Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A’r cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wneud o hysbysiadau cosb benodedig? OAQ(5)0148(FLG)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Llywydd, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw pennu eu polisi a’u hymagwedd eu hunain at y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r defnydd ohonynt pan gânt eu defnyddio fel ymateb i broblemau gwirioneddol, eu rhoi yn synhwyrol, a’u gorfodi yn deg.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, dau hysbysiad cosb benodedig yn unig a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a 13 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fodd bynnag, rhoddwyd 840 o hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, o gymharu â llai na 300 mewn blynyddoedd blaenorol. Rhoddwyd dros 1,400 o hysbysiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y llynedd. Pa reswm y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi am yr anghysondeb sylweddol o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd gan awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru? A pha sicrwydd y gall ei roi nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o gynyddu refeniw yn unig?

Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at yr amrywio yn y ffordd y mae gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig, ond mae hynny oherwydd y repertoire o gamau y gall awdurdodau lleol eu cymryd, gan gynnwys achosion llys, ac mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio cymysgedd o ymatebion sy’n wahanol i’r hyn a geir gan awdurdodau eraill. Ac nid wyf o’r farn mai lle Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r gwahanol ymatebion sydd ar gael iddynt, a’r cyfuniad o’r ymatebion hynny, yn eu hardaloedd eu hunain. Cytunaf â’r pwynt y gwnaeth yr Aelod ar ddiwedd ei gwestiwn, fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig fel ymateb priodol i broblemau gwirioneddol, a bod y refeniw a godant yn ffordd o fynd i’r afael â’r problemau hynny yn hytrach na bod yn ffordd o godi refeniw ynddi’i hun.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dadlau y dylid rhoi dirwyon i rieni sy’n gadael i’w ceir segura y tu allan i ysgolion, oherwydd y broblem llygredd aer. Ac rwy’n meddwl tybed, o ystyried bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi defnyddio cosbau penodedig yn effeithiol iawn, gan ddefnyddio camerâu ar gefn bysiau, i atal ceir rhag defnyddio lonydd bysiau, pa bwerau a fyddai gan gyngor Caerdydd i fynd i’r afael â phroblem debyg y tu allan i gatiau ysgolion yng Nghaerdydd?

Wel, diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn. Gwelais y cyngor a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, gyda chanllawiau yn galw am sefydlu parthau aer glân y tu allan i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, er enghraifft. Ni chredaf eu bod yn cyfeirio’n uniongyrchol yn y ddogfen honno at gyfundrefn cosbau penodedig; maent yn trafod y defnydd posibl o is-ddeddfau a chamau gweithredu eraill i gefnogi ardaloedd lle y gwaherddir cerbydau rhag segura. O ystyried yr hyn a wyddom am y pwyslais ar ansawdd yr aer, ymddengys i mi fod hwn yn adroddiad gwerthfawr iawn, a gwn y bydd cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn edrych arno, i weld a yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu y dylem ystyried eu rhoi ar waith yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol, os credir mai dyna’r ffordd orau o orfodi trefn o’r fath.

Fel cyn-gynghorydd, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cydymdeimlo’n fawr â’r llu o ofynion y mae troseddau amgylcheddol lefel isel yn eu hychwanegu at lwyth achosion cynghorwyr lleol. A thu hwnt i bortffolio o ymatebion awdurdodau lleol a grybwyllwyd eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet, gan gynnwys achosion llys, gall y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig fod yn offeryn effeithiol i helpu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol lefel isel, sy’n cynnwys sbwriel, baw cŵn, a sŵn nychus o anheddau ac adeiladau trwyddedig. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwerth y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig gan awdurdodau lleol fel un mesur ymhlith eraill i ddarparu gwell cymunedau ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu? A sut y gellir lledaenu arferion gorau?

Wel, cytunaf gyda’r Aelod mai un mesur ymysg eraill yw hwn. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn rhan gyfarwydd iawn o’r repertoire sydd ar gael i awdurdodau lleol. Fe’u cyflwynwyd am y tro cyntaf mor bell yn ôl â’r 1950au. Ac er fy mod yn deall rhai o’r pryderon a fynegir weithiau ynglŷn â’r defnydd ohonynt fel offeryn i godi refeniw, mae’n bwysig nodi bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi codi gwerth £1 filiwn drwy hysbysiadau cosb benodedig i ymdrin â phroblemau amgylcheddol lefel isel o’r math y cyfeiriodd Rhianon Passmore atynt, a bod costau amgylcheddol glanhau sbwriel i awdurdodau lleol Cymru y llynedd yn £70 miliwn. Felly, mae’n gyfraniad cymharol fach tuag at fynd i’r afael â’r broblem, ac ni chredaf ei fod yn bwynt annheg i mi ei wneud i unigolion sydd weithiau’n cwyno am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â sbwriel, baw cŵn ac yn y blaen, fod yr ateb yn eu dwylo hwy i raddau helaeth, ‘Peidiwch â thaflu sbwriel ac ni fydd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig i boeni amdanynt.’

Bargen Dwf Gogledd Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen dwf gogledd Cymru? OAQ(5)0154(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn arwain trafodaethau gyda phartneriaid yng ngogledd Cymru ynglŷn â bargen dwf. Disgwylir i’r cais twf gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn yr haf, a bydd hynny’n nodi dechrau’r trafodaethau ffurfiol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wedi i’r weledigaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru gael ei chyflwyno ym mis Awst y llynedd, rwy’n gwybod, ac fe fyddwch chi’n gwybod bod rhanddeiliaid yn fy rhanbarth i, a thros y ffin, megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, partneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, a chyngor busnes Gogledd Cymru wedi gweithio’n galed ar gydweithredu a dod at ei gilydd i fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer datblygu seilwaith, yr agenda sgiliau a thwf economaidd ar gyfer ardal gogledd Cymru. Yn ogystal, er mwyn ategu’r gwaith hwn, roeddwn yn falch o allu sefydlu’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer gogledd Cymru yma yn y Cynulliad, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd yn fwy cyfunol er mwyn bwrw ymlaen â’r agenda honno yn y Cynulliad, a sicrhau’r ewyllys ariannol a gwleidyddol i fwrw ymlaen â’n huchelgeisiau ar gyfer gogledd Cymru. Rwy’n falch eich bod wedi dweud ein bod yn disgwyl cynnydd yn fuan iawn, gan y credaf fod rhywfaint o ofn, er y sôn mawr a fu amdano ochr yn ochr â Phwerdy Gogledd Lloegr, fod pethau wedi mynd braidd yn dawel yn ddiweddar. Felly, rwyf am ofyn: pa ymrwymiad gwleidyddol sy’n parhau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fargen dwf gogledd Cymru, ac a yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymrwymiad ariannol hyd yn hyn, fel y mae wedi’i wneud yn y gorffennol i’r bargeinion yn ne Cymru, mewn perthynas â Chaerdydd a bae Abertawe?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau wedi ymrwymo’n gadarn i ddatblygiad bargen dwf gogledd Cymru. Yn ddiweddar, dechreuais ar fy rownd ddiweddaraf o drafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Cyfarfûm ag arweinydd newydd Gwynedd ac arweinydd newydd Ynys Môn yn ddiweddar, a bûm yn trafod y mater hwn gyda’r ddau ohonynt, a chydag arweinydd cyngor Sir y Fflint. A gwn fod awydd o hyd ledled gogledd Cymru i lunio cais bargen dwf a fydd yn argyhoeddi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ni allaf siarad yn uniongyrchol ar ran Llywodraeth y DU ar y mater hwn, er bod pob arwydd eu bod hwy hefyd yn parhau wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hyn. Ni chyrhaeddwn y pwynt lle byddwn yn trafod ymrwymiadau ariannol tan yn ddiweddarach yn y broses. Mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd ar lunio’r fargen, cyflwyno’r cais, a graddnodi’r arian y bydd gofyn amdano yn erbyn realaeth yr hyn y gellir ei gyflawni. Dyna oedd y broses ym margeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at allu helpu i fwrw ymlaen â’r broses honno mewn perthynas â bargen dwf gogledd Cymru.

Gan adeiladu ar ddogfen weledigaeth twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yr haf diwethaf, mae’r tîm sy’n datblygu cais y fargen dwf wedi galw am bwerau datganoledig i’r rhanbarth, gan gynnwys sgiliau, trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol, arloesi busnes, swyddogaethau cynghori, cyngor ar yrfaoedd a threthiant. O ran trethiant, nid ydynt yn cyfeirio at ardrethi busnes, ond at ariannu drwy gynyddrannau treth. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi, neu rydych yn ei rhoi i’r alwad honno, lle mae cyllid o’r fath, sydd ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr rwy’n credu, yn ymwneud â benthyca a gyllidir gan y cynnydd mewn derbyniadau ardrethi busnes yn y dyfodol sy’n deillio o’r prosiectau a ddatblygwyd drwy’r fargen dwf?

Wel, Llywydd, rwy’n sicr yn cytuno bod yn rhaid i’r ddwy fargen ddinesig a bargen dwf gogledd Cymru fod yn fwy na dadl ynglŷn â’r swm o arian yn unig. Mae’n rhaid i hyn ymwneud ag agenda ehangach o sbarduno cydweithredu, a siarad ag un llais ar uchelgeisiau allweddol. A gallai datganoli rhai o’r mathau o gyfrifoldebau a amlinellwyd gan Mark Isherwood fynd law yn llaw â hynny. Cyfrifoldeb cynigwyr y fargen fydd dadlau’r achos hwnnw. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o ariannu drwy gynyddrannau treth a’r ffordd y mae hynny’n gweithredu mewn mannau eraill. Cyfarfûm â Chymdeithas Trysoryddion Cymru mewn llywodraeth leol ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, a chefais drafodaeth ddefnyddiol gyda hwy ynglŷn â nifer o’r materion hyn, gan gynnwys y potensial ar gyfer dull rhannu enillion tuag at gynnydd mewn derbyniadau ardrethi busnes, lle mae’n bosibl y gallai awdurdodau lleol sy’n dod at ei gilydd yn y bargeinion dinesig a’r bargeinion twf hyn ddangos llif incwm ychwanegol o ganlyniad i’w hymdrechion cyfunol.

Mi fyddai pobl Ynys Môn yn hoffi sicrwydd bod bargen dwf y gogledd yn mynd i fod yn chwilio i dyfu’r economi ar draws holl siroedd y gogledd ac nid clymu siroedd y dwyrain i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr yn unig. Mae yna gyfleoedd i’r gorllewin hefyd yn Iwerddon, heb sôn am yng ngweddill Cymru, ac nid dim ond yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Mae yna berig, er enghraifft, fod Wylfa Newydd yn mynd i gael ei weld yn ticio’r bocs o ran Ynys Môn neu o ran y gogledd-orllewin yn ehangach hyd yn oed. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gytuno bod yn rhaid inni beidio â dibynnu ar Wylfa achos os ydy’r sefyllfa’n codi lle nad yw hwnnw’n cael ei ddelifro, mi fyddwn ni mewn twll.

Yr her i bobl yn y gogledd sy’n bidio ar y deal yw i fod yn glir eu bod nhw’n creu rhywbeth sy’n mynd i weithio dros ogledd Cymru i gyd. Pan gwrddais i ag arweinyddion newydd Ynys Môn a Gwynedd, siaradais i â nhw am beth sy’n mynd ymlaen gydag Wylfa Newydd a’r pwysigrwydd o fod yn glir y bydd Wylfa newydd yn rhan o beth sy’n dod ymlaen fel rhan sylweddol o’r deal. Ond, wrth gwrs, mae’r deal yn fwy na Wylfa. Ar yr ochr arall, mae’r gogledd-ddwyrain, ac rwy’n gwybod, pan fyddaf i’n siarad â phobl sy’n byw, ac sy’n gyfrifol am bethau, ar ffin Cymru a Lloegr, eu bod nhw’n awyddus i esbonio’r pwysigrwydd o weithio dros y ffin gyda phobl sy’n byw yn Lloegr hefyd. Mae hynny’n bwysig. Ond, dyna’r her, sef i drio creu rhywbeth sy’n gweithio dros y gogledd i gyd ac i Wylfa a phethau eraill yn y gogledd-orllewin. Mae’n hollbwysig i hynny fod yng nghanol y deal hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fel y gwyddom, penderfynodd y Llywodraeth beidio â chefnogi prosiect Cylchffordd Cymru, ar sail y risg y gellid ei ddosbarthu ar y fantolen, ac felly, y byddai iddo oblygiadau mawr i gyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, mae gennyf ddiddordeb yn y broses benderfynu a arweiniodd at yr asesiad hwn mewn perthynas â dosbarthiad y fantolen, gan y gallai hyn godi mewn llu o brosiectau eraill yn y dyfodol. Gwyddom, o ymddangosiad Ysgrifennydd y Cabinet yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, fod ei adran wedi cronni cannoedd o dudalennau o arbenigedd yn y maes hwn gan ei fod wedi codi yng nghyd-destun y model buddsoddi cydfuddiannol.

Mewn perthynas â’r penderfyniad penodol hwn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’r unigolyn a baratôdd y papur ar ddosbarthiad y fantolen, a aeth i’r Cabinet yr wythnos diwethaf, yn rhan o’i dîm? Nid wyf yn chwilio am enw, dim ond ceisio deall cyfrifoldeb adrannol. Felly, a gomisiynwyd y papur dan sylw ganddo ef—gan yr Ysgrifennydd cyllid—neu a oedd yn gwybod ei fod wedi’i gomisiynu? Ac a welodd y papur cyn y cyfarfod yr wythnos diwethaf?

Y Gweinidog arweiniol mewn perthynas â Chylchffordd Cymru, wrth gwrs, yw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Fel rhan o’r gwaith diwydrwydd dyladwy ar y cynigion a gyflwynwyd gan y cwmni, roedd swyddogion o fy adran yn rhan o’r gwaith a wnaed ar gyflawni’r diwydrwydd dyladwy hwnnw ac fe wnaethant gyfrannu at yr asesiad a roddwyd at ei gilydd a’i arwain, yn y pen draw, gan Ken Skates.

Soniais am y model buddsoddi cydfuddiannol, ond rwy’n deall o’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma, nad yw’n credu bod y mater, a nodwyd fel rhan o’r penderfyniad ynglŷn â Chylchffordd Cymru, yn effeithio ar y dosbarthiad mewn perthynas â’r model buddsoddi cydfuddiannol. A allai ddweud ychydig bach rhagor ynglŷn â pham ei fod yn credu hynny, ac os felly, oni ystyriwyd dull tebyg o weithredu ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru? A all ddweud hefyd a yw’n ymwybodol, yn yr achos hwn, pa un a gysylltwyd ag unrhyw un o’r canlynol am gyngor neu arweiniad o ran dosbarthiad mantolen Cylchffordd Cymru? Fe’u darllenaf yn araf: tîm dosbarthiadau gwariant cyhoeddus Trysorlys Ei Mawrhydi; tîm dosbarthiadau ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol; pwyllgor dosbarthiadau ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol; ac yn olaf, pwyllgor Eurostat ar ystadegau ariannol, cyllidol a mantoli taliadau.

Wel, mae’r rheswm, Llywydd, pam y dywedais wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma nad oeddwn yn credu bod y penderfyniad mewn perthynas â Chylchffordd Cymru yn effeithio’n uniongyrchol ar y model buddsoddi cydfuddiannol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi at ei gilydd yn fater o amseru yn gymaint ag unrhyw beth arall. Daeth un cyn y llall. Roeddem eisoes wedi datblygu ein model buddsoddi cydfuddiannol. Roeddwn eisoes wedi gwneud datganiad yn ei gylch ar lawr y Cynulliad hwn ac wedi ateb cwestiynau amdano, ac roeddem eisoes wedi gorfod cyflwyno’r model hwnnw i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac i Eurostat er mwyn bodloni’n hunain nad oedd y ffordd roedd y model buddsoddi cydfuddiannol wedi ei strwythuro yn creu risg sylweddol y byddai’r prosiectau hynny a oedd i’w cynnwys ynddo yn cael eu rhoi ar y mantolenni cyhoeddus yn y pen draw. Gwnaethom hynny, fel y gwyddoch, i raddau helaeth iawn yn sgil profiad Llywodraeth yr Alban, lle bu’n rhaid i’w model cyfatebol ddod o hyd i filiynau lawer o bunnoedd yn uniongyrchol o gyfalaf cyhoeddus yn y pen draw. Felly, mae’r gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, ac rydym wedi cael y cyngor hwnnw. Yn hynny o beth, nid wyf yn credu bod yn rhaid ailedrych arno yng ngoleuni prosiect cwbl ar wahân.

O ran cwestiynau manwl yr Aelod ynglŷn â ble y gofynnwyd am gyngor, nid yw’r wybodaeth honno gennyf wrth law. Gwn mai’r wybodaeth a’r cyngor a ddaeth gan y rhai a gymerodd y cyngor hwnnw oedd bod risg sylweddol iawn y byddai Cylchffordd Cymru yn cael ei dosbarthu i’r cyfrifon cyhoeddus, ac y byddai hynny wedi cael effaith mawr iawn ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiectau buddsoddi cyfalaf rydym eisoes wedi’u cyhoeddi ac yr ymrwymasom i’w darparu yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf na all y Swyddfa Ystadegau Gwladol roi dyfarniad terfynol hyd nes y caiff contractau eu llofnodi mewn perthynas â chynigion y prosiect, ond mae’n wir y gallant roi dyfarniad dros dro ar ddosbarthiad. Rwy’n dibynnu yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ganllawiau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y broses ddosbarthu, sy’n dweud:

O bryd i’w gilydd, gofynnir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol roi cyngor dosbarthu ar gynigion polisi fel y gall y llywodraeth ddeall sut y byddai’r cynigion hyn yn cael eu trin yn y cyfrifon cenedlaethol… Bydd unrhyw benderfyniad dosbarthu ar sail cynnig polisi sydd bron yn derfynol yn cael ei ystyried yn benderfyniad "dros dro" a bydd yn ddibynnol ar y cynnig yn cael ei roi ar waith fel y disgrifiwyd.

Felly, fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: a wnaeth y Llywodraeth, mewn perthynas â’r prosiect hwn, ofyn, nid am gyngor cyffredinol ynglŷn â risg dosbarthiad, ond am ddyfarniad dros dro, fel y nodir o dan adran 6, cynigion polisi’r Llywodraeth, yng nghanllawiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y broses ddosbarthu?

Wel, Llywydd, rwy’n gyfarwydd iawn â’r canllawiau y mae’r Aelod newydd eu darllen, oherwydd mewn perthynas â’r model buddsoddi cydfuddiannol, dyna’n union yw safbwynt y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Maent wedi darparu safbwynt cyffredinol i ni na fyddai’r model, fel rydym wedi’i ddatblygu, yn cael ei ddosbarthu ar y llyfrau cyhoeddus yn y pen draw, ond maent yn cadw’r hawl, mewn unrhyw brosiect penodol y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef wedyn drwy’r model hwnnw—boed yn Felindre neu Flaenau’r Cymoedd neu beth bynnag y bo—i roi dyfarniad ar wahân i ni mewn perthynas â’r prosiect hwnnw. Felly, y fethodoleg a ddarllennodd Adam Price yw’r union ffordd y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflawni eu busnes.

Roedd y Llywodraeth yn fodlon, Llywydd, o’r cyngor a gawsom, fod y risg o ddosbarthu’r prosiect, fel y’i cyflwynwyd i’r Llywodraeth, i’r llyfrau cyhoeddus yn rhy fawr i ni i fwrw ymlaen ar y sail a nodwyd.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ni chefais ymrwymiad clir gan y Prif Weinidog ddoe mewn perthynas â chynnwys ffrwd glir ar gyfer lleihau tlodi yn y broses o ddiwygio awdurdodau lleol yn y dyfodol. Nawr, mae eich Papur Gwyn yn nodi’r angen i edefyn aur sy’n cysylltu dyheadau ar lefel y gymuned ag amcanion lles ddod yn realiti. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau bod edefyn aur o ran lleihau tlodi yn cael ei flaenoriaethu yn yr un modd fel realiti yn eich amcanion arfaethedig ar gyfer y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen, gyda chyfeiriad strategol wedi’i nodi’n glir, uchelgais, amcanion a chanlyniadau y gellir eu cyflawni?

Nid wyf yn sicr, Llywydd, fy mod yn dilyn yr hyn y gofynnir i mi ymrwymo iddo yn iawn. Yr hyn y byddaf yn ymrwymo iddo yw hyn: mai awdurdodau lleol yng Nghymru, drwy natur y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, yw dewis olaf y wladwriaeth les yn aml wrth ymdrin â phobl y mae eu hamgylchiadau mor anodd fel bod arnynt angen cymorth gwasanaethau digartrefedd, neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu adrannau iechyd y cyhoedd, hefyd. Felly, ymddengys i mi fod edefyn aur yn bodoli eisoes o ran yr hyn y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Fy ymagwedd i tuag at lywodraeth leol, Llywydd, yw’r un a nodir yn y Papur Gwyn. Fy nod yw darparu blwch offer newydd, adnewyddedig ac estynedig i bob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn iddynt gael set fwy o bosibiliadau y gallant eu defnyddio yn y ffordd sy’n diwallu eu hanghenion a’u hamgylchiadau lleol orau. Ac yna, mae’n rhaid i ni fod yn fwy parod nag y buom yn y gorffennol i ganiatáu iddynt wneud y penderfyniadau hynny, i fod yn atebol amdanynt i’w hetholwyr lleol, ac i allu ymateb i’r amgylchiadau sy’n eu hwynebu ac sydd agosaf atynt yn eu hardaloedd eu hunain.

Diolch. Wrth gwrs, bydd yr edefyn aur hwn—eich geiriau chi, nid fy rhai i—yn gofyn am gydweithio agos rhwng cynghorau cymuned, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac unrhyw drefniadau rhanbarthol, ac efallai y bydd y broses o ddiwygio yn gofyn am ad-drefnu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae eich Papur Gwyn yn argymell eu bod yn cydweithredu, neu hyd yn oed yn uno ar draws ffiniau byrddau iechyd lleol. O ystyried bod y cynigion ar gyfer pwyllgorau ardaloedd cymunedol bellach wedi cael eu diddymu, nid oes llawer o sôn am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil blaenorol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ddadansoddiad a wnaethoch o ran prisio newidiadau o’r mathau hyn wrth symud ymlaen?

Wel, Llywydd, wrth gwrs, bydd costau a manteision y cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn cael eu nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â’r Bil llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn rhan o raglen yr ail flwyddyn pan wnaeth y datganiad deddfwriaethol yr wythnos diwethaf. A cheir asesiad effaith rheoleiddiol newydd a fydd yn adlewyrchu’r set o argymhellion a fydd wedyn gerbron y Cynulliad. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â byrddau gwasanaethau lleol, ac mae’n iawn i nodi’r ffaith y bu diddordeb yn yr ymgynghoriad o ran y ffordd y byddem efallai’n adlinio byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel y gallant gyd-fynd yn well â’r set newydd o amgylchiadau gyda mwy o bwyslais ar weithio rhanbarthol ac ati fel y nodwyd yn y Papur Gwyn. Ac rwy’n bendant yn bwriadu mynd ar drywydd rhai o’r safbwyntiau a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad, ac edrych ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng nghyd-destun y trefniadau newydd hyn.

Diolch unwaith eto. Wrth gwrs, disgwylir y bydd gwariant awdurdodau lleol ar weinyddu canolog yn codi £11 miliwn eleni, tra bydd gwariant ar ffyrdd a thrafnidiaeth yn gostwng £2.73 miliwn, a’r gwariant ar lyfrgelloedd, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a hamdden yn gostwng bron i £4 miliwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn dweud pethau mawr ynglŷn â llywodraeth leol symlach, ond mae’r ffigurau hyn yn awgrymu mwy o fiwrocratiaeth. Nid yw blynyddoedd o ansicrwydd ynglŷn â diwygio ac ad-drefnu wedi helpu o gwbl. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch awgrymu pam y disgwylir i’r costau hyn godi mor sylweddol, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau cyllidebu cadarn a chyfrifol yn y maes hwn?

Wel, Llywydd, y cyfraniad unigol mwyaf i’r cynnydd yn y ffigur o £11 miliwn yw’r ffigur gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a thynnodd yr Aelod fy sylw at hynny, wrth gwrs, yn y Siambr y mis diwethaf. I raddau, mae rhai materion dosbarthu yn sail i’r ffigur—pethau’n cael eu dosbarthu mewn ffordd wahanol.

Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw arweinydd awdurdod lleol, Llywydd, nad yw’n dweud wrthyf pa mor awyddus ydynt i geisio lleihau faint o arian a wariant ar y swyddogaethau hynny er mwyn rhyddhau arian ar gyfer y rheng flaen. Y gwir amdani, fel rwyf wedi’i ddweud yma yn y gorffennol, ac fel yr ailadroddais wrth drysoryddion awdurdodau lleol unwaith eto yr wythnos diwethaf, yw eu bod yn wynebu adegau hyd yn oed yn fwy anodd i ddod. Bydd y gyllideb sydd ar gael i’r Llywodraeth hon yn lleihau y flwyddyn nesaf, a’r flwyddyn wedyn, ac eto’r flwyddyn ar ôl hynny, ac nid oes dianc rhag y ffaith y bydd y gostyngiadau hynny’n effeithio ar ein gallu i ariannu ein partneriaid i wneud yr holl bethau yr hoffent eu gwneud hefyd. Felly, mae llywodraeth leol yn deall yn dda iawn beth yw’r cymhelliant a’r ysgogiad i awdurdodau lleol wasgu cymaint o arian ag y gallant o wasanaethau ystafell gefn, gan rannu trefniadau gweinyddol, a bod yn fwy effeithlon o ran y ffordd y maent yn cynhyrchu gwasanaethau cymorth, a bydd y diwygiadau hynny y byddwn yn eu cyflwyno yn eu cynorthwyo i wneud hynny.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, rydych newydd fod yn siarad am y diwygiadau arfaethedig i lywodraeth leol. Credaf mai un o’r materion sydd wedi dod i’r amlwg, o’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym hyd yn hyn, yw thema lleoliaeth yn erbyn yr angen am ffyrdd systematig a gorfodol o weithio, i ddefnyddio eich ymadrodd chi. Mewn geiriau eraill, mae arnom angen i gynghorau allu gweithredu yn eu ffordd eu hunain i ryw raddau, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau ar gyfer Cymru gyfan mewn rhai meysydd. Cododd mater yn ddiweddar yn Lloegr ynglŷn ag a allai neu a ddylai cyngor fod wedi gwahardd y wasg o gyfarfod. Nawr, ceir problem yng Nghymru o ran amrywioldeb darllediadau teledu o gyfarfodydd cynghorau, felly pa mor bell y byddwch yn mynd ar drywydd gorfodi gwaith systematig a gorfodol yn y maes hwn?

Diolch, Llywydd. Wel, bydd Gareth Bennett yn ymwybodol—rwy’n gwybod, am ei fod wedi codi hyn gyda mi o’r blaen—fod ein Papur Gwyn yn gwneud cyfres o gynigion a fydd yn rhoi mwy o rwymedigaethau ar awdurdodau lleol i ddarlledu eu trafodion ac i sicrhau bod eu trafodion ar gael i’r cyhoedd. Rwy’n credu bod y rhannau hynny o’r Papur Gwyn wedi cael croeso, yn gyffredinol, yn yr ymgynghoriad. Rydym wedi dibynnu, i raddau, ar anogaeth yn y maes hwn yn y gorffennol. Bydd y Bil llywodraeth leol yn rhoi cyfle inni ddeddfu er mwyn sicrhau bod y safonau sy’n gwneud llawer iawn o’n cynghorau yn hygyrch ac yn agored ar gael ym mhob un ohonynt.

Ie, diolch am hynny. Yn sicr, credaf fod y dull o annog yn gyntaf yn ddoeth, er y byddai angen gorfodi, ar ryw bwynt, yr hyn a gyflwynwyd gennych o bosibl. Felly, yn arwain ymlaen o hynny, mae’r cwestiwn ynglŷn â phryd y dylech ymyrryd mewn achosion os yw cyngor yn mynd i anawsterau. Er enghraifft, mae sgandalau cyflog hirfaith wedi bod mewn llywodraeth leol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae o leiaf un ohonynt yn dal i fynd rhagddo. Nawr, nid wyf am i chi roi sylwadau ar unrhyw achosion penodol, ond yn gyffredinol, a oes rôl i chi ymyrryd mewn achosion lle y ceir problemau hirdymor, nad ymddengys eu bod yn cael eu datrys ac sy’n tueddu efallai i ddwyn anfri ar lywodraeth leol?

Wel, Cadeirydd, ceir gweithdrefnau sydd—yn gwbl briodol—yn rheoli’r ffordd y gall Gweinidogion Cymru ymyrryd pan fydd pethau’n mynd o chwith mewn llywodraeth leol. Mae hynny’n aml yn dibynnu ar gyngor gan y rheoleiddwyr, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, a lle rydym wedi gorfod ymyrryd, lle bu methiant mewn adrannau addysg neu fethiant mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol, credaf fod y protocolau hynny a’r ffyrdd hynny o wneud pethau wedi bod yn effeithiol ar y cyfan. Maent wedi ein galluogi i nodi’r mannau lle mae angen ymyrraeth, ac yn bwysig iawn, maent yn cynnwys llwybr allan o ymyrraeth hefyd. Felly, lle y gall awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi datrys y problemau a nodwyd, gallwn gamu’n ôl a’u galluogi i barhau â’r cyfrifoldebau hynny, ac rydym yn gweld hynny’n digwydd yn llwyddiannus ar lefel gwasanaethau unigol. Ac yn achos Ynys Môn, yn achos y cyngor yn ei gyfanrwydd, adferiad llwyddiannus gan yr awdurdod lleol hwnnw. Yr hyn a ddywedwn wrth Gareth Bennett yw y credaf ei bod yn bwysig iawn dysgu gwersi o hynny, a lle mae gennym enghreifftiau eraill lle’r ymddengys bod prosesau’n parhau am ormod o amser a lle mae’n anodd cyrraedd penderfyniad, yna mae angen inni edrych yn ôl ar hynny a gweld a oes angen tynhau’r prosesau hynny, lle maent yn dibynnu ar allu Llywodraeth Cymru i ymyrryd, er mwyn sicrhau bod yr amgylchiadau hynny’n glir ac na ellir eu hosgoi.

Ie, diolch. Rydych wedi cyfeirio at Ynys Môn fel enghraifft lle y cafodd y broblem ei datrys, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar enghreifftiau o’r gorffennol a lle y llwyddodd Llywodraeth Cymru, i edrych ar hynny fel ffordd o ymdrin ag achosion a ddaw ger eich bron yn y dyfodol. Nawr, unwaith eto, mae hyn braidd yn anodd gan nad wyf am gyfeirio at achos penodol, ond os oes achos lle mae anghydfod cyflog wedi cael llawer o sylw yn y newyddion a’i fod wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair blynedd, a fyddai’r pwynt pedair blynedd yn tueddu i fod o ddiddordeb i chi fel pwynt lle y gallai fod angen i chi ymyrryd yn yr achos damcaniaethol hwnnw?

Wel, Llywydd, credaf y byddwn yn ei roi fel hyn: hyd yn oed mewn achos o’r fath, byddai set o reolau’n cael eu dilyn, a byddwn yn awyddus i sicrhau o safbwynt Llywodraeth Cymru fod y llyfr rheolau, fel y mae heddiw, yn cael ei ddilyn yn fanwl gywir. Y sicrwydd roeddwn am ei roi i’r Aelod wrth ateb ei ail gwestiwn yw pan ddaw’r mater hwnnw i ben, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ailedrych ar y broses gyfan i weld a ydym yn credu bod y llyfr rheolau, fel y gweithredodd, yn gymesur â’r mater roedd yno i’w ddatrys. Ac os teimlwn, yng ngoleuni’r profiad hwnnw, fod angen diwygio’r llyfr rheolau, a rhoi set newydd o drefniadau ar waith sy’n sicrhau bod ymyrraeth yn bosibl mewn ffordd amserol ac sy’n caniatáu i faterion gael eu datrys, dyna’r set o wersi y gobeithiaf allu eu dysgu o’r profiad hwnnw.

Cymunedau a Phlant

3. Beth oedd blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet wrth ddyrannu arian i brif grŵp gwariant cymunedau a phlant yng nghyllideb derfynol 2017-18? OAQ(5)0145(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyllideb derfynol 2017-18 yn alinio buddsoddiad ag ymrwymiadau allweddol yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Ym mhrif grŵp gwariant cymunedau a phlant, mae hynny’n cynnwys £10 miliwn yn ychwanegol i gefnogi ein cynnig gofal plant di-dâl, £6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd, ac £1.4 biliwn dros bedair blynedd tuag at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Diolch. Yn amlwg, mae’r portffolio hwn yn cynnwys pethau fel teuluoedd, plant, diwygio lles, cynhwysiant ariannol, digartrefedd a chyngor ar dai yn y sector gwirfoddol. Mae cael cyngor yn y meysydd hynny nid yn unig yn well i bobl, ond byddai’n arbed arian mewn gwirionedd i bwrs y wlad. Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu, ochr yn ochr â’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol, cyn cyllideb 2017-18, yr adroddiad a gyhoeddwyd bellach ar fodelu’r angen am gyngor ar les cymdeithasol, pa ystyriaeth a roddwyd i ddarpariaeth i fwrw ymlaen â’i gasgliadau, y dywedant fod angen bellach iddynt gael eu fframio’n gywir mewn trafodaeth ehangach ar y polisi sy’n ystyried difrifoldeb posibl y problemau, eu cydgysylltiad, ac wrth gwrs, mewnwelediad lleol?

Wel, Llywydd, rwy’n deall y pwynt a wna’r Aelod ynglŷn â’r angen am wasanaethau cynghori da a’r ffordd y gall cyngor da ganiatáu i broblemau gael eu datrys cyn iddynt waethygu. Y ffordd y mae’r broses o lunio’r gyllideb yn gweithio, fodd bynnag, yw mai cyfrifoldeb y Gweinidogion portffolio yw nodi blaenoriaethau o fewn yr ystod o gyfrifoldebau a gyflawnant. Rydym wedyn yn negodi cyllideb gyda’n gilydd ar gyfer cyflawni’r blaenoriaethau hynny, ac Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb a fyddai’n gwneud y penderfyniadau mewn perthynas â’r defnydd o adnoddau ar draws yr ystod eang o gyfrifoldebau, fel y dywedodd Mark Isherwood, sydd i’w cael o fewn y portffolio penodol hwnnw. Rydym wedi dechrau ar y cylch cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dan sylw mewn perthynas â’i bortffolio a byddaf yn sicrhau bod cwestiwn penodol yn cael ei ofyn yn y drafodaeth ynglŷn â’r pwynt a gododd yr Aelod am wasanaethau cynghori.

