Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a’r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.

Trafnidiaeth Cymru

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf OAQ(5)0144(EI)

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi swyddi a thwf ym mhob rhan o Gymru, ac mae angen i ni geisio sicrhau bod buddsoddiadau mawr yn darparu cymaint o fanteision â phosibl i gymunedau’r Cymoedd, ac rydym wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i leoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yng nghalon y Cymoedd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion y bydd canolfan Trafnidiaeth Cymru ynghyd â swyddfeydd rhaglen bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn newyddion ardderchog i fy awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, gallent olygu cannoedd o swyddi o safon ar gyfer y Cymoedd, ac atgyfnerthu’r adfywiad economaidd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau bod y ddau gynllun yn darparu cymaint o fudd â phosibl i’r Cymoedd gogleddol, ac yn benodol i fy etholaeth i, Cwm Cynon?

Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a thalu teyrnged i’r ffordd y mae wedi hyrwyddo adfywiad a balchder yn y Cymoedd? Roeddwn yn falch o gyhoeddi y bydd pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn dod i Bontypridd. Dylwn dalu teyrnged hefyd i arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am eu gweledigaeth gadarn ar gyfer yr economi leol.

Credaf fod angen i ni ddefnyddio’r holl gyfleoedd y mae cyhoeddiadau fel hyn yn eu cynnig mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, drwy gontract economaidd newydd, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd ar draws y Llywodraeth, llywodraeth leol, drwy ein darparwyr hyfforddiant sgiliau, er mwyn sicrhau ein bod yn gwasgu’r gwerth mwyaf posibl allan o fuddsoddiadau’r Llywodraeth. Drwy edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd i ddod, gwyddom y bydd dros £1 biliwn yn cael ei wario, ar drydaneiddio, metro, a seilwaith rheilffyrdd cysylltiedig arall, felly mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, ar sail ranbarthol ac ar sail genedlaethol, i ennill mwy o’n buddsoddiadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith yn y pedwar gwynt, bydd Aelod o’r wrthblaid yn falch o longyfarch y Llywodraeth ar eu penderfyniad, a chredaf fod lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd yn benderfyniad da, gan y credaf fod hynny’n anfon neges glir iawn fod cysyniad y dinas-ranbarth yn un pwysig, ond dinas-ranbarth fel dinas a chefnwlad—ac nid yw’r gefnwlad ar yr ymylon; mae’n rhan bwysig o’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd. Yn enwedig pan fyddwn yn ystyried y gwaith, y cyfalaf diwylliannol, a’r adnoddau addysgol yng Nghaerdydd, rydym am sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl, ac felly, bydd hyn yn anfon neges fod y cysylltiadau rhwng y Cymoedd a’r ddinas, a’r ardaloedd trefol mwy o faint, yn rhan hanfodol o’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gyfraniad, ei gwestiwn, a’i eiriau caredig? Credaf ei fod yn llygad ei le—mae’n hanfodol ein bod yn datganoli, lle y gallwn, er mwyn sbarduno adfywiad a thwf economaidd yn yr ardaloedd hynny nad ydynt wedi elwa o holl fuddion twf economaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, boed yn Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, neu’n Awdurdod Cyllid Cymru yn rhywle arall yn y Cymoedd, neu’n fanc datblygu Cymru yng ngogledd Cymru, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar y cyfleoedd hyn, ac unwaith eto, yn gwasgu’r gwerth mwyaf posibl ohonynt, drwy weithio gyda’n gilydd. Yn y dyfodol, efallai y bydd modd inni weld buddsoddiadau eraill a chyfrifoldebau eraill yn symud. O bosibl, er enghraifft, drwy greu Cymru Hanesyddol, gallem weld buddsoddiad yng nghanolbarth neu ogledd-orllewin Cymru, neu orllewin Cymru.

A chredaf mai’r ymagwedd ranbarthol tuag at dwf economaidd yw’r ffordd iawn i fynd. Gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gwyddom yr amcangyfrifir y bydd 25,000 o swyddi’n cael eu creu fel rhan o’r fenter benodol honno, dros y 10 awdurdod lleol. Rwy’n awyddus i brifddinas-ranbarth Caerdydd sicrhau nad oes talpiau ar draws y rhanbarth o ran twf economaidd. Ac er mwyn mynd i’r afael â’r talpiau sydd yno ar hyn o bryd, bydd angen targedu gwariant a sicrhau ymdrech ar y cyd, fel rwyf wedi’i ddweud wrth Vikki Howells, er mwyn sicrhau budd ar gyfer yr ardaloedd hynny nad ydynt wedi elwa cymaint o dwf economaidd wedi’r cwymp yn 2008.

Gwella’r Economi

2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i wella economi hen feysydd glo de Cymru? OAQ(5)0153(EI)

Rydym yn parhau i gefnogi twf busnesau, yn buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, ac yn gwella amodau datblygu economaidd.

Mae’n ffaith drist mai ychydig iawn sydd wedi’i wneud i sicrhau olynwyr i’r hen ddiwydiannau trwm a fu gynt yn darparu cyflogaeth, tai a seilwaith ledled y Cymoedd. Mae’r dinas-ranbarth yn addo llawer, ond nid oes fawr ddim manylion, ac yn y cymunedau hynny a fydd yn cael eu heffeithio, mae llawer o ddryswch ynghylch beth yn union y bydd yn ei gyflawni. Mae gennym hefyd dasglu’r Cymoedd, a ymddangosodd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn fuan wedi i’r Blaid Lafur golli sedd gadarn yn y Cymoedd. Tybed ai cyd-ddigwyddiad yn unig oedd hynny. A allwch ddweud wrthyf a oes unrhyw drefniadau gweithio ar y cyd rhwng y dinas-ranbarth a thasglu’r Cymoedd? A oes trafodaeth reolaidd rhyngoch chi a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y tasglu? Mae arnom angen mwy o swyddi yn yr hen ardaloedd glofaol, ac mae angen swyddi o well ansawdd hefyd, ac nid yw methu â chyflawni hyn gyda’r dinas-ranbarth neu dasglu’r Cymoedd yn opsiwn.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Gwelais drydariad ganddi a ofynnai gwestiwn da iawn. Mae’n gwestiwn y credaf y gallai llawer o gymunedau yn ardal y dinas-ranbarth ei ofyn. Y cwestiwn oedd, ‘Beth sydd yn y cyhoeddiad ar gyfer y Rhondda?’ A chredaf fod hynny’n berffaith iawn, gan fy mod wedi bod yn holi’n ddiweddar pwy sydd wedi elwa yn ystod yr adferiad ers y cwymp ariannol. Ac mae’n eithaf amlwg mai’r rhai sydd heb weld unrhyw arwydd o adferiad eto yw’r rhai sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd trefol mwy lle y gwelsom y twf economaidd mwyaf. Maent yn bobl sydd, ar y cyfan, yn iau, ac yn bobl nad ydynt yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Hwy yw’r bobl sydd heb elwa o’r adferiad. Felly, yn union fel y dywedais wrth David Melding, fy mod yn disgwyl y bydd cyfoeth yn cael ei ailddosbarthu o ganlyniad i ailddosbarthu’r cyfleoedd i greu cyfoeth, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud mwy i ddenu buddsoddiad i’r Cymoedd, ond hefyd yn cefnogi a thyfu’r cwmnïau sydd yno eisoes.

O ran mewnfuddsoddi, rydym yn amcangyfrif bod un rhan o dair o’r holl fuddsoddiad tramor uniongyrchol a ddaeth i Gymru yn ystod tymor y Cynulliad blaenorol wedi dod i ardaloedd y Cymoedd. Felly, nid oes amheuaeth fod y Cymoedd wedi cael cryn dipyn o fuddsoddiad, ond mae problemau strwythurol yr economi ranbarthol benodol honno angen ymdrech fwy cydunol a chydgysylltiedig, ac oherwydd hynny, cynullwyd y tasglu. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn pwysig ynglŷn â phwy sydd ar y tasglu a sut y mae’r tasglu yn cysylltu, yn gweithio ac yn rhyngwynebu â mentrau eraill. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod yn aelod o’r tasglu, fel y mae cynrychiolwyr ar ran dinas-ranbarth Caerdydd. A chredaf ei bod yn hanfodol fod gwaith y tasglu’n cael ei adlewyrchu’n llawn yn y strategaeth economaidd sy’n datblygu i sicrhau Cymru fwy ffyniannus a diogel.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, bydd cysyniad y fargen ddinesig yn sbarduno cryn dipyn o weithgarwch economaidd ac adfywio, yn ardal Abertawe ac ardal Caerdydd. Gyda bargen ddinesig Caerdydd, mae 10 awdurdod lleol yn rhan o’r cytundeb hwnnw, a llawer ohonynt yn y Cymoedd. Rydym yn mesur llwyddiant, yn amlwg, drwy’r gwerth ychwanegol gros a’r gweithgarwch economaidd a ddaw o’r Cymoedd. Beth, yn eich barn chi, fydd y gwerth ychwanegol gros yn y Cymoedd dros y pump i 10 mlynedd nesaf? Pa byrth allweddol a roesoch ar waith er mwyn gweld y cynnydd yn y gwerth ychwanegol gros?

Efallai y dylwn gyfeirio’r Aelod at araith a roddais ddydd Llun diwethaf yng Ngholeg y Cymoedd—sefydliad trawsnewidiol sydd wedi llwyddo i gynyddu balchder yn yr ardal leol, a gwella sgiliau’r bobl sy’n byw yno. Yn yr araith honno, nodais fy ngweledigaeth ar gyfer strategaeth ffyniannus a diogel a fydd nid yn unig yn ceisio cynyddu cyfoeth a lles yn gyffredinol, ond hefyd yn ceisio lleihau’r anghydraddoldebau o ran cyfoeth a lles, ar draws y rhanbarthau a ledled Cymru. Ac felly, yn fy marn i, nid yn unig y dylid gwella’r gwerth ychwanegol gros, o gymharu â Lloegr, ac yn y Cymoedd o gymharu â gweddill Cymru, ond dylem hefyd geisio cynyddu incwm gwario gros aelwydydd, gan mai’r mesur hwnnw, yr arian sydd gan bobl yn eu pocedi, sy’n rhoi ymdeimlad o reolaeth i bobl dros eu bywydau eu hunain. Yn ei dro, y pŵer hwnnw, y gallu hwnnw i gael rhywfaint o reolaeth dros eich bywyd, yw’r ffordd i chi allu mesur lles. Ac felly, byddwn yn awgrymu bod yn rhaid i werth ychwanegol gros gynyddu fel rhan o ymagwedd y dinas-ranbarth, ond mae’n rhaid iddo gynyddu ar lefel isranbarthol ar draws yr holl gymunedau, oherwydd os byddwn yn gweld y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach, a chynhyrchiant mewn ardaloedd lle y mae cynhyrchiant eisoes yn uchel yn cynyddu ar draul cyfoeth y rhai lleiaf cefnog, ac ar draul cynhyrchiant mewn ardaloedd llai trefol, yna bydd y prosiect wedi methu. Credaf fod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’r talpiau o ran cynhyrchiant ac o ran twf economaidd, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau ein bod yn rhannu’r cyfleoedd i greu cyfoeth yr holl ffordd ar draws y rhanbarthau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. A allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio’r penderfyniad i beidio â thrydaneiddio rheilffordd Glynebwy?

Wrth symud ymlaen gyda masnachfraint y metro, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar reilffordd Glynebwy. Ar hyn o bryd, Network Rail sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, ac rydym wedi mynegi ein siom dro ar ôl tro ein bod ond wedi cael 1 y cant o’r buddsoddiad yn ystod y cyfnod rheoli presennol, er bod 6 y cant o’r rheilffyrdd yn ardal masnachfraint Cymru a’r gororau.

Credaf y dylid nodi ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi gwario mwy yn y cyfnod presennol ar y seilwaith rheilffyrdd na’r rhai sy’n gyfrifol amdano.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond onid yw’n cytuno bod rhanbarth Dwyrain De Cymru yn ei chael hi’n wael o ran gwelliannau i’r seilwaith o dan y prosiect metro, o gymharu â rhannau eraill o Gymru?

Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, credaf ei bod yn hanfodol, fel rhan o’n hymagwedd newydd—ac unwaith eto, yn fy araith yr wythnos diwethaf, nodais sut y byddaf yn ailstrwythuro fy adran—ein bod yn rhoi mwy o sylw i’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd wedi gwneud yn wael mewn cyfnod o dwf economaidd. Holodd yr Aelod ynglŷn â seilwaith, a chysylltedd yn benodol. Credaf fod hynny’n gwbl hanfodol, ac roedd datblygu estyniad £11.5 miliwn i’r rheilffordd rhwng Parcffordd Glynebwy a safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy, a gwblhawyd ym mis Mai 2015 gan ddarparu mynediad rheilffordd uniongyrchol i’r ardal fenter, yn enghraifft wych o sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau a’i dulliau’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o dwf economaidd.

Rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar yr estyniad hwnnw i mewn i Lynebwy. Mae’n sicr yn arloesol iawn ac mae’n wych gweld rheilffyrdd yn cael eu gosod unwaith eto.

Dywed Trenau Arriva Cymru wrthym nad ydynt yn gallu cynnig gwasanaeth i mewn i Gasnewydd gan fod y capasiti’n llawn ar gyfer y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd. ‘Does bosib na all trydaneiddio, a’r gwasanaeth gwell y mae hyn ei addo, helpu i hwyluso gweithrediad y rheilffordd i mewn i Gasnewydd, sy’n gyswllt y mae ei angen yn daer.

Wrth gwrs, mae trydaneiddio’r brif reilffordd a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawer i’w ofyn, ac rydym wedi gwneud hynny dro ar ôl tro. O ran capasiti, nid oes unrhyw amheuaeth y gallai trydaneiddio fod o gymorth o ran gallu rhedeg mwy o gerbydau yn fwy rheolaidd, ond i’r un graddau, mae angen mwy o gerbydau ar y seilwaith rheilffyrdd presennol. Rwyf wedi siarad gyda Trenau Arriva Cymru a gweithredwyr eraill ynglŷn â’r broblem gapasiti sy’n effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd Prydain. Gobeithiaf y bydd Trenau Arriva Cymru mewn sefyllfa, o fewn y dyddiau nesaf, i allu gwneud cyhoeddiad ynglŷn â rheilffyrdd y Cymoedd.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cefais y cyfle i ymweld â Gweriniaeth Iwerddon gyda fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, i gyfarfod â swyddogion, llunwyr polisi a gwleidyddion o Lywodraeth Iwerddon i drafod effaith y DU yn gadael yr UE ar Iwerddon a Chymru. Mae’n deg dweud eu bod yn teimlo mor anesmwyth â ninnau. Ond fel yn achos argyfwng economaidd 2008, mae ganddynt offeryn at eu defnydd nad oes gennym ni—annibyniaeth—ac nid wyf yn golygu gwladwriaeth annibynnol yn unig, ond llu o gyrff gweithredol pwerus, a sefydlwyd gan y wladwriaeth, ac sy’n annibynnol o beiriant canolog y Llywodraeth, ond sy’n gweithio’n agos gyda hwy i lywio’r strategaeth economaidd: yr IDA, asiantaeth mewnfuddsoddi Iwerddon; y corff datblygu busnes, Enterprise Ireland; a Bord Bia, bwrdd bwyd Iwerddon, i enwi ond rhai ohonynt.

Nawr, mae’r model hwn wedi darparu cryn elw i Iwerddon, fel y gwyddom—mae eu cynnyrch domestig gros y pen wedi mwy na threblu ers y 1980au, wrth i ninnau, yn anffodus, sefyll yn ein hunfan mewn cymhariaeth. Felly, a gaf fi ymbil ar Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, yng nghyd-destun ei adolygiad presennol o fyrddau cynghori economaidd Llywodraeth Cymru, i ystyried yr achos dros gael asiantaeth annibynnol hyd braich i Gymru ar gyfer hyrwyddo masnach a buddsoddi? Mae gan y Weriniaeth un, a Gogledd Iwerddon hefyd; yn ogystal â’r Alban, a Lloegr drwy Masnach a Buddsoddi y DU. Mae gan Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel un, hyd yn oed. A allwn fforddio gadael Cymru i wynebu’r storm hon yn noeth?

Credaf fod sawl pwynt i’w gwneud. Yn gyntaf, mae economi Iwerddon wedi gwneud yn dda yn rhannol am fod cymaint o boblogaeth Iwerddon yn byw mewn dinas, a gwyddom fod dinasoedd wedi tyfu’n gyflymach nag ardaloedd gwledig o ran yr economi. Felly, mae’n anodd cymharu gwlad lle y mae cyfran fawr o’r boblogaeth yn byw mewn ardal drefol sydd wedi tyfu’n gyflymach oherwydd ei natur drefol, a Chymru, lle’r ydym yn wlad lawer mwy gwledig. Wedi dweud hynny, gellir dysgu gwersi yn sicr, nid yn unig gan Iwerddon, ond gan wledydd eraill hefyd, ac fel ein marchnad allforio fwyaf ond tair, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i ymgysylltu ag Iwerddon.

Efallai fod yr Aelod wedi gweld fy nghynigion yn fy araith yr wythnos diwethaf i greu unedau economaidd rhanbarthol a fydd yn gallu ysgogi twf economaidd a hybu gweithgareddau economaidd yn eu hardaloedd. Credaf fod hwn yn gyfle gwych, gan fod y strwythurau hynny eisoes yn dod i’r amlwg ar sail ranbarthol, gyda’r dinas-ranbarthau a rhanbarth y cytundeb twf, i sicrhau nad oes cystadleuaeth, nad oes dyblygu, ond yn hytrach, fod yna ymagwedd gyson ar lefel llywodraeth leol, ar lefel busnes, ac ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd.

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud, mae Iwerddon yn farchnad allforio hollbwysig yn strategol i economi Cymru, ac yn werth dros £800 miliwn y flwyddyn. Nawr, ar yr ochr negyddol, yn ystod ein hymweliad, dywedwyd wrthym fod symudiadau eisoes ar y gweill i ddechrau cyfeirio cludiant nwyddau i dir mawr Ewrop i ffwrdd o borthladdoedd Cymru a thrwy Roscoff. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o hyn, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud mewn ymateb? Ar yr ochr gadarnhaol, dywedwyd wrthym fod busnesau Iwerddon yn ystyried buddsoddi yn y DU ac yng Nghymru er mwyn cynyddu eu presenoldeb ym marchnad y DU ar ôl Brexit. Nawr, mae hwn yn gyfle penodol i economi Cymru, gan fod llawer o gwmnïau Gwyddelig sefydledig yma eisoes, megis Dawn Meats yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw ei swyddogion eisoes wedi llunio rhestr o gwmnïau Gwyddelig sy’n ystyried buddsoddi neu ehangu eu gweithrediadau presennol? Ac yn olaf, o ystyried y berthynas bwysig rhwng ein dwy economi, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried buddsoddi mewn cynrychiolaeth barhaol yn Nulyn, ac annog ei gymheiriaid Gwyddelig i ailagor eu prif gonswl yma yng Nghymru, er mwyn inni allu cryfhau’r bartneriaeth economaidd rhwng ein dwy wlad?

Credaf fod y bartneriaeth rhwng ein dwy wlad hefyd yn ymestyn y tu hwnt i werthoedd economaidd, wrth gwrs. Mae cysylltiadau diwylliannol anhygoel o gryf rhwng Iwerddon a Chymru, a gallant hwythau sicrhau cryn fanteision economaidd yn ogystal. Rwy’n cofio siarad ag Arlywydd Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl ynglŷn â sut y gallem ddefnyddio Blwyddyn y Môr, o bosibl, i greu pont ddiwylliannol, nid yn unig er mwyn hyrwyddo ein diwylliannau, ond hefyd i annog ymwelwyr i ac o Iwerddon a Chymru. Credaf fod cyfleoedd enfawr o bosibl—y gellir eu sicrhau er ein bod yn gadael yr UE—i dyfu a datblygu ein heconomïau, sy’n aml yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin. Credaf fod cyfleoedd i fuddsoddwyr o Iwerddon fuddsoddi ymhellach yng Nghymru, yn arbennig mewn meysydd gweithgaredd economaidd o ansawdd uwch ac o werth ychwanegol gros uwch—er enghraifft, yn y sector gwyddorau bywyd.

O ran porthladdoedd, bydd y gronfa ddatblygu a fydd ar gael i borthladdoedd Cymru yn bwysig, yn ogystal ag ymgysylltu uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a’r porthladdoedd eu hunain. Yn ddiweddar, bûm yn rhan o drafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o borthladdoedd Cymru, ac nid oes amheuaeth, er bod anesmwythder mewn perthynas â Brexit, fod cyfleoedd i’w cael hefyd. Mae angen i ni sicrhau cymaint o’r cyfleoedd hynny â phosibl, a sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i oresgyn y rhwystrau a’r heriau y bydd Brexit yn eu hwynebu. O ran ein gallu i ddenu rhagor o fuddsoddiad tramor uniongyrchol, wrth gwrs, bydd Brexit yn her; rydym yn gwybod hynny. Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y lefelau uchaf erioed—neu’n agos at y lefelau uchaf erioed—o fuddsoddiad tramor uniongyrchol. Gobeithiwn allu cynnal cryn ddiddordeb ymhlith buddsoddwyr tramor yn economi Cymru, ond rwyf hefyd yn bwriadu rhoi ffocws cliriach ar dwf posibl ein heconomi, yn seiliedig ar fewnfuddsoddiad o Loegr a’r Alban, Gogledd Iwerddon, a hefyd, wrth gwrs, twf y cwmnïau sydd gennym eisoes, er mwyn sicrhau y gellir cael gwared ar y peryglon i dwf ac er mwyn iddynt allu gwneud y gorau o’u potensial.

Mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â gwleidyddion Iwerddon. A gaf fi ei annog, mewn trafodaethau pellach, i ddysgu o’r offer a’r tactegau y mae’r Gwyddelod eu hunain wedi eu mabwysiadu? Yn ddiweddar, er enghraifft, mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi strategaeth fasnach ddynodedig. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru strategaeth fasnach benodol. Mae’n nodi dulliau rhanbarthol wedi’u targedu ar gyfer Asia, ar gyfer y dwyrain canol, ac Affrica—sectorau allweddol lle y nodwyd cyfleoedd penodol. Mae’n ddull Llywodraeth gyfan, sydd hefyd yn cynnwys cysylltiadau dwyochrog eraill, gan gynnwys cymorth addysg, diwylliant a datblygu, ac ati.

Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod yr ystadegau allforio mwyaf diweddar yn dangos, er bod gan Gymru ddylanwad cryf o ran gwarged masnach gyda’r UE, fod gennym ddiffyg o £3.7 biliwn gyda gweddill y byd, a bydd honno’n farchnad allweddol, yn amlwg, ar ôl Brexit. Mae arnom angen ymagwedd strategol gan y Llywodraeth, ond mae angen ymdeimlad o frys hefyd. Mae Llywodraeth Iwerddon eisoes, drwy Bord Bia, wedi creu baromedr Brexit i roi cymorth i fusnesau asesu pa mor barod ydynt ar gyfer y bygythiadau a’r cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit. Yn ogystal â chynnig baromedr tebyg ar gyfer busnesau Cymru, efallai y byddai’r Llywodraeth yn awyddus i sefyll y prawf eu hunain, oherwydd, o gymharu â’r Gwyddelod, rwy’n ofni ein bod ar ôl ar hyn o bryd o ran lefel cynllunio a pharodrwydd ar gyfer yr her economaidd fwyaf i neb ohonom ei hwynebu erioed.

Rwy’n cytuno ein bod yn wynebu cryn her, ac yn y dyfodol, ond credaf hefyd fod y bobl gywir gennym yn y Llywodraeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, i sicrhau y down drwy’r hyn a fydd yn gyfnod cythryblus. O ran ein gweithgarwch tramor, credaf mai un o’r camgymeriadau mwyaf a wnaed yn ddiweddar yw colli llawer o weithgarwch tramor Cymru. Wrth gwrs, rydym bellach wedi eu hadfer, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn drawiadol. Erbyn hyn, mae gennym swyddogion mewn tiriogaethau strategol allweddol, mewn dinasoedd strategol allweddol, yn ymgysylltu’n uniongyrchol â darpar fuddsoddwyr, ond hefyd yn sicrhau y gallwn hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau o Gymru i’r marchnadoedd hynny lle y gwyddom y ceir y potensial mwyaf ar gyfer twf. Felly, er enghraifft, boed hynny yn Tsieina—yn Shanghai, Chongqing a Beijing—neu yn yr Unol Daleithiau, drwy Atlanta, San Francisco ac Efrog Newydd, rydym eisoes yn targedu’r tiriogaethau, y rhanbarthau a’r dinasoedd y bydd y twf yn deillio ohonynt. Ond o ran strategaeth fasnach a buddsoddi, mae hyn yn rhan o’r gwaith a wnaed rhwng fy swyddfa a swyddfa’r Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru’n cael ei hyrwyddo’n well dramor, fod brand clir gennym dramor, a’n bod yn cael ein hystyried yn fan lle y gall pobl gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau o’r safon uchaf, a lle y mae gennym werthoedd arbennig mewn perthynas â chynaliadwyedd a thegwch ein heconomi.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar adroddiad diweddar Demos, sy’n tynnu sylw at effaith Brexit ar ranbarthau’r DU fel Cymru. Nawr, wrth edrych ar yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, mae sawl pwynt perthnasol yn cael ei nodi, gan gynnwys y potensial i fargeinion dinesig a gweinyddiaethau datganoledig edrych y tu hwnt i’r DU a’r UE er mwyn denu buddsoddiad tramor. Yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu’n helaeth iawn ar allforion i’r UE, wrth gwrs. Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod 67 y cant o’n hallforion yn mynd i’r Gymuned Ewropeaidd, o gymharu â 44 y cant yn unig yn 2012. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau a gymerwyd gennych i sicrhau bod awdurdodau lleol sy’n rhan o’r bargeinion dinesig yn defnyddio eu dylanwad i helpu busnesau Cymru i edrych y tu hwnt i Ewrop a pharatoi ar gyfer marchnadoedd allforio newydd?

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn yn yr ystyr fod gan awdurdodau lleol rôl arwyddocaol yn y gwaith o hybu twf economaidd yn eu hardaloedd. Un o fy mhryderon yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon yw diffyg capasiti ac adnoddau mewn rhai rhannau o Gymru i wneud hynny ar lefel yr awdurdodau lleol, a dyna pam rwy’n cymeradwyo’r dull a fabwysiadir ar lefel ranbarthol, drwy ardaloedd y dinas-ranbarthau a rhanbarthau cytundeb twf, i ddod â’r rhai sy’n llwyddo i sbarduno twf lleol a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd. Nawr, yr hyn a wnaethom yn ne Cymru ac yng ngogledd Cymru—ac rydym yn ystyried gwneud yr un peth yn y canolbarth—yw dod â’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd ar lefel yr awdurdodau lleol, ac estyn allan at yr holl allforwyr posibl ym mhob rhanbarth er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen i fanteisio ar allforion yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfleoedd buddsoddi, wrth gwrs, yn bodoli y tu hwnt i Ewrop, fel y nodir yn adroddiad Demos, gan gynnwys Tsieina. Nawr, i Tsieina yr aiff 2 y cant o farchnad allforio Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r allforion wedi lleihau 3.5 y cant ers 2013. Diben pennaf y daith fasnach ddiweddar i Tsieina oedd cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau o Gymru, ond ychydig o lwyddiant a gafwyd yn hynny o beth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal pum taith fasnach i Tsieina ers 2012, ond nid yw’r allforion wedi cynyddu’n sylweddol ers yr ymweliadau hynny. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu eich cynlluniau i ailgydbwyso allforion Cymru o blaid marchnadoedd mawr fel Tsieina?

Nid sicrhau rhagor o gyfleoedd allforio oedd unig ddiben y daith fasnach. Roedd yn ymwneud hefyd â sicrhau cyfleoedd buddsoddi, ac yn hynny o beth, roedd y daith yn amlwg yn llwyddiant, oherwydd, yn ystod y daith, sicrheais ddau gytundeb ar gyfer buddsoddi yng Nghymru, gan greu nifer o swyddi. Ond mae’r Aelod yn iawn fod yna gyfleoedd enfawr ar gyfer allforio, yn enwedig, yn fy marn i, yn y sector bwyd a diod yn Tsieina. O ran allforion yn unig, mae’r sector wedi tyfu 95 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf, ac o ran newid chwaeth ac agweddau a thueddiadau cwsmeriaid, gwyddom fod Tsieina yn diriogaeth ar gyfer twf.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gronfa £21 miliwn drwy Brosiect Helix i edrych yn fyd-eang ar ble y bydd tueddiadau newydd a newidiol yn arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer y sector bwyd a diod. Mae hyn i’w ganmol. Credaf y bydd yn rhoi cyfle gwych inni dyfu’r sector yn rhyngwladol a chreu mwy o swyddi yma yng Nghymru. Ond o ran Tsieina, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd y cysylltiadau diwylliannol cryf rydym wedi’u sefydlu dros y degawd diwethaf yn arwain yn awr at fwy o enillion economaidd i Gymru, a dros y blynyddoedd nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar hynny. Credaf ein bod wedi gweld cryn dipyn o waith a llawer iawn o lwyddiant o ran datblygu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng rhanbarthau Tsieina a Chymru. Ond yn awr, rwyf am weld y cysylltiadau hynny’n trosi’n rhagor o swyddi, mwy o fuddsoddiad, a mwy o allforion i gwmnïau o Gymru.

Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi sbarduno erthygl 50, byddwn yn dweud, wrth gwrs, fod yn rhaid i Gymru gael strategaeth economaidd ar waith i gefnogi’r hyn sydd yn farchnad economaidd fregus iawn. Felly, beth yw eich cynllun i gefnogi busnesau bach a chanolig, yn benodol, yn ystod y cyfnod hwn? A gaf fi ofyn hefyd pryd y byddwch yn cyhoeddi eich ymateb i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU?

Byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystod yr wythnosau nesaf, yn amlinellu fy ymateb i’r cynigion. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Greg Clark yn bersonol a dweud wrtho’r hyn a ddywedais yn gyhoeddus, sef nad oes fawr o ddim i anghytuno yn ei gylch yn y strategaeth. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn rhai meysydd o’r strategaeth, yn enwedig y meysydd lle y gallem weld adnoddau ychwanegol yn dod i Gymru drwy gyllid ymchwil a datblygu ac arloesi, yn ogystal â thrwy gytundebau sector-benodol posibl. Y quid pro quo yw y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu manylion y strategaeth ddiwydiannol, ac ar sail y trafodaethau a gefais gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n hyderus y gallwn weithio’n agos gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, nid yn unig er budd economi Cymru, ond economi Prydain gyfan.

Cynyrchiadau Teledu a Ffilm

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? OAQ(5)0143(EI)

Gwnaf. Mae ein gwasanaeth Sgrîn Cymru yn darparu gwasanaeth criw a lleoliadau llawn ac yn hyrwyddo Cymru i’r diwydiant cynhyrchu byd-eang. Mae hyn yn golygu bod bywyd Cymru, ein lleoliadau, a’n talent yn cael eu harddangos ar y sgrîn mewn sawl cynhyrchiad bob blwyddyn.

Diolch am eich ateb. Rwy’n falch fod ymdrechion megis y ffilm hyrwyddo wedi llwyddo i gynyddu nifer y cwmnïau a’r prosiectau sy’n ffilmio yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond o gymharu â gwledydd eraill, rydym yn dal ar ei hôl hi. Hoffwn ofyn pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i wella’r ffordd y mae cwmnïau cynhyrchu a phrosiectau ffilm allanol yn hyrwyddo’r ffaith eu bod wedi bod yn ffilmio yng Nghymru. A allwch amlinellu hefyd sut rydych yn annog cwmnïau a phrosiectau sy’n elwa o gyllid Llywodraeth Cymru i osod eu ffilmiau yng Nghymru, yn hytrach na defnyddio Cymru fel lleoliad i gynrychioli rhywle arall, fel sy’n digwydd yn rhy aml o lawer? Mae un o fy etholwyr wedi mynegi pryderon ynglŷn â cheisio annog elfen ddiwylliannol unigryw mewn perthynas ag unrhyw grantiau a roddir gan Lywodraeth Cymru. Ymddengys fod Ffilm Cymru yn dweud yn eithaf penodol ar eu gwefan y byddant yn hyrwyddo cynnwys diwylliannol Cymreig mewn perthynas â’r ffilmiau, ond o ran teledu a chyllid Llywodraeth Cymru, nid yw pobl mor siŵr sut y byddech o bosibl yn hyrwyddo pobl sydd â diddordeb mewn adrodd stori am ein hanes i bobl Cymru, os nad ydynt yn gwybod y gallant wneud hynny.

Rwyf am ymddiheuro o flaen llaw am ddefnyddio rheg wrth ateb cwestiwn yr Aelod. Lle y bo modd, rydym yn annog cynyrchiadau nid yn unig i ffilmio yng Nghymru ond hefyd i’w gosod yng Nghymru. Enghraifft o hyn yw’r gyfres ‘The Bastard Executioner’, y bwriadai’r cynhyrchwyr ei gosod yn Lloegr yn wreiddiol, ond wedi trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, fe’i gosodwyd yng Nghymru yn lle hynny. Credaf y byddai’n fuddiol i mi ysgrifennu at yr Aelodau yn manylu ar y meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni o ran denu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gan eu bod yn cynnwys gofynion penodol.

Er enghraifft, mae angen un neu fwy o’r canlynol: amrywiaeth mor eang â phosibl o ddelweddau o Gymru; adrodd straeon brodorol ar yr un pryd yn Gymraeg ac yn Saesneg, sydd wedi bod yn hynod o lwyddiannus mewn cynyrchiadau megis ‘Hinterland’; a dangos delweddau o Gymru i gynulleidfa ryngwladol eang. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion llawn am y meini prawf.

Credaf ei bod yn wych fod y diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi tyfu’n gyflymach nag yn unrhyw ranbarth arall yn y DU y tu allan i Lundain. Mae hyn yn dangos bod cryn awydd i ffilmio yng Nghymru. Ond credaf ei fod hefyd yn dangos safon y criwiau sydd gennym yng Nghymru erbyn hyn, yn enwedig ar hyd coridor yr M4, sy’n un o’r canolfannau ffilmio mwyaf atyniadol yn Ewrop ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich ymdrechion egnïol a rhagorol i sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? Nodais â diddordeb y ffilm hyrwyddo a gyflwynwyd gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n cynnwys clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddaraf i gael eu ffilmio yng Nghymru, ac sy’n hyrwyddo popeth sydd gan y wlad i’w gynnig fel lleoliad ffilmio. Roedd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus i Sgrîn Cymru, wrth iddynt ymdrin â 386 o ymholiadau cynhyrchu, gyda chynyrchiadau’n gwario dros £41 miliwn yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog rhagor o hyrwyddo ar Gymru a diwylliant Cymru mewn cynyrchiadau teledu a ffilm?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ac am ddangos cryn ddiddordeb, ers cael ei hethol i’r Siambr hon, yn y diwydiannau creadigol? Mae’n ofynnol i bob cynhyrchiad sy’n cael ei ariannu gan gronfa Sgrîn Cymru basio prawf diwylliant. Mae’n mynd y tu hwnt i feini prawf y prawf diwylliant a gynlluniwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan ei fod hefyd yn cynnwys meini prawf sy’n benodol i Gymru a luniwyd i hyrwyddo Cymru a thalent Cymru. Credaf fod hynny’n ychwanegu at werth cynnig Cymru i gynhyrchwyr ffilmiau a theledu ledled y byd. Mae Sgrîn Cymru yn gweithio’n llwyddiannus iawn i ddenu cynyrchiadau i ffilmio yng Nghymru, gan arddangos ein tirweddau anhygoel, sef y ffactor pwysicaf o ran denu twristiaid i Gymru, a hefyd ein dinasweddau, i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

Efallai yr hoffai’r Aelod wybod bod swyddogion Sgrîn Cymru hefyd yn marchnata’r hyn y gellir ei gael a’r hyn y gellir ei gyflawni yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol drwy gyswllt uniongyrchol â chynhyrchwyr yn yr Unol Daleithiau a rhannau allweddol eraill o’r byd, megis Cannes. Rydym hefyd yn gwahodd swyddogion gweithredol blaenllaw o’r diwydiant ar ymweliad er mwyn marchnata manteision cynhyrchu teledu a ffilm yng Nghymru. Rydym hefyd, fel y gwelwyd yn y ffilm hyrwyddo ddiweddar, yn gweithio’n ddi-baid i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel lle gwych i ffilmio.

Diogelwch ar y Ffyrdd

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0154(EI)

Gwnaf. Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi’r camau rydym ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau lleihau damweiniau. Cyhoeddais gyllid grant cyfalaf a refeniw ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd ar 22 Mawrth.

Roeddwn yn arbennig o falch o weld, yn rhan o’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, fod cyllid wedi’i roi ar gyfer mesurau diogelwch ar y ffyrdd yn fy ardal, ac yn enwedig ger ysgolion. Bydd Hakin a Hubberston, Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Ysgol Gynradd Llanandras a Llanbedr Pont Steffan i gyd yn elwa yn awr. Felly, diolch am hynny. Ond o dan Ddeddf Cymru 2017, bydd gan Weinidogion Cymru fwy o rym dros ffyrdd a thrafnidiaeth, gan gynnwys terfynau cyflymder cenedlaethol. Felly, a wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, archwilio sut y gellid defnyddio’r pwerau hynny i wella diogelwch ffyrdd, yn enwedig o ran lleihau cyflymder y tu allan i ysgolion ac mewn ardaloedd adeiledig?

Gwnaf, yn sicr. Rwy’n awyddus i weld rhagor o barthau 20 milltir yr awr yn cael eu cyflwyno ger ysgolion. Hyn a hyn yn unig y gall ein hadnoddau ariannol ei gyflawni drwy addysgu pobl ifanc. Mae’n rhaid cyflwyno mesurau eraill, a chredaf y dylem geisio gostwng cyflymder y modurwyr sy’n gyrru heibio i sefydliadau addysg. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, fel y nododd yr Aelod, byddwn yn rhyddhau bron i £4 miliwn mewn grantiau cyfalaf diogelwch ar y ffyrdd er mwyn ariannu 31 o gynlluniau ar gyfer lleihau damweiniau ffyrdd mewn 16 awdurdod lleol, ac rydym hefyd yn darparu cynlluniau a fydd o fudd i 21 ysgol ledled Cymru. Ond credaf fod angen inni barhau i gyflwyno ein rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd, sydd wedi arwain at gyflwyno terfynau cyflymder 20 milltir yr awr ger nifer fawr iawn o ysgolion mewn ardaloedd sy’n agos at gefnffyrdd. O ran y pwerau a ddaw i Gynulliad Cymru drwy Fil Cymru, ar hyn o bryd nid oes gennym bwerau i osod terfyn cyflymder cenedlaethol. Ond bydd Bil Cymru yn rhoi’r grym i ni amrywio’r terfyn cyflymder cenedlaethol ar ffyrdd lleol a chefnffyrdd, gan gynnwys ffyrdd arbennig, a bydd hefyd yn rhoi’r gallu i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar derfynau cyflymder cenedlaethol. Rwy’n edrych eleni—efallai yr hoffai’r Aelod wybod—ar yr adolygiad o derfynau cyflymder, sef adolygiad sy’n edrych i weld a ddylid gostwng terfynau cyflymder mewn mannau prysur, yn enwedig ger ysgolion. Rwy’n bwriadu ei ddiweddaru eleni oherwydd, fel y dywedais, credaf fod yn rhaid i ni ostwng cyflymder teithio cerbydau y tu allan i ysgolion ac yn agos atynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod cerbydau nwyddau trwm yn dod oddi ar y ffordd yn aml ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach, lle na cheir unrhyw rwystr ffordd neu balmant. Rydych eisoes wedi fy hysbysu eich bod yn bwriadu cynnal adolygiad arall o derfynau cyflymder ar gefnffyrdd yr haf hwn, gan roi blaenoriaeth i restr o safleoedd. Fodd bynnag, nid y terfyn cyflymder yw’r broblem yma, mewn gwirionedd, ond cynllun y ffordd a’r ffaith nad oes unrhyw arwyddion rhybudd neu rwystrau. Felly, a gaf fi ofyn: a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn asesu mesurau ataliol eraill yn ogystal â gosod terfynau cyflymder ar y prif gefnffyrdd ledled canolbarth Cymru?

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Ac a gaf fi awgrymu fy mod yn ymweld â’r darn penodol hwnnw o’r A470 gyda’r Aelod? Yn ddiweddar, derbyniais sylwadau gan gyd-Aelod yr Aelod, Darren Millar, ynglŷn â ffordd debyg yn ei etholaeth ef. Bûm ar ymweliad safle yno, ac o ganlyniad, rydym bellach yn ystyried newid yr arwyddion, sy’n aml yn ddryslyd, ar y ffordd. Credaf ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn dynodi’n glir i fodurwyr beth sy’n gyflymder diogel, yn hytrach na therfyn cyflymder yn unig. Lle y bo angen gostwng y terfyn cyflymder, byddwn yn gwneud hynny ar sail tystiolaeth, ond yn aml, hefyd, yn unol â phryderon y cymunedau lleol. Ond lle y bo angen rhagor o waith ar ffordd er mwyn sicrhau ei bod yn fwy diogel, rwy’n fwy na pharod i ystyried buddsoddi yn y seilwaith dan sylw.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diogelwch beicio yn fy rhanbarth. A gaf fi dynnu eich sylw, Gweinidog, at fap llwybrau teithio llesol ar gyfer Aberystwyth, nad yw’n cynnwys llwybr Ystwyth? Nawr, llwybr Ystwyth yw’r unig lwybr di-draffig rhwng Aberystwyth a maestrefi fel Rhydyfelin a Llanfarian. Rwy’n gyfarwydd iawn ag ef ac mae’n llwybr sy’n cael cryn ddefnydd. Fodd bynnag, ni ellir ei fapio, mae’n debyg, gan nad yw’r groesfan ar draws y gefnffordd yn Nhrefechan yn cyrraedd y safon. Mae’r gefnffordd yn rhan o’ch cylch gorchwyl, ond ni all yr awdurdod lleol fapio’r llwybr a’i gynnwys fel llwybr teithio llesol neu lwybr diogel am fod y groesfan yn cael ei hystyried yn ‘fethiant difrifol’ yn ôl archwiliad Sustrans o’r llwybr. Pa gamau y gallwch eu cymryd, gyda’r awdurdod lleol yng Ngheredigion, i geisio uwchraddio’r groesfan honno fel y gallwn gynnwys llwybr Ystwyth, sydd wedi costio cryn dipyn o arian i’w adeiladu—gan gynnwys arian o Ewrop—yn ein cynlluniau teithio llesol er mwyn iddo ddod yn fwy cyfarwydd a chael mwy o ddefnydd yn Aberystwyth a’r cyffiniau?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at y mater penodol hwn? Er mawr gywilydd i mi, nid oeddwn yn ymwybodol o’r mater hwn tan heddiw, ond byddaf yn dod â swyddogion yr awdurdod lleol a swyddogion y cefnffyrdd at ei gilydd er mwyn archwilio sut y gellir datrys y broblem benodol hon, oherwydd ar sail yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, nid yw’r her hon yn un na ellir ei goresgyn, ac yn anad dim, mae’n rhaid inni ystyried diogelwch beicwyr, a byddwn yn gwneud hynny.

Y Diwydiant TGCh

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0145(EI)

Mae perfformiad cryf y sector TGCh wedi creu dros 9,300 o swyddi uchel eu gwerth yng Nghymru, a gennym ni y mae’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Bydd ein cymorth parhaus i’r sector galluogi hwn yn cefnogi datblygiad holl fusnesau Cymru drwy’r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n ei ystyried yn ddiwydiant ac yn sector pwysig iawn, sy’n parhau i dyfu, yn enwedig mewn meysydd fel e-fasnach a roboteg. Er y twf cyflym iawn a fu yn ddiweddar, fel y dywedwch, mae perfformiad cymharol Cymru o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ymhlith y gwaethaf o’r holl sectorau a ddiffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Hefyd, mae’n rhaid inni osgoi mabwysiadu meddylfryd y 1970au fod TGCh yn ymwneud yn bennaf â chyllid. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet longyfarch dinas-ranbarth Abertawe ar eu hymrwymiad i dwf y diwydiant TGCh fel rhan o raglen y dinas-ranbarth?

Gwnaf, yn sicr. Bydd arwyddo bargen ddinesig £1.3 biliwn dinas-ranbarth bae Abertawe yn rhoi hwb economaidd enfawr, gyda buddsoddiad yn cael ei wasgaru dros yr holl ranbarth, gan ysgogi twf ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ei fod wedi’i ddatblygu fel gweledigaeth o sut y gall y rhanbarth sicrhau ei fod yn manteisio ar dechnoleg y genhedlaeth nesaf, gan ddefnyddio ei gryfderau presennol, ac mae’n cynnwys pedair thema: rhyngrwyd cyflymu economaidd; rhyngrwyd gwyddor bywyd, iechyd a lles; rhyngrwyd ynni; a rhyngrwyd gweithgynhyrchu clyfar. Credaf ei fod yn tanlinellu’n berffaith y technolegau digidol sy’n galluogi ym mhob rhan o’n bywydau ac sy’n hanfodol i dyfu ein heconomi.

Gyda hynny mewn golwg, wrth gwrs, rydym wedi datblygu cymhwysedd digidol mewn ysgolion ac rydym yn datblygu fframweithiau digidol ar gyfer diwydiant ledled Cymru. Gallaf sicrhau’r Aelod a phawb arall yn y Siambr ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chyllid yn unig—mewn gwirionedd, dyma’r dechnoleg sy’n sail i’r rhan fwyaf o weithgynhyrchu uwch yn y byd.

Rwy’n cytuno y gall y fargen ddinesig ddarparu’r llam digidol mawr hwn ymlaen, ond mae’n werth cofio hefyd mai o Abertawe y llamodd Trudy Norris-Grey yn ei blaen—mae’n amlwg eich bod yn gwybod, Gweinidog, mai hi yw rheolwr gyfarwyddwr Microsoft ar gyfer sector cyhoeddus canol a dwyrain Ewrop, a chadeirydd Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg. Mae hi’n honni bod ‘cyfleoedd gwych’, i ddefnyddio ei geiriau hi, i fenywod gael mynediad at yrfaoedd mewn TG, ond nad ydynt yn gwybod amdanynt. Felly, tybed sut y gall Llywodraeth Cymru fod o gymorth i fusnesau Cymru—nid yw’n ymwneud â sgiliau yn gymaint â’r busnesau eu hunain—i hyrwyddo gyrfaoedd TG yn well i fenywod.

Mae Trudy yn esiampl ardderchog—yn wir, bûm yn cydgyflwyno’r digwyddiad Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg a gawsom yma yn y Senedd er mwyn annog menywod i mewn i feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, ac roedd yn ddigwyddiad rhagorol. Rydym wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau cydnabyddiaeth i bob agwedd ar yr adroddiad ar fenywod mewn Cymru dalentog—nid wyf byth yn cael y teitl yn hollol iawn—sef, yn y bôn, gweledigaeth drawslywodraethol a thraws-sector—busnes hefyd—o sut y gallwn sicrhau bod rhagor o fenywod yn ymgymryd â meysydd STEM, ac yn wir, sut y gallwn dynnu sylw merched ifanc yn arbennig at y gyrfaoedd hyn drwy nodi gyrfaoedd menywod gwirioneddol wych mewn technolegau STEM ar draws y sector.

Cefais y fraint o eistedd ar bwys menyw a oedd yn gweithio ym maes geneteg yng Ngwobrau Dewi Sant, a hi oedd yr enillydd. Yn wir, rydym yn ystyried ei noddi i gynnal cyfres o ddigwyddiadau model rôl ledled Cymru, er enghraifft, er mwyn tynnu sylw at rôl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n fenywod, a’u rôl hanfodol ar draws y meysydd STEM mewn gwirionedd. Rwy’n angerddol iawn ynglŷn â rhoi’r modelau rôl cywir i fenywod ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo. Felly, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi bod yn hyrwyddo ymgyrch y placiau porffor, er enghraifft, i dynnu sylw at rôl menywod yn y meysydd hyn ledled Cymru er mwyn darparu’r modelau rôl hynny. Byddwn yn cynnwys busnes yn hynny o beth, drwy Busnes yn y Gymuned a’n cynlluniau i gyflwyno Dosbarth Busnes, a byddaf yn cadeirio’r bwrdd trawslywodraethol i sicrhau ein bod yn rhoi hynny ar waith hefyd.

Yng nghyd-destun y fargen ddinesig ym mae Abertawe, ac, wrth gwrs, nawr bod y fargen yna yn mynd yn ei blaen, a allaf ofyn pa gamau rydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cymryd i helpu’r cynghorau lleol yna yn ne-orllewin Cymru i ddelifro’r buddsoddiad preifat oddi wrth gwmnïau IT sy’n hollbwysig i lwyddiant y fargen wrth drio creu swyddi o safon?

