Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a daw cwestiwn 1 y prynhawn yma gan Mark Reckless.

Seddau lle na Chynhelir Etholiad

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y seddau lle na chynhelir etholiad yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OAQ(5)0126(FLG)

Llywydd, diolch. Mae unrhyw sedd nad yw’n cael ei hymladd mewn etholiad democrataidd yn peri siom i mi. Ddydd Iau yr wythnos hon, bydd oddeutu 7 y cant o seddau’r prif awdurdodau yn cael eu llenwi heb wrthwynebiad. Roedd y ganran yn 2012 yn 12 y cant.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy’n llongyfarch y 92 o gynghorwyr a etholwyd yn ddiwrthwynebiad, gyda llawer ohonynt yn wynebau cyfarwydd mewn cymunedau clòs o bosibl. Dywedodd fod 12 y cant wedi’u hethol yn ddiwrthwynebiad yn 2012. Yr unig ffigurau sydd gennyf yw 8 y cant yn 2012 a 2008, felly nid wyf yn siŵr beth sy’n gyfrifol am yr anghysondeb hwnnw. Tybed, yng ngoleuni’r profiad yn yr Alban, a yw Ysgrifennydd y Cabinet o’r farn fod y system etholiadol a’r newid a wnaethant yn yr Alban yn ffactor, ac a fyddai’n annog y cynghorwyr a fydd yn cael eu hethol yfory i ystyried pa system sy’n addas ar gyfer eu cyngor?

Wel, Llywydd, rwy’n ymwybodol o’r system yn yr Alban. Nid wyf o’r farn y gellir honni bod y system wedi arwain yn uniongyrchol at y ffaith eu bod wedi cael etholiadau a ymleddir yno, gan fod ganddynt ardaloedd mwy o faint, wrth gwrs, gyda mwy o gynghorwyr o ganlyniad. Mae ein Papur Gwyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, yn argymell caniatáu dewis o ran y ffordd y cynhelir etholiadau—y dull o ethol i awdurdodau lleol. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn, a gobeithiaf allu gwneud datganiad i’r Cynulliad cyn diwedd tymor yr haf ynglŷn â chanlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.

Mewn perthynas â seddi un ymgeisydd, mae pob sedd yn Nwyrain Abertawe yn cael ei hymladd, er y byddai’n well gan fy nhraed pe na bai hynny’n wir, yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr Ceidwadol o Faesteg, Llandeilo, Cimla a Chastell-nedd, ac ymgeisydd UKIP o Rydaman. Yn amlwg, nid yw hynny cystal â Gorllewin Abertawe, lle y mae ganddynt ymgeisydd Ceidwadol o Lundain. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol eich bod yn byw yn ardal y cyngor rydych yn sefyll i gael eich ethol iddo?

Wel, Llywydd, credaf ei bod bob amser yn well pan fo’r ymgeiswyr mewn etholiadau lleol yn uniaethu â’r ardal honno a’u bod yn gyfarwydd i’r bobl leol. Eisoes, ceir cyfres o brofion cymhwyso y mae’n rhaid i bobl eu pasio, gan gynnwys byw, gweithio, neu fod â busnes yn yr ardal, a chyfrifoldeb y swyddogion canlyniadau yw gwneud yn siŵr fod pob ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf hynny. Ond gwna Mike Hedges bwynt diddorol, ac rwy’n eithaf sicr y bydd pobl yn ymwybodol o hynny wrth fwrw eu pleidlais ddydd Iau.

Credaf fod rhai ohonom yn teimlo ei bod yn warthus eich bod yn sefyll etholiad yn enw un blaid, yn newid i blaid arall ac yna’n cael eich ethol yn ddiwrthwynebiad. Ac efallai fod rhai ohonom hefyd yn teimlo, ar y lefel leol, yn achos ymgeiswyr annibynnol nad ydynt yn sefyll ar sail unrhyw faniffesto, ac yna’n mynd yn aelodau o gabinet ac yn gweithredu polisïau ar gyfer y siroedd hynny yn eu cyfanrwydd, y byddai’n llawer gwell sefyll dros y lliwiau rydych yn awyddus iddynt gynrychioli’r bobl, ac i sefyll dros hynny, a bod yn barod i sefyll etholiad dros hynny.

Ond mae’r pwynt ynglŷn â’r Alban yn bwynt da. Ers cyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, nid oes unrhyw etholiadau lleol un ymgeisydd wedi bod yn yr Alban. Ac yn amlwg, mae ehangu’r wardiau, gan alluogi pobl i feddwl, ‘Wel, nid wyf yn cystadlu yn erbyn cynghorydd sydd wedi bod yno ers 35 mlynedd, ac sy’n ffermwr adnabyddus’, yn caniatáu i chi greu casgliad, clymblaid, o bobl. Mae’n sicrhau bod pobl wahanol yn cael eu hethol, pobl iau, mwy o fenywod, ac ystod ehangach o bobl. Croesawaf y ffaith fod dewis yn cael ei argymell mewn perthynas â’r bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer cynghorau lleol, ond oni fyddai’n well pe bai Llywodraeth Cymru yn arwain yn hyn o beth, ac yn dweud ei bod yn well i ddemocratiaeth leol yng Nghymru fod y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gael ar gyfer Cymru gyfan?

Wel, Llywydd, mae’r ffordd y lluniwyd y Papur Gwyn yn caniatáu i’r awdurdodau lleol eu hunain wneud cyfres o ddewisiadau—pobl sy’n adnabod eu hardaloedd, ac sy’n gallu llunio’r systemau mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion a’u hamgylchiadau. Ac mae’r egwyddor honno’n rhan annatod o’r Papur Gwyn, a chredaf ei bod yn hollol iawn ei bod yn berthnasol i’r dewis o ddull etholiad, fel y mae’n berthnasol i agweddau eraill.

O ran y pwynt cyntaf a wnaeth Simon Thomas, bydd yn gwybod bod y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys argymhelliad fod yn rhaid i unrhyw un sy’n sefyll etholiad ac sy’n aelod o blaid wleidyddol sicrhau bod yr etholwyr lleol yn ymwybodol o’r cysylltiad hwnnw, hyd yn oed pan fyddant yn dewis sefyll fel ymgeisydd annibynnol, a chredaf fod hynny’n gywir a phriodol am yr union resymau a amlinellodd yn gynharach.

Pwerau Trethu

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethu i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ(5)0115(FLG)

Dirprwy Lywydd, fel rhan o’r £210 miliwn a ddarparwyd yng Nghymru i roi cymorth i fusnesau gyda’u biliau treth, mae £10 miliwn wedi cael ei ddarparu mewn cynllun penodol i gynorthwyo’r busnesau sydd ar y stryd fawr. Ni fydd galw etholiad cyffredinol yn gohirio’r cymorth hwnnw yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers cael fy ethol y llynedd, rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â busnesau bach a chymunedau ledled fy etholaeth, a chynrychiolwyr busnesau bach, megis fforwm busnes yr Wyddgrug, i wrando ar eu pryderon ac i dynnu sylw pobl atynt er mwyn gweithredu lle y bo angen. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr yn Nhreffynnon, lle y mae canol y dref wedi dioddef yn enbyd wrth i’r banciau gau, un ar ôl y llall. Ond er hynny, credaf fod egni a brwdfrydedd yno i wrthdroi ffawd y dref, gyda mentrau cyffrous fel y farchnad i bobl ifanc yn eu harddegau er mwyn annog entrepreneuriaid ifanc. Ac i lawr y ffordd yn y Fflint, cyfarfûm â pherchnogion busnesau yn ddiweddar gyda fy AS cyfatebol. Mae llawer o’r rhain wedi dioddef o ganlyniad i ailbrisio trethi busnes. Gwn fod hynny’n cael sylw, ac maent wedi diddymu hynny, ond maent hefyd yn teimlo effaith y gostyngiad dros dro yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i’r gwaith adfywio sydd wedi bod ar y gweill yng nghanol y dref. Tynnwyd fy sylw at y ffaith fod angen i ni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn greu stryd fawr iach ar gyfer y dyfodol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi ystyried sut y gellid defnyddio pwerau trethi a phwerau newydd eraill Llywodraeth Cymru at ddibenion mwy arloesol, er mwyn cynnal ein strydoedd mawr yn well a’u hannog a chaniatáu iddynt ffynnu yn y dyfodol?

Wel, Dirprwy Lywydd, un o’r ffyrdd y gobeithiaf y byddwn yn defnyddio ein cyfrifoldebau cyllidol newydd yw gallu edrych ar y rhyngweithio rhwng y gwahanol fathau o drethi yng Nghymru. Felly, mae gennym drethi annomestig ar gyfer busnesau lleol, ond mae gennym fathau eraill o drethi, a bu’r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn ofalus iawn wrth ystyried y dreth trafodiadau tir, er enghraifft, ar y ffordd y mae’r dreth trafodiadau tir yn effeithio ar y sector masnachol hefyd. Yn hanesyddol, mae Llywodraethau wedi trin y ffrydiau treth gwahanol hyn fel pe na bai fawr o ryngweithio rhyngddynt. Bydd gennym gyfres feinach o gyfrifoldebau cyllidol yng Nghymru, ond un o’r cyfleoedd y bydd hynny’n eu rhoi i ni yw’r gallu i edrych yn fanylach ar y ffordd y maent yn rhyngweithio â’i gilydd, yn arbennig er mwyn gweld sut y maent wedyn yn effeithio ar fusnesau ac ar y stryd fawr.

Ie, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn cydnabod y cynllun rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, er bod rhai o fusnesau’r stryd fawr yn dal i synnu nad ydynt yn gymwys ar ei gyfer. Ac mae’r rhai a allai fod yn gymwys yn dal i gael peth anhawster gan nad yw’r ddolen ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y wybodaeth honno yn gweithio o hyd. Ar gyfer y rhai sydd efallai ychydig yn siomedig gyda’r diffyg amrywiaeth o ran y cymorth a gynigir, a fyddech yn barod i ystyried ymrwymiad maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig i ostwng y dreth incwm yng Nghymru, yn hytrach nag ychwanegu’n unig at y toriadau i’r dreth incwm a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog Ceidwadol yn San Steffan, sydd wedi bod o fudd i lawer iawn o weithwyr yng Nghymru, wrth gwrs, ond hefyd i gynnig cymorth gwirioneddol i’r cyflogwyr ar y stryd fawr, sy’n aml iawn mewn partneriaethau neu’n unig fasnachwyr, ac nad ydynt, wrth gwrs, yn gallu manteisio ar gyfradd isel arall y Ceidwadwyr ar gyfer y dreth gorfforaeth?

Wel, mae gan y blaid sy’n Llywodraeth yng Nghymru ymrwymiad maniffesto i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod oes y Cynulliad hwn. Bydd y pleidleiswyr yn gwrando’n astud iawn ar yr hyn y mae’r Blaid Geidwadol wedi’i ddweud, neu wedi bod yn amharod i’w ddweud mewn perthynas â threthu a chredaf y byddant yn llawer mwy pryderus ynglŷn â’r rhagolwg o godiadau treth o dan Lywodraeth Geidwadol nag y byddant ynglŷn â’r rhagolwg y mae’r Aelod newydd ei amlinellu.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri rhai risgiau penodol i Gymru, ond bydd hefyd yn arwain at rai cyfleoedd, yn enwedig y gallu, er enghraifft, i osod cyfraddau rhanbarthol neu is-genedlaethol ar gyfer TAW, er enghraifft ar lety mewn gwestai, i roi hwb i’n sector twristiaeth, neu ar gyfer adnewyddu tai i roi hwb i’n sector adeiladu. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud cais i ddatganoli’r pwerau hynny i Gymru er mwyn inni gael ysgogiadau treth a fydd yn rhoi hwb i’n heconomi?

Mae Adam Price yn llygad ei le wrth gyfeirio, yn anuniongyrchol, rwy’n credu, at y ffaith fod comisiwn Silk wedi diystyru datganoli TAW ar y sail nad oedd yn dreth amrywiol ymarferol o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Pan na fyddwn bellach yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, credaf y dylid aildrafod TAW fel treth y gellid ei datganoli i Gymru gan y gallai fod yn bosibl inni ei defnyddio’n wahaniaethol. Er nad wyf yn cytuno â’r pwynt y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn atodol, cytunaf ag ef fod hwn bellach yn bwnc y dylai’r Llywodraeth, ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn, ei ystyried yn briodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn yn awr at gwestiynau gan y llefarwyr, a llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, sydd gyntaf y prynhawn yma.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Mark Reckless, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio y byddai hynny’n codi gwên—am godi mater seddi un ymgeisydd, oherwydd, mewn gwirionedd, wrth i’r pleidleiswyr fynd i bleidleisio yfory, mae’n fater eithaf difrifol pan ystyriwch na fydd 92 cynghorydd, a etholwyd eisoes, yn wynebu unrhyw gystadleuaeth o gwbl. Mae wyth y cant o seddi awdurdodau lleol Cymru yn seddi diwrthwynebiad. Yng Ngwynedd, mae’r ffigur hwnnw’n 30 y cant, gydag 21 o’r 74 sedd yn amddifadu etholwyr o bleidlais. Wrth gwrs, mae sedd ym Machynlleth ym Mhowys wedi bod yn ddiwrthwynebiad ers 37 mlynedd.

Nawr, rwy’n sylweddoli fod gan yr holl bleidiau gwleidyddol eu rhan eu hunain i’w chwarae, ond fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, a ydych chi, fel minnau, yn cymeradwyo sylwadau’r Athro Roger Scully fod hyn yn gwneud democratiaeth yn destun sbort? Sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â hyn dros weddill tymor y Cynulliad a chaniatáu i’n hetholwyr gymryd rhan lawn yn y broses ddemocrataidd?

Wel, Dirprwy Lywydd, dechreuais fy ateb i gwestiwn Mark Reckless drwy fynegi fy siom ynglŷn ag unrhyw etholiad democrataidd sydd heb gystadleuaeth ac nad yw’n cynnig dewis i’r etholwyr. Ceir pethau y gall Llywodraethau eu gwneud i sicrhau bod etholiadau’n fwy deniadol, i roi cyfle i bobl a allai fod yn barod i sefyll, drwy ein prosiect amrywiaeth mewn democratiaeth, ac yn y blaen, ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, pleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno pobl i sefyll mewn etholiad. Bydd ei phlaid ei hun yn cynnig llai na hanner nifer yr ymgeiswyr sydd eu hangen i lenwi nifer y cynghorwyr sydd eu hangen ar y prif awdurdodau yng Nghymru. Felly, mae gan bob plaid wleidyddol yng Nghymru gyfrifoldeb i geisio recriwtio pobl sy’n barod i wneud y swyddi anodd hyn, i’w gwneud yn ddeniadol i bobl. Mae gan y Llywodraeth ran i’w chwarae, ond un rhan o’r jig-so yn unig yw’r Llywodraeth, ac mewn gwirionedd, credaf fod y pleidiau gwleidyddol eu hunain yn chwarae rhan fwy pwerus.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, dylwn sôn hefyd am nifer y seddi cyngor cymuned sy’n ddiwrthwynebiad, sy’n cyrraedd y cannoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, dros y misoedd diwethaf a chyn yr etholiadau llywodraeth leol, mae pleidiau gwleidyddol o bob lliw—ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod draw fan acw, ac eithrio’r ymgeiswyr annibynnol—wedi bod yn amlinellu’r addewidion maniffesto y gall eu hetholwyr eu dwyn i gyfrif yn eu cylch yn y dyfodol. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o’r maniffesto y maent yn ei arddel a’r addewidion ynddo, ond pam fod plaid y Llywodraeth genedlaethol yma yng Nghymru, sy’n gyfrifol am lywodraeth leol yng Nghymru, wedi methu cynhyrchu maniffesto cenedlaethol ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol?

Mae’r Blaid Lafur yn ymladd etholiadau lleol gyda maniffestos ledled Cymru, ac yn esbonio i’r etholaethau lleol beth yn union y byddai awdurdod a reolir gan Lafur yn ei gynnig iddynt. Maent yn gwneud hynny yn erbyn cefndir Papur Gwyn lle y mae’r Llywodraeth hon wedi amlinellu ein polisïau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Cytunaf â’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud—fod pob plaid yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i ddemocratiaeth pan fyddant yn rhoi argymhellion gerbron yr etholwyr ac yn caniatáu i’r bobl hynny benderfynu drostynt eu hunain rhwng y gwahanol brosbectysau sydd o’u blaenau, a chredaf y gwnawn yn dda i adael i bobl wneud y penderfyniadau hynny pan fyddant yn mynd i’r blwch pleidleisio yfory.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ledled Cymru, mae awdurdodau lleol wedi ymgymryd â chynlluniau menter cyllid preifat sydd â gwerth cyfalaf o £308 miliwn ond â chyfanswm cost gyffredinol o dros £1.5 biliwn. Bydd cynllun rheoli gwastraff gwerth £53 miliwn yn Wrecsam yn costio £450 miliwn i’r trethdalwyr, bydd canolfan ddysgu gydol oes gwerth £28 miliwn yn Rhondda Cynon Taf yn costio dros £112 miliwn, a bydd y prosiect ysgolion gwerth £40 miliwn yng Nghonwy yn costio dros £175 miliwn i fy nhrethdalwyr, cost y bydd y weinyddiaeth newydd yn ei hetifeddu’n gyndyn oddi wrth y cyngor blaenorol a reolid gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur. Wrth i ni gychwyn tymor bwrdeistrefol newydd i lywodraeth leol, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn mynd dros ben llestri wrth ymgymryd â chynlluniau menter cyllid preifat costus, sydd nid yn unig yn gosod baich dyled ar weinyddiaethau’r dyfodol, ond i raddau mwy, ar ein teuluoedd gweithgar sy’n talu trethi?

Dirprwy Lywydd, byddai’n anodd i unrhyw wrandäwr gasglu o hynny heb eglurhad mai plaid yr Aelod a fu’n gyfrifol am gyflwyno cynlluniau menter cyllid preifat a’u cyflwyno’n frwdfrydig i awdurdodau lleol er mwyn eu perswadio i’w defnyddio. Mae gan rai awdurdodau lleol Ceidwadol yng Nghymru gynlluniau menter cyllid preifat hefyd. Mae’r Llywodraeth hon, yn enwedig o dan arweiniad fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wedi darparu cymorth refeniw i awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda benthyca confensiynol er mwyn eu cynorthwyo gyda’u rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac er mwyn eu helpu gyda rhai o’u cyfrifoldebau ym maes tai. Byddwn yn gwneud mwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn ym maes rheoli perygl llifogydd, ac yn y ffordd honno, byddwn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i fenthyca’n gyfrifol, i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddynt, ac i wneud gwaith pwysig iawn ar ran eu cymunedau lleol.

Diolch. Ddoe, yn ystod amser cwestiynau’r Prif Weinidog, fe bwysodd Steffan Lewis am ddiweddariad am gomisiwn gwaith teg y Prif Weinidog, ac fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru am arwydd o gefnogaeth i’r egwyddor o ddileu cytundebau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf i am ddilyn y mater ymhellach efo chi heddiw yma. A ydych chi’n cytuno efo fi, ac efo arweinwyr eich plaid chi yn Lloegr, nad oes lle i gytundebau dim oriau mewn arferion cyflogaeth cyhoeddus cyfoes?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae’r llywodraeth hon wedi rhoi cyfres o gamau gweithredu ar waith o fewn y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd i fynd i’r afael â chamfanteisio contractau dim oriau, ond mae’n rhaid i ni wneud hynny o fewn y pwerau sydd ar gael i ni, ac o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ym mis Mehefin eleni, byddwn yn gallu gwneud mwy. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at hynny.

Mi rydych chi wedi cyfeirio heddiw, ac mi gyfeiriodd y Prif Weinidog ddoe, at yr ‘issues’ yma sydd yng Nghymru ynglŷn â dileu contractau dim oriau, ac rydych chi wedi dadlau yn y gorffennol y byddai cynnwys gwelliannau i ddileu contractau dim oriau yn y Bil gwasanaethau cymdeithasol wedi gallu tanseilio’r Bil gan ei wneud o’n agored i her yn yr Uchel Lys.

Ond, mi fyddai hi wedi bod yn bosib i chi gyflwyno Bil ar wahân, yn benodol am gytundebau dim oriau o fewn y sector gofal—mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’u datganoli—ond, yn hytrach, rydych chi wedi pleidleisio yn erbyn dileu cytundebau dim oriau ar salw achlysur. Pam nad ydych chi wedi chwilio am ffyrdd a fyddai yn eich galluogi chi i ddileu cytundebau dim oriau ym maes gofal, gan roi parch i’r gweithwyr hollbwysig yma?

Wel, Dirprwy Lywydd, yn y Cynulliad blaenorol, nid oedd y Llywodraeth yn barod i weld Bil cyfan yn cael ei beryglu yn sgil gwelliannau a gyflwynai’r gwrthbleidiau ar y mater hwn yn unswydd er mwyn tynnu sylw, ac mae’n gwbl anghywir—yn gwbl anghywir—i ddweud nad oes unrhyw gamau pellach wedi cael eu cymryd. Mae’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a hebryngais drwy’r Cynulliad Cenedlaethol yn darparu pwerau penodol i Weinidogion Cymru ymateb i’r defnydd o gontractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol, a gwn fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn llawn fwriadu cyflwyno argymhellion cyn bo hir.

Mae’n ymddangos i mi fod yna fwlch anferth rhwng yr hyn y mae Llafur yn ei ddweud a’r hyn y mae Llafur yn ei wneud. Mae yna fwlch rhwng llywodraeth Lafur Caerdydd ac arweinwyr Llafur yn Lloegr, a hefyd bwlch rhwng yr hyn y mae Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn ei ddweud a beth y mae cynghorau Llafur ar lawr gwlad yn ei wneud. Rwy’n sôn yn benodol yn fan hyn am gynlluniau i annog pobl i siopa ar y stryd fawr a’r arian sydd wedi’i glustnodi i gynghorau sir i gefnogi mentrau parcio—£3 miliwn i gyd—yn sgil cytundeb rhwng Plaid Cymru a chithau. Yn anffodus, mae cyngor Nedd Port Talbot yn dewis defnyddio’r £133,000 a oedd i fod i helpu’r stryd fawr i ‘offset-io’ gorwariant ar barcio, yn erbyn y cyfarwyddyd penodol a roddwyd gan eich Llywodraeth chi. A ydych chi’n cytuno fod hyn yn mynd yn hollol groes i’w bwriad ac yn ddefnydd cwbl aneffeithiol o’r pot penodol hwn o arian?

Dirprwy Lywydd, byddwn yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae’r arian a ddarparwyd at y diben hwn ac ar sail treialu arbrofol o’r fath—y ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Rwy’n fodlon â’r ffaith y bydd gwahanol awdurdodau lleol yn dewis defnyddio’r arian mewn ffyrdd gwahanol, ond rwy’n dweud yn glir iawn wrthynt fy mod yn disgwyl i bob awdurdod lleol ddefnyddio’r arian mewn ffordd sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwnnw gyda’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru dros y 12 mis nesaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, mae rhai o’ch diwygiadau arfaethedig i lywodraeth leol yn galonogol iawn. Ymddengys eich bod yn awyddus i gael mwy o dryloywder, ac efallai hefyd eich bod yn derbyn y syniad fod angen mwy o amrywiaeth barn weithiau. Nid yw trigolion lleol yn cael budd go iawn o gynghorau sy’n cael eu rhedeg fel gwladwriaethau un blaid. A fyddech yn croesawu pe bai cynghorau’n cael gwared ar y system gabinet a dychwelyd at yr hen system bwyllgorau, a oedd yn galluogi aelodau o bob plaid i gymryd rhan yn y gwaith o redeg y cyngor?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae ein Papur Gwyn yn rhoi’r system bwyllgorau yn ôl ar y bwrdd fel rhywbeth y gall awdurdodau lleol ei ddewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’n rhan o’r dull bwydlen a amlinellais yn gynharach. Rwy’n fodlon iawn â’r syniad mai’r hyn y byddem yn ceisio ei wneud fel Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau bod dewisiadau ar gael i awdurdodau lleol iddynt allu eu defnyddio. Rwy’n fodlon iawn fod y system bwyllgor—system bwyllgor fodern, ddiwygiedig—ar y rhestr fel un o’r ffyrdd y gall yr awdurdodau lleol sy’n awyddus i wneud hynny eu dewis er mwyn trefnu’r modd y byddant yn gwneud eu gwaith.

Diolch am eich ateb. Mae’r dewis yn swnio fel datblygiad i’w groesawu. Fodd bynnag, tybed a fyddai pleidiau sydd wedi bod yno ers amser hir ac sydd wedi bod yn rhedeg eu cyngor ers peth amser yn barod i gyflwyno newid system o’r fath yn wirfoddol, ond cawn weld. Mae lleoliaeth yn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo o bryd i’w gilydd gan eich Llywodraeth. Mae UKIP hefyd yn cefnogi lleoliaeth. Rydym yn awyddus i ganiatáu i drigolion lleol wneud penderfyniadau ynglŷn â datblygiadau cynllunio mawr yn eu hardaloedd. Mewn geiriau eraill, rydym yn awyddus i gael refferenda lleol sy’n rhwymo mewn cyfraith. A yw hon yn enghraifft o leoliaeth y byddech yn ei ffafrio?

Nac ydy. Nid wyf yn credu mewn Llywodraeth drwy refferendwm. Nid wyf yn credu bod iddo hanes o werth. Nid wyf yn credu ei fod yn arwain at benderfyniadau effeithiol, cyfannol. Nid wyf yn credu ei fod yn cyfrannu at wneud penderfyniadau’n gyflym. Nid yw’n rhan o’r Papur Gwyn, ac nid oes gennyf gynlluniau i’w gynnwys ar hyn o bryd.

Iawn, diolch am eich ateb clir iawn. Rydym ni yn UKIP yn bryderus ynglŷn â thargedau ailgylchu eich Llywodraeth. Teimlwn y gallai llai o gasgliadau bagiau du fod yn niweidiol i drigolion. A ydych yn cytuno y dylai gwasanaeth safonol ar gyfer preswylwyr gynnwys casgliadau pob pythefnos fan lleiaf?

Wel, Dirprwy Lywydd, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain yw penderfynu ar y systemau sy’n gweddu orau i’w hanghenion a’u hamgylchiadau lleol. Ni allwch siarad o blaid manteision lleoliaeth mewn un cwestiwn a gofyn wedyn i mi bennu o’r fan hon yng Nghaerdydd y ffordd y caiff biniau eu casglu mewn gwahanol rannau o Gymru; nid yw honno’n ffordd gyson o ymdrin â llywodraeth leol. Nid wyf ychwaith, gyda llaw, yn credu bod y dystiolaeth yn dangos bod gwahanol batrymau ar gyfer casglu biniau’n cael effaith andwyol ar ailgylchu.

Buddsoddi mewn Seilwaith

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru? OAQ(5)0119(FLG)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn y gyllideb a gymeradwywyd ym mis Ionawr, nodwyd cynlluniau gennym ar gyfer darparu bron i £7 biliwn mewn buddsoddiad cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf, gyda phwyslais penodol ar barhau i fuddsoddi mewn tai, trafnidiaeth, ysgolion ac ysbytai.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i £1 biliwn o fuddsoddiad arloesol mewn seilwaith ar gyfer tri phrosiect buddsoddi cyfalaf mawr drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol ym mis Mawrth yn newyddion calonogol iawn. Ac yn wir, mae’n dangos bod Llywodraeth Lafur Cymru, yn y cyfnod heriol hwn yn ariannol, yn wynebu’r her o ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd a sut y bydd busnesau’n gallu tendro am y prosiectau a gyflwynir drwy’r model hwn?

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn pwysig? Efallai ei bod yn ymwybodol ein bod wedi cynnal diwrnod profi’r farchnad llwyddiannus iawn ar 23 Mawrth. Fe’i mynychwyd gan fy nghyd-Aelodau Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mynychodd dros 250 o gynrychiolwyr o ystod eang o fusnesau yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw i glywed mwy am y cyfleoedd y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn eu cynnig. Rydym bellach yn gallu darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i’r rhai sydd â diddordeb. Bydd yr achosion busnes yn cael eu datblygu ymhellach, ac rydym wedi cynllunio rhagor o ddigwyddiadau dros yr haf er mwyn sicrhau bod busnesau ym mhob rhan o Gymru mor ymwybodol â phosibl o’r cyfleoedd newydd hyn ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i Joyce Watson, cyfeiriasoch at welliannau i’r seilwaith trafnidiaeth, ac yn wir, cafwyd sawl cyhoeddiad mewn perthynas â buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w wneud, naill ai ar ei phen ei hun neu mewn partneriaeth ag eraill yn ne Cymru—ffordd liniaru’r M4, terfynfeydd newydd ym Maes Awyr Caerdydd, system metro de Cymru ac ati. Ac rydych wedi gwneud cyhoeddiad mewn perthynas â gogledd-ddwyrain Cymru, ond beth am weddill Cymru, ac etholaethau fel fy un i? Ceir tagfeydd cyson ar yr A55 yng ngogledd Cymru ac mae hynny’n achosi pwysau ar y diwydiant twristiaeth a busnesau eraill yng ngogledd Cymru, yn ogystal â thrigolion sy’n defnyddio’r ffordd honno yn aml. Nid oes llain galed ar rannau helaeth o’r ffordd honno, ac mae angen gwella ein seilwaith trafnidiaeth hefyd. Pa fudd a ddaw i ogledd-orllewin Cymru a chanol gogledd Cymru o ganlyniad i welliannau Llywodraeth Cymru i’r seilwaith trafnidiaeth?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n hapus iawn i dynnu sylw’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am roi’r rhaglen ar waith at fanylion cwestiwn yr Aelod. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru, gan fynd i’r afael â’r materion hynny sydd angen sylw ar frys ac sy’n darparu’r manteision mwyaf ar gyfer y boblogaeth leol. Mae’r Aelod yn gwneud y pwynt ar ran ei etholwyr fel y byddech yn disgwyl iddo’i wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun buddsoddi sydd gennych yn Llywodraeth Cymru yn enfawr, ond dylid defnyddio caffael fel arf i gefnogi busnesau Cymru, yn enwedig yn fy ardal i gyda’r diwydiant dur. Beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, mewn gwirionedd, i gefnogi’r diwydiannau hynny drwy gaffael, a pha strategaethau rydych yn eu rhoi ar waith yn hynny o beth?

Dirprwy Lywydd, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach ynglŷn â’r cyfleoedd a allai ddod mewn perthynas â TAW ar ôl Brexit, mae’n rhaid i ni ddweud bod y ffyrdd y gellir datblygu polisi caffael y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn faes arall pwysig iawn y mae angen i ni weithio arno yma yng Nghymru, ac mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar hynny. Nid yw hynny wedi ein hatal rhag gwneud cryn dipyn o waith eisoes ar gaffael mewn perthynas â’r diwydiant dur. Mae grŵp penodol wedi dod ynghyd, mae adroddiad wedi cael ei gynhyrchu ac mae’n nodi cyfleoedd ar gyfer defnyddio dur Cymru mewn penderfyniadau buddsoddi yng Nghymru. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario o bwrs y wlad ar seilwaith Cymru yn cyd-fynd â chyfleoedd i fusnesau Cymru, yn enwedig y diwydiant dur, elwa ar y lefel sylweddol iawn honno o fuddsoddiad.

Cyngor Ynys Môn

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Ynys Môn? OAQ(5)0116(FLG)[W]

Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae ymyrraeth uniongyrchol gan Weinidogion yn Ynys Môn wedi darparu platfform sydd wedi arwain at gynnydd o ran darparu gwasanaethau. Er ein bod ni wedi gweld gwelliannau pwysig, mae pryderon difrifol yn parhau, fel y gwelsom yn adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar ynghylch gwasanaethau plant ar yr ynys.

Eisiau holi am un gwasanaeth penodol ydw i, gwasanaeth pwysig i gyngor Môn, fel i awdurdodau lleol ledled Cymru, sef gofalu am ffyrdd. Mae yna dueddiad, onid oes, o weld gwaith ffyrdd yn cynyddu’n arw ym misoedd cyntaf y flwyddyn, wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol nesáu. Ond, nid hyn yw’r ffordd orau i sicrhau safon gwaith a gwerth am arian, achos nid misoedd y gaeaf ydy’r amser gorau i ailwynebu ffyrdd. Mae’r ffordd newydd yn para yn llai o’i wneud o mewn tywydd oer, mae’r dyddiau gwaith yn fyrrach, a hefyd mae gwneud llawer o waith cynnal a chadw ar un adeg yn golygu nad ydy’r capasiti, o bosib, gan gwmnïau lleol i ymwneud â’r gwaith. Yr ateb, efallai, fyddai sicrhau bod gwaith yn cael ei rannu yn decach ar draws y flwyddyn, a chaniatáu i wneud mwy o waith hefyd yn ystod misoedd yr haf. Mae’r un peth yn wir am adran priffyrdd y Llywodraeth. Rŵan, rydw i’n sylweddoli nad y Gweinidog yma sy’n gyfrifol am drafnidiaeth a ffyrdd, ond fel Gweinidog cyllid a Gweinidog llywodraeth leol, pa waith sydd wedi cael ei wneud neu pa waith ydych chi’n ystyried ei wneud i chwilio am fodelau strwythurau cyllidol newydd i helpu dyrannu arian cynnal a chadw ffyrdd yn fwy hafal ar draws y flwyddyn?

Wel, Dirprwy Lywydd, rydw i’n derbyn y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud—dyna un o’r rhesymau pam roeddwn i’n awyddus i gyhoeddi y cyfalaf am y pedair blynedd sydd i ddod, i helpu awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i gynllunio’n well i ddefnyddio’r cyfalaf sydd ar gael iddyn nhw. Ar ôl yfory, pan fydd y cynghorau sir newydd yna, rydw i’n bwriadu mynd o gwmpas yn ystod yr haf i gwrdd gyda phob awdurdod lleol, ac rwy’n hollol hapus i godi’r pwynt mae Rhun ap Iorwerth wedi codi prynhawn yma a’i drafod e gyda phobl leol i weld os gallant wneud pethau yn well yn y dyfodol.

Bedwar diwrnod yn ôl, ymunais â gwasanaeth allgymorth y Cynulliad ar ymweliad â’r pod ieuenctid yng Nghaergybi, ac fe’i cymeradwyaf i chi. Addewais i bobl ifanc yno sydd wedi hyfforddi fel addysgwyr cymheiriaid ar gyfer Prosiect Lydia—prosiect addysg rhyw a pherthnasoedd ar gyfer pobl ifanc—y byddwn yn nodi eu pryderon yma. Cefais gopi ganddynt o adroddiad diwedd blwyddyn cydgysylltydd y prosiect, hyd at fis Ebrill 2017, a ddangosai eu bod wedi rhoi cymorth wyneb yn wyneb i bobl ifanc 584 o weithiau, gyda thystiolaeth eu bod yn sicrhau iechyd corfforol a chymdeithasol gwell, ond o ystyried casgliad yr adroddiad, mae’n amlwg fod angen addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysfawr a chefnogaeth barhaus ar bobl ifanc gymaint ag erioed, os nad yn fwy nag erioed. Fodd bynnag, mae’n siomedig ei bod yn ymddangos nad oedd cyngor Ynys Môn na bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud unrhyw ymdrech i godi arian ar gyfer cynnal y prosiect gwerthfawr hwn, neu hyd yn oed wedi rhoi cyfle i’r staff wneud hynny. Mae hwn yn fater amlasiantaethol, a chredaf felly ei fod yn rhan o’ch portffolio ehangach, a thybed pa gamau y gallech eu cymryd i gefnogi’r bobl ifanc ardderchog hyn.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am dynnu sylw at y mater hwn? Yn gyffredinol, gwn fod gan fy nghyd-Aelod Kirsty Williams grŵp sy’n edrych ar sut y gellir gwella addysg perthnasoedd i bobl ar yr adeg honno yn eu bywydau yng Nghymru. Pe bai’r Aelod yn barod i ddangos copi o’r adroddiad diwedd blwyddyn i mi, byddwn yn fwy na pharod i edrych arno a gweld a oes unrhyw gamau y gallem eu cymryd i gefnogi’r grŵp hwnnw.

Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyfraniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0120(FLG)

Diolch am eich cwestiwn. Yn ariannol, bydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyfraniad o £503 miliwn i fargen ddinesig gwerth £1.2 biliwn prifddinas Caerdydd. Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’r 10 awdurdod lleol yn eu hymdrech gydweithredol i ddarparu manteision y fargen ar draws y rhanbarth cyfan.

Gan edrych ar y gyfnewidfa drafnidaeth a nodwyd ar gyfer y Sgwâr Canolog, sy’n rhan hanfodol o’r strategaeth drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd, tybed a allwch roi taw ar beth o’r nonsens y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn ei ledaenu’n hapus braf ynglŷn â dymchwel yr orsaf fysiau heb unrhyw gynlluniau i’w hailadeiladu, a dweud wrthym nad oes arian i godi cyfnewidfa newydd ar gyfer bysiau/rheilffyrdd ysgafn, sydd wrth gwrs yn gwbl hanfodol i sicrhau newid moddol, mynd i’r afael â llygredd aer a galluogi pobl sy’n cyrraedd ar drenau i gwblhau eu teithiau, boed hynny ar feiciau, ar fysiau neu ar reilffyrdd ysgafn. Felly, tybed a allwch roi taw ar y sibrydion enllibus sydd wedi cael eu lledaenu, nad oes unrhyw arian ar gael i ailadeiladu’r orsaf fysiau, a dweud wrthym pa gyfraniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall y cyngor Llafur newydd gwblhau’r darn hanfodol hwn o’r jig-so mewn perthynas â thrafnidiaeth gynaliadwy.

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn atodol. Mae bob amser wedi ymddangos i mi, Dirprwy Lywydd, fod Caerdydd, fel dinas, yn ffodus iawn fod y gyfnewidfa fysiau a’i phrif orsaf drenau’n ddigon agos at ei gilydd i allu creu’r math o gysylltiad trafnidiaeth y cyfeiriodd ato. Mae awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol yn rhan annatod o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd er mwyn sicrhau y gellir cydgysylltu a chyflunio’n briodol y ffordd y mae trafnidiaeth yn rhedeg ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei gyfanrwydd. Rwy’n ffyddiog fod yr orsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd wedi’i chynllunio’n briodol, wedi’i hariannu’n briodol ac y bydd yn darparu gwasanaeth ardderchog, i ddinasyddion Caerdydd ac i’r bobl o weddill Cymru sy’n dod i’n prifddinas.

Yn amlwg, gyda’r etholiadau llywodraeth leol yfory, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr. Fe fyddwch chi’n dweud eich bod yn mawr obeithio y bydd pobl yn pleidleisio dros y Blaid Lafur. Ond gwyddom mai’r hyn sydd dan sylw yw bargen ddinesig sydd angen, yn amlwg, i’r holl bartneriaid weithio er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni, ac yn benodol, mewn perthynas â’r atebion trafnidiaeth a fydd, gobeithio, yn rhyddhau’r rhan hon o Gymru, ar draws de-ddwyrain Cymru i gyd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ac yn helpu i adeiladu partneriaeth ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol, waeth beth fo cyfansoddiad awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau cynnydd gwirioneddol ar yr atebion trafnidiaeth sy’n rhan o’r fargen ddinesig a gyflwynwyd drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a busnesau?

A gaf fi gytuno â’r Aelod mai un o brif gryfderau bargen ddinesig prifddinas Caerdydd yw bod cynghorau o wahanol dueddiadau gwleidyddol wedi gallu dod at ei gilydd, wedi gallu cytuno ar ffurf o wneud penderfyniadau sy’n golygu y gallant siarad ag un llais ar faterion y mae eu harwyddocâd yn ymestyn y tu hwnt i’r lleol, ac sydd o bwys i bobl ledled y rhanbarth? Mae hynny’n arbennig o wir mewn perthynas â thrafnidiaeth. Mae metro de Cymru yn un o’r prosiectau gwirioneddol drawsnewidiol hynny. Mae’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn gweithredu, mae’n dibynnu ar Lywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan, mae gwerth £105 miliwn o arian Llywodraeth ganolog wedi’i glustnodi ar ei gyfer, ac er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyfle hwnnw, rhaid i ni allu dangos gallu i weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol ac ar draws lefelau o Lywodraeth hefyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu, ar ôl yfory, pan fyddwn yn gwybod beth fydd tirwedd newydd llywodraeth leol ledled Cymru, i weithio gyda’r partneriaid hynny i sicrhau, gyda’n gilydd, y gallwn wneud i rywbeth arwyddocaol iawn ddigwydd ar gyfer y boblogaeth yn y rhan hon o Gymru.

Darlledu Cyfarfodydd Cynghorau Ar-lein

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarlledu cyfarfodydd cynghorau ar-lein yng Nghymru? OAQ(5)0123(FLG)

Diolch i Gareth Bennett am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i ddarlledu eu cyfarfodydd. Ar hyn o bryd, mae 18 o awdurdodau lleol yn darlledu cyfarfodydd cyngor llawn, ac mae rhai awdurdodau lleol yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn darlledu cyfarfodydd eraill hefyd. Mae’r Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn argymell gwneud darlledu cyfarfodydd cyngor yn ofyniad statudol.

Ie, diolch am hynny. Er bod y Llywodraeth wedi yma wedi darparu arian, ni chredaf ei bod yn system a roddwyd ar waith yn gyffredinol ac yn gyson, felly byddai’n dda pe gallai bob cyngor ddarlledu cyfarfodydd cyngor llawn fan lleiaf. Gobeithio y byddwch yn cadw at hyn, ac rwy’n siŵr y gwnewch. Mae’n dda fod rhai o’r cynghorau hefyd yn darlledu cyfarfodydd cabinet, ac mae hynny i’w groesawu. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd y byddwch yn mynd ar drywydd hyn wedi’r etholiadau lleol?

Wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Credaf fod hawl gan boblogaethau lleol i weld yr hyn sy’n digwydd yn eu henw yn siambrau eu cynghorau. Dyna pam fod y Papur Gwyn yn argymell y dylai darlledu cyfarfodydd cyngor fod yn ofyniad statudol, yn hytrach na chais i’r awdurdodau lleol yn unig, ac mae’r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru’n dilyn y llwybr hwnnw eisoes. Gobeithiaf y bydd ein Papur Gwyn yn rhoi ysgogiad pellach i wneud hynny ledled Cymru.

Gwasanaethau Ieuenctid Lleol

7. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag awdurdodau lleol i sicrhau defnydd arloesol o gyllid i ddiogelu gwasanaethau ieuenctid lleol? OAQ(5)0124(FLG)

Diolch i David Melding. Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, ac yn trafod nifer o faterion ariannol. Yn ddiweddar, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddatganiad yma yn y Cynulliad ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru.

A ydych yn cytuno â mi mai’r pwynt allweddol yma yw bod yn arloesol? Yn amlwg, mewn sefyllfaoedd pan fo cyllidebau dan bwysau, mae’n rhaid inni edrych ar ffynonellau cyllid neu bartneriaethau eraill, ac o ystyried lefelau cyflogau prif weithredwyr ac uwch swyddogion gweithredol mewn llywodraeth leol—sy’n llawer uwch na chyflogau Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru—maent mewn sefyllfa i roi’r math hwnnw o arweiniad ac arloesedd, a dyna’r lefel uchel y dylem fod yn ei disgwyl.

Wel, rwy’n cytuno â David Melding fod yn rhaid i’r awdurdodau lleol eu hunain ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau lleol pwysig iawn mewn cyfnodau anodd. Dirprwy Lywydd, os ydych yn fodlon, hoffwn fanteisio am eiliad ar y cyfle i roi ychydig bach o gyhoeddusrwydd i’n cronfa arloesi i arbed newydd: gwerth £5 miliwn o arian, a ddaw yn sgil adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Cynulliad hwn, a fydd yn caniatáu i wasanaethau ieuenctid ac eraill wneud ceisiadau ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau. Y dyddiad cau ar gyfer y gronfa newydd yw 23 Mai ac rydym yn mawr obeithio y daw ceisiadau i law ym maes gwasanaethau plant ac ieuenctid yng Nghymru.

Prosiectau Ynni Cymunedol

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ardrethi busnes mewn perthynas â phrosiectau ynni cymunedol? OAQ(5)0117(FLG)[W]

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae sawl cynllun ar gael i helpu busnesau bach gydag ardrethi annomestig. Mae dros £210 miliwn o gymorth yn cael ei ddarparu yn 2017-18. Mae’r cynlluniau hyn ar gael i bob busnes sy’n bodloni’r meini prawf, gan gynnwys projectau ynni cymunedol.

Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod y sector ynni dŵr cymunedol wedi’i effeithio’n wael iawn wrth i ardrethi busnes cael eu hail-werthuso. Mae dros 92 y cant o gynlluniau hydro yng Nghymru yn wynebu cynnydd anferthol, hyd at 900 y cant. Roedd eich maniffesto chi ar gyfer 2016 yn nodi cefnogaeth eich plaid i gynlluniau ynni cymunedol. A fedrwch chi ymrwymo i gynnig pecyn gostyngiad trethi hael i gefnogi prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban? Mi fyddai hyn yn help mawr, ac yn gyfle i’ch Llywodraeth gefnogi’r sector mewn gweithred yn ogystal â gair.

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol yna, ac, wrth gwrs, rydw i’n ymwybodol o’r pethau mae pobl yn y sector yn eu dweud. Mae fy nghydweithwraig i Lesley Griffiths wedi cyfarfod â’r grŵp gorchwyl a gorffen ar ynni dŵr i drafod yr adroddiad ar fesurau i gefnogi’r diwydiant ynni dŵr yng Nghymru, ac rydw i’n gwybod ei bod hi’n mynd i gynnal cyfarfod pellach gyda’r grŵp. Yn y cyfamser, mae ei swyddogion hi, a fy swyddogion i hefyd, yn parhau i weithio gyda chynrychiolwyr diwydiant projectau ynni cymunedol i asesu effaith yr ymarfer ailbrisio 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Wrth gwrs, rydw i wedi dweud yn barod, Dirprwy Lywydd: rydym ni’n mynd i baratoi cynllun parhaol newydd ar ryddhad ardrethi busnesau bach o 2018 ymlaen, ac rydw i’n fodlon, fel rhan o’r cynllun parhaol newydd, ystyried yr achos ar gyfer cymorth benodol i rai busnesau, gan gynnwys projectau ynni cymunedol ac ynni dŵr. A hefyd, bydd hyn yn cynnwys asesiad o’r sefyllfa yn yr Alban.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yw eitem 2 ar yr agenda. Mae gennym dri chwestiwn y prynhawn yma. Bydd y Llywydd, fel cadeirydd y Comisiwn a’r Comisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu, yn ateb y ddau gyntaf, a bydd y trydydd yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson, sef y Comisiynydd cydraddoldeb a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Felly, daw’r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Senedd.tv a YouTube

1. A wnaiff Comisiwn y Cynulliad roi dyddiad penodol ar gyfer symud o Senedd.tv i YouTube? OAQ(5)0005(AC)

Rydym yn gweithio ar ddangos trafodion y Cynulliad yn fyw ar gynifer o blatfformau â phosibl, gan gynnwys Senedd.tv, Facebook Live a YouTube. Lansiwyd y Cyfarfodydd Llawn yn fyw ar YouTube ddoe. Rydym ar YouTube yn awr. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Pan gyflwynwyd fy nghwestiwn, nid oedd hynny wedi digwydd, felly rwy’n gobeithio bod cyflwyno fy nghwestiwn, mewn rhyw ffordd fach, wedi ysgogi’r penderfyniad neu achosi’r newid o bosibl. Ond ni waeth sut y digwyddodd, rwyf wrth fy modd fod y newid wedi’i wneud bellach, a chroesawaf y datblygiad yn fawr. Nid oes amheuaeth fod Senedd.tv wedi chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod y Cynulliad yn hygyrch i aelodau’r cyhoedd. Mewn oes pan fo’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan mor fawr yn y ffordd y mae Aelodau’r Cynulliad yn cyfathrebu â’u hetholwyr, rhaid bod sicrhau bod trafodion y Cynulliad ar gael ar gyfryngau mwy hygyrch, sydd hefyd yn fwy cydweddol â phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, yn gam cadarnhaol o ran codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad. Wrth gymeradwyo’r newid, Llywydd, a gaf fi ofyn i’r Comisiwn roi trefniadau cynnar ar waith i ddarparu hyfforddiant priodol i alluogi Aelodau’r Cynulliad a’u staff i fanteisio i’r eithaf ar y potensial i roi cyhoeddusrwydd i’r trafodion drwy gyfryngau cymdeithasol, a fydd ynddo’i hun yn gymorth i Aelodau roi gwybod i’w hetholwyr am eu gwaith yn y Cynulliad?

Diolch am eich cwestiwn atodol ac am amseru ardderchog eich cwestiwn i’r Comisiwn. Er eglurder, bydd Senedd.tv yn parhau i fod yn un o’r platfformau sydd ar gael i ni, ond mae YouTube bellach yn dechrau yr wythnos hon, yn ogystal â chyfleoedd Facebook Live hefyd. Mae nifer o bwyllgorau, yn enwedig, wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio Facebook Live, a byddwn yn datblygu hynny ymhellach.

Fel y gwyddoch, mae’r Comisiwn wedi sefydlu’r tasglu digidol i roi argymhellion arbenigol i ni ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r diffyg sylw gan y cyfryngau traddodiadol i’r hyn a wnawn yn y lle hwn, a sut y gallwn ddefnyddio cyfryngau newydd a thechnoleg newydd i gyflwyno’r gwaith a wnawn yma ar ran pobl Cymru at bobl Cymru’n uniongyrchol—i’w cartrefi ac i’w ffonau ar yr un pryd. Rydych yn nodi’r pwynt pwysig iawn fod rhai ohonom—rhai ohonoch—yn gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn dda iawn, yn ogystal â’ch staff; ond nid yw eraill yn gallu dilyn popeth sy’n digwydd. Byddaf yn mynd â’r mater yn ôl at y Comisiwn i ystyried sut i sicrhau bod Aelodau’r lle hwn a’u staff cymorth yn cael eu hyfforddi i’n galluogi i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i ni bellach drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau newydd.

Y Cyhoedd a’r Cynulliad

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am waith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo mynediad a dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Cynulliad? OAQ(5)0007(AC)[W]

Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac mae hyrwyddo’r Cynulliad yn un o’n prif flaenoriaethau. Cafodd strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd ei chymeradwyo ym mis Ionawr, sy’n cynnwys dwy fenter newydd allweddol, sef sefydlu senedd ieuenctid i Gymru a chyflawni argymhellion y tasglu gwybodaeth a newyddion digidol y disgwylir iddo gyflwyno adroddiad yn y tymor yma.

Diolch i’r Llywydd am yr ateb. Mae’n bosibl ei bod yn rhy hwyr ar gyfer ambell i berson y gwnes i gwrdd â nhw yn sioe Nefyn ddydd Llun, a oedd yn dal ddim yn credu’r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a’r Llywodraeth, ond, gyda’r to ifanc, ar gyfer pobl ifanc, mae’n hynod o bwysig eu bod yn gweld y gwaith rŷm ni’n ei wneud yma fel Cynulliad. Felly, roeddwn yn croesawu’r ffaith bod staff Comisiwn y Cynulliad yn y sioe ddydd Llun yn hyrwyddo’r ymgynghoriad sydd ar gael nawr ar senedd i bobl ifanc Cymru. A wnaiff y Llywydd felly amlinellu mwy o’r amcanion ar gyfer sefydlu senedd o’r fath, ac yn arbennig sut y bydd senedd o’r fath yn gallu cynrychioli pobl ifanc yn y gwahanol ardaloedd ac etholaethau yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn, sydd yn amserol hefyd, fel mae’n digwydd, gan ein bod ni, fel Comisiwn a Chynulliad, wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad gyda phobl yng Nghymru—pobl ifanc yng Nghymru yn benodol—ar sut y byddwn yn ei sefydlu, a pha fath o senedd ieuenctid yr ŷm ni yn mynd i’w sefydlu yma, i gyd-redeg gyda’n Cynulliad ni. Rŷm ni wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad yna yn Ysgol Bro Pedr ddydd Gwener diwethaf. Rwy’n falch bod sioe Nefyn wedi bod yn gyfle hefyd i gysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc. Bydd yr ymgynghoriad yna yn mynd ymlaen tan ddiwedd mis Mehefin. Felly, rwy’n annog pob Aelod Cynulliad fan hyn i sicrhau bod pobl ifanc yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau yn cymryd rhan, yn rhannu eu barn nhw ar ba fath o senedd ieuenctid yr ŷm ni eisiau ei gweld yma yng Nghymru. Pobl ifanc Cymru wnaeth ofyn i ni fel Aelodau Cynulliad i sefydlu senedd ieuenctid yma yng Nghymru yn y lle cyntaf. Rŷm ni eisiau iddyn nhw deimlo perchnogaeth o’r senedd ieuenctid yna o’r cychwyn cyntaf, ac rwy’n gobeithio, wrth inni symud ymlaen i wrando ar eu barn nhw, yn ffurfio’r senedd ieuenctid yna, y byddwn ni’n gallu gwneud hynny wrth fynd drwy’r hydref, ac y bydd ein senedd ieuenctid ni yma yng Nghymru am y tro cyntaf yn cael ei sefydlu ar gychwyn 2018.

Cynulliad Cyfeillgar i Blant

3. Beth y mae Comisiwn y Cynulliad yn ei wneud i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy cyfeillgar i blant? OAQ(5)0006(AC)

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i fod yn gyfeillgar i deuluoedd, ac yn y Senedd, mae gennym gyfleusterau hygyrch a chyfeillgar i deuluoedd sy’n cynnwys cyfleusterau newid babanod, siop goffi hygyrch, a rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau wedi’i hanelu at deuluoedd. Byddwn yn ymgynghori â’r teuluoedd sy’n ymweld i gael eu barn ar welliannau pellach i’r amgylchedd hwnnw.

Diolch i Joyce Watson am ei hymateb. Caf fy ysgogi i ofyn y cwestiwn hwn gan ei bod yn ymddangos bod yr ystafell rhieni a phlant wedi troi’n ystafell gyfarfod. Ac wrth siarad, rwy’n sôn am blant ifanc iawn yn awr, gan y credaf fod y plant oed ysgol a ddaw yma mewn grwpiau yn cael gwasanaeth gwych yn y Cynulliad hwn. Ond nid oedd yr ystafell rhieni a phlant erioed yn ystafell rhieni a phlant mewn gwirionedd, gan na fu erioed unrhyw beth yno ar gyfer plant, felly roedd wedi’i chamenwi braidd. Ond credaf fod problem gennym os daw teuluoedd yma; os yw mamau’n dymuno bwydo ar y fron ac eisiau preifatrwydd, mae angen rhywle cyfforddus a phreifat arnynt i allu gwneud hynny, ac ni chredaf fod yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, sef y cyfleuster newid plant rwy’n tybio, yn addas. Ac nid oes cadair addas i famau fwydo ar y fron, er y gellir cael gafael ar un yn hawdd iawn. Felly, rwy’n gofyn mewn gwirionedd a gawn ni ailasesu hyn i gyd a gweld sut y gallwn sicrhau bod y lle hwn yn gyfeillgar i blant, gan nad oes meithrinfa gennym ar gyfer rhieni sy’n ymweld, yn anffodus, ac mae hynny’n siomedig, mewn gwirionedd, oherwydd, wyddoch chi, pan fydd pobl yn dod i roi tystiolaeth i bwyllgorau, neu pan fyddant yn ymweld, byddai’n dda pe bai gennym ystafell sy’n cynnwys teganau a gemau i blant, hyd yn oed os na allwn ddod i ben â meithrinfa. Mae’n flin gennyf ddweud fy mod yn credu bod adeilad y Cynulliad ar ei hôl hi yn y pethau hyn felly gofynnaf i chi edrych o ddifrif ar gadair addas ar gyfer bwydo ar y fron, rhywle preifat a chyfforddus, cyfleusterau gyda gemau ar gyfer plant bach, a rhywbeth i sicrhau ei fod yn lle llawer mwy cyfeillgar i deuluoedd.

Rwy’n cytuno â phopeth rydych newydd ei amlinellu. I’r perwyl hwnnw, rwyf wedi cyfarfod â staff yma i ystyried sut y gallwn wella’r cyfleusterau. Rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch nad oedd unrhyw beth yn yr ystafell rhieni a phlant, ei bod yn ddiwerth yn hynny o beth, ond gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod wedi cydnabod y gwendidau hynny a’n bod yn mynd ati i wneud rhai o’r newidiadau hynny. Ac un o’r newidiadau a wnaed yn barod yw’r cyfleusterau toiled niwtral o ran y rhywiau sydd ar gael, a byddant yn cynnwys cyfleusterau newid babanod hefyd, sy’n amlwg yn newid y pwyslais o ran pwy ddylai newid cewynnau. Yn ogystal, mae’r caffi’n gyfeillgar i blant ar hyn o bryd ac yn gwerthu cynnyrch sy’n gyfeillgar i blant, ac mae’n cynnig opsiynau o ran seddi, gan gynnwys cadeiriau uchel.

Rwy’n cytuno’n llwyr â chi ynglŷn â’r cyfleusterau bwydo ar y fron i famau, a bod angen inni ei gwneud yn hollol glir ein bod yn lle croesawgar iawn i famau, ac yn arbennig ein bod yn croesawu’r mamau sydd am fwydo’u babanod tra byddant yma. Ac mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i gyfrannu at hynny, a chredaf fod arwyddion yn rhan fawr o’r peth, ac rydym yn edrych ar hynny yn awr. Rydym yn edrych hefyd ar gynnwys mannau preifat o gwmpas y caffi ar gyfer mamau a theuluoedd y byddai’n well ganddynt fannau mwy preifat, ac rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyflawni hynny, efallai drwy osod planhigion, sgriniau arddangosfeydd neu osod seddi mewn mannau addas. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chadeiriau bwydo ar y fron, ac rwy’n addo i chi y byddaf yn bwrw ymlaen â hynny fel Comisiynydd.

Credaf eich bod wedi nodi pwynt arall na chafodd sylw o’r blaen, ynglŷn â thystion sy’n dod yma a allai fod angen cymorth a chefnogaeth ar gyfer eu plant, a chredaf y gallwn edrych ar hynny. Er hynny, mae’n deg nodi hefyd—a defnyddiais y cyfleusterau hynny pan ddeuthum yma ar ôl cael fy ailethol ym mis Mai—fod teganau, teganau meddal a gemau eraill ar gael yno i blant, gan fy mod wedi dod â fy wyrion yma a buont yn chwarae â hwy. Mae’n wir hefyd fod y staff yn gwneud eu gorau i groesawu’r plant hynny. Mae’r diffyg, mewn gwirionedd, i’w weld yn y mannau a ddisgrifiwch. Mewn ymgynghoriad ag Aelodau sydd â diddordeb, ond hefyd â’r bobl sy’n awyddus i ddod yma ac sydd o’r farn nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu drwy’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, credaf mai’r unig beth y gallwn ei wneud yw ceisio gwella hynny.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Symudwn at eitem 3 ar yr agenda, sef cwestiynau amserol. Dyma’r tro cyntaf i ni gael cwestiynau amserol mewn sesiwn gwestiynau amserol, a daw’r cwestiwn cyntaf gan Jeremy Miles i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a chredaf mai Jeremy a wnaeth y datganiad 90 eiliad cyntaf hefyd, felly mae’n arloesi yn hynny o beth.

Proffylacsis Cyn-gysylltiad

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r Llywydd wedi dangos cryn ddoethineb wrth ddewis cwestiynau, fel arfer.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei benderfyniad i gymeradwyo defnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad yng Nghymru fel rhan o astudiaeth? TAQ(5)0155(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Rwyf wedi trafod y fframwaith ar gyfer yr astudiaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yn ogystal â swyddogion o Lywodraeth Cymru. Cyhoeddais ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd ddoe gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Croesawaf y gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i helpu i hyrwyddo mynediad at Truvada, y feddyginiaeth brand proffylacsis cyn-gysylltiad sydd ar gael, a’r pecyn gofal ehangach a fydd ar gael drwy gydol yr astudiaeth.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, a diolch iddo hefyd am y penderfyniad a wnaeth yn ystod y dyddiau diwethaf, a diolch iddo am yr amser y mae ef a’i swyddogion wedi’i roi i mi ac i eraill ar gyfer trafod y mater pwysig hwn?

Gall canlyniadau diagnosis o HIV o ran iechyd, perthynas emosiynol ac yn gymdeithasol fod yn ddifrifol iawn, ac er bod llawer iawn o bobl yn byw yn hŷn gyda meddyginiaeth HIV, mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod gan bobl Cymru yr arfau angenrheidiol i reoli eu hiechyd yn ddoeth ac i atal trosglwyddo HIV. Mae effeithiolrwydd clinigol Truvada wedi’i brofi’n dda—rhwng 86 a 100 y cant o effeithiolrwydd i atal trosglwyddo HIV fel rhan o ystod o fesurau rhyw diogel. Felly, croesawaf y penderfyniad a wnaeth.

Mae wedi crybwyll y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. A all gadarnhau y bydd ar gael ledled Cymru o’r cychwyn cyntaf, gan gofio bod clinigau meddygaeth genhedlol-wrinol wedi’u dosbarthu’n anghyson, os mynnwch, ledled Cymru? Yn ail, o safbwynt y claf, a fydd cymryd rhan yn yr astudiaeth yn newid y profiad hwnnw i’r claf? A fydd unrhyw ddisgwyliadau ychwanegol mewn perthynas â’r claf, y tu hwnt i’r disgwyliadau clinigol? Yn drydydd, pa gamau y mae’n rhagweld a gymerir i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau sydd mewn perygl arbennig o drosglwyddo HIV ynglŷn ag argaeledd proffylacsis cyn-gysylltiad ar y GIG yng Nghymru?

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Credaf eich bod yn iawn o ran codi ymwybyddiaeth, i gychwyn, fod her go iawn i barhau â’r neges ynglŷn â realiti HIV a lleihau nifer y bobl â HIV yng Nghymru. Mae gennym bobl bob blwyddyn sy’n dal HIV yng Nghymru o hyd, felly mae gwir angen gwella ein gallu i leihau nifer y bobl sydd â HIV, a gwella’r driniaeth a’r gofal ar eu cyfer hefyd.

Mae rhywbeth yma sy’n ymwneud â’r penderfyniad a’r ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn, gan ein bod yn cydnabod bod yna grwpiau o bobl sy’n debygol o fod mewn perygl o ddal HIV, neu’n wir, a allai fod wedi’i ddal ac sy’n amharod i ofyn am gymorth. Felly, dylai cynnal astudiaeth, a’r ffordd y cynhelir yr astudiaeth honno, ein helpu i ddeall faint o bobl sydd mewn perygl, a manteision economaidd proffylacsis cyn-gysylltiad hefyd mewn gwirionedd. Dyna ran o’r rheswm dros yr astudiaeth, ond rwyf hefyd yn ei gweld yn rhan o gyd-destun ehangach y gofal a ddarperir. Rwy’n disgwyl i’r astudiaeth ddechrau cyn diwedd mis Gorffennaf eleni, felly bydd yn dechrau mewn ychydig fisoedd. Gallaf roi sicrwydd i chi y bydd ar gael ledled Cymru gyfan; ni fydd yn cyrraedd ardaloedd penodol yn gynt neu’n hwyrach, felly mae’n ddull Cymru gyfan go iawn. Bydd proffylacsis cyn-gysylltiad ar gael i bob unigolyn lle y bo hynny’n briodol yn glinigol—heb unrhyw rwystrau ychwanegol i’w goresgyn.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig egluro y bydd hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy glinigau meddygaeth genhedlol-wrinol. Gwn fod heriau yng nghanolbarth Cymru yn benodol o ran argaeledd a mynediad atynt, ac mae hynny’n rhan o’r her wrth gynllunio hyn, ac wrth sicrhau bod gan bobl fynediad i le addas i gael y gofal hwnnw yn ogystal â chymorth dilynol. Ond dyna ble y caiff y rhan fwyaf o bobl afael ar gymorth a chyngor ynglŷn â’r meysydd hyn. Mae pobl yn llai tebygol o fynd at eu meddyg teulu am y math hwn o gymorth a chyngor. Felly, dyna pam rydym yn gwneud yn siŵr, wrth gynllunio’r astudiaeth, mai clinigau meddygaeth genhedlol-wrinol fydd y prif fan ar gyfer presgripsiynu yn ogystal â’r driniaeth ddilynol, gofal a phrofi, a dealltwriaeth ynglŷn â glynu at y driniaeth hefyd.

Edrychaf ymlaen at dderbyn paramedrau clir ynglŷn â’r astudiaeth, sut y caiff ei chynnal ac asesiad o werth ac effaith yr astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â’r hyn a ddysgir ynglŷn ag ymddygiad yr unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Yn amlwg, gallwn ddysgu llawer o hyn, ac edrychaf ymlaen at allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau cyn y toriad, gobeithio, ynglŷn â ble rydym ar ddechrau’r astudiaeth benodol hon—bydd hynny’n rhan arall o’r broses o godi ymwybyddiaeth—ond yn benodol, yr hyn a wnawn gyda mudiadau trydydd sector fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ac eraill i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf hefyd. Cwestiynau perthnasol iawn, felly, y byddaf yn bendant yn eu hystyried wrth i ni ddatblygu’r gwaith.

Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth PROUD a gynhaliwyd yn y DU yn 2015 i werthuso effeithiolrwydd proffylacsis cyn-gysylltiad HIV, neu PrEP, ymhlith grŵp risg uchel o ddynion hoyw a deurywiol, fod defnydd dyddiol ohono yn lleihau nifer yr heintiau HIV 86 y cant yn y grŵp hwn, ac o’i gymryd yn y ffordd gywir, roedd ei effeithiolrwydd bron yn 100 y cant. O gofio hynny, sut rydych yn ymateb, o ystyried eich sylw ynglŷn â’ch ymgysylltiad ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, i’w galwad i ddarparu hwn ochr yn ochr â’u hymyriadau atal eraill, megis defnyddio condomau, newid ymddygiad, a phrofion HIV rheolaidd?

Wel, rwy’n fwy na pharod i gadarnhau fy ymateb. Dyna’n union y mae Jeremy Miles wedi galw amdano, dyna’n union y mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi galw amdano, ac mae’n rhan o’r hyn y bydd yr astudiaeth yn edrych arno. Nid proffylacsis cyn-gysylltiad mewn ffordd ynysig yn unig fydd hyn—mae’n ymwneud â’i weld yn ei gyd-destun, fel rhan o’r gwaith y dymunwn ei wneud i geisio sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn osgoi dal HIV. Felly, mae’n rhan bwysig o’n sefyllfa ar hyn o bryd. Ac mae’n ymwneud hefyd â deall gwir lefel cyfraddau achosion yng Nghymru, gan y credwn ein bod yn ôl pob tebyg yn eu tangyfrif ac yn eu tanamcangyfrif. Felly, mae yna heriau gwirioneddol rydym yn eu deall oherwydd y cyngor a gawsom gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Ond rydym yn gobeithio eu datrys drwy gynnal yr astudiaeth hon a sicrhau bod proffylacsis cyn-gysylltiad ar gael go iawn ledled y wlad i bawb lle y bo’n briodol yn glinigol. Ac mae hwnnw’n gam pwysig iawn ymlaen i ni yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. A daw’r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma, eto i’w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, gan Darren Millar.

Ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o farwolaethau? TAQ(5)0156(HWS)

Fel y gŵyr yr Aelod, ac Aelodau eraill y Cynulliad, sefydlais banel annibynnol i oruchwylio ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad Donna Ockenden o ofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yr hyn y bwriadwn ei sefydlu yn rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wrth gwrs, yw a allai ansawdd y gofal a ddarparwyd fod wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at farwolaeth rhai cleifion.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r sylwadau hyn, a wnaed mewn llythyrau i deuluoedd cleifion yng ngogledd Cymru, yn peri cryn bryder. Ac o ystyried bod bron i ddwy flynedd bellach ers cyflwyno mesurau arbennig, a bod oddeutu dwy flynedd a hanner ers cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ar gam-drin sefydliadol ar ward Tawel Fan, bydd yn peri cryn bryder fod rhai unigolion yn dal i gael eu cyflogi gan y GIG, gyda’u cyflogau’n cael eu talu gan y trethdalwyr, sydd eto i golli eu gwaith ac sydd eto i wynebu cael eu diswyddo, ac sydd efallai’n dal i weithio yn y gwasanaeth iechyd er gwaethaf y niwed posibl y gallent fod wedi’i achosi i unigolion ar y ward hon.

Rwy’n bryderus fod rhai o’r materion diwylliannol a nodwyd yn adroddiad Donna Ockenden yn dal i fod yn gyffredin yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a bod pwysau sylweddol o hyd ar gapasiti gwelyau cleifion mewnol. Yr wythnos hon, cefais e-bost gan deulu y bu’n rhaid anfon rhywun sy’n annwyl iddynt i ward iechyd meddwl oherwydd eu hiechyd meddwl gwael, a bu’n rhaid eu hanfon i Fryste, gan nad oedd digon o welyau yng ngogledd Cymru. Mae hynny’n annerbyniol. Ac mae hefyd yn annerbyniol fod rhai cleifion yn gorfod cysgu ar soffas mewn lolfeydd ar wardiau iechyd meddwl gan nad oes digon o welyau, a bod rhai cleifion benywaidd hefyd yn gorfod cysgu ar wardiau iechyd meddwl gwrywaidd yng ngogledd Cymru.

Yn amlwg, ceir heriau enfawr o hyd. Mae pobl yng ngogledd Cymru yn dal i wynebu problemau, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o’r hyn a aeth o’i le. Rwy’n derbyn bod yr ymchwiliadau yn dal i fynd rhagddynt, a’u bod yn ymchwiliadau manwl, a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i’r gwirionedd o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng ngogledd Cymru, ond byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech roi rhyw sicrwydd, os yw’r ymchwiliadau hynny’n canfod bod niwed wedi’i achosi, y byddwch yn trafod y posibilrwydd o erlyn y rhai a fu’n gyfrifol am achosi’r niwed gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn enwedig lle y gallai’r niwed hwnnw fod wedi arwain at farwolaethau, gan fod y rhain yn faterion difrifol iawn, ac mae pobl yn bryderus iawn yn eu cylch yng ngogledd Cymru, ac nid ydym yn hyderus fod digon o gynnydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau ychydig yn wahanol, a byddaf yn ceisio eu hateb yn ôl y gwahanol rannau y cawsant eu cyflwyno. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod, wrth gwrs, yn deall y diddordeb mawr a’r pryder cyhoeddus parhaus ynglŷn â’r digwyddiadau sy’n ymwneud â ward Tawel Fan, ac mae wedi bod yn anodd iawn ateb y galw dealladwy am gwblhau’r broses honno cyn gynted ag y bo modd, sy’n gwbl ddealladwy, gan y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt a’r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru a thu hwnt, a chael proses sy’n ddigon cadarn, gan mai’r hyn y bûm yn rhannol bryderus yn ei gylch o’r cychwyn, er gwaethaf fy awydd personol i weld hyn yn dod i ben yn gyflym, os nad oes gennych broses ddigon cadarn, eich bod o bosibl yn gwneud nid yn unig y gwasanaeth iechyd, ond y teuluoedd unigol, yn agored i sefyllfa hollol anfoddhaol lle y mae’r broses ei hun yn methu a lle nad ydych yn darparu’r math o gyfiawnder rwy’n ymwybodol fod pobl yn awyddus i’w weld. Ac rwy’n derbyn y ffaith a grybwyllwyd gennych mai’r peth pwysicaf yw canfod y gwir, ac yn wir, mae miloedd o ddogfennau gwahanol wedi cael eu hadolygu, ac oherwydd trylwyredd y gwaith a wnaed, cynhaliwyd ymchwiliadau pellach i feysydd a llwybrau y tu hwnt i nifer y bobl a nodwyd yn adroddiad Ockenden. A chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn deall—cafwyd cryn drylwyredd yn yr hyn sydd bellach yn adolygiad gydag arolygiaeth annibynnol wirioneddol ddilys. Felly, nid yw’r bwrdd iechyd yn rheoli neu’n goruchwylio adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly ni ddylid camddeall bod y bwrdd iechyd, rywsut, yn mynd i ailddehongli neu newid canfyddiadau’r adolygiad gwirioneddol annibynnol hwn.

