Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth. 

Datblygiadau Tai

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisi cynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r farchnad leol wrth ganiatáu datblygiadau tai? OAQ52146

Diolch. Mae angen i awdurdodau cynllunio lleol feddu ar ddealltwriaeth glir o’r ffactorau sy'n dylanwadu ar ofynion tai yn eu hardal. Dylai eu hasesiad diweddaraf o'r farchnad dai leol ffurfio rhan allweddol o'u sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol a chynnwys y farchnad dai gyfan drwy ystyried yr angen am dai'r farchnad agored a thai fforddiadwy.

Mi rydym ni'n wynebu prinder tai, ond, ar yr un pryd, mae rhannau o Gymru, yn cynnwys fy etholaeth i, lle mae cyfran sylweddol o dai yn ail gartrefi neu yn dai haf. Mae'r ffigwr yn un o bob 10 tŷ ar gyfer Ynys Môn i gyd, ac mae dros 40 y cant o'r tai yn Rhosneigr, er enghraifft, yn wag neu yn dai haf. Mi allaf eich cyfeirio chi at ddatblygiad tai diweddar, tai a fyddai'n cael ei disgrifio fel tai fforddiadwy, maen siŵr, lle mae cynghorydd lleol yn dweud wrthyf fi bod pump o'r chwech tŷ wedi cael eu gwerthu fel tai haf; dim ond un yn eiddo lle mae rhywun yn byw ynddo fo'n llawn amser. Fe ddangoswyd cyn dŷ cyngor i fi sydd bellach yn dŷ haf. Pa obaith mewn amgylchiadau felly sydd yna i'n pobl ifanc ni?

Yn St Ives yng Nghernyw, mi wnaed penderfyniad rai blynyddoedd yn ôl i gyflwyno system gynllunio i osod cyfyngiad ar werthiant tai newydd i bobl sy'n gallu profi mai hwnnw fydd eu prif gartref, ac mi wnaeth 83 y cant o bobl mewn refferendwm gefnogi'r newid hwnnw. Rŵan, mae yna fesurau o dan y cynlluniau datblygu lleol newydd i Wynedd a Môn sydd yn efelychu hynny, yn rhannol beth bynnag. Ond tra bod y premiwm ar y dreth trosglwyddiadau, neu'r dreth trafodiadau tir y dylwn i ddweud, ar ail gartrefi a'r lefel uwch o dreth cyngor yn ymdrechion i ymateb i'r pwysau yma ar y farchnad dai, pa mor bell ydych chi fel Gweinidog yn eiddgar i fynd i'n gweld ni'n ceisio creu system gynllunio sydd yn wirioneddol yn gwarchod buddiannau ein cymunedau ni er mwyn ateb gwir ofynion tai lleol?

Nid yw hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i ystyried yn fy nhrafodaethau â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ynglŷn â'r dreth trafodiadau tir. Rwy'n ymwybodol iawn o gynllun datblygu lleol Gwynedd ac Ynys Môn, a luniwyd, yn amlwg, yn unol â'r holl weithdrefnau statudol. Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried, yn sicr. Fe sonioch chi am Gernyw, rwy’n credu, a byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn y maent wedi'i wneud.

Yn 2015, er gwaethaf y ffaith bod 79 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwrthwynebu diwygiadau i TAN 1, bu i'ch Llywodraeth fwrw ymlaen â pholisi sy'n newid yn llwyr y dull o gyfrifo cyflenwad ac argaeledd tir ar gyfer tai o gyfraddau adeiladu blaenorol yn ôl dull gweddilliol. Mae hyn yn cael cryn effaith ledled Cymru. Yn Aberconwy, er enghraifft, mae'r hyn a fu gynt yn gyflenwad 8.5 mlynedd bellach wedi ei leihau i 3.1 blynedd. Serch hynny, nid oes unrhyw newid cyfatebol yn y boblogaeth neu newid demograffig i gefnogi hyn. O ganlyniad, mae ein swyddogion cynllunio, ac yn wir, ein haelodau etholedig, yn ei chael yn eithriadol o anodd cyflawni rhwymedigaethau'r targedau hyn, gan roi rhyddid llwyr i ddatblygwyr gyflwyno ceisiadau ar safleoedd y tu allan i'r cynllun datblygu lleol, ac maent yn hapus i fwrw ymlaen wedyn i apêl gyda'ch arolygiaeth gynllunio. Bydd y polisi hwn yn dinistrio ein cymunedau ac mae'n dwyn anfri ar y blynyddoedd a'r arian y mae awdurdodau lleol wedi eu rhoi i ddarparu cynllun datblygu lleol i'r Llywodraeth hon. A wnewch chi dderbyn goblygiadau'r canllawiau hyn rydych wedi'u cyhoeddi, ac a wnewch chi wrthdroi'r polisi hwn cyn gynted â phosibl fel rhan o'ch gwaith o ddiwygio'r polisi cynllunio wrth symud ymlaen?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar 'Polisi Cynllunio Cymru' ar hyn o bryd. Fe ddaw i ben wythnos i ddydd Gwener, ar y 18fed. Ar wahân i hynny, rwyf wedi dweud y byddaf yn edrych ar TAN 1, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos. Rwy'n clywed eich beirniadaeth, ac rwyf wedi clywed cryn dipyn o feirniadaeth o'r fethodoleg a ddefnyddiwn mewn perthynas â TAN 1, ond rwy'n dal i fod yn argyhoeddedig fod y problemau ynghylch diffyg cyflawni yn ymwneud â'r broses gynllunio. Felly, nid wyf am ddweud unrhyw beth heddiw, ond rwy'n disgwyl cyngor gan fy swyddogion, yn sicr y mis hwn, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad.

Ansawdd Aer yng Ngorllewin De Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52125

Yn ddiweddar, cyhoeddais ystod o fesurau i wella ansawdd ein haer, gan gynnwys datblygu cynllun aer glân i Gymru, a fydd yn nodi camau i leihau llygredd aer yng Nghymru, ac ymgynghoriad ar fframwaith parthau aer glân i Gymru, a gwefan newydd ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru.

13:35

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'n siŵr, Port Talbot, yn fy rhanbarth i, yw'r dref neu ddinas fwyaf llygredig yn y DU, gyda lefelau uwch o lawer na'r dinasoedd mwyaf llygredig eraill—bron i ddwywaith cymaint â'r lefelau yn Llundain. Yn anffodus, un o brif achosion y llygredd yw cyflogwr mwyaf yr ardal. Weinidog, beth y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw'r diwydiant trwm y mae ein lles economaidd yn dibynnu arno yn peryglu ein hiechyd a'n lles?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Do, bu Port Talbot yn y penawdau yr wythnos diwethaf, ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi eu canfyddiadau. Ond ers cyhoeddi'r canfyddiadau hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adolygu'r ffigurau llygredd aer ac wedi derbyn bod y data a ddefnyddiwyd ganddynt yn cynnwys camgymeriad, ac maent wedi ymddiheuro i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hefyd. Cyhoeddodd cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Sefydliad Iechyd y Byd ddatganiad i ymddiheuro am y camgymeriad, gan feio amryfusedd, a chymerwyd camau gan Sefydliad Iechyd y Byd ar unwaith i gywiro'r ffigurau ar eu gwefan.

Fodd bynnag, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau da iawn. Gwyddom fod Port Talbot yn ardal—mae yno gyfuniad, neu gymysgedd, o'r elfen ddiwydiannol ac allyriadau nitrogen deuocsid o'r M4. Dyna pam, bythefnos yn ôl, y cyhoeddasom y mesurau rydym yn eu cyflwyno i ymestyn y parth 50 mya rhwng cyffyrdd 41 a 42. Ond fe godoch bwynt pwysig iawn ei fod yn gyflogwr allweddol nid yn unig i Bort Talbot, ond i'r rhanbarth hefyd. Felly, cyhoeddais yn y datganiad bythefnos yn ôl y byddaf yn diweddaru'r cynllun gweithredu ar gyfer Port Talbot, ar gyfer y gwaith dur, gan weithio gyda Tata, y cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â ble mae'r allyriadau hynny'n digwydd ac i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â hwy.

Weinidog, wrth ymateb i hynny, rwy'n derbyn eich bod wedi cywiro argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd a'r ffaith eu bod wedi gwneud camgymeriad. Ond mae'n dal i ddangos bod Port Talbot ymysg y gwaethaf yn y DU o hyd. Mae gennym broblemau gyda llygredd aer ac ansawdd aer o hyd; rydym wedi cael y problemau hynny ers blynyddoedd lawer ac maent yn mynd i fod yn broblemau parhaus. Ac mae Caroline Jones yn llygad ei lle yn nodi bod diwydiant trwm yn effeithio ar hyn. Ond yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru gamau y gall eu cymryd. Gall weithio gyda'r diwydiant i ystyried sut y gallwn leihau lefelau'r allyriadau, ond gall Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ymgymryd â rhai tasgau er mwyn sicrhau eu bod felly yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Sut y byddwch yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn, er mwyn sicrhau eu bod yn mesur y lefelau ac yn rhoi camau ar waith yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r lefelau hynny?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n hollol iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio gwaith dur Port Talbot, yn unol â'r drwydded a roddwyd o dan y gyfundrefn drwyddedu amgylcheddol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y drwydded honno yn gosod amodau ar y gweithredwr. Ond mewn gwirionedd, o ran ystyried, pan fyddwn yn diweddaru'r cynllun gweithredu, sut y gallwn sicrhau ein bod yn monitro ac yn gorfodi'r gofynion hyn cystal ag y gallwn, credaf mai un o'r pethau yn y dyfodol, o ran cydnabod ei rôl mewn perthynas â chreu swyddi, a gwerth economaidd y gwaith dur hefyd, yw edrych ar sut y gall ein cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd weithio gyda chyflogwyr o ran lleihau allyriadau a mynd i'r afael â hynny mewn ffordd nad yw'n tanseilio gwerth economaidd y cyfraniad ond sy'n cefnogi iechyd a lles pobl sy'n byw'n agos at y gwaith dur.

Wel, rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn i raddau, Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai un o brosiectau allweddol bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, yw'r ganolfan arloesi newydd ar gyfer gwyddoniaeth dur, sy'n gysylltiedig â Phort Talbot a Tata. Nid oes angen i mi ailadrodd pa mor bwysig yw dur, yn sicr yn ein heconomi leol, ond fel y dywedwch, mae'r broses o'i gynhyrchu yn parhau i fod yn gysylltiedig, os mynnwch, ag ansawdd aer gwael ym meddyliau pobl. Felly, a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau cynnar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu hyd yn oed gyda phobl ar fwrdd y fargen ddinesig, ynglŷn â pha ran y gallent ei chwarae yn cynorthwyo i wella ansawdd aer, gan gynnal a chynyddu, gobeithio, y miloedd o swyddi hynny wrth inni deithio tua'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchiant dur?

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig o ran sut yn union y mae hyn—ac rwyf wedi crybwyll hyn eisoes, wrth sôn sut yr awn i'r afael ag ansawdd aer—yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, a dyna pam rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd yr economi—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n baglu dros fy ngeiriau—i ystyried sut y defnyddiwn yr ysgogiadau sydd ar gael i ni, nid yn unig er mwyn cefnogi'r dyfodol economaidd, cynaliadwyedd ein sector dur, y gwyddom ei fod mor bwysig, nid yn unig o ran Port Talbot, ond y safleoedd eraill ledled Cymru hefyd, ac o ran y gadwyn gyflenwi, ond er mwyn sicrhau nad yw hynny'n niweidiol i iechyd a lles y bobl sy'n gweithio yno ac yn byw yn y cyffiniau hefyd. Credaf, mewn gwirionedd, mai dyna pam y mae angen inni edrych, fel y dywedais ynghynt, ar yr holl faterion yno mewn perthynas ag allyriadau trafnidiaeth a'r gadwyn gyflenwi i'r gwaith dur hefyd, er mwyn sicrhau, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r cyngor a rhanddeiliaid eraill, ein bod yn monitro ac yn gweld lle mae gormodiant yn digwydd a beth yw'r ffordd orau o ymyrryd yn gynnar i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Gan ddilyn datganiad blaengar Ysgrifennydd y Cabinet ddoe am fywyd ar ôl Brexit a pholisi amaethyddol wedi'i deilwra i Gymru, hoffwn ofyn iddi a fydd yn parhau i fod â meddwl agored mewn perthynas â chyflwyno gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw. Gwn ei bod wedi dweud hyn yn y gorffennol, ond pe ceid gwaharddiad o'r fath, ni fyddai'n ymestyn i Ogledd Iwerddon, gan na allwn gael polisi amaethyddol sy'n gwneud masnachu gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn anoddach.

Yn y cyd-destun hwn, nid wyf yn gwybod a yw wedi gweld rhifyn diweddaraf Y Tir, cyhoeddiad Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n dwyn y pennawd 'Live exports ban would be short-sighted in the context of other uncertainties around Brexit'. Y llynedd, gwerth 140 o dunelli yn unig o anifeiliaid byw a allforiwyd o Gymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Felly, mae'n broblem fechan ac felly nid yw'n debygol o achosi anawsterau sylweddol i ffermwyr. Ond nid yw'r ffaith bod y fasnach yn fach yn ddadl yn erbyn cyflwyno gwaharddiad o'r fath os daw'n amlwg fod modd ei gyfiawnhau yng nghyd-destun yr holl ystyriaethau eraill y byddai'n rhaid eu cadw mewn cof, ac felly, ni fyddai, ar y sail honno, yn cael ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru.

Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, byddai'n well gennyf pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag sy'n ymarferol at eu man cynhyrchu, ac yn fy marn i, mae masnachu cig a chynhyrchion cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i gael eu lladd. Mae'n rhywbeth rwy'n edrych arno, ar y cyd â DEFRA, ac rwyf wedi gweld yr erthygl. Bydd yn rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ond yn amlwg, mae iechyd a lles anifeiliaid yn bwysig iawn i ni hefyd.

Wrth gwrs, mae'n rhaid ystyried buddiannau'r cynhyrchwyr yn y ddadl hon, ond heb gyflwyno gwaharddiad llwyr, mae pethau y gallem eu gwneud i wella'r gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol pan na fyddwn wedi ein cyfyngu gan reoliadau'r UE. Gallem wneud newidiadau i faint o amser y caniateir i anifeiliaid gael eu cludo, gallem addasu pa mor aml y mae'n rhaid stopio am seibiant, a gallem hefyd leihau nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cludo. Felly, mae'r rhain yn opsiynau rhannol efallai, ond byddent yn sicr yn gwella'r sefyllfa bresennol, ac yn dangos bod mwy o hyblygrwydd o ran polisi amaethyddol yn un o fanteision Brexit.

Wel, fel y gwyddoch, cafwyd galwad am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU a byddwn yn edrych ar yr ymatebion. Ni fuaswn yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori. Felly, byddem wedyn yn cynnal ymgynghoriad. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig, ynghyd â DEFRA, ein bod yn cymryd rhan lawn yn y camau nesaf fel y gallwn bennu ein safbwynt. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â hyblygrwydd; mae gallu cael polisi penodol iawn ar gyfer Cymru yn un o'r cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil Brexit.

Yn drydydd, hoffwn ofyn a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried gwella ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r cig y mae aelodau o'r cyhoedd yn ei fwyta drwy wella'r broses o labelu cynhyrchion yn gywir, gan nodi gwlad tarddiad, amgylchiadau magu, ac yn anad dim, dulliau lladd, oherwydd er bod yn rhaid inni barchu gwahanol safbwyntiau crefyddol ar ladd yn unol â defodau crefyddol, nid oes gan y cyhoedd unrhyw syniad, yn aml, eu bod yn bwyta cig halal, er enghraifft, ac efallai na fyddent yn dymuno gwneud hynny pe bai ganddynt ddewis. Mewn cadwyni bwyd brys ac ati nid yw hyn yn cael ei nodi ar hyn o bryd, ac er y credaf y dylai fod gan bobl o wahanol gredoau crefyddol ryddid i fwyta yn ôl eu daliadau crefyddol, serch hynny gallai ymwybyddiaeth gyhoeddus leihau pryder y cyhoedd pe bai'n cael ei chynyddu yn y modd hwn.

Credaf fod labelu bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig gan y credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn y pynciau y cyfeirioch chi atynt, ac unwaith eto, mae'n sgwrs ac yn drafodaeth a gawn nid yn unig ar lefel swyddogol, ond hefyd ar lefel weinidogol yn ein cyfarfodydd pedairochrog, ac unwaith eto, ceir cyfle arall gyda Brexit i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Rwy'n awyddus iawn i weld y ddraig goch a brand Cymru ar unrhyw fwyd sy'n tarddu o Gymru, felly, unwaith eto, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Credaf fod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol, ac yn sicr pan fyddwch yn mynychu'r sioeau amaethyddol, neu unrhyw ddigwyddiadau a ffeiriau bwyd, mae pobl yn sicr yn awyddus i fod yn ymwybodol o'r hyn y maent yn ei brynu.

13:45

Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Roeddwn yn rhan o ymweliad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig â San Steffan yr wythnos diwethaf, a chefais gyfle i holi Michael Gove yn uniongyrchol ynglŷn â'r corff amgylcheddol newydd y mae Llywodraeth y DU wedi addo ei sefydlu i gynnal safonau amgylcheddol yr UE a safonau amgylcheddol eraill os ydym yn gadael yr UE. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Michael Gove ynglŷn â'r corff arfaethedig hwn a pha sicrwydd y gallwch ei roi i'r Cynulliad y bydd yn cynnal ein safonau amgylcheddol uchel yma, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhai a basiwyd yn ddiweddar yn ein Deddf yr amgylchedd?

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn ymwneud â chynnal ein hegwyddorion amgylcheddol cryf yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn destun nifer o drafodaethau dwfn a chyfarfodydd pedairochrog rhwng Gweinidogion, Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion. Rydym wedi dadlau dro ar ôl tro dros drefniadau sefydliadol newydd a fframweithiau a gytunwyd er mwyn sicrhau y gall y DU weithredu'n effeithiol wedi inni adael yr UE.

Credaf mai'r pwynt a wnewch, sy'n bwysig iawn o ran y fframwaith, yw bod gennym eisoes nifer o offerynnau deddfwriaethol ar waith gyda'n Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nad oes gan y gweinyddiaethau eraill mohonynt ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio gyda Whitehall a Llywodraeth yr Alban i nodi lle bydd dulliau cyffredin a gytunwyd yn y DU yn ddefnyddiol ac i archwilio sut y byddai fframweithiau o'r fath yn gweithredu, a byddwn yn ystyried y dadansoddiad yn ofalus yn rhan o hyn.

Diolch i'r Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i esbonio hyd yma, ond y drafferth, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ildio ei hawliau i ddiogelu amgylchedd Cymru yn y cytundeb rhynglywodraethol. Rydych yn sôn am fframweithiau'r DU—[Torri ar draws.] Nid y Cynulliad hwn, nid Llywodraeth Cymru, ond Michael Gove fydd yn penderfynu pa rai o reoliadau'r UE a gaiff eu trosglwyddo ai peidio yn fframwaith y DU, a gall Senedd y DU newid safonau'r UE yma yng Nghymru pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, pa un a ydym yn cydsynio ai peidio.

Nid ydych yn ei ddeall o gwbl, ydych chi?

Nid ydych chi'n ei ddeall ac roeddech yn arfer bod yn Weinidog yr amgylchedd, ac nid oes syniad gennych beth sy'n cael ei wneud i Gymru. Dim syniad. Felly, gadewch imi ofyn i'r Gweinidog presennol, yn hytrach na'r un blaenorol a wnaeth gymaint o lwyddiant o Cyfoeth Naturiol Cymru, a yw'n gyfforddus fod y grym hwn gan Michael Gove. Pa sicrwydd ysgrifenedig sydd ganddi na fydd Llywodraeth y DU yn defnyddio'r Bil ymadael â'r UE i ailysgrifennu deddfwriaeth Cymru ar yr amgylchedd?

Rwy'n falch eich bod wedi gorffen dadlau gyda'r cyn-Weinidog ac wedi troi eich cwestiwn ataf fi yn awr. Ni fydd yn syndod ichi fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r haeriadau a wnaed gennych yn awr. Fodd bynnag, mae gennym gyfarfod pedairochrog ddydd Llun y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ei fynychu, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn uchel ar yr agenda yn y cyfarfod hwnnw.

Ni chlywais unrhyw sôn am sicrwydd ysgrifenedig. Mae heddiw yn Ddiwrnod Ewrop. Rydym yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac mae gennym fynediad at gyfiawnder amgylcheddol tra byddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n deall nad yw'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn cytuno â dadansoddiad Plaid Cymru neu bobl eraill—gan nad Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn—rwy'n deall hynny. Ond gofynnais i chi pa sicrwydd ysgrifenedig a gawsoch na fyddai hyn yn digwydd. Dyna rwy'n gofyn amdano yma. Oherwydd pan geisiwyd newid y Bil parhad gyda gwelliannau i ysgrifennu'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn ein deddfwriaeth ein hunain, dywedodd arweinydd y tŷ wrthym fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd yn

rhan o'r fframwaith cyffredinol pwysig ar gyfer diogelu'r amgylchedd yng Nghymru.

Felly, bellach, mae Sefydliad y Llywodraeth wedi argymell y byddai unrhyw gorff gwarchod amgylcheddol newydd yn fwy cadarn pe bai ganddo gylch gwaith pedair cenedl a gynlluniwyd gan ac sy'n eiddo i'r pedair gwlad ar y cyd, ac yn ei dro, byddai'n cael ei gyd-ariannu gan y pedair deddfwrfa yn hytrach na Senedd y DU yn unig. Felly, gofynnaf eto: pa sicrwydd rydych wedi'i gael gan Michael Gove na fydd gwaith y corff amgylcheddol newydd yn tresmasu ar ddeddfwriaeth amgylcheddol Cymru, ac yn benodol, na fydd yn ymyrryd â gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Ac a ydych chi, yn wir, yn ceisio cyd-berchen ar, a chyd-ariannu'r corff amgylcheddol newydd hwn?

13:50

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn olaf? Mae cytundeb rhynglywodraethol gennym ar waith ar hyn, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei bwysleisio ymhellach, o ran amddiffyn y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith ac rydym yn falch o fod wedi arwain y ffordd arni a'i rhoi ar waith yng Nghymru, yn ein cyfarfod pedairochrog ddydd Llun.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei diweddariad o'r rhaglen ar gyfer dileu twbercwlosis buchol. O gofio bod saith mis wedi bod ers ei lansio, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn sicrhau bod Cymru yn wlad heb TB ac effeithiolrwydd polisi Llywodraeth Cymru? A allwch ddweud wrthym hefyd faint o foch daear heintiedig sydd wedi cael eu difa ers dechrau'r rhaglen?

Byddwch yn cofio, Paul Davies, pan ddeuthum i'r Siambr mewn perthynas â'r diweddariad i'r rhaglen i ddileu TB, fy mod wedi dweud y byddwn yn rhoi datganiad blynyddol ar y cynnydd, a byddaf yn gwneud hynny ar yr adeg briodol yn ddiweddarach eleni. Ni allaf roi nifer y moch daear heintiedig sydd wedi cael eu difa i chi, ond gallaf ysgrifennu atoch ynglŷn â'r mater.FootnoteLink

Pan wnaethoch y cyhoeddiad hwnnw am y tro cyntaf ym mis Hydref, un o nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor hwy, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru oedd datblygu cynllun prynu gwybodus. Ar y pryd, fe ddywedoch chi'n hollol glir fod hyn yn rhywbeth roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef. Felly, a allwch gadarnhau a yw hyn yn dal i fod ar agenda Llywodraeth Cymru? Os felly, a allech ddweud wrthym pa waith yn union y mae eich swyddogion wedi'i wneud ar ddatblygu cynllun gorfodol a pha bryd y mae'r cynllun hwnnw'n debygol o gael ei roi ar waith?

Ydy, mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn bwrw ymlaen ag ef ac y mae swyddogion yn gweithio arno. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi darparu arian i sicrhau y gallem gyflwyno cynllun gwirfoddol wrth inni weithio tuag at gynllun gorfodol, ac unwaith eto, gallaf roi gwybodaeth i'r Aelodau am hyn pan fyddaf yn gwneud y datganiad blynyddol.

Nawr, fel y byddwch yn deall, rwy'n siŵr, gallai ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd arwain at heriau sylweddol i ddiwydiant amaethyddol Cymru, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â TB buchol yng ngwartheg Cymru, o gofio'r goblygiadau a allai ddeillio o hyn ar fasnachu gyda gwledydd eraill ar ôl Brexit. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael eisoes gyda'i llywodraethau Ewropeaidd cyfatebol ynghylch masnachu ar ôl Brexit ac a allwch roi sicrwydd pendant i ffermwyr gwartheg heddiw na fydd eu busnesau'n dioddef ar ôl Brexit yn sgil dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â TB buchol?

Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at ddileu TB yng Nghymru. Gwyddoch fod nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers ei anterth yn ôl yn 2009, a bellach mae 95 y cant o'n buchesi yng Nghymru heb TB. Felly, nid wyf am i bobl feddwl bod hyn yn rhywbeth sydd wedi gwaethygu; nid yw hynny'n wir. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol mewn perthynas â dileu TB.

Datblygiad Tir Amaethyddol yng Ngorllewin De Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu tir amaethyddol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52142

Diolch. Rwy'n ymgynghori ar hyn o bryd ar fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru'. Bydd yr ymgynghoriad ar y ddogfen bolisi bwysig hon ar ddefnydd tir cenedlaethol yn parhau tan 18 Mai. Mae'r fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn parhau i nodi mai tir amaethyddol gradd 1, 2 a 3a yw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas, ac y dylid ei warchod fel adnodd cyfyngedig ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Mae hwnnw'n ateb diddorol. Fe ddywedoch yn eich datganiad ddoe eich bod yn awyddus i weld rheolwyr tir yn cael eu cadw ar y tir a bod cynhyrchu bwyd yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru, ond pan ysgrifennais atoch yn gofyn i chi ddiystyru mabwysiadu fersiwn Gymreig o ymddiriedolaeth tir sofran arfaethedig y blaid Lafur yn Lloegr, a oedd yn cynnig rhoi pwerau i'r Llywodraeth allu prynu tir amaethyddol ar gyfer tai drwy orfodaeth am brisiau gostyngol o bosibl, fe wrthodoch chi ddiystyru hynny. Felly, a ydych yn glynu wrth eich datganiad yn yr ymateb hwnnw fod yr argymhelliad hwn i gipio tir yn arf ar gyfer ailddosbarthu gwerth tir, fel yr ysgrifenasoch ym mis Mawrth, neu a fyddwch bellach yn diystyru'r cynlluniau hynny, gan gofio'r uchelgeisiau a fynegwyd gennych yn y datganiad ddoe?

Wel, gwn fy mod wedi anfon ymateb manwl at yr Aelod ar y mater hwn, ac nid oes gennyf unrhyw beth arall i'w ychwanegu at hynny. Un o'r pethau rwyf wedi eu gwneud—fe'i lansiwyd gennyf yn y ffair aeaf yn ôl ym mis Tachwedd—yw ein mapiau amaethyddol newydd, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn, pan gaiff cynlluniau eu cyflwyno gerbron awdurdodau lleol, eu bod yn gwybod ble mae'r tir amaethyddol gorau. Felly rwy'n falch iawn fod y mapiau hynny ar gael bellach—ni yw'r unig wlad yn y DU sydd â'r mapiau hynny—i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y ffordd honno.

13:55
Dinas Ranbarth Bae Abertawe

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd tuag at wneud dinas ranbarth Bae Abertawe yn ardal hunangynhaliol o ran ynni? OAQ52123

Diolch. Mae ein twf gwyrdd a'n gwasanaethau ynni lleol wedi cynorthwyo'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i ddatblygu cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rwy'n cefnogi'r gwaith hwn a'r cyfraniad gwerthfawr y bydd yn ei wneud i nodau cytundeb y dinas-ranbarth.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig ynghylch harneisio ynni adnewyddadwy yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i'r rhanbarth unwaith eto, a gofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wella capasiti storio batri, gan mai dyna'r ateb, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn cynhyrchu trydan ar adegau pan nad oes ei angen, ac yna nid yw ar gael inni pan fo'i angen. Os ydym am gael ynni adnewyddadwy i weithio, mae angen inni sicrhau y gellir storio'r ynni a gynhyrchir gan y morlyn llanw, ac yn fwy penodol, y gellir storio'r ynni a gynhyrchir gan baneli solar a thyrbinau gwynt yn y fath fodd fel ei fod ar gael sawl mis yn ddiweddarach, efallai, pan fydd ei angen. Ond mae hynny'n galw am well technoleg batri. Felly, y cwestiwn, unwaith eto, yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwell technoleg batri?

Diolch am eich cwestiwn. Yn amlwg, gan fod gennyf gyfrifoldeb dros gynllunio a thrwyddedu morol, ni allaf wneud sylwadau ar y prosiect penodol, ond mae storio yn fater i ddatblygwyr unrhyw brosiect ynni masnachol ei ystyried. Gwyddom y bydd arnom angen dulliau storio o bob math i reoli systemau ynni mwy gwasgaredig a di-garbon. Bydd cyflenwad trydan sy'n newid gydag amser i baru cyfraddau cynhyrchu gyda'r galw hefyd yn bwysig iawn. Gwyddom hefyd fod technoleg batri yn eithaf drud, felly rydym yn disgwyl gweld gostyngiad yn y pris yn y dyfodol, ond yn amlwg, gallai edrych ar gost gosod digon o gapasiti storio i ddarparu cyflenwad trydan parhaus ychwanegu'n sylweddol at gost cyfalaf prosiect. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad a fynychwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniadau'r pecynnau gwaith eraill a drafodwyd yno, a'r cynllun cyflawni.

Yn amlwg, mae cyflawni'r morlyn llanw yn elfen bwysig o'r jig-so hwn, ac rydym am weld hynny'n digwydd o hyd. Mae'n debyg na fyddai ots gennym pe bai'r peth yn cael ei alw'n 'forlyn llanw Tywysog Cymru', hyd yn oed, cyn belled â'n bod yn cael morlyn llanw. Gyda llaw, yr un mor bwysig—[Torri ar draws.] Mae'r prosiectau ynni llai yr un mor bwysig, felly o ran perchnogaeth gyda'r prosiectau ynni llai, i ba raddau rydych yn ymchwilio i'r potensial ar gyfer modelau perchnogaeth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol? Ac a ydych yn cytuno y dylai trigolion y rhanbarth elwa'n ariannol o'r adnodd naturiol enfawr sy'n bodoli yn ne-orllewin Cymru?

Diolch. Bydd Dai Lloyd yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn, mewn egwyddor, i fuddiannau economaidd morlynnoedd llanw, a'r cyfleoedd y credaf sydd gennym i gael diwydiant morol bywiog sy'n tyfu. Rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb gan Lywodraeth y DU. Credaf mai'r unigolyn diweddaraf o Lywodraeth Cymru i ysgrifennu oedd y Prif Weinidog, ac rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb. Cyfarfûm â Claire Perry, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ychydig fisoedd yn ôl, a phwysleisiais yr angen i gael ymateb cyn gynted â phosibl wrthi hi hefyd.

Credaf eich bod wedi codi pwynt pwysig iawn ynghylch prosiectau ynni llai. Yr wythnos diwethaf, bûm ym Mhennal, ac ymwelais â fferm lle roedd ganddynt gynllun ynni dŵr, a chredaf i mi sôn amdano ddoe yn fy natganiad. Roedd yn un o'r prosiectau gorau imi eu gweld, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda chymunedau. Mae gennym brosiectau ynni cymunedol, ac fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer y prosiectau hyn. Ers i mi fod yn y swydd, ers dwy flynedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld oddeutu 14 yn dwyn ffrwyth.

Wel, rwy'n fwy na pharod i'w alw'n 'forlyn Lesley Griffiths,' yn enwedig â hithau'n 100 mlynedd ers cael y bleidlais yn rhannol, cyn belled â'n bod yn cael y peth. Hoffwn ddychwelyd at gwestiwn Mike am fatris oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhaglen 'cartrefi fel gorsafoedd pŵer' yn rhan fawr iawn o'r fargen ddinesig. Soniodd Mike am baneli solar a thyrbinau gwynt, ond ni chredaf y gallwn ddiystyru pethau fel pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres o'r aer chwaith, gan ei bod yn eithaf hawdd eu hôl-osod mewn eiddo mewn ffordd nad yw, efallai, mor hawdd gyda'r pethau sydd gennym ar hyn o bryd.

Tybed a allwch ddweud wrthyf a yw rhaglenni fel Nyth ac Arbed wedi cyfrannu at dwf yn nifer y pympiau gwres o'r ddaear a'r pympiau aer, ac a ellid eu cynnwys—ac rydym yn sôn am y syniad o 'gartrefi fel gorsafoedd pŵer'—ychydig yn fwy amlwg, efallai, yn y cynnig ar gyfer hwnnw. Diolch.

14:00

Diolch, Suzy Davies. Rwy'n siŵr y byddai fy mam yn cytuno â chi o ran eich pwynt cyntaf.

Ni allaf roi'r union ffigur i chi, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch.FootnoteLink Fe fyddwch yn gwybod ein bod wrthi'n caffael cam nesaf rhaglen Arbed, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn gwella effeithlonrwydd ynni yn rhai o'n cartrefi gwaethaf. Felly, buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu ynglŷn â phympiau gwres o'r ddaear a faint ohonynt rydym wedi eu defnyddio.

Cynlluniau Lliniaru Llifogydd ym Mro Morgannwg

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd ym Mro Morgannwg? OAQ52132

Yn ystod oes y Llywodraeth hon, rydym wedi buddsoddi dros £5.7 miliwn mewn gwaith llifogydd ac arfordirol ym Mro Morgannwg. Yn ychwanegol, mae dros £4.5 miliwn wedi'i ddyrannu yn rhaglen eleni i gwblhau gwaith yn Nhrebefered a Coldbrook ac i fwrw ymlaen â chynlluniau Llanfaes, Tregatwg a Chorntwn.

Diolch, Weinidog. Mae'n bwysig cydnabod cyllid Llywodraeth Cymru—y cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru—ar gyfer amddiffynfeydd hanfodol rhag llifogydd yn Nhrebefered a Llanilltud Fawr. Yn dilyn llifogydd yn y gymuned hon mor ddiweddar â 2016, gan effeithio ar gartrefi a busnesau, a allwch gadarnhau'r amserlenni ar gyfer cwblhau gwaith brys ym mhentref Llanfaes a Thregatwg yn y Barri, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. O ran cynllun lliniaru llifogydd Llanfaes, mae'r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda'r gwaith adeiladu i gychwyn yn fuan wedi hynny. Mae gwelliannau i'r systemau draenio yn y pentref i gynyddu capasiti a chyfres o fannau cronni llifogydd bach uwchlaw'r pentref—. Cynigir amddiffynfeydd ar lefel eiddo i eiddo sydd mewn perygl, ac mae naw ohonynt wedi derbyn y cynnig hwn, a byddant yn cael eu gosod cyn bo hir. Bydd man cronni llifogydd mawr yn cael ei adeiladu i lawr yr afon o bentref Tregatwg. Felly, mae dau gynllun yn Nhregatwg: y cynllun gwaith llanw a'r cynllun lliniaru llifogydd. Disgwylir i'r cynllun gwaith llanw gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, ac o ran y cynllun lliniaru llifogydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n ystyried nifer o opsiynau yr aseswyd eu bod yn lleihau perygl llifogydd i eiddo ym mhentref Dinas Powys ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys cronni i fyny'r afon, rheoli llifogydd yn naturiol a gosod muriau llifogydd a chwlfertau gollwng yn y dref. Ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion os yw'n dymuno.FootnoteLink

Weinidog, yn amlwg, mae dod â chynlluniau lliniaru llifogydd ynghyd yn dibynnu ar gydweithio agos iawn rhwng asiantaethau—awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn arbennig, sydd, yn amlwg, yn cynghori ar nifer o'r prosiectau hyn. Fe fyddwch yn gwybod bod arolygon staff wedi nodi rhywfaint o aflonyddwch yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers i chi ddod yn Weinidog, beth yw eich asesiad o allu Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio gyda phartneriaid ym Mro Morgannwg ar ddatblygu cynlluniau lliniaru llifogydd i leddfu pryderon sydd wedi bod gan y gymuned ers amser hir?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar yr arolwg staff; mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Rydym wedi cael prif weithredwr newydd yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran gweithio gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid, rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru lle rydym wedi trafod cyfathrebu a'r angen i ymgysylltu a gweithio'n agos o fewn y cymunedau a chyfathrebu, yn enwedig mewn perthynas â materion perygl llifogydd, gan y gall hynny fod braidd yn gymhleth, er mwyn cyfleu'r neges honno, ac o ran sut y cesglir tystiolaeth a sut y caiff ei dadansoddi. Felly, rwy'n annog Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu'n barhaus ac yn effeithiol gyda'r gymuned leol, ac mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod ar yr agenda o ran fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r prif weithredwr a chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Deallusrwydd Artiffisial a Chymru Wledig

7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sut y gall datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial helpu Cymru wledig? OAQ52114

Diolch. Gall newid technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, alluogi i ffyniant gael ei rannu ledled Cymru, gan adeiladu cymunedau cynhwysol, a chefnogi ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio adolygiad o arloesi digidol, a fydd yn cynnwys asesiad bras o ddatblygiadau mewn awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd a data mawr.

Diolch yn fawr iawn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a fyddai amaethyddiaeth fanwl wedi'i chynnwys yn benodol yng nghylch gorchwyl yr adolygiad hwnnw. Y bore yma, bu pwyllgor economi'r Cynulliad yn cynnal gwrandawiadau ar y pwnc, a chlywsant sut y mae amaethyddiaeth fanwl eisoes yn helpu i wella cynhyrchiant ar ffermydd, yn ogystal â lleihau effeithiau amgylcheddol. Dywedwyd wrthym yn glir fod data yn cael ei ystyried yn gynnyrch amaethyddol erbyn hyn. Ond mae'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn dameidiog ac yn anhyblyg. Ni ellir ond defnyddio Cyswllt Ffermio, er enghraifft, i ariannu 10 prawf pridd, nad yw'n ddigon, ac nid yw ond ar gael i ariannu gweithgarwch System Leoli Fyd-eang sylfaenol. Mae peth amser bellach ers i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio i ofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer amaethyddiaeth fanwl, fel y gallwn ystyried hyn nid yn unig fel mater ffermio, ond fel mater sy'n ymwneud â chydnerthedd Cymru, i greu diwydiant—felly, yn hytrach na mewnforio'r robotiaid o Tsieina a'r feddalwedd o America ac allforio ein data, gweld sut y gallwn harneisio hyn er lles Cymru. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi amserlen o ran pryd y gallwn ddisgwyl i'r strategaeth honno gael ei datblygu.

14:05

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nad yw ffermio manwl yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun. Mae angen iddo fod yn rhan o strategaeth amaethyddiaeth a defnydd tir ehangach ar ôl Brexit, ac mae'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn ei weld pan fyddaf yn ymgynghori ar ddyfodol rheoli tir, yn dilyn fy natganiad ddoe. Credaf fod angen i amaethyddiaeth fanwl fod yn rhan annatod o bob agwedd ar ffermio, drwy ddefnyddio gwell geneteg, targedu'r defnydd o fewnbynnau, a chasglu a defnyddio data.

Ar draws y Llywodraeth, yn enwedig o ran arwain ar arloesi a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn gweithio gyda sefydliadau academaidd—ac mae fy nghyd-Aelod Julie James yn arwain ar y gwaith hwnnw—gan ein bod yn edrych ar waith pellach a fydd yn berthnasol i amaethyddiaeth fanwl. Rydym hefyd yn ei hyrwyddo, fel y dywedwch, drwy fentrau Cyswllt Ffermio, ac mae hwnnw'n faes arall y gallwn edrych arno er mwyn ehangu'r cynlluniau sydd gennym ar waith yn rhan ohono. Rwyf hefyd yn ystyried ariannu technoleg yn rhannol drwy'r grant busnes i ffermydd. Ond unwaith eto, wrth inni edrych ar y cyllid a fydd gennym ar ôl Brexit, gallwn weld a oes cynlluniau eraill y gallwn eu rhoi ar waith hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i ddadl gan Aelodau unigol ar y mater hwn ym mis Tachwedd 2016, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf:

'Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.'

Yng ngoleuni'r sylwadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yn hyn, ac a allwch roi syniad inni hefyd o faint o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg y mae Cymru wedi'i gael hyd yn hyn?

Ni allaf roi'r ffigur hwnnw i'r Aelod ar hyn o bryd, ond unwaith eto, buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda'r ffigur hwnnw.FootnoteLink

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ52135

Diolch. Mae'r rheoliadau yn cyflwyno meini prawf llymach ar gyfer bridwyr trwyddedig ac wedi cynorthwyo i orfodi ein hymrwymiad i sicrhau safonau uchel o ran lles. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fonitro'r broses o weithredu'r rheoliadau, a chwblhawyd ymarfer cipio data gennym y llynedd ar orfodi elfen y gymhareb staff i swyddi.

Diolch. Mae pryderon yn cael eu dwyn i fy sylw'n aml iawn ynglŷn â faint o enghreifftiau haerllug a gwrthun o fridio cŵn sy'n dal i ddigwydd yng Nghymru. Mae'r rheoliadau'n darparu modd o gofrestru bridwyr cyfrifol, ac ar gyfer erlyn y rhai nad ydynt yn cydymffurfio ac sy'n peryglu lles yr anifeiliaid yn eu gofal. Mewn achos diweddar o erlyn menyw o Fro Morgannwg—roedd hi'n dweud ei bod yn gwerthu brîd penodol, ond mewn gwirionedd, roedd yn gweithredu fel ffrynt ar gyfer ffermio cŵn bach. Wrth gwrs, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrwng defnyddiol iawn i'r diwydiant hwn allu ffynnu. Yn yr achos hwn, roedd yn gwerthu dros 100 o gŵn bach, ar ôl hysbysebu 266. Mae'r problemau iechyd a lles anifeiliaid cyffredinol a ddioddefir gan y cŵn a'r cŵn bach hyn yn greulon tu hwnt, ond serch hynny, 38 o erlyniadau yn unig a gafwyd ledled Cymru yn 2015-16 o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y gallwch eu cymryd i dynnu sylw at y mater hwn? Yn bwysicach, a wnewch chi geisio gwahardd y ffordd greulon a didostur hon o wneud arian ar draul yr anifeiliaid agored i niwed hyn?

Diolch. Mae hwn yn faes lle rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r RSPCA i sicrhau bod nifer yr erlyniadau mor uchel â phosibl pan gaiff yr achosion hyn eu darganfod. Rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad ar les anifeiliaid cyn toriad yr haf, felly gallaf ddweud mwy am y mater bryd hynny.

Fel yr amlygwyd gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai'n caniatáu pwerau i San Steffan ddeddfu mewn nifer o feysydd sy'n dychwelyd o Frwsel, ac mae pwerau penodol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn un ohonynt. Felly, tybed a allwch egluro sut y credwch y gallai hynny effeithio ar ddeddfwriaeth arfaethedig. Tybed a allwch geisio cyflymu unrhyw waith rydych yn ei wneud ar hyn o bryd ar gam-drin anifeiliaid, creulondeb a deddfwriaeth ddiogelu, fel nad oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â beth yw eich gallu yn y dyfodol. Er fy mod yn deall y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y gofrestr cam-drin anifeiliaid yn adrodd yn ystod y misoedd nesaf, ni fuaswn am i hynny fod mor hirwyntog â'r oedi cyson mewn perthynas ag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Felly, buaswn yn apelio am weld cynnydd ar hyn cyn i unrhyw bŵer arall wneud newidiadau deddfwriaethol.

14:10

Diolch. Gan nad ydym yn cytuno â'ch safbwynt ar y mater hwn, ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ddeddfwriaeth neu bolisi. Credaf inni drydar ein gilydd mewn perthynas â'r gofrestr cam-drin anifeiliaid, a bydd yn cyflwyno adroddiad i mi ym mis Gorffennaf.

Llosgydd Biomas y Barri

9. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i'r galw am asesiad o effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri? OAQ52131

Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn cynnal ein rhwymedigaethau rhyngwladol mewn perthynas ag asesiadau effaith amgylcheddol. Mae swyddogion yn ystyried cydymffurfiaeth â chyfarwyddeb yr asesiadau effaith amgylcheddol yn ofalus, gan roi ystyriaeth i sylwadau'r datblygwr, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau ac eraill.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am y pryderon cyhoeddus a gwleidyddol cyffredinol ynglŷn ag agor llosgydd y Barri, sydd wedi cael effeithiau andwyol ar y boblogaeth leol yn ystod y cyfnod cyn ei gomisiynu. Rydym hefyd yn aros am yr adolygiad o'r broses drwyddedu gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig fod gennym amserlen ar gyfer eich penderfyniad, ac a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn amhriodol i'r cwmni honni y bydd y llosgydd biomas yn agor erbyn diwedd y flwyddyn pan nad ydym wedi cael penderfyniad gennych eto ynglŷn â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae wedi'i godi dros nifer o flynyddoedd, ac yn rheolaidd gyda mi ers imi ddechrau yn y swydd. Rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelod a thrigolion Barri'n llawn ynghylch yr amser a gymerwyd i ddod i benderfyniad terfynol ynglŷn ag a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Biomass UK No. 2. Yn anffodus, mae'r amser hwnnw'n angenrheidiol gan fod y materion a godwyd gan bartïon â buddiant yn rhai cymhleth, ac mae angen inni fod yn sicr fod y penderfyniad terfynol yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu'n briodol.

Yn ychwanegol o ran—. Er y gallaf roi sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, mater i'r awdurdod cynllunio lleol yw gorfodi. Ond gallai materion o'r fath ddod gerbron Gweinidogion Cymru ar apêl. Yn amlwg, mae adran gynllunio Bro Morgannwg yn ymwybodol fod Gweinidogion Cymru yn ystyried yr angen posibl am asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â'r cais cynllunio diweddaraf, ac wedi dweud wrth swyddogion na fyddant yn ystyried y cais hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol.

Yn fyr, fe sonioch fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych ar yr adolygiad o drwyddedu, a gallaf ddweud bod y prosiect yn mynd rhagddo'n dda. Cafwyd nifer o gyfarfodydd, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at unrhyw argymhellion ynglŷn â sut y dylem ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ddatblygu meysydd polisi cymhleth a thechnegol megis trwyddedu amgylcheddol.

Weinidog, rydych yn gwybod, mae'n debyg, fod Cyngor Bro Morgannwg yn eu cyfarfod llawn ym mis Chwefror wedi cefnogi cynnig gan y Cynghorydd Vincent Bailey i sicrhau bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal. Ac rwy'n datgan buddiant gan fod y cynghorydd hwnnw'n gweithio i mi—[Chwerthin.]—i mi gael cofnodi hynny. Ond mae'n ffaith bod pleidiau o bob ochr i'r siambr yng Nghyngor Bro Morgannwg wedi pleidleisio dros gymryd y camau hyn. Rydych wedi nodi mewn sesiynau holi blaenorol eich bod yn awyddus i gael asesiad o'r effaith amgylcheddol. Nododd yr Aelod etholaethol y byddai pawb sydd ynghlwm wrth y mater hwn yn gwerthfawrogi amserlen a dealltwriaeth o ran pryd y gallai'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud. A allwch ddweud wrthym, o leiaf, beth yw'r amserlen rydych yn gweithio iddi fel Gweinidog i wneud y penderfyniad hwnnw? Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ichi ystyried ymgynghoriadau a safbwyntiau ystod eang o randdeiliaid yn hyn o beth, ond mae'n rhaid bod syniad gennych bellach, ar y cam hwn yn y broses, pa bryd y byddwch mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedais wrth yr Aelod etholaethol o ran yr amserlen. Rwy'n deall pam fod hyn yn peri cymaint o bryder a rhwystredigaeth, i gynrychiolwyr ac i bobl yn y gymuned leol. Ond ar hyn o bryd, rydym wrthi'n ystyried y sylwadau a wnaed, ac nid ydym yn bwriadu pennu terfyn amser ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol ar asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan fod angen ystyriaeth lawn a gofalus o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r penderfyniad er mwyn gwrthsefyll heriau cyfreithiol. Mae'r achos yn codi materion cymhleth ynglŷn â'r modd y mae angen i'r asesiad o'r effaith amgylcheddol gyd-fynd â cheisiadau i ddiwygio amodau, ac mae'n cymryd peth amser i weithio drwyddynt. Drwy gymryd yr amser hwn i weithio drwy'r materion hyn, credaf y byddwn yn darparu canllawiau cliriach ar weithdrefnau asesiadau effaith amgylcheddol a fydd o fudd i bawb sy'n gweithio gyda'r system gynllunio. Felly, mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cydymffurfio â'r gyfraith, fel ei fod yn deg â'r datblygwr, ond yn bwysicach, er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd a'r gymuned leol yn cael eu diogelu'n briodol.