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid y fargen ddinesig er mwyn cael y fargen wedi’i harwyddo a’i chymeradwyo, ac i sicrhau bod gennym brosiectau parod i’w dechrau yn y maes hwn. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gydag ESTnet, er enghraifft, i wneud yn siŵr fod y technolegau digidol creiddiol gennym yn ein busnesau i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwyf hefyd yn rhedeg grŵp data a digidol y Llywodraeth, a fydd yn cynorthwyo partneriaid awdurdodau lleol i wneud y gorau o’u technolegau digidol, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau yn y dyfodol agos ynglŷn â sut y byddwn yn cyflwyno datblygiadau sector cyhoeddus yn y maes hwnnw er mwyn cynorthwyo datblygiad economaidd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.

Cylchffordd Cymru

6. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar Gylchffordd Cymru? OAQ(5)0155(EI)

Byddwn yn gwneud penderfyniad ar gyllid wedi inni dderbyn holl fanylion y cais; pan fyddwn yn fodlon fod proses drwyadl diwydrwydd dyladwy wedi ei chwblhau, a phan fydd y Cabinet wedi ystyried y cynnig.

Nid yw Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn gofyn am arian uniongyrchol, gan mai buddsoddiad preifat yw’r £425 miliwn. Maent yn chwilio am warant—am hynny y mae’r prosiect yn aros. Ac ar ôl rhoi pwysau eithafol ar Cylchffordd Cymru i sicrhau ymrwymiad o fewn pythefnos, pa hyder y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fuddsoddwyr a chefnogwyr brwd y prosiect y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn bo hir, gan fod pob diwrnod, yn fy marn i, yn gwanhau’r hyder y bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Ac wrth gwrs, cyflwynwyd cynnig ffurfiol o ganlyniad i’r pwysau eithafol hwnnw. Ni fu’n bosibl i ddatblygwyr Cylchffordd Cymru ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i broses diwydrwydd dyladwy ddechrau tan ddiwedd yr wythnos diwethaf. Ac mae’n anffodus hefyd fod y wybodaeth yn anghyflawn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae fy swyddogion a’r ymgynghorwyr allanol a benodwyd wedi cychwyn ar broses diwydrwydd dyladwy ar sail y wybodaeth a ddarparwyd, ac wrth gwrs, mae hynny’n amodol ar ymateb amserol y cwmni i unrhyw ymholiadau pellach. Rydym yn disgwyl gallu adrodd yn ôl i’r Cabinet erbyn canol mis Mai.

Yn ychwanegol at y cwestiwn hwn, rydym i gyd yn cydnabod pa mor awyddus yw pobl, yn enwedig ym Mlaenau Gwent, i gael penderfyniad ynglŷn â phrosiect Cylchffordd Cymru, yn enwedig o ystyried yr honiadau a wnaed ynglŷn â nifer y swyddi y bydd yn eu creu yn yr ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y pwysau hwn yn arwain at wneud penderfyniad hyd nes y cwblheir asesiad grymus iawn o hyfywedd a budd economaidd y prosiect? Diolch.

Gwnaf. Bydd nifer y swyddi a addawyd gan ddatblygwyr y prosiect yn cael ei archwilio’n drwyadl gan yr ymgynghorwyr sy’n cyflawni’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Dechreuodd y profion person addas a phriodol yr wythnos hon. Mae ymgynghorwyr yn cynnal arfarniad o’r farchnad gan ystyried manteision posibl y prosiect o ran swyddi, yn ogystal â hyfywedd y prosiect yn ei gyfanrwydd yn y farchnad bresennol. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl y Cymoedd, a phobl Glynebwy yn arbennig, yn deall ac yn gwerthfawrogi potensial y prosiect hwn, ochr yn ochr â, ac o bosibl yn ychwanegol at, y cynlluniau mawr eraill sy’n cael eu cyflwyno gan fuddsoddwyr ar draws rhanbarth y Cymoedd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i fuddsoddiad Parc Caerau, buddsoddiad Trago Mills ym Merthyr Tudful, yn ogystal â’r potensial ar gyfer planetariwm mawr yn Hirwaun. Mae gan bob un o’r prosiectau hyn gryn botensial, yn unigol a chyda’i gilydd.

Saith wythnos yn ôl, wrth y blwch dogfennau hwnnw, ar 8 Chwefror, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Senedd y byddai proses diwydrwydd dyladwy yn para rhwng pedair a chwe wythnos. Nawr, os oes problem wedi bod o ran diffyg gwybodaeth gyflawn, pam nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud yr hyn y byddai’r sector preifat wedi’i wneud mewn sefyllfa o’r fath, gyda phrosiectau llawer mwy na hwn, sef rhoi pawb mewn ystafell—eu harchwilwyr, Grant Thornton, y cwmni, eu cyllidwyr ac ati, a Llywodraeth Cymru—er mwyn datrys y broblem hon? O ran y dyddiad y mae wedi’i roi inni bellach, sef canol mis Mai, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r risg y mae hynny’n peri i hyfywedd ariannol y prosiect hwn, o ystyried bod hynny’n ymestyn y gofyniad am gyllid pontio?

Mae’n rhaid i mi fod yn hollol glir: ni fyddwn yn osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy ar gyfer unrhyw benderfyniad. A byddai’n fuddiol i ddatblygwyr Cylchffordd Cymru sicrhau ein bod yn symud yr un mor gyflym ar gyfer yr ymgynghorwyr sy’n ymgymryd â’r broses ddiwydrwydd dyladwy ag y gwnaethant ar fy nghyfer i, pan nodais y terfyn amser o bythefnos iddynt ar gyfer cyflwyno cynnig ffurfiol.

O ran dod â phob un ohonynt i’r ystafell, dyna’r union beth y buom yn galw amdano, ac rydym wedi bod yn rhoi pwysau aruthrol yn hynny o beth. Rydym wedi bod yn rhoi pwysau aruthrol ar y datblygwyr i ddarparu’r wybodaeth ofynnol ar gyfer yr ymgynghorwyr. Gyda’r wybodaeth honno, gellir cwblhau’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Byddai’n fuddiol i’r datblygwyr gyflwyno’r wybodaeth er mwyn i bobl Glynebwy a’r Cymoedd wybod a yw hwn yn brosiect hyfyw ai peidio.

A gaf fi gefnogi’r hyn y mae Adam Price newydd ei ddweud? Yn fy marn i, nid diwydrwydd dyladwy sydd dan sylw yma, ond arafwch dyladwy, gan fod datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi bod yn awyddus i gyfarfod o gwmpas y bwrdd fel hyn ers peth amser, ac nid ydynt wedi cael cyfle i wneud hynny. Credaf fod natur gyfyngedig y warant a geisir yma yn elfen bwysig i’w hystyried. Oherwydd gwarant am gyllid ar 50 y cant o’r costau cyllido yn unig yw hi, ond bydd yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o’r asedau, ac ni fydd yn dod i rym beth bynnag hyd nes y bydd yr asedau hynny wedi cael eu hadeiladu, a bod rhywbeth ffisegol i allu darparu sicrwydd. Rwy’n deall bod yn rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet gwblhau’r broses ddiwydrwydd dyladwy, ond os gwelwch yn dda, a wnaiff fwrw ymlaen â hynny?

Rydym eisoes wedi gwneud hynny. Dyna oedd holl ddiben nodi terfyn o bythefnos ar gyfer cyflwyno’r cynnig ffurfiol. Ers hynny, mae datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi gwybod yn union pa wybodaeth sydd ei hangen yn yr ystafell ddata, ac maent yn gwybod yn union sut i ddarparu’r wybodaeth honno. Eu cyfrifoldeb hwy yw cyflwyno’r wybodaeth er mwyn dirwyn y mater hwn i ben, i roi hyder i bobl Glynebwy a phrofi bod hwn yn brosiect hyfyw i Gymru.

Ceir Awtonomaidd

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio ceir awtonomaidd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0146(EI)

Gwnaf. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu profi cerbydau awtonomaidd ledled y DU. Rydym yn cydnabod potensial cerbydau awtonomaidd o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd ledled y wlad ac rydym yn cadw golwg ar hyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, efallai y bydd niferoedd cynyddol o geir diyrrwr yn ymddangos ar ffyrdd canolbarth Cymru maes o law. O ganlyniad, pa asesiad y mae eich adran wedi’i wneud o’r defnydd o geir awtonomaidd, yn enwedig ar is-ffyrdd a ffyrdd un trac, ac yn enwedig o dan amgylchiadau pan fydd angen penderfynu pa un ohonoch a ddylai facio’n ôl?

Nid wyf wedi cyrraedd y pwynt lle y mae’n rhaid i mi benderfynu pwy sy’n gyfrifol am facio’n ôl. [Chwerthin.] Ond rydym wedi bod yn asesu’r potensial ar gyfer gosod lonydd dynodedig ar y prif gefnffyrdd ar gyfer cerbydau awtonomaidd. Credaf y byddai hynny’n rhoi cyfle i ni sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y sector pwysig hwn o’r economi fodurol. Mae buddsoddiad o’r fath yn gostus; nid yw’n rhad, ond byddai’n rhoi cyfle, er enghraifft, i ni brofi cerbydau awtonomaidd mewn ffordd ddiogel iawn, gan gynnwys eu gallu i facio’n ôl pan fyddant yn dod wyneb yn wyneb â cherbydau awtonomaidd eraill.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau nawr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.

Mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad i’r gwasanaeth iechyd yn y Rhondda? OAQ(5)0148(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf, gyda’i bartneriaid, yn parhau i ddatblygu a chyflwyno ei gynllun i wella mynediad at wasanaethau er mwyn diwallu anghenion iechyd a lles pobl y Rhondda mor lleol â phosibl.

Ar y diwrnod mawr hwn yn y byd gwleidyddol, credaf y dylid nodi nad yw 22 y cant o feddygon teulu bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf yn hanu o’r DU. Mae’r etholaeth rwy’n byw ynddi ac yn ei chynrychioli yn dibynnu’n helaeth ar feddygon o dramor. Rwy’n sicr nad yw hon yn ffenomen newydd ac nid yw’n sefyllfa unigryw i ni yn lleol. Ceir pryderon difrifol bellach ynglŷn â sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar allu Cymru i ddenu meddygon o dramor yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae eich adran yn ei wneud i sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru o ganlyniad i adael yr UE?

Rwy’n llwyr gydnabod pwynt yr Aelod dros y Rhondda. Mae’n peri pryder, fel y gwyddoch, i’r Llywodraeth hon hefyd. Yn dilyn y refferendwm, ac ers hynny, rydym wedi dweud yn gwbl glir fod croeso yma i aelodau staff ac aelodau o’n cymunedau sy’n hanu o’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, nid fel gweithwyr yn ein gwasanaethau iechyd a gofal yn unig, ond fel dinasyddion yn ein cymunedau. Wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle i nodi bod yna nifer sylweddol o bobl yn dod o’r tu allan i’r wlad hon, ac o isgyfandir India yn arbennig, ond hefyd y rhai sy’n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi cynnal eu harolygon eu hunain, a ddangosai fod nifer sylweddol o weithwyr gofal iechyd a meddygon sy’n rhan o system iechyd y DU yn ailystyried eu dyfodol yn y DU o ganlyniad uniongyrchol i Brexit.

Wrth gwrs, rydym yn ceisio ystyried a chynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn y dyfodol. Yr her yw hon: hyd nes y bydd gennym gynllun hyfyw ger ein bron o ran yr hyn y mae hynny’n ei olygu, mae’n anodd iawn i ni fel Llywodraeth gael y sgyrsiau hynny gyda’r gweithwyr gofal iechyd. Byddwn yn gwbl glir ynglŷn â neges gyson y Llywodraeth hon fod croeso i bobl aros, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig fel gweithwyr, ond fel rhan o’n cymunedau, ond byddaf yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i drafod hynny. Mewn gwirionedd, byddaf yn cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain yr wythnos nesaf i drafod yr union fater hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae fferyllwyr mewn sefyllfa dda iawn i helpu meddygon teulu, ac felly, i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, yn arbennig o ran rheoli ac adolygu meddyginiaethau. Credaf y gallem wneud yn well yn hyn o beth gan fod llawer o dystiolaeth fod defnydd gwael o feddyginiaethau, neu ddefnydd amhriodol weithiau hefyd, yn llesteirio rhai o’r canlyniadau iechyd y gallem eu sicrhau fel arall.

Rwy’n cytuno â chi, a dyna pam rydym eisoes wedi buddsoddi yn y platfform Dewis Fferyllfa, y platfform technoleg gwybodaeth sy’n galluogi pobl i fynychu amrywiaeth o fferyllfeydd i gael mynediad at y cynllun mân anhwylderau. Roedd Cwm Taf yn un o’r ardaloedd mwyaf blaenllaw yng Nghymru o ran darparu hynny, gan gynnwys yn etholaeth y Rhondda, sydd o dan sylw heddiw. Hwy sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf o blith yr holl fyrddau iechyd o ran sicrhau bod y cyfleuster Dewis Fferyllfa ar gael.

Mae’n ymwneud â mwy na hynny; mae’n ymwneud hefyd ag edrych eto ar y cynlluniau blaenorol a gyhoeddais, er mwyn sicrhau nad ar sail niferoedd yn unig y gwneir y taliad i fferyllfeydd, ond mae’r ymrwymiad a wnaethom i beidio â chyflwyno’r toriadau a gafwyd yn Lloegr yn ymwneud hefyd â sicrhau ansawdd, nid niferoedd yn unig, o ran y gwasanaeth a ddarperir, ond dylid cofio’r gwaith a gychwynnais gyda’r prif swyddog fferyllol i drafod adolygu’r cynllun rhyddhau meddyginiaethau, a fferyllfeydd ysbytai, yn benodol, a’r hyn y maent yn ei wneud a’r hyn y gallem sicrhau o bosibl ei fod yn cael ei wneud ar sail gymunedol hefyd mewn gwirionedd—byddai hynny’n cynorthwyo pobl i adael yr ysbyty yn gynt, gan atgyfnerthu’r angen am wasanaethau cymunedol, a byddai hefyd yn golygu bod fferyllfeydd ysbytai yn gwneud yr hyn y mae angen go iawn iddynt ei wneud yn hytrach na bod pobl yn aros yn hwy cyn gadael yr ysbyty. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr â chi o ran cyfeiriad y polisi. Yr her yw pa mor gyflym y gallwn symud ymlaen ar faes ymarfer a gytunwyd.

Gofal Sylfaenol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw sicrwydd o gynyddu’r gyfran o wariant cyllideb y GIG ar ofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(5)0143(HWS)

Rydym eisoes yn buddsoddi mwy mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Ar y cyfan, rydym yn gwario oddeutu 22 y cant o’n cyllideb iechyd ar wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy’n darparu £43 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol drwy’r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol, a chyhoeddais yn ddiweddar y bydd y contract meddygon teulu newydd yn sicrhau cynnydd o £27 miliwn yn y buddsoddiad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Croesawaf y cynnydd hwnnw. O ran yr enw da sydd gan systemau iechyd y DU yn rhyngwladol mewn perthynas â darparu gwerth da am arian, rhoddir cryn bwyslais ar rôl meddygon teulu fel porthorion i rannau llawer mwy costus o’r system, yn enwedig mewn ysbytai. O ystyried y pwysau ar feddygon teulu, oni fyddai o fudd i’r Ysgrifennydd iechyd, o bosibl, gyda’r diffygion y mae’n eu hwynebu mewn ysbytai a’r pwysau ar rannau eraill o’r system, pe gallai sicrhau cynnydd mwy byth yn y buddsoddiad mewn meddygon teulu a’r broses o’u recriwtio?

Nid wyf yn cytuno’n llwyr â’ch cyfeiriad at feddygon teulu fel porthorion. Mae meddygon teulu yn llawer mwy na phorthorion i rannau eraill o’n system a’n gwasanaeth gofal iechyd. Yr hyn a wnawn yn gynyddol gyda’n partneriaid yng Ngholeg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yw ceisio datblygu agenda gytûn ar sicrhau tîm amlddisgyblaethol ehangach, gyda meddygon teulu’n arweinwyr hanfodol ar gyfer gofal sylfaenol. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn clystyrau gofal sylfaenol yn galonogol iawn. Ac mae’n deg dweud—a chredaf fy mod wedi dweud hyn eisoes—fod nifer o feddygon teulu wedi bod yn gymharol sinigaidd ynglŷn â chlystyrau pan gawsant eu cyflwyno, pa un a fyddai’n ymarfer biwrocrataidd yn hytrach na’n ddatblygiad ac yn welliant i’r gwasanaeth, i’w helpu i ymdopi â’r pwysau gwirioneddol y maent yn ei wynebu. Ond mae clystyrau wedi cael cefnogaeth go iawn, a gall y meddygon teulu eu hunain weld sut y mae gwasanaethau yn cael eu datblygu a’u darparu o dan eu harweinyddiaeth hwy i wella ansawdd y gofal a ddarperir ganddynt, ond hefyd er mwyn gwneud rhywbeth ynglŷn â’r pwysau y maent yn ei wynebu ar y gweithlu.

Felly, byddwn yn parhau i ddarparu buddsoddiad i gefnogi ein nodau a’n hamcanion er mwyn sicrhau bod gofal sylfaenol yn parhau i fod yn injan y GIG yma yng Nghymru, a byddwn yn parhau i barchu meddygon a chael trafodaethau go iawn gyda hwy a gweithwyr gofal iechyd eraill. Bydd rhagor gennyf i’w ddweud dros weddill y flwyddyn hon ynglŷn â recriwtio yn ogystal â sawl mater arall.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd cryn sylw i’r ffaith fod pedwar o’r byrddau iechyd yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ddwywaith cymaint â’r hyn y mae eu byrddau cyfatebol ar yr ochr draw i Glawdd Offa yn eu hwynebu, a bydd ad-drefnu rhai o’u gwasanaethau wrth reoli’r pwysau cyllidebol hwnnw yn gryn her i lawer o’r byrddau iechyd hyn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y pedwar bwrdd iechyd—yn enwedig Hywel Dda, sydd â diffyg o bron i 10 y cant yn ei gyllideb ar gyfer eleni—yn gallu ad-drefnu gwasanaethau i’r sector sylfaenol, o ystyried y pwysau sy’n eu hwynebu, ar eu cyllideb, gan reoli’r hyn sydd ganddynt yn unig?

Nid wyf yn derbyn eich disgrifiad fod y diffyg ddwywaith cymaint â’r diffyg ar yr ochr arall i’r ffin. Mae dros 90 y cant o ymddiriedolaethau Lloegr yn wynebu diffyg. Nid wyf yn ei dderbyn fel darlun cywir a gonest o’r sefyllfa. O ran realiti ymdopi o fewn eu gallu a llwyddo i ad-drefnu gwasanaethau a darparu—gofal sylfaenol ar ei newydd wedd—mae hynny, mewn gwirionedd, yn dibynnu ar ein perthynas gyda’n partneriaid. Mae’n dibynnu ar ein gallu i recriwtio’r cymysgedd cywir o staff i weithio mewn ffordd wahanol. Mewn gwirionedd, ein cyfeiriad teithio yw annog pobl i weithio yng Nghymru, ac i aros yng Nghymru hefyd. Mae’n amgylchedd gwell i feddygon teulu weithio ynddo, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill hefyd.

Ni ddaw adeg byth pan na fydd pwysau ariannol ar y GIG—ac nid wyf yn ceisio esgus y bydd. Ond ni chredaf fod y sgyrsiau ynglŷn â’r prif ddiffygion a drafodwyd gennym yn helaeth dros y deuddydd diwethaf yn esgus o unrhyw fath dros beidio â bwrw ymlaen â chyflwyno llawer mwy o bwyslais ar ofal sylfaenol, o ran symud gwasanaethau i ofal sylfaenol, a chydnabod pwysigrwydd allweddol y maes hwn o’r gwasanaeth ar gyfer dyfodol ein gwasanaeth iechyd gwladol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, i’r Prif Weinidog ailagor uned amenedigol arbenigol ar gyfer mamau a’u babanod, wedi i’r uned olaf yng Nghymru gau yn 2013. Dywedodd y Prif Weinidog fod llai na phump o famau newydd wedi cael eu hatgyfeirio yn y blynyddoedd diwethaf at uned cleifion mewnol yng Nghymru. Nid oedd gennyf unrhyw syniad am beth oedd yn sôn—nid oes gennym uned mam a’i baban yng Nghymru. O ble y cafodd y ffigur pump, nid oes gennyf unrhyw syniad chwaith. Ond ei ddadl ef oedd nad yw’r galw yno.

Rhwng mis Ionawr 2015 a mis Ionawr 2017, rydym wedi nodi 21 o fenywod yn ardal Caerdydd yn unig a fyddai wedi cael eu derbyn i uned, pe bai un wedi bod ar gael. O’r rheini, atgyfeiriwyd chwech ohonynt at uned y tu allan i’r ardal, ond dwy’n unig a aeth mewn gwirionedd, gan nad oedd y lleill am gael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. A ydych yn derbyn bod y galw’n uwch na’r hyn a awgrymodd y Prif Weinidog ddoe?

Roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le yn nodi nifer y menywod a fu mewn uned cleifion mewnol yn ystod pob un o’r tair blynedd diwethaf. Ac mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig nad wyf yn ceisio ei fychanu o gwbl. Mae’n rhaid i ni allu deall y dystiolaeth sydd ar gael i ni o ran beth sy’n wirioneddol gynaliadwy, yn ogystal â’r ansawdd priodol yn y gwasanaeth y gallwn ei ddarparu. O ran y gwasanaeth blaenorol, ni allai’r staff gynnal eu sgiliau i ddarparu’r math o wasanaeth o ansawdd uchel y byddai pobl yn dymuno’i gael.

Ac nid yw’r her yn ymwneud ag a fyddai un uned ynddi ei hun yn datrys pob un o’r problemau hynny pe bai wedi’i lleoli yng Nghymru. Fel y gwyddoch, rwyf wedi comisiynu adolygiad, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, o’r dystiolaeth ar yr hyn sydd ar gael yng Nghymru ar sail anghenion, a’n gallu i ddiwallu’r anghenion hynny, boed yng Nghymru neu fel arall. Bydd yr adolygiad hwnnw’n adrodd yn ddiweddarach eleni, ac wrth gwrs, byddaf yn rhannu’r canfyddiadau a’r cyngor, yn ogystal â fy ymateb, gyda’r Aelodau sydd yma heddiw, ac rwy’n siŵr y bydd ganddynt ddiddordeb ynddo. Rwy’n derbyn bod hyn, yn amlwg, yn bwysig i’r Aelodau ar draws y Siambr hon.

Gan gyfeirio at ymateb y Prif Weinidog ddoe, gofynnodd Steffan Lewis yn benodol, fel y gwneuthum innau heddiw, ynglŷn ag atgyfeiriadau at unedau mamau a’u babanod. Nid oes gennym unedau mamau a’u babanod yng Nghymru. Gwasanaethau cymunedol, cawsant eu cyflwyno dair blynedd wedi cau’r unedau, er ein bod, wrth gwrs, yn cydnabod bod eu hangen. Ond mewn achosion o seicosis ôl-enedigol, er enghraifft, mae angen cyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer mamau a babanod. Dyna y mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn e ddweud. Nid oedd y safonau gwasanaeth a nodwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cyfeirio at ffigurau màs critigol hyd yn oed; maent ond yn dweud y dylid cynllunio gwasanaethau ar sail ranbarthol, y dylai pobl gael mynediad cyfartal ble bynnag y maent yn byw. Maent yn sôn am ddefnyddio staff i weithio yn y gymuned pan fo cyfraddau’r cleifion mewnol yn isel. Yn sicr, nid ydynt yn cefnogi cau unedau.

Mae’r coleg brenhinol yn dweud wrthym y gallwn ddisgwyl y bydd 140 o fenywod yng Nghymru angen mynediad at uned mam a’i baban bob blwyddyn—mwy na digon i wneud uned yn hyfyw. Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, rhaid bod achos dros ailystyried eich safbwynt ynglŷn ag a ddylai fod uned mam a’i baban arbenigol gan Gymru. Ac yn wir, gan fynd y tu hwnt i’r sefyllfa yn ne Cymru, mae ffigurau’r Coleg Brenhinol Pediatreg yn nodi, nid yn unig yr angen i ailagor y ganolfan, ond yr angen am ganolfan newydd yn y gogledd hefyd, os mai edrych ar y galw a wnawn.

Rwy’n credu bod angen i ni feddwl eto, fel y dywedais, camu’n ôl, a meddwl am yr hyn y gallwn ei wneud, a’i wneud ar y lefel gywir o ran ansawdd ac yn y ffordd gywir y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl. Nodais fod y ffigurau—nid wyf yn credu ei bod yn deg awgrymu bod y ffigurau wedi cael eu camddisgrifio. Rydym yn sôn am bobl a atgyfeiriwyd at uned cleifion mewnol, sydd wedi bod mewn uned mam a’i baban ar gyfer cleifion mewnol, a’n bod wedi comisiynu’r gofal hwnnw ar gyfer mamau a’u babanod mewn gwirionedd. A’r her gyda’r ffigurau mewn gwirionedd yw, ‘A yw hynny’n ddigon i gynnal uned yng Nghymru?’ yn hytrach na dadleuon gwleidyddion. Dyna pam y comisiynais Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i gynnal yr adolygiad. Felly, nid yw’n ymwneud â chi a fi, fel gwleidyddion pleidiau neu gynrychiolwyr unigol, yn ceisio gwneud achos ar sail ein dealltwriaeth o ffigurau. Rwy’n mynd at bobl sy’n rhedeg ac yn darparu gwasanaeth, a byddaf yn comisiynu’r gwasanaeth hwnnw, er mwyn deall os yw’r angen yno, ac y gallem ac y dylem ddiwallu’r angen hwnnw yn y ffordd orau bosibl drwy leoli uned yn ffisegol yng Nghymru. Oherwydd, wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod fod y pellter i uned ym Mryste, dyweder, yn her i nifer o fenywod yng Nghymru, yn union fel y byddai pe baech yn byw yn Nhyddewi ac yn teithio i uned yng Nghaerdydd, pe baech yn byw yng Ngheredigion, neu pe baech yn byw ym Mangor. Mae yna her yma ynghylch y mynediad ffisegol hwnnw at uned ni waeth ble y mae’r uned honno wedi’i lleoli’n ffisegol, boed yng Nghymru neu y tu allan i Gymru. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn rhan o’r cwestiwn gonest y gofynnwn i ni’n hunain, a dyna pam y comisiynais y cyngor fel sail wrthrychol briodol i ni wneud penderfyniad arni.

Ond mae ble y mae unedau wedi’u lleoli yn bwysig. Mae’n bwysig o ran mynediad, fel y mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ei ddweud. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n credu, o’n ffigurau a’n hastudiaethau achos, mai canlyniadau prynu darpariaeth allanol yw mamau’n dewis peidio â chael triniaeth cleifion mewnol yn lle triniaeth sy’n golygu cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Felly, mae gofal cleifion wedi dioddef. Mae yna faterion sy’n ymwneud â diogelwch plant yn dod i’r amlwg yma, ac nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr ariannol chwaith. Mae wedi dod yn amlwg bod y gwasanaeth sy’n cael ei gomisiynu yn Lloegr, er yn trin llai o gleifion, wedi bod yn fwy costus yn y pen draw. Ymddengys bod eich Llywodraeth wedi dilyn trywydd canoli a phrynu darpariaeth allanol yn ddi-gwestiwn. Ac ar y mater hwn yn benodol, onid yw’n bryd i chi gyfaddef eich bod yn anghywir?

Nid wyf yn credu bod hwnnw’n ddull cyfrifol o drin mater sy’n heriol iawn i bob un ohonom. Bydd pawb yn y Siambr hon yn awyddus i sicrhau ein bod yn cael yr ymateb cywir i deuluoedd a babanod yma yng Nghymru. O ran y cyfeiriad at brynu darpariaeth allanol, er mwyn bod yn gwbl glir, cyfeirir at ‘brynu darpariaeth allanol’ yn aml fel ‘preifateiddio’ mewn iaith o’r fath. Rydym yn comisiynu gofal gan y GIG yn Lloegr. Nid ydym yn preifateiddio’r gwasanaeth. Nid ydych wedi awgrymu ein bod ni’n gwneud hynny, ond mae ‘prynu darpariaeth allanol’ yn cael ei ddefnyddio yn rheolaidd fel term y bydd pobl eraill yn ei ddeall fel preifateiddio’r gwasanaeth. Yn sicr, nid yw hynny wedi digwydd.

Nid wyf yn cydnabod yr hyn a ddywedwch fod yna faterion yn ymwneud â diogelwch plant yn codi o hyn am nad oes gennym uned mam a’i baban ffisegol yn unman yma yng Nghymru. Ac rwy’n dweud wrthych eto yn syml iawn: o ran y lleoliad, rwy’n derbyn bod lleoliad yn bwysig. Dyna pam rwy’n dweud, os ydych yn byw yn Nhyddewi yng ngorllewin Cymru a bod yr uned yn ffisegol yng Nghaerdydd, mae honno, yn ymarferol, yn ffordd bell i chi deithio beth bynnag. Nid yw dweud yn syml, ‘Lleolwch uned yng Nghaerdydd’ yn datrys yr holl faterion sy’n codi o ran mynediad ffisegol. Ac mae’n rhaid cael sgwrs fwy synhwyrol i wneud yn siŵr ein bod yn cael yr ymateb cywir i hyn. Dyna pam rydym wedi comisiynu cyngor arbenigol, fel bod yna sail wrthrychol briodol i mi gael fy nghraffu arni, ond hefyd i’r Llywodraeth wneud penderfyniad arni. Ac rwy’n falch o’r ffaith ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol, oherwydd, yn aml, yr hyn y mae pobl yn dymuno ei gael yw cefnogaeth yn eu cymuned ac mae hynny’n aml yn fwy addas.

Rwy’n edrych ymlaen mewn gwirionedd at—. Rwy’n deall fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystyried cael ymchwiliad i’r maes hwn, ac edrychaf ymlaen at roi tystiolaeth i’r pwyllgor hwnnw, gan ateb cwestiynau ger bron yr Aelodau a chael trafodaeth, unwaith eto, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bawb ohonom ynglŷn â beth yw’r dewis cywir i deuluoedd a’u babanod yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o gyfraddau afiechyd ac absenoldeb yn y GIG yng Nghymru?

Rydym yn adolygu ffigurau absenoldeb yn rheolaidd. Yn wir, mae’n rhan o’r broses arfarnu sydd gennyf gyda chadeiryddion pob un o’r byrddau iechyd. Rwy’n edrych ar eu cyfraddau absenoldeb a gweld a oes gwelliant neu fel arall. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant yn y tair blynedd diwethaf yn gyffredinol, yn enwedig yn y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, a chredaf fod cysylltiad rhwng hynny a’r gwelliant yn eu perfformiad. Felly, mae’n achos pryder rheolaidd, ond ni fyddwn yn esgus bod gennyf yr holl fanylion wrth law heddiw.

Gadewch i mi roi ychydig o gymorth i chi gyda hynny felly. Mae’r data y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi’i gael gan fyrddau iechyd yn dangos bod pryder, straen, iselder ac afiechydon seiciatrig amhenodol eraill wedi effeithio ar 7,945 o aelodau staff y GIG yn 2015-16. Collodd y 7,945 aelod staff gyfanswm o 345,957 diwrnod o waith, sy’n gyfwerth â 948 mlynedd o oriau gwaith a gollwyd i’r GIG mewn un flwyddyn. Dyna werth 948 mlynedd o oriau gwaith. Ysgrifennydd y Cabinet, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod beth fyddwch chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn. A chofiwch, ffigurau’n ymwneud â materion iechyd meddwl yn unig oedd y rhain. Nid oeddent yn cynnwys absenoldebau oherwydd clefydau eraill, cyflyrau cyhyrysgerbydol, neu unrhyw anhwylder corfforol arall.

Dyma pam ei bod yn flaenoriaeth i’w thrafod gyda chadeiryddion yn rhan o’u proses arfarnu rhyngof fi, fel yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, a chadeiryddion byrddau iechyd. Felly, mae yna ddealltwriaeth ein bod eisiau gweld gwelliant pellach. Mae rhywfaint o hyn, o ran rheoli absenoldeb, yn ymwneud â deall y rhesymau pam fod pobl yn sâl ac yn absennol o’r gwaith: weithiau mae hynny’n ymwneud â’r gwaith ac weithiau mae yna resymau y tu hwnt i’r gwaith. Ond mae’n ymwneud â pha gymorth priodol sydd ei angen i helpu rhai ohonynt i ddychwelyd i’r gweithle. Dyna pam y rhown bwyslais ar wasanaethau iechyd galwedigaethol. Er enghraifft, ochr yn ochr â Chymdeithas Feddygol Prydain, rydym wedi ehangu’r gwasanaeth iechyd galwedigaethol ar gyfer meddygon teulu yn ogystal, i feddwl sut y mae hynny’n gweithio ar gyfer pobl a gyflogir mewn gofal sylfaenol hefyd. Felly, daeth Unsain â hyn i fy sylw hefyd, pan gefais gyfarfod â hwy yn ddiweddar ar y gwaith ymgyrchu y maent yn ei wneud gyda’u haelodau. Rwy’n deall yn berffaith pam y byddai unrhyw undeb llafur yn dymuno dod â’r mater i fy sylw yn y sgwrs honno. Felly, mae’n fater a ddeallwn; mae’n fater lle yr hoffem weld gwelliannau pellach oherwydd, yn y pen draw, mae’n well i’r aelod unigol o staff, yn well i’r gwasanaeth y maent yn gweithio ynddo ac yn y pen draw, yn well i’r gwasanaeth rydym yn ei ariannu ac yn ei ddarparu.

Ni allwn gytuno mwy â chi fod hwn yn fater y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys. Mae’n fwy na’r unigolyn yn unig. Ddoe, cawsom drafodaeth hir am y diffygion a welwn yn y GIG yng Nghymru yn rhai o’n hymddiriedolaethau. Rydym yn gwybod bod gennym broblem recriwtio—ni allwn gael digon o feddygon, nyrsys a’r holl staff arall. Rydym hefyd yn gwybod, er enghraifft, fod cost nyrsys cronfa sydd ar gontractau ers dros flwyddyn yn eithriadol o uchel, fel y mae cost meddygon ac ymgynghorwyr meddygol locwm. Rydym yn gwybod nad yw byrddau iechyd yn recriwtio staff ysgrifenyddol pan fyddant ar fin gadael tan ar ôl iddynt adael, sydd wrth gwrs yn llesteirio gwaith meddygon ymgynghorol a meddygon yn fawr am na allant gael gafael ar nodiadau’r holl gleifion y maent yn eu gweld, ac mae’n creu tagfa go iawn. Pe gallem ddod â rhai o’r oriau hynny’n ôl drwy gefnogaeth ddigonol i’r unigolion hyn, yna byddai’n eithriadol o fuddiol i’r GIG yn ariannol ac yn feddygol.

Mae’r ystadegau hyn, o’u cymharu ag ystadegau Lloegr, yn eithaf damniol. Rydych newydd grybwyll staff ambiwlans, ond mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael, sef mis Gorffennaf i fis Medi 2016, yn dangos cyfradd o 7.5 y cant o staff absennol yng Nghymru, o’i chymharu â 5.4 y cant yn unig o staff absennol yn Lloegr. Mae’r bwlch hwn wedi bod yn debyg dros y pum mlynedd diwethaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn Lloegr, maent wedi bod yn treialu system mynediad cyflym at driniaeth. Tybed a allaf eich perswadio i ddechrau edrych yn iawn ar hyn. Rwyf wedi trafod y mater gyda rhai o’r byrddau iechyd. Nid yw’n ymwneud â cheisio datblygu GIG dwy haen, ac rwyf am wneud hynny’n gwbl glir, ond o ystyried ein diffyg adnoddau ariannol yn y GIG, ac o ystyried yr anhawster a gawn gyda llenwi swyddi gwag a recriwtio staff i’r GIG, mae’n ymddangos yn wirioneddol annoeth i beidio â cheisio annog y staff GIG sydd gennym i ddod yn ôl i’r gwaith yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae’n dda iddynt. Fe ddywedoch hynny eich hun: mae rhoi cefnogaeth iddynt yn wych. Mae rhai gwersi da i’w dysgu dros y ffin a hoffwn weld eich bod yn ddigon mawr i allu derbyn bod gwledydd eraill yn y DU wedi mynd i’r afael â hyn mewn ffyrdd gwahanol. Gadewch i ni weld a allwn ddod â rhywfaint o’r arfer gorau hwnnw yma a chael rhai o’n staff gweithgar yn ôl wrth eu gwaith, oherwydd rydym eu hangen ac mae angen iddynt fod yn ôl yn eu swyddi, yn ennill cyflog da, ac yn teimlo’n llawer gwell eu hunain.

Nid wyf yn ei chael hi’n anodd o gwbl i edrych ar rannau eraill o wledydd y DU er mwyn deall lle y ceir arferion gwell i ni eu mabwysiadu neu eu haddasu. Ym meysydd rheoli adnoddau dynol, rydym bob amser yn edrych i weld ble y mae’r arferion gorau’n bodoli fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n briodol. Rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaethoch am sefyllfa ariannol y gwasanaeth iechyd—am yr heriau go iawn sy’n bodoli, gyda chwyddiant iechyd bob amser ar gyfradd uwch na gwasanaethau eraill hefyd.

I raddau helaeth, y rheswm pam fod ein cyfraddau ambiwlans wedi gwella a pham rwy’n credu, yn y ffigurau nesaf a ddaw allan, y gallwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ein ffigurau yma yng Nghymru yw oherwydd bod yr amgylchedd gwaith wedi gwella ac oherwydd bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n well erbyn hyn. Nid wyf am esgus fod popeth yn berffaith—mae’n bell o fod yn berffaith—ond rwy’n disgwyl gweld ymdrech barhaus i weld y dull partneriaeth, sy’n cael ei werthfawrogi gennym yma yng Nghymru, yn sicrhau gwelliant, nid yn unig o ran ein cysylltiadau diwydiannol, ond o ran ein gallu i gynorthwyo pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt mewn gwirionedd oherwydd credaf fod y mwyafrif helaeth o’n staff eisiau bod yn y gwaith ac eisiau bod wrthi’n darparu gofal uniongyrchol i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt ac y maent yn eu gwasanaethu. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw anghytundeb ynghylch y cyfeiriad polisi; mae’n ymwneud yn syml â’n gallu ni i gyflawni’r gwelliant hwnnw.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gellir cymharu gorwariant y byrddau iechyd lleol â’r symiau mawr a werir ar nyrsys asiantaeth. Y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru yn gwario £2.5 miliwn bob wythnos ar staff asiantaeth, a fydd yn ddi-os yn cael ei dorri y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn syml iawn, nid oes gennym staff parhaol ar gael i wneud yn iawn am y diffyg, felly gofal cleifion fydd yn dioddef. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cael eu hariannu’n ddigonol i ddarparu lefelau staffio diogel yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod?

Rydym yn llawn ddisgwyl y bydd gan bob gwasanaeth GIG lefelau staffio diogel. Rwy’n cydnabod yr hyn rydych yn ei ddweud am gostau asiantaeth, yn yr ystyr nad costau nyrsys asiantaeth yn unig ydynt; ceir costau asiantaeth a locwm ar draws ein system sy’n rhan o’r her ariannol wirioneddol a wynebwn wrth gyflwyno a chynnal modelau gofal. Mae yna sgwrs onest i’w chael ynglŷn ag a ydym yn cynnal modelau gofal sy’n gywir ac yn briodol, neu a ydym, mewn gwirionedd, yn gwario arian mewn ffordd nad yw’n effeithlon nac yn briodol iawn. Felly, bydd honno’n sgwrs y bydd angen i bob un ohonom gymryd rhan ynddi, ond wrth gwrs, ym maes nyrsio, rydym yn ymestyn lefelau nyrsio wrth roi’r Ddeddf lefelau staff nyrsio ar waith. Felly, rwy’n disgwyl gweld mwy o nyrsys yn cael eu recriwtio i Gymru ar sail barhaol.

Ond yn dilyn y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd, fe fyddwch yn cydnabod bod yna her o ran hynny gyda realiti’r ffordd y mae staff sydd wedi’u lleoli yn yr Undeb Ewropeaidd yn teimlo ynglŷn â dod i’r DU. Mae ffigurau ar gael i’r cyhoedd ar nifer y nyrsys sydd naill ai wedi gadael y DU, neu nad ydynt bellach yn ystyried dod yma. Yn Lloegr yn arbennig, mae ffynhonnell recriwtio o’r Undeb Ewropeaidd, fel y dywedaf, wedi sychu’n sylweddol, ac mae honno’n her go iawn i ni o ran cynnal ein gwasanaethau, a beth y mae hynny’n ei olygu o ran gorfod talu costau hyd yn oed yn uwch i gael staff i mewn i’n gwasanaeth iechyd i ddarparu’r gofal y byddai pawb ohonom yn disgwyl iddo gael ei ddarparu.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pasiodd y Cynulliad y Ddeddf lefelau staff nyrsio y llynedd gyda’r addewid y byddai’r ddeddfwriaeth newydd hon yn darparu mesurau diogelu ar gyfer diogelwch cleifion ac yn rhoi diwedd ar sefyllfaoedd lle y mae nyrsys yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i ofalu am gleifion yn iawn. Ar hyn o bryd mae eich Llywodraeth yn ymgynghori ar y canllawiau statudol nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y cymarebau nyrsys i gleifion argymelledig nac unrhyw sôn am statws ychwanegol prif nyrsys ward. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi fod yr ymgynghoriad hwn yn anfon y neges anghywir am lefelau staffio diogel, ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu’r canllawiau fel eu bod yn cynnwys popeth a addawyd pan oedd y Ddeddf yn cael ei thrafod?

Dyna’n union beth ydyw—ymgynghoriad ydyw. Rwy’n disgwyl cael ymatebion, rwy’n disgwyl cael cyngor gan ein swyddogion nyrsio proffesiynol yma, gan gynnwys, wrth gwrs, y prif swyddog nyrsio, ar yr hyn sy’n briodol o ran darparu gofal i gleifion a bodloni amcan y Ddeddf a basiwyd gan y lle hwn, ac o ran darparu gofal nyrsio o ansawdd uchel wrth i ni geisio datblygu’r Ddeddf staff nyrsio ymhellach mewn meysydd ymarfer eraill ar draws ein GIG yma yng Nghymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai lefelau staffio diogel fod yn berthnasol i bob lleoliad. Wrth i ni symud at wasanaeth iechyd sy’n anelu at ddarparu mwy a mwy o wasanaethau yn y gymuned, mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes gan dimau nyrsio cymunedol lwyth gwaith gormodol o ran cleifion. Mae nifer y nyrsys ardal sy’n gweithio yng Nghymru wedi gostwng dros 40 y cant yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae eu llwyth gwaith wedi cynyddu ddeg gwaith. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflwyno lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys cymunedol a pha gamau rydych yn eu cymryd i gynyddu nifer y nyrsys ardal a lleihau eu llwyth gwaith?

Wel, wrth gwrs, byddwn yn cael ein harwain gan dystiolaeth a chyngor proffesiynol swyddfa’r prif swyddog nyrsio. Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhywbeth y mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn ei gefnogi. Maent yn falch iawn nad ydym wedi mabwysiadu’r dull ar draws y ffin o gael gwared, i bob pwrpas, ar brif swyddog nyrsio o’r Llywodraeth i roi cyngor proffesiynol i’r Gweinidog perthnasol. Rwyf wedi bod yn gwbl glir gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol a rhanddeiliaid eraill y byddaf yn cael fy arwain gan y dystiolaeth a’r cyngor ar weithrediad y Ddeddf lefelau staff nyrsio, ac yn mabwysiadu dull a arweinir gan dystiolaeth i ymestyn y cyrhaeddiad hwnnw ymhellach ar draws y gwasanaeth. Felly, rydym yn edrych ar wahanol opsiynau ynglŷn â ble fyddai’r lleoliad priodol nesaf o fewn y gwasanaeth ar gyfer cyflwyno ac atgyfnerthu’r Ddeddf.

Ond o ran ein gallu i recriwtio mwy o nyrsys ardal a thu hwnt, wrth gwrs, cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £95 miliwn yn ddiweddar mewn cartrefi nyrsio a phroffesiynau eraill ar gyfer y GIG yma yng Nghymru, a ddylai arwain at 3,000 o leoedd hyfforddi eraill ar draws y proffesiynau a bydd hynny’n cynnwys 30 y cant yn fwy o nyrsys ar ôl 10 y cant ychwanegol a gafwyd y llynedd, a chynnydd o 22 y cant y flwyddyn cyn hynny a chynnydd o fwy na 4 y cant mewn bydwragedd y flwyddyn hon hefyd. Felly, rydym yn buddsoddi yn ein dyfodol ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad i ddiogelu dyfodol ein gwasanaeth yma yng Nghymru.

Gofal Orthopaedig

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal orthopaedig yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0140(HWS)

Gwnaf. Rwy’n disgwyl y bydd pob claf yn cael eu gweld mewn modd amserol yn seiliedig ar eu hangen clinigol. Rwy’n disgwyl y bydd y bwrdd iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda’r rhaglen gofal wedi’i gynllunio i ddatblygu gwasanaeth cynaliadwy.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n deall bod llawer o’r llawdriniaethau orthopedig arferol yn rhanbarth gogledd Cymru yn cael eu darparu’n allanol gan ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. A gaf fi ddarllen llythyr a gefais gan lawfeddyg orthopedig ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, yn destun mesurau arbennig? Mae’n dweud fod peidio â buddsoddi mewn gwasanaethau orthopedig dewisol ers degawdau wedi creu sefyllfa lle y mae’r bwrdd iechyd wedi’i ddal yn gaeth ac ni all hyd yn oed ddiogelu’r gwasanaethau orthopedig dewisol hyn yn awr. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod cynlluniau buddsoddi gwael o’r fath, y diffyg gweledigaeth a’r trefniadau tymor byr sydd, yn ôl pob tebyg, wedi bod yn mynd rhagddynt ers dros ddau ddegawd bellach yn amharu ar ansawdd bywyd llawer o bobl sy’n dioddef poen cronig yn y cymalau, sy’n aros am amseroedd gwarthus o hir am eu triniaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wyddoch faint o arian sy’n mynd dros y ffin ar driniaeth orthopedig? A ydych yn cytuno y byddai’n well i’r arian hwn gael ei fuddsoddi yng ngogledd Cymru? Mewn ymateb i Mark Reckless, fe ddywedoch eich bod yn parchu meddygon ac yn awyddus i gael sgwrs go iawn gyda hwy. Yng ngoleuni hynny, a fyddech yn cytuno i gyfarfod â mi a nifer o lawfeddygon orthopedig yng ngogledd Cymru er mwyn eich helpu i ddeall yn well beth yw’r problemau mewn gwirionedd, ond hefyd i edrych ar ganlyniadau cadarnhaol a sut y gallwn fynd i’r afael â’r problemau hyn?

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod her orthopedeg fel arbenigedd yn enwedig yng ngogledd Cymru. Dyna sydd i gyfrif am y nifer fwyaf o bobl sy’n aros yn rhy hir, ac yn aros y tu hwnt i’n safon arferol o ran amseroedd aros yn ardal gogledd Cymru. Rwy’n cydnabod hefyd ein bod yn comisiynu gofal gan ddarparwyr yn Lloegr yn rheolaidd. Yn wir, mae arbenigedd llawdriniaeth ar asgwrn y cefn yn cael ei gomisiynu gan Robert Jones ac Agnes Hunt, ac ar hyn o bryd rydym yn comisiynu lleoedd ychwanegol a thriniaethau ychwanegol dros y ffin hefyd, a’r rheswm am hynny yw bod gennym broblem a bod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Gallwn naill ai ddweud ein bod yn barod i fuddsoddi arian yn y presennol i geisio sicrhau ein bod yn lleihau’r niferoedd hynny, neu gallwn ddweud y byddwn yn gwario’r arian hwnnw o fewn y system yn unig. Mae’n fater o gydbwyso, wrth gwrs, a’r hyn y bûm yn hynod o glir yn ei gylch yw bod angen i ni gynnal a gwella lefel y perfformiad yn y presennol, oherwydd nid yw mewn sefyllfa y byddwn i nac unrhyw Aelod arall yn ei ystyried yn dderbyniol. Mae hynny hefyd yn golygu, fodd bynnag, fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd, gyda’r gymuned glinigol, feddwl am gynllun ar gyfer y dyfodol.

