Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
30/01/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru? OAQ51651
Mae tyfu ein heconomi a lledaenu cyfleoedd yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae'r cynllun yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i wella enillion a ffyniant yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, cyflwynodd yr Athro Steve Fothergill dystiolaeth i ni yn dangos y cysylltiad amlwg rhwng cyflogau isel a hen ardaloedd diwydiannol Cymru. Dim ond 90 y cant o gyfartaledd y DU yw'r cyflog canolrifol mewn hen ardaloedd diwydiannol. Mae menywod yn fwy difreintiedig na dynion, ac mae cyflog canolrifol yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn 67 y cant yn unig o'r hyn a welir yn Llundain. A wnewch chi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu mynd i'r afael â chyflogau isel yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru, fel fy etholaeth i, sef Cwm Cynon?
Gwnaf, rydym ni'n mynd i'r afael â'r problemau a achoswyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn y 1990au, pan gafodd gwerth ychwanegol gros y pen ei gadw'n isel yn fwriadol, wrth i swyddi â chyflogau da gael eu dileu a'u newid am swyddi a oedd ar raddfa gyflog llawer is. Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, bod anghydraddoldebau presennol yn bodoli mewn gwahanol ranbarthau ledled Cymru, a bydd y cynllun gweithredu economaidd yn lledaenu cyfleoedd a ffyniant ar draws Cymru gyfan.
O ran gweithredu'r cynllun, ochr yn ochr â strategaethau eraill, byddwn yn sicrhau canlyniadau pendant yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i holl bobl Cymru, gan gynnwys yr hen ardaloedd diwydiannol.
Prif Weinidog, rydym ni wedi pasio deddfwriaeth, neu is-ddeddfwriaeth, fel Cynulliad yn ddiweddar, a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi, yn galluogi gweithwyr gofal sydd wedi bod ar gontractau dim oriau am fwy na thri mis i drosglwyddo i gontract isafswm oriau os ydynt yn dewis gwneud hynny. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, byddwn i'n dweud, roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 344 o aelodau o staff i gyd ar gontractau dim oriau, er, wrth gwrs, nid i gyd yn weithwyr gofal. A ydych chi'n ystyried ymestyn y cynnig sy'n cael ei wneud i weithwyr gofal i'r rheini nad ydynt yn weithwyr gofal hefyd, pan ddaw i drosglwyddo o gontractau dim oriau i drefniadau mwy parhaol?
Wel, mae'r rhain yn bethau yr ydym ni'n dal i'w hystyried. Gallaf ddweud bod gwaith teg yn bwysig i ni, a dyna pam mae bwrdd gwaith teg wedi ei gynnull ac mae'n archwilio sut y gallwn ni ysgogi canlyniadau gwaith teg ymhellach o arferion gwariant a chaffael cyhoeddus yng Nghymru. Gallaf ddweud bod y bwrdd gwaith teg o'r farn bod cyflogau teg a derbyniol ac incwm gwarantedig yr awr yn angenrheidiol i sicrhau mwy o sicrwydd ariannol i unigolion, ac i'w galluogi i gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau.
Prif Weinidog, mae galwadau i weithredu wedi'u cynnwys yn eich contract economaidd, y bydd yn ofynnol i fusnesau eu dilyn os byddant eisiau cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes yr un o'r galwadau hynny i weithredu yn ymwneud yn benodol â mynnu cyflog byw nac unrhyw fathau o gymhellion ynghylch cyflogau yn benodol. O gofio bod Cymru yn wlad cyflog isel, â chyflogau £50 yn llai yr wythnos na gweddill y DU, a wnewch chi egluro pa un a fydd busnesau sy'n dymuno cael cymorth gan eich Llywodraeth yn talu cyflog byw wrth i ni symud ymlaen, neu a fydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny, ac, os na fyddant, a allech chi esbonio pam na fyddant?
Gallaf ddweud ein bod ni'n cefnogi, wrth gwrs, y cysyniad o gyflog byw. Rydym ni wedi llunio canllaw ar weithredu'r cyflog byw trwy gaffael, sydd wedi ei roi ar gael i sefydliadau'r sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym ni wedi cymryd camau pendant i wella llesiant gweithwyr sy'n rhan o gadwyni cyflenwi sector cyhoeddus yng Nghymru a ledled y byd, gan lansio cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yng Nghymru, ac mae'r cod hwnnw'n canolbwyntio ar sicrhau arferion cyflogaeth da ac yn cynnwys ymrwymiad i ystyried talu cyflog byw i bob aelod o staff fel y'i pennir gan y Living Wage Foundation.
O ran gwaith teg, gallaf ddweud bod y Bwrdd ei hun, sy'n cael ei arwain gan Julie James, wedi gwneud cynnydd da, o ran diffinio ystyr gwaith teg ac o ran nodi'r cymhellion y gallwn ni eu defnyddio i gynyddu faint ohono sydd ar gael ledled Cymru.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o ddigartrefedd yn Arfon? OAQ51655
Mae mynd i’r afael â digartrefedd ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, fel y nodir yn 'Ffyniant i Bawb', ac, wrth gwrs, rydym yn cefnogi hynny drwy'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud ynglŷn â'r gyllideb. Mae o leiaf 357 o aelwydydd wedi eu rhwystro rhag dod yn ddigartref yng Ngwynedd ers mis Ebrill 2015 o ganlyniad i’n deddfwriaeth, ein canllawiau a’n cyllid.
Mae'r cynnydd mewn cysgu allan yn cael ei weld fel problem i Gaerdydd a'r ardaloedd trefol mawr, ond mi rydw i'n bryderus o weld cynnydd ym Mangor, sy'n datblygu'n gyrchfan i'r rhai sydd yn ddigartref ar draws y gogledd-orllewin a thu draw. Mae yna beth cefnogaeth ar gael—mae yna ddwy hostel—ond mae angen canolfan ddydd yn y ddinas lle y gall pobl gael gafael ar gymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol. Rydw i'n cyfarfod efo'r asiantaethau yr wythnos yma i drafod sut i gael cynllun fel hyn ar y gweill. A fedrwch chi gadarnhau y bydd peth o'r arian ychwanegol ar gyfer taclo digartrefedd ymhlith yr ifanc—yr arian yma y gwnaethoch chi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr—yn cael ei wario ym Mangor?
Wel, mae yna gwestiwn fan hyn i awdurdod Gwynedd. Gwynedd oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i beidio gofyn am gyllid o dan y rhaglen y gwnaethom ni ei datgan yr haf diwethaf i helpu i daclo digartrefedd ymhlith pobl ifanc a hefyd pobl yn cysgu y tu fas. Mae swyddogion wedi cwrdd â swyddogion yr awdurdod lleol, yn pwyso arnyn nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn cael gafael ar bob cyfle er mwyn dod â gafael ar y broblem hon. Ynglŷn â'r arian sydd wedi cael ei ddatgan, bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried ynglŷn â pha ffordd yw'r ffordd orau i sicrhau bod y canlyniadau rydym ni'n moyn eu gweld yn dod i rym.
Yn nigwyddiad Digartref Ynys Môn a Phrifysgol Bangor yn y Cynulliad fis Medi diwethaf, clywsom bobl ifanc a oedd yn ddigartref eu hunain yn trafod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. A dywedasant y gallai fod gan bobl ifanc sy'n byw mewn llety â chymorth lu o broblemau i ymdrin â nhw ac y gallent fod yn brwydro â hyn ochr yn ochr ag astudio ac aseiniadau. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â phrosiect Hwb—prosiect Hwb Grŵp Cynefin—yn Ninbych, i ymweld â'r prosiect llety â chymorth yno, sy'n cynorthwyo pobl ifanc ac yn eu paratoi ar gyfer byw yn annibynnol, a sied ieuenctid Dinbych hefyd, a gafodd ei dylunio a'i chreu gan bobl ifanc o brosiect HWB, gan weithio gyda Scott Jenkinson a'r grŵp hyfforddiant 4:28, i ddarparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, i ddatblygu perthynas gymdeithasol gydag esiamplau priodol, ac i ddatblygu a dysgu sgiliau. A wnewch chi yn gyntaf ymuno â mi i longyfarch y bobl ifanc hynny ar ffurfio'r sied ieuenctid gyntaf yng Nghymru, ac yn ail cadarnhau pa un a wnaiff Llywodraeth Cymru eu cefnogi nhw yn eu gweledigaeth i roi sied ieuenctid i bob tref yng Nghymru?
Wel, mae'r cwestiwn yn ymwneud ag Arfon, ond mae'n gwestiwn pwysig, y byddaf yn ei ateb. Yn gyntaf, wrth gwrs, rwy'n ymuno ag ef i longyfarch y blaengarwch y mae pobl ifanc wedi ei ddangos. Hoffwn wybod mwy am hyn, a byddwn yn fwy na pharod i gael mwy o wybodaeth ynghylch beth oedd y broses ar gyfer sefydlu'r sied ieuenctid a sut efallai y gellir mabwysiadu'r model ledled Cymru.
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ei hadroddiad ar yr ymchwiliad i ddatgeliadau a gomisiynwyd gennych chi ganddi hi ynghylch ad-drefnu'r Cabinet ym mis Tachwedd y llynedd. Nododd yr adroddiad na fu unrhyw ddatgeliadau heb awdurdod. A ydych chi'n hyderus nad oedd unrhyw ddatgeliadau heb awdurdod, ac a wnewch chi— a wnewch chi— roi'r adroddiad hwnnw ar gael, fel y gallwn ni ddarllen drwy'r adroddiad hwnnw a dod i'n casgliadau ein hunain mewn gwirionedd?
Ydw, rwy'n ffyddiog nad oedd unrhyw ddatgeliadau heb awdurdod, fel y'i galwodd nhw. Ond a gaf i ddweud bod pwynt pwysig iawn i'w gofio yn y fan yma? Daeth pobl yn eu blaenau i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn i ddatgeliadau ar sail cyfrinachedd. Yr hyn y mae e'n gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei wneud—oherwydd ei phenderfyniad hi yw hwn—yw datgelu pwy yw'r bobl hynny, i'r dystiolaeth gael ei rhoi ar gael a'u henwau. Byddai cam o'r fath, mae'n rhaid i mi ddweud, yn waradwyddus ac yn anonest, a byddai'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.
Yn ail, mae ymchwiliadau eraill sy'n parhau. Mae'n bwysig dros ben bod pobl yn teimlo y gallant ddod ymlaen i roi tystiolaeth i'r ymchwiliadau hynny. Nawr, os nad ydynt yn gallu cael y sicrwydd eu bod nhw'n mynd i allu rhoi tystiolaeth yn gyfrinachol, yna ni fyddan nhw'n dod ymlaen. Ceir perygl gwirioneddol os yw'r cam sy'n—. Nid dyma y mae'n fy annog i'w wneud, ond gallai'r cam y mae'n fy annog i'w gymryd arwain at fygwth tystion, ac iddyn nhw beidio â dod ymlaen. Nid yw hynny'n rhywbeth y mae'n ei awgrymu mewn gwirionedd, rwy'n deall hynny, ond dyna yw canlyniad hynny.
Ac felly mae'n gwbl anghywir i unrhyw ymchwiliad, pryd y gofynnir i bobl roi tystiolaeth yn gyfrinachol, ganfod wedyn bod eu tystiolaeth yn mynd i gael ei chyhoeddi mewn gwirionedd, a'u henwau. Nid yw hynny'n helpu o ran pobl yn dod ymlaen neu'n cael eu hannog i ddod ymlaen, gyda thystiolaeth, mewn ymchwiliadau eraill.
Rwyf yn cytuno â chi, Prif Weinidog. Hoffwn greu amgylchedd sy'n annog cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â'r ymchwiliadau amrywiol sy'n ymchwilio i'r digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu'r Cabinet fis Tachwedd diwethaf. Ac yn sicr ni fyddwn yn bwriadu datgelu enw unrhyw un, oherwydd byddai hynny'n groes i egwyddorion unrhyw ymholiad neu ymchwiliad. Ond nid yw'n afresymol, i mi nac unrhyw Aelodau arall, yng ngoleuni unrhyw un o 101 o negeseuon trydar y gallaf gyfeirio atynt—a defnyddiaf ddim ond yr un neges trydar hwn sydd ar gyfryngau cymdeithasol:
cael fy hysbysu gan ffynonellau bod yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant yn colli.
Mae'n beth pwysig nad yw'n dweud 'wedi colli' ei swydd, ond 'yn colli ei swydd', ac roedd hynny cyn ad-drefnu'r Cabinet. Nawr, nid yw hynny'n afresymol, a gallwn gyfeirio at lawer o rai eraill gan newyddiadurwyr a lobïwyr a ddefnyddiodd yr un math o iaith. Felly, nid yw'n afresymol i bobl sydd wedi gweld beth sydd wedi digwydd ofyn y cwestiwn: pam oedd iaith o'r fath yn cael ei defnyddio gan bobl mewn swyddi proffesiynol a phobl y gwyddom fod ganddynt fynediad at beiriant gwybodaeth y Llywodraeth i gyhoeddi negeseuon o'r fath? Eto, byddwn yn gofyn i chi, gan ddefnyddio'r broses olygu a gwneud yn siŵr bod manylion adnabod pobl wedi eu cuddio, roi yr adroddiad hwn ar gael fel y gallwn ystyried ei ganfyddiadau wrth i ni ystyried llawer o adroddiadau eraill sy'n cael eu rhoi ar gael i'r Cynulliad hwn.
Felly, Twitter sy'n cael ei ddefnyddio nawr, ife, i farnu a yw—? [Torri ar draws.] Nid yw Twitter yn dystiolaeth. Nid yw Twitter yn dystiolaeth; clecs yw Twitter. Bu ymchwiliad. Cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw gan bennaeth diogelwch y Llywodraeth. Oni bai fod gan y Ceidwadwyr Cymreig dystiolaeth bod yr ymchwiliad wedi ei gyfaddawdu mewn rhyw ffordd, yna mae'r ymchwiliad ar ben. Rwyf wedi rhoi iddo yr ateb yr oedd ei angen arno ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho nad wyf i'n fodlon—nid fy mhenderfyniad i yw hwn; penderfyniad yr Ysgrifennydd Parhaol ydyw— i ystyried sefyllfa lle y dywedir wrth bobl, 'Dewch ymlaen, rhowch dystiolaeth yn gyfrinachol' ac y dywedir wrthyn nhw wedyn, 'O, rydym ni'n mynd i gyhoeddi eich holl dystiolaeth a'ch enwau nawr'. Mae hynny'n dwyn anfri ar y Llywodraeth.
Does neb yn gofyn am enwau, Prif Weinidog, ac mae digon o brosesau y gallwch chi gyfeirio atyn nhw lle mae manylion adnabod pobl wedi ei cuddio. Fe wnes i gyfeirio at Twitter, ond rwy'n eich cyfeirio at gyfryngau cymdeithasol hefyd. Rwyf i wedi rhoi enghreifftiau i chi yn y fan yma. Dyna'r iaith gan bobl broffesiynol a oedd yn cael ei defnyddio tua adeg ad-drefnu'r Cabinet, ac roedden nhw'n ei defnyddio ddau neu dri diwrnod cyn yr ad-drefnu. Byddwn yn gobeithio y gellir eich rhyddhau o unrhyw fai ac y gellir diystyru rhai o'r honiadau echrydus y mae'r Llywodraeth yn cael ei chyhuddo ohonynt, oherwydd rydym ni'n gwybod y drasiedi a ddeilliodd ohonynt yn y pen draw. Ond mae'n anodd i mi, i Aelodau eraill ac i bartïon â buddiant fod â hyder mewn adroddiadau yr ydym ni'n cael ein hatal rhag eu gweld.
Nawr, rwy'n clywed yr hyn a ddywedasoch wrthyf i ddwywaith heddiw. Mae gen i dri chwestiwn. Mae'n rhaid bod ffordd o ganiatáu i wybodaeth gael ei chyflwyno sydd wedi ei golygu ac a all roi ffydd y gall yr adroddiad hwn ddiystyru safbwyntiau a ffurfiwyd ar sail rhai o'r honiadau. Mae peidio â chael cyfle i weld yr adroddiad hwn yn ei gwneud yn anodd iawn i ddadlau'r achos hwnnw. Byddwn yn dadlau y dylech eistedd i lawr gyda'r Ysgrifennydd Parhaol i lunio fformiwla a fydd yn caniatáu i ni gael golwg ar gymaint o'r adroddiad â phosibl, gan osgoi datgelu unrhyw enwau na manylion adnabod pobl, fel y gallwn ni fod â'r ffydd hwnnw, oherwydd mae'r dystiolaeth—a gallaf gynnig llawer o enghreifftiau eraill—yn cyfeirio at wybodaeth a oedd eisoes yn gyhoeddus cyn i Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet ddod i mewn i gael y drafodaeth honno gyda chi. Mae hynny'n ffaith.
Mae'n rhaid i mi ddweud os oes unrhyw beth ar Twitter yn dystiolaeth, yna peidiwch byth â chyflwyno unrhyw dystiolaeth mewn llys ar unrhyw gyfrif—peidiwch byth â chyflwyno tystiolaeth mewn llys. Y cwbl yw hyn yw ensyniadau, clecs, clebran, y math o beth y mae rhai gwleidyddion yn hoff iawn ohono. Rwyf i'n ymdrin â thystiolaeth. Bu ymchwiliad. Mae'r ymchwiliad hwnnw wedi ei gynnal. Gwahoddwyd pobl i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw a mater iddyn nhw oedd pa un a oeddent yn rhoi tystiolaeth ai peidio. Roedd rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad yn bwysig ac anogwyd pobl i ddod ymlaen. Mae'r ymchwiliad hwnnw ar ben erbyn hyn. Ni ellir rhwystro'r ffaith nad yw'n cyd-fynd â damcaniaethau cynllwynio rhyfedd rhai pobl, mae gen i ofn. Ond oni bai fod gan yr Aelodau dystiolaeth fod pennaeth diogelwch Llywodraeth Cymru wedi ei gyfaddawdu rywsut, bod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi cael ei gyfaddawdu, mae'r ymchwiliad wedi adrodd ac mae'r ymchwiliad yn eglur o ran canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
A yw'r Prif Weinidog wedi gweld yr adroddiad gan y Centre for Cities o'r enw 'Cities Outlook 2018', sy'n amcangyfrif y gallai 112,000 o swyddi fod mewn perygl yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe o ganlyniad i awtomeiddio? Ceir rhai sy'n dweud yn angharedig, wrth gwrs, bod Llafur Cymru wedi arwain y ffordd ym maes roboteg, ond ceir pwynt difrifol yma hefyd, oherwydd yr ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n andwyol gan awtomeiddio yw'r ardaloedd hynny sydd eisoes wedi eu dad-ddiwydiannu ac lle mae diweithdra ar ei uchaf. A dweud y gwir, Alyn a Glannau Dyfrdwy, yn ôl yr adroddiad hwn, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf—35 y cant o swyddi mewn perygl oherwydd awtomeiddio. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrth y Cynulliad pa gynlluniau pendant sydd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r bygythiad hwn sy'n ein hwynebu ar y gorwel?
Mae awtomeiddio yn sicr yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Mae sut yr ydym ni'n ymdrin ag awtomeiddio yn sicr yn rhan o hynny. Gwn fod llawer o'm cyd-Aelodau sy'n eistedd ar y meinciau cefn, Lee Waters yn eu plith, wedi bod yn uchel eu cloch am yr angen i ni wynebu'r her hon. Fel y dywedaf, mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod yn y cynllun gweithredu economaidd fel rhywbeth y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef. Nawr, mae sut y gwneir hynny yn dibynnu ar ba mor gyflym y bydd awtomeiddio yn datblygu, darogan pa sectorau fydd yn cael eu hawtomeiddio gyntaf, ac yna, wrth gwrs, uwchsgilio ein pobl. Mae hyfforddi ein pobl i edrych ar swyddi newydd yn rhan hynod bwysig o sicrhau bod gennym ni swyddi yn y dyfodol.
Nid oes gen i unrhyw anhawster o ran cytuno â'r Prif Weinidog am hynny, ac, yn wir, yn talu teyrnged i swyddogaeth Lee Waters o ran codi'r mater hwn yn y Cynulliad, ond mae pethau eraill y gellir eu gwneud hefyd. Yr ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan hyn, unwaith eto, yn ôl nid yn unig yr adroddiad hwn ond hefyd un gan sefydliad arall o'r enw Future Advocacy—mae'n dweud y gallai un o bob pump o swyddi ym mhob etholaeth yn y Deyrnas Unedig gyfan ddiflannu erbyn 2030. Yn y dinasoedd yn arbennig, mewnfudo ar raddfa fawr sydd yn effeithio fwyaf ar hyn. Heb adael y farchnad sengl, wrth gwrs, ni fyddwn yn gallu adennill rheolaeth dros ein ffiniau a dewis y grwpiau sydd â'r sgiliau y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol, a hefyd rheoli llif y rheini a fydd yn gwaethygu problemau sy'n mynd i godi ohonynt eu hunain beth bynnag. Hyd yn oed ar sail y ffigurau diweddaraf, a oedd yn sylweddol is na'r cyfnod blaenorol, mae mewnfudo net yn 230,000 y flwyddyn. Casnewydd, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam yw'r dinasoedd sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn yng Nghymru. Dyma'r ardaloedd hefyd sydd fwyaf tebygol felly o weld cywasgiad cyflogau yn cael ei waethygu ymhellach o ganlyniad i awtomeiddio. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog dderbyn nawr bod rhai rheolaethau synhwyrol dros fewnfudo yn angenrheidiol? Ac mae hynny'n golygu gadael y farchnad sengl.
Wel, nac ydy, dyw e ddim, oherwydd byddai hynny'n dinistrio'r farchnad yr ydym ni'n gwerthu ynddi, wrth gwrs. Mae'n gwybod yn iawn bod 60 y cant o'r hyn yr ydym ni'n ei allforio yn mynd i'r farchnad sengl a bod 90 y cant o fwyd a diod yn mynd i'r farchnad sengl. Os bydd yr allforion hynny'n cael eu peryglu, os bydd galw yn gostwng am yr hyn yr ydym ni'n ei gynhyrchu yn y marchnadoedd hynny, byddwn ni'n colli swyddi. Mae mor syml â hynny. Nid yw'n gwestiwn o fewnfudo, mae'n gwestiwn o wneud yn siŵr bod gennym ni'r marchnadoedd sydd eu hangen arnom i gynnal y galw am yr hyn yr ydym ni'n ei gynhyrchu ac yna'n gallu ei werthu, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod bod y farchnad sengl Ewropeaidd yn bwysig dros ben. Os na allwn ni ddod i gytundeb gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd, nid oes unrhyw obaith o gael cytundeb gydag unrhyw farchnad arall.
Wel, yn sicr nid wyf i'n cytuno â hynny o gwbl. Nid yw'n wir y bydd masnach yn dod i ben yn ddisymwth os byddwn ni'n gadael y farchnad sengl. Bydd yn effeithio ar sectorau penodol yn fwy nag eraill, mae hynny'n sicr yn wir, ond ceir cwmpas enfawr i amnewid mewnforion o ystyried y diffyg masnach enfawr sydd gennym ni gyda'r UE—ond nid wyf i eisiau mynd ar drywydd hynny ymhellach nawr.
Y pwynt arall yr hoffwn i ei wneud, fodd bynnag, yw'r pwysau ar dai yn y wlad gyfan, ac yn enwedig yn y de-ddwyrain. Rydym ni'n debygol o weld y cynnydd hwn o ganlyniad i gael gwared ar y tollau ar bont Hafren, yr ydym ni i gyd o'i blaid, ond serch hynny mae'n anochel y bydd rhywfaint o effaith ar y farchnad eiddo leol o ganlyniad i'r gwahaniaeth yn y prisiau tai ar yr ochr hon i afon Hafren o'i chymharu ag ochr arall afon Hafren. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod rhenti yn y DU wedi cynyddu 23 y cant mewn degawd, sy'n gyflymach na'r twf mewn incwm, felly unwaith eto mae'r pwysau ar y rheini sydd ar waelod y raddfa incwm fwy nag yn unman arall. Mae trefi fel Casnewydd, wrth gwrs, yn drefi cymharol dlawd o ran incwm. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod y rhain yn bwysau y mae angen eu hystyried yn llawn a bod angen polisi ar ran Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ynghylch hyn?
Mae angen mwy o dai arnom ni. Byddai'n helpu, wrth gwrs, pe na byddai pobl yn gwrthwynebu pob un cais am dai sy'n ymddangos ar garreg eu drws, y gwyddom sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae ei blaid ef yn adnabyddus am y gwrthwynebiad hwnnw. Mae gennym ni fel Llywodraeth darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y pwysau yn cael ei gymryd oddi ar y farchnad dai drwy sicrhau bod mwy o gyflenwad o dai. Fel Llywodraeth, dyna'n union yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, pan mae yna restrau aros hir am driniaeth, mae cwmnïau iechyd preifat yn cynnig y cyfle i gleifion osgoi amseroedd aros drwy dalu ffi. Mae nifer o etholwyr wedi dweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael eu hannog i ystyried talu i fynd yn breifat am driniaeth neu ddiagnosis cyflymach. Mae hynny yn golygu bod triniaeth yn dod yn rhywbeth sy'n seiliedig ar y gallu i dalu. A ydych chi'n cytuno bod hyn gyfystyr â chreu system iechyd ddwy haen, ac onid preifateiddio graddol ydy hyn mewn difrif?
Na, dim o gwbl. Rydym ni'n hollol yn erbyn preifateiddio; dyna pam, wrth gwrs, rydym wedi hala mwy ar iechyd nag erioed o'r blaen—er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i'n pobl.
Byddwn i'n dadlau ei fod yn cynyddu swyddogaeth preifateiddio. Ceir math arall o breifateiddio graddol sy'n digwydd y gallaf eich cyfeirio ato. A ydych chi'n ymwybodol bod cynlluniau o dan eich goruchwyliaeth chi i breifateiddio mwy o wasanaethau dialysis yn y gogledd? A dydym ni ddim yn sôn yn y fan yma am gontractio cwmni i wneud gwaith penodol, dyweder, mynd i'r afael ag ôl-groniad o lawdriniaeth ddewisol; rydym ni'n sôn am osod gwasanaethau craidd y GIG ar gontract allanol i gwmni preifat. Mae ffigurau a welwyd gan Blaid Cymru yn awgrymu mai tua £700,000 fydd yn cael ei arbed, a bydd llawer o'r arbediad hwnnw, mae'n debyg, yn dod o hawliau staff i gael tâl salwch, tâl gwyliau a phensiynau. Mae'n rhaid i chi gytuno bod hynny'n breifateiddio graddol o'r GIG.
Y ffeithiau, fel y dywedodd, ni allaf gytuno â nhw—rwy'n cytuno ag ef. Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa fel y mae'n ei disgrifio, ond os gwnaiff ef ysgrifennu ataf gyda'r manylion, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio.
Byddaf yn sicr yn anfon cynlluniau Betsi Cadwaladr ar gyfer preifateiddio cynyddol o ddialysis atoch chi. Mae'r ddwy enghraifft hynny yn wahanol dros ben, ond ceir thema gyffredin yno, rwy'n credu, o gwmnïau preifat yn chwarae rhan gynyddol ym maes gofal iechyd, yn pigo'n raddol ar wasanaethau'r GIG. Nid wyf i wir yn cael fy ngyrru gan ideoleg yn hyn o beth—yn y pen draw, siawns nad ydym ni eisiau gwell GIG i gleifion ac i staff. Ond gwneud elw ar amseroedd aros, gwneud elw ar wasanaethau craidd, creu system dwy haen lle mae'r cyfoethog yn cael eu cyfeirio at driniaeth gyflymach, gweithredu gontractau allanol i dorri costau er anfantais staff gweithgar y GIG—nid yw hyn yn dderbyniol, rydym ni'n gwybod nad yw'n iawn, rwy'n eithaf ffyddiog bod y cyhoedd yn credu nad yw'n iawn, felly pam mae Llafur yng Nghymru yn caniatáu iddo ddigwydd?
Dydym ni ddim, ond rwy'n synnu ei glywed yn dweud nad yw'n cael ei yrru gan ideoleg, oherwydd rydym ni yn, gallaf ddweud wrthych chi, ar y meinciau hyn. Rydym ni'n cael ein gyrru gan yr ideoleg o wneud yn siŵr bod gan bobl GIG sydd am ddim ar y pwynt gwasanaeth. Nawr, os nad yw Plaid Cymru yn credu yn hynny neu nad oes ganddi ideoleg ar y gwasanaeth iechyd o bopeth, yna efallai y gallen nhw ddweud mwy wrthym ni. Na, dydym ni ddim yn cytuno â phreifateiddio. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi brwydro yn erbyn mentrau fel menter cyllid preifat, wedi brwydro yn erbyn mentrau yr ydym ni'n eu gweld yn Lloegr, lle mae'r GIG yn cael ei breifateiddio. Yng Nghymru, bydd y GIG yn parhau i fod yn y sector cyhoeddus.
3. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i fyrddau iechyd lleol ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol? OAQ51661
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio â’r cyhoedd, eu staff ac eraill i lunio a chyflenwi gwasanaethau cynaliadwy sy’n sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl i’r boblogaeth. Mae'r egwyddorion arweiniol ar gael yn fframwaith cynllunio’r gwasanaeth iechyd gwladol.
Wythnos diwethaf, Brif Weinidog, mewn perthynas â'r opsiynau sy'n cael eu hystyried gan fwrdd iechyd Hywel Dda, roeddech chi wedi dweud nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddim polisi ar hyn o bryd, ond mi allai fod polisi gyda chi ar ddiwedd y broses. Nawr, onid y broblem yw na fyddai mandad gyda chi ar gyfer yr un o'r opsiynau yma achos nid oedd yr un ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll yn ystod etholiad y Cynulliad? Felly, er mwyn i ni gael lleiafswm o atebolrwydd democrataidd, a fyddwch chi'n ymrwymo i gynnal pleidlais yn y Senedd yma pe bai un o'r opsiynau yna yn cael eu hargymell gan y Llywodraeth? Ac a ydym ni'n iawn i fwrw y bydd honno yn bleidlais rydd, o ystyried bod un o'ch Gweinidogion chi yn barod wedi ymrwymo—ac mae hwn yn dystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol—i bleidleisio i wrthwynebu unrhyw argymhelliad sydd yn cau ysbytai, beth bynnag yw polisi y Llywodraeth? Neu a fydd y Prif Weinidog yn ceryddu'r Gweinidog yma, fel y gwnaethoch chi ar gyfer cyn Weinidog—mewn amgylchiadau digon tebyg—o'r enw Leighton Andrews rai blynyddoedd yn ôl?
Pam nad yw e'n chwarae rhan yn y broses? Achos nid yw e wedi lan i nawr. Gallaf ddweud bod y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda gwleidyddion sydd wedi cael eu hethol. Maen nhw wedi bod yn gweithio er mwyn sicrhau bod yna weithgor yn cael ei greu gyda chynrychiolwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol ac hefyd cynghorwyr, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw—[Torri ar draws.] Gwranda a dysga, nawr—y gwaith trawsnewid sy'n digwydd. A gallaf ddweud wrth Adam Price—mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gwybod hyn—fe wnaeth e ddatganiad i'r wasg gyda Jonathan Edwards yn dweud bod yn rhaid iddo fe gwrdd â'r bwrdd iechyd cyn gynted ag sy'n bosibl, ac yn gofyn beth yw barn y Llywodraeth Lafur. Wel, gallaf i ddweud bod y bwrdd iechyd wedi trial cysylltu â'i swyddfa fe. Ar 8 Rhagfyr, cafodd e-bost ei hala at Adam Price yn ei wahodd e i gwrdd â'r bwrdd iechyd er mwyn ystyried unrhyw gonsyrns oedd gyda fe. Dim ateb. Dim ateb. Gwnaeth e-bost arall fynd ar 8 Ionawr, unwaith eto yn ei wahodd e i siarad gyda'r bwrdd iechyd. Dim ateb. Dim ateb. Galwad—mae e wedi cael cynnig galwad gyda'r bwrdd iechyd. Cafodd yr alwad yna ei chynnig ar 23 Ionawr, ond trodd e hi lawr. Trodd e hi lawr. So, ar un adeg mae'n dweud bod e'n moyn siarad, ond na, y broblem yw ei fod e'n 'grandstand-io' yn y lle hwn heb wneud y gwaith o sefyll dros ei etholwyr. [Torri ar draws.]
Paul Davies. [Torri ar draws.] Paul Davies. [Torri ar draws.] Paul Davies. [Torri ar draws.] Byddwn ddim ond yn dweud ei bod hi'n debyg bod gan y bwrdd iechyd lleol wybodaeth ynghylch pa un a wyf i wedi ateb negeseuon e-bost neu alwadau ffôn iddyn nhw hefyd. Ni fyddwn i'n bersonol eisiau hynny i gael ei rannu yn y lle hwn. Paul Davies. [Torri ar draws.]
Ocê, ocê. Digon. Paul Davies. [Torri ar draws.] Paul Davies. [Torri ar draws.]
Brif Weinidog, os cawn ni ddod yn ôl i'r issue, mae pump o'r naw o opsiynau sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar hyn o bryd yn arwain at gau ysbyty Llwynhelyg. Yn naturiol, mae hyn yn hollol annerbyniol i bobl sir Benfro. Felly, yn yr amgylchiadau, pan ddaw hi i unrhyw ymgynghoriad, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r bobl rydw i'n eu cynrychioli y bydd unrhyw ymgynghoriad yn un ystyrlon ac yn wirioneddol gynrychioli barn pobl leol? Beth byddwch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd? Oherwydd nid oes dim hyder gan y bobl rydw i'n eu cynrychioli ym mwrdd iechyd Hywel Dda ar hyn o bryd.
Fel y dywedais i, mae yna weithgor wedi cael ei greu er mwyn cael cynrychiolwyr o dros y pleidiau gwleidyddol a hefyd cynghorwyr er mwyn bod yn rhan o hynny ac er mwyn gallu bod yn rhan o'r gwaith trawsnewid. Mae yna wahoddiad agored i'r rheini sydd wedi cael eu hethol a rhai eraill er mwyn eu bod nhw'n gallu chwarae rhan yn y broses.
Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn na allwn ni ddarparu'r gwasanaeth iechyd yn yr un modd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl—[torri ar draws.]
Nid wyf i'n gallu clywed y cwestiwn, Llywydd, mae'n ddrwg gen i. Nid wyf i'n gallu clywed y cwestiwn.
Caroline Jones, ewch ymlaen. Mae grŵp Plaid Cymru wedi cynhyrfu, ond rwy'n deall yn iawn pam maen nhw wedi cynhyrfu. Ond a gawn ni ganiatáu i'r cwestiynau barhau, os gwelwch yn dda? Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn bod yn rhaid i wasanaethau newid ac na allwn ni ddarparu iechyd yn yr un ffordd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw newid fod yn seiliedig ar angen clinigol a chael ei arwain yn glinigol. Trwy ddweud hynny, nid wyf yn golygu cyfarwyddwr clinigol y bwrdd iechyd lleol. Mae angen i newid gael ei ysgogi gan y meddygon a'r nyrsys a chael ei gefnogi gan feddygon a nyrsys. Mae nifer o staff wedi cysylltu â mi yn protestio am uno wardiau yn ysbyty Treforys, sydd wedi mynd rhagddo heb gefnogaeth y staff clinigol. Mae'r staff yn credu bod y newid yn seiliedig ar faterion ariannol. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau na fydd pwysau ariannol yn arwain at newidiadau pellach o'r fath yn y dyfodol?
Nid pwysau ariannol yw'r broblem yn y fan yma, mae'n gwestiwn o wneud yn siŵr bod gwasanaeth yn gynaliadwy a'u bod nhw'n gallu denu'r staff cywir a'r lefel briodol o staff. Dyna sy'n llywio'r canllawiau yr ydym ni'n eu rhoi i'r byrddau iechyd; yn bennaf eu bod nhw eisiau sefydlu gwasanaeth diogel a chynaliadwy.
Cwestiwn 4, Janet Finch-Saunders.
Prif Weinidog, efallai y byddwch chi'n cofio fy mod i wedi codi ar sawl achlysur yn y gorffennol fy mhryderon i a phryderon fy etholwyr—[Torri ar draws.]
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ51690
Gwnaf. Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru gyfan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym ni wedi ymrwymo £40 miliwn arall ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol dros y ddwy flynedd nesaf.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i wedi codi gyda chi o'r blaen fy mhryderon aruthrol, ar ran fy etholwyr, am y ddarpariaeth iechyd meddwl bresennol ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn y gogledd. Y tymor diwethaf, cyfeiriais at ohebiaeth gan yr Athro David Healy, sy'n seiciatrydd ymgynghorol uchel ei barch yn y gogledd. Bryd hynny, cododd faterion yn ymwneud ag ysbryd staff, addasrwydd trefniadau staffio ac ymadawiad uwch nyrsys o'r gwasanaeth. Unwaith eto, mae llythyr diweddar, yr wyf i wedi derbyn copi ohono erbyn hyn, gan yr Athro Healy i Ysgrifennydd y Cabinet, yn codi mwy o bryderon ac yn nodi, yn dilyn ei ymweliadau â rhai gwasanaethau iechyd meddwl ym mwrdd Betsi, yn ei eiriau ef, yn uned Hergest, iddo gael ei wynebu gan olygfa o burdan neu uffern Dante. Ar ôl cyrraedd canolfan iechyd meddwl Roslin, canfu olygfa yr un mor apocalyptaidd. Mae'r thema hon yn cyfateb yn uniongyrchol i safbwyntiau etholwyr pan fyddan nhw'n dod i fy ngweld i mewn angen dybryd am y cymorth hwn. Mae'n cloi trwy ddweud bod pob locwm yn y DU erbyn hyn yn cadw'n glir o'r fan hon a bod cleifion yn canfod eu hunain mewn lleoliadau na ellid eu dychmygu ychydig flynyddoedd yn ôl—mae'n gwymp aruthrol oddi wrth ras.
Nawr, mae'r gwasanaeth hwn, Prif Weinidog, yn methu a hwn, mewn gwirionedd, oedd y prif sbardun ar gyfer rhoi'r mesurau arbennig ar waith. Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae'r gwasanaeth hwn yn llanastr. Mae'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos diffyg diddordeb. A wnewch chi gymryd y mater hwn o ddifrif?
Mae hynny'n gwbl anwir.
Mae eich ymateb gen i yn y fan yma—
Gofynnwch y cwestiwn i'r Prif Weinidog. Peidiwch â gadael i'r—[Anhyglywadwy]—Gweinidog iechyd dynnu eich sylw.
Mae'r llythyr at yr Athro Healy gen i. Mae'r ymateb gen i. Prif Weinidog, hoffwn rannu'r rhain gyda chi, ond rwy'n gofyn, ar ran fy etholwyr, ar ran y staff sy'n gweithio yn yr unedau hyn: a wnewch chi edrych ar y gwasanaeth yn fwy gofalus os gwelwch yn dda, a chael sgwrs gydag Ysgrifennydd Cabinet efallai, a'i gael i ddangos ychydig bach mwy o frwdfrydedd a phryder efallai, pan fydd materion o'r math yma yn cael eu codi am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd?
Rwy'n credu ei bod hi'n annheg iawn i awgrymu nad oes ots gan Ysgrifennydd y Cabinet—mae e'n rhywun sy'n teimlo'n angerddol am y gwasanaeth iechyd—ac nid dyna'r argraff y mae'n ei rhoi i'r cyhoedd yn sicr, rwy'n siŵr o hynny.