14:15

Mae gwersi amlwg i bob rhan o Gymru yn yr hyn sydd wedi digwydd yn y Barri. Mae'n syfrdanol, a dweud y gwir, fod prosiect mor fawr mewn ardal mor adeiledig gyda'r fath effeithiau posibl ar iechyd wedi cael sêl bendith, neu wedi cyrraedd mor bell, heb i asesiad o'r effaith amgylcheddol gael ei gynnal. Rwy'n ddiolchgar am y llythyr a gefais gennych y bore yma ynglŷn â hyn, sydd fwy neu lai yn ailadrodd yr hyn rydych newydd ei ddweud wrth y Siambr. Wel, mae hynny'n iawn, ond yr hyn rwyf am ei ddeall, gan fod llawer o bryderon mewn sawl man arall yng Nghymru sy'n wynebu ceisiadau am weithfeydd biomas tebyg ar hyn o bryd, yw hyn: os daw'n amlwg y dylai'r broses hon fod wedi cael asesiad o'r effaith amgylcheddol yn llawer cynt, a wnewch chi sicrhau y gwneir hynny, er bod y broses wedi teithio cryn bellter? Ac o gofio beth sy'n digwydd weithiau o ran cynllunio, a bod pobl yn gallu cyflwyno ceisiadau cynllunio ôl-weithredol neu'n gallu gwrthod yr hyn a ddylai fod wedi digwydd gan eu bod yn dweud bod pethau wedi mynd yn rhy bell, os daw'n amlwg o dan gyfarwyddeb yr UE—sy'n dal i fod gennym, wrth gwrs—y dylai'r prosiect hwn, gyda'r holl ychwanegiadau a'r newidiadau a wnaed iddo, fod wedi cael ei wneud o dan y gyfarwyddeb sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynnal asesiadau effaith amgylcheddol, a fydd hynny'n digwydd er gwaethaf y ffaith bod y prosiect wedi cyrraedd cam lle mae'r datblygwr eisoes, fel y dywedodd Jane Hutt, yn nodi dyddiadau iddo gychwyn?

Diolch i'r Aelod ac rwy'n falch eich bod wedi derbyn y llythyr yn dilyn eich cwestiwn yn ystod y cwestiynau busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf a gobeithio bod hwnnw wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd.

Fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynt, ni allaf wneud sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, ond mae adran gynllunio Bro Morgannwg yn ymwybodol ein bod yn ystyried yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â'r cais ac rwyf wedi nodi wrth swyddogion na fyddant yn gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol. Rwy'n ymwybodol iawn fod nifer o faterion ehangach wedi cael eu codi, nid mewn perthynas â'r achos hwn yn unig, ond o ran sut rydym yn gweithredu asesiadau effaith amgylcheddol a thrwyddedu amgylcheddol. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio'n agos gyda swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i weld sut y gallwn gymhwyso meysydd polisi sy'n aml yn gymhleth a thechnegol wrth wneud hynny yn y dyfodol, yn arbennig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a sicrhau eu bod yn bodloni ein hymrwymiadau amgylcheddol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r cwestiynau nesaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Allanoli Gwasanaethau yn y Sector Gyhoeddus

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am allanoli gwasanaethau yn y sector gyhoeddus? OAQ52116

Mae Llywodraeth Cymru yn credu mai’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yw trwy swyddogion cyhoeddus ymroddgar sy’n derbyn cefnogaeth ac yn cael eu talu’n deg am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod hefyd y rôl bwysig sydd gan y trydydd sector a busnesau o ran cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddinasyddion.

Diolch i chi am eich ateb, oherwydd mae nifer cynyddol o awdurdodau lleol Cymru, wrth gwrs, wedi allanoli gwasanaethau i'r sector breifat—mae edrych ar y modd y mae gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol, er enghraifft, mewn sawl rhan o Gymru wedi cael ei allanoli yn un enghraifft. Kingdom yw'r cwmni amlycaf yn y gogledd, ac mae rhaglenni fel Panorama ac Y Byd ar Bedwar wedi amlygu sut mae targedau mewnol y cwmni yna yn gyrru eu hymdrech i greu'r elw mwyaf posibl ar gefn trigolion Cymru. Yn awr, o gofio bod y Prif Weinidog wedi dweud wrthym ni fan hyn ym mis Ionawr ei fod ef a'i Lywodraeth yn gwbl yn erbyn preifateiddio, a'ch bod chi eich hunan wedi sefyll lan yng nghynhadledd y Blaid Lafur rai misoedd yn ôl yn dweud nad oedd yna breifateiddio yng Nghymru, a ydych yn gyfforddus gyda'r twf rydym ni'n ei weld mewn darparwyr preifat o fewn y sector gyhoeddus ar draws Cymru? Ac, os nad ydych chi'n gyfforddus gyda hynny, yna beth ydych chi'n ei wneud i annog ac i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu datrysiadau amgen?

Llywydd, rydw i'n credu bod pawb yn falch iawn fod yr Aelod dros y gogledd yn cofio'r araith wnes i yn Brighton i gynhadledd y Blaid Lafur. Roeddwn i'n glir yno, ac fe wnaf fod yn glir fan hyn hefyd: y ffordd rydym ni'n darparu ein gwasanaethau fan hyn yw i sicrhau'r deal gorau i ddinasyddion, a hefyd, wrth gwrs, i'r gweithwyr cyhoeddus eu hunain. Mae'n fater i'r awdurdodau eu hunain sut maen nhw'n darparu gwasanaethau, ond buaswn i'n sicrhau bod—. Mae gennym ni y cod ymarfer ar faterion y gweithlu, y two-tier code, ac mae e'n ymwybodol fy mod i'n sicrhau bod swyddogion yn gwneud asesiad cenedlaethol ar draws Cymru bob blwyddyn i sicrhau bod hawliau gweithwyr cyhoeddus yn cael eu sicrhau. Rwy'n hapus iawn i gyhoeddi canlyniadau'r asesiadau yna os nad yw'r Aelod yn ymwybodol bod hynny'n digwydd.

14:20

Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am godi hyn unwaith eto yn y Senedd, gan mai fy etholaeth i oedd un o'r rhai cyntaf i weld cannoedd o fy etholwyr, yn enwedig yr henoed yn ein poblogaeth, yn cael eu targedu yn y ffordd hon gan y gorfodwyr preifat hyn. Nid wyf yn gwrthwynebu rhoi gwaith ar gontract allanol i'r sector preifat lle y gall awdurdodau lleol arbed arian a lle mae darpariaeth y gwasanaethau o safon uchel. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae gennym broblemau difrifol. Mae 10,000 o bobl wedi llofnodi tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae yna ymgyrch enfawr yn erbyn hyn. Gwn am ASau ac ACau eraill ledled gogledd Cymru sy'n ystyried hon yn broblem enfawr.

Mae gennyf broblem, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'ch ymateb. Rydych yn dweud dro ar ôl tro mai penderfyniad i bob awdurdod lleol yw sut y maent yn gwneud pethau. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, pe bai cynlluniau o'r fath ar waith sy'n cosbi pobl yn y fath fodd, gwn y byddai eu Llywodraethau cenedlaethol yn camu i mewn ac yn darparu rhywfaint o arweiniad. Hoffwn ofyn ichi a fyddech mor garedig ag ysgrifennu at awdurdodau lleol a nodi, lle maent yn rhoi gwaith ar gontract allanol i'r sector preifat, eich bod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn disgwyl diwydrwydd dyladwy, tryloywder, gonestrwydd ariannol ac atebolrwydd llwyr gyda'r gwasanaethau hynny a ddarperir. Mae'n annheg os yw ein trigolion, ein hymwelwyr, ein henoed, os ydynt yn cael eu cosbi mewn rhyw ffordd am fod awdurdodau lleol yn rhoi gwaith ar gontract allanol gan na allant gadw deupen llinyn ynghyd o ystyried eich setliad ariannol.

Lywydd, roedd yr Aelod yn gwneud yn dda hyd nes y frawddeg olaf honno. Mae'n cynrychioli plaid wleidyddol, wrth gwrs, sydd fwy neu lai'n diddymu'r grant cynnal ardrethi i'r holl awdurdodau lleol yn Lloegr, ac sydd, dros y saith mlynedd diwethaf, wedi sicrhau bod grym gwario awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gostwng 49 y cant. Felly, tybiaf ei bod ar dir peryglus tu hwnt. Fodd bynnag, gadewch inni gymryd yr hyn y mae'n ei ddweud. Mae pob un ohonom yn croesawu pechadur sy'n edifarhau. Ymunaf â hi i groesawu'r ffaith nad preifateiddio popeth yw'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau lleol neu gyhoeddus. Rwy'n falch ei bod wedi ymuno â ni i gefnogi hynny.

Ond gadewch imi ddweud hyn, lle y ceir problemau gyda darparu gwasanaethau, mae'n iawn i Aelodau ac eraill eu dwyn i sylw'r awdurdod lleol perthnasol. Nid yw'n iawn nac yn briodol ein bod yn ceisio cynnal a chefnogi democratiaeth leol, ac ar yr un pryd, yn ceisio dweud wrth awdurdodau lleol sut y dylent gyflawni eu dyletswyddau a sut y dylent ddarparu'r gwasanaethau hynny. Nid dyna'r ffordd i gryfhau a grymuso awdurdodau lleol. Dadleuodd y Ceidwadwyr eu hachos wrth bobl Lloegr yr wythnos diwethaf, ac yn y rhan fwyaf o achosion, rwy'n credu eu bod wedi cael eu trechu'n llwyr.

Rhannaf y pryderon ynglŷn â rhoi gwaith ar gontract allanol i'r sector preifat, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod achos i'w gael weithiau dros ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y sector gwirfoddol? Er enghraifft, mewn gwasanaethau plant, yn aml iawn, gall y sector gwirfoddol ymwneud yn llawer agosach â theuluoedd na staff yn y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, a fyddai'n cytuno bod achos i'w gael dros roi rhai gwasanaethau ar gontract allanol i'r sector gwirfoddol?

Yn sicr. Credaf fod yr Aelod dros Ogledd Caerdydd yn llygad ei lle o ran sail ei chwestiwn a'i rhagdybiaethau. Croesawaf y gwahanol arbenigeddau y gall y sector gwirfoddol eu cynnig a'r manteision a all ddeillio o weithio mewn ffordd mor agored. Buaswn hefyd yn dweud wrthi, fel aelod o'r Blaid Gydweithredol fy hun, y buaswn yn hoff o weld atebion cydweithredol yn cael eu hadolygu a'u darparu lle bynnag y bo modd hefyd. Y mater allweddol yma yw y dylai gwasanaethau cyhoeddus barhau i gael eu darparu o fewn yr ethos cyhoeddus, gydag ethos o wasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel, a chydnabod a gwerthfawrogi'r gweithlu sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Mae'r holl faterion hynny'n hynod o bwysig i bob un ohonom, a dylai rheolaeth ddemocrataidd dros y gwasanaethau fod yn sail i'r modd y gallwn fwrw ymlaen â modelau gwahanol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

14:25
Polisi Cyfiawnder

3. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018? OAQ52140

Lywydd, rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda Gweinidogion cyfiawnder yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'u gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion barhau i gael y sgyrsiau hynny gyda swyddogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Rwy'n credu y gallaf ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. [Chwerthin.]

Ysgrifennydd y Cabinet, mae trigolion Aberafan wedi croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ebrill, a ddywedai'n glir fod unrhyw waith datblygu carchar newydd, gan gynnwys y gwaith ar Rosydd Baglan, wedi ei ohirio i bob pwrpas hyd nes y cynhelir trafodaethau ystyrlon. Croesawaf hefyd y bwriad i geisio sicrhau system cyfiawnder troseddol i Gymru sy'n gweithio ar gyfer Cymru a dinasyddion Cymru, yn enwedig gan fod y system gyfiawnder a'r system gosbi yn Lloegr a ledled y DU wedi mynd rhwng y cŵn a'r brain.

Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eu bod wedi eu gohirio yn cael gwared ar y posibilrwydd y gallai'r cynnig ddychwelyd a bod carchar yn cael ei adeiladu ar y tir hwnnw, gan y gellid cynnal trafodaethau ystyrlon ar unrhyw adeg—ac fel rydych wedi'i ddweud eisoes, rydych wedi cael rhai trafodaethau. Yr hyn y mae fy etholwyr yn awyddus i'w gael yw rhywbeth a fydd yn rhoi sicrwydd iddynt ar gyfer y dyfodol, ac yn adfer eu hyder yn y system wleidyddol. Y cyfan y maent ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw ateb syml i gwestiwn syml: a wnaiff Llywodraeth Cymru roi sicrwydd na fydd y tir ar Rosydd Baglan yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu carchar newydd, waeth beth fydd canlyniad y trafodaethau ystyrlon hyn?

Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar y materion hyn ac rwyf wedi ei ateb. Rwy'n gwbl glir, a gobeithiaf fy mod wedi dweud wrthych yn glir pan gyfarfûm â chi i drafod y materion hyn ddiwedd y mis diwethaf, o ran y Llywodraeth hon, ni fyddwn yn rhoi caniatâd i'r tir hwnnw gael ei werthu i adeiladu carchar mawr ar Rosydd Baglan. Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny, ac ailadroddaf yr eglurder hwnnw y prynhawn yma. Yr hyn rwyf am ei weld yw ymagwedd gwbl wahanol tuag at gyfiawnder, a gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgysylltu â ni mewn ffordd fwy ystyrlon i sicrhau y gallwn gael ymagwedd gyfannol tuag at y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle y gall Llywodraethau weithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, a gallwn symud oddi wrth y strwythurau presennol nad ydynt yn addas at y diben. Nid yw'r setliad sydd gennym, yn fy marn i, ar gyfer datganoli cyfiawnder troseddol yn un sy'n addas at y diben nac yn un sy'n gweithio, nac yn un sy'n darparu'r system cyfiawnder troseddol yr hoffem ei chael yng Nghymru.

Diolch am yr atebion a roddwyd gennych. Hoffwn eglurhad pa un a oeddech yn golygu y byddai Rhosydd Baglan yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw restr sydd gennych. Credaf mai dyna sy'n peri'r dryswch. Heb ystyried y trafodaethau ystyrlon, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod hyd yn oed pe baech, er enghraifft—nid y buaswn yn hapus â hyn—yn llunio rhestr a fyddai'n awgrymu y dylid ystyried ardaloedd eraill yn ne Cymru, na fyddech wedyn yn cynnwys Rhosydd Baglan ar y rhestr honno? Rwy'n deall eich bod wedi cyfarfod ag AC, David Rees, a chynghorwyr eraill o Bort Talbot, lle y dywedoch yn y cyfarfod hwnnw fel rwy'n deall, er nad oeddwn yn bresennol i allu dyfynnu ohono, y byddech chi felly yn tynnu Rhosydd Baglan oddi ar y rhestr honno. Ond yn y llythyr dilynol at y cynghorydd hwnnw, ni roesoch hynny ar bapur. Felly, os na lwyddoch i wneud hynny bryd hynny, a allwch chi wneud hynny yma heddiw, fel y gallwn fod yn glir ynglŷn â'n cyfeiriad gyda'r ymgyrch, os nad unrhyw beth arall?

Rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud a'i dyhead am eglurder. Roeddwn wedi gobeithio fy mod wedi rhoi'r eglurder hwnnw. Ni fydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r datblygiad a gynigiwyd. Wel, nid ydym wedi derbyn cynnig ar gyfer Rhosydd Baglan gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwy'n ymwybodol o hynny. Nid ydym yn cefnogi datblygiad carchar mawr yn Rhosydd Baglan nac yn unman arall yn ne Cymru, neu ogledd Cymru, neu ganolbarth Cymru neu orllewin Cymru. Yr hyn rydym am ei weld yw math gwahanol o bolisi cyfiawnder. Roeddwn wedi rhagweld rhywfaint o gefnogaeth o'r meinciau gyferbyn i ymagwedd at gyfiawnder troseddol sydd wedi ei gwreiddio mewn lleoliaeth, mewn teulu, mewn adsefydlu, mewn hyfforddiant, mewn cefnogaeth, mewn cymuned. A buaswn wedi gobeithio y byddai pob gwleidydd, waeth beth fo'u lliwiau yn y Siambr hon, yn ein cefnogi wrth i ni fwrw ymlaen gydag ymagwedd o'r fath tuag at bolisi cyfiawnder troseddol.

14:30

Ysgrifennydd y Cabinet, aethoch o amgylch Cymru gyfan yn dweud i sicrwydd na fydd y Llywodraeth, fel y mae wedi'i llunio ar hyn o bryd, yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw—wel, carchardai mawr oedd yr hyn a ddywedoch chi, ond rwy'n cymryd eich bod yn siarad am unrhyw fath o garchar. [Torri ar draws.] Onid yw hynny'n wir? Felly, a allwch egluro'n union pa ganiatâd neu ba ymgysylltiad a fydd gennych dros yr hyn a fyddai'n cael ei adeiladu yng Nghymru? Oherwydd, fel y deallais eich ateb blaenorol i Aelod Plaid Cymru, fe ddywedoch na fyddech yn rhoi caniatâd i unrhyw garchardai mewn unrhyw ran o Gymru. Ac fe sonioch chi eich hun am ranbarthau eraill yng Nghymru ac eithrio Baglan. Felly, a wnewch chi fod yn hollol glir ynglŷn â'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi a'r hyn na fydd yn ei gefnogi mewn perthynas â chynigion yn ymwneud â'r ystâd garchardai newydd?

Roeddem yn glir iawn yn fy—[Torri ar draws.] Mae gennyf yma—. Rwyf am ddarllen—[Torri ar draws.] Rwyf am ddarllen—[Torri ar draws.] Rwyf am ddarllen—. Rwyf am ddarllen y datganiad ysgrifenedig a wneuthum ym mis Ebrill. Gadewch i mi ddweud hyn: yr hyn a ddywedais bryd hynny, a'r hyn y byddaf yn ei ddweud unwaith eto y prynhawn yma, yw na fyddai datblygu rhagor o garchardai yng Nghymru er budd Llywodraeth Cymru na phobl Cymru hyd nes y bydd gennym bolisi, polisi cyfiawnder troseddol, wedi'i gytuno â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid wyf am sefyll yma a dweud nad ydym am weld datblygu unrhyw lety diogel yn y wlad hon. Nid yw hynny'n wir. A byddai'n anghywir i mi ddweud hynny y prynhawn yma neu i wneud unrhyw ymrwymiadau ar hynny, oherwydd yr hyn rydym eisiau ei wneud yw cael gwared ar garchardai—[Torri ar draws.] Wel, efallai nad yw'r Aelod yn dymuno gwrando; efallai mai dyna pam y mae hi wedi drysu. Nid ydym eisiau gweld—[Torri ar draws.] Nid ydym eisiau gweld—[Torri ar draws.] Nid ydym eisiau gweld pobl mewn hen garchardai Fictoraidd. Rydym eisiau datblygu'r carchardai a'r ystâd ddiogeledd yng Nghymru. Rydym eisiau datblygu cyfleusterau penodol ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rydym eisiau cyfleusterau penodol ar gyfer troseddwyr ifanc. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn adsefydlu. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn cymorth cymunedol. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn addysg. Rydym eisiau gweld buddsoddi yn y modd rydym yn adsefydlu troseddwyr ifanc. Felly, rydym eisiau gweld llawer iawn o fuddsoddiad yn yr ystâd ddiogeledd yng Nghymru. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw carchardai mawr yn cael eu gorfodi ar y wlad hon heb bolisi cyfiawnder troseddol cyfannol sy'n sylfaen i'n huchelgeisiau a'n gweledigaeth ar gyfer y maes polisi hwn. Ac rwy'n dadlau y byddai'r rhan fwyaf o bobl eisiau gweld hynny yn ogystal.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy'n cael fy nhemtio i fynd ar drywydd hyn eto, ond, na, ni wnaf hynny; ni fyddaf ond yn cythruddo pobl yma. [Chwerthin.] Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers sefydlu tasglu'r Cymoedd i fynd i'r afael â thlodi yn y Cymoedd. A allwch roi enghraifft i ni, enghraifft glir, o ran pa un peth, yn rhan o'r trafodaethau hyn, sydd wedi newid polisi'r Llywodraeth ers sefydlu tasglu'r Cymoedd?

Rwyf wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall cyn toriad yr haf ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau yn rhan o'r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd y llynedd. Mae'r Aelod yn gofyn am un enghraifft. Hoffwn dynnu sylw at ddatblygiad y saith hyb strategol rydym wedi'u cyhoeddi ledled rhanbarth y Cymoedd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond onid realiti'r sefyllfa yw bod hwn yn gynllun arall gan Lywodraeth Cymru i gicio'r can i lawr y ffordd fel nad oes rhaid i chi ymdrin â chanlyniadau eich diffyg gweithredu ar dlodi ac anghydraddoldeb? Mae gennych gyllideb lai ac nid oes gennych unrhyw reolaeth dros les, ac ymddengys nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw ewyllys o gwbl i hyd yn oed geisio cael elfennau amrywiol o les wedi'u datganoli, er bod Cadeirydd Llafur y pwyllgor cydraddoldeb yn dweud y dylai fod gennym rai pwerau dros weinyddu lles. Byddai Llywodraeth ddifrifol, gydag awydd go iawn i ddatrys problemau anghydraddoldeb a thlodi, yn llamu at y cyfle i gael rhywfaint o ddylanwad dros les, ond nid y Llywodraeth hon mae'n debyg. Onid yw'n wir fod tasglu'r Cymoedd wedi datblygu i fod yn ffordd arall i chi edrych ar y materion a siarad am y materion yn hytrach na chyflawni ar y materion penodol hyn?

Credaf y byddai llawer ohonom sy'n cynrychioli seddi yn y Cymoedd yn gobeithio y byddai Plaid Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon yn hytrach na chwilio am ddatganiadau bachog a datganiadau i'r wasg yn unig. Gadewch i mi ddweud hyn: o ran y buddsoddiad—[Torri ar draws.] O ran y buddsoddiad—[Torri ar draws.] O ran y buddsoddiad rydym yn ei wneud drwy holl gymunedau Cymoedd de Cymru, rydym wedi llunio—. Rydym wedi llunio rhaglen uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi ym mhobl ac yng nghymunedau Cymoedd de Cymru. Rydym wedi cyhoeddi cynllun cyflawni, sy'n cynnwys targedau ac amcanion clir ynghyd ag amserlenni. Byddwn yn cael ein dwyn i gyfrif gan y bobl mewn perthynas â chyflawni'r uchelgeisiau hynny. Ac yn olaf, gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru: nid oedd y cynllun a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd yn gynllun a ysgrifennwyd ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays. Ni chafodd ei ysgrifennu gan weision sifil na chan Weinidogion hyd yn oed. Cafodd ei ysgrifennu gan bobl y Cymoedd, mewn cymunedau y buom yn cyfarfod, yn trafod ac yn dadlau â hwy, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, drwy gydol yr amser y buom yn cyflawni yn y modd hwn. A'r hyn rydym wedi'i wneud yw cyflwyno cynllun, nad yw ar gyfer y Cymoedd, ond sydd o'r Cymoedd.

14:35

Diolch i chi am yr ateb, ond gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth am ychydig funudau, gawn ni? Cymunedau yn Gyntaf—wedi'i ddiddymu, heb unrhyw gynllun newydd yn ei le, fel y gall y gyllideb gael ei harllwys i byllau diwaelod yn y grant cynnal refeniw neu i feysydd eraill sy'n cael trafferth dod o hyd i gyllid ar hyn o bryd, fel y byrddau iechyd. Y strategaeth tlodi plant—wedi'i diddymu, fel y gallwch osgoi gorfod ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am fethu â chyrraedd y nodau. Rydym hyd yn oed wedi gweld grantiau ar gyfer gwisg ysgol yn cael eu diddymu a'u symud, rhywbeth a allai danseilio'r grant Cefnogi Pobl yn ddifrifol. Dywedodd The Independent, ym mis Mawrth, fod Cymru yn dioddef yn sgil tlodi, gyda 700,000 o bobl mewn tlodi cymharol. Mae'n sgandal. Cafodd y Llywodraeth hon ei beirniadu y llynedd, unwaith eto, gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, am wrthod targedau tlodi, gan eich bod wedi dweud bod tlodi'n fater i bob adran. Eto i gyd, nid yw'n ymddangos bod llawer o weithredu'n digwydd mewn adrannau unigol ar y mater hwn. Os yw tlodi'n fater sy'n berthnasol i bob adran, mae angen strategaeth fanwl wedi'i thargedu i gysylltu'r holl bethau hyn. Y gwir amdani yw bod trechu tlodi wedi disgyn oddi ar agenda'r Llywodraeth hon—nid oes unrhyw awydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau strwythurol cynhenid sydd wedi gwneud tlodi'n rhan annatod o fywyd mewn llawer o leoedd, ac yn hytrach rydych yn gobeithio bod tasgluoedd a mentrau trydydd sector heb eu hariannu'n ddigonol yn ddigon i wneud iddi ymddangos fel pe bai rhywbeth yn cael ei wneud. Nid rhywbeth i'w gynnwys mewn datganiad i'r wasg yw hwn, ond rhywbeth i fod o ddifrif yn ei gylch. O ystyried diffygion sylfaenol Cymunedau yn Gyntaf, buaswn wedi gobeithio y byddech wedi dysgu o hynny.

Buaswn yn awgrymu'n dyner iawn fod yr Aelod, yn hytrach na darllen cwestiynau a baratowyd ymlaen llaw, yn gwrando ar fy atebion, ac yn ymgysylltu ar y sail honno. Fy awgrym i—[Torri ar draws.] Fy awgrym i'r Aelod dros Orllewin De Cymru fyddai iddi ddarllen y cynllun cyflawni, darllen yr ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud, darllen yr  uchelgeisiau rydym wedi'u disgrifio, darllen yr amcanion rydym wedi'u gosod i'n hunain, ac yna gofyn i ni a ydym yn cyflawni'r uchelgeisiau hynny ai peidio. Fe ofynnoch chi am strategaeth—cyhoeddwyd un gennym fis Tachwedd diwethaf; fy awgrym i'r Aelod yw y dylai ei darllen.

Diolch, Lywydd. Wel, mae'n hanfodol y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi darparwyr y sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar rheng flaen allweddol, ac rwy'n gwybod eich bod yn cytuno eu bod yn cynnal miloedd o fywydau ac yn arbed miliynau i'r gwasanaethau statudol. Ond yn yr un modd, pan fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ariannol, mae'n hanfodol fod diwydrwydd dyladwy ar waith mewn perthynas â rheolaethau ariannol ac adnoddau dynol. O ystyried eich cyfrifoldeb dros y sector gwirfoddol yng Nghymru, a'r ffaith bod Mind Cymru wedi derbyn bron i £1.6 miliwn o arian Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, pa gamau rydych wedi'u cymryd ers i BBC Wales gyhoeddi honiadau fis diwethaf gan gyn-weithwyr Mind Cymru o fwlio, bwlio systemig, a oedd yn aml yn cynnwys staff yn cael eu hynysu a'u tanseilio—roedd cylch dieflig o golli hyder wedi cael effeithiau niweidiol ar berfformiad, gan arwain at feirniadaeth bellach; bwlio cyfrwys—roedd yn teimlo fel pe bai cyflogwr yn chwarae gemau meddyliol; cael eu gwneud i deimlo'n ynysig ac yn ddiwerth ar ôl adrodd wrth gyflogwr eu bod yn teimlo dan straen; ac mae llawer mwy o bobl o swyddfeydd Mind lleol wedi cysylltu â BBC Wales ers hynny, i adrodd ac adleisio pryderon am y diwylliant y maent yn honni ei fod yn niweidiol ac yn anghefnogol?

Gwelais yr adroddiadau hynny, ac fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, roedd yr hyn a ddarllenais ac a welais yn peri pryder mawr i mi. Wrth gwrs, materion i Mind Cymru eu datrys ydynt, yn hytrach na'r Llywodraeth hon. Ac os nad ydynt yn gallu datrys y materion hynny, yna yn amlwg byddai'n ddyletswydd ar y Comisiwn Elusennau i fynd i'r afael â'r materion hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru.

Wel, rwy'n deall hynny'n iawn, ond fe fyddwch yr un mor ymwybodol a minnau, o'ch amser yn y Cynulliad hwn, o'r nifer o achlysuron y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ariannol i gyrff trydydd sector sydd wedi dioddef honiadau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei dwyn i gyfrif yn y pen draw am ei methiant i ymyrryd. O ystyried yr ymrwymiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gobeithio y gallwch gadarnhau y dylech fod yn gwneud rhai ymholiadau o leiaf, nid yn unig mewn perthynas â'r elusen ond mewn perthynas â dioddefwyr honedig, i sefydlu beth sy'n digwydd gyda'ch arian mewn gwirionedd. Oherwydd rwyf wedi clywed mai un o'r pethau sy'n sbarduno'r bwlio honedig yw pan fo staff yn Mind Cymru neu swyddfeydd Mind lleol ar draws Cymru yn siarad yn gyhoeddus neu'n siarad gyda phobl fel ni ynglŷn â lle mae'r cyllid a godwyd ar gyfer Mind Cymru yn mynd mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed, o'r £41.3 miliwn a aeth i gangen genedlaethol Mind—cangen y DU—ym mis Mawrth 2017, £1.2 miliwn yn unig a wariwyd yn uniongyrchol ar y rhwydwaith o 130 o'r swyddfeydd Mind lleol ledled Cymru a Lloegr sy'n cyflawni prosiectau ar lawr gwlad yn eu cymunedau, a'u bod wedyn, ar ôl cael arian gan ddarparwyr grantiau fel Llywodraeth Cymru ac eraill mewn cystadleuaeth uniongyrchol â swyddfeydd Mind lleol, yn cymryd cyfran o'r ffioedd rheoli, gan greu swyddi ar gyfer pobl mewn swyddfeydd ac yna'n cynnig gwaith i lond llaw yn unig o swyddfeydd Mind lleol, a hynny am ychydig iawn o arian, tra bo'r swyddfeydd Mind lleol sy'n darparu gwasanaethau yn cael trafferth dod o hyd i gyllid.

Fel rwy'n pwysleisio, ac maent wedi gofyn i mi—neu mae rhai pobl wedi gofyn i mi—bwysleisio, un o swyddfeydd UK Mind yw Mind Cymru, ac mae'r arian sy'n cael ei godi yng Nghymru gan sefydliadau fel Llywodraeth Cymru—bron i £1.6 miliwn dros dair blynedd—yn cael ei ddefnyddio i gystadlu â phrosiectau Mind lleol, fel y grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid, gan roi'r rhwydwaith cyfan mewn perygl.

14:40

Mae'r Aelod wedi codi nifer o faterion gwahanol. Yn amlwg, mater ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yw'r modd y darparir y gwasanaethau hynny, ac mae yn ei le a bydd wedi clywed y cwestiynau ac wedi nodi'r materion hynny. Rwyf am ailadrodd wrth yr Aelod, er ei fod yn codi materion difrifol iawn ac er nad wyf eisiau iddo feddwl nad ydym o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn, mae'n briodol mai'r elusen ei hun, yn y lle cyntaf, ac yna rheoleiddiwr yr elusen, y Comisiwn Elusennau, sy'n gyfrifol am y materion hyn. Os oes ganddo bryderon ynglŷn â materion penodol lle mae arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei gamwario neu ei ddyrannu'n anghywir mewn unrhyw ffordd, yna yn amlwg dylai godi'r materion hynny gyda Llywodraeth Cymru a darparu'r dystiolaeth ategol i gefnogi hynny. Rwy'n siŵr, pe bai'n gwneud hynny, y byddai gan y Gweinidog perthnasol ddiddordeb mawr mewn gweld yr wybodaeth honno.

Wel, yn amlwg, rwy'n defnyddio'r cyfle hwn i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru. Am resymau cyfrinachedd, ni allaf ddatgelu pa gamau gweithredu pellach y gellid eu cymryd na'r wybodaeth rwy'n ymwybodol ohoni a allai fod o fewn y camau gweithredu pellach hynny. Rwy'n rhannu'r wybodaeth y cefais fy awdurdodi i'w rhannu ar hyn o bryd. Unwaith eto, pa gamau, o ystyried mai chi sy'n gyfrifol am y sector gwirfoddol yng Nghymru, rydych yn eu cymryd i sicrhau bod arian a godir yng Nghymru i gefnogi elusennau lleol yn aros yng Nghymru mewn gwirionedd, ac yn cael ei wario gan yr elusennau lleol hynny? Rwyf wedi clywed nad yw pobl yn sylweddoli bod yr holl arian a godir yn lleol gan Mind Cymru yn mynd i'r corff DU i ddechrau, nid i'w swyddfeydd Mind lleol, a bod y digwyddiadau codi arian a hysbysebir fel rhai sy'n codi arian ar gyfer Mind yn cynhyrchu incwm sy'n mynd i gyd i Mind yn genedlaethol, arian anghyfyngedig y bydd Mind yn penderfynu wedyn sut i'w wario, ac maent yn dweud na allant addo budd uniongyrchol i swyddfeydd Mind lleol yng Nghymru. Yn wir, o'u cyllideb gyfan, £4.3 miliwn yn unig a wariodd Mind ar y rhwydwaith y llynedd, neu 20 y cant o'u gwariant elusennol. Ac fel y dywedais ar y dechrau, £1.2 miliwn yn unig o hwnnw a aeth yn uniongyrchol i swyddfeydd Mind lleol.

Chi yw Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y sector gwirfoddol. Mae gennym rwydwaith gwych o 20 swyddfa Mind lleol ledled Cymru yn brwydro i oroesi oherwydd bod yr arian y mae pobl Cymru am resymau da yn ei roi i'w cefnogi yn gadael Cymru, a chyfran fechan yn unig sy'n dychwelyd i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn lleol. Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet—ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno—mae hwn yn fater o bryder i chi yn ogystal â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion hyn yn y ffordd y mae wedi'i wneud. A gaf fi ddweud hyn wrtho? Mater i Mind yw sut y mae'r sefydliad hwnnw'n trefnu ei fusnes, nid mater i'r Llywodraeth hon. Bydd gan bob ffrwd gyllido gyfres o amodau grant ynghlwm wrthi, ac nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth wrth law sy'n profi nad yw Mind yn bodloni'r rhwymedigaethau y mae wedi ymrwymo iddynt ar ran Llywodraeth Cymru. Fe ddywedaf hyn, Lywydd, os oes gan yr Aelod unrhyw faterion sy'n peri pryder sylweddol iddo—mae'n amlwg bod ganddo—yna gallai fod yn werth iddo ysgrifennu ataf fel y gallwn ddeall beth yw'r materion hynny, ac fel y gallwn ddeall pa gamau posibl y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwnaethoch ddatganiad yr wythnos diwethaf ar dai cost isel yng Nghymru—perchentyaeth cost isel, dylwn ddweud, yn benodol—ac fe gawsom drafodaeth ddiddorol, roeddwn yn teimlo, yn dilyn hynny ac fe gafodd nifer o faterion eu codi. Un ohonynt oedd y posibilrwydd fod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn rhai achosion, yn codi'n gyflymach na'r rheini yn y sector rhentu preifat. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn ystyried honno'n broblem arbennig ar hyn o bryd.

14:45

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, a gallaf gadarnhau bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yn un o'r materion penodol rydym wedi gofyn i'r adolygiad o dai cymdeithasol edrych arnynt. O ran pennu lefelau rhent ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt wneud gwaith ymchwil er mwyn ein cynghori, a gofynnais yn benodol i'r brifysgol ystyried fforddiadwyedd yn rhan o'r gwaith y maent yn ei wneud yno a chynnal cyfarfodydd bwrdd crwn gyda thenantiaid yng ngogledd a de Cymru er mwyn deall pa faterion sy'n wynebu tenantiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â fforddiadwyedd rhenti.

Diolch am yr ateb hwnnw. Credaf fod honno'n fenter dda, ac yn arbennig yr ymgynghoriad â thenantiaid, felly edrychaf ymlaen at ganlyniad hynny. Mater arall a grybwyllwyd yr wythnos diwethaf—mewn gwirionedd, fe roesoch enghraifft o arfer da a oedd yn digwydd gyda chymdeithas dai benodol, Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, a nodwyd y defnydd o brentisiaethau gennych yn arbennig. Nawr, mae'r sector adeiladu wedi codi pryderon nad oes digon o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi i fod yn adeiladwyr tai a bod hynny weithiau yn atal cynnydd adeiladu tai yng Nghymru, fel yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, a ydych yn gweld bod gan eich adran rôl i'w chwarae yn ailadrodd arfer da Cartrefi Melin, yn enwedig o ran eu defnydd o brentisiaethau ledled Cymru?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn awyddus iawn i ailadrodd llwyddiant Cartrefi Melin ac i roi'r cyfle i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgymryd â'r math o waith y mae Cartrefi Melin wedi bod yn ei wneud. Dyma un o'r rhesymau pam roedd pasio ein Bil landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y Cynulliad ddoe mor bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau â'u gwaith, sy'n ymwneud â mwy nag adeiladu cartrefi, mewn gwirionedd; mae'n ymwneud â chreu swyddi a chyfleoedd o fewn cymunedau yn ogystal. Roedd gennyf ddiddordeb yng ngwaith ymchwil diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach, a gafodd ei ddosbarthu i Aelodau'r Cynulliad, ac a ddangosai'r math o gyflogau y gall pobl ifanc eu hennill os ydynt yn gweithio o fewn y sector adeiladu, gan ddechrau fel prentis o bosibl, ac mewn gwirionedd, roedd cyflogau o'r fath yn ddeniadol iawn, a chredaf y byddai'n dipyn o agoriad llygad i bobl ifanc ystyried y mathau o yrfaoedd sydd i'w cael yn y diwydiant adeiladu. Rwyf hefyd yn awyddus i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu, ac mae hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arno fel rhan o'i gwaith ar bynciau STEM.

Ie, credaf ei bod yn gywir y gall llawer o bobl ennill mwy o arian o bosibl drwy gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn hytrach na dilyn llwybr addysg brifysgol, efallai, oherwydd mae'r fantais ariannol o gael gradd yn gyfyngedig y dyddiau hyn gan fod cynifer o bobl yn meddu ar radd prifysgol mewn gwirionedd. Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud—ac rwy'n tueddu i gytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn a ddywedoch chi—i ba raddau rydych yn cysylltu gyda'r Gweinidog addysg, ac Eluned Morgan hefyd, o bosibl, y Gweinidog sgiliau, i gydgysylltu dull o weithredu fel bod mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog i gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn y dyfodol?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud bod gwerth mewn dysgu a phrofiad prifysgol bob amser, ond mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod parch cydradd rhwng sgiliau academaidd a sgiliau mwy ymarferol yn ogystal. Felly, yn sicr, mae mwy waith i'w wneud o ran canfyddiadau o yrfaoedd ym maes adeiladu a meysydd eraill, a gallaf gadarnhau fy mod wedi bod yn gweithio'n agos gydag Eluned Morgan yn ei rôl cyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod tai'n darparu llwyfan i bobl ifanc gael cyfle i weithio yn y diwydiant tai ac adeiladu, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnig dilyniant a chyfleoedd a rhagolygon gwaith da ar gyfer y dyfodol.

'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl'

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adborth a gafwyd gan lywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad y papur gwyrdd, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl? OAQ52115

Mae'n amlwg fod gan awdurdodau lleol eu safbwyntiau eu hunain ar ddyfodol llywodraeth leol, a mater i'w harweinwyr yw codi'r safbwyntiau hyn yn ein trafodaethau a'n dadleuon parhaus, a thrwy ymateb ffurfiol i ymgynghoriad y Papur Gwyrdd ar gryfhau llywodraeth leol yng Nghymru.

14:50

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dweud ei bod yn amlwg fod gan awdurdodau lleol eu safbwyntiau eu hunain ar y broses hon yn un o'r tanddatganiadau mwyaf rwyf wedi'u clywed yn y Siambr hon hyd yma. Ond rwy'n cytuno â chi ar hynny.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd dadl y cymeroch chi ran ynddi—fel y gwnaeth llawer o ACau—ar y cynigion yn y Papur Gwyrdd, ac yn benodol y pryderon ynghylch y cynigion i uno awdurdodau lleol. A ydych wedi cael amser i ailystyried y cynigion yng ngoleuni'r ddadl honno ac yng ngoleuni'r adborth a gafwyd gan lywodraethau lleol ar draws Cymru? Ac a ydych yn credu y byddai'n adeg dda i fynd yn ôl i'r cychwyn a chyflwyno cynigion y gall awdurdodau lleol eu hunain eu cefnogi, gan edrych efallai ar y posibilrwydd o undeb agosach o fewn llywodraeth leol, cydweithrediad cryfach, a rhoi uno gwirfoddol yn ôl ar yr agenda, gan fod rhai awdurdodau lleol wedi edrych ymlaen at ddilyn y trywydd hwnnw?

I ateb ei gwestiwn olaf, wrth gwrs, uno gwirfoddol oedd opsiwn 1. Felly, mae'r Papur Gwyrdd yn dweud hynny'n glir. Ac yn sicr, rwyf wedi dweud ar sawl achlysur mai fy niben yw ceisio cytundeb lle bynnag y bo modd yn hytrach na gorfodi.

Rwyf wedi amlinellu gweledigaeth yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, o lywodraeth leol gryfach, fwy grymus gyda mwy o bwerau a mwy o allu i ddylanwadu ar ddyfodol y cymunedau y mae'n ceisio eu cynrychioli. Nid wyf yn dymuno lleihau llywodraeth leol mewn unrhyw ffordd. Fy amcan yw cryfhau llywodraeth leol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi diogelu cyllid llywodraeth leol yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn diogelu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus ac er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r modd y darparir y gwasanaethau hynny. Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ceisio consensws, neu geisio cytundeb, ynglŷn â sut yr awn ati i wneud hynny yn y dyfodol.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch llywodraeth leol Cymru ar y ffordd y maent wedi ymdopi â'r lleihad yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn ac ar ansawdd y ddarpariaeth y maent yn ei darparu er gwaethaf y toriadau hynny? Ac a wnaiff ymrwymo i gydweithio â llywodraeth leol Cymru yn yr un modd â'i ragflaenydd?

Buaswn bob amser yn ceisio cydweithredu â llywodraeth leol, ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o wneud hynny—gadewch i mi ddweud hyn. Ond rwyf hefyd am ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol rhag elfennau gwaethaf y polisi cyni a fabwysiadwyd ar draws y ffin yn Lloegr. Gwn fod gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe ddiddordeb mawr yn y materion hyn, a bydd yn ymwybodol nad oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru wedi dioddef yr un lefel o doriadau ag a welwyd ar draws y ffin yn Lloegr, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Ond wrth gwrs, rydym eisiau gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Ond yr hyn y buaswn yn hoffi ei wneud yw gweithio'n gydweithredol er mwyn cyflawni'r weledigaeth orau bosibl ac nid y lefelau isaf sy'n ofynnol yn unig.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i ganmol gwaith brwd cynghorau Cymru ar hyd a lled y wlad, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn etholaeth Islwyn, sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cryf bob dydd yn wyneb toriadau dramatig i'w cyllidebau, diolch i Lywodraeth Dorïaidd y DU? Toriadau real o un flwyddyn i'r llall i Gymru ers 2010. A chyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi er mwyn sicrhau y bydd lleisiau profiadol arweinwyr llywodraeth leol, fel arweinydd Cyngor Caerffili, Dave Poole, yn cael eu clywed a'u parchu wrth iddynt reoli'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, yn enwedig mewn cyfnod mor anodd er gwaethaf amddiffyniad Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol? Ac a wnaiff barhau i weithio gydag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd â menyw, Debbie Wilcox, wrth y llyw am y tro cyntaf, i barhau i ddarparu ar gyfer Cymru?

Yn sicr. Cyfarfûm â Debbie yr wythnos diwethaf am sgwrs ynglŷn â'n gweledigaeth o lywodraeth leol wedi'i grymuso a'i chryfhau yn y dyfodol, ac rwy'n cyfarfod â hi eto yfory yn y cyngor partneriaeth er mwyn parhau â'r sgyrsiau hynny.

Hefyd rwyf wedi cael sgyrsiau cadarnhaol iawn, a phleserus os caf ddweud, gyda'r Cynghorydd Poole, arweinydd Caerffili. Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn cytuno â llawer iawn o'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'i fod yn cydnabod nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy. Credaf fod y rhan fwyaf o arweinwyr awdurdodau lleol yn deall nad yw'r strwythurau cyfredol sydd gennym mewn llywodraeth leol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, beth bynnag am y problemau gyda'r amlen ariannol sydd ar gael i ni.

Yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yn awr yw cynnal sgwrs ynglŷn â sut y byddwn yn cryfhau llywodraeth leol yn y dyfodol. Nid yw proses y Papur Gwyrdd a'r ddadl a'r sgwrs rydym yn ei chael yn ymwneud â thanseilio a lleihau rôl llywodraeth leol, ond yn hytrach, mae'n ymwneud â chryfhau rôl llywodraeth leol i fod yn fwy pwerus yn y dyfodol nag y bu yn y gorffennol.

14:55
Gwasanatheau Cyhoeddus a Nodau Llesiant

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni nodau llesiant drwy wasanaethau cyhoeddus? OAQ52138

Ar hyn o bryd, mae cyrff cyhoeddus yn paratoi eu hadroddiadau blynyddol cyntaf o dan y Ddeddf. Bydd yr adroddiadau hyn yn nodi sut y mae cyrff cyhoeddus yn bodloni'r amcanion y maent wedi'u pennu, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy i wneud cynnydd pellach tuag at ein nodau llesiant cyffredin.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, oherwydd mae sicrhau llesiant yn ein holl bolisïau yn amlwg yn her fawr a fydd yn wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd angen cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a fydd, yn eu tro, yn eu helpu i roi ffocws clir ar lesiant cymunedol.

Fel y byddwch yn deall, mae gan wasanaethau cyhoeddus gyfrifoldeb cyfunol enfawr i ddarparu cartrefi, hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a sicrhau bod y GIG yn parhau i drawsnewid i fod yn wasanaeth llesiant yn hytrach na gwasanaeth afiechyd yn unig. A ydych yn cytuno, felly, yn arbennig yn y cyfnod hwn o gyni, fod yn rhaid cefnogi llesiant personol a chymunedol, nid yn unig fel syniad haniaethol ond fel ysgogiad economaidd allweddol yn ein cymunedau, ac y dylem roi llawer mwy o bwyslais ar gyflawni cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n rhoi ffocws clir ar lesiant cymunedol a fydd yn gwella bywydau pobl yn awr ac yn y dyfodol?

Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy'n cytuno â chynsail y cwestiwn a'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt? Mewn sawl ffordd, credaf mai gwasanaethau cyhoeddus yw sylfaen ein gwareiddiad. Mae sut yr ymdriniwn â phobl a sut y darparwn wasanaethau ar gyfer, weithiau, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn dweud cyfrolau am bwy ydym fel gwlad a phwy ydym fel pobl.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n cytuno â'r hanfodion sy'n sail i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer darparu dull mwy cyfannol o ddeall sut i sicrhau gwelliannau yn ein cymunedau. Hoffwn weld sut y gallwn ddod â dangosyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol at ei gilydd i ddarparu darlun llawer mwy cyfoethog o sut y deallwn ein cymunedau yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld a darllen y nodau llesiant a'r polisïau llesiant sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, a pha mor bell y mae awdurdodau lleol ac eraill yn gallu dod tuag at gyflawni'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw.

Un o'r nodau llesiant yw creu Cymru iachach. Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae Cymru'n wynebu epidemig diabetes tra bod adroddiad blynyddol diweddaraf y Rhaglen Mesur Plant Cenedlaethol yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar rôl gwasanaethau cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gordewdra a diabetes, gan helpu i gyrraedd y nod o sicrhau Cymru iachach yn y dyfodol? Diolch.

Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i wella iechyd ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n falch iawn o glywed fy mod wedi ymrwymo i ddigwyddiad milltir ddyddiol mewn ysgol yn fy nghymuned sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn—efallai y bydd yn cymryd mwy na diwrnod i mi ei gwblhau, ond yn sicr dyna fy uchelgais. Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r materion hyn.

A gadewch i mi ddweud hyn: gan siarad, efallai, fel Aelod dros Flaenau Gwent, pan ymladdais fy etholiad cyntaf yn yr etholaeth, teimlwn mai'r economi oedd dechrau a diwedd y materion a oedd yn ein hwynebu fel cymuned. Pe bawn yn sefyll am y tro cyntaf unwaith eto, buaswn yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd ac yn canolbwyntio ar rai o'r heriau iechyd cyhoeddus go iawn sydd gennym yn y gymuned rwy'n ei chynrychioli ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Credaf fod mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hynny sy'n ymwneud â iechyd y cyhoedd yn benderfynydd allweddol i ddangos a yw'r nodau, y dangosyddion a'r cerrig milltir llesiant cenedlaethol yn llwyddiant go iawn ar gyfer ein cymunedau.

A chithau hefyd yn gorff cyhoeddus, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac, o dan ddyletswyddau'r Ddeddf yma, er mwyn cyrraedd y nodau llesiant, mae’n rhaid i chi ymwneud â’ch ffwythiannau mewn ffordd sy’n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ym mhob agwedd. Mae hynny wedi’i ymgorffori yn y Ddeddf a hefyd yn Neddf Cymru, sydd wedi’i newid gan y Ddeddf. Nawr, nid ydym ni'n cytuno ar effaith y Bil tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb rhynglywodraethol, ond mae’n rhaid ichi gytuno fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol o dan y cytundeb yna—rŷm ni’n gallu cytuno ar hynny, mae’n siŵr gen i. Felly, a fedrwch chi esbonio sut y byddwch chi’n sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn cael ei gadw a'i grisialu mewn unrhyw fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol, gan fod hwnnw nawr bellach yn rhan o'r gwaith yr ydych chi'n cytuno ei wneud gyda Llywodraeth San Steffan? Yn benodol, a fydd gyda ni fel Cynulliad yr hawl i bleidleisio ar gynnwys y fframweithiau hyn wrth ichi negodi hynny er lles y nodau llesiant?

15:00

Mae cyfraniadau Gweinidogion Cymru ym mhob un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig wastad yn seiliedig ar approach polisi'r Llywodraeth yma. Mae hynny ei hun wedi ei greiddio yn egwyddorion y Ddeddf rydych chi wedi ei disgrifio. Felly, mae pob un rhan o'n polisïau ni a'r ffyrdd gwahanol y byddwn ni'n gwireddu ein huchelgeisiau dros ein gwlad yn rhan o, ac yn ffynnu o, yr un commitment i'r Ddeddf ac i'r egwyddorion sy'n rhan ohoni. Felly, mi fydd Gweinidogion Cymru ym mhob un achos, nid jest tra ein bod ni'n delio â'r Deyrnas Unedig, ond pob un cyfle rydym ni'n ei gael, yn gwireddu ein gweledigaeth a sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol ohoni hi. 

Gweinyddu Lles

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i geisio datganoli gweinyddu lles? OAQ52145

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi camau i ddatganoli budd-daliadau lles na'u gweinyddiaeth i Gymru. Fel mater o egwyddor, dylai pob un ohonom allu hawlio'n gyfartal gan ein gwladwriaeth les. Dylid diwallu anghenion holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ble bynnag y maent yn byw.

Ar yr un pryd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cau swyddfeydd lleol, mae credyd cynhwysol yn magu gwraidd yng Nghymru. Erbyn 2022, bydd 400,000 o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar gredyd cynhwysol. Yn y gorffennol, ac eto heddiw, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwrthod y cyfle i ddatganoli gweinyddu lles, ac rydych wedi honni y byddai'n rhy gostus. Mae'r ffigur o £266 miliwn a ddyfynnwyd gan Weinidogion fel cost datganoli lles yn gwbl gamarweiniol, oherwydd mae'r ffigur hwnnw'n seiliedig ar gostau a dalwyd i Lywodraeth yr Alban gan San Steffan i weinyddu'r holl bwerau newydd a roddwyd iddynt o dan Ddeddf yr Alban 2016, nid lles yn unig. Felly, gadewch i ni fod yn glir: nid yw'r gost yn rhwystr yma. Rydym wedi clywed y prynhawn yma sut y mae eich Llywodraeth yn honni ei bod yn lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, ond nid yw hynny'n wir. Yn olaf, felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â Phlaid Cymru i alw am ddatganoli gweinyddu lles fel y gallwn liniaru rhai o effeithiau gwaethaf polisïau lles creulon San Steffan?

Wel, rwy'n credu bod hyn yn dangos anghytundeb sylfaenol, mewn gwirionedd, rhyngom ni ein hunain a rhwng ein pleidiau mewn perthynas â lle Cymru yn y DU, oherwydd mae hon, wrth gwrs, yn Deyrnas Unedig sy'n caniatáu i ni gyfuno'r risgiau a rhannu'r manteision. Ac mae'n wir bod y dull o ddatganoli budd-daliadau lles yn yr Alban wedi trosglwyddo'r risg sy'n gysylltiedig â'r galw am fudd-daliadau lles i'r Alban, ac mae'r risg yno'n dangos bod gofynion budd-daliadau yn yr Alban yn symud yn gyflymach nag y maent yn ei wneud yn Lloegr. Felly, i Gymru, byddai hyn yn peri risg sylweddol iawn i ni. Ac mae arnaf ofn y byddai costau gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau oddi ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen. Mae'r ffigurau hynny'n gywir. O ran yr Alban, mae'n £66 miliwn am weinyddu a thaliad untro o £200 miliwn am weithredu'r holl bwerau lles sydd newydd eu datganoli—[Torri ar draws.] Ond nid ydyw, oherwydd maent oll yn gysylltiedig â phwerau lles, ac yn bendant, dylai'r adnoddau hynny gael eu defnyddio ar y rheng flaen.

Mewn gwirionedd, gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud: nid yw Llywodraeth yr Alban yn gweinyddu taliadau ar gyfer credyd cynhwysol. Cânt eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae Deddf yr Alban 2016 yn rhoi pwerau i Lywodraeth yr Alban gynnig opsiynau hyblyg i hawlwyr, ac mae'r rhain yn cynnwys talu am elfennau costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol a thaliadau ddwywaith y mis ar ôl y taliad cyntaf hwnnw. Mae'r holl bethau hyn ar gael i bobl sydd ar y credyd cynhwysol yng Nghymru. Yr hyn a wnawn yw ceisio sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol i bobl sy'n cael credyd cynhwysol.

Gwasanaethau Swyddfa Bost yn Arfon

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau swyddfa bost yn Arfon? OAQ52136

Mae swyddfeydd post yn darparu mynediad at amryw o wasanaethau pwysig sydd eu hangen ar ein cymunedau. Fodd bynnag, nid yw materion yn ymwneud â swyddfeydd post wedi eu datganoli. 

15:05

Fe gaewyd y swyddfa bost ym Mangor Uchaf yn ddirybudd ychydig wythnosau yn ôl, gan olygu bod busnesau, myfyrwyr a thrigolion lleol yn gorfod dibynnu ar wasanaeth symudol mewn maes parcio sydd ond ar gael am awr yr wythnos. Mae hwnnw yn gyfan gwbl annerbyniol. Mae'n hanfodol bod gan y swyddfa bost ym Mangor Uchaf gartref parhaol i'r dyfodol. Rwy'n derbyn nad ydy o yn fater wedi'i ddatganoli, ond mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth yma i sicrhau bod Swyddfa'r Post yn cyflenwi gwasanaethau priodol i ddinasyddion ar draws Cymru. Rydw i'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny.

Rydw i'n ymwybodol o'r sefyllfa ym Mangor Uchaf, ac rydw i'n gallu dweud wrth yr Aelod dros Arfon bod hwn yn fater sydd yn cael ei ddelio ag ef. Ar hyn o bryd, mae Swyddfa'r Post yn delio gyda fe. Mae'n fater cytundebol; nid wyf i'n gallu dweud mwy na hynny. Rydw i'n ymwybodol bod yna wasanaethau amgen ar gael, ac nad yw hynny'n ddigonol ar gyfer anghenion y gymuned, oherwydd dim ond gwasanaeth symudol am un awr ar ddydd Mercher sydd yno. Ond, rydym ni wedi siarad gyda Swyddfa'r Post, ac rydym ni yn deall nad yw Swyddfa'r Post yn gallu cymryd unrhyw gamau ychwanegol nes bod yr ymchwiliad presennol wedi'i gwblhau.

Diwygio Llywodraeth Leol yng Ngorllewin Cymru

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru? OAQ52113

Fe wnes i osod ein gweledigaeth ar gyfer cryfhau llywodraeth leol mewn datganiad llafar ar 20 Fawrth, yn y Papur Gwyrdd sydd wedi’i gyhoeddi i ymgynghori arno fe, a hefyd yn ystod y ddadl ar 25 Ebrill.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod yn iawn fy mod yn gwrthwynebu'r cynigion i uno sir Benfro a dychwelyd i hen fodel Dyfed, oherwydd credaf y bydd yn cael gwared ar yr elfen 'leol' o lywodraeth leol. Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich atebion cynharach ar y mater hwn, ac fel rhan o gynlluniau ymgynghori eich Llywodraeth, rwy'n gobeithio'n fawr eich bod yn ymgysylltu â chynghorwyr, nid arweinwyr awdurdodau lleol yn unig, o ystyried yr effaith aruthrol y byddai eich cynigion yn ei chael ar eu cymunedau. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau penodol rydych wedi'u cael gyda chynghorwyr yr effeithir arnynt gan y cynigion ar gyfer gorllewin Cymru? A pha ymgysylltiad pellach rydych yn bwriadu ei gael er mwyn sicrhau eich bod o ddifrif, fel Llywodraeth, yn siarad â'r bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn?

Rwy'n hapus iawn i ddarparu adolygiad, os hoffech, neu ddadansoddiad o'n hymgysylltiad yn ystod y broses hon, i bob Aelod pan fydd y broses wedi'i chwblhau. Rwy'n hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno â'r Aelodau, ond rwyf am fynd gam ymhellach, efallai, na'r Aelod sy'n gofyn y cwestiwn. Credaf fod hwn yn fater i ni fel gwlad, fel pobl ac fel cymunedau. Nid wyf yn credu mai mater ar gyfer arweinwyr cyngor neu gynghorwyr yn unig ydyw. Credaf ei fod yn fater i bob un ohonom fel cymuned, er mwyn cael y sgyrsiau hyn a chael dadl ynglŷn â sut rydym eisiau strwythuro a datblygu ein gwasanaethau. Felly, byddwn, fe fyddwn yn siarad â chynghorwyr yn ogystal ag arweinwyr cynghorau, ond byddwn hefyd yn siarad â phobl o bob rhan o'r gymuned ledled ein gwlad.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol: dau gwestiwn, a'r cyntaf ohonyn nhw gan Suzy Davies.

Virgin Media yn Abertawe

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi? 166

Cyhoeddais ddiweddariad ar y mater hwn i'r Aelodau ddydd Gwener. Mae hwn yn newyddion siomedig iawn, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad y cwmni. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu tasglu er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer y gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad corfforaethol hwn.

Diolch i chi am eich ateb ac am eich llythyr, wrth gwrs. Credaf fod pob un ohonom yn falch o weld hwnnw. Fel y gwyddoch, mae Virgin Media wedi cyhoeddi cynlluniau i gau ei safle yn Abertawe, sy'n eithaf difrifol; rydym yn sôn am bron i 800 o swyddi yma, wedi'r cyfan. Ond y rheswm am hynny yw eu bod yn uno safleoedd, o wyth safle i bedwar safle. Wrth gwrs, mae dau o'r safleoedd hynny yn y Pilipinas ac yn India, felly mae'r cynigion i adleoli i'r lleoedd hyn yn eithaf chwerthinllyd. Mae hyd yn oed y cynigion i symud i Glasgow a Manceinion braidd yn uchelgeisiol, gawn ni ddweud.

Roeddwn eisiau gofyn i chi—. Mae gennyf dri neu bedwar o gwestiynau yma. Y cyntaf yw: nid wyf yn hollol glir pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig i Virgin Media yn y gorffennol. Gwn fod chwistrelliadau, gawn ni ddweud, wedi bod i'r economi leol yn 2013 ac yn 2015, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech egluro a oedd unrhyw gefnogaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac a oes unrhyw gyfran o hwnnw sy'n adferadwy, o gofio ei bod yn 2018 yn awr. Nid ydynt wedi bod yno mor hir ag y byddech wedi'i ddymuno.

Yn amlwg, byddwch wedi clywed y newyddion fod rhai aelodau o staff wedi clywed am hyn drwy'r wasg. Buaswn yn awyddus iawn i wybod pryd y cawsoch chi eich hun wybod. Gwn fod Dai Lloyd wedi sôn ddoe nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod am y peth pan ddigwyddodd hyn gyda Tesco yng Nghaerdydd. Felly, byddai hynny'n helpu, yn enwedig gan ein bod wedi bod yn awyddus iawn i glywed gennych yn y gorffennol, yn achos Tata a Ford, pa fath o sgyrsiau a gawsoch.

Gwelaf, o'ch llythyr, eich bod yn crybwyll tasglu, ac rydych newydd ei ailadrodd yn awr, ond nid wyf yn glir a ydych chi, neu'r Prif Weinidog hyd yn oed, o bosibl, wedi siarad yn uniongyrchol â'r rheolwyr. Os oes un ohonoch chi wedi gwneud hynny, buaswn yn arbennig o awyddus i glywed yr hyn y maent yn ei ddweud, gan gadw mewn cof—. Rwyf am eu dyfynnu yma, gyda'ch caniatâd, Lywydd. Mae'n dweud, am y ganolfan alwadau yn Abertawe yn benodol—a geiriau Virgin Media yw'r rhain:

Gan ddatrys problemau fel Sherlock, mae ein 850 arwr yn gwneud gwaith mor dda o reoli diffygion a rhoi cymorth technegol fel mai Abertawe yw canolfan ragoriaeth swyddogol Virgin Media ar gyfer y meysydd hynny. Nid ni yw'r unig rai sy'n credu ei bod yn wych. Mae Abertawe wedi ennill tomen o wobrau, gan gynnwys Canolfan Gyswllt y Flwyddyn Cymru yn 2012. Byddwn angen cwpwrdd arddangos mwy o faint.

Felly, fy nghwestiwn amlwg yw: pam nad oes un o'r pedair canolfan yn Abertawe? Ac rwy'n gobeithio eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw. Os nad ydych, hoffwn i chi ei ofyn yn weddol gyflym.

Felly, yn olaf, credaf y bydd pob un ohonom yn croesawu datganiad First Priority y byddant yn cynnig rhai swyddi i'r rhai sy'n colli eu swyddi yn Virgin Media. Gyda'r tasglu, pwy fydd y rhanddeiliaid allweddol yn debygol o fod yn eich barn chi? Ni wn a ydych wedi gwneud penderfyniad eto. Oherwydd, o gofio—ac nid wyf yn gwybod hyn i sicrwydd, yn amlwg—proffil oedran tebygol a phrofiad y bobl sy'n gweithio yn eu canolfan gyfryngau, nid yw'n arbennig o glir i mi pwy fyddai'r rhanddeiliaid allweddol hynny. Felly, os gallwch roi unrhyw awgrym i ni ynglŷn â hynny, buaswn yn ddiolchgar iawn—ac yn enwedig os gallwch roi unrhyw awgrym i ni hefyd ynglŷn ag unrhyw ymdrechion penodol newydd i hyrwyddo buddsoddiad yn yr ardal ac o bosibl, sicrhau cyflogwr addas ar gyfer y safle. Rwy'n sylweddoli nad ydych wedi cael llawer o amser i wneud hynny. Diolch.

15:10

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu pryderon dwys mewn perthynas â'r newyddion ofnadwy hwn i weithwyr ffyddlon ac ymroddedig iawn? Mae ein holl ymdrechion o fewn y Llywodraeth, a chyda rhanddeiliaid, yn troi yn awr at gefnogi'r gweithlu hwn a gyflogir ar y safle, sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n wynebu cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â'u gwaith yn y dyfodol. Credaf hefyd y dylem ddweud—ac mae Suzy Davies wedi crybwyll hyn—nad yw penderfyniad Virgin Media yn adlewyrchiad o'r gweithlu mewn unrhyw ffordd, ac mae eu rhagoriaeth yn darparu gwasanaethau cwsmeriaid o'r radd flaenaf wedi cael ei chydnabod ers tro a'i chanmol yn rheolaidd fel arfer gorau. Yn wir, fel y dywedodd Suzy Davies, mae'n arfer gorau sydd wedi ennill gwobrau. Ymddengys bod Virgin Media wedi dod i benderfyniad yn seiliedig ar yr opsiynau rhataf ar gyfer cyfuno.

Mae ein hasesiad o'r tueddiadau swyddi yn y sector penodol hwn yn y dyfodol yn dangos ein bod yn credu bod Cymru mewn sefyllfa dda i gadw cyfran sylweddol o'r bobl a gyflogir mewn canolfannau cyswllt. Y lefel isaf o weithrediadau a fydd yn wynebu'r bygythiad mwyaf o awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn gyffredinol. Mae'r lefelau isaf hyn o weithrediadau eisoes wedi cael eu hallforio y tu allan i Brydain. Felly, mae'n bosibl y gallem, yn y dyfodol, weld cyfleoedd cyflogaeth yn dychwelyd i'r lefelau uwch o weithrediadau ar haen 1 a haen 2, ac mae Cymru mewn sefyllfa dda, mewn gwirionedd, i gipio cyfran dda o'r gwaith hwnnw.

Yn y cyfamser, yr hyn sydd angen i ni ei wneud, a'r hyn rydym wedi bwrw ati i'w wneud yn syth, yw asesu'r cyfleoedd cyflogaeth mewn busnesau sefydledig eraill ac asesu beth y mae'r cyfleoedd arfaethedig—y mewnfuddsoddiad arfaethedig—yn ei olygu ar gyfer y gweithlu cyfredol. Mae gan fusnesau eraill yn yr ardal ddiddordeb sylweddol yng ngweithlu Virgin Media eisoes, gan gynnwys Virgin Atlantic, sy'n rhan o'r un grŵp Virgin ond maent yn gweithredu mewn ffordd annibynnol. Mae yna fusnesau eraill yn y sector canolfannau cyswllt sy'n awyddus i gyflogi a rhoi swyddi i'r rhai yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn, oni bai fod y penderfyniad yn cael ei wrthdroi.

Hysbyswyd Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, fel ninnau, ar ddiwrnod y cyhoeddiad, ac rwyf hefyd yn ymwybodol fod cyflogeion wedi clywed am y cyhoeddiad drwy'r cyfryngau, a chredaf fod hynny'n annerbyniol. Nid yw'n deg ac nid yw'n iawn, a hoffwn i Virgin Media ystyried y ffordd y cafodd rhai o'u gweithwyr wybod am y penderfyniad.

Rydym yn cysylltu gyda'r cwmni. Rwyf hefyd, fel yr amlinellodd yr Aelod, yn sefydlu tasglu a fydd yn cynnwys Gyrfa Cymru, Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau llafur yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd Virgin Media yn rhan o'r tasglu hwnnw hefyd. Bydd gwaith y tasglu'n atgynhyrchu'r hyn a wnaethom gyda Tesco y llynedd. Bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad hwnnw wedi cael cymorth i ddod o hyd i waith mewn mannau eraill o fewn yr economi leol. Rydym yn gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd i staff Virgin Media. Yn wir, rydym yn hyderus iawn y bydd yna gyfleoedd sylweddol ar gyfer y bobl sy'n wynebu ansicrwydd heddiw. Rydym yn benderfynol o weithio ar eu rhan a chyda hwy i sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosibl.

Gall cost ddynol hyn fod yn sylweddol, wrth gwrs, ac am y rheswm hwnnw, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o'r tasglu, yn cynnig gwasanaethau cyfeirio i gyflogeion a allai ddioddef gorbryder, iselder neu broblemau iechyd meddwl eraill—i'w cyfeirio at y cymorth priodol. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod staff yn bachu ar unrhyw gyfle i adleoli sydd ar gael iddynt os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid dweud nad ydym yn disgwyl i lawer o weithwyr adleoli i Fanceinion neu'r Alban, ac nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw weithwyr yn symud i Manila. Byddaf yn ymdrechu'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r cyhoeddiad hwn. Fel rwy'n dweud, rwy'n hyderus y bydd y mwyafrif helaeth o bobl sy'n dymuno aros mewn gwaith yn gallu cael cymorth i ddod o hyd i swyddi eraill yn yr ardal leol, o ystyried y diddordeb uniongyrchol rydym wedi gallu ei weld yn y dyddiau ar ôl y cyhoeddiad.  

15:15

Fel rhywun a gafodd ei ddiswyddo gan British Steel yn yr 1980au, mae gennyf gydymdeimlad ac empathi enfawr â'r rhai yr effeithiwyd arnynt, ac mae llawer ohonynt yn etholwyr i mi a rhai ohonynt yn bobl rwy'n eu hadnabod ac y byddaf yn cyfarfod â hwy dros yr wythnos nesaf mewn gwirionedd. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y camau y mae wedi'u cymryd. Nid wyf yn credu y gallem ofyn am ragor. Rwy'n falch iawn ynglŷn â'r tasglu, a gobeithiaf y bydd yr holl bobl sydd yno ar hyn o bryd ac sy'n dymuno parhau i weithio yn gallu gwneud hynny. Ond byddwn yn colli 800 o gyfleoedd swyddi yn ardal Abertawe. Nid oes gennym gymaint o swyddi fel na fydd colli 800 o swyddi'n cael effaith ar yr economi leol. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio dod â mwy o swyddi i mewn i'r ardal?

Un o'r rhesymau a roddwyd—yn swyddogol neu'n answyddogol, nid wyf yn gwybod—yw bod gan Fanceinion gysylltiadau mor dda â Llundain, gan gynnwys y rheilffordd high speed 2 a ddisgwylir, ac nid ydym yn gallu sicrhau trydaneiddio i Abertawe hyd yn oed. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet barhau i bwyso ar y Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â phwysigrwydd trydaneiddio i Abertawe? Mae'n ymwneud â'r neges y mae'n ei anfon ac fel rwyf wedi'i ddweud ar fwy nag un achlysur, mae'n ymwneud â phwysigrwydd dweud, 'Dyma le sy'n werth mynd iddo, sy'n werth creu gwaith ynddo, oherwydd rydym wedi trydaneiddio yno.' Wrth gwrs, mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir.

Wel, mae'r Aelod yn hollol iawn fod cysylltedd da, yn bennaf â Llundain, o ystyried maint economi Llundain, yn arbennig mewn perthynas â gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, diwydiannau creadigol a'r sector gwasanaethau yn ei gyfanrwydd—. Mae'n hanfodol fod gennym gysylltiad gwell â'r ddinas arbennig honno. Mae llawer o fuddsoddwyr yn nodi terfyn amser o ddwy awr o ran lle maent yn dymuno buddsoddi. Mae'n arbennig o wir, er enghraifft, yn y diwydiannau creadigol. Felly, mae uwchraddio prif linell rheilffordd de Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn dilyn canslo'r gwaith o drydaneiddio'r darn arbennig hwnnw o seilwaith, yn gwbl hanfodol, a disgwyliwn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud ar fyrder, fel y dywedais ddoe.

Gallaf sicrhau'r Aelod, fel y dywedais wrth Suzy Davies, fod pob opsiwn ar gyfer cyflogaeth amgen yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Ni allaf roi unrhyw fanylion mewn perthynas â chwmnïau sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cyflogi'r bobl yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad hwn, ond rydym yn ymwybodol o bump, o leiaf, hyd yma—cwmnïau mawr sy'n ystyried cyflogi niferoedd sylweddol o bobl. Rwyf eisoes wedi nodi Virgin Atlantic, ac ni fuaswn yn dymuno rhoi unrhyw fanylion am y cwmnïau eraill. Ond yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn ystyried cyflwyno nifer o gyfleoedd buddsoddi. Mae yna nifer o fuddsoddiadau yn yr arfaeth yn y sector canolfannau cyswllt a reoleiddir, a disgwylir y bydd llawer o'r cyfleoedd hyn yn glanio yn ardal Abertawe.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:20

Mae'n deg dweud ei bod wedi bod yn ergyd enfawr, ddinistriol i Abertawe—772 o swyddi, neu 800 mewn ffigurau crwn, wedi'u colli, ac effaith ganlyniadol ar ddwsinau o deuluoedd yn lleol. Fy nghwestiwn cyntaf yw: lle y gallwn gyfeirio gweithwyr unigol sy'n cysylltu â ni fel Aelodau Cynulliad gan ddisgwyl i ni fod â rhywfaint o fanylion wrth law o ran beth y maent yn ei wybod? Buaswn yn ddiolchgar am gyngor ymarferol felly i ddechrau, a buaswn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, am gymorth gyda chyfeirio'r bobl hyn, sy'n gofidio yn awr, at y math cywir o gyngor.

Ni wnaf ailadrodd y dadleuon y mae'r Aelodau eraill wedi'u cyflwyno, ond o ran camau rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, fod darnau mawr o economi Cymru yn seiliedig ar ganolfannau galwadau—caiff canolfannau galwadau eu cynnal gan fusnesau preifat mawr i raddau helaeth. Roeddwn yn meddwl tybed sut rydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn datblygu cysylltiadau â'r busnesau mawr hynny fel bod rhyw fath o empathi, neu ryw fath o weithio y tu ôl i'r llenni, cyn ein bod yn cael y cyhoeddiadau mawr hyn fod 800 o swyddi yn sydyn yn cael eu colli a neb yn gwybod am y peth—heb i chi o bawb wybod am y peth. Fe gawsoch wybod yr un pryd â'r gweddill ohonom, neu'r un pryd â rhai o'n gweithwyr yn Abertawe—cawsant wybod gan y cyfryngau.

Buaswn yn gobeithio bod rhywfaint o gamau rhagweithiol yn cael eu cymryd y tu ôl i'r llenni. Cawsom ein rhybuddio. Gwelsom ganolfan alwadau Tesco yn colli 1,000 o swyddi yng Nghaerdydd y llynedd. Cafodd pawb ohonom wybod am hynny ar yr un pryd, pan gyhoeddwyd y newyddion yn y cyfryngau. Roeddem yn gofyn bryd hynny: beth am rywfaint o gamau rhagweithiol? Beth yw rôl y Llywodraeth mewn perthynas â chefnogi pobl, neu o leiaf ddatrys pethau cyn ei bod yn rhy hwyr a'n bod yn gorfod rhoi trefn ar y cyfan yn y fan a'r lle? Felly, o ran ychydig mwy o fanylion ynglŷn â sut rydych yn datblygu'r cysylltiadau hynny gyda'r cwmnïau preifat mawr hyn fel y gallwn wneud rhywbeth rhagweithiol i helpu ein pobl—. Ac o ran swyddi eraill, buaswn yn pwysleisio unwaith eto ein bod angen swyddi eraill, fel y crybwyllodd Mike Hedges, yn ardal Abertawe yn benodol. Rydym wedi siarad llawer am y morlyn llanw, ond mae gwirioneddol angen hwnnw yn awr—swyddi o ansawdd ym mae Abertawe oherwydd rydym yn colli swyddi fel hyn drwy'r amser. Diolch yn fawr.

Mae Dai Lloyd yn iawn i gyfeirio at forlyn llanw bae Abertawe fel prosiect a allai gynnig, ac a ddylai gynnig, swyddi o ansawdd uchel. Holl bwynt y cynllun gweithredu economaidd yw creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth mwy diogel, o ansawdd gwell, sy'n talu'n well. A chredaf fod cyhoeddiad Virgin Media yn dangos pam fod angen i ni (a) sbarduno diwydiannau'r dyfodol, ond sicrhau hefyd ein bod yn diogelu'r cyflogwyr presennol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Dyna pam rydym wedi dechrau gwaith, astudiaeth, ar ddigido ac awtomeiddio yn economi Cymru. Dyna pam fod un o'r galwadau i weithredu'n ymwneud â diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol, ac felly rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau bod swyddi presennol yn cael eu cadw, fod busnesau'n cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol, yn barod am y newid anochel a ddaw o fewn y degawd nesaf, ond hefyd ein bod yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd mewn meysydd gweithgarwch economaidd sy'n gynaliadwy yn y tymor hir.

Credaf fod Dai yn codi cwestiwn pwysig ynglŷn â chysylltiadau, nid yn unig rhwng y Llywodraeth a busnesau, ond hefyd rhwng undebau llafur a busnesau, a hefyd grwpiau rhanddeiliaid a busnesau. Mae'r ffaith bod y busnes penodol hwn heb undeb a bod Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru heb gael gwybod am y penderfyniad yn dangos bod hwn yn benderfyniad y dymunai'r busnes ei gadw iddynt eu hunain am resymau masnachol sensitif hyd nes y cafodd y cyfryngau eu hysbysu. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Suzy Davies, nid wyf yn credu bod honno'n ffordd deg i drin eu gweithwyr eu hunain.

Mae yna 772 o bobl sydd wedi dangos teyrngarwch mawr i'r busnes. Mae 220 wedi'u hisgontractio i Sitel. Nawr, ni fuaswn yn dymuno codi gobeithion ormod ar hyn o bryd, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar y potensial i Sitel aros yn Abertawe. Rydym yn gobeithio y bydd Virgin Media yn cefnogi hyn ac y bydd yn parhau gyda'r trefniadau presennol, efallai, gan y byddai cynnig interim yn arbennig o ddefnyddiol wrth geisio sicrhau cynifer o'r swyddi hynny ag y bo modd. Er hynny, byddwn yn cynnig gwasanaethau cyfeirio, i'r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru yn bennaf—yn sicr, dyna'r ddwy asiantaeth y buaswn yn awgrymu y dylai'r Aelod gyfeirio ei etholwyr atynt yn y lle cyntaf. Ond rwyf hefyd yn obeithiol y bydd Virgin Media yn caniatáu i weithdai gael eu cynnal ar y safle, gan gynnwys y partneriaid a fydd yn ffurfio'r tasglu. Caniatawyd hynny ar y safle gan Tesco pan wnaethant y penderfyniad y llynedd, ac fe wnaeth wahaniaeth enfawr o ran sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i swydd arall yn dilyn eu gwaith yn Tesco, ac roedd hefyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn o ran lleihau'r niwed emosiynol o ganlyniad i ddiswyddiadau. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Virgin Media yn derbyn ein cais i ganiatáu i bartneriaid y tasglu fynd ar y safle a chynnig gweithdai gwerthfawr i'r bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn ar sut i ddod o hyd i waith a sut i wneud yn siŵr fod eu lles yn cael ei ddiogelu yn y cyfamser.

15:25

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf am ymddiheuro am ailadrodd llawer o'r pethau sydd eisoes wedi cael eu dweud, ond gan fod yr 800 o bobl hyn yn fy rhanbarth i, mae'n bwysig pwysleisio fy mod yn cydymdeimlo â'r bobl hyn sydd wedi colli eu swyddi ac sydd eisiau gwybod yn union beth rydym yn ceisio ei wneud a beth rydym yn bwriadu ei wneud i ddod o hyd i waith arall ar eu cyfer. Mae Abertawe wedi datblygu i fod yn rhyw fath o arbenigwr yn y sector canolfannau galwadau, ac mae'n rhaid gwneud popeth i wella'r statws hwn drwy ddarparu gweithlu medrus, amgylchedd treth isel a seilwaith o'r radd flaenaf, ac o bosibl, y morlyn llanw, fel y mae Dai Lloyd eisoes wedi dweud. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gellir ei wneud y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud i sicrhau bod Abertawe yn fan deniadol ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau mawr fel ei gilydd? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae gan Abertawe ddyfodol gwych o'i blaen. Dylai pawb edmygu'r cynnydd a wnaed yn lleol ar sicrhau ei fod yn lle mwy deniadol i fyw ynddo, i ddysgu ynddo ac i fuddsoddi ynddo. Yn wir, credaf fod Abertawe yn gosod esiampl i lawer o drefi, dinasoedd a rhanbarthau eraill yng Nghymru ac yn y DU mewn perthynas ag adeiladu lle a sicrhau bod ansawdd lle wrth wraidd unrhyw strategaeth datblygu economaidd.

O ran beth arall y gallwn ei wneud, rwy'n gwbl benderfynol o sicrhau y bydd cyfleoedd cyflogaeth sy'n bodoli mewn mannau eraill, neu a fydd yn cael eu creu mewn mannau eraill, yn cael eu cynnig yn fewnol i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad hwn, fel y gallwn eu cynnig nid yn unig mewn gweithdai cyflogaeth Virgin Media, ond sicrhau hefyd ein bod yn mynd â gwybodaeth am waith arall i'r gweithle, fel nad oes rhaid i bobl ruthro o gwmpas yn chwilio am swyddi, a phoeni a fyddant yn gallu cael deupen llinyn ynghyd pan fydd Virgin Media yn cau eu drysau am y tro olaf. Felly, unwaith eto, buaswn yn galw ar Virgin Media i dderbyn ein cais i gynnal y gweithdai hynny ac i'r rhanddeiliaid a fydd yn ffurfio'r tasglu allu mynd ar eu safle.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma gan Hefin David a bydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Hefin David.

Swyddi Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhrefforest

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest? 169

Diolch. Mae arweinydd y tŷ, fel Gweinidog arweiniol Llywodraeth Cymru ar gyfer Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wedi cyflwyno nifer o sylwadau i Lywodraeth y DU, ac yn benodol i'r Gweinidog cyflogaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn nodi pryderon difrifol Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r cynnig hwn.

Diolch am hynny, ac fe ymunaf â fy nghyd-Aelodau—Julie Morgan, Lynne Neagle, John Griffiths, Jayne Bryant a Dawn Bowden—sydd wedi mynegi pryderon am yr effaith yn eu hetholaethau, a diolch hefyd i Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol sydd wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym y wybodaeth lawn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yma. Cafwyd llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac nid oedd ei esboniad mor llawn ag y byddem wedi hoffi iddo fod. Yng Nghaerffili, mae gennym 225 aelod o staff a gyflogir yn nghanolfan budd-daliadau Caerffili. Mae nifer o fy etholwyr yn gweithio ar safleoedd eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau yn etholaethau fy nghyd-Aelodau, ac rwy'n weddol siŵr y bydd yr Aelodau eraill yn dymuno mynegi pryderon—rhai nad wyf wedi'u crybwyll heddiw. Bydd cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau ar Stryd y Castell yn enwedig yn effeithio'n andwyol ar gyflogaeth a nifer yr ymwelwyr â chanol tref Caerffili. Bydd yn mynd â swyddi o ardal sy'n agos at fannau preswyl, yn agos at siopau, ar adeg pan ydym yn ceisio rhoi hwb i ganol tref Caerffili. Mae hyn yn mynd yn gwbl groes i gyhoeddiad cadarnhaol iawn heddiw am dwristiaeth yng nghastell Caerffili, ac ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i sut y bydd trigolion yng Nghaerffili yn cyrraedd y safle hwn mewn car.

Yn y llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, roeddent yn dweud eu bod eisiau cadw cynifer â phosibl o gydweithwyr Adran Gwaith a Phensiynau—cadw cynifer â phosibl o gydweithwyr. Mae'n amlwg, felly, eu bod yn rhagweld y byddant yn colli rhai pobl na fydd yn gallu cyrraedd y lleoliad newydd. Felly, byddwn yn gweld gweithwyr newydd yn cael eu recriwtio yn y lleoliad newydd, ond yn bendant ni fyddant yn swyddi newydd. Bydd yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i bobl o Gaerffili gyrraedd yno, ac felly, mae'n ddatganiad camarweiniol i hyd yn oed awgrymu y byddai unrhyw un o'r rhain yn swyddi newydd.

Bydd yn rhaid i'r rheini nad ydynt yn cytuno â chael safle newydd deithio i'r gwaith, fel y dywedais, mewn car, ac mae tagfeydd ym masn Caerffili eisoes yn broblem. Buaswn yn bryderus iawn i weld problemau'n cael eu hychwanegu at hynny. Hefyd, mae'n mynd yn groes i'n huchelgais ein hunain i sicrhau swyddi gwell yn nes at adref, a'r hyn a oedd yn peri pryder i mi yn arbennig oedd bod llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn siarad am weithio gyda strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Yn bendant nid yw'n gwneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'n gwneud y gwrthwyneb llwyr i hynny. A chefais fy nharo gan y ffaith bod y llythyr cyntaf a gefais gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan Lywodraeth y DU, wedi'i gyfeirio at David Hefin AC, sy'n awgrymu nad ydynt yn gwybod fawr ddim am waith y Cynulliad hwn, gan ei gwneud yn fwy gwarthus byth eu bod yn ceisio clymu'r cyhoeddiad hwn wrth strategaeth nad ydynt, yn ôl pob tebyg, yn gwybod dim amdani.

Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y bydd swyddi cynaliadwy sy'n talu'n dda yn aros yn ein trefi yn y Cymoedd, ond hefyd, i balu'n ddyfnach i'r hyn sy'n digwydd yma mewn gwirionedd, a'r materion y credaf yn siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau eisiau eu codi yn rhan o'r cwestiwn hwn?

15:30

Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â phwysigrwydd cael y mathau hyn o swyddi yng nghanol ein trefi, o ran nifer y bobl sy'n dod i ganol trefi a sicrhau bod gennym ganol trefi bywiog. Felly, mae'r newyddion hwn yn siom fawr. Cytunaf yn llwyr â'ch sylwadau ynglŷn â Swyddi Gwell yn Nes at Adref, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gwnaeth Julie James ei ddwyn i sylw yr Adran Gwaith a Phensiynau yn un o'i llythyrau cynharach, lle y dywed,

Mae'r penderfyniadau hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Swyddi Gwell yn Nes at Adref a byddant yn effeithio ar rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gynorthwyo pobl i gael gwaith yn yr ardaloedd hyn ac rydym hefyd yn darparu buddsoddiad strategol i ddenu swyddi da gyda llwybrau gyrfaol clir i weithwyr yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Felly, mae adleoli staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghwmbrân a swyddfeydd eraill sydd wedi'u clustnodi ar gyfer cau yn symud llawer o swyddi da yn gwbl groes i'r polisi hwn.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr â'ch asesiad o'r sefyllfa, o ran ei fod yn gwrthwynebu'n fawr yr hyn y ceisiwn ei gyflawni ar gyfer y Cymoedd.

Rydych yn gywir, David Hefin, nad yw'r Torïaid yn deall y Cymoedd o gwbl, ac am y rheswm hwn tynnodd Julie James fap o'r Cymoedd allan er mwyn dangos i Damian Hinds mewn cyfarfod nad yw trafnidiaeth yng Nghymoedd de Cymru mor syml ag y byddech yn dychmygu. Ond roedd hi'n amlwg nad oedd y dadleuon hyn ynglŷn â pha mor anodd yw hi i staff allu cyrraedd safle Trefforest yn ei argyhoeddi, felly ni chawsant unrhyw effaith ar y penderfyniad a wnaed.

O ran unrhyw golledion swyddi posibl, buaswn yn rhoi ymrwymiad Llywodraeth Cymru y byddem yn gweithio'n rhagweithiol gydag unigolion drwy ein rhaglen ReAct, a rhaglenni eraill, er mwyn cynorthwyo pobl i gael gwaith newydd, ond yn amlwg nid dyma ble yr hoffem fod.

Hoffwn ategu, Weinidog, ei bod hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth y DU yn chwilio am amddiffyniad gwleidyddol am y penderfyniad a wnaethant drwy geisio ei egluro, yn rhannol o leiaf, yn nhermau cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ar leoliad swyddi ac adleoli swyddi i'r Cymoedd, oherwydd, yn ogystal â Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn symud i'r cyfeiriad croes i'r sail resymegol honedig honno, mae gennym hefyd, wrth gwrs, bolisi Llywodraeth Cymru i adfywio canol trefi a dinasoedd. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, lleolir tua 370 o swyddi yn Sovereign House yng nghanol y ddinas, yn y swyddfa budd-daliadau a fyddai'n cael ei hadleoli. Felly, byddai hynny wedyn yn mynd yn groes i bolisi o geisio dod o hyd i ddefnydd ar gyfer y safleoedd canol dinas hyn, a hefyd yn mynd â gwariant allan o'r economi leol. Felly, byddai'n gwbl groes i elfen bwysig o bolisi Llywodraeth Cymru, ac yn effeithio'n fawr ar economi canol dinas Casnewydd.

15:35

Diolch yn fawr iawn, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael pobl i fyw a gweithio yng nghanol ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd bywiog iawn. Felly, unwaith eto, cytunaf yn llwyr â'r sylwadau hynny a'r pryderon a fynegwyd gennych, am yr effaith y gallai colli cynifer o swyddi o leoliad canol tref ei chael ar allu busnesau bach, er enghraifft, yn yr ardal i aros yn gynaliadwy.

Mae hefyd yn groes i'n gwaith gyda thasglu'r Cymoedd. Oherwydd, unwaith eto, dywedodd Julie James wrth Damian Hinds fod swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu gweinidogol ym mis Medi 2016 i weithio gyda chymunedau yng Nghymoedd de Cymru dros dymor y Cynulliad hwn, gyda ffocws ar greu swyddi o ansawdd da yn y Cymoedd, ac mae'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i allu cael y swyddi hynny wedi'u nodi fel blaenoriaeth gynnar. Ac roedd hi'n glir iawn pan ddywedodd,

Mae'r camau yr ydych yn eu hargymell yn tanseilio'r dull polisi hwn yng Nghymru, sy'n ymwneud â sicrhau bod rhan o'r twf a welwyd i'r de o goridor yr M4 yn cael ei dwyn i mewn i'r Cymoedd, ac fe'ch anogaf i ailystyried eich argymhellion i ddiogelu swyddi yn y cymunedau hyn.

Felly, mae eich asesiad fod Llywodraeth y DU yn ceisio cuddio y tu ôl i bolisi Llywodraeth Cymru yn gywir unwaith eto, ond rydym wedi bod yn glir iawn gyda hwy drwy'r cyfan fod yr hyn y maent yn ei awgrymu mewn gwirionedd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru.

Weinidog, mae'r penderfyniad i agor canolfan newydd ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhrefforest wedi cael ei groesawu gan arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn dod fel y mae wedi cyhoeddiadau y bydd pencadlysoedd Trafnidiaeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Awdurdod Cyllid Cymru oll yn cael eu lleoli yno—yn fwy tebygol, po fwyaf o gyflogaeth y mwyaf o draffig a'r mwyaf o bopeth, datblygiad a fydd yn mynd i'r ardal honno, sy'n newyddion da.

A wnaiff y Prif Weinidog groesawu sicrwydd yr adran y bydd yn edrych ar rolau eraill ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Merthyr Tudful, Cwmbrân a Chaerffili nad ydynt yn gallu adleoli i Trefforest? A wnaiff hi ymgymryd i drafod camau gyda'i chyd-Aelodau i liniaru unrhyw golledion swyddi posibl, megis trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn lleddfu'r effaith ar y cymunedau hynny, yn enwedig yng Nghymoedd y de-ddwyrain a'r cylch? Diolch.

Credaf mai'r peth lleiaf y gallai cyflogwr cyfrifol ei gynnig fyddai dod o hyd i swyddi eraill ar gyfer pobl sydd wedi canfod bod eu swyddi wedi'u symud i le sy'n gwbl anymarferol iddynt fynd iddo. Bydd yn rhaid wynebu rhai heriau trafnidiaeth, heb amheuaeth, o ran sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd y safle newydd yn Nhrefforest, a dyna un o'r rhesymau pam yr oedd Julie James mor glir ynglŷn â darparu'r map i Weinidog Llywodraeth y DU. Rydym wedi cael peth cadarnhad, yn yr wythnos diwethaf yn unig, o'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn dweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cymorth gyda chostau teithio am gyfnod o dair blynedd, ar gyfer costau ychwanegol at y costau presennol. Ond unwaith eto, ychydig iawn o gysur y mae hynny'n ei gynnig i bobl sy'n wynebu eu swyddi'n cael eu symud i rywle y tu hwnt i'w rhwydweithiau eu hunain, a lle y gwelant amharu ar eu hymrwymiadau gofalu ac ati.

Credaf fod bwriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer yr adleoli hwn wedi bod yn hysbys ers peth amser, ond ni fyddem yn gwybod am y safle arfaethedig oni bai bod y wybodaeth wedi'i datgelu heb ganiatâd—yn awr y mae'n cael ei gadarnhau. Mae'n amlwg, o dan y cynnig hwn, yn fy etholaeth i yn unig, y byddwn yn colli mwy na 250—260 o swyddi, yn wir—o Ferthyr, i Drefforest. A hoffwn ailadrodd yn union yr hyn y mae Hefin a John eisoes wedi'i ddweud am hynny. Oherwydd, er nad yw'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn cael eu colli i'r sefydliad, maent yn cael eu hadleoli, a bydd y trefi y maent yn cael eu hadleoli ohonynt yn cael eu niweidio'n economaidd heb rithyn o amheuaeth. Ni allwch dynnu 260 o swyddi o dref fel Merthyr a disgwyl na fydd unrhyw effaith o gwbl.

Er bod staff yn cael cynnig adleoli, i lawer ni fydd yn opsiwn, oherwydd yr amserau teithio ychwanegol a'r costau sydd ynghlwm wrth symud, a'r anawsterau y mae'n mynd i'w hachosi i rai â chyfrifoldebau gofalu, er enghraifft. Ac mae etholwyr eisoes wedi sôn wrthyf nad ydynt yn mynd i allu symud am y rhesymau hynny. Ac yn wir, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau eu hunain wedi nodi wrth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol fod o leiaf 600 o'r staff hynny yn mynd i fod 'y tu hwnt i symudedd' fel y maent yn ei alw; mewn geiriau eraill, dyna'r rhai na fydd modd eu hadleoli—ceir 600 o staff na fydd modd eu hadleoli. Felly, yn amlwg byddai gennym ddiddordeb mewn gwybod beth fydd yn digwydd iddynt hwy.

Fel Hefin, synnais innau hefyd weld y llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau at Aelodau'r Cynulliad yr effeithir ar eu hetholaethau—fe gawsant fy enw'n gywir, o leiaf—yn dweud bod y symudiad yn cefnogi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', ac y byddai'r rhain yn dod â swyddi i'r Cymoedd. Rwyf wedi ysgrifennu'n ôl at yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthynt—

15:40

—beth sydd ei angen ar ein strategaeth mewn gwirionedd, fel eu bod yn gwybod nad mater o adleoli swyddi sydd eisoes yn bodoli ydyw, ond eu rhoi mewn lleoedd mwy hygyrch mewn gwirionedd.

Y cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn oedd, yn gyntaf, a yw'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd wedi trafod y cynlluniau ar gyfer adleoli gyda Llywodraeth Cymru, cynlluniau sydd i'w gweld fel pe baent yn seiliedig ar brosiect menter cyllid preifat, neu brosiect a ariennir gan PFI, sydd, fel y gwyddom, yn y tymor hir yn mynd i fod yn faich enfawr ar bwrs y wlad. Ac yn olaf, os gallech ailadrodd—. Credaf eich bod wedi sôn yn gynharach am rai o'r dulliau cymorth a allai fod ar gael—y rhaglen ReAct, ac ati. Beth y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y bobl hynny—y 600 o bobl—sy'n amlwg yn mynd i gael eu dadleoli ac nid eu hadleoli o ganlyniad i'r symud?

Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac mewn gwirionedd, eironi mawr yn hyn yw'r ffaith bod rhai o'r lleoedd y bydd swyddi'n symud ohonynt yn ganolfannau strategol mewn gwirionedd yn nhasglu'r Cymoedd. Felly, mae'n ddadl gwbl hurt fod Llywodraeth y DU mewn unrhyw ffordd yn ceisio cefnogi'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni ar gyfer cymunedau'r Cymoedd.