Model Newydd ar gyfer Llywodraeth Leol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr arbedion a ragwelir o ganlyniad i fodel newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol? OAQ(5)0147(FLG)

Wel, Llywydd, fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Janet Finch-Saunders, bydd y costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r model newydd ar gyfer llywodraeth leol yn cael eu cyhoeddi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â’r Bil llywodraeth leol arfaethedig, wrth ei gyflwyno. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn natganiad y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos diwethaf y byddai Bil llywodraeth leol yn cael ei gynnwys yn rhaglen y Llywodraeth ar gyfer ail flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.

Diolch i Weinidog y Cabinet am ei ateb. Ond i fynd ar ôl nifer o sylwadau a wnaed gennych yn gynharach, onid ydych yn cytuno bod sawl ymgais wedi bod i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys yr ymgais aflwyddiannus i gyflwyno argymhellion comisiwn Williams, a bod y drefn bresennol o 22 awdurdod lleol wedi bod yn annerbyniol yn ariannol ac yn strategol? Ar wahân i’r ffaith fod gennym 22 o brif weithredwyr ar gyflogau uchel iawn, gyda 22 set o staff i’w cynorthwyo wrth gwrs, nid yw’r awdurdodau yn ddigon mawr i roi unrhyw brosiectau seilwaith ar waith gan fod eu cyllidebau yn annigonol. Felly, onid yw’n derbyn bod arnom angen newid gwirioneddol i lywodraeth leol, yn hytrach na’r trefniadau anghydlynol sydd ar waith ar hyn o bryd?

Wel, mae’r Aelod yn llygad ei le wrth roi’r hanes a nododd ynglŷn â’r ymdrechion i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Credaf ei fod yn rhy llym ynglŷn ag i ba raddau y gallodd llywodraeth leol yng Nghymru fyw o fewn ei modd a llwyddo i gyfrannu, gyda’i gilydd, at raglenni strategol pwysig. Ond yn sicr, yr angen i ddod ynghyd er mwyn gallu cyflawni cyfrifoldebau strategol ar sail ehangach a arweiniodd at y 10 awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i ffurfio bargen ddinesig prifddinas Caerdydd a’r pedwar awdurdod lleol a lwyddodd i gael bargen ddinesig ar gyfer Abertawe. Drwy ddod at ei gilydd yn y ffordd honno, maent yn sicr yn gallu gweithio’n well ar draws eu ffiniau, er mwyn creu cyllidebau y gallant i gyd gyfrannu atynt, defnyddio arian o gyllidebau canolog a chyllidebau Llywodraeth Cymru, a chyflawni’n well mewn perthynas â’r math o gyfrifoldebau a nododd yr Aelod.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw yn y gorffennol at wariant cyrff cyhoeddus ar ymgynghorwyr allanol—£56 miliwn y llynedd—ac wedi nodi, os nad ydynt yn rheoli gwasanaethau ymgynghori yn effeithiol, y gallant fod yn ffordd ddrud o ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfamser, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi sicrhau dros £20 miliwn mewn arbedion caffael yn 2015-16, dros £27.5 miliwn yn 2014-15, a £26.9 miliwn yn 2013-14. O ystyried maint yr arbedion hynny, sy’n ganmoladwy, ni ellir ond dychmygu beth y gellid ei gyflawni ar lefel llywodraeth leol ledled Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn ceisio annog y broses o gyflwyno arferion gorau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar draws yr awdurdodau lleol drwy eich cynigion diwygio eich hun?

Llywydd, wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod: bod cydwasanaethau’r GIG wedi bod yn llwyddiant amlwg. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i newid o’r patrwm gwreiddiol, lle’r oedd bron bob un o sefydliadau iechyd Cymru yn darparu’r holl wasanaethau hyn drostynt eu hunain, i bwynt lle mae gennym un sefydliad cydwasanaethau ar gyfer Cymru gyfan. Rhan o’r rheswm pam y cymerodd gymaint â hynny o amser oedd oherwydd bod pobl yn gweithio ym mhob un o’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i chi ystyried safbwynt y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn. Yn ein Papur Gwyn, gofynnwyd yn benodol a oedd mwy y gallai cydwasanaethau’r GIG ei wneud i weithio dros awdurdodau lleol yn y maes hwn, neu a fyddai’n well i awdurdodau lleol ddatblygu eu model cydwasanaethau eu hunain. Mae rhywfaint o amharodrwydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru i droedio llwybr cydwasanaethau, ac mae angen i’n partneriaid llywodraeth leol glywed y neges yn glir fod y symudiad tuag at gydwasanaethau yn daith y mae pob un ohonynt wedi cychwyn arni. Byddaf yn barod i fod yn oddefgar ac yn bragmataidd gyda hwy ynglŷn â faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyrraedd y pwynt lle y ceir mwy o gydweithredu, ond ni ddylai unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru fod ag unrhyw amheuaeth o gwbl fod pob un ohonom ar y daith hon a’u bod hwy arni hefyd.

Y Cyflog Byw Sylfaen

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dalu’r cyflog byw sylfaen gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(FLG)

Diolch am eich cwestiwn. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhoi amryw o gamau gweithredu ar waith ar gyflogau isel. Mae rhai’n talu’r cyflog byw i’w gweithwyr, rhai’n bwriadu ei gyflwyno, ac eraill yn symud yn agosach tuag ato drwy gael gwared ar bwyntiau cyflog is.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd wedi cynnal arolwg diweddar o’r cyflogwyr hynny ledled y DU sydd wedi dewis bod yn gyflogwyr cyflog byw achrededig, hynny yw, talu’r cyflog byw sylfaen, sef £8.45, wrth gwrs—bron i £1 yn fwy nag isafswm cyflog cenedlaethol y DU—a sicrhau bod y contractwyr a ddefnyddiant yn talu cyfraddau’r cyflog byw sylfaen. Nododd mwyafrif llethol y rhai a holwyd nid yn unig fod y manteision yn llawer mwy nag unrhyw gostau, ond bod llai nag un o bob pump wedi gorfod newid contractwyr, gan eu bod hwythau wedi bod yn fodlon talu’r cyflog byw sylfaen hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod awdurdodau lleol, mewn sawl ardal yng Nghymru, ymhlith y cyflogwyr mwyaf, a wnewch chi ymuno â mi i annog pob cyngor yng Nghymru i ddarparu arweiniad yn eu cymunedau lleol nid yn unig drwy dalu’r cyflog byw sylfaen i staff a gyflogir yn uniongyrchol, ond i fynd gam ymhellach a cheisio cyflawni’r safonau achredu drwy sicrhau bod eu contractwyr yn ei dalu hefyd?

Wel, Llywydd, credaf fod Dawn Bowden wedi gwneud pwynt pwysig iawn ar ddechrau ei chwestiwn atodol, pan nododd ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i lawer o sefydliadau dalu cyflogau o’r math hwn, sy’n golygu y gallant recriwtio a chadw staff. Yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma, buom yn siarad yn fyr am ofal cymdeithasol fel enghraifft o’r union ffenomen honno. Gall trosiant staff ym maes gofal cymdeithasol fod hyd at 30 y cant yn flynyddol, ac eto gwyddom, lle mae awdurdodau lleol a chwmnïau gofal yn talu eu staff ac yn eu trefnu’n unol â thelerau ac amodau sy’n ei gwneud yn ddeniadol i bobl wneud y swyddi hynny, i aros yn y swyddi hynny, i fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael o ganlyniad i hynny, fod hwnnw’n fodel busnes mwy llwyddiannus i’r cwmnïau hynny ac i’r awdurdodau hynny na’u bod yn ceisio talu ar waelod y raddfa gyflogau, ac yna’n gorfod ymdopi â holl gostau eraill recriwtio, ailhyfforddi a gorfod cyflogi staff dros dro i gyflenwi pan fo bylchau yn y gweithlu. Felly, credaf ei bod wedi dadlau’r achos dros dalu cyflog byw sylfaen mewn termau y gall awdurdodau lleol a chyflogwyr eu deall, ac rwy’n awyddus iawn, fy hun, i ddadlau’r achos hwnnw gyda hwy pan gaf y cyfle i wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd ychwanegu fy nghefnogaeth i’r duedd hon sy’n datblygu? Deallaf fod dros 80 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru bellach yn talu’r cyflog byw sylfaen, gan gynnwys, Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd. Credaf fod y pwynt a wnewch yn hollol gywir. Mae gennym argyfwng cynhyrchiant yn y wlad hon, ac mae llawer ohono’n deillio o gyflogau sy’n rhy isel, yn syml iawn. Mae angen i’r rhan honno o’r economi arloesi, a hefyd, yn amlwg, darparu safonau byw gweddus i’r rhai a gyflogir ynddi. Felly, credaf fod y ddadl ynglŷn â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn bwysig tu hwnt, a byddwn yn gweld hyn yn cael ei arfer fwy a mwy gan yr 80 o gwmnïau a’r rhai a fydd yn ymuno â hwy dros y blynyddoedd i ddod, rwy’n siŵr.

Wel, cytunaf yn llwyr â David Melding mai cyflogau isel yw gelyn cynhyrchiant, ac rydym wedi gweld hynny yn economi’r DU dros y saith mlynedd diwethaf. Pan fo cyflogau’n cael eu cadw’n isel, mae’n dod yn gymhelliant gwrthnysig i gyflogwyr gadw gweithwyr, lle y gallent fod wedi cymryd camau eraill a fyddai wedi arwain at fwy o gynhyrchiant, ac o ganlyniad, cyflogau gwell i’r bobl a gyflogir ganddynt. Rwy’n falch o ddweud, Llywydd, yn ogystal â’r Cynulliad Cenedlaethol a chyngor Chaerdydd, fel y dywedodd yr Aelod, fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gyflogwr cyflog byw achrededig gyda’r Living Wage Foundation, ac nid yn unig ein bod yn sicrhau y telir y cyflog byw i’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol, gan gynnwys prentisiaid, ond mae ein cytundeb fel Llywodraeth yn mynd y tu hwnt i staff a gyflogir yn uniongyrchol. Yng nghontractau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl i ddarparwyr pob gwasanaeth a gontractir allan dalu’r cyflog byw i’w staff ar safle hefyd.

Gwasanaethau Cyhoeddus Datganoledig

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i asesu gwydnwch gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y dyfodol yn sgil polisi cyni parhaus Llywodraeth y DU? OAQ(5)0151(FLG)

Llywydd, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus a chyrff arolygu, archwilio, a rheoleiddio Cymru i helpu i liniaru’r polisi caledi diffygiol ac aflwyddiannus.

Diolch iddo am ei ateb. Wrth wraidd y cwestiwn ynglŷn â gwydnwch, fel rydym newydd fod yn ei drafod, mae mater lles a chynhyrchiant y gweithlu, y gallu i recriwtio a chadw talent, ac wrth wraidd hynny, mae mater cyflog. Felly, a wnaiff ymuno â mi i resynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac effaith hynny ar allu Llywodraeth Cymru i ariannu, mewn rhannau eraill o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, y math o setliadau cyflog rydym eu heisiau a’u hangen? A yw’n cytuno â mi fod angen i Lywodraeth y DU fynd y tu hwnt i sesiynau briffio a goreograffwyd gan Weinidogion y Cabinet ar y mater hwn ac ildio go iawn ar fater caledi o ran cyflogau’r sector cyhoeddus? Ac a wnaiff ymuno â mi i obeithio y gellir cyfeirio talentau, egni, ac angerdd Plaid Cymru i gefnogi pwysau Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU, yn hytrach na chreu’r math o raniadau a welsom yn y Siambr ddoe?

Wel, Llywydd, yn sicr, cytunaf y dylai Canghellor y Trysorlys wrando ar ei gydweithwyr yn y Cabinet a rhoi diwedd ar y cap niweidiol ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Clywsoch y Prif Weinidog yn gwneud yr union bwyntiau hyn ddoe. Gwyddom fod gweithwyr y sector cyhoeddus, ers 2010, wedi gweld y cyflog cyfartalog yn gostwng 4.5 y cant mewn termau real, ac mae hynny’n niweidiol iddynt hwy ac i’w teuluoedd, ond hefyd i’r cymunedau lle maent yn byw, gan ei fod yn cyfyngu ar alw effeithiol yn yr economi, a dyna pam y dywedais, yn fy ateb cyntaf i Jeremy Miles, fod polisi caledi yn bolisi cynhenid ddiffygiol. Ni allwch dorri eich ffordd allan o ddirwasgiad, a dyna mae’r Llywodraeth hon wedi ceisio’i wneud, ac wrth wneud hynny, mae wedi ychwanegu at y broblem, yn hytrach na cheisio’i datrys. Byddai cael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus yn ffordd werthfawr iawn o ysgogi’r economi yn ei chyfanrwydd.

Wel, gallwch edrych ar galedi mewn dwy ffordd: gallwch edrych arno fel rydych chi’n edrych arno, fel polisi aflwyddiannus, Ysgrifennydd cyllid, neu gallwch edrych arno—[Torri ar draws.] Neu gallwch edrych arno fel byw o fewn eich modd. Gŵyr pob un ohonom beth sy’n digwydd pan fo’r Blaid Lafur yn cael eu dwylo ar y cyllid. Mae’n troelli allan o reolaeth, a’r genhedlaeth nesaf sy’n gorfod wynebu’r ddyled. [Torri ar draws.] Rwy’n deall mai dim ond gwario arian pobl eraill y mae’r pleidiau ar y chwith am ei wneud, mae’n wir, ond gan ddychwelyd at y cwestiwn—[Torri ar draws.]

Ond gan ddychwelyd at y cwestiwn, cyfeiria’r cwestiwn at wydnwch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Roeddwn yn meddwl tybed a yw’r Ysgrifennydd cyllid wedi cael cyfle i gael sgwrs fanwl o amgylch bwrdd y Cabinet ynglŷn â sut y bydd y Cabinet yn defnyddio’r gwariant cyfalaf ychwanegol sydd ar gael drwy’r adolygiad cynhwysfawr o wariant? Credaf fod oddeutu £400 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer gwariant cyfalaf a fydd yn gwella gwydnwch a chydnerthedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac a wnaiff ddatganiad ynglŷn â sut y bydd yn dyrannu’r arian ychwanegol hwn dros oes yr adolygiad cynhwysfawr o wariant?

Llywydd, fe sylwais fod y gwleidyddion Ceidwadol, pan oedd eu swyddi eu hunain yn y fantol, wedi gallu dod o hyd i ddigon o arian i’w basio i’r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau mewn gwaith. Nid oedd unrhyw broblem gyda’r polisïau caledi bryd hynny. Daw caledi i ben mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig, wedi’i dalu amdano gan bobl yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu ein bod yn gallu gweld yn union pa mor bell y glynwyd wrth bolisïau caledi pan oedd swyddi gwleidyddion y blaid Geidwadol eu hunain yn y fantol. Cwestiwn difrifol yr Aelod oedd ei gwestiwn olaf, ac mae’n ymwneud â’r gyllideb gyfalaf. Bydd yn ymwybodol fy mod wedi gallu cyflwyno cyllideb gyfalaf bedair blynedd gerbron y Cynulliad fel rhan o gylch cyllidebol y llynedd, a gwn fod hynny wedi cael ei groesawu’n eang, gan ein partneriaid a chan fusnesau preifat, gan fod yr angen i gynllunio gwariant cyhoeddus dros y tymor hwy hwnnw yn anochel yn bwysig iddynt. Rwy’n cymryd rhan, fel y dywedais yn gynharach, mewn cyfres o gyfarfodydd cyllideb gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet wrth i ni ddechrau’r cylch cyllidebol nesaf. Rwy’n trafod gyda phob un ohonynt sut y byddwn yn gallu defnyddio’r dyraniadau cymedrol iawn o gyfalaf ychwanegol a fydd ar gael i ni dros y pedair blynedd nesaf. Byddaf yn ceisio gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyfalaf cyhoeddus sydd ar gael i’r Llywodraeth hon at gyfres o ddibenion cyhoeddus pwysig, gan roi blaenoriaeth i’r buddsoddiadau sy’n rhyddhau refeniw, fel y gallwn ymdopi â’r toriadau parhaus i’n gallu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, nid ymddengys bod caledi’n hoff o gael ei draed yn wlyb ac nad yw’n croesi Môr Iwerddon, ond mae gwydnwch y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dibynnu ar gadernid fformiwla Barnett. Mae’r ffaith fod fformiwla Barnett wedi cael ei haddasu ond heb ei diwygio ar sail anghenion yn broblem barhaus i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Felly, pa asesiad y mae wedi’i wneud, gan adeiladu ar rai o’i bwyntiau cynharach, o oblygiadau’r cytundeb gyda’r DUP i fformiwla Barnett a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

Wel, Llywydd, nid yw fy ngwrthwynebiad i’r cytundeb gyda’r DUP yn ymwneud â’r ffaith fod y DUP wedi ennill cyfres o fuddsoddiadau ar gyfer pobl Gogledd Iwerddon; rwy’n siŵr y caiff y buddsoddiadau hynny eu croesawu’n fawr. Fy ngwrthwynebiad i’r cytundeb oedd y ffordd y mae wedi sathru ar y trefniadau ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, lle roedd yna fuddsoddiadau yng Ngogledd Iwerddon at ddibenion Gogledd Iwerddon yn unig a heb fod yn gyfrifoldebau i’r Cynulliad hwn neu’r Senedd yn yr Alban, neu’n wir, Gweinidogion Lloegr sy’n gyfrifol am wasanaethau yn Lloegr, rwy’n deall hynny’n llwyr. Ond lle mae gennych gytundeb sy’n rhoi arian tuag at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd, tuag at addysg, tuag at iechyd, tuag at seilwaith, nid oes unrhyw amwysedd o gwbl, a gall Gweinidogion y DU ymdrechu cymaint ag y dymunant i guddio tu ôl i’r print mân o ran y ffordd y caiff pethau eu trefnu—nid oes unrhyw amwysedd o gwbl mai’r egwyddor yw hon: os ydych yn buddsoddi yn y gwasanaethau prif ffrwd hynny mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig, eich bod yn darparu buddsoddiad cymesur ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Oherwydd mae cleifion yng Nghymru a phlant yng Nghymru yn haeddu’r un buddsoddiad yn eu dyfodol ag y mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn haeddu’r buddsoddiad y byddant yn ei gael yn awr.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a’r cwestiwn cyntaf—Jenny Rathbone.

Tyfu Bwyd ar Ystâd y Cynulliad

1. Pa gynnydd y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran tyfu bwyd ar ei ystâd? OAQ(5)008(AC)[R]

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn 2014, cynhaliwyd cynllun peilot gan grŵp o wirfoddolwyr staff i asesu dichonoldeb tyfu bwyd ar ystad y Cynulliad. Fel y byddwch yn sylweddoli, nid oes gan y Cynulliad fawr o ofod tyfu addas, yn wahanol i rai o ddeddfwrfeydd eraill y DU, ac yn anffodus, gwelwyd nad yw’n bosibl tyfu bwyd ar yr ystad, er bod ein harlwywyr yn tyfu perlysiau i’w defnyddio yn y gwasanaeth arlwyo.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Carwn herio’r rhagdybiaeth honno, gan fy mod yn ymwneud yn fy nghymunedau ag ardaloedd lle nad oes fawr ddim mannau gwyrdd, ac eto deuir o hyd i fannau gwyrdd er mwyn tyfu pethau. Oherwydd mae llawer iawn o dystiolaeth fod hynny’n gwella lles yn ogystal â hybu bywyd gwyllt. Cafwyd menter yn ystod y Cynulliad diwethaf, o dan arweiniad Julie Morgan, i annog Aelodau a staff i dyfu bwyd neu flodau ar yr ystad, a byddai’n hawdd i mi nodi mannau lle y gallem wneud hynny. Er enghraifft, ceir cynteddau sydd wedi troi’n dai gwydr yn yr haf, a gallwn fod yn tyfu tomatos, a byddent yn edrych yn ddeniadol—a llawer o engreifftiau felly, wyddoch chi, lle byddai pawb yn ennill. Rwy’n gofyn hyn am fy mod yn anesmwyth braidd wrth glywed bod y prif weithredwr newydd wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol yn darparu ateb tebyg i’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Gofynnaf i chi edrych eto ar hyn, ac rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi er mwyn ei drafod y tu allan i’r Cyfarfod Llawn.

Diolch, Jenny, am y wybodaeth honno, a byddaf yn sicr yn cyfarfod â chi i drafod ymhellach. Fodd bynnag, fe atebaf y cwestiwn yn y ffordd rwyf wedi paratoi ar hyn o bryd. Ond fe wnaf gyfarfod â chi yn nes ymlaen. Rydym yn ymwybodol o’r fenter wych. Fel y soniais, aseswyd dichonoldeb tyfu bwyd ar ein hystâd gan grŵp o wirfoddolwyr staff. Fodd bynnag, heb fawr o fannau gwyrdd ar gael, daeth y cynllun peilot i’r casgliad na fyddai modd tyfu fawr ddim bwyd ar ystâd y Cynulliad. Ceir llain o dir gerllaw’r Senedd. Fodd bynnag, nid yw’n eiddo i’r Cynulliad. Felly, er nad ydym wedi gallu tyfu bwyd, rydym wedi canolbwyntio ar blannu blodau gwyllt ac wedi gosod blychau adar ar y cyd â chynllun Rhoi Cartref i Natur RSPB i ddenu rhagor o fywyd gwyllt, adar, gwenyn a glöynnod byw i’r ystad. [Torri ar draws.] Mae prif weithredwr y Cynulliad—mae’n ddrwg gennyf. Mae prif weithredwr y Cynulliad—. Clywais rai pethau. Mae prif weithredwr y Cynulliad wedi bod yn gohebu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol yn ddiweddar ac wedi awgrymu, o ystyried y mannau tyfu cyfyngedig sydd ar gael ar ein hystad, efallai y gallem helpu i hyrwyddo eu gwaith mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, pe baent yn archwilio’r syniad o gynnal digwyddiad yn y Senedd. Ond fe wnaf gyfarfod â chi yn nes ymlaen i drafod ymhellach. Diolch.

Interniaethau â Thâl

2. A wnaiff y Comisiwn archwilio rhinweddau sefydlu cynllun lleoli Llywydd er mwyn gwella argaeledd interniaethau â thâl gydag Aelodau’r Cynulliad? OAQ(5)009(AC)

Diolch. Mae gan rai Aelodau brofiad o gynnal lleoliadau interniaeth yn y Cynulliad. Caiff y rhain eu rheoli ym mhleidiau gwleidyddol y Cynulliad a sefydliadau addysg uwch, neu gan Aelodau unigol trwy eu cysylltiadau eu hunain. Mae cyflwyno interniaid i waith y gwleidyddion a’r grwpiau gwleidyddol yn rhan bwysig o wneud y corff yma yn hygyrch ac o ennyn diddordeb pobl yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma. Byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth i’r syniad o symud i gynllun gan y Llywydd i ddarparu lleoliadau â thâl, o gofio’r trefniadau cymorth ariannol ar gyfer staff Aelodau’r Cynulliad.

Diolch i’r Llywydd. Diolch, Elin, am eich ymateb. Rwy’n falch o weld nad ydych wedi cau’r drws ar y syniad. Credaf ei fod yn werth ei archwilio. Eleni, mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi cyflwyno’r cynllun hwn, ac mae’n ymgais i oresgyn y problemau symudedd cymdeithasol gydag interniaethau a lleoliadau. Yn rhy aml o lawer, fel y gwyddom, mae lleoliadau yn tueddu i ffafrio’r teuluoedd sy’n gallu fforddio cynnal pobl ifanc sy’n mynd ar leoliadau hwy a swyddi preswyl, neu’r rheiny sydd â’r cysylltiadau iawn, a chredaf y byddai’n rhagorol pe gallai sefydliad blaengar fel hwn arwain y ffordd—nid dilyn yr hyn a wna’r Senedd yn unig, ond edrych ar gyfleoedd am ysgoloriaethau a gynorthwyir am gyfnodau byr o dri mis, er enghraifft, fel y gall myfyrwyr Cymru ddod yma i ddysgu am yr ymwneud democrataidd a gwleidyddol yn y sefydliad hwn, ac yn enwedig y rheiny na fyddai fel arfer yn cael y cyfle hwnnw, naill ai oherwydd materion yn ymwneud â diffyg cymorth a diffyg cyllid, neu fel arall oherwydd eu bod yn dod o lwybrau addysgol lle nad yw’r hyder ganddynt, yn draddodiadol, i fwrw ymlaen â hynny ar lefel ôl-16. Felly, croesawaf y ffaith nad yw’r drws wedi cau’n glep ar hyn, a byddwn yn fwy na pharod i helpu mewn unrhyw ffordd i archwilio hyn ymhellach, oherwydd credaf y byddai i ni arwain y ffordd mewn modd blaengar a fydd yn mynd i’r afael â symudedd cymdeithasol yn adeiladu ar enw da’r sefydliad ifanc hwn o ran gwneud y peth iawn ac arwain drwy esiampl.

Wel, yn sicr, nid yw fy nrws wedi cau ar y mater hwn, ac rwyf wedi edrych gyda diddordeb ers i chi ddechrau gohebu â mi ar gynllun y Llefarydd yn Nhŷ’r Cyffredin mewn partneriaeth â’r Creative Society. Cytunaf â’ch dadansoddiad fod yr interniaid rydym wedi’u cael yn y lle hwn ac mewn mannau eraill wedi dod o’r cefndiroedd arferol neu’r lleoedd arferol, yn enwedig y rhai sy’n fyfyrwyr gwleidyddiaeth yn ein prifysgolion, er enghraifft. Ac er bod hynny, wrth gwrs, yn werthfawr ac yn fuddiol i bawb sydd wedi ymgymryd â’r gwaith hwnnw, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein gwleidyddiaeth, ein grwpiau gwleidyddol, a’n gwaith fel Comisiwn, yn hygyrch i eraill na allant o reidrwydd fanteisio’n uniongyrchol neu ar unwaith ar gyfleoedd interniaeth.

Mae yna broblemau y byddai angen i ni eu hystyried yn ofalus mewn perthynas â’r materion hyn. Problemau cyllid, wrth gwrs, sy’n dod i’r meddwl yn gyntaf, a gwn fod y bwrdd taliadau ar fin cychwyn adolygiad o gymorth staffio i Aelodau, ac efallai fod hwnnw’n fater yr hoffai’r Aelodau wneud sylwadau i’r bwrdd taliadau yn ei gylch, ond byddwn yn sicr yn awyddus i weithio gyda’r Aelodau yma i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i ni, pa bartneriaid sydd i’w cael a allai fod yn awyddus i weithio gyda ni ar sefydlu rhaglen interniaeth o’r math hwn, fel y gall yr holl bobl ifanc yng Nghymru, a thu allan i Gymru, sy’n credu y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan a gweithio yn y sefydliad hwn, deimlo bod yna ffordd y gallent wireddu’r dyhead hwnnw.

Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth i gynnig Huw Irranca-Davies, a chroesawaf eich ymrwymiad ar draws y bwrdd, Llywydd, i sicrhau bod gwleidyddiaeth yn fwy hygyrch yn y sefydliad hwn. Roedd un o fy mlaenoriaethau fy hun a addewais cyn cael fy ethol yn ymwneud â sicrhau bod ein gwleidyddiaeth a’n gwleidyddion yn llawer mwy hygyrch—nid fi fy hun yn unig, ond sut i greu rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan a deall. Credaf fod Huw wedi gwneud rhai pwyntiau dilys ynglŷn â sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb, nid yn unig ar gyfer y bobl sydd â’r gallu a’r cysylltiadau i wneud hynny. Credaf ei bod iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio dod o hyd i ffordd o allu talu interniaid, o leiaf, ac os oes modd, dylem dalu’r cyflog byw. Credaf mai un o’r pethau y sonioch amdanynt yw anhyblygrwydd ein cyllidebau staffio ar hyn o bryd, nad ydynt yn caniatáu i Aelodau allu gwneud hynny pe baent yn dymuno. A chredaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni sicrhau bod y bwrdd taliadau yn ei ystyried. Credaf mai un peth yr hoffwn ei ofyn, gan adeiladu ar yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ynglŷn â’r posibilrwydd o ysgoloriaethau byrrach, efallai—rwyf wedi gweld gwleidyddion eraill mewn mannau eraill yn edrych ar y syniad o geisio cael prentisiaethau, neu rywbeth tebyg i’r math hwnnw o ddysgu seiliedig ar waith. Felly, galluogi pobl i ddod i mewn yn iau o ran oedran, a chysylltu â cholegau addysg bellach a sefydliadau hyfforddi eraill, i weld a allwn wneud hynny. Felly, hoffwn ofyn i chi ystyried hynny ymhellach, o bosibl.

Diolch am eich syniadau ychwanegol ynglŷn â sut y gellid datblygu system o’r fath. Mae pob un ohonom fel Aelodau Cynulliad unigol, rwy’n siŵr, yn agor ein drysau yn ein hetholaethau, ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ifanc, yn enwedig yn ein hetholaethau. Credaf efallai fod y ffaith fod y bwrdd taliadau ar fin dechrau ar yr adolygiad hwn o gymorth staffio yn galluogi’r Aelodau yma, a ninnau fel Comisiwn, i edrych ar ffyrdd o geisio gwneud ein strwythurau cyllido, a’n strwythurau cymorth i staff, yn ddigon hyblyg i ganiatáu ffordd fwy arloesol o ddarparu mwy o hyblygrwydd i Aelodau edrych ar sut y gallant ddenu pobl o fannau mwy newydd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn y lle hwn.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rydym ni’n troi nawr at y cwestiynau amserol. Mae cwestiwn 1 [TAQ(5)0193(HWS)] wedi’i dynnu’n ôl, felly cwestiwn 2—Steffan Lewis.

Papur Polisi Llywodraeth y DU, ‘Safeguarding the Position of EU Citizens in the UK and UK Nationals in the EU’

Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o bapur polisi Llywodraeth y DU, ‘Safeguarding the Position of EU Citizens in the UK and UK Nationals in the EU’, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf? TAQ(5)0716(FM)

Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyfraniad hynod o bositif i fywyd bob dydd yma yng Nghymru. Mae cynigion Llywodraeth y DU yn gam hwyr ymlaen, ond er hynny, nid ydynt yn darparu eglurder llawn i’r dinasyddion yr effeithir arnynt, ac ar y gwaethaf, ymddengys eu bod yn parhau i drin pobl fel testunau bargeinio, sy’n hollol annerbyniol i ni. Mae angen rhoi eglurder a sicrwydd llawn i bawb yr effeithir arnynt, ac mae angen i hynny ddigwydd heb ragor o oedi.

Rwy’n ddiolchgar am eich ateb. Er ei bod bob amser yn bleser gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, cyflwynais y cwestiwn hwn i’r Prif Weinidog, gan ei fod wedi mynnu dro ar ôl tro mai ef yw Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am faterion allanol. Ac efallai fod ei anallu i fod yma heddiw yn adlewyrchu’r angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar yr angen am Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol i Gymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd tra phwysig hyn sydd o’n blaenau.

Yr wythnos diwethaf, roedd y papur, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn bell iawn o’r disgwyliadau a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn wreiddiol. Mynasant y byddent yn ystyried trefniant a fyddai’n ddwyochrog, a phan fyddwn yn cymharu papur Llywodraeth y DU â phapur yr Undeb Ewropeaidd, mae’n deg dweud na chyflawnwyd hynny. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi cael effaith enfawr ar yr 80,000 o wladolion yr UE yng Nghymru a’r 3 miliwn o wladolion yr UE ledled y DU.

Mae’r cynigion yn cynnwys rhoi statws preswylydd sefydlog, na fyddai’n cael ei roi’n awtomatig i wladolion yr UE, hyd yn oed y rhai sy’n dod yn breswylwyr parhaol. Byddai myfyrwyr yr UE yn cael aros am gyfnod eu cwrs, ond ceir amwysedd ynglŷn ag a fyddent yn cael aros wedi i’r cwrs ddod i ben. Un maes sy’n peri cryn bryder yw’r amwysedd ynglŷn â’r terfyn amser, gan y gallai gwladolion yr UE—yn enwedig y rheiny sydd â phlant—wynebu sefyllfa lle byddai gan y rhieni wahanol statws mewnfudo i’w plant. Ac mewn gwirionedd, yn ôl fy nehongliad i o bapur sefyllfa Llywodraeth y DU, ymddengys i mi y bydd gwladolion yr UE yn colli eu hawliau ailuno teuluoedd, ac nid oedd yr UE yn cynnig hynny yn eu papur sefyllfa hwy ar gyfer gwladolion y DU ar y cyfandir. Ac ynglŷn â gwladolion y DU ar y cyfandir, yn groes i’r graen, mae papur y DU yn dweud llai am hawliau gwladolion y DU ar y cyfandir nag y mae papur yr Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud am wladolion Prydeinig ar y cyfandir. Fe sonioch am destunau bargeinio. Credaf ei bod yn drist iawn gweld ei bod yn ymddangos, yn y papur sefyllfa a gyhoeddwyd, fod gwladolion yr UE yn cael eu defnyddio fel testun bargeinio. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ei phapur sefyllfa ei hun fel rhan o broses Llywodraeth y DU o lunio ei phapur ei hun? Os na wnaethant, a yw’n credu y byddai’n fuddiol bellach i Lywodraeth Cymru gyhoeddi papur sefyllfa i roi pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth y DU, fel y gallwn gynnal hawliau’r 80,000 o wladolion yr UE yn y wlad hon? Ac ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai fframweithiau presennol yr UE sy’n ymwneud â hawliau dinasyddion gael eu trosi i gyfraith y DU, o dan ddarpariaethau’r Bil diddymu, yn hytrach na drwy’r dull a gynigir gan Lywodraeth y DU, sef dechrau o’r newydd â chyfraith y DU, sydd, fel y dywedais, yn cael gwared ar hawliau presennol dinasyddion yr UE?

Ac yn olaf, dywedwyd wrthym mai hon fyddai’r rhan hawsaf o drafodaethau Ewropeaidd y DU. Dyna a ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym dro ar ôl tro. Ac mae’r ffaith na allwn sicrhau trefniadau dwyochrog mewn perthynas â mater sylfaenol hawliau dinasyddion sydd wedi cyfrannu at ein gwlad—beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y ddwy flynedd nesaf, pan fyddwn yn trafod materion y bernir eu bod hyd yn oed yn anos na hwn?