Nid wyf wedi gweld y llythyrau a gofnodwyd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond o ran yr her mewn perthynas â’r niwed a achoswyd a deall yr hyn a ddaw ar ôl hynny, bydd angen cwblhau sawl proses wahanol, ac ni fydd gan y Llywodraeth ran i’w chwarae ynddynt. Er enghraifft, y materion proffesiynol—cyfrifoldeb y cyrff proffesiynol fydd ymgymryd â hynny. Rydym yn disgwyl iddynt wneud eu gwaith. Rwy’n bryderus, fodd bynnag, ynglŷn â faint o amser y mae’n ei gymryd i gynnal achosion addasrwydd i ymarfer—nid mater gwleidyddol mo hwn; ond mater o bwys gwirioneddol ar draws y Siambr—ni waeth pa gorff proffesiynol y mae pobl yn atebol iddo ac yn gyfrifol amdano.

O ran erlyniadau, credaf ei bod yn bwysig iawn nad yw gwleidyddion Llywodraeth yn dechrau dweud ein bod yn disgwyl neu’n mynnu bod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn. Oherwydd lefel y diddordeb cyhoeddus yn hyn, rwy’n disgwyl i’r heddlu fod yn hollol ymwybodol y bydd angen iddynt adolygu’r ymchwiliad pan fydd yn adrodd yn ôl, ac y bydd angen iddynt ymateb a chyfeirio. A phan fydd yr adroddiad ar gael, ni welaf unrhyw reswm i mi beidio â gofyn i’r heddlu gadarnhau eu safbwynt, ond ni chredaf y byddai’n briodol i mi fynd ymhellach na hynny. Mae’r rheini’n benderfyniadau annibynnol ar gyfer yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â materion y credant y gallent, y dylent, ac y mae ganddynt ddyletswydd i’w hymchwilio a dod i gasgliadau yn eu cylch. Ond ar ddiwedd y broses hon, byddaf yn fwy na pharod i ofyn i’r heddlu a ydynt yn disgwyl y byddant yn rhoi unrhyw gamau pellach ar waith.

O ran y materion diwylliannol ehangach a nodwyd gennych, credaf fod hwn yn faes lle y dylai pobl edrych eto ar broses mesurau arbennig gyda rheoleiddwyr yn darparu’r arolygiaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidydd Llywodraeth yn penderfynu, ‘Dyma rwy’n dymuno i’r casgliad fod’. Ac rwyf innau bob amser, fel Mark Drakeford o’m blaen, wedi ceisio bod yn glir iawn na fydd hyn yn digwydd er hwylustod gwleidydd Llywodraeth yn y rôl benodol hon. Dylai ymwneud â chyngor annibynnol gan reoleiddwyr ynglŷn â chynnydd a wnaed ac na wnaed drwy fesurau arbennig, ac ynglŷn ag a yw’r sefydliad yn cyrraedd y safon, ac a wnaed digon o gynnydd ym mhob un o’r meysydd. A chredaf mai gwasanaethau iechyd meddwl yw’r maes pryder mwyaf arwyddocaol a arweiniodd at wneud y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Credaf fod y cyfarwyddwr newydd wedi gwneud cryn wahaniaeth, ond ceir dealltwriaeth fod her wirioneddol a sylweddol i’w hwynebu o ran ailgyflunio a gwella’r gwasanaeth hwnnw. Yr hyn a ddylai roi hyder i mi a’r Aelodau eraill yw nid yn unig y broses a ddilynwyd gyda rheoleiddwyr annibynnol, ond y ffaith eu bod yn cydnabod bod cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud hyd yn hyn. Ond mae hyn yn ymwneud â’r cynnydd pellach sydd ei angen o hyd. Ac ni fyddwn yn esgus wrthych chi neu unrhyw ddinesydd arall sy’n pryderu ynglŷn â hyn fod y cynnydd yn esmwyth a rhwydd. Ond fe gawn adolygiad tryloyw priodol gan y rheoleiddwyr pan fyddant yn cynnal eu hadolygiad rheolaidd o’r mesurau arbennig, ac unwaith eto, byddaf yn ei gael a bydd ar gael i’r cyhoedd, fel yr adroddiadau blaenorol.

Yn amlwg, mae’n rhaid i ni aros am yr ymchwiliad llawn cyn y gallwn wneud unrhyw benderfyniadau, neu cyn y gall unrhyw un o’r cyrff proffesiynol wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â pha ganlyniadau a allai ddeillio o hynny, felly rwy’n cytuno â’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud a nodaf ei eiriau cryf yn hynny o beth. Fodd bynnag, cafwyd canlyniadau gweinyddol yn sgil Tawel Fan: cafodd y prif weithredwr ei atal dros dro, ac yna, yn ei dro, fel y mae’r Gweinidog newydd amlinellu, gwnaed y bwrdd iechyd ei hun yn destun mesurau arbennig. Felly, rwy’n awyddus i ddeall yr hyn y mae wedi’i wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â gweinyddiaeth Betsi Cadwaladr, a dau beth yn benodol: a all gadarnhau nad oes ceiniog wedi’i thalu i aelodau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl ei wneud yn destun mesurau arbennig, gan y byddai’n anghywir gwobrwyo methiant yn y ffordd honno, oni fyddai? Yn ail, a all gadarnhau hefyd nad oes unrhyw arian wedi’i dalu i’r Athro Trevor Purt ar ôl iddo ddechrau gweithio yn Lloegr?

O ran yr Athro Purt, roeddem yn gwbl glir ynglŷn â’r trefniant secondiad iddo adael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Nid yw’n rhan o’r gwasanaeth bellach. Rydym yn gwbl dryloyw ynghylch y trefniant iddo adael, gan gynnwys y mesurau ariannol ynghlwm wrth hynny.

O ran eich sylwadau nad yw aelodau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn ceiniog, rwy’n cymryd nad ydych yn golygu aelodau staff sy’n gweithio i Betsi Cadwaladr, ond eich bod yn sôn am yr aelodau annibynnol sy’n cael eu penodi. Wel, maent yn dal i gyflawni rôl—maent yn dal i weithredu—a phe bawn yn penderfynu na ddylent gael eu talu, byddwn yn cael gwared arnynt yn hytrach na dweud, ‘Rwy’n mynd i’ch cosbi drwy gymryd camau disgyblu i bob pwrpas er mwyn diddymu’r arian y mae gennych hawl i’w dderbyn wrth gyflawni’r penodiad cyhoeddus hwn’. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth ddwyn pobl i gyfrif yn briodol, nad ydym yn edrych am fesurau hawdd neu rai sy’n bachu’r penawdau a cheisio dweud, ‘Dyma beth y dylem ei wneud neu dyma beth sy’n rhaid i ni ei wneud’.

I mi, y peth pwysicaf yw bod y bwrdd iechyd yn gwella. Mae angen aelodau yno sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r craffu nad oedd yn cael ei wneud yn y gorffennol i’r graddau y byddem yn dymuno’i weld. Rydym wedi gweld pobl yn cael eu hadolygu; rydym wedi gweld pobl newydd yn cael eu penodi fel aelodau annibynnol ar y bwrdd iechyd hwnnw. Rydym wedi gweld aelodau gweithredol newydd yn dod i mewn, felly mae trefniadau arwain newydd ar waith o fewn y bwrdd iechyd: cyfarwyddwr gweithredol nyrsio newydd, cyfarwyddwr meddygol newydd, yn ogystal â phrif swyddog gweithredol newydd. Felly, mae’n bwysig deall bod yr arweinyddiaeth wedi symud ymlaen o’r adeg pan wnaed y sefydliad yn destun mesurau arbennig. I mi, rhaid i hyn bob amser ymwneud â’r cwestiwn: a ydym yn gweld cynnydd yn cael ei wneud? A ydym yn cael sicrwydd annibynnol gan reoleiddwyr fod cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, a beth yw’r heriau parhaus y mae angen i ni eu gweld yn cael eu datrys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Oherwydd hynny, i mi, yw’r peth pwysicaf, gan fy mod am i bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru dderbyn gwasanaeth iechyd o’r un ansawdd uchel ag y credaf fod pob dinesydd yn unrhyw ran o Gymru yn ei haeddu.

Dywed gwefan y bwrdd iechyd:

Cafodd y Bwrdd wybod gan deuluoedd am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ym mis Rhagfyr 2013.

Cymerwyd camau ar unwaith i gau’r ward a chafodd cleifion eu trosglwyddo i ofal amgen.

Fodd bynnag, ysgrifennais at brif weithredwr ymddiriedolaeth GIG gogledd Cymru ym mis Ebrill 2009 ar ran etholwr, gan ddweud bod y driniaeth a gafodd ei gŵr yn yr uned bron â’i ladd, fod tri chlaf arall a dderbyniwyd i’r uned oddeutu’r un adeg â’i gŵr wedi cael profiadau tebyg, a’i bod yn poeni bellach ynglŷn â’r driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned. Roedd ei gŵr yn dioddef o glefyd Alzheimer a chanser terfynol. Drwy hynny, cefais gopi o gŵyn claf arall â dementia fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys lluniau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ torcalonnus. Ymatebodd y prif weithredwr drwy ddweud eu bod yn ei hystyried yn gŵyn ffurfiol, a’i bod wedi anfon fy e-bost at y pennaeth staff ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod yr ymchwiliad hwn nid yn unig yn ystyried yr effaith ar y cleifion a’r teuluoedd, ond yn ystyried pam fod materion wedi’u dwyn i’w sylw sawl blwyddyn—bedair blynedd a hanner—cyn iddynt gydnabod eu bod wedi cael gwybod am hyn, ar ôl iddynt gael eu dwyn i’w sylw ar y lefel uchaf?

Rwy’n credu ei bod yn anodd deall sut y mae’r materion a godwyd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal. Rydych yn codi materion hanesyddol, sy’n mynd yn ôl i 2009, fel rydych yn ei nodi, ac eraill. Nid wyf yn ymwybodol o sut y mae ymchwiliad annibynnol y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi datrys yr holl faterion hynny mewn gwirionedd, oherwydd dyna’r holl bwynt am fod yn annibynnol. Nid fy lle i yw gosod paramedrau ar yr amserlenni er mwyn iddynt edrych arnynt neu eu deall; fy lle i, fodd bynnag, yw deall bod ymchwiliad trwyadl, cadarn ac annibynnol yn cael ei gynnal i’r hyn a ddigwyddodd mewn perthynas â’r gofal a ddarparwyd ar ward Tawel Fan, y gwersi sydd i’w dysgu o’r rhan benodol honno o’r gwasanaeth, ond hefyd a oes gwersi ehangach i’w dysgu am ddyfodol y gwasanaeth, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond y tu hwnt. Felly, os yw’r Aelod o’r farn fod yna faterion y mae’n dymuno eu dwyn i sylw’r grŵp annibynnol sy’n goruchwylio ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yna rwy’n credu ei bod yn gwbl briodol iddo wneud hynny. Rhaid iddynt hwy gynnal yr ymchwiliad fel y gwelant yn dda, yn hytrach na fy mod i’n penderfynu drostynt beth sy’n rhaid iddynt ei wneud, oherwydd bydd hynny’n golygu wedyn nad yw’n ymchwiliad ac yn ymholiad annibynnol. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig amddiffyn yr annibyniaeth, y cadernid, yr ansawdd uchel a’r lefel drylwyr o fanylder sydd i’r ymchwiliad. Edrychaf ymlaen at gael canlyniad yr adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw. Yna, bydd angen i ni ddeall yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd i ddatblygu gofal iechyd yng ngogledd Cymru wedyn.

Mae angen i unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal yn drylwyr ac yn deg, wrth gwrs, ond sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol? Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau nad yw unrhyw ganfyddiadau yn cael eu diystyru’n syml gan yr ystrydeb sydd i’w gweld yn cael ei defnyddio pan welir bod corff cyhoeddus yn gwneud cam â’n pobl, sef ‘y bydd gwersi’n cael eu dysgu’? Yn olaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cynulliad llawn, nid y pwyllgor craffu’n unig, ar gyfer dadl ar y camau nesaf?

Rwy’n hapus i ymateb i’r pwynt canol yn gyntaf o ran yr hyn a fydd yn digwydd. O ran yr hyn a fydd yn digwydd, mae angen i ni weld beth y mae’r adroddiad yn ei ddweud yn gyntaf, er mwyn deall pa ymateb sy’n briodol wedyn, pa ymateb y dylai’r bwrdd iechyd ei roi a gweld a oes pwyntiau i’r Llywodraeth ymateb iddynt hefyd.

Rwy’n gadarn hyderus y bydd cwestiynau o ganlyniad i’r adroddiad pan fydd yn cael ei ddarparu, ac wrth gwrs, bydd angen i ni ystyried gydag arweinydd y tŷ sut y mae busnes y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio o ran ymateb i’r adroddiad hwnnw pan fydd yn cael ei ddarparu a chael ymateb priodol sydd, mewn gwirionedd, yn hysbysu yn hytrach na dim ond ychwanegu mwy o wres i’r ddadl gyhoeddus ar y mater hwn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cymryd cam ymlaen yn hytrach na chael ymarfer i bentyrru beirniadaeth ar unigolion nad ydynt yma, a’n bod yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar gyfer y bobl sydd angen gwasanaeth o’r ansawdd uchaf yng ngogledd Cymru.

Yn olaf, ar y pwynt ynglŷn â’r modd amserol o ddarparu’r adroddiad hwn, i mi, y pwynt pwysicaf yw ei fod yn adroddiad cadarn ac annibynnol. Yn bersonol, byddai wedi bod yn well o lawer gennyf pe bai’r adroddiad hwn ar gael sawl mis yn ôl. Byddai’n llawer mwy cyfleus i mi pe bai hynny’n wir. Ni allaf—wel, fe allwn, ond ni fyddaf yn ymyrryd â’r amserlen ar gyfer yr adroddiad hwn. Fel arall, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’n adroddiad annibynnol mwyach. Mae’n rhaid iddo beidio â bod yn adroddiad sy’n cael ei wneud er hwylustod gwleidydd Llywodraeth. Mae’n rhaid iddo fod yn adroddiad gydag annibyniaeth go iawn, trylwyredd go iawn a chadernid go iawn. Mae hynny’n golygu, yn anffodus, ei fod wedi cymryd mwy o amser nag y byddai unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon neu’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt wedi bod eisiau iddo ei gymryd. Ond ni ddylid peryglu cadernid ac annibyniaeth yr adroddiad, ac ni fyddaf yn gwneud hynny.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad
5. 5. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig

Felly, symudwn at eitem 5 ar yr agenda, sef dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Galwaf ar Lynne Neagle i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6296 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel yr amlinellais yn fy natganiad i’r Siambr ar 25 Ionawr, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar beth yw’r prif faterion y dylem fod yn edrych arnynt, ac rydym yn cynllunio ein rhaglen waith yn unol â hynny. Mae’r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn enghraifft arall o’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar flaenoriaethau rhanddeiliaid yr haf diwethaf.

Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru. Ni lwyddodd ond 16 y cant ohonynt yn unig i gyrraedd trothwy cynwysedig lefel 2—h.y. pump neu ragor o bynciau TGAU gradd A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg—rhwng 2013 a 2015. Mae’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ystod ymchwiliad y pwyllgor yn dangos rhywfaint o welliant sydd i’w groesawu, i 24 y cant rhwng 2014 a 2016, er bod y bwlch rhyngddynt a phob disgybl yn dal yn rhy fawr ar 35 pwynt canran. Mae’r bwlch rhyngddynt a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd eu hunain yn grŵp difreintiedig, yn 7 pwynt canran.

Mae dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp llai unffurf ac mae’r darlun cyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol. Mae llawer o grwpiau lleiafrifol yn perfformio’n well na’u cyfoedion, ond mae cyrhaeddiad rhai grwpiau, megis grwpiau Caribïaidd du, Affricanaidd du a Charibïaidd cymysg yn is na’r cyfartaledd. Câi’r grwpiau hyn o ddysgwyr eu cefnogi’n flaenorol o dan ddau grant wedi’u clustnodi a delid i awdurdodau lleol—y grant plant Sipsiwn a phlant Teithwyr a’r grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig. Dau o 11 o grantiau wedi’u clustnodi oedd y rhain a gafodd eu cyfuno’n grant gwella addysg newydd a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.

Caiff y grant gwella addysg, fel y’i gelwir, ei weinyddu gan y pedwar consortiwm rhanbarthol. Roedd bwriad Llywodraeth Cymru ar y pryd yn un i’w groesawu. Roedd yn awyddus i greu mwy o hyblygrwydd a chreu arbedion gweinyddol. Fodd bynnag, ceir pryder clir pa un a oes yr un lefel o gefnogaeth erbyn hyn ar gyfer dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, a phryderon penodol ynglŷn â sut y caiff effaith y newid yn y cyllid ei monitro a’i gwerthuso.

Diffyg monitro a gwerthuso priodol oedd y pryder mwyaf a fynegwyd dro ar ôl tro yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor. Roedd y grantiau blaenorol yn ddarostyngedig i systemau monitro ac atebolrwydd cadarn. Mae’r rhain wedi cael eu colli gyda dyfodiad y grant gwella addysg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cryn bwyslais ar rôl y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol eu hunain yn monitro a gwerthuso effaith. Fodd bynnag, ni welodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth fod hyn yn digwydd. Yn wir, roeddem yn siomedig gyda’r dystiolaeth a gynigiwyd gan y consortia ar sut y maent yn monitro defnydd ac effaith y grant gwella addysg, rhywbeth a gafodd ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn tystiolaeth lafar. Dof yn ôl at fonitro a gwerthuso yn y man.

Croesawaf yn fawr yr agwedd gadarnhaol sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet tuag at ein hymchwiliad yn ei hymateb i’n 14 argymhelliad. Rwy’n hynod o falch ei bod wedi derbyn pob un o’n hargymhellion, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor, ac eithrio un, a oedd yn galw am asesiad effaith wedi’i ddiweddaru o’r penderfyniad i gyfuno’r grantiau. Rwy’n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod, gan fod cryn feirniadaeth wedi bod o gadernid yr asesiad effaith gwreiddiol.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i a’r pwyllgor, Llywydd, yw’r ffaith na ellir gwneud unrhyw asesiad clir pa un a yw’r newid i un grant wedi cael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol. Mae cyfanswm gwerth y grant gwella addysg yn 2017-18 oddeutu 13 y cant yn llai na’r flwyddyn ddiwethaf o grantiau wedi’u clustnodi yn 2014-15. Nid ydym yn gwybod yn union faint o’r grant gwella addysg sy’n cael ei wario ar blant Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig gan nad yw gwariant yn cael ei olrhain neu ei fonitro yn y modd hwn mwyach. Ein hargymhelliad cyffredinol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r model cyllido y mae’n ei ddefnyddio i gefnogi’r dysgwyr hyn ac adrodd yn ôl cyn diwedd y Cynulliad hwn.

Yn y cyfamser, mae’r pwyllgor wedi argymell nifer o welliannau i’r ffordd y mae’r grant gwella addysg yn cael ei fonitro a’i werthuso. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar sut y gellir defnyddio’r grant er budd dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig y tu hwnt i’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn llawer mwy nag amcanion lefel uchel sy’n cyfeirio at y cynllun gwella ‘Cymwys am oes’.

Rydym yn pryderu na chafwyd digon o gynnydd ar gynhyrchu fframwaith canlyniadau y bwriadwyd iddo lywio’r modd y caiff y grant gwella addysg ei wario, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gael gafael llawer cadarnach ar fonitro a gwerthuso er mwyn sicrhau bod consortia ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth a ddisgwylir.

Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i sefydlu fframwaith canlyniadau mwy cadarn yn 2017-18. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig o’r pwnc hwn. Fodd bynnag, mae gan y pwyllgor amheuon ynglŷn â phwyslais Llywodraeth Cymru ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol o ddysgwyr drwy fabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bob disgybl tuag at wella ysgolion. Fel y mae tystion wedi’i ddweud wrthym, nid yw cynhwysiant yn golygu trin pawb yr un fath. Rhaid i chi gydnabod bod pobl yn wahanol a bod ganddynt wahanol anghenion.

Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei ffocws yn sylfaenol a thargedu cyllid yn fwy penodol ar ddysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr a grwpiau ethnig sydd â chyrhaeddiad is na’r cyfartaledd. Rydym wedi gwneud dau argymhelliad ar hyn, ac yn disgwyl gweld mwy o gyfeirio at y grwpiau hyn yn y diweddariad o’r cynllun ‘Cymwys am oes’ ac yn y strategaeth ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’ sydd i fod i gael ei chyhoeddi cyn bo hir. I gloi, Llywydd, hoffwn bwysleisio i’r Aelodau nad yw hwn yn fater y gellir mynd i’r afael ag ef drwy ymagwedd ‘un ateb sy’n addas i bawb’ tuag at welliant addysgol. Mae’n rhaid i gymorth ac ymyriadau gael eu teilwra ar gyfer y dysgwr os ydym am helpu pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni eu potensial llawn. Diolch.

A gaf fi ddiolch i’r Cadeirydd am ei haraith agoriadol a’i chanmol am y ffordd y mae hi wedi arwain yr ymchwiliad hwn, a chofnodi fy niolch hefyd i’r clercod a’r tystion a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor? Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi ymgymryd â’r gwaith hwn, a dyna pam y cytunodd y pwyllgor y dylai fod yn flaenoriaeth gynnar o ran rhaglen waith y pwyllgor. Rwy’n ymwybodol iawn, ac rwy’n aml wedi beirniadu’r nifer fawr o grantiau sydd wedi bod ar gael, yn enwedig pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac sydd wedi cael eu defnyddio gan y Llywodraeth er mwyn cyfarwyddo a chyflawni eu hamcanion polisi. Felly, gallaf ddeall yn iawn pam y ceisiodd y Llywodraeth gyfuno’r grantiau hyn er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau addysg lleol, ac ar Lywodraeth Cymru yn wir o ran bwrw ymlaen â phethau. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â diffyg dilyniant wrth i Lywodraeth Cymru geisio penderfynu a yw’r canlyniadau yr oedd yn awyddus i’w cyflawni yn dal i gael eu gwireddu ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Dyna pam y gwnaethom y gwaith hwn fel pwyllgor, ac roeddwn yn hapus iawn i’w gefnogi.

Gwyddom nad yw cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig mewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mor dda ag y dylai fod. Mae wedi gwella’n ddiweddar, sy’n beth cadarnhaol, ond ceir bwlch cyrhaeddiad anferth rhyngddynt a’u cyfoedion mewn ysgolion o hyd, ac nid yw hynny’n ddigon da. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny. A dyna yw diben rhan o’r grant hwn, ynghyd â’r angen i gau’r bwlch i rai o’r gwahanol grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’u cyrhaeddiad addysgol a’u cyflawniad hwy hefyd.

Rwy’n credu mai’r hyn a’m synnodd yn fawr oedd y ffaith fod gennym ddarpariaeth dameidiog yng Nghymru sy’n anghyson iawn. Fe’m calonogwyd yn fawr gan rywfaint o’r dystiolaeth a gawsom o Went, lle y mae’n eithaf amlwg fod ganddynt safon aur i bob pwrpas o ran y gefnogaeth y gallant ei darparu yn enwedig ar gyfer y rhai o leiafrifoedd ethnig sy’n symud i mewn i’r ardal. Ac fe’m calonogwyd yn fawr gan y ffaith fod hynny’n ychwanegu gwerth sylweddol ac yn cefnogi ysgolion unigol, yn enwedig lle nad oes ganddynt arbenigedd ar gael iddynt. Ond roedd y sefyllfa’n wahanol iawn mewn rhannau eraill o Gymru, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud nad yw rhai o’r consortia rhanbarthol yn gwybod yn iawn beth sy’n digwydd yn eu hardaloedd ac mai blaenoriaeth isel iawn a roddwyd ganddynt i hyn. Roedd hynny’n peri pryder mawr yn wir.

Roeddwn yn arbennig o bryderus ynglŷn â’r dystiolaeth a gawsom gan Estyn hefyd. Roedd Estyn yn ddefnyddiol iawn o ran darparu tystiolaeth i ni; maent yn amlwg wedi gwneud gwaith yn y gorffennol, yn enwedig ar gymuned y Sipsiwn/Teithwyr a’u lefelau cyrhaeddiad. Ond roedd yn gwbl amlwg eu bod wedi cynhyrchu un neu ddau o adroddiadau gydag argymhellion clir ynddynt, ond nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr adroddiadau hynny. Nawr, a bod yn onest, mae’n gwbl annerbyniol nad yw’r arolygiaeth addysg wedi gwneud gwaith dilynol ar eu hargymhellion. Roeddent yn dweud mai mater o adnoddau ydoedd ac mai dyna pam na wnaethant waith dilynol arno, ond a dweud y gwir, credaf nad oes esgus dros fethiant yr arolygiaeth i fynd ar drywydd y mater yn fwy egnïol gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa rôl y mae’n disgwyl i Estyn ei chwarae yn y dyfodol o ran sicrhau bod peth o gyfeiriad polisi’r Llywodraeth yn cael ei gyflwyno ar lawr gwlad mewn gwirionedd a’u bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldeb fel arolygiaeth i wneud yn union hynny. 

Un o’r pethau eraill y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r diffyg cefnogaeth i bobl ifanc dros 16 sydd am barhau â’u haddysg. Gwyddom fod cael cymheiriaid hŷn yn aml yn ffactor pwysig iawn wrth gynorthwyo pobl ifanc i ymddiddori yn eu haddysg, ac unwaith eto, nid yw pobl ifanc o gefndiroedd cymunedau Sipsiwn/Teithwyr yn enwedig yn camu ymlaen at addysg bellach neu addysg uwch, ac eto nid oes unrhyw gymorth penodol ar eu cyfer ar hyn o bryd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr, Ysgrifennydd y Cabinet—a gwn fy mod wedi crybwyll hyn wrthych yn ystod trafodion y pwyllgor—ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a oes unrhyw beth y gellir ei wneud o fewn yr adolygiad o gymorth i fyfyrwyr sydd ar y gweill ar hyn o bryd i dargedu’r grwpiau hyn yn benodol er mwyn annog cyfranogiad gweithgar mewn addysg ôl-16 gan bobl ifanc o gefndiroedd du yn benodol, cefndiroedd Affro-Caribïaidd, a’r cymunedau Sipsiwn/Teithwyr—y rhai sydd ymhell ar ei hôl hi o ran rhai o’r canlyniadau penodol hyn.

Ac rwy’n credu y bydd yr holl argymhellion yn yr adroddiad, os cânt eu hystyried gyda’i gilydd, yn cyflawni newid mawr o ran gwella’r maes hwn yn y dyfodol, ac mae’n siŵr y bydd y pwyllgor yn awyddus i barhau i edrych arno mewn perthynas â chanlyniadau yn y dyfodol i weld a yw ein hargymhellion wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn. Rwy’n cydnabod bod un ohonynt wedi cael ei wrthwynebu, fel petai, ond gwn fod calon y Gweinidog yn y lle cywir o ran ei hawydd i sicrhau newid go iawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn siarad yn benodol am y mater ôl-16 a rôl Estyn mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor heddiw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon ar effaith cyfuno grantiau arbenigol blaenorol i greu’r grant gwella addysg ar blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig. Rwy’n aelod o’r pwyllgor, felly rwyf wedi gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan fy mod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad.

Gyda llaw, rydym newydd gael grŵp trawsbleidiol yma amser cinio heddiw, lle y cawsom blant o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Sir Benfro a Thorfaen, yn holi Ysgrifennydd y Cabinet dros blant a chydlyniant cymdeithasol, Carl Sargeant, ynglŷn ag argaeledd safleoedd, ynglŷn â’r rheswm pam fod Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu gorfodi i symud ymlaen a llawer o gwestiynau heriol iawn. Rwy’n credu y byddai unrhyw un ohonoch a fyddai wedi clywed y bobl ifanc yn gofyn y cwestiynau hyn yn gwybod am y potensial enfawr sydd gan y plant hynny. Mae’n amlwg yn ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.

Pan gafodd y grantiau eu cyfuno i fod yn grantiau gwella addysg, fe lobïodd aelodau’r grŵp hwnnw’n gryf yn erbyn y newid, fel y gwnes i, a fy marn i, ar ôl cymryd rhan yn yr ymchwiliad, yw mai dyna’r ffordd anghywir o’i chwmpas hi. Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad y dylid ei adolygu, er ei fod wedi gwrthod, wrth gwrs, fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, y ffordd y digwyddodd hyn—drwy edrych ar y ffordd y cynhaliwyd yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb—mae hynny wedi cael ei wrthod. Oherwydd cawsom dystiolaeth gref a ddangosai nad oeddent yn teimlo bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael eu cynnal yn briodol ac rydym yn dysgu llawer drwy edrych yn ôl a gweld sut y mae pethau’n digwydd. Felly, rwy’n gwybod fod hynny wedi cael ei wrthod, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried hynny—bod camgymeriad wedi cael ei wneud yma o bosibl.

Cefais fy synnu mewn gwirionedd gan beth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chefais fy synnu’n bennaf gan y diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd yn y maes hwn mewn gwirionedd. Roedd unigolion a oedd yn gweithio ar lawr gwlad yn angerddol ac yn wybodus ynglŷn â’u gwaith; pobl â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda’r grwpiau o blant roeddem yn edrych arnynt—roeddent yn teimlo’n gryf iawn nad oedd pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Ond roeddwn yn teimlo bod y cyrff ehangach yn meddu ar lawer llai o wybodaeth ac yn llawer llai ymroddedig i wybod beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd. Gwn fod y cyrff ehangach—rwy’n credu bod y consortia, y cyfeiriodd cadeirydd y pwyllgor atynt—gwn mai rhan fechan iawn o’u gwaith yw hyn, ond os ydym am fod yn gymdeithas deg, ac os yw’r Cynulliad hwn am gyflawni ar gyfer pawb, mae’n rhaid i ni edrych ar y rhan hon. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel y dywedaf, fy mod wedi cael fy synnu bod eu gwybodaeth mor wael.

Roedd yn ymddangos hefyd nad oedd unrhyw systemau monitro ar waith i weld beth oedd effaith y newid wedi bod, a gwn fod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn cytuno i adolygu’r trefniadau monitro, ond rwy’n credu bod gwir angen sicrwydd arnom y bydd hwn yn adolygiad ystyrlon. Beth y mae’n ei olygu: ‘Byddwn, byddwn yn edrych arno eto—edrych a gweld sut y mae’r trefniadau monitro’n gweithio’? Mae’n rhaid cael ymrwymiad penodol i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd, felly sut y byddant yn adolygu a faint o flaenoriaeth fydd i hynny?

Y pwynt olaf rwyf am ei wneud mewn gwirionedd yw bod argymhelliad 14 yn cynnig y dylai’r prosiect Teithio Ymlaen, ‘Arfer Da mewn Addysg: Prosiect Ymchwil Cymheiriaid’—y dylai’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’i argymhelliad. Mae’r Llywodraeth yn cytuno mewn egwyddor ac yn dweud y bydd yn ei gyhoeddi ar wefannau penodol. Rwy’n teimlo o ddifrif fod yna dystiolaeth y mae angen i bobl wybod amdani yn yr adolygiad hwn gan gymheiriaid. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o’r argymhellion yn yr adolygiad gan gymheiriaid ac mae rhai o’r rhain yn bwysig iawn. Dywedodd y plant, ‘Mae angen athro/athrawes sy’n Sipsi arnom’. Felly, rydym angen modelau rôl ac rydym yn gwybod fod Sipsiwn yn cyflawni’n uchel iawn mewn llawer o rolau, ac yn aml, nid yw’r cyhoedd yn gwybod am hynny. Ac yna, ‘Ni fyddaf yn mynd i’r gwersyll y flwyddyn nesaf am fod Mam a Dad yn dweud bod yr ysgol yn rhy bell ac nid ydynt eisiau i mi fynd ar y bws ar fy mhen fy hun; mae Mam yn credu y byddaf yn gweld ac yn dysgu pethau drwg.’ Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig deall cefndir cymunedol y plant sy’n deillio o ofal dros y plant.

Ac ar y tri phwynt olaf, roeddent yn dweud bod ganddynt dri awgrym i ysgolion ynglŷn â sut i weithio gyda disgyblion sy’n Sipsiwn a Theithwyr. Rhif un yw: ‘byddwch yn ymwybodol o’n diwylliant’, a chredaf fod gan hynny ffordd bell i fynd, ond mae’n bwysig iawn. ‘Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhyngom a’r gymuned sefydlog’, ac fel y dywedodd ein Cadeirydd, ni cheir un ateb sy’n addas i bawb. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sydd yno. Ac yn drydydd: ‘addysg hyblyg ac opsiynau i fynychu’n rhan-amser ar gyfer pob disgybl ledled Cymru’, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy’n credu y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo o bosibl.

Rwy’n cyfrannu yn lle Llyr Huws Gruffydd, er fy mod yn sylweddoli y byddai Llyr wedi chwarae llawer mwy o ran yn y trafodaethau na minnau—nid wyf ond newydd ddarllen yr adroddiad heddiw mewn gwirionedd. Rwy’n gwerthfawrogi llawer o’r sylwadau a wnaed yma heddiw, ond rwy’n credu, ar ôl darllen yr adroddiad, fod gennyf safbwynt gwahanol ar lawer o’r materion. Roeddwn yn cytuno â’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith nad yw’r grwpiau’n unffurf, ac rwy’n credu weithiau efallai bod rhai o’r argymhellion yn edrych ar leiafrifoedd ethnig a phobl dduon a grwpiau eraill mewn golau mwy negyddol nag a ragwelwyd gennych. Er enghraifft, mae’n dweud yn yr adroddiad y dyfynnodd y Gweinidog ohono fod teuluoedd Indiaidd a theuluoedd tebyg—. Mae gennyf gysylltiad cryf â chymunedau Indiaidd yng Nghaerdydd ac os porthwn y ffaith eu bod yn weithgar iawn, yn llawn ysgogiad, eu bod yn aml yn dilyn gyrfaoedd sy’n galw am lawer o ysgogiad—credaf y gallwn, o bosibl, droi hynny o gwmpas a dweud, ‘Wel, sut y gallwn ddefnyddio disgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ffordd gadarnhaol i rannu’r profiadau hyn â’r rhai nad ydynt mor llwyddiannus o bosibl?’, yn hytrach na dweud, ‘Wel, ie, nid ydynt yn gwneud cystal â disgyblion eraill,’ ac mae angen i ni gael rhywbeth penodol i’w targedu hwy’n unig.