Mewn gwirionedd, cyfarfûm â thîm orthopedig Ysbyty Glan Clwyd yn ystod fy ymweliad olaf â gogledd Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, ac maent hwythau hefyd yn cydnabod bod angen gwella. Mae angen edrych ar draws gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na bod tri neu bedwar o ganolfannau yn cystadlu â’i gilydd ynglŷn â sut y gallai gwasanaeth newydd edrych, fel nad yw’n ymwneud yn unig â’r pen triniaeth lle y mae pobl yn mynd i gael llawdriniaethau, ond ei fod hefyd yn ymwneud â gofal yn y gymuned—felly, gofal sylfaenol, y gwasanaeth cyhyrysgerbydol. Mae’n rhaid i ni edrych ar y darlun cyfan. Rwy’n disgwyl y bydd cynllun yn dod i’r bwrdd iechyd o fewn mater o wythnosau, yn hytrach na nifer o fisoedd, yn nodi cynigion ar sut y gallai pethau fod yn y dyfodol. Felly, rwyf wedi cyfarfod â llawfeddygon yn y gorffennol, ac rwy’n siŵr y byddaf yn cyfarfod ag aelodau o’r tîm orthopedig yn y dyfodol, ond rwy’n edrych ymlaen at dderbyn y cynllun hwnnw i ddeall beth yw’r amserlenni ar gyfer llwyddiant, a sut beth y gallai ac y dylai llwyddiant fod yn eu barn hwy ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru.

A gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, o gofio bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig—? Rydym bron i ddwy flynedd i mewn i’r mesurau arbennig hynny, ac un o’r rhesymau pam y cafodd ei wneud yn destun mesurau arbennig oedd oherwydd y perfformiad yn erbyn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, gan gynnwys amseroedd aros orthopedig. Dros y cyfnod y mae wedi bod yn destun mesurau arbennig, a’i weithredu, i bob pwrpas, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaethau hynny, mae’r amseroedd aros hynny wedi cynyddu. A ydych yn derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb dros berfformiad gwael bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a wnewch chi ymddiheuro i’r etholwyr yn fy etholaeth sy’n aros 112 wythnos am apwyntiadau arferol yng Nglan Clwyd am lawdriniaeth orthopedig?

Yn y pen draw, rwy’n gyfrifol am bopeth sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd fel yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd. Mae hynny’n golygu’r holl bethau nad ydynt yn mynd yn dda, lle y mae pobl yn aros yn rhy hir, yn ogystal â’r pethau y mae pobl eisiau canmol y gwasanaeth amdanynt hefyd. Nid wyf yn cilio rhag fy nghyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn y drafodaeth a gefais yn ddiweddar â llawfeddygon yng Nglan Clwyd, roeddent am ei gwneud yn glir nad yw’r bobl sydd wedi bod yn aros yn hir wedi bod yn aros am apwyntiadau arferol; mewn gwirionedd, maent ar y pen mwy cymhleth. Ond yr her yw, ac maent yn derbyn—

[Yn parhau.]—ni waeth a yw’n arferol neu’n gymhleth—ac mae’r rhain y soniwn amdanynt yn gleifion cymhleth—maent yn dal i aros yn rhy hir. Ac mewn gwirionedd, gwaith y gwasanaeth iechyd yw meddwl am gynllun i ddatrys hynny, a dyna beth y mae’r llawfeddygon yn ei ddweud y maent yn ymrwymedig i’w wneud, a dyna pam, mewn ymateb i gwestiynau Nathan Gill, y gallwn ddynodi fy mod yn disgwyl i’r cynllun hwnnw gael ei gyflwyno a’i drafod â’r bwrdd dros gyfnod o rai wythnosau, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfarwyddyd priodol ar yr hyn y mae’r cynllun yn ei gynnwys a’r mesurau llwyddiant sydd i’w cyflawni o fewn hynny. Fel y byddwch yn ei wybod o’n sgwrs flaenorol yn ystod y cwestiynau diwethaf, Darren Millar, mae cynnydd o 83 y cant wedi bod yn y galw dros y pedair blynedd diwethaf yn erbyn cynnydd o draean yn nifer y llawdriniaethau a gynhaliwyd. Yn amlwg, mae angen i ni wneud rhywbeth i reoli’r galw a’r gallu i ateb y galw hwnnw’n well yng ngogledd Cymru.

Cyllid ar gyfer Gofal Cymdeithasol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol? OAQ(5)0141(HWS)

Rydym wedi parhau i ddiogelu gofal cymdeithasol gyda chyllid sylweddol. Mae £55 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2017-18, ac mae hyn yn cynnwys yr £20 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon. Rydym hefyd wedi darparu £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal integredig.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n hapus i gydnabod yr arian ychwanegol rydych wedi’i neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol. Er hynny, yn ôl fy nghyfrifiad, nid wyf yn credu bod y cyllid canlyniadol Barnett llawn o £2 filiwn y Canghellor ar gyfer gofal cymdeithasol wedi cael ei gynnwys yn eich cyllideb, ond rwyf am adael hynny ar gyfer diwrnod arall. Oherwydd, er gwaethaf y cyllid ychwanegol sylweddol a neilltuwyd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn fy rhanbarth wedi torri £2.2 miliwn oddi ar y gyllideb ar gyfer gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf, wedi’i gynyddu o 0.3 y cant yn unig, neu wedi rhagweld tanwariant o bron i £0.5 miliwn o’i gymharu â’r llynedd. Os daethoch o hyd i arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol oherwydd bod gofal cymdeithasol angen yr arian hwnnw, sut rydych yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ei wario ar ofal cymdeithasol? Rwy’n siŵr y gallwch roi ateb llawer mwy gwybodus na’r ateb diofyn a gefais gan y Prif Weinidog ddoe. Rwy’n credu bod gan bawb ohonom lawer mwy o hyder ynoch chi nag yn Jeremy Corbyn. Diolch.

Wel, fel y byddwch yn gwybod, nid yw’r rhan fwyaf o’r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol wedi’i neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw, felly mae hynny’n rhoi’r rhyddid i awdurdodau lleol wario’r arian hwn yn ôl eu blaenoriaethau eu hunain a’u hanghenion eu hunain y maent wedi’u canfod. Ond mae’n bwysig cydnabod bod gan grantiau penodol rôl i’w chwarae yn sicrhau bod blaenoriaethau newydd yn cael eu hariannu a bod digon o bwys yn cael ei roi arnynt o ran eu darparu. Felly, byddwn yn eich cyfeirio’n arbennig at y cyllid ychwanegol o £10 miliwn a ddarparwn i awdurdodau lleol i oresgyn heriau’r cyflog byw cenedlaethol. Bydd hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol gan ddefnyddio’r fformiwla asesu gwariant safonol, ond bydd hanner y grant ar gael i awdurdodau lleol sy’n ymrwymo i delerau ac amodau’r grant, ac yna bydd yr ail daliad yn amodol ar ein hyder bod y grant yn cyflawni ei amcanion. Felly, mae lleddfu’r pwysau a roddodd y cyflog byw cenedlaethol ar y sector yn hynod o bwysig o ran rhoi gweithlu i ni sy’n gynaliadwy ac sy’n cael ei dalu’n dda, sy’n cael cydnabyddiaeth a pharch a bydd hynny, yn y pen draw, yn arwain at yrfa y bydd pobl eisiau ei dilyn, lle y maent yn gweld dilyniant gyrfa. Yn amlwg, bydd y gwaith y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn bwrw ymlaen ag ef o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen yn bwysig yn hynny o beth, fel y bydd cofrestru gweithwyr gofal cartref o 2020 ymlaen.

Cyflyrau Iechyd Hirdymor

5. Pa wasanaethau cefnogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor anwadal? OAQ(5)0137(HWS)

Mae gennym ystod eang o bolisïau a luniwyd i helpu i gefnogi pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor anwadal i sicrhau bod ansawdd eu bywydau cystal â phosibl cyhyd ag y bo modd.

Diolch. O ystyried tystiolaeth fod y gyfradd hunanladdiad ymysg pobl gyda’r cyflwr niwrolegol enseffalomyelitis myalgig, neu ME, yn fwy na chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fwrw ymlaen â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Awst 2014 y grŵp gorchwyl a gorffen ar ME/syndrom blinder cronig a ffibromyalgia i fynd i’r afael â diffyg gwasanaethau gofal iechyd priodol ar gyfer pobl ag ME?

Nid oes gennyf y manylion penodol i ateb manylion y cwestiwn hwnnw. Rwy’n hapus i ysgrifennu at yr Aelod, a chynnwys Aelodau eraill, i roi manylion iddo mewn perthynas â’r cwestiynau penodol y mae’n eu gofyn.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ME neu’r syndrom blinder cronig cyn Wythnos Ymwybyddiaeth ME ym mis Mai ac i gefnogi gwaith Cymorth ME ym Morgannwg, sy’n cael ei redeg gan un o fy etholwyr. Yr hyn y mae’r ymgyrchwyr yn ei ddweud wrthyf yw y byddent yn hoffi gweld gwell ymwybyddiaeth o’r cyflwr ymhlith meddygon teulu, yn ogystal â diagnosis cyflymach. Maent hefyd yn dweud y byddent yn hoffi cyfleusterau arbenigol yma yng Nghymru, gan fod rhai yn gorfod teithio’n bell i gael cymorth i wella. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i helpu i hybu diagnosis cyflymach, ac a oes unrhyw gynlluniau i greu canolfan arbenigol yng Nghymru?

Nid wyf yn ymwybodol fod gennym gynlluniau i greu canolfan arbenigol yng Nghymru. Mae gennym, fodd bynnag, grŵp gweithredu syndrom blinder cronig a grŵp gweithredu ME sy’n ystyried sut y gallwn wella’r gwasanaeth yma yng Nghymru. Ac unwaith eto, pan fyddaf yn ymateb ar y pwynt cyntaf, rwy’n hapus i roi diweddariad mwy cyffredinol i’r Aelodau ar y pwyntiau a nodwyd gennych hefyd ynglŷn â diagnosis cyflymach a chynlluniau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol.

Gwasanaethau Meddygon Teulu

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu? OAQ(5)0145(HWS)

Rydym yn falch fod y ffigurau cyffredinol yn dangos bod mynediad yn gwella, ond yn cydnabod fod mwy i’w wneud o hyd, gan gynnwys datblygu ffyrdd newydd o gael mynediad at wasanaethau, ac rydym yn gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a byrddau iechyd ar fentrau newydd i wella mynediad at wasanaethau amlbroffesiynol, integredig dan arweiniad meddygon teulu.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond tybed a ydych yn bwriadu gweithio—neu a ydych yn gweithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru? Oherwydd cyhoeddwyd adroddiad gennych yn ddiweddar, wrth gwrs, a oedd yn dwyn y teitl ‘Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn’, ac roedd yn dangos bod llawer gormod o’r boblogaeth hŷn yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad, yn credu bod y gwasanaeth meddygon teulu yn anhyblyg ac yn methu ymateb i’w hanghenion a’u hamgylchiadau unigol, yn methu cydnabod yr anawsterau a wynebant wrth geisio cael mynediad neu lythrennedd TG, neu wrth ddefnyddio dulliau cyfathrebu technoleg gwybodaeth. Felly, rwy’n meddwl tybed beth rydych chi a’ch Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo bod yr un lle y dylent allu cael mynediad ato’n rhwydd yn cael ei gau oddi wrthynt yn araf bach mewn gwirionedd.

Rwy’n cydnabod yr her, ac wrth gwrs, nid pobl hŷn yn unig sy’n wynebu anawsterau rhag cael mynediad at ofal sylfaenol ar brydiau. Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael anawsterau, ond os ydych mewn ardal lle y mae’n her, nid yw’n help i chi wybod mewn gwirionedd fod mynediad yn llawer haws mewn mannau eraill yng Nghymru. O ran manylion adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd yn tynnu sylw at yr argymhellion ac yn nodi fy mod yn disgwyl iddynt ymateb iddynt. Oherwydd yn y ffyrdd newydd o weithio sy’n cael eu datblygu, mae angen bob amser i weithwyr proffesiynol sy’n rhedeg ac yn darparu’r gwasanaeth i’w trafod gyda’u cleifion, fel eu bod yn deall yr hyn y gallant ei ddisgwyl a sut i wneud y defnydd gorau o unrhyw newid yn y system. Oherwydd rwy’n cydnabod bod hwn yn faes sydd angen ei wella, ac mae hynny’n rhan o’n trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain drwy Bwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.

‘Does bosibl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad un o’r ffyrdd eraill o wella mynediad at feddygon teulu yw lleihau beichiau diangen, ac rwyf wedi gweld gwaith aruthrol fferyllwyr cymunedol yn fy etholaeth drosof fy hun, wrth iddynt ymdrin â mân anhwylderau er enghraifft. Felly, tybed pa mor obeithiol ydyw y bydd y cynllun Dewis Fferyllfa, lle y gall cleifion, gyda rhywfaint o wybodaeth, gael mynediad at fferyllfeydd cymunedol i ymdrin â’r pethau a fydd yn tynnu rhywfaint o’r baich oddi ar ysgwyddau meddygon teulu—fel bod gan feddygon teulu fwy o amser i ymdrin â’r math o gleifion y mae Angela Burns newydd fod yn cyfeirio atynt.

Rwy’n optimistaidd at ei gilydd ynglŷn â gallu fferyllfeydd cymunedol i chwarae rhan fwy, yn ogystal â’r fferyllwyr y mae clystyrau yn eu cyflogi eu hunain i helpu gyda mynediad yn eu hardaloedd eu hunain. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi buddsoddi £750,000 ar gyflwyno a darparu platfform TG fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Mae’r broses o’i gyflwyno yn symud yn ei blaen, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn parhau i fod ar y trywydd cywir ar gyfer dros hanner y fferyllfeydd yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i allu cyflwyno’r cynllun Dewis Fferyllfa. Bydd hynny’n golygu y bydd y gallu i fynd at fferyllfa leol i ymgymryd â’r cynllun mân anhwylderau yn gwella’n sylweddol. Dylai hefyd olygu y bydd galw yn cael ei reoli yn llawer mwy priodol, fel y bydd gan bobl sydd â gwir angen gweld meddyg teulu well gobaith o’u gweld, ond hefyd dylai’r meddyg teulu fod â mwy o amser i weld y cleifion hynny wedyn hefyd.

Ar gefn y cwestiwn yna, wrth gwrs, yn naturiol mae’n dal yn rhaid cael meddygon teulu i ddelio â’r problemau yna y gall dim ond meddyg delio â nhw. Ac yr wythnos yma rydym ni wedi clywed bod meddygfa Coelbren yn fy rhanbarth i yn mynd i gau, gan fod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi methu’n deg â ffeindio meddygon teulu i weithio yna, er bod yn trio’n ddyfal ers rhai misoedd. O gofio hynny, felly, beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i ffeindio ateb i’r broblem yma?

Mae’n achos sylwadau a thrafodaeth reolaidd gyda’r proffesiwn a chyda phartneriaid yn ei gylch. Wrth gwrs, yn ddiweddar, bûm yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, yn rhoi tystiolaeth ynglŷn â recriwtio meddygon. Rwy’n edrych ymlaen at ddarparu ffigurau ar lenwi ein lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rwy’n credu bod yr ymgyrch ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw’ wedi cael effaith gadarnhaol iawn. Cawn wybod mwy am hynny hefyd—nid yn unig am y proffil cyfryngau cymdeithasol y mae wedi’i gael, ond gyda llenwi’r lleoedd hynny hefyd mewn gwirionedd. Ond bydd yna her bob amser wrth ailfodelu gofal sylfaenol a deall, lle y ceir y canolfannau hynny ar hyn o bryd, a ddylent barhau i fod y mannau lle rydym yn recriwtio ac yn darparu’r gwasanaeth iddynt yn y dyfodol. Felly, mae’n rhan o’r sgwrs ehangach honno am ailffurfio a diwygio gofal sylfaenol.

Rwyf am ei ddweud eto: mae’r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ond gweithwyr proffesiynol eraill yn ogystal, yn bwysig iawn ar gyfer gwneud hynny. Nid proses o orfodi yw hon. Mae’n broses o drafod, partneriaeth a dysgu am yr hyn sydd eisoes yn gweithio. Dyna pam roedd fy ymweliad â’r prosiect pennu cyfeiriad yng Nghastell-nedd gyda Jeremy Miles a David Rees yn arbennig o bwysig er mwyn gweld sut y mae rhai meddygon teulu eisoes yn byw eu proffes ac yn newid y ffordd y maent yn darparu gofal, gydag ystod ehangach o ofal ar gael. A dweud y gwir, o ran y meddygon teulu eu hunain, maent yn credu ei bod yn ffordd well iddynt weithio ac yn ffordd well i’w cleifion gael mynediad at y gwasanaeth.

Hyrwyddo Ffyrdd Iach o Fyw

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo ffyrdd iach o fyw? OAQ(5)0138(HWS)

Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi ein hymrwymiad i wreiddio byw’n iach ym mhob un o’n rhaglenni ac i gyhoeddi strategaeth ‘iach a gweithgar’. Bydd hyn yn adeiladu ar ein deddfwriaeth, ein rhaglenni, a’n gwaith presennol ar draws y Llywodraeth sy’n anelu at gynorthwyo pobl i wneud dewisiadau iachach.

Diolch i chi am hynny. Rwy’n credu mai’r cam pwysicaf y gellir ei gymryd i wella iechyd pobl Cymru yw hyrwyddo ffordd iach o fyw. Un o lwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe oedd ei raglenni rhoi’r gorau i smygu, gwella deiet, a chynyddu gweithgaredd corfforol. Beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i geisio lleihau cyfraddau smygu, lleihau anweithgarwch, a mynd i’r afael â gordewdra er mwyn gwella iechyd pobl Cymru?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi gweld llwyddiant da o ran lleihau lefelau smygu yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae llai o bobl yn smygu yng Nghymru yn awr nag a fu’n gwneud ers dechrau cadw cofnodion, ond rwy’n credu ei bod yn deg dweud fod gennym beth ffordd i fynd eto. Er mwyn symud tuag at gyrraedd ein targed o 16 y cant erbyn 2020, rydym wedi sefydlu bwrdd strategol rheoli tybaco newydd i gynhyrchu cynllun cyflawni newydd ar reoli tybaco ar gyfer 2017 i 2020 i oruchwylio’r camau hynny. Rwy’n credu ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn cefnogi pobl ifanc i beidio â dechrau smygu yn y lle cyntaf, ac mae gennym y rhaglen Byw Bywyd, a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae honno’n hyfforddi pobl ifanc i siarad â phobl ifanc eraill am fanteision byw bywyd di-fwg, a hefyd y rhaglen Commit to Quit, a drefnir gan Gweithredu ar Smygu ac Iechyd Cymru, sy’n helpu pobl ifanc i roi’r gorau i smygu.

O ran mynd i’r afael â gordewdra, byddwch yn falch o wybod fy mod, yn ein trafodaethau yn ystod Cyfnod 2 Bil iechyd y cyhoedd, wedi cytuno i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 a fydd yn rhwymo Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth er mwyn mynd i’r afael â gordewdra. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, yr ymrwymiad hwnnw i’r strategaeth ‘iach a gweithgar’, sy’n nodi iechyd a llesiant fel un o’n blaenoriaethau, fel y dylai fod, gyda nifer o gynigion felly er mwyn bwrw ymlaen â hynny fel amcan trawslywodraethol.

Mae gennym hefyd rai dulliau sy’n seiliedig ar leoliadau drwy ysgolion a gweithleoedd, a hefyd ein dulliau deddfwriaethol, fel Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a gwaith ymgyrchu megis rhaglen ‘10 Cam i Bwysau Iach’ Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â nifer o ymyriadau lleol ar gyfer atal neu reoli gordewdra, ac rydych wedi cyfeirio at rai ohonynt yn eich ardal eich hun.

Costau Parcio Ceir mewn Ysbytai

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gostau parcio ceir mewn ysbytai yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0150(HWS)

Yng Nghanol De Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r unig safle. Ar draws GIG Cymru, mae tri safle ysbyty sydd â chontractau allanol ar waith tan 2018 ac sy’n codi tâl am barcio. Mae parcio ar bob safle arall yn rhad ac am ddim i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Ie, diolch am yr ateb. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglŷn â’r taliadau, yn enwedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a elwir yn Ysbyty Mynydd Bychan ar lafar. Yn ddiweddar, cafwyd enghraifft o nyrs y codwyd tâl arni er ei bod wedi gadael arwydd yn ffenestr y car yn dweud ei bod yn nyrs gardiaidd ar alwad frys. Felly, efallai fod y wardeniaid wedi bod yn orfrwdfrydig yn eu hagwedd. Deallaf fod y cytundeb yn dod i ben y flwyddyn nesaf. A allai’r Gweinidog roi unrhyw sicrwydd y bydd taliadau parcio yn dod i ben yn Ysbyty Mynydd Bychan pan ddaw’r cytundeb i ben?

Byddant, rydym wedi bod yn gwbl onest y bydd y taliadau hynny’n dod i ben ar ddiwedd y contract. Edrychwch, gyda phob parch, rwy’n credu bod dau fater gwahanol yma, fodd bynnag, ac efallai bod peth drysu rhyngddynt, Llywydd. Mae un yn ymwneud â chodi tâl am lefydd parcio, ac mae’r llall yn ymwneud â pharcio ar y safle. Mae parcio ar y safle wedi bod yn broblem yn y Mynydd Bychan. Mae’n ddefnyddiol i’r holl Aelodau gofio mai rhan o’r rheswm pam y mabwysiadwyd ymagwedd wahanol tuag at barcio mewn mannau eraill ar wahân i barthau parcio a meysydd parcio eu hunain oedd oherwydd bod heriau ynglŷn â’r safle ei hun ac yn wir, bu farw un person, yn ôl pob tebyg, o ganlyniad i barcio mewn man amhriodol ar y safle. Felly, mae angen i ni ystyried y ddau beth gwahanol ar wahân: mae un yn ymwneud â sut y caiff parcio ei reoli yn y Mynydd Bychan, y tu allan i feysydd parcio, ac mae’r llall yn ymwneud â’n hymrwymiad clir i sicrhau parcio am ddim ar bob safle ysbyty erbyn mis Mawrth 2018.

3. 3. Datganiad: Ymateb i Erthygl 50

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar yr ymateb i erthygl 50. Rydw i’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch, Llywydd. Mae Aelodau yn gwybod bod y Prif Weinidog—sef Prif Weinidog y Deyrnas Unedig—wedi, y prynhawn yma, ysgrifennu at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd i ddatgan yn ffurfiol bod y Deyrnas Unedig yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd o dan erthygl 50 o’r cyfamod sydd yn llywodraethu’r Undeb Ewropeaidd. Felly, heddiw yw diwedd y cyfnod o siarad a dechrau’r cyfnod o drafod o ddifrif.

I can say, Llywydd, that I discussed the article 50 letter in general terms with the Prime Minister when we met in Swansea last week. I should be clear, though, that I didn’t see the letter before today and we were not invited to contribute to its drafting. This is unacceptable and is the culmination of a deeply frustrating process in which the devolved administrations have persistently been treated with a lack of respect. It’s all the more regrettable given that the UK Government’s own stated aim was to develop a negotiating framework for the whole of the UK. They have missed that opportunity to give clear expression to that aim.

Llywydd, the Welsh Government believes in the UK as much as the UK Government does, even if our vision is very different to theirs. If the Prime Minister truly believes in the union and in reflecting the wishes of the UK as a whole then she needs to adopt a very different approach. I don’t see how the Prime Minister can claim to negotiate on behalf of the whole of the UK when she disregards the rights of this Welsh Government to speak up for the people of Wales.

Llywydd, however, I have always made clear that the result of the referendum must be respected and the sending of the article 50 letter is the logical consequence of that result. I convened a meeting of the Cabinet earlier this afternoon and, after months of speculation, we can now move forward to the negotiations. Llywydd, in January, the Welsh Government, working with Plaid Cymru, set out in our White Paper ‘Securing Wales’ Future’ a credible, comprehensive and authoritative approach to EU exit. We defined clearly Wales’s priorities for the EU negotiations and did so in a way that works for the whole of the UK. We called for continuing full and unfettered access to the single market. We called for the achievement of greater control of migration through making a clear link to work, while guarding against exploitation of workers, for the replacement of the annual EU funding amount of £680 million with an uplift to the block grant, without any preconditions as to how that’s used. We called for the full respect of the devolution settlement while reforming the UK constitution to make it fit for purpose after EU exit—a subject that I’ve been discussing today with Labour Party colleagues from across the UK. We called for the preservation of the social, employment and environmental protections that have been developed through our membership of the EU, and for transitional arrangements to be put in place to ensure there is no cliff edge for businesses as we transition from the EU towards a new relationship with Europe.

Llywydd, I agree with the Prime Minister that a strong and successful European Union is in Britain’s interest, and that a strong and successful United Kingdom is in Europe’s interest. We need each other, inside the EU or out, and I welcome the Prime Minister’s emphasis on a ‘new deep and special’ relationship with the EU. I have always said that leaving the European Union does not mean leaving Europe. The approach to negotiations should reflect this spirit of mutual interest.

In a letter to us today, the UK Government says it has taken into account our six priorities in formulating its negotiating position, and, despite the huge flaws in the internal UK negotiating process, I believe we can see evidence of this. There is common ground on the single market—we call for ‘full and unfettered access’ while they say

freest and most frictionless trade possible’.

The UK wants to achieve this through a bespoke bilateral free trade agreement with the EU 27. We don’t think this is the only way, or even necessarily the best way, but we recognise that this approach could, in principle, work. The Prime Minister’s letter recognises that World Trade Organization rules represent the default position of the UK in the absence of an agreement. I repeat what I’ve said many times: such an outcome would be a disaster for Wales and, I believe, for the UK as a whole.

Llywydd, I agree, too, with the focus on the UK’s special relationship with Ireland. There is much attention given to retaining the soft land border between the north and the south of Ireland, and we support that priority. But my focus is on Wales’s maritime border with Ireland, especially the ports of Holyhead, Fishguard, and Pembroke Dock. The common travel area with our nearest neighbour is a vital interest for Wales, as it is for Ireland, and the Taoiseach and I agreed this when he came to see me a couple of weeks ago.

Llywydd, two sets of negotiations are, of course, required, as the Prime Minister’s letter references. The first is the treaty-based article 50 exit process. The second is the UK’s forward relationship with the EU. In our view, it is highly unlikely that—given the scale of this work, and even assuming maximum good will on both sides—finalising both agreements within a two-year timespan will prove possible. For that reason, we’ve argued consistently for a transitional period to bridge our changing relationship with Europe. Again, I believe the UK Government has gradually come around to the same view as it increasingly talks—and explicitly so, in fact, in the Prime Minister’s letter—about an implementation period to manage EU exit.

Llywydd, as with any negotiation, there will need to be some willingness on both sides to compromise and agree trade-offs. We are realistic and understand why the Prime Minister cannot at this stage speculate publicly about which trade-offs the Government will be prepared to make as the negotiations progress. But, for our part, we are clear that securing full and unfettered access to the single market must be the UK’s top priority. Anything less than this will be bad for Wales.

Llywydd, let me be clear. We are prepared to work with the UK Government to argue the case for a new, deep and special relationship with the EU, anchored in a comprehensive, broadly based free trade agreement with the EU-27, which provides full and unfettered access, or free and frictionless access if you prefer, to the single market. That is essential for our businesses, our economy, the future prosperity of Wales and, indeed, for the whole of the UK. We will do what we can to advance this cause, here in the UK, in Brussels and with our European partners. I repeat again: it cannot be said often enough that WTO rules would be a disaster for Wales.

Llywydd, as the Cabinet Secretary for Finance and Local Government and I have made abundantly clear, we’ve been severely disappointed and frustrated with the JMC process, through which we’ve arrived at this point, and we continue to press the UK Government to include us directly and fully in the negotiations themselves once the format has been agreed with the European Union. There are many important questions that remain to be resolved here within the UK, of course, especially on finance and our constitutional issues. Wales was promised it would not lose a penny of funding as a result of Brexit and we will hold the UK Government to that promise.

On the constitutional issues, the Prime Minister says we will have more devolved powers after our EU exit and that nothing we currently have will be clawed back. If that proves to be the case, I will welcome that outcome. If not, this Government will oppose vigorously—as, I have no doubt, will others in the Chamber—any attempt to claw back powers or to ensure that powers rest in Whitehall rather than coming straight here from the EU. I will have more to say on that after the White Paper on the great repeal Bill is published tomorrow.

Llywydd, as far as the EU negotiations are concerned, if the UK Government is prepared to work constructively with us, then we are prepared to do everything we can to help. We have a strong reputation within the EU, particularly in the institutions of the EU, as good Europeans. That’s been built up over many years through our high standards of implementation of European programmes, our visibility in Brussels and our active and enthusiastic participation in a wide range of European networks and partnerships. We are prepared to use our reputational capital to help argue the UK’s case for a mutually beneficial future relationship with the European Union.

The UK Government and the Prime Minister in particular now have a heavy responsibility in leading the negotiations. She and the team around her will need to realise that, in negotiating successfully, you need to listen to and respect the views and legitimate interests of your counterparts. But the first job of this Government is to speak up for Wales, and we will do that with vigour and determination. We will not sulk from the sidelines, but step up to the plate and do what we can to deliver the best outcome for our nation of Wales.

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n amlwg yn ddiwrnod hanesyddol—y Prif Weinidog yn sbarduno erthygl 50 sy’n cychwyn y broses negodi ffurfiol ar ôl canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd.

Rwy’n gwrthwynebu eich paragraff sy’n sôn am Lywodraeth Cymru yn cael ei hepgor o’r broses a heb gael ei chynnwys yn y broses negodi. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y Prif Weinidog ei hun wedi ymweld â Chymru bum gwaith, ac mae David Davis ei hun wedi ymgysylltu sawl gwaith â chi, ac eraill yn y Siambr hon, dylwn ychwanegu, fel y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ond pan edrychaf ar yr ymgysylltiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi ceisio’i gael gyda phobl a bleidleisiodd gyda’r mwyafrif ar ôl 23 Mehefin—nid yw ef na’i Lywodraeth wedi ymgysylltu o gwbl ag unrhyw un a bleidleisiodd gyda’r mwyafrif ar 23 Mehefin ac sy’n eistedd ar yr ochr hon i’r Siambr. Ac felly byddai ychydig o gysondeb, rwy’n credu, o fudd i Brif Weinidog Cymru pan fo’n gwneud yr honiadau hyn. Rwy’n gresynu’n arw hefyd at yr iaith a ddefnyddiodd Prif Weinidog Cymru ddoe yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog: na allai weld unrhyw arian yn dod i amaethyddiaeth ar ôl 2020, na chronfeydd strwythurol. Ar ba dystiolaeth rydych chi’n seilio hynny, Brif Weinidog? Neu a ydym i fod i ragdybio mai dyna yw polisi swyddogol y Blaid Lafur a’ch bod yn siarad yn unig am bolisi’r Blaid Lafur?

Mae’r llythyr y mae’r Prif Weinidog wedi’i anfon at y Llywydd ym Mrwsel heddiw yn nodi’r meysydd y mae’n credu y dylai’r trafodaethau fynd i’r afael â hwy yn glir. Ac rwy’n gobeithio y bydd Prif Weinidog Cymru yn croesawu’r meysydd y mae’r Prif Weinidog wedi’u nodi yn ei llythyr, yn enwedig y cyfeiriad penodol at Iwerddon a’r broses heddwch, a’r trafodaethau sylweddol y bydd eu hangen ynghylch hynny, a phwysigrwydd cael trafodaethau cyfochrog a pheidio ag ynysu’r setliad ymwahanu rhag y berthynas barhaus y mae’r DU angen ei datblygu gyda’r UE. Ac rwy’n gobeithio y bydd Prif Weinidog Cymru yn gallu cymeradwyo’r safbwynt hwnnw; ac yn wir, rwy’n gobeithio y bydd yn gallu cefnogi pob un o’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys yn y llythyr y mae’r Prif weinidog wedi’i anfon—a hefyd yr egwyddorion a nododd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House, a oedd yn nodi’n glir y 12 egwyddor allweddol a fydd yn ffurfio sail i’r trafodaethau dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n bwysig fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod parhad yn y neges a pharhad yn y trafodaethau. Rwy’n derbyn hynny’n llwyr, Brif Weinidog, a byddaf yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod hynny’n digwydd. Ac rwy’n credu na ddylid cael—fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn glir—unrhyw fachu pŵer neu fachu cyfraith yn ôl oddi wrth unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig i San Steffan. Ac mae’r Prif Weinidog wedi datgan hynny’n glir, ac yn y pen draw, yn ei llythyr heddiw, mae’n nodi ei bod yn gweld y bydd cyfrifoldebau a phwerau sylweddol yn cael eu trosglwyddo i’r gweinyddiaethau datganoledig.

Yn eich araith heddiw, Brif Weinidog, rydych yn nodi—ac rwy’n credu ei fod yn bwynt perthnasol iawn i’w nodi—gwaith y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, oherwydd mae llawer o waith i’w wneud yn ddomestig—fel y nodais mewn cyfraniadau eraill a wneuthum yn fy areithiau yn y Siambr hon—ynglŷn â sut y bydd y DU yn gweithredu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a sut—a dyma’r model rwy’n ei ffafrio—y bydd fframweithiau’r DU, a fyddai’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer amaethyddiaeth, ar gyfer cronfeydd strwythurol ac ar gyfer ariannu addysg uwch, yn gweithio ar sail gyfartal i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ran o’r DU yn cael ei heffeithio’n anghymesur gan unrhyw newidiadau a allai ddigwydd. Ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Prif Weinidog roi syniad i ni sut y mae’n credu y dylai’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddatblygu yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Oherwydd rwy’n credu bod yna berygl gwirioneddol y byddwn yn colli golwg ar y newid y gallwn ei gyflawni yn y Siambr hon, a’r rôl a fydd gan y Llywodraeth hon, drwy ganolbwyntio gormod ar yr hyn sy’n digwydd ym Mrwsel, a pheidio â chanolbwyntio ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud yma yng Nghymru i sicrhau bod pa bynnag negodiad a chytundeb sy’n codi o’r cyd-drafod hwnnw o fudd i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud hefyd: rwy’n credu bod y Bil diddymu mawr, y Papur Gwyn a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory, yn bwysig iawn. Sylwaf fod y Prif Weinidog yn nodi yn ei ddatganiad heddiw y bydd ganddo lawer mwy i’w ddweud am hwnnw, ond mae’n bwysig, unwaith eto, fod hwnnw’n faes arall y gallem effeithio’n fawr iawn arno o ran sicrhau bod Cymru—wrth drosglwyddo cyfrifoldebau pan fyddant yn dychwelyd o Frwsel—fod y cyfrifoldebau cywir yn dychwelyd i’r sefydliad hwn fel bod difidend cadarnhaol i ddatganoli a difidend cadarnhaol i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr o ran y modd y caiff pwerau a chyfrifoldebau eu hailddosbarthu ar ddiwedd y cyfnod negodi o ddwy flynedd.

Y pwynt arall y mae Prif Weinidog Cymru yn gywir yn ei nodi yw’r ffocws ar drefniadau trosiannol y bydd yn rhaid eu rhoi ar waith, o bosibl, os nad yw’r ddwy flynedd yn ddigon hir i gwblhau’r rhan fwyaf o’r trafodaethau. Pa fath o drefniadau trosiannol y mae’r Prif Weinidog a’i Lywodraeth yn ystyried y gallai fod eu hangen? Mae siarad am drefniadau trosiannol yn un peth, mae deall beth yn union y gallent ei olygu yn beth arall. Ac rwy’n credu, o ystyried bod y Prif Weinidog yn nodi’n glir yn ei llythyr heddiw nad yw hi’n anelu i gael ymagwedd ‘dim cytundeb’—fel y mae’n nodi, mae’n bwysig fod y cytundeb yn cael ei gwblhau, ond cytundeb sy’n deg i’r ddau bartner yn y trafodaethau hyn. Oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â bychanu Ewrop ac ni ddylai ymwneud â bychanu’r DU. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn cadw ein cysylltiadau cryf ag Ewrop fel partneriaid o ran diogelwch, amddiffyn a chyfleoedd economaidd, gan gydnabod y bydd sofraniaeth yn dychwelyd i’r ynysoedd hyn ac y bydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud o fewn yr ynysoedd hyn, ond gan adlewyrchu, yn bwysig, nad yw’r ynysoedd y bydd sofraniaeth yn dychwelyd iddynt yr un fath â’r ynysoedd ym 1972 pan ymunasom â’r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym Lywodraeth ddatganoledig, mae angen i ni gydnabod hynny ac mae’r Prif Weinidog wedi rhoi’r ymrwymiad hwnnw. Ond rwy’n gwneud y pwynt a wneuthum wrth agor fy sylwadau, Brif Weinidog: rwy’n credu bod Llywodraeth y DU yn ddiffuant yn ei hymrwymiad i weithio gyda chi a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mae’n drueni mawr dros yr wyth neu naw mis diwethaf nad ydych wedi dewis gweithio gydag eraill yn y Siambr hon.

Wel, rydym yn bwriadu gweithio gyda Llywodraethau etholedig, wrth gwrs, lle y gallwn. Ond o ran rhai o’r cwestiynau y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi’u gofyn, y broblem—. Mae’n gywir yn dweud bod ymgysylltu wedi bod; rwyf wedi cyfarfod â’r Prif Weinidog ac mae’r ymgysylltiad â David Davis wedi bod yn dda. Rwy’n fwy na pharod i dderbyn hynny. Nid yw wedi bod yn dda yn gyson ar draws Llywodraeth y DU, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae gwahanol ddulliau wedi cael eu mabwysiadu gan wahanol Weinidogion. Yn anffodus, wrth gwrs, o ran y llythyr, nid oeddem yn ymwybodol o’r hyn a oedd yn y llythyr nes iddo gael ei gyhoeddi yn Siambr Tŷ’r Cyffredin. Fel y mae’n digwydd, roeddwn yn credu bod y naws yn gywir o ran y ffordd y cyflwynwyd y llythyr. Mae’n pwysleisio ein bod yn gyd-Ewropeaid; y dylem ddatblygu perthynas ddofn ac arwyddocaol ag Ewrop, a chredaf fod hynny’n gywir.

O ran ffermio, mae’n rhaid i mi ddweud wrtho fod yna leisiau yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dweud, ‘Dim cymorthdaliadau ar ôl 2020’—rwyf wedi’u clywed. Mae yna bobl yn ei blaid ei hun, fel Boris Johnson, sydd o’r farn fod rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn iawn. Dyna dariff o 40 y cant ar yr hyn y mae’n ei gynhyrchu ar ei fferm: llaeth. Nawr, o’i safbwynt ef, ac mae’n un o nifer o ffermwyr, mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu y gall unrhyw fusnes oroesi tariff o 40 y cant ar gynhyrchion llaeth a gweld cymorthdaliadau’n gostwng neu’n diflannu ar yr un pryd. Nid oes gennym unrhyw sicrwydd y tu hwnt i 2020 y bydd unrhyw beth yn bodoli o ran cymorth ariannol i’n ffermwyr. Pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â hynny, byddai’n dweud. Y cyfan sy’n rhaid iddi ddweud yw hyn: y bydd yr un faint o arian ar gael ar gyfer ein ffermwyr o 2020 ymlaen, ac y bydd yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd. Dyna ni. Mae hynny’n datrys y mater. Nid ydynt wedi gwneud hynny. Felly, mae’n hollol iawn i dynnu sylw ein ffermwyr—a dywedodd ffermwyr eu hunain wrthyf dros y penwythnos eu bod yn bryderus iawn y bydd hyn yn arwain at ddiwedd cymorthdaliadau ffermio a £260 miliwn yn cael ei dynnu allan o’r economi wledig.

Rhai o’r materion y mae wedi sôn amdanynt: wel, yn gyntaf oll soniodd am ddatganoli pwerau. Yr hyn nad yw’n glir yw a oes gan Lywodraeth y DU farn bendant ynglŷn â phwy fydd â’r pwerau pan fyddant yn dychwelyd o’r UE. Maent wedi dweud, ar fwy nag un achlysur, y bydd y sefydliad hwn yn cael mwy o bwerau ac na fydd unrhyw ymgais i fachu pwerau presennol yn ôl, ond nid wyf yn credu eu bod yn cynnwys fframweithiau cyfredol yr UE fel pwerau presennol. Dyna’r broblem i ni. Nawr, pe baent yn dweud yfory eu bod yn ystyried efelychu’r fframweithiau presennol sy’n bodoli ym maes amaethyddiaeth a physgodfeydd—wel, mae rhywfaint o rinwedd yn hynny o ran y synnwyr sy’n sail iddo, ond ni fyddem yn derbyn o dan unrhyw amgylchiadau fod ganddynt hawl i wneud hynny heb ganiatâd y Siambr hon, neu gydsyniad, yn wir, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon. Os oes unrhyw fframweithiau o unrhyw fath yn mynd i fod, hyd yn oed os ydynt ond yn ail-greu’r hyn sydd eisoes yn bodoli am y tro, mae’n rhaid i hynny gael ei wneud gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn sy’n cynrychioli pobl Cymru.

A gaf fi droi at y Cyd-bwyllgor Gweinidogion? Nid yw’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn addas i’r diben mwyach. Siop siarad yw’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a dyna a fu ers iddo ddod i fodolaeth. Ni allwn fforddio gadael i hyn barhau. Os ydym am gael marchnad sengl fewnol o fewn y DU—ac mae wedi fy nghlywed yn dweud hyn sawl gwaith—mae’n bwysig fod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn datblygu i fod yn gyngor Gweinidogion lle y caiff fframweithiau cyffredin eu negodi a’u cytuno, a bod pawb yn cymeradwyo hynny. Er enghraifft, os oes gweithdrefn newydd yn mynd i fod mewn perthynas â rheolau cymorth gwladwriaethol ym marchnad fewnol y DU, wel, mae yna synnwyr yn hynny, ond mae’n rhaid iddynt gael eu cytuno. Fel arall, o’n safbwynt ni fel Llywodraeth, ni fyddwn yn teimlo bod unrhyw ddyletswydd arnom i ufuddhau iddynt. Yn ail, wrth gwrs, lle y ceir rheolau mae’n rhaid cael llys i orfodi’r rheolau hynny. Mae’r un peth yn wir yn yr Unol Daleithiau; mae’r un peth yn wir yn y farchnad sengl Ewropeaidd; a byddai’n rhaid i’r un peth fod yn wir ym marchnad sengl y DU yn ogystal.

Nodais yr hyn a ddywedodd ynglŷn â’r cyfrifoldebau cywir yn cael eu datganoli i’r lle hwn. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir: fy marn i yw y bydd unrhyw beth sydd wedi’i ddatganoli yn awr yn dychwelyd yma’n syth o’r UE pan fyddwn yn gadael yr UE. Ni fydd yn mynd drwy Whitehall. Ni fydd yn mynd i Whitehall i benderfynu a ydym yn ei gael ai peidio. Mae hynny’n cynnwys amaethyddiaeth, mae’n cynnwys pysgodfeydd, mae’n cynnwys materion datblygu economaidd rhanbarthol, mae’n cynnwys materion amgylcheddol—mae’r rheini’n faterion sydd wedi’u datganoli. Nid yw ein setliad datganoli yn dweud bod y materion hyn wedi’u datganoli, ac eithrio’r materion y mae’r UE yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd. A byddai hwnnw’n newid sylweddol i’r setliad datganoli, ac yn mynd yn groes i refferendwm 2011. Ac nid wyf yn credu y byddai hynny’n ddemocrataidd, ac ni fyddai’n iawn i bobl Cymru.

Mae trefniadau trosiannol yn hynod o bwysig. Rwy’n falch eu bod wedi cael eu cydnabod. Y gwir plaen yw nad wyf yn credu y bydd unrhyw drafodaethau’n cychwyn cyn yr hydref—mae yna etholiadau yn Ffrainc a’r Almaen. Bydd yn rhaid cytuno ar unrhyw gytundeb erbyn yr hydref nesaf, nid fis Mawrth nesaf. Pam? Oherwydd bod yna broses gadarnhau o fewn yr UE, nid gyda’r Comisiwn yn unig, nid gyda’r Senedd yn unig, ond gyda’r 28, rwy’n credu—mwy na hynny o bosibl—28 o wahanol Seneddau, a byddai angen i bob un ohonynt gadarnhau unrhyw gytuniad newydd, ac mae hynny’n cymryd misoedd. Mae hynny’n golygu, erbyn mis Mawrth 2019, os ydym am osgoi ymyl y clogwyn, byddai’n rhaid cael cytuniad wedi’i gadarnhau’n llawn ar waith. Mae hynny’n annhebygol, byddwn yn awgrymu—yn dra annhebygol, byddwn yn dweud.

Beth yw’r dewis arall? Wel, gallai’r DU fynd yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn y cyfamser. Y tu allan i’r UE, ie, mae hynny’n wir; mae’n gywir dweud yn rhan o’r farchnad sengl, ie; mae’n gywir dweud o fewn awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop o hyd; ac ie, mae’n gywir dweud gyda chyfraniad yn cael ei wneud. Mae’n bodloni canlyniad y refferendwm, ac mae’n ffordd o ddarparu trefniant trosiannol hyd nes y bydd cytundeb masnach rydd yn cael ei gytuno neu fel arall. Rwy’n credu mai dyna yw’r pwynt synhwyrol.

Rwy’n cytuno â’r sylw a wnaeth nad y DU yn 1972—gwladwriaeth unedol, gydag un Llywodraeth—fydd y DU pan fydd yn gadael yr UE, ac mae’n werth cofio hynny. Mae’n werth cofio hefyd fod y DU yn daer am ymuno â’r farchnad gyffredin yn y lle cyntaf, oherwydd bod ei heconomi’n methu. Ac mae’r rhai ohonom sy’n cofio’r 1970au cynnar yn cofio bod economi’r DU mewn llanast go iawn, yn enwedig gweithgynhyrchu, ac roedd hi wedi bod felly ers tua 20 neu 25 mlynedd ar y pwynt hwnnw. Ond mae’n gywir dweud nad yw dychwelyd i’r ffordd yr oedd pethau, cyn 1973, yn opsiwn. Rydym bellach yn bedair gwlad, yn bedair Llywodraeth, ac yn bartneriaeth, yn fy marn i, y mae angen iddi weithio tuag at bwrpas cyffredin. Mae hynny’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU, ac rwy’n croesawu hynny, ond mae’n bwysig gwireddu hynny.

Mae heddiw’n ddiwrnod dwys yn hanes Cymru. Er bod Cymru wedi pleidleisio o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, bwriad Llywodraeth y DU yw mynd â ni allan o’r farchnad sengl Ewropeaidd yn ogystal. Dyma’r bloc economaidd a’r bloc masnachu mwyaf yn y byd. I Gymru, y farchnad sengl honno yw cyrchfan oddeutu 67 y cant o’n hallforion, lefel uwch nag unrhyw ran arall o’r DU. Ac ni fydd bwriad Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb masnach rydd yn ein rhoi yn yr un sefyllfa â Norwy, Gwlad yr Iâ neu’r Swistir. Rwy’n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i drafod datganiad Llywodraeth y DU yn fuan iawn. Bydd yn hanfodol i’r Cynulliad hwn graffu ar y datganiad hwnnw, wrth gwrs, ond mae gennyf rai cwestiynau uniongyrchol yn awr ar farn Llywodraeth Cymru.

Brif Weinidog, mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o fwriadau go iawn Llywodraeth y DU, o’i gymharu â’r geiriau cynnes a gawsom gan y Llywodraeth yn gynharach heddiw. Maent yn cyfaddef y bydd y DU yn colli dylanwad dros yr economi Ewropeaidd. Maent yn sôn am sicrhau’r fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau, ond maent yn cyfaddef na fydd hyn yn aelodaeth o’r farchnad sengl—ni fydd yn cydymffurfio â’r pedwar rhyddid—ac felly, gallai arwain at dariffau. Hoffwn wybod beth yw safbwynt y Llywodraeth Lafur ar hyn, os gwelwch yn dda. A ydych yn credu y gall cytundeb masnach rydd arwain at barhau ein cyfranogiad yn y farchnad sengl? A ydych yn rhagweld tariffau, ac os felly, pa sectorau a fyddai fwyaf mewn perygl yn eich barn chi? Beth y mae sbarduno erthygl 50 heddiw yn ei olygu i Airbus, i Toyota, i weithgynhyrchu yn gyffredinol?

Rwyf am droi yn awr at ddyfodol y Cynulliad hwn, a dyfodol y genedl hon. Ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff heddiw ynglŷn â rhybudd erthygl 50. Nid yw’n cyflawni dymuniad Llywodraeth yr Alban, na Llywodraeth Cymru yn fy marn i. Yn sicr nid yw’n bodloni Plaid Cymru. Mae iaith Llywodraeth y DU yn dynodi eu bod yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y pwerau datganoledig. Mae unrhyw un sy’n derbyn hynny’n ddigwestiwn yn colli golwg ar realiti. Llywodraeth y DU, drwy ddiffiniad, sydd mewn grym. Mae cydbwysedd pwerau yn y DU o fewn eu cylch gorchwyl, ac nid oes rhaid iddo gael ei negodi gyda sefydliadau’r UE. Dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi gwarantau i ni, nid disgwyliadau. Brif Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynnydd o’r fath yn y pwerau y bydd eu hangen arnom i ddiogelu a hybu ein heconomi wrth i Brexit digwydd? A yw hi bellach yn bryd cyflwyno’r achos dros Fil Cymru newydd, Bil Cymru sy’n addas at y diben mewn gwirionedd?

