Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/03/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.

Storm Emma

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi? OAQ51938

Diolch. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymweld â'r porthladd a'r marina ac wedi gweld y gwaith glanhau drosom ein hunain. Gwnaed gwaith cychwynnol i leihau faint o ddiesel a oedd yn mynd i mewn i'r dŵr, mae rhwystrau wedi cael eu gosod, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar glirio'r polystyren. Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar hyn.

Diolch i chi am eich ymateb. Rhyw ddwy ran, am a wn i, i fy nghwestiwn i—y cyntaf yn edrych yn ôl, a'r ail yn edrych ymlaen. O edrych yn ôl, rwy'n meddwl bod yna gwestiynau difrifol ynglŷn â chyflymder yr ymateb i'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaergybi. Mi ofynnais i gwestiwn amserol bum, chwe diwrnod ar ôl y digwyddiad, a'r hyn a ddywedasoch chi oedd:

'Rydych yn dweud ei fod wedi cael effaith amgylcheddol ddifrifol...nid oes neb wedi gofyn cwestiynau i mi'n dweud nad oedd ein hymateb yn ddigon cyflym...Ceir grŵp amgylchedd sefydlog gogledd Cymru, ac mae fy swyddogion yn aelodau ohono...os ydych yn dweud bod yna sefyllfa amgylcheddol ddifrifol...byddaf eisiau gwybod pam na fu cyfarfod.'

Credaf ei bod yn eithaf amlwg ei fod yn fater amgylcheddol difrifol, ac mae'n parhau i fod. Felly, efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni a gollwyd cyfle, wrth edrych yn ôl, i fynd ati'n gynnar i ymdrin ag effeithiau amgylcheddol yr hyn a ddigwyddodd. A pha wersi a ddysgwyd, o ran sicrhau, os oes anghytundeb ynglŷn â phwy ddylai gymryd yr awenau, y gall Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy, neu eich cyrff perthnasol?

Yn ail, gan edrych tua’r dyfodol, gan fod hynny'n allweddol bellach, mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd. Rwyf wedi clywed adroddiadau y bore yma am bobl sy'n ymwneud  â'r môr yn dychwelyd i Gaergybi am y tro cyntaf ers y digwyddiadau, ac yn synnu at yr hyn nad yw wedi digwydd hyd yn hyn. Mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â'r gwaith o ailadeiladu'r marina, ynglŷn â chymorth i unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, ac wrth gwrs, ynglŷn â'r angen i gynyddu ymdrechion mewn perthynas â’r gwaith glanhau amgylcheddol, gan fod llawer ar ôl i'w wneud. A allwch roi'r sicrwydd hwnnw inni heddiw, gan fod hon yn dal i fod yn sefyllfa anobeithiol yng Nghaergybi?

Iawn, diolch am eich cwestiynau. Ac fel y gwyddoch, soniais yn fy sylwadau agoriadol i chi fy mod wedi ymweld â’r lle ar y dydd Iau wedi’r storm. Ac yn sicr, credaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yr holl asiantaethau, wedi dod at ei gilydd yn gyflym iawn, a chychwynnodd y gwaith glanhau yn gyflym iawn. Wrth gwrs, mae gwersi i'w dysgu bob amser, ond ni chredaf y gallem fod wedi gwneud unrhyw beth yn gyflymach nag y gwnaethom.

O ran symud ymlaen, yn amlwg, nid yw diogelwch morol, sy'n cynnwys diogelwch mewn porthladdoedd, wedi'i ddatganoli; mae’n parhau i fod yn un o gyfrifoldebau Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Pan ymwelais â'r marina, dywedais y byddwn yn ystyried unrhyw gymorth ariannol y gallwn ei roi. Yn amlwg, y lle cyntaf i droi ar gyfer llawer o'r lleoedd hyn yw eu cwmni yswiriant, ac yn sicr, ymddengys bod hynny wedi digwydd. Cyfarfûm â pherchennog y siop hwylio yn y marina. Yn sicr, roedd ganddo rai pryderon, ac rwyf wedi rhoi gwybod i'm cyd-Aelod, Ken Skates, ynglŷn â’r pryderon hynny. Rwyf hefyd wedi clywed gan—. Yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw glanhau'r traethau, ac unwaith eto, cyfarfûm â'r cynghorwyr a'r swyddogion lleol, ac unwaith eto, roeddwn yn fodlon fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan y Lobster Pot ym Mhorth Swtan, y gwyddoch amdano mae’n debyg, yn gofyn pa arian ychwanegol y gellir ei roi. Rwyf wedi pasio’r neges honno ymlaen at fy nghyd-Aelod, Alun Davies. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn, ar draws y Llywodraeth, ein bod yn dod at ei gilydd i weld pa gymorth y gallwn ei roi. Ac rwyf wedi dweud y byddaf yn ystyried cefnogaeth ariannol bosibl ar gyfer atgyweirio’r seilwaith cyhoeddus, a glanhau difrod amgylcheddol.

Wedi i storm Emma daro ar 1 Mawrth, cafwyd rhybuddion gan y gymuned ar unwaith y byddai diesel, malurion, polystyren yn cyrraedd y môr mawr pe na bai camau brys yn cael eu rhoi ar waith, ond ni osodwyd y rhwystrau—y rhwystrau amgylcheddol—tan y prynhawn Sul. Ac er gwaethaf rhybuddion gan y cyngor, gwylwyr y glannau a'r heddlu na ddylai pobl fynd ati eu hunain i glirio, o'r diwrnod canlynol, dechreuodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, clwb hwylio Caergybi, ac aelodau'r cyhoedd glirio’r malurion oherwydd y risg honno ac oherwydd yr oedi o ran ymyrraeth statudol. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o hyn, er mwyn sicrhau y ceir gwell ymgysylltu â'r gymuned yn y dyfodol, yn ogystal â dull mwy cydgysylltiedig o ymateb yn gyflym, cyn i'r difrod, y diesel a'r malurion ddechrau symud o'r harbwr i mewn i’r amgylchedd ehangach?

13:35

Fel y soniais yn fy ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth, credaf y cafwyd ymateb cyflym. Gwn y dywedwyd wrth Aelodau'r cyhoedd na ddylent fynd i lawr yno o safbwynt diogelwch. Byddwch yn gwybod bod y storm hon wedi para am y rhan fwyaf o'r penwythnos, ac yn sicr, pan gyfarfûm â pherchnogion y porthladd, a phobl eraill sy'n gysylltiedig â'r marina, roeddent yn dal i ofyn—roedd hyn ar y dydd Iau ar ôl y penwythnos—i aelodau o'r cyhoedd beidio â mynd i lawr yno. Roedd grŵp o blant ysgol wedi dweud eu bod eisiau dod yno i gynorthwyo, ac er ein bod, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi eu cynnig i helpu, mae'n rhaid i iechyd a diogelwch ddod yn gyntaf.

Gwastraff Plastig

2. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru? OAQ51946

Dengys y data diweddaraf gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau mai 75 y cant oedd cyfradd gasglu awdurdodau lleol Cymru o boteli plastig i’w hailgylchu o aelwydydd yn 2015, i fyny o 55 y cant yn 2009. Rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio potensial cynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd ernes.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad Awr y Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd yma yn y Senedd, gan addo rhoi'r gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro er mwyn helpu i leihau gwastraff plastig—cam bychan iawn. Ond wrth gwrs, un o'r llygrwyr plastig mwyaf yw poteli plastig. Felly, a fyddai'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yw pwyso am gynllun dychwelyd ernes, ac a all hi roi gwybod i ni am unrhyw gynnydd mewn perthynas â hynny?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf innau, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r un addewid â hithau i beidio â defnyddio cyllyll a ffyrc plastig. Yn sicr, credaf ein bod yn gwybod bod plastig yn broblem fawr. Mae'n sicr yn rhywbeth sydd yn y penawdau'n aml ar hyn o bryd. Fel rhan o'r astudiaeth o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r cynlluniau dychwelyd ernes posibl. A bydd hynny'n edrych ar bethau yn gyffredinol, o ran sut rydym yn adeiladu ar ein cyfraddau presennol, ond hefyd beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno y gwyddom ei bod yn bodoli o ran cynwysyddion diodydd, poteli plastig a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu ond nad ydynt yn cael eu hailgylchu cystal ag y dylent ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael y drafft terfynol cyntaf o grynodeb yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.

Weinidog, nid oes ond angen i chi gamu allan o'r adeilad hwn a cherdded draw at yr Eglwys Norwyaidd i weld llawer iawn o blastig yn arnofio yn ardal y bae. Ac er bod geiriau da'n cael eu dweud yn y Siambr hon, mae angen i bob un ohonom roi camau unioni ar waith i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o blastig ac yn glanhau ein hamgylchedd. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw faint o blastig a all fod yn y system fwyd. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, rôl i'w chwarae mewn arolygiadau a deall a yw hon yn broblem bosibl drwy'r gadwyn fwyd. Hoffwn gael gwybod a ydych wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y mater hwn, ac os ydych wedi cael y trafodaethau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedasant wrthych, faint o berygl a geir o blastig yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol a pheri risg bosibl i bobl?

Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac fel y dywedodd yr Aelod Julie Morgan, mae'n ymwneud â'r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd. A boed yn unigolyn, yn sefydliad, ar lawr gwlad neu yn y Llywodraeth, mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn.

O ran y problemau posibl a berir gan blastig yn y system fwyd, rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael cyfarfod gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Felly, os hoffech ysgrifennu ati, efallai y gall roi gwybod i chi sut aeth y cyfarfod hwnnw.

Gan ddilyn ymlaen o'r cyfraniadau eraill, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun dychwelyd ernes i gwtogi ar y defnydd o gynwysyddion diodydd untro. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y tâl hynod lwyddiannus a godwyd ar fagiau plastig. A gaf fi annog y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw dâl dychwelyd ernes yn cael ei osod ar lefel a fydd yn gwneud y cynllun dychwelyd yn opsiwn hyfyw? Mae gennyf fantais, neu'r anfantais, o gofio'r system ddychwelyd ernes ar yr hen boteli Corona. Felly, mae'n werth nodi eich bod yn arfer cael tair ceiniog am bob potel a ddychwelid. Golygai hyn, yn erbyn y gost o 10c yn unig am botel lawn, fod y pris dychwelyd ychydig dros draean o gost y botel lawn. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried defnyddio'r un math o wahaniaeth?

13:40

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cofio'r hen boteli Corona, mewn gwirionedd, ond mae'n debyg eich bod wedi fy ngholli i raddau wrth grybwyll y darn tair ceiniog. [Chwerthin.] O ran yr adroddiad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chan gynnwys dichonoldeb cynllun dychwelyd ernes, byddwn yn edrych ar yr holl faterion hynny ac yn eu gwerthuso, yna byddwn yn gallu llunio adroddiad a dadansoddi'r canlyniadau hynny, ac ystyried yr holl agweddau, megis y rheini, mewn perthynas â chynwysyddion diodydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.

Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i eich atgoffa chi, Ysgrifennydd Cabinet, tua 18 mis yn ôl gwnaethoch chi gychwyn ar y broses o ymgynghori ar y parthau nitradau yng Nghymru a'r angen i fynd i afael â'r rheini. Jest cyn y Nadolig, gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n chwilio am gydweithredu gwirfoddol er pwrpas gwella'r amgylchedd o gwmpas nitradau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny achos rŷm ni o'r farn bod modd, efallai, cyrraedd gwell safon drwy gydweithio gyda'r gorau sydd yn y diwydiant. Ond, yn y cyfamser, wrth gwrs, mae Afonydd Cymru wedi colli amynedd, mae'n ymddangos, gyda'r broses hirfaith yma ac wedi dweud y byddan nhw'n cwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'ch perfformiad chi ar y mater yma. Beth fydd eich ymateb chi i'r Comisiwn Ewropeaidd ac a fedrwch chi ddweud wrth y Cynulliad beth yw'r amserlen bellach ar gyfer gosod yn ei le y gweithredu sydd ei angen yn y maes yma, ond gweithredu ar y cyd gyda'r diwydiant, nid yn orfodaeth dros y diwydiant?

Diolch. Ie, fe sonioch fy mod wedi gwneud datganiad ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn yr ymgynghoriad a gawsom ar Barthau Perygl Nitradau. Sefydlais is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, sy'n edrych ar hynny i mi. Rwyf hefyd wedi cyfarfod gyda'r grŵp yn ddiweddar, ac rwy'n disgwyl iddynt gyflwyno rhai argymhellion i mi erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol a chyfreithiol, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad o symud ymlaen â dull gweithredu nad yw'n cyflawni'r gofynion hynny. Nid yw'r dull gwirfoddol wedi gweithio ar ei ben ei hun. Nid oeddwn yn awyddus i gael deddfwriaeth lawn; roeddwn yn awyddus i sicrhau cymysgedd o'r ddau beth. Fodd bynnag, mae'n hynod o siomedig ein bod yn dal i weld cymaint o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd.

Rwy'n ddiolchgar am yr amlinelliad yna ac yn edrych ymlaen at weithredu yn fuan iawn, felly, a gweld argymhellion yn dod gerbron, ac rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet fod angen i'r diwydiant amaeth hefyd edrych ar ei arferion ei hun ynglŷn â gollwng slyri i mewn i rai o'n hafonydd ni. Ond, beth mae'r mater yma yn tanlinellu wrth gwrs yw bod y Comisiwn Ewropeaidd, rheolau Ewropeaidd, i gyd yn bwysig yn y ffordd yr ŷm ni'n rheoli'r amgylchedd yng Nghymru, ac rŷm ni bellach yn deall yn sicr sut y mae Llywodraeth San Steffan yn edrych ar gadw'r pwerau hyn, os nad ŷm ni'n gwella'r Bil sydd yn San Steffan ar hyn o bryd, neu os nad yw'r Bil yr ŷm ni am ei drafod yn nes ymlaen heno yn llwyddo. Felly, mae meysydd mwy amrywiol, a physgodfeydd, lles anifeiliaid, ffermio organig a chwynladdwyr, pesticides—maen nhw i gyd yn feysydd lle mae San Steffan yn chwilio i ymyrryd ac sydd yn briodol i'r Cynulliad hwn. A fedrwch chi ddweud, beth bynnag yw'r dull a fydd yn digwydd yn deillio o ddelio â hyn—naill ai'r Ddeddf, y Bil heno fan hyn, neu'r Bill sy'n mynd drwy San Steffan—a fyddwch chi'n gallu ymrwymo i gadw'r egwyddorion Ewropeaidd hyn yn y ddeddfwriaeth a fydd yma yng Nghymru? Ac a ydych chi'n credu felly, efallai, er na dderbyniwch chi y gwelliant sydd gan Blaid Cymru ar gyfer yn nes ymlaen prynhawn yma, eich bod chi'n derbyn yr egwyddorion sydd y tu ôl i'r gwelliant hwnnw?

Ydw, yn sicr. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn rhan o'r UE, felly rydym yn gorfod cydymffurfio â'r cyfarwyddebau Ewropeaidd hynny. Yn sicr, buaswn yn ymrwymo i gadw'r un safonau, o leiaf, os nad eu gwella.

Rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gwleidyddol hwnnw os na chawn yr un deddfwriaethol maes o law.

Heddiw, fe gyhoeddoch chi hefyd eich pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol tir a'r rheini sy'n rheoli'r tir. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth fferm newydd yn lle cynllun y taliad sylfaenol. Ond os yw'r arian sy'n cael ei ailddyrannu wrth inni adael yr UE yn cael ei ddyrannu i Gymru yn ôl unrhyw beth sy'n ymdebygu i fformiwla Barnett, yn hytrach na'n cyfran gyfartal a theg ein hunain o'r arian hwn, gŵyr pob un ohonom y byddwn o leiaf 40 y cant yn dlotach, gyda rhai rhannau o Gymru lawer yn waeth eu byd nag eraill. Felly, a allwch ddweud wrthym pa sicrwydd pellach y byddwch yn ei geisio gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid? Rydym wedi sôn am bwerau, ond mae hyn yn ymwneud â'r arian. Ac a ydych mewn sefyllfa i roi sicrwydd eich bod yn credu y byddwn yn cael cyfran deg o'r arian, beth bynnag am unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud ynghylch Biliau yma neu yn San Steffan?

13:45

Yn anffodus, ni allaf roi unrhyw sicrwydd i chi ynglŷn â chyllid. Maent yn sgyrsiau parhaus. Byddaf yn cael fy nghyfarfod pedairochrog nesaf yn Llundain ddydd Llun. Mae arian yn eitem sefydlog ar yr agenda yn awr; mae fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau wedi mynnu hynny. Cytunaf yn llwyr; rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw Farnetteiddio mewn perthynas â'r cyllid hwnnw. Ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n mynd yn ôl i mewn i'r byd amaeth, hyd at 2022—yr un fath â rhannau eraill o'r DU.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr y byddwch yn gwybod y cafwyd ymchwiliad digynsail, rwy'n credu, ar y cyd gan bedwar o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a ddywedai fod ansawdd aer gwael bellach yn argyfwng iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, maent yn sôn am bob Llywodraeth; nid eich un chi yn unig. Maent wedi galw am Ddeddf aer glân. Diolch i'n hasiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwyddom fod llygredd aer bellach yn cael ei ystyried yn argyfwng iechyd sy'n ail i ysmygu yn unig, ac yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol. Felly, a yw bellach yn bryd inni gael Deddf aer glân yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le; mae hwn yn un o faterion pwysicaf ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ansawdd aer, fel yr eglurais cyn y Nadolig, yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon. Rydych yn gwybod am ein hymrwymiad i ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân, a bydd hyn yn cyd-fynd â chynllun ansawdd aer y DU. Ond y syniad yw y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn erbyn diwedd mis Ebrill, gyda'r bwriad o gynhyrchu dogfen ddiwedd mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth, yn enwedig—. Er yr ystyrir mai mater amgylcheddol yw hwn, mewn gwirionedd, fel y dywedwch, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ac mae llawer o'r dulliau sydd gennym yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn drawslywodraethol—felly trafnidiaeth, awdurdodau lleol ac iechyd, wrth gwrs.

Weinidog, rwy'n amau a yw'r ymagwedd dameidiog hon, er ei bod wedi'i cydgysylltu'n dda, yn ddigon, a dyna pam rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â Deddf aer glân. A gaf fi eich atgoffa bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at 40,000 o farwolaethau cynnar yn y DU—yng Nghymru, 1,300—a bod cost flynyddol hynny, ar lefel y DU, yn fwy na £27 biliwn? Trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am 80 y cant o grynodiadau nitrogen deuocsid ar ochr y ffordd, ac mae'r rhain yn gyffredin iawn yn ein hardaloedd trefol. Rwyf newydd gael gwybodaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sy'n dangos, ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, fod oddeutu 3,230 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd ar gyfartaledd yn gysylltiedig â deunydd gronynnol. Yng Nghaerdydd yn unig, byddai hynny'n cyfateb i 1,543 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd. Mae'r difrod yn enfawr, ac mae llawer o hyn yn deillio o lif y traffig yn ein dinasoedd, nifer y cerbydau, a'r diffyg dewisiadau amgen a dulliau cynaliadwy o deithio nad ydynt yn dibynnu ar draffig modurol. Felly, gofynnaf ichi eto: onid yw'n bryd inni gael Deddf aer glân, yn ogystal â strategaethau strwythuredig iawn i ymdrin â thagfeydd trefol?

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn yn ymwneud ag effaith trafnidiaeth, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Credaf imi sylwi, yr wythnos hon, fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diwrnod di-gar eto eleni ym mis Mai, ac rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd yn benodol i drafod y parth aer glân ar gyfer Caerdydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd yn rhan o hynny. Dyna pam fy mod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ar sut rydym yn ymdrin â phwysau allyriadau ac ansawdd aer ein cefnffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull trawslywodraethol a strwythuredig o fynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'.

Unwaith eto, rwyf am bwyso arnoch. Credaf fod diwrnodau di-gar yn wych. Cefais brofiad o un am y tro cyntaf erioed oddeutu 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn ym Mrwsel, ac roeddwn yn crwydro o gwmpas yn meddwl—[Torri ar draws.] Wel, na, nid wyf yn rhannu'r ffobiâu sydd i'w cael mewn rhai rhannau o'r Siambr. [Chwerthin.] Ond rwy'n cofio teimlo, 'Beth sy'n rhyfedd? Beth sy'n anarferol' ac yna meddyliais, 'Jiw, gallaf glywed plant yn chwarae.' Dyna'r hyn y gallwn ei glywed, gan nad oedd unrhyw sŵn traffig. Ond mae'r rhain yn achosion unigol, onid ydynt? Yr hyn sydd arnom ei angen yw strategaeth fwy uchelgeisiol o lawer. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, os yw cyfartaledd cyflymder traffig trefol yn gostwng 4 cya, o 16 cya i 12 cya, er enghraifft, ceir cynnydd o 10 y cant yn lefelau llygredd ceir a faniau diesel, a 25 y cant mewn perthynas â bysiau a lorïau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn lleihau traffig modurol ac yn gwella ei lif. Rwy'n amheus iawn o'r mentrau a welwn weithiau gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'r diwrnodau di-gar yn ein dinasoedd yn fy mhoeni, ond ymddengys i mi fod y fenter ddiweddar—agor lonydd bysiau i gerbydau nwyddau trwm, fel y gall hynny fod yn ffordd o wella llif y traffig—yn methu'r pwynt. Mae arnom angen strategaeth i symud lorïau trwm oddi ar ein ffyrdd, ar adegau prysur o leiaf. Ceir ffyrdd eraill o gludo nwyddau mewn ardaloedd dinesig. Gallwch weld hynny ledled y cyfandir bellach—trefniadau prif ganolfannau a lloerennau, lle y ceir faniau llai yn cludo nwyddau i ddinasoedd heb ddibynnu ar y lorïau cymalog enfawr hyn. Mae arnom angen dull mwy strwythuredig. Mae arnom angen strategaeth drefol er mwyn sicrhau eu bod yn lleoedd sy'n byw'n lân, ac mae arnom angen Deddf aer glân. Pryd y byddwn yn ei chael?

13:50

A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau ynglŷn â hyn? Rydych yn llygad eich lle o ran sut y mae diwrnodau di-gar yn rhywbeth cadarnhaol, ond cam bach yn unig ydynt i'r cyfeiriad rydym am fynd iddo, a'r hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid moddol clir o ran sut rydym yn byw ein bywydau bob dydd, a sut y mae'r seilwaith yn gweithio. Dyna pam ei bod mor bwysig mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth.

Fe gyfeirioch chi at Frwsel. Roeddwn yn meddwl tybed i ble roeddech mynd â hynny am funud. Ond un o'r pethau a nodais yn ddiweddar, pan oeddwn ym Mrwsel, oedd y ffordd y maent yn defnyddio data a thechnoleg fodern i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Oherwydd rwy'n ymwybodol, ym Mrwsel, fod ganddynt ryw fath o ap sy'n dweud wrthynt os yw'n benodol—. Gall pobl fonitro ansawdd yr aer, ac os yw'n debygol y byddant yn cael ambell ddiwrnod neu gyfnod arbennig o wael, credaf fod ganddynt fentrau fel trafnidiaeth gyhoeddus am ddim bellach. Felly, credaf fod angen ystyried ac archwilio'r opsiynau hyn yn drylwyr.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae archfarchnadoedd bellach yn paratoi ar gyfer eu cyfnod blynyddol o hyrwyddo cig oen dros y Pasg, ac mae'n gyfle gwych, yn amlwg, ar gyfer cynhyrchwyr cig oen yng Nghymru. Cefais fraw wrth ddarllen, yn y fersiwn ar-lein o Farmers Weekly y bore yma, fod rhai manwerthwyr yn honni bod cig oen Prydain allan o dymor dros gyfnod y Pasg. Mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi gwadu hyn yn llwyr, wrth gwrs, a honnant fod cig oen Prydain ar gael drwy'r flwyddyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod yr holl fanwerthwyr yn ymwybodol fod cig oen Cymru ar gael drwy'r flwyddyn, ac y dylent ei brynu?

Wel, nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw. Rwy'n cyfarfod ag archfarchnadoedd, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn cyfarfod gydag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r cynnyrch Cymreig anhygoel sydd gennym a phryd y mae ar gael iddynt i'w werthu yn eu harchfarchnadoedd.

Ffaith ddiddorol arall a nodais yw bod arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi canfod mai 18 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta twrci o Gymru ar ddydd Nadolig, ac mai 29 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta tatws o Gymru. Yn amlwg, mae cyfleoedd gwych i'w cael i fanteisio ar yr hyn y gallem eu galw'n fylchau yn y farchnad sydd wedi bodoli hyd yma, ac mae gadael yr UE yn golygu bod gennym gyfle i lenwi'r bylchau hynny, yn dibynnu ar ba fath o fargen y gallai Llywodraeth Prydain ei sicrhau ai peidio o ran cynnyrch a fewnforir. Mae Iwerddon wedi cael prosiect brandio llwyddiannus iawn ar gyfer eu cynhyrchion, ac rwy'n siŵr y gallai Cymru fod yr un mor llwyddiannus, er nad ydym am greu awtarchiaeth sy'n atal mewnforion, wrth gwrs, ac mae'n rhaid i ddefnyddwyr gael dewis—mae'n bwysig iawn fod hynny'n un o ganlyniadau Brexit. Serch hynny, mae'n rhaid inni sicrhau mwy o bwyslais nag a fu yn y gorffennol ar greu brand Cymreig newydd ar gyfer bwyd. Gwyddom am y llwyddiannau y mae Hybu Cig Cymru wedi'u cael hyd yn hyn, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sicrhau bod hyn yn un o'i blaenoriaethau, felly tybed, efallai, os gallai ymhelaethu ychydig ar beth yw ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn hyn o beth.

Diolch. Roeddwn yn darllen ystadegau yr wythnos diwethaf a ddywedai y byddai'n well gan dros 50 y cant o bobl Cymru brynu bwyd a diod o Gymru bellach, a'u bod yn gwneud hynny. Felly, unwaith eto, credaf ein bod yn cael cryn effaith yn hynny o beth. Mae'n bwysig iawn, yn y dyfodol, ein bod yn sicrhau bod pobl—a chredaf fod Simon Thomas wedi crybwyll hyn ddoe o ran y ddeddfwriaeth rydym yn ei chyflwyno—mae'n bwysig iawn fod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd o Gymru. Ddydd Llun, cyfarfûm ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a dywedais wrtho'n glir iawn nad oeddwn am weld labeli Prydeinig neu unrhyw labeli eraill ar gynnyrch o Gymru. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y labeli Cymreig penodol hynny, gan eu bod yn dod â chryn dipyn o fri i'r cynnyrch. Mae'n un o'n sectorau gweithgynhyrchu pwysicaf, a chredaf mai'r hyn a wna yw cysylltu amaeth gyda defnyddwyr ledled Cymru. Mae'n faes lle mae ein proffil yn tyfu o ddifrif. Credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn yr hyn y maent yn ei fwyta a'i yfed, o ble y daw a sut y caiff ei gynhyrchu. Credaf ein bod ar flaen y gad ledled y DU.

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â Hybu Cig Cymru. Rwyf wedi darparu arian ychwanegol iddynt er mwyn sicrhau y gallant redeg rhaglen allforio well. Wrth inni adael yr UE, dyna un o'r cyfleoedd y mae angen inni edrych amdanynt. Fe fyddwch yn gwybod am nifer o deithiau masnach ac ymweliadau datblygu masnach sydd ar y gweill i sicrhau ein bod yn hybu Cymru.

13:55

Yn olaf, hoffwn ddychwelyd at gwestiwn cychwynnol Simon Thomas ynglŷn ag achos Afonydd yn erbyn Llywodraeth Cymru yn y Comisiwn Ewropeaidd, a'r ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau, sy'n dal i achosi cryn bryder i ffermwyr gyda'r holl ansicrwydd, a hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth i'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â llwyddiant cynlluniau megis y cynllun baner las yn Sir Benfro, lle mae ffermwyr wedi dod at ei gilydd i nodi beth y gallem eu galw'n atebion bychain i'r broblem anferth hon. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn llwyr: fod yn rhaid i ffermwyr dorchi llewys ledled Cymru mewn perthynas â llygredd nitradau mewn priddoedd ac afonydd. Ond credaf mai'r dull rwyf wedi'i hyrwyddo'n gyson—a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i'w dderbyn—yw defnyddio dull abwyd yn hytrach na dull ffon, ac yn sicr, peidio â mynd ar drywydd un ateb sy'n datrys pob agwedd ar y broblem hon. Yn amlwg, gwn na all gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r penderfyniadau y bydd yn eu gwneud o ganlyniad iddo heddiw, ond hoffwn pe bai'n rhoi sicrwydd i ffermwyr unwaith eto ei bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn ac y bydd yn ceisio sicrhau'r cynllun mwyaf hyblyg posibl er mwyn rhoi sylw i'r amodau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru ac ar wahanol fathau o dir.

Wel, credaf fy mod wedi gwneud hynny yn fy natganiad ym mis Rhagfyr. Nid wyf yn derbyn bod cymaint â hynny o ansicrwydd yn y sector amaethyddol. Yn sicr, pan siaradais yng nghynhadledd Undeb yr Amaethwyr yn Birmingham, yr un genedlaethol y mis diwethaf—. Yn dilyn hynny, cyfarfûm â'r grŵp, a rhai o'r ffermwyr yn y cynllun baner las hwnnw y cyfeirioch ato—cefais gyflwyniad ganddynt, ac maent yn rhan o'r grŵp sy'n fy nghynghori. Cytunaf yn llwyr y dylid defnyddio'r abwyd yn hytrach na'r ffon. Dyna pam yr awgrymais y ffordd ymlaen mewn perthynas â chael peth o'r dull gwirfoddol a'r dull rheoleiddiol.

Rwyf wedi gofyn am argymhellion y grŵp hwnnw erbyn diwedd mis Mawrth. Byddwn yn edrych ar yr argymhellion hynny ac yn gweld beth y gellir bwrw ymlaen ag ef, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Simon Thomas: rwy'n bryderus ynglŷn â faint o lygredd amaethyddol rydym yn dal i'w weld. Cawsom chwe diwrnod o eira trwm dros y mis diwethaf, ac rwyf wedi cael sawl neges e-bost, gyda lluniau, ynglŷn â slyri'n cael ei wasgaru ar ben yr eira, ac ati. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio—. Rwy'n awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector. Credaf y byddai hynny'n llawer mwy llwyddiannus na phe bai gennym reoliadau yn unig. Fodd bynnag, mae angen monitro'r gwaith hwnnw'n fanwl. Er bod gennyf Weinidog yr Amgylchedd bellach, mae'r amgylchedd yn dal i fod yn rhan o fy mhortffolio, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd cywir.

Y System Gynllunio

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella'r system gynllunio yng Nghymru? OAQ51919

Diolch. Gan adeiladu ar y gwelliannau i'r system gynllunio a gyflwynwyd drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, rwy'n ymgynghori ar hyn o bryd ar 'Bolisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, ac yn ymgymryd â gwaith paratoadol ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol. Edrychaf ymlaen hefyd at dderbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith i symleiddio ac atgyfnerthu deddfwriaeth gynllunio.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r pethau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig drwy'r system gynllunio yw lwfans mwy o dan hawliau datblygu a ganiateir. Un o'r mannau cyfyng a welaf mewn awdurdodau lleol yw'r nifer enfawr o geisiadau a ddaw gerbron llawer o awdurdodau lleol a'u hanallu i'w prosesu mewn modd amserol. Mae hyn yn arwain at sgil-effeithiau economaidd aruthrol, nid yn unig i'r economi wledig, ond i'r economi drefol hefyd.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet neu ei swyddogion wedi gwneud unrhyw asesiad o lacio rhai o'r mesurau rheoli mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir fel ag y gwnaed mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i hybu datblygiad economaidd ac i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r ceisiadau na ddylent fod yn y system gynllunio, ac sy'n llesteirio gwaith adrannau cynllunio ledled Cymru?

14:00

Mae'n rhywbeth, yn sicr, y mae fy swyddogion wedi bod—. Credaf eu bod, fwy na thebyg, wedi cyfarfod â phob swyddog cynllunio ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru i drafod hyn. Rydym yn bryderus, yn gyffredinol, ynglŷn â gallu ein hadrannau cynllunio, nid yn unig ar draws yr awdurdodau lleol, ond yn amlwg, y tri pharc cenedlaethol hefyd. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar bopeth a allwn er mwyn ei gwneud yn haws, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n wirioneddol bwysig i'r economi.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r broses o wneud cais cyn cynllunio yn rhoi cyfle i lawer o ddatblygwyr gyfarfod â swyddogion yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn datblygu'r cais ac yn bodloni anghenion yr awdurdod lleol a'u hanghenion eu hunain. Nawr, rwy'n cydnabod bod adnoddau awdurdodau lleol yn brin iawn, ac yn aml, fe welwn hynny drwy'r nifer fechan o staff. Fodd bynnag, golyga hyn, felly, ar sawl achlysur, fod swyddogion sy'n cefnogi'r datblygwyr yn y broses cyn gwneud cais hefyd yn gwneud yr argymhellion ar y cais hwnnw. Nawr, does bosibl nad yw hynny'n wrthdaro buddiannau, felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na all unrhyw wrthdaro o'r fath ddigwydd pan fo swyddogion cynllunio yn rhoi'r awgrymiadau hynny i'r ymgeiswyr ond a allai hefyd, maes o law, fod yn gwneud argymhellion, neu benderfyniadau hyd yn oed, ar y ceisiadau?

Diolch. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, yn amlwg, yn unol â'r cynllun datblygu lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Felly, mae'n rhaid i unrhyw gyngor cyn y cais fod yn seiliedig ar bolisïau sefydledig yr awdurdod a dylai ddarparu cysondeb o ran y cyngor a roddir.

Gwneir y penderfyniadau terfynol ar geisiadau naill ai gan y pwyllgor cynllunio, neu cânt eu cymeradwyo, yn amlwg, gan uwch swyddogion. Felly, sicrheir trosolwg. Dylai fod gan awdurdodau weithdrefnau ar waith hefyd i sicrhau nad yw swyddog sydd â ddiddordeb personol mewn cais, fel y dywedoch, yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r cais hwnnw.

Pa ystyriaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r graddau y gellir defnyddio'r system gynllunio i sicrhau bod datblygiadau masnachol yn dwyn ffrwyth ac yn cadw at addewidion a wnaed ynglŷn â gwaith a manteision economaidd cyn i'r caniatâd cynllunio gael ei roi?

Wel, credaf fy mod wedi ateb y pwynt hwnnw yn fy ateb gwreiddiol i arweinydd yr wrthblaid.

Credaf ei bod yn bwysig iawn fod ein system gynllunio yn cael ei symleiddio a'i chydgrynhoi mewn ffordd a fyddai'n helpu hynny i ddigwydd. Ni chredaf fod hynny'n wir ar hyn o bryd, a dyna pam rwy'n cynnal adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru', a dyna pam fod Comisiwn y Gyfraith yn edrych ar y mater ar ein rhan hefyd.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gohebu â chi ar faterion cynllunio mewn perthynas â datblygiad sylweddol iawn yn rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin ar hyn o bryd, sef ehangu unedau dofednod. Rydym wedi gweld llawer o geisiadau ar gyfer dofednod maes. Mae'n ymateb i'r farchnad; mae'n ymateb, yn rhannol, i Brexit, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â'r diwydiant ei hun yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw broblem ynglŷn â hynny, ond ymddengys bod y rheolau cynllunio ynglŷn â'r unedau hyn wedi'u gwreiddio yn y gorffennol, gan nad ydym wedi ymdrin â nifer mor fawr o'r blaen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r unedau hyn os nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio dwys, ond mewn gwirionedd, gall dofednod maes achosi cymaint o lygredd, o bosibl, ag unedau dofednod dwys; mae'n ymwneud â natur y ffordd y cedwir yr ieir, yn enwedig pan fyddant dan do. Felly, a ydych yn hollol siŵr fod y gyfundrefn gynllunio bresennol ar gyfer unedau dofednod maes ac unedau dofednod eraill yn addas at y diben?

Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud ein bod yn gweld cynnydd yn nifer yr unedau dofednod sy'n mynd drwy'r system gynllunio ac yn dwyn ffrwyth. A chredaf fod hyn yn ymwneud â ffermwyr yn arallgyfeirio, ac yn sicr, credaf fod Brexit yn effeithio ar hyn.