Rydych chi'n gywir hefyd fod y newyddion wedi dod yn amlwg yn gyntaf ar ôl cael ei ddatgelu heb ganiatâd. Ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rybudd yn ei gylch, felly roedd arweinydd y tŷ yn glir iawn ei bod yn hynod o siomedig nad ymgynghorodd Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru i geisio atebion amgen cyn gwneud penderfyniadau. Ac ar bob pwynt mae hi wedi bod yn glir iawn ei bod yn awyddus i'w swyddogion weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar atebion amgen, gan gynnwys, er enghraifft, cydleoli lle bo hynny'n ymarferol gyda Llywodraeth Cymru. Ond unwaith eto, ni chafodd y cynigion hyn i helpu ac i weithio ar y cyd mo'u derbyn.

Mae'r problemau trafnidiaeth yn real iawn o ran gallu pobl i symud o'ch cymuned i Drefforest i wneud eu gwaith. Rydym newydd gael y datganiad ar benderfyniad Virgin i gau eu ffatri yn Abertawe, a chynnig swyddi i bobl yn Manila. Wel, waeth i Drefforest fod yn Manila i rai pobl sydd yn y sefyllfa hon, oherwydd mae'n hollol anymarferol.

Gwn fod Julie James wedi cynnig cynnal trafodaethau i edrych ar bethau fel opsiynau trafnidiaeth cymunedol ac ati, ond eto ymdrechion bach iawn yw'r rhain y gallwn eu gwneud i geisio gwneud y sefyllfa'n well. Ond ar bob cam, rydym wedi gwrthwynebu'r symud.

Hoffwn ddiolch i Hefin David am godi'r mater hwn ac fel y dywedwyd, nid oes unrhyw amheuaeth fod hyn yn mynd yn groes i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi yn nes at adref. Bydd yn golygu adleoli 365 o swyddi o galon Casnewydd, a bydd effaith ganlyniadol ar yr economi leol ac ar nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas. Mae'r staff yn Sovereign House yn haeddu gwell, fel y mae'r holl staff mewn swyddfeydd eraill sy'n cau yng Nghymru.

Nid yw'r swyddi sy'n symud i Drefforest yn swyddi newydd. Mae'n ymddangos bod y penderfyniad hwn wedi ei wneud gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o amseroedd cymudo'r staff y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd, nac o ddaearyddiaeth Cymru. Gallai ychwanegu o leiaf awr ychwanegol bob ffordd ar deithio ar y trên o Gasnewydd roi pwysau enfawr ar rieni a neiniau a theidiau, a phobl â chyfrifoldebau gofalu. I rai sy'n teithio mewn car, rwy'n deall mai lle parcio i 450 o geir yn unig sydd yn y cais cynllunio yn Nhrefforest, sydd i'w weld yn gwbl annigonol i'r 1,700 o bobl a fydd yn gweithio yno.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi methu â chydnabod y baich ariannol ychwanegol y bydd y gweithwyr hyn yn ei wynebu oherwydd y teithio pellach, er fy mod yn clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud heddiw mai am gyfnod dros dro y bydd hynny. Ond nid oes amheuaeth gennyf fod hyn yn bradychu'r gweithlu profiadol a ffyddlon yng Nghasnewydd. A yw'r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw asesiad effaith ar gydraddoldeb gan Lywodraeth y DU, a beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r gweithwyr a'r teuluoedd a fydd yn dwyn baich y penderfyniad ofnadwy hwn?

Diolch ichi am y cwestiwn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw asesiad effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, ond rwy'n siŵr fod hyn yn rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn mynd ar ei drywydd gyda hwy gan fod y newyddion yn ffurfiol bellach ynglŷn â'r cau arfaethedig a symud swyddi. Rwy'n rhoi sicrwydd i chi y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth i weld beth yn fwy y gallwn ei wneud i gefnogi'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt ac yn enwedig yr unigolion nad yw symud i Drefforest yn mynd i fod yn opsiwn ymarferol iddynt.

15:45

Effeithir ar 714 o staff o safle Gabalfa yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, a cheir nifer fawr o'r rheini sydd ag anableddau ac sydd â chyfrifoldebau gofalu, felly mae pryder aruthrol ynglŷn â sut y maent yn mynd i ymdopi â'r symud. A all y Gweinidog ganfod pam nad oes ymgynghoriad eisoes wedi dechrau gyda'r staff? Oherwydd, fel y gwyddom, crybwyllwyd hyn ers peth amser, ac mae angen cymaint o amser â phosibl ar y staff i baratoi ar gyfer y symud, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai ofyn pam nad yw'r ymgynghoriad hwn eisoes wedi dechrau gyda fy etholwyr a'r 1,700 o bobl eraill sy'n dioddef yn y modd hwn.

Y mater arall, wrth gwrs, yw colli arbenigedd. Deallaf o siarad ag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol fod y staff eisoes o dan straen o ran ymdopi â'r newidiadau i fudd-daliadau lles y maent yn eu gwneud. Felly, beth y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cadw'r arbenigedd, oherwydd byddwn yn sicr o golli llawer o bobl pan fydd y symud hwn yn digwydd? Ac a allai gadarnhau, yn y ffigurau a gafodd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fod holl gostau'r symud hwn wedi cael eu hystyried? Oherwydd bydd yna gostau diswyddo gwirfoddol, costau diswyddo gorfodol posibl, recriwtio staff newydd, costau hyfforddi staff newydd, costau budd-daliadau i unrhyw un sy'n methu dod o hyd i waith arall, a'r effaith hefyd ar gymunedau lleol yn sgil colli'r swyddi yn yr ardaloedd hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar yr ardaloedd hynny.

Mae'n ymddangos yn bolisi hollol wallgof i symud swyddi o leoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac yn dioddef, ac mae dweud ei fod yn mynd i gyd-fynd â thasglu'r Cymoedd, credaf fod hynny'n gwbl warthus. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymdrin â'r materion hyn a hefyd y mater a grybwyllodd Dawn ynglŷn ag a yw'r adeilad yn cael ei adeiladu drwy gontract PFI.

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Yn sicr fe roddaf ymrwymiad i chi y byddaf yn archwilio, ochr yn ochr â'r asesiad effaith a grybwyllodd Jayne Bryant, yr asesiadau effaith eraill a awgrymwyd gennych, a hefyd costau'r symud. Yn sicr, byddwn yn gweithio gyda Julie James er mwyn cael y math o wybodaeth sydd ei hangen arnom bellach, a byddaf i neu Julie yn ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliadau hynny.

Cytunaf ei bod yn gwbl annheg fod Llywodraeth y DU yn cadw staff yn y tywyllwch ynglŷn â hyn ac yn rhoi cyfnod o ansicrwydd iddynt, yn y bôn, rhwng nawr a 2021. Nid wyf yn credu ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y DU i ddechrau ymgynghori â staff tan yn llawer agosach at yr amser. Deallaf hefyd eu bod yn edrych ar symud fesul cam, ond unwaith eto, pan fydd gennym fwy o fanylion a mwy o wybodaeth am hyn, byddwn yn fwy na pharod i'w rannu gyda'r Aelodau.

Ceir un agwedd a fydd yn ddiddorol i Julie Morgan yn enwedig, a hynny mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf gan Esther McVey, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i Brif Weinidog Cymru. Mae'n dweud y bydd capasiti i 100 o staff yr Adran Gwaith a Phensiynau adleoli i ganolfan y Llywodraeth sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, yn y Sgwâr Canolog. Felly, gallai hynny fod o ddiddordeb arbennig i Julie.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dydd Sadwrn 5 Mai oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Dystonia 2018. Mae Dystonia yn effeithio ar bob oed. Mae'n anhwylder poenus a gwanychol iawn sy'n anablu. Bydd signalau diffygiol o'r ymennydd yn peri i'r cyhyrau wingo a thynnu'n anghywir ar y corff. Caiff y corff ei orfodi i droi, i wneud symudiadau ailadroddus neu ystumiau annormal. Gall effeithio ar un rhan o'r corff neu yn wir, ar fwy nag un rhan. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid oes modd gwella dystonia—yn hytrach, mae'n gyflwr gydol oes sy'n rhaid ei reoli. Dystonia yw'r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ond dau yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig o ymwybyddiaeth ohono a geir ymhlith y cyhoedd a hyd yn oed ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol meddygol. Nod Wythnos Ymwybyddiaeth Dystonia yw newid hyn. Mae'r Gymdeithas Ddystonia wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar eu thema, 'Go green and be seen'. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, wedi chwarae rôl ragorol yn sicrhau bod lleisiau pobl yr effeithir arnynt gan ddystonia yn cael eu clywed yma. Hefyd, rwyf am ddiolch i'r Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, am gyfarfod â phobl â dystonia yn fy swyddfa etholaeth yn Aberdâr, a hefyd am weithredu ar gyfarfod a gynhaliwyd gyda grŵp cymorth de Cymru o'r Gymdeithas Ddystonia. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl sy'n byw gyda dystonia ac sy'n dal i fyw bywydau llawn iawn. Rwy'n talu teyrnged i'w dewrder a'u cadernid.

15:50

Cafodd trigeinmlwyddiant Deddf Arglwyddiaeth am Oes 1958 ei goffáu yr wythnos diwethaf. Un o'r rhai allweddol a ymgyrchai dros gydraddoldeb yn y Senedd oedd Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda. Roedd yn swffragét ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod ar hyd ei hoes, a bu farw yn 1958, fisoedd ar ôl pasio'r Ddeddf Arglwyddiaeth am Oes, a phum mlynedd cyn i Ddeddf Arglwyddiaeth 1963 ganiatáu i fenywod fel hi eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Fe'i magwyd yng Nghasnewydd, a daeth yn Ysgrifennydd y gangen leol o Undeb Gymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod—y swffragetiaid—yn 1908. Bellach, mae plac yn dynodi lle y bu iddi ffrwydro bom mewn blwch post ym 1913, gweithred y cafodd ei hel i'r carchar amdani. Er bod y blwch post yn dal i sefyll heddiw, fe wnaeth ei phwynt. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, fe'i penodwyd yn brif reolwr recriwtio menywod yn y Weinyddiaeth Gwasanaeth Cenedlaethol. Ar ôl y rhyfel, sefydlodd bapur Time and Tide gyda'i fwrdd o aelodau benywaidd yn unig. Yn groes i'r disgwyl, enillodd barch mewn byd busnes wedi'i ddominyddu gan ddynion a daeth yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Roedd Arglwyddes Rhondda yn arloeswr: disgrifiodd y bleidlais i fenywod fel 'chwa o awyr iach' a chafodd y llysenw 'Persistent Peeress' yn ei hymdrech i sicrhau cydraddoldeb. Fel y dywed ei bywgraffydd, Angela John, mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a dros y degawdau, ceisiodd Arglwyddes Rhondda droi llanw'r farn gyhoeddus ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif. Am hynny, mae arnom ddiolch mawr iddi.

5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, prentisiaethau yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6716 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Dros y 15 mis diwethaf, fwy neu lai, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi bod ag obsesiwn braidd gyda phrentisiaethau. Yn ychwanegol at yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw, rydym hefyd wedi adrodd ar gyflwyno ardoll prentisiaethau Llywodraeth y DU, ac yn y mis diwethaf yn unig buom yn craffu ar waith y Gweinidog eto, gan asesu effaith yr ardoll honno un flwyddyn ers ei chychwyn. Rydym wedi neilltuo llawer o amser y pwyllgor ar brentisiaethau am ein bod yn credu eu bod yn bwysig. Mae prentisiaethau'n bwysig: maent yn cynnig ffordd wych i bobl ennill cyflog wrth iddynt ddysgu ac i gyflogwyr fuddsoddi yn y sgiliau y mae eu busnesau eu hangen. Er ein bod wedi galw'r gwaith hwn yn 'ymchwiliad i brentisiaethau', roedd y cylch gorchwyl yn weddol eang ac yn caniatáu inni edrych ar faterion sy'n codi gan gynnwys cyngor ar yrfaoedd ac agweddau ar hyfforddiant galwedigaethol yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl heddiw yr un mor bellgyrhaeddol.

Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar yr apêl allweddol y mae'r pwyllgor wedi'i chyhoeddi. Yn ein tystiolaeth, clywsom gan ddarparwyr, prentisiaid a phobl ifanc nad oedd wedi dilyn y llwybr hwnnw, a chlywsom nifer o weithiau fod rhwystrau economaidd—cost teithio, y gost o brynu siwt ar gyfer cyfweliad, ac ati—yn gallu atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd, a'n hymateb ni i hyn oedd holi'r Llywodraeth beth y gallant ei wneud, a gwnaethom ddau argymhelliad yn hynny o beth. Ein hargymhelliad 6 oedd y dylai Llywodraeth Cymru greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid ar y lefelau cyflog isaf, neu greu consesiynau eraill, megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach, fel sy'n bodoli ar gyfer myfyrwyr eraill.

Ein hargymhelliad 7 oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu grant cyffredinol ar gyfer costau byw i bob prentis, fel sydd i fod ar gael ar gyfer myfyrwyr prifysgol yng Nghymru o 2018-19. Wrth wraidd y ddadl hon, rwy'n credu, wrth wraidd y cwestiwn hwn, y mae tegwch. A chredaf y ceir cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr hon ein bod yn ystyried dysgu academaidd a galwedigaethol yn gyfartal—y ceir cydraddoldeb rhwng y ddau lwybr. Ond yr hyn nad ydym wedi'i gyflawni eto yw cydraddoldeb o ran cymorth i'r myfyrwyr sy'n dilyn y ddau lwybr. Felly, credaf fod yna achos moesol cryf a grymus dros weld Llywodraeth Cymru yn cynnig lefelau tebyg o gymorth i brentisiaid ag a fyddai ar gael i'w cyfoedion mewn addysg uwch amser llawn.

Mewn hysbysebion i hybu ei phecyn newydd o fesurau ar gyfer myfyrwyr prifysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU a'r lefel o gymorth y gall pobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol ei ddisgwyl. Rwy'n mynd i'w ddweud eto: y pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU. Felly, heddiw, rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn yn y ddadl i alw am becyn cymorth yr un mor hael ar gyfer prentisiaid Cymru.

15:55

Diolch. Credaf fod y pwynt ynglŷn â chydraddoldeb yn arbennig o bwysig, ac rwy'n meddwl am ofalwyr sy'n oedolion ifanc sydd, ar hyn o bryd, yn wynebu rhwystrau ariannol sy'n eu datgymell rhag camu ymlaen i addysg uwch, neu i brentisiaethau, yn wir. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ac yn meddwl sut i ymateb i'r adroddiad hwn, a gytunwch y dylai ystyried ffyrdd o helpu oedolion ifanc sy'n ofalwyr i gychwyn prentisiaethau, a'i gwneud yn haws hefyd i fusnesau gyflogi oedolion ifanc gyda gallu ychydig yn llai cyson i fynychu?

Diolch i chi, Suzy. Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael yr union dystiolaeth honno yn yr ymchwiliad, ond credaf fod yr hyn a ddywedoch yn cyd-fynd â meddwl y pwyllgor hefyd, ac mae'n debyg ei fod yn bwydo i mewn i argymhellion 6 a 7 yn dda iawn, ac roeddwn am fwrw ymlaen i ddweud bod y Llywodraeth wedi'u derbyn mewn egwyddor, mewn gwirionedd, wrth aros i'r ymgynghoriad sydd ar y gweill ddod i ben. Rwy'n credu fy mod yn derbyn hynny; rwy'n derbyn y pwynt fel cam synhwyrol. Ond rwy'n hyderus y bydd unrhyw oedi yn fyr ac y bydd camau gweithredu'n dilyn yn gyflym.

Mae darparu cydraddoldeb o ran cymorth yn bwysig ynddo'i hun yn fy marn i, ond mae hefyd yn atgyfnerthu'r neges fod y ddau lwybr yr un mor bwysig a dilys. Mae'r neges honno yn un bwysig, gan mai un o'n darganfyddiadau oedd y gall canfyddiadau o brentisiaethau lusgo ar ôl y realiti ym meddyliau rhieni ac athrawon. Fel pwyllgor, teimlem fod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo cyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ymysg amrywiaeth ehangach o bobl ifanc o fanteision prentisiaethau. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn ar y sail ei bod eisoes yn darparu gwybodaeth helaeth. Ond rhaid imi ddweud bod hynny'n drueni, gan ei bod yn amlwg i ni, pa wybodaeth bynnag sydd ar gael, nad yw wedi cyrraedd pawb sydd ei hangen, ac mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo nad yw eu hathrawon a'u rhieni yn rhoi digon o gefnogaeth ac anogaeth i lwybrau galwedigaethol.

Dengys ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru raniad 60/40 rhwng y rhywiau o'r holl brentisiaid, gyda menywod yn y mwyafrif. Ond wrth balu'n ddyfnach, erys gwahaniaeth ystyfnig rhwng y rhywiau mewn sectorau penodol. Felly, argymhellodd y pwyllgor na ddylid llaesu dwylo o ran y cymorth a roddir i fynd i'r afael â rhagfarnau a chonfensiynau ehangach ynglŷn â rhyw a gyrfaoedd, a bod y cyfle ehangaf ar gael i bawb. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru ein galwad am fwy o weithredu ynglŷn â diffyg cynrychiolaeth pobl anabl. Amlygodd tystiolaeth ysgrifenedig gan Remploy mai 2.7 y cant yn unig o ddysgwyr mewn darpariaeth ddysgu seiliedig ar waith, ac 1.3 y cant yn unig o brentisiaid yng Nghymru sy'n anabl. Mae hyn yn cymharu â 9 y cant yn Lloegr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld peth cynnydd yn cael ei wneud o ran hynny.

Yn yr ymchwiliad hwn ac yn ein hadolygiad diweddar o'r ardoll brentisiaethau, roedd yna bryder cynyddol fod Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr mewn perthynas â chyflwyno'r radd-brentisiaeth. Ceir oddeutu 10,000 o radd-brentisiaethau yn Lloegr y flwyddyn academaidd hon, o'i gymharu â dim un yng Nghymru. Felly, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru osod terfyn amser ar gyfer addysgu gradd-brentisiaethau, ond gwrthodwyd hynny. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod yr arian ar gael ac mai mater i brifysgolion, fel cyrff annibynnol, yw penderfynu pa bryd y byddant yn dechrau. Ond nid pwy sydd ar fai sy'n fy mhoeni i a'r pwyllgor mewn gwirionedd; y broblem yw fod yna ganfyddiad cynyddol yng Nghymru fod Cymru ar ei hôl hi. Buaswn yn annog y Gweinidog sgiliau ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn wir, i ddefnyddio eu dylanwad fel bod Cymru'n cyflymu'r broses mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.

Ein hargymhelliad olaf oedd y dylai Estyn ystyried sut y mae mynd ati yn y ffordd orau i gynnwys yn ei arolygiadau argaeledd ac ansawdd cyngor gyrfaoedd ar gyrsiau galwedigaethol a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau mewn ysgolion. Er bod Estyn yn edrych ar gyngor gyrfaoedd, nid yw'n aml yn faes blaenoriaeth, ac roeddem am ei symud yn uwch ar yr agenda. Bydd athrawon ysgol—y rhan fwyaf ohonynt—sydd wedi dilyn llwybr academaidd eu hunain yn naturiol yn meddwl bod y llwybr hwnnw'n addas i bobl ifanc eraill. Ac mae'r drefn ariannu, wrth gwrs, yn ymwneud â chadw pobl ifanc yn chweched dosbarth yr ysgol ei hun oherwydd yr effaith gadarnhaol a gaiff hynny ar ariannu ysgolion. Felly, mae yna gymhelliant parod yno i ffafrio'r llwybr hwnnw.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio fan lleiaf y bydd y ddadl hon a'r cyhoeddusrwydd o'i hamgylch yn annog pobl ifanc, a'r athrawon a'r rhieni y maent yn pwyso arnynt am gyngor, i edrych ar brentisiaethau a'r cyfleoedd y byddant yn eu cynnig fel opsiwn cadarnhaol mewn bywyd. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.

16:00

A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad manwl iawn ar y gwaith a wnaethant o'u hymchwiliad? Rwyf am fanteisio ar y cyfle i siarad yn fwy eang ynglŷn â phrentisiaethau, cyn gwneud rhai sylwadau y credaf eu bod, mae'n debyg, yn berthnasol i argymhellion 6 a 7 ynglŷn â chyflog prentisiaid.

Mae'n amlwg i mi y gall hyfforddiant wedi'i strwythuro'n dda sicrhau'r gweithluoedd medrus sydd eu hangen arnom, ac sy'n parhau i fod yn hanfodol i iechyd yr economi mewn cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol, yn enwedig ar gyfer gwella cyfleoedd yn ein cymunedau yn y Cymoedd. Mae cyfleoedd prentisiaeth yn allweddol ar gyfer llawer o economïau lleol, a gwn eu gwerth ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae gan gwmnïau fel General Dynamics Land Systems UK ym Mhentre-bach hanes cryf a llwyddiannus mewn perthynas â phrentisiaethau, gan weithio'n agos gyda choleg Merthyr i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn darparu eu teulu Ajax arloesol o gerbydau i fyddin Prydain. Yn ne Cymru, mae General Dynamics Land Systems UK ar hyn o bryd yn darparu dwy brentisiaeth bedair blynedd mewn gweithgynhyrchu mecanyddol a chymorth technegol peirianyddol. Bydd eu 12 o brentisiaid presennol—nifer sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn—yn cael tystysgrif genedlaethol NVQ lefel 3 ac uwch yn eu meysydd, ac mae'r cwmni hefyd yn ehangu i ddarparu prentisiaethau mewn meysydd heblaw peirianneg megis ansawdd a chyfleusterau. Mae hyn yn dangos ymrwymiad clir gan y cwmni i'r etholaeth, i'w weithwyr, ac yn arbennig, i bobl ifanc, a dyna'r newyddion da am brentisiaethau.

Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae arolwg cyflogau prentisiaethau 2016, a wnaed gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, yn cyfeirio at nifer o faterion a ddylai fod o bwys i ni, ac mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol ag argymhellion 6 a 7 ynghylch lefelau cyflog a chostau byw ar gyfer prentisiaid. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y data ynghylch cydymffurfio â'r isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw cenedlaethol. Er ei fod yn cydnabod materion sy'n codi o fethodoleg a newidiadau yn y cyfraddau sy'n gymwys, mae'r arolwg yn nodi bod prentisiaid ar lefel 2 a 3, mewn 14 y cant o achosion yng Nghymru, yn cael llai na'r isafswm cyflog priodol neu'r cyflog byw cenedlaethol, ac mae'n rhaid bod hynny'n peri pryder. Yn ogystal, amlygodd yr arolwg fod cyfran y prentisiaid nad yw eu cyflogau'n cydymffurfio yn cynyddu ymhlith rhai rhwng 19 a 20 oed yn ail flwyddyn eu prentisiaeth—achos pryder pellach.

Wrth gwrs, y cyflogwr sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr fod prentisiaid yn cael eu trin yn deg, ond mae'n amlwg fod angen i fusnesau ddeall y cyfrifoldebau hynny. Canfu ymchwil gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru fod un o bob pump cyflogwr heb glywed am yr isafswm cyflog i brentisiaid ac nid oedd dros 40 y cant yn gwybod bod angen talu am hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith. Ond yn bwysicaf i mi, mae'r arolwg yn amlygu pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth y DU yn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bwysig o'r fath, ac er fy mod yn cefnogi'r cynigion am gymorth ychwanegol i brentisiaid a nodwyd yn yr adroddiad, rhaid inni ddisgwyl i Lywodraeth y DU gynnal yr isafswm cyflog a'r cyflog byw yn gadarn gan fod hynny, yn ei dro, yn sicrhau tegwch i bawb, gan gynnwys prentisiaid.

Yn ddefnyddiol, argymhellodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith gamau gweithredu mewn tri maes allweddol: yn gyntaf, ynghylch codi ymwybyddiaeth cyflogwyr fel bod yr holl gyflogwyr yn ymwybodol o'r rheolau; yn ail, gwybodaeth glir yn nodi hawliau i isafswm cyflog ar ddechrau prentisiaeth a mwy o gyfrifoldeb ar ddarparwyr hyfforddiant i sicrhau bod hyn yn digwydd; ac yn drydydd, gwell gorfodaeth a chymorth ar gyfer prentisiaid pan fo problem. Buaswn yn ychwanegu yma fy mod yn credu hefyd fod yna gyfrifoldeb ar undebau llafur i roi blaenoriaeth i drefnu a rhoi cymorth i brentisiaid.

Oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod y gall prentisiaethau fod yn llwybr cyffrous i yrfa a swydd lwyddiannus, a gwyddom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i agenda gwaith teg. Felly, gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno y dylai comisiwn gwaith teg newydd edrych ar ganfyddiadau'r arolwg y bûm yn dyfynnu ohono ac y dylid edrych arno hefyd wrth weithredu'r contract economaidd newydd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut, wrth symud ymlaen, y gall yr ymchwil helpu hefyd i roi mwy o siâp i'n rhaglen brentisiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n ymgymryd â phrentisiaethau yn cael eu trin yn deg. Yn olaf, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwyso am orfodi cyflogau prentisiaid yn fwy cadarn. Mae'r rhain yn hawliau yr ymladdwyd yn galed i'w cael ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth ganiatáu iddynt gael eu diystyru o dan ei gwyliadwriaeth.

16:05

Datgelodd ein hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru bryderon fod nifer y prentisiaid anabl yng Nghymru yn llawer is na'r gyfradd yn Lloegr, fod rhwystrau economaidd yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd, fod gwahaniaeth rhwng y rhywiau'n parhau ac y gallai prinder darparwyr atal pobl ifanc rhag dilyn prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad ar rywedd a gyrfaoedd, nododd Llywodraeth Cymru, er bod 60 y cant o ddysgwyr sydd ar brentisiaeth yn fenywod, mae hyn—ac rwy'n dyfynnu—

'yn cuddio’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau sy’n bodoli mewn rhai sectorau.'

Wrth dderbyn ein hargymhelliad y dylai lunio cynllun gweithredu clir sy'n benodol ar gyfer pobl anabl i fynd i'r afael â'r diffyg cynrychiolaeth o bobl anabl mewn prentisiaethau, ar ôl 19 mlynedd mewn grym, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod—ac rwy'n dyfynnu—

'wedi ymrwymo i wella ein dull gweithredu'.

Dywedant eu bod wedi gweithio gyda Remploy i baru rhai sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dewis Gwaith â chyfleoedd prentisiaeth ac wedi cyflwyno dull gweithiwr achos gyda chymorth cydlynwyr prentisiaeth penodedig Remploy. Wel, y mis diwethaf, ymwelais â Remploy Wrecsam i drafod lansio rhaglen cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU, Rhaglen Gwaith ac Iechyd Cymru, ac i wrando ar sesiwn hyfforddi gyda chwsmeriaid. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd felly fod ei rhaglen gyflogadwyedd newydd yn ychwanegu at, yn hytrach nag ailadrodd hyn, a dylid ei gynnwys yn yr adroddiad cynnydd blynyddol ar weithrediad ei gynllun cyflogadwyedd y mae'n addo ei ddarparu i'r pwyllgor mewn ymateb i'n hargymhelliad 11.

Wrth ddatgan ei bod yn broses o sefydlu gweithgor prentisiaeth gynhwysol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau anabledd ledled Cymru, a fydd—ac rwy'n dyfynnu—

'yn cynhyrchu Cynllun Gweithredu Anabledd Prentisiaethau',

byddwn angen sicrwydd y bydd yn gweithredu ar yr esboniad gan Celfyddydau Anabledd Cymru mai'r gwahaniaeth rhwng hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd a hyfforddiant cydraddoldeb anabledd yw bod hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd yn aml yn cael ei arwain gan bobl nad ydynt yn anabl sy'n weithwyr proffesiynol yn y proffesiynau meddygol neu ofalu. Mae ffocws meddygol i'r hyfforddiant hwn, mae'n rhoi gwybodaeth i'r cyfranogwyr am namau pobl anabl a ffyrdd o oresgyn anabledd, tra bod hyfforddiant cydraddoldeb anabledd bob amser yn cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl anabl. Mae'r ffocws ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n anablu yn y gymdeithas. Mae ffocws holistig i'r hyfforddiant hwn, gan gydnabod y bydd cael gwared ar y rhwystrau corfforol, ariannol ac ymagweddol yn creu cymdeithas fwy cynhwysol a hygyrch. Mae hynny'n greiddiol. Mae'n allweddol.

Wrth wrthod ein hargymhelliad y dylai roi mwy o gymorth i gyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ymhlith ystod ehangach o bobl ifanc o fanteision prentisiaethau, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhestr o'r wybodaeth y mae eisoes yn ei darparu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ateb y dystiolaeth ysgrifenedig gan Remploy, sy'n nodi mai 2.7 y cant yn unig o ddysgwyr mewn darpariaeth dysgu seiliedig ar waith a 1.3 y cant o brentisiaid yng Nghymru sy'n anabl, o'i gymharu â 9 y cant yn Lloegr, nac awgrym Remploy mai un o'r rhesymau am hyn yw diffyg ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith rhieni, cyflogwyr a dysgwyr.

Roedd y bobl ifanc y cyfarfuom â hwy yn Ymddiriedolaeth y Tywysog yn manylu ar y rhwystrau ariannol sy'n atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Wrth dderbyn mewn egwyddor yn unig y dylai greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid sydd ar y lefelau cyflog isaf neu greu consesiynau eraill megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach, fel sydd ar gael i fyfyrwyr eraill, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai angen ystyried hyn—ac rwy'n dyfynnu—

'yn erbyn canlyniad yr ymgynghoriad i Deithiau bws rhatach i bobl ifanc yng Nghymru.'

Fodd bynnag, daeth yr ymgynghoriad i ben bedwar mis yn ôl. Er bod Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn ymateb i'r rhan fwyaf o ymgynghoriadau mewn 12 wythnos, dywedodd ITV Wales ddydd Llun fod Llywodraeth Cymru wedi methu ymateb i bron i draean o'i hymgynghoriadau a lansiwyd ers yr etholiad ddwy flynedd yn ôl. Gadewch inni obeithio nad yw hwn yn un arall. Ac er ei bod yn dweud bod rhoi cymhorthdal tuag at gostau teithio yn debygol o gael ei gategoreiddio fel budd trethadwy yn y DU, mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn nodi bod awdurdodau lleol yn Sheffield, Lerpwl a Gorllewin Canolbarth Lloegr eisoes wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.

Nid yw'n dderbyniol mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd ein hargymhelliad y dylent ddarparu diweddariadau blynyddol i'r pwyllgor sy'n cwmpasu pob nodwedd warchodedig a mynediad gan gymunedau incwm isel. Mae'r pwyllgor yn glir nad yw prentisiaid yng Nghymru yn gwbl gynrychioliadol eto o'r gymdeithas ehangach y dônt ohoni. Daeth adroddiad diweddar Reform ar y rhaglen brentisiaethau yn Lloegr i'r casgliad y bydd prentisiaid, trethdalwyr a chyflogwyr ar draws y wlad yn elwa am flynyddoedd i ddod pe bai'r newidiadau a ddisgrifiant yn cael eu gwneud.

16:10

Nodwyd na fu adroddiad cynnydd cyfatebol ar y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am gynhyrchu'r adroddiad hwn—diolch ichi—ar brentisiaethau yng Nghymru. Mae'n amlwg fod prentisiaethau ansoddol yn chwarae rôl hanfodol yn ein llwyddiant economaidd, yn ogystal ag adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal. Rwy'n falch o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad. Mae'r rhain yn brentisiaethau ansoddol, ystyrlon ac wedi'u targedu, fel y nododd diddordeb y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ein cynllun gweithredu economaidd ehangach. Mae llawer i ni fod yn falch ohono, ond wrth gwrs mae'r adroddiad hwn yn nodi fod yna fwy y gellir ei wneud.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad yr adroddiad i wneud mwy i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail rhyw a mynediad ehangach at brentisiaethau. Fel y dywedwyd eisoes, er bod 60 y cant o'r rhai sy'n mynd ar drywydd prentisiaeth yn fenywod, yn rhy aml cânt eu tywys tuag at sectorau lle mae'r cyflogau'n is ac er gwaethaf llawer o fentrau addysgol, mae'r niferoedd sy'n dilyn pynciau STEM yn amlwg yn is. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â gwahaniaethau o'r fath rhwng y rhywiau os ydym am greu Cymru decach a mwy cyfartal, ac felly rwy'n croesawu platfform Llywodraeth Cymru o fentrau ehangach ar gyfer STEM a'i hymateb yn addo gwneud mwy i ddenu menywod i'r sectorau blaenoriaethol hyn , gan gynnwys y disgwyliad clir ynghylch y llwybrau cynnydd sydd eu hangen i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac agenda'r comisiwn gwaith teg.

Yn wir, y bore yma, roedd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn clywed am rôl prentisiaethau yn mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau drwy annog mwy o fenywod i mewn i sectorau cyflogaeth gwrywaidd yn bennaf fel peirianneg. Mae'n iawn, ac mae disgwyl yng Nghymru i gyflogwyr a darparwyr prentisiaethau lynu at y pecyn cydraddoldeb, sy'n cynnwys modiwlau ar hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipio a rhagfarn anymwybodol. Mae'r pwysigrwydd a roddir i roi terfyn ar anghydraddoldeb a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn allweddol i alwadau Llywodraeth Cymru am weithredu, y cynllun gweithredu economaidd, a'r contract economaidd, y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a Fforwm Economaidd y Byd yn tynnu sylw atynt yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i wneud mwy i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth pobl anabl mewn prentisiaethau. Mae sefydlu gweithgor prentisiaeth gynhwysol a fydd yn cyhoeddi cynllun gweithredu anabledd prentisiaethau hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu, ac mae'n hanfodol ein bod yn lleihau'r rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn atal pobl anabl rhag cael mynediad at brentisiaethau.

Mewn cyfnod o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, mae rhai o'r rhwystrau i gael mynediad at brentisiaethau yn ariannol, gan gynnwys casgliad yr adroddiad fod trafnidiaeth i ac o ganolfannau hyfforddiant neu ddysgu yn mynd â hyd at 20 y cant o gyflogau prentisiaid. Unwaith eto, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad y pwyllgor i greu cronfa galedi ar gyfer prentisiaid ar y cyflogau isaf, neu greu cyfraddau teithio rhatach eraill. Rwy'n deall bod ymgynghoriadau yn cael eu hadolygu ar y materion hyn ar hyn o bryd, a bod yna bryderon y gallai consesiynau i brentisiaethau fod yn gyfystyr â budd-daliad trethadwy. Fel y cyfryw, hoffwn ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi siarad eto ag awdurdodau lleol yn Lerpwl, Sheffield a gorllewin canolbarth Lloegr sydd wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.

Felly, i gloi, hoffwn ganmol y safiad y mae Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â darparu prentisiaethau ansoddol ac wedi'u targedu yng Nghymru, ac y credaf y bydd yn parhau i'w gwella er mwyn dyfodol y gweithlu a chynhyrchiant Cymru deg yn y dyfodol.

16:15

Rydw i am edrych ar dri maes yn benodol—gan edrych ymlaen at glywed sylwadau’r Gweinidog ar y tri maes yma—gan ddechrau efo argymhelliad 1, sydd yn ymwneud â rhagfarn ar sail rhywedd. Yn anffodus, wrth gwrs, nid ydy rhai o’r casgliadau yn yr adroddiad yma yn rhai newydd i ni, ac yn sicr, yn hydref 2012, fe gododd y Pwyllgor Menter a Busnes y pwysigrwydd o fynd i’r afael â rhagfarn ar sail rhywedd er mwyn ehangu mynediad. Fe dderbyniwyd argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru nodi a monitro’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau, y rhesymau am y gwahaniaethau hynny, ac archwilio’r posibilrwydd o bennu targedau ar gyfer gwella’r gyfradd recriwtio ar gyfer prentisiaid benywaidd yn y sectorau â blaenoriaeth o safbwynt economaidd.

Fe dderbyniwyd hefyd, nôl yn 2012, yr argymhelliad y dylid darparu hyfforddiant cydraddoldeb rhywiol ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd a gweithwyr addysgu proffesiynol i gywiro unrhyw stereoteipio yn y cyngor y maen nhw’n ei roi i bobl ifanc. Ond y tristwch ydy, wrth gwrs, dros bum mlynedd ers cyhoeddi yr adroddiad hwnnw a derbyn yr argymhellion hynny, dim ond 1.6 y cant o brentisiaid adeiladu a 3.1 y cant o brentisiaid peirianneg sydd yn fenywod, o’u cymharu â 96 y cant o brentisiaid gofal plant, dysgu a datblygu a 91 y cant o brentisiaid trin gwallt yn ferched. Felly, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â’r camau sydd wedi’u cymryd gan eich Llywodraeth chi dros y pum mlynedd diwethaf i fynd i’r afael â hyn, ac mae o hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn ag a fyddwch chi wir yn gweithredu ar yr argymhellion sydd wedi cael eu nodi gan y pwyllgor.

Mi wnaethom ni drafod y bore yma, yn y pwyllgor cydraddoldeb, y rôl y gall y contract economaidd gael wrth ei ddefnyddio er mwyn ceisio dileu rhai o’r stereoteipiau yma, ac er, efallai, nad ydy’r pwyllgor wedi edrych ar y mater yma, tybed beth ydy eich sylwadau chi. A oes modd defnyddio’r contract yma yn y maes prentisiaethau hefyd er mwyn ceisio dileu’r stereoteipio ar sail rhywedd?

Yn ail, rydw i'n edrych ar agwedd y Gymraeg a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith eto, nid ydy’r bwlch yn y galw tebygol am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r gallu i gwrdd â hwnnw—. Nid ydy hynny’n annisgwyl ychwaith. Mae nifer y prentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg wedi bod yn eithriadol o isel ers blynyddoedd. Yn 2014-15, dim ond 0.3 y cant, neu 140 prentisiaeth, a oedd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg allan o ymhell dros 48,000 o brentisiaethau. Ymateb Llywodraeth Cymru i feirniadaeth am y sefyllfa hon oedd newid y ffordd y mae’r ystadegau yn cael eu cyflwyno, gan gyhoeddi ffigwr ar gyfer nifer y prentisiaethau â rhywfaint o ddysgu dwyieithog—ac mi allai hynny olygu cyn lleied â chyflwyno un adnodd dysgu dwyieithog i’r myfyrwyr. Mae'n hollol amlwg bod yn rhaid inni fynd i’r afael â’r sefyllfa yma er mwyn cyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a hefyd i lenwi bylchau sgiliau mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, lle mae angen siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.

Mae’r penderfyniad i ymestyn cyfrifoldebau’r coleg Cymraeg i gynnwys colegau addysg bellach a’r sector dysgu yn y gweithle i’w groesawu, ond mae angen cyllideb ddigonol ar gyfer gwneud y gwaith ac er mwyn cynyddu'r gyfran o brentisiaethau sy'n cael eu cyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn olaf, yn sydyn: er nad ydy'r pwyllgor yn crybwyll yr ardoll brentisiaethau o safbwynt yr heddlu—maddeuwch imi am grwydro i mewn i'r maes yna—mae o'n destun consérn achos un flwyddyn ar ôl i'r ardoll brentisiaethau gael ei chyflwyno, mae'n dal yn aneglur pwy sydd â chyfrifoldeb dros yr ardoll. Mae fy nghyfaill Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi derbyn gwybodaeth groes—gwybodaeth gennych chi ei fod o'n fater wedi'i gadw yn ôl yn y Deyrnas Gyfunol, a gwybodaeth gan y Gweinidog heddlu hefyd, sy'n dweud nad ydyn nhw'n gyfrifol am hyfforddi'r heddlu. Felly, nid oes yna neb yn cymryd y cyfrifoldeb dros hyfforddi'r heddlu, ac nid oes neb yn cymryd y cyfrifoldeb dros y prentisiaethau, a fyddai'n fuddiol iawn, wrth gwrs, yn y maes yma. Felly, buaswn i'n hoffi defnyddio'r cyfle jest i ofyn i Lywodraeth Cymru egluro beth sy'n digwydd efo prentisiaethau'r heddlu a'r ardoll ar gyfer hynny. Diolch.   

16:20

Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i siarad yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r pwyllgor a'i holl aelodau am yr adroddiad pwysig hwn. Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, bydd yr Aelodau'n gwybod fod gennyf ddiddordeb mawr mewn prentisiaethau, ar ôl bod yn brentis fy hun cyn dod i'r Cynulliad. Gyda hynny mewn golwg, gallwn dreulio amser hir heddiw yn siarad am y mater hwn, ond oherwydd prinder amser, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar dri phrif fater: un, hyfforddwyr prentisiaid; dau, awtomatiaeth; ac yn olaf, deallusrwydd emosiynol.

Yn 17 oed, ar ddechrau'r pedwerydd Cynulliad—i'r Aelodau sydd â diddordeb—dechreuais fy mhrentisiaeth mewn cwmni lleol ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Rhoddodd y brentisiaeth honno gyfle imi weithio, dysgu ac ennill cyflog, ac rwy'n falch fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel yng Nghymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Wedi dweud hynny, gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych o ddifrif ar fater hyfforddwyr. Pan fydd prentis wedi gwneud ei amser, gwyddom ei bod hi'n cymryd ychydig flynyddoedd i gael y profiad perthnasol fel crefftwr medrus sy'n darparu gwasanaeth llawn. Rwyf am gymryd y cyfle hwn i dalu teyrnged i John Steele, a ymddeolodd o fy ngweithle'n ddiweddar—y gweithle lle'r oeddwn yn ffodus i wneud fy mhrentisiaeth. Ef oedd fy mentor, fy ffrind, ac mae ei ymddeoliad yn codi cymaint o gwestiynau pwysig ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gan gwmnïau ledled Cymru bobl â sgiliau a phrofiadau perthnasol i allu hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.

Mae awtomatiaeth yn fater mawr arall a fydd yn effeithio ar y math o brentisiaethau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ystadegau diweddar a welwyd yn ddiweddar ar y mater hwn. Roeddent yn datgelu y bydd cyfran y swyddi sydd mewn perygl yn sgil awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar yng Nghymru yn amrywio o 26 y cant i dros 36 y cant. Tynnwyd sylw at fy etholaeth i yn Alun a Glannau Dyfrdwy fel yr etholaeth lle roedd y ganran uchaf o swyddi mewn perygl yn sgil awtomeiddio, ar 36 y cant. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru pan ddywed, yn hytrach na gofyn beth fydd awtomatiaeth yn ei ddwyn oddi wrthym, y dylem fod yn gofyn sut y gall awtomatiaeth ein helpu i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a llesiant ein bywydau a'n cymunedau. Dylem groesawu awtomatiaeth fel cyfle economaidd enfawr, a sicrhau ar yr un pryd fod gennym strategaeth ar gyfer ymdrin â risgiau'r technolegau hyn.

Ar y pwynt hwn yn awr, mae'n bwysig cydnabod a thynnu sylw at bwysigrwydd deallusrwydd emosiynol. Nawr, rydym oll wedi bod yno: rydych yn archebu tocynnau i ddigwyddiad ar-lein, rydych chi bron â gorffen, ond mae'r sgrin ddiflas honno'n dod i'r golwg a gwneud i chi deipio llythrennau a rhifau niwlog, ar y diwedd un, mewn blwch. Nawr, cam yw hwn, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod, i sicrhau mai person yn prynu tocyn i'ch hoff gyngerdd neu gêm bêl-droed ydych chi, ac nad rhaglen gyfrifiadurol a ddefnyddir i fachu llwyth o seddi. Nawr, y lefel honno o ddeallusrwydd emosiynol a fydd yn sicrhau nad yw'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn waeth eu byd o ganlyniad i awtomeiddio. Mae arnom angen canfod pwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu taro galetaf gan awtomatiaeth, a datblygu camau wedi'u targedu i helpu'r bobl hynny. Rhaid i hynny gynnwys cymorth ariannol a seicolegol, yn ogystal â gwella sgiliau'r gweithlu.

Yn olaf, i gloi, rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr yn ogystal â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym brentisiaethau medrus o safon uchel, ac sy'n talu'n dda, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Diolch.

16:25

Rydym yn croesawu ymateb da Llywodraeth Cymru ar y cyfan i'n hadroddiad, er ein bod yn siomedig wrth gwrs ei bod wedi dewis gwrthod rhai o'n hargymhellion. Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Menter, Arloesedd a Sgiliau i'r modd y darparwn brentisiaethau yng Nghymru yn dangos bod consensws bellach ar draws y sector diwydiant a'r sector addysg fod prentisiaethau, ers llawer gormod o amser, wedi bod yn elfen a esgeuluswyd o'n proses wella sgiliau. Wrth gwrs, rydym bellach yn wynebu canlyniadau'r esgeulustod yn y prinder o weithwyr â chymwysterau addas sydd eu hangen ar bob lefel yn ein sector busnes a'r sector cyhoeddus. Mae'n braf nodi, fodd bynnag, fod darparwyr addysg, ar lefel addysg bellach ac addysg uwch, bellach yn croesawu'r rhan hanfodol hon o'n sylfaen economaidd, ac mewn gwirionedd mae'n ymddangos bod newid pwyslais mawr ar sicrhau bod cymwysterau'n fwy perthnasol i anghenion busnes.

Er mwyn lliniaru'r anghydbwysedd hwn rhwng anghenion busnes a'r sector cyhoeddus a gweithlu medrus addas, rhaid cael mwy o bwyslais ar wella sgiliau seiliedig ar waith, ac ehangu'r cyfleusterau technegol yn ein colegau fel eu bod yn cyd-fynd yn well ag anghenion y gweithle. Mae'r dystiolaeth a gasglodd y pwyllgor yn awgrymu bod yna sylfaen gref o brentisiaethau yng Nghymru, ond ceir diffygion amlwg mewn rhai meysydd, yn enwedig o ran prentisiaethau ar gyfer pobl anabl, sy'n dangos ffigurau gwaeth o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr. Rhaid i hwn fod yn faes blaenoriaeth uchel i bawb sy'n ymwneud â darparu prentisiaethau. Gwelsom hefyd na cheir darpariaeth ddigonol o brentisiaethau iaith Gymraeg, lle yr ymddengys bod prinder staff addysgu â'r cymwysterau addas yn y fframweithiau prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Un maes hanfodol bwysig lle y nodwyd diffygion gan ein hymchwiliad oedd y ddarpariaeth o wybodaeth a llwybrau digonol yn ein hysgolion mewn perthynas â chyfleoedd prentisiaeth. Bellach, mae'n ddyletswydd ar yr holl asiantaethau, ysgolion, cydweithwyr a sefydliadau addysg bellach i hyrwyddo'r llwybrau i sgiliau galwedigaethol fel dewis amgen yn lle cymwysterau academaidd. Yn gysylltiedig â hyn rhaid sicrhau mwy o ymwneud rhwng busnesau a'r sector addysgol. Nododd ein hymchwiliad fod Llywodraeth Cymru yn rhoi polisïau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Er mwyn sicrhau bod gennym y niferoedd perthnasol yn dilyn llwybr prentisiaeth, mae'n gwbl hanfodol fod yr holl asiantaethau cysylltiedig yn cychwyn ar strategaeth i sicrhau bod parch cydradd rhwng cyflawniad galwedigaethol ac academaidd. Fodd bynnag, fel y mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn nodi, ni ellir sicrhau parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd heb gyllid cydradd. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw i hyn fel mater o flaenoriaeth.

I gloi, mae'r bartneriaeth rhwng addysg a busnes yn hanfodol i sicrhau bod gennym y sylfaen sgiliau gywir i yrru economi Cymru yn ei blaen yn yr unfed ganrif ar hugain.

Fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr, o ystyried ein bod yn brin o amser. Roeddwn am wneud achos dros brentisiaethau lefel uwch a'r ffaith bod datblygu gradd-brentisiaethau yng Nghymru ar lefel 6. Credaf fod yna brifysgolion sy'n barod i gynnig prentisiaethau gradd ar lefel Meistr. Credaf fod honno'n ffordd arwyddocaol ymlaen sy'n awgrymu, o'r dystiolaeth yn Lloegr yn sicr, y bydd prentisiaethau lefel gradd yn cael eu dilyn mewn pynciau STEM gan fenywod sydd am astudio'r pynciau hynny, yn ogystal ag ymhlith dysgwyr o ardaloedd lle mae lefelau cyfranogiad mewn addysg uwch yn isel yn draddodiadol. Felly, mae dilyniant i lefel Meistr yn bwysig iawn.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion 9 a 10 ynghylch yr angen am eglurder a sicrwydd o ran ariannu gradd-brentisiaethau. Ond credaf hefyd—. Rwy'n bryderus ynghylch gwrthod argymhelliad 12, sy'n dweud mai'r prifysgolion sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu eu cyrsiau, ond hoffwn gael cyfle i graffu, yn y Siambr hon neu yn y pwyllgor, y modd y caiff gradd-brentisiaethau eu cyflwyno ledled Cymru. Os caiff ei adael i'r prifysgolion ar eu pen eu hunain, mae arnaf ofn y byddant yn gwneud gwaith da ond gallent fod yn brin o atebolrwydd democrataidd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eithaf pwysig.