Rwy’n ymwybodol o fod eisiau i bawb gael chwarae teg yn yr ystafell ddosbarth, a minnau’n dod o deulu o athrawon, a byddwn eisiau gallu caniatáu i’r athrawon hynny ddysgu mewn ffordd y teimlant y gall pawb yn yr ystafell ddosbarth fod yn rhan o’r un math o argymhellion addysgol. Felly, ydw, rwy’n credu y dylai athrawon fod yn ymwybodol o Sipsiwn a Theithwyr a’u cymunedau; ydw, rwy’n credu, wrth gwrs, y dylem fod yn ymwybodol o wahanol ddiwylliannau, ond nid wyf yn credu y dylem fod yn dweud y dylent gael eu haddysgu mewn ffordd wahanol neu y dylent gael, o bosibl—wel, nid wyf yn gwybod beth ydyw’n benodol gan na allwn weld beth oedd yr argymhellion penodol yn adroddiad y pwyllgor i ddweud, ‘Wel, mae angen i X, Y a Z gael eu gwneud ar gyfer y grwpiau penodol hynny mewn gwirionedd’.

Felly, er enghraifft, rwyf wedi gweithio cryn dipyn gyda phlant ffoaduriaid yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac rwyf wedi dweud wrth y penaethiaid yno, ‘Wel, ni all Joni bach fynd i’r ysgol am na all y rhieni fforddio teithio yno’ ac roeddent yn dweud wrthyf ‘Wel, ie, hoffwn sicrhau darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer i’w cael nhw yma, ond os wyf yn gwneud hynny bydd yn rhaid i mi ei wneud ar gyfer pawb.’ Ac os ydym yn mynd i wneud newidiadau, credaf fod angen i ni edrych arno’n ehangach fel nad ydym yn eithrio unrhyw un o unrhyw newidiadau. Rwy’n cydnabod yn llwyr y gall fod gan wahanol grwpiau o bobl broblemau sylfaenol iawn, ond nid wyf yn gwybod a ydym am hwyluso gwahaniaeth. Rwy’n credu ein bod yn awyddus i hwyluso gweithio gyda’n gilydd. Efallai fy mod yn anghywir, efallai y bydd Llyr yn flin â’r hyn rwy’n ei ddweud yma heddiw, ond rwy’n credu weithiau ein bod yn canolbwyntio ar bethau negyddol. Mae’n rhaid i ni weld y cyfoeth o brofiad a’r cefndiroedd teuluol y daw pobl ohonynt, o wledydd eraill, lle y mae eu hetheg gwaith, mewn gwirionedd, os meiddiaf ddweud—yn ddadleuol—yn well na’n hetheg gwaith ni. Maent eisiau mynd allan i weithio, ac maent yn awyddus i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r gymdeithas.

Fel gydag unrhyw grant, rwy’n credu, mewn ffordd gyffredinol mae angen i ni allu sicrhau ein bod yn olrhain pa mor bositif ydyw ac yn olrhain i ble y mae’r arian yn mynd. Ac os wyf yn cytuno ag unrhyw beth yn yr adroddiad, rwy’n credu fy mod yn cytuno â hynny. Mae’n rhaid i ni ddeall, nawr bod y newid wedi’i wneud, ein bod yn gallu dweud, ‘Wel, mewn gwirionedd, bydd yn arwain at welliannau i’n pobl ifanc’. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod athrawon o dan straen enfawr, ac os ydym yn mynd i gyflwyno cynigion penodol o ganlyniad i’r adroddiad hwn, yna mae’n rhaid ei wneud gan gadw’r pwysau gwaith hwnnw mewn cof. 

A gaf fi ganmol y pwyllgor plant—y Cadeirydd yn arbennig, ond yr Aelodau eraill hefyd—am gynhyrchu adroddiad mor eglur a phriodol? Rwy’n credu bod hwn yn graffu o ansawdd uchel, ac yn union y math o beth y dylai pwyllgorau Cynulliad ei wneud. Y mater allweddol, yn amlwg, yw’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn ymdrin â chwestiynau i gynyddu prif-ffrydio yn hytrach na chlustnodi. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn aml yn ei wynebu yn y dewisiadau a wnawn yma. Mewn byd delfrydol, rydych eisiau system sydd mor agos at y brif ffrwd ag y bo modd, sef yr hyn yr oedd y siaradwr blaenorol, Bethan, yn ei awgrymu rwy’n credu.

Ond rydym hefyd yn gwybod bod angen camau gweithredu penodol iawn weithiau. Rwyf wedi gwneud llawer o waith, dros y blynyddoedd, ar blant sy’n derbyn gofal, ac mae llawer o adleisiau yma, yn enwedig ynglŷn â’r bwlch cyflawniad ar lefel TGAU ac yna’r cyfleoedd y mae’r bobl ifanc hyn yn eu cael yn y dyfodol. Ond rwy’n credu mai’r hyn y mae’r adroddiad pwyllgor hwn wedi’i hoelio mewn gwirionedd yw eich bod angen systemau monitro a gwerthuso clir iawn os ydych yn symud at ddulliau prif ffrwd. Fel arall, gallwch golli holl bwrpas yr ymyriad—mae’r ymyriad yn un a ddymunir o hyd. Mae’n bosibl ein bod yn symud o grant penodol iawn at ymagwedd fwy cyffredinol, ond yn amlwg, mae’r angen am ymyrraeth wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â’r Aelodau—cyfraniadau hynod o huawdl Darren a Julie—ac rwy’n pryderu’n fawr fod y dull o weithredu wedi bod mor esgeulus ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am sicrhau bod y newid hwn yn digwydd yn effeithiol, ac nid oes gennym y dystiolaeth i ddod i’r casgliad ei fod wedi digwydd yn effeithiol ar hyn o bryd. Felly, rwy’n credu ei bod yn hynod o bwysig inni allu arddangos trefn fonitro a gwerthuso effeithiol.

Mae perygl, rwy’n credu, y gall anghenion penodol plant lleiafrifol gael eu hanwybyddu, hyd yn oed pan geir blaenoriaeth wleidyddol glir i roi sylw arbennig iddynt. Dyma rywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol iawn ohono. A gaf fi ailadrodd y pwynt ynglŷn â’r bwlch cyrhaeddiad? Rwy’n credu ei bod bob amser yn briodol, pan fyddwn yn edrych ar grwpiau penodol, i’w cymharu â phoblogaeth eu cymheiriaid, oherwydd—ac unwaith eto, gan adleisio cyfraniadau blaenorol—rwy’n credu y dylai ein disgwyliadau fod yr un fath. Pam yn y byd y dylem sefyll o flaen pobl a dweud, ‘Wel, y rhai sydd ag anghenion penodol ac amgylchiadau arbennig—dechreuwn drwy ostwng y bar a’r disgwyliadau y gellir disgwyl i’r bobl hynny eu cyflawni’? Rwy’n credu bod hynny’n eithriadol o wael. Mae’r bwlch ar hyn o bryd, gyda 24.5 y cant yn cyflawni’r lefel sylfaenol yn eu TGAU o’i gymharu â 59 y cant ymhlith poblogaeth eu cymheiriaid, yn rhy fawr. Mae wedi cau, ac efallai fod hynny’n deillio o’r ffaith fod y consortia’n gweithio’n gynhyrchiol yn eu ffordd eu hunain, er na allwn arddangos hynny. Ond mae’n rhaid i ni gael tystiolaeth, a beth bynnag, rwy’n credu y byddem i gyd yn cytuno ein bod eisiau i’r bwlch hwnnw gael ei gau gryn dipyn yn fwy na hynny.

Wrth fesur effeithiolrwydd polisi cyhoeddus, rwy’n credu bod yna bob amser adeg pan fyddwn yn clywed gan y rhai sydd â chyfrifoldeb gweithredol am weithredu newid fod angen inni symud weithiau tuag at ymagwedd sy’n anelu at welliant cyffredinol yn hytrach na chael ein clymu wrth ganlyniadau targed penodol iawn. Weithiau, dyna’r ffordd sy’n briodol—bod yn fwy eang. Ond rwy’n credu bod yna lawer o dystiolaeth ein bod ar y cam lle y mae angen i ni dargedu mwy, ac a dweud y gwir, pan fyddwch yn targedu mwy, rwy’n credu bod angen tystiolaeth dda iawn arnoch i gamu’n ôl oddi wrth system gyllido sy’n clustnodi mwy. Ond rwy’n llongyfarch y gwaith a wnaed yma; rwy’n credu ei fod yn gyfraniad pwysig iawn.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau lle y gorffennodd David Melding, a diolch, yn ddiffuant, i Lynne Neagle ac aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiad? Fel y nododd y Cadeirydd, canolbwyntiodd ymchwiliad y pwyllgor ar effaith y trefniadau cyllid grant newydd a gyflwynwyd yn 2015-16, yn dilyn ad-drefnu nifer o grantiau addysg. Nawr, mae llawer o’r dystiolaeth a ddarparwyd i’r pwyllgor yn ymdrin, yn fy marn i, â materion hirdymor, gyda nifer ohonynt yn rhagflaenu’r trefniadau cyllido newydd drwy’r grant gwella addysg. Mae’r ystod eang o safbwyntiau a ddarparwyd yn y dystiolaeth i’r pwyllgor yn amlygu’n berffaith fod hwn yn faes cymhleth lle na cheir un ymagwedd y mae pawb yn cydsynio yn ei chylch ynglŷn â sut y dylid datblygu a rheoli’r heriau. Mae dilysrwydd i’w ganfod yn y gwahanol safbwyntiau a fynegwyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu gwaith caled yn dwyn y materion ynghyd mewn modd mor gydlynol i’w trafod yma heddiw. Wrth geisio deall yr heriau a all wynebu rhai dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ran cyflawni eu potensial addysgol, mae’r pwyllgor wedi mynd i’r afael â maes gwaith anodd ond pwysig iawn.

Nid yw’n syndod i’r Aelodau, rwy’n gobeithio, fy mod wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a darpariaeth deg gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Yn yr wrthblaid, fel yn awr yn fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwyf bob amser wedi blaenoriaethu camau i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfleoedd y maent eu hangen ac yn eu haeddu i gyflawni’r potensial hwnnw, ac mae llawer wedi’i gyflawni. Ond mae’r her yn parhau i fod yn sylweddol i rai grwpiau, fel y clywsom gan David Melding, ac mae llawer mwy i’w wneud. Nid gormodiaith, Dirprwy Lywydd, yw dweud ein bod ar drothwy’r diwygiad mwyaf yn y byd addysg ers y 1960au. Rydym yn cyflwyno cwricwlwm a threfniadau asesu newydd, a ffocws strategol clir ar y ffactorau ategol a fydd yn helpu pob un o’n dysgwyr i gyflawni.

Wrth sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, byddaf yn rhyddhau cynllun gweithredu diwygiedig ar gyfer addysg ymhen y rhawg a fydd yn dangos fy ymrwymiad i system addysg gynhwysol, gyda chyfle cyfartal i bob dysgwr yn ganolog ynddo. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o’r gwelliannau diweddar ym mherfformiad y mwyafrif helaeth o’r grwpiau dysgwyr hyn, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. A diolch i Darren Millar am dynnu sylw at rai o’r arferion da sy’n bodoli yn ein system addysg. Do, yng Ngwent, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld ag ysgol Llysweri. Gwelais y gwaith caled y maent yn ei wneud drosof fy hun, ond mae’n ymestyn y tu hwnt i Went, at y gwaith a wnaed yng Nghil-maen yn Sir Benfro, er enghraifft, sy’n dangos esiampl yn y modd y maent yn cynorthwyo eu plant.

Ac mae nifer o grwpiau dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, fel y clywsom gan Bethan Jenkins, eisoes yn perfformio’n well na lefelau cyfartaledd cenedlaethol, ac mae hynny i’w groesawu a’i ddathlu, fel y mae Bethan wedi’i wneud heddiw. Fel y dywedais, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y darlun cymhleth hwn. Nid un grŵp unffurf yw dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, a Theithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Mae anghenion unigol a lefelau cyrhaeddiad y dysgwyr hyn yn amrywio’n sylweddol o rai o’n plant mwyaf galluog a thalentog i’r rhai sy’n cyflawni’n llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r pwyllgor yn cydnabod hyn yn yr adroddiad, ac fel y dywedais, mae’n fater rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ohono. Ond fel y dywedais, mae’r her yn sylweddol, ac yn arbennig mewn perthynas â’r grwpiau ystyfnig sy’n parhau o dan y cyfartaledd cenedlaethol, a dyna pam rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol ein gwasanaethau a’n hysgolion dros y blynyddoedd.

Dylai ein hysgolion, gwasanaethau cymorth ein hawdurdodau lleol a’n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol gael gwybodaeth ac arbenigedd helaeth i gynorthwyo’r dysgwyr hyn, ac mae’r rhain ganddynt eisoes mewn llawer o achosion,. Rwy’n credu’n gryf nad yw ein cryfder a’n llwyddiant yn y dyfodol yn deillio o fy swyddfa yn Nhŷ Hywel, ond yn hytrach o’r sector, yn gweithio fel cyfanrwydd, mewn partneriaeth o fewn system hunanwella sy’n rhoi gwerth ar ein proffesiwn addysgu ac amrywiaeth ein cymdeithas.

Gan symud at argymhellion y pwyllgor—darparodd 14 o argymhellion yn ei adroddiad, argymhellion sy’n darparu ffocws clir ar gyfer gweithredu yn fy marn i. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i’r pwyllgor, rwy’n credu, yn dangos fy mod yn cytuno â phob un ond un o’r argymhellion. Rwyf wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i edrych eto ar yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd rai blynyddoedd yn ôl. Rwy’n deall pam fod hyn yn destun siom i’r pwyllgor, ond gan nad yw’r pwyllgor yn gwneud unrhyw argymhelliad penodol ar gyfer newid y mecanwaith cyllido, rwy’n teimlo na fyddai asesiad effaith ar wahân yn fuddiol ar hyn o bryd ac mae’n well cyfeirio ein hymdrechion ac ymdrechion fy swyddogion a’r gwasanaeth tuag at gefnogi a chyflawni pob un o argymhellion eraill y pwyllgor, ac rwy’n credu y bydd hynny’n mynd â ni ymlaen i’r dyfodol.

Un o’r argymhellion rwy’n cytuno’n arbennig o gryf ag ef yw nad yw’r fframwaith perfformiad addysg presennol yn ddigon cadarn. Nid ydyw, yn syml, ac nid oedd modd cuddio rhag hynny yn ystod sesiynau’r pwyllgor. A dyna pam, cyn cyhoeddi adroddiad y pwyllgor, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gryfhau’r fframwaith ar gyfer y grant gwella addysg i ysgolion. Dros y misoedd diwethaf, rwy’n falch o ddweud eu bod wedi gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i sefydlu fframwaith canlyniadau gwell a llawer mwy cadarn, a fydd yn canolbwyntio ar herio a chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia gydag ymdrechion i wella canlyniadau addysgol i’r dysgwyr hyn o 2017-18. Mae’r fframwaith canlyniadau ar gyfer y grant gwella addysg yn mynegi beth yw ein canlyniadau cenedlaethol, ac yn dangos sut y mae strategaethau consortia rhanbarthol, drwy’r grant gwella addysg, yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniadau hyn, ac yn sicrhau bod y grant gwella addysg yn effeithio’n gadarnhaol ar ganlyniadau dysgwyr. Y bwriad, drwy’r fframwaith, yw symud oddi wrth ddull rhagnodol a arweinir gan weithgaredd i ganolbwyntio ar ganlyniadau, gan barhau i fod yn ddigon soffistigedig i bwyso ar y gweithgaredd os oes angen. Bydd y fframwaith diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynlluniau busnes y consortia rhanbarthol ar gyfer 2017-18. Rwy’n falch hefyd fod Estyn wedi cytuno i ailedrych ar y mater drwy gynnal adolygiad byr yn 2018-19. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gynnydd ers 2011, a’i adroddiad ar y pryd, a bydd yn ystyried effaith y gwasanaethau a’r cymorth presennol ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae’n hen bryd i ni gael yr adolygiad o’r adroddiad hwnnw.

Yr hyn y mae’r dystiolaeth hon wedi’i grisialu i mi, Dirprwy Lywydd, yw bod yna gydbwysedd bregus rhwng cefnogi pob dysgwr i fanteisio ar y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a pharchu a gwerthfawrogi natur amrywiol ein cymunedau, sy’n helpu i wneud Cymru heddiw’n gymdeithas fodern a blaengar lle rwyf fi—a’r rhan fwyaf yn y Siambr hon, rwy’n gobeithio—eisiau byw. Dros amser, mae presenoldeb wedi gwella, mae cyrhaeddiad addysgol wedi gwella, ac mae disgwyliadau, sy’n gwbl hanfodol, wedi codi, ac yn briodol felly. Ac rydym wedi gwrando ar ein cymunedau. Byddaf yn bendant yn cyhoeddi adroddiad ymchwil cymheiriaid y prosiect Teithio Ymlaen gan Achub y Plant ar Dysgu Cymru, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i bob ysgol, i bob awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol, fel y gall ein haddysgwyr proffesiynol a’n darparwyr gwasanaethau ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd gan y bobl ifanc yn eu darpariaeth.

Mewn llawer o achosion, mae ein gwasanaethau wedi gwneud gwaith da, a hoffwn ddiolch iddynt am eu penderfyniad. Ond rwyf yn awr yn gofyn iddynt gynyddu eu hymdrechion i sicrhau bod mwy o’r dysgwyr hyn a’u teuluoedd yn teimlo’n gyfforddus i gofrestru eu nodweddion ar y ffurflenni cyfrifiad ysgolion blynyddol, fel y gallaf fod yn sicr fod y cymorth sydd ar gael iddynt drwy gyllidebau ysgolion a’n cyllid grant yn adlewyrchu eu niferoedd.

Darren Millar, rwy’n gobeithio y bydd ein hadolygiad Diamond, parhad ein Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chymorth i ddysgwyr addysg bellach allu mynd i’r afael â rhwystrau yn parhau i ddarparu fframwaith ariannol i annog pobl i mewn i addysg bellach ac addysg uwch, ond mae disgwyliadau’r cymunedau hynny’n allweddol. Gwnaed pwynt pwysig mewn perthynas ag amrywiaeth ein proffesiwn addysgu. Nid yw ein proffesiwn addysgu mor amrywiol ag y byddwn eisiau iddo fod, a byddaf yn ystyried, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, beth arall y gallwn ei wneud i annog amrywiaeth yn ein proffesiwn addysgu.

Dirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, a diolch i’r pwyllgor unwaith eto am yr adroddiad gwerthfawr hwn? Mae wedi cryfhau fy ngallu i ysgogi pobl i weithredu yn yr adran, yn enwedig mewn perthynas â monitro. Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau’r pwyllgor ar waith yn y maes hwn yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog. Darren Millar, diolch i chi am eich cyfraniad ac am eich gwaith ar yr ymchwiliad. Roeddech yn gwbl gywir i dynnu sylw at natur dameidiog y ddarpariaeth, sy’n eithaf brawychus mewn gwirionedd, a’r ffaith nad oeddem ni, fel pwyllgor, yn gallu nodi’r hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a oedd, ynddo’i hun, yn destun pryder mawr. Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar i chi am dalu teyrnged i wasanaeth cymorth lleiafrifoedd ethnig Gwent, a gafodd argraff fawr, rwy’n credu, ar y pwyllgor cyfan ac sy’n gwneud gwaith hollol ragorol. Ond y broblem sydd gennym yw nad yw’r enghreifftiau hynny o arfer da yn cael eu lledaenu hyd y gwyddom. Ac fel y dywedwch, roedd y dystiolaeth gan y consortia’n siomedig. Rwy’n rhannu eich pryderon am y sesiwn a gawsom gydag Estyn. Roedd yn destun pryder eu bod wedi dod atom a dweud eu bod wedi gwneud yr adolygiad hwn yn ôl yn 2011 ac nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr argymhellion. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, rwy’n credu y byddai gennym rywbeth cryf iawn i’w ddweud am y peth. Gyda’r arolygiaethau, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddisgwyl y ceir y trylwyredd hwnnw wrth wneud gwaith dilynol lle y maent wedi buddsoddi amser, mewn gwirionedd, yn arolygu rhywbeth.

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie yn eiriolwr brwd iawn dros y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac yn enwedig y plant, ac roeddwn yn falch iawn fod Julie, fel aelod o’r pwyllgor, wedi chwarae rhan mor allweddol yn yr ymchwiliad. Rwy’n rhannu’r pryder nad oedd yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd yn ddigonol, a gwn fod y rhanddeiliaid yn teimlo hynny, ac er fy mod yn ymwybodol o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru newydd ei ddweud, rwy’n gobeithio wrth symud ymlaen y bydd Llywodraeth Cymru’n dysgu gwersi o hyn wrth wneud penderfyniadau tebyg yn y dyfodol.

Gwnaeth Julie bwyntiau pwysig iawn am fodelau rôl, ac roedd hynny’n rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad—rydym yn ceisio annog y bobl ifanc hyn i fod yn yr ysgol, eto i gyd nid oes ganddynt lawer o fodelau rôl mewn gwirionedd, ac mae hynny’n wir am blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond hefyd am blant o leiafrifoedd ethnig. Roedd hwnnw hefyd yn fater a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad. A diolch i chi am dynnu sylw at y prosiect adolygu gan gymheiriaid. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod pawb ohonom yn cadw safbwyntiau plant yn ganolog i’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.

Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am ei chyfraniad, am gamu i’r adwy dros Llyr heddiw. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn credu bod y pwyllgor yn dweud bod y rhain yn grŵp unffurf. Yn enwedig gyda dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, nid yw hynny’n wir o gwbl, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr, lle y mae gennym grwpiau lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn perfformio, ein bod yn sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith, ac yn sicr nid oedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom. Yn yr un modd, nid oeddem mewn sefyllfa i argymell yn benodol yr hyn y dylai awdurdodau lleol neu gonsortia fod yn ei wneud, oherwydd nid oedd gennym ddigon o wybodaeth am yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a dyna pam y mae ffocws allweddol ein hargymhellion, mewn gwirionedd, wedi bod ar yr angen am fonitro a gwerthuso trylwyr a phriodol.

A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gyfraniad heddiw, am dynnu sylw at y tensiynau pwysig iawn rhwng darpariaeth prif ffrwd a darpariaeth wedi’i thargedu a’i chlustnodi? Rwy’n sicr yn cytuno â chi, er y byddai pawb ohonom yn gobeithio y gellir cyflawni popeth drwy drefniant prif ffrwd, yn amlwg ceir amgylchiadau lle nad yw hynny’n mynd i ddigwydd, a dyna pam ein bod angen dull wedi’i dargedu fel hyn. A diolch i chi, hefyd, am eich pwyslais ar yr angen am fonitro a gwerthuso priodol, a hefyd am eich geiriau caredig am waith y pwyllgor yn y maes hwn.

A gaf fi ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei chyfraniad heddiw, ac am ei hymwneud adeiladol iawn â’r pwyllgor ar y pwnc hwn? Croesawaf yn arbennig yr hyn a ddywedoch heddiw am yr angen i gryfhau’r fframwaith rheoli perfformiad; mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddwn yn edrych ymlaen at wneud gwaith dilynol gyda chi ar hynny. A diolch i’r Aelodau’n gyffredinol am eu cyfranogiad heddiw ac i ailadrodd yr hyn rwyf wedi’i ddweud yn ystod y dadleuon a gawsom yn flaenorol yn y pwyllgor: nid gwaith untro y byddwn yn ei roi o’r neilltu a’i adael yw hwn; rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol trylwyr iawn arno wrth symud ymlaen a pharhau i dynnu sylw at y maes gwaith pwysig hwn. Felly, diolch yn fawr iawn, bawb.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Awdurdodau Lleol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol.

Symudwn yn awr at eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar awdurdodau lleol, a galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig y cynnig—Sian.

Cynnig NDM6295 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.

2. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan effeithio'n anghymesur ar rai o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran:

a) datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes;

b) sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel;

c) darparu addysg o safon; a

d) darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru.

4. Yn nodi bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur.

5. Yn credu y dylai prosiectau datblygu tai fforddiadwy lleol fod yn seiliedig ar anghenion y gymuned.

6. Yn nodi llwyddiant y model tracio datblygiad plentyn, a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion—yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau—i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn botensial, gyda chymorth yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y disgwyl.

7. Yn gresynu bod canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 58 y cant ers 2012.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae’n bleser gen i, ar ran Plaid Cymru, hoelio ein sylw y prynhawn yma ar bwysigrwydd cynnal a datblygu llywodraeth leol gadarn yng Nghymru. Drwy gryfhau cymunedau, byddwn yn cryfhau Cymru.

Gyda chyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin yn dwyn sylw’r wasg a gwleidyddion o bob lliw, rwyf i yn falch bod yna gyfle inni oedi am ennyd yn y Senedd heddiw i drafod pwysigrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, mae’r etholiadau lleol yn gyfle i bobl leisio eu barn yfory.

Mae Plaid Cymru yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl, ond mae’r gwasanaethau cyhoeddus yma dan fygythiad. Mae cyllid wedi lleihau, a thoriadau yn dod yn sgil hynny. Mae’r Torïaid ar grwsâd ideolegol i ddatgymalu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn anffodus, mae gwaeth i ddod dros y blynyddoedd nesaf. Mae angen cynghorau cryf ym mhob cwr o’n gwlad, cynghorau sy’n gweithredu’n gyfrifol i amddiffyn y bobl wannaf a’r mwyaf bregus mewn cymdeithas; i amddiffyn y bobl sy’n cael eu taro waethaf gan y toriadau. Fe gafodd Cyngor Gwynedd ei ganmol gan yr archwiliwr cyhoeddus am ei gynllunio ariannol effeithiol a chadarn, er gwaetha’r toriadau.

Mae angen cynghorau cryf i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus, i fod yn darian yn erbyn y gwaethaf o’r toriadau, a pholisïau llymder y Torïaid. Ers yn rhy hir o lawer, rydym wedi bodloni ar wasanaeth eilradd gan lawer o’n cynghorau. Mae Plaid Cymru eisiau adeiladu Cymru newydd, ac, yn ein barn ni, y lle gorau i ddechrau ydy wrth ein traed. Lle mae Plaid Cymru yn arwain ein cynghorau—sir Gâr, Ceredigion, Conwy a Gwynedd—mi rydym yn darparu gwasanaethau ardderchog, er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol llym sydd arnom ni. Mae’r cynghorau hyn yn arwain yng Nghymru, mewn meysydd mor amrywiol â thai cymdeithasol, addysg, strydoedd glân ac ailgylchu. Gydag addysg, mae Cyngor Sir Ceredigion yn arwain y ffordd fel yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn o berfformio’n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau.

Yn aml yn y Siambr yma, rydym yn trafod bod yna ddiffyg tai cymdeithasol yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Cyngor Sir Gâr, dan arweiniad Plaid Cymru, wedi gweithredu, gan ymrwymo i godi 60 o dai cyngor ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o ymrwymiad tai fforddiadwy ehangach, sydd yn addo darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y bum mlynedd nesaf. Dyma’r cyngor cyntaf yng Nghymru i adeiladu tai cyngor newydd ers y 1980au. Mi rydym ni angen tai ar gyfer ein pobl, ond mae’n rhaid i stadau newydd fod yn y llefydd cywir, ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu cefnogi gan yr isadeiledd cywir—ffyrdd, ysgolion, ysbytai. Yn anffodus, mae cynllun datblygu lleol cyngor Caerdydd yn enghraifft o gynllun na fydd yn gweithio er budd y bobl, gyda’r ffocws ar adeiladu tai heb ystyried y canlyniadau.

Bob blwyddyn, mae’n cynghorau ni’n gwario miliynau o bunnoedd ar brynu nwyddau a gwasanaethau, ond, yn rhy aml, mae’r arian hwn yn llifo allan o Gymru. Nid yw cyflenwyr bychain lleol mewn sefyllfa bob tro i gystadlu â chystadleuwyr mwy am gontractau cynghorau. Ers 2012, mae canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau’n sefydlog ar 58 y cant. Yn ystod cyfnod o lymder, lle mae arian yn brin, mae’n gynyddol bwysig bod awdurdodau lleol, a’r sector cyhoeddus yn ehangach, yn sicrhau’r gwerth lleol mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â’r broblem yma, gan sefydlu system gaffael newydd, i gadw’r budd yn lleol. Nid yn unig mae hyn wedi cyfeirio miliynau i’r economi lleol, ond mae hefyd wedi arbed £2.3 miliwn i’r cyngor dros bum mlynedd.

Mae cynnal gwasanaethau cyhoeddus o safon yn galw am staff o’r ansawdd gorau i’w rhedeg. Mae pobl yn haeddu tâl teilwng am eu gwaith, ond ni ddylai bod bwlch mawr rhwng cyflogau y rhai ar y top a chyflogau’r gweithwyr rheng flaen, sy’n allweddol i lwyddiant. Rydym eisiau cau’r bwlch yma, ac rydym yn credu mewn gweithio tuag at fargen deg i bob gweithiwr cyngor, gan gynnwys y rhai sydd ar gytundebau dim oriau. Rwy’n mawr obeithio y gall y Llywodraeth heddiw ymrwymo i’r egwyddor o ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol, drwy gefnogi cymal 8 ein cynnig ni. Fel arall, fe fydd eich plaid chi’n cael ei chyhuddo o ragrith, efo’ch arweinwyr ar lefel y Deyrnas Unedig yn dweud un peth tra’ch bod chi yn dewis peidio gweithredu pan fo gennych chi’r cyfle i wneud hynny yng Nghymru. Ond, yn bwysicach na hynny, byddai cefnogi cymal 8 yn arwydd clir eich bod chi ar ochr rhai o’r gweithwyr mwyaf gwerthfawr ond isaf eu parch yng Nghymru ar hyn o bryd.

I gloi, mae gwasanaethau cyhoeddus o safon yn ganolog i ffyniant ein cenedl. Nhw ydy’r glud sy’n rhwymo ein cymdeithas, a’r rhwyd ddiogelwch sy’n cynnal y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni. Bydd cynghorwyr Plaid Cymru yn bencampwyr eu cymunedau, ac yn defnyddio’r holl bwerau sydd ganddyn nhw i wella bywydau pobl, i gryfhau cymunedau Cymru, ac i roi grym yn ôl yn nwylo’r bobl.

Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.78 y cant ers 2013-14, gan effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau gwledig, gan gynnwys toriadau o 9.98 y cant i Sir Fynwy, 9.36 y cant i Fro Morgannwg a 7.96 y cant i Gonwy.

Gwelliant 3—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai cyflog Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, a gaiff ei arwain gan y Ceidwadwyr Cymreig yw un o'r isaf yng Nghymru, ac yn cymeradwyo tryloywder y cyngor o ran cyhoeddi pob gwariant.

Gwelliant 4—Paul Davies

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi hawl pob plentyn a pherson ifanc i gael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn nodi pwysigrwydd cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion o ran galluogi rhieni i allu dewis yr ysgol orau i'w plant.

Gwelliant 5—Paul Davies

Dileu pwynt 8 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwerth gweithwyr gofal cymdeithasol o ran cynorthwyo gwasanaethau'r GIG sydd wedi'u canoli a'u gor-lwytho, a phwysigrwydd integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 and 5.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig gwelliannau 2 i 5 yn enw Paul Davies AC. Yfory, ar 4 Mai, bydd pleidleiswyr yn pleidleisio i ethol eu haelodau yn ein hawdurdodau lleol, ein cynghorau tref a’n cynghorau cymuned. Cyfrifoldeb Llafur Cymry yw deddfwriaeth, polisi a dosbarthu setliadau, wrth gwrs, dros y 18 mlynedd diwethaf. Dros y cyfnod hwn, mae ein trigolion wedi gweld cynnydd o 187 y cant yn y dreth gyngor yng Nghymru. Maent hefyd wedi wynebu toriadau difrifol i’n casgliadau biniau, ac wedi gweld toiledau cyhoeddus, ein llyfrgelloedd a’n canolfannau cymunedol lleol yn cau. Amharwyd ar y bobl sy’n byw yn ein cymunedau gwledig gan y toriadau niferus dan law’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru, yn enwedig y toriadau llym i drafnidiaeth gymunedol, sydd wedi peri i lawer o bobl deimlo’n ynysig a diobaith. Felly, mae’n amlwg y bydd pleidleiswyr yn chwilio am newid ac am gynrychiolwyr a fydd yn brwydro drostynt, ac yn dadlau yn erbyn toriadau anferth o’r fath a diffyg effeithlonrwydd o ran y modd y caiff eu gwasanaethau eu darparu.

Mae ein gwelliant cyntaf yn tynnu sylw at y toriadau anghymesur i awdurdodau gwledig: 10 y cant, Sir Fynwy; 9 y cant, Bro Morgannwg; a bron i 8 y cant yng Nghonwy. Y dreth gyngor yw’r baich dyled mwyaf yng Nghymru o hyd yn ôl y ganolfan cyngor ar bopeth, gyda thrigolion bellach yn wynebu cynnydd o 187 y cant ers i Lafur ddod i rym. Serch hynny, mae’n 230 y cant yng Nghonwy, ond nid yw hyn wedi atal Plaid Cymru, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r aelodau annibynnol rhag cefnogi a phleidleisio dros godiadau pellach. Mae glanhau strydoedd a chasgliadau biniau, a nodir yng nghynnig Plaid Cymru fel swyddogaethau pwysig a wneir gan lywodraeth leol, wedi cael eu torri mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen. Do, gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur. Yng Nghonwy, mae casgliadau biniau bob pedair wythnos a thipio anghyfreithlon—sydd bellach ar ei lefel uchaf ers pum mlynedd—yn achosi trallod mawr i fy etholwyr, gan effeithio’n bennaf ar ein teuluoedd, ein pensiynwyr a’n pobl fwyaf bregus.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio i amddiffyn a diogelu’r gwasanaethau hanfodol hyn, gan addo adfer casgliadau biniau i drefn bythefnosol, fan lleiaf, a gwrthwynebu’n sylfaenol unrhyw gynnydd pellach a diangen yn y dreth gyngor.

Mae hi newydd addo adfer casgliadau biniau i drefn bythefnosol, sydd, fel y nodwyd eisoes, yn dipyn o lol mewn gwirionedd pan ddylech fod yn mabwysiadu agwedd leol tuag at hyn. Ond roedd hwn yn addewid gan y Ceidwadwyr yn Lloegr, gan Eric Pickles, a bu’n rhaid iddynt dorri’r addewid hwnnw. Pa sicrwydd y gall ei roi i’r bobl sy’n pleidleisio yfory na fydd hi’n torri ei haddewid?

Yn bendant, ni fyddaf yn torri’r addewid hwnnw, a’r pwynt sylfaenol yma yw na welwyd unrhyw arbedion hyd yn hyn ers i’r casgliadau bob pedair wythnos ddod i rym.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gofal yng Nghymru’n wynebu argyfwng. Dywed y Sefydliad Iechyd y bydd angen i’r gyllideb ddyblu bron i £2.3 biliwn erbyn 2030-31 i ateb y galw o ganlyniad i ddemograffeg, cyflyrau cronig a chostau cynyddol, ac eto mae’r diffyg gweledigaeth a’r diffyg buddsoddi o dan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi bod yn syfrdanol. Canfu rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 fod 13 y cant wedi’i dorri oddi ar wariant y pen awdurdodau lleol ar ein trigolion hŷn dros y saith mlynedd diwethaf. Mae’n warth cenedlaethol a byddai’n costio £134 miliwn yn fwy y flwyddyn, erbyn 2020, i ddychwelyd at lefel gwariant y pen 2009. Mae Cyngor Sir Fynwy, fodd bynnag, yn arwain y ffordd gyda phrosiect Rhaglan, sy’n ailfodelu’r modd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu ar gyfer bobl hŷn, gan leihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd, a galluogi mynediad gwell a haws. Mae ein gwelliant yn cydnabod gwerth y rhai sy’n gweithio yn ein diwydiant gofal, ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn tynnu sylw at aneffeithiolrwydd y diffyg gwasanaethau cydgysylltiedig ar y continwwm o ddydd i ddydd.

