr adnoddau ariannol yn unig a all wneud gwahaniaeth i'r plant hynny, mae'n ymwneud â defnyddio'r adnoddau dynol gorau hefyd.
Ac, yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch. Cafodd llawer o'r pwyntiau yr oeddwn eisiau eu gwneud eu datgan yn barod, ond rwy'n dymuno croesawu'r datganiad heddiw. Fel cyn athrawes a darlithydd, a chyn-aelod cabinet dros addysg, croesawaf yn fawr y diwygiad parhaus hwn o ran y potensial sydd gan yr academi newydd hon. Af yn syth at fy nghwestiynau. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau wedyn y bydd yr academi arweinyddiaeth addysgol a'i gwaith ar-lein ar gael ledled Cymru i weithwyr addysg proffesiynol yn gyson, a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld y bydd yr arfer gorau yn rhaeadru o'r academi yn Abertawe i ddrysau a ffenestri'r ystafelloedd dosbarth ledled Cymru? Ac, oes, mae gan yr academi arweinyddiaeth addysgol y potensial, ynghyd â chyfres o fesurau pedagogaidd eraill gan Lywodraeth Cymru, i roi rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth ledled addysg yng Nghymru yn un o asedau mwyaf pobl Cymru ac, yn y pen draw, yn fy marn i, genedl y Cymry.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, am eich croeso i'r academi. Yn amlwg, mae ein hadnodd ar-lein yn gwbl hanfodol i wneud yn siŵr fod yr academi yn hygyrch, a'i fod yn un o swyddogaethau hanfodol swyddogion cyswllt cyntaf yr academi. Felly, mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymgeisio i fod yn rhan o'r academi, maen nhw'n dod o bob cwr o Gymru, a rhan o'u swyddogaeth yw bod allan yn eu cymunedau addysgol i ledaenu gwybodaeth am yr academi, a gweithio gyda'u cydweithwyr nad ydynt yn swyddogion cyswllt, ond eu bod yn gallu rhoi gwybod iddyn nhw am waith yr academi a'u hannog i fod yn rhan ohoni. Felly, nid presenoldeb digidol yn unig sydd gennym ni; bydd gennym bresenoldeb ddynol ar y ddaear—rhai o'n hathrawon rhagorol yn y sector uwchradd, y sector cynradd, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg—ac maen nhw allan yno ar hyn o bryd yn datblygu eu sgiliau eu hunain hyd yn oed ymhellach, ond mewn gwirionedd maen nhw allan yno yn lledaenu neges yr academi ac yn bwydo yn ôl i'r prif weithredwr a'r bwrdd am yr hyn sydd ei angen ar yr arweinwyr gan yr academi i'w cefnogi nhw, yn ogystal â datblygu rhaglenni i'r dyfodol, fel y gallwn fod yn llawer mwy rhagweithiol o ran datblygu gyrfa'r bobl sydd â'u bryd ar arweinyddiaeth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru: gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ers mis Ebrill 2016, rŷm ni wedi gweld y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei rhoi ar waith drwy Gymru. Rwy'n gweld cynnydd da mewn rhai meysydd, ac rydw i'n gweld ar y llaw arall bod mwy i'w wneud mewn meysydd eraill. Wrth symud ymlaen, rydw i am inni ganolbwyntio ar helpu ein holl wasanaethau i gyrraedd y safonau uchaf. Hyd yma, mae tri pheth sy'n codi fy nghalon.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn gyntaf, rwy'n clywed ein rhanddeiliaid, megis y Comisiynydd pobl hŷn, yn dweud wrthym fod ein fframwaith statudol yn gywir ar y cyfan, ond dim ond os byddwn ni'n sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol. Yn ail, rwy'n gweld fy hun fod y strwythurau y gwnaethom ofyn i'n partneriaid eu rhoi ar waith, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau diogelu, yn ymwreiddio yn rhan o'n tirwedd cyflawni yng Nghymru. Ac rwy'n clywed sôn gan bartneriaid am y gwerth y maent yn ei ychwanegu. Ac yn drydydd, rwyf i wedi gweld, ac yn parhau i weld bob dydd, yr ymrwymiad gwirioneddol y mae staff a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector wedi'i gyfrannu at yr agenda hon, ac yn parhau i wneud. P'un a yw'n helpu i lunio'r fframwaith statudol, ein herio i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, neu'n gweithio'n galed i wireddu'r dyheadau yr ydym yn eu rhannu, mae eu hymdrech yn hanfodol ac i'w gweld ymhob man. Edrychaf ymlaen at yr ysgogiad newydd a ddarperir gan yr arolwg seneddol a'n hymateb iddo, y cynllun hirdymor, a fydd yn helpu i barhau ar y llwybr gweddnewid hwn.
Nawr, rydym ni bob amser wedi bod yn glir bod hon yn daith yr ydym ni'n dymuno'i theithio gyda'n rhanddeiliaid, ein staff gofal cymdeithasol a'n dinasyddion, gyda'n gilydd. Rydym ni hefyd wedi bod yn glir iawn na fydd yn llwyddo oni bai bod yr holl randdeiliaid a phob rhan o'r sector yn cydweithredu ac yn cydweithio. Ac nid yw hynny'n berthnasol yn unig i ddarparu gofal a chymorth ymarferol o ansawdd uchel a'r swyddogaethau cynllunio, comisiynu a chyd-drefnu ystafell gefn hanfodol a fydd yn ei gyflawni. Mae hefyd yn berthnasol i sut yr ydym ni'n gwerthfawrogi, yn rheoleiddio ac yn cefnogi ein gweithlu, sut yr ydym ni'n symbylu'r sector i wella ansawdd a gwella fwy fyth wrth gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant, a'r cwestiwn hollbwysig o sut yr ydym ni'n rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y sector yn lle diogel, gofalgar i unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth.
Ein Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy'n ategu'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yw'r mecanwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r gyfres allweddol honno o heriau. Mae'n bleser gen i felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi heddiw am ein cynnydd ar yr agwedd hon ar y daith at weddnewid. Erbyn hyn, rydym ni ar y trydydd cam o weithredu'r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu. Ers cael y Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2016, rydym ni wedi gweld y broses o reoleiddio'r gweithlu yn newid yn llwyr, rydym ni wedi gweld Gofal Cymdeithasol Cymru yn camu i swyddogaeth gwella ansawdd newydd, ac rydym ni'n gweld yn awr y broses rheoleiddio ac arolygu gofal ei hun yn newid i roi pwyslais newydd ar ganlyniadau.
Yng Ngham 1, yn 2016-17, gwnaethom weithio gyda'r sector i lywio'r trefniadau sydd ar waith er mwyn i ddarparwyr gwasanaethau gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan rannu ein syniadau ynghylch pa wybodaeth y dylai darparwyr, drwy eu datganiadau blynyddol, eu rhoi yn y parth cyhoeddus.
Yng Ngham 2, yn 2017-18, gwnaethom weithio'n helaeth â'n rhanddeiliaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu'r safonau gwasanaeth hynny a fydd yn berthnasol i gartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, canolfannau preswyl i deuluoedd ac, yn wir, gwasanaethau cymorth yn y cartref hefyd. Cytunodd y Cynulliad hwn â'r gofynion hynny fis Rhagfyr diwethaf ac rwy'n falch iawn bod Arolygiaeth Gofal Cymru, gan ddechrau fis diwethaf, wrthi'n cofrestru ein prif grwpiau o ddarparwyr yn y sectorau gofal cartref a phreswyl.
Felly, trof yn awr at gam 3, sy'n ymwneud â mabwysiadu, maethu, lleoliadau oedolion a gwasanaethau eiriolaeth. Mae gan y gwasanaethau hyn eu nodweddion a'u cymhlethdodau arbennig eu hunain, a dyna pam y penderfynodd fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Rebecca Evans, ganiatáu proses ddatblygu hirach a gweithredu fesul cam. Rwy'n falch iawn o gydnabod yn y fan hon yr ymrwymiad a'r egni y mae rhanddeiliaid sydd â buddiant yn y sectorau hyn wedi'u hymrwymo wrth weithio gyda ni i helpu i lunio'r gofynion hynny. Dylech weld ymgynghoriadau sy'n ymwneud â maethu, lleoliadau oedolion a gwasanaethau eiriolaeth yn dechrau yn fuan, a bydd ymgynghoriad yn dilyn hyn ar wasanaethau mabwysiadu yn gynnar yn yr hydref. Ac, yn amodol ar gytundeb y Cynulliad hwn, rwy'n gobeithio gweld bod y broses gofrestru ar gael a'r safonau yr ydym wedi ymgynghori arnynt yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaeth yn y meysydd hollbwysig hyn o fis Ebrill 2019.
Ond, nid dyna ddiwedd ein taith. Mae'n parhau ymhellach i'r dyfodol, oherwydd bydd y darpariaethau sefydlogrwydd y farchnad yn y Ddeddf yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn nesaf, i'w gweithredu yn 2020. Bydd y rhain yn ychwanegu haen arall at ein trefniadau ar gyfer deall y farchnad ofal genedlaethol leol ac, yn ei dro, y farchnad ofal genedlaethol, i gefnogi cynllunio da, comisiynu da a rheoli da. Ar yr un pryd, bydd yn ofynnol i weithwyr gofal cartref gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru fel rheoleiddiwr y gweithlu. Caiff hyn ei hwyluso gan ein penderfyniad diweddar i ganiatáu ar gyfer cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr gofal cartref o eleni ymlaen. Yn yr un modd, bydd cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal preswyl yn orfodol yn 2022, yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd o gofrestru gwirfoddol. Mae'r rhain yn rhannau pwysig o'n hagenda gwerthfawrogi'r gweithlu, gan roi'r amddiffyniad, y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i'r gweithwyr hanfodol hyn sydd ar gael trwy gofrestru. Yn sail i'r holl waith hwn fydd y gwersi o'r gwaith adolygu a gwerthuso, ar ffurf gwerthusiad ffurfiol o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a fydd yn destun tendr cyn bo hir, ynghyd â threfniadau addas a chymesur mewn perthynas â Deddf 2016 maes o law.
I gloi, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch gwaith craffu gwerthfawr hyd yma. Nod pob un ohonom yw adeiladu system gynaliadwy o ofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n parchu a gwerthfawrogi pobl ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw trwy ymdrechion y rhai sy'n gwneud y polisïau, staff a rhanddeiliaid ym maes gofal cymdeithasol, yn ogystal â dinasyddion a'u cynrychiolwyr. Diolch yn fawr.
Diolch ichi, Gweinidog. Diolch am y diweddariad ac am roi syniad o'r camau nesaf. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf i yw'r un amlwg, sef: pryd fydd eich ymgynghoriad yn cael ei lansio? Os allwch chi roi rhywbeth ychydig yn fwy manwl na 'cyn bo hir', rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ddiolchgar. Yn yr un modd, pryd fydd y tendr yn debygol o gael ei gyhoeddi ar gyfer gwerthuso'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn hytrach na'r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu?
Ond efallai y gallwch chi fy helpu gyda dim ond rhai o'r cwestiynau hyn. Mae'r rheoliadau diweddar, a wnaeth, yn y bôn, roi ar waith y Ddeddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal, lletyau diogel a gwasanaethau cymorth cartref—ni wnaethom ni basio'r rheoliadau hynny ond rhai misoedd yn ôl, rwy'n derbyn hynny, ond tybed a ydych chi, gan fod Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes yn rhan o'r broses gofrestru ar hyn o bryd, yn derbyn unrhyw sylwadau anecdotaidd—rwy'n credu y dylwn ei alw felly ar hyn o bryd—ynghylch anawsterau wrth weithredu'r rheoliadau hynny ac a yw cartrefi gofal yn arbennig yn cael anawsterau annisgwyl efallai nad oedden nhw wedi eu rhagweld, ac wrth gwrs rwy'n derbyn y byddan nhw'n cael eu helpu â hynny yn hytrach na'u cosbi. Ond, byddai'n eithaf defnyddiol gwybod a oes rhywbeth annhebygol neu annisgwyl wedi digwydd i'r rhai sy'n cael eu cofrestru nawr.
O ran y sector gofal cartref yn benodol, un o'r rhesymau y methodd gweithwyr gofal cartref yn y drefn reoleiddio, os hoffech chi, sawl blwyddyn yn ôl oedd y mater o ddatblygiad proffesiynol parhaus a datblygiad proffesiynol gymaint ag unrhyw beth arall. Fel y gwyddoch chi, mae'n faes lle mae trosiant uchel iawn, lle mae llawer o bobl yn bachu'r cyfle i fynd yn syth drwy'r system ac wedyn i ofal iechyd a gofal gwasanaethau cymdeithasol y sector cyhoeddus, o gael y cyfle. Felly, o ran cofrestru gwirfoddol—unwaith eto, rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi'n ddyddiau cynnar—a oes unrhyw ffordd o ddweud ar hyn o bryd a yw'r posibilrwydd o allu symud ymlaen o gontractau dim oriau mewn rhai achosion, neu yn wir o gael cymwysterau wedi eu cymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cael unrhyw effaith ar allu cadw staff? Fel y dywedais, rwy'n cydnabod y gallai hyn fod yn eithaf anodd ei ateb. Neu, a oes unrhyw dystiolaeth bod y gofyniad i gofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus, os mynnwch chi, yn cymell pobl i adael yn gynnar?
Rheoliadau ar gyfer camau 1 a 2—a fyddwn ni'n cael rhagor o arweiniad neu, yn wir, rhagor o reoliadau ynglŷn â'r ddau gam cyntaf? Nid wyf yn gwybod a allwch chi ateb hynny heddiw. O ran mabwysiadu a gwasanaethau lleoli eraill, sef yr hyn yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw nawr—cam 3—tybed a allwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i nodi'n glir y byddwch chi'n gwrthwynebu rhai o'r lleisiau a glywir drwy ymgyrchoedd ar hyn o bryd yn erbyn asiantaethau preifat ac elusennol. Byddai'r math hwnnw o gais, os mynnwch chi, yn hollol groes i argymhellion y Cynulliad hwn—mae'n ddrwg gen i, y pedwerydd Cynulliad—lle mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi dangos cefnogaeth gadarn i gadw'r asiantaethau hynny, ac asiantaethau yn gyffredinol. Yn amlwg, nid oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad i chi egluro a gwella'r safonau yna, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ceisio ehangu darpariaeth y gwasanaethau hyn yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yng ngham 3, heb gyfyngu arnyn nhw.
Yn olaf, a ydych chi'n rhagweld y bydd y rheoliadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad newydd hwn yn cynnwys safonau ar gyfer y cymorth ar ôl lleoli y mae angen dirfawr amdano a gynigir gan yr asiantaethau hyn, gan gynnwys mabwysiadu? Nid yw'r ffaith nad ydych chi'n blentyn sy'n derbyn gofal mwyach yn golygu nad oes angen unrhyw gymorth ar y teulu a'r plentyn yn rhagor. Felly, rwy'n gobeithio na chaiff yr agwedd benodol honno ar y safonau ei hanwybyddu. Diolch.
Suzy, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o gwestiynau. Gadewch imi roi sylw iddyn nhw un ar y tro. Yn gyntaf, a ydym ni wedi sylwi ar unrhyw beth o ran yr ymgyrch i gynyddu safonau mewn sectorau preswyl—a yw'n cael unrhyw effaith, yn anecdotaidd? Rwyf yn cael gohebiaeth o bryd i'w gilydd, neu sylwadau, gan Aelodau Cynulliad unigol, ac mae'r arolygiaeth gofal yn ceisio ymdrin â'r rhain yn dringar. Rwy'n gwybod fy mod i'n cyfleu unrhyw bryderon sydd gan Aelodau unigol iddyn nhw yn uniongyrchol ac rwyf wedi edrych ar y mater fy hun. Byddan nhw'n ceisio ymdrin â hyn ar lawr gwlad mewn modd hynod dringar.
Ond, wrth gwrs, mae'r rheoliadau yr ydym ni wedi bod yn ceisio eu cyflwyno wedi bod yn hir ar ddod hefyd. Maen nhw wedi ceisio gweithio'n adeiladol iawn gyda chartrefi gofal unigol, rhai ohonynt yn sefydliadau llai, ac o gefndir mwy traddodiadol, efallai mewn ardal wledig hefyd, lle gallwn fforddio leiaf colli darpariaeth cartrefi gofal da. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwybodol iawn o hyn ac yn awyddus iawn i weithio gyda'r cartrefi hynny i wneud yn siŵr y gallan nhw fodloni'r safonau newydd. Ond, yr hyn na fyddan nhw'n ei wneud—ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n deall hyn, Suzy—yw aberthu'r safonau y mae'r Cynulliad hwn wedi cytuno mewn gwirionedd y mae angen i ni anelu atynt—felly, y pethau hynny fel cael terfyn uchaf o 15 y cant ar faint o lety a rennir mewn cartref, ac y dylai llety a rennir fod drwy gytundeb yr unigolion sy'n ei rannu. Pethau fel hynny—dechrau cyflwyno cyfleusterau en-suite ac ati, ac ati. Mae'r rhain i gyd wedi bod cryn amser yn cael eu gwireddu. Mae adroddiadau anecdotaidd neu fel arall yn dod i fy llaw o bryd i'w gilydd gan Aelodau'r Cynulliad, neu lythyr bob hyn a hyn yn dweud, 'Rydym ni'n cael anhawster i'w fodloni', a bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ceisio annog y cartrefi hynny, wedyn, a gweithio gyda nhw, ond mae'n rhaid i ni gyrraedd y safonau hynny, oherwydd ar ddiwedd y dydd, dyma'r canlyniadau sy'n ymwneud â'r unigolion hynny yn y meysydd hynny.
Fe wnaethoch chi sôn am effeithiau cofrestru. Mae hi braidd yn rhy gynnar i ddweud yn fanwl ar hyn o bryd. Rydym ni yn y cyfnod ble rydym ni'n gwybod bod gennym ni bobl yn cyflwyno'u hunain ac yn cofrestru o'u gwirfodd, sy'n wych—dyna beth rydym ni eisiau ei weld. Mae'n rhan o'r newid hwn o'r cofrestru gwirfoddol i gofrestru gorfodol, ond mae fwy na thebyg yn rhy gynnar eto. Cyn gynted ag y gallwn ni weld pa effaith mae hynny yn ei gael, yn rhan o gynyddu'n gyffredinol werth y gweithwyr hynny, i geisio, yn wir, eu hannog i aros yn y maes hwn fel proffesiwn, fel gyrfa—. Rhan o hynny, hefyd, yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud wrth ddatblygu strategaeth cymwysterau a gweithlu yn gyffredinol, ac roedd yn ddiddorol mai dim ond yn ddiweddar—rwy'n credu yn y pythefnos neu dair wythnos diwethaf—y gwnaethom ni gyhoeddi'r cymwysterau lefel 2 mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol i raddau helaeth â'n syniadau mai'r hyn yr ydym ni'n dymuno'i wneud yw llunio llwybrau sy'n rhychwantu'r disgyblaethau hyn, fel y gall pobl weld bod gyrfa, nid swydd dewis gwneud neu ddewis peidio a dim mwy na hynny.