Rwy'n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu at brif weithredwr y bwrdd iechyd gyda nifer o bryderon am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Rydym ni wedi gofyn i brif weithredwr PBC gyfarfod â chi yn bersonol cyn gynted â phosibl i drafod eich pryderon. O ran y sylwadau am weithrediad tîm iechyd meddwl cymunedol Conwy, gwn fod y Prif Weithredwr a'r cyfarwyddwr iechyd meddwl wedi cyfarfod â phwyllgor craffu'r awdurdod lleol yr wythnos diwethaf i drafod pryderon a chamau gweithredu yn uniongyrchol â nhw.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru? OAQ51687
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu addysg briodol i'r holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Trwy ddiwygio'r system bresennol, rydym ni eisiau gweddnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Prif Weinidog, mae'n debyg eich bod chi wedi clywed bod Afasic Cymru, sef yr elusen sy'n cefnogi rhieni â phlant sydd ag anawsterau dysgu lleferydd ac iaith. Mae'r elusen yn cau ei swyddfa yng Nghaerdydd yfory a bydd yn cau ei swyddfa yn y gogledd ddiwedd mis Mawrth. Mae hon yn elusen sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn iawn yn ne Cymru, a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl. Byddwn yn parhau i gael gwasanaeth o'i phencadlys yn Llundain, ond rwy'n bryderus iawn bod polisi cyfredol, sydd wedi lleihau cyllid craidd i sefydliadau allweddol—. Rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl i hynny, ond ynghyd â natur dros dro arian Loteri, rydym ni'n colli sgiliau allweddol a rhwydweithiau cymorth hanfodol, ac mae'r elusennau hyn yn wynebu cael gafael ar yr hyn sy'n cyfateb i gymorth gweinyddol gan lawer iawn o gyrff—awdurdodau addysg a byrddau iechyd—ledled Cymru. Mae wir angen strategaeth arnom i sicrhau bod yr arbenigedd hwn yn cael ei gynnal oherwydd ei fod o gymaint o fudd i'r cyhoedd, yn enwedig pan ein bod ni'n diwygio agwedd hanfodol ar y gyfraith.
Rwy'n siomedig o glywed y penderfyniad i gau Afasic Cymru. Rwyf yn deall y bydd Afasic, sy'n elusen wedi'i lleoli yn y DU, yn dal i gynnig cyngor a chymorth i deuluoedd yng Nghymru. Cyfrifoldeb byrddau iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod nhw'n darparu mynediad digonol at wasanaethau therapi, gan gynnwys therapi lleferydd, iaith a chyfathrebu, a darperir therapi lleferydd ac iaith i'r holl blant a phobl ifanc y nodir bod angen arnynt. Byddwn wrth gwrs yn monitro effaith cau Afasic Cymru ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
Rwy’n falch i glywed eich bod chi’n mynd i fonitro’r sefyllfa, oherwydd rydym ni hefyd yn gwybod, wrth i gyllidebau nifer o ysgolion lle rydym ni’n llywodraethwyr—nifer ohonom ni, rwy’n siŵr—grebachu, mae hynny’n golygu mai’r unig arbediad gwirioneddol y mae nifer o ysgolion yn gallu ei wneud yw lleihau nifer y staff, a chynorthwywyr dosbarth yn aml iawn yw’r cyntaf i gael eu torri. Yn yr hinsawdd lle mae’r Llywodraeth—. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu’r ffaith eich bod chi wedi deddfu er mwyn cryfhau’r gefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn aml iawn, y cynorthwywyr dosbarth yna yw'r rhai sydd yn y rheng flaen ac sy'n rhoi'r gefnogaeth ychwanegol yna. Felly, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r effaith y mae crebachu cyllidebau a cholli cynorthwywyr dosbarth yn ei gael ar y Ddeddf newydd a llwyddiant, gobeithio, y Ddeddf honno?
Mae yna becyn cyllido, wrth gwrs, wedi cael ei roi mewn lle—£20 miliwn—i gefnogi'r Ddeddf ei hunan a hefyd y cynlluniau rownd y Ddeddf. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, datblygu'r gweithlu, sicrhau bod y rheini sydd yn y gweithle â'r sgiliau er mwyn gweithio'n effeithiol yn y system newydd, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod pethau'n gwella i'r rheini sydd yn dysgu. Felly, mae'r arian yna, ac rŷm ni'n deall pa mor bwysig yw e i gael gweithlu sydd yn effeithiol.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru? OAQ51648
Rydym ni'n cymryd amrywiaeth o gamau i atal, diagnosio a thrin cyflyrau cronig, yn genedlaethol ac ar lefel bwrdd iechyd. Nodir y camau hyn mewn cyfres o strategaethau a chynlluniau cyflawni.
Diolch. Prif Weinidog, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig yn dal i fod ar gael ar ddiwrnodau gwaith yn unig, ac mae angen cydgysylltu'n well gwaith y gwahanol grwpiau a thimau staff sy'n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Pa ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn?
Rydym ni'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i ymateb i'r pwysau a'r heriau hyn o ran amseroedd aros yn y gogledd, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd diddordeb personol ynddo. O ran cyflyrau cronig, gallaf ddweud, yn ardal PBC, mae nifer y derbyniadau brys wedi gostwng ac mae nifer yr aildderbyniadau brys wedi gostwng hefyd, ac mae hynny o ganlyniad i gamau a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf ar draws y gogledd ac, yn wir, ar draws Cymru gyfan.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol y mynegwyd cryn bryder dros y dyddiau diwethaf ynghylch cyfraddau marwolaeth yn adran achosion brys Glan Clwyd. Mae'r cyfraddau marwolaeth yn yr adran achosion brys honno yn ddwbl yr hyn yr oeddent ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae hyn yn peri pryder mawr i'm hetholwyr, y mae llawer ohonynt yn cael eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwnnw mewn sefyllfaoedd brys. A ydych chi'n derbyn nad yw'r sefyllfa yn y gogledd yn dderbyniol? Ac o gofio bod hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i ymchwilio i pam mae cyfradd marwolaethau'r ysbyty hwn wedi dyblu yn y blynyddoedd diwethaf a pham mai hwn yw'r gwaethaf yng Nghymru? Pa gamau ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael ei datrys ar frys?
Wel, bydd y ffigurau damweiniau ac achosion brys hynny'n cael eu heffeithio'n drwm gan oedran y cleifion sy'n bresennol, a difrifoldeb a chymhlethdod eu salwch pan fyddant yn bresennol, ac mae pob un o'r rhain yn effeithio, wrth gwrs, ar y risg o farwolaeth. Nawr, roedd y mesur penodol yr adroddwyd amdano yn ymwneud â niferoedd bach ac nid yw wedi ei addasu ar sail oedran o ganlyniad i hynny. Oedran sy'n debygol o fod y prif reswm pam mae'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel, ac mae'n adlewyrchu'r ffaith mai Conwy sydd â'r ganran uchaf o bobl dros 75 oed yng Nghymru gyfan.
Mae ffigurau mwy diweddar gan y bwrdd iechyd yn dangos rhywfaint o ostyngiad i'r ffigur uchaf a adroddwyd. Mae'r cyfraddau marwolaeth cyffredinol yn yr ysbyty ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru, ond ni allaf ddweud, wrth gwrs, bod y ffigurau hyn y mae wedi eu crybwyll yn cael eu defnyddio gan y bwrdd iechyd i edrych yn fanwl ar yr hyn sy'n cyfrannu at nifer y marwolaethau yn yr adran frys ac ar draws y safle, ac rydym ni'n disgwyl i bob marwolaeth yn yr ysbyty fod yn destun adolygiad unigol i helpu i nodi themâu i ysgogi gwelliannau i ofal yn ogystal â rhannu arfer da.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn? OAQ51685
Rydym ni'n buddsoddi mewn datblygu sgiliau ein pobl, gwella ein seilwaith a chefnogi amgylchedd busnes cystadleuol.
Diolch. Prif Weinidog, ar 15 Ionawr, cytunodd cabinet prifddinas-ranbarth Caerdydd yn unfrydol i gefnogi, mewn egwyddor, ailddatblygiad £180 miliwn prif ganolfan drafnidiaeth prifddinas Cymru, gyda £40 miliwn o gyllid bargen dinas. Nod yr arian o gronfa fuddsoddi'r fargen dinas fydd cynorthwyo i sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r sector preifat, i ddarparu'r prosiect. Prif Weinidog, mae'n ffaith fod 85 y cant o dwf swyddi prifddinas Cymru wedi deillio o gynnydd i gymudo net i mewn i'r ddinas o gymunedau cyfagos fel Islwyn. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y bydd manteision economaidd gorsaf trên Caerdydd canolog wedi ei moderneiddio, gorsaf fysiau ganolog newydd i Gaerdydd a seilweithiau trafnidiaeth integredig arloesol eraill o fudd i'm hetholwyr a fydd yn parhau i gymudo i Gaerdydd i weithio?
Trwy ein gwaith ar y tasglu gweinidogol ar gyfer y Cymoedd, ac wrth gwrs, trwy ddatblygu'r metro, ein nod yw cynorthwyo newid, sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gwella canlyniadau economaidd yn y Cymoedd. A byddwn yn rhoi pwyslais arbennig ar sicrhau'r budd mwyaf o fentrau newydd, fel y metro ac fel dinas-ranbarthau a bargeinion dinas, i gynorthwyo'r rheini sy'n cymudo i Gaerdydd, ond hefyd yn adeiladu ar bolisïau a rhaglenni adfywio blaenorol gyda'r nod o greu cyfleoedd gwell yn y Cymoedd, gan leihau, wrth gwrs, yr angen i gymudo.
Prif Weinidog, cefais y fraint yr wythnos diwethaf o fynd i uwchgynhadledd twf Hafren, a drefnwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan wir geisio sicrhau cymaint o fanteision â phosibl y gallwn eu cael pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu ddiwedd y flwyddyn. Prif Weinidog, beth ydych chi a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael cymaint o fanteision â phosibl o ddiwedd y tollau hynny ac, yn benodol, yn Islwyn, yn ardal Cyngor Caerffili, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau y gallwn ni weld mwy o dai, mwy o adfywio a mwy o gyfle i fod o fudd, nid yn unig i bobl sy'n cymudo i Gaerdydd, ond pobl sy'n cymudo i Fryste ac, yn bwysicach fyth, dod â datblygiad economaidd a swyddi i mewn i'r cymunedau hynny yn y Cymoedd?
Mae ei syniad ef o fraint yn wahanol i fy un i, ond gallaf ddweud hyn wrtho: yr un peth na fyddwn ni'n ei wneud yw dweud, rywsut, nad oes unrhyw anhawster gyda Brexit, ni waeth sut y mae'n digwydd, gan ein bod ni'n gwybod y byddai economi Islwyn a'r Cymoedd i gyd yn cael ei heffeithio'n andwyol gan Brexit caled. Rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, i ddatblygu adfywiad a swyddi. Rydym ni'n gweithio i ddatblygu mwy o dai trwy ein targed tai—tai fforddiadwy o 20,000 o gartrefi. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n clywed yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddweud am gysylltu de-ddwyrain Cymru â de-orllewin Lloegr. Mae'n drueni nad oedd Llywodraeth y DU yn fodlon caniatáu i ni redeg gwasanaeth trenau rhwng Caerdydd a Bryste Temple Meads, sy'n drueni, oherwydd byddai hynny'n helpu, wrth gwrs, i gysylltu'r ardaloedd yn economaidd.
8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ51658
Mae strategaeth a chynllun gweithredu economaidd cenedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i wella'r economi a'r amgylchedd busnes ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Bydd diddymu tollau ar bont Hafren ddiwedd y flwyddyn hon yn cael gwared ar un o'r rhwystrau sy'n atal ffyniant economaidd yn y de-ddwyrain. Clywsom yn gynharach, hefyd—yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni weddnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol de Cymru a de-orllewin Lloegr, gan ei gwneud yn haws i fusnesau gynyddu mewnfuddsoddiad a thwristiaeth i greu swyddi yn yr ardal—ar y ddwy ochr i fôr Hafren, hynny yw. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r fenter hon ac a all ef gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu'r cysylltiadau hyn i wella safonau byw a'r rhagolygon o ran swyddi yn ne-ddwyrain Cymru?
Cynhaliwyd digwyddiad ar 22 Ionawr, rwy'n deall, yr oedd swyddog o Lywodraeth Cymru yn bresennol ynddo. Nawr, rydym ni'n fwy na pharod i gymryd rhan weithredol yn y fenter hon. Rydym ni'n gwybod y bydd gweithio ar y cyd o fudd i Gymru a'n rhanbarthau, ac rwy'n siŵr y bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn lle byddwn yn parhau i gyfrannu. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad yw hyn yn cael ei redeg gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a'r rhai dros y ffin.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru? OAQ51641
Mae gennym ni raglen sgrinio'r coluddyn genedlaethol sefydledig ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru, a sgriniwyd bron i 147,000 o ddynion a menywod yn ystod 2016-17. Rydym ni'n chwilio'n barhaus am ffyrdd o gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyn a chyhoeddwyd cyflwyniad profion gwell a mwy ystyriol o ddefnyddwyr gennym yn ddiweddar, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Ionawr 2019.
Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Yn sicr, mae gen i etholwr sydd wedi cysylltu â mi, sydd dros 74 oed, a'i bryder ef yw nad yw wedi gallu cyfeirio ei hun ar gyfer prawf sgrinio ei hun. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r DU—yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y deallaf—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ystyried dilyn safbwynt Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ledled y DU.
Ai FIT, y prawf imiwnocemegol carthion, y soniodd amdano?
Y profion sgrinio'r coluddyn ar gyfer pobl dros 74 oed.
Fe wnaethom gytuno yn ddiweddar i gyflwyno trefn fwy sensitif ac ystyriol o ddefnyddwyr ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru. Mae'n gam allweddol yn y cynllun cyflawni ar ganser diwygiedig. Bwriedir cyflwyno FIT o fewn y rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru ym mis Ionawr 2019 a gobeithir y bydd yn fwy ystyriol o ddefnyddwyr ac yn gwella'r nifer sy'n manteisio arno. Disgwylir y bydd y prawf newydd hwnnw yn arwain at alw cynyddol am golonosgopi o ganlyniad i niferoedd uwch yn ei ddefnyddio ac ychydig mwy o sensitifrwydd.
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru? OAQ51686
Mae angen i gyrff y GIG sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau llywodraethu cadarn ar waith a'u bod nhw'n ymddwyn mewn modd sy'n cynnal y gwerthoedd a osodwyd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.
Wel, un o'r meysydd llywodraethu y mae angen ei ailystyried efallai o ganlyniad i heddiw yw cynnal cyfrinachedd rhwng byrddau iechyd ac Aelodau Cynulliad. Efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi sylw i hynny yn ei ymateb, ond y cwestiwn yr oeddwn i eisiau ei godi, wedi ei gymell gan yr hyn sy'n digwydd yn Hywel Dda ar hyn o bryd, yw lefel anfodlonrwydd y cyhoedd gyda'r dull a ddefnyddir i wneud penderfyniadau a diffyg democratiaeth yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.
Safodd UKIP yn etholiad diwethaf y Cynulliad ar sail polisi o wneud byrddau iechyd yn etholedig—chwech allan o 11 yn ein cynnig, gyda phump awdurdod gweithredol proffesiynol—fel bod pobl sy'n mynd i gael eu heffeithio gan benderfyniadau a wneir yn cael cyfle i ethol pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hynny drostynt. Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod pobl yn teimlo y bydd beth bynnag sy'n mynd i ddod i'r amlwg o'r broses hon yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi arnynt yn hytrach na rhywbeth y maen nhw wedi chwarae unrhyw ran wirioneddol yn ei ddatblygiad.
Wel, fel y dywedais, mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi cadarnhau y bydd hi'n sefydlu grŵp cyfeirio gyda chynrychiolwyr yn cael eu gwahodd o'r holl bleidiau gwleidyddol, ac aelodau etholedig ar lefel sirol, i'w diweddaru'n rheolaidd ar waith gweddnewid. Bydd y cyfarfod hwnnw'n cael ei gynnal yn fisol, a bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon at yr holl ACau, Aelodau Seneddol ac aelodau cyngor etholedig.
Prif Weinidog, mae'r adolygiad seneddol yn argymell matrics aeddfedrwydd y Good Governance Institute fel ffordd o fesur llywodraethu da mewn byrddau iechyd. Sut ydym ni'n mesur llywodraethu da ar hyn o bryd?
Wel, mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau trwy eu darpariaeth, wrth gwrs, gwasanaeth diogel a chynaliadwy yn eu hardaloedd, a chredaf eu bod nhw'n gwneud hynny. Bydd penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid iddyn nhw eu gwneud yn achlysurol; rydym ni'n gwybod hynny. Yr hyn sy'n hynod bwysig, fodd bynnag, yw ein bod ni'n gallu eu mesur o ran eu hymgysylltiad cyhoeddus. Bu problemau yn y gorffennol ynghylch hyn, ac nid lleiaf yn Hywel Dda. Dyna pam yr wyf yn croesawu'n fawr yr hyn y mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ei ddweud.
Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn yn codi allan o gwestiynau—Rhun ap Iorwerth.
Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn dweud na ddylai unrhyw un ddefnyddio data mewn ffyrdd sydd ag effeithiau andwyol na ellir eu cyfiawnhau ar yr unigolion dan sylw, ac y dylech chi drin data personol pobl dim ond mewn ffyrdd y bydden nhw'n ei ddisgwyl yn rhesymol. Rydym ni i gyd yn reolwyr data yn ein swyddfeydd ein hunain yma yn y Cynulliad, wrth gwrs. Mae'r Rheolau Sefydlog yn dweud bod gan y Llywydd swyddogaeth eglur o ran goruchwylio a yw Aelodau yn ymddwyn mewn modd sy'n gyfystyr â throsedd. Ar sail hynny, a wnewch chi, Llywydd, addo adolygu'r ymateb a roddwyd gan y Prif Weinidog i gwestiwn a ofynnwyd gan Adam Price, yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin? Rwy'n credu ein bod ni'n sôn yma am ddefnydd amhriodol o ddata. Rydym ni'n sôn am fynediad sydd gan Weinidogion y Llywodraeth at wybodaeth sy'n cael ei chadw gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru am Aelodau Cynulliad, ac rydym ni'n sôn am fater o wybodaeth freintiedig yn cael ei defnyddio gan y Llywodraeth i ymosod ar Aelod o'r Cynulliad hwn.
Ie, Prif Weinidog.
Anfonwyd datganiad gan yr Aelod ac un arall, a oedd yn dweud,
Byddwn yn cadw llygad gofalus ar y cynigion hyn wrth iddyn nhw ddatblygu, ac rydym ni'n bwriadu cyfarfod â chynrychiolwyr y bwrdd iechyd ar y cyfle cyntaf.
Mae'n gyfreithlon, yn fy marn i, i dynnu sylw at y cyfleoedd a gynigiwyd. Mae'n gwbl gyfreithlon ac yn agored i graffu. Os bydd Aelodau'n dweud eu bod nhw eisiau cyfarfod ar y cyfle cyntaf, mae'n bwysig bod dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd bod cyfleoedd wedi eu cynnig, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n debyg— [Torri ar draws.] Gwrandawais ar Rhun ap Iorwerth heb dorri ar ei draws. Efallai y gwnaiff ef roi'r un cwrteisi i mi, a gweddill ei blaid.
Gwnaiff, mi wnaiff. Bydd yn rhoi'r cwrteisi hwnnw i chi , a diolch am eich ateb a'r pwynt o drefn. Rwyf wedi nodi'r hyn a ddywedwyd yma y prynhawn yma. Byddaf yn rhoi mwy o ystyriaeth i rannu data a'i berthnasedd i'n Rheolau Sefydlog yma, ond mae hwnnw'n fater y byddaf yn ei ystyried ymhellach ac yn dychwelyd ato os bydd angen.
Rwy'n symud ymlaen nawr at yr eitem nesaf ar yr agenda—[Torri ar draws.] Nid ydym ni angen rhagor o sylwadau ar hynny nawr, gan ein bod ni'n symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad busnes. Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James. A gadewch i ni fod yn dawel iawn o ran torri ar draws a chaniatáu i Julie James wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn gwneud datganiad llafar ar sicrhau yr hawl i addysg addas ar gyfer pob plentyn. Mae busnes y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad unigol ynghylch yr oedi o ran asesiadau awtistiaeth ledled Cymru? Efallai eich bod chi wedi gweld adroddiadau ymchwil BBC Cymru yr wythnos diwethaf a oedd yn nodi bod plant mewn rhannau o Gymru yn aros dwy flynedd ar gyfartaledd, cyn cael eu hasesu ar gyfer awtistiaeth, er gwaethaf targed Llywodraeth Cymru o chwe mis neu 26 wythnos. Fe wnaethom glywed yn sgil y ceisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd lleol mai'r amser aros ar gyfartaledd yw 107 wythnos a chwe diwrnod ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a 39 wythnos ar gyfartaledd yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cwmpasu gogledd Cymru, tan fod plentyn yn cael ei weld. Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r Cynllun Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn parhau i gael ei gyflwyno.
Y mis hwn, cysylltodd mam o Sir y Fflint â mi, a ddywedodd bod ei mab wedi ei asesu gan y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn bum mlwydd oed, a nodwyd bod ganddo awtistiaeth gweithredu lefel uchel, ond ni chafodd ddiagnosis oherwydd fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n ei ailasesu ymhen ychydig o flynyddoedd yn hytrach na ddod i gasgliadau byrbwyll. Cafodd ei ailasesu'n ddiweddar gan y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd, a'r canlyniad oedd nad oedd e'n bodloni'r meini prawf awtistiaeth, ond yr oedd yn wahanol yn niwrolegol. Mae hi wedi gofyn am ail farn, gan fod yr adroddiad ysgrifenedig yn dangos yn glir, ei fod yn awtistig, ym mhob maes, ac ategir hyn gan y nifer o weithwyr proffesiynol y maen nhw'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd.
Rwyf i'n cynrychioli nifer fawr o etholwyr yn y gymuned awtistiaeth sy'n brwydro i gael y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu hanwyliaid, ond caiff asesiadau eu gwrthod iddynt, yn aml ar sail annilys. Cefais gyfarfod gyda seicolegydd clinigol y bwrdd iechyd a gyda mam, sydd ar y sbectrwm ei hunan, y gwrthodwyd asesiad i'w merch ar y sail ei bod yn cuddio ei hanawsterau yn dda iawn ac yn ymdopi yn yr ysgol cyn iddi ymollwng yn llwyr yn y cartref. Yn hytrach, ceisiodd seicolegydd clinigol y bwrdd iechyd seicdreiddio'r fam ger fy mron. Fe wnes i gyfarfod â mam arall yr wythnos diwethaf gyda'i merch, sy'n 11 oed—
Mae'n rhaid i chi ddod at gwestiwn i'r Gweinidog busnes.
Iawn, wel, sut y byddwch chi'n ymateb i hyn? A wnewch chi ddatganiad yn cydnabod, er enghraifft, bod y ferch ifanc honno—y plentyn 11 mlwydd oed hwnnw—bwl o orbryder yn fy ngŵydd, yn breifat, pan wynebodd hi ei phroblemau, a'r blynyddoedd o'i hanghenion yn cael eu gwrthod gan gyrff statudol ymwadol, dim ond oherwydd ei bod hi wedi dysgu i ymdopi cystal yn yr ysgol?
Byddwn yn cyhoeddi amseroedd aros yn gyffredinol, a bydd hynny'n addas ar gyfer datganiad. Rwy'n awgrymu os oes gan yr Aelod faterion etholaethol penodol y mae ef yn dymuno eu codi, o ran achosion unigol, ei fod yn eu codi nhw yn uniongyrchol ag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n amlwg nad yw'n briodol i ddatganiad gan y Llywodraeth fynd i'r afael â materion etholaethol unigol. Felly, rwy'n awgrymu ei fod yn dilyn y llwybr cywir ar gyfer hynny. Ond byddwn yn cyhoeddi datganiad ar amseroedd aros yn gyffredinol.
A gaf i ddweud, mae gen i fwy o geisiadau i siarad yn y datganiad busnes hwn heddiw nag yr wyf i wedi'u cael erioed o'r blaen, felly, pe gallai'r Aelodau gadw eu cyfraniadau mor gryno â phosibl, fe allwn ni fynd drwy gymaint ag y gallwn. Dai Lloyd.
Diolch, Llywydd. A gaf i ofyn am ddadl ar wasanaethau iechyd arbenigol yng Nghymru? Arweinydd y tŷ, byddwch chi, heb os, yn ymwybodol o'r ymgynghoriad presennol ar ddyfodol y rhwydwaith trawma mawr yn y de, sy'n dod i ben ddydd Llun nesaf, 5 Chwefror. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r cynnig presennol i sefydlu canolfan trawma mawr yng Nghaerdydd ar draul Treforys, ynghyd a'r awgrym y gellid hefyd symud yr uned llosgiadau a phlastig rhagorol yn Nhreforys i Gaerdydd. Mae hynny'n tanseilio sefyllfa Treforys fel canolfan ranbarthol rhagoriaeth feddygol. Hefyd, mae adolygiad yn cael ei gynnal ynghylch llawdriniaeth thorasig yn y de, sydd, unwaith eto, yn gosod Treforys yn erbyn Caerdydd.
Ar ôl colli gwasanaethau niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth bediatrig yn Ysbyty Treforys, mae pobl yn y de-orllewin yn naturiol yn pryderu am yr hyn sy'n ymddangos unwaith eto fel canoli gwasanaethau iechyd allweddol yng Nghaerdydd. Hefyd, mae adolygiadau blaenorol ledled y DU o arbenigeddau penodol, megis llawdriniaethau cardiaidd pediatrig, wedi gweld gwasanaeth a oedd wedi'i leoli yng Nghaerdydd yn cael ei golli i Fryste yn ddiweddarach. Y rheswm dros hynny oedd agosrwydd daearyddol Caerdydd a Bryste. Mae'n rhaid inni liniaru'r risg o'r math hwn o effaith ddomino, gan fod canoli gwasanaethau arbenigol yng Nghaerdydd yn golygu eu bod yn agored i gael eu symud i Fryste mewn unrhyw adolygiad dilynol y DU.
Fe allwn i ddatblygu'r ddadl, ond mae'r Llywydd—
Na, chi—
Mae'r Llywydd yn edrych yn flin arna i, felly fe wna i ddirwyn i ben—
Ydw, rwyf ar fin torri ar eich traws i'ch atgoffa mai ystyr 'cryno' yw 'byr'.
Byr. Ac felly rwy'n ailadrodd fy ngalwad am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y mater cyfan hwn o wasanaethau iechyd arbenigol, i gadw gwasanaethau iechyd arbenigol yng Nghymru yn y pen draw. Diolch, Llywydd.
Mewn gwirionedd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch lleoliad yr uned trawma mawr, ac rwy'n mynd i achub ar y cyfle hwn i annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw, fel y gallwn ni glywed yr amrywiaeth ehangaf bosibl o safbwyntiau. Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yr araith a wnaed—mae'n ddrwg gennyf, y cwestiwn a ofynnwyd— gan Dai Lloyd nawr, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn gwneud datganiad maes o law pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw gennym ni.
Arweinydd y tŷ, byddwch yn cofio fy mod i wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod y llynedd, gyda'r bwriad o wahardd yr arfer cywilyddus yng Nghymru, a elwir yn rhyw am rent. Heno, bydd y gyfres deledu Ein Byd yn dangos ffilm erchyll o'r broblem rhyw am rent frawychus, y mae rhai pobl ifanc yn ein cymunedau yn ei hwynebu ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y bydd y rhaglen yn datgelu gwir natur y broblem, y gwnes i geisio pwysleisio yn fy nghynnig.
Wrth drafod fy nghynnig y llynedd, cytunodd yr Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, Carl Sargeant, bod y gweithgaredd hwn yn atgas i ni i gyd, ac yn gwbl briodol fe dynnodd sylw at y llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gyfer adrodd am bryderon. Awgrymodd hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ystyried y prawf person addas a phriodol ar gyfer landlord a'r cynllun cofrestru asiant, ac y byddem ni fel Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o weithredu drwy'r dull hwnnw. Dywedodd y byddai'n edrych ar y posibilrwydd o weithredu yn erbyn hysbysebion rhyw am rent, er bod y ddau ohonom wedi cydnabod nad yw hynny'n hawdd.
Addawodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y byddai'n gwneud gwaith pellach ac yn gofyn am gyngor ar agweddau troseddol y gweithgaredd hwn, fel y gallem geisio helpu unrhyw un sy'n teimlo'n agored i niwed yn ein cymunedau, ac rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi datgan yn ddiweddarach bod trefniadau o'r fath yn drosedd dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Ond, yn fy marn i, mae camau mwy ymarferol y gallwn eu cymryd. Rwy'n derbyn, yn amlwg, y bu peth amhariad dealladwy o ran y gwaith a addawyd gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet, ond rwy'n credu y bydd y rhaglen deledu heno yn cadarnhau yr angen inni adnewyddu ein gwaith ar y mater hwn.
Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ drefnu bod datganiad yn cael ei wneud ynghylch yr ystod o bwerau a'r camau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ffiaidd hon? Gan fod gennym ni gyfrifoldeb i bawb, yn enwedig y bobl ifanc a'r rhai sy'n agored i niwed, i'w cadw'n ddiogel wrth iddyn nhw wneud eu dewisiadau tai, ac mae'n rhaid inni chwarae ein rhan o ran rhoi diwedd ar gamfanteisio a chamfanteisio rhywiol. Rwy'n teimlo'n gryf y byddai'r Cynulliad yn gwerthfawrogi'r cyfle i fynegi ei farn unwaith eto am y broblem hon ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu heno.
Wel, diolch Dawn Bowden am dynnu sylw at y pwynt pwysig iawn yna. Byddwn i'n awyddus iawn i siarad â hi unwaith eto fy hun wedyn, a hoffwn hefyd dynnu sylw at y llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gyfer unrhyw un sy'n wynebu problem o'r math hwn yn eu llety. Mae'r Gweinidog yn dangos i mi y byddai hi'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelodau i egluro beth yw'r sefyllfa yng Nghymru ac efallai y gallai hi, minnau a Dawn gael sgwrs am fwrw ymlaen â hynny wedyn.
Arweinydd y tŷ, hoffwn alw am ddau ddatganiad: y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn ymwneud â'r ymgyrch y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol ohoni, sef yr ymgyrch ar gyfer trawsblaniadau rhwyll gweiniol ac ar gyfer trawsblaniadau torgest. Maen nhw'n llawdriniaethau cymhleth iawn. Mae cyfradd y llawdriniaethau aflwyddiannus yn uchel—10 y cant o'r rheini sydd wedi cael y trawsblaniad—ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gynnal archwiliad ôl-weithredol o rwyll yn Lloegr. A gaf i ofyn ichi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pe gallai ef wneud datganiad ar y galw am i archwiliad o'r fath hefyd gael ei gynnal yng Nghymru? Boed hynny'n ysgrifenedig neu ar lafar, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Mae'r ail ddatganiad yn ymwneud â'r bygythiad i Audley Court yn Swydd Amwythig. Cyfleuster preswyl arbenigol yw hwn ar gyfer cyn-filwyr sy'n dioddef o straen brwydro, gan gynnwys anafiadau corfforol a meddyliol, i allu mynd ar gyrsiau preswyl—weithiau cyrsiau byr am ryw chwe wythnos, ac weithiau mae'r cyrsiau'n llawer mwy parhaol. Mae'r cyfleuster preswyl hwn yn cael ei gynnal gan y sefydliad Combat Stress. Bydd yn rhaid iddyn nhw gau'r cyfleuster. Nid oes unman arall yng Nghymru, a byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyn-filwyr yn rhoi datganiad ynghylch beth fyddai'r ddarpariaeth amgen yng Nghymru, i helpu ein cyn-filwyr.
Yn olaf, Llywydd, a gaf i ofyn am eich goddefgarwch, a goddefgarwch Arweinydd y tŷ, a thrwy eich cymwynasgarwch, gofyn i holl Aelodau'r Cynulliad a'r staff cymorth yr Aelodau Cynulliad i ystyried pleidleisio dros Gymru yng ngwobrau rhaglen gylchgrawn BBC Countryfile 2018. Mae arfordir Sir Benfro wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth ar gyfer cyrchfan gwyliau y flwyddyn, a hefyd mae Ynys Môn, gerddi Bodnant ac Eryri wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn gwahanol gategorïau. A wnewch chi i gyd ystyried pleidleisio os gwelwch yn dda? Diolch, arweinydd.
Rwy'n hapus iawn i gymeradwyo'r cais olaf yna, wrth gwrs, ac rwyf innau hefyd yn hoff iawn o gerdded llwybr arfordir Sir Benfro, felly gallaf gefnogi hynny'n llwyr.
O ran y ddau ddatganiad arall a gofynnodd amdano, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wedi dweud wrthyf ei fod yn mynd i roi datganiad ysgrifenedig cyn bo hir ar y materion yn ymwneud â rhwyll gweiniol y galwodd amdanynt. O ran Audley Court, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros y lluoedd arfog hefyd yn awgrymu wrthyf ei fod yntau hefyd yn fodlon rhoi datganiad ysgrifenedig gan dynnu sylw at y problemau yn Audley Court a amlygwyd gan yr Aelod.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Kimberly-Clark, a nododd eu bod am leihau eu gweithlu yn fyd-eang gan rhwng 5,000 a 5,500 o weithwyr? Mae hynny'n ostyngiad o tua 12 y cant i 13 y cant o'u gweithlu ledled y byd. Nawr, nid yw'n glir ar hyn o bryd beth fydd y goblygiadau ar gyfer eu cyfleusterau yn y Fflint, ond, yn amlwg, mae'n achosi pryder. A allwn ni gael datganiad, felly, yn esbonio pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwneud popeth o fewn ei gallu i weithio gyda'r cwmni, yr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, i ddiogelu'r swyddi hynny.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Mae gennym—yn anffodus, oherwydd y mae bob amser mewn ymateb i ddiswyddiadau—ffordd dda iawn o ymdrin â'r mathau hynny o broblemau. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â'r mater hwnnw. Rwy'n credu mai'r peth gorau i'r Aelod ei wneud yw gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad o beth yn union sy'n digwydd yn hyn o beth, fel y gall ef gymryd rhan, ac rwy'n siŵr caiff y Senedd y wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Hoffwn ofyn am ddatganiad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i'r broses o baratoi ar gyfer cyfrifiad 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio data cynnyrch ehangach is ar gyfer darparu gwasanaethau megis Dechrau'n Deg, a gall hyn olygu, pan nad yw ardaloedd yn unffurf, y gall rhai o'r ardaloedd tlotaf gael eu gadael ar ôl a rhai o'r ardaloedd cyfoethocaf yn cael eu cynnwys. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod yr ardaloedd hyn mor unffurf ag sy'n bosibl, oherwydd rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhan oherwydd eu bod nhw'n defnyddio'r data ar gyfer rhywbeth nas bwriadwyd eu defnyddio ar ei gyfer yn wreiddiol.
Mae'r cwestiwn arall yn ymwneud â siaradwyr Cymraeg. A ddylai'r nifer sy'n byw yng ngweddill y Deyrnas Unedig gael eu cyfrif, ac a ddylai'r cwestiwn fod 'Pa mor aml ydych chi'n siarad Cymraeg?', sydd yn wrthrychol, yn hytrach na 'A allwch chi siarad Cymraeg?', sy'n oddrychol?
Wel, diolch i chi am y ddau bwynt pwysig iawn yna. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach yn brysur yn paratoi ar gyfer cyfrifiad poblogaeth Cymru a Lloegr 2021. Maen nhw wedi cyflawni gwaith sylweddol ar y cynnwys arfaethedig ar gyfer cyfrifiad 2021, ac, ar ddechrau 2017, fe wnaethon nhw gynnal prawf ar raddfa fawr, a oedd yn cynnwys rhannau o ogledd Powys. Bydd yn bennaf ar-lein am y tro cyntaf, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda SYG i wneud yn siŵr ei fod mor llwyddiannus â phosibl yng Nghymru. Bydd angen i'r Cynulliad ystyried rheoliadau'r Cyfrifiad yng Nghymru, ac felly mae'n bwysig bod y Cynulliad yn cael craffu ar baratoadau SYG ar gam cynnar o'r broses. Bydd hynny'n sicrhau bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael digon o amser i gymryd i ystyriaeth unrhyw safbwyntiau y mae'r Cynulliad yn eu mynegi pan ei bod yn dylunio ffurflenni terfynol y cyfrifiad. Bydd yr Aelod yn sicr yn cael y cyfle i fynegi ei safbwynt ar yr adeg honno.
Ychydig ar ôl y Nadolig, fe wnes i ysgrifennu at y Llywydd i ofyn i'r pwyllgorau perthnasol ystyried gwahodd y SYG i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y paratoadau ar gyfer cyfrifiad 2021, ac rwy'n deall bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ystyried hyn am y tro cyntaf ddydd Iau. Felly, rwy'n credu bod honno'n ffordd effeithiol iawn o wneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cyfrannu tuag at y paratoadau ar gyfer y cyfrifiad.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ofalu am blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Ddoe, dywedodd pennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd cyngor Casnewydd, Sally Jenkins, wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod argyfwng o ran gofalu am blant sy'n derbyn gofal, gan fod y cynghorau yn ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg gofalwyr maeth a gofal preswyl. Aeth ymlaen i ddweud bod y rhan fwyaf o gynghorau wedi gorwario ar eu cyllidebau. A gawn ni datganiad, os gwelwch yn dda, ar y mater hollbwysig hwn yng Nghymru? Diolch.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ond mae ganddo'r cyfle i godi'r pwynt hwnnw yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog. Cerddodd y Gweinidog i mewn rwy'n credu wrth iddo wneud ei bwynt, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu ateb y cwestiynau yn ystod cwestiynau ffurfiol y Cynulliad iddo.
A gaf i ddechrau gyda'r un hawdd, sef nodi bod caws Caerffili wedi ennill statws dynodiad daearyddol gwarchodedig heddiw, fel yr unig gaws cynhenid yng Nghymru—ac rwy'n falch iawn o weld hynny, ond mae'n rhoi cyd-destun ehangach, wrth gwrs, i'r hyn a fydd yn digwydd pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, o ran statws dynodiad daearyddol gwarchodedig, ac, yn wir, brandio bwyd Cymru. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw'n sicr y bydd yr hyn yr ydych yn ei weld yn y siopau heddiw, ar gael yn y siopau yn y dyfodol, ac mae angen i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd allforion, yn enwedig tu hwnt i'r DU, yn cael eu marcio. Gallwn ni fod mewn sefyllfa lle gallai bwyd o ansawdd uchel iawn Cymru yn cael statws dynodiad daearyddol gwarchodedig—15, o gynhyrchion erbyn hyn yng Nghymru—gael ei brandio fel bwyd o'r DU. Nawr, does gen i ddim yn erbyn bwyd o'r DU, rwy'n ei fwyta drwy'r amser, ond rwyf eisiau gweld bwyd Cymru yn cael ei frandio'n gywir, fel y gallwn ei farchnata a'i allforio, yn enwedig mewn marchnadoedd newydd, wrth gwrs. Felly, byddwn wir yn croesawu dadl ar hyn, mewn gwirionedd, gan y Llywodraeth, ar benderfyniad y Cynulliad, fel y gallwn ni rhoi neges glir iawn i Lywodraeth San Steffan, a fydd yn trafod cytundebau masnach ar ein rhan, ein bod ni eisiau ac angen gweld bwyd Cymru yn cael ei ddisgrifio'n benodol fel bwyd Cymru. Nid wyf yn erbyn dynodiad y DU fel rhan o'r gadwyn fwyd honno, ond rwyf wir eisiau i fwyd Cymru i gael ei ddisgrifio fel y cyfryw.
Mae'r ail fater yr hoffwn i ofyn cwestiwn yn ei gylch yn ymwneud â Hywel Dda, ac yn syml hoffwn ddweud hyn: roeddwn i'n bwriadu gofyn am yr ad-drefnu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu, ond rwyf am ofyn cwestiwn llawer mwy penodol yn awr, a hynny am ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r protocol ynghylch gwaith y byrddau iechyd ag Aelodau'r Cynulliad, yng ngoleuni atebion syfrdanol y Prif Weinidog i'm chyd-Aelod, Adam Price.