Dyma faes rwyf wedi gofyn am gyngor yn ei gylch, oherwydd cafwyd enghraifft yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mewn gwirionedd—nid yn fy etholaeth i—lle y cefais gryn dipyn o ohebiaeth a nodai y gall fod yn llawer mwy dwys na rhai mathau o amaethyddiaeth. Felly, yr ateb byr yw 'Nac ydw', ond rwy'n edrych am gyngor ynglŷn â hynny i sicrhau eu bod yn addas at y diben, a buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod wedi i mi gael y cyngor hwnnw.FootnoteLink

Rhywogaethau Planhigion nad ydynt yn Gynhenid

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru? OAQ51922

14:05

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol, sy'n parhau i gael effaith amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. O ran clymog Japan, rydym wedi ariannu treialon arloesol gyda'i ysglyfaethwr naturiol, y llysleuen, ac ymchwil i driniaeth gemegol.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae gennym broblemau gyda nifer o rywogaethau estron, ond yn fy rhan i o'r byd, clymog Japan yw'r mwyaf trafferthus o bell ffordd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r treialon sy'n mynd rhagddynt gyda'r ysglyfaethwr naturiol—nodaf eich bod chithau wedi osgoi ceisio ynganu ei enw hefyd; rwyf innau am wneud yr un peth—ac unrhyw gynnydd gyda'r triniaethau cemegol, gan ei fod yn achosi cryn dipyn o ddifrod i dai, i ardaloedd, yn peri i dai fod yn anwerthadwy, ac yn gwneud  rhai ohonynt yn beryglus?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn eich bod wedi mynd ati'n ddiflino i gynrychioli eich etholwyr a'ch cymunedau wrth godi'r mater hwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae'n achosi cryn ddifrod i'n hadeiladau a'n hamgylchedd lleol. Sylwaf fy mod yn cael y geiriau ffurfiol ar gyfer y rhain—mae'n cymryd peth amser i arfer ag ynganu rhai ohonynt. Rwy'n dysgu'n gyflym yn hynny o beth.

Gofynnoch am y data o ran y treial. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi'r data o'u treial dwy flynedd cychwynnol ar reolaeth gemegol, gyda'r nod o gynhyrchu cyngor technegol i helpu i fynd i'r afael â chlymog Japan. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad terfynol, ac rwy'n siŵr fod yr Aelod yn edrych ymlaen at hynny hefyd. Gallaf gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol er mwyn parhau â'r prosiect llyslau ar gyfer 2017-18.

Mae'r clymog Japan bondigrybwyll yn ymestyn y tu hwnt i Ddwyrain Abertawe ac i rannau eraill o Orllewin De Cymru, gan gynnwys ardaloedd o amgylch rheilffyrdd ac ardaloedd a nodwyd ar gyfer datblygu go helaeth yn y cynllun datblygu lleol drafft. Tybed a allwch ymrwymo heddiw i siarad â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ar draws y portffolios perthnasol i geisio nodi beth fyddai'r gost, yn enwedig i gynlluniau metro bae Abertawe, fel ag y maent, ac i'r cynlluniau o dan y cynllun datblygu lleol, pe na bai malltod y clymog yn cael ei liniaru. Credaf fod yna gryn bryder ar hyn o bryd, yn arbennig o amgylch rheilffyrdd, yn ymwneud â chynlluniau posibl ar gyfer metro, oherwydd mae'n rhaid cael gwared ar y pla hwnnw'n gyntaf cyn y gallwn feddwl am ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd problemau eisoes mewn perthynas â rheilffyrdd a chlymog Japan, a chredaf eich bod yn nodi pwynt perthnasol a phwysig gyda'ch cwestiwn. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gysylltu ac i siarad â'm cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau ein bod yn achub y blaen ar y broblem hon, gobeithio, o ran sut yr awn i'r afael â hyn yn y dyfodol.

Weinidog, mae goresgyniad rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid, yn enwedig clymog Japan, wedi bod yn broblem wirioneddol yn fy rhanbarth i. Mae trigolion yng Ngorllewin De Cymru wedi gweld eu heiddo'n cael ei ddinistrio gan y clymog, a chroesawaf y gwaith a wneir gan Brifysgol Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared ar y rhywogaeth oresgynnol hon. Yr haf diwethaf, gwelsom gynnydd bygythiad arall, yr efwr enfawr, sy'n beryglus i iechyd y cyhoedd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i olrhain a chael gwared ar yr efwr enfawr a chodi ymwybyddiaeth o'r perygl y mae'n ei beri i iechyd pobl?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Fel yr Aelodau, perchnogion tir a pherchnogion tai, rwy'n bryderus ynglŷn â'r angen i reoli rhywogaethau goresgynnol estron, nid yn unig o ran eu twf, ond o ran eu hymlediad. Gwyddom eu bod yn un o'r rhesymau mwyaf dros golli bioamrywiaeth ledled y byd a'u bod yn achosi cryn ddifrod economaidd-gymdeithasol. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ddifrif fel Llywodraeth a byddwn yn mynd i'r afael ag ef. Byddaf yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn llawn hefyd.

Llosgydd Biomas y Barri

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri? OAQ51932

Anfonwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru at y datblygwr ar 14 Chwefror yn dweud ein bod yn bwriadu datgan bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol. Mae'r datblygwr wedi ymateb, ac rydym yn ystyried y sylwadau a wnaed ar hyn o bryd cyn gwneud y penderfyniad terfynol.

Diolch, Weinidog. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ar drywydd hynny? Fe ddywedoch eich bod wedi cael ymateb gan y cwmni. Oherwydd, yn amlwg, mae pobl y Barri yn awyddus i wybod a fyddwch yn gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol ar y cais cynllunio diweddaraf hwn i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n deall hefyd fod asesiadau effaith amgylcheddol yn ofynnol yn awtomatig pan fydd prosiect yn cael ei ddosbarthu'n ddatblygiad diwydiant trymach atodlen 1, yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017, pan fo gan safle gapasiti o fwy na 100 tunnell y dydd, gan gynnwys llosgi gwastraff nad yw'n beryglus, a rhagwelir y bydd llosgydd biomas y Barri yn llosgi 200 tunnell y dydd. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys llosgydd biomas y Barri yn adolygiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o'r broses drwyddedu amgylcheddol?

14:10

Diolch i'r Aelod am barhau i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r maes hwn, a gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o'i hetholwyr. Mae ein llythyr at y datblygwyr yn nodi sut roeddem yn bwriadu dosbarthu'r prosiect o fewn y categorïau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Yn dilyn yr ymateb hwn gan y datblygwr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r penderfyniad sgrinio hwn ynglŷn â'r cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd, gan sicrhau ei fod yn gadarn ac yn ystyried y gyfraith achosion ddiweddaraf.

Fe sonioch hefyd am Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cyfarfod ddwywaith i archwilio a mireinio'r ffordd orau o ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn datblygu meysydd polisi sy'n aml yn gymhleth a thechnegol, megis trwyddedu amgylcheddol. Bydd yr adolygiad yn ystyried achosion hanesyddol, gan y gallai ystyried unrhyw achosion cyfredol, fel y mae pethau, ragfarnu'r broses o wneud penderfyniadau.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad ar yr effaith amgylcheddol a sut y caiff ei hasesu. A gaf fi wneud pwynt ychwanegol y gobeithiaf y byddwch yn ei ystyried neu'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ystyried, sef y ffaith bod rhai trigolion wedi adrodd bod llawer o sŵn a mwg y tu allan i'r amser profi y cytunwyd arno, sef rhwng 9 a.m. a 6 p.m.? Felly, a allwch ymchwilio i weld a ydynt yn cadw at yr amseroedd profi hynny? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi hynny? Mae'n rhywbeth a godwyd gyda mi a Cyfoeth Naturiol Cymru. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymchwilio i gwynion am lwch gan drigolion lleol, a deallaf hefyd fod—[Anghlywadwy.]—botensial i achosi llwch. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad i nifer o gwmnïau yn yr ardal er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i leihau allyriadau posibl, ond wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y bydd disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i'w fonitro.

A gaf fi gefnogi sylwadau Jane Hutt i chi fod arnom angen asesiad o'r effaith amgylcheddol? Mae Cyngor Bro Morgannwg o dan arweiniad y Torïaid wedi apelio am asesiad hefyd. Ceir unfrydedd gwleidyddol llwyr ynglŷn â hyn. Os ewch i lawr i'r Barri a siarad ag unrhyw un, yn aml iawn y peth cyntaf y byddant yn ei grybwyll yw'r gwaith llosgi hwn a'i faint anferthol. Mae arnom angen yr asesiad ac mae arnom angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro pethau'n fanwl iawn bellach, oherwydd pan fo'r prosesau democrataidd lleol yn cael eu diystyru yn y broses gynllunio, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn wrth gwrs, mae'n rhaid rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith.

Mae'r Aelod yn gywir fod angen rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon pobl y Barri, yn enwedig, fel y clywsom eisoes heddiw, yn ystod y gwaith a wneir cyn comisiynu'r cyfleuster biomas. Ychydig iawn y gallaf ei ychwanegu at yr hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes o ran ble rydym wedi cyrraedd gyda'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond nid ydym yn bwriadu gosod terfyn amser mympwyol ar gyfer gwneud y penderfyniad terfynol, gan fod y penderfyniad, fel y byddwch yn deall, yn galw am ystyriaeth ofalus a llawn o'r holl faterion. Ond rwy'n ymwybodol iawn o bryderon pobl.

Rheoli Afonydd

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli afonydd? OAQ51940

Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl afonydd Cymru, a hefyd y mesurau rydym yn bwriadu eu cyflwyno er mwyn gwella eu hansawdd. Ar hyn o bryd, mae 37 y cant o'n hafonydd yn cyflawni statws da o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, a'r nod yw cynyddu hyn i 42 y cant erbyn 2021.

14:15

Diolch yn fawr. Mae nifer o gymdeithasau pysgota a physgotwyr wedi codi pryderon ynglŷn â newidiadau sydd wedi eu cynnig gan Gyfoeth Naturiol Cymru i is-ddeddfau yn ymwneud ag eog a sewin. Yn ôl y pysgotwyr, mae'r is-ddeddfau yn llym ac nid yw'r pysgotwyr eu hunain wedi cael llawer o fewnbwn i'r broses. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi datgan bod y cynigion wedi cael eu cymeradwyo ac wedi eu cyflwyno'n ffurfiol iddi hi eu hystyried. Yn anffodus, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod cynnal cyfarfod efo mi a dau Aelod Cynulliad arall i drafod pryderon y pysgotwyr. A gaf i ofyn i chi heddiw fel Gweinidog yr Amgylchedd i'n cyfarfod ni, ac a wnewch chi hefyd ohirio'r broses o gyflwyno'r is-ddeddfau er mwyn cynnal trafodaeth bellach gyda'r pysgotwyr, a mynd i'r afael â'u pryderon?  

Diolch am eich cwestiwn. 

Credaf y bydd yn rhaid i mi droi at y Saesneg yn awr. Mewn perthynas ag ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfyngiadau o ran afonydd eogiaid yng Nghymru a'r ymgynghoriad yn 2017, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, byddaf yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr argymhellion rydym yn aros amdanynt, ac os nad oes ots gan yr Aelod, byddaf yn ymateb yn ysgrifenedig i chi cyn gynted â phosibl i roi gwybodaeth bellach am hynny.FootnoteLink

Lles Anifeiliaid

7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51925

Diolch. Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi'r grŵp fframwaith a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Un o'r canlyniadau strategol yw:

'Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da'.

Byddaf yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid ar 24 Ebrill.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fod 80,000 o gŵn bach yn y DU yn cael eu gwerthu drwy werthwyr trydydd parti, gydag effeithiau negyddol sylweddol ar eu hiechyd, eu lles a'u hymddygiad. Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth gynyddol i gyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau trydydd parti, gan gynnwys drwy elusennau anifeiliaid fel Friends of Animals Wales a'u cyllidwr ysbrydoledig, fy etholwr, Eileen Jones. Tra bo Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ceisio dal i fyny gyda'r cynnydd a wnaed eisoes yma yng Nghymru mewn perthynas â bridio cŵn, sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i ymgyrch cyfraith Lucy i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran lles anifeiliaid anwes?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â'ch etholwr, a gwn mai hi sydd wedi sefydlu'r ymgyrch. Credaf fy mod wedi derbyn gwahoddiad i siarad yn y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yma yn y Senedd yn y dyfodol agos, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o faterion lles anifeiliaid ymhell cyn i Loegr wneud hynny, ac mae'n dda gweld DEFRA yn dilyn ein hesiampl bellach. Ddydd Llun, cyfarfûm â'r Arglwydd Gardiner, sef Gweinidog DEFRA mewn perthynas â meysydd lles anifeiliaid penodol, a chawsom drafodaeth dda iawn ynglŷn â rhai materion cyffredinol. Ond nodais gyda diddordeb eu galwad am dystiolaeth—mae DEFRA newydd gyhoeddi galwad am dystiolaeth—yn gofyn am farn ar waharddiad posibl ar werthiannau trydydd parti, ac yn sicr, bydd gennyf gryn ddiddordeb mewn gweld beth fydd yn deillio o hynny a beth y gallwn ei ddysgu yma yng Nghymru.

Clefyd Pydredd Alabama

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn achosion o glefyd pydredd Alabama? OAQ51937

Diolch. Nid yw pydredd Alabama, nad yw'n effeithio ar iechyd y cyhoedd, yn glefyd hysbysadwy nac adroddadwy. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli'r clefyd. Dylai perchnogion cŵn sy'n pryderu ynglŷn â hyn ymgynghori â'u milfeddyg preifat, ac rydym yn monitro datblygiadau wrth i ymchwil ac archwiliadau milfeddygol preifat fynd rhagddynt.

Cafwyd un o'r achosion diweddar o bydredd Alabama, sy'n glefyd angheuol mewn cŵn, mewn practis milfeddygol yn fy etholaeth i, ar ôl bod yn cerdded mewn coedwig ger fy nghartref ym Mhenygraig. Aethpwyd â chi i bractis Tonypandy o Glinig Milfeddygol Trefforest gyda'r wlserau sy'n gysylltiedig â phydredd Alabama, ac fel cynifer o gŵn sydd â'r clefyd hwn, bu farw'r ci. Gan nad yw gwyddonwyr yn gwybod beth sy'n achosi'r clefyd hwn, ni wyddant sut i'w drin, ac mae llawer o berchnogion cŵn yn pryderu ynglŷn â'r clefyd a'r llu o achosion a gofnodwyd yn ddiweddar. A allwch roi unrhyw gyngor i berchenogion cŵn yn y Rhondda a'r tu hwnt ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud i leihau'r perygl y bydd eu hanifeiliaid anwes yn dal pydredd Alabama? Ac a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn mynd ati'n weithredol i drechu'r clefyd hwn?

14:20

Cefais drafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol ynglŷn â phydredd Alabama y bore yma. Fel y dywedais, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i ddysgu o'r ymchwil sy'n mynd rhagddo. Ystyrir mai clefyd y gaeaf ydyw ac mae'n gysylltiedig â thywydd gwlyb, felly gofynnais y cwestiwn, 'Wel, os cawn haf gwlyb, a ydym yn wynebu'r un sefyllfa?' Fel y dywedwch, mae gennym—efallai mai ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â hyn sydd i gyfrif, ond yn sicr, ymddengys bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion. Dywedodd y prif swyddog milfeddygol y gall fod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd corsiog gwlyb, ac mae'n bwysig iawn yn y gaeaf, os ydych yn cerdded eich ci mewn mannau corsiog gwlyb, eich bod yn ei sychu ar ôl hynny. Yn yr haf, er y gallem gael tywydd gwlyb, mae'n debyg y byddai'r ci'n sychu ei hun i raddau mwy. Aseswyd y clefyd gan y grŵp asesu risg trawslywodraethol. Nid yw'n drosglwyddadwy i bobl, a chredaf ei bod yn bwysig iawn nodi hynny, ond credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn monitro datblygiadau, ac rydym yn gwneud hynny drwy archwiliadau milfeddygol preifat a'r ymchwil sy'n mynd rhagddo.

Ynni Adnewyddadwy

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy? OAQ51941

Diolch. Rwyf wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy. Fy nod yw datgarboneiddio ein system ynni, gan leihau costau hirdymor a sicrhau buddion economaidd i bobl Cymru. Erbyn diwedd 2016, roedd Cymru'n cynhyrchu 43 y cant o'n defnydd o drydan drwy ynni adnewyddadwy.

Diolch am eich ateb. Mae tair blynedd bellach ers i Ffrainc ddeddfu y dylai pob adeilad newydd mewn ardaloedd masnachol gael toeau gwyrdd, a golyga hynny naill ai wedi'u gorchuddio'n rhannol gan blanhigion, sy'n helpu i inswleiddio'r adeilad ac yn helpu i gasglu dŵr glaw a hyrwyddo bioamrywiaeth, neu baneli solar wrth gwrs. Tybed beth yw uchelgeisiau eich Llywodraeth yn hynny o beth, ac a ydych yn credu, o gofio eich bod yn dweud bod gennych dargedau uchelgeisiol, y gallent fod mor uchelgeisiol â cheisio efelychu hyn, o bosibl, yn enwedig mewn perthynas ag adeiladau cyhoeddus newydd yng Nghymru, efallai.

Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater. Fel y gwyddoch, nid yw pob rhan o'r maes ynni wedi'u datganoli inni. Pan oeddwn yn Llundain ddydd Llun, cyfarfûm â Claire Perry, Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a chawsom drafodaethau diddorol iawn ynglŷn â beth arall y gall ei wneud i'n cefnogi gyda'n dyheadau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, felly er enghraifft, mewn perthynas ag ynni ar y tir ac ynni ar y môr. Yn amlwg, cefais siom wrth weld y tariff cyflenwi yn cael ei ddiddymu, gan fy mod yn credu'n gryf mewn paneli solar. Felly, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â thoeau gwyrdd, ac i weld a allwn roi rhywbeth ar waith yng Nghymru.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. A’r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.

Cyn-filwyr

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil? OAQ51936

Rydym wedi nodi amrywiaeth o wasanaethau yn ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog, sy'n egluro ein hymrwymiad i gynorthwyo cyn-filwyr i ddychwelyd i gymunedau ledled Cymru.

Fe fyddwch yn gwybod bod rhai aelodau o'r lluoedd arfog yn ei chael hi'n anodd addasu i fywyd y tu allan i'r lluoedd, ac mae rhai'n cael trafferthion penodol o ganlyniad i'r digwyddiadau trawmatig y maent wedi'u gweld. Gallai hyn esbonio pam y canfu arolwg gan y Lleng Brydeinig yn 2014 fod cyn-filwyr o oedran gweithio ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cymheiriaid ym mhoblogaeth gyffredinol y DU. Mae astudiaethau mwy diweddar ar lefelau digartrefedd ymysg cyn-filwyr y DU yn amrywio, ond yr hyn na wyddom yw cyfran y cyn-filwyr ymysg y boblogaeth ddigartref yng Nghymru, gan nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn dilyn cyfamod y fyddin o ran sicrhau nad yw cyn-filwyr o dan anfantais mewn perthynas â thai? Ac a wnewch chi roi ymrwymiad hefyd y bydd eich adran yn edrych ar ddigartrefedd ymysg cyn-filwyr yng Nghymru i nodi maint y broblem, ac ystyried pa fesurau y gallwch eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r problemau penodol hynny?

Cytunaf gyda'r Aelod dros y Rhondda fod nifer o faterion y gall cyn-filwyr eu hwynebu wrth iddynt adael y lluoedd arfog a dychwelyd i fywyd sifil. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn datblygu llwybr cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny a'n bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ymdrin â materion sy'n ymwneud â digartrefedd hefyd. Rwy'n gwbl hyderus fod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethant o dan y cyfamod, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni ledled y wlad. Rwy'n ymwybodol o'r pwynt a wnaeth ynglŷn â gwybodaeth, ac rwy'n cytuno. Bûm yn gohebu â Gweinidog y DU yn y maes hwn cyn y Nadolig, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu set o fatricsau i ddeall faint o gyn-filwyr a all fod yn ddigartref, ond hefyd i ddeall patrwm bywyd, os mynnwch, ar ôl bywyd yn y lluoedd arfog i gyn-filwyr ledled Cymru. A bydd hynny nid yn unig yn llywio'r modd yr awn i'r afael â digartrefedd a chyflogaeth, ond yr ystod gyfan o wasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr.

14:25

Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn wedi'u cynnwys yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, a gwn fod y grŵp hwnnw'n edrych ymlaen at eich ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.

Un o'r pethau sy'n cael sylw ynddo hefyd yw'r alwad am gyllid craidd ar gyfer partneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Newid Cam, y gwasanaeth mentora cymheiriaid a chyngor i gyn-filwyr ac eraill gydag anhwylder straen wedi trawma ac amrywiaeth o broblemau seicolegol sy'n awyddus i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, dan arweiniad yr elusen CAIS, wedi sicrhau 12 mis o gyllid gan Help for Heroes i gyflogi mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i'r angen a nodwyd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr am gyllid craidd i gadw mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban?

Rwy'n gobeithio ein bod yn cefnogi ac yn darparu cyllid digonol i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cyllid blynyddol o £585,000, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar o £100,000 y flwyddyn er mwyn cynyddu'r capasiti ar gyfer cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl. Rwy'n gobeithio, felly, ein bod yn darparu ar gyfer yr anghenion a nodir ar hyn o bryd.

Cyfeiria'r Aelod dros Ogledd Cymru at y grŵp trawsbleidiol a'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp trawsbleidiol cyn y Nadolig. Roeddwn wedi gobeithio ymateb yn llawn iddo erbyn toriad y Pasg; nid wyf wedi gallu gwneud hynny, ond gallaf roi ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn gynnar yn y tymor newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fynd ychydig ymhellach ar drywydd cwestiwn Leanne Wood, oherwydd soniodd yn y cwestiwn i ba raddau y credwch fod y cynghorau yn gwneud digon. Ond yn amlwg, mae tai yn broblem, nid yn unig pan fyddant yn gadael y lluoedd, ond efallai beth amser wedi hynny, pan fônt mewn sefyllfaoedd lle maent yn wynebu anawsterau sylweddol. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog tai i sicrhau bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig un man cyswllt ar gyfer cyn-filwyr hefyd, fel nad oes yn rhaid iddynt fynd ar drywydd gwahanol bobl ar draws y sbectrwm i geisio cael gafael ar y cymorth hwnnw, fel bod ganddynt bwynt cyswllt o blith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a all eu cynorthwyo gyda'r holl broblemau sydd ganddynt?

Yn sicr. Mae'n amlwg fod y Gweinidog tai wedi clywed y cwestiwn a ofynnwyd gennych, ac o bosibl, gall ysgrifennu atoch, gan roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â hyn. Ond yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r materion hynny. Mae unigolyn sy'n ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog yn rhywun sydd ag angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a byddant yn gymwys i gael lle i fyw os ydynt yn ddigartref. Rydym yn deall hefyd fod gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gategori blaenoriaethol ychwanegol ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Ond mae angen inni sicrhau nad rhwyd ddiogelwch yn unig ydyw, ond llwybr a fydd yn darparu ar gyfer anghenion cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog. A gobeithio ein bod yn gwneud hynny.

Un o'r mentrau mwy cyffrous rwyf wedi'u gweld yw'r swyddogion cydgysylltu a benodir gan awdurdodau lleol, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddangos sut y gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth i gyn-filwyr mewn ffordd fwy cyfannol, yn hytrach na fesul sector, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol. A gobeithio y bydd modd i'r swyddogion cyswllt a'r swyddogion cydgysylltu mewn llywodraeth leol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog.

Gwasanaethau Llywodraeth Leol

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51921

Ar draws pob maes gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cryn dipyn o gymorth i lywodraeth leol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym wedi cael pythefnos greulon iawn o ran y tywydd dros y—wel, yn sicr, dros y pythefnos diwethaf, ond rydym wedi cael gaeaf eithaf gwlyb a llwm hefyd. Mae wyneb y ffyrdd ar draws fy rhanbarth, yn arbennig—ond ledled gweddill Cymru hefyd, rwy'n siŵr—wedi dioddef ac wedi eu difrodi'n fawr, fel yr amlygwyd mewn adroddiadau yn y wasg ddoe. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw drafodaethau gydag arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â pha gyllid ychwanegol y gallai'r Llywodraeth ei ddarparu i lywodraeth leol i leddfu rhywfaint ar y pwysau penodol y mae'r eira trwm, yn arbennig, wedi'i roi ar eu hadnoddau, a allai beryglu'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol?

14:30

Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i ymuno â mi i ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol a mannau eraill, sydd wedi gweithio mor galed i gadw pobl yn ddiogel dros y mis diwethaf, lle y cawsom dywydd garw iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ar draws y Siambr, credaf ein bod oll yn ddiolchgar i'r gweithwyr hyn yn y gwasanaethau cyhoeddus. Ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn ymuno â mi i ddiolch iddynt am y gwaith a wnaethant.

Nid wyf wedi cael cais ffurfiol gan lywodraeth leol yng Nghymru am gymorth ychwanegol dros y mis diwethaf. Byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ddydd Gwener, ac yn sicr, byddaf yn ystyried yn ofalus iawn sut y gallwn barhau i ddarparu cymorth ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, lle bynnag y bo'i angen.

Er gwaethaf yr heriau cyllidebol amlwg y soniwyd amdanynt—rydym bellach yn ein wythfed neu nawfed blwyddyn o gyni ariannol—gwn eich bod yn teimlo mor gryf â minnau ynglŷn â gwella gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roeddwn yn falch o weld siarter gofal preswyl Unsain yn cael ei lansio'n ddiweddar, yn dilyn lansio'u siarter gofal moesegol y llynedd. Ac roedd y ddwy siarter yn gosod safonau y cred yr undeb y dylid eu cymhwyso er mwyn darparu gwell gofal cymdeithasol a gofal preswyl, gan gynnwys dod â gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr allanol yn ôl yn fewnol. A fyddech chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r siarteri hyn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran cyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau llywodraeth leol penodol hyn er mwyn helpu i ddiwallu anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed? Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill heblaw darpariaeth allanol o wella effeithlonrwydd a'r modd y darparir ein gwasanaethau?

Yn sicr. Roeddwn yn falch iawn, fel yr Aelod dros Ferthyr Tudful, o gael trafod y mater hwn gydag Unsain yr wythnos diwethaf. Credaf fod y gwaith y mae Unsain yn ei wneud yn hollol arloesol o ran sicrhau bod gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr a chyflogwyr i gyflawni'r safonau gwasanaeth gorau posibl i bawb sydd angen gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y siarter gofal moesegol yw sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o ansawdd uchel, gweithlu uchel ei barch a gefnogir, sy'n darparu gofal tosturiol ac urddasol ar draws yr holl wasanaethau a ddarperir. Credaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn ymuno â mi i groesawu'r fenter gan Unsain, ac yn sicr, buaswn yn annog pob rhan o lywodraeth leol i weithio gydag Unsain, ac undebau llafur eraill, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r union uchelgeisiau hynny a'r weledigaeth honno ar gyfer gofal cymdeithasol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi mynegi pryderon ynghylch y fformiwla ariannu bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Nawr, mewn perthynas â hynny, dywedasoch wrthyf ym mis Ionawr:

'Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd.'

Ond mae gennyf gopïau yma o'r llythyrau a anfonwyd at eich adran gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg a ysgrifennwyd ar ôl i chi ddod i'ch swydd ar 3 Tachwedd. Mae'r ddau wedi'u llofnodi gan gynghorwyr Ceidwadol, ac mae'r ddau'n nodi bod eu hawdurdodau yn dymuno gweld newidiadau yn y fformiwla. Mewn gwirionedd, roedd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Thomas, yn galw am adolygiad llawn, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r gwactod amlwg hwn o ran ymgysylltu ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac a wnewch chi ymddiheuro wrth y cynghorau a ysgrifennodd at eich adran ynglŷn â'r fformiwla ariannu am fod mor barod i ddiystyru eu pryderon os gwelwch yn dda?

Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth—[Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth sydd ganddi, gan mai gennyf fi y cafodd yr ohebiaeth honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnwys. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod yw ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno fformiwla y mae llywodraeth leol yn awyddus i'w defnyddio er mwyn dosbarthu ein grant cynnal ardrethi yn deg i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw gynnig gan lywodraeth leol i wneud newidiadau sylweddol ac arwyddocaol i'r fformiwla honno. Yn amlwg, bydd yr is-grŵp dosbarthu yn edrych ar newidiadau ymylol i'r fformiwla drwy gydol y flwyddyn, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. A byddaf yn parhau i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ac arweinwyr cyllid mewn llywodraeth leol er mwyn trafod pa mor dda y mae'r fformiwla'n gweithio yn eu barn hwy ac a ydynt credu bod angen newid sylweddol neu arwyddocaol. Ond hyd yn hyn, nid yw llywodraeth leol wedi mynd ar drywydd y newid sylweddol ac arwyddocaol hwnnw.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni roesoch y rhain i mi, yn dechnegol. Fe'u cefais o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Nawr, fe ddywedoch ddoe—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch ddoe eich bod wedi bod yn siarad ag arweinwyr cynghorau ledled Cymru, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod eich Papur Gwyrdd wedi achosi 'pryder a dryswch'. Yn ychwanegol at hynny, mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi na chafwyd unrhyw ymgysylltu neu drafodaeth ystyrlon â chynghorau mewn perthynas â hyn. Dyma enghraifft arall lle rydych yn dweud un peth yn y Siambr, ond mae'r realiti'n wahanol. Nid yw'r dull diofal hwn o gymryd awdurdodau lleol yn ganiataol, o gymryd ein pleidleiswyr yn ganiataol, a chymryd y Cynulliad hwn yn ganiataol, yn ddigon da. Mae'n peri digalondid. Mae'n peri blinder. Ac mae mwy a mwy o rwystredigaeth ynghylch eich cynigion i ddiwygio llywodraeth leol—am y trydydd tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nawr, onid ydych yn credu, fel yr Aelod o'r Cabinet—sy'n weddol newydd yn y swydd, rwy'n cydnabod hynny—fod gennych ddyletswydd, mae gennych ddyletswydd, i gael gwared ar y rhwystrau hyn, yn enwedig o ystyried y pwysau y mae eich Llywodraeth Lafur wedi'i roi ar ein hawdurdodau lleol, ac i ddarparu cynllun clir, strategol, a fu'n destun ymgynghori trylwyr ar gyfer llywodraeth leol, gydag ymrwymiad a chytundeb llwyr gan awdurdodau lleol cyn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn? Credaf mai dyna'r peth lleiaf y mae'r awdurdodau hynny'n ei haeddu. A wnewch chi hynny?

14:35

Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gydag arweinwyr awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol. Ac mae pob un ohonynt yn dweud pethau gwahanol iawn, mewn gwahanol ffyrdd, ac yn mynegi eu hunain yn wahanol. Ond nid oes un ohonynt—dim un—gan gynnwys arweinydd Bro Morgannwg, mewn gwirionedd, wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe baem—' neu 'Rydym am i chi gyflwyno polisïau Ceidwadol a'r polisïau Ceidwadol sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr.' Dim un. Yn Lloegr, rydym wedi gweld llywodraeth leol yn cael ei datgymalu, yn cael ei thanseilio. Rydym wedi gweld cyllid llywodraeth leol yn gostwng 12 y cant mewn termau real ledled Lloegr. Yng Nghymru, rydym wedi gweld arian lleol yn cynyddu 4.4 y cant. Roedd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y capasiti o fewn llywodraeth leol yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, yn condemnio'r polisi yn Lloegr, polisi'r Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Yr hyn a wnawn yma yw cyflwyno cynigion i gryfhau a grymuso llywodraeth leol. Yr hyn a welwn yn Lloegr yw tanseilio llywodraeth leol. A gadewch i mi roi'r ymrwymiad hwn ichi, Lywydd: ni waeth pa gynigion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad a lansiwyd gennyf ddoe, yr hyn y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi'r holl gynigion hynny yn ei erbyn yw, 'A yw hyn yn grymuso ac yn cryfhau llywodraeth leol?' Ac os ydyw, byddwn yn symud ymlaen. Ein gweledigaeth yw llywodraeth leol gadarn, llywodraeth leol weithredol, llywodraeth leol sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ni fyddwn byth yn dilyn llwybr y Ceidwadwyr o danseilio llywodraeth leol, tanariannu llywodraeth leol, a thanseilio arweinwyr awdurdodau lleol.

Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch enwi un arweinydd awdurdod lleol sydd wedi cefnogi'r cynlluniau hyn hyd yma? Nawr, mae CLlLC wedi sôn am y sicrwydd a roddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ad-drefnu yn mynd rhagddo am 10 mlynedd. Ddoe, fe ddinistriodd cynigion eich Papur Gwyrdd y sefydlogrwydd hwnnw, yn ogystal â'r hyder, y morâl ac unrhyw allu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol. A gaf fi ofyn cwestiwn i chi hefyd? Ar ba bwynt y codwyd hyn gyda'ch cyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, ac a allwch ddweud wrthyf heddiw hefyd a gawsoch gefnogaeth pob un o'ch cyd-Aelodau Cabinet i fwrw ymlaen â'ch cynigion?

Rwy'n dod yma i siarad ar ran Llywodraeth Cymru, nid i siarad ar fy rhan fy hun, ac roedd y broses a lansiwyd gennym ddoe yn un o brosesau'r Llywodraeth. Roedd yn un o brosesau'r Llywodraeth. Fe'i lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn: gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol cyn y Nadolig beth oedd eu huchelgeisiau ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol anfon eu hawgrymiadau i mi ynghylch y pwerau, y rhyddid, yr hyblygrwydd, y cyfrifoldebau ychwanegol roeddent yn dymuno'u cael ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais iddynt amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol. A soniodd yr Aelod dros ogledd Cymru, dros Aberconwy, am arweinydd Bro Morgannwg, felly gadewch inni ddeall beth y gofynnodd arweinydd Bro Morgannwg amdano: camerâu awtomatig mewn meysydd parcio. Dyna weledigaeth y Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Nid yw'n fawr o weledigaeth; mae'n eithaf disylwedd. Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol—[Torri ar draws.] Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol yw cynghorau wedi'u grymuso sy'n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus cryf ac effeithiol, gan ddiogelu gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gwasanaethau cyhoeddus a darparu cynghorau cryfach yn y dyfodol nag sydd gennym heddiw, gan ddatganoli pŵer o'r lle hwn ledled Cymru gyfan. Credaf fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r weledigaeth honno yn y lle hwn a ledled y wlad.

14:40

Wel, dilynwch hynny, ynte? Yn ddiweddar, hysbysebwyd eiddo i'w rentu'n breifat gan asiantiaid eiddo Clee Tompkinson Francis yn fy rhanbarth i, ac rwy'n siŵr fod llawer wedi gweld yr hysbyseb, a oedd yn cynnwys y geiriau, 'Dim anifeiliaid anwes' a 'Dim hawlwyr budd-daliadau' yn yr un frawddeg. Gwn fod pobl eraill wedi hysbysebu yn yr un modd ar Facebook, ond roeddent yn gweithredu'n breifat wrth wneud hynny. A ydych yn cytuno â mi bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn wahaniaethol? Gallech awgrymu bod cymhariaeth yno rhwng pobl ag anifeiliaid anwes a'r modd y gwahaniaethir yn erbyn pobl wedyn os ydynt am geisio deiliadaeth yn y sector rhentu preifat.

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r sector rhentu preifat i gael gwared ar y rhwystrau a welwn mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yn darparu tai ar gyfer pobl sy'n derbyn budd-daliadau.

Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, rwy'n awyddus i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran yn darparu tai i bobl a ddaw'n syth oddi ar y strydoedd. Ac rydym yn gallu gwneud hynny drwy ein dull tai yn gyntaf, sydd eisoes yn golygu bod rhai pobl yn dod oddi ar y strydoedd yn syth i'r sector rhentu preifat. Rydym yn gallu gwneud hynny am fod Llywodraeth Cymru yn darparu bondiau, er enghraifft, sy'n cael gwared ar yr elfen o risg ar gyfer y sector rhentu preifat o ran darparu tai i bobl nad oes ganddynt hanes o ddeiliadaethau ddiogel. Ond yn sicr, nid wyf am weld unrhyw arferion gwahaniaethol ar waith mewn unrhyw ran o'r sector, ac rwy'n rhannu eich pryderon difrifol ynghylch pobl nad ydynt am ddarparu tai i bobl sy'n derbyn budd-daliadau am resymau gwahaniaethol.