Mae'r sector annibynnol elusennol preifat, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, y sector mentrau cymdeithasol, yn rhan o'n gweledigaeth ar gyfer sector amrywiol a all fod yn sail i sector cydnerth, ym maes gofal preswyl ond hefyd ym maes gofal cartref, ochr yn ochr â darpariaeth fewnol hefyd. Felly, yn sicr nid ydym yn eu gweld yn wrthun i'r math o weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer gwella ansawdd y gofal yn gyffredinol—maen nhw'n rhan o'r broses honno. Ac mae'n galonogol i mi, mewn gwirionedd, sut mae'r sector elusennol annibynnol a'r sector menter gymdeithasol wedi ymwneud o ddifri â hyn ochr yn ochr â rhanddeiliaid eraill, ac yn gwbl gefnogol o hynny.
O ran cymorth ar ôl cael lleoliad, wel mae cwmpas o fewn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd ymhellach. Mae'n ddiddorol wrth edrych, er enghraifft, ar y cymhlethdodau sy'n ymwneud â symud i reoleiddio gwasanaethau mabwysiadu neu wasanaethau eiriolaeth. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth. Mae cymorth ar ôl cael lleoliad yn y maes mabwysiadu yn un o'r meysydd hynny y gallwn ni ei gynnwys mewn gwirionedd yn y rheoliadau hyn, ond rydym yn arbrofi gyda hyn mewn meysydd eraill yn gyntaf, yn dysgu'r gwersi ac yna, rwy'n siŵr y bydd y Cynulliad yn falch o glywed, byddwn yn ailystyried ac yn gwneud hynny.
Yn olaf, os caf i grybwyll yn fyr yr agwedd gyntaf y soniasoch chi amdani, sef yr amserlenni. Felly, mae'r rheoliadau drafft—ni allaf roi union ddyddiad i chi, ond byddwn yn ymgynghori'n fuan iawn ar y rheoliadau drafft ynglŷn â maethu, lleoliadau oedolion a rhai gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant. Wedyn, o ran mabwysiadu, oherwydd y cymhlethdodau cysylltiedig, byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach, fwy na thebyg yn gynnar yn yr hydref, ynglŷn â hynny, ond â'r nod mewn gwirionedd o gyflwyno pob un o'r rhain ar y cyd i'w gweithredu yng ngwanwyn 2019. Felly, er y bydd oedi cyn ymgynghori ar un o'r materion, ein bwriad, yn amodol ar gytundeb y Cynulliad, yw eu gweithredu i gyd ar yr un pryd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad: trawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru—gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RISC? A gaf i'n gyntaf, ddiolch iddo am fod yn barod i wrando a mynd i'r afael â'r gwahanol broblemau rwyf i wedi'u cael gyda mecanweithiau rheoleiddio wrth iddyn nhw ddatblygu, ac rwy'n ddiolchgar am ei gyfarfodydd ac am ei gyngor?
O ran y datganiad, yn amlwg, mae hyn yn cyfeirio at weithredu prosesau rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, ac mae'n canolbwyntio'n fawr ar gofrestru gweithwyr cymorth a darparwyr gofal. Yn amlwg, mae cofrestru gweithwyr cymorth gofal yn gam i'w groesawu'n fawr. Mae meddygon wedi'u cofrestru, mae nyrsys wedi'u cofrestru, ac mae'n briodol y dylai gweithwyr cymorth gofal, sy'n ymwneud yn gynyddol ag elfennau mwyaf personol gofal personol, fod wedi'u cofrestru hefyd. Ac, yn amlwg, mae'r prosesau hynny yn rhan o ofyniad amlwg i wella'r canlyniadau ym maes gofal cymdeithasol rydym ni i gyd eisiau eu gweld.
Ond yn amlwg, yr hyn nad oes neb yn sôn amdano yma yw nad oes modd cyflawni hyn i gyd pan fo gweithwyr cymorth gofal ar gyflog isel, yn dal i fod yn destun contractau dros dro, contractau dim oriau achlysurol, ac nad oes llwybrau gyrfa priodol a fyddai'n arwain at gydraddoldeb o ran y parch sydd gan weithwyr iechyd proffesiynol. Nawr, mae newid hyn yn gofyn am gynnydd sylweddol yn y cyflog a biliau hyfforddiant ar adeg pan na all awdurdodau lleol fforddio gwneud hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog, y prynhawn yma, sut mae'r Llywodraeth yn rhoi ei harian i gefnogi'r Ddeddf hon, ac a wnewch chi dderbyn bod angen cyfraniad sylweddol o arian i weithredu ysbryd y Ddeddf? Ni all trawsnewid gofal cymdeithasol fynnu dim llai.
Diolch, Dai. Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi ac Aelodau eraill sydd wedi dod ataf i â manylion darparwyr unigol sydd efallai'n wynebu anawsterau wrth ymateb i'r heriau? Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi gweithredu'n gymesur ond yn ystyriol ac wedi ceisio eu rhoi mewn cysylltiad â'r bobl briodol i'w helpu gyda hynny. Felly, diolch i chi ac eraill am barhau â hynny, a hefyd am eich cefnogaeth yn y broses gofrestru. Rwy'n gwybod y bu hyn yn her fawr, yn enwedig ar gyfer y sector gofal cartref, oherwydd bod hyn yn gwbl newydd. Ond, a bod yn onest, yn union fel y dywedwch chi, Dai, dylem ni fod yn dweud wrth y gweithlu, 'Rydym ni'n eich gwerthfawrogi chi, a rhan o'r gwerthfawrogiad hynny yw proffesiynoli'r hyn rydych chi'n ei wneud, a'i gydnabod. Mae cofrestru yn rhan o'r broses honno; nid dyma'r datrysiad ar ei ben ei hun, ond mae'n rhan ohono, a'r datblygiad proffesiynol parhaus, a'r cymwysterau NVQ, a'r broses o bontio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn y modd di-dor hwnnw.' Rydym ni'n clywed sylwadau cadarnhaol ynglŷn â hyn, mae'n rhaid imi ddweud, gan yr asiantaethau allan hynny yn y maes, a hefyd gan weithwyr rheng flaen unigol. Fe aethom ni ati mewn modd cymesur. Ni wnaethom ni osod—. Rydym ni wedi ei wneud yn wirfoddol yn gyntaf, gan symud i fod yn orfodol; rydym ni wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â sut y dylem ni bennu'r ffi, oherwydd dyma'r tro cyntaf y byddai ffi yn y sector, felly rydym ni'n credu ein bod wedi ei phennu'n iawn ac ati.
Ond rydych chi hefyd yn dweud yn gwbl briodol ynglŷn â'r mater hwn nad yw'n ymwneud yn syml â dweud ein bod yn gwerthfawrogi'r gweithlu a datblygiad proffesiynol ac yn y blaen; mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n eu gwerthfawrogi o safbwynt arian a'u cyflog, faint fydd yn eu poced ar ddiwedd yr wythnos. Nawr, rydym ni eisoes wedi dechrau gwneud cynnydd yn hyn o beth. Felly, o ran y mater o gontractau dim oriau, rydym ni wedi dweud eisoes y byddwn ni, trwy gam 2 hyn, mai'r hyn y byddwn yn ei wneud yw dweud, os oes gennych chi gontract tri mis ar oriau rheolaidd, mae gennych chi'r hawl i gontract rheolaidd ar gyfer hynny. Mae'n ymddangos yn synnwyr cyffredin llwyr, mae'n rhaid imi ddweud, i bobl. Dyma un o'r meysydd sydd o fewn ein gallu fel Cynulliad ac fel Llywodraeth Cymru i'w roi ar waith, felly rydym ni wedi cyflwyno hynny eisoes ac rwy'n edrych ymlaen at wireddu hynny.
A gyda llaw, rydym ni wedi clywed oddi wrth y sector—bydd y sector yn dweud bod hyn yn her iddyn nhw, ond maen nhw hefyd yn cydnabod ei bod yr her iawn i'w chael, oherwydd os ydyn nhw'n gwerthfawrogi eu gweithlu maen nhw hefyd eisiau dweud wrthyn nhw, 'Rydych chi'n weithiwr llawn amser gyda ni, nid un achlysurol, nid ar gontract dim oriau ac ati.' Rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd, wrth gwrs, ynglŷn â'r mater o docio galwadau, yr hen arfer honno lle na fyddai pobl ond yn cael eu talu am yr amser roedden nhw yna mewn gwirionedd fel gweithiwr gofal cartref ac nid yr amser i deithio'n ôl ac ymlaen. Rydym ni wedi ymdrin â hynny yn rheoliadau cam 2 hefyd, a byddwn yn dal ati.
Ond rydych chi'n gywir yn dweud mai'r sail i hyn yw'r mater cyffredinol—gan gofio yr hyn rydym ni'n gwybod sy'n digwydd o ran y boblogaeth erbyn 2036. Mae astudiaethau yn dweud wrthym ni y bydd nifer y boblogaeth sydd dros 85 oed yn dyblu ac y bydd cynnydd sylweddol—dros 30 y cant—yn y bobl dros 60 oed, a gyda hyn daw'r anghenion gofal cymhleth sydd ganddynt. A oes digon yn y system? Un o'r pethau rydym ni wedi'i wneud—. Nid oes unrhyw goeden arian hud, ond rydym ni yma yng Nghymru wedi buddsoddi mewn—rwy'n edrych ar fy nghyd-aelod o fy mlaen i ar y fainc, ac wrth ddweud hyn rwy'n ei atgoffa o'i bwysigrwydd hefyd, wrth gwrs—. Y gwir amdani yw ein bod mewn gwirionedd wedi cyflwyno cynnydd o 5 y cant mewn termau arian parod yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn yr arian sy'n cael ei roi i'r sector gofal cymdeithasol, o'i gymharu â, mae'n rhaid imi ddweud, toriadau o ryw 10 y cant ar draws Clawdd Offa. Nid yw wedi datrys popeth ond mae wedi ein helpu i wneud rhai o'r pethau hyn ac i weithio mewn partneriaeth â hi.
Bydd rhai o'r materion ynglŷn â sefydlogrwydd y farchnad y cyfeiriais atyn nhw yn ystod cam 3 o ran sefydlogrwydd y sector yn helpu hefyd, ond yn y dyfodol, wrth gwrs, byddwch yn sylwi y rhoddwyd imi'r cyfrifoldeb o gadeirio, canlyn arni gyda'r gwaith y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi'i wneud gyda'r Athro Gerald Holtham ynglŷn â'r cysyniad o gael ardoll gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cymryd cryn amser i weithio drwyddi, ond byddaf yn cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol a fydd yn ystyried hynny, gan ystyried ei chymhlethdodau, i weld a oes parodrwydd cyhoeddus a pharodrwydd gwleidyddol ac a yw hi'n rhesymegol bosib i allu darparu dull arall o gyflwyno cyllid ychwanegol i'r system, gan wybod yr heriau poblogaeth enfawr sydd o'n blaenau.
Ond hyd yn oed gyda'r hyn sydd gennym ni yn awr, Dai, rwy'n credu y gallwn ni wneud pethau gwych yma â'r pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, ni waeth beth a wnawn ni yn y dyfodol.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ehangach ymysg cyflawniadau mwyaf y sefydliad hwn. Dylai'r Ddeddf Arolygu Gofal Cymdeithasol sicrhau na all y cam-drin ofnadwy a ddatgelwyd gan Operation Jasmine fyth ddigwydd eto. Rydym yn sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio yn y sector gofal y sgiliau a'r hyfforddiant angenrheidiol ac yn sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yn addas ac yn briodol i gynnal y ddarpariaeth honno. Mae hon yn daith drawsnewid wirioneddol, ac wrth inni gychwyn ar ei thrydydd cam, hoffwn ddiolch ar goedd i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol am fod mor gadarnhaol ynglŷn â'r trawsnewid hwn.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, i gyflawni'r holl welliannau a ragwelir yn y Ddeddf, yn enwedig darpariaethau sefydlogrwydd y farchnad. Wrth inni edrych i'r dyfodol, yn anffodus bydd nifer cynyddol ohonom ni yn dibynnu ar ofal. Bydd sector cartrefi gofal iach a bywiog yn hanfodol. Gweinidog, cyn gweithredu'r darpariaethau ar gyfer sefydlogrwydd y farchnad, pa asesiadau, os o gwbl, sydd wedi'u gwneud o gyflwr presennol y sector cartrefi gofal?
Yn olaf, Gweinidog, rwy'n croesawu'r penderfyniad i ganiatáu i weithwyr gofal preswyl gofrestru'n wirfoddol o 2020 ymlaen. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gyfran o'r gweithlu gofal cartref sydd wedi dewis cofrestru'n wirfoddol?
Unwaith eto, diolch i chi am eich gwaith parhaus, a gwaith eich rhagflaenydd, Rebecca Evans, i gyflawni gwelliannau i ofal cymdeithasol yng Nghymru, a hoffwn eich sicrhau bod gennych fy nghefnogaeth wrth drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru. Diolch. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi, Caroline, a diolch hefyd am y gydnabyddiaeth a roesoch chi yn glir iawn i'r rhai sy'n gweithio yn y sector. Yn rhy aml, rydych chi ond yn gweld y penawdau gwael wrth iddynt ymddangos, ac rydym yn anghofio am y fyddin o bobl sy'n gwneud gwaith rhagorol bob un dydd. Felly, diolch ichi am hynny.
Rydych chi hefyd yn ein hatgoffa o ba mor bell yr ydym ni wedi teithio gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn i fynd ati mewn ffordd wahanol i ddarparu gofal cymdeithasol a llesiant ac ansawdd bywyd i unigolion yng Nghymru—mewn cyfnod anodd hefyd, ond rydym ni'n trawsnewid yn llwyr sut yr ydym ni'n darparu gofal cymdeithasol.
Mae'n rhy gynnar, mae'n rhaid imi ddweud, fel y dywedais wrth Suzy hefyd, i roi unrhyw adborth ynglŷn â chofrestru gwirfoddol ar gyfer gofal cartref, ond rwy'n rhagweld y byddwn yn gallu rhoi diweddariad rywbryd yn yr hydref ynglŷn â faint o bobl sy'n manteisio ar hynny, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Cynulliad ynghylch hynny.
I droi at y mater o sefydlogrwydd y farchnad, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu rheoliadau o ran sefydlogrwydd y farchnad a goruchwyliaeth ariannol o ddarparwyr gwasanaethau a reoleiddir, a'r bwriad i weithredu'r trefniadau o fis Ebrill 2020 ymlaen. Nawr, rydym ni wedi penderfynu—neu rwyf i wedi penderfynu—gweithredu'r darpariaethau hyn o fis Ebrill 2020 ymlaen oherwydd bod hynny mewn gwirionedd yn cyd-daro â diwedd y broses o ailgofrestru darparwyr presennol o dan y system newydd. Felly, mae hyn yn gyfle da, mae cydamseredd braf yno. Gall natur y farchnad ofal newid hefyd o ganlyniad i'r broses hon. Er enghraifft, gall rhai darparwyr ddefnyddio'r broses hon, yn rhan o gyfle i ad-drefnu neu uno'r ystod bresennol o wasanaethau. Felly, mae hi fwy na thebyg yn ddoeth rhoi digon o amser i'r newidiadau hyn ddigwydd ac i ddysgu oddi wrthynt.
Mae'n rhoi'r cyfle inni hefyd ystyried sut y bydd yr adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad sy'n ofynnol o dan y Ddeddf yn cyd-fynd â'n hasesiadau o'r boblogaeth, y soniais amdanyn nhw, a'n cynlluniau ardal o dan Ddeddf 2014. Ond yn y cyfamser, nid dyna'r cyfan—mae nifer o fesurau dros dro ar waith i gefnogi sefydlogrwydd y farchnad. Felly, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn parhau â'r gwaith mae'n ei wneud ar hyn o bryd i gasglu gwybodaeth am ddarparwyr gofal, y gellir, ac a gaiff ei rhannu ag awdurdodau lleol fel y bo angen, o ran cynllunio wrth gefn ac ati. Ac mae hefyd yn bwriadu goruchwylio darparwyr mwy o faint trwy swyddogion cyswllt ac yn awyddus i wella prosesau rhannu gwybodaeth â rheoleiddwyr gofal cymdeithasol eraill ledled y DU.
Ac yn olaf, o ran sefydlogrwydd y farchnad, mae'n fater hollbwysig, oherwydd ein bod yn gwybod y straen sydd ar ddarparwyr ar hyn o bryd—mawr a bach. Mae Rheoliadau Gwasanaethau a Reoleiddir (Hysbysiadau) (Cymru) 2017, a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, yn rhagnodi gofynion hysbysu penodol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol. Felly, trwy alluogi Arolygiaeth Gofal Cymru i rannu gwybodaeth allweddol am newidiadau i ddarparwyr, mae'r rheoliadau hyn yn rhoi gwybod i awdurdodau lleol am y newidiadau allweddol sy'n effeithio ar y farchnad yn eu hardaloedd nhw, a gall ddylanwadu ar benderfyniadau yn well wrth gynllunio a chomisiynu gwasanaethau yn y dyfodol. Felly, gallwn wneud pethau yn awr, yn ogystal ag edrych i'r dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg perthnasoedd a rhywioldeb, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod y mis hwn yn nodi trideg mlynedd ers cyflwyno adran 28 a waharddodd ysgolion rhag hyrwyddo, neu drin yn gydradd, unrhyw berthynas nad yw'n heterorywiol. Er bod adran 28 wedi'i thraddodi i'r llyfrau hanes, mae ei heffaith i'w gweld o hyd yn ein system addysg. Mae ysgolion yn aml yn ei chael hi'n anodd darparu addysg rhyw a pherthnasoedd gwbl gynhwysol, a gallan nhw ei chael hi'n anodd ymateb i anghenion amrywiol eu dysgwyr, a dilyn dull gweithredu unffurf yn lle hynny.
Llywydd, mae'n rhaid i hyn newid. Rwy'n credu bod yn rhaid i Gymru wneud mwy i gefnogi pob un o'n pobl ifanc i ddatblygu perthnasau iach, bod yn iach eu meddwl a chadw'n ddiogel.