Felly, hoffwn ei roi ar y cofnod, fy mod wedi cael dau e-bost gan Hywel Dda cyn y Nadolig, yn gofyn i mi gymryd rhan mewn rhai trafodaethau niwlog ac ansicr iawn. Roeddwn i'n credu bod hynny'n wahoddiad i roi sicrwydd gwleidyddol ar gyfer ystyriaeth o ddifrif, ac nid oeddwn i'n barod i fod yn rhan o hynny. Cefais e-bost ar 23 Ionawr, yn dweud, 'Rydym wedi ceisio eich ffonio chi'—does dim unrhyw gofnod o hynny, ond—'fe wnaethom ni geisio eich ffonio chi, a, gyda llaw, mae'r newid pwysig hwn yn digwydd ac mae ar fin cael ei gyhoeddi yn y wasg leol', ac fe wnes i ymateb i'r e-bost a chyfarfod â hwy ddydd Gwener. Ac rwy'n credu bod y cyfarfod hwnnw'n dilyn y cyfarfod yr oedd Angela Burns a Paul Davies newydd ei gael â nhw hefyd. Dywedon nhw wrthyf yn y cyfarfod ddydd Gwener ei bod nhw'n dymuno sefydlu grŵp cyfeirio gwleidyddol, y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato —[Torri ar draws.]—sef y tro cyntaf i mi glywed amdano. Yn sicr, nid ydyn nhw wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod nhw eisiau—nhw wnaeth fy ngwahodd i i'r grŵp hwnnw. Ond mae gennyf bryderon difrifol bellach ynghylch ymuno ag unrhyw grŵp o'r fath, gan wybod bod yr hyn yr wyf yn ei ddweud, ac yn ei e-bostio atynt, yn cael ei ddatgelu i'r Prif Weinidog, ac yna'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymosodiadau gwleidyddol arnaf yn y Siambr hon. Felly, mae hwn yn gwestiwn eithaf difrifol, er gwaethaf peth mwmian gan Weinidogion yn y lle hwn. Mae hwn yn gwestiwn difrifol: a oes protocol ynghylch y ffordd y mae byrddau iechyd yn ymdrin ag Aelodau'r Cynulliad wrth ystyried ad-drefnu pwysig o wasanaethau ysbyty yn eu hardal? Os nad oes protocol o'r fath, a wnaiff y Gweinidog—yr Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol—sicrhau bod protocol o'r fath yn cael ei sefydlu, oherwydd, os nad oes protocol o'r fath ar waith, nid wyf yn teimlo fy mod i'n gallu ymgysylltu â Hywel Dda?
O ran yr un cyntaf, yn amlwg rydym yn falch iawn o'r statws dynodiad daearyddol gwarchodedig, ac rwy'n falch iawn o'r cynnyrch Cymreig sy'n ennill y statws hwnnw. Bydd yn rhan bwysig iawn o'r achos a gyflwynwyd gan y Llywodraethau datganoledig ynghylch diogelu statws o'r fath, ac, yn amlwg, dylai ein cyfran o'r farchnad gael ei diogelu yn unol â hynny. Ac mae hynny yn un o'n pryderon mawr wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, bod materion o'r fath yn cael statws eilaidd, pan y dylen nhw wir fod yn flaenllaw ym meddyliau Gweinidogion sydd yn rhan o'r trafodaethau. Felly, rydym yn gwneud yn hollol siŵr bod hynny'n digwydd. Mae nifer fawr o drefniadau eisoes i ddiweddaru'r Senedd a phwyllgorau am drafodaethau Brexit; rwy'n siŵr y gallan nhw gynnwys y statws dynodiad daearyddol gwarchodedig yn rhan o'r trafodaethau masnach yn rhan o hynny.
O ran yr ail fater, Llywydd, nid wyf am wneud sylw ar hynny. Rydych chi wedi addo edrych ar beth ddigwyddodd yn ystod y cyfarfod llawn heddiw, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwneud hynny.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth bargyfreithiwr yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru gyfaddef yn yr Uchel Lys fod diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru ar lygredd yr aer yn anghyfreithlon. Er bod hynny'n destun gofid, rwy'n croesawu dewrder Llywodraeth Cymru wrth gydnabod y broblem, oherwydd mae hynny'n wahanol iawn i Lywodraeth y DU, sy'n dal i wrthod cydnabod maint a difrifoldeb llygredd yr aer. Rydym yn gwybod bod llygredd yr aer yn lladd mwy o bobl na damweiniau traffig ar y ffyrdd, ac yn ddiweddar rydym wedi dod i ddeall ei fod hefyd yn creu cynnydd sydyn mewn achosion o hunanladdiad. Nawr, rwy'n deall bod y Llywodraeth wedi cytuno i weithio gyda ClientEarth ar y mater hwn, ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Ond tybed a allwn ni hefyd gael dadl yn y lle hwn fel y gallwn drafod pa gynigion tymor byr, canolig a hirdymor brys y mae angen inni eu rhoi ar waith. Yn amlwg, mae'r metro yn un o'r pethau a fydd yn rhoi trefn ar bethau yng Nghaerdydd, ond mae angen, fel mater o frys, mesurau tymor byr i leihau ar unwaith nifer y bobl sy'n marw oherwydd llygredd yr aer.
Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at bwynt pwysig iawn. Cafodd achos ei glywed ar 25 Ionawr, a disgwylir dyfarniad o fewn y pythefnos nesaf. Mae ClientEarth yn gweithio gyda Gweinidogion Cymru, a phartïon eraill, i gytuno ar Orchymyn cydsynio, ac nid yw'n briodol i wneud sylw pellach tan i hynny ddod i ben. Cawsom ddadl yn y Cynulliad yn ddiweddar, ar 5 Rhagfyr—rwy'n credu mai honno oedd dadl fawr cyntaf y Gweinidog ar ôl dechrau ar ei phortffolio—a arweiniwyd gan Weinidog yr Amgylchedd ar yr angen brys ar draws Llywodraeth Cymru i weithredu, er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, ac rydym ni'n sicr yn cydnabod hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni pan fyddwn yn gwybod canlyniad yr achos llys fel y gallwn symud ymlaen â—. Roedd yn ddadl dda iawn ar 5 Rhagfyr, ac fe wnaethom ni gytuno, er enghraifft, i sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer genedlaethol ar gyfer Cymru a nifer o bethau eraill a ddaeth i'r amlwg yn y ddadl. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar yr achos hwn maes o law, pan fydd y Gorchymyn ganddi.
Arweinydd y tŷ, neithiwr roeddwn i'n falch o fod yn narllediad cyntaf y byd o'r ddrama BBC newydd, Requiem, cyd-fenter gyda Netflix, sydd wedi ei ffilmio yn rhannol yn nhŷ Cefn Tilla yn fy etholaeth i ac mae'n dangos cefn gwlad Cymru ar ei orau. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hyrwyddo Cymru fel lleoliad ffilmio rhyngwladol? Mae potensial economaidd mawr yn amlwg os byddwn ni'n datblygu Cymru yn y modd hwn, a chredaf y byddai'n ddefnyddiol ar yr adeg hon, pan fo diddordeb cynyddol yng Nghymru am y rheswm hwn, pe byddem ni'n cael y datganiad hwnnw.
Yn ail, ymwelais ag adeilad newydd ysgol gyfun Trefynwy yr wythnos diwethaf—mae hi wedi bod yn wythnos o deithio—adeilad trawiadol, o'r radd flaenaf, canlyniad—teyrnged, ddylwn i ddweud—i weledigaeth Cyngor Sir Fynwy a hefyd i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hon wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Tybed a allwn ni gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gamau pellach y cynllun hwnnw a sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau y gall cynghorau sir, fel Sir Fynwy ac eraill ledled Cymru, wneud y mwyaf o gael gafael ar y cyllid hwnnw fel y bydd gennym mi adeiladau ysgol sy'n wirioneddol addas i'w diben.
Ac, yn olaf, gan fy mod i'n gwybod bod amser yn brin, Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru stondin i fyny'r grisiau. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi bod yno i'w gweld nhw heddiw. Rwy'n credu eu bod yn dal yno tan 4 o'r gloch. Mae Jocelyn Davies, cyn-Aelod Cynulliad a chyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yno hefyd. Ar hyn o bryd, maen nhw'n cael ymgynghoriad ar eu siarter newydd, sydd ar fin mynd yn fyw. Credaf y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben yng nghanol mis Chwefror. Felly, a allai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl ledled Cymru, a rhanddeiliaid ac arbenigwyr treth, yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw i wneud yn siŵr, pan ddaw trethi yn fyw a phan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn cael ei foddi yn yr holl waith y mae'n rhaid iddo ei wneud, bod y siarter hwnnw yn sicrhau'r berthynas orau bosibl rhwng y diwydiant treth a'r awdurdod refeniw a Llywodraeth Cymru?
Wel, diolch i chi am y tri mater yna, y tri ohonynt yn faterion y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohonyn nhw. Rydym ni'n falch iawn o'n cefn gwlad ni ac rydym ni'n falch iawn o'n diwydiant ffilm sy'n tyfu. Rwy'n falch bod yr Aelod wedi cael cyfle i gymryd rhan yn hynny. Rydym ni'n gwneud cyfres o ddatganiadau am ein llwyddiant o ran hybu ein cefn gwlad ac ein diwydiant ffilm ac rwy'n hapus iawn i ddweud bod yr Ysgrifennydd y Cabinet bob amser yn hyrwyddo cymaint â phosib ar ddiwydiant twristiaeth Cymru a diwydiant ffilm Cymru.
O ran yr adeiladau ysgol newydd yn Nhrefynwy, mae bob amser yn bleser gwirioneddol mynd i un o'r adeiladau ysgol newydd. Rwyf wedi cael y fraint o fynd i sawl un ohonyn nhw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym ni, wrth gwrs, yn falch iawn o'n rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau cyllideb i symud hynny ymlaen. Mae'n enghraifft ardderchog o weithio'n dda ar draws y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn manteisio ar ymweld ag ysgolion newydd wrth iddynt ymddangos yn eu gwahanol etholaethau. Rydym ni'n hynod o falch o'r rhaglen honno ac yn briodol felly.
O ran y siarter ar gyfer awdurdod refeniw treth Cymru, wrth gwrs, rydym ni'n llawn cyffro o gael codi ein trethi cyntaf mewn 800 mlynedd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn hefyd yn enghraifft dda iawn o ddigido gwasanaethau. Roedd gennym dîm rhagorol yn gweithio ar sut i sefydlu'r awdurdod refeniw a pha rannau ohono all fod yn ddigidol, ac rydym ni hefyd wedi ymgysylltu'n dda â chyfrifwyr ac arbenigwyr treth amrywiol ac ati i weld sut y gellir llenwi pethau amrywiol ar-lein ac ati. Rwy'n bendant am achub ar y cyfle hwn i ymuno â'r Aelod i ddweud pa mor falch yr ydym ni o hynny ac i wneud yn siŵr ein bod yn cael cydnabyddiaeth mor eang â phosib am hynny ledled Cymru—[torri ar draws.] Ie, a'n bod yn cael ymateb da i'r ymgynghoriad.
Roeddwn i eisiau gofyn a allwn ni gael dadl ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd gan Siân Gwenllian i'r Prif Weinidog ynghylch sut y bydd yr arian newydd yn cael ei wario. Mae'n dal yn aneglur i ni—yma o leiaf, ar y meinciau hyn—sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu. Cefais gyfarfod â chymdeithas tai arall hefyd, ar fy nhaith o amgylch cymdeithasau tai, nad oedd yn ymwybodol, unwaith eto, o'r cyhoeddiad hwn, a wnaed i'r cyhoedd, yn hytrach nag yma yn y cyfarfod llawn, ac nid oedden nhw'n gwybod, felly, sut y gallen nhw ddefnyddio'r gronfa honno. Felly, byddwn yn falch o gael dadl yn amser y Llywodraeth.
Yr ail un yr oeddwn i eisiau gofyn amdano, oedd a allem ni gael datganiad wedi'i ddiweddaru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ei gyhoeddiad o fwriad i adolygu'r fframwaith anhwylderau bwyta, yr wyf yn ei groesawu’n fawr. Cefais lythyr am hyn ond roeddwn i eisiau cael gwybod a allwn ni gael datganiad i Aelodau'r Cynulliad ynghylch sut y gallan nhw gysylltu â Jacinta, pwy sy'n mynd i arwain ar hyn, drwy Brifysgol Abertawe, a sut gall ACau eraill roi eu barn ar yr adolygiad o'r fframwaith anhwylderau bwyta, o gofio bod hwn yn fater sy'n effeithio ar bob Aelod o'r Cynulliad. Felly, ie, diolch am ei wneud, ond a gawn ni ddatganiad fel y byddwn ni'n gwybod sut i roi tystiolaeth a chyfrannu at yr ymgynghoriad y bydd hi'n ymgysylltu ag ef ledled Cymru?
Ar yr un cyntaf, mae'n amserol iawn gan y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am ddigartrefedd yn y cyfarfod llawn yr wythnos nesaf, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n cael gofyn yr holl gwestiynau yr ydych chi eisiau bryd hynny.
Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd yn nodi wrthyf fod y llythyr dan sylw wedi'i roi yn Llyfrgell y Cynulliad, ond mae'n fwy na pharod i anfon copi at bob Aelod Cynulliad i wneud yn siŵr eu bod yn deall yr amgylchiadau a sut i gysylltu.
Arweinydd y tŷ, roedd gennyf i ddau bwynt yr oeddwn yn awyddus i'w codi. Yn gyntaf oll, yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o noddi'r lansiad o'r ail adroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd plant gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Rwy'n siŵr bod arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod yr adroddiad wedi amlygu'r cynnydd y mae Cymru yn ei wneud mewn meysydd penodol, yn enwedig o ran mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, gwella iechyd menywod beichiog cymaint â phosibl a datblygu capasiti o ran ymchwil iechyd plant, ac, mewn gwirionedd, gwneud yn well na gweddill y DU. Felly, mae'n adroddiad cadarnhaol iawn am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Tybed a fyddai'n bosibl cael dadl lawn am hyn, yn arbennig am bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar hyn, gan fod plant iach yn tyfu i fod yn oedolion iach. Dyna oedd y pwynt cyntaf.
Yr ail bwynt: tybed a yw arweinydd y tŷ wedi gweld y llythyr ym mhapur newydd i y bore yma gan ymgynghorydd ysbyty Nevill Hall—unwaith eto, yn canmol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru—yn dweud sut mae dyluniad ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi galluogi Llywodraeth Cymru a meddygon i weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael â llawer o agweddau ar glefyd yr afu yn enwedig, gan gynnwys hepatitis C? Mae hynny, wrth gwrs, yw rhywbeth yr ydym ni wedi trafod llawer arno yma yn y Siambr hon. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe byddai modd cael diweddariad ynghylch sut y mae nod Llywodraeth Cymru o ddileu hepatitis C erbyn 2030 yn dod yn ei flaen, a chydnabod y gwaith gwych sydd wedi'i wneud yn y ffordd y cynllunnir ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'r cynnydd gwych yr ydym ni'n ei wneud.
Mae'r Aelod yn codi dau bwynt pwysig iawn yn y fan yna. Mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn canmol Llywodraeth Cymru am wneud ymrwymiadau ac yn cydnabod cynnydd sylweddol yn erbyn llawer o'r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys o ran bwydo ar y fron, gordewdra a diogelu plant rhag tybaco—pob un ohonyn nhw yn bethau y gwn fod yr Aelod wedi bod yn cwyno amdanynt bron drwy gydol ei gyrfa wleidyddol.
Mae hyn yn amlygu meysydd y mae angen mwy o waith arnyn nhw, yn amlwg, gan gynnwys rhai gwasanaethau pontio, ond rydym ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda nhw i ystyried yr argymhellion ac i wneud yn siŵr ein bod yn eu gweithredu.
Hefyd mae'r Aelod yn hollol iawn wrth nodi, wrth gwrs, bod y ffordd yr ydym ni'n gweithio yma yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y ffordd y mae ein gwasanaethau yn cael eu datblygu. Rydym ni'n gwneud gwaith ar y cyd helaeth yn gyffredinol ac rydym ni'n gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar y lleisiau amrywiol niferus ym mhob un o'n gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn addas ar gyfer y boblogaeth wrth symud ymlaen. Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd yn nodi wrthyf y byddai'n hapus iawn i gyflwyno datganiad ynghylch lle yr ydym ni arni o ran y gwasanaethau hynny maes o law ac i ddweud ychydig mwy am sut yr ydym ni'n gweithio yng Nghymru a'r manteision mae hynny'n ei olygu i boblogaeth Cymru yn gyffredinol.
Arweinydd y tŷ, mae’r cwestiwn yma wedi dod lan sawl gwaith o’r blaen ond heb ymateb clir. A fyddai’n bosib cael cadarnhad am ddyddiad cyhoeddi safonau'r Gymraeg mewn iechyd?
Byddai, rwy'n siŵr y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth honno i chi, ac anfon copi at bob un o Aelodau'r Cynulliad.
A wnaiff Arweinydd y tŷ ymuno â mi i groesawu menter a gyflwynwyd gan Aston Martin i gynnal ffair gyrfaoedd i raddedigion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro heno, lle byddaf i'n rhoi anerchiad? Mae 750 o swyddi newydd yn cael eu creu ar safle Sain Tathan yn fy etholaeth i. Onid yw hyn yn dangos cryfder y ffydd yn economi Cymru, gydag Aston Martin yn rhoi'r nod 'gwnaed yng Nghymru' ar bob car newydd. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y datblygiad newydd cyffrous hwn?
Yr ail gwestiwn: rwy'n siŵr eich bod yn croesawu, fel minnau, y newyddion bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â herio dyfarniad llys a oedd yn datgan bod newidiadau i'r taliadau annibyniaeth bersonol yn annheg i bobl â chyflyrau iechyd meddwl. Bydd pob person sy'n derbyn taliad annibyniaeth bersonol bellach yn cael adolygiad o'i hawliad. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad yn galw ar Lywodraeth y DU i ôl-ddyddio hawliadau a adolygwyd a chyhoeddi amserlen ar gyfer gweithredu?
O ran yr un cyntaf, ydy, mae'n newyddion da dros ben ac mae Aston Martin yn aelod buddiol tu hwnt o'r gymuned, ym Mro Morgannwg ac, mewn gwirionedd, yng Nghymru yn gyffredinol. A rhan fawr o'r rheswm pam eu bod nhw eisiau dod i Gymru oedd oherwydd eu bod yn hoffi'r ffordd hawddgar y buom yn trafod gyda nhw, a hefyd eu bod yn hoffi'r sylfaen sgiliau sydd o'u cwmpas nhw, ac roedden nhw hefyd yn hoffi'r ffordd hawddgar yr ydym ni'n cydweithio ledled Cymru i wneud yn siŵr y bydden nhw'n cael y sgiliau yr oedd arnyn nhw eu heisiau. Felly, rydym ni'n falch iawn ac yn falch o'u cael nhw yma. Mae'n rhaid imi gyfaddef fod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael ychydig o ffrae ynglŷn â pha un ohonom ni fyddai'n mynd yn y car cyntaf a wnaed yng Nghymru, ac mae hynny'n dal i fudlosgi, y ffrae honno, a byddaf yn falch o roi gwybod i'r Cynulliad pan fyddaf i wedi ennill.
O ran yr asesiadau taliad annibyniaeth bersonol, mae hwnnw'n benderfyniad pwysig iawn. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â herio penderfyniad y llys, sef y peth hollol briodol iddyn nhw ei wneud. Rydym ni eisiau gwneud dau beth, serch hynny. Rydym eisiau sicrhau yr ailasesir yr hawliadau mewn modd sensitif, oherwydd weithiau gall y broses ailasesu ei hun fod mor drawmatig â'r profiad. Felly, rydym eisiau bod yn sicr eu bod yn gwneud hynny mewn modd sensitif, ac rydym hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol sydd mewn gwirionedd yn golygu, pan maen nhw'n cyflwyno'r credyd cynhwysol i fynd ochr yn ochr â hynny, nad yw pobl yn cael eu taro ddwywaith drwy gyflwyno'r credyd cynhwysol, sydd wedi bod yn digwydd yn rhywle. Rydym yn cadw llygad manwl iawn ar hynny, ac rwy'n siŵr pan fydd gennym ni rywfaint o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd hynny'n digwydd y byddwn yn diweddaru'r Cynulliad maes o law.
Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â thegwch ymgynghoriadau. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad a gynhelir gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd ynglŷn â'r mater gyda Nant y Rhath, ond rwy'n cwestiynu pam na roddir yr un cwrteisi i drigolion y Barri, sy'n ymgyrchu'n ddygn yn erbyn y llosgydd yno. Rwy'n credu y dylid eu trin yn yr un ffordd yn union ac fe hoffwn i gael datganiad ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda.
Rydym yn cynnal ymgynghoriadau mewn modd teg iawn. Nid yw rhai o'r ymgynghoriadau hynny y mae'r aelod wedi sôn amdanyn nhw yn fater i Lywodraeth Cymru. Mae'r ail un, er enghraifft, yn fater i'r awdurdod lleol.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesa, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn y prynhawn yma i hysbysu'r Aelodau o'm cynigion ynglŷn â gwneud y diwygiadau o ran trefniadau etholiadau llywodraeth leol, gan gynnwys pwy sy'n cael pleidleisio, sut maen nhw'n cael eu cofrestru, sut y mae pobl yn pleidleisio a phwy all sefyll ar gyfer etholiad. Mae fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer etholiadau lleol, ond rwy'n ymwybodol, Llywydd, o'r gwaith sydd gennych chi ar y gweill ynglŷn â diwygio'r Cynulliad hwn ac y bydd yr un trefniadau i raddau helaeth iawn hefyd yn berthnasol yn y dyfodol i etholiadau Seneddol Cymru. Bydd cynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn Bil llywodraeth leol, y bwriadaf ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Mae'r cynigion yn gydnaws ag ymgynghoriad yr hydref diwethaf, a byddaf yn cyhoeddi canlyniadau manwl hwnnw cyn bo hir.
Mae democratiaeth leol yn ymwneud â chyfranogiad. Rydym ni eisiau cynyddu'r niferoedd sydd wedi cofrestru yn etholwyr, ei gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidleisiau a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan. Rydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd diwethaf sut mae'r ymgyrch i gael pobl i gofrestru yn unigol—a gafodd ei rhuthro ac nad oedd digon o baratoi ar ei chyfer, rwy'n credu— wedi arwain at rai grwpiau o bobl yn diflannu oddi ar y gofrestr. Rwy'n bwriadu gwrthweithio hynny yn rhannol trwy alluogi ac annog swyddogion cofrestru etholiadol i ychwanegu pobl yn awtomatig at y gofrestr os ydyn nhw'n fodlon gyda'r wybodaeth sydd ganddyn nhw. Dylai hynny weithio yn arbennig o dda gyda myfyrwyr ysgol lle mae gan awdurdodau lleol eu manylion eisoes ac angen gwneud dim mwy na throsglwyddo'r rhain i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai unrhyw un sydd wedi ei gofrestru'n awtomatig yn cael eu hychwanegu at y gofrestr ddiwygiedig, nid yr un sydd ar gael i sefydliadau marchnata, a byddid yn cysylltu â nhw i gadarnhau eu dewisiadau ac a ydyn nhw'n hapus i fod ar y gofrestr lawn neu, yn achos rhywun na ddylid datgelu eu hunaniaeth, i gael eu cofrestru'n ddienw.
Rwyf hefyd yn bwriadu creu cofrestr electronig Cymru gyfan, gan gyfuno'r cofrestrau sy'n bodoli ym mhob sir gyda diwyg cyffredin, gan wneud y gwaith o reoli cofrestrau yn fwy effeithlon a'i gwneud hi'n haws hollti cofrestrau ar gyfer etholiadau sy'n croesi ffiniau sirol.
Mae pleidleisio mewn etholiadau yn y wlad hon yn digwydd fwy neu lai yn yr un ffordd ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n mynd i orsaf bleidleisio ac yn taro croes ar ddarn o bapur gan ddefnyddio pensil plwm cydnerth ar ddarn o linyn. Mae llawer o bobl yn hoffi hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae hi'n gryn ddigwyddiad, yn gyfle i siarad â'r cymdogion, ac, yn gyffredinol, mae pobl yn ymddiried yn y broses. Fodd bynnag, Llywydd, rydym ni hefyd yn gwybod bod hyn yn fwyfwy anghyson â bywydau bob dydd pobl, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Am y rheswm hwn, rwy'n bwriadu deddfu i gyflwyno cynlluniau arbrofol mewn etholiadau lleol ac isetholiadau a fyddai'n ymchwilio i'r dewisiadau o bleidleisio a chyfrif electronig, a phleidleisio mewn gwahanol fannau ar wahanol ddyddiau. Byddai angen i'r Comisiwn Etholiadol arfarnu unrhyw gynllun arbrofol cyn inni wneud unrhyw beth parhaol ac eang, ond mae hi'n hen bryd gwneud y broses bleidleisio yn fwy modern a mwy hyblyg, gan ystyried, wrth gwrs, yr angen i gadw unrhyw system newydd yn hollol ddiogel.
Rwy'n arbennig o falch o allu egluro'r diwygiadau etholiadol hyn heddiw oherwydd cyn bo hir byddwn yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig a chyflwyno'r bleidlais i bob dyn. Mae'n briodol felly fy mod yn gallu datgan fy mwriad, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar fin cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon o dan Ddeddf Cymru 2017 o fis Ebrill, i ymestyn yr etholfraint ymhellach mewn sawl ffordd.
Llywydd, fy mwriad yw y bydd pobl 16 a 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Byddwn yn dilyn yr Alban yn hyn o beth, ac mae eu profiad nhw eisoes yn dangos inni gymaint y mae pobl ifanc yr oedran hwnnw yn croesawu'r cyfle ac yn ei ddefnyddio i ddatblygu'r broses ddemocrataidd ymhellach. Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.
Dylai pawb sydd wedi ymrwymo i fywyd yng Nghymru ac sy'n byw yma allu cymryd rhan yn ein democratiaeth gynhwysol. Rydym yn bwriadu caniatáu i unrhyw un o unrhyw genedligrwydd sy'n preswylio yng Nghymru allu cofrestru a phleidleisio yn ein hetholiadau. Bydd hyn yn codi uwchlaw'r ddadl dros ddyfodol hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE drwy ei gwneud hi'n glir y dylai pobl o bob gwlad a chenedl sydd wedi gwneud eu cartrefi yma allu cymryd rhan lawn yn ein democratiaeth.
Rwyf hefyd yn ystyried y posibiliadau ar gyfer ymestyn hawliau carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os yw dyddiad arfaethedig eu rhyddhau cyn diwedd cyfnod y cyngor sy'n cael ei ethol. Byddent yn gallu pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os oes ganddyn nhw gysylltiad â chyfeiriad yng Nghymru, fel arfer eu cyfeiriad diwethaf. Mae angen i bobl sy'n cael eu hanfon i'r carchar deimlo'n rhan o'r gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, a bydd yr hawl i bleidleisio yn ffurfio rhan o hyn.
Llywydd, fy mwriad i yw y bydd llywodraeth leol yn symud i gyfnod o bum mlynedd, fel sy'n digwydd gyda'r Senedd hon a'r hyn a fwriedir ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd cynghorau unigol yn gallu gwneud y dewis i newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Er mwyn newid byddai angen yn gyntaf i ddwy ran o dair y cyngor dan sylw bleidleisio o blaid newid . Byddai'n rhaid defnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy gyfres nesaf o etholiadau cyffredin.
Rwyf hefyd yn bwriadu gwneud rhai newidiadau o ran ymgeisio mewn etholiadau lleol. Rwyf eisiau dilyn yr arfer sydd eisoes yn berthnasol i etholiadau seneddol a galluogi ymgeiswyr i gyhoeddi dim ond y ward lle maen nhw'n byw yn hytrach na'u cyfeiriad cartref ar ddogfennau etholiadol. Byddaf hefyd yn rhoi trefniadau ar waith i alluogi'r ymgeiswyr i gyhoeddi datganiadau polisi ar wefan cyngor.
Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n haws i weithwyr cyngor sefyll etholiad ar gyfer eu cyngor eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo cyn y gallan nhw hyd yn oed ymgeisio. Byddaf yn newid hyn fel nad oes angen iddyn nhw ymddiswyddo dim ond os cânt eu hethol. Fodd bynnag, byddaf hefyd yn annog awdurdodau lleol i gynnig seibiant gyrfa am o leiaf tymor cyntaf eu swyddogaeth.
Llywydd, dyna yw fy nghynnig cychwynnol. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o'r Aelodau yn teimlo y dylai o leiaf rhai o weithwyr y cyngor allu bod yn gynghorwyr yn eu hawdurdod eu hunain, a byddaf yn gwrando'n astud ar y trafodaethau ynglŷn â'r mater hwn yn ystod y gwaith craffu. Hoffwn i ddweud ar goedd y byddaf yn ystyried mewn modd cadarnhaol y ffyrdd y gallwn ni gynnwys y safbwyntiau hyn pan ddaw hi'n bryd inni ddeddfu. Byddaf felly yn ymdrin â hyn gyda meddwl hollol agored a byddaf yn edrych ar ffyrdd o alluogi gweithwyr cyngor i sefyll mewn etholiadau yn eu hawdurdod eu hunain.
Rwy'n credu bod a wnelo'r mater canolog hwn â thal. Pe bai maint y taliadau a wneir i gynghorwyr am wneud eu gwaith yn fwy cydnaws â chyflogau, byddai cymryd seibiant o waith arall yn fwy realistig. Bwriadaf adolygu'r mater hwn, law yn llaw â'r panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol, dros y misoedd sydd i ddod.
Llywydd, rwy'n credu'n gryf na ddylai Aelodau o'r Cynulliad hwn fod yn gynghorwyr hefyd ac rwy'n bwriadu deddfu fel eu bod yn cael eu gwahardd rhag bod yn aelod cyngor. Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan aelodaeth o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gael eu gwahardd.
Yn olaf, rwy'n bwriadu diwygio'r ddeddfwriaeth fel mai Prif Weithredwr y Cyngor fydd y swyddog canlyniadau. Ni fydd y swyddog canlyniadau, fel arfer y swyddog cyngor sy'n cael y cyflog mwyaf, yn gallu hawlio ffi bersonol mwyach oddi ar eu cyngor eu hunain nac am gynnal etholiadau seneddol yng Nghymru. Nid yw'n dderbyniol i'r cyhoedd, yn enwedig ar adeg pan fo gweithwyr cyngor cyffredin yn wynebu'r fath gyfyngiadau. Rwy'n cyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn. Mae hyn yn cynnig rhai cyfleoedd, ond mae hefyd yn esgor ar nifer o gwestiynau. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr angen, fel yr amlygwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, i gynyddu cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Fodd bynnag, bydd y cynigion yr ydych chi'n eu cyflwyno yn mynd i'r afael ag a ddylid gofyn am y diwygiadau a amlinellwyd er mwyn mynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd y broblem o ymddieithrio ymhlith pleidleiswyr a'r diffyg cysylltiad y mae cymaint o drigolion yn ei deimlo â gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Mae cynrychiolaeth ar awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perygl o fod yn rhywbeth cyfyngedig iawn. Yn etholiadau llywodraeth leol 2017, gadawyd 7 y cant o'r seddi cynghorau bwrdeistref sirol yn wag. Ar lefel cyngor tref a chymuned, roedd 81 y cant o'r seddi naill ai'n ddi-gystadleuaeth neu'n wag. Ymhellach, mae ymgysylltu â chynghorwyr lleol yn arswydus o isel yng Nghymru, gyda'r swm anferth o 84 y cant o'r bobl a ymatebodd i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dweud nad oedden nhw wedi cysylltu â'u cynghorydd yn y 12 mis blaenorol. Ac fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato sawl gwaith yn y fan yma, mae diffyg tryloywder yn rhemp, oherwydd rhwng 2016 a 2017, roedd awdurdodau lleol wedi gwahardd y cyhoedd yn llawn neu'n rhannol o 39 y cant o'r cyfarfodydd cabinet, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr y ffigur oedd 93 y cant.
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi gwthio am gyfres fwy trylwyr o ddiwygiadau, gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad pleidleiswyr, ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys yr agenda hawliau cymunedol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, ac eto methodd Llywodraeth Cymru â rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn, nac unrhyw rymoedd ychwanegol na mwy o reolaeth o unrhyw fath i gymunedau. Ac mewn gwirionedd, mae'n deg dweud eich bod wedi methu o ran democratiaeth leol a chaniatáu i gymunedau gael mwy o lais ar faterion democrataidd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro sut y mae eich cynigion yn ymdrin â'r angen dybryd i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y meysydd hyn?
Nawr, mae pryderon eisoes yn cael eu lleisio ynghylch cofrestru pleidleiswyr posib yn awtomatig. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gynghori ynghylch sut yr ydych chi'n rhagweld cydbwysedd yn hyn o beth o ran deddfwriaeth diogelu data a defnyddio data personol, yn ogystal â sut y byddwch yn sicrhau bod y broses hon yn gwbl sicr ac yn rhydd rhag twyll pleidleisiwr?
Ar y mater hwn hefyd, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut yr ydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen â phleidleisiau post, o ystyried cyhuddiadau o ddyblygu pleidleisiau y llynedd ac, wrth gwrs, y sôn a fu am yr hyn a ddigwyddodd yn Tower Hamlets. Dyma golli cyfle euraid os ydych chi'n dechrau diwygio etholiadau llywodraeth leol. Mae pawb yn y fan yma sydd erioed wedi sefyll mewn unrhyw etholiad ar unrhyw lefel yn gwybod y gall pleidleisiau post gyda rhai o'n pobl hŷn fod yn gyfrwng hollol hanfodol a'u helpu i bleidleisio, ond gall fod yn gymhleth iawn hefyd gyda mymryn o wahaniaeth weithiau rhwng llofnodion. Caiff y pleidleisiau hynny eu rhoi o'r neilltu ac mewn gwirionedd nid ydynt yn cael eu cofrestru'n bleidlais. Felly, hoffwn i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi'n rhoi sylw i sut y gallwn ni symleiddio'r broses o bleidleisio drwy'r post fel bod pobl, mewn gwirionedd, yn fwy hyderus wrth wneud hynny nag y maen nhw ar hyn o bryd.
O ran eich cynigion o ran cynlluniau arbrofol ar gyfer pleidleisio electronig, pleidleisio mewn mannau gwahanol ac ar ddyddiau gwahanol, byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y Comisiwn Etholiadol wedi canfod cyn hyn fod arbrawf a wnaed gan Lywodraeth Lafur Prydain ar y pryd ynglŷn â chyfleusterau ychwanegol ar gyfer pleidleisio wedi bod yn aflwyddiannus ar y cyfan yn targedu pleidleiswyr mympwyol megis yr ifanc a'r henoed, gyda'r mwyafrif yn dweud y byddent wedi pleidleisio beth bynnag. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn y costau y gallwch chi eu dangos inni o ran y cynlluniau hyn er mwyn ein galluogi ni i wneud dadansoddiad cost-budd priodol cyn rhoi sêl bendith i unrhyw gynlluniau arbrofol.
Fe wnaethoch sôn am y bwriad i alluogi pobl 16 ac 17 oed i bleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Sut ydych chi'n cysoni rhoi pleidlais i bobl 16 a 17 oed pan fo'r Cynulliad hwn wedi deddfu yn eu herbyn yn y gorffennol, er enghraifft, o ran defnyddio gwely haul? Ac mae caniatâd rhieni yn dal yn ofynnol i briodi neu i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Hoffwn grybwyll hefyd ar y pwynt hwn, fel rhywun sydd wedi hen arfer ymgyrchu, fod pobl 18 i 30 oed yn aml yn cael eu heithrio achos, wrth gwrs, ni chaiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Ceir y math hwnnw o wacter — [torri ar draws.] Byddai, byddai fy holl ysgolion yn Aberconwy yn hoffi gweld mwy o sylw i'r system wleidyddol yn y maes llafur. Felly, hoffwn i ofyn ichi sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y bobl hynny sydd eisoes yn gallu pleidleisio yn cyfranogi mwy.
O ran eich cynigion i ganiatáu i gynghorau unigol newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, byddwch yn cofio, mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad', fod 60 y cant o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio trefn y cyntaf i'r felin oherwydd y teimlad oedd bod pobl yn ei deall yn well, ac roedd 94 y cant o'r farn ei bod yn well cadw at un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ymateb hwn yn ymddangos yn groes i'ch cynigion chi heddiw, felly sut allwch chi gyfiawnhau hynny?
Croesawn y gofyniad i ymgeiswyr gofrestru aelodaeth plaid wleidyddol os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid a'r gwell tryloywder ac atebolrwydd a fyddai'n dod gyda hyn. Rydym i gyd yn gwybod—mewn etholiadau comisiynwyr yr heddlu—pan fo pobl yn sefyll fel aelodau annibynnol, mewn gwirionedd, maen nhw'n aelodau o blaid wleidyddol. Rwy'n gwybod nad yw tri aelod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a etholwyd o dan faner Plaid Cymru fis Mai diwethaf yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol ar y cyngor hwnnw bellach.
Ac yn olaf, croesawn yn fawr—ac rydym ni wedi bod yn galw am hyn—y newidiadau arfaethedig o ran rhoi terfyn ar swyddogion canlyniadau yn cael eu talu gan eu cynghorau eu hunain. Nid yw'n iawn, fel yr ydych chi yn gwbl gywir yn cyfeirio ato, fod prif weithredwr yn gallu bod ar gyflog mwy na Phrif Weinidog y wlad hon ac eto gall ennill oddeutu ugain mil o bunnoedd yn ychwanegol drwy fod yn swyddog canlyniadau. Mae hynny'n anghywir. Os ydych yn mynd i roi terfyn ar Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith cynghorwyr hefyd, dylech chi fod yn rhoi sylw i hynny ac rwy'n cefnogi hynny.
Ac yn olaf oll, o ran newidiadau i gymhwysedd ymgeiswyr, tybed beth fyddai'r gost petai awdurdodau lleol yn rhoi seibiant gyrfa i ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn yr etholiad sydd yn gyflogedig gan y cyngor, lle mae gwrthdaro buddiannau yn debygol. Hefyd, eto, bydd costau'n digwydd os yw adrannau'n caniatáu i bobl gyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr—sut y telir y gost o ran cyflenwi eu gwaith ac ati.
Felly, rwy'n credu bod llawer o gwestiynau yma i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at graffu ar hyn pan gaiff ei gyflwyno. Hoffwn ddweud hyn: rwy'n falch eich bod wedi cael y cwrteisi o'r diwedd i gyflwyno hyn yn y Cynulliad hwn. Roedd yn siomedig gweld Plaid Lafur y DU yn trydar y cyhoeddiad hwn cyn y rhoddwyd unrhyw fath o gwrteisi i ni, Aelodau Cynulliad. Byddwn ond yn dweud wrthych nad hon yw'r ffordd orau o wneud cychwyn da pan rydych eisiau gwneud newidiadau mor ddifrifol i'n system etholiadol. Diolch i chi.
Llywydd, credaf y bydd y Siambr gyfan o'r un farn â mi pan ddywedaf fy mod yn falch iawn nad wyf i bob amser yn atebol i'r lle hwn am weithredoedd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig a'u swyddfa'r wasg.
Hoffwn ofyn i lefarydd y Ceidwadwyr liniaru ychydig o bosib ar ei darogan gwae. Mae'n ymddangos ein bod wedi gwrando ar restr pum neu chwe munud o hyd o'r holl broblemau a'r anawsterau fydd yn ein hwynebu wrth wneud unrhyw newid o gwbl. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod dan sylw ac wrth Aelodau eraill y byddwn ni'n cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan drwy eu perswadio bod diben pleidleisio ac y gall pleidleisio newid rhywbeth ac y gall fod diben i bleidleisio o ran llunio dyfodol ein cymunedau. Awgrymaf nad yw gwneud dim byd ond rhestru problemau yn ysgogi unrhyw un nac unrhyw le i gofleidio newid.
Rwy'n dweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr na fydd y cyhoeddiadau yr wyf yn eu gwneud y prynhawn yma yn effeithio ar gynghorau tref a chymuned. Bydd hi'n ymwybodol fod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, a byddaf yn gwneud datganiadau pellach ynglŷn â dyfodol y cynghorau tref a chymuned pan ddaw'n bryd cyflwyno'r adroddiad ar yr adolygiad hwnnw. Disgwyliaf i hynny fod ar ryw adeg ddechrau'r haf.
A gaf i ddweud, o ran ceisio ateb o leiaf rhai o'r cwestiynau y mae hi wedi eu gofyn y prynhawn yma, fod hyn yn rhan o gyfres o ddiwygiadau? Bydd hi'n ymwybodol o'r cwestiynau a gawsom ni yr wythnos ddiwethaf a'r datganiad a wnes i ar setliad i lywodraeth leol fy mod i wedi gofyn i'r holl Aelodau sydd yma, yn ogystal ag arweinwyr cynghorau ac aelodau o Senedd y DU, pa bwerau y credant y dylai fod gan y prif awdurdodau lleol. Nawr, hyderaf fod yr Aelod Ceidwadol dros Aberconwy wedi ysgrifennu ataf ar yr achlysur hwn erbyn y dyddiad cau, sef yfory, yn rhoi i mi ei barn ar hyn—[torri ar draws.] Nid yw hi wedi rhoi ei barn i mi am unrhyw beth. Byddwn wrth fy modd petai hi wedi gwneud hynny. Byddai'n gwneud fy ngwaith yn haws. Gadewch imi ddweud hyn: Rwy'n tybio—[torri ar draws.] Ni allaf ond tybio—. Nid wyf eisiau dechrau trafod yn y fan hon pa negeseuon e-bost a anfonwyd neu na chawsant eu hanfon, ond tybiaf y bydd hi'n ysgrifennu ataf heno gyda'r gyfres honno o gynigion sydd ganddi.
