Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/09/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Cyn symud at eitem 1 ar yr agenda, hoffwn roi croeso cynnes i’r Llefarydd Christopher Collins a’r Clerc Mr Donald Forestell o Gynulliad Deddfwriaethol New Brunswick, Canada, sydd wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus.

A very warm welcome to the Senedd.

Croeso cynnes iawn i’r Senedd.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Felly, yr eitem gyntaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A daw’r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac rwy’n teimlo fy mod o dan bwysau yn awr, gyda’n hymwelwyr nodedig yn yr oriel.

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae’n bwriadu asesu gweithrediad y cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51064)

Wel, Dirprwy Lywydd, bydd y broses o weithredu’r cod yn cael ei monitro drwy adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus. Rwyf hefyd yn disgwyl i’n partneriaid cymdeithasol yng nghyngor partneriaeth y gweithlu ystyried yr adroddiadau hynny.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion—a gwn fod cyd-aelodau o’r pwyllgor yma—fy mod yn croesawu’r cyhoeddiad gan Gadeirydd Prifysgol Cymru, yr Athro Colin Riordan, pan ddywedodd y byddai’n rhaid i holl brifysgolion Cymru, erbyn diwedd mis Gorffennaf 2017, gytuno i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi? Ac aeth yn ei flaen i ddweud—a dyma’r gweithrediad ymarferol—fod aelodau Prifysgolion Cymru wedi ymrwymo i dalu cyflog byw’r Living Wage Foundation i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol mewn addysg uwch erbyn 2018-19, ac i ddechrau’r broses o roi’r cyflog byw ar waith mewn perthynas â gweithgarwch allanol o fewn addysg uwch. A yw’n cytuno â mi y dylai pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad o bob plaid, ymfalchïo yn y rhan hon o’r difidend datganoli, pan fo’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gallu cyflymu newid blaengar mewn cyflogaeth?

Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am hynny? Rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod y cod yn enghraifft o sut rydym wedi gallu defnyddio’r pwerau sydd ar gael inni er mwyn torri tir newydd, a sicrhau bod cyflogaeth foesegol yn ganolog i’r ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nawr, dim ond ym mis Mawrth eleni y cymeradwywyd y cod yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, felly roedd yn braf gweld Addysg Uwch Cymru yn mynd ati’n gynnar iawn i ymrwymo i gytuno i’r cod a’i ganlyniadau. Ers hynny, gwyddom y bydd yr holl heddluoedd yng Nghymru yn cytuno i’r cod. Mae gennym awdurdodau lleol yng Nghymru yn cytuno iddo, cymdeithasau tai, mae 20 o sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector eisoes wedi cytuno iddo, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cytuno i’r cod. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld y cod yn cael ei roi ar waith ar raddfa ehangach, gan wneud y gwaith rydym angen iddo ei wneud, ac i allu adrodd wedyn ar ei effaith mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dros y misoedd i ddod.

Mae’r cod ymarfer, wrth gwrs, yn nodi camau gweithredu i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae talu llai na’r cyflog byw yn arfer cyflogaeth annheg, a gŵyr pob un ohonom am honiadau a wnaed yn y sector gofal a’r sector lletygarwch, gan fod modd i wasanaethau cyhoeddus gaffael gwasanaethau yn y sectorau hynny wrth gwrs. A yw’n bosibl y gallai’r mecanweithiau a grybwyllwyd gennych ychydig yn gynharach fethu nodi’r achosion hynny pan fo cyflogwyr yn dweud eu bod yn talu’r cyflog byw, ond efallai nad ydynt yn gwneud hynny mewn gwirionedd?

Wel, mae’n bwysig iawn—rwy’n cytuno â Suzy Davies—ein bod yn effro i achosion lle y mae cyflogwyr yn ceisio tanseilio’r isafswm cyflog. Gwyddom fod enghreifftiau, yn anffodus, yng Nghymru lle y mae pobl, er enghraifft, drwy lety ynghlwm wrth waith neu gludiant ynghlwm wrth waith, yn cael eu talu islaw’r isafswm statudol i bob pwrpas. Nawr, rydym yn dibynnu ar ein cydweithwyr yn yr undebau llafur i fod yn rhan o’r rhwydwaith sy’n tynnu ein sylw at achosion o’r fath pan fyddant yn codi.

Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd gennym fel Llywodraeth rai wythnosau yn ôl ar degwch o ran symudiad pobl yn nodi cyfres o gamau y credwn fod angen i Lywodraeth y DU eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr hawliau sydd gan bobl yn y rhan honno o farchnad lafur yn cael eu diogelu’n briodol, yn ogystal â’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod gennym fecanweithiau cadarn ar waith i nodi achosion pan nad yw hawliau pobl yn cael eu parchu, a mynd i’r afael â’r achosion hynny wedyn.

Bargen Dwf i Ganolbarth Cymru

2. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i sefydlu bargen dwf i ganolbarth Cymru? (OAQ51067)

Diolch i Russell George am ei gwestiwn. Mae’r posibilrwydd o fargen dwf i ganolbarth Cymru wedi cael ei drafod mewn nifer o gyfarfodydd a fynychais gydag arweinwyr cynghorau sir Ceredigion a Phowys, cyn ac ar ôl etholiadau’r awdurdodau lleol eleni. Cynhaliwyd trafodaethau anffurfiol ar lefel swyddogol hefyd. Mae cyrff lleol yn parhau i arwain y gwaith o ddatblygu unrhyw gynnig ar y fargen dwf.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddom, datblygu economaidd yw asgwrn cefn goroesiad economïau gwledig. Roeddwn yn falch o weld y Prif Weinidog yn cadarnhau, yn ei ddatganiad ar y strategaeth genedlaethol yr wythnos diwethaf, y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried creu bargen dwf i ganolbarth Cymru er mwyn cefnogi economi’r rhanbarth. Felly, ar y sail honno, a gaf i ofyn pa gyllid cychwynnol rydych wedi ystyried ei roi ar waith i gynorthwyo’r gwaith cynnar y bydd ei angen er mwyn gwireddu bargen dwf i ganolbarth Cymru?

Hyd yn hyn, Cadeirydd, mae’r arian sydd wedi bod yn angenrheidiol er mwyn datblygu’r syniad wedi cael ei gyfrannu gan y rhai a fu’n aelodau o’r bartneriaeth a sefydlwyd: aelodau o’r sector preifat, o weithgynhyrchu, amaethyddiaeth a thwristiaeth, ynghyd ag addysg uwch, addysg bellach, y sector gwirfoddol a llywodraeth leol. Daw Llywodraeth Cymru, ac yn wir, Llywodraeth y DU, yn rhan o’r peth, pe bai bargen dwf yn cael ei datblygu, pan ddaw’n bryd nodi syniadau penodol, set o ddibenion craidd, set o flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, ac yna, byddwn yn ymrwymo i gynnal trafodaethau pwrpasol gyda Llywodraeth y DU, a chyda chynrychiolwyr lleol ynglŷn â’r cyfraniad ariannol y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fargen o’r fath.

A gaf i yn gyntaf groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet a’i fod e yma heddiw yn hytrach nag yn gwrando ar ei arweinydd yn Brighton? Mae’n siŵr y byddai’n well gyda fe fod ar lan y môr yn fanna, ond rydym ni’n falch iawn o’i weld e fan hyn. Os caf i ofyn yn benodol ar y cysyniad yma o ryw fath o fargen dwf ar gyfer y canolbarth? Hefyd, mae’n rhaid meddwl yn nhermau’r gorllewin i gyd, yn fy marn i, achos mae gyda ni beth sy’n digwydd yn y de, rydym ni’n gwybod am y dinas-ranbarthau, a rhywbeth penodol gan y Llywodraeth hon a Llywodraeth Llundain yn fanna. Yn y gogledd, mae yna gysyniad yn mynd ar draws y gogledd, ac, wrth gwrs, mae cysylltiadau dros y ffin i Loegr a gwahanol gytundebau dinasoedd yn fanna. Mae yna wacter yn y canol, a beth rwy’n chwilio amdano gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw yw rhyw fath o syniad ganddo fe o ble mae’r Llywodraeth hon yn sefyll o ran hynny? A ydych chi’n credu y dylid llanw’r gwacter yna gyda rhyw fath o fargen neu gytundeb twf ar gyfer yr ardaloedd? Rwy’n gwybod bod rhaid iddo fe gael ei dyfu o’r gwaelod i fyny, ond a ydych chi’n awyddus i weld hynny’n digwydd?

We are eager, Deputy Presiding Officer, naturally, and we are eager to support local people who are working on future possibilities. We are not starting from a point where we say every place in Wales has to have some kind of deal, but where local people are interested, and where they are aware, as Simon Thomas said, if they are aware of how they want to engage in cross boundary or broader working with other people, either in England or in Wales, then we as a Government are eager to support them and work with them to see whether it is possible for them to generate ideas that’ll work for local people and where both we and the UK Government can assist in supporting them financially in relation to their ambition.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi siarad, ddydd Gwener, yn un o gyfarfodydd is-adran wledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lle yr anogais y cynghorau a oedd yn bresennol—Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn—i gydweithio i ddatblygu bargen wledig ehangach, yn seiliedig ar le, a’u bod wedi cytuno i wneud hynny? O ran y posibilrwydd fod y strwythur economaidd newydd i sicrhau bod datblygu economaidd yn seiliedig ar hanfodion bargeinion dinesig, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad â’i Ysgrifennydd dros yr economi i ystyried y posibilrwydd, yn nes ymlaen, pe bai bargen wledig yn cael ei datblygu, y gellir ystyried y strwythur newydd hwnnw fel grŵp newydd o fewn y strwythur economaidd newydd hwnnw.

Diolch i Eluned Morgan. Roeddwn yn ymwybodol, yn wir, ei bod wedi bod yn siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn y grŵp o gynghorau gwledig ddydd Gwener diwethaf, a heb os, ei bod wedi mynd ar drywydd adroddiad a luniwyd ganddi hi ei hun yn gynharach yn y flwyddyn yn y drafodaeth honno.

Credaf mai’r pwynt yr hoffwn ei wneud yw’r pwynt a wnaeth Simon Thomas ar y dechrau: y bydd arnom angen rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn caniatáu i drefniadau a gwmpesir yn y trefniadau rhanbarthol ehangach rydym yn eu sefydlu allu gwreiddio a ffynnu pan fo’r syniadau hynny’n rhai da. Yn y Siambr hon, yn aml iawn, mae Sian Gwenllian wedi codi’r angen am drefniant rhanbarthol sy’n cysylltu ochr orllewinol Cymru gyda’i gilydd, gan adeiladu ar yr adroddiad a gynhyrchodd Rhodri Glyn Thomas ar gyfer Llywodraeth Cymru oddeutu blwyddyn yn ôl. Felly, dyna enghraifft arall o ble y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom o fewn cwmpas y trefniadau rhanbarthol y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w cael, er mwyn sicrhau trefniadau sydd weithiau’n croesi’r ffiniau hynny ac weithiau’n gweithredu y tu mewn iddynt. Byddwn angen yr hyblygrwydd angenrheidiol i ganiatáu i’r syniadau hynny gael eu harchwilio a’u rhoi ar waith lle y bo modd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a’r llefarydd cyntaf heddiw yw llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn garreg filltir eleni a hithau’n ugain mlynedd ers datganoli. Dyma’r gyllideb gyntaf a fydd yn cwmpasu cyfnod a fydd yn cynnwys datganoli trethi, mewn perthynas â threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tir i gychwyn, gan ddechrau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn eich bod wedi bod yn gweithio’n agos gyda mi yn y Pwyllgor Cyllid ar lunio’r trethi hynny. A gaf fi ofyn i chi: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chyfraddau’r trethi newydd?

Mae’n debyg mai math o gwestiwn ‘ymgais dda’ oedd hwnnw. Llywydd, byddaf yn cyhoeddi cyfraddau a bandiau ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir yn y gyllideb ddrafft y byddaf yn ei chyflwyno i’r Cynulliad hwn ddydd Mawrth nesaf, 3 Hydref.

Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn deall pam rwy’n gofyn, gan fy mod wedi gwirio tudalen ar wefan Llywodraeth Cymru, y mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol ohoni, mewn perthynas â threth trafodiadau tir, sy’n dweud y bydd y cyfraddau a’r bandiau’n cael eu cyhoeddi, neu fod disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi, erbyn diwedd y mis hwn, erbyn Hydref 2017. Felly, nid oes llawer o amser ar ôl ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw. Os na fydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad hwnnw, a allwn fod yn gwbl sicr y caiff ei chyhoeddi yr wythnos nesaf yn y gyllideb ddrafft, ac a allwn fod yn sicr y bydd yn cynnwys yr holl fanylion am y cyfraddau a’r bandiau hefyd, yn hytrach na’i bod yn ein gorfodi i aros am fwy o wybodaeth yn nes ymlaen?

Cadeirydd, gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, mewn gohebiaeth â chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, y cytunwyd y byddai’r cyhoeddiadau ar gyfraddau a bandiau yn cael eu gwneud ar 3 Hydref fel rhan o becyn y gyllideb gyfan y byddaf yn ei gyhoeddi ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf. Rwy’n fwy na pharod i roi sicrwydd i’r Aelod y bydd y cyfraddau a’r bandiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu nodi’n llawn ar y diwrnod hwnnw.

Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd rhai ohonom yn y Pwyllgor Cyllid, ac yn wir, rhai o Aelodau eraill y Siambr yn gyffredinol, yn teimlo bod yna ddadl gref iawn ar y pryd dros gynnwys y cyfraddau a’r bandiau treth ar wyneb y Bil, ond roedd eich ymrwymiad yng Nghyfnod 2 i gyhoeddi’r cyfraddau ymhell cyn mis Ebrill yn gwneud llawer i liniaru’r pryderon hyn—ymrwymiad a ailadroddoch ar 28 Mawrth yn y Siambr hon, a nodai, yn ôl y Cofnod, eich bod wedi dweud y byddent yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Hydref, a chredaf mai dyna’r ymrwymiad a roddwyd i’r Pwyllgor Cyllid. [Torri ar draws.] O’r gorau. Nid wyf am fod yn bedantig am y peth ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cyfraddau a’r bandiau hynny yr wythnos nesaf. Rwyf eisoes wedi gofyn i chi sicrhau y byddwn yn cael yr holl wybodaeth. Wrth inni gyrraedd y garreg filltir hon o ran datganoli trethi, a ydych yn cytuno fod yn rhaid i drethdalwyr Cymru fod yn hyderus y bydd yr holl wybodaeth ar gael iddynt cyn mis Ebrill er mwyn inni allu sicrhau, pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw mewn perthynas â datganoli trethi, fod y cyfnod pontio mor ddidrafferth â phosibl, a bod y broses o ddatganoli trethi yn llwyddo yn unol â dymuniadau pawb yn y Siambr hon.

Dirprwy Lywydd, mae Nick Ramsay wedi gwneud y pwynt yn gyson iawn yn ystod taith y ddau Fil treth ac yn y Pwyllgor Cyllid, fod y sicrwydd hwnnw i drethdalwyr Cymru wrth inni symud tuag at y set newydd o drefniadau yn bwysig iawn, fel y mae sicrwydd i fusnesau. Dyna pam roeddwn yn fwy na pharod i ymrwymo i wneud cyhoeddiad cynnar ar fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â chyfraddau a bandiau, a thrwy gyhoeddi hynny ar 3 Hydref yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol, credaf y bydd hynny’n gymorth i bobl ddeall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethom. Ynghyd â’r gyllideb, byddwn yn cyhoeddi set newydd o wybodaeth nad oedd ar gael i’r Cynulliad cyn hyn, gan gynnwys, er enghraifft, asesiad annibynnol ysgol fusnes Bangor o’r rhagolygon treth sydd wrth wraidd y cyfraddau a’r bandiau y byddaf yn eu cyhoeddi.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan fod fy mam-gu ar ochr fy mam wedi’i geni ym Moncton, New Brunswick, hoffwn groesawu ein gwesteion nodedig yn yr oriel hefyd. Mae hynny’n golygu fy mod yn chwarter New Brunswickiad, mae’n debyg. [Torri ar draws.]

Rydym wedi gweld eisiau presenoldeb siriol y Gweinidog dysgu gydol oes yr wythnos hon, gan ei fod yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle y gwelais ei fod wedi dweud ddoe, yn sgil cyhoeddiad John McDonnell y bydd y Blaid Lafur yn dod â chontractau mentrau cyllid preifat i ben ac yn eu prynu yn ôl, nad oes mentrau cyllid preifat yng Nghymru. Ond wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hynny’n hollol gywir. Mewn gwirionedd, mae cyfanswm gwerth cyfalaf y contractau mentrau cyllid preifat sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru yn £565 miliwn, gyda chyfanswm y taliadau unedol—y swm y byddant wedi’i gostio erbyn diwedd y cyfnod ad-dalu—bron yn chwe gwaith hynny, ar £3 biliwn. Onid yw’n gwneud synnwyr bellach i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o ailariannu hyn ar sail fwy costeffeithiol?

Wel, Cadeirydd, yr hyn y cyfeiriai fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ato yw’r ffaith nad ydym wedi cytuno i gytundebau mentrau cyllid preifat newydd yn ystod y cyfnod ers datganoli. Mae’r Aelod yn llygad ei le fod gennym 23 o gytundebau mentrau cyllid preifat hanesyddol a ddaw o’r cyfnod cyn datganoli, ond nid yw Llywodraeth Cymru ond yn uniongyrchol gyfrifol am ddau ohonynt. Yn wir, ceir enghreifftiau yng Nghymru eisoes lle y mae sefydliadau sy’n ymrwymo i gytundebau mentrau cyllid preifat wedi dod i’r casgliad y byddent yn newid i drefniadau eraill. Felly, nid oes gennym hanes diweddar y mae’n rhaid inni ei ddatod fel y mae’n rhaid ei ddatod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a lle y bo’n well gwneud trefniadau eraill, mae gennym hanes blaenorol o weld y trefniadau hynny’n newid hefyd.

Rwy’n llwyr gydnabod bod record Llywodraeth Cymru yn llawer gwell na record Llywodraeth y DU mewn perthynas â chontractau mentrau cyllid preifat. Yn wir, 1.7 y cant yn unig o gyfanswm y DU yw canran cyfanswm y taliadau unedol, yr ad-daliadau blynyddol, a fydd yn cael eu gwneud. Felly, mae hynny’n beth da iawn. Ond mae dyled sylweddol o hyd i’w had-dalu dros nifer o flynyddoedd, a bydd gostwng costau’r ad-daliadau hynny, o flwyddyn i flwyddyn, yn golygu bod mwy o arian i’w wario ar bethau da eraill y mae angen i’r sector cyhoeddus wario arnynt.

O’r prosiectau na thalwyd amdanynt ar hyn o bryd, mae’r A55 rhwng Llandygai a Chaergybi; roedd gwerth cyfalaf y prosiect hwnnw’n £100 miliwn. Ceir datblygiad Rhodfa Lloyd George a Sgwâr Callaghan yma yng Nghaerdydd; roedd gwerth cyfalaf gwreiddiol y prosiect hwnnw’n £45 miliwn. Dyna bron i draean o gyfanswm y prosiectau na thalwyd amdanynt o ran gwerth, ac am y £145 miliwn o gyfalaf a ddarparwyd ymlaen llaw, mae’r costau ad-dalu bron yn £800 miliwn. Mae honno’n fargen warthus a gorau po gyntaf y gallwn ddatod y contractau hyn.

Mae’r Aelod yn llygad ei le wrth nodi, o’r 23 cynllun, y ddau sy’n gynlluniau uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac nid wyf yn anghytuno ag ef o ran egwyddor yr hyn a ddywedodd, fod angen cadw’r holl gynlluniau hyn dan adolygiad, er mwyn sicrhau, os oes modd aildrefnu pethau er budd trethdalwyr Cymru, ein bod bob amser yn agored i wneud hynny. Fel y dywedais, mae enghreifftiau o hynny’n digwydd eisoes yng Nghymru. Felly, mae’n amlwg nad ydym yn gwrthwynebu’r posibilrwydd o wneud hynny.

Rwy’n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet. A yw’n cytuno bod llawer iawn gan Lywodraethau Blair a Brown i ateb drosto, am eu hafradlonedd yn cytuno’n ddi-hid i gontractau o’r fath yn ystod y blynyddoedd anodd hynny, ac er y gall Llywodraeth Cymru ymfalchïo yn ei pherfformiad mewn cymhariaeth, fod perfformiad y Llywodraethau Llafur yn San Steffan wedi bod yn hollol anobeithiol? O’r holl gontractau mentrau cyllid preifat a luniwyd, cafodd wyth deg pedwar y cant ohonynt eu llunio pan oedd Blair yn Brif Weinidog neu Brown yn Brif Weinidog. Felly, mae gan y Blaid Lafur staen go fawr ar ei record.

Wel, Llywydd, ‘Aliae gentes, aliae mores’, lle y mae pobl eraill yn gyfrifol am y penderfyniadau a wnaethant o dan yr amgylchiadau y cawsant eu gwneud ganddynt. Yma yng Nghymru, wynebwyd yr un penderfyniadau gennym o’r cychwyn cyntaf, fe edrychom ni ar bethau o gyfeiriad gwahanol, ond efallai fod natur y broblem y ceisiem fynd i’r afael â hi yn wahanol hefyd.

Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y tir cyffredin newydd hwn sy’n ymddangos rhwng John McDonnell a Neil Hamilton; nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn byw i weld hynny, mewn gwirionedd. Ond Cadeirydd, a gaf fi balu ychydig yn ddyfnach? Roedd gennyf gryn ddiddordeb, a bûm yn gwrando’n astud ar yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid. Yn sgil cyhoeddiad canghellor yr wrthblaid ynglŷn â dod â’r prosiectau hyn yn ôl i’r sector cyhoeddus, ai polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru bellach, ac felly polisi’r Llywodraeth hon, yw dod â’r prosiectau mentrau cyllid preifat presennol yng Nghymru yn ôl yn fewnol, ac felly ar fantolen Llywodraeth Cymru pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?

Wel, Cadeirydd, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach gan ei bod yn bwysig inni gael cyd-destun hyn yn gywir. Mae graddau’r broblem sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn wahanol tu hwnt i’r broblem a wynebir mewn mannau eraill, ac mae diweddarwch y cynlluniau mentrau cyllid preifat y byddai’n rhaid inni fynd i’r afael â hwy yn wahanol iawn hefyd. Dim ond 23 cynllun a fu yng Nghymru ac ychydig iawn o fentrau cyllid preifat newydd a fu yn y cyfnod ers datganoli, ac o’r 23 cynllun, nid yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am 21 ohonynt gan eu bod yn perthyn i awdurdodau lleol ac i’r gwasanaeth iechyd. Ond rydym yn hollol agored i adolygu’n barhaus a ellid gwella’r trefniadau hynny a sicrhau gwell bargen i’r trethdalwr ai peidio, a phan gawn y Llywodraeth Lafur nesaf, byddwn yn gallu gwneud hynny’n llawer gwell.

A gawn ni droi at y presennol, felly? Oherwydd mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’r defnydd o bartneriaethau cyhoeddus-preifat, ydy, drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol sy’n cynnwys cyfran leiafrifol a ddelir gan Lywodraeth Cymru, ond delir y gyfran fwyaf, 75 y cant ac uwch, gan y sector preifat, gan ddefnyddio ieithwedd y Llywodraeth ei hun, lle y gall

partneriaid preifat adeiladu a chynnal asedau cyhoeddus,

a lle

bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i’r partner preifat i dalu costau adeiladu, cynnal a chadw, ac ariannu’r prosiect.

Disgrifiwyd cynlluniau tebyg yn yr Alban gan Blaid Lafur yr Alban fel ‘mentrau cyllid preifat o dan enw arall’. Yn wir, mae’r contract ar gyfer prosiect newydd yr A465, sydd newydd gael ei osod, yn seiliedig ar hen gontract safonol menter cyllid preifat y GIG. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ai polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru a pholisi Llywodraeth Cymru bellach fydd dod â’r oddeutu 75 y cant o’r prosiectau hyn a fydd yn parhau i fod mewn perchnogaeth breifat yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir mai fy newis cyntaf bob tro, o ran fy ymagwedd tuag at wariant cyfalaf fel Gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, yw cyfalaf cyhoeddus uniongyrchol. Byddai bob amser yn well gennyf gyllido prosiectau cyfalaf yn y modd hwnnw gan mai dyna’r ffordd rataf i drethdalwyr Cymru. A phe bawn yn y sefyllfa braf o fod â digon o gyfalaf cyhoeddus i allu gwneud yr holl bethau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol Cymru, gan gynnwys y pethau y byddwn yn eu gwneud drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol, byddai’n well gennyf allu parhau yn y ffordd honno. O dan y Llywodraeth Lafur nesaf, byddwn mewn sefyllfa well o lawer i wneud hynny. Fel y mae ar hyn o bryd, mae’n rhaid i mi gynllunio ar gyfer y sefyllfa rwyf ynddi heddiw, lle y bydd gennym, yn 2019-20, gyllideb gyfalaf o £400 miliwn yn llai bob blwyddyn na’r hyn ydoedd ddegawd yn gynharach, ac anghenion pwysig sy’n rhaid eu diwallu. Yn y cyd-destun hwnnw rydym wedi gorfod bod yn fwy dychmygus o ran y ffordd rydym yn sicrhau buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru. Pe na bai’n rhaid i mi ei wneud, pe bai gennyf symiau digonol o gyfalaf cyhoeddus confensiynol ar gael at fy nefnydd, buaswn bob amser yn defnyddio hwnnw yn gyntaf.

Rydych yn nodi dimensiwn arall: yr anghymesuredd creadigol sydd weithiau’n nodweddu safbwynt polisi Llafur, rwy’n credu, gan ddweud un peth yn San Steffan neu Brighton weithiau a dweud rhywbeth arall yng Nghymru. Yn fy marn i, cawsom ddatganiad braidd yn rhyfedd gan arweinwyr Llafur y tri chyngor mwyaf yng Nghymru, lle roeddent yn dweud y byddent yn cefnogi streic gan eu staff cyngor eu hunain yn erbyn eu cynghorau yn erbyn cap cyflog y gallent hwy a’u Llywodraeth Lafur eu hunain yng Nghymru ei godi. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd yn ymuno â’i gyd-aelodau Llafur i ddweud y byddai’n annog ac yn cefnogi streic yng Nghymru gan weithwyr y sector cyhoeddus, neu a yw’n barod i arwain drwy esiampl a chodi’r cap cyflog hwnnw fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud?

Wel, Cadeirydd, darllenais yr hyn a ddywedodd yr arweinwyr Llafur yn ofalus iawn, a gwelaf fod y Cynghorydd Andrew Morgan wedi dweud yn glir iawn mai ei flaenoriaeth gyntaf ef oedd osgoi streic, yn hytrach nag annog streic; dyna yw ein blaenoriaeth gyntaf ninnau. Ond aeth yn ei flaen i ddweud, fel y byddem yn ei ddweud ar y meinciau hyn, ei bod yn gwbl ddealladwy, pan fo cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu cadw i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac o dan fesurau cyni am yr wythfed a’r nawfed flwyddyn bellach, fod pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt dynnu sylw eraill at yr effaith y mae hynny’n ei chael ar eu bywydau. Mae ein safbwynt mewn perthynas â’r cap cyflog mor glir â phosibl. Rydym yn dweud wrth Lywodraeth y DU, ‘Mae’n rhaid i chi godi’r cap cyflog. Eich polisi chi yw hwn. Chi sy’n gyfrifol amdano. Mae’n rhaid i chi godi’r cap cyflog, ac mae’n rhaid i chi ddarparu’r arian a fyddai’n caniatàu i gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru gynyddu’n unol â’r gwerth rydym yn ei roi ar y gwaith y maent yn ei wneud.’

Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2018-19

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol ar gyfer 2018-19? (OAQ51076)

Byddaf yn cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2018-19 ar 10 Hydref.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers 2010, mae agenda cyni Llywodraeth y DU wedi arwain at doriadau o 8.2 y cant i gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn y cyfnod hwnnw, mae llywodraeth leol yn Lloegr wedi wynebu toriadau o 25 y cant mewn termau real i’w cyllidebau refeniw, ac i’r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfyngu’r toriadau i lywodraeth leol yma i 5 y cant dros yr un cyfnod. Bellach, rydym yn yr wythfed flwyddyn o fesurau cyni wedi’u gorfodi gan San Steffan ac mae awdurdodau lleol o dan bwysau cyllidebol difrifol. Gan y rhagwelir rhagor o doriadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ddod, beth arall y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i gynorthwyo llywodraeth leol i ddiogelu gwasanaethau allweddol?

Dirprwy Lywydd, y peth cyntaf a wnaeth y Llywodraeth hon, yn rhannol o ganlyniad i’n cytundeb gyda Phlaid Cymru, oedd darparu cyllideb heb doriadau arian parod yn y flwyddyn ariannol gyfredol i lywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn. Dywedais yn glir—ni chredaf y gallwn fod wedi ei ailadrodd yn amlach—wrth gydweithwyr llywodraeth leol fod angen defnyddio’r lle i anadlu a ddarperir gan y gyllideb honno i gynllunio ar gyfer adegau anoddach a dewisiadau anoddach yn y dyfodol. Ac mae’n rhaid i mi ddweud hynny wrthynt gan fod llai a llai o adnoddau ar gael i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn nhymor y Cynulliad hwn, ac os bydd llai o adnoddau ar gael i’w buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig a ddarperir gan awdurdodau lleol—y realiti sy’n rhaid inni ei dderbyn yw y bydd hynny’n effeithio ar y cyllidebau y gallwn eu darparu ar eu cyfer. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod wedi gweithio mor galed ag y gallwn yn y cylch cyllidebol y byddaf yn ei gyhoeddi ddydd Mawrth nesaf, i ddiogelu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ond ni fuaswn yn anfon neges o wirionedd at gydweithwyr yng Nghymru pe na bawn yn ailadrodd wrthynt y bydd y blynyddoedd sydd i ddod yn rhai heriol iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ateb i Jayne yn awr. Yn ychwanegol at hynny, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod gwariant awdurdodau lleol ar weinyddu canolog yn cynyddu £11 miliwn eleni. Yn y cyfamser, ledled Cymru, bydd cyllidebau ar gyfer ffyrdd a llyfrgelloedd yn gostwng bron £6.73 miliwn. Mae costau gweithredu canolog yn cynyddu ac mae gwariant ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gostwng. Pa ystyriaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i’r mater hwn pan fydd yn pennu setliad cyllid llywodraeth leol ar gyfer 2018-19, os gwelwch yn dda?

Wel, Dirprwy Lywydd, yn fy nhrafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol ar draws y gwahanol bleidiau, credaf eu bod yn gweithio’n galed iawn i geisio sicrhau eu bod yn gallu darparu cymaint o’u cyllid â phosibl ar gyfer gwasanaethau rheng flaen a lleihau’r swm o arian sy’n mynd o’u hadnoddau i’w wario ar weinyddu. Yn y diwygiadau i lywodraeth leol a gyhoeddais ar lawr y Cynulliad hwn, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn bwriadu ymdrechu’n galed gyda’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol mewn perthynas â gwasanaethau ystafell gefn, cydwasanaethau, a cheisio sicrhau bod angen cyn lleied o arian â phosibl i gefnogi’r gwasanaethau’n ganolog, fel y gellir defnyddio’r arian hwnnw ar y rheng flaen. Credaf fod yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn agored iawn i gael y sgwrs honno, ac rwy’n bwriadu parhau i’w chael gyda hwy.