Nid oedd datganiad Llywodraeth y DU ar erthygl 50 yn cynnwys unrhyw sôn am amaethyddiaeth neu’r amgylchedd. Hyd at 2020 yn unig y mae cyllid yr UE yn cael ei warantu, sy’n golygu bod angen inni sicrhau’r trefniadau newydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Brif Weinidog, fe ddywedoch mewn ymateb i fy nghwestiynau ddoe y gallai cymorthdaliadau amaethyddol ddiflannu. Mae’r angen am sicrwydd yn daer bellach. Ni fydd Plaid Cymru yn derbyn unrhyw golli cyllid amaethyddol o ganlyniad i Brexit. Rydym wedi dweud yn glir y dylai Cymru gael yr un arian ac y dylem gael rheolaeth lawn dros bolisi ynglŷn â sut y caiff ei ddyrannu. A ydych yn barod i ymladd am y cyllid hwnnw yn y cyfnod sydd i ddod, Brif Weinidog?

Gan droi at y trafodaethau eu hunain, mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn ymgynghori â’r Llywodraethau datganoledig. Nid wyf wedi cael fy llenwi â hyder ynglŷn â’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio’r ymgynghoriad sydd wedi digwydd hyd yn hyn. Heddiw, clywsom siarad am y Deyrnas Unedig yn negodi â’r UE fel un wladwriaeth, ond mae dwy flynedd o’n blaenau yn awr sy’n mynd i fod yn allweddol i ddyfodol Cymru. Rydych yn dweud yn eich datganiad fod heddiw’n ddechrau ar negodi o ddifrif. O gofio eich bod yn siomedig ac yn rhwystredig gyda phroses y cyd-bwyllgor gweinidogion, sut y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn awr? Rydych wedi dweud na fyddwch yn pwdu ar y cyrion, felly sut rydych yn mynd i roi budd cenedlaethol Cymru ar yr agenda? Ac o ystyried na welsoch y llythyr hwnnw ymlaen llaw, ac na chawsoch unrhyw gyfle i gyfrannu ato, a allwch ddweud yn onest fod y Prif Weinidog wedi gwrando arnoch hyd at y pwynt hwn? Rydych yn honni eich bod yn gweld tystiolaeth o symud, ond Brif Weinidog, i ni, nid yw’n edrych fel pe bai yna fawr o symud wedi bod.

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi gofyn nifer o gwestiynau i mi. Yn gyntaf oll, un o eironïau’r ddadl a glywais gan y Prif Weinidog yw na ddylai refferendwm yr Alban ddigwydd am nad yw pobl yn gwybod yn iawn am beth y byddant yn pleidleisio. Wel, dyna’n union a ddigwyddodd y llynedd. Gofynnwyd i bobl a ddylem fod yn aelodau o’r UE, ond wrth gwrs, nid yw’r manylion a’r manion yn hysbys. Nid ydym yn gwybod beth yw barn pobl am y farchnad sengl, neu a ddylem fod yn yr undeb tollau ai peidio, neu eu safbwyntiau ar fewnfudo yn arbennig. Gallwn ddyfalu beth oedd rhai pobl yn meddwl am y peth, wrth gwrs—clywsom hynny ein hunain. Ond y broblem yw mai nawr yw’r amser i roi’r manylion, er mai fy ngobaith yw bod y pragmatyddion yn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd â’r llaw uchaf ar y cenedlaetholwyr, ac y bydd synnwyr yn drech. Gwrandewais yn astud ar gyfweliad Phillip Hammond y bore yma ar Radio 4. Roedd yn gyfweliad diddorol. Siaradodd am—. Roedd yn agored am yr heriau i’r DU. Clywsoch y Prif Weinidog yn dweud heddiw nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl yn opsiwn. Wel, bydd hi a minnau’n gwybod—rydym wedi cael y ddadl hon. Efallai ei bod yn ddadl semantig, ond serch hynny, mae’n ddadl, ynglŷn ag a yw cyfranogiad yr un peth ag aelodaeth. Ond roeddwn yn meddwl bod defnydd y Prif Weinidog o’r geiriau ‘diystyru aelodaeth, heb ddiystyru cyfranogiad’, yn ddiddorol, ond bydd rhaid i ni aros i weld. Efallai nad yw Cremlinoleg neu Whitehalloleg ond yn mynd â chi ran o’r ffordd.

O ran mewnfudo—eto, rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, a chroesawaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog heddiw ynglŷn â pha mor bwysig yw mewnfudo, yn enwedig, wrth gwrs, sicrhau bod pobl yn gallu dod i’r DU a defnyddio eu sgiliau. Ac fel y dywedais o’r blaen, ni fydd unrhyw reolaeth dros fewnfudo. Nid oedd hynny byth yn mynd i ddigwydd—myth oedd hynny o’r cychwyn, oherwydd y ffin agored gyda Gweriniaeth Iwerddon. Ni allwch reoli eich mewnfudo os oes gennych ffin agored. Mae’n ocsimoron drwy ddiffiniad.

O ran y cytundeb masnach rydd, y broblem gyda chytundeb masnach rydd yn fy marn i, os edrychwch ar gytundebau masnach rydd ar draws y byd, yw eu bod bron bob amser yn eithrio bwyd, amaethyddiaeth a physgodfeydd. Maent bob amser y tu allan i’r cytundeb, ac maent, felly, yn amodol ar dariffau. A fy mhryder mawr yw ein bod yn cael rhyw fath o gytundeb â’r UE yn y pen draw sy’n eithrio amaethyddiaeth a physgodfeydd, lle y caiff tariffau eu gosod. Mae yna beryglon eraill o gael cytundebau masnach rydd gydag Awstralia neu Seland Newydd er enghraifft. Nid ydynt o fudd i Gymru o gwbl. Mae disodli marchnad o 500 miliwn gan farchnad o 4.8 miliwn yn Seland Newydd, a chaniatáu i gig oen o Seland Newydd lifo’n ddirwystr i mewn i Gymru ar yr un pryd yn wych i Seland Newydd, ond yn wael iawn i Gymru, a byddem yn gwrthwynebu i’r carn unrhyw gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd neu Awstralia, neu unrhyw wlad arall sy’n bygwth ein diwydiant ffermio.

O ran yr effaith ar Airbus a Toyota, mae’r sefydliadau hynny’n poeni am ddau beth. Yn gyntaf oll, tariffau—sy’n cynyddu eu costau, ond yn ail, wrth gwrs, eu gallu i symud gweithwyr o gwmpas. Mae’n llythrennol wir fod Airbus angen symud pobl o Frychdyn i Toulouse o fewn diwrnod. Nid ydynt eisiau chwarae o gwmpas gyda fisas a cheisio ymdrin â’r gwaith papur. Bydd hynny’n anochel yn golygu bod Brychdyn dan anfantais yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rhaid gallu symud pobl o gwmpas o fewn diwrnod neu ddau fel y gallant weithio mewn gwlad arall neu o fewn yr Undeb Ewropeaidd heb fod angen mynd drwy waith papur diangen.

Wel, o ran pwerau datganoledig, ni allaf ond darllen yr hyn a welais hyd yn hyn. Wrth ei flas y bydd profi’r pwdin, wrth gwrs. Bydd rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd o ran pwerau datganoledig yn y dyfodol.

Credaf mai un o’r ystyriaethau sy’n rhaid i’r DU fod yn wyliadwrus ohoni hefyd yw bod yr UE mewn gwirionedd yn, neu wedi dod yn rhan o’r glud a oedd yn dal y DU at ei gilydd. Heb hynny, mae’n hynod o bwysig ailstrwythuro’r DU er mwyn iddi fod yn gadarn yn y dyfodol. Yn achos Gogledd Iwerddon, er enghraifft—roedd yr unig hunaniaeth yr oedd pobl yn ei rhannu yng Ngogledd Iwerddon yn un Ewropeaidd. Y tu hwnt i hynny, nid oes ganddynt unrhyw beth yn gyffredin o ran hunaniaeth. Rhaid i ni fod yn ofalus, felly, nad yw Gogledd Iwerddon yn rhythu, neu’n syllu’n ôl ar yr hyn a ddigwyddodd o’r blaen. Nid oes angen i hynny ddigwydd, ond mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny.

Bil Cymru—mae’n rhaid cael Bil Cymru arall. Hynny yw, mae’r un sydd gennym yn awr yn rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ond mae’n bell o fod yn gynaliadwy—fe wyddom hynny. Nid yw materion megis plismona, awdurdodaeth a tholl teithwyr awyr, i enwi tri mater yn unig, wedi cael eu datrys—mae angen iddynt gael eu datrys. Nid oes unrhyw reswm pam, yn y dyfodol, y dylai Cymru gael ei thrin mewn ffordd eilradd o gymharu â’r Alban.

O ran cymorthdaliadau, mae’r materion a grybwyllais eisoes yn bwysig, hynny yw bod angen i ni weld sicrwydd y tu hwnt i 2020. Mae angen i ni weld y dyraniad wedi’i neilltuo ar lefel y DU a’n bod yn cael ein dyraniad yng Nghymru wedyn wrth gwrs. Ni ellir ei roi drwy fformiwla Barnett, neu fel arall, byddwn yn cael toriad enfawr drwy Barnett; ni all ddod â llinynnau ynghlwm wrtho ychwaith. Ar bob cyfrif, gallwn negodi a chytuno ar fframwaith cyffredin—iawn, ond drwy negodi ac nid drwy orfodaeth. Ond rwy’n pryderu mai’r hyn a allai ddigwydd i’r arian hwnnw yw y bydd yn glynu at fysedd yn Whitehall yn hytrach na dod i Gymru ar hyn o bryd.

Y mater arall sy’n fy mhoeni am ffermio yw hyn: ers blynyddoedd, mae cymorthdaliadau amaethyddol wedi bod y tu allan i broses y gyllideb arferol. Credaf fod angen clustnodi cymorthdaliadau amaethyddol, a’r pedair gwlad i gytuno ar yr arian sydd i’w glustnodi, neu fel arall, bob blwyddyn yn y Siambr hon, bydd dadlau ynglŷn ag a yw ffermwyr yn cael mwy o arian neu’r gwasanaeth iechyd yn cael mwy o arian. Nid wyf yn credu bod hynny er lles amaethyddiaeth, i fod yn onest. Rwy’n credu y dylid ei dynnu allan o’r arena honno.

O ran negodi, fel y dywedais o’r blaen, nid yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn addas at y diben. Os yw’r DU yn mynd i oroesi, mae’n rhaid iddi addasu. Fe all addasu, ond mae hynny’n golygu cyngor Gweinidogion priodol gyda phroses briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau a phroses ddatrys anghydfodau sy’n annibynnol, oherwydd sut arall y gallai unrhyw un ohonom gael ffydd ynddo os yw’n parhau â’r sefyllfa bresennol, lle y caiff unrhyw anghydfod rhyngom a Thrysorlys y DU ei ddatrys gan Drysorlys y DU? Prin fod honno’n system annibynnol a diduedd ar gyfer ymdrin ag anghydfod. Bydd yfory yn rhoi mwy o syniad i ni o’r cyfeiriad teithio ac wrth gwrs, yn ystod yr wythnos nesaf, rwy’n siŵr y bydd digon o gyfle, fel y dylai fod, i edrych yn ofalus iawn ar y materion sy’n codi yn ystod y dyddiau nesaf.

Rwy’n gresynu bod y Prif Weinidog, unwaith eto, wedi methu â chodi i lefel y digwyddiadau? Onid yw’n gweld bod heddiw mewn gwirionedd yn ddiwrnod gwych i’r Deyrnas Unedig, ac yn ddiwrnod gwych i Gymru, am mai’r hyn a welwn yma yw dechrau proses o adfer hunanlywodraeth ddemocrataidd i Gynulliadau fel hwn, lle y bydd gennym Weinidogion sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cael eu dwyn i gyfrif amdanynt, ac os nad ydym yn hoffi’r hyn a wnânt, gallwn bleidleisio yn eu herbyn? Ceir braint hefyd i bobl ar sail reolaidd ar ffurf etholiadau. Felly, onid yw hynny’n fantais ddiamwys i’r wlad hon? Wrth gwrs, nid wyf yn disgwyl i’r blaid ranbarthol gyferbyn—y blaid ranbarthol Ewropeaidd, sef yr esgus o genedlaetholwyr Cymreig gyferbyn, ddeall hynny. Byddai’n llawer gwell ganddynt i ni gael ein llywodraethu o Frwsel nag o Gaerdydd. ‘Does bosibl na ddylai Llywodraeth Lafur Cymru fabwysiadu safbwynt mwy synhwyrol.

Un o’r rhesymau—os yw hyn yn wir—pam nad yw’r Prif Weinidog wedi gwrando ar Brif Weinidog Cymru, yn ddiau, yw oherwydd ei fod yn dal i ailymladd ymgyrch y refferendwm ac ef yw llais gofid a gwae. Mae’n gwneud i Gordon Brown edrych yn wirioneddol siriol mewn cymhariaeth. Nid yw’n gweld unrhyw gyfleoedd ac mae’n gweld yr holl broblemau posibl. Mae Nicola Sturgeon yn defnyddio’r broses ar gyfer gosod ei stondin yn wleidyddol ar gyfer refferendwm nad yw mo’i heisiau mewn gwirionedd am ei bod yn gwybod y bydd yn ei cholli. Yn sicr, os ydym am chwarae rhan lawn yn y broses o negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r dyfodol ar ôl i ni adael yr UE, yr amser i wneud hynny, ar sail gadarnhaol, yw nawr, ac nid rhefru’n gyson am yr agweddau negyddol a’r ansicrwydd sy’n bodoli, doed a ddel.

Fel y nododd arweinydd y Ceidwadwyr, mae wyneb gan y Prif Weinidog i gwyno nad yw’n cael rhan yn y broses ag yntau mor bendant ei wrthwynebiad i gynnwys pleidiau eraill ar wahân i Blaid Cymru yn y broses o negodi safbwynt cyffredin y gallai Cymru ei arddel o ran y DU.

O ran mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, i’r graddau y mae hynny’n golygu masnach rydd, mae’n gwybod bod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i geisio sicrhau’r nod hwnnw, a byddai sicrhau hynny’n fuddiol i’r ddwy ochr—yr UE a’r DU. Mae gennym ddiffyg masnach enfawr o £60 biliwn y flwyddyn gyda’r UE. O ran ceir yn unig, mae gennym ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn gyda’r Almaen, felly mae gennym destun bargeinio enfawr yn ein dwylo yn y broses negodi, ond eto i gyd y cyfan y gall y Prif Weinidog ei ddweud yw na fyddwn yn gallu gwerthu unrhyw geir am y gallai fod tariff o 10 y cant ar geir o bosibl. Wel, rydym eisoes wedi gweld gostyngiad o 18 y cant yng ngwerth y bunt yn y 12 mis diwethaf beth bynnag, sy’n mwy na gwneud iawn am hynny o’i gymharu â lle roeddem y tro diwethaf.

Wrth gwrs fe fydd yna broblemau i amaethyddiaeth yn y ffordd y mae’n disgrifio, ond bydd o fewn ein cymhwysedd yma yn y lle hwn i benderfynu sut i ymdrin â’r problemau hynny. Fe fydd yn arweinydd gweinyddiaeth a fydd â rheolaeth lwyr dros amaethyddiaeth o ganlyniad i adael yr UE, ac rwy’n cytuno’n llwyr ag ef—rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt a wnaeth—y dylid dychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd ar unwaith lle y bo hynny’n briodol o dan y setliad datganoli sydd gennym eisoes, ac na ddylai fod unrhyw rwystr yn Whitehall neu San Steffan yn y cyfamser.

O ran proses bontio sy’n para mwy na dwy flynedd, bydd llawer o bobl yn gweld hynny fel ystryw amlwg i geisio ein cadw yn yr UE yn hwy hyd yn oed na’r broses a bennwyd o dan gytundeb Lisbon. Ni ddylai fod unrhyw bosibilrwydd o gwbl o ymestyn y broses negodi, oherwydd gallai Deddf Parkinson ddod yn weithredol wedyn, lle y mae’r gwaith yn ehangu i lenwi’r amser sydd ar gael, a bydd cyfnod diddiwedd o amser yn golygu ymestyn yr amser y byddwn yn parhau i fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn ddiddiwedd.

Mae digon o amser yn awr i Lywodraeth Lafur Cymru ddatblygu llinellau polisi y byddent yn hoffi eu gweld. Er enghraifft, mewn amaethyddiaeth, pa fath o drefn cymhorthdal yr hoffem ei chael yng Nghymru ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Bydd hynny’n rhywbeth a fydd o fewn ei reolaeth yn gyfan gwbl. Rwy’n cytuno ag ef fod angen i ni roi trefn ar gyllido polisïau yn y dyfodol, ac rwy’n cytuno gyda Phlaid Cymru a’r Llywodraeth y dylem gael pob ceiniog a ddaeth drwy Frwsel—holl arian trethdalwyr Prydeinig beth bynnag. Dylai pob ceiniog o hwnnw ddod i Gymru, boed ar gyfer cymorth amaethyddol, cronfeydd strwythurol neu beth bynnag, ac yna dylai Llywodraeth Lafur Cymru osod ei blaenoriaethau ei hun yng ngoleuni hynny. Gall pobl Cymru ffurfio’u barn eu hunain ynglŷn ag a yw’r blaenoriaethau hynny’n gywir ai peidio adeg etholiadau nesaf y Cynulliad.

O ran y cyfansoddiad, unwaith eto rwy’n cytuno’n llwyr ag ef na ddylid tanseilio’r setliad datganoli mewn unrhyw ffordd. Ond yr hyn sy’n digwydd yn awr drwy sbarduno erthygl 50 yw ein bod mewn gwirionedd yn gwella’r setliad datganoli—mewn gwirionedd rydym yn gwella pwerau’r Cynulliad hwn ac yn gwella pŵer Gweinidogion Cymru i lywodraethu ein hunain mewn ffordd—. Dyma baradocs sefyllfa’r cenedlaetholwyr honedig, wrth gwrs: nid ydynt am gael sefydliadau democrataidd megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu beth fydd ein polisi amgylcheddol, beth fydd ein polisi amaethyddol a chymaint o feysydd polisi eraill sydd ar hyn o bryd yn eiddo i’r Undeb Ewropeaidd.

Felly, rwy’n dweud wrth y Prif Weinidog: codwch eich calon. Dyma gyfle gwych i ni, yn ogystal â her. Wrth gwrs, mae yna heriau a chyfleoedd mewn bywyd yn gyffredinol, ond yn sicr mae’r cyfle i ffurfio cytundebau masnach rydd â’r 85 y cant o’r economi fyd-eang sydd y tu allan i’r yr UE—. O ystyried bod yr Unol Daleithiau yn mynd â 22 y cant o allforion Cymru, er enghraifft, onid oes cyfle gwych yno i gymryd rhan yn y broses o negodi cytundebau masnach rydd er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y DU, wrth drafod ar ein rhan mewn gwladwriaeth unedol i’r graddau ein bod yn dal i fod yn un, yn rhoi sylw llawn i fuddiannau Cymru? Maent yn annhebygol o wneud hynny os yw ef yn parhau â’r alarnad enbyd o ofid a gwae a gawn yn rheolaidd, ddydd ar ôl dydd, yng Nghymru. Roedd wrthi ddoe yn ystod y cwestiynau, a heddiw: ‘Bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn drychineb i Gymru.’ Wel, mae’r tariff cyfartalog o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd oddeutu 3.5 y cant. Rhaid cyfaddef, byddent yn uwch ar gyfer rhai sectorau sy’n bwysig i Gymru, megis y sector modurol ac amaethyddiaeth nad ydynt, yn gyffredinol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn destun cytundeb mewn cytundebau masnach rydd. Ond yn sicr, y cyfle a ddaw o fod yn gadarnhaol yn hytrach na negyddol yw chwarae rhan go iawn yn y broses o drafod â Llywodraeth y DU ac os yw ef yn parhau fel y mae wedi bod yn ei wneud, yna bydd yn parhau i gael ei anwybyddu.

Wel, rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP: mae’n disgrifio’r diwrnod fel diwrnod dychweliad hunanlywodraeth democrataidd; os yw’r Alban yn pleidleisio dros ‘adael’ mewn refferendwm, tybed a fyddai’n dweud hynny am yr Alban. Ond mae’n bwynt rhyfedd i’w wneud yn hynny o beth.

Nid yw’r DU erioed wedi colli ei sofraniaeth. Mae bob amser wedi cadw ei sofraniaeth. Mae’n wladwriaeth sofran, ac mae’n dal i rannu ei—. Bydd bob amser yn rhannu ei sofraniaeth. Mae’n aelod o sefydliadau cenedlaethol sy’n sefydliadau amlwladol lle y caiff sofraniaeth ei rhannu gyda’r sefydliadau hynny, fel arall ni fyddech byth yn cael unrhyw gytuniadau, ni fyddech yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig, ac ni fyddech yn aelod o unrhyw sefydliadau uwch-genedlaethol. Ffolineb llwyr yw awgrymu bod y DU neu unrhyw wladwriaeth arall, o ran yr enghraifft honno, mewn unrhyw ffordd yn gyfan gwbl sofran yn ystyr glasurol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ceir peth eironi—ac rwy’n gwybod bod hyn wedi digio Aelodau Plaid Cymru, ond achosodd rywfaint o ddifyrrwch i mi—ond ni chredais erioed y byddwn yn gweld y dydd pan fyddai UKIP yn cyhuddo Plaid Cymru o beidio â bod yn ddigon Cymreig neu’n ddigon cenedlaetholgar. O ystyried bod UKIP bum mlynedd yn ôl yn blaid a oedd yn gadarn wrth-Gymreig ac yn gadarn wrth-ddatganoli, mae rhywfaint o eironi yn hynny onid oes? Mae pethau wedi newid yn wir. Nid oes amheuaeth am hynny.

O ran ailymladd yr ymgyrch, mae’r ymgyrch ar ben; y llynedd oedd hynny. Mae hwn yn gwestiwn ynglŷn â beth a wnawn nesaf. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP nad wyf wedi clywed unrhyw beth adeiladol ganddo o gwbl. Rydym wedi derbyn y canlyniad. Rydym wedi cyflwyno cynigion pendant. Rydym wedi cyflwyno Papur Gwyn. Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer llywodraethu’r DU yn fewnol. Yr hyn a gaf ganddo yw, ‘Bydd popeth yn iawn.’ Dim cynigion pendant o gwbl. Edrychaf ymlaen at eu gweld pan, ac os dônt i ben â’u cynhyrchu yn UKIP—os gallant gytuno â’i gilydd, hynny yw.

Y peth arall sy’n rhaid i mi ei ddweud wrtho yw fy mod yn anghytuno’n sylfaenol ag ef y bydd cytundeb masnach rydd yn cwmpasu popeth. Ni fydd yn gwneud hynny. Mae’n rhaid ei fod yn deall, ‘does bosibl, fod Cyngor Gweinidogion Ewrop yn cynrychioli 27 o wledydd gwahanol. Bydd y broses gadarnhau ar gyfer unrhyw gytundeb yn galw am gadarnhad seneddau cenedlaethol ac yn wir, rhai rhanbarthol, yn enwedig yng Ngwlad Belg. Fodd bynnag, nid yw’r broses gadarnhau yn cynnwys BMW a Mercedes-Benz, nad oes ganddynt sedd ar fwrdd Cyngor Gweinidogion Ewrop ac ni fydd yn cael cyfle i ddylanwadu ar yr hyn y mae’r Undeb Ewropeaidd cyfan yn ei wneud o ran ei drefniadau masnach terfynol.

O ran tariffau, gallaf ddweud wrtho mai’r tariff cyfartalog yw 5.5 y cant. Mae cannoedd ohonynt: mae tariffau ar hetiau ac ymbarelau. Ond yn fwy difrifol, mae tariffau ar gydrannau modurol ac awyrennau ac mae’r tariffau trymaf ar fwyd, yn drymaf ar fwyd, yn enwedig cynnyrch llaeth. Ni allaf gredu ei fod o’r farn mai’r ateb i osod tariffau a’u heffaith yw gostwng gwerth arian. Cadw’r bunt yn isel, ei gwneud yn ddrud dros ben i ni fewnforio nwyddau, gwthio chwyddiant drwy’r to, ond mae hynny’n iawn oherwydd bydd yn gwrthbwyso tariffau. Nid yw hwnnw’n bolisi economaidd cadarn a chynaliadwy.

O ran Sefydliad Masnach y Byd, unwaith eto, mae’n ymddangos ei fod yn meddwl bod chwalu rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn beth da. Nid oes ond 60 miliwn o bobl yn y DU. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn farchnad lawer iawn yn fwy o faint. Cawn ein brifo’n fawr gan y tariffau a osodir. Bydd ein cynhyrchwyr yn gweld bod eu nwyddau’n ddrutach. Ar wahân i’r rhwystr ariannol, ceir rhwystr seicolegol. Pe baech yn fuddsoddwr o economi fawr arall, pam y byddech yn buddsoddi mewn gwlad lle roedd rhwystr tariff ar waith rhwng un o’ch ffatrïoedd a’r llall? Mae’n amlwg nad yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’r diwydiant modurol yn dweud hynny wrthym, mae’r diwydiant awyrennau yn dweud hynny wrthym. Tybed â phwy y mae’n siarad pan fydd yn ystyried safbwyntiau pobl.

Rwy’n edrych ymlaen at y £350 miliwn yr wythnos a fydd yn cael ei wario yn awr ar y GIG ar draws y DU. Mae hynny wedi cael ei anghofio’n llwyr, ac yn gyfleus. Mae’n fy atgoffa o rywun sy’n rhan o grŵp o bobl a daflodd fricsen drwy ffenestr ac sydd bellach yn beirniadu’r bobl sy’n ceisio rhoi’r ffenestr yn ôl at ei gilydd eto drwy ddweud na chafodd y ffenestr ei thorri yn y lle cyntaf neu ein bod yn ei rhoi’n ôl at ei gilydd yn y ffordd anghywir, neu mae rhai o’i blaid hyd yn oed yn dadlau na wnaethant daflu’r fricsen drwy’r ffenestr yn y lle cyntaf. Y realiti yw bod rhai ohonom yn ceisio symud ymlaen, mae rhai ohonom yn ceisio sicrhau bod gan y DU ddyfodol y tu allan i’r UE, nad yw Cymru yn cael ei niweidio o ganlyniad i adael yr UE, ond nid yw ei blaid wedi cyflwyno unrhyw gynigion o gwbl—dim cynigion o gwbl. Hyd yn oed ddoe—mae hon yn un dda—roedd yna daflen yn dweud y byddai pysgotwyr yn y DU yn cael mynediad i barth pysgota 200 milltir. Rhag ofn nad yw wedi sylwi, mae’r DU o fewn 200 milltir i wledydd eraill yr holl ffordd o gwmpas y DU. Nid oes parth pysgota 200 milltir. Nid yw hwnnw ond yn bodoli os oes gennych fwlch o 200 milltir rhyngoch chi a gwlad arall, ac nid yw’n bodoli yn achos y DU. Rhaid i mi ddweud, mae’r nonsens yn dal i barhau gydag UKIP, ond rwy’n cynnig cyfle iddo gyflwyno rhywbeth synhwyrol a chadarn yn ystod yr wythnosau nesaf i ni allu ei drafod a’i archwilio.

A gaf fi ofyn un cwestiwn syml iawn yn seiliedig ar y cyfraniadau eisoes gan lefarwyr y gwrthbleidiau? A yw’r Prif Weinidog wedi rhoi unrhyw warant o gwbl ar gyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig hyd at 2020, ac y byddai’r cyllid hwnnw’n cael ei basio ar gyfer Cymru? A fy ail gwestiwn yw hwn: mewn ymateb i’r sylwadau yr wythnos diwethaf gan un o’r prif ymgyrchwyr o blaid ‘gadael’—sydd bellach yn rhywfaint o alltud ei hun, sef Michael Gove—fod hwn yn awr yn gyfle i leihau neu gael gwared yn llwyr ar gyfarwyddebau cynefinoedd a bywyd gwyllt Ewropeaidd—a chan gofio goblygiadau hynny i Gymru, heb sôn am gydlyniad ecolegol rhwydweithiau o amgylch y DU a’r UE—beth yw ei farn ar y syniad fod hwn yn awr yn gyfle i gymryd rhan mewn ras i’r gwaelod o ran safonau amgylcheddol?

Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod gwarantau ar waith tan 2020, ond nid y tu hwnt i hynny. Dyna’r broblem. Y tu hwnt i hynny, nid oes sicrwydd o un geiniog a dyna pam y mae angen sicrwydd o ran hynny. Mae Michael Gove, yn anffodus, yn cynrychioli rhan o’r Blaid Geidwadol sy’n frwdfrydig dros lywodraeth leiafsymiol. Byddent yn eistedd yn eithaf hapus ar asgell dde’r blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau, rwy’n amau. Maent yn gweld pethau fel diogelu’r amgylchedd fel baich ar fusnes. Gallaf ddweud mewn perthynas â’r gyfarwyddeb cynefinoedd, er enghraifft, mai mater i’r sefydliad hwn yn llwyr fydd penderfynu beth y mae’n dymuno ei wneud o ran rheoleiddio amgylcheddol yn y dyfodol. Ond gallaf yn sicr warantu, er gwaethaf barn Michael Gove, mai’r hyn na fyddwn yn ei wneud yw dychwelyd at ddyddiau lefelau llygredd uchel yn ein hafonydd a gwneud Cymru yn lle llai gwyrdd a deniadol na’r hyn ydyw yn awr.

Mae ein hamser ar y datganiad hwn wedi dod i ben. Mae gennyf lawer o siaradwyr yn dal heb eu galw. Fe alwaf am rai cyfraniadau pellach ar yr amod eu bod yn addo bod yn fyr ac yn gryno. David Melding, gosodwch y naws.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, dywedodd llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Markku Markkula, y byddai Pwyllgor y Rhanbarthau yn rhoi darlun i brif negodwr yr UE, Mr Barnier, o’r sefyllfa sy’n datblygu ar lefel ranbarthol. Dywedodd Mr Markkula hefyd mewn dadl ym Mhwyllgor y Rhanbarthau yr wythnos diwethaf, ac rwy’n dyfynnu,

rhaid i ni weithio i ddiogelu cysylltiadau hirsefydlog rhwng awdurdodau rhanbarthol a lleol yn yr UE a’r DU.

Mae’n ymddangos i mi fod hyn yn mynd i gyfeiriad cadarnhaol ac mae’n bwysig ein bod yn defnyddio ein haelodaeth o Bwyllgor y Rhanbarthau er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n negodi ar ran yr UE yn cael darlun llawn o’r sefyllfa yma. Tybed, yn ogystal â’r cynrychiolwyr, a fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â Mr Markkula a’i gydweithwyr o bosibl?

Wel, rwy’n fwy na hapus gan ragdybio bod cyfarfod yn bosibl, ond mae’n hollol iawn i ddweud, yn unol â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog y prynhawn yma, nad ydym yn gadael Ewrop. Mae’n hynod bwysig ein bod yn cadw ac yn cryfhau ein cysylltiadau gyda sefydliadau ar draws Ewrop—mae cydweithio yn y fath fodd er lles Cymru ac er lles yr holl bobl ar draws Ewrop.

Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac mae’n rhaid i mi ddweud, er nad wyf yn synnu, rwy’n dal i’w hystyried yn rhyfeddol fod Prif Weinidog y wlad hon a etholwyd yn ddemocrataidd yn y teulu hwn o wledydd, fel y’i gelwir, wedi ei eithrio rhag drafftio llythyr i nodi’r ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae fy nghwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn ymwneud â’r broses ei hun, ond o ran y broses, i beidio â cholli golwg ar y pethau y gallwn ddal i arwain arnynt. Felly, mae’r Prif Weinidog wedi siarad am ailffurfio Cydbwyllgor y Gweinidogion yn gyngor priodol o Weinidogion gyda chyflafareddu annibynnol. A yw’n bwriadu cyhoeddi rhagor o fanylion am hynny a sut y gellir llywodraethu marchnad fewnol yn y DU mewn modd teg a democrataidd ar ôl Brexit? Ond nid y strwythurau o fewn y DU yn unig, oherwydd mae’n tynnu sylw’n gywir at y berthynas sydd gennym gydag Iwerddon a’r ardal deithio gyffredin. A yw’n cytuno â mi ei bod yn bryd bellach i ni edrych ar ddiwygio’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fel ei fod yn debycach i fodel y cyngor Nordig lle y mae gennych gymysgedd, wrth gwrs, o wladwriaethau sofran, tiriogaethau datganoledig, aelod-wladwriaethau’r UE, aelod-wladwriaethau nad ydynt yn yr UE ac yn y blaen?

Ac yn olaf, a yw’r Prif Weinidog yn rhannu fy nicter fel y mae pethau, mai dwy senedd yn unig yn yr ynysoedd hyn fydd yn cael pleidlais ystyrlon ar y cytundeb terfynol gyda’r Undeb Ewropeaidd—Senedd San Steffan a Senedd Iwerddon, fel un o 27 aelod-wladwriaeth yr UE—ac y bydd seneddwyr yn Wallonia yn cael mwy o lais ar ddyfodol y wlad hon na seneddwyr Cymru?

Ydw’n wir, a bydd wedi fy nghlywed yn dweud sawl gwaith fy mod yn credu y dylai unrhyw gytuniad gael ei gadarnhau gan y pedair Senedd, ac nid un yn unig am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith y gall unrhyw gytundeb yn hawdd effeithio ar feysydd sydd wedi’u datganoli’n gyfan gwbl, megis amaethyddiaeth a physgodfeydd. Ni fyddai’n iawn mewn egwyddor i ni gael ein rhwymo gan rywbeth nad oedd gennym unrhyw rôl yn ei negodi na’i gytuno. Rwy’n credu bod honno’n egwyddor sylfaenol sy’n gyfarwydd iawn yng Ngwlad Belg. Nid yw’n gyfarwydd eto yn y DU, ond mae angen iddi fod yn gyfarwydd fel egwyddor yn y DU.

O ran perthynas â gwledydd eraill, bydd Iwerddon yn bartner pwysig i ni yn y dyfodol. Mae gennym ffin forol gyda’r Weriniaeth a bydd y cysylltiadau hynny’n cael eu cryfhau yn y dyfodol, a byddwn yn ceisio gweithio gyda’n cyfeillion yn Llywodraeth Iwerddon er budd y ddwy ochr.

Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig mewn sefyllfa ryfedd yn yr ystyr y bydd un o aelodau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn aros yn yr UE. Mae yna rai problemau ynglŷn ag a all Iwerddon fod yn rhan o drafodaethau ar yr UE, oherwydd ei haelodaeth o’r UE, yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig—mae hynny’n gymhleth. Ceir tri aelod arall nad ydynt yn aelodau o’r UE, ond maent yn aelodau o’r undeb tollau a gallant yn hawdd gael eu tynnu allan o’r undeb tollau heb i neb ofyn iddynt—Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Ni chawsant bleidlais arno, ond byddant yn cael gwybod gan Lywodraeth y DU, ‘Rydych yn gadael, hoffi neu beidio’. Nid oes ganddynt unrhyw ffordd o ailnegodi mynediad i’r undeb tollau am nad oes ganddynt reolaeth neu bŵer dros faterion tramor. Felly mae eu sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn yr ystyr y byddant yn cael eu tynnu allan o drefniant masnachu heb i neb ofyn barn eu pobl ar y mater. Felly, ceir nifer o gymhlethdodau y bydd angen ymdrin â hwy drwy broses Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

O ran y manylion, ydym, rydym yn fwy na pharod i gyhoeddi manylion, ond bydd yn gwybod am yr egwyddorion rwyf eisoes wedi’u hegluro, sef: cyngor o Weinidogion, pedair Llywodraeth yn cytuno ar fframweithiau ar y ffordd ymlaen, a hefyd, wrth gwrs, proses ddyfarnu annibynnol, er mwyn i bawb ohonom gael ffydd fod yna lys masnach neu gorff arall sy’n plismona’r rheolau y cytunwyd arnynt ar gyfer y farchnad sengl yn deg. Dyna’r ffordd y mae’n gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd, dyna’r ffordd y mae’n gweithio yn yr Unol Daleithiau, dyna sut y dylai weithio yn y DU.

A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod heddiw yn ddiwrnod hynod o drist i’r genedl, a hefyd i’n plant a phlant ein plant? Ac wrth gwrs, y rhai a fydd yn talu’r pris uchaf am erthygl 50 fydd y rhai sydd leiaf abl i’w fforddio.

Tybed a allai’r Prif Weinidog ddweud wrthyf beth yw ei ddehongliad—[Torri ar draws.]

Rwy’n credu y byddai’r Aelod yn hoffi ymddiheuro am y sylw, a glywais innau hefyd. Yn gyflym iawn.

Na. Ymddiheurwch. Beth bynnag oedd y bwriad, ymddiheurwch am y modd y cafodd ei glywed.

Rydych yn gwybod yn iawn, Neil Hamilton, beth oedd y sylw rydych newydd ei wneud wrth Eluned Morgan. Ymddiheurwch yn gwrtais iawn—

Wel, er parch i chi, Llywydd, fe ymddiheuraf am ba sylw bynnag rwyf i fod wedi’i wneud.

Byddai’n dda gennyf pe baech yn dangos parch ataf fi, mewn gwirionedd. Mae’n iawn dangos parch at y Llywydd, ond hoffwn innau ymddiheuriad hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ofyn i’r Prif Weinidog am ei ddehongliad o’r llythyr a anfonwyd. Un o’r pwyntiau a wnaed oedd bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai’n cyflawni ei chyfrifoldebau fel aelod-wladwriaeth. A yw hynny’n golygu y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ymrwymiadau a wnaed gydag aelod-wladwriaethau eraill, ac a allwn ddisgwyl talu biliau mawr felly?

Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai Prif Weinidog Cymru yn cytuno â mi hefyd—. Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud o’r blaen ei bod am gynrychioli barn pob unigolyn yn y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddweud yn glir na fydd hi’n cynrychioli fy safbwyntiau i, a thybed a fydd hi’n cynrychioli eich safbwyntiau chi.

Wel, mae hi bob amser yn annoeth i wleidydd awgrymu y gall gynrychioli barn pob unigolyn, yn amrywio o’r asgell chwith eithafol i’r asgell dde orffwyll yn hynny o beth. Ond rwy’n meddwl mai’r hyn y byddai wedi bod eisiau ei ddweud yw y byddai’n ceisio cynrychioli pobl mor eang â phosibl; nid fy lle i yw siarad ar ei rhan.

Ni ddywedwyd unrhyw beth ynglŷn â pha ymrwymiadau ariannol y gallai fod a sut y gellid eu datrys. Byddant yn ffurfio rhan o’r cyd-drafod, ac mae hwnnw’n fater i’r DU a’r UE ei ddatrys. Ond wrth gwrs, o’n safbwynt ni, os oes unrhyw rwymedigaethau ariannol, os nad ydynt yn mynd i gael eu cyflawni, yna mae’n ymddangos nad yw hwnnw’n ddechrau arbennig o dda i unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond mae’r rhain yn faterion y bydd angen eu datrys.

Y pryder mwyaf sydd gennyf ar hyn o bryd yw y bydd gan y DU dîm sy’n ddibrofiad yn erbyn tîm yr UE sy’n brofiadol iawn. Nid oes gan y DU unrhyw brofiad o negodi’r mathau hyn o gytundebau, ac felly rwy’n meddwl mewn gwirionedd y byddai o fudd i’r DU pe bai’r broses hon yn cymryd mwy o amser er mwyn i’r tîm hwnnw gael y profiad sydd ei angen arno. Rwy’n credu bod ceisio cael cytundeb wedi’i wneud o fewn blwyddyn gyda thîm dibrofiad yn ddrwg, a bydd y rhai sy’n gwybod—ac rwyf wedi siarad â rhai a fu’n rhan o drafodaethau masnach—yn dweud bod cael cytundeb masnach rydd cwbl weithredol yn cymryd rhwng chwech a saith mlynedd. Nid yw’n broses sydd ond yn cymryd blwyddyn. A hynny lle y mae dau barti eisoes wedi cytuno i siarad â’i gilydd yn hytrach nag un yn dweud, ‘Rydym yn mynd i siarad â chi’, a’r llall heb fod yn bartner parod yn y trafodaethau hynny, er yn bartner sydd bellach yn cymryd rhan yn y trafodaethau hynny.

Felly, fy mhroblem fawr gyda hyn i gyd yw fy mod yn meddwl bod yna realwyr, ond mae yna rai sy’n dal o’r farn fod hyn i gyd yn hawdd, y bydd y byd yn disgyn wrth draed Prydain, ac y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd; mae hyn yn mynd i gymryd llawer o waith caled. Rhaid parchu barn y bobl, rwy’n deall hynny, ond er mwyn i bobl beidio â chael eu brifo’n economaidd, er mwyn i Gymru beidio â dioddef colli swyddi, mae’n hynod o bwysig ein bod yn sefydlu strwythur sydd er lles Cymru, er lles y DU ac er lles yr UE. Rwy’n derbyn gair y Prif Weinidog y prynhawn yma pan ddywedodd ei bod eisiau perthynas ddofn gydag Ewrop. Rwy’n derbyn ei gair pan ddisgrifiodd ei hun ac eraill fel cyd-Ewropeaid. Mae’n rhaid i ni estyn llaw gyfeillgar, hyd yn oed wrth i ni adael, ac mae hynny o fudd i’r ddwy ochr.

4. Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Erthygl 50

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan Simon Thomas i wneud cynnig am ddadl frys. Rydw i’n galw felly ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig

Bod y Cynulliad yn ystyried effaith tanio Erthygl 50 ar Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, a diolch am dderbyn y cais. Rydw i’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am y datganiad mae wedi dod ag ef gerbron y Cynulliad heddiw, ond, wrth gwrs, mae mwy i senedd na gwrando ar beth yw safbwynt y Llywodraeth a gofyn cwestiynau i’r Llywodraeth. Mae senedd i fod yn fforwm democrataidd, genedlaethol lle rydym ni’n trafod materion o brys, a materion sy’n ymwneud â’n hetholwyr ni, ac nid oes dim byd sy’n ymwneud â’n hetholwyr ni yn fwy na’r penderfyniad heddiw i yrru’r llythyr hwn ar ran y Deyrnas Gyfunol i’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi’r nodyn i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol. Fel rŷm ni newydd ei glywed gan y Prif Weinidog, nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o ddrafftio’r llythyr, na rhoi cynnwys i’r llythyr, na ddylanwadu ar y llythyr, ac felly mae hi hyd yn oed yn fwy pwysig, rydw i’n meddwl, ein bod ni fel senedd yn dod yn un llais ac yn trafod nawr cynnwys y llythyr yma, penderfyniadau tebyg gan Lywodraeth San Steffan, a’r ffordd yr ŷm ni’n gallu dylanwadu ar hynny. Nid oes yna ddim penderfyniad, efallai, gwleidyddol mwy sy’n effeithio ar Gymru ers yr ail rhyfel byd, ac, yn sicr, mae goblygiadau sylweddol i economi, diwylliant, a phobl Cymru.

If we were to hold an urgent debate now, it would allow us to explore and debate in more detail some of the questions that have already been put to the First Minister, but do that in a democratic, parliamentary way, so that all Members can have their say. I would be particularly concerned to explore why the letter that’s been sent by the Prime Minister on behalf of the UK state does not refer to the environment, or agriculture, or climate change, or, indeed, to research amongst our higher education institutions—all vital parts of the Welsh economy and the Welsh future. I’d be interested to know how we can get a better deal for EU citizens living now in Wales, and protect their rights and ensure that they can remain as part of our community. They are the voters who voted for many of us to be here, and their voices deserve to be here today as well.

It would allow us to explore better the relationship between Wales, going forward, and the single market. Clearly, Plaid Cymru wants to remain a member of that single market and the customs union, but we need to understand, if that does not happen, what would the transitional arrangements be and how can we ensure that vital parts of our economy, such as farming and manufacturing, are protected in that way. We’d want to put on record that we want every penny of European money kept in Wales, as was promised by the ‘leave’ campaigners a year ago, and we want to put that on the record as a parliament. We’d want to put on the record as well that we do not accept any attempt to grab powers back from Wales. It’s very curious that, the way the letter was framed today, and the statement made by Theresa May in the House of Commons today, yes, she can say that more powers may come to this institution, but she did not say that all powers in devolved fields now held at European level would come to this institution. There will be a land grab in Downing Street before we get those extra powers.

Finally, we can put on record our belief that there must be a parliamentary approval of the final deal and that the National Assembly for Wales’s voice must form part of that approval as well.

Gallaf ddweud y prynhawn yma na fyddwn yn cefnogi’r cais am ddadl y prynhawn yma, nid am fod gennym unrhyw broblem gyda dadl, ond credwn y dylai’r ddadl gael ei chynnal yr wythnos nesaf. Mae rhesymau da dros hyn. Yn gyntaf oll, bydd gennym y Papur Gwyn—neu bydd gan yr Aelodau y Papur Gwyn—yfory. Bydd hwnnw’n rhoi mwy o wybodaeth, er na allaf ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnodd Simon Thomas heddiw; y Prif Weinidog yn unig a all ateb. Efallai y bydd y Papur Gwyn yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni yfory. Bydd gennym wybodaeth gychwynnol am ffurf debygol mandad negodi’r UE a chyhoeddiad penderfyniad drafft y Senedd Ewropeaidd ar drafodaethau erthygl 50. Ar y sail honno, felly, mae cyfle i’r Aelodau drafod erthygl 50, sy’n bwysig, ond hefyd y Papur Gwyn a’r materion eraill y cyfeiriais atynt, mewn dadl, gyda digon o amser, yn amlwg, ar gyfer ffurfio barn yn y ddadl honno yr wythnos nesaf.

Felly, dadl lawn yr wythnos nesaf yw’r hyn y byddem yn ei gynnig fel Llywodraeth. Gallwn ystyried yr holl ddatblygiadau pwysig hynny, ac mae’n rhywbeth y gwn ei fod ef a minnau wedi trafod yn y dyddiau a fu—fod dadl yn rhywbeth y dylid edrych arno, yn benodol—. Wel, rydym yn cytuno i gynnal dadl, gan ein bod am weld dadl yn digwydd, yn sgil cyhoeddi’r Papur Gwyn yfory wrth gwrs. Felly, nid ydym yn credu mai heddiw yw’r diwrnod ar gyfer cynnal dadl, ond bydd mwy o wybodaeth ar gael i’r Aelodau yn ystod y dyddiau nesaf ac wrth gwrs, bydd angen cael trafodaeth lle y gall yr Aelodau fynegi eu barn yn llawn yr wythnos nesaf.

Y cynnig yw derbyn y cynnig am ddadl frys. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais ar y cynnig. Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig am ddadl frys. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod a, gan fod y cynnig wedi ei wrthod, ni fydd dadl frys.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 20, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar y cynnig.

5. Cwestiwn Brys: Chwaraeon Cymru

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn y cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad? EAQ(5)0154(HWS) [W]

Diolch. Mae Lawrence Conway wedi cytuno i barhau fel cadeirydd dros dro am weddill y flwyddyn, a byddaf yn cyhoeddi enw is-gadeirydd dros dro yn fuan i’w benodi o aelodaeth y bwrdd presennol. Bydd hyn yn darparu sefydlogrwydd a pharhad i arweinyddiaeth Chwaraeon Cymru.

Diolch i chi, Gweinidog, a diolch i chi am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach y prynhawn yma. Mae datganiad heddiw, mewn llawer o ffyrdd, yn ymestyn y cyfnod o barlys yn Chwaraeon Cymru, ac nid ydym fawr cliriach a doethach ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd yn Chwaraeon Cymru mewn gwirionedd. Ond dyma sefydliad sy’n derbyn dros £22 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn, ac rwy’n credu ei fod yn galw am dryloywder gan Lywodraeth Cymru y prynhawn yma. Rydych wedi dweud o’r blaen eich bod wedi disgwyl y byddai’r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi bwrdd Chwaraeon Cymru i reoli unrhyw wrthdaro personoliaeth, ac nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir o’ch datganiad heddiw.

Felly, a gaf fi ofyn pa mor hir y credwch y bydd yn ei gymryd i gael y corff mewn cyflwr addas i oruchwylio chwaraeon ledled Cymru a pha oruchwyliaeth fydd gennych, wrth symud ymlaen, ar weithgareddau Chwaraeon Cymru? Sut y byddwch yn ceisio newid y prosesau llywodraethu cyfredol a fydd yn rhoi hyder na fydd methiant arall o ran arweinyddiaeth Chwaraeon Cymru? A gaf fi ofyn hefyd: a ydych yn credu mai gwrthdaro personoliaeth yn unig ydoedd neu a ydych yn bwriadu ymchwilio i’r camweithredu a’r problemau strwythurol difrifol a nododd y cadeirydd blaenorol? Os felly, a wnewch chi nodi amserlen ar gyfer pryd y bydd yr adolygiad hwn yn adrodd a phryd y gweithredir ei argymhellion?