Wel, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud rhywbeth am bwyntiau cychwynnol Steffan Lewis. Oherwydd mae’n ymddangos i mi mai camgymeriad sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymgymryd â’r rhan hon o’r trafodaethau oedd ei bod, yn hytrach na disgrifio eu papur fel man cychwyn, rhywbeth i’w drafod ymhellach, ffordd o ddynesu at feysydd go gymhleth, wedi mynnu ei ddisgrifio o’r dechrau fel rhyw fath o gynnig hynod o hael yr oedd pobl yn siŵr o heidio i ymrwymo iddo. Yn anochel, yn y pen draw, fel y dywedodd Steffan Lewis, siomi pobl yn unig a wnaeth ar ôl i’w disgwyliadau gael eu codi. Mae’n ddechrau hollol ryfedd i Lywodraeth y DU beidio â chyfeirio hyd yn oed yn y ddogfen a gyhoeddwyd ganddynt at bapur yr UE a gyhoeddwyd cyn eu papur hwy, gan dramgwyddo, unwaith eto, y bobl y mae’n rhaid i chi allu dod i gytundeb synhwyrol â hwy. Felly, fy nehongliad i o’r papur hwn yw ei fod yn ddechrau digon synhwyrol, a phe bai wedi cael ei gyflwyno yn y ffordd honno, a’i ddisgrifio yn y ffordd honno, credaf y byddai wedi bod yn haws sicrhau ymrwymiad iddo.

Fel y dywedodd Steffan Lewis, mae’n gadael cyfres o amwyseddau ynglŷn â statws dinasyddion yr UE. A fyddant yn gallu cefnogi rhieni dibynnol? O dan ba reolau y dylai darpar briod wneud cais, er enghraifft? Ac mae mater y terfyn amser yn hollbwysig yma. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gwleidyddion y DU sy’n dadlau y byddai terfyn amser yn y dyfodol yn arwain at fewnlif torfol o bobl i’r Deyrnas Unedig i geisio sicrhau statws preswylwyr sefydlog—mae hynny mor bell o realiti cyfoes ymfudo, lle rydym wedi gweld cwymp mewn gwirionedd yn nifer y bobl a ddaw i’r Deyrnas Unedig. Pan siaradais â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yr wythnos diwethaf, roedd eu haelodau’n awyddus i ddweud wrthyf pa mor anodd bellach yw recriwtio’r bobl sydd eu hangen arnynt i weithio yn eu busnesau. Felly, mae peryglon terfyn amser yn cael eu gorliwio’n fawr ar lefel y DU, a dylid mynd i’r afael â hynny hefyd.

A wnaethom gyhoeddi papur sefyllfa? Wel, fel y gŵyr yr Aelod, ni wnaethom hynny, ond gallaf ddweud wrtho nad oedd hynny’n golygu am funud na fu modd i ni roi ein barn yn ddiamwys i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym na fydd hyn yn rhan o fecanwaith y Bil diddymu, ond y bydd yn rhan o Fil ar wahân, a bydd yna bethau y byddwn yn awyddus i’w dweud, ac yn awyddus i’w dweud yn gyhoeddus, cyn i unrhyw Fil o’r fath gael ei gyhoeddi.

Pwynt olaf Steffan Lewis, mewn rhai ffyrdd, yw’r un mwyaf digalon, onid e? Os mai hon oedd y rhan hawsaf, os oedd hwn yn fater roedd pawb yn cytuno bod angen inni gael cytundeb cyflym yn ei gylch, yna mae’r methiant i allu gwneud cynnydd cyflym yn y ffordd y teimlwn y byddai wedi bod yn hollol bosibl i ni ei wneud yn arwydd go ddigalon o’r anawsterau sydd o’n blaenau pan fydd angen trafod pethau llawer mwy cymhleth.

Yn dilyn pwynt Steffan ynglŷn â gwladolion yr UE sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae heddiw’n nodi 69 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Credaf fod yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod llai o bobl o’r UE yn cofrestru i weithio yn y GIG bellach o ganlyniad uniongyrchol i bleidlais Brexit. Heddiw, rwyf wedi ail-lansio ymgyrch ‘Diolch Doc’ i annog pobl yng Nghymru i ddiolch i’r bobl o dramor sy’n gweithio ac yn ein helpu yn ein GIG. Ond nid dyna’r cwestiwn roeddwn am ei ofyn. Y cwestiwn roeddwn am ei ofyn oedd: a yw’r Gweinidog cyllid yn cytuno y gall fod nam technegol yn y Ddeddf a sbardunodd broses Brexit, oherwydd er bod y Ddeddf yn awdurdodi Prif Weinidog y DU i roi gwybod i’r UE ein bod yn bwriadu gadael, nid yw’n dynodi, fel y cafodd ei hysgrifennu, y dylem adael?

Nawr, o ystyried bod hynny’n dod gan un o gefnogwyr brwd yr UE fel fi, rwy’n deall y bydd yn swnio fel ystryw i’n hatal rhag gadael yr UE, ond nid dyna ydyw—mae’n gwestiwn dilys ynglŷn ag a ellid herio’r Ddeddf, fel y mae wedi’i drafftio, yn y llys. A fyddai’r Ysgrifennydd cyllid yn barod i edrych ar hyn er mwyn ceisio eglurhad gan arbenigwyr cyfreithiol y Llywodraeth?

Diolch i Eluned Morgan am ddwy ran yr hyn a ddywedodd. Mae’n hollol gywir ynglŷn â’r GIG—ni fyddai’r GIG yng Nghymru yn goroesi oni bai bod pobl Cymru wedi bod yn ddigon ffodus i allu denu pobl o rannau eraill o’r byd sy’n barod i ymrwymo eu dyfodol i fod yn rhan o’n dyfodol ni. Mae’n hollol gywir y dylem gydnabod hynny a bod yn barod i ddweud hynny’n uniongyrchol wrth bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau.

Rwy’n ymwybodol o’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â’r nam technegol posibl mewn perthynas â deddfwriaeth erthygl 50. Gwn fod yna grwpiau o gyfreithwyr—mae un yn fy etholaeth i sydd wedi dadlau’n gryf iawn fod yna broblem dechnegol gyda’r Ddeddf Seneddol a basiwyd ar lefel y DU. Rwy’n gwybod eu bod wedi cyflwyno’r safbwynt hwn i’r Comisiwn ac rwy’n gwybod bod rhai o gyn-Arglwyddi’r Gyfraith blaenllaw iawn, er enghraifft, yn rhannu’r safbwynt hwnnw. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn y Siambr a bydd wedi clywed y pwynt hwnnw a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael safbwynt cyfreithwyr Llywodraeth Cymru. Pan fyddaf yn edrych ar hyn a chael pobl yn dod i fy ngweld, yn aml byddaf yn dweud wrthynt yn y diwedd fy mod yn meddwl tybed a ydynt yn camgymryd y gyfraith am wleidyddiaeth y mater hwn, a hyd yn oed os oes nam technegol yn y ffordd y gallai’r Ddeddf fod wedi cael ei llunio, ni ellir honni na fydd y mwyafrif gwleidyddol a oedd o blaid diben y Ddeddf honno’n fwy arwyddocaol yn y pen draw.

Dywed Llywodraeth y DU bod sicrhau cytundeb ar hawliau gwladolion yr UE yn y DU a gwladolion y DU yn yr UE bob amser wedi bod yn flaenoriaeth, ond wrth gwrs, cyn dechrau’r trafodaethau ffurfiol, roedd y Comisiwn a Llywodraeth y DU wedi dweud na allai cynigion a gwrthgynigion a thrafodaethau ar gytundebau gychwyn nes i’r trafodaethau gychwyn yn ffurfiol. Felly, mae’r DU wedi rhoi cynnig, gan roi’r sicrwydd y mae 3 miliwn o wladolion yr UE yn chwilio amdano mewn perthynas â dyfodol eu bywydau, a fyddai’n rhoi mynediad at fudd-daliadau’r DU ar yr un sail â gwladolion y DU, ond maent hefyd yn dweud y byddai cytundeb dwyochrog yn rhoi’r un sicrwydd i fwy na miliwn o wladolion y DU sy’n byw yn yr UE. Llywodraeth y DU sy’n datgan bod y cynnig hwn yn golygu y gall trafodaethau ffurfiol ar ymadawiad y DU â’r UE gychwyn mewn modd y maent yn gobeithio y bydd yn gynhyrchiol. Felly mae’n rhan o broses, ac maent wedi gwneud hynny’n gwbl glir. Ond yn ei ymateb, argymhellodd prif negodwr yr UE y dylid cadw Llys Cyfiawnder Ewrop fel y corff sy’n cynnal hawliau dinasyddion yr UE yn y DU. Rwy’n deall bod opsiynau eraill wedi cael eu trafod yn rhagarweiniol—pa un a ellid sefydlu corff newydd, o ystyried canlyniad y refferendwm y llynedd, a fyddai’n ymwneud yn rhannol â’r broses o ddychwelyd pwerau deddfu. Felly, o ystyried bod y cylch nesaf o drafodaethau rhwng y DU a’r UE i ddigwydd ar 17 Gorffennaf, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ar y mater penodol hwn?

Wel, Dirprwy Lywydd dros dro, fel y dywedodd Steffan Lewis, os yw hyn bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, yna mae’r methiant i wneud cynnydd digonol ar rywbeth sydd bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yn arwydd eithaf digalon o ran yr agweddau eraill, mwy cymhleth ar y trafodaethau. Mae obsesiwn y Prif Weinidog gyda Llys Cyfiawnder Ewrop yn mynd yn rhwystr gwirioneddol i wneud penderfyniadau synhwyrol yn y trafodaethau hyn. Mae Mark Isherwood, rwy’n credu, yn gywir i ddweud bod yna rai atebion dros dro i’r mater hwn, ond po gyflymaf y bydd Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny ac yn realistig yn ei gylch, y cyflymaf y down i benderfyniad. Mewn unrhyw gytundebau masnach a wneir gan y DU, nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd yna ganolwr annibynnol i’r cytundebau masnach hynny na fydd yn rhan o system llysoedd domestig y DU ei hun yn llwyr. Dylai hwnnw fod yn ateb y gallant ei ddyfeisio mewn perthynas â hawliau dinasyddiaeth hefyd.

O ran y cylch nesaf, ysgrifennais ar y cyd â Mike Russell, Gweinidog yr Alban dros Brexit, am yr eildro, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar, yn cynnig y dylai mecanwaith y Cydbwyllgor Gweinidogion gael rhan reolaidd yn y cylch misol o drafodaethau y mae Llywodraeth y DU bellach wedi ei ddechrau, oherwydd byddai hynny’n rhoi cyfle sicr i weinyddiaethau datganoledig drafod o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth y DU, gydag awydd i wneud hynny’n adeiladol, ac awydd i gynorthwyo o ran y modd y gallwn gyfrannu at y safbwynt negodi y bydd y DU yn ei gymryd. Ond heb fecanwaith o’r fath sy’n rheolaidd ac yn sicr, yr hyn sydd gennym yw cyfres ddwyochrog o alwadau ffôn, cyfarfodydd a llythyrau ac yn y blaen, a chredaf fod honno’n ffordd anfoddhaol iawn o gynnal trefniadau o fewn y DU rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU.

Y Cymro’

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer ‘Y Cymro’, o ystyried yr ansicrwydd presennol am ei ddyfodol tymor hir? TAQ(5)0192(EI)

Diolch. Mae ‘Y Cymro’ yn cael ei ariannu drwy Gyngor Llyfrau Cymru, a byddwn yn cynghori’n gryf i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn trafod unrhyw gymorth yn y dyfodol gyda Chyngor Llyfrau Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau ariannu Cyngor Llyfrau Cymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Wedi’r cwbl, mae’n hynod o drist fod ‘Y Cymro’, sef, yr unig bapur newydd cenedlaethol yn y Gymraeg, yn wynebu dyfodol mor ansicr, ac wedi gorfod dod i derfyn—gobeithio dros dro—ddydd Iau diwethaf. Mae’n galonogol bod yna grŵp o bobl, Cyfeillion Y Cymro, yn dangos diddordeb i’w brynu, ond, wrth gwrs, nid oes sicrwydd y bydd y papur yn parhau. Byddai colli’r papur newydd am byth yn golled enfawr, yn enwedig wrth feddwl am y rôl bwysig y mae’r papur wedi’i chyflawni dros y blynyddoedd. Mae ‘Y Cymro’ wedi bod yn ganolog wrth adlewyrchu ac adrodd ein hanes a datblygu ein diwylliant a’n hiaith am lawer o flynyddoedd.

Nawr, yn naturiol, rydw i’n ymwybodol bod pethau yn newid ym myd papurau newydd. Mae papurau newydd yn lleihau ac yn edwino. Mae’r byd yn mynd yn ddigidol ac yn aml-blatfform, ond mae diogelu newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn dal yn allweddol bwysig. Wedi’r cwbl, mae’r Llywodraeth yn ariannu’r papurau bro. Mae’n papurau bro ni yn derbyn arian cyhoeddus ac yn ffyniannus tu hwnt, ac mae hynny’n stori o lwyddiant. Felly, yn ychwanegol at beth rydych chi wedi’i awgrymu efo Cyngor Llyfrau Cymru, a ydy’n bosibl i mi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n fodlon mynd i’r afael â’r mater yma yn bersonol ac, o bosibl, cyfarfod efo’r bobl sydd yn chwilio am ffordd i gadw ‘Y Cymro’ i fynd yn y tymor hir? Diolch yn fawr.

A gaf fi ddiolch i Dai Lloyd unwaith eto am ddod â’r mater hwn i sylw’r Siambr? Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth ‘Y Cymro’ ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, dechreuais fy ngyrfa fel newyddiadurwr yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr ‘Y Cymro’ yn ôl yn y dyddiau pan oedd yn eiddo i North Wales Newspapers ac wedi’i leoli yn eu pencadlys yn yr Wyddgrug. Ers blynyddoedd lawer, mae wedi bod â staff anhygoel, ymroddedig a thalentog, a byddai’n hynod o drist pe bai’r cyhoeddiad yn cael ei golli am byth. Mae wedi bod drwy nifer o berchnogion dros lawer o flynyddoedd. Dechreuodd fel cyhoeddiad ychydig yn wahanol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly mae iddo dreftadaeth anhygoel.

Yn ôl fy nealltwriaeth i, roedd grant ‘Y Cymro’ gan Gyngor Llyfrau Cymru oddeutu £18,000 ers nifer o flynyddoedd, ac mewn gwirionedd, ni ofynnodd ‘Y Cymro’ am gynnydd yn y grant a gâi gan Gyngor Llyfrau Cymru. Deallaf fod gan rai grwpiau ddiddordeb, ond nid oes unrhyw gadarnhad eto ei fod wedi cael ei werthu. Cynhaliwyd trafodaethau rhwng Cyfeillion y Cymro a Tindle, a deallwn y byddant yn cyfarfod â Chyngor Llyfrau Cymru cyn diwedd yr wythnos hon. Carwn annog unrhyw ddarpar brynwr a pherchennog i ymgysylltu’n llawn â Chyngor Llyfrau Cymru gyda golwg ar sicrhau lefel o grant a fyddai’n galluogi’r cyhoeddiad i barhau, os oes modd ei achub ar ei ffurf bresennol. Buaswn hefyd yn cynnig fod unrhyw ddarpar brynwr ac unrhyw ddarpar reolwyr y cyhoeddiad yn y dyfodol yn gofyn am gymorth gan Busnes Cymru ar y cyfle cyntaf. Gall y cymorth hwnnw fod ar ffurf cyngor, a gall fod ar ffurf cyfeirio pellach at gymorth ariannol. Fel y dywedaf, rwy’n credu y byddai’n drist pe bai ‘Y Cymro’ yn cael ei golli am byth, ac yn sicr, byddaf yn awyddus i ddilyn y cynnydd y mae pobl sydd â diddordeb posibl yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

80 mlynedd yn ôl, cafodd 4,000 o blant eu symud o Bilbao i’r DU yn dilyn y bomio yn Guernica yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Cafodd cartrefi a elwid yn wersylloedd eu sefydlu ar gyfer ffoaduriaid, gan gynnwys pedwar yng Nghymru, ac roedd un ohonynt yn Cambria House yng Nghaerllion, lle y cyrhaeddodd 56 o blant ar 10 Gorffennaf, 1937. Tyfodd hwn i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU. Roedd yn gyfnod o ddiweithdra a thlodi enbyd, ond croesawodd pobl Caerllion y plant â breichiau agored. Roedd pawb yn rhan o’r ymdrech i godi arian, o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, gwirfoddolwyr lleol, i’r plant eu hunain. Aethant ati i ffurfio tîm pêl-droed Basgaidd gwych, cynhyrchu eu papur newydd dwyieithog eu hunain yn ogystal â helpu i godi arian drwy ddawnsiau a chaneuon Basgaidd traddodiadol. Roedd warden y tŷ, Mrs Maria Fernandez, yn annog y plant i chwarae, i ddysgu ac i gymdeithasu ag eraill yn y pentref. Roedd pawb yn caru ac yn parchu Mrs Fernandez, ac fe gadwodd mewn cysylltiad â bron bob un o’r plant nes iddi farw yn 2001, yn 97 oed. Dywedodd y cynghorydd lleol, Gail Giles, yn ddiweddar,

roedd yn enghraifft wych o’r dewrder eithriadol, yr ymdrech a’r penderfyniad yng Nghymru i helpu dioddefwyr diniwed rhyfel, a’r caredigrwydd tuag at rai sydd mewn angen.

Cynhelir diwrnod o ddathlu ddydd Llun yng Ngŵyl Gelfyddydau Caerllion. Mae’n hollbwysig nad ydym byth yn anghofio ein hanes balch o haelioni tuag at, ac undod â ffoaduriaid ifanc a oedd yn dianc rhag trais 80 mlynedd yn ôl.

Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rydw i’n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio i’w trafod ac i bleidleisio arnyn nhw.

5. 5. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Cynnig NDM6361 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle David J. Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynnig NDM6364 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Yr eitem nesaf yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bethan Jenkins. Galwaf ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6349 Bethan Jenkins

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai:

a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â’u cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;

b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;

c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a

d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch.

Being a carer is never easy. It’s full of ups and downs. One day, life seems perfect, and another it’s falling apart. Caring makes us too empathetic, so we feel everyone’s pain, but we feel as though nobody understands our pain. Caring makes us feel lost and alone at times. I want to help all young carers, including myself, realise that they’re not alone and that although it causes heartache, being young carers can make us stronger, smarter and braver than most kids our age.’

That’s from Adele-Caitlin who is aged 16 and is a young carer.

I should start by welcoming the young adult carers and the YMCA project co-ordinators who have come to Cardiff from Swansea and Cardiff here today. This debate means a lot to them, because this isn’t just politics to young carers; the discussions we have here today are about their everyday lives and their experiences. I decided to bring forward this motion after attending a young carers event at the Senedd a few weeks ago, organised by the YMCA to highlight their excellent project Time for me, which organises support services for young carers and offers respite and advice. I heard in this event how young carers are proud of the care they give and of their responsibilities. They want to be able to help their families, but it is difficult. Of course, what I’ve heard from so many young carers is that they wouldn’t give up their responsibilities, but what they need is more support, more recognition of their role and more flexibility from school, health professionals and others when it comes to juggling what they do at home with the rest of their lives.

I recognise that there are requirements under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 to provide more support, with statutory responsibilities placed on local authorities. But what I hear from young carers and organisations working with them is that the current policy framework and funding arrangements aren’t enough. There are 11,000 young carers in Wales, and it’s very plausible that this is an underestimation because so many young carers do not seek or get support from schools, local authorities and health professionals. They don’t recognise them, and many young carers, for many reasons, do not come forward and seek the support that they actually need.

A major barrier is often due to lack of understanding. We heard that many teachers and health professionals simply do not possess the relevant training, guidance or experience necessary to identify young carers and their specific needs, or feel conflicted as to how to respond. Too many do not ask the relevant questions when dealing with a situation where a young carer is accompanying a parent or sibling to the doctor, for example, or a teacher that does not have the level of guidance necessary. I’ve heard examples of young carers, the primary caregiver to a parent with a limited physical or mental health condition, or sometimes a substance misuse issue, being asked to leave a room by a doctor or other health professional when that young carer actually needs to have their voice heard, and the health professional needs to hear from that young carer about the specific issues at home. I’ve talked with young people who have come forward to their schools with requests for flexibility in terms of timekeeping and attendance due to conflicting duties at home, only to be made to feel that their requests were not being taken seriously, and that parents were requested to corroborate what a young carer had said to them.

There is a certain stigma of being a young carer as well, and many young carers, we know, are bullied. One survey pointed to 68 per cent having been bullied at some point in their lives. Often, young carers are not really seeing themselves as a carer, but rather as someone who may just help out at home more than other children. Amongst other varied reasons, this is often a barrier to them requesting that support. That’s why I think it’s crucial that we up our efforts to ensure that professionals on the front line are able to help and identify young carers. Carers Trust Wales, with the Children’s Society, for example, have developed a teacher’s toolkit and operates the Young Carers in Schools Wales pilot programme. There have been good tangible results from this, but, clearly, much more work needs to be done, and we need to have a strategy in place to make sure guidance and training is spread out in a timely manner.

This brings me to my next point, and that is the variation of provision across Wales. At best, the levels of support available could be described as patchy. One local authority appeared to exclude one carer from applying for a carer needs assessment, but some other local authorities are much better at tackling the problems that young carers face. There are other barriers, of course, faced by young carers, not least practical issues such as the collection of prescriptions. At the moment, it’s down to the discretion of a pharmacist whether or not medicines are handed to a minor. Let me be clear: it would, of course, be ideal if no young carer needed to go to a pharmacy and collect medicines, some of which may be treatments for substance abuse, addiction or heavy painkillers, or to deal with chronic conditions, but sometimes they will need to, and we need to put measures in place so that they can access those treatments in a timely fashion, and so that young people don’t feel disrespected. I understand that feasibility studies are under way for a young carers card, which could help with this and could identify young carers, although I know, having spoken to some young carers, that they may feel that there’s stigma associated with this card as well. I would urge them not to think in this way, and to think of this as a way of helping people to understand them, to identify them and to be able to move forward, perhaps even have it as a discount card in shops and stuff, so that we can get the private sector involved in future.

I’d like to finish my closing remarks, as time is tight, by sharing the story of Anna. Anna is 11 years old and lives with her mum and two brothers, one older and one younger. Both mum and dad have a history of drug and alcohol abuse, and mum has been diagnosed with a mental health complaint, which, at times, manifests itself with severe mood swings and depression, which culminates in her being unable to parent for either Anna or her younger sibling. She is a regular user of prescribed, unprescribed and illegal drugs—the mother—and Anna’s older brother has a long history of criminal behaviour and has served custodial sentences, and is not interested in helping the family.

With regard to Anna’s story, she has been able to engage with the YMCA in Cardiff. She was, at first, reluctant, and she found it difficult to communicate, but now she participates in a project alongside her mother, and she has found that some of the burdens have been lessened on her and that her mother now can take some of those caring responsibilities back from her. This is the kind of person that we need to be helping, and this is the kind of person that we need to be ensuring is not suffering in silence. I think it’s important that we do have this Bill for young carers so that we can support them, and I take this debate in a most positive manner to hope that the Welsh Government can hear the concerns of Welsh carers and that we can become part of the debate, and that young carers here today can continue to be part of the debate in progressing what they need in their daily lives. I think it’s important for Assembly Members to listen, but also to act on what their demands are.

A gaf fi roi croeso cynnes i’r cynnig hwn a chanmol Bethan am ei gyflwyno ac am siarad mor huawdl a chydag angerdd mawr dros yr achos hwn? Rwy’n credu bod ysgolion yn allweddol i gefnogi gofalwyr ifanc a sicrhau nad yw eu rolau gofalu’n lleihau eu cyfleoedd bywyd o ganlyniad i gyrhaeddiad addysgol gwael. Yn aml, byddant angen llawer o hyblygrwydd, ni fydd ganddynt strwythur penodol, a byddant angen anogaeth a chymorth pellach i gyrraedd y gwahanol gerrig milltir addysgol a osodir ar eu cyfer.

Hoffwn ganmol yr holl ystod o sefydliadau sy’n cymryd diddordeb yng ngwaith gofalwyr ifanc. Rwy’n credu bod yr holl sector gofalwyr yn meddu ar allu mawr i ymgyrchu o dan y sefydliadau ymbarél hyn, fel y gynghrair cynhalwyr, a chyfeiriodd Bethan at Gymdeithas y Plant, ac rwyf newydd weld y ddogfen Supporting young carers and their families: an introductory guide for professionals’. Wrth gwrs, bydd llawer o weithwyr proffesiynol mewn cysylltiad â gofalwyr ifanc yn ddiarwybod iddynt, ac mae’n bwysig ein bod yn lledaenu gwybodaeth gyffredinol o’r fath. Ond mewn ysgolion, rwy’n credu bod canllawiau penodol iawn yn briodol. Mae ysgolion—mae’n rhwydwaith ardderchog y gallwn ddarparu’r canllawiau hyn ar ei gyfer, ac nid wyf yn gweld pam na ddylai’r holl ysgolion uwchradd yng Nghymru gael aelod o’u tîm o uwch-reolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt bolisi da ar gyfer gofalwyr ifanc. Dylai’r corff llywodraethu wybod am hynny, ac yna dylem wybod pa fath o gamau sy’n cael eu rhoi ar waith i gefnogi ac annog gofalwyr ifanc, ac yna, lle bo angen, os yw eu haddysg ar ei hôl hi mewn cyfnod o argyfwng neu beth bynnag, fod cynlluniau ar waith i unioni’r sefyllfa honno.

Felly, credaf fod hynny’n bwysig tu hwnt. Rwyf hefyd yn credu y gallai syniadau penodol eraill fel cerdyn adnabod gynnig ffordd ymlaen. Nawr, mae yna—a chyfeiriodd Bethan at hyn—sensitifrwydd yma: nid yw’n cael ei groesawu bob amser oherwydd gallai gael ei weld fel bathodyn nad ydych yn arbennig o awyddus i’w gael. Ond rwy’n credu y dylem ei ystyried fel ffordd i gael mynediad at wasanaethau penodol ac i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn sylweddoli mai dyma yw’r achrediad—nid oes yn rhaid i chi wirio gyda rhiant neu warcheidwad neu beth bynnag wedyn, neu gellid ei ddefnyddio yn y fferyllfa, er enghraifft, i allu casglu cyffuriau presgripsiwn. Felly, rwy’n credu bod angen archwilio’r cerdyn adnabod yn ofalus iawn.

Nawr, rydym wedi bod yma o’r blaen, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i’r manylion penodol sydd gennyf. Penderfynodd y fenter flaenorol fwy neu lai y dylai barhau ar sail awdurdod lleol, ac er y gallaf ddeall pam y byddech yn treialu hynny, nid wyf yn credu bod unrhyw gysondeb wedi bod—nid wyf yn credu bod llawer o awdurdodau lleol yn gwybod ei fod yn bodoli. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o arferion gorau’n cael eu lledaenu, felly rwy’n credu, efallai, mai dull cenedlaethol sy’n briodol bellach.

Yn olaf, rwyf am adleisio’r angen am ofal seibiant da—i’r person sy’n derbyn gofal, ond hefyd ar gyfer y gofalwr ifanc, fel eu bod yn cael bywydau llawn a chyfleoedd priodol i ddatblygu’n iach wrth iddynt gyflawni’r cyfrifoldebau gofalu y maent yn ddigon hapus i’w cyflawni, y rhan fwyaf ohonynt, os ydynt yn cael cymorth priodol.

Rwyf am fod mor hael â siaradwyr eraill ag y bûm gyda David Melding. Caroline Jones.

Diolch, Llywydd. Hoffwn longyfarch Bethan ar gael ei dewis i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a hoffwn gynnig fy nghefnogaeth i’w chynigion. Yng Nghymru, mae miloedd o bobl ifanc o dan 16 oed yn gofalu am berthnasau heb fawr o gefnogaeth os o gwbl gan eu hysgol neu awdurdodau iechyd. Mae deddfwriaeth Bethan yn cydnabod yr effaith y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar addysg gofalwr ifanc ac rwy’n llwyr gefnogi ei hymdrechion i sicrhau bod gwasanaethau addysg yn ddigon hyblyg i sicrhau cymaint o gyfleoedd addysg â phosibl i ofalwyr ifanc wrth gefnogi eu cyfrifoldebau gofalu.

Mae ymchwil gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn dangos bod gofalwyr ifanc yn colli, ar gyfartaledd, chwarter y flwyddyn ysgol. Felly, nid yw’n syndod bod gofalwyr ifanc yn cael cyfraddau cyrhaeddiad llawer is ar lefel TGAU. Trwy annog ysgolion ac awdurdodau addysg i gydnabod y pwysau amser sy’n wynebu gofalwyr ifanc, gallwn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth addysgol angenrheidiol a’u bod yn cael eu caniatáu i gyflawni eu potensial. Mae cyngor gofalwyr ifanc Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wedi canfod bod diffyg cefnogaeth yn yr ysgol yn effeithio ar iechyd meddwl y gofalwr ifanc. Mae’r bobl ifanc anhygoel hyn yn aberthu cymaint i ofalu am anwyliaid a’r peth lleiaf un y gallwn ei wneud yw sicrhau nad ydynt yn wynebu rhwystrau ychwanegol.

Byddaf yn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon ac rwy’n annog yr Aelodau i ychwanegu eu cefnogaeth i’r ddeddfwriaeth bwysig hon. Bydd tri o bob pump ohonom yn dod yn ofalwyr ar ryw adeg yn ein bywydau ac mae gofalwyr di-dâl yn arbed biliynau o bunnoedd i’r GIG bob blwyddyn. Gadewch i ni wneud popeth yn ein gallu i’w gwneud yn haws i ofalwyr—yn yr achos hwn, gofalwyr ifanc—barhau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud. Diolch. Diolch yn fawr.

Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn hefyd. Ni ddylai plant a phobl ifanc sydd eisiau helpu rhiant gael eu rhwystro rhag gwneud hynny os ydynt yn dewis gwneud hynny, a dylent gael cymorth i wneud hynny. Ond rwy’n credu mai’r cwestiwn sydd angen i ni i gyd ei ofyn i ni’n hunain yw: sut y gallwn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o fywyd eu rhieni tra’u bod, ar yr un pryd, yn cadw blynyddoedd eu plentyndod a’u harddegau fel y mae pawb ohonom yn dymuno iddynt eu cael?

Ers 2006, mae nifer y gofalwyr ifanc yng Nghymru wedi dyblu bron. Mae plant a phobl ifanc sydd hefyd yn ofalwyr yn llawer mwy tebygol o golli ysgol yn aml, fel sydd newydd gael ei ddweud yn awr, ac yn ôl Barnardo’s, maent ofn gofyn am help rhag iddynt siomi’r teulu neu rhag iddynt gael eu rhoi mewn gofal. Felly, rwy’n cefnogi eich cynigion ar y mater hwn, ond rwy’n poeni am hyn: os yw plentyn yn gwybod os nad yw’n helpu na fydd neb arall yn helpu, wrth gwrs y bydd yn darparu’r cymorth sydd ei angen. Felly, yr hyn sydd gennych yn y pen draw yw plant yn aberthu eu plentyndod i wneud iawn am y bylchau yn y gofal a ddarperir i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu’r gofalwyr ifanc hyn ac yn y bôn, mae hynny’n golygu gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu’r gofal llawn sydd ei angen ar eu hanwyliaid.

Nid yw’r syniad o gerdyn presgripsiwn ond yn ddefnyddiol am nad yw’r teulu wedi cael y lefel gywir o gefnogaeth glinigol a fyddai’n golygu bod y feddyginiaeth yn cael ei dosbarthu iddynt. I bob pwrpas, mae plant a phobl ifanc yn gorfod datrys problem a achoswyd gan y Llywodraeth. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn golygu rhoi cyfrifoldeb arall i’r gofalwr ifanc, mae’n atgyfnerthu’r neges i’r plentyn nad yw’n blentyn mwyach mewn gwirionedd: mae’n rhannol yn blentyn ac yn rhannol yn ofalwr. Rwy’n siŵr fod rhai gofalwyr ifanc wedi dweud y byddai cerdyn o’r fath yn ddefnyddiol, ond yr unig reswm am hynny yw eu bod yn wynebu problemau wrth gasglu meddyginiaeth i’w hanwyliaid. Ni ddylai fod yn gwestiwn ynglŷn ag a ddylai plant a phobl ifanc gael cerdyn presgripsiwn, dylai ymwneud â sut y gellir sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei feddyginiaeth, yn hytrach na bod plentyn neu berson ifanc yn teimlo mai eu dyletswydd hwy yw ei chasglu. Mae yna demtasiwn i bobl ifanc groesawu cyfrifoldeb ychwanegol. Rhan o fywyd yw bod pobl ifanc yn awyddus i fod yn hŷn tra bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn iau, ond ein rôl ni yw diogelu pobl ifanc rhag penderfyniadau nad ydynt, o bosibl, y rhai gorau er eu lles. Os oes gennym reolau ynglŷn ag oedran rhywun sy’n casglu meddyginiaeth, mae rheswm da dros hynny. Nid yw’r perygl o niwed yn lleihau yn syml oherwydd ein bod yn dymuno hynny.

Yr hyn nad wyf yn ei hoffi o gwbl am eich cynnig, Bethan, yw nad wyf yn hoffi’r geiriad ym mhwynt 2(a) sy’n cyfeirio at gyfrifoldebau gofalu pobl ifanc. Nid hwy sy’n gyfrifol am ofalu; ni a’r wladwriaeth sy’n gyfrifol amdano. Mae bodolaeth un gofalwr ifanc yn arwydd o fethiant. Fodd bynnag, dylai beth bynnag y mae’r gofalwr ifanc yn ei wneud dros eu hanwyliaid o ddydd i ddydd barhau i fod yn ddewis ac ni ddylai byth gael ei normaleiddio fel cyfrifoldeb.

Rwyf hefyd yn bryderus ynglŷn â’r canfyddiad fod angen canllawiau ar gyfer ysgolion. Does bosibl nad yw ysgolion eisoes yn darparu arweiniad: nid yw gofalwyr ifanc yn ffenomen newydd. Os nad yw ysgolion yn darparu’r gefnogaeth, a allai hynny fod oherwydd nad oes ganddynt adnoddau i nodi’n briodol a chynorthwyo’r rhai sydd angen help? Os yw hynny’n wir, yna ni fydd canllawiau’n gwneud unrhyw wahaniaeth. Mae’r Llywodraeth hon yn goruchwylio ysgolion, awdurdodau lleol a’r GIG, ac os oes methiannau, ei bai hi yw hynny. Felly, byddaf yn cefnogi’r cynnig, ond hoffwn weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru o leiaf i edrych ar ffyrdd o leihau’r tasgau a’r gofalu sy’n rhaid i ofalwyr ifanc eu cyflawni, nid ar ffyrdd o’i gwneud yn haws iddynt ddarparu’r gofal hwnnw’n unig. Diolch.

