Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A’r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Gwella Cysylltedd Rhyngwladol Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ba gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltedd rhyngwladol Cymru? (OAQ51151)

Mae cysylltedd rhyngwladol a gwerthu Cymru i’r byd yn thema allweddol a drafodir yn ein strategaeth genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’.

Diolch yn fawr am yr ateb cynhwysfawr yna. Nawr, yn naturiol, mae Maes Awyr Caerdydd, wrth gwrs, yn hynod bwysig yn ein hymdrechion i gysylltu Cymru efo gweddill y byd. Tra bydd Qatar Airways yn dechrau gwasanaethu gwasanaeth uniongyrchol newydd i Doha y flwyddyn nesaf, mae yna brinder gwasanaethau i leoliadau allweddol eraill o bwys ar draws y byd—Gogledd America, er enghraifft. A fyddech chi felly yn fodlon cysidro creu cwmni hedfan cenedlaethol, dyweded ‘Ken Skates Airlines rhyngwladol’, neu fodel arall o gefnogaeth lywodraethol i lenwi’r bwlch sy’n bodoli oherwydd amharodrwydd y sector breifat i ddarparu’r gwasanaethau i’r lleoliadau pwysig yma?

A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a’i awgrym caredig, er y tybiaf fod fy nghyfenw, yn ôl pob tebyg, yn gweddu’n well i fath gwahanol o drafnidiaeth yn hytrach na hedfan? Mewn gwirionedd, hoffwn dalu teyrnged i’r tîm cyfan ym Maes Awyr Caerdydd am eu gwaith rhagorol ar hyrwyddo’r cyfleuster penodol hwnnw ac ar sefydlu llwybrau teithio newydd. Credaf y bydd y llwybr newydd uniongyrchol i Doha yn agor Cymru i’r byd. Credaf ein bod, yn y gorffennol, wedi edrych ar sefydlu cwmni hedfan cenedlaethol ac wedi dod i’r casgliad y gallai cost sefydlu cwmni o’r fath ein hatal rhag gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’n sicr yn rhywbeth rwy’n fwy na pharod i’w ystyried ymhellach. Credaf, fodd bynnag, ar yr un pryd, fod Maes Awyr Caerdydd eisoes yn gwneud gwaith ardderchog yn denu llwybrau teithio newydd a gweithredwyr newydd i’r cyfleuster, ac rwy’n gobeithio cael rhagor o newyddion ynglŷn â hynny yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy’n edrych ymlaen at deithio ar ‘Skates Air’. Credaf fod lle bach yn y farchnad i chi yno, Ken. [Chwerthin.] Rydych wedi fy nrysu nawr. Mae’n amlwg yn siomedig, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’r doll teithwyr awyr wedi’i datganoli i’r lle hwn, a chyn i chi ddweud, ‘Wel, eich Llywodraeth chi yw hi’, rwy’n ymwybodol o hynny, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli’r doll teithwyr awyr er mwyn sicrhau bod yr offeryn pwysig hwnnw gennym. A wnewch chi wneud yr un peth hefyd i sicrhau, pan fydd y dreth stamp yn cael ei datganoli inni, a threth tirlenwi a threth incwm, fod gennym offer economaidd hanfodol hefyd, megis y doll teithwyr awyr, i ni allu bwrw ati o ddifrif gyda’r gwaith o wella’r economi yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr ag ef?

Twf yr Economi Gig

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf yr economi gig yng Nghymru? (OAQ51143)

Mae ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’, yn nodi ein huchelgais ar gyfer economi sy’n darparu ffyniant i unigolion a ffyniant cenedlaethol, gan leihau anghydraddoldebau a thyfu cyfoeth a llesiant gyda’i gilydd, lle y gall pobl gyflawni eu huchelgeisiau a gwella’u llesiant, a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mater arferion gweithio modern a chwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â sut yr ydym yn strwythuro ein marchnad lafur yn hynod bwysig. Mae Chwarae Teg wedi nodi bod adolygiad Taylor, a chreu’r Comisiwn Gwaith Teg, yn helpu i newid natur y ddadl ynglŷn â gwaith a’n marchnad lafur sy’n newid yn gyson. Mae’n hanfodol nad ydym yn colli’r cyfle i sicrhau bod cyflogaeth ddiogel, hyblyg a chyflogau da ar gael i bawb. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen inni gasglu a chael mynediad at fwy o ddata ar yr economi gig yng Nghymru er mwyn sicrhau cymaint o fanteision â chyn lleied o anfanteision â phosibl i bobl Cymru?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud fy mod yn croesawu gwaith adolygiad Taylor, er nad ymddengys, wrth gwrs, fod yr argymhellion yn mynd yn ddigon pell o ran cryfhau’r broses o orfodi’r ddeddfwriaeth, sy’n angenrheidiol er mwyn atal gweithwyr ar gyflogau isel rhag cael eu hecsbloetio? O ran yr hyn a allai fod o fudd, a gwella data ar yr economi gig, er mwyn ein cynorthwyo i ddeall natur ac effaith hyn ar economi Cymru, credaf ei bod yn bwysig inni barhau i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a rhannau eraill o’r DU, i nodi’r ffyrdd gorau o gasglu’r data. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod swyddogion yn rhan o grŵp a sefydlwyd i edrych ar gwmpasu anghenion dadansoddol a dulliau o fesur yr economi gig, sy’n broblem ledled y DU, ond sydd ag arwyddocâd arbennig i ni yma yng Nghymru. Ac yn amlwg, o ystyried natur yr economi gig, gallai’r mewnwelediad a’r ffynonellau data newydd a fyddai ar gael drwy’r campws gwyddor data chwarae rôl bwysig iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae twf yr economi gig a’r cynnydd mewn arferion gweithio ansafonol wedi creu problemau i nifer sylweddol o weithwyr, ac wedi ymestyn amddiffyniadau presennol y farchnad lafur i’r eithaf. Mae hefyd yn broblem i gyflogwyr, sy’n cael trafferth gyda’r system reoleiddio a threthu hon, a gynlluniwyd ar gyfer cyflogaeth ffurfiol a dibynadwy. Sefydlwyd adolygiad Taylor, o dan arweiniad Matthew Taylor, cyn uwch-gynghorydd i Tony Blair, gan Lywodraeth y DU er mwyn edrych ar arferion cyflogaeth yn yr economi fodern, ac mae ei argymhellion yn destun ymgynghoriad. Pa astudiaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o adolygiad Taylor, ac a wnaiff ei ystyried wrth lunio hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yng Nghymru? Diolch.

Wel, credaf fy mod wedi ateb rhan helaeth o gwestiwn yr Aelod wrth ymateb i Jayne Bryant, drwy ddweud fy mod yn croesawu adolygiad Taylor. Fodd bynnag, credaf fod angen i Lywodraeth y DU ymateb yn gyflym i’r argymhellion yn awr. Ac fel y dywedais hefyd wrth yr Aelod, teimlaf nad yw’r argymhellion yn mynd mor bell ag y dylent. Fodd bynnag, credaf fod penderfyniad diweddar y Goruchaf Lys fod ffioedd tribiwnlys a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2013 yn anghyfreithlon yn gam cadarnhaol tuag at wella mynediad at gyfiawnder ar gyfer y rhai a fu’n ddarostyngedig i arferion cyflogaeth anghyfreithlon. Dylwn ddweud bod gwaith yng Nghymru, o ran caffael yn y sector cyhoeddus, ac o ran y gwaith a wnaed o dan arweiniad y Prif Weinidog, ar waith teg, yn bwysig yn fy marn i. Mae’n golygu ein bod ar y blaen i lawer o’r DU o ran sicrhau bod gennym arferion gwaith teg ar draws yr economi.

Mae gweithio yn yr economi gig yn gweddu i rai gweithwyr—mae bob amser wedi gweddu i rai gweithwyr, ac mae’n debyg y bydd bob amser yn gwneud hynny. Ond buaswn yn awgrymu nad yw’r mwyafrif yn dewis gweithio yn yr economi gig. Yr hyn y maent yn ei gael mewn gwirionedd yw diffyg sicrwydd swydd, diffyg gallu i gyllidebu. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ynglŷn â’r holl bethau hynny. Nododd Llywodraeth y DU mai’r broblem oedd gostyngiad mewn derbyniadau treth, a chawsom ddatganiad gan Philip Hammond yn ddiweddar a ddywedai ei fod yn mynd i addasu’r gyfundrefn drethu i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o drethu’r gweithwyr hyn. Yn bersonol, credaf eu bod yn anwybyddu’r broblem go iawn yn llwyr. Felly, pa sylwadau a wnaethoch i Ganghellor y Trysorlys mewn perthynas â chynyddu twf cyflogaeth ddiogel, yn hytrach na chanolbwyntio ar y derbyniadau treth?

Byddwn yn cytuno â’r Aelod y gall yr economi gig fod yn atyniadol i rai pobl. Ond i’r mwyafrif, credaf ei fod yn amgylchedd ansefydlog ac ansicr ar gyfer ennill bywoliaeth. Ac nid yw’r broblem i mi yn ymwneud yn gymaint â derbyniadau treth; mae hynny’n amlwg yn fater ar gyfer Trysorlys y DU. Mae’r broblem i mi yn ymwneud â’r effaith y mae’r economi gig yn ei chael ar lesiant ac iechyd meddwl cyfunol y genedl, ac iechyd yr economi yn gyffredinol. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn Llywodraeth Cymru fod angen inni gael cyflog byw priodol, fod angen inni arddel a gwella’r arferion cyflogaeth gorau, ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio’r broses o ymgorffori arferion cyflogaeth o fewn y siarter datblygu cynaliadwy ar draws yr economi. Ein safbwynt ni, sydd wedi’i gynnwys yn ‘Ffyniant i Bawb’, yw y dylem sicrhau bod cyfoeth, iechyd a llesiant ar gael i bawb yng Nghymru, ac y dylai mynediad at gyflogaeth fod ar sail cyflogaeth gynaliadwy a chyflogaeth sicr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith fy mod wedi crybwyll thema fy nghwestiwn sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon, gan y credaf ei fod yn sylfaenol bwysig os ydym am ehangu economi Cymru. Yn ddiweddar, clywsom y feirniadaeth ynglŷn â lefelau grantiau, yn hytrach na benthyciadau, y mae’r Llywodraeth wedi eu rhoi i gwmnïau ers 2010, ynghyd â’r honiadau ei bod wedi rhoi benthyciadau i gwmnïau a aeth i’r wal wedi hynny. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn y sector risg uchel wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â darparu’r arian hwn, boed ar ffurf grantiau neu fenthyciadau, gan ei bod yn ffaith ei bod yn ceisio llenwi’r bylchau lle y mae banciau’r stryd fawr wedi gwrthod cymryd rhan. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, er gwaethaf rhai problemau anochel, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn y sector busnes? Ac rwy’n addo peidio â sôn am gylchffordd Cymru yma.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru—busnesau sy’n darparu cyfleoedd gwaith i ddegau a channoedd o filoedd o bobl yn ein cymunedau? Mae ein cymorth ers 2011 wedi darparu gwaith i 185,000 o bobl. Yn nhymor y Cynulliad diwethaf, cafodd 150,000 o swyddi eu creu a’u cefnogi gennym drwy helpu busnesau i dyfu ac i ehangu. Ac mae’r Aelod yn nodi’r pwynt pwysig ynglŷn â methiant busnesau. Wel, credaf fy mod wedi dweud hyn yn y Siambr o’r blaen, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau eto gyda’r data, fod cyfran y cwmnïau a fethodd yn is ymhlith y rhai yr oeddem wedi eu cefnogi nag yn yr economi yn ei chyfanrwydd. Credaf fod hynny’n dangos, er y bu colledion ac er y bu methiannau, ar y cyfan, fod ein cefnogaeth wedi gweithredu fel galluogydd twf yn yr economi. Ac o ganlyniad i hynny, gallwn ddweud gyda rhywfaint o hyder bellach fod gennym gyfradd ddiweithdra isel a pharhaus sy’n llawer is na’r hyn a welsom yn y 1990au ac ar ddechrau’r 2000au, ac mae hynny o ganlyniad i fynd ar drywydd pob cyfle i dyfu’r economi a chreu swyddi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei sicrwydd. A gaf fi ofyn yn awr sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu sicrhau bod cyllid ar gael yn hwylus i fusnesau newydd, yn y sector arloesol yn arbennig, yn enwedig pan fydd bydd banc datblygu Cymru yn dechrau gweithredu?

Wel, mae’r Aelod yn creu darlun o’r rôl bwysig a fydd gan fanc datblygu Cymru yn bron â dyblu’r arian sydd ar gael i fentrau bach a chanolig eu maint. Rwy’n falch fy mod, yr wythnos hon, wedi cael y strategaeth leoli i’r banc allu gweithredu ym mhob rhan o Gymru, gan roi mynediad hawdd i’r holl fusnesau bach a chanolig eu maint. A chredaf hefyd y bydd rôl y rhaglen arloesi, Creu Sbarc, yn hollbwysig wrth sbarduno entrepreneuriaeth a arweinir gan arloesedd ar draws yr economi, gan ddod â gwahanol randdeiliaid ynghyd fel y gall pob un ohonom gydweithio i greu economi gref a arweinir gan arloesedd a thechnoleg ac sy’n seiliedig ar sylfeini cadarn.

Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei sicrwydd, ond dywedodd un o gynrychiolwyr Busnes Cymru wrth un o fy etholwyr sy’n chwilio am gyllid ar gyfer cynnyrch arloesol iawn gyda photensial masnachol anferth nad oedd y cynnyrch wedi’i ddatblygu’n ddigonol i’r cyllid gael ei roi. Go brin fod hyn i’w weld yn cyd-fynd â pholisi honedig y Llywodraeth i ymwneud â’r sector arloesi. A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi rhyw syniad inni ynglŷn â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth ‘arloesol’, o gofio, os yw’n arloesol, efallai na fydd wedi ei ddatblygu’n llawn?

Credaf ei bod yn bwysig fod y cynlluniau wedi cyrraedd pwynt lle y gellir eu gwireddu, a buaswn yn sicr yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â’r enghraifft benodol a nododd yr Aelod. Ceir ffurflenni cymorth gan Busnes Cymru, yn ogystal â thalebau arloesedd a allai fod yn berthnasol i’r achos penodol y sonia’r Aelod amdano, ond pe bai’n ysgrifennu ataf, rwy’n siŵr y gallwn ystyried hyn ymhellach. Yn gyffredinol, drwy ein cefnogaeth i fusnesau ac entrepreneuriaeth, drwy Busnes Cymru a thrwy fentrau megis Creu Sbarc, mae gennym bellach fusnesau mwy bywiog yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Mae’n rhaid bod hynny’n dda i’r economi, ond mae angen i ni sicrhau hefyd fod gennym economi ddynamig lle y mae gennym ddynameg gyson sy’n darparu mentrau newydd wrth i fentrau eraill ddod i ben.

Diolch, Llywydd. Yn wahanol i David Rowlands, ni allaf addo peidio â chrybwyll Cylchffordd Cymru. Ddydd Gwener, mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad hwn mewn perthynas â chyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd ar y prosiect hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi,

‘Mewn cysylltiad â’r adroddiad ar y prawf Person Cymwys a Phriodol, nid ydym wedi gallu ei gyhoeddi fel fersiwn lawn na chryno gan nad yw Michael Carrick wedi rhoi ei ganiatâd i’w gyhoeddi.’

A allwch ddweud wrthym pryd y cafodd copi o’r adroddiad hwn, naill ai fersiwn lawn neu grynodeb, ei anfon gyntaf i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd a’i brif weithredwyr, gyda chais am eu caniatâd i’w gyhoeddi?

Ie, hoffwn roi ymateb cynhwysfawr gyda’r amserlen i’r holl Aelodau heddiw. Rhoddwyd copi wedi’i olygu o adroddiad gwybodaeth gorfforaethol Grant Thornton, sef y prawf person cymwys a phriodol, i Michael Carrick ym mis Mai eleni. Yna, ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru ar 30 Mai, yn nodi ei sylw fod rhannau o’r adroddiad yn peri pryder iddo ef a’i gydweithwyr. Ar 1 Medi eleni, ysgrifennodd Michael Carrick, prif swyddog gweithredol Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, at Lywodraeth Cymru eto gan ddatgan, ac rwy’n dyfynnu, mewn perthynas â’r adroddiad gwybodaeth gorfforaethol—sef y prawf person cymwys a phriodol—a oedd yn canolbwyntio ar unigolion, y byddent yn pwysleisio na ddylid ei gyhoeddi.

Nawr, dywedais yn glir yn fy natganiad yr wythnos diwethaf mewn perthynas ag adroddiad y prawf person cymwys a phriodol nad ydym wedi gallu cyhoeddi naill ai fersiwn lawn neu grynodeb ohono gan nad yw Michael Carrick wedi cydsynio i’w gyhoeddi eto. Yn dilyn cyhoeddi’r dogfennau diwydrwydd dyladwy ddydd Gwener diwethaf, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Michael Carrick eto ar 6 Hydref gyda chopi pellach o’r adroddiad wedi’i olygu, gan ofyn eto a fyddai’n ystyried y mater a rhoi gwybod a fyddai’n fodlon i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r deunydd hwn. Gallaf rannu’r wybodaeth ganlynol gyda’r Aelod, ac yn wir, gyda’r holl Aelodau yn y Siambr hon: ymatebodd Martin Whitaker, prif weithredwr Cylchffordd Cymru, ddydd Llun 9 Hydref, gan ddweud yn glir fod, ‘Ein safbwynt ni heb newid o ran ein bod yn gwrthod rhoi unrhyw gydsyniad i ryddhau’r adroddiad.’ Dywedodd hefyd, ‘Mae ‘ni’ yn cyfeirio at Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, Aventa a’r holl unigolion y soniwyd amdanynt ac y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad.’

Diolch am yr adroddiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r cwmni yn y llythyr y cyfeiriodd ato yn anghytuno â’r hyn y mae newydd ei ddweud, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymateb maes o law. Maent yn mynnu na chawsant gopi wedi’i olygu o’r adroddiad tan 5.16 p.m. ar y nos Wener wedi i’r datganiad gael ei wneud i’r Cynulliad.

Gan ein bod yn trafod cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â Chylchffordd Cymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gwybodaeth gyfrinachol a gedwir gan eich adran a ddatgelwyd i’r ‘Western Mail’? A all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad bellach ynglŷn â’r ymchwiliad a gynhaliwyd i’r datgeliad answyddogol?

Nid yw’n fater rwy’n arwain arno; mater i’r Ysgrifennydd Parhaol ydyw, ac rwy’n siŵr y bydd yn cyflwyno ei holl sylwadau maes o law.

Ar 7 Gorffennaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrthyf mewn ateb ysgrifenedig nad oeddech yn credu bod gweision sifil yn gysylltiedig â datgelu’r wybodaeth hon, a chredaf fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi cadarnhau hynny bellach. Ar 14 Awst, fe ddywedoch wrthyf eich bod yn fodlon nad cynghorwyr arbennig oedd yn gyfrifol am ddatgelu’r wybodaeth hon. Nid yw hynny’n gadael llawer o bobl ar ôl i’w hamau, Ysgrifennydd y Cabinet, felly a gaf fi ofyn hyn yn syml: a ydych yn gwybod pwy ddatgelodd y wybodaeth?

Na, a beth am y cwmni ei hun? Buaswn yn dweud wrth yr Aelod fy mod yn cydnabod, o gofio’i ddiddordeb anarferol yn y mater hwn dros amser hir, ei fod wedi’i glwyfo’n bersonol gan y canlyniad, gan ei fod wedi mentro ei holl hygrededd ar y prosiect penodol hwn. Ac ar ôl cyflawni’r tro pedol mwyaf ers dechrau datganoli yr wythnos diwethaf, rydych wedi dinistrio eich hygrededd ar yr economi. Bythefnos yn ôl, roeddech yn ysgrifennu at arweinydd pob awdurdod lleol yn eu hannog i gefnogi’r cynllun penodol hwn—

[Yn parhau.]—i gefnogi’r cynllun hwn. Ac o fewn wythnos, roeddech wedi bwrw ati i ddweud, ‘Na, mae angen i’r rheolwyr newid, mae angen i’r cynllun newid, mae angen i’r system ariannu newid.’ Ar ôl troelli fel trobwll un wythnos, fe blygoch yn eich hanner fel jygarnot yr wythnos wedyn. Rwy’n golygu hyn pan ddywedaf: mae gennych lawer i’w gynnig i’r Cynulliad hwn ac nid oes unrhyw werth mewn dinistrio eich hygrededd eich hun yn y ffordd yr ydych newydd ei wneud. [Torri ar draws.]

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai teulu o bedwar o ogledd-orllewin Lloegr yn ystyried mynd ar wyliau naill ai i Fae Colwyn neu i Fae Morecambe, gyda’r gwestai a’r cyfleusterau’n debyg iawn o bosibl, a chydag un ohonynt yn codi treth dwristiaeth, pa leoliad y credwch y byddai’r teulu hwnnw’n ei ddewis?

Byddent yn dewis y lleoliad gorau, yn fy marn i, a’r lleoliad gorau yw Cymru.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn innau’n dweud ein bod wedi clywed y Prif Weinidog ddoe yn rhoi ei gefnogaeth i dreth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n ddigon posibl fod cyflwyno treth dwristiaeth yn cael yr effaith a ddymunir mewn gwledydd â threthi gwerthiant isel, ond yng Nghymru lle y mae’r gyfradd lawn o dreth ar werth yn cael ei chodi ar lety, ar brydau bwyd ac atyniadau, bydd treth dwristiaeth ychwanegol yn golygu bod ymwelwyr, i bob pwrpas, yn talu ddwywaith. Slofacia yw’r unig wlad arall yn Ewrop sy’n codi treth dwristiaeth heb fod ganddi gyfraddau TAW is ar gyfer busnesau llety. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych am inni ddilyn arweiniad Slofacia? A hefyd, mae eich cyd-Aelod, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn awyddus i annog newid ymddygiad drwy’r system drethi. Sut y credwch y byddai treth dwristiaeth yn newid ymddygiad?

Wel, yn gyntaf oll, os ystyriwn y gyfradd TAW ar hyn o bryd yma yng Nghymru, fe’i codir ar gyfradd o 20 y cant. Ym Mharis, codir TAW ar gyfradd o 10 y cant. Yn Berlin, fe’i codir ar gyfradd o 7 y cant. Yn Barcelona, fe’i codir ar gyfradd o 10 y cant. Buaswn yn annog y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi ymgyrch y Llywodraeth hon, sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser, rwy’n cydnabod, ond sydd wedi cael ei hanwybyddu yn Nhrysorlys y DU, i ostwng lefelau TAW. Y gwahaniaeth mawr rhwng ardoll leol a TAW yw y gellid cadw ardoll leol yn yr ardal honno er mwyn gwella’r lle y mae pobl yn dymuno ymweld ag ef. Mae’n ardoll leol a gynlluniwyd i wella’r cynnig twristiaeth. Mae TAW yn mynd i gyllid canolog yn Llundain ac nid yw bob amser yn mynd i’r ardaloedd o Gymru a Phrydain sydd angen eu gwella ar gyfer yr economi ymwelwyr.

Wel, tybed beth fyddai’r diwydiant twristiaeth yn ei wneud o’ch ateb. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw: pa waith ymgynghori a wnaethoch gyda’r diwydiant twristiaeth, neu yn wir, a ymgynghorodd eich cyd-Aelodau yn y Cabinet â chi o gwbl ynglŷn â hyn mewn gwirionedd? Mae’n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain wedi dweud y bydd treth dwristiaeth, ac rwy’n dyfynnu,

yn tanseilio cynaliadwyedd busnesau, buddsoddiad ac... ein cynlluniau cyflogaeth,

yn ogystal â

rhoi mantais annheg i’n cystadleuwyr yn Lloegr.

Mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain, Cynghrair Twristiaeth Cymru a MWT Cymru, a llawer o arbenigwyr eraill ar draws y diwydiant, wedi dweud y bydd y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth yn niweidio cystadleurwydd Cymru ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar ddiwydiant sydd eisoes yn talu TAW ar dwristiaeth ac sydd wedi gweld ardrethi busnes yn codi. Mae ymwelydd dydd â Chymru eisoes yn gwario £17 y pen yn llai nag yn yr Alban, £5 y pen yn llai nag ymwelwyr â Lloegr. Bydd treth dwristiaeth yn eu hatal hyd yn oed yn fwy rhag ymweld a gwario yma. Yn 2004, cynhaliwyd ymchwiliad gan Syr Michael Lyons a ddaeth i’r casgliad nad oedd sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi treth dwristiaeth. Roedd Llywodraeth Lafur y DU yn cytuno. Felly, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle yn awr i ddilyn cyngor y diwydiant a pheidio â chyflwyno treth dwristiaeth er mwyn darparu’r sicrwydd y mae’r diwydiant ei angen?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae wedi cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o effaith bosibl yr ardoll dwristiaeth. Nid yw wedi darparu dadansoddiad cynhwysfawr o’r manteision hyd yn hyn, fodd bynnag. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ac ystyried y cynnig penodol hwn, byddwn yn cynnal ymarfer ymgynghori yn awr a fydd yn cynnwys holl elfennau ymarfer casglu tystiolaeth. Mae angen inni nodi manteision posibl, ac wrth gwrs, canlyniadau posibl ardoll dwristiaeth, ac rwy’n ymrwymo i ymgysylltu’n llawn â’r sector er mwyn dadansoddi manteision posibl a chostau posibl y fenter benodol honno. Mae hon yn un o bedair sy’n cael eu hystyried. Bydd pob un o’r cynigion hynny’n cymryd amser i’w hasesu, ond rwy’n ymrwymo i weithio gyda’r sector.

Gyrru Economi Cymru Ymlaen

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i yrru economi Cymru ymlaen? (OAQ51162)

Gwnaf. Mae ‘Ffyniant i Bawb’ yn nodi ein camau gweithredu i dyfu ein heconomi a lledaenu cyfleoedd. Bydd y cynllun gweithredu economaidd a fydd yn cefnogi’r broses o gyflwyno ‘Ffyniant i Bawb’ yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Mae hynny’n newyddion ardderchog; mae pob un ohonom wedi bod yn edrych ymlaen at hynny gan fod mesurau cyni Llywodraeth y DU wedi golygu, ar lefel yr awdurdodau lleol, ein bod wedi gweld gostyngiad o 65 y cant yn yr arian mewn adrannau datblygu economaidd, a gostyngiad o 45 y cant mewn adrannau cynllunio. Oherwydd y gostyngiad enfawr hwnnw ar lefel yr awdurdodau lleol, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa gyfathrebu sydd wedi bod rhyngddo a llywodraeth leol ar lunio’r cynlluniau hynny, yn ogystal â’i gyfathrebu â’r sector preifat, sy’n mynd i fod yn allweddol wrth symud y model newydd hwn yn ei flaen.

Mae’r Aelod yn llygad ei lle y bydd partneriaethau yn hanfodol i sicrhau bod ein ffocws ar ddatblygu economaidd rhanbarthol sy’n seiliedig ar le yn llwyddiant. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod ag arweinwyr datblygu economaidd a swyddogion arweiniol o awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru i drafod y cynigion. Roeddwn hefyd yn falch o gyfarfod â Menter a Busnes yr wythnos diwethaf i drafod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio rhanbarthol. Heddiw, rwy’n falch o allu rhoi gwybod i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru’n penodi tri dirprwy gyfarwyddwr i arwain yn y rhanbarthau hynny. Bydd yn gwbl hanfodol fod pob awdurdod lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn rhanbarthol i wella darpariaeth datblygu economaidd yn eu hardal gyfunol. Byddwn ninnau yn chwarae ein rhan yn y broses honno hefyd drwy sicrhau bod dirprwy gyfarwyddwyr ac unedau rhanbarthol yn gweithredu ochr yn ochr ac ar y cyd â llywodraeth leol.

Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar gryfderau penodol pob un o’r rhanbarthau, yn ogystal â mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau rhanbarthol sydd wedi bodoli ers gormod o amser yng Nghymru. Credaf hefyd fod seilwaith ffisegol a digidol yn chwarae rhan allweddol wrth fynd ati i ddatblygu’r economi ar draws pob cymuned. Dyna pam rwy’n falch, yn benodol mewn perthynas â’r rhanbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli, ein bod yn bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer mannau lle y ceir problemau ar y seilwaith ffyrdd, fod darparu gwasanaeth TrawsCymru yn rhad ac am ddim ar benwythnosau yn hynod boblogaidd, a thrwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol, drwy’r fasnachfraint newydd ar gyfer Cymru a’r gororau, y byddwn yn gwella cysylltedd ledled Cymru ac yn yr ardal y mae’r Aelod yn ei chynrychioli—Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Un budd i’m rhanbarth i, wrth gwrs, yw bargen dinas-ranbarth bae Abertawe, a fydd yn dod â £1.3 biliwn i’r economi, os yw’n llwyddiant, a chredaf fod hynny’n fater o ddiddordeb i chi fel Ysgrifennydd yr economi, yn ogystal ag i’r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, wrth gwrs. Fel y llynedd, rydym wedi treulio sawl mis yn ceisio cynnull cyfarfod rhwng Aelodau’r Cynulliad a’r bwrdd gweithredu, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf a gweld sut y gallem helpu, fel Aelodau’r Cynulliad, ond clywsom yr wythnos diwethaf fod y trefniadau llywodraethu ar gyfer y fargen ddinesig yn dal i fod heb eu cwblhau eto. Cyn ein cyfarfod, a allwch gadarnhau erbyn pryd yr ydych chi a’r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol yn disgwyl i’r trefniadau llywodraethu hynny fod wedi eu cwblhau?

Cyn gynted â phosibl. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn a all Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol hefyd fod yn rhan o’r broses o ddylanwadu a chraffu ar waith y dinas-ranbarthau a’r rhanbarthau twf. Credaf fod yn rhaid i Aelodau etholedig yn y ddwy Senedd ac ar lefel leol gael lleisio eu barn yn deg ynglŷn â pha brosiectau a ddylai gymryd rhan fel rhan o’u bargeinion hwythau. O’n rhan ninnau, rydym yn pwyso’n galed i sicrhau bod pob un o’r bargeinion yn drawsnewidiol a’u bod yn buddsoddi mewn blaenoriaethau strategol sydd uwchlaw rhagfarnau plwyfol a sefydliadol, ac yn canolbwyntio ar economïau’r rhanbarthau yn y dyfodol, yn hytrach na buddiannau unigol.

Gwella’r Rhwydwaith Trafnidiaeth Gyhoeddus

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51161)

Rydym yn bwrw ymlaen gyda’n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau trenau drwy fasnachfraint nesaf Cymru a’r gororau, teithio llesol, buddsoddiadau yn ein rhwydwaith ffyrdd strategol a phrosiect metro de-ddwyrain Cymru, a fydd yn gatalydd ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru.

Mae’r Rhondda Fach yn fy etholaeth i yn ardal nad yw wedi cael gwasanaeth da o ran cysylltiadau trafnidiaeth. Mae ffordd osgoi yno sy’n dod i ben hanner ffordd i fyny’r cwm heb unrhyw gysylltiadau trên. Mae pobl, yn enwedig y rhai sy’n byw yn y cymunedau mwyaf gogleddol, yn teimlo’n ynysig ac wedi eu siomi. Mae’r teimlad hwnnw wedi’i waethygu gan y newyddion diweddar y gallent golli Canolfan Chwaraeon Rhondda Fach o ganlyniad i doriadau’r cyngor. Yn dilyn trafodaethau cyllidebol Plaid Cymru gyda’ch Llywodraeth Lafur, mae gennych gyfle bellach i ddechrau unioni’r cam. Rydym wedi mynnu y byddai’r posibilrwydd o ymestyn metro de Cymru i’r Rhondda Fach yn cael ei archwilio. Awgrymodd Coleg Prifysgol Llundain, mewn astudiaeth o’r enw ‘Transport and Poverty’, y gall trafnidiaeth gyhoeddus well effeithio’n gadarnhaol ar lefelau cynnyrch domestig gros. Mae hybu economi leol y Rhondda, rwy’n siŵr y cytunwch, yn rhywbeth sy’n fawr ei angen, felly a wnewch chi roi ymrwymiad i ni y byddwch yn edrych o ddifrif ar y mater hwn gyda’r bwriad o gyflwyno system drafnidiaeth ar gyfer pobl y Rhondda Fach sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Ein gweledigaeth ar gyfer y metro yn ne-ddwyrain Cymru yw cymunedau mwy cysylltiedig ledled y rhanbarth. Mae’n rhaid cynllunio’r metro mewn modd sy’n diwallu anghenion cymunedau’r Cymoedd yn gyntaf oll, gan ddod â swyddi gwell yn nes at gartrefi pobl. Byddaf yn ymrwymo i edrych ar y mater penodol y mae’r Aelod yn ei grybwyll. Mae cynllun y metro a chaffael y fasnachfraint yn golygu y dylem allu caniatáu ar gyfer gwasanaethau estynedig, ac edrychaf ymlaen at allu cynnig gwasanaethau newydd a mwy dibynadwy i gymunedau’r Cymoedd wrth i ni gyflwyno nid yn unig y fasnachfraint, ond yn benodol, gwasanaeth metro estynedig. Hefyd, hoffwn gynnig unrhyw gefnogaeth y byddai’r Aelod ei heisiau mewn perthynas â dyfodol y ganolfan chwaraeon a grybwyllwyd. Yn fy etholaeth i, mae gennyf enghraifft dda iawn o fenter gymdeithasol a ymgymerodd â’r gwaith o reoli canolfan gymunedol a chanolfan hamdden a oedd mewn perygl o gau, a buaswn yn hapus i rannu gwybodaeth a manylion cyswllt â’i chanolfan hamdden hi.

Yn ystod fy nghyfarfod—[Anghlywadwy.]—gyda darparwyr cludiant cymunedol yn Sir y Fflint, fe ddywedasant wrthyf eu bod wedi gwrthwynebu pwysau i ymgymryd â rhai llwybrau masnachol, a bod y cyngor wedyn wedi comisiynu cynlluniau peilot gan ddarparwyr masnachol nad oeddent yn teimlo y byddent yn hyfyw wedi i’r cynlluniau peilot ddod i ben. Dywedasant wrthyf hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grwpiau cludiant iechyd ym mhob rhanbarth o Gymru, ond nad oedd grŵp cludiant iechyd gogledd Cymru wedi cyfarfod ers mis Mai 2016, i edrych ar yr holl ddarpariaeth cludiant gofal iechyd yn y rhanbarth, ac nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ailgynnull y cyfarfodydd ar y pwynt hwnnw. Pa gamau a gymerwch i fynd i’r afael â’r pryderon hyn?

Rwy’n fwy na pharod i ailgynnull y grŵp cludiant iechyd cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y gall yr aelodau gyfarfod. Credaf ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn ymgynghori â chymaint o randdeiliaid â phosibl wrth i ni gynllunio’r fasnachfraint nesaf, a gwneud yn siŵr fod cymunedau ledled Cymru wedi eu cysylltu’n well. Felly, rwy’n ymrwymo i ailgynnull y grŵp hwnnw ar ran yr Aelod a chyda’r Aelod.

A gaf fi sôn am systemau trafnidiaeth gyhoeddus integredig? Mewn llawer gormod o ardaloedd, mae gennym fysiau ac mae gennym drenau, ond mae’r bws yn cyrraedd ar adeg wahanol i’r adeg y mae’r trên yn gadael, ac mae gennym sefyllfa hefyd lle y mae bysiau’n parcio gryn bellter i ffwrdd oddi wrth y trên. Yn fy etholaeth i er enghraifft, Dwyrain Abertawe, mae gennym orsaf Llansamlet, ond mae’r bws yn stopio ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd rownd y gornel ar ffordd arall. Beth y gellir ei wneud i wella’r cyfnewidfeydd trenau a bysiau fel y gall pobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eu taith gyfan, yn hytrach na’u rhoi mewn car yn gyntaf? A phan fyddwch yn eu rhoi mewn car yn gyntaf, mae perygl gwirioneddol, wedi iddynt fod yn gyrru am ryw hyd, y byddant yn dal ati i yrru.

