Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 12:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad ar yr Ymosodiad ym Manceinion

Yn gyntaf heddiw, ar ran Aelodau’r Cynulliad hwn, rwyf am fynegi ein cydymdeimlad â phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau erchyll ym Manceinion neithiwr. Rydym ni oll, pob un ohonom, wedi ein syfrdanu gan yr hyn ddigwyddodd. Gwn y bydd pobl ar hyd a lled Cymru, ym mhob cymuned, yn condemnio’r weithred anfaddeuol hon o drais, ac yn cynnig pob cefnogaeth bosib i awdurdodau a thrigolion Manceinion wrth iddyn nhw ymateb i’r digwyddiad.

Yr wyf yn gwahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad o gydymdeimlad.

Diolch, Llywydd. Rydych chi wedi siarad ar ran yr holl Aelodau wrth fynegi cydgefnogaeth lawn y Cynulliad hwn a phobl Cymru yn gyffredinol â phobl Manceinion a’r holl deuluoedd hynny sy'n dioddef heddiw. Roedd hwn yn fath penodol o greulondeb ar waith, gan fod y weithred hon wedi ei chyfeirio tuag at blant yn eu harddegau yn dod allan o gyngerdd. Mae'n anodd dychmygu gweithred fwy dychrynllyd a mwy disynnwyr.

Llywydd, all Assembly Members and the people of Wales will want to stand shoulder to shoulder with the people of Manchester today. This is the cruellest type of terrorism, against teenagers at a concert. We must all stand firmly together against this kind of senseless cruelty, which is immoral and beyond comprehension.

Llywydd, rwyf yn talu teyrnged i'r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y GIG ym Manceinion a phawb yn y ddinas a agorodd eu drysau ac estyn eu cymorth pan oedd angen cymorth.  Rydym eisoes wedi gweld straeon dirifedi o ddewrder, haelioni a chydgefnogaeth sy'n dangos tu hwnt i bob amheuaeth na fydd pobl Manceinion na’r wlad hon yn gwyro i derfysgaeth, a bod gobaith, agosatrwydd ac undod bob amser yn ennill dros gasineb a'r rhai sy'n ceisio ein rhannu.

Mae Manceinion yn adnabyddus ac yn annwyl iawn i lawer iawn o bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y gogledd. Mae wedi gweld terfysgaeth o'r blaen ac nid oes gennyf unrhyw amheuon am wytnwch a chryfder y ddinas wych honno. Llywydd, rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU a Maer Manceinion, Andy Burnham, yn mynegi ein dicter am yr ymosodiadau a chynnig ein cydgefnogaeth â phobl Manceinion. Cefais sgwrs friffio diogelwch cenedlaethol gan Swyddfa'r Cabinet dros y ffôn y bore yma, a byddwn wrth gwrs yn parhau i fonitro digwyddiadau wrth iddynt ddatblygu. Mae’n rhaid mai’r blaenoriaethau ar hyn o bryd, fodd bynnag, yw rhoi'r cymorth sydd ei angen i deuluoedd a chaniatáu i'r heddlu gael yr amser a'r lle sydd ei angen i gynnal eu hymchwiliadau sy’n symud yn gyflym heb ymyrraeth.

Mae’n rhaid i ni beidio byth â dod i arfer â therfysgaeth, gartref na thramor. Ni allwn fyth dderbyn yr ymosodiadau hyn fel un o ffeithiau bywyd. Dylem barhau i’w alw yr hyn ydyw: estronol, creulon ac atgas. Y neges gan y Siambr hon yw na fyddwn yn benisel, ac na fyddwn yn sleifio i’r cysgodion, ac na fyddwn yn newid ein ffordd o fyw. Llywydd, dyna'r deyrnged orau y gallwn ei gynnig i bobl Manceinion heddiw.

Gofynnaf i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch er cof.

Let’s rise in remembrance.

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

2. 1. Teyrngedau i’r Cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan

Fy ngorchwyl trist arall y prynhawn yma yw cofnodi marwolaeth cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a fu farw yn ddisymwth ddydd Mercher diwethaf. Mae nifer ohonom wedi colli cyfaill, mae Cymru wedi colli cawr o wleidydd, ac estynnwn ein cydymdeimlad i’n cyd-Aelod, Julie, sydd wedi colli ei chymar oes. Gwahoddaf y Prif Weinidog i arwain y teyrngedau i Rhodri.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy estyn cydymdeimlad y Siambr gyfan i Julie a'r teulu ar ôl y newyddion dychrynllyd a gawson nhw. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn awyddus i ymuno â mi i fynegi’r teimladau hynny.

Yr wythnos diwethaf cafwyd dadl arweinyddion, y cymerodd rai ohonom ran ynddi, ym Mhenarth. Wedi i mi adael y ddadl honno, fel yr oeddwn i’n gadael y siambr lle y cynhaliwyd y ddadl, clywais y newyddion fod Rhodri wedi ein gadael ni.

Cafodd Hywel Rhodri Morgan ei enwi ar ôl dau frenin, a gwasanaethodd yn y lle hwn gydag anrhydedd yn swydd y Prif Weinidog am bron i 10 mlynedd. Roedd llawer ohonom yn ei adnabod, wedi cael y fraint o’i adnabod, am lawer o'r blynyddoedd hynny, a byddwn i gyd, rwy'n siŵr, yn ystod yr awr nesaf hon, yn rhannu rhai o'r profiadau, cymaint ohonyn nhw’n rhai dymunol, pob un ohonyn nhw’n rhai dymunol, a gawsom yn ei gwmni.

Y tro cyntaf y gwnes i gwrdd ag ef oedd yn ystod haf 1997 yng ngwesty’r Metropole yn Llandrindod. Roedd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru' wedi trefnu digwyddiad dros benwythnos yno i drafod yr ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ar ddatganoli a oedd i ddod ym mis Medi y flwyddyn honno. Rwy'n cofio gwylio gêm rygbi y noson honno—Unol Daleithiau America yn erbyn Cymru—gyda Rhodri a Kevin Brennan. Roedd Rhodri yn gefnogwr chwaraeon pybyr, fel y gwyddom ni, a chefais y profiad cyntaf o'r ffraethineb a oedd ganddo ef, oherwydd bod y gêm yn cael ei chwarae ar yr hyn a oedd yn ymddangos fel parc cyhoeddus a, y tu ôl i'r pyst, nid oedd unrhyw derasau nac eisteddleoedd, dim ond coetir a dywedodd Rhodri yn ystod y gêm, 'Welais i erioed dorf wedi ei chuddliwio cystal’. Rwy’n cofio mai dyna’r tro cyntaf i mi ei glywed yn siarad, ac yna dechreuodd siarad â mi, a dyna’r tro cyntaf i mi gael sgwrs gydag ef.

Roedd e’n falch iawn o fod yn Brif Ysgrifennydd, fel y’i gelwid yn 2000, ac yn dilyn hynny yn Brif Weinidog, swydd, wrth gwrs, y gwnaeth ei llenwi ym mhob ffordd yn ystod ei amser yn y swydd honno. Llywydd, roedd ef fwy neu lai yr un oed â’m tad—10 mis yn iau na’m tad—ac roeddwn i’n ei ystyried i raddau helaeth yn rhan o’r genhedlaeth honno. I mi, roedd yn rhywun yr oeddwn yn ei weld fel tad ym myd gwleidyddiaeth. Mae’r ymadrodd 'Tad y genedl' wedi ei ddefnyddio, ond yn sicr roedd ef yn rhywun yr oeddwn i’n ei edmygu yn fawr iawn. Roedd yn rhywun a oedd yn ennyn y fath barch, ond, wrth gwrs, roedd ei draed ar y ddaear hefyd.

I will tell the story in Welsh because it only works in Welsh. Because of the fact that Rhodri was far older than me, I always called him ‘chi’, and, after a while, he said, ‘Listen, “bachgen”—he always called me ‘bachgen’—‘you have to now call me “ti”.’ It was difficult, for those of us who are Welsh speakers, to make that change, but that’s what I did. I spoke to my grandmother, who was alive at the time, and I told her that I called Rhodri ‘ti’, and she said, ‘What? You’re calling Rhodri Morgan “ti”? Have you no respect?’

Well, I had respect; there is no doubt about that. But, with Rhodri—and I’m going to use a word that is used in the Amman and Swansea valleys—there were no ‘clemau’; ‘airs and graces’ would be the English term.

Roedd Rhodri yn rhywun a oedd yn ennyn parch mawr, ond, o ran ei hunan, nid oedd unrhyw seremoni, nac unrhyw glemau. Rwy’n ddyledus iddo fe am yr hyn wyf i erbyn hyn fel gwleidydd. Fe oedd yr un a roddodd gyfle i mi, ym mis Gorffennaf 2000, i ddod yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, dyna oedd y teitl ar y pryd. Y dyddiau hyn, pan fyddwn yn ad-drefnu’r Cabinet, mae hynny yn cael ei wneud gan ddilyn amserlen a drefnwyd ymlaen llaw, cânt eu cynllunio ymlaen llaw. Ffoniodd Rhodri fi am hanner awr wedi deg ar nos Sadwrn i ddweud wrthyf i fy mod wedi cael dyrchafiad i'r Cabinet gan ofyn a fyddwn yn ymuno ag ef ar y ffordd i'r Sioe Frenhinol ymhen dau ddiwrnod. Felly, ni roddwyd unrhyw rybudd—un fel yna oedd Rhodri, yn ffonio ar yr adeg honno ar nos Sadwrn.

Bydd llawer ohonom yn cofio yr argyfwng clwy'r traed a'r genau yn 2001. Barn Rhodri oedd, fel Gweinidog ifanc, ei bod yn rhaid i mi fwrw ymlaen â phethau, mai fy nghyfrifoldeb i oedd hwn, ond roedd ef yno i roi cymorth a chyfarwyddyd a chefnogaeth pe byddai angen hynny. Ond nid oedd fyth yn ymyrryd. Rhoddodd rhwydd hynt i mi ddysgu, rhoddodd rhwydd hynt i mi ymdrin â'r sefyllfa, ond roedd ar gael pe byddai angen ei gyngor arnaf, ac roeddwn i’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Roedd hi wir yn fraint i mi, ym mis Rhagfyr 2009, i’w olynu.

Roedd ei deulu yn golygu popeth i Rhodri. Ymhyfrydai yn ei deulu. Ymhyfrydai yn ei wyrion. Roedd yn siarad am ei holl deulu gyda balchder mawr. I’r rhai sydd wedi bod yn ei dŷ, roedd ganddo set o byst rygbi yno ac roedd ganddo goedlan lle y byddai’n aml yn cynnau tanau bach lle y gallai pobl ymgynnull. Iddo fe, y teulu oedd popeth.

Pan roddodd y gorau i wleidydda’n ffurfiol, roedd yn benderfynol o ddilyn diddordebau newydd na chafodd y cyfle i’w dilyn yn y blynyddoedd cynt oherwydd prinder amser. Dechreuodd ddysgu sut i ganu’r piano. I'r rhai ohonom sy'n ei gofio yn Brif Weinidog, pan nad oedd yn gwybod sut i droi cyfrifiadur ymlaen, daeth yn un a oedd yn hoff iawn o dechnoleg, a byddwn yn arfer tynnu ei goes y byddai’n feistr ar Twitter yn fuan iawn. Roedd wrth ei fodd yn yr ardd. Roedd yn arddwr gwych. Bydd llawer o’r rhai sydd yn y Siambr hon, a'r tu allan iddi, wedi cael y profiad o fynd i dŷ Rhodri a chael chabatsien o'r ardd yn anrheg yn aml, yn ffres o'r pridd, yn aml â'r pridd yn dal arni, rwy’n cofio, ond roedd e’n ymhyfrydu yn hynny. Roedd ei falchder yn ei ardd yn rhywbeth amlwg i bawb.

Roedd ganddo stôr o wybodaeth arbennig iawn am bopeth. Roedd y pethau yr oedd yn gallu eu dwyn i gof yn rhyfeddol. Yn enwedig, roedd ganddo wybodaeth anhygoel am chwaraeon a oedd yn mynd yn ôl i'r 1940au. Rwy'n meddwl yn aml y byddai Rhodri wedi bod yn un ardderchog i fod ar dîm cwis tafarn gydag ef, o ystyried ei wybodaeth enfawr ar unrhyw bwnc bron. Nid oedd yn llythrennol unrhyw beth nad oedd ef yn gwybod dim amdano, rwy’n credu. Gallai bob amser ddweud rhywbeth newydd wrthych chi am unrhyw bwnc mwy neu lai. Roedd Rhodri yn ddyn hynod ddeallus a hir ei ben, ond roedd yn gartrefol gydag unrhyw un. Roedd ganddo dalent hynod i gofio enwau pobl. Byddai'n cyfarfod â phobl 10 mlynedd ar ôl eu cyfarfod yn wreiddiol, a hynny efallai am yr unig dro, a byddai'n cofio eu henwau a chofio’r hyn yr oedden nhw wedi ei ddweud wrtho. Sut oedd e’n gwneud hynny, wn i ddim, ond yr oedd yn anhygoel o beth, ac roedd yn un o'r pethau yr oedd yn eu gwneud ac fe soniodd cymaint o bobl am hynny. Roedd hynny mor bwysig ym meddwl y cyhoedd gan olygu bod pobl yn meddwl amdano fel rhywun a oedd â diddordeb mewn pobl eraill. Roedd yn dda iawn am gymysgu ac yn gymeriad hoffus, a bydd hiraeth mawr amdano ymhlith ei deulu, wrth gwrs, ond ymhlith cynifer o bobl ledled Cymru a thu hwnt hefyd.

Last week, we lost a giant of our nation. He is gone, but, of course, his name is written into our history.

Yr wythnos diwethaf, collasom un o gewri ein cenedl. Efallai ei fod ef wedi mynd, ond mae ei enw wedi ei ysgrifennu yn ein hanes.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy, wrth gwrs, fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â Julie, sydd gyda ni yma heddiw, a gweddill ei theulu, sydd yn yr oriel rwy’n credu, ar ran y grŵp Ceidwadol ac ar fy rhan fy hunan yn bersonol. Rwy’n cofio’n dda y tro cyntaf—ac fe wnes i’r sylw hwn yr wythnos diwethaf— i mi gwrdd â Rhodri ac roedd e’n brysur yn codi baricêd yn ei ardd i atal fy ngwartheg rhag mynd i mewn i’w ardd. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel ffermwr, bod rhywun fel rheol wedi arfer gyda chryn dipyn o unigolion dig oherwydd bod eich gwartheg yn rhedeg o gwmpas yn eu gardd. Roedd gan Rhodri fwy o ddiddordeb yn y math o wartheg oedden nhw, a ble allai cyrchfan y gwartheg hynny fod yn y pen draw. Rwy'n credu bod hynny’n crisialu pwy oedd Rhodri Morgan yn dda. Roedd yn ddyn a oedd yn awyddus iawn i gael gwybod pethau, ac i ddeall pethau, ac, yn anad dim, roedd yn ddyn didwyll, parchus ac unionsyth. Cefais y fraint o wasanaethu yma yn un o dymhorau’r Cynulliad hwn o 2007 hyd 2011, ac, fel Aelod newydd, o blaid arall mae’n rhaid cyfaddef, roedd bob amser yn ymgysylltu, roedd bob amser yn trafod pethau, ac roeddech chi bob amser yn teimlo rhyw gyfeillgarwch rhyngddo ef a chithau. Rwy'n teimlo fy mod wedi cael braint fawr drwy gael gwasanaethu am un tymor yn y sefydliad hwn gydag ef. Y ffordd a oedd ganddo o ymddwyn yn swydd y Prif Weinidog, fel y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, roedd yn hynod falch o fod yn y swydd honno ac roedd yn awyddus i’r sefydliad hwn lwyddo. Mae gennym ni, fel gwlad, ddyled fawr iddo am y ffordd, fel y mae’r cyn-Lywydd wedi ei amlygu’n barod, y gwnaeth lywio’r llong, ynghyd ag eraill, pan nad oedd dyfodol y sefydliad hwn yn sicr a chryn amheuaeth yn bodoli. Roeddem yn ffodus ei fod yno wrth y llyw, gan weithio gydag eraill, i wneud yn siŵr bod datganoli yn dod yn rhan annatod o'n democratiaeth ac yn rhan annatod o'n gwlad ni yma yng Nghymru.

Rwy’n cofio’n dda yr adegau pan fyddai ef i mewn yn y fan hon yn Brif Weinidog, yn aml iawn ddim yn hollol ar ei ben ei hun ar fainc y Llywodraeth, ond fe fyddai’n eithaf bodlon i ddechrau cwestiynau'r Prif Weinidog yn sefyll yn y fan yna gyda llond llaw o’i gydweithwyr o gwmpas. Roedd hi’n gyfnod gwahanol yn y dyddiau hynny, yn 2007, 2008, a byddai'n rhoi ateb manwl iawn i chi. Byddai'n rhoi ateb i chi y byddech yn anghytuno ag ef efallai, ond roeddech chi yn deall ei agwedd ef ac agwedd y Llywodraeth. Y peth arall a wnaeth fy nharo i, yn Aelod newydd yn y sefydliad hwn, oedd, yn enwedig, y ffordd yr oedd yn ymroi i drafodion y Cynulliad—sut yr oeddem yn eistedd yn y Cyfarfod Llawn yma, gyda’r papurau o’i flaen, yn gweithio drwy'r papurau hynny, a byddai ei gefndir yn Nhŷ'r Cyffredin yn dod i’r amlwg yn aml iawn, oherwydd, yn sydyn, er eich bod yn meddwl nad oedd e’n gwrando ac yn sydyn byddai heclo yn dod o gadair y Prif Weinidog, a oedd yn sicr o dynnu gwynt o hwyliau aelod newydd i ryw raddau, a dweud y gwir. [Chwerthin.] Ond yn ôl pob tebyg—o’m safbwynt i, beth bynnag, yn ffermwr ifanc, trwy eu cymdeithasau trafod nhw—deuthum i arfer â hynny.

Rwy’n cofio’n dda, wedyn, iddo symud i'r meinciau cefn, ac efallai fy mod yn camgymryd, ond rwy'n credu ei fod yn arfer eistedd yn yr un sedd ag y mae Julie yn eistedd ynddi heddiw—efallai byddai rheolwr busnes Llafur yn gallu cadarnhau hynny, ond rwy'n credu mai dyna’r fan yn fras. Er hynny, nid Prif Weinidog fyddai’n bodloni ar fynd i'r meinciau cefn ac eistedd yn dawel ydoedd—fe wnaeth ei ran, roedd yr awch hwnnw ganddo ac roedd ganddo flas ar fyw fel ei fod yn ysbrydoliaeth inni i gyd, byddwn i’n awgrymu.

Ni fyddwn yn ceisio dweud am funud fy mod yn gyfaill mynwesol i Rhodri, yn yr ystyr bersonol honno y bydd llawer o'r fainc flaen yma a’r meinciau Llafur yn ei mynegi, rwy’n siŵr, yn eu teyrngedau, ond rwy’n teimlo fy mod yn hynod freintiedig, ac rwy'n siŵr y bydd aelodau fy ngrŵp yn teimlo'n hynod freintiedig, ein bod yn gallu galw Rhodri yn gyfaill gwleidyddol ac yn gydnabod gwleidyddol. Gwnaeth y Prif Weinidog y sylw y byddai e’n gallu tawelu pobl pan oeddent yn cwrdd ag ef, byddai'n gwneud iddynt deimlo’n gartrefol, ac roedd bob amser yn dangos diddordeb mewn pobl wrth ddwyn eu henwau i gof.

Pan ddeuthum adref o ddadl yr arweinyddion—ac rwy’n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am fy ffonio i yn syth ar ôl dadl y Prif Weinidog, yn garedig iawn, i roi gwybod i mi am y newyddion trist, fel y gwn y rhoddodd wybod i’r arweinyddion eraill—roeddwn yn siarad â’m gwraig ar ôl hynny, ac mae hi'n cofio am seremoni y buom ni ynddi. I’r rhan fwyaf o wŷr neu wragedd sy'n mynychu digwyddiadau o’r fath gyda'u partneriaid yn y byd gwleidyddol, mae digwyddiadau o’r fath yn aml yn codi arswyd, gan y cewch eich taflu i'r bleiddiaid yn aml iawn. [Chwerthin.] Roedd Rhodri yn eistedd gyda Julia yn y cinio arbennig hwn yr oeddem ynddo, ac yn ei gwneud hi yn gyfan gwbl gartrefol ac roedd yn llawn gwir frwdfrydedd am yr hyn yr oedd hi yn ei wneud, ac yn dymuno cael gwybod am y pethau oedd o ddiddordeb iddi hi—roedd Julia yn amlwg yn gofyn cwestiynau iddo yntau hefyd, yn yr un modd. Ond un felly oedd Rhodri—gallai eich gwneud yn gartrefol, gallai ddeall yr hyn yr oeddech yn ei sôn amdano a gallai hefyd gynnig ateb i chi a rhoi golwg ar fywyd i chi a oedd yn crynhoi’r dyn yr oedd ef. Dyn agos i’w le, parchus ac anrhydeddus iawn. Rydym yn wlad ffodus iawn, iawn o fod wedi cael dyn o’r fath safon ar ddechrau’r cyfnod datganoli, yn y gadair, yn llywio’r llong ac yn rhoi cychwyn inni ar y daith yr ydym yn dal i fod arni.

Fel y gwnes i wrth agor fy sylwadau, rwyf am orffen drwy ailfynegi ein cydymdeimlad â Julie a gweddill y teulu. Mae’n rhaid ei bod yn golled enfawr, ond, gobeithio, gyda threigl amser, y bydd y galar yr ydych yn ei deimlo yn cael ei liniaru gan y llu o atgofion melys a chynnes sydd gennych am ddyn gwirioneddol fawr.

Diolch, Llywydd. Ar ran Plaid Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â Julie a'r teulu, cydaelodau ei blaid, cydweithwyr a phawb a oedd yn adnabod Rhodri Morgan. Rwy'n siŵr fod gan bawb a oedd yn ei adnabod atgofion melys amdano, nid yn unig fel arweinydd y wlad, ond fel dyn caredig, doniol a chynnes. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi gweithio gydag ef pan oedd yn Brif Weinidog. Yr hyn yr wyf i’n ei gofio yw arweinydd a oedd bob amser yn barod i wneud ei ran. Roedd ganddo feddwl chwim, roedd yn gymeriad go iawn ac roedd yn wladgarwr. Roedd yn barod i wrando ar bobl eraill gan nodi ei farn ei hun a’i weledigaeth ei hun ar gyfer Cymru.

Mae'r ymadrodd 'dyn y bobl' yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn gwleidyddiaeth, ond gyda Rhodri roedd hynny’n gwbl haeddiannol. Roedd yn adnabyddus ac yn boblogaidd gyda phobl sy'n gweithio a phobl y tu allan i’w blaid ei hun. Roedd yn wleidydd y gallai pobl uniaethu ag ef. Roedd ganddo synnwyr digrifwch sych a chofiadwy, ond, heblaw am ei bersonoliaeth, gall y bobl hynny a oedd yn agos ato fod yn falch iawn o'i etifeddiaeth wleidyddol.

Rhodri Morgan oedd yn arwain y genedl hon ym mlynyddoedd cynnar datganoli—yn yr amseroedd ansicr ac anodd hynny. Ffurfiodd y Llywodraeth glymblaid gyntaf gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a llywodraethu’n ddiweddarach gyda’m plaid fy hun yn Llywodraeth Un Gymru o 2007 hyd at 2011. Roedd y rheiny’n gamau hynod bwysig ym mlynyddoedd cynnar ein democratiaeth.

Profodd Rhodri y gallai Cymru uno, a bod datganoli’n gallu golygu mwy nag un blaid yn ymarfer grym gwleidyddol ac y gallem i gyd weithio gyda'n gilydd ar y cyd. Trwy ei gyfnod ef o fod yn Brif Weinidog y genedl hon fe sicrhaodd fod sylfeini datganoli yn cael eu cadarnhau i wneud yn siŵr y byddai hynny’n goroesi ei amser ef o fod yn Brif Weinidog.

O dan ei arweinyddiaeth ef y cymerodd y Cynulliad hwn ei gamau cyntaf oddi wrth San Steffan o ran polisi cyhoeddus. Roedd gwneud pethau'n wahanol mewn ffordd unigryw Gymreig yn rhan o fantra gwleidyddol Rhodri. Bydd yn cael ei gofio yn dda am ei 'ddŵr coch clir'. Roedd ffordd Rhodri yn taro tant gyda phobl ar draws y pleidiau i gyd a’r rhai diblaid, gan daro tant hefyd i’r rhai a oedd wedi bod yn amheus am ddatganoli ar y cychwyn. Fel Aelodau o'r Cynulliad, rydym yn parhau i elwa ar yr etifeddiaeth honno heddiw. Heb Rhodri Morgan, gallech ddadlau na fyddem ni ar fin ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau fel sefydliad.

Rwyf am gloi fy sylwadau gydag un sylw. Pan ofynnwyd iddo yn 2008 am gyflawniadau mwyaf y wlad hon ers datganoli, fe atebodd mai ein hymdeimlad cynyddol o hyder a'n parodrwydd i wneud ein penderfyniadau ein hunain oedd y rheiny. Heb Rhodri Morgan ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw.

A heartfelt thanks, Rhodri Morgan. Rest in peace.

Diolch, Llywydd. Hoffwn, ar ran fy ngrŵp a’m plaid, ailadrodd y cydymdeimlad hefyd, sydd wedi eu mynegi i Julie ac aelodau eraill o deulu Rhodri.

Bûm yn Nhŷ'r Cyffredin ar yr un pryd â Rhodri am 10 mlynedd, o 1987 i 1997, ac er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol, roedd Rhodri bob amser yn gydymaith diddorol a hynaws a chanddo amser i siarad bob amser. Roedd yn ddyn addfwyn ac yn ŵr bonheddig. Roeddwn i’n teimlo’n agos ato oherwydd ei bod yn amlwg ar unwaith, er ei fod yn ffyrnig o deyrngar i’w blaid ei hun, nad oedd fyth yn mynd i fod yn was i neb ond yn aelod llawn o garfan y lletchwith. A’r un mor bwysig, roedd yn ddi-ildio yn ei ymroddiad i gwrteisi sylfaenol bywyd a gwleidyddiaeth.

Ac yntau’n ddyn didwyll ei hunan, roedd yn gallu derbyn didwylledd eraill bob amser. Nid oedd yn magu unrhyw ddrwgdeimlad personol tuag at neb, hyd yn oed y rhai a oedd a barn wahanol iawn i’w farn ef ei hun. Yn wahanol i rai, ni chredodd erioed fod dadl ddemocrataidd yn cael ei gwella drwy sarhad personol a phardduo. Roedd yn ddigon eangfrydig i gydnabod y gall pobl fod yr un mor ddiffuant yn eu hawydd i wneud daioni er eu bod yn gwahaniaethu’n sylfaenol o ran eu daliadau gwleidyddol. Roedd yn rhan o’r elfen honno o’r meddwl sosialaidd, a chanddi, yng ngeiriau Morgan Phillips, fwy o ddyled i Fethodistiaeth nag i Marx. Ond roedd Rhodri yn anghydffurfiwr mewn ystyr cyffredinol: ei wallt afreolus yn cyfleu ei wrthwynebiad pendant i gael ei reoli gan unrhyw beth heblaw ei gydwybod ei hun.

Mae ei ysgrif goffa yn 'The Daily Telegraph' yn ei ddisgrifio fel

AS Llafur a oedd yn torri ei gwys ei hun ... ac a anwybyddodd Tony Blair i ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Ac roedd yn siomedig iawn yn 1997 pan fethodd Tony Blair â chynnig swydd weinidogol iddo. Ond o edrych yn ôl, efallai y byddai wedi cytuno bod Blair wedi gwneud cymwynas ag ef, fel yr ysgrifennodd Martin Shipton:

Mewn gwirionedd, swm a sylwedd y peth oedd—er nad dyn gwyllt ar y chwith mohono’n sicr—fod Rhodri yn gyferbyniad llwyr i’r math o wleidydd technocrataidd yr oedd Blair yn ei ffafrio.

Gan ei fod yn ddyn ffyddlon i’w blaid fe roddodd ei siom bersonol o’r neilltu a defnyddio rhyddid y meinciau cefn i ymroi’n frwdfrydig i'r ymgyrch dros sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. O ganlyniad, cafodd yr enw haeddiannol o fod yn dad datganoli yng Nghymru, nid yn unig am ei waith gydag ymgyrch y refferendwm gwreiddiol ond hefyd ei 10 mlynedd o fod yn Brif Weinidog. Ac fe wnaeth cymaint â neb i sefydlu'r Cynulliad hwn yn nodwedd barhaol ym mywyd Cymru, gan beri cryn syndod i rai fel fi a oedd yn llawn amheuon ar y cychwyn. Efallai nad y ddadl orau dros ei achos yw dweud mai hebddo fe, ni fyddwn i yma heddiw, ond pwy all wadu na fydd y fforwm hwn ar gyfer gwrthdaro egnïol rhwng safbwyntiau yn gofeb barhaol iddo.

Yn ymgyrch etholiad y Cynulliad y llynedd, gwnaeth Rhodri a minnau raglen deledu ar gyfer S4C, ac fel mae pob dyn â’i hanesion yn ei henaint roeddem ni’n diddanu ei gilydd â straeon am yr hen ddyddiau yn Nhŷ'r Cyffredin a'r cymeriadau yr oeddem wedi eu cyfarfod. Fyth yn was i neb, cyhoeddodd ei benderfyniad annisgwyl i ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog ar ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain a dywedodd,

’Does ’na byth amser iawn i fynd—

roedd hi’n well peidio â mynd yn hyfach na’i groeso. Wel, efallai ei fod yn iawn yn hynny o beth bryd hynny, ond ac yntau ond yn 77 mlwydd oed, yn sicr nid dyma’r amser cywir iddo’n gadael am y tro olaf, ac mae Cymru yn llawer tlotach o’i ymadawiad cyn ei amser. Fel rhywun a oedd yn gwasanaethu’r cyhoedd yn anhunanol cafodd ei barchu gan bawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol a'i garu fel y cynhesaf o ddynion gan y llu o bobl y daeth ar eu traws ym mhob agwedd ar fywyd. Dywedodd Dr Johnson fel hyn

Nid yw dyn yn mynd ar ei lw mewn ysgrifau a dorrwyd ar faen

Ond gallaf ddweud yn onest bod Rhodri yn un o'r dynion mwyaf cymeradwy y cefais y pleser o’u hadnabod mewn hanner canrif o fywyd cyhoeddus, ac mae'n anrhydedd i rodio yn ei gysgod.

Diolch i chi, Llywydd. Byddwn yn clywed llawer heddiw, mi gredaf, am Rhodri fel un o'r 'werin'—un ohonom ni—ac mae hynny, roedd hynny, wir yn ddiamau. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd ei fod yn sefyll allan ac yn sefyll yn dalach na ni hefyd—fel gwleidydd, fel arweinydd, fel tad a chyfaill i'r rhai ohonom o ddosbarth 1999 ac yn y cymunedau ledled Cymru.

Nawr, mae llawer o'r teyrngedau wedi sôn am ei bersonoliaeth fel bod ar wahân i’w sgiliau fel gwleidydd. Yn fy marn i, cyfanrwydd oedd hynny i raddau helaeth iawn. Disgrifiodd Robert Kennedy wleidyddiaeth fel y proffesiwn mwyaf anrhydeddus. Gwn y byddai Rhodri wedi cytuno—mewn gwirionedd, yn ail, yn unig efallai i chwarae fel maswr dros Gymru—ond mae bod yn wleidydd, gan fod wedi ymrwymo i ddelfrydau a gwerthoedd, a chynrychioli cymuned a gwlad yn broffesiwn anrhydeddus na ddylai neb ymddiheuro amdano.

Roedd anrhydedd mawr yn yr arweinyddiaeth a gyflwynodd i’r lle hwn, ac i holl ystyr hunan-lywodraeth Cymru. Bydd y rhai ohonom a oedd yma yn ôl yn yr ychydig fisoedd a blynyddoedd lletchwith hynny yn nemocratiaeth Cymru, bob amser yn cofio ac yn ddiolchgar am y medrusrwydd a'r cadernid a gyflwynodd Rhodri i'r sefydliad hwn ac i swydd y Prif Weinidog. Daeth y sgiliau hynny o’i natur fel dyn. Bydd gan bawb ei stori neu ddwy, neu dair, neu bedair neu bump, am Rhodri mewn rhyw gyswllt, ond ni fydd cymaint o’r rheiny â’r straeon, y ffeithiau a’r chwedlau a oedd gan Rhodri ei hun am bob pentref, tref, tîm rygbi, digwyddiad chwaraeon—roedd bob amser yn gwmni gwych.