Y llynedd, sefydlais y panel arbenigol rhyw a chydberthynas i ddarparu cyngor annibynnol ar y materion hyn, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r panel arbenigol a'i gadeirydd, yr Athro Emma Renold, am eu gwaith rhagorol. Cydnabu eu hadroddiad bod rhai arferion rhagorol yn digwydd yn ein hysgolion. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ym mhob un o'n hystafelloedd dosbarth, a llawer ohonynt ddim ond yn canolbwyntio ar agweddau biolegol y cydberthnasau dynol. Ond, ni ellir ac ni ddylid dysgu rhyw ar wahân. Dylid ei roi yn y cyd-destun ehangach o faterion cymdeithasol a diwylliannol sy'n effeithio ar sut yr ydym yn canfod ein hunain ac yn meithrin perthynas ag eraill.
Gwnaeth y panel arbenigol 11 o argymhellion sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio cynllun cyfannol ar gyfer gwella'r ddarpariaeth, ar gyfer ein carfan bresennol o ddysgwyr a'r rhai fydd yn dysgu dan ein cwricwlwm newydd. Un argymhelliad yw y dylai'r maes astudiaeth hwn fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Bydd statws statudol yn diogelu mynediad at addysg rhyw draddodiadol, ond hefyd yn annog ysgolion i ymgysylltu ag ystod ehangach o bynciau a nodwyd gan y panel arbenigol. Bydd hefyd yn gwella pwyslais y cwricwlwm newydd ar iechyd a lles.
Wrth inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am addysg rhyw, argymhellodd y panel y dylid hefyd newid ei enw i gynrychioli yn well yr amrywiaeth ehangach o bynciau y mae'n ymdrin â nhw. Rwy'n bwriadu ailenwi'r maes astudiaeth hwn yn 'addysg rhywioldeb a pherthnasoedd'—RSE. Mae hyn er mwyn rhoi pwyslais ar ddysgu am ffurfio a chynnal perthnasoedd iach fel un o ddibenion allweddol y maes astudiaeth hwn.
'Addysg rhywioldeb' fel y'i diffinnir gan sefydliad iechyd y byd, yw dysgu am wneuthuriad cymdeithasol, diwylliannol ehangach ynghylch perthnasoedd. Mae hyn yn cynnwys sut yr ydym yn ffurfio credoau ac agweddau, sut yr ydym yn sefydlu amrywiaeth o berthnasoedd a sut y mae materion diwylliannol, megis hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipiau ac anghydraddoldeb, yn llywio ein gwerthoedd. Mae'r dysgu ehangach hwn, sydd wedi'i gynnwys o dan 'addysg rhywioldeb', yn hanfodol ac yn hollbwysig i ddatblygu dealltwriaeth pobl ifanc o amrywiaeth eang o faterion, materion megis caniatâd, trais yn erbyn menywod, mathau eraill o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a pharch at amrywiaeth. Drwy ddysgu am berthnasoedd a rhywioldeb, mae dysgwyr yn ffurfio dealltwriaeth lawn o sut y gall gwerthoedd yr unigolyn, y gymuned a'r gymdeithas effeithio ar ein gallu i sefydlu perthnasoedd parchus a boddhaus.
Fodd bynnag, ni fyddaf yn aros am y cwricwlwm newydd i fwrw ymlaen â'r newid hwn; mae'n rhywbeth y gallwn ei wneud ar unwaith. Bydd fy swyddogion yn diweddaru'r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion i adlewyrchu'r newid hwn mewn enw, yn ogystal â darparu mwy o gefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau.
Mae addysg statudol yng Nghymru yn dechrau yn bump oed, felly, bydd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd statudol hefyd yn dechrau ar yr oedran hwn. Hoffwn egluro, Llywydd, nid ydym yn bwriadu dysgu plant am bynciau nad ydynt yn barod yn ddatblygiadol ar eu cyfer. Ar hyn o bryd mae gennym y cyfnod sylfaen, sy'n darparu dysgu ar gyfer ein plant ieuengaf, ac mae hyn eisoes yn cynnwys maes dysgu ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol. O fewn y maes hwn, mae plant yn dysgu am berthnasoedd â ffrindiau a theulu a sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Felly, gan fod dysgu ynghylch y maes hwn eisoes wedi'i gyflenwi'n dda mewn addysg blynyddoedd cynnar, byddwn yn disgwyl gweld dulliau tebyg o dan y cwricwlwm newydd.
Nid yw gwneud RSE yn statudol, ar ei ben ei hun, yn ddigon i sicrhau y byddwn yn gwireddu'r weledigaeth hon o ddarpariaeth o ansawdd uchel yn ein hysgolion, ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae dysgu proffesiynol, cefnogi ein hathrawon i fod yn wybodus, yn hyderus ac yn ymatebol i anghenion dysgwyr, yn hanfodol. Pwysleisiodd y panel arbenigol bwysigrwydd sefydlu llwybrau dysgu proffesiynol arbenigol ar gyfer RSE, o fewn addysg gychwynnol athrawon ac ar gyfer y gweithlu presennol. Rwy'n cytuno, wrth inni symud i system a arweinir gan ysgol a gan athrawon, fod yn rhaid inni ddechrau'r broses o sicrhau bod ganddynt yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu addysgu effeithiol.
Rwyf felly hefyd yn bwriadu derbyn, mewn egwyddor, argymhellion eraill y panel arbenigol er mwyn inni gymryd ymagwedd strategol a chyfannol at wella RSE. Nid wyf yn edrych i dincran o gwmpas yr ymylon; fy ngweledigaeth i yw ein bod yn trawsnewid y ffordd y darperir y maes astudiaeth hwn, yn awr ac yn y dyfodol. I gychwyn y broses hon rwyf wedi sicrhau bod £200,000 ar gael i gonsortia i ddechrau ar y broses o nodi anghenion dysgu proffesiynol yn y maes hwn. Dyfarnwyd £50,000 pellach hefyd i Cymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer athrawon.
Llywydd, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn aruthrol o bwysig i les y genhedlaeth nesaf. Mae'r perthnasoedd yr ydym yn eu ffurfio trwy gydol ein bywydau, o'n teulu i'n ffrindiau i'n partneriaid rhamantaidd, yn rhwydweithiau cymorth hanfodol. Maen nhw'n gwneud inni deimlo'n ddiogel, maen nhw'n ein gwneud yn hapus ac maen nhw'n rhoi cysur neu o leiaf fe ddylen nhw. Penderfynir ar sut yr ydym yn gallu ffurfio'r perthnasoedd hyn ar oedran ifanc iawn, ac maen nhw'n hanfodol i'n gallu i ffynnu. Drwy fwrw ymlaen ag argymhellion y panel arbenigol, ac felly ysgogi gwelliannau gwirioneddol yn ansawdd y ddarpariaeth RSE, byddwn yn cyfrannu at wneud Cymru yn lle iachach, hapusach a mwy cysylltiedig.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad, ac am ragolwg ohono cyn y'i gwnaed y prynhawn yma? A gaf i hefyd gofnodi fy niolch i gadeirydd y panel arbenigol am y gwaith y mae hi'n a'i chyd-Aelodau wedi'i wneud? Mae Emma Renold, rwy'n credu, wedi cynhyrchu adroddiad boddhaol iawn sy'n ystyried yn drwyadl lawer o'r materion y mae addysg perthnasoedd a rhyw yn eu cyflwyno.
Bydd rhaid i chi faddau imi yma, oherwydd rwyf braidd yn fursennaidd pan ddaw at y materion hyn, ond rwy'n credu y bydd pryderon gan rai pobl am y ffaith eich bod yn sôn am y posibilrwydd o gyflwyno materion yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer rhai pum mlwydd oed nad ydyn nhw'n barod amdanyn nhw yn ddatblygiadol. Sylwaf eich bod wedi cyfeirio at ddatblygiad plant ifanc a gwneud yn siŵr bod addysg rhyw a pherthnasoedd priodol ar eu cyfer. Ond, yn amlwg, mae plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol ac mewn ffyrdd gwahanol, a rhaid inni sicrhau y gall y math hwn o addysg fod yn ddigon hyblyg, hyd yn oed o fewn yr ystafell ddosbarth, er mwyn targedu unigolion ac nid dim ond carfannau cyfan o blant ifanc.
Credaf y bydd llawer o bobl yn dymuno amddiffyn diniweidrwydd plant ac y bydd rhieni yn holi sut y bydd yn bosibl i sicrhau y ceir addysg briodol, mewn ffordd sensitif, sydd hefyd yn bodloni gofynion a allai fod gan grwpiau ffydd, er enghraifft, lle gallan nhw godi pryderon ynglŷn ag ehangder yr addysg, os hoffech chi, a'r wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo. Felly, tybed pa ganllawiau fyddwch chi'n eu cyhoeddi i gyd-fynd â'r gyfundrefn newydd i wneud yn siŵr y gellir rhoi sylw i'r pryderon hynny, gan barhau i gynnal cyfraniad ansawdd uchel iawn ar gyfer plant o bob oed, ac ar bob cam o'u datblygiad, ond nad yw'n ddiangen yn cyflwyno plant ifanc yn arbennig i'r pethau sydd yn amlwg yn amhriodol iddynt allu eu dirnad.
Gwnaethoch gyfeirio, sylwais, yn eich datganiad i'r wasg, a gyhoeddwyd ddoe o dan embargo, at fater diogelwch ar-lein. Sylwaf nad ydych wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw, ond gwn y byddwch yn rhannu fy mhryderon ynghylch gwneud yn siŵr bod pobl ifanc, yn enwedig 'tweenagers', os cawn eu galw felly, yn paratoi'n briodol ar gyfer yr heriau y gall cyfryngau cymdeithasol ar-lein yn benodol eu cyflwyno iddynt. Tybed a allwch chi ymhelaethu ychydig ar y sylwadau a wnaethoch yn y cyfryngau ynghylch y cynnwys yr ydych yn disgwyl iddo gael ei ddarparu ynghylch diogelwch ar-lein o ran addysg rhywioldeb a pherthnasoedd.
Rydych wedi dweud eich bod yn dymuno i'r chwyldro hwn mewn addysg perthnasoedd a rhywioldeb ddechrau ar unwaith, ac eto rydych wedi dweud eich bod wedi sicrhau bod £200,000 ar gael er mwyn addysgu pobl hefyd. Wel, ni all ddechrau ar unwaith os nad ydyn nhw wedi cael eu haddysgu ar sut i gyflawni'r pethau hyn yn gyntaf. Felly, allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn disgwyl i bethau gael eu cyflawni ar unwaith heb arfogi athrawon yn yr ystafell ddosbarth â'r sgiliau, â'r wybodaeth, â'r arbenigedd i allu darparu'r set newydd hon o safonau addysgol o ran perthnasoedd ac addysg ar rywioldeb? Oherwydd credaf, unwaith eto, y bydd llawer o bobl yn pryderu eich bod chi'n mynd i ruthro i gyflwyno'r peth hwn, heb iddo gael ei lawn ystyried o ran y ffordd y mae hynny'n mynd i gael ei weithredu.
A gaf i hefyd ofyn sut yr ydych chi'n disgwyl monitro gweithrediad hyn? Rydych wedi dweud yn gwbl briodol y ceir rhai enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn gwneud hyn yn iawn ac mae rhai enghreifftiau gwael iawn o ysgolion sy'n gwneud pethau'n gwbl anghywir. Sut ydych chi'n disgwyl gallu monitro'r ffordd y mae ysgolion yn gweithredu'r newidiadau yr ydych yn eu cynnig? A welwch chi swyddogaeth i'r awdurdodau addysg lleol? Ydych chi'n gweld swyddogaeth i'r consortia rhanbarthol? A oes disgwyl i Estyn arolygu yn erbyn y safonau newydd hyn, ac os felly, sut maen nhw'n mynd i gael darlun cyfannol ar draws ysgol gyfan os ydych chi wedi dweud nad yw'n mynd i fod yn bresgripsiwn penodol, fel petai, ond y bydd rhywfaint o hyblygrwydd o'i fewn? Felly, efallai, unwaith eto, y gallech chi gyffwrdd â sut yr ydych chi'n bwriadu gwneud hynny i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei drin yn y modd priodol.
Yn olaf, yn amlwg, i lawer o blant, yr unig enghraifft sydd ganddyn nhw o berthnasoedd yw'r rhai o'u cwmpas, naill ai o fewn y teulu neu y tu hwnt i'r teulu, neu'r rhai sy'n cael eu dangos ar y teledu neu yn y cyfryngau. Sut y mae hyn yn mynd i gyd-fynd â gwaith arall sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar faterion fel cymorth rhianta a pherthynas yn fwy eang? Yn amlwg, mae'r enghraifft honno yn y cartref yn mynd i gael effaith hyd yn oed yn fwy difrifol nag athro yn trafod hyn yn anfynych mewn ystafell ddosbarth. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa mor gydgysylltiedig yw hyn ar draws y Llywodraeth. Diolch.
Diolch i chi, Darren, am y gyfres honno o gwestiynau. Os nad oedd yn glir, Llywydd, yn fy natganiad cychwynnol, gadewch imi ddweud hynny eto: nid oes gennyf fwriad i athrawon yn ein hysgolion addysgu plant yn y pwnc hwn nad ydynt yn ddatblygiadol—ni allaf hyd yn oed ddweud y gair—nad ydyn nhw'n barod i'w ddysgu [Chwerthin.] Mae'n briodol i oedran ac nid oes gen i unrhyw fwriad i wneud hynny ac rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, iawn.
Ddoe, roeddwn mewn ysgol yng Nghasnewydd, ac o'r oedran cynharaf, mae'r ysgol honno yn addysgu eu plant am y cysyniad o wahaniaeth—ein bod i gyd yn fodau dynol, ond fod pob un ohonom ni yn unigolyn ac mae hynny'n iawn, ac mae angen i chi ddathlu pwy ydych chi. Dydyn nhw ddim yn siarad am y peth mewn unrhyw ffordd arall, ond maen nhw yn dechrau o'r oedran ieuengaf, gan ddweud, 'Rydym ni i gyd yn wahanol, ond yn y bôn, rydym ni i gyd yr un fath hefyd.' Ac wrth iddyn nhw fynd drwy'r ysgol, maen nhw'n dysgu am faterion eraill. Felly, roeddwn i'n siarad â merched ifanc ddoe a oedd yn mynegi eu rhwystredigaeth, oherwydd eu bod nhw'n ferched, eu bod i fod i wisgo mewn ffrogiau ac maen nhw i fod i hoffi pinc. Bûm yn siarad â bechgyn oed ysgol gynradd sydd, eisoes, yn yr oedran hwnnw, yn teimlo pwysau i fod yn gryf ac i beidio â dangos eu hemosiynau. Dyna'r mathau o faterion yr ydym ni'n sôn am eu dysgu i'n plant o'r oed ieuengaf iawn—sut y maen nhw'n cydymffurfio, perthnasoedd iach a pherthnasoedd parchus gydag aelodau o'u teulu ac â'u ffrindiau, a sut y gallan nhw gadw eu hunain yn saff ac yn ddiogel. Felly, rwyf am fod yn gwbl glir y caiff hwn ei gyflwyno mewn ffordd sensitif sy'n addas i oedran plant.
Mae eich pwynt ynglŷn ag ar-lein, Darren, wedi'i wneud mor dda. A dyma'n union pam y mae'n rhaid inni wella ein perfformiad yn hyn o beth yn ein hysgolion. Oherwydd, lle mae plant yn cael eu gwybodaeth yn awr yw eu bod yn gwglo; maen nhw'n defnyddio Snapchat; maen nhw'n defnyddio WhatsApp; maen nhw'n defnyddio Facebook ac maen nhw'n byw yn y byd hwnnw. Nawr, efallai nad ydym ni, fel oedolion, yn hoffi'r byd hwnnw, ond ni allwn freuddwydio am—. Ni allwn fynd yn ôl. Rydym ni lle'r ydym ni ac mae angen inni roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i'n plant. A phan fyddan nhw'n dod ar draws y deunydd hwn ar-lein, gallan nhw gadw eu hunain yn iach a gallan nhw gadw eu hunain yn ddiogel. Oherwydd os ydym ni'n creu gwagle yn ein hysgolion ac nad ydym yn mynd i'r afael â hyn, bydd plant yn edrych am y wybodaeth hon mewn rhyw ffordd arall, ac ni fydd hynny o reidrwydd mewn modd dibynadwy neu mewn ffordd sydd yn rhoi darlun real, darlun priodol iddynt, am beth yw perthynas iach.
Cyfarfûm â dyn ifanc yn ddiweddar a oedd wedi anesmwytho'n ddifrifol drwy wylio pornograffi ar-lein, sut oedd hynny wedi effeithio arno, sut yr oedd wedi lliwio ei farn o sut beth oedd perthynas rywiol, beth yr oedd ef, yn ddyn, yn ymwneud ag o a sut yr oedd i fod i drin menyw mewn perthynas rywiol. Mae angen inni roi darlun mwy realistig a chyfannol a gwir o berthnasoedd i'r plant hyn, nid dim ond eu gadael ar drugaredd yr hyn sydd ar-lein. Dyna pam y mae'n rhaid i ni ei newid, a dyna pam mae'r Llywodraeth, fel y gwyddoch chi, yn cynhyrchu rhaglen ddiogelwch ar-lein newydd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, oherwydd, ar hyn o bryd, mewn gormod o achosion, rydyn ni'n gadael ein plant i ymbalfalu allan yno, Darren, mewn byd digidol nad yw'n ddymunol.