Wel, mae angen gwneud tri pheth: (1) mae angen inni sicrhau bod cyfnewidfeydd yn cael eu cynllunio yn y ffordd gywir, ac rydym eisoes yn ymrwymo i wneud gwaith mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a fydd yn arwain at well cyfnewidfeydd. Er enghraifft, yn ddiweddar, cyhoeddais waith sydd ar y gweill yn Llan-wern. Yn Wrecsam ac yng Nglannau Dyfrdwy, ac ar draws rhanbarthau metro’r Cymoedd, rydym yn edrych ar ble y gall cyfnewidfeydd gynnig teithiau di-dor rhwng un math o drafnidiaeth a math arall. Ond mae’r gwaith arall sydd angen ei wneud yn ymwneud â thocynnau integredig, a thocynnau trwodd. Gellir cyflawni hynny drwy fod Trafnidiaeth Cymru yn arwain ar gaffael y fasnachfraint nesaf, ac o bosibl, yn ymgymryd â mwy o swyddogaethau yn y dyfodol. Mae’r trydydd maes gwaith sydd angen sylw yn ymwneud ag amserlenni gweithredwyr bysiau a threnau, a sicrhau nad oes yn rhaid i chi aros yn rhy hir cyn newid o un math o drafnidiaeth i fath arall.

Nawr, yn Ninas a Sir Abertawe, credaf fod cryn dipyn o waith eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â thrafnidiaeth integredig. Rydym wedi darparu £1.1 miliwn ar gyfer ffordd ddosbarthu’r Morfa, £453,000 ar gyfer y gwaith achos busnes ar gyfer gwelliannau seilwaith ar hyd Ffordd Fabian, £115,000, a groesawyd yn gynnes gan yr Aelod, fe wn, i ddatblygu’r cysyniad amlinellol ar gyfer metro de-orllewin Cymru, ac wrth gwrs, £65,000 ar gyfer cynllun cyswllt Kingsbridge. Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid sylweddol yr ydym wedi’i ddarparu drwy’r gronfa rhwydwaith trafnidiaeth lleol, gyda’r nod o sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy integredig ac o ansawdd gwell yn Abertawe ac yn y rhanbarth ehangach.

Nodi 300 Mlwyddiant Geni William Williams Pantycelyn

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni? (OAQ51142)[W]

Rwy’n falch dros ben fod y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal digwyddiad yma yn y Senedd ar 18 Hydref i ddathlu trichanmlwyddiant William Williams, ac y bydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan. Mae’r rhan fwyaf o’n dathliadau diwylliannol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth, ac rwy’n hapus i drafod cymorth posibl ar gyfer digwyddiadau eraill y gallai eraill fod eisiau eu cyflwyno.

Mae William Williams Pantycelyn yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Cymru. Nid oes yna ddim amheuaeth am hynny, nid yn unig oherwydd ei gyfraniad i’r diwygiad Methodistaidd a’r dros 900 o emynau a ysgrifennodd o, llawer ohonyn nhw ymysg y rhai mwyaf poblogaidd heddiw o hyd, ond mi wnaeth o gyfraniad enfawr tuag at ddatblygiad diwylliannol ac addysgol Cymru: moderneiddio’r iaith Gymraeg; un o’r cyntaf i ysgrifennu’n Gymraeg yn erbyn caethwasiaeth yn America; hefyd yn amlwg iawn yn mynnu y dylai merched gael yr un hawliau â dynion mewn priodas ac ati. Mi wnaeth Llywodraeth Cymru ymdrechion mawr ac ymgyrchoedd mawr, wrth gwrs, i goffáu canmlwyddiant geni Roald Dahl a Dylan Thomas, ac rydw i yn cymharu hynny, â phob parch, ac yn edrych arno fo mewn ffordd wahanol iawn i’r dathliad yma yn y Senedd, yn y Cynulliad, mewn partneriaeth â’r llyfrgell genedlaethol, gymaint ag yr ydw i’n croesawu’r digwyddiad hwnnw. Mae cynsail wedi cael ei osod drwy ddathliadau Roald Dahl a Dylan Thomas ar gyfer gwirioneddol ddathlu rhai o gewri ein cenedl ni. Mae 1,200 a mwy o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn am fuddsoddiad go iawn. A ydy Llywodraeth Cymru yn cytuno bod Pantycelyn hefyd yn haeddu gwirioneddol fuddsoddiad yn ei goffâd o ystyried ei ddylanwad o ar ddiwylliant a bywyd Cymru?

Ydw, a dyna pam fy mod yn ddigalon nad oes unrhyw sefydliad neu grŵp o unigolion, hyd yn hyn, wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda syniadau neu gynigion ar ffyrdd i gofio’r trichanmlwyddiant. Nawr, dylwn ddweud, yn wahanol i’r hyn a ddywedodd yr Aelod, nad ni a drefnodd y dathliadau ar gyfer Roald Dahl a Dylan Thomas; cawsant eu trefnu a’u cynnal gan bartneriaid. Fe fuddsoddom ni ynddynt, fe weithredom ni fel galluogwyr. A gaf fi annog yr Aelod, os yw’n ymwybodol o unrhyw fath o ddathliad neu deyrnged addas ar gyfer y trichanmlwyddiant, i’w cyflwyno, os gwelwch yn dda—? Fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro wrth yr Aelodau, mae croeso i chi gyflwyno’r cynlluniau hynny. Mae ein blynyddoedd thematig, ac eleni yw Blwyddyn y Chwedlau, wedi’u cynllunio i ddathlu pobl o Gymru, digwyddiadau yng Nghymru, a byddai’n hynod ddefnyddiol pe gallem gyflwyno syniadau mwy arloesol i ddathlu pobl a gorffennol Cymru.

Rwy’n falch iawn o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn curo ar ddrws agored o ran yr awydd i goffáu’r emynydd enwog iawn hwn o Gymru. A gaf fi awgrymu i chi y gallai cerflun yma ym Mae Caerdydd fod yn deyrnged addas i ddathlu’r arwr cenedlaethol hwn, ac ochr yn ochr ag ef, efallai, cerflun o Ann Griffiths, yr emynydd benywaidd enwog o Gymru, sydd hefyd yn gysylltiedig â hanes anghydffurfiaeth yma yng Nghymru? Credaf y byddai cerflun o’r ddeuawd anhygoel hon, sy’n ysbrydoliaeth ryfeddol hyd yn oed heddiw, yn deyrnged deilwng i’r ddau ohonynt. Ac wrth gwrs, gydag eleni’n drichanmlwyddiant, ni allaf feddwl am ffordd well o nodi’r achlysur arbennig hwn.

Wel, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Byddai’n wych cael cerflun o Ann Griffiths hefyd. Efallai fy mod yn anghywir, efallai y byddai’r Aelodau’n dymuno fy nghywiro, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gerflun o fenyw yng Nghymru, yn unman yn ein gwlad, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem resynnu ato’n fawr. Buaswn yn annog yr Aelod i siarad gyda fy swyddogion—fe drefnaf hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn nodi partner cyflawni a allai gyflawni hyn, ond buaswn yn fwy na pharod i ystyried ariannu cynnig o’r fath drwy’r un ffynhonnell ariannu ag a gynorthwyodd i ddathlu Dylan Thomas a Roald Dahl.

Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth

7. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynaliadwyedd wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â thrafnidiaeth? (OAQ51165)

Mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol yn fy holl benderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth, gan gynnwys ein buddsoddiad mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd metro de Cymru yn enghraifft dda o drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig, a bydd hefyd yn lasbrint ar gyfer dyfodol trafnidiaeth ledled Cymru.

Rwy’n cytuno y byddai metro de Cymru, yn wir, yn enghraifft dda o ddatblygu cynaliadwy. Yn anffodus, nid ydym wedi gallu dod o hyd i’r cyllid ar ei gyfer eto. Fe wyddoch am yr ohebiaeth â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ynglŷn â phwysigrwydd ystyried ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth bennu beth yn union yw datblygu cynaliadwy. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd ystyried pedair colofn llesiant a’r pum ffordd o weithio, a bod yn rhaid i bob penderfyniad wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Yng ngoleuni’r cynnig ar gyfer ffordd liniaru’r M4, a oedd wedi cael ei drafod ers blynyddoedd lawer, ymhell cyn Deddf cenedlaethau’r dyfodol, sut y mae Deddf newydd cenedlaethau’r dyfodol wedi newid eich ymagwedd at y cynnig hwn?

Wel, o ran Deddf cenedlaethau’r dyfodol, mae’n hynod o bwysig ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i’r ffyrdd o weithio a’r dyheadau sydd wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth honno. Gallaf roi sawl enghraifft i’r Aelod o’r modd yr ydym wedi ffurfio polisi a llunio darpariaeth yn sgil y Ddeddf. Er enghraifft, bydd strategaeth drafnidiaeth Cymru ar ei newydd wedd yn rhoi ystyriaeth lawn i Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, mae’r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru 17 yn cael ei lunio ar wyneb y Ddeddf ac mae wedi cael ei groesawu gan gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r teithio rhad ac am ddim ar benwythnosau ar rwydwaith TrawsCymru, a gynlluniwyd gyda’r bwriad o ymestyn a gwella argaeledd trafnidiaeth fel y gallwn sicrhau newid moddol oddi wrth geir. Mae hynny’n ymwneud â newid ymddygiad hirdymor drwy gynllun peilot tymor byr a fyddai’n sicrhau buddiannau sylweddol, a hyd yn hyn, mae’r canlyniadau wedi bod yn eithaf syfrdanol.

Rydym hefyd yn ystyried buddsoddi £100 miliwn, fel y gŵyr yr Aelod, mewn parc technoleg fodurol yng Nglynebwy, gyda ffocws arbennig ar gerbydau carbon isel, cerbydau cysylltiedig ac awtonomaidd a cherbydau deallus—unwaith eto gan ystyried cenedlaethau’r dyfodol. Ac rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar gadw canran o wariant y seilwaith ffyrdd ar brosiectau newydd yn benodol at ddibenion gwella teithio llesol.

Rwy’n cytuno â’r Aelod. Credaf fod defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd bwysig o asesu’r gwahanol opsiynau ger ein bron. Ymddengys i mi fod y tri llwybr i liniaru tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd yn cynnig eu hunain i ddull o’r fath, a byddai’r dadansoddiad cymharol hwnnw, gan fod angen inni wneud rhywbeth, yn ddefnyddiol iawn tu hwnt.

Yn hollol. Fel y dywedaf, ceir sawl enghraifft o sut yr ydym yn llunio polisi yng ngoleuni Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Ni allaf roi sylwadau ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r M4, gan fod gennym weithdrefnau statudol ar waith, ond rwy’n croesawu’r ffaith bod y comisiynydd yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â ffordd liniaru’r M4. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod pob rhanddeiliad a phob unigolyn yng Nghymru yn cael lleisio barn ar yr hyn sydd, rwy’n cydnabod, yn gynnig dadleuol, ond un y credwn ei fod yn angenrheidiol er mwyn rhyddhau economi de Cymru.

Busnesau Cymru

8. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gefnogi busnesau Cymru i fasnachu â’i gilydd? (OAQ51157)

Rydym yn cynorthwyo busnesau yng Nghymru i fasnachu gyda busnesau eraill yng Nghymru drwy ein gwasanaethau Busnes Cymru a GwerthwchiGymru. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cadwyni cyflenwi lle y gall busnesau yng Nghymru ddod o hyd i wahanol gyflenwyr, gan gynnwys busnesau eraill yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Er y bydd bob amser yn allweddol bwysig i swyddi yng Nghymru fod ein busnesau’n gallu cyflenwi i fusnesau tramor, er mwyn allforio a gwasanaethu cadwyni cyflenwi byd-eang, dylem hefyd, fel y dywedodd yn ei ateb, annog busnesau Cymru i fasnachu â’i gilydd a sicrhau’r gwerth economaidd mwyaf posibl yng Nghymru ac yn ein heconomïau rhanbarthol. Pa mor hyderus yw Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn deall pwy yw busnesau Cymru a’u gallu i gyflenwi i’w gilydd, neu’n bwysicach, fod y busnesau sy’n masnachu yn deall hynny eu hunain? Beth yw ei ymateb i alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach yr wythnos diwethaf i gynnal ymarfer i fapio cwmnïau sydd â’u pencadlys yng Nghymru, fel y gallwn gael darlun gwell o allu busnesau Cymru i fasnachu â’i gilydd, ac er mwyn nodi’r bylchau mewn cadwyni cyflenwi fel y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r busnesau hynny i’w llenwi, er budd cwmnïau Cymru, economi Cymru, a’r gweithlu yng Nghymru?

Wel, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i sylwadau, ac am gyfeirio at gyfraniad pwysig y Ffederasiwn Busnesau Bach yr wythnos diwethaf. Rwy’n falch o ddweud ein bod, heddiw, yn gallu cyhoeddi bod cwmni pwysig yn ne Cymru yn ehangu ymhellach: mae Talgarth Bakery ym Maesteg yn barod i symud i eiddo newydd o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru, a bydd hynny’n creu ac yn diogelu dwsinau o swyddi—enghraifft arall o sut y mae cymorth Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel galluogydd ar gyfer twf.

Nawr, mae egwyddorion cynyddu cydweithio a chysylltedd ar draws busnesau, y byd academaidd a rhanddeiliaid allweddol wedi cael eu hymgorffori yn rhwydwaith y cwmnïau angori a dylanwadwyr allweddol. Mae’r fenter hon wedi darparu map rhyngweithiol o ganolfannau arloesi ac wedi hwyluso cyfathrebu rhwng elfennau allweddol yn economi Cymru. Mae’r rhwydwaith hefyd yn gweithio’n agos gyda Creu Sbarc, cwmnïau angori a chwmnïau eraill sy’n ymrwymo i gryfhau entrepreneuriaeth arloesol yng Nghymru.

Credaf fod y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â Vauxhall Motors yn y gogledd a’r gadwyn gyflenwi fodurol yn ei chyfanrwydd yng ngogledd Cymru yn enghraifft ymarferol arall o sut yr ydym yn gweithio gyda chadwyni cyflenwi i gwmnïau haen 1, lle y gwyddom fod yna gyfleoedd ar gael, yn enwedig yr hyn a allai ddod yn lle’r Astra, o ystyried mai oddeutu 20 y cant yn unig o’r cynnyrch ar gyfer y cerbyd penodol hwnnw sy’n dod o’r rhanbarth ar hyn o bryd. Mae yna gyfleoedd aruthrol i’r gadwyn gyflenwi, a dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ar gryfhau’r gadwyn gyflenwi, nid yn unig yno, ond ledled Cymru, ar gyfer sectorau eraill hefyd.

Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, bu damwain ddifrifol ar yr M4, ac un o’r pethau, i fusnesau, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yw symud eu pobl a’u nwyddau o gwmpas ardal benodol, o gwmpas gwlad yn wir. Dros yr haf, bu’r tagfeydd ar yr M4 yn llythrennol arswydus, ac mae’r golled i ddiwydiant a’r golled i bob rhan o gymdeithas o ganlyniad i’r tagfeydd hynny wedi achosi problemau enfawr. Pa asesiad y mae eich adran wedi’i wneud o’r mesurau sydd ar waith, lle y bo’n addas, i gael eu defnyddio mewn modd amserol er mwyn i draffig allu symud eto’n gyflym, yn hytrach na gweld y tagfeydd 16 milltir a welsom ddoe? Rwy’n cydnabod bod yn rhaid i’r heddlu gynnal ymchwiliadau yn sgil marwolaethau neu anafiadau difrifol, ond mae’n rhaid sicrhau y gall Traffig Cymru ateb rhai o’r problemau hyn, o ran y ffordd y maent yn rheoli digwyddiadau ar y draffordd.

Mae’r Aelod yn nodi achos arbennig o drasig a ddigwyddodd ddoe. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cydymdeimlo â’r rhai a fu’n rhan o’r digwyddiad hwn. Roedd yr Aelod hefyd yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith mai’r gwasanaethau brys sy’n penderfynu faint o amser sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni’r gwaith. Serch hynny, credaf ei bod yn bwysig canolbwyntio ar wella cydnerthedd ein rhwydwaith cefnffyrdd yn gyson, ac ymateb cyn gynted â phosibl i ddigwyddiadau fel hyn. Byddaf yn cyhoeddi astudiaeth o gydnerthedd yr A55 y mis hwn, a fydd yn nodi systemau cyflawni cymharol hawdd a chymharol gyflym, gobeithio, a all wella cydnerthedd y gefnffordd honno, ac o bosibl, gellid eu defnyddio mewn mannau eraill wedyn.

Diddymu Tollau Pontydd Hafren

9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar y manteision datblygu economaidd a fydd yn llifo i dde-ddwyrain Cymru yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd yn diddymu tollau’r pontydd Hafren yn ystod 2018? (OAQ51158)

Rydym wedi cydnabod, ers peth amser, y manteision economaidd sylweddol a’r cyfleoedd i Gymru o ganlyniad i ddiddymu’r tollau. Byddai hyn yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru oddeutu £100 miliwn y flwyddyn.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem fuddsoddi mwy mewn rheilffyrdd yn ogystal â ffyrdd i hybu’r datblygiad economaidd hwnnw? Gan y bydd gorsafoedd newydd yn Llan-wern a Llaneirwg yn newid patrwm gwasanaethau’r brif reilffordd, a yw’n cytuno y gallai gorsaf newydd ym Magwyr ategu hyn? Gydag ymgyrchwyr yn cyfarfod â’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail yfory, a wnaiff ystyried darparu arian cyfatebol i’r £80,000 y maent hwy a Chyngor Sir Fynwy eisoes wedi’i i godi er mwyn cynnal asesiad cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd a datgloi buddsoddiad posibl gan Network Rail?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a chydnabod ei ddiddordeb cyson mewn diddymu tollau ar bont Hafren? Credaf ei fod wedi bod yn iawn i ymgyrchu dros ddiddymu’r tollau gan eu bod, wrth gwrs, wedi ein galluogi i gael mynediad di-dariff at farchnad sylweddol. Mae’n eithaf eironig, fodd bynnag, fod yr Aelod wedi ymgyrchu i sicrhau bod Prydain yn gadael marchnad ddi-dariff, sef marchnad sengl yr UE. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda phartneriaid dros y ffin i nodi’r manteision mwyaf posibl ar ôl diddymu’r tollau, o ran y rhwydwaith priffyrdd a’r rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae’r Aelod eisoes wedi nodi’r buddsoddiad yn Llan-wern. Rydym yn awyddus i wella gorsafoedd ledled Cymru, ond yn y pen draw mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i fwy na’r 1.5 y cant o’r cyllid a ddarparwyd yn y cyfnod rheoli presennol ar gyfer bron i 11 y cant o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru a Lloegr. Mae’n gwbl hanfodol fod yr Adran Drafnidiaeth yn gwrando ac yn cydymdeimlo gyda’r grŵp ymgyrchu o Fagwyr, a gwn fod grwpiau ymgyrchu eraill ledled Cymru a fyddai’n dymuno gweld gwelliannau i’r gwasanaeth a gwelliannau i’w seilwaith. Croesawaf unrhyw gyfle i gynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu cynigion i wella gorsafoedd. Yn wir, rwyf wedi cyfarfod â’r grŵp ymgyrchu a grybwyllodd yr Aelod. Rwy’n barod i gyfarfod â grwpiau ymgyrchu eraill. Ond yn y pen draw mae’n ymwneud ag un ffaith: nid oes gennym gyfrifoldeb na chyllid wedi’i ddatganoli ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd, a hyd nes y bydd hynny’n digwydd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu’r arian.

Credaf fod yr Aelod yn nodi mater pwysig yma. Mae’n peri pryder i mi ddarllen bod yr Adran Drafnidiaeth yn disgwyl y bydd diddymu’r doll yn cynyddu traffig rhwng 28 a 45 y cant dros y 10 mlynedd nesaf, ac mae’r arbedion o £1,400 y flwyddyn i gymudwyr yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn tyrru i Gaerdydd mewn ceir pan nad oes gennym atebion amgen ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes £1,400 wedi’i ddarparu i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau, ac rydym yn sôn am rywbeth a allai droi ein prifddinas yn hunllef mewn gwirionedd.

Ac am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio trafnidiaeth mewn modd cyfannol ac nad ydym yn ystyried dulliau trafnidiaeth ar eu pen eu hunain, ond fel rhan o becyn cyffredinol o ymatebion i fyd sy’n fwy a mwy symudol. Credaf mai’r ffigur, pe baem yn gosod capasiti’r metro ar ei uchaf—y ffigur uchaf y gallem gael gwared arno oddi ar yr M4 fyddai oddeutu 4 y cant o’r traffig presennol. Fe gywiraf fy hun os yw’r ffigur hwnnw’n anghywir. Ond y ffaith amdani yw bod angen inni sicrhau bod yr M4 yn addas at y diben wrth i’r tollau gael eu diddymu. Pan adeiladwyd yr M4, roedd yn ffordd osgoi yn hytrach na thraffordd. Mae angen gwneud gwaith brys arni. Ond rwy’n aros am ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol cyn gwneud penderfyniad.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Apwyntiadau i’r Goruchaf Llys

1. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith am apwyntiadau i’r Goruchaf Llys? (OAQ51164)[W]

Nid wyf yn bwriadu gwneud datganiadau am drafodaethau a gefais gyda swyddogion y gyfraith na datgelu cynnwys unrhyw drafodaethau o’r fath. Confensiwn sefydledig yw hwn a gynlluniwyd i ddiogelu cyfrinachedd y trafodaethau hynny a’r berthynas rhwng swyddogion y gyfraith.

Diolch am yr ateb arferol. Rwy’n gobeithio, fel yr Aelod dros Bontypridd, y byddwch chi’n gallu estyn gyda fi groeso a llongyfarchiadau i fachan o Bontypridd, David Lloyd Jones, ar ei apwyntiad i’r Goruchaf Lys—a’i fod wedi tyngu llw yn Gymraeg yn y Goruchaf Lys hefyd. Rwy’n credu eich bod chi wedi bod yno i weld hynny yn digwydd.

Dau beth sydd yn deillio o’r ffaith fod David Lloyd Jones bellach yn aelod o’r Goruchaf Lys. Yn gyntaf oll, ydy hyn yn ateb i’r cwestiwn a ddylai fod aelod parhaol o Gymru ar y Goruchaf Lys? Ar hyn o bryd, nid yw hynny wedi’i sicrhau i ni mewn Deddf nac mewn confensiwn, ond, wrth gwrs, mae wedi’i sicrhau mewn person erbyn hyn. Beth ydych chi’n ei wneud fel Cwnsler Cyffredinol i symud ymlaen i sicrhau hyn fel hawl? Achos yn fy marn i, dylai fod hawl gan Gymru i gael aelod o’r Goruchaf Lys.

Ac yn ail, roeddwn yn sylwi bod David Lloyd Jones, fel rhan o’r broses o gael ei apwyntio, wedi galw yn ddiweddar yn Abertawe am sefydlu sefydliad cyfraith Cymru, sefydliad a fyddai’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r gyfraith. A ydych chi wedi cael trafodaethau—efallai bod rhain yn drafodaethau rydych yn gallu datgan i’r Cynulliad—a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda David Lloyd Jones a phobl eraill ynglŷn a’r syniad yma?

Yn gyntaf, diolch yn fawr am eich cwestiwn, ac ydw, rwy’n croesawu penodiad David Lloyd Jones yn farnwr Cymreig cyntaf y Goruchaf Lys, a barnwr cyntaf y Goruchaf Lys i dyngu llw yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rwy’n arbennig o falch o’r ffaith ei fod yn ddinesydd a ddaw’n wreiddiol o Bontypridd, ac felly croesawaf y datblygiad yn fawr iawn. Mae’n sicr yn farnwr sy’n meddu ar enw da iawn, gwybodaeth sylweddol am gyfraith Cymru a materion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, ac mae’n cyflawni’r swyddogaeth honno, yn fy marn i, yn dda dros ben.

Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cyflwyno sylwadau dros y blynyddoedd ynglŷn â’r angen am farnwr Cymreig parhaol yn y Goruchaf Lys. Wrth ddweud ‘barnwr Cymreig’, mae’n debyg fod yn rhaid eich bod yn golygu barnwr sydd ag ymrwymiad i, a dealltwriaeth o, a gwybodaeth am, fuddiannau Cymru a phroses farnwrol a chyfreithiau Cymru.

Rwy’n ystyried hwn yn gam cyntaf. Yn fy marn i, credaf ein bod ar y ffordd at holl fater newid deddfwriaethol, a fydd, yn y pen draw, yn galw am farnwr parhaol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n gymhleth, fel y gwyddoch, oherwydd y ffordd y mae’r gyfraith yn bodoli mewn perthynas â chynrychioli pob rhan o’r DU—drwy gyfeirio at awdurdodaethau—ac rydym yn dal i fod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Ond fel y trafodwyd ar sawl achlysur, cafwyd newid sylweddol o ganlyniad i’r broses ddatganoli. Nid yw ein sylwadau wedi newid mewn perthynas â’r angen am farnwr parhaol ac am newid deddfwriaethol i gyflawni hynny. Ond credaf yn gryf ein bod hanner ffordd yno.

Ac oedd, roedd yn bleser gennyf fod yno i’w glywed yn tyngu llw, gan fod hwn yn achlysur symbolaidd, ond roedd hefyd yn achlysur symbolaidd Cymreig pwysig iawn, ac yn garreg filltir bwysig yn natblygiad awdurdodaeth Cymru a chyfraith Cymru.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

2. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o oblygiadau cyfansoddiadol y Confensiwn Sewel i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? (OAQ51159)

Mae confensiwn Sewel yn chwarae rhan allweddol yng ngweithrediad cyfansoddiad datganoledig y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y bydd angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i roi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar waith yn unol â’r confensiwn.

Felly, a fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi, pe baent yn ceisio tanseilio’r angen i ymgynghori â ni a chael ein cydsyniad i’r Bil hwn mewn perthynas â’r rhannau sy’n berthnasol i’r setliad datganoli, y gallai hynny achosi rhyw fath o argyfwng cyfansoddiadol i Gynulliad Cymru?

Mae eich pwynt yn un dilys iawn. Wrth gwrs, roedd mater confensiwn Sewel yn rhywbeth a gafodd ei ystyried gan y Goruchaf Lys yn ystod achos erthygl 50. Wrth gwrs, mae llawer o gyfansoddiad y DU, mewn gwirionedd, yn seiliedig ar gonfensiwn ac yn seiliedig i raddau helaeth ar gytundeb. Felly, y pwynt cyntaf y dylid ei wneud, mae’n debyg, yw ei bod yn anffodus ac yn siomedig iawn fod y Bil wedi cael ei gyflwyno heb unrhyw ymgysylltu neu ymgynghori priodol â Llywodraeth Cymru. Yn sicr, os mai’r bwriad yw cyflawni deddfwriaeth gyda chydsyniad y Llywodraethau datganoledig i fod yn rhan o’r broses ddeddfwriaethol, gallai ymgynghori ac ymgysylltu pellach fod wedi osgoi rhai o’r materion cyfansoddiadol difrifol sy’n codi yn awr yn fy marn i.

Yr hyn a ddywedodd y Goruchaf Lys oedd nad ydynt yn tanbrisio pwysigrwydd confensiynau cyfansoddiadol, gan fod rhai ohonynt yn chwarae rhan hanfodol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad. Mae gan Gonfensiwn Sewel rôl bwysig yn hwyluso perthynas gytûn rhwng Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig. Felly, mae Confensiwn Sewel yn hynod bwysig a byddai canlyniadau cyfansoddiadol difrifol iawn pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru hynny.

Y disgwyl a’r gobaith, fodd bynnag, yw y ceir cytundeb. Rydym yn cefnogi llawer o agweddau ar y Bil. Rydym yn cefnogi’r syniad o’r Bil er mwyn darparu eglurder a sicrwydd. Rydym yn sicr yn anghytuno, fodd bynnag, â’r modd y mae pwerau sy’n faterion wedi’u datganoli yn mynd i gael eu cymryd gan Lywodraeth y DU, a chael eu rhoi’n ôl i ni wedyn ar ryw adeg yn y dyfodol o bosibl—ac ar ba ffurf y bydd hynny’n digwydd mewn gwirionedd. I mi, mae hynny bron fel mygio cyfansoddiadol o ryw fath: rhywun sy’n eich mygio ar y stryd, yn dwyn eich waled, ond yn dweud, ‘Peidiwch â phoeni, byddaf yn ei rhoi’n ôl i chi wedyn.’ Nid dyna’r ffordd i fwrw ymlaen, a dyna pam yr ydym wedi nodi cyfres o welliannau ar y cyd â’r Alban i geisio unioni hynny, a gobeithiwn y bydd y gwelliannau hynny’n cael eu cefnogi ac yn cyflawni’r nod, gan ei bod yn ffordd o ddod i gytundeb, ac o allu rhoi cydsyniad y Llywodraethau datganoledig i’r ddeddfwriaeth wedyn.

A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod dyfarniad y Goruchaf Lys wedi mynd yn groes i’r safbwynt blaenorol, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, y Prif Weinidog? Fe’i cofiaf yn dweud wrthym yn y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, gan y byddai hynny’n rhwymo Sewel mewn statud, ac fel yr Alban, byddem yn elwa o gael y sail statudol honno o ran confensiwn Sewel. Onid y gwirionedd yw bod y Goruchaf Lys wedi dangos bod y safbwynt cyfreithiol hwnnw’n gamsyniad llwyr, ac nad oes mwy o rym i’r confensiwn hwnnw yn awr ei fod wedi’i rwymo mewn statud nag a oedd iddo o’r blaen?

Y pwynt cyntaf yw eich bod yn gwbl anghywir o ran y safbwynt a fabwysiadwyd gan y Goruchaf Lys. Dyna’r safbwynt a gyflwynwyd gennym, ac fe’i derbyniwyd gan y Goruchaf Lys, felly nid oedd unrhyw newid yn hynny o beth. Nid ydym erioed wedi honni neu ddadlau bod confensiwn Sewel yn draddodadwy. Y ffaith yw bod Confensiwn Sewel, o dan Ddeddf Cymru 2017, wedi’i rwymo mewn statud—hynny yw, mae ar wyneb y Bil—ond nid yw hynny ynddo’i hun yn ei wneud yn draddodadwy. Mae’n sicr yn wir fod angen adolygu mater confensiwn Sewel, yn sicr ar ôl Brexit ac ar ôl diwygio cyfansoddiadol pellach, gan y ceir dadl gref iawn y dylai fod yn gonfensiwn traddodadwy. Ond o ran yr hyn y buom yn ei ddadlau, ac o ran yr hyn a ddaliai’r Goruchaf Lys, cafwyd cysondeb llwyr o ran hynny a cheir cytundeb llwyr rhwng y dadansoddiadau cyfansoddiadol presennol.

Deddf Cymru 2017

3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynghylch yr amserlen weithredu ar gyfer Deddf Cymru 2017? (OAQ51144)

Disgwylir i brif ddarpariaethau Deddf Cymru 2017, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno’r model cadw pwerau, ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Ar 1 Ebrill, bydd pwerau mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog yn cael eu datganoli i’r Cynulliad. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol o’r pryderon cynyddol ynglŷn â gamblo cymhellol. A all y Cwnsler Cyffredinol wneud sylwadau ar sut y gallai’r pwerau hyn fod o gymorth i fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol gynyddol hon?

Wel, yr hyn y gallaf ei wneud, yn sicr, yw dadansoddi beth y mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddweud mewn gwirionedd, gan fod Deddf Cymru yn darparu pwerau newydd cyfyngedig i Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn perthynas â thrwyddedu peiriannau betio ods sefydlog. Ond wrth gwrs, nid yw’r pwerau hynny ond yn berthnasol i beiriannau hapchwarae, sy’n caniatáu betiau o £10 neu fwy.

Mae ychydig o bethau eraill sy’n werth eu dweud yn benodol am hynny, efallai, ac mae’n werth nodi hefyd fod rhai pwerau wedi cael eu trosglwyddo eisoes i’r Cynulliad yn gyffredinol o dan Ddeddf Cymru, ac wrth gwrs, bydd llawer mwy yn cael eu trosglwyddo yn awr o 1 Ebrill ymlaen. Ond o ran peiriannau betio ods sefydlog yn benodol, mae Deddf Cymru—yr hyn y mae’n ei wneud yw darparu pwerau newydd cyfyngedig i Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae ods sefydlog, sy’n cyfateb, fodd bynnag, i’r pwerau a ddarparwyd i’r Alban drwy Ddeddf yr Alban 2016. Mae peiriannau betio ods sefydlog yn beiriannau hapchwarae categori B2. Maent wedi eu lleoli yn bennaf mewn siopau betio, ond maent yn caniatáu i gwsmeriaid fetio hyd at £100 bob 20 eiliad ar fersiynau electronig o’r peiriannau. Mae’r pwerau newydd yn ymwneud â safleoedd â thrwydded safle betio, o dan Ddeddf Gamblo 2005. Byddant yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, a’r Cynulliad, drwy Ddeddf Cynulliad, i amrywio nifer y peiriannau hapchwarae o fath arbennig a ganiateir o dan drwydded o’r fath. Byddai hyn yn cynnwys lleihau nifer y peiriannau a ganiateir i sero.

Cynyddu Amrywiaeth yn y Goruchaf Lys

4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynghylch cynyddu amrywiaeth mewn sylwadau a gaiff eu gwneud i’r Goruchaf Lys? (OAQ51152)

Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i’r Goruchaf Lys ynglŷn â gwella amrywiaeth y farnwriaeth. Rwy’n croesawu penodiad diweddar yr Arglwyddes Hale yn llywydd y Goruchaf Lys, llywydd benywaidd cyntaf y Goruchaf Lys, a phenodiad yr Arglwyddes Black i’r Goruchaf Lys, ac fel y dywedais eisoes, rwy’n croesawu penodiad yr Arglwydd Lloyd-Jones yn farnwr Cymreig cyntaf y Goruchaf Lys.

Llywydd, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn—hollol ffantastig. Pa gamau, fodd bynnag, y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella amrywiaeth ryweddol ac ethnig ymhellach, yn y Goruchaf Lys ac ym maes awdurdodaeth gyfreithiol yn gyffredinol?

Wel, y peth cyntaf yw bod y Goruchaf Lys ei hun, ers 2015, wedi llwyr gydnabod mater amrywiaeth. Ac mae Llywydd presennol y Goruchaf Lys, yr Arglwyddes Hale, wedi dweud ar sawl achlysur fod yn rhaid i’r llysoedd gynrychioli cymdeithas yn gyffredinol, ac nad oeddent yn gwneud hynny, a’i bod yn bwysig sicrhau mwy o amrywiaeth, o ran rhywedd ac o ran hil, ac o ran cefndiroedd y rhai yn y farnwriaeth, ac mewn gwirionedd, o lefelau isaf y farnwriaeth i lefelau uchaf y Goruchaf Lys.

Mae’r rhain yn sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ei hun, o ran ymgynghoriadau a chyfarfodydd gyda’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Bydd y Goruchaf Lys yn penodi tri unigolyn arall y flwyddyn nesaf, wrth i nifer o arglwydd ustusiaid ymddeol, a buasem yn gobeithio y bydd rhagor o gynnydd o ran amrywiaeth yn yr holl feysydd hynny i’r Goruchaf Lys. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith fod yn rhaid sicrhau’r amrywiaeth honno ar lefelau isaf y farnwriaeth, ar bob lefel. Felly, mae hynny’n rhywbeth y gwnaethom y sylwadau hynny yn ei gylch. Mae’n rhywbeth a gefnogwn yn fawr, ac rwy’n falch o ddweud ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd. Mae’n dechrau digwydd. Ddegawd yn ôl, rwy’n credu y byddem wedi meddwl y byddai rhai o’r mesurau a’r camau hyn y tu hwnt i amgyffred. Felly, mae newid sylweddol ar y gweill ar hyn o bryd ac rydym yn cefnogi hynny.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynglŷn â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? (OAQ51163)[W]

Wel, mae’r cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith, fel y gŵyr yr Aelod. Er hynny, gallaf ddweud bod gan Lywodraeth Cymru bryderon sylweddol ynglŷn â’r Bil, yn enwedig o ran ei ymagwedd at ddatganoli. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod sefyllfa Cymru’n cael ei diogelu.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf i ofyn iddo a yw wedi gweld y papur a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru yr wythnos hon ar Fil ymadael yr UE, ‘Mesur Ymadael yr UE—Yr Ongl Gyfreithiol: Y goblygiadau cyfansoddiadol i Gymru’, a ysgrifennwyd gan Fflur Jones? Rwy’n hapus i e-bostio copi ato. Mae Fflur Jones yn nodi nifer o ddadleuon yn y papur, a hoffwn sôn am ddwy ohonynt. Dywed un fod

‘Mae’r Mesur fel y’i drafftiwyd yn cymryd agwedd ddeuaidd at y setliad datganoli, nad yw’n adlewyrchu "glud"... cyfraith yr UE ar y setliad hwnnw, na’r cymwyseddau a rennir sy’n bodoli rhwng Llywodraeth y DG a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.’