Rwyf yn llunio cyfres o ddiwygiadau i lywodraeth leol, a hefyd gyda nhw, i fod yn sail i ddemocratiaeth leol a sicrhau bod pobl yn cyfrannu at etholiadau lleol a bod cynghorau lleol ac awdurdodau lleol yn fwy pwerus yn y dyfodol nag ydyn nhw heddiw. Mae hyn yn rhan o'r pecyn diwygio hwnnw, nid y pecyn yn ei gyfanrwydd, a dyma hefyd y datganiad cyntaf yr wyf yn ei wneud yma ynglŷn â'r broses ddiwygio gyfan.
Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â thwyll pleidleiswyr a diogelu data. Mae'n rhaid imi ddweud wrthi, lle mae hyn yn digwydd eisoes yn yr Alban, nid oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw un o'r materion hynny yn destun pryder i awdurdodau yn yr Alban. Nid ydym yn disgwyl iddyn nhw fod yn broblemau i ni. Byddwn yn sicrhau bod trefniadau diogelwch priodol ar waith ar gyfer y rhai ar y gofrestr, p'un a ydyn nhw'n 16 neu 17 oed neu yn wir unrhyw un sy'n agored i niwed mewn unrhyw ffordd. A byddwn yn sicrhau bod canllawiau priodol ar waith i sicrhau nad yw twyll pleidleiswyr a diogelu data yn broblemau mewn unrhyw system newydd.
Rwyf yn derbyn y pwynt a wnaed am y gallu i symleiddio'r pleidleisiau drwy'r post. Yn amlwg, mae llawer o bobl yr ydym ni'n eu hadnabod a llawer o etholwyr yn dibynnu ar bleidleisiau drwy'r post, boed hynny oherwydd eiddilwch neu oherwydd bod ymrwymiadau gwaith yn golygu na allan nhw bleidleisio'n bersonol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu parhau i symleiddio'r broses o bleidleisio drwy'r post, ond rhaid imi ddweud y bydd angen inni sicrhau hefyd fod pleidleisiau post yn parhau i fod yn ffurf ddiogel o bleidleisio. Y rheswm, Llywydd, pam rwy'n ceisio pwerau caniataol yn y ddeddfwriaeth hon yw er mwyn rhoi cynlluniau arbrofol ar waith i ni allu ystyried gwahanol newidiadau yn y system bleidleisio, i wneud yn union yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu, sef deall yn ymarferol sut fydd y cynigion hyn yn gweithio o ran sut yr ydym ni'n ethol cynghorwyr newydd yn y dyfodol.
Rwy'n gobeithio y gallwn ystyried amrywiaeth o gynigion gwahanol er mwyn gwella a chynyddu nifer y pleidleiswyr. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu bwrw pleidlais yn electronig yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu pleidleisio ar ein ffonau yn y dyfodol, a gobeithio, hyd yn oed os na allwn ni wneud hynny yn y dyfodol agos, y gallwn ni symud at system o gyfrif electronig yn y dyfodol agos. Rwy'n dweud wrth yr Aelod, sydd yn ymddangos—sut allaf i fynegi hyn—yn llugoer ynghylch yr awgrym y dylem ni ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed, fy mod i'n gweld pobl ifanc yn frwdfrydig dros gymryd rhan yn y broses wleidyddol lle mae gwleidyddion yn gallu dangos bod diben ac amcan i bleidleisio. Credaf mai ein cyfrifoldeb ni yma ac mewn mannau eraill yw egluro i bobl sut y gall pleidleisio newid rhywbeth a phwysigrwydd cymryd rhan yn y broses etholiadau.
Mae'n fater i bobl eraill ymateb i rai o'r safbwyntiau a wnaed o ran cynrychiolaeth gyfrannol o'i gymharu â'r cyntaf i'r felin. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod dros Aberconwy bod rhan o addysg bersonol a chymdeithasol yn ymwneud â dinasyddiaeth weithgar. Rwy'n synnu nad yw hi'n ymwybodol o hynny. Bydd ein gallu i gyfathrebu ac addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd strwythurau gwleidyddol llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r Deyrnas Unedig yn ein helpu, gobeithio, i danio cenhedlaeth newydd o bobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth a, gobeithio, i ddal pob un ohonom ni i gyfrif.
Rwyf am ganolbwyntio ar dair agwedd yr ydych chi wedi’u nodi yn eich datganiad y prynhawn yma, ac mae’r tair yn ymwneud â chynyddu diddordeb a chael gwell cynrychiolaeth o fewn llywodraeth leol. Mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â gwleidyddiaeth yn eu blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychioladol, felly mae Plaid Cymru yn croesawu eich bwriad chi fel Llywodraeth i estyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Ond, heb os, mae yna ddiffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Er enghraifft, a ydy pobl yn gwybod pa Lywodraeth sy'n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau? Mae hyn yn ymestyn i bob oedran. Mae yna asesiadau gan Brifysgol Caerdydd, er enghraifft, yn dangos bod yna broblem o ran diffyg diddordeb a gwybodaeth ymysg myfyrwyr yng Nghymru mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ond hyd yn oed llai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol.
Felly, wrth groesawu'r newydd cadarnhaol yma, mae rhywun yn troi’i olygon at addysg wleidyddol, ac rydym ni wedi trafod hynny’n fras yn barod. Rydw i’n gweld bod yna gyfle euraidd—law yn llaw â chyflwyno’r bleidlais i bobl ifanc, mae angen hefyd rhoi mwy o bwyslais ar wella addysg wleidyddol fel rhan o’r cwricwlwm. Rydych chi wedi sôn am ddinasyddiaeth o dan addysg bersonol a chymdeithasol, ond buaswn i’n licio cael eich barn chi tybed a oes angen gwneud mwy. A oes gennych chi gynlluniau i edrych yn bellach na beth sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn y cwricwlwm?
Mae’n ddealladwy, onid ydy, fod dieithrio gwleidyddol yn digwydd mewn cymdeithas lle nad ydy pobl yn gweld gwerth mewn pleidleisio, ac felly ddim yn cymryd sylw o wleidyddiaeth oherwydd efallai eu bod nhw'n teimlo nad yw eu pleidlais nhw bob tro yn cyfrif efo’r system etholiadol first-past-the-post? Felly, rydw i’n croesawu’ch ymrwymiad chi, yn y gorffennol ac yn y datganiad heddiw, i gyflwyno STV ar gyfer etholiadau lleol, ond nid yw’n mynd i ddigwydd, oni bai ei fod o'n cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru, ac yn fandadol ar gyfer pob awdurdod lleol—ddim yn rhywbeth iddyn nhw gael dewis yn ôl mympwy. Mewn gwirionedd, nid cynghorau ddylai gael penderfynu os ydyn nhw am fod yn atebol i’w hetholwyr drwy system etholiadol deg, a dweud y gwir; y Llywodraeth ddylai fod yn penderfynu ar fater o egwyddor fawr fel yna. Mae peidio â gwneud y newid yn fandadol yn dangos diffyg arweinyddiaeth, rydw i’n credu, ar ran y Llywodraeth. Hefyd, mae’n osgoi dyletswydd, fel Llywodraeth genedlaethol—mi ddylai’r arweiniad yna fod yno.
Rydym ni’n gwybod beth ydy manteision STV. Mae STV wedi cael ei ddefnyddio mewn etholiadau lleol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn fanna hefyd, ac, o ganlyniad, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol. Mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau’r boblogaeth ac mae yna lot fwy o ddiddordeb mewn etholiadau pan maen nhw’n cael eu cynnal drwy’r system STV. Felly, nid wyf i dal wedi fy argyhoeddi efo’r ddadl rydych chi’n ceisio’i wneud ynglŷn â gwneud STV yn rhywbeth dewisol—nid wyf yn deall, heblaw am resymau, efallai, o hunanddiddordeb pleidiol. Ni welaf i un ddadl arall, resymegol dros ei gwneud hi’n gwbl fandadol i STV fod yn rhan o etholiadau lleol yng Nghymru.
I barhau efo’r thema o gynrychioli’r boblogaeth yn well, rydw i’n mynd i faes efallai nad ydych chi’n ei grybwyll. Nid yw’r ddogfen ymgynghorol ar ddiwygio trefniadau etholiadol yn trafod sut i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol ar ein cynghorau ni, ac nid yw, ychwaith, yn mynd i ymafael â sut i gyrraedd at gydraddoldeb rhywedd. Dim ond 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod, wrth gwrs, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yma o ddiffyg cydraddoldeb.
Rydw i’n meddwl fy mod wedi eich clywed chi ar y teledu ddydd Sul yn sôn bod angen mwy o ymgynghori ar eich cynigion ar gyfer rhanbartholi gwasanaethau. Os oes yna fwy o ymgynghori i ddigwydd, tybed a wnewch chi ystyried ymgynghori hefyd ar wahanol opsiynau i sicrhau cydraddoldeb rhywedd o fewn ein cynghorau ni. Wedi’r cyfan, mae cydraddoldeb rhywedd yn ein Cynulliad wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor gan y Prif Weinidog a chan y Gweinidog cydraddoldeb yn y Siambr yma, felly beth amdani? Beth am wneud rhywbeth o fewn llywodraeth leol hefyd? Mae’r drafodaeth yna’n fyw iawn ar hyn o bryd, ac rydw i’n credu ei bod yn amserol hefyd i ystyried sut i ddefnyddio’r system etholiadol i gyrraedd cydraddoldeb yn ein cynghorau lleol ac fe fuaswn i’n licio cael eich barn chi ar hynny. Diolch.
Rydw i'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chroeso cyffredinol i'r cynigion rydym ni'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n cyd-fynd â lot fawr o'r pwyntiau mae'r Aelod wedi eu gwneud, Llywydd. Rwy’n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn amboutu'r diffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Rydw i'n gwybod bod fy nghyfaill yr Ysgrifennydd addysg, er enghraifft, yn ysgrifennu at y BBC heddiw ar ôl eu hadroddiad nhw ar Today ddoe yn sôn amboutu polisi addysg Cymru a Lloegr—a 'Lloegr a Chymru' rwy'n credu yr oedden nhw'n ei ddweud. Rydw i'n meddwl bod yna ddiffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru ac o natur gwleidyddiaeth yng Nghymru, nid yn arbennig ymhlith yr ifanc, er enghraifft, ond yn ein plith ni i gyd, oherwydd nad oes gennym ni'r math o le yn y byd gwleidyddol neu'r byd cyfryngol ym Mhrydain sy'n esbonio sut mae Prydain ei hun yn cael ei llywodraethu a chyfansoddiad Prydain. Rydw i'n credu bod hynny'n rhywbeth mae'n rhaid inni ei ystyried ymhellach. Rydw i'n gweld bod y Gweinidog ar gyfer darlledu yn y Siambr y prynhawn yma, ac rydw i'n siŵr ei fod e'n mynd i barhau i godi'r materion yma.
Mae dinasyddiaeth yn beth hanfodol bwysig. Mae'n bwysig ei bod hi'n cael ei dysgu yn ein hysgolion ni, ond hefyd, mi fuaswn i'n dweud bod dinasyddiaeth yn beth pwysig i ni i gyd, ac mae deall sut rydym ni'n cyd-fyw gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rydw i'n mawr obeithio bod y ffordd rydym ni'n newid ein gwleidyddiaeth ni i estyn y franchise i bobl ifanc, a sicrhau ein bod ni'n newid hefyd y ffordd rydym ni'n ymgyrchu pan rydym ni'n sefyll etholiad—. Rydw i'n credu bod hynny'n mynd i fod yn hollbwysig wrth ysbrydoli pobl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Mae'r Aelod hefyd yn fy nhemtio i, unwaith eto—sut allaf i ddweud hyn—ar fater STV a sut rydym ni'n pleidleisio. Mae fy marn bersonol i yn gwbl glir, ac mae'r Aelod yn gwybod lle'r ydw i'n sefyll ar hyn. Rydw i'n cefnogi STV ar gyfer etholiadau yma, yn San Steffan ac i lywodraeth leol. Nid oes gen i ddim amheuon ac rydw i'n cyd-fynd â'r Aelod ar beth mae'n ei ddweud amboutu manteision STV. Mi fuasai hynny, wrth gwrs, hefyd yn helpu datrys y broblem yr oedd Janet Finch-Saunders wedi ei chodi yn ei chyfraniad hi pan roedd hi'n sôn amboutu diffyg cystadleuaeth ar gyfer rhai seddi mewn rhai rhannau o Gymru.
Ond mae'n rhaid i fi, ac mi fuaswn i'n awgrymu bod yn rhaid i chi hefyd, gydnabod nad oes yna ddigon o gefnogaeth ar hyn o bryd i symud at y system yma. Heb fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y wlad, nid wyf i'n credu y dylem ni orfodi newid i'r system etholiadol ar bobl. Rydym ni'n creu'r pwerau yma, y pwerau newydd i alluogi cynghorau i wneud penderfyniadau eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod y bobl maen nhw'n eu cynrychioli eisiau iddyn nhw symud i gyfeiriad felly. Ond yr unig ffordd y buaswn i'n newid y system yn gyffredinol byddai gwthio hynny drwyddo, ac nid wyf i'n credu fy mod i eisiau gwneud hynny, ac nid wyf i'n credu, ar hyn o bryd, fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y Siambr i wneud hynny. Mi fuaswn i siŵr o fod yn ymgyrchu gydag Aelodau eraill i efallai newid hynny yn y dyfodol, ond dyna le'r ydym ni heddiw, ac rydw i'n credu bod y datganiad rydw i wedi ei wneud heddiw yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.
Rydw i'n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn am gydraddoldebau a sut rydym ni'n gallu defnyddio'r strwythurau ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynrychioli mewn cynghorau ar draws y wlad. Mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater trafod yn o leiaf un o'r Papurau Gwyn rydym ni wedi eu gweld ar lywodraeth leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae yn fy meddwl i ar hyn o bryd—nid yw e'n rhan ganolog o'r datganiad rydw i wedi ei wneud y prynhawn yma, ond mi wnes i awgrymu yn ystod y datganiad fy mod i'n mynd i ystyried sut rydym ni'n talu cynghorwyr ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod ni'n gallu apelio at fwy o bobl a chreu mwy o gyfle i bobl sefyll etholiad yn y dyfodol. Rydw i'n meddwl y buasai hynny'n helpu i sicrhau bod gyda ni fwy o gydraddoldeb y tu mewn i siambrau cynghorau ar draws y wlad yn y dyfodol. Felly, mi fydd yna drafodaeth, ac rydw i'n gobeithio y byddaf i'n arwain trafodaeth ar hyn yn ystod y misoedd nesaf.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae yna rai pwyntiau synhwyrol yn y datganiad hwnnw y byddem ni ar y cyfan yn eu cefnogi, a rhai mwy dadleuol. I ddechrau gyda'r pethau da: swyddogaeth prif weithredwr y Cyngor fel y swyddog canlyniadau mewn etholiadau llywodraeth leol. Byddem yn cytuno â chi y dylai hon bellach fod yn swyddogaeth statudol ar gyfer prif weithredwr y cyngor, ac y dylid diddymu'r tâl mawr am y swyddogaeth honno y mae'r swyddog canlyniadau yn ei chyflawni, yn enwedig yn yr amseroedd hyn pan mae cynghorau lleol yn brin o arian. Felly, cytunwn yn llwyr â chi ar hynny. Fe wnaethom ni dreulio ychydig o amser yn sôn am bleidlais sengl drosglwyddadwy. Credaf fod hynny'n fater diddorol—ddiddorol oherwydd erbyn hyn mae gennym ni Weinidog sydd wedi cefnogi'r system honno yn gyhoeddus, sy'n ddatblygiad da. Y cwestiwn yw hyn: a fydd eich presenoldeb chi, y Gweinidog, yn gallu cael unrhyw effaith ystyrlon ar etholiadau cynghorau lleol a'r ffordd y maent yn cael eu cynnal?
Nawr, mae David Melding yn eistedd draw yn y fan yna, a bydd yn debyg, gyda'i atgofion o'r pethau y deddfwyd o'u plaid neu na ddeddfwyd o'u plaid yn y Siambr hon, yn cofio bod hyn yn destun trafodaeth yn nhymor cyntaf y Cynulliad, pan oedd Rhodri Morgan yn fras o blaid newid y system bleidleisio ond ni ddigwyddodd hynny. A dyma ni, 15 neu 16 mlynedd yn ddiweddarach. Nawr, rydym bellach mewn sefyllfa lle rydych chi'n mynd i ddweud y bydd cynghorau yn cael symud i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, ond na fydd hi'n orfodol. Iawn, fe allech chi wneud y pwynt bod angen ichi ymgynghori ac na allwch chi orfodi cynghorau i wneud rhywbeth, ac mae angen ichi gynnal yr egwyddor o wneud pethau'n lleol. Gallech chi gyflwyno dadleuon amrywiol, ond y broblem yw mai'r hyn a gewch chi yn y pen draw, mae'n debyg, yw llawer o gynghorau Llafur, sy'n mynd i gadw, yn syml, at y system cyntaf i'r felin. Wrth gwrs, mae hynny mor amlwg â'r dydd. Felly, byddwn yn edrych â diddordeb i weld beth sy'n digwydd o ganlyniad i alluogi cynghorau lleol i symud at system newydd. Ond rwyf yn rhannu amheuon Siân Gwenllian ynglŷn â beth fydd yn dilyn mewn gwirionedd.
Nawr, y pwyntiau eraill—codwyd nifer gan Janet Finch-Saunders yn ei darlun cynhwysfawr braidd o'r hyn yr oeddech yn ei wneud. Tueddaf i gytuno â llawer o'i phwyntiau hi. Ni wnaf eu hailadrodd, wrth gwrs, ond dim ond cyfeirio eto at y pwyntiau yr oedd hi'n eu gwneud ynghylch twyll posib gan bleidleiswyr. Cytunaf, e-bleidleisio—mae'n ddiddorol. Gallech chi ennyn diddordeb mwy o bleidleiswyr—mae hwnnw'n nod canmoladwy. Rydych chi'n cyfeirio at yr Alban, lle bu cynllun arbrofol, ac ni chafwyd llawer o dystiolaeth o dwyll. Wel, cadwch lygad ar hyn, da chi, oherwydd nid ydym eisiau clywed mewn pedair neu bum mlynedd bod llawer o dwyll yn digwydd.
Rydym eisoes wedi clywed am y cynnydd enfawr mewn pleidleisio drwy'r post, sydd wedi arwain at achosion o dwyll etholiadol—fel y nododd Janet, enghraifft Tower Hamlets. Felly, rwyf hefyd yn gofyn a allech chi gynnwys adolygiad o'r cynnydd enfawr hwn mewn pleidleisio drwy'r post yn eich adolygiad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai pleidleisiau post fod ar gael dim ond i'r rhai sydd wirioneddol eu hangen? Felly, dyna un cwestiwn. Cwestiwn arall yw hyn: pa fesurau diogelu penodol yr ydych chi'n dymuno eu cyflwyno o ran e-bleidleisio?
Y mater o bobl 16 a 17-oed—wel, roeddech chi'n annifyr braidd gyda Janet pan soniodd hi am y system addysg, ond mewn gwirionedd nifer o'r ymgyrchwyr ifanc sydd eisiau pleidlais yn 16 a 17 oed sydd wedi crybwyll yr hyn y maen nhw'n ei alw yn 'addysg wleidyddol ddiduedd'. Felly, ymddengys eu bod nhw'n teimlo bod hynny'n ddiffyg yn y system. Felly, hoffwn i ofyn eto, fel y mae eraill yn gofyn heddiw: a oes angen rhywfaint o newid ar y cwricwlwm addysg? Ond, wrth gwrs, ceir hefyd y broblem o sut ar y ddaear mewn gwirionedd mae darparu addysg wleidyddol ddiduedd. Felly, mae'n gleddyf daufiniog braidd, y mater hwnnw. Bydd hynny'n anodd wrth ichi fwrw ymlaen.
Yn olaf, pleidleisiau carcharorion—ymddengys fod hyn yn gynnig gwrthnysig braidd, oherwydd ymddengys nad oes unrhyw fath o gefnogaeth iddo ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Ymddengys fod y polau piniwn diweddaraf yn dangos bod 70 y cant o'r boblogaeth yn erbyn rhoi'r bleidlais i garcharorion. Os ydych chi'n mynd i geisio rhoi'r bleidlais i garcharorion, a gaiff unrhyw ymdrech ei wneud i gynyddu'r bleidlais ymysg gweithwyr y lluoedd arfog? Diolch.
Llywydd, pryd bynnag yr ydym ni'n trafod y materion hyn, mae rhaniad clir mewn gwleidyddiaeth, lle mae pleidiau'r chwith yn dymuno cynyddu cyfranogiad ac annog pobl i bleidleisio, a'r pleidiau ceidwadol hynny ar y dde yn ceisio atal pobl rhag pleidleisio, ac yn ceisio mygu pleidleiswyr ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osod rhwystrau o ran galluogi pobl i bleidleisio. A chaniatéwch imi ddweud hyn: rwyf eisiau perswadio ac annog, a hyd yn oed, os gaf i fod mor hy a dweud, i ysbrydoli pobl i bleidleisio ac i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Ac nid ydych chi'n gwneud hynny, Llywydd, drwy restru'r anawsterau, rhestru problemau a darogan gwae inni dro ar ôl tro.
Sefais ar gyfer etholiad, nid er mwyn gwneud dim ond disgrifio anawsterau'r cymunedau roeddwn i'n ceisio eu cynrychioli, ond i ddarganfod atebion i'r problemau hynny a cheisio datrys y problemau yr ydym ni'n eu hwynebu. A dyna pam, wrth geisio gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma, rwyf eisiau annog mwy o bobl i bleidleisio. Rwyf eisiau i bobl 16 ac 17 oed yn y wlad hon deimlo'n rhan o'r gymuned hon a bod yn rhan o ddyfodol eu teuluoedd a'u cymunedau. A byddwn yn rhoi hawl iddyn nhw bleidleisio, a byddwn yn sicrhau eu bod yn gallu arfer yr hawl honno. Byddwn yn gwneud hynny yn syml drwy gyfrwng addysg, ond fe wnawn ni hynny hefyd drwy'r ffordd y byddwn ni, bleidiau gwleidyddol, yn ymgyrchu, a thrwy'r ffordd y byddwn ni wleidyddion a Gweinidogion yn llywodraethu. A byddwn yn ysbrydoli pobl i bleidleisio. Dyna fy agwedd i. Dyna rwy'n ei ddymuno ac yn disgwyl i'r Llywodraeth hon yn ei chyfanrwydd ac i eraill ei wneud.
Ond caniatewch i mi ddweud hyn: holl bwrpas, y diben o ddarparu ar gyfer pwerau caniataol i'n galluogi i edrych ar ddewisiadau gwahanol, ac i edrych ar wahanol bosibiliadau a dyheadau, i'n galluogi i wneud y newidiadau hyn, yw deall goblygiadau'r newidiadau hynny, ac i ddeall goblygiadau'r hyn yr ydym ni yn ceisio ei gynnig. Felly, byddwn yn sicrhau y bydd y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw ac ystyriaeth i bob prosiect peilot, yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a chyn inni wneud unrhyw newidiadau parhaol sylfaenol i'r system etholiadol, byddwn yn sicrhau ei bod yn ddiogel, byddwn yn sicrhau y caiff ei diogelu rhag twyll, a byddwn yn sicrhau ei bod yn perfformio fel yr ydym yn disgwyl iddi wneud, ac mae hynny'n golygu cynyddu cyfranogiad hefyd.
Ond caniatewch i mi ddweud hyn: wrth sicrhau bod modd i bobl 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio, rydym ni'n edrych ar gynyddu'r hawl i bleidleisio a rhoi cyfran iddyn nhw yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Caniatewch imi ddweud hyn: rwyf eisiau sicrhau bod y bobl hynny, yn enwedig y bobl hynny sy'n cyflawni dedfrydau carchar cymharol fyr, hefyd yn teimlo bod ganddyn nhw ran yn y gymdeithas a'r gymuned lle maen nhw'n byw. Mae angen inni sicrhau bod, yn bennaf yn yr achos hwn, dynion ifanc, yn teimlo bod ganddyn nhw gyfran yn eu cymuned, ac mae angen inni roi pwyslais clir ar adsefydlu, ar hyfforddiant, ar sicrhau nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw wedi eu heithrio o gymdeithas, ond yn teimlo eu bod nhw wedi cael cyfleoedd i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas. A byddwn yn gwneud hynny drwy sicrhau bod pobl sydd dan glo am gyfnodau byr yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol, ac yn teimlo y cawn nhw eu gwerthfawrogi a'u bod yn werthfawr yn ein cymdeithas, ac y byddwn yn buddsoddi yn eu dyfodol nhw ynghyd ag yn ein dyfodol ni.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ofyn cwestiynau am y datganiad yn trafod llywodraeth leol agos ddigon.
Rwy'n croesawu'r cynigion i roi hwb i niferoedd yr etholwyr cofrestredig, i'w gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidleisiau, a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan. Onid hynny yw diben democratiaeth—ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl bleidleisio. Rwy'n rhoi croeso brwd i roi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 mlwydd oed. Roedd fy merch a'i ffrindiau, sy'n 16 a 17oed, yn teimlo'n ddig iawn na allen nhw bleidleisio yn y refferendwm Ewropeaidd, gan eu bod yn teimlo y byddai'n cael effaith fawr ar eu dyfodol. Mae symud pob etholiad i gyfnod penodol cyffredin yn bwysig oherwydd mae'n atal etholiadau i haenau gwahanol Llywodraeth rhag gael eu cynnal ar yr un diwrnod, felly gall pob un ohonyn nhw gael eu mandad eu hunain. Er fy mod i'n cefnogi cynghorwyr yn gwasanaethu hyd at ddiwedd eu cyfnod ar ôl cael eu hethol i'r Cynulliad, ni ddylai unrhyw aelod o'r Cynulliad allu sefyll ar gyfer unrhyw gyngor. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod prif weithredwyr ar gyflogau bras yn cael tâl ychwanegol am fod yn swyddog canlyniadau, ac mae rhai cynghorau eisoes wedi gwneud hyn yn rhan o swyddogaeth y Prif Weithredwr. Rwy'n croesawu'r cynlluniau arbrofol.
Pedwar cwestiwn. Pam na allwn ni ddefnyddio cofrestr electronig gyffredin fel y gall pobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio? Ynglŷn â phleidleisio electronig, mae gennyf ffydd yn y diogelwch yn erbyn hacio. Pa drefniadau diogelu a fydd yna i rwystro pobl rhag casglu'r codau a'u defnyddio wedyn? Ynglŷn â chyfrif electronig, beth sydd i atal y llanast a fu gyda phapurau na thyllwyd yn gywir ac a gostiodd yr arlywyddiaeth i Al Gore?
Ynglŷn â phobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol, allwch chi ddim gwahaniaethu rhwng y rhai a gyflogir yn uniongyrchol a'r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol? Cawsom yr enghraifft o bobl yn gweithio ar gyfer sefydliadau sy'n cael eu cyllido'n rhannol gan gyngor, mae yna enghreifftiau hanesyddol o bobl sy'n gweithio yn y colegau polytechnig, mae yna athrawon ysgol sydd i gyd wedi'u heithrio ac, er eu bod yn cael eu talu gan y cyngor, maen nhw hyd braich oddi wrtho rywsut o ran eu cyflogaeth. Felly, a allwn ni gael rhyw ffordd o wahaniaethu rhwng y rhai a gyflogir yn uniongyrchol, a'r rhai y mae eu cyflogaeth, er mai'r cyngor sy'n eu talu nhw, yn anuniongyrchol?
Llywydd, ni fyddai unrhyw un byth yn cyhuddo Mike Hedges o beidio â siarad digon am lywodraeth leol, ac rydym ni'n croesawu ei brofiad a'i wybodaeth am y pwnc. Dywedais wrth yr Aelodau yr wythnos diwethaf na fyddwn i byth yn ei herio eto, a gobeithiaf lynu at hynny yn yr ateb hwn heddiw.
Gobeithio, o ran sefydlu cofrestr electronig genedlaethol, y gallwn ni symud at sefyllfa lle gallwn bleidleisio pan na fyddwn ni o reidrwydd yn ein wardiau, neu etholaeth. Yn sicr, byddwn yn croesawu hynny fy hun, ac rwy'n tybio mai materion o'r fath y byddem yn dibynnu ar dechnoleg i'w datrys. Gwelaf fod arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am faterion digidol yn y Llywodraeth hon, yn amneidio, ac rwy'n falch iawn o hynny. Mae'n rhoi tawelwch meddwl imi, o leiaf ar y mater hwn, fy mod i, gobeithio, yn dod i'r canlyniadau cywir.
Ynglŷn â'r trefniadau diogelu o safbwynt codau a materion eraill, byddwn yn sicrhau, yn amlwg, bod y materion hyn yn ddiogel. Dyna pam rydym ni'n ceisio cyflwyno cynlluniau arbrofol, ac nid ydym yn mabwysiadu systemau newydd yn syth. A chredaf y byddwn ni'n dysgu o'r cynlluniau arbrofol y byddwn yn eu gweithredu, a byddwn, gobeithio, yn sicrhau bod gennym ddemocratiaeth gyfranogol, lle mae pobl yn teimlo y gallan nhw gymryd rhan mewn etholiadau ble bynnag y maent, ac yn gwneud hynny'n hawdd.
O ran cyfrif electronig, mae'r systemau yr ydym ni wedi eu gweld ar waith yn systemau gwahanol i'r rhai y mae'r Aelod yn eu disgrifio yn Fflorida. Ac wrth gwrs, rydym yn sôn am gyfri'r pleidleisiau yn hytrach na chofrestru'r bleidlais o safbwynt cyfrif electronig. Rwy'n hollol ffyddiog bod hynny'n un diwygiad y gallem ni ei gyflwyno yn gyflym iawn, iawn.
Fe wnes i bwynt yn fy natganiad, Llywydd, o geisio sicrhau bod gennym ni farn agored am faterion yn ymwneud â phobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae'r pwynt a wnaeth yr Aelod yn gwbl gywir. Nid ein dymuniad ni yw atal pobl rhag cymryd rhan neu sefyll mewn etholiad os oes unrhyw ffordd o gwbl lle gallwn ni annog pobl a'u galluogi i wneud hynny. Felly, bydd y sgwrs y byddwn yn ei chael dros y misoedd nesaf yn sgwrs ymarferol ynghylch sut y gallwn ni alluogi pobl i sefyll etholiad i awdurdodau y maen nhw'n cael eu talu ganddo, ac ni fyd yn bwynt o egwyddor neu sgwrs negyddol ynghylch sut y gellir atal hynny. Bydd yn sgwrs gadarnhaol ac agored ynghylch ceisio galluogi mwy o bobl i sefyll mewn etholiad, a sut y gellir rheoli hynny.
Mae llawer yn y datganiad hwn yr wyf yn ei groesawu'n gyffredinol. Rwy'n sylweddoli bod ychydig fisoedd o'n blaen cyn y cyflwynir y ddeddfwriaeth i'r Cynulliad, felly rwyf yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wrando. O'm rhan i, rwy'n credu y bydd ymestyn yr etholfraint i blant 16 ac 17 mlwydd oed yn ein galluogi i dreulio mwy o amser yn trafod addysg, yn enwedig ar gyfer pobl dan 18 oed. Nid wyf yn credu ein bod yn trafod digon ar addysg. Rwyf wedi credu erioed ei bod yn wallgof mai Prydain yw'r unig wladwriaeth fodern, ddiwydiannol lle ceir rhaniad o hyd rhwng addysg ysgolion elfennol ac uwchradd yn 11 oed. Ym mhob pob gwlad arall bron y gwn i am amdani, mae'r rhaniad yn digwydd yn ddiweddarach o lawer, a gallwn drafod rhai o'r cwestiynau mwy sylfaenol hyn ymhellach.
Fodd bynnag, mae gennyf rai amheuon, a dim ond cyfeirio yr wyf i at y rhain yn awr oherwydd, fel y dywedais, rwyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod torri'r cysylltiad rhwng dinasyddiaeth a'r hawl i bleidleisio yn broblem, ac mae angen inni ystyried hyn yn fanylach o lawer; mae angen meddwl yn ofalus iawn, iawn. Oni bai ein bod yn cynnig diwygio etholiadau'r Cynulliad yn yr un modd, yna mae peryg inni ddiraddio gwerth pleidlais ar gyfer etholiadau awdurdod lleol, drwy ganiatáu i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion bleidleisio yn yr etholiadau. Felly, credaf fod angen inni fod yn ofalus iawn. Os caniatawn i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion bleidleisio, a ddylen nhw hefyd gael yr hawl i sefyll mewn etholiad? Byddai hyn eto, rwy'n credu, yn gynsail fyddai'n achosi problem. Rwy'n gwybod ein bod wedi caniatáu i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd bleidleisio, ond roedd hynny oherwydd ein bod ni'n arddel—wel, ar y pryd—ddinasyddiaeth gyffredin yn yr UE, ac am resymau hanesyddol tebyg iawn, mae dinasyddion y Gymanwlad hefyd wedi cael pleidleisio, a bu gan ein dinasyddion ni hawliau cyffelyb mewn mannau eraill, er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Yn ail, a gwn pam y cynigwyd hyn, ac mae'n anodd cydlynu'r cylch etholiadol, ond rwy'n credu bod cyfnodau pum mlynedd yn rhy hir. Maen nhw'n rhy hir yma. Erbyn y bumed flwyddyn, rydym ni i gyd wedi blino'n lân ac mae angen llif newydd o dalent a syniadau. A'r peth arall yw yr effeithir ar y cylch deddfwriaethol hefyd. Os ydych chi'n rhoi pum mlynedd i bobl gall gymryd amser maith i wneud cynnydd a gwneud diwygiadau hanfodol. Rydym yn dal i aros am lif gwirioneddol y ddeddfwriaeth fwyaf pwysig a fydd yn dod cyn y Pumed Cynulliad, ac roedd hi yn union yr un fath yn y Pedwerydd Cynulliad. Mae cyfnodau pum mlynedd yn rhy hir.
Yn olaf, mae gwahardd cynghorydd rhag bod yn Aelodau Cynulliad, rwy'n credu, unwaith eto, yn peri gofid. Dylech ganiatáu i'r etholwyr lleol benderfynu. Mae bod yn aelod o fwy nag un ddeddfwrfa, yn fy marn i, yn rhywbeth y gallech chi ddweud bod gwrthdaro buddiannau dwys iawn yn ei gylch. Ond nid yw bod yn gynghorydd yn golygu mwy o wrthdaro buddiannau na bod mewn swydd. Mae gennym ni ein Rheolau Sefydlog sy'n caniatáu ar gyfer rheoli hynny drwy gael datganiadau o fuddiant. Ym model San Steffan mae gennym ni fam, nid yr holl seneddau, ond yr holl wrthddywediadau a'r gwrthdaro buddiannau, drwy gael aelodau o'r Llywodraeth—sydd fwy neu lai yn swydd lawn amser, yn fy nhyb i—yn y ddeddfwrfa. Felly, nid wyf yn credu bod dadleuon damcaniaethol argyhoeddiadol iawn i ddweud na all cynghorwyr eistedd yn y Siambr hon.
Gobeithio y gallaf dawelu meddwl David Melding fy mod i'n barod iawn i wrando. Gobeithio fy mod i bob amser yn barod i wneud hynny, wrth gwrs, ond yn sicr o ran darparu datganiad y prynhawn yma, mae hyn yn cloi cyfnod o ymgynghori, ond nid ydym ni hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi dechrau deddfu ac ni fyddwn yn gwneud hynny cyn yr hydref. Mae'n sicr yn fwriad gennyf, fel y dywedais wrth ateb Mike Hedges yn gynharach, i wrando o ddifrif ar yr hyn a ddywedir.
Yn anffodus, mae'n debyg fod yn rhaid imi anghytuno â David Melding ar y mater o ddinasyddiaeth. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, ac nid wyf o reidrwydd yn teimlo ei fod yn bwynt hollol annilys. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysicach i ni yw undod ein cymunedau a'r ffaith y dylai pobl allu chwarae rhan lawn yn ein cymunedau os ydyn nhw fel arfer yn byw yn y gymuned honno. Felly, gobeithio y gallwn ddod o hyd i ateb. Rydym wedi cael ar ddeall eisoes na allai person sy'n ceisio lloches bleidleisio hyd nes y penderfynir ar ei gais a'i fod wedi cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig. Byddai'r rhai fyddai'n cael lloches ac yn byw yng Nghymru yn cael yr hawl i gofrestru i bleidleisio. I mi, yr ymdeimlad o undod yn ein cymuned ac yn ein cymdeithas yw'r mater sy'n fy ngyrru, a dyna pam y credaf y dylem sicrhau y gall bawb sy'n byw mewn cymuned chwarae rhan yn llunio'r gymuned honno.
O ran cyfnodau o bum mlynedd, mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â David Melding ynglŷn â hyn. Rwyf wedi dadlau'n gyhoeddus ac yn breifat ers peth amser fy mod i'n credu bod pedair blynedd yn gyfnod digon hir ar gyfer y lle hwn, ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig ac y byddai ar gyfer llywodraeth leol hefyd. Teimlaf fod ei sylw ynglŷn â sefydliad yn dechrau blino ar ôl cyfnod hir o amser heb etholiad yn bwynt da, ac mae pob un ohonom sydd wedi gwasanaethu sawl cyfnod yma yn deall ac yn gwerthfawrogi'r sylw y mae'n ei wneud. I mi, byddai'n well gennyf pe byddai ein holl sefydliadau democrataidd yn gwasanaethu cyfnod penodol o bedair blynedd. Fodd bynnag, gan ein bod ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa yn y lle hwn o symud i gyfnod o bum mlynedd a bod Senedd y Deyrnas Unedig, fe ymddengys, yn cael pa gyfnod bynnag y mae'n ei ddewis, er gwaethaf y ddeddfwriaeth a basiwyd yno, yna ymddengys i mi y dylid trin llywodraeth leol yn yr un modd. Serch hynny, pe byddem yn ailagor y ddadl honno, byddwn i'n pleidleisio dros gyfnod o bedair blynedd ac nid pum mlynedd.
Mae ei bwynt olaf yn ymwneud â gwahardd cynghorwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ef a minnau wedi eistedd gyda'n gilydd yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y mae eraill wedi gwneud, ac wedi trafod y pwynt hwn ar achlysuron blaenorol, ac mae pob un ohonom wedi cymryd rhan mewn dadleuon yma yn y Siambr ar y mater. Teimlaf fod y ddadl wedi ei gwyntyllu a'i hennill o ran—. Mae gwrthdaro buddiannau amlwg rhwng pobl sy'n dod yma ac yn eistedd yn y lle hwn a hefyd yn eistedd mewn mannau eraill. A gaf i ddweud hyn? Nid wyf yn credu bod materion megis cyfyngiadau amser y mae eraill wedi eu crybwyll yn arbennig o bwysig nac yn fy argyhoeddi na'm perswadio i. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw swyddogaeth y man hwn a lle'r man hwn yn ein democratiaeth. Mae'n bwysig—yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y caiff llywodraeth leol ei weld yn swyddogaeth lawn amser, sy'n cynrychioli'r bobl yno, ond os, er enghraifft —. Rwy'n ceisio osgoi defnyddio unrhyw enghreifftiau wrth siarad. Os, er enghraifft—gadewch i ni ddefnyddio fi— cefais i fy ethol i gynrychioli, pan oeddwn yn cynrychioli'r Canolbarth a'r Gorllewin, ond fy mod yn cynrychioli ward yn Aberystwyth. Credaf y byddai gan bobl yn Sir Benfro neu Bowys reswm i ofyn cwestiynau arwyddocaol amdanaf i, ynghylch fy mlaenoriaethau. Rydym ni wedi gweld, dro ar ôl tro, bobl sy'n eistedd ar gyngor yn mynd yn ôl at faterion eu ward nhw yn y fan hon pan ddylem, mewn gwirionedd, fod yn cynrychioli'r etholaeth gyfan, boed hynny yn etholaeth ranbarthol neu etholaethol.