Diolch am eich ateb. Gan barhau ar hyn, rwyf wedi trafod y mater gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a dywedasant wrthyf fod hyn yn ymwneud yn aml ag yswiriant neu forgais, sy'n bolisi a osodwyd arnynt gan Lywodraeth y DU. Fy mhryder i, gyda chymaint o ansicrwydd o ran swyddi a chan mai'r sector rhentu preifat yw'r unig opsiwn i lawer o bobl, yw nad yw'r gwahaniaethu yn erbyn pobl ar gredyd cynhwysol, er enghraifft, yn ymarferol bosibl iddynt. Er enghraifft, pe bai rhywun yn colli swydd, neu mewn gwaith rheolaidd ond dros dro a'i bod yn ofynnol iddynt ailgychwyn hawliad credyd cynhwysol o bryd i'w gilydd, a yw'r unigolyn hwnnw'n mynd i'w chael hi'n anodd naill ai i rentu cartref yn y lle cyntaf neu i fentro peidio â chael tenantiaeth wedi'i hadnewyddu oherwydd eu hanes gwaith?

Felly, roeddwn am ofyn i chi yma heddiw a fyddech yn ymrwymo i gyflwyno sylwadau i fanciau, cwmnïau yswiriant a sector rhentu preifat yn y DU i geisio canfod ffordd o newid yr ymddygiad hwn, ac a wnewch chi gyflwyno sylwadau i'ch swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU er mwyn egluro bod Llywodraeth Cymru yn credu bod y polisïau hyn, yn y pen draw, yn anghynaladwy, yn wahaniaethol ac yn afrealistig, hyd yn oed, yn yr hinsawdd bresennol?

Diolch. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwy'n ysgrifennu, yn aml iawn, at Lywodraeth y DU i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn â nifer o agweddau ar weithredu credyd cynhwysol, yn enwedig yr effaith y mae'n ei chael o ran ôl-ddyledion rhent a'r cynnydd a welwn ar draws yr holl sectorau deiliadaeth o ganlyniad i weithredu credyd cynhwysol.

Un peth rwy'n awyddus iawn i'w weld yw Llywodraeth y DU yn bod yn rhagweithiol a chynnig taliadau amgen i bobl, sef taliadau uniongyrchol i'w landlordiaid yn hytrach nag iddynt hwy eu hunain, pan fyddant yn cael eu trafodaethau cyntaf gyda'u hyfforddwyr gwaith. Nid yw hynny yn y templed a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond rydym wedi cael trafodaethau uniongyrchol da iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar sail leol i sicrhau eu bod yn cael sgyrsiau ystyrlon â phobl ynglŷn â'u dewisiadau o ran derbyn y taliadau hynny. Felly, yn hytrach na dweud, 'A hoffech chi daliad amgen?' maent yn cael gwybod beth y mae hynny'n ei olygu iddynt yn ymarferol, gan mai cysyniad yn unig yw taliadau amgen, mewn gwirionedd, os ydych yn cael trafodaeth heb ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi yn eu cyfanrwydd.

Ond unwaith eto, mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru berthynas waith gadarn gyda'r sector rhentu preifat, y banciau a chwmnïau yswiriant, ac yn sicr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion gynnal trafodaethau gyda hwy ynglŷn â hyn.

Iawn. Diolch. Wel, edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw, gan y credaf ei fod yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y cywair ar gyfer sut y mae pobl yn trin ei gilydd mewn cymdeithas hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus iawn i glywed mwy amdano.

Gan aros gyda'r sector rhentu preifat, er mwyn datrys heriau digartrefedd a sicrwydd tai, bydd angen i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran, ac rydym wedi cael cryn dipyn o drafod yn ddiweddar ar dai yn gyntaf a'r cynlluniau peilot sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â mater cymorth parhaus i rai yn y sector rhentu preifat. A fyddai modd ichi ystyried sut y byddech yn gweithio yn y cynlluniau peilot hyn er mwyn helpu pobl sy'n derbyn budd-daliadau mewn perthynas â thai yn gyntaf? Er enghraifft, mae llawer o bobl yn gallu byw'n annibynnol ac yn gallu gweithio o bosibl, ond efallai fod materion personol eraill yn golygu nad yw'r unigolyn hwnnw bob amser yn dda am dalu biliau, efallai eu bod yn wynebu heriau iechyd meddwl o bryd i'w gilydd ac felly maent yn peryglu eu hunain yn y sefyllfa rhentu preifat honno. Felly dyna pam nad yw rhai landlordiaid preifat, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cynnig y tenantiaethau i bobl yng Nghymru, gan eu bod yn ofni goblygiadau hynny, a'r ffaith nad oes ganddynt yr un lefel o gefnogaeth ag y gall tai cymdeithasol ei darparu mewn perthynas ag iechyd meddwl neu gymorth cofleidiol. Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn, pan fyddwch yn edrych ar y datblygiadau tai yn gyntaf, yw eich bod hefyd yn ystyried y sector rhentu preifat fel rhan annatod o hyn ac yn siarad â'r sector ynglŷn â sut y gallant fod yn rhan o'r drafodaeth.

14:45

Diolch yn fawr am hynny, a rhoddaf ymrwymiad i chi ein bod yn ystyried y sector rhentu preifat yn ganolog i'r gwaith o gyflawni ein dyheadau uchelgeisiol mewn perthynas â thai yn gyntaf. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu fy mod wedi cael cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Tai Pawb, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio creu cynnig tai yng Nghymru, os mynnwch, sy'n hygyrch i bawb. Mae Tai Pawb wedi gwneud rhywfaint o waith mewn dwy ardal awdurdod lleol gyda'r sector rhentu preifat yn uniongyrchol, i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid preifat ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac i gael gwared ar y rhwystrau sydd ganddynt mewn perthynas, efallai, â syniadau rhagdybiedig ynglŷn â beth y gall cymhorthion ac addasiadau ei olygu i werth eu heiddo, ac ati. Roedd Tai Pawb yn arbennig o gadarnhaol ynglŷn â'r trafodaethau a gawsant gyda'r sector rhentu preifat yn y ddwy ardal. Felly yn sicr, ceir cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y maent wedi'i wneud yn y ddwy ardal o ran y mathau o sgyrsiau y mae'n rhaid inni eu cael, mewn gwirionedd, gyda'r sector rhentu preifat i gynyddu hyder ac agor drysau i bobl sy'n anabl neu sydd â nodweddion gwarchodedig eraill.

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ddychwelyd at fater diwygio llywodraeth leol y buom yn ei drafod ddoe. Roedd yna faterion amrywiol yn deillio o hynny. Soniodd Mike Hedges, eich cyd-Aelod, y bydd amrywiadau poblogaeth sylweddol o hyd, hyd yn oed ar ôl eich ad-drefnu arfaethedig, gyda phoblogaethau gwahanol iawn mewn gwahanol gynghorau.

Ar hyn o bryd, mae gan Rhondda Cynon Taf un o'r poblogaethau mwyaf o blith y 22 cyngor presennol, gydag oddeutu 240,000 o bobl. Pe baech yn cyfuno Rhondda Cynon Taf â Merthyr Tudful, sef eich cynnig presennol—neu ran o'ch cynnig presennol—byddai hynny'n ychwanegu 60,000 o bobl. Pe baech yn ychwanegu Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, sydd hefyd yn rhan o'ch cynllun arfaethedig fel y mae ar hyn o bryd, byddai gennych gyngor arfaethedig gyda phoblogaeth o bron i 0.5 miliwn o bobl. Mae gan Rondda Cynon Taf hefyd oddeutu 30 o wardiau un aelod, a byddai'r mwyafrif ohonynt yn cael eu llyncu, mae'n debyg, neu eu cyfuno wedi'r ad-drefnu. Felly, sut y gallwn gadw synnwyr o leoliaeth ac atebolrwydd lleol pan na fydd gan ardaloedd fel Ffynnon Taf, Pentre'r Eglwys, Llantrisant—nid wyf yn sôn am yr union leoedd hyn, ond cymunedau tebyg iddynt yn sicr—eu cynghorydd eu hunain yn gwasanaethu'r lle hwnnw yn unig?

Credaf fod yr her a amlinellwyd gan lefarydd UKIP yn un dda, ac nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r heriau a amlygwyd. Nid wyf yn credu, ac nid wyf erioed wedi honni, fod y Llywodraeth yn credu bod siâp delfrydol a maint delfrydol i lywodraeth leol. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw cyhoeddi map dangosol a fydd yn ystyried siapiau posibl ar gyfer strwythurau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro i'r Aelodau ddoe fy mod yn fwy na pharod ac yn fodlon iawn cael trafodaethau pellach ynglŷn â'r holl faterion gwahanol hynny. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd: mae'n sgwrs, yn ymgynghoriad, yn ddadl, yn drafodaeth; nid yw'n bolisi Llywodraethol gorffenedig ac nid yw'n safbwynt dogmatig neu'n safbwynt penderfyniadol ynglŷn â'r hyn y dylem ei weld yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i ystyried beth sy'n bosibl, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y math o leoliaeth a ddisgrifiwyd yma a'r meintiau i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn o ansawdd uchel, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd orau o wneud hynny.

14:50

Rwy'n falch o glywed eich bod yn agored i drafod a gobeithio y cawn sgwrs dda, gan gynnwys llawer o gyfranwyr, ynglŷn â ble rydym yn anelu tuag ato wrth ddiwygio llywodraeth leol. A bod yn deg, credaf y bydd yna elfen ddadleuol i unrhyw beth a wnewch. Mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth. Ni allwch wneud omlet heb dorri wy, fel petai. Ond gan ddychwelyd at bryderon penodol—[Torri ar draws.]. Wel, gwn fod mwy nag un. Gallwn ofyn naw cwestiwn ynglŷn â hyn, ond fe'm cyfyngwyd i dri. [Torri ar draws.] O, wyau. O'r gorau, iawn.

Beth am ddychwelyd at y cwestiynau. Bro Morgannwg, er enghraifft—dyma un arall. Mae gennym atebolrwydd gwleidyddol hefyd. Mae hwn yn fater arall, gan y credaf mai'r hyn sydd arnom ei angen, i'r graddau mwyaf posibl, yw etholiadau cystadleuol yn y cynghorau newydd, yn hytrach na chreu gwladwriaethau un blaid, efallai, os meiddiaf ddweud hynny. Nawr, i roi enghraifft bosibl, mae Bro Morgannwg bob amser wedi bod yn gyngor hynod gystadleuol. Mae'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wedi'i reoli dros y blynyddoedd diwethaf. Ond pe baech yn ei uno â Chaerdydd, sydd, rwy'n cymryd, yn ddim byd ond cynnig—rwy'n deall hynny, Weinidog, ond dyna yw'r cynnig presennol—pe baech yn uno'r Fro â Chaerdydd, byddai perygl iddo droi'n barth diogel i'r Blaid Lafur. Nawr, nid wyf yn siarad yn benodol am y Blaid Lafur na'r Ceidwadwyr oherwydd, fel y gwyddoch mae'n debyg, nid wyf yn perthyn i'r naill blaid neu'r llall, ond dyma'r pwynt: a oes perygl y bydd cyngor yn cael ei redeg yn wael os oes gan un blaid wleidyddol afael haearnaidd ar y cyngor hwnnw? Ac a ydych yn cydnabod, Weinidog, fod perygl y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa o'r fath, mewn rhai achosion, o dan eich cynlluniau arfaethedig?

Na. Na, nid wyf yn cydnabod hynny, ac yn sicr, buaswn yn gobeithio gweld etholiadau cystadleuol a democratiaeth gystadleuol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, hyd yn oed.

Wel, mae Blaenau Gwent yn enghraifft ddiddorol, gan mai'r cynnig bellach yw eu cyfuno hwy â Sir Fynwy a Thorfaen. Nawr, y tro diwethaf, clywsom fod Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cynnig uno'n wirfoddol—credaf fod Lynne Neagle wedi sôn am hyn ddoe—ond gwrthodwyd yr uno gwirfoddol hwnnw. Felly, credaf fod hon yn enghraifft yn y gorffennol lle nad oedd un o'ch rhagflaenwyr mor barod i ymgynghori ag y dylai fod, o bosibl. Felly, gobeithio y byddwch yn dilyn trywydd gwahanol os cawn gynnig gwirfoddol, yn cynnwys Torfaen a Blaenau Gwent efallai. Gobeithio y byddech yn ei ystyried, efallai, yn fwy ffafriol nag y gwnaeth Leighton Andrews.

Gan barhau at fy nhrydydd cwestiwn, cyflwynwyd dadl heddiw gan arweinydd Bro Morgannwg, a grybwyllwyd yn gynharach—John Thomas. Mae'n gwneud pwynt penodol, sef bod y Fro, ar hyn o bryd—dyma mae'n ei honni—yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau. Felly, ni wnaf unrhyw sylwadau ar hynny, ond fy nghwestiwn yw: a fyddwch yn ystyried dangosyddion perfformiad wrth i chi edrych ar y cynigion, ac i ba raddau y byddant yn effeithio ar eich ystyriaethau terfynol o ran yr uno?

Dros y misoedd nesaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn dadlau ac yn trafod gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, yn hytrach na'r dull o gyflawni'r weledigaeth honno yn unig. Yr hyn y ceisiais ei nodi ddoe, a'r hyn yr hoffwn ei nodi dros y misoedd nesaf, yw gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol lle mae llywodraeth leol yn fwy pwerus nag y mae heddiw, yn gryfach nag y mae heddiw, lle mae ganddi unedau llywodraethu mwy cadarn, a'r gallu i ddarparu ystod ehangach o bwerau. Nid wyf yn awyddus i ddadlau gyda'r honiad ein bod yn adeiladu ar ludw. Nid wyf yn awyddus i ddadlau mai'r cyfan a wnawn yw unioni methiant. Nid wyf yn awyddus i gael dadl ar y telerau hynny. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud yn glir droeon nad yw'r strwythurau presennol yn gynaliadwy. Nid oes unrhyw un y siaradais â hwy wedi dadlau dros gael 22 o awdurdodau.

Felly, mae pawb yn cytuno na allwn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae pawb yn cytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Yr hyn sydd angen inni ei wneud, felly, yw dadlau a thrafod sut y dylem fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn edrych y tu hwnt i ddadl ynghylch uno fel y gallwn gael dadl ynghylch pa fath o unedau llywodraethu rydym yn dymuno'u gweld yng Nghymru yn y dyfodol. Sut rydym yn datganoli pwerau o'r lle hwn? Sut rydym yn grymuso cymunedau lleol? A sut rydym yn ymgorffori atebolrwydd democrataidd? Rwy'n awyddus i gael y ddadl gadarn a chyfoethog honno ynghylch dyfodol llywodraeth leol. Credaf fod gennym botensial i greu adfywiad gwirioneddol mewn perthynas â llywodraeth leol ledled Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu a chyflawni'r weledigaeth honno.

14:55
Budd-daliadau Oedran Gweithio

3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen? OAQ51933

Gwyddom mai'r drydedd flwyddyn o rewi'r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio fydd y fwyaf poenus eto. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r effaith ddinistriol y mae diwygio lles yn ei chael ar aelwydydd incwm isel. Rwyf wedi mynegi ein pryderon wrth Lywodraeth y DU dro ar ôl tro ac wedi galw am ddod â'r broses o gyflwyno credyd cynhwysol i ben.

Diolch, Weinidog, oherwydd roeddwn am ofyn i chi a allech gadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith andwyol rhagor o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill. Y rhain yw'r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn ystod y degawd diwethaf, ac maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd. A chyda gwerth £2.5 biliwn o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio a budd-daliadau oedran gweithio wedi eu rhewi am y drydedd flwyddyn, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i deuluoedd, a chan effeithio ar 400,000 o deuluoedd, beth fydd hyn yn ei olygu i'r teuluoedd hyn yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Yn sicr, gallaf gadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud sylwadau cryf dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch effaith eu rhaglen ddiwygio lles a'u rhaglen gyni ar bobl sy'n derbyn budd-daliadau. Rydym yn hynod o bryderus, gan mai dim ond y dechrau yw hyn, mewn gwirionedd. Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl, 'Wel, maent wedi bod yn trafod credyd cynhwysol ers cymaint o amser, nid yw'n mynd i ddigwydd i mi os nad yw wedi digwydd eisoes'. Ond gwyddom nad yw llawer o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dechrau ei roi ar waith yn llawn eto.

Rydym wedi gofyn am lawer o newidiadau i gredyd cynhwysol, er enghraifft byrhau'r amser i gael y taliad cyntaf drwy gael gwared â diwrnodau aros, ac mae'r newidiadau hyn wedi'u rhoi ar waith, yn ogystal â chymorth ar gyfer pobl â chostau tai drwy'r taliad trosiannol pythefnos nad yw'n ad-daladwy, a fydd yn cael ei gyflwyno o 11 Ebrill. Felly, rydym yn cael rhywfaint o lwyddiant gyda'r sylwadau a wnawn. Ond yn sicr, nid ydym yn credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud digon o bell ffordd. Felly, rydym yn parhau i ofyn am roi terfyn ar gredyd cynhwysol hyd nes yr ymdrinnir â llawer o'r materion a nodwyd gennym.

Atgyfnerthir y rhesymau hyn gan y ffaith bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar effaith gronnol diwygio treth a lles, ac mae'r dadansoddiad hwn yn cynnwys data ar lefel Cymru, ac mae'n amlygu'r effaith sylweddol y mae'r diwygiadau yn ei chael ar aelwydydd incwm isel yng Nghymru, ond yn enwedig y rheini â phlant a'r rheini â nodweddion gwarchodedig.

Wel, dengys y dystiolaeth fod pobl ar gredyd cynhwysol yn cael swyddi'n gyflymach ac yn aros yn hwy yn eu gwaith, a bod dros dri chwarter y tenantiaid eisoes ag ôl-ddyledion rhent cyn iddynt ddechrau hawlio credyd cynhwysol, ond ar ôl pedwar mis, fod y ffigur hwn draean yn llai. Mae bob amser wedi'i gydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai, a dyna pam fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol, a pham y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru—a elwir bellach yn gymorth cynhwysol—gan sicrhau bod hawlwyr nad ydynt yn barod i gyllidebu ar gyfer eu hunain eto yn cael eu diogelu a'u cynorthwyo o dan y system newydd, ac y bydd trefniadau talu amgen ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn ar lefel ddatganoledig ers 2012, ac eto, rydym yn parhau i glywed am y problemau mynych yn y Siambr, pam nad yw hyn yn gweithio'n well yng Nghymru?

Mater ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud er mwyn rhoi llais cryf i'r pryderon a glywn gan bobl yn ein cymunedau, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwrando ar lawer o'r argymhellion a wnaed gennym. Rwyf wedi amlinellu ambell un y maent wedi gwrando arnynt, ond yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU ddod â'r broses o ddiwygio lles i ben hyd nes yr ymdrinnir â llawer o'r materion sy'n parhau i fod heb eu datrys.

Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro? OAQ51952

Ar gyfer 2018-19, bydd Cyngor Sir Penfro yn derbyn £162 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol.

15:00

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae cynllun ariannol tymor canolig Cyngor Sir Penfro yn dweud mai'r sir honno sydd â'r diffyg mwyaf rhwng faint y mae'n ei wario mewn gwirionedd a faint y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd angen iddo ei wario i ddarparu gwasanaethau. Ac oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn tybio bod y dreth gyngor yn cael ei chasglu ar yr un lefel ym mhob awdurdod, mae Sir Benfro ar eu colled yn sylweddol. Mae band D y dreth gyngor gyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2017-18 yn £1,162. Mae'r swm hwnnw £279 yn fwy na'r swm o £883 yn Sir Benfro. Dyna amrywiant o 31 y cant, sydd, wrth gwrs, yn enfawr. Mae'n ymddangos fel pe bai Cyngor Sir Penfro—ac eraill sydd yn yr un sefyllfa, neu efallai nad yw eu sefyllfa lawn mor ddifrifol—yn cael eu cosbi gan Lywodraeth Cymru, i bob pwrpas, am eu llwyddiant yn y gorffennol yn rheoli costau tra'n parhau i ddarparu gwasanaethau. Mae'r system yn wrthnysig oherwydd po fwyaf a wariwyd gennych yn y gorffennol, y mwyaf y byddech yn ei gael drwy grant bloc gan Lywodraeth Cymru. Onid yw'n bryd i ni fynd i'r afael â'r tueddiad gwrthnysig hwn?

Mae'r amrywiant, wrth gwrs, yn cael ei achosi gan benderfyniadau a wnaed gan Gyngor Sir Penfro, ac rwy'n cefnogi hawl Sir Benfro i wneud y penderfyniadau hynny yn llwyr. Mae Cyngor Sir Penfro wedyn yn ymdrin â chanlyniadau'r penderfyniadau y maent hwy eu hunain yn eu gwneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael dadl fywiog yn lleol am drethiant lleol. Credaf ei bod yn bwysig fod awdurdodau lleol yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch trethiant, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cael dadl gref am ganlyniadau'r penderfyniadau hynny, ac rydym wedi cael blas ar hynny yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â Sir Benfro.

Gobeithio y gwelwn, drwy'r diwygiadau rydym yn eu trafod, fwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Gobeithio y gwelwn ddadl fwy egnïol yn y dyfodol mewn perthynas â'r penderfyniadau eu hunain a chanlyniadau'r penderfyniadau hynny. Wrth gwrs, rwyf bob amser yn agored—fel rwyf wedi'i ddweud wrth ateb cwestiynau blaenorol—i gael sgwrs am y fformiwla ariannu. Rwyf bob amser yn agored i sgyrsiau am welliannau iddi. Ond yn y bôn, penderfyniadau i awdurdodau lleol, yn gwbl briodol, yw penderfyniadau ynghylch trethiant lleol, a mater i awdurdodau lleol, yn gwbl briodol, yw canlyniadau'r penderfyniadau hynny hefyd.

Wrth gwrs, pe byddwn yn symud o Geredigion i sir Benfro, byddwn yn arbed £300 y flwyddyn yn syth bin. Ond byddwn yn byw mewn sir lle mae ymyrraeth genedlaethol wedi gorfod digwydd gan y Llywodraeth ynglŷn â materion plant ac addysg, a lle mae nifer o fethiannau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd y penderfyniad lleol i gadw'r dreth gyngor i lawr, nid yn unig i lawr ar gyfer yr hen Ddyfed ond i lawr yn genedlaethol, dros Gymru i gyd—y dreth gyngor isaf posibl dros Gymru i gyd. Mae taliad i'w wneud yn hynny—yn y tanfuddsoddi sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyngor sir nawr wedi cymryd y penderfyniad—ac fel chithau, rwy'n cefnogi'r penderfyniad y ddwy ffordd; penderfyniad lleol ydyw—i gynyddu'r dreth gyngor yn sylweddol. Y cwestiwn sydd gen i yw: a ydych chi'n gweld hwn fel rhan o gynllun i symud y cyngor sir i rywle mwy canolig nawr yn y rhychwant o drethi cyngor y gwelwn ni yng Nghymru? A yw hwn yn rhywbeth one-off na fydd, a dweud y gwir, yn mynd i'r afael â'r problemau sydd gan y cyngor sir? Neu a yw hwn yn rhywbeth y maen nhw'n ei drafod gyda chi—rhywbeth sydd, dros y ddwy neu dair blynedd nesaf, yn mynd i ailsefydlu'r gwasanaethau gorau y mae pobl leol yn haeddu eu cael yn sir Benfro? 

Rydw i wedi trafod hyn gyda chyngor sir Benfro, ond mae ganddyn nhw fandad lleol, wrth gwrs—mandad y mae'n rhaid iddyn nhw ei weithredu. Maen nhw'n ystyried, ar hyn o bryd, oblygiadau a legasi penderfyniadau'r gorffennol ac yn edrych ar sut y maen nhw'n datblygu strategaeth gyllidebol a fydd yn sicrhau dyfodol gwasanaethau lleol a lefel resymol o dreth gyngor. Ond rŷm ni'n cytuno bod hynny'n fater iddyn nhw. Nid wyf eisiau defnyddio'r llwyfan fan hyn i gynnig sylwadau ar hynny. Fel rhywun sydd ddim yn byw yn sir Benfro, rwy'n meddwl ei fod yn fater i bobl sir Benfro i wneud y penderfyniadau yma ac i gael trafodaethau lleol yn sir Benfro, a bod y cyngor wedyn yn gweithredu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. 

Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gynghorau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn? OAQ51928

Rydym ni wedi buddsoddi £65 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn blaenoriaethu £42 miliwn a £31 miliwn arall yn y flwyddyn wedyn er mwyn cynnal lefelau presennol y gwariant craidd ar ofal cymdeithasol.

15:05

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater allweddol sy'n wynebu llawer o'r boblogaeth oedrannus, ac nid y boblogaeth oedrannus yn unig yma yng Nghymru, fel y mae adolygiad pwyllgor iechyd wedi'i ddarganfod yn ddiweddar, ond sy'n effeithio'n arbennig ar ein poblogaeth oedrannus yng Nghymru, ac mae canolfannau dydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu i fynd i'r afael â'r agenda benodol honno. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn cyflwyno taliadau neu'n codi taliadau mewn canolfannau dydd ar gyfer yr henoed, ac mae canolfannau dydd y trydydd sector yn ei chael hi'n anodd cyrraedd sefyllfaoedd ariannol cynaliadwy. Mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol ac mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Nawr, gyda hynny mewn golwg, a ydych yn cytuno, ar y cyd â'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, i adolygu'r ddarpariaeth gyfredol o ganolfannau dydd yng Nghymru a'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau'r canolfannau dydd hanfodol hyn?

Rwyf wedi amlinellu'r fframwaith ariannol rydym yn gweithio o'i fewn ar hyn o bryd. Mae'r materion hynny, yn gwbl briodol, yn faterion ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, ac rwy'n siŵr bod y rheini'n feysydd y byddai eisiau mynd i'r afael â hwy. Ond rwy'n cytuno â chi, ac rwy'n credu ei bod yn gywir ac yn briodol eich bod yn ymateb i faterion sy'n ymwneud ag arwahanrwydd ac unigrwydd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021' ac yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac arwahanrwydd, wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol ledled y wlad i fynd i'r afael â'r holl faterion hyn erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y bydd honno'n mynd i'r afael â'r pwyntiau rydych wedi'u codi ynglŷn â chanolfannau dydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn ei sedd a bydd wedi clywed eich sylwadau. Rwy'n siŵr bod y rheini'n feysydd y byddem yn dymuno mynd i'r afael â hwy.

Strwythur Llywodraeth Leol

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51934

Cafodd ein cynigion eu nodi yn y datganiad a wneuthum ddoe ac yn y Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gallwch weld, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i mi sylweddoli eich bod am wneud datganiad annisgwyl, felly rwy'n ymddiheuro am fynd dros yr un tir eto. Fodd bynnag, mae'n bwnc pwysig sydd angen cael ei drafod, fel y gwn y byddwch yn cytuno. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, roedd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'ch datganiad yn llai na chynnes. Yn wir, roedd yn wirioneddol rewllyd. Maent yn nodi bod hyn yn gwbl groes i sicrwydd a roddwyd yn flaenorol na fyddai unrhyw ad-drefnu am o leiaf 10 mlynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiadau academaidd—ac rwy'n dyfynnu—

yn dod i'r casgliad mai anaml iawn y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn cyflawni'r arbedion neu'r newidiadau

y gobeithiwyd eu cael yn wreiddiol.

Ar nodyn cadarnhaol, Ysgrifennydd y Cabinet, maent yn edrych ymlaen at eu cyfarfod gyda chi ddydd Gwener ac at ddadl lawn ac egnïol. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi cael eich Weetabix cyn honno. [Chwerthin.] Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn hoffi bod yn bry ar y wal i weld beth fydd yn digwydd yn y fan honno.

Yn amlwg, fe ddywedoch chi ddoe fod angen i ni fod yn obeithiol ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen diwygio llywodraeth leol, ond mae angen i ni wybod beth y mae llywodraeth leol a phobl leol eisiau ei weld ar ddiwedd y broses hon mewn gwirionedd. Pa bryd y bydd y rhan wrando hollbwysig o'r broses hon yn dechrau?

Dechreuodd y broses honno ddoe. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros ran o Sir Fynwy am roi ein sgwrs ar y rhyngrwyd ddoe er mwyn i bawb ei weld. Roeddwn yn teimlo bod y pwyntiau a wnaed ganddo ddoe yn deg iawn ac yn rhai pwysig i'w gwneud, a gobeithiaf ei fod ef yn cydnabod bod fy ymateb wedi'i wneud yn yr un modd.

Gadewch i mi ddweud hyn am Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gwelais eu hymateb neithiwr, yn amlwg, ond rwyf hefyd, wrth gwrs, wedi cael sgyrsiau hir iawn gydag arweinwyr llywodraeth leol ar draws Cymru a ledled y wlad. Gadewch i mi ddweud hyn: maent yn glir iawn, ac maent wedi dweud yn gyhoeddus dro ar ôl tro, nad yw'r strwythurau cyfredol sydd gennym yn gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny'n glir iawn—nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy. Nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw arweinydd llywodraeth leol sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Yn wir, nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw un ledled y wlad sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Felly, mae gennym bethau rydym yn cytuno yn eu cylch. Rydym yn cytuno na allwn barhau fel ag yr ydym. Rydym yn cytuno nad yw'r system gyfredol yn gynaliadwy, ac rwy'n credu bod y cwestiynau a godwyd gan Dai Lloyd mewn cwestiwn cynharach wedi atgyfnerthu hynny. Felly, y cwestiwn yw: beth a wnawn?

Nid yw'n ddigon da, ac ateb annigonol i'r heriau hyn yw dweud yn syml y dylem gadw'r hyn sydd gennym ac amddiffyn ein strwythurau cyfredol. Nid yw hwnnw'n ymateb digonol i'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw siarad o ddifrif, yn blwmp ac yn blaen ac yn onest, yn agored, gyda'n gilydd, a gweithio tuag at yr hyn a fydd, rwy'n gobeithio, yn safbwynt cytûn. Dechreuodd y broses honno o wrando, y sgwrs honno, ddoe, bydd yn parhau tan fis Mehefin, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r holl Aelodau yma fy mod yn cadw meddwl agored mewn perthynas â beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw.

15:10
Cynllun Cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl mentrau cymdeithasol yng nghynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol? OAQ51948

Mae'r cynllun yn cydnabod gwerth mentrau cymdeithasol fel partneriaid cyflenwi. Maent yn cefnogi blaenoriaethau'r tasglu drwy greu swyddi, datblygu sgiliau a darparu gwasanaethau lleol ledled y Cymoedd. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i ddarparu cymorth i fentrau cymdeithasol drwy arweiniad a hyfforddiant, a mentrau megis Swyddi Gwell yn nes at Adref.

Un o elfennau allweddol y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yw creu parc tirlun y Cymoedd, a fydd yn meithrin ymdeimlad o falchder, a bydd unrhyw un sydd wedi teithio i'r Cymoedd gogleddol wedi gweld harddwch yr ardal honno. Gall hyn adeiladu ar ystod amrywiol o fentrau lleol, mentrau cymdeithasol bychain yn aml, sy'n defnyddio tirlun naturiol y Cymoedd ar gyfer adloniant, hamdden a chadwraeth. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy'n gwneud llawer o waith da yn fy etholaeth, a dywedasant fod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o gymorth i'r mentrau cymdeithasol bach hynny'n benodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo heddiw i weithio gyda'r mentrau cymdeithasol bach hyn o fewn fframwaith 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', yn enwedig yng nghyd-destun parc tirlun y Cymoedd, fel y gallwn ddarparu'r prosiectau lleol hyn yn nes at gymunedau fel y Cymoedd gogleddol?

Yn sicr. Rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw i'r Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma. Ond hefyd, rwyf eisiau i'n holl gymunedau yn y Cymoedd fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio sut y bydd y parc tirlun hwnnw neu'r parc rhanbarthol hwnnw'n edrych. Byddwn yn cynnal nifer o seminarau yn y gwanwyn, drwy gydol y gwanwyn, er mwyn edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r cysyniad, a gwireddu'r cysyniad hwnnw. Gwn fod yr Aelod dros Gaerffili wedi bod yn weithgar iawn wrth gynnig ei weledigaeth ar gyfer y cysyniad hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am y pwyntiau y mae wedi'u gwneud i mi, ac am y gwahoddiadau a roddodd i mi fynd i weld prosiectau yn etholaeth Caerffili. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer y parc tirlun, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r Aelod, yn sicr, fod yr holl faterion hynny'n arwain ac yn siapio ein ffordd o feddwl.

Carcharorion

8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau? OAQ51930

Mae sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y lefel briodol o gymorth ar ôl cael eu rhyddhau yn flaenoriaeth allweddol. Fel y cyfryw, rwy'n cyfarfod â Gweinidogion y DU a phennaeth y gwasanaeth carchardai yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn briodol ar gyfer carcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a'u bod yn cefnogi camau i leihau aildroseddu.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn pwysleisio y bydd y carchar arfaethedig ym Maglan yn dal carcharorion sy'n paratoi ar gyfer cael eu rhyddhau, ac felly bydd angen cymorth arnynt wrth iddynt baratoi i ddysgu sut i ddychwelyd i'w cymunedau eu hunain, y rhan fwyaf ohonynt ar draws de Cymru mae'n debyg, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Nawr, gwyddom fod y cyfnod ar ôl iddynt gael eu rhyddhau yn gyfnod heriol i lawer o garcharorion, a gallai cefnogi hyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o aildroseddu, fel rydych wedi'i amlinellu. Ond fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cymorth hwn yn cynnwys mewnbwn gan wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg, gwasanaethau cyflogaeth a gwasanaethau prawf, ac mae bron bob un ohonynt o dan reolaeth a chymhwysedd y Cynulliad hwn mewn gwirionedd. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r costau ychwanegol i ddarparu'r gwasanaethau hyn a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddarparu i Gymru er mwyn sicrhau nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn disgwyl i'r costau ychwanegol hyn gael eu talu o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau? Ac os nad ydynt wedi darparu'r cyllid angenrheidiol, onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad yw'r tir ar gyfer Baglan ar werth—nad oes unrhyw dir yng Nghymru ar werth, mewn gwirionedd?

Lywydd, cyfrannodd yr Aelod dros Aberafan at ddadl ardderchog a gawsom yma yn gynharach y mis hwn ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn bwyntiau y gŵyr fy mod yn cytuno â hwy. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y setliad cyfansoddiadol cyffredinol sydd gennym yn y cyswllt hwn wedi torri. Mae wedi torri, a'r hyn y mae'n ei olygu yw na all Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, gyflwyno'r math o ymateb polisi cyfannol i'r rheini yn y system cyfiawnder troseddol y mae pawb ohonom yn galw amdano.

Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag adnewyddu'r concordat sydd gennym ar hyn o bryd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn ddiweddar am y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn gweithio ar y materion hyn yn ogystal, a gobeithiaf y byddaf yn gallu gwneud datganiad yn y lle hwn yn y dyfodol agos sy'n amlinellu'r dull y byddwn yn ei fabwysiadu yn y maes hwn. Mae'n rhan gwbl hanfodol o'r hyn rydym eisiau ei wneud er mwyn gallu sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau a ledled Cymru.

15:15
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf, Mick Antoniw.

Adroddiad y Comisiwn Hapchwarae

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru? 156

Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn parhau i weld gamblo cymhellol yn dod i'r amlwg fel problem iechyd cyhoeddus ac mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hi. Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gryf i roi camau ar waith, ymwrthod â'r pwysau gan y diwydiant, a lleihau'n sylweddol y swm mwyaf y gall rhywun ei fetio ar beiriannau hapchwarae categori B2, sy'n cynnwys peiriannau betio ods sefydlog, wrth gwrs.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am hynny. Gwn eich bod yn ystyried hwn yn fater o bwys. Mae'r data sydd gennym yn dangos bod 30,000 o bobl yng Nghymru yn dweud bod ganddynt broblemau gamblo, nodir bod 100,000 mewn perygl, 22,500 o blant rhwng 11 a 15 oed sy'n hapchwarae mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac amcangyfrifir bod y gost i Gymru hyd yn hyn rhwng £40 miliwn a £70 miliwn. Byddwch wedi gweld adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, sy'n ymdrin ag un mater yn sicr, mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog, a lleihau'r swm mwyaf y gall rhywun ei fetio o £100 i £30, sydd, a bod yn gwbl onest, yn dal i olygu y gellid betio hyd at £900 ar y peiriannau hyn mewn 10 munud, peiriannau a gaiff eu hadnabod fel crac cocên y byd hapchwarae. Mewn llawer o ffyrdd, nid yw hyn yn ddigon ac rwy'n credu ei fod yn dangos i ba raddau y mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi ildio i'r lobi hapchwarae bwerus.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn falch o wybod bod grŵp trawsbleidiol wedi cael ei ffurfio yn y Cynulliad hwn bellach a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan hefyd ac yn ymgymryd â gweithgarwch ar y cyd i sicrhau bod yna ddeddfwriaeth a gweithgarwch ar draws yr holl Seneddau yn y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r perygl cynyddol hwn. Rwy'n meddwl tybed, o safbwynt Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, pa bwerau rydych yn credu y gallwn eu defnyddio i gyfyngu ar beiriannau betio a'r gallu betio ar y rheini mewn gwirionedd, a datblygu'r agenda iechyd y cyhoedd, ac yn benodol, yr angen am ymchwil real a chadarn lle y gall Cymru arwain ar nodi a gwella ei dealltwriaeth o'r goblygiadau a'r problemau cymdeithasol sy'n deillio o hapchwarae, ei gysylltiad â phethau fel chwaraeon, normaleiddio hapchwarae a hapchwarae ar-lein—mewn gwirionedd, pe gallech amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd, nid yn unig yng ngoleuni'r wybodaeth a'r pwyntiau rwyf wedi'u gwneud, ond hefyd yn ngoleuni'r argymhellion a'r wybodaeth gan y prif swyddog meddygol.

Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a'r cwestiynau. Rwyf wedi nodi o'r blaen, yn y ddadl ar adroddiad y prif swyddog meddygol, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad ar sut rydym yn disgwyl y byddwn yn defnyddio ein pwerau newydd pan fyddwn wedi'u cael, a gallwch ddisgwyl hynny yn y dyfodol agos, nid y dyfodol hirdymor. Gwn fod rhai Aelodau wedi cael cyfle i gyfarfod â'r prif swyddog meddygol heddiw, ac rwy'n croesawu'r diddordeb a'r awydd ehangach i wneud rhywbeth ar y cyd ag amryw o bartïon. Rwy'n meddwl am Carolyn Harris, ein cydweithiwr seneddol yng Nghymru, sydd wedi arwain ymgyrch weithredol ag iddi broffil uchel ar beiriannau betio ods sefydlog drwy'r Senedd. Felly, mae'r mater hwn yn gyfoes iawn ac mae'n fater real iawn yn ein holl gymunedau.

Ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un o'r pwyntiau yn y cwestiwn heddiw, ond rwy'n sicr yn ymrwymo i roi sylw iddynt a llunio datganiad mwy manwl. Ond yn benodol, os cyfeiriaf yn ôl at sylwadau a wnaed gan arweinydd y tŷ ddoe mewn perthynas â'r materion hysbysebu, sy'n cael eu crybwyll yn adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, a'r pwyntiau ynglŷn â'r agenda iechyd y cyhoedd, mae angen i ni gael ymgyrch ddilys i godi ymwybyddiaeth er mwyn deall sut y mae pobl yn ymddwyn. Nid wyf yn credu y gallwn ddibynnu ar y diwydiant i hunanreoleiddio a bod yn gyfrifol. Cymerwyd rhai camau pellach, ond rwy'n credu bod mwy i'w wneud. Yn benodol, ar eich pwynt ynglŷn â hysbysebu, er y byddem yn dymuno gweld ceisiadau hysbysebu'n cael eu cyflwyno ar rai pethau, mae yna rywbeth ynglŷn ag un o'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiwn Hapchwarae eu hunain.

Nawr, mae gan ein plaid ar lefel y DU bolisïau i roi ardoll orfodol ar y diwydiant hapchwarae. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain wedi dweud, yn y bôn, fod yna achos cryf dros weld y diwydiant ei hun yn gwneud mwy i gyflawni ei rwymedigaethau. Ar hyn o bryd, maent yn darparu oddeutu 0.1 y cant o'r trosiant i GambleAware, ac mewn gwirionedd, gallent a dylent wneud mwy. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain yn cydnabod, os na fydd y diwydiant yn cyflawni ei rwymedigaethau ar sail wirfoddol, fod yna achos cryf dros ystyried ardoll statudol. Yn sicr, ar ôl i mi ei ystyried, byddaf yn gwneud datganiad yn y lle hwn, a byddaf yn  ysgrifennu at Lywodraeth y DU, lle mae'r rhan fwyaf o'r pwerau hyn o hyd.

15:20

Pan ofynnais am ddatganiad ar y Comisiwn Hapchwarae ddoe, nid oeddwn yn disgwyl ei gael mor sydyn, felly da iawn ar y gweithgarwch ar y cyd i'ch cael chi yma i sôn ychydig mwy am hyn. Un o'r pethau sydd wedi codi o'r datganiad gan y Comisiwn Hapchwarae a'r ymateb caredig a roddodd arweinydd y tŷ i mi ddoe yw'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o berthynas ffurfiol gyda'r Comisiwn Hapchwarae—cynrychiolaeth ar y Comisiwn Hapchwarae na'r gallu i enwebu aelodau i'r Comisiwn—ac rwy'n credu bod hwnnw'n amlwg yn fwlch, gyda'r pwerau sy'n cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfyngiadau ar beiriannu ods sefydlog, gyda'r diddordeb sydd gennym yn hynny yma yn y Cynulliad a'r ffaith nad yw'r Comisiwn Hapchwarae, yn fy marn i, wedi rhyngweithio ag Aelodau'r Cynulliad, er ein bod yn cynrychioli'r cymunedau yr effeithir arnynt yn fawr iawn gan y problemau hyn, fel y mae Mick Antoniw wedi'i nodi.

Felly, a oes yna ffordd y bydd Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ymateb i'r ymgynghoriadau, fel rydych eisoes wedi'i wneud, ond yn rhoi camau mwy cadarn ar waith yn awr wrth negodi gyda'r Comisiwn Hapchwarae a hefyd, yn y pen draw, gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennych berthynas lawer mwy ffurfiol, fel bod y Comisiwn Hapchwarae yn rhoi ystyriaeth lawnach a sylw dyladwy i'ch safbwyntiau ac yn wir, fel y gall y Comisiwn Hapchwarae ddod i roi adroddiad i'r Cynulliad o bryd i'w gilydd ar y penderfyniadau y maent hwy wedi'u gwneud yn ogystal?

Rwy'n cydnabod y pwyntiau rydych wedi'u gwneud, a chredaf fod dadl dda i'w gwneud yn eu cylch. Pan fyddwn yn ymateb yn gyhoeddus ac yn fwy ffurfiol i'r Cynulliad gyda datganiad ar ein hymateb llawnach, rhywbeth rwyf wedi addo ei wneud ar dri achlysur yn awr, rydym yn sicr angen ystyried ein perthynas a beth y dylai ein cais fod. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r Llywodraeth a'r berthynas y credwn y dylid ei chael â'r Comisiwn Hapchwarae, ac mae'n ymwneud â chael perthynas sy'n adlewyrchu'n briodol ei fod yn rheoleiddiwr ar gyfer yr Alban, Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, mae wedi cael ei ddatganoli'n llawn i Ogledd Iwerddon—un o'r pethau rhyfedd hynny, unwaith eto, ynglŷn â phroses ddatganoli anghymesur. Ond mae yna rywbeth ynglŷn â chydnabod lle'r Cynulliad hefyd, ac efallai y bydd y Cynulliad ei hun eisiau rhoi ei farn drwy'r pwyllgor perthnasol ynglŷn â beth y dylai'r cyfrifoldeb fod. Ond bydd y Llywodraeth yn sicr yn nodi ei barn, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud heddiw.

Cyflogau'r GIG yng Nghymru

2. Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru? 158

Rwy'n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ar fy ngalwadau niferus i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a darparu arian ychwanegol i wobrwyo staff y GIG ledled y Deyrnas Unedig. Mae Fforwm Partneriaeth GIG Cymru yn cyfarfod yfory i gynnig cyngor ar sut y gellid defnyddio unrhyw gyllid canlyniadol yng Nghymru.

Mae'r holl bleidiau gwleidyddol wedi aros yn hir i gael gwared ar y cap cyflog hwn, ac rydym yn llwyr groesawu'r cyhoeddiad, sy'n cydnabod staff y rheng flaen sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf. O heddiw ymlaen, bydd staff fel nyrsys, porthorion a pharafeddygon yn cael cynnydd cyfartalog o 6.5 y cant yn eu pecynnau cyflog dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda llawer o'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd yn cael y cynnydd mwyaf yn eu cyflog, a bydd hynny'n sicr yn ein helpu i hyrwyddo ein hagendâu tegwch a chydraddoldeb. Ynghyd â'r cyhoeddiad ddoe, fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu pump o ysgolion meddygol newydd mewn rhannau o'r wlad.

Nid Lloegr yn unig sy'n wynebu'r heriau recriwtio hyn, a bydd yr hyn y maent yn ei wneud yn helpu'n fawr i wneud eu gwasanaeth iechyd yn fwy gwydn. Yng Nghymru, rydym yn gwario bron i £14 miliwn y mis ar staff asiantaeth, ac rydym wedi gweld yr hyn sy'n cyfateb i un nyrs y dydd yn gadael ein gwasanaeth iechyd. Ni all gwasanaethau iechyd fforddio colli mwy o'n staff rheng flaen eithriadol, na'n myfyrwyr sydd newydd gael eu hyfforddi.

Nawr, gwyddom y byddwch chi, Lywodraeth Cymru, yn cael cyllid canlyniadol gan y Trysorlys i liniaru'r cynnydd hwn, felly bydd Llywodraeth Cymru yn cael y gyfran arferol o £4.2 biliwn yn ychwanegol am y newidiadau i gyflogau'r GIG dros y tair blynedd nesaf. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn rhoi'r cyllid canlyniadol tuag at y dyfarniadau cyflog yma yng Nghymru? Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd a fyddwch yn ystyried y ffaith bod y cytundeb cyflog, hyd yn hyn, yn edrych ar sut y gall y cytundeb leihau'r cyfraddau uchel o salwch a welwn yn y GIG ledled y Deyrnas Unedig? Nid yng Nghymru yn unig y mae'n digwydd. Rydym yn colli dros 900 o flynyddoedd amser llawn i salwch bob blwyddyn, ac os gallwn gael y bobl hyn yn ôl i'r gwaith yn gyflymach a'u cymell a rhoi triniaeth flaenoriaethol iddynt o bosibl, yna bydd hynny ynddo'i hun yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau adnoddau dynol sydd i'w weld yn ein GIG yma. Mae pawb ohonom yn croesawu'r penderfyniad i godi'r cap cyflog hwn, ond rwyf eisiau clywed beth fyddwch chi'n gallu ei wneud gyda'r cyllid canlyniadol ac a fyddwch yn ei ddefnyddio ar ein staff.

15:25

Mae gennyf rai sylwadau i'w gwneud mewn ymateb i hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod y cap cyflog wedi'i godi, ond ni ddylem anghofio bod yna heriau sylweddol yn wynebu partneriaid y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n dal i wynebu cap cyflog real o ganlyniad uniongyrchol i wyth mlynedd o gyni sy'n parhau. Dylem atgoffa ein hunain fod staff 'Agenda ar gyfer Newid' wedi cael toriadau cyflog real o 14 y cant ers 2010. Felly, bydd y newid y mae Lloegr wedi'i gyhoeddi yn helpu i ddatrys hynny, ac rwy'n hapus i gadarnhau y bydd unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer cyflogau'r GIG yn mynd tuag at gyflogau'r GIG yma yng Nghymru—mae hynny'n gwbl glir ac nid oes unrhyw lol mewn perthynas â hynny. Mae hynny'n adeiladu ar ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn wir.

Buaswn yn atgoffa pobl fod y sylwadau a wnaethoch, Angela Burns, ynglŷn â mynd i'r afael â chyflogau isel—heriau i'r GIG yn Lloegr fynd i'r afael â hwy yw'r rheini. Gwnaethom gynnydd pellach. Efallai nad yw hi yn yr ystafell, ond roedd Dawn Bowden yn rhan o'r tîm negodi ar ochr yr undebau llafur, lle y gwnaethom gynnydd rai blynyddoedd yn ôl mewn perthynas â'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y GIG yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o weld Lloegr yn efelychu rhywfaint o'r cynnydd hwnnw. Byddwn yn trafod gyda chyflogwyr y GIG a'r undebau llafur i benderfynu sut y gallwn sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw i Gymru yn mynd tuag at gyflogau'r GIG, a bydd hynny'n cael ei negodi'n briodol yn y dull partneriaeth rydym yn dymuno ei fabwysiadu yma yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod yr heriau y sonioch amdanynt mewn perthynas â niferoedd y nyrsys yn y GIG. Mae yna her go iawn ledled y DU o ran sicrhau cyflenwad digonol o nyrsys. Lloegr sydd â'r broblem fwyaf. Hwy sydd â'r niferoedd mwyaf, nid yn unig o ran niferoedd ond mewn termau canrannol, ac fe fyddwch yn cydnabod bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi dweud, am y tro cyntaf, fod llai o nyrsys yn y GIG yn Lloegr na'r flwyddyn flaenorol. Dyna'r tro cyntaf mewn hanes i hynny ddigwydd. Nid oes gennym y sefyllfa honno yma, ond ni ddylem fod yn hunanfodlon ynglŷn â realiti'r cap cyflog ac amrywiaeth o fesurau eraill yn ymwneud â'r ffordd y mae nyrsys yn teimlo yn Lloegr.

Hefyd, byddwn yn parhau i drafod gyda'n partneriaid sut i wella cyfraddau presenoldeb, sut i wella'r broses o ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn salwch a sut y caiff pobl eu cynorthwyo i aros mewn gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith. Mae'r rheini yn faterion rydym yn eu trafod yn rheolaidd rhwng cyflogwyr ac ochr yr undebau llafur. Felly, edrychaf ymlaen at allu dod yn ôl i'r lle hwn i gadarnhau unrhyw gytundeb a geir rhwng ochr y cyflogwyr a'r undebau llafur mewn perthynas â sut rydym yn disgwyl talu staff y GIG yma yng Nghymru.

Nid yw'n braf gweld Cymru ar ei hôl hi eto; dyma'r eildro i hynny ddigwydd ym maes iechyd mewn dau ddiwrnod gyda'r cyhoeddiad hwnnw gan Jeremy Hunt ddoe ynglŷn ag agor pump o ysgolion meddygol yn Lloegr. Edrychaf ymlaen at ein gweld yn dal i fyny â hynny yn y pen draw. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, mewn perthynas â'r cap cyflog, wedi dweud yn glir ers amser ein bod yn credu y dylid bod wedi codi'r cap cyflog cyn hyn, ac rwy'n credu y bydd pobl yn cofio nad oedd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gallu bod yn rhagweithiol wrth chwilio am ffyrdd o godi'r cap hwnnw'n gynharach. Ond dyma lle rydym, ac mae'n ymddangos y bydd staff gweithgar ein GIG, o'r diwedd, yn cael y codiad cyflog y maent wedi'i haeddu ers amser. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o glywed eich bod yn disgwyl y bydd y cyllid canlyniadol yn mynd tuag at godi'r cap hwnnw.

A wnewch chi gytuno, fodd bynnag, nad yw codi'r cap yn ddigon ynddo'i hun, ac a gawn ni sicrwydd, ochr yn ochr â'r adolygiad hir ddisgwyliedig o gyflogau, y byddwn hefyd yn gweld ymdrech gyfunol i sefydlu cynllun gweithlu ar gyfer y GIG cyfan a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud mewn perthynas â recriwtio hefyd? Mae mynd i'r afael â chyflogau yn un peth, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r pwysau annerbyniol ar staff mewn sawl rhan o'r GIG oherwydd prinder gweithlu.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n hapus i ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf. Rydym yn disgwyl y byddwn yn gwella ein gallu i gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfredol a gweithlu'r dyfodol drwy greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru—rydym wedi sôn am hwnnw o'r blaen—a'r ffordd rydym yn ceisio cronni'r gallu i wneud hynny rhwng byrddau iechyd a sefydliadau eraill fel y ddeoniaeth ac eraill hefyd. Mae hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau dull mwy strategol o gynllunio ar gyfer anghenion ein gweithlu yn y dyfodol. Yn ogystal ag edrych ar niferoedd y staff rydym eu hangen, a'r gwahanol grwpiau o staff, mae angen i ni edrych, wrth gwrs, ar y ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt weithio, a'r ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt gael eu hyfforddi i weithio yn y gwasanaeth heddiw ac yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r adolygiad seneddol mor bwysig. Mae angen i ni gael modelau gofal sy'n ddeniadol i bobl weithio ynddynt, ac sy'n cynnig y gobaith mwyaf y bydd pobl eisiau dilyn gyrfa yng Nghymru. Gallech ddweud i hyfforddi yma, i fyw yma ac i weithio yma, wrth gwrs.

Nawr, rwyf am ddychwelyd at eich pwyntiau cychwynnol am y cap cyflog. Rwyf wedi cael fy siomi'n ofnadwy gan y ffordd y mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon bodlon i roi rhwydd hynt i'r Torïaid mewn perthynas â hyn. Y rheswm pam na allai Cymru godi'r cap cyflog yn gynt oedd oherwydd ein sefyllfa gyllidebol, oherwydd wyth mlynedd o gyni. Dyna'r gwirionedd clir a digymysg, ac mae'r ffordd y mae'r materion hynny wedi cael eu trin yma wedi bod yn glir iawn. Rydym bob amser wedi dweud yn glir mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd codi'r cap cyflog a sicrhau cyllid gan Drysorlys y DU i gyllido codi'r cap cyflog, fel y maent wedi'i wneud heddiw, o'r diwedd. Ond ni fydd y rhyfel geiriau rhyngom yn dod i ben oherwydd, yn anffodus, mae Jeremy Hunt wedi cymhlethu datganiadau blaenorol nad ydynt, yn syml, yn ffeithiol gywir, drwy ddweud, yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru £1 biliwn o bunnoedd yn well ei fyd pe baem wedi gwneud penderfyniadau fel y maent hwy wedi gwneud. Mae hynny'n gelwydd noeth. Ac os ydym am gael dadl wybodus a phriodol am ariannu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, mae angen trafodaeth fwy gonest rhwng seneddau a llywodraethau, a chyda'r cyhoedd, ac ni fyddaf yn petruso rhag herio Jeremy Hunt pan fydd yn gwneud datganiadau celwyddog, a bwriadol gelwyddog, am gyllid y GIG yma yng Nghymru.

15:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hen bryd i ni godi'r cap ar gyflogau staff y GIG sy'n gweithio o dan bwysau aruthrol, yn arbennig mewn perthynas â phrinder staff. Mae'r cytundeb yn Lloegr yn cynnwys staff ar y contract Agenda ar gyfer Newid, nad yw'n cynnwys meddygon. Felly, er fy mod yn croesawu'r cynnydd a gyhoeddwyd yn flaenorol yng nghyflogau ein meddygon teulu, pa ystyriaeth rydych wedi'i roi i godi cyflogau meddygon a deintyddion y GIG?

Mae yna broses gan gorff adolygu ar wahân ar gyfer meddygon a deintyddion. Nid yw staff Agenda ar gyfer Newid yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol penodol hynny. Rydym yn aros am gyngor gan y corff adolygu ar gyfer meddygon a deintyddion, ac wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r lle hwn pan fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw a phan fydd gennym benderfyniad i'w wneud.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf yr wythnos hon, David Melding.

Diolch i chi, Lywydd. Mae'n briodol ein bod yn talu teyrnged heddiw i Nicholas Edwards a fu farw ddydd Sadwrn. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1979 a 1987, gwnaeth gyfraniad parhaus i fywyd cyhoeddus Cymru. Yma yn y Senedd, mae gweledigaeth Nick Edwards ar gyfer sicrhau adfywiad trefol ym Mae Caerdydd yn amlwg iawn. Y bore yma, euthum ar draws y morglawdd a chael golygfeydd o ddinas wirioneddol hardd. Mae ysgrif goffa The Guardian am yr Arglwydd Crucywel yn pwysleisio'r anawsterau a wynebodd wrth ddechrau'r broses drawsnewid, a dyfynnaf:

Er iddo gael ei wawdio ar y pryd, roedd Edwards yn gywir pan ddisgrifiodd brosiect y bae fel un o'r enghreifftiau gorau o adfywio trefol yn y wlad. 

Yn fyr, roedd yn ddyn â chanddo weledigaeth ac arweinyddiaeth, yn enwedig pan heriodd y Trysorlys i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect.

Fodd bynnag, bydd cyflwyno strategaeth anabledd dysgu Cymru yn 1983, rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn gyflawniad mwy byth, a hynny oherwydd ei fod wedi gosod safonau cwbl newydd ar gyfer ymarfer gorau sydd wedi'u hefelychu ar draws y byd. Sefydlodd y strategaeth ar gyfer Cymru gyfan yr hawl sydd gan bobl ag anableddau dysgu i fywydau normal yn y gymuned; i gael eu trin fel unigolion, ac i gael y gwasanaethau cyhoeddus gorau sydd ar gael i gyflawni eu potensial i'r eithaf.

Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ddemocratiaeth ffyniannus gydnabod y cyfraniadau adeiladol a wnaed gan draddodiadau gwleidyddol gwahanol. Roedd cyfnod Nick Edwards yn ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hwy na'r un Ysgrifennydd Gwladol Cymru arall, ond drwy estyn y tu hwnt i'w draddodiad gwleidyddol ei hun, gallodd wneud cyfraniad arloesol a gryfhaodd fywyd cenedlaethol Cymru. Wrth gydymdeimlo â theulu yr Arglwydd Crucywel, mae hefyd yn anrhydedd i allu mynegi ein diolch am ei lwyddiannau parhaol.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yng nghymdeithas heddiw, sy'n cael ei gyrru gan ddefnyddwyr, gall pawb ohonom fod yn euog o gymryd pethau'n ganiataol, pethau nad oes gan bobl eraill ar draws y byd mohonynt. Er enghraifft, rydym yn gallu prynu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau egsotig o bob rhan o'r byd yn ein siopau lleol. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu mor ffodus â ni. Byddent wrth eu boddau'n cael banana gyda'u brecwast, afocado gyda'u cinio a grawnwin gyda'u swper, ond mae'n rhaid iddynt oroesi ar reis a ffa, neu nwyddau sylfaenol cyfatebol, ar gyfer bob pryd bwyd y maent yn ei fwyta. Deiet annigonol o reis a ffa plaen yw'r realiti i rai o'r bobl sy'n byw mewn tlodi eithafol. Am y rheswm hwn, rwyf wedi cytuno i gefnogi a hyrwyddo'r Mean Bean Challenge. Cafodd ei chreu gan elusen wych Tearfund Cymru, sy'n asiantaeth datblygu a chymorth Cristnogol.

Mae'r tîm arlwyo yma yn y Cynulliad wedi cytuno i roi reis a ffa ar y fwydlen bob dydd yr wythnos hon ac maent yn gofyn am roddion bach tuag at yr elusen. Syniad yr her hon yw bwyta reis, ffa pob a cheirch yn unig am bum diwrnod cyfan; dim byd melys, dim halen ac yn waeth na dim, dim caffein. Rwyf wedi dilyn y deiet hwn am un diwrnod hyd yma—rwyf am geisio ei ddilyn am ychydig ddyddiau yn rhagor—ac rwy'n annog unrhyw Aelod Cynulliad neu aelod arall o staff i roi cynnig ar yr her naill ai yfory neu amser cinio ddydd Gwener ac i roi rhodd fach a rhannu'r neges ag eraill. Mae'n aberth rwy'n barod i'w wneud i atgoffa fy hun am drafferthion cymaint o bobl ledled y byd.

Mae Tearfund yn elusen wych ac mae wedi gweithio'n galed i hyrwyddo'r Mean Bean Challenge. Hoffwn ddiolch hefyd i Rob a staff arlwyo Charlton House sydd wedi cefnogi hyn, ac rwy'n annog pob un ohonoch i gymryd rhan.

15:35

Mae Hugo Thompson, Monty Williams, John Morgan a Joel Wood, i gyd o Gaerllion, wedi llwyddo i gwblhau cwrs rhwyfo anoddaf y byd—y Talisker Whisky Atlantic Challenge. Maent wedi rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws môr yr Iwerydd i godi ymwybyddiaeth ar ran Diabetes UK.

Penderfynasant gychwyn ar y daith uchelgeisiol hon ar ôl i Hugo gael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 2015. Roedd Hugo yn benderfynol o brofi na fyddai'n ei ddal yn ôl, a ffurfiodd y cyfeillion Team Oarstruck. Gan ddechrau ar yr Ynysoedd Dedwydd ar 14 Rhagfyr, wynebodd Team Oarstruck amodau tywydd eithafol, salwch môr a blinder llethol. Cymerodd 55 diwrnod, dwy awr a 23 munud, ond ar 7 Chwefror, cyrhaeddasant ben eu taith yn Antigua.

Mae hon yn gamp anhygoel. Mae llai o bobl wedi rhwyfo ar draws môr yr Iwerydd na sydd wedi bod i'r gofod. Mae eu taith wedi cael ei gofnodi yn llyfrau record y byd gan mai Hugo yw'r person cyntaf â diabetes i gwblhau'r daith. Maent wedi codi dros £9,000 ac wedi cael cefnogaeth helaeth.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, a'u Haelod Cynulliad lleol, rwy'n hynod falch o Team Oarstruck. Rydym yn gobeithio eu croesawu i'r Senedd ym mis Mehefin i glywed mwy am eu cyflawniad arwyddocaol. Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol. Nid yw bron un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o ddiabetes math 1 hyd nes eu bod yn sâl iawn. Y symptomau cyffredin yw: mynd i'r toiled yn aml, syched, blinder, colli pwysau.

Mae Team Oarstruck wedi datblygu o fod yn rhwyfwyr amatur gyda syniad mawr i fod yn rhwyfwyr sydd wedi torri record byd. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad i'r achos yn ysbrydoliaeth.

5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Simon Thomas.

Cynnig NDM6696 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.83:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Bil yn fanwl ar Gyfnod 1. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at yr amrywiol ymgynghoriadau a thrafodaethau yr ydym wedi'u cael tra'n drafftio a datblygu'r Bil. 

Cyn imi symud ymlaen i siarad ar yr argymhellion yn yr adroddiad, credaf ei bod yn bwysig atgoffa'r Aelodau pam fod y Pwyllgor Cyllid o'r farn bod angen y Bil hwn. Mae angen i'r cyhoedd yng Nghymru gael hyder yn yr ombwdsmon i archwilio pan fydd unigolion yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi trwy gamweinyddu neu drwy gyflenwi gwasanaethau. Mae'n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon yn cael ei rymuso i sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Mae'r Bil yn ymestyn pwerau'r ombwdsmon mewn pedwar prif faes. Credwn fod y gallu i ymgymryd â phwerau ar ei liwt ei hunan yn bwysig, ac mae ganddo botensial i sicrhau manteision sylweddol. Bydd caniatáu i'r ombwdsman dderbyn pob cwyn ar lafar yn gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Bydd ymchwiliad i faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd preifat yn galluogi'r ombwdsmon i archwilio cwyn gyfan, gan ddilyn y dinesydd ac nid y sector. Ac, yn olaf, gallai gweithdrefnau trin cwynion arwain at well gwasanaeth i unigolion a chael y cwmpas i wella gwasanaethau o ganlyniad i ddysgu o arfer da.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gwneud 19 o argymhellion a gallaf dderbyn pob un namyn un o'r rhain. Rwy'n falch o weld bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw y prynhawn yma. Wrth ymateb i'r adroddiad, byddaf yn ymdrin â'r prif themâu sydd yn deillio ohono.

Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 10, sy'n gofyn bod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol yn cael eu cyhoeddi cyn Cyfnod 2, gan ystyried argymhellion y pwyllgor. Dyma'r unig argymhelliad nad wyf yn medru ei dderbyn. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn darparu mecanwaith ar gyfer diwygio'r memorandwm esboniadol ar ôl trafodion Cyfnod 2 ac mae hyn wedi dod yn arfer safonol. Pe bai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach, byddwn yn falch iawn o gyhoeddi memorandwm esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, gan ystyried unrhyw newidiadau a wnaed i'r Bil. Am y rheswm hwn, nid wyf yn teimlo y byddai'n briodol i dderbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ystyried a oes tystiolaeth fwy cadarn nawr ar gael ac i asesu a oes angen newidiadau i'r amcangyfrifon cost yn sgil hynny, a byddaf yn rhoi diweddariadau ysgrifenedig i'r pwyllgor wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Yn ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymgynghoriad y pwyllgor ar y Bil, cododd nifer o bryderon ynghylch ei swyddogaethau. Mae argymhellion 7, 8, 9 a 18 yn ymdrin â'r rhain ac rwy'n hapus i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r Bil i ymdrin â'r pryderon hyn. Bydd y rhain yn sicrhau cyfrinachedd gwybodaeth ac amddiffyn yr archwilydd rhag hawliadau difenwi. Mae’r Bil yn ailadrodd y gofyniad cyffredinol i’r archwilydd osod copi ardystiedig o gyfrifon yr ombwdsmon o flaen y Cynulliad o fewn pedwar mis. Bydd angen ystyried y cais i newid hwn, yn argymhelliad 9, yng nghyd-destun gwaith ehangach y pwyllgor ar y gofyniad hwn.

Nid yw'r ombwdsmon yn dod o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae gennym ombwdsmon dwyieithog sy'n gweithredu swyddfa gydag ethos dwyieithog, ond mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau i'r dyfodol. Felly, yr wyf yn derbyn argymhelliad 6 a byddaf, mewn ymgynghoriad ag eraill, megis Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn ystyried sut y gellir cyflawni hyn orau.

Mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â diweddaru’r asesiad effaith rheoleiddiol. Dyma argymhellion 11 i 17 ac argymhelliad 19. Yr wyf yn fodlon derbyn yr holl argymhellion hyn. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol wrth y pwyllgor fy mod yn croesawu ei benderfyniad i gomisiynu cynghorydd arbenigol i adrodd ar oblygiadau ariannol y Bil. Rwy'n falch o nodi fod yr ymgynghorydd arbenigol hwn yn gefnogol i ymestyn pwerau'r ombwdsmon yn y pedwar prif faes. Yn y bôn, mae’r argymhellion hyn yn delio â'r costau posib yn deillio o’r Bil gan argymell bod mwy o waith yn cael ei wneud i ddangos amrediad y costau hynny.

Er enghraifft, o ran argymhellion 11 a 12, mae’r ffigurau a gynhwysir yn yr asesiad yn adlewyrchu tystiolaeth a dderbyniwyd gan yr ombwdsmon ar gostau. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ailystyried lefelau'r amcangyfrifon hyn a diwygio'r asesiad os oes angen. Rwy'n credu ei fod yn werth nodi y byddai unrhyw newidiadau yn y cyd-destun hwn yn lleihau costau cyffredinol y Bil.

Mae argymhellion 14 a 15 yn ymwneud â chostau sy'n gysylltiedig â chwynion llafar. Rwy'n credu bod gwerth mewn nodi fod gan yr ombwdsmon ddisgresiwn ar hyn o bryd i dderbyn cwynion llafar o dan y Ddeddf bresennol, Deddf 2005. Felly, ni fydd pob cwyn llafar yn arwain at faich gwaith ychwanegol i'r ombwdsmon, ond rwy’n barod i ystyried dadansoddiad pellach ar 40 y cant o gwynion yn cael eu gwneud ar lafar.

Mae argymhelliad 17 yn ymwneud â rhan bwysig y Bil sy’n delio ag ymchwilio i ddarpariaeth llwybr gofal cyhoeddus a phreifat ar y cyd. Byddaf yn ymgynghori yn bellach yn y maes hwn i geisio am fwy o fanylion.

Rwyf hefyd yn hapus i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn y pen draw yn cydymffurfio â'r canllawiau yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi, sef argymhelliad 19.

Nid yw’n fwriad yn y Bil i darfu ar draws rhwymedigaethau statudol eraill. Mae argymhellion 2, 3 a 5 yn dangos bod aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn pryderu, o bryd i'w gilydd, am y perygl posibl o ran dyblygu gwaith rhwng yr ombwdsmon a gwahanol reoleiddwyr. Rwy'n gobeithio y llwyddais i roi sicrwydd i'r pwyllgor am y gwahaniaeth rhwng rôl yr ombwdsman a rheoleiddwyr eraill, ac, er y gallant edrych ar yr un ystod eang o faterion, maent yn edrych arnynt o ddau safbwynt hollol wahanol. Mae'r trefniadau o fewn y Bil yn adlewyrchu'r rhai sydd ar hyn o bryd yn Neddf 2005, ac yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, i alluogi mwy o gydweithio. Serch hynny, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 2, 3 a 5 i sicrhau cydweithio da, cadw cofnodion priodol a rhoi ystyriaeth ddyledus i rwymedigaethau eraill sy'n deillio o'r gyfraith.

Hoffwn i sôn yn gryno am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a diolch i aelodau'r pwyllgor hwnnw am ystyried y Bil. Rwyf yn falch iawn bod y pwyllgor wedi cymeradwyo'r dull yr ydym wedi'i ddefnyddio gyda'r Bil hwn wrth gynhyrchu darn cyfunol o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn ddwyieithog. Cofiwch fod Deddf wreiddiol 2005 yn Ddeddf Tŷ'r Cyffredin ac ar gael yn Saesneg yn unig. Rydw i hefyd yn falch bod y pwyllgor yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r cydbwysedd hwn wedi dod o Ddeddf 2005, ac wedi'i seilio ar yr ymgynghoriad ar gyfer y Bil drafft. Mae'r rhannau o'r Ddeddf wreiddiol sydd eisoes mewn grym wedi bod yn effeithiol ac wedi gweithio'n dda dros y 13 mlynedd diwethaf.

Yr wyf yn fodlon derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor materion cyfansoddiadol, yn amodol, wrth gwrs, ar y trafodaethau angenrheidiol gyda Llywodraeth Cymru, gan fod y ddarpariaeth hon yn ymwneud â phwerau posib Gweinidogion Cymru o dan y Bil.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed beth sydd gan y Plenary i'w ddweud ar y Bil ac ar yr adroddiadau, ac, wrth gwrs, ymateb i'r ddadl maes o law. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:45

Diolch. A gaf fi galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac i amlinellu ein canfyddiadau o'r gwaith craffu a wnaethom ar y Bil. Gan fod y Bil wedi cael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Cyllid, rydym hefyd wedi cyflawni'r gwaith craffu ariannol ochr yn ochr â'n gwaith craffu cyffredinol. Buaswn yn hoffi diolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith craffu hwnnw, y rheini a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar, ac yn benodol, aelodau o'r cyhoedd a ymatebodd i'r ymgynghoriad ysgrifenedig neu a gwblhaodd ein harolwg ar-lein.

Roedd ein gwaith craffu yn canolbwyntio ar y darpariaethau o fewn y Bil lle yr argymhellir y newidiadau mwyaf sylweddol i bwerau'r ombwdsmon, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol wrth gyflwyno'r ddadl hon: felly, galluogi'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, darparu mwy o hyblygrwydd o ran sut y gellir gwneud cwynion, caniatáu i gwynion sy'n cynnwys elfen gofal iechyd preifat a chyhoeddus gael eu harchwilio, a rhoi pwerau i'r ombwdsmon bennu gweithdrefnau cwyno enghreifftiol ar gyfer awdurdodau rhestredig. Roedd ein gwaith craffu hefyd yn cyfeirio at elfennau eraill o'r Bil, gan gynnwys gofynion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

Rydym wedi gwneud cyfanswm o 19 argymhelliad, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar elfennau o'r asesiad effaith rheoleiddiol, ac rwy'n croesawu'r ohebiaeth gan yr Aelod sy'n gyfrifol a'r sylwadau a wnaed yn gynharach mewn perthynas â derbyn 18 o'r argymhellion hynny.

Ddirprwy Lywydd, roedd cefnogaeth glir ac eang i'r Bil hwn, er nad oedd yn unfrydol. Clywsom rai pryderon gan randdeiliaid. Er eu bod yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol, codwyd materion a oedd yn ymwneud â gweithredu rhai o'r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth. Roedd y materion hyn yn cynnwys creu cymhlethdod ychwanegol mewn fframwaith rheoleiddio sydd eisoes yn orlawn, a'r effaith ariannol ar awdurdodau cyhoeddus, sydd eisoes, wrth gwrs, yn ymdopi â hinsawdd ariannol anodd. Ond er gwaethaf y pryderon hyn, roedd y dystiolaeth a gawsom yn cefnogi'r honiadau a wnaed yn y memorandwm esboniadol, a chan yr Aelod sy'n gyfrifol, y bydd y Bil yn gwella cyfiawnder cymdeithasol, yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, ac yn ysgogi gwelliannau yn y broses o ymdrin â chwynion, ac yn fwy cyffredinol, gwasanaethau cyhoeddus. Roeddem felly'n hapus i argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Symudaf ymlaen yn awr at rai o'r darpariaethau penodol, gan ddechrau gydag adrannau 4 a 5. Mae'r adrannau hyn yn darparu pwerau i'r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb fod angen i aelod o'r cyhoedd wneud cwyn.     