Mae’n mynd yn ei blaen i ddadlau hefyd fod

‘angen newid sylweddol i’r Mesur er mwyn sicrhau nad yw’n erydu’r setliad datganoli presennol yng Nghymru, sy’n adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru fel y’i mynegwyd yn y ddau refferendwm’—

sic—

‘ar ddatganoli.’

Credaf y byddech yn cydymdeimlo gyda’r dadleuon hynny, Cwnsler Cyffredinol, fel y byddai Llywodraeth Cymru. Felly, a allwch ddweud ychydig yn fwy na’ch ateb gwreiddiol ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r dadleuon cyfreithiol a chyfansoddiadol cryf hyn, a cheisio gwelliannau yn awr, gan fod y Bil yn mynd drwy bwyllgor y Tŷ cyfan yr wythnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf?

Y peth cyntaf i’w wneud yw diolch i’r Aelod am gynnig y papur. Rwyf wedi edrych ar y papur, a chytunaf yn llwyr â’i gynnwys a’i ddadansoddiad, sydd hefyd yn adlewyrchu, rwy’n credu, y dadansoddiad a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog i’r Siambr hon. A chredaf ei fod yn ddadansoddiad sydd â chryn dipyn o dir cyffredin ar draws yr holl bobl hynny ym mhroffesiwn y gyfraith, ac academyddion y gyfraith, ond pawb, rwy’n credu, sy’n edrych ar y berthynas gyfansoddiadol a’r materion sy’n ymwneud â’r Bil penodol hwn. Mae hefyd yn adlewyrchu’r dadansoddiad sylweddol a manwl a wnaed gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi, ac yn benodol, papur a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl, rwy’n credu, gan bwyllgor UE Tŷ’r Arglwyddi ar Brexit, sydd wedi gwneud nifer o bwyntiau tebyg, ac wedi mynegi nifer o bryderon hefyd ynglŷn â’r modd y gellid defnyddio pwerau Harri VIII.

Un o’r materion sy’n deillio o hynny, wrth gwrs, yn ystod unrhyw gyfnod pontio, yw mater Llys Cyfiawnder Ewrop. Rwyf wedi nodi fy marn ynglŷn â hyn yn y gorffennol—credaf fod hon yn ddadl y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn hollol anghywir yn ei chylch. Bydd unrhyw gytundeb rhyngwladol, unrhyw gonfensiwn rhyngwladol, unrhyw drefniant rhyngwladol, yn cynnwys fforwm anghydfodau, sef proses farnwrol i bob pwrpas. Ac mae’n siomedig gweld, rwy’n credu, y modd y mae effaith a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop wedi cael eu camgyfleu. Nodaf hefyd mai un o’r pwyntiau a wnaed gan y Farwnes Hale ei hun—ei haraith gyntaf, mewn gwirionedd, fel llywydd—oedd yr angen am eglurder ynglŷn â beth yn union y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud am y broses farnwrol a’r broses anghydfodau. Oherwydd, os yw’r Goruchaf Lys mewn dryswch, ac o’r farn fod yna ddiffyg eglurder llwyr yn hyn o beth, nid oes gan weddill cymdeithas obaith o ddeall yn union beth sy’n cael ei gynnig.

Y gwelliannau yw’r rhai a fwriedir, mewn gwirionedd, i fynd i’r afael â chipio pwerau, ac wrth gwrs, cipio pwerau sydd wrth wraidd y papur y cyfeirioch chi ato, a llawer o bapurau eraill. Credaf y byddai ymgysylltu ac ymgynghori priodol wedi gallu atal y cipio pwerau. Mae safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn debyg iawn. A chyflwynwyd nifer o welliannau rhesymol a synhwyrol iawn yn fy marn i, gwelliannau nad ydynt ond yn galw am gydsyniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn y bôn mewn perthynas â’r pwerau hynny sy’n feysydd cyfrifoldeb datganoledig.

Nawr, mae’n ymddangos i mi ei bod yn anodd gweld pam y dylai hynny fod yn annerbyniol, ond oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r materion hynny, mae’n hynod annirnadwy y buasai Llywodraeth Cymru, y Cynulliad hwn, yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil diddymu. Yn amlwg, mae’r broses o wneud gwelliannau ar y gweill, ac nid oes amheuaeth y bydd trafodaethau pellach. Cyfarfu’r Prif Weinidog â’r Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green, y mis diwethaf, i drafod pryderon Llywodraeth Cymru, ac i gynnig awgrymiadau i ddatrys y cyfyngder presennol, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn barod i weithio tuag at hyn. Mae’r Prif Weinidog yn cyfarfod â Damian Green eto, heddiw rwy’n credu, a bydd cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a gynlluniwyd ar gyfer yn nes ymlaen y mis hwn, yn rhoi cyfle pellach ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw hefyd. Ac rwy’n gobeithio y bydd parodrwydd Llywodraeth Cymru i weithio’n gyfrifol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys hyn yn rhywbeth y manteisir arno.

Cwnsler Cyffredinol, pa alwadau penodol sydd gennych i Lywodraeth y DU, a faint o lwyddiant a gawsoch hyd yma?

Galwadau Llywodraeth Cymru yw’r rhai sydd wedi eu nodi yn y gwelliannau, a fuasai’n datrys y diffygion yn y ddeddfwriaeth ei hun mewn gwirionedd. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad clir iawn amdanynt, ac mae’r gwelliannau hynny ar gael i’w gweld. Yn eu hanfod, nid yw’r galwadau ond yn gofyn am gydsyniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn y meysydd hynny lle y cipir pwerau sy’n gyfrifoldebau datganoledig.

System Gyfiawnder Unigryw

6. Beth yw’r goblygiadau i Gymru o fabwysiadu system gyfiawnder unigryw a fydd yn adlewyrchu anghenion Cymru? (OAQ51154)

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Medi ei fod yn sefydlu comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru i adolygu’r system gyfiawnder a phlismona ac i ystyried sut y gall y system sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwn mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw cael system gyfiawnder ar wahân yng Nghymru. Mae Cymru wedi cael ei hymgorffori mewn awdurdodaeth ymdoddedig ers 600 mlynedd, ac mae ei hanes yn wahanol iawn, felly, i hanes yr Alban ac Iwerddon, gan gynnwys Gogledd Iwerddon. Ac er ei bod yn bosibl y bydd adeg pan fydd yna wahaniaethau sylweddol rhwng y gyfraith fel y caiff ei chymhwyso yng Nghymru ac yn Lloegr, rydym yn bell iawn o hynny ar hyn o bryd, ac felly byddai’n bwysig camu ymlaen yn araf yn hyn o beth os ydym am gadw costau’r gyfraith yn gymesur. Ac yn benodol o ran rheoleiddio’r proffesiwn cyfreithiol, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn sicr yn rhy gynnar i feddwl am hollti’r broses o reoleiddio cyfreithwyr neu aelodau o’r Bar—ac rwy’n datgan buddiant fel aelod o’r Bar fy hun, yn hyn o beth—oddi wrth yr un sy’n bodoli ar hyn o bryd yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr?

Yn gyntaf, o ran yr uchelgais ar gyfer system gyfiawnder ar wahân y cyfeirioch chi ato, mae’r uchelgais mewn gwirionedd yn gysylltiedig â’r ffordd briodol a’r ffordd fwyaf effeithiol o weinyddu cyfiawnder. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, un o gymhlethdodau’r dadleuon dros awdurdodaeth ar wahân yw eu bod wedi magu rhyw fath o statws athronyddol a holwyddoregol bron. Mewn gwirionedd, nid yw awdurdodaeth yn ddim ond ardal lle y mae gennych ddeddfau’n cael eu creu, ac roedd cael un awdurdodaeth pan oedd ond un senedd yn deddfu yn gwneud synnwyr; lle y mae gennych senedd arall yn creu deddfau, mae’n bwysig fod y system ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn adlewyrchu hynny mewn gwirionedd.

Rydych yn gwneud pwynt dilys ynglŷn â graddau hynny, hyd a lled hynny, ond wrth gwrs nid yw hyd a lled y gwahaniaeth yn ymwneud yn unig â’r ddeddfwriaeth rydym yn ei phasio, ond hefyd y ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn Lloegr nad yw’n gymwys i Gymru. Un o’r ffyrdd o edrych ar hyn, a grybwyllwyd beth amser yn ôl mewn gwirionedd, yw awdurdodaeth neilltuol. Hynny yw, nid cymryd rheolaeth ar y farnwriaeth, cymryd rheolaeth ar y llysoedd, yr adeiladau, y personél, ond system yn syml lle y byddwch yn sicrhau, os yw achos yn ymwneud â chyfraith Cymru, ei fod yn cael ei glywed yng Nghymru gan farnwyr a chyfreithwyr ac eiriolwyr sy’n deall cyfraith Cymru mewn gwirionedd. Felly rwy’n credu mai hwnnw yw’r fframwaith cywir ar gyfer edrych ar hynny.

O ran rheoleiddio fel y cyfryw a’r cyrff rheoleiddiol ar gyfer cyfreithwyr ac wrth gwrs y nifer nad ydynt yn gyfreithwyr sydd bellach yn gweithio mewn gwasanaethau cyfreithiol a’r proffesiwn cyfreithiol ehangach, nid wyf yn credu bod unrhyw achos o godi rhwystrau wedi bod erioed. Credaf ei fod yn un o’r canfyddiadau hynny lle y mae’n bwysig iawn ein bod yn osgoi caniatáu iddynt gael eu creu. Nid ydym am gael rhwystrau, nid ydym am weld rhwystrau sy’n atal cyfreithwyr yng Nghymru rhag gallu ymarfer yn Lloegr neu sy’n atal cyfreithwyr yn Lloegr rhag gallu ymarfer yng Nghymru, ond mae’n ymwneud yn unig â sut y byddwch, mewn gwirionedd, yn sicrhau, yn gyntaf, fod cyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru yn meddu ar y cymwysterau priodol ac yn deall deddfau Cymru. Rwy’n credu y bydd yr un peth yn berthnasol o ran ymarfer yn Lloegr mewn gwirionedd, a deall beth yw’r gwahaniaethau hynny. Roedd yna erthygl—nid wyf yn gwybod ai hon yw’r un y mae’r Aelod yn cyfeirio ati—a ymddangosodd, rwy’n credu, yn ‘The Law Society Gazette’ a oedd yn dweud, ‘Nid yn awr yw’r amser i hollti’. Nid yw erioed wedi bod yn fater o hollti; rwy’n credu bod hynny’n dangos camddealltwriaeth lwyr o beth yw datblygiad awdurdodaeth mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â gweinyddu cyfraith, ond nid un ble rydym am gael unrhyw ganfyddiad o raniad, dim ond sicrhau, o ran deddfau Cymru, fod y cyfreithwyr dan sylw a’r farnwriaeth dan sylw wedi cael eu hyfforddi’n iawn, ac yn deall beth yw’r cyfreithiau hynny mewn gwirionedd.

Tybed a fuasai’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn yr honiad hwn fod ystyried datganoli cyfiawnder ac awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol fel cymhwysedd cwbl ar wahân yn wahaniaeth ffug mewn gwirionedd, a’i bod yn well ei ystyried fel rhan o gontinwwm lle y mae’r lle hwn yn deddfu, ac er mwyn iddynt gael eu gweithredu a’u gorfodi’n briodol, mae’n fater o gontinwwm rhwng pasio’r gyfraith a gorfodi’r gyfraith. Felly, mae’r diffyg datganoli cyfiawnder ac awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol mewn gwirionedd yn gweithredu fel cyfyngiad ar ddatganoli pwerau eraill. A fuasai’n derbyn yr honiad hwnnw?

Ydw, ac rwy’n credu bod y pwynt yr ydych yn ei wneud yn hynod o bwysig am ei fod yn mynd at wraidd y gamddealltwriaeth ynglŷn â’r materion awdurdodaeth a’r gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Nid yw’n ymwneud â dweud pwy ddylai gael yr awdurdodaeth—ai Senedd y DU, ai Cynulliad Cymru, neu beth bynnag; mae’n ymwneud â chydnabod beth yw’r gyfraith mewn gwirionedd a sut y mae’n cydgysylltu â pholisi. Felly, nid yw’r materion sy’n ymwneud â phlismona, cyfiawnder ieuenctid, a’r gwasanaeth prawf a charchardai yn codi am eu bod yn fater o ddweud, ‘Oni fuasai’n braf cael y rhain mewn gwirionedd?’, ond oherwydd bod y Cynulliad yn gyfrifol am y polisi hwnnw, ni allwch osgoi canlyniad y modd y mae hynny’n ymadweithio â’r system gyfiawnder ei hun. Mewn gwirionedd, mae’n fater o gael perthynas annatod rhyngddynt fel bod polisi cyfiawnder wedyn yn cael ei adlewyrchu yn y system gyfiawnder ei hun. Credaf fod honno’n ddadl sydd angen ei harchwilio, a dyna pam rwy’n hynod o falch fod y cyn Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, wedi derbyn cadeiryddiaeth y comisiwn cyfiawnder y mae’r Prif Weinidog yn ei sefydlu, ac rwy’n gobeithio y bydd ganddo gylch gwaith eang i archwilio’r holl feysydd hynny, nid yn unig o ran awdurdodaeth ond y gydberthynas rhwng polisi a’r gyfraith, y gydberthynas rhwng yr hyn a wnawn a’r modd y mae hynny’n effeithio ar y system gyfiawnder ei hun.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau amserol, ond ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr wythnos hon yw Wythnos Gofal Hosbis 2017, sy’n dathlu 50 mlynedd ers i’r Fonesig Cicely Saunders sefydlu’r mudiad hosbis yn y DU a’r nifer o agweddau ar ofal hosbis, gan godi ymwybyddiaeth pawb sy’n gysylltiedig, o nyrsys i wirfoddolwyr, cogyddion i gaplaniaid, pobl sy’n codi arian i ofalwyr. Roedd hosbisau ledled Cymru yn gofyn i bobl ddangos eu cefnogaeth drwy wisgo melyn heddiw, a lansiodd Hospice UK yr adroddiad ‘Hospice care in Wales 2017’ mewn derbyniad yn y grŵp trawsbleidiol yn ystod amser cinio yn y Cynulliad heddiw, i fesur y rhan y mae hosbisau’n ei chwarae yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o ofal diwedd oes yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan hosbisau lleol, gan wella ansawdd bywyd a llesiant oedolion a phlant sydd â salwch cyfyngol neu derfynol, a’u helpu i fyw bywydau mor llawn ag y gallant yn yr amser gwerthfawr sydd ganddynt ar ôl. Gyda’i gilydd, mae’r 15 hosbis elusennol yng Nghymru yn darparu gofal hanfodol i 10,500 o bobl bob blwyddyn, ochr yn ochr â chefnogaeth i lawer o’u hanwyliaid. Maent yn gwario cyfanswm o £32.5 miliwn ar ddarparu gofal, ac maent angen codi £2 filiwn bob mis i barhau i wneud hyn. Er bod hosbisau oedolion yng Nghymru yn darparu mwy na 24,000 o welyau dydd bob blwyddyn, mae’r rhan fwyaf o’u gofal yn cael ei ddarparu yng nghartrefi pobl, gyda 93 y cant yn darparu hosbis yn y cartref, gwasanaethau allgymorth a gwasanaethau dydd a 40 y cant o’r gwasanaethau a ddarperir gan hosbisau plant yn wasanaethau allgymorth. Felly, gadewch i ni ofyn i’n hosbisau sut y gallant ein helpu i wneud mwy.

Mae pobl ledled Cymru wedi gweld y golygfeydd trasig o bobl, yn bennaf menywod a phlant Rohingya, yn dianc rhag trais yn Rakhine. Mae’r trais ofnadwy hwn wedi achosi i dros 0.5 miliwn o bobl chwilio am loches ym Mangladesh. Mae mwy na 500,000 o bobl wedi croesi’r ffin ers 25 Awst ac mae angen cymorth bwyd arnynt ar frys; mae 300,000 o bobl angen cymorth lloches ar frys. Mae mwy na hanner y newydd-ddyfodiaid yn blant o dan 18 oed, ac mae un o bob 10 yn feichiog neu’n famau sy’n bwydo.

Yn ardal Cox’s Bazar yn ne Bangladesh, mae’r cymunedau lleol yn cael trafferth ymdopi â’r bobl sydd wedi’u dadleoli. Mae teuluoedd yn byw mewn llochesi dros dro ar ochr y ffordd neu mewn adeiladau cyhoeddus gorlawn heb unrhyw ddŵr yfed glân, toiledau neu gyfleusterau ymolchi. Mae darpariaeth dŵr a gwasanaethau iechyd wedi cyrraedd pen eu tennyn, mae bwyd yn brin ac mae llawer o bobl yn dibynnu ar gymorth i fwydo eu teuluoedd. Mae rhai’n goroesi ar ddim ond un bowlen o reis y dydd. Gyda glaw trwm a llifogydd, mae’r risg o glefyd a haint yn frawychus o uchel. Mae angen cymorth yn awr i leddfu’r argyfwng dyngarol hwn.

Dylai Cymru fel cenedl fyd-eang weithio gyda’n cyfeillion yn rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â dioddefaint dynol lle bynnag y down o hyd iddo. Yn y gorffennol, ydy, mae Cymru wedi cyfrannu’n gryf at apelau o’r fath a gobeithio y bydd y cyhoedd yn gwneud hynny eto y tro hwn. Felly, os gwelwch yn dda, tecstiwch ‘HELPU’ i 70000 i gyfrannu £5, swm a allai ddarparu dŵr glân i deulu am wythnos, neu ewch i dec.org.uk i gyfrannu.

5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: ‘Tawelu'r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau’

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ‘Tawelu’r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau’. Rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6524 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Pan fyddwn yn sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn bennaf rydym yn sôn am fysiau. Teithiau bws yw dros 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond dros y degawd diwethaf, mae gwasanaethau bws wedi gostwng bron i hanner. Os edrychwn ar y ffigurau rhwng 2005 a 2016 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, maent yn dangos i ni fod nifer y teithwyr wedi gostwng oddeutu 20 y cant. Yn ddiddorol, mae hyn yn cymharu â chynnydd o tua 1 y cant mewn amseroedd teithio yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Mae cyflymder cyfartalog bysiau yng Nghymru yn dirywio’n gynt nag unrhyw ddull arall o deithio, ac mae amseroedd teithio a chyflymder arafach, wrth gwrs, yn gwneud teithio ar y bws yn ddewis llai deniadol i gwsmeriaid. Rwy’n awgrymu bod y gostyngiad mewn cyflymder yn cael ei achosi gan dagfeydd ar y ffyrdd yn ein trefi a’n dinasoedd ond hefyd mewn mannau allweddol lle y ceir problemau mewn ardaloedd gwledig yn ogystal. Yn sicr, nid wyf yn credu mai mater trefol yn unig yw hwn. Mae’n cynyddu amseroedd teithio, yn gwneud teithiau bws yn annibynadwy, yn cynyddu costau gweithredu a chostau teithio, ac yn tanseilio hyder teithwyr. Ac wrth gwrs, mae’n cadarnhau canfyddiadau negyddol ynglŷn â’r bws. Mae arbenigwr blaenllaw ar dagfeydd, yr Athro David Begg, wedi dweud bod

tagfeydd traffig yn glefyd a fydd, os nad eir i’r afael ag ef, yn dinistrio’r sector bysiau.

Yn wyneb tagfeydd, mae gweithredwyr bysiau’n cael eu gorfodi i ymateb mewn un o ddwy ffordd: ceisio cynnal amlder y gwasanaeth gyda’r cynnydd cysylltiedig mewn costau neu weithredu llai o wasanaethau. Mae ein gwasanaethau bws yn cludo pobl i’r gwaith ac i addysg, yn cysylltu cymunedau, yn cefnogi ein heconomi ac yn helpu i wneud ein gwlad yn fwy gwyrdd drwy leihau nifer y ceir preifat ar ein ffyrdd. Maent yn achubiaeth i oddeutu chwarter cartrefi Cymru nad oes ganddynt gar at eu defnydd ac i’r rheini nad yw’r rheilffyrdd yn ddewis ymarferol iddynt.

Mae gwasanaeth bws sy’n ateb y gofyn yn cefnogi twf economaidd, ond mae ganddo hefyd amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Mae bysiau’n rhan o’r jig-so a fydd yn ein helpu i wireddu uchelgais, rwy’n credu, nifer o ddeddfwriaethau allweddol a basiwyd yma: ein hymrwymiadau i leihau carbon o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, y newid i deithio cynaliadwy a gefnogir gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a gweithio tuag at y nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw yn nodi ein barn ar y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â’r effaith andwyol y mae tagfeydd yn ei chael ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Cafwyd enghreifftiau o fuddsoddiad sylweddol yn y diwydiant. Mae ansawdd cerbydau’n gwella ac mae deddfwriaeth ar waith i gefnogi newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. Er gwaethaf hyn, mae niferoedd teithiau a theithwyr bws yn parhau i ostwng. Caiff y bws ei weld fel Sinderela trafnidiaeth gyhoeddus o hyd, ac mae angen gwrthdroi’r duedd hon am i lawr. Mae angen mwy o weithredu i fynd i’r afael â thagfeydd a gwella gwasanaethau bws ar gyfer pobl Cymru.

Mae ein hadroddiad yn nodi un argymhelliad sef y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i amlinellu sut y bydd yn mynd i’r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod bod yna rôl sylweddol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol ei chwarae, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol clir ar y camau gweithredu sydd eu hangen, ac mae’n rhaid cychwyn drwy gydnabod graddau a hyd a lled effeithiau tagfeydd ar y diwydiant. Rydym angen ymrwymiad cadarn gan y Llywodraeth y bydd yn mynd i’r afael â’r mater, ac yn ystod ein hymchwiliad, clywsom fod angen gwaith pellach i ddeall yr achosion sylfaenol, ac wrth gwrs dylid defnyddio hyn i lywio’r gwaith o ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn tagfeydd, wrth gwrs. Maent angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau, maent angen arweiniad a chymorth i sefydlu cynlluniau partneriaeth bysus o ansawdd effeithiol, ac mae angen iddynt sicrhau eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau gweinyddol sy’n aml yn ddiystyr i’r trigolion sy’n byw yno. Mae cynllunio lleol a rhanbarthol yn darparu’r mecanwaith delfrydol i sicrhau bod tagfeydd yn cael sylw ar sail ranbarthol. Mae llawer o offer ar gael ar hyn o bryd i helpu i drechu tagfeydd: cynlluniau parcio a theithio, codi tâl am dagfeydd, taliadau parcio estynedig, ardollau parcio yn y gweithle, ac wrth gwrs, mesurau blaenoriaethu bysiau hefyd megis lonydd bysiau. Mae angen i’r rhain gael eu hasesu yng nghyd-destun Cymru ac mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha mor ddefnyddiol y gallent fod. Bydd gwahanol atebion, wrth gwrs, yn iawn ar gyfer gwahanol ardaloedd, ond mae’n ddiamheuol, fodd bynnag, os yw’r bws yn mynd i fod yn ateb i broblemau trafnidiaeth, mae angen iddo gael blaenoriaeth.

Mae gwasanaethau bws mewn sefyllfa amhosibl. Er mwyn lleihau tagfeydd, mae angen annog pobl i ddod o’u ceir a gwneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Tra bo tagfeydd yn dal i effeithio mor sylweddol ar deithiau bysiau, nid yw’r diwydiant bysiau yn debygol o fod yn ddewis deniadol. Mae llawer o waith i’w wneud i werthu manteision teithio ar fws. Mae angen i’r diwydiant bysiau farchnata ei hun yn fwy cadarnhaol, ac mae rôl i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei chwarae yn datblygu a chyflwyno ymgyrch genedlaethol drawiadol i annog y newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mewn ymateb i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad cyffredinol i gynhyrchu cynllun gweithredu. Mae hefyd wedi cytuno ag awgrym y pwyllgor ynglŷn â’r hyn y dylai’r cynllun ei gynnwys. Rwyf wrth fy modd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth ein pwyllgor am wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon sy’n ymrwymedig i wella gwasanaethau bws ledled Cymru. Mae’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i ddeall achosion sylfaenol y mater yn well yn galonogol, ac ar ben hynny, yn dilyn yr uwchgynhadledd fysiau yn gynharach eleni, bydd yn cynnal gweithdy yn yr hydref, a bydd hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a phartneriaid eraill ddod at ei gilydd i drafod y materion penodol yn eu hardaloedd. Rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi adborth i’r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl i hynny ddigwydd.

Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynglŷn â sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cyllid ar eu cyfer i benodi cydgysylltwyr bws yng ngogledd a de Cymru, ac mae eu cylch gwaith yn cynnwys cydweithio agosach rhwng rhanddeiliaid i ddatblygu partneriaethau ansawdd bysiau. Mae llu o ganllawiau eisoes ar gael i awdurdodau lleol i’w hannog i weithio gyda’i gilydd, ac ni wyddom eto a fydd y swyddi newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad mewn gwirionedd o ran cyrraedd y nod terfynol o gael gwasanaeth mwy effeithlon a chynaliadwy ar gyfer defnyddwyr bysiau.

Rydym yn croesawu’r tryloywder gwell a ddaw gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu refeniw disgwyliedig gweithredwyr bysiau ar gyfer pob llwybr y maent wedi ceisio am grant cynnal ar ei gyfer. Mewn cyfnod o wasgu ar gyllidebau, mae’n hanfodol cyfeirio’r cyllid, wrth gwrs, tuag at y gwasanaethau a’r llwybrau lle y mae fwyaf o’i angen. Rydym hefyd yn cefnogi’r cynnig a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb sef na ellid ond dyrannu’r grant i gefnogi gwasanaethau bysiau a oedd yn rhan o’r bartneriaeth ansawdd bysiau rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr. Buasai hyn yn gatalydd, rwy’n credu, ar gyfer gwelliannau ym maes gweithio mewn partneriaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma ac at glywed cyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr.

Rwy’n falch iawn o gefnogi argymhellion y pwyllgor, ac mae’n gyfle, wrth gwrs, i ni hoelio sylw, a dweud y gwir, tuag at ran o’n hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus, fel yr oedd Russell George yn dweud, sydd, yn anffodus, yn rhy hir ac yn rhy gyson wedi bod yn sector sinderela o ran buddsoddiad cyhoeddus ac o ran ffocws polisi cyhoeddus. Rydw i’n siarad fel rhywun oedd yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysys fel person ifanc. Nid oedd car gyda ni fel teulu o gwbl, ac felly roeddwn i, yn yr ardal roeddwn i’n byw ynddi, ar wahân i ychydig o drenau oedd yn mynd rhyw dair gwaith y dydd, yn ddibynnol yn hollol ar y system bysys, fel y mae lot o bobl ifanc ac, wrth gwrs, pobl y to hŷn. Mae fy rhieni i yn dal yn hollol ddibynnol ar wasanaeth bysys sydd yn crebachu, a dweud y gwir, ac wedyn mae hynny yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa o gael eu hynysu yn fwyfwy oherwydd bod hynny’n cyfyngu ar eu gallu nhw i deithio.

Felly, mae’n hollol allweddol, rwy’n credu, ein bod ni nawr yn hoelio sylw ar y diwydiant yma. Mae yn cynrychioli o hyd, er gwaethaf y crebachu a’r pwysau sydd wedi bod arno, yn dal i fod, rhyw 80 y cant o’n system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mewn rhannau helaeth o Gymru, dyma’r unig drafnidiaeth gyhoeddus sydd gennym ni. Felly mae clywed, fel y gwnaeth y pwyllgor, am y pwysau oherwydd tagfeydd sydd ar y diwydiant yn peri consýrn i ni i gyd. Fel mae’r pwyllgor yn dweud yn ei adroddiad, mae’r rhesymau am y tagfeydd, y ‘congestion’ yma, yn amrywio o le i le, ac un o’r argymhellion craidd, felly, ydy bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ati i gael gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r gwahanol resymau a’r ffactorau sydd yn gyrru’r duedd yma ar draws Cymru, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb nhw, wedi ymrwymo i wneud y gwaith yma ar lefel lleol a rhanbarthol, gan weithio gydag awdurdodau lleol.

O ran beth y gellid ei wneud, rhan bwysig o symud pethau ymlaen, wrth gwrs, ydy cefnogi teithio llesol neu deithio gweithredol, yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd yn ceisio, yn gyffredinol ar draws Cymru, annog sifft oddi wrth deithio mewn car tuag at fodd mwy cynaliadwy a hefyd mwy integredig o deithio ac o drafnidiaeth. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau bras iawn, a dweud y gwir, i’r cyfeiriad yma. Maen nhw ar flaen y gad, rwy’n credu, ar lefel Prydeinig; maen nhw wedi dyblu’r gyllideb ar gyfer teithio llesol yn ddiweddar. Maen nhw wedi datgan pum cynllun ar draws yr Alban, gyda rhyw £22 miliwn o gyllid ar gyfer lonydd bysys, ar gyfer ffyrdd cerdded, ar gyfer llwybrau seiclo penodedig. Dyna’r math o uchelgais, rwy’n credu, yr hoffwn i ei weld gyda Llywodraeth Cymru.

Mae yna bethau y gellid eu gwneud nawr, wrth gwrs, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn gweld teithio ar fws yn ganolog i’r cynnig o ran teithio o ran trafnidiaeth integredig. Mae yna astudiaeth dichonoldeb, er enghraifft, ar gyfer ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Rwy’n gefnogol iawn i hynny. Efallai mai nod tymor canol fyddai hynny. Ond mi fyddai modd dechrau nawr drwy fynnu yn y fasnachfraint, er enghraifft, fod yna wasanaeth coets, hynny yw, y gellid ei ddefnyddio fel rhan o’r system rheilffyrdd, yn gweithredu rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth nawr, er mwyn cael integreiddio go iawn rhwng bysys a rheilffyrdd.

Gan feddwl am y sefyllfa yma yng Nghaerdydd, mae e’n warth o beth, a dweud y gwir, nad oes yna ddim cynnydd wedi bod gyda’r orsaf fysys. Rŷm ni’n clywed bod yna ryw gwestiynau ynglŷn â beth sy’n mynd i gael ei ddatblygu ar y safle hwnnw. Mae’n rhaid, yn y brifddinas yma, gweld statws iawn yn cael ei roi i’r gwasanaeth bysys yn y brifddinas, fel yng ngweddill Cymru hefyd.

Diolch i chi am yr adroddiad hwn, sy’n ddiddorol iawn. Mae annog pobl o’u ceir mewn dinas fel Caerdydd yn gwbl hanfodol er mwyn lleihau tagfeydd. Yn groes i reddf, wrth gwrs, mae tagfeydd yn lleihau nifer y bobl sy’n awyddus i deithio ar fws mewn gwirionedd, oherwydd eu bod yn credu y gallant ddilyn strydoedd cefn os ydynt yn teithio mewn car a chyrraedd yno’n gynt mewn cerbyd preifat. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â thagfeydd bysiau oherwydd bydd pawb ohonom yn boddi yn ein llygredd aer ein hunain os na wnawn hynny, mewn dinas.

Pa fesurau y gallem eu cyflwyno? Wel, gallem fynd am brisio ffyrdd—mae’n ddrwg gennyf ddweud nad yw David Melding yma ar hyn o bryd. Mae’n amlwg yn ffordd resymegol iawn o leihau nifer y ceir preifat ar y ffordd ar yr adeg pan fyddant yn rhwystro’r bysiau rhag mynd trwodd. Yn Llundain, llwyddodd i gyflymu teithiau bysiau’n sylweddol a lleihau’r amser pan nad oeddent yn symud 30 y cant yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Ond pan gynigiwyd hyn fel cynnig gan aelod cabinet yng Nghaerdydd, aeth hi’n sgrech yng Nghaerdydd. Rhoddodd pawb lwyth o resymau pam na ddylem fod yn gwneud hyn.

Dewis arall ysgafnach, ond un y credaf y dylem yn sicr wthio amdano am y tro, yw cynyddu nifer y lonydd sy’n blaenoriaethu bysiau. Rhoddodd Bws Caerdydd dystiolaeth i’r ymchwiliad a ddangosai nad oes llawer o bwynt cael lôn blaenoriaethu bysiau ar hyd 300 llath, efallai, yn hytrach na’r llwybr cyfan. Mae hynny’n sicr yn wir am y llwybrau bysiau ar hyd Heol Casnewydd. Mae’n broses herciog iawn mewn gofod cyfyngedig. Ond a dweud y gwir, mae’n rhaid i’r bws gael blaenoriaeth. Rhaid inni ei wneud yn y ffordd honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol, pan argymhellwyd lôn fysiau ar hyd Ffordd Caerffili, ei bod wedi cael ei gwrthwynebu’n gadarn gan yr holl gynghorwyr lleol, er y dylent fod yn meddwl am anghenion y gymuned gyfan, nid yn unig y rhai sydd eisiau defnyddio eu ceir preifat, nad ydynt hyd yn oed yn byw yn eu hardaloedd lleol yn ôl pob tebyg. Felly, mae angen addysg yno.

Mae yna rôl bwysig hefyd i oleuadau traffig blaenoriaethol, yn amlwg, er mwyn sicrhau bod bysiau’n mynd yn gyntaf wrth y goleuadau traffig, cyn y ceir, ac mae honno’n ffordd bwysig o sicrhau eich bod yn cyrraedd yn gynt ar fws nag y gwnewch mewn car. Mae hwnnw’n amlwg yn un o’r ffactorau allweddol, pan fydd pobl yn rhedeg i’r gwaith, y byddant yn eu defnyddio. Gallwn weld sut, pan fo cynigion newydd wedi eu datblygu mewn ardaloedd allweddol, fel cyrraedd ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, er enghraifft: mae’r gwasanaeth parcio a theithio newydd o Bentwyn, cyffordd Llanedeyrn, wedi bod yn hynod o boblogaidd ac nid yn unig gyda defnyddwyr ceir sydd, yn lle eistedd mewn tagfeydd traffig ofnadwy yn ceisio ciwio i fynd i mewn i faes parcio aml-lawr, yn gallu cyrraedd yno mewn saith munud a hanner. Mae hefyd wedi bod o fudd i bobl nad oes ganddynt geir, oherwydd gallant naill ai gael tacsi neu gerdded ar draws y ffordd ac ymuno â’r gwasanaeth parcio a theithio. Felly, mae wedi bod yn ffordd hynod ddefnyddiol o sicrhau y gall pobl gyrraedd yr ysbyty mewn ffordd sy’n peri llai o straen, sy’n amlwg yn bwysig iawn pan ydych yn sôn am bobl sydd naill ai’n sâl eu hunain neu’n ymweld â rhywun sy’n sâl.

Ond yn yr wythnos y mae economegydd y ddamcaniaeth hwb, Richard Thaler, newydd ennill gwobr Nobel mewn economeg am ei waith ar y duedd ddynol i wneud penderfyniadau afresymol, mae’n rhaid inni feddwl am ffyrdd o annog pobl i wneud y penderfyniadau cywir, rhesymegol. Felly, rwy’n credu bod lonydd blaenoriaethu bysiau yn sicr yn un ohonynt, ac rwy’n credu bod angen inni fyfyrio ar ein polisi parcio am ddim mewn ysbytai, a all fod yn gwbl briodol mewn ardal fel Betsi Cadwaladr, lle rwy’n gwbl ymwybodol bod Ysbyty Glan Clwyd yn gwasanaethu diaspora enfawr o ardaloedd gwledig, lle rwy’n siŵr y bydd y gwasanaethau bws yn anaml a lle nad ydynt o reidrwydd yn gwasanaethu’r cymunedau hynny, ac ni ddylent, yn amlwg, gael eu cosbi am fynd i’r ysbyty, ond mewn ardal drefol, mae’n ymddangos i mi fod parcio am ddim mewn ysbytai yng nghanol ardal drefol, lle y bydd yn demtasiwn i gymudwyr adael eu ceir yn yr ysbyty, yn rhywbeth y mae angen i ni fyfyrio yn ei gylch yn eithaf gofalus, oherwydd gallai gael yr effaith gwbl groes i’r hyn yr ydym ei eisiau.