Diolch. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Diolch i chi, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn heddiw i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella bywydau ein gofalwyr ifanc. Ers amser hir, rydym wedi ceisio gwella bywydau gofalwyr yng Nghymru, gan ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael i ni o ran polisi, deddfwriaeth a chyllid. Yn ôl yn 2000, cyhoeddwyd ein strategaeth gofalwyr cenedlaethol cyntaf, a dilynodd y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) yn 2010, gan wella cymorth i ofalwyr yn lleol. Bymtheg mis yn ôl, dechreuasom ar y gwaith o roi ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 arloesol ar waith, deddf sy’n cyflwyno hawliau newydd a gwell i bob gofalwr. Felly, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr hawl gyfartal i asesiad a chefnogaeth â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Nid oes angen iddynt ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael eu hanghenion wedi’u hasesu a chael y cymorth sydd ar gael iddynt. Ac mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i roi gwybod i’w gofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu, ac yn bwysig, ar ôl cwblhau’r asesiad hwnnw, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi trefniadau ar waith wedyn i ddiwallu’r anghenion a nodwyd a rhoi cynllun gofal statudol ar waith. Felly, deddfwriaeth sy’n gweithio ar gyfer gofalwyr mewn ffordd nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen.

I gefnogi’r broses o gyflwyno hawliau gwell i ofalwyr o dan y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 filiwn o gyllid eleni i iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector weithio mewn partneriaeth, a chlustnodwyd cyfran wedi’i thargedu o’r cyllid hwn yn benodol ar gyfer cefnogi gofalwyr ifanc. Ac eleni rwyf wedi cynnwys gofalwyr yng nghylch gwaith ein cronfa gofal integredig £60 miliwn, gan roi blaenoriaeth bellach i’r grŵp hwn o bobl eithriadol.

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fel pob aelod o’r Llywodraeth hon, wedi ymrwymo i gynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys gofalwyr ifanc, i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod gofalwyr ifanc yn wynebu anawsterau ymarferol yn eu haddysg, ac oherwydd eu hamgylchiadau personol, gallant brofi problemau o ran llesiant sydd angen eu nodi a’u trin, o fewn amgylchedd yr ysgol a thu hwnt.

Mae ysgolion yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i gefnogi’r anghenion hynny, a dyna pam rwy’n wirioneddol falch o hysbysu’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ddatblygu canllaw cam wrth gam i ysgolion ar ofalwyr ifanc. Mae’r canllawiau newydd, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl, yn helpu i nodi a chefnogi gofalwyr mewn lleoliadau addysgol mor fuan â phosibl. Gwn fod cydweithwyr yn y maes addysg wedi hyrwyddo’r canllawiau rhagorol hyn i bob ysgol yng Nghymru, a byddwn yn hapus i’w rannu â chyd-Aelodau.

Ac ar ben hynny, rwyf wedi cymeradwyo cyllid pellach eleni i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gefnogi ymchwil i lefel y cymorth sydd ar gael ar gyfer gwella llesiant gofalwyr ifanc yn y gymuned. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhoi argymhellion i mi ynglŷn â sut i gefnogi llesiant gofalwyr ifanc ymhellach, ac edrychaf ymlaen at eu cael ac at ystyried y ffordd orau i ymateb.

Rwy’n bwriadu ysgogi cymorth pellach i ofalwyr ifanc drwy ein cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer gofalwyr. Fy null o ddatblygu’r cynllun yw gweithio mewn partneriaeth, gwrando ar yr hyn y mae gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, yn dweud wrthyf y maent ei angen. Mae llawer o sefydliadau rhagorol wedi’u crybwyll yn ystod y ddadl heddiw, ac rwyf am glywed ganddynt a chan y gofalwyr ifanc sydd wedi ymuno â ni yn y ddadl heddiw. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â grŵp ysbrydoledig o ofalwyr ifanc i glywed am eu bywydau, eu problemau a’u dyheadau, ac roedd nifer ohonynt yn teimlo y byddai cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn helpu. Rwyf wedi ymrwymo’n gyhoeddus i archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc ac wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ddatblygu fframwaith cenedlaethol i gynnal gweithrediad cardiau adnabod gofalwyr ifanc. Bydd y fframwaith hwn yn darparu’r sail ar gyfer ehangu cardiau adnabod gofalwyr ifanc ledled Cymru. Ac er mwyn i ni fod yn glir, mewn ateb i gwestiwn David Melding, rwy’n edrych arno ar lefel genedlaethol, yn hytrach na’i adael i awdurdodau lleol, oherwydd ar ôl gwneud hynny hyd at y pwynt hwn—nid yw wedi rhoi’r math o ganlyniadau y byddem wedi hoffi eu gweld.

Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, gan weithio gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru, wedi cynhyrchu ‘Canllaw i Ofalwyr ar Reoli Meddyginiaeth’ ar gyfer oedolion a gofalwyr ifanc. Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr hefyd yn gweithio gyda’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu i hwyluso lleoliadau i fyfyrwyr fferylliaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o ofalwyr. I fod yn glir, mae gofalwyr ifanc eisoes yn gallu casglu presgripsiynau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt, ond rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni godi ymwybyddiaeth o hyn ymysg gofalwyr eu hunain ac ymysg gweithwyr fferyllol proffesiynol, a dyna pam fod ein canllawiau newydd mor bwysig.

Mae ein gofalwyr yn darparu gofal dihunan ar gyfer eu teulu a’u hanwyliaid, ddydd ar ôl dydd, ac rwy’n cydnabod y straen y mae hyn yn gallu ei achosi. Mae darpariaeth seibiant yn bwysig i bob gofalwr, ond mae’n rhaid i ofalwyr ifanc allu cael mynediad at y gwasanaethau hyn hefyd. Rwy’n disgwyl argymhellion Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ynglŷn ag ehangu ein darpariaeth gofal seibiant byr a gofal amgen yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu dull cenedlaethol o weithredu gofal seibiant, gan gyflawni ymrwymiad maniffesto pwysig, ac nid yw’n bosibl gwneud hyn heb gymorth ariannol.

Ym mis Mai, cyhoeddais £3 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu seibiant i ofalwyr yng Nghymru yn well, a bydd hyn yn cynnwys ac o fudd i ofalwyr ifanc. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i rannu gyda’r Aelodau fy mod hefyd wedi ymrwymo i sefydlu grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr, a bydd hyn yn sicrhau bod gofalwyr yn cael cydnabyddiaeth gyfartal â phobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu. Rwy’n disgwyl i’r grŵp hwnnw chwarae rhan allweddol yn monitro cynnydd ein darpariaeth ar gyfer gofalwyr. I gydnabod yr heriau penodol sy’n wynebu gofalwyr ifanc, ac oherwydd y safbwynt unigryw a fydd ganddynt, byddaf hefyd yn gwahodd gofalwyr ifanc i gael eu cynrychioli fel aelodau o’r grŵp hwn.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r Aelodau ynglŷn â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddeall a diwallu anghenion gofalwyr ifanc yng Nghymru. Rwy’n gobeithio ei fod yn dangos bod gwaith cyffrous ar y gweill mewn nifer o feysydd, drwy ddeddfwriaeth, polisi a phenderfyniadau cyllido, sy’n mynd i’r afael â, ond heb ei gyfyngu i faterion yn cynnwys addysg, adnabod a seibiant.

Rwyf am orffen drwy ddweud y byddwn yn awyddus iawn i gyfarfod â Bethan Jenkins neu unrhyw Aelod o’r Cynulliad a hoffai helpu i lunio’r camau nesaf ar gyfer gofalwyr ifanc, yn enwedig ar hyn o bryd drwy’r gwaith newydd a phwysig ar ein strategaeth gofalwyr ar gyfer Cymru. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn ystyried pob un o’r pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod y ddadl hon wrth i ni symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddweud y byddwch yn fodlon cyfarfod. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio cael hyn yn iawn ar gyfer y gofalwyr; hwy yw’r bobl bwysicaf yn hyn i gyd. Fe ddywedwn mai’r rheswm pam y cyflwynais y mater hwn oedd oherwydd fy mod yn teimlo bod llawer y gellir ei wneud o hyd, a heb fod eisiau barnu, rwy’n credu pe bai’r system yn berffaith, ni fyddai angen trafodaeth yn y fan hon. Felly, rwy’n gobeithio eich bod wedi clywed rhai o’r pryderon rwyf finnau ac eraill wedi’u mynegi, fel y gallwn symud ymlaen yn gadarnhaol. Yn anffodus, Caroline, nid deddfwriaeth yw hon; dadl ddeddfwriaethol yw hi. Byddwn wedi hoffi iddi fod yn ddeddfwriaeth, ond efallai y byddaf yn llwyddiannus mewn pleidlais yn y dyfodol, ond rwy’n falch eich bod yn gefnogol.

Ydych, yn bendant, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd, fel y dywedodd Michelle Brown, nad ydym yn rhoi’r holl faich ar ofalwyr, fel eu bod yn teimlo dan bwysau ac yn llwythog, ond mae’n rhaid i ni hefyd gael cydbwysedd rhwng yr hyn y mae’r wladwriaeth yn ei ddarparu a’r hyn y maent yn teimlo’n gyfforddus yn ei ddarparu. Rydym eisiau i bobl ifanc fod yn bobl ifanc. Dyna beth y maent eisiau ei wneud hefyd, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod bywydau pobl yn gymhleth ac y bydd angen iddynt ofalu am y rhai o’u cwmpas. Ac felly, rwy’n gobeithio bod hyn yn rhan o ddadl sy’n mynd rhagddi. Croesawaf y ffaith y bydd gofalwyr ifanc yn rhan o’r grŵp newydd rydych wedi’i gyhoeddi, ac y gallant gymryd rhan lawn yn y broses honno.

Rwyf am ddweud, fodd bynnag, na all pobl o dan 16 oed gasglu presgripsiynau. Maent yn gallu gwneud os ydynt dros 16 oed, felly dyna pam rwyf wedi gofyn i Fferylliaeth Gymunedol Cymru am gyfarfod, oherwydd bod pobl ifanc wedi dweud wrthyf ar y dydd Sadwrn hwnnw pan gymerais ran yn y digwyddiad eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hamharchu. Maent yn mynd yno i gasglu cyffur ar gyfer eu hanwyliaid mewn sefyllfa argyfyngus, felly mae angen iddynt gael eu parchu yn hynny o beth. Ie, plant ydynt, ond mae’n rhaid iddynt weithredu yn rôl oedolion yn y rhinwedd honno, ac felly mae’n rhaid i ni roi’r un parch iddynt ag y byddem ni’n ei gael pe baem yn mynd i gasglu’r presgripsiwn, a’r parch y maent yn ei haeddu fel gofalwyr ifanc. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i’r drafodaeth, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.

Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Prosiectau Adfywio

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: prosiectau adfywio, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6354 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu ennyn hyder buddsoddwyr ar gyfer prosiectau adfywio.

3. Yn gresynu at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect Cylchffordd Cymru ac yn credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad posibl ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Llywydd dros dro. Nod y ddadl heddiw yw cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio wrth wella ffyniant cymunedau yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym hefyd yn awyddus i gael gwybod gan y Llywodraeth sut y mae’n bwriadu cynyddu hyder buddsoddwyr mewn prosiectau adfywio. Gwn fod fy nghyd-Aelodau’n gobeithio cael eu galw mewn perthynas â chynlluniau adfywio yng ngogledd a de Cymru, ac rwy’n gobeithio cael amser yn fy nghyfraniad i ymdrin â rhai agweddau ar adfywio yng nghanolbarth Cymru.

Felly, rwy’n cynnig y cynnig heddiw yn enw Paul Davies, a byddwn yn sicr yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, gan fod Andrew R.T. Davies hefyd, wrth gwrs, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i Gylchffordd Cymru yr wythnos diwethaf. Rwy’n siomedig fod y Llywodraeth yn arfer ei thacteg ‘dileu popeth’ i’n cynnig. Yr hyn a ddywedwn yw, beth am ychwanegu at ein cynnig yn hytrach na dileu popeth? Mae rhan gyntaf ein cynnig:

‘Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol’.

Sut y gallwch wrthwynebu hynny? Felly, byddwn yn dweud fy mod yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn newid ei safbwynt ar ei thactegau ‘dileu popeth’. Mae’n drueni oherwydd mae llawer yng ngwelliannau’r Llywodraeth y gallaf gytuno ag ef, ond wrth gwrs, nid yw’n mynd i’r afael hefyd â’r agweddau ar y modd yr ymdriniwyd â Chylchffordd Cymru y byddem wedi dymuno eu gweld.

Llywydd, rwy’n credu bod hyder y cyhoedd a busnesau mawr i fuddsoddi yn y gwaith o adfywio ein cymunedau ledled Cymru wedi cael ei niweidio’n ddifrifol gan y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â Chylchffordd Cymru. Gwariwyd miliynau o arian trethdalwyr, cafwyd honiadau o gamwario arian cyhoeddus, a dyma’r diweddaraf mewn rhes hir o fethiannau gan Lywodraeth Cymru i lynu at brosesau diwydrwydd dyladwy, llywodraethu ac atebolrwydd syml, gan ei gadael yn agored led y pen i risg ariannol a chyfreithiol sylweddol.

Mae datganiad y Cabinet yr wythnos diwethaf yn esbonio bod asesiad wedi’i wneud yn dilyn trafodaethau gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi fod risg sylweddol iawn y byddai’r ddyled lawn o £373 miliwn ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddosbarthu yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru. Felly, pam na sylwodd swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn yn gynharach? A pham na fynegwyd y pryder yn gynharach fod nifer arfaethedig y swyddi a oedd i’w creu wedi’i orddatgan? Mae’r ddau gwestiwn yn dal i fod heb eu hateb. Felly, yn fy marn i, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd cryn dipyn o gyfrifoldeb yn hyn o beth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe, nid oes llawer o dystiolaeth y bydd y parc busnes £100 miliwn a gyhoeddwyd i leddfu ergyd y siom yn sgil Cylchffordd Cymru yn creu’r 1,500 o swyddi a addawyd neu’n adfywio Blaenau Gwent, o ystyried hanes Llywodraeth Cymru o greu swyddi newydd yn y rhan hon o Gymru. Dyma’r cwestiwn: pa hyder a ddylai fod gennym y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i reoli risg yn effeithiol ac arferion gorau cyfrifyddiaeth yn y dyfodol, ar ôl ei methiant i wneud hynny gyda Chylchffordd Cymru? A dyma rwy’n pryderu yn ei gylch hefyd: y bydd y bennod hon yn effeithio’n negyddol iawn ar yr hyder y gallem ei weld mewn prosiectau eraill ledled Cymru hefyd. Rydym yn gwybod bod TVR yn gwrthod cadarnhau y bydd eu cytundeb ceir newydd yn datblygu yng Nghymru o gwbl.

Felly, rwy’n dweud wrth y Llywodraeth: mae’n rhaid i chi anfon neges gadarnhaol yn awr eich bod yn agored i fusnes â gweddill y byd. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gwrthbwyso’r pryderon hyn ar unwaith drwy nodi’n glir sut y mae’n bwriadu cynyddu hyder buddsoddwyr mewn prosiectau adfywio yn sgil y penderfyniad yr wythnos diwethaf. Byddwn yn awyddus hefyd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet esbonio ei resymeg dros beidio â darparu neu gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y DU ar y strategaeth ddiwydiannol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn y Siambr y byddai’n sicrhau ei fod ar gael i’r Aelodau. Eto i gyd y cyfan sydd gennym fel Aelodau yw llythyr eglurhaol at yr Ysgrifennydd Gwladol, ac nid manylion y strategaeth ddiwydiannol. A allwch ddweud wrthym ac esbonio pam ar y ddaear na allwch roi copi i ni o ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol?

Rwy’n credu bod bargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe yn allweddol ar gyfer adfywio, fel y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru hefyd. Gwn fod fy nghyd-Aelodau’n awyddus i fynd i’r afael â rhai pwyntiau yn hynny o beth, sy’n fy arwain i archwilio ychydig mwy ar y canol coll—bachais hynny gan Adam Price a soniodd amdano y bore yma yn y pwyllgor—ychydig mwy am y canol coll. Mae’n drueni nad yw Eluned Morgan yma, oherwydd lansiwyd ei gwaith yr wythnos diwethaf mewn perthynas â Chymru wledig. Felly, byddai wedi bod yn ddefnyddiol i Eluned Morgan gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Darllenais ei hadroddiad gyda diddordeb mawr. Rwy’n derbyn ei bod wedi gofyn i mi am fy adborth hefyd. Rwy’n credu bod digon yno sy’n haeddu ei ystyried. Mae’n amserol hefyd efallai fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cyflawni gwaith ar fargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru. Mae gennym dystiolaeth gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru a hefyd Tyfu Canolbarth Cymru. Yn wir, fe wnaethant roi tystiolaeth i’n pwyllgor y bore yma.

Ceir peth tystiolaeth a welir yn rheolaidd drwy gydol ein sesiynau pwyllgor, tystiolaeth rwy’n ei gweld yn rheolaidd fel Aelod Cynulliad dros ganolbarth Cymru wledig, ac a gafodd ei dwyn i fy sylw ynglŷn ag ymdrin â heriau canolbarth Cymru. Un o’r materion hynny, wrth gwrs, yw’r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer ehangu busnesau. Mae hon yn thema gyffredin sy’n dod i fy sylw’n aml iawn. Yn wir, fel tystiolaeth o hynny, ceir rhestr aros o fusnesau sydd am ehangu. Mae rhai ohonynt wedi bygwth mynd dros y ffin i Swydd Amwythig ac mae rhai ohonynt wedi gwneud hynny. Rydym yn awyddus i gadw’r busnesau hyn yng nghanolbarth Cymru. Felly, mae’n ymwneud â sicrhau bod tir ar gael ar gyfer ehangu busnesau. Wrth gwrs, ceir gwelliannau sydd angen eu gwneud ar frys ar y band eang a chysylltedd symudol sy’n effeithio ar ganolbarth Cymru, yn enwedig Powys a Cheredigion, yn fwy nag unrhyw ran arall o Gymru. Ceir busnesau nad ydynt yn ehangu ac nad ydynt yn dod i ganolbarth Cymru o ganlyniad i fethu cael digon o fand eang.

Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid inni edrych ar heriau unigryw canolbarth Cymru yn ogystal. Rwy’n credu bod yn rhaid inni gael cymorth penodol ar gyfer busnesau bach. Rydym yn gwybod, pro rata, fod yna ganran uchel o fusnesau bach yng nghanolbarth Cymru. Nid oes cymaint o fusnesau mawr, ond mae’r busnesau bach hynny yno, ac mae ganddynt eu heriau penodol hefyd. Felly, rydym angen rhywbeth sydd wedi’i becynnu’n benodol ar eu cyfer hwy. Un o’r heriau penodol eraill, rwy’n meddwl, i ganolbarth Cymru, yw nad oes gennym lawer o ddiweithdra, sydd i’w groesawu wrth gwrs. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw swyddi sy’n talu’n well. Rydym angen swyddi sy’n talu’n well am yr holl resymau amlwg, ond byddwn yn dweud hefyd ein bod angen swyddi sy’n talu’n well i ddatrys materion eraill sy’n effeithio ar y Gymru wledig—er enghraifft, recriwtio meddygon teulu. Mae gennym feddygon teulu sydd â phartneriaid, gwŷr neu wragedd sy’n weithwyr proffesiynol yn ogystal, sydd hefyd eisiau dod, ond a fyddai’n gorfod cael swyddi sy’n talu’n well hefyd er mwyn eu denu i’n hardal. Felly, mae angen swyddi sy’n talu’n well am nifer o resymau yn ogystal â’r rhai amlwg.

Y mater arall sy’n aml yn codi hefyd, wrth gwrs, yw gwella sgiliau pobl. Mae gennym ganran uchel iawn o fusnesau nad ydynt yn teimlo bod ganddynt y sgiliau iawn yn y gymuned leol i dyfu eu busnesau. Mae cadw sgiliau’n broblem hefyd. Mae gennym lawer o bobl ifanc yn symud allan. Nid ydym am iddynt symud allan; rydym am iddynt aros yng nghanolbarth Cymru. Felly, mae angen cael strategaeth hefyd, rwy’n meddwl, i adfywio canolbarth Cymru a rhai o’r pwyntiau hynny hefyd.

Felly, i orffen, hoffwn ddweud fy mod yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ychydig mwy wrthym heddiw hefyd am y strategaeth economaidd hirddisgwyliedig—pa bryd y daw honno ger ein bron inni ei chraffu fel Aelodau Cynulliad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma yn y Siambr.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.

2. Yn croesawu sefydlu’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy’n anelu at sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.

3. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau’r Cymoedd.

4. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio atebion posibl i’r materion y cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn hyder buddsoddwyr y dyfodol.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i’r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Llywydd, unwaith ym mhob cenhedlaeth daw achos penodol i’r golwg sy’n amlygu gwirionedd dyfnach a mwy anodd am blaid lywodraethol, yn aml—yn enwedig—pan fo’r blaid honno wedi bod mewn grym ers blynyddoedd lawer. Rwy’n meddwl am y tribiwnlys cig eidion, er enghraifft, yn Iwerddon o dan arweiniad Fianna Fáil yn y 1990au cynnar, ymchwiliad Scott yn y Llywodraeth Geidwadol, a gormod o enghreifftiau, mae’n debyg, i sôn amdanynt yn Llywodraeth Blair. Ond rydych yn deall y pwynt. Credaf fod Cylchffordd Cymru yn enghraifft o hyn. Mae rhywbeth wedi mynd o’i le’n ofnadwy yma. Ni allwn ddweud i sicrwydd beth yw hwnnw eto, ond rydym yn gwybod mai ein cyfrifoldeb ni yw gofyn y cwestiwn hwnnw a mynd at y gwir, a dyna sydd wrth wraidd gwelliant 3.

I ddechrau, fodd bynnag, hoffwn siarad yn fyr am welliant 2, sy’n llawer symlach, mewn gwirionedd, ac sy’n gofyn yn syml i’r Llywodraeth—. O ystyried y ffaith fod bron i £10 miliwn yn ôl pob tebyg wedi’i wario bellach gan y Llywodraeth ar y prosiect hwn, does bosibl na fyddai’n werth inni geisio, er parch i’r trethdalwr a’r buddsoddiad yn y prosiect hwn, cael pawb o gwmpas y bwrdd i weld a fyddai modd datrys rhai o’r problemau technegol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn ei ddatganiad ar 27 Mehefin.

Nawr, gallai ddweud, ‘Wel, edrychwch, rydym wedi cael y parc technoleg allan ohono’. Rhaid i mi ddweud er hynny fod y syniad mai adeiladu stadau diwydiannol yn unig yw’r ateb i’n problemau economaidd—wyddoch chi, mae’n anhygoel. Oherwydd, pe bai hynny’n wir, ni fyddai gennym unrhyw broblemau economaidd yng Nghymru. Ym maes datblygu economaidd, fe’i gelwir yn strategaeth y cae breuddwydion, ar ôl y ffilm Kevin Costner am ffermwr o Iowa yn ceisio creu ac adeiladu maes pêl fas mewn cae ŷd yn Iowa—’Adeiladwch ef, ac fe ddônt’. Nid ydynt yn dod. Yr holl bwynt am glystyrau yw bod yn rhaid i chi gael magned. Darllenwch eich Michael Porter. Rwy’n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi talu £250,000 iddo am strategaeth clystyrau yn 2002; fe’i cefais am ddim pan astudiais gydag ef yn Ysgol Fusnes Harvard. A’r hyn y byddai’n ei ddweud wrthych yw, ‘Edrychwch, ni ellir creu clystyrau allan o ddim byd’. Yr holl bwynt am Gylchffordd Cymru yw ei fod yn creu labordy awyr agored, man profi a fyddai’n fagned o bosibl. Gallwch ffurfio’ch barn eich hun ar ba mor gywir neu anghywir yw hynny, ac mae rhai Aelodau yn amheus. Ond yn sicr, hebddo, nid yw’n gweithio. Felly, does bosibl na ddylai Llywodraeth Cymru gyfarfod o gwmpas y bwrdd i weld a oes modd datrys y problemau hyn.

Gadewch i ni droi at y galwadau am ymchwiliad annibynnol, a wnaed gan y blaid Geidwadol, UKIP, a fy mhlaid fy hun. Cafwyd cyfres o ddatganiadau camarweiniol gan y Llywodraeth—yr ystod lawn o gymylu’r gwir i ddatganiadau sy’n anwir a dim llai, datganiadau y byddai’r Llywodraeth wedi gwybod nad ydynt yn wir, ac mae gennym 19 o eiriau yn Thesawrws Roget i ddisgrifio hynny, y rhan fwyaf ohonynt yn anseneddol, felly nid wyf am brofi amynedd y Cadeirydd. Ond fe af drwy rai o’r enghreifftiau. Efallai ein bod wedi clywed un yn gynharach, gyda llaw. Dywedwyd wrthym na allai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol roi datganiad diffiniol o ran mantolen. Rydym bellach yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gofyn am ddyfarniad dros dro mewn perthynas â’i phrosiect ei hun yn Felindre, ond ni chafwyd ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag a oeddech wedi dilyn yr un broses i gael dyfarniad dros dro ar Gylchffordd Cymru.

Yr argraff a grëwyd yr wythnos diwethaf, o ran y parc technoleg fodurol, oedd bod TVR ac Aston Martin wedi ymrwymo i’r parc technoleg heb Gylchffordd Cymru. Ac eto, bydd y cofnod yn dangos, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oeddent yn gwybod am hyn nes i chi godi ar eich traed. Rwy’n credu mai dyna a ddengys y cofnod.

Nawr, gofynnais y cwestiwn am mai’r hyn a welsom drwy gydol y broses hon yw’r Llywodraeth yn symud y pyst gôl ac yna’n cael gwared ar yr ôl traed. Gofynnais pwy gynigiodd warant o 80 y cant—hwnnw oedd yr ail gynnig a wrthodwyd. Cefais wybod gan y Llywodraeth mai’r cwmni a awgrymodd hyn mewn dogfen ddyddiedig 15 Ebrill 2016. Yna, anfonodd Cyngor Sir Fynwy lythyr ataf a oedd yn profi mewn gwirionedd mai’r Llywodraeth a wnaeth. Ysgrifennodd Mick McGuire at Michael Carrick ar 7 Ebrill, cyn y dyddiad hwnnw, yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu, ‘Rwyf wedi siarad â swyddfa breifat y Prif Weinidog, ac maent wedi cadarnhau ei fod yn fodlon i swyddogion fwrw ymlaen gyda Chylchffordd Cymru ac Aviva ar gynllun busnes B, cynllun amgen ymarferol sy’n sicrhau bod y risg yn cael ei rhannu’n decach. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’r meysydd sydd angen i chi eu hystyried yn cynnwys y dylai’r warant i Aviva fod yn 80 y cant neu lai’.

A’r mater mwyaf difrifol, wrth gwrs, yw’r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog yn ystod yr ymgyrch etholiadol, pan fo’n rhoi’r rheswm dros wrthod y cynnig cyntaf fel hyn: ‘Yr hyn a ddigwyddodd yn wreiddiol oedd ein bod yn chwilio am warant o £30 miliwn. Aeth yn £357 miliwn.’ Pan ofynnwyd iddo pa bryd y digwyddodd hynny, dywedodd ‘yn ystod y dyddiau diwethaf’ ac ailadroddodd hynny mewn cyfweliad gyda ‘The Western Mail’ ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Ac eto rydym bellach yn gwybod, gan fod gennym lythyr oddi wrth Aviva, sy’n dweud hyn, Llywydd:

nid yw’r modd y cafodd y cytundeb ei wrthod yn adlewyrchu’n dda ar Aviva Investors. Yn enwedig gan iddynt ddweud ein bod wedi gofyn am ddigollediad o 100% ychydig ddyddiau cyn i’r cynnig gael ei wrthod, er bod y cytundeb wedi’i lunio gyda Llywodraeth Cymru (drwy weision sifil) ers misoedd lawer ac ni newidiodd dim yn ein strwythur cyllido yn ystod y cyfnod cyn y cyhoeddiad hwn.

Nawr, os yw’r hyn y mae Aviva yn ei ddweud wrthym yn wir, rydym wedi cael ein camarwain yn y modd mwyaf difrifol posibl. Dyna pam y mae arnom angen ymchwiliad annibynnol.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd prosiectau adfywio i wella’r economi ac amodau cymdeithasol yn yr ardal. Mae hyn yn arbennig o wir yn fy rhanbarth sef de-ddwyrain Cymru, sydd â llawer o gymunedau a wynebodd ddegawdau o ddirywiad, yn anffodus. Gall cynlluniau adfywio llwyddiannus, sy’n dod â swyddi a buddsoddiad i ardaloedd sydd wedi dirywio, sicrhau swyddi a manteision eraill a all bara am flynyddoedd lawer. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i’r trethdalwr i sicrhau bod prosiectau adfywio yn hyfyw ac y byddant yn darparu manteision costeffeithiol yn gyfnewid am y buddsoddiad. Yn anffodus, mewn llawer o achosion, mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswydd. Mae Cylchffordd Cymru yn un enghraifft o fethiant Llywodraeth Cymru i lynu at brosesau diwydrwydd dyladwy, llywodraethu ac atebolrwydd syml. Rwy’n derbyn, wrth gwrs, fod yr Ysgrifennydd Cabinet cyfredol dros yr economi ond wedi bod yn ei swydd ers ychydig dros flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n wir fod pobl Glynebwy, dros gyfnod o saith mlynedd, wedi gweld eu gobeithion yn cael eu codi a’u chwalu gan gamgychwyniadau ac oedi i’r prosiect hwn. Mae’r honiadau am gamwario arian cyhoeddus, ymyrraeth amhriodol gan Lywodraeth Cymru, a phryderon ynghylch diwydrwydd dyladwy wedi bwrw eu cysgod dros y blynyddoedd cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud ar Gylchffordd Cymru.

Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar drosglwyddo dros £9 miliwn o arian cyhoeddus i gefnogi’r prosiect. Canfu’r adroddiad fod ‘diffygion sylweddol’ yn y modd roedd Gweinidogion wedi rheoli’r risg i’r trethdalwyr. Aethant ymlaen i ddweud bod penderfyniadau ariannu’n seiliedig ar benderfyniadau ‘diffygiol’. Roedd y datganiadau a gyhoeddwyd gan y Cabinet pan wnaed y penderfyniad terfynol i beidio â gwarantu’r prosiect yn gadael cwestiynau difrifol heb eu hateb. Pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i sylweddoli bod yna berygl sylweddol y gallai dyled lawn y prosiect gael ei gosod yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru? Pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i benderfynu bod yr amcangyfrif o nifer y swyddi y gellid eu creu wedi’i gorddatgan yn sylweddol? Ni all Llywodraeth Cymru ymbellhau oddi wrth fethiant y prosiect hwn.

Llywydd, mae yna faes arall rwy’n meddwl ein bod i gyd yn ei anwybyddu. O’r dechrau, un ochr i’r geiniog yn unig a welai’r cyfryngau. Roeddent eisiau i’r prosiect hwn fynd yn ei flaen, ac ni wnaethant edrych ar yr amcanion eraill, a oedd yn sylweddol iawn i’w clirio ac i edrych arnynt, ond anwybyddwyd hynny’n llwyr ganddynt. Er fy mod wedi ysgrifennu’n bersonol at y cyfryngau’n lleol a’r cyfryngau cenedlaethol, ni chyhoeddwyd dim. Ac nid un digwyddiad ar ei ben ei hun ydyw. Roedd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn destun beirniadaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad diwethaf. Gwerthodd CBCA 16 darn o dir i ddatblygwyr am swm cryn dipyn yn llai na’u gwerth marchnadol. Canfuom fod CBCA yn cael ei weithredu’n wael oherwydd y diffygion sylfaenol yng nghytundebau trosolwg a llywodraethu Llywodraeth Cymru. Y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf oedd cynllun gwrthdlodi blaenllaw Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Ers ei lansio yn 2001, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwario dros £300 miliwn yn ceisio trechu tlodi ac amddifadedd yng Nghymru. Eto i gyd, fel y cyfaddefodd yr Ysgrifennydd dros gymunedau, cymysg fu’r perfformiad, ac yn ei eiriau ef,

‘mae tlodi yn parhau i fod yn her ystyfnig a pharhaus.’

Mewn rhai achosion, gwariwyd gormod o arian ar staffio yn hytrach na phrosiectau rheng flaen. Yn y clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaerffili, gwariwyd dros £2 filiwn ar staffio yn 2015 a 2016. Roedd hyn yn fwy na phum gwaith y swm a wariwyd ar brosiectau gwrthdlodi yng Nghymru.

Diolch. A fyddech chi’n ystyried y ffaith y byddai tlodi, heb blethora o strategaethau gwrthdlodi ledled Cymru, gan gynnwys yr un hon, yn parhau i fod ar lefel lawer gwaeth o ganlyniad i galedi, o ganlyniad i doriadau i grant bloc Cymru, ac oherwydd y dadfuddsoddi creulon yn y system les?

Wel, y peth yw eich bod yn gwybod bod yr arian a ddaeth o’r canol wedi cael ei anfon yn ôl, rwy’n meddwl—dyna a glywais—ac mae camreoli’n digwydd yn eich Llywodraeth eich hun. Llywydd, mae adfywio’n sbardun pwysig yn economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ar unwaith â’r camreoli ariannol sydd wedi digwydd. Dyma’r unig ffordd o sicrhau’r elw gorau a gwerth am arian i drethdalwyr a’r cymunedau mewn angen yng Nghymru. Ceir rhai meysydd lle mae angen i ni wella ein heconomi, sef mewnfuddsoddiad o dramor ar ôl Brexit, ehangu ein diwydiant awyrennau, gwella ein sefydliadau ariannol, a chanolfannau cynadledda. Ceir rhestr hir, Llywydd, a chredaf mai’r Ceidwadwyr yn unig a all ei chyflawni. Diolch.

Nid wyf yn credu y gallwn wella ar y modd y dinistriodd Adam Price achos y Llywodraeth ar hyn, felly nid wyf am geisio gwneud hynny hyd yn oed, ond rwy’n gobeithio gallu ychwanegu ato. Mae hon hefyd yn ergyd drom i hyder diwydiannol yng Nghymru ac ni allaf feddwl y gallai unrhyw fuddsoddwr posibl yn y dyfodol ddibynnu ar air un o Weinidogion y Llywodraeth yn y weinyddiaeth hon.

Mae datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi cael eu camarwain nifer o weithiau a’u hannog i gredu bod prosiect y gwyddom bellach fod y Llywodraeth yn barnu ei fod yn ddiffygiol o’r cychwyn cyntaf, yn bosibilrwydd ymarferol. Beth y buont yn ei wneud dros y tair i saith mlynedd ddiwethaf, wrth inni fod drwy ymarferion diwydrwydd dyladwy diddiwedd am wahanol resymau, os methwyd y pwynt mwyaf elfennol o’r cyfan gan weision sifil yn Llywodraeth Cymru a chan Weinidogion a ddylai wybod yn well?