Dangosodd garedigrwydd proffesiynol a phersonol mawr iawn tuag ataf i. Fel yr ydym wedi ei glywed yn barod, roedd yn ddyn hynod falch o’i deulu, ond yr oedd ganddo ddiddordeb hefyd yn eich teulu chi. Roedd ganddo bob tro yr amser i ofyn i mi am fy merched, ac yn union fel Julia, mae fy ngŵr innau, Richard, yn aml yn cymryd rhan anfoddog yn rhai o'r digwyddiadau ffurfiol yr wyf yn mynnu ei fod yn bresenol ynddynt. Ond roedd Rhodri bob amser yn barod i sgwrsio ag yntau hefyd, yn awyddus i wybod am y gwartheg a'r tymor wyna. Pan fu farw fy mam, ysgrifennodd nid yn unig ataf i, ond ysgrifennodd at fy niweddar dad hefyd. Ni allai fy nhad gredu bod Prif Weinidog Cymru wedi rhoi o’i amser i ysgrifennu ato ef am ei golled. Yr oedd yn ddyn graslon, graslon iawn.

Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fy hunan yn bersonol a’m teulu, rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf, Julie, i chi a’ch teulu.

Roedd Rhodri yn ffrind i mi, fe oedd fy arweinydd pan oedd yn Brif Weinidog ac roedd hefyd yn etholwr i mi; roeddem yn rhannu brwdfrydedd mawr am brydferthwch Bro Morgannwg. Ac roedd Rhodri bob amser yn dod o hyd i amser i ymgyrchu gyda mi, ond roedd wrth ei fodd yn mynd i gerdded yn lleol, nofio yn y môr gyda Julie ym mae Whitmore, ac un atgof gan ffrind yr wythnos yma oedd Rhodri yn treulio amser gyda'i dau fab ifanc ar draeth Bendricks yn y Barri, gan eu diddanu ar y pwnc o olion traed deinosoriaid— [Chwerthin.]—ond yn fwyaf diweddar, mwynhau’r cynnyrch o’i ardd—mae Carwyn wedi sôn am hynny’n barod—ac omled Sbaenaidd arbennig iawn wedi ei wneud â wyau ei gasgliad diweddaraf o ieir wedi eu prynu ym marchnad Glan yr Afon. Rwy’n cofio ymweld ag Ysgol Gynradd Dinas Powys hefyd ar ddiwrnod Masnach Deg a chyfarfod â Jaidem, ŵyr Rhodri a Julie. Nawr, mae Jaidem yn aelod o bwyllgor eco yr ysgol, ac yr oedd yn dal banana Masnach Deg enfawr i fyny gyda'i ffrindiau ar gyfer tynnu lluniau—ac yn wybodus iawn, wrth gwrs, ar faterion Masnach Deg.

Felly, mae adnabod Rhodri a Julie fel ffrindiau agos, gydag ymrwymiadau gwleidyddol ar y cyd, yn mynd â mi amser maith yn ôl—yn mynd â mi yn ôl i'r 1980au cynnar pan ymwelais ag ef pan oedd yn bennaeth y swyddfa Ewropeaidd yng Nghymru, a minnau’n gofyn iddo am gymorth gyda chyllid Ewropeaidd ar gyfer Gweithdy Menywod De Morgannwg. Wel, aeth ati i weithio ar unwaith, sicrhaodd y cyllid ac agorodd y gweithdy yn 1984, gyda meithrinfa, hyfforddiant i fenywod mewn sgiliau TG ac electroneg—roedd llawer o amheuaeth ar y pryd am ei fod i fenywod yn unig. Ond, wrth gwrs, cefnogodd Rhodri ni bob cam o’r ffordd, a 35 mlynedd yn ddiweddarach, mae miloedd o fenywod a phlant wedi elwa ar y gweithdy hwnnw. Roedd bob amser yn barod i hyrwyddo hawliau menywod; diolch i ti, Rhodri.

Buom yn gweithio gyda'n gilydd ar yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’, a aeth â ni i mewn i'r Cynulliad ac i’r Llywodraeth fel cydweithwyr gweinidogol. O fewn blwyddyn ef oedd Prif Weinidog Cymru gan aros yn y swydd am bron i ddegawd. Mae llawer wedi ei wneud a’i ddweud am allu Rhodri i gofio manylion, ond mae hefyd yn bwysig iawn i gofio ei fod bob amser yn edrych ar y tymor hir, ar y syniadau polisi mawr a allai symud Cymru ymlaen.

Felly, pan oeddwn yn Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, fe’i gwnaeth yn glir ei fod yn llawn mor bryderus ynglŷn â gwasanaethau cymdeithasol ag am iechyd, a chydag iechyd y cyhoedd yn gymaint â’r GIG. Sicrhaodd ein bod yn cael y ddeddfwriaeth i benodi Comisiynydd Plant cyntaf Cymru yn 2001. Roedd y plant a oedd yn derbyn gofal yn Voices from Care yn gwybod ei fod yn gwrando pan ymatebodd i adroddiad Waterhouse.

Wrth gwrs, roedd y rheiny’n amseroedd anodd yn ein dyddiau cynnar, fel y dywedwyd: £1.9 biliwn o gyllideb iechyd o’i gymharu â thros £7 biliwn erbyn hyn. Ond, fe wnaethom ni wrthod y fenter cyllid preifat, a chyflwyno presgripsiynau rhad ac am ddim ac agorodd Rhodri ein hysgol feddygol fawr ei bri i raddedigion yn Abertawe—ac roedd yn hynod falch o fod yn ganghellor Prifysgol Abertawe. Roedd yn angerddol am ein gwasanaeth iechyd, a chefnogi gofal sylfaenol, ond hefyd am hyrwyddo’r gwyddonwyr rhagorol hynny sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil meddygol. Mae effaith ei benderfyniad i benodi prif gynghorwyr gwyddonol Cymru wedi bod mor bwysig.

Hefyd, mae ei gyfraniad i addysg wedi bod yn unigryw, wrth iddo gefnogi'r cyfnod sylfaen, gan gydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, gan ddod ag addysg uwch i'r Cymoedd, a lansio'r rhaglen weddnewidiol o adeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Heddiw, mae’r ymosodiad terfysgol erchyll ym Manceinion yn bennaf yn ein meddyliau, ac mae'n rhaid i ni gofio ymateb cyflym Rhodri, pan oedd yn Brif Weinidog, i ddigwyddiadau 9/11 a 7/7, gan ddwyn ynghyd yr holl arweinwyr ffydd at ei gilydd mewn fforwm i sefydlu perthnasoedd newydd, sydd wedi parhau drwy ddŵr a thân hyd y dydd heddiw. Aeth Julie a minnau i gyfarfod teimladwy iawn ddydd Sul yn y ganolfan gymunedol Hindwaidd, gyda chyfraniadau gan sefydliadau lleiafrifoedd ethnig ac arweinwyr ffydd—mae llawer ohonynt yma heddiw. Y neges oedd fod Rhodri wedi annog cysylltiad, ei fod wedi gwrando a’i fod wedi gweithredu. Mae llawer wedi ei ddweud am allu a dawn Rhodri i ymwneud â phobl, a hynny bob dydd, ym mhob man yr aeth iddo yng Nghymru, ond yr oedd hefyd yn ddyn a oedd yn edrych allan i'r byd ehangach. Roedd Cymru o Blaid Affrica yn enghraifft ddisglair o hynny, fel y byddwn yn ei weld ar Ddiwrnod Affrica, a gaiff ei ddathlu yn y Senedd ddydd Iau.

Felly, roedd Rhodri Morgan yn ddyn gwirioneddol eithriadol sydd wedi gadael ei ôl yn annileadwy ar Gymru. Roedd yn wleidydd â dawn unigryw ac yn meddu ar y gonestrwydd a’r trugaredd mwyaf. Rwyf wedi bod mor ffodus o gael ei adnabod a gweithio gydag ef, fel arweinydd gwirioneddol ysbrydoledig a ddiffiniodd ystyr a phwysigrwydd datganoli i Gymru, gan hefyd lunio hunaniaeth arbennig ar gyfer Llafur Cymru. Nawr, mae'n rhaid i ni ddysgu gyda’n gilydd o’i fywyd, ei etifeddiaeth fel cyfaill mawr a chyson i Gymru. Diolch, Rhodri.

Arbennig, ysbrydoledig, didwyll, gwych, gwreiddiol, unigryw: pob un yn ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio Rhodri yn y cannoedd o deyrngedau i mi eu darllen yn ystod y dyddiau diwethaf, a phob un yn ddisgrifiad cywir ohono. Fe wnes i gwrdd â Julie a Rhodri 20 mlynedd yn ôl yn yr ymgyrch 'Ie dros Gymru'. Yna gweithiais ar ddwy ymgyrch arweinyddiaeth Rhodri yn ôl ym 1998 a 1999, ac mae hanes hynny yn adnabyddus iawn. Fodd bynnag, roedd Rhodri yn credu yn bendant y byddai ei amser yn dod, gan ddyfynnu un o'r cyffelybiaethau o fyd chwaraeon yr oedd mor hoff ohono, 'Tri chais i Gymro', ac yn wir, felly y bu hi. Pan ddaeth yn Brif Weinidog Cymru ym mis Chwefror 2000, fe sicrhaodd fod datganoli—a oedd yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar—yn gweithio dros bawb yng Nghymru, drwy lywio’r llong a rhoi arweinyddiaeth eithriadol. Datganoli fydd ei etifeddiaeth wleidyddol. Hebddo fe, byddai wedi bod yn daith llawer mwy anodd.

Cefais y fraint o gael fy ethol gan bobl Wrecsam i wasanaethu o dan Rhodri yn 2007. Fe wnaeth Rhodri a Julie wir fy annog i gynnig fy hun i fod yn gynrychiolydd etholedig. Felly, mae gennyf ddyled fawr iddo, ac ni fyddaf fyth yn anghofio ei gefnogaeth a’i anogaeth bersonol dros y ddau ddegawd diwethaf. Gofynnais yn aml ofyn am ei gyngor a’i ddoethineb, ac rwyf yn cofio, ar un diwrnod arbennig o annymunol yn ystod ymgyrch etholiadol, pan oedd gwrthwynebwyr yn taflu sarhad personol, iddo glywed am hyn a fy ffonio i ddweud wrthyf am godi uwchlaw hynny, a chofio bod gwleidyddiaeth yn ymwneud â chwarae'r bêl ac nid y dyn—cyfatebiaeth arall eto o fyd chwaraeon.

Er fy mod yn dal i fod wedi fy syfrdanu ac yn drist oherwydd ei farwolaeth sydyn, nid oes modd meddwl yn hir am Rhodri heb gofio stori i wneud i chi wenu. Ac mae cymaint o’r straeon hynny i roi cysur ar yr adeg yma. Yn ystod ei ymweliadau lu â Wrecsam, galwai yn aml yn fy nhŷ i'n gweld ni. Un dydd Sul, roedd wedi bod yn cyfarfod ag unigolion a oedd wedi dioddef llifogydd difrifol. Fe gyrhaeddodd yn gobeithio cael cinio dydd Sul cyn mynd adref i’r de. Fodd bynnag, roedd hi’n ben-blwydd fy merch yn chwech oed, felly doedd dim cinio dydd Sul ar gael, dim ond tŷ anhrefnus, ac, fel arfer, fe dorchodd ei lewys, helpu i baratoi ar gyfer y parti pen-blwydd a glanhau’r gegin wedyn.

Bydd cydweithwyr a oedd yma cyn 2011 yn cofio, fel y dywedodd Carwyn, fod Rhodri wedi dewis peidio byth â thanio’i gyfrifiadur pan oedd yn Brif Weinidog. Byddai rhywun yn gwneud hynny drosto, a byddai yntau’n syml yn pwyso’r botymau i bleidleisio. Fodd bynnag, ar ôl iddo ymddeol o fod y Prif Weinidog, penderfynodd ei fod yn hen bryd iddo ddechrau anfon negeseuon e-bost. Ar y dydd Gwener ar ôl iddo ildio’r awenau, anfonodd e-bost ataf yn fy llongyfarch ar gael fy mhenodi'n Ddirprwy Weinidog, gan ddweud wrthyf mai hwn oedd yr e-bost cyntaf iddo ei anfon erioed, ac y dylwn ei drysori.

Wedi i ni ddychwelyd ar ôl egwyl y Nadolig, eisteddai Rhodri yn union y tu ôl i mi yn y Siambr, ac fe arferai ofyn i mi, gan sibrwd yn uchel iawn, a oedd awydd paned arna i, er mawr syndod i’r Llywydd ar y pryd. Felly, penderfynais ddangos iddo sut i ddefnyddio'r system negeseuon sydd gennym ni yn y Siambr, ac yna fe benderfynodd y dylwn fod yn gynorthwy-ydd Technoleg Gwybodaeth iddo, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Roedd hon yn swydd yr oeddwn yn fodlon iawn ei gwneud, gan mai dyma'r peth cyntaf erioed i mi allu ei wneud yn well nag ef.

Roedd Rhodri yn berson di-lol efo’i draed ar y ddaear, ac roedd yn angerddol dros Gymru a'i phobl.  Nid oedd ots pa bentref, tref neu ddinas yng Nghymru yr oeddech chi’n ymweld â hi gydag ef, roedd ganddo wybodaeth fel gwyddoniadur am y lle hwnnw, ac roedd yn siarad yn ddieithriad gyda phobl, gan ddod o hyd i gefnder neu hen gyfaill teuluol. Gwnâi i bawb deimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol a dyna pam yr oedd yn wleidydd mor boblogaidd, a gai ei adnabod ym mhob man wrth ei enw cyntaf yn unig. Mae cymaint o bobl yn teimlo’r golled ar ei ôl. Amlygwyd hyn i mi ar ymweliad ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Iau diwethaf, pan wnaeth chwech o bobl, pob un ohonynt yn ddieithr i mi, ddod ata i ar y coridor i ddweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi colli cyfaill, er nad oedden nhw erioed wedi cwrdd ag ef.

Roedd yn bleser bod yn ei gwmni a gwrando ar ei straeon. Roedd bob amser yn hapus i rannu ei ddoethineb a’i wybodaeth helaeth gyda chi. Roeddwn i’n gwerthfawrogi ei gyfeillgarwch a byddaf yn gweld hiraeth mawr ar ei ôl. Ond wrth gwrs, ei brif flaenoriaeth mewn bywyd oedd ei deulu, ac roedd mor driw iddyn nhw. Mae fy meddyliau i a fy merch gyda Julie a'i holl deulu ar yr adeg anodd iawn yma. Diolch i ti am bopeth, Rhodri. Cysga’n dda, frawd.

Fel cadeirydd grŵp Plaid Geidwadol Cymru a'r unig Aelod a etholwyd gyntaf yn 1999, anrhydedd trist yw traddodi’r deyrnged hon.

Pan ddaeth Rhodri yn Brif Weinidog ym mis Chwefror 2000 roedd datganoli yn strwythur digon simsan. Roedd wedi ei gymeradwyo gan yr etholwyr o drwch blewyn yn unig, roedd diffyg arweinyddiaeth bendant ac nid oedd wedi creu Llywodraeth sefydlog. Darparodd Rhodri yr egni a’r weledigaeth yr oedd eu hangen er mwyn i ddatganoli lwyddo yng Nghymru. Roedd yn wrthwynebydd anodd, ac rwy’n meddwl y dylem ni fod yn ddidwyll wrth gydnabod hyn. Ond, fel y dywedwyd am Churchill, roedd unrhyw ddicter fel mellt—yn llachar, yn bendant ac yn mynd heibio’n gyflym.  Er ei fod yn enwog am ei gof grymus, nid oedd yn dal dig gwleidyddol, ac rydym ni i gyd yn gwybod rhinwedd mor brin a haelfrydig yw honno. Hanfod gweledigaeth Rhodri oedd bod yn rhaid i Gymru ddod yn genedl wleidyddol a oedd yn deilwng o’i chyflawniadau diwylliannol a hanesyddol ac a allai eu datblygu ymhellach. Ac mae gan ein holl draddodiadau gwleidyddol mawr ran yn hynny, fel yr oedd ef ei hun yn falch o gydnabod.

Pan ymddiswyddodd Rhodri o fod y Prif Weinidog, roedd datganoli wedi'i ymgorffori yn gyfansoddiadol ac ar fin ennill mwyafrif o ddwy ran o dair mewn refferendwm ar bwerau deddfu sylfaenol. Bydd gwasanaeth Rhodri i'r genedl Gymreig yn cael ei weld fel y pwysicaf yn ei genhedlaeth ef o wleidyddion. Ac roedd yn wasanaeth a gafodd ei gefnogi a'i gynnal gan briodas hir a dedwydd. Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf a chydymdeimlad fy nghyd-Aelodau i Julie a'r teulu i gyd.

Dechreuais i fwrw drysau yn perswadio dinasyddion Gorllewin Caerdydd i bleidleisio dros Rhodri Morgan yn y fuddugoliaeth enwog ym 1987, pan wnaeth yr etholaeth wrthdroi’r unig egwyriant yn ei hanes i ddychwelyd i ddwylo’r Blaid Lafur. Fe’i glywais yn siarad yn gyhoeddus olaf dim ond dwy wythnos yn ôl, yn ail-fyw cyffro’r ymdrech honno a dechrau perthynas 30 mlynedd a mwy gyda chymunedau ledled Gorllewin Caerdydd.

Oherwydd, os oedd enw Rhodri Morgan yn newydd i lawer ym 1987, nid arhosodd fel hynny am yn hir: yr ymdrech yn erbyn y morglawdd; yr ymateb i’r ‘Ely riots’, fel y’u galwyd ym 1990; y dymchwel di-dostur o wladwriaeth y quangos—cynhyrchydd a chyfarwyddwr y ffilm Gymreig enwog yna, ‘Last Quango in Powys’, fel y clywais i fe’n cyfeirio ati yn aml. Ac erbyn 1992 roedd beth oedd yn arfer bod yn sedd ymylol wleidyddol eisoes yn gadarn yn nwylo Rhodri Morgan. Nid oedd hyn o ganlyniad i unrhyw beth ond gwaith caled, di-baid—y syrjeris wythnosol, y cyfarfodydd cyhoeddus, yr ymdrechoedd a digwyddiadau cymunedol. Efallai mi oedd yn dechrau bod yn amlwg yn fwy ar y llwyfan cenedlaethol, ond ble bynnag oedd ei angen yn lleol, mi oedd Rhodri yno.

Llywydd, in those days in the first half of the 1990s, Jane Hutt and I were the county councillors for the Riverside ward in Cardiff West, Sue Essex and Jane Davidson were the Riverside city councillors. We would hold weekly street surgeries, distributing flyers, inviting residents to put them up in their windows if they wanted us to call. Once every couple of months we’d be joined by Rhodri. Out would go a special flyer, advertising the presence of the local Member of Parliament. Instead of the usual three or four takers, a dozen leaflets would go up in people’s windows. Into the first house, Rhodri would disappear. Sue, Jane or I would proceed to call on each of the remaining eleven, every one of them disappointed to see us, every one of them hoping to see Rhodri. Three quarters of an hour later, we would return to the first house. There would be the Member of Parliament for Cardiff West, a plate of Welsh cakes, two cups of tea and three cousins discovered to be in common. They thought he was wonderful. And of course, they were right.

No surprise, then, that by the time of the 1997 general election and the first Assembly elections of 1999, Cardiff West voters were returning Rhodri Morgan with majorities that I remember telling him at the time would be the envy of Albania—one of the few European countries, he then pointed out, with which he did not have a pre-existing set of political contacts or relationships. By 2001, with the parliamentary representation of Cardiff West passed safely on to his close friend and adviser, Kevin Brennan, who I know is here this afternoon, Rhodri was free to concentrate on juggling just the political demands of being both First Minister for the whole of Wales and the fierce energy he brought to representing individuals and communities in his own constituency, and a relationship which continued well beyond his formal retirement in 2011.

Knocking doors over the past few days in Cardiff West, Llywydd, has been a slow and painful process. Full of tears, full of laughter, as household after household has its own Rhodri Morgan story to tell. Llywydd, because I spent the best part of a decade working with a small number of people who were there in the First Minister’s office—Lawrence Conway, Rose Stewart—during those earliest years of devolution, I just wanted to end by saying something briefly about Rhodri’s time in office. You’ve heard the story today of those hugely rocky early days, how he stabilised the devolution project and set it on the course it has steered ever since. It’s hard to add something new to that essential narrative. But what I did want to say this afternoon is that, underneath that sparkling surface, that ability to talk to anyone about anything, went a hugely serious political purpose: the creation of this institution, the putting the power in the hands of Welsh people to decide on issues that affect only them, the embedding of devolution in all parts of Wales. General de Gaulle, Rhodri would say, complained that it was impossible to govern a country that had more than 2,000 cheeses, and he had it easy in all those things. A Senedd soon to be a Parliament, an institution with full law-making powers, a proper separation between the Executive and the legislature, and, most of all, a secure place in the minds and preferences of Welsh citizens: what a different place this is to May 2000 in those earliest days of Rhodri Morgan as First Minister, and because of Rhodri Morgan as First Minister.

Llywydd, devolution is a project without a history. All of us involved it have had a hand in its creation. Inevitably, much of what we face we come across for the first time. The loss of a former First Minister and friend is exactly that sort of event. It leaves us raw and struggling to respond. But of this we can be sure: without Rhodri Morgan, that journey we have all been on would have been very different, and far, far more difficult.

Diolch i chi am y cyfle i dalu teyrnged i Rhodri yn y Senedd heddiw, ac, wrth gwrs, ym mhresenoldeb Julie, a ffurfiodd bartneriaeth mor gryf â Rhodri dros gymaint o flynyddoedd, mewn priodas ac yn wleidyddol. Roedd hi’n fraint, Llywydd, i wasanaethu gyda Rhodri yn y Cynulliad, ac yn wir yn y Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Rhodri am roi fy nghyfleoedd cyntaf i mi fel aelod o'i Lywodraethau. Roedd gweithio gydag ef yn bleser. Roedd ei ymrwymiad i sosialaeth, i Gymru, i ddatganoli, a’i synnwyr digrifwch bywiog, yn gwneud hynny yn bleser o’r mwyaf.

Cofiaf yn dda am Rhodri, yn ei ddyddiau cynnar yn Brif Ysgrifennydd, yn siarad mewn cymaint o ddigwyddiadau yn y Cynulliad, yn y Bae, yma ac acw, ar amrywiaeth eang iawn o faterion. Roedd bob amser yn dangos ehangder a dyfnder diddordeb a gwybodaeth oedd yn gwneud i bob un ohonom ni, rwy’n credu, ymfalchïo bod gennym Brif Weinidog o'r fath. Roedd hynny yn sicr yn wir mewn cyfarfod rhyngwladol o bobl flaenllaw rwy’n ei gofio yn y Celtic Manor pryd y traethodd Rhodri yn huawdl am hanes a diwylliant Cymru. Daeth cymaint o bobl ataf i ac eraill o’r Cynulliad wedyn a dweud ei bod yn rhaid ein bod yn falch iawn o gael arweinydd gyda'r dyfnder hwnnw o wybodaeth am hanes a diwylliant Cymru.

Roedd mynd gyda Rhodri i ymweld â gweithfeydd dur yn Nwyrain Casnewydd yn brofiad diddorol iawn. Roedd pawb yno, a chanddynt ddegawdau o brofiad yn y diwydiant dur, yn llawn edmygedd o ddiddordeb Rhodri a'i wybodaeth am brosesau a chynnyrch diwydiannol, ac rwy’n gwybod nad am y diwydiant dur yn unig yr oedd hynny’n wir. Roedd yn wir am gymaint o ymweliadau â gwahanol sectorau a oedd yn ffurfio, ac sy’n dal i ffurfio, ein heconomi yng Nghymru. A phan y daethai draw yn achlysurol i gemau rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent—nid pan fyddent yn chwarae Gleision Caerdydd, ond gwrthwynebwyr eraill, fel Munster, rwy’n cofio —roedd yn llwyddiant ysgubol ar y terasau oherwydd ei angerdd, ei angerdd amlwg iawn am rygbi ac, yn wir, am chwaraeon yn gyffredinol, ac oherwydd ei fod yn gweiddi ei gymeradwyaeth ac yn barod i fod yn rhan o’r cellwair ynghylch Gleision Caerdydd a Dreigiau Casnewydd Gwent a’u gwahanol rinweddau, canlyniadau a llwyddiannau. Ac, wrth gwrs, ar y strydoedd ac ar garreg y drws, roedd Rhodri yn hynod o boblogaidd, ac, fel mae cymaint o bobl eisoes wedi dweud heddiw, ac fel y dywedwyd gymaint o weithiau y tu allan i'r Siambr hon, roedd ganddo allu cwbl naturiol a diffuant i uniaethu â phobl o gymaint o wahanol gefndiroedd.

Llywydd, rwy’n credu ei fod yn glir bod lle Rhodri mewn hanes yn ddiogel—sefydlu’r Cynulliad a’i roi ar waith, gan roi iddo hygrededd, amlygrwydd a phoblogrwydd, a hefyd llunio gwleidyddiaeth yn dilyn datganoli yng Nghymru, a gwleidyddiaeth Llafur Cymru i’r sefyllfa yr ydym ni bellach mor gyfarwydd â hi: i’r chwith o'r canol, a gynlluniwyd ar gyfer Cymru, dŵr coch clir.

Fe aned Rhodri Morgan, rydw i’n meddwl, i fod yn Brif Weinidog Cymru, nid yn unig am ei fod e’n arddel yr enwau ‘Rhodri’ a ‘Hywel’ ond am ei gymeriad a’i bersonoliaeth. Nid oedd e’n amlwg i’w blaid ei hunan ddwywaith o’r bron, ond, ar y trydydd cynnig, fel mae Lesley Griffiths wedi ein hatgoffa ni—tri chynnig i Gymro—fe ddaeth yn arweinydd plaid, Cynulliad, Llywodraeth a gwlad. Roedd angen rhywun yn nyddiau cynnar datganoli a fyddai’n ymgorffori yn ei bersonoliaeth a’i gymeriad natur ac ansawdd datganoli, a Rhodri oedd hwnnw. Roedd y cysyniad o ddatganoli yn annelwig, yn anodd dirnad beth a olygai i’r person ar y stryd, yn y siop, y feddygfa neu’r ysgol. Ond roedd modd i bawb droi at Rhodri Morgan a’i weld a deall yn syth, ‘Dyma beth yw datganoli—ein harweinydd ein hunain.’

Pan soniodd Rhodri Morgan am ‘clear red water’, roedd e’n anelu ei sylwadau at ei blaid ei hunan, oedd, ond roeddynt yn eiriau pwysig i’r genedl gyfan. Rhoddasant ganiatâd i bobl a oedd yn llugoer at ddatganoli i’w goleddu, gan ddweud, ‘Mae modd ichi fod yn Brydeiniwr, yn ddatganolwr, yn genedlaetholwr a dal i fod yn rhan o’r teulu Llafur.’ Mewn geiriau syml, crisialodd benbleth a bendith datganoli.

Nid oes dwywaith gen i na fyddem ni’n cwrdd heddiw fel Senedd gyda phwerau deddfu llawn oni bai am Rhodri Morgan. Fe chwaraeodd eraill a phleidiau eraill eu rhannau llawn hefyd, ond roedd teyrngarwch Rhodri i’r cytundeb a wnaed yn Llywodraeth Cymru’n Un i alw ac ymgyrchu dros refferendwm am Senedd lawn yn gadarn a solet. Dyna yn wir oedd arweinyddiaeth gadarn a solet. Roedd hi’n bleser ac, fel yr oedd y Prif Weinidog wedi ei ddweud wrthym ni, roedd hi’n wers, yn aml iawn hefyd, i fi i weithio iddo fe yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gadawaf i eraill, efallai, a oedd yn fwy o gyfeillion na chydweithwyr, fel yr oeddwn i, iddo fe i sôn mwy am ei wallt a’i olwg blêr ar adegau—y ffaith rydw i’n ei gofio yw bod rhywun wedi gorfod mynd yn bell iawn i nôl pâr o esgidiau teidi iddo fe i ymddangos mewn cynhadledd. Dywedaf yn unig taw dyma oedd ei gymeriad, yr hyn a’i gwreiddiodd a’i cadwodd ar y ddaear, ac nid yn greadigaeth i gelu’r gwir gymeriad, fel y cawn gyda rhai gwleidyddion a rhai pobl.

I did know Julie well before I knew Rhodri, as we go back many years in the voluntary sector in Wales, and I also knew Julie as a Member of Parliament in Westminster. I want to convey my deepest condolences on behalf of myself, and my own family as well, to Julie and her family, but to say that she and Rhodri have left an indelible mark upon myself and my family also, because, in my early days in Westminster, talking to Julie, I understood that Rhodri and Julie had a very secret place, a place that was in my constituency then, a caravan in Mwnt. This sounded a wonderfully romantic idea, but, more importantly, it sounded like what was keeping Rhodri and Julie and everyone else sane and human in a life of politics. So, within a year, I had my own caravan on the coast of Ceredigion, even though I live in Aberystwyth. [Laughter.] That’s kept me grounded and human and sane, I hope. I hope that the coast of Ceredigion will bring you many fond memories of Rhodri and your time spent in Mwnt and your family there, as well.

Roeddwn i hefyd, fel un oedd yn astudio’r Gymraeg mewn coleg, yn fath o adnabod tad Rhodri Morgan. Roedd T.J. Morgan yn ysgolhaig ac yn adnabyddus iawn i unrhyw un sydd wedi astudio’r Gymraeg. Roedd e hefyd yn feistr ar yr ysgrif, y fath arbennig o ysgrifennu sydd gennym yn Gymraeg, sy’n cymryd peth bach ac yn ei fawrygu ac yn dweud y pwysigrwydd mawr o’i gwmpas e, ac roedd Rhodri Morgan, wrth gwrs, ei hunan, yn feistr ar y grefft yna, er y byddai fe’n ei wneud e ar lafar, efallai, yn hytrach na’i ysgrifennu fe i lawr.

Ond fe gydiais i yn un o’r casgliadau o ysgrifau sydd gyda fi o dad Rhodri Morgan, T.J. Morgan, a’i ddarllen e dros y Sul i fy atgoffa fi o’r hiwmor, y gallu i redeg yn eang, y diddordebau eang, a phopeth a oedd gan Rhodri hefyd. Ac mae’r dyfyniad yma yn fy nharo i. Mae T.J. Morgan, tad Rhodri, yn sôn am arddel, ac roedd Rhodri Morgan yn hoff iawn o wneud y cysylltiad yna: gwneud yn siŵr fod pawb yn arddel o le roedden nhw’n dod, o le oedd y teulu, a phopeth arall. A gan ddweud am yr enw ‘Morgan’, mae’n dweud hyn: y mae’r Morgan hwnnw a roes ei enw i Forgannwg yn rhy annelwig, ac mae gormod o Forganiaid ym Morgannwg a thrwy siroedd y de yn gyffredinol, i ryw un teulu ei hawlio fel eiddo treftadol. Wel, efallai wir, ond, drwy ei waith a’i gyfraniad, fe hawliodd Rhodri Morgan Gymru gyfan, a’i throi yn Forgannwg.

Rwyf i a’m teulu, fel mae llawer wedi gwneud heddiw, yn estyn ein cydymdeimlad llwyraf at Julie a'i theulu i gyd yn ystod yr amser anodd hwn, ond rwy’n gobeithio bod rhai o'r teyrngedau heddiw o gysur mawr iddi hi a'i theulu.  Daeth cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, i roi tystiolaeth yn bersonol i'n pwyllgor dim ond pythefnos yn ôl, ar gyfer yr ymchwiliad 'Llais cryfach i Gymru', a dangosodd, fel bob amser, ei ymrwymiad parhaus i ddatganoli, ond hefyd ei angerdd a'i ddeallusrwydd, a’i gynhesrwydd a'i ffraethineb a'i ddoethineb, a oedd yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad yn gwasanaethu pobl Cymru.

Ond, yn fy sylwadau byr heddiw, fe hoffwn i ddwyn i gof atgofion personol hoffus am Rhodri: y Rhodri cynnes a diddorol yr oedd pobl yn ei garu oherwydd eu bod yn sylweddoli ei fod yn ddidwyll. Pan oeddwn i’n ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur flynyddoedd maith yn ôl, daeth Rhodri i rali Calan Mai ar strydoedd Ystalyfera ar ddiwrnod heulog bendigedig, gan atal y traffig am ugain munud y tu allan i siop papurau newydd Nesta, ac yna brasgamu i lawr y strydoedd gyda band yn chwarae a baneri cyfrinfa’r glowyr yn cyhwfan, a Rhodri wedyn ar gefn lori fy nhad-yng-nghyfraith yn annerch torfeydd ar y cae rygbi, ac yna, fel bob amser, pobl yn heidio ato dim ond i ddweud ‘shwmai’ wrth Rhodri—ac roedd hynny cyn bod sôn am hunluniau.