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Cau ysgolion. Ers 2006, rydym wedi gweld 157 o ysgolion yn cau o dan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru—gyda 60 y cant o’r rhain yn ysgolion gwledig. Mae Ceredigion, a arweinir gan Blaid Cymru, wedi gweld 20 o ysgolion gwledig yn cau; wyth yng Ngwynedd a chwech yng Nghonwy. Ac o dan yr aelodau annibynnol ym Mhowys, 18. Roedd llawer o’r rhain yn anwybyddu’r ymatebion i’r broses ymgynghori, dim ond bwrw ymlaen yn ddireol. Fel pwynt olaf, mae ein gwelliant yn galw am gyllid uniongyrchol i ysgolion, gan gael gwared ar wastraff, aneffeithlonrwydd a biwrocratiaeth haen arall sydd ond yn amsugno mwy o weinyddiaeth, a chymryd oddi wrth ein plant yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i frwydro i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni eu potensial llawn.

Felly, yfory, ni fydd ein pleidleiswyr yn diolch i’r Blaid Lafur neu Blaid Cymru am doriadau parhaus i wasanaethau, codiadau yn y dreth a dinistrio ein—

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Ni allaf, rwyf eisoes wedi—. Byddant yn edrych am y rhai a fydd yn sefyll dros newid, er mwyn cefnogi ein plant, ein pobl hŷn a’n haelwydydd teuluol; y rhai a fydd yn sefyll dros dryloywder, atebolrwydd democrataidd a chywirdeb ariannol a’r rhai a fydd yn ceisio diogelu ein gwasanaethau hanfodol, gan gadw’r dreth gyngor yn rhesymol. Yfory mae’r neges yn glir: Ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fe wyddoch ei fod yn gwneud synnwyr.

Nid wyf mor siŵr am y rhan honno lle y dywedwch fod pleidleisio i’r Ceidwadwyr yn gwneud synnwyr. Mae hon yn ddadl amserol gyda’r etholiadau yfory. Rwyf am ddatgan diddordeb: rwy’n sefyll yn yr etholiad. Hoffwn dynnu sylw at y toriadau o 6.5 y cant yng nghyllid llywodraeth leol ers 2011 a 2012 gan nad ydynt wedi bod yn angenrheidiol. Mae wedi bod yn doriad diog a hawdd iawn i—

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na wnaf. —i’r Llywodraeth Lafur hon. Yr unig beth y clywn amdano o ochr y Blaid Lafur yw’r toriadau Ceidwadol ofnadwy o Lundain. Digon teg—rwy’n cytuno. Ond beth am sgandalau fel cytundeb tir Llys-faen lle rydych wedi gwastraffu £38 miliwn ar un cytundeb neu werthiant dwy siop ar golled o £1 filiwn i’r trethdalwr?

Mae angen i ni gadw ein strydoedd yn lân yng Nghymru, ond unwaith eto, os edrychwch ar Gaerdydd, beth maent wedi’i wneud? Maent wedi torri gwasanaethau. Rydych yn gweld sbwriel wedi’i wasgaru o amgylch ein prifddinas ac mewn ymgais i gynyddu ailgylchu, maent wedi cau canolfannau ailgylchu. Nawr, mae ychydig o eironi yn hynny: cawsom refferendwm mewn un rhan o Gaerdydd a phleidleisiodd 1,869 o bobl dros ailagor y ganolfan ailgylchu fwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd ar Heol Waungron. Roedd pedwar yn erbyn. Felly, o ran ffigurau, roedd 100 y cant, o’i dalgrynnu, eisiau ailagor y ganolfan. Ond cafodd yr holl safbwyntiau hynny eu hanwybyddu’n llwyr gan gyngor Llafur.

Symudwn ymlaen at gyflogau: ceir gwahaniaeth o £22,000 rhwng cyflogau prif weithredwyr cynghorau Plaid Cymru a phrif weithredwyr cynghorau’r Blaid Lafur. Os meddyliaf am fy mhrofiad fel dirprwy arweinydd ar draws y ffordd yn 2008-12, y peth cyntaf a wnaethom oedd rhewi lwfansau cynghorwyr. Aethom ati hefyd i ymosod ar y fiwrocratiaeth anghynhyrchiol a thorri llawer o’r cyflogau dros £100,000 y flwyddyn, ac roeddem yn arbed oddeutu £5 miliwn y flwyddyn ar ôl y broses honno. Yn 2012, beth wnaeth y Blaid Lafur? Daethant â’r haen anferth, drom a drud o reolwyr yn ôl. Daethant â’r holl gyflogau hynny’n ôl, dros £120,000 y flwyddyn, a oedd yn cyfateb i fil cyflogau enfawr a gâi ei dalu gan y gweithwyr ar ben isaf y raddfa oherwydd, unwaith eto, mae Llafur yn dda iawn am greu eironi yng Nghaerdydd: maent yn cyflwyno’r cyflog byw ac yna’n torri oriau’r bobl sy’n cael y cyflogau isaf yn y sefydliad sydd wedyn yn waeth eu byd o ganlyniad.

Gadewch i ni siarad am gynlluniau datblygu lleol yng Nghymru oherwydd, yn syml iawn, nid ydynt yn gweithio. Mae 22 ohonynt, neu fe fydd yna 22 ohonynt ac nid yw’r un ohonynt yn gydgysylltiedig—yr un ohonynt. Os edrychwn ar y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd, byddwn yn colli bron bob safle maes glas yng ngorllewin y ddinas, os yw’r Blaid Lafur yn cael ei hail-ethol yfory. Byddwn yn colli coetiroedd hynafol, rhywogaethau o anifeiliaid, pryfed ac amffibiaid. Bydd y cyfan yn mynd o dan goncrit, wedi’i roi yno gan ddatblygwyr sy’n gwneud biliynau o bunnoedd o’r rhanbarth hwn.

Mae’r anhrefn traffig sydd gennym eisoes yn rhywbeth i edrych arno. Pan fyddaf yn gadael fy nhŷ, os byddaf yn y swyddfa yn Nhreganna yn y bore, nid wyf yn dal y bws; rwy’n cerdded o’r Tyllgoed i bont Trelái oherwydd ei fod yn gyflymach—rwy’n cerdded yn gyflymach na’r bws ar adegau prysur—ac rwy’n dal bws o bont Trelái i Dreganna, ac mae hynny’n dweud y cyfan, mewn gwirionedd, fod y ffyrdd eisoes yn llawn traffig. Yr hyn y mae’r Blaid Lafur yn ei argymell yng Nghaerdydd yw rhoi 10,000 o geir ychwanegol bob dydd ar ffyrdd gorllewinol y ddinas. Ni fydd unrhyw ffyrdd newydd, nac unrhyw seilwaith, nac unrhyw gynllun ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus—gwallgofrwydd llwyr, y mae Plaid Cymru Caerdydd yn anelu i roi diwedd arno yfory os enillwn yr etholiad, neu efallai pan fyddwn yn ennill yr etholiad, a dechrau diddymu’r cynllun datblygu lleol.

Rydym yn awyddus i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru. Rydym yn awyddus i ddatrys yr argyfwng tai ar hyd a lled y rhanbarth canolog hwn, ac yng Nghaerdydd, drwy adnewyddu adeiladau gwag—miloedd o adeiladau gwag ar draws Canol De Cymru. Gallwn gyflogi adeiladwyr lleol i wneud hynny a gallem gartrefu pobl yn gyflym iawn. Mae digon o safleoedd tir llwyd i adeiladu arnynt. Yn lle hynny, bydd y gwallgofrwydd hwn a arweinir gan ddatblygwyr—gwallgofrwydd llwyr—yn difetha ein cefn gwlad ac yn creu ‘carmagedon’ ar strydoedd y rhanbarth hwn.

Yfory, bydd y bobl yn pleidleisio ar y materion hyn ar hyd a lled Cymru, ac rwy’n eithaf sicr y bydd y Blaid Lafur yn cael ei hateb ac y bydd pobl dda Cymru yn codi ac yn gwneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Diolch yn fawr—diolch.

Rwy’n datgan buddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, tan yfory’n unig—ni fyddaf yn ailymgeisio. Mae fy nhad yn sefyll eto, y Cynghorydd Wynne David yn ward Catwg Sant yng Nghaerffili. Yn wir, daeth wyneb yn wyneb â Steffan Lewis wrth ymgyrchu—sut y gallai Steffan Lewis feiddio ymgyrchu yng Ngelli-gaer—a dywedodd fy nhad, ‘Am ddyn dymunol yw Steffan Lewis’ meddai, a dywedais, ‘Wel, mae’n ymgyrchu dros yr wrthblaid.’ Dywedodd, ‘A, ydy, ond rwy’n ei dweud hi fel y gwelaf i hi’. Felly, dyna ni.

Rwyf wedi gweld yr heriau sy’n wynebu cynghorwyr drosof fy hun, ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o’r blaen nad ydych yn cael eich ethol i wneud toriadau. Nid ydych yn cael eich ethol i ddod o hyd i arbedion, ac mae wedi bod yn anodd iawn dros y 10 mlynedd diwethaf y bûm yn gwasanaethu fel cynghorydd bwrdeistref sirol. Roeddwn yn teimlo bod y cyfarfodydd lle rydych yn mynd drwy’r gyllideb yn edrych am arbedion disgresiynol yn gyfarfodydd hynod o anodd, ac roeddent felly—fel y mae Sian Gwenllian a Neil McEvoy wedi’i nodi—o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu arian ar gyfer llywodraeth leol, ac nid oedd yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn agos at fod mor ddrwg ag y gallent fod wedi bod, fel roeddent yn Lloegr. Yn wir, eleni, mae gwariant ar lywodraeth leol wedi bod yn well nag yn Lloegr. Rydym wedi gweld y setliad—gwelodd mwy na hanner y 22 awdurdod lleol gynnydd yn eu cyllid craidd o gymharu â 2016-17, ac mae hyn yn well na’r hyn a ddisgwyliai llywodraeth leol. Ac fel cynghorydd, mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn newyddion da.

Yn bersonol, serch hynny, rwy’n teimlo rhywfaint o dristwch wrth adael llywodraeth leol er gwaethaf y pethau a ddywedais. Nid wyf am farnu Neil McEvoy neu Aelodau eraill o’r Siambr hon sydd hefyd yn gynghorwyr, ond teimlaf ei bod yn anodd iawn gwneud gwaith yr Aelod Cynulliad a bod yn gynghorydd lleol, ac felly rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi roi’r gorau iddi. Gyda llaw, fi oedd y cynghorydd lleol rhataf yng Nghymru, yn hawlio £0 lwfans a dim treuliau. Felly, mae’r cynghorydd rhad hwn yn rhoi’r gorau iddi yn awr.

Yng Nghaerffili rydym wedi llwyddo i wneud y gorau o’n sefyllfa, serch hynny—rydym wedi llwyddo i gadw ein stoc dai ac wedi gwario £210 miliwn ar safon ansawdd tai Cymru. Cyn belled ag y gallwn, rydym wedi defnyddio cyflenwyr lleol i wneud y gwaith hwnnw. Rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau llyfrgell hefyd, ac er gwaethaf y pwysau, rydym wedi gweithio yn y meysydd lle y ceir fwyaf o angen.

Un o’r pethau y byddwn yn ei ddweud wrth Neil McEvoy yw mai Llywodraeth Cymru, y Senedd hon, a basiodd Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 sydd wedi cyflwyno cynlluniau datblygu strategol, a beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad, os yw’r angen am dai yn mynd i gael ei ddiwallu, yna mae angen i bleidiau o bob lliw weithio gyda’i gilydd i gytuno ar gynlluniau strategol os ydynt yn mynd i lwyddo. Rwy’n credu bod yn rhaid rhoi rhethreg yr ymgyrch o’r neilltu, beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad, pa bleidiau bynnag fydd yn ennill, ac mae’n rhaid i bleidiau gydweithio—cydweithio mewn ffordd nad oedd yn digwydd yn 2013, gyda llaw. Yn 2013, cyflwynais gynnig i gyngor Caerffili i dorri’r cyflog. O gofio geiriad cynnig Plaid Cymru heddiw,

‘bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na’r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur.’

wel, cyflwynais gynnig i gyngor Caerffili yn galw am dorri £21,000 oddi ar gyflog y prif weithredwr ac roedd y cynnig yn llwyddiannus, ond pleidleisiodd pob aelod o Blaid Cymru ar y cyngor—neu pleidleisiodd 14 aelod yn erbyn ac roedd dau yn ymatal. Aelodau Llafur a basiodd y cynnig hwnnw.

Os edrychwn ar awdurdodau ledled Cymru, os edrychwn ar lefel y cyflog, yr unig ffordd y gallwch ymdrin â chyflogau uwch-reolwyr yn fy marn i yw drwy edrych ar luosyddion—beth yw lefel cyflogau uwch-reolwyr o’i gymharu â’r cyflogau isaf yn y sefydliad? Os ydych am fynd i’r afael â mater cyflogau uwch-reolwyr—fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen yn y Siambr hon, os ydych am fynd i’r afael â mater cyflogau uwch-reolwyr, mae’n rhaid i chi ystyried sut y telir y prif weithredwr mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill, gan eich bod yn pysgota am dalent yn yr un pwll, ond hefyd o’i gymharu â’r cyflogau isaf, ac rwy’n falch iawn o ddweud mai Caerffili oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru ar ôl etholiadau 2012 i gyflwyno’r cyflog byw.

O ran contractau dim oriau, rydym am eu gweld yn dod i ben. Fodd bynnag, rwy’n teimlo bod y cynnig heddiw wedi’i lunio ar gyfer Twitter yn hytrach nag er mwyn cynhyrchu safbwynt y gellir ei amddiffyn yn gyfreithiol i ddiogelu gweithio sy’n ystyriol o deuluoedd. Rwy’n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyson i atal defnydd annheg ac amhriodol o gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac wedi’i gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau bod staff yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyfiawn, yn gyson â’n gwerthoedd yn y Blaid Lafur. Beth bynnag yw safbwynt Plaid Cymru yn yr etholiad, byddaf yn parhau i gredu hynny. Felly, rwy’n teimlo bod gennym awdurdodau lleol Llafur da yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gweld mwy o awdurdodau lleol Llafur yng Nghymru ar ôl yr etholiad hwn.

Mae’n bleser i gyfranogi yn y ddadl yma. Man a man i mi ddweud hefyd, pan oeddwn i’n iau, roeddwn innau hefyd yn gynghorydd sir yn Abertawe, ac roedd o’n brofiad eithaf melys, mae’n rhaid i mi ddweud dros nifer o flynyddoedd. Gwnes i ddysgu llawer, ac, yn benodol, felly, pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol. Achos, yn y bôn, heb ofal cymdeithasol, byddai’r gwasanaeth iechyd yn mynd i’r wal. Felly, rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar hynny yn fy nghyfraniad i rŵan yn nhermau pwysigrwydd y gwasanaethau cymdeithasol.

Rwyf wedi dweud wrthych chi o’r blaen yn y Siambr yma fod nifer ein henoed ni yn cynyddu’n ddirfawr. Mae hynny yn agwedd bositif o lwyddiant ein systemau gofal ni a systemau gwasanaethau iechyd. Ym 1950, dim ond 250 o bobl oedd ym Mhrydain a oedd yn 100 mlwydd oed. Ddwy flynedd yn ôl, roedd 13,700 o bobl ym Mhrydain yn 100 mlwydd oed. Mae’r ffigurau wedi codi yn sylweddol. Wrth gwrs, fel meddygon, rydym ni’n gorfod cadw pobl adref yn eu cartrefi eu hunain rŵan, lle y byddem ni, dyweder 10 neu 20 mlynedd yn ôl, wedi danfon y bobl yna i mewn i’r ysbyty gan mor fregus oedd eu hiechyd.

Ond, wrth gwrs, mae’r gwelyau wedi mynd i lawr yn eu niferoedd ac, wrth gwrs, rydym ni yn y sefyllfa lle mae’n rhaid i ni gadw pobl adref rŵan. Weithiau maen nhw’n byw ar eu pen eu hunain ac yn gyfan gwbl ddibynnol ar y sawl sy’n dod rownd i ofalu amdanyn nhw. Mae’r holl system, felly, yn dibynnu ar ofal cymdeithasol. Hefyd, mae pobl yn fwy bregus yn aml, a hefyd mae ganddyn nhw afiechydon llawer mwy cymhleth nawr nag oedd ganddyn nhw nôl yn y dydd. Mae pobl efo gwahanol diwbiau a gwifrau ac ati ynghlwm ynddyn nhw hefyd yn cael gofal adref gan ofalwyr cymdeithasol y dyddiau yma. Felly, mae yna her sylweddol o flaen y sawl sydd yn darparu'r gofal hwnnw.

Wrth gwrs, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn edrych ar ôl pob math o broblemau eraill, megis diogelu plant, wrth gwrs, a hefyd systemau iechyd meddwl. Ond rwy’n mynd i ganolbwyntio ar y gofalwyr achos dyna’r system sydd gyda ni sydd yn gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth iechyd ni yn gallu rhedeg mor eithriadol a chystal ag y mae fe. Ond, yn nhermau sut rydym ni’n meddwl am ofal, rwyf wedi dweud wrthych chi o’r blaen hefyd yn y Siambr yma, rwy’n credu dros y blynyddoedd rydym ni wedi tueddu i israddio yr egwyddor o ofalu am berson arall.

Nôl yn y dydd, cyn efallai i ni gael gwasanaeth iechyd, roeddem ni yn gofalu yn dda iawn am bobl. Roedd ein nyrsys ni yn carco yn fendigedig ac roedd gofalwyr o safon ac ati yn gofalu yn dda iawn. Ond, dros y blynyddoedd, fel mae meddygaeth wedi mynd yn fwy technegol, mae’r elfen o ofal wedi cael ei israddio. Rydym ni’n tueddu i anghofio amdano ac rydym yn tueddu i ddatganoli gofal i bobl sydd ddim wedi derbyn y math o hyfforddiant y buaswn i’n licio eu gweld nhw’n ei dderbyn, ac nid ydyn nhw’n derbyn y cyflog y dylen nhw ei dderbyn a hefyd maen nhw’n gorfod byw, fel yr ydym ni wedi’i glywed eisoes, ar gytundebau dim oriau. Rhan o agwedd cymdeithas tuag at yr holl egwyddor o ofalu am berson arall ydy hynny. Fel cymdeithas, rydym ni wedi tueddu i israddio hynny. Mike.

A ydych yn gresynu at y ffaith ein bod wedi symud oddi wrth awdurdodau lleol yn cyflogi staff yn uniongyrchol i ddarparu gofal, a’i fod wedi mynd allan i’r sector preifat?

I would agree with that, but also, of course, our counties can also commission care from charities and so on, and—as we’ve already heard in the excellent contribution made by Sian Gwenllian—there’s never enough funding available to ensure that we can have the right contracts in place for people who do provide care. I know that there is pressure on employed carers to complete their visits within 15 minutes sometimes—within 30 minutes very often. Now, if you’re going to provide the highest quality care, it’s going to take time and you need that long-term contact to care for the person in their home. Of course, you’re not going to have the same person every time if you’re going to be dependent on zero-hours contracts. So, to conclude, I would emphasise that, whilst we’re all thinking of the local council elections at the moment and about local councils specifically in this debate today—I would like to emphasise throughout that, yes, local councils look after education and all sorts of other things, but we do have to remember the importance of social care. Thank you very much.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym ni, yn UKIP Cymru, yn cytuno â phwyslais cyffredinol cynnig Plaid Cymru. Wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn rhan allweddol o les y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.

Mae toriadau mewn cyllid cyhoeddus bob amser yn destun gofid os ydynt yn bygwth gwasanaethau a chyfleusterau lleol y gwneir defnydd da ohonynt. Yn anffodus, mae realiti gwleidyddiaeth yn golygu bod dadlau’n digwydd yn ddieithriad ymhlith y gwahanol bleidiau ynglŷn â’r rhesymau dros doriadau. Yn draddodiadol yng Nghymru, rydym wedi cael cynghorau a gaiff eu harwain gan y Blaid Lafur sy’n cwyno bod toriadau yn y gyllideb bob amser yn cael eu hachosi gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Wrth gwrs, pan oedd gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan, roedd yn rhaid iddynt feddwl am esgus gwahanol. Ond mae’r sefyllfa honno’n edrych yn annhebygol o ddigwydd eto, neu am gryn dipyn o amser o leiaf. Ers 1999, mae gennym drydydd chwaraewr yn y gêm o weld bai, sef y Cynulliad, ac yn awr mae gennym Brexit hefyd. Mae’r cyfan yn ddryslyd iawn i’r cyhoedd. Rwy’n credu, o safbwynt y cyhoedd, ei bod yn well anghofio pwy sydd ar fai am doriadau, pan ddaw’r etholiadau i ben o leiaf, a chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o’r safon uchaf posibl.

Gall penderfyniadau cynghorau lleol helpu economïau lleol. Dylai caffael ffafrio cwmnïau lleol. Gall cynghorau helpu gyda materion fel y ddarpariaeth o lefydd parcio a ffioedd parcio hefyd. Mae’r Cynulliad ei hun yn chwaraewr o bwys yma gyda’i bwerau dros ardrethi busnes, ac mae UKIP yn sicr yn ffafrio polisïau sydd o fudd i fusnesau lleol. Mae strydoedd mawr traddodiadol yn rhywbeth y dylem ymladd i’w cadw. Mae tafarndai lleol wedi’u rheoli’n dda yn haeddu unrhyw gymorth y gall cynghorau, a’r Cynulliad, ei gynnig. Rydym yn dal i aros am gyhoeddiad gan Lywodraeth y Cynulliad ar ei hargymhellion ar gyfer cefnogi tafarndai yng Nghymru.

Mae rhai materion diddorol wedi cael eu crybwyll yn y ddadl heddiw. Roedd Neil McEvoy yn siarad yn helaeth am y problemau rydym wedi’u cael yng Nghaerdydd. Nawr, nid wyf am ganolbwyntio’n benodol ar Gaerdydd ei hun, ond pan siaradodd am y penderfyniadau dryslyd ynglŷn ag ailgylchu a wnaed gan y cyngor Llafur, ynghyd â’u penderfyniad i gau dau o’r pedwar safle ailgylchu yng Nghaerdydd, mae’n codi cwestiynau, ond rwyf am ymatal rhag gwneud sylwadau ar y penderfyniad penodol hwnnw, ar wahân i sôn eich bod wedi cael refferendwm lleol ar hynny, ond eich bod wedi anwybyddu’r canlyniad yn llwyr. Mae hyn yn tynnu sylw at safbwynt UKIP Cymru ein bod angen refferenda lleol ag iddynt rym cyfreithiol ar benderfyniadau cynllunio mawr. Yn anffodus, nid wyf yn credu bod Plaid Cymru’n cefnogi’r mesur hwn eto. Efallai y bydd angen i chi feddwl am hynny’n fwy manwl.

Roedd cyfraniad Hefin David yn ddiddorol pan siaradodd am ei rôl ef ar gyngor Caerffili. Nawr, ei benderfyniad ef yw gadael y cyngor; mae’n credu na allwch gyfuno swydd fel Aelod Cynulliad â bod yn gynghorydd. Daeth Neil McEvoy i benderfyniad gwahanol, ac rwy’n meddwl, os wyf fi’n gywir, fod gennym hefyd aelod Ceidwadol, Russell George, sydd, ers iddo gael ei ethol, yn dal i fod yn aelod o gyngor Trefaldwyn. Rwy’n credu ei fod. Felly, yn ei achos ef–mae’n ddrwg gennyf, Cyngor Sir Powys ydyw, onid e–mae’n ymddangos ei bod yn bosibl cyfuno gwahanol rolau. Os trown y clociau’n ôl ychydig flynyddoedd, mae’n ddiddorol fod yna lawer o Aelodau Seneddol, wrth eu hethol i San Steffan, yn parhau’n aelodau o’u cynghorau lleol, a chredid ei bod yn werth cynnal y cyswllt rhwng Llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol ac y dylai cynghorwyr lleol, lle roedd modd, barhau’n aelodau o’r cyngor ar ôl iddynt ddod yn Aelodau Seneddol. Felly, mae’n ddiddorol sut yr ymddengys bod y safbwynt hwnnw wedi newid. Yn y Llywodraeth Lafur ar ôl 1945, rwy’n credu bod gennym Ysgrifennydd Cartref mewn gwirionedd, sef Chuter Ede, a barhaodd i fod yn aelod o’i gyngor lleol.

Nid oeddwn–ac yn aml, ni fyddaf–yn mynegi polisi Llafur; roeddwn yn mynegi fy marn bersonol. Ac nid oeddwn yn mynegi barn am unrhyw un arall.

Nid oeddwn yn awgrymu eich bod, Hefin; nid dyna oedd fy mhwynt. Dweud oeddwn fod yna wahaniaethau barn, dyna i gyd; gwyntyllu’r mater a wnawn, dyna i gyd. [Torri ar draws.] Iawn, mae wedi’i wyntyllu.

Mae angen inni ffrwyno cyflogau gormodol i swyddogion. Mae angen canllawiau statudol llym yma, ac rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen i fynd i’r afael â chontractau dim oriau. Nawr, siaradodd Hefin am hyn hefyd, ac rwy’n meddwl bod un o’r Gweinidogion wedi crybwyll contractau dim oriau ddoe. Mae safbwynt Llafur yn fy nrysu braidd bellach, oherwydd ei bod yn ymddangos bod pawb ohonoch yn eu herbyn, ond nid yw’n ymddangos eich bod yn gwneud dim am y peth. Yn sicr mae angen inni edrych ar eu defnydd yn y sector cyhoeddus. Mae angen inni edrych yn fanwl ar hyn. Yn gyffredinol, yn UKIP Cymru, credwn fod contractau dim oriau yn gostwng cyflogau ac yn gwaethygu amodau gwaith, ac felly rydym yn credu bod angen dirfawr i weithredu ar y defnydd o’r contractau hyn yn y sector cyhoeddus. Diolch.

Roeddwn wedi bwriadu siarad yn fwy helaeth yn y ddadl hon am rôl arloesi mewn llywodraeth leol, a cheir rhai enghreifftiau o hynny gan awdurdodau a arweinir gan Blaid Cymru, fel y nodir yn ein cynnig. Ond cefais fy annog i siarad am wahanol fath o arloesedd–arloesedd mewn gwleidyddiaeth, sef gwneud yr hyn rydym yn ei ddweud. Wyddoch chi, rhoi ar waith yr egwyddorion rydym yn dweud eu bod wrth galon ein gwleidyddiaeth. A gallaf ddweud yn onest na allaf ddeall pam y ceir gwrthwynebiad gan Lywodraeth Lafur–Llywodraeth sydd mewn enw o leiaf i fod yn sosialaidd–i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau mewn gwirionedd. Fel y clywsom yn awr yng nghyfraniad yr Aelod UKIP, plaid y byddai’r rhan fwyaf ohonoch, rwy’n siŵr, yn credu ei bod i’r dde i chi—mae’n ymddangos ei bod yn fwy i’r chwith i chi ar y mater hwn mewn gwirionedd. Mae’n gwbl afresymol. Rydych wedi ei roi wrth wraidd eich maniffesto Prydeinig, a ni yw’r unig wlad yn y DU lle rydych yn Llywodraeth mewn gwirionedd—a’r unig wlad lle y mae gennych unrhyw obaith o fod yn Llywodraeth am yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae’n debyg—ac eto nid ydych yn barod i’w roi ar waith. Dyma’r math o beth sy’n rhoi enw drwg i wleidyddiaeth ddemocrataidd. Dylai fod cywilydd arnoch. Sut y gallwn adfer ffydd ac ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth pan fyddwch yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall? 

I ofyn y cwestiwn, rwy’n meddwl y dylech roi mwy o fanylion na ‘gwahardd contractau dim oriau’. Beth yn union a olygwch a sut y byddech yn amddiffyn hynny’n gyfreithiol?

Rydym yn ei ddweud yn eithaf clir. Rydym wedi nodi gwelliannau i gyfres gyfan o Filiau. Gwn fod yr Aelod anrhydeddus a minnau wedi ein hethol y llynedd, ond cyflwynodd Plaid Cymru gyfres gyfan o welliannau ar chwe achlysur gwahanol i ddau Fil gwahanol. Cawsant eu nodi yn y gwelliannau i’r Biliau hynny, ac fe bleidleisioch chi yn erbyn. Nid yw fel pe baem wedi gwneud hyn er mwyn chwarae gwleidyddiaeth, iawn? Mewn gwirionedd, aethom ati i geisio deddfu yn y lle hwn ac fe’i gwrthwynebwyd gan eich Llywodraeth chi. [Torri ar draws.] Wel, fe ddywedaf wrthych beth oedd y dadleuon pathetig a roesoch yn ei erbyn. Mewn gwirionedd, ar un o’r achlysuron hynny ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol, dywedodd eich Gweinidog yn eich Llywodraeth hyn:

Ond gadewch i ni fod yn glir ynghylch y cynnig sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r gwelliant hwn yn galw am waharddiad llwyr—gwaharddiad llwyr—ar y defnydd o gontractau dim oriau... Nid wyf yn credu bod hwnnw’n safbwynt y dylem ei gefnogi.

Dyna beth oeddech yn ei ddweud bryd hynny. Rydych yn dweud rhywbeth gwahanol yn awr yn eich maniffesto Plaid Lafur Prydeinig. Do, fe’i cyflwynwyd gennych ym mis Ionawr 2016 ar ôl ymchwil a ddangosai fod yna anfanteision eithaf clir o ran hawliau gweithwyr. Do, fe gytunoch i ystyried cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau, ac ymgynghorwyd ar hynny, ac yn ôl pob tebyg, dyna roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio ato’n gynharach—’Rydym yn disgwyl cyhoeddiad ar gyfyngu ar y defnydd’. Wel, mae cyfyngu ar y defnydd o rywbeth sy’n amlwg yn anghywir ym mhob ystyr, o ran y gweithwyr, ond hefyd, fel y clywsom, o ran defnyddwyr gwasanaethau yn ogystal—nid cyfyngu ar y defnydd a wnewch, rydych yn ei wahardd, rydych yn cael gwared arno, rydych yn ei ddileu. Dyna beth y mae pobl yn ei ddisgwyl gan blaid sy’n honni ei bod yn sosialaidd, felly pam na all Ysgrifennydd y Cabinet godi ar ei draed mewn ychydig funudau a dweud mai dyna rydych yn mynd i’w wneud?

A’r ddadl hon a glywsom hefyd: ‘Fe allech fod wedi peryglu’r Bil.’ Wel, mae gennym system ar gyfer ymdrin â hynny—adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n caniatáu i Aelod yn y lle hwn, os ceir her gyfreithiol yn y Goruchaf Lys, i gael gwared ar yr adran honno o’r Bil i ganiatáu i’r Bil fynd rhagddo heb beryglu’r Bil cyfan. Mae’n ddadl hollol wag. A chlywsom hefyd y syniad, ‘O, mae diffyg eglurder pa un a allwn wneud unrhyw beth mewn gwirionedd sy’n ymwneud â chyflogaeth, ac felly, gallai godi cwestiynau am y Bil.’ Dyna’r ddadl rydych chi—. Y ddadl a ddefnyddiwch gyda’r Bil undeb llafur yw bod cyflogaeth sector cyhoeddus, mewn gwirionedd, yn faes dilys i’r lle hwn ddeddfu yn ei gylch. Ac am hynny y soniwn, yn sicr, o ran yr hyn sydd gennym yn y cynnig hwn—gwahardd y defnydd o gontractau dim oriau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru fan lleiaf. Pam na wnewch chi hynny a rhoi eich egwyddorion ar waith yn ymarferol?

Wrth gwrs, mae rhai ohonom wedi bod yn siarad am gael gwared ar bob contract camfanteisiol, nid contractau dim oriau’n unig, ers peth amser.

Gwelaf fod Plaid Cymru, yn eu cyflwyniad i’w dadl, yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â’r gymuned fusnes; yn sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel; yn darparu addysg o safon; ac yn darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy’n edrych ar ôl y bobl fwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â hynny? Ond rwyf hefyd yn dweud: beth am gyfleusterau hamdden i gadw pobl yn ffit? Beth am wasanaethau iechyd yr amgylchedd? Beth am safonau masnach? Beth am gefnogaeth i’r celfyddydau? Onid ydynt yn cydnabod pwysigrwydd y rhain a gwasanaethau eraill a ddarperir gan lywodraeth leol? Gallwn barhau am bedair munud a hanner arall, ond rwy’n siwr y bydd pob un ohonoch yn falch o wybod nad wnaf hynny. Ond a ydych yn cydnabod pwysigrwydd y rhain a gwasanaethau eraill a ddarperir gan lywodraeth leol?

Gwelaf hefyd eu bod yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ers 2011-12 wedi gostwng 6.5 y cant, gan effeithio’n anghymesur ar rai o’r bobl wannaf a mwyaf agored i niwed mewn cymunedau ledled Cymru. Gan siarad fel rhywun sy’n aml mewn lleiafrif o un mae’n debyg a siaradodd o blaid rhoi mwy o arian i lywodraeth leol yn y Cynulliad diwethaf, rwy’n falch iawn o weld pobl eraill yn ymuno. A gaf fi atgoffa Aelodau a oedd yma yn y Cynulliad diwethaf am y gyllideb a gawsom? Gofynnodd y Ceidwadwyr am fwy o arian ar gyfer iechyd, a olygai ysbytai. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau mwy o arian ar gyfer addysg. Roedd Plaid Cymru eisiau mwy o arian ar gyfer prentisiaethau. Ni ofynnodd unrhyw blaid am fwy o arian i lywodraeth leol. Pe bai’r holl geisiadau hynny wedi cael eu derbyn, byddai llai byth o arian ar gyfer llywodraeth leol. Rwy’n credu y dylid gwario mwy o arian y Cynulliad ar lywodraeth leol. Byddai’n golygu llai o wario ar wasanaethau eraill.

Rwyf hefyd yn arddel safbwynt sy’n newydd yma—sef bod a wnelo iechyd â mwy nag ysbytai, ond ei fod yn ymwneud â hyrwyddo ffordd o fyw iach, sef yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, a bod llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn. Fel Cynulliad, mae gennym bwyllgor iechyd, ond nid oes gennym bwyllgor llywodraeth leol penodol. Mae ein pwyllgor sy’n cynnwys llywodraeth leol yn ymdrin â meysydd eraill—daw gwasanaethau llywodraeth leol dan fantell nifer o wahanol bwyllgorau.

Rwy’n gweld hefyd eich bod yn nodi bod y cyflog cyfartalog ar gyfer prif weithredwyr sy’n arwain cynghorau a reolir gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na’r rhai a reolir gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae’r cynghorau y mae Plaid Cymru’n eu rheoli’n fach a chanolig eu maint, tra bo Llafur yn rheoli’r awdurdodau mwy o faint. Ar welliant y Ceidwadwyr, gallem hefyd nodi bod Mynwy yn un o’r awdurdodau lleiaf yng Nghymru. Mae awdurdodau mwy o faint yn tueddu i dalu cyflogau uwch. Rwy’n siomedig fod yr alwad rwy’n dal ati i’w gwneud—ac y byddaf yn ei gwneud eto—y dylid gosod cyflogau prif weithredwyr ar sail bandiau cynghorol yn ôl maint y cyngor, neu fel yr arferai fod cyn y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf rhwng 1979 ac 1997—. Roedd yn gweithio, a thelid canran o gyflog y prif weithredwr i’r prif swyddogion eraill.