Diolch i bwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau am eu hadroddiad, ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud llawer mwy i wthio’r rôl y dylai bysiau ei chwarae yn annog pobl i ddefnyddio bysiau yn enwedig ar gyfer cyrraedd y gwaith a’r ysgol, ac yn arbennig wrth ddisgwyl datblygiad y system fetro, yng Nghaerdydd ac Abertawe, lle y bydd yn rhaid i ni gynnig gwasanaethau bws fel dewis amgen hyd nes bod y metro’n bodoli, neu fel arall bydd Caerdydd, yn syml iawn, yn dod i stop o ganlyniad i’r tagfeydd.

Wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, a buaswn hefyd yn hoffi cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan y sefydliadau a’r unigolion a roddodd eu hamser a’u hymdrech i annerch y pwyllgor. Fodd bynnag, wrth gyfrannu at y ddadl hon, hoffwn wneud nifer o sylwadau ac awgrymiadau personol y teimlaf y gallent helpu i liniaru’r broblem hynod ddifrifol hon. Wrth wneud hynny, nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at nifer o bwyntiau a wneuthum ar ôl datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar docynnau am ddim yn y Cyfarfod Llawn ddoe, gan gredu’n gryf fod ailadrodd yn rhoi pwyslais.

Er ei bod yn wir mai’r car yw’r dihiryn gwaethaf yn y ddadl hon, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod, i ryw raddau, fod bysiau eu hunain yn cyfrannu at y broblem. Mae gweld pedwar neu fwy o fysiau mewn rhes yng nghanol tagfeydd traffig, a phob un yn cludo nifer truenus o deithwyr, yr un mor rhwystredig â gweld dwsinau o geir yn cludo un person yn unig, sef y gyrrwr. Fel y nodwyd ddoe, mae’r syniad fod bysiau’n cadw at amserlen gaeth, heb ystyried y galw, yn gwbl chwerthinllyd. Yn bersonol, rwyf wedi gweld bysiau sydd bron â bod yn wag yn pasio fy nghartref o fewn cyfnodau o 10 munud yn unig i’w gilydd am y rhan fwyaf o’r dydd. Mae’n well i mi nodi yma nad yn aml yr wyf fi gartref am y rhan fwyaf o’r dydd.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni roi bai ar y cwmnïau bysiau eu hunain, a ddylai fod yn meddu ar y data sy’n dweud wrthynt am lefelau defnydd pob taith fws. Ond mae’n rhaid rhoi’r un faint o fai ar awdurdodau lleol, sydd, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn gyfrifol am weinyddu contractau bysiau a gwneud yn siŵr fod y trethdalwr yn cael y gwerth gorau am arian gan y gweithredwyr. Rwy’n credu o ddifrif fod yn rhaid cael arfarniad trylwyr o’r gwasanaethau a ddarparir gan gwmnïau bysiau, wedi’i oruchwylio gan Lywodraeth Cymru.

Unwaith eto, fel y crybwyllwyd ddoe, mae’n rhaid inni edrych ar y posibilrwydd o systemau trafnidiaeth gyhoeddus ar alw, sy’n defnyddio cerbydau llai yn ddelfrydol wrth gwrs, ac sy’n rhedeg ar drydan, y gellir eu hanfon at ddrysau pobl hyd yn oed. Hefyd, buasai’r unedau hyn yn llawer mwy addas ar gyfer nifer o drefi a strydoedd Cymru, sydd, fel y gŵyr pawb ohonom, yn aml yn gul a chyfyngedig. Buasai’n rhaid i ystadau tai newydd ddarparu mynediad ar gyfer cerbydau o’r fath, a fuasai, drwy ddiffiniad, yn haws nag ar gyfer y bysiau a ddefnyddir yn awr. Os ydym am ddileu neu o leiaf gael effaith sylfaenol ar y pla o dagfeydd traffig ar ein ffyrdd, mae’n rhaid inni addasu trafnidiaeth gyhoeddus i gyd-fynd ag anghenion y bobl, ac nid anghenion y rhai sy’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, a hefyd yn yr adroddiad a’i dilynodd. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu at ein hymchwiliad. Yn amlwg, y bws yw’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwn fwyaf, ond dyma’r ffurf fwyaf cynhwysol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dyma’r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gallu cyrraedd pob un o’n cymunedau, boed yn drefol neu’n wledig, ac yn enwedig rhannau gogleddol o Gymoedd y de lle y bydd gwasanaethau bws, hyd yn oed ar ôl i’r metro gyrraedd, yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth honno. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu mynd i’r afael â thagfeydd bws a chael y cynnig yn iawn.

Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, rhoesoch y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â theithio rhatach ar fysiau a dywedasoch wrthym mai un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru yw:

cynyddu nifer y bobl o bob oed sy’n defnyddio bysiau ar gyfer eu taith ddyddiol i’r gwaith, ar gyfer addysg, mynediad at wasanaethau iechyd ac ar gyfer dibenion hamdden.

Felly, i wneud hyn, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â thagfeydd, oherwydd eu natur gylchol gynhenid, sy’n hollbwysig: mae tagfeydd bysiau’n atal pobl rhag teithio ar y bws, yn eu harwain yn ôl i’w ceir; mae hyn wedyn yn achosi mwy o dagfeydd, sydd, yn ei dro, yn gwneud bysiau’n arafach, ac mae’r broblem yn gwaethygu unwaith eto.

Mae’r ffigurau a ddyfynnir yn adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu siâp yr her sydd o’n blaenau. Mae nifer y gwasanaethau bws lleol wedi haneru bron yn y 10 mlynedd hyd at 2015. Mae nifer teithiau teithwyr hefyd wedi gostwng, ond er gwaethaf hyn, fel y dywedais ar y dechrau, y bws yw’r ffurf fwyaf hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r un a gaiff ei defnyddio fwyaf o hyd. Yn 2015-16, gwnaed dros 100 miliwn o deithiau gan deithwyr bysiau, ac mae hynny oddeutu pum gwaith y nifer cymharol o deithiau trên. Yn yr 20 mlynedd cyn 2015, mae teithiau bws wedi arafu ddwy filltir yr awr ar gyfartaledd: gostyngiad o 13 y cant mewn cyflymder sy’n golygu bod angen capasiti ychwanegol er mwyn cynnal y gwasanaeth yn unig. Dyma un symptom clir o effaith tagfeydd.

Yn fwy cyffredinol, mae tagfeydd yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd ac ar iechyd ein cymunedau hefyd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y briff a ddarparwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, sy’n cynnwys ffigurau llwm i gefnogi hynny. Gellir cysylltu 1,300 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yng Nghymru â llygredd aer. Mae plant, yn benodol, sy’n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fod ag ysgyfaint heb ddatblygu’n iawn a thuedd uwch i ddal heintiau.

Mae hefyd yn effeithio ar ein heconomi, ac ni allwn anwybyddu’r dimensiwn cyfiawnder cymdeithasol ychwaith. Roedd ychydig o dan hanner yr holl deithiau bws y llynedd yn docynnau teithio rhatach—cyfran gynyddol mewn cyferbyniad â’r patrwm cyffredinol o ddirywiad yn y defnydd. Ar gyfer yr aelwydydd nad oes ganddynt gar, mae bysiau’n achubiaeth yn wir. Fy awdurdod lleol fy hun, Rhondda Cynon Taf, yw’r pumed uchaf o ran nifer yr aelwydydd heb gar at eu defnydd—ychydig dros 27 y cant. Bydd llawer o’r bobl hynny’n byw mewn cymunedau na ellir eu cyrraedd ar y trên. Felly, mae’r bws yn achubiaeth mewn gwirionedd. Gyda’r niferoedd uchaf o aelwydydd heb gar at eu defnydd i’w gweld hefyd ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, mae hwn yn amlwg yn fater allweddol i Gymoedd de Cymru. Fel y clywsom gan dystion yn un o sesiynau tystiolaeth pwyllgor yr economi, mae’r cyfuniad o dopograffi a chynllunio trefol a geir yn y Cymoedd yn gallu gwaethygu tagfeydd. I ddyfynnu tyst o Gyngor Rhondda Cynon Taf, a soniai am y terasau a geir yn y Cymoedd:

Mae’r strydoedd yn gul iawn. Nid oes lle... i drigolion barcio eu ceir, felly mae pobl yn parcio ar y stryd.

Gall hyn achosi tagfeydd difrifol ar lwybrau bysiau. Yn wir, mae’n broblem gyfarwydd yn fy etholaeth fy hun, ac rwy’n meddwl am lwybrau terasog Cwmaman, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl.

Gellir gwneud gwaith i fynd i’r afael â mannau lle y ceir problemau, megis y gwaith adfer mawr ei angen sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar yr A4059 yng Nghwm-bach ac Aberpennar. Nodaf hefyd sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i’n hystyriaethau mai un awdurdod priffyrdd yn unig a oedd wedi gwneud cais am y pwerau disgresiwn llawn a oedd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i drechu tagfeydd traffig ac wedi eu mabwysiadu. Hoffwn ofyn hyn: ym mha ffordd arall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn annog awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio’r cyfle hwn i chwilio am atebion lleol i broblemau lleol?

Mae ystyriaeth 8 hefyd yn bwysig iawn. Mae angen inni hyrwyddo ein rhwydwaith bysiau fel opsiwn cyfleus a fforddiadwy, ac yn anad dim, fel opsiwn dibynadwy ar gyfer teithio. Roeddwn yn hoff iawn o safon y gwasanaeth bws Stagecoach, eu gwasanaeth aur newydd, ac yn yr un modd, mae pethau fel TrawsCymru yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gyda dull cyfforddus o deithio sy’n hyrwyddo cyfleusterau fel Wi-Fi. Unwaith eto, mae sicrhau ein bod yn trechu tagfeydd yn allweddol i hyn fel bod bysiau’n ddewis cyntaf go iawn ac nid yn ddewis olaf.

A gaf fi adleisio diolch aelodau eraill o’r pwyllgor i dystion a ddaeth i roi tystiolaeth i’r pwyllgor? Roedd yn ymchwiliad diddorol. Rwy’n gobeithio ac yn credu bod ei gasgliadau wedi bod yn ddefnyddiol, ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed ynddo.

Mae bob amser yn dda cael cymryd rhan mewn trafodaeth ar fysiau lle y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb iddi oherwydd gwn ei fod yn gefnogwr ymroddedig a brwd i’r sector diwydiant bysiau yng Nghymru. Credaf fod yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ganddo wedi cael ei chroesawu gan bob rhan o’r sector. Bydd yn cofio’r trafodaethau a gawsom am adroddiad fforwm economaidd ardal Castell-nedd, a gyflwynais iddo ef a chyd-Aelodau o’r Cabinet yn gynharach yn y flwyddyn, ac un o’r pethau y gofynnai’r adroddiad amdanynt, os hoffech, oedd bargen newydd i ddefnyddwyr bysiau, ac rwy’n credu bod y cwestiwn ynglŷn ag effaith tagfeydd traffig ar wasanaethau bysiau yn elfen hanfodol wrth gynnig y fargen newydd honno. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod effeithiau andwyol y lefel honno o dagfeydd ar ein gwasanaethau bysiau. Fel y mae Jenny Rathbone ac eraill wedi’i nodi, ni allwch ddisgwyl i bobl ddefnyddio bysiau os nad ydynt yn symud yn ddigon cyflym. Mae hynny’n creu cylch dieflig, ac eto mae ein model cyfredol yn gofyn i ni wneud yn siŵr fod bysiau mor llawn o deithwyr sy’n talu ag y gallant fod.

Mae nifer o ardaloedd yn fy etholaeth, fel Aelodau eraill yn y Siambr hon, heb wasanaeth bws da o gwbl oherwydd, ar un ystyr, maent wedi’u dal yn nhir neb rhwng gwasanaethau bws lleol nad ydynt yn fasnachol hyfyw ar y naill law a’r ffaith nad oes lefelau digonol o gymhorthdal i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus â chymhorthdal ar y llaw arall. Felly, mae’r her honno rhwng proffidioldeb a chymhorthdal cyhoeddus yn rhan annatod o’n system gyfredol, ac yn dangos yn glir i mi ac i Aelodau eraill nad yw’n gweithio ar y model cyfredol, os mynnwch—y model busnes cyfredol.

Ond mae gennyf un apêl, a dweud y gwir, i Ysgrifennydd y Cabinet, a gwn fy mod yn gwthio wrth ddrws agored yma yn bendant, sef i edrych ar fater tagfeydd bws fel rhan o fater llawer mwy mewn gwirionedd. Mae’n amlwg mai’r hyn sydd ei angen yma yw ateb i dagfeydd bws, ond hefyd mae angen golwg strategol ar nifer o ffactorau sydd ar waith wrth gyflwyno’r math o wasanaeth bysiau y mae fy etholwyr ac etholwyr eraill ei angen ac yn ei haeddu, a bod yn gwbl onest. Bydd hyn yn ein tywys ar hyd llwybr technoleg a blaenoriaethu bysiau a materion cynllunio, sy’n cael eu trafod yn dda a’u harchwilio’n dda yn yr adroddiad. Ond mae angen i ni ystyried hefyd a yw’r grant cymorth gwasanaethau bws, y gronfa drafnidiaeth leol, y gronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol, a’r buddsoddiad y mae awdurdodau lleol eu hunain yn ei wneud mewn llwybrau bysiau, yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau ar hyn o bryd wrth fynd ar drywydd amcanion y Llywodraeth yn hyn o beth—ac wrth gwrs, rôl gweithredwyr bysiau’n dewis y math cywir o fflyd, a fflyd werdd. Rydym yn cydnabod bod trafnidiaeth fysiau’n ddewis mwy ecogyfeillgar na theithio mewn car, ond mewn gwirionedd nid yw hynny ond yn parhau’n wir os yw ansawdd y fflyd yn cael ei gynnal a’i wella, ac mai dyna’r fflyd fwyaf ecogyfeillgar y gall y model ei chynnal.

Ceir llawer o gymhellion croes i’r graen yn y system gyfredol sydd wedi eu deall yn dda iawn, felly mewn gwirionedd apêl yw hon i ddod o hyd i ateb cydgysylltiedig i nifer o heriau cysylltiedig, ac i edrych ar y peth o safbwynt strategol.

Buaswn yn cefnogi byrdwn cyffredinol y sylwadau a wnaed hyd yn hyn. Os ydym am gysylltu’r dwyrain a’r gorllewin, nid trenau fydd yr ateb, fel sydd eisoes wedi cael ei gydnabod. Yn ei ymateb, wrth dderbyn ystyriaeth 1 yr adroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn yn benodol am gyllid i gael gwared ar fannau lle y ceir problemau er mwyn trechu tagfeydd ar y rhwydwaith bysiau, ac rydym yn croesawu’r cyllid hwn yn fawr.

Mae cyngor Caerffili wedi derbyn cyfran o’r arian hwnnw i helpu i wneud gwelliannau ar gylchfan brysur Pwll-y-Pant neu Cedar Tree yng Nghaerffili. Ar wefan y cyngor maent wedi dweud:

‘Bydd y gwelliannau’n cynyddu cynhwysiad yn y lleoliad strategol allweddol hwn, yn ogystal â lleihau tagfeydd a gwella dibynadwyedd amser teithio ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol.’

Drwy’r adroddiad, fodd bynnag, ceir trafodaeth ar risg wleidyddol, ac un o’r problemau gyda chyflawni’r math hwn o waith gwella angenrheidiol yw bod y gwaith yn cymryd amser. Mae trigolion Caerffili yn gandryll ar hyn o bryd oherwydd yr oedi sy’n digwydd ar gylchfan Pwll-y-Pant, sy’n mynd yn syth yn ôl drwodd i Ystrad Mynach a Bedwas a thuag at Benyrheol. Mae’n broblem enfawr, a fy mwriad yw cyfarfod â chyngor Caerffili a siarad â hwy ynglŷn â’r camau pellach y gellir eu cymryd. Gwn fod cynghorwyr lleol wedi cyfarfod â’r cyngor heddiw i fynd i’r afael â’r materion hyn.

A fyddai’r Aelod yn derbyn bod y dystiolaeth yn dangos, er mwyn cyflawni newid moddol, pan fyddwch yn gwneud newidiadau capasiti fel cael gwared ar fannau lle y ceir problemau, y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw ailddyrannu gofod ffyrdd? Felly, yn hytrach na bod y gofod hwnnw’n llenwi gyda cheir eto, rydych yn ymgorffori lonydd bysiau neu newidiadau goleuadau traffig neu balmentydd lletach er mwyn ceisio cymell newid mewn patrymau ymddygiad.

Ac mae hyn yn rhan o’r gwelliannau sydd ar y gweill. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen newid moddol hefyd. Ond os ydych am sicrhau newid moddol, nid yw hynny’n digwydd yn gyflym, a bydd rhai o’r gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â rhai o’r pethau rydych wedi’u crybwyll mewn gwirionedd. Fodd bynnag, fy mhwynt yw bod yna risg wleidyddol yn gysylltiedig â hynny oherwydd eich bod yn creu newid, ond hefyd, mae creu’r gwelliannau hyn hyd yn oed yn creu llawer iawn o gynnwrf yn y gymuned, ac rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i wneuthurwyr polisi ei wneud yw dangos y manteision clir sy’n deillio o hyn.

Mae’r cyllid i’w groesawu ac mae’n dangos bod Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael ag effaith tagfeydd ar fysiau a’r rhwydwaith ffyrdd ehangach, ond mae wedi dod â materion eraill i’r amlwg. Ceir amrywiaeth eang o broblemau sy’n gysylltiedig â siâp cymunedau’r Cymoedd a’r ffaith ein bod, i bob pwrpas, yn dwneli sy’n arwain i mewn i Gaerdydd. Mae’n broblem go iawn.

Un o’r materion rwyf wedi’i grybwyll sawl gwaith yn y Siambr hon yw gorddatblygu tai a’r pwysau sy’n deillio o hynny ar y seilwaith trafnidiaeth. Ni allwch ddarparu cartrefi os na allwch sicrhau seilwaith trafnidiaeth effeithiol. Rwy’n pryderu ein bod yn mynd i’r afael â’r ddau beth ochr yn ochr â’i gilydd, ond mae angen i’r cysylltiad fod yn well.

Un o’r pethau a nodais o’r dystiolaeth a gawsom oedd pa mor anhrawiadol, a dweud y gwir, oedd peth o’r dystiolaeth gan awdurdodau lleol. Nid wyf am enwi a chywilyddio, ond roedd yna awdurdodau lleol a oedd yn trin gweithredwyr bysiau fel rhanddeiliaid eraill ochr yn ochr â defnyddwyr ceir, ac nid yw hynny, a bod yn onest—i ateb eich cwestiwn unwaith eto—yn ddigon da. Mae angen i chi ymgysylltu’n rhagweithiol â gweithredwyr bysiau yn eich gwaith cynllunio lleol os ydych am gyflawni’r math o newidiadau yr ydym am eu gweld. Nid oedd yr awdurdodau lleol y gwelsom dystiolaeth ganddynt yn cyflawni hynny. Mae’n rhaid iddynt ymgysylltu’n well â gweithredwyr bysiau. A gyda llaw, nid wyf yn cyfrif bwrdeistref sirol Caerffili yn hynny, i fod yn glir.

Mae hynny hefyd yn cael ei gydnabod yn ymateb Llywodraeth Cymru—mwy o weithio mewn partneriaeth agosach â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol cyfagos. Rwy’n credu bod angen dull trawsffiniol o weithredu ar bob math o faterion cynllunio, gan gynnwys y cynlluniau datblygu strategol y bûm yn galw amdanynt, a ddylai ddisodli, yn fy marn i, y cynlluniau datblygu lleol cul a phlwyfol nad ydynt yn caniatáu’r symudiad ar draws cymunedau’r Cymoedd.

Mae’r fargen ddinesig yn fy ardal a fy rhanbarth yn rhoi cyfle i’r math hwn o waith allu digwydd. Mae’n ôl troed da ar gyfer gweithio rhanbarthol ac rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hynny drwy alw am weithio ar y cyd. Ond rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ni ddweud mai tai, materion cynllunio ehangach a thrafnidiaeth yw’r tri mater cysylltiedig mwyaf y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth fynd i’r afael â’r pethau hyn. Os eir i’r afael â hwy’n gyfochrog, ni fyddwn yn cyflawni ein hamcanion. Yr hyn y ceisiwn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â bargeinion twf rhanbarthol, yw cyfunioni a chydgysylltu’r tri maes hwnnw. Nid oes gennyf amheuaeth y gallwn gyflawni hynny, ond mae angen y meddwl cysylltiedig hwnnw.

Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiad, am eu gwaith craffu, ac am eu hargymhellion. Rwy’n falch o allu derbyn pob un o’r argymhellion, ac rwy’n credu y buasai’n anodd iawn anghytuno â llawer o’r hyn y mae’r Aelodau wedi’i ddweud heddiw.

Mewn ymateb i Jeremy Miles, rwy’n ofni bod fy mrwdfrydedd ynglŷn â’r pwnc arbennig hwn wedi achosi i mi gael fy ngheryddu’n ysgafn ddoe am gymryd mwy na’r amser penodedig yn ystod y datganiad ar docynnau bws rhatach, felly rwy’n addo y byddaf mor gryno â phosibl heddiw. A buaswn yn cytuno hefyd gyda Jeremy ac Aelodau eraill a siaradodd am yr angen i edrych ar y gwasanaethau bysiau fel rhan o ddarlun llawer mwy.

Mae tagfeydd yn effeithio ar yr economi, mae’n effeithio ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Cymru, ac rwy’n cydnabod bod rhagolygon galw yn nodi y bydd defnydd o’r ffyrdd yn parhau i dyfu. Dyna pam fod mynd i’r afael â thagfeydd yn ffocws â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a pham ei fod yn rhan annatod o strategaeth drafnidiaeth Cymru ac yn wir, y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, yn ogystal â’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar, ‘Ffyniant i Bawb’. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth a fydd yn bwrw ymlaen â’r mesurau rydym yn eu cymryd ledled Cymru i sicrhau ei bod yn cael ei chysylltu drwy rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Mae camau i liniaru tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn cynnwys datblygu ein cyfres o fodelau, fel y gallwn gyfarwyddo a rhagweld gofynion y dyfodol yn well a chynllunio ymhell o flaen llaw. Rydym hefyd wedi sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol i fabwysiadu gorfodaeth sifil yn erbyn ystod o dramgwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys troseddau parcio, troseddau lonydd bysiau a throseddau traffig symudol penodol. Ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod awdurdodau lleol yn defnyddio’r pwerau hyn i wella tagfeydd.

Fel y nododd Hefin David, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i nodi ardaloedd lle y ceir problemau ac i sicrhau gwelliannau seilwaith er mwyn hwyluso llif traffig. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £24 miliwn ar gyfer ardaloedd lle y ceir problemau, a fydd yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i’r afael â’r cyffyrdd sy’n achosi tagfeydd, ac i edrych ar wella cyfleoedd i oddiweddyd ar ffyrdd allweddol o’r gogledd i’r de. Yn ogystal â hyn, bydd £15 miliwn arall yn cael ei ddyrannu drwy ein cronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol, gyda’r nod o gynyddu cydnerthedd o ran diogelwch a symud ar hyd coridorau bws strategol. Mae’r cyllid sylweddol hwn yn rhan o £83 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Llywydd, mae seilwaith teithio llesol yn elfen greiddiol wrth foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a chyflawni system drafnidiaeth integredig i Gymru, gan helpu i leihau allyriadau cerbydau a helpu i fynd i’r afael â thagfeydd. Nawr, mewn ateb a roddwyd i Jenny Rathbone ychydig yn gynharach heddiw, nodais sut yr hoffwn gynyddu’r buddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol, ac edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynny. Rydym yn ariannu nifer o ymyriadau newid ymddygiad, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i gydgysylltwyr y cynllun teithio a hyfforddiant i gerddwyr a beicwyr, megis Her Teithio Cymru a’r rhaglen Teithiau Llesol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn systemau sy’n cefnogi rheoli teithio llesol, megis monitro rhwydweithiau drwy ein canolfannau rheoli traffig cenedlaethol.

Rydym eisoes wedi darparu cefnogaeth sylweddol drwy gomisiynu arolwg Cymru gyfan ar y seilwaith cerdded a beicio, ac wedi datblygu system mapio data teithio llesol y mae pob awdurdod lleol yn ei defnyddio ar gyfer eu mapiau. Rydym yn credu bod gwella ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaethau trên a bws ac yn moderneiddio’r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig megis y metro. Bydd metro arfaethedig de Cymru yn cynnwys rhwydwaith cludo cyflym integredig amlfoddol, gan gynnwys gwasanaethau bws a thrên gwell. Bydd yn darparu gwasanaethau bws a thrên cyflymach, amlach a mwy cydgysylltiedig. Mae angen gwella cysylltedd i gynnal twf y boblogaeth ac i fynd i’r afael â thagfeydd cynyddol ar y ffyrdd. Bydd prosiect y metro yn lasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ar draws Cymru gyfan, gan drawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol y wlad. Fe ildiaf.

Diolch am ildio. Rwy’n eich cefnogi chi’n llwyr, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â’r metro. Tybed a oes unrhyw ystyriaeth neu drafodaethau pellach wedi bod dros y posibilrwydd o sefydlu canolfan fetro yn y Celtic Manor. Rwyf wedi dwyn hyn i’ch sylw sawl gwaith o’r blaen ac rwy’n credu y byddai’n ddatblygiad da yn y rhwydwaith metro.

Mae’r Aelod wedi codi hyn droeon yn y Siambr a’r tu allan i’r Siambr. Rwy’n credu bod y syniad yn un teilwng iawn, yn enwedig wrth i ni weld datblygiad y ganolfan gynadledda yn y Celtic Manor. Mae’r metro’n cael ei gynllunio mewn ffordd a fydd yn ei wneud yn estynadwy, fel y gellir creu gwasanaethau ychwanegol a chanolfannau ychwanegol yn ôl yr angen. Felly, mae’n sicr yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried o fewn Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n rhywbeth rwy’n arbennig o awyddus i’w weld yn cael ei ystyried fel rhan o estyniad posibl y rhwydwaith metro.

Credaf nad oes amheuaeth fod tagfeydd traffig yn effeithio’n negyddol ar ddibynadwyedd a phrydlondeb gwasanaethau bws, a bod hyn yn ei dro yn gwneud teithio ar fws yn llai deniadol. Rydym yn ariannu ac yn gweithredu nifer o ymyriadau ar gyfer tagfeydd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, ac rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i rwydwaith trafnidiaeth integredig y credaf y bydd yn mynd i’r afael â heriau megis tagfeydd traffig a llygredd amgylcheddol.

Llywydd, mae angen i ni hefyd annog gyrrwyr i ddefnyddio bysiau’n amlach, drwy wneud bysiau’n fwy deniadol o ran pris teithio, drwy osod prisiau cystadleuol a syml, drwy systemau tocynnau amlweithredol, gyda threfniadau rhannu refeniw tryloyw a theg yn sail iddynt, ac wrth gwrs, drwy roi cyhoeddusrwydd i ba mor dda yw ein rhwydwaith bysiau eisoes. Gan adeiladu ar yr uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd ym mis Ionawr, cynhelir nifer o weithdai yr hydref hwn i wneud gwaith pellach i ystyried y ffordd orau inni wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws drwy ddarparu cyfleusterau gwell, yn gyson â’r ddarpariaeth wybodaeth i deithwyr, i ddatblygu atebion cyllido sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru, a chyflwyno system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Llywydd, rwyf hefyd yn ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, rhan o sgwrs genedlaethol a galwad am dystiolaeth, yn dilyn llwyddiant yr uwchgynhadledd fysiau, ar y cyfeiriad tymor hwy ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol, a chynigion, rwy’n credu, a allai wneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau yng Nghymru.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau ar ddechrau ei gyfraniad? Fel pwyllgor, wrth gwrs, rydym yn falch eich bod wedi derbyn ein hargymhellion, ond rydym yn falch iawn eich bod o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn, ac rydym yn ddiolchgar eich bod wedi derbyn casgliadau ein hadroddiad.

Adam Price—roedd ei brofiad fel person iau yn cyd-daro â sefyllfa neu brofiad llawer o bobl heddiw sy’n gwbl ddibynnol ar wasanaeth bws, heb gar teuluol, neu wasanaeth trên nad yw bob amser yn addas. Ac rwy’n cytuno’n llwyr ag Adam Price parthed ei sylwadau ar drafnidiaeth integredig. Rwy’n siŵr ein bod i gyd, fel ACau yn y Siambr, yn cael etholwyr yn cysylltu â ni gydag enghreifftiau—a gwn fod hyn yn digwydd i mi’n aml—o fws sy’n gadael yn syth ar ôl i’r trên gyrraedd. Neu a wyf fi wedi’i ddweud o chwith? Ond fe wyddoch beth rwy’n ei olygu.

Rwy’n credu bod David Rowlands yn gwneud pwynt cywir hefyd, sef nad mater i’r Llywodraeth yn unig yw hwn. Mae hwn yn fater y mae ein hawdurdodau lleol a’r cwmnïau bysiau eu hunain—mae ganddynt hwy ran i’w chwarae yn datrys hyn hefyd. Yn sicr, nid ydym fel pwyllgor yn awgrymu mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw datrys rhai o’r materion hyn.

Tynnodd Vikki Howells a Hefin David sylw at y dystiolaeth a gawsom gan awdurdodau lleol yn ein pwyllgor. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth honno wedi bod yn dipyn o agoriad llygad, ac mae’n bosibl fod peth tystiolaeth annisgwyl wedi dylanwadu ar gasgliadau ein hadroddiad. Ac wrth gwrs, un thema barhaus y siaradais amdani yn fy sylwadau agoriadol, ond a godais hefyd gyda Jenny a Jeremy Miles, oedd bod yna gylch dieflig—y sefyllfa amhosibl honno—sy’n rhaid ei oresgyn.

Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth y pwyllgor am wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon a’i fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau bws ledled Cymru. Hir y parhaed y Llywodraeth i dderbyn argymhellion ein hadroddiadau pwyllgor yn llawn. Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei wahoddiad i ACau fynychu’r uwchgynhadledd fysiau, ac er na allwn fod yn bresennol, roeddwn yn ddiolchgar am y gwahoddiad y llynedd. Dylwn ddiolch hefyd i gyd-Aelodau’r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, a thîm clercio ac ymchwil y pwyllgor, wrth gwrs, sydd bob amser yn rhoi cefnogaeth o safon uchel iawn i ni, ac wrth gwrs i bawb a roddodd dystiolaeth i’n pwyllgor. A diolch i bawb a gyfrannodd heddiw, yn enwedig i Jenny Rathbone, sydd yn aml, rwy’n sylwi, yn gwneud sylwadau ac yn cyfrannu at ein dadl er nad yw hi’n aelod o’r pwyllgor. Rwy’n ddiolchgar fod gennym Aelodau o gwmpas y Siambr hon sy’n cadw llygad ar ein gwaith ac yn darllen ein hadroddiadau er nad ydynt o reidrwydd ar y pwyllgor. Rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi bod yn gyfraniad effeithiol at y ddadl ar deithio ar fysiau a sut i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd. Efallai na all gwasanaethau bws yng Nghymru gael gwared ar eu henw o fod yn Sinderela trafnidiaeth gyhoeddus eto, ond dylem wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu mynd i’r ddawns.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Borthladdoedd Cymru o Adael yr Undeb Ewropeaidd

Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.

Cynnig NDM6525 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Awst 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar y goblygiadau i borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i’r holl dystion a staff a chyd-Aelodau’r pwyllgor a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Mae porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i’n heconomi drwy gefnogi swyddi, hybu twf economaidd a hwyluso masnach. Mae ein porthladdoedd hefyd yn rhannu perthynas bwysig a symbiotig gyda’n partneriaid Ewropeaidd, felly mae’n naturiol ein bod yn ystyried y goblygiadau posibl i’n porthladdoedd o adael yr Undeb Ewropeaidd, goblygiadau a allai fod yn sylweddol. Ceisiodd ein hymchwiliad edrych ar y goblygiadau’n fwy manwl, a buom yn siarad â llawer o’r prif gyfranogwyr sy’n ymwneud â’r sector, gan gynnwys cludwyr nwyddau, grwpiau cludo nwyddau ar y rheilffordd, academyddion a gweithredwyr porthladdoedd eu hunain—a gweithredwyr fferi. Cyfoethogwyd ein proses o gasglu tystiolaeth yn fawr gan ein hymweliad rapporteur â Dulyn yn gynharach yn yr haf, ac rwy’n sicr y buasai fy nghyd-Aelodau Mark Isherwood ac Eluned Morgan yn hoffi cofnodi ein diolch i bawb y cyfarfuom â hwy yn Iwerddon am y croeso cynnes a gawsom ac am eu hymagwedd adeiladol ac agored yn ein trafodaethau.

Llywydd, mae ein hadroddiad wedi amlygu nifer o’r materion a’r ystyriaethau pwysig, gan gynnwys cwestiynau am drefniadau ffiniau yn y dyfodol, y gyfundrefn dollau ar ôl Brexit, a’r seilwaith yng nghefnwlad ein porthladdoedd. Rydym wedi gwneud cyfanswm o wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Rwy’n falch o weld bod pob un ohonynt wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rwy’n siomedig, fodd bynnag, nad yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu’r manylder y buasem ni fel pwyllgor yn hoffi ei weld, ac efallai y byddwch yn manteisio ar y cyfle i edrych ar y meysydd hyn yn fanylach yn ystod y ddadl heddiw.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Efallai mai’r mater canolog sy’n wynebu porthladdoedd Cymru yng nghyd-destun Brexit yw’r cwestiynau sy’n ymwneud â dyfodol ffin Iwerddon. Daeth yn amlwg, wrth edrych ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru gyda’i gilydd, mai’r porthladdoedd yr effeithid arnynt fwyaf fyddai ein porthladdoedd fferi yng Nghaergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Clywsom bryderon ynglŷn â sut y gallai ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon a ffin forol galed rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon anfanteisio porthladdoedd Cymru’n ddifrifol. Gallai colli cystadleurwydd o ganlyniad i drefniadau ffiniau gwahanol arwain at draffig yn cael ei ddadleoli o borthladdoedd yng Nghymru, fel Caergybi, i borthladdoedd mewn mannau eraill yn Lloegr ac yn yr Alban drwy lwybr Gogledd Iwerddon. Rwy’n pryderu hefyd y bydd hyn yn bosibilrwydd realistig yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU yr wythnos hon wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn ar Fil tollau yn y dyfodol. Wrth ddarllen drwy eu dogfen, mae yna drafodaeth ar y ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, rhwng yr angen i sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau o ran llif y traffig rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, ond ni cheir cyfeiriad at y ffin rhwng Cymru—na gweddill Prydain Fawr hyd yn oed—a Gweriniaeth Iwerddon. Un cwestiwn y buaswn yn ei ofyn o bosibl yw: a ydynt yn meddwl am hyn hyd yn oed? A yw Cymru’n bodoli ym meddyliau rhai o’r bobl yn San Steffan? Mae gennyf bryderon mawr ynghylch hynny.

Diolch i’r Aelod am ildio. Rwy’n rhannu ei bryderon. Mae wedi sôn am borthladdoedd fferi, ac rydym yn meddwl am bobl, ond er enghraifft, mae tua 2,000 o dunelli o fwyd môr Gwyddelig yn mynd drwy borthladd Aberdaugleddau ac ymlaen i’r marchnadoedd cyfandirol, a buasem eisiau i hwnnw barhau i ddod trwy Gymru, ond ychwanegu gwerth ato hefyd, efallai, drwy ddatblygu yn Aberdaugleddau. Dyna enghraifft o’r hyn y gallem fod yn ei golli.

Rwy’n derbyn pryderon yr Aelod ac rwy’n cytuno’n llwyr fod yna gyfleoedd yn bodoli hefyd. Y broblem yw bod gennym fusnesau sy’n gweithio i gyflenwi mewn union bryd, ac o ran cynhyrchion bwyd, mae’n hynod gritigol yn awr mewn gwirionedd, ac mae hynny’n bwysig felly. Buasai’r oedi y gellid ei brofi’n effeithio ar hynny.