Roedd torfeydd o’i gwmpas yn un o beryglon y swydd i Rhodri, fel y darganfyddais yn ddiweddarach pan oeddwn i’n Aelod Seneddol. Fy nhasg mewn un etholiad Cynulliad oedd ceisio helpu i hebrwng Rhodri o amgylch canol tref Caerffili. Roedd hi’n anodd symud ymlaen rhyw lawer, gan fod pawb—ie, pawb— yn awyddus i siarad am wleidyddiaeth neu rygbi neu yn syml i ddweud 'helo', fel pe bydden nhw wedi darganfod perthynas coll. Ac roedd Rhodri wrth ei fodd yn siarad hefyd, ac yn gwybod am gysylltiadau teuluol bob yn ail berson a hanes manwl pob stryd ym mhob cymuned.

A pha un o Brif Weinidogion eraill Cymru neu uwch wladweinydd fyddai wedi mentro popeth i fynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer elusen leol yn Dylan’s ym Maesteg, fy nhref enedigol, lle’r oedd un o gyfeillion bore oes Rhodri yn perfformio'n fyw ar y llwyfan? Yn ystod y perfformiad, cafodd Rhodri wahoddiad i fynd i fyny ar y llwyfan i gymryd rhan. Roedd yn berfformiad eithaf anghyffredin. Felly, roeddem ni i gyd yn gwylio gyda phryder cynyddol wrth i Rhodri orwedd ar wely o hoelion chwe modfedd, ac, i goroni’r cwbl, yn caniatáu i'r perfformiwr gerdded drosto. Roedd y penawdau yn ysgrifennu eu hunain yn fy meddwl cythryblus i.

Yn bersonol, ac rwy’n gwybod na fyddaf ar fy mhen fy hun yn dweud hyn, byddaf yn cofio am y modd anhunanol y gwnaeth fy annog i a phobl eraill i ysgwyddo cyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus ac i sefyll etholiad. Gallaf ddweud yn onest na fyddwn i wedi gwneud hynny heb ei ddyfalbarhad tyner ond llawn perswâd fod hon yn alwedigaeth gwerth ei dilyn, ac, yn bwysig, gwnaeth hefyd berswadio fy ngwraig y dylwn i. Nid wyf i erioed wedi difaru, yn bennaf oherwydd fy mod i, ac eraill, yn parhau i edmygu pobl fel Rhodri fel esiampl o rywun sydd wedi rhoi gwasanaeth cyhoeddus gydol oes yn San Steffan ac yma yng Nghymru.

Mae cyrraedd yr uchelfannau gwleidyddol fel y gwnaeth ef, ac eto llwyddo i gadw’r cysylltiad cyffredin mewn modd mor rhwydd, yn dangos mesur y dyn a'r cyfaill yr ydym wedi ei golli.  Gadawodd rhywbeth gwych a pharhaol ar ei ôl. Roedd Rhodri Morgan yn un o wir weision Cymru ac yn gyfaill triw i bawb yr oedd yn eu hadnabod.

Yn gyntaf oll, Julie, mae mor nodweddiadol ohonoch chi a Rhodri eich bod gyda ni yn eich lle heddiw. Ac rydym yn diolch i chi am fod yma, gan ei fod yn ein galluogi i’ch cyfarch yn gynnes, fel yr wyf yn ei wneud ar sail fy nghyfeillgarwch hirhoedlog i fy hun a Mair gyda chi a'r teulu, sy’n mynd yn ôl cymaint o flynyddoedd.

I first worked with Rhodri Morgan when he was elected to the House of Commons as Member of Parliament for Cardiff West in 1987. But he had vast experience before becoming a Member of Parliament. It’s important that we mention his intellect, and the scholarly nature of the family—as we’ve already heard reference to. Because I’ve been a friend of his brother, Prys, and fondly remember his father, because he stood head and shoulders above the scholars of Welsh literature in the 1960s, to one, like me, who was a student, because he was a far more engaging lecturer than the rest of them. That talent was certainly passed to Rhodri.

Rhodri was himself a scholar, graduating from Oxford and Harvard, having being a researcher in local and central government, and an economic adviser to the Department of Trade and Industry, a development officer for South Glamorgan and, as we’ve heard, head of the European Community office. I recall him coming to the Commons, and I was surprised by his ability to secure promotion so swiftly. Of course, I had been a backbencher, and an inadequate leader of a slightly smaller party. But, as we remember, in Westminster, he was the official opposition spokesperson on the environment, on energy, and, of course, on Welsh affairs. That is when the foundations of devolution were laid for 1997.

His final act in Westminster perhaps was to become Chair of the House of Commons Public Administration Committee. It’s important that I mention Rhodri’s contribution as a parliamentarian within the UK. This man wasn’t some kind of maverick. He was a talented parliamentarian, who could use all the skills of Parliament to confuse the Government. And I well recall the almost military requirement upon us to oppose the Cardiff Bay barrage. Rhodri, of course, was behind all of that.

And then, when he came here—well, I could keep you here all day. You all know of the wonderful 10-year-long relationship that I had with Rhodri as first Presiding Officer, and he, of course, was the first First Minister. Because he was the man who created that post for himself. That incident was one I may remind you of before concluding this afternoon. It was around one o’clock in the afternoon, and, at that time, I think the Assembly would gather at half past two, in the old Chamber. The message had been issued that Rhodri Morgan wished to change his title. Of course, he informed the then Presiding Officer, and said that the title was to be ‘First Minister’ in English.

But then we got to the nitty-gritty. What was the correct Welsh translation of ‘First Minister’? Because some translator, who shall remain nameless, who doesn’t work at this place any longer, had translated ‘First Minister’ as ‘Gweinidog Cyntaf’. Of course, very rarely in one’s life does one feel that he has authority on any issue, but I knew that ‘Gweinidog Cyntaf’ was the first minister that came to chapel, and then there was another and another one following that. I tried to explain:

Mae gennym ddwy ffordd o ddweud y pethau hyn yn Gymraeg. Ceir blaenoriaeth mewn enw, a cheir blaenoriaeth wirioneddol. Felly, dim ond un cyfieithiad sydd o hyn.

‘First Minister’ in Welsh is ‘Prif Weinidog Cymru’. That was a quarter of an hour before the Assembly started. The message came back that the First Minister gladly accepted that he will be described as ‘First Minister’ in English and ‘Prif Weinidog Cymru’ in Welsh. I was the first person in the universe to use the words ‘Prif Weinidog Cymru’. I remember saying it slightly sotto voce so nobody got too excited. But there’s always one, and Rhodri Glyn got up on a point of order, asking the Presiding Officer what this new title was, and was he truly ‘Prif Weinidog Cymru’. Well, Rhodri Morgan became the real First Minister, or ‘Prif Weinidog Cymru’, and I had 10 years of great enjoyment. We never fell out—not that I’m suggesting that Presiding Officers and First Ministers should fall out, but it had happened before and it could happen elsewhere. But Rhodri understood the constitution through his great intellect. It was in his bones. He understood the principles of the separation between Government and Assembly and the need to scrutinise Government by being independent, and the ability for the Government to take criticism. That was all there, because it was in his own experience as a parliamentarian in Westminster.

We could then proceed to build what we have built. He wasn’t in favour of this building, of course; he wanted an extension at the back of Tŷ Hywel, but he didn’t get his way in that regard. However, he was the first to say, once this building was built, that he took great pride in it. I am delighted that we are to celebrate his passing from this place, appropriately, in this building next week. It’s the building of the people of Wales, but Rhodri Morgan built the politics that made it possible.

Cefais y fraint o adnabod Rhodri dros sawl degawd. Nid oedd hynny'n eithriadol iawn. Rwy'n credu bod pawb sy'n ymwneud â'r Blaid Lafur yng Nghymru yn adnabod Rhodri ar ryw adeg neu'i gilydd. Mewn gwirionedd, mae hi’n ymddangos bod pawb yng Nghymru yn adnabod Rhodri ar ryw adeg neu'i gilydd. Rwyf yn cofio am ei garedigrwydd personol tuag ataf i a fy niweddar wraig Elaine.

Ond fe hoffwn i dalu teyrnged benodol ar ran y miloedd o bobl hynny yng Nghymru a roddodd, fel Rhodri, sawl degawd o’u bywydau i'r ymgyrch yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, ac fe wnaeth y boicot chwaraeon a diwyllianol rhyngwladol gyfrannu yn y pen draw at gwymp y gyfundrefn apartheid. Yng Nghymru, drwy Fudiad Gwrth-Apartheid Cymru, roedd hon yn un o'r ymgyrchoedd mwyaf effeithiol ar draws y byd. Dros sawl degawd, bu cenedlaethau o ymgyrchwyr yn rhan ohoni, ac ni wyddai ddim am ffiniau pleidiau gwleidyddol. Roedd Rhodri yn un o sylfaenwyr Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru. Roedd yn flaenllaw yn y mudiad, ac ochr yn ochr â nifer o unigolion blaenllaw eraill yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel Neil Kinnock, Arglwydd Jack Brooks, Phil Squire, a oedd bryd hynny yn arweinydd cyngor Morgannwg Ganol, Jenny Randerson, arweinydd Cyngor De Morgannwg, Bob Morgan, Dafydd Elis-Thomas, Dafydd Iwan trwy ei ganeuon, a llawer o bobl eraill—Dai Francis—roedd Rhodri, ochr yn ochr â Julie, bob amser yno yn yr ymgyrch honno. Yn y 1980au, roedd yn rhan o ddirprwyaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol a lwyddodd i sefydlu boicot diwylliannol, rhywbeth na fyddai erioed wedi ei ddychmygu mewn blynyddoedd blaenorol. Roedd yn cefnogi’r boicot rygbi, rhywbeth nad oedd yn hawdd i gefnogwr rygbi brwd. Bu’n ymgyrchu’n frwd ac yn cefnogi'r galwadau am ryddhau Nelson Mandela, ac ar adeg ei ryddhau o'r carchar—Mandela, hynny ydy—siaradodd yn falch am y cysylltiad arbennig rhwng Cymru a De Affrica. Cafodd hyn ei gydnabod gan Nelson Mandela a chan Gyngres Genedlaethol Affrica.

Cymerodd Rhodri ran yn y daith gerdded noddedig enwog a gynhelir bob blwyddyn yng Nghymru i godi arian ar ran elusennau sy'n coffáu lladdfa Soweto, taith gerdded sydd, mewn gwirionedd, yn parhau hyd heddiw. Un daith rwy’n gwybod iddo ei mwynhau oedd y daith pum milltir o Lanilltud Fawr hyd at dafarn y Plough and Harrow yn yr As Fawr, ac yna, yn llawer arafach, yn ôl eto. Ochr yn ochr â chymaint o bobl, roedd Rhodri yn llefarydd dros bopeth oedd mor dda yng Nghymru pan oedd angen sefyll yn erbyn anghyfiawnder lle bynnag y bo, a thros draddodiadau rhyngwladol gorau Gymru. Felly, ar ran pawb a oedd yn rhan o’r symudiad—ac rwy’n gwybod y byddent yn hoffi i mi ddweud hyn—diolch i ti, Rhodri. Roeddet yn ymgyrchydd gwych dros gyfiawnder ac undod rhyngwladol ac rwyt ti wedi chwarae dy ran yng Nghymru wrth ddod ag anfadwaith apartheid i ben.

Rwyf hefyd yn codi fel aelod o ddosbarth 1999, a hefyd fel cadeirydd grŵp Plaid Cymru yma yn y Cynulliad. Bu i mi gyfarfod Rhodri Morgan am y tro cyntaf yn 1996. Roeddwn ein dau ar banel i drafod y gwasanaeth iechyd, nôl yn 1996. Rwy’n ei gofio yn synnu bod meddyg ifanc eisiau mentro i mewn i fyd gwleidyddiaeth. Roeddwn yn synnu braidd fy hunan, a dweud y gwir, ac efallai fy mod i’n dal i synnu. Ond dyna fy nghof cynharaf i o Rhodri Morgan, a chwmni diddan ar y diwrnod hwnnw.

Wrth gwrs, ym 1999, cafodd y 60 o Aelodau gwreiddiol yma eu hethol. Mae’n rhyfedd i feddwl am yr holl sesiynau ‘Plenary’ sydd wedi bod yma dros y blynyddoedd, rhai mewn amseroedd gweddol hawdd, a rhai eraill mewn amseroedd eithaf dyrys. Fel heddiw, a dweud y gwir. Roedd y diwrnod yma yn ddigon du yn barod. Mae wedi mynd yn dduach fyth efo’r newyddion dros nos o Fanceinion. Mae yna her sylweddol i ni fel cenedl yn wyneb popeth sydd yn digwydd yn ein byd ni heddiw. Ac rydym ni’n falch iawn o gael y Senedd yma fel sylfaen i’r ffordd rydym yn gallu ymateb.

Felly, rwy’n falch iawn i allu talu teyrnged i waith Rhodri Morgan dros y blynyddoedd. Ie, rydym wedi clywed yn y blynyddoedd cynnar ei bod hi’n ddigon simsan yma ar brydiau, ond yn raddol mae’r pwerau wedi tyfu ac fe enillwyd refferendwm yn 2011. Mae’r Senedd yma er ei ffordd i fod yn Senedd go iawn ac mae’n deg dweud bod ein diolch ni’n fawr i gyfraniad arbennig Rhodri Morgan i sicrhau ac felly cryfhau’r Senedd yma dros y blynyddoedd. Mae ei angen yn fwy nag erioed i amddiffyn Cymru heddiw.

Rydym yn gweld Julie yma. Rwy’n falch i’ch cyfarch, Julie, fel ffrind, fel cyd-Aelod o’r Cynulliad yma, ac fe gydymdeimlwn yn ddwys gyda chi a’ch teulu i gyd. Rwy’n ymwybodol wrth gwrs fod y teulu hefyd yn yr oriel gyhoeddus. Mae’n deg hefyd cyfarch fy hen ffrind a brawd Rhodri Morgan, yr Athro Prys Morgan. Rydym yn ffrindiau efo’n gilydd yn Abertawe ers dros 30 mlynedd. Mae’n ffrind agos ac athrylith yn hanes ein gwlad. Mae cyfraniad y teulu Morgan, y Morganiaid, fel rydym wedi clywed eisoes, wedi bod yn eithriadol. Rydych i gyd yn ein gweddïau. Diolch yn fawr.

Hoffwn i rannu un neu ddau hanesyn byr sydd gan ein teulu ni am Rhodri ac am Julie hefyd. Un stori yr ydym ni’n ei thrysori yn ein teulu ni yw hon: ymhell cyn i Rhodri erioed ddod yn ffigwr cyhoeddus, yn gynnar yn eu perthynas, aeth Julie â Rhodri i gwrdd â fy mam-gu a’m tad-cu a oedd yn byw mewn bwthyn bach ar fryn uwchben Abertawe. Roedd fy mam-gu yn fam Gymreig gymdeithasol iawn a byddai wedi bod yn llawn o de a phice ar y maen, ond nid oedd fy nhad-cu gymaint felly. Gallai ef fod ychydig yn feirniadol efallai, ac yn gadarn iawn yn ei farn a’i gredoau.

Felly, galwodd fy nhad heibio ychydig yn ddiweddarach, efallai braidd yn anesmwyth, i weld sut aeth yr ymweliad ac fe synnodd fod fy nhad-cu wedi dweud ei fod e’n ‘iawn’—yna saib fer— ‘ydy, mae e’n iawn,’ ac yna, ar ei ffordd allan o'r tŷ, fy mam-gu yn pwyso ymlaen ac yn dweud, 'Mi wnaeth e basio’n uchel iawn, yn uchel iawn'. Nid wyf i i erioed wedi gofyn i Julie am ei fersiwn hi o'r stori, ond mae'n un yr ydym ni’n ei thrysori yn y teulu.

Yna, wrth gwrs, gyda threiglad amser, daeth Rhodri a Julie yn ffigurau llawer mwy cyhoeddus, ond roedd ganddyn nhw wastad yr amser i’w rannu gyda'r teulu ac i ddod i achlysuron teuluol a bod yn groesawgar yng Nghaerdydd neu i ddod i lawr i Abertawe a bod yn groesawgar. Mae'r teulu i gyd yn trysori’r trafodaethau bywiog a oedd yn amrywio o awtistiaeth yn y cinio diwethaf, yn y teulu ac yng Nghymru yn ehangach, i'r cysylltiadau teuluol cymhleth o bwy oedd yn perthyn i bwy, ac yn cysgu gyda phwy, a ddim yn cysgu gyda phwy, neu wedi ysgaru oddi wrth bwy, ac yn y blaen. Gallai Rhodri draethu’n ddiymdrech am y rhain i gyd. Weithiau roedd trafodaethau am fanylion cywrain gwleidyddiaeth leol Caerdydd ac Abertawe. Ymddangosai fod gan Rhodri, yn rhyfeddol, wybodaeth drylwyr am hyn hefyd. Ac yna, yn fwy rhyfeddol fyth, byddai fy nhad yn crybwyll rhywbeth a oedd wedi digwydd yng Nghanada—- yna trafodaeth frwd a manwl am wleidyddiaeth Canada, a'r berthynas rhwng, mwyngloddio yng Nghymru a mwyngloddio yng Nghanada, ac yn y blaen. Nid wyf yn dweud unrhyw beth wrthych chi nad oeddech chi’n ei wybod o’r blaen am Rhodri. Roedd fel petai’n gwybod popeth am bopeth. Roedd ganddo amser ac egni i’w rhoi i bobl, a Julie ochr yn ochr ag ef. Roedden nhw’n garedig iawn wrth fy nheulu pan oedd fy nhad yn sâl, gan roi o’u hamser a mynd i drafferth i'n cefnogi. Bydd colled fawr ar eu holau. Roedden nhw’n annwyl iawn i ni, a chyflwynaf fy nghydymdeimlad dwysaf i Julie a'r teulu.

Diolch yn fawr. Rydw i’n falch i dalu fy nheyrnged i hefyd i Rhodri—cawr ein cenedl ni. Roedd yn wladgarwr, yn sosialydd democrataidd, ymarferol sydd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol yn ein gwlad ni. Mi ddaeth e â sefydlogrwydd i’r lle yma mewn cyfnod cythryblus dros ben. Mae fy hanes i gyda Rhodri yn mynd yn ôl i’r 1980au, pan oeddwn i’n falch dros ben taw ein cangen ni o’r Blaid Lafur oedd y cyntaf i enwebu Rhodri ar gyfer bod yn Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd. Fyddwn ni byth yn anghofio hynny, ac ni wnaeth Rhodri fyth anghofio hynny, achos roedd y cariad a oedd gan y gymuned yna tuag at Rhodri yn aruthrol. Roedd yn caru’r dosbarth gweithiol yna ac roedden nhw’n ei garu ef yn ôl. Roedd e’n ‘authentic’ ofnadwy. Roedd yr ‘authenticity’ yna yn rhywbeth ddaeth drosodd yn glir—damaid bach yn rhy ‘authentic’ i rai ohonom ni ar brydiau. Roedd yn rhaid i ni ei anfon e adref i newid ei jîns a oedd yn rhy frwnt, ac nid oedd crys a thei arno fe. Roedd yn rhaid i ni ei anfon e’n ôl i ddod bach yn fwy smart i Drelái. Ond mi wnaeth e argraff aruthrol—aruthrol— ar ein gwlad ni. Rydw i eisiau jest rhoi teyrnged barddonol cyflym:

‘Bu’n ddewis tynn cyn boddhad, a / Rhodri llawn asbri, asbri rhad. / Llafurwr i’r carn, lleufer parhad. / Cawr y werin; cawr ei wlad.’

Julie, I hope you’ll accept all our love at this really difficult time, and thank you very much for sharing Rhodri with all of us.

Diolch. Roeddwn i eisiau siarad yn fyr iawn dim ond i ddiolch i chi, o bob plaid, am eich teyrngedau, oherwydd maen nhw’n gysur mawr. Rwy’n gwybod mai uchafbwynt gyrfa wleidyddol Rhodri oedd bod y Prif Weinidog, ac roedd wrth ei fodd yn y lle hwn. Roedd yn caru’r Senedd hon, y Cynulliad hwn. Roedd Tŷ’r Cyffredin yn annwyl iawn ganddo hefyd. Roedd wrth ei fodd â tharo a gwrthdaro gwleidyddiaeth ac roedd yn hynod frwdfrydig amdano. Ni fyddaf byth yn ei anghofio yn mynd i Dŷ'r Cyffredin yn drymlwythog dan fagiau ac yn cyrraedd yn ôl yn oriau mân y bore, oherwydd, wrth gwrs, roedden nhw’n gysglyd ac yn cael nosweithiau hirfaith iawn, iawn yn Nhŷ'r Cyffredin bryd hynny. Ond fe fwynhaodd y cwbl yn fawr iawn. Roedd yn golygu cymaint iddo.

Un peth yr wyf i eisiau ei ddweud am Rhodri sy’n bwysig iawn: Nid oedd byth yn edrych yn ôl.  Roedd e’n penderfynu ar rywbeth, a doedd e byth yn difaru. Felly, pan adawodd y lle hwn fel y Prif Weinidog, ni wnaeth erioed edrych yn ôl nac erioed ddweud wrthyf i, 'O, dwi’n difaru na wnes i hyn,' neu 'dw i’n difaru na wnes i’r llall.’ Edrychai ymlaen at y pethau yr oedd yn dal eisiau eu gwneud. Roedd yr wyth mlynedd a gafodd ar ôl bod yn Brif Weinidog mor llawn a chyfoethog. Mae llawer o bobl sydd yma heddiw wedi sôn ei fod wrth ei fodd yn yr ardd. Roedd ganddo’r cnydau mwyaf rhyfeddol. Roedd ef wedi eu paratoi nhw i gyd ar gyfer ein teulu estynedig mawr, sydd yma yn y Siambr heddiw, er mwyn rhoi llysiau iddyn nhw pan fyddai’r cnwd yn barod. Fel y dywedodd Jane, roedd newydd gael pum iâr newydd ychwanegol. Felly, byddaf yn brysur iawn yn gofalu am yr ieir a'r llysiau.

Ond roedd hefyd yn gwneud llawer o bethau eraill. Mae bron â gorffen ei lyfr, ac rwy'n siŵr y bydd gan bob un ohonoch ddiddordeb mewn ei darllen pan gaiff ei gyhoeddi. Roedd wrth ei fodd o fod yn Ganghellor Prifysgol Abertawe. Roedd yn gwneud llawer iawn gyda Therapi Cell, cwmni y bu'n weithgar iawn gydag ef. Felly, roedd pob munud yn fwynhad, ac roedd ef yn wir bob amser yn edrych ymlaen. Roedd yn gwbl hapus am yr hyn yr oedd wedi ei gyflawni. Rydym wedi cael, mi fyddwn i’n dweud, bywyd a oedd yn mynd i fyny ac i lawr, gyda'r wleidyddiaeth mor i fyny ac i lawr ei natur. Wyddoch chi, bu’n llwyddiant, yn llwyddiant bob cam, ond mae wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn bleser mawr ac rwyf wir yn teimlo bod colli Rhodri yn ergyd bersonol ofnadwy i mi ac i'r teulu. Mae'n golled boenus, ac rwy’n gwybod nad wyf i wedi sylweddoli maint hynny’n llawn eto. Ond, mae'n gysur mawr gwrando ar yr hyn mae pawb wedi ei ddweud heddiw, ac mae'r teyrngedau yr ydym ni wedi eu cael gan bawb yma yn y Siambr ac o bob rhan o Gymru wedi bod yn gysur mawr. Fe hoffwn i orffen drwy ddweud ei fod ef wedi cael bywyd gwych a’i fod wedi mwynhau pob munud. [Cymeradwyaeth.]

Rwy’n ddiolchgar i chi i gyd am y cyfraniadau nodedig a diffuant, ac rwy’n arbennig o ddiolchgar i Julie a’r teulu am rannu y teyrngedau yma gyda ni. Nid oes, ac ni fydd, tebyg i Rhodri Morgan yn y Senedd hon. Rydych chi eisoes i gyd wedi crybwyll ei hiwmor, ei ffraethineb, ei wybodaeth eang a manwl a’i ddeallusrwydd dihafal, ynghyd â grym ei fynegiant. I’r rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu yma ers 1999, ni fyddwn ni’n anghofio chwaith ei ddewrder a’i feiddgarwch wrth greu ac arwain Llywodraeth Cymru. Fe dorrodd Rhodri ei gwys ei hun, a hynny bob amser er mwyn gwneud yr hyn yr oedd e’n gredu oedd orau i’r genedl hon.

Fel clywom ni, gwynfyd Rhodri oedd llecyn bach o Geredigion—Mwnt. Yn ystod yr haf, roedd adroddiadau’n cyrraedd yr Aelodau Cynulliad lleol—yr Aelod Cynulliad lleol—fod Prif Weinidog Cymru ar y traeth ym Mwnt yn ei siorts, neu i’w weld yn darllen papur newydd ar y creigiau ger y môr neu’n nofio gyda’r dolffiniaid a oedd wedi crwydro unwaith eto i chwarae yn y dyfroedd bas. Yn ei garafán ar ffarm Blaenwaun, fe gafodd Rhodri y llonydd a’r amser i fyfyrio, i adnewyddu ei nerth ac i ymlacio yng nghwmni ei deulu agosaf.

Rhodri Morgan was a polymath—his knowledge and memory were immense. This was the man who, in unveiling Colin Jackson’s portrait in the Assembly, could recite the athlete’s major race times to the hundredths of a second. He was full of the unexpected. He completely floored me, as his rural affairs Minister, when he asked me, across the Cabinet table, for an update on how I intended to deal with an invasion of salmon-eating jellyfish. He led us from our heart here in this Chamber. He respected us all, and took an interest in us all and in all the communities we represented. Rhodri was a man who led his country with passion and realism, and he swam quietly with the dolphins.

Let us remember Rhodri and stand in respect of all he achieved for his nation and in sympathy with Julie and the family.

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:54.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:05, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0610(FM)

Wel, ein blaenoriaeth ni yw rhoi gwasanaethau iechyd i bobl sir Benfro sy’n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Prif Weinidog, mae’n bwysig ein bod ni yn gwella gwasanaethau iechyd yn sir Benfro yn y 12 mis nesaf er mwyn dechrau mynd i’r afael â gordewdra oherwydd, yn anffodus, mae cyfraddau gordewdra yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi cynyddu o gymharu â byrddau iechyd eraill. Nawr, rydw i’n derbyn bod y Cynulliad wedi pasio Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ddiweddar, sy’n mynd i helpu i fynd i’r afael â phroblemau gordewdra. Ond a allwch chi ddweud wrthym ni pa fesur penodol y mae’r Llywodraeth yn golygu ei gyflwyno yn y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau mynd i’r afael â phroblemau gordewdra?

Wel, wrth gwrs rydym ni wedi ystyried hwn o’r blaen, ond mae’n wir dweud bod yna fwy i’w wneud. Byddwn yn adeiladu ar y Ddeddf ei hun er mwyn sicrhau bod yna strategaethau yn cael eu dodi yn eu lle er mwyn delio â’r broblem hon. Mae’n broblem nad sydd ond yng Nghymru ond ym mhob gwlad gyfoethog yng ngorllewin Ewrop, ac mae’n rhywbeth sydd yn codi nawr mewn rhai gwledydd eraill lle nad yw wedi cael ei weld o’r blaen.

Prif Weinidog, byddwch chi’n gwybod bod pobl sir Benfro yn awyddus iawn i ddychwelyd at sefyllfa lle mae yna wasanaethau pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg drwy’r dydd a’r nos, a bod yna ddeiseb yn cael ei chyflwyno yn fuan iawn i’r Cynulliad i’r perwyl hwnnw. Jest i fod yn glir, a ydych chi’n cytuno mai dyna yw’r ddelfryd y dylid anelu ati, ac a oes gennych chi fel Llywodraeth amserlen er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw?

Beth sy’n bwysig, wrth gwrs, yw bod unrhyw wasanaethau yn wasanaethau saff. Lle mae’r gwasanaethau wedi newid a lle mae’r colegau brenhinol wedi dweud bod hynny’n rhywbeth y dylid ei wneud, dyna, felly, yw beth fyddem ni yn ei gefnogi fel Llywodraeth. Ond, wrth ddweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod pob gwasanaeth sy’n gallu cael ei ddarparu yn Ysbyty Llwynhelyg yno yn yr ysbyty. Ond nid yw hynny’n meddwl, wrth gwrs, fod popeth efallai y byddai pobl eisiau ei weld yn yr ysbyty. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau yn saff i drigolion sir Benfro a thrigolion ardal bwrdd Hywel Dda.

Economi Gogledd Cymru

2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i economi Gogledd Cymru? OAQ(5)0611(FM)

Rydym yn parhau i gefnogi datblygiad economaidd ar draws Cymru gyfan drwy helpu busnesau i dyfu, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, a gwella amodau datblygu economaidd.

Diolch. Yng nghinio CBI Gogledd Cymru wythnos i ddydd Iau diwethaf, lle’r oedd eich cydweithiwr, Ken Skates, wrth gwrs, hefyd yn bresennol, ynghyd â rhai Aelodau eraill, clywsom fod cais cytundeb twf gogledd Cymru bron wedi'i gwblhau, ac yna’n barod i fynd i Lywodraeth y DU ac, yn amlwg, Llywodraeth Cymru. Pan wnaeth Llywodraeth y DU y cynnig cais cytundeb twf yn gyntaf, dywedodd mai ei nod fyddai gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr. Yn ei ddiweddariad i randdeiliaid ym mis Ebrill, dywedodd prif weithredwr cyngor sir y Fflint, sy’n arwain y tîm sy’n llunio'r cais dros chwe chyngor gogledd Cymru, fod uchelgeisiau ar gyfer y pwerau datganoledig i gael eu rhoi i'r rhanbarth yn cynnwys swyddogaethau trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol, arloesedd busnes, swyddogaethau cynghori, cyngor gyrfaoedd a threthiant, a thrwy hynny mae’n golygu pwerau trethiant datganoledig, y cwbl yn bwerau sydd o fewn rhodd Lywodraeth Cymru neu fel arall. Sut y bydd eich Llywodraeth yn ymateb i'r alwad hon?

Wel, 'yn ofalus' rwy’n credu yw'r gair y byddwn i'n ei ddefnyddio. Yn gyntaf, os edrychwn ni ar ardrethi busnes, pe byddent yn cael eu datganoli i awdurdodau lleol, yna byddai 17 o'r 22 awdurdod lleol ar eu colled. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn gweld y sefyllfa honno yn codi. Ein nod fydd datganoli pwerau i gyrff priodol lle y gallwn. Mae'n deg dweud nad yw pob awdurdod lleol yn gallu arfer y pwerau hynny yn effeithiol. Rydym ni eisiau i awdurdodau lleol weithio mewn cyrff rhanbarthol, ond rydym ni wedi ymrwymo’n llwyr i'r cais twf ac, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn bwrw ymlaen â’r cais hwnnw.

Ers fy ethol flwyddyn yn ôl, nid yn unig yr wyf i wedi bod eisiau gwasanaethu fy etholaeth fy hun, ond hefyd bod yn llais cryf dros y gogledd-ddwyrain cyfan. Rwy'n falch yn ystod y 12 mis diwethaf ein bod ni wedi gweld llawer o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i yn unig, o gastell y Fflint i Theatr Clwyd, i gymorth i fusnesau lleol, ond ochr yn ochr â chynigion mawr i wella ein seilwaith ar draws y gogledd cyfan. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r hyn sydd ei angen ar bobl a chymunedau’r gogledd yw gweithredu ac nid geiriau yn unig, ac y bydd yn rhoi sicrwydd pellach i ni yn y gogledd fod Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein rhanbarth a’i chefnogi?