Monitro Effeithiolrwydd Gwariant

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd gwariant ar draws ei chyllideb? (OAQ51058)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r holl Weinidogion yn defnyddio ystod o dystiolaeth i fonitro effeithiolrwydd gwariant. Mae Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn nodi’r broses graffu drylwyr ar gyfer polisïau a rhaglenni newydd. Rwy’n monitro’r holl wariant presennol ar draws y Llywodraeth ar sail cylch misol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nawr, tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn rhai prosiectau morol oddi ar arfordir Sir Benfro, gydag un ohonynt yn eiddo i awdurdod lleol yn Lloegr. Nawr, os yw prosiectau yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol o’r tu allan i Gymru, mae rhai o fy etholwyr yn pryderu y gallem fod mewn sefyllfa lle nad yw lleoedd fel Sir Benfro, ac yn wir, Cymru gyfan, yn cael y budd o brosiectau o’r fath. Nawr, trafodais y mater hwn ddoe gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ond a allwch ddweud wrthym sut rydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am gyllid, yn sicrhau y bydd unrhyw arian grant a ddarperir i brosiectau ar draws holl adrannau’r Llywodraeth yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau Cymru? A allwch ddweud wrthym sut y mae eich adran yn monitro effeithiolrwydd prosiectau o’r fath i sicrhau bod cymunedau yma yng Nghymru yn elwa mewn gwirionedd o arian cyhoeddus a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru?

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn. Mae’n gwneud pwynt pwysig. Clywais ei ddadl gyda Ken Skates ddoe. Fel Llywodraeth Cymru rydym yn rhoi cyfres o gamau ar waith i geisio sicrhau bod y gwariant a fuddsoddir mewn gweithgarwch yng Nghymru drwy Lywodraeth Cymru a’n partneriaid yn cael yr effaith fwyaf posibl ar yr economi ehangach. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, er enghraifft, yn y blynyddoedd y mae wedi bodoli, wedi mwy na dyblu’r gwariant cyffredin ac ailadroddus ar gwmnïau Cymreig o gymharu â’r flwyddyn cyn ei sefydlu. Mewn perthynas â’r pwynt penodol a wnaed ganddo, drwy’r diwygiadau rydym yn eu gwneud i lywodraeth leol, rwy’n bwriadu darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol i ganiatáu iddynt wneud mwy o bethau nag y gall awdurdodau lleol yng Nghymru eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys rhywfaint o weithgarwch masnachol, sy’n rhywbeth y mae awdurdodau lleol dros y ffin wedi gallu ei wneud. Mae’n rhaid gwneud hynny mewn modd sensitif a gofalus, neu gall arwain at anhawster o fath gwahanol, ond drwy sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol fodd o wneud mwy nag y gallant ar hyn o bryd, bydd yn ffordd arall iddynt allu sicrhau bod eu hadnoddau sydd ganddynt a’r adnoddau sydd gennym ni yn cael eu buddsoddi mewn ffyrdd sy’n parhau i sicrhau canlyniadau i bobl leol yng Nghymru.

Mae llawer o dechnegau adolygu cyllidebau ar gael er mwyn edrych ar gyllidebau. A yw’r Ysgrifennydd cyllid wedi ystyried cyflwyno cyllidebu ar sail sero mewn meysydd gweithredol fel bod yn rhaid i bobl ailbrofi’r angen am rywfaint o’r gwariant sy’n digwydd?

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, o gyllidebu ar sail sero a sut y gall sicrhau bod cyllidebau’n cael eu hadeiladu eto o’r sylfaen a sut y mae pob agwedd ar wariant yn cael ei herio’n briodol. Defnyddiwyd ffurf o gyllidebu ar sail sero gennym wrth gyflwyno ein rhaglen gyfalaf bedair blynedd yr adeg hon y llynedd, drwy edrych eto ar yr holl gynlluniau gwahanol a oedd ar y gweill a sicrhau ein bod yn blaenoriaethu’r rhai roedd modd inni eu hariannu. Ac mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething wedi ymwneud â rhai o’r gweithgareddau cyllidebu ar sail sero o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, Dirprwy Lywydd, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn defnyddio technegau i sicrhau ein bod yn alinio ein gwariant gyda’n prif flaenoriaethau, ac mae cyllidebu ar sail sero yn un o’r dulliau posibl y byddwn yn eu hadolygu’n barhaus wrth geisio gwneud hynny.

Cyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51056)

Diolch i Darren Millar. Mae gwasanaethau cyhoeddus da yn rhan hollbwysig o fywydau pob un o ddinasyddion Cymru. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol mewn llunio’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r pethau a all rwystro’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yw achosion o dwyll ym mhwrs y wlad. Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd mewn perthynas â rhai materion ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn wir, cafwyd achosion eraill yn y GIG, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd dros y blynyddoedd diwethaf, o ran y gwaith o reoli rhywfaint o’r gwariant cyfalaf yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw yn Ysbyty Glan Clwyd. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall trethdalwyr fod yn sicr nad ydynt yn dioddef o ganlyniad i dwyll? Pa fesurau diogelwch a roddir ar waith gennych, ac a ydych yn ystyried y mesurau diogelwch sydd ar waith eisoes o ganlyniad i’r straeon diweddaraf hyn?

Wel, a gaf fi gytuno â Darren Millar fod twyll yn amharu ar ymddiriedaeth y cyhoedd? Mae’n effeithio’n uniongyrchol ar yr adnoddau sydd ar gael i awdurdodau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac yn aml iawn, ar lefel yr unigolyn, y bobl sydd leiaf abl i ymdrin â chanlyniadau twyll yw’r rhai sy’n cael eu twyllo. Felly, fel Llywodraeth, rydym o ddifrif ynglŷn â thwyll am yr holl resymau hynny.

Ddydd Gwener diwethaf, cefais gyfle i annerch y gynhadledd flynyddol ar gyfer y bobl sy’n gweithio ym maes twyll yma yng Nghymru, lle roedd yna siaradwyr o’r tu allan i Gymru hefyd, ac roedd popeth wedi’i gynllunio i geisio dod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o fynd i’r afael â thwyll yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n her, Dirprwy Lywydd. Pe baech chi yno yn y gynulleidfa yn gwrando ar bobl yn siarad, buasech yn gwybod mai twyll yw’r set o droseddau sy’n tyfu gyflymaf ledled y Deyrnas Unedig, ac mae posibiliadau newydd yn codi drwy’r amser. Er holl fanteision gwych y rhyngrwyd a mathau eraill o gyfathrebu electronig, maent yn darparu cyfleoedd newydd i droseddu ac ar gyfer twyll. Felly, mae’n fuddiol iawn i Lywodraeth Cymru fod yn fwy llym yn hyn o beth, o ran dysgu gwersi drwy enghreifftiau lle y datgelir twyll er mwyn sicrhau y gallwn gau bylchau yn y gyfraith a sicrhau nad yw’n digwydd eto, a cheisio sicrhau bod ein gweithlu, sy’n gweithio mor galed yn y maes hwn, wedi’u paratoi ac yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig er mwyn cynorthwyo pob un ohonom yn y frwydr yn erbyn twyll.

Mae ysgolion yn rhan bwysig iawn o’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarparwn a hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyllid i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid longyfarch Cyngor Caerdydd ar yr adeilad newydd arfaethedig ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg Glan Ceubal ac Ysgol Gynradd Gabalfa yn fy etholaeth yng Nghaerdydd? Mynychais seremoni torri’r dywarchen ar gyfer y ddwy ysgol newydd hon yr wythnos diwethaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r adeiladau newydd rhagorol hyn ledled Cymru?

Diolch i Julie Morgan, ac ategaf ei llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddatblygu Ysgol Glan Ceubal. Mae’n wych gweld cyfleuster cyfrwng Cymraeg newydd yn y rhan honno o’r ddinas, ochr yn ochr ag Ysgol Gynradd Gabalfa. Fe’i gwnaed yn bosibl drwy fenter benthyca llywodraeth leol a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, a lle rydym wedi gallu cefnogi gwerth £170 miliwn o wariant gan awdurdodau lleol yn rhan gyntaf y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bellach, rydym wrthi’n cynllunio band B y rhaglen honno, drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol, lle rydym yn gobeithio gallu cefnogi’r gwaith o adeiladu ysgolion newydd gwerth hyd at £500 miliwn ledled Cymru.

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae angen sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus ym mhob awdurdod lleol, ac mae angen i bob bwrdd asesu cyflwr economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei fro a chyhoeddi canlyniadau’r asesu, a chyhoeddi cynllun llesiant a fydd yn amlinellu amcanion lleol yn ôl nodau’r Ddeddf, ynghyd â modd o’u cyflawni. Hoffwn i wybod sut mae’r gwaith yma’n mynd yn ei flaen a pha mor effeithiol ydy’r gwaith o safbwynt cyfrannu at y nod llesiant yn benodol.

Wel, diolch yn fawr i Sian Gwenllian am y cwestiwn yna. Mae hi’n tynnu sylw at y gwaith sy’n mynd ymlaen yn y maes yma.

I’ve been encouraged, Dirprwy Lywydd, myself, by the work the public services boards have done in making their well-being assessments. I’ve had an opportunity to read quite a few of them. I think, if we’re being completely frank, you would say that they’re the hallmark of so much of what we know about the way that things happen in Wales. There are very good examples in some aspects of the plans everywhere—probably not very many that are good right across the whole range of things that they were asked to encompass within that assessment. So, you can go—. I don’t want to start taking examples out of the air, Llywydd, but, if you were to go to Caerphilly’s, for example, it’s a really excellent example of public engagement and a really excellent example of how it’s captured the cultural dimension of well-being, and then it’s not so strong in other aspects, and other local boards have been better in different ways.

So, the really key thing is now to learn from this first round of them, to keep those assessments as documents that are alive, that people refresh them, that they learn from one another, and that they move purposefully on to the next stage, as Sian Gwenllian said, which is to move from the assessment of well-being needs to planning for how those needs are to be met. My aim, working with local authority colleagues, will be to try and make sure that, where the fastest progress has been made, that learning is passed on to others and we get a movement across Wales so that all these plans can be as good as they possibly can be.

Egwyddorion Buddsoddi i Arbed

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am egwyddorion buddsoddi i arbed? (OAQ51070)[W]

Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae cyllid buddsoddi i arbed yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfres o egwyddorion sy’n cynnwys y canlynol: darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, creu arbedion sylweddol sy’n rhyddhau arian, annog mwy o gydweithredu rhwng cyrff a gwasanaethau cyhoeddus, a rhannu gwersi a ddysgwyd a’r arferion gorau.

Diolch am yr ymateb yna. Mi hoffwn i awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai buddsoddi mewn datblygu addysg feddygol israddedig gynhwysfawr yn y gogledd—hynny ydy, yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a reit trwy eu hastudiaethau—yn enghraifft wych o weithredu egwyddorion buddsoddi i arbed. Rydym ni’n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £80 miliwn ar locyms yn y tair blynedd diwethaf. Rhywsut, mae’n rhaid torri’r cylch dieflig yma, ac mi fyddai buddsoddi, rydw i’n meddwl, mewn hyfforddi meddygon yn lleol yn gyfraniad mawr at hynny. Nid ysgol feddygol lawn annibynnol yr ydym ni’n gofyn amdani hi, gyda llaw; efallai y daw hynny maes o law. Ond, tra bod yna bob mathau o resymau bod angen y datblygiad yma, er bod y Llywodraeth ddim fel petaen nhw’n gweld hynny hyd yn hyn—i’r Ysgrifennydd cyllid yn benodol, rydw i’n apelio am iddo fo gydnabod a gweld hyn fel enghraifft o fuddsoddiad synhwyrol rŵan er mwyn creu buddiannau hirdymor.

Wel, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, rydw i’n clywed yr achos mae’r Aelod yn ei wneud, ac rydw i’n cydnabod beth mae e’n ei ddweud am sut mae’r arian yn cael ei wario yn y gogledd ar hyn o bryd. Bydd e’n awyddus i wybod, rydw i’n siŵr, fy mod i wedi cael cyfarfod y bore yma gyda’r Ysgrifennydd gyda chyfrifoldeb dros iechyd i drafod y datblygiadau yn y gogledd.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y bydd yr Aelodau’n falch o glywed bod adolygiad annibynnol wedi canfod bod pob £1 a fuddsoddwyd wedi arwain at oddeutu £3 mewn arbedion. Mae hynny’n wirioneddol dda ac yn arwydd o gryn arloesedd. Rydym yn awyddus i weld mwy o hynny. Fodd bynnag, 0.4 y cant yn unig o fuddsoddiad o bron £14 miliwn y mae tai wedi’i gael o dan y cynllun hyd yn hyn. Tybed a wnewch chi edrych ar ffyrdd posibl y gallai’r sector tai elwa, efallai drwy leihau costau cychwynnol adeiladu cartrefi, ac yn enwedig mesurau i gefnogi safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni. Maent yn cael cryn effaith ar iechyd a lles y tenantiaid a’r bobl sy’n byw yn y tai hynny wedyn.

Diolch i David Melding am ei bwynt. Mae’n tynnu sylw at un o nodweddion y gronfa, sef ei bod wedi cael ei defnyddio gan rai rhannau o’r sector cyhoeddus yn llawer mwy rheolaidd nag eraill. Felly, mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru hanes gwych o ddefnyddio’r gronfa ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni, ac mae wedi arbed llawer iawn o arian yn y gwasanaeth iechyd o ganlyniad. Mae awdurdodau lleol wedi bod ychydig ar ei hôl hi mewn perthynas â’r gronfa buddsoddi i arbed, ond rydym yn annog y rhai a wnaeth lai o ddefnydd ohoni hyd yn hyn i ddefnyddio mwy arni yn y dyfodol. Rydym yn cymryd ceisiadau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn bellach, yn hytrach nag ar adegau penodol o’r flwyddyn, ac yn gweithio gyda phobl â llai o brofiad o wneud ceisiadau i’r gronfa, fel eu bod yn cael rhywfaint o fentora yn ystod y broses er mwyn annog y math o gais a grybwyllwyd gan yr Aelod.

Cynigion Cyllideb Llywodraeth Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyhoeddi cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru? (OAQ51073)

Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth nesaf.

Diolch. Y dreth ystafell wely yn un o’r beichiau mwyaf diangen o bell ffordd sy’n wynebu rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nid yw’r dreth hon wedi gwneud dim ond ychwanegu at y pwysau ar y rheini sydd eisoes yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd. Mae’r dreth ystafell wely, mewn sawl achos, wedi effeithio ar bobl nad oes dewis ganddynt i symud i mewn i dŷ llai. Felly, onid yw’n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gael gwared ar dreth sy’n cosbi’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas? Os gall Llywodraeth yr Alban gael gwared ar y dreth ystafell wely, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth? Felly, hoffwn ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n mynd i ymrwymo i gael gwared ar y dreth ystafell wely drwy’r cylch cyllidebol nesaf ai peidio.

Dirprwy Lywydd, nid yw’r dreth ystafell wely yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru.

Diogelu Gwasanaethau Cyhoeddus

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus o fewn llywodraeth leol? (OAQ51075)

Byddwn yn parhau â’n hymdrechion i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag y toriadau gwaethaf i gyllideb Llywodraeth Cymru. Dylwn ailadrodd, fodd bynnag, y cyngor a roddais yn gynharach y prynhawn yma y dylai eleni gael ei defnyddio gan lywodraeth leol i gynllunio ar gyfer adegau anoddach a dewisiadau anoddach yn y dyfodol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedwch, mae nifer y cwestiynau rydych eisoes wedi eu hateb y prynhawn yma ar y mater hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid teg i lywodraeth leol, yn enwedig mewn cyfnod o gyni a orfodir arnom gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Ddechrau’r mis, mynychodd Jeremy Miles a minnau sesiwn holi ac ateb ar gyfer staff cyngor Castell-nedd Port Talbot, a daethant â’r pryderon hyn i’n sylw. Mynegwyd pryderon eraill ganddynt hefyd, megis materion yn ymwneud â chyllid grant a’r neilltuo a gymhwysir iddo, a’r heriau a wynebant y gellid eu hosgoi. Pan fyddwch yn cyhoeddi eich setliad ar 10 Hydref, a wnewch chi edrych ar gyllid grant a neilltuir i weld os gallwch roi hynny yn y grant cynnal refeniw er mwyn sicrhau y gall cynghorau ddefnyddio’r arian fel y gwelant orau ar gyfer darparu gwasanaethau?

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi darllen adroddiadau ynglŷn â’r cyfarfod a fynychodd David Rees a Jeremy Miles, ac rwy’n deall yn iawn y pwyntiau a wnaed gan weithwyr lleol yn y gwasanaethau ynglŷn â’r pwysau y maent yn ei wynebu ac effaith cyni ar fywydau’r rhai y maent yn ceisio eu cynorthwyo. Rwyf wedi gwrando’n astud ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’i ddweud wrthyf ynglŷn â symud grantiau mwy penodol i’r grant cynnal refeniw er mwyn rhoi ychydig mwy o hyblygrwydd iddynt ac i leddfu’r baich biwrocrataidd, a byddaf yn rhoi ystyriaeth drwyadl i’r cyngor hwnnw wrth i mi baratoi i amlinellu’r setliad llywodraeth leol drafft ar 10 Hydref.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Castell-nedd yn elwa oherwydd bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51068)

Nod bargen ­ddinesig £1.3 biliwn dinas-ranbarth Abertawe yw rhoi hwb o £1.8 biliwn i economi’r rhanbarth a chreu bron 10,000 o swyddi newydd. Mae dau o brosiectau’r fargen wedi eu lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ar ddechrau proses y fargen ddinesig, cafwyd ar ddeall y byddai’r prosiectau sy’n rhan ohoni, sy’n defnyddio arian cyhoeddus ac arian y sector preifat, yn cael eu gwerthuso a’u cymeradwyo ar wahân. Daeth yn amlwg, mewn trafodaethau a gawsom—gyda David Rees, ac eraill yn y rhanbarth—fod y dull hwnnw o weithredu wedi newid ar ryw adeg o bosibl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gyda’i gilydd, fel petai, sy’n amlwg yn peri rhwystr i’r broses o gyflawni’r prosiectau hynny o ystyried y cymysgedd o gyllid sy’n cyfrannu at bob un o’r prosiectau hynny. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n deall pwynt Jeremy Miles. Pan gafodd y cytundeb ei lofnodi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr lleol yn ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe, credaf ei bod yn bwysig i mi ddweud mai ar sail 11 o brosiectau yn gweithio gyda’i gilydd i ffurfio cytundeb y gwnaed hynny. Nawr, rwyf wedi cael trafodaethau pellach gyda phobl yn lleol hefyd. Mae’n bwysig o hyd fod yr 11 prosiect yn datblygu fel pecyn cydlynol. Nid 11 o bethau ar wahân sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain mohonynt. Mae’n rhaid iddynt uno gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Ond rwy’n fwy na pharod i gadarnhau na fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob achos busnes gael ei gymeradwyo cyn y caiff y cyllid ei ryddhau ar gyfer unrhyw un ohonynt.

3. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
4. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Uber yng Nghymru

Yn sgil penderfyniad Transport for London i ddirymu trwydded gweithredwr hurio preifat Uber, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb y cwmni yng Nghymru? (TAQ0046)

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn eu hardaloedd lleol, ac fel rhan o’r system drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n rhaid i ddiogelwch teithwyr fod o’r pwys mwyaf. Ni fyddai’n briodol gwneud sylwadau ar yr achos hwn, ond byddwn yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau er mwyn bod yn barod ar gyfer y broses o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am drwyddedu, a ragwelir yn gynnar yn 2018.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cydnabod bod trwyddedu’n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ond yn amlwg, mae gennych gyfrifoldeb Cabinet dros drafnidiaeth ac mae’n bwysig bod yno ddewis—dewis y gall y defnyddwyr ei wneud—o ran y model tacsi mwy traddodiadol neu’r model Uber sydd ar gael mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, a ydych o’r farn y dylai’r dewis hwnnw barhau i fod ar gael yma yng Nghymru, neu a ydych yn credu y dylid efelychu’r camau a gymerwyd gan Transport for London gyda chefnogaeth y maer, Sadiq Khan, i amddifadu’r defnyddwyr o’r dewis hwnnw?

Wel, ni wyddom o hyd beth yn union a barodd i Transport for London wneud y penderfyniad a wnaethant, felly nid dod i benderfyniad yn y ffordd y gofynnodd yr Aelod fyddai’r peth iawn i wneud o reidrwydd. Fodd bynnag, rwyf wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ddiwygio’r gyfraith mewn perthynas â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, a fydd yn cynnwys cyflwyno safonau cenedlaethol. Rwy’n fwy na pharod i ailddosbarthu’r ymgynghoriad a gynhaliwyd, ynghyd â chynigion y Llywodraeth a fydd yn tynhau mesurau diogelwch teithwyr ac yn gwella diogelwch teithwyr.

Mae model busnes Uber yn denu cryn dipyn o sylw: elw o 25 y cant ar gyfalaf rhywun arall—y gyrwyr, hynny yw. Tybed a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallant sicrhau bod cwmni fel hwn, nad yw wedi’i leoli yn y wlad hon, yn gallu cyfrannu’n briodol serch hynny at gostau cynnal a chadw ffyrdd a rheoleiddio ceir hurio, gan fod yn rhaid i gwmnïau tacsi eraill dalu swm priodol, ac mae’n gystadleuaeth annheg os ydynt yn dod yma heb wynebu’r lefel hon o reoleiddio.

Mae’r Aelod yn llygad ei lle, a chodwyd y pwynt hwn ar sawl achlysur yn ystod y broses o lunio’r ddogfen ymgynghori a arweiniodd at nifer o gwmnïau tacsi yn cytuno y dylid cael cyfraniad teg. Er bod temtasiwn i gyfrannu at yr anghydweld presennol, yn enwedig o ystyried canlyniad y tribiwnlys y llynedd, nid wyf wedi gweld y dyfarniad—a mater yw hwn rhwng yr awdurdod trwyddedu a’r cwmni hurio preifat—ond gallaf ddweud eto y bydd ein cynigion ar gyfer diwygio tacsis yn mynd i’r afael â rhai o’r bylchau a nodwyd gan yr Aelodau yn y Siambr hon heddiw.

5. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 yw’r datganiadau 90 eiliad, a daw’r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw gan Mike Hedges.

Diolch. Pleidleisiwyd Capel y Tabernacl, Treforys, Abertawe yn hoff eglwys neu gapel Cymru. Lansiwyd cystadleuaeth Cymru Sanctaidd gan Huw Edwards, darlledwr a newyddiadurwr ac is-lywydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi ym mis Gorffennaf eleni, gan alw ar y cyhoedd i bleidleisio am eu hoff eglwys neu gapel yng Nghymru. Heddiw datgelwyd mai Capel y Tabernacl yw’r enillydd gyda 7,081 o bobl yn pleidleisio ar wefan Cymru Sanctaidd. Curodd Capel y Tabernacl 49 o eglwysi a chapeli eraill. Dyluniwyd Capel y Tabernacl, adeilad rhestredig gradd I, gan y pensaer o Gymro, John Humphreys, ac agorodd ym 1870. Dywedwyd mai hwn oedd y capel mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru, gan gostio £18,000—swm enfawr bryd hynny. Fe’i hadwaenir fel cadeirlan anghydffurfiaeth Gymreig. Bydd Capel y Tabernacl, Treforys yn derbyn tlws gwydr Cymru Sanctaidd, wedi’i ddylunio gan Sandra Snaddon, a gwobr o £500.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd tref hynafol Trefaldwyn yn paratoi i droi’r cloc yn ôl 750 o flynyddoedd i ddathlu arwyddo Cytundeb Trefaldwyn. Ar 29 Medi 1267 arwyddodd Brenin Lloegr, Harri III, a Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd, gytundeb i gydnabod mai Llywelyn oedd Tywysog Cymru. Rhoddai cytundeb 1267 Lanfair-ym-Muallt, Aberhonddu a Chastell Whittington yng nghanolbarth Cymru i Lywelyn. Cafodd sicrwydd hefyd na fyddai unrhyw gastell yn cael ei adeiladu ym Mhenarlâg am 60 mlynedd gan Robert o’r Wyddgrug, gan ddiogelu ffin ogledd-ddwyreiniol Cymru. Fodd bynnag, yn dilyn olyniaeth Edward I yn Frenin Lloegr ym 1272, dirywiodd y berthynas rhwng Cymru a Lloegr a chyhoeddodd Edward ryfel yn erbyn Llywelyn yn 1276. I ddathlu saith can mlynedd a hanner ers y cytundeb, mae Cyngor Tref Trefaldwyn a phartneriaid wedi cytuno i ailgreu golygfa arwyddo’r cytundeb, a bydd plant ysgol lleol yn cymryd rhan. Yn nes ymlaen, bydd gwledd ganoloesol ac adloniant yn neuadd y dref, a byddaf yn ei mynychu. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn awyddus i ymuno â mi i ddymuno’n dda i bobl Trefaldwyn wrth iddynt nodi’r achlysur arbennig hwn.

Ar ddydd Iau 7 Medi ymunais ag aelodau o’r gymuned leol i ddathlu agor siop gydweithredol newydd ar Canal Road yng Nghwm-bach, yn fy etholaeth. A dweud y gwir, roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael gwahoddiad i agor y siop yn ffurfiol. Mae’r datblygiad £0.5 miliwn wedi dod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd, gan ddarparu adnodd cymunedol amhrisiadwy a chreu 16 o swyddi newydd sbon. Bydd hefyd o fudd uniongyrchol i grwpiau cymunedol yng Nghwm Cynon, megis y clwb pêl-droed lleol, Clwb Pêl-droed Llwydcoed, Cymdeithas Pensiynwyr Hirwaun a Chymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf. Yn fwy pwysig, daeth y buddsoddiad hwn â’r cwmni cydweithredol yn ôl i Gwm-bach. Fel y nododd hanesydd y mudiad cydweithredol, Alun Burge, gellid dadlau mai Cymdeithas Gydweithredol wreiddiol Cwm-bach, a sefydlwyd ym 1860, oedd dechrau’r mudiad cydweithredol yng Nghymru. Yng nghymunedau de Cymru, fel fy un i, roedd cryfder y cwmni cydweithredol i’w weld yn nhrefi bach y Cymoedd. Fel y dywedwyd am gwmni cydweithredol Blaina yn y 1920au, hwnnw oedd y peth mwyaf yn y cwm heblaw am y diwydiant glo ei hun. Roedd y mudiad cydweithredol, gyda’i ymrwymiad i addysg a gwasanaethau o’r crud i’r bedd, yn cynnig ffordd o fyw i lawer, drwy ei ddarpariaeth gymdeithasol helaeth. Roedd yn bleser, fel wyres i weithiwr cydweithredol, ac fel rhywun a fagwyd yng Nghwm-bach, cael croesawu’r cwmni cydweithredol yn ôl i’r pentref.

6. 5. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau

Eitem 5 yw’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau pwyllgor, a galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6512 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 —Biliau Pwyllgor’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017; ac

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 6. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae eitem 6, unwaith eto, yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ac eto, galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6511 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 – Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

Symudwn yn awr at eitem 7, sef y ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9. A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnig y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM6508 Jayne Bryant

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

a) yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-17—a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

b) yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Yng nghyfarfod y pwyllgor ar 11 Gorffennaf 2017, fe wnaethom ystyried yr adroddiad gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Neil McEvoy AC, ynglŷn â’i fethiant i gydymffurfio â’r rheolau a’r canllawiau ar ddefnyddio adnoddau’r Cynulliad, sy’n torri’r cod ymddygiad. Bu’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystyried adroddiad y comisiynydd yn ofalus, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynglŷn â’r gosb sy’n briodol yn yr achos hwn. Mae’r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Diolch. Rwyf yma heddiw i ymddiheuro am ddefnyddio ystafell briffio’r cyfryngau mewn ffordd a oedd yn anghyson â Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn a’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n derbyn canfyddiadau adroddiad y pwyllgor yn llawn, oherwydd pan wyf wedi gwneud rhywbeth o’i le, rwy’n cyfaddef hynny.

Nid oeddwn yn bwriadu torri’r cod ymddygiad. Y gwir amdani yw nad oeddwn yn ddigon cyfarwydd â’r cod ymddygiad ar y pryd, ac nid yw hynny’n fai ar neb ond fi, ac rwy’n derbyn hynny. Fodd bynnag, y rheswm pam yr ystyrir fy mod wedi torri’r cod ymddygiad yw oherwydd bod yna god ymddygiad sy’n berthnasol i mi. Ond mae yna un person yn y Siambr nad yw’r cod ymddygiad yn berthnasol iddo, a’r person hwnnw yw’r Prif Weinidog.

Mae atebion y Prif Weinidog i gwestiynau wedi bod yn anghyson ynglŷn â ffeithiau, ond nid oes gan y Llywydd unrhyw bŵer i archwilio ei ymddygiad. Nid oes gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog hyd yn oed unrhyw bŵer i archwilio hyn, ac rwy’n credu ei fod yn annemocrataidd ac yn anghywir. Dyna pam yr ysgrifennais ddoe—

Mae’n ddrwg gennyf, Neil. A gaf fi ofyn i chi feddwl am yr hyn rydych yn ei ddweud mewn perthynas â’r adroddiad safonau, os gwelwch yn dda?

Mae’r pwyntiau rwy’n eu gwneud—ac mae’n debyg y byddaf yn dod â phethau i ben ychydig bach yn gynt nag y dymunaf. Oherwydd rwy’n derbyn y cerydd yn llwyr, os mai dyna yw dymuniad y Siambr, ac rwy’n ymddiheuro’n llawn unwaith eto. Ond rwy’n credu y dylai Prif Weinidog Cymru gyfeirio ei hun, drwy’r cod ymddygiad i weinidogion—

Na, rydych yn crwydro oddi ar yr adroddiad. Felly, meddyliwch, ac os ydych eisiau gwneud, mae hynny’n iawn.

Iawn. Fe orffennaf drwy ddweud—ac ysgrifennais at y Prif Weinidog parthed y mater hwn ddoe—ni ddylai un Aelod o’r Siambr hon fod yn fwy cyfartal nag un arall. Dylai cod ymddygiad fod yn berthnasol i bob un ohonom. Roeddwn yn anghywir, fe wnes gamgymeriad, rwy’n cyfaddef hynny. Dylai pob AC wneud yr un peth. Diolch.

Hoffwn ddweud, rydym wedi clywed ymddiheuriad yr Aelod, a diolch iddo am hynny—ei fod wedi dweud hynny heddiw. A buaswn yn gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: ‘Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru’

Symudwn yn awr at eitem 8, sef dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ‘Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru’. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6510 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.

Mewn cwta 13 mis, bydd y gwaith o weithredu’r rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn trosglwyddo i fasnachfraint newydd. Mae hon yn foment gyffrous ac yn un sy’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer pennod newydd ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’r gororau. Ac mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cael pethau’n iawn.

Mae’r adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau rydym yn ei ystyried heddiw yn nodi ein barn ar broses Llywodraeth Cymru o gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a’r gororau, a cham 2 metro de Cymru. Mae’r adroddiad yn nodi 10 blaenoriaeth allweddol ar gyfer y contract newydd, yn seiliedig ar arolwg o bron i 3,000 o bobl yng Nghymru a’r Gororau. Roedd hwn yn ymchwiliad sylweddol a chymhleth, a chredaf fod hynny’n briodol, gan mai dyma’r broses gaffael fwyaf sylweddol a mwyaf cymhleth a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymron i ddau ddegawd o ddatganoli. Dyma’r penderfyniad buddsoddi unigol mwyaf y mae Cymru erioed wedi’i wneud. Ac yn ogystal â bod yn fawr, mae’r broses yn un arloesol, sy’n cynnig cyfleoedd a heriau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio gweithdrefn deialog gystadleuol ar gyfer caffael. Mae’n system sydd wedi cael ei phrofi mewn meysydd eraill—ar gyfer contractau technoleg gwybodaeth, er enghraifft—ond erioed o’r blaen ar gyfer caffael rheilffyrdd. Maent hefyd yn bwriadu dyfarnu’r contract mawr cyntaf sydd wedi’i integreiddio’n fertigol ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd ym Mhrydain, lle y bydd y cynigydd llwyddiannus yn rheoli’r traciau a’r gwasanaethau trên ar gledrau craidd y Cymoedd. Nawr, o ystyried mai dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gaffael masnachfraint reilffyrdd, rwy’n credu ei bod yn deg dweud nad yw wedi dewis yr opsiwn hawdd neu’r opsiwn diogel. Mae’r hyn y maent yn ceisio ei wneud yn hynod o uchelgeisiol. A dweud y gwir, rwy’n credu fy mod wedi dweud yn y lansiad ei fod yn arwrol o uchelgeisiol, ac rwy’n credu fy mod wedi defnyddio’r ymadrodd hwnnw pan lansiais yr ymchwiliad.