Bydd gennym ni ganllawiau newydd ar gyfer y cwricwlwm newydd yn y flwyddyn newydd. Felly, rydym yn cychwyn ar y broses honno yn awr. Rydych chi'n iawn; mae gwaith i'w wneud, ond rydyn ni'n ei ddechrau drwy gael sesiynau hyfforddiant cyn yr haf i nodi beth yw'r anghenion dysgu, a thrwy adnewyddu'r canllawiau. Felly, ni allwn aros nes y bydd y cwricwlwm newydd yn dod; mae angen inni wella ein perfformiad ar hyn o bryd. O ran arolygu, wel, mae Estyn eisoes yn edrych ar les yn y fframwaith arolygu presennol sydd ganddyn nhw. Ac, wrth gwrs, yn ein cwricwlwm newydd, un o'r meysydd dysgu a phrofiad yw iechyd a lles, a byddem yn disgwyl i RSE eistedd o fewn y maes dysgu a phrofiad hwnnw, a phan fydd Estyn yn barnu ynghylch ansawdd addysg yn yr ysgol honno yna byddai hynny'n cael sylw drwy'r dull hwnnw.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad a diolch hefyd i'r Athro Renold a'r panel arbenigol am eu gwaith, a phob un a gyfrannodd i'r adroddiad a'i argymhellion? Rwy'n anghytuno â Darren Millar. Nid yw'n adroddiad boddhaol; mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'r union fath o adroddiad y dylai Ysgrifenyddion Cabinet ei ddisgwyl gan y mathau hyn o baneli arbenigol, gydag argymhellion clir—rhai y byddwn i'n eich annog i'w derbyn yn eu cyfanrwydd. Efallai, dim ond i ddechrau, byddwn yn gofyn: beth sydd angen digwydd i chi benderfynu ar y rhai eraill wedyn? Pa mor hir y mae'n rhaid i ni aros, oherwydd fe wnaethoch chi dderbyn yr adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, chwe mis cyfan yn ôl? Pryd y gallwn ni ddisgwyl ymateb llawn i bob un o'r argymhellion hynny? Byddai'n dda dim ond i gael syniad o beth yw'r oedi neu beth yw'r rhesymau i chi fod yn amharod i gadarnhau heddiw eich bod yn hapus i dderbyn yr holl argymhellion.
Byddwn hefyd yn herio'r honiad nad yw plant yn barod yn bump oed. Mae gennyf fab pum mlwydd oed, ac rwyf eisoes yn gweld fy hun yn herio rhai o'r pethau sy'n cael eu dweud yn ein tŷ ni, ac mae cael sicrwydd bod yr ysgol yn atgyfnerthu'r negeseuon hynny, i mi, yn bwysig iawn, iawn.
Nawr, rwyf wedi drysu braidd, ond rwy'n edrych atoch chi, yn amlwg, am gadarnhad yma, oherwydd rwyf wedi gweld rhywfaint o'r sylw yn y newyddion o amgylch y datganiad heddiw, ac maen nhw'n dweud na fydd unrhyw newid ar gyfer ysgolion crefyddol. Felly, mae angen eglurder arnaf y bydd pob ysgol, gan gynnwys ysgolion ffydd, bellach yn cael y ddyletswydd statudol honno arnyn nhw, oherwydd mae plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion crefyddol yn wynebu'r un heriau ac mae angen yr un wybodaeth arnyn nhw â phlant nad ydynt. Mae angen i mi fod yn glir beth yw'r sefyllfa, oherwydd dywedwch yn eich datganiad:
'bod yn rhaid i Gymru wneud mwy i gefnogi pob un o'n pobl ifanc i ddatblygu perthnasau iach, bod yn iach eu meddwl a chadw'n ddiogel.'
Tybiaf ein bod yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer plant ni waeth pa ysgolion y maen nhw'n eu mynychu. Felly, hoffwn ei glywed gennych chi y prynhawn yma.
Yn amlwg, ni fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cwricwlwm newydd tan 2022. Nawr, mae pedair blynedd tan hynny, a dim ond wedyn y mae'n dechrau cael ei gyflwyno. Rydych chi wedi sôn am ychydig o bethau: rydych chi am fwrw ymlaen â newid yr enw, rydych chi am roi mwy o gymorth. Rwy'n meddwl tybed pa mor fuan y gallwn ni wir weithredu rhai o'r newidiadau hyn yn yr ystafell ddosbarth, heb orfod aros tan 2022. Rydych chi wedi sôn am y canllawiau newydd; rhaid imi fod yn glir pryd yn union y disgwylir i hynny gael ei adlewyrchu yn yr hyn sy'n digwydd yn ein hystafelloedd dosbarth ledled y wlad. A fydda i ddim yn colli'r cyfle, hefyd, i atgoffa'r Llywodraeth bod SchoolBeat yn rhaglen sy'n ymdrin â rhai o'r meysydd hyn, er nad gyda'r pwyslais fyddai gan y newidiadau a gynigir, ond gallai atgyfnerthu llawer o'r materion hyn, fel y gwna o ran bwlio, cam-drin domestig, cam-drin rhywiol a pherthnasoedd iach. Hoffwn bwyso arnoch chi, unwaith eto, i ddylanwadu ar eich cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i sicrhau cyllid hirdymor ar gyfer SchoolBeat.
Nawr, rydym ni'n gwybod, oherwydd bod y panel arbenigol yn dweud wrthym ni, fod traean o ysgolion yng Nghymru nad ydynt yn darparu unrhyw hyfforddiant staff mewn diogelu pobl ifanc. Rydych chi nodi'n glir bod hynny'n mynd i newid. Rydych chi wedi tynnu sylw at y £200,000 ar gyfer y consortia, sydd, beth, yn £50,000 yr un—£50,000 i Cymorth i Fenywod hefyd. Nawr, yn amlwg, er mor dderbyniol yw hynny, nid yw'n ddigon, byddwn yn dychmygu, i gael yr effaith eang a dwfn yr ydym yn gobeithio y bydd y newid polisi hwn yn ei chael. Felly, rwy'n meddwl tybed beth mwy y gall y Llywodraeth ei wneud yn y tymor canolig yn hynny o beth. Dywedasoch chi nad ydych chi'n mynd i dincran o amgylch yr ymylon. Dywedasoch chi mai eich gweledigaeth yw inni drawsnewid y ffordd y darperir y maes astudiaeth hwn nawr ac yn y dyfodol. Os mai dyna yw eich dyhead—ac nid oes gennyf unrhyw reswm i amau hynny—yna gallaf ddweud wrthych chi yn awr y bydd Plaid Cymru yn eich cefnogi yn y dyhead hwnnw, ac rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Llyr, am eich croeso i'r datganiad. Dim ond i egluro, rwy'n derbyn holl argymhellion yr adroddiad mewn egwyddor, ac rwy'n dymuno gwneud cynnydd ar bob un ohonyn nhw, y pwysicaf ohonyn nhw yw sicrhau, wrth inni symud at ein cwricwlwm newydd, y bydd RSE yn rhan statudol o'r cwricwlwm hwnnw, sydd yn bolisi newydd. Nid oedd yn fwriad i ddechrau i'w wneud yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Mae'r adolygiad wedi gwneud yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n derbyn yr adolygiad hwnnw, a, phan ddeuwn i ddeddfu ar gyfer y cwricwlwm, yna bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gweld hynny wedi'i adlewyrchu yn y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno fydd yn deddfu'r cwricwlwm newydd. Felly, mae hynny'n newid sylweddol.
Roedd yr ail argymhelliad ynghylch—dyna pam y mae'n cael ei dderbyn mewn egwyddor—newid yr enw. Am fod yr adroddiad yn dweud y dylem ni ei galw'n addysg rhywioldeb a pherthnasoedd. Mewn gwirionedd, rwy'n mynd i'w galw yn addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Rwy'n gwneud hynny oherwydd fy mod am ganolbwyntio ar fater perthnasoedd, o ba bynnag fath, oherwydd credaf mai perthnasoedd yw asgwrn cefn ein bywydau. Fel y dywedais yn fy natganiad, boed hynny yn berthynas â phartner rhywiol neu'n berthynas â'n ffrindiau, mae'r gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd, boddhaus yn floc adeiladu i'n hapusrwydd a'n lles, ac rwy'n awyddus iawn i berthnasoedd fod yn flaenllaw yn yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano gyda'n plant. Felly, mae'n newid bach o'r hyn a argymhellodd y panel.
Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, yn yr adroddiad, y bu pwyslais cryf, cryf ar yr angen i ddatblygu ein staff, oherwydd rydym ni angen i'n hathrawon fod yn hyderus ynghylch mynd i'r afael â'r materion hyn gyda phlant a phobl ifanc. Rwy'n derbyn hynny. Mae'r arian yr ydym ni'n sôn amdano heddiw ar gyfer dechrau ar y broses honno o nodi anghenion dysgu proffesiynol uniongyrchol sydd gennym yn y system bresennol. Ochr yn ochr â hynny, wrth inni weithio ymlaen gyda'n harloeswyr dysgu proffesiynol fel rhan o ddiwygio ein cwricwlwm, ceir cyfleoedd eraill i feddwl am yr anghenion dysgu proffesiynol y bydd angen inni eu cael ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Mae angen inni achub ar y cyfle yn ein diwygiadau o'n darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon hefyd er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r materion hyn, oherwydd mae arnom ni angen athrawon o ansawdd da sy'n hyderus, fel y dywedais, i allu mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd.
Mae'r cwricwlwm yn statudol ei natur, felly bydd hynny'n berthnasol i bob ysgol sydd â phlant o oedran statudol. Felly, mae hynny o bump i 16, a bydd yn ofynnol i bob ysgol ddarparu'r rhan honno o'r cwricwlwm. Ar gyfer ysgolion o natur grefyddol, byddwn yn parhau i gael trafodaethau parhaus gyda'r sector penodol hwnnw ynghylch sut y bydd y cwricwlwm newydd hwn yn effeithio ar eu cyflawni, ond rhaid imi ddweud ein bod wedi cael ymgysylltiad ag ysgolion o gymeriad crefyddol yn natblygiad y polisi. Rwyf i fy hun wedi cael trafodaeth gydag Archesgob Cymru amdano yn ddiweddar, ac mae dealltwriaeth ar draws pob ysgol o'r angen i arfogi ein plant â'r wybodaeth y mae ei hangen arnyn nhw, oherwydd maen nhw'n cydnabod, fel y gwnaeth Darren Millar, y peryglon gwirioneddol iawn sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc weithiau. Ac maen nhw'n deall eu bod am sicrhau bod eu plant ag iechyd meddwl da, iechyd corfforol da, y gallan nhw eu harfogi eu hunain i ddatblygu'r perthnasoedd da hynny yr ydym ni i gyd am eu gweld ar gyfer ein plant, ac, yn hollbwysig, eu cadw'n ddiogel.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno y gall perthnasoedd a rhywioldeb fod yn gymhleth ac anaml iawn y maen nhw'n syml. I bobl ifanc, gallan nhw fod yn ddryslyd ac, mewn rhai achosion, yn anodd eu deall. Yn eich datganiad, rydych chi'n iawn i gyfeirio at y niwed a wnaethpwyd gan adran 28, a, diolch byth, mae bellach wedi'i gyfyngu i hanes. Mae'n rhaid inni bob amser dderbyn pobl, waeth beth fo'u rhywioldeb neu eu rhyw—rhywbeth sy'n cael cefnogaeth aruthrol gan y rhan fwyaf yn ein cymdeithas heddiw. Ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yn y Siambr sydd â phryderon ynghylch ailwampio addysg rhyw yng Nghymru. Rôl y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru yw hwyluso addysg plant gan nodi galluoedd disgyblion a'u hannog i fod y gorau y gallan nhw fod, boed hynny mewn byd academaidd neu weithgarwch allgyrsiol neu, gobeithio, y ddau. Mae'n hanfodol bod ysgolion yn darparu cymorth ar gyfer plant wrth iddyn nhw ddatblygu perthnasoedd a dechrau deall eu rhywioldeb. Fodd bynnag, dylai hyn gael ei wneud ar oedran priodol a dylai gael ei arwain gan y plentyn. Rwy'n synnu i weld yn adroddiad y panel arbenigol ac yn eich datganiad heddiw y bydd plant mor ifanc â phum mlwydd oed yn cael addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Ysgrifennydd y Cabinet, siawns na chytunwch y dylem ni annog plant i ganolbwyntio ar eu haddysg a ffurfio cyfeillgarwch gyda'u cyd-ddisgyblion heb or-gymhlethu eu plentyndod. Credaf yn gryf mai swyddogaeth y rhieni yw addysgu eu plant ar berthnasoedd a darparu gwersi gwerthfawr ar gydsyniad a beth yw ymddygiad priodol. Mae UKIP ers amser hir wedi gwrthwynebu ymyrraeth gan y Llywodraeth ar faterion rhywioldeb ac addysg rhyw, yn enwedig ar gyfer plant iau, ac rydym ni'n cadw at ein hymrwymiad maniffesto na ddylai unrhyw fath o addysg rhyw gael ei addysgu mewn ysgolion i unrhyw un o dan 11 mlwydd oed. O'r datganiad heddiw, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn meddwl eu bod yn gwybod orau. Rydym ni'n credu mai rhieni sy'n gwybod orau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ein sicrhau nad ei bwriadu yw bod plant yn cael eu haddysgu ar bynciau y maen nhw—[Torri ar draws.] Mae'n ymateb i ddatganiad.
Nid oes dim ymyrraeth mewn datganiad, Joyce Watson. Ewch yn eich blaen.
Fel y nodwyd gan eraill yn y Siambr hon, mae plant yn datblygu ar gyflymderau gwahanol. Nid yw'n bosibl dweud oherwydd bod y rhan fwyaf yn barod, fod pob un yn barod. Hefyd mae'n anymarferol i ddweud, gan fod plentyn yn X oed, maen nhw'n barod i ddysgu Y. Mae rhieni yn adnabod eu plentyn yn well nag Ysgrifennydd y Cabinet, ei phanel o arbenigwyr a'r ysgolion. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw RSE yn ymwneud â bioleg yn unig—mae'n ymwneud â gwerthoedd, moeseg a gwneud penderfyniadau deallus. Fel y cyfryw, nid yw'n fater i'r wladwriaeth orchymyn yr hyn y caiff plentyn ei addysgu am y materion hyn. Felly, hoffwn ofyn a fydd cyflwyno'r addysg perthnasoedd a rhywioldeb newydd yn cynnwys cyfle i rieni sy'n teimlo nad yw'r cwricwlwm yn briodol ar gyfer eu plentyn i optio allan. Rydych wedi dweud yn eich datganiad y byddwch yn darparu dysgu a chymorth proffesiynol i athrawon a fydd yn gyfrifol am ddarparu addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn edmygu'n fawr y gwaith y mae ein hathrawon yn ei wneud—mae'n waith anodd a llethol. Mae pobl yn mynd i mewn i'r proffesiwn ag angerdd i archwilio ac i addysgu eu pwnc, ond gellir dadlau bod y cwricwlwm eisoes wedi'i lethu'n ormodol ac nid oes gweledigaeth glir ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth i'n system addysg—rhywbeth a welir yng nghanlyniadau Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol Cymru, sy'n peri pryder mawr. A ydych chi'n cytuno y bydd y mesurau hyn yn gorlwytho athrawon ymhellach mewn swydd sydd eisoes yn llethol, gan dynnu eu sylw oddi ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig—sef addysgu cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru? Ac, fel cwestiwn terfynol, rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at ddarparu arian ychwanegol ar gyfer hyn. O ble y daw'r cyllid hwnnw? Diolch.
Llywydd, mae'r Aelod newydd ddweud nad yw addysg rhyw yn ymwneud â bioleg yn unig, mae'n ymwneud â gwerthoedd a moeseg, a dwi ddim yn meddwl ei bod hi byth yn rhy gynnar i ddechrau siarad â phlant ynghylch gwerthoedd a moeseg.
Nid mater i chi yw penderfynu pa werthoedd sy'n cael eu haddysgu. Mater i'r rhieni yw hynny.
Rwy'n credu—. Fel y dywedais, nid wyf yn credu ei bod hi byth yn rhy gynnar i ddechrau addysgu plant am werthoedd a moeseg, a hoffwn ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach yn y sicrwydd a roddais i Darren Millar, sef nad oes gennyf unrhyw fwriad i blant ddysgu gwersi nad ydynt yn briodol ar gyfer eu hoedran. Nawr, mae'r Aelod newydd ddweud mai polisi ei phlaid yw na ddylid bod unrhyw addysg rhyw—rwy'n credu mai dyna oedd hi—o dan 11 oed. Felly, tybiaf na ddylid bod unrhyw addysg rhyw yn ein hysgolion cynradd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl y cawsom ddadl yn y Siambr hon am dlodi misglwyf ac urddas misglwyf. Y gwir amdani yw, oherwydd— [Torri ar draws.] Y gwir amdani yw— [Torri ar draws.] Y gwir amdani yw, oherwydd y newidiadau yn y ffordd y mae plant yn tyfu, mae'r oed y mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau eu misglwyf yn gostwng a gostwng a gostwng. Ceir llawer o ferched yn ein hysgolion cynradd sydd a'u misglwyf wedi dechrau. Pe byddai'r Aelod yn cael ei ffordd, yna ni fyddai unrhyw allu yn ein cwricwlwm i helpu i baratoi ein plant ar gyfer y pethau hyn sydd ar fin digwydd iddynt. Ac nid yn unig wrth baratoi merched ar gyfer yr hyn sydd ar fin digwydd iddynt—i allu esbonio i'r dosbarth cyfan nad ydych yn tynnu coes y plentyn oherwydd y gwelwch dywelion misglwyf neu dampon yn ei bag, oherwydd dyna sut y mae hi yn y byd. Nawr, rwy'n sylweddoli bod gan yr aelod safbwynt pendant, ond mae'n rhaid imi ddweud, diolch byth, ei bod hi yn y lleiafrif yn y Siambr hon, ac yn bwysicach fyth, ei bod hi yn y lleiafrif yn y sgwrs ddinesig ehangach. Croesawyd y cyhoeddiad heddiw gan ein comisiynydd plant, gan ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fe'i croesawyd gan elusennau plant, ac fe'i croesawyd gan Relate, elusen perthnasoedd. Fe'i croesawyd yn gyffredinol, oherwydd mae'r hyn y mae'n nhw'n ei ddeall sy'n rhan hanfodol o ran addysgu'n plant yn ymwneud â mwy na Saesneg neu fathemateg neu'r iaith Gymraeg neu wyddoniaeth yn unig, mae'n ymwneud â dysgu iddynt sut y gallant oroesi a ffynnu mewn byd sy'n prysur yn gyflym.
Os ydych chi'n meddwl y gall plant wneud y mwyaf o'u cwricwlwm ac o'u cyfleoedd dysgu a'u gallu i ddysgu'r pynciau traddodiadol hynny os nad ydyn nhw wedi deall am drais yn y cartref neu os nad ydyn nhw wedi gallu cadw eu hunain yn ddiogel oherwydd y gallan nhw eu hunain fod yn cael eu cam-drin —ni allan nhw ddysgu'r cwricwlwm. Mae hyn yn rhan hanfodol o addysg ein plant, a dywedaf hynny nid yn unig fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond fel mam hefyd.