Hefyd, hoffwn fynd ar drywydd pwynt a wnaeth Siân Gwenllian. Siaradais â fy rhagflaenydd ddoe, Jeff Cuthbert, fy rhagflaenydd fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili—hoffwn ddweud wrth y Siambr nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i fynd yn gomisiynydd heddlu a throseddu, ond ef yw'r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer fy rhanbarth i ar hyn o bryd—a nododd y pryder ynglŷn â'r £2.8 miliwn o ardoll brentisiaethau sy'n mynd i'r DU ac na all gwasanaeth yr heddlu elwa arno. Mae'n fater hynod o bwysig nad yw'n digwydd yn Lloegr, ac mae'n un dadleuol. Mae'n hurt fod y Trysorlys wedyn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ariannu hyfforddiant galwedigaethol yn yr heddlu ac felly, carwn annog y Gweinidog a'r Llywodraeth i godi hyn gyda'u cymheiriaid yn y DU. A chyda hynny, rwy'n credu y dof â fy sylwadau i ben, er mwyn rhoi amser i rywun arall gyfrannu o bosibl.

16:30

Croesawaf adroddiad y pwyllgor, sy'n ymdrin â materion yn ymwneud ag un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru: sut i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru. Mae arolwg economaidd chwarterol Siambr Fasnach Prydain ar gyfer chwarter terfynol 2017 yn dangos bod prinder sgiliau yn cyrraedd lefelau critigol. Mae cwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu a'r sector gwasanaethau yn nodi anawsterau recriwtio. Maent yn honni bod canlyniadau'r arolwg yn pwysleisio'r angen i roi hwb i'r economi drwy fynd i'r afael â rhwystrau i dwf, yn arbennig y bwlch sgiliau cynyddol sy'n llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i ddatblygu. Wrth wneud sylwadau ar y canlyniadau, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambr Fasnach Prydain:

Prinder sgiliau a llafur fydd y llyffethair mwyaf i fusnes yn 2018, gan mai pobl sy'n gwneud i fusnesau weithio yn y bôn.

Mae meddu ar sgiliau yn gallu ychwanegu'n fawr at botensial ennill cyflog y gweithwyr yng Nghymru oherwydd bod gweithwyr medrus mor brin yma. Rwy'n pryderu bod Llywodraeth Cymru yn methu hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gamau cynnar. Mae gwybodaeth gyrfaoedd mewn ysgolion am brentisiaethau yn hanfodol os ydym yn mynd i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig fel sydd eu hangen yn daer ar ein heconomi. Mae'r pwyllgor yn nodi problemau gydag ansawdd ac argaeledd cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig, a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgol. Mae ysgolion hefyd yn arddangos tueddiad i annog disgyblion i astudio pynciau i Safon Uwch. Mae angen i sefydliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael gwell mynediad at ysgolion er mwyn ehangu'r ystod o gyngor a gaiff pobl ifanc am eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Drwy wneud hynny, rwy'n hyderus y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd i fynd i'r afael â'r lefelau sy'n peri pryder o anghydbwysedd rhwng y rhywiau a diffyg cynrychiolaeth pobl anabl a welwn mewn prentisiaethau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ar ôl annog pobl ifanc i wneud prentisiaethau, rhaid inni edrych yn awr ar lefel y cymorth a ddarparwn iddynt. Ceir tystiolaeth sylweddol fod rhwystrau ariannol, megis costau trafnidiaeth, yn datgymell ac mewn rhai achosion, yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid ar y cyflogau isaf neu greu consesiynau eraill, megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach fel sydd eisoes yn bodoli i rai myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ym mis Hydref y llynedd, addawodd y Ceidwadwyr Cymreig roi teithio am ddim ar y bysiau a thraean oddi ar bris tocynnau trên i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Jeremy Corbyn gynlluniau i roi teithio am ddim ar fysiau i bobl dan 25 oed yn Lloegr. Felly, byddai'n eironig yn wir pe baem ni yng Nghymru, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle mae Llafur mewn grym, yn gwadu'r cymorth sydd ei angen ar ein pobl ifanc i gael mynediad at y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu ein heconomi yn y dyfodol.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau am sgiliau digidol yng Nghymru hefyd. Mae bron i hanner yr holl fusnesau bach yng Nghymru yn brin o'r sgiliau busnes digidol a allai eu helpu i wella cynhyrchiant ac arbed costau. Un o'r rhwystrau sy'n dal cwmnïau yng Nghymru yn ôl rhag gwneud mwy ar-lein yw prinder staff sydd â sgiliau digidol. Ddirprwy Lywydd, credaf fod yr argymhelliad yn yr adroddiad hwn yn gam mawr posibl ymlaen i roi hwb i nifer y prentisiaethau a darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen ar Gymru yn awr ac yn y dyfodol.

Yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dysgu hedfan, a gwn fod pobl 20 mlynedd yn ôl yn arfer mynd am hyfforddiant galwedigaethol i gael eu trwydded hedfan. Rwy'n eithaf sicr fod yn rhaid bod nifer o gwmnïau awyrennau'r byd yn cyflogi'r peilotiaid hynny, y rhai nad ydynt yn gwneud pethau eraill—daethant yn beilotiaid ac maent yn gwasanaethu eu gwledydd. Pe bai'r Ceidwadwyr yn dod i rym, mae un neu ddau o feysydd y byddwn yn sicr o'u gwneud: rhywedd, oedran a NEET—ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Fe wnawn yn siŵr y bydd y bobl hyn yn dysgu ar gyfer cyflawni eu potensial llawn mewn bywyd yn ôl eu doniau. Rhaid inni gael rhyw fath o system yn yr adran addysg i wneud yn siŵr fod ein plant yn tyfu ac yn cyflawni eu potensial llawn mewn bywyd, yn ôl eu dawn a'u gallu mewn bywyd, ni waeth a ydynt yn bobl anabl neu heb fod yn anabl, yn ddynion neu'n fenywod, yn ifanc neu'n hen. Byddant i gyd yn gyfartal yng ngolwg y Blaid Geidwadol. Diolch.

16:35

Fel aelod o'r pwyllgor, roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar ychydig o argymhellion. Yn gyntaf, argymhelliad 6, sy'n galw am gronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid, a hefyd am ymestyn consesiynau megis cynlluniau teithio i brentisiaid hefyd. Mae hynny, rwy'n teimlo, yn cysylltu ag argymhelliad 7, sy'n galw am sefydlu grant cyffredinol i dalu am gostau byw ar gyfer pob prentis.

Credaf eu bod yn ymdrin â gwahanol agweddau ar yr un her, sef sicrhau cydraddoldeb rhwng prentisiaid a myfyrwyr, rhwng y galwedigaethol a'r academaidd. Roedd y dystiolaeth a gawsom gan dystion ar hyn yn glir iawn. Roedd Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu, partneriaeth sgiliau rhanbarthol de-orllewin a chanolbarth Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach oll yn cytuno bod angen gwneud llawer mwy o waith yn y maes hwn. Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod cymorth i fyfyrwyr prifysgol yn seiliedig ar sicrhau ei bod yn gyfwerth â'r cyflog byw, ond nid yw hynny'n wir am gyllid ar gyfer prentisiaethau.

Yn amlwg, mae caledi ariannol yn rhwystr sy'n atal pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig rhag manteisio ar brentisiaethau. Felly, mae angen darparu er mwyn sicrhau nad rhwystrau economaidd yw'r unig ffactor sy'n datgymell ymgeiswyr posibl. Ar ben hynny, fel y dywedodd eraill, mae angen hyrwyddo parch cydradd rhwng astudiaethau addysg uwch a phrentisiaethau. Mae gwledydd fel yr Almaen yn gwneud hyn mor dda a phe gallem gael y newid hwnnw yn y wlad hon, byddai'n beth gwych.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad mewn egwyddor a bod gwaith yn mynd rhagddo. Edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf gan Weinidogion yn y dyfodol fel y gallwn sicrhau bod ein prentisiaid yn cael bargen deg ac yn cael parch cydradd.

Hoffwn gloi yn fyr drwy ystyried argymhelliad 3. Mae'n nodi ein canfyddiad y dylid darparu mwy o gymorth i gyflogwyr fel y gallant godi ymwybyddiaeth ynglŷn â manteision prentisiaethau ymysg trawstoriad ehangach o bobl ifanc. Yn bersonol, teimlaf ei bod yn anffodus fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Nodaf yr amrywiaeth o fecanweithiau y maent ar hyn o bryd yn eu defnyddio i sicrhau bod gwybodaeth ar gael am fanteision prentisiaethau a'r amryw o ddyfeisiau ymgysylltu a amlinellir yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 14 hefyd.

Fodd bynnag, o fy nghefndir mewn addysg uwchradd, gwn yn rhy aml o lawer nad yw ein pobl ifanc yn llwyr ymwybodol o'r ystod o brentisiaethau sydd ar gael mewn gwirionedd, neu'r manteision y gallant eu cynnig er mwyn datblygu eu gyrfa. Yn aml, mae'r cyfrifoldeb am gyfleu'r neges hon ar athrawon. Gyda chymaint o bwysau eisoes ar amserlen yr ysgol, nid yw bob amser yn bosibl i athrawon ennill yr arbenigedd sydd ei angen arnynt i ddeall manteision prentisiaethau modern, ac felly i'w hyrwyddo'n ddigonol. Does bosibl nad yw cyflogwyr sy'n cyflogi prentisiaid, a allai fod yn gyn-brentisiaid eu hunain, mewn sefyllfa well i hyrwyddo'r cyfleoedd yn y llwybr gyrfa hwn; i esbonio'r manteision a'r heriau sy'n gynhenid wrth ddewis llwybr nad yw'n arwain at brifysgol; a hefyd i nodi posibiliadau llwyddiant yn y maes hwnnw hefyd, fel ein cyd-Aelod Jack Sargeant. Felly, buaswn yn gobeithio y gellid gwneud mwy o waith yn y maes hwn. Diolch.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ganolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i'r Llywodraeth a'r bobl rydych eisoes yn gweithio gyda hwy i chwalu rhai o'r canfyddiadau ynglŷn â sut beth yw prentis, a sut beth yw prentisiaeth. Mae gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil raglen ysgol wych sy'n cynnwys adeiladu pont, ac maent yn mynd â hi o gwmpas yr ysgolion i roi cyfle go iawn i fyfyrwyr wneud pethau ymarferol. Mae gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu gynlluniau tebyg hefyd.

Yr hyn a ddaeth yn amlwg imi o'r dystiolaeth a gasglwyd gennym, i ddilyn yr hyn a ddywedodd Vikki, oedd bod pobl mewn ardaloedd lle roedd prentisiaethau'n weddol amlwg, megis mewn diwydiant lleol, boed yn waith ynni neu awyrofod neu unrhyw beth arall, yn gwbl ymwybodol, roedd eu rhieni'n gwbl ymwybodol, ac roeddent yn cymryd rhan yn y cyfleoedd roedd prentisiaethau'n eu cynnig. Ond po bellaf y byddech yn symud o leoliadau daearyddol o'r fath, y lleiaf o ymwybyddiaeth a geid, felly mae hynny'n rhoi'r cyfrifoldeb yn gadarn ar eraill i helpu i godi ac annog a hyrwyddo prentisiaethau yn y cymunedau hynny.

Mae arloesi gwirioneddol yn digwydd mewn cyfleoedd sy'n bodoli eisoes. Er enghraifft, mae yna arloesi anferth yn digwydd yn y diwydiant adeiladu nad yw wedi ei ddeall yn llawn, ac nid yw wedi ei ddeall yn llawn gan y bobl sy'n ceisio helpu disgyblion i ddeall y cyfleoedd hynny. A phe bai wedi ei ddeall yn llawn, credaf y gallem ddileu'r bwlch rhwng y rhywiau yn y diwydiant hwnnw dros nos bron. Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog, yw hyn: i geisio ymgysylltu â'r bobl nad ydynt ar hyn o bryd o fewn yr ysgolion, gyda'r diwydiannau eu hunain, ac adrodd yn ôl wrth y bobl a ddylai fod yn rhoi cyngor gyrfaoedd am yr arloesedd a'r posibiliadau o fewn y strwythur prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond sy'n newid yn gyflym.

Diolch yn fawr a diolch am y drafodaeth prynhawn yma. A gaf i ddiolch yn arbennig i Russell a'r pwyllgor am eu hargymhellion? Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi derbyn y mwyafrif helaeth o'r argymhellion, a hoffwn i jest drafod rhai o'r rheini nawr.

Ein gwaith yng Nghymru a rhaglenni prentisiaeth, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, yw ceisio ail-lunio'r dirwedd sgiliau er mwyn newid y ffaith, fel y nododd Mohammad Asghar, fod angen inni ateb heriau'r economi newydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod yn un o'n rhaglenni blaenllaw yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym darged o 100,000 o brentisiaethau newydd o safon uchel, a nod hynny yw cynhyrchu twf a buddsoddiad. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw; rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd yr amcanestyniad hwnnw.

Rydym yn gweld twf yn nifer y prentisiaethau yma yng Nghymru, tra'n gweld beth sydd wedi digwydd yn Lloegr oherwydd cyflwyno'r ardoll brentisiaethau—ardoll a gyflwynwyd heb ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru o gwbl. Yr hyn a welsom yno yw gostyngiad o 40 y cant yn nifer y prentisiaethau, yn ôl y felin drafod Reform yn Lloegr. Felly, rydym yn gwneud yn llawer gwell nag y maent yn ei wneud yn Lloegr, ond gadewch imi ei gwneud yn glir nad diddordeb mewn niferoedd yn unig sydd gennym, ac rwy'n credu mai dyna'r camgymeriad a wnaeth Lloegr.

Ni fyddwn yn gwanhau ac yn israddio brand prentisiaeth yma yng Nghymru, gan mai'r hyn sydd gennych yn Lloegr yw baristas yn gweini coffi sydd wedi cael prentisiaethau, neu bobl yn cael y teitl prentis pan fyddant ar gyflogau isel iawn gyda'r posibilrwydd, os ydynt yn ffodus, o gael swydd yn yr economi gig o bosibl. Nid dyna'r math o beth rydym yn anelu ato yma yng Nghymru. Felly, ein diddordeb yw moderneiddio prentisiaethau i ddiwallu anghenion sy'n newid yn yr economi a gwella ansawdd a pherthnasedd prentisiaethau.

16:45

Mark Isherwood a gododd—

Rydych yn cyfeirio, fel y gwneuthum wrth gloi, at adroddiad Reform, ac wrth gwrs, roedd hwnnw'n llawdrwm ar Lywodraeth y DU, ond hefyd gwnaeth gyfres o newidiadau arfaethedig, a dywedodd mai dull Llywodraeth y DU, mewn egwyddor, yw'r dull cywir a phe bai'r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, byddai'n gwneud pethau'n iawn am flynyddoedd i ddod. Pam felly na wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwnnw yng nghyd-destun y ddarpariaeth drawsffiniol yng Nghymru, sydd mor hanfodol i gynifer o filoedd o ddysgwyr ifanc?

Mae llu o resymau pam nad ydym yn mynd i ddilyn esiampl Lloegr. Mae 40 y cant o ostyngiad yn un o'r rhesymau, ond hefyd rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar ansawdd felly nid wyf yn bwriadu dysgu unrhyw wersi gan Loegr ar hyn.

Credaf mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw yw tlodi mewn gwaith, ac mae'n ffaith bod 40 y cant o'r bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru mewn gwaith. Felly, y broblem sy'n wynebu llawer o bobl, yn enwedig y rhai sydd heb lawer o gymwysterau, yw nad yw gwaith am dâl isel yn darparu cam tuag at swyddi ar gyflogau uwch ac mae pobl yn cael eu caethiwo ar gyflogau isel.

Dawn, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod llawer o broblemau yn y maes hwn mewn perthynas â chyflogau isel. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cadw llygad agos iawn ar gydymffurfiaeth mewn perthynas â'r isafswm cyflog, ac mae'n bwynt da y dylem sicrhau bod y comisiwn gwaith teg yn rhoi sylw i'r mater hwn, ac rwy'n ymrwymo i ysgrifennu at y comisiwn gwaith teg i fynd i'r afael â'r mater hwn pan gaiff ei sefydlu.

Rydym yn credu, fel Llywodraeth, mai ein cyfrifoldeb ni yw helpu pobl i dorri allan o'r cylch o sgiliau isel a chyflogau isel a chynorthwyo pobl i gael prentisiaethau lefel uwch ac i helpu pobl ar yr ysgol o gyfleoedd. Yr hyn a wyddom yw y bydd heriau'r dyfodol yn wahanol i rai'r gorffennol, a hoffwn gytuno'n llwyr â Jack Sargeant pan ddywed mai'r hyn sydd ei angen arnom yw ymateb gwahanol mewn oes o dechnoleg newydd ac awtomeiddio sy'n mynd i newid natur y gweithle. A dyna pam rydym yn canolbwyntio ar ehangu nifer y prentisiaethau lefel uwch a pham rydym mewn sefyllfa yn awr lle rydym wedi cynnull panel o arbenigwyr i edrych ar sut y bydd awtomatiaeth a thechnoleg ddigidol yn effeithio ar yr economi yn y dyfodol. Ond rwy'n derbyn y pwynt—ac nid wyf yn fodlon gyda'r pwynt—nad ydym, ar hyn o bryd, fel yr awgrymodd Vikki Howells, wedi cyrraedd cam lle mae gennym barch cydradd rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw ein ffocws ar hynny yn fy marn i.

Ceir adolygiad gan Lywodraeth y DU o addysg ôl-18, a byddwn yn aros am adroddiad y panel arbenigol hwnnw. Ac ar y pwynt hwnnw, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn adolygu wedyn, yn benodol, y gronfa galedi y mae gennym ddiddordeb mewn edrych arni a theithio am brisiau gostyngol i bobl ifanc. Felly, mae'r pethau hynny'n gwbl bendant ar ein hagenda.

Ein nod yw dyblu nifer y prentisiaethau uwch gyda ffocws ar STEM a chreu cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol sy'n mynd i ysgogi gwaith arloesol, creu cynnyrch newydd a chodi lefelau cynhyrchiant. Credaf fod Joyce yn llygad ei lle: mae yna lawer rydym wedi'i wneud eisoes mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth. Peirianwyr sifil, maent yn gwneud gwaith gwych yn mynd i mewn i ysgolion, fel yr awgrymodd. Ond credaf fod gan Vikki bwynt y gallem wneud mwy, yn ôl pob tebyg, mewn perthynas ag addysgu athrawon am brentisiaethau.

Rydym hefyd wedi datblygu llwybrau newydd i brentisiaethau drwy gyflwyno'r gradd-brentisiaethau o fis Medi ymlaen. Fel y clywsoch, rydym yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu'r gradd-brentisiaethau hynny. Rydym am gael hyn yn iawn, felly nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar niferoedd ac nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar dargedu dyddiadau. Credaf mewn gwirionedd ei bod hi'n rhy gynnar yn ôl pob tebyg i ni edrych ar radd Meistr ar y lefel hon. Gadewch i ni gael y radd-brentisiaeth yn iawn cyn inni symud ymlaen at y radd Meistr.

Gadewch imi fod yn glir mewn perthynas â phrentisiaethau hefyd ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ac ar fater cydraddoldeb rhwng y rhywiau, rydym wedi cyfarwyddo darparwyr prentisiaethau i roi cymorth ychwanegol a mentora i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, er enghraifft drwy annog mwy o fenywod i ymuno â'r proffesiwn adeiladu. Buom hefyd yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hybu—

16:50

Diolch. Roeddwn yn gwrando ar sylwadau Siân Gwenllian yn gynharach, a soniodd am adroddiad y Pwyllgor Economi a Busnes yn 2012. Efallai mai fi yw un o'r ychydig bobl sy'n dal i feddu ar gopi ohono yn fy wardrob i fyny'r grisiau, ac nid yw argymhellion 16 ac 17 yn union yr un fath air am air, ond maent yn dweud yr hyn rydych chi newydd ei ddweud yn union, Weinidog:

Darparu hyfforddiant cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd ac addysgwyr i gywiro unrhyw stereoteipio yn y cyngor a roddant.

Roedd hynny chwe blynedd yn ôl bellach, mewn gwirionedd, Siân. Yn amlwg, rydym yn dal i ymdrin â'r problemau hynny. A allwch ddweud wrthym beth rydych yn mynd i'w wneud i sicrhau nad ydym yn dal i wynebu'r un broblem ymhen chwe blynedd arall?

Wel, mae gennym gyfres gyfan o fesurau lle rydym yn hyrwyddo, yn ceisio cael menywod i mewn i'r meysydd hyn. Nid yw hon yn dasg hawdd—nid yw hyn yn hawdd. Os oes gan unrhyw un unrhyw syniadau da, gadewch inni wybod, am ei bod yn dasg anodd iawn. Rydym wedi cyflwyno dyddiau 'rhoi cynnig arni'. Weithiau, mae'r rhain wedi'u targedu'n benodol at fenywod i geisio gwneud yn siŵr eu bod yn rhoi cynnig ar weldio a'r proffesiynau nad ydynt o bosibl wedi ystyried rhoi cynnig arnynt. Felly, rydym yn gwneud ein gorau; rydym yn ei annog. Rwy'n gwneud fy ngorau gyda fy merch fy hun, ond gallwch fynd cyn belled, ac yn y pen draw, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni wneud hyn yn hwyl iddynt a'u cyflwyno'n gynnar iawn, a dyna pam y mae'n rhaid i STEM ddechrau yn yr ysgol. Rhaid i chi ddechrau ar oedran ifanc iawn a dyma sy'n digwydd drwy ein system addysg yn ogystal.

Rydym yn adolygu'r arferion recriwtio ar gyfer prentisiaethau yn benodol yn y sector peirianneg. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno; ar y sectorau hyn y mae angen inni ganolbwyntio. Siân Gwenllian, i'w gwneud yn glir

mae pob swyddog gyrfaoedd wedi'i hyfforddi mewn cydraddoldeb. Felly, rydym ni yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, pan fyddan nhw'n rhoi syniad o beth sydd ar gael—eu bod nhw'n ymwybodol bod yn rhaid iddyn nhw drial denu merched i hynny. 

Ar anabledd, mae'n deg dweud bod lefelau cyfranogiad pobl anabl mewn prentisiaethau angen eu gwella, ac rwy'n falch fod Mark Isherwood wedi tynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud gyda Remploy. Hefyd, rydym wedi hwyluso gweithdai rhwng darparwyr prentisiaethau a swyddfeydd rhanbarthol Remploy, ac rydym wedi sicrhau bod yna swyddog hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn gweithio gyda darparwyr, yn creu cysylltiadau â chymunedau lleol, ac rwy'n falch o ddweud bod y rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau wedi ymrwymo i adduned Amser i Newid Cymru, sef datganiad cyhoeddus eu bod am fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu. Ond gadewch i mi ddweud yn glir wrth David Rowlands fod hwn yn faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gwyddom fod gennym waith i'w wneud mewn perthynas â phrentisiaethau ac anabledd yn benodol. Rydym wedi datblygu pecyn cymorth, ac rydym wedi darparu hyfforddiant pwrpasol i'r rhwydwaith darparwyr hwnnw.

Rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaeth Mark ar hyfforddiant anabledd, a'r ffaith weithiau mai pobl anabl sy'n gallu ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol mewn gwirionedd—

Yn bendant.

Jest ychydig o eiriau ar yr iaith Gymraeg: a gaf i ddweud ei bod hi'n bosibl i astudio unrhyw brentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg lle mae'r galw? Rydw i eisiau gwneud hyn yn glir: bod prentisiaid yn gallu astudio yn yr iaith o'u dewis eu hunain, ond y ffaith yw mai ychydig iawn o bobl sy'n dewis gwneud prentisiaeth jest drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae eithaf lot nawr yn ei gwneud hi yn ddwyieithog, ond dewis y prentisiaid yw hynny. Felly, mae lot o bobl sydd ddim gyda'r hyder, efallai, y byddem ni'n gobeithio i'w gwneud hi'n unswydd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

A gaf fi wneud ychydig o bwyntiau am—?

Na chewch. Mae'n flin gennyf. Mae eich amser wedi hen ddod i ben, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf. Os oes un frawddeg bwysig derfynol sydd gennych i'w dweud, gallwch ddweud brawddeg olaf i orffen y ddadl.

Wel, dim ond i ddiolch i—. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu diddordeb yn hyn, oherwydd mae'n faes pwysig iawn i ni a hoffwn ofyn i chi ein cadw ar flaenau ein traed yn hyn o beth. Diolch yn fawr.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Dawn Bowden, a gaf fi ddiolch i chi am eich cyfraniad ar y mater a godwyd gennych ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth—ymwybyddiaeth gweithwyr? Credaf fod hynny'n berffaith gywir. Fe godoch chi rai materion nad oeddem wedi edrych arnynt yn ein hymchwiliad, ond credaf eu bod yn gwbl berthnasol i'r ddadl heddiw. Credaf yn sicr eich bod wedi rhoi sylw i rai meysydd yn eich cyfraniad y gallai'r pwyllgor fynd ar eu trywydd. A'ch pwyntiau mewn perthynas â chyfraddau cyflog nad ydynt yn cyrraedd y lleiafswm gofynnol—mae'r Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i edrych ar hynny ei hun, ond credaf hefyd fod yna rai meysydd y dylai'r pwyllgor wneud rhywfaint o waith arnynt hefyd o bosibl.

Defnyddiodd Mark Isherwood ei gyfraniad i dynnu sylw, i raddau helaeth, at dystiolaeth a gawsom gan Remploy mewn perthynas â phrentisiaid a phobl anabl. Mae hwn yn faes lle mae angen inni weld cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud; mae'r Gweinidog wedi cydnabod hynny ac wedi derbyn yr argymhelliad yn y cyswllt hwnnw yn ogystal.

Crybwyllodd Joyce Watson, Rhianon Passmore a Siân Gwenllian faterion yn ymwneud â rhywedd, pobl anabl, siarad Cymraeg, a dylwn ddweud, fel pwyllgor, ein bod wedi penderfynu peidio â gofyn am dargedau penodol yn hyn o beth; nid oeddem eisiau creu diwylliant ticio blychau. Cawsom rywfaint o drafodaeth ynglŷn â hynny, ac rydym yn awyddus i gael y diweddariadau rheolaidd hynny. Ond wrth inni ddod yn ôl fel pwyllgor i edrych eto ar y gwaith hwn, a byddwn yn gwneud hynny, os byddwn yn teimlo nad oes cynnydd yn cael ei wneud yn y meysydd hynny, efallai y gallai'r pwyllgor ystyried argymell targedau penodol ar eu cyfer.

Jack Sargeant, dylech ymuno â'n pwyllgor. Rydym newydd ddechrau gwaith ar awtomatiaeth y bore yma—cawsom sesiwn hynod ddiddorol y bore yma, ac rwy'n cytuno gyda'r holl bwyntiau a wnaethoch yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, fe sonioch am eich profiad fel prentis eich hun—felly, cymaint yn gyffredin â'r hyn y mae ein pwyllgor yn edrych arno. Byddai croeso mawr i chi ymuno â'n pwyllgor, ond byddai hynny'n golygu y buaswn yn gorfod dewis un Aelod ar eich ochr chi i adael, ac ni allwn wneud hynny ychwaith.

Roedd David Rowlands a Mohammad Asghar—fe ddywedaf Oscar; fe wnaf eich galw chi'n Oscar—hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer cyngor gyrfaoedd annibynnol a sicrhau'r cydbwysedd cywir ar gyfer economi Cymru, ac yn tynnu sylw hefyd at ein hargymhellion ar gyfer sicrhau cymorth i brentisiaid, wrth gwrs, sy'n cyfateb i'r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr.

Os caf ddiolch i Vikki Howells, wrth gwrs, am godi'r materion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth i annog pobl iau, mae'n debyg, a'ch profiad eich hun fel athro—wrth gwrs, rwy'n siomedig, fel chi, na dderbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 3 yn hyn o beth.

Diolch, Nick Ramsay, am eich ymyriad yn ogystal ag am fynd drwy eich wardrob y prynhawn yma i dynnu hen bapur pwyllgor allan ohono. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar waith ein pwyllgorau blaenorol ac nad ydym yn gadael iddynt hel llwch; rwy'n gredwr mawr yn hynny.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith a'u cyfraniad, ac i'r Aelodau sydd wedi gadael ein pwyllgor bellach? Mae dau Aelod wedi ymuno â'r Llywodraeth ers i ni ddechrau'r gwaith hwn.

Roeddwn eisiau diolch yn arbennig i BT ac Ymddiriedolaeth y Tywysog am wahodd y pwyllgor i arddangosiad o waith eu prentisiaid a'u pobl ifanc—roedd hwnnw'n gyfarfod gwerthfawr iawn i ni, ac rydym yn diolch ichi am hynny—ac i'r sefydliadau eraill a gyflwynodd dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor. Felly, credaf fod y ddadl heddiw wedi arddangos brwdfrydedd aelodau ein pwyllgor ond hefyd, brwdfrydedd yr Aelodau nad ydynt yn aelodau o'n pwyllgor yn ogystal. Mae'n galonogol nodi bod llawer o'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl heddiw heb fod yn aelodau o'r pwyllgor, a dyna'r ffordd y credaf y dylai fod; dylai hynny fod yn norm.

Ac rwy'n gwerthfawrogi brwdfrydedd y Gweinidog hefyd mewn perthynas â phrentisiaethau; gallaf yn sicr gytuno a gweld hynny. Felly, gallaf ddweud wrth y Gweinidog y byddwch yn falch o wybod na fydd y pwyllgor yn gadael prentisiaethau ar ei hôl hi ar ôl y ddadl hon. Byddwn yn cyhoeddi ein barn ar flwyddyn gyntaf yr ardoll yn ddiweddarach yn ystod y tymor hwn, ac mae hwn yn fater a grybwyllwyd gan Hefin David a Siân Gwenllian. Felly, rwy'n falch o ddweud y caiff rhai o'r materion sy'n ymwneud â phlismona a grybwyllwyd yn y ddadl heddiw eu trafod bryd hynny hefyd. Ond gallaf ddweud wrth y Gweinidog y byddwn yn sicr yn dal ati i roi pwysau ar y Llywodraeth o ran y gefnogaeth i brentisiaethau a'r pecynnau cymorth i brentisiaid sy'n cyfateb i'r rhai sydd ar gael i fyfyrwyr yn ogystal.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dreth trafodiadau tir ar dir masnachol. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.

Cynnig NDM6719 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant).

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Paul Davies AC. Fe gyfeiriaf at y gwelliannau yn gyntaf.

Rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, sy'n adlewyrchu datganoli pwerau a gytunwyd rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 3 Plaid Cymru. Gyda'n pwerau treth newydd, mae angen inni graffu'n dda ar sut y'u defnyddir ac unrhyw effaith ar yr economi. Mae adolygiad o drethiant eiddo yn briodol, o ystyried nifer y trethi sydd gennym bellach sy'n effeithio ar eiddo. Dylid cyflymu hyn yn awr gan ein bod am roi ystyriaeth frys i uwch dreth 6 y cant y Blaid Lafur ar drafodiadau masnachol sylweddol. Byddwn yn gallu cymharu effaith eu huwch dreth 6 y cant—un rhan o bump yn uwch na'r 5 y cant o dan dreth dir y dreth stamp—a'r gyfradd 4.5 y cant is yn yr Alban. Yn ôl arweinwyr diwydiant, mae hyn wedi gwneud eiddo masnachol yr Alban yn fwy cystadleuol, sy'n amlwg o'r galw cynyddol a brofodd y farchnad. Mae datganoli yn caniatáu inni asesu tystiolaeth o bob rhan o'r DU ac i ailystyried polisi anghywir. Rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwnnw.

Gan droi at welliant y Llywodraeth y byddwn yn ei wrthwynebu oherwydd ei gymal 'dileu popeth' diystyriol, fe gyfeiriaf at ei ddwy ran. Mae Llywodraeth Cymru yn gywir i ddweud nad oes unrhyw Aelod Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn gosod y bandiau treth hyn, ond fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn ac yn cofio o'n dadleuon ar y Pwyllgor Cyllid, ac ymdrechion gennyf fi a Nick Ramsay i roi'r cyfraddau hynny ar wyneb y Bil, y rheswm am hynny yw bod y bandiau treth, yn groes i'n deisyfiadau, wedi'u cyflwyno drwy reoliadau, ac nid oes gennym bŵer i'w diwygio. Roedd yn benderfyniad i'w gymryd neu ei adael a'r hyn rydym yn pryderu yn ei gylch yw'r uwch dreth o 6 y cant ar drafodiadau masnachol sylweddol, nid cyfundrefn y dreth trafodiadau tir yn ei chyfanrwydd.

Mae ail hanner gwelliant y Llywodraeth yn ymwneud â phrynu safle gorsaf fysiau Caerdydd ychydig ddyddiau'n unig cyn y newid o dreth dir y dreth stamp i dreth trafodiadau tir. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru bellach yn gliriach ynglŷn â'i sefyllfa, ond mae'n dal yn aneglur ynglŷn â pham na wnaeth unrhyw gyhoeddiad am brynu safle'r orsaf fysiau ddiwedd mis Mawrth tan 18 Ebrill, na pham y rhoddodd Ken Skates ateb mor niwlog i mi yn ysgrifenedig ar 11 Ebrill. Efallai na ddylwn roi amser rhy galed i Ken am ei atebion ysgrifenedig ar ddechrau mis Ebrill—wedi'r cyfan, roedd yn ein cynrychioli yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur lle bu ein hathletwyr yn llwyddiannus iawn o dan ei anogaeth. Yr un peth sydd i'w weld yn gyson drwy ymateb y Llywodraeth i'n cwestiynau yw nad yw wedi ennill unrhyw fantais o ran trethiant. A all egluro felly beth oedd y cymhelliad i frysio cytundeb gorsaf fysiau Caerdydd drwodd cyn diwedd mis Mawrth? Ai er mwyn i'r gwariant cyfalaf gyfrif yn erbyn cyllideb 2017-18 yn hytrach na chyllideb y flwyddyn hon y gwnaed hynny?

Wrth gwrs, y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn mwynhau mantais dreth wrth ymdrin ag eiddo. Mae'n elwa o esemptiad y Goron. Felly, nid yw'n talu treth dir y dreth stamp na threth trafodiadau tir, yn wahanol i'r sector preifat. Fel buddsoddwr mewn eiddo, ni chaiff ei heffeithio pa un a yw'r gyfradd yn 5 y cant neu'n 6 y cant—[Torri ar draws.] Ai ymyriad oedd hwnnw?

Jenny Rathbone a gododd—

Credaf ein bod yn llwyr ymwybodol o esemptiad y Goron, ond ni allaf ddeall, felly, pam nad ydych yn hapus i dderbyn gwelliant y Llywodraeth, oherwydd yn amlwg, gan fod ganddynt esemptiad y Goron, ni fyddai byth angen iddynt orfod talu'r dreth trafodiadau tir. Mae'n non sequitur llwyr.

Wel, y rheswm rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant yw ei fod yn dechrau gyda 'dileu popeth' gan gyfeirio at ein cynnig. Hefyd, mae gennym rai pryderon ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei thrin o gymharu ag awdurdodau lleol a chyrff eraill o bosibl, a'r gwahaniaethau posibl rhwng treth trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp a'r effeithiau canoli y credwn y gallai hynny eu cael ar bartneriaethau.

Beirniadais Lywodraeth Cymru o'r blaen am ei diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu mewn perthynas â datblygu swyddfeydd a thwf cyflogaeth, yn enwedig yn etholaeth yr Aelod sydd newydd siarad, Canol Caerdydd. Mae un Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, yn hyrwyddo ardal fenter, ac eto mae un arall, Mark Drakeford, yn ei gwneud yn ddarostyngedig i drethi cosbol. Mae arweinwyr diwydiant yn dweud eu bod eisoes yn gweld prisiadau asedau'n gostwng a buddsoddwyr na fyddant mwyach yn ystyried Cymru o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniad polisi hwn. Sut y mae cysoni'r hyn y mae Ken Skates yn ei ddisgrifio fel ei ddull o weithredu sy'n gyfeillgar i fusnes ag uwch dreth newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid? Mae'r diwydiant eiddo'n dweud wrthym y bydd diddordeb buddsoddwyr preifat yn edwino'n sylweddol gyda'r codiad yn y dreth trafodiadau tir a bydd yn arwain at wneud eiddo Cymru yn llai cystadleuol na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd buddsoddwyr yn bryderus y gallai hyn ddigwydd eto wedi i'r dreth godi unwaith. Efallai na fydd symud y Gweinidog a gefnogir gan Corbyn, y Gweinidog a gododd y dreth, i'r brif swydd yn lleddfu ofnau o'r fath. Adroddodd y BBC ar 28 Mawrth sut y gallai Llywodraeth Cymru ochrgamu o gwmpas buddsoddwyr preifat sy'n amharod i dalu ei baich treth cynyddol. Yn ôl y BBC, ar gyfer y Sgwâr Canolog, bydd Llywodraeth Cymru yn prynu'r swyddfeydd ar y safle, felly mae trethiant cosbol yn arwain at wladoli. Bydd Jeremy Corbyn wrth ei fodd.

Er bod gan Lywodraeth Cymru esemptiad y Goron rhag treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir, y cyngor a gefais gan dîm cyfreithiol y Cynulliad drwy'r Gwasanaeth Ymchwil yw y gallai awdurdodau lleol gael eu trin yn llai hael gan y dreth trafodiadau tir. Os byddant yn prynu eiddo ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gallai treth trafodiadau tir fod yn daladwy, ond gallai rhai pryniannau y gallai Cyllid a Thollau EM fod wedi'u heithrio rhag treth dir y dreth stamp fod yn ddarostyngedig i'r dreth trafodiadau tir. Efallai mai'r opsiwn mwy diogel i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adfywio bellach fyddai ymostwng i arweiniad Llywodraeth Cymru, a dibynnu ar esemptiad y Goron i Lywodraeth Cymru grynhoi tir ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn gynlluniau a ysgogir yn lleol. Rwyf wedi siarad am orsaf fysiau Caerdydd, ond gallai'r goblygiadau fod yn ehangach fel y bydd Suzy Davies yn ei drafod ar gyfer rhanbarth Abertawe.

Yn olaf, rwy'n pryderu'n fawr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fod wedi gwneud camgymeriad difrifol ym mis Ionawr yn ei adroddiad ar bolisi treth Cymru ym mharagraffau 60 a 61. Mae'n cyfaddef y bydd treth trafodiadau tir uwch

yn gostwng prisiau a nifer y trafodiadau amhreswyl,

ond mae'n dweud wedyn,

Amcangyfrifir maint yr effeithiau hyn gan ddefnyddio effeithiau ymddygiadol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol,

gan ddefnyddio hyblygrwydd treth dir y dreth stamp. Mae seilio ei ragolwg ar gyfrifiadau ledled y DU i gyd yn anwybyddu'n llwyr yr effaith newidiol debygol oddi wrth economi gymharol fach Cymru. Er ei bod yn anodd i fuddsoddwyr y DU ddianc rhag treth dir y dreth stamp sy'n uwch, gallant osgoi treth trafodiadau tir yn llawer haws drwy fuddsoddi ym Mryste neu Birmingham neu Reading, yn hytrach nag yng Nghaerdydd neu yn Abertawe. Rwy'n ofni bod penderfyniadau a chyllideb Ysgrifennydd y Cabinet wedi methu ystyried hynny.

Heddiw, rydym yn trafod y dreth trafodiadau tir a'r gyfradd gosbol o 6 y cant a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eiddo masnachol gwerth uwch. Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma sut y bydd pethau gyda'r dreth incwm hefyd?

17:05

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.

b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Plaid Cymru. A jest i fod yn glir, er fy mod i'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i'n siarad heddiw ar ran Plaid Cymru ac yn absenoldeb, wrth gwrs, aelod arall Plaid Cymru o'r pwyllgor, sef Steffan Lewis.

Mae'n dda gen i siarad ar y mater yma. Rydw i'n falch ein bod ni'n cael trafodaeth ar y dreth ddatganoledig gyntaf. Dyma'r drafodaeth gyntaf, y dreth gyntaf—rydym ni'n gwneud pethau am y tro cyntaf. Ac rydym ni'n cael Aelod yn siarad dros y Blaid Geidwadol am y tro cyntaf sydd ddim yn aelod o'r Blaid Geidwadol, so mae hynny'n dro cyntaf hefyd, ac nid ydw i'n siŵr pa mor gysurus y gwnaed hynny, o edrych ar wynebau rhai o'i gyd-aelodau o'r grŵp. Ond beth bynnag, mae e wedi agor y drafodaeth.

Nid yw Plaid Cymru yn cytuno—. Wel, a gawn ni ei ddweud e fel hyn? Nid ydym ni o'r un farn â Mark Reckless wrth gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, ein bod ni'n gweld a yw'r gwahaniaeth mewn trethi rhwng Cymru a Lloegr—sydd wedi'i amlinellu, ac wedi'i gymeradwyo, fel mae gwelliant y Blaid Lafur ei hun yn ei ddweud, gyda chefnogaeth pawb yn y Senedd hon—yn mynd i weithio. Achos er bod yna gyfradd uwch ar gyfer eiddo dros £1 miliwn, mae yna gyfradd is, neu heb gyfradd o gwbl, ar gyfer rhai enghreifftiau o eiddo masnachol yng Nghymru, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni, o leiaf, gadael blwyddyn i weld a ydy'r polisi yma yn mynd i weithio, a ydy e'n mynd i annog datblygiad yn yr economi sylfaenol—rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn gofyn amdano fe—ac a ydy e'n wir yn mynd i arwain at ddatblygiad diddorol, yn enwedig yng nghanolfannau ein trefi ni.

Rydw i'n gweld bod aelod arall o'r Pwyllgor Cyllid eisiau ymateb.

17:10

Diolch, Simon. Oni fyddech yn cytuno, os mai'r cyfan a wnawn yw copïo popeth a wneir yn Lloegr o ran cyfraddau, waeth i ni beidio â chael trethi wedi'u datganoli?

Wel, ie, mae hynny'n bwynt hollol deg, a dyna pam rŷm ni wedi gofyn am ddatganoli rhai o'r trethi yma, a dyna pam mae gwelliant Plaid Cymru yn sôn yn benodol am gyfraddau treth yn mynd law yn llaw gydag effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, achos mae mwy i bolisi trethu na beth yw'r gyfradd ar gyfer eiddo penodol. Yr effaith rŷch chi'n moyn i'r trethi yma ei gyrru sydd yn bwysig, ac mae ein gwelliant ni, wrth gwrs, yn crisialu nodau Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn y ffordd rydym ni wedi'i osod e allan. 

So, er nad ydym yn cefnogi'r hyn sydd gan y Torïaid i ddweud heddiw, a'n bod ni am, wrth gwrs, i bobl gefnogi ein gwelliannau ni, rydym ni hefyd yn cydnabod ei fod yn briodol iawn i drafod, hyd yn oed yn fuan iawn, beth yw pwrpas polisi trethu a sut mae'n mynd i gael effaith economaidd a masnachol. Yn hynny o beth, mae Plaid Cymru wedi rhoi gwelliant i lawr sy'n sôn yn benodol am waith ehangach polisi trethu ac eiddo yng Nghymru. Rŷm ni wedi cyflwyno treth trafodiadau tir newydd, ond y trethi busnes, wrth gwrs, yw'r prif drethi y mae pobl yn eu talu. O flwyddyn i flwyddyn, dyna'r brif dreth sy'n cael effaith ar ddiwydiant a masnach yng Nghymru, a dyna'r un lle mae polisi treth y Llywodraeth wedi datgan eu bod nhw eisiau edrych i mewn i hyn, i weld a oes yna bosibiliadau o wella trethi busnes yng Nghymru. Mae ein gwelliant ni yn gofyn i gyflymu'r broses yma, achos rydw i yn meddwl, ac mae Plaid Cymru o'r farn, fod yna enghreifftiau yn fan hyn o lle y gallwn ni wella er lles yr economi leol.

Fe wnaf i jest ddewis un maes fel enghraifft o hyn—ac rydw i'n datgan diddordeb yn fan hyn, achos rydw i'n gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol ar dafarndai a chwrw. Ond mae tafarndai, os edrychwch chi ar effaith trethi busnes ar dafarndai—sut mae hynny wedi digwydd, y diwygio'r llynedd a wnaeth arwain at nifer o dafarndai a gwestai yn gweld cynnydd uchel iawn—ar hyn o bryd, mae tafarndai yng Nghymru yn talu bron 3 y cant o'r holl drethi busnes yng Nghymru, ond maen nhw ond yn 0.5 y cant o'r nifer o fusnesau yng Nghymru. Mae yna mismatch llwyr rhwng y nifer o fusnesau sy'n dafarndai a faint o dreth busnes maen nhw'n ei hysgwyddo. Maen nhw'n talu rhywbeth fel £0.5 biliwn, oherwydd hynny, yn fwy nag y bydden nhw pe bydden nhw'n cael eu trethu yn yr un modd â busnesau eraill. Mae hi hefyd yn cael ei rhagweld y bydd trethi busnes ar dafarndai yng Nghymru yn cynyddu rhyw 18 y cant erbyn 2021-22.

Nawr, nid gofyn ydw i i hynny gael ei newid yn llwyr, ond i ni ddechrau symud at system o drethi busnes sydd yn cydnabod—fel mae'r gwelliant yn ei wneud—pwysigrwydd cymdeithasol ac economaidd unrhyw bolisi treth, a hefyd y posibiliadau yn fan hyn o sicrhau bod naill ai tafarndai, neu fusnesau yng nghanol trefi, hefyd yn gweld bod eu trethi yn cael eu seilio ar drosiant ac elw yn hytrach na phresenoldeb lle a thir yn unig. Rydw i'n credu bod y materion yma yn werth eu trafod, felly rydw i'n croesawu'r ffaith bod gennym ni drafodaeth o'r fath, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed barn nifer o Aelodau eraill ar hyn, achos un peth sydd yn sicr gyda dyfodiad treth incwm yn cael ei datganoli yw y bydd hwn yn fwy o bwnc llosg fyth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n canmol y sawl a'i hagorodd am y sylwadau a wnaeth yn gosod y cefndir ynglŷn â'r ffordd y mae Cymru'n wynebu'r amgylchedd newydd, cyfnod newydd o gyfraddau treth, a'r fantais gystadleuol—neu fel arall, fel y bo'n berthnasol—y mae Cymru ynddo gyda'r cyfraddau y mae'r Llywodraeth yn eu gosod. Mae'n hollol iawn a phriodol i'r Llywodraeth osod y cyfraddau. Rydym yn byw mewn democratiaeth, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddynt, a'r galwadau am eu gwasanaethau cyhoeddus a diogelu refeniw cyhoeddus, dyna'n amlwg yw rôl y Gweinidog Cyllid, fel yr amlygodd yn ei lythyr ataf ar 21 Mawrth. Nid ydym yn anghytuno â hynny o gwbl. Y pwynt yr ydym yn ei wneud yn y ddadl heddiw mewn gwirionedd yw bod lefel y trethiant y mae'r Gweinidog wedi dewis ei gosod wedi rhoi Cymru dan anfantais gystadleuol, ac nid y Ceidwadwyr sy'n gwneud y pwynt hwnnw, y diwydiant ei hun sy'n gwneud y pwynt hwnnw gan bron bob syrfëwr masnachol blaenllaw sydd, yn amlwg, wedi bod yn lobïo'r Ysgrifennydd Cyllid ar y mater penodol hwn.