Credaf hefyd, oherwydd ein bod ni'n gwneud penderfyniadau yma—. Ac rwyf yn anghytuno â'r pwynt o egwyddor a gododd David Melding yma; rydym yn gwneud penderfyniadau yn y fan hon ar gyllid ac ar faterion statudol y byddan nhw wedyn yn fater i lywodraeth leol. Nid yw'n iawn, nid yw'n briodol, y dylai cynghorydd wedyn fod yn rhan o wneud y penderfyniadau hynny ar y ddwy lefel.
Mae gennyf bedwar siaradwr arall sydd eisiau siarad. Os gall pawb gadw at gwestiwn cryno iawn, mi geisiaf alw pawb. Jenny Rathbone.
Diolch, Llywydd. Rwy'n anghytuno â Janet Finch-Saunders y dylem symleiddio'r system sy'n gwirio pleidleisiau drwy'r post. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr mai'r person sy'n bwrw'r bleidlais yw'r person sydd â'r hawl i wneud hynny. Ond rwyf yn tybio pa un ai—. Rwy'n cytuno y rhoddir llawer o bleidleisiau mewn gwirionedd yn y bin gan na chafodd y ffurflen ei llenwi'n iawn. Tybed a oes modd ystyried anfon y bleidlais honno yn ôl at y person na lwyddodd i gwblhau'r dilysiad, gan egluro nad oedd y bleidlais yn ddilys, ac y byddai hynny o bosib yn eu galluogi i ystyried peidio â phleidleisio drwy'r post y tro nesaf.
Rwy'n credu y dylid ceisio annog pobl ag anawsterau dysgu neu lythrennedd i beidio â phleidleisio drwy'r post oherwydd mae'n symlach o lawer iddynt fynd i orsaf bleidleisio. Y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yno yw dod o hyd i'r ymgeisydd y maen nhw eisiau pleidleisio drosto ar y rhestr. Ond rwyf yn credu bod eich cynigion ynglŷn â phleidleisio electronig a diwrnodau gwahanol ar gyfer pleidleisio yn golygu y gallwn sicrhau bod pobl sy'n cael anhawster mynd i fan arbennig, sydd ar agor am 15 awr—. Gallem gael gorsafoedd pleidleisio symudol, er enghraifft, mewn cartrefi gofal neu mewn archfarchnadoedd am gyfnodau byr iawn o amser, a fyddai'n galluogi pobl sy'n cael anhawster cerdded i'r orsaf bleidleisio—yn galluogi i'r orsaf bleidleisio ddod atyn nhw. Dyna beth fyddai systemau pleidleisio electronig yn ein galluogi ni i wneud.
Pan feddyliwch sut yr ydym mewn gwirionedd yn gwella cywirdeb y gofrestr etholiadol, ni ddylem feddwl am fyfyrwyr ysgol yn unig, ond hefyd am y rheini sy'n darparu gofal cartref a allai gofrestru rhywun yn awtomatig sydd wedi diflannu oddi ar y gofrestr oherwydd eu salwch. Dylai fod yn ofynnol i gartrefi gofal cofrestredig a chartrefi nyrsio gofrestru pobl sy'n dod yn breswylwyr gyda nhw, a allai'n wir gael anawsterau wrth gofrestru'n electronig.
Rwy'n hapus i weld—
Bydd angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
Iawn. Ynglŷn â'r cwestiynau o bleidlais sengl drosglwyddadwy, a fyddai tyrcwn yn pleidleisio o blaid y Nadolig? Mae'r rheini a gafodd eu hethol dan y system cyntaf i'r felin yn annhebygol o fod eisiau newid i system arall. Felly, pa ffordd arall y gallwn ni gael y maen i'r wal ar y mater hwn?
Roeddwn yn gobeithio y byddai Jenny Rathbone yn parhau gyda'i chwestiwn terfynol ynglŷn â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ac yn rhoi ateb i'r cwestiwn imi. Rwy'n gefnogwr cryf o bleidleisiau teg, er mwyn sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif ym mhle bynnag yr ydych chi'n byw ac i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau. Ac rwy'n credu bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob un ohonom gydnabod nad oes gennym ni fandad ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ac nid oes gennym ni'r gefnogaeth i wneud hynny ar hyn o bryd. Er hynny, byddwn i'n dweud, mae'r rhan fwyaf o'r astudiaethau a welais i, o ran sut nad yw canlyniadau rhai o'r etholiadau hyn yn creu'r newidiadau radical y mae rhai yn honni y byddent yn ei wneud. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ceisio—a gobeithio y cawn ni'r ddadl hon yn y lle hwn am yr hyn sydd orau i'r sefydliad ac sydd orau i Gymru yn hytrach na beth fyddai orau i efallai Jenny Rathbone neu i Alun Davies, a gobeithio y byddai pawb yn ystyried y ddadl yn yr ysbryd hwnnw.
A gaf i ddweud y credaf y dylem ni bob amser ystyried symleiddio'r dull o bleidleisio a sicrhau y caiff pleidleisio ei ystyried yn rhywbeth syml ac mor hawdd â phosib? Yn amlwg, y cydbwysedd yw sicrhau nad yw pleidleisio twyllodrus yn digwydd ac nad ydym yn teimlo bod y system yn agored i'w cham-drin. Byddwn bob amser yn chwilio, ac, fel Gweinidog, byddaf bob amser yn ystyried sut i symleiddio'r broses bleidleisio, y broses etholiadol, a byddwn ni'n gwneud hynny mewn ffordd gadarnhaol. Cytunaf yn gryf â'r pwyntiau a wnaethoch chi ynghylch cofrestru etholwyr, a sicrhau bod gennym orsafoedd pleidleisio, neu'r gallu i bleidleisio, mewn gwahanol leoedd.
Rwy'n mynd i gyfeirio at ddiwylliant y Llywodraeth hon o warafun dewis i bobl, a chwestiynu hynny. Buaswn yn wirioneddol hoffi eglurhad ynghylch pam y gallwch chi fod yn landlord, gyda'ch cynigion, ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn gyfarwyddwr cwmni ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn ddarlithydd prifysgol, hyd yn oed, ac yn Aelod Cynulliad, a gallwch hyd yn oed fod yn aelod o'r Senedd Ewropeaidd ac yn Aelod Cynulliad, ac, wrth gwrs, gallwch hefyd fod yn aelod o Dy'r Arglwyddi ac yn Aelod Cynulliad. Felly, pam y pwyslais ar lywodraeth leol? Ac, ydw, rwy'n datgan diddordeb fy mod yn gynghorydd yma.
Rydw i'n cynrychioli'r Tyllgoed yma yng Nghaerdydd.
Rwy'n falch iawn o gynrychioli fy nghymuned ar Gyngor Caerdydd.
Ond rwy'n credu bod y cyhoedd yn gweld drwy hyn. Mae'n eithaf amlwg eich bod yn ceisio chwarae gwleidyddiaeth plaid a chyflawni drwy ddeddfwriaeth yr hyn na allwch chi ei chyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Pleidleisiodd dwy fil, pedwar cant a phedwar ar ddeg o bobl imi eistedd yn y fan yna fis Mai diwethaf, ac, fel mater o egwyddor ddemocrataidd, nid oes yr hawl gennych i ddweud wrth bobl sut y dylen nhw feddwl.
Bydd angen i chi ddod at y cwestiwn.
Rwy'n falch fod y Cynghorydd McEvoy wedi datgan ei ddiddordeb. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, o ran unrhyw ddrwgdeimlad personol yma, rwy'n credu y dylai edrych tuag at ei gyn blaid yn hytrach na'r Llywodraeth hon.
Byddaf yn gryno, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rhoddais ichi'n gynharach gopi o'r ddogfen hon, 'Votes@16', a oedd mewn gwirionedd yn grynodeb o'r safbwyntiau gan grwpiau gwaith yn Ysgol Y Pant ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn fy etholaeth i. A gaf i ddweud mor hynod o frwd yr oedden nhw, ac y maen nhw yn awr, rwy'n credu, ynglŷn â'r cynnig pendant hwn? Gadewch imi ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau yn unig, a rhoi cwestiwn ar y diwedd. Y pwynt cyntaf a wnaed, yn fyr iawn, yw na fyddai'r genhedlaeth honno yn deall unrhyw siarad am roi'r hawl iddyn nhw bleidleisio os nad oedd modd gwneud hynny ar-lein. Caiff popeth ei wneud ar-lein, ac rwy'n croesawu'n fawr eich ymrwymiad i benderfynu ar drefniant yn hynny o beth.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud a gofyn cwestiwn ichi yn ei gylch yw mai'r hyn sy'n gwbl glir yw bod y mwyafrif llethol o bobl 16 i 17 mlwydd oed eisiau'r hawl i bleidleisio, ond cyn belled â bod ganddyn nhw'r wybodaeth, a'r gallu, i wneud hynny. Mae hwnnw'n bwynt y maen nhw wedi ei wneud dro ar ôl tro, ac, yn wir, pan ofynnwyd iddyn nhw'n wreiddiol, roedden nhw'n rhanedig, hanner cant y cant yr un ynghylch hyn. Ond os oeddech chi'n dweud 'petaech chi'n cael yr wybodaeth a fyddai'n eich galluogi chi i gymryd rhan yn briodol', cododd hynny i bron iawn 100 y cant. Ymddengys i mi mai'r her allweddol y mae'n rhaid inni ei rhoi i'r genhedlaeth honno, ar gyfer y pleidleiswyr newydd hynny, yw'r gallu i gymryd rhan o oedran cynnar iawn. Ac mae'n rhaid inni gefnu ar yr obsesiwn hwn sydd gennym ni ynghylch 'O, rhaid ichi beidio â chael gwleidyddiaeth yn yr ysgol'. Mae a wnelo bywyd â gwleidyddiaeth, mae a wnelo cymdeithas â gwleidyddiaeth, ac mae'n rhaid inni roi cyfle o 12, 13, 14, 15 oed ymlaen—y gallu i ennyn eu diddordeb mewn materion gwleidyddol, materion yn ymwneud ag undebau llafur, materion cymdeithasol ac economaidd, a phob cam ar ôl hynny. Mae gan rai o'r ysgolion gyfyngiadau ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar y rheini. Felly, mae angen polisi arnom sy'n ymwneud ag ymgysylltu cadarnhaol a theg â dinasyddiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol, a dyna, mae'n ymddangos i mi, yw'r her fwyaf oll o ran ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 mlwydd oed, hyd yn oed i'r graddau fod nifer sylweddol wedi dweud, yn wir, heb hynny, na fydden nhw eisiau'r cyfle hwnnw. Felly, dyna'r her, Ysgrifennydd y Cabinet. Sut ydych chi'n bwriadu ymdrin ag ef?
Byddwn yn dilyn eich esiampl chi, Mick Antoniw. Credaf, os nad yw'r Aelodau wedi gweld y ddogfen a gynhyrchodd, mae'n ddogfen o'r radd flaenaf ac yn dangos sut yr ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i ymgysylltu â phobl. Gadewch imi, heb fod yn ormod o dreth ar eich amynedd, Llywydd, ddyfynnu dwy frawddeg yn unig ohono: 'Yn ddieithriad, bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dadleuon mewn ffordd frwdfrydig a meddylgar. Mynegwyd eu safbwyntiau gydag eglurder ac argyhoeddiad mawr.'
Cytunaf yn gryf â'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw o ran sut i ymgysylltu â phobl—ac rwy'n credu, os nad oes ots gennych chi imi ddweud hynny, mae gennym enghraifft fendigedig o sut i wneud hynny yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi siarad gyda myfyrwyr yn Ysgol Y Pant yn ei etholaeth, ac mae hynny'n ffordd wych ymlaen i bob un ohonom.
Ond gadewch imi ddweud, wrth imi gloi'r mater hwn, rydym wedi disgwyl ac rydym yn disgwyl i bobl ifanc wneud penderfyniadau ynglŷn â chyfleoedd bywyd yn y dyfodol pan maen nhw'n 16 oed. Ni ddylem ni eu heithrio o wneud penderfyniadau am eu cymuned yn 16 oed. Roedd y chwyldroadwyr yn America yn y ddeunawfed ganrif wedi ei gwneud hi'n glir iawn i Lywodraeth Prydain ar y pryd na fyddai unrhyw drethiant heb gynrychiolaeth. Mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni'n credu sy'n atseinio drwy'r canrifoedd a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn teimlo'n rhan o'r gymuned honno ac yn gallu chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol y gymuned honno.
Ac, yn olaf, Julie Morgan.
Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn gadarnhaol iawn, yn flaengar iawn. Rwyf i, ers amser maith, wedi bod yn rhan o ymgyrch i gael pleidleisiau o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. Roedd gennyf Fil Aelod preifat yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2008 ond daeth yr amser i ben cyn iddo gwblhau ei gwrs, ond yn sicr newidiodd bolisi'r Blaid Lafur. Felly, rwy'n falch iawn heddiw ein bod ni mewn gwirionedd yn cymryd cam tuag at bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn pleidleisio, hyd yn oed os mai dim ond mewn etholiadau llywodraeth leol y mae hynny, oherwydd rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dilyn yn gyflym iawn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Un o'r prif resymau pam rwy'n credu y bydd hi mor dda rhoi'r bleidlais i rai 16 ac 17 oed yw y byddwn ni wedyn yn gwrando arnyn nhw, oherwydd mae'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud, rwy'n credu, mor bwysig.
Dim ond rhai cwestiynau cyflym sydd gennyf. Rwy'n credu bod cofrestru awtomatig yn gwneud synnwyr llwyr, ac yn meddwl tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried y dull o nodi pleidleiswyr ifanc wrth iddynt gael eu rhifau Yswiriant Gwladol er mwyn gallu eu hadnabod yn awtomatig ar unwaith. Rwy'n poeni am y niferoedd mawr, y miloedd o bobl, nad ydyn nhw wedi cofrestru ac rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith bod cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli. Dengys y ffigurau gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod 85.9 y cant o bobl wyn wedi'u cofrestru i bleidleisio, ond mai dim ond 76 y cant o ddinasyddion du a lleiafrifoedd ethnig oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Felly, mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n bodoli, felly sut mae'r Gweinidog yn credu y gallwn ni fynd i'r afael â hynny?
Rwy'n cefnogi'r holl wahanol ffyrdd a awgrymodd o geisio pleidleisio er mwyn ceisio cynyddu cyfranogiad. Rwy'n croesawu'r syniad o bleidleisio ar wahanol ddyddiau. Tybed a yw wedi ystyried cael cyfnod o amser ar gyfer pleidleisio, megis dros gyfnod o benwythnos neu bum diwrnod, fel y gwneir mewn rhai gwledydd, ac mewn rhai taleithiau yn yr Unol Daleithiau. Felly, tybed allai hynny fod yn ffordd o gynyddu cyfranogiad.
Rwy'n cefnogi pwyntiau Siân Gwenllian ynglŷn â cheisio cael merched i gymryd mwy o ran ac rwy'n credu—. Hoffwn i orffen, mewn gwirionedd, gyda'r pwynt a wnaeth y Gweinidog, bod yn rhaid ichi gael pobl i deimlo bod rhywbeth yn werth pleidleisio drosto os ydych chi'n pleidleisio, ac mae hynny'n gwbl hanfodol. Mae fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd wedi gweld yn gyson y nifer mwyaf o bleidleiswyr yn etholiadau'r Cynulliad a hefyd yn etholiadau San Steffan. Y rheswm pam bod nifer y pleidleiswyr mor uchel yw na wyddoch chi byth beth sy'n mynd i ddigwydd yno; dydych chi byth yn gwybod pwy sy'n mynd i ennill, ac felly mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw reswm gwirioneddol dros bleidleisio. Ond, y tu hwnt i hynny, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni wleidyddion i geisio sicrhau bod gwleidyddiaeth yn berthnasol i fywydau pobl oherwydd mae gwleidyddiaeth yn gyffrous, ond nid yw pobl bob amser yn sylweddoli hynny.
Wrth gwrs, y gwir reswm dros y nifer fawr o bleidleiswyr yng Ngogledd Caerdydd yw bod gennych chi ymgeisydd gwych yn Julie Morgan i bleidleisio drosti ac Aelod Seneddol yr un mor wych yn Anna McMorrin i'w chefnogi a'i hethol.
Datganwch fuddiant.
A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n fawr iawn gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod? Gadewch imi fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn ag amrywiaeth, oherwydd nid yw wedi cael lle amlwg yn y ddadl y prynhawn yma. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn teimlo y gallan nhw, ac y gallan nhw mewn gwirionedd gymryd rhan yn ein proses etholiadol. Ond mae angen hefyd inni sicrhau bod pobl yn gallu gwasanaethu ar ôl yr etholiad hwnnw. Fy mhryder i yw, yn rhy aml, ein bod yn gweld disgrifiadau o'r garfan bresennol o aelodau awdurdod lleol ac nid yw hynny'n cynrychioli cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Rydym yn cydnabod hynny. Credaf fod angen inni fynd yn llawer, llawer iawn pellach a chael dadl fwy difrifol o lawer ynglŷn â sut yr ydym yn talu a sut yr ydym yn galluogi pobl i wasanaethu fel cynrychiolwyr yr awdurdod lleol. Rwy'n gwbl benderfynol o fynd i'r afael â'r materion hyn. Byddaf yn rhoi sylw i'r materion hyn mewn ymgynghoriad pellach yn yr ychydig fisoedd nesaf, a byddaf yn sicrhau ein bod ni'n gallu symud ymlaen ar y mater hwnnw.
Soniodd yr Aelod y bu iddi gyflwyno Bil Aelod preifat rai blynyddoedd yn ôl yn Nhŷ'r Cyffredin ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio. Roedd un o'r cyfarfodydd cyntaf y siaradais i ynddyn nhw yn y lle hwn o blaid pobl sy'n cyrraedd 16 oed yn gallu cymryd rhan yn ein hetholiadau ni yma. Llywydd, rydych chi a minnau wedi cyfarfod er mwyn trafod y cynigion yr wyf yn eu gwneud heddiw. Hyderaf y byddwn yn gallu symud ymlaen i fod ag etholfraint gyffredin a set gyffredin o drefniadau etholiadol ar gyfer ein hetholiadau cenedlaethol i’n Senedd a hefyd ein hetholiadau i lywodraeth leol yn y dyfodol. Yn sicr, byddaf yn gweithio ac yn gwneud fy ngorau i sicrhau ein bod ni'n gallu gwneud hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ ar Cyflymu Cymru, ac rydw i'n galw arni i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i heddiw roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein cynlluniau i ymestyn cwmpas band eang cyflym yn dilyn diwedd cyfnod adeiladu prosiect Cyflymu Cymru. Drwy Cyflymu Cymru, rydym wedi newid y tirlun band eang yn sylfaenol yng Nghymru, gan ddod â band eang cyflym iawn i ardaloedd yng Nghymru na fyddai wedi eu cysylltu o gwbl fel arall. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae'r band eang cyflym iawn sydd ar gael ledled Cymru wedi mwy na dyblu yn uniongyrchol oherwydd y prosiect hwn a'n buddsoddiad ni. Mae adroddiad diweddaraf Ofcom yn dangos mai Cymru erbyn hyn sydd â'r argaeledd uchaf o fand eang cyflym iawn—dros 30 Mbps—o blith y gwledydd datganoledig er gwaethaf heriau amlwg ein topograffi wrth gyflwyno rhwydweithiau band eang. Mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar gyflawniad sylweddol y prosiect peirianneg mawr hwn. Mae cartrefi a busnesau ar hyd a lled Cymru erbyn hyn yn elwa ar fanteision y buddsoddiad hwn ac yn defnyddio gwasanaethau digidol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Bydd yr Aelodau yn awyddus i ddeall faint o safleoedd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau a gysylltwyd drwy brosiect Cyflymu Cymru a sawl safle a gysylltwyd i gyd. Byddaf yn rhyddhau'r wybodaeth hon cyn gynted ag y bydd gennyf. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r data diweddaraf a gyflwynwyd gan Openreach ac yn gweithio drwy ein profion cadarn a'n proses ddilysu. Fy nod yw cyhoeddi'r ffigurau terfynol wedi'u cadarnhau yn y gwanwyn.
Er gwaethaf llwyddiant Cyflymu Cymru wrth drawsnewid cysylltedd band eang ledled Cymru, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud. Rwy'n dal i dderbyn llwythi o lythyrau gan unigolion, cymunedau a busnesau sy'n rhwystredig oherwydd diffyg band eang cyflym lle maen nhw'n byw neu'n gweithio. Mae'r Llywodraeth hon yn rhannu'r rhwystredigaeth honno ac yn ymrwymedig i weithredu i fynd i'r afael â'r problemau band eang hynny.
Rydym ni wedi nodi 88,000 o safleoedd ledled Cymru na chaiff eu gwasanaethu dros y tair blynedd nesaf heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae map manwl yn dangos y safleoedd hyn ar gael ar y wefan. Fel yr amlinellais yn fy natganiad llafar ar 8 Tachwedd 2016, rydym ni wedi ymrwymo £80 miliwn i alluogi'r gwaith hwn. Mae'n bwysig cydnabod, fodd bynnag, y bydd y gwaith sydd i'w wneud yn mynd yn fwy anodd ac efallai na fydd dull gweithredu unffurf yn sicrhau'r canlyniad gorau. Felly, rwyf i heddiw yn cyhoeddi cyfres o fesurau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn ein helpu i wireddu'r uchelgais a ddisgrifir yn 'Symud Cymru ymlaen' i ddod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.
Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod erbyn hyn wedi gwahodd cyflenwyr i dendro ar gyfer y cynllun olynol i Cyflymu Cymru. Rydym ni wedi gwahodd y farchnad i gyflwyno atebion mewn tair lot gyda phwyslais ar ddarparu gwledig, blaenoriaethu busnes a gwasanaethau gwibgyswllt 100 Mbps. Gwnaeth Cyflymu Cymru ddarparu mynediad i nifer fawr o safleoedd mewn ardaloedd gwledig, ond mae mwy o waith i'w wneud mewn rhannau o Bowys a Cheredigion yn arbennig. I fynd i'r afael â hyn, rydym ni wedi annog atebion sy'n cysylltu safleoedd yn yr ardaloedd hynny ac mewn ardaloedd â chwmpas data symudol 4G is. Bydd asesiad y tendr hefyd yn cydnabod y cynigwyr hynny sy'n targedu safleoedd sy'n dioddef y cyflymderau lawrlwytho isaf. Mae busnesau yn manteisio ar y cyfleoedd y mae bod â chysylltiad cyflym yn eu cynnig, ond rydym yn cydnabod bod meysydd lle gallai busnesau gael eu gwasanaethu'n well. Rydym ni, felly, wedi annog cynigwyr i roi sylw arbennig i safleoedd busnes yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendro.
Mae'r galw am gysylltedd a chyflymder y cysylltedd hwnnw yn parhau i dyfu. Yn y cartref, er enghraifft, mae ffrydio fideo i setiau teledu 4K ac 8K erbyn hyn yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar led band ac mae angen inni sicrhau bod y seilwaith yn parhau i ddiwallu'r galw hwn. Mae angen inni hefyd sicrhau, pryd bynnag y bo'n bosibl, ein bod yn lleihau'r angen am ymyrraeth gyhoeddus yn y dyfodol cymaint â phosibl drwy annog atebion cynaliadwy y gellir eu datblygu yn y dyfodol heb yr angen am ragor o fuddsoddiad cyhoeddus. Rydym ni, felly, wedi annog y farchnad i ganolbwyntio ar gyflawni cysylltedd gwibgyswllt a gigabit yn eu hymatebion i'r gwahoddiad i dendr. Rwy'n gwybod bod ansicrwydd ynghylch pa safleoedd a gaiff eu cysylltu â'r amserlenni ar gyfer eu cysylltu wedi achosi rhywfaint o rwystredigaeth wrth ddarparu Cyflymu Cymru. I helpu i liniaru hyn, bydd y cynigiwr llwyddiannus yn gorfod nodi o'r cychwyn cyntaf y safleoedd penodol a fydd yn cael eu gwasanaethu mewn unrhyw lot penodol. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i drigolion a busnesau yn y cynllun, a bydd hefyd yn galluogi'r safleoedd hynny na fydd yn cael eu cynnwys i ganolbwyntio ar ddulliau amgen.
Rwy'n ymwybodol iawn bod llithriant yn yr amserlenni cyflawni wedi bod yn bla i Cyflymu Cymru a gwnaeth hyn achosi rhwystredigaeth ddiddiwedd i'r rheini y newidiwyd eu dyddiadau. Er ei bod yn annhebygol y gellir dileu llithriant yn y prosiect yn llwyr oherwydd cymhlethdod y beirianneg dan sylw a maint yr her, byddwn yn annog cyflenwyr i ystyried sut y gellir lleihau oedi ac i roi gwybod i safleoedd pan fydd newidiadau na ellir eu hosgoi yn codi. Er hyn, mae'n rhaid imi fod yn glir ei bod yn annhebygol y bydd y cyllid sydd ar gael yn darparu band eang cyflym i bob safle a nodwyd gennym. Mae'r gwahoddiad i dendro yn cynrychioli un rhan o gyfres o ymyriadau cydgysylltiedig a gynlluniwyd i wella cysylltedd. Bydd ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn yn parhau i ddarparu cyllid ochr yn ochr â'r gwaith hwn. Mae'r ddau gynllun yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu'r atebion cywir ac yn ategu'r cynllun newydd i olynu Cyflymu Cymru newydd a'r tirlun band eang ehangach.
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd, ychwanegol sy'n cefnogi cymunedau sy'n dangos galw pendant, gan dargedu yn arbennig y cymunedau hynny na fydd cyflenwyr yn eu cynnwys yn eu hymateb i'r gwahoddiad i dendro. Rydym yn ceisio sefydlu tîm allgymorth band eang i gefnogi'r dull hwn ac i weithio gyda chlystyrau o gartrefi neu fusnesau i harneisio'r galw hwn, diffinio prosiect lleol, a chaffael ateb. Mae llawer o waith i'w wneud ar y dull hwn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion maes o law.
Yn olaf, codwyd pryderon am y safleoedd hynny lle mae'n ymddangos bod y seilwaith sydd ei angen i'w cysylltu nhw wedi ei osod gan Openreach, ond nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau. Mewn amgylchiadau o'r fath, gall Aelodau fod yn sicr nad yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu unrhyw agwedd ar y seilwaith hwnnw. Rydym ni wedi gwahodd Openreach i roi manylion am y strwythurau hyn a byddwn yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r gwaith o'u cwblhau drwy'r dull cyfran enillion yn y cytundeb grant fel y gellir ymdrin â chynifer o safleoedd â phosibl. Yn ogystal â hyn, rwyf hefyd wedi cytuno i gais gan Openreach i ymestyn dau fis ar gyfnod adeiladu prosiect Cyflymu Cymru er mwyn i'r gwaith sydd wedi'i oedi ar ryw 2,500 o safleoedd gael ei gwblhau a'i gomisiynu. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Er fy mod i'n credu'n gryf na ddylid tanbrisio llwyddiant Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn annog yr Aelodau i ystyried y llwyddiannau sylweddol yn eu hetholaethau yn ogystal â'r heriau, rwyf yn cydnabod bod gennym lawer i'w wneud. Yn anad dim, mae angen inni sicrhau bod band eang cyflym ar gael i bawb er mwyn i Gymru allu ateb y galw cynyddol am led band cyflymach a digido cynyddol. Gyda'i gilydd, bydd y cynllun olynol, y cynllun cymunedol, a'n cynlluniau talebau yn darparu pecyn cynhwysfawr o ymyriadau a fydd yn ein helpu i gyflawni heriau'r dyfodol.
A gaf i gytuno ag arweinydd y tŷ fy mod yn credu bod yn rhaid inni ddathlu'r ffaith bod prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu band eang ffeibr i lawer o gartrefi a busnesau ledled Cymru? Canlyniad y gwelliant hwnnw, wrth gwrs, yw bod ymdeimlad o anghyfiawnder yn cynyddu ymhlith y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl, ac mae'r ymdeimlad o anghyfiawnder yn cael ei waethygu, rwy'n meddwl, gan oedi parhaus, cyfathrebu gwael a diffyg capasiti sydd wedi gadael lleiafrif sylweddol o drigolion yn meddwl tybed a fyddan nhw byth yn cael hyn a addawyd iddynt dro ar ôl tro—neu a ddylwn i ddweud 'ei amserlennu'? Rwy'n wirioneddol falch, wrth gwrs, arweinydd y tŷ, eich bod wedi cydnabod y rhwystredigaeth hon yn eich datganiad ac rwyf wedi fy nghalonogi y bydd y cynllun newydd yn rhwymo enillwyr unrhyw lotiau penodol i nodi pa safleoedd a gaiff eu gwasanaethu. Credaf fod hynny i'w groesawu yn fawr iawn ac rwy'n credu bod honno'n wers a ddysgwyd o'r cynllun Cyflymu Cymru.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae gen i gyfres o gwestiynau am y cynllun newydd. O'r 88,000 o safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd, faint a nodwyd yn rhan o'r adolygiad o'r farchnad agored a faint ohonyn nhw a oedd wedi'u cynnwys yn flaenorol ar gyfer eu huwchraddio o dan gynllun Cyflymu Cymru? Yr wythnos diwethaf, awgrymodd Openreach, yn sesiwn y pwyllgor, bod ganddyn nhw'r manylion hynny, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi inni'r manylion hynny, yn ysgrifenedig, os nad heddiw. Yn eich datganiad, dywedasoch chi hefyd y bydd tair lot, ond mae rhai arbenigwyr telathrebu yn awgrymu y gallai rhy ychydig o lotiau olygu na fydd llawer o fudd drwy eu rhannu yn y modd hwn. Felly, a ydych chi'n cydnabod y farn hon? Ac, os ydych chi'n dyfarnu lot ar gyfer Cymru wledig gyfan, sut byddwch chi'n sicrhau fod y cymysgedd o dechnolegau yn ddigon hyblyg ar gyfer gwahanol ardaloedd sydd â gofynion unigryw oherwydd topograffeg heriol?
Roedd hi'n ymddangos bod adroddiad a gomisiynwyd gan Ofcom ar fodelu costau band eang i bawb yn awgrymu bod angen bod yn ofalus iawn ynghylch sut y mae'r cymysgedd o dechnolegau yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig, gan ddweud bod cost ffeibr i'r safle, os yw wedi'i glystyru, ddwy ran o dair yn llai na mynediad di-wifr sefydlog, tra bod cost cysylltiad ffeibr i'r adeilad, os yw'n wasgaredig, tua un rhan o bump yn fwy na mynediad di-wifr sefydlog. Felly, byddai gennyf ddiddordeb i glywed sut yr ydych chi wedi ystyried yr adroddiad hwn gan Ofcom wrth ddylunio'r gwahanol lotiau er mwyn ystyried hynny, fel bod arian cyhoeddus, wrth gwrs, yn cael ei wario'n effeithiol ac yn gwasanaethu cynifer o bobl â phosibl.
Rydych chi hefyd wedi cadarnhau y bydd y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yn £80 miliwn, sef dim ond tua £900 fesul safle, ac mae'n ymddangos bod hyn yn awgrymu cymysgedd o dechnoleg lle bydd ffeibr i'r cabinet a di-wifr yn dominyddu, sy'n faen tramgwydd mawr, byddwn i'n awgrymu, i'r preswylwyr hynny sydd â llinellau hir ym mherfeddion cefn gwlad Cymru, fel Powys a Cheredigion, er enghraifft. Felly, a gaf i ofyn sut y byddwch chi'n gochel rhag y posibilrwydd o gyflwyno technoleg israddol sy'n methu â chyflawni mewn lleoliadau gwledig anghysbell? Gwnaf roi enghraifft. Pe byddai Openreach yn ennill lot, siawns y byddai hynny'n gam yn ôl pe bydden nhw'n penderfynu defnyddio mwy o ffeibr i'r cabinet i arbed costau, yn hytrach na bwrw ymlaen â ffeibr i'r safle ar gyfer y dechnoleg VDSL pellgyrhaeddol, sydd eisoes wedi ei dreialu'n llwyddiannus yn ucheldiroedd yr Alban.
Rwy'n cymryd y disgwylir i'r lotiau i gyd ar gyfer y cynllun newydd gael eu dyfarnu yn nes ymlaen yn y gwanwyn, felly ni fydd yn dechrau cael ei gyflwyno tan yn hwyrach yn yr haf neu'r hydref, a bydd hyn fisoedd lawer, wrth gwrs, ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben, gan adael miloedd o safleoedd yn angof yn y cyfamser. Felly, a gaf i ofyn pam na wnaethoch chi sicrhau bod y cynllun yn dilyn yn union ar ôl cynllun Cyflymu Cymru er mwyn osgoi'r oedi anochel hwn, a beth fydd yn digwydd os ydych chi'n barnu nad yw'r un o'r cynigion yn dderbyniol ar gyfer un neu fwy o'r lotiau, neu os nad oes gan yr un cwmni ddiddordeb mewn un neu fwy o'r lotiau?
Ac yn olaf, rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod y seilwaith wedi'i gyflwyno'n rhannol mewn rhai cymunedau, ac mae llawer ohonom wedi clywed adroddiadau, wrth gwrs, fel y soniasoch chi, am geblau yn hongian o bolion yn aros i gael eu cysylltu. Beth fydd yn digwydd i'r cysylltiadau ffeibr i'r adeilad hynny a gyflwynwyd yn rhannol gan Cyflymu Cymru sydd a redodd allan o amser? A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn defnyddio'r arian cyfran enillion i sicrhau bod ôl-troed cyflym iawn i'w weld 100 y cant yn y cymunedau hyn?
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rydym ni wedi ystyried yn fanwl sut y gallwn ddatrys rhai o'r materion y mae Russell George yn ddilys iawn wedi tynnu sylw atyn nhw, ac rydym ni wedi mynd am y gyfres o lotiau er mwyn cael darpariaeth benodol iawn ar gyfer mathau penodol o gymunedau. Dyna pam y mae lot cymunedol yno hefyd, oherwydd rydym ni eisiau gallu sicrhau ein bod yn cael y technolegau hyblyg cywir ar gyfer cymunedau gwahanol. Ac felly, mae cryn dipyn o waith i'w wneud ar gyfer rhai o'r cymunedau unigryw o ran sut y bydd datrysiad technoleg gorau yn gweithio, pa ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd y gellid eu denu pan fydd y dechnoleg ar waith, pa fath o berthynas fyddai rhwng y darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd hynny a rhai o'r darparwyr mawr, ac ati.
Fe soniaf am un enghraifft wrtho, oherwydd mae'n dangos y broblem. Yn aml, os wyf i'n siarad â rhywun sydd â band eang araf iawn—0.02 Mbps neu rywbeth o'r fath—mae'n dweud wrthyf i nad yw'n poeni am 30 Mbps; byddai'n falch iawn o gael 7 Mbps neu beth bynnag. Dim ond eisiau lanlwytho ei daliad sengl ac ati sydd arno eisiau ei wneud. A dyna'r anhawster, oherwydd, yn gyntaf oll, rydym ni'n sôn am gyflymderau lawrlwytho, ond yn aml bydd pobl yn sôn am broblemau uwchlwytho. Mae yna broblemau gwirioneddol o ran beth sy'n digwydd pan rydych chi'n cael 7K ac yn canfod na allwch chi ffrydio Sky mewn gwirionedd ac nad yw eich plant yn eu harddegau yn gallu gwneud eu gwaith cartref, ac yn y blaen. A rydym wedi cael gwybod gan ein cynghorwyr busnes, mewn gwirionedd, pan fo pobl yn camu ar yr ysgol honno, nad ydyn nhw, yn sydyn, yn fodlon â 7 Mbps; maen nhw eisiau dringo'r ysgol honno. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym ni system ar waith sy'n ddiogel at y dyfodol nad yw'n achosi problemau o'r math hwnnw. Felly, bydd cymysgedd yn gwbl hanfodol.
Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n nodi ein bod wedi gwrando ar y mater ynghylch amserlennu a phobl yn cael eu cynnwys neu eu hepgor, ac ati. Felly, mae gennym bellach fap penodol iawn sy'n nodi safleoedd. Rydym wedi gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr ein bod yn gwybod ymhle mae'r safleoedd hynny. Mae cysgod ar y map, sef lle rydym wedi cael rhyw arwydd drwy'r adolygiad o'r farchnad agored gan ddarparwyr eu bod nhw eu hunain yn mynd i ddarparu band eang cyflym iawn neu gwibgyswllt yn yr ardaloedd hynny. Bydd Russell George yn cofio'n dda sut y gwnaethom ni hynny y tro diwethaf, a'r ffaith ein bod ni wedi gorfod amrywio'r contract ar gyfer 42,000 o safleoedd eraill pan adolygwyd y cynlluniau hynny. Rydym ni wedi dysgu'r wers honno ac felly rydym ni wedi ei strwythuro mewn modd sy'n golygu y bydd y safleoedd hynny yn y cysgod yn dod i mewn i'r contract neu'n cael eu hepgor pan welwn ni eu bod nhw wedi'u cysylltu neu beidio. Felly, i ateb eich cwestiwn am hynny, wrth iddo ddod yn hollol glir pa un a fydd yna gyflwyno masnachol ai peidio neu a ydynt yn rhan o'r estyniad hwn ai peidio, fe fydd y bobl hynny yn dod i mewn ac allan o'r lotiau amrywiol ac rydym ni yn fwriadol wedi ei ystwytho er mwyn inni allu gwneud hynny ac nad oes gennym y broblem honno.
Y rheswm yr wyf wedi cadw'r cynllun talebau ar waith, er hyn, yw oherwydd—nid yw hyn yn gyfrinach—nad yw £18 miliwn, er ei fod yn swm sylweddol o arian ac yn fuddsoddiad mawr gan y Llywodraeth, yn ddigon i gyrraedd pob safle yng Nghymru. Bydd rhai pobl yn dal i fod yn anhygyrch mewn un ffordd neu'r llall ac felly byddwn yn disgwyl i'r cynllun talebau fod yn weithredol lle byddan nhw'n talu cyfran a byddwn ni'n parhau i dalu cyfran, i gyrraedd y safleoedd hynny sy'n anodd iawn eu cyrraedd Rwy'n gwbl agored ynglŷn â hynny. Mae topograffi Cymru yn golygu mai dyna'r sefyllfa—dyna'r sefyllfa.
Dywedaf hyn, fodd bynnag: rwyf bob amser yn rhyfeddu at nifer yr unigolion sy'n ysgrifennu ataf i ddweud eu bod wedi prynu tŷ yn ddiweddar a'u bod erbyn hyn yn siomedig iawn â'u cyflymder band eang. Dirprwy Lywydd, byddwn yn dweud hyn wrth werthwyr a phrynwyr tai yng Nghymru: beth am wirio hyn yn gyntaf? Os yw'n mynd i gostio £25,000 i chi i gael band eang, beth am ystyried tynnu'r gost honno oddi ar pris y tŷ yr ydych chi'n ei brynu? Mewn gwirionedd, hyd nes inni gael rhywfaint o realiti masnachol i hyn, ni allwn ni ddisgwyl cael cymorth y wladwriaeth bob amser. Rwy'n derbyn yn llwyr os ydych chi wedi bod yn eich tŷ chi am amser hir ac nad oes unrhyw fai arnoch chi, bod technoleg wedi newid ac ati, ond os ydych chi'n prynu tŷ newydd neu os ydych chi'n prynu safle newydd, er mwyn y nefoedd, pam na wnewch chi wirio cyn prynu?
Mae'n bosibl bod pobl yn tybio ein bod ni'n rhan o'r unfed ganrif ar hugain, felly dydw i ddim yn siŵr a wyf yn cytuno ag arweinydd y tŷ yn y fan yna. Dylid croesawu'r cynnydd a wnaed yn llwyr, ac rwy'n synhwyro yn natganiad arweinydd y tŷ ei bod yn amgyffred, fodd bynnag, teimladau o ddicter ac anghyfiawnder ymysg llawer o unigolion a llawer o gymunedau yr wyf i ac Aelodau eraill anrhydeddus yn eu cynrychioli. Mae hynny'n drasiedi mewn ffordd, oherwydd mae'r dechnoleg hon, a oedd i fod i arwain at ddiddymu pellter—i leihau'r anfantais sy'n wynebu cymunedau gwledig—mewn gwirionedd wedi ei waethygu. Nid oedd i fod felly. Dyna beth y mae'n rhaid i'r datganiad hwn fynd i'r afael ag ef. Felly, a gaf i ofyn—yn amlwg, rwy'n croesawu'r cynllun cyflenwi gwledig y mae hi wedi awgrymu—a yw hi wedi ystyried, o gofio'r torri addewidion a oedd, yn anffodus, yn nodwedd gyson o Cyflymu Cymru, cyflwyno cymalau cosb yn y contract hwnnw pe byddai'r mathau hynny o addewidion yn cael eu torri yn y dyfodol?