Cytunaf yn llwyr â Llyr Gruffydd ac, yn wir, ag Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n canmol y gwaith a wneir gan feithrinfa fy wyres wrth ei pharatoi ar gyfer y genfigen emosiynol a gaiff ei ennyn gan ddyfodiad brawd neu chwaer ifanc. Wyddoch chi, mae hyn yn hanfodol. Os ydym yn dweud na allwn siarad am hyn, rydym yn mynd i greu plant sydd wedi'u niweidio. Ni allwn ni gael plant sy'n cael eu misglwyf heb wybod beth sy'n digwydd iddynt, yn meddwl eu bod nhw mewn rhyw ffordd cael eu clwyfo. Mae hyn yn hollol erchyll. Felly, roeddech chi'n huawdl iawn yn dweud hynny i gyd.
Hoffwn dalu teyrnged i bobl ifanc yn Teilo Sant a fynychodd Just a Ball Game?, a gynhaliwyd gennyf i ar y diwrnod rhyngwladol yn erbyn homoffobia, deuffobia a thrawsffobia, oherwydd dewrder y bobl ifanc hyn, yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus o flaen grŵp o oedolion am eu rhywioldeb, am eu hawl i barch, a'u gallu i wynebu'r gwrywdod ymosodol sydd yn anffodus yn nodwedd amlwg o'r gymdeithas hon sy'n canolbwyntio ar bornograffigi y mae'r rhai yn eu harddegau yn tyfu i fyny ynddi. Os na allwn wynebu'r problemau sydd gennym ni ym Mhrydain, sef fod rhyw i'w weld ym mhobman, yn gwerthu pob math o nwyddau defnyddwyr—. Mae'n rhywbeth nad ydym ni yn y wlad hon wedi cael y sgwrs oedolion amdano fel y maent wedi'i chael yng gwledydd Sgandinafia a Gogledd Ewrop, a dyna pam y mae cyfraddau beichiogrwydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau yn uwch o lawer yn ein gwlad ni nag sydd ganddynt yn y gwledydd hynny.
Felly, mae llawer iawn o dystiolaeth bod plant yn llai tebygol o gael rhyw yn gynnar po fwyaf o wybodaeth a roddir iddynt yn gynnar am ryw a pherthnasoedd. Ni ellir gorbwysleisio hyn. Mae'r math hwn o ysgelerder moesol mewn rhai pobl yn enbyd. Rwy'n canmol gwaith eich panel o arbenigwyr, sy'n nodi yn hollol amlwg bod plant tair oed yn cyrraedd yr ysgol, a chanddynt eisoes lwyth o feichiau emosiynol. Mae angen rhoi cymorth i ddehongli ffyrdd y byd. Byddant yn dod â'u hamgylchiadau teuluol, amgylchiadau teuluol pobl eraill gyda nhw, ac rydym ni'n cefnogi pob person ifanc i sicrhau eu bod yn parchu eraill ac yn parchu gwahaniaeth.
Diolch yn fawr, Jenny. Mae'r enghraifft a roesoch o blentyn meithrinfa yn dod yn frawd neu chwaer yn enghraifft berffaith o addysg sy'n briodol i'w datblygiad. O'r cam cyntaf un, rydym yn dechrau gwneud cysylltiadau, onid ydym, gyda'n rhieni, gyda'n brodyr a'n chwiorydd, gyda'n cymuned, a dyna'n union beth y mae angen inni fod yn addysgu ein plant ieuengaf amdano. Mae'n ymwneud â sut yr ydych chi'n ymdopi â chenfigen a beth yw eich swyddogaeth o fewn teulu a sut yr ydych chi'n trin eich ffrindiau.
Rwy'n meddwl bod ein Haelod gyferbyn wedi disgyn i'r fagl o weld hyn yn y ffordd y caiff ei ddarparu ar hyn o bryd. Y rheswm pam yr ydym ni wedi llunio'r adroddiad—a'r hyn a ddywed yr adroddiad—yw bod yr addysg hon yn canolbwyntio ar fioleg yn unig, mae'n canolbwyntio ar ryw mewn ffordd fiolegol, nid yw'n siarad am bob un o'r materion hyn sy'n ymwneud â'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn fod dynol a beth y mae'n ei olygu i gael perthynas â llu o bobl, a dyna pam y mae angen inni ddatblygu'r rhaglen yr ydym yn ei datblygu.
Ac rydych chi'n iawn; siaradais â rhai disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd huawdl iawn ddoe. Nid ydynt yn swil, nid ydynt yn fursennaidd, fel y disgrifiodd rhywun ei hunain. Eu bywyd nhw yw hwn, ac maent yn hyderus iawn ac maen nhw'n hapus iawn yn yr achosion hynny i sôn amdano mewn ffordd ddidaro, nid mewn math o ffordd eistedd yng nghefn y dosbarth yn piffian chwerthin, ond mewn ffordd aeddfed iawn, oherwydd maent wedi cael gwneud hynny yng nghyd-destun eu hysgol. Maen nhw'n cynhyrfu llawer llai am y pethau hyn nag efallai y byddai rhai pobl yma yn y Siambr hon y prynhawn yma.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad pwysig hwn. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, yn ddiweddar mae'r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi ein hadroddiad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae nifer o themâu sy'n codi yn ein hymchwiliad eang yn cyd-fynd â chanfyddiadau allweddol y panel o arbenigwyr. Yn gyntaf, bod y dull ysgol gyfan yn hollbwysig wrth atgyfnerthu negeseuon allweddol ynglŷn â lles, gan gynnwys perthnasoedd iach ar draws y cwricwlwm ac mewn gwahanol feysydd yr ysgol a'r gymuned. Yn ail, yr hyn a ddywedodd y panel arbenigol am addysg rhyw a chydberthynas fel maes cwricwlwm nad yw'n cael digon o adnoddau na blaenoriaeth mewn ysgolion, gan arwain at ddarpariaeth anwastad ac anghyfartal. Clywsom negeseuon tebyg ynghylch lles yn fwy cyffredinol, ac mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn a ddarparwyd gan ddiwygiadau Donaldson, i gael hyn yn iawn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Ac yn olaf, clywsom fod hyfforddiant ar gyfer athrawon yn hanfodol os ydych chi'n disgwyl iddynt ddarparu cymorth effeithiol, ac mae rhoi statws cyfartal i les ochr yn ochr â meysydd eraill y cwricwlwm â rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.
Felly, gan droi at fy nghwestiynau, clywais ar y radio y bore yma y bydd yn dal i fod yn bosibl i rieni ar hyn o bryd i dynnu eu plant o'r gwersi hyn os ydynt yn dymuno, a deallaf fod hynny'n wir yn y tymor byr. Felly, mae'n debyg braidd i gwestiwn Llyr, mewn gwirionedd, a hoffwn ofyn pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i hawliau plant o dan y CCUHP wrth alluogi'r sefyllfa honno i barhau. Hoffwn hefyd pe gallech amlinellu sut y bydd ysgolion arloesol yn cael cefnogaeth i helpu i ddatblygu'r ymagwedd hon at faes iechyd a lles y profiad dysgu, o fewn y cwricwlwm newydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Mae'r pryder ynghylch statws y pwnc hwn yn y cwricwlwm yn un o'r rhesymau pam yr wyf wedi penderfynu ei wneud yn statudol yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol—i fod yn gallu rhoi'r amlygrwydd hwnnw iddo ac i allu sicrhau'r addysg hon yn y cwricwlwm. Mae'n fater iechyd meddwl. Mae'n gwbl hanfodol inni arfogi ein plant â'r sgaffaldiau a'r cadernid i ymateb i sefyllfaoedd y gallent eu cael eu hunain ynddynt. Merch 13 oed yn derbyn negeseuon testun rhywiol—fe wyddoch, y lluniau neu'r negeseuon hynny sy'n gyson yn dweud, 'Tynna lun ohonot ti dy hun a'i anfon ataf'—dyma realiti bywydau ein plant, ac mae angen inni eu galluogi i allu ymdrin â hynny.
Mae'r ymchwil yn adroddiad ysgolion 2017 Stonewall yn dangos bod pobl ifanc sy'n nodi eu bod yn LGBTQI + yn dal i fod yn fwy tebygol o ddioddef o iechyd meddwl gwael, ac iselder ac i hunan-niweidio. Felly, mae'n hollbwysig inni weithredu ac rydym yn gwneud yn siŵr bod ein cwricwlwm yn y dyfodol yn gynhwysol. Fel arall, rydym ni'n gadael i'r plant hyn ddioddef ar eu pennau eu hunain. Rydym yn gadael i'r plant hyn ddioddef ar eu pennau eu hunain. A dyna pam y byddwn ni'n cymryd y cyfle yn ystod tymor yr hydref i gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyngor ac arweiniad i gefnogi'r newid yn yr enw, ac i gefnogi'r ymagwedd gwbl gynhwysol hon, oherwydd ni allwn aros tan y cwricwlwm newydd.
O ran y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, gwneir gwaith ar hyn o bryd â gweithgor penodol yn edrych ar iechyd a lles maes dysgu a phrofiad. Ac os nad yw wedi digwydd eisoes, rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y pwyllgor yn ei gwahodd hi ac, yn wir, holl aelodau'r pwyllgor i gymryd rhan mewn ymweliadau â rhai o'n hysgolion arloesi sy'n gweithio ar bob maes dysgu a phrofiadunigol, er mwyn i'r Aelodau weld drostynt eu hunain sut y mae'r gwaith hwnnw'n edrych ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond clywed amdano gennyf i. Felly, yn amlwg, mae hyn yn rhan bwysig o'r gwaith datblygu maes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Ond, yn hollbwysig, mae gennym hefyd ysgolion arloesi sydd yn edrych ar anghenion datblygiad proffesiynol athrawon i allu darparu'r cwricwlwm newydd, a bydd hwn yn rhan o'r gwaith hwnnw, hefyd.
Ar hyn o bryd, nid wyf yn diwygio hawl rhieni i dynnu plant yn ôl o wersi, ond bydd yn rhaid inni edrych ar hynny wrth inni symud ymlaen gyda'r cwricwlwm newydd, oherwydd mae natur y cwricwlwm newydd yn llawer mwy trawsbynciol. Does dim gwersi unigol yn yr un math o ffordd. Ond byddwn yn annog pob rhiant, os oes ganddynt bryderon am y materion hyn, i gael sgwrs â'r ysgol am beth sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Ond wrth inni fynd ymlaen ac wrth inni newid a datblygu ein cwricwlwm newydd, bydd yn rhaid inni ystyried y materion hyn yn fanylach ac yn fwy gofalus o ran sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol o dan yr amgylchiadau newydd.
Byddwch yn cofio yng Nghyfnod 4 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, aeth eich cyd-Aelod, Peter Black, a Jocelyn Davies a fi â'r Llywodraeth i'r pen ar addysg ar berthnasoedd iach, ac roedd y sicrwydd a gawsom wedyn yn sicrhau bod, gobeithio—wel, roedden nhw'n cyfrannu at y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach gyda'ch cyhoeddiad heddiw. Roedd rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiodd pob un ohonom ni ar y pryd yn ymwneud â rhaglenni trydydd sector, yn enwedig prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, a oedd yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, yn darparu addysg ar berthnasoedd iach drwy sesiynau i ddisgyblion ysgol. Mynychais un o'r rheini a gwnaed argraff dda iawn arnaf gan yr effaith anhygoel a gafodd o fewn ychydig oriau yn unig ar grŵp o ferched a bechgyn 15 ac 16 mlwydd oed—neu ddynion ifanc a menywod ifanc. Ond sut y byddwch chi'n sicrhau—a gobeithiaf eich bod—bod prosiectau fel hyn yn parhau i gael eu hintegreiddio yn y rhaglen wrth iddi fynd ymlaen ac nad yw hyn ddim ond yn dod yn 'orchwyl' ychwanegol i athrawon neu'n brosiect statudol ychwanegol i'w gynnwys o fewn y ddarpariaeth cwricwlwm ehangach?
Diolch ichi, Mark. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno heddiw, os, yn y weinyddiaeth flaenorol, yr oeddem yn mynd i'r pen, heddiw rydym ni wedi mynd heibio'r pen drwy wneud y cyhoeddiad hwn, a byddwn i'n talu teyrnged i'r rhai mewn Cynulliadau blaenorol wnaeth wthio ar y mater hwn. Mae'n hollbwysig i mi, wrth drafod perthnasoedd a rhywioldeb, bod sut beth yw perthynas iach yn rhan sylfaenol allweddol o hynny, ac mae cyfle drwy ein canllawiau newydd wedi'u diweddaru yn y flwyddyn newydd ac yn ein cwricwlwm newydd i edrych ar drais yn erbyn menywod a thrais ar sail rhywedd arall hefyd. Nawr, gellir gwneud hynny mewn cyfuniad o ffyrdd, boed hynny drwy'r athro dosbarth neu a yw ysgolion yn gofyn i sefydliadau allanol i ddod i gyflwyno rhaglenni unigol pwrpasol. Yn sicr, byddwn i'n dymuno annog y trydydd sector i barhau i drafod gyda ni sut y gallan nhw ein helpu ni i drawsnewid y rhan hon o'n cwricwlwm. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi grant bach o £50,000 i Cymorth i Fenywod Cymru fel y gallan nhw helpu i ddatblygu deunydd y gallwn ni ei gael i mewn i ysgolion i helpu athrawon i ddarparu'r rhan honno o'r cwricwlwm, ond mae'r trydydd sector wedi cael llais pwysig wrth ddatblygu'r adroddiad hwn ac byddaf eisiau parhau i weithio ochr yn ochr â'r trydydd sector fel y gallan nhw gefnogi ein hathrawon a'n haddysgwyr i ddarparu amrywiaeth o raglenni. Yn sicr, mae lle i'r ddau yn y cwricwlwm newydd.
Rwy'n croesawu'r ddogfen hon yn fawr iawn a'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn ei bod wedi dechrau drwy sôn am adran 28, oherwydd gallaf gofio'r baich ofnadwy a roddodd adran 28 ar staff mewn ysgolion. Gallaf eu cofio yn sôn am y peth wrthyf, a gallaf gofio'r rhyddhad enfawr pan gafodd ei diddymu gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Credaf ein bod ni bellach mewn sefyllfa well o lawer, llawer iachach. Rwyf hefyd yn falch iawn bod hyn, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn cyflawni un o addewidion yn y Bil trais yn erbyn menywod i gyflwyno addysg fel rhan o'r rhaglen gyfan.
Felly, rwy'n croesawu hyn yn gryf. Rwy'n falch iawn bod y cynllun yn dechrau yn 5 oed. Rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sôn am berthnasoedd mor gynnar ag y gallwn, a chredaf fod hyn yn gyffredin iawn mewn gwledydd eraill. Rwy'n cofio edrych ar y rhaglenni ar gyfer addysg berthnasoedd cynnar yng Nghanada, er enghraifft, lle maen nhw'n ei chyflwyno yn gynnar iawn yn yr ysgolion cynradd, ac felly credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dechrau'n gynnar. Felly, credaf fod hynny'n bwynt da iawn.
Rwy'n bryderus ynghylch y mater a godwyd eisoes am y ffaith y bydd rhieni yn dal i allu tynnu eu plant allan os ydyn nhw'n dymuno, felly rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn edrych ar hyn wrth iddo ddatblygu, oherwydd rwy'n cefnogi'r dull ysgol gyfan yn gryf. Rwy'n gobeithio os gall ysgolion estyn allan at y rhieni sydd â phryderon ac esbonio beth yw natur yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn yr ysgolion, o ran ymgorffori hyn i gyd yng nghyd-destun perthnasoedd, y bydd yn helpu i annog y rhieni hynny a allai fod yn nerfus o ran yr hyn y maen nhw'n clywed pobl yn ei ddweud, neu sydd â rhyw fath o bryderon gwirioneddol am y peth. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig i estyn allan ac egluro i rieni, felly hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd imi y byddwch yn annog ysgolion i wneud hynny.
Credaf fod hyn yn annog natur agored ac yn gam mawr ymlaen, felly rwyf yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n siŵr y bydd mewn gwirionedd yn newid holl ethos y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu.
Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwy'n credu bod nifer o bobl yn y Siambr hon sydd wedi bod â rhan mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag adran 28—rhai pobl yn ymdrechu'n daer i'w gwrthwynebu, ac, yn anffodus, rwy'n deall bod un Aelod yma—wel, nid yma yn y Siambr ar hyn o bryd—a bleidleisiodd drosto, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu symud mor bell.
Julie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Yr hyn sy'n amlwg iawn yn adroddiad y grŵp arbenigol yw mai'r modd gorau o ddatblygu'r maes hwn yw drwy fynd ati fel ysgol gyfan, ac mae hynny'n golygu ysgolion yn gweithio gyda rhieni a'r gymuned ehangach ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn eu hysgol. Efallai bod yna rieni sydd â phryderon dilys, efallai bod yna rieni sydd wedi gwrando ar rai o'r ffug-wirioneddau ac nad ydyn nhw'n deall yn iawn beth y gallai hyn ei olygu, ond fel gyda llawer o agweddau ar addysg, gwyddom fod ein plant yn gwneud orau pan fydd ysgolion yn ymgysylltu'n gadarnhaol â rhieni. Ar ôl ansawdd yr addysgu, dylanwad rhieni ac ymgysylltiad rhieni ag addysg yw'r ffactor mwyaf sy'n dylanwadu ar ganlyniadau addysgol. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud i gael ysgolion i weithio gyda rhieni ar agwedd hon, ar yr holl agweddau, yna mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer eu plant. A dydw i ddim wedi cyfarfod â rhiant eto nad yw eisiau canlyniadau gwell ar gyfer ei blant.
Rydw innau hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad yma heddiw. Mae creu ffordd newydd o gyflwyno addysg rhyw, rhywioldeb a sut rydym ni’n perthnasu efo’n gilydd yn gam pwysig cadarnhaol ymlaen, ac rydw i’n eich llongyfarch chi’n bersonol am yrru hwn ymlaen yn egnïol.
Rydw i’n cytuno’n llwyr efo chi fod angen rhoi pwyslais ar berthnasoedd iach yn ogystal ag ar agweddau eraill, ac rydw i’n cytuno hefyd fod plant pump oed yn agored iawn i addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd iach. Fel mam i bedwar o blant, rydw i’n cofio’n glir iawn y cwestiynau di-ri roeddwn i'n arfer eu cael pan oedd y plant yn fychan iawn, iawn: cwestiynau di-ri ond cwestiynau syml iawn—mater o ffaith oedden nhw gan y plant acw. Ni, yr oedolion, sydd wedi creu’r cymhlethdod a’r dirgelwch o gwmpas rhyw, ac mae’n hen bryd inni symud ymlaen o’r fanno. Mae cael rhieni ac athrawon yn cyflwyno’r un negeseuon pwrpasol a phositif ar y cyd yn bwysig iawn.