Yn sicr. Mae gwaith eisoes ar y gweill, wrth gwrs, i helpu i gyflawni’r prosiect Wylfa Newydd. Cyhoeddwyd y gronfa o £20 miliwn gennym i sefydlu sefydliad gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch, gan gynorthwyo cyflogwyr allweddol fel Airbus. Rydym ni wedi cyhoeddi cynlluniau, wrth gwrs, i fuddsoddi dros £200 miliwn yng nghoridor yr A55/A494. Rydym ni wedi ymrwymo £50 miliwn i fwrw ymlaen â cham cyntaf metro gogledd-ddwyrain Cymru, ac, wrth gwrs, i gefnogi, ychydig ymhellach i'r gorllewin, y drydedd bont dros y Fenai. Mae hynny yn ogystal â gwerth £1 filiwn o gyllid i ddatblygu canolfan fusnes newydd yn Wrecsam gan gynorthwyo 100 o fusnesau newydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae pobl ledled Cymru yn galaru dros y rhai hynny ym Manceinion a thu hwnt yn dilyn y digwyddiadau erchyll neithiwr. Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad a’m cydgefnogaeth â phawb yr effeithiwyd arnynt. Mae'r trais disynnwyr a'r ffaith fod plant a phobl ifanc ymhlith y dioddefwyr wedi gadael y DU gyfan mewn galar. Rwy’n gwybod eich bod chi wedi gwneud datganiad yn gynharach, ond a allwch chi gofnodi ein holl werthfawrogiad i wŷr a gwragedd y gwasanaethau brys a'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio dros nos a heddiw i drin y rhai a anafwyd a’u helpu i gyrraedd man diogel? Mae'n werth ailadrodd, yn fy marn i, cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ar adeg anodd fel hon.

Yn sicr. Rwy'n siŵr fod y Siambr gyfan yn gefnogol o'r hyn a ddywedais yn gynharach a’r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud, yn wir. Ceir ymarferion i edrych ar sut y gellir ymdrin ag ymosodiadau fel hyn bob amser, ond pan fydd yn digwydd mewn gwirionedd, yna, wrth gwrs, mae'r system yn cael prawf trwyadl iawn. Ac yn sicr, mae’r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan y gwasanaethau brys, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gan yr ysbytai a’r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan y gymuned yn dangos lefel y gwytnwch hyd yn oed yn wyneb trychineb.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Er bod y ffeithiau ynghylch pwy sy'n gyfrifol yn dal i gael eu casglu, rydym ni’n gwybod y gall ymosodiadau fel hyn roi straen enfawr ar gysylltiadau cymunedol yn ninasoedd Cymru yn ogystal â rhannau eraill o'r DU. Un o amcanion eithafwyr, ar wahân i niweidio pobl ddiniwed, yw rhannu cymunedau. Maen nhw eisiau gwneud pobl yn ofnus ac yn amheus o'i gilydd fel y gallant elwa ar ddieithrio a rhannu. Mae’r stori mewn gwirionedd am bobl o bob cefndir a ffydd, gweithwyr brys, gyrwyr tacsis, yn dod at ei gilydd i wrthwynebu’r eithafwyr hynny. A wnewch chi ailadrodd heddiw, Prif Weinidog, na wnaiff yr un ohonom ni yma ganiatáu i derfysgwyr rannu ein cymunedau?

Na wnânt yn wir. Mae eithafwyr yn cynrychioli eu hunain yn unig; nifer fach iawn o bobl sydd â safbwynt o’r byd sy'n anoddefgar ac yn cael eu gyrru i drais. Maen nhw’n hapus i lofruddio pobl o bob crefydd neu ddim crefydd. Maen nhw’n hapus i lofruddio pobl ifanc sy'n gwneud dim mwy na mynd ar noson allan. Mae'n rhy gynnar i ddweud, wrth gwrs, beth yw graddau’r hyn a oedd yn gysylltiedig â digwyddiadau neithiwr. Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio ac mae'n bwysig nad oes unrhyw ddyfalu er mwyn i’r ymchwiliadau hynny gael eu datblygu. Ond byddwch yn sicr: roedd pwy bynnag a gyflawnodd yr ymosodiadau neithiwr yn cynrychioli eu hunain yn unig a grŵp bach iawn o bobl o'u cwmpas. Ni allant fyth gynrychioli cymuned gyfan.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y neges honno’n cael ei gwerthfawrogi gan lawer o gymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae'n bwysig, Prif Weinidog, fod pawb yn parhau i fod yn ddigynnwrf ac nad ydym yn newid y ffordd yr ydym ni’n byw ein bywydau yn wyneb y trais disynnwyr a thrasig hwn. Mae angen rhagor o sicrwydd ar bobl sy’n bwriadu ymweld â'n prifddinas yn yr wythnosau nesaf. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y paratoadau diogelwch ar gyfer digwyddiadau mawr fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin?

Gallaf. Soniais am hyn yn y sgwrs a gefais gyda'r dirprwy gynghorydd diogelwch cenedlaethol. Mae'r trefniadau diogelwch ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn gadarn. Cefais gyfarfod â nifer o'r sefydliadau dan sylw yr wythnos diwethaf am y tro olaf, gan gynnwys y drefn reoli aur. Mae pob un o'r paratoadau wedi eu gwneud o ran cyfathrebu ac o ran diogelwch. Bydd aelodau ac yn wir aelodau'r cyhoedd yn gweld yn ystod y diwrnodau nesaf y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith fel y gall pobl ddod i’n prifddinas i fwynhau eu hunain a chael eu gadael ag argraff ffafriol. Rydym ni’n gwybod bod rhai pobl na fyddent yn dymuno iddi fod felly. Bydd unrhyw beth y gellir ei ddysgu o'r digwyddiadau yn ystod y 24 awr ddiwethaf yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn y trefniadau diogelwch ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Ond dyma’r byd yr ydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymwybodol o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn darparu ar gyfer diogelwch y cyhoedd pan eu bod yn dod i’n prifddinas, ac yn gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau eraill, dyna'n union yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud.

Diolch i chi, Llywydd. Os caf i, Llywydd, ni chymeraf fy nhri chwestiwn heddiw, o ystyried fy mod i’n credu bod angen i ni sefyll ysgwydd yn ysgwydd a gwrthwynebu’r weithred hon o anfadwaith y gyflafan hon a ddigwyddodd ym Manceinion neithiwr. Fel tad, ni allaf feddwl am unrhyw beth mwy arswydus na chael eich gwahanu oddi wrth eich plant, cael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid, yn y wybodaeth ansicr o’r hyn a allai fod wedi digwydd iddynt. Byddwn i, fel llawer o rieni, wedi gollwng fy mhlant mewn digwyddiadau, i gyfarfod mewn man dynodedig, ac maen nhw’n dod yn ôl yn ddiogel. Y cwbl y gallaf ei wneud yw cynnig fy nghariad, fy nghefnogaeth, fy nghydymdeimlad i bob un aelod sydd wedi dioddef profedigaeth, y rhai sydd wedi’u hanafu ac sydd yn yr ysbyty a thalu teyrnged i ymroddiad y gwasanaethau cyhoeddus a ymatebodd mor gyflym ac mor broffesiynol i’r gyflafan, y weithred honno o anfadwaith, a welwyd ym Manceinion neithiwr.

Ond hoffwn wneud tri phwynt i chi, os caf, Prif Weinidog. Y cyntaf yw mai’r hyn a ddaeth yn amlwg heddiw oedd faint o bobl a aeth o ogledd Cymru i Fanceinion, fel y maen nhw’n ei wneud bob dydd i fynd i ddigwyddiadau ym Manceinion. Ar y radio y bore yma, roedd llawer o rieni a llawer o bobl ifanc a oedd wedi bod yn y digwyddiad hwnnw. Bydd angen cymorth a chefnogaeth. Nid wyf yn gwybod cyrchfan rhai o'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth nac, yn amlwg, y rhai sydd wedi’u hanafu yn yr ysbytai, nac o ble maen nhw wedi dod, ond rwy'n siŵr y bydd rhai o'r unigolion hynny wedi dod o ogledd Cymru. Gwn mai oriau cynnar a dyddiau cynnar yw hi ar hyn o bryd, ond pa raddnodi, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng ngogledd Cymru i wneud yn siŵr bod y cymorth a'r gefnogaeth hynny ar gael i'r teuluoedd, ym maes addysg ond hefyd ym maes iechyd, i wneud yn siŵr nad oes unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi pan fydd teuluoedd yn chwilio am y gefnogaeth honno ac yn chwilio am y cymorth hwnnw gan y gwasanaethau hynny yn y gogledd? Ac os oes angen adnoddau ychwanegol—rwy’n siŵr y byddwch chi’n cadarnhau hyn—y bydd yr adnoddau ychwanegol hynny ar gael i awdurdodau lleol ac i'r byrddau iechyd hefyd.

Yn ail, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru yn gwbl eglur, mae gennym ni ddigwyddiad chwaraeon mawr, sef rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn digwydd yma ymhen ychydig dros 10 diwrnod, ond ceir digwyddiadau ledled Cymru gyfan sy'n cael eu cynnal o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i chwarae ein rhan i weithio gyda'r gwasanaethau diogelwch, boed hynny yr heddlu neu MI5 neu unrhyw un o'r gwasanaethau diogelwch, i wneud yn siŵr y gallwn ni fod yn llygaid a chlustiau ar y strydoedd a hysbysu am yr hyn a welwn. Ond sut y gall Llywodraeth Cymru grynhoi unrhyw wybodaeth sydd ganddi fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus y gallant fynd i’r digwyddiadau hyn gan wybod bod pob mesur posibl wedi ei roi ar waith i amddiffyn y cyhoedd, ac i ganiatáu i’n democratiaeth a'n cymdeithas rydd i barhau i weithredu, oherwydd mae’n rhaid i ni beidio â chael ein dychryn gan y gweithredoedd hyn o drais? Dyna un peth sy’n hollbwysig.

Ac yn drydydd, yr hyn yr hoffwn ei ofyn i’r Prif Weinidog, wrth i ni symud ymlaen, yw bod unrhyw wybodaeth sydd ar gael—ac mae'r Prif Weinidog wedi nodi ei fod wedi derbyn briff diogelwch y bore yma, ac rwy’n tybio y gallai rhywfaint o'r wybodaeth honno, nid yr holl wybodaeth honno, fod yn gyfrinachol—ond pan ellir rhoi gwybodaeth ar gael, iddi gael ei rhoi ar gael yn brydlon i'r cyhoedd yng Nghymru ac i drefnwyr digwyddiadau fel, unwaith eto, y gall pobl fyw eu bywydau bob dydd a chwarae’r rhan bwysig y mae'n rhaid i ni oll ei chwarae yn ein democratiaeth wych o sefyll yn erbyn y gweithredoedd hyn o anfadwaith a welwyd ym Manceinion neithiwr. Rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phobl Manceinion a beth bynnag fydd yn digwydd, ni fyddwn yn cael ein trechu gan erchyllterau o'r fath.

Diolchaf i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau. Mae'n anodd i ni yn y Siambr hon ac i'r mwyafrif helaeth o bobl ar draws y byd amgyffred athroniaeth sy'n ystyried bod llofruddio pobl ifanc yn datblygu achos dynoliaeth. Sut allwn ni ddeall y prosesau meddwl hynny? Ond rydym ni’n gwybod bod rhai, yn anffodus, sydd â’r safbwyntiau hynny, ac mae dyletswydd, wrth gwrs, ar bob awdurdod i ddarparu cymaint o amddiffyniad â phosibl i'r cyhoedd yn erbyn y bobl hyn.

Ar ôl y digwyddiadau yn Tunisia, sefydlwyd llinell gymorth gennym gyda’r nod o gyfeirio at gwnsela i bobl. Byddwn yn ceisio gwneud yr un peth eto yn sgil y digwyddiad hwn. Nid ydym yn ymwybodol hyd yn hyn o unrhyw un sydd wedi ei anafu neu ei ladd ac sy'n dod o Gymru. Nid oes unrhyw beth sy’n awgrymu hynny ond, wrth gwrs, byddwn yn monitro'r sefyllfa yn ofalus dros ben.

Yr un peth yr wyf i’n meddwl y mae angen i ni fod yn ofalus ynglŷn ag ef yw darbwyllo pobl i beidio â dod i ddigwyddiadau. Mae e'n iawn wrth ddweud mai’r peth olaf y dylem ni ei wneud yw addasu ein hymddygiad a'n credoau o ran hynny, yn wyneb terfysgaeth. Dyna union y maen nhw ei eisiau. Maen nhw eisiau i ni fod yn fwy anoddefgar fel ein bod ni’n rhannu eu hanoddefgarwch. Maen nhw eisiau i ni newid y ffordd yr ydym ni’n manteisio ar ein rhyddid a mynd i ddigwyddiadau. Maen nhw’n gweld hynny fel buddugoliaeth. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth bobl, wrth gwrs, yw y byddwn yn cael cyngor pellach o ran Cynghrair y Pencampwyr, ond mae llawer o waith wedi ei wneud eisoes o ran diogelwch o amgylch Cynghrair y Pencampwyr. Mae'r gwaith hwnnw wedi bod ar y gweill ers misoedd lawer, fel y byddai’r Aelodau’n ei ddisgwyl, o ystyried y ffaith ei fod yn ddigwyddiad o faint sylweddol.

O ran gwybodaeth, mae ef wedi nodi'r problemau. Yn gyntaf, rhennir rhywfaint o wybodaeth ar sail Cyfrin Gyngor i bob pwrpas; mae'n gyfrinachol. Bydd yr aelodau yn deall y ceir gwybodaeth y mae angen ei chadw'n gyfrinachol er mwyn peidio ag ymyrryd ag unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu. Wrth gwrs, pan nad yw gwybodaeth yn sensitif mwyach a phan fo angen rhannu’r wybodaeth honno â’r cyhoedd, bydd hynny’n digwydd ar yr adeg briodol.

A gaf i longyfarch y Prif Weinidog am siarad mor ardderchog drosom ni oll yn y Cynulliad hwn yn ei ddatganiad ar ddechrau trafodion heddiw, ac i ychwanegu fy nghydymdeimlad a chydymdeimlad fy mhlaid—Aelodau yma ac aelodau'r blaid yn y wlad—â’r rheini sydd wedi colli eu bywydau ac wedi eu hanafu yn y gyflafan ofnadwy ym Manceinion? Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog ei bod yn amhosibl i ni ddeall meddylfryd y rhai sy'n cael eu paratoi yn ddiwahân i ladd plant yn y ffordd a ddigwyddodd neithiwr. Nid y tro cyntaf—yng Nghanolfan Arndale, wrth gwrs, ym Manceinion—y cafwyd digwyddiad o'r math hwn. Pan oeddwn i’n Aelod Seneddol, dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd o ganol Manceinion, yn ôl yn y 1990au, cawsom ni gyflafan o fath tebyg gan, yn y dyddiau hynny, yr IRA.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r ffordd orau y gall cymdeithas ddemocrataidd ymladd yn erbyn tueddiadau o'r fath yw parhau yn ôl ein harfer cyn belled ag y gallwn. I gynulliad democrataidd fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru—er ei bod hi’n iawn y dylem ni ohirio’r frwydr ci a chath bleidiol am heddiw, rydym ni yng nghanol ymgyrch etholiadol yn genedlaethol hefyd—y weithred orau o herfeiddiad i ni yw parhau i wneud yr hyn y mae cymdeithasau democrataidd yn ei wneud ac nad yw cymdeithasau totalitaraidd yn ei wneud, sef datrys ein gwahaniaethau trwy gyfrwng trafodaeth yn hytrach na thrwy’r fom a'r bwled.

Felly, nid oes gennyf unrhyw gwestiynau pellach i'r Prif Weinidog heddiw, ond hoffwn fynegi fy undod â phawb arall sydd wedi siarad ar yr hyn a oedd yn mynd i fod yn ddiwrnod prudd i ni beth bynnag oherwydd y teyrngedau i Rhodri, ond sydd wedi ei wneud yn anfesuradwy waeth gan ddigwyddiadau neithiwr.

A gaf i ddiolch i arweinydd UKIP am ei sylwadau? Un o brif ddibenion gweithredoedd fel hyn yw ein gwneud ni’n fwy blin ac yn fwy anoddefgar er mwyn ennyn adwaith fwy fyth. Nid oes angen i ni wneud hynny. Rydym ni’n fwy nag y maen nhw. Heddiw, mae naws y Siambr yn brudd—mae hynny'n wir, ac mae rheswm da am hynny. Yn y diwrnodau nesaf, byddwn yn dychwelyd i ddadlau, byddwn yn dychwelyd i ymgyrchu cadarn—dyna natur yr hyn a wnawn. Ond dyna yw hanfod ein democratiaeth: dadl gadarn a chyfnewid syniadau yw'r hyn sy’n rhoi'r gallu i ni weld ein hunain fel cymdeithas rydd. Bwriad gweithredoedd neithiwr oedd cau’r hyn sy’n ein gwneud yn gymdeithas rydd.

Mae'n gwbl gywir i ddweud y dylem ni ddal ati. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni fod yn ofalus pan ddaw i ddiogelwch ac i bobl sy'n ymweld—nid yn unig â Chymru, ond unrhyw wlad arall—mae angen iddyn nhw fod yn sicr bod eu diogelwch yn hollbwysig i ni. Gallaf ddweud bod hynny’n hollol wir cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth y DU, yn y cwestiwn. Ond mae gen i blant sydd tua’r un oed â mwyafrif y rheini a fyddai wedi bod yn y cyngerdd neithiwr. Beth yn union wnaethon nhw i haeddu cael eu hanafu neu eu lladd? Ni allwn ateb y cwestiwn hwnnw. Mae’r ateb i'r cwestiwn hwnnw yn gorwedd mewn meddwl arteithiedig, anoddefgar a pheryglus. Dyna oedd meddwl, yn fy marn i, y troseddwr a gyflawnodd yr ymosodiad neithiwr. Ond, fel y dywedais, gallwn oresgyn hynny. Y neges gryfaf y gallwn ni ei hanfon i’r rhai sy'n dymuno achosi terfysg yn ein cymdeithas yw na allant ennill, ac ni allant ennill, oherwydd byddwn yn parhau i fwynhau ein rhyddid, byddwn yn parhau i fwynhau yr hyn yr ydym ni wedi ei adeiladu dros ddegawdau a chanrifoedd lawer, ac ni fyddwn byth yn ildio i’w hanoddefgarwch a'u trais.

Rhwydwaith Rheilffordd Cymru a’r Gororau

3. Faint o arian cyhoeddus a gafodd ei fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffordd Cymru a'r Gororau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? OAQ(5)0613(FM)

[Anghlywadwy.]—mae Llywodraeth Cymru yn darparu £180 miliwn mewn taliadau cymhorthdal ​​masnachfraint a chyllid ar gyfer gwasanaethau ychwanegol a cherbydau.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwy’n datgan buddiant fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Tybed a all y Prif Weinidog roi ffigurau wedi'u diweddaru ar faint o elw a wnaed gan weithredwr presennol y fasnachfraint honno. Mae gen i ffigurau ar gyfer 2012 sy'n dangos bod y cwmni wedi gwneud elw o £13.6 miliwn, ac wrth gwrs, mae hwnnw'n gwmni sy'n eiddo cyfan gwbl i Lywodraeth yr Almaen, ac mae’r broses ymgeisio ar y gweill ar gyfer y fasnachfraint nesaf. Tybed a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddychwelyd y rhwydwaith rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus, ac os felly, a yw'n credu bod cyfle wedi'i golli o beidio â defnyddio'r ddarpariaeth gweithredwr dewis olaf er mwyn ei ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus Cymru cyn gynted â phosibl?

Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i hynny. Yn anffodus, wrth gwrs, oherwydd y ddarpariaeth yn Neddf Cymru, nid yw’n ddewis sydd ar gael i ni. Nid ydym wedi cael caniatâd i edrych ar ddefnyddio corff cyhoeddus hyd braich i redeg y fasnachfraint, yn wahanol i’r Alban. Bydd ef yn gwybod bod hwn yn fater lle’r ydym ni’n rhannu'r un farn ac yn rhywbeth yr ydym ni mewn anghydfod â Llywodraeth y DU yn ei gylch. Yn rhan o broses masnachfraint y flwyddyn nesaf, rydym ni’n disgwyl gweld y gwerth gorau am arian yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid yng Nghymru, ac, wrth gwrs, buddsoddiad sylweddol mewn cerbydau. Ceir llawer o bobl sy'n defnyddio rheilffyrdd y Cymoedd sydd mewn cerbydau sy’n ddegawdau lawer oed. Maen nhw’n haeddu gwell na hynny, ac rydym ni eisiau gweld hynny’n cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod masnachfraint nesaf.

Mae'n eironi rhyfedd, onid yw, bod trenau Arriva yn cael un o'r cymorthdaliadau uchaf o unrhyw ddarparwr trenau cyhoeddus, ac eto mae newydd ddatgan yr elw mwyaf erioed. Rwy'n siŵr yr hoffech chi, fel finnau, weld Llywodraeth â dull mwy rhesymegol o ran y ffordd yr ydym ni’n rhedeg ein rheilffyrdd ar ôl 8 Mehefin. Ond, ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd, yn anffodus, wedi ymrwymo i fynnu bod yn rhaid gwario’r £125 miliwn a roddwyd o’r neilltu i wella ein gwasanaethau rheilffyrdd ar drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, pan fo’r holl arbenigwyr yn eglur bod rheilffyrdd ysgafn yn fwy cost-effeithiol ac y bydd yn gwella amseroedd teithio mewn ffordd na fydd trydaneiddio yn ei wneud. Beth ydych chi'n feddwl y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau y ceir dull llawer mwy rhesymegol o ran y ffordd yr ydym ni’n buddsoddi arian cyhoeddus, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael yr enillion sydd eu hangen yn y system fetro yr ydym ni’n gobeithio ei chyflwyno ar draws y de-ddwyrain?

Wel, mae gennym ni system ryfedd lle y darperir cymhorthdal ​​cyhoeddus o £180 miliwn i gwmni preifat, sydd wedyn yn gwneud elw o £14 miliwn ar ben hynny. Mae'n anodd iawn cyfiawnhau’r math hwnnw o lefel. Nid oeddem ni’n gyfrifol am y fasnachfraint pan gafodd ei dyfarnu y tro diwethaf, ond mae'n anodd iawn cyfiawnhau hynny i'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae rheilffordd ysgafn wedi'i drydaneiddio. Ceir gwahanol ffyrdd o’i wneud, nid oes rhaid i chi gael ceblau uwchben—mae ffyrdd eraill o wneud hynny—ond, i mi, egwyddor graidd y metro yw y dylai fod yn estynadwy. Oes, wrth gwrs, mae gennym ni’r rhwydwaith craidd wedi ei sefydlu ar hyn o bryd, ond mewn amser, y bwriad yw edrych ar lwybrau newydd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan y rheilffyrdd trwm. Os ydym o ddifrif ynghylch datblygu'r rhanbarth o gwmpas Caerdydd a thu hwnt, yna mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr y gall pobl deithio heb orfod mynd i'w ceir, gan achosi mwy o dagfeydd. Felly, bydd yr estynadwyedd hwnnw a hefyd y cymysgedd o ddarpariaeth a fydd yn rhan, heb os, o’r metro, yn rhoi’r hyblygrwydd hwnnw ar gyfer y dyfodol hefyd.

Prif Weinidog, 60 mlynedd yn ôl byddwn wedi gallu teithio o fy mhentref, Rhaglan yn Sir Fynwy, ar y trên i Gaerdydd. Ni ellir gwneud hynny nawr, oherwydd yn amlwg, collasom lawer o'r rhwydwaith rheilffyrdd lleol yn ôl yn y 1950au a'r 1960au. Rydych chi wedi sôn am yr angen i sicrhau bod y metro yn estynadwy a’i fod yn cyrraedd ardaloedd o’r de a dinas-ranbarth y de-ddwyrain nad ydynt wedi eu cyrraedd hyd yn hyn, neu na fyddai’n gallu eu cyrraedd ar hyn o bryd. A ydych chi wedi rhoi mwy o ystyriaeth i’r mater o ganolfan fetro bosibl yn y Celtic Manor, neu yn ardal y Celtic Manor? Rwyf wedi codi hyn yn y gorffennol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith. Rwy'n credu, pe byddech chi’n ystyried datblygu canolfan yn y fan honno, y gallech chi gael craidd da iawn wedyn i adeiladu oddi wrtho i'r ardaloedd gwledig o gwmpas Casnewydd a hyd at fy ardal i o’r wlad, i wneud yn siŵr y gallai pawb elwa ar y metro.

Wel, rwy’n cael fy nhemtio i dynnu ei goes a dweud, 'Wel, y Llywodraeth Dorïaidd wnaeth gau’r rheilffordd', ond nid wyf yn hollol siŵr ai nhw wnaeth ai peidio. Roedd hynny amser maith yn ôl. [Chwerthin.]

Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw bod llawer o reilffyrdd wedi eu cau gan Lywodraethau’r ddwy blaid yn y 1950au a dechrau'r 1960au. Gwelsom hefyd, wrth gwrs, reilffordd Caerfyrddin-Aberystwyth yn cael ei chau i deithwyr ym 1964, ac i laeth ym 1973, gyda'r cledrau yn cael eu codi yn fuan iawn wedyn. Trasiedi fawr a rhywbeth y gallem ni’n sicr fod wedi elwa arno o ran gallu rhedeg gwasanaeth ar y rheilffordd honno, o leiaf cyn belled ag Ystrad Fflur nawr.

Ond, ydw, rwy’n derbyn ei bwynt: mae'n hynod bwysig y dylai ardaloedd o Gymru nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan unrhyw fath o reilffordd gael eu gwasanaethu yn y dyfodol drwy ffurf ar gludiant a allai gynnwys rheilffyrdd ysgafn yn ôl pob tebyg yn hytrach na rheilffyrdd trwm. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yn ei etholaeth ef, yr adeiladwyd y ffordd ddeuol dros lawer o'r hen drac rheilffordd yn mynd allan i Drefynwy, ac mae'r Celtic Manor yn rhan bwysig o'n cynlluniau ar gyfer datblygu'r metro. Fel y dywedais, yr hyn sydd wrth wraidd y syniad ar gyfer y metro yw y dylai'r system fod yn hyblyg ac yn estynadwy, ac mae hynny'n golygu edrych ar rannau o Gymru na fu ganddynt wasanaeth rheilffordd ers blynyddoedd maith, fel na fu gan ran helaeth o’i etholaeth ef.

Esgusodwch fi, Llywydd, rwy'n teimlo cywilydd dros dro, mae arnaf i ofn. Bydd yn rhaid i mi gael y cwestiwn yna wedi ei arddangos.

Trafnidiaeth Integredig yn Ne-Ddwyrain Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran trafnidiaeth integredig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0614(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn ddogfen fyw ac yn cynnwys rhaglen uchelgeisiol o ymyraethau sydd mewn gwahanol gyfnodau yn eu datblygiad, a byddwn yn diweddaru'r cynllun o bryd i'w gilydd i adlewyrchu datblygiadau dros amser, ac wrth gwrs proffil newidiol yr angen ledled Cymru.

A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod yn rhaid i deithio llesol fod yn rhan bwysig o drafnidiaeth integredig yn y de-ddwyrain, a nawr bod awdurdodau lleol yn llunio eu cynlluniau integredig ar gyfer y dyfodol, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd diddordeb brwd yn y cynlluniau hynny a sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â'r agenda trafnidiaeth integredig ehangach honno?

Yn sicr. Y newid sy'n digwydd—nid yw wedi digwydd eto ar draws pob awdurdod lleol—y newid sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod beicio a cherdded yn cael eu hystyried yn foddau trafnidiaeth yn hytrach na modd o adloniant yn unig. Rydym ni’n gwybod bod llawer o'n dinasoedd mewn sefyllfa dda i ddarparu llwybrau beicio. Rydym ni’n gwybod mai’r broblem i lawer o bobl a allai feicio yw nad ydyn nhw eisiau bod ar y ffordd gyda cheir. O ran y dewr, ydy maen nhw, a hynny'n gwbl briodol gan fod ganddyn nhw bob hawl i fod ar y ffordd. Ond po fwyaf y gallwn ddatblygu llwybrau beicio sydd wedi eu gwahanu'n ffisegol oddi wrth geir, y mwyaf y bobl y byddwn yn eu denu, yn fy marn i, i’r llwybrau hynny gan na fyddant yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gystadlu gyda cheir a lorïau ar y ffordd. Ac mae hynny’n sicr yn cyd-fynd, fel y bydd yn gwybod, â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Yn dilyn diddymiad tollau afon Hafren, sydd i’w groesawu’n fawr, ac, rydym ni’n gobeithio, adeiladu ffordd liniaru i'r M4, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod pwysigrwydd y rheilffyrdd fel dewis arall i integreiddio â'r system ffyrdd ddim ond yn cynyddu? Ac a yw’n croesawu penderfyniad ei Ysgrifennydd y Cabinet y dylai'r cynnig Magwyr-Gwndy ar gyfer gorsaf drenau newydd gael ei ddatblygu, yn ogystal â Llanwern a Llaneirwg, sydd wedi eu nodi yn y 12 cyntaf, gan y byddai rhoi tair gorsaf rheilffordd newydd ar y llwybr hwnnw rhwng Caerdydd ac afon Hafren yn gweddnewid natur y gwasanaeth?

Nid wyf yn siŵr fod y tollau wedi eu diddymu eto mewn gwirionedd, ond yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddem ni’n ei groesawu. Rwyf bob amser yn croesawu datganiadau a wneir gan fy Ngweinidogion Cabinet, ac mae'n iawn i ddweud, mewn gwahanol gyfnodau, ein bod ni’n ystyried ailagor rheilffyrdd i'r dwyrain o Gaerdydd a Chasnewydd—ardal nad yw wedi cael ei gwasanaethu’n dda gan y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, bod rhan ddwyreiniol dinas Caerdydd wedi ei gwasanaethu’n wael iawn yn hanesyddol. Mae angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i ran ddwyreiniol y ddinas ac mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, am aneddiadau rhwng Casnewydd a phont Hafren. Ni allwn wneud dim ond adeiladu ffyrdd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth i ffyrdd gael eu gwella a’u hadeiladu, ein bod ni hefyd yn darparu gwell cysylltiadau cludiant cyhoeddus hefyd.

Un o'r pethau anoddach i'w cyflawni gyda chludiant cyhoeddus yw'r cerdyn teithio sy'n galluogi teithwyr i deithio ar wahanol fathau o drafnidiaeth. Gwn fod eich Llywodraeth yn mynd i fod yn rhan o gytundebau’r masnachfreintiau rheilffordd newydd. Faint o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i ddarparu’r math hwnnw o gerdyn teithio yn eich trafodaethau gyda'r cwmnïau trenau?

Wel, ceir dwy broblem: yn gyntaf, mae'n anoddach ymdrin â thrafodaethau cerdyn teithio mewn gorsafoedd rheilffordd gan fod mwy nag un gweithredwr. O ran y metro, mae'n hanfodol bod cerdyn teithio integredig tebyg i Oyster ar gael, er hyd yn oed yn Llundain nawr, wrth gwrs, mae'n bosibl teithio trwy ddefnyddio cerdyn debyd digyswllt. Felly, mewn gwirionedd, mae cardiau Oyster hyd yn oed yn llai hanfodol nawr nag yr oeddent ar un adeg. I rai pobl, wrth gwrs, maen nhw'n bwysig—i’r rhai nad oes ganddynt fynediad at gardiau digyswllt, ydynt, maen nhw eu hangen i deithio—ond mae'n gwbl hanfodol bod gan rwydwaith metro y de-ddwyrain un cerdyn ar gyfer yr holl deithiau yn ardal y metro. Fel arall, wrth gwrs, nid yw'n system integredig.

Nid yw Michelle Brown yma i holi cwestiwn 5 [OAQ(5)0622(FM)]. Cwestiwn 6, Hannah Blythyn.

Blwyddyn Chwedlau

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Blwyddyn Chwedlau o fudd i ogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0617(FM)

Yn gyntaf, mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau o ran cefnogi'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys cyllid cyfalaf a datblygu, ynghyd â chyfleoedd marchnata a hyrwyddo. Rydym ni’n gwybod bod Blwyddyn Chwedlau yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y sylfaen honno.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn rhan o’r Flwyddyn Chwedlau, rydym ni’n aros yn eiddgar iawn am y dyluniad buddugol ar gyfer ein gosodiad newydd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yng Nghastell y Fflint. Rwy'n siŵr bod pawb yn y gymuned yn edrych ymlaen at y chwedl ddiweddaraf hon yn cyrraedd glannau’r castell, ond roedd hen chwedl leol arall y mae’r etholaeth, a chymuned yr Wyddgrug yn arbennig, yn haeddiannol falch ohoni. Darganfuwyd clogyn aur yr Wyddgrug ym 1833 gan weithwyr yn cloddio am garreg mewn tomen gladdu, ac mae’n rhan o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar hyn o bryd. Mae wedi gadael yr Amgueddfa Brydeinig yn y gorffennol i gael ei arddangos dros dro yn Wrecsam, ond nid yw erioed wedi dod yn ôl i’r Wyddgrug i gael ei arddangos dros dro yn y dref lle y cafodd ei ddarganfod. Prif Weinidog, wrth i ni gofio a dathlu Blwyddyn Chwedlau, a ydych chi’n cytuno â barn llawer o’m hetholwyr y byddai'n wych gweld y clogyn aur yn dychwelyd i gael ei arddangos yn y dref lle y cafodd ei ddarganfod?