Gwnaeth y pwyllgor 19 o argymhellion yn yr adroddiad hwn, mewn tri phrif faes: y broses gaffael, blaenoriaethau ar gyfer manyleb y fasnachfraint, a materion seilwaith rheilffyrdd a ddeilliodd o’n tystiolaeth. Ar y broses gaffael, nodwyd nifer o risgiau a heriau, ac mae’r rhain yn cynnwys yr angen am gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau caffael—nad ydynt wedi’u datganoli o hyd er bod cytundeb i wneud hynny wedi’i gyrraedd yn 2014; cyllid; a hefyd trosglwyddo perchnogaeth rheilffyrdd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae llawer o drafod wedi bod rhwng Adran Drafnidiaeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nid yw’r ohebiaeth gyhoeddus rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, a’r Ysgrifennydd Gwladol, Chris Grayling, ond wedi llwyddo i wneud rhai o’r materion anodd sy’n dal i fod angen eu datrys yn gyhoeddus. Rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym y prynhawn yma—fel y dywedodd wrthym yn y pwyllgor y bore yma—fod cynnydd wedi’i wneud.

Mae’r oedi a welsom hyd yn hyn yn golygu nad oes llawer iawn o le i gynllunio wrth gefn. O hyn ymlaen, bydd angen i bopeth ddigwydd yn union yn ôl yr amserlen, nad yw’n digwydd bob amser fel y bydd y rhai sy’n defnyddio’r rheilffyrdd yn rheolaidd yn gwybod. I deithwyr, y flaenoriaeth yw cael y contract newydd ar waith a sicrhau bod y gwasanaethau’n weithredol, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddwy Lywodraeth yn gwneud yr hyn a allant i ddatrys y gwahaniaethau hyn a chaniatáu i deithwyr yng Nghymru fwynhau’r gwasanaethau trên unfed ganrif ar hugain y maent yn crefu amdanynt.

Roedd ail ran ein hadroddiad yn ymwneud â’r blaenoriaethau ar gyfer manyleb y fasnachfraint, a nododd y pwyllgor ei 10 prif flaenoriaeth i wella ansawdd a gwerth am arian gwasanaethau rheilffyrdd, ac maent yn cynnwys: un, monitro effeithiol; dau, rheilffordd wyrddach; tri, rhwydwaith integredig; pedwar, gwasanaethau hyblyg; pump, prisiau fforddiadwy; chwech, trenau newydd; saith, cyfathrebu gwell; wyth, gorsafoedd modern; naw, prisiau teg; a 10, llai o amhariadau. Cafodd arolwg y pwyllgor bron i 3,000 o ymatebion o bob rhan o’r rhwydwaith. Mae hwnnw’n ymateb aruthrol, rwy’n credu, i arolwg gan bwyllgor Cynulliad. A meysydd blaenoriaeth allweddol i deithwyr oedd, yn y drefn hon: prydlondeb a dibynadwyedd; capasiti seddi pan fyddwch yn teithio; hyd teithiau ac amlder gwasanaethau; pris y tocynnau; ac ymdrin ag oedi ac amhariadau. Ychydig islaw’r lefel honno, roedd teithwyr am weld: cysylltiadau â gwasanaethau trên eraill; ansawdd; trenau glân; hygyrchedd a chyfleusterau i bobl hŷn a phobl ag anableddau. Mae ein canlyniadau’n adlewyrchu canfyddiadau gan y corff gwarchod defnyddwyr Transport Focus yn eu harolygon blynyddol. Mae teithwyr eisiau ac yn disgwyl i’r pethau sylfaenol gael eu gwneud yn iawn yn y fasnachfraint nesaf.

Y trydydd maes a’r maes olaf a drafodwyd gennym oedd materion seilwaith rheilffyrdd. Nid oeddem wedi bwriadu cynnwys y rhain, ond roedd y dystiolaeth a gawsom yn peri digon o bryder fel na allem ei anwybyddu. Roedd y pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i lobïo Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, ac i ailddatblygu gorsaf Caerdydd. Roedd ein pryderon ynglŷn â rheilffordd Abertawe yn llygad eu lle oherwydd, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth na fyddai cynlluniau ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn digwydd. Mae’r dadleuon a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i gyfiawnhau’r penderfyniad hwn—amseroedd teithio cyflymach gan osgoi amhariadau—yn taflu cysgod o amheuaeth, wrth gwrs, dros drydaneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru yn ogystal.

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 10 argymhelliad, gyda’r naw sy’n weddill yn cael eu derbyn mewn egwyddor. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth y pwyllgor o rwydwaith trafnidiaeth integredig o ansawdd uchel. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi crynodeb o elfennau allweddol manyleb y fasnachfraint newydd maes o law. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weld y problemau sy’n parhau yn cael eu datrys ar fyrder a’u cytuno gyda’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail. Mae yna gwestiynau o hyd—

Rwy’n ddiolchgar iddo am ildio. Gwn ein bod yn trafod adroddiad y mae eisoes wedi’i gynhyrchu, ond roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r dystiolaeth a gymerwyd yn y pwyllgor y bore yma. Mae’n ymddangos na phenderfynwyd eto a fydd pwerau’r fasnachfraint wedi eu datganoli mewn pryd i’r cytundeb gael ei wneud. A yw’n fodlon fod cytundeb asiantaeth yn ddigonol ar gyfer Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru, i sicrhau bod trefniant y fasnachfraint yn ddigon cryf?

Buaswn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ymateb i’r pwynt penodol hwnnw pan ddaw i roi ei gasgliadau.

Mae yna gwestiynau’n aros—neu efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ateb y cwestiynau i gyd heddiw. Ond mae pa rôl y mae’r Llywodraeth eisiau i Trafnidiaeth Cymru ei chwarae yn gwestiwn arall hefyd, a sut y bydd yn sicrhau bod gan Trafnidiaeth Cymru ddigon o bobl â’r sgiliau perthnasol sydd eu hangen. Mae’r pwyllgor yn deall bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei greu i fod yn hyblyg. Ond wrth i amser fynd heibio, fel unrhyw gorff cyhoeddus, er mwyn cyflawni, bydd angen iddo gael cyfarwyddiadau clir, disgwyliadau clir a digon o arian ac arbenigedd i oresgyn yr heriau. Mae yna gwestiynau o hyd ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth yn dangos gwerth am arian yn y fasnachfraint newydd. Yn fy marn i, nid yw’n ddigon i ddweud, a dal i ddweud, fod deialog gystadleuol yn ysgogi gwerth am arian. Er y gall proses wneud gwerth am arian yn bosibl, ni all ddangos gwerth am arian ei hun. Mae’n bosibl y caiff y broses ei chamdrafod, wedi’r cyfan. Derbyniwyd yr argymhelliad gan y Llywodraeth, ac eto mae’n anodd gweld, yn fy marn i, sut y mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet wedi symud y tu hwnt i’w dystiolaeth i ni ym mis Ebrill. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yn ddigon i Swyddfa Archwilio Cymru, nac i bobl Cymru. Mae angen i ni weld tystiolaeth glir fod y contract mawr hwn yn cynnig gwerth am yr arian cyhoeddus sydd ynghlwm wrtho.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Yn olaf, yn yr ymateb—argymhelliad 14—ceir awgrym cryf efallai fod Llywodraeth Cymru yn ailfeddwl ynglŷn â chludo nwyddau ar gledrau craidd y Cymoedd. Dyma gam a allai gael effaith ganlyniadol sylweddol ar fusnesau sydd eisiau defnyddio’r rheilffyrdd i symud nwyddau i mewn neu allan ar y rheilffyrdd yn y dyfodol, a lleihau cyfleoedd i symud trafnidiaeth cludo nwyddau oddi ar ein ffyrdd. Nid yw’n fater i fod yn ysgafn yn ei gylch, a hyderaf y bydd gwerthusiad trylwyr o gostau a manteision yn awr ac yn y dyfodol cyn y gwneir penderfyniadau di-droi’n-ôl. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw ac at glywed safbwyntiau’r Aelodau, a sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch i chi am eich adroddiad. Rwy’n credu mai’r pethau y mae’n eu codi i fy etholwyr yw bod y broses ymgeisio gystadleuol wedi ei gwneud yn anodd iawn i drigolion fy etholaeth fod yn rhan o’r ymgynghoriad ar ble y maent eisiau i’r metro fod er mwyn eu galluogi i wneud y newid moddol hwnnw. Pan fyddwn wedi llwyddo i ddyfarnu contract i ddeiliad newydd y fasnachfraint, rwy’n gobeithio y byddant yn dechrau ymgysylltu â dinasyddion yn syth er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu hadlewyrchu’n briodol. Oherwydd os ydym am gael newid moddol o’r car i’r metro, yn amlwg mae’n rhaid ei roi mewn mannau y mae pobl angen teithio iddynt, yn enwedig mewn perthynas â theithio i’r gwaith, oherwydd ni allwn barhau â’r sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd, lle y mae llawer gormod o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car, gyda’r holl effeithiau andwyol y mae hynny’n eu cael ar iechyd pobl. Edrychaf ymlaen at glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallwn gyflymu’r trefniant hwnnw pan fyddwn wedi pennu pwy fydd deiliad y fasnachfraint.

Fel y dywed ein hadroddiad, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gosod masnachfraint am y tro cyntaf yn her fawr, ac fel y dywed ymateb Llywodraeth Cymru,

‘Mae teithwyr yn disgwyl gwasanaeth effeithlon o ansawdd uchel sy’n fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.’

Yn yr ymateb hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan, pe bai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod adran 25 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 yn cael ei diddymu, y buasent yn cymryd camau i sicrhau bod masnachfreintiau’n cael eu datblygu ar fodel dielw yn y dyfodol. Rwy’n falch o’r ffaith fy mod wedi treulio fy ngyrfa flaenorol yn gweithio yn y sector cydfuddiannol, dielw, ac mae’n rhaid caniatáu iddynt gystadlu ar sail gyfartal. Fodd bynnag, oherwydd fy mhrofiad, gwn hefyd eu bod lawn mor agored i fod yn aneffeithlon, darparu gwasanaeth gwael a methiant ariannol ag unrhyw fodel arall. Sut felly y gall Ysgrifennydd y Cabinet gyfiawnhau rhoi dull o weithredu mor fonopolistig o flaen ei gyfrifoldeb i deithwyr a threthdalwyr?

Fel y dywedodd swyddogion Adran Drafnidiaeth y DU wrth y pwyllgor,

gall modelau consesiwn weithio mewn amgylcheddau trefol... ond... ar fasnachfreintiau ehangach megis Cymru a’r gororau, mae rhoi’r hyblygrwydd i gynigwyr arloesi, datblygu gwasanaethau newydd, datblygu cynnyrch tocynnau newydd, a chael eu cymell i wneud hynny gan yr ysgogiad i wneud elw, yn well.

Clywsom hefyd—ac rwy’n dyfynnu—fod hyd yn oed Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn cydnabod yr angen i gymell risg.

Wrth dderbyn argymhellion 12 a 13 mewn egwyddor, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan ei fod, yn rhan o’r broses gaffael, yn disgwyl gweld cerbydau o ansawdd uwch yn cael eu cyflwyno, ac y bydd hyn yn helpu i leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Ym mis Ebrill, lansiais bapur gwyn Furrer and Frey yn y Senedd ar ddatblygu atebion trafnidiaeth cynaliadwy, hyblyg, amlfoddol ar gyfer Cymru. Wrth siarad wedyn gyda Vivarail, y cwmni sy’n ailadeiladu hen gerbydau metro rheilffordd danddaearol Llundain i’w defnyddio ar y brif reilffordd, roeddent yn dweud wrthyf fod ganddynt ddigon o gerbydau i gynhyrchu ychydig dros 70 o drenau tri cherbyd ac y gallent roi darlun llawnach inni o’r camau nesaf ar gyfer eu busnes, gan gynnwys trenau hybrid newydd a threnau a bwerir gan fatri. Roeddent hefyd yn dweud eu bod mewn trafodaethau gyda chynigwyr am fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau. Rhennais hyn gyda’r pwyllgor, ac rwy’n credu fy mod wedi ei grybwyll wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor, ac rwy’n gobeithio y gall roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn i ni heddiw.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 14 mewn egwyddor yn unig, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn adolygu’r polisi cludo nwyddau ar gyfer cledrau craidd y Cymoedd ac y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor pan fydd y safbwynt polisi wedi cael ei gadarnhau. Ar ôl trafodaethau gyda chadeirydd y Rail Freight Forum a Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth yn nigwyddiad Furrer and Frey, rhennais gyda’r pwyllgor ei ddatganiad fod cludo nwyddau ar reilffyrdd yn rhan bwysig o economi Cymru, gan gadw 4,000 o gerbydau nwyddau trwm cyfradd uchaf oddi ar y ffyrdd bob dydd a lleihau allyriadau carbon 76 y cant, ond dywedodd fod yn rhaid i hyn, wrth gwrs, gael ei ddiogelu mewn unrhyw welliannau i wasanaethau teithwyr o dan y fasnachfraint. Ceir potensial ar gyfer cynyddu ymhellach y defnydd o rwydwaith rheilffyrdd Cymru ar gyfer cludo nwyddau, yn arbennig ar gyfer gwastraff llechi a choed yn y gogledd a thraffig rhyngfoddol ar hyd yr A55 i Gaergybi a’r M4 o’r Tafwys i dde Cymru. Rwy’n gobeithio felly y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud mwy am hyn heddiw hefyd.

Mae’n peri pryder nad yw ond wedi derbyn argymhelliad 15 mewn egwyddor, sef y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu strwythurau cadarn ar gyfer ymgysylltu â theithwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolaeth gref o ranbarthau Lloegr. Ym mis Gorffennaf, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad a drefnwyd gan ESP Group a amlygai bwysigrwydd cynhwysiant a llesiant wrth gynllunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru. Maent yn gweithio ym maes cynhwysiant a llesiant mewn trafnidiaeth, gan gynnwys dementia a thrafnidiaeth, pobl hŷn a rhoi’r gorau i yrru, trafnidiaeth wledig a hygyrchedd swyddi a hyfforddiant i bobl iau. Pa ymgysylltiad, felly, y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gael, neu y bydd yn ei gael, gyda sefydliadau fel ESP Group a’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ar yr agenda hollbwysig hon?

Mae hefyd yn peri pryder nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond yn derbyn argymhelliad 16 mewn egwyddor yn unig, lle na ddylai cadeirydd y corff a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu’r fasnachfraint newydd, Trafnidiaeth Cymru, sy’n uwch was sifil yn Llywodraeth Cymru, gael ei ddirprwy ei hun yn rheolwr llinell. Fel y nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae’r trefniadau hyn yn anarferol iawn ac nid ydynt yn gynaliadwy.

Yn olaf, o ystyried y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi’r peryglon a’r canlyniadau sy’n codi am nad oedd Adran Drafnidiaeth y DU mewn sefyllfa i gefnogi ei ddyddiad cyhoeddi tendr arfaethedig ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r gororau, mae ymateb Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ar 8 Awst, yn manylu ar beth oedd yn dal i fod angen i Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i ategu hyn, yn codi cwestiynau difrifol.

A gaf fi ddiolch i Russell George, yn gyntaf oll, am gyflwyniad ardderchog i’r adroddiad hwn? Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw’r rheilffyrdd wedi eu datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Yn benodol, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, ac yn amlwg, nid yw’r broses o osod y fasnachfraint, sef caffael gwasanaethau teithwyr, wedi’i datganoli chwaith.

Nawr, er gwaethaf pob ymrwymiad i’r gwrthwyneb, bydd Llafur yn rhoi masnachfraint nesaf y rheilffyrdd i weithredwr sector preifat, ac yn ôl yr holl dystiolaeth hyd yn hyn, nid ydynt yn gallu gwneud hynny’n effeithiol hyd yn oed. Mae blerwch San Steffan a thangyflawniad Llafur yma wedi golygu y bydd oedi i’r broses o ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru eisoes yn costio £3.5 miliwn yn ychwanegol i drethdalwyr, ac o bosibl yn taflu’r holl broses o gaffael masnachfraint oddi ar y cledrau—gan chwarae ar eiriau’n fwriadol.

Mae twll du gwerth £1 biliwn yn dal i fod yng nghyllid y fasnachfraint, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau o hyd i gaffael y fasnachfraint. Edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf. Mae difaterwch San Steffan a phroblemau Llafur yma yn costio miliynau i drethdalwyr Cymru ac fe allai hynny olygu oedi i deithwyr trên.

Nawr, parthed yr oedi ar drosglwyddo pwerau caffael y rheilffyrdd, mae gwleidyddion Plaid Cymru yn San Steffan ac yma wedi tynnu sylw’n gyson at bryderon nad yw’r broses o drosglwyddo swyddogaethau sy’n ymwneud â chaffael wedi digwydd. Rydym wedi nodi nifer o ymatebion o’r blaen ac yn amlwg cawsom rai ymatebion cyhoeddus dros yr haf, ond nid yw’r materion hynny wedi eu datrys ac nid yw’n ymddangos bod dogfennau’r fasnachfraint a thendrau yn gwbl weithredol o hyd.

Nawr, er gwaethaf amryw o ymrwymiadau yn eu maniffestos ac ar lawr y Cynulliad, mae Llafur yng Nghaerdydd wedi gosod pedwar cwmni gweithredu trenau ar y rhestr fer i weithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau, fel y gŵyr pawb ohonom, o Hydref 2018 ymlaen—pedwar cwmni gweithredu preifat. Mae Llafur yn honni eu bod wedi eu cyfyngu gan Ddeddf Rheilffyrdd 1993, sy’n rhwystro gweithredwyr yn y sector cyhoeddus, sef yr eglurhad y gofynnir amdano yn argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor. Ond mae’n deg nodi, yn ystod taith Bil Cymru, Deddf Cymru 2017 erbyn hyn, fod Llafur yn San Steffan wedi ceisio diwygio Deddf rheilffyrdd 1993 er mwyn caniatáu i weithredwr trenau sector cyhoeddus gystadlu am fasnachfraint Cymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban ers y Ddeddf yr Alban ddiweddaraf. Ond er gwaethaf y methiant i ennill y consesiwn hwn, roeddent yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol Bil Cymru yma yn y Cynulliad, gan wneud unrhyw ymrwymiad hirdymor i berchnogaeth gyhoeddus braidd yn ddiystyr, o ystyried eu bod wedi cefnogi Bil a oedd yn eu rhwystro’n weithredol rhag gwneud hynny.

Felly, mae heriau’n parhau o ran tendro a’r holl broses o gaffael masnachfraint. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Fel y crybwyllais, mae oedi eisoes wedi costio £3.5 miliwn ychwanegol i drethdalwyr: arian a ddylai, yn ddelfrydol, fod wedi cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau rheilffordd a’r rhestr o broblemau a nodwyd gan deithwyr y soniodd Russell George amdanynt ar y dechrau, arian y gellid bod wedi’i ddefnyddio i wella hygyrchedd a gwella cyfleusterau, prydlondeb a glendid trenau, ac i sicrhau bod prisiau tocynnau’n deg a fforddiadwy. Ond yn y pen draw, a yw rheolaeth dros ein system reilffordd ein hunain yn ormod i ofyn amdano? Diolch yn fawr.

Wel, mae Dai Lloyd wedi cyflawni rhai ystumiadau deallusol yn y fan honno er mwyn rhoi’r bai ar Lywodraeth Cymru, ac rwy’n credu bod hynny’n hynod o annheg, yn enwedig o ystyried dyfnder ac ehangder y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad hwn. Nid wyf yn credu bod Dai Lloyd wedi gwneud cyfiawnder â hynny yn ei araith. Rwy’n credu ei bod yn araith hynod o annheg. Mae’n bendant yn wir fod y fasnachfraint flaenorol yn fasnachfraint sy’n methu, a phob tro y bydd etholwr yng Nghaerffili yn dal trên i deithio naill ai o Rymni i Gaerdydd neu unrhyw bwynt ar y daith honno, gallaf glywed pobl yn gwylltio. Trenau gorlawn, cerbydau o ansawdd gwael, trenau sy’n hwyr yn rheolaidd a phrisiau tocynnau drud—mae’r rhain i gyd yn bethau nad ydynt yn ddigon da, ond methiant y fasnachfraint flaenorol yw hynny ac mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i’r afael ag ef.

Y peth arall y buaswn yn ei ddweud yw fy mod wedi dwyn y materion hyn i sylw Arriva dro ar ôl tro, ac er y buaswn yn cwestiynu cymhwysedd Arriva fel corff corfforaethol, mae aelodau unigol o staff Arriva wedi bod yn hynod o gymwynasgar a chefnogol wrth geisio dod o hyd i atebion, er enghraifft drwy ddod o hyd i ffyrdd o ychwanegu dau gerbyd yn y bore i wasanaeth brig dau gerbyd cyntaf y dydd ar y rheilffordd o Rymni i Gaerdydd, sy’n teithio drwy Fargoed a Chaerffili. Maent wedi bod yn hynod o gymwynasgar wrth geisio cyflawni hynny, ac maent hefyd wedi ychwanegu gwasanaethau ychwanegol ar y Sul ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd. Felly, rwy’n credu eu bod yn gwneud eu gorau, gan gynnwys gwaith arwrol i gadw’r cerbydau Pacer o ansawdd gwael yn weithredol ar y gwasanaeth.

O ran yr adroddiad, mae argymhellion 5 a 7 yn ymwneud â’r cyfrifoldeb dros gledrau craidd y Cymoedd a’r angen i sicrhau cyllid digonol a lliniaru rhwymedigaethau a risg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hynny, ac mae argymhellion 10, 12 a 13 yn ymwneud â’r mater cerbydau a grybwyllais yn awr, a’r angen i weithredwr nesaf y fasnachfraint sicrhau bod digon yn cael eu darparu i ymdopi â’r niferoedd hyn. Y broblem, wrth gwrs, yw cerbydau: mae’n anodd cael gafael arnynt os ydynt yn gerbydau diesel yn hytrach na cherbydau wedi’u trydaneiddio, ac yn wir mae caffael cerbydau newydd yn cymryd nifer o flynyddoedd, sy’n her y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â hi ar unwaith rwy’n siŵr.

Steffan Lewis a gododd—

Diolch i’r Aelod am ildio. Mae’n cyfeirio’n briodol at oed y cerbydau ar fasnachfraint Cymru. Oherwydd oed y cerbydau a’r achosion o ddrysau’n mynd yn sownd a hyd yn oed tanau ar drenau, tybed a yw’n cytuno â mi y dylid cynnwys ymrwymiad yng nghontract y fasnachfraint nesaf—pwy bynnag fydd yn ei chael—i beidio torri nifer y gardiau ar fasnachfraint Cymru o safbwynt diogelwch y teithwyr a’r staff sy’n gorfod defnyddio cerbydau mor hen.

Mae diogelwch yn fater y dylai’r Ysgrifennydd ei ystyried ac mae’n nodio, felly mae wedi clywed yr hyn rydych newydd ei ddweud; hollol deg. Y mater arall, wrth gwrs, yw’r anghydfod ariannu sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dystiolaeth y bore yma i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a dangosodd ymatalgarwch rhyfeddol, ac rwy’n credu bod hynny’n deillio o’r ffaith ei fod yn cael trafodaethau parhaus â Thrysorlys y DU ac ni fuaswn yn disgwyl llai ganddo. Serch hynny, rwy’n cadw’r hawl i ddweud bod Llywodraeth y DU wedi ein siomi. Yn 2014, ysgrifennodd Ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth y DU at ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet i ddweud na fyddai’r grant bloc yn cael ei effeithio ac y byddai’n cael ei ddiogelu’n rhesymol rhag effaith adolygiadau rheoleiddio a thaliadau mynediad i’r trac. Cafodd yr addewid hwnnw ei wneud i ddiogelu hynny. Cafodd ei wneud hefyd i’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau blaenorol yn 2015—mis Medi 2015—addawodd swyddog o’r Adran Drafnidiaeth yr un peth yn union ac felly roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrth y Pwyllgor ym mis Ebrill eleni ein bod yn disgwyl i’r grant bloc gael ei ddiogelu’n rhesymol rhag effaith y taliadau mynediad i’r trac. Mae rhywbeth wedi newid; mae rhywbeth wedi newid yn Llywodraeth y DU ac ni allwn ddweud beth ydyw. Mae Llywodraeth y DU yn awr yn gwrthod diogelu’r grant bloc rhag y taliadau mynediad i’r trac, sy’n bygwth y fasnachfraint reilffyrdd a’r Llywodraeth yn gweithio’n galed i’w ddatrys. Rwy’n credu ei fod yn beth da fod y mater hwnnw wedi ei wahanu oddi wrth fater dyfarnu’r contract, ond mae hwn yn rhywbeth sy’n rhaid ei ddatrys, a gallaf weld y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio ar hynny. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad yn effeithiol heb gael ei llyffetheirio’n ariannol gan Lywodraeth y DU, gallem weld gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu trawsnewid. A’r hyn y buaswn yn ei ddweud wrth Dai Lloyd yw fy mod yn gweld Llywodraeth Cymru sy’n gweithio’n galed i wneud hynny, er gwaethaf yr anawsterau a roddwyd yn ei ffordd gan Lywodraeth y DU, ac rwy’n annog pob plaid yn y Siambr hon i gefnogi’r adroddiad a chefnogi’r Llywodraeth i ddatrys y fasnachfraint reilffyrdd.

Mae’n rhaid i bob plaid yn y Cynulliad hwn gydnabod bod anhyblygrwydd Llywodraeth y DU yn yr ymrwymiad i ariannu a datganoli’r pwerau angenrheidiol i Lywodraeth Cymru yn gwneud y broses gaffael a dyfarnu’r fasnachfraint gryn dipyn yn fwy anodd i Lywodraeth Cymru allu gwireddu ei dyheadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a chyflwyno’r metro. Mae’n rhaid edrych ar hyn hefyd yng ngoleuni’r ffaith fod Llywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, wedi penderfynu ffurfio corff llywodraethu cwbl newydd ar ffurf Trafnidiaeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod y cymhlethdodau enfawr wrth drosglwyddo perchnogaeth cledrau craidd y Cymoedd a’r ymrwymiad parhaus y mae hyn yn ei olygu i Lywodraeth Cymru. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa mewn perthynas â’r £125 miliwn a addawyd ar gyfer trydaneiddio cledrau craidd y Cymoedd, a pha un a fydd yr arian hwn ar gael os nad yw trydaneiddio’n digwydd. O ystyried y materion hyn, neu efallai y byddai rhywun yn dweud ‘anawsterau bron yn anorchfygol’, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus y bydd dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel y’i rhagwelwyd, yn cael eu cyflawni?

Yn dilyn sesiwn ddiweddaru gyda staff Ysgrifennydd y Cabinet ddoe, rwy’n deall yn iawn pam fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â materion y tendrau. Dywedwyd wrthym, pe bai pethau’n para y tu hwnt i’r Nadolig, fod posibilrwydd real iawn y byddai dau gynigydd yn tynnu’n ôl o’r broses dendro. Mae UKIP yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid a datganoli llawn i Lywodraeth Cymru.

Mae’n bleser gallu cyfrannu at yr ymchwiliad hwn ac at yr adroddiad a ddeilliodd ohono hefyd, fel Aelod dros etholaeth yn y Cymoedd, lle y ceir angen mor daer am welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ychydig o’r argymhellion. Yn gyntaf oll, mae argymhelliad 10 yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn ateb y galw yn y dyfodol. Fel y soniwyd eisoes, methodd y fasnachfraint flaenorol wneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer twf, drwy gymell neu orfodi, ac rydym yn wynebu canlyniadau hynny yn awr. Mae fy etholwyr yn aml yn cysylltu â mi i gwyno am yr amodau teithio cyfyng y maent yn gallu eu hwynebu yn ystod teithiau ar adegau prysur. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, o safbwynt disgwyl i gynigwyr ddangos sut y byddant yn adeiladu capasiti i ateb y galw, a sut y byddant yn defnyddio ystod o offer i fonitro bodlonrwydd teithwyr.

Roedd argymhelliad 12 yn codi mater cysylltiedig yr achlysuron hynny pan fo galw teithwyr yn cynyddu’n sydyn, er enghraifft yng nghyd-destun digwyddiadau chwaraeon yng Nghaerdydd. Ddoe, cyfarfûm â grŵp o fy etholwyr a oedd wedi dod i ymweld â’r Senedd, a’r peth cyntaf roeddent eisiau siarad â mi yn ei gylch oedd yr heriau y teimlent eu bod yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau trên pan fyddant eisiau dod i’r brifddinas i fynychu gemau pêl-droed neu rygbi. Mae’n dda fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond rwy’n dal i fod yn bryderus y gallai profiadau gwael ar adegau fel hyn rwystro pobl rhag dibynnu ar ein gwasanaethau trên a’u defnyddio ar sail fwy rheolaidd, pan fo angen mor daer inni geisio argyhoeddi mwy o’n dinasyddion i wneud y newid hwnnw o’r car i drafnidiaeth gyhoeddus.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad 17 y dylid sicrhau bod

‘sail dystiolaeth penderfyniadau yn y dyfodol a blaenoriaethau’r Metro [yn] ystyried y cyd-destun gofodol.’

Ond mae gennyf rai amheuon yma ar yr angen i wneud hyn yn iawn. Roedd ‘Ffyniant i Bawb’ yn ymrwymo ei hun i

‘sicrhau bod pob datblygiad newydd ac arwyddocaol... o fewn cyrraedd hwylus i orsaf.’

Mae hwn yn nod canmoladwy yn wir, ond buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad y gallasai hyn gyfeirio at orsafoedd bysiau yn ogystal â gorsafoedd trên yng nghyd-destun metro de Cymru gyfan. Fy rheswm dros ddweud hyn yw fy mod yn teimlo bod yna heriau penodol ynglŷn â thopograffi’r Cymoedd, a’r Cymoedd gogleddol megis cwm Cynon yn arbennig, lle y gwelwn mai ein cymunedau mwyaf difreintiedig yw’r rhai sydd bellaf oddi wrth y rheilffordd mewn gwirionedd. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod hynny ac nad yw datblygiadau yn y dyfodol yn gyfyngedig i waelod y Cymoedd canolog gwastad, ond eu bod mewn gwirionedd yn cael eu hannog i symud ymhellach i fyny’r Cymoedd lle y byddwn yn gweld y safleoedd bysiau ar gyfer y metro yn ogystal. Rwy’n credu bod honno’n ongl bwysig o ran cyfiawnder cymdeithasol ac yn un y buaswn yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurhad arni.

Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o’r dadleuon hyn yn gyfarwydd iawn. Rwy’n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu ers 1999 yn cael ein galw’n ‘garcharorion oes’ yn y Cynulliad—[Chwerthin.]—ac mae’n teimlo felly weithiau. Gwelaf fod dau garcharor oes arall yn y Siambr. Yn wir, etholwyd Dr Lloyd yn gyntaf yn 1999, ond oherwydd ei ymddygiad da, cafodd gyfnod byr o barôl, ond wrth gwrs rydym wrth ein bodd ei fod yn ôl yn treulio ei dymor. Y pwynt rwyf am ei wneud yw, pan drafodwyd hyn i gyd yn 2003, nid oedd gennym y pwerau. Trafodwyd y dadleuon ehangach ynghylch seilwaith a sut y byddem yn gallu rheoli’r math ehangach o amgylchedd inni allu gwneud penderfyniadau effeithiol. Pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, roedd yna adroddiad yn tynnu sylw at rai o’r diffygion yn y gweithdrefnau a fabwysiadwyd, wyddoch chi, ac efallai’n difaru penderfyniad Llywodraeth Cymru ar y pryd i beidio â chymryd y pwerau hyn oherwydd eu bod yn credu eu bod yn cael bargen mor wael gan Lywodraeth y DU—a oedd ar y pryd, wrth gwrs, yn Llywodraeth Lafur. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod y pwyllgor yn cyfeirio at yr angen am gydweithio mwy effeithiol rhwng y gwahanol Lywodraethau, gan fod yna fater strategol yma, ac mae hi braidd yn ddigalon, 15 mlynedd yn ddiweddarach, fod pobl yn gwneud pwyntiau tebyg. Nid wyf yn mynegi pa mor ddilys ydynt, ond yn amlwg, mae llawer o bobl yn arddel y safbwyntiau hyn ac nid oes amheuaeth fod rhywfaint o sylwedd yn perthyn i rai ohonynt.

A gaf fi ddweud fy mod yn nodi’n arbennig, fel Aelod sy’n gwasanaethu’r Cymoedd, fod y risg o drosglwyddo perchnogaeth rheilffyrdd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn peri pryder i mi, fel y mae’r sefyllfa braidd yn drist ynglŷn â chludo nwyddau yn y Cymoedd? Cafodd y rhan fwyaf o rwydweithiau’r Cymoedd eu datblygu ar gyfer cludo nwyddau mewn gwirionedd, a rhywbeth eilradd oedd cludo teithwyr arnynt. Felly, rwy’n credu y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â cholli’r capasiti i gario nwyddau.

Rwy’n arbennig o falch o weld yr argymhellion sy’n ymwneud â rheilffyrdd gwyrddach, monitro effeithiol a phrisiau fforddiadwy, yn ogystal ag ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog a’r cynlluniau a addawyd ers amser maith i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe. Buaswn yn dweud, fel Ceidwadwr Cymreig, y buaswn yn hoffi’n fawr pe bai’r ymrwymiad hwnnw wedi cael ei gadw, ac rydym yn hollol gywir i ddadlau y dylai gael ei adfer.

Rwy’n defnyddio trenau Arriva yn rheolaidd, ac rwy’n siarad o brofiad am ansawdd y gwasanaeth dros y cyfnod hwnnw, ond mewn gwirionedd daw’n ôl at y ffaith mai masnachfraint anniddorol braidd sy’n cael ei dyfarnu yn y lle cyntaf. Sylwais fod y Pwyllgor Materion Cymreig wedi edrych ar hyn ac wedi galw’r gwasanaeth braidd yn ‘hen ac yn gyfyng’ a dywedodd mai’r anallu i ragweld y cynnydd rhyfeddol yn nifer y teithwyr oedd wrth wraidd y methiant. Dylem ddathlu’r cynnydd yn nifer y teithwyr. I fod yn deg, nid wyf yn gwybod yn union pa mor weithgar y mae Trenau Arriva wedi bod yn hynny, ond, hynny yw, mae wedi digwydd, a dylai hynny fod yn rhywbeth rydym am fynd ag ef ymhellach mewn gwirionedd oherwydd mae’r ymadrodd sych hwnnw ‘newid moddol’ yn wirioneddol bwysig. Hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r broses hon wedi parhau gyda dros 0.25 miliwn o gymudwyr ychwanegol bellach yn defnyddio’r gwasanaeth yn ne Cymru, felly mae’r rheini’n bethau pwysig iawn.

Rwyf am wneud rhai pwyntiau mwy cyffredinol am gludo nwyddau, ar ôl cyfeirio yn gynharach at y Cymoedd. Nid wyf yn hollol siŵr fod y Llywodraeth yn gwybod i ble y mae’n mynd, oherwydd nododd y weinyddiaeth flaenorol dan Rhodri Morgan fod cludo nwyddau a’i dwf a’i ddatblygiad yn bethau pwysig iawn, felly rwy’n siomedig nad ydych ond yn derbyn argymhelliad 14 mewn egwyddor. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nid wyf yn hoff iawn o Lywodraethau pan fyddant yn derbyn ‘mewn egwyddor’ oherwydd nid ydych yn gwybod beth y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd, ydych chi, ar wahân i ryw fath o gefnogaeth lastwraidd nad yw’n mynd â chi’n bell iawn? Ond mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos bod y galw am gludo nwyddau wedi lleihau yn ddiweddar oherwydd cau gweithfeydd glo brig mewn rhai ardaloedd. Ond yn flaenorol, nododd y Llywodraeth y potensial ar gyfer cynyddu cludo nwyddau mewn meysydd fel cynwysyddion morol, ac rwy’n ofni efallai eu bod yn colli golwg ar hynny yn awr.

Mae’r adroddiad yn dweud bod bwriadau’r Llywodraeth ar raddfa arwrol ac nid wyf yn credu y dylem eu beirniadu am hynny, ond mae angen i ni sicrhau bod y monitro a’r craffu yn effeithiol, fel bod rhai o’r dyheadau hyn yn cael eu gwireddu. Ond rwy’n llongyfarch fy nghyd-Aelod Russell George ac aelodau ei bwyllgor ar waith da drwyddo draw. Rwy’n credu y bydd yr adroddiad hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i fonitro perfformiad y Llywodraeth yn y dyfodol.

Nid wyf yn siŵr ar ba lefel o fanylder y gallodd Dai Lloyd ddarllen adroddiad y pwyllgor, ond rwy’n awgrymu y gallai fod yn werth ei ail-ddarllen, gan ei fod yn dangos cydbwysedd llawer tecach o’r materion nag y llwyddodd i’w cyfleu yn ei araith.

Mae’r fasnachfraint reilffyrdd yn enghraifft o’r modd y mae datganoli rheilffyrdd yn dioddef trawsnewid poenus: masnachfraint lle y mae’r pwerau’n cael eu cadw yn San Steffan, ond yn cael eu harfer gan Weinidogion Cymru, lle y mae Llywodraeth Cymru wedi arllwys miliynau o’i hadnoddau ei hun i lenwi bylchau yn y cyllid ar gyfer masnachfraint nad yw wedi cael ei datganoli hyd yn oed, a lle y mae cerbydau’n cwympo’n ddarnau am nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer, ac am nad oes gan Lywodraeth y DU awydd, i archebu cerbydau gwell mewn modd amserol.

Rydym yn agosáu at sefyllfa yn awr lle y mae’r fasnachfraint yn cael ei gosod er gwaethaf, nid oherwydd, Llywodraeth y DU, yn fy marn i. Roedd hyn ar ei gliriaf yn nhystiolaeth yr Adran Drafnidiaeth i’r pwyllgor, ac roedd yn awgrymu i mi fod Llywodraeth y DU wedi troi ei chefn ar y cyfrifoldeb dros y fasnachfraint, tra’i bod, ar yr un pryd, yn llusgo’i sodlau ar ddatganoli’r pwerau i Lywodraeth Cymru. Dyna’n hollol yw gwrthwyneb llywodraethu da a gweinyddiaeth dryloyw. Ac felly mae’r fasnachfraint reilffyrdd mewn perygl o gael ei dal yng nghylch cyntaf uffern Dante, y soniodd y Prif Weinidog amdano yng nghynhadledd y Blaid Lafur, sef limbo.

Dylai pwerau fod wedi cael eu datganoli ym mis Ionawr eleni. Rydym yn awr yn gobeithio y byddant yn cael eu datganoli erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond fel y clywsom yn y pwyllgor y bore yma, efallai na fydd hynny’n wir erbyn i’r fasnachfraint gael ei gosod hyd yn oed. Y cyfan roedd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn gallu ei ddweud, pan ddaethant gerbron y pwyllgor, oedd y gellid cyflwyno’r fasnachfraint mewn pryd gyda’r gwynt yn deg. Ond ymhell o fod yn wynt teg, rydym wedi gweld cymylau storm yn casglu dros fisoedd yr haf, wrth i ddatganoli pwerau gael ei gysylltu ag anghydfod ariannol arall eto fyth, y tro hwn dros daliadau mynediad i’r trac, a allai gael effaith andwyol, o hyd at £1 biliwn, ar Lywodraeth Cymru. Fel y mae Hefin David wedi’i grybwyll eisoes, cadarnhaodd y cytundeb yn 2014 rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru na fuasai’r grant bloc yn cael ei dorri, sef, i bob pwrpas, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn awr yn ei gynllunio. Gan ein bod yng nghanol Brexit, rydym wedi arfer clywed dro ar ôl tro mai Llywodraeth yw hon yn y DU sy’n cyflawni ei rhwymedigaethau i’r Undeb Ewropeaidd. Wel, mae’n bryd yn awr iddi gyflawni ei rhwymedigaethau i Gymru.

Fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, rydym eisoes wedi gweld y marc cwestiwn uwchben ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi £125 miliwn i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a gwyddom beth sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r addewid o drydaneiddio i’r gorllewin o Gaerdydd. Cymhlethir y sefyllfa hon gan y cyfyngiad parhaus a achoswyd gan y methiant i ddiddymu Deddf Rheilffyrdd 1993 yng Nghymru, sydd, mewn gwirionedd, yn cyfyngu ar faint uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflwyno gweithrediad gwirioneddol ddielw ar draws pob agwedd ar y fasnachfraint yng Nghymru. Cafodd hyn ei hepgor gan Senedd y DU mewn perthynas â’r Alban; dylai fod wedi ei hepgor, ac mae angen ei hepgor, mewn perthynas â Chymru yn ogystal. Rwy’n cytuno â Llywodraeth Cymru, â’n hundebau rheilffyrdd, y Blaid Gydweithredol ac eraill yn y Siambr hon ein bod angen ateb gwirioneddol ddielw ar draws pob agwedd ar y fasnachfraint. Hoffwn glywed gan Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu parhau i bwyso am ddiddymu’r ddarpariaeth honno yn y Ddeddf Rheilffyrdd a beth y bydd yn ei wneud yn ystod oes y fasnachfraint hon os yw’n llwyddo i gyflawni’r nod hwnnw. Hefyd hoffwn annog mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol i ymgysylltu â chaffael yr ystod o wasanaethau ategol y bydd angen iddynt fod ar waith ar ôl gosod y fasnachfraint.

Mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at fasnachfraint well sy’n canolbwyntio mwy ar y teithiwr dros y 15 mlynedd nesaf yn hytrach na’r hyn a welsom yn y fasnachfraint bresennol, ac rydym am weld y metro’n dwyn ffrwyth yn gyflym. Rydym yn ei alw’n ‘metro de Cymru’, ond gadewch i ni beidio â gwneud y camgymeriad o gredu ei fod yn datrys anghenion trafnidiaeth de Cymru i gyd. Mewn gwirionedd, metro de-ddwyrain Cymru ydyw. Nid yw’n llai pwysig oherwydd hynny, ond y wobr go iawn yma yw gweld hwn fel dechrau gwasanaeth trên a bws integredig sy’n galluogi ein dinasyddion i deithio o Drefynwy yn y dwyrain i Hirwaun, i lawr drwy ardal hardd Cwm Nedd i’r brif orsaf yng Nghastell-nedd, ac ymlaen i ranbarth trafnidiaeth integredig bae Abertawe i’r gorllewin i’r Mwmbwls, Llanelli, a thu hwnt.

A gaf fi ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am yr adroddiad? Ac wrth wneud hynny, hoffwn gefnogi pwysigrwydd y rhwydwaith metro yn ei gyfanrwydd a’r buddsoddiad cysylltiedig yn fy etholaeth fy hun. Rwyf am gyfyngu fy sylwadau mwy cyffredinol i’r pwynt penodol hwnnw, yn hytrach na rhoi sylwadau mwy penodol ar y fasnachfraint yn ei chyfanrwydd.

Mae gan gymoedd Merthyr Tudful a Rhymni reilffyrdd sy’n eu cysylltu â Chaerdydd a’r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach, ac mae’r ddwy reilffordd wedi gweld buddsoddiad newydd, er enghraifft mewn gorsafoedd, platfformau a signalau newydd, ond mae amlder y trenau hynny yn parhau i fod yn broblem. Er enghraifft, mae llai na 25 milltir rhwng Merthyr a Chaerdydd, ond nid yw’r amser teithio o dros awr yn brofiad pleserus mewn trên budr, gorlawn. Dyna’r math o beth sydd angen sylw os ydym am annog mwy o bobl i ddod ar y trenau er mwyn helpu i leihau’r defnydd o geir o amgylch ein prifddinas ac i wneud pob math o deithio yn fwy cynaliadwy, ac yn wir, annog pobl i deithio i’r cyfeiriad arall o Gaerdydd a phob man arall yn y canol.

Yn yr un modd, rheilffordd cwm Rhymni: unwaith eto, rydym wedi gweld buddsoddi yn y llwybr hwnnw, fel y nododd Hefin yn gynharach, ond mae’n amlwg fod angen rhoi sylw i hyd teithiau. Ac fel y mae Jeremy Miles wedi’i ddweud, nid yw’r metro yn ymwneud yn unig â threnau. Yr agwedd arall sydd angen ein sylw yw pwysigrwydd gwasanaethau bws lleol. Y rhain yn aml yw’r rhydwelïau hanfodol sy’n helpu pobl i symud o gwmpas cymunedau lleol, ac rwy’n nodi na chafodd y materion hyn sylw uniongyrchol yn rhan o’r adroddiad, ond byddant yn rhan bwysig o ddarparu cysylltiadau gwell fel rhan o’r pecyn metro cyfan.

Yn yr oes hon o weithio hyblyg a phobl â swyddi mewn gwahanol leoliadau, gallai fod yn ddefnyddiol inni feddwl sut y gallwn ddarparu rhwydwaith o wasanaethau bws sy’n diwallu anghenion lleol yn well. Er enghraifft, gall fod yn anodd, os nad yn amhosibl, cael gwasanaethau o amgylch rhai rhannau o Ferthyr wedi’r oriau gwaith traddodiadol ar ôl 5.30 p.m. ac os ydym am wneud cyfleoedd gwaith yn hygyrch i bobl nad oes ganddynt eu cludiant eu hunain, neu, fel y dywedodd Jenny Rathbone yn gynharach, eu hannog i adael eu ceir os oes ganddynt rai, mae angen gwella hynny, a darparu trefniadau teithio mwy hyblyg wrth i’r rhwydwaith metro esblygu.

Rwy’n credu hefyd fod angen i ni fod yn ofalus nad oes gennym bobl yn dehongli metro de Cymru fel dim ond tramiau newydd i wasanaethu Bae Caerdydd, a cholli cyfle i fanteisio ar y buddsoddiad hanfodol mewn mannau eraill. Ond fel pob un o’n hadroddiadau pwyllgor, cawn ein cyfyngu gan ddigwyddiadau hefyd, ac unwaith eto, mae Jeremy Miles a David Melding eisoes wedi gwneud sylwadau ar hyn. Ers cyhoeddi’r adroddiad ym mis Gorffennaf, mae’r pryderon a fynegwyd ynddo ynglŷn â’r prosiect trydaneiddio wedi dod yn realiti creulon bellach, ac yn anffodus, gallwn weld addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri i bobl Cymru.

Felly, diolch unwaith eto i’r pwyllgor am yr adroddiad, a gobeithio y bydd y Cynulliad yn derbyn yr argymhellion, a’n bod yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gadarn ynglŷn â’i chynlluniau buddsoddi ac anghenion y rhwydwaith trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd ar draws de-ddwyrain Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch i chi, a diolch i’r holl Aelodau am eich cyfraniadau heddiw, ac yn arbennig i aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiad a’r gwaith craffu gwerthfawr iawn y mae’r pwyllgor wedi’i wneud ar y mater pwysig hwn. Hoffwn gofnodi fy niolch yn arbennig hefyd i Gadeirydd y pwyllgor y credaf ei fod wedi arwain gwaith ardderchog mewn ffordd hollol ddiduedd a gwrthrychol.

Dros yr haf, bûm yn rhan o drafodaethau cymhleth, a dadleuol ar adegau, fel y byddwch wedi gweld, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Ond fy mlaenoriaeth yw sicrhau ffordd ymlaen sydd er budd gorau pobl Cymru. Nawr, yn gyntaf, hoffwn grybwyll yn fyr o ble rydym wedi dod gyda’r fasnachfraint bresennol. Mae Aelodau eisoes wedi nodi’r twf anhygoel yn nifer y teithwyr, sydd wedi cynyddu 60 y cant rhwng 2003 a 2017. Mae’n ffaith syfrdanol fod Llywodraeth Cymru, ers 2011, wedi buddsoddi £200 miliwn yn y rhwydwaith, er gwaethaf y ffaith bod seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn faes nad yw wedi cael ei ddatganoli.

Wrth edrych ymlaen, mae angen i ni sicrhau y gall ein rhwydwaith hwyluso twf, ac rwy’n croesawu eich safbwyntiau yn yr adroddiad i fy nghynorthwyo i gyflawni hyn. Fy uchelgais yw gosod y sylfaen ar gyfer rhwydwaith o seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru, ac yn enwedig yn ardal y metro, sydd â’r potensial i gyflawni newid sylweddol yn y ffordd y gallwn ddefnyddio trafnidiaeth, ac yn ardal metro de Cymru, i ddatblygu model a all weithredu fel glasbrint ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

Rwy’n cytuno â 10 blaenoriaeth y pwyllgor ar gyfer caffael gwasanaeth rheilffordd newydd Cymru a’r gororau. Caiff y rhain eu hadlewyrchu yn ein gofynion ar gyfer y fasnachfraint reilffyrdd nesaf a’u cynnwys yn y fanyleb ar gyfer caffael ac ar draws y meini prawf gwerthuso.

Hoffwn sôn yn fyr am nifer o bwyntiau y mae’r Aelodau wedi’u codi y prynhawn yma. Yn gyntaf, cyfraniad Jenny Rathbone—gallaf eich sicrhau, Jenny, y bydd y metro’n cael ei gynllunio mewn modd sy’n cyd-fynd ag amcanion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn enwedig o ran ymgynghori â chymunedau a theithwyr, ac mewn ffordd sy’n hyrwyddo teithio llesol ac yn annog newid moddol.

Mark Isherwood, fe siaradoch am yr angen i wobrwyo risg. Clywais hynny yn y sector bancio cyn y cwymp ariannol. Yn fy marn i, nid yw’r fasnachfraint bresennol yn cynnig unrhyw alwadau i wella gwasanaethau, fel y mae Vikki Howells wedi’i nodi. Yn lle hynny, bydd ein cynigion yn cymell—

Mark Isherwood a gododd—

A ydych yn cydnabod bod nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu cydfuddiannol, dielw hefyd wedi methu am yr un rhesymau â rhai o’r banciau mwy o faint sy’n gwneud elw?

Ydw, ond buaswn yn mynnu eto mai’r risgiau roedd y banciau mwy o faint, yn enwedig ar yr ochr arall i’r Iwerydd, yn eu cymryd a arweiniodd at y cwymp ariannol, a dylem ddysgu o hynny. Rwy’n amau y buasai llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn cefnogi unrhyw ddull sy’n arwain at weithredwr yn gwneud cymaint â phosibl o elw ar draul ailfuddsoddi’r arian hwnnw yn y rhwydwaith yng Nghymru. Felly, yn lle hynny, bydd ein cynigion yn cymell gwelliannau yn y gwasanaeth, ond hefyd bydd cap ar elw er mwyn inni allu ailfuddsoddi elw dros ben yn ôl i mewn i drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf mai dyna’r union ddull cywir i’w fabwysiadu.

Mae Jeremy Miles a Hefin David wedi ymateb yn fanwl gywir ac yn llawn ac yn briodol i gyfraniad Dai Lloyd.

Hoffwn gyffwrdd yn awr ar beth o’r cynnydd da a wnaethom mewn perthynas â blaenoriaethau’r pwyllgor. Rydym wedi caffael 20 o unedau trên ychwanegol yn ddiweddar. Mae’r diffyg capasiti ar y rhwydwaith yn un o’r problemau sy’n cael eu codi amlaf yn fy adran. Hoffwn dalu teyrnged i nifer o’r Aelodau yn y Siambr hon sy’n rhoi sylw i hyn yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ei ddwyn i fy sylw’n uniongyrchol, gan gynnwys Hefin David, sy’n eiriolwr gwych ar ran ei etholwyr, ac sy’n postio fideos rheolaidd ynglŷn â’r rhwystredigaethau y mae ei etholwyr yn eu hwynebu ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd yr 20 uned yn cael eu comisiynu ar gyfer eu defnyddio o fis Mehefin 2018 ymlaen gan roi cydnerthedd ychwanegol i’r fflyd bresennol o drenau, ond byddant hefyd yn creu cyfle i ni wella’r fflyd bresennol ar gyfer pobl â phroblemau symud. Bydd y trenau ychwanegol hyn yn darparu’r capasiti sydd ei angen arnom i wneud pob trên yn hygyrch ar gyfer pobl â phroblemau symud. Rwyf wedi ymrwymo i gael gwared ar yr hen drenau Pacer fel gweithdrefn adnewyddu â blaenoriaeth.

Drwy ymgysylltu’n eang, drwy gasglu safbwyntiau’r cyhoedd ynglŷn â’r blaenoriaethau polisi ar gyfer y fasnachfraint nesaf, rydym wedi gallu ymgorffori sylwadau a fynegwyd gan ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan sylfaenol o’n ffordd o feddwl drwy gydol y broses gaffael, ac rydym yn llwyr fwriadu cyflawni ar ddisgwyliadau’r cyhoedd. Rwy’n falch o gyhoeddi, yn dilyn proses y ddeialog gystadleuol, y byddwn yn cyhoeddi tendrau terfynol yfory, gyda’r bwriad o ddod o hyd i bartner a ffefrir yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Un mater allweddol y cyfeiriwyd ato yn adroddiad y pwyllgor yw cyllid ar gyfer cledrau craidd y Cymoedd. Rwyf wedi cael deialog gadarnhaol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd i gytuno ar y manylion terfynol sydd eu hangen. Ar ben hynny, rwy’n cytuno â’r pwyllgor fod yn rhaid i ni sicrhau cytundeb cadarn mewn perthynas â throsglwyddo perchnogaeth rheilffyrdd y Cymoedd. Datblygwyd prif delerau cychwynnol rhwng Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, a Network Rail. Ffurfiwyd cytundeb i allu gwneud gwaith datblygu pellach a mwy manwl ochr yn ochr â’r broses gaffael. Hoffwn—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n siŵr y byddwch yn cofio fy mod wedi codi mater y cerbydau yn y datganiad busnes ddoe. Gwn ei fod yn eilradd i graidd yr adroddiad hwn, ond a fuasech yn cytuno ei bod yn bwysig, ar y cyfle cyntaf, i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â’r fasnachfraint, â deiliad newydd y fasnachfraint, er mwyn sicrhau bod y cerbydau hynny—cerbydau newydd—yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo modd, fel bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael manteision llawn y fasnachfraint newydd?

Buaswn yn cytuno’n llwyr na fyddai’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl llai gennym, a bydd hynny’n sicr yn digwydd. Hoffwn fynd i’r afael â nifer o bwyntiau a gododd Vikki Howells, Dawn Bowden a David Melding, a Jeremy Miles hefyd. Cododd Vikki Howells a Dawn Bowden y pwynt pwysig fod yn rhaid i’r metro fod yn seilwaith, yn wasanaeth cyhoeddus, sy’n lledaenu cyfleoedd ar gyfer creu cyfoeth ar draws yr holl gymunedau. Mae’n wasanaeth amlfoddol, a bydd yn cynnwys mwy na gwasanaethau rheilffordd yn unig. Lle nad yw gwasanaethau rheilffordd yn gallu cyrraedd, rydym yn disgwyl y bydd gwasanaethau bws newydd yn gallu cludo teithwyr at wasanaethau ac oddi wrthynt ac i fannau gwaith ac ohonynt. Ymhellach, trwy ddiwygio gwasanaethau bws lleol, buasem yn anelu i wella darpariaeth ac atebolrwydd rheolwyr gwasanaethau bws i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Cododd David Melding y pwynt fod llawer o’n rheilffyrdd ledled Cymru, ac yn wir y DU, wedi’u cynllunio ar gyfer cludo nwyddau, yn enwedig symud nwyddau diwydiannol i borthladdoedd, ac arfau i ac o ffatrïoedd yn ystod rhyfeloedd hefyd. Mae gennym raglen gyswllt barhaus â busnesau, megis Tesco ac Aldi, yn ogystal â gweithredwyr cludo nwyddau, i drafod y cyfleoedd newid moddol a sut y gallwn helpu, gan gynnwys y potensial ar gyfer cymhorthdal cyhoeddus.

Fodd bynnag, ceir heriau mawr wrth geisio perswadio’r farchnad i newid i ddefnyddio’r rheilffyrdd yn gyffredinol, ac yn benodol yng Nghymru, oherwydd y diffyg cymharol o fàs critigol, hyd yn oed yn ne-ddwyrain Cymru. Wedi dweud hynny, mae darparu ar gyfer anghenion cludo nwyddau presennol a thwf mewn cludo nwyddau yn y dyfodol yn rhan annatod o’r broses gaffael ar gyfer y fasnachfraint nesaf, gan gynnwys metro.

Gwnaeth Jeremy Miles a Hefin David gyfraniadau pwysig a chynnig dadansoddiad teg, cywir, a gwrthrychol o’r rhwystredigaethau a wynebwyd gennym yn ystod y misoedd diwethaf, gan nodi’r angen hefyd inni gael y pwerau y buom yn pwyso amdanynt ac y byddwn yn parhau i bwyso amdanynt. Os byddwn yn llwyddiannus, yn enwedig parthed diddymu adran 25 o’r Ddeddf Rheilffyrdd, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, buasem yn cymryd camau i sicrhau bod masnachfreintiau yn y dyfodol yn cael eu datblygu ar fodel dielw. Er fy mod yn cydnabod y rhwystrau a’r risgiau y mae angen eu goresgyn i gyflawni fy uchelgeisiau, mae’n bwysig gwerthuso’r manteision y gall integreiddio cledrau craidd y Cymoedd yn fertigol eu darparu. Mae’n cynnig ystod o gyfleoedd hirdymor i ni ddatblygu rheilffordd sy’n diwallu anghenion teithwyr ac yn darparu cysylltiadau pwysig rhwng cymunedau a chysylltedd â chyfleoedd cyflogaeth.

Felly, wrth ystyried y gwaith caled a wnaed hyd yn hyn, mae mwy o waith i’w gyflawni os ydym am wireddu ein huchelgais arwrol. Hwn yw’r ymarfer caffael mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal, ac rwy’n ymwybodol o’r heriau y mae’n eu creu, gan gynnwys y trafodaethau cymhleth sy’n parhau, ond rwy’n gobeithio y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth barhaus i gyflwyno system drafnidiaeth lawer gwell a fydd o fudd i bob dinesydd yng Nghymru.

Diolch i chi, Llywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? I dynnu sylw at ychydig o bwyntiau fy hun, gwnaeth Jenny Rathbone rai pwyntiau am gynnwys y cyhoedd, ac roedd y pwyllgor yn cytuno’n bendant fod proses y ddeialog gystadleuol yn ei gwneud hi’n anodd i’r cyhoedd ymgysylltu a chyfranogi. Cafodd hyn ei nodi yn sicr. Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad i gynhyrchu manyleb hawdd i’w defnyddio, ond mae’r pryderon ynghylch cyfranogiad y cyhoedd ym mhroses y ddeialog gystadleuol yn parhau, ac mae hynny, efallai, yn wers i’w dysgu.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy’n diolch iddo am ei sylwadau fy mod yn deg ac yn wrthrychol fel Cadeirydd y pwyllgor. Nid wyf yn bwriadu cael fy nhynnu i mewn i faterion gwleidyddiaeth plaid yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, ond buaswn yn cytuno fy mod yn siomedig, fel y mae eraill yn siomedig y prynhawn yma, ynglŷn â’r oedi a fu yn y broses o ddatganoli pwerau, ac rwy’n gobeithio y bydd y materion hynny’n cael eu datrys.

Cododd Hefin David rai pwyntiau ynglŷn â thaliadau mynediad i’r trac, a buaswn yn cytuno â Hefin i ryw raddau—gyda’i farn fod rhywbeth wedi newid. Fy marn i yw bod rhywfaint o wybodaeth ar goll nad yw ein pwyllgor yn ymwybodol ohoni. Mae bylchau yn y stori, ac mae’r rheini eto i’w datgelu, ac mae hwnnw, o bosibl, yn waith i ni ei wneud yn y dyfodol. Yn wir, rwy’n falch iawn y bydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn cynnal ymchwiliad, a allai’n hawdd lenwi rhai o’r bylchau rydym wedi’u crybwyll heddiw. Rwy’n gobeithio y gall ein pwyllgor chwarae rhywfaint o ran yn y gwaith hwnnw mewn rhyw ffordd hefyd, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu llythyrau mewn perthynas â gwaith ar draws y ddau bwyllgor.

Dylwn ddweud fy mod i hefyd wedi ysgrifennu fel Cadeirydd y pwyllgor at yr Ysgrifennydd Gwladol, Chris Grayling, i ofyn iddo ymddangos gerbron ein pwyllgor. Yn sicr, fel pwyllgor rydym yn fwy na bodlon i’w gynnwys yn ein hamserlen; fe addaswn ein hamserlen i’w gynnwys. Hefyd, buaswn yn dweud fy mod yn falch, ers yr ohebiaeth gyhoeddus rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol, Chris Grayling a Ken Skates dros yr haf, lle roedd hi’n ymddangos bod llawer o gynnen yn y llythyrau cyhoeddus hynny, ymddengys i mi fod cam cadarnhaol ymlaen wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac yn wir, y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi heddiw y bydd y tendrau’n cael eu cyhoeddi yfory, sy’n wybodaeth newydd a roddodd i ni y prynhawn yma—rwy’n credu bod hynny ynddo’i hun yn dangos bod yna lawer o ewyllys da a gwaith wedi bod, ac arwydd o ewyllys da rhwng y ddwy Lywodraeth yn y dyddiau a’r wythnosau diwethaf.

Credaf ei bod hi’n iawn i mi ddiolch i ychydig o bobl hefyd. Rwy’n sicr yn diolch i’r 3,000 a gyfranodd i’n harolwg, ac yn rhoi gwybod iddynt fod eu cyfranogiad yn ein harolwg wedi dylanwadu ar ein gwaith a’n hargymhellion. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth lafar hefyd. Roedd yna lawer iawn o bobl a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig, sy’n cymryd llawer iawn o amser, felly hoffwn ddiolch iddynt hwy. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau rhanddeiliaid—ac yn enwedig y bobl a’n cynorthwyodd i drefnu digwyddiadau a chynnwys y bobl iawn yn y digwyddiadau hynny; hoffwn ddiolch i’r bobl hynny.

Hoffwn ddiolch hefyd i’n tîm clercio, a’r tîm integredig ehangach, a hefyd yr adnodd gwych sydd gennym yn y Gwasanaeth Ymchwil. Cawsom rai problemau cymhleth iawn a llwyddodd aelodau o’r Gwasanaeth Ymchwil, yn arbennig, i’n cynorthwyo ni fel pwyllgor gyda hwy, ac mae’n amlwg na fuasai gennym adroddiad heddiw hebddynt. Hoffwn ddiolch eto hefyd i’r rhai a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw. Hefyd, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ganiatáu i’w swyddogion roi sesiynau briffio technegol i ni, a oedd yn gymorth mawr i ni fel pwyllgor.

