Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. A’r cwestiwn cyntaf, Jeremy Miles.

Addysg ar gyfer Cydweithredu

1. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i weithredu argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn ymwneud ag ‘Addysg ar gyfer Cydweithredu’? OAQ(5)0132(EDU)

Diolch, Jeremy. Ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio addysg yw adeiladu system addysg gynhwysol a theg sy’n cefnogi pob dysgwr. Rydym yn parhau i gryfhau ein dull o gydadeiladu polisi ar draws y model tair haen, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu ein cwricwlwm newydd a’n safonau addysgu proffesiynol newydd.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Yn ei ddiweddariad i’w adroddiad, cydnabu’r comisiwn fod trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cydweithredol mewn perthynas ag addysg gydweithredol mewn ysgolion, a dywedodd fod model a oedd yn diogelu statws ysgolion a gynhelir hefyd yn annog lledaenu ethos ac egwyddorion cydweithredol o fewn y cwricwlwm ac ym mywyd yr ysgol. Ac rwy’n meddwl tybed a fydd y Llywodraeth yn cymryd camau rhagweithiol i annog y datblygiad hwnnw, gan ystyried adroddiad Sefydliad Bevan ychydig flynyddoedd yn ôl, a nododd rai camau ymarferol iawn, gan annog ysgolion i fynd ar hyd y daith honno.

Diolch, Jeremy. Fel rhan o’u hadolygiad cyflym o’r polisi, nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ein system ysgolion cyfun, sy’n pwysleisio tegwch a chynhwysiant fel un o gryfderau addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at system hunanwella yng Nghymru. Ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar y sylfeini hyn a pharhau i ddatblygu’r dulliau hynny, sy’n seiliedig ar gydweithio, ar draws yr holl ysgolion, gan ddysgu arferion da oddi wrth ei gilydd, yn ogystal ag ymgorffori materion yn ymwneud â chydweithredu o fewn y cwricwlwm ei hun.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar drywydd ychydig yn wahanol, ond yn dal yn ganolog i’r cwestiwn hwn, rwy’n credu bod annog menter mewn ysgolion, ymysg y disgyblion yn arbennig, yn beth gwych i’w wneud. Rwyf wedi galw sawl gwaith am annog mentrau cymdeithasol—credaf y dylai pob ysgol uwchradd gael o leiaf un—a pham ddim defnyddio’r model cydweithredol? Pa ffordd well o drefnu’r math hwnnw o fenter?

Diolch, David. Mae’r Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig yn amlygu pwysigrwydd datblygu’r sgiliau hanfodol ac yn cynnig cyfleoedd i’r sector cydweithredol a chydfuddiannol gymryd rhan, drwy’r heriau menter a chyflogadwyedd, a’r heriau cymunedol. Mae sefydliadau, felly, yn cael eu hannog i ddatblygu neu ddod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r heriau hynny, o fewn ysgolion unigol, ac yn amlwg, mae entrepreneuriaeth yn un o’r heriau hynny. Rwy’n barhaol yn edrych am ffyrdd y gallwn annog ymgorffori’r mathau hynny o sgiliau yn y cwricwlwm, am eu bod yn sgiliau pwysig iawn i’n plant eu dysgu a’u defnyddio ym myd gwaith.

Cyfleoedd Profiad Gwaith

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)[W]

Diolch yn fawr, Rhun. Gall lleoliadau profiad gwaith strwythuredig, wedi’u cynllunio’n dda roi cipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar fyd gwaith. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu profiadau sy’n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r fframwaith cwricwlwm gyrfaoedd a’r byd gwaith.

Diolch. Mae hwn yn fater godais i efo’r Prif Weinidog mewn cwestiwn atodol ddoe. Mae sawl cyngor, fel rydych chi’n gwybod, wedi cymryd y penderfyniad i ganslo cyfleon profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12, yn cynnwys Ynys Môn. Ac rwyf i eto yn datgan diddordeb fel tad i ddau o blant—un ym mlwyddyn 10 ac un ym mlwyddyn 12. Mae rhieni a disgyblion wedi datgan siom fawr efo hyn, yn enwedig o ystyried y gwaith sydd wedi mynd i mewn i gael lle efo cyflogwyr a’r gystadleuaeth frwd am lefydd mewn rhai achosion.

Nawr, mi oedd asesiadau o addasrwydd cyflogwyr i gynnig profiad gwaith yn arfer cael ei wneud gan Gyrfa Cymru. Rydych chi wedi cadarnhau mewn llythyr ataf fi bod hyn wedi ei dynnu o gylch gorchwyl Gyrfa Cymru yn sgil tynhau ar gyllid. A ydych chi’n derbyn, felly, bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ddiwethaf ar dorri cyllid a’r ffaith bod profiad gwaith yn cael ei ganslo rŵan?

Ond mae yna ddryswch yn fan hyn hefyd. Yn eich llythyr ataf fi, mi rydych chi’n dweud nad oes unrhyw reoliadau iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion neu awdurdodau lleol gynnal asesiadau o weithleoedd ar gyfer lleoliadau profiad gwaith. Ond mae Cyngor Sir Ynys Môn, wedyn, yn fy nghyfeirio i at ddogfennaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy’n nodi bod angen i ysgolion fod yn sicr bod cyflogwyr wedi gwneud y gwiriadau cywir. Pwy sy’n dweud y gwir—chi ynteu y gweithgor iechyd a diogelwch? Ac, os mai chi sy’n dweud y gwir, pa gefnogaeth rydych chi wedi ei chynnig i awdurdodau lleol i roi sicrwydd iddyn nhw bod modd parhau â threfniadau profiad gwaith hollbwysig?

Diolch, Rhun. Yn gyntaf oll, rwy’n croesawu’r ffaith fod y ddau ohonom yn cydnabod bod gan leoliadau gwaith a phrofiad gwaith rôl werthfawr i’w chwarae. Rwy’n gobeithio y byddwch yn falch o nodi fy mod wedi clustnodi rhai adnoddau, tua £2.4 miliwn dros y pedair blynedd nesaf, i gefnogi gwaith cryfach rhwng ysgolion a chyflogwyr, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn â sut y caiff ei wario. Deallaf fod ysgolion wedi wynebu heriau yn sgil dileu’r gronfa ddata profiad gwaith a gwirio iechyd a diogelwch safleoedd cyflogwyr, a arferai gael eu gwneud gan Gyrfa Cymru. Ond mae’n destun gofid i mi fod Ynys Môn a Gwynedd wedi penderfynu rhoi terfyn ar hyn yn gyfan gwbl, ac mae hynny’n dra gwahanol i waith ardderchog a welwyd mewn awdurdodau lleol eraill ac mewn ysgolion eraill i gynnal y ddarpariaeth hon. Ac rwy’n datgan buddiant fel mam i ddisgybl blwyddyn 10 fy hun, a bydd fy merch a’i chohort yn mynd ar leoliadau gwaith sydd wedi’u trefnu’n ofalus gan yr ysgol, yn nes ymlaen ym mis Gorffennaf.

Byddwn yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir gan gyngor Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, sydd wedi ymateb i’r her ac wedi gwneud gwaith aruthrol yn creu cronfa ddata ar gyfer lleoliadau gwaith, a fydd yn galluogi plant yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a thu hwnt i fanteisio ar y cyfle hwn. Yr hyn sy’n rhwystredig i mi, mewn cenedl mor fach â’n hun ni, yw na ellir lledaenu gwaith da sy’n cael ei wneud mewn rhai awdurdodau lleol, fel Sir Gaerfyrddin, yn haws i rannau eraill o Gymru. A byddaf yn gofyn i’r consortia rhanbarthol ddyblu eu hymdrechion i sicrhau, lle mae ysgolion awdurdodau lleol unigol wedi gallu goresgyn yr heriau hyn a gweithredu system sy’n galluogi plant i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn, ein bod yn gallu lledaenu’r arferion da hyn i ardaloedd eraill yng Nghymru fel y gall pob plentyn gymryd rhan.

Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod mynediad at brofiad gwaith yn hynod o bwysig i bobl ifanc, ac nid unrhyw brofiad gwaith, ond profiad gwerth chweil a gwerthfawr, nad yw’n dibynnu ar beth sydd hawsaf neu bwy rydych yn ei adnabod o bosibl. Wrth gofio fy mhrofiad gwaith fy hun, euthum i’r ‘Flintshire Chronicle’, lle y gallwch ddod o hyd i erthygl gan Hannah Blythyn, 15 oed, gyda’r pennawd, ‘Don’t criticise what you don’t understand: Having a Go at Politicians’. [Chwerthin.] Roedd yr erthygl honno’n edrych mewn gwirionedd ar sut y mae pobl ifanc yn cael eu stereoteipio a bod angen gwrando arnynt, ac rwyf bellach mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am hynny. Mewn digwyddiad diweddar gyda myfyrwyr yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain, buom yn siarad am fynediad at waith, a phrofiad gwaith a thrafodwyd pethau. Ac un o’r pethau a grybwyllwyd ganddynt, ochr yn ochr â’ch profiad gwaith traddodiadol, oedd edrych am bethau sydd â mwy o sesiynau blasu, lle y gall pobl fynd i weithleoedd a phrofi’r opsiynau gwahanol sydd ar gael, yn 16 oed a hŷn, i helpu i ddylanwadu ar eu penderfyniadau ynglŷn â’u haddysg bellach, prentisiaethau a hyfforddiant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y byddai hynny’n syniad da, gyda syniad y bobl ifanc, i wneud hynny, a pha gamau y gellir eu cymryd er mwyn gwneud i hynny ddigwydd?

Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hollbwysig yw ein bod yn ystyried beth fydd pobl ifanc eu hunain yn ei weld yn ddefnyddiol. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae pobl efallai wedi bod yn gwneud y gwaith llungopïo am wythnos, ac nid dyna’r math mwyaf defnyddiol neu ysgogol neu ysbrydoledig o leoliad o reidrwydd. Felly, rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd y lleoliadau hynny, ac mae’n rhaid i ni wrando ar bobl ifanc ynglŷn â’r hyn y maent yn ei ystyried yn fwyaf defnyddiol iddynt hwy, ac efallai’n wir mai sesiynau blasu byrrach fydd hynny, i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd iddynt edrych ar amrywiaeth o yrfaoedd. Ac yn aml mae angen i ni wneud hynny’n gynharach ym mywyd disgybl, oherwydd weithiau, mae’n bosibl y gall y dewisiadau y maent yn eu gwneud ar lefel TGAU leihau, neu gau’r drws yn llwyr ar opsiynau gyrfaoedd yn y dyfodol.

Hoffwn ganmol gwaith Cyngor Sir Powys, er enghraifft, a drefnodd ffair yrfaoedd yn gynharach eleni ar draws y sir, i ddod â sefydliadau cyflogaeth o bob rhan o’r sir at ei gilydd, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, i ddangos i bobl ifanc yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn sir Powys, ac i siarad â hwy ynglŷn â sut y gallant wneud dewisiadau addysgol a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar hynny. A dylid cymeradwyo’r mathau hynny o gynlluniau arloesol sy’n cael eu rhoi ar waith gan rai awdurdodau lleol, ac unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siŵr fod hynny’n cael ei ailadrodd fel arfer da ar draws y wlad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod wedi gweld y ffigurau gan NUT Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy’n dangos bod 0.25 miliwn o ddiwrnodau addysgu yn y pedair blynedd ers 2012 wedi’u colli o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig â straen yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod darlithwyr coleg yng Nghymru yn mynd ar streic yfory, gyda’u hundeb yn rhybuddio bod llwyth gwaith trwm yn difetha eu bywydau ac yn eu gwthio i ymyl y dibyn. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi llawer o sylw yn y Siambr hon i arolwg gweithlu diweddar Cyngor y Gweithlu Addysg, a oedd yn dangos bod traean o athrawon ysgol a chwarter o ddarlithwyr addysg bellach yn dweud wrthym eu bod yn bwriadu gadael eu proffesiynau uchel eu parch yn y tair blynedd nesaf. Nawr, wrth i chi gytuno ar eich 10 blaenoriaeth addysg gyda’r Prif Weinidog pan aethoch yn rhan o’r Llywodraeth, oni ddylech o leiaf fod wedi cynnwys unfed ar ddeg, sef lles y gweithlu, oherwydd heb hynny, nid ydych yn mynd i gyflawni unrhyw un o’r 10?

Wel, Llyr, fel y clywsom yn y pwyllgor y bore yma, un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau bod gennym weithlu ardderchog a rhagorol ym mhob agwedd ar addysg, ac mae pryderon baich gwaith yn real iawn. Maent yn amrywio’n fawr ar draws y gweithlu addysg; nid ydynt wedi’u cyfyngu i athrawon mewn ysgolion yn unig, fel rydych wedi’i gydnabod. Mae materion a blaenoriaethau gwahanol yn codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ym mha gyfnod addysg y mae rhywun yn addysgu; natur wledig lle mae athrawon efallai yn addysgu dosbarth gydag amrywiaeth o grwpiau oedran, sy’n galw am wahaniaethu sylweddol, ac sy’n gallu bod yn anodd ei wneud; amddifadedd; maes pwnc; a’u rôl. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth am hynny. Mae’r arolwg athrawon cyntaf i ni ei wneud erioed wedi rhoi llawer iawn o gyfle i geisio deall rhai o’r pryderon gwirioneddol hyn o’r ystafell ddosbarth, ac rydym yn parhau i ddadansoddi’r data. Mae trafodaethau manwl ar y gweill gydag undebau’r gweithlu addysg ar gamau cynnar y polisi, ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r undebau hynny i geisio mynd i’r afael â’r pryderon i amrywiaeth o ffrydiau gwaith o fewn y Llywodraeth.

Diolch i chi am eich ateb, ond rwy’n credu ei bod yn amlwg i bawb fod yr ystadegau’n adrodd stori glir fod gennym weithlu sydd ar ei liniau o ran brwydro i ymdopi â’r gwaith sy’n eu hwynebu. Nawr, mae’n amlwg fod colli cymaint o ddyddiau addysgu yn arwain at nifer o effeithiau, nid yn lleiaf ar yr unigolyn sy’n absennol o’r gwaith. Mae’n tarfu ar addysg y plant, cyllid ysgolion, wrth gwrs, pan fo’n rhaid i chi gyflogi athrawon cyflenwi—a gwelais fod Caerdydd yn unig wedi gwario £12 miliwn ar athrawon cyflenwi yn y flwyddyn academaidd hon yn unig—ac wrth gwrs, ar weddill y staff, mae effaith arnynt hwy am eu bod yn gorfod cario baich ychwanegol yn anochel. Nawr, flwyddyn yn ôl i’r mis hwn, fe sefydlwyd tasglu gweinidogol y model cyflenwi gennych. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn ôl ym mis Chwefror, ond nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny mewn gwirionedd. Nawr, o gofio bod ein system addysg mor ddibynnol ar athrawon cyflenwi, pryd y byddwn yn gweld camau pendant gan eich Llywodraeth yn hyn o beth?

Wel, Llyr, nid wyf yn anghytuno â’ch dadansoddiad o effaith y diwrnodau addysgu a gollwyd. Y cwestiwn yw beth i’w wneud am y peth. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, mae gennym amrywiaeth o ffrydiau gwaith yn ceisio osgoi’r broblem honno yn y lle cyntaf—h.y. peidio â bod yn ddibynnol ar athrawon cyflenwi mewn gwirionedd, ond cadw athrawon yn iach, yn wydn ac o flaen ein plant yn y dosbarth. Rwyf fi, gyda fy nghyd-Aelod o’r Cabinet dros iechyd, yn edrych ar gynlluniau ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwydnwch a chefnogi iechyd meddwl athrawon drwy roi arfau iddynt fynd i’r afael â’u problemau eu hunain o ran rheoli straen a rheoli llwyth gwaith, yn ogystal â gallu dysgu’r rheini i’r plant wedyn.

O ran y grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweithlu cyflenwi, rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig braidd â chasgliadau’r adroddiad hwnnw. Pe baem wedi gobeithio y byddai’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi dod o hyd i un ateb i ddatrys y broblem hon, yna mae gennyf ofn nad yw’r adroddiad wedi gallu gwneud hynny. Rydym yn parhau i drafod ffyrdd y gallwn weithio, nid i leihau, ond i gyfyngu ar y ddibyniaeth ar athrawon cyflenwi, ac mae hynny’n cysylltu â’n gwaith ar ddatblygu polisi yn dilyn datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon.

Ond mae pedwar mis ers i chi ddweud wrthyf eich bod yn ceisio camu ymlaen gyda’r agenda hon, ac o ystyried, unwaith eto, y data a’r ystadegau sydd gennym, yn amlwg, mae amser yn brin. Felly, nid wyf am bwyso arnoch ymhellach ynglŷn â hynny heddiw, ond yn amlwg, mae neges yno y mae angen gwrando arni.

A gaf fi newid cyfeiriad ychydig bach ar gyfer fy nghwestiwn olaf? Bydd yn dod yn glir, Llywydd, pam rwy’n cyfeirio fy nghwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet ac nid at y Gweinidog mewn munud. Mae’n ymwneud â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod £10 miliwn o’r gyllideb £20 miliwn sydd ganddo ar gyfer ariannu’r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn dod o’r £100 miliwn y daethoch i gytundeb â’r Prif Weinidog yn ei gylch ar gyfer codi safonau ysgolion. Dywedodd hynny wrthym yn ystod proses graffu Cyfnod 1 y Bil. Gan ei bod wedi dod yn amlwg yn awr, wrth gwrs, fod cost y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol uwch—hyd at £13 miliwn yn fwy drud—nag a ragwelwyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod arfaethedig, a allech ddweud wrthym a ydych yn disgwyl swm pellach i gael ei gyfeirio o’r £100 miliwn ar gyfer safonau ysgolion, ac os yw hynny’n digwydd, pa effaith a gaiff hynny ar y gyllideb benodol honno yn eich barn chi?

Gadewch inni fod yn hollol glir: wrth ddiwygio’n llwyr y ffordd rydym yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hynny’n rhan annatod o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru a chau’r bwlch cyrhaeddiad. Mae perfformiad y plant hynny’n allweddol os ydym am weld y newidiadau sydd eu hangen arnom mewn addysg yng Nghymru. Nawr, yn ddi-os, ceir goblygiadau o ran adnoddau i sicrhau bod y plant hynny—a bod y ddeddfwriaeth honno’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau yn yr adran addysg ynglŷn â sut yr ariennir y ddeddfwriaeth, a thrafodaethau ar draws y Llywodraeth. Ond rwy’n hollol bendant na allwn ysgaru addysg ein plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol oddi wrth ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau i bawb.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Gwener, y diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd yna eitem newyddion a oedd yn awgrymu bod eich Llywodraeth yn torri gwerth £28 miliwn oddi ar gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n amlwg yn mynd i effeithio’n sylweddol ar brifysgolion Cymru. Pam y penderfynasoch gladdu newyddion drwg ar y diwrnod hwnnw, a sut y gallwch amddiffyn y toriadau hynny?

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a wnaeth y cyhoeddiad hwnnw. Fel y byddai Darren Millar yn gwybod yn iawn fel llefarydd ar ran ei blaid, mae CCAUC yn gorff hyd braich ac nid oedd gennyf ddim i’w wneud â chyflwyno’r cyhoeddiad penodol hwnnw.

Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef: sut y gallwch amddiffyn—sut y gallwch amddiffyn—y toriadau y mae CCAUC yn awr yn gorfod eu cyflawni i brifysgolion Cymru oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru? Rydym yn gwybod eisoes fod Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhybuddio eu bod yn mynd i orfod gwneud toriadau sylweddol i’w gweithlu a chyfyngu ar gyrsiau. Sut y gallwch amddiffyn y toriadau rydych yn awr yn eu gorfodi ar ein prifysgolion yng Nghymru?

Darren, gadewch i ni fod yn glir: mae addysg yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd iawn o ystyried y cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn. Ond rwy’n siŵr, ar ôl dangos y fath diddordeb yn y datganiad i’r wasg, y byddwch wedi darllen geiriau David Blaney, y prif weithredwr, sydd wedi egluro bod y toriadau hyn yn deillio o’r ffaith na fydd £20 miliwn yn ychwanegol, £20 miliwn roeddwn wedi gallu dod o hyd iddo yn ystod y flwyddyn ar gyfer CCAUC, ar gael y flwyddyn nesaf. Mae rhan o’r arian hwnnw’n cael ei defnyddio i geisio rhoi ein prifysgolion mewn gwell sefyllfa wrth symud ymlaen. Ac mae rhan arall o’r toriad yn ymwneud â’r ffaith ein bod wedi symud yr arian ar gyfer y Coleg Cenedlaethol o CCAUC, ac rydym yn ariannu’r gwaith hwnnw’n uniongyrchol fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny hefyd i’w weld yn y ffaith fod llai o arian ar gael gan CCAUC. Gadewch i ni hefyd fod yn glir: cyfran fach iawn o’r arian sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw’r arian sydd ar gael drwy CCAUC i brifysgolion Cymru; rwy’n deall ei fod yn llai na 10 y cant o gyfanswm eu cyllidebau.

Wel, nid wyf yn synnu ei fod yn fach iawn, ac mae’n mynd i fod yn llai byth, onid yw, tra byddwch yn parhau i danariannu ein sector prifysgolion yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y realiti yw bod hyn yn mynd i ledu’r bwlch cyllido rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion dros y ffin yn Lloegr, sy’n mynd i’w gwneud yn fwy anodd iddynt recriwtio myfyrwyr, gan ledu’r bwlch cyllido ymhellach eto felly, ac effeithio’n helaeth ar ymchwil a hyfforddiant. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi fy synnu gan eich tro pedol, o ystyried eich bod yn hyrwyddo adnoddau ychwanegol i CCAUC y llynedd pan oeddech yn wrthblaid. Mae eich tiwn wedi newid yn llwyr, rydych yn amlwg wedi mabwysiadu safbwynt Llafur ynglŷn â’n prifysgolion yng Nghymru, a byddwn yn eich annog unwaith eto i edrych ar yr adnoddau yn eich cyllideb adrannol i weld pa adnoddau ychwanegol y gallwch eu darparu i helpu i gau’r bwlch cyllido hwn, sydd wedi lledu o dan weinyddiaethau Llafur Cymru ac sydd i’w weld yn debygol o ledu hyd yn oed ymhellach o ganlyniad i’ch gwneud yn aelod o’r Cabinet.

Darren, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â’r hyn y llwyddais i’w wneud wrth ddod yn rhan o’r Llywodraeth: daethpwyd o hyd i’r £20 miliwn ychwanegol a dynnwyd o’r gyllideb pan oeddwn yn yr wrthblaid, ac rydym wedi gallu darparu’r arian hwnnw i addysg uwch. Ond o ddifrif, nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan wleidydd Ceidwadol ar gyllido addysg uwch. Yn Lloegr, rydych wedi taflu’r sector hwnnw i’r farchnad, a’r farchnad sy’n gyrru darpariaeth addysg uwch yn Lloegr. Ni fydd hynny’n digwydd yng Nghymru, a byddwn yn manteisio ar gyfle ein diwygiadau radical o dan argymhellion Diamond i roi ein cyllid addysg uwch ar sylfaen fwy cynaliadwy. Mae honno’n system y mae pobl eraill, megis yr Alban, yn edrych arni gydag eiddigedd.

Diolch, Llywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o ysgolion cynradd sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori coch neu oren a faint o ysgolion cynradd yn y categorïau coch ac oren sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori melyn neu wyrdd?

Llywydd, rwy’n ceisio paratoi ar gyfer y sesiynau hyn, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef, am y tro cyntaf ers imi sefyll yn y fan hon, y bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod gyda’r manylion penodol hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yn hapus yw bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categori coch, boed yn ysgolion uwchradd neu gynradd, yn disgyn—ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.

Iawn. Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn y categori oren yn cael hyd at 15 diwrnod o gymorth, gyda’r rhai yn y categori coch yn cael hyd at 25 diwrnod o gymorth. Nid oes unrhyw sôn am adnoddau ychwanegol yn y canllawiau a roddir i rieni ac ysgolion—yr adnoddau ychwanegol at ddibenion cyflogi mwy o athrawon a darparu cyfleusterau ychwanegol ac wedi’u huwchraddio. A ydych yn fodlon fod 25 diwrnod o gymorth yn ddigon i dynnu ysgol o’r categori coch, a pha fath o waith sy’n mynd i gael ei wneud gydag ysgolion yn ystod y 25 diwrnod?

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu ysgolion ar eu taith wella wedi’i deilwra ar gyfer amgylchiadau unigol pob ysgol. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn, ‘A allwn fod yn hyderus fod y lefel o gymorth yn ddigonol i symud ysgol yn ei blaen?’ Yr ateb i hynny yw ‘gallwn’, a’r rheswm y gallaf ddweud hynny yw fy mod wedi ymweld ag ysgolion a oedd, bedair blynedd fer yn ôl, yn y categori coch, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, maent wedi codi drwy’r system gategoreiddio a bellach yn ysgolion gwyrdd. Nawr, bydd taith wella rhai ysgolion yn cymryd mwy o amser a bydd angen lefelau mwy parhaus o gefnogaeth. Holl bwynt ein system gategoreiddio yw ein bod, drwy weithio ar y cyd â’r consortia a’r ysgolion unigol, yn gallu nodi diffygion, gallwn nodi’r hyn sydd angen ei wneud, a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi ar waith i wneud y gwelliannau hynny.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn amlwg yn elwa o’r math o gyngor a chymorth rydych yn sôn amdanynt, ac rwy’n sylweddoli bod gwella ysgolion yn broses barhaus, a dyna pam fy mod yn pryderu am y diffyg cymorth pendant a adlewyrchir yn y canllawiau ar y system gategoreiddio ysgolion. Fodd bynnag, bydd rhai pobl ifanc wedi treulio eu haddysg naill ai mewn ysgol categori oren neu goch wrth i chi fynd ati i wella ysgolion gan bwyll bach. Beth a wnewch i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc y mae’r system addysg yng Nghymru wedi gwneud cam â hwy?

Yn sicr, nid wyf yn mynd ati gan bwyll bach, ond gallaf ddweud wrthych mai’r hyn na fydd yn gweithio yw i mi stampio’r llawr yma yn y Siambr hon. Mae gwella ysgolion yn ymdrech ar y cyd sy’n gyfrifoldeb i arweinwyr ysgolion unigol, y staff yn yr ysgolion hynny, y cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol, y consortia rhanbarthol, ac yn wir, y Llywodraeth hon. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein system addysg. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein harweinwyr ysgol. Nid oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond rwyf hefyd yn gwybod bod angen i mi roi mesurau ar waith i helpu’r ysgolion hynny i wneud y gwelliannau, a dyna rwy’n mynd i barhau i’w wneud.

Blaenoriaethau Ysgolion

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru dros y chwe mis nesaf? OAQ(5)0139(EDU)

Diolch, Lynne. Rwyf wedi nodi ein cenhadaeth genedlaethol i wella cyrhaeddiad addysgol drwy raglen o ddiwygiadau addysg. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd a diwygio asesu, gwell addysg gychwynnol i athrawon, datblygiad proffesiynol athrawon ac adeiladu gallu arweinyddiaeth, ac yn hollbwysig, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein plant tlotach.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’n fawr eich sicrwydd yn y pwyllgor y bore yma y bydd y grant amddifadedd disgyblion a ailenwyd yn parhau i gael ei dargedu at ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a hefyd, diolch i chi am eich geiriau caredig am ysgol Woodlands yn fy etholaeth. Nid oes amheuaeth fod yna arfer rhagorol i’w weld yn y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru, ac ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Garnteg, lle maent yn gwneud defnydd rhagorol o’r grant amddifadedd disgyblion i hyrwyddo gwydnwch emosiynol a lles meddyliol ymysg eu disgyblion. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y byddwch yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y grant amddifadedd disgyblion, a hefyd y byddwch yn monitro’n llym y defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion er mwyn sicrhau ei fod o fudd i’r disgyblion y bwriedir iddo eu cynorthwyo?

Diolch. Gwn fod rhai pobl yn poeni ynglŷn â newid enw’r grant amddifadedd disgyblion i ‘grant datblygu disgyblion’, ond gadewch i mi fod yn glir: y rheswm dros wneud hynny yw oherwydd nad wyf am ganolbwyntio ar y rhwystrau y mae plant yn eu hwynebu yn eu dysgu. Rwyf am ganolbwyntio ar eu gallu a bod â disgwyliadau ac uchelgeisiau uchel ar gyfer y plant hynny. Bydd y grant datblygu disgyblion yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion dysgu’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, ond rydym hefyd yn ei ymestyn i gynnwys plant sy’n derbyn gofal, a hefyd yn ei ymestyn i gynnwys plant mewn addysg heblaw yn yr ysgol, sy’n rhai o’n dysgwyr mwyaf agored i niwed.

Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £93 miliwn drwy gyfrwng y grant datblygu disgyblion, ac mae ymarfer rhagorol yn digwydd ar lawr gwlad sydd o ddifrif yn trawsnewid cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc. Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag ysgol gynradd Woodlands gyda chi i weld drosof fy hun y gwaith y maent yn ei wneud, a’r un mor falch o ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Blaenymaes gyda Mike Hedges AC, ysgol sydd â lefelau uchel o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim, ac i nodi, yn eu hadroddiad Estyn yn ddiweddar, eu bod wedi cael safon ‘ardderchog’ ar gyfer llesiant. Mae’r grant amddifadedd disgyblion yn rhywbeth roeddwn yn ei hyrwyddo pan oeddwn yn yr wrthblaid ac rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i’w ymestyn gan fy mod bellach yn aelod o’r Llywodraeth.

Mae ychydig dros bedwar mis, mewn gwirionedd, ers i Aelodau o bob ochr i’r Senedd gefnogi fy nghynigion deddfwriaethol i gael sgiliau achub bywyd priodol i oedran yn rhan o’u haddysg—fel dysgwyr, nid fel Aelodau’r Cynulliad. Roeddwn yn falch, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi mewn gwirionedd ymhlith yr Aelodau Cynulliad yn y Cynulliad blaenorol a gefnogodd fy natganiad barn ar yr un cynigion yn fras.

Gan mai’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio ar hyn o bryd yw annog defnydd gwirfoddol, tybed a allech ysgrifennu ataf os na allwch—. O, os gallwch ysgrifennu ataf, a dweud y gwir, oherwydd rwy’n amau efallai na fyddwch yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi heddiw, yn gyntaf ynglŷn â faint o ysgolion a cholegau yng Nghymru sydd wedi gosod diffibrilwyr ers mis Chwefror, a faint yn fwy o ysgolion a cholegau sydd bellach yn darparu hyfforddiant o’r fath i ddysgwyr, a pha mor aml y mae unrhyw gohort penodol o’r plant a’r bobl ifanc hynny’n cael hyfforddiant diweddaru. Diolch.

Diolch yn fawr, Suzy. Rwy’n meddwl bod sgiliau achub bywyd yn hanfodol bwysig i bobl ifanc ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn edrych ar argaeledd diffibrilwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ac rwyf wedi gofyn i swyddogion, mewn gwirionedd, i gynnal ymarfer mapio ar fy rhan i ddarganfod faint o’n hysgolion sydd â’r cyfleusterau hynny ar hyn o bryd a lle mae bylchau a pha gyfleoedd y gallai fod, gan weithio gyda’r sector gwirfoddol, i fynd i’r afael â hynny. Fel bob amser, yng Nghymru, nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu cadw’n ganolog, ac felly mae’n cymryd peth amser i ganfod pwy sydd â beth, ond byddai’n dda iawn gennyf wybod hynny a gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i bawb.

Gyda golwg ar le sgiliau achub bywyd yn y cwricwlwm, fe fyddwch yn ymwybodol mai un o’r meysydd dysgu a phrofiad yw iechyd a lles. Mae’r gwaith ar y meysydd dysgu a phrofiad yn dod i ben, cyn i ni balu’n ddyfnach i natur fanwl yr hyn a fydd yn cael ei addysgu, ac mae’r materion hyn wedi bod yn rhan o’r trafodaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad.

Llwyth Gwaith Athrawon

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar lwyth gwaith athrawon yng Nghymru? OAQ(5)0134(EDU)

Diolch i chi, Oscar. Ein nod yw meithrin capasiti a lleihau llwyth gwaith gormodol, gan arwain at wella safonau drwy leihau biwrocratiaeth, cyflawni polisi’n well a ffyrdd gwell o weithio. Nid un ateb sydd i’r mater cymhleth hwn, ac mae’n galw am ymagwedd aml-ffrwd, gan ymgorffori nifer o ffrydiau gwaith unigol, a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond y ffeithiau yw bod y ffigurau swyddogol yn dangos bod yna 275 yn llai o athrawon wedi’u cyflogi yng Nghymru yn 2016, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Hefyd, roedd 446 yn llai o gynorthwywyr addysgu. Canfu arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod mwy na 88 y cant o athrawon yn dweud nad oeddent yn meddwl y gallent ymdopi â’r llwyth gwaith yn ystod yr oriau cytunedig, a bod mwy na thraean yn bwriadu rhoi’r gorau i’r proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf, ac rwy’n credu bod hwnnw’n ffigur syfrdanol, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw’n wir fod y polisïau rydych yn mynd ar eu trywydd wedi creu proffesiwn addysgu sy’n cael ei orweithio ac wedi’i ddadrithio yng Nghymru?