Mae ein hargymhelliad cyntaf, felly, yn deillio o’r pryderon hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw borthladd yng Nghymru dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau ffiniau yn y dyfodol. Ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Y thema allweddol nesaf a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein hymchwiliad oedd pryder yn ymwneud â dyfodol trefniadau tollau y DU ar ôl i ni adael yr UE. Nawr, rwy’n derbyn bod papur sefyllfa wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ers hynny, a hefyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Bil tollau posibl, ond wedi darllen y rheini, ni chefais lawer o gysur mewn gwirionedd y byddant yn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Ers 1993 a chwblhau marchnad sengl Ewrop, mae nifer y nwyddau sy’n cael eu cludo rhwng Caergybi a Dulyn wedi cynyddu 694 y cant. Fel y mae, ac fel y nodwyd yn araith y Prif Weinidog yn Lancaster House, bydd y DU yn gadael yr undeb tollau fel rhan o broses Brexit. Mynegodd y rhan fwyaf o’r tystion bryderon ynglŷn â gadael yr undeb tollau a’r effaith y buasai ailgyflwyno gwiriadau tollau yn ei chael o ran oedi—ac fel y mae’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru eisoes wedi’i nodi, mae gan hynny elfennau hanfodol i fusnesau yn ei ardal. Ar ben hynny, mae amcangyfrif diweddaraf CThEM yn awgrymu y gallai Brexit arwain at gynnydd yn natganiadau tollau y DU, o’r £55 miliwn y flwyddyn presennol—£55 miliwn y flwyddyn—i hyd at uchafswm o £255 miliwn y flwyddyn. Mae hynny bum gwaith yn fwy na’r ffigur ar hyn o bryd.

Ar yr un pryd, clywsom y gallai defnyddio technoleg newydd helpu i leddfu rhai o risgiau gwaethaf yr oedi. Daw technoleg i’r adwy. Mae hyd yn oed y Papur Gwyn yn cyfeirio’n gyson at atebion technolegol i helpu i sefydlu ffin ddi-ffwdan rhwng y DU a’r UE. Ond er mwyn gwneud hyn, rydym angen i’r atebion TG fod ar waith erbyn 2019, ac mae pawb y siaradasom â hwy’n dweud—ac mae hanes blaenorol yn dweud wrthym—fod hynny’n annhebygol o ddigwydd. Felly, ni fydd yr atebion ar waith erbyn yr adeg honno. Nid wyf yn dweud na all ddigwydd, ond mae amser yn ffactor mawr.

Mae ein hail a’n trydydd argymhelliad yn adlewyrchu’r pryderon hyn ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd atebion TG, a threfniadau tollau’r DU yn y dyfodol, efallai, ar ôl y trafodaethau y bydd yn eu cael, oherwydd mae’r Papur Gwyn, unwaith eto, yn siarad am ymwneud â’r sefydliadau datganoledig a Llywodraethau datganoledig, a hoffwn wybod yn union pa ran y mae eisoes wedi’i chwarae yn y broses o gyhoeddi’r Papur Gwyn ar y Bil tollau. Fodd bynnag, nid yw aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau atebion, yn enwedig yng nghyd-destun y pwerau newydd dros borthladdoedd a fydd yn cael eu datganoli i Gymru yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn ddigon da. Mae angen i’r Llywodraeth liniaru’r peryglon posibl i fusnesau Cymru drwy sicrhau bod gan fusnesau bob dim sydd ei angen arnynt i wneud y mwyaf o gyfleoedd a ddarperir gan bethau fel cynlluniau gweithredwr economaidd awdurdodedig a masnachwr yr ymddiriedir ynddo—a chanolbwyntir ar y rhain, unwaith eto, yn y Papur Gwyn, ond mae angen i ni sicrhau bod ein busnesau ar waith cyn gynted â phosibl gyda’r rheini.

Mae pryder allweddol arall yn ymwneud â’r cyfyngiadau capasiti y mae’r porthladdoedd eu hunain yn eu hwynebu. Clywsom y gallai’r diffyg gofod i ddarparu ar gyfer gwiriadau ffiniau a thollau newydd ar ôl Brexit arwain at oedi hir yn ein porthladdoedd—ac nid yng Nghymru’n unig, oherwydd mae’r un broblem gan Dover, fel sydd wedi cael sylw’n aml. Ac wrth sôn am Dover, cofiwch mai Caergybi yw’r ail borthladd prysuraf yn y DU ar gyfer cargo sy’n cael ei rolio ar ac oddi ar longau ar ôl Dover. Felly, mae ein pumed argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith brys yn y maes hwn—ac nid yw gwaith brys, gyda llaw, yn golygu rhai o’r atebion a glywsom yn y sesiwn dystiolaeth, lle y dywedodd rhywun, ‘Wel, byddwn wedi gadael yr UE, ni fydd y gyfarwyddeb cynefinoedd yn weithredol mwyach, gallwn groesi hyd yn oed yn haws.’ Nid dyna yw’r bwriad a geisiwn.

Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i’r argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae’r diffyg manylder, efallai, yn ei ymateb ychydig yn siomedig, ac o bosibl, nid yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon y tynnwyd sylw atynt. Mae’n bosibl ei fod yn dymuno ymhelaethu ar hynny yn ei ymateb. Yn allweddol, nid yw’n rhwymo Llywodraeth Cymru i lunio’r cynllun wrth gefn ar gyfer rheoli priffyrdd y gofynasom amdano, a hoffwn ofyn iddo ailystyried yr angen am hwn.

Gan symud ymlaen at yr ymateb i argymhelliad 6, mae pawb ohonom yn cydnabod bod nifer o agweddau ar ymadawiad y DU â’r UE yn faterion nad ydynt i’w penderfynu gan Lywodraeth Cymru, na’r sefydliad hwn o ran hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein rhwystro rhag cynllunio ar gyfer pob senario. Wrth dynnu sylw at ein porthladdoedd, roeddem wedi gobeithio tynnu sylw Llywodraeth Cymru at faterion sydd angen eu hystyried. Ac rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, felly, yn rhoi ymrwymiad pellach yn ei ymateb i ymgymryd â’r gwaith manwl o gynllunio senario y buasem yn hoffi ei weld, yn enwedig gan fy mod yn clywed mwy a mwy gan Lywodraeth y DU eu bod yn awr yn cynllunio ar gyfer Brexit ‘dim bargen’. Rwy’n credu, felly, bod angen i ni fod yn cynllunio’n weithredol yn awr.

Pan aethom ati i edrych ar borthladdoedd Cymru, roedd yn amlwg i ni y byddai angen i ni ofyn am dystiolaeth gan ein cymydog agosaf, ac i’r perwyl hwnnw roeddwn wrth fy modd yn mynd i Ddulyn ar ymweliad rapporteur. Roedd y cynrychiolwyr Gwyddelig y cyfarfuom â hwy yn falch iawn o gyfarfod â ni, a chredaf fod honno’n agwedd bwysig—roeddent yn awyddus i ymgysylltu. Roedd yn amlwg, fel y dywedodd rhywun yn ein hymchwiliad, fod ein holl borthladdoedd fferi yn pwyntio tuag at Iwerddon. Felly, roedd yn destun pryder mawr i ni nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ceisio trefnu cyfarfodydd gyda’i swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ar y pryd, ond fe glywsom pan ymwelodd â ni yn y pwyllgor ei fod yn gwneud trefniadau i wneud hynny. Buaswn yn falch o glywed a yw wedi gwneud hynny bellach.

Mae’r cloc yn tician ar y trafodaethau hyn ac os ydym am ddiogelu buddiannau Cymru, mae’n rhaid i ni ymgysylltu’n rhagweithiol â’n cyfeillion a’n cynghreiriaid ar draws Ewrop, a chan yr holl Weinidogion nid y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn unig. Fel y dywedais, roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu ei fod wedi cael trafodaethau gweinidogol gyda’i swyddog cyfatebol yn Iwerddon. Buaswn yn ddiolchgar am fwy o fanylion mewn perthynas â hynny, a sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â’r rheini o bosibl.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae ein hargymhelliad olaf yn canolbwyntio ar y syniad o borthladdoedd rhydd, sef ardaloedd lle nad yw tollau mewnforio, TAW a thaliadau mewnforio eraill yn berthnasol, neu ble y gall mewnforwyr neu allforwyr ohirio taliadau o’r fath. Mae’n gysyniad nad oes digon o ymchwil wedi’i wneud yn ei gylch yng Nghymru. Nid ydym wedi bod eu hangen o reidrwydd, ond efallai fod gennym gyfle yn awr i edrych ar y cyfleoedd y bydd Brexit yn eu cynnig o ganlyniad i hynny. Mae argymhelliad 8 yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y cyfleoedd hyn a gweld a all dynodiad porthladdoedd rhydd yng Nghymru fod yn effeithiol ac yn ddefnyddiol. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector i gyflawni hyn.

Cadeirydd, mae ein hadroddiad yn paentio darlun sobreiddiol. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn ac yn cadw Cymru a masnach Cymru i symud ar ôl Brexit. Os nad yw ein hofnau gwaethaf ynghylch oedi hir yn ein porthladdoedd yn amharu ar y cadwyni cyflenwi a thagfeydd ar ein ffyrdd i ddod yn realiti, bydd angen inni weld camau’n cael eu cymryd yn awr ac yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Tua 15 mis yn unig sydd gennym cyn i ni adael yr UE. Cadeirydd, rwy’n argymell yr adroddiad hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ar bwyllgor materion allanol y Cynulliad hwn fod yn realistig o ran i ba raddau yr ydym yn debygol o allu dylanwadu ar y drafodaeth Brexit. Gyda hyn mewn golwg, rwy’n credu ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar feysydd lle y gallwn daflu goleuni ar yr hyn y bydd Brexit yn ei olygu i Gymru lle y mae Llywodraeth y DU yn annhebygol o ganolbwyntio. Rwy’n cynrychioli etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle y gallwn ymfalchïo yn rhai o’r porthladdoedd mwyaf rhagorol yn y Deyrnas Unedig. Mae ein perthynas ag Iwerddon, un o’r marchnadoedd allforio mwyaf, yn hollbwysig, ac roeddem yn ofni y byddai Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei holl sylw ar oblygiadau Brexit i brif borthladdoedd de-ddwyrain Lloegr. Felly, mae’n hanfodol cael dealltwriaeth go iawn o beth fyddai Brexit caled yn ei olygu i borthladdoedd yng Nghymru. Y ffaith amdani yw bod lorïau sy’n mynd yn ôl ac ymlaen i’r UE drwy Dover yn cymryd tua dwy funud i’w prosesu. Nawr, os ydych yn gyrru lori o’r tu allan i’r UE i mewn i’r DU neu ohoni, mae’n cymryd tua 20 munud i’w phrosesu. Felly, ceir problemau ymarferol a logistaidd yn deillio o ffin galed ag Iwerddon, a fyddai’n achosi tarfu mawr yn ein porthladdoedd lle y mae tir ar gyfer ehangu er mwyn parcio lorïau’n gyfyngedig iawn.

Nawr, mae’r trafodaethau yn yr UE wedi dod i stop ar gam cynnar iawn, ac un o’r rhesymau dros hyn yw ein bod mor bell o sefyllfa lle y gallwn ddod o hyd i ateb i’r sefyllfa gyda ffin Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn dal i lynu at ryw gred y bydd hi’n bosibl i ffin Gogledd Iwerddon fod yn ffin allanol yr UE—ffin galed—ac eto maent yn credu o ddifrif fod hyn yn mynd i fod yn bosibl heb unrhyw angen am wiriadau tollau.

Nawr, mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn meddwl bod technoleg yn mynd i roi’r holl atebion i’r cwestiynau ynglŷn â threfniadau ffiniau’r UE, ond dywedodd tyst ar ôl tyst wrthym y byddai’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â datblygu datrysiad technolegol yn golygu y byddai angen i ni integreiddio’r gweithdrefnau CThEM yn Iwerddon a’r DU yn system dollau gwbl integredig, ac nid oes unrhyw ffordd y gellir gwneud hynny mewn pryd pe baem yn dod allan o’r UE yn ddisymwth, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol. Nawr, nid oes angen i mi atgoffa’r Siambr am hanes affwysol o wael Llywodraeth y DU o ran datrysiadau TG uwch-dechnoleg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.

Nawr, un wlad arall yn unig sy’n bryderus iawn ynglŷn â Brexit, sef Gweriniaeth Iwerddon. Wrth ymdrin â chynrychiolwyr o’r Weriniaeth, roedd yn amlwg fod eu ffocws wedi bod i raddau helaeth ar ddatrys y problemau’n ymwneud â’r ffin â Gogledd Iwerddon ac nad oeddynt wedi meddwl cymaint pa effaith y byddai ffin feddal â Gogledd Iwerddon, lle y gallai lorïau deithio drwodd yn ddilyffethair, yn ei chael ar fasnach uniongyrchol rhwng y Weriniaeth a’r DU drwy Gymru, a allai, o bosibl, olygu oedi sylweddol o ran amser a gwaith papur. Clywsom nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyfarfod â’i swyddog cyfatebol yn Iwerddon, a byddai’n dda clywed, fel yr awgrymodd y Cadeirydd, a yw’r cyfarfod hwnnw wedi cael ei gynnal.

Nawr, yr wythnos hon, nododd Llywodraeth y DU ei gweledigaeth ar gyfer polisi masnach a thollau ar ôl gadael yr UE, ac mae’n debyg fod yn rhaid iddynt roi rhywbeth i Liam Fox ei wneud. Ar hyn o bryd, ceir 50 o gytundebau masnach rhwng yr UE a gwledydd o gwmpas y byd. Tra byddwn yn dal i fod yn aelodau o’r UE, ni allwn wneud ein cytundebau masnach ein hunain. Mae Llywodraeth y DU â’i phen yn y cymylau, a Mr Hamilton hefyd, os ydynt yn credu ein bod yn mynd i ddod yn agos at efelychu’r cytundebau masnach yr ydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd gyda’r UE. A dyna un o’r rhesymau pam y credaf y buasai’n gwbl wallgof inni adael yr undeb tollau. Dywedodd tyst ar ôl tyst wrthym y gallai ffin galed gydag Iwerddon gael effaith negyddol sylweddol ar ein porthladdoedd yng Nghymru, yn enwedig os oes ffin feddal â Gogledd Iwerddon.

Os yw hyn yn digwydd, rwyf am wneud yn siŵr fod y bai am unrhyw effaith negyddol yn union lle y dylai fod: ar y gwleidyddion a’r pleidiau gwleidyddol sy’n gwthio ac yn pleidleisio o blaid gweld y DU yn gadael yr undeb tollau. A hoffwn ei gwneud yn glir y byddaf fi a’r Blaid Lafur yn lleol yn gwylio Stephen Crabb AS a Simon Hart AS yn Sir Benfro yn arbennig, a’r ffordd y maent yn pleidleisio yn y Senedd ar y mater hwn, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn bersonol am unrhyw swyddi a gollir, neu oedi, neu effeithiau negyddol ar borthladdoedd yn Aberdaugleddau neu Abergwaun o ganlyniad i adael yr undeb tollau. Mae eu pleidleisiau’n bwysig iawn pan fo gan y Llywodraeth Dorïaidd fwyafrif mor fach, a byddwn ni a phobl Sir Benfro yn ffurfio barn ynglŷn ag a fyddant yn rhoi anghenion eu sir yn gyntaf neu anghenion eu plaid.

Wel, ceisiaf gadw at yr adroddiad, sy’n nodi bod pryderon ynglŷn â goblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru yn canolbwyntio ar dri maes: y bydd ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn dadleoli traffig o borthladdoedd Cymru i’r rhai yn Lloegr a’r Alban drwy Ogledd Iwerddon; y bydd unrhyw drefniadau tollau newydd yn creu heriau o ran technoleg a logisteg i’n porthladdoedd; a bod llawer o borthladdoedd Cymru heb gapasiti i ddarparu ar gyfer unrhyw reolaethau ffiniau a gwiriadau tollau newydd.

Fel y mae ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad yn datgan:

‘Ar hyn o bryd mae dros 70 y cant o’r cargo rhwng Iwerddon, Prydain Fawr a’r UE yn pasio trwy borthladdoedd Cymru.’

Mae’n ychwanegu:

‘Os na chynhelir archwiliadau tollau ar ynys Iwerddon ond eu bod yn cael eu cynnal ym mhorthladdoedd tir mawr y DU, gallai hynny fod yn sbardun i gludwyr nwyddau symud eu cargo trwy ffin dir Iwerddon ac i’r DU o Ogledd Iwerddon—gan ddefnyddio Lerpwl a/neu’r Alban fel y “bont dir” yn hytrach na Chymru.’

Felly, mae’n peri pryder nad yw Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai ofyn am eglurhad gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni a ragwelir ar gyfer datblygu a gweithredu trefniadau tollau TG newydd arfaethedig a nodi sut y mae’n disgwyl i gostau’r trefniadau newydd hyn gael eu talu.

Rhybuddiodd Stena Line Ports fod Caergybi’n gyfyngedig o ran gofod ac na fyddai ganddo’r capasiti i stopio cerbydau. Mae’n destun pryder hefyd felly nad yw Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylai nodi sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg capasiti ffisegol i ddarparu ar gyfer ffiniau newydd a gwiriadau tollau ym mhorthladdoedd Cymru.

Yn 2015, aeth 50 y cant o’r dros 750,000 o lorïau a gludwyd ar hyd y coridor canolog i Ddulyn drwy Gaergybi. Ar ôl Dover, Caergybi yw’r porthladd fferïau rolio ar ac oddi ar longau mwyaf ond un yn y DU, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, gyda model busnes yn dibynnu ar y polisi porthladdoedd agored. Gan efelychu’r dull cyfrifol sy’n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Iwerddon, dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud paratoadau manwl yn awr i sicrhau na fydd unrhyw drefniadau newydd yn arwain at ddadleoli traffig o borthladdoedd Cymru, a Chaergybi’n bennaf.

Fel gwrthgyffur yn erbyn peth o’r darogan gwae a glywyd o’r blaen, ac a glywyd yn fwy diweddar yn y Siambr hon efallai, gadewch inni felly ystyried peth o’r dystiolaeth a welodd y pwyllgor. Canfu arolwg yn 2017 gan Gymdeithas Allforwyr Iwerddon o’i haelodau fod 94 y cant yn gwneud busnes gyda’r DU, neu’n allforio i’r DU, a bod 67 y cant yn gwneud defnydd o bont dir y DU i gael mynediad at farchnadoedd cyfandirol. Dywedodd Gweinidog cyllid Iwerddon wrth bwyllgor seneddol Gwyddelig yn gynharach eleni,

Ni allaf weld sut na fyddai hynny’n cael ei gynnal oherwydd os edrychwn ar y sefyllfa yn yr Eidal lle y mae miloedd o lorïau’n gyrru drwy’r Swistir bob dydd i’r ddau gyfeiriad gan gario nwyddau a gwasanaethau o’r Eidal i’r Almaen a Ffrainc ac yn y blaen ac mae ganddynt drefniant lle y caiff y lori ei selio fel nad oes raid ei harchwilio’n ffisegol a cheir trefniadau cyfreithiol sy’n berthnasol.

Ar ôl cynnal gwaith modelu manwl, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, dywedodd Swyddfa Datblygu Morol Iwerddon wrthym na fyddai Brexit yn cau pont dir y DU sy’n cynnig 18 awr o fantais i farchnadoedd cyfandirol. Ddydd Iau diwethaf, dywedodd pennaeth masnach llysgenhadaeth Canada ym Mrwsel wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod 70 y cant o’u masnach gyda’r Unol Daleithiau yn cael ei gludo gan lorïau ar draws ychydig o fannau croesi ar y ffin, a bod rhaglenni cliriadau diogelwch ar gyfer lorïau a gyrwyr, ynghyd â rhaglen e-manifest ar gyfer nwyddau, yn system effeithlon a chyflym iawn.

Dywedodd Gweinidog trafnidiaeth Iwerddon wrthym y dylai mater yr ardal deithio gyffredin gael ei ddatrys heb unrhyw broblem go iawn a dywedodd Adran Materion Tramor a Masnach Iwerddon wrthym y gallwch adael yr undeb tollau a pharhau i gael trefniadau tollau wedyn.

Yn ei hymateb, nid yw Llywodraeth Cymru ond yn datgan ei bod yn ceisio lliniaru’r risg i fusnesau Cymru o ddiffyg parodrwydd drwy weithio gyda Chyllid a Thollau EM. Ond dywedodd Irish Ferries wrthym y byddai datrysiad TG yn allweddol a bod trafodaethau gyda Chyllid a Thollau EM a’r sector eisoes ar y gweill. Efallai fod hyn yn esbonio pam yr oedd rhaid i’r pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael ar frys â’r diffyg ymgysylltiad rhyngddi a swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ar ôl clywed bod Iwerddon wedi cael dros 400 o gyfarfodydd yn ymwneud â Brexit ar draws Ewrop, ond cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet yma nad oedd wedi cyfarfod â’r cydweithwyr cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon hyd yn hyn i drafod goblygiadau Brexit i gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru ac Iwerddon. Diolch.

Diolch, Gadeirydd, a diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y ddadl yma. Er ein bod ni’n sôn am bryderon am ddyfodol porthladdoedd ym mhob rhan o Gymru, fel Aelod Ynys Môn rydw i’n siŵr y gwnewch chi faddau imi am ganolbwyntio ar Gaergybi, y dref forwrol, falch ers cyn cof, ond a ddatblygodd yn aruthrol o bwysig fel y prif borthladd ar draws môr Iwerddon o Gymru, ers i Telford ddod â’r A5 yno bron i ddwy ganrif yn ôl. Ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, tyfu a thyfu mae’r porthladd wedi’i wneud. Roedd rhai o’m cyndeidiau i ymhlith y rhai a fu’n gwneud eu bywoliaeth yn gwasanaethu’r llongau post, y llongau nwyddau a llongau teithwyr. Mae ymhell dros 1,000 yn dal i gael eu cyflogi’n uniongyrchol ym mhorthladd Caergybi—mae llawer mwy yn yr economi ehangach yn ddibynnol ar y porthladd. Mae 4.5 miliwn o dunellau o nwyddau’n pasio drwyddo bob blwyddyn. Fel rydym ni wedi’i glywed, dim ond Dover sy’n fwy o ran llif ceir a cherbydau nwyddau ar ‘ferries’.

Ond, os ydy Caergybi wedi cael ei greu, wedi cael ei ddiffinio drwy brysurdeb ei borthladd yn y gorffennol, nid oes cuddio’r bygythiadau sy’n ei wynebu fo rŵan. Mae unrhyw rwystr i lif cerbydau a nwyddau yn fygythiad i borthladd Caergybi, ac felly’n fygythiad i les pobl Caergybi. Felly, mae’n rhaid i ni fynnu sicrwydd ar nifer o feysydd. Rydym yn gwybod am y peryg i fasnach os bydd yna rwystrau ariannol. Mae hynny’n codi cwestiynau dwys ar gyfer yr holl economi—tariffau ac ati—ac rwy’n synnu na wnaeth yr Aelod Ceidwadol gyfeirio at hynny. Ond mi ganolbwyntiaf i ar ddwy elfen yr adroddiad yma sydd o ddiddordeb arbennig i fi ac sy’n arbennig o berthnasol o ran dyfodol Caergybi, sef dyfodol ffiniau Iwerddon a dyfodol yr undeb tollau.

Petasai yna ffin galed yn cael ei chreu rhwng Caergybi a Dulyn, mi fuasai hi yn amlwg yn mynd yn llai deniadol i bobl deithio a gwneud busnes drwy Gaergybi. Rydym ni’n sôn, cofiwch, am dros 2 filiwn o deithwyr, 0.5 miliwn o geir, 400,000 o gerbydau cludo nwyddau. Fel y dywedodd tystion wrth y pwyllgor, mae’r broses o symud nwyddau wastad yn dilyn y llwybr hawsaf—y llwybr symlaf. Felly, mae pryder gwirioneddol pe buasai yna ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a ffin galed rhwng Cymru a’r weriniaeth, byddai hynny’n negyddol i ni. Mi rybuddiodd Irish Ferries y gallai hynny gael goblygiadau economaidd difrifol ar borthladdoedd Cymru mewn cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Y bygythiad arall wedyn ydy os ydy Prydain yn gadael yr undeb tollau. Rydym ni wedi clywed eisoes, ers creu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, neu ei chwblhau, beth bynnag, yn 1993, a chael gwared ar y ‘checks’ tollau ar gerbydau rhwng Cymru ac Iwerddon, mae faint o nwyddau sy’n teithio rhwng Caergybi a Dulyn wedi cynyddu’n aruthrol—bron i 700 y cant ers dechrau’r 1990au. Rydw i am ddyfynnu pryderon dau o’r cwmnïau llongau mawr sy’n gweithredu o borthladd Caergybi—yn gyntaf, Paddy Walsh o Irish Ferries sy’n rhybuddio, ‘we’

cannot revert to pre-1993 Customs Procedures, where all import and export vehicles, would have to be cleared through Customs…. Not only have traffic volumes grown considerably, but the whole process of goods ordering and delivery has changed.’

Mae pobl rŵan yn archebu heddiw a disgwyl cael nwyddau yfory, heb iddyn nhw fod wedi eu storio mewn rhyw warysau anferth fel ers talwm. Nid ydy rhwystrau mewn porthladd yn ffitio i mewn i’r dull modern o fasnachu. Ian Davies, wedyn, o Stena Line Ports sy’n dweud yn glir bod twf masnach rhwng Caergybi ac Iwerddon wedi digwydd oherwydd polisïau o borthladdoedd agored. Mae yna gydbwysedd da iawn, meddai fo rŵan, rhwng nwyddau a theithwyr:

If you disturb one of those flows, you are disturbing the whole business model. And therefore the consequence, instead of having 28 sailings a day, you may end up with a lot less connectivity to Welsh ports.’

Mi fyddai hynny’n ddrwg iawn i ddyfodol Caergybi. Mi fuasai hefyd angen newid strwythur y porthladd petasai yna angen am ‘checks’ newydd. Yn syml iawn, yn ôl rheolwyr y porthladd, nid yw’r lle, nid ydy’r capasiti, ganddyn nhw bellach, ac mi oedd hyn yn un o gasgliadau’r pwyllgor hefyd, roeddwn yn falch iawn o’i weld. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf i:

Government has to realise that we cannot magic up additional space in the port if it transpires that full customs border checks are required.

Yn ei dystiolaeth o i’r pwyllgor, hefyd, Ian Davies o Stena yn dweud:

We have some of the largest ferries in Europe coming in….The whole port would come to a grinding halt….It’s physically not possible to do it at the ports presently.’

Rydw i yn dod i ben. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad y pwyllgor i amlinellu sut y maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg capasiti yma ym mhorthladdoedd Cymru, ond rydw i’n gobeithio yn fawr y cawn ni fwy o gig ar yr asgwrn gan yr Ysgrifennydd Cabinet er mwyn imi allu adrodd yn ôl i reolwyr a staff y porthladd. Rydym ni’n wynebu cyfres o heriau yn y fan hyn. Nid hanes balch ond dyfodol hyderus a ffyniannus rydw i eisiau’i weld i borthladd Caergybi.

Diolch i’r pwyllgor deddfwriaeth ychwanegol am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae’n fater pwysig. Ceir cymhlethdodau economaidd a fydd yn codi’n anochel o Brexit, ac nid wyf yn ceisio eu lleihau. Nid wyf eisiau gweld y problemau hyn yn cael eu gorliwio er mwyn creu effaith wleidyddol oherwydd fy marn i yw bod pobl y DU wedi lleisio barn, ac maent eisiau Brexit; am hynny y gwnaethant bleidleisio, ac am hynny hefyd y gwnaeth Cymru bleidleisio. Felly, efallai fod angen i’n hen gyfaill Eluned Morgan gofio’r canlyniad hwnnw o bryd i’w gilydd. [Torri ar draws.] Iawn, dyna eich barn chi, os ydych yn credu bod etholwyr y DU gyfan mor grediniol â llyncu llwyth o gelwyddau, yna mae hynny’n sicr yn adlewyrchiad o’ch barn ar yr etholwyr, ac nid yw’n adlewyrchiad da iawn. [Torri ar draws.]

Na, newydd ddechrau wyf fi, Rhun, ac nid wyf yn mynd i fynd drwyddo gyda’r holl nonsens hwn. Felly, ni ddylem orliwio anawsterau er mwyn creu effaith wleidyddol, ond yn sicr ni ddylem eu bychanu chwaith. Yr hyn sy’n rhaid inni ei wneud yw ystyried yn rhesymegol yr holl oblygiadau economaidd. O ran sefyllfa masnach sy’n pasio drwy borthladdoedd Cymru, os oes unrhyw ffyrdd y gallwn symud yn ystyrlon tuag at geisio datrys y materion hyn, neu o leiaf fynd i’r afael â hwy’n ystyrlon, dylem wneud hynny yn awr, cyn belled ag y gallwn, yn yr amser sydd ar ôl cyn i ni adael yr UE. Dyna oedd y pwyllgor i’w weld yn ei wneud gyda’r adroddiad hwn. Felly, rwy’n meddwl y gall yr adroddiad hwn fod yn ddefnyddiol.

Mae’r adroddiad yn eithaf clir o ran yr hyn y mae’n ei argymell, ac i fod yn deg, nid yw wedi cilio rhag beirniadu gweithredoedd Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, neu ei diffyg gweithredu. Dyfynnaf o ragair y Cadeirydd:

‘Roeddem yn siomedig o glywed bod ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â’n cyfeillion a’n cymheiriaid yn Iwerddon wedi bod mor brin hyd yma a phwyswn ar Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i’r afael â hyn ar fyrder.’

Mae’r Prif Weinidog wedi treulio llawer o amser ers y refferendwm Brexit yn siarad am Brexit a’r holl broblemau y mae’n meddwl ei fod yn eu hachosi. Un mater y mae’n tueddu i sôn amdano bob un tro, yn ddi-ffael, yw mater y ffin rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Felly, mae hi braidd yn rhyfedd nodi bod rhagair a ysgrifennwyd gan ei gyd-Aelod Llafur ei hun, David Rees, yn nodi ei fod wedi gwneud cyn lleied i fynd i’r afael â’r mater hwn ei hun. Mae’n ymddangos bod Prif Weinidog Cymru eisiau siarad am ei broblem tan ddydd y farn er mwyn iddo allu cynyddu ofnau pobl, ond nid yw’n ymddangos mewn gwirionedd ei fod yn awyddus i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Felly, gobeithio y bydd Gweinidog yr economi, sydd yma heddiw, yn dweud wrthym pa gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, ac rwy’n gobeithio er mwyn pawb ohonom ei fod yn bwriadu bod yn fwy rhagweithiol yn hyn o beth nag y mae’r Prif Weinidog wedi bod.

Un pwynt pellach o ragair y Cadeirydd, sy’n crynhoi’r adroddiad. Unwaith eto, rwy’n dyfynnu:

‘Yn ogystal, rydym yn bendant y bydd angen i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r amserlen ar gyfer gwaith ar ddatrysiadau technolegol i drefniadau tollau ar gyfer y dyfodol gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth y DU.’

Mae hwn yn gais eithaf penodol, felly rwy’n meddwl y gellid ymateb iddo’n eithaf penodol. Rydym yn gwybod bod gan Weinidog yr economi afael go dda ar ei bwnc fel arfer, gall roi atebion manwl inni, fel y gwelsom ddoe ac ar sawl achlysur blaenorol, felly efallai y gallai ein goleuo heddiw yn ei ymateb ar y pwynt penodol hwn a nododd y pwyllgor. Wedi’r cyfan, cyfeiriodd David Rees, yn ei gyfraniad, a oedd yn gyfraniad eithaf da yn fy marn i, at yr angen i ddechrau gwneud pethau yn awr. Os ydym yn mynd i wneud rhywbeth, gadewch i ni gael pethau i symud yn awr, ac rwy’n cytuno ag ef.

Dychwelaf at y rhagair i dynnu un pwynt olaf ohono:

‘Yn anad dim, rydym am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector i baratoi ar gyfer yr amrywiaeth o senarios sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ac felly rydym yn galw arni i lunio trefniadau wrth gefn manwl.’

Rwy’n sylweddoli bod cyfyngiadau o ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. [Torri ar draws.] Wrth gwrs fy mod. Cwyn y Prif Weinidog, a gawsom ganddo eto ddoe, yw na all wneud llawer cyhyd â’n bod yn ansicr beth y mae Llywodraeth y DU am ei wneud. Mae hwnnw’n bwynt rhesymol cyn belled ag y mae’n mynd. Fodd bynnag, o ran sefyllfa porthladdoedd Cymru, rwy’n credu bod camau penodol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd. Gallai’r camau gweithredu hyn fod yn gamau gweithredu defnyddiol yn hytrach na swnian dibwrpas yn unig.

Rydym wedi clywed gan nifer o bobl am fater dadleoli traffig trwy Ogledd Iwerddon, a fyddai’n golygu y byddai’n osgoi porthladdoedd Cymru. Mae perygl o hynny. Rwy’n cydnabod bod y risg yn bodoli ac mae’n rhaid inni edrych arno, ond rwy’n ddiolchgar i Mark Isherwood hefyd, sy’n aelod o’r pwyllgor hwn—nad wyf fi’n aelod ohono—am egluro nifer o’r pwyntiau’n ymwneud â’r dystiolaeth a glywsant, oherwydd mae ei ragolwg yn llawer mwy optimistaidd. Mae’n sylweddoli bod yna her, fod yna berygl economaidd posibl, ond mae hefyd yn cydnabod bod y dechnoleg yno i’n helpu i oresgyn y risg. Tynnodd sylw hefyd at y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada, lle y ceir traffig enfawr yn croesi, ond oherwydd bod y dechnoleg ar gael, mae’n croesi’n rhydd heb lawer o oedi.

Iawn. Efallai fod gwahaniaethau yn y berthynas fasnachu rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada a’n perthynas ni ag Iwerddon, ond y gwir yw nad ydym yn gwybod beth fydd ein perthynas ag Iwerddon yn y dyfodol oherwydd y cwestiwn hwn ynglŷn â’r ardal deithio gyffredin a oedd gennym gydag Iwerddon cyn i’r naill neu’r llall ohonom ymuno â’r UE hyd yn oed. Gallai honno fod ar waith pan fyddwn yn gadael yr UE, felly nid ydym yn gwybod.

Diolch, Cadeirydd, fe ddof â hwy i ben. Y pwynt olaf yw porthladdoedd rhydd—rwy’n credu bod hwnnw’n gysyniad diddorol iawn. Rwy’n falch iawn fod y pwyllgor yn awyddus i ymchwilio i hyn ac mae gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan Weinidog yr economi i’w ddweud am y porthladdoedd rhydd gan fod hwnnw’n gyfle y gallai Brexit ei gyflwyno. Diolch.

Diolch i chi, rydym wedi clywed gan bob plaid bellach. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r siaradwyr nesaf gadw at yr amser. Joyce Watson.

Fe wnaf fy ngorau, Cadeirydd. Beth bynnag, roeddwn yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad blaenorol, a chymerais ran yn ymchwiliad 2012 i gysylltedd rhyngwladol trwy borthladdoedd Cymru. Unwaith eto, ym mis Chwefror 2016, adroddodd y pwyllgor hwnnw ar botensial yr economi forol. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod bod llawer wedi newid ers hynny. Mae Brexit ar y gorwel ac mae ei oblygiadau’n enfawr i’n porthladdoedd. Felly, rwy’n falch iawn o weld bod y pwyllgor hwn wedi ailedrych ar y mater penodol hwn.

Fel rhywun sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae hynny mewn gwirionedd yn golygu y rhan fwyaf o arfordir Cymru, rwy’n deall realiti’r pwnc penodol hwn yn ein hardal. Mae gennym borthladdoedd fel Porth Tywyn, Aberaeron a Phwllheli, dau brif ddoc yn Abergwaun ac Aberdaugleddau, ac maent yn gwbl hanfodol i’r economi, yn enwedig yr economi honno yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy’n poeni’n fawr iawn am adael yr undeb tollau, y farchnad sengl, y polisi pysgodfeydd cyffredin a fframweithiau amgylcheddol yr UE, a fydd yn achosi newidiadau dramatig i’r porthladdoedd hynny.