Yn olaf, mae gan Chwaraeon Cymru rôl enfawr i’w chwarae yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a datblygu chwaraeon elitaidd, ond mae’r saga hon, unwaith eto, yn codi cwestiynau ynglŷn â’i ddyfodol, felly, fel y cyfryw, a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ddiddymu Chwaraeon Cymru yn gyfan gwbl a’i hollti’n wahanol sefydliadau—efallai un yn canolbwyntio ar chwaraeon ac iechyd y cyhoedd a sefydliad chwaraeon elît ar wahân? A ydych yn meddwl bod Chwaraeon Cymru yn addas at y diben yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar hyn?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac am y cyfle i’w hateb yn y Siambr. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol i mi ddechrau drwy atgoffa’r Aelodau ynglŷn â sut y daethom i’r fan hon heddiw. Nodwyd nifer o bethau yn y cyfnod yn arwain at y bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeiryddiaeth Chwaraeon Cymru ym mis Tachwedd, ac yn ystod yr adolygiad sicrwydd a gynhaliwyd gan fy swyddogion. Roedd angen ymchwilio pob un o’r rhain yn unol â phroses briodol i fod yn deg â’r unigolion dan sylw. Roedd ein hymchwiliad yn drwyadl, ac mae wedi rhoi sicrwydd sylweddol i mi fod Chwaraeon Cymru yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn dda yn y bôn. Hefyd, ysgrifennodd cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway, ataf i gadarnhau mai dyma yw ei safbwynt, gan roi ei farn ar lywodraethu mewnol cryf y sefydliad, a chadarnhawyd hyn hefyd gan adroddiadau archwilio amrywiol. Felly, caf fy nghalonogi gan y wybodaeth honno o ran y trefniadau llywodraethu sydd ar waith ar hyn o bryd.

Fe gyfeirioch at y sefyllfa strwythurol gyda Chwaraeon Cymru, a gallaf gadarnhau bod y panel, y cyfeiriais ato’n flaenorol, wedi cytuno i gwblhau’r adolygiad o Chwaraeon Cymru yr oedd y Cadeirydd blaenorol, Dr Paul Thomas, yn ei gynnal. A gwn eu bod wedi bod yn parhau’r gwaith hwnnw’n gyflym ac yn gobeithio rhoi adroddiad i mi yn ystod mis Ebrill. Bydd yr adroddiad hwnnw’n edrych ar wahanol bethau. Gallai gynnwys strwythur Chwaraeon Cymru, ond bydd yn sicr yn cynnwys i ba raddau y gall Chwaraeon Cymru wneud y mwyaf o’i effaith o ran gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd corfforol yng Nghymru, ond hefyd o ran ein hathletwyr elitaidd yn ogystal.

Diolch am y datganiad byr ysgrifenedig heddiw. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn rhannu dyhead y Gweinidog o sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib, ond mae yna gwestiynau difrifol iawn i’w gofyn, rydw i’n meddwl, ynglŷn â sut y llwyddodd y Llywodraeth i ganiatáu i’r corff yma gyrraedd y fath lefel o aneffeithlonrwydd. A beth mae’r datganiad heddiw a’r camau diweddaraf yn eu gwneud ydy profi, eto, ddyfnder yr aneffeithlonrwydd yna. Mae’r cyfnod diweddar, wrth gwrs, wedi bod yn bryderus iawn, nid yn unig i staff a phawb sy’n ymwneud â Chwaraeon Cymru, ond hefyd o ran datblygiad chwaraeon yng Nghymru. Heb arweinyddiaeth, nid oes strategaeth; heb strategaeth, nid oes datblygiad. Ac mae’n rhaid adfer y sefyllfa yna ar fyrder.

Nifer o gwestiynau ichi, os caf i. Pa adolygiad sydd wedi’i wneud o’r penodiad gwreiddiol a’r broses benodi wreiddiol ar gyfer y cadeirydd sydd rŵan yn gadael? A wnewch chi hefyd gyhoeddi casgliadau’r adolygiad—yr ‘assurance review’—a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd? Rydym ni’n clywed mai personoliaethau oedd wrth wraidd llawer o’r problemau. A allwch chi roi eglurhad i ni am rai o’r materion a arweiniodd at fethiant y cydberthynas rhwng pobl ar lefel arweinyddol y bwrdd? A sut methodd y Llywodraeth â sylweddoli ar fethiannau mor sylweddol? Ac i gloi: a fydd yna gefnogaeth ychwanegol rŵan, i Chwaraeon Cymru, wrth iddyn nhw geisio cael yn ôl ar y trywydd cywir?

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Credaf ei bod yn deg dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau priodol ar bob cam o’r ffordd ers i ni eu hysbysu cyntaf ynglŷn â phryderon ar fwrdd Chwaraeon Cymru, yn fuan iawn cyn y bleidlais o ddiffyg hyder yn y cadeirydd a wnaed yn ôl ym mis Tachwedd. Felly, rwy’n hyderus ein bod wedi cymryd camau priodol ar bob cam, a’n bod wedi ceisio bod yn deg â phawb dan sylw. Ers i mi gymryd y camau cyntaf yn ôl ym mis Tachwedd, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio’n dda iawn mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl sy’n cael cyfleoedd a chymorth chwaraeon gan Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd fod wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y math o gymorth a chyfleoedd a oedd ar gael iddynt. Ac rwy’n talu teyrnged, fel y gwneuthum o’r blaen, i waith rhagorol staff Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfnod hwn y gwn ei fod wedi bod yn arbennig o anodd iddynt fel unigolion, ond hefyd i’r sefydliad yn ogystal, ac rwy’n llwyr ddeall hynny.

O ran yr adolygiad sicrwydd ei hun, edrychodd ar wahanol agweddau ar y pryderon a fynegwyd, ac nid yw’n fwriad gennyf ei wneud yn gyhoeddus, am mai dogfen fewnol a baratowyd ar fy nghyfer fel Gweinidog oedd hi, ac mae wedi bod yn rhan o broses sydd wedi bod yn digwydd ers rhai misoedd, ac un lle roedd gan unigolion a gymerodd ran yn hynny—a chynhaliwyd 42 o gyfweliadau—le dilys i ddisgwyl cyfrinachedd. Credaf ei bod yn bwysig cael sefydlogrwydd y sefydliad yn y dyfodol ar flaen ein meddyliau bob amser. O ran cymorth ychwanegol, mae Lawrence Conway wedi bod yn gweithio gyda’r bwrdd ers i mi wneud fy nghyhoeddiad diwethaf, ac rwy’n falch iawn gyda’r ffordd y mae’r bwrdd wedi ymgasglu o amgylch Lawrence fel cadeirydd dros dro—mae’n canolbwyntio’n gadarn ar y dyfodol. Cyfarfûm â bwrdd Chwaraeon Cymru fy hun yn ddiweddar iawn a chefais gyfle i gofnodi fy niolch iddynt eto am y ffordd y maent wedi ymdrin â sefyllfa anodd dros y misoedd diwethaf, a hefyd am yr angerdd sydd gan bawb ohonynt am chwaraeon yng Nghymru a Chwaraeon Cymru fel sefydliad.

Mae sefyllfa Chwaraeon Cymru bellach mewn perygl o ddod yn stori newyddion drwg hirsefydlog. Mae’r stori’n mynd rhagddi mewn cyfres o benodau anffodus, gyda’r bennod ddiweddaraf heddiw yn digwydd braidd yn gyfleus ar yr un diwrnod â chyhoeddiad erthygl 50. [Torri ar draws.] Wel, efallai eu bod, efallai nad ydynt. Wrth i’r stori fynd rhagddi, mae gwahanol gwestiynau wedi codi. Paul Thomas, y cadeirydd: ai ef oedd yr ymgeisydd mwyaf galluog ar gyfer y rôl neu, fel sy’n cael ei honni mewn rhai cylchoedd, ai swyddog y Blaid Lafur yn unig ydoedd? [Torri ar draws.] Wel, a’n gwaredo rhag y fath syniad. A ddiswyddwyd Mr Thomas am ei fod yn ceisio newid diwylliant y bwrdd oherwydd, fel y mae’n datgan, ei fod yn chwythwr chwiban neu rywbeth tebyg, neu a oedd, yn syml, yn rhywun nad oedd yn gweddu, neu rywun heb syniad clir ynglŷn â sut i reoli’r sefydliad? Nawr, nid wyf yn gwybod yr atebion i’r cwestiynau hyn, ond mae’r saga wedi bod yn mynd rhagddi ers cymaint o amser fel fy mod yn credu y dylai rhywbeth tebyg i’r stori lawn gael ei hadrodd yn awr neu o leiaf, cyn belled ag y gellir ei hadrodd. Rwy’n siomedig na fyddwch yn gwneud canfyddiadau’r adolygiad yn gyhoeddus, er fy mod yn sylweddoli y gall fod yna faterion cyfrinachol sy’n rhaid rhoi cyfrif amdanynt. Ond o ystyried yr arian cyhoeddus sylweddol a fuddsoddwyd yn Chwaraeon Cymru, rhaid inni sicrhau bod y Llywodraeth yn dysgu gwersi o’r gyfres anffodus hon o ddigwyddiadau. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: pa wersi, Gweinidog, y credwch fod Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o hyn?

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn amseru fy nghyhoeddiadau er hwylustod i Gareth Bennett neu unrhyw Aelod arall o’r Cynulliad; ac mae’n rhaid i mi ddweud nad oeddwn am i’r broses gymryd mwy o amser nag oedd yn rhaid iddi, ac nid oeddwn eisiau iddi lusgo ymlaen er lles yr holl bobl sydd ynghlwm wrth y mater hefyd.

Fe awgrymoch fod hon yn stori newyddion drwg, ond mewn gwirionedd, credaf fod angen i ni ystyried y ffaith fod yna gymaint o straeon newyddion da ym mhob rhan o Gymru, diolch i’r gwaith da y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud yn trawsnewid bywydau pobl drwy rym chwaraeon. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd, ond ni ddylem golli golwg ar hynny hefyd.

Nid wyf yn bwriadu ateb cwestiynau am rinweddau unrhyw unigolion, ond carwn ddweud bod buddiannau Chwaraeon Cymru wedi bod yn bwysig i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd bob amser, ac mae’r ddau wedi dangos cryn egni ac ymroddiad yn ystod y cyfnod o amser. Fodd bynnag, rwy’n ystyried yr angen i sicrhau arweinyddiaeth ffres. Fy nod cyffredinol, bob cam o’r ffordd, yw effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru.

Mae gennyf un cwestiwn penodol am lywodraethiant presennol Chwaraeon Cymru. Nid wyf yn ei olygu fel beirniadaeth o’r unigolyn dan sylw, sydd wedi bod yn gydweithiwr i mi yn y gorffennol, ac rwy’n ei barchu’n fawr iawn, ond rwy’n pryderu bod gennym gorff cyhoeddus erbyn hyn sydd â chadeirydd dros dro, ond mae’r cadeirydd dros dro hwn mewn gwirionedd yn mynd i fod wrthi—yn eich datganiad ysgrifenedig—am weddill y flwyddyn hon fan lleiaf. Nawr, nid yw hynny’n unol ag arfer gorau o ran penodi’r cadeiryddion, egwyddorion Nolan a phenodiadau a safonau mewn bywyd cyhoeddus. Rwy’n awgrymu nad yw’n iawn fod gan gorff cyhoeddus sy’n dosbarthu £20 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn gadeirydd nad yw wedi mynd ac nad yw wedi’i benodi drwy’r broses honno. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi a’r Siambr a chyrff allanol y byddwch yn penodi cadeirydd ar gyfer Chwaraeon Cymru drwy’r broses reolaidd cyn gynted ag y bo modd?

Gallaf gadarnhau y byddaf yn sicr yn defnyddio’r broses reolaidd ar gyfer penodi cadeirydd ar gyfer Chwaraeon Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig yn awr, fodd bynnag, fod y sefydliad yn cael cyfnod o sefydlogrwydd. Dylwn hefyd ddweud fy mod yn bwriadu defnyddio fy mhŵer o dan y cod ymarfer ar gyfer penodiadau cyhoeddus i benodi cadeirydd dros dro heb gystadleuaeth tra bydd ymgyrch recriwtio ar waith i lenwi’r rôl honno. Mae’n ofyniad i ymgynghori â’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus cyn i’r penodiad gael ei gyhoeddi; felly, cyhoeddir enw’r unigolyn cyn gynted ag y daw’r broses ymgynghori i ben.

6. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Ar 24 Ebrill 2013, lladdwyd dros 1,100 o weithwyr yn Rana Plaza, y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes Bangladesh. Roedd yr adeilad naw llawr wedi cael ei wacáu am fod craciau mawr wedi ymddangos yn yr adeilad, ond ni wnaed unrhyw beth. Gyrrwyd dros 3,000 o fenywod ifanc yn bennaf yn ôl i’r gwaith, neu byddent yn colli eu gwaith. Hanner awr yn ddiweddarach roeddent wedi marw neu wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Roedd trychineb Rana Plaza yn Dhaka yn tynnu sylw at yr amodau y mae’r rhan fwyaf o’r dillad a brynwn yn ein gwlad yn cael eu gwneud—cyflog ac amodau ofnadwy a fawr o sylw i iechyd a diogelwch sylfaenol. Mae enwau cwmnïau stryd fawr, gan gynnwys Primark, Gap, Walmart a llawer o rai eraill yn rhan o hyn. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ychydig iawn a wnaethant i wella diogelwch ffatrïoedd. Yn wir, os yw Bangladesh yn gorfodi’r rheoliadau adeiladu, mae’n debygol y bydd y cwmnïau rhyngwladol hyn yn symud eu gwaith i wlad arall lle nad yw’r rheolau’n cael eu gorfodi. Felly, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud i’r cwmnïau rhyngwladol byd-eang fynnu safonau gweddus, lle bynnag yn y byd y caiff ein dillad eu cynhyrchu. Ni fydd dim yn newid oni bai ein bod ni fel defnyddwyr yn mynnu hynny.

Mae Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn dechrau ar 24 Ebrill, pan fyddwn ar ein toriad. Mae Chwyldro Ffasiwn yn fudiad byd-eang, sy’n galw am ddiwydiant ffasiwn mwy diogel, cynaliadwy a thryloyw. Holwch o ble y daw eich dillad, ac o dan ba amodau y cawsant eu creu. Gwisgwch eich siaced neu’ch siwmper y tu chwith allan, fel y gallwn weld y label. Mae Chwyldro Ffasiwn yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o gost dillad rhad, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn galw am hynny.

Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sy’n codi ymwybyddiaeth fel bod cymaint o bobl ag y bo modd yn dysgu am awtistiaeth. Ceir nifer o dargedau yng nghynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth 2016-20, a ddylai fod wedi ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2017. Dylai byrddau iechyd fod wedi datblygu llwybrau gofal ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol o dan y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc erbyn mis Tachwedd 2016. Mae angen i ni wybod a ydynt wedi cael eu datblygu a sut y gellir cael mynediad atynt.

Targed Mawrth 2017 o 26 wythnos rhwng atgyfeirio ac asesiad cyntaf—mae angen i ni wybod a yw wedi cael ei gyrraedd ar gyfer plant ac oedolion. Mawrth 2016 oedd y dyddiad targed ar gyfer y gwasanaeth integredig hefyd, ac mewn ymateb i ddatganiad tyst i Janet Finch-Saunders ar 21 Chwefror, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y bydd y pedwar rhanbarth cyntaf yn cynnig y gwasanaeth o fis Mehefin eleni. Felly, byddai’n ddefnyddiol gwybod a yw hynny’n dal yn wir, a phryd, yng Ngogledd Cymru, y bydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnig y gwasanaeth.

Yn fwy na dim, mae pob plentyn ac oedolyn, waeth beth yw eu gallu academaidd neu gymdeithasol, yn meddu ar sgiliau a chryfderau, ond mae gormod yn dioddef o agweddau pobl tuag at awtistiaeth a diffyg dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o awtistiaeth. Mae’n rhaid i hyn newid.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia, neu DEEP fel y bydd rhai ohonoch eisoes yn ei adnabod, rywbeth gydag archfarchnad yn Abertawe y credais y byddech eisiau gwybod amdano, i weld a oes unrhyw beth tebyg yn digwydd yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau chi. Ddydd Mercher, gosododd Tesco her i fusnesau eraill ac agorodd ei drysau am y tro cyntaf i’r hyn y maent yn ei alw’n Ddiwrnod Siopa Araf yn ei siop ym Marina Abertawe. Dyma’r cyntaf. Bob dydd Mercher o hyn ymlaen, rhwng 1 o’r gloch a 3 o’r gloch, mae Tesco wedi ymrwymo i gael staff sydd wedi cael hyfforddiant dementia ac sy’n adnabod arwyddion o ddementia wrth law drwy’r siop, ac i helpu siopwyr. Mae mwy o gadeiriau ar gael, a bydd til sy’n deall dementia ar agor i gynorthwyo siopwyr a rhoi cymorth gyda thasgau fel didoli newid mân. Gwneir popeth yn anymwthgar ac yn urddasol iawn, ond gan ddarparu gwasanaeth heb wahaniaethu.

Yn ddiweddar, cynhaliais sesiwn hyfforddi Cyfeillion Dementia gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru yng Nghilâ yn Abertawe, ac er ein bod i gyd wedi dysgu oddi wrthi, gallech weld y bylbiau golau yn cynnau uwch pennau’r bobl fusnes yno. Mae DEEP eisoes wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ddementia ac rwy’n gobeithio y bydd eu partneriaeth gyda’r archfarchnad benodol hon yn cael ei gweld fel gwahoddiad i bob busnes yng Nghymru fanteisio ar y fenter a helpu Cymru o ddifrif i fod yn wlad sy’n deall dementia. Diolch.

7. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarparu eiriolaeth statudol, a galwaf ar Lynne Neagle i gynnig y cynnig. Lynne.

Cynnig NDM6275 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhwng 2003 a 2014, ni fu llai na saith adroddiad yn mynegi pryderon am gyflwr gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. Cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y trydydd Cynulliad dri adroddiad a gwnaeth nifer o argymhellion a galwadau mynych ynghylch darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a grwpiau eraill o blant agored i niwed. Rhwng 2012 ac 2014 hefyd, cyhoeddodd y comisiynydd plant ar y pryd dri adroddiad gydag argymhellion ar ddarparu eiriolaeth statudol. Rwy’n credu ei bod yn sobreiddiol inni atgoffa ein hunain hefyd lle y dechreuodd y daith eiriolaeth rydym arni mewn gwirionedd, gan ei fod bron yn cyd-daro â genedigaeth y sefydliad hwn a chyhoeddi adroddiad Waterhouse, ‘Ar Goll mewn Gofal’, yn ôl ym mis Chwefror 2000.

Canfu’r adroddiad hwnnw, 17 mlynedd yn ôl, nad oedd dioddefwyr degawdau o gam-drin plant yn rhywiol a chorfforol ar raddfa eang mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru wedi cael eu credu na’u clywed. Argymhellodd y dylai pob plentyn sy’n derbyn gofal gael mynediad at eiriolwr annibynnol. Felly, mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru ddatrys y mater unwaith ac am byth.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni atgoffa ein hunain heddiw pam y mae gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn bwysig. Yn syml, mae eiriolaeth yn rhoi llais i’n plant mwyaf agored i niwed ac yn helpu i’w cadw’n ddiogel. Dywedodd Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wrth ein pwyllgor fod eiriolaeth annibynnol yn ei hanfod yn ddarpariaeth i ddiogelu ac amddiffyn y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Roedd hon yn neges a bwysleisiwyd gan y comisiynydd plant a ddywedodd wrthym yn glir nad yw gwasanaethau eiriolaeth yn opsiwn ychwanegol—maent yn fesurau diogelu cwbl angenrheidiol i’n plant mwyaf agored i niwed. Atgoffodd ein pwyllgor hefyd, o Waterhouse ac ymchwiliadau eraill i’r digwyddiadau a ddigwyddodd yn fwy diweddar yn Rotherham, na wrandawyd ar leisiau plant a bod plant wedi’u bwrw i’r cysgod pan oeddent yn fwyaf agored i niwed.

Mae tua 25,000 o blant a fyddai’n gymwys i gael cymorth yng Nghymru. Yn 2016, roedd 2,936 ar y gofrestr amddiffyn plant, roedd 5,554 yn blant sy’n derbyn gofal, ac eithrio’r rhai ar y gofrestr amddiffyn plant, ac roedd 15,884 wedi’u dosbarthu fel plant mewn angen. Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud. Rwy’n croesawu bod y ddyletswydd statudol bresennol i ddarparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a grwpiau perthnasol eraill wedi’i hailddatgan yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddiweddar. Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod hyn yn cael ei droi’n realiti ym mywydau ein plant mwyaf agored i niwed.

Mae llawer o ymchwiliad y pwyllgor yn canolbwyntio ar yr angen i roi dull cenedlaethol cyson ar waith mewn perthynas ag eiriolaeth yn unol â’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y comisiynydd plant—gwaith a ddechreuodd bedair blynedd yn ôl. Er ein bod yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud yn y misoedd diwethaf yn y maes hwn, mae’r pwyllgor yn awr yn awyddus i weld cynnydd brys o ran cyflwyno’r dull gweithredu cenedlaethol hwn. Gwnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad clir, a fyddai, os cânt eu gweithredu’n briodol, yn mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at liniaru’r problemau a nodwyd gan yr adroddiadau lluosog dros y blynyddoedd.

Rwy’n falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar y pwyllgor ac wedi ymateb yn gadarnhaol i’r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gennym. Mae’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno dull cenedlaethol o ddarparu eiriolaeth statudol yn un sy’n cael ei groesawu’n fawr gan y pwyllgor ac ar draws y sector. Ni allaf bwysleisio digon, fodd bynnag, fod angen i hyn bontio’n ystyrlon a llwyddiannus i ddull cenedlaethol ac nid un sy’n llai na’r disgwyliadau. Mae angen trefniadau clir ar waith i sicrhau bod y dull hwn yn cael ei weithredu, ei gydlynu a’i fonitro’n barhaus.

Bydd cyflawni’r dull cenedlaethol erbyn mis Mehefin 2017 yn garreg filltir bwysig, ond cyflawni’r dull yn llawn y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw fydd mesur llwyddiant. Gwn fod gan randdeiliaid allweddol bryderon dilys ynghylch cynaliadwyedd y model, yn enwedig pan fydd y rheolwr gweithredu yn gorffen yn ei swydd ym mis Mehefin ac yn absenoldeb grŵp cynghori rhanddeiliaid.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru o leiaf wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ddarparu’r manylion diweddaraf ar y symud tuag at ddull cenedlaethol ym mis Mehefin. Ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gymeradwyo hyn yn llawn a dod yn ôl at y pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn i drafod y cynnydd y gobeithiwn y bydd wedi cael ei wneud.

Nid yw’r pwyllgor yn bwriadu i’r adroddiad hwn orwedd ar silff. Ac rydym yn bwriadu monitro cynnydd y dull cenedlaethol yn drylwyr. Roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad yn galw am fonitro gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau eiriolaeth a chyllid yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth yn flynyddol. Teimlwn fod yn rhaid ariannu’r gwasanaethau hanfodol hyn ar sail angen. Bydd y cyllid hwnnw, mewn dwy flynedd, yn mynd i mewn i’r grant cynnal ardrethi i gael ei fonitro gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae pryderon gwirioneddol, yn enwedig mewn hinsawdd lle y ceir y fath bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ynglŷn â sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei fonitro ac yn adlewyrchu anghenion cynyddol poblogaeth plant sy’n derbyn gofal, amddiffyn plant a phlant mewn angen.

Cyn i mi gloi’r sylwadau agoriadol hyn, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad. Rwyf am gofnodi fy niolch yn arbennig i Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan, sy’n cynnwys sefydliadau y gwn eu bod wedi ymgyrchu’n ddiflino ar y mater hwn ers blynyddoedd. Diolch hefyd i’r comisiynydd plant a’i thîm am eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad ar y mater hwn; heb hynny, nid wyf yn credu y byddem wedi gallu gwneud y cynnydd a wnaethom hyd yn hyn.

Wrth gloi, hoffwn bwysleisio wrth yr Aelodau fod hwn yn fater na fydd yn diflannu. Mae Llywodraethau dilynol ac awdurdodau lleol hyd yn hyn wedi methu mabwysiadu model sydd wedi bodloni anghenion ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rydym am weld ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar y cylch hwn o adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi heb lawer iawn o gynnydd yn cael ei wneud. Mae angen i hyn fod yn rhywbeth a gawn yn iawn. Mae diogelwch ein plant mwyaf agored i niwed yn dibynnu arno.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle y prynhawn yma i siarad am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarparu eiriolaeth statudol. A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn? Mae gan y Cynulliad hanes balch o gefnogi hawliau plant. Rwy’n credu bod ein hadroddiad yn nodi carreg filltir arall ar y ffordd i fod o ddifrif ynglŷn â hawliau plant a phobl ifanc. Mae’r mesur hwn yn pwysleisio ein penderfyniad i fod o ddifrif ynglŷn â hawliau plant a phobl ifanc.

Bwriad ein hadroddiad yw cryfhau a gwella hawliau eiriolaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn unol â dyletswydd statudol awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth. Yn y gorffennol, gwnaeth comisiynwyr plant, ynghyd â rhagflaenydd y pwyllgor hwn, gyfres o argymhellion a gynlluniwyd i gryfhau gwasanaethau eiriolaeth statudol yng Nghymru. Mewn ymateb, dechreuodd Llywodraeth Cymru waith yn 2013 i gyflwyno dull cenedlaethol o ddarparu gwasanaethau eiriolaeth statudol. Roedd cynigion ar gyfer y dull cenedlaethol hwn i fod i gael eu cyflwyno erbyn diwedd 2015. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon am y diffyg cynnydd a wneir ar ddarparu’r dull gweithredu cenedlaethol hwn. Ni chafwyd unrhyw gadarnhad y byddai awdurdodau lleol yn gweithredu’r dull cenedlaethol er gwaethaf y gwaith a wnaed ers 2013. Roedd llawer o randdeiliaid yn gweld yr oedi hwn, tua 16 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Waterhouse, yn annerbyniol ac yn rhwystredig. Mae’n bleser nodi, felly, fod trafodion ein pwyllgor i’w gweld yn rhoi rhywfaint o ysgogiad wrth i gynnydd gael ei wneud ar gyflwyno’r dull cenedlaethol yn ystod ein trafodaethau. Gwnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech ohonynt, gydag un arall wedi’i dderbyn mewn egwyddor. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y dull cenedlaethol ar y trywydd cywir i fod yn weithredol erbyn mis Mehefin eleni, a bod pob awdurdod lleol yn gwbl ymrwymedig i’w addasu a’i weithredu?

Mae’n hanfodol fod awdurdodau lleol yn cael eu monitro er mwyn sicrhau bod y dull cenedlaethol yn cael ei weithredu’n llawn o fewn yr amserlenni. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o fanylion ynglŷn â pha drefniadau monitro a fydd ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir arnynt? Sut y bydd cynnydd ar gyflawniad yn cael ei adrodd i awdurdodau lleol, rhanddeiliaid ac i’r Cynulliad Cenedlaethol? Un pwynt a ddaeth yn amlwg yn ystod ein trafodion oedd bod amrywio enfawr yn y swm o arian y mae awdurdodau lleol yn ei wario ar eu dyletswydd eiriolaeth statudol. A allai’r Ysgrifennydd y Cabinet ddweud sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael ag amrywio o’r fath ac a fydd unrhyw gyllid newydd ar gael i gyflawni rhwymedigaethau darparu gwasanaethau eiriolaeth?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gan grwpiau penodol o blant anghenion arbennig o ran eiriolaeth statudol—mae’r rhain yn cynnwys plant sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a phlant ceiswyr lloches. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd anghenion penodol plant fel y rhain yn cael sylw yn y dull cenedlaethol?

Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n yn cadw Cymru ar flaen y gad o ran hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Diolch.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol, wrth gwrs, i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i grwpiau penodol o blant. Fel y clywom ni gan y Cadeirydd, nid ‘optional extra’ yw hynny, ond, yn anffodus, nid yw lleisiau’r plant hynny ddim wedi cael eu clywed fel y dylen nhw pan fo nhw wedi bod ar eu mwyaf agored i niwed. Mi glywom ni gyfeiriad at y gyfres o adroddiadau, a’r gyfres helaethach fyth o argymhellion sydd wedi dod dros y blynyddoedd o wahanol bwyllgorau, comisiynwyr plant ac yn y blaen ers adroddiad Waterhouse nôl yn y flwyddyn 2000.

Er gwaethaf hynny, wrth gwrs, ac er bod yna ddatblygiadau wedi bod yn y misoedd diwethaf, rŷm ni’n dal i aros am y dull cenedlaethol i gael ei gytuno a’i roi ar waith. Mae hynny yn eithriadol o siomedig—mae’n rhaid i ni i gyd gyfaddef hynny. Yn y cyfamser, wrth gwrs, fel y mae’r comisiynydd plant wedi’n hatgoffa ni yn y pwyllgor, mae plant wedi adrodd i’w swyddfa hi dros nifer o flynyddoedd nad ydyn nhw, bob un ohonyn nhw, yn gwybod beth yw eiriolaeth, nad ydyn nhw’n gwybod sut i gael gafael arni ac nad ydyn nhw’n cael eu hatgoffa ar yr adegau iawn fod ganddyn nhw hawl i gael eiriolwr.

Yna, wrth gwrs, yn ystod ein hymchwiliad ni, mi glywom ni, fel pwyllgor, am y cynnydd diweddar sydd wedi cael ei wneud o ran cytuno ar y dull cenedlaethol y byddai’n cael ei weithredu’n llawn erbyn Mehefin eleni. Yn ei dystiolaeth, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni ei fod yn beth moesol i’w wneud a hefyd y peth cyllidol iawn i’w wneud, ac mi fyddwn i, wrth gwrs, yn cydsynio â hynny 100 y cant. Mae’r ddau bwynt yna, sef yr achos moesol o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth, a’r fantais, wrth gwrs, o safbwynt eu llesiant nhw o gael hynny, yn ogystal ag arbedion ariannol yn y tymor hir—mae hynny’n fy atgoffa i o ba mor bwysig fydd hi i sicrhau’r dyletswyddau cryfaf posib o safbwynt eiriolaeth yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rwy’n siŵr y cawn ni’r drafodaeth yna wrth i’r Bil hwnnw deithio drwy’r Senedd yma.

Nawr, mae yna gwestiynau ynglŷn ag ariannu, rwy’n meddwl, yn dal i fod, oherwydd roedd tystiolaeth i’r pwyllgor gan awdurdodau lleol, mae’n rhaid imi ddweud, ddim yn ‘emphatic’ iawn. Yn amlwg, mae’r Llywodraeth yn chwarae ei rhan drwy gyfrannu hanner y gost y rhagwelir y bydd yn deillio o’r dull cenedlaethol yma. Ond roedd yna gyfaddefiad yn y pen draw y bydd adnoddau’n cael effaith ar ba wasanaethau eirioli fydd ar gael ac a fydd yn cael eu comisiynu. Ac meddai’r awdurdodau lleol—mae’r hinsawdd ariannol bresennol yn golygu bod yn rhaid inni fod yn realistig am y disgwyliadau a fydd yn cael eu rhoi ar awdurdodau lleol, heb fod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu. Wrth gwrs, mae yna amrywiaeth enfawr yn y lefel o ariannu ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru pan mae’n dod i wario ar eu dyletswydd statudol, felly mae’r daith sydd gan rai awdurdodau lleol i gyrraedd lle dylen nhw fod, a lle hoffai nifer ohonom ni eu gweld nhw yn ei gyrraedd, yn mynd i fod yn heriol, rwy’n siŵr.

Mae’r Ysgrifennydd wedi dweud na fydd yna ‘ring-fence-o’ i’r ariannu, ac rwy’n deall y rhesymeg am hynny. Ond, wrth gwrs, rŷm ni wedi cael gwaith yn y pwyllgor yn edrych ar y grant gwella addysg a goblygiadau peidio â gallu adnabod gyda sicrwydd fod y gwariant yn cyrraedd lle y dylai fe gyrraedd—felly, hefyd, o safbwynt ein hymchwiliad ni i’r gwasanaeth ieuenctid, a symiau ‘notional’ yn cael eu clustnodi yn yr RSG. Ond, wrth gwrs, os ydych chi’n edrych ar faint sy’n cyrraedd y gwasanaethau yn y pen draw, nid yw’n agos, mewn sawl enghraifft, i’r hyn y dylai fod. Felly, os nad oes yna ‘ring-fence-o’, yn amlwg—ac rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd yn ymwybodol o hyn—mi fydd angen fframweithiau perfformiad cryf eithriadol er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ŷm ni eisiau ei weld yn cael ei ddelifro.

Plaid Cymru, of course, pushed for strengthening independent advocacy in the social services Act for all ages. As a result of that, at least now local authorities aren’t going to be able to levy charges for these services. Quite why anyone in Government thought it would be acceptable in the first place to allow charging for advocacy is anyone’s guess.

But it is clear that far more needs to be done, and these committee recommendations, in my view, are pretty modest but are very practical steps that need to be taken. So, I am disappointed that the Welsh Government has chosen to reject recommendation 4, which merely asks that the Welsh Government monitors spending by local authorities on advocacy services and that it’s funded in line with a population needs assessment analysis. What’s wrong with monitoring the spending levels? When we speak about advocacy for children what we’re really talking about, of course, is providing support for the most vulnerable people in society. Many of the children, of course, may be looked after and may have already experienced issues of neglect and we have a duty, as corporate parents, that we’re not fulfilling as we should at the moment. So, we need the Government to be strong here. We need local authorities to step up and deliver and the committee, of course, as the Chair has reiterated, will continue to scrutinise this area until the service our most vulnerable children deserve and, indeed, need is delivered.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon am adroddiad y pwyllgor. Mae siaradwyr blaenorol wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod gennym gynllun eiriolaeth wedi’i ddatblygu’n llawn ar gyfer Cymru gyfan ac sy’n cynnwys pob awdurdod lleol oherwydd mai’r plant mwyaf agored i niwed sydd ei angen. Rydym yn gwneud cam â hwy os nad ydym yn cyflawni hyn mewn gwirionedd. Mae’n debyg, mewn gwirionedd, mai’r brif neges gan y pwyllgor yw y dylem fwrw ymlaen â’r peth. Clywn lawer am y paratoadau a wnaed, y trafodaethau a gafwyd a’r ymrwymiadau a roddwyd, ond erbyn hyn rwy’n credu bod yn rhaid ei ddarparu gan fod arnom hynny i blant Cymru. Gwn fod y Gweinidog, Carl Sargeant, wedi rhoi ei ymrwymiad personol yn y pwyllgor i weld hyn yn cael ei wireddu.

Cefais fy atgoffa o ba mor agored i niwed yw plant pan oedd gennyf ddadl fer yn ddiweddar iawn ar y cam-drin honedig yn y 1950au yn ysgolion Llandrindod ar gyfer pobl fyddar am fod ymchwil gan fy etholwr, Cedric Moon, wedi dangos bod bechgyn ifanc byddar wedi cael eu cam-drin gan lysfeistr. Ond ni ddygwyd y gamdriniaeth i sylw awdurdodau’r ysgolion nes i un o’r bechgyn, a oedd yn gallu siarad rhywfaint, gael ei gam-drin ac fe roddodd wybod i’r awdurdodau. Roedd y bechgyn eraill wedi methu cyfathrebu’r hyn oedd yn digwydd iddynt ac wrth gwrs, nid oedd unrhyw eiriolwyr. I mi dyna enghraifft berffaith o ble roedd angen eiriolwr i siarad dros y bechgyn ifanc agored i niwed hynny. Nid oeddent yn gallu siarad ac nid oedd neb i siarad ar eu rhan. Rwy’n falch, o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd i’r ddadl honno, fod yna ymchwiliad ar y gweill bellach i’r hyn a ddigwyddodd, ond mae’n dangos pa mor daer yw’r angen am eiriolaeth.

Rwy’n meddwl bod yna grwpiau penodol o blant sydd angen eiriolaeth. Yn ystod ein hadroddiad, tynnodd y comisiynydd plant sylw at hynny, ac mae pobl eraill wedi cyfeirio atynt heddiw. Ond rwy’n meddwl bod yna gwestiynau mawr iawn yn codi mewn perthynas â phlant sydd mewn gofal, plant sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn benodol hefyd rwy’n credu, plant sydd â phroblemau cyfathrebu. Rhoddodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar dystiolaeth i’r pwyllgor. Awgrymasant y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth sy’n ystyried anghenion penodol plant a phobl ifanc byddar: yr union blant na allant gymryd rhan mewn dadl a thrafodaeth. Gwnaethant argymhellion ynglŷn â lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n wynebu plant a phobl ifanc byddar. Ymgynghorwyd â phlant byddar ar yr hyn yr oedd ei angen. Anfonasant restr o’r mathau o bethau y dywedodd pobl ifanc eu bod eu heisiau:

Mae fy eiriolwr perffaith yn mynd i fod yn neis, ac ni fydd yn ymyrryd yn y modd rwy’n cyflwyno fy ngwaith, yn gymwynasgar, yn un o fy ffrindiau gorau.

ac ‘ymddiriedaeth’, ‘ifanc’, ‘i’ch gwneud yn hyderus’, ac ‘rwyf eisiau cymryd rhan’. Dywedodd llawer o’r bobl ifanc hefyd y byddent yn hoffi gallu cyfathrebu â gwasanaeth eiriolaeth y gellid ei wneud drwy neges destun, e-bost neu gyfryngau cymdeithasol eraill, a soniwyd hefyd am yr angen am ddehonglwr i’r rhai sy’n defnyddio iaith arwyddion.

Yn amlwg, gwnaed llawer o gynnydd ac rwy’n gobeithio ein bod bron yno. Rwy’n meddwl bod adroddiad y pwyllgor yn rhoi ysgogiad ar gyfer y cam olaf un, gobeithio. Ond yn amlwg, ceir rhai pryderon o hyd. Mae Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan, sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ac sydd wedi cydweithio’n agos â ni, wedi pwysleisio pwysigrwydd monitro allanol. Maent yn teimlo y dylid ailsefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, fel y gellir gweithio gyda phobl sy’n gweithio yn y maes mewn gwirionedd. Wrth i hyn gael ei gyflwyno, rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylai fod ymgysylltiad â phobl ifanc fel rhan o’r cynllun gweithredu, gan ein bod wedi ymrwymo i hawliau plant yn y Cynulliad hwn, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y ddadl ac yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth ynglŷn â sut y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r ysgogiad terfynol i wneud i hyn ddigwydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r adroddiad a diolch i’r pwyllgor am yr ymchwiliad. Yn sicr, mae wedi helpu i symud y dull gweithredu ei flaen. Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y pwyllgor gan ddarparwyr a Chomisiynydd Plant Cymru ynglŷn â phwysigrwydd eiriolaeth ac ategaf eu teimladau.

Mae’n rhaid i’n plant ifanc a’n pobl ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo y gallant fynegi eu hunain a chael eu clywed. Rwyf wedi clywed ac wedi gwrando’n ofalus ar y sylwadau a wnaeth yr Aelodau heddiw.

Bydd y dull o weithredu yn gwella darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth ac yn bodloni gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Rwy’n parhau’n ymrwymedig i sicrhau ymagwedd gynaliadwy tuag at eiriolaeth ac nid yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyn erioed wedi llacio. Rydym bob amser wedi ceisio ysgogi cynnydd yn wyneb oedi. Gadewch i ni gofio bod y ffocws yn ymwneud â sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael gwasanaeth cyson. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyn yn llawn o’r cychwyn.

Nid yw eiriolaeth yn ddarpariaeth newydd i awdurdodau lleol—mae wedi bod yn ddyletswydd statudol—ond rwy’n cydnabod bod y cynnig gweithredol yn ofyniad newydd. Dyna pam rwy’n ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i dalu cost lawn y cynnig gweithredol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i gefnogi’r dull hwn ac wedi ariannu secondiad yn ymroddedig i ddatblygu achos busnes cadarn, ond ers i’r cynllun gael ei gytuno, rydym wedi parhau gyda’r cyllid hwn drwy ariannu rheolwr gweithredu y cyfeiriwyd ato yn ystod y trafodaethau hyn, i gydlynu cynnydd a sicrhau y cedwir at amserlen y gwasanaeth cenedlaethol.

Ddirprwy Lywydd, os caf droi at yr adroddiad yn awr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Rydym yn derbyn chwech yn llawn, yn derbyn un arall mewn egwyddor ac yn gwrthod un am resymau y byddaf yn eu nodi yn nes ymlaen. 

Gallaf gadarnhau, ers yr ymchwiliad, fod y cynllun gweithredu wedi datblygu’n dda. Ym mis Rhagfyr, cefais gadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod pob un o’r 22 arweinydd wedi cael cymorth cenedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn bwrw ymlaen â’i hymrwymiad yn y cynllun. Ddiwedd y mis, byddwn yn rhoi ymgynghoriad 12 wythnos ar waith ar fframwaith safonau a chanlyniadau eiriolaeth annibynnol cenedlaethol, a byddwn yn diweddaru’r cod ymarfer ar eiriolaeth i gynnwys y dull cenedlaethol. Bydd grŵp technegol yn cael ei sefydlu yn y gwanwyn i gynghori ar y newidiadau i’r cod y bwiadaf ei osod gerbron y Cynulliad yn y gaeaf.

Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad Julie Morgan mewn perthynas â phanel cynghori rhanddeiliaid. Er na fyddaf yn cyfeirio atynt heddiw, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny wrth drafod yr agweddau ehangach. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod y bydd angen i ni ystyried darparu gwasanaethau eiriolaeth yn ehangach pan gaiff y dull o weithredu ei roi ar waith, gan gynnwys Meic, a sut y maent yn cydredeg. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl wasanaethau eirioli yn hygyrch ac osgoi dryswch i blant a phobl ifanc ynglŷn â’r hyn sydd ar gael iddynt.

Gan droi at y ddau argymhelliad na allai Llywodraeth Cymru eu derbyn yn llawn, roedd argymhelliad 8 yn galw am gynnal adolygiad annibynnol o gynnydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu. Derbyniais hyn mewn egwyddor gan fod adrodd ar gynnydd yn hanfodol i ddatblygiad yn y dyfodol, ond ni allaf ei dderbyn yn llawn gan fod yn rhaid i’r cynllun gweithredu gael ei ddatblygu gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Hwy fydd yn adrodd i Lywodraeth Cymru drwy’r uwch grŵp arweinyddiaeth ac ar y pwynt hwnnw, byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r pwyllgor. Felly, mater o broses yn unig oedd yn ein hatal rhag cefnogi’r argymhelliad hwnnw’n llawn.

Gwrthodais argymhelliad 4, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ddarparu hyd at £550,000 i’r rhanbarthau drwy grant rhanbarthol, a fydd yn cynnwys telerau ac amodau i alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro gwariant ar gyfer y cyfnod cynnar o weithredu. Yna, bydd yr arian yn cael ei roi gyda’r grant cynnal refeniw a bydd monitro’n digwydd drwy adroddiad blynyddol y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Rwy’n aml yn clywed trafodaethau yn y Siambr hon am swm y grantiau a anfonwn allan a sut y dylai rhai gael eu cynnwys yn y grant cynnal ardrethi ac nid y lleill, ac mae dadlau ynghylch hynny i gyd. Rwyf am fod yn hyderus fod gennym wasanaeth da cyn i ni ryddhau hwn i’r grant cynnal ardrethi. A byddaf yn ystyried yr agwedd gyfan mewn perthynas â’r sylwadau a wnaed ynglŷn â grŵp cynghori rhanddeiliaid. Fel chithau, rwyf o ddifrif yn awyddus i gael gwasanaeth da ar gyfer ein pobl ifanc. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n cydnabod bod y cwestiwn hwn ynglŷn â’r union ffordd o gyflawni ein nod cyffredin o weithredu a monitro, a’n hymrwymiad i hynny, yn hollol glir.

Diolch i’r pwyllgor am dynnu sylw at yr her o weithredu’r dull cenedlaethol. Bydd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor a’i adroddiad yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer sicrhau gweithrediad y dull cenedlaethol wrth symud ymlaen. Mae’r ymchwiliad hwn wedi atgyfnerthu’n fawr yr ymrwymiad a rennir gan Lywodraeth Cymru a’i holl bartneriaid i ddarparu eiriolaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hwn yn ddull sy’n datblygu, a bydd yn llwyddiannus gydag ymrwymiad pawb. Mae’n rhaid i ni ganiatáu amser iddo wreiddio a chael ei weithredu’n gywir fel bod y gwasanaeth a gynigir i blant yn bodloni’r safonau a ddisgwyliwn ar gyfer y plant sydd ei angen.

Drwy’r dull cenedlaethol, rwy’n hyderus y ceir cysondeb o ran mynediad at eiriolaeth a fydd yn gwella profiadau plant a phobl ifanc mewn gofal, ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol ar eu cyfer. Yn olaf, rydym mewn deialog reolaidd â llywodraeth leol ynglŷn â’r dull, a byddaf yn cadw llygad ar y cynnydd yn bersonol. Ond rwy’n sicr y bydd y dull cenedlaethol ar waith erbyn 27 Mehefin, a gwn fod Mohammad Asghar yn gofyn am hynny yn ei gyfraniad.

Ddirprwy Lywydd, mae wedi bod yn drafodaeth ddiddorol, ond y tu ôl i’r holl drafodaethau hyn, mae’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac mae’n rhaid i ni gadw ffocws ar sicrhau ein bod yn creu’r amgylchedd cywir a’r gwasanaethau cywir ar eu cyfer, ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr adroddiad gan y pwyllgor.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i aelodau’r pwyllgor sydd wedi siarad y prynhawn yma, a’r Gweinidog a holl aelodau’r pwyllgor a gyfrannodd at yr ymchwiliad?

Cyfeiriodd Mohammad Asghar, yn ei gyfraniad, at hanes da y Cynulliad hwn o hybu hawliau’r plentyn, a byddem i gyd yn cytuno â hynny, wrth gwrs, ond rwy’n meddwl bod angen inni ofyn cwestiynau i ni ein hunain—bob un ohonom—ynglŷn â sut, mewn sefydliad sydd i fod wedi ymrwymo i hawliau’r plentyn, y mae cymaint o flynyddoedd bellach ers i ni ddechrau mynd i’r afael â’r mater hwn mewn gwirionedd. Felly, credaf fod hwnnw’n gwestiwn i bob un ohonom fyfyrio yn ei gylch, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth Llyr Gruffydd gyfraniad pwysig ar bwysigrwydd eiriolaeth. Croesawaf yn arbennig y cyfeiriadau a wnaeth at bwysigrwydd y cynnig gweithredol. Yn amlwg, mae’n gwbl hanfodol fod gennym wasanaethau eiriolaeth ar waith y mae plant yn ymwybodol ohonynt. Mae’r rhain yn blant sy’n agored i niwed ac mae angen hyrwyddo’r gwasanaethau hyn iddynt er mwyn iddynt allu cael mynediad atynt. Mae hynny’n un o nodweddion y model cenedlaethol newydd sy’n mynd i fod yn hynod o bwysig.

Cyfeiriodd Llyr hefyd at y tebygolrwydd y caiff eiriolaeth ei gynnwys yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn amlwg, mae hynny hefyd yn rhywbeth y mae’r pwyllgor yn edrych arno. Rwy’n siŵr y byddai pob un ohonom am weld eiriolaeth gadarn ar gael, ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol hefyd o’r heriau a fu wrth gyflawni hyn, wrth i ni geisio symud hyn ymlaen i feysydd eraill. Yn bersonol, hoffwn yn fawr weld eiriolaeth ar gael i blant mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, ond hefyd ym maes pwysig iechyd meddwl. Mynegodd Llyr bryderon hefyd am y materion ariannu ac yn arbennig, ynglŷn â gwrthod argymhelliad 4, y byddaf yn dychwelyd ato pan ddof at ymateb y Gweinidog.

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad y prynhawn yma. Cytunaf yn llwyr â hi mai’r hyn sy’n rhaid inni ei wneud yn awr yw bwrw ymlaen â hyn a gwneud rhywfaint o gynnydd. Rhoddodd gyfraniad pwysig iawn ar anghenion penodol plant byddar a hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith parhaus yn y maes hwnnw, oherwydd os yw plant yn agored i niwed beth bynnag, maent hyd yn oed yn fwy agored i niwed os na allant gyfathrebu yn y ffyrdd mwyaf sylfaenol. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at blant byddar a gobeithio bod hynny’n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus iawn arno, wrth symud ymlaen. Hoffwn ddiolch i Julie hefyd am ei chyfeiriad at yr angen am grŵp cynghori rhanddeiliaid, a chredaf fod hynny’n gwbl hanfodol, wrth symud ymlaen?