Un o’r pethau sy’n peri pryder i mi hefyd, ac sy’n fy mhoeni’n fawr, yw bod gennym sefyllfa lle y telir cyflogau i nifer o bobl yn awr rhwng cyflog y prif swyddog a chyflog y pen swyddog. Maent yn nodi’r raddfa POF o’r llyfr porffor ac yna maent yn ychwanegu ato. Ac mae hynny eto’n peri pryder i mi.

I’r Ceidwadwyr, os yw cyllid yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion, rwy’n gofyn pwy a sut yr ymdrinnir â gwasanaethau fel y canlynol: cludiant ysgol; addysg heblaw yn yr ysgol; gwella ysgolion? Unwaith eto, gallwn roi rhestr hir iawn, ond ni wnaf. Mae’r Ceidwadwyr yn siarad yn barhaus am newidiadau i gymorth i gynghorau gan Lywodraeth Cymru. Os edrychwn ar y swm absoliwt a delir fesul preswylydd, byddwch yn cael canlyniad hollol wahanol. Mae’r fformiwla’n ystyried pethau fel y boblogaeth; nifer y plant; nifer yr oedolion hŷn; hyd ffyrdd; amddifadedd; natur wledig a theneurwydd y boblogaeth. Oni bai bod y swm absoliwt a werir ar lywodraeth leol yn cynyddu, os newidiwch y fformiwla, bydd rhai pobl yn ennill a bydd rhai pobl yn colli. Ni allwch gael pawb yn ennill wrth newid fformiwla. Mae Powys a Chonwy yn cael mwy o arian y pen nag Abertawe a Chaerdydd. Byddwn yn dadlau bod yr awdurdodau mawr yn ne Cymru yn gwneud yn anghymesur o wael—barn a goleddir gan bobl eraill sy’n byw mewn ardal gydag awdurdod mawr yn ôl pob tebyg. Rwy’n siŵr fod y bobl yng nghefn gwlad yn dweud rhywbeth gwahanol iawn. Ond os yw cyllid yn seiliedig ar boblogaeth yn unig, byddai’n helpu Abertawe a Chaerdydd a Mynwy, ond yn dinistrio Merthyr a Blaenau Gwent a chyfres gyfan o awdurdodau gwledig.

Yn olaf, mae gwasanaethau llywodraeth leol yn bwysig bob dydd, nid yn y cyfnod yn arwain at etholiadau cyngor yn unig. Rwy’n parhau i ddweud pa mor bwysig ydynt. Roeddwn yn ceisio atgoffa pobl, yn union cyn y gyfres o etholiadau yn Ynys Môn ychydig flynyddoedd yn ôl, pan gawsant hwy flwyddyn yn ddiweddarach, ein bod wedi cael ein boddi gan ddadleuon ar lywodraeth leol, ac Ynys Môn yn arbennig, ac ni chafodd hynny ei ailadrodd ers hynny. Felly, mae llywodraeth leol yn bwysig, mae sut y bydd pobl yn ei thrin yn bwysig—a’n bod yn cefnogi llywodraeth leol drwy’r amser, nid yn ystod yr wythnos cyn yr etholiad yn unig.

A gaf fi ddweud ar y dechrau fy mod yn croesawu’r ddadl hon ar adeg amserol iawn yn y cylch etholiadol, o ystyried bod gennym etholiadau llywodraeth leol yfory? Roeddwn eisiau cydnabod y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn gwirionedd yn erbyn cefndir, fel y mae eraill eisoes wedi cydnabod, o doriadau anferth gan Lywodraeth San Steffan, a rhagrith syfrdanol Torïaid sy’n codi yma i resynu at doriadau i awdurdodau lleol. Mae’n eithaf syfrdanol, fel y dywedais. Fel y nododd Hefin David, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwarchod cynghorau yng Nghymru i raddau llawer helaethach nag y diogelwyd unrhyw awdurdod lleol gan y Torïaid yng Nghymru.

Cyn i mi symud ymlaen at brif ran fy nghyfraniad, Llywydd, roeddwn eisiau rhoi sylw i’r drafodaeth gynharach ar thema democratiaeth mewn llywodraeth leol. Wrth ystyried yr hyn sy’n digwydd ym Merthyr Tudful, nid oes gennym unrhyw ymgeisydd UKIP yn ymgeisio, sy’n swnio’n rhyfedd iawn i mi i blaid sy’n honni ei bod yn cymryd yr awenau oddi wrth y Blaid Lafur yn y Cymoedd. Mae gennym un Tori unig yn sefyll, ac mae gennym ddau Ddemocrat Rhyddfrydol, ac mae’r gweddill yn gymysgedd o ymgeiswyr annibynnol sy’n sefyll dros ddyn a ŵyr beth, gyda gwleidyddiaeth o’r adain chwith eithafol i’r dde eithafol. Pwy a ŵyr beth y mae pobl yn mynd i gael os ydynt yn ethol ymgeiswyr annibynnol yfory.

Ond o’m rhan i, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gyfeirio at ddau faes penodol a amlygwyd yng nghynnig Plaid Cymru mewn perthynas â chyngor Merthyr Tudful, sef addysg a datblygu economïau lleol. Rhwng 2008 a 2012, câi cyngor Merthyr ei reoli heb unrhyw gynllun cydlynol gan yr aelodau annibynnol, ac o un flwyddyn i’r llall, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd canlyniadau ysgolion yn gosod y cyngor naill ai ar safle 21 neu 22 o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru a gwnaed gwasanaeth addysg yr awdurdod yn destun mesurau arbennig. Yn 2012, cymerodd Llafur reolaeth ar y cyngor hwnnw ac ers 2013 gwellodd perfformiad ysgolion ym Merthyr Tudful ar raddfa lawer cyflymach na gweddill Cymru. Mae canlyniadau’r cyngor wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae’r cyngor bellach yn safle 10 o’r 22 awdurdod ac mae’n codi, ac mae’r awdurdod addysg wedi dod allan o fesurau arbennig. Enghraifft glir o Lafur yn cyflawni pan fo mewn grym.

Nid ym maes addysg yn unig y gwelwyd gwelliant. Mae Cyngor Merthyr Tudful dan arweiniad Llafur hefyd yn arwain y ffordd ar ddod â swyddi newydd i’r fwrdeistref sirol ac mae’n gwneud yn well na’r awdurdodau eraill yn y Cymoedd ar gynorthwyo busnesau i greu swyddi newydd ar gyfer pobl leol. Daeth pum cant o swyddi i Ferthyr yn dilyn llwyddiant y cyngor i ddenu General Dynamics i’r dref, a thrwy gefnogaeth grant gan Lywodraeth Cymru o bron i £13 miliwn o dan ei rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, mae Merthyr Tudful ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed o ran adfywio a hyrwyddo cynaliadwyedd canol y dref a darparu tai a phrosiectau strategol mawr eraill yn yr ardal. O ganlyniad, rydym wedi gweld Merthyr Tudful yn dod yn brifddinas twf busnes yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ar seilwaith, cwblhawyd datblygiad gwerth £8.5 miliwn Riverside yn Ynysowen ac fe’i hagorwyd yn ystod 2016. Roedd y cynllun, a gynhwysai briffordd newydd, pontydd a llwybrau troed, hefyd yn rhyddhau tir ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol ar safle’r hen lofa. O ran twristiaeth, agorodd Parc Beicio Cymru ei ddrysau ym mis Awst 2013, ac ers hynny mae wedi denu dros 1 filiwn o ymwelwyr i’r safle yng nghoedwig Gethin yn Abercannaid. Gall chyngor Merthyr fod yn haeddiannol falch o’i gyflawniadau.

Ond gan ei bod yn adeg etholiad, mae’n debyg nad oes fawr o syndod fod cynnig Plaid Cymru’n ceisio beirniadu cynghorau Llafur ynghylch cyflogau prif weithredwyr. Llywydd, nid wyf am amddiffyn cyflogau gormodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond byddwn yn cwestiynu’r gymhariaeth y mae Plaid Cymru’n ceisio’i gwneud rhwng cynghorau a arweinir gan Blaid Cymru a chynghorau a arweinir gan y Blaid Lafur mewn perthynas â chyflogau prif weithredwyr. Un cyngor sydd dan reolaeth Plaid Cymru, sef Gwynedd, ond hyd yn oed os ydych yn cynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin lle y maent mewn clymblaid, fel y mae Mike Hedges eisoes wedi’i nodi, rydych yn sôn am gynghorau bach o’u cymharu â’r rhan fwyaf o’r cynghorau dan arweiniad Llafur, sy’n cynnwys Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Byddai maint cymharol yr awdurdodau lleol hyn mewn perthynas â’r boblogaeth a wasanaethir ynddo’i hun yn rhesymau dros gyflogau ar lefelau uwch.

Ddoe, daeth un o’r cynghorau hynny sydd dan reolaeth Lafur, sef Caerffili, sydd hefyd yn cynnwys rhan o fy etholaeth i yng nghwm Rhymni, i gytundeb â’i undebau llafur staff er mwyn gwella tâl gwyliau rhai o’i weithwyr sydd ar y cyflogau isaf. Mae hyn yn ychwanegol at dalu’r cyflog byw sylfaenol i’w holl staff, fel llawer o awdurdodau a reolir gan Lafur yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Merthyr Tudful rwy’n falch o ddweud. Felly, os yw Plaid Cymru am gecru ynglŷn â chyflogau mewn llywodraeth leol yn y ddadl hon, yn hytrach na gwneud cymariaethau diffygiol rhwng awdurdodau lleol heb ystyried eu maint, efallai y gallant roi ychydig o amser i esbonio pam nad ydynt yn talu’r cyflog byw sylfaenol yn yr awdurdodau y maent yn eu rheoli.

I gloi, Llywydd, byddaf yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru a’r gwelliant olaf gan y Ceidwadwyr, ac wrth wneud hynny, hoffwn bwysleisio a chanmol y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ledled Cymru, yn erbyn cefndir o galedi parhaus dan law’r Torïaid.

Cyn i mi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y bydd rhai ohonoch wedi sylwi bod gennym broblem dechnegol, ac mae’n broblem mor sylweddol, yn anffodus, fel y bydd yn rhaid i mi ohirio’r trafodion. Bydd y gloch yn canu pan fydd y trafodion ar fin ailddechrau. Diolch yn fawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:17.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:40, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

Galw’r Cynulliad i drefn, felly. Ymddiheuriadau am y toriad yna. Rwyf nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am y cyfle i gymryd rhan mewn dadl wedi’i hamseru’n dda, fel y mae eraill wedi dweud, gyda phobl ar draws Cymru yn mynd i bleidleisio yfory. Mae hwn wedi bod yn gyfle priodol iawn i bleidiau yma gyflwyno polisïau y bydd etholwyr yn penderfynu arnynt. Efallai y gallaf ddechrau drwy gytuno â’r siaradwr olaf yn y ddadl, Dawn Bowden, fel y cytunais gyda Simon Thomas yn gynharach y prynhawn yma, drwy ddweud mai un o fanteision mawr pleidiau gwleidyddol yw bod yna faniffestos y gall pobl eu gweld ac y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus. Lle y bydd pobl yn perthyn i bleidiau gwleidyddol, rwy’n meddwl ei bod yn iawn ac yn briodol y dylai hynny fod yn hysbys i etholwyr o dan ba faner bynnag y bydd pobl yn dewis sefyll etholiad wedyn.

Mae gwelliant y Llywodraeth y prynhawn yma yn ceisio uno’r Cynulliad Cenedlaethol gyda chynnig y gall pob plaid yma gytuno arno, o’r hyn a glywais y prynhawn yma—pwysigrwydd gwasanaethau lleol o safon i’r boblogaeth, wedi’u darparu gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Llywydd, deuthum i weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gyntaf yn y flwyddyn 2000. Roeddwn yn meddwl bryd hynny, ac rwy’n parhau i feddwl yn awr mai un o gryfderau’r Cynulliad Cenedlaethol yw bod pobl wedi cael eu cynnwys yma sy’n adnabod llywodraeth leol, ar ôl torri eu dannedd gwleidyddol eu hunain drwy gael eu hethol i awdurdodau lleol. Dyna’n rhannol pam y credaf fy mod wedi dweud erioed, ers i mi ddod yn Weinidog â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, fod fy agwedd at y sector yn un sy’n seiliedig ar ei bwysigrwydd—ei bwysigrwydd fel darparwr gwasanaethau allweddol, fel chwaraewr allweddol yn creu economïau lleol ac fel cyswllt hanfodol yn y gadwyn ddemocrataidd.

Mae’r penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud yn estyn yn ddwfn i mewn i fywydau eu dinasyddion a thrwy gydol y bywydau hynny hefyd, o’r dyddiau cynharaf ym myd addysg i ofal pobl hŷn yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Mae’r ystod o bethau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud yn amrywio o’r gwasanaethau pwysig iawn hynny, o’r parcio, y tafarndai a’r cyflogau y soniodd Gareth Bennett amdanynt, i’r celfyddydau, y chwaraeon a’r safonau masnach a grybwyllwyd gan Mike Hedges. Bob dydd, mae cannoedd o wasanaethau, a ddarperir gan filoedd o sefydliadau—a thros flwyddyn, yn estyn i mewn i fywydau miliynau o bobl—yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Mae’r etholiadau ar eu cyfer yfory’n arwydd o’u harwyddocâd.

Wrth gwrs, mae effaith y polisïau caledi, sy’n hunandrechol ac wedi methu, wedi effeithio ar lywodraeth leol yma yng Nghymru, fel y dangosodd Hefin David mor glir. Ond byth ers y flwyddyn 2008, gwnaed ymdrech barhaus i ddiogelu’r gwasanaethau hynny lle bynnag y bo modd yma yng Nghymru. Dyna pam, ers y flwyddyn 2000, er bod gwario ar wasanaethau awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gweld gostyngiad o ran arian parod o 11 y cant, mae gwariant ar wasanaethau lleol yng Nghymru wedi gweld cynnydd ariannol o 3 y cant. Neu o’i roi mewn ffordd wahanol, adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn ddiweddar fod grym gwario awdurdodau lleol yng Nghymru mewn termau real wedi gostwng 4 y cant yn y pum mlynedd ar ôl 2010. Yn Lloegr, mae wedi gostwng 25 cant—chwe gwaith y lefel o doriadau y bu’n rhaid i awdurdodau lleol yma yng Nghymru eu hwynebu.

Clywsom gan Janet Finch-Saunders, gyda’r maniffesto Ceidwadol i awdurdodau lleol—credaf y byddai crocodeil wedi bod â chywilydd o fod wedi colli’r math o ddagrau a glywsom gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma. Mae’r effaith ar awdurdodau lleol yng Nghymru yn ganlyniad go iawn i’r toriadau a wnaed gan eu plaid ar lefel genedlaethol, a’r toriadau y gwelwch eu plaid yn gorfod eu gwneud yn Lloegr a’r toriadau rydym yn benderfynol o beidio â’u gweld yn digwydd yma yng Nghymru.

Nawr, yn ogystal â’r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol, ceir cwestiwn ynglŷn â sut y dylid gwario’r arian hwnnw. Ac adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y mis diwethaf fod gwariant awdurdodau lleol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru 20 y cant yn uwch na’r hyn ydyw yn Lloegr, gyda gwariant cyfartalog yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr.

May I say a word of thanks to Dai Lloyd for what he said in his contribution this afternoon, focusing on the importance of social services, but specifically the people who work in the field of care? One of the things that local authorities in Wales have succeeded to do over the past decade is to bring down every year the number of people who live in residential homes in Wales, and they’ve done that because they do offer care in the community for vulnerable people, people who depend on the care that they receive in the community, and Dai Lloyd drew attention to the fact that it’s the people who provide care and the quality of care that are so important to the people who are dependent on those services.

Mae’r dewisiadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud yng Nghymru wrth roi’r gyfran ychwanegol honno o’u gwariant tuag at ofal cymdeithasol yn arwydd, nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud dewisiadau wrth ariannu’r sector, ond bod y dewisiadau wedi’u gwneud gan yr awdurdodau lleol eu hunain yng Nghymru o ran diogelu’r rhai mwyaf agored i niwed.

Nawr, os yw’r Llywodraeth bresennol yn cael ei hailethol yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin, gwyddom fod y rhagolygon i’n holl wasanaethau cyhoeddus yn llwm. Dyna pam nad yw newid yn ddewis ond yn anghenraid os ydym i sicrhau llywodraeth leol fwy cadarn yma yng Nghymru. Nodwyd cynigion y Llywodraeth yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r 164 o unigolion a sefydliadau o bob rhan o Gymru a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwnnw, ac am ysbryd adeiladol yr ymatebion hynny. O ganlyniad, byddwn yn symud at fwy o weithio rhanbarthol yng Nghymru. Bydd gennym fwy o gydwasanaethau, bydd gennym drefn fwy agored ac atebol, a byddwn yn darparu system awdurdod lleol yng Nghymru gyda’r offer sydd eu hangen arni i ymateb i anghenion ac amgylchiadau lleol. Oherwydd, Llywydd, er yr holl honiadau pleidiol a wnaed, yn hollol ddealladwy, yma y prynhawn yma, mae’r gweithredu go iawn ar fin symud y tu hwnt i’r Siambr hon, y tu hwnt i’r rhai sy’n cael eu hethol i’r Siambr hon, i’r miloedd o ymgeiswyr, o bob plaid wleidyddol a ‘run blaid wleidyddol, sy’n sefyll etholiad ac yn bwysicaf oll, i’r cannoedd o filoedd o drigolion Cymru a fydd yn chwarae eu rhan yfory yn y blwch pleidleisio.

Pa wahaniaethau bynnag a fydd gennym o bosibl, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon yn dod at ei gilydd i gytuno ar y cyfraniad y bydd pob ymgeisydd yn ei wneud i’n democratiaeth, i’r cyfraniad y bydd pob etholwr yn ei wneud pan fydd ef neu hi yn bwrw eu pleidlais, ac mai’r ymdrech gyfunol sy’n werth chweil, oherwydd hebddi, ni fyddai unrhyw ddemocratiaeth leol yn gallu cyfrannu tuag at yr hyn y mae’r cynnig yn gywir yn ei nodi fel yr allwedd i ffyniant a lles ein cenedl. Dechreuodd Sian Gwenllian, Llywydd, drwy ddweud bod awdurdodau lleol cryf yn dod â chymunedau cryf at ei gilydd ac yn creu Cymru gref. Cytunaf yn llwyr â hynny, ac rwy’n meddwl nad yw’n neges wael i ni ei hanfon i’r holl bobl a fydd yn cymryd rhan mewn democratiaeth ymarferol ledled Cymru yfory.

Diolch yn fawr iawn, a diolch am drafodaeth ddifyr, er gwaetha’r toriad yn y canol. Fe soniodd Janet Finch-Saunders ar ddechrau’r drafodaeth yma am effaith toriadau ar wasanaethau cyhoeddus, ond toriadau’r Torïaid ydy’r rhain—eich toriadau chi ydyn nhw, felly nid ydy o’n gwneud sens, Janet, i fotio Tori. Nid ydy o’n gwneud unrhyw sens i unrhyw un sydd am ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r toriadau yn rhan o’ch ymgyrch bwriadol chi i chwalu’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae pobl yn gwybod hynny ac mae pobl wedi cael llond bol ar hynny. Rydych chi hefyd yn hawlio mai chi ydy’r blaid efo’r trethi isel, ond, ym Mynwy, y dreth ar gyfartaledd ydy’r uchaf yng Nghymru: £1,649 y flwyddyn. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am ranbartholi llywodraeth leol, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n cadw golwg ar hyn ac ar atebolrwydd y broses wrth i’r cynigion symud ymlaen. Mae’r ddolen uniongyrchol yna rhwng yr etholwr a’i gynrychiolydd etholedig yn un hollbwysig, ac rwyf yn pryderu bod hynny yn mynd i gael ei golli yn y diwygio sydd ar droed ar hyn o bryd.

Fe soniodd Neil McEvoy yn angerddol am ei weledigaeth ar gyfer Caerdydd. Fe soniodd am yr LDP a fydd yn golygu colli llawer o dir gwyrdd o dan fôr o goncrid—‘absolute madness’, meddai fo, fyddai hynny. Mi ddylid rhoi’r pwyslais ar adnewyddu tai gwag; rwy’n cytuno yn llwyr efo hynny.

Mi soniodd Dai Lloyd am bwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol da i gadw’r pwysau oddi ar y system iechyd. Rwy’n cytuno’n llwyr efo hynny hefyd. Yn aml, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hanghofio yn y drafodaeth ynglŷn â diwygio’r system gofal yn ei chyfanrwydd yng Nghymru.

Mi soniodd Adam Price am y cytundebau dim oriau, gan drafod gwelliannau Plaid Cymru i’r Bil gwasanaethau cymdeithasol a’r ffordd y cawson nhw eu gwrthod gan y Llywodraeth, a’r ffordd mae ymdrechion Plaid Cymru i ddileu cytundebau dim oriau wedi cael eu gwrthod sawl gwaith yn y lle yma. Felly, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar gymal 8 yn ein cynnig ni sy’n galw ar y Llywodraeth i ddileu contractau dim oriau wrth gloi y ddadl yma heddiw.

A Hefin David, na, nid ar gyfer Twitter mae hyn. Mae hyn ar gyfer pobl go iawn, pobl sydd yn stryglo byw ar gytundebau dim oriau. Rydych chi ar ochr yma y Siambr yn cytuno bod y contractau yma yn annheg. Mae contractau dim oriau yn golygu ansicrwydd. Mae contractau dim oriau yn golygu anghysondeb mewn oriau ac incwm i weithwyr. Mae’n anodd i rywun ar gytundebau reoli llif arian.

Na wnaf.

This leads to indebtedness, causes stress, affects the quality of life of the workforce and their families. Zero-hours contracts are not fair contracts, and it’s entirely clear that we need to move towards a situation where we scrap these contracts in Wales, and you have the power within Government to do that.

According to the Assembly Research Service, up to 48,000 people say that they are employed on zero-hours contracts in Wales—who say they’re on these contracts; I’m sure that the real figure is far higher than that. In Gwynedd Council when I was a county councillor, a real effort was made to scrap these contracts and now only a handful of zero-hours contract remain within that council, and discussion is ongoing with those who are still on those contracts. The clause—clause 8 of our motion—is non-binding. It is a statement of principle, so surely you could support a statement of principle—a statement that the Government here is going to move in that direction.

It would also be a statement of faith in some of our most valued workers in society, those people who care for our most vulnerable people. This is a cohort of workers that needs our full support. They need respect. They need to be treated with dignity. Supporting the principle of scrapping zero-hours contracts in a non-binding way, as I’ve just explained, would put us on that journey of raising the status of workers in the care sector. It’s about time that happened, and you can start that process here today should you wish to do so.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Polisi Ynni ac Amgylchedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol, ac rwy’n galw ar David Rowlands i wneud y cynnig. David Rowlands.

Cynnig NDM6297 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith amgylcheddol.

2. Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar yn eu hardal;

b) na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar; ac

c) y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, drwy:

i) annog gosod ffenestri gwydr triphlyg mewn adeiladau preswyl ac adeiladau eraill; a

ii) annog gosod boeleri sy'n rhad ar danwydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nod sy’n allanol ganmoladwy o leihau ôl troed carbon Cymru 80 y cant erbyn y flwyddyn 2050. Mae UKIP yn cytuno’n fras â’r amcan hwn; fodd bynnag, mae’n rhaid cwestiynu’r strategaethau y mae’n eu defnyddio i gyflawni’r amcanion hyn. Wrth wraidd y fenter ddi-garbon hon mae’r defnydd o’r hyn a elwir yn gynhyrchiant trydan glân. I raddau helaeth iawn, mae’n ymddangos bod hyn i gael ei gyflawni drwy ddefnyddio tyrbinau gwynt a phaneli solar.

Diolch. Hoffwn ddiolch i David am ildio mor gynnar yn y ddadl, ond roeddwn i eisiau gwybod, ar ddechrau’r ddadl hon, ai safbwynt cenedlaethol UKIP o hyd yw diddymu Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn gyfan gwbl a chael gwared ar dargedau datgarboneiddio. Oherwydd nid yw hynny yn ysbryd yr hyn rydych newydd ei ddweud, David.

Yn hollol. Nid ydyw, ond nid ydym yn dod o dan y chwip fel y mae’r holl bleidiau eraill, fel y gwyddoch, a gallwn gael ein polisïau ein hunain yn Llywodraeth Cymru os mai dyna y teimlwn sy’n rhaid i ni ei wneud—

[Yn parhau.]—fel chithau yn wir ar nifer o agweddau eraill pan fyddwch yn anghytuno â’ch Llywodraeth yn—. Na, mae’n ddrwg gennyf, Huw; rhaid i mi barhau gyda hyn. Rwyf yma i drafod sut yr awn ati i leihau carbon.

Rhagwelir y bydd y dull hwn o gynhyrchu ynni yn disodli pob ffurf ar gynhyrchiant tanwydd ffosil dros y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, dyma ble y ceir y diffyg sylfaenol yng nghynllun Llywodraeth Cymru, oherwydd er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gydnabod y bydd angen cael toreth enfawr o ffermydd gwynt a gosodiadau solar ar draws cefn gwlad Cymru. Rhaid aberthu rhannau mawr o dirwedd syfrdanol o hardd Cymru er mwyn cyflawni’r amcan hwn sy’n wleidyddol i raddau helaeth, oherwydd mae’n rhaid inni gofio nad yw Cymru ond yn cynhyrchu 0.04 y cant o gyfanswm yr allbwn carbon deuocsid byd-eang.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Er mwyn lliniaru yn erbyn effaith negyddol bosibl y gosodiadau hyn ar gefn gwlad, mae’n wir fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o ganllawiau ar gyfer adrannau cynllunio llywodraeth leol. Ond mae un cymal yn y canllawiau hyn i’w weld yn hollbwysig os yw’r canllawiau hyn yn mynd i fod yn effeithiol. Mae’n dweud y dylai’r awdurdod cynllunio nodi a yw datblygiad yn cyfrannu at effaith gronnol sylweddol ar yr amgylchedd cyfagos. I raddau helaeth, golygfa o’r awyr yw’r fideo rydych ar fin ei weld o’r datblygiadau o amgylch pentref Man-moel, a oedd gynt yn wledig—anheddiad sy’n dod o dan awdurdod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dangoswn y fideo, os gwelwch yn dda.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Credaf fod y fideo rydych newydd ei weld yn gofyn y cwestiwn: beth yn union y mae effaith gronnol sylweddol yn ei olygu os nad dyna yw’r araeau hyn o osodiadau? Mae arnaf ofn ei fod yn dangos nad yw deddfau cynllunio yn cynnig unrhyw ddiogelwch i breswylwyr neu gymunedau fel Man-moel, a bod unrhyw gymuned a phob cymuned yng Nghymru mewn perygl o gael eu gorchuddio gan brosiectau o’r fath. Yn ychwanegol at hyn, ceir llawer o agweddau eraill ar y datblygiad hwn sy’n creu amheuaeth a yw rheoliadau cynllunio presennol yn ddigonol o ran diogelu, nid yn unig Man-moel, ond unrhyw gymuned debyg.

Dros gyfnod y Nadolig eleni, ac er mawr arswyd i’r gymuned leol, cafodd 200 o goed—80 ohonynt yn goed derw a ffawydd aeddfed, a phob un wedi cymryd o gwmpas oddeutu 50 i 100 mlynedd i gyrraedd aeddfedrwydd llawn—eu torri’n anghyfreithlon. Gwnaed hyn, mae’n ymddangos, er mwyn hwyluso’r gwaith o osod yr aráe solar a’i helpu i ddal yr haul. Yn hytrach na cheisio canfod ac erlyn y troseddwyr, ymateb cyngor Caerffili i’r weithred warthus hon oedd ymgynghori â chwmni datblygu lle y cytunwyd i blannu coed ifanc newydd yn lle’r coed. Mae’n siŵr ei fod yn gysur mawr i drigolion Man-moel a’r ardal gyfagos mai 100 mlynedd neu fwy yn unig sy’n rhaid iddynt aros i gael eu hamgylchedd wedi’i adfer—

Diolch i’r Aelod am ildio. Fel un o drigolion y gymuned leol fy hun, roeddwn yn ddig iawn ynglŷn â’r cwympo coed anghyfreithlon sydd wedi digwydd ac mae ymchwiliad ar y gweill. Ond onid yw’n credu bod y ffaith ei fod yn anghyfreithlon yn dangos nad y gyfraith yw’r broblem; yr hyn a wnawn pan fydd y gyfraith yn cael ei thorri yw’r broblem, ac nid yw’n dderbyniol gwneud dim mwy na phlannu coed ifanc yn lle coed derw a ffawydd 150 a 200 oed? Dylai fod canlyniadau i ddatblygwyr yr honnir eu bod yn cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon fel hyn.

Cytunaf yn llwyr â Steffan ar y mater hwnnw, yn hollol.

Mae’n ymddangos nad rheoliadau amgylcheddol yn unig sy’n methu cynnig unrhyw ddiogelwch rhag datblygiadau o’r fath; nid yw’r rhai sy’n ymwneud ag effeithiau ar fywyd gwyllt ac archaeoleg yn y cyffiniau yn ogystal â chyfleusterau hamdden awyr agored yn gwneud hynny chwaith. Rydym yn deall mai astudiaeth undydd frysiog ar yr effaith ar y cynefin bywyd gwyllt yn yr ardal a wnaed a’i bod wedi dod i’r casgliad—am syndod—na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar fywyd gwyllt lleol. Hyn, er bod yr ardal leol yn safle bridio ar gyfer rhywogaethau mewn perygl fel yr ehedydd. Unwaith eto, mae codi tyrbin gwynt yn agos at safle a alwyd gan arbenigwr archaeolegol yn un ‘o ddiddordeb arwyddocaol’ yn dangos nad oes llawer o ddiogelwch pan fydd y prosiectau hyn yn cael eu hystyried. Gallwn ychwanegu at y drychineb amgylcheddol hon y ffaith fod y tyrbinau gwynt a’r araeau solar o fewn llathenni i amwynder lleol a safle o harddwch Pwll Pen-y-fan. Nid oes rhyfedd felly fod trigolion Man-moel ac Oakdale gerllaw yn credu bod yna agwedd ‘gwnaiff unrhyw beth y tro’ tuag at y datblygiadau hyn.

Os gellir difetha amgylchedd drwy gwympo coed yn anghyfreithlon, os oes modd anwybyddu cynefin bywyd gwyllt, os gellir diystyru safleoedd o ddiddordeb archeolegol ac os nad oes unrhyw arwyddocâd i amwynderau awyr agored lleol, mae’n dangos ymagwedd orllewin gwyllt tuag at reolaeth gynllunio lle y caiff prosiectau o’r maint hwn eu hystyried. Pa bris sy’n rhaid i bobl Cymru ei dalu am ddileu ein hôl troed carbon yn y ffordd hon, sydd, gadewch i ni atgoffa ein hunain eto, yn 0.04 y cant yn unig o’r cyfanswm byd-eang?

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol. Galwaf ar Jane Hutt i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar ynni sef Ynni Cymru.

2. Yn nodi’r targed deddfwriaethol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf yn awr ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

'gyda'r nod o sicrhau 40 y cant o ostyngiad mewn allyriadau carbon erbyn 2020, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050 ac economi ddi-garbon.'

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Yn is-bwynt 3(a) dileu 'mai cymunedau ddylai gael y gair olaf' a rhoi yn ei le 'y dylai cymunedau gael mynegi barn'.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3(a):

'drwy strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Dileu is-bwynt 3(b).

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:

'y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, gyda rheoliadau adeiladu cryfach ar gyfer adeiladau newydd i fod bron yn ddi-ynni a thrwy raglen ôl-ffitio ar raddfa fawr ar gyfer cartrefi preswyl presennol.'

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7.

Rwy’n gwneud hynny, Dirprwy Lywydd. Ac er fy mod bob amser wrth fy modd yn trafod ynni yn y Cynulliad gan y credaf mai un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud fel cenedl yw mapio ein dyfodol ynni a charbon isel, rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu gair o’r hyn y mae UKIP yn ei ddweud ar ynni. Nid wyf yn credu eu bod yn gweithio tuag at ddyfodol carbon isel neu ddyfodol di-garbon o gwbl. Mae’r unig Aelod UKIP a ddywedodd unrhyw beth a oedd yn agos at fod yn wyddonol ar hyn wedi gadael y grŵp ac wedi ymuno hanner ffordd rhwng y Ceidwadwyr a’r rhai nad ydynt yn Geidwadwyr, a chawsant eu gadael â phobl nad ydynt, yn syml iawn, yn credu mewn gwyddoniaeth. David Rowlands, sydd newydd amddiffyn ei amgylchedd lleol yn angerddol, ond nad yw ond yn siarad—pan soniodd ddiwethaf am ynni, cyfeiriodd at stori yn y ‘New York Times’ yn yr 1920au am y tywydd yn Efrog Newydd fel ffordd o gyfiawnhau’r hyn sy’n digwydd gyda newid yn yr hinsawdd. Felly, gadewch i ni gofnodi hyn: mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd, mae’n effeithio ar ein hamgylchedd, mae’n effeithio ar rywogaethau prin, bydd yn dinistrio amgylchedd Cymru os na wnawn rywbeth yn ei gylch, a’r dasg yw gwneud rhywbeth am y peth mewn ffordd sy’n gyfrifol amdanom ein hunain fel cenedl, yn gyfrifol yn fyd-eang—nid yw’r ffaith mai ychydig bach o allyriadau carbon deuocsid a gynhyrchwn rywsut yn ein hesgusodi rhag chwarae rhan fyd-eang lawn fel cenedl fodern dechnolegol, a allai, gyda llaw, os gwnawn hynny’n iawn, fod ar flaen y gad o ran creu swyddi o hyn hefyd.

Nid wyf am amddiffyn unrhyw beth sy’n torri coed ffawydd aeddfed yn anghyfreithlon, ac fel y mae Steffan Lewis eisoes wedi nodi, mae honno eisoes yn weithred anghyfreithlon a dylai fod canlyniadau i hynny. Ond mae gwrthdaro gwirioneddol yma—

David J. Rowlands a gododd—

Fe orffennaf y pwynt, os caf, ac fe ildiaf wedyn.

Mae gwrthdaro go iawn yma. Rydym wedi clywed drwy’r dydd gan UKIP heddiw, gan ein bod wedi bod yn trafod awdurdodau lleol, fod yn rhaid cael refferenda lleol, rhaid i bobl leol benderfynu, ac yna maent yn cyflwyno cynnig i’r Cynulliad sy’n dweud na allwch adeiladu unrhyw baneli solar o gwbl os yw’n golygu torri coeden aeddfed. Wel, nid yw hynny’n caniatáu penderfyniadau lleol mewn gwirionedd, ac mae ein gwelliannau’n dweud yn glir iawn fod gennym yng Nghymru gyfres o Ddeddfau—Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, y gwn fod Steffan Lewis yn hoff iawn ohoni, ond yn bwysicach, Deddf yr amgylchedd—sy’n rhoi cyd-destun lle y gall penderfyniadau lleol a chymunedau lleol ddod i gasgliad ar lefel genedlaethol a’u rhoi ar waith ar lefel leol. Nawr, rwy’n meddwl bod cynigydd y cynnig yn dymuno ymyrryd.