Mae llawer wedi digwydd ers i ni gynhyrchu ein hadroddiad. Mae’n un o’r adroddiadau hynny sydd, o bosibl, wedi dyddio’n gyflym i raddau. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet a’i dîm, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn fod yna lawer mwy sydd angen digwydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ond fel y mae ar hyn o bryd, mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gychwyn pennod newydd ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’r gororau. Rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi taflu rhywfaint o oleuni ar y broses, wedi tynnu sylw at flaenoriaethau teithwyr, ac wedi darparu her i fwrw ymlaen â phethau. Nid yw’r teithwyr yn haeddu dim llai.

Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ‘Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru?’

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ‘Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru?’ Galwaf felly ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig, David Rees.

Cynnig NDM6514 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei 'Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru?' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Gadeirydd. Mae’n fraint cael cynnig y cynnig heddiw a chyflwyno’r cyfle hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol drafod ein hadroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru. Cyn i mi ddechrau trafod yr adroddiad, hoffwn fynegi ein diolch i’r tystion a ddaeth i’r pwyllgor, i’r tîm clercio a ddarparodd y cymorth ardderchog, yn enwedig Nia Moss, ein cyswllt â’r UE wrth gwrs, ac sy’n sail i bopeth a wnawn ar hyn o bryd, ond hefyd i’r Aelodau am eu cyfraniadau drwy gydol y broses o lunio’r adroddiad.

Yn dilyn penderfyniad y refferendwm i adael yr UE, y cytunwyd arno ar 23 Mehefin 2016, cafodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y dasg gan y Cynulliad hwn o archwilio’r goblygiadau i Gymru yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chraffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru fel y gall y Cynulliad fod yn sicr fod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses o adael. O ystyried bod Cymru’n cael £370 miliwn o gronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi Ewropeaidd bob blwyddyn at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, roedd yn amlwg i ni’n fuan y byddai angen i ni edrych ar y materion hyn yn fwy manwl. A chan ein bod yn sôn am bolisi rhanbarthol, mae’n bwysig cofio, er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at bolisi rhanbarthol, ni ellir ei gyflawni heb fod cyllid ar gael i’w gefnogi. Gallai colli mynediad at y cronfeydd hyn arwain at dwll du ariannol, o bosibl, i nifer o fuddsoddiadau mewn meysydd megis sgiliau a phrentisiaethau, cydweithio ar ymchwil a rhagoriaeth, seilwaith ac arloesedd. Yn wir, rydym yn debygol o golli mwy o arian nag unrhyw wlad arall yn y DU os na cheir arian yn lle’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd.

Canfu ein hymchwiliad fod dyraniad cyllid Cymru o’r UE fesul y pen yn 458 y cant o gyfartaledd y DU. Y nesaf wedyn oedd Gogledd Iwerddon, ar 197 y cant, ymhell y tu ôl i anghenion Cymru. Mae’r egwyddorion sy’n sail i’r system bresennol o gymorth gan yr UE i aelod-wladwriaethau yn seiliedig ar degwch ac angen. Mae rhanbarthau sydd â chynnyrch domestig gros y pen o lai na 75 y cant o gyfartaledd yr UE yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymorth. Ac mae dwy ardal yn y DU yn cyrraedd hynny—un yw Cernyw ac Ynysoedd Scilly, y llall yw gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Cadeirydd, mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o 17 o argymhellion, ac rydym yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn fanwl iddynt. Y prynhawn yma, byddaf yn ymdrin â rhai o’r argymhellion ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn fanylach, er bod pob un o’r argymhellion hynny’n bwysig ar gyfer cyllido ein cymunedau yn y dyfodol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Roedd ein set gyntaf o argymhellion yn edrych ar yr heriau uniongyrchol i’r cylch cyllido presennol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Canghellor y Trysorlys yn hydref 2016 wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau hyd at 2020, ac rydym ni fel pwyllgor yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i hyn. Mae’r darlun yn llai sicr, fodd bynnag, o ran bygythiadau a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol yn dilyn Brexit. Er ei bod hi’n galonogol clywed bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi gallu lliniaru peth o’r risg a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol, rydym yn credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y risgiau y mae hyn yn eu hachosi yn cael eu monitro’n gyson a’u hasesu, gan ein bod eisoes yn gwybod bod arian yn mynd i fyny ac i lawr yn eithaf rhwydd, ac ar hyn o bryd, mae i lawr.

Yn ystod ein hymchwiliad, edrychwyd ar yr achos dros bolisi rhanbarthol newydd ar ôl Brexit. Mae’r data sydd ar gael yn rhoi darlun sobreiddiol ac yn dangos i ni mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf anghyfartal yn yr Undeb Ewropeaidd. Credwn fod yr achos dros bolisi rhanbarthol ar gyfer Cymru yn y dyfodol, gyda chyllid ar gael i ni ar sail angen gwrthrychol, yn ddiamwys. Un o’r nifer o feysydd yr oeddem i gyd yn cytuno yn ei gylch oedd na ddylai Cymru fod yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd nag y byddem wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Fodd bynnag, y cwestiwn mawr yw: sut y mae cyflawni hynny? Nid yn unig y dylai’r rhai a oedd ar yr ochr ‘gadael’ yn ymgyrch y refferendwm gyflawni eu haddewid o arian newydd ar gyfer Cymru ar ôl i ni adael, mae’n rhaid i wleidyddion o bob ochr ac o bob gwlad yn y DU ddod at ei gilydd i gytuno ar fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion ar gyfer dyrannu cyllid at ddibenion polisi rhanbarthol. Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau o sicrhau chwarae teg, cydraddoldeb a thegwch rhwng rhannau cyfansoddol y DU.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb i ni, yn cyfeirio at y gwaith sy’n cael ei wneud tu ôl i’r llenni i bwyso ar Lywodraeth y DU am arian yn lle’r arian a gawn o’r UE wedi i ni adael. Efallai y gallai daflu goleuni ar sut y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt mewn gwirionedd pan fydd yn codi i siarad yn y ddadl hon.

Roedd argymhellion 7, 8, 9 a 10 i gyd yn edrych ar sut y gwerthuswn effeithiolrwydd profiad blaenorol er mwyn llywio’r dyfodol. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig—ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i lunio polisi yn y dyfodol mewn ffyrdd sy’n sicrhau cymaint â phosibl o fanteision i bobl Cymru. Roeddem yn cydnabod ein bod, yn y tair cyfran a gawsom hyd yn hyn, wedi gweld lefelau gwahanol o lwyddiant. Mae hyn yn cynnwys edrych hefyd ar ystod ehangach o ddangosyddion na dangosyddion economaidd yn unig. Mae hefyd yn golygu y gallwn edrych ar draws y byd ar arferion gorau. Ac roedd hi’n galonogol gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb ffurfiol i’n hadroddiad, yn barod i ystyried y cysyniad hwn ac yn agored i fabwysiadu dulliau arbrofol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyfeirio drwy gydol ei gyflwyniad at y papur sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol polisi rhanbarthol. Buaswn yn gofyn felly a all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i ni o’r amserlenni ar gyfer cyhoeddi’r gwaith hwn, oherwydd roedd ei ymateb yn nodi ‘yn yr hydref’, a buaswn yn ddiolchgar am eglurhad pellach ar y pwynt penodol hwnnw.

Clywsom bryderon yn ystod yr ymchwiliad ynglŷn â chymhlethdod y tirlun ar gyfer darparu polisi rhanbarthol, ac mae argymhellion 11 a 12 yn ymwneud â hyn. Mae Brexit yn rhoi cyfle inni edrych eto ar y modelau darparu ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Yn ein barn ni, rhaid i’r tirlun presennol, a ddisgrifir fel ‘cyffordd sbageti o haenau’ gan un tyst, gael ei symleiddio ar ôl Brexit. Ac er ein bod yn cytuno, yn argymhelliad 13, fod Llywodraeth Cymru yn cadw goruchwyliaeth strategol ar y polisi hwn yn y dyfodol, mae’n hanfodol fod y polisi yn y dyfodol yn ymateb cymaint â phosibl i anghenion lleol. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod ardaloedd gwledig, sydd heb eu cynnwys yn y bargeinion dinesig a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn cael rôl yn y broses o lunio polisi yn y dyfodol.

O ran dulliau o weithredu yn y dyfodol, clywsom am bwysigrwydd cynhyrchiant ac arloesi. Mae perfformiad economi Cymru yn y maes hwn wedi bod yn wan yn gyson yn y gorffennol. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy edrych ar y strategaeth gyffredinol ar gyfer arloesi, a thrwy wneud y gorau o gyfleoedd drwy bolisi caffael.

Roedd ein hail argymhelliad ar bymtheg, a’r un terfynol, yn un eang a nodai rai o’n meysydd blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau a chyfalaf dynol—ac ailadroddwyd y term ‘cyfalaf dynol’ sawl gwaith drwy gydol tystiolaeth y tystion—buddsoddiad mewn seilwaith ac yn bwysig, ymgysylltiad â’r sector preifat lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae hynny’n rhywbeth y gwn ei fod yn symud ymlaen o fewn yr UE, ond mae angen gwneud yn siŵr ei fod yn mynd ymhellach. I’r perwyl hwnnw, dylai Llywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i chwalu’r rhwystrau i gydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Dirprwy Lywydd, cyn dod i ben, rwyf am ddweud ychydig mwy am yr ymdeimlad o siom a deimlem gyda’r dystiolaeth a gawsom gan rai o’r tystion yn ystod yr ymchwiliad. Ychydig iawn o uchelgais neu her adeiladol a glywsom gan rai, a llai o awydd byth efallai i fanteisio ar y cyfleoedd y gellid eu sicrhau drwy edrych eto ar bolisi rhanbarthol. Roeddem yn teimlo’n bendant iawn ein bod wedi clywed mai rhagor o’r un peth oedd y ffordd ymlaen. Ni all, ac ni ddylai pethau barhau yn yr un modd. Nid yw rhagor o’r un peth yn dderbyniol o ran y ffordd y symudwn ymlaen. Ac mewn wythnos pan oeddem yn nodi ugain mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli, yr wythnos diwethaf, dylem bwyso a mesur, edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf, gyda’n golygon yn gadarn ar gyfleoedd i ffurfio polisi datblygu rhanbarthol newydd sy’n canolbwyntio ar yr arloesi, y cydweithio ac yn anad dim, y rhagoriaeth y gall pob un o’r cyfleoedd hynny eu dwyn i economi Cymru.

Edrychaf ymlaen at drafod a chlywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ond mae’n rhaid i’n ffocws fod ar symud Cymru ymlaen ar y pwynt y byddwn yn gadael yr UE.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r teimlad diwethaf hwnnw a fynegwyd gan Gadeirydd ein pwyllgor. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac yn arbennig i’n tystion sydd o bosibl wedi eu synnu gan rai o’r sylwadau yn yr adroddiad hwn. Mae Cymru, fel y clywsom, wedi cael llawer mwy y pen o arian datblygu economaidd na rhannau eraill o’r DU, ond er hynny, roedd rhai tystion yn derbyn nad yw hyd yn oed y swm estynedig hwn o arian wedi bod yn drawsnewidiol. Nid yw hynny’n dweud nad yw wedi bod yn ddefnyddiol, ond fe gadarnhaodd safbwynt hirsefydlog rhai ohonom nad yw’r buddsoddiad bob amser wedi sicrhau gwerth am arian. Nid ysgogiad economaidd yn unig rwy’n ei feddwl, ond ysgogiad i gyfalaf cymdeithasol a llesiant hefyd. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno, beth bynnag yw’r polisi yn y dyfodol, y bydd angen iddo gael ei fesur yn ôl dangosyddion eraill ar wahân i ddangosyddion perfformiad allweddol economaidd meintiol.

Er nad dyma oedd ffocws ein hymchwiliad, clywsom nifer o esboniadau pam nad yw cyllid strwythurol yr UE wedi bod yn drawsnewidiol, fel roedd llawer o bobl yn ei ddisgwyl. Un esboniad oedd nad yw’n llawer iawn o arian mewn gwirionedd fel y mae pethau. Mae gwerth y cronfeydd hyn yn llai nag 1 y cant o weithgarwch economaidd yng Nghymru, er fy mod yn meddwl y gellid maddau inni, efallai, o wrando ar rai o’r dadleuon a gawsom yn y Siambr hon yn y blynyddoedd diwethaf, am feddwl eu bod yn chwarae rôl bwysicach. Esboniad arall oedd bod cronfeydd strwythurol yn dod gydag amodau sy’n effeithio ar sut y cânt eu targedu ac ar beth y gellir eu gwario. Er nad oedd hyn bob amser yn broblem, cafodd ei ddwyn i’n sylw i’n helpu i ddeall pam, beth bynnag y bo’r polisi yn y dyfodol, fod angen i bawb ohonom fod yn ofalus nad yw’r angen am atebolrwydd cryf yn efelychu’r gofynion adrodd digyswllt a swmpus sy’n rhaid iddynt ymdopi â hwy ar hyn o bryd.

Daeth nifer o bethau i fy meddwl o ganlyniad i hyn. Fel y nododd David, nid oes raid i ni aros gyda chynllun A. Nid yw’n gweithio. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn cydnabod hyn ac yn gwneud rhai pwyntiau sydd i’w croesawu ynglŷn â lleihau biwrocratiaeth a cholli’r cyfyngiadau daearyddol hynny sy’n dod gyda’r cyllid ar hyn o bryd. Ond os nad yw i fod yn fusnes fel arfer, bydd yn ddiddorol gweld yn union pa waith cwmpasu neu gynllunio senario neu ddim ond meddwl uchelgeisiol hyd yn oed, sef yr hyn y credaf eich bod wedi’i ddweud yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet—ffyrdd arbrofol o feddwl—y byddwch yn gallu eu datgelu yn y ddogfen bolisi sydd i ddod, gan fod peth nerfusrwydd yn y pwyllgor ynglŷn â faint o waith a wnaed ar hyn. Rydym yn derbyn, wrth gwrs, na all fod unrhyw gynlluniau pendant hyd nes y byddwn yn gwybod ar ba delerau y byddwn yn gadael yr UE, ond nid yw methiant i gynllunio yn dderbyniol chwaith, felly edrychwn ymlaen at y papur.

Yn ail, mae angen i Gymru gael mwy o bob punt a waria ar bolisi rhanbarthol wrth iddi fynnu gweld ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU ar gyllid parhaus ar gyfer datblygu rhanbarthol yn cael eu cyflawni, ac rwy’n cefnogi hynny. Nid ydym yn plesio neb drwy fynnu ein bod yn cael pob ceiniog y byddem wedi ei chael o gronfeydd strwythurol pe baem wedi aros yn yr UE os na chaiff yr arian hwnnw ei wario’n well i gael Cymru, yn nes ymlaen, i sefyllfa lle na fuasem, yn yr hen fyd, bellach yn gymwys i gael statws rhanbarth llai datblygedig.

Yn drydydd, nid oedd yn ymddangos bod rhai tystion, fel y nododd David Rees, wedi symud ymlaen o gynllun A ac nid ydynt yn barod yn feddyliol ar gyfer y byd newydd dewr hwn. Nid yw’n syndod pur, gan fod Cymru ddatganoledig wedi datblygu gyda’i llygad ar strwythurau UE. Dyna mae pawb wedi arfer ag ef; yr unig beth yw, ni allwn barhau i arfer ag ef. Ni yw’r wlad fwyaf anghyfartal yn Ewrop. Nid yw hynny’n ddim byd o gwbl i fod yn falch ohono. Os ydym, mewn ffyrdd eraill, yn dod yn genedl gydgynhyrchiol, ni allwn ofyn o hyd i’r sector cyhoeddus gael yr holl syniadau a phriodoli cyllid i’r trydydd sector gyflwyno’r syniadau hyn heb weld beth y mae eraill y tu allan i’r sectorau hynny’n gallu ei wneud drostynt eu hunain hefyd.

Ceir argymhellion sy’n ymwneud â’r sector preifat yn yr adroddiad—sy’n cynnwys menter gymdeithasol, wrth gwrs—ac maent wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n cytuno â ni, felly, fod yn rhaid i ymgysylltiad sector preifat cyson, lle bynnag y bo’n bosibl, fod yn rhan o bolisi datblygu rhanbarthol yn y dyfodol. Gydag eithriadau nodedig ym maes adeiladu seilwaith a pheth hyfforddiant efallai, rwy’n credu ein bod wedi canfod hyd yn oed, oni wnaethom—fe sonioch chi amdano, David—fod ymchwil a datblygu yn ystyfnig o wan? Rwy’n credu mai dyna’r geiriau a ddefnyddiwyd gennych. Mae’n anodd dadlau, rwy’n meddwl, fod cronfeydd strwythurol yr UE wedi cael eu teimlo wrth ddatblygu economi Cymru—yn rhannol, rwy’n amau, oherwydd y rheolau caeth am awdurdodau cyhoeddus yn dal llinynnau’r pwrs. Mewn polisi yn y dyfodol, rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddisgwyl mwy gan y sector preifat, ond hyd yn oed yn awr, gyda bargen ddinesig bae Abertawe, mae’n dal i edrych fel pe bai gormod o bwysau ar y brig o ran rheolaeth y cyngor ar strwythur ac ariannu, ac nid yw hynny’n arbennig o galonogol.

Mae cysylltiad y sector preifat yn anodd iawn mewn cenedl o fusnesau bach a chanolig. Rwy’n deall hynny. Maent yn fach, maent yn brysur iawn, ac nid ydynt bob amser yn ymwybodol o’r rôl a allai fod ganddynt. Ond mewn polisi rhanbarthol yn y dyfodol, rwy’n meddwl bod gwir angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn er mwyn dod yn agos at gyrraedd nodau cydgynhyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i helpu Cymru i godi uwchben ei statws fel cenedl lai datblygedig, ac edrych ymlaen gydag uchelgais, fel y dywedodd y Cadeirydd. Diolch.

Hoffwn ategu diolch y siaradwyr blaenorol i bawb a roddodd dystiolaeth, ac i gofnodi fy niolch i’r Cadeirydd hefyd am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad hwn yn benodol. Rwy’n credu bod yr holl Aelodau’n mynd i adleisio’r un pwynt—mai un o’r rhannau siomedig o’n hymchwiliad oedd gweld mai busnes fel arfer, bron, oedd gobaith y rhai y clywsom dystiolaeth ganddynt, yn hytrach na gobeithio y gallai’r sefyllfa anodd roeddem ynddi esgor ar syniadau gwahanol sy’n creu canlyniadau gwell i’n dinasyddion.

Ond rwy’n credu bod cael yr ymchwiliad hwn ar bolisi rhanbarthol, wrth gwrs, yn gwbl briodol i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Un o’r addewidion canolog yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd, a chronfeydd strwythurol oedd un o’r meysydd a nodwyd gan yr ymgyrch ‘gadael’ dro ar ôl tro. Efallai na chafodd ei arddangos ar fws mawr coch, ond roedd yn addewid a ailadroddwyd i bobl y wlad hon. Wrth edrych ar y dystiolaeth a gawsom, roeddem i gyd, rwy’n meddwl, yn cytuno mai safbwynt Llywodraeth Cymru/Plaid Cymru yn y Papur Gwyn ar y cyd, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, oedd y cynsail cywir, h.y. y dylai’r Trysorlys ddarparu arian yn lle cyllid y byddai Cymru wedi bod yn iawn i’w ddisgwyl gan yr UE pe baem wedi parhau i fod yn aelod, ond y dylai Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru gael ymreolaeth lawn i weithredu eu polisi rhanbarthol eu hunain. Rwy’n falch bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, wedi cadarnhau’r safbwynt hwnnw.

Mae hyn yn wirioneddol bwysig o ran polisi rhanbarthol am amryw o resymau, oherwydd roedd hi’n amlwg pan oeddem yn cymryd tystiolaeth ar bolisi rhanbarthol o amrywiaeth o ffynonellau fod diffinio rhanbarthau yn golygu gwahanol bethau i bron bob un person a sefydliad y cawsom dystiolaeth ganddynt. Felly, cyfeiriai rhai at orllewin Cymru a’r Cymoedd a dwyrain Cymru, rhanbarthau’r UE, cyfeiriai rhai at y dinas-ranbarthau, eraill at leoliadau daearyddol amlwg y gallai’r rhan fwyaf o bobl uniaethu â hwy, fel gogledd Cymru neu’r Cymoedd, ac roedd eraill yn gweld Cymru ei hun fel y rhanbarth yng nghyd-destun ehangach polisi rhanbarthol y DU. Mae’r anghysondeb yn ddealladwy oherwydd nad ydym wedi cael eglurhad o sylwedd gan Lywodraeth Cymru eto ynglŷn â beth yn union y mae’n ei ystyried yw dyfodol Cymru o ran polisi rhanbarthol, er ein bod yn disgwyl papur yr hydref hwn i nodi rhai egwyddorion. Felly, rydym yn cefnogi’r egwyddor, yma ar feinciau Plaid Cymru, y dylai Cymru benderfynu, ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr gan Lywodraeth Cymru yw gweledigaeth ar gyfer polisi rhanbarthol sy’n mynd y tu hwnt i’r cyfnod pontio. Sut beth fydd polisi rhanbarthol? Beth fydd rhanbarthau Cymru? Beth fydd y mecanweithiau cyllido? Beth fydd y trothwyon ar gyfer cymhwyso? Beth fyddai’r cydbwysedd rhwng sgiliau a datblygu economaidd ar y naill law, a phrosiectau ac adfywio microgymunedol ar y llaw arall?

Fel lladmerydd ar ran cynllunio gofodol economaidd fy hun, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â ffiniau’r rhanbarthau hynny. Gwn fod ffiniau wedi bod ar ei feddwl ers peth amser ers iddo fabwysiadu ei bortffolio presennol, ond os yw rhanbarthau’r bargeinion dinesig yn ffurfio sail i bolisi rhanbarthol, mae gennyf ofn mawr y bydd canlyniadau i’r tlotaf yn ein cymunedau. Gallwch ddychmygu—ar hyn o bryd, mae Cymoedd Gwent yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, un o’r rhanbarthau tlotaf yn Ewrop gyfan, yn anffodus, ac yna, os oes gennym yn sydyn iawn brifddinas-ranbarth Caerdydd fel model ar gyfer polisi rhanbarthol newydd, heb ychwanegu un geiniog at werth yr economi neu gynnydd mewn cyflogau na dim, byddwn yn y rhanbarth mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Rwy’n credu y bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol. Yna, wrth gwrs, mae gennym gwestiynau dilys ynglŷn â rhannau o Gymru sydd heb eu cynnwys yn y dinas-ranbarthau o gwbl, yn enwedig cymunedau gwledig sy’n wynebu heriau gwirioneddol o ran goresgyn tlodi dwfn. Felly, mae angen cefnogaeth leol—roedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom—ac rwy’n meddwl, yn rhannol, fod sicrhau cefnogaeth leol yn ymwneud â gallu pobl i uniaethu â’r rhanbarthau. Fe wnaf y pwynt eto, o ran sut yr ydym yn diffinio’r rhanbarthau hynny: cyhoeddodd y Llywodraeth ei chyhoeddiad ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn yr haf, ac roeddwn yno’n aros yn eiddgar am y prif gynllun economaidd hwn a oedd yn mynd i newid ffawd Cymoedd de Cymru—tri chyfeiriad yn unig at yr Undeb Ewropeaidd neu Brexit, mewn ardal sydd yn bendant ymysg y rhai sy’n dibynnu fwyaf ar gyllid Ewropeaidd. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn unig yn ei bapur ar bolisi rhanbarthol yn y dyfodol, ond yn weithredol yng nghyfarfodydd y Cabinet o hyn ymlaen, i erfyn ar gyd-Aelodau ynglŷn â’r angen i baratoi pob adran a phob cymuned yn ein gwlad at Gymru ar ôl y cyfnod pontio, ac mae hynny’n golygu cael pob cymuned yn barod ar gyfer Brexit. Diolch yn fawr.

I raddau helaeth, mae polisi rhanbarthol y DU yn ystod y degawdau diwethaf wedi cael ei lunio a’i yrru gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae arian sylweddol wedi gweddnewid rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae dros 200,000 o bobl wedi elwa ar hyfforddiant, diolch i arian yr UE a bydd mwy na £2 biliwn wedi cael ei sianelu i ardaloedd tlawd rhwng 2014 a 2020. Ond y ffaith yw, fe ŵyr pawb ohonom fod problemau yn y cymunedau hyn yn annhebygol o gael eu goresgyn yn gyfan gwbl erbyn 2020 ac felly bydd angen parhau i roi cymorth sylweddol.

Y bore yma yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom ar ddeall fod gwariant datblygu economaidd ar lefel llywodraeth leol wedi gostwng 66 y cant dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae toriadau i gynllunio mewn awdurdodau lleol wedi golygu gostyngiad o 45 y cant. Mae’r ddau yn feysydd allweddol lle rydym yn gobeithio ac yn disgwyl i gyfoeth gael ei gynhyrchu ohonynt. Rydym yn gallu ysgwyddo’r toriadau hyn i raddau oherwydd bod gennym botiau cyllido amrywiol o’r UE, ond y tu hwnt i 2020 nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl.

Nawr, awgrymodd Llywodraeth Cymru yn ei Phapur Gwyn y byddai’n hoffi gweld addasiad unwaith ac am byth i’r grant bloc i wneud iawn am golledion arian Ewropeaidd i Gymru. Er bod hyn, mewn egwyddor, yn rhywbeth y dylid ei ystyried, roeddem yn bryderus yn y pwyllgor, rwy’n meddwl, y gallai’r dull hwn o weithredu greu risgiau yn y tymor hwy a bod angen diogelu at y dyfodol unrhyw addasiadau i’r grant bloc a wnaed ar y pwynt hwn fel nad ydym ar ein colled yn y tymor hwy.

Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Mehefin, yn rhy hwyr i ni allu ystyried y cynigion a wnaed ym maniffesto’r Blaid Geidwadol ym mis Mai ar gyfer sefydlu cronfa ffyniant a rennir, ac roeddent yn awgrymu gwneud hynny ar gyfer y DU gyfan. Nodaf fod dull o’r fath yn cael ei wrthod yn ymateb y Gweinidog i’n hadroddiad. Ond os mai dyna yw bwriad Llywodraeth Dorïaidd y DU, byddai’n ddefnyddiol gwybod a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrthod bod yn rhan o’r drafodaeth hon, ac os felly, mae yna berygl y bydd Cymru’n wynebu fait accompli na fyddwn wedi dylanwadu arno, neu a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ar y cynnig, pa un a yw’r syniad a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar fformiwla wrthrychol ar sail anghenion, ac a yw hwn yn gynnig y bydd yn rhaid ei gymeradwyo a’i gytuno gan holl wledydd y DU, fel yr awgrymwyd gennym yn ein hadroddiad.

Os nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo meini prawf y gronfa ffyniant a rennir, rwy’n credu y byddem yn pryderu efallai na châi’r meini prawf eu llunio mewn modd a fyddai o fudd i Gymru. Mae ein ffigurau diweithdra, er enghraifft, yn gymharol isel o gymharu â llawer o ranbarthau eraill yn y DU, ond mae ein cynnyrch domestig gros mewn rhai ardaloedd yn llusgo ar ôl yn sylweddol. Felly, i ba raddau y byddwch yn rhan o’r drafodaeth honno ar ffyniant a rennir?

Un o fanteision mawr y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yw eu bod yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus ac eraill sydd â diddordeb i gynllunio ar sail aml-flynyddol. Roedd y pwyllgor yn awyddus iawn i sicrhau y dylai hyn fod yn nodwedd hefyd o unrhyw fodel rhanbarthol o ddatblygiad economaidd yn y dyfodol. Rwy’n credu ei bod yn werth ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth aelodau eraill o’r pwyllgor, gan gynnwys Steffan, am y ffaith ein bod yn eithaf siomedig mewn gwirionedd ynglŷn â’r diffyg dychymyg a chreadigrwydd, yr awydd am ragor o’r un peth, gan lawer o bobl sy’n elwa ar hyn o bryd o gronfeydd rhanbarthol Ewropeaidd. Rwy’n meddwl ein bod yn mynd i orfod meddwl yn radical iawn ac mewn ffordd newydd ynglŷn â sut y byddwn yn ymgysylltu â datblygiadau rhanbarthol yn y dyfodol.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ein bod wedi cael tystiolaeth gan lawer o dystion a oedd yn cytuno, er y dylai Llywodraeth Cymru fod â’i llaw ar y llyw mewn perthynas â pholisi rhanbarthol, ei bod hi’n hanfodol sefydlu strwythurau is-ranbarthol yng Nghymru. Y maes rwy’n pryderu’n benodol amdano yw’r angen i ddatblygu ardal ddatblygu economaidd wledig is-ranbarthol, na fydd yn cael ei rheoli o Gaerdydd, ond a fydd yn ymateb i anghenion unigryw cymunedau gwledig. Rwyf wrth fy modd i ddweud, unwaith eto, fod CLlLC wedi cadarnhau yn ei chyfarfod gwledig ddydd Gwener y byddant yn awr yn bwrw ymlaen i ddatblygu cynllun is-ranbarthol sy’n seiliedig ar le ar gyfer datblygu economaidd yn y Gymru wledig. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad penodol hwn yn yr adroddiad, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn weithredol â’r grwpio llywodraeth leol newydd hwn i gyflawni’r addewid a wnaeth yma i sicrhau bod blaenoriaethau gwledig yn cael digon o bwyslais wrth lunio polisi rhanbarthol.

Yn olaf hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gytuno i bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad hwn; dyna’r math o ymgysylltiad y dymunwn ei weld. Ond bydd gennym ddiddordeb gweithredol a byddwn yn gwneud gwaith dilynol er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu’n drafodaeth ddiddorol iawn ar adroddiad pwysig iawn. Felly, diolch yn fawr i’r pwyllgor am roi amser ac ymdrech i wneud yr hyn y credaf ei fod yn gyfraniad adeiladol ac arwyddocaol i’r maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Dirprwy Lywydd, tri pheth yn unig, mewn gwirionedd, sydd yn y fantol wrth geisio dyfeisio polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru. Rydym wedi clywed am bob un ohonynt yn ystod y drafodaeth: mae arnom angen arian, mae arnom angen ymreolaeth, ac yna mae angen inni gael y creadigrwydd i allu llunio cyfres o gynigion polisi sy’n goresgyn heriau’r dyfodol. Felly, rwy’n mynd i ddweud rhywbeth yn fyr am y ddau gyntaf a chanolbwyntio ychydig mwy ar y trydydd wedyn.

O ran yr arian, wel, fe wnaeth David Rees bwynt wrth gyflwyno’r adroddiad ar ran y pwyllgor cyfan fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ystod y refferendwm na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n ailadrodd y croeso cadarnhaol a roddodd Llywodraeth Cymru i benderfyniadau cynnar Canghellor y Trysorlys ar ariannu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd yn y maes hwn, ond mae’r amser wedi dod i symud y tu hwnt i’r gwarantau gwreiddiol hynny i sicrhau bod gan Gymru, yn y tymor hir, yr adnoddau y bydd eu hangen arnom i roi ein cynigion polisi ar waith.

Daw hynny â mi at ymreolaeth, a dyna bwynt a wnaed yn uniongyrchol iawn gan Steffan Lewis, ond a gafodd sylw gan Eluned Morgan yn ogystal, oherwydd mae cronfa ffyniant a rennir—os nad ydym yn ofalus—yn geffyl pren Troea ar gyfer adfachu pwerau datganoledig y sefydliad hwn ymhellach, yn ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn cael trafferth gydag ef drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydym wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU? Nac ydym, hyd y gwn. Rwy’n gweld y gronfa hon mewn penawdau. Cyn belled ag y gwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu wrth gronfa o’r fath.