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb heddiw? Rwy’n cydnabod ei ymrwymiad personol i gael hyn yn iawn, ac rwy’n gobeithio y gallwn sicrhau drwy hynny ein bod yn datrys y mater yn awr. Rwy’n falch iawn fod yr ymgynghoriad yn mynd i ddechrau ar ddiwedd mis Mawrth ar y safonau eiriolaeth. Rwy’n credu bod hynny i’w groesawu’n fawr ac rwy’n croesawu’r arwydd a roesoch i Julie Morgan yn awr hefyd eich bod yn barod iawn i edrych ar ffurfio panel cynghori rhanddeiliaid. Cyfeiriodd y Gweinidog hefyd at bwysigrwydd Meic, sydd hefyd yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad, ac rwy’n credu bod angen inni fod yn ymwybodol iawn fod cael y mathau hynny o wasanaethau cyffredinol ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yn borth pwysig iawn i mewn i eiriolaeth ar gyfer y plant a allai fod fwyaf mewn angen ac mewn perygl. Unwaith eto, rydym yn croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion. Cyfeiriodd y Gweinidog yn benodol y prynhawn yma at y rhai nad ydynt wedi cael eu derbyn yn llawn, neu sydd wedi cael eu gwrthod. Os caf fi ddweud, o ran argymhelliad 8, mae ei dderbyn mewn egwyddor yn gam ymlaen, a nodaf eich sylwadau am yr angen i lywodraeth leol ddatblygu hyn. Ond rwy’n meddwl mai’r hyn y byddem am ei osgoi ar bob cyfrif yw sefyllfa lle y ceir dadlau parhaus yn ôl a blaen rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Yn y pen draw, mae’r cyfrifoldeb eithaf yn y fan hon o ran cyflawni hyn, ac rwy’n credu mai dyna oedd y pwyllgor yn ceisio ei adlewyrchu yn ein hargymhelliad.

I orffen, ar argymhelliad 4, mae’r arian ychwanegol y cyfeiriodd y Gweinidog ato i’w groesawu’n fawr, ond cyfeiriodd Llyr ac Aelodau eraill at y ffaith fod yna bryderon go iawn, pan fydd llywodraeth leol mor brin o arian, y gallai’r arian hwnnw fynd i rywle arall yn y pen draw pan fo wedi’i gynnwys yn y grant cynnal ardrethi. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu edrych eto ar fonitro annibynnol er mwyn i ni fod yn hollol sicr fod yr arian yn mynd lle y bwriedir iddo fynd.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb eto am y cyfle i siarad ar y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy’n gobeithio’n fawr mai dyma fydd y tro olaf y bydd yn rhaid inni sefyll yma yn trafod yr angen am gynnig eiriolaeth cenedlaethol priodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddai hynny’n nodi cynnydd gwirioneddol, ac rwy’n gobeithio yn awr y gallwn fwrw ymlaen â hynny, a darparu’r gwasanaeth yr ydym i gyd am ei weld ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb ar Ganser yr Ofari

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar ganser yr ofari. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Mike Hedges, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6276 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, ‘Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb a ddaeth i law yn galw am raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari. Cafodd y ddeiseb yma ei threfnu gan Margaret Hutcheson, ac fe’i cefnogwyd gan 104 o bobl. Cafodd Ms Hutcheson, nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, ei hysbrydoli i gychwyn y ddeiseb ar ôl i sawl un o’i ffrindiau gael diagnosis o ganser yr ofari. Ei phrif bryder oedd gwella diagnosis a thriniaeth amserol ar gyfer y clefyd dychrynllyd hwn. Ei phrif uchelgeisiau ar gyfer y ddeiseb oedd gweld rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari, a mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a’i symptomau ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pwyllgor, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r deisebwr, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, ac ysgrifennwyd hefyd at elusennau canser i ofyn am eu barn. Fel pwyllgor, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cancer Research UK, Ovarian Cancer Action, a Target Ovarian Cancer, sydd wedi rhoi eu barn ar destun y ddeiseb.

Mae canser yr ofari yn arwain at oddeutu 240 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru—neu, mewn termau yr ydym yn eu deall, chwech ym mhob etholaeth—ac mae’n un o brif achosion marwolaeth ymhlith menywod yn y DU. Bydd un o bob 50 o fenywod yn cael canser yr ofari ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac yn drasig, bydd llai na hanner y menywod sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl cael y diagnosis. Roedd y dystiolaeth a gawsom hefyd yn dangos bod cyfraddau goroesi yn y DU yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Ewrop. Cafodd Margaret Hutcheson, y deisebydd, gwmni ei ffrind Jenny Chapman i ateb cwestiynau’r pwyllgor, a hoffwn gofnodi diolch diffuant y pwyllgor i’r ddwy ohonynt am ddod draw i roi eu safbwyntiau.

Mae’r holl safbwyntiau a glywsom yn cefnogi pwysigrwydd nodi symptomau canser yr ofari yn gynnar. Onid yw hynny’n swnio’n gyffredin ar gyfer pob canser? Mae diagnosis cynnar yn gwella’r gobaith o drechu’r clefyd yn llwyddiannus, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei ddweud yn amlach. Clywsom fod cydberthynas agos rhwng diagnosis cynnar a’r rhagolygon i fenywod sy’n cael y diagnosis. Er nad yw hyn yn unigryw i ganser yr ofari, clywodd y pwyllgor y gall canser yr ofari fod yn arbennig o anodd gwneud diagnosis yn ei gylch. Y rheswm am hyn yw y gellir yn hawdd gamgymryd y symptomau cyffredin am gyflyrau eraill, neu nid oes unrhyw symptomau o gwbl. Am y rhesymau hyn, erbyn yr adeg y bydd y rhan fwyaf o fenywod â chanser yr ofari yn datblygu symptomau a’u canser yn cael ei ganfod, mae wedi lledaenu y tu allan i’r ofarïau ac yn llawer anos ei drin yn llwyddiannus.

Mae ffigyrau a gawsom gan Cancer Research UK yn dangos bod y gyfradd goroesi pum mlynedd ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru a Lloegr yn 46 y cant, neu o’i roi mewn ffordd arall, mae 54 y cant yn marw o fewn pum mlynedd. Fodd bynnag, ymysg menywod sy’n cael diagnosis ar y cam cynharaf, mae’n codi i 90 y cant. Felly, mae dros draean yn fwy o fenywod sy’n cael diagnosis yn y cyfnod cynnar yn goroesi nag a fyddai pe baent yn aros nes y cam diweddarach. Credwn fod hyn yn gwneud achos argyhoeddiadol dros roi camau pellach ar waith i gynyddu nifer y menywod â chanser yr ofari sy’n cael diagnosis cynnar.

Roedd y ddeiseb hon yn galw’n bennaf am gyflwyno rhaglen sgrinio i ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Dadleuodd y deisebydd yn gryf y gallai hyn helpu i achub bywydau merched sy’n datblygu canser. Gwnaeth y deisebwr yr achos y dylai hyn gynnwys prawf gwaed blynyddol i fenywod gyda’r nod o ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Yn ei thystiolaeth i’r pwyllgor, awgrymodd Margaret Hutcheson y dylai’r rhaglen dargedu pob menyw dros 50 yn benodol. Nid yw sgrinio canser yr ofari ar gael ar y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, nac yn unrhyw ran arall o’r DU.

Clywodd y pwyllgor fod astudiaethau i ddod o hyd i brawf sgrinio poblogaeth cyffredinol ar gyfer canser yr ofari yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Y mwyaf o’r rhain yw treial cydweithredol sgrinio canser yr ofari y DU sydd wedi bod ar waith ers 2001. Cyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Rhagfyr 2015. Roeddent yn dangos y gallai fod manteision o sgrinio drwy ddefnyddio profion gwaed, ond roedd y rhain yn amhendant ar y cyfan. O ganlyniad, mae’r astudiaeth wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall.

Yn ei thystiolaeth, amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y broses lle y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, sy’n cynghori pob Llywodraeth yn y DU. Gwelsom fod y pwyllgor sgrinio

wedi adolygu ei argymhelliad yn ddiweddar ynglŷn â sgrinio ar gyfer canser yr ofari a’u hargymhelliad presennol o hyd yw na ddylid sgrinio’r boblogaeth ar hyn o bryd.

Clywsom bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb y prawf gwaed mwyaf cyffredin ar gyfer canser yr ofari, y prawf CA125. Mae menywod â chanser yr ofari yn tueddu i fod â lefelau uchel o’r protein CA125 yn eu gwaed—mwy na menywod heb ganser yr ofari. Ond gall y lefelau CA125 fod yn uwch am nifer o resymau nad ydynt yn ymwneud â chanser. Mae hyn yn golygu bod risg sylweddol o ganlyniadau positif anghywir. Clywsom ei bod yn bosibl mai 1 y cant yn unig o fenywod a atgyfeirir at ofal eilaidd yn dilyn prawf gwaed CA125 a fyddai â chanser yr ofari mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl mai un o’r pethau a deimlem oedd nad ydym am i bobl ofni rhywbeth pan fo’r posibilrwydd eu bod yn dioddef ohono mor isel â hynny. Felly, mae’r gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn dangos nad yw’r prawf yn ddigon cywir i gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen sgrinio.

Ar ôl ystyried yn ofalus yr ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor, ar y cyfan, rydym yn derbyn nad yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi cyflwyno rhaglen sgrinio poblogaeth. Fodd bynnag, o ystyried bod yr astudiaeth yn dal i fod ar y gweill ac y bydd yn adrodd ar ganfyddiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gadw llygad agos ar y sefyllfa a rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â rhaglen sgrinio genedlaethol newydd. O ystyried bod diagnosis cynnar mor bwysig mewn achosion o ganser yr ofari, gallai rhaglen sgrinio effeithiol chwarae rôl hanfodol yn gwella cyfraddau goroesi, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Fel y nodwyd yn gynharach, er nad ydym yn gallu cefnogi rhaglen sgrinio genedlaethol, rydym yn teimlo fel pwyllgor fod mesurau eraill a gymerir i wella camau i nodi canser yr ofari yn gynnar—. Trof yn awr at y rheini.

Yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari oedd thema ganolog y dystiolaeth a gawsom. Mynegodd y deisebwr bryder fod ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyflwr yn isel iawn a disgrifiodd ganser yr ofari fel ‘llofrudd tawel’. Clywsom fod taflen ar ganser yr ofari, gan gynnwys symptomau cyffredin y clefyd, ar gael drwy feddygfeydd meddygon teulu, a chynhaliodd Ymddiriedolaeth GIG Felindre ymgyrch ymwybyddiaeth drwy gydol mis Mawrth 2016. Fel rhan o hyn, cynhyrchwyd pecynnau gwybodaeth ar gyfer meddygon teulu gan elusen Target Ovarian Cancer. Rydym yn croesawu’r camau hyn a’r ymdrechion a wnaed i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari a’r symptomau cyffredin.

Serch hynny, teimlwn y gellid ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod mwy o fenywod yn ymwybodol o’r clefyd. Mae adeiladu ymwybyddiaeth yn allweddol, oherwydd, pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono ac yn dod yn ymwybodol o symptomau, yna mae mwy o obaith y byddant yn mynd i weld eu meddyg teulu a chael eu hatgyfeirio. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin a phryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol. Byddem yn hoffi gweld hyn yn adeiladu ar waith blaenorol ac yn rhedeg dros gyfnod estynedig.

Rwy’n cydnabod bod gwerth mewn codi proffil cyhoeddus nifer fawr o gyflyrau a chlefydau. Fodd bynnag, cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth a gawsom y dylai fod ffocws ar ganser yr ofari yn benodol oherwydd pwysigrwydd hanfodol canfod y clefyd ar y cam cynharaf posibl. Câi hyn ei gefnogi’n gryf gan y deisebydd a chan yr elusennau y cysylltwyd â hwy. Er enghraifft, dywedodd Ovarian Cancer Action wrthym:

Byddai’n well gwario arian ar hyn o bryd ar ymgyrch gyhoeddus genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod y Gweinidog wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Rwy’n gobeithio yn ateb y Gweinidog y bydd yn gallu egluro sut y bydd ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yn gyffredinol yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cael yr effaith a ddymunir o godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.

Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud ag ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o ganser yr ofari. Mae’n hanfodol i bob menyw allu cael profion a diagnosis amserol pan fydd canser yr ofari yn bosibilrwydd. Rhaid i fenywod sy’n mynd at y meddyg gyda symptomau canser yr ofari allu cael mynediad at y profion diagnostig priodol yn gyflym fel bod y driniaeth orau sy’n bosibl ar gael iddynt. Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn glir ynglŷn â phwysigrwydd ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn benodol, mae’n hanfodol fod meddygon teulu—y person cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei weld pan fyddant yn cael symptomau sy’n eu gwneud yn sâl—yn gyson yn gallu adnabod symptomau canser yr ofari a chyfeirio pobl i gael profion diagnostig yn briodol. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw meddygon teulu nad ydynt yn gwybod am y peth, yn eu hanfon yn ôl a dweud wrthynt ddod yn ôl ymhen tri mis os nad ydynt wedi gwella, oherwydd bydd hynny’n golygu bod yr amser y mae’n rhaid iddynt aros i gael eu trin yn cynyddu a bydd eu gobaith o oroesi’n lleihau.

Roeddem yn falch o glywed bod gwaith diweddar wedi cael ei wneud mewn perthynas ag ymwybyddiaeth meddygon teulu yng Nghymru, a siaradodd y Gweinidog am ei bwriad i barhau i wella dealltwriaeth o symptomau a diagnosis cynnar o ganser yr ofari gan glinigwyr. Nododd y pwyllgor fod hyn eisoes yn faes â blaenoriaeth yng nghontractau meddygon teulu a’i bod yn ofynnol i feddygon teulu adolygu pob achos o ganser yr ofari a ganfuwyd yn 2015 er mwyn helpu i ddysgu gwersi o ran diagnosis ac atgyfeirio.

Rydym yn argymell bod y Llywodraeth yn parhau â’r gwaith hwn ac yn cynorthwyo arweinwyr canser gofal sylfaenol i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiad hwn i lywio cynlluniau ym mhob bwrdd iechyd gyda’r nod o wella diagnosis cynnar. Rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.

I gloi, Llywydd, hoffwn ailadrodd bod y pwyllgor yn cefnogi’r ysgogiad sy’n sail i’r ddeiseb. Er nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r alwad am sgrinio cenedlaethol i bob menyw ar hyn o bryd, credwn fod yna dystiolaeth gref o bwysigrwydd ceisio datblygu mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad a’r drafodaeth y prynhawn yma yn helpu i gyfrannu mewn rhyw ffordd fach tuag at hyn.

Yn olaf, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i Margaret Hutcheson am ddefnyddio’r broses ddeisebu i ddod â’r mater i sylw’r Cynulliad, ac am ei gwaith caled a’i brwdfrydedd drwy gydol y broses. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau’r pwyllgor ac i’r staff a fu’n helpu wrth i ni ystyried y ddeiseb a chynhyrchu ein hadroddiad. Os caiff un fenyw ddiagnosis digon cynnar i achub ei bywyd, bydd wedi bod yn werth chweil.

Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon. Nid oeddwn yn aelod o’r pwyllgor ar y pryd, ond darllenais yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth, a siaradais â nifer o sefydliadau a gyflwynodd eu pryderon ynglŷn â’r mater hwn. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd a’i dîm clercio, a hoffwn ddiolch yn arbennig i’r deisebydd, Margaret Hutcheson, gan ei bod wedi defnyddio ei hawl ddemocrataidd i gyflwyno mater pwysig iawn ger ein bron—pwysig iawn oherwydd yr ystadegyn arswydus fod menyw’n marw bob dwy awr o ganser yr ofari yn y DU. Fel y dywedodd Margaret ei hun, ni lwyddodd dwy o’i ffrindiau agos—y ddwy’n nyrsys cemotherapi—i adnabod arwyddion o ganser yr ofari. Felly, mae’n dangos ei fod yn ganser anodd iawn i’w ganfod. Mae llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel lladdwr tawel, ond mae ganddo rai symptomau clir iawn: bol wedi chwyddo’n barhaus, poen parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta, teimlo’n llawn yn gyflymach ac angen i basio dŵr yn amlach. Felly, yn hytrach na meddwl am ganser yr ofari fel lladdwr tawel, byddwn yn awgrymu ei fod yn feistres mewn cuddwisg. Roedd 41 y cant o fenywod wedi gorfod ymweld â’u meddyg teulu fwy na thair gwaith cyn cael eu hatgyfeirio am brofion diagnostig, oherwydd bod y symptomau’n anodd iawn i’w nodi. Gallant fod yn debyg iawn i syndrom coluddyn llidus, neu gael eu gweld fel un o ganlyniadau’r menopos. Dyma un o’r canlyniadau trist: pe bai canser yr ofari yn cael ei ddal yng ngham 1, mae cyfraddau goroesi oddeutu 90 y cant. Gwn fod y Cadeirydd wedi gwneud y pwynt hwn, ond rwy’n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn i’w ailbwysleisio—90 y cant os caiff ei ddal ar gam 1. Ond erbyn i fenyw gyrraedd cam 3, mae ei chyfradd goroesi’n plymio i 19 y cant yn unig. Mewn geiriau eraill, bydd 81 y cant o’r holl fenywod ar gam 3 yn marw. A dyna ddedfryd marwolaeth uffernol.

Mae hwn yn fwy nag ystadegyn sobreiddiol, ond mae’n fyd o ofid i’r unigolion hyn ac i’w teuluoedd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn. Felly, fy her i Lywodraeth Cymru—ac i chi, Gweinidog—yw hyn: wrth wrthod argymhelliad 3, pa mor hyderus ydych chi fod symptomau canser yr ofari, y feistres mewn cuddwisg, yn dod yn fwy cyfarwydd i fenywod a’r gymuned feddygol, yn enwedig meddygon teulu, oherwydd hwy yw ein rheng flaen? A gaf fi ofyn beth yn union y mae eich ymateb yn golygu pan fyddwch yn dweud—rwy’n mynd i ddarllen o’ch ymateb, Gweinidog—am y cynllun cyflawni ar gyfer canser:

‘Mae’n cynnwys ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth am symptomau canser. Bydd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser yn penderfynu ar gynnwys y gweithgarwch hwn ar sail nifer yr achosion o diwmor a’r canlyniadau’?

Nawr, darllenais hynny gan gymryd bod ‘nifer yr achosion o diwmor’ yn golygu faint o bobl a allai fod ag ef. Wel, nid niferoedd enfawr, mae’n debyg, ond digon i fenyw farw bob dwy awr. Ond yr hyn sy’n glir iawn am ganser yr ofari, pan fydd arnoch, oni bai ei fod yn cael ei ddal yn gyflym, nid ydych yn mynd i gael amser hawdd. Felly, gwyddom beth a olygir wrth nifer yr achosion.

Gwyddom hefyd mai gan Gymru y mae’r gyfradd oroesi waethaf o bob un o’r gwledydd cartref. Mae’r gyfradd oroesi pum mlynedd, Gweinidog, ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru yn ddim ond 38 y cant. Felly, fel y dywedodd y Cadeirydd, bydd 62 y cant o’r holl fenywod yng Nghymru sydd â chanser yr ofari yn marw o fewn pum mlynedd. Felly, credaf ei bod yn hanfodol eich bod yn sicrhau bod y symptomau’n cael eu gwneud yn hysbys iawn i fenywod a’r gymuned feddygol.

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod ymrwymiad gennych chi a Llywodraeth Cymru i ddilyn canllawiau NICE a sicrhau bod unrhyw un sydd â risg o 10 y cant o gario un o’r genynnau BRCA yn cael prawf? Oni fyddai hwnnw’n lle da i ddechrau? Er fy mod yn deall y pwysau ar gyllid, a pha mor anodd yw hi i ni wneud yr holl ganserau’n hysbys i bawb, y broblem gyda’r un arbennig hwn yw bod eich gobaith, unwaith y bydd wedi mynd y tu hwnt i gam penodol, yn mynd yn fain iawn yn wir. Dim ond 10 y cant yw’r gyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd os ydych wedi cyrraedd cam 3. Felly, byddai’n bwysig iawn pe gallech geisio sicrhau bod canser yr ofari yn cael sylw difrifol iawn o ran y negeseuon i bobl. Yn syml iawn, menywod a meddygon teulu: mae yna bedwar neu bump o symptomau allweddol cryf iawn, ac os bydd menyw yn parhau i fynd at y meddyg fwy nag unwaith neu ddwywaith â’r rheini, rhaid i chi ei gwneud yn bosibl iddynt gael prawf, a rhaid i chi eu galluogi i gael eu symud ymlaen, drwy’r llwybr diagnostig. Ond mae angen i chi ddweud wrth fenywod nad yw’n fater syml o fod â dŵr poeth neu boen bol a theimlo’n gwla, ac mae angen i chi wneud yn siŵr fod meddygon teulu yn deall beth yw symptomau canser yr ofari mewn gwirionedd. Y ffordd i wneud hynny yw drwy negeseuon iechyd y cyhoedd. Diolch.

A gaf i ddiolch i Margaret Hutcheson am gyflwyno’r ddeiseb bwysig iawn yma? Mi ddarllenais i’r adroddiad efo diddordeb mawr a hefyd cryn fraw, achos mi oedd y ddeiseb ei hun yn nodi’r effaith syfrdanol y mae canser yr ofari wedi’i gael. Rydym ni wedi clywed rhai o’r ffigyrau yn barod: yn 2014, 345 o ferched yn cael diagnosis, a 238 o ferched yn marw o’r clefyd yma. Mae’n ganran sydd yn methu â goroesi yn frawychus o uchel, hefyd. Felly, rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mynd i’r afael â’r sefyllfa, newid y sefyllfa fel y mae, ac mae angen i fwy o bobl allu goroesi’r clefyd creulon yma. Mae gennym ni gyfraddau goroesi is na llefydd eraill, sy’n dangos y dylem ni fod yn dysgu gan eraill hefyd.

Mae’r ddeiseb yn galw am gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol, ac mae’r adroddiad gan y pwyllgor yn nodi efallai nad dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o wella diagnosis a’i ganfod yn gynnar ar hyn o bryd. Felly, hyd nes y byddwn ni yn cael prawf mwy cywir, rydw i’n credu y dylem ni ganolbwyntio ar ffyrdd eraill o gael diagnosis cynnar, tra, ar yr un pryd, chwilio yn rhagweithiol am y dystiolaeth ddiweddaraf ar effeithlonrwydd sgrinio.

Y peth cyntaf hanfodol i’w wneud yn bendant ydy cynyddu ymwybyddiaeth o’r symptomau—hynny ydy, cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau ymysg merched, ond hefyd ymhlith meddygon teulu. Mae cyfraddau ymwybyddiaeth cyffredinol yn dal i fod yn isel iawn, a dyna oedd argymhelliad 3 y pwyllgor. Yn ddigon rhyfedd, mae wedi cael ei wrthod gan y Llywodraeth. Nid ydw i cweit yn deall y rhesymau pam, os ydy’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hyn beth bynnag fel rhan o’i chynllun canser, fyddai’n gwrthod yr argymhelliad yma.

Rydw i’n meddwl bod yna bwynt diddorol i’w wneud yma hefyd am y gwrth-ddweud rhwng, ar y naill law, y negeseuon yr ydym ni’n eu rhoi yma am wneud yn siŵr bod pobl yn mynd at eu meddyg teulu yn ddigon cynnar, pam mae’r symptomau yn dod i’r amlwg, fel bod clefydau difrifol yn cael eu dal yn gynnar, a thriniaethau, felly, yn gallu bod yn fwy llwyddiannus, ac ar y llaw arall, y negeseuon am sut y dylech chi ond fynd i weld eich meddyg teulu os ydy pethau’n ddifrifol ac y dylech chi yn hytrach o bosibl fod yn edrych tuag at ddefnyddio fferyllfa, nyrs practis, neu hyd yn oed aros i weld sut mae pethau’n mynd.

Mae o’n gydbwysedd, rwy’n gwybod, rhwng meddygon teulu yn gorfod delio efo’r rheini sydd yn iawn ond sydd yn poeni, tra’n gwneud yn siŵr bod y rhai sydd ddim yn iach ond ddim yn poeni yn cael eu hannog i geisio sylw meddygol yn gynharach a chael gwell cyfle i oroesi.

Yr ail beth rydym ni i fod i’w wneud yn sicr ydy dod ag amseroedd aros am brofion diagnostig i lawr pan mae rhywun yn ddigon dewr i fynd at eu meddyg teulu. Unwaith eto, mae’r model rydym yn ei weld yn Denmarc o ganolfannau diagnostig amlddisgyblaethol yn werth edrych arno fel rhywbeth a allai gyfrannu at gynyddu capasiti er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.

Felly, i gloi, fe wna i ailadrodd cymeradwyaeth galonnog Plaid Cymru o’r negeseuon yn yr adroddiad yma. Mae’n drueni nad yw pob un ohonom ni yn y Siambr yn gallu cytuno efo’r tri argymhelliad. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, rwy’n falch bod hwn wedi cael ei gyflwyno gan Margaret Hutcheson fel trafodaeth i’r Pwyllgor Deisebau.

Mae’n amserol ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ar gyfer eleni dynnu at ei derfyn. Yn wir, fel y mae eraill wedi dweud, mae codi ymwybyddiaeth yn gwbl allweddol ar gyfer mynd i’r afael â chanser gynaecolegol mwyaf marwol y DU. Hefyd, rwyf am ddiolch i’r deisebydd, Margaret Hutcheson. Er na fydd yr argymhellion yn cyflawni’n llawn yr hyn yr oedd yn gofyn amdano i gychwyn, o bosibl, rwy’n credu na ellir bychanu’r ffaith fod ei gweithred wedi sicrhau bod y mater ar agenda’r Cynulliad heddiw. Am gam sylweddol ymlaen yw hynny o ran codi ymwybyddiaeth a’n galluogi i gamu ymlaen a siarad am symptomau canser yr ofari.

Yn fy nadl 90 eiliad ar y mater hwn wythnos neu ddwy yn ôl, soniais ynglŷn â sut y bydd y rhan fwyaf ohonom yma yn adnabod rhywun sydd wedi cael y canser hwn, neu sydd â ffrind neu aelod o’r teulu, ac mae hynny’n wir yn fy achos i. Felly, nid yn unig y mae mynd i’r afael â chanser yr ofari yn flaenoriaeth i mi fel gwleidydd ond mae’n flaenoriaeth wedi’i gyrru gan brofiad personol. Y ffordd orau y gallwn weithio gyda’n gilydd heddiw i drechu canser yr ofari yw bod yn ymwybodol o’r ffeithiau, bod yn ymwybodol o’r symptomau a bod yn ymwybodol o hanes eich teulu eich hun.

Yn wir, mae un o bob pedair menyw yn credu bod cael prawf ceg y groth yn golygu eu bod wedi cael prawf am bob canser gynaecolegol. Er ein bod yn gwybod bod profion ceg y groth yn bwysig ac na ddylid eu hofni ac yn sicr ni ddylid eu colli, mae’n bwysig cydnabod nad ydynt yn canfod canser yr ofari.

Ar hyn o bryd, y ffordd orau o hyd o ganfod canser yr ofari yw i fenywod ac ymarferwyr iechyd fel ei gilydd, fel y mae eraill wedi dweud, wybod a gweithredu ar brif symptomau’r canser hwn. Ar yr olaf, mae’n hanfodol fod gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill well dealltwriaeth o symptomau canser yr ofari, er mwyn cynyddu’r gobaith o’i ganfod yn gynnar.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, gwneir diagnosis anghywir o’r symptomau’n aml ar y pwynt cyswllt cyntaf fel pethau fel syndrom coluddyn llidus neu bethau sy’n gysylltiedig â’r menopos. Yn achos fy mam, credid yn wreiddiol fod ganddi gerrig bustl. Daeth rhai o’r symptomau a ddaethai’n amlwg yn flaenorol yn llythrennol gronig dros nos fwy neu lai. Aeth at y meddyg teulu ym mis Mawrth ac er nad oedd yn ddiagnosis hawdd, cafodd lawdriniaeth ym mis Mehefin. Yr allwedd i hynny yw ymwybyddiaeth o symptomau ac i fenywod sy’n mynd at y meddyg allu dweud, ‘A dweud y gwir, rwy’n poeni y gallai fod hyn’, a gallu teimlo’n hyderus y bydd y meddyg yn gwneud yr asesiad hwnnw i gael diagnosis cynnar.

Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â dweud heddiw fy mod yn fythol ddiolchgar, fel y mae fy nheulu, i’r GIG gwych a’r tîm anhygoel o arbenigwyr yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr oncolegydd a ddywedodd wrth fy mam, ‘Er bod y canser yn ymosodol, rydym yn mynd i fwrw ymlaen â hyn’. Roedd hyn yn 2009 a chyn hynny, roedd hi wedi cael canser y fron yn 2005.

Mae’n debyg y dylwn nodi ar y pwynt hwn fod fy mam yn rhan o’r grŵp dethol hwnnw, gawn ni ddweud, o wylwyr brwd Senedd.tv—gobeithio ei bod hi’n gwylio heddiw. Ond mae’n debygol na fydd yn gwneud sylwadau ar gynnwys fy nghyfraniad, mae’n fwy na thebyg y bydd hi’n dweud wrth ei iPad fy mod yn siarad yn rhy gyflym neu’n gwylio i weld a wyf wedi bachu un o’i heitemau o emwaith eto.

Diolch. Felly, mae canfod canser yr ofari yn gynnar yn achub bywydau ac mae gwybod am y symptomau yn gwneud gwahaniaeth, ond mae’r anhawster gyda gwneud diagnosis wedi golygu bod canser yr ofari yn cael ei alw’n lladdwr tawel. Rwy’n credu bod angen inni wrthod hynny, oherwydd nid yw’n dawel—fel yr ydym wedi dweud, mae yna symptomau, ac mae’n hanfodol ein bod yn siarad yn y ddadl hon ac wrth fynd ymlaen, ein bod yn defnyddio hynny fel arf i fynd i’r afael â’r canser creulon hwn.

Gwn fod eraill wedi dweud beth yw’r symptomau, ond rwy’n mynd i’w nodi eto, oherwydd po fwyaf y byddwn yn eu nodi a pho fwyaf y byddwn yn eu rhannu, y mwyaf y bydd y neges yn mynd ar led. Felly, y pedwar prif symptom i edrych amdanynt yw: poen parhaus yn y stumog, bol wedi chwyddo’n barhaus, anhawster i fwyta neu deimlo’n llawn yn gyflym ac angen i basio dŵr yn amlach.

Hefyd—crybwyllais hyn ar y cychwyn—yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth, mae’n bwysig i bobl fod yn ymwybodol o hanes eu teulu. Mae tua 20 y cant o’r achosion o ganser yr ofari yn cael eu hachosi gan gellwyriadau genetig, gan gynnwys cellwyriad y genyn BRCA. Os canfyddir bod menyw yn cario genyn BRCA diffygiol, mae ei risg o ddatblygu canser yr ofari yn cynyddu o un ym mhob 54 i un o bob dau, ac mae hefyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron. Gwn fod Ovarian Cancer Action yn ymgyrchu dros ddefnyddio BRCA fel strategaeth atal canser, gan nodi bod ymwybyddiaeth o’u statws BRCA yn rhoi’r pŵer i bobl roi camau ar waith i atal canser.

Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol iawn nad yw cymryd camau i gael prawf am BRCA yn benderfyniad y byddai unrhyw un yn ei gymryd yn ysgafn, ac mae’n aml yn un a fydd yn llawn ofn a phryder am y penderfyniadau pwysig, a allai newid bywydau, a fyddai’n cael eu gwneud o ganlyniad i gael y prawf. I mi, mae hynny’n cysylltu’n ôl at werth—yr angen—i gynyddu ymwybyddiaeth a gwneud pobl yn ymwybodol y gallai fod ganddynt y genyn BRCA, ond gan wneud yn siŵr fod cymorth ar gael i bobl mewn ffordd hygyrch a digonol.

I gloi, ceir consensws clir o’r elusennau canser blaenllaw, gan gynnwys Ovarian Cancer Action a Cancer Research UK, nad yw cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari yn cael ei argymell, ar sail y dystiolaeth gyfredol sydd ar gael. Nid yw 90 y cant o fenywod yn ymwybodol o bedwar prif symptom canser yr ofari, ond er bod gan fenywod sy’n cael diagnosis ar gam 1 gyfradd oroesi o 90 y cant, ymwybyddiaeth yw’r arf gorau sydd gennym ar hyn o bryd o ran diagnosis a thriniaeth gynnar ar gyfer canser yr ofari.

Yn bendant, argymhellion y Pwyllgor Deisebau, o ran cynnig bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau profion priodol a diagnosis cynnar, ac yn yr un modd, i wneud mwy i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari dros gyfnod hir o amser, yw ein hamddiffyniad gorau o ran cynyddu cyfraddau canfod a diagnosis cynnar o ganser yr ofari. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr fod y ddadl heddiw yn tanio’r gwn i gychwyn gwneud hynny.

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y gwaith a wnaethant i ystyried y ddeiseb hon. Mae canser yr ofari’n taro tua 20 o fenywod bob dydd yn y DU ac yn anffodus, mae’n gyfrifol am oddeutu 248 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar, yn achos canser, yn golygu mwy o obaith goroesi. Os gwneir diagnosis yn y camau cynnar o ganser yr ofari, bydd 90 y cant yn goroesi am bum mlynedd neu fwy. Fodd bynnag, os gwneir diagnosis yn y cyfnod diweddarach, tri yn unig o bob 100 sy’n goroesi y tu hwnt i bum mlynedd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud diagnosis o ganser yr ofari yn gynt.

Yn anffodus, nid oes prawf sgrinio dibynadwy ar gyfer canser yr ofari ar gael eto. Cynhaliodd treial cydweithredol y DU ar ganser yr ofari astudiaeth 14 mlynedd yn edrych ar fanteision prawf gwaed CA125 a stilwyr uwchsain i ganfod arwyddion cynnar o ganser yr ofari. Yn anffodus, ni ddaeth y canlyniadau o hyd i unrhyw dystiolaeth bendant y byddai’r math hwn o sgrinio’n lleihau marwolaethau o ganser yr ofari. Yn wir, canfu’r treial fod yna nifer fawr o ganlyniadau positif anghywir. Ni fyddai canser ar ddwy o bob tair menyw a gâi lawdriniaeth i edrych am ganser yr ofari yn seiliedig ar eu prawf gwaed. Mae ymestyn hynny dros y boblogaeth gyfan yn arwain at lawer o lawdriniaethau diangen.

Nid yw’n llawdriniaeth fach—fel gydag unrhyw lawdriniaeth, mae’n cynnwys risgiau sylweddol. Cafodd oddeutu tair o bob 100 menyw a gafodd lawdriniaeth gymhlethdodau mawr o ganlyniad i hynny—yn cynnwys heintiau neu ddifrod i organau eraill. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd well o sgrinio—dull mwy dibynadwy—cyn i ni gyflwyno sgrinio i’r boblogaeth gyfan.

Mae’r Pwyllgor Deisebau’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rwy’n llwyr gefnogi’r argymhelliad hwn. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn hynny. Hoffwn i ni fynd ymhellach. Dylem fod yn gwthio’n weithredol am ymchwil pellach i ffyrdd o sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Ar wahân i sgrinio, mae’n bwysig fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn adnabod arwyddion a symptomau cynnar canser yr ofari, gan mai dyma’r allwedd i ddarparu diagnosis a thriniaeth gynnar. Mae dros 40 y cant o fenywod â chanser yr ofari wedi gorfod ymweld â’u meddyg teulu ar nifer o achlysuron i gael eu hatgyfeirio i gael profion pellach. Felly, rwy’n croesawu ail argymhelliad y pwyllgor a’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dderbyn.

Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod trydydd argymhelliad y pwyllgor, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari. Yn aml gelwir canser yr ofari yn lladdwr tawel gan mai un o bob pedair o fenywod sy’n gallu enwi’r symptomau, fel bol wedi chwyddo’n barhaus, poen parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta ac angen i basio dŵr yn amlach. Mae chwarter y menywod hefyd yn credu, yn anghywir, y bydd prawf ceg y groth yn canfod canser yr ofari. Os nad yw menywod yn adnabod arwyddion a symptomau’r clefyd hwn sy’n lladd, sut yn y byd y gallant obeithio cael triniaeth? Rwy’n gofyn, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried os gwelwch yn dda. Gall ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r clefyd hwn achub bywydau yn sicr, felly hyd nes y cawn sgrinio gwell ar gyfer canser yr ofari, dyma yw ein gobaith gorau i achub menywod rhag marw o’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr.

Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond rwy’n falch iawn o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Hoffwn longyfarch y pwyllgor ar ei adroddiad, ac yn arbennig, hoffwn longyfarch Margaret Hutcheson a’i ffrindiau am dynnu sylw at ganser yr ofari, ac fel y dywedodd Hannah Blythyn, am lwyddo i’w gael wedi’i drafod yma ar lawr y Siambr. Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n gam mawr ymlaen ynddo’i hun.

Rwy’n siŵr fod llawer ohonoch yn bresennol yn y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser yn gynharach eleni, yn ôl ym mis Ionawr. Dyma oedd yr ail ddigwyddiad o’i fath. Trefnwyd y digwyddiad cyntaf, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan Annie Mulholland. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio, neu efallai hyd yn oed yn adnabod Annie, a oedd yn ymgyrchydd gwych ac a ymddangosai’n aml yn y cyfryngau ac ar y teledu i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â chanser yr ofari. Sefydlodd y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser i ddod â phobl sy’n dioddef o’r holl wahanol fathau o ganser at ei gilydd. Cafodd Annie ei hun ddiagnosis o ganser yr ofari yn 2011 ac yn anffodus, bu farw ym mis Mai 2016. Ond hoffwn dalu teyrnged i’r sylw a dynnodd at yr achos ar y pryd. Gwn ei bod yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wyf yn gadeirydd arno, a’i chenhadaeth oedd amlygu materion sy’n gysylltiedig â chanser a’u dwyn i sylw pawb.

Rwy’n llongyfarch Margaret Hutcheson ar gyflwyno’r ddeiseb hon ac rwy’n cydnabod y lleisiau cryf iawn a geir ar y mater hwn. Mae llawer o etholwyr wedi dod i fy ngweld i ofyn am sgrinio, a gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno sgrinio ac yn y digwyddiad Lleisiau Cleifion Cancer yn gynharach eleni, cafwyd galwad gyson gan fenywod a dynion am raglen sgrinio. Gwn y bydd y deisebwyr wedi eu siomi gan yr argymhellion, gan fy mod yn gwybod bod Margaret Hutcheson, sydd ei hun yn nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, eisiau sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari gan ddefnyddio’r prawf gwaed CA125. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, a’r dystiolaeth a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ceir perygl o ganlyniadau positif anghywir gyda’r prawf hwn a daw’r adroddiad i’r casgliad, waeth faint y dymunwn iddo weithio, nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi cyflwyno rhaglen sgrinio poblogaeth gan ddefnyddio’r prawf gwaed CA125, neu ddull amgen, ar hyn o bryd. Rwy’n credu bod rhaid i ni dderbyn y penderfyniad hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac felly rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Deisebau yn iawn yn eu hargymhellion. Ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r posibilrwydd o sgrinio dan arolwg, gan fod gwyddoniaeth yn newid drwy’r amser a cheir datblygiadau enfawr drwy’r amser. Felly, gadewch i ni barhau i adolygu hyn er mwyn i ni wybod, os daw cyfle byth i fynd i’r afael â’r clefyd hwn, y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

Rwy’n cytuno ag Angela Burns a Hannah Blythyn na ddylai hwn gael ei alw’n lladdwr distaw, am fod hynny’n awgrymu nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud am y peth. O’r holl ddadlau a glywsom heddiw, mae yna lawer y gallwch ei wneud am y peth. Gallwch adnabod y symptomau, gall meddygon teulu gael eu helpu drwy hyfforddiant gydag ymwybyddiaeth o’r materion hyn ac rwy’n credu bod y ffaith ei fod wedi dod yma heddiw ac yn cael ei drafod yn bwysig tu hwnt.

Cynhaliwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gan Ganolfan Ganser Felindre yn gynnar yn 2016 ac rwy’n croesawu hynny. Croesawaf y ffaith eu bod wedi gweithio gyda Target Ovarian Cancer i ddosbarthu pecynnau gwybodaeth i feddygon teulu ac i geisio gwneud meddygon teulu yn fwy ymwybodol o symptomau a chydnabod—oherwydd, fel rwy’n meddwl bod pawb wedi dweud heddiw, mae diagnosis cynnar yn gyfan gwbl allweddol.

Rwy’n credu ein bod angen mwy o’r ymgyrchoedd gwybodaeth hyn ac ymgyrchoedd hefyd i dynnu sylw at y symptomau i fenywod eu hunain, fel y mae pobl wedi sôn heddiw. Nid wyf yn credu y gallwn roi proffil rhy uchel i’r mater hwn. Ni ddylai fod yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth untro, oherwydd gwyddom y gall diagnosis cynnar arwain at wella. Felly, hoffwn orffen mewn gwirionedd drwy ddweud da iawn wrth bob menyw sydd wedi gwneud ymdrechion o’r fath i dynnu sylw at yr ymgyrch hon a diolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei ymateb.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ymuno â’r siaradwyr eraill i ddiolch i’r deisebwyr a dynnodd sylw at y mater pwysig hwn, a hefyd i gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o’r mater a’i adroddiad a’i argymhellion, a hefyd i’r holl siaradwyr yn y ddadl am eu cyfraniadau ystyriol a phwerus.

Gall canser yr ofari effeithio ar fenywod o unrhyw oedran, ond mae’n fwy cyffredin ymhlith menywod sydd wedi bod drwy’r menopos ac fel y clywsom yn y ddadl, gall symptomau canser yr ofari fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill ac felly gall fod yn anodd gwneud diagnosis ohono. Mae hwn yn fater pwysig i fenywod yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd ystyriaeth y pwyllgor o’r mater hwn a’n dadl heddiw yn helpu i godi proffil canser yr ofari.

Sgrinio’r boblogaeth yw’r broses o nodi pobl iach a allai wynebu mwy o risg o glefyd neu gyflwr, neu nodi presenoldeb clefyd neu gyflwr nad oes diagnosis wedi’i wneud ohono hyd yma mewn unigolyn. Yna gallwn ymateb drwy ddarparu gwybodaeth, profion neu driniaeth bellach. Mae gan sgrinio botensial felly i nodi cyflyrau ar gam cynnar pan ellir eu trin yn haws. Gall sgrinio achub bywydau, gwella ansawdd eich bywyd a lleihau’r angen am ymyriadau a thriniaethau costus ar gam mwy datblygedig.

Fodd bynnag, mae’n bwysig deall beth y gall sgrinio ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud. Gall sgrinio achub bywydau drwy nodi risgiau’n gynnar, ond gall hefyd achosi niwed drwy nodi rhai ffactorau na fydd byth yn datblygu i fod yn gyflwr difrifol. Nid yw sgrinio yn gwarantu amddiffyniad chwaith. Efallai y bydd rhai pobl yn cael canlyniad risg isel o sgrinio, ond efallai na fydd hynny’n eu hatal rhag datblygu’r cyflwr yn ddiweddarach.

Ni ddylid cynnig sgrinio poblogaeth ac eithrio lle y ceir tystiolaeth gadarn o ansawdd da y bydd yn gwneud mwy o les na niwed a’i fod yn gosteffeithiol o fewn cyllideb gyffredinol y GIG. Lle y ceir tystiolaeth o’r fath, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn rhaglenni sgrinio.

Hoffwn eich sicrhau bod pob un o’n rhaglenni sgrinio ar sail y boblogaeth cyn i symptomau ymddangos, sy’n amrywio o sgrinio cyn-geni i fenywod beichiog i sgrinio dynion hŷn am ymlediadau, yn cael eu datblygu a’u darparu gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael ac maent yn destun adolygu rheolaidd.

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn darparu cyngor annibynnol, arbenigol ar sgrinio’n seiliedig ar boblogaeth i holl Weinidogion y DU. Mae’r pwyllgor yn sicrhau trylwyredd academaidd ac awdurdod mewn maes hynod o gymhleth ac mae’n arwain y byd yn ei faes. Mae’r rhaglenni sgrinio yn y DU ymhlith y mwyaf uchel eu parch yn y byd. Yn ddiweddar, bu Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried y dystiolaeth o dreial mawr yn y DU i sgrinio canser yr ofari. Nid yw’r dystiolaeth hyd yma yn derfynol ac nid yw’r pwyllgor arbenigol wedi argymell sgrinio ar hyn o bryd ar gyfer canser yr ofari.

Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari ac elusennau canser blaenllaw yn cytuno nad yw’r dystiolaeth yn dangos y gall sgrinio leihau nifer y marwolaethau o ganser yr ofari. Fel y clywsom yn ystod y ddadl, gwelodd yr astudiaeth fod nifer o fenywod wedi cael llawdriniaeth ddiangen am bob canser yr ofari a ganfuwyd drwy sgrinio, a chafwyd cymhlethdodau mawr yn achos oddeutu 3 y cant o’r menywod a gafodd lawdriniaeth ddiangen. Bydd angen ystyried y rhain a mathau eraill o niwed, fel lefelau uwch o orbryder, yn ofalus pe bai tystiolaeth bellach yn cefnogi sgrinio.

Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari yn mynd rhagddo a deallaf y bydd rhagor o dystiolaeth ar gael yn 2019. Bydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn adolygu ei argymhelliad pan ddaw’r dystiolaeth hon i law. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r posibilrwydd o gael rhaglen sgrinio poblogaeth genedlaethol ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rydym yn parhau i gael cyngor gan bwyllgor ymgynghorol arbenigol y DU ar y mater hwn.

Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i ganfod canserau’n gynt. Rhaid i’n GIG ymateb yn briodol i fenywod sydd â symptomau sydd angen eu harchwilio. Mae’r GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau atgyfeirio newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer achosion lle y ceir amheuaeth o ganser, sydd wedi gostwng y trothwy amheuaeth ac wedi’u hanelu’n benodol at annog mwy o atgyfeiriadau. Mae ein contract meddygon teulu ar hyn o bryd yn mynnu bod pob meddygfa’n adolygu achosion o ganser yr ofari i nodi cyfleoedd i wella’r gofal a roddir i fenywod. A bellach, ceir arweinydd meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd i helpu gofal sylfaenol i wella’r modd y maent yn nodi, atgyfeirio a chefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r GIG ledled Cymru i wella lefelau canfod canser yr ofari yn gynnar a gwella mynediad cyflym at y driniaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n bwysig fod pobl yn gallu adnabod symptomau ac yn teimlo’n hyderus i gysylltu â’u meddyg teulu. Nid her o ran canser yr ofari yn unig yw hon, ond o ran sawl math o ganser gyda symptomau amhenodol. Cynhaliwyd ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yn ddiweddar. Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2016 ac roedd yn cynnwys dosbarthu taflenni a phosteri i bob meddygfa yng Nghymru. Mae’r gweithgaredd hwn, ynghyd â gwaith gwerthfawr elusennau canser ac ymgyrchwyr, wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer canser, a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2016, yn cynnwys ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser. Mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybod gan yr arbenigwyr pa ganserau i’w targedu a sut. Yn syml, fel lleygwr, nid wyf am achub y blaen ar hynny, a dyna’r rhesymeg sy’n sail i’n hymagwedd at argymhelliad 3. Bydd y grŵp gweithredu ar gyfer canser yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gweithgaredd codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol. Byddant yn ystyried ymgyrchoedd ymwybyddiaeth safle-benodol, ond byddant hefyd yn ystyried manteision ymgyrch fwy cyffredinol i godi ymwybyddiaeth. Mae cynigion ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth i’w chyflwyno fesul cam tan 2020 i ddod yn ddiweddarach eleni.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl ar lawr y Senedd heddiw ac rwy’n siŵr y bydd gwaith craffu’r pwyllgor ar y mater hwn a’r ddadl hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Mike Hedges, i ymateb i’r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a siaradodd heddiw. Ac a gaf fi ddweud rhywbeth nad wyf yn aml yn ei ddweud? Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd pob un ohonoch. Felly, gallwn eistedd yn awr a dweud, ‘Rwy’n cytuno â phopeth rydych wedi’i ddweud’, ond rwy’n meddwl efallai y byddai’n well i mi ddweud ychydig bach rhagor. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb? Yn bennaf oll—ac rwy’n meddwl y byddai pawb yn cytuno—hoffwn ddiolch i Margaret Hutcheson am drefnu’r ddeiseb a dod â hyn ger ein bron.

Angela Burns: mae dynes yn marw bob dwy awr yn y DU. Mae hynny’n golygu bod dwy wedi marw ers i ni gychwyn y cyfarfod hwn. Mae’n ganser anodd ei ganfod, ac roeddwn yn dwli ar eich disgrifiad, ‘meistres mewn cuddwisg’—hoffwn pe bawn wedi meddwl amdano. Gellir drysu rhyngddo a syndrom coluddyn llidus neu’r menopos, ac mewn gwirionedd, os byddwch yn ei ddal yn gynnar, mae pobl yn byw; os byddwch yn ei ddal yn hwyr, mae pobl yn marw.

Rhun ap Iorwerth: mae angen inni newid y strwythur a gwella cyfraddau goroesi. Rwy’n credu bod pawb wedi dweud hynny. Rydym am i bobl gael eu canfod yn gynnar a goroesi. Mae angen i ni gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith menywod a meddygon teulu. I aralleirio’r hyn a ddywedwch, problem y rhai iach pryderus sydd gennym ym maes iechyd drwy’r amser yn hytrach na’r rhai sâl nad ydynt yn poeni.