Clywsom gan yr Ysgrifennydd Cyllid y bore yma yn y Pwyllgor Cyllid ei fod yn gyfarwydd iawn â phroblemau dosbarthu o dan reolau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a chanllawiau’r Trysorlys yn wir—wrth gwrs ei fod—a Gweinidogion cyllid blaenorol hefyd. Dylai’r Cabinet cyfan fod yn ymwybodol o hyn, oherwydd mae’n broblem sydd wedi codi mewn nifer o wahanol gyfeiriadau, gan gynnwys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran cymdeithasau tai a phrosiectau tai cymdeithasol yn gyffredinol. Os yw’n wir fod y broblem hon yn angheuol i’r prosiect, yna dylid bod wedi cydnabod hynny o’r cychwyn cyntaf ac ni fyddai £50 miliwn wedi cael ei wastraffu gan ddatblygwyr y sector preifat, a £10 miliwn o arian trethdalwyr wedi’i wastraffu gan Lywodraeth Cymru yn y cyllid datblygu y maent wedi’i ddarparu. Felly, credaf fod hon yn sgandal fawr sy’n galw am ei hymchwilio’n annibynnol, ac rwy’n llwyr gefnogi’r ddau welliant y mae Plaid Cymru wedi’u cynnig. Rwy’n ildio i Adam Price.

Hefyd, mewn trafodaeth gyda mi ar 8 Chwefror 2017, pan ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd y ddwy set o feini prawf y byddwch yn cofio iddo’u gosod ar gyfer symud y prosiect i’r cam terfynol—y lefel o 50 y cant o warant ar y ddyled a’r risg i’w hysgwyddo, a hefyd ffurflenni amodau’r buddsoddwr—mae’n ddiddorol ei fod wedi dweud wrthyf,

ei bod hi’n ymddangos, yn ôl fy swyddogion, fod y meini prawf... wedi’u bodloni—

Wedi’u bodloni.

Gallaf ychwanegu at hynny gyda datganiad arall a ddigwyddodd yn natganiad diweddaraf Ysgrifennydd y Cabinet i’r Cynulliad hwn, lle y dywedodd hefyd fod lefel y risg ariannol a ysgwyddir gan y sector preifat yn llai na 50 y cant, ac eglurodd:

‘Mae hynny oherwydd y byddai’r elfen warant o £210 miliwn yn cario risg uwch na rhannau eraill y pecyn ariannol’,

nad yw’n bosibl ei fod yn wir, gan fod £48 miliwn o risg ecwiti yma nad yw wedi’i ddiogelu o gwbl ac sy’n mynd i lawr y draen os yw’r prosiect yn methu, a £47 miliwn arall o ddyled hefyd sy’n ddarostyngedig i warant y Llywodraeth ei hun. Felly, roedd hwnnw’n anghywirdeb ffeithiol hefyd, ar ben hynny. Nid wyf hyd yn oed yn deall o ble y daw ffigur y ddyled, ond mae hwnnw’n fanylyn y gallwn ei archwilio ar achlysur arall. Ond ffolineb sylfaenol y sefyllfa rydym ynddi yn awr yw nad oes gofyn i’r Llywodraeth roi ceiniog ymlaen llaw drwy gyllid buddsoddi i’r prosiect hwn, er ein bod yn gwybod bellach, o’r boced gefn, fel y disgrifiais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—disgrifiad a wrthodwyd gan y Prif Weinidog—gwyddom bellach fod hwnnw’n cael ei ddarparu o gronfa wrth gefn gyffredinol y Llywodraeth y mae’n deg ei disgrifio fel poced gefn, rwy’n meddwl. Nid oeddem yn gwybod bod y £100 miliwn hwn yn swatio yno heb ei gyffwrdd ac ar gael ar gyfer unrhyw gynllun hudol y gellid ei greu mewn pum munud i’w wastraffu ar brosiect nad oes neb ei eisiau ar hyn o bryd. Ac os bu achos erioed o’r angen am ddiwydrwydd dyladwy, dylid ei wneud ar y prosiect y mae’r Llywodraeth yn awr yn bwriadu darparu nid yn unig rhwymedigaeth ddigwyddiadol, ond rhwymedigaeth wirioneddol ar ei gyfer am y 10 mlynedd nesaf, a fyddai ynddo’i hun ar draul ysgolion ac ysbytai a’r holl bethau eraill y maent yn honni na allant eu hariannu pe baent yn bwrw ymlaen ar brosiect Cylchffordd Cymru.

Felly, fel y disgrifiais yr wythnos diwethaf, rydym bellach yn gwario llawer iawn o arian ar gasgliad o siediau gwag, yn hytrach na chael cylchffordd rasio fyd-eang, fel y dywedodd Adam Price yn gywir, inni allu denu, fel clwstwr, nifer o gwmnïau modurol yn ei sgil i fanteisio ar yr enwogrwydd a allai ddeillio o hynny o bosibl. Pam y byddent yn dod i safle gwag yng Nglynebwy heb ddim sy’n berthnasol i’r hyn y bwriadant ei wneud yno? Felly, rwy’n credu bod y Llywodraeth hon wedi gwneud cam â phobl Glynebwy, ac wedi gwneud cam â phobl Cymru, ac ar ôl 20 mlynedd, rwy’n meddwl ein bod wedi gweld digon ar y Llywodraeth hon, ac mae’n bryd eu bod yn mynd.

Rwyf am ganolbwyntio ar ran gyntaf ein cynnig a dweud pan fydd adfywio wedi’i ystyried yn drwyadl, gall sicrhau manteision mawr. Mae canol tref Aberdâr yn enghraifft. Yma ym Mae Caerdydd, dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y trawsnewid mwyaf rhyfeddol yn ein prifddinas, ac rwy’n falch iawn o ddweud, Llywydd, fod yr adeilad hwn ynddo’i hun yn enghraifft wych o’r adfywio hwnnw, ac rwy’n talu teyrnged i un o’ch rhagflaenwyr sydd yn y Siambr a wnaeth yn siŵr fod y prosiect hwnnw’n digwydd. Mae’n cynnig potensial ar gyfer pob math o ddatblygiad a gobaith newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yr hyn rydym yn ei weld yng Nghaerdydd yn y wasg dwristaidd yn rhyngwladol, mewn adolygiadau o’n potensial economaidd, yw eu bod yn siarad yn uchel iawn am y rhan hon o dde Cymru, ac mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer datblygu economaidd ehangach ledled Cymru. Ond mae’n dangos i chi beth y gellir ei gyflawni gyda dychymyg, arweinyddiaeth a gweledigaeth, a chydweithrediad yr holl chwaraewyr allweddol.

Ceir corff gwych o arferion gorau rhyngwladol rydym yn rhan ohono, ac mae’n ymestyn o Baltimore i Bilbao a llawer iawn o leoedd yn y canol. Credaf fod angen inni bellach osod uchelgeisiau newydd ar gyfer yr hyn rydym yn mynd i’w wneud, yn enwedig ar gyfer y Cymoedd a’r Blaenau’r Cymoedd. Mae siaradwyr eraill wedi canolbwyntio ar un prosiect penodol. Nid dyna yw fy mwriad; byddaf yn edrych ar rai meysydd eraill lle rwy’n credu bod angen inni weld mwy o ymdrech ac uchelgais.

Ond a gaf fi gymeradwyo rhai pethau sydd wedi digwydd? Mae’r fargen ddinesig yn cynnig ffordd o sicrhau bod adfywio’n rhan o batrwm o dwf a datblygiad rhanbarthol. Hefyd, rwy’n credu ei fod yn fodel gwych ar gyfer cydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a llywodraeth leol, yn ogystal—i gydweithredu’n adeiladol ar ddulliau dinas-ranbarthau, sydd wrth gwrs yn ymwneud yn llwyr â chael y ffyniant a’r arbenigedd a’r potensial y gall ei gynhyrchu o amgylch y rhanbarth i gyd a sicrhau bod pethau eraill, megis rhwydweithiau trafnidiaeth a rhwydweithiau diwylliannol, yn cael eu hintegreiddio’n briodol fel bod pawb sy’n byw yn y rhanbarth yn cael budd. Rwy’n credu bod hwnnw’n gysyniad eithriadol o bwysig rydym yn gweithio drwyddo yn awr, ac rwy’n falch o weld y cynnydd hyd yma, ond rwy’n gobeithio y bydd llawer iawn mwy o ddefnydd arno yn y dyfodol.

Er hynny, mae’n ymwneud â mwy na llywodraeth leol, llywodraeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU yn cydweithredu—er bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae—ac ymgysylltu â’r gymuned, rwy’n credu, yw’r allwedd arall i lwyddiant go iawn strategaethau adfywio. Er mwyn i adfywio fod yn wirioneddol effeithiol, mae angen iddo gael ei wneud gan y gymuned, ac nid gyda, neu yn llawer gwaeth, ar gyfer y gymuned. Dyna’n aml sydd wedi achosi ymddieithrio a diffyg ymgysylltiad, ac mae hynny’n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ofalus ein bod yn ei osgoi yn y dyfodol.

Os caf ddyfynnu o adroddiad Adfywio Cymru ‘Canllaw i Ymgysylltu Effeithiol â’r Gymuned’, mae—ac rwy’n dyfynnu—

‘datblygu polisïau gyda phwyslais cryf ar strategaethau cynhwysiant cymdeithasol yn dod â chynnydd i gymunedau oedd yn dioddef fwyaf o amddifadedd oherwydd allgau cymdeithasol.’

Rwy’n cytuno â hynny. Un strategaeth syml iawn a ddylai fod yn ganolog i’r math hwn o adfywio sy’n cynnwys y gymuned yw bod y gymuned yn gwneud llawer o’r adfywio. Mae’n swnio’n syml, ond yn aml, nid yw’n digwydd. Felly, mae’r gweithwyr cymunedol yn cael eu recriwtio’n lleol. Mae’r seilwaith, y gwaith y mae hynny’n galw amdano, pa brosiectau sy’n cael eu dewis a’u blaenoriaethu—caiff hynny ei wneud yn lleol. Cynlluniau gwella tai, lluosydd economaidd mawr sy’n cynnwys busnesau bach a chanolig lleol, cwmnïau cydweithredol, beth bynnag, a chronfeydd llafur lleol yn sicr—pwysig tu hwnt. Gofal plant—mor bwysig i uwchsgilio’r gweithlu yn gyffredinol a’u hannog i mewn i’r farchnad lafur—yn cael ei ddarparu gan bobl leol mewn cwmnïau cydweithredol ac yn gweithio i’r sector preifat, y sector annibynnol neu beth bynnag. A datblygu sgiliau sylfaenol wedyn sydd, a bod yn onest, yn un o’r ymyriadau sydd fwyaf o’u hangen mae’n debyg yn y rhanbarthau mwyaf difreintiedig, rhywbeth sydd eto wedi’i leoli mewn sefydliadau cymunedol ac yn hygyrch mewn ffyrdd y gall pobl leol ymateb iddynt.

A gaf fi orffen, Llywydd, drwy ddweud fy mod yn credu bod gwyrddu ein mannau trefol hefyd yn ganolog i’r math hwn o adfywio? Wyddoch chi, roedd Cymoedd de Cymru cyn yr oes lo yn cael eu hadnabod fel mannau gwledig delfrydol, yn destun i nifer fawr o arlunwyr—Turner, er enghraifft. Dylai’r math hwnnw o weledigaeth o harddwch y dirwedd ein hysbrydoli eto. Pleser mawr wythnos neu ddwy yn ôl oedd derbyn gwahoddiad i fynd i Faesteg gan yr Aelod lleol rwy’n falch iawn o’i weld yma, Huw Irranca-Davies, a gwelsom brosiect gwych yno ar ddatblygu coedwig newydd. Dyna’r math o beth yn union, a’r uchelgais, y dylem ei chael i adfer y Cymoedd go iawn a rhoi’r hyder sydd ei angen ar bobl leol i adfywio eu hunain yn economaidd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi, David, am grybwyll coetir Ysbryd Llynfi. Roedd yn ymweliad gwych ac rwy’n falch eich bod yn hapus iawn gyda’r hyn a weloch yno. Rwy’n credu ei bod yn un ffordd bosibl ymlaen o ran adfywio.

Byddaf yn cefnogi gwelliant 1, er gwaethaf protestiadau gan Russell, gan fy mod yn credu ei fod yn adlewyrchu teimladau Llafur ar adfywio yn well, ac yn daclusach hefyd mae’n debyg. Ond rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yng ngwelliant 1 ar y parc busnes technoleg fodurol yng Nglynebwy, er fy mod ychydig yn bellach i’r gorllewin, ac rwyf hefyd yn croesawu bargen dwf gogledd Cymru, er fy mod i’n llawer pellach i’r de. Ond rwy’n mynd i fod ychydig yn fwy plwyfol yn awr. Felly, ar gynlluniau adfywio a’r tasglu gweinidogol, gadewch i mi gyflwyno rhai awgrymiadau gofalus yn fy ardal yn Ogwr y gobeithiaf y byddant yn cyrraedd clust y Gweinidogion.

O ran seilwaith trafnidiaeth, rwyf wrth fy modd fod y gwasanaeth ar y Sul ar reilffordd Maesteg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bellach yn cael ei gynnwys yn y fasnachfraint newydd—mae’n ddatblygiad pwysig—a hefyd mae gwaith ar y gweill ar opsiynau i gynyddu amlder ar y rheilffordd hon. Mae’r rhain yn ddatblygiadau mawr i ymgorffori rheilffordd Llynfi yn rhan o brosiect metro de Cymru a chael pobl at eu gwaith yn ogystal ag at gyfleoedd eraill. Ond fel rhan o hyn, gyda llaw, mae angen inni hefyd ddatrys y broblem 5 mya—ie, problem 5 mya—gyda’r seilwaith rheilffyrdd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nhon-du. Mae gard yn disgyn gyda’i allwedd o’r caban signalau bob bore wrth i mi deithio, er mwyn ei throsglwyddo i yrrwr y trên pan fydd y trên ar stop. Rydym yn codi llaw, ac mae’n hyfryd o hen ffasiwn, ac ychydig fel ‘The Railway Children’. Mae’n ddymunol o hen ffasiwn yn wir, ond prin yn rhan o’r weledigaeth o’r metro a’r rheilffordd fodern rydym am eu gweld. Nid wyf yn credu mai dyna yw gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet chwaith. Mae’n 5 mya ac yna stop.

Mewn gwirionedd, wrth i’r opsiynau ar gyfer y metro a masnachfraint newydd Cymru a’r gororau gael eu llunio, mae angen i ni ragweld hefyd—ac mae angen i Trafnidiaeth Cymru a chynigwyr newydd ragweld—ffurf trafnidiaeth yn y rhanbarth yn y dyfodol. Felly, rydym am i reilffordd Maesteg fod yn rhan bendant o Fetro de Cymru, a bydd y gwasanaeth ar y Sul a gwella amlder yn helpu i wneud hynny, ond dechrau’n unig ydyw. I gael pobl i fyny ac i lawr ac ar draws y cymoedd hyn i’r swyddi ar hyd yr M4, mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol. Felly, yn gyntaf—ac mae hwn yn gais diedifar—beth am inni yn gyntaf gyflwyno’r bysiau cyflym cysylltiedig iawn, y tocynnau cyffredinol ac yn y blaen nad ydynt yn drenau a thramiau yn y cymoedd ychydig yn bellach i’r gorllewin? Oherwydd os ydych yn byw yng nghymunedau Evanstown neu Price Town sy’n gymharol anghysbell, er nad ydynt ond 25 munud o’r M4 mewn car wrth deithio’n ddirwystr am hanner nos heb unrhyw dagfeydd, os yw’r daith bws i’r gwaith yn ystod oriau brig yn cymryd dros awr, os yw’n wasanaeth anfynych neu os nad yw’n rhedeg yn ddigon hwyr neu’n ddigon cynnar i fynd â chi i’ch gwaith, neu’n galw am gysylltiad neu ddau, a heb ei gydamseru ag amserau trenau neu ddulliau eraill o deithio, wel, rydych mor bell o swydd ag unrhyw un arall mewn unrhyw gwm yn ne Cymru.

Yn fwy sylfaenol, mae tri chwm gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr yn arllwys yn bennaf i Ben-y-bont ar Ogwr, yn wahanol i’r cymoedd eraill i’r dwyrain, sy’n arllwys yn bennaf i Gaerdydd. Nawr, fel y cyfryw, byddwn yn croesawu’n fawr ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i syniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â chanolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle y gall dulliau teithio amlfoddol gydgyfeirio yma ac anelu wedyn tua’r dwyrain a’r gorllewin, tuag at Gaerdydd a Chasnewydd i un cyfeiriad a thuag at Gastell-nedd ac Abertawe i’r cyfeiriad arall, neu’r de, mewn gwirionedd, i’r Fro yn ogystal ag ardal ddeheuol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai’r ail ganolfan drafnidiaeth hon ar hyd coridor yr M4 yn gwella metro de Cymru yn sylweddol, ac yn gwneud cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr a’r arfordir a Bro Morgannwg yn rhan annatod o’r metro.

Ar y fasnachfraint newydd, gadewch i ni obeithio y bydd y cynigwyr llwyddiannus yn cyflwyno opsiynau a all ymestyn y gwasanaeth, boed yn dramiau a threnau neu’n opsiynau arloesol eraill, ar hyd ac ar draws y cymoedd hyn, ond hefyd i ranbarth ehangach Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Ni fydd meddwl anhyblyg hen ffasiwn ar hyd seilwaith rheilffyrdd traddodiadol caled yn diwallu anghenion ein hetholwyr, na’n hangen i’w gwneud yn hawdd i fwy o bobl barcio eu ceir a theithio’n rhwydd ar opsiynau trafnidiaeth sy’n well i’r amgylchedd. Yn nhasglu gweinidogol y Cymoedd, mae opsiynau i gryfhau’r broses o adfywio cymunedau cymoedd Llynfi, Ogwr, Garw a Gilfach yn hanfodol. Mae lefelau amddifadedd lluosog ac ynysu oddi wrth swyddi a chyfleoedd eraill lawn mor amlwg yn y rhannau hyn o’r cymoedd uchaf ag yn unrhyw le arall yn ne Cymru. Beth bynnag a ddaw o’r tasglu, rhaid cydnabod hyn a darparu’r un offerynau adfywio economaidd ag sydd ar gael i bob ardal arall.

Mae adfywio economaidd yn ymwneud â symud swyddi’n agosach at bobl neu bobl yn agosach at swyddi. Mae gan gymoedd gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr fantais o fod yn weddol agos, fel yr hed y frân, at goridor yr M4. Ond yn anffodus, Llywydd, ychydig o fy etholwyr sy’n hedfan fel brain. Maent yn teithio ar hyd ffyrdd un-lôn gyda thagfeydd ar adegau brig. Maent ar reilffordd un trac, un trên yr awr. Er mwyn lleihau’r pellter rhwng pobl a swyddi a chyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau, rwy’n gofyn yn syml i Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a darparwyr trafnidiaeth eraill barhau i weithio gyda mi a fy nau awdurdod lleol a chymunedau lleol i wella seilwaith trafnidiaeth ac adfywio’r trefi a’r cymunedau hyn yn y Cymoedd ledled Ogwr. Diolch yn fawr.

Os yw ffyniant cymunedau ledled Cymru i gael ei wella, mae’n rhaid i gynlluniau adfywio, yn anad dim, rymuso’r bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny. Fel y bûm yn pwysleisio ers cyrraedd y Cynulliad yn 2003, mae tai yn allweddol i adfywiad cynaliadwy cymunedau, nid yn unig o ran brics a morter, ond o ran ychwanegu gwerth drwy ryddhau’r potensial dynol mewn cymunedau. Fodd bynnag, er nad oedd unrhyw argyfwng o ran y cyflenwad o dai fforddiadwy pan ddaeth Llafur yn Llywodraeth Cymru yn 1999, aethant ati wedyn i dorri bron i dri chwarter y tai cymdeithasol a thai fforddiadwy newydd a gâi eu hadeiladu, a hyd yn oed y llynedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y cartrefi newydd a gwblhawyd yn mynd tuag at yn ôl. Cymharwch hyn â chyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe am gronfa seilwaith tai gwerth £2.3 biliwn i Loegr er mwyn darparu ar gyfer cymunedau sy’n tyfu a chael cartrefi wedi’u hadeiladu’n gyflymach. Ar ôl methu deall neu anwybyddu rhybuddion ac adroddiadau olynol gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae dull gorchymyn a rheoli Llafur tuag at ymgysylltu â’r gymuned wedi golygu mai gan Gymru y mae’r lefelau isaf o ffyniant, cyflogau a chyflogaeth, a’r lefelau uchaf o dlodi, tlodi plant a diweithdra o blith gwledydd Prydain. Fel y gwelodd ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn 2015 i dlodi yng Nghymru, ‘Tlodi ac Anghydraddoldeb’:

‘Ers dechrau’r mileniwm mae lefel y tlodi yng Nghymru wedi aros yn weddol debyg... gyda 23% o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi.’

Mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd â lefelau uchel o dlodi, meddai’r adroddiad:

‘fel gogledd-ddwyrain Lloegr, mae lefel y tlodi wedi gostwng yn fwy nag yng Nghymru dros yr un cyfnod.’

Mae’r ffigur tlodi cymharol hwn wedi parhau, ac mae tlodi absoliwt hefyd yn uwch na gwledydd eraill y DU.

Ar ôl gwario £0.5 biliwn mewn gwirionedd ar raglen arweiniol Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, Cymunedau yn Gyntaf, camgymhwyso canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2009 ar Cymunedau yn Gyntaf, a diystyru’r argymhellion yn adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, ar ddechrau’r pedwerydd Cynulliad, dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y mis diwethaf na fyddai’r rhaglen yn cael ei hadnewyddu, fod hanes ei gwaith yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn gymysg, ac nad yw’r ffigurau’n symud.

Ar y llaw arall, fel y gwelodd yr astudiaeth ddofn yn Nhredegar,

mae’r agenda grymuso cymunedau wedi cael ei fframio’n gynyddol o fewn y dull cydgynhyrchu.

Dylai’r gwaith o lywodraethu er mwyn sicrhau lleoedd cryf a chynaliadwy geisio ymgysylltu â dinasyddion lleol, meddent, sy’n galw am bersbectif gwahanol iawn i’r ymagwedd arferol at bŵer ar lefel gymunedol, ac yn dibynnu ar allu parod ac agored i rannu pŵer a gweithio tuag at amcanion cyffredin.

Mae Oxfam Cymru wedi galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru, gan helpu pobl i adnabod eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i’r afael â’r broblem greiddiol sy’n eu hatal hwy a’u cymunedau rhag cyrraedd eu potensial. Dyma y dylem fod wedi bod yn ei wneud 10 mlynedd yn ôl. Fel y dywed Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau’n cael eu gorfodi arnynt, nid yw’r polisïau’n gweithio, a dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfarwyddo o’r brig i lawr. Gan weithio yn ôl cryfderau a dyheadau pobl, llwyddodd y gwaith o gydlynu ardal leol yn Derby, y cyfeiriwyd ato o’r blaen, i ysgogi cydweithrediad rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol, gan adeiladu ar y model hynod o lwyddiannus yn Awstralia.

A fyddech yn ystyried y ffaith fod dull rheoleiddio ysgafn iawn Llywodraeth y DU o ran cyflogaeth wedi creu hollt helaeth o ran contractau dim oriau, rhai sy’n gweithio dwy neu dair o swyddi, a bod anallu’r rhwyd les i ddiogelu’r rheiny wedi effeithio’n anfwriadol ac yn amhriodol ar bobl Cymru oherwydd eu tuedd i hawlio lles?

Yng Nghymru, yr unig ran o’r DU a lywodraethir gan Gymru, mae gennym y lefel uchaf o gontractau nad ydynt yn barhaol yn y DU, a’r ail lefel uchaf o gontractau dim oriau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dyna etifeddiaeth Llafur. Gweddill y DU, gwyliwch a dysgwch—dyma a gaech yn Llundain pe baech yn ailadrodd eu camgymeriadau.

Wrth sôn am Bapur Gwyn Ionawr 2017, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, mae Sefydliad Bevan yn nodi, yn y bôn, fod gofyn i’r cyhoedd gytuno i newidiadau mawr yn y modd y darperir gwasanaethau lleol heb wybod sut y gallant sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Gan weithio gyda Talwrn, rhwydwaith trydydd sector Cymru, a changen gymunedol undeb Unite, mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn nodi’r ffactorau allweddol wrth ddatblygu cadernid cymunedol ar lefel leol, gan ddefnyddio datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau a datgloi cryfderau pobl. Fel y maent yn ei ddweud, mae sefydliadau cymunedol annibynnol mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol, o ofal cymdeithasol i gymorth i deuluoedd a chyflogadwyedd. Felly gadewch i ni ymuno â miloedd o chwyldroadwyr cydgynhyrchu sy’n gweithio yn Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. Os ydym yn credu ei fod dros Gymru, ymunwch â’r bobl.

Gadewch i mi orffen drwy roi sylw i’r honiad yng ngwelliant Llywodraeth Cymru ei bod yn bwrw ymlaen â bargen dwf gogledd Cymru, er mai Llywodraeth y DU a agorodd y drws i fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru, a dyma sydd wedi ysgogi ymateb trawsffiniol tîm gogledd Cymru. Fodd bynnag, o’r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwerau datganoledig i’r rhanbarth, ac mae eu distawrwydd ar hyn yn parhau i fod yn fwy o rwystr na dim arall i lwyddiant y fargen dwf.

Rwy’n croesawu’n fawr y gwelliant gan Lywodraeth Cymru i’r ddadl hon sy’n croesawu’r tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd de Cymru sy’n cynnwys fy etholaeth, sef Islwyn. Yr wythnos diwethaf yn unig, roeddwn yn sefyll yng ngorsaf drenau Trecelyn gyda’r Aelod dros Orllewin Casnewydd a chynrychiolwyr o Network Rail a Threnau Arriva i drafod cynnydd y buddsoddiad o £38 miliwn yn rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd, yn tynnu sylw at yr angen gwirioneddol am y gwasanaeth i Gasnewydd, ein dinas agosaf.

Ers agor rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd yn 2008, mae wedi bod yn llwyddiant syfrdanol. Mae’r buddsoddiad diweddaraf wedi arwain, yn fy etholaeth yn Islwyn, at welliannau i’r orsaf yn Nhrecelyn a gosod trac ychwanegol ar draws darn 7 milltir er mwyn cynyddu capasiti. Dyma bŵer datganoli yng Nghymru ar waith, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio sefydlu seilwaith trafnidiaeth trawsnewidiol sy’n gallu adfywio a bywiogi cymunedau’r Cymoedd, megis Trecelyn, Cross Keys, Rhisga a Phontymister a thrawsnewid bywydau eu pobl.

Yn 2015 cafodd rheilffordd Glynebwy ei hymestyn gyda buddsoddiad o £11.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i agor gorsaf tref Glynebwy. Mae hyn eisoes wedi gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau i bobl yng Nglynebwy, ac ar hyd y rheilffordd, mae wedi trawsnewid mynediad a symudedd ar draws ei chymuned yn y Cymoedd. Mae llwyddiant trawiadol y rheilffordd yn ddiamheuol, gyda thros 300,000 o deithiau yn flynyddol. Mae’r orsaf yng Nglynebwy yn dangos sut y gellir ymestyn y rheilffordd yn rhan o ryngwyneb trafnidiaeth strategol, cyfannol ac amlfoddol, fel y nododd Huw Irranca-Davies.

Rwy’n gadarn iawn fy marn y dylai Crymlyn gael gorsaf reilffordd rhyw ddydd, ac rwy’n gwybod, wrth i’r rheilffordd anelu tuag at Gaerdydd, fod galw hefyd am orsaf yn Llaneirwg, a allai ffurfio parcffordd yng Nghaerdydd rhyw ddydd, i gysylltu â’r brif reilffordd i Abertawe. Mae’r datblygiadau cyffrous hyn heddiw, ac yn y dyfodol, yn cael eu datblygu gan Lywodraeth Lafur Cymru, gan ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael i ni a chan bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu lle mae pwerau perthnasol yn dal i fod wedi’u cadw yn San Steffan a Whitehall.

Er gwaethaf galwad Llywodraeth Cymru am ddatganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd, mae’r cyfrifoldeb am ei gyllido yn aros gyda Llywodraeth y DU, ac yn anffodus, rydym yn dal i aros am y trydaneiddio a addawyd ac y maent hyd yma wedi methu ei gyflawni dros Gymru. Efallai y byddai’r Aelodau Torïaidd gyferbyn yn barod i wneud y gwaith ac ysgwyd coeden arian Theresa May i gael rhywfaint o arian i Gymru. Pe baent ond yn barod i wneud hynny, byddent hefyd yn sicrhau bod Cymru’n cael yr un driniaeth ag y mae’r DUP wedi’i sicrhau ar gyfer Gogledd Iwerddon—sef y parch cydradd, yr un cyllid a’r un driniaeth.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhan o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, bargen y mae—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, yn anffodus. [Torri ar draws.] Hoffwn orffen—y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfrannu—[Torri ar draws.]

Gadewch i’r Aelod—[Torri ar draws.]. Gadewch i’r Aelod barhau. Hi sydd i benderfynu a yw’n cymryd ymyriadau ai peidio.

[Yn parhau.]—£503 miliwn, ac fe’i dywedaf eto, gan fy mod wedi cael caniatâd i’w ddweud eto, £503 miliwn tuag at fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy’n werth £1.2 biliwn. Bydd y fargen drawsffurfiol yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus y Cymoedd ac yn creu 25,000 o swyddi newydd, gan adael £4 biliwn ychwanegol mewn buddsoddiad sector preifat. A hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i arweinydd newydd cyngor Caerffili a’i ddull egnïol, ymarferol o arwain yr awdurdod wrth i’r fargen ddinesig fynd rhagddi. Cyfarfûm yn ddiweddar ag arweinydd y cyngor, David Poole, i drafod sut y gall cymunedau Islwyn elwa ar y cyfleoedd y mae’r fargen ddinesig yn eu cyflwyno i’n cymunedau yn y Cymoedd a thu hwnt.

Llywydd, na foed unrhyw amheuaeth fod ein cymunedau yn y Cymoedd wedi dwyn baich toriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU, ac maent wedi bod ar flaen newidiadau didostur a chreulon y Llywodraeth i fudd-daliadau lles, o gyflwyno’r dreth ystafell wely, i doriadau i fudd-daliadau anabledd. Mae’r effaith wedi’i theimlo’n fwyaf difrifol gan y cymunedau yn y Cymoedd, ac yn fwyaf difrifol gan y bobl fwyaf agored i niwed yn ein plith. Ac er na all Llywodraeth Cymru ddadwneud y diwygiadau hyn, bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi pobl a’u helpu i gael gwaith medrus, ystyrlon. Y parc technoleg newydd arloesol, y fargen ddinesig, y llwybrau cyflogadwyedd newydd, menter a chyflogaeth, gofal plant a pharthau plant, bydd y cyfan yn chwarae eu rhan yn y gwaith o adfywio’r llinellau drwy galon y Cymoedd.

Yn olaf, mae gan Lywodraeth Lafur Cymru gyfeiriad teithio clir a chadarn a amlinellir yn ‘Symud Cymru Ymlaen: 2016-2021’, i greu metro de Cymru, gweithio mewn partneriaeth a chyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, cyflawni bargen ddinesig Caerdydd, a £100 miliwn o fuddsoddiad yn ne-ddwyrain Cymru. Nid oes rhyfedd, felly, fod cenedl y Cymry wedi pleidleisio i’r fath raddau dros Lafur Cymru yn yr etholiadau lleol a’r etholiad cyffredinol yn ddiweddar. Pam na ddaw’r Aelodau Torïaidd gyferbyn draw atom heno a phleidleisio yn y ddadl hon ar ochr y niferus ac nid yr ychydig?

Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac am roi cyfle i mi ymateb? Hoffwn ddiolch yn arbennig i David Melding am ei gyfraniad cadarnhaol yn edrych tua’r dyfodol. Soniodd sut na ellir adfywio drwy un ateb hollgynhwysol, a rhaid ei gyflwyno gyda’r gymuned y’i bwriadwyd ar ei chyfer fan lleiaf. Rwy’n credu bod Rhianon Passmore a Huw Irranca-Davies wedi siarad gyda’r un angerdd ac ymrwymiad ar ran eu hetholaethau. Roeddwn yn falch iawn o glywed sut y bydd y metro’n trawsnewid y bobl y bydd yn eu gwasanaethu a chawsom ein hatgoffa gan yr Aelodau hefyd am yr esgeuluso hanesyddol a fu ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraeth y DU. Ar y llaw arall, cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood am yr effaith ddinistriol y mae polisïau caledi Torïaidd wedi eu hachosi ers dros saith mlynedd, y caledi y mae’r dreth ystafell wely wedi’i achosi, y caledi y mae diwygio lles wedi’i achosi, y caledi y mae contractau dim oriau dan nawdd Llywodraeth y DU wedi’i achosi.

Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod Cymru yn rhan o’r DU a bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn berthnasol ledled y DU. Pam fod Cymru ar y gwaelod yn yr holl fesurau cymdeithasol allweddol a ddyfynnais?

Efallai fod yr Aelod wedi methu cydnabod y ffaith ein bod bellach wedi cael saith mlynedd o galedi sy’n parlysu, rhywbeth y mae ef, yn y Siambr hon, yn gefnogwr iddo, ond allan yng ngogledd Cymru mae’n tueddu i’w amddiffyn gyda dagrau crocodeil. Y ffaith amdani yw ein bod yn dioddef dan law Gweinidogion y Trysorlys yn San Steffan sy’n perthyn i’ch plaid chi.

Nawr, pwysleisiodd Huw a David, a Rhianon hefyd rwy’n credu, na ddaw ffyniant, ac adfywiad hefyd i bob pwrpas, heb ymyriadau deallus a chydgysylltiedig sy’n gorfod gweithio gyda’i gilydd, a heb yr hyfforddiant cywir a’r sgiliau cywir, heb y seilwaith trafnidiaeth cywir, ni all pobl gyrraedd y swyddi a allai gael eu dwyn i ardal leol. Yn yr un modd, heb dai o ansawdd da a fforddiadwy, mae’n bosibl iawn y caiff pobl ifanc eu gorfodi i fynd o gymuned y maent yn awyddus i adeiladu bywyd ynddi. Nid wyf yn teimlo bod hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y cynnig gwreiddiol heddiw, a dyna pam y cyflwynasom welliant y Llywodraeth.