Fel y dywedais yn gynharach mewn ateb i gwestiynau gan Llyr, mae llwyth gwaith yn broblem go iawn i’r proffesiwn addysgu ac yn bryder gwirioneddol i mi. Rydym yn defnyddio’r data, fel y dywedais, o arolwg y gweithlu i geisio mireinio ein dulliau gweithredu yn y maes hwn. Rydym hefyd, fel y dywedais yn gynharach, yn cael trafodaethau manwl gydag undebau’r gweithlu addysg. Gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â rhai o’r pethau a wneuthum. Rydym wedi sefydlu panel cynghori penaethiaid, yn cynnwys 26 o’r penaethiaid sy’n perfformio orau yng Nghymru, penaethiaid rwyf fi a fy swyddogion yn ymgynghori â hwy ar ddatblygu polisïau newydd a materion gweithredu a allai godi. Rydym wedi sefydlu a chomisiynu gwaith ar faterion penodol, gan gynnwys edrych ar farcio ac asesu, sy’n aml yn cael eu nodi fel meysydd sy’n cynyddu llwyth gwaith athrawon. Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil penodol, megis prosiect sy’n cael ei gyflawni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ac sy’n arsylwi a dadansoddi’r modd y mae arweinwyr ysgolion yn rheoli amser, i edrych i weld beth y mae arweinwyr ysgol yn treulio’u hamser yn ei wneud mewn gwirionedd. Gwnaed gwaith gyda’r consortia, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i nodi a rhoi cyhoeddusrwydd i arferion gorau, er enghraifft ymgyrch chwalu’r mythau Estyn. Fel y dywedais, nid un ateb sydd i’r mater cymhleth hwn, ond rydym yn gweithio ar draws nifer o ffrydiau gwaith i fynd i’r afael â llwyth gwaith lle y gallwn.

Yn y Ffindir, nid oes ganddynt drefn arolygu ysgolion, dim tablau cynghrair, nac unrhyw brofion neu arholiadau hyd nes eu bod yn 16 oed, caiff gwaith cartref pob plentyn ei gyfyngu i hanner awr fan bellaf, ac mae ganddynt y system addysg fwyaf llwyddiannus yn y byd. Dyna oedd y model roeddem i fod i’w fabwysiadu ac eto rydym yn dechrau cynnal profion ar blant saith oed ac rydym wedi mewnforio system o’r drws nesaf yn Lloegr yn ei chyfanrwydd, system dan ormod o bwysau sy’n cael ei gorweithio a’i gor-reoleiddio, a system addysg sy’n methu. Pam?

Mae angen bod yn gwbl glir—a manteisiais ar y cyfle i ymweld â’r Ffindir ym mis Ionawr, fy hun, i edrych ar bolisi ac ymarfer addysg yn eu hysgolion—fod Llywodraeth y Ffindir yn bryderus iawn ynglŷn â’r Ffindir. O gymharu â hwy—byddai’n wych pe bai gennym berfformiad o’r fath—ond o gymharu â hwy, mae system y Ffindir yn disgyn i lawr y tabl cynghrair PISA. Nid yw’n gwella. Nid yw’n dal ei thir. Mae eu perfformiad yn gwaethygu. O gymharu â’n perfformiad ni, byddem yn awyddus i gael y sgoriau hynny, ond dyna realiti system y Ffindir. Rydym yn awyddus i ddysgu o enghreifftiau rhyngwladol, boed yn Ffindir—. Roedd swyddogion yn Ontario yng Nghanada yr wythnos diwethaf yn edrych ar eu model llwyddiannus iawn a byddwn yn parhau i edrych ar arferion gorau yn rhyngwladol i lywio ein diwygiadau addysg. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae cael gwared ar bob math o atebolrwydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa rydym ynddi, ac nid oes neb—neb—yn meddwl bod yr hyn a wnawn ar hyn o bryd yn ddigon da. Rydym wedi ymrwymo i genhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio sy’n seiliedig ar godi safonau a chodi lefel cyrhaeddiad, a byddwn yn dysgu gan y gorau, lle bynnag y bo.

Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EDU)

Gyda dyfodiad strategaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n cytuno bod rhaid inni fod yn gyson ac yn gadarn, gan hoelio sylw agweddau penodol wrth hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Byddwn ni’n lansio ymgyrch cenedlaethol ym mis Medi.

Diolch yn fawr am yr ymateb yna, Gweinidog. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis diwethaf, mae llawer yn gofyn pam nad yw cyngor Pen-y-bont yn gwneud mwy i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg sydd yn y sir, lefel isel iawn mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill. A ydych chi’n cytuno bod y sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont yn anfoddhaol, a beth ydych chi’n ei wneud i newid y sefyllfa, yn enwedig drwy hyrwyddo addysg Gymraeg a chodi’r nifer o blant ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg yn y sir?

Rydw i’n bendant yn cytuno bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dylem ni longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr wnaeth hybu a chyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n credu bod lot fawr o Aelodau wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ac wedi mwynhau eu hymweliad. Mae Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn i Aled Roberts wneud arolwg o’r WESPs i gyd, yn cynnwys Pen-y-bont, ac mi fydd e’n adrodd imi yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi fyddaf i’n cyhoeddi ei adroddiad llawn e unwaith rydw i’n gallu gwneud hynny. Ond a gaf i ddweud hyn? Rydych chi’n gofyn am Ben-y-bont. Mae Pen-y-bont yn dangos bod yna uchelgais a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae cyngor Pen-y-bont yn gwneud hynny, ond mae’n rhaid i ni gydweithio gyda nhw a chydweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod nhw yn gallu cyrraedd y weledigaeth y maen nhw wedi ei gosod.

Rwy’n croesawu’r cwestiwn, a’r ateb hefyd, oherwydd rhaid inni gydnabod bod Pen-y-bont ar Ogwr, fel eraill, yn dechrau o sylfaen gymharol isel o ran y ddarpariaeth yng Nghymru. Yn sicr, yn y cyfnod y bûm yn cynrychioli’r sedd mewn gwahanol sefydliadau, mae wedi darparu cyfleuster addysg uwchradd yn Llangynwyd bellach. Ceir galwadau gan rieni y dylai fod yn fwy canolog, ac rwy’n deall y gofynion hynny. Roedd fy mhlant—y tri ohonynt—yn ffodus i fynd i un o’r ysgolion cynradd gorau yn yr etholaeth gyfan, ac yn cerdded yn llythrennol i lawr y ffordd i Ysgol Cynwyd Sant, darpariaeth gwbl Gymraeg ei hiaith o’r radd flaenaf ac wedi’i gwreiddio yn yr eisteddfodau ac yn y blaen. Ond mae mwy i’w wneud, heb amheuaeth. Roeddwn yn y seremoni torri’r dywarchen y diwrnod o’r blaen ar gyfer ysgol gynradd newydd Betws, a fydd yn gwasanaethu nid yn unig y Cymoedd Gogleddol ond rhai o’r ardaloedd canolog hefyd. Ond rwyf am ofyn i’r Gweinidog: pa gymorth ychwanegol y gellir ei roi i awdurdodau lleol sy’n dechrau o sylfaen is—o ran cyngor hefyd—i symud ymlaen? A wnaiff roi anogaeth hefyd i’r awdurdodau sy’n ceisio gwneud y peth iawn, ond sy’n gwybod hefyd pa mor bell y mae’n rhaid iddynt fynd?

Rwy’n gobeithio y gallwn roi anogaeth i awdurdodau lleol. Y dull a ddefnyddiais drwy gydol proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd gweithio gyda phobl yn hytrach na gweiddi ar bobl. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yma, yn y Siambr hon, i weithio gyda’n hawdurdodau lleol ein hunain. Rwy’n sicr yn awyddus i weithio gyda fy awdurdod lleol i ym Mlaenau Gwent i sicrhau eu bod yn gallu tyfu, a gwireddu eu huchelgais hefyd. Ymwelais â’r unig ysgol iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent rai wythnosau yn ôl i drafod sut y gallant wella a datblygu eu darpariaeth. Yr hyn a welaf pan fyddaf yn teithio ar draws y wlad yw’r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod dros Ogwr, sef ewyllys da dwfn a gwych tuag at yr iaith a dymuniad i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Credaf fod y ffynnon honno o ewyllys da yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb ohonom geisio ei hannog. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ei rhan, o ran annog y ddarpariaeth, annog rhieni i ddefnyddio’r ddarpariaeth honno, a sicrhau wedyn fod yr awdurdodau lleol eu hunain yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r weledigaeth y mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi’i hamlinellu yn eu cynlluniau eu hunain.

Rwy’n meddwl bod yna newid swyddogion wedi bod yn yr ardal benodol y soniwch amdani ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, felly gobeithio y byddwn yn gweld rhywfaint o welliant. Ond roeddwn am ofyn i chi ynglŷn â rhywbeth arall. Rydych wedi cydnabod yn flaenorol y rôl y gall busnesau Cymru ei chwarae yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn wir, yn ysgogi’r galw am sgiliau mewn gwirionedd, ac rydym yn aml yn siarad yn gadarnhaol yn y Siambr hon am gydweithio rhwng busnesau ac ysgolion a cholegau, o ran dylanwadu ar, a hwyluso yn wir, y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno mewn ffordd ddiddorol. A ydych yn cael unrhyw awgrym yn ddiweddar fod busnesau efallai’n fwy awyddus i weithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd y nod i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg? Neu a yw’r enghreifftiau hyn o gydweithredu yn dal i fod i raddau helaeth yn benderfyniadau lleol—perthynas dda rhwng arweinwyr busnes ac arweinwyr ysgolion neu golegau—lle nad yw’r iaith yn ystyriaeth ar eu hagenda o bosibl?

Yr hyn a welaf, fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, yw llawer iawn o ewyllys da o bob rhan o’r gymuned, gan gynnwys busnesau, a’r hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud, drwy gyhoeddi’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad, yw ymgais i sicrhau bod cydweithio yn cael ei wireddu, yn cael ei annog, yn cael ei ddarparu gyda chefnogaeth, ac yn galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd, oherwydd credaf mai hynny’n union y mae pobl eisiau ei wneud, er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r weledigaeth rydym i gyd yn ei rhannu ar gyfer dyfodol yr iaith.

Newidiadau i’r Cwricwlwm

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i’r cwricwlwm yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(5)0135(EDU)

Diolch yn fawr, Janet. Bydd y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar yr adolygiad sylfaenol o’r trefniadau presennol a gyflawnwyd gan yr Athro Graham Donaldson. Mae’r argymhellion yn radical, gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i’n system addysg. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar ddatblygu cwricwlwm newydd mewn ymateb i ‘Dyfodol Llwyddiannus’.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, mae oddeutu 3,000 o blant byddar yn mynd drwy ein system addysg yma yng Nghymru sy’n methu cael mynediad at addysg drwy ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain. I lawer o blant byddar, mae hwn yn gyfrwng cyfathrebu pwysig, a’r unig un yn aml, yn ystod y cyfnod datblygu pwysig hwn. Mae ymchwil gan Deaf Ex-mainstreamers wedi dangos sut y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chynnwys yn awr ym model y cwricwlwm Cymreig. Rydym wedi cael deiseb, fel Pwyllgor Deisebau, wedi’i llofnodi gan dros 1,000 o bobl yn galw am well mynediad at addysg drwy Iaith Arwyddion Prydain. A wnewch chi ystyried cynnwys hyn mewn unrhyw newid i’r cwricwlwm a sicrhau y gall y plant hyn ddysgu yr un mor dda ag unrhyw un arall?

Wel, Janet, byddaf yn gwneud mwy nag ystyried, a byddwch yn gwybod hynny am fy mod wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig ar 31 Mai, a oedd yn cadarnhau bod Iaith Arwyddion Prydain, wrth ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad mewn perthynas ag iaith, llythrennedd a chyfathrebu, yn cael ei hystyried ochr yn ochr ag ieithoedd eraill yn y gwaith datblygu ar gyfer y grŵp hwnnw. Mae wedi cael ei chynnwys. Maent wedi bod yn cysylltu â’r sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli plant a theuluoedd yn y maes arbennig hwn, ac rwy’n disgwyl i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo’n barhaus.

Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Iau diwethaf, gwelsom lawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar draws y DU, yn cael eu hysbrydoli—yn bennaf gan Jeremy Corbyn—i gymryd rhan ac arfer eu hawliau a lleisio eu barn. A ydych yn cytuno, os yw’r Cynulliad hwn yn symud ymlaen i gynnig pleidlais i rai 16 a 17 oed—? [Torri ar draws.] Rwy’n siomedig nad yw’r Aelodau’n barod i wrando ar agwedd sy’n bwysig i bobl ifanc. A ydych yn cytuno, wrth i’r Cynulliad symud ymlaen a’r posibilrwydd y caiff rhai 16 a 17 oed hefyd gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru, ei bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn mynd i’r afael ag addysg wleidyddol a dinasyddiaeth, fel eu bod yn cael eu paratoi a’u hysbrydoli i gymryd rhan—cymryd rhan a gwneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed hefyd?

Wel, Llywydd, nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw beth arbennig o atyniadol neu ysbrydoledig ynglŷn â pheth o’r cecru sy’n digwydd yn y Siambr hon. Yr hyn rwy’n ei gydnabod yw bod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn dod o hyd i atebion i’r problemau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau ac yn eu cymunedau. Mae arfogi’r bobl ifanc hynny â’r gallu i ddwyn gwleidyddion i gyfrif, i graffu ar eu gwaith ac i allu gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut y dylent bleidleisio yn gwbl hanfodol i’n llwyddiant parhaus fel cymdeithas. Mae gwleidyddiaeth ac ymwneud dinesig eisoes yn rhan o’n cwricwlwm cyfredol, o dan drefniadau addysg bersonol a chymdeithasol. Rwy’n disgwyl y bydd gwleidyddiaeth yn chwarae rhan ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau. Ond mae’n gwbl hanfodol—yn wir, mae pobl ifanc eu hunain yn ei fynnu gennym—eu bod yn gallu cael mynediad at y math hwn o gwricwlwm. Maent yn gwybod ei fod yn bwysig, maent ei eisiau, a byddwn yn ei ddarparu ar eu cyfer.

Cyllid Ysgolion

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0137(EDU)

Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru, a’r llynedd, roedd y gyllideb ar gyfer gwariant gros ar ysgolion yn £2.5 biliwn i gyd. Roedd hynny 0.9 y cant yn uwch nag yn 2015-16. Dirprwyodd awdurdodau lleol fwy na £2.1 biliwn o’r arian i ysgolion.

Diolch. Ym mis Medi 2010, gwnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymrwymiad i gynyddu cyfraddau dirprwyo i ysgol i 80 y cant mewn dwy flynedd, gan weithio tuag at 85 y cant o fewn dwy flynedd arall—h.y. 2014. Pan holais eich rhagflaenydd ym mis Mawrth y llynedd, mynegodd ei fod yn deall fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhagori ar y gyfradd ddirprwyo o 85 y cant a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi pennu disgwyliad iddi gyrraedd 90 y cant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, dangosodd ffigurau 2016-17 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fod 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn dal yn is na’r ffigur o 85 y cant, a bod pob un ohonynt yn is na’r ffigur o 90 y cant. A allwch gadarnhau beth yw nod y Llywodraeth hon yn y maes hwn, a sut y mae’n bwriadu cau’r bwlch?

Wel, Mark, mae’n bwysig fod awdurdodau lleol yn cael cymaint o arian addysg, sy’n cael ei roi iddynt naill ai drwy’r grant cynnal refeniw neu drwy grantiau arbennig gan y Llywodraeth hon, ar gyfer y rheng flaen. Dyna ble rwy’n disgwyl i arian gael ei ddefnyddio—yn ein hystafelloedd dosbarth. Byddwn yn annog awdurdodau lleol unwaith eto i geisio sicrhau bod cymaint o gyllideb ddirprwyedig ag sy’n bosibl ar gael. Un o’r pryderon cyson eraill sydd gennyf yw bod gennym lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw, mewn rhai achosion, ar lefel yr ysgolion. Mae hynny’n digwydd fel arfer yn y sector cynradd, ac yn aml iawn, cânt eu cadw am resymau da iawn—os yw ysgol yn ceisio adeiladu cronfa o arian wrth gefn ar gyfer prosiect penodol. Ond gadewch inni fod yn glir: nid yw cronfeydd wrth gefn sy’n cael eu cadw heb unrhyw bwrpas penodol yn gwneud yr hyn y bwriadwyd yr arian hwnnw ar ei gyfer, sef darparu cyfleoedd i’n plant. Felly, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ysgolion unigol, awdurdodau lleol, consortia, a Llywodraeth Cymru yn wir, i gael cymaint o arian i’r rheng flaen ag y bo modd.

Annog Mwy i Ddarllen

8. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen? OAQ(5)0138(FM)

Diolch i chi, Jayne. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd meithrin cariad at ddarllen o oedran cynnar. Mae ein rhaglen llythrennedd a rhifedd genedlaethol a’i pholisïau allweddol, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol a’n hymyriadau llythrennedd a ariennir gan grantiau, yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr her fawr i athrawon yw nid yn unig cael myfyrwyr i ddarllen, ond eu cael i fwynhau gwneud hynny hefyd. Gall llenyddiaeth Saesneg danio angerdd gydol oes tuag at ddarllen. Gyda newidiadau i’r ffordd y mesurir datblygiad llythrennedd yng nghyfnod allweddol 4, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael gwersi llenyddiaeth Saesneg ar lefel TGAU. Fel yr ysgrifennodd un o fy etholwyr, Rajvi Glasbrook Griffiths, sy’n athro, yn ddiweddar:

llythrennedd diwylliannol yw un o’r dulliau mwyaf pwerus o sicrhau symudedd cymdeithasol a chynnydd.

Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dysgu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli a meithrin pobl sy’n hoff o ddarllen yn y dyfodol, yn enwedig i rai nad oes ganddynt lyfrau at eu defnydd yn y cartref?

Diolch i chi am hynny. Rwy’n ymwybodol o bryderon ynglŷn â mater llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 4, a bod rhai ysgolion wedi bod yn lobïo dros fwy o bwyslais ar lenyddiaeth yn y mesurau perfformiad. Rwyf eisoes wedi dynodi bod atebolrwydd ysgolion yn cael ei adolygu fel rhan o’n diwygiadau addysg a’n cenhadaeth genedlaethol i wella safonau addysg. Cyflwynasom raglenni astudio newydd ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg yn 2015 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol addysgu elfennau iaith a llenyddiaeth i bawb hyd at ddiwedd cyfnod allweddol 4. Rwy’n cadw mynediad at lenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg TGAU dan arolwg a byddaf hefyd yn gofyn i Estyn adolygu ymarfer ysgolion yn addysgu llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4.

Gwydnwch Emosiynol

9. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc? OAQ(5)0140(EDU)

Diolch i chi, Lynne. Mae’n rhaid i hyrwyddo gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc gael ei ddeall yng nghyd-destun ehangach eu llesiant. Mae cysylltiad rhwng lefelau uwch o lesiant a chynnydd o ran cyflawniad ac ymgysylltiad addysgol. Am y rheswm hwnnw, rydym yn ychwanegu ‘llesiant’ fel pumed amcan yn y fersiwn nesaf o ‘Cymwys am Oes’.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â Samariaid Cymru gyda mi yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, maent wedi bod yn awyddus iawn i brif ffrydio gwydnwch emosiynol yn y cwricwlwm, ac rwy’n siŵr eu bod yn croesawu, fel finnau, y ffaith eich bod wedi mynd ymhellach, mewn gwirionedd, drwy gynnwys llesiant yn ‘Cymwys am Oes’—mae hynny’n gadarnhaol tu hwnt. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rwyf wedi tynnu sylw o’r blaen at yr angen i holl Weinidogion Cymru weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gyflawni nodau Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnewch i gyflawni eich ochr chi o’r bartneriaeth honno o ran sicrhau ein bod yn symud mor gyflym â phosibl i sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan weithredol yn sicrhau bod gwydnwch emosiynol yn flaenoriaeth?

Diolch i chi, Lynne. Mae’n gwbl hanfodol. Fel y trafodwyd yn y pwyllgor y bore yma, mae llawer y gallwn ei wneud i atal sefyllfaoedd anodd i’n pobl ifanc a’n plant, ond ni fyddwn byth yn gallu eu hatal rhag profi troeon yr yrfa—boed yn brofedigaeth, boed yn chwalfa perthynas bwysig yn eu bywydau, boed yn fwlio, ni fyddwn byth yn gallu eu diogelu rhag yr holl heriau y byddant yn eu hwynebu, ond gallwn eu helpu i fod yn fwy gwydn a chaniatáu iddynt ymdopi’n well pan fydd y newidiadau hynny’n digwydd. Rydych yn hollol gywir; ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i weithio ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Cabinet dros iechyd yma i nodi pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gweithio ar y cyd. Yn fwyaf diweddar, nododd y ddau ohonom swm o arian y gobeithiwn allu ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhai o’r problemau real hyn yn ein hysgolion uwchradd.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Mike Hedges.

Rheolau Sefydliad Masnach y Byd

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran gorfodi rheolau Sefydliad Masnach y Byd, yn absenoldeb cytundeb masnach rhwng Llywodraeth y DU a'r UE? OAQ(5)0041(CG)

Diolch am y cwestiwn. Mae swyddogion mewn tîm polisi masnach sydd newydd ei sefydlu yn y broses o asesu’r canlyniadau polisi a’r canlyniadau cyfreithiol i’r DU o fasnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn bwriadu rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ac eithrio amaethyddiaeth, gall y gostyngiad yng ngwerth y bunt ddileu’r broblem o dariffau ariannol. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod y rheolau a osodwyd, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn llawer mwy o broblem mewn gwirionedd na thariff o 5 y cant neu 10 y cant, y gallai dibrisio pellach ei unioni? Mae cydymffurfio â’r rheolau a gorfod mynd drwy’r holl wiriadau yn mynd i fod yn fwy o broblem i ddiwydiant Cymru ac allforwyr Cymru na chael y tariffau eu hunain.

Wel, yn amlwg mae tariffau’n arwyddocaol tu hwnt am eu bod yn effeithio’n uniongyrchol ar gost—nwyddau’n croesi ffiniau gyda thariffau’n cael eu gosod arnynt. Y broblem arall, wrth gwrs, gyda thariffau yw beth yw lefel y tariffau hynny, a hefyd, yn enwedig o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, a oes cwotâu a allai fod yn berthnasol hefyd. Ond mae’r pwynt a wnewch yn un hollol briodol, sef mai rhwystrau y tu ôl i’r ffin yw’r problemau mwyaf weithiau. Hynny yw, pa mor gymharus yw’r gallu i fasnachu—materion megis ardystio cynnyrch, trwyddedau mewnforio, gwiriadau tollau ac yn y blaen. Ac wrth gwrs, ceir yr holl faterion eraill sy’n ymwneud â bod gan yr UE ei gytundebau masnach ei hun, ei fersiynau ei hun o’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd â gwahanol wledydd, a gallai fod ganddo rai newydd. Wrth gwrs, rhan o bwrpas y rhain yw cael gwared ar rai o’r rhwystrau hyn y tu ôl i’r ffin, felly gallai olygu mewn gwirionedd fod cytundebau’n cael eu gwneud nad ydym yn rhan ohonynt, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, ond bydd angen i ni gydymffurfio â hwy er mwyn masnachu. Felly, rydych yn hollol gywir: mae’n ffactor pwysig iawn, ac yn un y mae’n rhaid rhoi sylw iddo.

Nid wyf yn siŵr pa wlad y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod gan yr UE gytundeb fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd â hi, sy’n llawer ehangach ei chwmpas nag unrhyw gytundeb masnach blaenorol. Ond onid yw’n wir fod hwyluso tollau yn dal i fodoli ar gyfer aelodau Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed os nad oes ganddynt gytundeb masnach rydd â’i gilydd? Mae’r mwyafrif helaeth o’n masnach gyda gwledydd nad ydynt yn yr UE, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Tsieina, lle nad oes cytundeb masnach, yn mynd rhagddi’n llyfn. Ar hyn o bryd mae ein hallforwyr eisoes yn bodloni’r gofynion cydymffurfio hyn ac ni fyddai absenoldeb cytundeb masnach rydd o bwys, y byddai pawb ohonom yn hoffi ei weld, ynddo’i hun yn arwain at unrhyw beth tebyg i faint y problemau tollau y credaf efallai fod Mike Hedges wedi’i awgrymu.

Yn gyntaf oll, i ymdrin â’r pwynt a wnewch am y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd, wel, wrth gwrs, mae yna fersiynau o’r Bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli, megis â Chanada a gwledydd eraill, pob un ohonynt yn ymdrin â’r materion penodol hynny. Wrth gwrs, maent yn berthnasol i’r DU cyhyd â’n bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Wrth gwrs, ni wnaeth trafodaethau’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd gydag Unol Daleithiau America symud ymlaen, ac maent i’w gweld bellach fel pe baent wedi dod i stop, ond rhan o’u hamcan oedd ceisio cael gwared â rhai o’r materion tu ôl i’r ffin. Beth bynnag fydd yn digwydd mewn perthynas â’r cytundebau hynny, os oes gennych yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn ôl safon benodol, a bod y safonau hynny’n dod yn rhan o gytundeb, er mwyn masnachu gyda’r UE, mae’n debygol iawn mai â safon yr UE y bydd yn rhaid i ni gydymffurfio, a byddwn wedi ein rhwymo de facto ganddi os ydym am fasnachu mewn gwirionedd.

O ran ein sefyllfa gyda Sefydliad Masnach y Byd, wrth gwrs mae’n cael ei chyflwyno fel pe bai rywsut yn sefyllfa hawdd i gilio’n ôl iddi, rhyw fath o sefyllfa ddiofyn—os nad yw pethau’n gweithio gyda’r UE, mae yna, serch hynny, ryw fath o sefyllfa ddiofyn. Nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd, gan fod y trefniadau gyda Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu trafod gan yr UE ar ran ei holl aelodau, felly byddai’n rhaid i ni, yn gyntaf oll, ymryddhau oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a mynd ati wedyn i sefydlu ein hamserlenni masnach ein hunain gyda Sefydliad Masnach y Byd. Roedd dyfyniad diddorol iawn yn ‘The Times’ yn ddiweddar gan Roberto Azevedo, cyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, a ddywedodd nad oes cynsail ar gyfer ymryddhau oddi wrth undeb economaidd tra’n dal i fod o fewn y sefydliad—ni fyddai’r broses yn hawdd a byddai’n debygol o gymryd blynyddoedd cyn y gellid cytuno ar sefyllfa’r DU mewn perthynas â Sefydliad Masnach y Byd, nid yn lleiaf oherwydd y byddai’n rhaid i’r holl aelod-wladwriaethau eraill gytuno.

Ac wrth gwrs, un o’r canlyniadau tra byddwch yn mynd drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd, yw y byddai marchnadoedd yn cael eu targedu ac fel gwlad fasnachol, byddai’r DU yn cael ei gwthio fwyfwy i’r naill ochr. Er y gallai rhai meysydd masnachu fod yn gymharol syml, mewn perthynas â nwyddau a weithgynhyrchir efallai, y broblem arall yw bod problemau mawr yn codi o ran amaethyddiaeth wrth gwrs, rhywbeth a fydd yn destun pryder enfawr i Gymru yn arbennig, gan nad â thariffau’n unig y mae’n ymwneud, ond mae hefyd yn ymwneud â chwotâu ac nid yw cwotâu synergaidd yn berthnasol i dariffau ac maent yn amrywio o wlad i wlad. Felly, mae’n debyg mai’r pwynt sy’n cael ei wneud yw bod y syniad syml fod yna sefyllfa i gilio’n ôl iddi rywsut—. Nid yw yno, nid yw’n bodoli, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod aelodaeth o’r undeb tollau yn dod yn fwy deniadol po fwyaf y byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael ein rhwymo gan reolau Sefydliad Masnach y Byd.

Cronfa Cyd-ffyniant

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran y bwriad i sefydlu cronfa cyd-ffyniant gan Lywodraeth y DU? OAQ(5)0040(CG)

Wel, mae swyddogion yn ystyried y mater ac mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn paratoi adroddiad ar y pwnc hwn. Rydym yn bwriadu rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw ac mae’n ymddangos bod gwaith yn mynd rhagddo yn ei adran i edrych ar hyn. Ond a yw’n rhoi unrhyw sylw i’r pryderon a godwyd gan sylwebwyr sy’n awgrymu, er na ellid dadlau ar yr wyneb â’r cysyniad o gronfa gyd-ffyniant—mae’n swnio’n hynod o gynnes a meddal a theg a chyfiawn a bydd gan bawb gyfran ynddi—y dilema yma wrth gwrs yw os caiff hyn ei wneud yn San Steffan, ei benderfynu gan San Steffan, ei ddyrannu gan San Steffan, neu fel arall, ei ddyrannu yn unol â blaenoriaethau gwleidyddol, gallai fod yn annheg iawn yn wir a gall yn wir, yn ôl y gyfraith, wrthdroi’r sefyllfa gyllido bresennol i’r sefydliadau datganoledig. Gallai ei gwneud yn annheg iawn yn wir. Felly, a yw’n rhannu’r pryderon y gallai’r dull hwn newid natur datganoli yn sylfaenol ac ailsefydlu rheolaeth San Steffan dros gyllid datganoledig mewn gwirionedd?

Rydych yn gwneud nifer o bwyntiau dilys iawn. Yn gyntaf oll, gan gymryd y cysyniad o gronfa gyd-ffyniant, pan fo’r Llywodraeth yn sôn am gronfa gyd-ffyniant, mae’n aneglur am ba ffyniant y mae’n sôn, ffyniant pwy ydyw a sut yn union y mae’n mynd i gael ei rannu a phwy sy’n mynd i reoli’r broses o’i rannu. Wrth gwrs, cafwyd nifer o ddatganiadau, a’r broblem gyda’r datganiadau sydd wedi’u gwneud yw eu bod wedi bod braidd yn anghyson o ran y manylion yn fy marn i: ar y naill law, fod y broses o adael yr UE a’r Bil diddymu mawr yn mynd i arwain at fwy o bwerau’n dod i’r lle hwn a mwy o gyfrifoldeb; ond wedyn, ar y llaw arall, mae yna sôn am gynyddu undod y Deyrnas Unedig a chysyniadau megis dim mwy o ‘ddatganoli ac anghofio’. Mae’n aneglur iawn yn union beth y mae hynny’n ei olygu a gallai olygu bod gennych sefyllfa lle mae mwy o feysydd cyfrifoldeb a phwerau cynyddol, ond wrth gwrs, er mwyn ymadael â’r cyfrifoldebau hynny bydd angen i chi wneud cais felly i’r gronfa gyd-ffyniant, a fydd wedyn yn pennu’r ffordd y gellir defnyddio arian mewn gwirionedd ac i bob pwrpas, gall olygu cryn dipyn o dynnu’n ôl ar egwyddorion sylfaenol o ran yr hyn y mae datganoli wedi bwrw ymlaen ag ef ers 1997 ac yn fy marn i, canlyniad y gwahanol refferenda a’r ymrwymiadau sydd wedi’u rhoi.

Felly, mae yna bryder ac mae’n fater y bydd angen cryn dipyn o egluro arno. Nid wyf yn hollol siŵr sut neu ba bryd y daw’r eglurder hwnnw, o gofio’r sefyllfa bresennol. Ond rwy’n credu mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw hyn: yn y meysydd sy’n gyfrifoldeb i’r lle hwn, dylai’r cyllid a addawyd ddod yma, a dylai ddod yma heb amodau ynghlwm wrtho oherwydd dyna yw gwir natur datganoli.

Mae rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn fater a gadwyd ôl ar hyn o bryd. Ond mae cymorth gwladwriaethol domestig, neu gymorth gwladwriaethol y DU—a ddiffinir fel unrhyw grant neu ffurf arall ar gymhorthdal nad yw’n cynnwys gwyrdroad i fasnachu ar draws ffiniau’r UE—wedi’i ddatganoli. Felly, drwy gael gwared ar fframwaith cymorth gwladwriaethol yr UE, beth yw sefyllfa Llywodraeth Cymru? A ddylai cymorth gwladwriaethol domestig y DU barhau i fod yn fater datganoledig?

Wel, pan fyddwn wedi gadael yr UE, byddwn mewn sefyllfa lle na fydd unrhyw faterion cymorth gwladwriaethol, yn enwedig mewn perthynas â’r farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig i gyd. Felly, y cwestiwn a fydd yn codi—. Wel, bydd dau beth yn digwydd, rwy’n meddwl. Yn gyntaf oll beth allai fod o ran trefniadau trosiannol mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn disgwyl i gymorth gwladwriaethol fod yn rhan sylweddol o hynny mewn gwirionedd.