Clywsom gan yr Aelod sy'n gyfrifol, yr ombwdsmon cyfredol, a'i gymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, fod hwn yn arf hollbwysig ym mhecyn cymorth yr ombwdsmon. Mae hefyd yn un sydd ar gael i'r rhan fwyaf o'u cymheiriaid ledled y byd. Nodasom y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynglŷn â chreu cymhlethdod ychwanegol yn y fframwaith rheoleiddio hwnnw sydd eisoes yn orlawn, ond ymatebodd yr Aelod sy'n gyfrifol i'r pryderon hyn drwy ein hatgoffa o'r gwahaniaeth rhwng rolau a dulliau rheoleiddwyr ac ombwdsmon. Yr ombwdsmon sy'n mynd i'r afael â phryderon o safbwynt y dinesydd, ac roeddem yn ystyried bod honno'n ddadl gref. Rydym yn cefnogi'r cynnig hwn, felly, i ymestyn pwerau'r ombwdsmon. Un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn, sef rhoi dyletswydd ychwanegol ar yr ombwdsmon i ymgynghori â rheoleiddwyr cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ac rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gan symud ymlaen at y darpariaethau ar gyfer gwneud ac atgyfeirio cwynion at yr ombwdsmon, mae'r Bil yn ceisio cael gwared ar y cyfyngiadau ar sut y gellir gwneud neu atgyfeirio cwynion. Ar hyn o bryd, ni ellir ond gwneud cwynion llafar yn ôl disgresiwn yr ombwdsmon. Clywsom dystiolaeth glir y gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i'r rhai mwyaf agored i niwed gael mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon. Er ein bod wedi canolbwyntio ar gwynion llafar, rydym wedi nodi y bydd darpariaethau'r Bil yn galluogi'r ombwdsmon i addasu yn y dyfodol a derbyn cwynion ar unrhyw ffurf y maent yn ei ystyried yn briodol. Mae hyn yn helpu i ddiogelu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol a bydd yn caniatáu i'r ombwdsmon addasu i unrhyw newidiadau technolegol. Rydym yn credu y bydd y darpariaethau hyn yn gwella mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon, ac felly un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn. Mae argymhelliad 3 yn galw am welliannau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion, nid cwynion ar lafar yn unig, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi galw ar yr ombwdsmon i fyfyrio ar y dystiolaeth a gawsom wrth ddatblygu unrhyw ganllawiau. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yna fater yn codi, a byddwn, yn ystod ein gwaith craffu parhaus ar yr ombwdsmon, yn monitro cynnydd mewn perthynas â'r materion hyn.

Ddirprwy Lywydd, mae adran 4 o'r Bil yn cyflwyno pwerau i'r ombwdsmon i bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Roedd hon yn un o'r elfennau yn y Bil a ysgogodd fwyaf o drafodaeth gan randdeiliaid. Yn benodol, clywsom bryderon ynglŷn â sut y byddai gweithdrefnau enghreifftiol a bennwyd gan yr ombwdsmon yn rhyngweithio â'r gweithdrefnau ymdrin â chwynion sy'n bodoli'n barod. Roedd llawer o'r drafodaeth hon yn canolbwyntio ar y rheoliadau 'Gweithio i Wella' o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd pryderon na fyddai'r diffiniad o ddeddfiadau o fewn y Bil yn cynnwys y rheoliadau hyn, ac er ein bod wedi nodi'r holl bryderon hyn, rydym yn credu ei bod yn gwbl briodol i'r ombwdsmon chwarae rhan yn y broses o bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Rydym yn credu y bydd hyn yn helpu i arwain at welliannau yn y broses o ymdrin â chwynion, a gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus, gobeithio. Cawsom ein calonogi gan yr enghraifft yn yr Alban, lle mae pwerau tebyg wedi cael eu rhoi i ombwdsmon yr Alban. Fodd bynnag, rydym yn credu y gellid cael mwy o eglurder mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon yn ystyried canllawiau anstatudol sydd eisoes yn bodoli, megis 'Gweithio i Wella', wrth lunio a gorfodi gweithdrefnau cwyno enghreifftiol. Felly, gwnaethom argymhelliad 5, sef bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno i ddarparu'r eglurder pellach hwn, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gan symud ymlaen at ddarpariaethau sy'n gosod dyletswydd ar yr ombwdsmon i lunio strategaeth iaith Gymraeg, rydym yn croesawu camau i gryfhau'r gofynion hyn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y Bil yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn credu bod gormod yn cael ei adael i ddisgresiwn yr ombwdsmon ac y dylai'r ombwdsmon lynu wrth egwyddorion safonau iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod na fyddai'n briodol i'r ombwdsmon gael ei gynnwys yn uniongyrchol yn y safonau, ond credwn y dylai, mewn egwyddor, ddarparu gwasanaethau dwyieithog cymaradwy i'r gwasanaethau cyhoeddus o fewn ei gylch gwaith, ac unwaith eto, rwy'n falch o nodi'r ymrwymiad a wnaed gan yr Aelod sy'n gyfrifol i ailedrych ar y darpariaethau hyn, ac y caiff ei wneud mewn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ac eraill.

Un mater y canolbwyntiwyd arno, Ddirprwy Lywydd, oedd craffu ariannol, ac fe wnaethom benodi cynghorydd arbenigol, Dr Gavin McBurnie, fel y soniwyd yn gynharach. Mae'r rhan fwyaf o'n hargymhellion yn canolbwyntio ar y goblygiadau ariannol hynny. Braf oedd clywed yr ombwdsmon a'r Aelod sy'n gyfrifol yn gwneud ymrwymiadau clir na fyddai'r ombwdsmon yn ceisio sicrhau unrhyw gynnydd yn y gyllideb sy'n uwch na 0.03 y cant o wariant grant bloc Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ceisio rhagor o wybodaeth am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r costau anuniongyrchol ac yn benodol, costau'r awdurdodau rhestredig sy'n rhan o gylch gwaith yr ombwdsmon.

Nid ydym yn credu bod yr argymhellion a wnaethom er mwyn ceisio mwy o eglurder yn afresymol, ac unwaith eto, croesawaf y ffaith fod yr Aelod wedi derbyn pob un ond un ohonynt.

Gwn fod amser—

15:55

—yn brin, Ddirprwy Lywydd, felly efallai y gallaf symud ymlaen a dweud, i gloi, ein bod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn. Mae ein hargymhellion wedi'u nodi. Cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod sy'n gyfrifol.

I gloi, Lywydd, rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cyflawni ei fwriadau polisi, a charem alw ar y Cynulliad i gefnogi'r egwyddorion cyffredinol.

Diolch. A gaf fi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed ein bod wedi adrodd ar y Bil hwn ar 9 Mawrth ac un argymhelliad yn unig a wnaethom i'r Aelod sy'n gyfrifol, ac o ganlyniad, bydd fy nghyfraniad yn gymharol fyr.

Mewn perthynas â'r angen am y Bil, rydym yn croesawu'r dull a fabwysiadwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol wrth ddarparu Bil sy'n ddarn cyfunol o ddeddfwriaeth, ac rydym yn credu ei fod yn cynrychioli'r dull arfer gorau roedd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn ei hyrwyddo yn ei adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru'. Bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth bwysig yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. Ni ddylid tanbrisio manteision hyn i ddinasyddion Cymru.

Fel rydym yn ei wneud wrth graffu ar bob Bil, rhoesom ystyriaeth i'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a gaiff ei adael i is-ddeddfwriaeth. Rydym yn fodlon ar y Bil yn hyn o beth. Mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon a Chomisiynydd Plant Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, rydym yn cytuno â'r Aelod sy'n gyfrifol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y dylid nodi'r manylion ar wyneb y Bil. Hyderwn y bydd yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol.

Gan droi yn awr at bwerau Harri VIII, rydym ni a'r pwyllgor a'n rhagflaenodd wedi craffu'n drylwyr ac yn rheolaidd ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Er bod nifer sylweddol o bwerau o'r fath yn cael eu defnyddio y Bil hwn, nodwn eu bod yn gul o ran eu cwmpas. Nodwn ymhellach fod chwech o'r naw pŵer Harri VIII yn ymwneud ag ymgynghori. Am y rheswm hwnnw, rydym yn fodlon â'u defnydd yn y Bil hwn. Fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am graffu ar is-ddeddfwriaeth, byddwn yn gallu monitro defnydd Gweinidogion Cymru o'r pwerau hyn yn ofalus, os caiff y Bil ei basio.

Mae fy sylwadau terfynol yn ymwneud ag adran 78 o'r Bil. Mae adran 78(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud

'(a) darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig neu atodol, a

'(b) darpariaethau darfodol, trosiannol, neu arbed,

'sydd yn eu barn hwy yn angenrheidiol neu’n hwylus'.

Rydym wedi bod o’r farn yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio dull mwy penodol yn hytrach na’r pwerau mwyaf eang sydd ar gael iddi. Ni ddylai’r pwyllgor hwn fod yn eithriad. Rydym yn pryderu'n arbennig mewn perthynas â'r geiriau 'angenrheidiol neu'n hwylus'. Yn ein barn ni, byddai'r gair 'angenrheidiol' yn ddigon. Mae ein hunig argymhelliad yn awgrymu bod yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' yn adran 78(1).

Nawr, diolch i'r Aelod am ei ymateb ffurfiol i'n hadroddiad a'r sylwadau y mae newydd eu gwneud. Nodaf ei fod yn credu y bydd y pŵer i wneud darpariaeth sy'n angenrheidiol o dan adran 78 yn ddigon ac am y rheswm hwnnw, gellid dileu 'hwylus'. O ganlyniad, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i ddwyn y mater hwn i sylw Gweinidogion Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyflwyno gwelliant i egluro bod y pŵer yn adran 78 yn ymestyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Pe bai gwelliant yn cael ei gyflwyno, ein barn ni, wrth gwrs, yw y dylai, fel pŵer Harri VIII, fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gofnodi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth pwysig y mae'r ombwdsmon yn ei ddarparu yng Nghymru? Mae swyddfa'r ombwdsmon yn darparu modd o helpu'r bobl nad ydynt wedi derbyn y lefel o wasanaeth y mae ganddynt hawl i'w disgwyl gan y sector cyhoeddus. Felly, rydym yn edrych yn gadarnhaol ar y mesurau a fyddai'n helpu'r ombwdsmon i gyflawni'r rôl hanfodol hon. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu ar y Bil ac am eu hadroddiadau dilynol, ac i'w Cadeiryddion am eu cyfraniad i'r ddadl hon.

Nid Bil y Llywodraeth yw'r Bil hwn wrth gwrs. Cafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad gan y Pwyllgor Cyllid, a mater i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yw bwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i nodi safbwynt y Llywodraeth, yn enwedig yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae'r Bil yn cynnig pwerau newydd i'r ombwdsmon mewn pedwar maes gwahanol, a byddaf yn rhoi sylw i bob un yn ei dro.

Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig y dylai'r ombwdsmon allu derbyn cwynion ar lafar. Rydym hefyd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel y nododd John Griffiths, y dylai'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion a dderbyniwyd. Mae gan hyn botensial i gynhyrchu gwybodaeth fwy gwerthfawr am ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cefnogi'r argymhelliad ynglŷn â phŵer i archwilio darparwyr gofal iechyd preifat pan fydd cwyn yn berthnasol i'r GIG a gofal iechyd preifat. Unwaith eto, rydym yn cytuno ag argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai'r Pwyllgor Cyllid wneud mwy o waith i wella asesiad effaith rheoleiddiol y Bil, yn enwedig o ran y costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Nid oes unrhyw waith costio wedi'i wneud ar yr adran hon yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil ar hyn o bryd.

Trof yn awr at yr argymhelliad i alluogi'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae'r Llywodraeth wedi dilyn y dystiolaeth yn ofalus mewn perthynas â'r adran hon o'r Bil, ac mae'n derbyn y ddadl y bydd yr ombwdsmon mewn sefyllfa i ymateb i themâu a materion a ddaw'n amlwg ar draws y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn rhannu rhai o'r pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai'r ombwdsmon ddyblygu gwaith ymchwilio sydd eisoes ar y gweill gan reoleiddwyr ac arolygwyr eraill. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell y dylid cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr a chomisiynwyr eraill cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Rydym yn cefnogi hyn gan y byddai'n helpu i leihau'r risg o orgyffwrdd, dryswch a dyblygu.

Ddirprwy Lywydd, trof yn awr at argymhelliad olaf y Bil: y pŵer i'r ombwdsmon bennu safonau cwynion cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae'r Llywodraeth wedi edrych yn ofalus ar y dystiolaeth a roddwyd yn ystod proses Cyfnod 1, gan gynnwys dadansoddiad o'r asesiad effaith rheoleiddiol gan arbenigwr annibynnol mewn perthynas â safonau cwynion cyffredin. Mae gennym bryderon, a adlewyrchwyd gennym yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor, ynglŷn ag a allai'r pŵer i bennu safonau cwynion cyffredin dorri ar draws gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, gyda llawer ohonynt yn weithdrefnau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi cytuno arnynt ac wedi eu pasio. Rydym yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol i'r ombwdsmon gyhoeddi egwyddorion a gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i ddarparu cysondeb ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Ond ni ddylai'r rhain danseilio gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, megis 'Gweithio i Wella', y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl hon. Gallai hyn greu ansicrwydd i sefydliadau unigol ac i'r ombwdsmon ac achwynwyr. Gallem gefnogi'r rhan hon o'r Bil pe bai'r Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y prosesau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod yn cael eu parchu. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn hyn yn ei ymateb i adroddiad y pwyllgor.

Ddirprwy Lywydd, mae gan Lywodraeth Cymru rai pryderon hefyd ynglŷn ag adran 71 o'r Bil, sydd, fel y clywsom, yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon fod â strategaeth iaith Gymraeg. Codwyd hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y broses graffu. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi dweud bod angen cryfhau'r adran hon o'r Bil, a byddem yn hapus iawn i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol i gyflwyno gwelliant a fydd yn sicrhau bod yr ombwdsmon yn ddarostyngedig i ofynion safonau iaith Gymraeg. Wedi dweud hynny, bydd y Llywodraeth yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) heddiw.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y camau nesaf a datblygiad y Bil. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi nodi argymhelliad clir iawn yn ei adroddiad y dylid gwneud gwaith pellach ar gostau ariannol y Bil a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Fel y cânt eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac fel y nododd yr Aelod sy'n gyfrifol yn ei araith agoriadol, ceir nifer o fylchau yn y costau a nifer o feysydd lle mae angen datblygu'r dystiolaeth ariannol, gan gynnwys trylwyredd costau rhedeg yr ombwdsmon a'r costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Hyd nes y caiff y gwaith hwn ei wneud, ni fydd y Llywodraeth yn cyflwyno penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Bydd hyn yn rhoi amser i'r Pwyllgor Cyllid roi ystyriaeth bellach i'r asesiad effaith rheoleiddiol ac i ymgymryd â'r gwaith yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Bydd unrhyw gostau ychwanegol am ddarparu pwerau ychwanegol i'r ombwdsmon yn cael eu talu o gronfa gyfunol Cymru. A dweud y gwir yn blaen, bydd gwario mwy o arian ar yr ombwdsmon yn golygu llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen mewn cyfnod o gyni parhaus. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cael dadansoddiad trylwyr o'r costau.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi cyfarfod â'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ac wedi rhannu dadansoddiad cyfreithiol o'r Bil sy'n nodi nifer o feysydd lle mae angen gwneud newidiadau i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir, os caiff ei weithredu, er mwyn cyflawni'r bwriad polisi a nodwyd. Dylwn bwysleisio bod y rhain yn ofynion hanfodol ar gyfer effeithiolrwydd, yn hytrach na gwelliannau ac ychwanegiadau dewisol. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol wrth i'r Bil fynd rhagddo er mwyn datrys y materion a amlygwyd.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r mater hwn eto heddiw ac yn sicr, fel aelod o'r pwyllgor, byddaf yn ei gefnogi, a byddwn yn ei gefnogi, wrth iddo basio Cyfnod 1 yn y Siambr hon.

Mae galwadau wedi bod i gynyddu pwerau'r ombwdsmon ers 2013, ac rydym yn teimlo ei bod yn hollbwysig fod rôl yr ombwdsmon yn cael ei thrawsnewid. Ni ddylai neb sy'n defnyddio unrhyw un o'n gwasanaethau cyhoeddus deimlo cywilydd eu bod wedi gorfod gwneud cwyn os ydynt yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny. A phan aiff pethau o chwith, mae'n rhaid i bawb ohonom allu craffu ar y camgymeriadau ac unioni pethau. Rydym wedi gweld bod cyrff cyhoeddus Cymru yn wynebu cynnydd yn nifer y cwynion: iechyd, 38 y cant; gwasanaethau cymdeithasol, 9 y cant.

Mae ychydig o achosion rwyf wedi eu cyflwyno i'r ombwdsmon fy hun fel Aelod Cynulliad wedi tynnu sylw at yr angen gwirioneddol am ymchwilio a chraffu effeithiol pan fo pethau wedi mynd o chwith, neu lle mae pobl wedi disgyn drwy'r rhwyd, yn enwedig o fewn y gwasanaeth iechyd—mae'n rhaid i mi ddweud, lle y gall esgeulustod o'r fath fod yn fater o fywyd neu farwolaeth mewn gwirionedd. Mewn achosion o'r fath, lle nad yw'n bosibl troi'r cloc yn ôl, mae sicrwydd na fydd unrhyw deulu arall yn gorfod mynd drwy'r un dioddefaint yn aml yn rhywfaint o gysur ynddo'i hun. Ac mae nifer y teuluoedd rwyf wedi siarad â hwy—yn wir, mae proses yr ombwdsmon yn helpu i gadw cydbwysedd, mewn gwirionedd, pan fydd pethau wedi mynd o chwith.

Mae bwriadau polisi cyffredinol y Bil o ran diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed a gwella cyfiawnder cymdeithasol yn rhai y credaf y byddai pob un ohonom yn eu cefnogi yn y Siambr hon. Byddai cael gwared ar y gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig, er enghraifft, yn galluogi'r rheini nad ydynt yn gallu ysgrifennu i leisio eu pryderon. Ac roedd yn peri cryn ofid, mewn gwirionedd, pan oeddem yn sôn am ganran y bobl sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd gwael iawn yng Nghymru—hwy yw'r sector anghofiedig yma, a bydd y cymorth hwn yn cynnwys y rheini. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi'r cynnig i gryfhau pwerau'r ombwdsmon.

Rydym yn croesawu'r cynigion hir ddisgwyliedig o fewn y Bil i alluogi'r ombwdsmon i ymgymryd ag ymchwiliadau ar ei liwt ei hun lle y ceir materion thematig. Ombwdsmyn pump o aelodau Cyngor Ewrop yn unig sydd heb y pŵer hwn, felly mae'n hen bryd i Gymru ddal i fyny â gweddill y DU ac Ewrop. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi safbwynt llugoer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pŵer hwnnw, ond o fewn y paramedrau cywir, credaf fod pŵer o'r fath yn hanfodol er mwyn gwella'r broses o ddiogelu ac amddiffyn aelodau mwy agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae ganddo'r potensial i chwarae rôl ataliol sylweddol hefyd. Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r pwyllgor, roedd rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn cefnogi'r pwerau hyn ac yn gefnogol i fwrw ymlaen â'r rhannau cadarnhaol, ar ôl clywed bod pwerau ymchwilio ar eu liwt eu hunain yn gyffredin ledled Ewrop. Felly, mae yna gorff o arferion da y bydd y Bil hwn yn datblygu ohono mewn cyfnodau diweddarach.

Rydym hefyd yn croesawu'r pwerau arfaethedig i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â'r sector iechyd preifat, a fydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r canlyniadau y bydd yr ombwdsmon yn gallu eu sicrhau. Ond yn amlwg, mae angen i mi egluro mai'r sector preifat o fewn y llinell ofal yw hwnnw pan fo'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn ogystal. Mae yna stori ofnadwy am aelod o'r cyhoedd a oedd yn gorfod aros pum mlynedd a hanner am ymateb i gŵyn am driniaeth breifat a gafodd ei diweddar ŵr.

Yn olaf hefyd, croesewir pwerau arfaethedig i sefydlu gweithdrefn unffurf i ymdrin â chwynion ar draws y sector cyhoeddus ac i weithio ar y cyd â chomisiynwyr eraill, cynghorwyr statudol, rheoleiddwyr ac Archwilydd Cyffredinol Cymru i geisio ysgogi gwelliannau yn y modd yr ymdrinnir â chwynion gwasanaethau cyhoeddus ac ymatebion i'r dinesydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod pryderon o fewn y pwyllgor mewn perthynas â 'Gweithio i Wella' a'r canllawiau cwyno statudol o ran gweithdrefnau cwyno ar hyn o bryd, oherwydd credaf fod yna deimlad ar draws y sector bod angen gweithdrefn gwyno gyson a chadarn iawn yma yng Nghymru yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, mae gan yr ombwdsmon dueddiad i beidio â chymryd rhan tan y bydd bobl wedi ceisio gwneud cwyn drwy'r broses gwyno, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, yn fy mhrofiad fy hun o weithio ar nifer o achosion ar ran fy etholwyr, nid yw 'Gweithio i Wella' yn gwella pethau bob amser.

Mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion mewn perthynas â diwygiadau amrywiol i'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i hwn gael ei ystyried yng Nghyfnod 2. Wrth gwrs, mae ein cefnogaeth i fwrw ymlaen â'r Bil yn amodol ar hyn. Rwy'n falch o nodi bod 18 o'n 19 argymhelliad wedi cael eu derbyn, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried yn y Siambr hon, nid yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn wedi cael ei gyflwyno eto, er gwaethaf ymateb yr Aelod sy'n gyfrifol i adroddiad y pwyllgor ddoe. Buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro heddiw beth yw'r rheswm am yr oedi, ac yn cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r penderfyniad ariannol o fewn yr amser gofynnol. Mae llawer o waith wedi'i wneud ar hyn, ac nid ydym eisiau iddo fethu oherwydd hyn.

16:10

Ydw. Os nad yw hwn yn pasio, ni fydd y pwyllgor yn gallu dechrau ar broses graffu Cyfnod 2, a gallai'r Bil aros mewn rhyw fath o limbo. Beth bynnag, edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth hon yn y dyfodol. Diolch.

Rwy'n cefnogi'r Bil ombwdsmon arfaethedig. Rwy'n falch mai argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yw cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, neu byddai'r ddadl hon wedi dod i ben yn llawer cynt nag y bydd mewn gwirionedd. Rwyf hefyd yn cytuno â Mark Drakeford y gellir gwella pob deddfwriaeth a gyflwynir yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bawb ohonom ei ystyried o bosibl. A gaf fi hefyd ddiolch i Simon Thomas am arwain ar y Bil drwy gydol y Cynulliad hwn? Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i Jocelyn Davies, a gadeiriodd y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf a chynhyrchu'r sail ar gyfer y Bil hwn.

Hoffwn ganolbwyntio ar dri phrif bwynt heddiw. Mae'r gallu i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, sydd ar gael i sawl ombwdsmon arall, yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig gwirio a chydbwyso er mwyn sicrhau nad yw hyn yn cael ei gamddefnyddio. Mae awgrymu y dylai'r ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr a chomisiynwyr eraill cyn gwneud hynny yn un pwysig. Hefyd, os yw'r Cynulliad yn rheoli cyllideb yr ombwdsmon, ac os yw'r Cynulliad yn credu nad yw ymchwiliadau ar ei liwt ei hun yn cynnig gwerth am arian, yna gall wrthod darparu cyllid ar eu cyfer yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n allweddol. Y peth arall yw, heb ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, os oes gennych saith o gartrefi nyrsio sy'n eiddo i un cwmni, a'n bod wedi cael cwynion o bedwar ohonynt, ni allwch ymweld ag unrhyw un o'r tri arall sy'n eiddo i'r un cwmni, sy'n debygol o fod â'r un problemau, oherwydd nid ydych wedi cael cwyn amdanynt. Y perygl yw y bydd yr arferion gwael yn y pedwar cyntaf yn cael eu cyflawni yn y tri arall ac ni fyddwch yn gallu ymchwilio.

Un o'r cynigion allweddol yw bod cwynion yn cael eu derbyn ar lafar. Rydym ni fel Aelodau yn derbyn cwynion ar lafar yn rheolaidd. Mae nifer o bobl yn llawer hapusach yn siarad â ni ac yn gwneud cwynion ar lafar nag y maent yn eu gwneud yn ysgrifenedig, boed yn e-bost neu'n llythyr. Nid ydynt yn teimlo'n hyderus i ysgrifennu. Bydd caniatáu i'r ombwdsmon dderbyn cwynion ar lafar yn caniatáu i bobl nad ydynt yn cwyno ar hyn o bryd i wneud hynny. Mae gallu'r ombwdsmon i dderbyn cwynion ar lafar yn cydymffurfio â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, a elwir gyda'i gilydd yn 'Gweithio i Wella'. Felly, nid ydym eisiau sefyllfa lle y gallwch fynd at y GIG, lle rydych yn dilyn gweithdrefn gwyno'r GIG i'r pen, ac yna pan fyddwch eisiau mynd at yr ombwdsmon, ni allwch gwyno ar lafar, mae'n rhaid i chi ei gwyno'n ysgrifenedig. Bydd hynny'n atal nifer o bobl. Bydd y bobl hynny'n llai addysgedig, yn llai abl i ddilyn y broses, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn yr ystafell hon yn dymuno i hynny ddigwydd. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y bobl nad ydynt yn hapus yn cyflwyno eu cwynion yn ysgrifenedig yn gallu eu cyflwyno ar lafar.

Rwy'n cytuno y dylai'r ombwdsmon gael pŵer i ymchwilio i driniaethau meddygol preifat. Rydym wedi cael achosion lle mae pobl wedi mynd at y GIG, wedi mynd yn ôl at ofal iechyd preifat, wedi mynd at y GIG unwaith eto, ac mae ganddynt broblem. Mae'r ombwdsmon yn gallu ymdrin â'r ddau ymweliad â'r GIG, ond nid yw'n gallu ymdrin â'r darn yn y canol sydd wedi cael ei wneud yn breifat. Mae honno'n broblem bendant, ac mae'n un y mae'r ombwdsmon ei hun yn ei chydnabod. Ni all fod yn siŵr ar ba gam a lle y digwyddodd y broblem. Mae'n cyfyngu ar allu'r ombwdsmon i ymchwilio i ofal preifat fel rhan o lwybr gofal claf y GIG. Mae'n golygu na all roi ymateb llawn i'r achwynydd ac rwy'n teimlo bod hyn, ac rwy'n siŵr bod pobl eraill yn teimlo bod hyn yn anfoddhaol. Dylid cymhwyso'r un egwyddorion ag ar gyfer gofal iechyd y GIG mewn unrhyw ganfyddiad sy'n ymwneud â chamweinyddu neu fethiant gwasanaethau er mwyn sicrhau cysondeb.

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â gwella gallu'r ombwdsmon i ymdrin â chwynion pobl Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i'w gefnogi oherwydd mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl rydym ni yma i'w cynrychioli.

16:15

Diolch i Simon Thomas am ei waith fel yr Aelod arweiniol ar y Bil hwn a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Clywsom gryn dipyn o dystiolaeth yn y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol ar y Bil hwn ac rydym wedi sicrhau rhywfaint o gonsensws ar y pwyllgor ynglŷn â'r angen am fwy o bwerau i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.

Yn UKIP, at ei gilydd rydym yn cefnogi'r Bil hwn. Rydym yn cytuno gyda'r nod o'i gwneud yn haws i bobl ymdrin â'r ombwdsmon, gan gynnwys pobl sydd am wneud cwyn lafar oherwydd nad oes ganddynt hyder i wneud cyflwyniad ysgrifenedig. Cytunaf â siaradwyr blaenorol ar y pwynt hwn, y bydd yn ehangu nifer y bobl sy'n gallu gwneud cwynion.

Trafodwyd hawl yr ombwdsmon i gychwyn ei ymchwiliadau ei hun yn fanwl yn ystod ymchwiliad y pwyllgor. Credaf fod hwn yn offeryn gwerthfawr ar gyfer yr ombwdsmon os yw'n amau efallai fod problemau systemig yn digwydd rywle yn y sector gwasanaethau cyhoeddus. Wrth gwrs, gall fod anawsterau, fel yr amlinellodd Mike Hedges, ac mae angen gwirio a chydbwyso, ond rwy'n credu bod y gofyniad i ymgynghori gyda'r rheoleiddiwr wedi ymdrin â hynny. Ond rhaid inni hefyd gofio, os darganfyddir problemau systemig, yn y pen draw, gallai fod arbedion cost pan gaiff y rheini eu nodi a'u cywiro.

Rydym hefyd yn croesawu gallu'r cyhoedd i fynd ar drywydd cwynion sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol breifat, hynny yw pan fydd y driniaeth yn ymwneud â'r GIG ar ryw adeg. Felly, yn gyffredinol, rydym yn croesawu egwyddorion y Bil ac rydym yn cefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn ac yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Fel y clywsom, mae'r ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol yn sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder yn gallu gwneud cwyn, a hefyd yn gallu gwneud y gŵyn yn hyderus y bydd yn cael ei thrin yn deg. Mae llawer o siaradwyr wedi trafod y rhan fwyaf o'r meysydd roeddwn i am roi sylw iddynt. Mae'n ymddangos ei bod yn haws cyfrif nifer y pwyllgorau nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig â'r Bil ombwdsmon na'r nifer a fu'n rhan ohono. Y cyfan a ddywedaf yw mai pleser oedd gweithio ar y Pwyllgor Cyllid gyda'r Cadeirydd, Simon Thomas, ar ddatblygu hyn.

Ni wnaethom y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r Bil hwn yn hawdd. Cawsom lawer o drafod a dadlau yn ei gylch, oherwydd roeddem yn sylweddoli nad ydych am ddeddfu'n ddifeddwl, nid ydych am or-reoleiddio, nid ydych am wneud cyfraith ddiangen, os oedd gan yr ombwdsmon bwerau i gyflawni ei dasgau o fewn y ddeddfwriaeth bresennol a oedd yno. Ond fe wnaethom benderfynu, ar y cyfan, ers cyflwyno Deddf 2005, fod ymarfer gorau a safonau rhyngwladol wedi symud ymlaen a theimlem ei bod yn bwysig i ddeddfwriaeth Cymru adlewyrchu hyn.

Rwy'n cytuno â geiriau fy nghyd-Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Mike Hedges, a ddywedodd os oedd cwyn yn galw am olrhain cwyn drwy'r broses, o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat ac yn ôl, hyd yn oed os yw ond yn y sector preifat am ychydig iawn o amser, fel yn achos cwyn feddygol, yna roedd hi'n ymddangos yn wallgof y dylai fod cyfyngiad ar symud y gŵyn honno ymlaen.

Rwy'n cytuno hefyd ag aelodau'r pwyllgor cydraddoldeb, os ceir problem yn ymwneud â llythrennedd rhywun ac nad ydynt ond yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud cwyn ar lafar, fel sy'n digwydd yn aml, yna nid yw'n iawn gwrthod y gŵyn honno ar sail y modd y'i gwnaed yn unig. A dylai'r broses gael ei diogelu ar gyfer y dyfodol, oherwydd os oes ffordd newydd o gyflwyno cwynion yn y dyfodol, dylid cydnabod hynny yn ogystal. Ar yr un pryd, fel y dywedodd yr ombwdsmon ei hun, mae'n rhaid i chi hefyd warchod rhag cwynion blinderus, ac mewn unrhyw system gwynion, byddwch yn cael cyfran, lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol weithiau, o gwynion sydd naill ai'n fwriadol flinderus neu'n dod i ben yn ystod proses y gŵyn honno, a rhaid caniatáu ar gyfer hynny'n ogystal.

Mae hwn yn fath gwahanol o Fil, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd nid yw'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, caiff ei ystyried gan bwyllgor, ac yna mae gan y Llywodraeth ei rôl i'w chwarae, wrth gwrs. Ond fel y dywedais ar y dechrau, rwy'n llwyr gydnabod y llwyth gwaith sydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, felly ni wnaethom wasgu arno i ddatblygu hwn mewn gwagle heb unrhyw ddadl, gan feddwl, 'Gadewch inni gael darn arall o gyfraith yng Nghymru.' Roeddem yn credu bod ei angen, ond ar yr un pryd, credaf fod rhai o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn werth eu hystyried, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl at y Pwyllgor Cyllid a bwrw ati yn awr ar weddill y broses hon, ac rwy'n gobeithio bod y ddeddfwriaeth sy'n disgyn ar y Llywodraeth—dywedaf ei bod yn dod drwy flwch post y Llywodraeth; nid Bil ydyw, mae'n—beth bynnag yw'r broses y mae deddfwriaeth yn ei dilyn i gyrraedd Llywodraeth Cymru, a bod honno, wedyn, yn ddeddfwriaeth y gellir ei chymeradwyo gan y Cynulliad hwn.

16:20

Roedd Tony Benn yn arfer dweud,

Pa bŵer sydd gennych? O ble y'i cawsoch? Er budd pwy rydych yn ei arfer? I bwy rydych chi'n atebol? A sut y gallwn gael gwared arnoch chi?

Nawr, ymddengys bod yr ombwdsmon yng Nghymru yn mwynhau grym llwyr bron. Mae grym yn llygru, dywedir wrthym, ac mae grym llwyr yn llygru'n llwyr. Felly, sut y gall unigolyn cyffredin droi at yr ombwdsmon yng Nghymru os caiff ei drin yn wael gan yr ombwdsmon? A'r ateb yng Nghymru yw na all wneud hynny. Yr unig opsiwn sydd ar gael yw adolygiad barnwrol neu bleidlais yn y Cynulliad. Felly, oni bai bod gan berson ffrindiau gwirioneddol gyfoethog sy'n barod i ariannu adolygiad barnwrol, mae gan yr ombwdsmon rym absoliwt fwy neu lai, ac ni all hynny fod yn iawn.

Mae unigolyn yng ngogledd Cymru yn honni iddynt gael eu bwlio gan yr ombwdsmon. Mae preswylydd yng Nghaerdydd yn nodi bod yr ombwdsmon yn llwgr. Mae person yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod yr ombwdsmon wedi celu pethau, ac mae hefyd yn honni llygredigaeth, ac rwyf wrthi'n edrych ar yr honiadau hyn. Ymddengys bod yr ombwdsmon yn dibynnu ar orchmynion cau ceg, ac rwyf am siarad am fy mhrofiad i, oherwydd cafodd yr achos roeddwn yn rhan ohono a lle y cefais fy nyfarnu'n euog o dramgwydd ei wrthod yn y lle cyntaf. Ar ôl ymyrraeth bersonol yr ombwdsmon yn unig y dechreuodd yr ymchwiliad i fy achos i.

Nawr, roedd y swyddog ymchwilio yn fy achos i yn gyn reolwr gyda chyngor Caerdydd a adawodd yr awdurdod pan oeddwn yn ddirprwy arweinydd yn ystod proses ailstrwythuro, ac nid oeddwn yn cael galw tystion yn fy nhribiwnlys. Gwrthododd yr ombwdsmon ddatgelu negeseuon e-bost a oedd yn ymwneud â fy achos. Yn ystod y tribiwnlys, dywedwyd bod trawsgrifiad yn anghywir—trawsgrifiad llys a oedd yn cefnogi fy safbwynt. Cafodd llawer o aelodau o'r cyhoedd eu gwahardd rhag dod i'r tribiwnlys hefyd, ac mae llawer o bobl yn dweud mai ffars a sioe wleidyddol oedd yr achos.

Roedd gennyf brawf hefyd fod yr ombwdsmon wedi trafod fy achos, pan oedd i fod yn gyfrinachol, gydag unigolyn arall. Roedd gennyf negeseuon testun a ddynodai hyn, ac nid oeddwn yn cael eu cyflwyno. Sut y gall hynny fod yn iawn? Felly, afraid dweud bod gennyf bryderon enfawr—enfawr—ynglŷn â swydd yr ombwdsmon yng Nghymru a'r pŵer y mae'n ei fwynhau. Yn fy marn i, mae'r pwerau hyn eisoes yn cael eu camddefnyddio. Felly, pam ar y ddaear y buaswn yn pleidleisio dros ragor o bwerau? Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau heddiw. A gaf i, yn gyntaf oll, jest cydnabod a bod yn glir ynglŷn â'r cyfraniadau gan y ddau bwyllgor, wrth gwrs? Rwy'n falch iawn i groesawu eu hymateb nhw a'r ymateb cyffredinol i'r pwerau sydd yn y Mesur sydd gerbron y Cynulliad heddiw, a hefyd eiriau cynnes y Cwnsler Cyffredinol, yn gyffredinol, i’r pwerau hyn, ond, wrth gwrs, hefyd y geiriau o rybudd ar ambell un yn ogystal, a byddwn ni’n edrych ar sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y Pwyllgor Cyllid, wrth baratoi fersiwn nesaf o’r Bil yma, yn ymateb i ofynion y Llywodraeth a hefyd gofynion y ddau bwyllgor arall.