Soniodd am Geredigion a Phowys, a heb os mae llawer mwy o waith i'w wneud yno, ond a gaf i ofyn iddi hefyd roi ar y cofnod y bydd ardaloedd eraill o Gymru—Sir Gaerfyrddin, fy etholaeth fy hun, sydd ag un o'r cysylltiadau cyflym iawn isaf o bob rhan o Gymru—yn cael eu cynnwys hefyd?
Soniodd am y—dywedodd hefyd na allwn addo y bydd pob safle yng Nghymru hyd yn oed yn cael ei gysylltu o ganlyniad i'r ymyriadau hyn, felly a wnaiff hi roi ffigur i ni—canran? A ydym ni'n sôn am 0.1 y cant neu lai na 0.1 y cant?
Cyfeiriodd at y 2,500 eiddo y mae Openreach wedi addo gwneud rhagor o waith arnyn nhw oherwydd y sefyllfa warthus lle mae gan etholwyr—ac rwyf i ac Aelodau eraill wedi gweld achosion lle mae eu ceblau wedi eu clymu i fyny y tu allan i'w drysau ac eto ni allan nhw gael cysylltiad—a wnaiff hi roi unrhyw wybodaeth inni am ble y bydd y 2,500 o safleoedd hynny wedi eu lleoli, pryd fyddwn ni'n gwybod, ac a fydd hi'n gallu dylanwadu ar y dewis o lle y gwneir y buddsoddiad ychwanegol hwnnw?
Ac yn olaf, soniodd bod yna dri phecyn: cyflawni gwledig, gwibgyswllt a safleoedd busnes. A gaf i ei hannog, yn hytrach na gwneud y gwaith gwledig ar y diwedd y tro cyntaf hwn, a gawn ni ganolbwyntio'r buddsoddiad gwibgyswllt mewn ardaloedd, cymunedau ôl-ddiwydiannol, yn y cymoedd gogleddol ac mewn mannau eraill o'r Gymru wledig, fel bod yr ardaloedd hynny mewn gwirionedd yn ardaloedd prawf yn hytrach na bod buddsoddiad y don nesaf bob amser yn digwydd mewn ardaloedd trefol sydd eisoes â gwell cysylltiad?
Wel, mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, ond gadewch imi eich cywiro chi, Dirprwy Lywydd, ar y pwynt gwledig hwnnw. Rwy'n cynrychioli canol Abertawe. Does dim Cyflymu Cymru yno. Ymyriad marchnad yw hwn, felly mae'n bennaf yn rhaglen wledig neu wledig iawn. Gwnaethpwyd y cyfan o gam cyntaf rhaglen cyflym iawn ar sail adolygiad marchnad agored pan wnaethom ofyn i ddarparwyr masnachol lle yr oeddyn nhw yn mynd i fynd, ac mae hwn yn ymyriad cymorth gwladol. Felly, dim ond i'r lleoedd yr oedd y farchnad yn dweud wrthym na fydden nhw'n mynd yr ydym ni'n gallu mynd. Felly, does dim Cyflymu Cymru o gwbl yng nghanol Caerdydd, er enghraifft, nac yng nghanol Abertawe neu yn wir yn Wrecsam neu mewn ardaloedd poblog mawr, oherwydd, fel y gallwch chi ddychmygu, dyna ble mae'r gwariant masnachol da. Dyna ble y gallan nhw gael yr elw gorau am yr arian y maen nhw'n ei fuddsoddi'n fasnachol ac ati. Felly, mae hon wedi bod yn rhaglen wledig neu'n lled-wledig bob amser. Felly, byddwn yn parhau â hynny.
Nid oeddwn i'n ceisio dweud y byddwn yn sicrhau cyflawni gwledig neu gwibgyswllt. Roeddwn i'n ceisio dweud ein bod ni'n canolbwyntio ar flaenoriaethu cyflenwi busnesau gwledig a gwibgyswllt. Gwnaeth yr Aelod bwynt da iawn ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn ei gylch. Nid oes unrhyw rheswm o gwbl pam y dylai cymunedau gwledig orfod dringo rhyw fath o ysgol anweledig. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylen nhw neidio o ddim i 100, a dyna beth y byddwn ni'n ceisio ei wneud. Ond rwyf i eisiau bod yn gwbl onest â'r Aelodau heddiw a dweud y bydd yn ddrud iawn yn wir i gyrraedd rhai o'r safleoedd anghysbell yng Nghymru, ac ni fydd yn bosibl gyda'r £80 miliwn sydd gennym. Felly, i ni, bydd hi bob amser yn gyfaddawd rhwng cyrraedd cymaint o bobl â phosibl a gwneud yn siŵr bod gennym atebion pwrpasol ar gyfer cymunedau o bobl sydd mewn ardal benodol y gallwn ni ei chyrraedd. Mae hynny'n gyfaddawd anodd bob amser. Roedd yn anodd ar gyfer y rhaglen gyntaf ac mae'n anodd yn hon. Dyna pam yr wyf i wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yn siarad â chymunedau—rwy'n hapus iawn i ddod i unrhyw gymuned y gwyddoch chi amdani—am atebion pwrpasol iddyn nhw er mwyn gallu gwneud hynny yno.
Ond rydym ni'n cael ein llesteirio mewn nifer o ffyrdd hefyd. Mae anhawster ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn parhau i ystyried band eang a sbectrwm fel menter broffidiol i'w gwerthu i'r cynigydd uchaf—mae honno'n broblem fawr i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—a hefyd eu bod yn dal yn amharod i'w ystyried yn un o'r cyfleustodau. Felly, rydym ni'n dechrau'r holl broblemau o fforddfreintiau ac ati, oherwydd bod hwn yn dal i gael ei ystyried yn gynnyrch moethus, ac mae'n amlwg nad yw erbyn hyn. Felly, er enghraifft, nid oes unrhyw hawl i groesi tir. Felly, petaech yn cael cyflenwad trydan, byddai gennych chi'r hawl i groesi tir. Byddai'n rhaid i chi dalu swm da o arian am y fforddfraint a oedd yn angenrheidiol, ond byddech chi'n gallu gwneud hynny. Ni allwn ni. Felly, mae gennym filoedd o safleoedd yng Nghymru sy'n sownd y tu ôl i fforddfreintiau y mae angen inni eu negodi ar sail fasnachol, ac mae hynny'n anhawster parhaus. Felly, mae yna rai materion ideolegol. Mae'n ddrwg gen i ddefnyddio'r gair hwnnw—rwy'n gwybod ei fod yn gallu ennyn teimladau cryf, ond mae'n hollol wir. Credaf y dylai fod yn seilwaith cyhoeddus yn yr un modd â ffyrdd, mae mor hanfodol. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU yn dal i'w ystyried yn gynnyrch moethus y byddai pobl yn dewis ei gael ac mae hynny'n llesteirio'r ffordd y gallwn ni ei gyflwyno.
Rydym wedi ceisio, wrth strwythuro'r tendr newydd hwn, ymdrin â rhai o'r materion y mae pobl wedi eu codi gyda mi wrth i mi deithio o amgylch Cymru.
Gweinidog, roeddech chi'n iawn i ddweud bod hwn yn un o'r cyfleustodau allweddol, a dylem ni gydnabod y byddai miloedd o'm hetholwyr, heb ymyrraeth marchnad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, heb fand eang ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs mae'r rheini sydd wedi'u gadael ar ôl yn dal i fod yn rhwystredig. Cefais gyfarfod cyhoeddus bywiog nos Wener yng nghymuned y Bynie ger Llanelli, lle mae yna rwystredigaeth amlwg am y ffordd y maen nhw wedi cael eu trin. Soniasoch chi'n gynharach, pan fydd pobl yn prynu eu cartrefi, y dylen nhw wirio'n gyntaf y bydd ganddyn nhw gysylltiad. Fe wnaeth pobl yn y Bynie wirio, a dywedwyd wrthyn nhw y byddai yna gysylltiad. Mae ganddyn nhw sgrinluniau, mae ganddyn nhw negeseuon e-bost gan Openreach hyd at ddiwedd mis Rhagfyr a dyddiad yn dweud y byddai'n cael ei gysylltu, dim ond i gael gwybod na fyddai bellach yn digwydd, gydag esboniad pryfoclyd i rhai ohonyn nhw eu bod wedi'u cysylltu â chyfnewidfa Abertawe, nid cyfnewidfa Llanelli, a oedd yn cael ei galluogi ac sy'n mynd yn groes i bob synnwyr cyffredin.
Rwy'n croesawu'r cynlluniau a nodwyd gan y Gweinidog. A gaf i ofyn iddi'n benodol a wnaiff hi ystyried achos fy etholwyr yn y Bynie a gweithio gyda mi i weld beth y gellir ei wneud i'w helpu, oherwydd rwyf wir yn credu eu bod nhw wedi cael eu trin yn wael iawn?
Mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn, ac rwyf wedi ailadrodd droeon yn y Siambr hon rwystredigaeth pobl sy'n cael eu gadael ar ddiwedd y prosiect cyflym iawn. Roedd y cysylltiad wedi'i amserlennu, ond nid ei addo, ond, serch hynny, ar ôl amserlennu rhywbeth am gyfnod hir iawn o amser gall hynny deimlo'n debyg iawn i addewid. Nid wyf yn ceisio esgusodi fy hun drwy ddefnyddio semanteg, ond mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud. Rwy'n fwy na pharod i ddod gydag ef i'r gymuned neu i ystyried, fel ateb ar bapur, beth y gellir ei wneud ar gyfer y gymuned benodol yn y fan yna.
Ceir rhai problemau o ran â pha gyfnewidfa benodol y mae'r cysylltiad, ac os yw'n gysylltiad ffeibr i'r cabinet drwy rwydweithiau copr yna un o'r anawsterau yw nad yw BT wedi ad-drefnu ei rwydwaith copr er mwyn cyflwyno band eang, a dyna un o'r pethau yr ydym ni hefyd—. Mae llawer o bobl wedi codi hyn gyda mi dros y blynyddoedd ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef yn y lotiau nesaf. Ond mae yna broblem fawr ynghylch ymagwedd Llywodraeth y DU ac ymagwedd Ofcom at rhwydwaith copr BT a'r hyn sydd angen ei wneud i ad-drefnu hwnnw er mwyn hwyluso rhai o'r cysylltiadau band eang hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i ddod i siarad â'r gymuned dan sylw.
Rwy'n croesawu'r datganiad ac rwy'n hapus i gymeradwyo arweinydd y tŷ am ei hegni a'i hymrwymiad yn y rhan hon o'i dyletswyddau. Rwy'n credu ei bod yn deg i ganmol Gweinidogion pan fyddan nhw wedi bod yn llwyddiannus yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac rwy'n cydnabod yr anawsterau ymarferol y mae hi wedi gorfod ymdopi â nhw. Yn y pen draw, ni allai unrhyw berson rhesymol anghytuno â'r hyn y dywedodd. Mae'n bosibl ei bod hi bron yn amhosibl i gysylltu pob un tŷ neu safle yn y wlad, beth bynnag yw'r gost, er ein bod yn derbyn hynny ar gyfer cyfleustodau eraill fel cysylltiadau trydan ac ati, ac, yn wir, y gwasanaeth post cyffredinol, ond nid yw hynny'n gofyn am y math o fuddsoddiad seilwaith y mae hyn yn ei fynnu.
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi ac yn wir popeth y mae'r Aelodau eraill wedi ei ddweud yn ystod y ddadl hon ac ni wnaf ailadrodd unrhyw beth sydd wedi'i ddweud o'r blaen. Hoffwn i ofyn ynghylch y llithriant yn yr amserlenni cyflawni yr ydym ni wedi clywed llawer yn ei gylch.
Un o'r pethau y cyfeiriwyd ato, gan Lee Waters rwy'n credu, eiliad yn ôl, yw rhwystredigaeth pobl y dywedwyd un peth wrthyn nhw dim ond i ddarganfod nad oedd yn wir. Tybed os, yn y dyfodol, y gallai fod rhywfaint o orfodaeth ar gyflenwyr neu ddarparwyr y gwasanaethau hyn i roi cyhoeddusrwydd i'r camau a'r cynlluniau manwl gywir y maen nhw'n eu sefydlu i leihau llithriant amser a bod â rhyw fath o system—ni allwn ni ddileu oedi'n llwyr oherwydd nid oes neb yn gallu rheoli digwyddiadau'n gyfan gwbl yn yr amgylchiadau hyn, ond mae angen inni fod â rhyw fath o system well o gyfathrebu a chyfathrebu mwy onest a thryloyw a allai, efallai, gael ei threfnu yn haws yn ganolog, yn hytrach na dim ond aros i'r cwmnïau weithredu eu hunain. Y tîm allgymorth band eang, er enghraifft, y cyfeiriodd hi ato yn y datganiad—a allai hwnnw gael ei ehangu i gynnwys monitro llithriant o ran cyflawni ac amserlenni, gan nodi achosion o broblemau penodol a gweithio gyda darparwyr i hwyluso'r broses o ddatrys anawsterau?
Diolch i chi am y pwyntiau pwysig hynny. Fe wnaf ymdrin—. Ni wnes i ymdrin, pan atebais Adam Price, â'r 2,500 o safleoedd sydd yn y cysgod hwn—ymddiheuriadau. Felly, fe wnaf hynny gan fod Neil Hamilton wedi codi mater tebyg.
Mae sawl grŵp o bobl yr ydym ni'n ceisio ymdrin â nhw. Mae'r grŵp o bobl yr addawyd Cyflymu Cymru iddyn nhw ond sydd wedi syrthio allan o gwmpas y contract. Rydym ni wedi gwneud darn enfawr o waith gyda BT Openreach dros yr ychydig fisoedd diwethaf i nodi ble mae'r safleoedd hynny ac rydym wedi negodi gyda nhw y bydd y bobl hynny yn cael eu cysylltu, os oes 98 y cant ohonyn nhw wedi'u cwblhau—nid wyf am fod yn atebol am y canran—ond yn agos iawn at gael eu cwblhau, a bydd hynny'n cael ei wneud heb unrhyw gost ychwanegol i ni o dan gynllun grant y contract. Felly, rydym wedi ymestyn dyddiad terfyn y contract, ond ni fydd unrhyw gost i hynny, felly mae'n rhan o'r cynllun gwreiddiol, heb unrhyw gost i hynny. Mae hynny wedi'i negodi yn benodol oherwydd rhwystredigaeth pobl sy'n gallu ei weld yn dod, ond yna mae'n stopio ychydig cyn eu cyrraedd nhw.
Mae darn arall o waith yn cael ei wneud i nodi ymhle y mae seilwaith wedi ei roi yn y ddaear—prysuraf i ddweud, heb unrhyw gost i'r pwrs cyhoeddus, oherwydd Openreach BT sy'n gwneud yr holl fuddsoddiad ymlaen llaw; dim ond pan fydd yn cyrraedd y safle y byddwn ni'n talu—i ganfod ble y mae hwnnw. Mae arnaf ofn eu bod yn cael eu galw'n 'adnoddau a adawyd'—rydych chi'n dechrau defnyddio llawer o jargon pan fyddwch chi'n ymdrin â'r bobl hyn. Ac i ddeall yn union ble mae hynny a pha fuddsoddiad y gallai fod ei angen i wneud rhywbeth o'r buddsoddiad sydd eisoes yno ac mae hwnnw'n drafodaeth barhaus. Yn wir, rwy'n gwybod bob math o jargon nad oeddwn yn ei wybod cyn hyn.
Ac wedyn mae yna rai lleoedd lle nad oes unrhyw adeiladu wedi digwydd. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud yn y datganiad hwn fy mod yn derbyn y pwyntiau a wnaeth pawb ynghylch cyfathrebu. Digwyddodd hynny yn rhannol oherwydd y modd y gwnaethom y contract cyntaf, a oedd yn gontract Cymru gyfan. Dim ond nifer y safleoedd a bennwyd gennym, ni wnes i bennu lle y dylen nhw fod, pwy ddylen nhw fod, nac unrhyw beth arall, ac er mwyn cyrraedd y nifer hwnnw o safleoedd, roedd yn ofynnol i'r contractwyr oradeiladu, oherwydd os oeddynt yn mynd i daro ar broblem hanner ffordd drwyddo ac na allent gyflawni'r niferoedd, doedden nhw ddim eisiau cael y cosbau sylweddol iawn yn y contract. Felly, roedden nhw'n goradeiladu. Felly, beth rydym ni'n ei wneud nawr yw ymchwilio i ble mae'r goradeiladu hwnnw wedi digwydd i weld a allwn fanteisio arno. Felly, o safbwynt y pwrs cyhoeddus, mae'n beth da, ond nid wyf yn bychanu rhwystredigaeth pobl ar ben arall rhywfaint o'r goradeiladu hwnnw a rhywfaint o'r cyfathrebu.
Yn y contract newydd hwn, rydym yn gofyn iddyn nhw nodi'r safle, felly byddan nhw'n dweud wrthym ni'n union ble y byddan nhw'n mynd a sut, ac yna bydd gennym ni amserlenni, a byddan nhw'n cael eu monitro. Fel yr wyf wedi dweud, nid yw'n bosibl dileu llithriant yn yr amserlenni cyflenwi, oherwydd mae'n gontract, ac yn un peirianneg, ond, y tro hwn, byddwn ni'n gwybod pam, a byddwn yn cyfathrebu hynny'n briodol â deiliad yr aelwyd. Mae'n ddigon posibl, ar ôl dweud y byddwn ni yn benodol yn cyrraedd 32 Acacia Gardens yn rhywle, mewn gwirionedd, ei bod yn amhosibl gwneud hynny yn y pen draw oherwydd pwy a ŵyr pa broblemau peirianneg a allai godi yn ystod y gwaith, ond bydd hynny'n cael ei gyfleu'n glir, bydd y safle hwnnw yn gwybod yn union beth yw ei sefyllfa, a gallwn eu cyfeirio at y cynlluniau talebau ac yn y blaen.
Roeddwn i eisiau dweud hefyd, Dirprwy Lywydd, nad ydym yn ddibynnol ar dechnoleg yn y fan yma; rydym ni'n agored iawn i unrhyw dechnoleg a fydd yn ein harwain i'r man lle'r ydym ni eisiau bod.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf i yn awr atgoffa'r gyfres nesaf o siaradwyr yn garedig y dylai fod yn ddatganiad byr iawn cyn i chi ofyn eich cwestiwn. Paul Davies.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Bydd hi ddim yn syndod i arweinydd y tŷ, fy mod innau, hefyd, yn parhau i gael gwybod gan etholwyr am ddiffyg cyflawni ym maes gwasanaethau band eang. Mae gen i bentrefi cyfan yn fy etholaeth i, fel Mynachlog-ddu, er enghraifft, lle mae peth o'r seilwaith wedi'i uwchraddio, ond heb ei gwblhau. Gwn fod Aelodau eraill wedi cyfeirio at hyn heddiw. Sylwaf o'ch datganiad eich bod yn bwriadu archwilio sut y gallwch gefnogi cwblhau'r prosiectau seilwaith hyn, felly a allwch chi roi sicrwydd i fy etholwyr i, fel y rhai sy'n byw yn Mynachlog-ddu, y byddan nhw'n cael y gwasanaethau band eang y maen nhw'n eu haeddu? A pha ddulliau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflenwi ar amser, mewn gwirionedd, ac o fewn amserlenni derbyniol? Yn olaf, Dirprwy Lywydd, a wnaiff arweinydd y tŷ ddweud wrthym ni pa feini prawf penodol a ddefnyddir i benderfynu pa ardaloedd fydd yn cael eu targedu o dan y cynllun olynol newydd hwn y mae hi wedi ei gyhoeddi heddiw, yn enwedig pan fydd yn derbyn y data diweddaraf ynghylch nifer y safleoedd sydd heb eu cysylltu drwy Cyflymu Cymru?
Diolch i chi am y pethau pwysig hynny. Felly, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith eisoes, bydd strwythur y contractau newydd yn wahanol iawn i strwythur yr hen gontract, felly bydd gennym safleoedd wedi'u diffinio. Nid ydym, ar hyn o bryd, yn dweud pa safleoedd, rydym yn gofyn i'r farchnad ddweud wrthym pa leoedd y gallan nhw eu cyrraedd gyda'r arian hwn a sut y gallan nhw ei wneud, a gofynnir iddyn nhw nodi y safleoedd y gallan nhw eu cyrraedd. Pan gawn ni'r wybodaeth honno, byddwch ni'n gwerthuso'r contract i weld beth sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian i ni, sy'n mynd â ni at y mwyaf o safleoedd ac ati. Bydd rhywfaint o gyfaddawdu rhwng safleoedd gwledig, ynysig iawn a phentrefi, fel yr un yr ydych chi'n sôn amdano ac y mae llawer o Aelodau Cynulliad eraill yn sôn amdanyn nhw hefyd. Mae rhai pentrefi lle mae gennym ni fand eang cyflym iawn yn rhannol, efallai yng nghanol pentref, a thai gwasgaredig yn mynd allan o bentref yn y patrwm daearyddol clasurol hwnnw, os gwnaethoch chi ddaearyddiaeth drefol, y byddwch chi wedi dysgu amdano. Mae rhai materion yn ymwneud â sut yr ydym yn cyrraedd rhai o'r cymunedau gwasgaredig, a dyna pryd yr wyf yn sôn am atebion pwrpasol ar gyfer rhai ohonyn nhw, a gallai hynny fod yn amrywiaeth o bethau: gallai fod yn ddi-wifr; gallai fod yn LANs caeëdig; gallai fod yn nifer o bethau y gallwn ymchwilio iddyn nhw.
Os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf yn tynnu sylw at gymunedau penodol lle ceir problem clwstwr o'r math hwnnw, hoffwn i gael gwybod hynny, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn eu hystyried. Dirprwy Lywydd, mae hwnnw'n gynnig i'r holl Aelodau yn y Siambr—hoffem yn fawr iawn ddeall beth yw'r sefyllfa.
Byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi a ydych chi yn y 2,500 o safleoedd, oherwydd rydym wedi nodi'r rhai hynny. Felly, unwaith eto, os ydych chi eisiau gofyn imi yn benodol iawn am unrhyw safle, yna byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi beth yw'r sefyllfa. Yn amlwg, does gen i ddim yr holl wybodaeth honno heddiw, ond os rowch chi llinell ffôn neu god post i mi, yna gallwn ni roi'r wybodaeth honno i chi.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ohebu yn gyson gyda hi dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod hefyd, gan ddweud nad wyf i'n ei hystyried hi'n stranded resource, o gwbl, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am ateb mor gyson i ohebiaeth gen i.
Rwyf i jest am ofyn yn glou iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet: yr £80 miliwn mae hi wedi sôn amdano sydd ar gael ar gyfer hyn, beth yw ffynhonnell yr arian yma? A ydym ni'n dal i ddefnyddio arian Ewrop tuag at y pwrpas yna ac a oes sicrwydd bod yr arian yna yn mynd i fod ar gael ar hyd y cyfnod?
Rydw i'n croesawu beth rydych chi wedi ei ddweud am y 2,500. Rydw i'n siŵr bod rhai o'r pethau rydw i wedi bod yn gohebu amdanynt gyda chi o bosib yn dod i mewn i hynny. Pryd fyddwn ni'n cael adroddiad nôl drwy ddatganiad ysgrifenedig neu rywbeth fod y gwaith yna wedi ei gwblhau, fel ei bod hi'n glir inni ein bod ni'n symud at yr un nesaf?
A gaf i jest ofyn yn glou am fusnesau? Mae llawer o fusnesau, yn enwedig yng nghefn gwlad, ond angen 10 MB neu beth bynnag. Maen nhw'n fusnesau, ond nid ydynt yn fusnesau trosglwyddo data fel y cyfryw; maen nhw'n defnyddio broadband jest i redeg y busnes. Pan fydd gennych chi fusnes trosglwyddo data, ie, dylai'r busnes fuddsoddi ei hun yn hynny, ond rydw i jest eisiau bod yn glir fod y gefnogaeth sydd gyda chi yn y cynllun yma yn ddigonol ar gyfer y busnesau SME sydd yn digwydd yng nghefn gwlad, achos yn rhy gyson, maen nhw'n cael gan BT, 'Ond mae'n rhaid i chi dalu eich hunain', lle rydw i'n teimlo, fel chithau, mae'n siŵr, fod seilwaith cyhoeddus fan hyn ar gyfer busnesau yn mynd o gwmpas busnes bob dydd. Eto, nid ydw i'n sôn am rywbeth sy'n defnyddio data fel y cyfryw.332
A jest ar y pwynt olaf yna, ynglŷn â seilwaith cyhoeddus, rydych chi wedi crybwyll eich hun ynglŷn ag Ofcom. Rydw i o'r farn y dylai Ofcom osod mynediad at ryw gyflymder fel rhyw fath o hawl i bawb, lle bo hynny'n gwbl ymarferol. Mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi gwneud y penderfyniad yna am resymau gwleidyddol. A ydych chi mewn trafodaeth gydag Ofcom yn barhaus ar hyn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru agwedd tuag at droi'r ffordd rydym ni'n ei wneud e ar hyn o bryd yn rhyw fath o waith statudol a mynediad statudol i fand eang?
Ydy. Mae Simon Thomas yn codi nifer o faterion perthnasol iawn. Byddaf yn diweddaru'r Senedd cyn gynted ag y bydd gennyf y ffigurau ar yr alldro, a fydd, fel rwy'n dweud, tua 16 wythnos o ddiwedd y contract. Cyn gynted ag y byddan nhw gen i, byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Bydd y diweddariad hwnnw yn cynnwys nifer y safleoedd sydd wedi'u cysylltu ym mhob etholaeth, a hefyd y ffigurau sy'n manteisio ar y gwasanaeth hwnnw.
Roeddwn i eisiau achub ar y cyfle hwn i sôn ychydig am y ffigurau manteisio, oherwydd gofynnodd Simon Thomas yn benodol beth yw'r £80 miliwn, ac mae'n hollol iawn: mae'n gymysgedd o gyllid Ewropeaidd, swm bach o gyllid Llywodraeth y DU, a chyllid Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys y gyfran enillion, ac fe atgoffaf yr Aelodau y byddwn ni, cyn gynted ag yr ydym yn mynd dros 21 y cant o fanteisio ar unrhyw un adnodd, yn dechrau cael cyfran enillion, ac mae'r gyfran enillion honno yn mynd ymlaen i'r dyfodol. Felly, po fwyaf o bobl sy'n cael eu cysylltu y mwyaf o arian sydd gennym, ac ni allaf bwysleisio digon i'r rhai hynny ohonoch chi sydd mewn ardaloedd â niferoedd manteisio isel—a byddaf yn cysylltu ag Aelodau Cynulliad unigol i drafod yr hyn y gellir ei wneud—mae angen inni gynyddu'r nifer sy'n manteisio, oherwydd yn amlwg, po fwyaf o arian sydd gennym, y mwyaf y gallaf ei wario ar ddarpariaeth i fwy o safleoedd. Ond mae'r cyllid Ewropeaidd yn ddiogel ar gyfer y cam hwn o'r prosiect; dydyn ni ddim yn poeni am hynny. Rydym ni'n gwario'r arian hwn cyn gyflymed ag y gallwn, ac mae gennym ni'r gyfran enillion i gynyddu'r arian, ochr yn ochr ag eraill.
O ran Ofcom a Llywodraeth y DU, rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda nhw am yr hawl i'r gwasanaeth hwn. Nid ydym ni wedi gallu ennill y ddadl bod hwn yn seilwaith hyd yn hyn, ond nid wyf wedi rhoi'r gorau i hynny. Rwyf ar hyn o bryd yn cael sgwrs am werthiannau sbectrwm 5G a sut y gellid gwneud hynny. Mae yna faterion clir ar gyfer awtomeiddio a cherbydau awtonomaidd a phob math o bethau. Dydw i ddim eisiau i fy signal Vodafone ddiflannu yn y canolbarth wrth yrru fy nghar awtonomaidd, ac nid yw neb arall eisiau hynny ychwaith. Felly, mae yna faterion gwirioneddol i'w hystyried, ac rydym ni'n dal i ymgysylltu'n weithgar iawn â Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i ni hefyd negodi hyn i gyd gyda BT y DU, oherwydd gwneir hyn i gyd o dan esemptiadau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, felly mae'n broses eithaf cymhleth i'w negodi, ond rydym ni wedi gwneud hynny.
O ran busnesau, mae cronfa ymelwa busnes pwrpasol. Rydym ni'n hapus i ddod at unrhyw fusnes—does dim ots pa mor fach ydyn nhw—i siarad â nhw am eu hanghenion. Mae'n syndod cyn lleied y mae rhai ohonyn nhw'n ei ddeall am yr hyn a ddaw pan fydd band eang cyflym iawn yn dod, ac weithiau mae'n amlwg iawn bod angen cysylltiad ether-rwyd arnyn nhw, a gallwn ni eu helpu nhw â system dalebau i wneud yr union beth hynny, neu yn wir os oes angen band eang cyflym iawn arnyn nhw, gallwn ni sicrhau eu bod wedi'u cofrestru gyda ni. Felly, mae'n werth eu nodi.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth a ddywedwyd, ond rwy'n croesawu'r datblygiadau, ac rwyf hyd yn oed yn ddigon hen i gofio y system ddeialu yn y 1990au. Ond daeth Openreach i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf, a chodais y mater ynglŷn â beth yw model busnes iddyn nhw o ran eiddo newydd. Yr ateb a gefais oedd 30 eiddo. Rydym ni i gyd yn gwybod, mewn ardaloedd gwledig, bydd hynny ynddo'i hun yn broblem yn y dyfodol. Felly, i'r perwyl hwnnw, rwyf eisiau gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael ag awdurdodau cynllunio, pan fyddan nhw'n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd, ac ar ba bwynt—a gofynais hyn i Openreach—y maen nhw'n edrych i'r dyfodol o ran datblygiadau newydd, er mwyn i ni allu olrhain cynnydd eisoes yn hyn ym maes adeiladau newydd. Oherwydd mae'n rhaid ei drin yn yr un modd ag y caiff unrhyw un o'r cyfleustodau eraill eu trin, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Y rheswm yr wyf yn gofyn yw oherwydd, yn yr ardaloedd gwledig lle mae gennym o leiaf 30 eiddo yn cael eu hystyried yn fuddsoddiad gan Openreach, mae perygl o ddiboblogi pellach yn y cymunedau hynny sydd eisoes yn cael eu diboblogi oherwydd mynediad at wasanaethau.
Mae aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig. Rwyf i wedi cael amrywiaeth o sgyrsiau eisoes, gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch beth y gallwn ni ei wneud. Yn sicr, mae nifer fawr o adeiladwyr tai yng Nghymru yn codi llai na 30 eiddo fel mater o drefn, ond mae amrywiaeth o bethau y gellir ei wneud eisoes am hynny: gellir ei gynnwys mewn cytundeb adran 106 pan fo'r cyngor yn mabwysiadu'r ffyrdd, er enghraifft. Mae'n llawer haws rhoi'r seilwaith yn ei le yn y lle cyntaf nag ydyw i'w ôl-osod.
Rydym ni wedi gwneud rhai pethau. Fe wnes i rywfaint o waith ar hyn gyda'r diweddar Carl Sargeant, mewn gwirionedd, ynghylch rheoliadau adeiladu a'r hyn y gellir ei wneud y tu mewn i dŷ i hwyluso hyn. Un peth eironig am hyn yw bod ein safonau inswleiddio newydd ac ati yn golygu ein bod yn creu, yn ymarferol, cawell Faraday yn eithaf aml, ac felly nid yw signal yn mynd drwyddo. Felly, os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol y tu mewn i'ch tŷ, bydd yn rhwystredig iawn i chi os nad yw wedi'i wifrio mewn modd benodol. Felly, mae yna rai materion mawr ynghylch rheoliadau adeiladu i wneud yn siŵr ein bod mewn gwirionedd yn gorfodi rhai o'r safonau. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Hefyd, mae gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ddarn o waith gyda chydweithwyr ym maes cynllunio—mae yna ddarn o ymchwil, yr ydym ni i fod i'w dderbyn unrhyw funud nawr, am seilwaith ffonau symudol, ac mae rhywfaint o hynny hefyd yn cynnwys yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer seilwaith band eang mewn rhai o'n cymunedau i wneud yn siŵr bod tai newydd yn cael eu cysylltu. Ond gadewch i mi wneud y pwynt y gwnes i yn gynharach: os yw'n effeithio ar y pris y gall adeiladwyr bychain ei gael am dai, yna byddan nhw'n ystyried hynny oherwydd ei fod yn effeithio ar eu helw. Felly, os, pan fyddwch chi'n prynu eich tŷ newydd yn lle bynnag y bo, y gwelwch chi ei bod yn mynd i gostio £10,000 yn rhan o'n cynllun cysylltedd cyflym iawn i gysylltu eich busnes bach yr ydych chi'n bwriadu ei redeg o'ch garej, yna rydych chi'n mynd i fod yn flin iawn. Felly, rwy'n annog pobl i ofyn y cwestiwn hwnnw yn gyntaf a phrisio'r tŷ yn unol â hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n rhannu'r pryderon ynglŷn â gallu'r broses gynllunio i ymdrin â rhai o'r materion hyn ar gyfer ystadau tai newydd, mewn gwirionedd, ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar ein hawliau datblygu a ganiateir, fel bod pobl a allai fod angen ateb symudol i'w hanghenion band eang yn gallu cael un hefyd. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gorfodi gweithredwyr i rannu mastiau, ac yn ogystal â hynny mae angen inni gynyddu uchder posibl mastiau y gellir eu codi heb hawliau datblygu a ganiateir yma yng Nghymru, sydd yn amlwg yn llawer is nag y maen nhw mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau y gellir eu gwneud yn y maes hwnnw.
Un cyfle arall hefyd, Gweinidog, nad ydych chi wedi cyfeirio ato, yw'r gallu i gael rhywfaint o fudd o gynllun cydgasglu band eang y sector cyhoeddus. Mae gen i ysgolion yn rhai o fy nghymunedau â cyflymder band eang gwych, ond ni all dim o'r eiddo o'u hamgylch fanteisio ar y cyflymder hwnnw oherwydd na chaniateir iddyn nhw gysylltu rywsut i'r ceblau sydd wedi llwyddo i gael y cyflymderau gwych hyn i'r ysgolion. Mae'n hollol hurt. Felly, mae angen i ni allu goresgyn rhai o'r heriau hyn, er mwyn bod yna gyfleoedd i gysylltu pan fo cyflymderau uchel yn cael eu darparu i rai yn y cymunedau hyn sy'n dioddef cyflymderau gwael iawn o rwydwaith BT Openreach.
Gennyf i y mae'r anffawd, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, o fod â'r gymuned â'r mynediad isaf at gyflymderau o fwy na 10 megabeit yr eiliad yn fy etholaeth i, yn Sir Ddinbych wledig, yn Llanbedr Dyffryn Clwyd. Dim ond 6 y cant o'r aelwydydd yn y fan honno sy'n gallu cael cyflymder band eang derbyniol, tra bod tua 90 y cant yn gallu cael mynediad at un gwell mewn mannau eraill. Rwyf wedi gwerthfawrogi eich diddordeb yn fy etholaeth i. Un peth sy'n fy mhryderu i, er hynny, am eich datganiad yw ei bod yn ymddangos i mi eich bod wedi ymestyn contract BT am waith a oedd eisoes wedi'i amserlennu ond na wnaethon nhw ei gwblhau. A fydd BT Openreach yn wynebu cosb am beidio â chwblhau'r gwaith y gwnaethon nhw addo ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr? Oherwydd nid yw hynny'n glir yn eich datganiad.
Y peth arall sy'n fy mhryderu yw eich bod chi'n gwneud y datganiad hwn nawr, ond roeddem ni'n gwybod beth oedd dyddiad terfyn y contract. 31 Rhagfyr y llynedd oedd y dyddiad hwnnw. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi ddatganiad cyn 31 Rhagfyr i alluogi pobl i lunio cynigion posibl, i feddwl am y pethau hyn fel nad oes gennym ni'r cyfnod aros hir hwn yn awr tra'r ydym ni'n aros am gyflenwyr posibl eraill i gyflwyno syniadau? Rwy'n credu ei bod yn siomedig nad ydych chi wedi cyflwyno rhywbeth cyn heddiw.
Wel, i roi sylw i'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, wrth gwrs rydym ni wedi bod yn cynnal yr ymgynghoriad gyda'r farchnad ers haf diwethaf, oherwydd dechreuodd y cyfnod adeiladu ym mis Mehefin y llynedd ar gyfer hyn, ac felly rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth â'r farchnad am strwythur hwn a phwy allai fod ar gael. Felly, gallaf eich sicrhau nad dyma'r tro cyntaf y bydd unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb yn hyn wedi clywed amdano. Yn wir, rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth â nhw.
Cododd yr Aelod gyfres o bwyntiau diddorol. Rwy'n ymwybodol iawn o rai o'r cymunedau yn ei etholaeth ef, ac yn wir ledled Cymru, sydd â chysylltedd isel iawn mewn cymuned benodol, ac, fel y dywedais, rydym ni'n mynd i fod yn ceisio edrych ar y cysylltiadau isaf yn gyntaf i geisio eu cynyddu. Fel y dywedais wrth Adam Price, nid wyf yn gofyn i bobl ddringo'r ysgol; rydym ni'n ceisio rhoi hwb iddyn nhw i ben uchaf yr ysgol. Felly, dyna un o amcanion y gyfres newydd o gontractau y byddwn ni'n gobeithio eu cyflwyno.
O ran cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, mae hwnnw'n fater diddorol yr wyf wedi'i drafod droeon â'm cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac yn wir mae peth cydweithio wedi bod gyda chynllun Cyflymu Cymru i gysylltu rhai o'n hysgolion cynradd gwledig i gyflymderau sy'n addas ar gyfer rhedeg Hwb ac yn y blaen. Felly, mae honno'n sgwrs barhaus. Rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen honno yn mynd yn dda iawn ac rydym ni'n falch iawn â hi.
Mae rhai materion difrifol iawn—ac ni wnaf sôn am y rheiny yn y fan hyn, i herio amynedd y Dirprwy Lywydd, ond rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod gyda'r Aelod—. Mae yna rai problemau cyfreithiol mawr iawn ynghylch cysylltiad â Phrosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus os nad ydych chi o fewn protocolau y Llywodraeth, oherwydd mae'n rhwydwaith diogel i ba bynnag lefel ydyw, ac mae yna rai materion yn hynny o beth. Ond rydym ni'n edrych ar rai cynlluniau cymunedol y gallem ni fanteisio arnyn nhw. Ceir rhai materion cyfreithiol dyrys yn hynny hyd yn oed, ond rydym ni'n ceisio gweld a allem ni, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi a fyddai'n hygyrch i gymunedau penodol ac ati. Felly, rydym ni'n mynd i'r afael â hynny, ond mae nifer o rwystrau i'w hwynebu. Ond rwy'n barod i drafod hynny ag ef.
O ran y contract ei hun, rydym ni wedi ymestyn y cyfnod adeiladu i'r 2,500 heb unrhyw gost i ni ein hunain. Gallaf eich sicrhau chi y byddwn ni'n dwyn BT ac Openreach i gyfrif o ran faint o safleoedd y gwnaethon nhw eu cyrraedd, ac, fel y dywedais i, rydym ni'n mynd drwy broses ddilysu a phrofi gadarn iawn wrth inni siarad i wirio'r ffigurau. Maen nhw'n dweud wrthyf i eu bod wedi cyflawni'r contract. Rwy'n gobeithio'n fawr iawn bod hynny'n wir, ond byddaf yn sicr iawn erbyn i mi adrodd yn ôl i'r Senedd y tro nesaf.
Diolch. Nick Ramsay.