Ydw. Mae'r clogyn aur yn enwog, wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y byddai pobl yr Wyddgrug yn hoffi gweld y clogyn aur gwirioneddol yno, yn hytrach nag iddo gael ei goffáu mewn enw tafarn. [Chwerthin.] Yn Wrecsam oedd honno. Yr anhawster ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw nad oes unman yn yr Wyddgrug i’r clogyn gael ei arddangos, a dyna sydd angen ei ddatrys yn gyntaf. Er mwyn i hynny ddigwydd, gallai'r awdurdod lleol yn Sir y Fflint ystyried cymryd yr awenau a siarad gyda ni fel Llywodraeth Cymru i weld beth y gellid ei wneud er mwyn darparu cyfleuster gyda'r awyrgylch cywir, o ran yr amodau atmosfferaidd, ac o ran y diogelwch cywir er mwyn darparu cartref ar gyfer y clogyn aur, hyd yn oed os yw hynny dros dro, yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni’n fwy na pharod, wrth gwrs, i weithio gyda'r awdurdod lleol a chyda phobl leol i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn i ddod â'r clogyn adref, ac i bobl yr Wyddgrug allu gweld y clogyn yn ei dref wreiddiol.

Cwestiwn da gan yr Aelod yn y fan yna i ni yn y gogledd. Prif Weinidog, mae Visit Britain wedi lansio Where Stories Become Legends, ymgyrch twristiaeth ffilm ryngwladol gyda Warner Brothers, i gyd-daro â rhyddhau ffilm 'King Arthur', y cafodd rhannau ohoni eu ffilmio yn Eryri. Sut mae Croeso Cymru yn defnyddio ymgyrch Blwyddyn Chwedlau i gydweithio ar hyn? A pha gynlluniau sydd gennych chi yn y dyfodol i hyrwyddo rhanbarth y gogledd, sy’n gartref i rai o'r tirluniau mwyaf dramatig a hardd yn y byd sydd ar gael i'r diwydiant ffilm a'i gefnogwyr?

Wel, roedd 'King Arthur' yn ffilm, os cofiaf yn iawn, y gwnaethom ni ei chefnogi fel Llywodraeth.

Roedd yn ffilm y cymerasom gyfranddaliad ynddi. Ydy, mae'n ffilm sydd wedi ei lleoli yng Nghymru ac mae hi hefyd yn ffilm, wrth gwrs, sydd wedi elwa, rwy’n credu, ar gael ei hôl-gynhyrchu yng Nghymru hefyd. Gofynnodd yr Aelod beth yr ydym ni wedi ei wneud yn benodol dros y gogledd, wel a gaf i ddweud bod tua £0.5 miliwn wedi ei roi ar gael yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prosiectau yn y gogledd: felly, pum prosiect trwy’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol, sef cyfanswm o £0.25 miliwn, a £265,000 arall trwy’r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth i gefnogi chwe phrosiect ar draws y gogledd hefyd. A gaf i ddweud bod y cynllun cymorth buddsoddi twristiaeth wedi gwneud cynigion o gyllid i 48 o fusnesau yn y gogledd ers mis Ebrill 2013, sef cyfanswm o bron i £8 miliwn. Mae hynny wedi dod â buddsoddiad ychwanegol o £12.5 miliwn i mewn ac wedi cynorthwyo 551 o swyddi o ran eu sicrhau, ac mae 433 o swyddi eraill wedi eu creu.

Tra ei bod hi’n berffaith iawn, wrth gwrs, inni ddenu pobl i ddod i ddathlu a dod yn fwy ymwybodol o’r chwedloniaeth a’r storïau sydd gennym ni i’w dweud yng ngogledd-ddwyrain Cymru—i gyfeirio yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol—mae yna farchnad sylweddol hefyd, wrth gwrs, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac, yn aml iawn, nid yw pobl leol wastad yn gwerthfawrogi yr hanes a’r asedau sydd gennym ni yn y gogledd-ddwyrain. Felly, a gaf fi ofyn, tra bod yr ymgyrch yma, wrth gwrs, yn hyrwyddo Cymru yn ehangach, oni ddylai’r Llywodraeth hefyd, ar yr un pryd, fod yn gwneud llawer mwy i hyrwyddo ein hanes a’n treftadaeth ni ar lefel leol hefyd? Fe ddigwyddodd hynny yn fy nyddiau i, gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mi gynyddodd nifer yr ymwelwyr yn sylweddol, ac, wrth gwrs, mi gynyddodd nifer y bobl a oedd yn gwirfoddoli ac yn teimlo perchnogaeth o’r asedau hynny, a oedd yn cryfhau y cynnig ehangach o fewn y gogledd.

Fel rhan o’r prosiect—ac mae’n wir dweud nad ŷm ni byth yn gwybod beth sydd ar ein stepen ddrws, a ydym ni? Ynglŷn â’r prosiectau rydw i wedi sôn amdanyn nhw yn barod, mae llawer o’r prosiectau hynny yn gweithio er mwyn sicrhau codi ymwybyddiaeth o hanes lleol gan drigolion lleol. Mae lot fawr o waith yn cael ei wneud, wrth gwrs, gan gyrff gwirfoddol i wneud hynny hefyd. Ond, wrth gwrs, mae fe’n hollbwysig sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd yna, a chymryd diddordeb mewn beth sydd yna, ynglŷn â’i hanes eu hunain, er mwyn, wrth gwrs, eu bod nhw’n gallu actio fel llysgenhadon i’w hardaloedd nhw, a sicrhau bod mwy o bobl yn dod, ymweld, sefyll, a hala arian.

Gwasanaethau Meddygol yn Sir Drefaldwyn

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygol meddygon teulu yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0621(FM)

Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill yng Nghymru i gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae rhiant wedi cysylltu â mi sydd wedi bod yn ceisio trefnu archwiliad meddygol syml ar gyfer ei merch yn ei meddygfa leol yn y Drenewydd. Mae hyn yn ofynnol cyn iddi fynd dramor i astudio. Nawr, mae’r feddygfa wedi gwneud y penderfyniad i beidio â chynnal unrhyw archwiliadau meddygol pellach o'r math hwn oherwydd y prinder meddygon teulu. Nid oes unrhyw feddygfeydd eraill yn yr ardal yn gallu cynnig apwyntiad ychwaith. Mae'r rhiant hyd yn oed wedi cynnig talu. Mae fy swyddfa i wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd lleol, ond nid ydynt hwythau’n gallu cynnig unrhyw gymorth ychwaith.

Felly, fel y mae pethau, o’r hyn a ddeallaf, yr unig ddewis sydd ar gael nawr i’r ferch ifanc hon gael yr archwiliad meddygol sydd ei angen arni i fynd i astudio dramor yw talu amdano yn breifat, a byddai angen iddi fynd—byddai’r ardal agosaf i wneud hyn rhywle yn Lloegr. Felly (1) byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi gynnig unrhyw gyngor i’m hetholwr, a (2) pe gallech chi gynnig unrhyw ddiweddariad ar y prinder meddygon teulu a welwn, yn enwedig yn y canolbarth, sy'n troi—rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno hefyd—yn fwy o argyfwng y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef.

Nid wyf yn deall y safbwynt a gymerwyd gan y feddygfa deulu. Yr hyn nad wyf yn ei wybod, wrth gwrs, heb—. Rwyf yn ei wahodd i ysgrifennu ataf hefyd, wrth gwrs, gyda mwy o fanylion, ond nid yw meddygon teulu yn cynnig pob gwasanaeth am ddim. Bu’n rhaid talu am rai gwasanaethau erioed. Caiff meddygon teulu eu talu drwy'r GIG weithiau os, er enghraifft, y byddant yn cynnal profion gwaed. Weithiau, wrth gwrs, maen nhw’n codi tâl ar yr unigolyn yn uniongyrchol—llofnodi am bethau, yn aml iawn. Felly, nid wyf yn gwybod a yw hyn yn wasanaeth a fyddai’n cael ei gynnig gan y GIG fel mater o drefn ai peidio. Ond mae wedi codi'r mater gyda mi. Os gwnaiff roi’r manylion i mi, byddaf, wrth gwrs, yn ymateb.

Llesiant Staff yn Sector Cyhoeddus Cymru

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo llesiant staff yn sector cyhoeddus Cymru? OAQ(5)0615(FM)

Wel, rydym ni’n gweithio'n agos gyda chyflogwyr y sector cyhoeddus a’r undebau llafur i hyrwyddo llesiant staff yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru.

Byddwch yn ymwybodol fod bron i 8,000 o aelodau staff y GIG yng Nghymru wedi eu heffeithio gan orbryder, straen, iselder, a nifer o afiechydon seiciatrig eraill, yn ystod y flwyddyn 2015-16, ac ymddengys bod y duedd yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Crëwyd a llenwyd swydd pennaeth llesiant cyflogeion gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, ac mae Adrian Neal a'i gydweithwyr yn cymryd camau breision ymlaen o ran lleihau absenoldeb staff a gwella ysbryd ymhlith cyflogeion.

Ond, Prif Weinidog, nid yw’r swydd lesiant hon wedi ei llenwi yn holl fyrddau iechyd Cymru. Crëwyd y swydd gan rai ohonynt cyn penderfynu cael gwared arni am resymau cyllidebol. Mae gan eraill y swyddi, ond maen nhw’n wag—unwaith eto, am resymau cyllidebol. O ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu, a pha mor anodd yw hi i recriwtio pobl i mewn i'r GIG yng Nghymru, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi amlinellu pa gynlluniau a allai fod gennych i ddatrys y broblem hon.

Wel, mae bwrdd rhaglen iechyd a llesiant wedi ei sefydlu, sy'n goruchwylio’r rhaglen ac agenda cydweithredol GIG Cymru o ran gwella iechyd a llesiant staff a lleihau lefelau absenoldeb oherwydd salwch. Mae holl sefydliadau'r GIG wedi bodloni, neu'n gweithio tuag at, y safon iechyd gorfforaethol, ac felly byddem yn disgwyl i bob bwrdd y GIG fodloni’r safon honno a darparu'r lefel cywir o gefnogaeth i staff, yn enwedig o ran eu hiechyd meddwl eu hunain.

Bargen Dwf Gogledd Cymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fargen dwf Gogledd Cymru? OAQ(5)0612(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n parhau i ddadlau’r achos dros gais twf gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU. Mae'r cyfeiriad gan y Canghellor at gais twf gogledd Cymru yn ei gyllideb ddiweddar—sy’n ymddangos gryn amser yn ôl erbyn hyn—yn gam cadarnhaol ymlaen, a hyderwn y bydd Llywodraeth y DU yn cadw’r ymrwymiad hwnnw.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rhan allweddol o gytundeb twf gogledd Cymru yw Wylfa Newydd, y gwaith pŵer niwclear sydd yn mynd i gael ei adeiladu ar Ynys Môn, a fydd yn creu llawer o swyddi â chyflogau da—hynod fedrus—nid yn unig ar Ynys Môn, ond ledled gogledd Cymru gyfan. Nawr, ar ôl darllen trwy faniffesto'r Blaid Lafur, ceir cefnogaeth eglur i’n sector ynni niwclear, ond, ychydig ddiwrnodau cyn galw’r etholiad cyffredinol, addawodd Canghellor yr wrthblaid Lafur i roi terfyn ar ynni niwclear yn rhan o 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth Lafur mewn grym. Nawr, mae'r ffaith fod Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi gwrthwynebu ynni niwclear ers blynyddoedd lawer, yn hysbys, wrth gwrs. A allech chi achub ar y cyfle hwn nid yn unig i egluro eich barn a’ch nodau chi a'ch Llywodraeth ar gyfer ynni niwclear, ond hefyd dyheadau’r Blaid Lafur ar gyfer y diwydiant niwclear?

Rydym ni wedi ymrwymo 100 y cant i Wylfa Newydd. Rydym ni eisoes wedi bod yn gweithio gyda Wylfa ei hun a hefyd gyda chyflenwyr sgiliau er mwyn gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl leol â phosibl yn meddu ar y sgiliau y bydd eu hangen yno. Bydd yn darparu llawer o swyddi adeiladu dros dro ac, yn bwysig, tua 600 o swyddi yn y gymuned. Nid oes unrhyw simsanu o ran ein cefnogaeth i'r prosiect.

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am y sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud y prynhawn yma ynghylch yr ymosodiad ym Manceinion? Rwy'n siŵr y byddant yn eiriau o gysur ar yr adeg anodd iawn hon i lawer o deuluoedd. Fel un o Fanceinion fy hun, rwy'n gyfarwydd iawn â'r rhan honno o'r byd, a gwn fod rhai o’m hetholwyr yn bresennol yn y digwyddiad, gan eu bod wedi bod mewn cysylltiad â mi. Nid oes amheuaeth fod digwyddiadau fel hyn yn cael effaith, nid yn unig ar y noson, i’r rhai sydd wedi cael eu hanafu neu wedi colli eu bywydau, ond, yn wir, am flynyddoedd lawer i ddod, gan gynnwys effaith seicolegol, o bosibl, i’r rhai a oedd yn bresennol. Roedd llawer ohonynt, fel yr ydych wedi ei nodi yn barod, yn bobl yn eu harddegau, wrth gwrs. Nawr, fel tad i blant yn eu harddegau, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi bod pobl ifanc yn cael cefnogaeth yn brydlon pan fydd ei hangen arnynt, ac roeddwn i’n falch iawn o glywed eich bod chi’n ystyried sefydlu llinell gymorth i unrhyw unigolion o Gymru a allai fod angen cael gafael ar gymorth yn y dyfodol. A gaf i ofyn i chi gadarnhau y bydd y cymorth seicolegol ar gael hefyd—nid yn unig o ran y gefnogaeth gorfforol a allai fod ar gael, ond y cymorth seicolegol, pe byddai ei angen ar unrhyw un o'r bobl ifanc hynny, neu, yn wir, unrhyw un o'r oedolion a oedd yn bresennol neithiwr, hefyd?

Dyna'r bwriad. Y bwriad yw y gall pobl gael eu cyfeirio at sefydliadau sy'n gallu darparu’r cymorth hwnnw yn y tymor hwy. Mae'n tueddu i fod yn wir gyda PTSD, er enghraifft, nad yw pobl yn ei weld ar y dechrau—mae'n datblygu dros amser, wrth i bobl ddechrau deall canlyniadau’r hyn a allai fod wedi digwydd neu ddeall canlyniadau’r hyn y maen nhw wedi ei weld. Felly, mae'n hynod bwysig gwneud yn siŵr bod y cymorth hwnnw ar gael, nid yn unig am wythnos neu ddwy, ond dros y cyfnod o amser y mae’r unigolyn ei angen er mwyn dod i delerau â'r hyn y maen nhw wedi bod yn dyst iddo a'r hyn y maen nhw wedi bod drwyddo.

Rydym ni’n gwybod y bydd yna symiau sylweddol yn cael eu buddsoddi nawr yn sgil y cais twf yma yng ngogledd Cymru, ond mae’r awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi dod at ei gilydd i greu cydbwyllgor a fydd yn goruchwylio’r broses yna. Ond a gaf i ofyn sut byddwch chi fel Llywodraeth yn sicrhau bod y buddsoddiadau yma yn adlewyrchu eich blaenoriaethau strategol chi yng ngogledd Cymru a ddim yn cael eu harwain, efallai, i fod yn rhedeg yn ‘parallel’, ond bod y cyfan yn gweithio fel un ymdrech adfywio economaidd yn y gogledd? Oherwydd nid wyf i’n siŵr iawn lle mae llais y Llywodraeth yn cael ei glywed o fewn cyd-destun y cydbwyllgor newydd yma, na chwaith sectorau eraill megis y sector fusnes, addysg uwch ac addysg bellach yn y rhanbarth, a oedd, wrth gwrs, yn rhannau blaenllaw o’r bwrdd uchelgais economaidd ond nawr a fydd, mae’n debyg, yn cael rhyw rôl heb bleidlais yn y strwythurau newydd yma.

Wel, wrth gwrs, ynglŷn â’r bid ei hunan—ynglŷn â’r ‘city deal’ sydd wedi cymryd lle lan i nawr, yr awdurdodau lleol sydd yn arwain, ac nid Llywodraeth Cymru. Rŷm ni’n rhan o’r broses, ond maen nhw’n sicrhau bod y strwythur llywodraethu gyda nhw mewn lle, ac, wrth gwrs, eu bod nhw’n ystyried prosiectau rhanbarthol, ac nid prosiectau sydd ddim ond o les i un sir yn unig. Felly, rŷm ni, wrth gwrs, moyn sicrhau bod y strwythur yna mewn lle. Rŷm ni’n hyderus fod hynny yn digwydd. Rŷm ni wedi gweld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’u gilydd, ta pwy sy’n rhedeg yr awdurdodau hynny, ac rŷm ni yn hyderus, felly, y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd y byddem ni moyn gweld. Ac, wrth gwrs, byddwn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein blaenoriaethau ni fel Llywodraeth. Nid oes lot fawr o wahaniaeth rhwng y blaenoriaethau sydd gyda ni a’r siroedd wrth sicrhau bod yna ddatblygiad o les i bawb yn y rhanbarth dros y blynyddoedd.

4. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ.

Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi gwneud nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn wyneb y digwyddiadau erchyll diweddar ym Manceinion, rwyf wedi gohirio'r datganiad llafar, 'Plant yn Gyntaf', a fydd yn cael ei aildrefnu maes o law. Bydd y datganiadau llafar ar 'Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru', a chod erlyn Llywodraeth Cymru, yn digwydd brynhawn yfory, yn lle’r ddadl gan Aelod unigol y mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i’w gohirio. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a geir yn electronig ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd busnes am ei datganiad a dweud y byddwn ni, yn amlwg, yn ceisio cydweithredu gymaint â phosibl wrth ail-drefnu'r busnes yn ôl yr angen, yn dilyn digwyddiadau diweddar, ac yn deall yn iawn pam mae'r Llywodraeth wedi ceisio gwneud hynny? Efallai y bydd o gymorth i mi rannu â hi, ac â’r Siambr hefyd, fod gennym ddadl yfory yn enw Plaid Cymru, ar gerddoriaeth fyw, yn sgil yr ymgyrchoedd ynglŷn â Stryd Womanby a Chlwb Ifor Bach ac ati. Deallaf fod y ddeiseb honno o’r ymgyrch honno wedi bod yn llwyddiannus iawn a bod y Pwyllgor Deisebau o blaid cyflwyno eu dadl eu hunain, fel nodwedd newydd o’r Senedd hon, lle gall deisebau o'r tu allan sbarduno trafodaeth ar y llawr. Yn wyneb hynny, hoffai Plaid Cymru dynnu'n ôl y ddadl yfory er mwyn hwyluso’r ddadl ehangach, os mynnwch chi, gan y Pwyllgor Deisebau ei hun, ac er mwyn sicrhau y gellir gweld bod yr ymgyrch hon, a fu’n llwyddiannus iawn ac sydd wedi rhoi egni newydd i bobl yng Nghaerdydd, yn cael ei hadlewyrchu ar lawr y Cynulliad, nid fel dadl plaid wleidyddol, ond fel un a rennir gan holl Aelodau'r Cynulliad i gyfrannu ati. Felly, gallai hynny ryddhau rhywfaint o amser yfory, a allai gynorthwyo'r rheolwr busnes yn ei gwaith.

A gaf i hefyd ofyn rhywfaint ynglŷn â Chynghrair y Pencampwyr ac effeithiau'r digwyddiadau ofnadwy ym Manceinion? Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, a'r ymrwymiad y mae eisoes wedi’i wneud, yng nghwestiynau’r Siambr, ynglŷn â’r paratoadau ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr. Gwn fod hynny wedi bod yn drylwyr a’u bod wedi eu derbyn gan yr awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gyfrifol yma. Rydym yn gweld rhai o'r paratoadau eisoes y tu allan i'r Cynulliad, yn barod ar gyfer y llu o ymwelwyr a fydd yn dod yma. Rwy’n gobeithio y bydd hi'n ymuno â mi i anfon neges gref iawn sy’n dweud bod croeso cynnes iawn i bobl yng Nghymru. Rydym yn dymuno gweld pawb yma, a chânt groeso cynnes iawn pan fyddant yn dod yma, ac rydym yn barod ar gyfer y niferoedd hynny, ac mae ein gwasanaeth diogelwch a'n heddlu a phawb yn barod am hynny ac wedi paratoi ar gyfer yr achlysur. Yn anffodus, does dim byd yn newydd am y ffaith fod ymosodiad terfysgol trasig wedi bod ym Manceinion. Bu ymosodiadau tebyg mewn mannau eraill yn Ewrop, yn ogystal ag yn Llundain, wrth gwrs, a bu’n rhaid i ni baratoi ar gyfer hynny. Ond os yw'n briodol i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y paratoadau ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, byddwn i’n croesawu hynny yn fawr.

Rwy’n sylwi hefyd fod y datganiad hir-ddisgwyliedig ar TB mewn gwartheg gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi’i amserlennu. Gofynnaf i’r Llywodraeth ddweud rhywfaint yn rhagor, naill ai drwy ddatganiad ysgrifenedig cyn y—. Oherwydd cyhoeddodd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig ei adroddiad ei hun ar TB mewn gwartheg y bore yma, ac yn fy marn i byddai’n ein helpu ni, oherwydd bod wythnos neu ddwy i fynd—credaf mai ar 20 Mehefin yr ydym yn disgwyl datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n ddefnyddiol cael ymateb gan y Llywodraeth i’r adroddiad hwnnw, naill ai ar y diwrnod ei hun neu ychydig cyn hynny, er mwyn i ni allu cael dadl gytbwys ac ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet. Os gall y Llywodraeth ymrwymo i hynny mewn datganiadau yn y dyfodol, byddai hynny'n ddefnyddiol.

Mae’r mater olaf yr hoffwn ei godi o natur wahanol, ond tynnwyd fy sylw iddo o Lanelli—cysylltodd un o’m hetholwyr â’m swyddfa i. Bydd y rheolwr busnes yn gwybod bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu cau nifer o swyddfeydd ledled Cymru. Rwy’n cymryd bod unrhyw gyhoeddiad ar benderfyniadau terfynol o ran cau swyddfeydd o'r fath o dan len erbyn hyn, ac ni ddisgwylir eu gwneud cyn yr etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, yn ôl adroddiadau sydd wedi dod i law gan bobl sy'n gweithio yn y swyddfa yn Llanelli, mae paratoadau yn mynd rhagddynt i godi arwyddion 'ar werth' ar gyfer y swyddfa honno. Yn amlwg, mae’r staff wedi cael gwybod am hyn, ac yn pryderu, ac wedi cyflwyno’r pryderon hynny i mi. Roeddwn i eisiau gofyn i’r Llywodraeth a oeddent wedi cael unrhyw arwydd o San Steffan am unrhyw benderfyniadau terfynol ynglŷn â’r swyddfa yn Llanelli, neu yn wir y swyddfeydd eraill yr effeithir arnynt yng Nghymru, ac a yw'n ymrwymiad, hyd y gŵyr hi, na ellir gwneud unrhyw ddatganiad tan yr etholiad cyffredinol, ac a yw hi mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddatganiad ar ran y Llywodraeth mewn ymateb i'r pryderon hynny gan fy etholwyr i.

Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas, am roi gwybod i ni am ganlyniad penderfyniad y Pwyllgor Deisebau i gynnig dadl, ac wrth gwrs, am helpu’r ddeiseb honno i'r fath raddau ei bod yn awr yn croesi'r trothwy. Bydd yn ddatblygiad newydd, fel y dywedwch, i ni drafod hyn, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gerddoriaeth fyw a sefyllfaoedd lleol cyfredol. Yn wir, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf ar y materion cynllunio, mae hynny’n golygu y bydd un ddadl yn llai gan yr wrthblaid brynhawn yfory.

O ran UEFA a’r paratoadau, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelwch a thrafnidiaeth wrth baratoi ar gyfer UEFA y penwythnos ar ôl nesaf. Rydych wrth gwrs yn ymwybodol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, iddo gael briff diogelwch y bore yma yn gysylltiedig â'r trafodaethau COBRA, ac y bydd hwnnw yn wir wedi rhoi ystyriaeth i’r digwyddiad pwysig sydd ar ddod. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio’r croeso i Gymru, a'r cyfleoedd, a’n bod ni yma i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac, yn wir, bod croeso iddynt i’r digwyddiad mawr hwn yng Nghymru, a fydd unwaith eto yn ein rhoi ni yn ganolbwynt sylw’r byd o ran ein lletygarwch, ein heffeithlonrwydd, ein diogelwch ac yn wir ein cysylltiadau trafnidiaeth. Felly, mae'n briodol iawn, beth bynnag, fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y datganiad hwnnw, a bydd yn gwneud hynny.

Ynglŷn â’ch trydydd cwestiwn, do, cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor ar ei ymchwiliad i TB mewn gwartheg, a'r argymhellion a wnaed a'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Yn wir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad yn y dyfodol agos iawn o ran y ffordd ymlaen, ac mae'n bwysig, wrth gwrs, y bydd yn dilyn yr adroddiad hwnnw gan y pwyllgor.

O ran eich pedwerydd cwestiwn, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—wel, nid wyf yn credu ei fod yn ymwybodol o gael gwybod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy ei swyddogion fod penderfyniadau wedi eu gwneud. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei gofnodi heddiw. Yn amlwg, mae gennym gysylltiadau swyddogol â’r Adran Gwaith a Phensiynau ac rwy'n siŵr y bydd ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn awyddus i egluro'r pwynt. Rwy'n siŵr y dylai ymgysylltiad undebau, hefyd, o ran yr effaith ar y staff a'u hofnau a'u pryderon, yn enwedig yn y cyfnod hwn cyn yr etholiad—y dylid rhoi sylw i hyn.

Arweinydd y tŷ, yn ddiweddar rwy’n ymdrin â nifer o achosion lle gwrthodwyd cais am fathodyn glas newydd gan bobl sydd wedi bod ag un ers sawl blwyddyn. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda'r awdurdod lleol, ond rwyf wedi cael gwybod bod hyn yn digwydd oherwydd nad yw fy etholwyr yn bodloni'r meini prawf cymhwyso mwyach. Serch hynny, ym mhob achos, mae gan yr etholwyr dal sylw amrywiaeth o gyflyrau meddygol difrifol. Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu’r canllawiau a’r system ymgeisio i weld beth y gellir ei wneud am bobl nad ydynt yn bodloni’r gofynion. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr adolygiad hwn, os gwelwch yn dda?

Rwy'n falch bod Vikki Howells wedi tynnu ein sylw at hyn, gan fy mod i o’r farn bod hwn yn fater sy’n debygol o effeithio ar etholwyr eraill ac ar Aelodau Cynulliad eraill. O dan Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflwyno bathodynnau glas i ymgeiswyr yn eu hardaloedd, gan gynnwys penderfynu a yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth anstatudol i gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau. Mewn achos lle mae ymgeisydd wedi methu ond, eto i gyd, yn agos iawn i fodloni'r meini prawf, gall yr awdurdod lleol ddewis cyfeirio'r achos i’r gwasanaeth cynghori annibynnol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer asesiad pellach.

Cynhelir asesiad meddygol annibynnol gan therapydd galwedigaethol a fydd yn edrych ar symudedd yr ymgeisydd ac yn cynnig cyngor i'r awdurdod lleol ei ystyried. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r gwasanaeth cynghori annibynnol i adolygu eu pecyn canllawiau. Bydd yn cael ei ailgyhoeddi yn yr haf. Mae newidiadau yn cynnwys ehangu’r ffin lle gellir cyfeirio ymgeiswyr am asesiad pellach a rhoi rhagor o arweiniad ar y math o dystiolaeth i'w darparu er mwyn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr ddangos sut maent yn bodloni'r meini prawf.

Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad wrth i’r canllawiau hyn gael eu hailgyhoeddi, i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol ohonynt ac yn eu deall, a'u bod, felly, yn gallu monitro’n agos ac ymateb i bryderon etholwyr.

Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad gan naill ai’r Gweinidog addysg neu Weinidog y Gymraeg—nid wyf yn siŵr pwy fyddai’n gyfrifol—ynglŷn â’r ffaith fy mod i wedi derbyn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer o Aelodau Cynulliad eraill neithiwr, am y ffaith nad yw prifysgol Warwick, yr adran hanes, yn caniatáu safon A iaith Gymraeg fel cymhwyster er mwyn gallu mynd i’r brifysgol yna. Mae’n dweud:

‘grades AAA at A-level in 3 subjects including History. This offer excludes Welsh, General studies’.

Rwy’n credu, wrth gwrs, bod hynny wedi bod yn rhywbeth o ddicter i bobl yn fy ardal i a dros Gymru gyfan. Fe fyddwn i’n hoffi clywed a oes rhyw fath o astudiaeth wedi cael ei gwneud gan y Llywodraeth i weld beth mae prifysgolion yn gwneud yn hynny o beth, neu ai dim ond Warwick, yr adran hanes, sydd yn gwneud hyn. Achos nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol i brifysgolion drin safon A Cymraeg yn israddol i gyrsiau eraill. Fe fyddwn i’n croesawu unrhyw gyfathrebiaeth ar y mater.

Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw—ac rwy’n datgan buddiant yn hynny o beth; mae fy chwaer yn cymryd arholiadau safon A ar hyn o bryd—rwyf wedi cael cyfathrebiaeth gan nifer o bobl ifanc sydd yn dweud, er bod yr arholiadau’n digwydd dros gyfran hir o amser, hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, bod nifer o bobl yn cael tri arholiad mewn un dydd, ac maen nhw oll yn ddwy awr o arholiad. Mae digon o amser, efallai, yn yr amserlen i sicrhau na fyddai tri arholiad mewn un dydd. Mae’n rhoi lot o strès ar y bobl ifanc. Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn cymryd eu hastudiaethau’n ddifrifol, ac mae nifer o’r bobl ifanc sydd wedi dod ataf i yn teimlo mwy o ddigalondid yn sgil hyn. Fe fyddwn i’n hoffi cael datganiad, eto gan y Gweinidog addysg—nid wyf yn pigo arni—er mwyn sicrhau yn y dyfodol, os oes yna ‘clashes’—. Os oes dau arholiad, mae hynny’n iawn, ond mae tri arholiad mewn un dydd yn ormodol i bobl ifanc allu paratoi ar eu cyfer, pan fo sgôp o fewn yr amserlen i sicrhau nad yw hynny yn digwydd.

Diolch yn fawr, Bethan Jenkins. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pryderon a godwyd ynghylch Prifysgol Warwick a'r diffyg cydnabyddiaeth honedig o'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch. Gwn ei bod yn gweithredu ac yn ymchwilio ar unwaith i hyn, a byddwn yn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyhoeddi’n eglur ac yn cael ei gyflwyno, nid i'r Aelod yn unig, ond ar y cyfryngau cymdeithasol o bosibl a'i osod yn llyfrgell hefyd.

O ran eich ail bwynt, ynghylch y pwysau sydd ar bobl ifanc sy’n sefyll yr arholiadau lefel A hynny mewn un diwrnod, mae hynny, unwaith eto, yn fater gweithredol, ac rwy'n siŵr ei fod yn effeithio ar lawer o bobl ifanc, ysgolion a rhieni, o ran y cyrff arholi hynny a’r amserlennu. Ond mae’r pwynt wedi ei wneud a’i glywed.

5. 4. Datganiad: Ymgynghoriad ar y Diwygiadau Arfaethedig i Drwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar yr ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn darparu mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach, yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Cynlluniwyd ein rhaglen lywodraethu i hyrwyddo ein hamcanion ymhellach dan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn gofyn i ni feddwl yn fwy am y tymor hir er mwyn cydweithio'n well gyda phobl, cymunedau ac â’n gilydd, gan geisio atal problemau, a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o weithio, a’n helpu i greu Cymru yr ydym i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn arbennig o bwysig wrth i ni ystyried y ffordd orau y mae ein cynlluniau ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu datblygu ac yn cael eu gweithredu. Gall, ac fe fydd, system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym i gyd yn cydnabod bod ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â pharthau ansawdd aer gwael, gan gefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus a chyfrannu at ein huchelgais i wella symudedd allyriadau isel fel rhan o'n hymdrechion i gyflawni datgarboneiddio.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ar 28 Chwefror, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y canlyniadau i'w cyflawni fel rhan o fasnachfraint nesaf Cymru a'r gororau. Bydd y fasnachfraint hon yn moderneiddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o fetro’r de-ddwyrain. Bydd yn cefnogi datblygiad metro’r gogledd-ddwyrain a bydd hefyd yn gwella ein gwasanaethau rheilffyrdd rhanbarthol ar draws ardal fasnachfraint Cymru a'r gororau. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn a ddaeth i ben ddoe yn llywio ymhellach y gwaith o ddatblygu manyleb y fasnachfraint. Bydd hyn yn dod â manteision gwirioneddol i deithwyr ledled Cymru.