Ond un o’r materion allweddol y byddwn yn ymwneud â hwy, yn amlwg, fydd mater masnachu o fewn y DU, a beth yw’r trefniadau o ran hynny. Ac rydym eisoes wedi gweld materion yn codi o ran sut yr ymdriniwyd â chymorth a chefnogaeth ranbarthol, gwyrdroadau posibl o’r farchnad, mewn perthynas â phethau fel y doll teithwyr awyr, lle mae’n glir iawn y dylid datganoli’r polisi hirsefydlog hwnnw, er enghraifft, i Gymru, a dylem gael y cyfle i ddatblygu trafnidiaeth awyr yn y modd y mae’n cyd-fynd â’n model economaidd, lle y ceir rhwystr cymorth gwladwriaethol, i bob pwrpas, wedi’i osod ar y sail y byddai’n ystumio’r fasnach fewnol. Mae’n ymddangos i mi mai un o’r materion pwysicaf sy’n mynd i godi, o ran y trafodaethau ôl-UE, yw beth fydd y berthynas rhwng y cenhedloedd datganoledig o ran masnach fewnol. Felly, rwy’n meddwl eich bod yn iawn i dynnu sylw at hynny. Mae’n anodd iawn dweud sut y bydd yn datblygu. Ond yn amlwg, mae angen model sy’n ddigon hyblyg i alluogi’r gwledydd datganoledig i ddilyn eu hamcanion a’u cyfrifoldebau economaidd mewn ffordd lawer mwy hyblyg na sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ôl pob tebyg.

Deddf Cymru 2017

3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal mewn perthynas â dwyn holl ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? OAQ(5)042(CG)[W]

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 eisoes mewn grym, megis y ddarpariaeth ar barhauster y Cynulliad, confensiwn Sewel a phwerau i newid enw’r Cynulliad. Bydd darpariaethau eraill yn cychwyn yn unol ag adran 71 o Ddeddf Nghymru.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Ac nid gofyn am gyngor cyfreithiol yn rhad wyf fi, gallaf ei sicrhau. Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y deallaf yw’r pwerau a ddaw i’r lle hwn i ni wahardd ffracio. Ac rwy’n meddwl tybed a allai’r Cwnsler Cyffredinol ddweud wrthym pryd y mae’n disgwyl i’r rhan honno o’r Ddeddf gael ei rhoi mewn grym, ac a yw’n ymwybodol, yn wir, fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu arfer y pwerau hynny er mwyn i’r Cynulliad hwn allu cymryd camau i wahardd ffracio yng Nghymru.

Iawn. Wel, mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn y Ddeddf, gan gynnwys symud i fodel cadw pwerau o ddatganoli, ddod i rym ar yr hyn a labelwyd yn brif ddydd penodedig. Ein disgwyliad gweithredol yw bod Swyddfa Cymru’n gweithio tuag at brif ddydd penodedig rywbryd ym mis Ebrill 2018. Mae’n rhy gynnar i ddweud gyda phendantrwydd beth fydd yr union ddyddiad, ond wrth gwrs, mae dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru, a chyda’r Llywydd, cyn penderfynu ar y dyddiad penodol hwnnw. Fy nealltwriaeth i yw y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a’r Llywydd cyn hir, yn gofyn am safbwyntiau ar bennu’r diwrnod penodol hwnnw.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau yr wythnos yma.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Dri deg pum mlynedd yn ôl, cafodd ynysoedd Falkland, tiriogaeth Brydeinig fach dramor yn ne’r Iwerydd, ei goresgyn gan yr Ariannin. Roedd y gwrthdaro a ddilynodd yn bennod bwysig yn y gwrthdaro hir ynglŷn â sofraniaeth y diriogaeth. Ar 5 Ebrill 1982, anfonodd Llywodraeth Prydain dasglu o dros 100 o longau a 26,000 o filwyr i adennill yr ynysoedd. Er mai dros gyfnod cymharol fyr o ddau fis y digwyddodd yr ymladd, mae effeithiau erchyllterau rhyfel wedi cael effaith ddiwylliannol, wleidyddol a seicolegol ddofn ar Brydain a’r Ariannin, ac yn arbennig, ar y milwyr dewr a ymladdodd ar ddwy ochr y gwrthdaro. Wrth gwrs, roedd milwyr o Gymru yn cymryd rhan hefyd yng nghanol y gwrthdaro, a thalodd y Gwarchodlu Cymreig bris arbennig o uchel am eu cyfraniad, gyda 48 o farwolaethau a 97 o anafiadau.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, rwyf wedi bod yn hynod o falch o allu croesawu rhai o gyn-filwyr y lluoedd arfog a’u teuluoedd i’r Senedd yma heddiw, wrth i ni nodi 35 mlynedd o ddyddiad diwedd y rhyfel. Lladdwyd 907 i gyd yn ystod 74 diwrnod y gwrthdaro—255 o filwyr Prydain, 649 o filwyr yr Ariannin a thri o bobl yr ynys. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cofio amdanynt heddiw a’n bod yn talu teyrnged i bawb a oedd yn rhan o’r gwrthdaro, ac yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu ein gwlad.

Diolch i chi, Lywydd. Ar 5 Mehefin, cefais fy nhristáu’n fawr o glywed y newyddion am farwolaeth fy ffrind a fy nghydweithiwr, Sam Gould. Pan gafodd Sam ddiagnosis o ganser y coluddyn, ei ymateb oedd gwneud yr hyn yr oedd yn fwyaf cyfarwydd â’i wneud, sef ymgyrchu. Trwy ei fideos a’i ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, cododd Sam ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn. Mae ei fideos wedi’u gweld yma gan dros 100,000 o bobl, ac mae’r sylwadau a’r negeseuon a ddaeth i law yn awgrymu bod llawer o bobl wedi cael cysur ohonynt, a chryfder i fynd at eu meddyg teulu gyda’u symptomau.

Heddiw, rwy’n falch o ymuno ag ymgyrch Never Too Young Bowel Cancer UK yr oedd Sam yn ei chefnogi. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth nad ydych byth yn rhy ifanc i gael canser y coluddyn. Roedd Sam Gould yn 33 mlwydd oed. Yng Nghymru bob blwyddyn, mae 2,335 o bobl yn cael diagnosis o ganser y coluddyn, ac mae bron i 1,000 o bobl yn marw ohono, gan olygu mai dyma’r canser mwyaf ond un o ran y niferoedd y mae’n eu lladd. Yn anffodus, mae pobl iau yn aml yn cael profiad gwaeth o ran cael diagnosis, triniaeth a gofal na phobl hŷn. Mae pobl ifanc hefyd yn tueddu i gael canlyniadau gwaeth: mae 60 y cant yn cael diagnosis yn ystod camau diweddarach y clefyd, ac mae 34 y cant yn cael diagnosis mewn gofal brys, pan fo’r gobaith o oroesi yn llawer is. O gael diagnosis ar gam cynnar o’r clefyd, mae bron bawb yn goroesi. Mae hyn yn gostwng i tua 7 y cant o gael diagnosis ar y cam diweddarach. Rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch Never Too Young.

5. 5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod—Y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ar Fil Awtistiaeth (Cymru). Ac rwy’n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6304 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Ac rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno Bil awtistiaeth i’r Cynulliad. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o staff y Comisiwn sydd wedi fy nghefnogi yn y broses hon, ac wedi helpu i roi’r memorandwm esboniadol cysylltiedig at ei gilydd. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch diffuant i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am eu cefnogaeth ragorol drwy gydol y broses hon, ac i’r gymuned awtistig ehangach yng Nghymru, sydd wedi dweud yn glir iawn, dro ar ôl tro, eu bod eisiau gweld Deddf awtistiaeth yn cael ei chyflwyno, er mwyn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i ddarpariaeth a chymorth awtistiaeth yng Nghymru. Wel, mae’r Cynulliad bellach mewn sefyllfa i ganiatáu neu wrthod cyflwyno Bil awtistiaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau o bob plaid yn gwrando ar fy nadleuon ac o ddifrif yn ystyried caniatáu i mi gyflwyno’r Bil hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn ganolog i’r cynigion hyn, mae sicrhau bod y ddarpariaeth yno i ateb anghenion y 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru, a hefyd i sicrhau bod awtistiaeth yn cael ei hunaniaeth statudol ei hun. Bwriad y Bil yw sicrhau bod pob gwasanaeth awtistiaeth yn cael ei ddarparu’n gyson ac yn barhaus ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun gweithredu strategol cyfredol ar awtistiaeth ar waith tan 2020 yn unig, ac felly nid oes unrhyw sicrwydd y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn cael unrhyw flaenoriaeth barhaus wedi hynny.

Rydym yn gwybod bod deddfwriaeth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraethau hynny gyhoeddi strategaeth awtistiaeth ar gyfer oedolion, ac ar gyfer oedolion a phlant, ac rwy’n gobeithio y bydd Cymru’n ymuno â’r ddwy wlad i sefydlu deddfwriaeth ar sail drawsbleidiol sy’n gweithio i sicrhau canlyniadau go iawn i’r gymuned awtistiaeth. Trwy greu gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth drwy’r Bil awtistiaeth arfaethedig, bydd yn helpu i sicrhau lefel o barhauster o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth ar draws y wlad. Byddai’r Bil arfaethedig yn sicrhau bod ffocws parhaus a phwrpasol ar anghenion pobl ag awtistiaeth yn sylfaen ganolog iddo, beth bynnag fo lliw Llywodraethau yn y dyfodol yng Nghymru. Gall pobl ag awtistiaeth sy’n byw yng Nghymru fod yn sicr beth bynnag fo canlyniad etholiadau’r Cynulliad, y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth gadarn i unrhyw Lywodraeth Cymru a ddaw i rym. I bob pwrpas, bydd y Bil hwn yn dadwleidyddoli darparu gwasanaethau awtistiaeth ac yn sicrhau na fydd yn fater gwleidyddol mwyach.

Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno bod angen i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol wybod beth yw maint y galw yn eu hardaloedd lleol eu hunain er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Rwy’n derbyn yn llwyr fod gwneud diagnosis o awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth iawn ac y bydd yn cynnwys asesiadau amlasiantaethol ac arbenigol sy’n rhaid eu cyflawni gan arbenigwyr yn eu maes gwaith. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynhyrchu asesiadau poblogaeth i asesu’r lefelau o angen am wasanaethau gofal a chymorth yn eu hardaloedd. Deallaf mai un o themâu craidd yr asesiadau poblogaeth hyn yw anabledd dysgu, a ddylai gynnwys awtistiaeth. Fodd bynnag, mae yna bryderon go iawn fod yna berygl y gallai anghenion penodol pobl ag awtistiaeth gael eu cynnwys yng nghategori ehangach anableddau dysgu, sy’n golygu unwaith eto na fydd anghenion pobl awtistig yn cael eu diwallu. Felly, mae’r Bil hwn yn ceisio sefydlu arferion, gan gynnwys casglu data dibynadwy a pherthnasol ar niferoedd ac anghenion plant ac oedolion awtistig, fel y gall ardaloedd lleol gynllunio a chydlynu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn unol â hynny.

Mae’n hanfodol fod llwybrau clir at ddiagnosis awtistiaeth yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd lleol, a bod gan y rhai yr effeithir arnynt gan awtistiaeth fynediad at wybodaeth glir a dealladwy am y llwybrau. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llwybr asesu diagnostig yn seiliedig ar arferion gorau, gan gynnwys sut i gael asesiad yn ogystal ag amseroedd aros disgwyliedig rhwng pob cam o’r broses. Mae mor bwysig fod rhieni a theuluoedd ledled Cymru yn deall holl broses gofal o’r dechrau i’r diwedd, fel eu bod yn gwybod yn union beth y gallant ei ddisgwyl ar bob cam, ac felly eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael.

Byddai’r Bil, o gael ei gyflwyno, yn galluogi byrddau iechyd ledled Cymru i fod yn atebol yn gyfreithlon am ddarparu llwybr clir ar gyfer oedolion a phlant.

Gwnaf, fe wnaf mewn munud.

Rydym i gyd yn gwybod ei bod mor hanfodol i lwybrau fod ar waith ar gyfer teuluoedd cyn gynted â’u bod wedi ymweld â’u meddyg teulu, gan fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn datblygu’r cymorth cywir i rywun sy’n cael diagnosis o awtistiaeth. Yn fy marn i, dylai unrhyw lwybrau a sefydlir gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth sylfaenol, fel bod teuluoedd yn deall yn iawn pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol. Mae’n siomedig nad oes gwybodaeth glir ar gael i’r cyhoedd mewn rhai rhannau o Gymru ar lwybrau i ddiagnosis, ac felly mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd iawn deall beth yn union yw’r broses o gael diagnosis ac asesiad llawn. Yn wir, gallai fod rhywfaint o le hyd yn oed i ddefnyddwyr llwybrau presennol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth fod yn rhan o’r broses o greu llwybrau newydd.

Wrth gwrs, mae hyn yn arwain at y pwynt ehangach fod yn rhaid i fwy o wybodaeth fod ar gael yn fwy cyffredinol am awtistiaeth, a nodaf fod y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn tynnu sylw at y ffaith fod gwybodaeth, canllawiau a deunyddiau hyfforddi yn cael eu datblygu drwy dîm cenedlaethol anhwylderau’r sbectrwm awtistig, a gwefan ASD Info Cymru. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod gwybodaeth fwy lleol ar gael ar lefel lawer mwy lleol a chymunedol. Ildiaf i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ystyried ildio. Yn sicr, rwy’n cefnogi’r egwyddor sy’n sail i’w Fil. Rwyf eisiau dychwelyd at y pwynt a wnaeth am y bwrdd iechyd. Un o’r anawsterau o ymdrin ar hyn o bryd â strategaethau a chynlluniau yw nad yw’r sector iechyd wedi cefnogi hyn yn llawn, ac a yw hynny’n rhywbeth y mae’r Bil yn ceisio mynd i’r afael ag ef?

Yn bendant, a dyna pam y mae angen llwybrau clir fel bod pobl yn deall pa wasanaethau a pha gymorth sydd ar gael mewn gwirionedd, a bydd byrddau iechyd yn gwybod wedyn pa wasanaethau y dylent fod yn eu cyflawni yn eu cymunedau lleol.

Wrth gwrs, mae un agwedd allweddol ar y Bil arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i staff sy’n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth i gael hyfforddiant awtistiaeth, a gwn fod hwn yn fater sydd wedi’i godi dro ar ôl tro. Rwyf am ei gwneud yn glir fod croeso i’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, a bod y mesurau a gynhwysir yn y Bil arfaethedig yn ceisio ychwanegu at, nid cymryd lle’r mesurau hyn. Mae’n hanfodol fod hyfforddiant awtistiaeth yn cael ei ddarparu i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig a lle bo’n briodol, yn cael ei fandadu, a dylai hynny gynnwys cynlluniau hyfforddi.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai un o’r anawsterau y mae plant ar y sbectrwm awtistig yn eu hwynebu yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth cywir yn yr ysgol, ac felly mae’n bwysig fod hyfforddiant awtistiaeth wedi’i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon a’i wella gyda datblygiad proffesiynol parhaus. Mae lle i wneud mwy yma gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, a dylai unrhyw gynlluniau a gynhyrchir gynnwys amserlenni hefyd ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynlluniau. Gallai cyflwyno Bil awtistiaeth penodol sicrhau bod gweithwyr proffesiynol allweddol megis athrawon yn cael hyfforddiant gorfodol mewn awtistiaeth, a fyddai’n mynd beth o’r ffordd at wella canlyniadau i blant ag awtistiaeth wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.

Mae’n gwbl hanfodol—

Mike Hedges a gododd—

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud o’r cychwyn fy mod yn llwyr gefnogi’r Bil hwn? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i mi, fel rhai o’r Aelodau eraill yma gan gynnwys yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, adael cyn y bleidlais mewn gwirionedd, ond a gaf fi gofnodi fy nghefnogaeth iddo? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu mai’r un peth amdano yw ei fod yn cynnig eglurder ac yn sicrhau gorfodaeth? Rwy’n meddwl bod y rheini’n ddau beth pwysig iawn, a’r perygl yw bod gennych un gyfres o nodiadau cyngor yn cael ei dilyn gan gyfres arall o nodiadau cyngor. Mae deddfwriaeth yn rhoi eglurder a gorfodaeth i chi.

Wel, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe am ei gefnogaeth, ac rwy’n cytuno â phopeth y mae newydd ei ddweud.

Nawr, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn annog cydweithio rhwng asiantaethau ac yn hyfforddi’r gweithlu i allu cefnogi rhai sydd ag awtistiaeth yng Nghymru yn y ffordd orau. Yn fy marn i, byddai Bil awtistiaeth yn gweithio gyda’r Bil anghenion dysgu ychwanegol a gwaith ehangach arall a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod y cynnydd yn digwydd. Fy mwriad penodol ar gyfer y Bil hwn yw iddo weithio ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru, nid yn ei erbyn, er mwyn sicrhau bod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Yn naturiol, mae croeso i gynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd, a fy mwriad yw i fy Mil weithio ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal y tu hwnt i 2020.

Mae’r cynllun awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd yn gwneud llawer i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac ymyrraeth ar gyfer y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru, ac unwaith eto, rwy’n croesawu’r gwaith hwnnw, yn enwedig o ran mynd i’r afael â diagnosis i oedolion yng Nghymru. Credaf yn gryf y bydd fy Mil yn helpu i gryfhau’r gwaith hwnnw drwy sicrhau hawliau pobl awtistig â dyletswydd statudol. Nawr, rwy’n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae’r Bil dysgu ychwanegol yn cynnwys cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag awtistiaeth hyd at 25 oed. Eto i gyd, er bod hynny i’w groesawu, bydd fy Mil yn ceisio darparu cymorth i bawb sy’n byw gydag awtistiaeth a gwneud yn siŵr fod gwasanaethau ar gael i bob grŵp oedran.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod bylchau yn dal i fodoli yn y ddarpariaeth ar gyfer awtistiaeth, ac mae amseroedd diagnosis mewn rhai rhannau o Gymru yn llawer rhy hir. Yn fy etholaeth fy hun, mae rhai plant wedi wynebu gorfod aros am hyd at saith mlynedd am ddiagnosis, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Nawr, fe gydnabu bwrdd iechyd Hywel Dda fod yna broblem yn Sir Benfro ac ymrwymodd i ddarparu adnoddau, sydd wedi arwain at welliant. Fodd bynnag, mae’r adnoddau penodol hynny bellach wedi’u dileu unwaith eto, ac yn anffodus, mae’r gwelliannau yn y lefelau diagnosis wedi disgyn eto o ganlyniad i hynny. Er bod arferion da a gwasanaethau ymatebol i’w gweld mewn rhai ardaloedd, mae ffocws lleol y cynllun gweithredu strategol wedi golygu bod y ddarpariaeth wedi aros yn anghyson ar draws Cymru. Yn syml iawn, mae angen sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael cefnogaeth o ansawdd lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Nawr, rwy’n derbyn bod gan rai ohonoch bryderon ynglŷn â gweithredu a chyflwyno’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr, ond rwyf am eich atgoffa fod gennym gyfle i greu Bil pwrpasol sy’n addas i anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru, ac nid unrhyw le arall. Mae’n bwysig cydnabod arferion da, boed hynny yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu unrhyw le arall, ond mae’n hanfodol ein bod yn teilwra unrhyw ddeddfwriaeth benodol ar awtistiaeth i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, os caf ganiatâd heddiw i fynd â’r Bil i’r cam nesaf, byddaf yn cychwyn ar gryn dipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddysgu mwy am anghenion penodol y gymuned awtistiaeth ar draws y wlad a byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael sylw priodol gan y Bil hwn. Rwyf am ei gwneud yn glir heddiw fy mod eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar beth o’r gwaith da a welsom yn ystod y misoedd diwethaf. Os yw’r 13 mis nesaf yn profi bod gwaith parhaus Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn arwain at welliant helaeth yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth i’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yma yng Nghymru, yna byddaf yn barod i drafod gyda’r Llywodraeth ac ailystyried yr angen am ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ar sail gwybodaeth.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i atgoffa’r Aelodau nad yw’r galw am Ddeddf awtistiaeth yng Nghymru wedi dod gan Aelodau’r Cynulliad neu wleidyddion, ond gan y gymuned awtistiaeth ei hun. Byddai hwn yn Fil a grëwyd gan y gymuned awtistiaeth ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ac rwy’n credu bod arnom yr hawl iddynt i archwilio ymhellach yr angen i gyflwyno’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r Bil arfaethedig hwn yn anelu at sicrhau chwarae teg o ran mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl awtistig lle bynnag y maent yn byw, a bydd yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Gobeithiaf y bydd gan Lywodraeth Cymru feddwl agored ynglŷn â’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, gan fod pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau yr un peth: gweld gwelliannau gwirioneddol a helaeth i’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi a’u darparu yng Nghymru. Y llynedd, gwnaeth y Gweinidog yn glir iawn fod y drws yn agored iawn i ddeddfwriaeth awtistiaeth yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio bod hynny’n dal i fod yn wir. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac i ailddatgan cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Ers i ni drafod awtistiaeth ddiwethaf yn y Siambr hon, mae cynnydd da wedi’i wneud. Mae blwyddyn bellach ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei rhoi mewn grym ac mae’n dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn cael gofal a chymorth. Cyhoeddasom gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer awtistiaeth, yn gyfan gwbl mewn ymateb i’r hyn y dywedodd pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd wrthym eu bod eisiau ei weld, ac rydym eisoes yn cyflawni’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn, yn cynnwys buddsoddi £13 miliwn yn ein gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd, sy’n newid go iawn i’r ffordd rydym yn diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth.

Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar awtistiaeth ar ddiwedd mis Tachwedd, mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd eu hangen arnom i gyflawni’r gwelliannau i wasanaethau a chymorth y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r angen am fwy o ddeddfwriaeth ar ôl i ni allu asesu’r dystiolaeth ar ganlyniadau’r cynllun gweithredu strategol newydd ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Serch hynny, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y byddaf, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, yn cyflwyno canllawiau statudol ar awtistiaeth o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant i ategu’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod cyrff statudol yn deall eu cyfrifoldebau tuag at bobl ag awtistiaeth ac yn gweithredu i ddiwallu’r anghenion hynny. Fel y mae’r Prif Weinidog wedi datgan o’r blaen yn y Siambr hon, rwy’n archwilio sut y gallwn gyflwyno deddfwriaeth i roi’r cynllun gweithredu strategol ar y sbectrwm awtistig ar sail statudol, a gwn fod hyn yn mynd at wraidd yr hyn y siaradodd Paul Davies amdano yn ei araith heddiw, ac y bydd yr Aelodau yma a phobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn croesawu hyn.

Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad clir yn y cynllun gweithredu strategol i fonitro’r cynnydd rydym yn ei wneud. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi sefydlu grŵp cynghori ar weithredu ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac fe gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mawrth. Mae’r aelodaeth yn cynnwys pobl sydd ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, sefydliadau sy’n eu cynrychioli a sefydliadau cyflawni statudol. Bydd y grŵp hwn yn fy nghynghori ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae’n rhaid gwella. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn canolbwyntio ar y gwelliannau a brofir yn uniongyrchol gan bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym eisiau gwybod sut y mae eu bywydau o ddydd i ddydd yn gwella a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae rhieni yn bryderus iawn ynglŷn ag amseroedd aros am asesiad a diagnosis, a hynny’n ddigon teg. Trwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhyddhau £2 filiwn bob blwyddyn i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol. Rydym wedi cyflwyno targed amser aros newydd o 26 wythnos rhwng atgyfeiriad ac apwyntiad cyntaf, ac rydym eisoes wedi rhoi llwybr asesu plant newydd y cytunwyd arno’n genedlaethol ar waith ledled Cymru, fel bod teuluoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydd eu plentyn yn cael ei gyfeirio i gael asesiad a bod yna gysondeb lle bynnag y maent yn byw.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwallu anghenion pobl ag awtistiaeth. Gwyddom efallai nad yw llawer o bobl ag awtistiaeth yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae’n dal i fod ganddynt anghenion cymorth sylweddol, a allai waethygu os nad eir i’r afael â hwy’n gynnar. Trwy’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd i rai o bob oed, byddwn yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd pan fyddant fwyaf o’i angen. Bydd cymorth a chyngor ar gael gan ystod o broffesiynau arbenigol, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a seicoleg. Bydd gweithwyr cymunedol ar gael hefyd ym mhob awdurdod lleol i gefnogi a chynorthwyo gyda materion o ddydd i ddydd. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â phethau megis rheoli pryder, sgiliau cymdeithasol, sgiliau bywyd bob dydd a chael gafael ar wasanaethau eraill fel gofal iechyd, cymorth cyflogaeth a thai. Felly, mae’r gwasanaeth hwn bellach yn dod yn realiti. Mae eisoes ar waith ym Mhowys, a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd a’r Fro, Gwent a Chwm Taf. Bydd pob un o’r rhanbarthau sy’n weddill yn dechrau datblygu’r gwasanaeth eleni, ac edrychaf ymlaen at weld Cymru yn dod yn wlad gyntaf i ddarparu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol llawn erbyn 2018, flwyddyn cyn ein hamserlen wreiddiol ein hunain.

I gydnabod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn yn fy marn i, rwyf wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael o £6 miliwn i £13 miliwn, sy’n golygu y bydd pob rhanbarth yn cael cyllid ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, gan greu gwasanaeth hirdymor a chynaliadwy ar draws Cymru. Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn, ond rwy’n deall y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr. Mae ein cynlluniau yng Nghymru yn uchelgeisiol, ac er ei bod yn ddyddiau cynnar ar lawer ohonynt, mae cymorth ar gael. Yr hyn sy’n dod yn amlwg i mi wrth i mi gyfarfod â rhieni a gofalwyr a phobl ag awtistiaeth, yw nad yw teuluoedd bob amser yn ymwybodol o’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu a’r adnoddau y gallant wneud defnydd ohonynt eisoes. Mae ein gwefan ASD Info Cymru yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth, ac mae angen i bob sefydliad sy’n cefnogi pobl ag awtistiaeth yng Nghymru chwarae eu rhan a gweithio gyda ni i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael.

Bydd llawer o’r Aelodau yn crybwyll mater addysg yn y ddadl hon. Er mwyn i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth gael profiad addysgol cadarnhaol, dylai sefydliadau addysgol ddarparu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo’n ddiogel, lle cânt eu deall gan eu cyfoedion, gan staff addysgu a chan staff nad ydynt yn addysgu, a lle y gallant ddysgu. Mae ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth wedi bod yn hynod o boblogaidd mewn ysgolion, a gallaf gyhoeddi heddiw ei bod bellach yn cael ei haddasu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith hefyd. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol eisoes ar y gweill, ac yn cyflawni gwelliannau mewn ymarfer yn awr, a fydd o fudd i ddysgwyr yn y system gyfredol ac yn y system yn y dyfodol, fel yr argymhellwyd gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol.

Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd sy’n ein helpu i gyflawni ein hymgyrch newydd, ‘Weli di fi?’ i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gymuned. Caiff ei chyflwyno gan Gethin Jones, ac mae’n cael cefnogaeth eang yn y cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau a chyfleusterau lleol megis canolfannau hamdden, gan ddangos beth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd a phan fyddwn yn rhoi’r grym yn nwylo pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.

Credaf ein bod yn rhoi’r camau cywir ar waith i wella’r system bresennol o gymorth i bobl ag awtistiaeth, ond rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar o ran gweld manteision ein buddsoddiad newydd sylweddol. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar gynnig Paul Davies heddiw, sy’n golygu y gall y ddeddfwriaeth ddrafft symud yn ei blaen ac y bydd gwaith yn digwydd arni dros y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’n gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Mae Paul a minnau wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol iawn ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at ei gyfarfod eto i weithio gyda’n gilydd i fireinio rhagor ar y cerrig milltir y byddwn yn ceisio eu cyflwyno dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau a gwelliannau amlwg i fywydau pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd, sef yr hyn y gall pawb ohonom gytuno ein bod am ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr i Paul Davies am gyflwyno'r Bil yma. Mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol i alwadau gan bobl am ddeddfwriaeth er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr—deddfwriaeth a fyddai’n gwella’r gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn a chyflymu’r broses o gael diagnosis. Pleidlais rydd fydd hon, ac mi fyddaf i yn sicr yn cefnogi’r cynnig i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn y cam cychwynnol yma. Rwy’n disgwyl y bydd yr Aelodau ar yr un meinciau â fi yn gwneud hynny hefyd, fel y gwnaethon nhw bleidleisio o blaid yr egwyddor i Fil awtistiaeth pan fuom ni yn ei drafod o yma yn y Senedd yn ôl ym mis Hydref.

Rydw i wedi clywed yr hyn oedd gan y Gweinidog i’w ddweud, sef ei bod hi’n credu bod yna ffyrdd eraill o gyflwyno'r math o newidiadau a allai fod yn ddefnyddiol. Ond, wrth gwrs, roedd hi yn ymwybodol bod yna siom bod Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn ar yr adeg yna. Ac, o ran nodi hefyd ar y cofnod, os caf i, rwy’n deall bod un Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrth bapur newydd yn ei hetholaeth yn Wrecsam na all hi gefnogi heddiw ac mai ymatal y mae hi’n gorfod ei wneud oherwydd ei bod hi yn Weinidog.

I’ll quote from that article:

‘As is always the case with Proposed Members’ Bills’,

she says,

‘Cabinet Secretaries and Ministers of the Welsh Government are unable to cast a vote and, therefore, I will be abstaining.’

That is not actually correct, is it? Because I have a list here of all the Government Ministers that voted against Dai Lloyd’s proposed Member’s Bill on protecting historic place names in Wales.

At yr hyn sy’n cael ei gynnig, yntefe, mi fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn gwella cefnogaeth a darpariaeth ar gyfer unigolion mewn addysg, ond mae angen rhywbeth ar gyfer unigolion y tu allan i addysg hefyd. Weithiau, nid ydy pobl yn cael diagnosis tan eu bod nhw’n oedolion, er enghraifft. Mae angen i gefnogaeth fod ar gael i bobl o bob oed. Rydw i’n ofni bod momentwm positif strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru wedi pallu rhywfaint erbyn hyn. Mae yna rŵan achosion ar draws Cymru, rydw i’n meddwl, lle nad ydy’r strategaeth ddim i’w gweld yn gweithio i bobl awtistig a’u teuluoedd, ac yn gadael rhai efo ychydig neu ddim cefnogaeth, a ddim yn gallu byw bywyd y byddan nhw’n ei ddewis ac yn haeddu gallu ei fyw. Felly, dyna pam rydw i’n cytuno bod angen deddfu.

Rydw i’n croesawu’r amcan yn y Bil i sicrhau llwybr clir a chyson i gael diagnosis o awtistiaeth yn lleol, achos rydym ni’n gwybod bod y ddarpariaeth yn anghyson ar draws Cymru, ac mae’r diagnosis yna mor bwysig. Fel dywedodd un eiriolwr awtistig o ogledd Cymru wrthyf i’r wythnos yma:

‘Receiving a diagnosis didn’t miraculously magic my autism away, but it did give me that deeper understanding and the permission to take the time to understand myself.’

Rydw i hefyd yn croesawu’r amcan i gasglu data dibynadwy a pherthnasol. Heb y wybodaeth yma mae hi’n anodd iawn i awdurdodau lleol allu cynllunio’n briodol ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Rydw i’n gwybod yn y gorffennol fod grŵp awtistiaeth yn Ynys Môn wedi poeni bod cyllido fel petai’n cael ei wneud ar sail poblogaeth yn hytrach nag ar sail anghenion. Mae angen y data er mwyn cael at waelod hynny.

Rydw i’n cytuno hefyd efo’r amcanion i wneud yn siŵr bod staff yn cael hyfforddiant awtistiaeth, bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn deall y camau angenrheidiol i roi cymorth amserol, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan unigolion ac awdurdodau y ddealltwriaeth i allu cefnogi pobl ar y sbectrwm yn iawn. Mae ymddygiad unigolion ag awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd i’w ddilyn ac i’w ddeall, felly mae’n bwysig bod yr hyfforddiant yna ar gael.

I gloi, un mater arall rydym ni’n sicr yma ym Mhlaid Cymru eisiau mynd i’r afael ag o ydy’r rhagfarn yn erbyn pobl ar y sbectrwm awtistig. Yn anffodus, er enghraifft, mae rhagfarn gan gyflogwyr yn dal i atal nifer o bobl rhag gallu cael swyddi maen nhw’n fwy nag abl i’w gwneud, ac mi ddangosodd arolwg diweddar gan y gymdeithas awtistiaeth mai dim ond un ym mhob 10 o oedolion awtistig oedd mewn cyflogaeth. Mae hynny’n gwbl, gwbl annerbyniol, a pan fuom ni’n trafod y Bil awtistiaeth yn y Senedd yn yr hydref mi wnaeth Bethan Jenkins gyfeirio hefyd at nifer o enghreifftiau o ragfarn mewn ysgolion hefyd, a’r effaith mi oedd hynny yn ei chael ar blant a’u rhieni.

Felly, i gloi, ac wrth ddiolch eto am gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol yma, mi ofynnaf i tybed a ydy hynny’n rhywbeth mae’r Aelod wedi ei ystyried wrth gyflwyno’r Bil—a ydy o’n teimlo bod y Bil arfaethedig yn delio â hynny, neu a oes yna rywbeth pellach y gallem ni fod yn ei wneud ar y mater yna’n benodol?