Fe wnaf gadw hyn yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd—
—oherwydd rwy'n gallu gweld bod gennych chi'r olwg yna yn eich llygaid. Dau gwestiwn cyflym—[Torri ar draws.] Roedd hwnnw'n ganmoliaeth, o ryw fath.
Braidd yn ffuantus.
Yn gyntaf, arweinydd y tŷ, llwyddiant—. Cychwyn cadarnhaol. Llwyddiant gydag etholwr o Gastell-newydd, ychydig i'r gogledd o Drefynwy—sydd wedi wynebu oedi hir wrth gael mynediad at gysylltiad ffeibr i'r safle, ac rwy'n gwybod bod hynny'n gymhleth. Gwelwyd mai'r rheswm am yr oedi yn y cysylltiad hwnnw oedd bod y cofnodion a oedd yn cael eu cadw gan wasanaethau band eang BT yn anghywir, a'u bod yn meddwl na allai ef ei gael mewn gwirionedd. Ond mae'n ymddangos ei fod yn gallu ei gael, felly roedd ei rwystredigaeth yn ddiangen. A allwch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n mynd i ymdrin â'r mathau hyn o broblemau yn y dyfodol? Oherwydd, os ydym ni'n gallu, os yw etholwyr yn gallu derbyn band eang, mae hi hyd yn oed yn fwy rhwystredig os, ar ôl iddyn nhw ei gael, eu bod yn darganfod y gallen nhw fod wedi ei gael ar hyd yr amser.
Yn ail, ac yn olaf, heblaw am eich ymweliadau a'ch teithiau i rannau gwledig dyfnaf, tywyllaf Sir Fynwy, ceir canfyddiad bod Sir Fynwy, ynghyd â rhai ardaloedd gwledig eraill, yn aml yng nghefn y ciw ar gyfer band eang BT, yn sicr o ran cyflenwi band eang cyflym iawn. Rwy'n credu yn Sir Fynwy bod y ffigur 20 y cant islaw'r targed ar ddiwedd y rhaglen gyntaf. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi'n mynd i'w wneud i atal hyn rhag digwydd gyda chamau yn y dyfodol? Yn y bôn, rydych chi wedi clywed y feirniadaeth hon gan Aelodau'r Cynulliad, nawr, ers misoedd a blynyddoedd lawer, ac mae'n amlwg yr hoffem weld y cam nesaf yn cael ei reoli ychydig yn well gan BT nag a wnaed yn y gorffennol.
Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau hynny. Dim ond i bwysleisio unwaith eto na chaiff ardaloedd gwledig eu hepgor; nhw yw'r rhai a wasanaethir gan y contract hwn. Felly, gallaf i eich sicrhau bod gen i sach bost yn llawn llythyron gan bobl sy'n flin iawn yn wir gan y cyflwyno masnachol yng nghanol Abertawe, ac ni allaf eu helpu o gwbl, oherwydd mae hon yn rhaglen wledig, yn cyflenwi band eang i ardaloedd na fyddai byth wedi ei gael heb ymyrraeth y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel—. Yn amlwg, rwy'n hapus i ymdrin â rhwystredigaethau y bobl hynny nad yw ganddyn nhw, ond fe wnaf bwysleisio, Dirprwy Lywydd, ein bod wedi cyrraedd bron i 700,000 o safleoedd yng Nghymru na fyddai byth wedi cael gwasanaeth o dan unrhyw brosiect cyflwyno masnachol. Felly, mae hwn yn llwyddiant anhygoel i Gymru. Nid yw hynny'n lleddfu dim ar rwystredigaeth y rheini ar waelod y rhestr, ond serch hynny mae'n llwyddiant enfawr, ac mae gennym ni'r cysylltedd mwyaf o unrhyw genedl ddatganoledig, felly mae'n beth pwysig iawn i'w ddweud.
Nid oedd targed wedi'i bennu ar gyfer Sir Fynwy, felly ni allan nhw fod 20 y cant islaw iddo. Doedd dim targed o'r fath. Mae'r targed wedi bod ar gyfer Cymru gyfan bob amser. Nid wyf i byth wedi pennu unrhyw darged ar gyfer unrhyw ardal o Gymru yn y cam cyntaf. Byddwn ni'n rhoi sylw i hynny yn yr ail gam. Bydd gennym dargedau penodol ar gyfer cymunedau a safleoedd penodol yn yr ail gam oherwydd rydym ni'n gwybod yn union lle y maen nhw, ac rydym ni'n gallu cael cynigion yn ôl yn dweud pwy yn union fydd yn mynd i ba safle. Felly, ni fydd hynny'n wir yn y dyfodol; bydd gennym raglen wahanol. Ond, yn y cam cyntaf, nid oedd unrhyw darged ar gyfer Sir Fynwy; dim ond ar gyfer Cymru gyfan yr oedd.
Rwy'n fwy na hapus i barhau â'm taith o gwmpas Cymru er mwyn gwrando ar faterion penodol ac er mwyn i bobl gyflwyno atebion penodol i mi. Byddwn ni'n parhau â'n holl gynlluniau talebau, sy'n gallu cael eu cyfuno yn gynlluniau cymunedol pan fo angen er mwyn i ni allu parhau i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.
Yn olaf, ac yn fyr, Mark Isherwood.
Ni fyddaf yn ailedrych ar yr achosion a'r pryderon a godais gyda chi yn y Pwyllgor yr wythnos ddiwethaf. Serch hynny, pa gyfran o'r £80 miliwn a ymrwymwyd i'r rhaglen fydd yn olynu Cyflymu Cymru yr ydych yn ei rhagweld fydd yn dod o'r ad-daliad gan BT sy'n gysylltiedig â chyflawniad eu targedau dan y cymal adfachu sydd gennych chi â nhw? A pha mor sicr yr ydych y bydd yr arian yr ydych chi'n ei ddisgwyl yn dod yn ôl i chi?
Wel, nid ydym—. Nid ydym—. Rydym yn rhagweld cyfran yr hyn a enillir ar sail maint y defnydd, fel ein bod yn gwybod yn union beth fydd hynny. Ac, fel yr wyf i'n parhau i siarsio'r Aelodau, os cewch ragor o bobl yn cysylltu, yna caf ragor o arian. Ond nid wyf yn gwario arian gan ddisgwyl hynny; rydym yn gwario'r arian y gwyddom sydd gennym oherwydd ein bod yn gwybod beth yw'r cysylltiad canrannol. Wrth i'r cysylltiad canrannol hwnnw gynyddu, bydd yr arian hwnnw'n codi, ac rydym wedi ymrwymo i roi'r arian hwnnw i'r rhaglen hon ac nid i fan arall. Nid oes raid inni wneud hynny, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny, ac felly byddwn yn gwneud hynny.
O ran y canrannau, nid yw'r rheini gennyf yma o'm blaen, ond, wrth inni osod y contractau, byddaf yn rhoi datganiad i'r Senedd yn nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud o ran gosod y contractau, a daw hynny'n glir.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Diolch.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddiogelu'r hawl i bob plentyn gael addysg addas. Rwy'n gwahodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i wneud y datganiad hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn addysg sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial. Yng Nghymru, mae gennym system addysg sy'n paru cydraddoldeb â rhagoriaeth. Mae ein system yn darparu ystod o ddewisiadau i ddiwallu gwahanol anghenion a galluoedd dysgwyr o bob oed a gallu. Er bod y rhan fwyaf o rieni yn dewis bod eu plant yn cael eu haddysg mewn ysgol, mae cyfran yn penderfynu addysgu eu plant gartref. Bydd yr Aelodau yn gwybod y gelwir hynny'n addysg ddewisol yn y cartref.
Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant sydd o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Ar hyn o bryd mae ganddynt bwerau o ran presenoldeb yn yr ysgol, ond mae'n her iddynt nodi'r plant nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol neu'n derbyn addysg addas ar wahân i'r ysgol. A dweud y gwir, rydym mewn sefyllfa lle na all Llywodraeth Cymru roi ffigurau dibynadwy am faint o blant sydd yn cael eu haddysgu yn y cartref, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r angen i gryfhau'r polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ynghylch addysg yn y cartref. Wrth ddatblygu'r dull hwn, rydym wedi edrych ar ddulliau gweithredu rhyngwladol eraill, a chredaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud mai'r ddeddfwriaeth addysg yn y cartref yng Nghymru yw un o'r rhai llai manwl yn Ewrop. Mewn cymhariaeth, mae gan nifer o gymdogion Ewropeaidd systemau cofrestru ar waith ers peth amser.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gynorthwyo awdurdodau lleol i fodloni eu dyletswyddau presennol i nodi'r plant nad ydynt yn cael addysg addas. Rwy'n bwriadu ymgynghori ar ddefnyddio pwerau presennol a geir yn adran 29 Deddf Plant 2004 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata i'w helpu i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried pa bartneriaid fydd yn gallu rhoi'r gronfa ddata fwyaf cyflawn, megis byrddau iechyd lleol.
Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd nid oes rhwymedigaeth ar ysgolion annibynnol i hysbysu awdurdodau lleol am y plant yn eu gofal. Felly, byddaf yn ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 i orfodi perchnogion ysgolion annibynnol i roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol o ran disgyblion sy'n mynychu eu hysgolion.
Prif bwyslais ein dull ni fydd cynorthwyo awdurdodau lleol i nodi pwy sy'n cael eu haddysg yn y cartref, ac asesu a ydynt yn derbyn addysg addas. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu'r gronfa ddata a'u cefnogi gyda threfniadau asesu addasrwydd yr addysg i blant sydd ar y gronfa ddata, rwy'n cynnig ymgynghori ar ganllawiau statudol a gyhoeddir i awdurdodau lleol o dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996. Bydd y dull hwn o weithredu yn gyfle inni ystyried sut y caiff ein gwasanaethau, rhaglenni a mentrau cyffredinol eu cyflwyno i phlant sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae hyn yn golygu y byddwn mewn sefyllfa well i gyflawni ein hamcan, a nodir yn 'Ffyniant i Bawb', sef cefnogi'r holl blant a phobl ifanc i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd ac i gyflawni eu dyheadau.
Ond gadewch i mi fod yn hollol glir: nid fyddwn yn gorfodi rhieni i gofrestru bod eu plentyn yn cael ei addysg yn y cartref. Yn hytrach, bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata o blant nad ydyn nhw ar unrhyw gofrestr addysg awdurdod lleol neu ysgol annibynnol. Bydd y dull hwn yn caniatáu inni roi prawf ar gyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol a gallwn ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ddatblygu rheoliadau a chanllawiau statudol. Bydd yn sicrhau na fydd lefel yr ymgysylltu gan awdurdodau lleol yn anghyson mwyach.
Rwy'n ymwybodol, Dirprwy Lywydd, mai cyfyngedig ac amrywiol yw'r cymorth sydd ar gael oddi wrth yr awdurdodau lleol ar hyn o bryd i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, a dim cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr cartref, ac, i'r perwyl hwnnw, rydym yn datblygu pecyn cymorth addysgol. Bydd y pecyn hwn yn sicrhau bod Hwb ar gael i blant a gaiff eu haddysgu yn y cartref, a bydd cymorth anghenion dysgu ychwanegol ar gael a chymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau. Bydd y pecyn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu gartref i ddysgu Cymraeg, a bydd cynnig clir o gefnogaeth gan Gyrfa Cymru. Bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref i sicrhau bod y pecyn cymorth yn diwallu anghenion y gymuned addysg yn y cartref.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi pwyso a mesur yr hyn y bydd rhai addysgwyr yn y cartref yn ei ystyried yn ymyrraeth anghymesur â'u bywyd teuluol yn erbyn yr hyn a ystyriaf i'n fanteision ehangach i'r holl blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref o ran eu haddysg a'u lles cyffredinol.
Wrth gloi, hoffwn wneud un peth olaf yn glir: rwy'n llwyr barchu dewis rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, ac ni fydd unrhyw beth yr wyf yn ei ystyried neu'n ei gynnig yn newid hynny. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod mwyafrif llethol y rhieni sy'n addysgwyr cartref yn dewis gwneud hynny am resymau dilys, ac, mewn rhai achosion, gallai hynny fod y dewis gorau ar gyfer y plentyn. Ond credaf hefyd fod y Llywodraeth dan ddyletswydd foesol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas, a bod disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu ar eu dyletswyddau cyfreithiol i ymyrryd pan nad yw plentyn yn derbyn addysg addas neu o bosib yn cael ei esgeuluso. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod y cynigion a gyflwynir heddiw yn gymesur, yn rhesymol, ac er lles ein pobl ifanc i gyd.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac am y briff a roesoch i minnau a llefarwyr eraill cyn heddiw. A gaf i ddweud fy mod yn croesawu eich datganiad? Credaf ei fod yn ddull o weithredu cytbwys. Credaf ei fod yn un sydd, yn fy marn i, yn ymdrin â llawer o'r pryderon a godwyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur o ran sicrhau bod cymorth digonol ar gael i rieni a gwarcheidwaid eraill sy'n addysgu eu plant gartref. Rwyf hefyd yn falch o'ch clywed chi, ar ran y Llywodraeth, yn ailddatgan eich ymrwymiad i hawl rhieni i addysgu eu plant gartref, eu cymryd allan o'r system ysgol.
Mae'n rhaid imi ddweud, fodd bynnag, bod yna rai materion y byddwn i'n gofyn i chi eu hegluro i mi. Fe wnaethoch chi gyhoeddi canllawiau 12 mis yn ôl—canllawiau anstatudol—i awdurdodau lleol eu dilyn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw asesiad ar effaith y canllawiau hynny ac a oedden nhw mewn gwirionedd yn cyflawni unrhyw newid o ran lefelau'r gefnogaeth i rieni ac i blant nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn ysgol. A fyddech yn gallu rhannu gydag Aelodau'r Cynulliad werthusiad o'ch asesiad chi o effeithiolrwydd y canllawiau hynny? Oherwydd rwyf i o'r farn ei bod ychydig yn rhy gynnar i neidio i safiad o ran canllawiau statudol heb ddangos inni'r dystiolaeth nad yw'r canllawiau anstatudol presennol yn gweithio.
Rydym hefyd yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod llawer o rieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref oherwydd nad ydyn nhw'n fodlon ar yr addysg sydd ar gael yn ysgolion eu hawdurdod lleol. Rydym wedi clywed tystiolaeth nad yw disgyblion a dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth digonol gan eu hawdurdodau lleol. Mae hynny'n achosi i lawer ohonyn nhw dynnu eu plant allan o'r ysgol, hyd yn oed gyda'r system cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n bodoli. Gwyddom hefyd fod rhai rhieni, oherwydd eu bod yn pryderu am y safonau mewn ysgolion lleol, yn tynnu eu plant o'r ysgol ac yn dewis eu haddysgu mewn ffordd wahanol. Tybed a fydd y system newydd hon, y system gronfa ddata newydd hon, yn cynnwys unrhyw sylwadau gan rieni ac efallai gan ddisgyblion am y rhesymau dros dynnu eu plant o system y wladwriaeth, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n rhoi syniad inni, mewn gwirionedd, ai problem o ran safonau ein hysgolion sy'n arwain at y ffenomen benodol hon, oherwydd rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn y blynyddoedd diwethaf.
Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle i gael dull sy'n edrych ar ymestyn hawliau plant, os hoffech chi. Rwy'n gwybod bod y Comisiynydd Plant wedi sôn am ei phryderon ynglŷn â'r diffyg wrth fynd i system lawn o gofrestru gorfodol, ond rwy'n anghytuno â'r Comisiynydd Plant ar hynny. Un peth yr wyf yn cytuno arno gyda'r Comisiynydd Plant yw bod angen inni wireddu hawliau plant. I bob pwrpas, rydych yn awyddus i ymestyn yr hawliau hynny, mae'n ymddangos i mi, ar gyfer sicrhau bod cefnogaeth ar gael i anghenion dysgu ychwanegol, cyfle ar gael i ddysgu Cymraeg, a bod technoleg a chymorth arall ar gael i'r dysgwyr hynny na fydden nhw ar gael fel arall i ddysgwyr sydd yn cael eu haddysg yn y cartref. Byddai'n dda inni gael gwybod eich bod mewn gwirionedd wedi asesu eich penderfyniad yn ôl asesiadau effaith ar hawliau plant y dylai'r holl benderfyniadau gweinidogol gael eu sgrinio drwyddyn nhw, os hoffech chi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod inni a chadarnhau y gwnaed asesiad o effaith y penderfyniad yr ydych wedi ei gyhoeddi gerbron y Siambr heddiw ar hawliau plant.
A oes amserlen ar gyfer gweithredu'r holl waith hwn? Ni wnaethoch grybwyll yn benodol amserlen o ran y cyhoeddiadau yr ydych wedi eu gwneud. Byddwn yn falch o gael gwybod yn union pryd yr ydych yn disgwyl cwblhau eich ymgynghoriad â rhanddeiliaid amrywiol a phryd y cawn ni weld rhywfaint o ddatblygiad sylweddol pellach o ran cyhoeddi cyfres o ganllawiau statudol a'u bod ar gael yn hawdd, a hoffwn wybod pryd y byddwch yn disgwyl y bydd y rheini'n cael eu rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn hoffi cael gwybod am y costau a allai godi yn sgil hyn, ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn wir yr awdurdodau lleol. Unwaith yn rhagor, nid oes unrhyw wybodaeth ariannol yn eich datganiad. Rwy'n cymryd y bu rhyw fath o asesiad o'r effaith ariannol, yn arbennig felly os ydych chi'n mynd i gyhoeddi canllawiau statudol. Byddai'n ddiddorol cael gweld canlyniadau hynny.
Ond ar y cyfan, rwyf i o'r farn eich bod yn weddol agos i'ch lle. Rwy'n credu. a dweud y gwir, mai anfodlon fydd dwy ochr y ddadl hon, y rhai nad ydyn nhw'n dymuno cael cofrestru gorfodol a'r rhai sy'n dymuno gweld hynny, â'r datganiad a wnaethoch chi heddiw. Ond, rydych chi'n iawn i ganolbwyntio ar y rhwymedigaethau sydd eisoes gan awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael addysg briodol pan fyddant o oedran addysg orfodol. A dweud y gwir, rwy'n credu bod yr awdurdodau lleol gorau eisoes wedi mabwysiadu'r math hwn o ddull yr ydych yn gobeithio ei gyflwyno a'i wneud yn gyson ledled y wlad. Felly, croesawaf eich datganiad, ond edrychaf ymlaen at eich atebion i'm cwestiynau.
Diolch yn fawr iawn ichi, Darren. Mae'n debyg mai croeso gofalus yw'r gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano gan Darren Millar, o ystyried y datganiadau y mae wedi eu gwneud ar y pwnc hwn yn flaenorol.
A gaf i ddweud mai fy mwriad i yw—yn wir, mae'n ofyniad arnaf yn ôl y Rheolau Sefydlog—y bydd ymgynghoriad llawn ar y materion hyn, gyda Chymru gyfan ac unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb yn hyn o beth? Bydd fy swyddogion yn dechrau gwaith ar unwaith i ddatblygu rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol i alluogi'r ymgynghoriad hwnnw i ddigwydd. Rwy'n disgwyl y bydd hynny'n cael ei wneud mewn modd amserol. Rwy'n awyddus i gael cynnydd, ond, Darren, byddwch yn ymwybodol o ymdrechion blaenorol gan Weinidogion blaenorol o ran yr agenda hon eu bod fel arfer yn ennyn llawer o ymateb,ac felly rwy'n rhagweld y bydd yn adeg brysur iawn. Nid wyf yn dymuno dweud yn bendant y bydd wedi ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn, oherwydd bydd yn rhaid aros i bwyso a mesur yr ymatebion a ddaw i law, ac rwyf yn dymuno iddo fod yn ymgynghoriad gwirioneddol a fydd yn adlewyrchu pob barn. Ond bydd gwaith yn dechrau ar unwaith yn hyn o beth. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn wir yn rhoi i'r gymuned addysg yn y cartref, yn ogystal ag awdurdodau lleol a'r plant eu hunain, gyfle i fwydo i mewn i'r broses o ran y rheoliadau, y canllawiau statudol a ffurf y pecyn cynhwysfawr o gymorth i rieni sy'n addysgu yn y cartref.
Rwy'n ymwybodol y bydd yna rai rhieni sy'n addysgu yn y cartref yn teimlo nad oes angen cymorth arnyn nhw neu nad ydyn nhw'n dymuno ei gael. Ond rwy'n ymwybodol bod rhai rhieni sy'n addysgu yn y cartref yn awyddus i gael cymorth, a'u bod wedi ei chael hi'n rhwystredig bod awdurdodau lleol yn aml o bosib wedi golchi eu dwylo o ran y plant hynny ac yna mae'r mynediad i allu sefyll arholiadau wedi bod yn anodd—llu o bethau. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r gymuned honno i ddod o hyd i becyn o gymorth, pe byddai teuluoedd yn dymuno manteisio arno.
Fe wnaeth Darren ofyn cwestiwn dilys ynghylch y ffaith, 12 mis yn ôl, ein bod ni wedi cyflwyno canllawiau anstatudol, a pham symud. Wel, mae ymchwil yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu'n barhaus, ac felly rydym yn derbyn yr adroddiad rhaeadru sydd wedi'i wneud a nododd eto nad oes gennym ni syniad mewn gwirionedd o faint y boblogaeth addysgu yn y cartref. Nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd, er ein bod yn disgwyl bod y duedd yn cynyddu. Mae darllen hynny'n achos gofid mawr i mi. Mae awdurdodau lleol yn parhau i ddweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu dyletswyddau o ran sicrhau bod plant yn ei dderbyn. Felly, o ystyried adborth parhaus ac ymchwil barhaus, fel yr ymrwymais i'w wneud y llynedd—y byddem yn parhau i edrych ar y materion hyn—dyna'r hyn yr wyf yn parhau i'w wneud, a deuthum i'r casgliad mai hon yw'r ffordd briodol ymlaen.
O ran asesiad ariannol, bydd hynny'n cael ei ddatblygu'n gyfochrog â'r rheoliadau statudol. Rydym eisoes wedi sicrhau bod swm bach o arian ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddechrau gweithio ar rai o'r costau, ac i gael peth adborth ganddyn nhw ar sut y gellid rheoli cronfa ddata a'r costau cysylltiedig. Felly, rydym eisoes wedi sicrhau ychydig bach o arian ysgogi er mwyn inni gael rhagor o wybodaeth wrth inni symud ymlaen gyda'r ymchwil hon. Wrth gwrs, byddai Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol imi allu bodloni'r Aelodau gydag asesiad ariannol yn gyfochrog â'r ddeddfwriaeth.
Rwy'n ddiolchgar am feddwl agored Darren yn y Siambr heddiw wrth edrych ar sut y gallwn wella'r system hon sydd, yn fy marn i, yn rhoi cydbwysedd da rhwng hawliau'r rhiant i ddewis addysgu yn y cartref os dymunant, a hawliau'r plentyn i gael addysg addas a digonol.
A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Efallai y byddech chi'n disgwyl bod gen i deimladau cymysg am y datganiad sydd wedi cael ei wneud. Yn sicr, rwy'n falch eich bod chi yn ailgydio yn y mater yma wedi o leiaf ddau o'ch rhagflaenwyr fethu, yn fy marn i, â mynd i'r afael yn ddigonol â'r mater yma. Ond rydych chi yn stopio'n fyr o beth mae nifer ohonom ni wedi bod yn galw amdano fe ers blynyddoedd—ac rwyf i a Phlaid Cymru wedi bod yn glir ynglŷn â'r hyn y byddem ni yn dymuno ei weld—ond rwyf yn cydnabod bod hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, beth bynnag, os nad yw'n mynd i'r union bwynt y byddwn i'n dymuno i chi fynd iddo.
Mi fydd, hyd y gwelaf i, yn cryfhau'r fframwaith polisi a deddfwriaethol o gwmpas addysgu gartref, ond mae yn gadael rhai cwestiynau yn fy meddwl i o hyd, ac mae'n bosibl y daw'r rhain yn gliriach wrth i fwy o fanylion gael eu rhyddhau. Byddwn i yn gofyn eto pam nad ydych chi yn dilyn cyngor y comisiynydd plant, yr NSPCC, y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol a'r adolygiad arfer plant—y child practice review diweddar—sydd oll wedi galw am gofrestr statudol. Rydych chi yn cydnabod yn y datganiad bod gwledydd eraill wedi gweithredu systemau cofrestru ers blynyddoedd, ond eto rydych chi'n gwrthod hynny yma yng Nghymru.
Hefyd, sut fydd gofyn i awdurdodau lleol ddod o hyd i'r plant yma sy'n cael eu haddysgu adref a'u rhoi nhw ar fas data yn fwy effeithiol na rhoi disgwyliad ar y rhieni i'w cofrestru nhw? Byddwn yn tybio y byddai mwy o blant yn cael eu hadnabod os yw rhieni yn gorfod eu cofrestru nhw, yn hytrach na rhywsut bod awdurdodau lleol yn gorfod trio eu tracio nhw lawr. Felly, rwy'n dal yn stryglo gyda hynny i raddau, ac fe fyddwn i yn ddiolchgar pe baech chi'n gallu jest ymateb i hynny. Roeddwn i hefyd am godi'r goblygiadau cyllidebol ac a oedd yna rai, gan y byddai yna ddisgwyliad ychwanegol ar awdurdodau lleol. A fyddai yna adnoddau ychwanegol yn cael eu gwneud ar gael iddyn nhw?
Mae yna lot o bethau positif yn y datganiad—peidiwch â'm camddeall i. Rydw i yn gweld hwn yn gyfle i sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru o safbwynt y modd y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â, ac yn cefnogi, teuluoedd sydd yn dewis addysgu eu plant gartref. Rŷch chi wedi cyfeirio at well mynediad i adnoddau fel labordai, Hwb ac yn y blaen, ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y cyfeiriad rŷch chi wedi ei wneud at, wrth gwrs, yr ymdrech efallai i gynnig cyfle i ddysgu Cymraeg. Rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i edrych i mewn i'r opsiynau hynny. Os oes gennych chi rai syniadau penodol, byddwn i'n falch i'w clywed nhw nawr, achos, yn amlwg, mae hynny yn rhywbeth y byddwn i â diddordeb ynddo fe.
Nawr, mae'r comisiynydd plant, wrth gwrs, yn gyson wedi ein hatgoffa ni bod yna feini prawf penodol y byddai hi'n chwilio amdanyn nhw mewn unrhyw approach i'r maes yma.
Mae'r comisiynydd plant yn eglur iawn fod cyfres o brofion litmws, os mynnwch, o ran beth fyddai hi yn ei geisio—yn bennaf, wrth gwrs, y gellir rhoi cyfrif o bob plentyn yng Nghymru ac nac oes un yr yn ohonyn nhw yn golledig i'r gwasanaethau cyffredinol a chymdeithas yn fwy eang. Wel, wyddoch chi, ni all hyd yn oed gofrestr statudol warantu hynny ac mae hynny'n rhywbeth y gwn ein bod wedi'i gyffwrdd o'r blaen. Ond rwy'n credu'n wir y byddai'n cyrraedd y nod hwnnw'n well na chronfa ddata awdurdod lleol, er y byddai hynny, mae'n debyg, yn symud yn nes at yr hoffwn ei weld.
Yr ail brawf litmws, wrth gwrs, yw fod pob plentyn yn cael addysg addas. Credaf, yn hynny o beth, mai dyma'r man y caf i'r agwedd fwyaf cadarnhaol yn eich datganiad heddiw, yw fod hynny'n cael ei atgyfnerthu. Gobeithio y cawn weld hynny'n cael ei fynegi a'i weithredu yn fwy effeithiol. Ond hefyd, wrth gwrs, y dylai pob plentyn gael y cyfle i'w gweld a chlywed ei farn a'i brofiadau. Mae hynny'n brawf allweddol arall ar gyfer y Comisiynydd Plant. Felly, dim ond angen mwy o eglurder sydd arnaf i, mewn gwirionedd, am a fydd eich canllawiau statudol arfaethedig yn cynnwys y cyfle hwnnw i blant ond hefyd yn cynnwys yr hawl i awdurdodau i gael mynd at y disgyblion hynny sy'n cael eu haddysg yn y cartref. Un ffordd o brofi hyn i gyd, wrth gwrs, yw drwy asesiad o'r effaith ar hawliau plant a hoffwn ichi gadarnhau a bydd y Llywodraeth yn llunio asesiad effaith hawliau plant manwl ar y cynigion hyn yn rhan o'r broses. Fel yr wy'n ei ddweud, gobeithio y bydd hynny'n mynd ffordd bell i ddangos eich bod yn bodloni rhai o brofion y Comisiynydd Plant.
Yn olaf, dau gwestiwn i gloi. Bydd rhai aelodau o'r gymuned addysg yn y cartref yn fwy parod nac eraill i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru efallai, felly sut y gwnewch chi sicrhau y clywir lleisiau'r plant sy'n fwy anodd eu cyrraedd yn y broses hon? Byddai gennyf ddiddordeb i glywed eich ateb i hynny. Ac yn olaf hefyd, mae carfan gyfan arall, wrth gwrs, o blant sydd heb ddechrau yn yr ysgol neu heb gyrraedd oedran ysgol eto, a byddai gennyf ddiddordeb i glywed pa drafodaethau sydd wedi digwydd ledled Llywodraeth Cymru ar sut gallai'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg weithio gyda'i gilydd i gynnwys yn fwy effeithiol blant o dan oedran ysgol gorfodol yn ogystal â'r rhai yn y meysydd hyn yr ydym ni'n eu trafod ar hyn o bryd.
Diolch, Llŷr. A gaf i ddechrau â mater—? Ymddiheuriadau i Darren Millar. Wrth i mi ystyried y dull gweithredu, rwyf yn wir wedi edrych ar y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd arnom ni fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae gwella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr, boed hynny mewn addysg ddewisol yn y cartref neu mewn addysg brif ffrwd, yn fy marn i, yn cyfrannu at erthygl 3, erthygl 4, erthygl 5, erthygl 12, ac erthyglau 18, 19, 24, 28 a 29 y Confensiwn, a byddwn yn parhau, wrth inni ddatblygu'r canllawiau statudol, i sicrhau y cynhelir asesiad llawn o'r effaith ar hawliau plant ar y camau hynny. Yn sicr, mae'r rheini wedi bod yn flaenllaw yn fy ystyriaethau wrth imi edrych ar y materion hyn.
Mae'r Aelod yn gofyn, 'Pam ddim cofrestr?' ac mewn gwirionedd oni fyddai cofrestr yn haws. Wel, mae cofrestr orfodol—cofrestr orfodol a fyddai o bosibl yn gwneud rhieni'n droseddwyr pe na byddent yn cofrestru—yn dibynnu ar y rhieni i wneud fel hynny. Y broblem yw na fyddai'r ddeddfwriaeth honno ond cystal a'n gallu ni i'w gorfodi, sy'n golygu eich bod yn gwybod pwy sydd heb gofrestru. Felly, y cwestiwn i ryw raddau yw pa un ddaeth gyntaf, yr ŵy ynteu'r iâr? Rwyf wedi ystyried y peth yn ofalus iawn. Os yw rhiant, am ba reswm bynnag, yn benderfynol o beidio a rhoi gwybod i'r gwasanaethau am eu plentyn, yr amheuaeth sydd gennyf i yw y gallai'r elfen hon o orfodaeth gael y canlyniad anfwriadol—y canlyniad anfwriadol gwirioneddol—o yrru'r rhieni ymhellach i ffwrdd o unrhyw ymgysylltiad â'r gwasanaethau statudol. Drwy osod y gofyniad hwn ar awdurdodau lleol yn hytrach nag ar y rhieni, credaf fod hynny'n rhoi'r cyfle gorau posib o nodi cymaint o blant â phosib, gan gydnabod—a, Llŷr, rydych chi a minnau wedi cael y sgwrs hon o'r blaen—nid dyma'r ateb i'r holl faterion sy'n ymwneud â diogelu plant. Os oes gennych gofrestr orfodol sy'n rhoi'r pwyslais cyfreithiol ar y rhieni, neu os ydych yn defnyddio'r dull hwn, sy'n rhoi'r pwyslais ar awdurdodau lleol, mae hyn ond yn berthnasol i blant o oedran addysg orfodol, rhwng pump ac 16 oed. Felly, byddem ar fai i feddwl y byddai unrhyw ddull sy'n golygu mwy o reoleiddio o ran addysg ddewisol yn y cartref yn datrys y broblem honno o nifer fach iawn o deuluoedd sydd, am ba resymau bynnag, yn penderfynu cadw eu plant rhag cael mynediad i wasanaethau cyffredinol.
Yr hyn sy'n hollbwysig yw ein bod yn gwneud y gronfa ddata mor gadarn ag y gall fod, a dyna pam ein bod yn cau'r bwlch, er enghraifft, o ran ysgolion annibynnol, fel y gallwn roi'r plant hynny yn y gronfa ddata honno. Dyna pam y byddwn yn gweithio ledled y Llywodraeth gyda chydweithwyr ym maes iechyd i allu gwirio cofrestrau genedigaethau byw ochr yn ochr â chofrestrau ysgolion awdurdodau lleol i ddod o hyd i'r plant hynny nad ydyn nhw, yn sydyn, yn ymddangos.
Felly, rwyf i o'r farn fod hyn yn rhoi'r cyfle gorau inni—. Drwy roi'r pwyslais a'r cyfrifoldeb ar y wladwriaeth i wneud y gwaith hwn, credaf ei bod yn rhoi'r cyfle gorau inni allu nodi, os oes modd o gwbl, ble mae'r plant hyn ac, yn hollbwysig, yna allu asesu a yw'r plant hynny'n derbyn addysg addas. Mae'r dull hwn yn caniatáu inni weithredu nawr, tra byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny eto'n ystyriaeth. Ond, Llŷr, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, ar ôl profi'n llawn hyd a lled yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn caniatáu inni ei wneud—ac mae pryderon o hyd—y bydd yn rhaid inni edrych eto. Ond mae hyn yn gyfle inni weithredu nawr, ac mae'n gyfle gwirioneddol inni brofi hyd a lled eithaf y ddeddfwriaeth bresennol. Ond rydych chi'n iawn fod angen inni barhau i weithio ar draws y Llywodraeth, o dan oedran addysg orfodol a thros yr oedran hwnnw, a dyna pam yr wyf i, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a'r Gweinidog dros wasanaethau cymdeithasol yn parhau i gwrdd a gweithio ar yr agenda hon.
Byddwch yn ymwybodol fod grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu gan Keith Towler, y Comisiynydd Plant blaenorol, i roi cyngor i'r Llywodraeth ar faterion sy'n ymwneud â bod yn anweledig i wasanaethau cyffredinol. Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd diogelu cenedlaethol annibynnol ar y modd y gallwn wella materion sy'n ymwneud â phlant sydd o dan oedran addysg orfodol a thros yr oedran hwnnw.
Mae angen inni fod yn lled ofalus. Nid yw hyn yn ymwneud â mynd ar drywydd unrhyw un, Llŷr, gan bod hynny'n rhoi'r argraff anghywir, yn fy marn i, o'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn y fan hon. Rydym yn ceisio cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Felly, nid ydym yn bwriadu mynd ar drywydd unrhyw un. Credaf mai'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio oedd, efallai mewn dyfynodau, 'mynd ar drywydd pobl'.
Mae'r pecyn cymorth yn hanfodol hefyd. Gwyddom fod plant yn yr ysgol yn gallu cael gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai hwnnw fod o bosib yn faes y byddai rhieni sy'n addysgwyr cartref yn teimlo'n llai hyderus yn ei gylch ac nad oes ganddynt yr adnodd cystal i allu cynnig y cyfleoedd hynny. Felly byddwn yn edrych ar weithio gyda'r gymuned addysg yn y cartref i edrych ar gynigion realistig o ran sut y gallan nhw ennill y sgiliau i gynnig y math hwnnw o addysg yn y cartref neu i weithio gyda'i gilydd fel grŵp mewn rhai amgylchiadau. Felly, rydym yn agored iawn i syniadau, ond mae'r egwyddor hon o sicrhau bod plant yn gallu cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod hynny efallai yn faes y mae rhieni'n teimlo'n llai hyderus yn ei gylch, yn un bwysig iawn i mi, yn ogystal ag edrych ar faterion eraill megis, fel y dywedasom, ganolfannau arholiadau, cyngor gyrfaoedd—. Y pethau hynny sydd ar gael i blant mewn ysgolion prif ffrwd, rwyf eisiau gwneud yn siŵr eu bod ar gael i blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan o'n cyfrifoldeb ni tuag at y teuluoedd hynny.
Mae hyn i gyd, rwyf eisiau sicrhau pawb eto, yn destun ymgynghoriad. Felly, os oes gan yr Aelod syniadau am sut y mae e'n awyddus i gyfrannu i hyn, yna buasai hynny'n dderbyniol iawn. Ond credaf fod hyn yn gyfle inni gryfhau'r gyfraith yn y maes hwn a rhoi i'r awdurdodau lleol y gallu i fod yn sicr. A yw hynny'n golygu ein bod yn gweld y plentyn? Nid wyf i'n credu y byddai modd gwneud dyfarniad cytbwys ynghylch a yw plentyn yn derbyn addysg ddigonol heb weld y plentyn hwnnw, a byddaf yn gweithio ar sut y dylid mynd ati o ran hynny drwy gyfrwng y canllawiau statudol.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod pob Aelod yma wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sydd yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu posibiliadau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad. Mae gennym syniadau gwahanol iawn am sut y gellir cyflawni hynny, ond rwy'n credu bod pawb yn ymdrin â hyn o'r un safbwynt—rydym yn dymuno'r gorau i holl blant a phobl ifanc Cymru.
Dylwn yn gyntaf roi clod lle mae'n ddyledus i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfaddef nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi data dibynadwy ar faint o blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. I fod yn deg, mae canfod y niferoedd hynny o blant sy'n cael eu haddysg gartref ymhell o fod yn fater syml. Ni allwch yn syml gymharu cofnodion geni a marwolaeth, er enghraifft, â chofnodion ysgol, oherwydd bod teuluoedd yn symud o gwmpas, yn amlwg. Rwy'n croesawu'r mesurau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cyhoeddi heddiw i geisio mynd i'r afael â'r diffyg hwn gyda gwybodaeth.
O ran y cynnig bod angen i ysgolion annibynnol roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol, ni fyddwn fel arfer yn croesawu rhywbeth allai gael ei ystyried yn ymyrraeth gan y wladwriaeth. Er hynny, ar yr achlysur hwn, credaf nad oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall y gallai ei wneud, oherwydd ni allaf weld sut y gall awdurdodau lleol gasglu data cywir os nad ydyn nhw'n gwybod pa blant sydd mewn addysg annibynnol.
Rwy'n cefnogi'r amcan i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael addysg dda a chyflawn. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Mae'n hanfodol fod yr asesiad a wneir i weld a yw plentyn yn cael addysg addas yn un teg ac nad yw 'addasrwydd' yn gyfystyr i 'gymeradwy gan y wladwriaeth'. Hanfod addysg yn y cartref i lawer o rieni yw bod gan y rhiant y gallu i benderfynu ar gwricwlwm a chyflymder addas i'r plentyn. Felly, mae angen rhoi cydnabyddiaeth i hawl y rhieni i benderfynu ar gynnwys addysg eu plentyn. Mae'n allweddol bod llais cryf gan y rhieni sy'n rhoi addysg yn y cartref i'w plant wrth ddatblygu meini prawf yr asesu a bod ganddynt y modd i herio asesiad awdurdod lleol o'r addysg a ddarperir i'w plentyn.
Rwy'n croesawu bwriad Ysgrifennydd y Cabinet i gael ymgynghoriad ar y canllawiau statudol a byddwn yn annog rhieni i wneud cyfraniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw pryd y caiff y dogfennau ymgynghori eu cyhoeddi a pha mor hir fydd y cyfnod ymgynghori? Rwy'n croesawu hefyd y bwriadau a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried sut y darperir gwasanaethau i blant sy'n cael addysg yn y cartref a'r ddarpariaeth o gymorth i rieni, fel cymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol. Cymeraf yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei gair mai ei bwriad yw cynorthwyo rhieni sy'n dymuno addysgu yn y cartref, yn hytrach na barnu eu penderfyniadau, ac rwy'n sicr nad yw hynny'n fwriad ganddi.