A gaf i fod yn glir wrth John Griffiths, os caf i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau? Er nad ydym ni’n gallu derbyn ailwneud yr asesiad rheoleiddio yn llawn cyn Cyfnod 2, am y rhesymau y gwnes i eu gosod allan—a gobeithio eich bod chi’n deall hefyd nawr fod rhaid i fi drafod gwelliannau gan y Llywodraeth, sydd hefyd yn effeithio ar hyn—byddaf i yn sicr yn ymrwymo i gadw’r pwyllgor wedi'i hysbysu o’r gwaith rydym ni’n ei wneud ar y rheoliadau hyn ac ar yr asesiadau. Ac wrth inni fynd drwy’r argymhellion a gweld a ydy’r ffigurau’n newid neu a ydym ni’n cael gwybodaeth newydd—beth bynnag rydym ni’n ei wneud, byddwn ni’n rhannu hynny gyda’r pwyllgor, fel bod y pwyllgor yna’n ymwybodol, gobeithio, ac erbyn bod y Llywodraeth yn hapus i gynnig penderfyniad ariannol, y bydd y pwyllgor hefyd yn gweld y darlun mwy cyflawn, ac wedyn byddwn ni’n gallu symud at ran dau o’r broses yma a gweld y gwelliannau sydd yn siapio’r Bil yn y pen draw.

Rwy'n croesawu’n arbennig fod Mick Antoniw, fel Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol, wedi cydnabod bod hon yn Ddeddf crynhoi, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig jest atgoffa ein hunain mai dyma’r tro cyntaf i ni fel Cynulliad drafod y Ddeddf, a phwerau’r ombwdsman, oherwydd ei fod e, yn y lle cyntaf, wedi deillio o Dŷ’r Cyffredin, ac rwy'n credu ei fod e’n bwysig ein bod ni—er ein bod ni’n gyfrifol am argymell enw’r ombwdsman, a bod yr ombwdsman yn atebol i’r Cynulliad yma, nid ydym, wrth gwrs, wedi cael y cyfle i adolygu'r ddeddfwriaeth ers dros ddegawd, ac mae’n briodol, rydw i’n meddwl, ein bod ni’n gwneud hynny.

A gaf fi ddweud, ar rai o'r cyfraniadau i'r ddadl, yn amlwg, rwy'n croesawu'n gynnes yr Aelodau sydd o blaid y Bil, a bydd y Pwyllgor Cyllid am ystyried yr holl sylwadau a wnaed, ond fe'm trawyd yn arbennig, rwy'n credu, gan sylwadau gan bobl megis Mike Hedges a Janet Finch-Saunders a'r tu ôl i mi yma gan Gareth Bennett—pawb sydd wedi rhyngweithio gyda'r ombwdsmon ar ran eu hetholwyr ac sydd wedi gweld y gwaith a wna'r ombwdsmon, weithiau ar ddatrys problemau, ac weithiau ar nodi'r broblem er nad yw'n gallu ei datrys weithiau.

Mae'r pwerau newydd yn y Bil hwn yn caniatáu i'r ombwdsmon wneud rhywfaint o'r gwaith weithiau—. Soniodd Gareth Bennett am fethiant systematig rwy'n meddwl—problemau sydd, ers amser hir, wedi cael sylw gan Janet Finch-Saunders. Cynlluniwyd y pwerau hyn i ddwyn grwpiau neu unigolion at ei gilydd i oresgyn y rheini, ac maent yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y dinesydd. Maent yn canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y pwerau sydd angen i'r ombwdsmon eu harfer, nid fel ombwdsmon am ei fod yn unben bach, ond fel ombwdsmon ar ran pob un ohonom, ac ar ran ein holl ddinasyddion yn ogystal. Credaf y bydd llawer ohonom sydd wedi dod ar draws yr ombwdsmon—. Cefais broblemau wedi eu datrys gan yr ombwdsmon; cefais broblemau y dywedodd yr ombwdsmon wrthyf na allai eu datrys. Wel, wyddoch chi, mae rhywbeth o'i le weithiau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae angen inni gydnabod hynny, ond gobeithio y bydd rhai o'r pwerau yn y Bil ynglŷn â gweithdrefnau cwyno yn y dyfodol yn ymdrin â rhai o'r methiannau hirsefydlog hynny. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y sylwadau hynny gan yr Aelodau. Roedd Nick Ramsay'n gefnogol i hynny hefyd a thanlinellodd y ffaith bod angen mynediad at gyfiawnder ac mae'r mynediad yn y pwerau hyn yn gwneud hynny.

Rwy'n cydnabod bod yna un Aelod nad yw o blaid y Bil hwn—neu o leiaf mae yna un Aelod wedi dweud ar goedd nad yw'n cefnogi'r Bil, ac wrth gwrs, roedd ef ei hun yn ddarostyngedig i adroddiad anffafriol drwy gyfrwng gweithdrefn yr ombwdsmon. Mewn ateb i gwestiwn Tony Benn, wrth gwrs, mae'r ombwdsmon yn atebol i'r Cynulliad hwn. Gall pleidlais yn y Cynulliad ddiswyddo'r ombwdsmon. Mae angen cofnodi nad yw pwerau'r ombwdsmon yn ddigyfyngiad. Ac rydym yn ymddiried yn yr ombwdsmon. Mae'n rhaid buddsoddi llawer o ymddiriedaeth mewn ombwdsmon, oherwydd bydd ef—ar hyn o bryd, ef ydyw—yn arfer pwerau mawr ar ein rhan, ac rydym yn awgrymu y dylai gael mwy o bwerau. Fodd bynnag, mae'r pwerau rydym yn eu hawgrymu yn bwerau pellach ym maes amddiffyn y dinesydd. Nid ydynt mewn unrhyw ffordd yn amharu ar y weithdrefn a nodwyd gan Neil McEvoy, sef ystyried cwynion ynghylch cynghorwyr lleol. Nid yw'r pwerau hyn yn ymwneud â hynny mewn unrhyw fodd, ac mae'r pwerau hynny eisoes wedi'u cynnwys, wrth gwrs, yn Neddf 2005 a basiwyd gan Dŷ'r Cyffredin.

Felly, wrth fwrw ymlaen â'r Bil, gobeithio y bydd pobl yn dod i'r casgliad y gallwn ddefnyddio'r ombwdsmon i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth inni nodi methiannau sy'n systematig neu'n rhedeg dros gyfnod o amser; gallwn ddefnyddio'r ombwdsmon i helpu ein dinesydd unigol pan fydd ef neu hi wedi dioddef rhyw anghyfiawnder oherwydd methiant gan awdurdodau cyhoeddus. Nid ydym am weld unrhyw rai o'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio am fod pawb ohonom eisiau gweld awdurdodau cyhoeddus perffaith yng Nghymru a gweinyddu cyfiawnder naturiol mewn modd perffaith yn Nghymru—nid yw bob amser yn digwydd. Ond pan welwn yr ombwdsmon yn arfer pwerau, yr hyn rydym am ei weld, yn ei dro, gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yw eu bod yn gwrando ar beth sydd gan yr ombwdsmon i'w ddweud, yn meddwl am y modd y maent yn arfer eu cysylltiadau a'u gweinyddiaeth eu hunain, yn meddwl am beth y gallant ei ddysgu o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig, neu hyd yn oed yn rhyngwladol, yn meddwl beth y gall yr ombwdsmon eu helpu i'w gyflawni, ac wrth gwrs, yn gwella eu hymddygiad eu hunain o ganlyniad i hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf nad yw pawb wedi dysgu'r wers honno.

16:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trafnidiaeth Gymunedol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar drafnidiaeth gymunedol, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM6666 Mark Isherwood, Dai Lloyd, Adam Price

Cefnogwyd gan Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

2. Yn nodi'r pryder am ymgynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;

b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22; 

c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;

d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac

e) sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae trafnidiaeth gymunedol yn ymwneud â darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth lleol nas diwallwyd, ac yn aml dyma'r unig ddull o drafnidiaeth i lawer o bobl sy'n ynysig ac yn agored i niwed. Mae pobl hŷn a phobl anabl yn grwpiau defnyddwyr sylweddol, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau a phrosiectau'n gweithio mewn ardaloedd gwledig, ond wrth gwrs, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig.

Gan ddefnyddio popeth o fysiau mini i fopeds, mae gwasanaethau nodweddiadol yn cynnwys cynlluniau ceir gwirfoddol, gwasanaethau bysiau cymunedol, trafnidiaeth ysgol, cludo pobl i ysbytai, deialu am reid, olwynion i'r gwaith, a gwasanaethau llogi trafnidiaeth fel grŵp. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn ymateb i'r galw, gan fynd â phobl o ddrws i ddrws, ond mae nifer gynyddol yn cynnig gwasanaethau rheolaidd ar hyd llwybrau penodol lle nad oes gwasanaethau bysiau confensiynol ar gael. Cynhelir gwasanaethau bob amser at ddiben cymdeithasol ac er budd y gymuned, a byth er elw, gan sicrhau y gellir diwallu ystod ehangach o anghenion trafnidiaeth.

Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru yn cynrychioli 100 o sefydliadau, a llawer ohonynt yn elusennau bach, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy'n cyflawni diben cymdeithasol a buddiannau cymunedol. Mae 140,000 o unigolion a 3,500 o grwpiau wedi cofrestru i ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Mae gwasanaethau'n darparu tua 2 filiwn o deithiau teithwyr bob blwyddyn, gan deithio 6 miliwn o filltiroedd. Caiff y sector ei arwain yn bennaf gan wirfoddolwyr, gyda bron i 2,000 ohonynt yn rhoi o'u hamser am ddim i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau—cyfraniad gwerth miliynau i economi Cymru. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn helpu i leihau unigrwydd ac unigedd, gan sicrhau y gall pobl gyrraedd ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu, digwyddiadau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, mannau cyflogaeth, siopau a llawer mwy. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyfraniad cadarnhaol amlwg y mae trafnidiaeth gymunedol yn ei wneud yng Nghymru, ar hyn o bryd mae'r sector yn wynebu nifer o fygythiadau.

Dosberthir y cyfrifoldeb dros drafnidiaeth gymunedol ar draws pob lefel o Lywodraeth, o reoliadau'r UE i gyfrifoldeb Llywodraeth y DU dros drwyddedau a thrwyddedu, i gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros sut y mae trafnidiaeth gymunedol yn gweithredu yng Nghymru, i awdurdodau lleol yn ariannu a fframio'r defnydd o drafnidiaeth gymunedol yn lleol. Felly, mae'n hanfodol fod pob lefel o Lywodraeth gyda'i gilydd yn ceisio canfod ateb i'r problemau presennol, yn ceisio lliniaru effeithiau byrdymor ar ein cymunedau, ac yn ceisio datblygu dyfodol hirdymor cryf a chynaliadwy i drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.

Ar lefel ddatganoledig, mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi nodi tair problem allweddol: nad yw setliadau ariannu yn ei gwneud hi'n bosibl cynllunio'n hirdymor; nad yw eu haelodau'n cael eu talu ar draws adrannau am y gwaith y maent yn ei wneud, ac y gallai fod angen cyllid cyfalaf untro i gefnogi twf.

Er eu bod yn croesawu'r cynnydd yn y cyfraddau ad-dalu teithio rhatach ar gyfer trafnidiaeth gymunedol, maent hefyd wedi galw am adolygu'r fformiwla ar gyfer gweithredwyr cludiant cymunedol. Mae'r gyfradd ad-dalu yn parhau i fod yn llai na 100 y cant, ac er y gall gweithredwyr masnachol ennill hwnnw'n ôl mewn mannau eraill, mae cyfyngiadau trwyddedau cludiant cymunedol yn golygu nad ydynt yn gallu adennill colledion o'r teithiau hynny. Mae cylchoedd ariannu byrdymor yn golygu na all gweithredwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Gall penderfyniadau cyllido hwyr arwain at golledion parhaol, gan golli arbenigedd hanfodol o'r sector.

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid yn uniongyrchol i weithredwyr cludiant drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, wedi'i weinyddu ar sail flynyddol gan awdurdodau lleol. Mae'r swm a ddyrennir i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Er enghraifft, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod Cyngor Bro Morgannwg yn gosod targed o £81,160 ar gyfer gwariant ar drafnidiaeth gymunedol y llynedd, ond £28,200 yn unig a gyfrannwyd ganddynt. Mae'r cyfuniad o arian wedi'i ddyrannu'n flynyddol a diffyg sicrwydd ynghylch symiau cyllid yn gwneud blaengynllunio'n anodd iawn, ac felly mae'n amhosibl iddynt ddatblygu cynlluniau busnes tair i bum mlynedd ystyrlon. Mae'n arbennig o anodd pan fydd sefydliadau'n dymuno gwneud buddsoddiadau cyfalaf mewn cerbydau neu eu seilwaith trefniadol.

Mae gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn darparu mwyfwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gymryd pwysau oddi ar gyrff sector cyhoeddus a chaniatáu i bobl i fyw'n annibynnol am fwy o amser. Fodd bynnag, ychydig o weithredwyr sy'n cael cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer hyn, gan ddibynnu ar wirfoddolwyr i gerdded y filltir ychwanegol i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth y maent ei angen. Mae canfod a chadw gwirfoddolwyr eisoes yn her, yn enwedig gan fod pobl yn gweithio'n hwyrach ac yn aml yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol. Mae angen cyllidebau, felly, sy'n cynnal gweithio trawsadrannol er mwyn datblygu atebion arloesol i alluogi'r sector i ddarparu'r gweithgareddau sy'n amlwg eu hangen.

Mae gweithredu trafnidiaeth gymunedol yn ddrutach na menter elusennol fel y cyfryw, ac er gwaethaf camau i godi arian, ni fydd rhai gweithredwyr yn gallu codi cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, gan amharu ar ddatblygiad eu gwasanaethau. Er enghraifft, newidiodd llawer eu cerbydau i diesel pan ddywedwyd wrthynt mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, a bydd cael cerbydau trydan neu hybrid addas ar gyfer cadeiriau olwyn yn eu lle yn ddrud. Felly gallai rhaglen ariannu cyfalaf wedi'i thargedu'n dda ysgogi prosiectau arloesol, ymestyn cwmpas a chyrhaeddiad gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru, ac arbed arian i'r sector statudol.

Yn 2015, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd wrth Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r modd y câi ei gyfarwyddebau ar drwyddedu gweithredwyr trafnidiaeth i deithwyr ei throsi i gyfraith y DU. Roedd hyn yn canolbwyntio ar y rheolau y dylai gweithredwyr eu dilyn wrth gyflawni contractau awdurdodau lleol a sut y mae rhanddirymiadau o'r rheoliadau'n gymwys. Ochr yn ochr â hyn, bu ymgyrch gan grŵp bychan, ond swnllyd, o weithredwyr masnachol i orfodi setliad drwy fygwth heriau cyfreithiol i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol, awdurdodau lleol a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. O ganlyniad, mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i newid sut y mae rheolau'r UE ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau trafnidiaeth i deithwyr yn gymwys yn y DU.

Mae ei dogfen ymgynghori yn nodi ei bod yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi'r sector, ond bod pryderon wedi codi bod rhai gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol sy'n defnyddio trwyddedau yn cystadlu â gweithredwyr masnachol, ac nid yw hynny, ac rwy'n dyfynnu, yn cael ei ganiatáu o dan gyfraith yr UE. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu, o dan adran 19 a 22, trwyddedau a ddefnyddir gan weithredwyr trafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau bws mini a bysiau cymunedol, na fydd llawer o sefydliadau ond yn gallu cymryd rhan mewn tendro cystadleuol am gontractau gwasanaethau cyhoeddus, megis contractau gofal cymdeithasol a chontractau ysgol, os ydynt yn cael trwydded gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ac eithrio lle na chafwyd cystadleuaeth ar gyfer unrhyw un o'r gwasanaethau hyn gan ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyn yn gostus ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r sefydliad gael nifer o swyddi cyflogedig gyda chymwysterau proffesiynol.

Yn ystod fy ymweliadau mwyaf diweddar â gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yng ngogledd Cymru, roeddent yn pwysleisio bod y rhan fwyaf o weithredwyr yng Nghymru yn fach, yn wahanol i rai o'r cewri yn Lloegr, a bod y cynigion bellach yn bygwth parhad trafnidiaeth gymunedol yma. Ymhellach, tra bo'r ymgynghoriad yn parhau ar y gweill, mae dehongliad yr UE fod trafnidiaeth gymunedol yn y DU yn torri ei reolau eisoes yn cael ei drin mewn rhai achosion, ar lefel leol yng Nghymru, fel pe bai eisoes mewn grym.

Mae Adran Drafnidiaeth y DU wedi cyhoeddi cronfa bontio o £250,000 a'u bod yn yn archwilio pa gymorth pellach y gallant ei roi, ond mae'n aneglur a fydd cyfran o hyn yn cael ei gadw ar gyfer Cymru, ac mae'n annhebygol o fod yn ddigon i dalu am gostau pontio ar gyfer yr holl sefydliadau yr effeithir arnynt.

Mae awdurdodau lleol wedi dweud y bydd yna brinder bysiau mini hygyrch os na allant weithio gyda thrafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau, gan effeithio ar y teithwyr sydd eu hangen fwyaf. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud bod trafnidiaeth gymunedol yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles pobl hŷn, gan eu helpu i gadw'n annibynnol am fwy o amser a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol, gan lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau ynysig ac ardaloedd gwledig.

Galwn felly ar Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad at wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi; datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22; cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru; darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at drefniadau cyllido tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; a sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.

Dangosodd tystiolaeth fod trafnidiaeth gymunedol yn darparu £3 o werth am bob £1 a werir arni. Mae trafnidiaeth gymunedol yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau penodol rhag defnyddio trafnidiaeth am ba reswm bynnag. Er ei fod yn sector cryf iawn, rhaid i'r unigolion a'r sefydliadau sy'n gweithio o'i fewn gael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Er gwaethaf yr heriau, cred Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru fod cyfle i sefydliadau ac awdurdodau yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau gwasanaethau parhaus ar gyfer ein cymunedau. Gadewch inni gyfiawnhau'r gred honno. Diolch.

16:40

Byddaf yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw ar drafnidiaeth gymunedol, cynnig a gyflwynwyd gan Aelodau unigol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad amdano. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd y cynnig cyfan, ond rwyf am bwysleisio'r pwynt agoriadol:

'bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

'1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad at wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.'

Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gymuned wledig ac yn cwmpasu poblogaeth sydd ag ardaloedd o amddifadedd sylweddol a phoblogaeth sydd gryn dipyn yn hŷn na chyfartaledd Cymru. Heb drafnidiaeth gymunedol, byddai cymaint o fy etholwyr yn cael trafferth i gyrraedd apwyntiadau meddygol, yn brwydro i wneud eu siopa ac yn cael trafferth ymgysylltu â ffrindiau a theulu. Rwy'n cydnabod yn llwyr y meddwl arloesol a chydweithredol y mae fy narparwyr trafnidiaeth gymunedol lleol yn ei gynnig, a buaswn yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.

Mae gennyf dri maes allweddol rwyf am dynnu sylw atynt heddiw. Yn gyntaf, y gwerth i'n cymunedau. Ceir cydnabyddiaeth fod unigrwydd ac arwahanrwydd nid yn unig yn ddrwg cymdeithasol, ond eu bod hefyd ar gynnydd. Mae cymunedau'n fwy toredig, teuluoedd yn fwy gwasgaredig, a phobl, pobl hŷn yn enwedig, yn gallu cael eu gadael ar ôl. Mae gennym rai nad ydynt erioed wedi cael rhwydweithiau cymorth cryf a rhai y mae eu rhwydweithiau wedi diflannu gyda threigl amser. I lawer o'r bobl hyn, achubiaeth trafnidiaeth gymunedol mewn gwirionedd yw eu hunig bwynt cyswllt â'r byd a'u hunig alluogydd.

Er enghraifft, yn Sir Benfro, mae Ceir Cefn Gwlad yn rhedeg gwasanaeth sydd nid yn unig yn dibynnu ar y defnydd o geir gwirfoddolwyr, ond mae hefyd wedi ariannu ac wedi rhedeg cerbydau llwyddiannus sy'n gallu cludo rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn a'u partner neu ofalwr, fel y gŵr sy'n dioddef o salwch angheuol yr oedd ei restr o bethau i'w gwneud cyn marw yn cynnwys ei awydd taer i weld ei ŵyr yn chwarae criced—i lawr y lôn, dyna i gyd, ond nid oedd ganddo ffordd arall o gyrraedd yno; neu'r dyn ifanc ynysig ac anabl iawn a allodd fenthyg un o'r ceir hygyrch am y penwythnos ac a aeth, gyda'i ddau ofalwr, i Abertawe i weld un o'i hoff fandiau a chael cyfle i fod fel pobl ifanc ledled y wlad.

Menter eithriadol arall a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw Bydis Bws, system lle y gall pobl ffonio am fws i ddod at eu drws er mwyn hwyluso eu gallu i symud o gwmpas, ond gallant gael rhywun gyda hwy. Ond wrth gwrs, y gwir trist i nifer sylweddol o bobl yw mai'r gyrrwr sy'n eu gadael ar ddydd Gwener fydd y person olaf a welant hyd nes y bydd y gyrrwr hwnnw'n ailymddangos y dydd Mawrth canlynol. Nid oes neb—neb o gwbl—yn curo ar lawer iawn o ddrysau, sy'n feirniadaeth ar ein cymdeithas, a pham y dylem fod mor ddiolchgar i wirfoddolwyr sefydliadau fel Bydis Bws neu gynllun deialu am reid canolfan Bloomfield, neu Ceir Cefn Gwlad.

Yr ail faes yr hoffwn dynnu sylw ato yw'r rhesymau pam rydym wedi dod mor ddibynnol ar y band hwn o sefydliadau gwirfoddol, a'r pwysau enfawr sydd arnynt. Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tair prif ddogfen strategol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi polisïau trafnidiaeth a chymunedol: 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd newydd a chyllideb Llywodraeth Cymru. Ac i fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eu cael yn aneglur, yn anghydlynus a heb gysylltiad â'r realiti rheng flaen a welwn o ddydd i ddydd ar lawr gwlad.

Yn y gyntaf o'r rhain, dogfen y gyllideb, mae Llafur Cymru wedi cychwyn ar werth dros £100 miliwn o doriadau. Mae Llafur Cymru wedi methu'n llwyr ag adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr. Mae tagfeydd ar ein ffyrdd yn niweidio ein heconomi. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gwegian o dan 15 mlynedd o gamreoli Llafur Cymru ar y fasnachfraint reilffyrdd, a chafodd gwasanaethau bws eu dinistrio'n llwyr dros y degawd diwethaf. Gyda'i gilydd, mae'r methiannau hyn o ran polisi a chyflawniad wedi creu pwysau ofnadwy ac annheg ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Mae trafnidiaeth gymunedol hefyd wedi gorfod camu i'r adwy oherwydd bod nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd cyfanswm o 53 o wasanaethau bysiau eu lleihau, eu newid neu eu diddymu yn 2015-16 yn unig. Mae pawb ohonom yn pryderu am yr effeithiau posibl y gallai canlyniadau'r Adran Drafnidiaeth eu cael ar yr ymgynghoriad, a dyna pam, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd hi'n ddiddorol clywed pa gynlluniau wrth gefn a allai fod gennych i liniaru unrhyw effaith ar y ddarpariaeth drafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini.

Mae fy mhryder olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chynaliadwyedd y gwasanaethau gwerth chweil hyn, o gofio bod y gronfa o wirfoddolwyr yn lleihau a'r galw am wasanaethau'n cynyddu. Mae pobl yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae mwy o alwadau ar eu hamser, ac eto mae yna alw cynyddol am wasanaethau trafnidiaeth gymunedol oherwydd methiannau Llywodraeth Cymru. A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r methiannau hynny.

16:45

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r cynlluniau trafnidiaeth cymunedol gwirfoddol sy'n gwasanaethu fy etholaeth, Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys—DPVC—a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro, sydd hefyd yn gwasanaethu etholaeth Vaughan Gething. Mae'r olaf yn elusen fach a sefydlwyd ym 1986 ym Mhenarth, ac mae'n gwasanaethu'r gymuned yn nwyrain y Fro rhwng Penarth a'r Barri drwy ddarparu trafnidiaeth hygyrch mewn dau fws mini 12 sedd sy'n gallu cludo cadeiriau olwyn, gyda gyrwyr gwirfoddol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn darparu trafnidiaeth bws mini wythnosol i archfarchnadoedd lleol, i amryw o weithgareddau cymdeithasol rheolaidd, ac i glwb cinio wythnosol a gwasanaeth eglwys. Mae DPVC hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg ar wasanaeth Greenlinks, sydd wedi cael cymorth arian Ewropeaidd. Cefnogir Greenlinks gan gyngor y Fro, yn gweithio mewn partneriaeth gyda DPVC, gan ddefnyddio Volkswagen Caddy pwrpasol gydag addasiadau ar gyfer cadeiriau olwyn, sy'n cludo cleifion oedrannus i ac o ganolfan feddygol newydd Dinas Powys. Mae DPVC a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro yn fodelau o ymrwymiad gwirfoddol, ac yn gwasanaethu cymunedau lleol yn fy etholaeth. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl oedrannus. Maent yn chwalu arwahanrwydd—mae hynny eisoes wedi'i ddweud yn y sylwadau agoriadol. Maent yn chwalu arwahanrwydd i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau, ond maent yn darparu rôl werth chweil i yrwyr gwirfoddol profiadol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn dweud bod y mwyafrif o'u gyrwyr gwirfoddol wedi ymddeol—mae nifer ohonynt dros 70 oed—sy'n golygu bod angen adnewyddu trwyddedau D1, gydag archwiliadau meddygol rheolaidd, ac ati. Maent yn pryderu ynghylch recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol sy'n gymwys i yrru bysiau mini, gan na fydd gan lawer ohonynt yr hawl D1 sy'n ofynnol ar eu trwyddedau gyrru. Byddai'r ddau fudiad hwn yn hoffi gweld trwyddedau adran 19 yn aros yn ddigyfnewid, fel y gall elusennau barhau i ddarparu'r gwasanaethau trafnidiaeth a ddarperir ar hyn o bryd a chael hyblygrwydd i addasu i anghenion sy'n newid o fewn y gymuned.

Ac yn olaf, mae'r ddau sefydliad yn sôn am ansicrwydd cyllid, natur fyrdymor y cyllid, ac yn mynegi pryderon y gallai unrhyw newidiadau i amodau trwyddedau adran 19, megis gwneud cymwysterau arbennig yn ofynnol, ychwanegu at y costau a gallai arwain o bosibl at gau'r gwasanaethau gwerthfawr ac unigryw y maent yn eu darparu. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw bod—. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i hyn, yn ystyried y dystiolaeth gan y sector trafnidiaeth gymunedol yn y ddadl hon, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar drwyddedau trafnidaeth gymunedol. Ond hefyd, rwy'n cydnabod ac yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r sector trafnidiaeth gymunedol a'r rôl unigryw y mae'n ei chwarae fel rhan o wasanaeth trafnidiaeth hygyrch, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw.

16:50

Dechreuaf drwy gadarnhau y bydd UKIP yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ni fyddwch yn synnu, wrth gwrs, fy mod yn dymuno nodi bod y llanastr hwn yn deillio o reoliad y Gymuned Ewropeaidd 1071/2009, sy'n cael ei orfodi ar y DU ac nid yw'n ystyried bod trafnidiaeth gymunedol yn ateb Prydeinig bron yn unigryw i lenwi'r bylchau yn ein darpariaeth drafnidiaeth fasnachol. Roedd yr Adran Drafnidiaeth yn dehongli'r rheoliad yn y fath fodd fel eu bod yn ystyried mai'r un oedd y term 'nid er elw' ac 'anfasnachol'. Mae'r dehongliad hwn wedi bod mewn grym ers 1985 fel y mae'r drefn ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gymunedol. Nid yw rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn gwahaniaethu yn y fath fodd, a dyna sydd wrth wraidd y problemau difrifol sy'n wynebu ein gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol.

Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cydnabod yr effaith gadarnhaol enfawr y mae trafnidiaeth gymunedol yn ei chael ar lawer o gymunedau a phobl, yn enwedig pobl ag anghenion arbennig, sy'n cynnwys yr henoed, pobl ynysig a phobl anabl, yn ogystal â darparu trafnidiaeth fawr ei angen ar gyfer llawer o weithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon. Mae unrhyw reoliad sy'n rhoi pwysau ariannol neu strategol ar weithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn ymyrraeth ddiangen.

Mae'r frawdoliaeth drafnidiaeth gymunedol wedi sefydlu ei safonau diwydiant ei hun, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei bod yn llai diogel na gweithrediadau masnachol arferol. Yn wir, mae llawer o dystiolaeth i ddangos eu bod yn mynd ymhellach na rhai gweithrediadau masnachol o ran hyfforddi staff, er enghraifft ar y defnydd o offer anabledd a rhyngweithio penodol gyda phobl anabl.

Os caiff yr Adran Drafnidiaeth ei gorfodi i fabwysiadu'r rheoliadau UE hyn, bydd gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn wynebu costau sylweddol i weithredu'r mesurau hyn, yn enwedig yn y tymor byr. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod yr Adran Drafnidiaeth a/neu Lywodraeth Cymru yn darparu arian ar gyfer y cyfnod pontio hwn. Gallai canlyniadau peidio â darparu'r cyllid hwn fod yn drychinebus i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol, gyda llawer o'u gwasanaethau'n cau. Fel y dywedwyd, mae data'n dangos bod £3 yn cael ei ennill am bob £1 a fuddsoddir mewn trafnidiaeth gymunedol. Mae'n amhosibl meddwl na fydd y cyllid hwn ar gael. 

Yn olaf, mae'r ansicrwydd sy'n bodoli yn awr o ran rheoleiddio ac ariannu eisoes yn effeithio ar weithredwyr trafnidiaeth gymunedol o ran cadw staff a strategaeth hirdymor. Galwn ar yr Adran Drafnidiaeth ac ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu unrhyw newidiadau gweithredol.

Roeddwn yn arbennig o awyddus i gyfrannu yn y ddadl hon, gan i mi fod yn wirfoddolwr gyda dwy elusen gymunedol a oedd yn darparu neu'n gweithio gyda thrafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r profiadau a gefais yn atgyfnerthu'n llwyr yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud heddiw am ddiben a chanlyniadau sefydliadau trafnidiaeth gymunedol sy'n aml yn gydgynhyrchiol. Fel y gwyddom o enghreifftiau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, mae rhai o'r sefydliadau hyn yn mynd y tu hwnt i fod yn wasanaeth ar alwad syml ac yn dod yn rhagweithiol iawn yn eu cymunedau mewn ymateb i heriau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Roedd un o'r sefydliadau yr oeddwn yn gysylltiedig â hwy'n gweithio'n uniongyrchol gyda gyrwyr gwirfoddol gan ddefnyddio eu ceir eu hunain. Yn yr un achos hwnnw, gwelsom wrthwynebiad i'n gwaith gan gwmni tacsi lleol, a oedd yn cwyno bod ein gyrwyr yn codi prisiau is ac yn eu hamddifadu o fusnes. Rwy'n tybio bod Kirsty Williams yn gwybod am beth rwy'n sôn. Mae'n bur debyg, rwy'n meddwl, i'r ddadl y mae cwmnïau trafnidiaeth masnachol yn ei gwneud er mwyn ysgogi adolygiad o'r trwyddedau a roddir o dan adran 19 ac adran 22 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Gallwch weld pam y maent yn gwneud yr achos: maent yn ddarostyngedig i fwy o gyfyngiadau, a rhaid iddynt dalu eu gweithlu. Ond yn fy marn i, mae'n ddadl gwbl ffug, ac yn un sy'n mynd yn arbennig o gymhleth lle y gofynnir i sefydliad trafnidiaeth gymunedol gan drigolion heb fodd o deithio i lenwi'r bwlch yn y bôn a adawyd wedi i weithredwr masnachol ddileu gwasanaeth am ei fod yn amhroffidiol. I bob pwrpas, dyna'r sefyllfa sy'n wynebu DANSA sy'n gweithredu yng ngorllewin fy rhanbarth ac yn nyffryn Aman heddiw. Os caf eu dyfynnu, byddai cael gwared ar adrannau 19 a 22 o'r gyfundrefn drwyddedu yn 'drychinebus'.

Cyhoeddir trwyddedau adran 22 i gyrff sy'n gofalu am anghenion cymdeithasol a lles un neu fwy o gymunedau. Os caiff y cymunedau hynny eu hesgeuluso gan weithredwyr masnachol, nid yw anghenion y gymuned honno'n diflannu dros nos. Yn wir, buaswn yn dadlau bod anghenion cymdeithasol a lles y cymunedau hynny yn debygol o gynyddu os yw pobl yn methu teithio o'u pentref, gan fod tacsis yn ddrud ac nid ydych ond yn eu defnyddio pan fydd gwir raid i chi wneud hynny.

Rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau eraill sut y gall trafnidiaeth gymunedol helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae DANSA yn enghraifft arbennig o dda o sefydliad o'r fath, sy'n mynd ati'n rhagweithiol i drefnu teithiau a digwyddiadau ar gyfer pobl hŷn neu bobl eraill sy'n agored i niwed sydd mewn perygl o fod yn unig ac wedi'u hynysu. Felly, nid gwasanaeth bws sy'n ymateb i alwadau yn unig ydynt. Dyna pam yr hoffwn i Lywodraeth Cymru—. Rwy'n sylweddoli mai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n ymateb i hyn, ond nid dadl am gystadleuaeth drafnidiaeth yn unig yw hi, er mai dyna sut y cafodd ei chyflwyno i'r Adran Drafnidiaeth. Fel y mae ymgynghoriad cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar fysiau yn ei ddadlennu eisoes, ni all trafnidiaeth gymunedol lenwi'r bylchau hynny bob amser beth bynnag. Ac fel roeddem yn dadlau gyda'r cwmni tacsis hwnnw ym Mhowys, rydym yn sôn am deithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn methu teithio oni bai am drafnidiaeth gymunedol, ac weithiau am resymau'n ymwneud â chost yn unig.

Efallai y bydd yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa gan Gydffederasiwn y GIG fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn gallu contractio gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol i ddarparu teithiau nad ydynt yn achosion brys i'r ysbyty ac oddi yno. Gall hwn fod yn drefniant defnyddiol iawn, ac yn ffrwd dda o incwm craidd i lawer o ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol. I fod yn onest, ni allaf weld y gwahaniaeth athronyddol rhwng hyn ac awdurdod lleol yn contractio trafnidiaeth gymunedol i wasanaethu cymunedau anodd eu cyrraedd. Er hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gall teithiau car fod yn eithaf hir rhwng y cartref a'r ysbyty, a'u gwneud yn hwy os yw'r car, neu'r bws, weithiau, yn casglu a gollwng cleifion eraill yn rhan o'r daith.

Rwy'n cofio achos penodol lle'r oedd tair menyw'n teithio o ardal wledig yn Sir Frycheiniog i ysbyty Felindre. Nid oedd eu triniaethau canser ond yn para ychydig funudau, ond treuliasant ran sylweddol o'r dydd yn gaeth mewn car, yng nghwmni dieithriaid, yn teimlo'n ddigon tila, ac yn teithio o dŷ i dŷ yn casglu'r teithwyr eraill. Dywedwyd wrth y menywod hyn yn y bôn mai dyma oedd y gwasanaeth y gallai'r wladwriaeth ei ddarparu ar eu cyfer, er mai mewn car nid mewn ambiwlans y teithient. Nid oedd yn wasanaeth a ganolbwyntiai ar yr unigolyn mewn gwirionedd yn fy marn i. Byddai mynediad uniongyrchol at geir cymunedol wedi rhoi cyfle i'r menywod hynny—a chredaf y gallent fod wedi'i gael—i wneud y daith ar eu pen eu hunain, hyd yn oed pe baent wedi gorfod talu cyfraniad bach tuag at y daith. Dyma lle mae sefydliadau fel cynllun ceir cymunedol Pontarddulais a'r cylch yn well: mae'n rhatach na thacsi ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd ag amser efallai i ymateb i anghenion teithiwr heb wylio'r cloc, ac yn anffodus, mae'n rhaid i yrwyr tacsis wneud hynny.