Sut y gellid dyfeisio cronfa o’r fath? Wel, yn rhy hawdd mewn ffordd a fyddai’n mynd yn groes i fuddiannau Cymru. Fel y dywedodd Eluned, beth os mai diweithdra yw’r maen prawf sylfaenol ar gyfer mynediad at y gronfa? Beth os mai gostyngiadau mewn anweithgarwch economaidd, lle mae Cymru wedi curo gweddill y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yw’r maen prawf ar gyfer mynediad at gronfa o’r fath? Mae Cymru wedi elwa’n fawr ar arian Ewropeaidd a gwyddom fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn edrych ar hynny’n genfigennus ac yn gweld hwn yn gyfle i rannu rhai o’r adnoddau a ddaeth i Gymru oherwydd bod ein hanghenion yn fwy. Mae’n bwysig iawn cofnodi eto, Dirprwy Lywydd, fod yr arian a gawn drwy’r Undeb Ewropeaidd—rwy’n gwybod bod pobl weithiau, mewn ffordd, yn ei hystyried yn set o reolau sglerotig a chymhleth, ond dyma’r unig arian a gawn lle y ceir set o reolau, lle mai’r rheswm yr ydym yn gymwys yw oherwydd bod meini prawf wedi’u gosod a’n bod yn elwa o’r peth, a lle y ceir anghydfod, mae yna set o reolau y gallwch droi ati i gael dyfarniad ar y pwyntiau hynny. Fel y gwelsom gyda bargen y DUP, nid yw fformiwla Barnett yn cynnwys yr un o’r nodweddion hanfodol hynny. A dyna pam, er fy mod yn deall y pwyntiau a nodwyd yn argymhelliad 4 yr adroddiad—ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor lle y maent yn dibynnu ar gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ac yn gyfan gwbl lle y maent yn ein dwylo ni yn llwyr—dyna pam y gwnawn y pwynt yn ein sylwadau ar argymhelliad 4, er ein bod yn gwbl ymrwymedig i fformiwla cyllido sydd o ddifrif yn seiliedig ar anghenion yn y maes hwn, mae dull agored a thryloyw yr UE o ddyrannu cyllid wedi bod o fudd i ni, a’r ffordd symlaf o warantu buddiannau Cymru yn y maes hwn yw drwy gael cyllid llawn yn ei le yng nghyllideb sylfaenol Llywodraeth Cymru, gan gynyddu ein cyllideb graidd flynyddol yn barhaol ac yna’r ymreolaeth, yn y ffordd y nododd Steffan Lewis, i allu defnyddio’r arian hwnnw yn y ffordd a fydd yn gweithio orau yma yng Nghymru.

Daw hynny â mi felly at y trydydd pwynt y soniais amdano ar y cychwyn. Os yw’r arian gennym, ac os yw’r ymreolaeth gennym, yna mae angen i ni allu dangos bod gennym y gallu polisi a’r dychymyg polisi i allu dylunio polisi rhanbarthol a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r chweched argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor yn ein hannog i ddatblygu gweledigaeth a diben o’r fath ar gyfer polisi rhanbarthol mewn ymgynghoriad â phartneriaid, ac mae hynny wedi bod yn rhan bwysig o’r ffordd y ceisiwn wneud hyn a pham fod ein papur polisi, a gynhyrchir yn yr hydref, yn dal i fod yn y camau olaf o’i greu, yn rhannol oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr y gallwn roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor ei hun a’r ddadl a gawn yma y prynhawn yma, ond hefyd oherwydd ein bod yn dymuno parhau i’w drafod yn ein grŵp cynghori ar Ewrop, gyda’n partneriaid yn y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Tybed a allwch roi blas inni o bwy yw’r partneriaid hynny. Nid wyf yn disgwyl rhestr hir, ond un neu ddwy enghraifft efallai.

Wel, Suzy, roeddwn am ddweud—roeddwn ar fin dweud—ein bod yn awyddus iawn i’r ymdeimlad cryf o bartneriaeth, y credwn ei fod wedi bod yn gryfder o ran y modd y defnyddiwyd cyllid Ewropeaidd yng Nghymru hyd yn hyn, ein bod angen partneriaeth sy’n cyrraedd y tu hwnt i’r rhai sy’n gallu cymryd rhan yn fwyaf hawdd, sef y pwynt a wnaethoch yn gynharach yn eich cyfraniad, rwy’n credu. Mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym bartneriaid o lywodraeth leol, o’r prifysgolion, o’r trydydd sector, o’r sector preifat, ond nid yn unig y bobl sy’n gallu cymryd rhan eisoes. Mae’n rhaid i ni allu symud y tu hwnt i hynny os ydym yn mynd i allu creu fframwaith polisi, fel y mae’r pwyllgor yn awgrymu yn ei argymhelliad 17, ar gyfer dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru sy’n symleiddio, yn ymatebol, yn arloesi ac yn gallu cynnal y tensiwn rhwng buddsoddi mewn lleoedd—hynny yw, buddsoddiad mewn seilwaith—a buddsoddi mewn pobl, y cyfalaf dynol y mae nifer o gyfranwyr wedi ei bwysleisio yma y prynhawn yma. Wrth wneud hynny, rydym yn awyddus i allu pwyso ar syniadau yng Nghymru, ond y tu hwnt i Gymru hefyd, ac roedd hynny’n rhan bwysig o adroddiad y pwyllgor, gan ein hannog i fod yn arloesol ac i edrych ar fodelau y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig er mwyn agor ystod ehangach o ddewisiadau.

Wrth wraidd hyn oll, Dirprwy Lywydd, wrth ymateb i gyfleoedd newydd, cyfleoedd sy’n adeiladu ar y cryfderau a grëwyd gennym yn ystod y cyfnod y gwnaethom elwa o gronfeydd Ewropeaidd, ond gan gydnabod mai nawr yw’r pwynt sy’n rhaid i ni allu edrych ymlaen at Gymru y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, i ddefnyddio’r arian a fydd gennym, i ddefnyddio’r pwerau at ein defnydd, ac yna i gymhwyso’r dychymyg polisi hwnnw i wneud yn siŵr fod gennym bolisi rhanbarthol a fydd yn gweithio ar gyfer pob rhan o Gymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma am eu cyfraniadau, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am nodi ymateb y Llywodraeth i’n gwaith ychydig yn fanylach y prynhawn yma? Hoffwn fwrw ymlaen gyda chwpl o bwyntiau. Fel y nododd Suzy, un peth y soniwyd amdano wrthym oedd nad oedd yn drawsnewidiol, a dywedwyd hynny wrthym sawl gwaith, ond fel yr oeddech yn gywir i nodi, roeddent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith efallai nad oedd y cyllid, o ran canran, yn ddigon mawr o bosibl i greu newid trawsnewidiol. Ond yr hyn yr oeddent hefyd yn ei ddweud oedd y gallai fod wedi golygu nad oedd pethau’n digwydd a allai fod wedi digwydd fel arall, yn yr ystyr y gallem fod wedi mynd tuag yn ôl o ganlyniad yn hytrach na sefyll yn llonydd, efallai. Felly, efallai nad yw’n drawsnewidiol, ond mae wedi golygu nad ydym wedi colli tir; roedd hwnnw’n bwynt pwysig yn fy marn i. Ond roeddech yn nodi hefyd ein bod yn dibynnu’n ormodol, efallai, ar bot ariannu’r UE weithiau yn ein mannau cyhoeddus a dylem fynd i’r afael â hyn, a dyma y soniwn amdano: rhagor o feddwl yn greadigol a mwy o gyfranogiad y sector.

Nododd Steffan y rhanbarthau NUTS 2 sydd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod angen inni ddiffinio rhanbarthau. Un o’r cwestiynau a godwyd oedd: beth y mae rhanbarth yn ei olygu yng Nghymru? A ydym yn dal i siarad am y ddau ranbarth a oedd yn rhan o arian yr UE yn wreiddiol? Sut y mae rhannau eraill o Gymru yn rhan o hyn i gyd? Sut y gallai weithio’n well? Ac mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru o bosibl yn edrych ar y cwestiynau penodol hynny o ran beth yw’r rhanbarthau, ac efallai na fyddant yr un fath â’r cyfuniadau llywodraeth leol. Efallai eu bod yn wahanol o ganlyniad. Mae angen inni edrych ar y rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd ar yr ochr honno i bethau a sut y gallwn gefnogi’r polisïau hynny—y polisïau rhanbarthol—ac yna ariannu’r anghenion sy’n anghenion lleol, efallai, ac fe fyddant yn wahanol. Mae hynny’n peri ychydig bach o bryder i mi o ran rhai o’r meini prawf a osodwch ar eu cyfer, gan y bydd y meini prawf yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd.

Ac oes, yn bendant mae angen i ni fod yn barod ar gyfer Brexit. Ond fe nodoch chi nifer o gwestiynau pwysig ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn gwirionedd, pan fyddwch yn crafu o dan yr wyneb, rwy’n credu bod llawer mwy i’r peth na hynny, a chredaf fod hynny wedi dangos y cymhlethdodau sy’n codi a’r angen i adnewyddu polisïau rhanbarthol. Ond mae angen inni eu hadnewyddu’n gyflym. Ni allwn gymryd ein hamser tra bo’r broses hon ar y gweill. Rydym yn gwybod bod y cloc yn tician; clywsom hynny ddigon o weithiau gan bawb—gan Lywodraeth y DU, negodwyr yr UE. Mae angen inni symud ymlaen at bwynt lle y bydd gennym ryw safbwynt.

Amlygodd Eluned y ffaith bod strwythurau rhanbarthol yn bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Ni allwn anghofio hynny, ac mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r pethau hynny, ond roedd hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos, unwaith eto, fod cysylltiadau rhynglywodraethol wedi torri. Roeddwn yn siomedig i glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw Llywodraeth y DU wedi bod mewn trafodaethau gyda chi ynglŷn â’r gronfa ffyniant a rennir. Efallai ei fod yn adlewyrchu holl agwedd Llywodraeth y DU at Brexit, oherwydd bob tro y byddwn yn gofyn i chi am Gydbwyllgor y Gweinidogion a phopeth arall, mae’n ymddangos ein bod yn cael ymateb nad ydynt yn gwrando mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU wrando ar y bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, gan ein bod yn agosáu at yr ymyl yn gyflym iawn, ac oni bai ein bod yn cael atebion a phethau ar waith, rydym yn mynd i ddisgyn drosto’n boenus iawn. Felly, mae hynny’n destun pryder i mi.

Ar y cronfeydd amlflwydd, unwaith eto, mae wedi bod yn fuddiol iawn, nid yn unig ar gyfer rhai’r UE; mae wedi bod yn fuddiol i’r bobl sy’n rhedeg y rhaglenni am eu bod yn gwybod beth oedd yr amserlenni a’r cyllid a oedd ganddynt ar gyfer hynny. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet edrych—gan nad atebodd hyn heddiw—ar y cysyniad o gronfeydd amlflwydd mewn unrhyw bolisi rhanbarthol yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae arian, ymreolaeth, creadigrwydd yn bwysig iawn i ni allu cyflwyno polisi rhanbarthol sy’n addas i Gymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni sicrhau bod hynny’n mynd rhagddo.

Mae’r adroddiad a’r ddadl heddiw yn dangos i ni fod llawer i’w drafod. Yn y ddadl, rydym yn wynebu dyfodol y tu allan i’r UE ac wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio gwneud cyfraniad cychwynnol i’r ddadl hon. Mae’n mynd i fod yn ddadl barhaus am ein dyfodol economaidd ar ôl Brexit, ond mae’n rhaid inni sicrhau ei fod bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal. Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniadau pellach, ac rwy’n atgoffa pawb yn y Siambr y bydd hyn yn effeithio ar bob un ohonom—fy etholwyr ac etholwyr pawb ohonom, pa un a ydym yn ACau etholaeth neu’n ACau rhanbarthol; bydd y broses hon yn effeithio ar bawb. Mae angen i ni ddiogelu buddiannau pobl Cymru yn y blynyddoedd nesaf ac mae angen i ni sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Symudwn yn awr at eitem 10 ar ein hagenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6513 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.

2. Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth iechyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf godi i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn y prynhawn yma, mewn perthynas â’r ddogfen a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb’, a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog fel datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn amlwg, cawsom y datganiad ar y rhan addysg ddoe i roi ychydig mwy o gig ar esgyrn y datganiad gwreiddiol. Ac mae’r ddogfen yn amlwg yn ceisio crynhoi’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud yn ystod yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sydd ar ôl gan y Cynulliad hwn a sut y byddai pobl, erbyn 2021, yn gallu barnu’r Llywodraeth a’r effeithiau y mae’r Llywodraeth honno wedi eu cael ar bobl Cymru.

Cynigir y ddadl heddiw, yn amlwg, ar y sail fod y ddogfen mor brin o’r dangosyddion y bydd pobl Cymru yn gallu eu defnyddio i feincnodi’r cynnydd y mae’r Llywodraeth hon wedi ei wneud yn gwella canlyniadau iechyd, addysg a’r economi a’r holl feysydd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Ac mae’n mynd i geisio cael rhagor o fanylion gan y Prif Weinidog ynglŷn â sut yn union y bydd y ddogfen hon yn wahanol i ddogfennau blaenorol y mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi eu cyflwyno gerbron y Siambr hon a Chynulliadau blaenorol wrth edrych, yn amlwg, ar fapio sut y mae’r Llywodraeth yn ceisio gwella addysg, yr economi, ac iechyd.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig a byddwn yn cefnogi’r ddau welliant a gyflwynwyd ar ran Plaid Cymru.

Os edrychwn ar yr economi i ddechrau, a’r cwestiynau a ofynnais i’r Prif Weinidog yn ystod ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid oes neb mewn gwirionedd yn awyddus i weld Cymru’n mynd yn dlotach, ac mae pawb ohonom am i lawer o’r cynigion sy’n cael eu cyflwyno yn y ddogfen hon i lwyddo mewn gwirionedd. Ond pan fyddwch wedi cael y Llywodraeth ar waith ers 18 mlynedd ac rydych yn edrych ar y canlyniadau economaidd yma yng Nghymru, nid ydynt yn rhywbeth y gallwn ei ddathlu yn arbennig. Dro ar ôl tro, rwyf wedi defnyddio gwerth ychwanegol gros—ac mae gwleidyddion eraill yn y Siambr hon wedi defnyddio gwerth ychwanegol gros—fel meincnod da i weld yn union beth yw perfformiad economaidd Cymru. Ac mae’r Prif Weinidog yn defnyddio’i hun yn enghraifft, gan ei fod yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond yn amlwg yn gweithio yng Nghaerdydd, fel ffactor sy’n ystumio’r ffigurau hyn—nid yw’n dangos y darlun llawn. Wel, mewn gwirionedd, os cymerwch werth ychwanegol gros Cymru fel cyfanswm, mae oddeutu £55 biliwn. Mae hynny’n golygu bod poblogaeth Cymru oddeutu 5 y cant o boblogaeth y DU, ond nid yw ond yn cynhyrchu ychydig dros 3 y cant o gyfoeth y DU—hyn wedi 18 mlynedd o Lafur mewn Llywodraeth.

Nawr, o’r ddogfen hon, byddai’n dda ceisio deall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwthio’r canrannau hynny’n uwch, a fydd, yn y pen draw felly, yn effeithio’n ddramatig ar gyfoeth y wlad, ac yn arbennig, ar gyfoeth unigolion, drwy godi cyfraddau cyflogau mynd adref yma yng Nghymru. Os edrychwn ar ffigurau gwerth ychwanegol gros o gwmpas Cymru—a defnyddiais Ynys Môn yn fy ymateb i’r datganiad yr wythnos diwethaf fel enghraifft dda—mae gwerth ychwanegol gros Ynys Môn yn £13,411. Mae cymoedd Gwent, er enghraifft, yn £13,608, ac mae ardal y Cymoedd canolog yn £15,429, a Chaerdydd a’r Fro, wedyn—y gwahaniaeth—yn £22,783. Ond rydych yn edrych ar ardaloedd eraill o’r DU sydd wedi llwyddo, dros y blynyddoedd, i gynyddu’r cyfraddau gwerth ychwanegol gros. Os cymerwch gyfradd gwerth ychwanegol gros ar Ynys Môn, nid yw ond wedi tyfu 1.3 y cant yn unig, ond ar y llaw arall, os cymerwch Wirral, er enghraifft, ar yr ochr arall i Glawdd Offa, cafwyd cynnydd o 5.5 y cant yn y fan honno. Mae Tower Hamlets, er enghraifft, wedi gweld cynnydd o 3.5 y cant. Felly, gellir ei wneud mewn ardaloedd y gallech ddweud eu bod wedi ei chael hi’n anodd yn y gorffennol. Ac nid yw’r ddogfen hon a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn cynnig unrhyw anogaeth i chi gredu y bydd y Llywodraeth hon yn cael dim mwy o lwyddiant na Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol.

Os edrychwn ar gyflog mynd adref, er enghraifft, £492 yn unig yw cyfartaledd y cyflog mynd adref i rywun yng Nghymru. Y cyflog wythnosol canolrifol yn y DU yw £538. Os gallech gael cymaint â’r cyfartaledd yma yng Nghymru, dychmygwch faint yn fwy o arian a fyddai’n cylchredeg yn economi Cymru gyfan. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan weithwyr Cymru a’r Alban becynnau cyflog yn union yr un fath o £301 yr wythnos, ond 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £492, tra bod pecyn cyflog yr Alban yn cynnwys £535. Dyna £43 yr wythnos yn ychwanegol mewn pecyn cyflog yn yr Alban o gymharu â Chymru. Unwaith eto, cyfeiriaf at y ddogfen ac ni allaf weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cau’r bwlch hwnnw. Mae’n ddigon teg i Lywodraeth Cymru dynnu sylw at y ffaith nad yw eu cyllideb mor fawr ag yr hoffent iddi fod, ond pe bai’r cyfalaf hwnnw’n cael ei gyflwyno drwy gyflog mynd adref i mewn i economi Cymru, meddyliwch cymaint o wahaniaeth y byddai’n ei wneud yma yng Nghymru.

Rydym yn edrych hefyd ar adfywio trefol yn benodol fel ffordd o ysgogi twf economaidd a dinasoedd, yn arbennig, yn beiriant twf ar gyfer rhanbarthau. Eto i gyd, os edrychwch ar y ffordd y caiff dinasoedd Cymru eu nodi yn y tablau cynghrair—Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, er enghraifft—maent ymhlith rhai o’r trefi a’r dinasoedd sy’n perfformio waethaf yn y DU mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros, gweithgarwch allforio, a chyfraddau cyflogaeth. Yng Nghaerdydd, mae’r gyfradd gyflogaeth yn 69 y cant, gan roi Caerdydd yn safle 48 allan o 63 o drefi a dinasoedd. Rwyf fi lawn mor falch o Gaerdydd ag unrhyw Aelod yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, a fy mraint enfawr yw cael bod yn Aelod rhanbarthol sy’n cynrychioli Caerdydd; rwyf am weld y brifddinas ieuengaf yn Ewrop yn brifddinas fwyaf llwyddiannus. Ond pan edrychwch ar y mathau hynny o ffigurau, ni allwch gyfeirio’n ôl at y ddogfen a dod o hyd i drywydd a fydd yn dangos sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i symud Caerdydd a’r dinasoedd eraill yn eu blaenau.

Rwy’n talu teyrnged i weithgareddau Lee Waters ar hyn, yn enwedig mewn perthynas ag awtomeiddio a roboteg. Ac wrth edrych ar y ffigurau rhagamcanol dros y 10 mlynedd nesaf, ystyrir y bydd 15 y cant o swyddi yn cael eu colli oherwydd awtomeiddio a roboteg yn y gweithle. Erbyn 2037, 20 mlynedd yn unig o nawr, ni fydd 35 y cant o’r swyddi a ddeallwn fel swyddi heddiw ar gael yn y gweithle. Unwaith eto, nid yw’r ddogfen hon yn mynd i’r afael â’r heriau real hynny a allai wneud Cymru’n wlad lawer mwy llewyrchus ac uchelgeisiol yn y pen draw o’i wneud yn y ffordd gywir.

Os symudwn at iechyd, testun dadlau cyson yn y Siambr hon, a hynny’n briodol pan fo bron i 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei dyrannu i iechyd a gofal cymdeithasol a rhagwelir y bydd yn codi uwchlaw 50 y cant yn y blynyddoedd nesaf i 57 y cant—. Pan edrychwn ar amseroedd aros, er enghraifft, lle nad yw’n afresymol—yn ôl pob tebyg, dyna yw’r meincnod mwyaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn mesur llwyddiant neu fethiant ein gwasanaeth iechyd i ymateb, oherwydd, os oes gennym gyflwr wedi’i ganfod, rydym am iddo gael ei drin mewn modd amserol. Ond eto darganfuom yr wythnos diwethaf fod 450,000 o bobl ar restr aros yma yng Nghymru—un o bob saith o bobl ar restr aros—o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, sydd â’u heriau hefyd—mae pob rhan o’r gwasanaeth iechyd modern yn y gorllewin yn wynebu heriau—. Ond dro ar ôl tro, mae ein hamseroedd aros yn dirywio ac yr un modd, pan fyddwch yn edrych ar yr ochr arall i’r geiniog ar sefyllfa ariannol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, lle mae gan bedwar o’r byrddau iechyd ddiffyg cyfunol o £146 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, pan fyddaf yn cyfeirio’n ôl at y ddogfen hon, a fydd yn egwyddor arweiniol i gamau gweithredu’r Llywodraeth ar iechyd, ni allaf ddeall sut y bydd y Llywodraeth hon yn goresgyn y broblem heriol go iawn o ddatrys amseroedd aros yma yng Nghymru a mynd i’r afael â’r sefyllfa ariannol ar yr un pryd.

Mae’n anodd cysoni’r hafaliad lle y mae’r sefyllfa ariannol y tu hwnt i reolaeth a’r amseroedd y tu hwnt i reolaeth, gyda’r argyfwng recriwtio a welwn mewn practisau meddygon teulu, ac yn wir, llawer o swyddi meddygon ymgynghorol, yn enwedig mewn iechyd gwledig, fel y nododd fy nghyd-Aelod o Breseli Sir Benfro, yn ysbyty Llwynhelyg ac ysbytai eraill, a chynnal gwasanaethau fel y gallwn gael gwasanaeth iechyd sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd yma yn yr unfed ganrif ar hugain.

A buaswn wedi gwerthfawrogi llawer mwy o gig ar yr asgwrn o ran ansawdd aer, er enghraifft—rhywbeth rydym wedi’i drafod yn y Siambr hon. Rwyf wedi dewis y maes hwn yn benodol oherwydd fe wyddom fod gennym 2,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn oherwydd ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae’r rheini’n farwolaethau y gellir eu hatal, ond eto, yng Nghyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd, dewisodd Llywodraeth Cymru wrthod gwelliant y Ceidwadwyr a fyddai wedi rhoi hwb enfawr i allu’r ddeddfwriaeth honno i wneud cynnydd go iawn yn ein cymunedau yng Nghymru ar y mater pwysig hwn. Unwaith eto, pan fyddaf yn cyfeirio’n ôl at y ddogfen, ac eithrio geiriau gwych—geiriau twymgalon—mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, ni allaf weld o gwbl sut y gall y ddogfen hon wella disgwyliad oes pobl yma yng Nghymru. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe bai’r Prif Weinidog yn gallu fy ngoleuo ynglŷn â pha enillion yn union ym maes iechyd y cyhoedd y byddai’n hoffi cael ei farcio yn eu herbyn yn 2021 a diwedd y pumed Cynulliad hwn.

Fe orffennaf fy nghyfraniad drwy fynd i’r afael ag agwedd addysg y ddogfen hefyd, sydd, er clod iddi, yn nodi bod yna ormod o blant nad ydynt yn cael cyfleoedd pan fyddant yn gadael yr ysgol ac yn arbennig, fod gormod ohonynt nad ydynt yn cael y graddau sydd eu hangen arnynt. Mae hyn ar ôl 18 mlynedd o Lafur mewn Llywodraeth. Rwy’n derbyn—rwyf wedi llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei phenodiad, ac rwyf wedi llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar rai o’r mesurau a roddodd ar waith, ond ni allwn barhau, dro ar ôl tro, gyda’r tablau cynghrair PISA yn dangos nad ydym yn gwneud cynnydd pan fyddwn yn cael ein meincnodi’n rhyngwladol yn erbyn systemau addysg eraill yn Ewrop a’r byd. Ac mae hynny’n rhywbeth, pan geisiwch gyfeirio’n ôl at y ddogfen, sydd—. Fel y dywedais, fe amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet ddoe yn ei haraith—yn ei datganiad, mae’n ddrwg gennyf—y diffyg ffocws hanesyddol ar arweinyddiaeth, a’i geiriau hi yn y datganiad oedd y rheini. Bai Llywodraeth Lafur Cymru yw hynny’n amlwg.

Nid oes Aelod yn y Siambr hon a fyddai am weld ein system addysg yn mynd tuag yn ôl. Rydym wedi gweld strategaeth ar ôl strategaeth yn dod gerbron gan Ysgrifenyddion addysg olynol, a gallaf gofio’n dda, wythnos ar ôl wythnos, Leighton Andrews yn sefyll yn yr union fan honno lle y mae Mick Antoniw yn eistedd yn awr, yn cyflwyno diwygiadau ‘beiddgar’ i’n system addysg a fyddai’n trawsnewid y rhagolygon a rhagolygon myfyrwyr Cymru. Eto i gyd, pan edrychwn ar ble rydym heddiw—oddeutu pum, chwe blynedd ers llawer o’r diwygiadau hynny—nid ydym wedi gwneud y cynnydd pan fyddwch yn ein meincnodi’n rhyngwladol yn erbyn y systemau addysg eraill y cawn ein cymharu’n gywir yn eu herbyn. Mae’n bwysig, pan gyflwynir mentrau—. A chafodd Ysgrifennydd presennol y Cabinet wared ar y fenter Her Ysgolion Cymru, a oedd ond tua dwy flynedd i mewn i’w gynllun cyflawni saith mlynedd. Yn y pen draw, cafodd ei gyflwyno ar gyfer 2014, a disgwylid iddo fod yn weithredol hyd at 2020, ond cafodd ei ddirwyn i ben gan Ysgrifennydd y Cabinet. Nid dyna’r ffordd i roi hyder i addysgwyr proffesiynol, rhieni a disgyblion fod mentrau a pholisïau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn mynd i bara, yn mynd i gael effaith, ac yn mynd i wneud y gwelliannau yr ydym am eu gweld.

Unwaith eto, rydych yn cyfeirio’n ôl at y ddogfen hon sydd yno i fapio sut y bydd y Llywodraeth yn symud gwasanaethau cyhoeddus yn eu blaenau yma yng Nghymru, ac ni all fod—ni all fod—gennych unrhyw hyder y bydd y ddogfen hon yn fwy llwyddiannus na dogfennau eraill a gyflwynwyd gan Lywodraethau olynol yma yn y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Prif Weinidog, a galwaf ar y Cynulliad i gefnogi’r cynnig sydd gerbron y tŷ y prynhawn yma, cynnig sydd ond yn ceisio nodi mewn gwirionedd ble y byddwn erbyn 2021. Oherwydd, os mai’r ddogfen hon yn unig a ddefnyddiwch, ni fyddwch yn gallu gwneud hynny pan ddaw’n ddiwedd y pumed Cynulliad hwn.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu’r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.

3. Yn cydnabod bod angen i’r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod Cymru, ers 1999, wedi disgyn ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant economaidd, cyflogau ac incwm y cartref o'i gymharu â’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth economaidd a'i methiant i ymgynghori â’r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill ar ei chynnwys.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Codaf i gefnogi’r ddau welliant yn enw fy nghyd-Aelod. Mae un ohonynt yn mynegi, unwaith eto, ein synnwyr o rwystredigaeth ddofn, y gwn ei fod yn cael ei rannu’n fwy eang, ein bod yn dal i fod heb gael y strategaeth economaidd newydd a addawyd i ni. Rwy’n cofio Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud yn y Siambr hon flwyddyn yn ôl y byddai’r strategaeth economaidd yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd i Brif Weinidog Cymru. Mae’n debyg, yn dechnegol, nad oedd yn ein camarwain, ond dywedodd y bore yma wrth bwyllgor yr economi y byddai’n cael ei gynhyrchu yn yr hydref. Pan ofynnais iddo beth oedd ‘yr hydref’ yn ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd, fe gofiwch iddi gael ei haddo i ni yn y gwanwyn, yn yr haf, cyn y toriad, ac yn y blaen, fe ddywedodd y byddai’n cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig. Rhaid i chi ofyn, ‘Am ba Nadolig rydym yn sôn?’, ond gadewch inni obeithio mewn gwirionedd y daw rhywbeth yn y cyfamser, gan fod arnom angen strategaeth economaidd newydd yn fawr iawn.

Nawr, yr hyn sy’n rhaid inni ddibynnu arno ar hyn o bryd—. Oherwydd bu dau newid gweinyddiaeth ers y strategaeth economaidd ddiwethaf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, felly mae’n rhaid i ni ddarllen yr arwyddion i ddeall beth yw’r meddwl y tu ôl i bolisi economaidd. Nawr, yr unig ddatganiad cynhwysfawr y gallwn ddod o hyd iddo, ac i fod yn deg ag ef, cafodd ei ysgrifennu ar lefel bersonol, oedd yr un gan brif economegydd Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi blas inni ar y meddylfryd y tu ôl i syniadau economaidd Llywodraeth Cymru. Ynddo, mae’n dweud—fe’i cyhoeddwyd yn y ‘Welsh Economic Review’ y llynedd:

O ran tueddiadau’r canlyniadau economaidd allweddol ers datganoli, mae’r stori’n gadarnhaol ar y cyfan.

Nawr, ‘os oes gennych ddau economegydd yn yr ystafell bydd gennych dri safbwynt gwahanol’ yw’r hen ddywediad. Ond rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i mi anghytuno. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, os edrychwch ar y ffigurau—a gallwch ei wneud mewn amryw o ffyrdd, ond os edrychwch ar ffigurau allweddol gwerth ychwanegol gros y pen, enillion wythnosol cymedrig ar gyfartaledd, incwm gwario gros y pen aelwydydd, a arferai fod yn hoff ddull mesur Llywodraeth Cymru, ar bob un o’r rheini rydym wedi mynd tuag yn ôl ers i Lafur fod mewn grym dros gyfnod o 20 mlynedd. Felly, nid yw difidend datganoli wedi cyflawni. Yn sicr, rydym wedi mynd tuag yn ôl—ychydig bach ar rai, yn fwy arwyddocaol ar eraill, ond yn sicr ni chafwyd y gwelliant y gobeithiem ei weld yn ein safle.

Felly, mae angen strategaeth economaidd newydd oherwydd mae’r hen un wedi methu darparu, ac os ydym yn parhau i wneud yr hyn a wnaethom, wrth gwrs, yna ni ddylem synnu, fel y gwyddom, os ydym yn wynebu’r un canlyniadau. Felly, rwy’n credu bod ‘Ble yr aethom o’i le?’ yn fan cychwyn da. Credaf fod yna gliwiau mewn peth o’r data. Os edrychwn ar faterion megis entrepreneuriaeth, er enghraifft, yn ystod blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru, i fod yn deg, cyhoeddwyd cynllun gweithredu entrepreneuriaeth cenedlaethol. Rwy’n gwybod oherwydd fy mod wedi bod yn rhan fach o’r gwaith o’i ddrafftio ar y pryd. Fe ddechreuodd hwnnw gael peth llwyddiant cynnar mewn gwirionedd, os edrychwch ar y ffigurau, o ran busnesau newydd yn cychwyn. Yn ystod y cyfnod 2002 i 2005, fe welsoch gynnydd o 21 y cant yn nifer y busnesau newydd yng Nghymru, o’i gymharu â chynnydd o 13 y cant yn unig yn y DU. Ni chafodd hynny ei ailadrodd, wrth gwrs. Bu newid yn yr hinsawdd wleidyddol neu’r hinsawdd polisi tua chanol y degawd, ac felly, o 2005 ymlaen, gwelsom ostyngiad neu ddychweliad at ostyngiad o ran niferoedd busnesau.