Ar yr un diwrnod ag y dechreuodd Trafnidiaeth Cymru yr ymgynghoriad, gwnes i ddatganiad i'r Siambr hon am fy ngweledigaeth ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu gan awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau yng Nghymru. Cyhoeddais ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai'n parhau â'r drafodaeth polisi a ddechreuais yn yr uwch gynhadledd bysiau ym mis Ionawr am sut y gallwn wella gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o'n system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy a hyfyw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn dod i ben yr wythnos nesaf, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol. Yn yr haf byddaf yn cyhoeddi adroddiad am yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthym a sut y dylem symud ymlaen i wneud newidiadau. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau bws lleol yn integreiddio’n fwy effeithiol gyda'n gwasanaethau rheilffordd rhanbarthol a’r metro a bod hyn yn cael ei gyflawni fel rhan o'r fasnachfraint rheilffyrdd.

Pan fydd y gwelliannau arfaethedig hyn i wasanaethau rheilffordd a bysiau yn cael eu rhoi ar waith, bydd rhai cymunedau yn ein cymdeithas yn bodoli o hyd lle nad yw cludiant cyhoeddus ar gael nac yn ddewis amgen ymarferol i ddefnyddio’r cerbyd modur preifat. Mae tacsis a gwasanaethau hurio preifat, felly, yn agwedd hanfodol ar y rhwydwaith drafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, gan gysylltu pobl â lleoedd pan nad yw gwasanaethau cludiant cyhoeddus eraill ar gael neu’n ymarferol. Ni ddylid diystyru’r cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i economi’r nos a thwristiaeth mewn llawer o'n cymunedau. Mae'r diwydiant yn elfen hanfodol yn ein dyheadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Maent yn hanfodol i lawer o deithwyr anabl a thrigolion cymunedau gwledig, ac yn chwarae rôl gymdeithasol bwysig wrth wella system drafnidiaeth gyhoeddus a hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Yng Nghymru, mae'r diwydiant tacsi a hurio preifat yn cyflogi tua 9,200 o yrwyr trwyddedig, yn gweithredu mwy na 5,000 o dacsis a mwy na 4,000 o gerbydau hurio preifat. Mae mwy na thraean o'r rhain yn gweithredu yn ardal Caerdydd ac Abertawe.

O ystyried pwysigrwydd y sector o ran darparu trafnidiaeth gyhoeddus leol, mae'n syndod i mi na chafwyd diwygiad o bwys i’r prif fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli trwyddedu gwasanaethau tacsi, a elwir hefyd yn gerbydau hacnai, mewn bron 200 mlynedd. Mae deddfwriaeth gwasanaethau llogi preifat yn fwy diweddar, yn dyddio o 1976 yn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr, ac o 1998 yn Llundain. Serch hynny, mae hyd yn oed y ddeddfwriaeth gymharol fodern hon yn ei chael yn anodd cadw i fyny â'r newidiadau radical y mae’r rhyngrwyd wedi’u cyflwyno yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn archebu gwasanaethau hurio preifat.

Mae esblygiad graddol y gwaith o reoleiddio tacsis a gwasanaethau hurio preifat wedi arwain at system drwyddedu gymhleth a thameidiog. Nid yw’r berthynas rhwng y gwasanaethau tacsis a hurio preifat, a elwir yn gyffredin yn ‘gabiau mini’, sy'n gofyn am gael eu harchebu ymlaen llaw, yn un sydd wedi ei diffinio'n glir. Nid oes rhesymeg gyffredinol yn perthyn i’r cydbwysedd rhwng rheolau cenedlaethol a lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddyblygu, anghysondebau ac anawsterau sylweddol o ran gorfodi trawsawdurdod. Mae ffonau symudol a'r rhyngrwyd yn golygu bod modd eu harchebu funudau cyn y daith ac mae hyn wedi chwyldroi’r fasnach tacsis a hurio preifat. Er hynny, nid yw rheoliadau wedi llwyddo i ddal i fyny.

Mae'r fframwaith deddfwriaethol hen-ffasiwn wedi mynd yn rhy eang mewn sawl ffordd, gan osod beichiau diangen ar fusnesau a chyfyngu’n artiffisial ar amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr. Nid ydynt yn ddigon cynhwysfawr mewn ffyrdd eraill, gan danseilio’r nod sylfaenol o ddiogelu nid yn unig y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd ddiogelu gyrwyr rhag cael eu hecsbloetio. Mae hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin o fewn y gymuned hurio preifat.

Yn sgil gweithredu Deddf Cymru 2017, pan ddisgwylir iddi gael ei chychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Ar y sail honno yr wyf yn ystyried o'r newydd y gwaith sylweddol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwyf yn awyddus i weithio gyda'r diwydiant, awdurdodau trwyddedu lleol a defnyddwyr i ddatblygu trefniadau y gellir eu cyflwyno i Gymru er mwyn sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yn parhau i gyfrannu at ein dyheadau i sicrhau cymdeithas gysylltiedig a chynaliadwy.

Felly, heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus pellach ynghylch sut y gellir diwygio a gwella trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yma yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau yn fuan ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Fy man cychwyn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw fy mod yn cytuno â nifer o'r cynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yn dilyn ei adolygiad helaeth o'r gyfraith yn llywodraethu’r gwaith o drwyddedu’r sector. Ond mae rhai meysydd y mae angen rhywfaint o ystyriaeth bellach arnynt o ran eu cymhwyso i Gymru. Er enghraifft, rwy’n credu bod dadl gref dros gael gwared ar y gwahaniaeth di-fudd rhwng tacsis a chabiau mini neu gerbydau hurio preifat, gan gydnabod bod y sector yng Nghymru yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn i'r tacsis yn Llundain. Mae datblygiadau mewn technoleg wedi gwneud y broses o archebu cerbyd ymlaen llaw yn rhywbeth sy’n digwydd ar unwaith. Felly, mae angen i ni ystyried a ddylid cadw’r gwahaniaeth hwn rhwng tacsis a chabiau mini, neu gerbydau hurio preifat, neu a oes mwy o fanteision mewn symud tuag at un drefn ar gyfer tacsis a chabiau mini.

Byddai'r trefniadau arfaethedig gan Gomisiwn y Gyfraith, os cânt eu gweithredu, yn gweld safonau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob tacsi a cherbyd hurio preifat. Gallai'r safonau cenedlaethol hyn gael eu pennu gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod y disgwyliadau o ran ansawdd tacsis a cherbydau hurio preifat ar gael yn gyffredinol i bob teithiwr ledled Cymru. Ond, dylai’r pŵer i awdurdodau trwyddedu lleol osod amodau trwydded ychwanegol lle bo'n briodol, yn fy marn i, gael ei gadw. Dan argymhellion Comisiwn y Gyfraith, byddai awdurdodau trwyddedu lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno trwyddedau a gorfodaeth ar gyfer tacsis yn ogystal â cherbydau hurio preifat. Rwy’n tueddu i gytuno â Chomisiwn y Gyfraith fod diogelwch y cyhoedd yn mynnu bod cerbydau hynod a limwsinau hir, er enghraifft, hefyd yn dod o fewn cwmpas y drefn drwyddedu cerbydau hurio preifat.

Ac, yn olaf, rwy’n awyddus i'w gwneud yn haws i ddarparwyr weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ond gyda'r trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau eglurder o ran dealltwriaeth a swyddogaethau a chyfrifoldebau clir o fewn y drefn drwyddedu er mwyn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth, sydd ar gael yn gyffredinol, yn cael ei gyflawni a'i gynnal. Yn anad dim, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y drefn drwyddedu yng Nghymru yn diogelu'r cyhoedd ac yn atal unrhyw ecsbloetio sy’n digwydd i yrwyr proffesiynol sy'n darparu’r gwasanaethau pwysig iawn hyn yn ein cymunedau.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad manwl heddiw. Yn 2014, amlinellodd Comisiwn y Gyfraith fod rheswm dros ganiatáu i awdurdodau lleol gael hyblygrwydd wrth benderfynu a ddylid cael system un haen. Ond deallaf mai ei argymhelliad cyffredinol oedd y dylai’r system ddwy haen, sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr, gael ei chadw o fewn un fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio tacsis a gwasanaethau hurio preifat. Mae hyn, wrth gwrs, yn hyrwyddo dewis y defnyddwyr ac yn darparu ystod eang o wasanaethau.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru â'i bryd ar system un haen, gan nodi bod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiystyr i ddefnyddwyr. Ymddengys bod eich datganiad heddiw yn awgrymu eich bod yn dal i ffafrio cynigion sy'n ceisio gweithredu safonau cenedlaethol, na fydd yn gwahaniaethu rhwng tacsis a chwmnïau hurio preifat. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn pa ystyriaethau yr ydych wedi'u gwneud yn yr ymgynghoriad i ganiatáu i gynghorau Cymru ymateb i ddewis lleol un neu ddwy haen ac, yng ngoleuni eich sylwadau diweddar am y safonau cenedlaethol i'r Pwyllgor Deisebau, pa anawsterau yn eich barn chi yr ydych chi’n eu gweld—pa anawsterau yr ydych chi’n eu rhagweld, am wn i—o ran safonau Llywodraeth y DU pe digwydd iddynt fod yn wahanol i Gymru?

Mae Comisiwn y Gyfraith hefyd wedi dweud bod y gwahanol ffyrdd y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu llogi yn gwneud y gwahanol lefelau o reoliadau yn briodol. Felly, efallai y gallwch ddweud sut y byddwch yn gwarchod rhag y canlyniadau anfwriadol os cyflwynir un system, a allai arwain at or- neu dan-reoleiddio.

Yn ail, rwy’n deall o siarad â swyddogion yng Nghyngor Sir Powys, a chan eraill hefyd, fod potensial i broblemau trawsffiniol gyda threfn drwyddedu wahanol yng Nghymru a Lloegr. Felly, er enghraifft, unwaith y byddant wedi’u trwyddedu, a fydd darparwyr yn gallu gweithio yng Nghymru ac yn Lloegr a bod yn destun camau gorfodi gan swyddogion unrhyw awdurdod trwyddedu? Yn ei adroddiad, amlinellodd Comisiwn y Gyfraith bryderon sylweddol am allu tacsis a cherbydau hurio preifat i dderbyn archebion y tu allan i ffiniau eu hawdurdodau lleol. Atebwyd y pryderon hyn, yn rhannol, gan ddarpariaethau yn Neddf Dadreoleiddio 2015. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cysoni system weithredu wahanol o bosibl dros yr hyn sy’n ffin feddal rhwng Cymru a Lloegr? Rwy'n siŵr, fel fi, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn deall yr anawsterau sy’n codi o weithio ar draws y ffin, a chithau’n cynrychioli etholaeth ar y ffin â Lloegr.

Yn drydydd, ac yn olaf, mae teithwyr anabl yn parhau i ddioddef anawsterau difrifol o ran gallu cael a defnyddio tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno â'r nod cyffredinol o weld gwelliant i hyfforddiant gyrwyr bysiau, trenau, tacsis a cherbydau hurio preifat, yn ogystal â gweld diwedd i’r anfantais i bobl anabl wrth ddefnyddio gwasanaethau cerbydau hurio preifat. Felly, byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad ynghylch a fydd y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu yn cynnwys safonau cenedlaethol mewn perthynas â hyfforddiant gyrwyr a manylebau cerbydau.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a byddaf yn dechrau gyda’r pwynt olaf un. Ie, ein bwriad yw ymgorffori gwell hyfforddiant o fewn safonau cenedlaethol ar gyfer pob gyrrwr tacsis a cherbydau hurio preifat i sicrhau bod cysondeb ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n credu mai un o fanteision mawr ein cynigion yw y bydd yn dod â chyfundrefn brisiau sy'n gyson ar draws yr holl wasanaethau hefyd, a allai, yn ei dro, helpu i gyflawni gweledigaeth metros y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain gyda thocynnau integredig, a chyfundrefn brisiau sy’n hawdd ei deall ac yn glir ac yn syml i’w gwerthfawrogi.

Cododd yr Aelod y mater pwysig iawn o gysondeb ar draws y ffin. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth wrth gynrychioli etholaeth, fel ef ei hun, sydd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Amlinellais yn fy natganiad sut y mae'n fwriad gennyf i sicrhau bod darparwyr, er mwyn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, yn cael trefn haws ei deall ac yn haws gweithredu oddi mewn iddi, ond dylai hefyd fod trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd.

Nawr, ni allwn aros dim mwy am ymateb gan Lywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Cafodd ei gyhoeddi, fel yr amlinellodd yr Aelod, ym mis Mai 2014. Roedd ynddo 84 o argymhellion, ac, er gwaethaf y confensiwn fod Llywodraeth y DU yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad Comisiwn y Gyfraith o fewn cyfnod o 12 mis, ni chafwyd ymateb eto. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi, o fewn 12 mis i fis Mai 2014, roedd Prydain o fewn cyfnod o etholiad cyffredinol. Er gwaethaf hynny, rwy’n credu bod digon o amser wedi bod ers etholiad 2015 i ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Yn absenoldeb ymateb, rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hawliau teithwyr a hawliau gweithwyr yn y fasnach tacsis a cherbydau hurio preifat yn ystyriaethau allweddol yn ein gwaith wrth symud ymlaen. Felly, credaf y dylem fod yn eithaf balch ein bod ni ar flaen y gad yn y DU o ran ystyried cyfundrefnau newydd.

Wedi dweud hynny, fy ngobaith yw y byddai Llywodraeth y DU, wrth ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith, hefyd yn gwerthfawrogi'r argymhellion yr ydym yn eu mabwysiadu. Felly os bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion hynny a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ffafriol, yna bydd gennym, fel yr amlinellais yn fy natganiad, system gyson o drefn a gorfodi sy'n rhychwantu nid yn unig ffiniau awdurdod lleol yng Nghymru, ond hefyd ffiniau cenedlaethol rhwng Cymru a Lloegr, ac o bosibl rhwng yr Alban a Lloegr.

Cododd yr Aelod y cwestiwn hefyd am yr angen i sicrhau, yn ystod yr ymgynghoriad, bod unrhyw un sy'n dymuno ymateb yn cael y cyfle i gynnig barn a thystiolaeth ynghylch y ffordd orau ymlaen o ran a oes gennym system un neu ddwy haen. Amlinellais fy nghred gadarn i mai system un haen sydd fwyaf addas i Gymru, a chredaf fod rheswm Comisiwn y Gyfraith dros argymhell cadw system ddwy haen i raddau helaeth yn ymwneud â’r ffaith bod y farchnad tacsis yn Llundain yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn, iawn i'r hyn sy'n bodoli yng ngweddill y DU. Ac felly roedd adroddiad Comisiwn y Gyfraith wedi’i ddylanwadu’n gryf gan y dystiolaeth a'r cyflwyniadau a wnaed gan y farchnad tacsis yn Llundain. Rwy’n credu bod y system sy'n gweithredu yng Nghymru yn amlwg yn wahanol i'r hyn sy'n gweithredu yn Llundain, ac felly fy nghred i yw mai system un haen fyddai orau i Gymru. Er gwaethaf hynny, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a fydd yn dechrau fis nesaf ac yn para am dri mis.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad helaeth iawn ar yr ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat? Yn amlwg, mae'n bwynt dadleuol heddiw oherwydd anaml y byddwn yn siarad am dacsis yn y fforwm hwn. Ac ar ôl y cythrwfl a’r gyflafan ym Manceinion neithiwr cafwyd nifer o adroddiadau am yrwyr tacsis unigol, nifer o yrwyr tacsi mewn gwirionedd, yn cludo pobl yn rhad ac am ddim gan ddangos dynoliaeth ar ei orau. Mae hynny, rwy’n credu, yn haeddu cydnabyddiaeth, o ystyried ein bod yn trafod gyrwyr tacsi heddiw. Dyna ddarn rhyfeddol o waith mewn ymateb i argyfwng enbyd ac mae dynoliaeth gyffredin yn disgleirio yn wyneb cyflafan ddychrynllyd.

Gan droi at ddatganiad gwirioneddol Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn canolbwyntio ar y paragraff sy'n ymwneud â gweithredu Deddf Cymru 2017. Dywed Ysgrifennydd y Cabinet:

Pan ddisgwylir i’r Ddeddf gael ei chychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf

Gadewch i mi ddweud, yn gyntaf oll, mae'n braf ein bod yn cael rhai pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017. Rhaid dweud nad yw hynny'n deimlad cyffredinol ar y meinciau hyn. Ar y cyfan, rydym wedi colli pwerau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod rhestr enfawr o faterion a gedwir yn ôl yn awr, wedi’u neilltuo i San Steffan: 193 mater o'r fath, ac yn tyfu. Yn ogystal â hynny, yr holl faterion sy'n ymwneud â’r pwerau hynny a gedwir yn ôl, a hefyd ar ben hyn i gyd—fel clo triphlyg os mynnwch—y pwerau Harri VIII gweddilliol sy'n golygu y gall unrhyw un o Weinidogion y Goron wneud yr hyn y mae’n ei ddymuno i newid deddfwriaeth a basiwyd gan y lle hwn. Felly, gan gofio hynny i gyd—ac yn y bôn mae unrhyw beth sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, cysylltiadau diwydiannol a gorfodaeth erbyn hyn yn fater a gedwir yn ôl ac ni allwn wneud dim yn ei gylch—pa mor hyderus y mae Ysgrifennydd y Cabinet y gall gyflwyno deddfwriaeth ystyrlon yn y maes hwn i atal gyrwyr tacsi rhag cael eu hecsbloetio, er enghraifft, a hefyd wneud yn siŵr bod rheidrwydd ar yrwyr tacsis i fynd â phobl ar deithiau byr hyd yn oed fel mesur diogelu'r cyhoedd? Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad? Rwy'n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu bod gyrwyr tacsi a gyrwyr cerbydau hurio preifat neithiwr ym Manceinion wedi gweithredu’n gyson, yn anhunanol ac yn allgarol. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am ddangos i’r diwydiant ledled y DU pa mor werthfawr ydynt i’n gwlad.

Fy nghred i yw ein bod yn gwneud y gorau o'r pwerau hynny yr ydym yn eu caffael trwy Ddeddf Cymru a bydd y set hon o gynigion yn ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer iawn o bobl ledled Cymru. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r teithwyr hynny, nad ydynt hyd yn hyn wedi cael budd o gyfundrefn deg ar gyfer prisiau tacsi a phrisiau cerbydau hurio preifat.

Un o'r pwyntiau a godwyd gan Russell George oedd yr angen i sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei ddarparu i bob gyrrwr. Bydd hyn yn sicrhau bod hynny'n digwydd drwy gyflwyno safonau cenedlaethol.

Bydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r her sydd wedi cael ei chyflwyno i'r diwydiant gyda thechnoleg fodern ac yn enwedig â’r ecsbloetio sy’n digwydd o ran rhai arferion gwaith a elwir yn 'fodern'. Rydym i gyd yn ymwybodol o achos y GMB yn ymwneud ag ecsbloetio gyrwyr Uber, wel mae’r set hon o gynigion yw mynd i'r afael a hynny yn uniongyrchol. Er mwyn gwneud hynny, bydd gofyn i awdurdodau trwyddedu fonitro’n ofalus a gorfodi'r safonau hynny a fydd yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru ac y gall yr awdurdodau hynny adeiladu arnynt. Rwy’n credu, ar draws Cymru, bod gennym awdurdodau trwyddedu sydd yn awyddus i sicrhau bod y gwasanaethau gorau yn cael eu darparu i deithwyr a bod gweithwyr yn cael eu diogelu. Mae’r set o gynigion yr ydym wedi sôn amdanynt yn sicrhau bod ganddynt yr offer i wneud hynny.

Mewn gwirionedd, rwy’n cytuno â Dai Lloyd a Ken Skates bod gwaith y gyrwyr tacsis yn Lerpwl a Manceinion yn rhagorol. Mae'r rhan fwyaf o yrwyr tacsi yn adlewyrchu'r gorau o ddiwylliant y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Gwelwyd hynny neithiwr.

Fodd bynnag, er bod hwn yn wasanaeth a weithredir gan gwmnïau preifat, credaf fod y cyhoedd yn ystyried ei fod yn wasanaeth cyhoeddus. I’r perwyl hwnnw, maent yn disgwyl y byddant yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod y rhai sy'n cael y fraint o weithredu fel gyrwyr tacsi, gyrwyr cabiau mini neu yrwyr Uber, wedi cael eu sgrinio i sicrhau nad oes neb yno sy'n mynd i fod yn risg i'w teithwyr.

Cefais fy arswydo i ddarllen yn ddiweddar, yn Rochdale, o bob man, bod gyrwyr â chofnodion troseddol o drais ac ymosodiad rhywiol yn ôl pob golwg yn dal i weithredu fel gyrwyr tacsi trwyddedig. Mae hynny'n destun pryder sylweddol, ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein galluogi ni i sicrhau y bydd y rhai sy'n cael eu trwyddedu i yrru tacsi, neu gerbyd hurio preifat neu Uber, wedi mynd drwy'r broses well hon o sgrinio trwyadl, yn debyg i athrawon neu bobl sy'n gweithio gydag oedolion neu blant sy'n agored i niwed. Dydw i ddim o gwbl yn erbyn adsefydlu troseddwyr, ond mae angen ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant. Ni fyddwn yn disgwyl i rywun gael trwydded os ydynt wedi'u cael yn euog o yrru heb drwydded neu yswiriant, neu yn wir yrru'n beryglus, neu ar ôl eu cael yn euog o drosedd dreisgar neu ymosodiad rhywiol yn ddiweddar. Mae’n fraint cael cludo teithwyr adref, pan fydd y teithiwr ar ei ben ei hun gyda'r unigolyn hwnnw, ac mae angen i ni wybod bod mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad ydynt yn mynd yn ysglyfaeth, yn ddioddefwyr troseddau.

Mae angen i ni sicrhau bod y cwmnïau tacsi yn rhedeg busnes effeithiol, eu bod yn gwybod ble mae eu gyrwyr a'u bod yn gwybod yr hyn y maent yn ei wneud ac y gellir eu dal yn atebol, os oes unrhyw un yn defnyddio gwasanaeth tacsi fel ffrynt ar gyfer gwerthu neu fasnachu cyffuriau neu weithgareddau anghyfreithlon eraill. Oherwydd mae’n fraint, ac felly mae angen i ni sicrhau bod safon uchel yn cael ei chynnal. Felly, fel Dai Lloyd, rwyf i am sicrhau hefyd unwaith y mae rhywun wedi dweud ei fod ar gael i'w logi, nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn pobl, naill ai oherwydd bod ganddynt gi, neu oherwydd bod ganddynt gadair olwyn, neu oherwydd eu bod ond am fynd ar daith fer, oherwydd dyna delerau’r fasnach. Mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod ar gael i bawb a ddaw, oni bai, wrth gwrs, fod y bobl hynny mor feddw ​​neu mor dreisgar fel y byddai'n berygl iddynt fynd i mewn i'r tacsi.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei phwyntiau pwysig iawn? Tynnwyd ein sylw yn ddiweddar bod trwyddedau wedi cael eu gwrthod i rai gyrwyr yn Southend, ac aethant ymlaen wedyn at Transport for London a chael trwydded oddi wrthyn nhw. Bellach maent yn gweithredu yn Southend, y tu allan i awdurdodaeth Transport for London. Mae Uber, nad ydynt yn cael rhoi trwyddedau i lefydd fel Reading, Hatfield a llawer o ardaloedd eraill, yn cymryd archebion ac yn masnachu am waith yn yr ardaloedd hynny. Mae hyn yn dangos bod y gyfraith wedi dod yn anymarferol, gan fod cwmnïau fel Uber yn gweithredu heb gael eu cosbi ac yn cymryd teithwyr o ardaloedd lle nad ydynt wedi'u trwyddedu. Mae llawer o awdurdodau trwyddedu lleol yn teimlo na allant wneud dim am y peth. Felly, mae angen clir iawn am safonau a rheoliadau cenedlaethol, gorfodadwy. Nid wyf yn credu, Dirprwy Lywydd, y byddai pobl yn mynd ar fws neu ar fwrdd awyren, neu drên o ran hynny, heb ymddiried yn y ffaith fod y bobl wrth y llyw wedi eu trwyddedu’n briodol a’u bod yn meddu ar yr wybodaeth gywir ac wedi cael y gwiriadau diogelu priodol, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone.

Fy nghred gadarn i yw y byddai dadreoleiddio yn ras i'r gwaelod. Ond mae’r ras honno mewn gwirionedd wedi dod i ben, ac yn awr mae angen i'r Llywodraeth gymryd sylw a sicrhau'r newidiadau cenedlaethol sydd eu hangen i amddiffyn y cyhoedd sy'n teithio a gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Rydym yn benderfynol o gymryd camau, a byddai'n fuddiol iawn i weddill y Deyrnas Unedig, ac yn wir i ddinasyddion Cymru, pe gallai Llywodraeth y DU ddilyn ein hesiampl wrth ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gwneud y newidiadau angenrheidiol ar draws Lloegr hefyd.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Cyfeiriasoch yn eich datganiad at y newidiadau technolegol cyflym yn y ffyrdd y gall teithwyr archebu tacsis y dyddiau hyn. Nid oeddech yn sôn yn benodol am Uber yn eich datganiad, ond wrth gwrs roeddech wedyn yn siarad am Uber mewn ymateb i un o'r cyfranwyr. Mae'n fater anodd braidd.  Mae llawer o yrwyr yn poeni am effaith Uber ar y ffordd y maent yn gwneud eu busnes ac ar eu bywoliaeth yn gyffredinol. Ar y llaw arall, rwyf wedi cael pobl yn dweud wrthyf fel teithwyr eu bod yn croesawu’r datblygiad. Felly, mae'n rhaid i chi, i ryw raddau, gydbwyso'r safbwyntiau amrywiol hyn. Doeddwn i ddim yn hollol siŵr sut yn y pen draw y byddech yn gweld Uber a sut mae'n rhan o’r fframwaith trwyddedu a welwch chi yng Nghymru. Tybed a allech chi egluro hynny, a hefyd y pwynt a wnaeth Dai Lloyd am y cyfyngiadau posibl ar gymhwysedd cyfreithiol sy'n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, sydd gan eich Llywodraeth dan Ddeddf Cymru.

Mater arall yr edrychoch chi arno yn eich datganiad oedd trafnidiaeth integredig effeithiol; sy'n amlwg yn un o amcanion y Llywodraeth. Weithiau, mae gennym orsafoedd rheilffordd heb unrhyw safle tacsis yn eu gwasanaethu, felly ceir darpariaeth eithaf anghyson o safleoedd tacsis mewn gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Er enghraifft, Pontypridd—yn y blynyddoedd diwethaf nid oes ganddynt, bellach, unrhyw ddarpariaeth ar gyfer tacsis y tu allan i'r orsaf drenau. Mae'r safle tacsis yn y dref erbyn hyn, sydd gryn bellter i ffwrdd ar gyfer pobl sy’n cael trafferth i symud, felly nid yw'n arbennig o ddefnyddiol. Mae fy swyddfa i wedi bod mewn cysylltiad ag Arriva am y mater hwn, a’u hymateb nhw yw nad ydynt eisiau darparu tacsis y tu blaen i’r orsaf—sydd ar dir y maen nhw’n berchen arno—oherwydd ei fod wedi bod yn broblem o ran diogelwch yn y gorffennol, gyda phobl yn cyrraedd yn hwyr yn y nos, yn ôl pob tebyg oddi ar y trên olaf o Gaerdydd, ac yn cerdded yn sigledig ar draws y ffordd. Felly, ydy, mae hynny'n achosi problem diogelwch, yn amlwg, ond a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i safoni mewn unrhyw ffordd y ddarpariaeth o dacsis mewn gorsafoedd rheilffordd? Mae'n ymddangos i mi yn achos Pontypridd y gallai fod achos dros gael rhywfaint o ddarpariaeth yno, er gwaethaf yr agwedd ddiogelwch.

Soniodd Dai Lloyd yn gryno am y broblem teithiau byr sydd wedi bod yn broblem yng Nghaerdydd a amlygwyd yn y wasg leol. Fe gawsom broblemau gyda menywod ifanc yn hwyr ar nos Sadwrn. Roedd un neu ddau o achosion o ymosodiad rhywiol ac yna cawsom fater y broblem o fenywod yn cerdded adref ar eu pennau eu hunain, weithiau mewn cyflwr llai na sobr, ac nad oeddent yn gallu cael tacsis mewn rhai achosion oherwydd eu bod yn byw dim ond ychydig bellter i ffwrdd o ganol y ddinas. Mae hyn yn cael ei gwmpasu, wrth gwrs, gan y rheoliadau trwyddedu, ond y broblem yw sut i orfodi’r rheoliadau hyn a sut i sicrhau bod gyrwyr yn fodlon derbyn y teithiau byr hyn.

Problem arall sydd wedi codi—wel, ni allaf ddweud ei bod yn broblem—problem a amheuir yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf fu’r agwedd o ba un ai’r deiliad bathodyn mewn gwirionedd yw’r person sydd wedi'i drwyddedu i yrru'r cerbyd. Felly, dyna un arall sy'n dod o dan ofynion trwyddedu presennol, ond, unwaith eto, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod yr awdurdod trwyddedu yn gorfodi'r rheoliadau hyn mewn gwirionedd?

Roeddwn yn falch bod Russell George wedi crybwyll ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Deisebau i broblemau pobl anabl o ran cael mynediad i dacsis, ac rydych chi eich hun wedi crybwyll y ffaith eich bod yn mynd i fod yn edrych ar gryfhau'r gweithdrefnau hyfforddi, fel y bydd rhyw fath o hyfforddiant safonol ar gyfer y gyrwyr wrth ymdrin â phobl anabl. Oherwydd roedd hynny’n rhywbeth a ddaeth i'r amlwg o'r ymchwiliad yn gryf iawn, bod pobl anabl yn teimlo, yn aml gyda gyrwyr tacsi, eu bod yn ymdrin â phobl nad ydynt wedi cael eu hyfforddi'n ddigonol i ymdrin â nhw. Yr agwedd arall a ddaeth i’r amlwg yn ymwneud â thacsis oedd diffyg ffitiadau—diffyg tacsis a oedd yn cynnwys y cyfleusterau iawn i ymdrin â phobl anabl. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall, efallai, y gallech chi ein goleuo arno nawr. Diolch.

A gaf i ddiolch i Gareth Bennett am ei gwestiynau a’i sylwadau? Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig, a chroesawaf yn fawr y ddeiseb a gyflwynwyd gan Whizz-Kidz yn ymwneud â mynediad at gludiant cyhoeddus, gan ganolbwyntio'n benodol ar dacsis a cherbydau hurio preifat. Rhoddais dystiolaeth yn ddiweddar i'r Pwyllgor Deisebau, pryd yr amlinellais sut yr wyf yn disgwyl i newid gael ei ddarparu. Ac mae'r cynigion a amlinellir heddiw yn rhan o becyn o fesurau sydd â’r nod o wella profiad y teithwyr, yn enwedig ar gyfer plant anabl, teithwyr anabl, ond ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yn ei gyfanrwydd.

Rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt cynharach bod y ddeddfwriaeth bresennol yn ddwy ganrif oed, ac, er bod newid technolegol yn wych ac y dylid ei gofleidio, mae angen i ni hefyd sicrhau bod deddfwriaeth yn dal yn gyfredol â newid technolegol yn ogystal. Mae Uber yn cynnig dewis a chyfleustra—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n wasanaeth gwych ac yn gwmni newydd i’r farchnad. Ond, ni ddylai manteision Uber ddod gyda'r pris uchel o gamfanteisio ar yrrwyr, ac am y rheswm hwnnw mae angen i ni ddiweddaru'r ddeddfwriaeth. Mae'n gwbl hanfodol—nid yn unig ar gyfer teithwyr, ond ar gyfer gyrwyr hefyd.