Gwyddom y bydd yna gyfleoedd byd-eang, ond mae’n parhau’n ffaith bod bron i hanner allforion y DU a mwy na hanner y mewnforion yn ôl ac ymlaen i’r UE. Mae’n rhaid i ni gael Brexit yn iawn, ac mae hynny’n golygu peidio â rhwystro masnach wrth y tollau a siecbwyntiau. Mae’n gwbl hanfodol. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod dros 70 y cant o gargo Iwerddon ar hyn o bryd yn mynd drwy Gymru, cargo rolio ar ac oddi ar longau yng Nghaergybi yn bennaf, fel y crybwyllwyd yn barod. Ond mae hynny’n digwydd yn Abergwaun ac ym Mhenfro yn ogystal.

Felly, mae’n weddol amlwg fy mod i’n rhannu pryderon y pwyllgor y byddai ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn anfanteisio Cymru er budd porthladdoedd Lloegr a’r Alban gyda’r cysylltiadau hynny â Gogledd Iwerddon. Hynny yw os yw’n ffin feddal, gan nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth ar wyneb y ddaear y mae’r Llywodraeth hon yn bwriadu ei wneud. Nodaf fod y Prif Weinidog yn ei haraith yn Fflorens unwaith eto wedi tynnu sylw ati ei hun drwy ei distawrwydd ar y cwestiwn enfawr a phroblemus hwn.

Yn ddiweddar, darllenais adroddiadau diddorol ar sut y mae’r ffin rhwng Norwy a Sweden yn gweithredu. Mae Norwy, fel yr oedd sawl cefnogwr Brexit—ac nid wyf fi’n un ohonynt—yn awyddus i nodi yn ystod ymgyrch y refferendwm, yn meddu ar y berthynas fasnachu agosaf sy’n bosibl gyda’r UE heb fod yn rhan o’r bloc mewn gwirionedd. Mae cytundebau ffiniau wedi bod gan y ddwy wlad ers 1959, a rhwng Norwy a’r UE ers 1997, ac eto mae smyglo’n parhau i fod yn broblem enfawr. O ganlyniad, y flwyddyn ddiwethaf yn unig, roedd bron i 0.25 miliwn o wiriadau cerbydau ar y ffin honno. Yn fyr, hyd yn oed heb amgylchiadau unigryw ynys Iwerddon, mae profiad Norwy a Sweden yn awgrymu y bydd cynlluniau ar gyfer ffin ddi-ffwdan rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn anodd eu cyflawni.

Serch hynny, mae’n rhaid i ni sicrhau bod porthladdoedd Cymru mor barod â phosibl ar gyfer beth bynnag fydd y trefniant ar ôl Brexit. Mae pobl wedi sôn yma heddiw—felly nid af i fanylder er mwyn arbed peth amser—am yr adroddiad ar y datrysiadau technolegol ar gyfer cyflymu gwiriadau. Nid ydynt yno ar hyn o bryd. Maent ar gael, ond mae’n amlwg nad yw’r seilwaith yno. Ni fuaswn yn dibynnu gormod ar weld y Llywodraeth hon yn rhoi unrhyw arian ychwanegol i Gymru fod yn barod ar gyfer unrhyw beth o gwbl, gan ein bod eisoes wedi’i gweld yn cefnu ar addewidion i ddatblygu seilwaith yng Nghymru hyd yma. Felly, nid wyf yn meddwl o ddifrif y gallwn ddibynnu ar hynny mewn unrhyw ffordd, ond rwy’n cytuno ag un peth yma’n barod, sef y ffaith y byddwn yn gwylio’n ofalus iawn—

[Yn parhau.]—yn Sir Benfro beth fydd patrymau pleidleisio’r ddau AS y mae arnynt esboniadau i’w hetholwyr ynglŷn â’u camau gweithredu, sy’n diogelu swyddi a dyfodol y bobl sy’n dibynnu arnynt yn Sir Benfro.

Rwy’n gobeithio y cydymffurfir â fy nghais i gadw at yr amser o hyn ymlaen. Simon Thomas.

Diolch, Cadeirydd. A gaf fi beidio ag ailadrodd rhai o’r materion sydd wedi cael sylw eisoes, a siarad yn benodol dros borthladd Aberdaugleddau yn fy rhanbarth? Clywsom yn awr mai Caergybi yw’r porthladd mwyaf o ran teithwyr, ond Aberdaugleddau yw’r porthladd mwyaf o ran ynni, ac mae tua 5,000 o swyddi yn dibynnu ar yr ynni a ddaw trwy borthladd Aberdaugleddau. Ond mae datblygiadau a chyfleoedd eraill yno yr hoffwn fynd ar eu trywydd yng nghyd-destun yr adroddiad hwn—adroddiad da iawn gan y pwyllgor—hefyd. Nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedwyd am Brexit a’r angen i gadw ffin feddal rhwng Cymru ac Iwerddon—rwy’n credu bod hynny’n glir iawn yn y sylwadau a wneuthum mewn ymyriad ar y Cadeirydd—ond hoffwn ddweud hyn hefyd: oni fyddai’n eironig pe baem yn cael gwared ar y tollau ar bont Cleddau rhwng y ddwy ochr i borthladd Aberdaugleddau, mewn ardal fenter, ar yr un pryd ag y cawn dollau’n dod i mewn ar nwyddau sy’n dod trwy’r porthladd, neu unigolion sy’n dod trwy’r porthladd? Rwy’n credu bod hynny mor eironig ac mor amharchus, os caf ei roi felly bron, o economi Cymru a’r modd y mae angen inni ddatblygu’r economi yn ein porthladdoedd, ac Aberdaugleddau yn arbennig.

Nawr, un o’r pethau sy’n datblygu yn Aberdaugleddau yw’r datblygiadau ynni amgen yno, ac felly rydym am weld—. Ac mae cysylltiad yma â’r cynllun morol yr hoffem ei weld gan Lywodraeth Cymru. Rydym am weld rhyw fath o benderfyniad ar y morlyn llanw, oherwydd bod yna gwmnïau peirianneg ym mhorthladd Aberdaugleddau a allai fod yn rhan o ddatblygu morlyn llanw ym mae Abertawe ac yn ehangach. Ddydd Gwener, rwy’n edrych ymlaen at ymweld â Ledwood Engineering a dadorchuddio WaveSub sy’n digwydd yno—dyfais ynni’r tonnau arall amgen. Felly, gwyddom am gyfoeth ein moroedd, nid yn unig o ran pysgod ond o ran ynni ac o ran twristiaeth, a’r porthladdoedd yw’r pyrth i fanteisio ar yr economi honno. Gobeithiaf y gwelwn—. Yr wythnos nesaf, rwy’n meddwl, bydd yna ddatganiad gan Lywodraeth y DU ar ddatblygiad diwydiannol gwyrdd a glân o ryw fath. Gadewch i ni weld a fydd ymrwymiad yno i’r morlyn llanw, sef yr hyn yr ydym o ddifrif am ei weld.

Rwy’n meddwl bod yna ddau gyfle hefyd i Aberdaugleddau yr hoffwn eu gweld yn cael eu harchwilio ymhellach gan Lywodraeth Cymru. Cymerwch bysgota, i ddechrau: yn draddodiadol nid yw wedi cael ei weld fel peth mawr yr ydym yn arbenigo arno yng Nghymru, ond y rheswm am hynny yn y bôn yw bod ein cwotâu pysgota wedi cael eu gwerthu i’r Belgiaid dros y 40 mlynedd diwethaf. Pan fyddwn yn ailgyflunio, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen inni ofyn i ni ein hunain a allwn wneud rhywbeth ynghylch cwota—sef glanio ein cwota, os ydych chi’n gweld beth rwy’n ei feddwl—a allwn gael ffordd debyg i’r un y mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ei hawgrymu, fod yn rhaid i rywfaint o gwota Cymru gael ei lanio ym mhorthladdoedd Cymru, felly unwaith eto, gallwn roi stamp ‘wedi’i lanio yng Nghymru’ neu ‘wedi’i lanio ym mhorthladd Aberdaugleddau’ ar bethau a thyfu ein pethau ein hunain—mwy o brosesu pysgod a syniadau eraill yn ymwneud â hynny. Nid yw’r bae Chesapeake y mae David Melding yn sôn amdano’n bell o Aberdaugleddau. Gellid glanio llawer o’r pysgod cregyn yno, eu prosesu yno—yn ogystal â chysylltiadau â diwydiant pysgod cregyn a diwydiant pysgota Iwerddon, gan gynnwys ffermio pysgod, sy’n datblygu yn Iwerddon ac maent angen marchnadoedd i ddod trwy Gymru. Felly, mae yna gyfle i ddatblygu ein diwydiant pysgota ac i adolygu’r rheol 10m ynghylch cychod hefyd, oherwydd mae hynny’n rhywbeth sydd newydd ei ymgorffori mewn deddfwriaeth Ewropeaidd. Yn ein porthladdoedd, gallwn adolygu hynny.

Mae’r ail syniad eisoes wedi cael ei grybwyll rwy’n meddwl, sef y syniad o borthladdoedd rhydd. Nawr, fel arfer, mewn undeb tollau, ni fyddech eisiau porthladdoedd rhydd mewn gwirionedd os oes gennych floc masnachu mawr. Ond mae yna gyfle i edrych ar feysydd a ddiffinnir yn fanwl lle nad oes toll neu dollau cartref mewn grym, yn cael eu codi, er mwyn caniatáu i nwyddau gael eu cludo drwyddynt. Gall hwn fod yn ateb ymarferol o ran y ffin rhwng Iwerddon a Chymru. Gall fod yn ateb, ac un o’r ardaloedd y gellid ei roi ar waith ynddi yw Aberdaugleddau. Pe bai Llywodraeth Cymru’n datblygu’r syniad o borthladd rhydd, rwy’n siŵr y byddai Caergybi a hefyd maes awyr Cymru Caerdydd â diddordeb mawr mewn gweld sut y gellid datblygu hynny. Ond mae’n ateb ymarferol posibl er mwyn datgloi rhai o’r anawsterau sydd ynghlwm wrth adael yr undeb tollau, er yr hoffwn gofnodi fy nghred y dylem aros yn yr undeb tollau, fel y ffordd fwyaf priodol ac ymarferol o ymdrin â phorthladdoedd a Brexit.

Felly, rwy’n gobeithio, beth bynnag sy’n digwydd, y byddwn yn rhoi sylw i’n porthladdoedd yng Nghymru fel ysgogwyr economaidd go iawn ac fel ardaloedd sy’n cyflogi llawer iawn o bobl yn fy rhanbarth ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn bod o ddifrif yn eu cylch. O ran hynny, rwy’n croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, gan ei fod o leiaf yn rhoi hyn ar y map gwleidyddol.

Diolch, Cadeirydd. Rwyf wrth fy modd yn dilyn Simon Thomas, mae ei areithiau bob amser yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol, ac nid yw heddiw’n eithriad. Cymeradwyaf yn gynnes yr hyn a ddywedodd am y cyfle y bydd gadael yr undeb tollau yn ei roi inni o ran porthladdoedd rhydd.

Diolch i Eluned Morgan nid yn unig am y cyhoeddusrwydd ychwanegol drwy fy enwi yn ei haraith, ond hefyd am ddod â safbwynt Gweriniaeth Iwerddon i’r blaen yn y ddadl hon. Dyma adroddiad ardderchog gan y pwyllgor, rwy’n meddwl, am ei fod yn deg iawn ac yn gytbwys, ond mae’n tynnu sylw at rai problemau pontio a allai fod yn ddifrifol yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr UE. Cymeradwyaf David Rees, fel Cadeirydd y pwyllgor, am fod yn batrwm o amhleidioldeb pleidiol, os caf ei roi felly, ac am wneud cyfraniad go iawn i’r ddadl hon yn fwy cyffredinol. Oherwydd, os na cheir cytundeb gyda’r UE, mae hwn yn fater difrifol iawn i Weriniaeth Iwerddon yn ogystal â Chymru—yn llawer mwy difrifol, efallai, i Weriniaeth Iwerddon, nag i ni, gan fod 50 y cant o allforion Iwerddon yn dod i Brydain. Mae 90 y cant o olew a nwy Iwerddon yn dod o Brydain, trwy Aberdaugleddau, i raddau helaeth iawn. Allforir gwerth £15 biliwn o nwyddau i’r DU. Mae hanner allforion cig eidion Gweriniaeth Iwerddon yn dod i Brydain, a 42 y cant o’i holl allforion bwyd a diod. Mae 50 y cant o gludwyr nwyddau Iwerddon yn gwasanaethu gwledydd cyfandir Ewrop dros bont dir y Deyrnas Unedig, ac mae 30 y cant o’r traffig yn nwyddau wedi’u hoeri. Felly, o ystyried yr oedi a fuasai’n anochel o ganlyniad i geisio dod o hyd i lwybrau eraill o’r porthladdoedd a ddefnyddir ar hyn o bryd, ceir risgiau difrifol iawn i Weriniaeth Iwerddon, sy’n ei gwneud hi’n fwy o syndod byth o bosibl fod y Comisiwn Ewropeaidd mor anhyblyg yn y trafodaethau hyn. A yw’r Gwyddelod yn mynd i’w chael hi’n well na’r Groegiaid ym meddyliau’r Comisiwn Ewropeaidd, Monsieur Barnier a Monsieur Juncker a’u cydweithwyr?

Nid wyf erioed wedi bod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â’r trafodaethau hyn mewn gwirionedd oherwydd bod yr UE, ar ôl bod yn brosiect gwleidyddol yn hytrach nag un economaidd o’r cychwyn cyntaf, er gwaethaf y ffaith mai’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oedd ei henw’n wreiddiol—yr hyn sy’n amlwg yn flaenllaw ym meddyliau’r negodwyr ar ran yr UE yw’r cyrchfan a welant yn y pen draw, sef gwladwriaethau ffederal Ewrop, na chefnogodd neb ym Mhrydain mohono erioed, ac ni ofynnwyd i neb erioed mewn unrhyw ran arall o Ewrop. Iddynt hwy, pris bach i’w dalu yw gwledydd bach er mwyn cyflawni eu hamcanion gwleidyddol cyfandirol mawreddog. Felly, credaf y dylid gresynu at y ffaith bod y Llywodraeth heb gychwyn ar y trafodaethau hyn yn disgwyl methu, ac felly wedi gwastraffu’r naw mis neu flwyddyn ddiwethaf pan allai fod wedi bod yn gwneud paratoadau i ymdrin â’r problemau ymarferol difrifol iawn y cyfeiriwyd atynt yn y ddadl hon, ac sy’n sicr yn galw am eu datrys ar fyrder—neu mae angen eu datrys ar fyrder os na cheir cytundeb—dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Rwy’n credu bod y datblygiadau technolegol y cyfeiriodd Mark Isherwood atynt yn ei araith yn cynnig ateb rhannol i’r broblem, ac yn sicr, maent yn lliniaru’r anawsterau a fydd yn codi, ac mae profiad gwledydd eraill, fel Canada, y Swistir, Norwy, Sweden—mae gan yr Almaen, yn wir, drefniadau tebyg drwy’r systemau gweithredwyr economaidd awdurdodedig, a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Ond yn bersonol rwy’n credu bod pob rheswm dros gredu, os yw aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn barod i roi pwysau ar y Comisiwn, gellid dod i gytundeb. Yr hyn sydd bob amser wedi fy rhyfeddu yw pa mor ddiymadferth yw’r aelod-wladwriaethau wrth wynebu’r ymgyrch tuag at undeb ffederal gan y Comisiwn pan fo’n bygwth eu buddiannau cenedlaethol domestig eu hunain—mewn rhai achosion, yn achos gwledydd de Ewrop, yn ddramatig tu hwnt yn wir. Nid wyf am weld Gweriniaeth Iwerddon yn dioddef o ganlyniad i Brexit fwy nag wyf fi am weld Prydain yn dioddef o ganlyniad i Brexit. Dylem gael y cysylltiadau agosaf posibl gyda’n cymdogion daearyddol, nid yn lleiaf oherwydd yr angen i gynnal y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Rwy’n credu y byddai’n drosedd pe bai’r Undeb Ewropeaidd, drwy ei anhyblygrwydd, yn peryglu hynny i gyd, ond mae hynny’n sicr yn bosibilrwydd.

Rwy’n credu bod yr adroddiad hwn yn cynnig y ffordd ymlaen yn ymarferol i ymdrin â’r problemau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed eglurhad Ysgrifennydd y Cabinet o’r gwahanol gwestiynau y mae’n eu codi a’r feirniadaeth a wnaed yn yr adroddiad.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith—Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro.

Ardderchog. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod porthladdoedd Cymru ar hyn o bryd yn gwneud yn well na’r disgwyl gyda thros 11 y cant o gyfanswm y nwyddau a gludir drwy’r DU yn cael eu trin gan borthladdoedd Cymru a thros 70 y cant o’r cargo i ac o Iwerddon, Prydain Fawr a’r UE ehangach yn pasio trwy borthladdoedd yng Nghymru. Felly, mae’n amlwg fod y sector eisoes yn gwneud cyfraniad mawr tuag at ein huchelgais o greu Cymru unedig, gysylltiedig, gynaliadwy, a mwy ffyniannus hefyd.

Mae hwn yn amser pwysig inni wrth inni edrych ymlaen at ddatganoli swyddogaethau sy’n gysylltiedig â phorthladdoedd o dan Ddeddf Cymru y flwyddyn nesaf, yn ystod ein Blwyddyn y Môr. Daw datganoli â chontract newydd rhwng y sector a Llywodraeth Cymru, a bydd y berthynas estynedig honno’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau.

Mae porthladdoedd yng Nghymru wedi cael llwyddiant mawr gydag amgylchedd masnach a’r farchnad. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol cynnal yr amgylchedd hwnnw. Rwyf am sicrhau bod yr amodau cywir ar waith i alluogi porthladdoedd i gyflawni hyd yn oed mwy o lwyddiant, ond rhaid inni gydnabod yr ansicrwydd sydd o’n blaenau yn dilyn y penderfyniad i adael i’r UE. Mae hyn yn creu heriau unigryw.

Yn ein Papur Gwyn, rydym wedi nodi’n glir beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit, gan gynnwys pwysigrwydd hanfodol osgoi tarfu ar ein masnach. Rydym hefyd wedi pwysleisio y byddai unrhyw newidiadau i reolau mudo a/neu reolau tollau yn cael effaith uniongyrchol a phwysig ym mhorthladdoedd Cymru, ac mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at ddifrifoldeb yr effeithiau posibl hyn.

Yr allwedd i reoli’r bygythiadau a’r cyfleoedd hyn yw sicrhau ymgysylltiad agos a chydweithredol rhwng yr holl bartïon perthnasol, ac rwy’n falch o fod wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.

Y thema gyffredin sy’n cysylltu pob argymhelliad yw’r angen i weithio mewn partneriaeth, boed tuag at sicrhau nad yw trefniadau tollau’n anfanteisio porthladdoedd Cymru neu tuag at ystyried datrysiad TG. Bydd y dull hwn yn ein galluogi i hyrwyddo a diogelu cyfleoedd economaidd morol a chynyddu ffyniant trwy Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bod yn rhagweithiol yn y maes hwn. Yn ogystal â’r fforymau ymgysylltu sefydledig sy’n bodoli eisoes rhwng Llywodraethau, busnesau a’r sector, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn ymgysylltu â ni, gyda phorthladdoedd Cymru, a chyda busnesau perthnasol ar faterion tollau.

Mae’r dull hwn, sy’n cael ei gefnogi’n llawn gan grŵp porthladdoedd Cymru, yn ein galluogi i ddeall effaith ymarferol y trefniadau tollau newydd yng Nghymru, o ran porthladdoedd ac o ran y goblygiadau economaidd ehangach i fusnesau yng Nghymru. Wedyn, gallwn benderfynu, cyn gynted ag y bo modd, ar y cyfuniad cywir o atebion sydd eu hangen i sicrhau masnach mor ddi-ffwdan ag y bo modd. Ein prif flaenoriaeth yn y gofod hwn a gadwyd yn ôl yw gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i symud tuag at y trefniadau tollau a thariffau mwyaf buddiol a fydd yn darparu twf i’n porthladdoedd a’r economi ehangach yn ogystal â gwella gweithgaredd masnachol ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r sector ar y bygythiadau a’r cyfleoedd a allai effeithio ar ein gallu i ddiogelu a gwella rôl porthladdoedd yn dilyn Brexit, a byddwn yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU yr angen i sicrhau nad yw porthladdoedd Cymru dan anfantais annheg o ganlyniad i unrhyw drefniadau ffiniau gwahanol posibl, fel yr argymhellwyd yn adroddiad y pwyllgor.

Fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid eraill megis Llywodraeth Iwerddon i asesu goblygiadau Brexit ac i archwilio heriau a chyfleoedd i’r ddwy ochr, ac rwy’n falch o fod wedi cael cyfle i ymwneud yn bersonol â Shane Ross, fy swyddog cyfatebol ar draws y dŵr, i drafod cynllunio ar gyfer perthynas ar ôl Brexit. Mae Cymru yn darparu cyswllt strategol ag Iwerddon i weddill y DU a thir mawr Ewrop. Bydd sicrhau bod y cyswllt hwnnw’n cael ei gynnal o fudd i bob parti, fel y nododd yr Aelodau’n gywir.

Ers cyhoeddi adroddiad y pwyllgor, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei dull a ffafrir o symleiddio trefniadau tollau ar ôl Brexit a ddoe cyhoeddodd Bapur Gwyn ar dollau ynghyd â Phapur Gwyn ar fasnach. Mae’r Papur Gwyn ar dollau’n nodi cynlluniau i ddeddfu ar gyfer cyfundrefnau tollau, TAW ac ecséis annibynnol y bydd eu hangen ar y DU ar ôl iddi adael yr UE, yn ogystal â manylion y cynlluniau wrth gefn rhag ofn y ceir ‘dim bargen’. Mae’r sylwadau cryf a wnaethom ni a diwydiant mewn perthynas â masnach ddi-ffwdan wedi eu clywed, rwy’n meddwl, ond mae sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol yn parhau i fod yn aneglur, yn enwedig os ceir ‘dim bargen’, ac mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth o hyd i ddod i gytundeb gyda’r UE. Yn syml iawn, ni all busnes fforddio wynebu unrhyw risg o oedi gormodol neu weinyddu ar gyfer gwiriadau tollau newydd. Rydym mewn perygl o weld masnach bwysig yn cael ei cholli i borthladdoedd yn yr Alban a gogledd Lloegr, ac mae llawer o’r nwyddau sy’n croesi o Iwerddon i Gaergybi yn ddarfodus ac maent i’r cyfeiriad arall, felly bydd unrhyw oedi—unrhyw oedi hir—yn drychinebus. Rwy’n cydnabod bod y papur i’w weld yn mynd i’r afael â chwestiwn ffin feddal a chaled a’r niwed posibl i borthladdoedd Cymru drwy bwysleisio na all yr ateb i osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon olygu gosod ffin dollau newydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Ond unwaith eto, mae sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol yn parhau i fod yn aneglur, ac rwy’n poeni bod Papur Gwyn y Bil tollau yn ei hanfod yn cynnig cyflwyno trefniadau manwl drwy is-ddeddfwriaeth.

Fel y mae nifer o’r Aelodau wedi nodi, mae’r Papur Gwyn hefyd yn rhoi llawer o ymddiriedaeth mewn technoleg i ddarparu’r ateb i fasnach ddi-ffwdan. Efallai’n wir y gwnaiff hynny, ond rwy’n credu bod dull o weithredu risg uchel yma, nad yw’n gadael unrhyw le i gamgymeriadau neu oedi mewn maes lle nad yw hanes blaenorol Llywodraeth y DU yn dda. Ar ben hynny, nid yw manylion y datrysiad TG arfaethedig wedi cael eu datgelu’n llawn, ac felly mae’n ei gwneud hi’n amhosibl asesu’n gywir beth yw’r gost ar hyn o bryd.

Dirprwy Lywydd Dros Dro, gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn ystyried ac yn ymgysylltu ar fanylion pellach drwy’r ddau Bapur Gwyn ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad wrth i ddatblygiadau fynd yn eu blaenau. O ran y pwynt ynglŷn â phorthladdoedd rhydd, hoffwn ddweud nad yw ardaloedd o’r fath wedi eu cyfyngu’n ffisegol i borthladdoedd, ond rydym yn ymgysylltu’n rhagweithiol â’r sector ac â phorthladdoedd unigol ar botensial ardaloedd rhydd, a byddwn yn ceisio dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU wrth i’r sefyllfa honno ddod yn glir.

Diolch, Cadeirydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau? Fel y dywedodd Russell George, mae’n braf cael Aelodau nad ydynt ar ein pwyllgor yn cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma mewn gwirionedd. Ac a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am ei ymateb, yn enwedig i rai o’r sylwadau a gafodd sylw gennym heddiw?

Fe af drwy ychydig o bethau. Amlygodd Eluned Morgan oblygiadau presennol y rheolau tollau heddiw—ac mae’n hynod o bwysig—ond tynnodd sylw hefyd at rywbeth nad oedd pobl yn ei sylweddoli o bosibl: pan aethom i Iwerddon, gwnaethom dynnu eu sylw at y goblygiadau posibl i borthladdoedd Iwerddon. Oherwydd pe baent yn penderfynu mynd drwy lwybr Gogledd Iwerddon, gan y bydd busnesau’n dewis y llwybr gyda’r lleiaf o ymwrthedd, wrth gwrs byddai goblygiadau i borthladdoedd Dulyn a Rosslare yn ogystal. Nid oeddent wedi meddwl am hynny hyd yn oed ar y pwynt hwnnw, felly rwy’n meddwl ei bod yn werth cael y trafodaethau hyn, a gobeithio hefyd fod y gwaith a wnaethom wedi helpu Llywodraeth Iwerddon i edrych ar yr agwedd honno.

Mae gadael yr undeb tollau’n ddinistriol, ond mae’n ymddangos mai dyna’r ffordd yr ydym yn mynd. Ond mae pawb wedi bod yn siarad am—fe ddewisaf un pwnc—datrysiadau TG; mae pawb yn siarad am y peth. I chi wybod, roeddwn yn arfer darlithio mewn peirianneg meddalwedd a datblygu meddalwedd. Rwy’n gwybod bod fy nghyd-Aelod Mike Hedges hefyd wedi bod yn y byd TG. Gallaf ddweud wrthych nad yw’n hawdd creu datrysiad ar gyfer hyn, ac os yw pobl yn credu y gallant ei wneud yn gyflym, ac os oes ganddynt ddatrysiadau yn rhywle arall oherwydd ei fod yn gweithio yn rhywle arall, mae’n ddrwg gennyf, mae’r cymhlethdodau, yr anawsterau, y gofynion gwahanol, gwahanol gyfleusterau—nid yw’n trosglwyddo’n awtomatig. Mae hwn yn ddatrysiad anodd a chymhleth iawn. Mae’n hirdymor, ac ni ellir ei wneud mewn 12 mis, sef yr amser y soniwch amdano. Bydd, efallai y bydd yn ddatrysiad yn y tymor hwy, ac yn y diwedd fe gyrhaeddwn yno, ond nid oni bai ein bod yn gallu cael hyn yn iawn erbyn mis Mawrth 2019.

Do, tynnwyd sylw at y bont dir—bydd y DU yn dal i fod yn bont dir, yn ôl pob tebyg. Siaradwyd am y dewisiadau o fynd drwy Cherbourg. Roedd amserlen y croesiad fferi yn her iddynt, ond ni wnaethant ddiystyru’r opsiwn mewn gwirionedd o fynd fwyfwy drwy ogledd Iwerddon, ac felly dyna oedd ein pryder: y byddai’r opsiwn hwnnw ar gael i ni ac iddynt hwy oherwydd y gwahanol drefniadau a allai fod ar waith.

Rhun, rydych yn canolbwyntio yn naturiol ar yr effaith ar Gaergybi a chymunedau yn eich ardal eich hun. Gallai gael effaith ddinistriol, os nad ydym yn ofalus, ar Gaergybi a’r cymunedau o amgylch Caergybi, a’r busnesau a’r bobl sy’n gweithio yno. Nid oeddem eisiau gweld Caergybi, y dref gyfan yn y bôn, yn dod yn faes parcio ar gyfer lorïau, sef yr hyn a allai ddigwydd. Oherwydd gadewch i ni gofio un peth: pan fydd problemau yn Calais, beth sy’n digwydd yng Nghaint? Mae’r M20 yn cau ac yn dod yn faes parcio mawr ar gyfer lorïau. Nid ydym am ddatrysiadau fel hynny yn unman. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r materion hyn yn awr i wneud yn siŵr nad yw’n digwydd.

Simon, ydy, unwaith eto mewn gwirionedd mae ein hadroddiad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y fferïau lle y caiff cargo ei rolio arnynt ac oddi arnynt, ond rydych yn hollol iawn fod porthladdoedd yn ymdrin â meysydd eraill. Ceir llawer o borthladdoedd cargo yng Nghymru, ac mae’n rhaid ystyried pysgota a’r goblygiadau i bysgota hefyd, gan fod cyfleoedd gan Aberdaugleddau i edrych ar sut y gellir newid y cwotâu pysgota a sut y gall y diwydiant pysgota yn Aberdaugleddau newid hefyd mewn gwirionedd. Mae’n bwysig. A Joyce—yr effaith ar y diwydiannau morol gwahanol ar draws yr ystod gyfan, ym mhob man yn y rhanbarth hwnnw. Ie, rydych chi’n iawn: cael Brexit yn iawn, dyna’r neges sy’n rhaid i ni ei hanfon, ond nid wyf yn credu bod y Llywodraeth yn gwneud hynny ar hyn o bryd—ac rwy’n siarad am Lywodraeth y DU yma, nid Llywodraeth Cymru.

A gaf fi droi, efallai, at fy nghyd-Aelodau—[Torri ar draws.] Ie, Mark.

Ar y TG, fe gofiwch, sawl mis yn ôl, fod Irish Ferries wedi dweud wrthym eu bod, ymysg eraill, yn trafod â Chyllid a Thollau EM ynglŷn â datrysiadau TG. Oni fyddech chi, fel fi, yn gobeithio, erbyn hyn, y byddai Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn er mwyn sefydlu pa ddatrysiadau TG oedd yn cael eu hystyried gan Gyllid a Thollau EM, fel y corff a fydd yn penderfynu ar hyn yn y pen draw?

Wel, rydych chi’n hollol iawn, mae’n bwysig cael y safbwyntiau o ran ble rydym ni gyda dadleuon ynglŷn â datrysiad TG rhwng CThEM a chyrff a grwpiau a sefydliadau eraill; mae’n rhaid iddo fod yn hanfodol. Ond rwy’n meddwl—yn wir, roeddent yn dweud wrthym nad oeddent hwy hyd yn oed yn meddwl y byddent yn llwyddo i’w wneud mewn pryd, a dyna’r broblem fwyaf. Felly, mae’n rhaid inni gael rhywbeth rhwng nawr a’r adeg honno.

Gareth Bennett, diolch i chi am gyfeirio at fy rhagair—hoffwn pe na bawn wedi ei ysgrifennu yn awr, weithiau—ond a gaf fi eich atgoffa, fel Cadeirydd pwyllgor, nad wyf yn wleidyddol? Dyna nod y pwyllgor. Mae pwyllgorau’n myfyrio ar y materion ac yn adrodd i’r Cynulliad. Nid ydym yn lleisiau Llywodraeth nag unrhyw barti arall, lleisiau’r Cynulliad ydym ni. Dyna’r gwaith, a dyna a wnaethom. Ac rydych yn siarad am beidio â bod yn wleidyddol, ac yna’n treulio amser maith yn bod yn union hynny, ond dyna ni.

Neil, fe soniaf amdanoch, felly fe gewch sylw gennyf fi hefyd. Diolch am ddweud bod hwn yn adroddiad teg a chytbwys; rydym yn ceisio cadw at hynny. Ac rydych yn iawn, mae yna effaith enfawr i Iwerddon, yn ogystal—gallai hyn gael effaith enfawr ar Iwerddon, felly mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r mater a’n bod yn gweithio gydag Iwerddon i fynd i’r afael â’r mater hwn. Ond fe’i colloch hi wedyn a bwrw iddi i refru am Gomisiwn yr UE ddim yn gwneud cytundebau. Wel, mae’n ddrwg gennyf, roeddech yn mynd mor dda, ond dyna ni.

Dau eiliad—wel, 10 eiliad. Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich atebion. Yn amlwg, mae yna rai meysydd y mae angen i ni eu harchwilio ymhellach ar y mater hwn. Ond mae gennyf un cwestiwn i chi: fe sonioch am Lywodraeth y DU a gofyn iddynt ymuno yn y fforwm; a gaf fi ofyn, a ydynt wedi gwneud hynny? A ydynt mewn gwirionedd wedi dweud, ‘Ydym, rydym yn awyddus i gymryd rhan’? Oherwydd mae’n bwysig eu bod yn dechrau gwrando ar yr hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru. Diolch i chi, bawb.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Ardrethi Busnes

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliannau 2, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Yr eitem nesaf yw dadl UKIP ar ardrethi busnes, a galwaf ar Caroline Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6526 Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu:

a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;

b) bod ardrethi busnes o’u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a’u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i’r broses o sefydlu busnesau newydd;

c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi’r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i’r stryd fawr.

2. Yn penderfynu:

a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy’n gysylltiedig â’r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;

b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;

c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o’r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o’r fath fod yn berthnasol i’w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Gadeirydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig ger eich bron heddiw. Cyn i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth, roeddwn yn berchennog busnes bach, yn gweithredu busnesau ar y stryd fawr ym Mhen-y-bont yr Ogwr a Phorthcawl, a chefais brofiad personol o’r heriau sy’n wynebu busnesau ar ein strydoedd mawr. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau yn ceisio lliniaru rhai o’r heriau hyn. Galwn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ardrethi busnes fel ateb tymor hwy ac i gyflwyno rhyddhad ardrethi gwell i fusnesau bach yn y tymor byr. Bydd hyn yn chwistrellu cymorth mawr ei angen i fanwerthwyr annibynnol bach sy’n cael trafferth, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein strydoedd mawr.

Fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan yn eu maniffesto ar gyfer 2017, mae manwerthwyr annibynnol bach yn gwneud cyfraniad unigryw ac anhepgor i gymeriad ein strydoedd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Maent yn hanfodol i economïau lleol ar hyd a lled y wlad. Mae cyfran lawer uwch o refeniw yn cael ei ailgylchu i mewn i’r gymuned leol trwy fusnesau bach na thrwy fusnesau eraill yn lleol. Heb siopau annibynnol bach, mae ein strydoedd mawr mewn perygl o ddod naill ai’n gregyn gwag neu’n fersiynau llai o’r parciau manwerthu ar gyrion y dref. Os ydym am gadw cymeriad ein strydoedd mawr, o Ben-y-bont ar Ogwr i Fangor, o Gei Connah i’r Bont-faen, mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.

Mae un o bob wyth uned fanwerthu ar hyn o bryd yn wag, a chydag economi Cymru’n llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU nid yw’r rhagolygon ar gyfer y stryd fawr yn wych. Mae manwerthwyr y stryd fawr yn cael trafferth gyda rhenti ac ardrethi busnes cynyddol, ar yr un pryd ag wynebu cystadleuaeth gynyddol gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref sydd â chostau llawer is. Mae’n rhaid i ni sicrhau chwarae teg, ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau bach a manwerthwyr annibynnol bach am weld camau’n cael eu rhoi ar waith ar ardrethi busnes.

Mae ardrethi busnes, fel y’u cyfansoddir ar hyn o bryd, yn eu hanfod yn annheg gan nad oes unrhyw berthynas rhyngddynt a phroffidioldeb busnes. Tâl yn seiliedig ar rent yr eiddo ydynt, ac fel y mae llawer o fanwerthwyr bach ar y stryd fawr wedi ei brofi er anfantais iddynt, nid ydynt yn adlewyrchu trosiant nac elw’r busnes. Nid oes dewis gan fanwerthwyr sy’n dymuno aros ar y stryd fawr ond ysgwyddo’r gost ychwanegol. Gallant symud, fel y mae rhai Gweinidogion wedi awgrymu yn y gorffennol. Felly, mae’n hanfodol i oroesiad ein strydoedd mawr ein bod yn cael treth decach yn seiliedig ar y gallu i dalu yn lle’r system ardrethi busnes bresennol.