Roedd ymgais gyda’r strategaeth economaidd yn 2010 i atal y dirywiad mewn gwirionedd, ac roedd y strategaeth economaidd honno’n gwbl glir fod angen i ni symud y pwyslais yn ôl i gapasiti cynhenid, lle roeddem wedi dechrau yn 2000 gyda’r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth. Yn anffodus, rhoddwyd y gorau i’r strategaeth economaidd honno yn 2010 i bob pwrpas. Dychwelwyd i’r ffordd hen ffasiwn o feddwl, sef y gorobsesiwn gyda buddsoddiad tramor uniongyrchol a all roi rhywfaint o enillion tymor byr i chi ar ffurf datganiad i’r wasg a rhai ffigurau swyddi. Gall fod, mewn gwirionedd, mewn amseroedd anodd—. Ac rydym yn sylweddoli, yn yr argyfwng economaidd, ein bod yn y modd amddiffynnol. Felly, yn y tymor byr gall fod rhesymau pam eich bod am bwysleisio hynny, ond o ran y dasg hirdymor o newid tuedd sylfaenol economi Cymru, mae angen inni ddychwelyd at y meddylfryd sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth cenedlaethol, sef buddsoddi mewn menter gynhenid ac arloesi, am mai sgiliau, gwybodaeth a syniadau ein pobl ein hunain a fydd yn y pen draw yn creu’r gwelliant economaidd yr ydym am ei weld.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn anelu at wella iechyd a lles yng Nghymru. Fel y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n siomedig nad oes unrhyw dargedau clir, mesuradwy ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Rwy’n croesawu’r uchelgais sy’n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru, ond heb ganlyniadau clir, mesuradwy, rydym mewn perygl o gael strategaeth uchelgeisiol arall eto sy’n methu cyflawni.

Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod y strategaeth yn tynnu sylw at yr angen am brofiad di-dor mewn perthynas ag iechyd a gofal. Yn anffodus, mae hyn yn ddiffygiol ar hyn o bryd. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, rwy’n ymwneud ag un o fy etholwyr sy’n 83 oed ac a adawyd i ofalu amdano’i hun yn dilyn llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg ar y galon. Cafodd ei ryddhau o’r ysbyty heb fod unrhyw becyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol ar waith. Gŵr oedrannus bregus, a anghofiwyd llwyr ac a gafodd gam gan y gwasanaethau statudol. Nid oedd unrhyw un i sicrhau bod hyd yn oed ei anghenion mwyaf sylfaenol yn cael eu diwallu, a heb ffrindiau a chyn-gydweithwyr, byddai’r dyn hwn wedi bod heb fwyd a diod, yn methu casglu ei bensiwn ac yn methu talu ei filiau. Ni ddylai hyn fod yn digwydd yn 2017. Ni ddylai’r dyn hwn fod wedi gorfod ffonio o gwmpas yn erfyn am help. Mae’r system wedi gwneud cam ag ef.

Yn anffodus, nid un achos ar ei ben ei hun yw hwn, ac rydym wedi gweld enghreifftiau ledled Cymru o bobl yn cael cam gan y system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ddoe, amlinellodd pobl â dementia a’r rhai sy’n gofalu am bobl â dementia yr anhawster i gael cymorth a gofal seibiant. Roedd Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i fynd i’r afael â’r diffygion hyn, ond mae gennym 22 o awdurdodau lleol, a phob un yn dehongli’r Ddeddf yn wahanol. Er bod ganddynt hawl i asesiad gofalwr, nid yw llawer o ofalwyr wedi cael un, er iddynt ofyn amdano dro ar ôl tro. Clywsom fod rhai adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gofyn i’r gofalwr a yw’n ymdopi o flaen y person sy’n derbyn gofal. Wrth gwrs, mae’r gofalwr yn mynd i ddweud eu bod yn ymdopi yn yr amgylchiadau hynny. Nid yw hyn ond yn tynnu sylw at y broblem gyda’r strategaethau: nid yw’r cynlluniau uchelgeisiol bob amser yn cael eu cyflawni.

Dro ar ôl tro rydym wedi gweld amrywiaeth enfawr yn y modd y caiff iechyd a gofal cymdeithasol ei ddarparu o ardal i ardal—gyda rhai’n dda, ac eraill heb fod cystal. Mae gwasanaethau’n amrywio rhwng y saith bwrdd iechyd lleol a’r 22 awdurdod lleol. Sut y gallwn fod yn sicr y bydd y strategaeth hon yn wahanol, gan nad oes unrhyw dargedau na chanlyniadau mesuradwy? Sut y gallwn obeithio darparu gofal iechyd teg i bawb yng Nghymru, waeth ble y mae pobl yn byw, beth bynnag yw eu hoedran neu eu rhyw, os ydym i gael saith bwrdd iechyd gwahanol a 22 o adrannau gwasanaethau cymdeithasol oll yn darparu ac yn dehongli iechyd a gofal yn wahanol?

Gwasanaeth iechyd gwladol yw’r hyn sydd i fod gennym, ond mewn gwirionedd, mae ansawdd eich gofal yn dibynnu ar eich cod post. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn dymuno gwella iechyd a lles yng Nghymru i sicrhau ffyniant i bawb, bydd yn rhaid iddynt wneud yn well na’r strategaeth hon. Mae pobl Cymru’n haeddu llawer gwell na geiriau twymgalon. Maent wedi cael y rheini dros y 18 mlynedd diwethaf. Mae’n bryd gweithredu ac yn anffodus, mae’r strategaeth genedlaethol yn addo rhagor o’r un peth. Diolch. Diolch yn fawr.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac rwy’n bwriadu canolbwyntio fy nghyfraniad ar yr hyn sydd angen ei wneud, yn fy marn i, i sicrhau ffyniant i’r holl bobl yn fy etholaeth.

Mae dogfen ‘Ffyniant i Bawb’ y Llywodraeth yn bwriadu targedu ymyriadau i anghenion economaidd gwahanol pob rhanbarth yng Nghymru, gan sicrhau bod pob rhan o’r wlad yn elwa o dwf, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw a dechrau buddsoddi o ddifrif yng ngorllewin Cymru, ardal yr ymddengys ei bod, hyd yn hyn, ar waelod rhestr flaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae’n wych fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna heriau amlwg yn wynebu gwahanol rannau o Gymru, ond i bobl sy’n byw yn Sir Benfro, mae diffyg buddsoddi parhaus yn yr ardal yn dangos, er bod strategaethau a dogfennau’r Llywodraeth yn dweud un peth, fod polisïau’r Llywodraeth yn dweud rhywbeth arall. Rwy’n siŵr fod pob Aelod yn deall nad yw cael un dull sy’n addas i bawb o lywodraethu Cymru yn gweithio, a dyna pam y mae angen bellach i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth fanwl a chadarn sy’n egluro sut y caiff y Gymru wledig ei chefnogi drwy’r Cynulliad hwn.

Er enghraifft, nid yw adran ‘iach ac egnïol’ y ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ hyd yn oed yn cyfeirio at wasanaethau iechyd gwledig o gwbl. Y GIG yng Nghymru a’r modd y darparir gwasanaethau yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu fy etholwyr o hyd, ac eto nid yw’r ddogfen hon hyd yn oed yn cydnabod na hyd yn oed yn ceisio tawelu meddwl pobl sy’n byw yn fy ardal i fod Llywodraeth Cymru yn gwrando.

Mae’r strategaeth yn sôn am bwysigrwydd triniaeth gyflym i bobl pan fo’i hangen arnynt, mor agos i’w cartrefi â phosibl, ac mae hynny’n rhywbeth y mae pobl Sir Benfro yn parhau i ymladd drosto. Fodd bynnag, mae parhau i ddileu gwasanaethau i deuluoedd yn Sir Benfro yn hollol groes i amcan Llywodraeth Cymru ei hun i ddarparu gwasanaethau mor agos i’w cartrefi â phosibl. Nid oes ond raid i chi edrych ar sefyllfa gwasanaethau pediatrig yng ngorllewin Cymru fel enghraifft o bobl yn gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth.

Pan benderfynodd Llywodraeth Cymru gau’r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, gwneuthum y pwynt fod teithio o Dyddewi i Gaerfyrddin mewn sefyllfa o argyfwng yn debyg i bobl yng Nghaerdydd yn cael eu gorfodi i deithio i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni i gael gofal brys. Nawr, wrth gwrs, ni fyddai hynny’n iawn i bobl Caerdydd, ac nid yw’n iawn i’r bobl rwy’n eu cynrychioli. Felly, os yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o ddifrif i ddarparu gofal mor agos i’w cartrefi â phosibl, yna mae’n bryd iddi ddechrau gwrthdroi’r tueddiad yng ngorllewin Cymru i ganoli gwasanaethau iechyd a dechrau buddsoddi’n briodol mewn gwasanaethau iechyd lleol.

Nid ar amcanion iechyd yn unig y mae’r ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ yn canolbwyntio. Mae hefyd yn ailadrodd rhai buddsoddiadau pwysig yn y seilwaith, gan gynnwys un ymrwymiad a fydd o fudd mawr i bobl a busnesau yn Sir Benfro. Rwy’n falch bod y ddogfen yn ymrwymo i welliannau i’r A40 yng ngorllewin Cymru, ac rwy’n siŵr nad oes angen i mi barhau i ailadrodd yr un llinellau i gefnogi’r gwelliannau hyn ar wahân i bwysleisio’r ffaith bod angen deuoli’r A40 yn awr er mwyn agor gorllewin Cymru i weddill y wlad a thu hwnt. Mae’r achos dros ddeuoli’r A40 wedi bod yn cael ei drafod ers y 1950au, ac felly mae’n hen bryd i’r prosiect ddechrau gwneud cynnydd. Gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy uchelgais i weld yr A40 wedi’i deuoli yn Sir Benfro, ac rwy’n sylweddoli na all hynny ddigwydd dros nos, ac y bydd yn galw am arian sylweddol, ond y cyfan rwy’n gofyn amdano yn awr yw ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth Cymru ei bod yn rhannu fy nod i ddeuoli’r darn hwn o ffordd, ac efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i hyn wrth ymateb i’r ddadl benodol hon.

Rwy’n falch hefyd fod y ddogfen yn ymrwymo i gyflwyno band eang dibynadwy a chyflym i’r rhannau o Gymru nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan y farchnad. Unwaith eto, mae Sir Benfro perthyn i’r categori hwnnw. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw mynediad at y rhyngrwyd, nid yn unig i fusnesau, ond i bawb. I lawer o bobl, mae’n rhan gynyddol bwysig o’u bywydau ac yn eu galluogi i fyw’n fwy annibynnol drwy sicrhau bod gwybodaeth, addysg a gwasanaethau da a dibynadwy yn hygyrch iddynt. Yn wir, mewn cymunedau gwledig fel Sir Benfro sydd eisoes wedi cael eu taro’n anghymesur yn sgil cau banciau, mae mynediad at fand eang dibynadwy yn hanfodol i lawer o bobl allu parhau i wneud defnydd o wasanaethau bancio. Fodd bynnag, y realiti i rai pobl sy’n byw yng Nghymru yw eu bod yn dal heb fynediad at wasanaeth band eang digonol ac o ganlyniad, ni allant fwynhau neu ddefnyddio’r mynediad at wasanaethau y mae pobl mewn ardaloedd eraill yn eu cael. Felly, unwaith eto rwy’n gofyn am wybodaeth fanylach ynglŷn â pha bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn targedu mannau gwan yn benodol ar draws Sir Benfro, er mwyn i mi roi’r newyddion diweddaraf sy’n fawr ei angen i gymunedau lleol ynglŷn â pha bryd y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl briodol yn datgan bod llawer i ymfalchïo ynddo, ond mae llawer o heriau’n parhau, a dim ond drwy fod yn onest ynglŷn â’r rhain y gallwn fynd i’r afael â hwy. Mae’n bryd inni fod yn onest ynglŷn â’r diffyg buddsoddiad a sylw a roddir i orllewin Cymru gan Lywodraethau Llafur blaenorol a chydnabod bod yn rhaid gwneud mwy yn y dyfodol i helpu ein cymunedau gwledig. Gall y Gymru wledig fod yn gymaint mwy na’r hyn ydyw ar hyn o bryd. Mae angen cefnogaeth a buddsoddiad, ac mae angen i’r bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig wybod eu bod yn cael eu hystyried gan bolisïau Llywodraeth Cymru. Felly, rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn dechrau gwella ei chefnogaeth i orllewin Cymru. O’r herwydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.

Mae’r strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ yn ymgais arall i ail-lansio’r Llywodraeth Lafur flinedig, ddigyfeiriad ac aflwyddiannus hon yng Nghymru. Er bod nodau’r ddogfen hon yn ganmoladwy, yn anffodus mae’n brin o fanylion. Heb y manylion ar faterion yn ymwneud â sicrhau a mesur canlyniadau, uchelgeisiau’n unig yw’r ymrwymiadau hyn. Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym yn y lle hwn ers dros 18 mlynedd, ac mae Llafur wedi gwneud cam â gorllewin Cymru yr holl ffordd ers hynny.

Ni fu’r methiant mor amlwg yn unman ag y mae yn system addysg y wlad hon. Ar ôl 18 mlynedd mewn grym, mae cenedlaethau olynol wedi cael cam yn sgil hunanfodlonrwydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg. Mae ein plant yn haeddu system addysg o’r radd flaenaf yma, ond mae’r safleoedd PISA yn dangos bod Llafur Cymru wedi darostwng Cymru i hanner gwaelod y tabl cynghrair addysg byd-eang. Gan Gymru y mae’r system ysgolion sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Cyfraddau pasio TGAU A i C eleni oedd yr isaf ers 2006. Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ddiweddar na fydd bron 45 y cant o’r rhai a fydd wedi gadael ysgol yng Nghymru rhwng 2015 a 2020 wedi cael pump TGAU da. Nid fi sy’n dweud hynny, ond y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn wynebu argyfwng ym maes hyfforddi a chadw athrawon. Mae tri deg wyth y cant o leoedd hyfforddi athrawon ysgolion uwchradd yn parhau i fod heb eu llenwi. Mae nifer sylweddol o athrawon sydd eisoes wrthi’n addysgu yn ystyried gadael y proffesiwn. Dirprwy Lywydd, mae dybryd angen strategaeth ar Gymru i ddod ag athrawon newydd i’r wlad ac i gadw’r rhai sydd gennym yn barod. O ran addysg uwch, mae Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dysgu’n rhan-amser mewn sefydliadau addysg uwch. Rhwng 2009 ac 2014, disgynnodd niferoedd myfyrwyr 11 y cant yng Nghymru. Cafodd y dirywiad hwn ei waethygu gan doriadau parhaus Llywodraeth Cymru i gyllidebau addysg uwch. Cafwyd toriad o bron £36 miliwn yn yr arian cyhoeddus a ddyrannwyd i brifysgolion Cymru ers 2015-16. Nid yw addysg bellach wedi gwneud yn well. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cyllid grant yn y sector hwn wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2011-12 a 2016-17.

Dirprwy Lywydd, mae angen mwy o eglurder ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yng Nghymru. Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae 61 y cant o fusnesau yng Nghymru yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr tra medrus i ateb y galw ac i dyfu yng Nghymru. Er gwaethaf cynnydd yn lefelau cyflogaeth, mae cyfraddau gweithgarwch economaidd yng Nghymru yn dal i ddangos cymaint o’r gweithlu sydd â chyrhaeddiad addysgol gwael a heb lawer o sgiliau. Mae Llywodraeth Cymru yn addo darparu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed a’u defnyddio i godi lefel gyffredinol sgiliau yn y gweithle. Ond nid yw wedi darparu fframwaith ar gyfer cyflawni’r addewid hwn, na sut y maent yn bwriadu gwneud hynny.

Gall dysgu oedolion yn y gymuned chwarae rhan allweddol yn gwella ansawdd bywyd dinasyddion Cymru. Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi crebachu ar draws Cymru, ac mewn rhai ardaloedd mae wedi erydu’n ddifrifol. Mae’r grant dysgu yn y gymuned gan Lywodraeth Cymru, a ddefnyddir fel arian grant uniongyrchol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, wedi gostwng. Gall dysgu oedolion yn y gymuned chwarae rhan allweddol yn gwella ansawdd bywyd dinasyddion Cymru os caiff ei gefnogi’n briodol.

Dirprwy Lywydd, mae’r diffyg canlyniadau mesuradwy yn y ddogfen hon yn tanseilio’r tebygolrwydd y caiff yr amcanion hyn eu cyflawni. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion hyn, bydd yn dioddef yr un dynged ag y gwnaeth ar gyllid Amcan 1 ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Bydd yn methu cyflawni, ac rwy’n siŵr y byddant yn ailystyried unwaith eto i wneud mwy o welliannau yn yr holl senario hon. Diolch.

Ddoe ddiwethaf buom yn siarad yma am bwysigrwydd casglu data agored, a chofnodi data defnyddiol i lywio a datblygu polisïau cryf. Felly, mae’n rhyfedd fod y strategaeth hon mor brin o dargedau mesuradwy, gan roi cyn lleied o le i graffu gan y Cynulliad neu’r cyhoedd. Rydym un mis ar bymtheg i mewn i dymor y pumed Cynulliad, ac mae pobl Cymru yn llygad eu lle i holi pam na all plaid sydd wedi bod mewn grym ers dros 18 mlynedd sefydlu a gweithio tuag at nodau cydlynus, clir, a mesuradwy unwaith eto, er mwyn gallu cyflawni. Mae awdurdodau lleol yn ei wneud drwy’r amser. Ble y maent hwy yn y ddogfen hon?

Efallai fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael ei pherswadio i beidio â thynnu sylw at ei record ar yr economi, busnes, tai, iechyd, addysg, seilwaith, cymunedau gwledig, am eu bod wedi methu mor gyson yn y meysydd hynny. Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol—fe wyddom na fydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy ar eu ffurf bresennol yng Nghymru yn y dyfodol agos. Mae byrddau Iechyd yng Nghymru yn wynebu diffygion sylweddol, gorwariant o £149 miliwn yn y flwyddyn hon yn unig. Ers 2013 bu cynnydd o 400 y cant yn nifer y cleifion sy’n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth, ond eto torrodd Llywodraeth Cymru 8.2 y cant mewn termau real oddi ar gyllid iechyd a gofal cymdeithasol rhwng 2009-10 a 2015-16, gan waethygu’r pwysau ar y gwasanaeth, tra bod y Sefydliad Iechyd yn amcangyfrif y bydd angen i wariant ar iechyd yng Nghymru godi 3.2 y cant y flwyddyn mewn termau real er mwyn pontio’r bwlch ariannu a ragwelir.

A allwch ddweud wrthym pa sylwadau a wnaed i Lywodraeth San Steffan y DU i wella’r cyllid i Lywodraeth Cymru?

Buaswn yn dweud mai gwaith i’r Prif Weinidog yw hynny mewn gwirionedd, a’ch plaid chi. [Torri ar draws.]

Mae rhestrau aros am dai yng Nghymru yn embaras cenedlaethol, gyda 90,000 o bobl ar hyn o bryd ar restr tai yng Nghymru, yr un ffigur ag yn 2011. Testun mwy byth o bryder yw bod 8,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi bod ar restr dai fforddiadwy ers dros chwe blynedd, ac mae 2,000 arall wedi bod ar y rhestr aros ers 2006. Mae digartrefedd yng Nghymru yn sgandal bellach. [Torri ar draws.] Yn ystod 2016-17, aseswyd bod 9,210 o aelwydydd yng Nghymru—

[Yn parhau.]—a oedd yn wynebu digartrefedd o fewn 56 diwrnod, wedi cynyddu 29 y cant o aelwydydd, llety dros dro a llety gwely a brecwast 75 y cant—[Torri ar draws.]

Diolch. Efallai nad ydych yn hoffi’r ffeithiau hyn, y ffigurau hyn, yr ystadegau hyn, ond maent yn wir. Rydym yn gwybod gennym 23,000 eiddo gwag yng Nghymru. Mae gan Gonwy ei hun dros 1,500. Ac eto, nid yw dogfen ‘Ffyniant i Bawb’ hyd yn oed yn sôn am hyn. Dyma adnodd cenedlaethol, ac mae’r defnydd ohono’n gwneud synnwyr amlwg.

Ar seilwaith a thrafnidiaeth, mae seilwaith di-dor yn allweddol i dwf economaidd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r cyflymder y mae seilwaith yn cael ei ddarparu yng Nghymru yn embaras cenedlaethol. Rydym yn parhau i weld cysylltiad band eang cronig o wael mewn ardaloedd gwledig, gyda thros 94,000—dyna dri o bob 10 eiddo—yn methu cael cysylltiad o dros 10 Mbps. Mae nifer y gwasanaethau bws cofrestredig yng Nghymru wedi gostwng o 1,943 ym mis Mawrth 2005 i 1,283, gan adael llawer o’n cymunedau gwledig a’n trigolion wedi eu hynysu fwyfwy. Nododd y Pwyllgor Menter a Busnes y llynedd fod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar gludiant cymunedol yn 2013 yn siomedig o araf, er bod prosiect peilot Llywodraeth Cymru, Go Cymru, wedi ei gwblhau ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Mae cludiant cymunedol yn wasanaeth hanfodol i bobl hŷn a chymunedau gwledig, gan ei fod yn galluogi llawer i fynd allan a chyrraedd gwasanaethau hanfodol y byddent fel arall yn ei chael hi’n anodd cael mynediad atynt.

Dirprwy Lywydd, nid yw’r ddogfen hon yn gwneud llawer i dawelu meddyliau pobl Cymru fod Llafur Cymru yn gwneud ymdrech wedi’i thargedu i weithio drostynt. Credaf y bydd y ddogfen hon yn mynd i’r un lle’n union â’r rhaglen lywodraethu—bydd yn mynd ar silff i hel llwch. Nid oes unrhyw dargedau cyflawnadwy neu fesuradwy. Nid oes unrhyw ganlyniadau. Mae’r Llywodraeth hon yn gwneud cam â phobl Cymru. Rydych yn gwneud cam â phobl Aberconwy hefyd. [Torri ar draws.] Rwy’n cloi fy nadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd nifer o bwyntiau a godwyd gan siaradwyr sy’n bwyntiau pwysig y mae angen mynd i’r afael â hwy, ac mae angen cydnabod yr heriau. Y peth sy’n rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, yw mai’r ddogfen, ‘Ffyniant i Bawb’, yw’r sail y bydd penderfyniadau’r Llywodraeth yn cael eu gwneud arni. Bydd yn arwain at fwy o fanylion maes o law. Bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei gyhoeddi erbyn y Nadolig eleni, os gallaf wneud hynny’n gwbl glir, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn gallu dangos beth a wnawn i wella bywydau pobl Cymru ymhellach.

Rhaid i mi ddweud, roedd yna afrealrwydd, onid oedd, yn perthyn i gyfraniadau’r Ceidwadwyr? Mae dros £1 biliwn wedi ei dorri oddi ar gyllideb Cymru. Eto i gyd, yng ngwlad y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r goeden arian hud yn tyfu ac rydym yn gallu gwario cymaint o arian ag y dymunwn. Rwy’n derbyn eu bod mor anfedrus fel bod Janet Finch-Saunders wedi dweud bod yn rhaid i mi ystyried delio â Llywodraeth y DU, a byddaf yn gwneud hynny gan ei bod yn amlwg na allant hwy wneud.

Ble mae’r £1.67 biliwn a gafodd Gogledd Iwerddon, yn groes i fformwla Barnett? Dim gair gan y Ceidwadwyr Cymreig. [Torri ar draws.] Dim gair gan y Ceidwadwyr Cymreig. Felly, oes, mae’n rhaid i rywun siarad dros Gymru. Fe wyddom nad y Ceidwadwyr Cymreig a wnaiff hynny.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a oedd gan Janet Finch-Saunders i’w ddweud am ddigartrefedd, ond ni allwch roi diwedd ar ddigartrefedd drwy werthu tai cyhoeddus, sef yr union beth y maent am ei wneud. Eu hateb i ddigartrefedd yw gwerthu mwy o dai i wneud pobl yn fwy digartref, ac mae’n anwybyddu effaith y dreth ystafell wely ar bobl. Mae’n anwybyddu’r hyn sydd wedi digwydd gyda’r credyd cynhwysol. Roeddwn yn Brighton ar y penwythnos, gwn eu bod wedi fy ngweld yno, ni welais erioed gymaint o ddigartrefedd. Fe’m trawyd yn Brighton y penwythnos hwnnw pa mor ddrwg oedd pethau yn Brighton a faint o bobl ddigartref oedd yno, ac mae hynny o ganlyniad i bolisïau a ddilynir gan ei phlaid.

Rwy’n cymeradwyo ei beiddgarwch. Mae hi’n sefyll ar ei thraed ac yn siarad am seilwaith. Ei phlaid hi a gafodd wared ar drydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe. Ei phlaid hi sy’n gwrthod trydaneiddio’r rheilffordd ar hyd arfordir gogledd Cymru. Nid materion wedi’u datganoli yw’r rhain, maent yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae gan Gymru 11 y cant o drac rheilffordd Cymru a Lloegr ac mae’n cael 1.5 y cant o’r buddsoddiad. Dyna realiti’r hyn y mae’r Torïaid yn ei wneud dros Gymru.

A ble mae’r morlyn llanw? Fe ddywedom ni hyn ddoe: os ydych am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl a gwella economi Cymru a chreu ynni glân, ynni gwyrdd, mae angen inni weld y morlyn llanw yn symud ymlaen. Pam na wnewch chi ddweud hyn wrth eich cydweithwyr yn hytrach na dibynnu arnaf fi i wneud hynny? Rwy’n hapus i wneud hynny ar eich rhan, ond mae’n amlwg fod angen gwersi arnoch sut i ddylanwadu ar eich plaid eich hun.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Paul Davies. Nid wyf yn derbyn bod y Gymru wledig wedi ei hanghofio, o bell ffordd. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn darparu gofal iechyd mor agos at gartrefi pobl â phosibl. Yr hyn na allaf byth mo’i dderbyn yw bod yn rhaid i ofal iechyd fod mewn sefyllfa lle y mae naill ai’n lleol neu’n well. Mae pobl yn haeddu mynediad at y gofal iechyd gorau lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Dyna ni, o’m rhan i. Os gellir ei ddarparu mor lleol ag sy’n bosibl, gwych. Dyna’n union sut y dylai fod. Ond os bydd yn rhaid i bobl deithio ychydig ymhellach i gael triniaeth well gyda gwell canlyniadau, yna mae hynny’n rhywbeth nad wyf yn credu y dylem ei ofni.

Ar yr A40—rydym am symud ymlaen, wrth gwrs, gyda deuoli’r A40. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hynny i’w etholaeth. Ar fannau gwan band eang, mae’n anodd rhoi amserlen ar gyfer cymunedau penodol. Os yw am ysgrifennu ataf, buaswn yn fwy na pharod i roi amserlenni ar gyfer cymunedau penodol iddo. Mae’n dweud nad oes buddsoddiad o gwbl. Wel, edrychwch ar yr ysgolion sydd wedi cael eu hadeiladu ar hyd a lled gorllewin Cymru. Ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu, ailagor gorsaf dref Abergwaun ac Wdig, er enghraifft, a chysylltiadau rheilffyrdd gwell i mewn i ogledd Sir Benfro—nid yw hynny wedi’i ddatganoli hyd yn oed. Nid yw wedi’i ddatganoli hyd yn oed ac mae’n rhywbeth yr ydym wedi gwario arian arno er mwyn gwella bywydau ei etholwyr ei hun.

Os caf ymdrin â rhai o’r materion eraill a godwyd yn yr amser sydd gennyf: o ran yr economi, rydym yn gwybod bod diweithdra yn awr fel mater o drefn ar yr un lefel â, neu’n is na chyfartaledd y DU. Ni fyddai modd dychmygu hynny yn ôl yn y 1990au. Gwyddom fod cyfraddau cyflogaeth yn uwch na’r hyn a oeddent yn y 1990au. Gwyddom hefyd fod cynnyrch domestig gros wedi cynyddu, ond nid yw wedi cynyddu ar yr un cyflymder â rhai rhannau eraill o’r DU. Mae hynny’n wir. Pam? Un o’r rhesymau, wrth gwrs, yw bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau. Wrth i bobl gael mwy o sgiliau, gallant gael swyddi sy’n talu’n well, fel y gallant roi mwy o arian yn eu pocedi. Dyna’n union a wnawn. Mae gennym ymrwymiad i gael 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ennill mwy o arian, ond hefyd i’n galluogi i ateb y cwestiwn yr ydym bob amser yn ei gael gan fuddsoddwyr: ‘A oes gennych y sgiliau yr ydym eu hangen i ffynnu yn eich gwlad?’ Yn gynyddol, gallwn ddweud ‘oes’. Nid ydynt yn dod i Gymru oherwydd yr arian—dywedodd Aston Martin hynny’n glir—maent yn dod i Gymru am fod y sgiliau yma.

Mae gennyf ddau ffigur i’w rhoi i chi—a nodais eich bod wedi dweud bod gennych y sgiliau, neu ‘Mae gennym y sgiliau yma yng Nghymru’—ac roedd un yn ymwneud â’r gwerth ychwanegol gros, ac yn genedlaethol, nid ydym ond yn cyfrannu 3 y cant o gyfoeth y DU ond mae gennym 5 y cant o’r boblogaeth. Ar y cyflog mynd adref, roedd Cymru a’r Alban yr un fath 20 mlynedd yn ôl; mae yna wahaniaeth bellach o £43 yr wythnos. Felly, ble fydd Cymru yn 2021 ar werth ychwanegol gros cenedlaethol mewn perthynas â’r DU a ble fydd hi ar gyflog mynd adref os oes gennym y sgiliau y mae’r diwydiant eu hangen, fel rydych yn ei nodi?

Gwell, oherwydd rydym yn denu buddsoddwyr yn awr na fyddem byth wedi’u denu 20 mlynedd yn ôl. Polisi Llywodraeth y DU yn y 1990au oedd cael swyddi heb sgiliau ar gyflogau gwael yn lle swyddi sy’n talu’n dda mewn glo a dur. Felly, fe aeth cynnyrch domestig gros a gwerth ychwanegol gros—yr un peth, fwy neu lai—i lawr. Do, efallai fod y gyfradd ddiweithdra wedi mynd i lawr gyda hwy, ond lleihaodd yr arian a oedd gan bobl yn eu pocedi hefyd o ganlyniad. Mae hynny’n newid; mae wedi bod yn anodd ei newid, rwy’n cyfaddef, ond mae’n newid yn awr ac rydym yn gweld buddsoddwyr yn dod i Gymru ac yn dod â swyddi a chyflogau gwell gyda hwy—swyddi na fyddem byth wedi’u cael 20 mlynedd yn ôl gan na fyddai neb wedi bod yno i ddadlau dros Gymru 20 mlynedd yn ôl.