Dylai safonau cenedlaethol fod yn berthnasol i holl yrwyr cerbydau, ac i bob cerbyd ar y ffyrdd, ni waeth a ydynt yn dacsis neu’n gabiau bychan, oherwydd dylai pob teithiwr ddisgwyl yr un cysondeb mewn gwasanaeth. Efallai fod llawer o bobl sy'n defnyddio tacsis a chabiau bychan nad ydynt yn gwybod y gwahaniaeth rhyngddynt, a'r gwahanol gyfundrefnau, y materion trwyddedu gwahanol. Fy marn i yw na ddylai fod angen i bobl gadw hynny mewn cof ac ystyried y gwahaniaethau hynny cyn mynd i mewn i gerbyd; dylent fod yn hyderus wrth fynd i mewn i dacsi neu gerbyd hurio preifat, gan wybod y byddant yn talu ffi deg, ac y byddant yn cael safon o wasanaeth sy'n gyson ar draws y fasnach.

Cododd yr Aelod y pwynt o safleoedd tacsis mewn gorsafoedd rheilffordd. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys, mewn llawer o achosion, gorsafoedd trên. Ac rydym wedi dadlau'n gyson dros ddatganoli seilwaith yn hynny o beth, oherwydd ein bod wedi gweld seilwaith yng Nghymru yn cael ei danariannu’n hanesyddol. Wedi dweud hynny, yn yr ardaloedd hynny lle'r ydym yn cymryd cyfrifoldeb, megis yn ardal metro y de-ddwyrain, rheilffyrdd craidd y Cymoedd, byddem yn dymuno gweld darpariaeth gwasanaeth priodol mewn gorsafoedd newydd, os ydym yn mynd i ddenu buddsoddiad i gerbydau tacsi, cerbydau hurio preifat, ar gyfer beiciau, ac ar gyfer parcio hefyd. Rydym yn gweld y gwasanaeth tacsis a cherbydau hurio preifat fel bod yn hanfodol i weledigaeth o wasanaeth metro sy'n gwbl integredig, ac, felly, mae darpariaeth fel safleoedd tacsis yn gwbl hanfodol.

O ran teithwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i dacsis neu gerbydau hurio preifat, byddai’r newidiadau sydd wedi eu cynnig hefyd yn galluogi awdurdodau trwyddedu i gyfyngu ar nifer y trwyddedau a roddwyd, fel bod, mewn unrhyw ardal benodol, nifer priodol o gerbydau ar gael, gan weithio o bosibl ar sail ranbarthol, er mwyn sicrhau, ar sail drawsffiniol, y gall awdurdodau lleol ar draws rhanbarth fod yn ffyddiog gan wybod bod digon o yrwyr a digon o gerbydau ar gael ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.

Croesawaf y datganiad yn fawr. Ac a gaf i ychwanegu fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd a Jenny Rathbone am weithredoedd y gyrrwr tacsi a gyrwyr hurio preifat ym Manceinion?

Fel llawer o bobl eraill, mae gennyf ffrindiau a pherthnasau yn gweithio fel gyrwyr tacsis a hurio preifat, nad yw'n syndod, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant hwnnw. Mewn nifer o ardaloedd, tacsis a cherbydau hurio preifat yw'r unig gludiant cyhoeddus. Maen nhw'n rhan hanfodol o'r rhwydwaith trafnidiaeth; hebddynt, ni allai llawer o bobl deithio ar ôl 6 o'r gloch yr hwyr nac ar y Sul.

Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwahaniaethu rhwng cabiau hacnai a cherbydau hurio preifat. Maent yn archebu’r hyn a ddisgrifiant fel 'tacsi', a ddefnyddiant yn gyffredinol i gynnwys y ddau fath, ac mae cerbyd yn cyrraedd. Ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl, ac rwy’n cynnwys fy hun yn hynny, yn mynd ati i wirio a yw'n dacsi neu gerbyd hurio preifat—fe wnes i ei archebu, mae'n crybwyll fy enw pan fydd yn stopio y tu allan ac rwy'n mynd i mewn iddo. Felly, rwy’n meddwl bod y gwahaniaeth rhwng y ddau wedi dod yn aneglur iawn ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, y ffôn symudol sydd wedi newid pethau oherwydd eich bod yn arfer gorfod archebu ymlaen llaw cyn i chi fynd, drwy ffonio a dweud 'Rwyf i angen—' , ond erbyn hyn gallwch archebu ychydig cyn eich bod yn barod i adael. A gaf innau hefyd groesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus?

A gaf i siarad am drwyddedu trawsffiniol? Yn hanesyddol, mae llawer o gerbydau wedi'u trwyddedu ym Mhowys a gweithio yn Abertawe, a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach mewn ateb i Gareth Bennett am gael gweithio rhanbarthol. Mae hynny'n iawn gyda Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ond pan fyddwch yn dod â Phowys i mewn i’r peth, os caf ddweud, nid yw pen uchaf Sir Drefaldwyn yn rhan o ranbarth Abertawe, ond mae Ystradgynlais yn rhan ohono. Felly, ceir anawsterau wrth ddiffinio beth yw rhanbarth ac mae pryderon bod pobl wedi bod yn trwyddedu ym Mhowys ac yn eu defnyddio yn Abertawe, pan nad oes gan Abertawe unrhyw reolaeth drostynt ac, yn bwysicach efallai, nid oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros nifer y cerbydau a ddefnyddir yn Abertawe am eu bod wedi cael eu trwyddedu ym Mhowys. Ac rwy’n defnyddio'r gair ‘Abertawe’, gallwn i ddweud 'Castell-nedd Port Talbot' yn yr un ffordd yn union oherwydd eu bod yn cael eu heffeithio yn yr un modd.

Felly, mae gen i ddau gwestiwn. A wnaiff y Llywodraeth ystyried llunio safonau cenedlaethol y gellir eu gorfodi a thâl cenedlaethol? Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhatach trwyddedu ym Mhowys nag yn Abertawe, felly mae pobl yn gwneud hynny. A hefyd mae’r safonau sydd eu hangen arnoch chi ym Mhowys yn wahanol i'r rhai yn Abertawe, ac felly mae'n haws trwyddedu, ac felly mae pobl yn gwneud y penderfyniad hwnnw nad yw o reidrwydd yn fuddiol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn darpariaeth tacsis yn Abertawe.

Ar y Pwyllgor Deisebau, do, fe gawsom lawer o dystiolaeth, gan gynnwys gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch tacsis a bydd adroddiad a fydd, gobeithio yn dod gerbron y Cynulliad hwn ar ryw adeg yn y dyfodol. Yr unig beth y byddwn yn ei godi ohono yw: a ydych chi’n ystyried gosod cwotâu o fewn y cwmnïau tacsi mawr ar gyfer y nifer sy'n gallu derbyn cadeiriau olwyn? Yn Abertawe, mae un cwmni tacsis/cydweithredol sydd ag oddeutu 180 i 200 o dacsis. Rwy’n credu pan eich bod yn ystyried cwmnïau o'r maint hwnnw, mewn gwirionedd, nad yw gofyn bod ganddynt 5 y cant neu 10 y cant sy’n gallu derbyn pobl mewn cadeiriau olwyn, nid wyf yn meddwl bod hynny’n afresymol. Felly, a wnewch chi edrych ar osod cwotâu, yn sicr ar gyfer y cwmnïau sydd â mwy na 10 o dacsis?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei ddau gwestiwn ac am y cyfraniad y mae wedi ei wneud at y drafodaeth hon? Mae 9,200 o yrwyr â thrwyddedau sy'n gweithredu ledled Cymru. Mae llawer mwy o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector, boed hynny fel gweithredwyr ffôn neu o fewn adnoddau dynol y cwmnïau mwy o faint. Felly, mae'n gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru, yn enwedig i economi’r nos, ac am y rheswm hwnnw rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi digon o amser ac ystyriaeth i sicrhau bod safonau o ansawdd uchel yn cael eu cymhwyso ar draws Cymru gyfan. Ac mae’r Aelod yn llygad ei le: crybwyllais yn gynharach na fydd llawer o bobl yn gwahaniaethu rhwng beth yw tacsi a beth yw cab bychan. Mae 5,000 o dacsis sy'n gweithredu ar draws Cymru ac mae 4,000 o gabiau bychan. Bydd llawer o bobl yn cyfeirio at un neu bob un ohonynt fel tacsi neu dacsis, ac felly mae'n bwysig bod y safonau cenedlaethol hynny yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob math o gerbyd.

O ran gweithio rhanbarthol a'r cwestiwn cyntaf a ofynnodd yr Aelod, ie, ond bydd yn destun ymgynghoriad. Byddwn yn ddelfrydol yn ceisio defnyddio dull cyson ar gyfer codi tâl ar gyfer y safonau cenedlaethol a thrwyddedu pob gyrrwr, ac mae hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn rhan o'r ymgynghoriad a fydd yn dechrau ar 12 Mehefin, oherwydd credaf waeth pa un a ydych yn Abertawe neu ym Mhowys, y dylech gael cyfundrefn glir a thryloyw iawn sy'n gyson ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

O ran yr ail gwestiwn a'r ddarpariaeth ar gyfer cadeiriau olwyn a pha un a dylid gosod cwotâu, yn enwedig ar gyfer y cwmnïau hynny sy'n gweithredu nifer fechan o gerbydau, unwaith eto, rydym eisiau gweithio gyda’r sector—gyda'r diwydiant—a gyda theithwyr a chyda grwpiau defnyddwyr, ac felly, yn rhan o'r ymgynghoriad, byddwn yn ystyried unrhyw farn a fynegir ar hyn o beth.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a’r mater hwn o gysondeb, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ystyried cynnwys cwestiynau am ryddid gyrwyr cabiau/gyrwyr tacsi i gymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau eu hunain ar gynnal a chadw y cabiau hynny—sef, y dylent fod yn rhydd i fynd i unrhyw garej leol, ar yr amod bod ganddi enw da a’i bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion y gallai'r awdurdod lleol yn rhesymol eu gosod arni, er mwyn i’r gwaith cynnal a chadw gael ei wneud, yn hytrach na gorfod defnyddio adran cynnal a chadw’r awdurdod lleol ei hun, os mynnwch chi, lle, wrth gwrs, nad oes ganddynt unrhyw reolaeth dros y gost. Ac yna ymhellach, efallai y bydd angen i awdurdodau trwyddedu egluro pam eu bod, neu pa un a ydynt, angen i yrwyr gael gwiriadau cynnal a chadw yn amlach na'r cyfnod gofynnol. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad iddyn nhw wneud hynny, ond efallai y byddai’r gyrwyr eu hunain yn hoffi gwybod pam y gofynnir iddynt fynd i gael gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud bedair gwaith y flwyddyn yn hytrach na dwywaith, dim ond fel enghraifft. Diolch.

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud, yn y bôn, bod cyflwyno safonau cenedlaethol â’r nod o sicrhau bod cerbydau o ansawdd cyson ledled Cymru? Ac felly, boed yn ddwywaith y flwyddyn neu bedair gwaith y flwyddyn, rwy’n meddwl mai beth sydd yn hanfodol bwysig yw bod cerbydau yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol ac i safon ofynnol glir a thryloyw iawn yn seiliedig, nid o reidrwydd ar faint o weithiau'r flwyddyn y mae car yn cael ei gynnal a’i gadw, ond yn hollbwysig, ar nifer y milltiroedd y mae’n eu teithio mewn unrhyw gyfnod penodol. Felly, yn rhan o'r ymgynghoriad, byddwn yn gobeithio y bydd gennym farn wedi’i mynegi yn ymwneud ag amserlenni cynnal a chadw, ond fy marn i yw y dylid cymryd agwedd gyson iawn tuag at gynnal a chadw cerbydau ledled Cymru.

O ran lle y dylid ac y gellid cynnal a chadw cerbydau, a'r rhyddid posibl i yrwyr trwyddedig i'w cynnal a’u cadw mewn gwahanol garejis nad ydynt o reidrwydd, yn eiddo, yn cael eu gweithredu na’u cymeradwyo gan awdurdodau lleol, unwaith eto, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn syniadau a sylwadau ar y pwynt penodol hwn. Fy marn i yw y dylai safonau cynnal a chadw gael eu seilio nid o reidrwydd ar ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw gan safle neu ddarparwyr gwasanaethau penodol, ond ar y safonau gofynnol a ddisgwylir, ac felly, ar yr amod bod garej cynnal a chadw yn cael ei chofrestru fel bod yn bodloni’r gofynion gofynnol hynny, rwy’n credu bod hynny yn cynnig cyfleoedd ar gyfer amgylchedd mwy cystadleuol i garejis weithredu ynddo.

6. 5. Datganiad: Plant yn Gyntaf / Children First
7. 6. & 7. Datganiad: Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru, a Datganiad: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

Ac mae eitemau 6 a 7 wedi eu symud i agenda yfory. Felly, symudwn at y ddadl ar ragnodi cymdeithasol.

8. 8. Dadl: Presgripsiynau Cymdeithasol

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig hwnnw. Vaughan Gething.

Cynnig NDM6314 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur sydd ger ein bron heddiw. Fel y mae pob un ohonom yn ei gydnabod, mae ein hiechyd a'n lles yn dibynnu ar nifer o ffactorau: teulu, perthnasoedd, gwaith, chwarae, tai, addysg ac arian, i enwi ond ychydig ohonynt. Mae’r ffyrdd yr ydym yn ymdopi pan yr effeithir ar ein hiechyd yn niferus. Rydym yn gwybod ein bod yn aml yn teimlo'n well ar ôl mynd am dro yn y parc, neu gymdeithasu gyda ffrindiau, ond yn aml y lle cyntaf y byddwn yn mynd pan fyddwn yn teimlo'n sâl yw at y meddyg.

Mae adroddiad gan Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif bod un rhan o bump o amser meddygon teulu yn cael ei dreulio’n bennaf ar broblemau cymdeithasol. Nid yw bob amser yn bosibl i feddygon teulu archwilio yn llawn yr amgylchiadau personol neu’r penderfynyddion cymdeithasol a allai fod wedi sbarduno'r ymweliad, gan arwain, weithiau, at orddibyniaeth ar ymyrraeth feddygol. Yng Nghymru mae gennym amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol anghlinigol sy'n cynnig manteision iechyd a llesiant gwirioneddol, ac mae’r gwasanaethau a’r gweithgareddau hyn, wrth gwrs, yn amrywiol eu natur. Maent yn amrywio o grwpiau cerdded a chymorth cyfeillio, i gwnsela ar gyfer dyledion a dosbarthiadau rhianta. Mae’r holl fathau hyn o weithgarwch yn cefnogi ac yn gweithio ochr yn ochr â gofal clinigol, neu hyd yn oed yn gweithredu fel dewis arall i feddyginiaeth, a gall manteision cymorth a gweithgareddau yn y gymuned fod yn niferus. Er enghraifft, gallant arwain at wella iechyd corfforol; lleihau symptomau gorbryder neu iselder; manteisio ar gyfleoedd dysgu, diddordebau a sgiliau newydd; lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd; ac, wrth gwrs, mwy o sgiliau cymdeithasu a chymunedol. A gall bob un o'r pethau hyn arwain at fwy o hunan-barch, hyder ac ymrymuso.

Mae pobl sy'n elwa ar y gwasanaethau hyn yn aml yn mynd ymlaen i weithredu fel gwirfoddolwyr eu hunain, gan gynyddu capasiti a chydnerthedd cymunedau. Efallai nad yw pobl a gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol, er hynny, o fanteision iechyd a llesiant posibl y gwasanaethau hyn, neu sut i gael gafael arnynt yn y lle cyntaf. Dylwn nodi yn y fan yma fy mod i’n hapus i gefnogi, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi, gwelliant y Blaid Geidwadol, gan nodi diffiniad The King’s Fund o ragnodi cymdeithasol fel

modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.

Ond, wedi dweud hynny, nid wyf yn credu y dylem ni boeni’n ormodol am ddiffiniadau yn y fan yma, yn enwedig rhai sy'n dod o safbwynt y gwasanaeth iechyd gwladol yn hytrach na'r unigolyn sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys, wrth gwrs, y gofal a'r cymorth y gallant ei gael ar eu cyfer eu hunain. Yr hyn yw rhagnodi cymdeithasol, mewn gwirionedd, yw term ar gyfer dull sy'n cysylltu pobl â'u gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd a ddylai eu helpu i wella eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol, ond fel arfer mae cynlluniau rhagnodi cymdeithasol a gydnabyddir yn galluogi unigolyn i gael ei atgyfeirio i weithiwr cyswllt i gydweithio gydag ef i gytuno ar bresgripsiwn cymdeithasol anghlinigol er mwyn gwella ei iechyd a'i lesiant.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar ran Nesta canfuwyd bod pedwar o bob pump o feddygon teulu yn credu y dylai presgripsiynau cymdeithasol fod ar gael ochr yn ochr â phresgripsiynau meddygol mewn meddygfeydd teulu. Maent yn dweud y byddai hynny'n caniatáu iddynt ganolbwyntio ar broblemau a thriniaeth feddygol y claf yn hytrach na'r materion cymdeithasol, nad ydynt, yn aml, yn gallu gwneud fawr amdanynt. Fel y mae dechrau ein cynnig yn nodi, mae amrywiaeth o gynlluniau rhagnodi cymdeithasol neu atgyfeirio cymunedol eisoes yn bodoli neu'n cael eu datblygu ledled Cymru. Maen nhw’n ymyrraeth bwysig ynddynt eu hunain ac yn gallu helpu i gefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain trwy gael gafael ar y gefnogaeth honno yn y gymuned, a lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau statudol.

Wrth gwrs, y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff yw un o'r cynlluniau mwyaf adnabyddus o'i fath. Mae'n gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae wedi ei ddatblygu i safoni cyfleoedd atgyfeirio ymarfer corff ar draws yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd yma yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cefnogi yn llwyddiannus cleientiaid sydd â chyflwr cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig.

Yn lleol, trwy glystyrau gofal sylfaenol, ceir tystiolaeth o fuddsoddiad mewn modelau rhagnodi cymdeithasol sy'n seiliedig ar swyddogaethau sy'n helpu pobl i asesu eu hanghenion lles a chytuno gyda nhw pa ofal a chymorth lleol fydd yn eu helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Yn Nhorfaen, er enghraifft, mae rhagnodwyr cymdeithasol wedi’u lleoli mewn meddygfeydd teulu ac maent yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n dioddef problem gymdeithasol sy’n effeithio ar ei iechyd corfforol neu feddyliol. Mae’r claf yn cael cyfle i adrodd ei stori gyfan, weithiau am y tro cyntaf, a gweithio gyda rhagnodwr cymdeithasol i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys y problemau hynny. Yn dilyn cydnabod llwyddiant rhagnodwr cymdeithasol gogledd Torfaen, estynwyd y cynllun i dde Torfaen ym mis Ionawr eleni.

Enghraifft arall yw cydlynu ardal leol yn Abertawe sy'n ceisio lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol trwy feithrin perthnasoedd a chymorth yn lleol. Mae'r rhaglen yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr o bob oed, ac yn eu galluogi i gyflawni eu syniad nhw o fywyd da. Bydd hynny, wrth gwrs, yn wahanol i wahanol bobl a chymunedau. Mae'r rhaglen yn rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n ei defnyddio. Mae hefyd yn darparu mwy o fewnbwn manwl, unigol i bobl a allai fod yn hŷn, yn anabl, neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd wedi eu heithrio mewn rhyw ffordd. Ceir, wrth gwrs, enghreifftiau eraill ledled Cymru o raglenni sy'n cysylltu pobl â’r gwasanaethau lleol, anghlinigol sydd eu hangen arnynt.

Fel y mae’r cynnig yn nodi, byddwn yn parhau i ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach ledled Cymru, oherwydd bod angen i’r mynediad at y gwasanaethau hyn fod yn fwy systematig a’i weld fel rhan arferol o'n hymagwedd tuag at iechyd a llesiant—

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliadau diweddar ag ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd â'r rhagnodi cymdeithasol y mae wedi ei weld ar waith yn y clystyrau yng nghwm Llynfi isaf a phorth y Cymoedd. Ond hefyd, yng nghwm Llynfi, roedd yn gweld rhwydweithiau eraill yn y gymuned, ynghyd ag Ysbryd Coetir Llynfi, ynghyd ag ysgolion lleol, ynghyd â'r chwe meddyg teulu lleol—ond y mae wedi’i integreiddio i'r gymuned leol, ac mae'n wych gweld, rwy’n credu y byddai’n cytuno, y ffordd arloesol y mae’r holl bartneriaid yn lleol, nid dim ond y meddygon teulu, ond pob partner arall, wedi derbyn y syniad hwn o ragnodi cymdeithasol er lles eu cymunedau.

Ydy, mae'n enghraifft dda o'r ystod o wasanaethau sy'n bodoli ledled y wlad—cyfleoedd lleol a sut y mae pobl wedi’u cysylltu â’r cyfleoedd hynny i wella eu hiechyd cyffredinol a’u lles, heb ddibynnu ar feddyginiaeth ac ymyrraeth feddygol. Mae hefyd yn enghraifft dda o sut yr ydym yn tynnu’r elfen feddygol o’r gwasanaeth ac, yn enwedig, sut y mae gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr eraill yn y gymuned wedi chwarae rhan bwysig iawn mewn cael pobl i fod yn egnïol a chymryd rhan yn eu cymuned, i fod yn fwy cyfrifol am eu dewisiadau eu hunain mewn ffordd y maen nhw’n ei mwynhau ac sy'n briodol ac yn lleol.

Mae ceisio gwneud i hyn weithio yn fwy systematig yn rhywbeth y mae Dr Richard Lewis wedi ymgymryd ag ef yn ei swydd fel arweinydd proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol yn Llywodraeth Cymru. Bydd pobl yn y Siambr yn ei adnabod o’i swydd flaenorol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac mae'n parhau i hyrwyddo swyddogaeth gwasanaethau lles a'r angen am brosesau derbyn ac atgyfeirio mwy systematig. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd wedi hwyluso trafodaeth bord gron â rhanddeiliaid ar ran Dr Lewis yr hydref diwethaf a chafwyd llawer o frwdfrydedd a thrafodaeth o ganlyniad i hynny.

Yr her erbyn hyn, yn ystod y flwyddyn nesaf, yw sut yr ydym yn cyflwyno yr hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn ddull mwy cyson ac effeithiol. Ond, o fewn Llywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymedig i gefnogi rhanddeiliaid i rannu dysgu ac arfer da. Felly, ym mis Mawrth, ariannodd Llywodraeth Cymru Gynhadledd Gydweithredol Iechyd y Canolbarth. Yn y digwyddiad hwnnw daeth cydweithwyr o’r sector awyr agored â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd i drafod manteision cadarnhaol gweithgareddau awyr agored o ran iechyd a lles, a chynyddu ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio mannau gwyrdd. Felly, mae'n bwysig parhau i ddatblygu'r dystiolaeth o'r hyn sy’n bodoli, a hefyd yr hyn sy'n gweithio. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi, felly, comisiynu adolygiad o egwyddorion gwirfoddoli cynaliadwy yn y gymuned i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn. A bydd hynny yn canolbwyntio ar fodelau arfer gorau a'r effaith y maent wedi'i chael. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi ac yn cael eu defnyddio gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector cymunedol ar gyfer llywio'r gwaith o ddatblygu ymellach modelau gwirfoddoli dan arweiniad y gymuned.

Er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i'r gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn—yn aml gyda'r person iawn a’r gwasanaeth iawn—mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i gydgysylltu datblygiad cyfeiriadur rhithwir sengl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y trydydd sector a'r sector annibynnol. Bydd y cyfeiriadur yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Bydd yn sail i'r wybodaeth newydd gan awdurdodau lleol, gwasanaethau cyngor a chymorth, a’r gwasanaeth ffôn a gwefan 111, a bydd yn cynnwys yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael mewn cymunedau lleol ac yn esbonio sut y gall pobl gael gafael ar y gofal a’r cymorth hwnnw.

Yn 'Symud Cymru Ymlaen', mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lansio bond llesiant Cymru i sbarduno ffyrdd o fyw iachach. Mae'r agenda rhagnodi cymdeithasol yn cyd-fynd yn agos ag amcanion y bond lles, a fydd yn ceisio datblygu prosiectau iechyd a lles arloesol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Ac, felly, rwyf yn dweud hyn yn gyffredinol, oherwydd byddwn i’n croesawu barn Aelodau'r Cynulliad ar y camau pellach y mae angen eu cymryd ar lefel genedlaethol i hyrwyddo gwasanaethau lles, a chroesawaf eich barn a'ch syniadau am yr hyn yr ydych yn credu y dylai'r blaenoriaethau fod. A bydd nifer o Aelodau wedi cael eu profiad lleol eu hunain. Er enghraifft, gwn y gall fod rhai Aelodau sydd eisiau siarad am Gamau’r Cymoedd, sy’n ymgysylltu â phobl yng Nghwm Taf, a hynny flwyddyn ers dechrau’r dull cymharol lwyddiannus. Felly, bydd barn yr Aelodau a rhanddeiliaid ehangach yn arwain at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dreialu dull cenedlaethol o ragnodi cymdeithasol ym maes iechyd meddwl. Dylai hynny ein helpu i ddatblygu'r gwaith hwn.

Yn unol â'n hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen', byddaf yn dechrau cynllun arbrofol ar ragnodi cymdeithasol ym mis Rhagfyr—neu erbyn mis Rhagfyr. Bydd wedi’i dargedu’n benodol at wella’r cynnig iechyd meddwl a'r gefnogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yn gyfyngedig, ond yn datblygu. Trwy ariannu cynllun arbrofol, rydym yn credu y byddwn yn cyfrannu at werthuso swyddogaeth rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n ei wneud yn fwyaf effeithiol. Bydd y cynllun arbrofol yn ychwanegu at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud eisoes yng Nghymru, ac rydym bellach yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lunio cynigion ar gyfer y cynllun arbrofol. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach am ddatblygiad y cynllun arbrofol a'r bond llesiant ar ôl yr haf, ond edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i ddadl heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Angela Burns i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Angela.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am gyflwyno’r pwnc hynod ddiddorol hwn, a chynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddadl hon, ac rydym wedi cyflwyno ein gwelliant oherwydd ein bod o’r farn nad oes diffiniad pendant i ragnodi cymdeithasol, pwynt a gyflwynwyd gan Gydffederasiwn y GIG, yn un, sydd, wrth gwrs, yn cynrychioli’r byrddau iechyd, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn teimlo’n gyfforddus iawn â hyn wrth symud ymlaen. Ac rydym o’r farn bod Cronfa’r Brenin wedi canfod ffordd glir o nodi yn syml iawn yr hyn y mae'n ei olygu, gan gyfeirio ato fel:

modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.

Ac, wrth gwrs, mae diffiniad Cronfa'r Brenin yn dilyn, i raddau helaeth iawn, y cyfeiriad yr ydym ni yng Nghymru yn ei ddilyn o ofyn i bobl ddechrau rheoli eu hiechyd eu hunain, cymryd rhan, bod yn rhan o’u hagenda iechyd, a chymryd rhan yn eu bywydau yn y dyfodol. Mae Cronfa'r Brenin yn nodi’n bendant y ceir amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol ac economaidd a fydd yn caniatáu i gleifion, ac angen i gleifion, gael eu trin mewn modd cyfannol. Yn sicr, nid ydym yn dweud mai diffiniad Cronfa'r Brenin ddylai fod 'y' diffiniad. Ond rydym ni eisiau edrych arno fel meincnod—dyna y mae'r GIG yn Lloegr wedi edrych arno; dyma mae'r GIG yn yr Alban wedi edrych arno—oherwydd bod arnom angen man cychwyn i ddatblygu ein fersiwn ein hunain o ragnodi cymdeithasol, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mynd i ariannu cynllun treialu wrth symud ymlaen ar sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gweithio.

Rydych eisoes wedi sôn am yr effeithiau cadarnhaol. Nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon hynny, ond gwn, fel pwyllgor, bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar unigrwydd ac ynysu ymhlith pobl hŷn, ac mae hyn yn rhywbeth y gall rhagnodi cymdeithasol wir helpu gydag ef. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn nes ymlaen am gydgynhyrchu ac am yr angen i gynnwys trydydd partïon er mwyn cyflwyno rhagnodi cymdeithasol. Ond rwyf i eisiau mynd ar drywydd un o'r pwyntiau yn eich cynnig gwreiddiol yn arbennig lle’r ydych yn dweud 'ystyried'; hoffech i ni ystyried blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach, a hoffwn i gynnig dau awgrym i chi. Sut y gall Llywodraeth Cymru annog cyflwyno rhagnodi cymdeithasol yn ehangach i bobl ifanc? Ledled Cymru, mae gennym nifer sylweddol o bobl ifanc sydd mewn lle tywyll iawn: mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta, maen nhw’n hunan-niweidio. Mae rhai yn y pen draw yn cyrraedd lle mor dywyll fel mai eu hunig ddewis arall yw lladd eu hunain. Rwyf i’n cynrychioli etholaeth lle bu nifer o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwyddom o dystiolaeth, os gallwch chi ymgysylltu pobl â meysydd fel drama, ymarfer corff, therapi celf, therapi cerddoriaeth—ffyrdd pwysig iawn, iawn o allu tynnu rhywun yn ôl sy’n dechrau mynd tuag at y dibyn—os gallwn ni nodi’r bobl hynny a'u dal cyn iddynt fynd yn rhy bell ar y llwybr hwnnw, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld a allwn ni ddechrau dod â’r agenda rhagnodi cymdeithasol hon yn llawer nes at bobl iau hefyd, ac nid ei gweld fel rhywbeth sydd ond ar gyfer yr henoed neu rai mewn ardaloedd difreintiedig iawn.

Roeddwn hefyd yn meddwl tybed, a dyma fy ail bwynt, wrth gyflwyno hyn: a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithwyr proffesiynol eraill i fod yn rhan o'r tîm rhagnodi cymdeithasol—nid dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol, ond pobl fel cwnselwyr ysgol, neu gydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol? Oherwydd, fel y gwyddom, mae pwysau enfawr ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn llawn dop, nid oes lle i droi, ac, os oes gennych gwnsler ysgol mewn ysgol uwchradd sy’n siarad â pherson ifanc sydd efallai’n cael trafferth gydag, er enghraifft, galar, oherwydd bod rhywun annwyl iawn iddynt wedi marw, dylai'r person hwnnw allu rhagnodi’n gymdeithasol llwybr ar gyfer y person ifanc hwnnw i gyrraedd, o bosibl, rywle fel Cruse neu sefydliad profedigaeth arall. Os ydyn nhw’n canfod plentyn sy’n dechrau hunan-niweidio pan ei fod tua 12 oed, 13 oed, a'r marciau dangosol cyntaf hynny i’w gweld ar ran uchaf y breichiau, a allan nhw wedyn siarad â’r plentyn hwnnw a'i atgyfeirio ar unwaith i ryw fath o grŵp therapi, sesiwn gwnsela, un o ddarparwyr y trydydd sector y mae angen i ni ymgysylltu â nhw er mwyn i ragnodi cymdeithasol lwyddo? Rwy’n credu os gallwn ni ei ehangu, efallai, i gynnwys gweithwyr proffesiynol hyfforddedig eraill, ond mewn meysydd eraill, y gallem efallai leddfu rhywfaint ar yr ôl-gronni neu’r aros sy'n digwydd pan eich bod yn mynd i feddygfeydd meddygon teulu, oherwydd eu bod eisoes o dan bwysau aruthrol, a gallwn gynnwys rhagor o bobl mewn modd gwirioneddol gynhyrchiol i ddechrau cyflawni ateb i bobl sydd mewn angen dybryd. Byddwn i’n ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe byddech yn meddwl am y ddau syniad yna ac efallai eu hystyried yn rhan o'ch cynnig yma heddiw. Ond rydym yn cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.

Rydw i’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar ragnodi cymdeithasol.

Nawr, fel meddygon ifanc dros y degawdau, rydym ni i gyd yn cael ein haddysgu bod yna bedwar agwedd i iechyd ein cleifion: ie, y corfforol, y seicolegol, ond hefyd heb anghofio agweddau cymdeithasol ac ysbrydol. Mae cofio am yr holl ystod yma o ddylanwadau ar iechyd pobl yn ein cyfeirio at feddwl yn ehangach am beth sydd yn gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf a hefyd yn gwneud i ni feddwl am y rhwystrau sy’n gweithredu yn erbyn eu llwyr adferiad.