Cefnogir hyn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a chonsortiwm manwerthu Cymru. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan bod y system ardrethi annomestig, fel y mae, yn dreth annheg ac anflaengar nad yw’n ystyried gallu cwmni i dalu. Mae’n rhaid i fusnes dalu £1 mewn ardrethi busnes cyn iddo ennill £1 mewn trosiant, heb sôn am £1 mewn elw. Nid yw’r system hon yn addas at y diben mwyach ac nid yw’n ystyried natur newidiol rhedeg busnes. Mae treth sy’n seiliedig ar eiddo, o ran ei natur, yn targedu busnesau’n annheg mewn lleoliadau dethol, megis strydoedd mawr. Pentyrru gofid yn unig a wna ailbrisiadau anaml, gan waethygu treth eiddo sydd eisoes yn llusgo ar ôl y cylch economaidd. Rydym yn cytuno.

Yn ôl consortiwm manwerthu Cymru, mae manwerthwyr Cymru am weld ardrethi busnes yn cael eu diwygio’n sylfaenol i bawb, boed yn fusnesau bach, canolig neu fawr eu maint. Yr hyn sy’n gwbl glir yw nad yw’r system bresennol yn addas at y diben. Mae’n rhwystro buddsoddiad ac yn arwain at gau siopau a cholli swyddi. Rydym yn deall na all hyn ddigwydd dros nos. Dyma pam yr ydym yn cynnig system interim o ryddhad ardrethi a fydd yn golygu na fydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £15,000 yn talu ardrethi busnes o gwbl, a gostyngiad o 20 y cant i fusnesau sy’n werth rhwng £15,000 a £20,000.

Er mai ardrethi busnes yw’r rhwystr mwyaf i oroesiad busnesau ar y stryd fawr, nid hwy yw’r unig un. Mae ein strydoedd mawr yn wynebu cystadleuaeth galed gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref. Rwy’n credu mewn marchnad rydd ond yma nid oes gennym chwarae teg, ac felly mae’r ods wedi eu pentyrru yn erbyn busnesau stryd fawr mewn mwy nag un ffordd. Mae datblygiadau ar gyrion y dref yn elwa o ddatblygiadau parcio am ddim ac nid yw’r meysydd parcio hynny wedi eu cynnwys yn y prisiad ardrethi busnes. Er mwyn cael mwy o chwarae teg, rydym yn cynnig y dylid cynnig parcio am ddim am o leiaf un awr mewn meysydd parcio ynghanol y dref a chanol y ddinas. Rydym yn credu y bydd hyn yn annog masnach yn lleol.

Nid Llywodraeth Cymru’n unig sydd i gymryd camau i achub ein strydoedd mawr. Mae gan Lywodraeth y DU ran i’w chwarae. Mae’n rhaid iddynt greu’r sefydlogrwydd economaidd sydd ei angen arnom er mwyn i’r stryd fawr oroesi. Mae angen iddynt edrych hefyd ar drethiant busnes. Hoffwn i Lywodraeth y DU adolygu’r dreth ar werth pan gaiff Brexit ei wireddu. Mae angen codi’r trothwy TAW o £85,000 ar hyn o bryd, a chyflwyno system fwy graddoledig. Ond yn anad dim, mae gan y cyhoedd yng Nghymru ran i’w chwarae hefyd. Dylai pawb ohonom flaenoriaethu manwerthwyr annibynnol—pan allwn wneud hynny—sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau o’r gwerth uchaf yn aml iawn. I aralleirio araith arweinydd y Blaid Lafur i’w cynhadledd, mae’n fater o’i ddefnyddio neu ei golli. Os yw’r cyhoedd yng Nghymru yn gweld gwerth y stryd fawr, mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r stryd fawr. Mewn ychydig llai nag wyth wythnos, fe fydd hi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach unwaith eto wedi lansio’r addewid £10, lle y maent yn annog cymaint o bobl â phosibl i addo y byddant yn gwario o leiaf £10 gyda busnes lleol, busnes bach, ddydd Sadwrn 2 Ragfyr. Rwyf wedi derbyn yr addewid hwnnw, fel y gwneuthum y llynedd a’r blynyddoedd cyn hynny, a byddaf yn cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac rwy’n annog pawb yma i wneud yr un peth.

Rwy’n annog pawb sy’n gwylio’r ddadl hon i dderbyn yr addewid. Mae cefnogi busnesau bach ein strydoedd mawr yn sicrhau bod gennym economi leol amrywiol a bywiog. Trwy ostwng y trothwy ar gyfer TAW, gallwn gyflogi mwy o bobl, ac yna bydd yr economi yn tyfu ymhellach. Rwy’n gofyn i chi ddangos eich cefnogaeth i’r stryd fawr yng Nghymru drwy gefnogi’r cynnig ger eich bron. Diolch yn fawr.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol; os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.

2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau traws-lywodraethol sy’n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a thyfu.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.

4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru’n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy’n fwy syml, yn fwy teg ac sy’n fwy penodol ar gyfer busnesau sy’n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr. Galwaf nesaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliannau 2, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru yn llawn a’r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant.

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a

b) diwygio’r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai.

Gwelliant 6—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 4, 5 a 6.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro—rwy’n credu y byddai Cadeirydd yn haws yn ôl pob tebyg. Rwy’n falch o gynnig y gwelliannau heddiw yn enw Paul Davies.

A gaf fi yn gyntaf groesawu parodrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru? Yn sicr, rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hwnnw’n gam i’r cyfeiriad iawn. Oedd, roedd gennym rywfaint o reolaeth dros ardrethi busnes cyn hynny, ond mae datganoli ardrethi busnes yn llawn, yn ein barn ni, yn dod â chyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru weithredu yn y maes hwn—offeryn arall yn y blwch offer economaidd, fel yr oedd y Prif Weinidog a rhagflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn awyddus i’w alw. Mae cael yr offeryn yn un peth, a’i ddefnyddio i wella’r gyfundrefn ardrethi busnes yn fater arall, a dyma ble y teimlwn nad yw gwelliant y Llywodraeth yn dderbyniol i ni. Mae nifer o elfennau yng ngwelliant y Llywodraeth na fuasem yn anghytuno â hwy. Yn sicr, pwysigrwydd busnesau bach—wrth reswm; nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn sefyll yn y Siambr hon i ddweud nad yw busnesau bach yn hanfodol bwysig i economi Cymru, fel y mae Caroline Jones yn wir newydd ei wneud yn glir.

Mae pwysigrwydd hanfodol gweithio ar draws y Llywodraeth yn rhan allweddol o welliant y Llywodraeth hefyd, ac mae hynny i’w groesawu. Yn y ddadl flaenorol, clywsom am bwysigrwydd Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd. Mae arnom angen fframwaith cydgysylltiedig rhwng Llywodraethau, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at Brexit, yn ystod y trafodaethau Brexit, y gwn fod llawer o’r Aelodau, gan fy nghynnwys i, yn bryderus yn eu cylch.

Fodd bynnag, dyna ble’r ydym yn gwahanu, ni fydd yn syndod i chi glywed. Nid ydym yn credu bod gwelliant Llafur yn pwysleisio’r brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa a rhoi’r gefnogaeth y maent yn crefu amdani, ac y maent wedi bod yn crefu amdani ers peth amser, i fusnesau ledled Cymru. Felly, fel y mae ein gwelliant, gwelliant 5, yn egluro, mae angen i ni weld mwy o fusnesau’n cael eu heithrio rhag gorfod talu ardrethi busnes yn gyfan gwbl, a busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000 yn benodol yn cael eu tynnu allan o hynny. Rydym yn cytuno gyda rhan fawr o gynnig UKIP yn y maes hwn, mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rydych hefyd wedi cydnabod yn fras pa mor bwysig yw tynnu’r baich hwnnw oddi ar fusnesau. Byddem hefyd yn cael gwared ar y lluosydd, fel y mae’r gwelliant yn nodi. Gallwn wneud hynny bellach wrth i ardrethi busnes gael eu datganoli’n llawn. Wrth gwrs, mae hyn i gyd wedi ei gynllunio i gynyddu cystadleurwydd a gwella’r economi; ymwneud â hynny y mae hyn i gyd.

Mae’n hawdd iawn sefyll yn y Siambr hon a siarad am ystadegau fel pe baem mewn rhyw fath o wactod, a gallaf daflu ystadegau at y Siambr a bydd y Gweinidog yn eu taflu’n ôl, ond rwy’n aml yn teimlo nad ydym yn mynd i wraidd y dadleuon drwy wneud hynny. Fel cymaint o’r dadleuon yn y Siambr hon, mae hyn yn ymwneud â gwella bywydau pobl allan yno, cefnogi busnesau, gwella bywydau pobl, helpu mwy o bobl i gynnal eu hunain. Yn sicr, dyna pam rwyf fi yma, ac rwy’n siŵr mai dyna pam y mae Aelodau Cynulliad eraill yma hefyd. Felly, gadewch i ni gofio’r effaith a gafodd yr ailbrisio diweddar ar fusnesau ledled Cymru. Nid anghofiaf i, gan fy mod wedi cael fy moddi, fel y cafodd llawer o Aelodau’r Cynulliad rwy’n siŵr, gan ohebiaeth, galwadau ffôn a negeseuon e-bost gan bobl a oedd yn poeni’n wirioneddol am yr effaith y byddai’r newidiadau i’r ailbrisio yn ei chael ar eu busnesau. Wrth gwrs, nid ailbrisiad Llywodraeth Cymru oedd hwn; roedd yr ailbrisio’n digwydd ar draws y sbectrwm, ar draws y DU. Felly, rydym yn cydnabod nad bai Llywodraeth Cymru oedd yr angen i gael ailbrisiad, wrth gwrs—mae’n rhan angenrheidiol o’r cylch economaidd a’r cylch busnes ac roedd yn rhaid mynd i’r afael â hynny. Ond roedd y ffordd yr ymdriniwyd â’r ailbrisio a’r ffordd y cafodd ei gyfathrebu i bobl ledled Cymru yn peri pryder i ni.

Fel y dywedais, cefais lawer o sylwadau ac mewn gwirionedd, yn anffodus—archwiliais hyn yn ddiweddar—mae un neu ddau o’r busnesau y cysylltodd eu perchnogion â mi eisoes wedi mynd—maent yn wag, mae byrddau ar y ffenestri. Credaf fod hynny wedi crisialu’n glir i mi pam yr oeddwn yn ymwneud â deiseb ar y pryd a pham yr oeddwn eisiau helpu’r perchnogion busnes hynny. Felly, nid codi bwganod oedd hynny, fel y mae rhai ohonom yn aml yn cael ein cyhuddo o wneud, nid gwneud llawer o sŵn am ddim rheswm—mae canlyniadau gwirioneddol yr ailbrisiad a’r diffyg cefnogaeth briodol i fusnesau eisoes wedi cael effaith.

Am ein gwelliant olaf—dylai fod mwy o gefnogaeth i gynlluniau peilot parcio am ddim—credaf y dylai’r Llywodraeth allu—wel, rwy’n tybio y dylech allu—cefnogi hyn, gan fy mod yn gwybod eich bod eisoes wedi rhoi rhywfaint o gefnogaeth i ymestyn cynlluniau peilot ledled Cymru ar gyfer parcio. Yr hyn a ddywedwn yn syml yw ein bod yn credu bod hynny’n beth da ac y dylid ei wella. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig er mwyn cael ein gwelliannau ar y papur, ond mae llawer o bethau da yn y cynnig hwn ac rwy’n falch fod UKIP wedi ei gyflwyno i’r Siambr heddiw, ac rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth i’n gwelliannau.

Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy’n lleihau’n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru;

c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; a

d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch. Dyma gyfle arall eto i ni drafod diwygio ardrethi busnes. Hynny yw, nid fi yw’r unig un, rwy’n siŵr, yn y Siambr hon, i gael fy nharo gan dswnami o déjà vu. Mae’n ymddangos ein bod yn dragwyddol yn y lle hwn yn dychwelyd yn gyson at y pwnc, ac am reswm da, mewn gwirionedd. Mae hon yn dreth anachronistig a ddifrïwyd. Mae hi ychydig fel y dreth ar ffenestri, a gafodd ei diddymu yn 1851, ond mae hon yn un sy’n dal i fod gyda ni. Ac am yr holl resymau y cyfeiriodd Caroline Jones atynt ac y cytunodd Nick Ramsay â hwy, mae’n hen bryd inni nid yn unig ddiwygio ar yr ymylon, ond edrych ar ffordd hollol wahanol o ymdrin ag ardrethi busnes. Oherwydd, wrth inni symud i sefyllfa lle y mae busnesau ffisegol, a elwir hefyd yn siopau, yn y sector manwerthu yn arbennig yn wynebu heriau enfawr wrth i ni symud ar-lein, rydym yn llwytho cost ychwanegol ar y sector hwn, sy’n anghynaliadwy, ac mae’r canlyniadau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt yno i’w gweld ym mhob un o’n canol trefi.

Mae ein gwelliant yn nodi’r polisi yr ymladdasom yr etholiad arno. Hynny yw, mae’n mynd i gyfeiriad tebyg. Roeddem yn awgrymu diddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £10,000 y flwyddyn a rhyddhad sy’n lleihau’n raddol hyd at £20,000. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rwy’n meddwl bod yr egwyddor yn glir. Roeddem hefyd yn cynnig eithrio busnesau yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu er mwyn annog dechrau busnesau newydd, cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban ac yn Lloegr. Ond dyma’r un go iawn, dyma’r wobr go iawn, sef archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

Nawr, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei dogfen ymgynghori. Mae dau ddiwrnod ar ôl, rwy’n meddwl, i bobl sy’n awyddus i leisio barn, ond mae’n ddogfen anhrefnus, siomedig iawn i fod yn onest gyda chi. Un o’r pethau cyntaf y mae’n ei ddweud yw y bydd y cynllun newydd yn cael ei lunio o fewn yr amlen cyllid blynyddol presennol o £110 miliwn. Felly, ble y mae’r cyfle i ddiwygio yno? Roeddent hefyd yn nodi rhai argymhellion i gynyddu’r trothwy ar gyfer rhyddhad, ond maent yn hynod o gymedrol. Hynny yw, yr unig opsiynau dichonadwy, yn ôl y ddogfen ymgynghori, yw codi trothwy’r 100 y cant o ryddhad o £6,000 i £8,000. Briwsion yw’r rhain, mewn gwirionedd, o ran helpu’r sector busnesau bach yng Nghymru. Cynyddu’r trothwy uchaf ar gyfer rhyddhad o £12,000 i £13,000—wel, mae hynny’n mynd i greu effaith drawsnewidiol ar ein sector busnes yng Nghymru. Ac, arhoswch amdano, o bosibl—mae’n llawn o iaith amodol—codi’r trothwy isaf i £8,000 a’r trothwy uchaf i £13,000. Wel, dyna’r broblem, ynte? Dyna’r diffyg uchelgais o ran diwygio ardrethi busnes ac o ran polisi economaidd yn gyffredinol gan y Llywodraeth hon.

Nid oes sôn o gwbl yn nogfen ymgynghori Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am newid o fynegeio yn ôl y mynegai prisiau manwerthu i’r mynegai prisiau defnyddwyr. Dyna oedd yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar lefel y DU mewn gwirionedd. Dim sôn am eithrio buddsoddiad newydd mewn offer a pheiriannau. Rwy’n cofio John McDonnell yn canmol hwnnw fel polisi radical a oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i fusnesau ar draws y tir—Lloegr, wrth gwrs. Unwaith eto, enghraifft o wneud a dweud un peth pan fo’n gyfleus iddynt yn wleidyddol dros y ffin, ac yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig lle y maent yn Llywodraeth mewn gwirionedd, nid ydynt yn gweithredu eu polisi eu hunain. Nid ydym yn synnu, ydym ni, ond yn sicr, rwy’n meddwl bod gennym hawl i fod yn hynod siomedig ynghylch diffyg arweiniad y Llywodraeth. Mae angen meddwl yn radical. Yn sicr nid yw wedi ei gynnwys o fewn cwmpas y datganiad o uchelgais pathetig o isel a gawsom gan y Llywodraeth mewn perthynas â’u hymgynghoriad. Dylem fod yn edrych ar arwain gweddill y DU ar ddileu’r dreth hen ffasiwn hon a chreu llwyfan y gall ein busnesau ffynnu arno.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn cael eu cyflogi mewn busnesau bach a chanolig eu maint. Mae’r perchnogion busnes fel arfer yn dod o’r gymuned y maent yn masnachu ynddi, neu’n byw gerllaw. Mae eu diddordeb mewn gweld canol tref sy’n gynaliadwy yn bersonol yn ogystal â phroffesiynol, ac mae elw, yn wahanol i elw Amazon, Tesco, Asda a’r lleill, yn llawer mwy tebygol o aros yn y gymuned leol yn hytrach na chael ei anfon i ryw riant-gwmni pell mewn gwlad arall. Gan fod yr elw’n aros yn y wlad, bydd y busnesau hynny’n talu eu cyfran deg o dreth y DU, yn wahanol i rai cwmnïau rhyngwladol.

Mae’r system gyfredol yn trethu pobl fusnes ar sail gwerth nominal eu heiddo. Mae hyn yn afresymegol ac yn canolbwyntio ar adeiladau yn hytrach na’r busnes sy’n gweithredu ohonynt. Mae i’w weld yn anghofio bod yna unigolyn neu bobl y tu ôl i unrhyw fusnes bach yn ceisio gwneud bywoliaeth. Mae’n dreth anflaengar, ac mae’n hen bryd ei newid i fodel mwy blaengar, fel y mae’r eiddo gwag ar lawer o strydoedd mawr Cymru a’r nifer gymharol lai o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn ei ddangos.

Mae datganoli ardrethi busnes i Gymru yn galluogi Cymru i arwain ar gyflwyno system ardrethu busnes sy’n flaengar ac yn decach. Hoffwn weld ardrethi busnes yn seiliedig ar elw neu drosiant, gyda chymhellion wedi eu hymgorffori fel bod cyflogwyr yn rhannu budd gostyngiadau mewn ardrethi busnes â gweithwyr, ar ffurf cyflogi mwy o bobl. Er enghraifft, gellid ailstrwythuro ardrethi busnes yn y fath fodd fel bod busnesau’n cael gostyngiad neu gyfradd ratach am gyflogi mwy o bobl. Gellid gosod amodau ar y disgowntiau i annog busnesau i gyflogi pobl ar gyflog uwch na’r isafswm cenedlaethol. Ychydig bach o feddwl creadigol sydd ei angen yma, dyna i gyd.

I’r rhai sy’n honni y byddai system o’r fath yn gallu bod yn gymhleth i’w gweinyddu, mae’n bosibl eu bod yn gywir, ond mae hyn yn ymwneud â’r ffordd orau o gefnogi busnesau a thalu am wasanaethau lleol. Rwy’n credu o ddifrif fod ffordd o’i wneud lle y ceir ewyllys i’w wneud, ac mae ysgogi twf economïau lleol â system drethi lleol decach yn bendant yn werth y gwaith gweinyddol ychwanegol a allai gael ei greu. Cyn i fusnes ddechrau masnachu, a chyn eu bod wedi ennill ceiniog drwy’r busnes, cânt eu llyffetheirio â bil ardrethi busnes mawr. Mae’r drefn ardrethi busnes yn datgymell busnesau rhag dechrau, ac yn gwneud bywyd yn anos i fusnesau ifanc ar adeg pan fydd angen rhywfaint o le arnynt i dyfu, i wneud elw a dechrau cyflogi pobl.

Nodaf welliannau Llywodraeth Cymru i’n cynnig, a hoffwn wneud y pwyntiau canlynol. Mae eich gwelliannau’n gwneud llawer o’ch cefnogaeth i fusnesau bach, ond cyhyd â’ch bod yn parhau i wneud dim gan ganiatáu i awdurdodau lleol chwalu’r strydoedd mawr a’r economi leol drwy ei gwneud yn anos ac yn ddrutach i wneud busnes yno, bydd eich honiadau ynglŷn â chefnogi busnesau bach yn parhau i swnio mor wag ag y maent wedi gwneud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’n iawn cyflwyno rhyddhad ardrethi, ond mae angen i fusnesau allu cynllunio a chyllidebu, ac nid yw’r senario ad hoc sydd gennym ar hyn o bryd yn caniatáu ar gyfer hynny.

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na wnaf. Mae’r rhai a oedd o blaid aros yn yr UE yn y lle hwn yn siarad o hyd am niwed ansicrwydd pan fyddant yn ceisio dadlau yn erbyn gwireddu ewyllys pleidleiswyr Cymru o blaid Brexit, ond maent yn hapus i adael mater ardrethi busnes yn ansicr ac yn annelwig. Mae angen set o reolau pendant ar gyfer y wlad gyfan, er gwaethaf mympwy achlysurol Llafur i adael i fusnesau osgoi ardrethi busnes ar ambell achlysur. Nodaf nad oes sôn yng ngwelliannau Llafur am ailstrwythuro neu adolygu ardrethi busnes er mwyn eu gwneud yn fwy teg.

Wrth edrych o amgylch strydoedd mawr gogledd Cymru—strydoedd mawr a oedd yn ganolfannau prysur, ffyniannus i’r gymuned o fewn fy oes i—maent bellach yn llawn o siopau gwag. Gallwch weld y pelenni chwyn, fwy neu lai, yn rholio ar hyd y stryd fawr. Mewn ardaloedd yn fy rhanbarth i, mae masnachwyr wedi cael eu hatal rhag llwytho yng nghefn a thu blaen i’w heiddo. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru gael y cyngor perthnasol i gynnig ateb o ran sut y mae masnachwyr yn mynd i lwytho’u stoc i’w siopau os na allant fynd â fan gludo nwyddau’n agos atynt. Go brin fod parcio yn y maes parcio aml-lawr i lawr y ffordd yn briodol.

Mae pethau fel hyn yn esbonio pam, yn gyffredinol, mai gan Gymru y mae’r gyfradd genedlaethol uchaf o adeiladau gwag ar y stryd fawr o’i chymharu â Lloegr a’r Alban. Roedd 15 y cant o siopau ac adeiladau hamdden yn wag ar ddiwedd hanner cyntaf 2015 ac rwy’n dyfalu nad yw’r sefyllfa’n ddim gwell. Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, ac fe’i dywedaf eto: mae rhai o’r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol, megis pedestreiddio, rheoliadau a thaliadau parcio, cael gwared ar fannau llwytho, cynyddu ardrethi busnes ac yn y blaen, yn dinistrio ein strydoedd mawr a’r busnesau bach a arferai fasnachu oddi yno. Mae hefyd yn dangos nad yw’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau perthnasol erioed wedi ceisio rhedeg busnes bach ac nad oes ganddynt syniad pa broblemau y mae’r rhai sy’n ceisio rhedeg busnesau bach yn eu hwynebu.

Nid yw gwneud rhedeg busnes yng Nghymru yn ddrutach o werth i neb—nid i Lywodraeth Cymru, Trysorlys y DU, yr awdurdod lleol, ac yn sicr nid i’r perchennog busnes a’u gweithwyr—ond dyna mae ein trefn bresennol o ardrethi busnes yn ei wneud. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad ar frys ar ailstrwythuro ardrethi busnes, fel bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn rhoi’r gorau i ladd gwydd aur y busnesau bach. Diolch.

Wel, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, ac mae’n adeg bwysig i ddatblygu polisi mewn perthynas ag ardrethi annomestig. Rwy’n cydnabod y profiad sydd gennym ni yma yn y Siambr, yn ogystal â’r safbwyntiau polisi a fynegwyd heddiw.

Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru ac ailddosberthir yr holl refeniw ardrethi a gesglir yng Nghymru yn llawn i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru i gefnogi’r gwasanaethau hyn. Rydym yn talu trethi oherwydd bod pawb ohonom yn cael y manteision cyfunol o wneud hynny. Y gwasanaethau lleol y mae ardrethi annomestig yn eu cynnal yw’r union rai y mae busnesau eu hangen er mwyn llwyddo. Er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn, mae’n iawn fod pawb sy’n gallu yn cyfrannu eu cyfran deg.

Mae ardrethi annomestig yn gymwys i’r rhan fwyaf o fathau o eiddo annomestig, gan gynnwys meysydd parcio a pharciau manwerthu ar gyrion y dref. Nid i fusnesau’n unig y maent yn berthnasol. Maent yn berthnasol i eiddo a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus, wrth gwrs, a sefydliadau dielw. Cynlluniwyd y system ardrethi yn benodol i fod yn dreth ar eiddo er mwyn codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Nid yw’n dreth ar drosiant neu elw; mae’r rhain yn ddarostyngedig i fathau eraill o drethi a godir gan Lywodraeth y DU ac a ddefnyddir at ddibenion eraill.

Mae Nick Ramsay wedi ein hatgoffa mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cynnal prisiadau eiddo. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae’n pennu’r fethodoleg ar gyfer prisio eiddo ac yn cymhwyso’r un fethodoleg ar draws y wlad, gan roi ystyriaeth i amodau’r farchnad eiddo yn lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw pob talwr ardrethi â’r un gallu i dalu, yn enwedig busnesau bach, lle y gall yr ardrethi fod yn gyfran uwch o’u costau cyffredinol. Dyna pam ein bod yn darparu dros £200 miliwn o gymorth ariannol fel rhyddhad ardrethi yn y flwyddyn ariannol hon, 2017-18, ac mae hwn yn cynorthwyo mwy na thri chwarter yr holl dalwyr ardrethi. Mae dros £100 miliwn i’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach eisoes yn cefnogi bron i 70 y cant o fusnesau yng Nghymru, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth eleni, ond rydym wedi ei ymestyn ar gyfer 2017-18. Heb y cymorth hwn, byddai busnesau bach yng Nghymru yn wynebu biliau trethi uwch.

Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad clir i roi cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd parhaol ar waith o fis Ebrill 2018. Fel sydd wedi cael ei ddweud a’i gydnabod heddiw yn y Siambr hon—a pham ei fod mor amserol, wrth gwrs—rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer y cynllun rhyddhad newydd, ac mae’r ymgynghoriad yn cau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy’n siŵr fod y sylwadau—rwy’n siŵr ein bod wedi eu gweld o’n hetholaethau a’n busnesau a’n cyrff, yn y cyfnod cyn y daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig. Mae’n gofyn am farn ar sut y gellid targedu’r rhyddhad yn well i gefnogi’r busnesau a fyddai’n elwa fwyaf a’r rhai a fyddai’n cyfrannu fwyaf at dwf economi Cymru a chynaliadwyedd ein cymunedau. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried sut y gellid datblygu’r cynllun parhaol i gefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n edrych, er enghraifft, ar yr opsiwn o ddarparu rhyddhad ychwanegol i ddiwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant. Wrth gwrs, mae angen sail dystiolaeth gadarn i ni ystyried yr opsiynau hynny.

Bydd y cynllun rhyddhad parhaol yn darparu sicrwydd a diogelwch i fusnesau bach, gan gyflwyno toriad treth a’u helpu i ysgogi twf economaidd hirdymor ar gyfer Cymru. Mae cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach parhaol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol Cymru yn dangos yn glir y pwys a roddwn ar gefnogi busnesau bach drwy ostwng eu trethi annomestig.

Er bod y gwerth ardrethol cyffredinol yng Nghymru wedi gostwng, rwy’n cydnabod bod prisiadau wedi codi mewn rhai mannau ac ar gyfer rhai mathau o eiddo. Felly, mewn ymateb i ailbrisiad 2017, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad trosiannol newydd gwerth £10 miliwn i helpu busnesau bach yr effeithir yn niweidiol ar eu hawl i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae’r cynllun rhyddhad yn darparu cymorth ychwanegol i dros 7,000 o dalwyr ardrethi, ac mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Ar y llaw arall, caiff rhyddhad trosiannol yn Lloegr ei ariannu gan dalwyr ardrethi a welodd ostyngiadau yn eu gwerthoedd ardrethol o ganlyniad i’r ailbrisio. I fod yn glir, mae’r rhyddhad i’r rhai y mae eu prisiadau wedi codi yn cael ei dalu gan y rhai y dylai eu biliau fod wedi lleihau.

Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae busnesau bach wedi bod yn dweud wrthym, yn enwedig manwerthwyr y stryd fawr. Wrth gwrs, mae rhai ohonom wedi bod yn cynrychioli etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn fawr gan hyn, ac rydym yn sylweddoli bod yr ailbrisio wedi effeithio’n fwy ar rai trefi a chymunedau. Er bod llawer o strydoedd mawr ledled y wlad wedi gweld gostyngiad yn yr ardrethi, mae angen cymorth ychwanegol ar rai manwerthwyr yn fwy cyffredinol—gwnaed y pwyntiau hyn y prynhawn yma—oherwydd, er enghraifft, y gystadleuaeth gan dwf siopa ar-lein a siopau ar gyrion y dref. Dyna pam yr ydym wedi dyrannu £10 miliwn arall o gymorth ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai yn 2017-18. Unwaith eto, mae hyn yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. I lawer o dalwyr ardrethi, yn enwedig y rhai nad oedd ond yn gymwys yn flaenorol ar gyfer rhyddhad ardrethi rhannol i fusnesau bach, mae’r rhyddhad ychwanegol hwn wedi lleihau eu dyled sy’n weddill i ddim.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar fusnesau stryd fawr yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio ac unwaith eto’n adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i ddysgu ac i drafod y materion hyn. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol inni dynnu sylw at y ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein busnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru, yn enwedig y stryd fawr a’r cyfleoedd hynny. Lansiwyd y benthyciad i ficrofusnesau ym mis Hydref 2012 i roi cyfle, er enghraifft, i gefnogi busnesau gyda benthyciadau o rhwng £1,000 ac £20,000. Hyd yn hyn, mae’r gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru wedi cefnogi 371 o fusnesau, gan fuddsoddi £9 miliwn yn uniongyrchol a denu dros £7.8 miliwn o gyllid sector preifat pellach. Mae’r gronfa wedi creu a diogelu 1,747 o swyddi hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017. Weithiau, mae ystadegau’n ddefnyddiol, Nick Ramsay, i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd. Yn bwysig o ran adfywio, rydym hefyd wedi ariannu 20 o bartneriaethau canol y dref ar draws Cymru, ac yn ychwanegol at hyn, cronfa fenthyciadau canol y dref gwerth £20 miliwn.

Diolch i chi am ildio, Gweinidog. Rwy’n cydnabod y lefel o gefnogaeth a fu, yn ychwanegol at yr hyn a addawyd y llynedd, ac rydym yn croesawu hynny. Ond mae busnesau eraill wedi disgyn drwy’r rhwyd, ar wahân i’r rhai a grybwylloch, felly a allai eich Llywodraeth edrych eto ar y cynlluniau sydd ar waith?

Wel, rwy’n credu mai dyma pam y mae hi mor bwysig fod yr ymateb i’r ddadl hon heddiw a’r ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn llawn, ac rwy’n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cofio—. Rwyf am wneud sylw ar y cynllun maes parcio—wrth gwrs, eich gwelliant 6 oedd hwnnw—ond hefyd y ffaith, fel y dywedoch, fod arian wedi cael ei ddyrannu i gefnogi mentrau peilot i brofi dichonoldeb ac effaith parcio ceir am ddim, gyda’r bwriad o gefnogi adfywio ein trefi a’n dinasoedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, yn olaf, yn y tymor hwy, byddwn yn edrych i weld a allai newidiadau mwy sylfaenol i’r system ardrethi annomestig fod o fudd i wasanaethau lleol ac economi Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Adam Price wedi croesawu’r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ei gynlluniau ddoe, lle’r ydym yn edrych yn fwy manwl ar ddulliau amgen yn lle trethi eiddo annomestig. Mae’n rhaid i ni edrych ar yr enghreifftiau gorau o systemau trethiant o bob cwr o’r byd, gan gynnwys gwahanol fathau o drethi. Ac wrth gwrs, wrth ystyried y diwygiadau hynny, mae’n rhaid inni flaenoriaethu mwy o gydnerthedd i awdurdodau lleol, tegwch i ddinasyddion, a chyllid cynaliadwy i wasanaethau lleol hanfodol. Felly, adeg bwysig: datblygiad ar bolisi rhyddhad ardrethi busnesau bach. Edrychwn ymlaen at weld yr ymatebion i’n hymgynghoriad, ac rwy’n cymeradwyo gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn i’r Cynulliad. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, rwy’n ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae’n ymddangos bod UKIP i wedi cyflawni rhywbeth nad yw pobl fel arfer yn ei gysylltu â ni: y gallu i sicrhau consensws ac undod, ar yr ochr nad yw’n Llywodraeth i’r tŷ o leiaf. Rwyf mewn sefyllfa lle y gallwn fod wedi pleidleisio, mewn gwirionedd, dros welliant y Ceidwadwyr, neu welliant Plaid Cymru, oni bai am y ffaith y byddai hynny’n golygu dileu rhan o’n cynnig ein hunain. Rwy’n credu bod hon wedi bod, wel, yn un o nifer o ddadleuon rwyf wedi byw drwyddi yn ystod fy oes wleidyddol—go brin ei fod yn bwnc tragwyddol—ond, serch hynny, nid yw ei bwysigrwydd byth yn diflannu, a chafodd hynny ei ddangos yn glir yn yr areithiau a wnaed, o araith Caroline Jones ar ddechrau’r ddadl, yr holl ffordd at arweinydd y tŷ’n siarad. Mae rhethreg angerddol Adam Price bob amser yn fantais i’w chael ar eich ochr, a nododd beth yw’r diffyg sylfaenol mewn trethi eiddo, sef ei fod yn anachronistig ac yn yr achos penodol hwn, yn mynd yn ôl i Ddeddf y Tlodion 1601. Mae tir yn hawdd i’w drethu am ei fod yn sefydlog ac ni ellir ei guddio, ac mae’n dreth gyfleus i gasglwyr trethi, ond nid dyna’r ddadl orau y gallech ei gwneud fel arfer dros gael treth. Rydym wedi clywed gan bawb arall am y niwed y mae’r dreth hon yn ei wneud i’r busnesau mwyaf bywiog yn y tir, a sut y mae’n effeithio’n wael ar yr economi. Nododd Caroline Jones yn ei haraith agoriadol fod un o bob wyth uned fanwerthu yng Nghymru yn wag. Mae’n annheg ac yn anflaengar. Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn siarad am y gyllideb a’r trethi newydd a gawn yn fuan iawn, ac yn cyfeirio at ba mor falch y mae o allu eu gwneud yn flaengar. Ond wrth gwrs, yn achos ardrethi busnes, y gwrthwyneb sy’n wir. Ni allaf ddeall pam fod yr awydd am flaengaredd mor fawr mewn trethi eraill y mae Llywodraeth Cymru â rheolaeth drostynt, ond yn gwbl absennol, fel y nododd Adam Price, yn achos ardrethi busnes.

Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Llywodraeth am hysbysebu’r hyn y mae wedi ei wneud i leddfu’r problemau a achosir gan y system bresennol, ac rydym yn cydnabod hynny. Mae croeso i’w chynigion—y rhai dros dro a’r cynnig i gael ffurf fwy parhaol ar ryddhad—ond nid yw hynny’n mynd at wraidd y broblem. Yr hyn y dylem ei gael yw math o gomisiwn hollbleidiol i geisio ffurfio consensws barn ar sut i gael gwared ar y dreth hynafol hon, sy’n gwneud cymaint o ddifrod. Rwyf wedi byw drwy lawer o ailbrisiadau eiddo yn ystod fy oes—a rhai ohonynt yn llawer mwy dramatig na’r un yr ydym newydd ei brofi yma yng Nghymru—ac rwyf wedi byw drwy ymdrechion trychinebus i ddiwygio systemau trethi eiddo, yn enwedig treth y pen yn yr 1980au, a aeth â gormod o fy nosweithiau, yn y dyddiau hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid yw’n broblem hawdd i’w datrys—rwy’n derbyn hynny’n llwyr—ond serch hynny, rwy’n meddwl y dylem o leiaf roi cynnig arni, ac—

Diolch. A fyddech yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE a bod modd gostwng y trothwy TAW a’r ardrethi i annog pobl i fuddsoddi yn ein gwlad, fod angen i Lywodraethau weithio gyda’i gilydd ar fater ardrethi busnes a TAW? Oherwydd pan dynnodd Gordon Brown 5 y cant i ffwrdd, a’i ostwng o 20 y cant i 15 y cant, roedd y gwahaniaeth a wnaeth hynny i fusnesau bach, gallaf ddweud wrthych, yn anhygoel. Fe gyflogodd pobl staff newydd â hwnnw, felly—.