Mae’r gwaith y bûm yn ei wneud ar adnewyddu ein strategaeth economaidd a datblygu economi pob rhanbarth yng Nghymru, y siaradais amdano y bore yma ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol honno, sef mai ymyriadau cydgysylltiedig yn hytrach nag atebion hollgynhwysol yw’r unig lwybr ymarferol i adfywio cymunedau’n effeithiol ar hyd a lled Cymru. A dyna hefyd yw’r meddylfryd sydd wrth wraidd sefydlu’r tasglu gweinidogol ar gyfer y Cymoedd. Fel cadeirydd y tasglu, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn datblygu dull newydd o fuddsoddi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymoedd de Cymru, er mwyn sicrhau bod cydgysylltiad yn yr ymyriadau gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus fel ei gilydd, a gwneud yn siŵr fod yr adfywio’n effeithiol. Dyna pam rwy’n aelod o’r tasglu a pham y mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn aelod hefyd. Yn hanfodol, gwnaethom gytuno o’r cychwyn cyntaf fod angen i ni weithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol ac yn bwysicaf oll, â’r cymunedau hynny yn y Cymoedd yn y ffordd a nododd David Melding yn gywir. Mae hyn wedi cynnwys rhaglen ddwys o ymgysylltu â chymunedau ar draws y Cymoedd a chyfres o weithdai a digwyddiadau i randdeiliaid, sydd wedi ein helpu i fapio’r hyn y dylai prif ffocws cynllun fod yn y blynyddoedd i ddod. Ac arweiniodd y canfyddiadau hyn at ddatblygu cynllun lefel uchel sy’n ceisio creu swyddi newydd, teg, diogel ac yn hollbwysig, swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus wedi’u cydgysylltu’n well, yn gwneud gwell defnydd o asedau cyhoeddus a chymunedol, ac yn datblygu dull o ddatblygu gweithgareddau sy’n ymwneud â sector yr amgylchedd a’r sector twristiaeth yn y Cymoedd.

Rydym yn defnyddio tasglu’r Cymoedd a bargen dwf gogledd Cymru fel mecanweithiau i ysgogi ffyniant. Mae bargen dwf Gogledd Cymru yn parhau i fod ar agenda Llywodraeth y DU. Roeddwn yn meddwl bod adwaith Janet Finch-Saunders i’r modd y camliwiodd Mark Isherwood y dull partneriaeth yn gywir, gan fy mod innau’n meddwl ei fod yn gywilyddus hefyd. Y ffaith amdani yw bod y weledigaeth ar gyfer bargen dwf gogledd Cymru i raddau helaeth yn cwmpasu mentrau Llywodraeth Cymru, ac rwy’n falch o allu rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi gwahodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru i gyd-gadeirio grŵp gorchwyl gyda mi, i edrych ar sut y gallwn wella datblygu economaidd trawsffiniol yng ngogledd Cymru ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy am ei bod yn wirioneddol allweddol fod gweithgareddau ar ochr Cymru i’r ffin yn cyd-fynd â gweithgareddau ar ochr Lloegr i’r ffin hefyd. Ac mae hynny’n berthnasol i bob rhan o ogledd Cymru. O gofio bod yna fwa o ddiddordeb niwclear—

A fyddwch yn gofyn iddo ymuno â chi yn yr un modd i wneud gwaith ar uno economi gogledd Cymru gyda de Cymru a chydag Iwerddon?

Wel, yn bendant, mae angen sicrhau bod yna gyfathrebu gwell a bod bargeinion twf a bargeinion dinesig Cymru yn cyd-fynd â’i gilydd ac nad ydynt yn cystadlu â’i gilydd. Ond y gwir amdani yw bod llawer o’r berthynas economaidd sy’n bodoli rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn cael ei yrru gan fuddiannau sectoraidd tebyg. Ac am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ein sylw, yn bennaf, ar y bargeinion twf sy’n dod i’r amlwg yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru. Realiti economaidd yw hynny. Er diddordeb i’r Aelod ei hun, y sector niwclear ar Ynys Môn, mae’n debyg, yw’r sbardun economaidd mwyaf sy’n mynd i fod yn dod i’r amlwg yn ei etholaeth yn y blynyddoedd i ddod. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn gysylltiedig iawn â datblygiad y sector ynni ar draws gogledd Cymru ac i mewn i ogledd-orllewin Lloegr. Mae’n fuddiol i bawb ein bod yn sicrhau bod y sgiliau’n cael eu datblygu ar Ynys Môn i lenwi pob un o’r swyddi—

Y pwynt penodol a roddais i’r Gweinidog Cyllid yn gynharach heddiw. Rwy’n credu bod yna berygl yng ngogledd-orllewin Cymru fod Wylfa yn cael ei weld fel yr un sy’n ticio’r blwch. Beth yw eich barn ar yr hyn a fydd yn digwydd os nad oes modd cyflawni Wylfa am ryw reswm—mae hynny yn berygl wrth gwrs—a’r perygl wedyn nad oes gan y gogledd-orllewin unrhyw beth wedi’i gynllunio i ddod allan o fargen dwf gogledd Cymru?

Rwy’n mawr obeithio na fydd arweinydd eich plaid yn cael ei ffordd ac yn rhoi diwedd ar ynni niwclear yng Nghymru. Rwy’n mawr obeithio, er mwyn pobl Ynys Môn a gogledd Cymru i gyd, fod y cyfleuster yn cael ei adeiladu. Y ffaith amdani yw bod economi’r rhanbarth wedi’i hadeiladu hefyd ar sylfaen dwristiaeth gref, ac mae twristiaeth yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn profi llwyddiant mwy nag erioed, ac mae hefyd yn seiliedig ar ddiwydiant bwyd a diod bywiog, sydd unwaith eto, yn profi llwyddiant mwy nag erioed. Felly, mae diwydiant Ynys Môn a gogledd Cymru mewn sefyllfa wych i fanteisio, nid yn unig ar fentrau ynni niwclear sy’n dod i’r amlwg, ond hefyd yn y sector twristiaeth, y sector amaethyddiaeth a’r sector bwyd a diod, pe bai’r Aelodau ond yn gwrando.

Gallaf ddweud yn onest, Llywydd, mai’r penderfyniad a wnaed ar Gylchffordd Cymru oedd y penderfyniad mwyaf anodd a heriol i mi ei wneud erioed yn ystod fy oes yn y Llywodraeth. Roedd yn heriol ac yn anodd am fod y gymuned y mae’r prosiect wedi’i addo ar ei chyfer yn un sydd angen cyfleoedd newydd, twf ac adfywiad newydd, ac efallai, yn anad dim, gobaith newydd.

Rwyf wedi nodi’r rhesymau pam na allem fwrw ymlaen, ond yn bwysicach na hynny, wrth wneud hynny, rwyf wedi nodi cynllun amgen, parc technoleg fodurol, y byddwn yn buddsoddi £100 miliwn ynddo dros y 10 mlynedd nesaf. Mae hwn yn fuddsoddiad yn nyfodol Blaenau Gwent a all gefnogi twf economaidd ar draws rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, ac rwyf am i’n gwaith ddangos bod Cymru yn lle da i gyflawni busnes a bod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn cynnig potensial gwych sydd heb ei gyffwrdd i’r buddsoddwyr hynny.

Bydd ffocws y prosiect yn y camau cychwynnol yn driphlyg ac yn seiliedig ar dystiolaeth gan fusnesau, gan bartneriaid llywodraeth leol, gan ddiwydiant ac arbenigwyr academaidd, ac o ardal fenter Glyn Ebwy. Bydd yr holl elfennau’n amodol ar achosion busnes boddhaol a diwydrwydd dyladwy. Maent yn cynnwys, yn y lle cyntaf, datblygu cyfleuster newydd wedi’i lunio i annog entrepreneuriaeth ac i gynyddu nifer y busnesau bach a chanolig; yn ail, datblygu cyfleuster gweithgynhyrchu uwch wedi’i lunio’n benodol i ddarparu ar gyfer unrhyw nifer o fewnfuddsoddwyr, gyda llawer ohonynt yn y sector uwch-dechnoleg isel iawn ei allyriadau ac sydd wrthi’n archwilio cyfleoedd yma yng Nghymru; ac yn drydydd, cefnogi’r gwaith o ailwampio adeilad presennol yn yr ardal fenter a all weithredu fel canolfan sgiliau a hyfforddiant prentisiaeth er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r ffrwd o bobl fedrus i gymryd swyddi o ansawdd, gan edrych tuag at ddyfodol lle’r ydym arloesi, yn deori, yn lansio ac yn tyfu mwy o gwmnïau o Gymru, gan fasnacheiddio llawer o’n heiddo deallusol ein hunain. Rwy’n credu y gallwn gefnogi twf economaidd ym Mlaenau’r Cymoedd ac ysgogi ffyniant y credaf y byddai pawb yn y Siambr hon am ei weld.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Cafodd ei chyflwyno am ein bod yn credu bod angen canolbwyntio o’r newydd ar adfywio yma yng Nghymru, a bod angen inni gael rhai o’r cymunedau tlawd ym mhob un o’n hetholaethau yn ôl ar eu traed ac yn weithredol. Rwy’n credu bod rhaid i ni gydnabod y bu rhai methiannau epig gan Lywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi gweld y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn methu’n llwyr â darparu, fel y nododd Mohammad Asghar a Mark Isherwood yn ddigon cywir: gwerth £0.5 biliwn o wariant ac mae’r un lefel o dlodi i’w gweld yn y cymunedau hynny heddiw ag a oedd—[Torri ar draws.] Ni fyddwn yn cymryd unrhyw ymyriadau gennych chi, na, dim o gwbl.

Yn ogystal â hynny, gwelsom sgandal banc tir, rhai o’r tlysau yn y goron o ran banc tir yn cael eu gwerthu’n rhad yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio ar golled o—nid ydym yn gwybod yn union beth ydyw—o leiaf ddegau o filiynau o bunnoedd o bosibl i drethdalwyr Cymru: arian a allai fod, ac a ddylai fod wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau adfywio. Ac yn awr rydym wedi gweld y sefyllfa’n datblygu gyda phrosiect Cylchffordd Cymru ble mae cwmni wedi cael ei gamarwain am saith mlynedd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi rhoi’r argraff eu bod yn gwneud popeth a allant i’w gefnogi, ac yna maent wedi tynnu’r plwg yn union cyn i bethau allu cael eu llofnodi ar y llinell doredig, a chredaf fod—[Torri ar draws.] A chredaf fod—.

Ken Skates a gododd—

Na, nid oes gennyf—. Efallai y gallaf gymryd amser mewn eiliad. Ac rwy’n meddwl bod camarwain pobl—. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi etifeddu llanast go iawn a dweud y gwir, fel Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich rhagflaenydd am eich bod yn gymharol newydd i’r swydd benodol hon, ond y gwir amdani yw bod y llanast hwnnw, yn anffodus, wedi glanio yn eich mewnflwch ac rydych wedi gorfod ei glirio. Rwy’n credu ei bod ond yn iawn inni gael ymchwiliad cyhoeddus i lanast Cylchffordd Cymru, fel y gallwn fynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd a gallu sefydlu’n union beth yw’r gwir ac a yw’r cyhoedd yng Nghymru, a’r busnesau sy’n rhan o hyn, ac yw’r Cynulliad hwn wedi cael eu camarwain ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd.

Mae Aelodau eraill wedi siarad yn angerddol am faterion unigol yn eu hetholaethau a’r prosiectau adfywio sydd wedi digwydd. Mae David Melding yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith y bu rhywfaint o lwyddiant dros y blynyddoedd, yn enwedig mewn lleoedd fel Bae Caerdydd. Rwy’n gweld adfywiad yn nhref lan môr Bae Colwyn, yn ogystal, ar arfordir gogledd Cymru, yn y blynyddoedd diwethaf, a chyfrannodd Llywodraeth Cymru at hynny, ac rwy’n talu teyrnged i chi am helpu i gyfrannu at y llwyddiant hwnnw. Yn anffodus, mae llawer o gymunedau yn dal i gael eu gadael ar ôl.

Clywais yn glir iawn yr hyn roedd Rhianon Passmore yn ei ddweud am annhegwch—annhegwch honedig—Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn heddwch a diogelwch Gogledd Iwerddon drwy sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i’r rhan benodol honno o’r Deyrnas Unedig. Ond beth am yr angen am degwch yng Nghymru o ran gwariant yng ngogledd Cymru ac yng nghanolbarth Cymru ac yng ngorllewin Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y de, sef yr hyn a welsom dros 20 mlynedd gan y Llywodraeth hon yma dan weinyddiaethau Llafur, a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal y gweinyddiaethau hynny o bryd i’w gilydd? Nid ydym wedi gweld yr un ffocws parhaus ar ogledd Cymru a chanolbarth Cymru. Roedd Russell George yn hollol iawn: mae angen bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru. Mae angen i Gymru wledig hefyd fod ar y map o ran cael rhywfaint o sylw, fel y gallwn sicrhau bod y busnesau yn yr ardaloedd hynny—y rhannau gwledig hynny o Gymru—yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt hefyd.

Rwy’n meddwl eich bod yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, i ganolbwyntio ar y cyfleoedd mewn gweithio’n drawsffiniol: gweithio trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, ac yn enwedig yng ngogledd Cymru lle mae cysylltiadau economaidd cryf iawn yn bodoli eisoes. Rydym wedi llwyddo rhywfaint i dynnu peth gwaed economaidd i mewn i ogledd-ddwyrain Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi bod o fudd i’r rhan honno o economi Cymru, ond mae angen i ni gael y llif hwnnw—y llwyddiant economaidd hwnnw—ymhellach i’r gorllewin. Gallaf glywed yn glir iawn y pryderon sy’n cael eu mynegi am ogledd-orllewin Cymru ac maent yn bryderon go iawn, ac mae angen inni sicrhau bod yna ffyniant o’r dwyrain i’r gorllewin yn ogystal ag o’r gogledd i’r de ac o’r de i’r gogledd. Mae’n rhaid inni gael pob rhan o Gymru i allu cyrraedd eu potensial, ac yn anffodus nid yw’r polisïau a welsom hyd yn hyn wedi eu galluogi i gyrraedd eu potensial, a dyna rwyf am ei weld.

Rwy’n credu bod yn rhaid i chi weithio’n galetach gyda chymunedau. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr ein bod yn cymryd—. Gwn y byddwch yn chwerthin ar hyn, ond mae’n rhaid i ni dynnu’r wleidyddiaeth allan o beth o hyn hefyd, os ydym yn mynd i gyflawni’r math o lwyddiant rydym ei eisiau, yn enwedig—[Torri ar draws.] Yn enwedig pan fo gennym amryw o awdurdodau lleol gydag arweinyddiaeth o wahanol liwiau o ran y wleidyddiaeth, ac arweinyddiaeth o liwiau gwahanol ar un pen i’r M4 o gymharu â’r pen hwn i’r M4. Felly gadewch i ni geisio gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r hyn rwy’n gobeithio y bydd pawb ohonom am ei gyflawni, sef Cymru fwy ffyniannus. Gadewch i ni gydnabod, fodd bynnag, nad yw parhau i ddilyn yr un fformiwla y credwch ei bod yn mynd i arwain at lwyddiant ac sydd heb wneud hynny yn y gorffennol yn mynd i weithio, ac rwy’n meddwl, felly, ein bod yn sicr yn bryderus iawn. Er ein bod yn croesawu’r ffaith fod yna rywfaint o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer Glynebwy, sydd wedi cael ei gyhoeddi, rydym yn bryderus iawn nad yw’n mynd i gyflawni newid mawr mewn gwirionedd o ran gwahaniaeth i’r economi ym Mlaenau Gwent a Glynebwy. Felly, credaf fod angen cael dull newydd o fynd ati. Mae angen mwy o gydweithredu, mwy o weithio gyda llywodraeth leol. Rydym wedi cael y bargeinion dinesig gwych hyn y credaf eu bod yn ein cyfeirio at y cyfeiriad cywir, yng Nghaerdydd ac ym mae Abertawe. Mae gennym fargen dwf gogledd Cymru, sy’n symud yn ei blaen yn araf deg, yn cael ei gyrru yn ei blaen gan Alun Cairns a Swyddfa Cymru, ac rwy’n credu, os gweithiwn gyda’n gilydd, y byddwn yn gallu gweld y gwahaniaeth y gall cydweithredu ei wneud. Felly, rwy’n annog pobl i gefnogi’r cynnig yn enw’r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Neil Hamilton, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, a rydw i’n galw ar Sian Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6356 Rhun ap Iorwerth

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn nodi’r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o’r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.

3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:

a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;

b) sicrhau bod ystyriaethau i’r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a’r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;

c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau’r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;

d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo’r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a’r economi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, ac rydw i’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl yma heddiw ac i gynnig y cynnig.

Ym mis Mawrth eleni, fe wnes i gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Cyrraedd y Miliwn’, a oedd wedi ei lunio gan brif asiantaeth polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru, sef IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Mi oeddwn i’n awyddus i gyfrannu i’r drafodaeth wrth i’r Llywodraeth fynd ati i lunio’r strategaeth a fydd yn tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn erbyn 2050. Mi oeddwn i yn ceisio crynhoi’r prif flaenoriaethau strategol y mae angen eu gwau i’w gilydd i greu strategaeth lwyddiannus. Roedd cael help cynllunwyr iaith profiadol yn hanfodol, ac mae’n bwysig defnyddio eu harbenigedd nhw yn llawn wrth symud ymlaen.

Mae’r cynnig sydd gerbron heddiw yn gyfle i grisialu rhai o’r prif faterion, ac yn eu tro bydd fy nghyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru yn edrych ar addysg, cynnal a datblygu’r economi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd, deddfwriaeth a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae yna lawer mwy na hynny yn y ddogfen ‘Cyrraedd y Miliwn’, ac mae pob un ohonoch chi wedi cael copi o’r ddogfen, ac y mae hi ar gael ar-lein.

Gair am y gwelliannau sydd wedi cael eu cyflwyno. Mae gwelliannau Llafur a UKIP yn dileu ein cynnig ni yn gyfan gwbl, ac felly ni fyddwn ni’n eu cefnogi nhw. Disgrifiad ydy gwelliant Llafur o rai o’r camau sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd. Edrychwn ymlaen i weld cynnwys y Papur Gwyn a’r syniadau ar gyfer Bil y Gymraeg newydd. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at bori drwy’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr yr wythnos nesaf, ac mae’r bwrdd cynllunio yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond cam yn unig.

Mae gwelliant UKIP yn negyddol ac yn wag o unrhyw uchelgais a gweledigaeth. Mae gwelliant y Ceidwadwyr am yr economi yn gwanhau ein cynnig ni. Mae angen i’r iaith fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd. Mae o’n llawer, llawer mwy na’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes. Yn wir, mae’r gwelliant yma yn crynhoi yn berffaith y diffyg crebwyll cyffredinol sydd yna am y cysylltiad rhwng y Gymraeg ac economi hyfyw yn yr ardaloedd lle y mae hi’n iaith bob dydd y cymunedau. Ein dadl ni ydy, os ydy’r Gymraeg am gynyddu, rhaid diogelu’r cadarnleoedd, ac i wneud hynny rhaid cael swyddi o ansawdd yn y llefydd hynny i atal allfudo ac i greu ffyniant economaidd a chymdeithasol.

O ran gwelliant y Ceidwadwyr am rôl Comisiynydd y Gymraeg, nid yw adolygu yn gyfystyr â chryfhau. Felly, nid ydym ni’n cefnogi hwn. Ac o ran ystyried diben safonau’r Gymraeg, rydym ni’n gweld hyn hefyd yn arwydd o awydd i wanhau yn hytrach na chryfhau. Fe ellid dehongli’r gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr fel diffyg ymrwymiad ganddyn nhw at y Gymraeg, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n awyddus i’n perswadio ni fel arall. Yn syml, felly, rydym ni’n erbyn y gwelliannau.

Rydym ni’n credu bod ein cynnig ni yn un cynhwysfawr, ond nid yw’n trafod pob agwedd o bell ffordd. Mae sawl agwedd i’r gwaith o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn yr adroddiad, ‘Cyrraedd y Miliwn’, rydym ni’n crynhoi fel a ganlyn:

bydd yn rhaid: cynnal y niferoedd a’r canrannau o siaradwyr a’r defnyddwyr cyfredol o’r Gymraeg; atgynhyrchu siaradwyr Cymraeg drwy gymdeithasoli plant yn y teulu a’r gymdogaeth leol; cynhyrchu siaradwyr newydd trwy’r gyfundrefn addysg a gofal plant ffurfiol ac anffurfiol—yn ddarpariaeth cyn-ysgol, ysgolion, colegau a darpariaethau allgyrsiol; creu siaradwyr newydd o blith y gweithlu Cymreig.

Wrth gynllunio i nifer cynyddol o bobl fod yn siaradwyr Cymraeg bydd rhaid sicrhau bod yna ddigon o gyfleoedd i bobl (ac i bobl ifanc yn enwedig) ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd—yn y cartref, wrth ddilyn cyrsiau addysgol a hyfforddiant, yn y gymdogaeth a’r gymuned leol, yn y gweithle ac ar gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg gwybodaeth.

Bydd hefyd angen sicrhau amodau cymdeithasol ac economaidd hyfyw i gynnal a chynyddu’r nifer o ardaloedd sydd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg, gan blethu amcanion polisi a chynllunio iaith gyda strategaethau a datblygiadau economaidd yn yr ardaloedd hynny. Yn ogystal, bydd yn rhaid hyrwyddo a chefnogi rhwydweithiau cymdeithasol newydd o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg eu hiaith.

Yn gefnlen i’r cyfan bydd rhaid sicrhau’r amodau gorau er mwyn i siaradwyr y Gymraeg medru ei defnyddio. Bydd hynny’n golygu adeiladu ar y bensaernïaeth ddeddfwriaethol gyfredol er mwyn sicrhau a chryfhau statws y Gymraeg, lledu a hwyluso ei defnydd mewn peuoedd hen a newydd a datblygu hawliau a hyder siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd beunyddiol ein gwlad.

Mae hyn yn cynnwys ehangu’r safonau i’r sector preifat, gan gynnwys y sector telathrebu, banciau, a’r archfarchnadoedd. Trosolwg ar y cychwyn fel hyn, ac rydw i’n edrych ymlaen at weddill y ddadl.

Rwyf wedi dethol y chwech gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Rydw i’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori’r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.

Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi’u cymryd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Neil Hamilton

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:

a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

i) gyda’r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a

ii) gyda’r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a

b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy’n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae llawer yng nghynnig Plaid Cymru y gallwn gytuno ag ef, a’r rheswm pam y rhoesom ‘dileu popeth’ yn ein gwelliant yw oherwydd mai dyna beth y mae Plaid Cymru bob amser yn ei wneud pan fydd yn ceisio gwella ein cynigion. Felly, rwy’n ofni ein bod yn talu nôl iddynt drwy wneud yr un peth. Ond nid ydym erioed wedi llwyddo eto i gael gwelliant wedi’i basio. Felly, rwy’n credu mai bygythiad braidd yn ffug i Blaid Cymru yw hwn. Rwy’n canmol y ddogfen a gynhyrchodd Siân Gwenllian, ‘Cyrraedd y Miliwn’, y credaf ei fod yn gynllun a strategaeth hynod o ddiddorol, eang a chynhwysfawr ar gyfer cyflawni’r hyn y credaf ei fod yn nod cyffredin i bob un ohonom yn y Cynulliad hwn. Rwyf wedi bod yn gefnogwr cadarn i uchelgais Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwyf wedi dweud yn aml fy mod yn meddwl bod y Gweinidog dysgu gydol oes wedi hybu’r polisi hwn yn effeithiol iawn gyda’r sensitifrwydd sy’n nodwedd fwyaf amlwg ynddo. Ac rwy’n meddwl—[Torri ar draws.] Na, roedd wedi’i olygu’n garedig yn yr achos hwn. Rwy’n credu mai ymagwedd gyffredinol y Llywodraeth tuag at y pwnc hwn yw’r un gywir.

Er fy mod yn cytuno â llawer iawn o’r hyn sydd yn y ddogfen hon, mae un neu ddau o bethau’n peri pryder i mi. Yn benodol, mae un ohonynt yn cael ei grybwyll yn y cynnig ei hun ar ymestyn safonau’r Gymraeg i’r sector preifat. Er fy mod yn cytuno, ar gyfer cwmnïau telathrebu a banciau a chwmnïau mawr o’r math hwnnw, fod ganddynt y seilwaith i allu ymdopi â’r beichiau ariannol a gweinyddol ychwanegol y bydd hynny’n eu creu, mae’n stori wahanol iawn, wrth gwrs, i fusnesau llai. Felly, mae angen i ni gael mwy o fanylion yn yr elfen honno o’r cynnig cyn y gallem ei gefnogi. Felly, rwy’n cydymdeimlo’n fras â nod Plaid Cymru hyd yn oed yn hynny o beth, ond rwy’n credu bod angen inni gael mwy o gnawd ar yr esgyrn cyn y gallwn ei gefnogi.

Diben ein gwelliant oedd tynnu sylw at yr hyn y credaf ei bod yn egwyddor sylfaenol o bolisi mewn perthynas ag addysg, y dylid rhoi’r ystyriaeth lawnaf sy’n bosibl i ddymuniadau rhieni. Nawr, rwy’n cytuno y gallai hynny, mewn rhai achosion, wrthdaro yn erbyn amcanion eraill y cytunwn yn eu cylch. Ond yn y bôn, nid ein plant ni yw’r plant sy’n destun y ddadl hon—o ran addysg, beth bynnag; plant eu rhieni ydynt, ac mae Deddf Addysg 1996, cyn datganoli rhaid cyfaddef, a nodai rwymedigaeth gyfreithiol y Llywodraeth, yn dweud bod disgyblion i gael eu haddysgu’n unol â dymuniadau rhieni. Yn amlwg, mae hynny cyn belled ag sy’n bosibl yn weinyddol. Nid yw’n bosibl parchu dymuniadau rhiant ym mhob achos, ond yn y bôn, dyna y dylem geisio ei wneud. Ac wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydym wedi cael y ddau achos gwrthgyferbyniol yn y flwyddyn ddiwethaf, sef achos Llangennech yn Llanelli ac wrth gwrs, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod addysg ym Mhowys i barhau addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Cefnogais y rhieni yno oherwydd mai dyna roeddent ei eisiau. Yn yr un modd, cefnogais y rhieni yn Llangennech a oedd eisiau i benderfyniad gwahanol gael ei wneud mewn perthynas â newid y cyfrwng addysgu o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ysgol gynradd Llangennech. Ac rwy’n credu mai’r ffordd ymlaen yw drwy berswâd, ac rwy’n credu y dylai hyn gael ei ariannu’n briodol. Rwy’n cytuno, unwaith eto, â’r rhan o’r cynnig a’r ddogfen hon y bydd y strategaeth iaith Gymraeg yn ddrud, ond rwy’n credu ei fod yn draul sy’n werth mynd iddo, oherwydd bod iaith yn ganolog i ddiwylliant cenedl, ac mae’n rhodd unigryw, na ellir, o’i cholli, ei hadfer heb yr anhawster mwyaf posibl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn werth inni wneud yr ymdrech fwyaf posibl er mwyn cyflawni’r amcanion hynny.

Ac mae llygedyn o obaith yn hyn, oherwydd, fel y dywed yr adroddiad, rhwng 2001 a 2011 tyfodd nifer y plant tair i bedair oed y cofnodwyd eu bod yn siaradwyr Cymraeg o 18.8 y cant i 23.3 y cant, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny, ac rwy’n cymeradwyo’r amcan a nodwyd yn yr adroddiad o gynyddu’r ffigur hwnnw i 35 y cant o fewn cyfnod rhesymol, gan mai dyna’r ffordd y bydd yr iaith yn cael ei chynnal. Rwy’n gwybod o fy mhrofiad personol ei bod yn llawer anos dysgu iaith y tu hwnt i’r blynyddoedd cynnar, ac felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cymdeithasoli plant, fel y dywedodd Sian Gwenllian yn ei chyflwyniad i’r ddadl hon, mor gynnar â phosibl ac yn eu gwneud yn gyfarwydd â’r iaith yn reddfol. Dyna’r ffordd ymlaen.

Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 3—Paul Davies

Dileu 3(b) a rhoi yn ei le:

ystyried y ffordd orau o hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau Cymraeg fel rhan annatod o’i strategaeth economaidd.

Gwelliant 4—Paul Davies

Dileu 3(c) a rhoi yn ei le:

adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwelliant 5—Paul Davies

Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl 3(c) ac ailrifo yn unol â hynny:

ystyried diben ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu cymhwyso i’r sector preifat.

Gwelliant 6—Paul Davies

Dileu 3(d) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu model newydd, y tu allan i’r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg ym meysydd addysg, y gymuned a’r economi.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. A diolch, hefyd, i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw ac am gomisiynu’r adroddiad y cyfeirir ato yn y cynnig. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r adroddiad wedi dylanwadu ar waith y Gweinidog. Ac, wrth gwrs, mae angen clywed gan y Gweinidog ar hyn, achos mae awdurdodau lleol yn paratoi eu strategaethau iaith Gymraeg eu hunain hyd at 2020 i gydymffurfio â’r safonau heb unrhyw ddealltwriaeth o beth bydd gofynion Llywodraeth Cymru ar ôl diwedd y flwyddyn.

Mae gennym welliannau, felly byddwn yn gwrthwynebu’r cynnig, ond nid ydym ni’n elyniaethus i fyrdwn cyffredinol y cynnig. Hoffwn gefnogi pwynt 3(a). Rwyf wedi bod yn galw am gyflwyniad ystyrlon, gorfodol i’r Gymraeg mewn lleoliadau Dechrau’n Deg am rai blynyddoedd bellach, ond yn ogystal â chyflwyno sgiliau iaith Gymraeg fel rhan annatod o gyrsiau galwedigaethol megis gofal cymdeithasol, lletygarwch, gwallt a harddwch, hyd yn oed, ac, wrth gwrs, gofal plant. Ac er y byddai rhuglder y safon aur—cawn ni weld—byddai fy mhrif ffocws i ar hyder, ac rwy’n credu ein bod ni i gyd wedi dod i’r casgliad erbyn hyn os nad oes gennym yr hyder i ddefnyddio ein Cymraeg yn anghywir, nid oes cyfle i’n Cymraeg ddod yn dda.

Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein gwelliant cyntaf. Rydym yn cyflwyno hyn yn y termau hyn, Sian Gwenllian, yn rhannol oherwydd nad oeddwn yn deall beth oedd pwynt 3(b) yn ei olygu mewn gwirionedd. Os oedd am edrych am dir ffrwythlon i hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau iaith Gymraeg o fewn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, wel, byddwn yn cytuno â chi. Os oedd am beidio â rholio yn ôl o’r safonau, well, byddwn i’n cytuno â chi hefyd. Os oedd am dderbyn y byddai’n rhaid i unrhyw raglen yn y diriogaeth hon fod yn amlgyflymder er mwyn adlewyrchu y bydd pawb yng Nghymru yn cael ei brynu i mewn i hyn o fannau cychwyn gwahanol, byddwn yn cytuno â chi ar hynny hefyd.

Mae gwelliant 4 yn ymwneud â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac rydym yn gwahodd unwaith eto Llywodraeth Cymru i ystyried atebolrwydd y comisiynydd, yn bennaf gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi galw am rôl annibynnol iddi hi, yn atebol yn uniongyrchol i ni, nid i’r Llywodraeth. Gan fod Plaid bellach wedi croesawu’r syniad o asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, tybed os gallem weld rhyw faint o newid yn eu safbwynt blaenorol ar hyn hefyd.

Nid oedd hi mor bell yn ôl, mewn cyfarfod gyda Dyfodol, rydw i’n credu, pan oeddwn i’n dadlau o blaid asiantaeth hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo, ac roedd Alun Ffred yn dadlau i’r gwrthwyneb. Er fy mod yn croesawu symud i ffordd o feddwl y Ceidwadwyr Cymreig, efallai gallaf bwyso arnoch chi am hyd y braich. Os ydych chi yn sôn am gorff a fydd jest yn dilyn cyfarwyddiadau bwrdd cynllunio’r Llywodraeth, wel, nid oes bwynt symud y gwaith i ffwrdd o’r Llywodraeth. [Torri ar draws.] A allech chi adael e tan y diwedd? Nid ydw i’n siŵr os oes gyda fi ddigon o amser, sori.

Mae’n rhaid i mi ddweud, ac mae’n bwynt pwysig, a dyna pam nid ydym ni’n cytuno â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn trio ei ddweud heddiw, ar hyn o bryd, rydw i’n dal heb gael fy argyhoeddi am bwrpas y panel, a dyna pam, fel y dywedais i, nid ydw i’n cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, rwyf yn dal o blaid corff hyd-braich annibynnol i ymgymryd â’r gwaith hwn, ond gyda’r rhyddid i feddwl yn wahanol. Fodd bynnag, mae yna ddadl y gallai comisiynydd Cymraeg atebol i’r Cynulliad hwn yn hytrach nag i’r Llywodraeth hefyd ffeindio ei hunan mewn sefyllfa ddiddorol i fod yn brif hyrwyddwr yr iaith Gymraeg. Rydym ni’n dal mewn cyfnod lle mae llawer o’n hetholwyr yn canmol neu gondemnio’r Cynulliad hwn am bolisi’r iaith Gymraeg yn hytrach na’r Llywodraeth. Byddai cyfle yma i gryfhau rôl y comisiynydd, yn rhan 3(c) yn y cynnig gwreiddiol, mewn ffordd wahanol. Mae gwelliant 6 yn wahoddiad i ofyn ai eiddo’r bobl neu eiddo’r Weithrediaeth yw’r iaith Gymraeg.

Nid yw ein gwelliant 5 yn groes i ran 3(c) y cynnig. Mae jest yn gofyn am gyfnod o fyfyrio a dadansoddi cyn cymryd y cam nesaf ar safonau. Mae’r comisiynydd wedi dweud bod y cyrff a effeithir gan safonau ar hyn o bryd yn dod i arfer â’r syniad, a gobeithio y byddwn yn gweld y dystiolaeth ffurfiol i gadarnhau hynny mewn atebion i’r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y Llywodraeth.

Mae gyda fi fwy i’w ddweud, ond nid oes yna ddigon o amser. Felly, mae’n ddrwg gennyf, Simon, hefyd.

Diolch, Llywydd. Mae’n dda gennyf gefnogi’r cynnig, wrth gwrs, fel y mae, a gwrthod y gwelliannau, er gwaethaf rhai o’r rhesymau sydd wedi cael eu gwneud. A gaf i ddechrau gyda hefyd nodi fy niolchgarwch a bodlonrwydd gyda phenderfyniad Cyngor Sir Powys i gadw’r ffrwd Cymraeg yn yr ysgol yn Aberhonddu, a hefyd tynnu sylw’r Cynulliad at pam y gwnaed hynny? Fe’i rhoddwyd tri rheswm dros wyrdroi’r bwriad y cau’r ffrwd Cymraeg yn Aberhonddu. Y trydydd rheswm oedd hyn: i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Felly, i fi, dyma’r tro cyntaf gweld penderfyniad cyngor sir yn cael ei wyrdroi neu newid oherwydd y bwriad yna. Rwy’n croesawu hynny, ac rydw i jest eisiau ymhelaethu ar beth sydd ymhlyg yn hynny nawr, yn enwedig ym maes addysg.