Credaf y byddai rhieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, er y byddent yn croesawu'r cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol, yn pryderu y gallai hyn gynrychioli blaen y gyllell o ran ymyrraeth y wladwriaeth yn y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud er mwyn eu plentyn. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod heddiw i roi ei sicrwydd personol i rieni na fydd y mesurau yr ydych yn eu cyflwyno yn cael yr effaith o roi pwysau ar rieni i roi'r gorau i addysgu eu plant gartref, nac yn arwain at awdurdodau lleol i bob pwrpas yn penderfynu ar gynnwys yr addysg a ddarperir yn y cartref? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? O ran y sector annibynnol, mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i amlinellu ein bwriadau i ddeddfu yn y maes hwn, ac maen nhw'n gefnogol iawn i'r dull yr ydym yn ei gymryd. Nid ydyn nhw'n poeni dim ac maen nhw'n hapus i wneud eu rhan wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n ddiolchgar i Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru am eu croeso cychwynnol i'r cynigion hyn ac am eu parodrwydd i ymgysylltu â ni yn hyn o beth. Rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Nid oes a wnelo hyn â gorfodi cwricwlwm ar rieni sy'n addysgwyr cartref, ond mae deddfwriaeth eisoes yn bodoli yng Nghymru sy'n dweud bod gan bob plentyn yr hawl i addysg addas. Nawr, rydych yn llygad eich lle, mae'n debyg fod llawer o wahanol safbwyntiau ledled y Siambr hon ynglŷn â beth yn union yw addysg addas. Ond rwy'n siŵr y gall pawb gytuno bod sicrhau bod plentyn yn llythrennog ac yn rhifog yn gonglfeini sylfaenol sydd eu hangen ar unrhyw un i fynd ymlaen i gyflawni eu potensial a chael bywyd llwyddiannus, ac nid wyf i o'r farn fod a wnelo hynny a gorfodi plentyn i ddilyn cwricwlwm sy'n cael ei redeg gan wladwriaeth. Ond y sgiliau hynny y credaf eu bod yn angenrheidiol yw'r rhai y byddwn yn canolbwyntio arnynt. Yr hyn sy'n bwysig yw cael cysondeb ledled Cymru—nad oes gennym 22 o wahanol ddulliau o'r hyn y mae addysg addas yn ei olygu, a bod tegwch i'w gael, a bod tryloywder yn y broses honno. Dyna pam, yn fy marn i, y mae'n angenrheidiol cyflwyno canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar sut y dylen nhw gyflawni eu swyddogaethau yn hyn o beth, oherwydd nid wyf i eisiau gweld 22 o wahanol ddulliau. Rwy'n dymuno sicrhau cysondeb ac rwy'n dymuno i hynny fod yn glir o ran ein disgwyliadau ni. Bydd cyfle drwy'r ymgynghoriad, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni, i'r Aelodau gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw ar ffurf y canllawiau statudol.
Roeddwn i'n credu fy mod wedi egluro yn fy natganiad fy mod yn parchu hawl rhieni i ddewis addysg yn y cartref i'w plentyn os ydyn nhw'n credu bod hynny er lles gorau eu plentyn. Rwy'n ymwybodol fod rhieni'n gwneud hynny am lu o resymau. Un o'r pethau y cyfeiriodd Darren atyn nhw yw fod rhai rhieni yn teimlo eu bod dan orfodaeth i wneud y dewis hwnnw, a chredaf fod cryn waith i'w wneud—. Os yw pobl yn teimlo'u bod nhw'n cael eu gorfodi i wneud y dewis hwn oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth addysg prif ffrwd, mae angen inni weithio'n galetach i ymdrin â hynny. Bu peth tystiolaeth anecdotaidd ofnadwy am ysgolion yn annog rhieni i ddadgofrestru eu plant cyn yr arholiadau, fel na fydd materion yn ymwneud â phresenoldeb a materion yn ymwneud â pherfformiad mewn arholiadau yn cyfrif yn erbyn mesurau perfformiad yr ysgol. Yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Ceir llu o ymyriadau polisi eraill, y mae angen inni eu gwneud o ran sut yr ydym yn rheoli perfformiad mewn ysgolion, er mwyn newid y pethau hynny. Felly, nid oes a wnelo hyn â barnu'r dewisiadau y mae rhieni'n eu gwneud, ond mae a wnelo â dweud, 'Wrth gydbwyso'r hawl sydd gennych fel rhiant i ddarparu addysg yn y cartref i'ch plentyn, mae angen i ni, fel gwladwriaeth, wybod ym mha le y mae'r plant hynny.' Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn synnu, fwy na thebyg, wrth wrando ar y ddadl hon neu wrth wylio'r newyddion heno, nad ydym yn gwneud hynny'n barod—nid yw'r wybodaeth gennym ni'n barod. Mae'n fater o wybod ble yn union y mae'r plant hynny a'n bod ni'n bodloni ein hunain eu bod yn cael addysg addas, gan gydbwyso hawliau'r rhieni, ond hawliau'r plentyn hefyd.
Diolch yn fawr iawn. A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, ac eitem 7, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir a Deddf Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018—yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy'n cynnig bod y ddau gynnig canlynol, eitem 6 ac eitem 7, yn cael eu rhoi gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Da iawn, oherwydd ni allwn eu darllen nhw i gyd eto. [Chwerthin.]
A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynigion? Mark Drakeford.
Cynnig NDM6637 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2018.
Cynnig NDM6639 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2018.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf fe wnes i gytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fod digon o waith paratoi wedi cael ei wneud i alluogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i drefnu na fydd treth dir y dreth stamp na’r dreth gwarediadau tirlenwi yn weithredol ar ôl diwedd mis Mawrth nesaf. Bydd hynny’n caniatáu inni gyflwyno’r trethi Cymreig datganoledig cyntaf ers canrifoedd. Bydd y Trysorlys nawr yn gosod y Gorchmynion angenrheidiol.
Felly, mae’r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn ceisio creu’r sefyllfa y bydd trethdalwyr Cymru yn ei hwynebu o fis Ebrill eleni ymlaen. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor Cyllid ac i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn ystyried y rheoliadau. O dan yr eitem agenda hon byddaf i'n cyflwyno dwy set o reoliadau ar gyfer y dreth trafodiadau tir.
Mae'r ddwy set o Reoliadau, Dirprwy Lywydd, yn eu hanfod yn dechnegol eu natur yn y grŵp hwn. Yn gyntaf, rheoliadau darpariaethau trosiannol y dreth trafodiadau tir, ac mae'r rhain yn cael eu llunio o dan adran 78(1) y Ddeddf, yn sicrhau bod trafodiadau tir sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill y flwyddyn hon yn cael y driniaeth angenrheidiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir. Bydd hyn yn sicrhau nad yw trafodiadau yn cael eu trethu ddwywaith o dan y dreth trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp neu nad ydyn nhw'n yn cael eu trethu o gwbl. Bydd y rheoliadau yn sicrhau na fydd unrhyw drethdalwr o dan anfantais annheg neu'n cael mantais annheg gan y newid, ac maen nhw'n yn debygol o fod yn berthnasol mewn nifer fach o achosion yn unig. Mae rheoliadau 3 a 4 yn ymdrin ag amgylchiadau lle'r ymrwymwyd i gontract o dan dreth dir y dreth stamp, ond nad yw hwnnw wedi ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2018. Mae Rheoliadau 5 a 6 yn rhoi'r ddarpariaeth y gall y trefniadau ariannol amgen sydd ar gael o dan dreth dir y dreth stamp barhau o dan y dreth trafodiadau tir. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ymdrin â threfniadau partneriaeth o dan bob system. Mae rheoliadau 9 i 11 yn darparu rheolau trosiannol ar gyfer prydlesau. Mae rheoliad 12 yn cyflwyno rheolau trosiannol mewn cysylltiad ag ardrethi uwch ar ail gartrefi, i sicrhau y bydd yr un cyfnod ar gael i gwblhau pryniant prif gartref newydd o dan y dreth trafodiadau tir ag sydd ar gael ar hyn o bryd o dan dreth dir y dreth stamp. Mae hyn yn golygu, wedyn, Dirprwy Lywydd, yn y cyfnod pontio rhwng y gyfundrefn gyfredol a'r un a fydd yn berthnasol ar ôl Ebrill eleni, y bydd tegwch i drethdalwyr.
Mae'r ail set o reoliadau yn y grŵp hwn yn cael eu llunio o dan adran 24 o'r Ddeddf ac maen nhw'n ymwneud â thrafodiadau eiddo preswyl ardrethi uwch. Mae'r rheoliadau yn ceisio sicrhau bod y rheolau ardrethi uwch yn cael eu cymhwyso'n gyson i barau priod a phartneriaethau sifil. Mae'r rheolau hyn ar hyn o bryd yn eithrio pobl rhag yr ardreth uwch wrth gaffael buddiant ychwanegol, megis estyn prydles, yn eu prif breswylfa gyfredol. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn ehangu cwmpas yr eithriad hwn ar gyfer caffaeliadau buddiannau yn yr un brif breswylfa. Mae hyn yn golygu os gwneir y caffaeliad gan briod neu bartner sifil sydd heb fudd yn y prif breswylfa—er enghraifft, yn achos ailforgeisio—nid yw'r ardrethi uwch yn berthnasol. Bydd y newid yn sicrhau bod y rheolau ardrethi uwch yn cael eu defnyddio'n gyson, hynny yw bod parau priod neu bartneriaid sifil yn cael eu trin fel pe bydden nhw'n berchen ar yr hyn y mae eu priod yn berchen arno. Dirprwy Lywydd, mae'r ddwy set o reoliadau o dan yr eitem agenda hon yn eu hanfod yn dechnegol eu natur, mae'r ddwy wedi'u cynllunio i sicrhau mwy o degwch o ran gweithrediad y system, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn eu cefnogi heddiw.
Diolch. Simon Thomas. Na. Diolch. Jane Hutt.
Ie. Yr wythnos diwethaf, croesewais y cam hanesyddol hwn, sy'n gweld y dreth gyntaf ers 800 mlynedd ar y llyfr statud, yn barod i'w gweithredu o fis Ebrill 2018. Soniais, yr wythnos diwethaf, am Kathryn Bishop, Cadeirydd Awdurdod Refeniw Cymru, a fydd wrth gwrs yn casglu ein trethi newydd, a dim ond eisiau dweud oeddwn i fy mod yn falch iawn o gyfarfod â Kathryn Bishop heddiw—rwy'n gobeithio fod Aelodau Cynulliad eraill wedi llwyddo i gwrdd â hi—a Chyn-gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies, hefyd, a dweud cymaint yr wyf yn croesawu'r siarter, siarter y trethdalwyr, a lansiwyd ganddyn nhw heddiw. Mae'r ffaith bod y Siarter—. Maen nhw'n ceisio ymdrin â hyn mewn ffordd wahanol iawn i siarter Cyllid a Thollau EM, gan weithio gyda'i gilydd i ddarparu system dreth deg ar gyfer Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod ymgynghoriad ar y gweill, sy'n dod i ben ar 13 Chwefror. Felly, yn amlwg rydym ni eisiau helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn ein hetholaethau yn rhan o hynny, oherwydd wrth gwrs fe fydd yn bwysig iddyn nhw, wrth i ni groesawu'r trethi newydd hyn o 1 Ebrill.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau croesawu—. Rwy'n gwybod fod y rheoliadau yn dechnegol eu natur, ond fe hoffwn i groesawu'r penderfyniadau a wnaeth yr Ysgrifennydd cyllid ynglŷn â'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir, oherwydd o dan y rhain, ni fydd bron i ddwy ran o dair o holl brynwyr tai yn talu dim treth o dan y prif gyfraddau. Gan Gymru hefyd fydd y trothwy mwyaf hael ar gyfer y math hwn o dreth eiddo yn y DU o fis Ebrill nesaf, felly, rwy'n croesawu'r cyfle i siarad o blaid y rheoliadau hyn.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb.
A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y sylwadau hynny, ac i Nick Ramsay am dynnu sylw yn gynharach at bresenoldeb Awdurdod Refeniw Cymru yma? Ef oedd eiriolwr y Siarter yn ystod hynt y Bil, ac mae'n dda gweld copïau ohono yn y Siambr y prynhawn yma. Roedd gwreiddiau llawer o'r gwaith yr ydym ni'n sôn amdano y prynhawn yma yn y Ddeddf, yr aeth Jane Hutt â hi drwy'r Cynulliad hwn yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn o weld bod y rheoliadau gerbron y Cynulliad yn cael ei chymeradwyaeth.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Iawn. Diolch. Wel, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem honno tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae eitem 8, eitem 9 ac eitem 10 i gyd yn cyfeirio at reoliadau gwarediadau tir yng Nghymru. Unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cynigiaf fod y tri chynnig canlynol, o dan eitemau 8, 9 a 10, yn cael eu rhoi gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Iawn, felly byddwn yn eu trafod ar wahân.
Felly, byddwn yn ymdrin ag eitem 8 yn gyntaf. A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y cynnig o dan eitem 8, os gwelwch yn dda?
Cynnig NDM6640 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig o dan eitem 8, sy'n ymwneud â'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae'r set gyntaf o reoliadau yn gosod y cyfraddau gwarediadau safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi, a fyddant, yn amodol ar y ddadl heddiw, yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill yma yng Nghymru.
Mae'r ail set o reoliadau yn pennu bandiau treth a chyfraddau canran treth ar gyfer treth trafodiadau tir. O ran treth gwarediadau tirlenwi, ac yn unol â'm cyhoeddiad ym mis Hydref, bydd y cyfraddau safonol ac is o dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau'n gyson â threth y DU am y ddwy flynedd nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym ni mor eglur sydd ei angen arnynt.
Mae'r rheoliadau hefyd yn sefydlu'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig, sydd wedi ei bennu ar 150 y cant o'r gyfradd safonol. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i bennu cyfradd uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig, sy'n adlewyrchu'r gost ychwanegol ynghlwm wrth ymdrin â gwaredu anghyfreithlon a'r ffaith nad yw y bobl hynny sy'n cael gwared ar wastraff tirlenwi yn anghyfreithlon yn cyfrannu at y costau o redeg safle tirlenwi dilys. Bydd hefyd yn gosod dirwy ariannol am osgoi rhwymedigaethau amgylcheddol a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.
Cyflwynais y bandiau arfaethedig hyn yn gynharach yn y broses o lunio cyllideb. Maen nhw yma heb eu newid o flaen y Cynulliad y prynhawn yma, a gobeithiaf y bydd Aelodau yn teimlo'n fodlon eu cefnogi.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, rwy’n parchu’r ffaith bod y Cynulliad yn gallu penderfynu ei hun sut i ymdrin â gwahanol reoliadau yma, ond nid wyf ond yn bwriadu siarad unwaith wrth drafod yr hyn sydd gerbron.
A gaf i, yn gyntaf oll, jyst nodi’r ffaith bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn bresennol, fel sydd wedi’i grybwyll eisoes, heddiw yn y Cynulliad? Rwy’n gobeithio bod Aelodau wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â’r awdurdod—cwrdd ag aelodau’r awdurdod. Rydym ni yn y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at gydweithio â’r awdurdod ar y trethi newydd yma a’r ffordd y maen nhw’n cael eu gweithredu yng Nghymru.
Roedd hi’n dda gennyf i glywed heddiw, o dan y rheoliadau yr ydym ni’n eu trafod, fod y cofnod cyntaf wedi cael ei wneud yn swyddogol gan Awdurdod Cyllid Cymru o’r person cyntaf sydd wedi talu treth o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Felly, dyna'r person sydd wedi gwneud hanes—troednodyn, o leiaf, pwy bynnag yw’r cwmni hwnnw, yn hanes trethu yng Nghymru.
Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth osod y ddadl yn gynharach, dyma ni heddiw yn ymdrin â threthi am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad, yn sicr—y tro cyntaf am rai canrifoedd, rwy’n meddwl yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud. Mae hanes trethi yng Nghymru yn astrus iawn. Nid yw hi mor glir â dweud ein bod ni ddim wedi cael trethi ers 800 mlynedd. Yn sicr, roedd rhai o drethi’r tywysogion yn parhau ar ôl Llywelyn ein Llyw Olaf, ac yn sicr, hyd at ddyddiad y ddwy Ddeddf uno, roedd trethi’n cael eu gwneud yn lleol o dan yr hen gyfundrefn Gymreig. Felly, nid yw'n gwbl newydd inni drethu yng Nghymru, ond mae trethi wedi newid—nid oes doubt am hynny.
Rydym ni’n sôn heddiw am y dreth tirlenwi, a byddwn ni’n sôn yn y man am y dreth trafodion tir—ddim cweit y dreth ar wartheg a oedd gan yr hen Llywelyn, efallai, neu dreth yn lle gwasanaeth milwrol, neu'r dreth hyfryd gwestfa, sef casglu bwyd tuag at y brenin. Yr Arglwydd Rhys, nid tywysogion y gogledd, ond yr Arglwydd Rhys, a wnaeth droi gwestfa yn daliad ariannol yn hytrach na thaliad bwyd, a'i alw fe'n 'twnc'. Felly, os ydych chi am gyflwyno treth newydd, dyma enw i'ch treth newydd i chi: twnc. Talu teyrnged, wrth gwrs, yw twnc, ond enw da am dreth yw twnc.
Felly, mae yna hanes yng Nghymru o drethu; hanes a ddiddymwyd, wrth gwrs, gyda'r goresgyniad, ac a ddiddymwyd yn benodol gyda'r ddwy Ddeddf uno. Ond, yn y cyfnod ar ôl i ni golli ein tywysogion ein hunain—wel, brenhinoedd oedden nhw; roedden nhw'n cael eu galw'n dywysogion gan y brenhinoedd Saesneg, er mwyn gwneud gwahaniaeth, wrth gwrs, ond roedden nhw'n frenhinoedd mewn gwirionedd. Ar ôl colli ein pendefigion union ein hunain, roeddem ni'n dibynnu ar Senedd San Steffan i drethu yng Nghymru. Nid oedd modd am gyfnod hir iawn i San Steffan drethu yng Nghymru, achos nid oedd Aelodau Seneddol yn cael eu hethol, wrth gwrs, o Gymru i fynd i San Steffan er mwyn gwneud yr awdurdodaeth honno. Dim ond ar ôl yr ail Ddeddf uno, a dweud y gwir, y cawsom ni drethi yng Nghymru go iawn am y tro cyntaf, wedi'u mynnu gan y brenin, a hynny oedd sybsidi y brenin. Ar y pryd hwnnw, roedd hawl gan y brenin i godi sybsidi ar Gymru. A byth ers hynny, rydym ni wedi bod o dan y drefn trethu sydd yn deillio o San Steffan yn hytrach na'r fan hyn, a dyma ni yn dechrau tynnu'r grym yn ôl, tynnu'r rheolaeth yn ôl, hawlio rheolaeth eto, a pheth o'r grymoedd dros drethi yng Nghymru.
Wrth gwrs, dim ond dwy dreth sydd o dan ystyriaeth y prynhawn yma. Mae treth incwm yn mynd i ddod. Efallai y bydd mwy o ddadlau a mwy o anghytuno pan ddown ni at drethi incwm, ond mae'n bwysig i nodi, rydw i'n meddwl, fod hanes yn cael ei gwneud y prynhawn yma, yn y Siambr yma, gan ein bod ni'n gosod cyfraddau treth am y tro cyntaf—ac nid 3c y pen, fel yr oedd hi ar gyfer yr hen wartheg, ond rhywbeth llawer mwy sylweddol yn ôl y trethi tirlenwi a'r trethi trafodion tir, does bosib.
Hoffwn i hefyd droi at waith mwy priodol y Pwyllgor Cyllid, efallai, a jest atgoffa Aelodau ein bod ni'n gosod treth ac yn pleidleisio y prynhawn yma mewn ffordd wahanol i'r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Mae'r ddwy dreth sydd yn ein galluogi ni i drethu yn fan hyn yn rhoi hawl i Lywodraeth, y tro nesaf, i gyflwyno trethi ar y diwrnod, os oes angen, a bydd y trethi yn dod mewn dros nos, a bydd hyd at 28 diwrnod gan y Cynulliad wedyn i fwrw pleidlais ar y trethi yna. Os yw'r Cynulliad yn anghytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth, wrth gwrs, ac Awdurdod Cyllid Cymru dalu nôl y trethi, gan fod y Cynulliad wedi anghytuno â bwriad y Llywodraeth. Felly, rydw i'n nodi hefyd eich bod chi'n pleidleisio mewn ffordd wahanol y tro yma nag, efallai, y tro nesaf, gan ddibynnu, wrth gwrs, ar yr union drefn y bydd y Llywodraeth yn dymuno ei defnyddio. Felly, mae'r dull pleidleisio am newid yn y dyfodol.
Gan fod fy nghyfaill Adam Price, sydd yn llefarydd Plaid Cymru, wedi cael ei ddwyn ymaith gan y busnes Hywel Dda, am ryw reswm, yn ystod y trafodion yma, byddwn i jest yn rhoi ar gofnod fod Plaid Cymru am gefnogi'r cyfraddau treth heddiw. Mae'n sicr y cawn ni fwy o drafodaeth gyda threth incwm, a mwy o drafodaeth ac anghytuno ar draws y Siambr, efallai, ynghylch treth incwm. Ond un peth sydd yn sicr: rydym ni'n gosod hanes yma heddiw, ac rydym ni'n gosod cywair newydd yn atebolrwydd unrhyw Lywodraeth i'r bobl, gan ein bod ni'n nawr yn trafod nid yn unig gwario arian yng Nghymru, ond codi arian yng Nghymru.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch. Yn anffodus, mae cylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn rhoi llai o gyfle i adrodd hanes huawdl o'r fath, ond byddaf yn gwneud fy ngorau.
O ran Rheoliadau'r Dreth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018, ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr offerynnau hyn yn ein cyfarfod ar 22 Ionawr. Fe wnaethom ni grybwyll tri phwynt rhagoriaeth a nodwyd dan Reol Sefydlog 21.3. At ddibenion y ddadl hon rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y trydydd pwynt y nododd y Pwyllgor, sy'n ymwneud â hygyrchedd a thryloywder y rheoliadau hyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r prif fandiau treth a chyfraddau treth canran ar gyfer y dreth trafodiadau tir fel y'i cyflwynwyd gan y Dreth Trafodiadau Tir a Deddf Gwrthweithio Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae'r bandiau treth hyn yn newydd i Gymru. Maen nhw'n arbennig o bwysig i'r cyhoedd gan fod y rheoliadau hyn yn cael effaith ar drafodiadau trethadwy megis trafodiadau eiddo preswyl a chydnabyddiaethau trethadwy, gan gynnwys rhent o 1 Ebrill 2018. Nid yw'r term 'Band cyfradd sero NRL' yn cael ei ddiffinio yn yr Atodlen. Mae'r Pwyllgor yn credu os oes rhywbeth bach y gellir ei wneud i helpu darllenwyr i ddeall deddfwriaeth—gan gynnwys rhywbeth mor syml â chynnwys troednodyn yn y rheoliadau hyn i roi eglurhad o'r term a ddefnyddir—yna dylid gwneud hynny bob amser.
Rydym ni'n cydnabod y rhoddir eglurhad ynglŷn â'r term yn y Ddeddf. Fodd bynnag, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn synnu at yr ystod o ymholiadau a gaiff y Pwyllgor gan aelodau o'r cyhoedd sydd wedi camddeall ystyr a defnydd y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad yn ymdrin â hi. Ond eto, efallai nad ydyw. Mae hyn yr un mor wir am gyfreithwyr sy'n darparu gwasanaethau i gleientiaid sy'n darganfod anawsterau yn ymwneud â diffiniadau gan nad yw pawb yn arbenigwr treth. Rydym yn disgwyl y bydd materion ynglŷn ag eglurder yn codi'n rheolaidd wrth i'r pwyllgor barhau i graffu ar offerynnau sy'n gysylltiedig â threthi. O ystyried eu pwysigrwydd i ddinasyddion Cymru, bydd y pwyllgor yn parhau i adrodd lle mae'n credu y gellid gwneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch a haws i'w darllen.
Rwyf wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol o'n pryderon ac y byddem yn disgwyl i'r mater hwn gael ei ystyried yn rhan o'r gwaith o ddatblygu unrhyw Fil dehongli i Gymru yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, dywedais wrthych na fyddwn yn siomi.
Wnaethoch chi ddim siomi, Mick, naddo. Gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig hwn yma heddiw a'r rheoliadau hyn? Rwy'n falch bod Jane Hutt wedi sôn am y Siarter ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'n ymddangos fel peth amser yn ôl bellach y cynigiais gyntaf un o'r gwelliannau sydd wedi arwain at greu'r Siarter. Yn gyntaf roedd y freuddwyd, bellach ceir y gwirionedd. Mae'n dda gweld bod hynny'n addas ar gyfer cyd-destun Cymru hefyd; nid dim ond copi carbon o Siarter Cyllid a Thollau EM ydyw, nad oeddem ni, er ei fod yn eu gwasanaethu nhw'n iawn, yn teimlo yn y Pwyllgor ei fod yn addas ar gyfer cyd-destun Cymru.
Dyma, mewn sawl ffordd, bennod olaf y broses hir hon y mae'r Llywodraeth a'r Pwyllgor Cyllid wedi cymryd rhan ynddi. Mae'n ymddangos fel oes, ychydig flynyddoedd bellach mae'n debyg—a hirach, yn mynd yn ôl i'r Cynulliad diwethaf. Rwy'n falch ein bod o'r diwedd yn pennu cyfraddau a bandiau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio bod galwadau gan rai yn ystod y broses gyllid—wel, gennyf i a Mark Reckless yn bennaf—i'r cyfraddau a'r bandiau fod yn fwy eglur ar wyneb y Bil. Wel, nid oedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â hynny, a dyna'r gorffennol erbyn hyn. Daethom i gyfaddawd o gael y cyfraddau a'r bandiau wedi'u datgelu tuag at ddiwedd y broses, a bellach mae gennym y rheoliadau hyn ger ein bron, felly mae hynny i'w groesawu.
Mae llawer o'r pwyntiau yr oeddwn i am eu gofyn wedi eu trafod, ond gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o ran y broses nawr, hyd at gychwyn trethi Cymru ar 1 Ebrill—? Credaf ichi gwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, ac, fel y deallaf i, ni ellir cychwyn y trethi newydd yng Nghymru tan fydd trethi'r DU yn cael eu diffodd, am resymau amlwg. Rwy'n credu bod angen Gorchymyn ar hynny yn San Steffan. A allwch chi egluro sut y mae'r broses honno yn mynd i weithio?
Ac, o'ch trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a ydych chi'n ffyddiog—? Wel, yn gyntaf oll, ydych chi'n cael digon o gydweithrediad gan y swyddogion yn San Steffan, ac a ydych chi'n hyderus bod y broses yn mynd i fod yn ddigon esmwyth fel y bydd, dros nos, neu pryd bynnag y bydd—credaf y bydd dros nos, cyn 1 Ebrill—y dreth gwarediadau tirlenwi newydd a'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru, y trethi cyntaf mewn 800 mlynedd neu pa gyn hired bynnag ydyw, yn dod i fodolaeth fel y rhagwelwyd yn wreiddiol?
A siarad yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn ei wneud yn y Rheoliadau hyn. Rwy'n cefnogi datganoli trethi i Gymru oherwydd rwy'n ei weld fel un ffordd y gallwn wneud Cymru'n fwy cystadleuol a deniadol i bobl ddod i fyw a gweithio yma. Os defnyddir y trethi mewn ffordd synhwyrol, gall helpu i roi hwb i faint economi Cymru a sail y dreth a ddaw yn ei sgil.
Wrth inni edrych ar y cyfraddau a'r bandiau y mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi'u dewis, a siarad yn gyffredinol, credaf fod hyn yn welliant. Bydd naw deg y cant o bobl naill ai yn talu'r un faint neu lai o dan fandiau a chyfraddau Cymru o'i gymharu â beth y bydden nhw'n ei wneud o dan fandiau'r DU, sy'n beth da iawn. Ond mae'r dreth stamp ei hun ar eiddo yn dreth wael iawn, a siarad yn gyffredinol, oherwydd, yn y bôn, mae'n dreth ar symud tŷ. Mae'n lleihau symudedd llafur ac yn y pen draw, mae'n golygu bod pobl yn cael eu carcharu yn eu tai eu hunain, pobl hŷn yn arbennig, i bob pwrpas, oherwydd nad ydyn nhw eisiau talu costau symud, sy'n beth drwg gan fod angen mwy o dai arnom ni ac mae angen inni feddiannu'r eiddo sydd gennym yn fwy dwys. Y dystiolaeth o Loegr yw y bydd cyfraddau'r dreth stamp ar eu lefelau presennol fwy na thebyg yn lleihau niferoedd y bobl sy'n symud o gwmpas gan gymaint â thraean. Wrth gwrs, mae prisiau eiddo Cymru lawer yn is nag yn Lloegr, felly mae'n bosibl y bydd y fantais gystadleuol hon yn cuddio rhai o'r nodweddion hyn. Rydyn ni'n disgwyl ychydig o ymchwydd eiddo yn y de-ddwyrain o ganlyniad i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren. Mae eiddo yma, ar yr ochr hon o afon Hafren, wrth gwrs, lawer llai nag ar yr ochr arall. Felly, mae'n debyg y bydd yn cynhyrchu arian annisgwyl ar gyfer Trysorlys Cymru, ac felly rwy'n deall yn llwyr pam y cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cyllid y bandiau cyfradd uwch. Ond, a siarad yn gyffredinol, rwyf o blaid trethi is nag yn Lloegr yng Nghymru, mewn termau absoliwt yn ogystal ag mewn termau cymharol.
Mae'n drueni, rwy'n credu, bod cyfraddau'r dreth stamp ar y lefelau uchel hyn yn debygol o atal yr economi yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd i raddau bach iawn, oherwydd nad oes gennym gymaint â hynny o eiddo yn lefelau uchel iawn y bandiau hyn. Mae pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru, rwy'n credu, yn £150,000, ac, ar gyfer y prynwr cyfartalog, byddan nhw'n talu £500 yn llai, rwy'n credu, dan y cyfraddau hyn, nag a fydden nhw fel arall. Felly, mae hynny'n beth da. Ond byddwn yn gwneud apêl ar gyfer y dyfodol, pan fo gennym drethi datganoledig, dylem eu defnyddio fel i ysgogi gwelliannau yn yr economi i annog pobl i ddod i Gymru, oherwydd dyma ran dlotaf y Deyrnas Unedig ac mae angen pob cymorth y gallwn ei gael o'r system dreth i geisio cywiro'r problemau a etifeddwyd o'r gorffennol.
Dylwn ddweud, er ein bod wedi galw am raniad ar hyn, mae hynny dim fel y gallwn ymatal, fel bod—. Oherwydd rwyf o blaid y gostyngiadau mewn gosod, ond rydym ni yn erbyn y cynnydd. Ond nid ydym yn gweld, ar y cyfan, bod hyn yn beth drwg ac, felly, rydym ni'n mynd i ymatal yn hytrach na phleidleisio yn erbyn y cynigion.
Diolch. A gaf i yn awr alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan ein bod yn trafod y tair gyfres o reoliadau ar wahân, gyda'ch caniatâd, byddaf yn ymateb i'r pwyntiau cyffredinol a godwyd yn y ddadl, ac yna byddaf yn dweud rhywbeth yn benodol ar y set hon o reoliadau.
So, a gaf i ddechrau drwy ddweud gair o ddiolch i Simon Thomas? Pan ydym ni'n gwneud rhywbeth am y tro cyntaf, mae'n wych i gael y cyd-destun hanesyddol o'n blaenau ni, ac rydw i'n diolch am beth a ddywedodd ef am gefnogaeth Plaid Cymru yn y bleidlais y prynhawn yma.
Cododd Mick Antoniw y pwynt adrodd y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i godi. Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud fy mod yn deall yn iawn ac yn rhannu awydd y Pwyllgor i wneud ein deddfwriaeth mor glir a hygyrch â phosibl? Ond nid oeddwn yn teimlo y gallem ni wyro oddi wrth dull sefydledig Llywodraeth Cymru ar achlysur untro. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, fodd bynnag, yw canlyn yr ymgynghoriad diweddar ar y posibilrwydd o ddatblygu Deddf ddehongli ar gyfer Cymru ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi clywed y sylwadau a wnaed yma y prynhawn yma a gwn, pan fydd yn ystyried sut mae Deddf 1978 yn gweithredu a'r camau y gellir eu cymryd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, bydd yn ystyried yn uniongyrchol y pwynt a wnaed gan y Pwyllgor ynghylch y rheoliadau hyn.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei bwyntiau pellach, am y gwaith a wnaeth ar y Siarter? Bydd ei gymydog ar ei ochr chwith yn falch o wybod bod Jocelyn Davies yn benodol iawn wedi dweud wrthyf fod y Siarter yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, ei bod yn darparu ar gyfer perthynas nid darparwr a'r defnyddiwr, ond ceisio gweld Awdurdod Cyllid Cymru fel sefydliad a fyddai yn ymwneud ar y cyd â'r bobl sy'n ei ddefnyddio yn y busnes o ddarparu gwasanaethau y byddan nhw'n dibynnu arnynt.
A gaf i ateb y pwyntiau a wnaed hefyd ynghylch y diffodd? Pan gyfarfûm â'r Prif Ysgrifennydd ddydd Gwener, roedd ein trafodaeth ar y mater hwn yn ganlyniad darn o waith sylweddol iawn a wnaed gan uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys, wnaeth brofi'r system yr ydym ni'n ei chynnig a pharodrwydd Cyllid a Thollau EM o gymharu â 24 o wahanol feini prawf i fodloni eu hunain y gallen nhw argymell i ni y gellid diffodd y system bresennol er mwyn caniatáu i'n trethi newydd ddod i rym. Bydd yn ofynnol i'r Prif Ysgrifennydd gyflwyno Gorchymyn yn y Senedd er mwyn diffodd y system bresennol. Dywedodd hi wrthyf i ddydd Gwener ei bod yn hapus i wneud hynny yn awr, ac rwy'n falch o ddweud bod y cydweithredu a gawsom ar lefel swyddogol, ac yn wir gyda'r Prif Ysgrifennydd, ar y mater hwn wedi bod yn gynhyrchiol iawn.
A gaf i droi felly, Dirprwy Lywydd, at fanylion y gyfres hon o reoliadau? Dywedais ynghylch y rhai blaenorol ar y dreth gwarediadau tirlenwi fy mod yn gallu cynnal y cynigion a wnaed ym mis Hydref hyd at heddiw; dyw hynny ddim yn wir ynghylch y dreth trafodiadau tir. Unwaith eto, dywedodd Nick Ramsay, yn ystod hynt y Bil, fod rhai a ddadleuodd yn gryf y dylai'r cyfraddau a'r bandiau fod wedi cael eu gosod ar wyneb y Bil. Un o'r rhesymau pam yr oeddwn yn amharod i dderbyn y dadleuon hynny oedd pryder, gyda digwyddiad cyllidol mawr ar lefel y DU yn ystod yr amser y byddai'r rheoliadau hyn yn cael eu trafod yng Nghymru, efallai y byddai'n rhaid i ni ddad-wneud gwaith y Ddeddf drwy gyflwyno rheoliadau newydd.
O ganlyniad i'r gyllideb, cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU, rwyf yn wir wedi cyhoeddi cyfraddau treth trafodiadau tir preswyl diwygiedig, gan newid y rhai a gyhoeddwyd ar ddechrau mis Hydref. Beth yr ydym yn gallu ei wneud nawr, a beth a adlewyrchir yn y Rheoliadau o'ch blaen chi, yw cynyddu trothwy cychwyn ar gyfer prif gyfraddau preswyl i £180,000, ac wrth wneud hynny mae'n gwneud gostyngiad yn y dreth yn bosibl ar gyfer dros 24,000 o brynwyr cartrefi yng Nghymru o'i gymharu â beth y bydden nhw wedi bod yn ei dalu o dan dreth dir y dreth stamp, a heb y cymhlethdod ychwanegol o ryddhad newydd fel yn Lloegr.
Dyma o bell ffordd y trothwy uchaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac yn £55,000 yn gyfan gwbl uwch na threth dir y dreth stamp. Mae hyn yn golygu, fel y mae Neil Hamilton wedi dweud, y bydd y prynwr cartref cyfartalog yng Nghymru yn cael toriad treth o dros £500. At hynny, bydd tua 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru ddim yn talu unrhyw dreth. Mae hyn yr un gyfran ag a fydd yn talu dim treth o dan y rhyddhad ardrethi prynwr tro cyntaf yn Lloegr, ond mae'r newidiadau yma hefyd yn rhoi budd yn yr un modd i ddinasyddion sydd dan bwysau sy'n ceisio prynu cartref fforddiadwy.
Ar gyfer trafodion masnachol, bydd gan Gymru y gyfradd gychwyn isaf o dreth i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau un ai yn talu dim treth neu lai o dreth nag o dan dreth dir y dreth stamp ar gyfer pob eiddo a brynir hyd at £1.1 miliwn. Bydd hyn o fudd i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru.
Ar gyfer cyfraddau preswyl a dibreswyl, rwyf wedi cynyddu cynyddolder y dreth. Mae hyn yn golygu y bydd rhai sy'n prynu'r eiddo drutaf yng Nghymru yn talu mwy, ond mae'n iawn bod y rhai sy'n gallu fforddio talu mwy yn gwneud hynny. Serch hynny, bydd trafodion naw o bob 10 yng Nghymru yn talu llai neu yr un dreth nag o dan y dreth trafodiadau tir, a byddwn wedi gweithredu i wneud y dreth hon yn addas i anghenion Cymru ac i'w gwneud yn decach i bobl sy'n byw yma. Unwaith eto, gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn fodlon cefnogi'r rheoliadau hynny.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, byddwn yn pleidleisio ar eitem 8 yn ystod amser pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn yn awr i drafod y rheoliadau dan eitem 9 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018. A gaf i alw ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i gynnig y cynnig hwnnw, os gwelwch yn dda?
Cynnig NDM6638 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r gyfres derfynol hon o reoliadau yn pennu swm y rhent perthnasol dan Atodlen 6 i'r Ddeddf Treth Trafodiadau Tir. Defnyddir y rheoliadau hyn i ysgogi rheol atal osgoi yn yr Atodlen honno. Ei bwriad yw cynyddu tegwch drwy atal trethdalwyr rhag gallu elwa ar ddau drothwy â chyfradd o ddim a fyddai fel arall yn berthnasol i'r rhent a'r premiwm mewn trafodiadau lesddaliad. Mae pennu swm y rhent perthnasol ar £9,000, fodd bynnag, yn sicrhau hefyd na chaiff baich treth diangen ei greu ar gyfer y rhai sy'n talu swm bach o rent blynyddol ar eu trafodiadau di-breswyl.
Mae'r gyfres hon o reoliadau yn amddiffyn trethdalwyr Cymru rhag yr hyn a allai fel arall fod yn allu i osgoi talu treth, ond mae'n ei bennu mewn ffordd gymesur sy'n sicrhau bod y rhai sydd wedi'u cofnodi ac sydd â baich diangen wedi'u gosod arnyn nhw heb eu cynnwys yn y rheoliadau ger eich bron.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, i siarad?
Na, cyfeiriaf at y datganiad a wneuthum yn gynharach.
Iawn, diolch yn fawr iawn. Nick Ramsay. Na. Neil Hamilton. Na. Diolch. Wel, does dim byd i ymateb iddo os nad ydych chi'n dymuno ychwanegu rhywbeth ymhellach, Ysgrifennydd y Cabinet.
Dim diolch.
Diolch. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir eitem 9, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn yn awr at eitem 10 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodol o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018.
Cynnig NDM6641 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. A oes unrhyw Aelod yn dymuno siarad? Na. [Torri ar draws.] Ie, gallwch i gyd siarad yn ffurfiol os hoffech chi. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, felly awn yn awr at y cyfnod pleidleisio.
Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 50, tri yn ymatal, dim yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
NDM6637 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidleisio ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir a Deddf Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 50, tri yn ymatal, dim yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
NDM6639 - Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidleisio ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig—. Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi cael yr un anghywir. Mae'n flin gen i. Nid wyf yn synnu. Rwy'n cymysgu fy safleoedd tirlenwi a fy nhrafodiadau tir—. Mae'n ddrwg gennyf, Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 ydyw. Rwy'n ymddiheuro. Felly, dim ond oherwydd fy mod wedi gwneud y camgymeriad, byddaf yn ei ddarllen unwaith eto. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 ydyw. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 50, tri yn ymatal, dim yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig hwnnw.
NDM6640 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:04.