Byddai cylchoedd cyllido tair blynedd o gymorth enfawr i sefydliadau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond rwy'n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar bwynt 3(c) y cynnig yn benodol, a dyna pam rwyf am i chi ystyried hon yn ddadl ynglŷn â lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac nid trafnidiaeth yn unig. Fel y clywsom gan Mark Isherwood ac Angela Burns, mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â Llywodraeth Cymru a bod yn draws-sector o fewn adrannau'r Llywodraeth, er bod angen iddynt roi sylw i hyn wrth gwrs. Mae'n ymwneud â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector—cymdeithas ei hun—yn cydnabod bod symudedd, cysylltedd os mynnwch, yn creu dewisiadau a rhyddid i arfer y dewisiadau hynny. Felly, mae cyllido'r cysylltedd hwnnw'n gyfrifoldeb sy'n rhaid i bawb ei rannu, ac nid mater ar gyfer cyllideb adrannol seilo'n unig ydyw.

16:55

A gaf fi ddiolch yn fawr i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw? Yn sicr byddaf yn cefnogi'r cynnig. Rwy'n cefnogi'r cynnig yn llawn. Nawr, mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, neu PAVO fel y'u gelwir yn fyr, wedi bod yn lleisio pryderon wrthyf am y bygythiadau presennol i barhad trafnidiaeth gymunedol ym Mhowys. Diolch iddynt am ddarparu cyfarwyddyd ac adroddiad cynhwysfawr iawn ar y mater hwn, a byddaf yn cyfeirio'n fyr ato heddiw yn fy nghyfraniad.

Credaf y bydd yr Aelodau'n deall bod daearyddiaeth a phoblogaeth wasgarog a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus gymharol gyfyngedig Powys yn golygu bod trafnidiaeth gymunedol, wrth gwrs, yn rhoi achubiaeth gwbl allweddol i breswylwyr agored i niwed na fyddent fel arall yn gallu defnyddio'r gwasanaethau a'r cyfleoedd sy'n bwysig iddynt. Mae'r Aelodau eraill wedi sôn amdanynt yn eu cyfraniadau. Nawr, mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys yn rhoi cymorth eu hunain i amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol sy'n gweithredu ar draws Powys. Ceir gweithgarwch deialu am reid, contractau ysgol, cynlluniau ceir cymunedol, cynlluniau cardiau tacsis a llogi bws mini ar gyfer sectorau trydydd parti. Yn sicr, deialu am reid yn ogystal—mae nifer o'r ymddiriedolwyr sy'n gweithredu gwasanaethau deialu am reid wedi bod yn cysylltu â mi gydag amryw o bryderon ers peth amser.

Credaf fod yr holl Aelodau wedi crybwyll—ac rwyf wedi gwrando ar bob Aelod sydd wedi siarad hyd yma yn y ddadl hon heddiw—ei bod hi'n ymddangos bod y maes unigol mwyaf o ran gweithgarwch a theithiau mewn perthynas â darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn gysylltiedig ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Ym Mhowys ei hun, y flwyddyn ariannol hon, gyrrodd grwpiau ym Mhowys dros 800,000 milltir dros 8,000 o bobl ym Mhowys gan ddarparu 108,000 o deithiau unigol i deithwyr. Nawr, mae dros 6,000 o'r bobl hyn dros 60 oed, ac mae gan 1,800 anabledd. Rwy'n nodi hyn, wrth gwrs, i ddangos pwysigrwydd trafnidiaeth gymunedol i bobl yn fy etholaeth wledig sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio gwasanaethau gyda thrafnidiaeth breifat gyfyngedig iawn. Heb y gwasanaethau hyn, wrth gwrs, nid yn unig yr amcangyfrifir y byddai hanner yr 8,000 o deithwyr ym Mhowys yn colli eu trafnidiaeth, ond byddai'r canlyniadau ariannol i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn sylweddol. Amcangyfrifir y byddai'n rhaid iddynt wario oddeutu ychydig o dan £800,000 i dalu am yr un gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gyflenwir ar hyn o bryd gan weithredwyr trafnidiaeth gymunedol.

Fel y noda'r cynnig, ceir pryder gwirioneddol ynghylch y cynigion a gynhwysir yn ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar drwyddedau trafnidiaeth gymunedol, a fyddai'n golygu bod unrhyw wasanaeth sy'n cael taliad yn gyfnewid am y drafnidiaeth a ddarperir, boed yn docynnau neu'n grantiau neu'n ginio i'r gyrrwr hyd yn oed, yn cael ei ystyried yn fasnachol ac yn dod yn ddarostyngedig i drefniadau trwyddedu newydd. Byddai costau sylweddol i hyn wrth gwrs o ran darparu gwasanaethau, cyfyngu ar argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau dan gontract ar gyfer awdurdodau lleol, ac yn effeithio ar rai agweddau ar drwyddedu sy'n effeithio ar logi bysiau mini fel grŵp.

Rwyf am ddarllen ychydig o'r adroddiad a ddarparodd PAVO ar fy nghyfer. Ceir naw sefydliad trafnidiaeth gymunedol sy'n darparu gwasanaethau ym Mhowys. Nawr, fel y mae, yn ôl adroddiad Powys, ar ôl trafod y mater gyda phob un o'r naw darparwr, byddai pump yn cael eu gorfodi i gau yn gyfan gwbl, efallai y byddai dau'n parhau i weithredu o dan y gofynion newydd ond byddent yn cael eu gorfodi i weithredu o fewn y farchnad fasnachol yn unig, ac o ran hynny, mae'n dal i fod yn bosibl y byddent yn cau, ac mae dau'n defnyddio cerbydau â llai na naw o seddi ar hyn o bryd, ac felly ni fyddent yn cael eu heffeithio gan y newid. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud y rhagwelir y byddai'n rhaid i'r cynlluniau trafnidiaeth gymunedol hyn ddod i ben oherwydd natur gyfreithiol y trefniadau trwyddedu, a byddai hynny'n effeithio ar wasanaethau ar unwaith wrth gael cadarnhad, neu wrth orfodi'r gofynion trwyddedu newydd.

Mae'r cynnig heddiw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â'r grwpiau hyn a darparu strategaeth glir i gydnabod agweddau trawsbynciol ar ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, ond rwy'n mawr obeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn gadarnhaol i'r ddadl heddiw mewn ffordd sy'n darparu rhywfaint o sefydlogrwydd ar gyfer y grwpiau a grybwyllwyd gennyf fi ac eraill.

17:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i ddadl bwysig am wasanaeth hanfodol i lawer iawn o gymunedau yng Nghymru heddiw.

Rwy'n cydnabod bod y gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol yn fater nas datganolwyd ac y bydd yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, hyd yn oed ar ôl cychwyn Deddf Cymru, ond cytunaf yn llwyr â pharagraff cyntaf y cynnig rydym yn ei drafod heddiw. Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl hanfodol, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—a thrafnidiaeth breifat yn wir—yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi, mae trafnidiaeth gymunedol hefyd yn chwarae rôl hollbwysig yn lliniaru problemau'n ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd, yn enwedig yn ein hardaloedd mwyaf gwledig. Wrth inni ddechrau gweithio ar y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd a'n cynlluniau i ddiwygio'r ffordd y cynlluniwn ac y darparwn wasanaethau trafnidiaeth bws lleol yn y tymor hir, rwy'n argyhoeddedig y dylai trafnidiaeth gymunedol wneud cyfraniad hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus integredig yn y dyfodol, ac y bydd yn gwneud hynny.

Rwy'n falch o ddweud mai fy mwriad o hyd yw nodi ein cynigion manwl ar gyfer diwygio sut y cynlluniwn ac y darparwn wasanaethau bws lleol yn y dyfodol agos, ac fel rhan o'r cynigion hynny byddaf yn awyddus i sicrhau bod darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn gallu gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i gefnogi'r sector trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, ac rwy'n falch o adrodd wrth yr Aelodau fod camau eisoes ar waith. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol ers blynyddoedd lawer, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Darparwyd cyllid craidd i'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ers nifer o flynyddoedd i gefnogi a datblygu'r sector, a bydd y cyllid hwn yn parhau yn 2018-19. Do, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol o £250,000 y mis diwethaf i ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer gweithredwyr y gallai fod angen iddynt wneud cais am drwyddedau gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ond mae Mark Isherwood yn iawn i ddweud mai swm cymharol fach o arian yw hwn ac mae angen inni gael eglurder ynglŷn â faint y gall Cymru ddisgwyl ei gael.

Gan weithio gyda'r sector yng Nghymru, mae angen inni ystyried yn ofalus iawn hefyd beth fydd effaith bosibl unrhyw newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu hargymell i'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Mae cyfundrefn y gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fwy trwyadl na'r gyfundrefn drwyddedu, ac mae'n iawn iddi fod felly. Ond nid yw gorfodi gweithredwyr i ysgwyddo'r costau ychwanegol posibl hyn pan fo'r manteision i deithwyr yn fach iawn yn ateb ymarferol. Rhaid caniatáu i weithredwyr redeg gwasanaethau i deithwyr o dan y gyfundrefn drwyddedu fwyaf priodol.

Gan ein bod bellach mewn sefyllfa i asesu effaith bosibl argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer cyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith negyddol bosibl ar wasanaethau a ddarperir o dan y gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Un o'r themâu allweddol a ddeilliodd o'r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais yn Wrecsam y llynedd oedd yr angen am gytundeb ariannu mwy cadarn rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r diwydiant bysiau. Credaf fod hyn wedi'i gydnabod yn dda ers yr uwchgynhadledd, ac yn yr hinsawdd ariannol heriol sy'n parhau ar gyfer y sector cyhoeddus, rwyf wedi parhau i flaenoriaethu'r arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau bws lleol. Rwyf wedi cynnal lefel y cymorth ar gyfer y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn am y bumed flwyddyn, ac mae fy arweiniad i awdurdodau lleol yn datgan y dylid neilltuo o leiaf 5 y cant o'r cyllid hwn i gefnogi trafnidiaeth gymunedol yn eu hardaloedd lleol. Mae ein cyllideb ddangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ar ôl hynny yn cynnal yr ymrwymiad cyllidebol hwn ymhellach, felly rydym yn darparu'r sefydlogrwydd cyllidol sydd ei angen i gynllunio a darparu ein gwasanaethau bysiau lleol.

Rhaid imi ddweud, serch hynny, fy mod wedi fy syfrdanu wrth glywed rhai sylwadau gan y Ceidwadwyr a fyddai'n awgrymu mai'r Llywodraeth hon sydd ar fai am natur fregus gwasanaethau bws lleol ac am seilwaith rheilffyrdd sy'n gwegian. Y ffaith amdani yw, yn y lle cyntaf, mae gwasanaethau bysiau yn agored i niwed oherwydd trychineb dadreoleiddio gan Lywodraeth Geidwadol yng nghanol y 1980au, ac yn ail, mae strwythur rheilffyrdd yn gwegian oherwydd tanariannu difrifol ar rwydwaith llwybr Cymru yn sgil penderfyniadau gan yr Adran Drafnidiaeth yn y cyfnod rheoli presennol, lle na ddyrannwyd prin fwy nag 1 y cant o'r arian ar gyfer llwybr Cymru, er ei fod yn cynnwys tua 10 y cant o'r trac.

Ond yn hytrach na chael ein llusgo i ymarferiad sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwrpas, hoffwn dalu teyrnged i'r sector trafnidiaeth gymunedol am gadw'r eitem hon ar frig yr agenda trafnidiaeth. Mae'n siomedig fod y defnydd parhaus o system drafnidiaeth gymunedol ym Mhrydain wedi bod yn destun cymaint o ansicrwydd. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno. Rwyf hefyd yn cytuno gyda chanfyddiadau Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin y gellid barnu bod rhai o'r sylwadau a gynhwyswyd yn llythyr yr Adran Drafnidiaeth ar 31 Gorffennaf y llynedd yn annoeth, waeth pa mor dda oedd y bwriad. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd wedi hynny yn lleddfu rhywfaint ar rai o'r pryderon ar draws y sector, ac er y gallwn groesawu'r ymrwymiad i gadw'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, mae gwaith i'w wneud o hyd i berswadio Llywodraeth y DU fod rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hargymell yn parhau i fod yn achos pryder mawr.

Un enghraifft o'r fath, Ddirprwy Lywydd, yw'r cyfyngiad ar allu gweithredwyr trwyddedau i wneud cais am gontractau gwasanaethau cyhoeddus—dim ond os yw gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus heb wneud hynny. Mewn rhai ardaloedd, mae'n bosibl mai cystadleuaeth gan ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol yw'r unig gystadleuaeth am gontractau sector cyhoeddus. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhannu fy safbwyntiau a safbwyntiau'r sector yng Nghymru gyda'r Adran Drafnidiaeth fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, ac o ystyried ei bwysigrwydd i ddarparu gwasanaethau bws lleol i rai o'r bobl a'r cymunedau mwyaf bregus yng Nghymru, mae'n fwriad gennyf rannu'r wybodaeth hon a fy ymateb ffurfiol gydag Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

17:10

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser i allu cloriannu'r cyfraniadau ac i gloi'r ddadl bwysig yma. Rwy'n falch hefyd i roi llwyfan pwrpasol i gludiant cymunedol. Nid yn aml ydym ni'n sôn am y pwnc yma, felly rwy'n falch iawn i allu siarad. Rwy'n llongyfarch fy nghyd-Aelodau ar eu cyfraniadau, achos beth rwy'n gwneud rŵan ydy cloriannu beth mae pobl wedi dweud. Ond, mae'n bwysig nodi bod y cludiant cymunedol sydd gyda ni—dyna'r glud sy'n cadw'n cymunedau ni efo'i gilydd yn aml.

Roedd Russell George, ymysg eraill, wedi sôn am y cyfraniad yma i'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal. O'm hanes i fel meddyg teulu yn ardal Abertawe, rwy'n gwybod yn sylfaenol am y cyfraniad y mae cludiant gwirfoddol cymunedol yn ei wneud, neu byddai llawer iawn o'n cleifion ni ddim yn gallu dod i'n gweld ni yn ein meddygfeydd, heb sôn am ddim yn gallu hefyd mynd i'n hysbytai. Fel rydym i gyd yn ymwybodol, mae yna bwysau mawr ar y gwasanaeth ambiwlans, ac hefyd fel sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma, mae yna gytundebau rhwng y gwasanaeth ambiwlans a chludiant cymunedol i alluogi y gwasanaeth hanfodol yma i helpu ein gwasanaeth ambiwlans ni allan. Rydym ni i gyd yn gwybod am y pwysau sydd ar ein hambiwlansys ni. Mae cludiant cymunedol yna yn mynd â miloedd o gleifion i apwyntiadau yn ein hysbytai ni, ac hefyd i'n meddygfeydd teuluol ni, bob dydd o'r wythnos. Mae'r cyfraniad yna yn allweddol bwysig. Fel mae nifer wedi dweud, nid oes elw yn fan hyn, mae'n wirfoddol, yn anffurfiol yn aml, a dyna ydy ei gryfder mewn ffordd. Mae'n hollol, hollol hanfodol.

Diolch i Mark Isherwood am agor a dadlennu'r maes yn gyfan gwbl ac olrhain yr her sylweddol yn nhermau ariannu, a hefyd yr her ynglŷn â'r system drwyddedu newydd hefyd. Dyna erys y ddwy brif her. Hefyd, roedd Angela Burns yn sôn am yr un trywydd, ac hefyd rwy'n falch bod Jane Hutt wedi gallu siarad yn y ddadl yma hefyd o'i phrofiad hi, a hefyd David Rowlands a Suzy Davies, yn ogystal â Russell George, fel roeddwn i wedi ei enwi fe yn flaenorol. Hefyd, rwy'n falch i gyfarch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yn gefnogol i'r cynnig eangfrydig yma sydd yn teilyngu cael pawb i fod yn cytuno i bleidleisio o'i blaid y prynhawn yma. Mae hwn yn faes hanfodol bwysig. Mae yna gyfraniad allweddol y mae cludiant cymunedol yn ei wneud. Mae yna bwysau ac mae yna ansicrwydd rŵan, ond mae'n gwasanaeth iechyd ni a'n gwasanaeth gofal ni yn ddibynnol iawn ar y cludiant cymunedol. Ie, gwirfoddol yw e, ond hollol, hollol hanfodol.

Mae e hefyd, fel gwnaeth yr archwiliad y gwnaethom ni fel pwyllgor iechyd i unigrwydd ac unigedd ei ddarganfod, yn allweddol bwysig o ran yr elfennau yna o drafnidiaeth i gadw pobl rhag bod yn unig. Fel mae eraill wedi sôn, yn aml mae trafnidiaeth gyhoeddus yn stopio bod yn y nosweithiau ac ar benwythnosau, a dyna lle mae'r glud yma o gludiant cymunedol yn dod mewn i'r adwy a llenwi’r bwlch, lle nad oes trafnidiaeth arall ar gael. Ac hefyd i'r sawl sydd yn gwirfoddoli i fod yn yrrwr yn aml i'r elusennau yma, i gludiant cymunedol—mae o fudd i'r sawl sydd yn gyrru hefyd, i helpu eu datblygiad nhw. Ac yn aml, maen nhw yn chwilio am rywbeth i daclo eu hunigrwydd a'u hunigedd nhw yn bersonol, ac maen nhw'n gwirfoddoli i fod yn wirfoddolwyr i'r gwasanaeth cludiant cymunedol lleol. Felly, mae o'n sefyllfa o ennill ac ennill, ac felly mae o'n haeddu ein llwyr gefnogaeth ni. 

Fe glywsom ni'r ffigurau gan Mark Isherwood wrth agor: y miliynau yna o deithiau, a'r miliynau yna o filltiroedd teithio bob blwyddyn gan gleifion ac eraill sy'n rhaid mynd i lefydd, a'r cyfraniad allweddol mae cludiant cymunedol yn ei gael. Mae o'n gynnig cynhwysfawr ac mae'n teilyngu pob cefnogaeth. Diolch yn fawr iawn i chi.  

17:15

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig—Gohiriwyd tan 18 Ebrill

Mae eitem 7 wedi'i gohirio tan 18 Ebrill, felly symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, felly symudwn at bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6696 Egwyddorion Cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): O blaid: 47, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer

Nid oes unrhyw gynnig wedi'i gyflwyno ar gyfer eitem 9, felly, cyn inni symud at ddadl Cyfnod 3 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), gohiriaf y trafodion am 15 munud. Cenir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull, a hoffwn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:17.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:33, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:30
10. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Rŷm ni nawr yn cyrraedd Cyfnod 3 o’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru).

Grŵp 1: Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol (Gwelliant 9)

Ac felly mae’r grŵp cyntaf o welliannau i’w hystyried yn ymwneud ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol. Gwelliant 9 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rydw i’n galw ar Simon Thomas i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. Simon Thomas.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Simon Thomas).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n cynnig gwelliant 9. Nid ydw i’n ymddiheuro am ddychwelyd at faes y gwnaethom ni drafod ddoe, ond gwnaf i ddim ailadrodd popeth y gwnaethom ni drafod ddoe chwaith, ond jest i bwysleisio pam rŷm ni wedi dychwelyd at hyn. Fel y bydd yr Aelodau yn cofio, gobeithio, er bod llawer wedi digwydd ers ddoe, nid yw’r Bil fel y mae e ar hyn o bryd yn cynnwys cyfeiriad penodol at rai o’r egwyddorion amgylcheddol sydd yn sail i’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd bresennol.

Nawr, dadl y Llywodraeth ddoe oedd bod gyda ni ddeddfwriaeth yng Nghymru naill ai'n deillio o’r Undeb Ewropeaidd neu ddeddfwriaeth uniongyrchol Gymreig a oedd wedi ei llunio yng nghyd-destun deddfwriaeth Ewropeaidd a oedd yn gwneud y tro, ac nid ydw i’n siŵr bod hwnna yn ddigonol, a dweud y gwir. Ac, os liciwch chi, mae cywirdeb y safle rydw i’n ei gymryd ac mae Plaid Cymru yn ei gymryd fan hyn wedi cael ei ategu ond hanner awr yn ôl yn Senedd yr Alban, lle mae cynnig tebyg i hwn wedi cael ei basio gan Senedd yr Alban, yn dodi egwyddorion amgylcheddol ar wyneb eu Bil nhw yn Senedd yr Alban. A phwy oedd yn cynnig y gwelliant? Aelod o’r Blaid Lafur—aelod o’r Blaid Lafur yn erbyn Llywodraeth yr SNP yn yr Alban. Felly, mae gyda chi’r Blaid Lafur yn yr Alban yn moyn rhoi egwyddorion amgylcheddol ar wyneb eu Bil nhw, ac mae gyda chi’r Blaid Lafur fan hyn yn gwrthod gwelliant sy’n gwneud yr un peth. Wel, nid oes cysondeb yn fanna. Felly, nid wyf yn ymddiheuro i ddychwelyd at y pwynt yma.

Mae’r gwelliant sydd ger eich bron heddiw yn wahanol i’r un oedd gyda chi ddoe—os rhywbeth, mae’n well. Wrth gwrs, rŷm ni wedi cael o leiaf 24 awr i feddwl amdano fe. Nid yw’n well o ran y Llywodraeth achos byddan nhw’n gwrthod hwn, hyd yn oed yn fwy cadarn, mewn ffordd. Ond mae rhan y gwelliant sydd yn wahanol y tro yma, cymal 4, yn ymwneud â rhoi dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i geisio gwneud yr hyn y gwnes i gyfeirio ato ddoe, ond nad oedd yn rhan o’r gwelliant, sef ceisio cau'r bwlch llywodraethiant yn y materion hyn. Fel rŷm ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel dywedais i ddoe, ni fydd hawl uniongyrchol nawr i ddinasyddion yng Nghymru fynd yn syth at Lys Cyfiawnder Ewrop ynglŷn â rhai o’r materion hyn, ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi yn ei le. Nid ydym yn gwybod beth fydd yn cael ei ddodi yn ei le. Ac felly mae’r gwelliant yma wedi cael un cymal wedi’i ychwanegu ato fe sydd yn gwneud yn siŵr bod y ffwythiannau hynny a oedd yn arfer cael eu gwneud gan y Comisiwn a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd yn rhai sydd yn gorfod parhau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, a bod dyletswydd ar Weinidogion y Llywodraeth i geisio gwneud hynny. Nid ydym yn gallu clymu achos rŷm ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae’r Bil yma ond yn Fil parhad; nid yw e’n gallu ychwanegu rhywbeth sydd ddim yno eisoes. Ond y pwynt rŷm ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw ei fod e yno eisoes. Mae gyda ni eisoes y mynediad yma at y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop.

Holais i heddiw gwestiwn i Lesley Griffiths yn uniongyrchol ar hyn—y gŵyn sydd gan Afonydd Cymru, y chwe ymddiriedolaeth afonydd yng Nghymru, am gyflwr afonydd Cymru. Mae gyda nhw hawl i fynd at y Comisiwn. Mae’n siŵr bod gan y Llywodraeth amddiffyniad da, ond mae gyda nhw hawl i fynd at y Comisiwn. Pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw e’n glir beth fydd yr hawliau hynny. Felly, mae’r gwelliant yna yn cau'r bwlch, i ryw raddau, ond yn briodol, ac yn ailddatgan yr egwyddorion amgylcheddol y bues i’n eu trafod ddoe.

17:35

Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n mabwysiadu fy rôl draddodiadol o fod yn gymydog cyfeillgar, cynhennus i Simon Thomas yn yr achos penodol hwn—nid fy mod yn gwrthwynebu, yn amlwg, cael lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol. Byddai unrhyw un yn ei iawn bwyll eisiau hynny; rydym i gyd yn byw yn y byd hwn, ac rydym i gyd eisiau cael ein hamddiffyn rhag y niwed a ddaw o lygredd. Ond rwyf ychydig yn bryderus am natur yr egwyddor ragofalus wrth ei mewnosod yn y gyfraith. Mae hyn yn rhywbeth a fewnosodwyd yn y gyfraith Ewropeaidd o ganlyniad i gytundeb Maastricht yn 1992, a'r hyn y credaf y mae'n ceisio ei wneud, mewn gwirionedd, yw cael gwared ar y broses bwyso a mesur a ddylai fod wrth wraidd yr hyn a wnawn wrth benderfynu ar bolisi amgylcheddol. Gall hyn greu nifer o broblemau oherwydd, yn y lle cyntaf, wrth gwrs, gall rwystro arloesedd os caiff ei gymhwyso'n rhy llym. Pe baem wedi cymhwyso'r rheol hon yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai na fyddwn byth wedi gweld injans stêm, neu reilffyrdd yn ymddangos. Ac yn wir, ni fyddem byth wedi cael gwared ar y dyn gyda'r faner goch a arferai gerdded o flaen ceir modur tan 1896, ac o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth i'w ddileu mae gennym y daith geir o Lundain i Brighton bob blwyddyn. Mae ofn yr anhysbys, wrth gwrs, yn broblem—neu fe all fod. A dylem bob amser fod eisiau lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol wrth gwrs, ond dylem bwyso a mesur hynny yn erbyn y gost o wneud dim, a chost dewisiadau amgen sydd ar gael. Felly, os cymhwyswn yr egwyddor hon heb ystyried hynny, efallai ein bod mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n waeth yn hytrach nag yn well.

Cymerwch un enghraifft yn unig: os ydym ni, fel y maent wedi'i wneud yn yr Almaen yn awr, yn penderfynu rhoi diwedd ar gynhyrchiant ynni niwclear—mae hynny wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Ac os ydych yn derbyn y damcaniaethau ynghylch cynhesu byd-eang a achosir gan bobl, gallai hynny, wrth gwrs, gynhyrchu canlyniad gwaeth mewn termau amgylcheddol, nid un gwell. Yn wir, mae'r Almaen yn adeiladu nifer fawr o orsafoedd pŵer glo newydd tra'n cau ei gynhyrchiant niwclear, a hefyd yn dod yn fwy dibynnol—ac mae hwn yn fater geowleidyddol arall o ddiddordeb mawr ar hyn o bryd—ar Rwsia am gyflenwadau nwy. Felly, mae yna bob math o resymau pam na ddylem gymhwyso'r egwyddor ragofalus yn rhy gadarn o bosibl. Pam y mae'n fwy diogel neu'n fwy rhagofalus i ganolbwyntio ar niweidiau posibl gweithgareddau neu dechnolegau newydd, heb gyfeirio at y gweithgareddau neu'r technolegau y byddent yn eu disodli? Nid oes unrhyw reswm a priori dros dybio bod technolegau mwy newydd neu risgiau llai hysbys yn fwy peryglus na thechnolegau hŷn neu fygythiadau cyfarwydd.

Mae cymhwyso'r egwyddor hon yn yr Unol Daleithiau wedi arwain at rai achosion rhyfedd iawn yn wir. Yn wyneb ansicrwydd gwyddonol, nid yw rhai fformwleiddiadau yn pennu unrhyw drothwy isaf o hygrededd neu risg sy'n gweithredu fel amod sbarduno, fel bod unrhyw awgrym y gallai cynnyrch neu weithgarwch arfaethedig niweidio iechyd neu'r amgylchedd yn ddigon i weithredu'r egwyddor. Cafwyd un achos diddorol rhwng Sancho v. Adran Ynni yr Unol Daleithiau, lle y dechreuodd ymgyfreithiwr achos cyfreithiol, a oedd yn cynnwys y gofid poblogaidd y byddai'r peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn y Swistir yn peri dinistr y ddaear drwy ffurfio twll du. Hynny yw, dechreuwyd achos cyfreithiol go iawn yn ei gylch. Yn ffodus, cafodd ei daflu allan gan y barnwr yn y pen draw. Ond pan fyddwn yn cyflwyno egwyddorion eang o'r math hwn sy'n gallu arwain at ymgyfreitha cymhleth weithiau, rydym yn codi ysgyfarnog ac nid ydym yn gwybod ble mae ei ben draw. Felly, er fy mod yn credu bod rhaid parhau i roi sylw priodol i'r amgylchedd, mae'n rhaid ei wneud, bob amser, ar sail gwyddoniaeth a chydbwyso risg.

Felly, er nad wyf yn gwrthwynebu'r egwyddorion y mae gwelliant Simon Thomas yn ceisio gwneud inni ganolbwyntio arnynt, pe baem yn ei dderbyn, rwy'n credu y byddai'n gosod cyfrifoldeb rhy feichus ar y Llywodraeth ac mewn gwirionedd, ar un ystyr, byddai'n ein hamddifadu ni fel deddfwyr o un o'n swyddogaethau sylfaenol, sef bod yn grŵp beirniadol sy'n cydbwyso ac sydd, yn y pen draw, yn enw'r bobl, yn penderfynu beth sydd orau ar gyfer ein gwlad.

17:40

Nid oes gennyf broblem o gwbl gyda'r egwyddorion fel y maent wedi'u hamlinellu yn y gwelliant, ac fel y mae wedi'i ddrafftio, ac i'r graddau hynny, o ran y modd y mae wedi'i ddrafftio, mae'n welliant da. Ond mae'n welliant cwbl amhriodol yn y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth.

Rhaid imi ddweud, o ran fy safbwynt personol, pe bai hwn yn welliant a ddaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, byddem wedi bod eisiau ystyried materion sy'n codi—byddem wedi gorfod eu hystyried—ynghylch y goblygiadau a sut y mae'n ymwneud â rhai o'r materion cymhwysedd. Hoffwn ddweud nad yw ein Bil ni yr un fath â Bil yr Alban; nid copïau o'i gilydd ydynt. Mae'r drafftio'n wahanol iawn. Yn wir, credaf fod y modd y mae ein Bil ni wedi'i ddrafftio gryn dipyn yn well na Bil yr Alban mewn gwirionedd. Credaf ei fod yn fwy cynhwysfawr na Bil yr Alban, ond yr hyn y bydd sefydlu'r egwyddorion penodol hyn yn y ffordd arbennig hon yn ei wneud fydd ei wneud yn gymwys mewn meysydd a allai arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn enwedig mewn perthynas â meysydd lle y gallai fod mannau lle nad yw'n amlwg a ydynt yn faterion ar ein cyfer ni neu'n faterion ar gyfer Llywodraeth y DU, neu'r ddwy, os ydynt yn feysydd lle nad yw'r cymhwysedd yn amlwg. Pe bai hynny'n wir, a phe bai'r mater hwn wedyn yn cael ei gyfeirio, mewn rhyw ffordd, i'r Goruchaf Lys, byddent yn sicr yn dod yn faterion arwyddocaol iawn.

Nawr, gallem yn hawdd ennill y rheini, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod hwn yn Fil mor bwysig yn gyfansoddiadol i Gymru fel nad wyf yn barod i gefnogi gambl—

Rydym yn cychwyn ar y Bil cyfansoddiadol enfawr hwn gyda mater o egwyddor pwysig a osodwyd yn fersiwn yr Alban o, wel, eu Bil, ac rydych chi'n dweud yn awr nad oes gennym amser i archwilio'r pethau hyn yn iawn a'u hystyried yn llawn. Felly, onid yw'r weithdrefn gyfan hon yn gwbl ffug?

Wel, nac ydy. Mewn gwirionedd, David, fel y gwyddoch yn dda, yr hyn rwy'n ei wneud yw sôn am welliant a gyflwynwyd nad yw wedi'i godi'n flaenorol, gwelliant y gellid ei godi ar unrhyw adeg mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, ac rwyf hefyd yn eich atgoffa, wrth gwrs, fod Bil Cymru yn wahanol i Fil yr Alban ac mae wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Oherwydd pwysigrwydd y mater cyfansoddiadol i'r Cynulliad hwn ac i'r ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy San Steffan, yr hyn rwy'n ei ddweud mewn gwirionedd yw y byddai'n fyrbwyll rhoi hynny ar y bwrdd mewn gwirionedd a gamblo yn y modd penodol hwnnw gyda statws cyfansoddiadol y Bil hwn. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu ei fod yn welliant amhriodol ac yn un y buaswn yn ei wrthwynebu.

17:45

Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ond rwyf ychydig yn amharod i wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar fod Simon Thomas unwaith eto wedi dangos y pwysigrwydd mawr y mae'r Cynulliad yn ei roi i sicrhau bod yr amgylchedd yng Nghymru yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cytuno'n llwyr â'r teimladau sy'n sail i'r gwelliant. Rydym wedi bod yn glir ac yn gyson yn ein neges na ddylai Brexit arwain at lastwreiddio unrhyw hawliau sy'n deillio o'n haelodaeth o'r UE ar hyn o bryd na'r safonau sy'n gymwys ar draws yr aelod-wladwriaethau. Mae hynny'n cynnwys safonau amgylcheddol.

Cyfeiriais ddoe, yn ystod y ddadl Cyfnod 2, at ein record brofedig ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n darparu fframwaith pwysig ar gyfer gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, darn pwysig o ddeddfwriaeth, yn llywio ein defnydd o bwerau yn y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Mae'n gosod yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein Llywodraeth yma yng Nghymru. Pwysleisiaf unwaith eto sut y mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, eisoes wedi egluro ein bod ymrwymo i gynnal a gwella safonau amgylcheddol, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gennym hyd yn hyn. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i'r amgylchedd yn glir.

Er ein bod yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i'r egwyddorion amgylcheddol a nodwyd yng ngwelliant Simon Thomas, rhaid inni ystyried y gwelliant yng nghyd-destun y Bil sydd ger ein bron heddiw a chydnabod y goblygiadau a fyddai i basio'r gwelliant. Mae'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn nodi sut y mae gwahanol fathau o gyfraith yr UE i gael eu trosi i'n system cyfraith ddomestig a chael ei diogelu ynddi ar ôl inni adael yr UE. Oherwydd nad oes gan egwyddorion amgylcheddol statws neu effaith gyfreithiol gyfun, bydd y Bil hwn yn gymwys mewn ffordd wahanol iddynt, yn dibynnu ar y mater dan sylw. Er enghraifft, mae'r egwyddor ragofalus, fel egwyddor gyffredinol yng nghyfraith yr UE, yn cael effaith o dan adran 7 o'r Bil. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl gyfraith sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â hynny. Bydd yr egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu yn ddarostyngedig i adran 5 o'r Bil, a bydd yn parhau i fod yn rhan o'r gyfraith ddomestig yng Nghymru ar ôl ymadael.

Mae'r gwelliant y mae Simon Thomas wedi'i gyflwyno heddiw yn wahanol i'r gwelliant a gyflwynodd yng nghyfnod 2 mewn un ffordd bwysig—ac fe gyfeirioch chi'n benodol at hyn. Mae'n cyfeirio at lywodraethu amgylcheddol a'r swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan sefydliadau'r UE mewn perthynas â diogelu'r amgylchedd. A gaf fi dawelu meddwl yr Aelodau ein bod yn gwbl ymrwymedig—er nad wyf yn sicr fy mod yn tawelu meddwl Neil Hamilton, ond gallaf sicrhau pawb arall—ein bod yn gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr nad ydym yn gadael unrhyw fylchau o ran diogelwch amgylcheddol ar ôl inni adael yr UE? Mae er budd pawb ohonom i sicrhau, er enghraifft, fod unrhyw ddifrod amgylcheddol yn parhau i gael ei fonitro ac y cymerir camau i orfodi'r gyfraith. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r holl bwerau sydd eu hangen i drosglwyddo unrhyw swyddogaethau presennol sy'n ymwneud â phlismona, monitro neu orfodi holl gyfraith UE ar yr amgylchedd.

Lywydd, prif ddiben y Bil hwn yw llenwi'r bylchau deddfwriaethol a fydd yn codi o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd. Bil yw hwn a luniwyd i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth inni adael yr UE. Fe'i cyflwynwyd i'r Cynulliad hwn drwy'r weithdrefn frys, ac fel y cyfryw, ychydig iawn o amser a fu ar gyfer craffu ar faterion newydd sy'n dod i'r amlwg. Nid dyma'r cyfrwng i ddarparu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit, sef yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud. [Torri ar draws.] Wel, gallaf glywed David Melding yn mwmian o'r gwaelod. Roeddwn yn falch o'i weld yn cymryd rhan yn y ddadl heddiw—fe gymeraf ymyriad.

Mae gennych hyfdra yn awr fel Llywodraeth i wneud rhinwedd o'r ffaith eich bod wedi defnyddio'r weithdrefn frys, nad yw'n golygu, wrth gwrs, eich bod yn gallu craffu ar bethau'n iawn. Dyna rydych newydd ei ddweud wrth Simon Thomas. Hynny yw, mae'n draed moch.

Wel, credaf fod hynny'n ddiddorol iawn, oherwydd, wrth gwrs, y rheswm rydym yn defnyddio'r weithdrefn frys yw'r traed moch y mae'r DU wedi ei wneud wrth negodi ein hymadawiad â'r UE, a dyna sydd wedi ein gyrru i'r sefyllfa hon.