Os ŷch chi’n ystyried bod, o’r holl siaradwyr Cymraeg sy’n dros 65 ar hyn o bryd, wyth o bob 10 ohonyn nhw wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, ac, o’r holl siaradwyr Cymraeg sydd hyd at 15, dau o bob 10 ohonyn nhw sydd wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, rŷch chi’n gweld y gwahaniaeth sydd wedi digwydd dros y cenedlaethau. Ydym, rydym ni wedi cadw’r iaith mewn ffordd ryfeddol yn y byd modern, mae’n rhaid dweud, ond rydym ni wedi ei wneud ef drwy weld trosglwyddiad o le yr oedd yr iaith yn iaith aelwyd, fferm, capel, gwaith, ac ati, i sefyllfa lle mae’r iaith yn dibynnol, i raddau helaeth iawn, ar addysg.

Nawr, nid drwg o beth yn gyfan gwbl yw hynny, achos mae yna fanteision, wrth gwrs, fel mae’n digwydd bod—manteision penodol addysgiadol—o fod yn ddwyieithog, ac nid oes ots pa ddwy iaith yr ŷch chi’n ddwyieithog ynddyn nhw. Mae yna fanteision mwy o fod yn deirieithog, hyd yn oed, ond mae tystiolaeth ryngwladol mor gryf bod bod yn ddwyieithog yn cryfhau sgiliau mathemateg, sgiliau crebwyll, sgiliau dehongli, sgiliau dadansoddi. Mae’n dda o beth bod gyda ni system, ac ein bod ni’n symud at system, addysg ddwyieithog. Ond mae hefyd yn gofyn sawl cwestiwn ynglŷn â’r ffordd rydym ni’n mynd i gyrraedd yna.

Felly, a gaf i ofyn yn gyntaf—? Byddai’n dda gen i glywed gan y Gweinidog wrth ymateb i’r ddadl yma lle mae’r cynlluniau Cymraeg mewn addysg erbyn hyn, a gwaith Aled Roberts yn edrych ar rheini i sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer y targed newydd yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Jest i rannu, yn y cyd-destun yna, gyda’r Cynulliad rhai o’r pethau mae’n golygu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ychydig o dan 100,000 sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Felly, i gyrraedd miliwn, mae yna dipyn o ffordd i fynd. Mae modd ei wneud e, dros 30 mlynedd, ond mae yna ffordd i fynd. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd miliwn, bydd rhaid i 77.5 y cant o blant Cymru gael addysg drwy’r Gymraeg erbyn 2040. Dyna pam roedd Plaid Cymru’n dadlau yn ein maniffesto ni yn etholiad y Cynulliad diwethaf bod angen i bob un plentyn dderbyn addysg Gymraeg yng Nghymru, o leiaf yn yr ysgol gynradd, fel bod seiliau ddwyieithog i bob un plentyn yng Nghymru, ac efallai mwy o ddewis iaith yn dilyn hynny, gan ddibynnu pa ardal rydych chi’n byw ynddo fe.

Mae angen ewyllys benderfynol mewn ambell i ardal yng Nghymru. Er enghraifft, os ydych chi’n edrych o dan y ffigyrau yna, mae’n rhaid cynyddu’r ffigwr addysg Gymraeg o 10 y cant o blant saith oed yn Nhorfaen i 62 y cant; o 5.6 y cant yn y Fflint fel y mae hi ar hyn o bryd i 46.5 y cant. Nawr, nid pwynt defnyddio’r ffigyrau hyn yw collfarnu’r ardaloedd sydd ar ei hôl hi—rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwella—ond i ddangos bod modd gosod targedau, bod modd gosod targedau fesul ardal, fesul cyngor sir, fesul rhanbarth, fesul ysgol, ac mae modd, felly, mesuro. Dyna pam rydw i’n siomedig bod y Llywodraeth yn gwyrdroi ein gwelliant ni yn fan hyn sydd yn gosod allan yr angen am dargedau ac yn ceisio dweud stori eto. Wel, ie, gwerthwch stori ar bob cyfrif, ond fe awn ni am dargedau hefyd, os gwelwch yn dda, fel ein bod ni’n gallu mesuro a ydy’r miliwn yma o fewn cyrraedd mewn pum mlynedd, mewn 10 mlynedd, mewn 15 mlynedd. Dyma’r fath o ffigyrau mae’n rhaid i ni weld yn digwydd.

Wrth gwrs, rydw i wedi sôn am nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg, ond mae’n rhaid meddwl hefyd am y proffesiwn. Mae’n wir i ddweud, efallai, yn draddodiadol, mai ffermio ac addysg oedd y ddau weithlu Cymraeg eu hiaith yng Nghymru. Mae wedi syrthio yn ôl yn y ddau faes, i raddau, ond mae’n dal i fod yn wir bod un o bob tri athro yng Nghymru yn medru’r Gymraeg. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn medru’r Gymraeg. Felly, mae yna sgiliau cynhenid yna. Serch hynny, mae nifer y myfyrwyr Cymraeg sy’n hyfforddi i fod yn athrawon wedi cwympo i’r lefel isaf ers bron i ddegawd, ac mae angen hyfforddi 3,000 o athrawon ar gyfer y sector cynradd a 2,600 o athrawon ar gyfer y sector uwchradd er mwyn jest dechrau ar y cynllun o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Dyma’r swmp, dyma’r targedau a dyma’r ffordd rydym ni’n mynd i fesuro a yw’r Llywodraeth ar y trywydd iawn ai peidio.

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i’n edrych ymlaen nawr i weld cyhoeddiad y strategaeth? Gobeithio y bydd e’n dangos ôl yr argymhellion a’r drafodaeth a gafwyd yn y pwyllgor ar y strategaeth iaith ac yn awgrymu camau penodol i’r Llywodraeth eu cymryd i mewn i ystyriaeth—yn eu plith nhw, y syniad, rydw i’n gobeithio, y bydd y strategaeth newydd yn dangos y siwrne i ni o sut rydym ni’n mynd o fan hyn i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, ac yn gwneud hynny gyda cherrig milltir ac elfen o fanylder, fel ein bod ni’n gweld yn glir y siwrne sydd o’n blaenau ni ar gyrraedd nod uchelgeisiol iawn.

Gwnaeth Simon ac eraill sôn am bwysigrwydd addysg, ac rydw i’n mynd i sôn am hynny, ond hoffwn i, yn gyntaf, drafod y cwestiwn wnaeth Sian Gwenllian bwysleisio am y syniad o ffyniant economaidd, a bod llwyddiant a ffyniant yr iaith ynghlwm gyda ffyniant economaidd yn ein cymunedau ni. Yn fy etholaeth i mae yna lot o gymunedau sydd yn siarad Cymraeg ac mae yna lot o gymunedau sydd o fewn cof wedi siarad Cymraeg ond bellach nid yw’r iaith yn ffynnu ynddyn nhw. Mae hynny ynghlwm, i raddau, â’r patrwm o newidiadau economaidd dros y degawdau. Felly, mae angen i ni sicrhau wrth ein bod ni’n llunio’r strategaeth economaidd newydd bod pwys o fewn y strategaeth ar sut mae cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith o fewn hynny. Mae’r Llywodraeth yn gwneud gwaith da o ran cynllun Better Jobs, Closer to Home, ac efallai y dylid edrych ar hynny yn y cyd-destun ieithyddol ynghyd â’r cyd-destun rydym ni’n edrych arno fe ar hyn o bryd.

Ond o fewn y system addysg, rydw i hefyd yn gobeithio y byddwn ni’n gweld newidiadau i’r cynlluniau strategol. Yn amlwg, nid oedden nhw’n ddigon da pan gyhoeddwyd nhw yn y lle cyntaf, ac mae’r broses adeiladol sydd wedi bod yn digwydd, gobeithio, yn mynd i arwain at gynlluniau llawer mwy uchelgeisiol. Y gwir amdani yw y dylem ni fod, fel mater o egwyddor, yn ateb y galw yn llawn am addysg Gymraeg ble bynnag mae’n codi. Nid ydym yn llwyddo i wneud hynny ar hyn o bryd. Dylai hynny fod yn nod. Ond ar ben hynny, gan bod yr iaith yn ased diwylliannol, wrth gwrs, ond hefyd yn ased addysgiadol, fel rydym wedi clywed yn barod yn y ddadl yma, dylem fod yn cymryd camau penodol i greu y galw am addysg Gymraeg dros gyfnod o amser hefyd. So, mae angen y lefel honno o uchelgais er mwyn ein bod ni’n gallu cyrraedd y nod sydd o’n blaenau ni.

Fe wnaethom ni drafod yn y pwyllgor pa mor bwysig oedd addysg feithrin i gyrraedd y nod, a dylem edrych, rwy’n credu, ar beilota cyfle i rieni sydd ddim yn medru’r Gymraeg sy’n dewis danfon eu plant i gylchoedd meithrin Cymraeg, fel eu bod nhw’n cael hyfforddiant penodol yn y Gymraeg i allu cefnogi’u plant drwy siwrnai addysgiadol yn yr iaith. Mae hynny’n rhan o broses ehangach—ac mae’r strategaeth yn glir am bwysigrwydd hyn—o normaleiddio defnydd yr iaith o fewn y teulu, ynghyd ag yn y gymuned ac mewn gweithleoedd yn ehangach.

Ar lefel bersonol, tan i mi gael fy ethol i’r Cynulliad, nid oeddwn i byth wedi gweithio mewn gweithle lle roedd hi’n bosib siarad Cymraeg. Mae’r profiad hwnnw o fod yma a gallu siarad Cymraeg neu Saesneg fel rwy’n mynnu, mwy neu lai, wedi bod yn beth positif ac yn beth dymunol iawn ar lefel bersonol, a dyna y dylem ni fod yn trio ei gyflenwi a’i ddarparu i bawb mewn pob gweithle: ein bod ni ddim yn gorfod meddwl, ‘Ydy’r person yma yn siarad Cymraeg?’—ei bod hi’n beth sy’n dod yn lot fwy naturiol ac yn lot ehangach i bobl yn gyffredinol. Felly, rwy’n croesawu’r pwyslais ar hyrwyddo.

Fe wnes i sôn yn y ddadl ddiwethaf bod angen chwyldro arnom ni er mwyn cyrraedd y nod. Mae angen newid diwylliannol cynhenid i sicrhau bod pobl yn gallu teimlo hyder ac yn gallu llwyddo i siarad Cymraeg yn eu gweithleoedd ac mewn bywyd bob dydd. Mae rhan o hynny, fel roedd Suzy Davies yn sôn, yn ymwneud â hyder pobl, ond os nad ydych yn sicr bod y person rydych yn siarad â nhw yn mynd i ymateb yn y Gymraeg, mae’r cwestiwn yna o hyder yn eich dal chi nôl beth bynnag yw’ch gallu chi i fedru’r Gymraeg, ar un lefel. Felly, mae hynny’n rhan bwysig o hynny.

Yn fras, ar y cwestiwn yma o’r hawl gyffredinol, buaswn i yn hoffi i’r Llywodraeth edrych ar y drafodaeth gawsom ni yn y Pierhead rai misoedd yn ôl gyda Gwion Lewis, a oedd yn sôn am greu hawl cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd cymdeithasol, ond ynghyd â hynny bod canllawiau gyda ni i ddangos ble y byddai’n fwy tebygol ein bod ni’n cael defnyddio’r hawl. Roedd yn drafodaeth adeiladol iawn ac yn gynnig pellgyrhaeddol, a byddwn yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth i hynny maes o law.

Rwyf eisiau ategu rhai o’r pwyntiau cychwynnol roedd Jeremy yn eu gwneud ynglŷn â phwysigrwydd yr economi o ran ffyniant ieithyddol. Rwyf wedi bod yn gryf o’r farn na ellir gwahanu ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol o’i gilydd. Bydd Alun Davies yn cofio ni’n dau yn meddiannu tŷ yn fy etholaeth i nawr, a dweud y gwir, yng Ngharmel, adeg eisteddfod Casnewydd yn 1988, a’r faner tu fas i’r tŷ yn dweud, ‘Tai a gwaith i achub iaith’. Roedd yn wir bryd hynny, wrth gwrs, o ran y pwysau o ran tai fforddiadwy, ond mae gymaint yn fwy gwir nawr.

Rydym yn dueddol, efallai, o orbwysleisio yr elfennau addysgiadol a’r teuluol o ran trosglwyddiad iaith. Ond i mi, y gweithle, a dweud y gwir, oedd y pair a oedd yn golygu fy mod i wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, oherwydd roeddwn i’n dod o deulu iaith gymysg gartref. Roedd fy nhad yn löwr, wrth gwrs, a Chymraeg oedd iaith y gwaith glo. Fe ddes i i sylweddoli hynny, a deall bwrlwm ac afiaith y diwylliant glofaol dosbarth gweithiol Cymraeg hwnnw. Wedi hynny, drwy streic y glowyr, wrth gwrs, fe wnaeth iaith, gwaith a gwleidyddiaeth ddod yn un asiad i mi. Wrth edrych ar draws Cymru, a dweud y gwir, mae’r sylfaen economaidd wedi bod mor bwysig. Meddyliwch am ardaloedd chwarelyddol y gogledd, er enghraifft. Edrychwch ar amaethyddiaeth, lle mae dal i fod, yn y sector yna, dros 50 y cant o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg—dwywaith, wrth gwrs, y ganran sydd yn y boblogaeth—oherwydd bod y diwydiant ei hun yn cynnal pobl yn yr ystyr economaidd, a hefyd yn cynnal yn ieithyddol a diwylliannol. Nid yw hwn yn bwynt gwreiddiol rydw i’n ei wneud, wrth gwrs. Roedd Brinley Thomas, yn ei waith athrylithgar ar y chwyldro diwydiannol yng Nghymru a rôl y chwyldro diwydiannol yn achub yr iaith Gymraeg—. Roedd rhai pobl llawer mwy arwynebol yn awgrymu bod hynny wedi glastwreiddio’r iaith, ond roedd Brinley Thomas yn dangos ‘na’, oherwydd roedd y chwyldro diwydiannol ac, wrth gwrs, yr adfywiad wedi hynny yn y wasg Gymraeg yng Nghymoedd y de ac yn y blaen yn creu’r sylfaen oedd yn golygu nad oedd yr iaith Gymraeg wedi wynebu’r un tranc â’r iaith Wyddeleg.

Felly, a dod â’r gwersi hynny yn gyfoes, mae yna ryw iaith drwsgl a—i ddefnyddio hoff air Suzy Davies—jargonllyd, rydw i’n credu, yn Gymraeg a’r Saesneg, achos mae’n sôn am ‘gyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Wel, y bröydd Cymraeg traddodiadol rŷm ni’n sôn amdanynt fan hyn, ble mae’r iaith Gymraeg yn dal yn iaith feunyddiol ar y stryd, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae’r sylfaen economaidd a’r cwestiwn o ffyniant economaidd yn rhan annatod o’r cwestiwn o ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd hynny. Beth liciwn i weld yw bod yna, wrth inni edrych ar ranbartholi ar gyfer datblygu economaidd, fel yr oeddem ni’n trafod yn y pwyllgor economi’r bore yma—ein bod ni’n creu rhanbarth ar gyfer y gorllewin Cymraeg, os mynnwch chi, fel ein bod ni’n gallu dod â’r ddau beth yma—iaith a diwylliant ac economi—at ei gilydd mewn fforwm o gydweithrediad rhanbarthol.

Mae yna nifer o bethau y gall y rhanbarth honno—. Ond mae’n dda i weld bod y Prif Weinidog ddoe, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, wedi croesawu’r math yma o syniad. Mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud, fel edrych ar y cwestiwn yma o allfudo. Roedd yna brosiect yn ôl yn y 1990au o’r enw Llwybro, a oedd yn tracio pobl ifanc o’r canolbarth ac o’r gorllewin a oedd yn mynd bant i’r brifysgol, yn aml iawn yn Lloegr, ac yn ceisio denu—[Torri ar draws.] Wel, ie, ac rydw i’n credu mai’r Llywydd oedd yn gyfrifol am y prosiect yna: prosiect hynod lwyddiannus yn trio denu—. Roedd yn cadw cysylltiad, wrth gwrs, wrth iddyn nhw fynd bant, ac wedyn ceisio eu denu nhw nôl drwy adnabod cyfleoedd penodol a oedd yn addas ar gyfer eu sgiliau nhw. Unwaith eto, yn aml iawn yng Nghymru rŷm ni’n llwyddo gyda phrosiectau, ac wedyn rŷm ni’n taflu’r sail wybodaeth yna i ffwrdd. Ond mae yna gyfle inni ailafael ynddo fe.

Un prosiect, wrth gwrs, ar raddfa fawr yw’r rheilffyrdd: cysylltu gorllewin Cymru a gweld ein bod ni, am y tro cyntaf, yn gallu mynd o’r de i’r gogledd o fewn ein gwlad ein hunain. Felly, hynny yw, gweledigaeth ar raddfa fawr, gweledigaeth benodol a dysgu o’r gorffennol. Ond mae yna gyfle gyda ni i greu rhywbeth fydd yn gwrthbwyso’r duedd ar hyn o bryd—y gorbwyslais, efallai, ar y dinas-ranbarthau—trwy greu rhanbarth hefyd ar gyfer y gorllewin Cymraeg.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fel Aelodau’r Cynulliad mae angen i ni gefnogi mesurau effeithiol i hybu twf y Gymraeg, ac rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cymeradwyo’r amcanion hynny. Gwrandewais ar sylwadau agoriadol Sian Gwenllian, ac rwy’n cytuno â hi fod angen i ni roi pwyslais ar ddiogelu’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd: y syniad o roi camau ar waith i gadw swyddi yn yr ardaloedd hynny ac atal allfudo yn yr hyn a alwodd yn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith cyfathrebu bob dydd. Ac wrth gwrs, roedd Adam Price yn pwysleisio’r agwedd economaidd ac roedd hefyd yn siarad am ranbarth gorllewin Cymru a thrin y rhannau gorllewinol o Gymru sy’n siarad Cymraeg fel endid ar wahân o bosibl mewn rhai ffyrdd o feddwl yn economaidd. Rwy’n credu y gallai fod rhywfaint o werth yn hynny. Felly, rwy’n meddwl bod yna ffyrdd cadarnhaol y gallwn annog y Gymraeg, a chredaf fod yr hyn roedd Adam a Sian i’w gweld yn ei bwysleisio am y rhanbarthau gorllewinol yn ganolog i’r mater, rwy’n credu bod hynny’n wir, fy hun. Wrth gwrs, mae yna beryglon pan fyddwch yn ceisio trosglwyddo polisïau drwy Gymru gyfan ac rwy’n credu bod problemau posibl pan fyddwch yn crybwyll gorfodaeth.

Felly, os cyfeiriwn at yr enghraifft ddiweddar y buom yn ei thrafod ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â saga ysgol Llangennech, roedd digon o dystiolaeth fod y rhan fwyaf o’r gymuned yno yn erbyn y cynnig i droi ysgol gynradd ddwy ffrwd yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Nawr, gallech ddadlau, fel y gwnaeth Simon Thomas ar y pryd, fod y penderfyniad i wneud hynny’n cydymffurfio â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun, ond gallech nodi hefyd nad oedd y cynllun, o ran y modd y câi ei gymhwyso yn Llangennech, i’w weld â llawer o fandad lleol y tu ôl iddo. Rydym yn sôn am leoliaeth yn y lle hwn, ac nid oedd yn ymddangos fel pe bai llawer o leoliaeth yn yr hyn a oedd yn digwydd yn Llangennech. Felly, rwy’n meddwl weithiau, pan fydd yna orfodaeth, fod mesurau’n gallu bod yn wrthgynhyrchiol mewn gwirionedd.

Soniodd rhywun yma ddoe pan oeddem yn siarad am drethu—credaf mai Huw Irranca-Davies a wnaeth—fod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn fel deddfwyr i beidio â chreu canlyniadau anfwriadol. Trwy geisio gwthio ysgolion cyfrwng Cymraeg drwy rym, rwy’n credu y gallech weithio weithiau yn erbyn targed o greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Cafodd yr agwedd hon ei chydnabod gan AS Llanelli, Nia Griffith, pan fynegodd ei hofn pe bai’r ysgol dan sylw yn troi’n ysgol cyfrwng Cymraeg, y gallai llawer o rieni fynd ati’n syml i fynd â’u plant i ysgol cyfrwng Saesneg, hyd yn oed os oedd hyn yn golygu symud cartref. Byddai hyn yn tueddu i drechu pwrpas cynyddu cyfranogiad yn y Gymraeg. Felly, efallai fod Nia Griffith, yn yr achos hwn, wedi nodi’r canlyniad anfwriadol posibl.

Felly, i grynhoi, rwy’n cytuno â’r syniadau economaidd am yr ardaloedd gorllewinol, ond rwy’n meddwl, fel egwyddor gyffredinol, fod angen i ni sicrhau bod y cyfle i siarad Cymraeg ar gael i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny, ond y gallai gorfodi Cymraeg ar bobl nad ydynt eisiau gwneud hynny fod yn wrthgynhyrchiol o bosibl.

Fel sydd wedi ei leisio’n barod gan ein siaradwyr eraill, mae Plaid Cymru yn gefnogol iawn o’r uchelgais i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’n bwysig cydnabod nad trwy gyfres o bolisïau tymor byr y mae newid sefyllfa’r Gymraeg. Yn wir, os yw’r nod uchelgeisiol yma am gael ei wireddu, yna mae’n rhaid i’r strategaeth hon fod yn un a all wrthsefyll newid gwleidyddol—hynny yw, newid mewn Gweinidog a hefyd newid mewn plaid wleidyddol sydd yn llywodraethu. Felly, mae’n rhaid sicrhau elfen o barhad a chysondeb dros gyfnod estynedig o amser.

Rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw i sôn yn benodol am un elfen sydd yn sicr angen parhad a chysondeb, elfen sydd yn greiddiol bwysig os yw’r Llywodraeth am ennill cefnogaeth gan y cyhoedd ar y daith i gyrraedd yr 1 filiwn, sef hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym ni wedi clywed ambell gyfraniad da iawn—Jeremy Miles ac Adam yn benodol, ond eraill hefyd, a Sian. Fel rhan o’r gyllideb ar gyfer 2017-18, a gytunwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, yr oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth hyd braich i’r Gymraeg er mwyn rhoi cyfle i osod sylfaen newydd a mwy cadarn i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywhau’r iaith a chreu Cymru sydd yn wirioneddol ddwyieithog. Mae angen cynyddu’r pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg ac nid dim ond ar sicrhau hawliau i’w siaradwyr. Fel y mae’n sefyll, rôl Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo, ond mae Plaid Cymru o’r farn mai rôl i gorff hyd braich arbenigol arall, gydag arbenigwyr, polisïau a chynllunio ieithyddol sydd wedi eu hadeiladu dros nifer o flynyddoedd, sydd fwyaf addas yn awr ar gyfer dyfeisio, hwyluso a monitro’r math o gynlluniau hyrwyddo sydd nawr eu hangen. Dyna pam fod angen asiantaeth—neu beth bynnag y bydd yn cael ei alw—sydd yn arwain ar bolisi, sydd yn gyfrifol am orolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymysg adrannau Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor y celfyddydau.

Pam mai hyrwyddo yw un o’r elfennau pwysicaf er mwyn ehangu defnydd y Gymraeg? Wel, hyd yn oed heddiw, yn 2017, mae yna ddiffyg dealltwriaeth eang am ba fanteision y mae dysgu yn y Gymraeg yn eu cynnig a hyd yn oed sut y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu. Bob ryw chwe mis, yn ddi-ffael, cawn ni erthygl gan un o’r papurau newydd Prydeinllyd yn honni bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn atal plant rhag cyrraedd eu potensial, bod, rywsut, dysgu iaith sydd ar farw yn anfantais i unrhyw blentyn neu oedolyn sydd eisiau swydd o ansawdd, a’i bod yn well dysgu iaith dramor megis Ffrangeg neu Sbaeneg. Yr esiampl fwyaf diweddar, wrth gwrs, oedd erthygl yn ‘The Guardian’ bythefnos yn ôl a oedd yn ffeithiol anghywir ac yn honni bod plant a oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o dan ryw fath o anfantais o gymharu â’u cymheiriaid sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.

Er mwyn i’r Llywodraeth gyrraedd yr 1 filiwn, mae’n rhaid wrth newid agwedd tuag at y Gymraeg yn gyffredinol, fel ydym ni wedi clywed, ac i bobl Cymru gymryd perchnogaeth o’r amcan hon yn llawn hyder. Hyrwyddo—’Danfonwch eich plant i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mi ddaw’r plentyn allan yn rhugl mewn dwy iaith, nid dim ond mewn un.’ Mae hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan annatod yn hynny i gyd. Mae’r hyrwyddo yn allweddol bwysig. Nid oes dim i’w ofni yn fan hyn, dim ond gwella sgiliau eich plant, a chredwn ni fod angen asiantaeth hyd braich i arwain ar yr hyrwyddo yna. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth y prynhawn yma, a diolch i Sian Gwenllian, ar ran Plaid Cymru, am gynnig y cyfle i drafod y Gymraeg yma heddiw. Llywydd, byddaf i’n gofyn i Aelodau y prynhawn yma gefnogi gwelliant 1 gan Jane Hutt, ond i beidio â derbyn y gwelliannau eraill. Rydw i’n gofyn i Aelodau bleidleisio felly oherwydd ddydd Mawrth nesaf byddwn ni’n gwneud datganiad ar y strategaeth i’r iaith a byddwn ni’n gwneud datganiadau pellach ar sut yr ydym ni’n bwriadu gweithredu’r strategaeth. Beth nad wyf i eisiau ei wneud y prynhawn yma yw clymu’r Llywodraeth i mewn i safbwyntiau lle’r ydym ni’n mynd i barhau i drafod a chynnal ymgynghoriadau pellach. Nid wyf i eisiau dechrau proses o drafod wrth ddweud lle’r ydym ni’n sefyll. Nid wyf i’n credu y byddai hynny’n beth doeth i’w wneud. Felly, ni fyddaf i’n derbyn y gwelliannau’r prynhawn yma—nid oherwydd fy mod i yn anghytuno â’r gwelliannau, ond oherwydd ein bod ni eisiau parhau i gynnig a chynnal trafodaeth gyfoethog amboutu sut rydym ni’n hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau dyfodol y Gymraeg.

Wrth ddweud hynny, rydw i eisiau dechrau gyda’r pwyntiau roedd Dai Lloyd wedi bennu yn eu gwneud amboutu newydd agweddau. Rwyf finnau a Dai Lloyd, mae’n ymddangos, yn darllen yr un papurau ac yn clywed, ambell waith, yr un adroddiadau. Rydw i’n hollol glir yn fy meddwl i, ac mae’n glir, rwy’n credu, ym meddwl pob un ohonom ni nad yw e’n dderbyniol i Gymry Cymraeg gael ein herio oherwydd ein bod ni’n digwydd siarad Cymraeg yng Nghymru. Ambell waith, pan wyf i’n clywed rhai adroddiadau—clywsom ni adroddiad yn y ‘Daily Post’ wythnos diwethaf amboutu rhyw dŷ bwyta yn y gogledd lle’r oedd pobl yn cwyno oherwydd eu bod nhw’n clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yng Ngwynedd. Wel, mae gen i neges hollol glir: rydym ni’n siarad Cymraeg yng Nghymru ac rydym ni’n mynd i barhau i siarad Cymraeg yng Nghymru, ac mae gyda ni hawl i wneud hynny. Nid ydym ni’n ymddiheuro wrth neb oherwydd ein bod ni’n dewis defnyddio ein hiaith ni yn ein gwlad ni. Ac rydym ni’n mynd i sicrhau nid jest statws y Gymraeg ond newid agweddau tuag at y Gymraeg. Nid ydym ni’n fodlon dod i unrhyw fath o gytundeb gyda neb ar hynny. Rydym ni’n mynd i ddefnyddio’r Gymraeg a pharhau i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.

A gaf i ddweud hyn hefyd? Wrth symud ymlaen gyda’r fath o strategaeth a thrafodaeth yr ydym ni’n cael, rydym ni’n mynd, wythnos nesaf, i amlinellu ein gweledigaeth ni am y Gymraeg a sut rydym ni’n cyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae pawb yn cytuno, rydw i’n meddwl, fod y strategaeth yn un heriol ac uchelgeisiol. Ond rydw i hefyd yn meddwl ein bod ni’n dechrau ar daith—dechrau ar daith fel cenedl, fel gwleidyddion, fel Llywodraeth. Ac roeddwn i’n hollol glir yn fy meddwl i y llynedd, pan oeddwn innau â’r Prif Weinidog wedi gosod y targed yma, nad oeddem ni’n gosod targed er mwyn sicrhau dim newid. Roeddem ni’n gosod targed uchelgeisiol er mwyn creu’r angen i newid, er mwyn creu’r angen i newid sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu a sut rydym ni fel cenedl yn gweithio ac yn gweithredu ar sawl un o’r meysydd polisi.

Wrth ddweud hynny, a gaf i ddweud gair ar addysg? Rydym ni wedi clywyd rywfaint o drafodaeth ar addysg y prynhawn yna. Nid ydw i’n mynd nôl i’r gorllewin; nid dyna yw fy mwriad i heddiw, er fy mod wedi cael gwahoddiad gan Adam Price i wneud hynny. Ond rydw i yn mynd i ateb y cwestiynau yr oedd Simon Thomas wedi’u gofyn i mi.

Mae Aled Roberts wedi bennu ei waith e ar WESPs ar draws y wlad, ac rydw i’n mynd i gyhoeddi ei adroddiad e, rwy’n gobeithio, cyn diwedd y tymor, ac yn bendant dros yr haf. Byddaf i’n ysgrifennu at gynghorau lleol yn ymateb i bob un o’r WESPs ar yr un pryd, a byddaf yn gofyn i gynghorau lleol sicrhau ein bod ni’n gallu ymateb i WESPs a chael cynlluniau strategol yn eu lle a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd yr 1 filiwn, ac rydw i’n derbyn—. Nid ydw i’n derbyn pob un o’ch ffigyrau chi, ond rydw i yn derbyn y ffaith bod rhaid i ni gael fframwaith o’r fath, ac mi fyddwn ni’n gwneud hynny.

Mi fyddwn ni hefyd, wrth gwrs, yn gwneud datganiadau pellach ar hynny. Mi fydd Kirsty Williams yn gwneud datganiadau pellach ar y cwricwlwm ac addysg bellach, a hefyd rydw i’n awyddus iawn ein bod ni ddim yn siarad ac yn trafod y Gymraeg yn nhermau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nhermau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’n bwysig bod plant sy’n mynd i ysgolion Saesneg yng Nghymru yn cael yr un cyfle i ddysgu Cymraeg ac i ddod yn rhugl yn y Gymraeg erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac mi fyddwn ni yn sicrhau hynny trwy’r math o ddiwygiadau i’r cwricwlwm rydym ni’n bwriadu eu gwneud.

A gaf i droi at rai o’r pwyntiau yr oedd Jeremy Miles wedi’u codi? Rydw i wedi dilyn y drafodaeth, ac rydw i wedi dilyn y drafodaeth sydd wedi bod amboutu ein hawliau ni i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydw i’n cytuno bod rhaid inni ystyried yn bellach sut rydym ni’n gweithredu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydw i’n meddwl bod gwaith Gwion Lewis yn cynnig ffordd o drafod hynny, ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau trafodaeth o’r fath yn ystod y misoedd nesaf. Rydw i yn cytuno bod angen fframwaith deddfwriaethol sydd yn ein galluogi ni i gyrraedd ein gweledigaeth ni a gweld y cynllun i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr.

Ond hefyd mae’n rhaid inni ystyried a oes gyda ni’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol mewn lle ar hyn o bryd. Mae angen ystyried a yw’r balans rhwng rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi’r Gymraeg trwy weithgareddau hybu yn hwyluso ein haddysg ac yn gweithio ar hyn o bryd. Mae rhai, y prynhawn yma, wedi awgrymu bod angen newid, ac mae rhai, wrth gwrs, wedi newid eu hatebion eu hunain, ac rydw i’n gwerthfawrogi hynny, ac mi fyddwn ni’n ystyried eich awgrymiadau yn ystod y trafodaethau a fydd yn dod. Felly, rydw i’n gallu dweud y byddaf i’n cyhoeddi Papur Gwyn i ymgynghori ar hyn. Byddaf yn cyhoeddi’r Papur Gwyn yn ystod yr Eisteddfod yn sir Fôn, ac mi fyddwn ni’n trafod sut rydym ni yn creu’r fath o fframwaith deddfwriaethol a fydd yn angenrheidiol arnom ni ar gyfer y dyfodol.

Nid ydw i’n bwriadu trafod beth fydd cynnwys y Papur Gwyn y prynhawn yma, ond rydw i’n gallu dweud hyn: ni fyddwn ni’n ymyrryd â statws y Gymraeg. Rydw i’n gwybod bod rhai wedi cwestiynu a ydym ni’n edrych ar sut rydym ni’n gweithredu safonau. A yw hynny yn meddwl ein bod ni’n gwanhau statws y Gymraeg? Nid ydym ni’n gwneud hynny, ac nid ydym ni’n bwriadu gwneud hynny. ‘In fact’, rydym ni eisiau mynd i bellach i gryfhau statws y Gymraeg, ac fe fydd eisiau hefyd sicrhau bod yna ddigon o bwyslais ar hyrwyddo a hybu. Rydw i eisiau symud y pwyslais. Rydw i eisiau symud o bwyslais o ffurf fiwrocrataidd o reoleiddio i ffurf wahanol o hybu a hyrwyddo, a thrwy wneud hynny, rydw i eisiau gwneud rhywbeth pwysicach, efallai. Rydw i eisiau uno’r genedl ar bwnc y Gymraeg. Rydym ni’n gwybod, ac rydw i’n gwybod, fel un sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac un sy’n cynrychioli etholaeth lle nad wyt ti’n clywed y Gymraeg ar y stepen drws ac ar y ffyrdd ac yn cael ei siarad yn y gymuned, ambell waith, nad ydym ni fel Cymry wedi uno ar y Gymraeg.