Pan edrychwch ar y manteision economaidd y mae Cymru wedi elwa ohonynt dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'n ystyriaeth bwysig i brosiectau yn yr uwch gynghrair o brosiectau dros £50 miliwn, megis campws y bae Prifysgol Abertawe, datblygiad Waterside Caerdydd, 2 Sgwâr Canolog, unedau eiddo'r Llywodraeth yn y Sgwâr Canolog, Friars Walk yng Nghasnewydd, datblygiad Aston Martin, a phentref manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Buaswn yn awgrymu bod y rhain oll yn brosiectau allweddol sydd wedi helpu i ysgogi a datblygu cyfleoedd economaidd yma yng Nghymru, a'r cyfan â thagiau o £50 miliwn a mwy o fuddsoddiad. Pan ewch i'r sector masnachol i edrych am y lefel honno o fuddsoddiad, nid yw'n afresymol fod y sector yn edrych ar y cynnyrch a gaiff o'r arian y mae'n ei fuddsoddi. Yng Nghymru, rydym yn wynebu amgylchedd cystadleuol iawn i geisio dod â'r datblygwyr hyn draw yr ochr hon i'r dŵr i wneud y penderfyniadau allweddol a'r buddsoddiadau allweddol hynny. Ac yn enwedig nawr, gyda datblygiad democratiaeth leol yn Lloegr, megis y maer ym Mryste, meiri yn Birmingham, Lerpwl a Manceinion, mae yna ffocws penodol yn eu mandadau fel meiri ar ddatblygu amgylchedd cyffrous a deinamig ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd i fuddsoddi. Oherwydd, yn amlwg, pan fyddant yn dod gerbron yr etholwyr yn eu cylch pedair blynedd, dyna un o'r meysydd y cânt eu marcio yn eu herbyn i weld a ydynt wedi rhoi mantais gystadleuol i'w cyfryw ardaloedd. Yr hyn a welwn yma yng Nghymru yw'r sector yn amlwg yn dangos nad ydynt yn credu y bydd y gyfradd dreth a bennwyd gan y Gweinidog, drwy bwerau codi treth Llywodraeth Cymru, yn rhoi Cymru—. Ac nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, y sector eu hunain sy'n dweud hynny, ac mae'n bwysig gwrando ar yr arbenigwyr yn y maes sydd, yn y pen draw, yn ymdrin â'r cronfeydd buddsoddi mawr a'r cronfeydd pensiwn pan fyddant yn ceisio denu'r lefel honno o fuddsoddiad i Gymru.

Unwaith eto, pan fo'r Ysgrifennydd Cyllid yn canolbwyntio ar y dystiolaeth o adroddiad Prifysgol Bangor, 'Gwaith Craffu Annibynnol ar Ragolygon Refeniw Trethi Datganoledig ar gyfer Cymru' a gomisiynwyd ganddo, yr hyn sy'n destun pryder gwirioneddol yw bod y sector yn dangos yn glir iawn—a darllenais o'r llythyr a anfonasant at y Gweinidog—nad oeddent wedi ymgynghori gyda'r sector o gwbl ar lunio'r adroddiad hwn. Nawr, unwaith eto, rwy'n sylweddoli, yn y llythyr yr anfonodd y Gweinidog ataf ym mis Mawrth, ei fod yn dweud mai ymwneud â lefel y rhagolwg o refeniw trethi oedd adroddiad Ysgol Fusnes Bangor—nid y polisi fel y cyfryw. Ond yn sicr, mae angen i chi gysylltu'r polisi â'r rhagolwg, oherwydd os yw'r polisi'n anghywir, gallai beth bynnag rydych yn ei ragweld fynd o chwith yn ogystal, a gallai'r refeniw yr ydych yn ei ddisgwyl leihau'r pwrs cyhoeddus. Fel y gwelsom yn yr Alban, lle maent wedi mynd am gyfradd is o dreth, bu cynnydd sylweddol yn lefel y dreth a ddaeth i'r gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban—credaf ei fod oddeutu £13.5 miliwn—oherwydd eu bod wedi dewis gosod eu cyfradd dreth trafodiadau tir ar 4.5 y cant er mwyn rhoi mantais gystadleuol iddynt eu hunain dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

17:15

Deallaf y pwynt y mae'n ei wneud, ond a yw'n derbyn bod popeth a ddisgrifiwyd yma yn union yr un fath â'r hyn sy'n digwydd gyda Llywodraeth y DU yn cynhyrchu ei pholisi, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gweithio arno wedyn i lunio rhagamcanion, ac felly, dyna'r ffordd y mae polisi'n ysgogi'r rhagamcanion? Nid yw hynny'n golygu bod Bangor neu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gyfrifol am y polisi yn ei dro. Felly, mae gwir angen inni ddeall—oherwydd mae'r Alban ar y blaen inni—pa un a yw hyn mewn gwirionedd yn ysgogi newid yng Nghymru. Mae ei sylwadau'n rhy gynnar, a dweud y lleiaf.

Wel, hoffwn ddweud hyn: dengys y dystiolaeth sy'n deillio o'r sefyllfa yn yr Alban fod y gyfradd is o dreth—ac rwy'n credu hyn fel Ceidwadwr beth bynnag: fod economi treth ar gyfradd isel yn cynhyrchu mwy o refeniw yn gyffredinol oherwydd eich bod yn ysgogi unigolion i fynd allan, i weithio'n galed a chreu mwy o gyfoeth. [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad arall os gallwch gyfeirio at economi treth uchel sy'n gwrth-ddweud y ddadl honno.

Nid oeddwn yn mynd i gael fy nargyfeirio'n llwyr ar hyd y llwybr hwnnw. Roeddwn am nodi'n unig ei fod yn gofyn am economi treth isel. Nid oes gan y gyfradd dreth hon rydym wedi bod yn siarad amdani yng Nghymru, ac a gymeradwywyd gan bawb ohonom, dreth ar gyfer band uwch o eiddo masnachol. Felly, efallai y gwelwn dwf yno.

O'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg—ac rwy'n derbyn bod angen inni weld y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg, ond ni fyddai'n iawn os nad ydym fel gwleidyddion yn ymateb i bryderon a ddygwyd i'n sylw—mae'r gweithwyr proffesiynol yn y maes sy'n ceisio denu'r mewnfuddsoddiad eisoes yn nodi dirywiad yn y sector masnachol. Maent yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anos denu buddsoddiad—[Torri ar draws.] Wel, nid pedair wythnos ydyw, oherwydd roedd y nodiadau a anfonwyd at y cronfeydd buddsoddi eisoes yn gofyn am ostwng buddsoddiadau, Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn o'r sylwadau a gawsoch. Roedd y Ddeddf hon yn dod, felly roedd y cronfeydd buddsoddi yn gorfod gostwng eu buddsoddiadau dros 1 y cant. Os ydych wedi buddsoddi mewn prosiect £50 miliwn, dyna ergyd o £0.5 miliwn yn syth. Os ydych yn cystadlu â Bryste, Birmingham, Manceinion neu Lerpwl, sydd ar y ffin â ni, ac mai chi yw rheolwr y gronfa fuddsoddi honno, byddwch yn rhoi'r arian i unrhyw un o'r pedwar cyrchfan arall, oherwydd pan fyddwch yn edrych ar eich cynnyrch, pan fyddwch yn edrych ar eich elw, mae'n gyfradd uwch o elw am yr arian a fuddsoddwch. Felly, galwaf ar y Gweinidog i ystyried y sylwadau a gafodd hyd yn hyn, i ystyried y ddadl y prynhawn yma, a gwneud Cymru yn economi gystadleuol fel yr hoffem iddi fod, economi sy'n creu swyddi o ansawdd ac yn codi cyflogau, rhywbeth y mae Llywodraethau Llafur olynol yn y sefydliad hwn wedi methu ei gyflawni dros yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli.

17:20

Wel, rwy'n cydymdeimlo â'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig yma yn y rhan gyntaf o'u cynnig, ond rwyf hefyd yn cydymdeimlo â'r Llywodraeth, heblaw am y cymal 'dileu popeth', a byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru hefyd. Cefnogais ddatganoli pwerau trethu i Gymru am fy mod yn credu mewn cystadleuaeth dreth rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Credaf y bydd hyn yn iach ar gyfer economi'r Deyrnas Unedig gyfan, fel y nododd Mark Reckless yn ei araith ar ddechrau'r ddadl hon.

Mae trethi eiddo, fel y maent wedi datblygu yn y DU dros gannoedd o flynyddoedd, yn drethi drwg iawn yn wir oherwydd mai eu heffaith gyffredinol yw llesteirio gwaith yr economi—gwneud y defnydd o gyfalaf yn fwy a mwy anhyblyg. Rydym wedi gweld hyn yn digwydd i raddau cynyddol ddramatig yn y farchnad dai ddomestig. Rwy'n cofio, pan brynais dŷ gyntaf yn ôl ym 1984, roedd cyfradd y dreth stamp ar y pryd yn 1 y cant, felly nid oedd o bwys. Ni châi neb ei ddatgymell rhag prynu tai ar gyfradd o'r fath, hyd yn oed pan gafodd ei ddyblu i 2 y cant yn fuan ar ôl hynny. Ond gan fod cyfraddau'r dreth stamp yn sylweddol uwch bellach, mae hyn wedi cael effaith anffodus iawn yn fy marn i ar holl farchnad eiddo'r Deyrnas Unedig—llai felly yng Nghymru, wrth gwrs, oherwydd bod prisiau eiddo yma yn llawer is am mai dyma'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig.

Roeddwn yn cefnogi, ac rwy'n cefnogi, y Llywodraeth ynglŷn â'r cyfraddau trafodiadau tir yn gyffredinol. Credaf fod yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi'i gynhyrchu yn system well yn gyffredinol na'r hyn sydd gennym ar draws y ffin yn Lloegr, sy'n beth da. Ond os ydym am dyfu economi Cymru, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol, os ydym yn mynd i ariannu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus, inni wneud Cymru'n fagned ar gyfer busnes. Nid ydym yn gwneud hynny drwy gael trethi uwch ar fusnesau yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Er y gallai'r gwahaniaeth fod yn fach iawn—. Wyddoch chi, nid yw 1 y cant yn ddiwedd y byd o bell ffordd, ac yn sicr, os ydych yn ystyried lleoli yma, mae'n debyg y caiff effaith y dreth ei hadlewyrchu ym mhris is y tir neu'r adeiladau i gychwyn. Ond y broblem gyda'r trethi tir hyn yw eu bod yn rhewi perchnogaeth neu feddiant ar eiddo gan mai'r rhai sy'n symud sy'n ysgwyddo'r dreth. Mae trethi ar symud yn bethau drwg iawn i'r economi yn gyffredinol. Felly, barn UKIP yw y dylai Cymru werthu ei hun o fewn y Deyrnas Unedig fel math o hafan dreth, a gobeithio—. Roeddwn wedi gobeithio pan gâi'r pwerau hyn—a phwerau treth newydd gobeithio—eu datganoli i Gymru, y byddem yn gallu eu defnyddio i ostwng cyfraddau treth yn hytrach na'u codi, oherwydd mae cael cyfradd dreth uchel yng Nghymru yn debygol o fod yn gwbl wrthgynhyrchiol.

Mae ein trethi eiddo yn llanastr llwyr yn y Deyrnas Unedig: treth gyngor, ardrethi busnes, y dreth stamp, y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan George Osborne ar brynu i osod. Mae'r holl bethau hyn wedi cael effaith ddramatig ar y system dai, gan ei llesteirio ar adeg pan fo arnom angen mwy o dai. Mae'r holl ymarfer esmwytho meintiol wedi diferu i lawr i werthoedd cyfranddaliadau ac eiddo. Un o'r prif resymau pam y bu cyfnod mor ffyniannus mewn prisiau tai a thir yn ne-ddwyrain Lloegr yw'r rhaglen esmwytho meintiol helaeth a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae hynny wedi gwneud yr economi leol yn ne-ddwyrain Lloegr yn llawer mwy anodd—nid ein bod yn poeni gormod am honno yma, ond ceir rhyw fath o effaith o'r brig i lawr o'r fan honno, allan i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

Felly, rwyf am seilio fy araith heddiw ar egwyddor yn hytrach na dirgelion gorsaf fysiau Caerdydd ac elfennau eraill o gynnig y Ceidwadwyr, a hynny er mwyn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r rhyddid sydd ganddi o ganlyniad i ddatganoli i ddangos esiampl i weddill y Deyrnas Unedig—yn wir, i achub y blaen ar weddill y Deyrnas Unedig, er mwyn gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i fusnesau leoli ynddo ac i weithredu, ac i ddenu trethdalwyr cyfradd uchel o Loegr i Gymru hefyd er mwyn helpu i gynyddu ein sylfaen dreth, a derbyniadau treth yn sgil hynny, fel y gallodd diwygiadau treth Lawson yn y 1980au sicrhau gostyngiad yn y cyfraddau treth yn ogystal â chynnydd dramatig yn y refeniw treth.

17:25

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn am siarad yn y ddadl hon yn bennaf oherwydd fy mhryderon ynglŷn â bargen ddinesig bae Abertawe, ond credaf y buaswn yn hoffi dechrau gyda sylw, os caf. Rydym wedi arfer bellach â Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth fframwaith i guddio'r ffaith nad oes ganddi beth o'r dystiolaeth i gefnogi amcan polisi penodol. Mae yna benderfyniadau penodol ar brosesau sydd angen eu dilyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, neu ffigurau penodol a gaiff eu cyfeirio at y rheoliadau, er enghraifft. Er nad ydynt yn ddarnau o ddeddfwriaeth fframwaith, credaf fod y Ddeddf hon, a'r Bil isafbris am alcohol mewn gwirionedd, yn dioddef o'r un broblem, sef bod yr ysgogiad deddfwriaethol gwreiddiol yn deillio o astudiaeth academaidd sy'n allosod canlyniadau o sylfaen astudiaeth ar gyfer y DU gyfan, ac yna caiff ei basio fel polisi cyffredinol gan y partïon sydd â diddordeb, ond o ran y manylion, nid yw barn y rhai sydd â phrofiad go iawn o'r hyn a allai ac na allai weithio i'w weld yn cyfrif fawr ddim.

I roi sylw i bwynt Simon Thomas, credaf ei bod yn enghraifft dda: addasu cyfraddau er budd prynwyr ar ben rhatach y farchnad breswyl, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cefnogi hynny—nid wyf wedi gweld bod y Llywodraeth wedi ystyried o ddifrif, drwy greu anfantais ar ben uwch, pen creu swyddi y cyfraddau masnachol, y bydd gostyngiad yn nifer y cyfleoedd gwaith newydd i brynwyr tai sydd angen y gwaith i gynnal y morgeisi ar eu cartrefi newydd.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf efallai ein bod wedi cael ein gorlwytho braidd drwy gael ein dylanwadu gan eich sicrwydd ar yr adeg y cefnogwyd y Ddeddf hon gennym, ac rwy'n credu y buaswn yn hoffi ichi edrych eto ar y pwyntiau—cyfeiriodd Andrew Davies at lawer ohonynt—y cyfeirir atynt yng nghyflwyniad yr asiantau eiddo ar 16 Chwefror. Tybiaf y byddai pobl sinigaidd yn dweud eu bod yn poeni am eu trosiant eu hunain i ryw raddau, ond credaf y dylech boeni pam eu bod yn poeni am hynny. Oherwydd, os nad yw'r Llywodraeth, fel y dywedant, wedi ymgynghori â hwy, na chael unrhyw ddealltwriaeth ganddynt, nac unrhyw ddealltwriaeth o'r diwydiant eiddo masnachol, rwy'n meddwl mai dyna pam y mae nodau polisi'r Ddeddf hon yn mynd i wynebu trafferthion yn go fuan.

Mae effeithiau uniongyrchol y gyfradd o 6 y cant yn fesuradwy, ac nid yn rhagweladwy yn yr ystyr academaidd yn unig. Gellir edrych arnynt fel mathemateg amser real, ac eisoes mae'r cwmnïau y cyfeiriodd Andrew atynt yn gweld gostyngiadau a gofnodwyd mewn gwerthoedd cyfalaf ar eiddo masnachol yng Nghymru. Fel y clywsom, mae teimladau buddsoddwyr yn cael eu heffeithio er mantais y canolfannau rhanbarthol mawr yn Lloegr a'r Alban, ond ar yr union adeg, y pwynt hwnnw yn 2015, 2017, pan oedd Caerdydd yn arbennig yn dechrau chwalu'r canfyddiad fod Cymru'n fan llai deniadol i fuddsoddi ynddo—. Ac wrth gwrs, fe dafloch chi ddom da ar lwybr Cymru i ffyniant eisoes drwy gyflwyno'r lluosydd ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar yr adeg dyngedfennol hon. Felly, nid oes gennyf syniad pam eich bod yn meddwl y byddai codi'r dreth yn y ffordd hon ar yr un pryd yn helpu.

Nawr, nid yw £1 miliwn yn swm enfawr o arian am bryniant masnachol. Mae oddeutu 80 y cant o werthiannau tir masnachol, hyd yn oed yma yng Nghymru lle mae'n tueddu i fod yn rhatach, yn uwch na hynny, ac yn ôl pob tebyg, dyna pam y credech y byddai'n faes proffidiol i godi uwch dreth ynddo, er y deallaf nad yw'r derbyniadau treth mewn gwirionedd yn mynd i fod lawer iawn yn uwch. Wrth gwrs, tynnaf sylw at gampws y bae Prifysgol Abertawe. Roedd y tir yno yn costio dros £87 miliwn ac rwy'n siŵr y byddai negodi go ffyrnig wedi bod dros y ffigur pryniant hwnnw pe bai wedi bod yn agored i godiad ychwanegol o 20 y cant, i bob pwrpas, yn y dreth yr oeddent yn ei thalu. Felly, gallwch weld pam rwy'n awyddus i ddeall pa ymgynghori a wnaed gennych yn uniongyrchol gyda bwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe a chydag unrhyw rai o gynrychiolwyr y diwydiant a fynegodd ddiddordeb mewn bod yn un o'r partneriaid sector preifat angenrheidiol.

Yn gyntaf, dyna'r cwestiwn hwnnw a nododd Mark Reckless ynglŷn ag a oes gan awdurdodau lleol esemptiad Cyllid a Thollau EM rhag y dreth hon ar bryniant fel sydd gan Lywodraethau. Mae bwrdd gweithredol y fargen ddinesig yn ymwneud yn llwyr ag awdurdodau lleol wrth gwrs. Yna, yn ail, mae yna gwestiwn i mi ynglŷn ag a allai Tatas a GSKs y byd hwn, nad oes yn rhaid iddynt ddod i fae Abertawe wedi'r cyfan, gael eu denu i fuddsoddi yn ardaloedd bargeinion dinesig eraill y DU lle byddent yn talu llai.

Rydym yn sôn am ffigurau mawr: mae ardal ddigidol glannau Abertawe yn werth £168.2 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa; mae'r prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer yn £517.1 miliwn; ac mae'r pentref gwyddorau bywyd a lles ychydig o dan £200 miliwn. Ychydig iawn o arwyddocâd sydd i'r trothwy £1 filiwn yma, ond bydd buddsoddwyr yn talu 20 y cant yn fwy o dreth nag y byddent yn Lloegr a dros 30 y cant yn fwy nag y byddent yn yr Alban, a mawredd, fe fyddant yn sylwi ar y gwahaniaeth mewn ffigurau mor fawr â hynny. Efallai y bydd y pris fesul hectar neu fesul troedfedd sgwâr yn rhatach na chanol Llundain, ond rydych yn camddeall y sector eiddo masnachol os ydych yn meddwl mai dyna'r unig ffactor y mae'n ei ystyried.

Felly, i fynd yn ôl at dystiolaeth am eiliad, a wnaethoch chi drafod effeithiau'r 6 y cant gyda phartïon sydd â diddordeb yn y fargen ddinesig, ac Ysgrifennydd yr economi yn benodol? A sut y gwnaethoch chi ystyried hynny cyn taflu'r ail dalp o ddom da ar y llwybr i ffyniant yn fy rhanbarth? Diolch.

17:30

Efallai y gallaf ddechrau drwy geisio amddiffyn trethiant. Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Ymddengys bod gormod o bobl yn credu y gallwn gael gwasanaethau cyhoeddus o'r un ansawdd â Sgandinafia yn ogystal â chael system drethiant sy'n fwy tebyg i un yr UDA. Pan edrychwch ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi persbectif i'r gwerth am arian a gawn o'n system drethiant. Nid damwain neu serendipedd sy'n esbonio pam fod gan y gwledydd sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau a pham fod gan y rhai sydd â'r lefelau treth isaf y gwasanaethau cyhoeddus salaf. Oherwydd bod angen trethiant i godi arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar bawb ohonom—pethau fel ffyrdd, diogelwch bwyd a'r gwasanaeth iechyd, y siaradwn lawer amdanynt yma.

Mae ansawdd gwasanaethau cyhoeddus, boed yn iechyd, addysg neu seilwaith, yn costio'n sylweddol i'r pwrs cyhoeddus a'r unig ffordd o dalu amdanynt yw drwy drethu. Gellir trethu incwm, elw, treuliant, gwariant, neu werth tir ac eiddo, neu gyfuniad o bob un ohonynt. Ond mae angen ichi drethu er mwyn cael yr arian.

A all egluro sut y bydd yn cael y dreth hon drwy godi'r gyfradd o 5 y cant i 6 y cant pan fo'r bobl sy'n buddsoddi yn cael cyfle i beidio â'i thalu o gwbl drwy fynd i Reading neu Fryste neu Birmingham yn lle hynny?

Hoffwn pe baech wedi aros am y dudalen nesaf. Hoffwn ddweud hyn: trethiant yw ein tâl aelodaeth am berthyn i gymdeithas wâr. Credaf efallai fod angen ichi gofio hynny.

I gorfforaethau amlwladol, mae'r dreth gorfforaeth yn daliad dewisol y gellir lleihau ei gwerth drwy bethau fel taliadau o fewn y cwmni, talu am hawliau eiddo deallusol, trosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu sicrhau bod y man gwerthu y tu allan i Brydain.

Yr hyn nad yw pobl yn ei hoffi am y dreth trafodiadau tir a'r hyn nad yw pobl yn ei hoffi ynglŷn â threthi ar eiddo yw bod yn rhaid i chi eu talu. Ni ellir eu hosgoi. Mae'r rhain yn drethi anodd i'w hosgoi. Y trethi anodd i'w hosgoi bob amser yw'r rhai a gaiff eu beirniadu am na allwch beidio â'u talu.

Gall trethi effeithio'n waeth ar y bobl gyfoethocaf neu ar y bobl dlotaf. Naill ai rydych chi'n cael y rhai sydd â'r mwyaf o arian i dalu swm uwch, neu rydych yn cael y rhai gyda'r lleiaf o arian i dalu'r gyfran fwyaf.

Gan droi at y dreth trafodiadau tir, mae sicrhau bod y dreth trafodiadau tir yn effeithio'n waeth ar y bobl gyfoethocaf yn rhywbeth rwy'n ei groesawu. A gaf fi roi enghraifft wedi'i weithio ar werth gwahanol? Os yw un parsel o dir yn werth £1 filiwn heb unrhyw dreth ac yna ar gyfradd dreth o 100 y cant, ni fydd ei gost yn £2 filiwn; bydd ei gost yn £1 filiwn o hyd, ond bydd 50 y cant yn dreth a bydd 50 y cant yn mynd i'r perchennog. Felly, perchennog y tir yw'r unig berson ar ei golled, nid y prynwr. Un o'r problemau sydd gennym yw'r gred fod yna werth absoliwt i dir.

Felly, bydd trethi'n dod ar ben y gwerth hwnnw—[Torri ar draws.] A gaf fi orffen y darn hwn, Andrew? Rwy'n mynd i'ch galw oherwydd rwyf newydd eich crybwyll. Felly, bydd trethi'n dod ar ben y gwerth, yn hytrach na'n rhan ohono. Edrychwch sut y mae pris tir amaethyddol yn codi pan geir caniatâd cynllunio ar gyfer tai. Nid oes unrhyw werth absoliwt. Faint ydych chi'n ei dalu ym Mro Morgannwg am dir amaethyddol? A yw'n £20,000 neu'n £30,000—

—am dir caniatâd cynllunio da? Ai £1 filiwn yr erw yn y Bont-faen a'r Fro? Dyna'r gwahaniaeth—rwy'n dod at ddiwedd y frawddeg hon—dyna'r gwahaniaeth. Felly, pe bai gwerth absoliwt i'r tir hwnnw ni fyddech byth yn cynnal arwerthiant arno, oherwydd byddech yn gwybod beth fyddai ei werth a byddai'n rhaid i bobl dalu hynny. Diolch.

17:35

Diolch i chi, Mike, am gymryd yr ymyriad, ac rydych wedi rhoi nifer o ffigurau yno. Ond mae'n rhaid i chi gael marchnad i greu'r ffigurau hynny, ac os ydych yn rhoi mesurau llym ar waith fel Llywodraeth, rydych yn lladd y farchnad, felly rydych yn lladd y gwerth, ac yn sgil hynny'n colli'r refeniw treth. Onid ydych yn cydnabod hynny? Nid oes raid i bobl ddod i Gymru i fuddsoddi. Mae ganddynt gyfleoedd eraill os oes amgylcheddau eraill yn fwy ffafriol i'r buddsoddiadau hynny, fel y dengys model yr Alban.

Credaf mai'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud oedd y tir. Ni fydd pris y tir yn codi. Ni fydd yr arian y mae pobl yn ei dalu am y tir yn codi. Yr hyn fydd yn digwydd i'r gyfran honno o bris y farchnad yw y bydd mwy ohono'n mynd ar drethiant, a llai ohono'n mynd yn elw mawr i'r perchennog. Rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth. Credaf na ddylai pobl gael serendipedd o'r fath, neu'r 'Rwy'n ffodus iawn, mae gennyf y darn hwn o dir, ac os nad oes neb yn casglu treth arno, bydd gennyf £1 filiwn yn fy mhoced ôl.' Credaf y dylem gael trethiant uwch arno, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet.

Os gostyngir y dreth trafodiadau tir ar dir sy'n werth mwy nag £1 filiwn—o wrando ar eraill yn gynharach, byddent yn ei ddiddymu'n llwyr—pwy sy'n talu am y diffyg? A ydym yn dymuno ei godi gan y bobl—? [Torri ar draws.] Neu a yw'r Ceidwadwyr Cymreig am leihau gwariant cyhoeddus? Rwy'n llongyfarch y Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth ar wneud y dreth trafodiadau tir yn un sy'n effeithio mwy ar y bobl gefnog. Nid ydych yn gwybod pa bobl—. Rhan fach iawn yw'r gyfradd pan fydd tir yn cael ei gyfnewid; mae'n fater o bwy sydd am ei brynu, pam y maent am ei brynu a beth sydd ar gael. Gyda chaniatâd cynllunio ar 10 erw o dir ym Mro Morgannwg, ni fyddai ots pe baech yn talu trethiant ar 50 neu 100 y cant, byddai pobl yn dymuno ei werthu a byddai pobl yn dymuno ei brynu.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn bleser cael dilyn Mike Hedges, ac roedd mor ddewr yn trafod y mater o safbwynt athronyddol. Roedd i'w weld fel pe bai'n dadlau bod y dreth ar dir yn hanfodol ac yn ddychmygol ar un pryd, ond efallai na lwyddais i ddilyn ei resymeg yn arbennig o dda. Roedd gweddill ei berorasiwn ar ddiben a rhyfeddod trethiant, ac rwyf wedi darllen y cynnig yn ofalus, ac ni allaf weld unrhyw beth ynddo sy'n dweud y dylem fod mewn amgylchedd heb unrhyw drethi o gwbl. Yn amlwg, mae treth yn rhan bwysig o sefydlu unrhyw ffurf ar fywyd dinesig, ac fel Ceidwadwyr rydym yn cydnabod hynny. Ond mae'n ymwneud â chael y gwerth gorau a sicrhau nad yw'r gyfundrefn dreth yn llesteirio'r fenter orau sy'n bosibl, ac am hynny y mae'r ddadl y prynhawn yma. Ac mae'n hollol briodol ein bod yn craffu ar y dewisiadau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet a lle y dylai'r baich treth fod.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n well edrych ar y darlun mawr. Bellach, gyda ffurf gymharol radical o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae gennym botensial i gyflwyno lefel o gystadleuaeth economaidd y gallwn ei rheoli i ryw raddau. Hyd yn hyn, rydym wedi cael ein dominyddu'n helaeth gan batrwm economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sy'n pennu normau go gadarn o ran trethiant a pholisi economaidd ehangach, ond gyda datganoli gallwn bellach wneud mwy o'r dewisiadau hyn ein hunain. A dylem ystyried sut y cymharwn ag awdurdodaethau eraill yn y Deyrnas Unedig; dyna'r peth rhesymegol i'w wneud. O edrych ar y darlun cyfan, onid yw'n well inni ddweud, 'Dewch i Gymru, dyma'r lleoliad mwyaf ystyriol o fusnesau yn y Deyrnas Unedig'?

Siaradodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies am farchnadoedd rhentu yn Llundain, ac nid oes neb un anghytuno bod eiddo masnachol yn ddrutach o lawer yn Llundain, ond ein cystadleuwyr am y gweithgarwch economaidd sy'n cael ei wthio allan o Lundain a de-ddwyrain Lloegr yw Manceinion, Newcastle, Lerpwl, a dyna'r ardaloedd y byddwn bellach yn gweld buddsoddwyr yn dianc iddynt, lle y gallent fod wedi dod i Gymru. Ac rwy'n credu bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwynt hwn. Nid yw'n neges dda i ddweud, 'Dewch i Gymru a byddwch yn sicr yn talu mwy o dreth trafodiadau tir nag y byddech yn yr Alban neu yn Lloegr'.

Fy ngweledigaeth economaidd ar gyfer Cymru yw inni ddefnyddio'r adnoddau sydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ogystal. Rwy'n credu'n gryf y bydd yn gweithio er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr os daw mwy o weithgaredd economaidd i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac roedd hyn yn rhan fawr o'r symud a welsom mewn polisi cyhoeddus ar ôl 2010 ac ethol Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae angen inni ailgydbwyso economi'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dylem weld Llundain fel adnodd. Dylai fod gennym fwy o bresenoldeb yn Llundain. Roeddwn bob amser yn feirniadol braidd o safbwynt fy mhlaid ynglŷn â'n llysgenhadaeth fasnachol, neu beth bynnag y'i gelwir gennym bellach, yn Llundain. Ymddangosai i mi y dylai fod wedi bod yn fwy mawreddog ac amlwg ac uchelgeisiol wrth fynd allan a defnyddio Llundain fel ffordd o ddenu busnes, nid yn unig yr hyn sy'n cael ei wthio allan o Lundain, ond y buddsoddwyr sy'n dod i Lundain i fuddsoddi yn economi Prydain o dramor hefyd.

A gaf fi gynnig i'r Gweinidog, oherwydd fe'i gwelaf yn ysgwyd o dan lach ein beirniadaeth—? [Chwerthin.] Rwy'n edmygu Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr, ac yn dymuno'n dda iddo yn ei uchelgais ar gyfer y dyfodol fel—. Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig rhyw damaid o ffordd allan iddo—

17:40

Eich uchelgais chi ar gyfer y dyfodol yw symud ymlaen. Felly, dyna yw eich uchelgais chi ar gyfer y dyfodol.

Credaf mai un peth y dylem edrych arno efallai yw lleihau baich y dreth ar fuddsoddiad masnachol drwy wobrwyo arferion a thechnegau adeiladu amgylcheddol sensitif a sut y maent yn mynd i ddefnyddio'r adeilad a chyfleusterau eraill a allai fod ganddynt yno a fydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Efallai y gallech gynnig cymhellion yn hynny o beth i liniaru'r penderfyniad anffodus rydych wedi'i wneud yn yr achos hwn.

Mae'n ffodus iawn, onid yw, nad y Torïaid sy'n gyfrifol am gyllid Llywodraeth Cymru? Roeddwn am nodi'r camgymeriad sylfaenol hwn a wnaeth y Ceidwadwyr yn ail ran eu cynnig, oherwydd mae'n dangos nad oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o statws Llywodraeth Cymru na dibenion y trethi y maent yn eu dibrisio i'r fath raddau. Mae'n druenus yn wir eich bod wedi methu gwirio cywirdeb eich honiadau eich hunain cyn ichi gyflwyno'r cynnig.

Ni all fod unrhyw awgrym synhwyrol fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio osgoi'r dreth trafodiadau tir oherwydd mae goblygiadau treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir yn union yr un fath: dim. Nid oes unrhyw dreth yn daladwy lle y gwneir pryniant gan y Goron, ac mae hynny'n cynnwys Gweinidogion Cymru. Felly, credaf fod awgrymu bod Gweinidogion Cymru yn ceisio cymryd rhan mewn gweithred fwriadol i osgoi treth fisoedd yn unig ar ôl i ni, y Cynulliad, ystyried deddfwriaeth lle'r oedd rheolau i atal osgoi talu trethi yn rhan amlwg o'r ddadl, yn crafu'r gwaelod braidd.

Mae'r esemptiad yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth. Yn Atodlen 3 i'r Ddeddf, dan y teitl 'Trafodion sy'n esempt rhag codi treth arnynt', o dan 'Caffaeliadau gan y Goron', mae'n dweud bod paragraff 2 yn rhestru cyrff Llywodraeth sy'n esempt. Mae hyn yn gyson â'r un rheolau'n union â threth dir y dreth stamp a ragflaenodd y dreth trafodiadau tir.

Ddim ar hyn o bryd.

Mae'n wirioneddol siomedig, ar ôl pasio'r Ddeddf, ein bod yn dal i orfod egluro diben y ddeddfwriaeth yn y modd hwn, yn enwedig mewn ymateb i gynnig sy'n awgrymu y byddai'r Llywodraeth yn mynd ati i osgoi talu trethi. Fel y mae Mike Hedges eisoes wedi'i gyfleu'n gwbl glir, yn sicr ddigon nid siarad am hynny yr ydym, ac yn hytrach, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn ariannu cyfoeth parhaus ein gwlad. Felly—

Ond onid yw'n wir, drwy gamu i mewn a phrynu'r safle hwn, fod Llywodraeth Cymru, nad yw'n talu treth oherwydd esemptiad y Goron, yn osgoi treth a fyddai'n cael ei thalu o bosibl gan un arall o'i phartneriaid? Dywed y canllawiau ar y dreth trafodiadau tir os caiff y tir ei brynu ar y cyd ag awdurdod cyhoeddus arall nad yw'n esempt yn y fath fodd, e.e. awdurdod lleol, ni fydd yr esemptiad yn gymwys, ac yna, yn ddiweddarach mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n mynd i fod yn prynu'r swyddfeydd. Felly, yn hytrach na'r sector preifat, nad ydynt am dalu'r 6 y cant o bosibl, mae'n dweud yma y bydd Llywodraeth Cymru yn prynu'r swyddfeydd ar y safle, gan gamu i mewn i osgoi'r dreth.

17:45

Rwyf wedi treulio 10 mlynedd yn aros i gael gorsaf fysiau newydd ar gyfer Caerdydd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i adeiladu'r orsaf fysiau, oherwydd, am resymau nad wyf wedi eu deall yn llawn eto, mae'r arian y dylem fod yn ei dderbyn o dan adran 106 o'r holl drafodiadau masnachol eraill sydd wedi bod yn digwydd yn y Sgwâr Canolog, sef lle'r oedd yr hen orsaf fysiau, gyda llaw—. Nid wyf yn deall yn iawn pam nad oedd digon o arian o'r holl drafodiadau masnachol hyn i dalu am yr orsaf fysiau, ond yn amlwg, nid oedd yn ddigonol a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy.

Credaf fod y ffaith eu bod wedi prynu tir ar 29 Mawrth yn deillio o reswm hollol wahanol, sydd i'w weld wedi ei fethu gennych, sef ei bod yn ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac mae'n hysbys iawn fod Llywodraethau, fel awdurdodau lleol, fel llawer o sefydliadau eraill, yn dymuno cael arian allan drwy'r drws ar ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn rhoi cyfrif amdano yn y flwyddyn honno yn hytrach na gweld yr arian yn mynd ymlaen at rywbeth arall.

Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r darn hwn o dir, a maes o law, nid oes gennyf amheuaeth y bydd yr adeiladau uwchben yr orsaf fysiau, wedi iddynt gael caniatâd cynllunio, yn dwyn ffrwyth i economi Cymru cyn gynted ag y cawn brynwyr ar eu cyfer. Mesur dros dro yw hwn i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r orsaf fysiau sydd mor hanfodol i gael y system drafnidiaeth integredig sydd ei hangen ar ein prifddinas.

Felly, credaf fod y neges yn y rhan hon o'ch cynnig yn warthus ac yn gwbl groes i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni. I ddilyn yr hyn a ddywedodd David Melding, credaf mai fy neges fyddai ei bod hi'n amlwg nad ydym am i bobl ddod i Gymru i wneud hap-gynigion ar werth y tir yn unig, ac nid ydym am i bobl ddod i Gymru os ydynt am lanhau'r arian budr y mae Llundain yn nofio ynddo, yn anffodus. Credaf fod y dreth trafodiadau tir yn ffordd deg iawn o godi arian ar adnodd cyfyngedig, sef tir.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd y mis diwethaf yn garreg filltir bwysig yn ein taith ddatganoli, gyda threthi datganoledig yn mynd yn fyw yn llwyddiannus ar 1 Ebrill ac yn awr yn weithredol ers pum wythnos lawn. Mae Awdurdod Cyllid Cymru bellach wedi derbyn yr enillion cyntaf ac wedi dechrau casglu refeniw treth pwysig, gan nodi diwedd y gwaith i sicrhau bod y trethi hyn yn cael eu datganoli.

Ddirprwy Lywydd, gwrandewais yn ofalus ar yr araith a gyflwynodd y cynnig heddiw. Daw'r cynigydd atom o ochr dywyllach planed Thatcher, gan ddibynnu ar ei gopi o'r Encyclopaedia Britannica o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y dibynna ei holl gyfraniadau arno: 'Am Gymru, gweler Lloegr'. Dyna'i unig gyfraniad i'r ddadl: os nad ydym yn gwneud yr hyn a wneir ar draws y ffin, rhaid ei fod yn waeth yng Nghymru.'

Gadewch imi fynd i'r afael yn uniongyrchol ag ail ran y cynnig, ac er mwyn ystyried y pwyntiau roedd Jenny Rathbone yn eu gwneud, mae gennyf y cynnig o fy mlaen: mae'n ddiamwys yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi treth. Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn, ac nid oes unrhyw—[Torri ar draws.] Na. Rwyf wedi clywed digon. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n awgrymu'n uniongyrchol fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun, ac nid oes unrhyw fwydro gan yr Aelod a gyflwynodd y ddadl yn mynd i ddileu cryfder y cyhuddiad hwnnw, ac mae'n gyhuddiad difrifol iawn na ddylai fod wedi'i wneud. Nid wyf yn credu bod yr arbrawf y soniodd Simon Thomas amdano o gael eich cynigion wedi'u cyflwyno gan rywun nad yw'n Aelod o'ch plaid eich hun yn yr achos hwn yn un y dychmygaf y byddwch eisiau ei ailadrodd ar fyrder.

Gadewch imi fod yn glir, Lywydd: fel y dywedodd Jenny Rathbone, dan dreth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir, nid oes unrhyw atebolrwydd treth pan wneir pryniant gan y Goron, gan gynnwys Gweinidogion Cymru. Mae hynny yno ar wyneb y ddeddfwriaeth. Byddai wedi bod yn well pe bai rhywun sy'n honni ei fod yn deall y manylion wedi sicrhau ei fod yn deall y pwynt hwnnw cyn perswadio eraill i ysgrifennu'r cynnig yn y ffordd honno.

17:50

A wnaiff y Gweinidog ildio? Rwy'n deall bod prynu'r safle hwn ar 28 Mawrth, a rhoi'r brydles 999 mlynedd ar 29 Mawrth, wedi digwydd o dan drefn treth dir y dreth stamp. Pe bai wedi digwydd dri diwrnod yn ddiweddarach, ni fyddai Gweinidogion wedi osgoi eu cyfundrefn eu hunain. Rwyf wedi codi pwyntiau difrifol iawn ynglŷn â beth sy'n digwydd i awdurdodau lleol, beth sy'n digwydd i gyrff sector cyhoeddus eraill, pam y mae'r Llywodraeth yn dod i mewn wedyn gyda bwriad i brynu'r swyddfeydd ar y safle hwn, gan osgoi treth y byddai'r sector preifat wedi gorfod ei thalu. Ai oherwydd y gyfradd hon o 6 y cant, sy'n golygu y bydd llai o bobl yn y sector preifat am brynu swyddfeydd yng Nghymru?

Pe bai'r Aelod wedi dymuno canolbwyntio ar y pwyntiau hynny yn y ddadl hon, gallai fod wedi eu rhoi yn y cynnig; ni wnaeth hynny. Yn lle hynny, rhoddodd rywbeth arall i mewn ac mae wedi cael ei ddal yn gwneud hynny, ac ni fydd codi ar ei draed a chwistrellu cyfres o gyhuddiadau eraill o amgylch yr ystafell yn tynnu sylw oddi ar y ffaith bod ei gynnig yn ddiffygiol; mae'n gwybod ei fod, mae wedi cael ei ddal yn gwneud hynny. Ac mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Gadewch inni fod yn glir am hyn: pe bai'n wir fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n fwriadol i osgoi treth, nid yw hynny—

Wel, dylech ddarllen eich cynnig eich hun. Dylech ddarllen eich cynnig eich hun a dylech fod yn fwy gofalus y tro nesaf y byddwch yn ei ysgrifennu fel nad ydych yn awgrymu pethau a fyddai'n ddifrifol iawn pe baent yn wir—ond rydych yn treulio'r ddadl gyfan yn awr yn ceisio ein darbwyllo nad dyna oeddech chi'n ei olygu yn y lle cyntaf. Mae'n amlwg mai dyna oeddech chi'n ei awgrymu; rydych wedi cael eich dal a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig am y rheswm hwnnw ac am lawer o resymau eraill.

Gadewch imi droi at gyfraddau'r dreth trafodiadau tir. Lywydd, cawsom drafodaeth amdanynt ym mis Ionawr eleni. Yng nghyd-destun cyni Llywodraeth y DU, cafodd fy ymagwedd tuag at bennu cyfraddau'r dreth ei llywio gan yr egwyddor na ddylai fod llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i ddatganoli treth.

Bellach, gan Gymru y mae'r gyfradd gychwynnol isaf o dreth ar gyfer busnesau o gymharu ag unman arall yn y DU, fel y nododd Simon Thomas. Bydd chwe mil o drafodiadau amhreswyl yng Nghymru bellach yn cael peidio â thalu unrhyw dreth neu'n talu llai o dreth nag y byddent cyn cyflwyno'r newidiadau hyn. Bydd llai na 300 yn talu'r gyfradd o 6 y cant. Dywedodd Neil Hamilton mai tyfu'r economi ddylai fod yn ddiben i'n cyfundrefn dreth, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae'n debyg nad wyf yn cytuno â'i strategaeth ar gyfer gwneud hynny, ond gwnaeth bwynt pwysig am gyflwr cyffredinol trethiant eiddo a'r angen inni fabwysiadu safbwynt mwy rhesymegol ynglŷn â hyn oll. O fewn y farn resymegol honno, mae'r ffaith y bydd ein cyfundrefn dreth o fantais i 90 y cant o fusnesau yng Nghymru bellach yn ymddangos i mi, fel yr ymddangosai i Ysgol Fusnes Bangor, yn ffordd o weithredu a fydd yn arwain at fwy o weithgarwch yn y farchnad eiddo amhreswyl nag a fyddai wedi digwydd fel arall.

Mae trafodiadau amhreswyl yn denu amryw o gostau a bydd y dreth trafodiadau tir yn un ohonynt. Mae'r newid yn y dreth ar gyfer y trafodiadau uchaf eu pris yn llai nag 1 y cant o gynnydd yng nghost gyffredinol y trafodiad, ac mae'r gyfradd honno o 6 y cant yn gyfradd ymylol beth bynnag gan nad yw ond yn berthnasol i'r pris a delir dros £1 filiwn.

Roedd y cyfraddau'n deillio o ystyriaeth ofalus ynglŷn â blaenoriaethau ac amgylchiadau Cymru, gyda dadansoddiad o effeithiau posibl gan Lywodraeth Cymru ynghyd â sicrwydd annibynnol gan Ysgol Fusnes Bangor.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn ymyriad. A ydych yn cydnabod, fodd bynnag, er bod canran y nifer o gytundebau yn gymharol fach, dyma'r sector mwyaf symudol yn y farchnad, a gall fuddsoddi'r arian hwnnw mewn mannau eraill, ac yn y llythyr a gawsoch gan y diwydiant ei hun, mae'n dweud:

Fel arbenigwyr diwydiant, rydym eisoes yn gweld gostyngiad ym mhrisiadau asedau a buddsoddwyr nad ydynt yn ystyried Cymru mwyach o ganlyniad uniongyrchol i'r polisi hwn.

A ydych yn cydnabod y pryderon hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?

Wel, Ddirprwy Lywydd, wrth gwrs fy mod wedi clywed y sylwadau a wnaed gan rai yn y sector datblygu. Rwyf fi, a fy swyddogion ar wahân, wedi cyfarfod â'r rhai sydd â phryderon, a bydd yr ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Nododd Andrew R.T. Davies eu pryderon yn deg iawn yn ei gyfraniad gwreiddiol ac wrth gwrs y byddaf yn gwrando ac yn parhau i wrando arnynt. Nid oes amheuaeth fod Llywodraeth y DU, ei Lywodraeth ef, yn 2016, yn ei chyllideb, pan gododd y gyfradd uchaf o dreth ar drafodiadau annomestig 25 y cant—nid yr 20 y cant arswydus y soniodd Mark Reckless amdano wrth agor, ond 25 y cant—Canghellor Ceidwadol yn gwneud hynny, ac yna roedd yn dibynnu ar yr hyn y dywedai dogfen y gyllideb wrtho, fod y newidiadau hyn yn sicrhau bod busnesau sy'n prynu'r rhydd-ddaliadau a'r prydlesi uchaf eu gwerth yn gwneud cyfraniad mwy gan sicrhau toriad yn y dreth i'r prynwyr, sef busnesau llai yn aml, sy'n prynu eiddo llai drud; yr un dadansoddiad yn union ag a wnaethom yma yng Nghymru.

Dywedai dogfen gyllideb y Canghellor Ceidwadol, pan gododd gyfradd uchaf y dreth ar eiddo 25 y cant yn y gyllideb honno, nad oedd disgwyl i'r cam hwn gael unrhyw effeithiau macroeconomaidd sylweddol. Pan wneir y pethau hyn gan Ganghellor Ceidwadol, maent yn codi ar eu traed a chymeradwyo. Pan gânt eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, mae'r byd i gyd ar fin disgyn ar eu hysgwyddau.

Clywais hefyd, Ddirprwy Lywydd, o'r sector busnes, fod busnesau, pan gafodd y dreth trafodiadau tir ei datblygu, wedi pwysleisio pwysigrwydd sefydlogrwydd a sicrwydd. Byddai ystyried newid y cyfraddau ar ôl mis o weithredu'n unig, heb ragor o dystiolaeth am effaith y cyfraddau hyn, yn gynamserol ac yn creu ansefydlogrwydd ac ansicrwydd a allai fod, ynddo'i hun, yn niweidiol i'r economi yng Nghymru. Felly, yr hyn a wnaf yw'r hyn a ddywedais dro ar ôl tro yn y Siambr hon: byddwn yn edrych ar y dystiolaeth go iawn, nid y dystiolaeth ddyfaliadol, nid y pethau sy'n cael eu dweud ymlaen llaw ynglŷn â'r hyn y gallai'r effaith fod; byddwn yn gweld y dystiolaeth go iawn o drafodiadau ac yn rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r dystiolaeth honno. O ganlyniad i'r gwelliannau a hyrwyddwyd gan ein cyd-Aelod Steffan Lewis yn ystod hynt y Bil, ceir gofyniad deddfwriaethol i sicrhau adolygiad annibynnol o'r dreth trafodiadau tir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd ystyriaeth o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn rhan o bob cylch cyllidebol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer treth sydd newydd ei dechrau.

17:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Lywydd, bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym yn falch o gefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Rydym eisoes yn ymrwymedig i gadw'r holl drethi y mae gennym gyfrifoldeb drostynt dan adolygiad. Byddwn yn ceisio gwneud hynny ar y cyfle ymarferol cyntaf ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gwneud hynny ar sail y dystiolaeth go iawn na all ond profiad yn unig ei darparu.

Diolch, Lywydd. Wel, efallai'n wir ein bod, ar yr ochr hon, wedi dod o ochr dywyll planed Thatcher, ond y prynhawn yma rydym wedi glanio'n bendant iawn ar blaned Corbyn, onid ydym? A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Mae yna lawer ohonoch; fe geisiaf sôn am gynifer ohonoch ag y gallaf, ond gallai fod yn anodd cynnwys pawb.

Fel y cawsom ein hatgoffa gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol ac unwaith eto heddiw, mae cyfnod 1 o ddatganoli trethi ar ben; y cyfnod nesaf fydd gweithredu a'r monitro hollbwysig. Wrth agor, amlygodd Mark Reckless yr angen i wrando ar y sector, i wrando ar fusnesau a'u pryderon ac ymateb i hynny wedyn. Ac rydym yn pryderu, ar yr ochr hon i'r Siambr o leiaf, y bydd y gyfradd uwch o 6 y cant ar drafodiadau masnachol dros £1 filiwn yn niweidio busnesau. Nid ni yn unig sy'n dweud hynny; mae'r sector yn dweud hynny hefyd. Mae busnesau'n dweud hynny wrthym, mae ein bagiau post yn dweud hynny wrthym; rwy'n siŵr fod yr un pryderon gan ACau yn y pleidiau eraill hefyd. Efallai nad yw o fudd iddynt wrando—[Torri ar draws.]—un funud—ar y rheini yn yr un modd, ond yn sicr, nid yw'n onest i ddweud nad yw'r pryderon hynny'n cael eu lleisio. Mike Hedges.

A allwch roi enghraifft i mi o sector sy'n gofyn am gael talu mwy o dreth?

Wel, dyna sylw nodweddiadol o Mike Hedges, onid e? Felly, yn y bôn, nid ydych yn gwadu eich bod chi hefyd wedi clywed pryderon o'r sector ynglŷn â chyfradd uwch.

Iawn. Fe soniaf am hynny pan ddof at eich sylwadau yn nes ymlaen. Rwyf wedi colli fy lle nawr.

A, ie, bydd fy nghyn gyd-aelod o'r Pwyllgor Cyllid yn cofio ei ymgyrch a'n hymgyrch ni i gael y cyfraddau ar wyneb y Bil, oherwydd hyd yn oed bryd hynny—. Rwy'n deall bod pryderon gan rai o'r gweision sifil ynglŷn â gwneud hynny, a chan y Llywodraeth ynglŷn â gwneud hynny, ond ar y pryd, roeddem yn meddwl bod honno'n ffordd o ddarparu eglurder ar gyfer y sector, o dawelu meddwl y sector, fod yr adeg anodd hon o newid—mae'n gas gennyf ddefnyddio'r gair—cyfundrefn, sydd wedi achosi cymaint o annifyrrwch yma y prynhawn yma, ond yn y newid hwnnw o gyfundrefn dreth y DU i gyfundrefn dreth newydd Cymru, roeddem yn tybio bod yna rinwedd mewn cael rhyw fath o sefydlogrwydd ar yr adeg honno. Dyna oedd y pwynt yr oeddem yn ceisio ei wneud.

Simon Thomas—wel, roeddwn yn fwy na pharod, mewn gwirionedd, i adael i fy nghyn gyd-Aelod ar y Pwyllgor Cyllid i ddisgleirio drwy agor y ddadl. Rwy'n hapus i annog a chynorthwyo Aelodau Cynulliad eraill—[Torri ar draws.] Rwyf bob amser yn fwy na pharod i gael y gair olaf, yn ogystal, ac rwyf yn ei gael heddiw. [Chwerthin.] Cytunaf i'r carn â'r pryderon, mewn gwirionedd, y sonioch chi amdanynt ynglŷn â thafarndai, ac rydych yn gywir nad ydynt yn talu ardrethi busnes traddodiadol. Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol o hynny, ac yn sicr dylid edrych ar hynny. Gwn eu bod yn edrych ar hynny yn Lloegr, ac mae'n debyg ei fod wedi'i anwybyddu ers amser hir ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym bellach yn gweld y problemau sy'n digwydd i dafarndai oherwydd hynny. Felly, roedd hwnnw'n bwynt da a wnaethoch.

Andrew R.T. Davies, fe wnaethoch nodi—ni chefais amser i'w hysgrifennu—rhestr hir o brosiectau yng Nghymru a Chaerdydd sydd, gadewch inni wynebu'r gwir, wedi cael buddsoddiad sylweddol ac sy'n cael buddsoddiad sylweddol. A dywedodd Andrew y gallai amrywiadau bach yn y polisi treth o'i gymharu â dros y ffin gael effaith anghymesur—pwynt cwbl resymol i'w wneud. Efallai y gallai fod achosion lle y ceir pobl sy'n talu llai o dreth oherwydd y newidiadau yn y polisi hwn a'r polisïau treth eraill—mae hynny i'w groesawu—ond rhaid ichi edrych hefyd ar y bobl a'r busnesau a fydd yn gorfod talu mwy. Efallai fod eu nifer yn fach, ond os ydynt yn gorfod talu swm anghymesur o uchel ac os ydynt yn fuddsoddwyr yn yr economi ar y lefel honno o ddatblygu economaidd, mae hynny'n destun pryder.

Ond rwy'n deall—a buom yn trafod hyn yn helaeth yn y pwyllgor—safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn ddyddiau cynnar. Wrth gwrs ei bod. Serch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, dylid rhoi sylw i arwyddion rhybudd bob amser. Fel y dywedodd Neil Hamilton—wel, roedd Neil Hamilton yn cefnogi'r cynnig. Roeddech yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy'n dileu'r cynnig. Nid oeddech yn cefnogi'r rhan 'dileu', a bod yn deg. Rydych yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn ogystal. Credaf eich bod yn fodlon at ei gilydd â'r ddadl hon heddiw, felly nid wyf yn credu bod llawer o ots gennych pa ffordd yr aiff y ddadl hon, a chredaf eich bod wedi ennill beth bynnag o ran hynny, Neil. Credaf eich bod wedi cael eich difyrru ar wahanol adegau heddiw. Ond rwy'n cytuno â chi nad yw cystadleuaeth dreth yn beth drwg o reidrwydd. Fel cyn Geidwadwr, wrth gwrs, fe fyddech chi'n dweud hynny, ac wrth gwrs, fel Ceidwadwr Cymreig fy hun, rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, fel Aelod o Gynulliad Cymru, credaf ei fod yn beth drwg os yw cystadleuaeth dreth yn digwydd bod yn andwyol i Gymru a chadarnhaol i Loegr. Wrth gwrs, dyna oedd y perygl roeddem yn ei wynebu bob amser. Ydy, mae datganoli treth yn dda ar gyfer cynyddu atebolrwydd, ac mae'n dda iawn i ni yma gael yr awenau grym sydd eu hangen i wella ein heconomi. Ond ochr arall hynny, sy'n rhaid ei wylio, sy'n rhaid ei fonitro, yw gwneud yn siŵr nad yw'n arwain at osod ein heconomi ar sylfaen lai cadarn.

Fe sonioch am esmwytho meintiol. Nid Llywodraeth Geidwadol y DU yn unig ydoedd, wrth gwrs; Llywodraeth Lafur y DU a gyflwynodd y cysyniad o esmwytho meintiol yn wreiddiol i economi Prydain. Mewn gwirionedd, os ydych yn dweud nad ydych eisiau esmwytho meintiol, mae'n debyg y byddai'r toriadau wedi bod yn ddyfnach. Felly, ar yr adeg honno, roedd yn arf gwerthfawr i Lywodraeth ystyried ei ddefnyddio. Wrth gwrs, roedd yna ofn effaith chwyddiant uwch nad yw wedi bwydo drwodd i'r system eto yn sicr, ond ar yr adeg honno, yn amlwg, aethom drwy gyfnod anodd. Ond credaf fod yn rhaid i chi gydnabod mai Llywodraeth Lafur a gyflwynodd y cysyniad hwnnw. Felly, mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r economi i wneud hynny'n ofynnol.

Nawr, fel y mae economegwyr yn enwog am ei ddweud, mae rhagfynegiadau fel rheol bob amser yn anghywir. Cawsom y dystiolaeth honno yn y Pwyllgor Cyllid. Nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn ddefnyddiol. Mewn gwirionedd, maent yn ddefnyddiol iawn, cyn belled â'ch bod yn cydnabod y gallent gynnwys gwallau o'u mewn a'ch bod yn barod i adolygu'r rhagfynegiadau hynny. 

Cyn gorffen, rhaid i mi sôn am Mike Hedges, a ddyfynnodd—euthum i chwilio am y dyfyniad—Oliver Wendell Holmes Jr, 1904:

Trethi yw'r pris a dalwn am gymdeithas wâr.

Wrth gwrs, rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Ni fyddai neb yma'n dweud nad ydym am dalu treth. Buaswn yn deud, fodd bynnag wrth gwrs, nad codi treth ynddo'i hun yn unig sy'n bwysig; mae'r ffordd y caiff y dreth ei gwario yn hollbwysig hefyd. Wrth i Lywodraeth Cymru gael mwy o bwerau, a mwy o bwerau codi treth at ei defnydd, daw'n fwyfwy pwysig iddi brofi y gall wario'r arian mor effeithlon â phosibl.

David Melding, fe siaradoch chi am ailgydbwyso economi'r DU, gan ddefnyddio Llundain fel adnodd ond gan wneud yn siŵr ein bod yn bwrw iddi ein hunain i ddatblygu economi Cymru gystal ag y bo modd—a dyna yw hanfod datganoli treth. Fe ddywedoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn barod i fonitro, gwerthuso a gwneud newidiadau os ydych yn credu bod y polisïau sydd ar waith mewn perthynas â chodiadau treth yn anghywir. Wel, rydym yn clywed llawer o bryderon gan fusnesau eu bod yn teimlo eu bod yn anghywir. Rwy'n eich annog i gadw'r sefyllfa hon dan arolwg ac i wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i newid unrhyw bolisïau treth sy'n profi'n anghystadleuol i'n heconomi yn y dyfodol.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Isafbris am alcohol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Julie James, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar isafbris am alcohol, ac rydw i'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6718 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.

2. Yn credu:

a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a

b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i ar yr agenda. Symudwn oddi wrth dreth at rywbeth sy'n debyg i dreth: bwriad y Llywodraeth i osod isafbris am alcohol. Mae ein cynnig yn gwneud dau bwynt sylfaenol, y bydd isafbris yn effeithio'n anghymesur ar y rhai ar ben isaf y raddfa incwm—y bobl dlotaf mewn cymdeithas—ac na fydd mewn gwirionedd yn cyflawni'r amcan sydd wedi ei ddatgan ar ei gyfer, oherwydd y bobl sydd â'r broblem fwyaf gydag alcohol, wrth gwrs, yw'r rhai sydd leiaf tebygol o gael eu heffeithio gan newidiadau yn y pris. Maent yn gaeth i alcohol, a chaiff pobl sy'n gaeth eu gyrru gan y drwg oddi mewn, nad yw fel arfer yn agored i newid drwy newid pris beth bynnag y maent yn ei ddefnyddio. Yn wir, yn achos cyffuriau a reolir, wrth gwrs, nid ydynt ar gael i'w gwerthu o gwbl. Maent wedi eu gwahardd ac mae'n drosedd i'w defnyddio, ond mae gennym broblemau cyffuriau enfawr yn y wlad hon, ac yn y 1920au, pan wnaeth yr Unol Daleithiau yr un fath yn achos alcohol—ceisio ei wahardd drwy gyfraith—creodd hynny gyfres anferth o broblemau cymdeithasol a chynnydd mewn troseddau heb fynd i'r afael â phroblemau alcoholiaeth ei hun mewn gwirionedd.

Hoffwn ddechrau drwy ofyn faint o broblem sydd gennym gydag alcohol yng Nghymru mewn gwirionedd. Roedd yn ddiddorol darllen adroddiad gan Alcohol Concern a ddywedai, ers 2005, fod cyfanswm cyffredinol yr alcohol a yfwyd yn y DU—yn anffodus, ni allwn ddod o hyd i ffigurau ar gyfer Cymru—a chyfran y bobl sy'n dweud eu bod yn yfed, a'r swm y mae yfwyr yn dweud eu bod yn ei yfed wedi gostwng, ac mae'r duedd hon yn amlwg iawn ymhlith yfwyr iau. Ar y llaw arall, nododd 77 y cant o'r rhai sy'n ennill fwyaf eu bod wedi yfed yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 45 y cant o'r rhai sy'n ennill leiaf ac wrth gwrs, y rhai sy'n ennill fwyaf yw'r rhai sydd leiaf tebygol o ymateb i newidiadau yn y pris ar ben isaf y farchnad alcohol, ond y 45 y cant o'r rhai sy'n ennill leiaf yw'r rhai sy'n mynd i gael eu targedu gan y newidiadau arfaethedig.

Felly, caiff y cynnig hwn ei gyflwyno ar adeg pan fo yfed yn cael ei gymedroli gan y mwyafrif llethol o bobl, ac mae nifer y bobl sydd â phroblem go iawn mewn gwirionedd ac sy'n creu problemau eraill i ni yn y gymdeithas, naill ai'n aros yn yr unfan neu'n gostwng yn ogystal. Mae'r hyn a gynigir yma yn mynd i osod rhwystr cyffredinol ar y boblogaeth i gyd er mwyn ceisio ymdrin â'r problemau a achoswyd gan nifer fach iawn. Felly, mae'n gwbl groes i ymyriad wedi'i dargedu, sef yr hyn y byddai ei angen er mwyn datrys y problemau cymdeithasol, fel y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei wneud.

Nawr, mae cymariaethau rhyngwladol bob amser yn beryglus, oherwydd mae cymdeithasau gwahanol yn wahanol iawn o ran eu hanes a'u cyfansoddiad cymdeithasol, ac mae ymddygiad dynol yn gwahaniaethu rhwng gwledydd yn ogystal. Pan ddaeth yr Ysgrifennydd iechyd i'r Pwyllgor Cyllid i roi tystiolaeth i ni, gofynnais iddo a oedd ganddo unrhyw ystadegau sy'n cynhyrchu'r dystiolaeth ar gyfer unrhyw gydberthynas rhwng pris alcohol a nifer y clefydau sy'n ymwneud ag iechyd neu gyflyrau meddygol eraill a welwyd yn y gwledydd hynny, a dywedodd nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ystadegau; nid oeddent o unrhyw werth. Wel, credaf fod rhywfaint o werth mewn edrych ar brofiad gwledydd eraill. Fe wnaethoch chi, yn y modd trahaus arferol, wrthod pwynt yr oeddwn yn ceisio bod o ddifrif yn ei gylch. Ond credaf fod gwerth mewn edrych ar gymariaethau rhyngwladol i weld a oes unrhyw berthynas rhwng pris alcohol ac effeithiau ar iechyd. Unwaith eto, rwyf wedi'i chael hi'n anodd iawn dod o hyd i'r ystadegau yr oeddwn eu heisiau, ond rwyf wedi canfod ystadegau ar gyfer nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol fel canran o gyfanswm y marwolaethau. Ar gyfer Cymru a Lloegr yn y cyfnod rhwng 2006 a 2009, roedd y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol fel canran o gyfanswm y marwolaethau yn 2.3 y cant. Nawr, mae hynny'n cymharu â 9.8 y cant yn y Ffindir, 3.2 y cant yn Sweden, 6.5 y cant yn Nenmarc, ac mae pob un ohonynt yn codi prisiau llawer iawn uwch am alcohol nag a wnawn ni yn y Deyrnas Unedig. Mae gwledydd fel Sbaen a'r Eidal yn codi prisiau is o lawer am alcohol ac nid oes llawer iawn o wahaniaeth rhwng eu cyfraddau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'n cyfraddau ni.

18:10

Fe ddywedoch ar ddechrau'r araith hon fod hyn yn debyg i dreth. Onid y gwahaniaeth mawr o gymharu â Sgandinafia yw ei bod hi'n dreth yno, ac o leiaf fe ellir defnyddio'r refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel? Yma, byddai'r arian a godir ond yn creu elw uwch i'r cwmnïau preifat sy'n eu cynhyrchu a'u gwerthu.

Mae'r Aelod yn hollol gywir. Dyna ddiffyg arall y cynnig. Nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y symiau o arian a godir a'r hyn y gallai'r Llywodraeth ei wario ar geisio targedu cymorth i'r rhai sydd ei wir angen. Hyd yn oed y rhai sydd â phroblem yfed achlysurol, nid ydynt yn mynd i gael eu heffeithio lawer iawn gan hyn. Y niferoedd sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, sydd bob amser yn codi ar y penwythnosau, lle maent yn gysylltiedig ag alcohol o ganlyniad i oryfed ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, mae'r rheini'n annhebygol iawn o gael eu newid drwy osod isafbris am alcohol. Yr hyn y dylem ei wneud yma yw edrych i weld ble mae'r broblem yn bodoli a datrys yr anhawster hwnnw'n benodol.

Felly, mae hwn yn gynnig sydd wedi'i gynllunio'n wael iawn, ac mae'n defnyddio gordd i dorri cneuen mewn gwirionedd. Dyna a gynigir yma. Ar isafbris 50c fesul uned, os mai dyna a ddaw yn y pen draw, mae'n annhebygol iawn o gael unrhyw effaith ar fwy na nifer fach o bobl. Wrth gwrs, nid yw'r galw am alcohol yn cael ei ddylanwadu gan bris fwy nag yr effeithiwyd ar ysmygu sigaréts gan gynnydd yn y dreth ar dybaco. Er mwyn gwneud unrhyw effaith sylweddol ar y broblem y mae'r Llywodraeth yn ei chyflwyno fel cyfiawnhad dros y cynnig hwn, byddai'n rhaid iddo fod yn gynnydd llawer iawn uwch na'r un a awgrymwyd. Llywodraeth ddewr iawn yn wir a fyddai'n ceisio gosod isafbris o £1, dyweder, fesul uned am alcohol. Credaf y byddai'n amhoblogaidd tu hwnt ymhlith y pleidleiswyr.

Ond rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn oherwydd ei fod wedi'i dargedu'n benodol tuag at bobl ar incwm is. Fel llawer o'r cynigion hyn—fel y mae'r dreth ar siwgr yn Lloegr yn mynd i effeithio ar y rhai ar ben isaf y raddfa incwm—mae'r rhain oll yn feichiau ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd beth bynnag i gael deupen llinyn ynghyd mewn bywyd, ac mae'n mynd i'w gwneud yn llawer iawn anoddach er mwyn sicrhau ychydig iawn o welliant, os o gwbl, i iechyd y cyhoedd, neu lai o'r problemau cymdeithasol eraill y gwyddom oll amdanynt sy'n cael eu creu drwy yfed gormod o alcohol.

Felly, mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae'r dreth arfaethedig yn afresymol—os gellir ei galw'n dreth at y dibenion hyn. Fel llawer o'r trethi sydd gennym yn y wlad hon, mae wedi'i chynllunio'n wael iawn. Rydym newydd gael dadl ynglŷn â threthi ar eiddo a gynlluniwyd yn wael iawn. Yma rydym yn mynd ati'n fwriadol i greu un arall, yn hytrach na'n bod yn ei hetifeddu gan ein rhagflaenwyr, fel llwyth o ddryswch a gweithgarwch gwrthgynhyrchiol.

Felly, nid dyma'r adeg inni geisio rhoi'r beichiau hyn ar bobl na allant eu fforddio. Os ydym yn mynd i gyflwyno trethi newydd, dylent gydymffurfio â chanonau cyffredinol trethiant, sef eu bod wedi'u cynllunio'n dda, yn targedu'n briodol ac yn codi symiau rhesymol o refeniw, neu wedi eu cynllunio i gyflawni'n ymarferol yr amcanion cymdeithasol y maent i fod i'w cyflawni, ac ni fydd y cynnig hwn yn cyflawni'r un o'r rhain.

Fel y nododd Mark Reckless, y rhai a fydd yn elwa fwyaf o hyn fydd yr archfarchnadoedd a chyfranddalwyr archfarchnadoedd, i'r graddau y bydd pobl yn croesi'r ffin i Loegr. Nid yw'n mynd i fod yn broblem fawr, a siarad yn gyffredinol, ond yn sicr, fe allai fod yng ngogledd-ddwyrain Cymru, neu yn ne-ddwyrain Cymru yn ogystal. Wedyn mae honno'n mynd i fod yn broblem i fasnachwyr lleol yn yr ardaloedd hynny. Nid yw hyn wedi cael ei ystyried yn dda o gwbl yn fy marn i, ac mae'n rhywbeth na ellir ei weinyddu mewn ffordd a fydd yn cynnig ateb i'r hyn y derbynnir ei bod yn broblem iechyd a chymdeithasol sylweddol. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn methu ar bob lefel.

18:15

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol.

Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaid imi ddweud bod y ddadl hon yn ddirgelwch i mi braidd, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr beth y byddwn yn ei glywed heddiw nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i glywed o'r blaen, gan gynnwys rhai o'r materion lle mae gennym rywfaint o gydymdeimlad ag UKIP mewn gwirionedd. Mae egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth eisoes wedi'u trafod yn y Cynulliad hwn. Cymerwyd tystiolaeth gan y pwyllgor iechyd y mae'r llefarydd UKIP yn aelod ohono, wrth gwrs, a lle y trafodwyd rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn y cynnig a'u hadlewyrchu yn yr adroddiad Cyfnod 1. Yng Nghyfnod 2, cafodd ein gwelliant ni am fan cychwyn ar 50c ei wrthod, ac mae'n annhebygol iawn o godi eto, rwy'n tybio. Felly, credaf fod pwynt (c) y cynnig yn ddiystyr mewn gwirionedd. Y lle i fod wedi gwneud cyfraniad ystyrlon i'r pwynt penodol hwn fyddai yng Nghyfnod 2, ond golygodd y ffaith bod UKIP i gyd wedi ymatal eu bod wedi methu cymryd rhan ar gam pwysig o'r ddeddfwriaeth sylfaenol, sydd, wedi'r cyfan, yn fraint a roddir i 60 yn unig ohonom drwy Gymru gyfan.

Mae ein gwelliant, a gynigiaf yn awr, yn adlewyrchu'r pryder a rannwn ynghylch yr effaith bosibl ar aelwydydd incwm isel, ond hefyd mae ein gwelliant yn nodi pryder arall ynglŷn â'r tebygolrwydd y gall arwain unigolion sy'n ddibynnol ar alcohol, neu sydd mewn perygl o ddibyniaeth ar alcohol at fathau eraill o gaethiwed. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid wyf yn meddwl bod y Bil hwn wedi bod ym mhen draw'r ffwrn ychwaith, yn yr ystyr nad yw'r ystod lawn o dystiolaeth yno eto, ac mae gormod yn ddibynnol ar reoliadau. Ond y ffordd o ymdrin â hynny, gyda Bil sy'n amlwg yn ennyn cefnogaeth nifer o bobl, yw ceisio diwygio'r Bil, sef yr hyn y byddwn yn ei wneud yng Nghyfnod 3. Dyna pam, yn y ddadl hon, y byddaf yn rhoi rhybudd priodol i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn ailedrych ar fater yr adroddiad gwerthuso. Fel y dywedaf, rwy'n credu mai Cyfnod 3 yw'r lle gorau i wneud hynny. Mae'n codi o argymhelliad Cyfnod 1 a gefnogwyd gan aelodau Llafur y pwyllgor a'r unig beth a'i trechodd yng Nghyfnod 2 oedd chwip y Llywodraeth a'r ffaith bod UKIP wedi ymatal. 

Pan gaiff y Ddeddf hon ei phasio, daw'n greadur y Cynulliad, nid y Llywodraeth, ac felly mae'n briodol mai'r Cynulliad sy'n penderfynu pa wybodaeth sydd ei hangen arno i benderfynu a yw'r Ddeddf hon yn goroesi'r dyddiad machlud. Rhestrir y wybodaeth y credwn y byddwn ei hangen ar ran ein hetholwyr, ac yn wir y Cynulliad, er mwyn asesu llwyddiant neu fethiant isafbris fesul uned ymhen pum mlynedd, yma yn y gwelliant. Nid yw'r Llywodraeth wedi'i chyfyngu i'r rhestr honno, ond rhaid cynnwys y meini prawf hyn yn yr adroddiad gwerthuso. Fel arall, ni fydd yn werthusiad o gwbl. Yn fyr, gadewch i ni osgoi ffrae ymhen pum mlynedd os cawn adroddiad gwerthuso nad yw'n cyfeirio at yr effeithiau hyn. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Gwelliant 2. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.

Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.

Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol, Lywydd.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth, gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau yn arwain at fanteision iechyd.   

Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul uned ar gyfer tafarndai.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol. Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl yma achos rwy'n meddwl ei bod yn gyfle inni egluro rhai o'r egwyddorion sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei drafod. Roeddwn yn darllen erthygl ddifyr yn gynharach heddiw am y berthynas rhwng pris tybaco yn America ac arferion ysmygu'r boblogaeth. Roedd yn mynd â ni yn ôl i'r 1880au, pan wnaeth dulliau cynhyrchu newydd sigaréts gan yr American Tobacco Company eu galluogi nhw i gorneli'r farchnad. Mae'n mynd â ni wedyn drwodd i'r 1960au a'r adroddiadau meddygol cyntaf am beryglon smocio a'r cynnydd ddaeth mewn trethi wedyn. Nid yw casgliad yr adroddiad yn synnu dim arnom ni:

Roedd prisio a hyrwyddiadau sy'n gysylltiedig â phris ymhlith yr arfau marchnata pwysicaf a gâi eu defnyddio gan gwmnïau tybaco. Mae ymdrechion i reoli tybaco yn y dyfodol sy'n anelu i godi prisiau a chyfyngu ar ymdrechion marchnata sy'n gysylltiedig â phris yn debygol o fod yn bwysig i sicrhau lleihad yn y defnydd o dybaco. '.

Y rheswm nad ydy'r casgliad yna ddim yn ein synnu ni ydy ein bod yn gwybod yn reddfol erbyn hyn bod ysmygu tybaco yn ddrwg ichi, a bod cynyddu'r pris yn amlwg yn arf defnyddiol yn y sialens o drio cael mwy o bobl i roi'r gorau i smocio. Beth sydd gennym ni yn fan hyn mewn difri ydy dechrau'r drafodaeth go iawn ar sut y gallwn ni ddefnyddio pris, defnyddio cymhellion ariannol, i drio dylanwadu ar faint o alcohol mae pobl yn ei yfed. Mae yna wahaniaethau rhwng alcohol a thybaco. Nid ydw i'n ymwybodol, er enghraifft, bod yna ffasiwn beth ag ysmygu cymedrol a all fod yn dderbyniol o ran lefel ei risg i iechyd. Rydym ni yn derbyn y gall rhywun yfed yn gymedrol ac yn ofalus, ac mae eisiau cadw hynny mewn golwg. Ond y pwynt sylfaenol yn fan hyn ydy: mae yfed gormod o alcohol yn ddrwg i chi. Nid yn unig mae o'n ddrwg i'ch iechyd chi yn bersonol, mae'n niweidiol i gymdeithas. Mae'n gallu effeithio yn ddifrifol iawn ar blentyndod, yn straen ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn gallu gwaethygu tlodi. Ac mae'n rhaid i fi ddweud roeddwn i'n synnu clywed Neil Hamilton yn wfftio'r syniad yma bod alcohol rhywsut yn niweidiol i'n cymdeithas ni, achos mae o, a beth sydd gennym ni fan hyn ydy ymdrech i fynd i'r afael â hynny.

Mi ddylai fod pob un ohonom ni yn credu bod trio cael pobl i yfed llai yn beth da. Ac yn dilyn ymlaen o hynny, rydw i'n cytuno, fel efo tybaco, efo'r egwyddor o drio defnyddio cymhellion ariannol i gael pobl i ystyried yfed llai, ac i feddwl, hefyd, am alcohol mewn ffordd wahanol—am alcohol fel rhywbeth sy'n gallu bod yn niweidiol. Rydw i'n cytuno efo Neil Hamilton a Mark Reckless yn hyn o beth: rydw i'n digwydd meddwl mai trwy drethiant y dylai hynny ddigwydd. Mi fuasai hynny'n caniatáu i'r arian, fel rydym ni wedi clywed, fyddai'n cael ei godi i gael ei gasglu gan ein Trysorlys ni yng Nghymru a'i wario ar daclo goryfed a'i sgil-effeithiau. Ond ni allwn ni wneud hynny, achos nid yw'r pwerau gennym ni yng Nghymru i wneud hynny. Felly, mae'r syniad o osod isafbris i uned o alcohol yn ddull arall—un amherffaith, efallai, ond un dull posibl, un arf posibl—i geisio amrywio prisiau gwahanol fathau o ddiodydd alcoholig er mwyn annog yfed mwy cymedrol a llai niweidiol. 

Mae yna Fil o'n blaenau ni, ac mae yna sawl elfen o'r Bil yna yr ydw i'n dymuno eu gweld yn cael eu cryfhau cyn y gallaf i fod yn gyfforddus ein bod ni'n mynd o'i gwmpas yn y ffordd iawn. Rydw i'n cytuno efo'r cynnig sy'n codi peryg y gallai aelwydydd incwm isel gael eu taro. Rydw i'n gofyn am sicrwydd drwy welliannau am y ffordd mae lefel yr isafbris yn cael ei osod—50c ydy'r ffigur sy'n cael ei drafod fwyaf. Nid ydw i'n arbenigwr, ond rydw i'n teimlo o bosibl nad yw hynny cweit yn iawn. Efallai ei fod o fymryn yn uchel. Felly, rydw i'n cyflwyno gwelliannu i fynnu mwy o ddata, mwy o fodelu, ac rydw i'n meddwl bod cyfle hefyd i weld sut mae hyn yn gweithio yn yr Alban, wrth i ni osod y pris yma. Rydym ni angen y dystiolaeth orau posibl. Rydw i hefyd eisiau gweld gwell cyfathrebu o gwmpas y Bil, ac ymrwymiad i addysgu pobl ar sut i osgoi gorfod talu mwy am alcohol—er enghraifft, drwy yfed diodydd efo cynnwys is o alcohol. Rydw i'n meddwl bod hynny yn sgil-effaith dda. Efo unrhyw fater iechyd y cyhoedd, mae angen perswadio pobl pam bod camau'n cael eu cymryd, ac nid ydy hwn yn wahanol.

Felly, rydym ni'n canolbwyntio llawer o'n gwelliannau ni ar yr elfen dystiolaeth a'r elfen gyfathrebu, yr elfen werthuso, er mwyn dod â phobl efo ni. Dyna lle rydw i'n sefyll. Beth mae'r cynnig yn enw Neil Hamilton—i gloi—yn ceisio'i wneud ydy lladd y drafodaeth a ninnau yn dal wrthi'n mynd drwy broses ddeddfwriaethol. Mae yna enillion mawr o gael hyn yn iawn. Mi fyddai ei gael yn anghywir yn dal ymdrechion iechyd cyhoeddus eraill yn ôl yn y dyfodol, o bosibl. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar drio gweld os oes modd cael Bil a Deddf gryfach drwy weithio yn adeiladol. 

18:20

Mae'n bwysig nodi ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yna unigolion sy'n cam-drin alcohol, a gall camddefnyddio alcohol—[Torri ar draws.] Gall cam-drin alcohol effeithio'n ddinistriol ar unigolion ac ar eu teuluoedd. Mae'r mater hwn yn peri pryder i ni. Ond rydym yn cwestiynu a fydd gosod isafbris fesul uned yn gweithio fel ffordd o drechu'r camddefnydd o alcohol i bob pwrpas. Ein casgliad ystyriol yw na fydd yn gwneud hynny.

Nawr, fe wyddom nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau heb ymchwil. Oes, mae ganddynt eu hymchwil. Maent wedi cael ymchwil gan Brifysgol Sheffield, er enghraifft, sy'n amcangyfrif y byddai isafbris o 50c yr uned yn arbed £882 miliwn i economi Cymru dros gyfnod o 20 mlynedd. Mae hynny'n golygu tua £40 miliwn y flwyddyn, sy'n swnio fel arbediad sylweddol. Deillia hyn o leihad mewn troseddu, salwch ac absenoldeb o'r gweithle. Y broblem yw bod y fethodoleg sy'n sail i'r adroddiad hwn wedi ei beirniadu gan academyddion a melinau trafod eraill.

Er enghraifft, mae'r Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes wedi llunio arfarniad amgen o'r cynllun isafbris uned, sy'n cynnwys beirniadaeth o waith prifysgol Sheffield, gan ganolbwyntio'n arbennig ar hyblygrwydd y galw am alcohol—hynny yw, parodrwydd pobl sydd â phroblem yfed i dalu mwy o arian i gael eu dos o alcohol. Teimlai'r Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes nad oedd astudiaeth Sheffield yn gwahaniaethu'n briodol rhwng gwahanol fathau o yfwyr a gwahanol fathau o ymddygiad yfed. Mewn geiriau eraill, ni roddodd ddigon o sylw i barodrwydd pobl sydd â phroblem yfed i dalu mwy o arian i gael eu dos, neu fod pobl sydd â phroblem yfed yn tueddu i arddangos patrymau ymddygiad sy'n wahanol i'r ymddygiad cyffredin.

Rhaid inni dderbyn ein bod yn ymdrin yma â phobl sy'n gaeth, pobl sydd â salwch, felly ni fyddant bob amser yn gweithredu mewn ffordd resymegol. Yn aml, bydd pobl sy'n gaeth yn tueddu i barhau i gael gafael ar y sylweddau y maent yn gaeth iddynt, hyd yn oed os yw'r pris yn codi.

18:25

A ydych yn deall nad yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth wedi'i anelu go iawn at gael alcoholigion i roi'r gorau i yfed? Rydych yn llygad eich lle, bydd alcoholigion yn dod o hyd i alcohol mewn unrhyw ffordd y gallant wneud hynny. Rhaid i'r Llywodraeth wneud ymdrech—mwy o ymdrech—i helpu alcoholigion i roi'r gorau i alcohol, ond rydym yn sôn yma am rai sy'n yfed i raddau peryglus, pobl y gellir eu darbwyllo drwy gymhellion pris i ymddwyn mewn ffordd wahanol o bosibl.

Ie, rwy'n sylweddoli eich bod yn gwahaniaethu rhwng alcoholigion a rhai sy'n yfed i raddau peryglus, ac mae gwahaniaeth o'r fath yn bodoli, ond er hynny ni chredwn y bydd y ddeddfwriaeth yn ymdrin yn effeithiol â phroblem yfed peryglus hyd yn oed.

I fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud, efallai y bydd alcoholig ond yn gwario mwy o'i arian ar alcohol ar ôl gosod isafbris uned ac yn gwario llai ar hanfodion sylfaenol, megis gwres, bwyd, biliau cyfleustodau a rhent. Felly, efallai mai codi pris alcohol fydd y pwynt tyngedfennol yn y pen draw sy'n peri i alcoholig gael ei wneud yn ddigartref. Yn achos alcoholig sydd hefyd â theulu, gallai arwain at droi'r teulu cyfan allan.

Mae Richard Edwards, prif weithredwr elusen canolfan Huggard yng Nghaerdydd i'r digartref yn un o'r rhai sydd wedi lleisio pryderon mawr ynglŷn â'r cynllun isafbris uned. Rwy'n dyfynnu:

Ni fydd codi prisiau yn unig am gyffuriau cyfreithlon fel alcohol ond yn newid un math o gaethiwed am un arall o bosibl ac yn condemnio pobl i fywyd mwyfwy anobeithiol ac anodd dod ohono ar y strydoedd.

Diwedd y dyfyniad. Ceir bygythiad go iawn y bydd alcoholigion yn troi oddi wrth alcohol at sylweddau llawer gwaeth fel 'spice', sydd eisoes yn gyffredin ar strydoedd trefi mawr a dinasoedd Cymru. Ceir hefyd y posibilrwydd y gallai alcoholigion droi at droseddu i godi arian i fwydo eu harferion. Mewn gwirionedd gallai lefelau trosedd godi yn hytrach na gostwng fel y mae tystiolaeth Llywodraeth Cymru wedi honni.

Lleisiwyd dadl y byddai tafarndai'n elwa o gyflwyno isafbris uned. Wel, gadewch i ni gael golwg ar hynny. Mae tafarndai, mae'n wir, wedi bod yn cwyno ers rhai blynyddoedd eu bod yn cael eu trin yn annheg gan y system dreth o gymharu ag archfarchnadoedd, sy'n gallu codi pris is am gynhyrchion alcohol. Mae hyn oherwydd cyfraddau gwahanol o TAW a godir. Yn anffodus, ni fydd cyflwyno isafbris uned yn mynd i'r afael â'r gwahaniaeth treth hwn. Mae CAMRA, sydd wedi cefnogi isafbris uned yn y gorffennol, wedi ei wrthwynebu ers 2013 ac yn ddiweddar dywedodd eu pennaeth cyfathrebu:

Nid yw CAMRA yn cefnogi isafbris fesul uned oherwydd credwn ei fod yn cosbi yfwyr cymedrol a chyfrifol heb wneud fawr ddim i gynorthwyo'r rhai sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol.

Un arall sy'n gwrthwynebu'r cynllun yw Tim Martin, pennaeth Wetherspoon, sydd wedi galw isafbris fesul uned yn gyfeiliornad ac mae'n dweud mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw gostyngiad yn y TAW ar y cwrw a werthir mewn tafarndai. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau gwella sefyllfa tafarndai, rhywbeth nad oedd yn amcan ganddynt beth bynnag gyda'r Bil hwn, dylent lobïo Llywodraeth y DU yn lle hynny i ostwng y TAW ar alcohol a werthir mewn tafarndai.

Corff arall sydd wedi gwneud tro pedol o fath yw Llywodraeth y DU. Ar ôl bod o blaid cyflwyno isafbris fesul uned yn flaenorol, mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi penderfynu y byddant yn monitro'n ofalus beth sy'n digwydd yn yr Alban yn gyntaf, cyn iddynt weithredu unrhyw gynllun tebyg yn Lloegr. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol a bwrw ymlaen â'i chynlluniau ei hun beth bynnag. Rwy'n credu bod angen iddynt gymryd cam yn ôl a meddwl eto ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Rwy'n cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol, a diolch byth, nid fi yw'r unig un sy'n meddwl hynny, gan fod cymaint o sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes o ran sut y mae lleihau niwed alcohol hefyd yn cefnogi'r polisi hwn. Mae llawer o sefydliadau iechyd, am resymau gweddol amlwg, rwy'n tybio—amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, beth bynnag—hefyd yn cefnogi'r polisi hwn, ac yn wir dangosai'r ymgynghoriad ar y Bil drafft rai blynyddoedd yn ôl fod yna gefnogaeth gref iawn ymhlith y cyhoedd yn ogystal. Felly, credaf ein bod yn dechrau o sylfaen eithaf diogel o ran dealltwriaeth o'r angen am y polisi hwn fel rhan o strategaeth gyffredinol a phecyn o fesurau i leihau niwed yn sgil camddefnyddio alcohol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dyna'n union ydyw—un rhan o bolisi a strategaeth gyffredinol, ac rwy'n credu y byddai'n chwarae rhan sylweddol o fewn y gyfres gyffredinol honno o fesurau.

Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn gyfarwydd â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi, neu'r niwed y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi. Mae'n glir iawn o ran ei effaith ar ffurf afiechyd, effaith hynny ar yr economi mewn dyddiau a gollwyd o'r gwaith, y problemau mewn perthynas â throseddau a throseddu treisgar, a pheth o hwnnw'n codi o oryfed mewn pyliau, sy'n bla ynghanol llawer o'n trefi a'n dinasoedd, a hefyd, wrth gwrs, y niwed i deuluoedd a chwalu priodasau. Felly, mae'r niwed yn sylweddol iawn yn wir, ac mae angen inni gyflwyno ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â'r niwed hwnnw ac fel y dywedais, credaf fod isafbris uned am alcohol yn rhan bwysig o'r pecyn cyffredinol hwnnw.

Mae Ymchwil Canser y DU, Lywydd, yn un o'r sefydliadau sy'n cefnogi'r polisi arfaethedig hwn, ac maent yn glir mai alcohol yw'r ffactor risg ataliadwy mwyaf ond dau mewn perthynas â nifer yr achosion o ganser, ac y byddai'r polisi penodol hwn yn offeryn effeithiol iawn i leihau'r afiechyd a'r niwed yng nghyd-destun canser. Mae gennym yr ymchwil gan Brifysgol Sheffield a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriodd eraill ato. Yn bersonol, credaf fod y gwaith ymchwil hwnnw'n gryf ac yn argyhoeddiadol. Mae'n sôn am bolisi o osod 50c fel isafbris gan arwain at dderbyn 1,300 yn llai o bobl i ysbytai yng Nghymru a dros 65 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn. Yn bwysicach na hynny, rwy'n credu, o ran peth o'r feirniadaeth a anelwyd at y polisi, byddai'r fantais fwyaf i bobl sy'n byw mewn tlodi. Gwyddom fod 37 y cant o'r alcohol a werthir yng Nghymru yn cael ei werthu am lai na'r pris hwnnw o 50c yr uned, a bod yfwyr trymach yn fwy tebygol o dalu llai na 50c. Pan edrychwch ar y mathau hynny o ffactorau mae'n awgrymu, yn gyntaf oll, y bydd yn cael effaith sylweddol, ac yn ail, y bydd, o ran cyfran, o fwy o fudd i iechyd pobl yn y cymunedau tlotaf—

—yn sicr— o ystyried y patrymau yfed rydym yn gyfarwydd â hwy.

Ildiaf i Simon Thomas.

Diolch. Fe fydd yn ymwybodol fy mod yn gyffredinol yn cefnogi'r Bil hwn a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i gyflawni, ond credaf ei bod hi'n bwysig cofnodi mai modelu yw'r hyn y mae newydd ei ddyfynnu i ni, nid tystiolaeth. Ni allwn ddefnyddio tystiolaeth am nad oes gennym unrhyw beth fel hyn. Mae'r Alban newydd ddechrau ar ei thaith, ond nid oes gennym hynny.

Mae'r modelu y mae wedi'i nodi yn bwysig, ond yr hyn y mae gwir angen iddo ddigwydd, onid yw'n cytuno, yw bod y modelu a'r holl dystiolaeth yn cael eu dadlau'n drylwyr ac yn llawn yma yn y Siambr pan fyddwn yn gwneud penderfyniad ar y pris terfynol—nad ydym ond yn pasio Bil fframwaith ac yna'n gadael i'r Llywodraeth fwrw rhagddi? Mae angen inni fod yn rhan o hyn ar bob cam o'r ffordd.

Rwy'n derbyn yn llwyr fod angen trafodaeth barhaus ynghylch pob agwedd ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, gan gynnwys yr isafbris fesul uned. Ond rwy'n credu'n gryf iawn, o ystyried maint y niwed y mae alcohol yn ei achosi, ac yn wir yr anghydraddoldebau iechyd sydd ynghlwm â'r mater, fod cyfrifoldeb gwirioneddol yma ar Lywodraeth Cymru i weithredu. Mae hwn, i ryw raddau, yn bolisi gweddol ddewr, ond mae'n fater o Lywodraeth Cymru yn deall graddau'r niwed, y cyfrifoldeb y mae'n ei roi i Lywodraeth yng Nghymru, a datblygu polisi ar y sail honno wedyn. Ac rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn fawr am fod yn ddigon dewr i gynnig y polisi ac i weithredu yn y modd hwn.

18:35

Mae alcohol yn ffactor risg mawr ar gyfer canser, fel rydym newydd glywed. Yn wir, mae'n garsinogen dosbarth 1, a'r ffactor risg ataliadwy mwyaf ond dau ar gyfer canser ac mae'n gysylltiedig ag achosi o leiaf saith math o ganser oherwydd ei effeithiau cyrydol: canser y geg a'r wefusau; canser y tafod, y ffaryncs a chanser laryngaidd; canser oesoffagaidd, yr holl ffordd i lawr; yn ogystal â bod yn gysylltiedig â chanser yr iau a chanser y coluddyn; a chanser y fron hefyd.

Nawr, mae'r ddeddfwriaeth ar isafbris alcohol yn targedu'r yfwyr trymaf sy'n wynebu perygl o'r niwed mwyaf. Mae'n targedu yfwyr trwm. Yfwyr sy'n yfed i lefelau niweidiol a pheryglus, hynny yw, nad ydynt yn alcoholig. Nid yw'r alcoholig yn cael ei dargedu yma, ac ni ellir eu targedu. Fel y clywsom, mae'r alcoholig yn dal ati i yfed. Ond bydd pobl sy'n yfed ar lefel niweidiol a pheryglus nad ydynt yn gaeth yn rhoi'r gorau iddi pan fydd y pris yn rhy uchel. Oherwydd mae adolygiad pwysig o'r dystiolaeth ar isafbris am alcohol, a edrychodd ar dros 100 o adolygiadau systematig a metaddadansoddiadau—sef adolygiadau o adolygiadau—yn dangos bod cynyddu pris alcohol yn gysylltiedig â gostyngiadau yn lefel yr alcohol a yfir a'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw'r cynnydd enfawr yn nifer y trawsblaniadau afu yn sgil clefyd alcohol a welsom yn y blynyddoedd diwethaf. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw'r trais a'r cam-drin domestig sy'n digwydd, yn enwedig adeg gemau rygbi'r 6 Gwlad a gemau pêl-droed rhyngwladol—unrhyw beth sy'n gysylltiedig ag yfed trwm. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw ymosodiadau a chwympiadau, yw troseddu, yw nifer o'r rhai sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys. Ar rai nosweithiau yr wythnos yng Nghymru, mae dros 90 y cant o'r cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi yfed gormod o alcohol—dros 90 y cant o'r achosion, unrhyw noson yr wythnos, fel arfer ar benwythnosau—gan gyfrannu at adrannau damweiniau ac achosion brys gorlawn, a cham-drin, ymosod a difrïo staff meddygol, staff nyrsio a staff porthora yr adrannau hynny.

Felly, cyfrifir yr isafbris am alcohol yn y ddeddfwriaeth hon o fformiwla, fel y canfuwyd: faint o alcohol x cryfder yr alcohol x isafbris fesul uned am alcohol. Felly, nid yw'n ymwneud yn llwyr ag isafbris fesul uned. Dangosodd astudiaeth o Saskatchewan yng Nghanada fod cynnydd o 10 y cant yn yr isafbris uned yno wedi arwain at ostyngiad o 8.43 y cant yn yr alcohol a yfir. Ysgrifennodd Llywodraeth y Swistir at y pwyllgor iechyd yn gwneud pwyntiau tebyg. Mae adolygiadau meddygol di-rif dros ddegawdau wedi dod i'r casgliad fod gwneud alcohol yn fwy costus ac yn anos cael gafael arno yn arwain at bobl yn yfed llai. Yn ôl yn y 1960au a'r 1970au, roedd alcohol yn ddrutach nag ydyw heddiw o gymharu, a hefyd yn anos cael gafael arno oherwydd amseroedd agor a gwerthiant cyfyngedig. Nid oedd economi nos oriau agor llai llym ac alcohol rhad a werthir islaw'r gost wedi'u dyfeisio bryd hynny.