Rwy’n cofio cwyno i’r awdurdod lleol, flynyddoedd maith yn ôl nawr, fel meddyg teulu cydwybodol, am gyflwr truenus tai fy nghleifion, a oedd yn amharu ar eu hiechyd nhw, a’r cwynion hynny yn cael eu hanwybyddu yn llwyr. Dyma un o’r rhesymau pam gwnes i sefyll ar gyfer y cyngor yn y lle cyntaf. Fel cynghorydd sir wedyn, ond, yn amlwg, nid fel meddyg, roeddwn yn derbyn atebion i’m cwynion am gyflwr gwael tai’r ddinas a hefyd cynllun i wella’r sefyllfa. Dyna beth, yn y bôn, ydy fy nealltwriaeth i o ragnodi cymdeithasol—bod meddygon teulu a nyrsys yn y gymuned yn gallu arallgyfeirio pobl tuag at brosiectau sydd yn taclo eu salwch gan edrych ar y darlun mawr o’u hiechyd yn ei gyfanrwydd, a chyfeirio pobl felly at sefydliadau yn y sector gwirfoddol gan amlaf, fel gweithgareddau celf, gwirfoddoli yn gyffredinol, garddio, coginio, cyngor bwyta’n iach, ac ystod eang o gampau a chwaraeon, megis cerdded. Un o’r pethau hawsaf ydy jest cerdded mwy. Rwyf wastad yn pregethu yn y lle yma am y 10,000 o gamau sydd angen i ni eu cymryd bob dydd—cerdded. Mae cadw’n heini lawn cystal â chyffuriau gwrth-iselder pan nad yw’r iselder ysbryd yn ddifrifol.

Ymgais i lenwi sawl gagendor yn ein rhwydweithiau cymdeithasol ydy rhagnodi cymdeithasol, gydag unigrwydd ac unigedd ar gynnydd—dyna pam rydym yn cynnal ymchwiliad fel pwyllgor iechyd—er ein holl gysylltiadau cyfrifiadurol y dyddiau yma ac er y rhyngrwyd, achos rydym yn cydnabod bod yna fwy i adferiad ein cleifion na dim ond materion y corff yn unig.

’Slawer dydd, roedd ein capeli a’n heglwysi ni yn hynod weithredol yma yng Nghymru, gyda channoedd o bobl yn y gynulleidfa bob dydd Sul a rhyw gyfarfod neu’i gilydd bob nos o’r wythnos yn ogystal, yn llawn ystod eang o weithgareddau. Roedd y fath gymuned glos yn naturiol yn gymorth yn aml i nifer o bobl yn eu hiselder ysbryd a’u hunigrwydd. Ond, bu tro ar fyd, ac mae angen atebion i’r un un gofynion ysbrydol oesol heddiw.

Yn aml, fel meddyg, rwy’n teimlo ychydig fel gweinidog neu ficer wrth gynghori fy nghleifion, ond mae esgeuluso'r agweddau cymdeithasol ac ysbrydol a dim ond canolbwyntio ar y corff, y tabledi a’r llawdriniaeth hefyd yn esgeulustod go iawn sy’n gallu tanseilio gwellhad ein pobl.

Edrychwn ymlaen at ehangu rhagnodi cymdeithasol—rydym yn cefnogi bwriad y Llywodraeth yn y fan hyn—a mynd i’r afael â’r dystiolaeth o’i effeithlonrwydd, er mor anodd yw hi i gael gafael ar y dystiolaeth honno. Diolch yn fawr.

Mae'n dda clywed gan feddyg teulu sy'n myfyrio ar ei ymddygiad, oherwydd yn rhy aml o lawer, yn anffodus, mae rhai meddygon teulu wedi dilyn y sgript, yn hytrach na chynnig atebion eraill i ofid meddyliol pobl.

Neithiwr, treuliais gryn dipyn o amser yn ceisio cysylltu â phobl nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn bodloni’r amser cau, sef hanner nos. Roedd llawer yn falch iawn o gael eu hatgoffa bod angen iddynt gofrestru ac roeddwn i’n llwyddiannus yn hynny o beth. Ond cyfarfûm hefyd â phobl eraill a wnaeth anesmwytho cryn dipyn arnaf. Rwyf wedi cwrdd â nhw o'r blaen. Y rhain yw’r bobl sy'n dweud, ‘Na, nid oes gennyf ddiddordeb mewn cofrestru i bleidleisio; nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn pleidleisio oherwydd bod pob un ohonynt yr un fath, beth bynnag fydd yn digwydd, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fy mywyd i'.

Mae'r rhain yn bobl sydd mor bell o ymgysylltu â chymdeithas a gwneud unrhyw fath o gyfraniad cadarnhaol y mae yn wir yn eithaf brawychus. Mae hynny o bosibl yn eithaf peryglus hefyd. Nid yw'r rhain yn bobl sy’n brysur yn gweithio'n galed i gael dau ben llinyn ynghyd ar gyfer eu teulu; fel rheol maent yn bobl sydd wedi gadael y gweithlu yn gyfan gwbl ac, mewn rhai achosion, na fydd yn cael mwy na chysylltiad prin â’r gweithlu drwy gydol eu hoes. Nid wyf yn rhyddfrydwr ar y mater hwn. Nid wyf yn credu y dylem ni oddef pobl sy'n byw ar y wlad heb ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gyfrannu unrhyw beth yn ôl. Mae'n wael iddyn nhw ac mae'n wael i'r gymdeithas gyfan.

Mae’n rhaid i ni, wrth gwrs, gefnogi pobl sy'n gadael y gweithle oherwydd rhyw argyfwng personol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl sylweddol yn ystod ein hoes ac nid yw cyflogwyr bob amser yn deall nac, yn wir, yn cydymdeimlo â'r sefyllfa. Gall colli eich swydd neu gael babi olygu eich bod allan o'r gweithlu am gyfnod sylweddol ac mae pobl yn colli eu hunan-hyder ac nid yw hynny’n peri syndod, ac mewn rhai achosion yn mynd yn agoraffobig, yn methu â goddef bod allan mewn mannau agored nac mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy.

Mewn sefyllfaoedd eraill, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddisgrifio, mae pobl yn dechrau defnyddio gwasanaethau y tu allan i oriau arferol fel prop ar gyfer eu poen, ac nid yn unig y mae hyn yn amhriodol i’w helpu i deimlo'n well amdanynt eu hunain mewn gwirionedd—ond mae hefyd yn achosi tagfeydd yn y gwasanaethau brys ar gyfer y rhai y mae arnynt eu hangen. Felly, roedd yn ddiddorol iawn i mi ymuno â’r tîm amlddisgyblaethol ar gyfer mynychwyr rheolaidd sy'n gweithredu ledled Caerdydd a'r Fro. Maen nhw’n edrych ar yr 20 o bobl a welir amlaf yn yr adran damweiniau ac achosion brys, mewn gwasanaethau y tu allan i oriau a meddygfeydd meddygon teulu ar gyfer y mis hwnnw, a chaiff gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eu hanghenion penodol eu rhagnodi iddynt. Mae'r canlyniadau wir yn drawiadol iawn, iawn: mae 80 y cant o'r bobl hyn yn llwyddo i gael yn ôl ar eu traed ac ailddechrau eu bywydau arferol ac nid ydynt yn faich amhriodol ar y gwasanaethau brys mwyach.

Cymunedau yn Gyntaf sy’n aml yn arwain ar gael pobl wedi eu hatgyfeirio atynt. Maen nhw’n darparu cyrsiau lles, magu hyder, byw bywyd i'r eithaf, rhwydweithiau cymorth cymdeithasol—boed hynny mewn clybiau garddio neu goginio. Fel arfer, yn ôl diffiniad Cronfa'r Brenin, mae gweithiwr cyswllt yn aml yn rhan o’r broses, ac mae'n debyg mai un o'r cwestiynau allweddol i'r Llywodraeth mewn gwirionedd yw: beth fydd yn digwydd pan fydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, a phwy fydd y gweithwyr cyswllt sydd eu hangen i arwain yr unigolion trwy sefyllfaoedd cymdeithasol sy’n anodd iddynt, ac i gefnogi gweddill y bobl sy'n rhan o’r grŵp cymdeithasol hwnnw i wybod y bydd cymorth ar gael os bydd pethau'n mynd yn anodd? Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud sylwadau diddorol am ran y trydydd sector yn hyn o beth, ond mae angen, yn amlwg, gwasanaethau statudol yn goruchwylio rhywfaint ar hyn hefyd.

Yn olaf, roeddwn eisiau datgan fy mhryder am yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc ar hyn o bryd. Mae'r ystadegau a gefais ddoe gan rai o'r gweithwyr cyswllt cyflogaeth sy’n gweithio mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn eithaf brawychus yn wir. Yng ngogledd a dwyrain Caerdydd mae 166 o bobl ifanc blwyddyn 11 sy’n 16 oed ac ar fin sefyll pa bynnag arholiadau y maent yn mynd i’w sefyll—heb unrhyw le i fynd iddo y flwyddyn nesaf. Nid ydyn nhw’n gwybod eto lle y byddant y flwyddyn nesaf, ac mae angen i ni sicrhau na fyddant yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A gair arall o rybudd yw bod 86 o bobl o'r garfan ddiwethaf a fyddai ym mlwyddyn 12 pe byddent yn dal i fod mewn addysg, nad oes cyfrif o gwbl amdanynt. Nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd i'r bobl hyn. Gobeithio, bod rhai ohonynt mewn cyflogaeth ac yn ennill, ond mae eraill ar goll yn llwyr. Felly, mae angen i ni gyflwyno rhagnodi cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu a’n bod yn symud yn raddol tuag at eu galluogi i sefyll ar eu traed eu hunain.

Mae rhagnodi cymdeithasol yn elfen graidd o'r chwyldro cydgynhyrchu, ac mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon yn dangos ein bod wedi teithio yn bell ers i mi arwain dadl y tro cyntaf yn y Cynulliad ar gydgynhyrchu a chael ymateb llugoer. Mae hyn yn ymwneud â symud oddi wrth y model meddygol, sy'n gweld mai salwch neu anabledd yw’r broblem, i'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw yn annibynnol, gan bwysleisio mai cymdeithas sydd yn anablu pobl, nid nhw eu hunain; bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i orchfygu’r rhwystrau at fynediad a chynhwysiant i bawb; a bod yn rhaid i bawb gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywydau. Mae hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, gan symud o ddull sy'n seiliedig ar anghenion i ddatblygiad sy’n seiliedig ar gryfder—i helpu pobl mewn cymunedau, yn hen ac yn ifanc, i nodi’r cryfderau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i'r afael â gwreiddiau’r problemau sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial.

Fel y dywed Cydffederasiwn GIG Cymru, mae cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn cydgynhyrchu yn golygu datblygu a gweithredu rhaglen genedlaethol gydag amserlen y cytunwyd arni ar draws y Llywodraeth, sy'n nodi camau gweithredu i’r holl wasanaethau cyhoeddus eu cymryd i gael y cyhoedd a chleifion i fyw bywydau iachach. Cyfeiriwyd at ddiffiniad Cronfa'r Brenin sy’n dweud bod rhagnodi cymdeithasol neu atgyfeirio cymunedol yn fodd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl i ystod o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol. Fel y maen nhw’n ei ddweud, mae hyn wedi'i gynllunio i gefnogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol ac mae llawer o gynlluniau yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o weithgareddau, a ddarperir fel arfer gan sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys gwirfoddoli, gweithgareddau celf, dysgu mewn grŵp, garddio, cyfeillio, coginio, cyngor ar fwyta'n iach ac ystod o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys gweithiwr cyswllt, fel y nododd Jenny, sy'n gweithio gyda phobl i gael gafael ar ffynonellau lleol o gymorth.

Canfu astudiaeth ar brosiect rhagnodi cymdeithasol ym Mryste welliannau mewn lefelau gorbryder ac mewn teimladau o ran iechyd ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. Canfu astudiaeth o gynllun yn Rotherham ostyngiadau yn y defnydd o’r GIG o ran presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol a derbyniadau cleifion mewnol. Mae Cartrefi Conwy yn rhedeg nifer o brosiectau sy’n grymuso ac yn galluogi tenantiaid hŷn i reoli eu bywydau, heb adael i’w hoedran nac unrhyw beth arall effeithio arnyn nhw, eu hannibyniaeth nac ansawdd eu bywydau. Yn Swydd Gaerhirfryn, mae’r fenter gymdeithasol Green Dreams, a sefydlwyd gan feddyg teulu lleol, yn darparu atebion cymunedol i ddiweithdra, arwahanrwydd ac ansawdd bywyd salach. Canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Lancaster welliannau mewn iechyd meddwl a chorfforol, llai o apwyntiadau meddygon teulu a llawer o gleifion yn dychwelyd i'r gwaith. Mae oddeutu 40 o feddygon teulu yn atgyfeirio i'r cynllun hwnnw erbyn hyn.

Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn tynnu sylw at gredydau amser rhagnodi cymdeithasol fel offeryn pwerus ar gyfer annog y rhai sy’n anodd ymgysylltu â nhw, neu’r rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol mewn gweithgaredd a allai gael effaith ar iechyd, lles neu ailgysylltu teuluol ac ennill credydau amser. Mae Cydgynhyrchu Cymru wedi tynnu sylw at y cyflwyniad sydd ar ddod ar 8 Mehefin gan brif weithredwr Interlink RCT—Rhondda Cynon Taf—sy’n cysylltu unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn grŵp astudio sy'n seiliedig ar gryfder. Fel y dywed ef, mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio o feddygfeydd meddygon teulu, trwy ragnodi cymdeithasol a thrwy leoliadau gofal cymdeithasol, a elwir yn aml yn gydgysylltu cymunedol neu gydgysylltu yn yr ardal leol. Mae'n ychwanegu, fodd bynnag, nad oes llawer o'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu cyfeirio at yr hyn sydd bwysicaf i bobl, lle mae eu hangen, er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles eu hunain, ond bod hyn yn broblem arbennig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac y bydd modelau sy'n gweithio ar wahân nad ydynt yn gydweithredol ac nad ydynt yn gysylltiedig nac yn gallu adfer darpariaeth gymunedol yn methu ag ymdrin â’r bylchau a bydd eu heffeithiolrwydd a’u cwmpas yn gyfyngedig.

Bum mlynedd yn ôl, clywais gomisiynydd iechyd meddwl arloesol Gorllewin Awstralia yn siarad mewn cynhadledd Cydgynhyrchu Cymru yng Nghaerdydd. Fe lansiodd cydlyniad ardal leol am y tro cyntaf dros chwarter canrif yn ôl, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl leol a gweithwyr proffesiynol, a ddechreuodd weithredu a meddwl mewn modd gwahanol. Symudodd hyn y pwyslais oddi wrth bobl fel derbynwyr goddefol o ofal cymdeithasol i bobl sydd â doniau, asedau a chyfraniadau mewn cymunedau cynhwysol. Mae cynlluniau cerdded a drefnir gan wirfoddolwyr ac a gefnogir gan Dewch i Gerdded Cymru, megis Teithiau Cerdded Troedio Clwyd, yn gwella lles corfforol a meddyliol ac yn mynd i'r afael ag unigrwydd, gan arbed arian i GIG Cymru, ond daw cyllid Llywodraeth Cymru i ben ar 30 Medi, felly nid oes sicrwydd i’r gwirfoddolwyr. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu dilyniant. Wedi'r cyfan, fel y dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, gall y dull rhagnodi cymdeithasol helpu’r gwaith o reoli cyflyrau cronig a lleihau’r galw ar wasanaethau iechyd—gadewch i hyn ddigwydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch iawn o gymryd rhan ynddi. Rwy'n gadarn o'r farn y gall rhagnodi cymdeithasol, yn enwedig wrth sôn am iechyd meddwl, sicrhau manteision iechyd gwirioneddol i gleifion yng Nghymru, a bydd UKIP, felly, yn cefnogi'r cynnig.

Fel y dengys canlyniadau o astudiaethau ym Mryste a Rotherham, gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arwain at ostyngiad yn y defnydd o wasanaethau'r GIG, ond, yn bwysicach, gall arwain at welliannau mewn iechyd meddwl a lles cyffredinol, gwelliannau i ansawdd bywyd a lefelau is o iselder a gorbryder.

Y pwynt olaf sydd fwyaf calonogol i mi. Yn hytrach na chondemnio cleifion â salwch meddwl i fyw bywyd ar gyffuriau gwrth-iselder, y profwyd eu bod yn arwain at sgîl-effeithiau ofnadwy, gellir defnyddio rhagnodi cymdeithasol yn fwy effeithiol.

Gall rhagnodi cymdeithasol hefyd ddarparu arbedion cost i'n GIG. Canfu dadansoddiad economaidd rhagarweiniol o'r astudiaeth yn Rotherham y gallai'r cynllun dalu am ei hun o fewn dwy flynedd oherwydd y byddai’n lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau’r GIG. Fy unig bryder yw, er mwyn i hyn fod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i ni fuddsoddi’n sylweddol mewn gofal sylfaenol. Er mwyn gallu cyflwyno rhagnodi cymdeithasol yn effeithiol, mae angen i feddygon teulu gael eu hadnoddu’n effeithiol, gan roi amser iddynt allu ystyried y person cyfan yn fwy cyson, ac mae angen mynediad arnynt at wasanaethau cymunedol sydd wedi’u hadnoddu yn llawn er mwyn gallu atgyfeirio cleifion iddynt pan fo hynny'n briodol. Yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, yn y pen draw mae angen i’r broses o hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol gael ei rheoli'n ofalus gan ei fod yn arwain at ddisgwyliadau i feddygon teulu gyflawni swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, a gallu cyfyngedig sydd ganddyn nhw i wneud hynny. Maen nhw hefyd yn nodi y gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol yn sicr fod yn fuddiol i iechyd a lles cyffredinol claf, fel y mae rhai cynlluniau treialu wedi’i ddangos. I fod yn effeithiol, mae angen gwell integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol, fel y gall meddygon teulu a’n timau atgyfeirio ein cleifion yn y modd mwyaf priodol.

Fel yr wyf wedi ei amlygu sawl gwaith, mae ein GIG yn fwyaf effeithiol pan fydd gennym bartneriaeth wirioneddol rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae rhagnodi cymdeithasol yn ddull partneriaeth o'r fath. Os byddwn yn ystyried ac yn lleihau’r baich ychwanegol y mae rhagnodi cymdeithasol yn ei roi ar ein meddygon teulu, rwy'n credu yn bendant bod ganddo'r potensial i gyflawni budd enfawr i gleifion yng Nghymru. Edrychaf ymlaen felly at weld rhagor o fanylion am y treialon rhagnodi cymdeithasol a gobeithiaf y gall Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau y bydd cynlluniau rhagnodi cymdeithasol dilynol wedi’u hadnoddu’n briodol heb roi baich ychwanegol ar ein meddygon teulu sydd eisoes dan bwysau.

Mae'n amlwg nad yw'r dull traddodiadol o ofal iechyd meddwl yn gweithio, yn enwedig ar gyfer ein poblogaeth iau sy'n wynebu heriau newydd ac amrywiol o ran iechyd meddwl. Mae angen ffyrdd newydd o weithio arnom, oherwydd ymddengys bod cymryd tabledi yn gwneud mwy o ddrwg nag o les. Felly, mae gan ragnodi cymdeithasol ran i'w chwarae mewn ateb yr her hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno dull Cymru gyfan sydd o fudd i gleifion a’n meddygon teulu fel ei gilydd. Diolch.

Rwy'n credu y byddai ychydig o ragnodi cymdeithasol o fudd i bob un ohonom heddiw. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn i bob un ohonom ac yn ddiwrnod trist iawn a byddai unrhyw beth i godi ein hysbryd yn helpu. Ond hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd dros iechyd am gyflwyno’r cynnig hwn oherwydd rwy’n credu ei fod yn dangos bod dealltwriaeth fod mwy i iechyd na dim ond gofalu am lesiant corfforol y claf. Mae Jenny Rathbone wedi tanlinellu'r ffaith bod un o bob pedwar ohonom yn debygol o ddioddef rhyw fath o broblemau iechyd meddwl yn ystod ein bywydau—. Rwy'n credu mai’r pwynt yn sicr yw gofyn i gleifion beth sy’n bwysig yn hytrach na, ‘Beth sy’n bod?’ Fy marn i yn sicr yw bod yn rhaid i ni barchu a thrin yr unigolyn a'r claf ac nid dim ond y salwch.

Mae fy ngŵr yn feddyg teulu ac mae ef wedi bod yn ymarfer rhagnodi cymdeithasol ers bron i ddau ddegawd, yn bennaf atgyfeiriadau i ganolfannau chwaraeon. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn datblygu hyn ymhellach, a hoffwn ganolbwyntio ychydig o eiriau ar y cyfleoedd i ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol mewn cysylltiad â'r celfyddydau. Nawr, fel y mae’r Ysgrifennydd dros Iechyd yn gwybod, rydym wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol celfyddydau ac iechyd yn y Cynulliad ac rwy'n frwdfrydig iawn am hyn. Roeddwn yn gadeirydd yr elusen Live Music Now ac roedd yn anhygoel i wylio'r gweddnewidiad mewn cartrefi gofal pan fyddem ni’n anfon cerddorion arbenigol i mewn i chwarae ac i gael effaith wirioneddol a chodi ysbryd y bobl yn y cartrefi gofal hynny. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn o ran sut y mae’r celfyddydau yn effeithio ar iechyd: mae 50 y cant o’r sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw trwy gymhorthdal ​​gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gysylltiedig ag iechyd mewn rhyw ffordd.

Rwy'n edrych ymlaen at groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol hwnnw pryd y byddwn yn gwneud cyflwyniad iddo a gofyn iddo gefnogi’r ymdrechion i ddatblygu sail dystiolaeth fwy cadarn i gefnogi celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae llawer iawn o waith, fel y dywedais, yn cael ei wneud eisoes. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes yn y broses o goladu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ac mae angen, rwy'n credu—

Diolch. Gobeithio yr oeddwn i, yn eich swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, y gallech chi hefyd efallai ystyried swyddogaeth therapi celf a cherddoriaeth i bobl iau, oherwydd ar y cyfnod hwnnw o’u bywydau, mae angen newid llwybr arnynt yn aml iawn. Mae llawer ohonynt yn dechrau dilyn llwybr iechyd meddwl gwael am bob math o resymau, ac mae llawer o dystiolaeth ar gael, os gallwch chi eu dal yn ddigon ifanc, yn eu harddegau ac yn yr ysgol uwchradd pan fyddant yn mynd trwy’r mathau hynny o broblemau, yna mewn gwirionedd, gall helpu i ddod â nhw yn ôl cyn iddi fynd yn anodd iawn i ddechrau achub pobl. A byddwn i'n ddiolchgar iawn, a hoffwn i ymuno â'ch grŵp trawsbleidiol, pe byddai eich grŵp trawsbleidiol yn ystyried hynny hefyd, oherwydd yr egwyddor honno, ‘Os gallwn ni eu dal nhw’n ifanc a’u hachub yn gynharach, mae'n eu helpu nhw ac mae'n ein helpu ninnau.’

Rwy'n credu bod hwnna'n bwynt da iawn, a hoffwn eich gwahodd, efallai, i ddod i siarad yn un o'n cyfarfodydd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, iawn oherwydd rydych chi’n hollol iawn—os ydym ni’n eu dal yn ifanc, os ydym ni’n eu dal yn gynnar, gall y celfyddydau fod yn ddull gwych o newid bywydau pobl.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd i ganolbwyntio ar bobl hŷn. Rwy’n meddwl os oes gennym ni lawer o bobl bellach yn—meddyliwch chi am y cynnydd enfawr yr ydym ni’n mynd i’w weld yn nifer y bobl sydd angen gofal preswyl, a rhagwelir y bydd cynydd o 82 y cant erbyn 2035. Felly, mae angen i ni feddwl am sut y byddwn ni’n mynd i’r afael â hynny, ond gadewch i ni ystyried sut yr ydym ni’n mynd i roi'r ansawdd bywyd iddyn nhw; nid dim ond mater o barcio y bobl hyn ydyw—mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael bywyd da.

Ond hoffwn orffen drwy ofyn dim ond un peth i Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y gyllideb y mae hynny mewn gwirionedd. Nawr, rwy’n gwybod bod £180,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer rhwydweithiau a arweinir gan wirfoddolwyr o ran sut yr ydym ni’n defnyddio hyn, ond, mewn gwirionedd, yng nghyd-destun y gronfa o £6 biliwn, pa mor bell ydych chi'n meddwl y gallwn ni fynd â hyn? Mae hwn yn faes eithaf arloesol. Mae angen i ni, rwy’n credu, wneud yn siŵr ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Ond meddwl oeddwn i tybed a allech chi ddweud wrthym ni: beth yw eich uchelgeisiau ynglŷn â hyn? Mae'n amlwg yn gynnar yn y broses, ond tybed: a allem ni mewn gwirionedd fod yn wlad arloesol, ac arwain y ffordd i’r byd ein dilyn?

Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan am eu cyfraniadau ystyriol ac adeiladol. Nid yw hwn yn faes y mae gan y Llywodraeth farn gadarn ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae’n rhaid iddo weithio. Fel y nodais, rydym ni’n ystyried datblygu sylfaen dystiolaeth yn seiliedig ar enghreifftiau o'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, a'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio orau.

Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym ni’n sôn amdano mewn gwirionedd yw rhagnodi priodol. Weithiau, efallai bod rhagnodi cymdeithasol yn rhywbeth i ddisodli penderfyniadau rhagnodi gwael gan glinigwyr ac, wrth gwrs, dylem ni bob amser adolygu yn adeiladol yr hyn y mae clinigwyr yn ei wneud, ond, wrth gwrs, mae rhesymau cwbl briodol pam mae iechyd pobl yn cael ei drin gan ryw fath o bresgripsiwn meddyginiaeth. Mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni’n ychwanegu at, ac o bosibl disodli rhywfaint o hynny, mewn ffordd sy'n briodol i'r unigolyn. Os mynnwch chi, fel y dywedodd Eluned Morgan, ‘Yr hyn sy’n bwysig i chi, nid yr hyn sy’n bod arnoch chi’, a gweld sut yr ydym yn grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu dewisiadau eu hunain i fwy o raddau, ac yna rhoi'r dewisiadau hynny iddyn nhw a pha mor hawdd yw’r dewisiadau hynny yn aml, dim ond iddynt gael eu rhoi ar y trywydd cywir a chael eu helpu yn y ffordd honno. Roedd llawer yng nghyfraniad Eluned Morgan ac Angela Burns, hyd yn oed heb yr ymyriad a wnaeth Angela, lle yr oedd llawer o elfennau cyffredin mewn gwirionedd: presgripsiynau llyfr, celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon, a'r swyddogaeth sydd ganddynt. Mae nifer o bethau yr ydym ni eisoes yn ei wneud gyda phobl ifanc, fi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, lle mae gennym nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud mewn ysgolion i helpu i geisio cefnogi pobl a'u gwytnwch yn y modd mwyaf cyffredinol, a deall yr hyn y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo llesiant cyffredinol y plentyn a'i deulu cyfan, a meddwl am sut y mae hynny'n gweithio. Ond ni fyddwn yn esgus bod gennym atebion perffaith. Fel y gwyddoch yn y Llywodraeth, yn bur anaml y ceir ateb perffaith, ac os oes un i’w gael nid wyf wedi dod o hyd iddo fy hun eto. Ond rydym yn meddwl o ddifrif am yr hyn yr ydym yn ei wneud ac, fel y dywedais, bydd y cynllun arbrofol yr ydym yn mynd i’w ddatblygu i ddechrau eleni yn ymwneud â chreu eu hatebion eu hunain. I fynd yn ôl at bwynt Eluned ynghylch ble mae’r gyllideb, mae hynny’n dibynnu i raddau helaeth ar beth y bydd y dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am y gost o ddarparu'r gwasanaeth, ond yna am effaith y gwasanaeth hwnnw, a’n her ehangach, os ydym ni’n siarad yn onest ac mewn ffordd aeddfed, am sut yr ydym ni’n newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gyda dinasyddion, nid i ddinasyddion, ac mewn gwirionedd sut yr ydym ni’n gwneud y dewisiadau hynny’n rhai gwahanol hefyd. Felly, yr her yw sut yr ydym ni’n paratoi ar gyfer cyflawni’r symudiad a’r newid hwnnw ar draws y system.

I fynd yn ôl at gyfraniad Angela Burns am funud, rwy’n hapus i gydnabod eich pwynt am sut yr ydych chi’n atgyfeirio pobl i wasanaeth, a’r hyn yw'r gwasanaeth hwnnw, oherwydd bydd achlysuron, wrth gwrs, pan fydd y gwasanaeth hwnnw yn cael ei roi gan weithiwr meddygol proffesiynol. Efallai hefyd y bydd adegau pan na fydd yr hyn yr ydym ni’n ei alw’n rhagnodi cymdeithasol o reidrwydd yn cael ei gyfeirio drwy feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Ond os yw’n ymwneud â sut yr ydych chi’n rhoi llwybr i rywun gael cymorth, cydnerthedd a chyngor i wella eu hiechyd a'u lles cyffredinol—dyna pam nad wyf eisiau treulio gormod o amser yn sôn am ddiffiniad, ond rwy’n cydnabod bod diffiniad The King’s Fund yn fan cychwyn defnyddiol—.

Unwaith eto, gan feddwl am her Dai Lloyd o ran cerdded—i’r rhai ohonom sydd ag iPhones—mae mathau eraill o ffonau clyfar ar gael, wrth gwrs—os ydym ni’n cerdded o gwmpas gyda nhw, mae ganddyn nhw y peth defnyddiol yma arnyn nhw sy'n dweud wrthych chi faint o gamau y mae’n meddwl yr ydych chi wedi eu gwneud, faint o risiau yr ydych chi wedi eu dringo. Nid wyf bob amser yn credu ei fod yn gwbl ddibynadwy ac rwy'n dweud wrthyf fy hun bod yna adegau pan yr wyf wedi gwneud mwy o gerdded pan oedd fy ffôn yn eistedd ar ddesg—ond mae’r swydd hon yn anodd ac mae gwleidyddion yn aml yn enghreifftiau gwael iawn o wneud yr hyn yr ydym ni’n dweud y dylai pobl eraill eu gwneud. Ar adeg etholiad, rydym ni bron i gyd yn gwneud ein 10,000 o gamau, ond ar ddiwrnod arferol fel arall, mae'n eithaf anodd mewn gwirionedd —ond mae'n rhywbeth i ni o ran y ffordd yr ydym ni’n neilltuo amser i wneud pethau drosom ni ein hunain hefyd.

Yna cawsom gyfraniad Jenny, ac, yn arbennig, rwy'n falch o’ch clywed chi’n sôn am y gwaith mynychwyr rheolaidd sy’n aml yn ymwneud â pheidio â dweud nad oes gan fynychwyr rheolaidd anghenion iechyd a llesiant, ond mae eu hanghenion yn cael eu diwallu neu eu trin yn amhriodol trwy iddynt fynd i'r lle anghywir ar gyfer y gofal anghywir ar yr amser anghywir. Mae'r pwynt hwnnw yn ymwneud â sut yr ydych chi’n rhoi llwybr i bobl i ddeall beth yw eu hanghenion a sut y maen nhw wedyn yn cael eu bodloni'n briodol. Yn aml, mae hynny’n ymwneud â’u cyfeirio at wasanaethau eraill neu tuag at yr hyn y gallant ei wneud drostynt eu hunain.

Rwy'n arbennig o falch eich bod wedi amlygu'r her sydd gennym ar draws y Llywodraeth. Nid yw iechyd a llesiant da yn fater i'r gwasanaeth iechyd yn unig, mae'n sicr yn fater sy'n berthnasol i addysg, tai, yr economi—bron pob maes sy’n rhan o bortffolio gweinidogol. Hefyd, gan feddwl yn ôl i fy mywyd blaenorol, pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth, ac am y cysylltiadau rhwng iechyd, llesiant a gwaith—.

Yn olaf, o ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaed gan Mark Isherwood a Caroline, rydym ni’n cydnabod, fel y dywedais yn gynharach, manteision ehangach y dull hwn ac yn enwedig, pwysigrwydd y trydydd sector a'r sector annibynnol i’n helpu i wneud hyn yn iawn. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y ddadl adeiladol hon. Edrychaf ymlaen at ddatblygu ein dull o ragnodi cymdeithasol yng Nghymru ac i godi ymwybyddiaeth o’r manteision iechyd a chymdeithasol y gallai fod iddo. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig a'r gwelliannau ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i'r Aelodau maes o law ar y gwaith y byddwn yn ei wneud yn y cynllun arbrofol a datblygu'r dull hwn o weithredu yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NDM6314 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;

2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.

4. Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.

Derbyniwyd cynnig NDM6314 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:37.