Ond beth rydw i eisiau gwneud yw hyn—yn mynd nôl at y pwyntiau y mae Neil Hamilton wedi’u gwneud yn bellach y prynhawn yma ac ar adegau gwahanol—sicrhau nad ydym yn gorfodi ac yn sôn amboutu gorfodi, ond dathlu’r ffaith bod gyda ni ddwy iaith genedlaethol, fod gyda ni ddau ddiwylliant cenedlaethol, ein bod ni’n gallu mwynhau y ddwy iaith lle bynnag yr ydym ni yng Nghymru, a’n bod ni’n defnyddio’r Gymraeg i uno Cymru ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Mi ddechreuodd y ddadl y prynhawn yma efo Neil Hamilton yn cytuno efo llawer sydd yn y ddogfen, ‘Cyrraedd y Miliwn’. Felly, nid wyf cweit yn deall pam fod angen mynd ar ôl un agwedd ac un agwedd yn unig yn y gwelliant, sydd ddim wir yn cyfrannu at y weledigaeth a’r arweiniad sydd eu hangen yn y maes yma.

Mi oedd Suzy Davies yn pwysleisio’r angen i godi hyder, ac rydw i’n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Roeddech chi’n gofyn am esboniad am y cymal sydd—ac rydw i’n cytuno efo Adam—dipyn bach yn annelwig, sef ‘cyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Fel yr oedd Adam yn egluro, y cadarnleoedd, y bröydd Cymraeg, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd, a’r angen i gynnal y rhwydwaith yna o gymunedau drwy fesurau economaidd—dyna ydy craidd hynny.

Roedd Simon Thomas yn sôn am y ffaith bod yr iaith Gymraeg bellach yn ddibynnol iawn ar y byd addysg a bod yna fanteision i hynny, ac yn wir bod yna fanteision addysgol penodol i ddwyieithrwydd. Mi soniodd am yr her sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r angen i osod targedau penodol a cherrig milltir ar y daith i greu 1 miliwn o siaradwyr. Soniodd hefyd am bwysigrwydd meddwl am y gweithlu, ac er bod un o bob tri athro ac athrawes yn medru’r Gymraeg, nid ydyn nhw o angenrheidrwydd yn dysgu drwy’r Gymraeg.

Mi soniodd Jeremy Miles am y drafodaeth yn y pwyllgor iaith, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y pwyllgor hwnnw a’r argymhellion yn fanna. Mi aeth ymlaen i sôn ac i gytuno efo beth y mae Adam a minnau yn ei ddadlau: bod ffyniant y Gymraeg ynghlwm â ffyniant economaidd yr ardaloedd lle mae yna ganrannau uchel o bobl yn siarad Cymraeg, a’r angen felly i’r pwyslais yna fod yn y strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ond, gobeithio, bydd hi’n cynnwys hynny. Mi soniodd Jeremy hefyd am yr angen i’r cynlluniau addysg strategol fod yn llawer mwy uchelgeisiol, a’r angen i greu galw yn ogystal ag ymateb iddo fo.

Adam wedyn yn sôn ein bod ni yn methu, yn wirioneddol, gwahanu ffyniant economaidd oddi wrth ffyniant ieithyddol, a bod sylfaen economaidd y Gymraeg yn rhywbeth hanesyddol y gallwn ni ei olrhain a bod angen inni gynnal hynny rŵan. Ac wedyn, wrth inni edrych drwy’r trafodaethau sydd ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, cyfle sydd yma i ni wrth edrych ar ranbartholi, nid yn unig ein bod ni yn rhanbartholi ar draws y gogledd, ac yn rhanbartholi o gwmpas y dinasoedd rhanbarth, ond ein bod ni hefyd, fel rhyw fath o wrthbwynt i hynny i gyd, yn meddwl am greu rhanbarth ar gyfer y gorllewin a fyddai’n gweithio law yn llaw â’r rhanbarthau dinesig, sef rhyw fath o fforwm o gydweithio o gwmpas y materion allweddol y mae angen cydweithio arnyn nhw o safbwynt yr iaith Gymraeg. Ac mi soniodd Adam yn benodol am faterion allfudo a’n hatgoffa ni o’r cynllun Llwybro a’r angen i’r isadeiledd gysylltu’n llawer iawn gwell rhwng de a gogledd a rhwng gorllewin a dwyrain ein gwlad ni, yn ogystal ag allan o’n gwlad ni.

Rydw i’n meddwl hefyd y byddai creu fforwm, gan ddechrau efo’r pedwar cyngor—Môn, Gwynedd, Ceredigion, sir Gâr—lle mae’r cymunedau Cymraeg yn gryf, yn fodd hefyd o ledu peth o’r arfer da sydd yn digwydd yn rhai o’r cynghorau hynny yn barod o gwmpas yr iaith Gymraeg. Nid oes ond angen edrych ar sut mae polisi iaith Gwynedd a sut mae polisïau addysg Gwynedd wedi medru cynnal cymunedau efo cyfrannau uchel yn siarad Cymraeg a bod hynny er gwaethaf y dirywiad sydd wedi digwydd mewn llefydd eraill.

Mi soniodd Gareth Bennett ei fod o’n cytuno efo’r angen yma i gynnal y cadarnleoedd yn economaidd. Ie, dyna beth yr ydym yn ei ddweud. Ond rydym hefyd yn dweud, law yn llaw â chynnal y cadarnleoedd yn economaidd a chreu ffyniant ynddyn nhw, fod angen annog twf ar draws Cymru. Nid yw rhywun yn dweud ein bod ni’n mynd yn ôl i ryw oes a fu. Mi ydym ni angen ehangu ar draws Cymru hefyd ac heb y cadarnleoedd, byddai hi’n anodd gwneud hynny. Dyna yw ein dadl ni. Ond, mi oedd yn llonni fy nghalon i i weld miloedd o bobl yn Tafwyl dros y penwythnos, yn y brifddinas, yng Nghaerdydd, yn mwynhau bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg cyfoes mewn cyd-destun newydd. Felly, mae’r cyd-destun yn newid, mae pobl yn symud o gwmpas, ac mae’n rhaid cydnabod hynny yn wir.

Tra’r oedd Tafwyl ymlaen yng Nghaerdydd—ac roedd un o’m meibion yn digwydd bod yna—mi oeddwn i yng Ngŵyl y Felinheli. Gŵyl arall; gŵyl hollol wahanol; gŵyl cyfrwng Cymraeg, eto, ond gŵyl bentrefol oedd honno, yn yr ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith dydd i ddydd, yn y siop ac ar y stryd.

Ni allaf adael i’r foment hon basio heb sôn am Ŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog. [Chwerthin.]

Y penwythnos hwn. Reit, dyna ni. Wel, ewch i Langrannog, bawb. Wedyn, mi soniodd Dai am yr angen i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob maes, a’r angen am gorff hyd braich i fod yn gwneud y gwaith hwnnw.

I gloi, felly, mae siarad Cymraeg a siarad Saesneg yn rhugl yn fy ngwneud i pwy ydw i. Mae’r Gymraeg yn agor y drws imi at ddiwylliant cyfoethog sy’n dyddio yn ôl i’r chweched ganrif. Mae’r Saesneg yn agor y drws imi i ddiwylliant cyfoethog byd-eang. Mae’r ddau yn rhan o’m mhrofiad i. Rwy’n lwcus. Rwy’n berson dwyieithog sy’n defnyddio’r ddwy iaith yn gwbl hyderus. Er nad ydych yn fy nghlywed yn siarad Saesneg yn fan hyn yn aml, rwyf yn medru siarad Saesneg, a hynny’n rhugl. [Chwerthin.] Felly, beth yw’r ddadl dros beidio â chreu’r cyfle i bobl plentyn i dyfu i fyny i feddu un, dwy, tair, pedair, pum iaith? Nid oes dadl resymegol. Mae yna fanteision amlwg. Y sefyllfa yna—y sefyllfa o ddwyieithrwydd neu amlieithrwydd—sydd yn gwbl normal yn y rhan fwyaf o wledydd y byd. Mae angen inni symud tuag at hynny cyn gynted ag y medrwn. Rwy’n eich llongyfarch chi fel Llywodraeth am fabwysiadu nod uchelgeisiol. Mae’n bryd cychwyn ar y daith honno rŵan a throi’r nod yn realiti. Felly, rwy’n falch o glywed y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi o’r diwedd yr wythnos nesaf. Fe allaf roi gwarant i chi rŵan y byddwn yn craffu arni yn fanwl, ac yn sicr, bydd gennym ni sylwadau, mae’n debyg, am hynny. Rwy’n cytuno’n llwyr efo beth oedd Alun Davies yn ei ddweud: nid oes angen inni ymddiheuro i neb am ddefnyddio’r Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar bob achlysur ac ym mhob maes. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni felly’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Bethan Jenkins. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Bethan Jenkins. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, 16 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, fe dderbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 34, Yn erbyn 0, Ymatal 16.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6349

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar brosiectau adfywio. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly, fe wrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6354.

Y bleidlais nesaf yw gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 23, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6354.

Mae’r bleidlais nesaf ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6354.

Gwelliant 3 sydd nesaf. Mae’r gwelliant yma wedi’i gyflwyno yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6354.

Cynnig NDM6354 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.

2. Yn croesawu sefydlu’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy’n anelu at sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.

3. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau’r Cymoedd.

4. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6354 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru, ar 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid saith, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 43, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6356.

Gwelliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 23, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6356.

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6356 fel y’i diwygiwyd:

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2.Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori’r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.

3.Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi’u cymryd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

4.Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Rwy’n agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, 18 yn ymatal, chwech yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 26, Yn erbyn 6, Ymatal 18.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6356 fel y’i diwygiwyd.

10. 10. Dadl Fer: Trosedd Casineb—A yw ar Gynnydd yng Nghymru?

Yr eitem nesaf yw’r ddadl fer, ac felly rwy’n gofyn i Aelodau adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym cyn imi alw’r ddadl fer. Ac rwy’n galw ar Neil Hamilton i gyflwyno’r ddadl fer.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i gyflwyno dadl fer bwysig. Mewn 14 mlynedd yn Nhŷ’r Cyffredin, ni fanteisiais erioed ar y cyfle i gael dadl ohirio ar ddiwedd y dydd, ond roeddent yn tueddu i fod braidd yn hwyrach yn y dydd na’r dadleuon byr sy’n digwydd yn awyrgylch mwy goleuedig y Cynulliad Cenedlaethol.

Clywn yn aml iawn fod gennym ffrwydrad o droseddau casineb, yn enwedig gan y rhai sydd am gysylltu hyn gyda Brexit, a phwrpas fy nadl heddiw yw cwestiynu hynny a darparu cefndir ffeithiol i’r ddadl bwysig hon. Mae’n wir fod heddluoedd ledled y wlad wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb. Mewn gwirionedd, pedwar yn unig, yn y tri mis ar ôl y refferendwm y llynedd, a gofnododd ostyngiad mewn troseddau casineb, ac yn achos llawer o heddluoedd, cafwyd cynnydd sylweddol iawn yn nifer y digwyddiadau y cofnodwyd eu bod yn droseddau casineb, a chafodd hyn ei ddefnyddio fel tystiolaeth fod rhagfarn a ffurf ar wallgofrwydd a gorffwylledd, mewn gwirionedd, wedi’i rhyddhau gan broses Brexit. Rwy’n credu bod hyn yn llawer mwy tebygol o fod yn adlewyrchiad o’r ffaith fod yna chwilio gweithredol wedi bod am dystiolaeth o gasineb yn sgil Brexit, ac fe ddowch o hyd iddo os ydych yn dymuno hynny. Mae’r gwefannau yn arbennig sy’n annog pobl i roi gwybod am bethau fel troseddau casineb yn aml iawn â chymhellion gwleidyddol yn sail iddynt.

Hefyd, y ffactor pwysig arall yw y gellir cofnodi bron unrhyw beth fel trosedd casineb heddiw, hyd yn oed os nad oes tystiolaeth ohono, ac rwy’n credu mai dyma’r sylweddoliad pwysicaf yma. Yr hyn a wnawn mewn gwirionedd yw tystio i ddyfais o epidemig o droseddu fel rhyw fath o ystryw sinigaidd, yn sylfaenol am resymau gwleidyddol neu resymau eraill. Rwy’n meddwl bod yr enghraifft o’r hyn a ddigwyddodd i Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref, y llynedd yn adlewyrchiad da iawn o hyn. Gwnaeth araith yng nghynhadledd y blaid Geidwadol am weithwyr tramor a rhoddwyd gwybod amdani i’r heddlu fel trosedd casineb, digwyddiad casineb, gan athro ym Mhrifysgol Rhydychen, yr Athro Joshua Silver. Gwnaeth y gŵyn oherwydd ei fod yn gwrthwynebu’r hyn a ddisgrifiodd fel gwahaniaethu ar ran yr Ysgrifennydd Cartref yn erbyn gweithwyr o dramor, oherwydd dywedodd ei bod wedi galw ar gyflogwyr i gadw rhestri o weithwyr tramor. Profwyd wedi hynny nad oedd wedi clywed yr araith o gwbl. Dilyn adroddiadau papur newydd ar yr adwaith i’r araith yn unig a wnaeth, ac os darllenwch yr araith, wrth gwrs, fe welwch na alwodd Amber Rudd ar gyflogwyr i gadw unrhyw restrau o gwbl mewn gwirionedd. Felly, roedd y digwyddiad cyfan wedi’i gamddeall, ond rhoddwyd gwybod amdano fel digwyddiad nad yw’n drosedd, ac mae hwnnw yn awr yn un o’r ystadegau honedig yn y cynnydd hwn mewn digwyddiadau casineb hiliol.

Felly, mewn gwirionedd ceir gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n digwydd go iawn ym Mhrydain heddiw a’r ffordd y caiff ei weld o ganlyniad i’r digwyddiad penodol hwn. Yn wir, yn fy oes i, gwelwyd gostyngiad sylweddol iawn mewn rhagfarn ar sail hil a mathau eraill o ragfarn sydd wedi digwydd yn rhannol efallai, o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth wrthwahaniaethu, ond hefyd am fod cymdeithas yn dod, mewn nifer o ffyrdd, yn fwy cosmopolitan, ac mewn byd o gyfathrebu torfol, rydym yn awr yn llawer mwy ymwybodol o weddill y byd nag yr oeddem yn ôl yn y 1950au. Rwy’n credu, felly, fod yr hinsawdd rydym i gyd yn byw ynddi yn llawer llai ffafriol i ragfarn heddiw nag yr arferai fod. Yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf, mae pleidiau fel y BNP wedi diflannu’n gyfan gwbl. Prin fod yr English Defence League hyd yn oed, sy’n gwneud llawer o sŵn, i’w gweld yn unrhyw le yn y wlad heddiw. Ac mae hynny’n beth da iawn, hefyd.

Cymharwch Brydain â’r hyn sy’n digwydd yn Ffrainc, lle rydych yn cael achosion o bobl yn llosgi mosgiau—hynny yw, dyna drosedd casineb go iawn. Ond yn y wlad hon, rhywun yn gweiddi rhywbeth cas ar y bws yw hyd a lled y rhan fwyaf o’r digwyddiadau a gofnodir fel troseddau casineb. Mae’r ffaith fod mwy nag 1 filiwn o bobl Llundain wedi pleidleisio dros Sadiq Khan i ddod yn faer yn Llundain y llynedd, gan roi iddo’r mandad uniongyrchol mwyaf a gafwyd gan unrhyw unigolyn yn hanes Prydain, yn enghraifft arall o hynny o bosibl.

Ac wrth gwrs, ni ddylai neb fychanu’r niwed a achosir i’r rhai yr ymosodir arnynt ac sy’n cael eu cam-drin. Nid wyf yn disgwyl cydymdeimlad gan unrhyw un, ond yn aml dioddefais lawer iawn o gam-drin yn ystod fy mywyd, ac yn y sefydliad hwn hyd yn oed, rhaid i mi ddweud, nad wyf am oedi drosto heddiw, ond mae’n ffaith. Ond mae nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Chwe blynedd yn ôl, roedd yna 42,255. Mae’r ffigur diweddaraf sydd gennyf yma ar gyfer 2014-15—roedd yn 52,528. Felly, mae hwnnw’n gynnydd sylweddol, 20 y cant. Mae’n fwy na thebyg ei fod yn ffigur llawer uwch heddiw nag yr oedd ddwy flynedd yn ôl. Ond mae angen i chi gymryd y ffigurau hyn gyda phinsiad o halen, yn fy marn i. Mae’n gynnyrch yr awdurdodau, mewn gwirionedd, ailddiffinio hiliaeth a rhagfarn i’r fath raddau fel bod modd cofnodi bron unrhyw gysylltiad annymunol rhwng pobl o wahanol gefndiroedd heddiw fel casineb.

Yn sgil Brexit, dywedodd yr heddlu fod 14,000 o droseddau casineb wedi’u cofnodi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016. Ond mae llawer o’r digwyddiadau hyn yn debygol o fod wedi’u hadrodd drwy wefan a gyllidir gan yr heddlu o’r enw True Vision, sy’n caniatáu i unrhyw un yn unrhyw le i roi gwybod am unrhyw beth a ddymunant, pa un a ydynt wedi cael profiad ohono ai peidio, ac yn wir, cânt wneud hynny’n ddienw. Felly, nid yw’r ystadegau hyn yn werth y papur y cawsant eu hargraffu arno. Nid oes angen unrhyw dystiolaeth arnoch i gyfiawnhau cwyn, mae popeth yn cael ei gofnodi’n syth fel digwyddiad casineb heb unrhyw gwestiwn o gwbl, ac mae hyn yn anochel yn darparu golwg wedi’i lurgunio ar y gwirionedd. Yn wir, mae’r syniad o droseddau casineb ei hun yn gwbl oddrychol, oherwydd cytunodd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ar ddiffiniad cyffredin o droseddau casineb 10 mlynedd yn ôl i fesur lefelau troseddau casineb, ac mae’r heddlu’n dweud mai troseddau casineb yw:

Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ystyried ei bod wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn tuag at rywun yn seiliedig ar nodwedd bersonol.

Felly, mae’n amlwg yn oddrychol a yw’n gred resymol ai peidio. Mae canllawiau gweithredol yr heddlu ar droseddau casineb yn pwysleisio mai canfyddiad y dioddefwr yw’r ffactor pwysig wrth ystyried a yw rhywbeth yn cael ei fesur fel trosedd casineb ai peidio—nid oes angen unrhyw dystiolaeth o gwbl. Fe ddarllenaf y paragraff o ganllawiau gweithredol yr heddlu ar droseddau casineb i brofi’r pwynt, paragraff 1.2.3:

At ddibenion cofnodi, canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall... yw’r ffactor diffiniol wrth benderfynu a yw digwyddiad yn ddigwyddiad casineb, neu wrth gydnabod elfen gelyniaeth mewn trosedd casineb. Nid oes rhaid i’r dioddefwr gyfiawnhau neu ddarparu tystiolaeth o’u cred, ac ni ddylai swyddogion yr heddlu neu staff herio’r canfyddiad hwn yn uniongyrchol. Nid oes angen tystiolaeth o’r elyniaeth er mwyn i ddigwyddiad neu drosedd gael eu cofnodi fel trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb.

Pa fath o fyd yr ydym yn byw ynddo lle mae rhywbeth nad oes angen ei brofi yn cael ei ystyried fel rhywbeth a brofwyd, a lle nad wneir unrhyw ymholiadau ynglŷn â pha mor rhesymol yw’r hyn y rhoddwyd gwybod amdano? Mae hynny’n anochel o ystumio’r ystadegau. Nid oes angen i chi brofi trosedd casineb mewn gwirionedd, dim ond teimlad, gan fod gelyniaeth wedi’i chadarnhau, at y dibenion hyn, yn ôl diffiniad y geiriadur.

Felly, nid yw diffyg cymhelliad ymddangosiadol fel achos i ddigwyddiad yn berthnasol yn ôl yr heddlu, gan mai canfyddiad y dioddefwr neu unrhyw berson arall sy’n cyfrif, fel yn achos yr Athro Silver—nid oedd yn bresennol yn ystod araith Amber Rudd, nid oedd wedi’i gweld ar y teledu hyd yn oed, ac eto rhoddodd wybod amdani fel digwyddiad casineb.

Nawr, os edrychwn ar fwletin ystadegol y Swyddfa Gartref sy’n mesur y pethau hyn, fe welwch nid yn unig nad oes rhaid i chi fod â chred resymol fod yr hyn a ddigwyddodd i chi, os digwyddodd o gwbl, wedi’i ysgogi gan ryw fath o gasineb o fewn y categorïau a restrir yn y ddeddfwriaeth, mae’n bosibl hefyd fod cofnodion a ganslwyd yn cael eu cofnodi fel troseddau casineb—ac unwaith eto, rwy’n dyfynnu o ddogfen swyddogol gan y Swyddfa Gartref, ‘Hate Crime in England and Wales 2015 to 2016’, bwletin ystadegol 11/16—oherwydd:

Mae cofnod wedi’i drosglwyddo neu wedi’i ganslo yn digwydd pan fydd yr heddlu’n cofnodi trosedd, ond wedyn yn penderfynu na ddigwyddodd y drosedd, ei bod wedi’i chofnodi mewn camgymeriad neu y dylid ei throsglwyddo i heddlu arall.

Felly, mae achosion lle y rhoddwyd gwybod am ddigwyddiad, ond lle mae’r heddlu’n darganfod wedyn na fu unrhyw ddigwyddiad neu drosedd o’r fath, yn dal i gael eu cofnodi a’u cadw yn yr ystadegau fel tystiolaeth o droseddau casineb. Dyma’r byd ‘Alice in Wonderland’ rydym wedi crwydro iddo bellach. Mae’n rhyw fath o oddrychedd gwallgof, sy’n amlwg yn darparu cymhelliad i rai sydd â chyllell wleidyddol i’w hogi, a’r mecanwaith i’w gyflawni, ar gyfer gwneud cwynion am resymau gwleidyddol.

Nawr, nid yn unig fod yna’r fath beth â chasineb ac erlid o’r math a amlinellais, ond ceir rhywbeth hefyd a elwir yn erledigaeth eilaidd, ac nid oeddwn yn ymwybodol ohono hyd nes i mi edrych yn fanylach ar hyn. Unwaith eto, rwy’n dyfynnu o ganllawiau gweithredol y Swyddfa Gartref ar droseddau casineb:

Mae hwn yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfaoedd lle mae dioddefwr yn dioddef niwed pellach oherwydd triniaeth ansensitif neu ddifrïol gan y rhai a ddylai fod yn eu cynorthwyo, er enghraifft, teimlo eu bod wedi profi difaterwch neu gael eu gwrthod gan yr heddlu.

Felly, os yw’r heddlu, ym marn y person sy’n gwneud y gŵyn, yn ddifater eu hagwedd tuag at y gŵyn honno—a bod y difaterwch hwnnw wedi’i achosi o bosibl gan y ffaith nad oedd y gŵyn ei hun yn gredadwy—yna mae hynny ynddo’i hun yn cael ei gofnodi hefyd bellach fel digwyddiad casineb neu drosedd casineb. Felly, rydym yn pentyrru Ossa ar ben Pelion yma, ac rydym yn gwaethygu camgymeriad, sy’n mynd i’n harwain ar hyd y lôn anghywir os ydym yn ffurfio polisi ar sail ystadegau o’r fath. Felly, credaf mai sancteiddio canfyddiad ar draul yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd a’r modd y mae hynny wedi treiddio drwy’r ystadegau cofnodi troseddau a digwyddiadau hyn sydd wrth wraidd y camsyniad ynglŷn ag i ba raddau y ceir troseddau casineb go iawn yn y wlad hon. Wrth gwrs, ceir achosion go iawn o gasineb, rydym yn gwybod hynny, a dylid ffieiddio at bob un a defnyddio holl rym y gyfraith i atal ymddygiad o’r fath. Ond os caniatawn i’r math o fythau a ddisgrifiais a mecanwaith y modd y daethant i fodolaeth i barhau, bydd yn dwyn anfri ar y gyfraith mewn perthynas â meysydd o gamymddwyn y mae gwir angen i ni ganolbwyntio arnynt. Ac mae hefyd yn gamddefnydd enfawr a gwastraff ar amser yr heddlu. Felly, mae llawer iawn sy’n galw am esboniad yn sail i’r prif ystadegau hyn.

Rydym i gyd yn gwybod mewn oes o dicio blychau a thargedau, fod yr heddlu’n awyddus iawn i gofnodi cymaint â phosibl o’r nonsens hwn fel digwyddiadau a thargedau, am eu bod yn cyflawni eu hamcanion eu hunain ac yn cael eu talu am wneud hyn. Felly, mae yna wobr, o ran cyllidebau heddlu, am gofnodi rhywbeth nad yw’n wir mewn gwirionedd. Ac nid yn unig hynny, wrth gwrs: mae wedyn yn creu rhyw fath o banig gwleidyddol am droseddau casineb, sy’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i eraill mewn rhannau eraill o weinyddiaeth gyhoeddus, a chwilio am gasineb a gorliwio casineb y credaf ei fod yn hollol beryglus, ac mae’n gam-ddefnydd, mewn gwirionedd, o’r broses mewn modd a ddylai peri pryder i ni i gyd.

Felly, dylem anghymeradwyo unrhyw fath o gam-drin geiriol, a thrais corfforol yn fwy felly wrth gwrs. Ond yr hyn na ddylem ei wneud yw erlid pobl sy’n ddiniwed o unrhyw drosedd go iawn neu fath arall o stigma. Ac rwy’n credu bod y camddyrannu adnoddau enfawr sydd bellach yn sail i’r epidemig hwn o gamgofnodi yn tynnu sylw oddi ar dasg go iawn y rhai y mae gorfodi’r gyfraith yn brif ddyletswydd iddynt mewn gwirionedd. Felly, rwyf wedi galw’r ddadl fach hon heddiw i dorri’r consensws o dawelwch a fu ynglŷn â’r mater penodol hwn, ac oherwydd fy mod wedi cael fy nghyhuddo o sefyll yn UKIP ar lwyfan o gasineb gan Aelod o’r Cynulliad hwn, ac wedi cael melltithion eraill tebyg wedi’u taflu ataf, dyma pam y gelwais y ddadl heddiw, ac rwy’n hynod ddiolchgar i chi, Llywydd, am ei ddewis ar gyfer y ddadl.

Nid wyf yn rhy siŵr y gallaf ei gael i mewn yn yr amser hwnnw.

Mae unrhyw drosedd neu ddigwyddiad sydd wedi’i gymell gan ragfarn neu gasineb tuag at unigolyn neu grŵp penodol o bobl yn amlwg yn rhywbeth i resynu ato. Yn ffodus, mae troseddau o’r fath yn ddigwyddiadau prin gan fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw ar hyd a lled Cymru a’r DU, yn gwbl briodol, yn barchus ac yn oddefgar. Pan fo hyn yn digwydd, fel cymdeithas wâr a rhesymol, dylem bob amser wneud popeth yn ein gallu i geryddu’r rhai sy’n gyfrifol.

Rwyf am fynd at fy ychydig eiriau olaf ar hynny. Nid yw dyfynnu ystadegau wedi’u gorliwio yn helpu’r rheiny a allai fod yn destun troseddau casineb go iawn. Yn syml, mae’n achosi dychryn a gofid ynglŷn â pha mor gyffredin y tybir ei fod.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Llywydd, a diolch am y cyfle i ddarparu—y cyfle i drafod a siarad am droseddau casineb, a’r camau cadarnhaol rydym yn eu rhoi ar waith yma yng Nghymru.

Yn gyntaf oll, eisteddais a gwrandewais wedi fy syfrdanu braidd gan gyfraniad Neil, a’i gyd-Aelod yno, oherwydd eich bod chi, fel Paul Nuttall, yn disgrifio troseddau casineb yn dechnegol fel digwyddiadau ffug, ffigurau ffug y mae asiantaethau heddlu Llywodraeth y DU wedi’u cyhoeddi. Ac ni allwn ddianc rhag y ffaith y gallwch gael barn ar hynny, fel sydd gennyf fi, ond mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain. Roeddwn yn synnu at eich sylw—ac efallai yr hoffech egluro hynny, ond fe sonioch am bobl yn llosgi mosgiau mewn gwledydd eraill. Yna aethoch yn eich blaen i egluro hynny fel rhywbeth hiliol, ond yna aethoch ymlaen i ddweud fod cam-drin geiriol wedi’i weiddi ar fws, a yw hynny’n drosedd go iawn? Byddwn yn dweud, ‘Ydy, mae’n drosedd’, oherwydd os edrychwch ar fideos YouTube—. Mae ymosod ar unigolion ar fysiau yn annerbyniol lle bynnag y bo hynny’n digwydd, pa hil, lliw neu gred bynnag yw’r unigolyn. Ni allwn gael, ac ni ddylwn gael ymagwedd fesuredig at yr hyn sy’n dderbyniol a’r hyn nad yw’n dderbyniol. Mae hyn i gyd yn annerbyniol.

Gadewch i mi gofnodi’r ffigurau a ddyfynnodd yr Aelod o ran y manylion. Rwy’n pryderu o ddifrif am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ers 2015, ac ni fydd yr arolwg troseddau yn rhoi’r holl ddata rhwng 2015 a 2018 inni tan y flwyddyn nesaf, ond yr hyn sydd gennym wrth law yw ffigurau dibynadwy o nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddluoedd yng Nghymru, ac o’n canolfan genedlaethol cymorth ac adrodd am droseddau casineb. Dangosodd y ddwy ffynhonnell gynnydd sydyn a chlir yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yr haf diwethaf oddeutu adeg y refferendwm. Ers mis Mawrth eleni, yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, mae’r ffigurau hyn hefyd yn dangos bod cynnydd sydyn arall, er yn llai, yn enwedig mewn achosion o droseddau casineb ar sail hil. Ni all yr Aelod anghytuno â’r ffigurau hynny. Maent yn ffeithiol, ac rwy’n synnu o ddifrif—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, os yw’r Aelod yn dymuno ymyrryd, rwy’n fwy na bodlon i—.

Yn amlwg, nid ydynt yn ffigurau cywir. Dyna holl bwynt y ddadl hon. Rydych yn ystyried bod y ffigurau hynny yn rhai absoliwt a chywir. Rydym yn dadlau nad ydynt. Felly, gallwch ddyfynnu pa ffigurau bynnag a ddymunwch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond y gwir amdani yw os nad ydynt yn cael eu cofnodi’n briodol ac yn y modd cywir, yna nid yw’r ffigurau hynny, yn anffodus, yn gywir.

Wel, rydym yn sicr yn anghytuno ar y mater hwnnw, gan fy mod yn credu bod y weithdrefn adrodd i unigolion hyd yn oed gamu dros y marc i roi gwybod am droseddau casineb yn ddewr iawn yn y lle cyntaf—a’u bod yn cael eu cofnodi’n briodol yn y DU.

Rydym i gyd wedi gweld hanes o droseddau casineb yn ailadrodd dro ar ôl tro: esgyniad Hitler a’r Natsïaid; rydym wedi cael Oswald Mosley ac Undeb Ffasgwyr Prydain; y Ffrynt Cenedlaethol; a’r BNP, fel y nododd yr Aelod. Ac rwy’n meiddio dweud bod cyhuddiadau wedi bod ynglŷn ag UKIP hefyd yn yr ymgyrch y buoch yn rhan ohoni’n ddiweddar: ‘cymryd ein gwlad yn ôl’, ‘y pwynt torri’, ‘cymryd ein ffiniau yn ôl’, a ‘ffoaduriaid’. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn eithaf ffiaidd, y ffaith eich bod yn cyflwyno’r ddadl hon yn y Siambr heddiw, gan fy mod yn meddwl y dylem i gyd gyda’n gilydd wrthod y ffaith fod unrhyw fath o droseddau casineb, yn wir, yn dderbyniol.

Yn ddiweddar, mynychais y fforwm cymunedau ffydd, a rhoddodd yr Athro Williams o Brifysgol Caerdydd gyflwyniad diddorol i fforwm hil Cymru y mis diwethaf ar yr ymchwil i batrymau troseddau casineb a chyflawnwyr troseddau casineb. Canfu fod cyfran fach iawn o gyflawnwyr troseddau yn eithafwyr sy’n dilyn eu hagenda ragfwriadol eu hunain o gasineb a rhagfarn, ond yr hyn a ganfu, Llywydd, oedd bod llawer o bobl gyffredin yn gweithredu o deimladau mwy greddfol o ddicter neu ddiffyg ymddiriedaeth.

Felly, beth sy’n digwydd a beth sydd wedi digwydd, yn enwedig ers 2015, i fynd â phobl gyffredin dros y pwynt tipio hwn? Wel, rwyf wedi nodi’r materion sy’n ymwneud â rhethreg gwleidyddiaeth, sydd wedi bod yn amlwg. Ers 2015 rydym wedi gweld cynnydd ar draws y DU yn y defnydd o gyfryngau ymrannol. Cyfeiriais at beth o hynny yn gynharach. Mae mewnfudwyr yn cael eu beio am y wasgfa ar wasanaethau cyhoeddus ac incwm aelwydydd yn deillio o doriadau ariannol di-baid Llywodraeth y DU. Llywydd, mae’r rhethreg wedi cymryd y pryder gwirioneddol ynglŷn â therfysgaeth, ac wedi gosod y bai ar bob Mwslim heb gydnabod y credoau heddychlon sy’n ganolog i Islam. Cafodd ymfudwyr y bai am ddiffyg sicrwydd swydd a swyddi ar gyflog gweddus i weithwyr heb lawer o sgiliau sy’n arwain at gontractau dim oriau a cheisio lleihau hawliau gweithwyr a budd-daliadau—unwaith eto, rhywbeth a gafodd lawer o sylw yn eich ymgyrch, ar eich posteri, ar eich cerbydau wrth i chi yrru o gwmpas, ar eich taflenni—gan ledaenu, rwy’n credu, casineb i mewn i’n gwlad. Yn erbyn y cefndir hwn, Llywydd, mae rhai pobl wedi gadael i’w rhwystredigaeth a’u dicter am y sefyllfa y maent ynddi orlifo i gam-drin pobl ac aflonyddu ar bobl o gefndiroedd gwahanol i’w cefndir hwy eu hunain. Maent yn teimlo eu bod wedi cael trwydded i weithredu.

Felly, beth a wnawn? Yn y dyddiau ar ôl ymosodiadau troseddau casineb neu derfysgaeth, gwelwn ymchwydd o gefnogaeth ac undod â phobl yr effeithiwyd arnynt. Pan welwn yr ochr waethaf i’r natur ddynol, mae’n galonogol ein bod hefyd yn gweld yr ochr orau i’r natur ddynol yn camu i’r bwlch i ddangos ei bod yn gryfach ac yn fwy uchel ei chloch. Rwy’n awgrymu, Llywydd, fod rhoi mwy o lais i’r negeseuon cadarnhaol hyn a’u lledaenu fwyfwy yn un o’r ffyrdd gorau o atal troseddau casineb. Byddwn yn gobeithio y gallai’r Siambr hon ddod at ei gilydd a chefnogi cymuned ddewr a chryfach ar draws y byd. Diolch yn fawr. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.