Ie, iawn. Yn gyntaf oll, yn amlwg, byrdwn y ddadl hon yw bod gorddatblygu’n digwydd mewn ardal benodol. Sylwais ar rywbeth y dywedwch eich bod yn ei ffafrio cymaint ym Mhlaid Cymru, eich bod am edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn y blaen, ond nodaf eich bod am hepgor 3, is-adran a), sef na ddylem fod yn dinoethi ein coedwigoedd er mwyn adeiladu’r rhain—rydych am hepgor hwnnw.

Rydym yn ei hepgor oherwydd ein bod yn rhoi rhywbeth llawer gwell i mewn. Dyna yw gwelliant. Yr hyn rydym yn ei roi i mewn sy’n llawer gwell yw’r cyfeiriad at Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a Deddf yr amgylchedd, am mai dyna’r cysyniad cyfreithiol sy’n sail i’n dull datblygu cymunedol a datblygu cenedl gyfan. Nid oes unrhyw bwynt creu gorchmynion ar gyfer coed unigol a chwyno am hynny os nad ydych yn edrych ar y darlun mawr—os caf ei roi fel hyn, ni allwch weld y goedwig am fod y coed yn y ffordd.

Mae David Rowlands, yn y gorffennol, wedi dadlau; rwyf wedi ei glywed yn dadlau—ni wnaeth hynny heddiw, mae’n ddrwg gennyf ddweud, ond mae wedi dadlau dros fôr-lynnoedd llanw. Rwy’n cefnogi symud ymlaen gyda’r morlyn llanw ym mae Abertawe yn frwd iawn. Rwy’n credu y dylai hynny fod yn nodwedd o’r etholiad cyffredinol hwn yng Nghymru, ac rwy’n credu nad yw unrhyw blaid nad yw’n ymrwymo i symud ymlaen gyda’r morlyn llanw yn haeddu pleidlais pobl yng Nghymru. Ond gadewch i ni feddwl beth fydd y morlyn llanw ym mae Abertawe. Byddai’n brosiect braenaru; dyna y mae adroddiad Hendry yn ei ddweud yn glir iawn. Byddai wedyn yn arwain at forlyn llanw arall yng Nghaerdydd ac o bosibl, at drydydd cynllun yn aber Afon Hafren. Datblygiad cronnus yw hynny ac mae angen ei drin yn ofalus iawn, wrth gwrs. Ond pam fod ffermydd gwynt bob amser yn cael eu clustnodi fel datblygiadau cronnus drwg, a bod ychydig baneli solar bob amser yn ddrwg fel datblygiadau cronnus ac eto gallwn edrych ar ddwy orsaf ynni niwclear newydd, a rywsut, nid yw un ar bob pen i Gymru yn ddatblygu cronnus? Rwy’n credu bod angen rhywfaint o realiti yma.

Mae Plaid Cymru’n glir iawn, ac mae ein gwelliannau’n nodi’n glir iawn fod gennym lwybr y gallwn ei ddilyn sy’n mynd â ni, yn gyntaf oll, tuag at hunangynhaliaeth o ran trydan a gynhyrchir drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 ac yn ail, tuag at ddyfodol di-garbon. Nid wyf yn credu bod gwelliannau’r Llywodraeth i’r ddadl hon yn ddigon uchelgeisiol. Fe’u cefnogaf cyn belled ag y maent yn mynd, ond rwyf am ein gweld yn mynd ymhellach, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni gael cynllun clir iawn sy’n ein galluogi i dorri allyriadau 40 y cant erbyn 2020 a’r toriad o 80 cant y mae’r Llywodraeth yn cyfeirio ato erbyn 2050. I gyflawni hynny, mae’n rhaid inni ei wneud hefyd gyda chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddo, ac i Blaid Cymru, mae hynny hefyd yn golygu sefydlu ein cwmni ynni ein hunain yng Nghymru sy’n ein galluogi i greu cyfle ar gyfer cynhyrchu gwasgaredig, datblygiadau grid unigol, mwy o sylw i dlodi tanwydd a gweld mwy o fudd i bobl Caerffili, neu ble bynnag y mae ganddynt ddatblygiad ynni ar garreg eu drws—sy’n dwyn manteision uniongyrchol i’r gymuned honno. Dyma yw hanes Cymru: datblygwyd y pyllau glo gennym, a datblygwyd ein diwydiant mewn ffordd a chwalodd ein cymunedau’n llwyr. Wrth wynebu her newid yn yr hinsawdd, rhaid inni sicrhau nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, ond mae’n rhaid inni, ar yr un pryd, sicrhau hefyd nad yw ynni Cymru yn y gorffennol yn llesteirio ein hateb o ran datblygu ynni.

Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, ac yn croesawu’r ddadl hefyd, rhaid i mi ddweud, ac rwy’n mynd i geisio ymateb i rannau penodol o’r cynnig ger ein bron, ond cyn i mi ddechrau, rwy’n meddwl fy mod wedi clywed—. Ac rwy’n deall bod hon yn ddadl ar gynnig UKIP, ac rwy’n tybio, fel cynnig UKIP, ei fod yn cynrychioli polisi UKIP. Os wyf yn aneglur, rwy’n hapus i dderbyn ymyriad, ond rwy’n tybio bellach mai polisi UKIP Cymru yw cefnogi datgarboneiddio. Ac rwy’n gweld Neil yn ysgwyd ei ben yn egnïol. Os yw hynny’n wir, yna am beth ar y ddaear y mae’r cynnig hwn yn sôn? Oherwydd mae’n dweud ei fod

‘Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng Nghymru.’

A, ‘nodi’. Nid ‘croesawu’, nid ‘cefnogi’, nid ‘annog’; mae’n ‘nodi’. Yn groes i ysbryd yr hyn a glywsom yn sylwadau agoriadol David—y byddwn yn eu croesawu os mai dyna oedd polisi UKIP i’w weld yn ei awgrymu—mae’n ‘nodi’. Mae’n amlwg ei fod wedi’i lunio’n ofalus iawn yno. Nid yw’n croesawu, ond mewn gwirionedd, polisi’r blaid o hyd yw ei bod yn gwrthwynebu datgarboneiddio. Ac rwy’n edrych i weld a yw arweinydd y blaid yn nodio. Iawn, ac mae’n galw am ddiddymu Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 a gyflwynwyd gan Lafur. Iawn, felly rwy’n meddwl fy mod yn glir ynglŷn â hynny yn awr.

Mae’n dweud yn fan hyn,

‘mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar’

Yn bendant, fe ddylent gael mynegi barn, heb os nac oni bai, a dylent gael mynegi’r farn honno yn rhan o’r broses gynllunio gwlad a thref. Dylent gael mynegi’r farn honno yng nghyd-destun Deddf yr amgylchedd, a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal. Dylent gael mynegi barn, ac mewn gwirionedd, hoffwn eu gweld yn cael mwy o lais, nid yn lleiaf mewn perchnogaeth gymunedol hefyd ar brosiectau ynni adnewyddadwy, boed yn ynni gwynt neu ynni solar, ac rwy’n credu bod mwy i’w wneud ar hynny.

Mae’n sôn yn y cynnig na ddylid torri coed aeddfed er mwyn adeiladu ffermydd solar. Rwy’n cytuno. Yn ddelfrydol, dylid osgoi hynny, ac yn benodol, nid yn unig coed aeddfed, ond dylid osgoi coetiroedd hynafol—coetiroedd hen iawn—a dylai fod canlyniadau i gwympo coed yn anghyfreithlon wrth gwrs. Ond rhaid i hyn fod yng nghyd-destun y broses o wneud penderfyniadau’n lleol hefyd, a rhaid i’r cymunedau lleol hynny gael mynegi barn o fewn y broses honno. Ond rwy’n sylwi nad yw’n ymwneud yn unig â—. Er bod rhif 1 yn dweud ei fod

‘Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni’,

mae’n ymwneud â mwy na chynhyrchu ynni. Yn wir, mae’n sôn am foeleri sy’n rhad ar danwydd, gosod ffenestri gwydr triphlyg, a’r cyfan y byddwn yn ei ddweud yw: mae’r rhain yn bethau teilwng i edrych arnynt, ond mae’n bell o fod yn unrhyw beth tebyg i restr siopa gywir ar gyfer yr hyn y dylid ei wneud o ran mesurau ôl-osod sy’n arbed ynni. A’r hyn rydym ei angen yw osgoi’r math hwnnw o ddewis rhai, a oedd yn un o wendidau mawr y Fargen Werdd mewn gwirionedd, rhaglen fawr flaenllaw’r Fargen Werdd yn y DU, lle roedd gennym werthwyr, i bob pwrpas, yn mynd i mewn i dai ac yn dweud, ‘Fe wnaf y peth hwn i chi; fe wnaf y peth arall i chi’, nid yr hyn sy’n iawn ar gyfer yr eiddo a gweithio drwyddo mewn gwirionedd o ran yr hyn a fyddai’n rhoi’r budd mwyaf am yr allbwn lleiaf. Felly, mae yna rai syniadau da, ond nid yw’n ddigon helaeth.

Nawr, yn y gwelliant a gyflwynwyd, gwelliant Rhif 1, gan fy nghyfaill, yr Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, mae’n nodi strategaeth polisi ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru, y byddai David, rwy’n tybio, yn hoffi’i gweld yn cael ei hadolygu. Rwy’n credu y caiff ei hadolygu, gan ei bod wedi bod yno ers ychydig o flynyddoedd bellach. Bydd yn cael ei hadolygu, a bydd yn cael ei hadolygu, rwy’n tybio, yn unol â pholisi ynni craffach i Gymru a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig rhagflaenol. Ac felly y dylai fod, oherwydd o fewn hynny, soniai am leoleiddio cynhyrchu ynni. Soniai am fwy o ymwneud a pherchnogaeth y gymuned ar gynhyrchiant ynni. Felly, ar ryw adeg, bydd y strategaeth yn cael ei hadolygu, ond ni chaiff ei hadolygu er mwyn cefnu ar dargedau datgarboneiddio neu er mwyn cefnu ar ynni adnewyddadwy. A rhai o’r ffynonellau ynni adnewyddadwy y mae UKIP yn eu gwrthwynebu, wrth gwrs, yw’r ffynonellau ynni adnewyddadwy mwyaf costeffeithiol hefyd. Ac mae’n nodi’r targed sydd gennym ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru—gostyngiad o 80 y cant fan lleiaf erbyn 2050—ac rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy. Canlyniad cytundeb Paris yw mai dyna ble’r ydym yn awr; mewn gwirionedd, mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac mae’n rhaid i ni ei godi bob blwyddyn wrth inni symud ymlaen.

Felly, yn groes i’r hyn y deallaf yw safbwynt UKIP, mae angen i ni wneud mwy, symud yn gyflymach, a gwneud hynny ar frys. Fel y mae’r pwyllgor newid hinsawdd wedi dweud, mae yna frys enbyd bellach i fynd ymhellach. Mae hynny’n golygu bod angen inni roi hwb go iawn i effeithlonrwydd ynni—drwy ôl-osod—ac rwyf wedi dadlau o’r blaen y dylai fod yn rhan o seilwaith cenedlaethol, ac rwy’n credu bod y Llywodraeth yn gwrando ar hynny yma yng Nghymru. Mae angen i ni godi safonau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi newydd a chymaint mwy hefyd. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud. Felly, croesawaf y ddadl hon heddiw, ond cynnig rhannol yn unig ydyw fel y mae wedi’i strwythuro. Byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru ac yn eu hannog ar yr un pryd i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol. Ni yw’r blaid a gyflwynodd Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Gallwn wneud rhagor eto yma yng Nghymru. 

Rwy’n falch o daflu ychydig o oleuni ar bethau sydd wedi cael eu dweud eisoes yn y ddadl hon heddiw. Nid oeddwn am i’r ddadl hon gael ei throi’n ddadl am gynhesu byd-eang ynddi ei hun. Roedd i fod i ymwneud â sut rydych yn ymateb i hynny, waeth beth y credwch sy’n digwydd yn y byd yn ehangach. Ond fe ddywedaf hyn mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Simon Thomas yn gynharach: os edrychwn yn unig ar y ffeithiau a wyddom, yn hytrach nag amcanestyniadau damcaniaethol, cododd y tymheredd 0.5 gradd rhwng 1975 a 1998. Ni fu fawr ddim newid yn y tymheredd byd-eang ers 1998. Ac eto, roedd y newid rhwng 1975 a 1998 yn llai nag a ddigwyddodd rhwng 1910 a 1940, cyn i neb synied am theorïau cynhesu byd-eang, ac yn y blynyddoedd pan oedd allyriadau carbon yn llawer uwch nag y maent heddiw. Felly, mae’r ddadl ymhell o fod ar ben ynglŷn â sail wyddonol y dadleuon hyn—

Wel, byddai’n well gennyf beidio am fy mod eisiau datblygu’r ddadl hon ar bwynt arall, a bydd digon o gyfleoedd eraill, rwy’n siŵr, i ni i ddadlau am y pwynt hwn. Ond ni waeth beth y mae neb yn ei gredu sy’n digwydd gyda newid yn yr hinsawdd, ein dadl yw bod y costau a osodwyd gan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn anghymesur o uchel i’r wlad hon eu talu yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd. Nawr, ysgrifennwyd ein polisi ar gynhesu byd-eang gan Mark Reckless. Ef a ysgrifennodd y maniffesto a roesom gerbron wrth inni sefyll etholiad fis Mai diwethaf. Felly, nid wyf yn gwybod a ydym yn mynd i weld tröedigaeth Ddamascaidd y prynhawn yma, ond arhoswn i weld. Ond yr holl bwynt yw—[Torri ar draws.] Wel, gall yr Aelod anrhydeddus wneud ei araith yn y man. Gan mai pedair munud yn unig sydd gennym, rwyf eisiau gwneud—[Torri ar draws.] Rwyf eisiau gwneud [Anghlywadwy.]—y pwynt syml fod y wlad hon, ac rwy’n golygu Cymru yn benodol, yn talu pris anghymesur am y polisïau sy’n cael eu gorfodi arnom.

Nid 0.5 y cant o allyriadau byd-eang y mae Cymru yn eu cynhyrchu mewn gwirionedd, ond 0.05 y cant o allyriadau byd-eang o garbon deuocsid. Mae’r Deyrnas Unedig, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu tua 1.16 y cant. Mae Tsieina’n cynhyrchu 30 y cant; yr Unol Daleithiau 15 y cant; India 7 y cant. Ymhell o’r hyn roedd Huw Irranca-Davies yn ei ddweud am gytundebau byd i leihau allyriadau carbon, mae Tsieina ac India yn argymell cynnydd enfawr yn eu hallbwn carbon deuocsid dros y 30 mlynedd nesaf. Mae Tsieina’n mynd i ddyblu faint o garbon deuocsid sy’n cael ei allyrru, ac mae India’n mynd i dreblu’r hyn y maent yn ei allyrru ar hyn o bryd oherwydd bod eu heconomïau’n mynd i dyfu, ac o dan gytundeb hinsawdd Paris, ceir cymal eithrio penodol ar eu cyfer i ganiatáu hynny. Felly, er bod hwn yn rhwymo mewn cyfraith, mae’r hyn sy’n rhwymo mewn cyfraith yn caniatáu iddynt gynyddu eu hallyriadau byd-eang lawer gwaith yn fwy na’r hyn y byddem yn ei arbed pe baem yn dileu economi Prydain gyfan. [Torri ar draws.] Rwyf am roi un dyfyniad, ac fe ildiaf i Rhianon Passmore wedyn. Mae erthygl 4.7 yng nghytundeb Paris yn dweud:

Bydd y graddau y bydd gwledydd sy’n datblygu yn gweithredu eu hymrwymiadau’n effeithiol o dan y Confensiwn... yn ystyried yn llawn mai datblygu economaidd a chymdeithasol a dileu tlodi yw prif flaenoriaethau’r gwledydd sy’n datblygu

a hynny’n gwbl briodol hefyd. Wrth gwrs, os yw’r gwledydd hyn, sy’n aml iawn yn enbyd o dlawd, yn mynd i ddatblygu, mae’n anochel eu bod yn mynd i gynyddu allyriadau carbon deuocsid. Wrth i boblogaeth y byd ehangu, mae hynny’n rhwym o gynhyrchu’r effaith hon. Ildiaf i’r Aelod.

Diolch yn fawr iawn. Ymyriad bach yn unig rwy’n meddwl: o ran y gwrthdaro a’r dryswch ymddangosiadol a geir yn eich polisi ar ddatgarboneiddio, a allwch egluro a yw UKIP o blaid ffracio ac ai dyna yw polisi eich plaid yng Nghymru?

Yn bersonol, nid oes gennyf wrthwynebiad i ffracio mewn egwyddor. Mae’n ffordd garbon isel o gynhyrchu pŵer mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, ceir ofnau mewn cymunedau lleol am y tarfu a achosir, a rhaid i’r rheini gael eu hystyried yn llawn yn yr un modd ag yr ydym yn ei ddweud yn y cynnig hwn am wrthwynebiad pobl mewn cymunedau fel Man-moel—ardal rwy’n ei hadnabod, oherwydd yn fy mhlentyndod cynnar roedd fy neiniau a fy nheidiau’n byw gerllaw ac roeddwn yn byw gyda hwy. Mae’r araeau helaeth hyn o baneli solar—fe’u gwelwn ar hyd a lled y wlad wrth i ni deithio o amgylch ar draffyrdd—maent yn egino fel y cnwd mwyaf proffidiol y gall ffermwyr ei dyfu.

Cawsom ddadl gan Blaid Cymru heb fod yn hir yn ôl am beilonau a llinellau pŵer yn cael eu claddu o dan y ddaear, a gwneuthum y pwynt fod gwrthddweud, onid oes, rhwng eu polisi ar beilonau a llinellau pŵer ar y naill law, polisi rydym ni yn UKIP yn ei gefnogi’n llawn—ac eto nid ydynt yn poeni am anharddu bryniau canolbarth Cymru a mannau eraill â fforestydd mawr o felinau gwynt. Felly, yr hyn rwy’n ei awgrymu yma yw bod gofyn i ni dalu pris enfawr am y nesaf peth i ddim gostyngiad yn lefelau allyriadau byd-eang o garbon deuocsid. Hyd yn oed yn asesiad o gostau’r Ddeddf newid yn yr hinsawdd yn 2008, nodwyd mai £720 biliwn oedd y gost—gwariant chwe blynedd ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac felly, mae disgwyl gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050 yn mynd i osod cost enfawr ar y tlawd a’r difreintiedig yn enwedig mewn gwledydd fel Cymru—ac rydym yn un o rannau tlotaf Gorllewin Ewrop. Felly, ar y sail honno’n unig y dywedwn nad yw’r polisi hwn er budd pobl Cymru.

Fel llawer o Aelodau Cynulliad heddiw, rwy’n meddwl fy mod yn gweld safbwynt UKIP yma yn un braidd yn rhyfedd. Mae’n rhyw fath o gymysgedd o lasganmol ac ystumio’r darlun braidd yn ddramatig. Ni allant gytuno’n hollol a yw cyfraniad Cymru i allyriadau yn 0.04 y cant, neu’n 0.005 y cant. Ond wrth gwrs, y broblem go iawn yw bod ein hallyriadau’n uwch na chyfartaledd y DU oherwydd ein diwydiant dur. Maent yn uwch na’r cyfartaledd Ewropeaidd, ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni wneud ein rhan yma fel rhan o ymateb rhyngwladol cydgysylltiedig rydym i gyd wedi ymrwymo iddo. Rydym yn gwneud ein rhan, gan ddisgwyl i’n partneriaid ar draws y byd wneud eu rhan. Ond yn amlwg, nid dyma yw ymagwedd UKIP. Ac mae’n rhaid i mi ddweud bod y carbon sydd wedi mynd i mewn i’r atmosffer ers yr ail ryfel byd a’r oes olew, ac mae’n rhaid dweud, drwy ledaeniad ffyniant economaidd yn sgil globaleiddio, yn llawer mwy helaeth nag yn y cyfnod rhwng 1910 a 1940. Felly, wyddoch chi, rwy’n meddwl bod angen i ni lynu at rai ffeithiau go gadarn.

Ond wyddoch chi, mae yna gwestiwn yn codi yma—sy’n bwysig—ynglŷn ag effaith weledol unrhyw ddatblygiad newydd ar ein hamgylchedd. Ond rhaid i mi ddweud, wyddoch chi, mae oes diwydiant trwm o ran yr anffurfio a greodd honno yn llawer iawn mwy na’r hyn sydd gennym yn awr gyda ffynonellau ynni adnewyddadwy. Nid yw hynny’n golygu y dylem fod yn ddiofal ynglŷn â ble y cânt eu lleoli ac na ddylem ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd.

David, a wnewch chi ildio ar hynny? Diolch i chi am ildio. Nodaf hefyd—ac rwy’n edrych ar Neil hefyd am eglurhad ar hyn, yn weledol o bosibl, wrth iddo nodio neu ysgwyd ei ben—ond fy nealltwriaeth hefyd yw mai polisi cenedlaethol UKIP ar gyfer y DU yw cefnogi glo fel rhan o’r ateb yn y dyfodol. Ac mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol, yn y gwrthwynebiad a geir i ynni gwynt ac ynni solar, o ran pa byllau yn fy etholaeth a fydd yn cael eu hailagor. Pwll glo Coegnant neu lofa Wyndham yng nghanol Maesteg? Pa rai? Neu pa weithfeydd glo brig sy’n mynd i gael eu hagor neu eu hymestyn yn fy etholaeth? Oherwydd os yw glo yn rhan o’r ateb, dyna sy’n mynd i ddigwydd.

Rwy’n cytuno â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud o ran yr effaith debygol wirioneddol enfawr ar yr amgylchedd yn sgil dychwelyd at lo.

Mae’n bwysig fod gennym gonsensws cyffredinol yn y Cynulliad hwn—un y mae Llywodraeth Cymru, rwy’n falch o ddweud, wedi’i roi ar waith o safbwynt polisi cyhoeddus—i ddatblygu economi carbon isel. Dyma’r peth iawn i’w wneud, ac nid ydym eisiau neges gymysg.

Wyddoch chi, mae’n debyg mai Cymru oedd economi ynni fwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mewn sawl ffordd, rydym yn dal i dalu’r pris am hynny oherwydd ystod gul iawn ein sylfaen economaidd. Ond mae gennym gyfle yn awr i fod yn arweinydd byd o ran cael technolegau adnewyddadwy yn lle hynny sy’n mynd â ni oddi wrth y seilwaith enfawr a chanoli ffurfiau ynni sy’n seiliedig ar garbon tuag at gynnig grymuso cymunedau lleol pan fyddant yn cymryd rhan yn briodol. Dyna’r neges y dylem ei chyfleu—ei fod yn llwybr at leoliaeth a grymuso o ran datblygu economïau lleol.

Mae’n rhaid i mi ddweud bod yna rai pethau sy’n cael eu hawgrymu, fan lleiaf, yng nghynnig diffygiol UKIP yr ydym yn cytuno â hwy. Rydym yn credu mewn lleoliaeth a’r hawl, yn y rhan fwyaf o achosion, i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau lleol, a phethau nad ydynt yn gorlifo i faterion sy’n amlwg yn genedlaethol. Rwy’n credu mai’r awdurdod lleol a ddylai arwain mewn materion felly, ac yma mae’n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi symud i’r cyfeiriad arall i’r un a welwn yn Lloegr yn awr o ran gallu awdurdodau lleol yma i ymdrin â cheisiadau ynni. Yn Lloegr mae ganddynt lawer mwy o gyfle i ymdrin â chynlluniau hyd at 50 MW ond yma, hyd at 10 MW yw’r terfyn, ac nid yw hwnnw’n ddatblygiad da yn ein barn ni.

Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd fod angen i ni ddiffinio beth yw coetir aeddfed. Nid wyf eisiau mynd yn rhy bedantig, ond byddai’r geiriad presennol yn cynnwys coetir masnachol yn fy marn i. Coedwig pinwydd aeddfed sy’n cael ei ffermio—yn y geiriad presennol, ni châi hynny ei ganiatáu. Fodd bynnag, mae yna bwynt sylfaenol, sy’n rhywbeth rwyf am ei bwysleisio, sef na ddylid cael gwared ar goetiroedd hynafol yn arbennig, a chredaf fod hynny’n bwysig iawn, mewn gwirionedd, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae yna un neu ddau o bethau eraill. Nid yw canmol y defnydd o ffenestri gwydr triphlyg mewn ffordd mor ysgubol—mae rhai wedi argymell gofal yn y maes hwn, er ei fod yn ddefnyddiol mewn llawer o achosion. Nid yw’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn arddel y math o safbwynt y mae UKIP yn ei argymell y prynhawn yma.

Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig inni weld y cyfleoedd i Gymru yma. Os caf orffen ar bwynt rwy’n cytuno ag UKIP yn ei gylch, fod cynnwys cymunedau lleol yn bwysig, ond rydym am i hynny olygu cymryd rhan lawn a phriodol ac wedi’i grymuso, ac efallai nad mynd ar drywydd rhai storïau penodol yw’r ffordd i symud ymlaen.

Rwy’n codi yn y ddadl hon i siarad am un mater penodol, ond un pwysig y mae eraill wedi cyfeirio ato. Mae cynnig UKIP yn datgan, ac rwy’n dyfynnu,

‘na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar’

ac rwy’n falch iawn yn bersonol eu bod y tro hwn wedi darganfod mandad amgylcheddol ac eco-enaid. Rwy’n croesawu hynny.

Ond Llywydd, mae’n amlwg, fel y gŵyr UKIP, na ddylid torri ein coed aeddfed a ddiogelir er mwyn adeiladu ffermydd solar. Byddai hyn yn amlwg yn dramgwydd yn erbyn amddiffyniadau rheoleiddio, ac mae’n hollol warthus fod 200 o goed aeddfed iawn yn fy etholaeth wedi cael eu cwympo’n anghyfreithlon ger y Coed Duon ym Mhwll Pen-y-fan. Mae’r weithred anghyfreithlon hon wedi cythruddo ein cymunedau ac amgylcheddwyr, a hynny’n gwbl briodol, a chasglwyd dros 1,000 o enwau ar ddeiseb eisoes. Rwy’n annog y rhai sy’n poeni am hyn i’w llofnodi. Yn wir, dywedodd Jim Hepburn, rheolwr coetir rheoleiddiol cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru yn y modd cryfaf posibl, a dyfynnaf:

‘Mae hwn yn achos difrifol a fydd yn cael effaith ofnadwy ar yr amgylchedd lleol a bydd pobl leol yn anhapus yn ei gylch.’

Rwyf wedi cyfarfod â’r awdurdod lleol a chyda Mr Hepburn yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac rwyf hefyd wedi bod ar y safle i weld drosof fy hun y difrod ofnadwy a achoswyd gan gwympo’r coed hyn yn anghyfreithlon yn groes i bob caniatâd a rheoliad. Mae’n weithred anghyfreithlon. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r achos hwn o gwympo coed yn anghyfreithlon lle y cafodd dros 200 o goed ffawydd gwrychoedd aeddfed iawn eu torri’n anghyfreithlon. Mae’n drosedd, felly galwaf am roi’r camau cryfaf posibl ar waith i erlyn.

Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ymchwilio’n llawn a chyflwyno eu canfyddiadau wedyn gyda’u hargymhellion ar gyfer dilyn camau gweithredu priodol. Mae pob parti difrifol yn gwybod bod angen trwydded ar gyfer camau gweithredu o’r math a welwyd wrth Bwll Pen-y-fan, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad oes yr un wedi’i rhoi. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi’i gwneud yn gwbl glir y bydd, ac rwy’n dyfynnu,

‘yn gweithredu yn erbyn y rhai a fu’n gyfrifol’.

Felly, yn anffodus rwy’n darogan ei bod yn rhaid ei bod yn adeg etholiad; yn hytrach nag aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad, mae David Rowlands wedi ymostwng i siarad gorchest a styntiau gwleidyddol, rhywbeth y mae ei blaid yn dda iawn am eu gwneud mewn gwirionedd. Mae David Rowlands wedi trefnu drôn, fel y gwelsom yn awr, i gofnodi’r olygfa hon o’r awyr ymhell ar ôl y digwyddiad—drôn—er bod ymchwiliad llawn ar y gweill o’r cyfryw dramgwydd a’i fod wedi’i gofnodi’n llawn.

Felly, efallai y byddai wedi bod yn ddoethach anfon y drôn i ddod o hyd i ymgeiswyr UKIP yn yr etholiadau lleol. O’r 1,254 o seddi cyngor sir yfory, ni fydd UKIP ond yn cyflwyno ymgeiswyr i ymladd 80 ohonynt. Ar wefan BBC Cymru ar 5 Ebrill, dyfynnwyd David Rowlands yn esbonio hyn drwy ddweud bod UKIP yn bwriadu penodi trefnydd rhanbarthol, ond ychwanegodd fod y newidiadau’n dal i gael eu hystyried a dyna pam nad oeddent mor drefnus ag y gallent fod ar gyfer etholiadau’r cyngor. Mae ‘heb gael eu hystyried’ ac ‘anhrefnus’ yn eiriau addas i ddisgrifio UKIP.

Na foed unrhyw amheuaeth y bydd y rhai sy’n gyfrifol am gwympo’r coed hyn yn anghyfreithlon yn cael eu canfod ac y bydd camau’n cael eu rhoi ar waith gan yr awdurdodau priodol. Ar ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw goed aeddfed wedi’u clirio ar gyfer datblygu ffermydd solar, gan mai cwympo coed yn anghyfreithlon yw hyn. Mae angen i asiantaethau priodol wneud eu gwaith wrth Bwll Pen-y-fan, Islwyn yn awr. Rydym yn aros am yr adroddiad hwnnw ac am ganfyddiadau adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fi yw’r Aelod Cynulliad dros yr etholaeth a etholwyd yn uniongyrchol ac rwyf wedi gwneud yn glir fy awydd i weld y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu henwi a’u cywilyddio a bod achos digolledu yn cael ei gynnal. Felly, ydw, rwy’n gadarn a phenderfynol ynglŷn ag erlyn y digwyddiadau hyn. Mae’n drosedd amgylcheddol ddifrifol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n ddefnyddiol i ddilyn trywydd adeiladol ymlaen.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Fis Rhagfyr diwethaf, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ddatganiad yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer dyfodol ynni yng Nghymru. Eglurodd sut roedd y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i uchelgeisiau a nodir yn ein dogfen bolisi ynni, ‘Ynni Cymru’. Amlinellodd hefyd ei thair blaenoriaeth ar gyfer tymor y Cynulliad hwn: cynyddu defnydd effeithlon o ynni yng Nghymru, lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil, a mynd ati i reoli’r newid i economi carbon isel.

Nid yw’r blaenoriaethau wedi newid. Mae defnydd effeithlon o ynni yn allweddol i’n dull o ddatgarboneiddio a bydd yn nodwedd gref yn ein cynllun i gyflawni ein targedau carbon. Mae’r trawsnewid i economi carbon isel yn creu cyfleoedd yn ymwneud â thwf glân, swyddi o ansawdd a manteision yn y farchnad fyd-eang. Mae hefyd yn creu manteision ehangach ar gyfer lleoedd gwell i fyw a gweithio, gydag aer a dŵr glân a gwell canlyniadau iechyd.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi deddfwriaeth ar waith i alluogi adnoddau Cymru i gael eu rheoli mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae’n cydnabod rôl hanfodol adnoddau naturiol a’u manteision i les a ffyniant Cymru. Mae’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod ein hallyriadau net o leiaf 80 y cant yn is erbyn 2050 na’r llinell sylfaen a osodwyd yn y ddeddfwriaeth. Mae’r Ddeddf yn gosod y fframwaith statudol ar gyfer cyflawni’r nod hirdymor hwn drwy dargedau interim a chyllidebau carbon rhwng nawr a 2050. Bydd y targedau a’r cyllidebau interim hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio camau gweithredu, adolygu cynnydd a sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni ein hamcanion.

Mewn ymateb i ddadl Plaid Cymru fis Rhagfyr diwethaf, esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig sut y mae ein nod i gyrraedd targed o 80 y cant o ostyngiad erbyn 2050 yn unol â rhwymedigaethau ehangach y DU a’r UE. Eglurodd hefyd sut y mae Cymru, ynghyd â’r DU, yn rhan o grŵp arweiniol o wledydd sy’n rhoi camau deddfwriaethol ar waith i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ymarferol, mae Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan. Mae 100 y cant o’r ynni a brynir gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ynni adnewyddadwy ar gyfer ei bartneriaid sector cyhoeddus, gyda thua 50 y cant yn dod o ffynonellau Cymreig, a’i nod yw cynyddu hyn i 100 y cant.

O ran y gefnogaeth a rown, byddwn yn parhau i ddatblygu ein sylfaen sgiliau yma yng Nghymru drwy gefnogaeth ymarferol ac ariannol. Rydym wedi cefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni drwy ein cynllun diogelu’r amgylchedd, sydd wedi helpu busnesau carbon drud-ar-garbon i leihau eu patrymau defnyddio ynni. Un o’r busnesau hynny yw Celsa Manufacturing UK, gwneuthurwr cynnyrch dur atgyfnerthu mwyaf y DU.

Mae angen cymysgedd o wahanol dechnolegau a maint, o’r raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Mae gennym gyfleoedd i gyflawni prosiectau sylweddol, fel y nododd Simon Thomas, megis morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe. Dylem geisio defnyddio adnoddau naturiol Cymru i ddatgarboneiddio ein cyflenwad trydan am y gost isaf, gan ysgogi buddsoddiad sylweddol ym musnesau a chymunedau Cymru ar yr un pryd. Eisoes, ynni gwynt ar y tir a systemau solar ffotofoltäig solar yw’r ffurf isaf ei chost ar ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, ac mae ar y trywydd iawn i fod yn hyfyw’n fasnachol heb gymhorthdal o fewn ychydig flynyddoedd yn unig. Drwy fuddsoddi yn y technolegau hyn, gallwn gyfyngu ar yr effaith ar filiau ynni o gynhyrchiant newydd. Yn wir, daw bron 70 y cant o ynni adnewyddadwy Cymru o wynt, a daw dros 10 y cant o systemau solar ffotofoltäig. Yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid o £4.5 miliwn gennym i Gyngor Sir Fynwy drwy ein cronfa twf gwyrdd ar gyfer fferm solar Oak Grove yn y Crug. Gallai’r prosiect gynhyrchu digon o drydan i bweru tua 1,400 o gartrefi, arbed dros 2,000 tunnell y flwyddyn o garbon deuocsid a chynhyrchu incwm o dros £0.5 miliwn i’r awdurdod lleol.

Mae tariff cyflenwi trydan Llywodraeth y DU yn rhoi cymhelliant go iawn i unigolion, cymunedau a busnesau elwa o ffynonellau ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad yn y tariffau’n golygu bod prosiectau newydd bellach yn pentyrru ar y safleoedd gorau’n unig. Felly, rydym yn edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio ein grym prynu sector cyhoeddus i leihau risgiau buddsoddi ac ysgogi prosiectau newydd. Rydym yn cefnogi datblygiad tair fferm wynt ar y tir ar ystad Llywodraeth Cymru ym Mhen y Cymoedd, Gorllewin Coedwig Brechfa a choedwig Clocaenog, ac un o amcanion allweddol y datblygiadau hyn yw na fydd unrhyw golled net i goetiroedd o ganlyniad i ddatblygiad, a chyflawnir hyn drwy gynlluniau digolledu.