Hannah Blythyn, a gaf fi ddiolch i chi am ddangos dewrder drwy sôn am fater teuluol? Rhaid ei bod yn anodd iawn, ond a gaf fi ddiolch ichi am hynny, oherwydd pan fydd pobl yn cyflwyno profiadau personol i’r dadleuon hyn, credaf ei fod yn ychwanegu llawer mwy na’r rhai ohonom sy’n siarad yn y trydydd person?

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser yr Ofari—pwysig iawn. Nid oeddwn yn gwybod mai dyma ganser gynaecolegol mwyaf marwol y DU. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei gyfleu. Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth. Mae angen i bobl wybod nad yw prawf ceg y groth yn ei ganfod, ac mae’n rhaid i ddealltwriaeth meddygon teulu wella. Unwaith eto, siaradodd Caroline Jones am ddiagnosis cynnar a phroblem canlyniadau positif anghywir yn sgil sgrinio—dyna un o’r rhesymau pam nad ydym wedi cefnogi sgrinio. Mae arnom angen dull sgrinio dibynadwy, a gorau po gyntaf y cawn hynny. Soniodd Julie Morgan am Annie Mulholland. Roedd llawer ohonom yn gwybod am ei chenhadaeth i dynnu sylw at ganser a chanser yr ofari. Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’r prawf CA125 yn gweithio, a dyna pam nad oedd y pwyllgor yn ei argymell, ond mae angen i ni gael diagnosis cynnar. Mae angen i bobl fynd at eu meddygon teulu, mae angen i’r meddygon teulu ei adnabod, a pheidio â dweud, ‘Wel, efallai mai syndrom coluddyn llidus ydyw yn ôl pob tebyg’, neu, ‘Eich menopos ydyw, dowch yn ôl mewn tri mis’. Ond mae dau o’r tri mis yn lleihau’r gobaith o oroesi yn ddramatig.

Weinidog, rydych yn hollol gywir, mae sgrinio yn achosi niwed a gofid. Os ydych yn sgrinio pobl a’ch bod yn cael canlyniadau positif anghywir, mae pobl yn poeni. Rwyf wedi bod gydag aelod o’r teulu i gael ei sgrinio ar gyfer canser, a diolch byth, nid oedd ganddynt ganser, ond gallaf ddweud wrthych, gallwn fod wedi darllen y papur ar ei ben i lawr ac ni fyddwn wedi sylwi fy mod yn gwneud hynny. Mae’n creu llawer iawn o bryder. Dyna pam nad oedd y pwyllgor yn argymell cyflwyno sgrinio ar hyn o bryd. Mae’n lladdwr distaw; nid fy ngeiriau i, ond geiriau’r deisebydd, ond mae’n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei gael allan. Hoffwn ddweud fy mod yn dal yn siomedig, ac rwy’n siŵr y bydd gweddill y pwyllgor ac efallai Aelodau eraill yn siomedig nad yw’r cynnig y ceisiwn ei hyrwyddo, y cynnig y ceisiwn gael gwell dealltwriaeth ymhlith meddygon teulu a chleifion o’r hyn ydyw, wedi cael ei dderbyn gan y Gweinidog. Felly, a gaf fi, fel apêl, ofyn i’r Gweinidog feddwl eto am y peth? Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn mynd allan ac yn gadael i bobl wybod.

Fel y dywedais, bydd dwy fenyw wedi marw y prynhawn yma ers i ni gyfarfod. Mae dau o deuluoedd bellach yn galaru o’i herwydd. Y tebygolrwydd yw eu bod wedi cael eu dal yn hwyr. Pe baent wedi cael eu dal yn gynnar, byddai’r teuluoedd hynny yn awr yn mynd drwy fywyd teuluol arferol. Dyna’r darn sy’n dod â’r neges adref i mi, nid wyf yn gwybod a yw’n gwneud hynny i eraill, ein bod yn gwneud penderfyniad. Os ydych yn ei ddal yn gynnar, yna bydd pobl yn byw, ac os byddwch yn ei ddal yn hwyr—. Rwy’n credu mai Angela Burns a ddywedodd fod y posibilrwydd y byddwch yn marw ohono yn un mewn 10 os yw’n cael ei ddal yn gynnar iawn, a’r posibilrwydd y byddwch yn goroesi yn un mewn 10 os yw’n cael ei ddal yn hwyr iawn. Dyna’r gwahaniaeth. Mae’n ddedfryd marwolaeth os ydym yn ei gael yn anghywir. Dyma apelio ar y Gweinidog i ailystyried, unwaith eto, i gael mwy o wybodaeth ar gael a chael mwy o bobl i sylweddoli pa mor bwysig yw hi os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau hyn, i fynd yno ac i feddygon teulu fod o ddifrif yn ei gylch. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliannau 2, 4 a 5 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 3, 6, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar ysgolion cyfrwng Cymraeg. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig. Neil.

Cynnig NDM6274 David Rowlands, Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.

2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy’n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.

3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

a) gyda’r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;

b) gyda’r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac

c) nad yw’n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw’n gysylltiedig â’r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.

4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a’u troi’n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.

5. Yn credu y dylai’r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy’n gobeithio y bydd hon yn ddadl adeiladol y prynhawn yma—yn sicr, yn yr ysbryd hwnnw y cyflwynasom y cynnig hwn. Fel y mae’n dweud yn glir yn y cymal cyntaf un, rydym yn cefnogi amcan Llywodraeth Cymru o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddwn yn cefnogi pob mesur rhesymol i gyflawni hynny. Fel y mae ein hanthem genedlaethol yn datgan, ‘O bydded i’r heniaith barhau’, a

The old language of the Welsh is as alive as ever.

Dyna un o hanfodion bod yn Gymry, yn fy marn i: cefnogi iaith frodorol ein tir. Yn sicr rwyf am ei gweld yn llwyddo, ond y ffordd orau o gyflawni amcan y Llywodraeth yw gwneud hynny gyda graen y farn gyhoeddus drwy berswâd ac efengylu, os mynnwch. Yn sicr ni chaiff ei gyflawni yn wyneb gwrthwynebiad, sy’n cael ei greu gan yr hyn yr ystyrir ei fod yn bolisi o orfodaeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae Deddf Addysg 1996 yn dweud y dylai disgyblion gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau’r rhieni, ac y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried yr egwyddor gyffredinol fod disgyblion yn cael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni. Mae’r ddeddfwriaeth honno, wrth gwrs, wedi cael ei goddiweddyd ers datganoli, ond ni ddylai’r egwyddor sy’n sail iddi fod yn ddadleuol iawn yn fy marn i. Rwy’n tybio mai dyna pam y cafwyd proses ymgynghori, a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn achos ysgol Llangennech a’r cynigion sydd ganddynt i uno’r ddwy ysgol bresennol yn un ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig. Ond os mai diben yr ymgynghoriad yw ceisio barn y cyhoedd, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf agos gan y penderfyniad, sef, wrth gwrs, rhieni’r plant yr effeithir yn fwyaf dwfn ar eu bywydau gan yr addysg y maent yn mynd i’w derbyn, dyma un nad yw wedi llwyddo.

Mae’r ymgynghoriad wedi bod yn un maith. Ym mis Ionawr 2016, cafwyd ymgynghoriad cychwynnol ar y cynigion ac roedd 154 o ymatebion o blaid, 102 yn erbyn. Cafwyd un ymateb dienw o blaid, a 32 canlyniad dienw yn erbyn, ond roedd yna ddeiseb gyda 505 o enwau arni a gafodd ei chyfrif fel un bleidlais. Os ydych yn cymryd lleisiau unigol fel arwydd o farn y cyhoedd, sef y peth amlwg i’w wneud, yna mae gennyf ofn fod Llangennech wedi pleidleisio’n drwm yn erbyn cynnig y cyngor sir. Cafwyd ymgynghoriad arall, neu ymestyniad o’r ymgynghoriad, pan gyhoeddwyd yr hysbysiad statudol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bryd hynny y canlyniad oedd 1,418 o ymatebion i gyd, ac o’r rhain roedd 698 o blaid yr hyn a gynigiodd y cyngor sir ac roedd 720 yn erbyn. Ond 44 y cant yn unig o’r ymatebion hynny y gellir eu nodi’n gadarnhaol fel rhai gan bobl sy’n byw yn y pentref ac o’i amgylch—dôi 25 y cant o’r tu allan ac roedd 31 y cant yn ymatebwyr na roddodd unrhyw gyfeiriad neu god post, neu unrhyw ddull arall o nodi o ble roeddent yn dod. Roedd yna ddeiseb, a oedd, y tro hwn, yn cynnwys 757 o enwau arni o Langennech, ond yn yr un modd, roedd honno’n cyfrif fel un bleidlais yn unig yn y broses hon.

Nawr, mae’r cyngor sir yn gwbl briodol yn dweud yn y ddogfen sy’n crynhoi’r holl ganlyniadau hyn,

‘Mae’n rhaid, yn statudol, i’r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â’r cynnig gael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr. Felly mae’n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol hyn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o blaid neu yn erbyn y cynnig.’

Ac rwy’n cytuno â hynny, na ddylai niferoedd rhifyddol gwirioneddol o reidrwydd fod yn unig sail i’r penderfyniad a wneir, ond yn y pen draw, rwy’n credu y dylem barchu barn rhieni oni bai y gellir gwneud achos cryf i’r gwrthwyneb, ac nid wyf yn credu, yn yr achos penodol hwn, ei fod wedi ei wneud. Wrth gwrs, mae gwerth diwylliannol enfawr i gael plant i ddysgu siarad Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, ac rwyf o blaid dwyieithrwydd. Ond yn anffodus, un o’r datblygiadau yn ddiweddar—

Nodaf ei fod yn awyddus i gyflwyno ei hun fel ffrind i’r iaith Gymraeg. A wnaiff fanteisio ar y cyfle hwn i gondemnio’r sylwadau gan Gareth Bennett, a ddisgrifiodd ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg fel ‘loonies’, sylw a oedd yn sarhaus ar sawl lefel?

Wel, dechreuais fy sylwadau y prynhawn yma, Llywydd, drwy ddweud fy mod yn gobeithio y byddai hon yn ddadl adeiladol, ac ni ddylem geisio gwneud pwyntiau gwleidyddol pitw o’r math hwnnw, a byddaf yn parhau yn yr ysbryd hwnnw—[Torri ar draws.] Wel, gallwn gael dadl wrthwynebus os mynnwch, ond nid wyf yn credu y bydd agwedd Plaid Cymru ar hynny’n creu argraff fawr ar y cyhoedd yn gyffredinol. Hoffwn wneud ychydig o gynnydd, os gwelwch yn dda.

Ac felly, y cyfan rwy’n ei awgrymu yw bod safbwyntiau rhieni a’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan benderfyniad y cyngor sir yn yr achos penodol hwn, wedi cael eu hanwybyddu’n helaeth gan y cyngor sir. Mae’r cynllun strategol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei gynhyrchu wedi cael ei dderbyn, yn fras, gan bawb, cyn belled ag y gwn i, ac eithrio yn yr un achos hwn. Rwy’n credu mai camgymeriad yw gwneud y gorau’n elyn i’r da, o safbwynt y rhai sydd am weld mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig. Yn amlwg, os oes gwrthwynebiad lleol enfawr i’r cynnig penodol hwn, dylai hynny achosi i ni ymatal. Gadewch i ni geisio dwyn perswâd. Gadewch i ni symud ychydig yn arafach yn yr un achos penodol hwn. Mae’n 2017; nid oes rhaid i ni gael pob ysgol unigol a oedd yn y cynllun strategol yn ysgol cyfrwng Cymraeg erbyn 2017 os yw’n mynd i achosi aflonyddwch enfawr yn yr ardal. Y cyfan rwy’n ei awgrymu os ydym, fel y mae pawb ohonom, mae’n debyg, am weld y Llywodraeth yn llwyddo yn ei nod, yw bod yn rhaid i ni gario’r bobl gyda ni.

Nid yw’n helpu, felly, i gyfeirio at bryderon gwirioneddol rhieni, pa un a oes modd eu cyfiawnhau ai peidio, fel rhai sy’n cyfrannu at yr awyrgylch gwenwynig yn Llangennech, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud. [Torri a draws.] Fel y dywedodd y Prif Weinidog mewn cwestiynau y diwrnod o’r blaen, nid oedd hwnnw’n gyfraniad cadarnhaol ac adeiladol i’r ddadl. Nid yw’n ddefnyddiol, wrth gwrs, os yw cydlynydd rhieni dros addysg Gymraeg yn dweud, ‘Os nad yw’r rhieni hynny’n hoffi’r iaith Gymraeg, a gaf fi awgrymu bod y ffin draw yno, a gallant groesi’r ffin?’ Nid yw ychwaith yn ddefnyddiol fod cyflwynydd S4C ar Twitter wedi dweud,

‘Dwi’n casau Lloegr â fy holl enaid, ddoe, heddiw, ac am byth.’

Felly, os yw Plaid Cymru eisiau condemnio rhagfarn, efallai y byddant am gondemnio Morgan Jones, y person dan sylw yn y trydariad hwnnw. [Torri ar draws.]

Cyfraniad Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros ddwyrain Caerfyrddin—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—gan yr aelodau anoddefgar o Blaid Cymru gyferbyn fy nhrechu; nid yw pob aelod o Blaid Cymru yn anoddefgar, ond mae rhai ohonynt, mae’n amlwg.

Cyfraniad Jonathan Edwards i’r ddadl oedd ymosod ar y Blaid Lafur, gan ddweud bod y Blaid Lafur yn Llanelli wedi cynnal ymgyrch gas, ymrannol yn erbyn cynlluniau’r cyngor lleol a arweinir gan Blaid Cymru. Rhagfarn sefydliadol wrth-Gymreig Llafur yn lleol yw’r rheswm pam y mae gwleidyddion dosbarth gweithiol fel ef, mae’n debyg, yn cael cartref naturiol bellach ym Mhlaid Cymru. Wrth gwrs, ni fyddaf yn oedi’r Cynulliad ymhellach â’r mathau hynny o sylwadau, yn enwedig y rhai sy’n ymosodol tuag at UKIP. Ond hoffwn ganmol Nia Griffith, sef yr AS Llafur dros Lanelli, am ei hymagwedd at y ddadl hon, oherwydd yn ei hymateb i ymgynghoriad y cyngor sir, mae hi wedi dweud—mae gennyf ei chyfraniad yma rhywle—

y dylai pob plentyn yng Nghymru gael cyfle i gael mynediad at addysg ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae disgyblion yn Llangennech ar hyn o bryd yn cael y cyfle hwnnw drwy fynychu’r ffrwd Gymraeg. Byddai’n wrthgynhyrchiol i’r nod o gynyddu nifer y disgyblion sy’n gallu defnyddio’r iaith Gymraeg pe bai disgyblion wedyn yn dewis mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg oherwydd y newid hwn.

Felly, os mai canlyniad anhyblygrwydd polisi’r cyngor sir yw eich bod yn gyrru plant allan o ysgolion dwy ffrwd i mewn i addysg Saesneg yn unig, yna mae hynny mewn gwirionedd yn ein gwthio’n ôl. Nid yw’n mynd â ni ymlaen mewn gwirionedd. Felly, yr hyn rwy’n ceisio ei wneud yn ystod y ddadl hon heddiw yw dangos y ffordd ymlaen y byddwn, yn wir, yn gwneud cynnydd aruthrol drwy weithredu polisi’r Llywodraeth, a lle y gall cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wneud hynny, ond os oes gennym frwydr yn Llangennech heddiw, nid yw’n ddim o gymharu â’r frwydr a fydd gennych pan fyddwch eisiau ceisio cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd gyda llawer llai yn siarad Cymraeg na Sir Gaerfyrddin. Rwyf eisiau osgoi’r canlyniad hwnnw. [Torri ar draws.] Rwyf eisiau osgoi’r canlyniad hwnnw, a dyna pam rwy’n cefnogi’r egwyddorion sy’n cael eu mynegi yn y cynnig.

Gwelaf fod Lee Waters yma i wneud ei araith hun, rwy’n gobeithio, ond rwyf hefyd yn cymeradwyo yr hyn y mae wedi ei ddweud o’r blaen yn hyn o beth, fod angen i ni fod yn ofalus iawn o ran y ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn. Roedd yn siarad am y Gweinidog pan ddywedodd,

Mae ef a minnau’n rhannu’r uchelgais i sicrhau bod pob unigolyn 16 oed yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol, ac yn parhau i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Ac rydym yn awyddus i gynnal yr ewyllys da a fu tuag at yr iaith Gymraeg.

Bydd yn drasiedi, ac yn wir yn drychineb, i’r polisi o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os ydym yn mabwysiadu ymagwedd ymwthiol, a chymeradwyaf ein cynnig i’r Cynulliad.

Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1— Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu’r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo’r Gymraeg.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 2, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Ymddangosodd gwelliant 2 ar yr agenda fel a ganlyn.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1.

Ni chynigiwyd gwelliant 2.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith sy’n dechrau yn y proffesiwn.

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Cynigiwyd gwelliannau 4 a 5.

Diolch, Llywydd. Rwyf am gynnig gwelliannau 4 a 5 ar y papur trefn, ond ni fyddaf yn cynnig gwelliant 2, gan ein bod yn bwriadu tynnu’r gwelliant hwnnw’n ôl, gyda’ch caniatâd, Llywydd, oherwydd byddwn yn cefnogi gwelliant 1 ar y papur trefn.

Rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig fod y ddadl hon yn cael ei defnyddio i dynnu sylw at un mater penodol mewn un rhan o Gymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi cefnogi’r iaith Gymraeg ar sail drawsbleidiol drwy sawl gweinyddiaeth wahanol, yn uno gyda’n gilydd er mwyn hyrwyddo achos addysg cyfrwng Cymraeg. Byddwn ni, er mwyn ein plaid, yn cefnogi’r uchelgais aruthrol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwnnw’n uchelgais a gefnogwn ac rydym yn awyddus i helpu’r Llywodraeth i’w gyflawni. Gwyddom fod addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd i fod yn gwbl hanfodol os ydym yn mynd i gyrraedd y targed hwnnw, a dyna pam y mae’n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ym mhob cornel fach o Gymru, ni waeth a yw’r corneli hynny o Gymru yn ardaloedd lle y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth ai peidio. Nid oes ots a yw hyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru neu’r gororau yn agos at Loegr. Yn y pen draw, dylem hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob cwr o’n gwlad a gwneud yr hyn a allwn i wneud y gorau o’r cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau eu profiad addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n fodlon derbyn ymyriad.

A gaf fi groesawu’r geiriau hynny? A fyddai’r Aelod yn cytuno bod yn rhaid i gefnogaeth fod yn fwy na geiriau bob amser? Rwy’n credu mai’r hyn yr ydych yn ei ddweud hefyd yw bod yn rhaid i weithredoedd ategu geiriau a bod yn rhaid i ni dderbyn y bydd gwrthwynebiad mewn mannau, a lle y ceir gwrthwynebiad, mae’n rhaid i ni weithio gyda’r bobl hynny i egluro iddynt, sef pam y credaf fod dyletswydd ar bob un ohonom yma i gyfeirio ein hegni tuag at berswadio pobl ynglŷn â pham ein bod yn rhoi’r camau hyn ar waith i gyflwyno ac ehangu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r farn honno. Mae’n rhaid i ni hyrwyddo ac mae’n rhaid i ni berswadio oherwydd ceir rhai pobl sydd angen mwy o ddarbwyllo nag a wnaethom hyn yn hyn. Mae angen i’n system gyn-ysgol yn ogystal â’n hysgolion yma yng Nghymru gael cyfle i dyfu nifer y lleoedd a chapasiti. Nid yw ein sector addysg bellach yn benodol wedi’i baratoi’n arbennig o dda ar gyfer darparu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg ychwaith. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gefnogol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, i ddod ag Aled Roberts i mewn, fel cydweithiwr y gellir ymddiried ynddo i nifer o’r ACau yn y Siambr hon, er mwyn gwneud y gwaith hwnnw. Ond mae’n bwysig iawn fod y gwaith hwnnw’n cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl a bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg hynny yn cael eu siapio’n briodol er mwyn i ni allu nodi llwybr clir i gyrraedd yr uchelgais o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n rhaid mynd i’r afael â’r gwendidau yn y system ar hyn o bryd, lle nad oes gennym ddigon o gapasiti yn ein trefniadau cyn-ysgol, a lle nad oes gennym nifer ddigonol o athrawon cyfrwng Cymraeg yn dod i mewn i’r proffesiwn.

Yn ogystal â hynny, mae’n bryder, fel y dywedasom yn un o’n gwelliannau, ei bod yn ymddangos bod ysgolion Cymraeg wedi cael eu heffeithio’n anghymesur gan gau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae tua 41 y cant o’r holl ysgolion a gaewyd ers 1999 wedi bod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac eto nid ydynt ond yn cynrychioli chwarter o holl ysgolion Cymru. Felly, mae wedi bod yn eithaf anghymesur.

Y peth arall yr ydym yn arbennig o awyddus i’r Llywodraeth ei wneud yn ogystal yw edrych yn ofalus iawn ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i weld a allai fod ffordd o hybu capasiti ychwanegol o ran buddsoddi yn ein hysgolion er mwyn creu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg a mwy o fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid yw’r rhaglen, fel y mae ar hyn o bryd, i’w gweld yn pwysleisio’r angen i greu mwy o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Felly, rydym am i chi edrych ar hynny, os gwnewch, Gweinidog, am ein bod yn credu, ar yr ochr hon i’r tŷ, ei fod yn rhan bwysig iawn o’r hyn y dylai’r Cynulliad hwn fod yma i’w wneud. Yn y pen draw, pan gawsom ein sefydlu—rydym yma i hyrwyddo Cymru. Rydym yma i hyrwyddo ein diwylliant. Rydym yma i hyrwyddo ein hiaith, a pha le gwell i wneud hynny na thrwy’r system addysg a chael llawer mwy o bwyslais ar greu mwy o leoedd.

Rydym yn gwybod bod y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fwy na’r capasiti ar draws Cymru. Nid yw’n iawn nad yw pobl a rhieni a dysgwyr yn cael dewis cael eu plant wedi eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac oni bai ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar bob ochr i’r Siambr hon i gyflawni’r uchelgais hwn, nid ydym yn mynd i lwyddo i gyrraedd yno. Felly, byddwn yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, er mwyn cyflwyno’r dull uchelgeisiol rydych wedi’i nodi, a gweithio gyda chi hefyd i wneud yn siŵr fod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn uchelgeisiol, fod yr awdurdodau lleol yn cydnabod eu cyfrifoldeb pwysig i hybu’r iaith Gymraeg ac i hyrwyddo’r lleoedd ychwanegol y mae angen i ni fod wedi’u sicrhau a’u creu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.

Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 3, 6, 7 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.

Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi’i gymeradwyo’n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 6, 7 ac 8.

Diolch, Llywydd. Rwy’n dilyn Darren Millar ac yn ategu’r hyn a ddywedodd e ac yn croesawu’r geiriau y mae wedi’u rhoi i’r ddadl yma—yn gadarnhaol, os caf i ddweud. Rydym ni wedi gweld y prynhawn yma pa mor gadarnhaol y mae arweinydd UKIP yn gallu bod i’n trafodion ni yn fan hyn. Mewn 10 munud o araith, ni soniodd am yr un polisi a fyddai’n arwain at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg—dim un polisi. Dim ond gwrthwynebu a dim ond, er gwaethaf ei eiriau gwenog, ceisio codi’r grachen unwaith eto mewn un gymuned benodol yn sir Gâr.

A gawn ni ddweud yn glir fod bod yn ddwyieithog yn cynnig llawer o fanteision gwybyddol, addysgol, cymdeithasol ac economaidd? Mae’r dystiolaeth ym mhob rhan o’r byd yn dangos hyn. Nid yw hi’n bwysig, a dweud y gwir, ym mha ddwy iaith rydych chi’n ddwyieithog—mae’r buddiannau’n estyn ar draws y cwricwlwm pan fydd gyda chi sgiliau dwyieithog. Mae’r un peth yn wir yn Sbaen, yng Nghanada, yn rhannau o Ffrainc ac yn sicr yn wir yma yng Nghymru. Felly, mae manteision addysgiadol i fod yn ddwyieithog. Mae’r Llywodraeth yn gweithio nid yn unig dros yr iaith Gymraeg wrth hyrwyddo’r polisi yma ond dros safonau uwch mewn addysg.

Yr unig ofid sydd gyda fi fan hyn yw nad ydym ni wedi gweld gan Lywodraeth Cymru yr hyn a addawyd pan wnaethom drafod y cynlluniau Cymraeg mewn addysg strategol y tro cyntaf, sef ymgyrch i hyrwyddo buddiannau addysg ddwyieithog. Bu rhywfaint o waith gan y Llywodraeth, ond nid oedd y fath o ymgyrch yr oeddwn i wedi gobeithio ei weld. Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i’r ddadl, y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi rhywfaint yn fwy o fanylion i ni ar sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i hyrwyddo addysg ddwyieithog o ran safonau addysgol yn ogystal ag o ran safonau ieithyddol pur.

A gawn ni fod yn glir, achos mae wedi cael ei gynnig sawl gwaith ac mae cyfle mewn dadl i’w roi ar gofnod, am y camau penodol a gymerwyd yn achos ysgol Llangennech? Felly, mae hyn i gyd yn deillio o gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Gâr, a oedd ar y pryd yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, pan wnaethon nhw gymeradwyo’r WESP nôl yn 2014. Wedi’i gynnwys yn y WESP yna oedd cyfeiriad ac ymrwymiad gan y cyngor sir, a oedd yn darllen fel a ganlyn:

Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion dwy ffrwd Sir Gâr er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg’.

Nawr, roedd tair ysgol dwy ffrwd yn sir Gâr ar y pryd, ac roedd ysgol Llangennech yn un ohonyn nhw. Felly, mae’r cyngor sir wedi cytuno i gydweithio’n agos â staff a chyrff llywodraethol. Pe baen nhw ddim wedi dilyn y camau yna, fe fyddwn i â rhywfaint o gydymdeimlad â byrdwn y ddadl heddiw. Ond, dyma’r camau a gymerwyd gan Gyngor Sir Gâr o dan y Blaid Lafur ac wedyn o dan Blaid Cymru. Pleidleisiwyd i gymeradwyo’r camau. So, cytunodd y cabinet—corff democrataidd sydd wedi’i sefydlu o dan ddeddfwriaeth—i wneud hynny. Fe bleidleisiodd Cyngor Cymuned Llangennech o blaid y cynllun ym mis Medi 2016. Ar 21 Tachwedd 2015, fe dderbyniodd y cynllun gefnogaeth gan y pwyllgor craffu addysg. So, mae’r cabinet yn cytuno ac mae pwyllgor craffu’r cyngor sir yn cytuno, ac mae’r cyngor cymuned yn cytuno.

Bu cefnogaeth gan gorff llywodraethol yr ysgol yn ogystal. Wedyn, yn y cyfarfod llawn o’r cyngor ar 22 Rhagfyr 2016, fe bleidleisiodd cabinet y cyngor o blaid y cynllun ac wedyn, ym mis Ionawr, y cyngor llawn—y cynllun penodol ynglŷn â Llangennech yw hyn. Felly, fe gymeradwywyd y cynllun WESP gan y cabinet, fe gymeradwywyd e gan y corff llywodraethol, gan y cyngor cymuned, gan y staff—roedd y mwyafrif llethol o staff wedi ei gymeradwyo. Fe aeth e’n ôl i gael ei gymeradwyo gan y pwyllgor craffu. Fe aeth yn ôl i’r cabinet i gael ei gymeradwyo. Fe aeth yn ôl i’r cyngor llawn i gael ei gymeradwyo.

Rwy’n mentro i ddweud bod y penderfyniad yma wedi cael mwy o ddogfennaeth yn ei gylch, a mwy o benderfyniadau democrataidd, na’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. [Chwerthin.] Dyna’r gwir plaen am y penderfyniad yn achos Llangennech. Fe benderfynodd, ar sail Deddf—rwy’n gwybod nad oedd UKIP yn rhan o’r Cynulliad pan basiwyd y Ddeddf yna, ond fe basiwyd Deddf gan y corff yma a oedd yn rhoi’r hawliau i wneud y penderfyniad yma yn nwylo’r cyngor lleol, gan ein bod ni’n credu mai penderfyniadau lleol yw’r rhain i’w cymryd gan y cyngor lleol yn ôl y camau neilltuol sydd wedi eu dilyn. Felly, nid oes lle i gwestiynu’r hawl na’r penderfyniad.

Mae lle, wrth gwrs, i gydweithio â’r gymuned yn lleol lawer yn fwy nag sydd wedi digwydd, efallai, o bryd i’w gilydd, ond mae’n rhaid inni gydio yn ysbryd y penderfyniad a gwneud yn siŵr ein bod ni’n dysgu o’r wers sydd yma—bod y Gweinidog yn dysgu, bod y Llywodraeth yn dysgu a bod pob cyngor lleol yn dysgu hefyd—i wneud yn siŵr nad oes dim camgymeriadau yn cael eu gwneud yn y dyfodol, ond, yn fwy pwysig na hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni yn trin yr iaith Gymraeg fel rhywbeth sy’n parchu safonau addysg, sydd yn ein codi ni i gyd uwchben y ddadl a’r ffrae wleidyddol ac sy’n gwneud yn siŵr ein bod ni yn dadlau am yr iaith Gymraeg fan hyn, fel sydd angen ei wneud o bryd i’w gilydd, mewn ffordd sydd yn parchu’r iaith ac mewn ffordd sydd yn dangos bod yr iaith yn eiddo i ni i gyd.

Codaf i gefnogi gwelliant y Llywodraeth ac i gefnogi uchelgais y polisi o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn benodol, rwy’n canmol uchelgais polisi Llywodraeth Cymru, ac ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor radical yw’r polisi hwn. Rydym wedi cael dirywiad yn yr iaith Gymraeg ers canrif neu fwy, ac rydym yn cynnig, o fewn y 30 mlynedd nesaf, nid yn unig ein bod yn atal y dirywiad, ond yn ei wrthdroi—i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun tueddiadau rhyngwladol sy’n gwneud hyn yn hynod o anodd. Felly, peidiwch â gadael i ni fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor anodd yw hyn.

Mae aelodau Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chymunedau’r Cynulliad wedi bod yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth ers nifer o fisoedd bellach, ac mae’r heriau sydd o’n blaenau yn amlwg. Mae un darn o dystiolaeth—nid oes gennym ffigurau swyddogol y Llywodraeth ar hyn eto—a ddaeth i law yn awgrymu bod angen i ni greu 9,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn rhwng nawr a 2050 er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn—9,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol. Mae hon yn her sylweddol pan gofiwch mai 30 y cant yn unig—

Leanne Wood a gododd—

Leanne Wood, byddwn yn hapus i dderbyn ymyriad, ond mae arnaf ofn nad wyf yn gallu eich clywed.

Rwy’n credu ei fod yn mynd i gael ei wneud hyd yn oed yn fwy anodd pan fydd gennych wrthwynebiad yn lleol i’r camau bach sy’n cael eu gwneud tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, pam rydych wedi bod mor wrthwynebus iddo?

Rhowch gyfle i mi ddatblygu fy nadl a byddaf yn hapus i fynd i’r afael â hynny, ond yn syml iawn, nid wyf yn derbyn y syniad fod pobl sy’n pryderu am y ffordd y mae’r polisi hwn yn cael ei weithredu yn Sir Gaerfyrddin yn gwrthwynebu’r polisi. Un o’r pethau roeddwn yn ddig iawn yn eu cylch yn y ddadl dros y misoedd diwethaf yw bod pobl sy’n mynegi pryderon dilys ynglŷn â’r heriau ymarferol rydym yn eu hwynebu yn cael eu cyhuddo o fod yn wrth-Gymreig.

Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych, Leanne Wood, fel rhywun y mae gennyf barch mawr tuag atoch, roeddwn yn siomedig iawn ynglŷn â’r ffordd y rhyddhawyd yr heidiau seiber arnaf ar Twitter pan benderfynoch ddod yn rhan o’r ddadl hon, ar ben y ffaith fod Neil Hamilton wedi dod i mewn i’r ddadl mewn ffordd anffodus, ddi-fudd ac ymfflamychol, mae’n rhaid i mi ddweud. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rwyf wedi rhoi llawer iawn o ymdrech amyneddgar i geisio tynnu’r gwres allan o’r ddadl hon, ac roedd Neil Hamilton—.

Wel, rwy’n herio Leanne Wood i roi enghraifft o’r hyn a wneuthum i ddwysau’r ddadl hon.

Roeddwn yn ystyried ei bod yn wirioneddol ddi-fudd fod Neil Hamilton wedi ymuno â’r llinell biced yn Llangennech, a theimlwn ei fod yn amharchus iawn o’r pentref, yr ysgol, yr athrawon a’r disgyblion yn y pentref hwnnw. Cafwyd—

Neil Hamilton a gododd—

Na, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd, os caf—mae llawer o bwyntiau rwyf am eu cynnwys mewn amser byr.

Ceir rhai pryderon gwirioneddol ym mhentref Llangennech ynglŷn â’r ffordd y mae hyn wedi cael ei weithredu. Mae i Simon Thomas ddweud nad oes lle i gwestiynu’r penderfyniad yn anghywir yn fy marn i. Mae’r broses a nododd yn un anghyflawn, gan mai’r un peth sydd ar goll gennym yma yw bod pryder gwirioneddol ymysg rhieni sydd wedi rhoi cenedlaethau o’u plant drwy ysgol ddwy ffrwd yn y pentref ac sydd wedi ymrwymo’n ddwfn i ddyfodol yr iaith Gymraeg, rhieni a oedd yn teimlo bod y penderfyniad yn cael ei wneud iddynt. Er ei fod, do, wedi mynd drwy strwythurau ffurfiol y cyngor, i’r gymuned nid oedd wedi cael ei drafod yn agored. Gallaf roi—. Rydych yn dweud bod y cyngor cymuned wedi ei drafod—do, fe wnaeth, fel corff gwleidyddol.

Gallaf roi profiad personol o fod wedi mynd i ysgol Llangennech fel darpar riant tua 18 mis yn ôl i edrych o gwmpas ac ni chafodd ei grybwyll wrthyf unwaith—nid unwaith—gan athrawon yr ysgol honno fod yna gynllun i droi Llangennech yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Felly, ni chafodd hyn ei wneud yn y ffordd fwyaf agored a thryloyw ac rwy’n credu y dylem ddysgu’r wers o hynny, gan fy mod o ddifrif eisiau i ni gyflawni’r polisi hwn ac rwyf o ddifrif eisiau cael gwared ar unrhyw ddrwgdeimlad a thensiwn o’r drafodaeth, gan nad wyf yn credu ei fod yn ddefnyddiol.

A all yr Aelod barhau os gwelwch yn dda ac rwy’n siŵr y bydd arweinydd Plaid Cymru yn ceisio ymyrryd os yw hi eisiau, ond nid yw’n—

Byddwn yn hapus i dderbyn ymyriad gan Leanne Wood, am fy mod yn meddwl bod y sylw’n annheilwng ohoni. Os yw eisiau ymyrryd rwy’n hapus i ildio iddi, gan fy mod yn ystyried bod ei chyfraniad hyd yn hyn yn ymfflamychol.

Nid wyf yn meddwl y byddech wedi gwneud y cyfraniad hwn heddiw pe baech o ddifrif am yr hyn yr oeddech yn ei ddweud. Rydych wedi ymuno ag arweinydd UKIP i wrthwynebu’r datblygiad hwn, sy’n bolisi gan eich Llywodraeth eich hun. Rwy’n credu eich bod wedi ymddwyn yn anghyfrifol ac o ran y sylwadau a gawsoch ar y cyfryngau cymdeithasol—pan fyddwch yn arddel safbwyntiau o’r fath, rhaid i chi fod yn barod i gael eich craffu a dyna sydd wedi digwydd i chi yma.

Rwy’n meddwl bod y mwgwd wedi llithro y prynhawn yma, Llywydd. Rwy’n credu eich bod wedi dangos eich lliwiau go iawn yno, Leanne Wood, sy’n ceisio arfogi’r ddadl hon am resymau di-fudd. Rwyf wedi ceisio’n galed iawn i dynnu’r gwres allan o’r ddadl hon ac nid wyf yn credu bod pardduo rhieni sydd â phryderon dilys o unrhyw fudd. Roeddwn wedi gobeithio—[Torri ar draws.]

Gadewch i’r Aelod barhau, os gwelwch yn dda, Blaid Cymru. Rydych wedi cael eich cyfle. Lee Waters.

Ac mae hyn yn nodweddiadol o’r ddadl yr ydym wedi bod yn ei chael, yn anffodus, fod gwir bryderon didwyll rhywun sydd am i’r polisi hwn lwyddo yn wynebu heclo a gweiddi gan bobl yn lladd ar fy nghymhellion tuag at yr iaith, ac rwy’n ddig yn ei gylch ac mae angen i’r Cynulliad hwn wneud yn well na hynny. Ac os ydym yn mynd i fynd â phobl Cymru gyda ni, mynd â phobl fy etholaeth gyda ni, mae angen i ni wneud yn well na hyn. Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â sylwadau Plaid Cymru ac mae’n rhaid i mi ddweud, roeddwn wedi disgwyl gwell ganddynt.

Roeddwn wedi gobeithio crwydro’n llawer ehangach i edrych ar rai o’r materion sydd wedi codi y prynhawn yma, Llywydd, ond er mwyn ceisio—[Torri ar draws.]

Blaid Cymru, a wnewch chi fod yn dawel, os gwelwch yn dda, a chaniatáu i’r Aelod barhau?

Dyma rwyf wedi bod wedi gorfod ei ddioddef, Llywydd, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddefnyddiol. Rwyf o ddifrif eisiau gweithio ar sail drawsbleidiol i ddod â’r gymuned gyda ni i gyflawni’r polisi hwn ac mae gennyf ofn fod Leanne Wood, er ei holl sylwadau fel arall, wedi cyflawni’r gwrthwyneb.

Diolch i Lee Waters am yr hyn a oedd yn gyfraniad da iawn i’r ddadl heddiw yn fy marn i. Rwy’n credu bod y ddadl heddiw yn un bwysig gan fy mod yn credu ei bod yn cyffwrdd ar y tensiwn sy’n cael ei gynhyrchu weithiau pan ddaw dau amcan gwleidyddol gwahanol benben â’i gilydd. Un o’r amcanion yw nod Llywodraeth Cymru o gyflawni 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, y bydd addysg yn chwarae rhan hanfodol ynddo, fel y dywedodd Darren Millar. Yr ail amcan, neu efallai y dylwn ddweud egwyddor, yw’r egwyddor o ddewis rhieni.

Nawr, ym mholisi addysg Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, ceir rhywfaint o ymrwymiad i ddewis rhieni ac yn sicr, Llywodraeth ryfedd a fyddai’n gwrthwynebu’r egwyddor hon yn agored. Ond yn Llangennech, mae’n ymddangos ein bod yn gweld yr egwyddor honno o ddewis rhieni yn mynd benben â’r ymgyrch am fwy o addysg cyfrwng Cymraeg. Fy nghred yw bod llawer o gymuned Llangennech yn gwrthwynebu’r ymgyrch hon dros addysg cyfrwng Cymraeg yn y ffurf y caiff ei chynnig, hynny yw, troi’r ysgol gynradd ddwy ffrwd yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Drwy geisio gwthio’r newid drwodd drwy rym, rwy’n credu efallai fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio yn erbyn y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd.

Cafodd hyn ei gydnabod gan yr AS Llafur lleol, Nia Griffith, yr amlinellwyd ei chyfraniad i’r ymgynghoriad yn gynharach heddiw gan Neil Hamilton, felly nid wyf am ailadrodd y dyfyniad. Ond yr hyn yr oedd Nia Griffith yn ei fynegi oedd ei hofn, pe bai’r ysgol yn troi i fod yn un cyfrwng Cymraeg, yna efallai y byddai llawer o rieni yn symud eu disgyblion i ysgol cyfrwng Saesneg, hyd yn oed os byddai hynny’n golygu symud cartref. Byddai hyn yn tueddu i drechu diben cyngor Sir Caerfyrddin—[Torri ar draws.] Byddai hyn yn tueddu i drechu diben Cyngor Sir Caerfyrddin o gynyddu cyfranogiad yn y Gymraeg.

Mae polisïau iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru i ryw raddau wedi cael eu gyrru gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, sef grŵp pwyso hynod lwyddiannus. Un o nodau datganedig y Gymdeithas yw ‘addysg Gymraeg i bawb’, sy’n golygu, rwy’n credu, ‘Welsh learning for all’. Mae hyn yn iawn i’r graddau nad yw’n golygu gorfodi addysg cyfrwng Cymraeg i’r rhai nad ydynt yn dymuno hynny. Bydd hynny’n wrthgynhyrchiol. I gloi, mae’n rhaid i ni symud oddi wrth orfodaeth, sef yr hyn yr ydym i’n gweld yn symud tuag ato yn Llangennech, a dychwelyd at y cysyniad o ddewis rhieni.

Roeddwn i’n mynd i fynd ar ôl y—[Torri ar draws.] Diolch yn fawr, Lee.

Diolch yn fawr. Rwy’n falch o dderbyn ymyrraeth cyn i mi agor fy ngheg, ond roeddwn i’n mynd i olrhain cyd-destun hanesyddol yr iaith Gymraeg, tra’n cefnogi’n llwyr fwriad y Llywodraeth fan hyn i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif yma.

Nawr, i fynd yn ôl yn hanes er mwyn gosod y cyd-destun, achos mae rhai yn newydd i hanes Cymru a’r Gymraeg, ysgrifau’r beirdd Aneurin a Taliesin o’r chweched ganrif yw’r Gymraeg hynaf sydd ar gael, gan brofi pa mor fyw oedd yr hen Gymraeg 1,500 o flynyddoedd yn ôl—Cymraeg, iaith wreiddiol ynysoedd Prydain. Yn rhyfeddol, mae yna 562,000 o bobl yng Nghymru heddiw yn dal yn gallu siarad Cymraeg, gyda rhyw 600,000 arall â rhyw afael ar yr iaith. Felly, 19 y cant o’r boblogaeth, felly, yn siarad Cymraeg, sy’n lleiafrif eithaf sylweddol. Ymfalchïwn yn y ffigurau hynny o gofio beth sy’n digwydd i ieithoedd lleiafrifol eraill mewn cenedl fach wyneb yn wyneb â chenedl fawr. Mae’n fwy gwyrthiol byth o gofio ein hanes fel cenedl.

Achos mae hanes fy mhobl wedi ei drybaeddu mewn gwaed. Yn 1136, lladdwyd Gwenllian drwy dorri ei phen ymaith o flaen ei mab, wedi colli’r frwydr yng Nghydweli. Dioddefodd am ei bod yn Gymraes. Yn 1282, bu Llywelyn ein Llyw Olaf dioddef ffawd debyg a channoedd o’i ddilynwyr hefyd yn cael eu lladd. O 1400 ymlaen, bu i frwydr ddewr Owain Glyndŵr am annibyniaeth ein gwlad esgor ar ladd miloedd dros ryddid. Collasant eu gwaed yn wir, fel y dywed ein hanthem. Gwelodd 1536 Deddf Uno Cymru a Lloegr, a’r Gymraeg yn cael ei gwahardd o fywyd cyhoeddus tan 1993. Esgorodd 1588 ar obaith yr iaith gyda chyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.

Yet, 1847 saw the treachery of the Blue Books as it was called, as the authorities insulted and vilified the Welsh language, causing persistent humiliation and shame for generations to come. That’s what we’ve got to still, partially, be answerable to these days. The education Act brought primary school education in the medium of English to all. The Welsh Not was hung around Welsh-speaking children’s necks and, if you still had it around your neck at the end of the day, you were caned. It’s over a century ago that that happened to my grandfather in Llanegryn in sir Feirionydd. It is the depth of hurt that each generation has felt down the centuries that has generated the absolute determination that Welsh will survive and will be passed on to each succeeding generation and that the mountains and Valleys will forever resonate to the lilting tones of Welsh.

Yes, 19 per cent of the population Welsh speaking: remarkable. I applaud rights-based policies as applied to disabilities, gender issues, sexuality, faith and race—all are written into legislation today. Such rights truly are enshrined regardless of any supposed goodwill of the majority of the population towards the minority, regardless of cost, regardless of the numbers using a particular service, and regardless of whether it is the public or private sector that’s involved. The individual’s right is sovereign, but we do not have that for the users of Welsh at the moment. Certain plants have legal protection, whereas Welsh historic place names have no such protection.

The history and historic hurt remain. I know that many other nations have endured horrendous hurt and bloodthirsty histories and we are guilty in our frustrations, as Welsh speakers, of not putting our case over at all well at times. We can all ignore this history on occasion as well, and belittle past events, but we can certainly put up with ridicule, scorn and abuse, because, as a nation, we have survived a concerted attempt over centuries to obliterate our language and culture from the face of the earth. But, ‘Hey’, people say when I go on like this, ‘Lighten up, Dai; forget that history’. But, you know, it’s the history of the victor that still holds sway today. That’s why, during the last century, Penyberth bombing school was built in Welsh-speaking Llŷn—because they could. The Mynydd Epynt clearance of Welsh-speaking farmers by the Ministry of Defence during the last war—because they could. The drowning of Tryweryn—because they could. And, yes, elements in the Llangennech debate—because they could. The latest attempt to rub our noses in it, as a conquered nation.

The villages and towns of my youth that once resonated to the lilting tones of Welsh now speak in English. But this Cymraeg, this derided Welsh language, is not ours to give up. Europe’s oldest living language is the treasure trove of future generations and merits respect from all who choose to live and work in Wales. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n falch fy mod i’n gallu cytuno gydag o leiaf brawddeg olaf Dai. Ond a gaf i ddweud hyn? [Torri ar draws.] A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn, wrth ymateb ar ran y Llywodraeth? Pan fyddem ni’n trafod yr iaith Gymraeg fel arfer yn y Siambr yma, rydym ni’n clywed y fath o areithiau glywom ni gan Darren Miller a Simon Thomas, ac rwy’n credu mai dyna’r fath o areithiau rydym ni eisiau gweld yn y dyfodol. Dyna’r fath o areithiau sy’n mynd i uno’r wlad, ac sy’n mynd i uno gwleidyddion, ac sy’n mynd i uno cymunedau, ac sy’n mynd i’n huno ni fel cenedl. Mae’r fath o waeddu a heclan rydym ni’n gweld ambell waith yn creu rhwyg. Nid ydym eisiau hynny, ac mae’n rhaid i bawb dderbyn hynny. [Torri ar draws.] A gaf i—? A gaf i—?

[Anghlywadwy.]—gradd Meistr mewn heclo. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad—[Torri ar draws.]. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad yn ein Senedd genedlaethol ni. A gaf i ddweud hyn? Rydw i hefyd yn cytuno â’r ffordd mae rhai siaradwyr y prynhawn yma wedi dweud y buaswn i ddim wedi dewis trafod un cynnig i newid un ysgol mewn un gymuned ar draws Cymru. Mi fuasai’n well gen i gael trafodaeth amboutu sut rydym ni’n cynnig addysg i’n plant ni, ble bynnag maen nhw. Rydw i’n credu, pan fyddem ni’n dewis cael trafodaeth ddiflas fel rydym ni wedi cael y prynhawn yma, rydym ni’n dewis anwybyddu y gwir her o greu siaradwyr Cymraeg sy’n ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg, ac sy’n ymfalchïo yn yr ymdrech ar draws Cymru i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg. Ein huchelgais ni fel Llywodraeth yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid oes dwywaith bod hwn yn uchelgais heriol, ond y neges rydw i eisiau cyfathrebu y prynhawn yma yw ein bod ni wedi dewis gwneud hynny oherwydd rydym ni eisiau herio Cymru, rydym ni eisiau herio ein hunain, ac rydym ni eisiau ein herio ni fel cenedl i sicrhau bod y fath o uchelgais rŷm ni’n rhannu, ac rydw i’n credu sy’n cael ei rhannu ar draws y Siambr—y rhan fwyaf o’r Siambr, o leiaf—yn un sy’n gallu tanio dychymyg pobl ar draws Cymru.