Mae beth rydym yn ei wneud yma heddiw, i mi, yn un o fendithion mawr datganoli. Beth rydym ni'n ei wneud yn fan hyn ydy caniatáu i ni ein hunain lunio ein polisïau blaengar ein hunain wrth dorri cwys ein hunain. Hynny yw, rydym ni wedi adnabod problem ac wedi mynd ati i ffeindio ffordd unigryw Gymreig o ddatrys y broblem honno, heb ddisgwyl i San Steffan weithredu ar ein rhan ni.
Wedi dweud hynny, mae’n ddrwg gen i droi dipyn bach yn negyddol, ond rydw i jest yn gresynu ei bod hi wedi cymryd mor hir inni gyrraedd lle rydym ni heddiw. Fel soniodd Mark Isherwood, yn ystod y trafodaethau ynghylch y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a chyn hynny, fe geisiodd Plaid Cymru sicrhau bod addysg ar ryw a rhywioldeb a pherthynas iach yn cael ei chynnwys yn y Ddeddf ei hun, ac mae hi wedi cymryd tan rŵan i’r Llywodraeth gydnabod pwysigrwydd hyn, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae yna genhedlaeth o blant wedi colli addysg bwysig iawn. Rydw i'n cydnabod eich ymrwymiad personol chi i'r maes yma, felly a fedrwch chi egluro'r prif rwystrau rydych chi wedi eu hwynebu wrth geisio symud y polisi yma ymlaen, ac a oes yna wersi i'w dysgu er mwyn cyflymu'r broses o gyflwyno polisïau arloesol i'r dyfodol ym maes addysg a meysydd eraill?
Mi fydd y polisi newydd yn rhoi ffocws ar gael gwared ar agweddau dinistriol, gan gynnwys agweddau yn ymwneud â stereoteipio rhywedd, sy'n milwrio yn erbyn datblygiad unigolion i'w llawn potensial. Mae'r Prif Weinidog ishio i'w etifeddiaeth o i fod yn un ffeministaidd. Mae ganddo fo addewid i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenyw yn Ewrop ac i drawsnewid Llywodraeth Cymru i fod yn Llywodraeth ffeministaidd. Mae hyn yn dilyn cyfnod o sylw cynyddol ar gydraddoldeb rhywedd, ac, wrth gwrs, mae'r adolygiad rhywedd yn digwydd ar draws Llywodraeth Cymru—
Rydym ni angen cwestiynau erbyn hyn, Siân Gwenllian.
Iawn. Jest un frawddeg ar hynny: rhaid i'r rheini beidio â bod yn eiriau gwag—mi ydym ni angen cynllun gweithredu manwl ar yr holl agweddau hynny. Felly, y cwestiwn ydy: pa wahaniaeth ydych chi'n disgwyl ei weld yn sgil cyflwyno addysg ryw ar ei newydd wedd?
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau? Hoffwn ei gwneud hi'n glir nad ydym ni mewn sefyllfa lle nad oes dim yn digwydd yn ein hysgolion. Mae rhai arferion da iawn yn ein hysgolion, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad. Yr her, fel bob amser, mewn addysg Gymraeg—fel yr wyf wedi darganfod dros y ddwy flynedd diwethaf—yw sut ydych chi'n gwneud hynny'n gyson ym mhob un o'n hysgolion. Felly, dydw i ddim eisiau i bobl feddwl nad oes dim o hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n gweld arferion da iawn pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld o ganlyniad i'r newidiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw, yw bod yna gysondeb rhwng lleoliadau, a phwyslais cryf iawn a phwysigrwydd yn cael eu rhoi i'r pwnc hwn, drwy ei wneud yn statudol yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol, nad oedd yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ddwy flynedd yn ôl.
Os caf i, Llywydd, soniodd Siân Gwenllian am fater pwysig iawn nad yw neb arall wedi sôn amdano heddiw, sef y mater ynghylch stereoteipio ar sail rhyw a pha mor ddinistriol y gall hynny fod a'r goblygiadau y gall hynny ei gael i blant weddill eu hoes. Os wnewch chi chwilio yn Google am fanwerthwr teganau adnabyddus ar eich cyfrifiaduron heddiw, fe allwch chi mewn gwirionedd glicio ar ddewis oedran a dewis rhyw. Dewis rhyw—a oes y fath beth â thegan ar gyfer rhyw penodol? Yn ôl y manwerthwr adnabyddus hwn, oes, fe allwch chi ddewis rhyw. Os cliciwch chi ar yr adran 'gwisg ffansi' generig, dyfalwch beth y mae'r merched yn ei wisgo? O, ie, maen nhw i gyd yn dylwyth teg ac yn dywysogesau, ac mae'r bechgyn yn archarwyr, heddweision ac ymladdwyr tân. Os edrychwch chi ar y darlun ar gyfer offer adeiladu, dyfalwch beth welwch chi: bechgyn gyda morthwylion a Lego. Mawredd mawr, byddwn i wedi gobeithio y byddem ni wedi symud ymlaen o hynny erbyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae gallu dweud wrth ein plant yn ein hysgolion, 'Gallwch chi fod yn beth bynnag yr ydych chi eisiau bod' a 'Does dim rhaid i chi chwarae â math penodol o degan'—dyma'r rhesymau pam mae angen inni wneud y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud heddiw. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Plaid Cymru i wneud hynny.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw ar fater mor bwysig, ac i'r holl unigolion hynny sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r adroddiad hwn. Bydd rhai ohonoch chi'n gwybod fy mod i eisoes yn mynd i ysgolion ac yn gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ac mae llawer o ysgolion wedi gwneud hynny. Mae'r ymgyrch yn sôn am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwyf wedi gofyn i ysgolion feddwl, drwy eu disgyblion, beth yw ystyr hynny iddyn nhw. Dro ar ôl tro, maen nhw wedi nodi un gair pan ydym ni'n sôn am berthynas ag eraill, sef 'parch'. Dyna beth mae'r plant yn ei ddweud. Nid fy nylanwad i yw hynny, nid dylanwad unrhyw oedolion yw hynny, y plant eu hunain sy'n dweud hynny. Y llynedd, roedd gan Ysgol Ardudwy yn Harlech faner gwych yr oedden nhw wedi ei chynhyrchu â'r geiriau 'parch' neu 'respect' wedi'u hysgrifennu arni.
Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano heddiw yn y fan yma yw ceisio ennyn parch at ein gilydd o ran gwahaniaeth, beth bynnag yw'r gwahaniaeth hwnnw, doed a ddêl. Mae rhai o'r pethau yr wyf i wedi eu clywed yma heddiw wedi fy atgoffa i o tua 30 mlynedd yn ôl ac adran 28. Dydyn nhw heb fynd mor bell â hynny hyd yn hyn, ond maen nhw wedi cynnwys y math hwnnw o iaith. Felly, hoffwn eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ein symud yn ein blaenau, nid mynd â ni ar yn ôl, a sicrhau bod parch wrth wraidd addysg rhyw a pherthnasoedd. Fy nghwestiwn i chi yn y fan yma yw: rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n rhoi rhywfaint o arian a fydd yn cael ei drosglwyddo i Cymorth i Fenywod Cymru—£50,000—ac y byddan nhw wedyn yn eu tro yn cynhyrchu deunyddiau sy'n addas i blant ifanc yn ôl eu hoedran. Pa mor fuan y gallwn ni weld rhywfaint o hynny'n digwydd? Rwy'n gwybod bod pethau eisoes yn digwydd, ond pa mor fuan—oherwydd mae'r rhain yn gwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn imi—y bydd y sefydliad hwnnw yn gallu defnyddio'r cronfeydd hynny?
Diolch ichi, Joyce. Dydw i ddim yn disgwyl unrhyw oedi pellach o ran rhyddhau'r adnoddau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw. Credaf eich bod chi'n iawn—mae'r cysyniad o barch yn un a fydd yn sail i lawer o ddarpariaeth y cwricwlwm hwn. Fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn hefyd: os bydd unrhyw un ohonom ni'n cymryd amser i wrando ar blant a phobl ifanc, byddan nhw'n dweud wrthych chi nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei ddarparu ar eu cyfer ar hyn o bryd yn ddigon da, a'u bod eisiau gwell darpariaeth. Os ydym ni'n Senedd ac yn Llywodraeth sydd wirioneddol yn gwrando ar lais y disgybl, yna mae angen inni weithredu, a dyna un o'r rhesymau pam yr wyf i'n gwneud hyn heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn—2017-18. Rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM6725 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017/18), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mai 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch yn gyhoeddus i'r comisiynydd a'i thîm am yr holl waith gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r comisiynydd wedi ennill parch a ffydd pobl hŷn ledled Cymru, ac yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, mae'r comisiynydd a'i thîm wedi cwrdd â 169 grwpiau a 3,300 o unigolion. Mae'r ymgysylltu helaeth hwn wedi caniatáu i'r comisiynydd siarad yn wybodus a hyderus ynghylch sut y gallwn ni i gyd gydweithio i greu cymunedau cydnerth a bod yn genedl lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio.
Diolch i Paul Davies am y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd, i gyflwyno Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn, ond rwy'n gwrthwynebu'r gwelliant hwn. Nawr, rwy'n cytuno â Paul fod yn rhaid inni rymuso pobl hŷn i siarad pan nad yw eu hawliau yn cael eu bodloni, ond rwy'n anghytuno bod angen deddfwriaeth newydd, ychwanegol, fel Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd sy'n ymadael i gytuno ar ddewis amgen i ddeddfwriaeth a fydd yn gwireddu hawliau i bobl hŷn. Yn wir, mae'r comisiynydd wedi dweud y bu hi'n falch o'n hymrwymiad i'r agenda hawliau, ac roedd hi'n croesawu'n gryf ein cynigion yn lansiad ei hadroddiad etifeddiaeth yr wythnos diwethaf.
Felly, mae'r camau gweithredu yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda'r comisiynydd yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol: datblygu'r hawliau statudol clir yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy gyd-gynhyrchu canllawiau ymarferol—canllawiau ymarferol—sy'n dangos sut i wireddu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i bobl hŷn; diwygio'r canllawiau sy'n ymwneud â phryderon cynyddol ynglŷn â chau cartrefi gofal, a fydd, rwy'n gwybod, o ddiddordeb i rai Aelodau yn y fan yma; cynnwys y naratif hawliau dynol yn adroddiadau arolygu cartrefi gofal; a chael cyngor gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ynglŷn â sut i sicrhau bod hawliau wrth wraidd ein GIG yng Nghymru. Ond bydd ein pwyslais cychwynnol ar ddiogelu ac eirioli, gan ein bod yn cytuno â'r comisiynydd bod y rhain yn feysydd y mae angen inni eu cael yn iawn os ydym ni i gefnogi'r holl bobl hŷn i wneud penderfyniadau am eu gofal ac ansawdd eu bywydau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os caf i barhau am eiliad yn unig. Dyna pam rwyf i'n hapus i gefnogi'r ail welliant, sydd hefyd wedi'i gyflwyno gan Paul Davies. Derbyniaf yr ymyriad.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich sylwadau agoriadol, yn dweud eich bod yn cytuno mewn egwyddor â'r angen i ymestyn a datblygu hawliau pobl hŷn a'r ymwybyddiaeth ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Ond a allwch chi ddweud wrthyf i pam mae Llywodraeth Cymru mor anghyson o ran hawliau? Pam mae gan blant a phobl ifanc ddarn penodol o ddeddfwriaeth ar lyfr statud Cymru i ddiogelu eu hawliau a does gan hen bobl ddim un? Onid ydych chi'n credu bod hen bobl mor werthfawr i gymdeithas â phobl ifanc, ac felly y dylen nhw gael eu hamddiffyn gan ddarn o ddeddfwriaeth hefyd?
Gallaf weld y prif bwynt yr ydych chi'n ei wneud, Darren, ond byddwn yn eich cyfeirio'n ôl at y datganiad y gwnaeth y comisiynydd pobl hŷn yr wythnos diwethaf wrth lansio ei hadroddiad etifeddiaeth, lle roedd hi mewn gwirionedd yn croesawu'r dull yr oeddem ni'n ei ddefnyddio, oherwydd ei fod yn gwneud hawliau'n bethau go iawn. Nid yw'n chwilio am ddarn arall o ddeddfwriaeth oddi ar y silff ar Fil hawliau, mewn gwirionedd mae'n dweud, 'Sut ydym ni'n gwneud y rhain yn bethau gwirioneddol a diriaethol ym mywydau pobl hŷn?' Nawr, os gallwn ni gytuno mai dyna'r cyfeiriad y dylem ni fod yn mynd iddo—y canlyniadau ar gyfer pobl hŷn—yn hytrach na Bil hawliau arall neu beth bynnag, yna gadewch inni fwrw iddi, ac fe'i croesawyd gan y comisiynydd pobl hŷn. Rydym ni'n bwriadu gweithio gyda'r comisiynydd newydd fydd yn cael ei benodi, pan gaiff hynny ei gyhoeddi, i fwrw ymlaen â hyn hefyd.
Felly, beth bynnag, fel y dywedais i, rwy'n hapus, ac rwy'n siŵr y bydd yn dod â gwên i wyneb Darren, y byddwn ni'n cefnogi'r ail welliant, a gyflwynir gan ei gyd-Aelod, Paul Davies. Gall gwasanaethau eirioli annibynnol roi llais i bobl sy'n cael trafferth gwneud dewisiadau ynglŷn â'u bywydau eu hunain. Rydym ni'n cydnabod y ceir adegau pan fydd angen cymorth ar unigolyn i sicrhau y caiff eu hawliau eu parchu.
Yn rhan o'r gyfres o gamau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda'r comisiynydd i wireddu hawliau i bobl hŷn, byddwn ni'n ailystyried rhan 10 o'r cod ymarfer ar eiriolaeth gyda'r bwriad o ddatblygu canllawiau ymarferol ynglŷn â rhoi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Yn ogystal â hyn, mae fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer oedolion yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith yn gwella ansawdd, cysondeb ac argaeledd gwasanaethau ledled Cymru.
Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd y comisiynydd adroddiad dilynol i'w hadolygiad yn 2014 i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae'r adroddiad yn datgan bod cynnydd da wedi'i wneud mewn llawer o feysydd, ac mae'n dda iawn gwybod, bod y rhai hynny sy'n gweithio yn y sector gofal preswyl yn dechrau meddwl mewn ffordd wahanol iawn ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld hyn wrth ymweld â rhai o'r cartrefi yn eu hardaloedd eu hunain. Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r meysydd hynny lle nad yw gwaith wedi datblygu.
Un o'r meysydd hyn, er enghraifft, yw atal codymau. Sonnir am godymau eto fel thema yn y rhaglen Heneiddio'n Dda ac rwy'n rhannu barn y comisiynydd bod angen inni wneud mwy yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n gweithio gyda My Home Life Cymru i ddechrau sgwrs â rheolwyr cartrefi gofal ynghylch sut y gallan nhw sicrhau cydbwysedd rhwng atal codymau â chymryd risgiau cadarnhaol. Ac mae gwaith yn parhau gyda rhaglen Gwella 1000 o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen diogelwch cleifion a gwella ansawdd ar gyfer cartrefi gofal. Nod y rhaglen yw lleihau nifer y codymau mewn cartrefi gofal ac mae'n cynnwys mesurau i wella gofal anymataliaeth a rheoli meddyginiaethau, ond fel y dywed adroddiad y comisiynydd, ni allwn fod yn hunanfodlon; mae mwy i'w wneud.
Gadewch imi droi at agwedd arall ar waith y comisiynydd, sef yr adroddiad 'Ail-ystyried Seibiant'. Edrychodd yn fanwl ar un o'r canfyddiadau allweddol o'i hadroddiad 'Dementia: mwy na dim ond colli’r cof' yn 2016. Trwy drafodaethau â phobl sy'n byw â dementia a chyda'u gofalwyr, canfu'r comisiynydd bod diffyg hyblygrwydd yn y gwasanaethau yn aml i ddiwallu anghenion pobl, ac eto rydym ni'n gwybod bod darparu gofal seibiant yn un o'r blaenoriaethau cenedlaethol allweddol i wella bywydau gofalwyr yng Nghymru. Rydym ni bellach yn darparu £3 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol ddarparu gofal seibiant ychwanegol i ofalwyr. Yn 2017-18, gwnaeth y cyllid gefnogi modelau mwy hyblyg, arloesol sy'n dangos bod y gofalwr a'r person y gofelir amdano wrth wraidd y ddarpariaeth seibiant.
Hoffwn ganmol y comisiynydd pobl hŷn am ei gwaith yn arwain y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru wedi gwneud cyfraniad mawr at gefnogi pawb i fyw bywydau iach, egnïol sy'n rhoi boddhad. Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd dod â phobl ynghyd sy'n ymrwymo i wneud newidiadau gwirioneddol i'r man lle maen nhw'n byw. Gall cysylltu pobl greu cyfeillgarwch, rhwydweithiau cymorth, a phartneriaethau sy'n helpu i ddatblygu cymunedau cydnerth.
Ac yn olaf, os gallaf gyfeirio at y meysydd y mae'r adroddiad yn cyfeirio atyn nhw gyda llawer o enghreifftiau o arfer da, mae'n dangos bod gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Deddf 2014, a ddaeth drwy'r Cynulliad hwn, bod y rheoliadau a ddeilliodd ohoni a'r canllawiau statudol yn dod â newid cadarnhaol i bobl hŷn. Felly, hoffwn ddiolch i'r comisiynydd am gefnogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf pwysig i bobl hŷn—a'u blaenoriaethau nhw yn dod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog mai fy nheitl o hyn ymlaen fydd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Trwy wneud fy rôl yn fwy amlwg a chlir, byddaf yn gallu mynd ati i sefydlu dull o weithio ar draws y Llywodraeth ar faterion pobl hŷn. Rwy'n hyderus y bydd y rhaglen waith rŷm ni wedi cytuno arni gyda'r comisiynydd yn adeiladu ar ein deddfwriaeth drawsnewidiol ac yn cryfhau hawliau pobl hŷn.
Rydw i am i Gymru fod y lle gorau i heneiddio ynddo: gwlad lle mae llais pobl hŷn yn cael ei glywed, a'u cyfraniad i gymdeithas yn cael ei werthfawrogi, a hwythau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau bodlon. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet Finch-Saunders.
Gwelliant 1. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn, i godeiddio yng nghyfraith Cymru yr hawliau hynny sy'n berthnasol i bobl hŷn, er mwyn galluogi pobl hŷn i siarad lle nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni.
Gwelliant 2. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, ac wrth wneud hynny rwy'n dymuno diolch i Sarah Rochira am ei gwaith yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae ei harloesi a'i ysgogiad i ddatblygu agenda mwy cadarnhaol ar gyfer pobl hŷn wedi bod yn nodedig.