Fel y mae Simon Thomas a Huw Irranca-Davies wedi datgan heddiw yn y ddadl hon, mae ein cyfundrefnau cynllunio ar gyfer y prosiectau hyn yn darparu cyfleoedd i ddiogelu ein tirwedd unigryw yma yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae’r gost o glirio yn debygol o olygu na fyddai coetiroedd aeddfed yn economaidd ar gyfer systemau solar ffotofoltäig. Yn wir, fel y mae Rhianon Passmore wedi dweud heddiw, nid oes unrhyw goetiroedd aeddfed wedi cael eu clirio ar gyfer datblygu ffermydd solar, yn sicr mewn perthynas ag ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru, a byddai’r broses gynllunio annibynnol yn pennu senario o’r fath. O ran Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, caiff hyn ei gydnabod ac rydym yn cefnogi gwelliant 5. Mae’n gosod y fframwaith ar gyfer y broses o ymgynghori ar gynlluniau statudol, sy’n rhoi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gyflwyno eu barn ar unrhyw brosiect ynni adnewyddadwy arfaethedig.

O ran y defnydd o ynni yn ein cartrefi ac mewn adeiladau eraill, rydym yn cryfhau ein rheoliadau adeiladu drwy ein hadolygiad arfaethedig o ran L eleni, yn ogystal â’n polisïau effeithlonrwydd ynni. Rydym eisoes yn gweithredu rhaglen ôl-osod ar raddfa fawr mewn cartrefi preswyl drwy ein rhaglenni Cartrefi Cynnes, Arbed a Nyth.

Yn ei datganiad ynni, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ein hymrwymiad i annog y defnydd o dechnolegau carbon isel er mwyn ein helpu i newid i economi carbon isel.

O ran y gwelliannau, byddwn yn derbyn gwelliannau 3, 4, 5, 6 a 7, ond ni allwn dderbyn gwelliant 2, oherwydd ein bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid dros yr haf i lywio’r broses o ddatblygu targedau i gyflawni’r amcanion pwysig hyn ac yn amlwg, byddwn yn ymgysylltu â’r Aelodau ynglŷn â’r datblygiadau hynny.

Ond y pwynt olaf a wnaeth Neil Hamilton—ac efallai y gwnaiff ymhelaethu arno, neu David Rowlands wrth ymateb i’r ddadl hon—am y dystiolaeth wyddonol ar newid yn yr hinsawdd. Gadewch i ni wneud hyn yn glir iawn: mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac mae’n hynod o debygol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u hachosi gan bobl yw’r prif achos. Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd yw’r corff rhyngwladol arweiniol ar gyfer asesu newid yn yr hinsawdd, a dyma un o’r prosesau a welodd fwyaf o adolygu gan gymheiriaid yn y byd gwyddonol. Mae dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mae allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr ar y lefel uchaf erioed, ac rwy’n falch ein bod wedi cael cyfle i wneud hynny’n glir hefyd. [Torri ar draws.] Ie, gallwn wrando mwy arno o’r cyrion mewn munud, rwy’n siŵr, ond fel y dywedodd David Melding, gadewch i ni hefyd gydnabod pwysigrwydd gweithredu rhyngwladol. Mae Cymru a Llywodraethau gwladwriaethol a rhanbarthol eraill wedi gwneud ymrwymiad i fesurau lliniaru uchelgeisiol yn y memorandwm dealltwriaeth ar arweinyddiaeth hinsawdd fyd-eang is-genedlaethol, sy’n cynnwys 33 o wledydd a chwe chyfandir, ac sydd gyda’i gilydd yn cynrychioli mwy na $27.5 triliwn mewn cynnyrch domestig gros, sy’n cyfateb i 37 y cant o’r economi fyd-eang. Rydym yn falch yng Nghymru ein bod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol drwy rwydweithiau fel y Grŵp Hinsawdd i godi proffil y rôl bwysig y gallwn ei chwarae ac y gellir ei chwarae gan Lywodraethau gwladwriaethol a rhanbarthol sy’n gweithredu ar y cyd ar newid yn yr hinsawdd, ac rwy’n falch ein bod, unwaith eto, yn gallu amlinellu ein blaenoriaethau, cynyddu defnydd effeithlon o ynni yng Nghymru, lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil a mynd ati i reoli’r newid i economi carbon isel.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan agorais y ddadl hon, dywedais fod nod Llywodraeth Cymru o leihau’r ôl troed carbon 80 y cant yn amcan canmoladwy. Ond rwy’n credu bod ffyrdd llawer gwell o gyflawni’r amcan hwn. Mewn dadl flaenorol, siaradodd Huw Irranca-Davies am leihau’r defnydd o ynni fel rhan o’r strategaeth i leihau ein hôl troed carbon. Rwy’n credu bod hon yn ffordd lawer mwy cynaliadwy a chosteffeithiol o gyrraedd nod y Llywodraeth.

Pe bai gan bob tŷ yng Nghymru foeler nwy modern effeithlon iawn, a phe bai gwydr triphlyg yn cael ei osod ym mhob tŷ ac yn lle araeau enfawr o baneli solar yn difetha ein cefn gwlad, eu bod yn cael eu gosod ar bob annedd, byddai’r effaith ar ein defnydd o ynni’n ddramatig. Dylai hyn i gyd gael ei ariannu gan y Llywodraeth ar gyfer pob deiliad tŷ, nid yn unig y rhai sy’n gymwys o dan y cynlluniau budd-daliadau.

Gallai’r sector cyhoeddus chwarae rhan enfawr yn y gostyngiad hwn drwy osod paneli solar ar bob adeilad cyhoeddus, yr amcangyfrifir eu bod yn eu miloedd, os ydym yn cynnwys ysgolion. Dylid annog y cynlluniau micro-hydro llawer mwy effeithlon. Mae pob afon yng Nghymru a llawer o’u his-afonydd yn gallu cynnal y gosodiadau hyn gydag ond ychydig o niwed i’r amgylchedd os o gwbl. Dylem gael ysbrydoliaeth o’r gorffennol pan oedd melinau dŵr yn pweru’r rhan fwyaf o’r chwyldro diwydiannol cyn dyfodiad trydan. Trist oedd clywed yn gynharach mewn dadl arall fod cost y datblygiadau hyn yn mynd i godi’n sylweddol iawn.

Rwyf am ddychwelyd at Fan-moel i orffen fy nghyfraniad i’r ddadl hon. Mae cwestiwn mawr yn codi ynglŷn ag effeithiolrwydd y datblygiad cyfan ym Man-moel pan fo gennym dystiolaeth fod cais cynllunio wedi’i gyflwyno i gyngor Caerffili ar gyfer gosod 32 o generaduron diesel i weithredu wrth gefn yn lle’r tyrbinau gwynt pan fyddant yn methu cynhyrchu’r capasiti trydan sy’n ofynnol i gyflenwi’r grid, neu os yw’n well gennych, fel y disgrifiant yn eu cais, ar gyfer darparu cyfleuster cynhyrchu hyblyg i ddarparu gwasanaethau cydbwyso ynni drwy’r farchnad gapasiti ar gyfer y Grid Cenedlaethol. Mae pob generadur yn 15 metr wrth 2.5 metr ac yn 6 metr o uchder. Nid unedau diesel bach yw’r rhain. Maent yn beiriannau diesel sylweddol. Os ydynt yn rhedeg am 200 awr yn unig, yn ôl yr amcangyfrif, byddant yn defnyddio 1 filiwn litr o ddiesel bob blwyddyn y byddant yn weithredol. Eironi defnyddio’r generaduron diesel hyn yw eu bod yn llai na milltir o’r dref sy’n cael ei chydnabod fel y dref fwyaf llygredig y tu allan i Lundain—Crymlyn. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi’n radical, nid o ran amcanion newid yn yr hinsawdd, ond o ran y strategaethau y mae’n eu defnyddio i’w cyflawni.

Rwyf am fynd ar ôl y pwyntiau a wnaeth Rhianon Passmore ynglŷn ag ai siarad gorchest yw’r hyn rwy’n ei wneud yma y prynhawn yma. Wel, y gwir amdani yw nad dyna rwy’n ei wneud—[Torri ar draws.] Nid dyna rwy’n ei wneud. Daeth pobl Man-moel ataf oherwydd na allent gael unrhyw gynrychiolydd lleol arall i roi sylw i’r hyn roeddent yn ei ddweud. Felly, dyna’n union pam rwyf fi yma heddiw.

Mae’n ymddangos bod Simon Thomas wedi methu holl ethos y ddadl hon—nad oes unrhyw amddiffyniad yn erbyn maint neu leoliad datblygiadau o’r fath. Ac mae’n amlwg ac yn eglur nad yw pwynt Huw Irranca am y gymuned leol yn gallu gwneud peth gwahaniaeth i hyn yn wir mewn perthynas â Man-moel. Dywedodd David Melding rywbeth am ddychwelyd at anffurfio cefn gwlad. Wel, dyna’n union yr hyn rwy’n ei ddweud na ddylem ei wneud yn y ddadl hon. Felly, unwaith eto, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi’n radical, nid o ran amcanion newid yn yr hinsawdd, ond o ran y strategaeth y mae’n eu defnyddio i’w cyflawni.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad]. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, rwy’n bwriadu troi at y bleidlais. Nac oes. Iawn, diolch.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar awdurdodau lleol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. [Torri ar draws.] A yw’n iawn? Mae’n iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 35. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a symudwn ymlaen at welliant 1.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 12, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6295.

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn y gwelliant. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6295.

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6295 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 41, neb yn ymatal, 6 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6295 fel y’i diwygiwyd: O blaid 41, Yn erbyn 6, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6295 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar y polisi ynni a’r amgylchedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Os na dderbynnir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, roedd 8 yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 34, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6297.

Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 20, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6297.

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar ynni sef Ynni Cymru.

2. Yn nodi’r targed deddfwriaethol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 34, roedd 8 yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6297 fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 5, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6297 fel y’i diwygiwyd.

Diolch. A gaf fi ofyn i’r Aelodau os ydynt yn gadael y Siambr i wneud hynny’n dawel ac yn gyflym, os gwelwch yn dda?

9. 9. Dadl Fer: Ysgol Wleidyddiaeth—Grymuso'r Genhedlaeth Nesaf o Ddinasyddion Gweithgar yng Nghymru

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Hannah Blythyn i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Hannah Blythyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i gael y ddadl fer hon heddiw: Ysgol Wleidyddiaeth-grymuso’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru. Mae’n drueni efallai fod y ddadl yn digwydd heddiw mewn gwirionedd, ar y noson cyn yr etholiadau lleol, ond o ystyried bod y ddadl fer heddiw’n canolbwyntio ar alluogi mwy o gyfranogiad gweithredol mewn gwleidyddiaeth, yna rwy’n credu y bydd yn rhaid inni oddef hynny a gadael i bobl fynd i ymgyrchu.

Mae sicrhau bod gan bobl iau yn arbennig y wybodaeth a’r hyder i deimlo y gallant gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n angerddol yn ei gylch, yn bersonol ac yn wleidyddol. Hoffwn weld mwy o’r genhedlaeth nesaf mewn sefyllfa, nid yn unig i gwestiynu a dwyn pobl fel fi i gyfrif yn well, ond hefyd i deimlo y gallai bywyd gwleidyddol fod yn rhywbeth iddynt hwy hefyd. Ers fy ethol am y tro cyntaf bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae mynd i ysgolion a cholegau i siarad â myfyrwyr yn rhywbeth rwyf wedi ymrwymo’n gadarn i’w wneud, a gwneud yn siŵr hefyd fy mod yn cyfarfod â phob grŵp ysgol yn fy etholaeth sy’n ymweld â’r Senedd drwy wasanaeth allgymorth ac addysg ardderchog y Cynulliad—er, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi colli un grŵp oherwydd ei fod ar ddydd Gwener etholaeth, ac roedd y gwasanaeth allgymorth yn hael iawn eu cymorth yn wir a recordiodd neges ar gyfer y plant yn egluro pam nad oeddwn yno. Yna, drwy gyd-ddigwyddiad, wythnos yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod y gwydr yn fy swyddfa yn gymharol denau a gallwn glywed pobl ifanc y tu allan yn dweud, ‘O, dyna hi a recordiodd y neges i ni.’ Felly, fe’u synnais drwy agor drws y swyddfa a rhoi fy mhen allan a chawsom sgwrs dda am eu hymweliad â’r Senedd, ymweliad a roddodd fwynhad mawr iddynt.

Pan fyddaf yn siarad â grwpiau o bobl iau, rwy’n aml yn agor gyda’r geiriau, ‘Fy enw yw Hannah Blythyn, ac rwy’n wleidydd.’ Nid rhyw fath o gyffes od rwyf ar fin ei gwneud yw hon, ond y pwynt rwy’n ei wneud drwy agor fel hyn yw eu bod yn eiriau na fyddwn byth wedi disgwyl iddynt ddod allan o fy ngheg pan oeddwn eu hoed hwy, yn eistedd yno, nid yn unig oherwydd nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn bodoli bryd hynny, ond am nad oeddwn yn un am siarad cyhoeddus ac nid oedd gwleidyddiaeth yn ymddangos fel pe bai—. Er fy mod wedi cael fy ngwleidyddoli gan y dref a’r gymuned lle y cefais fy magu, nid oeddwn o reidrwydd yn teimlo bod gwleidyddiaeth yn rhywbeth i mi. Nid oedd gwleidyddion yn edrych, yn swnio neu hyd yn oed yn gweithredu fel fi, ac nid oeddwn yn gwybod ble i ddechrau, lle y byddech yn cymryd rhan neu beth y gallech gymryd rhan ynddo. Felly, fy neges yw: os gallaf i ei wneud, gall unrhyw un arall ei wneud yn y dyfodol. Ond mae’r dirgelwch, y rhwystrau a’r camsyniadau ynglŷn â gwleidyddiaeth, beth ydyw, ar gyfer pwy y mae a phwy sy’n wleidydd yn parhau, ac mae gan bawb ohonom, yn y lle hwn a’r tu allan iddo, ddyletswydd ddemocrataidd i newid hyn.

Ond y cwestiwn mewn gwirionedd yw: ble rydym yn dechrau? Rwy’n falch o weld ymgynghoriad y Llywydd ar sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf. Mae’n bwysig fod pobl ifanc ledled Cymru yn cael cyfle cenedlaethol i gael eu llais wedi’i glywed ac i gyfrannu at ein democratiaeth ddatganoledig sy’n tyfu. Ond fel Aelod Cynulliad yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae’n arbennig o bwysig i mi fod unrhyw senedd ieuenctid yn cael ei gwneud yn hygyrch a bod cyfranogi yn opsiwn realistig i bobl ifanc ledled Cymru, waeth beth fo’u lleoliad, eu cefndir neu eu haddysg. Wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo, byddaf yn annog cynifer o sefydliadau ac unigolion ar draws gogledd Cymru i ddweud eu barn ac i ddylanwadu ar y ddarpar senedd ieuenctid yn gynnar. Hyderaf y bydd fy nghyd-Aelodau’n gwneud yr un peth.

Ychydig yn nes at adref, a chyfeiriad amserol wrth i ni fynd i bleidleisio yn yr etholiadau awdurdod lleol, roedd hi’n hyfryd clywed bod sefydlu cyngor ieuenctid ar gyfer Sir y Fflint yn un o addewidion etholiadol allweddol grŵp Llafur Sir y Fflint. Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael fy nghefnogaeth lawn a gweithredol, a byddai’n ddiddorol gweld sut y mae cynghorau ieuenctid a sefydlwyd eisoes ar draws Cymru a’r DU yn gweithio’n ymarferol, yr hyn y gellir ei ddysgu a’r hyn y gellir adeiladu arno, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig nad ymarferion ticio blychau’n unig yw cynghorau ieuenctid a seneddau a bod pobl ifanc yn cael adnoddau a chefnogaeth ddigonol i’w galluogi i weld canlyniadau gwirioneddol yn deillio ohonynt.

Ond yr hyn a ddylai fod yn ganolog i hyn mewn gwirionedd yw mynd yn ôl i’r ysgol a dechrau arfogi pobl ar oed ifanc nid yn unig â’r offer i gymryd rhan weithredol ym mywyd gwleidyddol Cymru, ond i sylweddoli gwerth a phwysigrwydd gwneud hynny. Gall dinasyddiaeth weithgar mewn ysgolion annog a grymuso plant i weld eu penderfyniadau’n arwain at newid go iawn, helpu i ddatblygu diwylliant o gyfranogiad yn gynnar drwy weithio gydag eraill mewn amgylchedd cyngor ysgol neu debyg, a chreu arweinwyr y dyfodol a’r rhai sy’n dwyn gwleidyddion i gyfrif.

Ddeunaw mlynedd ers dyfodiad Cynulliad Cymru, mae gormod o bobl—yn ifanc, yn hen a rywle yn y canol—yn dal i fod yn aneglur ynglŷn â beth yn union y mae’r Cynulliad yn ei wneud, pa gyfrifoldebau penodol a geir yma yng Nghymru a sut y mae’n gweithio ar eu cyfer. Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn rhoi camau ar waith i addysgu’r genhedlaeth nesaf yn well tra’u bod yn dal yn yr ysgol. Fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddatblygu cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd. Dyma gyfle gwirioneddol y mae angen bachu ynddo i sefydlu rhaglenni a gweithgarwch a fydd yn galluogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion hyderus a mwy gweithgar.

Mae’r trydydd diben a amlinellir yn y cwricwlwm ar gyfer bywyd yn tanlinellu pwysigrwydd datblygu dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n llwyr ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth weithgar yn mynd law yn llaw a rhaid iddynt fod yn rhan annatod o addysg pob plentyn yng Nghymru. Y cwestiwn yw: sut y gellir cyflawni hyn? Rwy’n gwybod bod llawer o rôl addysgu gwleidyddiaeth mewn ysgolion wedi lleihau’n draddodiadol o fewn y cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol, sydd bob amser yn orlawn o bethau y mae angen eu cynnwys. Er fy mod yn croesawu’r hyn sy’n digwydd yn rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol, mae’n aml yn digwydd mewn cyfnod cywasgedig o amser ac rwy’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn gyndyn i ychwanegu at ddisgwyliadau llwyth gwaith athrawon gweithgar sydd eisoes yn ysgwyddo baich sylweddol iawn. Yn ychwanegol at yr angen i addysgu dinasyddiaeth ac addysg am ddatganoli fod yn rhan safonol a statudol o’r cwricwlwm, mae’n bwysig ei fod yn cael ei gyflwyno gan bobl sydd nid yn unig yn meddu ar yr arbenigedd a’r profiad, ond pobl sy’n angerddol yn ei gylch hefyd, gan na fydd yn gweithio, unwaith eto, os mai ymarfer ticio blychau ydyw. Mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno gyda brwdfrydedd ac angerdd go iawn er mwyn i’r plant a’r bobl ifanc sy’n ei glywed allu ei werthfawrogi’n iawn a chymryd rhan a gwneud rhywbeth yn sgil hynny.

Yn fy marn i, a barn llawer o bobl eraill y siaradais â hwy, mae angen iddo fod yn rhan statudol o’r cwricwlwm ysgol mewn rhyw ffordd, ond rwy’n credu bod angen trafodaeth fwy, wrth symud ymlaen, ar sut y gall hyn weithio orau’n ymarferol mewn gwirionedd. Efallai gyda rhai agweddau ar hyn a allai fod rôl fwy a mwy ffurfiol i wasanaeth addysg ac allgymorth y Cynulliad? A pha ran y mae cynghorau ysgol yn ei chwarae? Er bod sefydlu cynghorau ysgol yn ofyniad statudol ar hyn o bryd, nid oes sail statudol ar gyfer sut y mae cynghorau ysgol yn gweithredu. Mae fy mhrofiad anecdotaidd personol yn dweud wrthyf nad yw’r hyn sy’n gweithio i un cyngor ysgol yn mynd i weithio i gyngor ysgol arall o reidrwydd. Felly, gallai fod angen peth hyblygrwydd o ran yr ystod o syniadau ac opsiynau ar gyfer annog dinasyddiaeth weithredol a gwerth pleidleisio a chyfranogiad.

Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol yn creu diwylliant a meithrin normau cymdeithas ddemocrataidd. Mae’n rhaid i ddinasyddiaeth weithredol ddechrau yn yr ysgolion. Yn fy etholaeth i yn unig, deuthum ar draws nifer o enghreifftiau arloesol o sut y rhoddir lle i blant a myfyrwyr gael blas ar wahanol agweddau ar ddinasyddiaeth weithredol. Ceir grŵp ysbrydoledig o fyfyrwyr yn Ysgol Alun yr Wyddgrug sy’n gwirfoddoli fel rhan o ymgyrch ‘Girl Up’ Sefydliad y Cenhedloedd Unedig—ymgyrch sy’n ymgysylltu â menywod ifanc i roi camau ar waith i gynorthwyo merched a menywod ifanc mewn gwledydd sy’n datblygu a’r mannau lle y mae anoddaf, yn aml, i fod yn ferch. Mae’r myfyrwyr yn enghraifft wych o ddinasyddiaeth weithredol, nid yn unig o fewn muriau eu hysgolion eu hunain wrth newid canfyddiadau a gwneud eu rhan i ddileu rhwystrau, ond hefyd y tu hwnt i hynny wrth hyrwyddo achos menywod ifanc ar draws y byd.

Mae gan Ysgol Gynradd Parc Cornist yn y Fflint gynllun llysgenhadon ysgol, gyda thri math o lysgennad: llysgenhadon amgylcheddol sy’n gweithio gydag athrawon i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn ysgolion ecogyfeillgar; llysgenhadon ffordd iach o fyw gyda’r nod o wneud yr ysgol yn lle iachach; a llysgenhadon entrepreneuraidd sy’n gwneud gwaith elusennol a chodi arian. Mae pob llysgennad yn gweithio’n agos gyda staff i ddatblygu newidiadau yn yr ysgol, a dônt at ei gilydd bob hanner tymor i drafod cynnydd. Mae plant a fu’n llysgenhadon yn y gorffennol yn cymryd rhan yn y broses o ddethol llysgenhadon newydd, ac mae’r plant yn cyflwyno’u syniadau a’u gweledigaethau ynglŷn â rolau posibl eraill ar gyfer llysgenhadon.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf, ceir senedd Ysgol Merllyn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod ag aelodau o’r senedd bresennol yn ystod eu hymweliad â’r Senedd. Er bod llawer o ffocws y cyfryngau a gwleidyddiaeth yn canolbwyntio ar yr etholiadau lleol yfory a’r etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, ffocws yr ysgol gynradd hon ym Magillt fydd y diwrnod mawr ar 14 Gorffennaf pan fydd disgyblion yn pleidleisio yn nhrydydd etholiad cyffredinol yr ysgol. Yn y ddau etholiad blaenorol, y cymhwyster ar gyfer pleidleisio oedd bod yn rhaid i chi fod dros bedair oed ac mewn addysg amser llawn. Ar ôl ymgyrch lwyddiannus, mae’r feithrinfa wedi cael ei rhyddfreinio a bydd yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad 2017. Cyn y diwrnod pleidleisio, bydd disgyblion sy’n ymgeiswyr yn cyflwyno areithiau, yn ymgyrchu ac yn cynnal hustyngau. Ar ddiwrnod yr etholiad ei hun, mae disgyblion yn mynd i’r blwch pleidleisio, cyhoeddir arolwg barn wrth i bobl adael y man pleidleisio, ac mae’r broses gyfan yn cael ei goruchwylio gan archwilwyr annibynnol. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan fy hun yn y broses ddemocrataidd, ac rwyf wedi cytuno i wneud sifft gynnar yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod. Yn dilyn yr etholiad, cyhoeddir enw’r prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog ac mae’r prif weinidog yn ymweld â’r frenhines—y pennaeth Tracy Jones—a bydd hi’n gofyn iddynt ffurfio llywodraeth. Penodir gweinidogion wedyn, i oruchwylio’r portffolios, sy’n cynnwys chwaraeon, yr amgylchedd ac addysg. Rwyf wedi llwyddo i gael fy nwylo ar gopi o gofnodion cyfarfod cabinet diweddar yn Ysgol Merllyn. Yn ddiweddar, trafododd cynrychiolwyr etholedig gynigion ar gyfer drychau yn nhoiledau’r merched, digwyddiad celf yn ystod tymor yr hydref a pharhau chwaraeon yn ystod gweithgareddau’r bore. Dyma enghraifft ragorol o sut y gall athrawon hwyluso’r cyfle i ddisgyblion gymryd yr awenau yn eu hysgolion mewn ffordd arloesol, hwyliog ac effeithiol. Yn y pen draw, yr hyn y mae’n ei wneud yw ymgorffori pwysigrwydd pleidleisio yn y plant yn ifanc, ar oedran ifanc, a bod yn ddinesydd gweithredol. Pan ddaethant yma ar ymweliad, gofynnais iddynt pam ei bod yn bwysig pleidleisio, gan ddisgwyl iddynt ddweud wrthyf, ‘Am ei fod yn rhoi llais i ni. Gallwn gael ein llais wedi’i glywed. Gallwn ddweud ein barn.’ Ond cododd un bachgen bach ei law a dweud, ‘Oherwydd os nad ydym yn pleidleisio, bydd pobl fel Donald Trump yn cael eu hethol.’

Drwy enghreifftiau a mentrau fel hyn, mae disgyblion yn cael eu trwytho yn egwyddorion democratiaeth a grymuso o oedran ifanc. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfrwng model hwyliog, rhyngweithiol a realistig o wleidyddiaeth go iawn. Mae’n bwysig fod yr enghreifftiau gorau’n rhoi modd i’r plant a’r bobl ifanc weithredu go iawn a gweld canlyniadau hynny drostynt eu hunain. Lle yr hwylusir cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth, bydd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd bod yn ddinesydd gweithredol yn dilyn yn ddieithriad. Y gobaith yw y bydd y disgyblion hyn yn cael eu hysbrydoli a’u paratoi yn y dyfodol i ddod yn arweinwyr yfory yma yng Nghymru, ledled y DU, ac yn rhyngwladol. Efallai un diwrnod, y bydd prif weinidog ysgol gynradd yn dod yn Brif Weinidog Cymru yma.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl. Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hannah Blythyn am godi’r mater pwysig hwn yn y ddadl y prynhawn yma ac am roi amser i dynnu sylw at yr arfer rhagorol yn ei hetholaeth ei hun, a’i hymrwymiad personol i ddangos arweiniad yn y mater hwn gyda’r ysgolion o’i hetholaeth sy’n ymweld â’r Senedd yma. Ac a gaf fi ychwanegu, yn rhinwedd fy swydd fel yr Aelod Cynulliad dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, fy mod innau hefyd yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth addysg sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn, mewn ysgolion yn fy etholaeth ac yn y rhaglen addysg sy’n digwydd yma? Rwyf fi hefyd, dros y blynyddoedd lawer y bûm yma, wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, mae’n rhoi cyfle i mi fyfyrio am eiliad ar fy nhaith fy hun i’r byd gwleidyddol ac i gyferbynnu’r agweddau gwahanol a welais yn fy ysgol fy hun. Oni bai am yr angerdd y siaradodd Hannah amdano a gefais gan fy niweddar athro hanes a gwleidyddiaeth, Mr Nick Burree, ni fyddwn yma heddiw. Gwelodd rywbeth ynof, ac fe daniodd ynof angerdd ynghylch gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Mae hyn yn cyferbynnu’n fawr wrth gwrs â phennaeth y chweched dosbarth a ddywedodd wrth fy nhad, druan, pan fynychodd noson rieni, ‘Wel, os nad yw Kirsty’n rhoi’r gorau i’r nonsens gwleidyddiaeth yma, nid yw’n mynd i gyflawni dim mewn bywyd.’ Pan gefais fy ethol gyntaf i’r Siambr ym 1999, o fewn ychydig ddyddiau, pan welais amlen â’r llawysgrifen honno, gwyddwn yn syth beth ydoedd—roeddwn wedi’i gweld mewn inc coch ar ddigon o draethodau Saesneg i wybod—ac roeddwn yn falch iawn o wybod bod Miss Charles, fy athrawes Saesneg, er gwaethaf ei sgeptigiaeth, wedi anfon nodyn i fy llongyfarch ar gael fy ethol.

Mae cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn bwysig iddynt ac i’r gymdeithas gyfan. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer dyfodol democratiaeth fywiog. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc yn cael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac mae gwrando ar, a buddsoddi mewn plant a phobl ifanc yn ganolog i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae plant a phobl ifanc yn, a rhaid eu galluogi i barhau i fod yn ddinasyddion llawn a gweithgar yng Nghymru sydd â chyfraniad gwerthfawr i’w wneud i bob un o’n cymunedau. Mae’r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol yn cefnogi addysgu dinasyddiaeth ac yn darparu cyfleoedd sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel dinasyddion byd-eang. Yn benodol, mae dinasyddiaeth yn cael ei chynnwys yn rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, fel y clywsom yn awr, ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang—rhywbeth, efallai, y gallai rhai o’n cyd-Aelodau UKIP ei fwynhau, ar ôl gwrando ar y ddadl yn ddiweddar ynglŷn â’n gallu i gyfrannu at leihau newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn rhan allweddol o’r fagloriaeth newydd a mwy trylwyr ar gyfer Cymru a gyflwynwyd yn 2015.

Mae addysg bersonol a chymdeithasol yn rhan o’r cwricwlwm sylfaenol statudol ar gyfer pob disgybl saith i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir, a chaiff materion yn ymwneud â dinasyddiaeth eu cyflwyno gan ysgolion drwy thema dinasyddiaeth weithgar y fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am wleidyddiaeth, cyflogaeth a’u hawliau mewn cymdeithas ddemocrataidd, sy’n adlewyrchu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Caiff dysgwyr eu hannog i fod yn aelodau o’u cymuned a gellir eu helpu i chwarae rhan ystyrlon a gweithgar ynddynt. Ar ben hynny, mae addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr ym mhob cyfnod o’u haddysg o effaith eu dewisiadau ar bobl eraill, yr economi a’r amgylchedd, a’i nod yw herio dysgwyr i weld sut y gallant gyfrannu at fywydau pobl eraill. Nid yn unig y mae’n rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, mae’n rhan annatod o’r cyfnod sylfaen ar gyfer ein disgyblion ieuengaf.

Mae Her Dinasyddiaeth Fyd-eang bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau, priodoleddau a gwybodaeth a fydd yn creu dinasyddion byd-eang gyda dealltwriaeth o’r byd a lle Cymru o’i fewn. Ynghyd â’r wybodaeth a’r gwerthoedd y maent yn eu hennill o ddysgu am faterion byd-eang a ffactorau gwleidyddol, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn rhoi’r gallu a’r hyder iddynt fod yn rhagweithiol wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd.

Wrth edrych tua’r dyfodol, yn ei adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, nododd yr Athro Donaldson sut un fyddai unigolyn ifanc llwyddiannus sy’n gadael addysg statudol. Mae ei adroddiad yn nodi pedwar diben ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru, ac un ohonynt yw sicrhau bod dysgwyr, ac rwy’n dyfynnu,

‘yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd... yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd’.

Mae hyn yn gosod dinasyddiaeth wrth wraidd y cwricwlwm.

Mae cynllun y cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu gan rwydwaith o ysgolion arloesol ac arbenigwyr eraill. Maent yn gweithio gyda’i gilydd fel rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion i gyd-gynllunio, ymgynghori, darparu gwybodaeth, cefnogi ac adeiladu galluoedd mewn ysgolion ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth Cymru gyfan gyda Llywodraeth Cymru, Estyn, addysg uwch, busnes a phartneriaid allweddol eraill. Sefydlwyd y gweithgorau ym mis Ionawr eleni, ac mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad lefel uchel. Mae’r grwpiau hyn yn gweithio ar ddatblygiad mwy manwl pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys y dyniaethau, a dyna ble y bydd gwleidyddiaeth yn cael ei gynnwys. Yn ystod y broses ddatblygu, bydd yr ysgolion arloesol yn gwirio ac yn adolygu modelau sy’n dod i’r amlwg er mwyn profi a rhannu syniadau a chasglu adborth. Hefyd, bydd cyfleoedd mwy ffurfiol i randdeiliaid allweddol roi sylwadau ar argymhellion mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd drwy gyfrwng arolygon neu ymgynghoriad ar bwyntiau strategol yn ystod ei ddatblygiad.

Rydym yn glir y bydd cyfranogiad plant a phobl ifanc yn parhau’n allweddol yn y broses o ddatblygu a chyflawni ein deddfwriaeth a’n polisïau a’n rhaglenni. Nid yw ond yn iawn ein bod yn parhau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais gweithredol yng ngwaith y Llywodraeth hon. Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod hawl gan bob plentyn ac unigolyn ifanc i gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n gwbl ymrwymedig i warchod yr hawl honno.

Rydym hefyd yn cyllido model cenedlaethol, Cymru Ifanc, i alluogi’r lleisiau hyn i gael eu clywed. Menter gydweithredol yw Cymru Ifanc sy’n dwyn ynghyd chwech o sefydliadau plant ac ieuenctid ar draws Cymru, ac mae’r prif bartner yn gorff ymbarél i fudiadau plant yn y sector gwirfoddol ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hawliau plant. Mae Cymru Ifanc yn estyn allan at filoedd o blant a phobl ifanc ar draws Cymru er mwyn eu galluogi i leisio’u barn a dylanwadu ar waith Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad y modelau cyfranogi arloesol hyn a chyfleoedd cenedlaethol i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn unol ag erthygl 12 o’r CCUHP, yr hawl i fynegi eu barn.

Yn anffodus, nid oes gan y Cynulliad hwn gymhwysedd deddfwriaethol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r etholfraint etholiadol, ac ni all newid yr oedran pleidleisio. Fodd bynnag, rwy’n falch fod y Papur Gwyn diweddar ar ddiwygio llywodraeth leol yn cynnig diwygiadau i etholiadau, gan gynnwys estyn yr etholfraint bleidleisio i rai 16 a 17 oed. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â diwygiadau eraill i wella prosesau cofrestru a phleidleisio etholiadol, yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau a democratiaeth yn ehangach.

Roedd y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 drafft yn cynnwys argymhellion i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau i annog y cyhoedd i gymryd rhan er mwyn galluogi pobl leol i ymgysylltu â’r prosesau penderfynu ac i gael eu safbwyntiau wedi’u hystyried. Ein bwriad yw parhau i ddilyn y polisi hwn, ac i gynnwys ynddo yr angen i alluogi pobl ifanc i chwarae rhan lawn yn y broses honno. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru gynghorau ieuenctid neu gabinetau ieuenctid, ac mae gan rai feiri ieuenctid hefyd. Mae cabinetau ieuenctid yn offeryn gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â phobl ifanc yn lleol, a’u hannog a’u grymuso i gymryd rhan weithredol mewn prosesau democrataidd. Mae’n hanfodol i genedl iach, ddemocrataidd fod pawb yn ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol ac yn gallu eu harfer. Soniodd Hannah hefyd am rôl bwysig cynghorau ysgol, i’w gwneud hi’n bosibl i leisiau plant gael eu clywed o fewn y sefydliad lle y cânt eu haddysgu, ac unwaith eto, maent yn rhoi cyfle gwerthfawr i blant a phobl ifanc gael eu trwytho yn y gallu i lunio eu dyfodol, dylanwadu a pherswadio ac ymgyrchu, a’r enghreifftiau a roddodd Hannah yw rhai o’r goreuon y gwn amdanynt yn y wlad.

Hefyd, yn ein siarter gwaith ieuenctid, rydym wedi dweud bod rhaid i wasanaethau ieuenctid ledled Cymru gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Unwaith eto, mae gennym enghreifftiau gwych o sefydliadau ieuenctid yn rhoi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i bobl ifanc allu dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau o fewn y sefydliad ac yn eu hardal leol. Unwaith eto, mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eu hargymhelliad y dylai pob Llywodraeth gael fforwm ar gyfer cyfranogiad plant.

Dirprwy Lywydd, unwaith eto hoffwn ddiolch i Hannah am gyflwyno’r pwnc hwn. Rwy’n siŵr y byddech am ymuno â mi i annog pob ysgol i gymryd rhan yn y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, naill ai gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Lywodraeth Cymru. Hannah, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno’r ddadl hon.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:09.