Wel, mae’n wir fod pob treth fusnes, mewn gwirionedd, yn cael ei thalu yn y pen draw gan ddefnyddwyr neu drethdalwyr ar wahân i’r busnesau sy’n gyfrwng i’w thalu, oherwydd os nad oes gan fusnes arian y mae’n mynd i’w roi i’r awdurdodau trethu yn ei gyfrif banc ei hun, i’w wario naill ai ar fuddsoddi o fewn y busnes neu ddatblygu ei fusnes neu’n wir i’w drosglwyddo i fuddsoddwyr yn y busnes drwy gyfrwng difidendau, yna naceir ffyrdd eraill o wario’r arian, ac mae trethiant bob amser yn bwysau marw ar economi menter, er bod trethi, wrth gwrs, yn anochel, fel marwolaeth, fel y gwyddom. Ond yr hyn y byddwn—

A fuasech yn cydnabod, fel y sonioch chi’n gynharach, fod £210 miliwn hyd yn hyn, ynghyd ag £20 miliwn, wedi mynd tuag at ardrethi busnes annomestig yng Nghymru? Mewn perthynas â Lloegr, mae llai na thraean wedi cael rhyddhad ardrethi o’r fath. A fuasech yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn hynny o beth, a hefyd yr ymgynghoriad presennol? Ac o ran y lluosydd hollt, y mae’n ymddangos bod peth consensws arno ar draws meinciau’r wrthblaid, a fuasech yn cydnabod bod hwnnw’n achos o roi cymhorthdal, dyweder, er enghraifft, i fusnesau bach o sectorau dan bwysau fel y diwydiant dur?

Wel, yn yr ysbryd consensws y dechreuais fy araith, rwy’n croesawu Rhianon Passmore i mewn i fy mhabell fawr, os nad yw honno’n olygfa rhy frawychus ac erchyll. Ond wrth gwrs, rwy’n cydnabod bod y Llywodraeth wedi gosod sawl plastr ar y system bresennol, ond nid ydym eisiau atebion sydd ond yn gosod plastr. Rydym eisiau ateb, ar gyfer y tymor hwy yn bendant, sy’n mynd i’r afael â diffygion sylfaenol y system hon sy’n seiliedig ar eiddo ac sydd wedi hen golli ei defnyddioldeb. Mae’r economi’n wahanol iawn i’r hyn ydoedd ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, ac mae gennym fathau eraill o drethi sy’n gysylltiedig â’r gallu i dalu, ac ar hyd y llwybr hwnnw y dylem fynd os ydym am adfywio economi Cymru. Rwy’n dweud hyn o hyd—ein bod ar waelod y raddfa incwm yng ngwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig. Os ydym am newid hynny, mae’n rhaid i ni gael atebion mwy radical yma yng Nghymru. Mae Cymru bob amser wedi bod yn wlad radical. Yr hyn sydd mor ddigalon a thorcalonnus i mi ynglŷn â’r Llywodraeth Lafur hon yw ei diffyg radicaliaeth. Siaradodd Adam Price am ei chymedroldeb. Rwy’n cofio bod Margot Asquith wedi dweud am ei gŵr, Herbert Asquith, a oedd yn Brif Weinidog Rhyddfrydol gan mlynedd yn ôl,

mae ei gymedroldeb cystal ag anffurfiad

a chredaf fod hynny’n wir am y Llywodraeth Lafur hon hefyd. Mae angen i ni gyfuno ein hadnoddau, rwy’n meddwl, a cheisio canfod ateb i’r broblem hon, nad yw’n mynd i blesio pawb efallai, ond mae pawb yn cytuno ynglŷn â diffygion y system bresennol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau Llafur hyd yn oed—er fy mod yn siomedig nad oes yr un ohonynt wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae pawb yn cytuno bod y system yn ddiffygiol ac mae pawb yn cytuno ynghylch natur y diffygion hynny. Ond serch hynny, nid oes neb i’w weld yn meddwl bod yna ateb; mae’r cyfan yn rhy anodd. Wel, mae Llywodraethau’n aml iawn yn creu anawsterau. Nid ydynt cystal am eu datrys, ond gydag ewyllys, ac ewyllys da, rwy’n credu y gallwn gyflawni hyn.

Felly rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac ysbryd eu hareithiau—Nick Ramsay, Adam Price a Michelle Brown—ac roedd rhannau o araith arweinydd y tŷ hyd yn oed y gallwn gytuno â hwy. Ond fy mhrif bwynt yw, pa dda bynnag y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud, mae’n rhaid inni gael dull o weithredu sy’n llawer mwy radical a hirdymor, ac nid wyf yn gweld hynny’n dod o’r ddogfen ymgynghori hon sydd ar y gweill. Felly, cymeradwyaf ein cynnig i’r tŷ.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl UKIP ar ardrethi busnes. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6526.

Gwelliant 1—os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 23, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig welliant 1 i gynnig NDM6526.

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Mae’r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, un yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 22, Yn erbyn 25, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6526.

Gwelliant 5—rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 5 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 15, Yn erbyn 33, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6526.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 22, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6526.

Cynnig NDM6526 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.

2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau traws-lywodraethol sy’n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a thyfu.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.

4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru’n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy’n fwy syml, yn fwy teg ac sy’n fwy penodol ar gyfer busnesau sy’n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6526 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 22, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6526 fel y diwygiwyd.

9. 9. Dadl Fer: Gwarchod a Datblygu Canolfannau Rhanbarthol o Ragoriaeth Feddygol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. Os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, fe wnaf i alw ar Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â diogelu a datblygu canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol meddygol, ac rwyf wedi caniatáu i Mike Hedges gael peth amser ar ddiwedd fy araith yn ogystal.

Rhaid i ni beidio ag anghofio bod dadleuon byr yn y lle hwn yn bwysig a gallant fod yn effeithiol wrth lunio polisi’r Llywodraeth. Mae bron i 10 mlynedd i’r diwrnod er pan gefais ddadl fer ar roi organau ac optio allan ac yn awr, fe’i gwelwn yn gyfraith gwlad a nifer o wledydd eraill.

Hefyd, symbylodd dadl fer flaenorol oddeutu 18 mlynedd yn ôl gamau i gael ysgol feddygol yn Abertawe. Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl fer heddiw yn meithrin newid tebyg o ran meddylfryd gan fod dyfodol trawma mawr yng Nghymru yn destun adolygiad sy’n mynd allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Ceir canfyddiad yn ne-orllewin Cymru fod yr holl wasanaethau allweddol yn cael eu canoli yng Nghaerdydd. Y ganolfan trawma mawr ar gyfer de Cymru yw’r enghraifft ddiweddaraf—yr awgrym yw un ganolfan trawma mawr ar gyfer de Cymru ac y dylai fod yng Nghaerdydd.

Bydd gwylwyr rheolaidd y Senedd yn cofio dadl flaenorol ar niwrolawdriniaeth bediatrig. A oedd yn mynd i fod—? Roedd angen un uned arnom—a oedd yn mynd i fod yn Abertawe neu yng Nghaerdydd? Gan Abertawe oedd yr unig niwrolawfeddyg pediatrig ar y pryd, 15 mlynedd yn ôl, ac eto aeth yr uned i Gaerdydd, nad oedd ganddynt niwrolawfeddyg pediatrig. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, tua deng mlynedd yn ôl erbyn hyn, cawsom yr un ddadl am unedau niwrolawdriniaeth i oedolion. Roedd un yn Abertawe, roedd un yng Nghaerdydd. Dywedai’r adolygiad: ‘Gallwch gael un yn unig.’ A dyma chi, mae’n mynd i Gaerdydd. Felly rydym wedi bod yma o’r blaen.

Roedd arweinydd yr adolygiad annibynnol hwn, yr Athro Chris Moran, wrth arwain yr adolygiad a oedd yn awgrymu y dylai un ganolfan trawma mawr fod yng Nghaerdydd, yn awgrymu ymhellach y dylai’r uned losgiadau a phlastig yn Nhreforys sydd wedi ennill gwobrau gael ei lleoli yng Nghaerdydd hefyd felly, yn ddelfrydol. Felly, lle y daw hyn i gyd i ben? Mae adolygiad ar y ffordd ar lawfeddygaeth thorasig. Mae gennym lawfeddygaeth thorasig yn Abertawe, mae gennym lawfeddygaeth thorasig yng Nghaerdydd. Beth am imi gynnal dadl fer arall yn agosach at yr amser? Rwyf wedi clywed sylwadau yr wythnos hon fod niwrolawdriniaeth yng Nghaerdydd—yr un, fel y gwyddoch, a gollasom o Abertawe—o dan bwysau. Mae angen niwrolawdriniaeth ar gyfer gweithredu canolfan trawma mawr, ac eto rwyf wedi cael cleifion yr wythnos hon yn dweud wrthyf eu bod ar y rhestr aros am niwrolawdriniaeth yng Nghaerdydd ac wedi cael cynnig niwrolawdriniaeth yn Lerpwl, Rhydychen ac mewn mannau eraill, am fod niwrolawdriniaeth yng Nghaerdydd o dan bwysau.

The Welsh Government must acknowledge that Wales doesn’t end in Cardiff. They shouldn’t forget Swansea and south-west Wales, mid Wales and other regions of Wales. People in southern Gwynedd and Montgomeryshire also use specialist services in Swansea. The Welsh Labour Government needs to develop a vision for Morriston Hospital in Swansea to become a centre of excellence on a regional level and must secure its future. This centralisation isn’t just a problem facing the south west of Wales, of course; we need to see the Welsh Government developing a vision for north Wales too and investing in a medical school in Bangor and other such proposals. Given our geography in terms of the areas of excellence here, Morriston Hospital has the potential to be a regional centre of excellence, which could play a key role in the south west of Wales, not just in terms of the current arguments over the trauma centre, but in a whole host of other areas too. And it could be a stronghold to safeguard the presence of all specialities here in Wales.

Mae Treforys yn ganolfan drydyddol arbenigol yn awr. Gallai unrhyw gamau i wanhau gwasanaethau trydyddol arbenigol yn Nhreforys danseilio ymdrechion gan fargen ddinesig bae Abertawe a’r Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) i ddatblygu ymchwil ac arloesedd iechyd ymhellach yn ne Cymru. Mae ysgol feddygol ragorol Abertawe eisoes yn ffocws ar gyfer ymchwil a datblygu o ansawdd uchel, fel y mae’r sefydliad gwyddor bywyd, gan ddenu ymchwilwyr o’r radd flaenaf un, heb anghofio, yn amlwg, campws y bae sy’n werth £450 miliwn hefyd. Ni fydd Abertawe a de-orllewin Cymru yn gallu denu’r staff meddygol a’r ymchwilwyr gorau heb gael gwasanaethau trydyddol heriol o ansawdd uchel. Mae bargen ddinesig bae Abertawe a rhaglen ARCH wedi eu seilio ar yr egwyddor o ddatblygu de-orllewin Cymru fel arweinydd arloesedd ac ymchwil ym maes iechyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â thanseilio hynny.

Mae adolygiadau blaenorol ledled y DU—dyma’r diweddaraf—wedi gweld gwasanaethau a leolwyd yng Nghaerdydd yn cael eu colli i Fryste oherwydd bod y ddwy ddinas mor agos at ei gilydd yn ddaearyddol. Collwyd llawdriniaeth bediatrig gardiaidd o Gaerdydd i Fryste rai blynyddoedd yn ôl. Cafwyd adolygiad o lawfeddygaeth y galon yn dilyn sgandal marwolaethau uned y galon Bryste. Penderfynwyd: ‘Gormod o unedau, gadewch i ni gael llai o unedau.’ Gosodwyd Caerdydd i gystadlu yn erbyn Bryste ac er mai ym Mryste oedd y problemau’n wreiddiol, collodd Caerdydd yn erbyn Bryste mewn llawfeddygaeth gardiaidd ar y pryd. Ar hyn o bryd rydym yn anfon nifer o achosion newyddenedigol o dde Cymru i Fryste. Mae angen i ni gryfhau’r arbenigeddau lefel uchel yma yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu nid yn unig yng Nghaerdydd, ond mewn rhannau eraill o Gymru. O ran canolfannau trawma mawr, mae 27 bellach yn Lloegr, a bydd un yng Nghymru. Beth sydd i ddweud na fydd adolygiad dilynol yn y DU o 28 o ganolfannau trawma mawr yn argymell canoli ym Mryste fel sydd wedi digwydd o’r blaen, os ydym yn mynd i gael Caerdydd a Bryste wrth ymyl ei gilydd?

O ran gwasanaethau trawma, mae yna lawer o gwestiynau sydd angen eu gofyn ac mae llawer o bwyntiau sydd angen eu hegluro, a gobeithio y bydd yr ymgynghoriad sydd ar y ffordd yn gwneud rhywfaint o hynny. Felly, mae’n hanfodol bwysig fod y cyhoedd yn ne-orllewin Cymru a chanolbarth Cymru yn cael cyfle i graffu’n fanwl ar y cynlluniau hyn. Gwyddom fod dros draean o’r holl gleifion trawma mawr yng Nghymru yn tarddu o dde-orllewin Cymru; mae hyn o ganlyniad i gyfradd arbennig o uchel o ddamweiniau ar ffyrdd gwledig a lled-wledig, damweiniau amaethyddol a damweiniau sy’n deillio o weithgareddau a gysylltir yn aml â thwristiaeth yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Mae Aelodau eraill yn y lle hwn yn bryderus hefyd. Fe glywn gan Mike; yn amlwg, rwyf wedi mynegi fy mhryderon eisoes wrth y Prif Weinidog, Abertawe Bro Morgannwg, a’r cynghorau iechyd cymuned. Mae’r mater hwn yn hynod o bwysig ac yn galw am graffu manwl. Mae angen clywed pryderon pobl yn ne-orllewin Cymru a rhannau eraill o Gymru. Mae arnom angen dadl agored ar y materion hyn a dyfodol hirdymor ysbytai fel Treforys a rhanbarthau eraill o Gymru, ac mae hynny’n golygu bod angen i Lywodraeth Cymru nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol hyn.

Gyda’r cynnig i leoli unig ganolfan drawma Cymru yng Nghaerdydd, a’r ensyniad y gall llosgiadau a phlastig yn hawdd ddilyn a chael eu colli o Abertawe i Gaerdydd gan sbarduno effaith ddomino arall eto, beth sy’n digwydd, fel yr awgrymais eisoes, i adolygiadau o lawfeddygaeth thorasig yn sgil hynny? Mae lleoli popeth uwch-arbenigol yng Nghaerdydd yn gwneud y GIG yng Nghymru yn agored i golli’r arbenigeddau hyn yn gyfan gwbl, pe bai adolygiad dilynol yn y DU yn gosod Caerdydd yn erbyn Bryste—sydd mor agos at ei gilydd yn ddaearyddol.

Mae’r uned losgiadau a phlastig yn Nhreforys yn un ragorol, yn arweinydd yn ei maes. Mae wedi gwrthsefyll cystadleuaeth o Fryste i fod yn uned losgiadau a phlastig gyfer de Cymru a de-orllewin Lloegr i gyd. Mae arnom angen canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol meddygol wedi eu gwasgaru o amgylch Cymru—Caerdydd, ie, Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Wrecsam—i ddenu’r meddygon, y nyrsys a’r meddygon ymgynghorol mwyaf talentog i bob rhan o Gymru yn wyneb argyfwng recriwtio ym mhob rhan. Felly gadewch inni gael dadl aeddfed am Abertawe a Chaerdydd yn gweithio gyda’i gilydd yn yr un ‘tîm Cymru’—nawr, fe fyddai hynny’n radical mewn ystyr feddygol—yn hytrach na chael eu rhannu gan yr un gystadleuaeth ddiflas rhwng Abertawe a Chaerdydd, ac Abertawe bob amser yn dod yn ail.

Nawr, nid yw’r GIG yn graig o arian. Rydym wedi clywed y gyllideb; nid ydym yn graig o arian. Ni allwn symud uned losgiadau a phlastig wych i gadarnhau penderfyniad ar fympwy ynglŷn â thrawma, yn unswydd er mwyn cadarnhau penderfyniad o blaid Caerdydd oherwydd eich bod angen uned losgiadau a phlastig mewn canolfan trawma mawr hefyd. Beth am gael y ganolfan trawma mawr yn Abertawe? Ni fyddai’n ateb radical, gan fod llosgiadau a phlastig eisoes yno. Gallem gadw’r uned yno, peidio â gorfod ei symud, yn ddrud, i rywle arall. Ac i gloi, beth am gael dull gwirioneddol gydweithredol o weithredu ar y cyd rhwng Abertawe a Chaerdydd? O ystyried y GIG yng Nghymru yn ei gyfanrwydd a phobl Cymru—ie, y bobl yn ne Gwynedd, Powys, Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, maent yn dibynnu ar Dreforys yn awr am eu gofal trydyddol. Gadewch inni roi diwedd ar effaith ddomino’r gwaedlif o wasanaethau trydyddol i Gaerdydd a thu hwnt. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am roi munud imi yn y ddadl hon. Mae gan dde Cymru ddau brif ysbyty—nid oes dadl am hynny—yn Nhreforys a’r Mynydd Bychan. Mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar hyn: sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r ddau? Mae angen i ni gefnogi’r ddau. I orllewin Cymru—ac rwy’n cynnwys yr ardal rydych chi’n ei chynrychioli, Llywydd—Treforys yw’r prif ysbyty. Bydd unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser yno’n gwybod bod damweiniau ffordd mawr o Fachynlleth yn dod i Dreforys. Gall fod ychydig dros awr i ffwrdd, a gwn fod pobl yn siarad am yr awr wirioneddol bwysig, ond rwy’n credu bod awr a phum munud yn llawer iawn gwell na dwy awr. Ac rwy’n meddwl bod hynny efallai’n dweud, ydy, mae awr yn wych, os gallwn ei gael mewn awr, ond peidiwch â’i ddiystyru fel ‘Wel, os na allwch ei wneud mewn awr, wel, nid oes gwahaniaeth, waeth iddo gyrraedd yno y diwrnod wedyn’. Nid dyna’r ffordd ymlaen o reidrwydd.

Ar losgiadau a phlastig, mae’n amhosibl amgyffred y bydd llosgiadau a phlastig yn symud i Gaerdydd. Mae’n bosibl amgyffred y bydd yn symud yn ôl i Fryste. Enillodd Abertawe yr uned mewn cystadleuaeth â Bryste oherwydd ansawdd uchel y staff yn Abertawe a’i fod wedi meithrin enw da, ac mae’n enw da a enillwyd trwy waith caled nifer o feddygon talentog iawn. Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn sydd orau i bobl de Cymru, ac nid yw’n fater o un lle sy’n addas i bawb. A gaf fi ddweud, fel rhywun a oedd yn arfer teithio’n ôl i’r hen Swyddfa Gymreig—? Roeddwn yn arfer gwybod mai rhywle ar hyd Rhodfa’r Gogledd oedd hanner ffordd o fy nhŷ yn Nhreforys i’r hen Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd o ran amser. Rwyf wedi gweld ambiwlansys yn gwneud eu ffordd i lawr yno ac rwyf wedi gweld ceir yn eu gadael heibio, ond mae’r ceir yn eu gadael heibio a’r ambiwlansys yn mynd drwodd ar 10 mya nid 70 mya. Felly, gadewch inni wneud rhywbeth sydd o fudd i holl bobl de Cymru, a chadw dwy ganolfan i weithio er lles y bobl.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i ymateb i’r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n hapus i gael darllenfa ac ymateb i’r ddadl. Diolch yn fawr i Dai Lloyd am gyflwyno’r ddadl heddiw, ond hefyd i Mike Hedges am gymryd rhan yn ogystal. Rwy’n cydnabod y pryderon go iawn sydd gan Aelodau lleol yn ne-orllewin Cymru a’r cylch, nid yn unig ynglŷn â chyfeiriad polisi yn y dyfodol, ond realiti ymarferol yr hyn y mae hynny’n ei olygu o ran lleoliad y gwasanaethau.

Rwyf am ddechrau ar bwynt mwy cyffredinol er hynny am wasanaethau arbenigol, gan ein bod eisoes yn derbyn y bydd pobl mewn unrhyw system gofal iechyd modern yn teithio i gael gwasanaethau arbenigol. Bydd pa mor arbenigol ydynt yn effeithio ar ba mor bell y byddant yn teithio, boed i gael gwasanaeth gofal eilaidd neu yn yr achos hwn, gwasanaeth trydyddol. Ceir rhai achosion, wrth gwrs, lle y mae gennym bobl yn teithio y tu allan i Gymru i gael mynediad at wasanaethau arbenigol iawn, a chyda Threforys mae pobl yn teithio i Gymru o dde-orllewin Lloegr, yn benodol i gael mynediad at y gwasanaethau rhagorol a ddarperir gan ganolfan losgiadau a llawfeddygaeth blastig Cymru.

Os caf fi ddweud ar y dechrau, rwy’n cydnabod bod y sylwadau a wnaed gan y person a arweiniodd yr adolygiad annibynnol o wasanaethau trawma mawr yn arbennig o ddi-fudd, gan eu bod yn lledaenu’r awgrym y gallai’r uned losgiadau a phlastig symud neu y dylai symud. Amododd hynny wedyn, ond mae rhywbeth am bobl yn cymryd rhan mewn dadl wleidyddol danllyd iawn heb ddeall grym y geiriau y maent yn eu defnyddio. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i mi egluro nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw fwriad i symud yr uned losgiadau a phlastig. Ein her yw sut yr ydym yn cynnal ein gwasanaethau, a sut yr ydym yn cydnabod ac yn ymfalchïo yn y rhagoriaeth y mae’r uned losgiadau a phlastig eisoes yn ei chynnig. Fy nealltwriaeth i yw nad yw unrhyw ddewis ynglŷn â rhwydwaith neu ganolfan trawma mawr yn galw am symud yr uned losgiadau a phlastig.

Ar bwynt mwy cyffredinol, wrth inni gael gweithdrefnau newydd a mwy cymhleth a newidiadau technolegol y gallwn eu gwneud, rydym yn cydnabod bod hynny’n golygu, mewn gwirionedd, fod rhai o’n gwasanaethau’n dod yn newydd ac yn arloesol. Rydym wedi cael sgwrs am niwroradioleg ymyriadol, er enghraifft—gwasanaeth newydd sy’n cael ei ddatblygu mewn nifer fach o wasanaethau. Felly, rydym yn cydnabod y bydd rhai o’n gwasanaethau’n datblygu o’r newydd mewn nifer gyfyngedig o ganolfannau, ac yn yr un modd bydd adegau pan fydd angen inni ganoli rhai o’r canolfannau hynny i roi’r cadernid a’r sefydlogrwydd y byddant eu hangen, a’u gwneud yn ddeniadol i staff. Gwyddom ein bod, wrth wneud hynny, yn canoli gwasanaethau fel bod pobl yn teithio’n hwy neu ymhellach i gyrraedd y gwasanaethau hynny. Ar y llaw arall, wrth gwrs, bydd datblygiadau technolegol yn golygu y gallwn ddarparu mwy o ofal yn nes at y cartref.

Mae yna her yma, fodd bynnag, yn ymwneud â’n neges gyffredinol ynglŷn â diwygio. Fe siaradaf yn nes ymlaen am fwy o ofal yn nes at y cartref. Wrth inni gael sgwrs am ddiwygio yn y gwasanaeth iechyd, nid yw hyn yn newydd; rydym bob amser wedi siarad am y gwasanaeth iechyd yn newid. Wrth i realiti’r galw newid ac wrth i realiti yr hyn y gallwn ei wneud newid, mae angen inni siarad wedyn ynglŷn â sut yr ydym yn dal ati i newid ein gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i ddarparu’r gofal o ansawdd y mae pobl yn iawn i’w ddisgwyl. Ond wrth wneud hynny, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni gael sgwrs â’r cyhoedd yn seiliedig ar dystiolaeth. Rwy’n cydnabod bod peth o’r anhapusrwydd presennol yn deillio yn y gorffennol o’r ffaith bod pobl yn cael gwybod, ‘Dyma beth fydd yn digwydd yn awr’, yn hytrach na chael sgwrs o fewn y gwasanaeth fel bod staff yn teimlo’n rhan o’r sgwrs, a hefyd sgwrs wedyn gyda’r cyhoedd. Wrth gael y sgwrs honno, mae angen inni gael uchelgais go iawn ar gyfer ansawdd ein gwasanaethau, yn hytrach na cheisio egluro i bobl y byddai’n dderbyniol iddynt gael gwasanaeth llai mewn gwahanol rannau o Gymru. Gall hynny fod yn anodd, am fod hynny’n herio gwleidyddion lleol ym mhob plaid ynglŷn â lleoliad presennol a threfniadaeth gwasanaethau, a gwn nad yw hynny’n hawdd. Ond os nad ydym yn barod i gael uchelgais go iawn ynglŷn â sut beth yw ansawdd a sut beth yw gwell, rydym yn mynd i fod yn sownd mewn ffordd o wneud busnes lle y bydd modelau gofal a fydd yn anghynaliadwy yn parhau bron at ymyl y dibyn.

Felly, o ran diwygio, gwyddom fod yna gonsensws ers peth amser ymhlith ystod o glinigwyr, y cyhoedd a gwleidyddion fod newid yn hanfodol i GIG Cymru. Daw’r her bob amser pan fyddwch yn cael penderfyniad lleol sy’n herio o ddifrif sut a ble y caiff ei leoli. Ond i mi, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni fod yn ddigon dewr i newid rhannau o’n gwasanaeth, a’u diwygio am ein bod yn dewis gwneud hynny, oherwydd bod sylfaen dystiolaeth glir i wneud hynny yn ogystal â chonsensws o ran cyngor a barn glinigol. A dyna pam y mae hynny’n dal i fod yn rhan o’r sgwrs gyda’r cyhoedd. Rwy’n meddwl o ddifrif, os caniatawn i ni’n hunain gael ein dal mewn sefyllfa lle’r ydym yn ymladd dros y status quo yna byddwn yn newid ein gwasanaethau, ond byddwn yn eu newid pan fyddant ar ymyl y dibyn neu ar y pwynt lle y gwnaed niwed clinigol go iawn yn ogystal, ac nid yw hynny’n dderbyniol o gwbl.

Felly, mae diwygio ein gwasanaethau yn anodd, ond rhaid bwrw ati gydag aeddfedrwydd ac arweiniad i ymateb i’r heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw ac ar draws pob system gofal iechyd ddatblygedig fodern. Mae’r heriau hynny’n cynnwys nifer cynyddol o’n poblogaeth yn heneiddio, goddef anghydraddoldebau iechyd parhaus, niferoedd cynyddol o gleifion â chyflyrau cronig ac wrth gwrs, polisïau cyni a’r her ariannol ddiymwad a grybwyllodd Dai Lloyd wrth gyflwyno’r ddadl hon. Ni allwn esgus nad yw’r heriau hynny gyda ni ac y gallwn barhau’n syml fel yr ydym ac fel yr ydym wedi ei wneud.

Rydym hefyd yn gwybod—gan ddychwelyd unwaith eto at sylwadau a wnaed mewn amryw o ddadleuon a chwestiynau—fod gennym heriau go iawn o ran y gweithlu. Mae cynllunio ar gyfer gweithlu pan fyddwn yn gwybod bod yna heriau ariannol yn anodd. Mae cynllunio ar gyfer gweithlu pan fydd y gwasanaeth iechyd yn newid a chyda’r system ofal—mae hynny’n anodd—a hefyd, cynllunio ar gyfer gweithlu pan fyddwn yn gwybod bod gennym brinder o arbenigeddau, yn benodol, yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol yn ogystal.

Felly, mewn ystod o’n gwasanaethau, ynghanol yr holl her honno, er mwyn cynnal y lefel gywir o sgiliau ac ansawdd, gwyddom y bydd angen i feddygon a’r tîm ehangach weld lleiafswm o gleifion er mwyn cynnal eu sgiliau a’u harbenigedd. Ceir cyfoeth o dystiolaeth mai’r ffordd orau o wneud hynny mewn rhai achosion yw drwy ganoli’r gwasanaethau arbenigol hynny mewn llai o ganolfannau. Yn wir, roedd adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yn cadarnhau’r achos cryf dros newid, gan dynnu sylw at yr angen i integreiddio ymhellach y gwasanaethau sydd ar gael yn fwy rhwydd o fewn y gymuned. Unwaith eto, mae’n dweud yn glir nad yw gwneud dim yn opsiwn yn y dyfodol. A daw hynny â ni’n ôl at ofal lleol. Buom yn siarad ddoe, mewn gwirionedd, am y ffaith bod teleiechyd a’r technolegau newydd yn alluogwyr mawr i gyflwyno mwy o ofal yn nes at y cartref. Maent yn ei gwneud hi’n bosibl i staff yn unrhyw le yng Nghymru gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu gofal gwell, mwy integredig a mwy diogel ac rydym yn gweld hynny mewn amryw o wasanaethau, boed yn ofal llygaid neu’n ddermatoleg—ystod o bethau sydd eisoes yn digwydd yn awr fel mater o drefn, ac mae’r potensial yno i wneud mwy. Nid potensial yn unig; rwy’n credu bod galw gwirioneddol a disgwyliad go iawn fod angen inni wneud mwy, oherwydd fel arall mae ein system yn annhebygol o bara. Byddwn yn colli cyfle i roi gwell profiad o weithio gyda’r gwasanaeth iechyd i bobl os nad dyna yw ein huchelgais absoliwt, ac rwy’n edrych ymlaen at gael adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol, a bydd yna heriau diamheuol yn wynebu pob un ohonom wrth geisio gwneud hynny.

Dywedais yn gynharach, pan argymhellir newid i wasanaethau, mae’n rhaid iddo gael ei arwain yn glinigol—ymgysylltiad priodol â’n staff fel eu bod yn deall ac yn cytuno pa un a oes argymhelliad ar gyfer newid a ddylai gael ei gefnogi ai peidio, a derbyn o’r cychwyn cyntaf na fydd pobl bob amser yn cytuno o fewn y gwasanaeth iechyd yn ogystal. Nid yw clinigwyr mewn arbenigeddau bob amser yn cytuno ar yr adleoli ffisegol nac yn wir ar y model gwasanaeth ar gyfer sut y dylai gwasanaethau gael eu rhedeg a’u rheoli. Ond mae’n rhaid inni allu cael y ddadl honno yn y gwasanaeth iechyd, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhanddeiliaid mwyaf amlwg a phwysig, y cyhoedd, a chanolbwyntio ar y modd yr ydym yn gwella profiadau a chanlyniadau. Felly, rhaid i staff, y cyhoedd a gofalwyr chwarae mwy o ran yn y broses o gynllunio, gweithredu a gwerthuso a datblygu modelau gofal newydd wedyn i ddangos eu bod yn deall y rolau a rannant yn glir a bod cyfrifoldebau wedi eu deall yn well.

Gan droi at y sylwadau a wnaed yn fwy uniongyrchol am y rhwydwaith a’r ganolfan trawma mawr, mae’n wir, wrth gwrs—a bydd pobl yn yr ystafell hon yn gwybod hyn—ei bod hi’n bosibl yn y pen draw y bydd yn rhaid i mi benderfynu ar hyn os caiff ei gyfeirio ataf yn dilyn y broses ymgynghori ac ymgysylltu gyfredol sydd ar y gweill. Felly, ni wnaf unrhyw sylwadau am y lleoliad arfaethedig rhwng y ddwy ganolfan drydyddol. Ond pan edrychwn ar ein rhwydwaith trawma mawr ynddo’i hun, yr hyn a ddywedaf yw ein bod eisoes yn gwybod bod gogledd Cymru yn rhan o rwydwaith trawma mawr. Nid yw wedi gweld gwasanaethau’n cael eu tynnu allan o’r tair uned damweiniau ac achosion brys fawr ar draws gogledd Cymru, er gwaethaf y ffaith bod y ganolfan wedi ei lleoli yn Stoke. Rydym hefyd yn gwybod bod yna dystiolaeth glir fod canlyniadau i bobl yng ngogledd Cymru, o ogledd Cymru, wedi gwella, o ganlyniad i fod yn rhan o’r rhwydwaith hwnnw. I mi, yr amcan cyffredinol yma yw sut y cyrhaeddwn bwynt lle’r ydym yn deall y bydd cael rhwydwaith trawma mawr gyda’r ganolfan yn gwella canlyniadau i bobl—ceir sylfaen dystiolaeth dda dros hynny—ac yna gwneud yn siŵr ein bod, mewn gwirionedd, yn dweud, ‘Wel, mae’n rhaid cyflawni hynny.’ Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn parhau i gael sgwrs yn ne Cymru lle’r ydym yn dadlau dros ddewis yn hytrach na gwneud dewis yn y pen draw, oherwydd rydym yn amddifadu pobl yng Nghymru drwy wneud hynny, rwy’n meddwl, o ofal a chanlyniadau o ansawdd gwell.

Rwy’n cydnabod bod angen i’n GIG wneud y dewis hwnnw dros bobl yn ne a chanolbarth Cymru wrth greu rhwydwaith, ac i mi, mae rhywbeth ynglŷn â deall sut y gall pobl gyrraedd y ganolfan honno’n briodol, beth bynnag yw’r dewis a wneir ynglŷn â chanolfan, oherwydd pe bai’r ganolfan yn Abertawe neu Gaerdydd, byddai yna bobl yn byw, yn gorfforol, o fewn pellter gweddus iddi.

Dyna pam, beth bynnag, pan fyddwch yn meddwl am ein dewisiadau trafnidiaeth, y dewisiadau sy’n cael eu gwneud, hyd yn oed yn awr, pan fo damweiniau sylweddol, caiff pobl eu cludo gan hofrennydd. Ni ofynnir iddynt beth fydd yn digwydd. Fel arfer, mae’r rhain yn bobl sy’n anymwybodol—cânt eu cludo mewn hofrennydd i’r lle mwyaf priodol iddynt os oes angen iddynt fynd yno’n gyflym. Felly, mae datblygu’r gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys—y gwasanaeth meddyg awyr—yn yr holl wahanol bethau y mae’n ei wneud, yn fonws go iawn wrth drin trawma—felly, y driniaeth yn y lleoliad, y driniaeth wrth gludo a chludo’n gyflym i’r lle iawn i’r bobl hynny gael gofal. Boed yn uned trawma mawr mewn rhwydwaith newydd, neu’r ganolfan—dyna ddewis i glinigwyr ei wneud ynglŷn â beth sy’n briodol.

I mi, y ffocws ar ganlyniadau ar gyfer y cyhoedd—dyna fy mlaenoriaeth bennaf. Ym mhob dewis a wnaf ac y ceisiaf ei wneud yn y swydd hon, dyna ble y byddaf yn dechrau rhoi fy sylw. Byddaf yn parhau i gael fy arwain gan y dystiolaeth orau sydd ar gael ar yr hyn y dylem ei wneud i gyflunio ein gwasanaeth, y canlyniadau y gallwn eu disgwyl a’r profiad y mae pobl yn disgwyl ei gael o’r gofal hwnnw. Edrychaf ymlaen at y sgyrsiau anos sydd i’w cael, ond yn y pen draw, at ddod at bwynt lle’r ydym yn gwneud dewisiadau oherwydd ein bod yn deall y dystiolaeth, a lle’r ydym yn gwneud dewis yn seiliedig ar hynny ynglŷn â beth i’w wneud â’r gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr a mwyaf dibynadwy hwn.

Felly, rwy’n derbyn na allaf roi’r gwarantau uniongyrchol, efallai, y byddai rhai Aelodau o’r de-orllewin am i mi eu rhoi, ond rwy’n credu bod pobl yn deall yn y Siambr hon pam rwy’n gwneud hynny. Ond rwy’n gobeithio bod y sylwadau a wneuthum am yr uned losgiadau a phlastig wedi bod o gymorth, ac yn y pen draw, mae’r sail y byddaf yn gwneud unrhyw ddewisiadau y bydd yn rhaid i mi eu gwneud yn y dyfodol yn ddefnyddiol hefyd, o ran y cyfeiriad teithio. Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr, unwaith eto—rwyf wedi dweud hyn eisoes—. Yr aeddfedrwydd a’r arweinyddiaeth a aeth i mewn i’r broses o greu’r adolygiad seneddol—rwy’n gobeithio y gall pob un ohonom a gymerodd ran yn hwnnw barhau i ymddwyn yn y ffordd honno wrth i ni wynebu nifer o heriau llawer anos yn y misoedd i ddod.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.