Nawr, o edrych ar yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd yn nodi nifer o themâu trawsbynciol i waith achos a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn. Mae prosesau cymhleth, cyfathrebu gwael a diffyg dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn a'r effaith a gaiff penderfyniadau ar eu bywydau bob dydd yn peri pryder penodol. Mae'r rhain yn cyfrannu at ein gwelliant cyntaf sy'n galw am yr angen i sefydlu Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn, wedi'i serio mewn cyfraith, ac nid ar chwarae bach yr ydym ni'n gwneud hynny. Ac rwy'n siomedig ar y cam hwyr hwn—a gwn y crybwyllwyd hyn yr wythnos diwethaf—fod y pwyslais wedi mynd oddi ar hynny erbyn hyn oherwydd, yn sicr, gyda'r gwaith yr wyf i wedi'i wneud gyda'r comisiynydd pobl hŷn dros y chwe blynedd diwethaf, dyma ble rwyf i wedi gweld ac wedi tystio yn uniongyrchol i hawliau sylfaenol hanfodol ein pobl hŷn yn cael eu tramgwyddo.
Mae ugain y cant o bensiynwyr Cymru yn byw mewn tlodi: sy'n cyfateb i un o bob pump; y lefel uchaf ond un yn y rhanbarthau ar ôl Llundain; y lefel waethaf ers 2003; pump y cant yn uwch na chyfartaledd y DU a Lloegr; a 7 y cant yn uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon. Ers 2015, mae 10,000 yn fwy o bensiynwyr Cymru nawr mewn tlodi, a Chymru yw'r unig ranbarth yn y DU yn y pum mlynedd ddiwethaf i weld cynnydd mor sydyn. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol: unigrwydd ac arwahanrwydd, mynediad i ofal sylfaenol—mae hwnnw'n hawl sylfaenol hanfodol. Dywedodd mwy na chwarter y bobl hŷn eu bod yn unig, a chredir bod 27 y cant wedi'u hynysu'n gymdeithasol. Mae mwy na 75 y cant o fenywod a thraean o ddynion dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae mwy na 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn dioddef cam-drin domestig ar hyn o bryd, ac mae dros 150,000 wedi dioddef trosedd yn eu cartrefi eu hunain. Felly, dywedwch wrthyf i; dydw i ddim yn gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hawliau sylfaenol hanfodol o ran hynny.
Mae ein hail welliant yn cyfeirio at y diffyg mynediad at eiriolaeth annibynnol: tuedd sy'n prysur weld cynnydd yn y bobl sy'n dod i fy swyddfa fy hun oherwydd na allan nhw ddeall neu hyd yn oed gael gafael ar y driniaeth a'r cymorth sylfaenol sydd eu hangen arnynt ac y maen nhw mewn gwirionedd yn eu haeddu. Mae'r comisiynydd yn datgan nad yw cyrff cyhoeddus yn aml yn dda am ddysgu o'u camgymeriadau neu ddefnyddio profiadau a lleisiau pobl fel sail i'r cymhelliant i wella'r gwasanaeth yn barhaus.
Yn anffodus, rydym ni'n nodi bod y comisiynydd wedi gorfod mynd ar drywydd Llywodraeth Cymru am eu methiant i ddangos digon o gynnydd a gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol sy'n ymwneud â'i hadolygiad o gartrefi gofal yn 2014: gofal anymataliaeth, sy'n hawl sylfaenol; atal codymau; a chynllunio gweithlu—maen nhw i gyd yn faterion y mae angen cymryd camau pellach arnynt. Ac mae yna dystiolaeth, hefyd, o fethu â gallu yfed a bwyta yn gywir a phriodol—hawl sylfaenol hanfodol arall. Mae hanner miliwn o bobl hŷn yng Nghymru yn disgyn bob blwyddyn, a llawer yn cael codwm sawl gwaith cyn eu bod yn y pen draw yn mynd i'r ysbyty ac yna dydyn nhw methu symud yn barhaol, ac yn waeth. Mae hanner can mil yn dioddef anaf difrifol, a'r canlyniad yw nad ydyn nhw byth yn dychwelyd i'w cartrefi nac yn adennill eu hannibyniaeth ar ôl hynny. Mae'r comisiynydd yn datgan bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol gymryd camau ystyrlon i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed ganddynt, a gwyddom ni i gyd nad yw canllawiau yn ddigon, mewn llawer o achosion, pan fo hyn dan sylw. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu na fydd ein system cartrefi gofal yn gallu bodloni'r newid yn anghenion gofal a chymorth ein pobl hŷn. Bydd hyn yn golygu y bydd gormod o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal a byddan nhw'n parhau i gael bywyd o ansawdd annerbyniol.
Yn olaf, mae'r wythnos hon yn Wythnos Gweithredu ar Ddementia ac mae'n adeg briodol i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r meysydd gwella hanfodol i 'Gynllun Gweithredu ar gyfer Dementia Cymru 2018-2022'. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar hawliau, amrywiaeth ac eiriolaeth, mwy o gydnabyddiaeth o lesiant ac anghenion gofalwyr, targedau hyfforddiant mwy uchelgeisiol, gwella gwasanaethau gofal seibiant, gwella swyddogaeth gweithwyr cymorth dementia a gwella llwybrau gofal lliniarol a diwedd oes.
Ac yn olaf, fel aelod o'r union fwrdd a benododd y comisiynydd pobl hŷn sydd ar fin camu i'r swydd, ac o ystyried rhwystredigaethau'r panel ynghylch y gweithwyr penodi yn y dyddiau cynnar a'r oedi a fu, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ar yr amserlenni dan sylw a phryd mae'n credu y bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad ar gyfer penodi'r comisiynydd nesaf. Mae'n hollbwysig bod ein pobl hŷn yng Nghymru yn cael cymorth comisiynydd, a hyd yn oed yn fwy pwysig eich bod chi, Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd yn ymgorffori mewn cyfraith yr hawliau sylfaenol hanfodol y mae ein pobl hŷn yn eu haeddu.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn. Rydw i’n croesawu agoriad y Gweinidog, a’i deitl newydd—nid oeddwn i wedi sylweddoli bod ychwanegiad i’ch teitl. Ond, yn bennaf oll, wrth gwrs, yn y ddadl yma, rydym ni’n talu teyrnged i waith y comisiynydd, fel rydym ni wedi ei glywed, sydd yn gadael ar ôl chwe blynedd, ac mae wedi bod yn waith clodwiw iawn. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cydweithio sawl tro efo'r comisiynydd pobl hŷn ar sawl arolwg, ac y mae ei barn a’i thystiolaeth wedi bod o fudd arbennig bob tro. Dim ond wythnos diwethaf yr oeddem ni’n lansio’r adroddiad yna ar y defnydd—defnydd anaddas, yn aml—o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, ac mae yna her sylweddol o flaen y Llywodraeth a phawb yn y maes yn fanna i wireddu dyheadau'r adroddiad yna. Ac, hefyd, roedd y comisiynydd pobl hŷn ynghlwm â sawl arolwg arall, gan gynnwys ein hadroddiad ni i unigrwydd ac unigedd, ac roedd ei phrofiad hi wrth gyfarfod â phobl ledled Cymru wedi helpu i lywio argymhellion yr adroddiad yna hefyd.
Mi fyddwn ni, fel plaid, yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma. Mae angen mwy o bwerau ar y lle yma yn nhermau hawliau pobl hŷn, ac, wrth gwrs, efo Deddf Cymru 2017 a nawr y Bil ymadael ag Ewrop, rydym ni’n colli pwerau o’r lle yma. Rydw i’n falch i groesawu’r syniad bod hyd yn oed y Ceidwadwyr eisiau rhagor o bwerau yn y lle yma, felly, yn naturiol, mi fyddwn ni yn cefnogi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad.
Mae yna sawl thema, wrth gwrs—yn fyr rŵan. Rydym ni wedi clywed lot am y baich o bobl hŷn, ond, ar ddiwedd y dydd, mae eisiau hefyd dathlu'r ffaith bod cynifer gyda ni o bobl hŷn yn ein gwlad. Mae pobl yn barod iawn i feirniadu ein gwasanaeth iechyd, ond mae’n wir i ddweud bod gennym ni’r nifer fwyaf o bobl hŷn a fu yma erioed, a’r mwyaf posib ohonyn nhw hefyd yn dal yn heini; yn dal yn ffit—mwy o bobl nag erioed o’r blaen.
Yn ôl ym 1950, fel rydw i wedi dweud wrthych chi o’r blaen, dim ond 250 o bobl trwy Brydain a wnaeth gyrraedd 100 mlwydd oed. Erbyn 1990, roedd y ffigwr yna wedi codi i 2,500 o bobl yn cyrraedd eu 100 mlwydd oed, ac yn teilyngu cael cerdyn pen-blwydd oddi wrth y Frenhines. Ddwy flynedd yn ôl, roedd y nifer yna wedi cyrraedd dros 14,000 o gardiau pen-blwydd yr oedd yn rhaid i’r Frenhines eu harwyddo. Goblygiadau amlwg, felly, i weithdrefnau'r Frenhines, os dim byd arall, ond hefyd arwydd o lwyddiant y gwasanaeth iechyd, dŵr glân, system imiwneiddio, gwell deiet, cartrefi clyd ac ati—ond yn benodol y gwasanaeth iechyd, sydd wastad dan y lach. Ond mae angen cynllunio am y twf yna yn y boblogaeth hŷn, nid yn unig ychwanegu at deitl y Gweinidog ond cynllunio, a gwasanaeth gofal sydd angen ei gynllunio yn fanna, ac mae ar hwnnw angen llawer mwy o flaenoriaeth. Mae wastad yn gysgod i’r gwasanaeth iechyd; mae’n rhaid i’r gwasanaeth gofal gael llawer mwy o flaenoriaeth, y cyllid, a’r drefn i fod ar yr un donfedd â’r gwasanaeth iechyd, a hefyd gyda’r ddarpariaeth tai.
Mae'r agenda llymder yn Lloegr a'r tanwario ar wasanaethau gofal yn Lloegr yn achosi 22,000 o farwolaethau ymysg pobl hŷn bob blwyddyn. Dyna ganlyniad arolwg y llynedd gan y British Medical Journal. Meddyliwch amdano fe: 22,000 o bobl hŷn yn marw yn gynnar o achos diffyg darpariaeth gwasanaethau gofal achos arbediadau ariannol. Diffyg cyllid yn golygu codi'r trothwy i dderbyn gofal gan siroedd Lloegr, a'r diffyg gofal yna yn esgor ar farwolaethau cynnar.
Felly, mae hyn i gyd, i ddiweddu, yn her i gymdeithas. A ydym ni'n wirioneddol yn parchu ein pobl hŷn, yn parchu ein cenhedlaeth hŷn? A ydym ni'n parchu ac yn rhoi urddas pwrpasol i genhedlaeth hŷn sydd wedi bod drwy lawer? Mae'r gallu gyda nhw. Mae'r profiad gyda nhw. Maen nhw wedi gweld pob peth o'r blaen. Ac eto rydym ni'n diystyru eu profiad nhw. A ydym ni'n dathlu eu goroesiad nhw, neu a ydym ni'n fodlon parhau efo'r tanwario ar y gwasanaethau sylfaenol hynny sydd yno i'w cynorthwyo? Mae angen llawer gwell darpariaeth gwasanaeth gofal yn ein cymunedau ni, a hefyd gwasanaethau darparu gofal seibiant pan fydd pobl yn sâl yn eu henaint. Mae angen cadw a chynyddu gwelyau yn y gymuned er mwyn i bawb allu edrych ar ôl ei gilydd gydag urddas a gyda pharch.
Felly, diolch yn fawr iawn i'r comisiynydd pobl hŷn am guro'n gryf ar y drysau a oedd angen clywed y curo ac am godi llais. Beth am Lywodraeth i ymateb?
Cyn dechrau, teimlaf y dylwn i ddatgan buddiant a byddwn yn honni fy mod yn amlwg yn dra chymwys i gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n cymeradwyo yn llawn y Gweinidog pan ddywed ei fod yn dymuno i Gymru fod y lle gorau yn y byd i dyfu'n hen a hyd yn oed i fod yn hen. Rydym ni'n byw mewn byd sydd ag obsesiwn am oed a barn ystrydebol am bobl hŷn. Yn rhy aml rydym ni'n siarad amdanyn nhw mewn ffordd ddifrïol, amharchus a hyd yn oed difenwol. A dydw i ddim yn sôn am fy nheulu i yn y fan yma. Gall hyn danseilio hunan-barch, hunan-hyder ac annibyniaeth pobl hŷn. Mae'r ymadroddion 'baich gofal' a 'tswnami arian' a ddefnyddir weithiau gan y gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a sylwebyddion eraill yn gwbl annerbyniol. Mae llawer gormod o bobl hŷn yn teimlo bod gwasanaethau ac, yn wir, rhai rhannau o'r gymdeithas yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran yn unig. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ariannol, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau cymorth hanfodol eraill.
Nid yw pobl hŷn yn grŵp unffurf y dylid eu diffinio yn ôl eu hoedran neu stereoteipiau. Mae rhoi cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas ehangach yn rhoi gwell ansawdd bywyd i bawb, nid dim ond pobl hŷn. Cefais fy ngeni mewn oes pan gai aelodau hŷn o'r teulu nid yn unig eu parchu ond roedden nhw yn ganolbwynt y teulu. Y genhedlaeth hŷn oedd yn sicrhau bod safonau yn cael eu cadw a nhw oedd y rhai a oedd fwyaf tebygol o roi gwybod yn blwmp ac yn blaen i chi os oedd eich ymddygiad yn annerbyniol.
Dywedir bod mwy na 39,000 o bobl hŷn yng Nghymru—ffigur uwch nag yng ngweddill y DU—yn dioddef cam-drin. I lawer, mae hyn yn digwydd yn y lle y maen nhw'n ei alw'n gartref. Gall cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar unrhyw un, waeth beth yw eu rhyw, tarddiad ethnig neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae'n ystadegyn trist bod pobl hŷn ag anableddau mewn hyd yn oed mwy o berygl o gael eu cam-drin na'r rheini heb ddiffygion o'r fath. Fwyfwy, mae pobl hŷn yn wynebu nid yn unig risg gorfforol ond hefyd risg emosiynol ac ariannol. Mae gwaith wedi dechrau yng Nghymru i wella'r modd yr ydym ni'n adnabod y rhai hynny sydd mewn perygl a'u cadw'n ddiogel, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod pobl hŷn yn gallu manteisio ar gefnogaeth lawn ein systemau cyfiawnder sifil a throseddol.
Mae gwaith ymgysylltu ledled Cymru gyda phobl hŷn, eu teuluoedd a rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at bryder cynyddol am y ffordd y cafodd pobl hŷn eu trin yn yr ysbyty, yn enwedig o ran urddas a pharch. Mae gofynion y comisiynydd ar gyfer camau gweithredu yn amlinellu'n glir y newid sydd ei angen i wella ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Erys pryderon sylweddol ynghylch y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig ar gyfer pobl â dementia a defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Mae'n rhaid inni sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio i sicrhau'r newid angenrheidiol a, thrwy hyn, i roi ansawdd bywyd wrth wraidd gofal preswyl a gofal nyrsio yng Nghymru, a sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gofal y mae ganddyn nhw'r hawl iddo.
Hoffwn ddiolch i Sarah Rochira am y gwaith mae hi wedi ei wneud dros y chwe blynedd o fod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae hi wedi gadael gwaddol fydd yn caniatáu i bobl hŷn yng Nghymru gael eu trin â mwy o urddas a pharch.
Hoffwn ddechrau drwy hefyd ddweud 'diolch' wrth Sarah Rochira am ei chwe blynedd o waith yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Wrth gwrs, mae ei chyfnod yn swydd wedi ymdrin â rhai newidiadau mawr iawn, megis dyfodiad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, felly mae hi wedi bod yma ar adeg bwysig iawn. Credaf y dylem ni ddweud pa mor falch yr ydym ni mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu swyddogaeth comisiynydd pobl hŷn ac, yn wir, Sarah yw'r ail berson yn unig i gael y swydd honno.
Un o'r agweddau y credaf iddi ymdrin yn dda iawn ag ef yw'r mater o drin pobl hŷn ag urddas. Wrth gwrs, cynhaliodd ei rhagflaenydd, Ruth Marks, yr adolygiad 'Gofal Gydag Urddas?', a dilynodd Sarah hynny â'r adroddiad cynnydd 'Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach'. Credaf fod ei gwaith ar y mater hwn wedi bod yn bwysig iawn oherwydd, fel y dywedodd siaradwyr eraill heddiw, mae angen trin pobl hŷn ag urddas, ac nid ydyn nhw bob amser yn cael eu trin ag urddas. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau o'r ffordd y gallai pobl hŷn fod wedi cael eu trin yn y system gofal neu yn yr ysbyty—lleiafrif, ond rwy'n credu mai dyna sy'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono.
Wrth gwrs, rwy'n credu bod mater y cyffuriau gwrthseicotig eisoes wedi'i grybwyll yma heddiw, ac, yn ein hymchwiliad ar y pwyllgor iechyd, fe welsom ni fod cyffuriau gwrthseicotig efallai yn cael eu defnyddio'n amhriodol, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn trin pobl hŷn ag urddas. Felly, rwy'n credu bod ffordd bell i fynd, ond credaf fod Sarah wedi gwneud cyfraniad mawr, mewn gwirionedd, yn y maes penodol hwnnw, ac mae hi'n siarad yn huawdl iawn ynghylch sut y mae hi'n mynd ledled Cymru ac yn gwrando ar bawb. Roedd hi eisiau cael yr holl sgyrsiau hyn, ac fe wnaeth, a chredaf y llwyddodd hi i grisialu yr hyn yr oedd pobl hŷn eu hunain ei eisiau, ac, wrth gwrs, mae cael eu trin ag urddas yn un o'r materion mawr.
Y mater arall, wrth gwrs, yw pobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd. Unwaith eto, credaf y bu hi'n huawdl iawn yn tynnu sylw at y problemau o fyw gyda dementia. Rwy'n gwybod yr aeth nifer ohonom ni i sesiwn y Gymdeithas Alzheimer amser cinio heddiw ynghylch gwneud y Cynulliad yn lle sy'n deall dementia, ac rwy'n meddwl bod Sarah wedi helpu i gyfrannu at godi ymwybyddiaeth o hynny. Deallaf fod hanner yr holl Aelodau Cynulliad bellach wedi cytuno i ddod yn ffrindiau dementia, a gobeithiaf, mewn gwirionedd, y bydd pawb yn cytuno yn y pen draw. Credaf fod Sarah wedi bod yn rhan werthfawr iawn yn hynny o beth.