Rwy’n falch o gyfrannu’n fyr yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn ddiolchgar i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am gyfarfod â mi ar ôl y tro diwethaf y buom yn trafod hyn. Roedd eu hangerdd a hefyd eu rhwystredigaeth amlwg ar ran y teuluoedd y maent yn eu cefnogi yn bwerus a gwnaeth argraff fawr iawn arnaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fy ngwaith achos fy hun o’r brwydrau y mae teuluoedd yn aml yn eu hwynebu er mwyn cael diagnosis ac yna i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen arnynt yn ei le. Ar y sail honno y byddaf yn pleidleisio dros adael i’r Bil hwn fynd rhagddo heddiw.

Fel y gŵyr Paul, mae gennyf amheuon ynglŷn â’r dull o ddeddfu ar gyfer cyflwr penodol, gan fy mod yn credu, os ydynt yn gweithio’n iawn, y dylai deddfwriaeth fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd ddarparu ar gyfer pawb o’n dinasyddion ar sail angen. Rwy’n credu bod angen i ni ystyried goblygiadau cynsail o’r fath yn y dyfodol hefyd, gan nad gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth yw’r unig faes lle mae angen gwella gwasanaethau’n ddybryd yn fy marn i. Rwyf hefyd yn meddwl, os yw hyn yn mynd yn ei flaen, ei bod hi’n hanfodol ein bod yn ystyried yn llawn unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil deddfu ar gyflwr penodol, a’n bod yn archwilio unrhyw berygl y gallai deddfwriaeth o’r fath effeithio ar ein gallu i ymateb i eraill ar sail angen, ac rwy’n meddwl yn benodol yma am blant eraill sydd angen mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Fodd bynnag, rwy’n credu bod y Bil hwn yn llawn haeddu ystyriaeth bellach ac rwy’n gobeithio, os yw’n mynd rhagddo heddiw, y bydd yn rhoi hwb mawr i wella gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy’n croesawu agwedd adeiladol Paul Davies a’i sylwadau agoriadol, yn ogystal â sylwadau cadarnhaol y Gweinidog, y gwn fod ganddi ymrwymiad penodol i gyflawni yn y maes hwn. Yr hyn y mae pawb ohonom ei eisiau yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac rwy’n gobeithio, os yw’r Bil yn mynd rhagddo heddiw, y bydd yn gam mawr ymlaen i’r cyfeiriad hwnnw. Diolch.

Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth i Gymru, a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Wyth mis yn ôl, arweiniais ddadl amhleidiol yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Arweiniodd y ffaith iddo gael ei drechu, yn ôl y pleidiau, at ofid mawr, ac rwy’n gweddïo y gallwn symud y tu hwnt i hyn heddiw a darparu, o’r diwedd, ar gyfer y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Felly, diolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies am gyflwyno cynigion heddiw i sicrhau bod awtistiaeth yn cael hunaniaeth statudol briodol yng Nghymru a bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn diwallu eu hanghenion go iawn.

Er nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, mae pobl ag awtistiaeth yn disgyn rhwng dwy stôl gan nad oes unman arall i fynd. Ceir pryderon difrifol nad yw strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld oni bai ei bod yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth. Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl. Mae adnoddau ar-lein ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ffilmiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol y rheng flaen a siartiau llif gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol yn iawn, ond ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn gwybod eu bod ei angen hyd nes y ceir sylfaen ac atebolrwydd statudol a’n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff sector proffesiynol a’r trydydd sector a’r gymuned awtistiaeth mewn perthynas â chynllunio, darparu a monitro.

Pleidleisiodd y cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, a fynychwyd gan aelodau o’r gymuned awtistiaeth ledled Cymru ym mis Tachwedd 2014, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. Clywsom fod y strategaeth wedi addo cyflawni cymaint ond bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng gwaeth, fod pobl wedi’u siomi ac yn ddig fod yn rhaid iddynt ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a’i bod yn bwysig nad yw pobl sydd ag awtistiaeth yn anweledig i wasanaethau mwyach.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd unrhyw un o’r ymatebion i’w dogfen ymgynghorol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf awtistiaeth, nid oedd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad na’r cwestiynau. Yn wir, dywedai’r ymateb gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, a ysgrifennwyd gyda mewnbwn gan eu haelodau cangen ar draws Cymru, fod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur cynnydd yn llawer mwy manwl er mwyn cyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid y mae pawb ohonom eisiau ei weld ar gyfer plant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd.

Rwy’n cynrychioli nifer fawr o etholwyr yn y gymuned awtistiaeth sy’n ymladd y system er mwyn cael y gwasanaethau y maent hwy neu eu hanwyliaid eu hangen. Cafodd hyn ei grynhoi mewn e-bost a gefais yr wythnos hon, a oedd yn dweud, ‘Mae fy mab 11 oed wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ar hyn o bryd, nid yw’n cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arno. Gallai eich pleidlais dros y Bil wneud byd o wahaniaeth i’w ddyfodol ac eraill tebyg iddo.’

Fel y dywedodd y prosiect grymuso menywod awtistig wrth y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol a gadeirir gennyf, mae’r gwahaniaeth rhwng y modd y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai’r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod yn llawer agosach mewn gwirionedd, lle mae llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, gyda diagnosis anghywir neu heb gefnogaeth. Fel y mae rhieni nifer o ferched wedi dweud wrthyf yn bersonol, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, fod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched ac nad yw llawer o fenywod yn gallu cael mynediad at ddiagnosis oherwydd safbwyntiau ystrydebol, gan olygu bod merched a menywod awtistig yn cael eu gadael yn agored i lefelau isel o hunan-werth, pryder, iselder a hunan-niweidio. Yn rhy aml, caiff rhieni eu gorfodi wedyn i dalu am asesiad awtistiaeth preifat. Dywedai llythyr gan y bwrdd iechyd yn 2017 fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed Sir y Fflint, ac rwy’n dyfynnu, ‘wedi lleisio pryderon ynglŷn â thrylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat’, ac mewn rhai achosion, nid oedd yn derbyn y diagnosis, a’i bod yn ofynnol i’r rhain fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond pan soniais wrth y meddyg a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, atebodd ei bod mewn gwirionedd yn un o’r rhai a gyfrannodd at y canllawiau NICE hynny. Mae’r un enghraifft hon yn amlygu problem sefydliadol ehangach, a pham y mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr, Paul.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r Bil hwn heddiw. Safodd Plaid Cymru, yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar faniffesto a oedd yn galw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heddiw fel y gall yr Aelod gyflwyno Bil gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn.

Fel y siaradwr blaenorol, rwyf wedi colli cyfrif sawl gwaith rwyf wedi cyfarfod â rhieni gofidus sydd wedi brwydro i gael gwasanaethau ar gyfer eu plant ac sydd wedi methu gwneud hynny. Does bosibl nad rôl y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas—mae gormod o bobl yn cael eu hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gormod o bobl yn teimlo fel pe bai ein cymdeithas heb gael ei chynllunio i’w cynnwys. Nawr, rwy’n derbyn nad yw mewnflwch llawn bob amser yn ganllaw i’r hyn sy’n iawn neu beidio, ond gall fod yn arwydd o’r hyn sy’n bwysig, o beth sydd o bwys i ddinasyddion yng Nghymru. Ac fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth, yn ogystal â lobïo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn galw am ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Mae yna alw mawr gan bobl ag awtistiaeth ac aelodau o’u teuluoedd i weld awtistiaeth yn cael ei chydnabod mewn deddfwriaeth benodol. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Lynne Neagle yn ei chyfraniad. Rwy’n credu bod angen inni ystyried canlyniadau anfwriadol, ond rwy’n credu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fwrw ymlaen ag ef.

Mae pobl yn deall y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau a deddfwriaeth, ac maent yn deall bod gwasanaethau’n fwy tebygol o gael yr adnoddau a’r sylw y maent yn eu haeddu os oes dyletswydd statudol ar waith. Pan gyflwynwyd deddfwriaeth o’r fath yn y gorffennol, gwnaed addewidion am well gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru. Efallai mai’r Bil arfaethedig fydd y cyfrwng i gyflawni’r gwelliannau hynny. Gallai fod yn ffordd o wneud yn siŵr fod y mathau hynny o addewidion yn cael eu cadw. Yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ar y camau diweddarach, gallai’r Bil sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn llunio cynlluniau strategol ar gyfer gwasanaethau a gwneud iddynt ddarparu digon o adnoddau. Roedd y cynllun gweithredu strategol a gyflwynwyd yn 2008 yn arloesol, ac mae’r cynnig yma yn cydnabod hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â beirniadu Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond heb amheuaeth, ceir bylchau yn y ddarpariaeth o hyd—fel y mae, wrth gwrs, ac fel y mae eraill wedi dweud, gyda chymaint o gyflyrau eraill.

Dylai’r ddeddfwriaeth ei hun arwain at wasanaethau gwell, ond mae symbolaeth deddfwriaeth hefyd yn bwysig. Byddai deddfu ar hyn yn anfon neges ynglŷn â’n blaenoriaethau fel gwlad. Byddai’n dangos ein bod yn malio am yr holl blant ac oedolion nad oes gan gymdeithas le go iawn ar eu cyfer. Byddai’n dweud wrth rieni, teuluoedd a gofalwyr fod pobl ag awtistiaeth yn cyfrif, ac y byddwn yn cydnabod ac yn diogelu eu hawliau.

Byddai cymeradwyo’r cynnig hwn yn gefnogaeth gref gan y Senedd hon, ond mae’n rhaid bwrw drwyddi gyda’r gwaith hefyd. Ers gormod o amser, mae pobl ar y sbectrwm awtistig wedi cael eu hatal rhag byw eu bywydau’n llawn. Trwy gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn cymryd un cam bach tuag at gymdeithas gyda chyfle cyfartal go iawn i bawb. Rwy’n fwy na hapus i ychwanegu fy llais at y lleisiau eraill heddiw i annog Aelodau o bob plaid i gymeradwyo egwyddorion Bil awtistiaeth. A chymeradwyaf yr Aelod am ei gynnig heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at ei gefnogi. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r cynnig hwn, ac rwy’n cefnogi cynnig yr Aelod i gyflwyno Bil awtistiaeth. Rwy’n amau y byddai unrhyw un yma yn anghytuno â’r egwyddor y dylai hawliau pobl ag awtistiaeth gael eu diogelu a’u hyrwyddo. Y ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud hynny yw drwy ddeddfwriaeth, ac mae’n drueni mawr fod y Gweinidog yn mynd i ymatal ar y cynnig hwn heddiw. Mae cyflwyno deddfwriaeth yn anfon y neges at gyrff cyhoeddus ac eraill, gan gynnwys pobl awtistig, fod eu Llywodraeth o ddifrif ynglŷn ag anghenion pobl awtistig. Mae’n ffordd o newid ymddygiad yn yr un ffordd ag y newidiodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 ymddygiad yn y gweithle. Byddai Deddf awtistiaeth (Cymru) yn rhoi ffocws ar bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth ac yn cymell awdurdodau lleol a byrddau iechyd i roi mwy o flaenoriaeth iddynt. Oes, mae angen i ni fod yn wyliadwrus rhag deddfu er mwyn deddfu’n unig, ond nid wyf yn credu mai dyna fyddai hyn.

Mae’r Bil arfaethedig yn ceisio gosod strategaethau a llwybrau i ddiagnosis ac ateb anghenion pobl awtistig ar sylfaen gyfreithiol. Byddai Bil awtistiaeth yn ategu’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd i’r afael â’r cymorth sydd ei angen yn y system addysg ar bobl ag awtistiaeth a chyflyrau eraill. Yn wir, mae’n ymddangos yn afresymegol ac yn wrthwynebus i ddeddfu ar egwyddorion da y Bil anghenion dysgu ychwanegol mewn cyd-destun addysgol, a pheidio â gwneud yr un peth mewn perthynas â chyflyrau penodol megis awtistiaeth mewn cyd-destunau eraill. Wedi’r cyfan, nid yw plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn gadael y cyflwr wrth gât yr ysgol neu’r coleg ar ddiwedd y dydd neu pan fyddant yn cwblhau eu haddysg.

Fodd bynnag, rwy’n gochel rhag gosod dyletswyddau pellach ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd pan allai’n hawdd fod yn wir nad oes ganddynt y seilwaith neu’r adnoddau i gydymffurfio o bosibl, gan arwain at doriadau mewn meysydd eraill. Felly dylai dyletswyddau o’r fath gael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru’n bennaf neu fel arall, gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyda dyletswydd gyfatebol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt yn rhesymol i gydymffurfio â’u dyletswyddau newydd. Yn enwedig lle mae’r arian sydd ar gael yn gyfyngedig, mae’n hanfodol fod y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n briodol lle mae ei angen. I wneud hynny, mae angen data cywir a dibynadwy a dadansoddiad priodol ar gyfer mapio’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn ôl y galw tebygol. Dylai fod yn amlwg i bawb yma, os nad ydych yn meddu ar ddata dibynadwy ynglŷn â faint o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, lefel debygol yr angen a dosbarthiad pobl ag awtistiaeth ledled Cymru, bydd unrhyw gynllunio gwasanaethau yn seiliedig i bob pwrpas ar ddyfalu.

Byddai deddfwriaeth yn ysgogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i adolygu a gwella eu dulliau o gasglu data, er fy mod yn mawr obeithio eu bod eisoes yn gwneud hyn. Byddai cyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn sail i ddarparu cefnogaeth i bobl awtistig. Rwy’n siŵr y bydd pobl ag awtistiaeth, eu ffrindiau, eu teuluoedd a gweithwyr cymorth yn gwylio canlyniad y bleidlais ar y cynnig hwn ar ddiwedd y dydd heddiw yn agos iawn i weld pa mor uchel ar y rhestr flaenoriaethau y mae eu Haelod Cynulliad yn eu gosod. Rwy’n annog Aelodau’r Cynulliad hwn i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.

A gaf i ychwanegu fy niolch i Paul Davies am ddod â’r ddeddfwriaeth hon gerbron, ac am ei ffordd gydsyniol o ddatblygu’r cynnig hyd yma? Rwy’n credu bod consensws yn y Cynulliad Cenedlaethol fod angen gwneud mwy i helpu teuluoedd ag awtistiaeth. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Leanne Wood? Gobeithio y gall pawb ohonom ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn gytuno arno a gwrthsefyll y demtasiwn i sgorio pwyntiau.

Ers i ni drafod hyn y llynedd, rwyf wedi cyfarfod â’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, rwyf wedi cyfarfod â’r gwasanaeth awtistiaeth integredig, gyda theuluoedd, gyda gweithwyr proffesiynol, gyda Paul Davies a chyda’r Gweinidog, a chefais fy mherswadio mai deddfwriaeth yw’r ffordd briodol o fwrw ymlaen. Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd, ac mae arian sylweddol wedi’i fuddsoddi, ac er bod tipyn o ffordd i fynd i gyflwyno hyn yn llawn, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud, ar y cam cynnar hwn, ei bod yn debygol y bydd angen camau pellach oherwydd natur y newid diwylliant systemig sydd ei angen i gydnabod yn iawn yr ystod o heriau y mae pobl ag awtistiaeth yn eu hwynebu. Rwyf wedi clywed straeon am yr oedi cyn atgyfeirio i gael asesiad, yr oedi ar ôl cyrraedd y rhestr aros, yr oedi cyn gwneud penderfyniadau, y diffyg cyfeirio ar ôl cael diagnosis ac yn fy ardal i, y pryderon yn sgil diffyg ymgynghorydd pediatrig ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Mae’r rhain oll yn bryderon teg a rhesymol, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn barod i roi’r strategaeth awtistiaeth ar sail statudol. Credaf fod hwnnw’n ddechrau pwysig, er fy mod yn credu ei fod yn annhebygol o fod yn ddigon.

Fodd bynnag, mae gennyf rai pryderon. Rwy’n nerfus ynglŷn â mabwysiadu ymagwedd lle rydym yn deddfu ar gyfer pob cyflwr. Rwy’n credu bod Lynne Neagle yn iawn i grybwyll hyn yn gynharach. Mae’n gosod cynsail y dylem fod yn wyliadwrus yn ei gylch. Rwyf hefyd yn nerfus ynglŷn â dewis un cyflwr penodol pan geir basgedi o gyflyrau sy’n gysylltiedig, sydd â symptomau tebyg ac sy’n effeithio ar nifer tebyg o bobl, ond sydd heb grŵp ymgyrchu huawdl wedi’i drefnu’n dda y tu ôl iddynt. Rhaid i mi longyfarch Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar yr ymgyrch y maent wedi’i chynnal. Mae wedi bod yn ymgyrch a daniwyd gan rwystredigaeth ddealladwy, a gwelwyd hynny’n glir ar adegau. Ond llunwyr polisi a chynrychiolwyr ydym, ac mae gennym gyfrifoldeb i edrych y tu hwnt i fuddiannau’r rhai sy’n gweiddi uchaf. Ceir cyflyrau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr egwyddor hon yn ei strategaeth ddiagnostig. Yng Nghymru, mae gennym lwybr asesu diagnostig niwroddatblygiadol sy’n cydnabod yr egwyddor fod yna gyflyrau cysylltiedig yn bodoli a theuluoedd sy’n dioddef sy’n haeddu dull tebyg o weithredu. Rwy’n credu y byddai’n werth inni fabwysiadu dull tebyg wrth lunio deddfwriaeth. Pam y dylai un math o gyflwr niwroddatblygiadol gael deddfwriaeth benodol ac nad yw cyflyrau eraill yn ei chael? Credaf fod hwnnw’n gwestiwn sy’n haeddu ateb. Cefais drydariad y bore yma gan rywun a ddywedodd:

Nid oes yr un o’r cyflyrau hyn yn digwydd ar eu pen eu hunain. Mae gan fy mab ddyspracsia gydag ychydig o syndrom Asperger. Cymorth; fawr ddim, rhaid oedd ymladd yr holl ffordd.

Rwy’n credu y byddai’n anghywir cael deddfwriaeth sy’n dewis un cyflwr ac yn anwybyddu dioddefaint, brwydr a phoen teuluoedd sydd hefyd yn dioddef ac sydd hefyd yn wynebu gwasanaethau annigonol. Felly, heddiw, byddaf yn cefnogi symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen i’r lefel nesaf, ond rwy’n ei wneud ar yr amod efallai na fydd y gefnogaeth honno yno ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn sydd gennyf. Byddwn yn dweud am y pwyntiau a wnaed ynglŷn ag ymatal fod rhywun yn gadael i rywbeth fynd yn ei flaen pan fyddant yn ymatal. Nid yw hynny yr un fath â gwrthwynebu rhywbeth. Yn arbennig, rhaid i mi dynnu sylw at y Gweinidog, Rebecca Evans, sydd â chefndir yn y maes hwn. Nid oes gan deuluoedd awtistig gyfaill mwy, yn fy mhrofiad i, na Rebecca Evans. Efallai ein bod yn cael dadl yn y Siambr hon am y ffordd orau y gallwn gefnogi teuluoedd, ond na foed unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r ffaith ein bod yn credu bod angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd a’u bod yn haeddu mwy o gefnogaeth. Felly, rwy’n meddwl bod beirniadu’r rhai sy’n ymatal heddiw yn anffodus, tra bo manylion y cynnig yn dal i gael eu datblygu. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fwrw ymlaen yn unedig. Credaf mai’r pwynt a wnaeth Leanne Wood yw bod angen i ni sicrhau newid diwylliant sy’n ategu’r modd y mae pobl ag awtistiaeth yn cyfrif. Dyna’r her i bawb ohonom, ac yn awr mae angen cael dadl ynglŷn â manylion y ffordd orau inni wneud hynny. Byddaf yn pleidleisio o blaid.

Bydd pawb yn y Siambr yn cytuno gyda nod y Bil hwn. Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer ateb anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau oddeutu 34,000 o bobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Yn wir, nid yw llawer o ddioddefwyr awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu i gamu ymlaen mewn bywyd. Maent yn wynebu heriau pan fyddant yn ceisio cael mynediad at waith, addysg, iechyd, tai a gwasanaethau eraill mewn bywyd. Mae hyn yn ei gwneud yn gynyddol anodd i’r bobl hynny fyw bywydau annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn ac wedi cyhoeddi ei chynllun gweithredu strategol diwygiedig ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig—mae’n enw braidd yn hir, Dirprwy Lywydd, ond dyna’r cynllun y maent wedi’i gyhoeddi. Ond mae llawer yn credu bod angen cefnogaeth statudol i sicrhau’r newid y mae pawb ohonom am ei weld yn y wlad hon.

Byddai Deddf awtistiaeth i Gymru yn darparu’r gefnogaeth statudol honno, yn diogelu hawliau pobl awtistig ac yn codi ymwybyddiaeth o gyflyrau cymhleth, sy’n angenrheidiol yma. Gyda ffocws ar roi mwy o gydnabyddiaeth i awtistiaeth, gallai’r gyfraith sicrhau diagnosis prydlon drwy ddulliau statudol ac adolygu data rheolaidd. Byddai’n sicrhau mynediad at wasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, boed yn oedolion neu’n blant. Byddai Deddf hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn gweithredu gyda chefnogaeth i bobl awtistig a’u teuluoedd mewn cof. Byddai’n gosod dyletswydd ar gymdeithas i dderbyn a deall awtistiaeth yn well a byddai’n rhoi cyfle go iawn i bobl awtistig gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd.

Gydag ymrwymiad deddfwriaethol i adolygu cynnydd gwasanaethau’n rheolaidd, gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl lefel gyson o ofal gan ddarparwyr gwasanaethau. Yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd bob amser yn y gorffennol. Mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag awtistiaeth yn bresennol, nid yn unig ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, mae hefyd yn bodoli ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. O’r byd addysg i wasanaethau iechyd, nid yw teuluoedd ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu cefnogi’n ddigonol o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth. Nid yw awdurdodau lleol yn ymwybodol o faint o bobl awtistig sy’n byw yn eu hardaloedd, sy’n ei gwneud yn broblematig i gynllunio cymorth priodol ar gyfer y teuluoedd a’r bobl hynny. Mae rhieni a gofalwyr yn aml yn mynd drwy brofiad gofidus cyn cael eu hatgyfeirio oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r fath.

Ceir anghysondeb mawr yn yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio ac asesiad. Canfu ymgynghoriad a gynhaliwyd gan ASD Info Cymru fod 19 y cant o deuluoedd ag atgyfeiriadau posibl wedi cael eu hatgyfeirio i gael asesiad o fewn chwe mis i leisio pryder am y tro cyntaf, ond bu’n rhaid i 22 y cant aros dros bedair blynedd. Mae hyd yr asesiad diagnostig yn amrywio’n fawr hefyd, o lai na chwe mis i rai teuluoedd i dros ddwy flynedd i eraill. Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig—

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n rhannu rhai o’r pethau roeddech yn sôn amdanynt, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r sail statudol y siaradodd y Gweinidog amdani a’r cyllid ychwanegol. Roeddwn eisiau cofnodi y byddaf yn cefnogi hyn heddiw; credaf fod Paul wedi mabwysiadu’r ymagwedd gywir yn y ffordd gymodlon y mae bob amser yn ei defnyddio pan fydd yn gwneud pethau.

Diolch i chi, Joyce.

Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig, ond roedd eraill wedi cael eu gweld gan bump neu ragor o glinigwyr. Mae arnom angen mwy o hyfforddiant i staff ysgol allu cynorthwyo plant ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Nid yw pob ysgol yn gallu darparu ar gyfer anghenion arbenigol. Yn Lloegr, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bodoli ar gyfer athrawon er mwyn iddynt allu eu deall yn iawn. Mae angen gwneud hyn yng Nghymru hefyd.

Mae cymorth pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn broblem reolaidd. Mae cymorth sgiliau bywyd yn brin, ac nid yw anghenion cyflogaeth a thai yn cael eu diwallu. Dirprwy Lywydd, dengys profiad o’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr fod modd sicrhau gwelliant go iawn i fywydau pobl ag awtistiaeth. Gall cydweithio gyda darparwyr sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu’n well. Credaf y bydd Deddf awtistiaeth yng Nghymru’n gwneud yr un peth. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn heddiw, ac fe’i cymeradwyaf. Diolch.

Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi blino’n lân, ac weithiau’n brwydro yn erbyn dagrau, wrth iddynt egluro’r caledi y maent wedi’i brofi wrth geisio cael cais syml am gymorth i’w plant neu rywun annwyl. Fis Hydref diwethaf, yn ystod y ddadl flaenorol, pwysleisiais ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus arall yn cefnogi’r teuluoedd hyn sydd, o ddydd i ddydd, yn wynebu llawer o heriau, ac i beidio â chaniatáu i rwystrau fodoli i’r gefnogaeth honno. Mae’r teuluoedd hyn yn mynd i’r afael â’r heriau hyn hyd eithaf eu gallu ar ran eu hanwyliaid, a’n gwaith ni yw darparu mecanweithiau i’w helpu a chynnig cymorth, ac yn bendant, nid cynyddu eu caledi. Mae’r teuluoedd yn dweud wrthyf yn gyson am eu dicter a’u rhwystredigaeth o orfod parhau i ddadlau a mynnu cymorth i’w plant neu frodyr a chwiorydd, i gael y cymorth a’r gofal angenrheidiol ar gyfer helpu’r rhai sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac i ddatblygu a gwella eu lles.

Rydym i gyd yn ymwybodol fod awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar sut y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill, ac rwy’n falch y bydd Bil Paul Davies yn ystyried nid yn unig y plant rydym yn aml yn siarad amdanynt, ond oedolion yn ogystal. Rwyf am i chi wybod, felly, fod y rhan fwyaf o’n gwaith achos yn canolbwyntio ar blant, ond gadewch i ni beidio ag anghofio’r heriau y mae oedolion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig yn eu hwynebu. Mae llawer yn cael trafferth yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion, gan wynebu ymyl clogwyn yn aml, yn yr ystyr fod y cymorth a gawsant yn blant yn dod i ben yn 18 oed.

Ac ar yr un pryd, maent yn edrych ar fyd gwaith, a’r heriau o ddechrau gweithio. Nid ydynt am dderbyn budd-daliadau lles ar hyd eu hoes. Mewn gwirionedd maent yn awyddus i gael gwaith, maent yn awyddus i ganfod eu ffordd eu hunain, ac yn awyddus i wella eu bywydau. Fodd bynnag, wrth iddynt wynebu heriau newydd, mae angen iddynt ddeall y gallwn gynnig cymorth i’r unigolyn, ond hefyd i’r cyflogwr yn ogystal—a soniodd Paul Davies am yr hyfforddiant. Mae angen i ni edrych ar ehangu’r meysydd hyfforddi, i ystyried yr agwedd honno hefyd, fel bod y cyfnod pontio i fywyd fel oedolyn yn dod ychydig yn llyfnach iddynt, heb beri cymaint o ofn a braw, fel y gwnaeth i gymaint o bobl yn yr achosion hyn.

A neithiwr, roeddwn yn y digwyddiad a gynhaliodd Jane Hutt yn y Senedd, pan siaradodd Andrea Wayman o Elite Employment Agency am ei gwaith yn yr elusen sy’n helpu pobl i gael gwaith. A thynnodd sylw at un enghraifft—sut y mae’n gweithio i bobl ifanc; sut y cafodd gymorth un i un ar gyfer dyn ifanc a oedd ag awtistiaeth, a bod cymorth un i un wedi caniatáu iddo ddatblygu yn y gweithle, yn y lleoliad gwaith, a meithrin yr hyder a oedd yn ofynnol. Ac fel y cyfryw, cafodd yr unigolyn ifanc hwnnw waith cyflogedig. Mae honno hefyd yn agwedd bwysig sy’n rhaid i ni beidio â’i hanwybyddu.

Gweinidog, gwn eich bod wedi tynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith—cyflwyno strategaeth 2008, diweddariad y strategaeth honno, y cynllun cyflawni ar ei newydd wedd, a chyflwyno gwasanaethau awtistiaeth integredig cenedlaethol: £13 miliwn; rhoddais £7 miliwn, ond dywedai £13 miliwn—y cyfan yn wych. Maent i gyd yn gadarnhaol—nid oes amheuaeth am hynny—ond fel yr amlygodd Paul Davies, mae’r cynnydd yn anghyson ac yn araf. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod strategaeth o’r fath yn cael ei chyflawni gyda chysondeb gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a’i bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Ac rwy’n ofni nad wyf yn gweld hynny ar waith, na’r teuluoedd. Mae cynllun cyflawni, a chyflwyno gwasanaeth integredig Llywodraeth Cymru yn iawn, ond pan na fydd teuluoedd yn profi’r ddarpariaeth yn eu cymunedau, yna mae angen i ni gymryd camau pellach.

Rwyf wedi gofyn am eglurhad gan fy awdurdod ynglŷn â’i strategaeth awtistiaeth, a phwy yw ei hyrwyddwr awtistiaeth, ac yn anffodus, mae’r eglurhad yn araf yn dod. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, ac mae’n rhaid inni roi gofynion ar waith, ac felly, efallai, yr angen am ddyletswyddau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i baratoi strategaethau ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth a rhoi sylw priodol i’r strategaethau hynny wrth gyflawni eu cyfrifoldebau.

Nawr, rwy’n ymwybodol fod deddfau amrywiol wedi’u cyflwyno a allai helpu. Gwelsom gyfeirio hefyd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Y cwestiwn sy’n codi yw: a ydynt yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hyn? Ac a fydd y Bil newydd hwn yn cefnogi’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, ac yn gwella trafferthion y teuluoedd hyn? Ac mae’n ddyletswydd arnom i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os down i’r casgliad fod angen Bil o’r fath i wneud y sefyllfa’n well ar gyfer teuluoedd ar lawr gwlad, yna dylem gyflwyno rhwymedigaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, a fydd yn eu cael i weithredu’n unol â hi, ac a fydd yn caniatáu i ni a theuluoedd ddwyn y cyrff hynny i gyfrif.

Ac rwy’n derbyn fod yna gyflyrau eraill sy’n bwysig, cyflyrau a ddylai fod yn sefyll ochr yn ochr ag awtistiaeth, ac efallai, yn y cyfamser, y bydd Paul Davies yn dymuno edrych i weld a oes modd ymestyn y Bil, cyflwyno Bil sy’n cwmpasu pob cyflwr niwroddatblygiadol. Ac rwy’n siŵr ei bod yn bryd i ni wneud hynny.

Nawr, y prynhawn yma, byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn, a byddaf yn edrych ymlaen at weld ei uchelgais yn cael ei gyflawni, a’i gynnig o welliannau i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n bwysig ein bod yn deddfu i bwrpas, ac y bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwella bywydau’r rhai y mae’n eu targedu yng Nghymru. A byddaf yn cefnogi ac yn edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.

Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir iawn, ond roeddwn eisiau diolch yn gyntaf i’r ymgyrchwyr am eich holl waith caled, ac mae’n dangos bod grym pobl yn gweithio. Ac nid wyf yn meddwl y dylech danseilio’r ffaith fod ymgyrchwyr yn gwneud hyn am reswm real iawn, er gwaethaf y ffaith y gallai fod clefydau niwrogyhyrol eraill sy’n haeddu’r ddeddf honno. Beth am ddeddfu ar gyfer y rheini pan fydd yr ymgyrchwyr hynny’n dod i guro ar ein drysau yn y dyfodol? Felly, diolch yn fawr iawn am eich dycnwch ac am eich dyfalbarhad yn hyn.

Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn bwysig diolch i Mark Isherwood am gadeirio’r grŵp trawsbleidiol am yr holl flynyddoedd. Weithiau, pan fyddwn yn cadeirio grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn aml yn ei wneud gan edrych i mewn arnom ein hunain, ac rydym yn bwrw iddi waeth beth fo gwleidyddion eraill yn ei wneud, ac rwy’n meddwl eich bod yn haeddu cael y clod hwnnw yma heddiw hefyd, Mark. Paul, yn amlwg rwy’n falch eich bod yn gallu bwrw ymlaen â hyn, ac rwy’n siŵr, fel y clywsoch gan bobl yma heddiw, fod gennych y gefnogaeth honno, ac mae gennych fy nghefnogaeth i, wrth gwrs.

Rwy’n mynd yn ôl at y dyfyniad a ddefnyddiais yn y ddadl ddiwethaf, pan gymerais ran mewn hustyngau trawsbleidiol cyn imi gael fy ethol eto, a dywedodd y wraig yn y gynulleidfa, ‘Rwy’n ei chael yn anos ymladd yn erbyn y system nag rwy’n ei chael i ymdopi ddydd ar ôl dydd â chyflwr fy mab.’ Ac os oes rhaid inni glywed hynny fel gwleidyddion, yna dyna reswm, os rhywbeth, dros bleidleisio o blaid heddiw—nid ymatal, er mwyn gadael iddo fynd yn ei flaen, ond pleidleisio o blaid fel mater o egwyddor. Dyna’r hyn y byddwn yn annog Gweinidogion y Llywodraeth i’w wneud, oherwydd bod hynny’n dangos i’r bobl yn yr ystafell hon sydd wedi trafferthu i ddod i lawr yma heddiw, i wrando—

Na, nid wyf yn chwarae i’r galeri. Rwy’n siarad yn seiliedig ar yr hyn rwyf wedi’i brofi yn fy etholaeth, a lefel y gefnogaeth i hyn y gallwch ei weld yma heddiw. Ac os gall Gweinidogion y Llywodraeth weld hynny, dylent gefnogi’r Bil hwn.

Ac wrth ateb eich cwestiwn mewn perthynas â chyflyrau eraill, ar ôl ymgynghori â’r meddyg teulu wrth fy ymyl cyn i mi sefyll, rwy’n credu y bydd Asperger yn rhan o ddeddfwriaeth awtistiaeth.