Rydw i eisiau gweld trafodaeth ddifyr. Rydw i eisiau gweld trafodaeth bositif amboutu sut rŷm ni’n gallu ehangu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i eisiau gweld trafodaeth amboutu sut rŷm ni’n gofyn i rieni a phlant ymfalchïo yn ein hiaith a dysgu’r iaith er mwyn gallu siarad a defnyddio yr iaith Gymraeg. Nid ydw i’n credu bod, ambell waith, y math o drafodaeth rŷm ni’n cael y prynhawn yma yn mynd i helpu hynny. Nid ydw i’n credu bod hynny’n mynd i fod o gymorth i ni. ‘In fact’, rydw i’n meddwl ei fod yn mynd i’n rhwystro ni rhag gwneud hynny, mae’n mynd i’n dal ni nôl rhag gwneud hynny. Pan fyddaf i’n clywed pobl sy’n dweud eu bod nhw’n credu yn nyfodol yr iaith Gymraeg, ond yn gweiddi ar bobl sydd efallai ddim yn rhannu yr un fath o ‘enthusiasm’ ag y maen nhw, beth rydw i’n gweld yw pobl nad ydynt yn practeisio’r fath o ‘tolerance’ sydd angen arnom ni yn y wlad yma. Mae angen i ni ddal dychymyg pobl, ond hefyd estyn mas i bobl: estyn mas i deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd, estyn mas i bobl sydd efallai ddim yn hyderus amboutu addysg Gymraeg, estyn mas i bobl i sicrhau ein bod ni’n gallu trosglwyddo’r iaith Gymraeg i gymunedau ble mae e wedi cael ei golli, estyn mas i bobl sydd efallai ddim yn gweld y manteision o siarad a defnyddio’r iaith Gymraeg—estyn mas i bobl, a pheidio â’u gweiddi nhw i lawr. Dyna’r siom rydw i’n ei theimlo ambell waith pan fyddaf i’n gweld y fath o drafodaeth rydym ni wedi’i gweld yn Llangennech a mannau eraill. Rydw i am ddilyn y fath o ddadl y prynhawn yma, wrth ymateb i’r drafodaeth rydw i wedi clywed gan Darren a Simon, achos rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar sut rydym ni yn gallu cryfhau’r cynllunio sy’n digwydd mewn awdurdodau lleol. Roeddwn i’n falch iawn bod Aled Roberts wedi cytuno i’m cynnig i i adolygu’r WESPs sydd gennym ni, ac mae Darren yn gwbl iawn yn ei ddadansoddiad; mae’n rhaid inni symud ymlaen gyda hynny yn brydlon. Nid oes rhaid inni oedi ar hynny, ac rydw i’n gwybod bod Llyr Gruffydd wedi gwneud yr un pwynt sawl tro, ac rydw i’n cytuno â chi pan fyddwch chi’n gwneud y pwyntiau yna. Mae’n rhaid inni symud ymlaen gyda hynny. Rydw i’n mawr obeithio y gall Aled adrodd nôl inni ddechrau’r haf, ac, unwaith rydym ni’n gwneud hynny, rydw i’n mawr obeithio ein bod ni’n gallu, wedi hynny, sicrhau ein bod ni’n gallu symud ymlaen i sicrhau bod gyda ni gynlluniau rydym ni’n gallu eu gweithredu.

Roeddwn i’n falch gweld bod Darren Millar wedi tynnu ei welliant nôl a chefnogi gwelliant y Llywodraeth. Mae gwelliant y Llywodraeth yn y drafodaeth yma i fod yn welliant positif i uno pobl tu ôl i’r un nod o gefnogi’r iaith Gymraeg a chreu miliwn o siaradwyr.

Rydym ni’n gwrthwynebu’r pedwerydd gwelliant gan Paul Davies. Rydym ni’n gwrthwynebu’r gwelliant, ond nid ydym ni’n gwrthwynebu’r ysbryd tu ôl i’r gwelliant. Rydw i’n cytuno â sawl rhan o’r gwelliant. Rydym ni’n ei wrthwynebu fe y prynhawn yma, ond mae’n drafodaeth rydw i’n credu bod yn rhaid inni barhau i’w chael ac rydw i’n hapus iawn i barhau’r drafodaeth gyda Darren Millar neu gyda Paul ei hun. Ein blaenoriaeth ni dros y pum mlynedd nesaf yw creu gweithlu gyda sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn golygu cynllunio i gefnogi’r gwaith o hyfforddi athrawon a chynorthwywyr dysgu, ehangu cynlluniau sabothol ar gyfer y gweithlu cyfredol a chynyddu’n sylweddol nifer y gweithwyr yn y sectorau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Rydym ni’n deall hynny ac mi fyddwn ni’n gwneud hynny.

Rydym ni hefyd yn gwrthwynebu’r pumed gwelliant, gan Paul Davies. Mae’r cod trefniadaeth ysgolion yn glir bod rhaid i unrhyw achos o blaid cau ysgol fod yn un cryf—ac y bydd darpariaeth addysgol yn yr ardal o dan sylw. Dylai cynigwyr ystyried beth arall y gellid ei wneud yn hytrach na chau ysgol. Dylent ystyried yr effaith debygol ar y gymuned, a hynny trwy gynnal asesiad o’r effaith ar y gymuned.

Derbyniwn ni welliant 6 mewn perthynas â buddion dwyieithrwydd, ac rydw i wedi siarad, rydw i’n credu, yn ddigon clir digon o weithiau—mae’r Llywodraeth yn gweld buddion dwyieithrwydd. Mae Simon Thomas wedi gwneud pwynt arbennig o dda pan mae’n dod i hyrwyddo addysg Gymraeg. Rwy’n credu, yn y gorffennol, bod Llywodraethau wedi bod yn swil amboutu gwneud hynny. Mi fyddaf i’n gwneud datganiad nes ymlaen yr wythnos yma ar sut rydym ni’n mynd i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac rydw i’n mawr obeithio y bydd rhywfaint o hyn nid efallai’n cael ei adlewyrchu—nid yr wythnos yma, ond pan rydym ni’n dod at strategaeth yr iaith Gymraeg yn nes ymlaen y flwyddyn yma.

Ond a gaf i droi at yr wythfed gwelliant? Rydw i’n deall bod cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sir Gâr yn nodi bod yr awdurdod yn dymuno gweld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei ehangu, ond nid oes cyfeiriad penodol at gynigion i gau ysgol Llangennech. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae’r cod trefniadaeth ysgolion yn nodi’r broses ar gyfer trefniadaeth ysgolion. Ni ddylid drysu hyn â’r rheolau ar gyfer cyflwyno’r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Roedd y cynigion ar gyfer Llangennech yn hollol gyson â’r dymuniad cyffredin hwnnw a gyda strategaeth cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid i gasglu tystiolaeth er mwyn llunio Papur Gwyn i ymgynghori ar y materion yma dros yr haf.

Llywydd, a gaf i ddod â’m sylwadau i i ben gyda’r geiriau yma? Rydym ni wedi cael trafodaeth galed y prynhawn yma ac nid ydym ni wedi gweld digon o oleuni efallai yn ystod y drafodaeth yma, ac mae hynny wedi bod yn siom imi. A gaf i ddweud hyn? Rwy’n credu bod angen inni uno yn ystod y trafodaethau yma. Rwy’n credu bod yna gytundeb ar ble ydym ni’n moyn bod yn y dyfodol. Rwy’n credu bod yna gytundeb ar y cynllun a’r weledigaeth, ac nid jest gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw hon. Nid jest gweledigaeth Llywodraeth Cymru—gweledigaeth ar gyfer Cymru fel cenedl ac fel cymunedau ar draws Cymru. Nid Gweinidogion neu wleidyddion fan hyn, nac yn unrhyw le arall, sy’n mynd i achub yr iaith Gymraeg; pobl yn defnyddio ac yn siarad ac yn dewis siarad yr iaith Gymraeg fydd yn sicrhau dyfodol i’r iaith ac i’n diwylliant ni. Ac er mwyn gwneud hynny, mae gan bob un ohonom—pob un ohonom, ble bynnag rŷm ni’n eistedd yn fan hyn—ddyletswydd i sicrhau ein bod ni’n tanio trafodaeth bositif i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Diolch, Llywydd. Wel, rwy’n cymeradwyo popeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud yn ei araith y prynhawn yma, ac mae’r nodyn y daeth i ben ag ef yn hollol gywir; fod yn rhaid inni gael pobl i ddewis defnyddio’r Gymraeg. Ni ellir eu gorfodi i’w defnyddio os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ac nid yw’r math o agweddau a welsom o’r ochr arall i’r llawr heddiw yn debygol o arwain at yr amcan hwnnw—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

A fyddech yn gweld mai’r mater craidd wrth wraidd y ddadl hon yw hyn: os ydym am roi’r dewis i bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau fel oedolion, mae’n rhaid i ni roi’r gallu iddynt siarad yr iaith honno, ac mai addysg yw’r ffordd allweddol o sicrhau bod ganddynt y sgiliau hynny?

Ydw, wrth gwrs fy mod yn derbyn hynny. Rwy’n cefnogi polisi’r Llywodraeth. Y cyfan rwy’n ei ddweud yw y dylem, wrth weithredu’r polisi hwnnw, fod yn sensitif i farn leol, yn enwedig barn y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan benderfyniadau addysgol. Y gwrthwyneb sy’n digwydd yn Llangennech. Cyfeiriodd Simon Thomas, yn ystod ei araith, at y ffaith fod llywodraethwyr yr ysgol yn cefnogi’r cynnig hwn, ond cynhaliodd llywodraethwyr yr ysgol noson rieni y llynedd lle roedd 70 o bobl yn bresennol, a phleidleisiodd 68 yn erbyn y cynigion a phleidleisiodd dau o’u plaid. Gofynnwyd i gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Tim Davies, a gadeiriodd y cyfarfod, fel eiriolwr y rhieni, a fyddai’n mynd â chanlyniad y cyfarfod hwnnw at Gyngor Sir Caerfyrddin a’i gefnogi, a dywedodd ‘na’. Gofynnwyd iddo’r eilwaith, ac atebodd gan gadarnhau hyd yn oed pe bai’r bleidlais yn unfrydol y byddai’n dal i ddweud ‘na’ gan ei fod yn bersonol am i’r ysgol newid i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Nid yw hynny’n cynrychioli buddiannau’r rhieni y mae i fod i’w cynrychioli fel cadeirydd.

Nawr, wrth gwrs, rwy’n deall rhwystredigaeth Plaid Cymru a’r rhai sydd am weld y Gymraeg yn iaith fyw ac iaith fwyafrifol yng Nghymru—rwy’n siŵr ein bod i gyd yn ystyried bod araith ymosodol Dai Lloyd yn deimladwy iawn, ac rwy’n cytuno gyda’r teimladau cyffredinol a fynegodd am y gorffennol a’r presennol. Rydym i gyd yn y Siambr hon am weld yr iaith Gymraeg yn llwyddo fel iaith genedlaethol Cymru, ac nid lladd ar gymhellion pobl a dwyn anfri arnynt yw’r ffordd i gyrraedd y nod hwnnw. Mae’n ddrwg gennyf—gwn nad yw’n wleidyddol gywir i ddweud unrhyw beth sy’n ganmoliaethus mewn unrhyw fodd, neu hyd yn oed yn niwtral, am UKIP mewn cylchoedd blaengar, ond nid wyf wedi ceisio cyflwyno unrhyw nodau ymfflamychol i’r ddadl hon, a llai byth yn Llangennech. Y rheswm y deuthum yn rhan o bethau yn Llangennech oedd oherwydd bod y rhieni wedi dod i gysylltiad â mi a gofyn i mi ymweld â’r ysgol gyda hwy, a dyna sut y deuthum yn rhan o hyn yn y lle cyntaf. Maent yn etholwyr i mi, fel y maent yn etholwyr iddo ef, ac yn etholwyr i Simon Thomas ac eraill yn y Siambr hon. Mae agwedd Plaid Cymru, fel y’u cynrychiolwyd gan arweinydd Plaid Cymru, ein bod rywsut yn blaid anghyfreithlon yn y Cynulliad hwn yn rhan o’r broblem. Mae’r rhagfarn blwyfol, gibddall y mae’n ei dangos yn y ddadl hon yn—

[Yn parhau.]—dadl resymegol yn y Siambr hon, anwybyddu’r sylw hwnnw.

Y cyfan rwy’n ei ddweud yw pe bai Plaid Cymru yn gweld ble y mae budd gorau’r polisi y maent yn honni eu bod yn ei gefnogi, byddent yn ceisio bod yn oddefgar a deall ofnau’r rhieni. Efallai eu bod yn gwbl ddi-sail. Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd Simon Thomas am rinweddau dwyieithrwydd. Yn ystod fy ngyrfa addysgol rwyf wedi astudio Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg; nid oes angen i neb fy argyhoeddi ynglŷn â rhinweddau gallu siarad mwy nag un iaith. Rwy’n edifar fy mod wedi gorfod dewis rhwng Almaeneg a Chymraeg pan oeddwn yn yr ysgol, a dewisais Almaeneg am mai dyna oedd yr ethig ar y pryd. Roedd hynny cyn i ni gael Llywodraeth gyda gweledigaeth fel yr un sydd gennym heddiw. Roedd yn fyd gwahanol 50 neu 60 mlynedd yn ôl, ac felly rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r polisi sydd ganddi, ac rwyf wedi dod â fy mhlaid gydag ef. Byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru yn dymuno croesawu hynny ac nid ceisio tanseilio’r polisi drwy ymosod arnom a’n sarhau, oherwydd yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw cyflawni amcan cyffredin. Mae’r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar un mater unigol y farn gyhoeddus a’i phwysigrwydd enfawr wrth gyflawni amcan Llywodraeth Cymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf, felly, y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

10. 8. Cyfnod Pleidleisio

Yr unig bleidlais sy’n weddill y prynhawn yma yw’r bleidlais ar ddadl UKIP Cymru. Rydw i’n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau David Rowlands a Neil Hamilton. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 7, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6274.

Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Mae gwelliant 1, felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 35, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6274.

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Y bleidlais nesaf ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly, fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy’n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6274.

O—a sylwodd unrhyw un? [Chwerthin.] Fe symudwn ymlaen, rwy’n meddwl.

Amendment 5. I call for a vote on amendment 5 tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 17, nine abstentions, 26 against. Therefore, amendment 5 is not agreed.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 17, Yn erbyn 26, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6274.

Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6274.

Gwelliant 7. Galwaf am bleidlais ar welliant 7 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, yn erbyn 26. Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy’n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6274.

Galwaf am bleidlais ar welliant 8 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, 11 yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 31, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 8 i gynnig NDM6274.

Cynnig NDM6274 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

3. Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu’r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo’r Gymraeg.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

5. Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.

6. Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6274 fel y’i diwygiwyd: O blaid 51, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6274 fel y’i diwygiwyd.

Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel. Mae gennym ddwy eitem o fusnes i’w cwblhau.

11. 9. Dadl Fer (Ail-drefnwyd o 22 Mawrth): Undebau Credyd—Cyfraniad Allweddol i Fynd i'r Afael ag Allgáu Ariannol

Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer hon ar rôl bwysig undebau credyd wrth helpu i fynd i’r afael ag allgáu ariannol, mater pwysig mewn rhannau o fy etholaeth ac mewn ardaloedd difreintiedig ar draws Cymru. Rwy’n hapus i roi munud o fy amser i Jayne Bryant a Mark Isherwood yn y ddadl hon.

Lywydd, y gwahaniaeth sylfaenol, wrth gwrs, rhwng undebau credyd ac unrhyw fenthycwyr ariannol eraill yw eu bod yno i wasanaethu’r aelodau ac nid i wneud yr elw mwyaf i gyfranddalwyr. Mae undebau credyd yn gwmnïau cydweithredol democrataidd sy’n eiddo i’r aelodau ac yn canolbwyntio ar ddarparu budd cymdeithasol go iawn i gymunedau lleol lle y maent wedi’u lleoli. Maent yn amrywio’n fawr o ran maint, o’r bach iawn i rai gyda thros 15,000 o aelodau. Ymhlith eu prif fuddion, mae undebau credyd yn darparu ffynhonnell fforddiadwy o gredyd wedi’i gapio ar 3 y cant y mis—lawer is nag unrhyw beth sydd ar gael o ffynonellau eraill. Maent yn diogelu cynilion: caiff yr holl gynilion hyd at £85,000 eu diogelu o dan gynllun iawndal ariannol y DU ac mae llawer o undebau credyd yn cynnig yswiriant bywyd heb fod unrhyw gost ychwanegol. Maent yn canolbwyntio ar y gymuned ac o dan y trefniadau bond cyffredin maent wedi’u cysylltu o ran eu hanfod â chymunedau lleol—gyda’r arian a gynilwyd yn yr undeb credyd a’r benthyciadau y mae’n eu rhoi yn aros i raddau helaeth o fewn y gymuned leol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nid yn ôl gweithdrefnau amhersonol, sy’n awtomataidd i raddau helaeth, y mae undebau credyd yn gwneud eu penderfyniadau ar roi benthyciadau ond yn amlach na pheidio ar sail cyfweliadau wyneb yn wyneb gydag aelodau. Bydd rhan o unrhyw asesiad ar gyfer benthyciad yn seiliedig ar brofiad aelodaeth yr unigolyn o’r undeb credyd. O ganlyniad, bydd benthyciadau cost isel yn cael eu rhoi i nifer o ymgeiswyr a allai’n hawdd fod wedi cael eu heithrio rhag cael benthyciadau gan ddarparwyr prif ffrwd eraill ac a allai fel arall gael eu gorfodi i droi at fenthycwyr arian didrwydded a diegwyddor neu fenthycwyr eraill gyda llog afresymol o uchel sy’n camfanteisio ar bobl sy’n cael trafferth i ymdopi, gan eu harwain i lefelau uwch o ddyled.

Cydnabyddir bod rhan ganolog gan undebau credyd, wrth gwrs, yn cefnogi cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru. Ar yr adeg hon o galedi a orfodwyd arnom, rydym wedi gweld cyfres o doriadau i fudd-daliadau lles, sydd wedi ychwanegu at nifer y bobl yng Nghymru sy’n wynebu allgáu ariannol. Ni fydd y darlun yn gwella wrth i doriadau pellach a gynlluniwyd ddod i rym.

I’r rhan fwyaf ohonom, mae cymryd benthyciad yn ymwneud â phrynu car newydd neu rywbeth drud ar gyfer y cartref, neu wyliau moethus unwaith mewn oes efallai. I’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, sy’n aml yn byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac sy’n cael eu taro’n amlach na neb gan doriadau i fudd-daliadau lles, mae’n debyg y bydd benthyciad yn ymwneud â’u gallu i dalu’r rhent, i dalu biliau cyfleustodau neu hyd yn oed i fwydo’r teulu. I’r bobl hyn, gallai benthyciad gan undeb credyd fod yn achubiaeth. Wrth edrych ar undeb credyd Merthyr Tudful yn fy etholaeth i, dengys ystadegau ar gyfer y chwe mis diwethaf fod dros 400 o’r 990 benthyciad a gymeradwywyd yn gysylltiedig â helpu pobl i brynu nwyddau adeg y Nadolig, tra bod bron i 70 yn ymwneud â thalu biliau pwysig, ôl-ddyledion rhent, prynu dillad neu gyfuno dyled, a phob un ohonynt yn dangos rôl hanfodol undebau credyd yn helpu’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd.

Yng Nghymru, mae gennym oddeutu 80,000 o bobl sy’n aelodau o undeb credyd. Mae’r aelodaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 50 y cant yn y pum mlynedd diwethaf ac mae’r twf mewn aelodaeth, asedau a benthyciadau ar gyfer y cyhoedd wedi bod yn fwy yma nag yn unman arall yn y DU. Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi y llynedd, cyrhaeddodd benthyciadau i aelodau gyfanswm o £22.3 miliwn, cynnydd o 12 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Yn fwyaf arwyddocaol i mi, mae’r ffaith fod undebau credyd yng Nghymru yn 2015-16 wedi rhoi dros 10,000 o fenthyciadau, gwerth £9.2 miliwn, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol. Fodd bynnag, er gwaethaf y twf hwn yn aelodaeth undebau credyd yng Nghymru, ar 2.7 y cant o’r boblogaeth a tharged o gyrraedd 5 y cant erbyn 2011, mae’n parhau i fod yn is na lefel yr aelodaeth yn yr Alban, ar 7 y cant, a Gweriniaeth Iwerddon, ar y lefel anhygoel o 75 y cant. Er hynny, dylid nodi bod y twf a welsom yng Nghymru yn deillio i raddau helaeth o’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi. Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i undebau credyd, sefydlwyd cronfa o fwy na £420,000 ar gyfer 2017-18 gyda’r nod o gynorthwyo undebau credyd yma i symud tuag at sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor eu hunain, er mwyn peidio â bod yn ddibynnol ar arian cyhoeddus yn y dyfodol. A dyna, wrth gwrs, yw un o’r heriau go iawn i’n hundebau credyd yng Nghymru. Oherwydd er y cynnydd sylweddol yng nghyfanswm gwerth y benthyciadau gan undebau credyd, dengys dadansoddiad o lefel y benthyciadau gan undebau credyd i aelodau, fod hyn wedi disgyn islaw cyfradd y cynnydd yn asedau undebau credyd. Felly, oni bai bod undebau credyd yn gallu cynyddu cymhareb benthyciadau, byddant yn ei chael yn fwy anodd bod yn ddigon proffidiol i gynyddu eu cronfeydd wrth gefn ar gyfradd a fydd yn eu gwneud yn hyfyw yn y tymor hwy.

Mae undeb credyd Merthyr Tudful y cyfeiriais ato’n gynharach yn eithaf nodweddiadol o nifer o rai eraill yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym 1998, ac erbyn 2008, roedd ei aelodaeth wedi cyrraedd 1,200, ac roedd yn cyflogi chwe aelod o staff. Yn yr wyth mlynedd ers hynny, mae’r aelodaeth wedi codi i 4,800, gyda’r undeb credyd bellach yn cyflogi naw aelod o staff, gyda thros 50 o wirfoddolwyr. Maent wedi gweld cynnydd sydyn yn yr aelodaeth, ond canran fach o bobl o hyd a fyddai’n cael eu cynnwys yn ardal y bond cyffredin, ac ni fydd yn cynnwys llawer yn yr ardal y gellid ystyried eu bod wedi’u hallgáu’n ariannol. Felly, er bod aelodaeth o undebau credyd wedi cynyddu, yn aml digwyddodd hynny ymhlith pobl fel ni sydd wedi ymrwymo i’r athroniaeth sy’n sail i undebau credyd, ac nid yw’r aelodaeth ymysg y rhai a fyddai’n elwa fwyaf wedi cynyddu ar yr un gyfradd.

Lywydd, er gwaethaf y gefnogaeth ariannol a ddarperir i’r undeb credyd gan Gyngor Merthyr Tudful, roeddwn yn synnu clywed mai’n ddiweddar yn unig y mae’r undeb credyd wedi bod yn trafod sefydlu cynllun didynnu o’r gyflogres gyda hwy, a hyd yma ychydig o gynlluniau didynnu o’r gyflogres yn unig sydd ganddo gyda busnesau lleol. Nid yn unig y mae cynlluniau didynnu o’r gyflogres llwyddiannus yn arwain at gynyddu’r aelodaeth, yn aml, pobl mewn cyflogaeth sicr, gyda chyflogau rhesymol sy’n cymryd y benthyciadau mwy o faint a mwy hirdymor sy’n galluogi’r undeb credyd i fod yn ddigon proffidiol i wneud benthyciadau llai o faint, byrdymor yn aml, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol, sef y bobl, wrth gwrs, y mae undebau credyd yn y sefyllfa orau i’w helpu.

Felly, wrth gydnabod pwysigrwydd undebau credyd yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, beth y gallwn ei wneud fel Aelodau Cynulliad i sicrhau bod undebau credyd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? Wel, rwy’n gweld fy hun fel un sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn siarad â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn fy ardal ynglŷn â darparu cyfleusterau didynnu o’r gyflogres ar gyfer eu gweithwyr eu hunain a hyrwyddo eu hundebau credyd lleol yn eu deunydd cyfathrebu. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddefnyddio prosesau caffael i annog unrhyw gontractwyr y maent yn eu defnyddio i ddarparu trefniadau tebyg hefyd. Yn yr un modd, pan fyddaf yn cyfarfod â chwmnïau yn y sector preifat, byddaf yn eu hannog i edrych ar hyrwyddo’r undeb credyd lleol gyda’u gweithwyr, ac fel Cynulliad dylem wneud mwy i hyrwyddo manteision undebau credyd ar bob cyfle.

Ddirprwy Lywydd, wrth i ni barhau i wynebu heriau polisïau caledi wedi’u gyrru gan Lywodraeth y DU, bydd undebau credyd yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, ac mae gennym ddyletswydd i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gallant oroesi a ffynnu.

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud o’i hamser i mi yn y ddadl hon. Gall undebau credyd chwarae rôl weithredol yn addysg ariannol pobl ifanc. Mae Undeb Credyd Casnewydd, gyda bron i 1,000 o gynilwyr yn yr undeb, yn gweithredu clybiau cynilo yn yr ysgol mewn pedair ysgol gynradd. Gyda chymorth athrawon, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol mae’n dysgu am werth a phwysigrwydd cynilo arian i blant. Mae hyn yn gwbl hanfodol. Roedd yn bleser gennyf groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i un o’r clybiau cynilo yn Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn ddiweddar. Rwy’n siŵr y byddai’n cytuno ei bod yn wych clywed gan y bobl ifanc am eu brwdfrydedd ynglŷn â chynilo a beth y maent yn cynilo ar ei gyfer. Mae Undeb Credyd Casnewydd yn bwriadu mynd ymhellach a sefydlu clybiau cynilo mewn ysgolion uwchradd, lle y mae’r disgyblion eu hunain yn gweithredu’r clybiau ac yn cymryd peth cyfrifoldeb am y mannau casglu. Mae’r rhain yn fentrau gwych ac mae’n rhaid eu hannog a’u cefnogi i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall pwysigrwydd cynilo a pheryglon dyled.

Fel rhywun a fu’n gweithio yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol o’r blaen, roeddwn yn croesawu Deddf undebau credyd y DU 2012, a oedd yn rhyddhau undebau credyd i weithio gyda darparwyr tai, grwpiau cymunedol, cyflogwyr, mentrau cymdeithasol ac elusennau i ddod â gwasanaethau ariannol i grwpiau newydd o bobl.

Er bod aelodaeth undebau credyd yng Nghymru wedi tyfu 50 y cant yn y pum mlynedd diwethaf, gydag 80,000 o aelodau bellach, yr undebau credyd yng Nghymru yw benthycwyr mwyaf credyd fforddiadwy i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol, a hynny o bell ffordd. Oddeutu 2.5 y cant o bobl yn unig yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn defnyddio undebau credyd, o’i gymharu â 46 y cant yn yr Unol Daleithiau. Fel y mae undebau credyd yng Nghymru yn dweud, dylai Llywodraeth Cymru barhau i’w helpu yn eu nod o sefydlu sector cwbl annibynnol a chynaliadwy yn ariannol erbyn 2021, gan adeiladu capasiti, sicrhau cydweithio gwell a mwy effeithiol a chefnogi datblygiad cydwasanaethau undebau credyd. Ond dylai Llywodraeth Cymru edrych hefyd ar y model bancio cymunedol dielw a ddatblygwyd yng Nghymru gan Cyllid Cyfrifol, gan weithio gydag undebau credyd lle na all undebau credyd wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am arwain y ddadl hon heddiw. Ceir cydnabyddiaeth glir o’r manteision y gall undebau credyd eu dwyn i unigolion a chymunedau.

Mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol, drwy eu perthynas ag awdurdodau lleol, cyflogwyr lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol, i helpu i gryfhau cadernid ariannol cymunedau drwy wella mynediad at gredyd cyfrifol a chyfleoedd cynilo. Rwy’n glir mai’r adeg orau i ddysgu sgiliau rheoli arian yw pan fyddwn yn ifanc ac mae llawer o undebau credyd yn gweithio ar yr egwyddor hon ac yn estyn allan at ysgolion lleol i helpu i annog arferion cynilo o oedran cynnar. Yn wir, ymwelais ag ysgol Pill yng Nghasnewydd gyda Jayne Bryant i weld eu cynllun cynilo yn yr ysgol sy’n cael ei weithredu gan Undeb Credyd Casnewydd. Cefais fy nghalonogi gan yr hyn a welais—ymweliad pleserus iawn, ond gyda manteision enfawr i’r gymuned honno. Ymwelais â Thredegar yr wythnos diwethaf hefyd, i agor siop undeb credyd newydd yng nghanol y dref, rhywbeth i’w groesawu’n fawr iawn.

Mae undebau credyd yn bartneriaid allweddol yn y cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, ac mae hwn yn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni system ariannol gynhwysfawr sy’n hygyrch i bawb ac yn gweithio’n dda yng Nghymru. Mae’r cynllun cyflawni hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner, yng Nghymru ac ar lefel y DU, ac yn helpu i wella credyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol hygyrch, yn ogystal â mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.

Mae undebau credyd yn darparu rhai o’r camau hyn yn uniongyrchol ac mae ganddynt ran ganolog i’w chwarae yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol. Rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i’r gefnogaeth a roddir i undebau credyd barhau i fynd i’r afael ag allgáu ariannol. Bydd y cyllid rwyf wedi ei neilltuo ar gyfer undebau credyd o’r mis Ebrill hwn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol i gefnogi nifer o’r camau gweithredu hyn. Bydd y rhain yn cynorthwyo’r rhai mwy difreintiedig yn ein cymunedau ledled Cymru i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwyf hefyd wedi cytuno i gronfa grantiau o £422,000 ar gyfer 21 o brosiectau undebau credyd yn 2017-18, yn dilyn proses ymgeisio agored am grantiau. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau cynilo mewn ysgolion a chynlluniau cynilo yn y carchar. Bydd undebau credyd yn cael gwybod a ddyfarnwyd cyllid iddynt cyn bo hir a bydd y gweithgareddau’n cael eu hariannu o 1 Ebrill 2017. Bydd hyn yn helpu undebau credyd i barhau i gefnogi aelodau sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, ac i gyflawni ein cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol, yn ogystal â chynorthwyo cynaliadwyedd hirdymor eu gweithgarwch.

Mae’n bosibl y bydd nifer o’r prosiectau a gyllidir hefyd yn cyfrannu at gynyddu cynaliadwyedd undebau credyd drwy gynyddu’r aelodaeth, a soniodd Dawn am fusnesau ac awdurdodau lleol yn rhan o gyfle i gynilo’n rhwydd. Rwy’n hapus iawn i annog cydweithio o’r fath. Rydym wedi gwahodd prosiectau cydweithredol gan undebau credyd, sy’n cael eu blaenoriaethu yn y broses asesu.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw undebau credyd ar gyfer helpu pobl sy’n cael trafferth i reoli eu harian, hefyd. Mae cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd rhwng mis Ebrill 2014, a Rhagfyr 2016 wedi helpu undebau credyd i gefnogi mwy na 29,000 o aelodau sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, gydag ychydig dros £23 miliwn wedi’i ddarparu mewn benthyciadau i helpu’r rhai sydd angen hyn. Mae hyn yn dangos y rôl y mae undebau credyd yn ei chwarae, ac rwy’n gobeithio y gallwn ymestyn y rôl honno, oherwydd credaf eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned.

Rwyf am weld undebau credyd effeithiol a chynaliadwy wedi’u rheoli’n dda yng Nghymru sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau ariannol credadwy a phroffesiynol, fel y maent yn ei wneud mewn gwledydd eraill, hefyd—cânt eu gweld yn tyfu yn enwedig yn America.

Mae’r sector undebau credyd yng Nghymru wedi cael ei drawsnewid yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Ers 2000, mae aelodaeth undebau credyd wedi codi o tua 10,000 i dros 75,000, a gwn fod llawer o Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn aelodau o undebau credyd, gan gynnwys fi fy hun.

Yn y cyfnod hwn, mae llawer o undebau credyd yng Nghymru wedi cryfhau a phroffesiynoli eu gwasanaethau’n helaeth iawn. Yr uchelgais yn awr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn. Mae’n rhan bwysig iawn o lythrennedd ariannol—cyfle i gael mynediad at gynilo diogel a benthyca diogel. Rydym wedi gweld yr anawsterau y mae cymunedau’n eu hwynebu os ydynt yn troi at fenthycwyr arian didrwydded neu ddulliau gwarthus eraill o fenthyca arian.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Dawn am ei chyfraniad heddiw yn tynnu sylw at raglen lwyddiannus iawn yr undebau credyd yma yng Nghymru, ond fe ddylir ac fe ellir gwneud llawer mwy o waith i’w cefnogi. Diolch.

12. 10. Dadl Fer: Enseffalopathi Trawmatig Cronig a Chwaraeon—A All Cymru Arwain y Ffordd?

Symudwn yn awr at eitem 10, sef dadl fer, a galwaf ar Steffan Lewis i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Steffan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n eithaf hyderus mai hon fydd y fyrraf o’r dadleuon byr, bydd y Gweinidog yn falch o glywed, ar ddiwedd diwrnod hir.

Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i sôn am enseffalopathi trawmatig cronig a’i gysylltiadau posibl â chwaraeon cyswllt fel pêl droed. Deuthum yn ymwybodol o’r mater hwn ar ôl clywed cyfweliad gyda gwraig y diweddar Frank Kopel, cyn chwaraewr Dundee United a gafodd ddiagnosis o ddementia yn 59 oed. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am fwy o ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ers marwolaeth Frankie ac mae wedi siarad yn huawdl iawn am ei phrofiadau yn gofalu amdano yn ddiweddarach mewn bywyd.

Arweiniodd sganiau ymennydd a ailarchwiliwyd gan Dr Willie Stewart, niwropatholegydd, at y casgliad fod cyflwr Frankie wedi ei achosi gan flynyddoedd o ergydion i’r pen dro ar ôl tro gan bêl-droedwyr eraill a hefyd o beniadau pêl-droed—gan gofio bod Frankie yn arfer chwarae mewn cyfnod pan oedd peli’n pwyso tua 450g. Trafodwyd y cysylltiad rhwng anafiadau i’r pen mewn chwaraeon a niwed i’r ymennydd yn ddiweddar mewn perthynas â rygbi a cheir dadleuon hirsefydlog a miniog mewn perthynas â phêl-droed Americanaidd.

Ond ni chafodd y cysylltiad rhwng enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed ei drafod a’i ystyried yn llawn tan yn ddiweddar iawn. Y mis diwethaf, cyhoeddwyd ymchwil arloesol gan wyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr wedi ymddeol yn ardal Abertawe. Rhwng 1980 a 2010, cafodd 14 o bêl-droedwyr wedi ymddeol a oedd wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth seiciatreg yr henoed yn Abertawe eu monitro hyd at eu marwolaeth. Datblygodd pob un o’r pêl-droedwyr wedi ymddeol nam gwybyddol cynyddol, a datgelodd archwiliad niwropatholegol annormaleddau parwydol yn y chwe chwaraewr lle y cynhaliwyd archwiliad post-mortem o’r ymennydd. Bu farw deuddeg o achosion o glefyd niwroddirywiol datblygedig a chafodd enseffalopathi trawmatig cronig ei gadarnhau’n batholegol mewn pedwar achos.

Nid yw’r astudiaeth yn cadarnhau’n uniongyrchol fod cysylltiad rhwng ergydion ailadroddus i’r pen ac enseffalopathi trawmatig cronig, ond mae’n dweud bod angen ymchwil pellach. Mae chwaraewr cyffredin yn penio’r bêl chwech i 12 gwaith mewn gêm bêl-droed ac o leiaf 2,000 o weithiau mewn gyrfa 20 mlynedd. Ond mae anafiadau i’r pen yn fwy tebygol o fod wedi’u hachosi gan gyswllt pen a chwaraewr na chyswllt pen a phêl. Mae’r anhawster i ganfod niwed yn codi o’r ffaith nad yw’r rhan fwyaf o ergydion yn achosi cyfergyd, sy’n golygu nad ydynt yn arwain at fod yn anymwybodol neu’n arddangos symptomau niwrolegol amlwg.

Yn fy marn i, mae’n llawer rhy gynnar i wneud honiadau pendant am bêl-droedwyr ac enseffalopathi trawmatig cronig, y tu hwnt i’r hyn a wyddom o’r ymchwil ddiweddaraf y chwaraeodd gwyddonwyr o Gymru ran flaenllaw ynddo. Yn wir, mae prif wyddonydd Cymdeithas Alzheimer wedi dweud nad yw’r ymchwil a wnaed yn Abertawe yn rhoi prawf fod peniadau pêl-droed yn achosi dementia, ond mae’n amlwg—a cheir cytundeb ar draws ymchwil ac ymhlith gwyddonwyr ar hyn—fod angen gwaith ymchwil pellach ac mae angen codi ymwybyddiaeth o effaith anafiadau ailadroddus i’r pen ar bêl-droediwr ar hyd eu gyrfa.

Fel cefnogwr pêl-droed fy hun, ni fyddwn eisiau rhuthro i gasgliadau o fath yn y byd a phenderfynu ei gwneud yn anos i bobl ifanc gymryd rhan lawn yn y gamp. Fel rhywun sy’n dwli ar y gêm, ni fyddwn am inni ruthro’n fyrbwyll at sefyllfa lle y caiff natur y gêm ei newid yn sylweddol. Ond diben cyflwyno’r ddadl fer hon heddiw a chodi’r mater penodol hwn yw gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddent yn ystyried gwneud dau beth. Yn gyntaf, yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen codi ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ac anafiadau pen yn gyffredinol mewn pêl-droed, a sut rydym yn trin anafiadau pen yn y gamp wrth iddynt ddigwydd. Mae rygbi wedi rhoi camau ar waith i ddiogelu chwaraewyr yn well pan fyddant yn cael anafiadau i’r pen yn ystod y gêm. Felly, tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno o leiaf i ystyried cynnull uwchgynhadledd o gyrff rheoli pêl-droed a chyrff cynrychioliadol y byd pêl-droed yng Nghymru i rannu gwybodaeth ac arferion gorau yn y gamp, a allai gynnwys arbenigwyr yn y maes yn ogystal ag arbenigwyr gwyddonol a meddygol, fel ein bod yn rhannu arferion gorau ac ar lawr gwlad yn arbennig, fod hyfforddwyr pêl-droed a rhieni ac eraill sy’n gysylltiedig yn gallu bod yn ymwybodol o hyn er mwyn edrych am arwyddion o gyswllt pen wrth ben ac i gymryd gofal a rhoi sylw arbennig wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chwaraewr barhau i chwarae.

Yn ail, tybed a fyddai’r Gweinidog yn ystyried gweithio gyda’r rhai sydd ynghlwm wrth hyn—gan fod Cymru wedi bod yn ganolog i’r gwaith ymchwil diweddaraf, fel y soniais, gyda gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r ymchwil yn Abertawe—i adeiladu ar enw da posibl Cymru yn fyd-eang ym maes ymchwil enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon. Felly, efallai y gallai Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd ryngwladol ar enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon yng Nghymru, gan ddefnyddio amlygrwydd Cymru yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA eleni fel llwyfan i ennyn diddordeb ac i wahodd FIFA, UEFA a chymdeithasau pêl-droed o bob cwr o’r byd i ddod at ei gilydd gyda’r ymchwilwyr gwyddonol a’r arbenigwyr sydd gennym yn y maes yn y wlad hon. Gallai fod yn gyfle euraid arall i gryfhau enw da Cymru fel canolfan fyd-eang i ragoriaeth mewn ymchwil yn ogystal â dysgu llawer mwy, wrth gwrs, am enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed, fel y gallwn atal yr achosion trist iawn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o anaf hirdymor i’r pen a dementia cynamserol. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i ymateb i’r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch i chi, a hoffwn ddiolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn ac am hybu’r ddadl hon heddiw.

Mae enseffalopathi trawmatig cronig yn glefyd cynyddol a dirywiol ar yr ymennydd a welir mewn pobl sydd â hanes o drawma ymennydd ailadroddus, gan gynnwys cyfergydion rheolaidd neu ergydion ailadroddus i’r pen. Mae’r posibilrwydd o gysylltiadau rhwng y cyflwr a gweithgareddau chwaraeon penodol wedi cael ei gofnodi ers peth amser. Mae Prifysgol Boston yn yr Unol Daleithiau yn nodi ei bod yn hysbys fod enseffalopathi trawmatig cronig yn effeithio ar rai paffwyr ers y 1920au, pan gâi ei alw’n syndrom ‘punch-drunk’.

Fodd bynnag, mae’n hysbys erbyn hyn nad yw’r cyflwr wedi’i gyfyngu i gyn-baffwyr. Mae astudiaethau mwy diweddar wedi edrych ar y cysylltiadau posibl â chwaraeon eraill cyswllt trwm, megis pêl-droed Americanaidd a hoci iâ. Ceir peth dadlau o hyd ynglŷn â pha mor gyffredin yw’r cyflwr. Mewn llawer agwedd ar fywyd, ac mewn chwaraeon ac iechyd y cyhoedd yn enwedig, mae yna bob amser risgiau a manteision i’w hystyried ochr yn ochr â’i gilydd. Mae tystiolaeth yn chwarae rhan hanfodol i’n helpu i wneud dewisiadau mwy gwybodus wrth gydbwyso’r risgiau a’r manteision hyn.

Mae llawer o chwaraeon yn cynnwys rhyw elfen o risg o gael anaf yn y tymor byr neu’r tymor hir. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi camau cymesur ar waith i greu amgylcheddau chwaraeon diogel i bawb, heb gyfyngu ar gyfleoedd i blant ac oedolion ymgymryd â gweithgarwch corfforol a chymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym hefyd yn gwybod am y manteision cadarnhaol lluosog i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, yn ogystal â nifer o fanteision cymdeithasol, a ddaw yn sgil cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn ei gwneud yn glir ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach, gan gynnwys bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rydym yn naturiol yn awyddus i bob person ifanc gael ystod eang o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan adeiladu ar hanes hir Cymru yn ogystal â llwyddiannau diweddar. Serch hynny mae’n rhaid i ni fod o ddifrif ynglŷn â diogelwch mewn chwaraeon. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb, yn unigol ac ar y cyd, i sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl ifanc, plant a phobl hŷn, yn gallu cymryd rhan yn ddiogel. Lle y bo angen, dylem roi camau rhesymol ar waith i liniaru’r niwed i chwaraewyr proffesiynol ac i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon o ran pleser yn unig.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio’r newyddion rai blynyddoedd yn ôl am farwolaeth drasig ac annhymig Benjamin Robinson. Dim ond 14 oed oedd Benjamin pan fu farw o ganlyniad i gael cyfergyd dwbl yn ystod gêm rygbi ysgol yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd Benjamin ei gyfergyd cyntaf ar ddechrau’r ail hanner, ond daliodd i chwarae am 25 munud arall a chafodd ddau wrthdrawiad trwm pellach. Barnodd y crwner mai syndrom ail ergyd a achosodd farwolaeth Benjamin yn dilyn cyfergyd, a gellid bod wedi’i osgoi pe bai rhywun wedi gallu adnabod arwyddion cyfergyd a’i dynnu o’r gêm.

Roedd y Llywodraeth yn benderfynol o weithredu er mwyn osgoi achosion tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Ym mis Medi 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymru, ganllawiau ar gyfergydion ar gyfer ysgolion a chwaraeon cymunedol hyd at 19 oed. Mae’r canllawiau’n nodi sut i adnabod a rheoli symptomau cyfergyd yn dilyn anaf i’r pen a gafwyd yn ystod gweithgarwch corfforol mewn plant. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol at chwarae a gwaith ysgol i blant sy’n cael diagnosis o anaf cyfergyd. Mae wedi’i anelu at amrywiaeth eang o weithwyr a chyrff proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym myd chwaraeon, athrawon, cyrff llywodraethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach, cyrff chwaraeon cenedlaethol a hyfforddwyr chwaraeon ieuenctid a staff cymorth. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon mewn ysgolion ac yn y gymuned sicrhau bod y canllawiau’n cael eu dilyn, eu lledaenu’n gywir a’u hymgorffori mewn unrhyw bolisïau sy’n berthnasol i ymdrin ag anafiadau i’r pen a ddioddefir gan blant a phobl ifanc hyd at 19 oed mewn unrhyw amgylchedd lle y mae gweithgarwch corfforol yn digwydd. Mae hynny’n cynnwys pêl-droed. Mae’n galonogol gweld yr esiampl a osodwyd gan rygbi rhyngwladol ym mhencampwriaeth y chwe gwlad RBS yn ddiweddar, lle y gwelsom ymagwedd dim goddefgarwch mewn perthynas â chwaraewyr yn dioddef anafiadau pen, gyda chwaraewyr yn cael eu tynnu o’r gêm i gael asesiad meddygol llawn cyn dychwelyd, os oedd yn ddiogel i wneud hynny.

Rwyf wedi sôn o’r blaen ynglŷn â chynnal y cydbwysedd rhwng diogelwch ac annog cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol. Cafwyd galwadau am wahardd rhai agweddau ar rygbi ar gyfer pobl ifanc. Ysgrifennodd y Sports Collision Injury Collective lythyr agored at Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn 2016, yn galw am wahardd rygbi cyswllt ar gyfer plant oedran ysgol, gan nodi peryglon anaf hirdymor i bobl ifanc, megis cyfergydion. Mewn ymateb, comisiynodd prif swyddogion meddygol y DU bwyllgor arbenigol ar weithgarwch corfforol y DU i ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan SCIC. Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth hon, gwrthododd y pwyllgor yr alwad i wahardd taclo ac nid oedd yn teimlo bod cymryd rhan mewn rygbi yn peri risg annerbyniol o niwed. Adroddodd y pwyllgor hefyd fod manteision profi, dysgu, hyfforddi a chwarae rygbi gyda goruchwyliaeth briodol, diogelwch a hyfforddiant gryn dipyn yn fwy na’r risgiau o anaf.

Ym mis Chwefror eleni tynnodd y cyfryngau sylw at dystiolaeth a ddaeth yn amlwg o gysylltiad rhwng penio pêl-droed a dementia. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar destun ein dadl heddiw—enseffalopathi trawmatig cronig. Cafodd y pennawd ei ysgogi gan ganlyniadau astudiaeth fechan lle y cynhaliwyd archwiliadau post-mortem ar chwe chyn-chwaraewr proffesiynol gyda hanes o ddementia. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Caerdydd ac Ysbyty Cefn Coed yn Abertawe. Cafodd ei hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Sefydliad Drake. Canfu ymchwilwyr fod gan bedwar chwaraewr batrwm o niwed i’r ymennydd yn gyson ag enseffalopathi trawmatig cronig. Awgrymwyd mai’r rheswm dros anafiadau yn y pedwar chwaraewr pêl-droed oedd penio pêl dro ar ôl tro. Er bod y canlyniadau hyn yn swnio fel rhai sy’n peri pryder, astudiaeth fach, ddisgrifiadol oedd hon, ac nid yw wedi profi mai penio’r bêl dro ar ôl tro oedd achos y niwed i’r ymennydd a welwyd yn y chwaraewyr. Dywedodd Dr Helen Ling, prif awdur yr astudiaeth:

mae’n bwysig nodi mai astudio nifer fechan yn unig o bêl-droedwyr wedi ymddeol sydd â dementia a wnaethom, ac nad ydym yn gwybod o hyd pa mor gyffredin yw dementia ymhlith pêl-droedwyr... Y cwestiwn ymchwil pwysicaf felly yw darganfod a yw dementia yn fwy cyffredin mewn pêl-droedwyr nag yn y boblogaeth arferol.

Mae’r astudiaeth yn nodi cynigion ar gyfer y gwaith ymchwil pellach y byddai ei angen i gadarnhau’r berthynas achosol bosibl rhwng enseffalopathi trawmatig cronig ac ergydion pen ailadroddus wrth chwarae pêl-droed. Mae’n gadarnhaol gweld y sefydliadau academaidd yng Nghymru ar flaen y gad mewn ymchwil yn y maes, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau.

Dywedodd Dr David Reynolds o Alzheimer’s Research UK y gall manteision ymarfer corff rheolaidd o ran atal dementia yn hawdd orbwyso unrhyw risg, yn enwedig i’r rhai sy’n chwarae pêl-droed fel gweithgaredd hamdden.

Ar ôl darllen yr adroddiadau hyn, gofynnais am gyngor gan ein prif swyddog meddygol ein hunain. Tynnodd hyn sylw at drafodaeth rhwng pedwar prif swyddog meddygol y DU pan gytunwyd rhyngddynt nad oedd yr achosiaeth wedi ei sefydlu’n ddigonol i gefnogi gwaharddiad ar beniadau pêl-droed. Yn ogystal â rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch mewn chwaraeon, mae’r Llywodraeth hon hefyd wedi bod yn rhagweithiol o ran ceisio lleihau risgiau mewn gwahanol fathau o ddementia. Ceir tystiolaeth glir y gall ffordd o fyw iach leihau’r risg o ddementia hyd at 60 y cant. Gall dilyn y lefelau a argymhellir o weithgarwch corfforol ynddo’i hun leihau’r risg o rai mathau o ddementia 20 i 30 y cant. Mae ein hymgyrch i leihau risg o ddementia yn galw ar bobl i weithredu yn awr i leihau eu risg o ddementia drwy ddewis ffyrdd o fyw iach ac egnïol.

Felly, i gloi, rwy’n cytuno ei bod yn bwysig bod ymchwil i enseffalopathi trawmatig cronig yn parhau, a’n bod yn gallu helpu i leihau’r risgiau o enseffalopathi trawmatig cronig yn awr ac yn y dyfodol mewn ffordd ddeallus a chymesur. Rwy’n ddiolchgar unwaith eto am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn, a hoffwn gynnig cyfarfod pellach gyda Steffan i drafod yr awgrymiadau penodol a oedd ganddo yn y ddadl heddiw. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:15.