Yn y byd meddygol, mae'n rhaid imi ddweud nad oes unrhyw ddadl o gwbl ynglŷn â'r mater hwn. Mae meddygon yn llwyr gefnogi deddfwriaeth sy'n targedu alcohol rhad ac yn gwneud alcohol yn ddrutach. Mae isafbris am alcohol yn targedu yfed alcohol i raddau peryglus a niweidiol sy'n mynd yn groes i'r fformiwla honno, yn yr ystyr ei fod yn gryf iawn ac yn cael ei werthu mewn poteli mawr a rhad—cyn lleied â 18c am uned. Seidr gwyn cryf yw 25 y cant o'r alcohol a yfir gan rai sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol ac eithrio ymhlith y grwpiau economaidd-gymdeithasol mwyaf cyfoethog—25 y cant o'r alcohol a yfir yw'r stwff cryf a rhad iawn a gaiff ei effeithio gan y ddeddfwriaeth hon, gan godi pris potel o seidr gwyn o oddeutu £3 i oddeutu £11. Felly, mae potensial gan isafbris am alcohol i wneud cymaint â phosibl o les mewn perthynas ag iechyd, a hefyd i'r rhannau tlotaf o gymdeithas sydd eisoes â dangosyddion iechyd andwyol eraill. Ac fel y dywedodd John Griffiths, mae'n lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Nawr, rwy'n gwybod y cawn ein cyhuddo o fod yn wladwriaeth faldodus—mae meddygon yn wynebu hynny bob amser: 'Mae'n wladwriaeth faldodus. Beth y mae'r arbenigwyr yn ei wybod?' 'Nid oes unrhyw fwynhad ar ôl', meddai rhai o fy nghleifion wrthyf pan oeddem yn trafod y gwaharddiad ar ysmygu. 'Nid oes mwynhad ar ôl, Doctor. Fe fyddwch yn gwahardd rhyw gyda hyn.' Wel, na, sôn am alcohol rydym ni heddiw. Ond rydym wedi bod yma o'r blaen gyda'r gwaharddiad ar ysmygu. Nid oedd y cwmnïau tybaco mawr eisiau'r gwaharddiad ar ysmygu. Nid yw'r cwmnïau alcohol mawr eisiau isafbris am alcohol. Mae yna gysylltiad. Ac nid wyf yn dweud, wrth gloi, fod isafbris am alcohol yn gwella problem camddefnyddio alcohol yn llwyr, ond mae'n rhan o gyfres o fesurau sy'n rhaid inni eu defnyddio i leihau'r niwed y mae alcohol yn ei wneud i gymdeithas Cymru heddiw. Diolch.

18:40

Fel rydym wedi clywed, ni fydd isafbris yn torri lefel yr alcohol a yfir gan yfwyr sydd â phroblem yfed. O wrando ar yr hyn a ddywedodd Dr Dai yn awr, yn y bôn, bydd pobl yn dewis siorts, a gallai hynny achosi problemau pellach hyd yn oed.

Rwy'n mynd i gefnogi'r cynnig, a'r rheswm pam rwy'n ei gefnogi yn fwy nag unrhyw beth arall—mae'n fwy o beth diwylliannol, a welwn yn y Cynulliad hwn, oherwydd credaf fod gennym Lywodraeth Lafur y mae ei Haelodau Cynulliad yn teimlo'n wirioneddol mai hwy sy'n gwybod orau i bawb, ac o ganlyniad rydym yn gweld cyfyngu ar ddewis yn gyffredinol. Rydych yn ceisio cyfyngu ar bwy y gall pobl bleidleisio drostynt mewn etholiadau cyngor. Ymddengys eich bod yn credu y cewch ddweud wrth bobl sut i fagu eu plant. Ac yn awr rydych am reoli sut y mae pobl yn yfed. Teimlaf fod yna haerllugrwydd yn hynny, ac yn syml—. [Torri ar draws.] Wel, fe ofynnaf y cwestiwn yn agored yma. Rwyf wedi bod o gwmpas y bariau ym Mae Caerdydd, felly dewch, a oes unrhyw un yma nad yw'n yfed gormod ar brydiau? Mae'r broblem yma yn rhywbeth arall—. Fe ildiaf, Rhun, os ydych am ymyrryd. Fe ildiaf.

Rwy'n gwneud y pwynt nad wyf yn yfed pan fyddaf i lawr yn y Cynulliad, felly, wyddoch chi—.

Iawn, diolch yn fawr iawn. Ond y pwynt rwy'n ei wneud, y tu allan i oriau gwaith, credaf ein bod i gyd yn gwybod fod pobl yn y Siambr hon yn yfed gormod. [Torri ar draws.] Mae'n ffaith—gyda phob parch, mae'n un o ffeithiau bywyd. Mae'n beth diwylliannol. A oes unrhyw un yma o ddifrif yn dweud, ar adegau, nad ydynt yn yfed gormod o alcohol? Byddwch yn onest. O ddifrif? O'r gorau. Fe gofiaf hynny Nadolig nesaf.

Fe symudaf ymlaen oherwydd rwy'n gweld hyn fel treth ar rai sydd ar incwm is yn fwy na dim. Weinidog, wrth i chi sgwrsio yn y fan honno—rwy'n dweud, os ydych am wrando, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, treth ar y rhai ar gyflogau is yw hon. Treth arall gan Lafur, ac yn sicr ni fyddaf yn ei chefnogi.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP. Credwn y bydd y Bil hwn yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o alcohol ac yfed, a'r niwed y mae hyn yn ei achosi i gymunedau ledled Cymru.

Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 23 Hydref y llynedd. Mae eisoes, fel y nododd Suzy Davies, yn destun proses graffu drylwyr a manwl, fel sy'n digwydd gyda phob deddfwriaeth. Bydd craffu'n parhau wrth i'r Bil fynd drwy Gyfnod 3. Nid wyf yn credu y dylid caniatáu i siarad gorchestol gan UKIP a'u cyd-deithwyr heddiw ddifetha'r craffu y mae'r Cynulliad hwn yn ei wneud ar y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd bwysig hon.

Ceir sail resymegol gref i bolisi o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru. Mae ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi bod yn nodwedd o'r ddwy faniffesto ddiwethaf gan Blaid Cymru—er nad y grŵp Plaid Cymru yn unig a oedd yn ymrwymo i'r polisi hwnnw wrth gwrs—ac rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd am eu hareithiau synhwyrol ac adeiladol, yn enwedig yr achos a wnaeth Dai Lloyd pam y mae'r niwed a achosir gan alcohol yn creu rheidrwydd i weithredu. Mae'n ymrwymiad hirsefydlog gan y Llywodraeth hon hefyd wrth gwrs. Fe'i cefnogir gan dystiolaeth ryngwladol sy'n cadarnhau bod pris alcohol yn bwysig. Ac fel y clywsom Gadeirydd y pwyllgor iechyd yn cyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd, disgrifiodd Swyddfa Ffederal Iechyd y Cyhoedd yn y Swistir, a ymatebodd i dystiolaeth Cyfnod 1, effeithiau gostyngiad yng nghost gwirodydd a arweiniodd yn syth bron at yfed mwy ohonynt. Ceir perthynas ddiymwad rhwng pris alcohol a faint a yfwn, a cheir perthynas gref hefyd, wrth gwrs, fel y clywsom gan Dai Lloyd a John Griffiths, rhwng faint y mae rhywun yn ei yfed a'r niwed y maent yn ei brofi. Mae'r Bil hwn yn helpu i leihau'r niwed hwnnw. Ac rwy'n derbyn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn seiliedig ar yr effeithiau a fodelwyd, ond mae'r dystiolaeth mor gynhwysfawr a darbwyllol ag y gall fod, ac mae gennyf ffydd yn y dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Dyna'r un sylfaen dystiolaeth ag y gweithredodd Senedd yr Alban arni i gyflwyno eu deddfwriaeth hwy ar isafbris fesul uned.

Wrth gwrs, rydym wedi ymgynghori ddwywaith ar gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol—unwaith yn 2014, fel rhan o Bapur Gwyn iechyd cyhoeddus ac unwaith yn 2015, fel rhan o Fil drafft, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd—ac ar y ddau achlysur mae bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r mesur iechyd cyhoeddus hwn wedi cael cefnogaeth dda. Roedd hynny'n wir hefyd ar ddiwedd y llynedd gyda'r dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil hwn. Fel y dywedais ar sawl achlysur yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil, byddwn hefyd yn ymgynghori eto ar lefel arfaethedig yr isafbris uned, os yw'r Cynulliad hwn yn pasio'r Bil.

Clywodd y pwyllgor iechyd dystiolaeth rymus gan ddarparwyr gwasanaethau a chan arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd. Cafwyd cefnogaeth sylweddol gan randdeiliaid yn Lloegr, nid meddygon yn unig ond amrywiaeth o randdeiliaid eraill, ac maent yn gobeithio, fel finnau, y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn dilyn yr esiampl sy'n cael ei gosod yma yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddull synhwyrol o weithredu sy'n targedu problem real ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw.

Fel cymaint o wledydd gorllewinol eraill, yma yng Nghymru mae gennym broblem gydag alcohol rhad, cryf, sydd ar gael yn rhwydd. Rydym yn gweld effeithiau niweidiol yfed bob dydd yn ein GIG, yn ein gweithleoedd, mewn cymunedau ac mewn teuluoedd. Dengys ymchwil a gyhoeddwyd eleni mai pobl sy'n yfed i raddau niweidiol a pheryglus yng Nghymru yw 28 y cant o'r boblogaeth sy'n yfed, ond roeddent yn yfed tri chwarter yr holl alcohol a yfir. Yn 2015-16 yn unig, cafodd 54,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru eu priodoli i alcohol. Priodolwyd costau gofal iechyd uniongyrchol o £159 miliwn amcanyfrifedig y flwyddyn i alcohol. Pan ddarllenodd Neil Hamilton ffigurau ac ystadegau ynglŷn â'r niwed a achosir, fe wnaf ailadrodd eto yr hyn a ddywedais o fy sedd: mae dros 500 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd alcohol. Dyna reswm grymus dros weithredu, ac roedd pob un—pob un—o'r marwolaethau hynny'n ataliadwy. Ni ddywedais erioed, er hynny, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ateb i bopeth—dim o gwbl—ond bydd yn un ffordd arall i'n helpu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a'i atal. Rydym eisoes yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn ar gefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i saith ardal y byrddau cynllunio, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau, a chaiff £18 miliwn arall ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn byrddau iechyd.

Yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil hwn, mae nifer o faterion wedi'u codi a'u trafod, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau'r ddeddfwriaeth hon ar grwpiau penodol yn y gymdeithas, ar bwysigrwydd darparu gwasanaethau i'r rheini sydd angen help a chymorth, a phwysigrwydd ystyried effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol ac aelwydydd incwm isel. Dengys y dystiolaeth sydd gennym o'r modelu a wnaed gan Brifysgol Sheffield na fydd fawr o effaith at ei gilydd ar yfwyr cymedrol o gyflwyno isafbris uned. Nid yw yfwyr cymedrol fel arfer yn yfed llawer o alcohol, ac maent yn llai tebygol o yfed alcohol rhad a chryf.

Rydym yn disgwyl y bydd yn effeithio ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol. Dyma lle y disgwyliwn i'r enillion mwyaf i iechyd gael eu gwneud wrth gwrs. Mae'r bobl sydd â'r lleiaf o adnoddau ac sy'n yfed i raddau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac o fod angen gofal iechyd hirdymor a sylweddol. Maent hefyd yn llawer mwy tebygol o farw o ganlyniad i'w hyfed. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod pobl yn ein cymunedau lleiaf cefnog bron dair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i alcohol na phobl yn ein cymunedau mwyaf breintiedig.

18:45

Diolch. Fe fydd yn gwybod, os gallwn, drwy'r Bil hwn a chamau eraill, leihau faint o alcohol cryf y mae pobl yn ei yfed a symud pobl—os gallaf ei roi mewn ffordd gwmpasog—at ffyrdd iach o yfed, byddwn wedi llwyddo i leihau'r niwed a ddaw o yfed alcohol. Mae'r Bil yn un ffordd o wneud hynny. Ffordd arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod mwy o ddiodydd alcohol isel yn cael eu gwerthu, diodydd alcohol is, yn enwedig cwrw a seidr ac ati. Mae hynny'n mynd â ni at reolau Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn enwedig, sydd, ar hyn o bryd, yn ein hatal rhag hyrwyddo, os mynnwch, ffyrdd gwell o yfed neu ffyrdd amgen o leiaf i bobl fod yn fwy ymwybodol o hynny. A yw hynny'n rhywbeth y mae'n annog Llywodraeth y DU i gael trafodaeth yn ei gylch, i fynd law yn llaw â'r ddeddfwriaeth hon?

18:50

Ydy. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am amrywiaeth o faterion, ac mae swyddogion yn parhau i gael deialog, nid yn unig ynglŷn â'r Bil hwn ond ynglŷn â chyfres ehangach o gamau i geisio newid ymddygiad unigolion, ond hefyd o fewn y diwydiant alcohol ei hun, oherwydd mewn gwirionedd nid oes cymaint â hynny o amser er pan oedd y rhan fwyaf o'r cwrw, y lager a'r seidr a werthid mewn tafarnau gryn dipyn yn llai cryf nag y maent yn awr. Maent oddeutu 20 y cant yn gryfach yn rheolaidd bellach ym mhob tafarn y byddwn yn yfed ynddi. Ac i gyfeirio at y ffigurau ar anghydraddoldebau iechyd, ni ddylem adael i hynny ddigwydd ac anwybyddu'r lefel honno o anghydraddoldeb iechyd sydd eisoes yn bodoli.

Ddydd Iau diwethaf, fe gwblhawyd trafodion Cyfnod 2 ar y Bil hwn, a gwrandewais yn ofalus ar y dadleuon a gawsom hyd yma, ac rwy'n bwriadu gweithio gydag Aelodau yn y pleidiau eraill dros yr wythnosau nesaf i weld lle y gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi, yn enwedig ar yr angen i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth a gwaith craffu ar ôl deddfu. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cael cyfle pellach i drafod y Bil yng Nghyfnod 3 a phleidlais derfynol yng Nghyfnod 4.

Nid yw isafbris am alcohol yn ateb i bob dim. Mae'n rhan o'n dull ehangach i gyfyngu ar faint o alcohol a yfir ac i hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol. Dylem ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i gynorthwyo pobl yng Nghymru i ddatblygu'r berthynas iach honno ag alcohol a rhoi diwedd ar y realiti trist fod llawer gormod o bobl yn marw oherwydd eu bod yn yfed gormod.

Mae gosod isafbris yn ateb newydd ac arloesol, ac wrth gwrs, mae'r farn yn ei gylch yn gallu bod yn rhanedig. Dyna'n union pam ein bod wedi cynnwys darpariaethau machlud ac adolygu yn y Bil, ac maent wedi cael eu cymeradwyo'n eang ac rwy'n siŵr, fel y nododd Suzy Davies, y byddwn yn parhau i ddadlau yn eu cylch drwy gydol Cyfnod 3. Edrychaf ymlaen at Gyfnod 3, Lywydd, a Chyfnod 4 gobeithio, a pharhau i graffu ar y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd arwyddocaol hon.

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae hi wedi bod yn ddadl ddiddorol ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y ddau Aelod a gefnogodd y cynnig—fy nghyd-Aelod Gareth Bennett a Neil McEvoy ar yr ochr arall i'r Siambr. Rwy'n credu bod Neil McEvoy wedi gwneud pwynt pwysig ein bod yn y tŷ hwn yn deddfu ar ran pobl eraill, a cheir agwedd gyffredinol, rwy'n credu, mai ni sy'n gwybod orau a ni sy'n gwybod beth sydd orau i'r bobl. Mae hynny'n wir am bob dim y gallem ei alw'n gynlluniau 'gwladwriaeth faldodus' o'r fath. Gallwn gymhwyso'r un rhesymeg, wrth gwrs, i arferion afiach eraill, megis bwyta gormod o fwyd brasterog neu fwyd cyflym. Gellid cymhwyso'r un ddadl i gymryd rhan mewn chwaraeon peryglus a phob math o weithgareddau eraill yn ogystal a allai greu niwed i unigolion a chost i gymdeithas, ond mewn cymdeithas rydd rwy'n credu y dylem fod yn araf iawn i ddefnyddio pwerau deddfwriaethol er mwyn gwneud hynny.

Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â gwelliannau Plaid Cymru. Ar wahân i'r cymal 'dileu popeth', gallwn eu cefnogi. Wrth gwrs, mae'n synhwyrol inni gael gwerthusiad priodol o effeithiau'r ddeddfwriaeth hon a'r data gorau posibl sydd ar gael cyn ei roi ar y llyfr statud yn y pen draw—pwynt a wnaed gan Rhun ap Iorwerth a Simon Thomas, ac maent yn bwyntiau synhwyrol iawn. Ni fydd modelu ond yn mynd â chi hyd at ryw bwynt, gan ei fod yn achos o sothach i mewn a sothach allan. Ac yn achos yr astudiaethau a grybwyllwyd gan Dai Lloyd megis astudiaeth Saskatchewan, mae'r sefyllfa yng Nghanada'n wahanol iawn oherwydd mae ganddynt fonopoli gwladwriaethol ar alcohol ac mae gan y wladwriaeth bwerau i reoli mynediad at alcohol mewn ffordd nad oes ganddi yma. Felly, rhaid arfer rhyw gymaint o bwyll wrth wneud y cymariaethau rhyngwladol hyn.

Awgrymodd Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, o ran Plaid Cymru, fod yr isafbris o 50c fesul uned a awgrymwyd yn rhy isel ac mae angen inni feddwl am gael pris llawer uwch na hynny—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Dywedais y gwrthwyneb yn llwyr, mewn gwirionedd.

Fe gamddeallais felly, ond dyna y credais oedd hanfod eich sylwadau.

Nid oes neb yn dadlau na all y pris ddylanwadu ar y galw, ac felly po uchaf y dreth, ar rai lefelau, mae'n sicr y bydd yna effaith ar y galw. Ond y cwestiwn allweddol yw: pwy yr effeithir arnynt fwyaf gan y cynnydd yn y pris? Ai pobl sy'n yfwyr cymedrol neu yfwyr achlysurol yn unig neu rai sydd â mwy o ddibyniaeth ar alcohol? Nid wyf yn sôn am alcoholigion yn unig yma, rwy'n sôn am bobl y mae alcohol yn golygu mwy yn eu bywydau bob dydd fel math o ddifyrrwch, adloniant, mwynhad—gallwch ei alw'n beth bynnag a fynnwch—nag eraill. Mae'n ymddangos bron yn anghredadwy fod lefel o 50c o isafbris fesul uned yn mynd i arwain at unrhyw welliant sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael eu disgrifio fel rhai sy'n yfed i raddau peryglus.

Y diffiniad swyddogol o 'oryfed', gadewch imi ddweud, yw rhywun sy'n ddyn ac yn yfed wyth uned y dydd, sy'n cyfateb i bum gwydraid o win. Felly, os ydych yn cael pum gwydraid o win mewn un sesiwn, mae arnaf ofn eich bod yn goryfed yn ôl yr ystadegwyr swyddogol, a dyma'r ffigurau y mae'r Llywodraeth yn dibynnu arnynt. Felly, pan fyddwn yn sôn am yfed peryglus, rhaid inni gydnabod bod hwn yn derm goddrychol iawn. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod yfed pum gwydraid o win, mewn gwirionedd, yn fy rhoi mewn unrhyw berygl o gwbl. Mae'n debyg fy mod yn yfed hynny y rhan fwyaf o ddiwrnodau, mewn gwirionedd—rwy'n fodlon cyfaddef—ac nid yw'n fy ngwneud yn llai dealladwy neu'n llai o werth gwrando arnaf. Efallai, mewn gwirionedd, ei fod yn fy ngwneud yn fwy o werth gwrando arnaf.

Yn ystod ei araith, disgrifiodd John Griffiths rai o effeithiau gwael alcohol, fel y gwnaeth Dai Lloyd a siaradodd yn huawdl am agweddau meddygol yfed gormod o alcohol, ond nid dyna yw'r broblem yma. Y broblem yw a yw'r ddeddfwriaeth hon wedi ei thargedu'n ddigon da ac yn mynd i lwyddo i gynhyrchu'r canlyniadau y byddent yn hoffi eu gweld. Rwy'n credu mai'r hyn rydym yn ymdrin ag ef yma yw problemau diwylliannol yn fwy na phroblemau economaidd, ac mae agweddau tuag at alcohol a pha mor gyflym yr ydych yn ei yfed yn bwysig iawn yng nghymysgedd y ddadl yma. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylai'r cyhoedd yn gyffredinol, nad yw alcohol yn broblem iddynt—nid ydynt yn creu problemau i gymdeithas yn gyffredinol—orfod talu mwy am eu mwynhad er mwyn cael effaith gymedrol iawn neu fach ar yr ystadegau.

18:55

Rhun ap Iorwerth a gododd—

A oes gennyf amser i ildio, Lywydd? Rwy'n hapus i wneud. Nid wyf yn credu. Buaswn wedi hoffi ildio, ond yn anffodus, ni allaf wneud hynny.

Gofynnodd Suzy Davies imi pam ein bod yn cael y ddadl hon eto, a ninnau eisoes wedi cael dadl gyffredinol ar y Bil. Ond rwy'n credu bod angen parhau i ddadlau'r achos cyffredinol dros y Bil hwn, er y bydd cyfleoedd eraill yn ystod hynt y ddeddfwriaeth. Ein cynnig ni yw hwn. Mae'n mynegi beth y credwn yw'r prif bwyntiau a phe bai'n pasio, byddai'n rhoi diwedd ar y Bil wrth gwrs. Nid yw'n mynd i basio, rwy'n cydnabod hynny, ond serch hynny, credaf fod y dadleuon a wneuthum heddiw yn werth eu hailadrodd. A chyda hynny, rwy'n annog cymaint o'r Aelodau â phosibl i ymuno â ni.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y treth trafodiadau tir ar dir masnachol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, dau yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 25, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal nag yn erbyn. Mae gwelliant 2 yn cael ei dderbyn.

19:00

NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 2: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal nag yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 3.

NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 3: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6719 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.

b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.

Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar isafbris am alcohol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 5, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei wrthod.

NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 1: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2, ac os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 2: O blaid: 34, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol, ac felly galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM6718 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.

2. Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.

3. Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.

4. Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, wyth yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 36, Yn erbyn: 5, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym; mae un eitem o fusnes i'w chwblhau eto, a'r ddadl fer yw honno. 

9. Dadl Fer: Tai yn y cymoedd—Treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi

Mae'r ddadl fer yn cael ei chynnig gan David Melding, tai yn Cymoedd—treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi. Ac rydw i'n galw ar David Melding.

Mae hanes, daearyddiaeth ac ehangu cyflym diwydiannau echdynnol, yn enwedig glo, wedi cyfuno i lunio amgylchedd adeiledig unigryw yng Nghymru, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwyf hefyd yn falch o ganiatáu i Hefin David a Suzy Davies gael munud o fy amser.

Mae tai teras o'r cyfnod diwydiannol yn bresennol mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid mewn crynodiadau o'r maint a welir ym Morgannwg a Chymoedd Gwent yn benodol. Mae'n gynnyrch y trefoli cyflym a ddaeth gyda darganfod maes glo de Cymru. De Cymru oedd Kuwait glo, yn ôl un hanesydd, a chynhyrchai'r maes glo yn union y math o lo yr oedd ei angen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg: glo caled ar gyfer gwresogi; glo stêm ar gyfer symudedd. Roedd y rhain yn rhannau canolog o'r chwyldro diwydiannol.

Yn 1851, nid oedd ond 951 o bobl yn byw yng Nghymoedd y Rhondda. Erbyn 1881, roedd y ffigur yn 55,000, ac erbyn 1921, roedd yn 167,000—mwy na Cheredigion, sir Feirionnydd a sir Drefaldwyn gyda'i gilydd. Wrth gwrs, roedd y twf yn y boblogaeth a welwyd yng Nghymoedd de Cymru yn dibynnu ar fudo gwledig, a ganiataodd i lawer o Gymry aros yng Nghymru, os nad yn sir eu geni, yn hytrach na chroesi Môr yr Iwerydd er enghraifft. Ac roedd yn rhaid rhoi to uwchben y don enfawr hon o ymfudwyr economaidd. Datblygodd rhywbeth unigryw mewn ymateb i ddaearyddiaeth hardd, aruchel hyd yn oed, y Cymoedd. Yr hyn a olygaf, wrth gwrs, yw'r patrwm rhuban ar hyd ochrau'r mynyddoedd sy'n dal i fod hyd heddiw yn ddelwedd bwerus ac atgofus o Gymru, na cheir dim sy'n cyfateb iddynt heblaw cestyll gogledd Cymru o bosibl.

19:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Cyfunodd tai teras i wneud cyfres unigryw o gymunedau trefol, pentrefi bron, a wrthgyferbynnai'n amlwg â datblygiadau trefol cnewyllol mewn mannau eraill. Mae oddeutu 40 y cant o gartrefi Cymru yn dai teras, a bydd yn dal i fod yn 28 y cant o'n stoc dai erbyn 2050. Dylid dathlu'r etifeddiaeth hon yn frwd, yn hytrach na'i gweld fel baich neu rywbeth sydd wedi goroesi o'r oes ddiwydiannol. Fel yr ysgrifennodd y pensaer Andrew Sutton,

golygai daearyddiaeth tai teras y Cymoedd a lynai at ochr y bryn na chafodd Cymru erioed yr un dwysedd o slymiau cefn wrth gefn ag a welwyd mewn rhai dinasoedd yn Lloegr, ac felly maent wedi parhau'n llefydd dymunol i fyw ynddynt gydag ysbryd cymunedol cryf... Yn wir, pe baech yn dechrau â thudalen wag ac yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar lethrau serth de Cymru, hyd yn oed heddiw mae'n debyg na allech feddwl am syniad mwy addas na'r tŷ teras.

Diwedd y dyfyniad. Mae yna lawer mwy na defnyddioldeb yn perthyn i dai traddodiadol y Cymoedd, fodd bynnag. Yn ôl y pensaer Peter Ireland, a ddyfynnwyd yn The Guardian

Y peth mwyaf cynaliadwy y gallwn ei wneud yw peidio ag adeiladu stwff newydd... Rwy'n aml yn dweud wrth gleient fod popeth yn ased hyd nes y profwn fel arall.

Er nad wyf wedi canfod unrhyw amcangyfrifon o garbon corfforedig mewn tai teras, amcangyfrifwyd bod hen felin flawd yn Sydney wedi arbed 21,000 tunnell o garbon deuocsid drwy osgoi cael ei dymchwel i ddod yn 47 o fflatiau stiwdio, sy'n cyfateb i gadw 5,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn. Mae Cyngor Adeiladu Gwyrdd Awstralia yn annog y dull hwn o ailddefnyddio ac ôl-osod. Mae'n datblygu pecyn cymorth ôl-osod adeiladau i wella effeithlonrwydd ynni, gwydnwch a chynaliadwyedd. Gallai Llywodraeth Cymru gyfrifo'r carbon corfforedig yn y stoc dai cyn 1919. Hefyd, mae angen inni adfer y sgiliau a oedd unwaith yn gyffredin a'r sylfaen wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw adeiladau traddodiadol, megis terasau'r Cymoedd, yn y modd cywir.

Er ein bod yn anochel yn meddwl am lo wrth sôn am dai'r Cymoedd, mae yna dreftadaeth ddyfnach mewn gwirionedd. Dechreuodd trefi haearn Blaenau'r Cymoedd, Merthyr yn fwyaf nodedig, y duedd o adeiladu tai teras. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Merthyr wedi dod yn dref fwyaf Cymru, ac erbyn 1851 roedd ei phoblogaeth o 46,000 ddwywaith cymaint ag un Abertawe a ddwywaith a hanner maint poblogaeth Caerdydd. Mae'r tai sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn lawn mor bwysig yn bensaernïol â'r Royal Crecscent yng Nghaerfaddon, ac rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae Chapel Row, Georgetown—fe welwch rai o'r lluniau hyn yn y montage—Coedcae Court, er enghraifft, eto ym Merthyr, yn dyddio o 1830 yn fras.

Mae goroesiad Bute Town yn Rhymni hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, man a adeiladwyd eto yn yr 1800au cynnar ac a ddisgrifiwyd gan John Newman yn ei gyfrol feistrolgar, Glamorgan, yn y gyfres Buildings of Wales, fel

man sy'n galw i gof Lowther Village gan James Adam yn Westmoreland.

Mae manylion syml a chlasurol y lle yn rhagorol.

Mae'n briodol, wrth inni drafod treftadaeth unigryw tai'r Cymoedd, fod Comisiwn Dylunio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar Ferthyr Tudful heddiw, ac rwy'n annog pawb i edrych arno. Yn seiliedig ar adfywiad castell Cyfarthfa a'r ystâd i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Afon Taf, mae'n gweld hwn fel prosiect angori ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Gydag amser, gallai ddod yn estyniad i Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Dyma'n union y math o weledigaeth sydd ei hangen arnom, a byddai'n cyfuno'n berffaith ag ailasesiad o werth tai'r Cymoedd i ddelwedd a diwylliant cyfoes Cymru. Llongyfarchiadau i Geraint Talfan Davies a'i dîm am ddatblygu'r prosiect cyffrous hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o'r uchelgais hwn, ac mae gwaith tasglu'r Cymoedd yn addawol. Yn sicr, gallai ei waith ar wella sgiliau fod yn ffordd ardderchog o alluogi cynlluniau ôl-osod i ehangu, ac i lawer o dai teras mwy traddodiadol allu dod i wneud defnydd effeithlon o ynni. Yn yr un modd, mae helpu i sicrhau bod metro de Cymru yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol i'n cymunedau yn y Cymoedd yn ffordd arall o sicrhau eu hadfywiad.

Ac ni ddylem anghofio bod gweithgarwch diwydiannol wedi dod â thai tebyg i gymunedau yng ngogledd Cymru. Ar y montage fe welwch lun o Nant Gwrtheyrn, y bydd llawer o'r Aelodau yn ei hadnabod fel canolfan iaith a threftadaeth arloesol. Adeiladwyd y pentref i wasanaethu'r chwarel leol ac yn y pen draw cafodd ei gau yn ystod yr ail ryfel byd. Dadfeiliodd y bythynnod yn adfeilion cyn cael eu hadfer yn fedrus a sensitif iawn yn fwy diweddar. Ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei wneud gyda'r hyn sy'n ymddangos yn rhesi anobeithiol a diffaith o dai teras.

Yn olaf, gadewch imi orffen gydag enghraifft ecsentrig, ond mae hefyd yn cynnwys rhybudd, rwy'n credu. Mae gan y Cymoedd dreftadaeth gyfoethog, ac efallai na cheir enghraifft well o hyn na thai crwn Glyntaf, Pontypridd, a adeiladwyd gan y Dr William Price rhyfeddol yn rhan o'i ddatblygiad ar gyfer amgueddfa dderwyddon. Yn anffodus, dymchwelwyd yr amgueddfa ei hun, sef tŷ crwn mwy o faint, yn 1950, ac mae'n ein hatgoffa o'r gofal sydd angen inni ei roi i drysori'r bensaernïaeth a'r etifeddiaeth hon.

I gloi, mae'n bryd inni sylweddoli gwerth llawn yr amgylchedd adeiledig a ddatblygwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pensaernïaeth ostyngedig, gynhenid oedd llawer ohoni, ond roedd hi bob amser yn meddu ar yr urddas a ddaw o ddatblygiad cymunedau cryf. Mae'r tai teras yn arbennig wedi gwrthsefyll prawf amser ac wedi gwasanaethu sawl cenhedlaeth. Maent yn hyblyg a chynaliadwy oherwydd eu carbon corfforedig. Nid yn unig y mae'n dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi, mae hefyd yn rhan hanfodol o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n arbennig ac yn unigryw. Mae bron bob un o'r diwydiannau trwm a ysgogodd hyn, y rhaglen adeiladu fwyaf yn ein hanes, wedi mynd. Fodd bynnag, erys y tai; gadewch inni ddathlu'r etifeddiaeth gyfoethog hon.

19:10

Nid oedd gennyf syniad beth oeddwn yn mynd i'w ddweud hyd nes i mi glywed yr hyn a oedd gan David Melding i'w ddweud. Ac am ddarlun gwych, atgofus a byw a gyflwynwyd gennych o'r gymuned sy'n gartref i mi. Euthum i'r ysgol yn Heol-ddu ym Margoed a byddwn yn cerdded ar hyd ochr y mynydd i'r ysgol ar ben y mynydd ac yn gweld y tai teras hyfryd hyn. Rwyf wedi sôn am Fargoed, ond hefyd am Benpedairheol, y pentref lle y cefais fy magu a Gilfach, ac mae'r tai gwych hyn gan Senghennydd ac Abertridwr hefyd. Rwy'n poeni am Senghennydd ac Abertridwr yn arbennig, gan eu bod yn swatio, i ffwrdd o'r prif fannau gwaith. Fy mreuddwyd fyddai gweld pobl yn teithio tua'r gogledd unwaith eto i weithio, ond bellach maent yn teithio tua'r de. Rwyf am weld yr adfywio economaidd y siaradwch amdano, a dyna pam y mae tasglu'r Cymoedd mor bwysig. Hefyd, rhaid i mi ychwanegu beirniadaeth fach o strategaeth Llywodraeth Cymru o gyflenwi tir ar gyfer tai bob pum mlynedd ar bob cyfrif, gan setlo ochr y galw heb ystyried angen digonol. A'r ardal y sonioch chi amdani David Melding, yw'r ardal honno o angen. Dyna ble y mae angen inni adeiladu tai, ble y mae angen inni weld ein cwmnïau bach yn tyfu ac yn adeiladu tai, fel y gallwn dorri'r cartél sydd gan y pedwar cwmni tai mawr. A dyna pam ein bod yn ei chael hi'n anodd darparu'r math o dai y soniwch amdanynt yn awr. Rwyf am weld hynny, a phob llwyddiant i chi, ac am araith hyfryd.

Rwyf am ategu popeth a ddywedoch yn awr; roedd yn bleser gwrando ar hynny, David. Mewn gwirionedd, roeddwn yn arbennig o hoff o'ch sylwadau am y cilgant yng Nghaerfaddon, a gwnaeth i mi ystyried—cofiaf i mi ei weld ar Facebook mewn gwirionedd a llwyddais i ddod o hyd iddo fel yr oedd Hefin yn siarad—Crescent Street yn Ynysowen. Mae'n gilgant llawn o'r math o dai rydych wedi bod yn siarad amdanynt, a phob un ohonynt—gallaf weld y darlun yma—wedi cau; mae'r ffenestri i gyd wedi'u bordio ac maent yn mynd i gael eu dymchwel, yn y bôn, a chredaf ei fod yn un o'r lluniau tristaf a welais ers amser maith. Y rheswm yr oeddwn eisiau siarad â chi heddiw yw fy mod yn credu y gellid achub rhai o'r tai hyn, neu'r mathau hyn o dai, drwy ddefnyddio Cymorth i Brynu yng Nghymru. Rwy'n credu eich bod wedi dweud nad oes angen inni adeiladu pethau newydd drwy'r amser mewn gwirionedd. Byddai Cymorth i Brynu nid yn unig yn dod â rhai o'r tai hyn yn ôl i ddefnydd, yn enwedig ar gyfer prynwyr tro cyntaf, wrth gwrs, ond byddai'n targedu adeiladwyr bach a chanolig a mentrau adeiladu yn hytrach na'r chwe chwmni mawr, sydd, wrth gwrs, yn elwa'n bennaf o Cymorth i Brynu fel y mae ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, ac roedd yn bleser gwirioneddol gwrando arni. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod tai'r Cymoedd yn dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi a'i dathlu'n frwd, fel y dywedodd David Melding.

Mae tai ein Cymoedd yn etifeddiaeth bwysig, ac yn un y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i'w diogelu a'i gwella. Mae ganddi ei chymeriad arbennig ei hun, un sy'n dod o batrwm nodedig yr aneddiad, fel y disgrifiodd David Melding yn ei araith, a dyluniad pensaernïol y tai eu hunain. Mae tai'r Cymoedd yn rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn dyst i hanes cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog ein cymunedau yn y Cymoedd. Nid yw hynny'n dweud nad yw tai'r Cymoedd wedi wynebu eu problemau. Fel y clywsom, arweiniodd y chwyldro diwydiannol at dwf sylweddol ym mhoblogaeth y Cymoedd, ac yn aml adeiladwyd tai o ansawdd isel ar frys. Cydnabu adroddiad Beveridge, y ddogfen a sefydlodd y wladwriaeth les fodern, fod tai gwael yn niweidiol i iechyd. Gweithredodd Aneurin Bevan ar argymhellion yr adroddiad, gan wneud adeiladu tai newydd ac uwchraddio'r stoc a fodolai'n barod yn flaenoriaeth allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau i iechyd y boblogaeth.

Mae'r cysylltiad hwn rhwng ansawdd y cartref ac iechyd yr unigolyn lawn mor bwysig heddiw ag a oedd ar y pryd, a dyma pam yr ydym yn gweithio ar draws portffolios i integreiddio gwasanaethau a hybu defnydd effeithlon o adnoddau cyfyngedig. Rydym yn defnyddio mentrau fel y gronfa gofal integredig i wella'r cysylltiadau rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Pan fo'r maes tai'n cael ei ystyried yn briodol a'i integreiddio â gofal cymdeithasol, gall arwain at fanteision sylweddol i bobl ac i'r GIG drwy atal derbyniadau diangen a chefnogi lleihad yn y lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal.

Yn ddiweddar gwelais â fy llygaid fy hun yr effeithiau cadarnhaol y gall ein partneriaid eu cael yn hyrwyddo iechyd a lles ymhlith eu tenantiaid yn y Cymoedd pan ymwelais â phrosiect Strive and Thrive yn y Rhondda. Mae'r prosiect yn darparu cyfleoedd i denantiaid cymdeithasau tai yn y Rhondda, yn ogystal â phobl leol eraill, gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, o bêl-droed dan gerdded i ganŵio. Dywedodd y bobl y cyfarfûm â hwy sut roedd hyn wedi cynyddu eu hunanhyder a'u hunan-barch, ac wedi rhoi rhwydwaith cymorth iddynt nad oedd ganddynt cyn hynny. Drwy ddarparu'r mathau hyn o wasanaethau, gallwn gynyddu iechyd, lles a dyheadau cymdeithasol pobl, ac mae'r gwasanaethau hyn hefyd yn harneisio ymdeimlad o berthyn o fewn cymunedau lleol.

Fel y dywedais, rydym yn cydnabod tai'r Cymoedd fel rhan bwysig o'n treftadaeth, a dyna pam yr ydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn y stoc tai bresennol. Rhaid i'r holl gartrefi rhent cymdeithasol fodloni'r safon ansawdd tai erbyn 2020 Rhagfyr Cymru. Rydym yn darparu £108 miliwn o arian cyfalaf bob blwyddyn i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i helpu i ariannu'r gwaith gwella hwn. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y buddsoddiad hwn a wnaethom dros gyfnod hir er mwyn sicrhau bod rhai o'r bobl dlotaf yng Nghymru yn cael cartrefi cynnes a diogel.

Gwyddom fod nifer o heriau'n wynebu rhannau o'r Cymoedd ac rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r heriau hynny. Drwy hyrwyddo adfywio economaidd gyda gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd fwyaf mewn angen, gallwn gael effaith fawr. Bydd ein rhaglen fuddsoddi mewn adfywio sydd wedi'i thargedu, ac sy'n werth hyd at £100 miliwn ar draws Cymru dros dair blynedd, yn un arf pwysig. Gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y gall ein buddsoddiad mewn adfywio ei wneud. Y llynedd, ymwelais â Pharc Lansbury yng Nghaerffili, lle yr ariannodd cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru waith ar effeithlonrwydd ynni a oedd yn cael ei wneud ar gartrefi cymdeithasol a phreifat. Golyga'r buddsoddiad hwn y bydd y bobl sy'n byw yno'n gwario llai ar wresogi eu cartrefi, gan leddfu'r pwysau ar gyllidebau sydd weithiau'n dynn iawn. Roedd y buddsoddiad hefyd yn gwella edrychiad gweledol y cartrefi, gan roi cyfle i bobl deimlo mwy o falchder ynglŷn â lle maent yn byw.

Fel Llywodraeth, rydym yn cynyddu maint a chyfraddau ôl-osod cartrefi preswyl at ddibenion effeithlonrwydd ynni. Rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer y cyfnod 2017-21. Bydd hyn yn ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi i bobl ar incwm isel neu sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gynnwys y Cymoedd. Lle bydd eiddo'n dod yn wag, gallant fod yn falltod go iawn ar y dirwedd leol. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w cael yn ôl i ddefnydd a darparu cartrefi. Mae ein cronfa gylchol Troi Tai'n Gartrefi yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu benthyciadau i berchnogion eiddo ailwampio adeiladau gwag yn gartrefi i'w gwerthu neu eu rhentu, ac mae'n buddsoddi dros £10 miliwn yn y Cymoedd.

Drwy dasglu'r Cymoedd, rydym yn gweithio ar fenter arall gyda Chymdeithas Tai Rhondda a chyngor Rhondda Cynon Taf. Ceir nifer o adeiladu ym mhentrefi gogleddol y sir sy'n wag ar hyn o bryd. Nid oes galw am dai cymdeithasol at angen cyffredinol yn yr ardal hon. Fodd bynnag, mae pobl leol eisiau byw yn y pentrefi hyn ac eisiau bod yn berchen ar eu cartref ond yn aml ni allant fforddio blaendal neu forgais. Felly, rydym yn gweithio ar gynllun rhannu ecwiti i ddod â'r adeiladu hyn yn ôl i ddefnydd a galluogi pobl leol i brynu eu cartref eu hunain yn eu cymuned—rhywbeth yr oedd Suzy Davies yn ei ddisgrifio yn ei chyfraniad.

Wrth i ni barhau i warchod a gwella'r stoc dai yn ein cymunedau yn y Cymoedd, mae'n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu tai newydd pan fo angen. Gall cartrefi newydd o fewn aneddiadau sy'n bodoli eisoes, neu ddatblygiadau newydd mwy o faint, arwain at gymunedau'n tyfu ac yn ffynnu. Rwy'n gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i gyflwyno safleoedd tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai yn y Cymoedd, gan fy mod yn cydnabod y rôl y gall ein hasedau ei chwarae yn darparu mwy o gartrefi a chryfhau cymunedau sydd eisoes yn bodoli.

I gefnogi ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, rydym yn buddsoddi mewn amrywiaeth o ddeiliadaethau ac ystod o gynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion tai amrywiol ledled Cymru. Y flwyddyn ddiwethaf yn unig, buddsoddwyd £52 miliwn gennym drwy'r rhaglen grant tai cymdeithasol ledled y Cymoedd, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun—

19:20

Rwy'n cymeradwyo'r mentrau y mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw atynt yn ei haraith, ond mae rhywbeth a grybwyllodd Hefin David yn ddolen goll allweddol yn y blwch offer adeiladu tai, sef y gallu i adeiladwyr bach a chanolig eu maint gael troed yn y farchnad a chychwyn adeiladu tai. Clywais yr hyn a ddywedoch am ryddhau tir Llywodraeth Cymru, ond mae gan y cwmnïau mawr afael haearnaidd. Felly, yn ogystal â rhyddhau'r tir, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu adeiladwyr bach a chanolig eu maint—cwmnïau lleol—i gael y gallu i adeiladu'r cartrefi hynny?

Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig inni annog—wel, mwy nag annog—ein bod yn creu hinsawdd i fusnesau bach a chanolig allu adeiladu cartrefi, a dyna un o'r rhesymau dros gynyddu ein cronfa datblygu eiddo o dan fanc datblygu Cymru o £10 miliwn i £30 miliwn. Pwrpas y gronfa hon yw galluogi busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid pan na allant ei gael o ffynonellau eraill o bosibl, er mwyn iddynt allu adeiladu cartrefi yn ein cymunedau. Cronfa wedi'i hailgylchu yw honno, felly, dros y cynllun hwn, bydd yn caniatáu hyd at £270 miliwn o fuddsoddiad drwy fusnesau bach a chanolig ar gyfer adeiladu tai, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Ond unwaith eto, mae'n aml yn ymwneud â dod o hyd i'r darnau o dir y gallwn eu rhyddhau ar gyfer tai cymdeithasol, neu dai eraill, yn dibynnu ar yr angen lleol, a dyna pam rwy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i nodi'r darnau hynny o dir. Hefyd, mae gennym gynllun cyffrous siopa am blot hunanadeiladu yr ydym yn ei ddatblygu gyda Rhondda Cynon Taf i weld beth y gallwn ei wneud yn enwedig yn y Rhondda er mwyn defnyddio'r plotiau gwag mewn cymunedau ar gyfer busnesau bach a chanolig yn arbennig, neu fel bod pobl a hoffai adeiladu eu heiddo eu hunain yn gallu gwneud hynny.

Felly, ar ymweliad â safle hen orsaf dân Bargoed yn ddiweddar, ymwelais â fflatiau rhent cymdeithasol newydd a chynllun tai â chymorth a oedd yn helpu pobl i adennill neu ddatblygu eu hyder i allu byw'n annibynnol. Ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn mewn tai cymdeithasol, rydym hefyd yn dyrannu adnoddau sylweddol ar gyfer helpu pobl sydd am brynu cartref drwy Help i Brynu Cymru, Rhentu i Brynu Cymru a Rhanberchenogaeth Cymru. Yn ogystal, rydym yn parhau i gefnogi atebion arloesol posibl, neu ddulliau arloesol o fynd i'r afael â'n heriau ym maes tai, megis y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru sydd wedi arwain yn uniongyrchol at ddatblygu modelau tai cydweithredol yn y Cymoedd, gan gynnwys yng Ngelli-deg ym Merthyr Tudful a Rhydyfelin yn Rhondda Cynon Taf. Drwy ein Rhaglen Tai Arloesol, rydym yn awyddus i edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau, gan adeiladu cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae rhai o'r cynlluniau rhagorol a ariannwyd y llynedd yn cynnwys cynllun gofal ychwanegol, darparu 40 o gartrefi gan ddefnyddio unedau wedi'u hadeiladu mewn ffatri yn Aberdâr, yn ogystal ag wyth cartref yn Abercynffig, gan ddefnyddio system fodwlar a weithgynhyrchwyd yn ffatri Wernick 10 milltir yn unig o'r safle adeiladu. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio syniadau newydd. Er enghraifft, rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau'r Cymoedd i ddatblygu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cartrefi hunanadeiladu ac wedi'u teilwra'n arbennig. Mae'r syniadau hyn yn cynnwys defnyddio asedau tir cyhoeddus, cynllunio ac ariannu, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad mwy manwl ar hyn yn yr hydref.

Gan edrych ymlaen, rwyf am osod targedau mwy ymestynnol byth yn y dyfodol, yn y Cymoedd ac ar draws Cymru, o ran adeiladu tai, ac rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd sy'n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. Dyna pam y comisiynais yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Bydd angen i'r adolygiad hwnnw sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen cynyddol am dai fforddiadwy yng nghyd-destun pwysau parhaus ar y gwariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai.

Mae tasglu'r Cymoedd yn parhau ei waith yn canolbwyntio adnoddau ar greu newid go iawn ar gyfer Cymoedd de Cymru, ac mae tai yn rhan ganolog o'r gwaith hwn. Yn dilyn cyfnod o siarad a gwrando ar bobl sy'n byw yng nghymunedau'r Cymoedd, cyhoeddwyd y cynllun cyflawni gennym ym mis Tachwedd, ac mae'n cynnwys camau gweithredu a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru a chamau gweithredu'n ymwneud â datblygiadau tai a gwella canol trefi. Yn rhan o hyn, mae prosiect a gomisiynwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn ceisio casglu gwybodaeth am anawsterau a wynebir gan aelwydydd incwm isel mewn perthynas â thai yn y Cymoedd a darparu argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn yr adroddiad terfynol cyn bo hir ac ystyried unrhyw gamau gweithredu dilynol o ganlyniad.

Felly, mae tai yn y Cymoedd yn amlwg yn dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi, ac rydym yn gwneud hynny. Rhaid inni ddiogelu a thrysori'r etifeddiaeth hon o'r gorffennol yn ogystal ag edrych i'r dyfodol. Mae bargen ddinesig Caerdydd wedi gwneud tai yn ffocws ar draws y rhanbarth, sy'n cynnig cyfle go iawn ar gyfer dull mwy strategol a defnydd wedi'i dargedu o adnoddau. Mae metro de Cymru yn gyfle enfawr i gysylltu mwy o gymunedau â chanolfannau economaidd a helpu i gynnal a bywiogi cymunedau'r Cymoedd. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i wella dyfodol cymunedau'r Cymoedd.

Felly, i gloi, rydym yn rhoi camau pendant ar waith i gynnal a gwella stoc dai ein Cymoedd ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni pellgyrhaeddol ac arloesol er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai yn y Cymoedd a ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn fuddsoddiad yng nghymunedau ein Cymoedd, ac mae ein record yn dangos ein bod yn buddsoddi yn y cymunedau hyn, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.

19:25

Daeth y cyfarfod i ben am 19:26.