Roeddwn yn falch iawn ddoe o glywed y lansiwyd Caerdydd Dementia Gyfeillgar, a bod Caerdydd, y ddinas, wedi ymrwymo i ddod yn lle sy'n deall dementia, a sefydliadau fel Bws Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ymrwymo i fod yn sefydliadau sy'n deall dementia. Rwy'n gwybod, yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, bydd sesiynau sgrinio a fydd yn agored i bobl â dementia, eu gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad mawr yn y maes hwnnw hefyd. Rwy'n croesawu hefyd yr agenda Heneiddio'n Dda yng Nghymru a grybwyllodd y Gweinidog, drwy greu cymunedau sy'n deall dementia yn ogystal â chymunedau sy'n cefnogi dementia.
Ac, wrth gwrs, mae Sarah wedi tynnu sylw at y mater o unigrwydd ac arwahanrwydd, ac rwy'n credu pan edrychasom ni yn y Pwyllgor ar y mater o unigrwydd, y sylweddolwyd bod hwnnw'n un o'r materion mawr y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yng Nghymru ac y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn fynd i'r afael ag ef. Credaf fod Sarah wedi gwneud cyfraniad enfawr i hynny.
Mae gan fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, fwy na dwbl y nifer o bobl dros 50 oed yn byw yno nag mewn unrhyw ran arall o'r ddinas. Mae 35,000 o bobl dros 50 yng Ngogledd Caerdydd, ac er nad wyf yn cyfrif 50 yn hen—yn bendant ddim—mae 35,000 o bobl ac, fel y dywedaf, mae'r crynodiad o bobl hŷn yng ngogledd y ddinas, yn fy etholaeth i. Rwy'n credu ei bod yn eithaf pwysig gydnabod y ffaith y gall unigrwydd fodoli pan ydych chi'n byw mewn dinas, mewn ardal â llawer o bobl ynddi ac nid yn unig mewn cymunedau gwledig.
Y mater pwysig yr wyf i eisiau tynnu sylw ato ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn unrhyw le yw'r diffyg cyfleusterau toiled, oherwydd rwy'n teimlo mewn gwirionedd ein bod ni wedi crybwyll hynny ac wedi trafod hyn yn helaeth yn y Cynulliad hwn, yn enwedig yn ystod y Cynulliad diwethaf, a tybed, mewn gwirionedd, faint o gynnydd sydd wedi'i wneud ynglŷn â hynny. Rwy'n gwybod bod hwn yn rhywbeth y mae Sarah Rochira wedi sôn amdano sawl gwaith yn ei chyfraniadau.
Felly, fe wnaf i orffen drwy ddweud fy mod i'n credu ei bod hi'n hollol wych bod gennym ni gomisiynydd, a hoffwn ddiolch i Sarah eto am bopeth y mae hi wedi'i wneud.
Dim ond am gyfnod byr yr wyf eisiau siarad, mewn gwirionedd, i ddweud 'diolch' wrth Sarah Rochira am fod yn gomisiynydd pobl hŷn gwych dros y chwe blynedd diwethaf. Fi oedd yn gyfrifol am y briff pobl hŷn am nifer o flynyddoedd yn y Cynulliad blaenorol, ac roedd yn llawenydd pur gallu gweithio gyda'r comisiynydd, ac yn wir gweddill ei thîm, a gweithio ochr yn ochr â hi a gweld pa mor galed yr oedd hi'n gweithio i ymgysylltu â phobl hŷn ledled y wlad. Ymwelodd sawl gwaith â fy etholaeth i. Fe wnaethom ni rai cymorthfeydd bws, felly roedd y ddau ohonom ni yn mynd ar y bysiau ac, yn wir, fe wnaethom ni ymweld â chartrefi gofal yn fy etholaeth i hefyd. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn iddi am y ffordd y mae hi wedi ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol yn yr ardal hefyd.
Felly, hoffwn ddiolch ar goedd iddi am ei hymdrechion. Gallwn weld o adroddiad arall eto y lefel wych honno o weithgarwch sydd ar waith yng Nghymru o ran y ffordd y mae hi'n estyn allan ac yn ceisio eiriol dros bobl hŷn fel y bu dros y chwe blynedd diwethaf. Nid yw hi wedi ymatal rhag cadw'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol a darparwyr gofal annibynnol ac ysbytai ar flaenau eu traed dros y blynyddoedd. Mae hi wedi torchi ei llewys ac mae hi wedi cynhyrchu rhai adroddiadau ardderchog sydd wedi bod, a dweud y gwir, yn ddeifiol iawn ar adegau ac y bu eu darllen yn anodd iawn, ond mae pob un o'r rheini wedi cynnwys rhai argymhellion defnyddiol iawn o ran gallu bwrw ymlaen â'r agenda urddas a pharch yn arbennig, ac rwy'n gwybod y gall fod yn falch o'r gwaddol y bydd hi'n gadael ar ei hôl pan fydd hi'n gadael y swydd hon ac yn ei throsglwyddo i'r person nesaf.
Dim ond dau sylw cryno iawn os caf i: fe wnaethoch chi gyfeirio yn gynharach, Gweinidog, at agenda hawliau pobl hŷn a'r ffaith ein bod ni i gyd o'r un farn o ran y canlyniadau yr ydym ni eisiau eu cyflawni ond nad ydych chi'n teimlo bod angen deddfu mewn gwirionedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hynny. Ond byddwch chi'n gwybod, drwy welliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, bod gennym ni gyfeiriad at egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn ar wyneb Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a chredaf ei bod hi'n angenrheidiol, a dweud y gwir, i fod â darn mwy eang o ddeddfwriaeth i fod yn gysgod dros y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud fel Llywodraeth, fel y gall pobl hŷn olrhain eu hawliau yn uniongyrchol i ddarn o ddeddfwriaeth ac, yn wir, cyfrifoldebau eraill tuag atynt. Mae gan blant a phobl ifanc hynny; does gan bobl hŷn ddim, ac rwy'n credu ei bod hi'n anfon neges negyddol iawn at bobl hŷn yn sgil ystyfnigrwydd y Llywodraeth i gyflwyno darn o ddeddfwriaeth ynglŷn â hyn.
Un o'r hawliau yr hoffwn i ei weld ar wyneb darn o ddeddfwriaeth—a dim ond â deddfwriaeth yr ydych chi'n gallu gwneud hyn—yw hawl glir i gael gofal seibiant. Rydym ni wedi gweld adroddiad y comisiynydd pobl hŷn ynglŷn â phwysigrwydd gofal seibiant yn ei hadroddiad 'Ailystyried Seibiant', yn enwedig ynghylch dementia. Mae nifer y bobl sy'n dod i'r cymorthfeydd yr ydym ni, Aelodau Cynulliad, yn eu cynnal, wedi gorflino'n llwyr oherwydd nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar ofal seibiant wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf—pobl y mae angen iddyn nhw fod yn gadarn er lles eu hanwyliaid ac sy'n gwneud gwaith caled ac anodd iawn na chaiff ei gydnabod yn briodol bob amser gan yr awdurdodau y maen nhw'n ymwneud â nhw, adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn enwedig mewn rhai rhannau o'r wlad. Gwyddom y gall hynny ddinistrio eu perthynas â'r bobl hŷn y maen nhw'n gofalu amdanynt—rhai ohonyn nhw y mae'n bosibl y buont yn briod am ddegau o flynyddoedd, sydd â degawdau o flynyddoedd priodasol o dan eu hadain, ac, o ganlyniad i'r gorflinder llwyr hwnnw, y rhwystredigaeth y gall ei achosi yn aml, mae'n dinistrio cariad yn y perthnasoedd hynny. Felly, mae'n rhaid inni weithio'n galetach ar ofal seibiant, a chredaf y dylech chi ystyried un o'r awgrymiadau y mae ein plaid ni wedi ei chyflwyno yn etholiadau diwethaf y Cynulliad, sef i fod â hawl glir, mewn statud, i ofal seibiant ar gyfer pobl hŷn ac eraill sy'n gofalu am eu hanwyliaid, oherwydd dyma'r unig ffordd mewn gwirionedd yr ydym ni'n mynd i sicrhau'r newid mewn agwedd sydd ei angen arnom ni.
Felly, i gloi, unwaith eto hoffwn ddiolch i Sarah Rochira am ei gwaith, ac edrychaf ymlaen at allu ymwneud ymhellach â'r Llywodraeth ar yr agenda bwysig hon fel y gallwn ni wireddu'r hawliau ar gyfer pobl hŷn yma yng Nghymru.
Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am eu cyfraniadau adeiladol iawn, er ein bod efallai'n cytuno i fynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol wrth gyflawni'r hawliau yn arbennig? Ond gadewch i mi ddweud wrth Darren nad oes gennym ni fyth feddwl cwbl gaeedig; nid ydym ni'n bod yn afresymol o ystyfnig, ond yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yw dod i gytundeb â Sarah bod ffordd o wireddu'r hawliau hyn nawr, mewn gwirionedd—felly, mynd o dan groen y prif hawliau Cenhedloedd Unedig hynny a'u trosi mewn gwirionedd i'r canllawiau manwl a'r gweithredu ymarferol ar lawr gwlad. Felly, rwy'n edrych ymlaen at drafod nid yn unig â Sarah wrth iddi ymadael, ond hefyd, yn y dyfodol, â'r comisiynydd newydd er mwyn cyflawni hynny mewn gwirionedd. A byddwn yn gweithio gyda'r Aelodau yma a chyda'r Comisiynydd newydd hefyd er mwyn gwirioneddol gyflawni hynny, oherwydd bod gennym ni'r un nod, ond ein bod ni o'r farn bod gennym ni ffordd fwy uniongyrchol o'i chyrraedd. Ond ni fydd gennym ni byth feddwl cwbl gaeedig. Nid wyf yn Eeyore llwyr, nid wyf yn ful hollol ystyfnig ar y materion hyn; rydym ni bob amser yn cadw meddwl agored.
A gaf i ddiolch am yr holl gyfraniadau yma? Mae pob un yn ddieithriad wedi canmol swyddogaeth Sarah, y comisiynydd ar hyn o bryd, a'r gwaith mae hi wedi'i wneud. Janet, fe wnaethoch chi sôn am y Bil hawliau—rwy'n credu fy mod i wedi egluro sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn, gwneud yr hawliau yn wirionedd a'r ymwneud a fydd gennym. Fe wnaethoch chi ofyn hefyd am y cyhoeddiad a'r comisiynydd newydd—mae ar fin digwydd. Mae'n rhaid i hynny fod ar fin digwydd oherwydd mae ein comisiynydd ar fin ymadael. Ni allaf roi union ddyddiad i chi, ond mae ar fin digwydd.
Dai, diolch i chi am waith eich pwyllgor gyda'r comisiynydd a'r argymhellion yr ydych chi wedi'u cyflwyno dros gyfnod hir o amser, a'r pwynt y gwnaethoch chi am gysoni iechyd a gofal cymdeithasol drwyddi draw. Wel, dyna amser diddorol i'r Cynulliad hwn yn yr adolygiad seneddol sydd wedi bod a'r hyn y gellir ei gyflwyno yn awr gyda'r cynllun tymor hir.
David, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch herio ystrydebau—rydym ni'n clywed ystrydebau oedran dro ar ôl tro. Ac, yn wir, siaradais yn Senedd Pobl Hŷn Cymru ddydd Llun, gan wneud yr union bwynt hwnnw. Wrth wneud y wlad hon y wlad orau bosibl ar gyfer pobl hŷn, mae angen hefyd inni herio'r ystrydebau, ac mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â dweud, 'Edrychwch ar beth rydym ni'n ei wneud gyda phrentisiaethau', a dweud mewn gwirionedd, 'Mae prentisiaethau ar gael i bawb.' Edrychwch ar yr ymweliad yr es i arni â'r gogledd yr wythnos diwethaf pan oeddem ni'n edrych ar ail-gyflwyno pobl i ofal plant, a'r ddau grŵp o bobl a gafodd eu cynrychioli'n arbennig yn y gwaith hwnnw ynglŷn â gofal plant a gefnogir gan y Llywodraeth a Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, oedd y boblogaeth hŷn a'r boblogaeth ifanc iawn NEET. Felly, mae ffyrdd y dylem ni fod yn herio hyn yn ymarferol yn y dyfodol.
Julie, fe wnaethoch chi sôn am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud ar heneiddio'n dda yng Nghymru, a gall materion ymarferol iawn hefyd, os ydych chi am wella gallu rhywun i fyw'n annibynnol drwy'r blynyddoedd, drwy'r holl flynyddoedd, pethau ymarferol fel darpariaeth toiledau ac ati fod yn bwysig iawn, iawn. Ac, yn rhyfedd iawn, dyna le y mae'r agenda hawliau yn cael effaith wirioneddol. Os gallwch chi wneud agenda hawliau ymarferol, yr hawl hwnnw i fyw'n annibynnol, yr hawl i deithio o gwmpas, yr hawl i beidio â chael rhwystrau o'ch blaen, yn sydyn, cewch newid ystyrlon gwirioneddol ar lawr gwlad.
A Darren, fe wnaethoch chi sôn am y comisiynydd yn rhoi ambell i broc i Lywodraeth Cymru, neu ddarparwyr, neu eraill. Weithiau, mae'n fwy na phroc, weithiau mae'n hen ergyd fawr. Ond mae hynny'n iawn—mae comisiynwyr yna i herio. Byddwn i hefyd yn cymeradwyo Sarah am y ffordd y mae hi wedi herio ac am beidio â bod ofn gwneud hynny, ond hefyd i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol a dweud, 'Mae ffyrdd o symud ymlaen ar hyn', ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn a'r holl sylwadau a wnaed am y comisiynydd sy'n ymadael.
Yn yr amser byr iawn sydd ar gael i mi, ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau, ond caniatewch imi sôn yn gryno am y rai allweddol a grybwyllwyd. Mae eiriolaeth yn allweddol yn hyn oll. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau â gwasanaethau eiriolaeth a'u datblygu. Rwyf wedi cytuno bod fy swyddogion yn gweithio i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gwasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol ar gyfer oedolion yng Nghymru, i wella cysondeb ledled Cymru. Bydd canlyniadau prosiect Age Cymru yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. A byddwn yn edrych ymlaen, fy swyddogion a mi, at weithio gyda swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i lywio'r gwaith hwn, gan ystyried yn benodol yr adroddiad ynglŷn â phrofiadau pobl hŷn o ddod o hyd i a defnyddio eiriolaeth broffesiynol. Ond ni ddylem ni anghofio chwaith yr ystod o eiriolaeth anffurfiol sydd ar gael, a bod gwaith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru a gyda'r comisiynydd ac eraill i ddatblygu'r rhwydwaith hwnnw o eiriolaeth anffurfiol, o bobl yn eistedd ochr yn ochr â phobl hefyd. Rydym ni wedi sôn am bobl yn cwympo a dulliau o'u hatal yn gynharach, felly ni fyddaf yn sôn am hynny'n benodol.
Soniodd nifer o bobl am y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Rwy'n gwybod y bu ein pwyllgorau yn edrych ar hynny. Mae lleihau nifer y bobl â diagnosis o ddementia sy'n derbyn meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol, yn arbennig mewn cartrefi gofal, wedi'i nodi'n gam gweithredu allweddol yn y strategaeth dementia ddrafft. Rydym ni hefyd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad byr i'r defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a byddwn yn ystyried yn ofalus y safbwyntiau yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth i'n gwaith ni fynd rhagddo. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu cydnabyddiaeth y comisiynydd fod dulliau cemegol wedi'u cynnwys yn y diffiniad o ataliaeth trwy'r rheoliadau arfaethedig o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal.
Fy mhwynt olaf, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd ni fyddaf yn gallu ymdrin â'r holl bwyntiau yma, ac nid wyf i hyd yn oed yn gwybod faint o amser sydd gen i ar ôl—. A gaf i droi at y mater pwysig iawn a soniodd un neu ddau o bobl amdano ynghylch unigrwydd ac arwahanrwydd? Rydym ni'n cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r materion mwyaf sy'n wynebu pobl hŷn. Mae gwella cadernid pobl o bob oedran, a'u gwneud yn llai agored i effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd, a sicrhau y gallan nhw fanteisio ar wasanaethau cymorth, yn hollbwysig i gynnal iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl.
Felly, yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol, Cymru gyfan, i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. Mae'r gwaith wedi dechrau, ac rydym ni'n ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban a'r DU, er mwyn ein helpu i bennu cyfeiriad a llywio ein gwaith yn well. Arweiniodd ymchwiliad y pwyllgor at adroddiad gwerthfawr, gwybodus, o'r materion y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yng Nghymru. Yn ein hymateb, rydym ni hefyd wedi cadarnhau ymrwymiad i asesu effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar iechyd a llesiant, asesu effaith cyswllt rhwng y cenedlaethau, y gwyddom o'n hetholaethau ein hunain ei fod yn cael effaith fuddiol pan gaiff ei wneud yn dda, cyswllt rhwng y cenedlaethau, datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i leihau stigma ac ar gyfer dealltwriaeth y cyhoedd—.
Llywydd, gallaf eich gweld chi'n edrych arnaf oherwydd bod yr amser ar ben. Rwy'n ymddiheuro am y pwyntiau hynny na allaf i ddychwelyd atyn nhw, ond, yn syml, i gloi, a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaed ynghylch y comisiynydd a diolch iddi hi a'i thîm am bob dim maen nhw wedi'i gyflawni yn 2017-18? Mae'r adroddiad yn nodi diwedd cyfnod chwe blynedd y comisiynydd. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn gweld colled enfawr am ymgyrchu angerddol y comisiynydd ar eu rhan. Byddwn ni'n gweld ei cholled yn Llywodraeth Cymru, ar ôl gweithio gydag eiriolwr mor gryf a hyderus dros hawliau dynol. Mae hi wedi annog y Llywodraeth, y sector cyhoeddus a dinasyddion Cymru i feddwl yn wahanol am heneiddio, i gydnabod bod pobl hŷn, ymhell o fod yn faich ar ein cymdeithas, yn ased y dylid ei ddathlu a'u bod yn bobl, yn gyntaf ac yn flaenaf, gyda hawliau a bywydau i'w byw i'r eithaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio a'r bleidlais ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn. Felly, rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6725 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais felly ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.
NDM6725 - Gwelliant 2: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Pleidlais, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6725 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017/18), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mai 2018.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM6725 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd hwn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.