[Yn parhau.]—rydych yn cefnogi’r Bil, rwy’n cefnogi’r Bil. Gan weithio ar y consensws hwn, efallai—. Nid wyf yn ei wneud er mwyn cael clap, rwy’n ei wneud am fy mod yn malio am y bobl sydd wedi dod yma heddiw ac sy’n trafferthu i falio am y materion hyn. Mae gennyf rywun ar y rhestr aros ers dwy flynedd a hanner am ddiagnosis interim o oedi mewn datblygiad cyflawn, yn aros am y diagnosis hwnnw yn fy etholaeth. Nid ydynt yn haeddu gorfod aros yn hwy am y diagnosis, ac os gall y ddeddfwriaeth hon wneud unrhyw beth, mae’n mynd i wneud y newid hwnnw’n realiti iddynt yn eu bywydau bob dydd, nid i ni sy’n llunio polisi—yn eu bywydau bob dydd. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch y Bil hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rydym wedi clywed rhai cyfraniadau defnyddiol ac ystyriol iawn ar fater sy’n bwysig iawn, o ystyried y nifer fawr o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yng Nghymru, ac ymddiheuraf o’r cychwyn na fyddaf yn gallu cyfeirio at sylwadau pawb, o ystyried yr amser sydd ar gael i mi. Nawr, rydym wedi clywed rhai pryderon ynglŷn ag a oes angen deddfwriaeth sylfaenol i fynd i’r afael â’r bylchau ac anghysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Hoffwn ailadrodd bod y Bil hwn yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, nid yn eu herbyn.

I’m grateful to the Member for Anglesey for his support and for drawing attention to the Anglesey autism group’s concern about how data are collected and how important that is. To respond to his point as to whether I would be willing to broaden the remit of the Bill, I want to give an assurance that I am willing to do that, if possible, and I will consult widely with you and with stakeholders to ensure that this Bill is as effective as it possibly can be.

Diolch i’r Aelod dros Dorfaen am ei chefnogaeth, ac rwy’n deall ei hamheuon ynglŷn â deddfwriaeth benodol. Hoffwn ei sicrhau y byddaf yn adolygu’r sefyllfa dros y 13 mis nesaf os gwneir digon o gynnydd. Rwyf hefyd yn deall amheuon yr Aelod dros Lanelli ynglŷn â chanolbwyntio ar un cyflwr penodol, ac rwyf am ei sicrhau fy mod yn fwy na pharod i edrych ar ehangu’r Bil i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill, os yn bosibl, ac mae hynny’n rhywbeth y byddaf yn ymgynghori yn ei gylch, os caiff y Bil ganiatâd i symud ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i David Rees am ei gefnogaeth, ac mae’n gwneud pwynt dilys iawn, rwy’n meddwl, am y cymorth sydd ei hangen ar bobl ag awtistiaeth i gael gwaith, ac mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Bil hwn yn helpu i’w wneud.

Nawr, rydym wedi clywed rhywfaint o feirniadaeth o’r cynlluniau a gyflwynir yn Lloegr hefyd, ac felly, fe ddywedaf unwaith eto fod gennym gyfle yma yng Nghymru i edrych ar ddeddfwrfeydd eraill, dysgu gwersi a chreu Bil sy’n bwrpasol i anghenion y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth torri a gludo os yw’r Bil hwn yn mynd ymlaen i’r cyfnod nesaf. Yn wir, fy mwriad yw gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid lleol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth, er mwyn datblygu Bil sydd nid yn unig yn cydnabod bod llawer o bobl yn dal i fethu cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ond sy’n sicrhau darpariaeth gyson a pharhaus o’r holl wasanaethau awtistiaeth, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Ac rwy’n hyderus, os yw’r Bil arfaethedig hwn yn symud ymlaen i’r cam nesaf, y gallaf weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru i sefydlu deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth.

Rwyf hefyd yn hyderus y gallwn ddarparu Bil sy’n ateb anghenion y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru a sicrhau o ddifrif fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir. Mae’n hanfodol ein bod yn creu Bil sy’n rhoi ei hunaniaeth statudol ei hun i awtistiaeth, ac yn anfon neges glir y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth bob amser yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, waeth beth fo’i lliw gwleidyddol neu ei chyfansoddiad.

Ac wrth ymateb i’r Gweinidog, a gaf fi ddiolch iddi am y ddeialog adeiladol a gawsom ar y mater hwn, ac a gaf fi ddiolch i’w swyddogion am ymgysylltu â mi? Wrth gwrs, rwy’n siomedig fod y Gweinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig heddiw, ond rwy’n derbyn y bydd hyn yn parhau i roi cyfle i gynnig heddiw gael ei basio. Fodd bynnag, rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd y Llywodraeth yn ystyried rhoi’r cynllun gweithredu ar sail statudol, a byddwn yn ei hannog i weithredu yn awr fel y gall teuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen, heddiw ac yn y dyfodol.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, heddiw mae cyfle gan y Cynulliad i anfon neges gref at y gymuned awtistiaeth yng Nghymru fod ei llais yn cael ei glywed yn glir. Cafwyd galwadau cyson am Fil awtistiaeth, a dyma’r amser i’r Cynulliad hwn ysgwyddo ei chyfrifoldeb a rhoi’r gefnogaeth y mae’n ei haeddu i’r gymuned awtistiaeth. Anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hepatitis C

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Julie Morgan i gynnig y cynnig—Julie.

Cynnig NDM6311 Julie Morgan, Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns, Mark Isherwood

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn a gefnogir gan Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns a Mark Isherwood.

Rydym wedi dechrau ar daith yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i nodi a thrin pawb sydd â’r feirws a gludir yn y gwaed, hepatitis C. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgadarnhau ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, y dyddiad a bennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ac rydym yn llongyfarch meddygon a nyrsys y GIG am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud ar drin a gwella nifer digynsail o bobl sydd â hepatitis C. Rydym hefyd yn galw am ganllawiau gweithredol newydd i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru i helpu staff meddygol y GIG yn y dasg anodd hon. Gwnaed cynnydd gwych eisoes ar alluogi mynediad teg a thryloyw at feddyginiaethau newydd mewn ffordd fforddiadwy a chyfrifol. Mae’r triniaethau newydd wedi’u cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac maent yn gosteffeithiol. Bydd pob claf yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at gyffuriau newydd gwrthfeirysol hynod o effeithiol, ac yn wir, cafwyd cyfradd wella o 95 y cant, sydd mor galonogol. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan y grŵp feirysau a gludir yn y gwaed, a hoffwn dalu teyrnged iddynt hwy ac i Dr Brendan Healy, sef y meddyg ymgynghorol arweiniol. Dywedodd: ‘Rwy’n falch iawn o allu cynrychioli tîm mor anhygoel. Mae’r gwaith a’r ymdrech y maent wedi’i wneud yn aruthrol’. Mae fy nghysylltiad â’r grŵp hwn, rwy’n meddwl, o ddifrif yn dangos y GIG ar ei orau.

Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n effeithio ar yr afu. Mae 80 y cant o’r bobl a heintir yn datblygu hepatitis C cronig, sy’n gallu achosi sirosis angheuol a chanser yr iau os na chaiff ei drin. Yr amcangyfrif yw bod 240,000 o bobl wedi’u heintio’n gronig â hepatitis C yn y DU, ac mae oddeutu 12,000 o’r rhain yng Nghymru. Ond nid yw’r union ffigur yn hysbys oherwydd bod cymaint o bobl â’r haint heb wybod ei fod arnynt. Ac rydym yn gwybod ei fod yn effeithio’n arbennig ar bobl o gymunedau difreintiedig; daw bron hanner yr achosion o’r un rhan o bump tlotaf o’r gymdeithas.

Caiff hepatitis C ei drosglwyddo drwy gysylltiad â gwaed a heintiwyd. Ac mae’n wir fod y rhan fwyaf yn cael eu heintio ar ôl chwistrellu cyffuriau. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn dangos bod 50 y cant o’r bobl sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru wedi’u heintio gan hepatitis C. Ond mae’r feirws hefyd yn effeithio ar y rhai a allai fod wedi cael gofal meddygol dramor, a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed yn y DU cyn 1991, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys hemoffiligion, fel y gwn o fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig.

Mewn nifer o ffyrdd mae hepatitis C yn glefyd cudd oherwydd gall pobl fyw heb symptomau am ddegawdau ar ôl cael eu heintio. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod am achos Anita Roddick, a sefydlodd The Body Shop, gan na ddarganfu fod ganddi hepatitis C hyd nes 2004. Fe’i cafodd drwy drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch yn 1971. Felly, roedd yn byw gyda’r clefyd hwn ers 30 mlynedd heb yn wybod iddi, a bu farw o gymhlethdod yn sgil clefyd yr afu yn 2007.

Rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn yng Nghymru, diolch i arweiniad a chyllid Llywodraeth Cymru. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer clefyd yr afu 2015 yn nodi cynllun i ddileu hepatitis C, ochr yn ochr â thrin mathau eraill o glefyd yr afu. Daeth llwyddiant mawr ym mis Medi 2015, pan gytunodd y Gweinidog cyllid, Jane Hutt, ar gyllid o £13.8 miliwn am gyffuriau newydd di-interfferon sofosbuvir, Harvoni a AbbVie. Defnyddiwyd yr arian i drin 466 o’r cleifion mwyaf sâl â hepatitis C, a gwellodd 432 ohonynt, gan gynnwys aelodau o’r gymuned hemoffilia yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fywydau’r bobl hyn, ac mewn gwirionedd cafodd yr hemoffiligion eu trin â’r cyffuriau newydd cyn eu cymheiriaid yn Lloegr, ac mae rhai o’r rheini’n dal i aros am help.

Un enghraifft o glaf yng Nghymru yw David Thomas, sy’n un o etholwyr Ysgrifennydd y Cabinet ac mae’n aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Daliodd hepatitis C drwy waed halogedig pan oedd yn ei arddegau yn y 1980au a bu’n byw gydag ef am 30 mlynedd, ond roedd yn un o’r rhai cyntaf i gael triniaeth gyda’r cyffuriau newydd, sydd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr, ac wedi cael gwared ar gwmwl enfawr, fel y dywedodd.

Felly, yn amlwg, un o’r heriau yn awr yw argyhoeddi pobl a allai fod wedi cael triniaeth aflwyddiannus yn y gorffennol i ddod i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C gan ddefnyddio’r cyffuriau interfferon. Croesawaf y ffaith fod gan fyrddau iechyd £25 miliwn y flwyddyn bellach sy’n caniatáu i 900 o bobl y flwyddyn gael eu profi dros gyfnod o bum mlynedd. Rhaid i ni sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â hyn. Cafodd mwy na 700 o bobl eu trin yn 2016-17, ond rwy’n deall mai’r broblem yn awr yw dod o hyd i’r bobl y mae angen cynnal profion arnynt ar y pwynt hwn. Nid oes unrhyw restrau aros i gael triniaeth ar hyn o bryd. Mae’r arian a’r cyffuriau yno, ond mae angen dod o hyd i’r 50 y cant o bobl sydd â hepatitis C heb yn wybod iddynt.

Yr her fawr arall a wynebwn wrth geisio cael gwared ar hepatitis C yw cyrraedd pobl nad ydynt yn ymwybodol o’r feirws am nad ydynt yn ymweld â’u meddygfa yn rheolaidd. Fel y dywedais, nid yw 50 y cant o’r bobl sydd â’r feirws wedi cael diagnosis eto yn ôl Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Grwpiau eraill a allai fod mewn perygl yw pobl sy’n defnyddio’r gampfa ac sy’n cymryd cyffuriau i wella’u perfformiad; defnyddwyr cyffuriau sydd â hepatitis C; carcharorion sy’n cael eu profi yn ystod eu carchariad ond nad ydynt yn cael y canlyniadau mewn pryd cyn eu rhyddhau; ceiswyr lloches, mewnfudwyr a phobl ddigartref. Mae pawb sy’n gweithio i ddileu hepatitis C yn dweud mai un o’r problemau mwyaf yw’r stigma sydd ynghlwm ag ef, ac rwy’n falch iawn fod ymgyrch yn mynd i gael ei lansio yng Nghymru yma yn y Cynulliad ar 11 Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Un ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth a’r stigma ynglŷn â hepatitis C yw drwy ddefnyddio mentoriaid cymheiriaid, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae angen rhaglen i addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynglŷn â hepatitis C, nid aelodau’r cyhoedd yn unig, gan ei bod yn bwysig iawn fod meddygon teulu yn sylwi ar yr arwyddion ac yn argymell profion ac yn atgyfeirio pobl i gael triniaeth. Mae angen i fwy o weithwyr iechyd proffesiynol gael hyfforddiant. Mae angen targedau wedi’u cytuno’n genedlaethol a hyfforddiant mewn profion smotiau gwaed sych i fferyllfeydd. Gallai fferyllfeydd cymunedol chwarae rhan bwysig, yn ogystal â phrosiectau allgymorth cyffuriau a chanolfannau cyfnewid nodwyddau. Mae pob un o’r bobl sy’n ymwneud â thrin y feirws hwn a gludir yn y gwaed yn cytuno mai mynd i’r afael â’r mater yn y gymuned lle maent yn byw yw’r allwedd. Ceir llawer o enghreifftiau o sut i wneud hyn: er enghraifft, maent yn cynnal profion ar geiswyr lloches a phobl yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd; yn Tesco yn Fforestfach yn Abertawe, ceir ystafell gymunedol ar gyfer cynnal profion drws nesaf i gampfa, felly cynhelir profion ar ddefnyddwyr y gampfa; ac mae ffurflen ar gyfer gwella rheolaeth cleifion a chasglu data’n awtomatig yn cael ei datblygu yng Nghaerdydd ac mewn canolfannau eraill.

Mae’r cynnig hefyd yn galw am ystyried canllawiau gweithredol newydd er mwyn cynorthwyo staff y GIG sy’n gweithio i ddileu hepatitis C. Mae angen inni symleiddio’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â hyn. Mae angen inni ddefnyddio dulliau atgyfeirio electronig i gyflymu’r holl broses o gael pobl wedi’u trin. Hefyd, byddai’r staff meddygol yn hoffi gweld cynllun strategol penodol ar gyfer dileu hepatitis C, gyda’r holl elfennau wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys cost profion labordy ychwanegol a chynnal profion yn y gymuned.

Hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ganmol y gweithwyr iechyd proffesiynol, y swyddogion iechyd y cyhoedd a’r mudiadau trydydd sector sydd wedi ymrwymo i’r fath raddau i drechu’r clefyd hwn a gludir yn y gwaed. Cafwyd symud cadarnhaol aruthrol yng Nghymru i gyrraedd y cam lle y gallwn ei ddileu. Rhyfeddodau gwyddoniaeth fodern, ynghyd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Ond mae angen cynnal profion ar fwy o bobl ac rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn falch o weld pobl enwog proffil uchel yn dweud bod ganddynt hepatitis C i helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r clefyd. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi dechrau ar y broses hon o ddileu hepatitis C, ac rwy’n gobeithio mai pen y daith fydd Cymru heb achosion o hepatitis C.

Clywsom fod 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yn byw gyda hepatitis C yng Nghymru ar hyn o bryd, ac oddeutu eu hanner heb gael diagnosis. Mae’n un o dri phrif achos clefyd yr afu a’r unig un o’r pum clefyd sy’n lladd fwyaf o bobl yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau ar gynnydd. Felly, mae’n her iechyd cyhoeddus sylweddol. Fel y dywedais yn y ddadl ym mis Ionawr ar waed halogedig, yn y 1970au a’r 1980au roedd cyfran fawr o’r cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG wedi’i halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd oddeutu 4,670 o gleifion â hemoffilia eu heintio ac ers hynny mae dros 2,000 wedi marw o effeithiau’r feirysau hyn yn y DU, gan gynnwys 70 yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ôl y dystiolaeth, mae hepatitis C yn effeithio’n bennaf ar bobl o grwpiau penodol, megis defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu, pobl ddigartref, dynion hoyw a deurywiol, a phoblogaethau mudol o fannau sydd â nifer fawr o achosion.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Hepatitis C, ‘Hepatitis C in Wales: Perspectives, challenges & solutions ‘, yn gorffen gyda nifer o argymhellion allweddol ar gyfer gweithredu, fel a ganlyn: cynnwys ymrwymiad i ddileu hepatitis C

fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd... ym Mil Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd.

Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd gyda’r nod o fynd i’r afael â stigma ynghylch hepatitis C ac annog unigolion i gael profion.

Parhau’r ymrwymiad yn hirdymor i brotocol triniaeth hepatitis C llwyddiannus ar gyfer Cymru gyfan, sy’n sicrhau mynediad cyfartal at driniaethau newydd hynod o effeithiol ar gyfer nifer cynyddol o bobl.

Cynyddu nifer y gwasanaethau triniaeth yn y gymuned... i sicrhau mynediad at driniaeth ar gyfer grwpiau sy’n draddodiadol yn ei chael yn anodd cael mynediad at wasanaethau.

Gweithredu dull optio allan llawn ar gyfer profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, fel y nodir yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Cyffuriau 2016-2018.

A

Defnyddio cyfleoedd, megis diwrnodau addysg orfodol i feddygon teulu er mwyn darparu hyfforddiant ar feirysau a gludir yn y gwaed i weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol allweddol.

Mae cymeradwyo triniaethau cyffuriau newydd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru NICE yn golygu bod dileu hepatitis C fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru bellach yn nod cwbl gyraeddadwy. I achub ar y cyfle newydd hwn, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i’r 50 y cant o bobl nad ydynt wedi cael diagnosis ar hyn o bryd drwy ehangu mynediad at brofion ac ymchwilio ymhellach pa grwpiau y gellir eu sgrinio’n gosteffeithiol. Trwy gynyddu cyfraddau diagnosis, byddwn yn gallu trin a gwella mwy o bobl. Gyda thriniaethau newydd effeithiol a hygyrch ar gael bellach i bawb sydd eu hangen, mae’n haws nag erioed i drin a gwella cleifion, sy’n cynnig cyfle gwych i ddileu hepatitis C yng Nghymru.

Y camau allweddol y mae’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn credu y byddant yn helpu i ysgogi cynnydd yn hyn o beth, gan adlewyrchu’r hyn a ddywedais yn gynharach, yw cynyddu lefel y profion a gynhelir mewn gofal sylfaenol, gofal cyn geni a fferyllfeydd er mwyn dod o hyd i’r rhai sydd heb gael diagnosis; gweithredu strategaeth i ailymgysylltu â chleifion sydd wedi cael canlyniad positif i brawf hepatitis C ond sydd wedi ymddieithrio o’r llwybr gofal; lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i ddod o hyd i gleifion sydd heb gael diagnosis, yn enwedig y rhai a allai fod wedi dal y feirws amser maith yn ôl ac nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi wynebu risg erioed; sicrhau bod triniaeth ar gael i gleifion hepatitis C mewn lleoliadau cymunedol, megis gwasanaethau cyffuriau a meddygfeydd meddygon teulu, er mwyn ehangu mynediad i gleifion yr ystyrir yn draddodiadol eu bod yn anodd eu cyrraedd; darparu hyfforddiant a gwybodaeth am hepatitis C i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig meddygon teulu; ac ehangu defnydd o gynlluniau cyfeillio a sicrhau y darperir addysg gan gymheiriaid mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau i gleifion rhag cael triniaeth ac i ledaenu negeseuon allweddol i grwpiau sy’n wynebu risg.

Gan gefnogi’r galw am strategaeth i ddileu hepatitis C, mae cwmni ymchwil biofferyllol byd-eang, AbbVie, wedi cysylltu ag Aelodau yn galw am sicrhau bod y strategaeth yn nodi’r camau ar gyfer dileu’r clefyd, gan gynnwys niferoedd profion blynyddol, sgrinio, diagnosis a thriniaeth. Dylai’r strategaeth gael ei goruchwylio gan weinidog a chael ei gyrru gan is-grŵp hepatitis C bwrdd gweithredu cynllun yr afu ar gyfer Cymru, gyda mandad i sicrhau bod targedau uchelgeisiol yn cael eu cyrraedd ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol. Ac maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a’r GIG barhau â’u dull agored o ymgysylltu â’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â darparu gofal a thriniaeth i bobl sy’n byw gyda hepatitis C, fel y gellir sefydlu modelau gofal hyblyg ac arloesol, yn cynnwys cymorth gan gymheiriaid mewn lleoliadau cymunedol. Fel y maent yn ei ddweud, bydd modelau gofal sy’n newid yn galw am ymagwedd newydd tuag at addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu. Ac fel y mae cynnig heddiw yn datgan felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu’r clefyd, sef 2030, ac i ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo GIG Cymru i weithio tuag at hyn. Diolch.

Mi wnaf gadw fy nghyfraniad heddiw yn fyr. Eisiau datgan fy nghefnogaeth ydw i, yn syml iawn, i’r cynnig pwysig iawn yma. Mae’r nod yn syml iawn, iawn yn fan hyn, onid yw, ac mae hefyd yn hynod, hynod gyffrous rwy’n meddwl. Y nod ydy dileu hepatitis C yng Nghymru yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i waredu erbyn 2030, ond mi allem ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae cymal 1 y cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw yn dangos bod llawer o’r isadeiledd iechyd gennym ni yn barod, yn benodol, ac yn arbennig felly, y bobl sydd gennym ni o fewn ein cyfundrefn iechyd, ac rwy’n falch iawn o allu diolch iddyn nhw heddiw am y camau bras sydd wedi cael eu cymryd yn barod o ran hyn.

Mi fyddwn i hefyd yn hoffi diolch i Julie Morgan am y gwaith mae hi yn ei wneud yn y maes yma. Mae wedi bod yn bleser cydweithio nid yn unig ar hepatitis C a’r gwaredu y gobeithiwn y gwelwn ni yn y blynyddoedd i ddod, ond hefyd ar y testun o waed wedi ei heintio. Ond mae wedi fy nharo i, fel mae o wedi taro yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, mai’r broblem sydd gennym ni bron iawn ydy diffyg cleifion ar hyn o bryd, ac mae hynny, onid yw, yn deyrnged i’r staff sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae o’n swnio’n od iawn, ond mae gennym ni fwy o gapasiti nag sydd gennym ni o gleifion i fynd drwy y system, ac mae’n deg dweud nad ydym ni yn sôn am hynny’n aml iawn pan rydym yn sôn am yr NHS, ond mae’n wir yn yr achos hwn. A’r gwir ydy mai canfod y rheini sydd ddim wedi cael y diagnosis, sydd ddim yn gwybod eu bod nhw mewn grŵp risg, sydd ddim yn dangos symptomau, ydy’r her o’n blaenau ni er mwyn i ni allu symud ymlaen tuag at waredu.

Ni wnaf ailadrodd rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod ynglŷn â sut i wneud hynny drwy dynhau pethau o fewn gofal sylfaenol, drwy chwilio am grwpiau a allai fod o risg uchel—mwy o brofion mewn carchardai ar ddefnyddwyr cyffuriau, profion yn y system ‘antenatal’, ac yn y blaen. Mae’r gwaith da a’r sylfeini wedi cael eu gosod yn barod, ac rwy’n ddiolchgar i’r Llywodraeth am y gwthio sydd wedi cael ei wneud yn y fan hyn yn barod. Ond rwyf yn falch bod y cynnig yma gennym ni heddiw, ac rwy’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig heddiw er mwyn rhoi gwthiad pellach tuag at gyrraedd y nod yma, sydd yn uchelgais gwirioneddol gyraeddadwy yma yng Nghymru, a rhywbeth rwy’n gwybod y byddwn ni fel cenedl yn falch iawn ohono fo pan rydym ni yn cyrraedd y nod.

Hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddweud mor falch yr wyf o weld Julie Morgan yn ôl yn y Siambr, ac mae’n fraint gweithio gyda hi ar y materion hyn, yn enwedig y gwaed halogedig, ac i gefnogi ei harweiniad yma ar y mater hwn mewn perthynas â hepatitis C—braint go iawn.

Cefnogaf y cynnig oherwydd y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno â’r hyn y mae Rhun wedi’i ddweud ac mae Mark Isherwood wedi dweud bod gennym fwy o waith i’w wneud. Hoffwn roi rhai enghreifftiau o fwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy’n gwasanaethu fy etholaeth ac ardal Gwent, yn arbennig eu cydnabyddiaeth y gall gymryd degawdau i nodi pa bobl sy’n dioddef o’r clefyd hwn a rhoi triniaeth iddynt. Mae gwasanaeth hepatoleg bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn gweithio gyda phartneriaid mewn amrywiaeth o leoliadau i gynyddu lefelau diagnosis o haint hepatitis ac i gyflwyno cyffuriau hepatitis C newydd fesul cam. Mae tîm gofal iechyd mewn carchardai bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gweithredu polisi optio allan ar gyfer cynnal profion feirysau a gludir yn y gwaed yn ystod apwyntiadau derbyn carcharorion i Garchar Prescoed ym Mrynbuga. Yn 2016, clywais ganddynt—rwyf wedi ymchwilio i hyn wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—am gynnydd sylweddol yn nifer y carcharorion a gafodd brofion a chanran y carcharorion newydd a gafodd profion, ac mae cynnydd cyson wedi bod yng Ngharchar Prescoed.

Cyflawnwyd camau gweithredu wedi’u targedu yn ardal Aneurin Bevan hefyd i gynyddu mynediad at wasanaethau cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed i bobl sy’n chwistrellu cyffuriau—y bobl sy’n wynebu risg a grybwyllwyd eisoes gan Aelodau eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda byrddau cynllunio’r ardaloedd ar gynnig i ddatblygu cynllun gweithredu pum mlynedd wedi’i gostio i gynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau cyfnewid nodwyddau i sicrhau darpariaeth 100 y cant, sy’n golygu bod nodwyddau glân yn cael eu defnyddio ar gyfer pob achos o chwistrellu.

Datblygiad polisi allweddol yng Ngwent yw’r cynllun peilot ‘dewis a dethol’ ar gyfer fferyllfeydd, sy’n darparu deunydd defnyddio cyffuriau a thaflenni ar leihau niwed, ynghyd â mwy o ryngweithio â chleientiaid i hyrwyddo negeseuon i leihau niwed a chyfeirio at brofion feirysau a gludir yn y gwaed. Comisiynodd bwrdd cynllunio ardal Gwent wasanaeth cyffuriau ac alcohol integredig Gwent i oedolion, gwasanaeth a ddaeth yn weithredol ym mis Mai 2015. Mae’n cynnwys cyflwyno gwasanaethau cyfnewid nodwyddau arbenigol, gyda chyllideb fach bwrpasol ar gyfer darparu deunyddiau cyfnewid nodwyddau. Ac mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan hefyd wedi sôn wrthyf am wasanaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol Gwent ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed.

Ond fel roedd Aelodau eraill hefyd yn cydnabod, un o’r prif grwpiau risg ar gyfer haint hepatitis C yw pobl sy’n hanu o dde Asia. Mae tîm iechyd cyhoeddus Aneurin Bevan wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr crefyddol ynglŷn â hyrwyddo profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn mosgiau yng Nghasnewydd. Yn ogystal, bydd y rhaglen ‘Byw’n Dda, Byw’n Hirach’ hefyd yn codi ymwybyddiaeth o hepatitis C drwy ei rhaglen o archwiliadau iechyd yng Nghasnewydd.

Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o’r hyn y mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn ei wneud i helpu gydag unigolion anos eu cyrraedd sydd mewn perygl o fod â hepatitis C, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol o’r arferion hyn. Gall Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arfer da hwn, a phan ddaw at bwynt olaf y cynnig, gallai ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo’r GIG yng Nghymru i ddileu hepatitis C. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud, ac unwaith eto, mae’n fraint cael hyrwyddo’r achos a gafodd ei arwain gan Julie Morgan yn y Siambr hon. Rydym wedi dod yn bell, ac mae dileu hepatitis C o fewn ein cyrraedd.

Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn ac ymdrechion i ddileu hepatitis C erbyn 2030. Fel y mae eraill wedi nodi, mae hepatitis C yn glefyd sy’n effeithio ar oddeutu 2 y cant o boblogaeth y byd ac mae’n gyfrifol am gannoedd o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Felly, nid yw’n syndod fod Sefydliad Iechyd y Byd yn awyddus i gael gwared ar y clefyd.

Addawodd Llywodraeth y DU ei chefnogaeth i nodau dileu Sefydliad Iechyd y Byd y llynedd a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn yr esiampl hon. Mae’r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn trin pobl sydd â hepatitis C yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd bron i 900 o gleifion eu trin y llynedd mewn ymgais i glirio’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am driniaeth. Fodd bynnag, gyda hyd at 7,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio’n ddiarwybod iddynt gan firws hepatitis C, rhaid gwneud llawer iawn mwy i ganfod a thrin pobl sy’n byw gyda’r clefyd.

Mae gwir angen cynllun gweithredu strategol ar Gymru i leihau achosion o hepatitis C er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn blaenoriaethu gwaith ar ddileu’r clefyd yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer clefyd yr afu. Dylai’r cynllun gweithredu strategol, fan lleiaf un, weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C ar gyfer 2016 ar hepatitis C yng Nghymru. Wrth baratoi’r adroddiad hwnnw, canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod pobl sy’n dioddef o hepatitis C yng Nghymru yn cynnwys nifer anghymesur o bobl o’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, a daw tri chwarter y bobl sydd â’r feirws o’r ddau gwintel economaidd-gymdeithasol isaf. Canfuwyd hefyd fod eu hanfantais wedi’i waethygu gan stigma hepatitis C. Canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud wrth y rhai a gafodd ddiagnosis yn y 1980au i beidio â dweud wrth unrhyw un arall am eu diagnosis, a soniodd sawl un am y blynyddoedd o euogrwydd wedi’i fewnoli a’r cywilydd a ddeilliodd o hynny. Diolch byth, mae ein GIG wedi symud ymlaen o’r cyfnod cywilyddus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r stigma’n parhau. Mae gennym lawer gormod o bobl â hepatitis C sy’n sôn am yr ymdeimlad o euogrwydd a chywilydd a deimlant neu’r ffordd y maent, rywsut, yn teimlo’n fudr. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at wneud i’r unigolion hynny ymddieithrio o ofal yn gyfan gwbl, er eu bod yn ymwybodol o’u diagnosis—penderfyniad sy’n cynyddu’r risg o sirosis neu ganser yr afu yn fawr.

Er mwyn mynd i’r afael â stigma gorchfygol o’r fath a’r niwed anhygoel y mae’n ei wneud, mae adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn argymell y dylid cymryd camau i normaleiddio’r clefyd drwy gynnal ymgyrchoedd cadarnhaol ar y cyfryngau i dynnu sylw at y trawstoriad o bobl sy’n byw gyda’r feirws. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda’i gymheiriaid yng ngweddill y DU ac Ymddiriedolaeth Hepatitis C i gyflwyno ymgyrch o’r fath. Fodd bynnag, os ydym am gael gwared ar y stigma yn gyfan gwbl, mae’n rhaid inni sicrhau bod y bobl sy’n byw gyda’r feirws yn cael profiadau cadarnhaol wrth ymdrin â phob gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae pobl sydd â hepatitis C wedi sôn am y modd y trefnir bob amser iddynt gael triniaeth ddeintyddol olaf y dydd er mwyn rhoi amser, mae’n debyg, i bractisau deintyddol gyflawni arferion rheoli heintiau ychwanegol. Mae arferion o’r fath wedi peri i bobl deimlo eu bod yn creu perygl i bobl eraill ac mewn rhyw ffordd yn wahanol i weddill y boblogaeth. Mae’n rhaid rhoi diwedd ar hyn. Dylai mesurau rheoli heintiau ychwanegol fod yn ddiangen—dylai fod gan bractisau deintyddol ddigon o fesurau rheoli heintiau ar waith gyda phob claf i atal trosglwyddo pob feirws a gludir yn y gwaed.

Mae’n rhaid i ni addysgu nid yn unig y cyhoedd, ond ein gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd, ynglŷn â hepatitis C. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu argymhellion Ymddiriedolaeth Hepatitis C ac anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Gyda’n gilydd, gallwn ddileu’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr, Llywydd.

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan hefyd, yn arbennig, am gyflwyno’r ddadl hon, gan fy mod yn gwybod faint o waith rydych wedi’i wneud ar y mater hwn, Julie, ac rwy’n llwyr gefnogi’r sylwadau a’r cynigion a nodir yn y cynnig? Rwy’n credu y gallwn i gyd fod yn falch o’r record o ddiagnosis a thriniaeth hepatitis C yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus i gyflawni’r gwaith o ddileu’r clefyd erbyn 2030.

Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar drydydd pwynt y cynnig, ac yn benodol, hoffwn edrych ar faterion sgrinio gweithwyr gofal iechyd, yn enwedig llawfeddygon. I gefnogi hyn, hoffwn gyfeirio at achos etholwr i mi a gafodd ddiagnosis o fath prin o hepatitis C yn 2012. Roedd hi wedi bod yn dioddef symptomau ers sawl blwyddyn, ond profion ar gyfer hepatitis A a B yn unig a gafodd. Pan gafodd ei phrofi yn y pen draw ar gyfer hepatitis C, a chael diagnosis ohono, roedd ar fin cael sirosis yr afu. Ond roedd ei thriniaeth—er gwaethaf y sgil-effeithiau gwanychol, a’r stigma a ddioddefodd a’r rhagofalon y bu’n rhaid iddi eu harfer o fewn y teulu o ran y defnydd o frwsys dannedd ac offer arall yn y tŷ—yn effeithiol yn gyflym iawn. Ymatebodd i’r driniaeth o fewn mater o wythnosau, ar ôl cael gwybod y dylai ddisgwyl y byddai’n cymryd sawl mis, ac mae’n llawn o ganmoliaeth i’r driniaeth a gafodd ar y pwynt hwnnw. Ond yr hyn a oedd wedi aros yn ddirgelwch oedd sut y daliodd y salwch yn y lle cyntaf. Tuag at ddiwedd ei thriniaeth yn unig y nododd y nyrs arbenigol a oedd yn ei thrin ei bod hi hefyd yn trin llawfeddyg a oedd wedi rhoi llawdriniaeth i fy etholwr yn 1997.

Felly, ar ôl nodi ffynhonnell ei haint, ysgrifennodd GIG Cymru at oddeutu 5,000 o gleifion a gafodd driniaeth gan y llawfeddyg hwn, yn cynnig profion hepatitis C iddynt. Ymatebodd oddeutu 3,000 o’r cleifion hynny, ac o’r profion a ddilynodd, nodwyd bod pedwar claf arall wedi dal y feirws, bron yn sicr gan yr un llawfeddyg.

Llywydd, ers 2007, mae’n ofynnol i bob aelod o staff y GIG sy’n cyflawni triniaethau a allai arwain at gysylltiad gael eu sgrinio, ond nid oes gofyniad i sgrinio staff presennol sydd wedi bod yn ymarfer ers cyn 2007. Nawr, yn amlwg, lle y gwelir bod hep C ar unrhyw lawfeddyg sy’n gweithio, caiff ef neu hi ei wahardd rhag cyflawni eu dyletswyddau presennol. Ond nid oes unrhyw broses awtomatig o edrych yn ôl ar ymarfer y llawfeddyg yr effeithir arnynt i nodi a chysylltu â chleifion a allai fod wedi wynebu risg. Ni fydd edrych yn ôl o’r fath ond yn digwydd pan gaiff ei gymeradwyo gan banel ymgynghori’r DU, fel a ddigwyddodd yn achos fy etholwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae canllawiau panel ymgynghori’r DU ar gyfer gweithwyr gofal iechyd cyn 2007 yn gosod disgwyliad clir y bydd llawfeddygon yn mynd am brawf eu hunain os ydynt yn credu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd trosglwyddadwy.

Nawr, cyfeiriwyd at hepatitis C gan rai fel y lladdwr cudd. Nawr, mae’n ddadleuol pa un a yw hwnnw’n ddisgrifiad priodol, ond cafodd y label hwnnw oherwydd, yn aml, ni fydd y rhai sydd â’r clefyd yn gwybod ei fod arnynt, fel y clywsom eisoes, ac fel y clywsom hefyd, mae gennym 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yng Nghymru sy’n cario’r feirws, gyda’r mwyafrif ohonynt yn dal i fod heb gael diagnosis. Yn aml ni fydd yn achosi unrhyw symptomau a dim salwch, a gall hepatitis C lechu’n segur yng nghorff yr unigolyn am ddegawdau. Yn y cyd-destun hwn, mae’n eithaf tebygol na fydd llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gallu nodi mewn gwirionedd eu bod yn cludo’r feirws hepatitis C.

Nawr, yn ddiweddar, ysgrifennais at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ynglŷn ag amgylchiadau penodol fy etholwr, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyfyngu ar drefniadau iawndal ar gyfer dioddefwyr hep C, lle nad oes iawndal ar gael i gleifion a heintiwyd gan eu llawfeddygon, yn wahanol i’r rhai a heintiwyd gan waed halogedig. Nawr, dychwelaf at hynny rywbryd eto, oherwydd heddiw rwyf am ganolbwyntio ar yr agwedd sy’n ymwneud â dileu’r clefyd.

Felly, o ystyried y gydnabyddiaeth eang mai un o’r heriau mwyaf i ddileu’r clefyd erbyn 2030 yw i ba raddau y mae’n mynd heb ei ganfod, byddwn yn hoffi meddwl, gan adeiladu ar thema Mark Isherwood o ymestyn y ddarpariaeth sgrinio, pe gallai cyfundrefn sgrinio gweithwyr gofal iechyd ar sail fwy cynhwysfawr, gan gynnwys y rhai a oedd yn ymarfer cyn 2007, helpu i nodi achosion cudd ymysg ymarferwyr, ac felly eu cyn-gleifion o bosibl, byddwn yn awgrymu bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol iddo wrth ddatblygu ei strategaeth ar gyfer cyrraedd y targed uchelgeisiol ond cyraeddadwy iawn o ddileu’r feirws erbyn 2030.

Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Julie am gyflwyno’r cynnig hwn ac am y ddadl heddiw, a gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl fesurau sydd ar gael a allai helpu i ddileu hepatitis C yng Nghymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n hynod o falch o ymateb i’r ddadl heddiw gan yr Aelodau, a diolch i bobl am y modd ystyriol y maent wedi ymdrin â’r mater hwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn i bobl ledled Cymru, wrth gwrs, ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, gyda’r GIG, wedi gwneud camau mawr ymlaen yn trin a rheoli hepatitis feirysol, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod gan amryw o’r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n falch o gael y cyfle i siarad ychydig yn fwy am hynny heddiw. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â baich feirysau a gludir yn y gwaed ers mwy na degawd. Ariannwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed gennym hyd at 2014, a gosodasom y sylfeini ar gyfer y gwasanaethau hepatoleg hyd yn oed yn fwy llwyddiannus sydd gennym yn awr.

Pan ryddhawyd y cyllid hwnnw, gwnaed hynny ar y ddealltwriaeth y byddai byrddau iechyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau hyn ac yn datblygu adnoddau i atal a thrin hepatitis feirysol, ac rwy’n falch iawn fod gan Gymru rwydwaith hepatoleg clinigol cadarn ac effeithiol o dan arweiniad y Dr Brendan Healy, fel y dywedodd Julie Morgan yn ei chyflwyniad. Mae’r rhwydwaith yn cydlynu triniaeth y rhai y nodwyd eu bod â hepatitis B ac C. Rwyf am oedi yn y fan honno am ennyd i gydnabod, nid yn unig gwaith Dr Healy ond y rhwydwaith cyfan mewn gwirionedd, gan fod hyn yn rhywbeth nad oes gan gydweithwyr yn Lloegr mohono—nid oes ganddynt yr un ymagwedd unedig tuag at driniaeth, y ffordd y defnyddiwn driniaethau gwerth gorau, o ran cyllid a chanlyniad i’r dinesydd, ac mae rhai o’r cydweithwyr yn Lloegr yn edrych ar hyn gyda rhywfaint o, ni fyddwn yn dweud cenfigen yn unig, ond maent yn credu ei bod yn safon ac yn ymagwedd i anelu ati sy’n cael ei harloesi a’i harwain yn llwyddiannus gan ein clinigwyr yng Nghymru, ac mae’n bendant o fudd i gleifion yn hynny o beth. Mewn sawl ffordd mae’n fodel ar gyfer gwasanaethau ar draws y wlad—mae angen iddynt gydweithio a chydweithredu ar draws y wlad gyfan i gael dull unedig sy’n canolbwyntio mewn gwirionedd ar wella.

Cychwynnwyd y rhaglen hepatitis C i’w chyflwyno ar draws Cymru gyfan yn 2014, a rhan o hyn yw gwneud y defnydd gorau o’r don newydd o feddyginiaeth wrthfeirysol fwy effeithiol, yn enwedig meddyginiaeth ddi-interfferon, fel y dywedodd Julie Morgan. Dechreuodd hynny drwy fod yn ddrud iawn i’w drin ar y cychwyn, ond mewn gwirionedd, ceir arbedion sy’n llawer mwy hirdymor, yn ariannol, ond hefyd—i grybwyll fy etholwr Mr Thomas, sydd â theulu ifanc—gwelliant sylweddol o ran lles cyffredinol y bobl sy’n cael y driniaeth, ac nid yn unig yn yr ystyr feddygol, gyda chyfraddau gwella eithaf trawiadol i bobl yn sgil cyflwyno’r driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.

Rydym wedi trin mwy na 1,000 o gleifion yn y 18 mis diwethaf, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn awr wedi trin yr holl gleifion y gŵyr y gwasanaethau yng Nghymru amdanynt ac sy’n dal i gael gofal. Mae hwnnw’n gam hynod ymlaen a wnaed gan ein gwasanaeth. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod yna unigolion sy’n wynebu risg o ddal hepatitis B ac C nad ydynt yn defnyddio lleoliadau gofal iechyd traddodiadol, ac mae nifer o brosiectau eisoes yn cael eu datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn—a chafodd hyn eto ei gydnabod yn sylwadau pobl yn gynt yn y ddadl ar sut y cyrhaeddwn y bobl sy’n anodd eu cyrraedd ac nad ydynt bob amser yn defnyddio gwasanaethau gofal, naill ai’n unigol neu hyd yn oed yn gyson. Bydd y prosiectau hynny’n edrych ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth o haint hepatitis C, er mwyn darparu mynediad at brofion diagnostig symlach mewn lleoliadau cymunedol i’r rhai sy’n wynebu risg—ac unwaith eto, mae pwynt yma ynglŷn â datblygu ac nid sefyll yn llonydd yn ein gwasanaeth—a hefyd i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heintio yn gallu cael mynediad at driniaeth.

Mae’r prosiectau hyn, ynghyd â’r rhaglen hepatitis C a gyflwynir ar draws Cymru yn cael eu harwain a’u cyfeirio gan is-grŵp hepatitis feirysol Cymru y cyfeiriodd Julie Morgan ato, unwaith eto. Maent yn is-grŵp o’r grŵp gweithredu ar glefyd yr afu—un o’n teitlau byr a bachog unwaith eto yn y byd iechyd. Ond pwysigrwydd y grŵp hwn—ac mae’n wirioneddol bwysig—yw ei fod wedi’i ffurfio o glinigwyr, nyrsys arbenigol, cynrychiolwyr cleifion, y trydydd sector, fferyllwyr, staff labordy, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, staff diogelu iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, dyna un o nodweddion ein dull o weithredu yma yng Nghymru—mynd ati o ddifrif i fanteisio ar y ffaith y dylem, fel gwlad fach, allu dwyn ynghyd y grŵp cywir o bobl yn yr un ystafell i wneud dewisiadau gwirioneddol genedlaethol a disgwyl wedyn i hynny gael ei ddatblygu a’i ddarparu ar sail genedlaethol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi arwain ar y gwaith hwn ar draws pob sector ac sydd wedi cyfrannu at lwyddiant gwirioneddol y rhaglen hyd yn hyn.

Ar 28 Mai y llynedd, mabwysiadodd Cynulliad Iechyd y Byd, y corff sy’n gwneud penderfyniadau yn Sefydliad Iechyd y Byd, strategaeth sector iechyd fyd-eang ar gyfer hepatitis feirysol. Cyflwynodd y strategaeth honno y targedau byd-eang cyntaf erioed ar gyfer rheoli hepatitis B ac C feirysol, gan gynnwys y nod o gael gwared ar hepatitis feirysol erbyn 2030. Bydd cyflawni’r targedau hyn yn golygu bod diagnosis a thriniaeth hepatitis feirysol yn cael eu blaenoriaethu yn y gwasanaethau iechyd cyhoeddus.

Mae’n bleser gennyf gadarnhau eto heddiw wrth yr Aelodau fod Cymru wedi cytuno ac wedi ymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis B ac C. I adlewyrchu hyn, mae is-grŵp hepatitis feirysol Cymru wedi diwygio ei gylch gwaith ei hun i adlewyrchu’r arweiniad a’r canllawiau a fydd yn ofynnol ganddo er mwyn sicrhau bod y targedau dileu yn cael eu cyrraedd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd aruthrol yn erbyn y targedau hyn, ac mae’r is-grŵp yn datblygu fframwaith drafft o’r camau gweithredu y bydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf i gyflawni ein nod. Bydd swyddogion yn y Llywodraeth yn derbyn y fframwaith drafft y mis hwn. Rwy’n disgwyl iddynt gynnwys ystyriaeth o sut i ganfod a chynnal profion ar grwpiau anodd eu cyrraedd; profion a thriniaeth mewn lleoliadau cymunedol; a sicrwydd y bydd pawb sydd â’r haint yn cael cyfle i gael profion a thriniaeth. Bydd y fframwaith yn darparu’r sylfaen i ganllawiau ar y camau nesaf, a fydd yn cael eu dosbarthu i’r GIG yn ystod yr haf.

Mae gennym yr hyn sydd ei angen yma yng Nghymru i atal hepatitis B ac C, ac mae gan Gymru, ymhlith gwledydd eraill y DU, agenda ataliol gref. Mae gennym raglenni brechu effeithiol ac wedi’u targedu ar gyfer hepatitis A a B, ac mae’r nifer sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd yn 95 y cant. O fis Medi eleni, bydd brechlyn hepatitis B yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen arferol ar gyfer babanod, a chaiff ei gynnig i fabanod yn ddau, tri a phedwar mis oed. Mae pob menyw feichiog yn cael cynnig profion hepatitis B fel rhan o’r drefn sgrinio cyn-geni, ac mae pob baban a enir i famau sy’n cael canlyniad positif ar gyfer hepatitis B yn cael eu trin yn unol â chanllawiau clinigol. Rydym yn gallu atal feirws hepatitis B rhag cael ei drosglwyddo o fam i blentyn yn effeithiol drwy roi brechiad feirws hep B amserol adeg yr enedigaeth.

Fel y crybwyllodd Hefin David, mae gennym raglen gyfnewid nodwyddau eisoes sydd wedi’i sefydlu’n dda mewn fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau mynediad at gyfarpar chwistrellu di-haint a thriniaeth effeithiol ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau er mwyn atal a rheoli epidemigau o hepatitis B ac C feirysol. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion parhaus o drosglwyddo hepatitis C ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, ac felly rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o ganfod unigolion â hepatitis C yn y cymunedau hyn a darparu triniaeth.

I’r rhai sydd eisoes wedi’u heintio, mae meddyginiaethau drwy’r geg a oddefir yn dda a gweithdrefnau triniaethau newydd i bobl â haint feirws hepatitis C cronig yn gweld cyfraddau gwella o dros 90 y cant, fel y crybwyllodd Julie Morgan yn ei sylwadau. Ac mae’r driniaeth effeithiol honno ar gael hefyd i bobl â haint feirws hepatitis B cronig hefyd, er bod angen i driniaeth o’r fath bara drwy gydol oes y rhan fwyaf o bobl. Mae llethu’r feirws yn cyfyngu ar y niwed i’r afu, ac yn aml, niwed i’r afu sy’n peri i bobl golli eu bywydau. Mae’r triniaethau hyn yn lleihau’r perygl o gymhlethdodau hirdymor yn sgil hepatitis B ac C, yn cynnwys sirosis a chanser yr afu. O ganlyniad, caiff y gost i’r GIG ei lleihau, gan fod y cyflyrau hyn yn ddrud iawn i’w rheoli. Mae hefyd yn lleihau’r galw am drawsblannu’r afu—sydd unwaith eto yn llawdriniaeth gostus a chymhleth ac yn adnodd y mae galw mawr amdano. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu ein bod o leiaf yn gweld tuedd ar i lawr yn nifer y trawsblaniadau afu a marwolaethau. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym wasanaethau ardderchog ar y cyfan, gydag arbenigedd profedig i arwain a chefnogi hyn, ac y gall y rhai sy’n wynebu risg fod yn hyderus y manteisir ar bob cyfle i ddarparu ar gyfer eu gofal. Byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd drwy’r is-grŵp hepatitis feirysol, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwaith hwn.

Mae’n bleser i godi ac i gloi’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. A allaf i longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan? Ac wrth gwrs, beth sydd o’n blaenau ni ydy hanes llwyddiant ysgubol yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Nôl yn y dyddiau pan oeddwn i’n fyfyriwr meddygol ifanc, llachar—cwpwl o flynyddoedd yn ôl—roeddem ni’n sôn am hepatitis A, hepatitis B ac wedyn hepatitis ‘non-A’ a ‘non-B’. Ers hynny, rydym ni wedi darganfod sawl firws arall: hepatitis A, B, C, D, E—gwahanol is-grwpiau o’r rheini i gyd.

A hefyd, nid yn unig rydym ni wedi darganfod mwy o fathau, ond rydym ni wedi gallu eu trin nhw hefyd. ’Slawer dydd, roeddem ni’n darganfod llid ar yr afu—hepatitis—ond nid oeddem ni’n gallu gwneud unrhyw beth amdano fe; nid oedd yna driniaeth. Mae’r tirlun wedi newid yn syfrdanol, ac weithiau yng nghanol yr holl gwyno sy’n mynd ymlaen ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd ac ati, rydym ni’n anghofio’r pictiwr mawr: mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y cefndir. Mae’r gallu gyda ni rŵan i gael gwared â hepatitis C a hepatitis B. Mae’r dechnoleg gyda ni, ac mae’r cyffuriau gyda ni.

Rydw i’n falch bod fy nghyd-Aelodau am gefnogi’r cynnig sydd gerbron, sydd yn naturiol yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau eu hymrwymiad—ac rydw i’n clywed geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n diolch iddo fe o waelod calon amdanyn nhw—a hefyd yr ystyriaethau eraill sydd gerbron. Felly, i ddechrau, rydw i’n diolch i Julie Morgan am ei hamlinelliad gwych o’r clefyd yma ar y dechrau, a hefyd yn ei llongyfarch hi ar ei gwaith fel cadeirydd y grŵp haemoffilia. Wrth gwrs, mae nifer o’r ffactorau yn fan hyn yn trawstorri’r ddau bwnc, megis. Ac rydw i hefyd yn llongyfarch Mark Isherwood ar ei gyfraniad yntau, a Rhun hefyd.

Ac wrth gofio am gyfraniad Hefin David, ie, mae hi yn gallu cymryd sawl blwyddyn i’r clefyd yma ddod i’r amlwg, achos mae o yn glefyd annelwig—mae e’n anodd iawn. Rydych chi’n gallu cwestiynu a chwestiynu pobl, ac nid yw pobl yn cofio os ydyn nhw wedi cael rhyw amser pan oedden nhw gyda blinder mawr, affwysol. Nid ydym ni’n cofio. Mae pethau’n mynd nôl yng nghymylau amser, mae pethau’n mynd yn angof. Ac wedyn, mae hi yn anodd gwneud y diagnosis, yn aml, os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y bobl hynny, fel sydd wedi cael ei olrhain gan nifer ohonoch chi: carcharorion, y sawl sy’n brechu cyffuriau ac ati. A dyna pam mae’r rhaglenni yna sydd yn darparu nodwyddau glân mor allweddol i gael gwared ar y clefyd yma—ac fe wnaeth hynny gael ei olrhain hefyd gan Hefin David.

A gaf i ddiolch hefyd i Caroline Jones ac i Dawn Bowden am eu cyfraniadau, a hefyd wrth gwrs, fel rydw i wedi cyfarch eisoes, i’r Ysgrifennydd Cabinet am olrhain y drefn arbennig sydd gyda ni yma yng Nghymru? Mae Cymru ar y blaen, rŵan. Rydym ni, yn eithaf aml, yn cymharu ein hunain yn anffafriol yn y wlad yma gyda gwledydd eraill, ond mae Cymru ar y blaen pan mae’n dod i faterion fel hepatitis C. Achos mae’n aros yn her, er ein bod ni’n gallu cael gwared ohono fe. Achos, fel rydym wedi clywed eisoes, rydym yn trin y bobl yna yr ydym wedi eu hadnabod eisoes. Y pwynt yw, nid ydym yn adnabod 50 y cant o’r bobl. Hynny yw, mae yna waith i’w wneud i adnabod a darganfod y bobl sydd â’r clefyd yma.

Mae’n rhaid inni fynd i’r afael efo’r stigma ac mae’n rhaid inni gael gafael—. Hynny yw, mae pobl ofn, weithiau, dod i weld meddyg achos mae gyda nhw fywydau sydd yn anodd, yn ddi-drefn, a hefyd maen nhw’n credu bod pobl yn mynd i’w beirniadu nhw am beth maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol. Felly, mae yna her yn y fan yna i ni fynd i’r afael efo’r systemau yna i gyd.

Ond, yn y bôn, pan fydd rhywun yn gallu cyplysu blinder affwysol efo’r posibilrwydd eu bod nhw wedi cael eu heintio gan waed halogedig, mae’n rhaid inni feddwl am y posibilrwydd bod llid ar yr afu math C gyda nhw. Dyna yw’r her i ni fel meddygon a nyrsys: i fod yn ymwybodol o hynny. Ond, hefyd mae yna her, unwaith ein bod ni’n darganfod pobl, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n parhau efo’r driniaeth. Pan mae gyda chi fywyd anodd, sy’n llawn heriau, yn llawn anhrefn, mae’n anodd cadw i fyny efo’r driniaeth hefyd.

Mae yna sawl her, ond, gan groesawu’r cyfraniadau i gyd yr ydym wedi eu clywed y prynhawn yma, a hefyd croesawu ymateb y Llywodraeth, mae’r wlad yma ar y blaen pan mae’n dod i faterion yn ymwneud â hepatitis C. Mae’r dechnoleg gyda ni, mae’r triniaethau gyda ni, ac awn amdani. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru'

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins, y Cadeirydd, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6329 Bethan Jenkins

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Y Darlun Mawr—Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i’r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar adroddiad cychwynnol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddarlledu yng Nghymru, ‘Y Darlun Mawr’, a diolch yn fawr i’r clercod ac i’r Aelodau Cynulliad o bob plaid am eu gwaith caled ar y pwyllgor.

Er gwaethaf diffyg pwerau ffurfiol y Cynulliad yn y maes hwn ar hyn o bryd, rwy’n credu bod yna gonsensws nawr bod angen i’r BBC a sefydliadau cyfryngau eraill sy’n gweithredu yng Nghymru fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran eu cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau yng Nghymru. Mae gan ddarlledwyr ddylanwad diwylliannol a gwleidyddol enfawr yng Nghymru, ac mae absenoldeb amlwg cyfryngau masnachol a phrint cryf yn y wlad hon yn golygu bod craffu cyhoeddus ar eu rôl yn bwysicach fyth. Er ein bod yn disgwyl ac yn croesawu i ddarlledwyr a’r cyfryngau ein dwyn i gyfrif fel gwleidyddion, mae gan y Cynulliad fuddiant clir a dilys o ran dwyn darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eu hunain i gyfrif. Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus rwymedigaeth ddiwylliannol clir i bortreadu Cymru a chymdeithas Cymru mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r wlad hon ac yn dangos i ddinasyddion yma, yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, pwy ydym ni fel cenedl. Rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn darparu’r ffocws angenrheidiol ar gyfer dwyn ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyfrif.

The report before us today is not the result of a specific committee inquiry. Instead, after taking evidence from a number of key figures and organisations in broadcasting, both within and outside Wales, it summarises our initial views on some of the key issues. It is our first contribution to what I hope will be a continuing debate about whether Wales gets the media it deserves. It provides a foundation for the more focused work that we have already started and intend to undertake throughout this Assembly. For instance, we have conducted an inquiry on the future of S4C—we are conducting an inquiry, I should say—and we hope to publish our conclusions before the summer recess in order to influence the outcome of the, we hope, imminent DCMS review of S4C’s future funding and remit.

We are concerned at the continuing decline of local media and local journalism in Wales, and we have also started an inquiry in this area, which I hope will recommend real, lasting solutions.

The role of radio in Wales needs more consideration. Some of the most popular public and commercial radio stations operating in Wales provide very little specific Welsh content or Welsh news. This is another area where we intend to do more detailed work.

Bydd yr Arglwydd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor unwaith eto ar 28 Mehefin. Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mawrth eleni, ailadroddodd yr Arglwydd Hall ymrwymiad i gyllid ychwanegol ar gyfer darlledu Saesneg yng Nghymru. Ynghylch faint y dylai'r cyllid ychwanegol fod, rydym yn argymell, fel pwyllgor blaenorol y Cynulliad, y Sefydliad Materion Cymreig a Llywodraeth Cymru ei hun, y dylai £30 miliwn yn ychwanegol gael ei ddarparu bob blwyddyn. Byddai cyllid ychwanegol ar y lefel hon o bosibl wedi caniatáu dyblu'r allbwn ac i’r BBC gynhyrchu rhaglenni o ansawdd sydd â siawns well o ennill lle ar rwydwaith y BBC.

Since we reported, Lord Hall has responded with an additional £8.5 million for English language broadcasting in Wales. While any increase is of course welcome, I am personally disappointed that this is significantly less than the £30 million that the committee has called for. I am also disappointed that the extra funding for Wales was considerably less than the extra £40 million that BBC Scotland is set to get, including funding for an additional television channel devoted to Scotland, especially when Ofcom told us—to our committee—that Scotland was over-indexed when financing for network was concerned. Whether Wales needs a dedicated channel is a matter for debate, which we haven’t yet had, but the disparity in the amount of extra funding is significant and needs further explanation. I am sure that the committee will ensure Lord Hall provides those explanations in two weeks’ time.

Mae'n deg nodi bod Cymru wedi sicrhau mwy na'i chyfran o'r boblogaeth o wariant gan y BBC yng Nghymru. I raddau helaeth, mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant sylweddol Porth y Rhath a'r rhaglenni sy'n cael eu gwneud yno. Fodd bynnag, nid yw llawer o'r gwariant hwn yn cyfrannu at adlewyrchu hunaniaeth a safbwynt unigryw Cymreig. Mae gennym bryderon am ddyfodol Porth y Rhath ar ôl i gomisiynau wedi'u gwarantu gan y BBC ddod i ben. Mae hefyd pryderon newydd gennym ynglŷn â’r ffaith bod ‘The Wales Report’ yn dirwyn i ben a bod angen ailgomisiynu’r rhaglen wleidyddol honno. Mae angen mwy o raglenni gwleidyddol, nid, efallai, glastwreiddio’r rhai sydd gennym ni yn barod.

Ar y radio, nid yw allbwn newyddion gorsafoedd radio poblogaidd y BBC fel Radio 2 a Radio 1 yn gwneud llawer i hyrwyddo'r agenda newyddion unigryw yng Nghymru—a gwnaethom ni weld hyn yn ystod yr etholiad cyffredinol yma hefyd—ac yn aml gall atgyfnerthu neu greu mwy o ddryswch ynglŷn â chyfrifoldeb dros benderfyniadau gwleidyddol ar draws gwledydd ac o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rydym ni wedi argymell slot newyddion lle ceir optio allan i Gymru ar gyfer Radio 2 a Radio 1. A bydd hyn, yn ôl yr hyn yr ydym ni’n ei ddeall, yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad newyddion y BBC ac edrychaf ymlaen at gael gweld y canlyniad o hynny.

With regard to BBC support for local journalism, we are glad that the BBC is actively looking at ways of helping to improve the scrutiny of local democracy in the UK. However, we do have reservations about how they are approaching this. This is an area that we intend to scrutinise further as part of our inquiry into local journalism in Wales. I think—for my part anyway—I have reservations here about, if journalists are embedded in places like Media Wales, whether they would see that the BBC funding would potentially accommodate them, being able to take back some of those positions that they currently have in those organisations. We would not want to see that happen on any level, and I would hope the Minister would agree on that.

O ran llywodraethu’r BBC, roedd gan y pwyllgor nifer o bryderon am y trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer y BBC. Er enghraifft, ni fydd cyfarwyddwr BBC Cymru mwyach yn aelod o brif fwrdd y BBC; nid oes digon o bwys wedi cael ei roi i farn y gynulleidfa yn strwythurau llywodraethu newydd y BBC; ac ai swydd y cyfarwyddwr gwledydd a rhanbarthau’r BBC a atgyfodwyd yw'r ffordd orau ymlaen, gan nad ydym wedi'n hargyhoeddi y gall un unigolyn gyflawni'r rôl hon yn effeithiol. Efallai bydd newyddion gan Lord Hall yn gallu gwneud inni feddwl yn wahanol, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni’n credu bod hynny’n ddigon cryf.

Pre-appointment hearings: I know Lee Waters has been leading the charge on this. We are, however, pleased to note that the consent of the Welsh Government is now needed before the new BBC board member for Wales can be appointed. But our report recommended that there should be a pre-appointment hearing for this post, and that the nominee should answer questions from the committee before Welsh Ministers decide whether to give their consent to the person nominated. Since our report was published, the Welsh Government has, of course, withheld its consent to the appointment of the candidate nominated for this role. The appointment process, I understand, is therefore being re-run. The Welsh Government’s response to our report has accepted the principle of a pre-appointment hearing. So, there does not seem to me to be any practical reason why the Minister cannot give a simple undertaking here today that he will not give his consent to an appointment until there has been an opportunity for a committee hearing with the nominated candidate. This would not remove Ministers’ prerogative to confirm that appointment, but it would allow them to consider the views of the committee before making that decision.

Fel y soniais yn gynharach, mae'r pwyllgor wrthi'n cynnal ymchwiliad i adolygiad DCMS o gylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C. Felly, nid wyf yn bwriadu mynd i mewn i’r manylion hynny heddiw. Ond rŷm ni wedi dweud bod toriadau termau real i gyllideb S4C ers 2010 yn ddifrifol ac yn anghymesur. Mae'r toriadau hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae 57 y cant o raglenni S4C yn awr yn ailddarllediadau. Mae hyn yn llawer rhy uchel ac yn fater o gryn bryder i'r pwyllgor.

Mae S4C wedi bod yn barod iawn i ymddangos gerbron pwyllgorau'r Cynulliad. Er y croesewir hyn, ni fyddem yn disgwyl dim llai. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn bod S4C wedi cydnabod ei hatebolrwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol ac wedi cytuno i ffurfioli'r berthynas drwy osod ei hadroddiadau blynyddol a'i chyfrifon archwiliedig gerbron y Cynulliad. Bydd y cynnig yr ydym yn ei drafod heddiw yn galluogi gosod y dogfennau hynny gerbron y Cynulliad yn y dyfodol ac yn darparu ffocws rheolaidd ar gyfer craffu ar S4C gan y pwyllgor a'r Cynulliad.

In the time I have left, I will briefly mention ITV Wales. They may be part of a private company, but it is still very much a public service broadcaster with obligations to the public it serves. ITV has pointed out that it is exceeding its licence requirements for audiences in Wales. While that may be true, the independently owned channel 3 service in Scotland, again, has increased its non-news provision in recent years, while ITV Cymru Wales’s provision has declined. I would urge ITV to think about putting more of a proactive stance on providing more Welsh-specific output. While we can commend them for programmes like ‘Aberfan’ on network, I think there is much more to be done.

Well, I was going to declare an interest because my brother is a journalist on ‘Channel 4 News’, but he may be grateful to know that I am not going to speak any more, to let other Members come in. I am sure that other Members can also talk about Ofcom and their new roles in relation to the BBC and their future role here in Wales.

Diolch yn fawr iawn i’r Aelodau sydd wedi bod yn rhan o’r drafodaeth. Gobeithio y gallwn gael mwy o drafodaethau yn y dyfodol.

Rwy’n mynd i’ch siomi yn y fan honno, Bethan—nid wyf yn mynd i ddechrau siarad am Ofcom. Ni fydd gennyf amser yn fy nghyflwyniad byr, mae arnaf ofn. Roeddwn am bwysleisio i gychwyn, mewn gwirionedd—er fy mod yn diolch i’r pwyllgor a’r staff am eu gwaith ar hyn—ei fod yn bwyllgor arloesol iawn, yr un rydym yn aelodau ohono ar hyn o bryd. Roeddwn eisiau sôn am hynny am eiliad, fel y dywedais. Mae’r adroddiad hwn, fel y clywsoch, yn adroddiad ar safbwyntiau cychwynnol. Mae’n ddechrau ar gyfres pan fyddwn yn holi cwestiynau ynglŷn â stori’r cyfryngau darlledu mewn ffordd inni allu mesur ein dylanwad mewn gwirionedd ar gynnydd y stori honno dros y—wel, fe fydd yn bedair blynedd bellach, ond pum mlynedd i gyd. Oherwydd mae’n hawdd i ni, fel Aelodau, i lithro i batrwm o graffu yn y tymor byr gan nad oes llawer ohonom. Bydd yna bob amser waith newydd a phwysig i’w wneud, ac nid yw asesu ein hetifeddiaeth fel pwyllgor—unrhyw bwyllgor, mewn gwirionedd—fel seneddwyr yn rhywbeth y gallwn roi cymaint o amser iddo ag y gallai fod angen i ni ei wneud. Mae’n cyfyngu ar ein gallu i brofi i bobl Cymru ein bod ni, y Cynulliad, â gallu i wneud cynrychiolaeth yn offeryn gweithredol. Mae cynrychioli etholwyr yn golygu mwy na rhestru enwau yma yn y Siambr, neu ddefnyddio mater penodol fel pêl fas wleidyddol. Eto i gyd, mewn gwlad fach o ran ei chyfryngau, mae’n anodd ceisio adeiladu unrhyw fath o fomentwm o ddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn y gall y Cynulliad ei gyflawni ar ran ein etholwyr—boed yn wella polisïau a deddfwriaeth y Llywodraeth, ie, ond drwy gael ein sector cyhoeddus, ein sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal â phawb yng Nghymru fel unigolion, i ystyried ein hymddygiad, ein hawliau, ein cyfrifoldebau mewn gwirionedd—yn wir, eu grym, os mynnwch. Felly, rwy’n cymeradwyo’r pwyllgor hwn o ddifrif. Gwn fy mod yn rhan ohono, ond rwy’n meddwl bod hyn yn arweiniad mor dda ar gyfer edrych ar y mater yn hirdymor a dechrau ar waith llawer hwy yn yr achos hwn ar y—[Torri ar draws.] Wel, dim ond y gorau sydd ar y pwyllgor hwn.