Lywydd, mae yna nifer o faterion eraill wedi llywio penderfyniad y Llywodraeth i beidio â derbyn y gwelliant hwn. Yn gyntaf, rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd; nid dyma'r unig faes cyfraith pwysig a lywodraethir ar lefel yr UE. Pe baem yn derbyn y gwelliant hwn, byddem yn rhoi amlygrwydd i'r amgylchedd y tu hwnt i nifer o faterion pwysig iawn eraill, megis hawliau cymdeithasol, hawliau gweithwyr a diogelu enwau bwyd, i roi rhai enghreifftiau'n unig. Nid ydym yn credu y  byddai'n briodol dechrau nodi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o faterion pwysig, gan y byddai'n dechrau bwrw amheuaeth ar gwmpas y pwerau a gynhwysir yn y Bil, ac rwy'n siŵr nad dyna yw bwriad y gwelliant.

Yr ail fater sy'n rhaid i mi dynnu sylw ato yw goblygiadau pellgyrhaeddol y gwelliant. Byddai'n berthnasol i'r holl swyddogaethau o dan y Bil, nid yn unig y rheoliadau a wneir o dan adrannau 3, 4 a 5. Byddai'n cynnwys swyddogaethau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Bil, megis y swyddogaeth i roi cydsyniad i is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth y DU o dan adrannau 14 a 15, pwerau i bennu ffioedd a thaliadau a'r pŵer i bennu diwrnod ymadael. Mater sy'n peri mwy o bryder, fodd bynnag, yw ei gymhwysiad i adran 4 y Bil a'r pŵer i ailddatgan deddfiadau sy'n deillio o'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol sy'n cwmpasu ystod eang iawn o bynciau. Pe bai'r gwelliant yn cael ei basio, byddai'r swyddogaethau hyn oll, am y tro cyntaf, yn destun dyletswydd newydd i roi sylw i'r egwyddorion hyn. Ni fyddai'r egwyddorion a'r dyletswyddau llywodraethu hyn yn gyfyngedig i'r camau rydym yn eu cymryd yn awr wrth i'r DU adael yr UE, ond byddent yn gymwys ymhell i'r dyfodol. Mae'r gwelliant hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiben datganedig y Bil hwn, sef sicrhau parhad. Oherwydd ein bod yn ystyried y Bil hwn drwy ddefnyddio'r weithdrefn frys, nid ydym wedi cael y cyfle arferol i graffu ar y gwelliant hwn yn briodol nac ystyried ei effaith ar ymestyn cwmpas a diben y Bil.

Y trydydd peth yw ei fod yn creu llwybr o her gyfreithiol i'r modd yr arferir pwerau o dan y Bil, ond hefyd mewn perthynas â phwerau presennol a gynhwysir mewn ystod eang iawn o ddeddfiadau. Byddai'r risg o her yn codi mewn perthynas â methiannau posibl i lynu at yr hyn sy'n gyfres eang o egwyddorion a nodir yn y gwelliant. Nid ydym wedi gallu dadansoddi beth yw goblygiadau llawn y gwelliant hwn a sut y mae'n effeithio ar bob un o'r swyddogaethau sydd eisoes yn bodoli ar draws yr ystod eang o bynciau y byddai'n berthnasol iddynt, nid yn unig yn y tymor byr, ond dros flynyddoedd lawer. Felly, ni allwn ei gefnogi. [Torri ar draws.] Os felly, David, tybed sut rydych yn teimlo am y Bil ymadael â'r DU.

Rwyf am gloi drwy roi'r ymrwymiad hwn i'r Aelodau: bydd y Llywodraeth hon yn manteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu. Buaswn yn gobeithio, ar sail yr ymrwymiad hwnnw, ac o wybod bod y Llywodraeth yn cefnogi'r teimladau sy'n sail i hyn yn llwyr, y bydd Simon Thomas yn teimlo y gall dynnu ei welliant yn ôl. Diolch.

17:50

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau gyda'r cadarnhaol a dweud fy mod yn croesawu'r datganiad gwleidyddol, os caf ei roi felly, gan arweinydd y tŷ, yn dweud na fydd safonau amgylcheddol yn cael eu gwanhau a'i bwriad—yr hyn y mae hi newydd orffen drwy ei ddweud—i chwilio am gyfle deddfwriaethol cynnar—ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd mae'n debyg—i ailddatgan rhai o'r egwyddorion hyn?

Rwy'n falch ein bod wedi ailgyflwyno hyn. Mae wedi caniatáu i syniadau newydd ddod i mewn i'r ddadl; nid wyf yn cytuno â phob un ohonynt, ond maent yn rhai newydd o leiaf. Rhaid imi ddweud wrth Neil Hamilton nad wyf yn credu ei fod yn deall yn iawn sut y defnyddir egwyddor ragofalus yr UE. Roedd y mwyafrif o'i enghreifftiau'n dod o America, lle mae car hunan-yrru Uber newydd daro cerddwr a'i ladd, wrth gwrs. Felly, mae'n bosibl fod yna ddiffyg egwyddor ragofalus yn Arizona—mae hynny'n sicr.

Mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd gennym yma. Nid yw'r egwyddor ragofalus yn atal datblygu, neu fel arall, ni fyddai Jane Hutt yn gofyn cwestiynau ynglŷn â llosgydd yn y Barri. Fel arall, ni fyddem yn gofyn cwestiynau am draffordd M4 newydd. Ni fyddem yn gofyn cwestiynau am goetir hynafol yn Llaneurgain yn cael ei ddymchwel ar gyfer ffordd newydd arall. Nid yw'r egwyddor ragofalus yn rhwystro datblygu. Mae'n gwneud i chi feddwl am ddatblygu yng ngoleuni cenedlaethau'r dyfodol, a dyna yw ein Deddf sylfaenol ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymgorffori llawer o'r egwyddor ragofalus yn y camau y mae'n eu cymryd, ac nid wyf yn meddwl bod ailddatgan y rhain ar wyneb y Bil ynddo'i hun yn diffygiol.

Nawr, os yw'r gwelliant ei hun yn ddiffygiol—wedi mynd yn rhy bell neu heb fod yn ddigon da—yna gallai'r Llywodraeth gyflwyno ei gwelliant ei hun wrth gwrs. Dyna roeddwn wedi gobeithio y byddai'n digwydd. Roeddwn wedi gobeithio tynnu hynny allan, ac ni lwyddais i wneud hynny, ac rwy'n gresynu at hynny, oherwydd pan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban—. Ydy, mae'n Fil gwahanol i'r hyn a geir yn yr Alban; mae ganddynt fodel pwerau gwahanol, wrth gwrs. Rydym yn cael hwn drwodd ar ein hen fodel pwerau ein hunain. Serch hynny, mae'r ymrwymiad gwleidyddol yn yr Alban yn glir iawn. Felly, pwy a'i cyflwynodd? Dywedais ychydig yn gynharach mai aelod Llafur a wnaeth, ond aelod Llafur gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion a'i cyflwynodd. Ac mae gennym Lywodraeth glymblaid yma sy'n cynnwys Democrat Rhyddfrydol ynddi, rhywun sy'n disgrifio'i hun fel amgylcheddwr annibynnol, a'r Blaid Lafur. Dyma'r union glymblaid a gyflwynodd y gwelliannau hyn yn Senedd yr Alban, ac ni allaf weld pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi symud yr un cam hwnnw ymhellach a chyflwyno'i gwelliannau ei hun i ymdrin â hyn. Oherwydd os nad yw hwn yn gweithio, a bod Bil yr Alban yn wahanol, cyflwynwch welliant sy'n gweithio ac sy'n addas ar gyfer y Bil hwn.

Ac os caf orffen ar fy mhwynt olaf, oherwydd mae'r Aelodau—. Wyddoch chi, mae Aelodau'r Llywodraeth sy'n cyflwyno'r Bil brys hwn wedi blino. A ydych chi wedi blino? A ydych chi am fynd i gysgu? Alun Davies, a ydych chi wedi blino? A ydych chi am fynd i gysgu?

Rwy'n eich diflasu, ydw i? Wel, mae'n ddrwg gen i fy mod yn eich diflasu. Mae'n ddrwg gen i fy mod yn eich diflasu ynglŷn â rhywbeth y credwch ei fod mor bwysig fel eich bod yn ei gyflwyno fel deddfwriaeth frys. Mae'n ddrwg gen i ei fod yn eich diflasu.

Gan Mick Antoniw. Roeddwn ar fin ymdrin â phwyntiau Mick Antoniw, ond os yw'n dymuno ymyrryd cyn imi ymdrin â hwy.

Ydw. Hoffwn wneud y pwynt, os oes unrhyw rinwedd o gwbl yn y ddadl, 'Gallai hyn beri anhawster i'r Bil ar gam diweddarach,' a yw'n gambl rydych yn barod i fentro'r holl ddeddfwriaeth arni, ar sail rhywbeth nad yw'n hanfodol?

Mae hynny braidd yn hyf gan Aelod a gyflwynodd Fil asbestos a aeth yn syth i'r Goruchaf Lys a chostio £60,000 i'r Cynulliad hwn.

17:55

A hoffech chi ymyrryd eto ac egluro? Fe berswadioch chi'r Cynulliad hwn i gefnogi'r Bil a aeth yn syth i'r Goruchaf Lys.

Na, ni wneuthum hynny. Gyda pharch—gyda pharch—mae'r Aelod yn anghywir, fel y mae wedi bod yn anghywir ar gymaint o bethau yn hyn o beth. Argymhelliad gan y Cwnsler Cyffredinol ydoedd, ac roedd yn briodol oherwydd amgylchiadau penodol. Nid yw'n cymharu o gwbl. Y pwynt yw: a ydych yn barod i gamblo gyda'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol a gawsom yn y Siambr hon?

Darn mor bwysig o ddeddfwriaeth fel bod eich cyn Weinidog amgylchedd naturiol yn dylyfu gên ac yn dweud ei fod wedi blino ac wedi diflasu ag ef. [Torri ar draws.] Dyna pa mor bwysig ydyw. [Torri ar draws.] Rwy'n dechrau meddwl efallai fod gan y Ceidwadwyr bwynt yma: efallai nad yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â hyn.

Rwy'n credu y dylech ganolbwyntio ar welliant 9 yn awr, Simon Thomas. Gorffennwch eich ymateb i'r ddadl.

Wel, ni fydd gwelliant 9—. Os caiff ei gynnwys yn y Bil, ni fydd gwelliant 9 yn niweidio'r Bil yn y Goruchaf Lys, gan fod yr Aelod a gyflwynodd y Bil asbestos, ac a oedd yn Gwnsler Cyffredinol am ychydig, yn gwybod yn iawn nad yw'r Goruchaf Lys yn taflu Biliau cyfan allan pan welir bod un gwelliant, neu pan welir bod un cymal, yn ddiffygiol. Mae'n addasu'r Bil, dyna i gyd. Mae'n gwybod hynny. Felly, nid oes unrhyw berygl y bydd y Bil hwn yn cael ei wrthod gan y Goruchaf Lys os gwelir bod un agwedd arno—y gwelliant hwn, o'i gynnwys yn y Bil—yn ddiffygiol. Felly, rwy'n gobeithio bod y Cynulliad yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig, a galwaf i'r bleidlais gael ei hagor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, un yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.

Gwelliant 9: O blaid: 19, Yn erbyn: 33, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Dyletswydd i Adrodd ar Gydsyniad Gweinidogion Cymru (Adrannau 14 a 15) (Gwelliant 3)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â dyletswydd i adrodd ar gydsyniad Gweinidogion Cymru—adrannau 14 a 15. Gwelliant 3 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y gwelliant—Julie James.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Diolch, Lywydd. Yn ystod cyfnod 2, cyflwynodd Simon Thomas welliant yn gofyn i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar arfer eu swyddogaethau o dan adran 14(1) ac adran 15(1), hynny yw, darparu cydsyniad i wneud, cymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion y Goron neu eraill. Er nad oeddwn yn gallu cefnogi union fanylion y gwelliant a gynigiwyd, yn ystod y ddadl nodais yn glir fy mod yn cytuno â'r egwyddor a oedd yn sail iddo a chynigiais weithio gydag ef i  baratoi gwelliant ar gyfer cyfnod 3 a fyddai'n dderbyniol i'r ddau ohonom.

Y prif bryder gyda'r gwelliant Cyfnod 2 a gynigiwyd oedd y byddai ei ofyniad i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad o fewn dwy wythnos ar bob achlysur y câi cydsyniad ei roi yn afresymol o feichus o ystyried y nifer fawr o gydsyniadau sy'n debygol o gael eu rhoi yng nghyd-destun Bil ymadael â'r UE. O ganlyniad, datblygwyd gwelliant 3 ar y cyd â Simon Thomas fel bod y gofyniad i gyflwyno adroddiad yn cael ei wneud o fewn cyfnod o 60 diwrnod, gan ddiystyru unrhyw amser y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod angen adroddiad unigol ar gyfer pob cydsyniad a roddir. Bydd yn bosibl cynnwys manylion am faterion lluosog mewn un adroddiad, ar yr amod y darperir manylion unrhyw gydsyniadau o fewn 60 diwrnod i roi'r cydsyniad. Byddai'r dull hwn o weithredu yn gwarantu'r atebolrwydd manwl y ceisiodd y gwelliant gwreiddiol ei ddarparu, ond mewn ffordd sy'n fwy cymesur ac yn llai beichus. Felly, rwy'n cymeradwyo'r gwelliant i'r Aelodau.

Diolch, Llywydd. Ar y mater yma rydym ni wedi dod i gytundeb, ac felly rwy'n falch o weld y gwelliant wedi’i osod gan y Llywodraeth. Fel y mae Julie James wedi ei amlinellu, ein prif bryder ni ddoe oedd i sicrhau bod adrodd yn ôl yn digwydd yn gyson i’r Cynulliad, ond bod yn rhaid i hynny ddigwydd mewn modd, wrth gwrs, a oedd yn rhesymol i’r Llywodraeth ac mewn modd a oedd yn gwneud sens i Aelodau'r Cynulliad hefyd. Felly, mae’r ffaith bod yr adrodd yn digwydd efallai'n cynnwys nifer o ddigwyddiadau yn dderbyniol iawn, achos mae yna sens lle'r ydych chi’n gweld yr holl bictiwr yn dod i'r fei. Felly, ar ôl trafodaethau gyda’r Llywodraeth, ac yn wyneb yr hyn y mae Julie James wedi’i ddweud, rydym ni’n falch iawn o weld y gwelliant yma a byddwn ni yn ei gefnogi fe.

Diolch. Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei gefnogaeth gyda gwelliant 3 ac am ei gyfraniad at ei ddatblygiad, a gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, un yn ymatal, un yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 3: O blaid: 51, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

18:00
Grŵp 3: Diddymu’r Ddeddf (Gwelliannau 1, 2, 4, 5, 6, 8)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, sy'n ymwneud â diddymu'r Ddeddf. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 1 (David Melding).

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau. Roedd yn rhyfedd nad oedd y Bil hwn yn cynnwys cymal diddymu, yn wahanol i Fil yr Alban. Bydd y gwelliant rwy'n siarad amdano yn cywiro'r diffyg hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgan y byddai'n well ganddi symud ymlaen drwy Fil y DU, ac rwy'n derbyn y datganiad hwnnw fel un didwyll. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio cytundeb ar y sail y gallai gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y DU. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddod i gytundeb, ac eisoes wedi gwneud newidiadau buddiol i ddarparu ar gyfer pryderon Llywodraeth Cymru. Gwnaed cynnydd da yr wythnos diwethaf pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Phrif Weinidog y DU. Mae bwriad i gynnal cyfarfodydd pellach i adeiladu ar y cynnydd da hwn er mwyn sicrhau cytundeb terfynol. Felly, mae'n amlwg fod y prif chwaraewyr yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn ddiangen. Felly, mae proses ddiddymu effeithlon yn sicr er budd y cyhoedd.

A gaf fi siarad ychydig ynglŷn â pham y credaf fod fy ngwelliant yn fersiwn well nag un Llywodraeth Cymru? Mae'r fersiwn a osodais yn dilyn model yr Alban. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno opsiwn o ffurf ar broses uwchgadarnhaol, sydd, yn y bôn, yn caniatáu ar gyfer ymgynghori ar ddiddymu. Nid wyf yn credu y byddai hyn er budd y cyhoedd, yn bennaf oherwydd, os ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau, y peth gorau i'w wneud fyddai ei ddiddymu'n gyflym a sicrhau y ceir eglurder llwyr ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol. Y ffordd orau o gyflawni hynny yw bod y lle hwn, ar ôl mynd drwy broses y Bil, yn penderfynu ei ddiddymu wedyn gan y byddai'r amgylchiadau wedi newid cymaint. Hefyd, rwy'n nodi ei bod hi braidd yn rhyfedd cael proses ymgynghori ar ddiddymu pan na fu unrhyw ymgynghoriad o'r fath ar y Ddeddf wreiddiol.

Fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau yn enw'r Llywodraeth. Rŷm ni'n cytuno bod bwlch yn y Bil fel ag y mae i beidio â diddymu'r Bil pe bai cytundeb yn cael ei gyrraedd gyda Llywodraeth San Steffan—dyna'r brif reswm gwleidyddol efallai y bydd yn codi, yn hynny o beth. Mae eisiau jest trysori'r eiliad pan siaradodd David Melding yn erbyn proses uwchgadarnhaol. Mae hwnnw'n un i 'cut out and keep' fel y maen nhw'n ei ddweud, a byddaf yn cofio hynny. Rydw i o'r farn bod y broses yma yn briodol. Ydy, mae'n troi o gwmpas ymgynghoriad, ond fe fydd yna o leiaf sgwrs rhwng pwyllgorau'r Cynulliad a'r Llywodraeth pe bai'r Llywodraeth am ddiddymu'r Bil. Felly, mae'r broses yna yn iawn ac yn briodol, rydw i'n meddwl. Bydd angen inni ddeall, cyn pleidleisio ar ddiddymu'r Bil, a yw'r cytundeb gwleidyddol yn un y byddwn ni fel Cynulliad yn ei dderbyn, er enghraifft. Felly, mae'n hollol briodol bod proses uwchgadarnhaol yn troi o gwmpas diddymu'r Bil.

Mae'r ddadl ynglŷn â'r ffaith bod y Bil wedi'i gyflwyno ar frys yn ddadl wahanol, a byddwn yn dychwelyd ati yng Nghyfnod 4, mae'n siŵr, wrth gloi'r trafodaethau ar y Bil yma. Ond nid yw'n wir i ddweud nad yw'r misoedd diwethaf heb fod yn trafod materion yn ymwneud â'r Bil. Mae Steffan Lewis wedi'i godi sawl gwaith yn y Siambr yma ac mae nifer o gyrff allanol wedi bod yn ei drafod yn ogystal. Rydym ni'n cefnogi'r ffaith bod cymal i ddiddymu'r Bil, ond rydym ni'n hapus, ar ôl trafod gyda'r Llywodraeth, i gefnogi'r gwelliannau yn enw Julie James a'r Llywodraeth.  

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir mai opsiwn wrth gefn yw'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, a'r canlyniad gorau i ni o hyd fyddai Bil ymadael â'r UE diwygiedig sy'n darparu parhad cyfreithiol ar gyfer y DU gyfan ond sy'n parchu ein setliad datganoli yn briodol, fel y mae pawb wedi'i nodi yn y ddadl. Fodd bynnag, mae'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer taith y Bil ymadael â'r UE drwy Senedd y DU yn golygu hyd yn oed pe baem yn pasio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd heddiw byddwn wedi gwneud hynny cyn i Fil ymadael â'r UE gwblhau pob un o'i gyfnodau diwygio. Mae yna gyfle o hyd, felly, i gyrraedd cytundeb boddhaol gyda Llywodraeth y DU ac i'r gwelliannau angenrheidiol gael eu gwneud i'r Bil ymadael â'r UE, ac rwyf am sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau'r canlyniad hwn. Rwy'n siŵr fod pawb yn credu ein bod yn gwneud hynny. Byddai hyn yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad ei fod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael â'r UE. Os rhoddir y cydsyniad hwnnw, ni fyddai angen bwrw ymlaen â gweithredu'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai gwelliant 4 yn ffordd bragmatig o ddiddymu'r Bil heb fod angen deddfwriaeth sylfaenol bellach. Mae'r gwelliant yn adlewyrchu pŵer sydd wedi'i gynnwys ym Mil parhad Llywodraeth yr Alban, fel y nodwyd, ac mae'n darparu hyblygrwydd i'w ddiddymu yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol yn unig. Credaf y bydd pasio'r gwelliant hwn yn arwydd cryf i Lywodraeth y DU, y Senedd a rhanddeiliaid yma yng Nghymru ein bod yn parhau i flaenoriaethu cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE.

Rhaid imi ddweud, David, ar y pwynt hwn, y byddaf innau hefyd yn trysori'r atgof o'r foment y dywedoch nad oeddech yn gweld yr angen am weithdrefn fwy manwl ac mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd nad oedd y Llywodraeth wedi bwrw ymlaen yn y ffordd gywir yn y lle cyntaf. Ni allaf help ond teimlo y byddwn yn eich atgoffa o hynny ar sawl achlysur. Nid wyf yn derbyn nad yw'r Llywodraeth wedi bwrw ymlaen yn y ffordd gywir yn y lle cyntaf, ond mae'n ddadl ddiddorol i'w gwneud.

Beth bynnag, mae gwelliannau 5, 6 ac 8 yn ganlyniad i welliant 4 ac wedi'u cynllunio ar y cyd i sicrhau bod y pŵer i ddiddymu yn ddarostyngedig i ofynion llawn y weithdrefn graffu fwy manwl ac ni ellir ei wneud yn amodol ar y weithdrefn frys. Gan mai pŵer i ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau yw hwn, rwyf o'r farn ei bod yn hanfodol ei fod yn amodol ar drylwyredd llawn y weithdrefn graffu fwy manwl. Am y rheswm hwnnw buaswn yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 1 a 2 David Melding. Er y byddai'r rhain yn cyflwyno pŵer diddymu tebyg i'r hyn a geir yng ngwelliant 4, fel y dywedodd, byddent yn gwneud defnydd o'r pŵer hwnnw yn amodol ar lefel is o graffu, ac rwy'n ystyried y byddai hynny'n amhriodol yn yr achos hwn.

18:05

Diolch i'r Aelodau am eu perfformiad seneddol egnïol a'u syniadau ynglŷn â fy safbwyntiau traddodiadol ar y materion hyn.

Y pwynt yw, dros y maes pwysig hwn o gyfraith gyfansoddiadol ac ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, mae arnom angen eglurder cyfreithiol. Byddai angen inni symud yn gyflym. Y rheswm pam rydych yn dadlau bod yn rhaid i chi wneud hyn ar frys yw bod angen cyflymder yn y broses. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl, mewn perthynas â mater fel hwn, i oedi wedyn ac achosi ansicrwydd drwy gael proses feichus iawn. Felly, mae er budd y cyhoedd yn yr achos hwn i symud yn gyflym a sicrhau eglurder.

Nawr, o ran yr hyn a ddywedodd Simon, wyddoch chi, fel cyn Gadeirydd a Dirprwy Lywydd a oedd yn frwd iawn ynglŷn â'r broses uwchgadarnhaol, y cyfan y gallaf ei ddweud yw'r hyn a ddywedodd gwas sifil uchel iawn wrthyf unwaith pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi ei lorio o ran yr hyn roedd wedi'i ddweud. Edrychodd arnaf a dweud, 'Wyddoch chi, mae bod yn oedolyn yn golygu weithiau eich bod yn gorfod byw gyda pharadocs'. Rwy'n cynnig y gwelliant. [Chwerthin.]

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 1: O blaid: 18, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2 (David Melding).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

Gwelliant 2: O blaid: 18, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Os gwrthodir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5, 6 ac 8 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, ymatal un, a phump yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

Gwelliant 4: O blaid: 47, Yn erbyn: 5, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pedwar-deg saith o blaid, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

Gwelliant 5: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pedwar-deg saith o blaid, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant.

18:10

Gwelliant 6: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 4: Gweithdrefnau—Gwelliant Technegol (Gwelliant 7)

Y grŵp nesaf a'r grŵp olaf o welliannau yw grŵp 4, sy'n ymwneud â gweithdrefnau—gwelliant technegol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a'r unig welliant, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y gwelliant—Julie James. 

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 7 yn welliant technegol yn dilyn y gwelliant a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 i gyflwyno adolygiad a darpariaeth fachlud yn adran 12. Mae gwelliant 7 yn atal y weithdrefn frys rhag dod yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau a wnaed o dan adran 12, hynny yw, rheoliadau i estyn y cyfnod y mae'r pŵer i wneud darpariaeth sy'n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael yn parhau mewn grym.

Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar welliant 7 gan y bydd yn sicrhau bod y defnydd o reoliadau a wnaed o dan adran 12 yn ddarostyngedig i lefel briodol o graffu gan y Cynulliad.

Nid oes neb wedi dangos eu bod nhw eisiau siarad ar y gwelliant yma. Felly, rydw i'n cymryd nad yw'r Aelod eisiau ymateb i'r ddadl. 

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

Gwelliant 7: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, chwech yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 8. 

Gwelliant 8: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Rydym ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, gallaf i gadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i. Galwaf ar arweinydd y tŷ i nodi unrhyw gydsyniadau gofynnol o dan Reol Sefydlog 26.67—Julie James.

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James. 

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ei absenoldeb, am y gwaith a gyflawnodd ar ddatblygu a chyflwyno'r Bil hwn? Gwn y bydd yn hynod o siomedig nad oedd yma ar gyfer cam terfynol y broses, ond fe fydd yn falch iawn os caiff y Bil ei basio oherwydd yr arwydd clir y bydd yn ei roi o'n hymrwymiad i ddiogelu'r setliad datganoli gan helpu i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth i'r DU adael yr UE. Fodd bynnag, fy rôl i bellach yw helpu i lywio'r Bil drwy ei gyfnodau olaf, ac rwy'n ystyried hynny'n fraint fawr. Mae'r Bil yn gynnyrch cyfnod dwys o waith caled, i ddechrau ar ran swyddogion ac yn fwy diweddar ar ran Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd, aelodau a staff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn arbennig am fynd ati mor gyflym i ystyried y Bil ac yna i lunio adroddiad yn nodi cyfres ddefnyddiol o argymhellion, sydd wedi gwneud y Bil yn fwy cadarn.

Hoffwn gofnodi fy niolch i Simon Thomas, am ei ymagwedd adeiladol tuag at y Bil hwn. Yn sicr mae ei her a'i gymorth yn ystod y camau craffu wedi gwella'r Bil. [Torri ar draws.] Rydych yn ei dweud hi fel y mae. Bu'n ddefnyddiol iawn, ac fel rwy'n dweud, mae ei her a'i gymorth yn ystod y cyfnodau craffu yn sicr wedi gwella'r Bil.

Rhaid i mi ddiolch yn arbennig hefyd i Steffan Lewis am fod y cyntaf i hyrwyddo, gydag angerdd mawr, yr angen am Fil parhad i Gymru, ac am y cyfraniad a wnaeth i'n cael ni i'r sefyllfa hon.

Mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio'r Bil hwn.

Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir drwy gydol pob cam o'r broses hon fod y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn opsiwn wrth gefn, a dyna ydyw o hyd. Y canlyniad gorau inni o'r cychwyn yw bod Bil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU yn cael ei ddiwygio fel ei fod yn darparu parhad cyfreithiol a sicrwydd ar gyfer y DU gyfan, tra'n parchu ein setliad datganoli yn briodol. Rydym yn parhau i weithio'n galed yn y trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i'r perwyl hwn, ac rydym yn parhau'n obeithiol y gellir cyrraedd cytundeb sy'n arwain at y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE.

Fodd bynnag, rwyf am fod yn glir nad yw'r ffaith ei fod, ac yn parhau i fod yn opsiwn wrth gefn yn lleihau pwysigrwydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd heddiw, os caiff ei basio heddiw, oherwydd bydd y Bil yn gwneud dau beth hanfodol. Yn gyntaf, bydd yn ein galluogi i baratoi'n rhesymol ac yn synhwyrol ar gyfer y posibilrwydd na chaiff y Bil ymadael â'r UE ei ddiwygio mewn ffordd sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad hwn y dylid pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Un prif reswm dros gyflwyno'r Bil hwn yw nad yw ein hymagwedd tuag at y Bil ymadael â'r UE mewn unrhyw ystyr yn ymwneud â cheisio rhwystro Brexit. Byddai gwrthod cydsyniad deddfwriaethol heb ddarparu ffordd arall o sicrhau parhad deddfwriaethol yn anghyson â'n ffocws clir ar ffurf nid ffaith Brexit, i ddyfynnu fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

Pe na bai'r Cynulliad yn gallu rhoi cydsyniad, byddai'n rhaid inni sicrhau bod trefniadau amgen priodol yn eu lle i'w gwneud hi'n bosibl i gyfraith sy'n deillio o'r UE barhau yng Nghymru gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Byddai methiant i wneud hynny'n gadael dinasyddion a busnesau Cymru yn agored i sefyllfa annioddefol o ansicrwydd cyfreithiol, gyda thyllau yn y llyfr statud ar adeg Brexit. Bydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.

Yn ail, bydd pasio Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn dangos i Lywodraeth y DU fod y Cynulliad hwn o ddifrif ynglŷn â diogelu'r setliad datganoli a sicrhau y perchir canlyniadau dau refferenda ar ddatganoli yn briodol. Ni ddylid defnyddio Brexit fel esgus i danseilio awdurdod y Cynulliad hwn a chyfyngu ar ei bwerau. Ein cyfrifoldeb ni fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru yw sefyll dros ddatganoli ac amddiffyn buddiannau'r genedl. Fe'm calonogwyd gan y gefnogaeth glir ar draws y Cynulliad i'r safbwynt hwnnw. Cawn weld yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf a gyrhaeddir cytundeb ar y diwygio sy'n angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE, a byddwn yn parhau i weithio i gyflawni hynny, gan mai dyna yw'r canlyniad a ffafriwn o hyd.

Fodd bynnag, os na cheir cytundeb, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond bwrw ymlaen â gweithredu'r Bil hwn, sy'n ddarn cadarn a deallus o ddeddfwriaeth sy'n adlewyrchu'n dda ar y ddeddfwrfa ifanc ond penderfynol hon. Rwy'n cymeradwyo'r Bil i'r Cynulliad.

18:15

Rydym yn parhau i wrthwynebu'r Bil hwn mewn egwyddor am y rhesymau a nodais yng Nghyfnod 1. Nid wyf yn meddwl bod dim sydd wedi digwydd y prynhawn yma yn gallu sicrhau pobl fod hon wedi bod yn broses gadarn ar gyfer unrhyw fath o Fil, a dweud y gwir, heb sôn am Fil cyfansoddiadol. Ond yn y bôn, fel y dywedais yng Nghyfnod 1, proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r mecanwaith cyfansoddiadol priodol i ddiogelu'r setliad datganoli.

Rwyf am gloi gyda'r apêl hon: mae'n bryd i bob plaid ganolbwyntio ar y trefniadau rhynglywodraethol sydd eu hangen i sefydlu trefniadau cydlywodraethu dros fframweithiau'r DU. Os ydym am weld undeb gref ar ôl Brexit, mae angen i'r DU ganolbwyntio ar y materion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar lywodraethu'r DU ar ôl Brexit, sydd ei hun yn adleisio llawer o adroddiadau eraill a luniwyd mewn deddfwrfeydd eraill, yn San Steffan, ac yn yr Alban rwy'n credu. Dyna sydd ei angen arnom. Mae angen inni gael system sy'n mynd â ni allan o Ewrop ond nad yw'n gwanhau'r cyfansoddiadau datganoledig eraill yn ystod y broses honno. Ac ar y mater hanfodol hwnnw, byddwn yn ceisio rhoi pob cymorth priodol i Lywodraeth Cymru pan fo'n gweithredu er budd y genedl. Diolch.

Hoffwn innau ddiolch i bawb a fu yn paratoi'r Bil yma. Diolch i'r Llywodraeth a swyddogion y Llywodraeth am nifer o sgyrsiau adeiladol. Mae nifer o'r meysydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi bod yn gytûn, a mater o drafod sut i ddelio gyda nhw ar wyneb y Bil oedd hi. Mae yna un maes, wrth gwrs, lle nad oeddem ni'n cytuno, a dyna beth oedd ffrwyth ein dadl ni heddiw. Ond, bydd Plaid Cymru nawr yn cefnogi'r Bil yma yn ei gyfnod olaf.

Fel Julie James hithau, rwy'n sefyll fan hyn ar ysgwyddau rhywun arall sydd wedi gwneud llawer o waith ar y Bil yma, sef Steffan Lewis. Rwy'n gwybod y bydd e'n falch iawn o weld y Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad heno. Bu Steffan yn dadlau dros y Bil yma ers yr haf diwethaf a dweud y gwir. Mae safbwynt Plaid Cymru bach yn wahanol i safbwynt y Llywodraeth. Rŷm ni'n credu bod y Bil yma yn ateb priodol i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym ni'n gweld o reidrwydd fod rhaid aros i San Steffan gytuno â'r hyn sydd yn cael ei wneud. Rŷm ni wedi gweld ymdrech glir gan Llywodraeth San Steffan i gipio pwerau sydd yng nghymal 11 o'r Bil gadael yr Undeb Ewropeaidd ers y dyddiau cyntaf, ac yn wir wedi rhybuddio sawl gwaith—minnau a Steffan Lewis wedi rhybuddio sawl gwaith—mai dyna beth oedd yn digwydd. Nid ydym ni'n dal wedi gweld yn glir iawn a fydd hwn nawr yn cael ei ddatrys.

Mae'n Ddeddf bwysig, felly, rwy'n cytuno'n llwyr ar hynny. Wrth inni basio'r Ddeddf, rwy'n gobeithio y bydd hwn nawr yn grymuso Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â negodi gyda Llywodraeth San Steffan a gwneud yn siŵr nad oes modfedd o dir wedi'i ddatganoli yn cael ei ildio i Lywodraeth San Steffan. Mae'n hollbwysig ar gyfer trefn ac ar gyfer ffurf wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fod yna fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol. Nid yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny. Er bod gyda ni weledigaeth wahanol ar gyfer dyfodol y Deyrnas Gyfunol, nid ydym yn gwrthwynebu hynny o gwbl, ond rydym ni heb weld eto unrhyw arwydd o gydweithio gan Lywodraeth San Steffan ar y materion hyn. Ac mae'n amlwg na fyddai angen cymal 11 yn Neddf San Steffan oni bai bod y pwerau hynny yn dychwelyd yn awtomatig ac yn llyfn i'r lle hwn, heb fod y cymal fel argae, yn dal y pwerau yn ôl. Felly, mae'n hollbwysig ein bod ni'n chwalu'r argae yna ac yn llifo'r pwerau i'w dychwelyd yn uniongyrchol i'r Senedd yma fel ein bod ni'n gallu defnyddio'r pwerau ar ran pobl Cymru, neu hyd yn oed ddatganoli pellach tu fewn i Gymru, wrth gwrs, gan ddibynnu beth yw'r rôl briodol.  

Rwy'n nodi bod hwn yn fygythiad ymarferol go iawn. Nid rhyw fath o ddadl gyfansoddiadol yw hyn fel y mae rhai wedi awgrymu dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Mae'n ymwneud â bywydau bob dydd pobl: mae sut rydych yn ffermio, sut yr edrychwn ar ôl yr amgylchedd, sut yr edrychwn ar ôl ein diogelwch cymdeithasol, sut rydym yn byw gyda'n gilydd fel cymunedau, yn cysylltu'n agos â sut rydym yn cytuno i fyw gyda'n gilydd ar yr ynysoedd hyn. Felly, mae unrhyw ymgais i fynd â phwerau oddi wrth y Senedd hon yn effeithio ar fywydau pob dydd. Nid cwestiwn cyfansoddiadol diflas ydyw. Mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol arnom.

Gwelais heddiw fod DEFRA yn hysbysebu am gynghorwyr polisi ar gyfer fframwaith amaethyddol i'r DU. Credaf fod hynny'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am syniad DEFRA o sut y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn rhannu'r syniad hwnnw. Bydd y Bil hwn yn cryfhau llaw y Senedd, a dyna pam rydym yn cefnogi'r Bil hwn yn y pen draw.

18:20

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi fy ngorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines i roi gwybod i'r Cynulliad, ar ôl cael ei hysbysu ynglŷn â pherwyl y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fod Ei Mawrhydi wedi rhoi cydsyniad i'r Bil hwn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu sylwadau, ac am gefnogaeth rhai ohonynt heddiw. Rwy'n ddiolchgar fod y Torïaid wedi cymryd rhan y ddadl yn y diwedd. Mae'n bwysig fod gennym oll lais o ran lle rydym. Lywydd, mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i ddatganoli yng Nghymru, ac mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i'r Cynulliad am gymeradwyaeth derfynol. Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i'r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth Cymru. Diolch yn fawr.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, un yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig. 

Cynnig i gymeradwyo'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.