O ran yr economi, gan droi at yr hyn a ddywedodd Adam Price, nid wyf yn derbyn bod yna ddewis i’w wneud rhwng cefnogi busnesau cynhenid a buddsoddiad tramor uniongyrchol. Rwy’n derbyn bod yna gydbwysedd i’w daro. Rydym yn gweld mwy o fusnesau yng Nghymru bellach, rydym yn gweld busnesau’n dod yn fwy llwyddiannus. Rwy’n gweld yr elfen entrepreneuraidd a oedd yno yn ein pobl ifanc yn cael ei hannog yn awr mewn ffordd nad oedd yno o’r blaen. Rwy’n gweld ein prifysgolion yn gweithio i helpu busnesau newydd mewn ffordd nad oeddent yn ei wneud 10 mlynedd yn ôl; nid oeddent yn ystyried mai eu cenhadaeth hwy oedd gwneud hynny. Erbyn hyn, maent yn dechrau gwneud hynny. Felly, rwy’n gweld bod entrepreneuriaeth yn gallu ffynnu o ganlyniad i hynny. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

A fyddai’n derbyn, efallai, mai camgymeriad oedd y penderfyniad a wnaed yn ystod y weinyddiaeth ddiwethaf i gynyddu nifer y sectorau â blaenoriaeth o chwech i naw, a oedd yn cynnwys dwy ran o dair o’r holl fusnesau yn yr economi ar y pryd mewn gwirionedd, gan nad oedd hynny’n swnio fel targedu go iawn fel y byddai unrhyw un yn ei ddeall?

Na, nid oedd digon o sectorau. Un o’r problemau a wynebem—ac roedd yn fater rwy’n cofio ei drafod gyda fy nghyn gyd-Aelod Ieuan Wyn Jones, fel Dirprwy Brif Weinidog—oedd bod ymdrechion wedi’u gwneud yn y blynyddoedd cyn hynny i ddenu buddsoddiad mewn unrhyw faes ac wrth gwrs, ni allwch wneud hynny. Oni bai eich bod yn gallu dangos bod gennych hanes da o wneud hynny yn eithaf aml mae’n anodd iawn denu buddsoddwr arall yn yr un maes i’ch gwlad. Felly, gwnaed penderfyniad i gael sectorau. Do, fe gynyddwyd hynny i naw oherwydd ein bod yn gweld sectorau newydd yn ymddangos dros y blynyddoedd a sectorau’n dod yn gryfach dros y blynyddoedd. Y mater sydd angen i ni ganolbwyntio arno yn ogystal yw anghyfartaledd rhanbarthol. Mae hynny wedi cael sylw ac mae’n bwynt teg i’w godi. Sut y gwnawn hynny? Wel, mae angen i ni wneud yn siŵr fod gennym gynlluniau economaidd rhanbarthol a strwythurau cyflawni rhanbarthol hefyd. Nid oes gennym rai ar hyn o bryd.

Os ydym yn mynd i siarad am ddatganoli pwerau i lawr, a phwerau ariannol hefyd efallai, sy’n syniad sy’n haeddu sylw gofalus wyddoch chi, mae’n rhaid i ni fod yn glir fod y strwythurau cyflawni rhanbarthol yno; nid ydynt yno. Bydd y Bil llywodraeth leol yn rhoi cyfle inni wneud hynny. Nid yw’n bosibl i 22 o awdurdodau lleol gyflawni’n effeithiol ar eu pen eu hunain. Dyna pam, wrth gwrs, fod angen y cydweithio rhanbarthol. Dyna beth y bydd y Bil yn ei wneud. A bydd hynny, wrth gwrs, yn rhoi cyfle i ni wedyn i ddechrau edrych ar sut y gallwn rymuso lefelau eraill o lywodraeth i allu gwella amodau economaidd yn eu hardaloedd eu hunain.

O ran iechyd, unwaith eto, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud, ‘Wel, mae popeth wedi mynd tuag at yn ôl’—nid yw hynny’n wir. Hynny yw, mae amseroedd aros diagnosteg wedi gwella, mae amseroedd aros ambiwlansys wedi gwella. Os edrychwch ar ganser, os ydych am driniaeth canser yng Nghymru, rydych o leiaf yr un mor debygol o gael triniaeth dda ar gyfer canser cyn gyflymed ag unrhyw le arall yn y DU, os nad yn well. Realiti’r sefyllfa yw ein bod yn gwario 7 y cant yn fwy ar iechyd a gofal cymdeithasol: mae’n ffigur rydym wedi’i ddefnyddio yn y Siambr hon—mae’n wir. A gwyddom, wrth gwrs, ar fater recriwtio, fod yr ymgyrch rydym wedi’i rhoi ar waith yn dwyn ffrwyth. Bellach, rydym yn gweld lleoedd hyfforddi yn cael eu llenwi mewn ffordd nad oedd yn wir, efallai, flwyddyn neu ddwy yn ôl. Bydd hynny’n cryfhau’r gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd nesaf yma yng Nghymru.

O ran rhai o’r materion eraill a godwyd yn ystod y ddadl—addysg: wel, rhaid i mi ddweud, wyddoch chi, clywais yr hyn a ddywedodd Mohammed Asghar. Roeddwn yn yr ysgol yn y 1980au, mewn ysgol gyfun, a gallaf ddweud wrtho yn awr, rwy’n cofio’r dyddiau pan nad oedd ysgolion yn cael eu hadeiladu, ni chaent eu cynnal a’u cadw, roedd gennym Lywodraeth Geidwadol yn torri’r gyllideb addysg drosodd a throsodd, roedd gennym lefelau perfformiad yn gostwng; nid wyf byth eisiau gweld y dyddiau hynny eto. Rwy’n hapus i fynd ag ef i ysgolion newydd sbon sy’n cael eu hadeiladu ym mhob rhan o Gymru. Rwy’n hapus i ddangos iddo y gwaith a wnaed ar hynny. Hoffwn ddangos iddo y gwaith sy’n dod drwodd drwy’r academi arweinyddiaeth. Hoffwn ddangos iddo y consortia sy’n cyflawni yn awr. Y gwirionedd yw nad oedd gennym ddarpariaeth addysg gyson ar draws pob awdurdod lleol: roedd chwech ohonynt yn destun mesurau arbennig ar un adeg. Nid oedd y system yn gweithio’n gyson ledled Cymru. Oedd, roedd gennym rai enghreifftiau o ddarpariaeth ragorol, ond nid oedd digon ohonynt ar draws Cymru. Ers inni gael y consortia, rydym yn gweld gwelliannau—y canlyniadau TGAU gorau a gawsom erioed. Os ydych yn cymharu lle’r oedd canlyniadau TGAU yn y 1990au—

[Yn parhau.]—roeddent yn llawer iawn is o ran graddau A* i C nag y maent yn awr. Mae’n deyrnged i’n hathrawon ac i’n disgyblion.

Fe ddywedoch wrthym yr wythnos diwethaf am y graddau TGAU gorau erioed, ond wrth gwrs, o ran canlyniadau’r haf hwn, roedd y cyfraddau llwyddo cyffredinol ar eu lefel isaf ers degawd.

Nac oeddent. Os edrychwch—. [Torri ar draws.] Os ydych yn cymharu ffigurau ar sail tebyg-at-ei-debyg, mae’n amlwg nad ydynt. Os ydych yn eu cymharu â’r dyddiau cyn 1999 pan oedd tua 38 y cant o ddisgyblion Cymru yn cael pum gradd A* i C, mae’r ffigur hwnnw bellach ymhell y tu hwnt i hynny—ymhell y tu hwnt i hynny—a chanlyniad ein cyflawniad o ran addysg yw hynny. Felly, na, yr hyn a welwn ym maes addysg yw cyflawni well, rydym yn gweld canlyniadau gwell. Os edrychwch ar Safon Uwch, er enghraifft, mewn Safon Uwch rydym yn aml yn well na Lloegr—ni ddylai fod yn gystadleuaeth, ond mae pobl yn ein cymharu—mewn llawer iawn o bynciau a chanlyniad y gwaith a wnaed gan yr Ysgrifennydd addysg presennol yw hynny, wrth gwrs, gan adeiladu ar y gwaith a ddigwyddodd yn y blynyddoedd blaenorol.

Felly, rwy’n credu bod angen inni fod yn gadarnhaol am ein gwlad. Rydym yn cyflawni yn erbyn cefndir o gyni eithafol. Gwyddom fod yna werth £3.5 biliwn o doriadau o hyd ledled y DU nad ydynt wedi eu dyrannu eto hyd yn oed gan Lywodraeth bresennol y DU. Nid ydym yn gwybod ble y bydd y toriadau hynny. Ac felly’n wir, fe hoffem gyflawni mwy—fe hoffem wneud y pethau y mae’r Ceidwadwyr yn galw arnom i’w gwneud, er nad oes gennym arian i wneud hynny. Hoffem glywed mwy gan y Ceidwadwyr am eu syniadau. Un peth a nodais yn yr areithiau oedd eu bod yn beirniadu, ac mae ganddynt hawl i wneud hynny; ni chynigiwyd un syniad cadarnhaol o ran yr hyn y byddent yn ei wneud yn wahanol—dim un. Felly, maent yn dal i fod mewn sefyllfa lle na allant gynnig unrhyw beth i bobl Cymru, lle na allant gynnig ffordd gadarnhaol ymlaen i bobl Cymru, lle na allant gynnig unrhyw fath o obaith ar gyfer y dyfodol i bobl Cymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny, mae pobl Cymru yn deall hynny, dyna pam y gwelsom y canlyniad a welsom ym mis Mehefin, a dyna pam, wrth gwrs, y byddwn yn parhau i weithio dros bobl Cymru. Byddwn yn ymuno ag eraill sydd eisiau gweithio gyda ni i sicrhau’r dyfodol gorau i’n gwlad, yn seiliedig ar degwch, ar gyfiawnder, ar gyfle ac ar ffyniant i bawb. [Torri ar draws.]

Diolch. A dim ond i ddweud fy mod wedi penderfynu oherwydd bod tri ymyriad, ac os oes gennych unrhyw beth i’w ddweud, wel, arhoswch i weld pwy sy’n cloi eich dadl cyn i chi ddechrau beirniadu. Nick Ramsay.

Beth y mae hynny i fod i’w olygu? [Chwerthin.] Diolch am y cyflwyniad cynnes. [Chwerthin.] Rwyf wedi cael gwaeth. [Chwerthin.] A gaf fi yn gyntaf oll ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Mae’n rhaid i mi ddweud, fe fwynheais ymateb y Prif Weinidog, ymateb wedi’i gyfeirio’n bennaf at Janet Finch-Saunders—wel, am y pum munud cyntaf o’i gyfraniad beth bynnag. I fod yn deg, Brif Weinidog, fe wnaethoch droi wedyn at Paul Davies a phroblemau’r Gymru wledig.

Ond rhaid i mi ddweud mai haerllugrwydd braidd yw gosod y bai am holl ofidiau Cymru ar blaid y Ceidwadwyr Cymreig a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rhag ofn nad ydych wedi sylwi, nid ni sydd wedi bod mewn grym yma dros y 18 mlynedd diwethaf. Yn wir, gadewch i mi feddwl pwy sydd wedi bod. Pwy y gallai fod? A, wrth gwrs, y Blaid Lafur, Plaid Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym. Ond mae’n rhaid i mi ddweud—. [Torri ar draws.] Ac mae’n rhaid i mi ddweud—. [Torri ar draws.] Mewn eiliad. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, Mike Hedges, nid oedd pethau’n llawer gwell pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan chwaith am dros 10 mlynedd, ac roedd gennym Blaid Lafur mewn grym yn San Steffan a oedd mewn grym a Llywodraeth Lafur yma. A wnaeth y gwerth ychwanegol gros saethu drwy’r to yn sydyn? A wnaeth wella’n sydyn? A gawsom reilffordd y Great Western wedi’i thrydaneiddio? A gawsom y morlyn llanw? Yr holl bethau gwych na chyflawnodd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n debyg. Wel, mewn gwirionedd, mae trydaneiddio yn digwydd. Mewn gwirionedd, mae llawer o’r rhain yn y broses o ddigwydd ac yn llawer mwy tebygol o ddigwydd na phan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan. Ac os yw Llywodraeth Cymru yma am weithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU i helpu i gyflwyno’r prosiectau hyn, rydym yn croesawu hynny ac yn credu mewn bod yn gadarnhaol. A gallech ddweud, wyddoch chi, fod hon wedi bod yn ddadl negyddol. Wel, y rheswm pam y cafwyd agwedd mor negyddol oedd ein bod wedi bod yn dilyn dogfen heb lawer iawn ynddi mewn gwirionedd.

Rwy’n credu mai Caroline Jones a siaradodd am eiriau twymgalon. Ac rydym wedi clywed llawer o eiriau twymgalon yma yn y Siambr hon dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi nodi ugain mlynedd ers datganoli dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Rydym wedi cael llawer o eiriau twymgalon a llawer o strategaethau. Ac fe ddywedodd Adam Price—. Nid yw Cymru’n dioddef o brinder strategaethau, yw hi, Adam? Rwy’n credu ein bod wedi cael cymaint o strategaethau—mwy nag y gallwn eu cyfrif—ac mae gormod ohonynt naill ai heb eu gweithredu’n llawn, heb eu rhoi mewn grym, neu fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, wedi cael eu hanghofio a’u gadael ar silff lychlyd yn rhywle i beidio â chael eu gweithredu. Felly, rwy’n meddwl bod angen i ni gael persbectif o ran pam yn union ein bod yn y sefyllfa yr ydym ynddi.

A gaf fi ddweud mai’r rheswm na chafodd y morlyn llanw ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur oedd nad oedd neb wedi meddwl amdano yn ôl adeg y Llywodraeth Lafur? Ond y broblem go iawn gyda dioddef yng Nghymru yw cyni Torïaidd o San Steffan. Onid ydych yn cytuno â hynny?

Rwy’n cofio llawer o amser yn cael ei dreulio gan aelodau penodol o Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU ar forglawdd llanw, ac yn sicr roedd yna bobl yn siarad am forlynnoedd llanw yn ôl ar y pryd. Ond er hynny, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi; mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Mae ein dadl heddiw’n nodi’n syml fod strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, gyda ni. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn ei chefnogi. Dyna gynnydd. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl gweld rhagor o dargedau mesuradwy mwy penodol. Nid yw’n fater mwyach o gael geiriau twymgalon yn unig. Os yw’r 20 mlynedd nesaf o ddatganoli yn mynd i fod yn fwy llwyddiannus o ran cyflawni ar yr economi, cyflawni ar y gwasanaeth iechyd, cyflawni ar addysg, cyflawno ar draws yr ystod o wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru, yna mae’n rhaid i bawb ohonom wneud yn llawer iawn gwell nag yr ydym wedi ei wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rwy’n annog pobl i gefnogi’r cynnig hwn a dechrau arni.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio.

12. 11. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6513.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 29, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 26. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 29, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6513.

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6513 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i bawb’.

2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu’r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu cronfa triniaethau newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.

3. Yn cydnabod bod angen i’r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru weithio’n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 29, 10 yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 29, Yn erbyn 16, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6513 fel y’i diwygiwyd.

13. 12. Dadl Fer: Dŵr Ffo o'r Mynydd ac ar ein Ffyrdd—A All Cymru Atal Problem Gorlifo Sydyn?

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Joyce Watson i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Joyce Watson.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad heddiw am lifogydd dŵr wyneb a pham, yn fyr, fod angen mwy o erddi a llai o batios. Edrychaf ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelod dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Un o ragflaenwyr Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Davidson, pan oedd hi’n Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, a lobïais yn gyntaf ar y pwnc penodol hwn, ac roedd hynny yn sgil y llifogydd dinistriol yn 2007 ac adolygiad Pitt a’u dilynodd.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Yn 2009, cymeradwyodd y Cynulliad fy nghynnig i gyflwyno Bil meinciau cefn, neu’r hyn a elwid ar y pryd yn orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, i ymdrin â llifogydd drwy ffrwyno’r defnydd o arwynebau caled o amgylch cartrefi pobl. Dyna oedd un o brif argymhellion adolygiad Pitt, o ystyried bod bron i 80 y cant o lifogydd yn cael eu hachosi gan lifogydd dŵr wyneb, nid gan afonydd yn gorlifo na moroedd yn cyrraedd y morlin. Ar y pryd, roedd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun—y Bil Rheoli Llifogydd a Dŵr—a oedd yn gorgyffwrdd gyda fy ngorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, felly fe syrthiodd ar ymyl y ffordd, ond ni syrthiodd fy niddordeb ar ymyl y ffordd, na’r broblem chwaith.

Ychydig wythnosau’n ôl yn unig, fe wnaeth fflachlifoedd darfu unwaith eto ar gymunedau ar draws fy rhanbarth. Galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i 12 o ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Cafwyd rhybuddion tywydd melyn ar gyfer rhannau uchaf ac isaf afon Teifi, yn ogystal ag afon Taf ac afon Cynon. Achosodd glaw trwm dros nos lifogydd mewn rhannau o Dalsarn, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chei Newydd, a theithiodd penllanw llifogydd y Teifi i lawr yr afon rhwng Llanfair a Glan Teifi a chaewyd y rhyd ger ysgol Talgarth. Trodd caeau’n orlifdiroedd gan effeithio ar ferlod a da byw eraill. Cafwyd anhrefn traffig ar yr A486, yr A487, yr A475 yng Ngheredigion a’r B4333 rhwng Aberporth a Chastell Newydd Emlyn, yn ogystal â’r A485 yn Sir Gaerfyrddin a’r holl ffyrdd cefn o gwmpas Beulah. A chafwyd fflachlifoedd yng ngogledd sir Benfro o Landudoch ac Aber-cuch i Lanfyrnach.

Nid wyf yn hoffi bod yn broffwyd gwae, ond dim ond mis Medi yw hi. Cefais fy ysgogi i edrych eto ar y syniad o lwybr deddfwriaethol gan golofn a ddarllenais yn ddiweddar iawn yn ‘The Guardian’ gan Michele Hanson, o’r enw ‘Why it’s time to ban concrete in front gardens’. Ynddi, nododd sut yr oedd taith o Lundain i Sussex wedi newid yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac rwy’n dyfynnu ohoni. Mae’n dweud bod,

y gerddi blaen gwyrdd hyfryd bron â bod wedi diflannu’n llwyr ac wedi cael eu troi’n fannau parcio.

Dywedodd ei bod yn olygfa y bydd llawer ohonom yma’n ei hadnabod yn ein cymunedau eu hunain, gyda mwy a mwy o batios ac ystafelloedd haul, a phalmantu ar gyfer gerddi a hefyd ar gyfer parcio. Mae bron i 5 miliwn o erddi blaen yn y DU bellach wedi’u palmantu’n llwyr ac mae mwy a mwy ohonynt yn diflannu bob blwyddyn.

A dweud y gwir, un o’r pethau cyntaf a wneuthum pan symudais i fy nhŷ 25 mlynedd yn ôl oedd palu’r rhodfa a phlannu gardd flaen gyda llwyni a blodau. Gwnaeth Michele Hanson yn union yr un fath. Mae hi’n dweud ei bod

yn arfer bod â gardd flaen goncrid, heb unrhyw le i’r dŵr fynd, gan arwain at lifogydd pan fyddai’n bwrw glaw’n drwm.

Felly, fe balodd y cyfan a phlannu magnolia a hocys, a rhoddodd hynny ddiwedd ar y llifogydd. Felly, beth am wneud hyn yn orfodol, meddai,

Gwell cael wladwriaeth faldodus synhwyrol nag un sydd dan ddŵr catastroffig. Gallwch ei wneud eich hun,

mae’n argymell,

neu gael y cyngor i bicio draw gyda dril niwmatig a’i wneud ar eich rhan.

Nawr, nid wyf yn mynd lawn mor bell â hynny heddiw mewn gwirionedd yn yr hyn rwy’n ei gynnig, ond rwy’n credu bod ganddi bwynt. Effaith hyn—[Anghlywadwy.]—yw bod mwy o ddŵr glaw yn cyrraedd carthffosydd a draeniau, gan olchi llygryddion i’n cyrsiau dŵr. Siaradais yr wythnos diwethaf yn sesiwn holi’r Cynulliad am lygredd afon o ffermydd da byw sy’n cael eu gadael yn rhy aml heb eu cosbi, ac mae fflachlifoedd yn creu’r un broblem yn union. Ond caiff ei waethygu gan ein patrymau tywydd newidiol: y math o gawodydd trwm dwys iawn a brofwn, y gaeafau gwlypach a gawn, ac mae amcangyfrifon gwyddonwyr hinsawdd yn rhagweld mai cynyddu a wnaiff glaw eithafol dros y degawdau nesaf.

Felly, hoffwn gael y cyfle hwn i edrych eto ar fy ngorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol gwreiddiol, ac i edrych ar yr hyn sydd wedi newid ers 2009, a pham nad yw’r Cynulliad wedi edrych o’r newydd ar yr angen am ddeddfau llymach, ac a ddylai wneud hynny. Ac rwy’n meddwl mai’r newid mwyaf nodedig yn y blynyddoedd ers hynny yw’r rheoliadau sy’n berthnasol i waith adeiladu y gellir ei wneud heb ganiatâd cynllunio. Ym mis Medi 2013, daeth rheoliadau newydd i rym yng Nghymru yn cyfyngu ar y math o ddeunydd y gellir ei ddefnyddio i orchuddio tir o flaen eich tŷ os yw’n arwain at briffordd—ac mae priffyrdd yn cynnwys ffyrdd cyhoeddus, llwybrau troed, llwybrau ceffylau, a chilffyrdd—ond yn y bôn, roedd hynny’n ein gosod ar yr un lefel â Lloegr, lle roedd hyn wedi bod yn rheol ers nifer o flynyddoedd.

Felly yn awr, os ydych am osod neu ailosod wyneb caled o flaen eich tŷ, rhaid i chi ddefnyddio deunyddiau athraidd neu fân-dyllog sy’n caniatáu i ddŵr ymdreiddio, neu gyfeirio dŵr oddi ar wyneb caled fel concrid i fan athraidd neu fân-dyllog ar flaen y tŷ. Ond mae gennych hawl i ailosod neu atgyweirio hyd at 5 metr sgwâr o arwynebedd caled presennol heb y cyfyngiadau hyn, a buaswn yn awgrymu y byddai hynny, i’r rhan fwyaf o dai canol teras bach, yn golygu y bydd yr arwynebau concrid a chaled hynny’n bodoli am byth. Ond ni cheir unrhyw gyfyngiadau ar osod patios neu lwybrau concrid a mannau caled eraill yng nghefn eich tŷ—dim o gwbl.

Os ydym o ddifrif am wneud rhywbeth am hyn, rwy’n credu bod gwir angen inni ailystyried yr amryfusedd hwn, gan ei bod yn wir fod y rhan fwyaf o bobl â mwy o dir yng nghefn eu tai nag yn y blaen. Credaf y gallem, drwy reoleiddio neu gryfhau’r SDCau, neu ddraenio cynaliadwy, agweddau ar Strategaeth Ddŵr i Gymru 2015, neu drwy gynnig cymhellion i berchnogion—cymell yn hytrach na gorfodi. Ac rwy’n credu y byddai cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i gynigion gwyrddu gerddi. Edrychwch ar sut y mae pobl, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi dechrau cydnabod pwysigrwydd gerddi fel cynefinoedd ar gyfer peillio, adar, a bywyd gwyllt arall. Ar draws Prydain, gerddi domestig yw bron 20 y cant o ddefnydd tir trefol. Felly, dyna adnodd enfawr posibl ar gyfer darparu buddion amgylcheddol.

Ar y naill law, os ydym yn parhau i osod concrid dros fwy a mwy o’r lle hwnnw, rydym yn gwneud niwed amgylcheddol mawr—. Mae’n fater o genedlaethau’r dyfodol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein darn o dir ein hunain, ond mae rôl i’r Llywodraeth hefyd. Ond mae’r Llywodraeth hon, a Llywodraethau Llafur Cymru olynol, wedi blaenoriaethu buddsoddiad ar gyfer atal llifogydd, gyda mwy na £240 miliwn ers 2012, a £47 miliwn pellach o gyllid Ewropeaidd. A diolch i’r arian hwnnw, mae mwy na 12,000 eiddo ledled Cymru yn fwy diogel, a diolch i’r cytundeb a ffurfiodd Llywodraeth Cymru bedair blynedd yn ôl gyda’r diwydiant yswiriant, cafodd 64,000 eiddo mewn perygl o lifogydd sicrwydd yswiriant am 20 mlynedd, gyda chap premiwm. Mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn â’r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr.

Yn gynharach eleni, ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau anstatudol argymelledig ar gyfer draenio cynaliadwy i gynllunwyr, datblygwyr eiddo, awdurdodau lleol, ac eraill sydd â diddordeb, ac mae’n ystyried a ddylid gwneud y rhain yn orfodol, fel y nodir o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2020. Ceir rhai prosiectau uchelgeisiol sydd eisoes yn lleihau dŵr wyneb, a byddwch wedi fy nghlywed sawl gwaith yn cyfeirio at brosiect RainScape yn Llanelli. Cafodd fuddsoddiad o £113 miliwn, ac mae’n enghraifft o gydweithio ardderchog rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ac mae yna brosiectau eraill, megis Grangetown Werddach. Felly, rwy’n credu bod yr amser wedi dod i ni gydnabod bod angen edrych ar yr ardd gefn ac y gallwn greu cynefin a fydd yn ein cynnal ar gyfer y dyfodol.

Yn gyntaf oll, a gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Joyce Watson a diolch iddi am ganiatáu munud i mi yn y ddadl hon, ond yn bwysicach, am godi’r mater hynod bwysig hwn? Rwyf am dynnu sylw at bwysigrwydd coed a llwyni. A gaf fi ddechrau gyda hanesyn byr? Roedd tŷ yn fy etholaeth nad oedd erioed wedi cael problem gyda dŵr, ond un flwyddyn, trodd y stepen flaen yn rhaeadr, ac rwy’n golygu hynny’n hollol llythrennol—dôi’r dŵr i lawr fel pe bai’n rhaeadr. Beth oedd wedi newid? Roedd coed a llwyni wedi cael eu tynnu o’r tu ôl i’r tŷ, felly, yr hyn a oedd gennych wedyn oedd y dŵr yn dod i lawr. Rwy’n credu bod angen inni blannu llawer mwy o goed a llwyni i amsugno dŵr cyn iddo ddechrau gwneud ei ffordd i lawr i fannau lle y mae’n creu problemau. Pan fyddwch yn codi llwyni ac yn codi coed, rydych yn arwain at y gwrthwyneb, sef bod y glaw’n troi’n fwd a byddwch yn cael mwd yn llithro i lawr. Rwy’n byw mewn etholaeth sy’n eithriadol o fryniog; rwy’n credu y byddai unrhyw un yn Abertawe yn dweud bod Abertawe yn eithriadol o fryniog mae’n debyg. Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod gennym goed a llwyni yno. A wyf fi’n rhagrithiwr? Nac ydw, oherwydd os ewch i fy ngardd flaen, fe welwch wrych ac un goeden fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl.

Diolch yn fawr, Cadeirydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Joyce Watson am ddewis y pwnc hwn fel ei dadl fer yr wythnos hon. Rydym yn gwybod y gall fflachlifoedd gael effeithiau dinistriol ar fywydau’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil a dyna pam ei fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad, yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, i barhau i fuddsoddi mewn gwaith amddiffyn rhag llifogydd a rhoi camau pellach ar waith i reoli dŵr yn well yn ein hamgylchedd. Dengys ymchwil y bydd newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol yn peri i lefel y môr godi, stormydd mwy dwys, ac yn arwain hefyd at fwy o fflachlifoedd. Felly, mae angen inni barhau i weithio gyda’n gilydd i leihau’r risg hon, helpu cymunedau i addasu, ac i adeiladu ein gallu i’w gwrthsefyll.

Yn gynharach y mis hwn, gwelsom nifer o ddigwyddiadau llifogydd ynysig o ganlyniad i fflachlifoedd sydyn yn Sir Benfro a Cheredigion a Gwynedd. Rwy’n cydymdeimlo â’r bobl yr effeithiwyd arnynt ac a welodd eu cartrefi dan ddŵr. Felly, rydym yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i adeiladu gallu i wrthsefyll digwyddiadau o’r fath. Yn ddiweddar, cyhoeddais gyllid refeniw ychwanegol o £1.2 miliwn i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi gwaith ar gynnal archwiliadau o asedau a chynnal a chadw cyn y gaeaf, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gwbl abl i wrthsefyll llifogydd. Mae’r gwaith rheoli risg llifogydd hanfodol hwn yn sicrhau bod asedau’n parhau i weithredu’n effeithiol mewn tywydd garw, ac rwy’n falch bod nifer y rhai a fanteisiodd arno wedi bod mor gadarnhaol.

Felly, mae gennym setliad cyfalaf pedair blynedd bellach, sy’n golygu, dros oes y Llywodraeth hon, y byddwn yn buddsoddi dros £144 miliwn o gyfalaf gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Ynghyd â’r rhaglen rheoli risg arfordirol, golyga hyn fuddsoddiad posibl o £256 miliwn drwy ein rhaglenni llifogydd. Y flwyddyn ariannol hon, cwblheir cynlluniau sylweddol yn Nhrebefered, Llanelwy, yr Aber Bach, a Phontarddulais a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 800 eiddo. Rwyf hefyd wedi ymrwymo £1 filiwn o gyllidebau llifogydd blynyddol i awdurdodau lleol yn gynharach eleni i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar raddfa fach. Rwy’n meddwl bod y grant wedi cael croeso mawr gan awdurdodau lleol, oherwydd eu bod yn cydnabod, er bod y cynlluniau mawr gwerth uchel yn hanfodol wrth gwrs—. Rwy’n credu bod gwaith llai yr un mor bwysig ar lefel leol, yn enwedig os ydym yn mynd i leihau’r perygl o fflachlifoedd.

Felly, mae parhau i allu gwrthsefyll llifogydd yn ymwneud nid yn unig â’n buddsoddiad mewn asedau, mae hefyd yn cynnwys y gwaith hanfodol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn ei wneud gyda chymunedau i’w gwneud yn ymwybodol o’r risgiau y maent yn eu hwynebu a sut y gallant baratoi.

Gwnaeth Joyce Watson bwynt penodol am newidiadau a wnaed i hawliau datblygu a ganiateir i ganiatáu arwynebau mân-dyllog yn unig mewn gerddi blaen heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Gwyddom fod hyn wedi annog y defnydd o fathau o arwynebau sydd wedyn yn helpu i leihau dŵr ffo a lleihau perygl llifogydd i eiddo. Rydych yn hollol gywir: nid yw hynny’n berthnasol i gefn adeiladau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ochrau adeiladau. Felly, mae’n rhywbeth y buaswn yn sicr yn hapus iawn i edrych arno.

Mae Mike Hedges yn codi’r pwynt y dylem fod yn plannu mwy o goed. Ni allaf anghytuno â chi ar hynny, Mike, ac yn sicr, rwy’n credu ei bod yn drafodaeth rwy’n ei chael. Nid wyf yn credu ein bod yn plannu digon o goed. Rwyf wedi bod o flaen y pwyllgor rydych yn ei gadeirio, Mike, mewn perthynas â’r mater hwn. Mae arnom angen mwy o goed am nifer o resymau, ac mae hyn, yn amlwg, yn un ohonynt.

Rhan o’n dull o reoli risg llifogydd yng Nghymru yw’r gydnabyddiaeth o’r hyn y gall yr amgylchedd naturiol ei wneud i ddal dŵr yn ôl, lleihau dŵr ffo, a lleihau faint o ddŵr sy’n mynd i mewn i’n hafonydd pan fydd hi’n bwrw glaw. Felly, gall cynlluniau fel plannu coed, creu mannau storio, a gwell defnydd o ddraenio cynaliadwy, helpu i leihau’r perygl o fflachlifoedd, felly rydym yn annog mwy o reolaeth risg llifogydd naturiol drwy ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Yn ogystal, bydd yr Aelodau’n gwybod am fy mholisi adnoddau naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae hwnnw, unwaith eto, yn amlinellu cyfleoedd i reoli llifogydd gan ddefnyddio technegau o’r fath. Fodd bynnag, yn anffodus, fe wyddom na allwn atal pob fflachlif, ond gallwn roi cynlluniau a phrosesau cynnal a chadw ar waith i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn digwydd, a gweithio gyda natur i reoli dŵr yn fwy effeithiol, yn ein hamgylcheddau trefol a gwledig fel ei gilydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:26.