Nawr, pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn—yr adroddiad cychwynnol hwn, cofiwch—fe achosodd ychydig o gynnwrf, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da. Nid oes yr un ohonom yn dymuno bod yn wrthwynebus yn y pwyllgor; rydym yn gwerthfawrogi’r dystiolaeth a roddodd y tystion i ni. Ond mae cyn lleied o chwaraewyr yn ein cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel bod yr hyn a ddisgwylir gan bob un ohonynt gymaint yn fwy. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod y toriadau ariannol wedi arwain at ganlyniadau, ac nid yw’r adroddiad hwn yn celu rhag rôl Llywodraeth y DU yn hynny, ond rydym hefyd yn cydnabod bod gan y BBC gyfrifoldeb uniongyrchol dros y penderfyniadau sy’n effeithio ar BBC Cymru ac S4C, ac mae nifer o’n hargymhellion, fel y gwelwch, at sylw uniongyrchol y BBC yn genedlaethol. Ac rwy’n meddwl y bydd yn ddiddorol gweld sut y gall y Cynulliad hwn ddylanwadu ar gorff nad yw’n atebol i ni na Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd.

Nawr, mae’r adroddiad hwn yn rhoi awgrymiadau cynnar ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir yn benodol gan y BBC o ran y portread o Gymru ac yn bwysicach, cyrhaeddiad y portread hwnnw ar y rhwydwaith. Mae hefyd yn cyfeirio at wariant y BBC yng Nghymru, ar bethau fel Roath Lock yn bennaf, er nad hynny’n unig—wyddoch chi, y ganolfan gynhyrchu drama genedlaethol—ac ni ellir gwadu bod y newyddion yno, wrth gwrs, yn eithaf da. Hynny yw, mae’r arian sy’n cael ei wario yno yn fwy na rhywbeth tybiannol sy’n cyfateb i fformiwla Barnett, os mynnwch chi. Ond nid oedd y gwariant cystal ar y pryd ar ddrama Saesneg a oedd am Gymru mewn rhyw ffordd amlwg. Roedd hynny’n sicr yn destun pryder, ac wrth gwrs, roedd yr adolygiad o’r siarter ar fin digwydd ar y pwynt hwnnw, a newyddion da wedi’i addo. Nawr, rydym yn gwybod beth oedd canlyniad yr adolygiad o’r siarter, ac mae Bethan wedi sôn amdano. Ein hymateb ehangach i hynny fydd un o’r penodau nesaf yn y gyfres barhaus hon, ac fel y clywsom, rydym yn cymryd tystiolaeth gan Tony Hall mewn oddeutu pythefnos, rwy’n meddwl.

Nawr, Bethan, rydych wedi datgelu’r prif sbwylwyr, ond roeddwn eisiau sôn bod yr £8.5 miliwn ychwanegol ar gyfer drama Saesneg wedi dod gyda’r nod y byddai hanner unrhyw raglenni newydd a dyfir o hyn yn cael eu darlledu ar draws y DU, sef y rhwydwaith, nid yma yng Nghymru yn unig. A phan gofiwch fod y swm yr un fath, neu hyd yn oed ychydig yn llai nag y mae’n debyg y bydd gofyn i BBC Cymru ei arbed o ystyried y setliad ariannol nad yw wedi’i godi gan Lywodraeth y DU i’r BBC, nid yw’n edrych fel arian ychwanegol o gwbl, nac ydy? Mae’n edrych fel arian wedi’i ailgylchu, ond gyda rhai cyfarwyddiadau wedi’u hatodi ar sut i’w wario. Rydym wedi clywed bod y buddsoddiad yn yr Alban oddeutu pedair gwaith yn fwy, ac rwy’n credu y bydd yn ddiddorol gweld sut y gall y BBC ei hun fod yn sicr fod ei ymrwymiad siarter i gynrychiolaeth wedi’i chydbwyso’n well, gan gynnwys y modd y portreadir y gwledydd a’r rhanbarthau, a sut olwg fydd ar hynny yn y pen draw mewn gwirionedd pan fo rhai cenhedloedd, os caf ddweud, a rhanbarthau yn gwneud yn llawer gwell yn ariannol nag eraill, er gwaethaf y cyllid gwaelodol a ymgorfforwyd yn y siarter.

I orffen, rwy’n meddwl y dylem ddweud hefyd na wnaethom gilio rhag ceisio darganfod a oedd y darlledwyr hynny yng Nghymru yn mynd i wneud rhywbeth heblaw colli dagrau ynglŷn â dod i ben â chyn lleied a oedd ganddynt, neu a oeddent, yn wir, er gwaethaf y toriadau llym, yn barod am yr her o wynebu’r toriadau hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud eu bod wedi gwneud hynny. Ac rwy’n meddwl y gallai hefyd fod yn deg dweud ein bod yn dal heb gael peth o’r sicrwydd y chwiliem amdano. Wrth i ni geisio cael mwy o gynyrchiadau BBC Cymru ar rwydwaith y BBC, roeddem yn galw am hynny hefyd gan ITV Cymru ar rwydwaith ITV, a gwyddom yn y ddau achos fod natur ac ansawdd y rhaglenni’n allweddol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud—mae’n ddrwg gennyf, rwy’n gwybod fy mod yn brin o amser—fod ITV wedi ymateb i’r her; enillodd ‘The Aberfan Young Wives Club’ wobr ar y rhwydwaith teledu cenedlaethol, felly nid wyf am glywed unrhyw dynnu’n ôl gan ITV Cymru ar hyn. Ac rwy’n credu fy mod am ei gadael yn y fan honno. Mae gennyf bethau tebyg i’w dweud, ond rwy’n sylweddoli fy mod yn ei mentro hi gyda chi. [Chwerthin.] Diolch.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig yma ar y ddogfen hardd yma, ‘Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’, ac, fel mae’r Cadeirydd doeth, cadarn, aeddfed—Bethan yn fan hyn—wedi crybwyll eisoes, dechrau ar y daith yr ŷm ni yn fan hyn nawr, achos—. A’r cefndir, yn naturiol, ydy’r portread o Gymru ar ein rhwydweithiau, fel y BBC ac ITV ac ati. Ac wrth gwrs, y cefndir ydy nid ydym ni’n credu bod yna fawr o bortread o Gymru—mae yna le i gael llwyddiant syfrdanol. Mae pobl wastad wedi dweud wrthych ar stepen drws, gan ein bod ni wedi bod ar stepen ambell ddrws yn ddiweddar, yn cwyno am ddiffyg sylw Cymru yn gyffredinol—‘Cymru wastad yn cael ei hanwybyddu’, yr oeddwn i’n ei glywed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, rhan o hynny ydy’r diffyg sylw penodol i Gymru ar y BBC ac ati, ond hefyd y ffaith bod y cyfrwng printiedig, ein papurau newydd ni, mor affwysol o wan yma yng Nghymru hefyd. Nid oes yna braidd neb ar ôl sydd yn dal i ddarllen y ‘Western Mail’ ac ati.

Nawr, yn nhermau—. Gan ein bod ni yn nodi’r adroddiad yma yn y cynnig, gwnaf i lynu wrth yr adroddiad a chanolbwyntio ar argymhellion 1, 2 a 3. Mae Bethan wedi cyfeirio eisoes at yr angen i wario mwy o bres yma ar ran y BBC. Fe fuon ni i gyd rownd stiwdios y BBC yma, dros y ffordd, ac mae’n hyfryd gweld yr holl arian sy’n cael ei wario ar wneud ‘Casualty’ a ‘Meddyg Pwy’— ‘Doctor Who’—ond nid yw e wastad yn glir o’r rhaglenni yna eu bod nhw’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru o gwbl, a dweud y gwir. Rydw i wedi gwneud y pwynt o’r blaen: nid fy mod i’n gofyn am daleks dwyieithog, ond efallai, o bryd i’w gilydd, dylai’r rhaglenni yna o leiaf olrhain eu bod nhw yng Nghymru. Achos mae pob ysbyty arall yng Nghymru efo arwyddion dwyieithog, megis; gallai’r ysbyty yn ‘Casualty’, efallai, adlewyrchu’r wlad lle mae’n cael ei wneud. Mae’r pwynt yna’n bwysig achos rydym ni’n colli pres, fel mae Suzy newydd ddweud, ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg achos efallai ei fod e’n cael ei wario yn y fan hyn. Mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru yn yr iaith Saesneg. Fe ddof i nôl at hynny os bydd yna amser.

Yn y bôn, mae angen mwy o bwyslais ar bortreadu Cymru neu fe fydd yna ganlyniadau. Rydym ni wedi cael y canlyniadau, megis yn y refferendwm Brexit y llynedd, sef nad oedd yna fawr neb o’n trigolion yn sylweddoli bod Cymru yn elwa o fod yn aelod o Ewrop. Buasai gwasg a phortreadu mwy clyfar, gwir o beth sy’n digwydd yma yng Nghymru wedi ei gwneud yn eglur taw’r syniad gorau buasai pleidleisio i aros i mewn yn Ewrop. Roedd y rhan fwyaf o’n pobl yn dilyn yn llafurus iawn y wasg brintiedig a’r cyfryngau torfol sy’n deillio o Lundain. Ac wrth gwrs, fel y mae’r Cadeirydd eisoes wedi dweud, mae mwy o bobl yn gwrando ar Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru na sydd, yn anffodus, yn gwrando ar Radio Cymru neu Radio Wales. Efallai y buasai’n syniad petai Radio 1 a Radio 2 yn eu slot newyddion yn sôn am Gymru rhywbryd. Slot bach a fyddai’n neis, ontefe, yn lle ein hanwybyddu ni yn gyfan gwbl. Dyna her i’r BBC, felly. Achos y tro diwethaf roedd y meddygon iau ar streic—ac mi fuon nhw ar streic cwbl o weithiau y llynedd—roedd pobl sydd ddim yn arfer gwrando ar ein cyfryngau ni yma yng Nghymru, fel rhai o’n meddygon iau ni yn Ysbyty Treforys, yn credu eu bod nhw ar streic hefyd. Wrth gwrs, rydym ni mewn gwlad wahanol yn y fan hyn, ac nid oedd ein meddygon ni ar streic. Felly, dyna pam mae angen darparu’r wybodaeth iawn neu fe fydd pobl yn camgymryd.

Dathlwn fodolaeth S4C, yn naturiol. Rydym ni’n cefnogi’u bwriad nhw i esblygu yn aml-blatfform. Mae’n adlewyrchu Cymru yn y Gymraeg. Dyna pam mae’n bwysig bod gennym ni ryw fath o blatfform sy’n adlewyrchu Cymru yn yr iaith Saesneg, ac mae hynny yn dal yn ddiffygiol.

Yn nhermau amser, gwnaf orffen efo bwriad y BBC i gael gwared ar ‘The Wales Report’. Sut mae hynny’n mynd i wella’r portread o Gymru, beth sy’n digwydd yn y fan hyn, ein gwleidyddiaeth ni, yr ‘issues’ rydym ni’n eu trafod o hyd, a phan fydd pobl yn dweud, ‘Smo ni’n gwybod pwy sydd yn y Senedd. A ydych chi’n Aelod o’r Cynulliad? ‘Smo ni’n gwybod’? A beth yw’r adwaith? Cael gwared ar ‘The Wales Report’. Gwarthus. Mae angen ailedrych ar hynny, achos mae pobl yn cwyno allan fanna nad ydyn nhw’n gwybod beth rydym ni’n ei wneud. A beth sy’n digwydd? Rydym ni’n cael gwared ar un rhaglen sy’n dweud wrth bobl beth rydym ni’n ei wneud.

Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

Wel, Llywydd, roeddwn yn bwriadu dechrau fy sylwadau drwy ddweud fy mod yn cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud hyd yn hyn, ond rwy’n ofni bod y modd y llithrodd Dai Lloyd i ddadl Ewropeaidd funud neu ddwy yn ôl yn fy atal rhag gwneud hynny, yn anffodus. Mae’n un o’r ychydig iawn o destunau rydym yn anghytuno yn eu cylch ar y pwyllgor. Dechreuodd Bethan Jenkins ei haraith yn gynharach, ar awtistiaeth, drwy roi molawd i Mark Isherwood am ei ran yn rhedeg y grŵp trawsbleidiol, a hoffwn ddechrau fy araith i drwy roi molawd iddi hi am y modd rhagorol y mae hi wedi cadeirio’r pwyllgor. Yn wir, fel y dywedodd Suzy, rydym yn griw hapus ac yn naturiol gydsyniol, o leiaf o fewn cyfyngiadau cul y pynciau a drafodwyd gennym. Ceir cytundeb cyffredinol yn y pwyllgor ar ein dull o fynd ati ar y materion a drafodwyd gennym.

I raddau helaeth iawn mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac mae hon yn elfen bwysig yn y ddadl am rôl addysgol y sefydliadau darlledu ac yn wir, y cyfryngau print a’u fersiynau ar-lein. Cyfeiriodd Dai funud yn ôl at y ffaith nad adroddir fawr ddim ar yr hyn a wnawn yn y lle hwn, ac ychydig iawn o drafodaeth go iawn a geir am faterion difrifol. Nid wyf yn cytuno mewn gwirionedd â’r hyn a ddywedodd hefyd am bobl yn dilyn yr hyn a ddywedir yn y papurau newydd er mwyn gwneud penderfyniadau ar, er enghraifft, pa un a ydynt o blaid Brexit ai peidio. Mae pobl yn gyffredinol yn tueddu i brynu papurau newydd, rwy’n credu, i atgyfnerthu eu rhagfarnau yn hytrach na’u herio. Felly, nid wyf yn credu bod llawer o le i bapurau newydd newid barn pobl. Ond rwy’n teimlo—ac nid yw hon yn feirniadaeth rwy’n ei hanelu at Gymru yn hytrach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig—ein bod wedi cael cam go iawn gan ein sefydliadau cyfryngol nad ydynt yn cynnwys fawr ddim gohebiaeth wleidyddol ddifrifol o gwbl mewn gwirionedd. Oni bai fy mod yn cael fy ngalw i drefn gan y Llywydd yn y lle hwn, mae’n anodd iawn cael sylw’r wasg o gwbl, ac yn sicr nid ynglŷn ag unrhyw beth synhwyrol y gallwn ei ddweud. [Chwerthin.] Nid fy mod yn gwahodd y Llywydd i wneud hynny unwaith eto, ond mae’n ymddangos mai felly y mae, fod y cyfryngau’n tueddu i ganolbwyntio ar y pethau dibwys yn hytrach na’r materion pwysig, felly ni cheir gohebu gydag unrhyw ddyfnder yn perthyn iddo o gwbl, sy’n drueni mawr.

Rwy’n credu, ar gyfer ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fod dyletswydd gadarnhaol arnynt i godi lefel y drafodaeth ac i gyflawni swyddogaeth addysgol. O ran rôl y BBC, hoffwn wneud yr hyn rwy’n ei ystyried yn bwynt syml, sef ein bod wedi ein dosbarthu’n rhan o wledydd a rhanbarthau’r DU, ond rwy’n credu y dylai gwledydd gael eu trin ar lefel bwysicach na rhanbarthau, ac mae dimensiwn diwylliannol gwlad yn llawer pwysicach. Gwn y byddai pobl Swydd Efrog yn anghytuno â hyn yn ôl pob tebyg ac maent yn ystyried eu hunain fel gwlad Duw ei hun, ond serch hynny, mae gennym y pedair gwlad ac rwy’n credu y dylent gael cyfran anghymesur o’r adnoddau. Ni ddylai fod yn seiliedig ar boblogaeth neu unrhyw beth felly.

Cyfeiriodd Suzy yn ei haraith, fel yn wir y gwnaeth Bethan, at y gwahaniaeth yn y cyllid rhwng Cymru a’r Alban. Nid wyf yn arbennig o awyddus i amddifadu’r Alban o unrhyw beth sydd ganddi ar hyn o bryd, ond rwy’n credu, fel gyda fformiwla Barnett yn gyffredinol, fod Cymru’n cael llai nag y dylai ac mae angen mynd i’r afael â hynny. Rwy’n gwybod bod hyn yn digwydd i raddau gyda phenderfyniadau ariannu diweddaraf y BBC, ond mae’n dal i fod gwahaniaeth sylweddol—ac mae’r ffigyrau eisoes wedi cael eu nodi yn y ddadl hon—rhwng yr hyn sydd ar gael i Gymru a’r hyn sydd ar gael i’r Alban. Hoffwn ddweud hefyd, yng nghyd-destun y sylw hwnnw, fod S4C yn rhan hanfodol o’r strategaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ganddi rôl anhepgor i’w chwarae ac felly, dylai gael cyllid sy’n gymesur â phwysigrwydd hynny. Mae wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf o doriadau syfrdanol, sy’n cyfateb i oddeutu 36 y cant mewn termau real, a chredaf y dylem roi mwy o flaenoriaeth i anghenion S4C. Maent wedi cyflawni gwyrth fach, mewn gwirionedd, ar gyllideb lawer llai, yn cynnal safonau rhaglenni a’u hehangder. Cafwyd gostyngiad sylweddol iawn yn nifer y staff, o 220 i 130. Mae eu gorbenion yn denau iawn, ar 4 y cant o’r cyfanswm ac rwy’n credu, at ei gilydd, ei bod yn stori lwyddiant sylweddol iawn ac mae Huw ac Ian Jones, yn arbennig, wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddyfodol darlledu Cymraeg, nid yn unig yng Nghymru, oherwydd fe welant eu rôl fel darlledwyr i siaradwyr Cymraeg lle bynnag y maent yn y byd. Ac mae honno’n rhan bwysig iawn o S4C y credaf y dylid ei thanlinellu.

Gwelaf fod y golau coch wedi dod ymlaen ac nid oes gennyf amser i ddweud y nifer o bethau eraill y bwriadwn eu dweud, ond rwy’n credu bod hwn, fel adroddiad cychwynnol, yn waith da iawn ac mae’n sylfaen dda inni allu adeiladu darlun llawer mwy maes o law.

Diolch, Llywydd, ac nid wyf am ddilyn esiampl fy nghyd-Aelodau a chanu clodydd gwaith ein pwyllgor ein hunain—mater i eraill ffurfio barn yn ei gylch yw hwnnw. Mae’n werth atgoffa ein hunain pam ein bod wedi cychwyn ar y gwaith hwn a’r cefndir braidd yn ddigalon pan aethom ati i ddechrau ar ein gwaith. Mae toriad o 22 y cant wedi bod dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer yr oriau o raglenni Saesneg a ddarlledwyd gan BBC Cymru, toriad o 24 y cant i gyllid S4C a thoriad o 40 y cant i gynnyrch ITV Cymru yn 2009. Cynhwyswch y cythrwfl a’r tirlun newidiol yn y cyfryngau print ac ar-lein ac fel y mae llawer o bobl eraill wedi dweud, nid yw Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda. Er nad yw darlledu yn fater a ddatganolwyd, mae’n effeithio’n ddwfn, nid yn unig o ran galluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut y caiff ein cenedl ei rheoli, ond hefyd o ran adrodd straeon wrthym ein hunain ynglŷn â’n cymunedau ein hunain ac wrth y byd yn ehangach, sy’n hanfodol, rwy’n meddwl, i wead diwylliannol unrhyw wlad.

Mae fy nghyd-Aelodau wedi gwneud sylwadau deheuig ar brif fyrdwn yr adroddiad, felly nid wyf am oedi gormod gyda hynny. Roeddwn eisiau canolbwyntio’n bennaf ar un maes. Rydym yn eithaf da am gicio’r BBC a’u gwneud yn atebol, a chredaf fod hynny’n gwbl gywir, ond un o’r pethau a oedd yn bwysig am yr adroddiad hwn oedd ei fod yn rhoi sylw i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill hefyd, y credaf eu bod wedi llwyddo i osgoi craffu’n ddigonol ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae angen i hynny newid. Ac mae’r adroddiad hwn, gobeithio, yn anfon neges y bydd yn gwneud hynny.

Mae Channel 5, er enghraifft, yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael budd o’r tonnau awyr a gawsant gan bobl y wlad hon: ni allem ddod o hyd i unrhyw gynnwys gweladwy am Gymru. Channel 4, dim ond 2 y cant—2 y cant—o’u rhaglenni darllediad cyntaf a oedd yn tarddu o Gymru. Ac ITV. Dylwn ddatgan buddiant fel rhywun a arferai weithio yn ITV, a rhywun sydd â hoffter o’r sefydliad a pharch tuag at y gwaith y dylent ei wneud. Nid beirniadaeth o ITV Cymru yw hon, ond her i ITV ccc, a wnaeth weiddi blaidd, rwy’n meddwl, yn ôl yn 2007 pan oedd refeniw hysbysebu i’w weld yn fregus. Mae’n deg dweud bod yr effaith a gafodd rheoliadau Ofcom arnynt yn golygu na chawsant eu lleihau, byddent yn troi cefn ar ddarlledu rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ond gwrandawodd gwleidyddion a rheoleiddwyr ar yr alwad honno, a chafodd eu gofynion eu lleihau’n ddramatig—fel y soniais yn gynharach, gostyngiad o 40 y cant. Yn awr nid yw ond yn ofynnol iddynt ddarlledu pedair awr o newyddion bob wythnos, a 90 munud o gynnwys heb fod yn newyddion. Maent yn gwario oddeutu £7 miliwn y flwyddyn—er nad ydynt yn cyhoeddi’r ffigurau hyn, dyna a gadarnhawyd ganddynt i’r pwyllgor ei fod at ei gilydd yn gywir—ffigur sydd wedi bod, fel y maent yn ei roi, fwy neu lai yr un fath ers 2008. Felly, ers torri 40 y cant oddi ar eu rhwymedigaethau, nid ydynt wedi gwario unrhyw arian ychwanegol ar Gymru, er eu bod wedi gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ddatblygiadau technolegol. Ond nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da.

Pan edrychwch ar elw ITV ccc, yn 2007 roedd yn £137 miliwn, a’r llynedd roedd yn £448 miliwn. Felly, cynnydd syfrdanol yn elw’r rhiant gwmni yn gyfnewid am gyfyngu amlwg ar yr ymrwymiad i Gymru. Dywedasant wrthym nad oes unrhyw werth dros ben yn y trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, sef yr un dacteg eto ag y ceisiasant ei defnyddio yn 2007—nad yw’n awgrym ofnadwy o gynnil y byddent, pe baem yn gofyn iddynt wneud gormod, yn troi cefn a ninnau’n dlotach o’r herwydd. Ac fe fyddem yn dlotach heb bresenoldeb ITV Cymru, gan eu bod yn cynnig lluosogrwydd i ddarlledu yng Nghymru. Maent yn cynnig naws wahanol a ffocws gwahanol i’r hyn a geir gan BBC Cymru, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ond rwy’n credu bod gennym hawl i ofyn am ragor ganddynt yn y ffordd y maent yn rhoi sylw i Gymru.

Nawr, maent yn cyfeirio at eu llwyddiant BAFTA eleni, ac rydym yn eu llongyfarch am eu rhaglen ragorol ar Aberfan. Ond y tu hwnt i hynny, ychydig iawn o sylw y mae ITV fel rhwydwaith—ac unwaith eto, rhaid imi wahaniaethu rhwng ITV Cymru ac ITV fel rhwydwaith—yn ei roi i Gymru. Ychydig iawn o raglenni a geir ar gyfer y DU gyfan am Gymru. Yr enghraifft olaf a roesant i ni oedd yn 2014 pan ddarlledwyd y rhaglen am Dylan Thomas, ac maent yn mynd i gael trafferth yn y dyfodol gan nad oes gennym lawer o ddyddiadau arwyddocaol ar y gorwel. Mae gwir angen iddynt ymestyn eu dychymyg. Maent wedi dweud nad oes unrhyw rwystrau fel y cyfryw; roeddent yn awgrymu ei bod yn feritocratiaeth—nid oes syniadau digon da yn dod gan gomisiynwyr yng Nghymru. Wel, profwyd bod y ddadl hon yn ffug gyda’r BBC, lle roeddent wedi methu cyflawni dros Gymru am gyfnod hir, ac rydym bellach, drwy’r drwydded newydd, wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud rhagor. Ac rwy’n credu bod angen inni ei gwneud yn ofynnol i ITV wneud rhagor hefyd, gan ei bod yn amlwg mai’r un peth a gawn ganddynt os ydym yn gadael llonydd iddynt. Felly, mae’r pwyllgor wedi argymell bod Ofcom yn adolygu trwydded ITV ar ei chanol i ofyn iddynt gyflawni mwy dros Gymru. Dyna ein neges, Llywydd, i’r holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, nid y BBC yn unig—down yn ôl atynt cyn bo hir: rydym yn disgwyl gwell. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a hoffwn ymuno ag aelodau’r pwyllgor i longyfarch eu hunain ar y gwaith y maent wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. [Chwerthin.] Nid ydynt wedi gwerthu eu hunain ar golled y prynhawn yma, ac yn sicr nid ydynt wedi gwneud hynny yn yr adroddiad a ysgrifennwyd ganddynt y credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn cytuno ei fod yn gampwaith go iawn, adroddiad sy’n edrych ar yr holl ddarlledwyr a strwythurau darlledu a strwythurau atebolrwydd. Gallaf weld bod yr Aelodau wedi cael llawer iawn i’w wneud, ac maent wedi llunio adroddiad sydd, mewn sawl ffordd, yn lasbrint ar gyfer y math o ddadl sydd angen i ni ei chael am ddarlledu yn y wlad hon, wrth inni symud ymlaen.

A gaf fi ddweud hyn? Wrth wraidd llawer o’r hyn rydym yn mynd i’w drafod a dadlau yn ei gylch y prynhawn yma ac ar adegau eraill, mae mater atebolrwydd a mater craffu. Rwy’n credu’n bendant ei bod yn iawn ac yn briodol—ac mae’r pwyntiau a wnaed gan Aelodau y prynhawn yma yn dangos yn hollol glir fod y strwythurau a’r fframweithiau atebolrwydd, rheoleiddio, a chraffu cyfredol wedi methu. Gwnaeth y strwythurau a’r craffu seneddol sy’n bodoli eisoes gam â Chymru, oherwydd fe welsom—ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir iawn—y gostyngiad yn y sylw yng Nghymru. Rydym wedi gweld lleihau nifer yr oriau o raglenni a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer Cymru, a gwnaed hynny o fewn proses o graffu cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus. Felly, os yw’r strwythurau hynny’n mynd i olygu unrhyw beth i’r wlad hon, mae angen eu diwygio, a’u diwygio’n sylfaenol.

Nawr, mae llawer ohonom wedi treulio amser yn y lle hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn edrych ar sut rydym yn creu ac yn ail-greu gwahanol strwythurau atebolrwydd rhyngsefydliadol ar draws y Deyrnas Unedig. Nawr, nid wyf, ac nid wyf wedi cyflwyno achos dros ddatganoli cyfrifoldeb gweithredol dros ddarlledu i Gymru. I mi, rwy’n teimlo bod cyfrifoldeb gweithredol yn rhywbeth a ddylai aros yn San Steffan a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag—fodd bynnag—nid wyf yn credu bod atebolrwydd yn rhywbeth y dylid ei ganoli, am y rhesymau a welsom yn barod, a’r rhesymau rydym wedi’u rhoi eisoes. I mi, mae’n bwysig fod atebolrwydd yn rhywbeth sy’n cael ei gyflawni a’i weithredu ar draws sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a’i wneud yn gyfunol, gan sicrhau bod gennym fodel o atebolrwydd rhyngsefydliadol sy’n gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac yn enwedig yma ar gyfer pobl Cymru.

Mae’n amlwg fod yr holl faterion sy’n ymwneud â dinasyddiaeth, sy’n gwbl allweddol i bwy ydym fel gwlad a phwy ydym am fod fel cenedl, yn cael eu methu ar hyn o bryd. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwyd, ac rwyf wedi gweld adroddiadau fod ‘The Wales Report’ gan y BBC yn cael ei ddirwyn i ben—rwy’n gobeithio nad yw hynny’n wir. Rwy’n credu bod y gwaith a gafodd ei arwain gan Huw Edwards dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i lywio ac i sefydlu llwyfan ar gyfer dadl a thrafodaeth ynglŷn â’r maes polisi cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ac yn gwbl hanfodol. Nid yw’n ddigon da i’n darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf arwyddocaol beidio â chael rhaglen ddifrifol am wleidyddiaeth Cymru yn darlledu ar oriau brig ar ryw adeg yn ystod yr wythnos.

Ond mae angen i ni fod yn ofalus hefyd o ran yr hyn rydym yn ei ddweud a’r hyn rydym yn ei wneud. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni atebolrwydd cyhoeddus a chraffu cyhoeddus—a chredaf y dylai gael ei wneud gan Senedd Cymru ac nid gan Lywodraeth Cymru; rwy’n credu ei bod yn bwysig mai seneddwyr a ddylai wneud hyn ar y cyd, nid Gweinidogion—mae angen i ni fod yn glir iawn ein bod yn deall y gwahaniaeth rhwng craffu ac atebolrwydd democrataidd ac ymyrraeth. Nid yw’n iawn fod gwleidyddion yn ceisio ymyrryd mewn penderfyniadau sy’n benderfyniadau priodol a chywir i olygyddion a rheolwyr mewn unrhyw gorff darlledu, mewn unrhyw gorff darlledu cyhoeddus, ac mae angen i ni ein hunain arfer y ddisgyblaeth o sicrhau atebolrwydd heb groesi’r llinell i ymyrryd mewn penderfyniadau golygyddol, ac mae angen i ni wneud yn berffaith siŵr ein bod yn deall hynny a gobeithiaf a hyderaf fod pobl yn deall hynny yma.

O ystyried y gwahaniaeth y mae’n ei wneud rhwng ein rôl ni fel seneddwyr a’r Llywodraeth yn y trefniadau rhyngsefydliadol, fel y mae’n eu galw, a oes ganddo unrhyw farn ar yr argymhelliad yn yr adroddiad, cyn iddo roi sêl ei fendith i gymeradwyo penodiad BBC Cymru i’r bwrdd, fod pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r cyfryw enwebai?

Lee Waters—mae bellach yn draddodiad yn y lle hwn iddo ymyrryd a gofyn y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu ei fod wedi gwneud hynny ar bob achlysur y cafwyd dadl yma. Ac mae’n amlwg nad yw’n hapus gyda’r atebion rwyf wedi ceisio eu rhoi iddo. Gadewch i mi ddweud—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn, gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n cytuno â’r egwyddor a amlinellwyd gan y pwyllgor o ran gwrandawiadau cadarnhau, neu ba derm bynnag rydym am ei ddefnyddio. Rwy’n cytuno â’r broses honno. Nid proses Llywodraeth Cymru yw hon, mae’n broses Llywodraeth y DU, felly nid oes gennym bŵer i gyflawni hynny ar hyn o bryd.

Ond byddwn yn awgrymu wrth y pwyllgor fod hwn yn fater iddynt barhau i fynd ar ei drywydd. Yn sicr gallent fynd ar ei drywydd gyda’u cydweithwyr yn sefydliadau eraill y Deyrnas Unedig, ac yn sicr, fel y Gweinidog yng Nghymru, byddwn yn hapus iawn i weld system o’r fath yn cael ei chyflwyno yma ar gyfer y lefel honno o atebolrwydd a chraffu. Ond o ran ble rydym yn mynd, fe amlinellodd y Cadeirydd, yn ei chyflwyniad i’r ddadl hon, rai o’i phryderon ynglŷn â phenderfyniadau a wnaed gan y BBC o ran adnoddau a chyllid, ac yna gwnaeth gymhariaeth braidd yn anffodus â’r Alban. Gadewch i mi ddweud hyn: yr hyn rwyf am ei wneud yw dwyn y BBC yn atebol am yr hyn y mae’n ei ddarparu. Mater i’r BBC, nid mater i ni, yw’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynglŷn â chyllidebau a strwythurau o fewn y BBC. Fodd bynnag, mae’n iawn ac yn briodol ein bod yn craffu ar yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn gwirionedd a’r hyn y maent yn ei gynhyrchu ar ein sgriniau.

Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n credu y byddai sefydlu sianel annibynnol yn y Saesneg ar gyfer Cymru yn llwyddo i gywain cynulleidfaoedd mawr ac y byddai’n gwella ein dinasyddaeth neu drafodaeth ddemocrataidd yn sylweddol yn y wlad hon—fel rhywun sydd wedi gweithio yn y byd darlledu o ran marchnata a’r gweddill i gyd, byddwn yn dweud wrthych y bydd yn anodd iawn tyfu cynulleidfaoedd sylweddol. Mae’n llawer gwell, yn fy marn i, i rwydwaith y BBC gydnabod ei holl gyfrifoldebau i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a’r peth hollol hanfodol i mi yw ein bod yn dwyn darlledwyr i gyfrif am gynhyrchu rhaglenni a gohebu ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd sy’n cynrychioli anghenion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Nawr, nid ydym wedi gweld hynny hyd yn hyn, nid ydym yn ei weld ar hyn o bryd, ac rwy’n gobeithio ac yn credu y dylem allu sicrhau ein bod yn cael chwarae teg o ran cydnabod y DU gyfan ar ein sgriniau.

Dof â fy sylwadau i ben yma, Llywydd, drwy ddweud hyn: rwy’n gobeithio dros y blynyddoedd nesaf—a gwnaed y pwynt yn dda gan Lee Waters mewn perthynas ag ITV a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill—y gallwn ddatblygu diwylliant o atebolrwydd sy’n sicrhau bod pob darlledwr, pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a phob cynhyrchydd newyddion ac adloniant a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer Cymru yn gallu gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwella nid yn unig ein dinasyddiaeth, ond ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol hefyd, a’n bod yn creu gwlad lle y gallwn gael y ddadl sydd angen i ni ei chael fel gwlad, lle y caiff llwyfannau eu creu i bobl allu siarad a dadlau ymysg ein gilydd, lle y gallwn ddweud ein straeon wrth ein gilydd, lle y gallwn edrych ar y byd drwy ein llygaid ein hunain, a lle y gallwn, ar yr un pryd, fod yn rhan o gyfanrwydd mwy yn y Deyrnas Unedig. I wneud hynny, bydd angen strwythurau llywodraethu newydd, strwythurau rheoleiddio newydd, a strwythurau atebolrwydd newydd. Rwy’n gobeithio, ac rwy’n ffyddiog, fod yr adroddiad rydym yn ei drafod y prynhawn yma yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyflawni hynny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Nid wyf yn mynd i siarad yn hir iawn, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac rwy’n siŵr y bydd hyn—fel y nododd Suzy yn dda, rwy’n meddwl, drwy ddweud mai dyma’r bennod gyntaf o lawer y byddwn yn edrych arni o ran darlledu, y diwydiant papurau newydd, radio ac yn y blaen fel rhan o’r pwyllgor hwn. Mae pwyllgorau eraill y Cynulliad wedi edrych arno’n achlysurol, ond rwy’n credu bod lle wedi bod yma i gael mwy o ffocws, gyda chyfathrebu yn rhan o enw’r pwyllgor hwn. Felly, rwy’n obeithiol y gallwn gyflawni’r hyn y mae rhai ohonom wedi llongyfarch ein hunain am ei gyflawni eisoes, er fy mod yn credu bod gennym lawer mwy i’w gyflawni. Gadewch i ni beidio ag eistedd ar ein rhwyfau; mae gennym lawer mwy i’w ddysgu.

Mewn perthynas â’r hyn y mae’r Gweinidog yn ei ddweud am wrandawiadau cyn penodi, yr hyn y ceisiais ei ddweud yn yr hyn a ddywedais yn gynharach oedd y gallech beidio â rhoi cydsyniad o bosibl nes eich bod yn fodlon y byddem yn gallu cael y gwrandawiad penodi hwnnw—nid wyf yn siŵr a yw’r Gweinidog yn gwrando arnaf—a pha un a allem gael trafodaeth yn y pwyllgor cyn iddo eich cyrraedd chi fel Gweinidog. Os nad yw deddfwrfeydd eraill yn gwneud hynny ar hyn o bryd, gallem ddangos y ffordd yn hynny o beth drwy gael y gwrandawiad penodi hwnnw. Felly, nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno nad oes gennych y pŵer, ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn mynd ar drywydd y mater hwn gyda chi maes o law.

Byddwn yn cytuno â chi y dylai fod gennym atebolrwydd yma hefyd. Rwy’n credu y byddai’r pwyllgor â barn wahanol ynglŷn â ble y dylai’r pŵer fod. Rwy’n siŵr fod pawb yn gwybod beth yw fy marn ar hynny. Ond yn enwedig gan fod gennym y pwyllgor hwn bellach, mae’r atebolrwydd yn glir, ac fel y dywedodd Suzy hefyd, mae creu cynnwrf yn rhywbeth rydym wedi’i wneud. Rwy’n meddwl, gyda sylwadau Lee am ITV, mai dyna ble y crëwyd y cynnwrf, fe ddywedwn i.

Ond rwy’n credu, o ystyried yr holl sylwadau gyda’i gilydd, fod hwn yn ddechrau da i ni ar gyfer y dyfodol, nid yn unig wrth edrych ar BBC—rwy’n credu bod y sylw hwnnw’n gywir. Rydym wedi canolbwyntio cryn dipyn, ond rwy’n credu bod hynny oherwydd bod y broses o adnewyddu’r siarter ar y ffordd, ac roedd y ffocws ar y siarter. Mae’n ddiogel dweud bod pawb o fewn ein cyrraedd i ni eu craffu a’u dwyn i gyfrif, a gobeithio y byddant yn ei weld mewn golau da, ein bod am graffu yn y ffordd orau sy’n bosibl fel y gallwn greu portread mor effeithiol â phosibl yn y dyfodol yma yng Nghymru, ac er mwyn sicrhau bod y ffrydiau cyllid yn eu lle i wneud yn siŵr fod hynny’n bosibl. Nid ydym am fod yma ymhen 10 mlynedd heb ddaleks dwyieithog. Hoffem weld daleks dwyieithog ymhen 10 mlynedd. Felly, mae angen i ni gael y rhaglenni hynny—mae angen i gael ‘Casualty’ gydag arwyddion dwyieithog, ac yna byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nod fel pwyllgor. Na, i fod o ddifrif, mae gennym lawer mwy o waith i’w wneud.

Thank you very much to everyone on the committee and to the clerks for being so thorough in supporting the committee. I hope that they will continue to support us in the work that will stem from this with regard to local journalism and S4C.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir hynny yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Rydym ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno’r Bil arfaethedig ar awtistiaeth. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, naw yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6304.

9. 9. Dadl Fer: Cymru yn y Byd—Meithrin Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru

Dyma ni felly’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar y agenda, sef y ddadl fer. Wrth i Aelodau adael yn dawel, mi wnaf i alw’r ddadl fer yn enw Jeremy Miles. Gwnaf i alw ar Jeremy Miles i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Heddiw, yn y Senedd, rydym yn coffáu 35 mlynedd ers diwedd rhyfel y Falklands, yr aeth llawer o ddynion ifanc iddi i amddiffyn ynysoedd Falkland rhag ymosodiad gan yr Ariannin, a chollodd llawer eu bywydau. Mae Cymru wedi chwarae ei rhan ar y llwyfan byd-eang mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf drwy gyfraniad ein pobl ifanc i’n lluoedd arfog.

This debate today is on Wales’s role in the world and it’s, in several ways, an attempt to describe the wider range of ways that Wales does play a constructive and beneficial role on the international stage. I am pleased to have this opportunity to put forward this debate, and to David Rees, the Chair of the external affairs committee, and Joyce Watson, who will also be contributing to this debate.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae Ariannin wedi chwarae rhan arwyddocaol yn hanes Cymru yn y byd. Ychydig dros ganrif cyn rhyfel y Falklands, gadawodd 153 o arloeswyr lannau Cymru am Batagonia, am eangderau Chubut. Yno, ffurfiasant gymuned sy’n dal i siarad Cymraeg ac i arddel eu Cymreictod hyd heddiw. Rhoddodd y senedd a sefydlasant yno bleidlais i’r menywod Cymreig yn 1867, 51 o flynyddoedd cyn i’w chwiorydd gartref gael yr un hawl. Rydym wedi allforio ein gwerthoedd Cymreig blaengar i’r byd byth ers hynny. Pan oeddem yn dathlu 150 mlwyddiant y Wladfa ym Mhatagonia yn ddiweddar, teithiodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yno, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Mae’r math hwn o gyfnewid ac allforio diwylliannol yn ganolog i’r hyn a ddylai ddod yn rhwydwaith byd-eang o bŵer meddal Cymreig. Er bod ein pŵer caled yn gyfyngedig, gall ein hasedau celfyddydol, chwaraeon, diwylliannol ac addysgol enfawr, sydd o safon fyd-eang mewn llawer o achosion—opera, offerynnol, a theatr i enwi ond ychydig—o’u defnyddio’n gywir, greu pŵer meddal sylweddol, sy’n gallu adeiladu pontydd i bob rhan o’r byd, a thrwy hynny, gall ddenu pobl i Gymru, gyda’u syniadau a’u dyfeisgarwch. Ni fyddwn yn cyflawni ein potensial os nad ydym yn buddsoddi yn y pŵer meddal hwnnw ac yn ei harneisio’n ddeallus, ac yn allweddol, os nad ydym yn cysylltu’r modd y’i defnyddiwn ac y’i cefnogwn yn agos at ein polisi economaidd.

This has always been crucially important, but it’s now even more important as we are now leaving the European Union. One of the greatest challenges for us all is to reform that relationship with the European Union. One of the most important statements in years on Wales’s role in the world is contained within the Welsh Government and Plaid Cymru White Paper, ‘Securing Wales’ Future’. We must now ensure that the UK Government delivers on the priorities set out in that White Paper. But, whilst our relationship with the single market remains unclear, the uncertainty caused by the process of leaving the European Union will mean that the prospects of attracting new businesses to Wales over the next few years are not particularly good.

We do already have significant international investors in Wales and our global co-dependence is incorporated in GE, Tata, Ford, Airbus and others—that, between them, employ thousands of our people. But, we must also set as a target for strengthening our indigenous businesses.

Rhaid i helpu busnesau Cymru i gael mynediad at farchnadoedd tramor barhau i fod yn flaenoriaeth. Dylai Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, sefydlu corff dan arweiniad y diwydiant—fe’i galwn yn ‘Masnach Cymru’—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ond yn gweithredu’n annibynnol, a chyda chylch gorchwyl clir i wella gallu busnesau Cymru i werthu tramor, gan gynnwys ar-lein, gan ddarparu rôl lysgenhadol i brynwyr tramor, a swyddogaeth cymorth busnes ddeallus wedi’i harwain gan fentoriaid. Mewn rhai sectorau, mae hon yn flaenoriaeth frys. Mae mwy na 90 y cant o allforion sector bwyd a diod Cymru yn mynd i’r UE. Rhaid dod o hyd i farchnadoedd newydd fel mater o flaenoriaeth. A dylai’r cytundebau masnach sy’n dod â’r marchnadoedd newydd hyn atom ac sy’n effeithio ar hanfodion bywyd economaidd ddod ger ein bron yn y Siambr hon i’w cymeradwyo, fel bod buddiannau penodol economi Cymru yn cael eu diogelu.

Ond rhaid i ni edrych y tu hwnt i Ewrop am ysbrydoliaeth, a pharhau i adeiladu ein cysylltiadau â rhannau eraill o’r byd. Dylem edrych ar waith Rhaglen Gymrodoriaeth Saltire yn yr Alban, sy’n cysylltu entrepreneuriaid a swyddogion gweithredol mewn busnesau yn yr Alban gyda chymheiriaid tramor i rannu arferion gorau byd-eang a datblygu profiad uniongyrchol o farchnadoedd tramor. Pam na ddylem gael rhywbeth sy’n cyfateb i hynny yng Nghymru?

Nawr, fe wyddom mai pryder am fewnfudo o Ewrop oedd un o’r prif achosion a oedd yn sail i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond ni ddylai’r rhai ohonom a ddadleuodd dros gadw ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd syrthio i’r fagl o gredu mai’r fersiwn gyfredol o reolau rhyddid i symud yw’r unig ffordd i ni fynegi ein rhyngwladoliaeth. Rhoi ein budd economaidd cenedlaethol—yn hirdymor ac ym mhob rhan o’r DU—yn ganolog i system fudo newydd yw’r peth iawn i’w wneud. A pham yn wir na ddylem gael pŵer, fel sydd gan daleithiau Canada, i bennu anghenion mudo lleol fel rhan o system ar gyfer y DU gyfan?

But, we should also reflect our internationalism in a commitment to welcome those who are fleeing war and persecution. I encourage the Government, therefore, to take action on the recommendations of the Equality, Local Government and Communities Committee to make Wales a first nation of refuge.

Gadewch inni gofio nad yw mudo byd-eang yn digwydd i un cyfeiriad yn unig. Mae’r Cymry bob amser wedi byw y tu hwnt i’n glannau, a dylem fod yn falch o’n diaspora Cymreig. Er bod mentrau allgymorth megis Cymru Byd-eang i’w croesawu cyn belled ag y maent yn mynd, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw datganiad polisi croyw a chlir gan Lywodraeth Cymru ynghylch nodau a diben y polisi diaspora, sut y byddwn yn mapio’r diaspora, pwy y gallwn weithio gyda hwy i gyflawni hynny, y rôl y gall y Llywodraeth ei chwarae, beth y mae’r Llywodraeth yn ei ddisgwyl gan eraill, a sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu a meithrin perthynas gyda Chymry dramor.

Nid yw hyn yn ymwneud â rhwydweithio meddal a hiraeth, er mor bleserus y gall y ddau beth hynny fod. Mae’n ymwneud â sut y gall Cymru ffynnu ar dalent, creadigrwydd ac ymrwymiad yr holl Gymry, lle bynnag y maent yn digwydd byw. Heb strategaeth ddiamwys a fframwaith polisi, rydym mewn perygl o fethu yn yr uchelgais hwn. Ac eto, nid yw’n ymwneud yn unig â’r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud. Mae’n rhaid i ni hefyd ddatgan her i’n diaspora Cymreig. Ble bynnag yr ydych yn byw, rhaid i ni ofyn y cwestiwn, ‘Beth allwch chi ei wneud yn awr dros Gymru?’ Ond yn bennaf, rhaid meithrin y sgiliau a’r syniadau sydd eu hangen arnom i fanteisio ar ein rôl yn y byd, yma gartref, drwy system addysg sy’n edrych tuag allan.

I applaud the Welsh Government on its international education programme, which is provided by the British Council and assists in giving an international perspective to our pupils. I hope to see this being built on as we develop our schools curriculum. But we also know how far behind we are in the teaching of modern foreign languages, which have been in decline for over a decade, with a reduction of over 44 per cent over the past 15 years in terms of pupils studying those subjects up to A-level. It appears that the steps we’re taking to tackle this have not been working. The demand for modern languages to ensure success in the international economy are increasing, and we won’t be preparing our young people adequately to prosper in a global economy unless we tackle that particular challenge as a matter of urgency.

Our universities are part of a global network of research and study that we should be proud of. Over 25,000 international students are studying at our universities here in Wales, each of them prospective ambassadors for Wales when they return to their home nations. Programmes such as Global Wales assist universities in extending their reach, but they must be imbued with a new feeling of responsibility to use those networks, not just to improve their own research and education but also to build the wider Welsh economy and society.

Mae miloedd o fyfyrwyr wedi croesi gorwelion newydd fel rhan o raglenni Erasmus yr Undeb Ewropeaidd. Y tu allan i’r UE, rhaid i ni sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn parhau, ac nid fel trefniadau dwyochrog rhwng prifysgolion, ond fel rhwydwaith amlochrog o gyfleoedd cyfnewid i bawb, gan helpu i weu patrwm dinasyddiaeth ryngwladol. Wrth i ni geisio sicrhau chwarae teg rhwng addysg academaidd a galwedigaethol, beth yw maint uchelgais y Llywodraeth i roi’r un cyfle i weithio ac astudio dramor i brentisiaid? Mae yna enghreifftiau da eisoes i ni adeiladu arnynt, ond hyd nes y gallwn gynnig cyfle i brentisiaid fynd ar leoliad tramor i’r un graddau ag y gwnawn i fyfyrwyr, ni fyddwn yn cyflawni’r parch cydradd hwnnw, sy’n un o’r gwerthoedd craidd sydd gennym yn ein hymagwedd newydd tuag at sgiliau ac addysg.

Gyda’n gwerthoedd, ym mhopeth a wnawn, rhaid i’n gweithgareddau tramor adlewyrchu gwerthoedd rydym yn eu trysori gartref. Rydym wedi deddfu yn y lle hwn i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Boed hynny drwy Gymru yn Affrica neu drwy ein Under2 Coalition o bartneriaethau amgylcheddol, rydym wedi bod o ddifrif ynglŷn â’n rhwymedigaethau dinasyddiaeth fyd-eang ag ystyried ein bod yn wlad fach. Ond rhaid i ni hefyd fyw ein gwerthoedd wrth i ni fasnachu—fel y dewiswn ein partneriaid masnachu ac fel y dewiswn eu disgrifio. Caiff cysylltiadau y dewiswn eu disgrifio fel perthnasoedd arbennig eu hennill drwy ymdrech galed a rhaid eu seilio ar werthoedd a rennir ac nid yn syml ar elw masnachol i’r ddwy ochr.

Felly, mae’r ffyrdd yr ymgysylltwn â gweddill y byd yn amrywiol, yn gymhleth ac yn gysylltiedig. Mae’n hanfodol, nid yn unig ein bod yn gweithredu i hybu ein pŵer meddal diwylliannol, i gefnogi ein hallforwyr, i adeiladu rhwydwaith o fyfyrwyr ac ymchwilwyr a pharhau i fod yn bartneriaid byd-eang ymroddgar a chyfrifol, ond mewn oes o adnoddau prin a heriau cymhleth, rhaid i bob un o’r camau a gymerwn ategu a chefnogi ei gilydd. Dylai’r rhai sy’n gweithio i ymestyn ein cysylltiadau diwylliannol allu cydweithio â’r rhai sy’n darparu teithiau masnach. Dylai’r rhai sy’n gweithio i gyrraedd ein nodau amgylcheddol wybod beth rydym yn ei wneud i ymestyn ein cyrhaeddiad addysgol. Mae hynny’n galw am strategaeth ‘Cymru yn y byd’ gydgysylltiedig, sy’n dweud wrthym beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sut y bydd yn gweithredu, ac yn wir, beth y mae’r Llywodraeth yn ei geisio er budd Cymru o bolisi tramor Llywodraeth y DU—a strategaeth sy’n destun trafod a chraffu fel mater o drefn yn y Siambr hon.

Am y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith, cyn cael fy ethol, roeddwn yn gweithio ar ran busnesau rhyngwladol, yn gweithio ar brosiectau yn yr Unol Daleithiau, yn Ewrop, yn Awstralia, yn y dwyrain pell, yn ogystal ag yma yn y DU. Roedd y cyd-destun byd-eang bob amser yn bresennol. Ers cael fy ethol, cefais fy nharo gan gyn lleied rydym yn cynnwys y cyd-destun rhyngwladol yn ein trafodaethau yn y lle hwn. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth dda ar gyfer ei hymwneud â’r byd, sy’n dwyn yr un enw â’r ddadl hon. Nid yw wedi ymddangos mewn unrhyw ffordd arwyddocaol yn nhrafodion y sefydliad hwn. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth bellach wedi cynnull grŵp rhyngwladol o dan nawdd y Prif Weinidog, ac edrychaf ymlaen at weld y Siambr hon yn cael cyfle i ddadlau a thrafod ei waith.

Nid yw’r modd y dewiswn ymwneud â gwledydd eraill yn eitem ddisgresiynol. O’i gael yn iawn, gallwn helpu ein cymunedau; gallwn helpu Cymru i ffynnu. O’i gael yn anghywir, cawn ein gadael ar ôl. Rydym yn byw mewn oes pan fo troi tuag i mewn ac amddiffyn yr hyn sydd gennym yn demtasiwn mewn byd o newid cyflym. Mater i ni, yn y lle hwn, yw cyflwyno achos dros strategaeth allanol glir, weladwy a chydgysylltiedig, ac i gyflwyno’r achos dros Gymru yn y byd.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod dros Gastell-nedd am y ddadl heno ac am gynnig munud o’i amser i mi? Mae wedi siarad am Batagonia a’n symud draw yno yn y 1850au, ond a gaf fi hefyd ei atgoffa ynglŷn â ble arall y mynegwyd ein gwerthoedd sy’n seiliedig ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol? Fe’u mynegwyd gan y llu o ddinasyddion Cymru a ymunodd â’r frigâd ryngwladol yn rhyfel cartref Sbaen i ymladd yn erbyn ffasgaeth, i ymladd yn erbyn yr asgell dde eithafol, ac i sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol ar gael i bawb ar draws y byd. Credaf mai’r hyn y ceisiwn ei ddweud heno yw bod angen i’r agwedd ar Gymru sy’n edrych tuag allan ddod i’r amlwg yn awr hefyd. Ar ôl Brexit mae cyfle i ni wneud hynny. Rydym yn gweld y newidiadau yn y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gweld y cyfleoedd i Gymru fynd allan i’r byd unwaith eto, i werthu ei hun i’r byd unwaith eto, ac i sicrhau bod yr hyn sydd gennym—y gwerthoedd sydd gennym a’r gwerthoedd a rannwn—yn addas ar gyfer yr holl gytundebau masnachu a fydd ar waith ac a fydd yn gwasanaethu ein cymunedau’n dda.

Diolch i chi, Jeremy, am roi amser i mi siarad yn eich dadl fer heddiw. Fel cadeirydd rhanbarthol cymdeithas Seneddwragedd y Gymanwlad, rwy’n ymwybodol iawn o werth partneriaethau rhyngwladol a’r manteision y gallant ac y maent yn eu cynnig i bob un ohonom. Mae partneriaeth ardderchog Seneddwragedd y Gymanwlad a’r rhaglen weithredu a gytunwyd wedi helpu i sicrhau cynnydd a newid mewn nifer o feysydd hynod bwysig sy’n cynnwys rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phlant, masnachu mewn pobl a gwella rhagolygon menywod yn yr economi. Felly, gweithio mewn partneriaeth â gwledydd ar draws y Gymanwlad sydd wedi ein galluogi i rannu ein gwybodaeth a’n syniadau, a hefyd i helpu i sicrhau newid. Ar adeg pan fo Brexit ar frig yr agenda, bydd partneriaethau gyda’n ffrindiau yn y Gymanwlad ac yn Ewrop hefyd yn fwy allweddol nag erioed o’r blaen yn fy marn i.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am godi’r pwnc pwysig hwn. Rwy’n credu mai dyma’r adeg fwyaf allweddol, mae’n debyg, ers datganoli o ran agenda ryngwladol Cymru. Mae hefyd yn dda i ddefnyddio’r cyfle heno i groesawu’r profiad helaeth rydych yn ei gynnig i’r ddadl hon, ac yn wir, i’r Cynulliad hwn, ac i dynnu sylw at y ffaith nad oeddem yn ôl pob tebyg yn gwneud defnydd llawn o’r profiad hwnnw a’r ffocws hwnnw—a thynnodd David Rees sylw at hyn hefyd—yn ein trafodion. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedwch, ein bod wedi cyhoeddi ‘Cymru yn y Byd’, agenda ryngwladol Llywodraeth Cymru, yn 2015. Ond am anferth—wyddoch chi, am ddigwyddiadau. Mae cymaint wedi digwydd ers hynny. Dangosodd canlyniad refferendwm yr UE a’r etholiad yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, effaith digwyddiadau, ac wrth gwrs, mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio’n fawr ar ein hagenda ryngwladol.

Pan fydd goblygiadau Brexit yn gliriach, credaf y byddwn yn gallu blaenoriaethu sut y byddwn yn cymryd rhan mewn Undeb Ewropeaidd ar ei newydd wedd a thu hwnt, ac yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’r ffordd orau i ddyrannu ein hadnoddau. Ar yr adeg honno, byddwn yn cyhoeddi strategaeth ryngwladol newydd. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau â’n hymgysylltiad rhyngwladol ym mhob un o’r ffyrdd a grybwyllwyd gennych, a byddaf yn cyffwrdd â’r rheini. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ddatblygu’r economi i sicrhau bod Cymru yn parhau i ffynnu. Mae ffocws ein gwaith rhyngwladol yn glir: creu Cymru fwy ffyniannus a chynaliadwy drwy fwy o allforio a buddsoddi gan wella dylanwad ac enw Cymru yn rhyngwladol. Rwy’n credu mai ar rôl ddiplomyddol, rôl wleidyddol ehangach o’r fath y dylem ganolbwyntio, fel rydych wedi tynnu sylw ati heddiw. Mae angen i ni barhau i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw, astudio, gweithio, ymweld ag ef a gwneud busnes. Mae angen i ni ddiogelu’r sefyllfa ariannol ar gyfer y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ein plant, a chenedlaethau i ddod.

Ers datganoli, mae gan Lywodraeth Cymru stori dda i’w hadrodd. Mae ein henw da yn rhyngwladol o gwmpas y byd wedi tyfu ac yn parhau i dyfu, a lle mae pobl yn gwybod amdanom, ni chawn ein hystyried bellach fel man anghysbell gyda thirlun creithiog, fel atgof o’r dyddiau a fu pan oedd gennym ddiwydiant glo ffyniannus; erbyn hyn mae gennym broffil hollol wahanol ac rydym yn fwy adnabyddus am ein heconomi sy’n seiliedig ar wybodaeth, ein hymchwil arloesol, ein sector addysg uwch ardderchog, lleoliad gwych i ymweld ag ef, gyda ffigurau twristiaeth yn codi o hyd, ac am ansawdd rhagorol ein bwyd a’n cynnyrch. O ran enw da, yn gynharach y mis hwn, roedd llygaid y byd ar Gymru pan fu dros 200 miliwn o bobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau yn gwylio rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, y tro cyntaf i rowndiau terfynol y dynion a’r menywod gael eu cynnal yn yr un ddinas ar yr un penwythnos, a daeth 170,000 o ymwelwyr o bedwar ban byd i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiadau hyn. Ac ni allwch roi pris ar werth proffil rhyngwladol cadarnhaol.

Rydych wedi crybwyll diwylliant. Mae gan ddiwylliant ran enfawr i’w chwarae yn datblygu proffil, yn helpu i ddatblygu cysylltiadau dylanwadol ar bob lefel. Ac mae gan Gymru gyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth, ac mae angen i ni wneud i hynny weithio drosom, a ninnau bellach yn dod yn enwog yn rhyngwladol fel cartref cystadleuaeth Canwr y Byd, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon, Artes Mundi, gwobr gelf fwyaf y DU ac un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn y byd, a gwobr Dylan Thomas, un o’r gwobrau mwyaf mawreddog i ysgrifenwyr ifanc.

Ac mae Cymru hefyd ar flaen y gad yn arwain y byd mewn nifer o fentrau, megis dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd, datblygu rhaglen Cymru o blaid Affrica, a chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac ers datganoli, rydym wedi datblygu cysylltiadau gyda gwledydd a rhanbarthau fel Iwerddon a Llydaw, lle mae gennym gysylltiadau clir, ac mae pob un ohonynt wedi golygu datblygu perthynas waith gynhyrchiol yn rhyngwladol a chreu cyfleoedd i rannu arferion gorau. Ar ôl Brexit, byddwn yn ceisio datblygu cysylltiadau newydd lle mae’n gwneud synnwyr i wneud hynny, ac rwy’n falch hefyd fod Joyce Watson wedi tynnu sylw at y gwaith bywiog a’r ymrwymiad dan arweiniad Joyce yn arbennig mewn perthynas â grŵp a chymdeithas Seneddwragedd y Gymanwlad—a chawsom gynhadledd wych yma yng Nghaerdydd, a gynhaliwyd gan Joyce yn ddiweddar iawn, cynhadledd a edrychai ar entrepreneuriaeth menywod ac a edrychodd ar enghreifftiau diddorol iawn yma o Gymru.

Ond wrth wraidd ein strategaeth ryngwladol ac economaidd, mae’n ymwneud â sut rydym yn darparu cefnogaeth ystyrlon i gwmnïau o Gymru sy’n awyddus i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau, rhyngwladoli eu busnesau, cynyddu gwerth allforion, a nifer y cwmnïau o Gymru sy’n allforio—pileri canolog ein strategaeth economaidd. Mae gennym ystod gynhwysfawr o gymorth i allforwyr presennol a darpar allforwyr sy’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: eu hysbrydoli i ddechrau neu dyfu eu hallforion; trosglwyddo’r wybodaeth a’r sgiliau i adeiladu eu gallu i allforio; eu helpu i gysylltu â darpar gwsmeriaid dramor; a chefnogi ymweliadau â marchnadoedd tramor. Felly, rydym yn helpu cwmnïau ar bob cam o’u taith allforio, ac rydym wedi helpu cwmnïau o Gymru i ennill archebion allforio newydd. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf, aethom â mwy na 170 o gwmnïau gwahanol ar deithiau masnach ac i arddangosfeydd tramor mewn ystod amrywiol o farchnadoedd. Ac eleni, mae ein rhaglen yn cynnwys rhai cyrchfannau cyfarwydd: India, Tsieina, Japan, er enghraifft, yn ogystal â marchnadoedd llai cyfarwydd, megis Singapore, Fietnam, De Korea ac Iran. Ac er bod Cymru’n allforio dwy ran o dair o’i nwyddau i wledydd yr UE, mae’r rhaglen hon yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal a chreu cysylltiadau masnach gyda marchnadoedd y tu allan i Ewrop. Ond rydym yn benderfynol o gefnogi allforwyr Cymru gymaint ag y gallwn mewn economi ôl-Brexit—ar y blaen ac ynghanol unrhyw neges i gwmnïau, mae’r datganiad fod Cymru ar agor i fusnes.

Mae cwmnïau yng Nghymru eisoes wedi rhoi camau ar waith i ymateb i heriau economi ôl-UE, ac rydym yn gweithio gyda mwy a mwy o gwmnïau i’w cynorthwyo i allforio. Ac rwyf am i bawb ar draws Cymru a gweddill Ewrop ddeall nad yw gadael yr UE, i ni, mewn unrhyw ystyr yn golygu y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop; rydym bob amser wedi bod yn glir fod Llywodraeth Cymru yn parchu’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn darparu cynllun cynhwysfawr a chredadwy ar gyfer y trafodaethau wrth i’r DU baratoi i adael yr UE. A gaf fi ddweud eto hefyd pa mor bwysig yw cadeiryddiaeth David Rees o’r hyn sydd bellach yn gynyddol yn Bwyllgor materion allanol yn hytrach na deddfwriaeth ychwanegol—am rôl bwysig y mae’r pwyllgor hwnnw’n ei chwarae yma yn y Cynulliad, rôl sy’n cael ei chydnabod y tu hwnt i’r fan hon yn y DU ac Ewrop? Wrth gwrs, mae Jeremy Miles yn aelod allweddol o’r pwyllgor hwnnw. Rwy’n credu y bydd y rôl yn datblygu, ac mae’n datblygu’n sylweddol, wrth inni symud ymlaen.

Rydym yn barod i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cytundeb sy’n diogelu busnesau Cymru, ein heconomi a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Nid yw ein pobl ifanc yn gwybod am fywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gyda’i hawliau i bobl symud yn rhydd a rhaglenni a ariannwyd gan yr UE. Soniasoch am Erasmus; yn 2015, roedd Erasmus + yng Nghymru yn cynorthwyo tua 2,600 o staff a myfyrwyr yn y sector addysg bellach ac uwch a’r sector ieuenctid i astudio, gweithio, gwirfoddoli, dysgu a hyfforddi yn Ewrop. Rhaid i ni weld y cyfleoedd hyn yn parhau ar ôl Brexit.

Hefyd, fe siaradoch am Gymru’n wlad groesawgar sy’n elwa ar fewnfudo o sawl rhan o’r byd, gan gynnwys yr UE, ac mae ymfudwyr i Gymru yn cyfrannu’n helaeth tuag at ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gweithio yn ein sectorau economaidd allweddol, gan groesawu miloedd o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd i astudio yma a chryfhau ein prifysgolion o safon fyd-eang.

Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n credu bod angen i ni weld bod angen o hyd i ni recriwtio o’r UE ac o amgylch y byd i swyddi lle mae angen clir i wneud hynny oherwydd prinder. Rydym am wneud i’r rhai sydd eisoes yma barhau i chwarae eu rhan yn gwneud Cymru yn genedl lwyddiannus sy’n edrych tuag allan. Rwy’n falch eich bod wedi tynnu sylw eto at y gwaith croesawus, sy’n edrych tuag allan, a wneir gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ffoaduriaid, a byddwn yn trafod hynny eto cyn bo hir.

Felly, yn olaf rwyf am sôn am y ffaith ein bod fel Llywodraeth, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cynorthwyo ac annog degau o filoedd o bobl yng Nghymru i gymryd rhan a chyfrannu at ddatblygu rhyngwladol drwy ein rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mae mwy o blant yn mynd i’r ysgol bellach, mae miloedd o fenywod wedi cael eu grymuso drwy hyfforddiant sgiliau ac mae rhai o’r teuluoedd tlotaf yn iachach diolch i’r hyfforddiant helaeth y mae gweithwyr iechyd Cymru wedi’i gynnig yn rhan o hynny.

I gloi, mae Brexit a globaleiddio yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i Gymru. Trwy weithio gyda’n gilydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol gydag ystod eang o bartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, gallwn adael cymaint â phosibl o’n hôl ar y byd a helpu Cymru i ddod yn wlad fwy ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:38.