Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

22/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cwestiwn 1, Simon Thomas.

Costau Deunydd Hylendid Benywaidd

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o golli diwrnodau ysgol gan ferched na fedrant fforddio costau deunydd hylendid benywaidd? OAQ(5)0111(EDU)[W]

Diolch i chi. Nid oes unrhyw asesiad wedi ei wneud. Rwy’n cymryd llesiant pob dysgwr o ddifri, a dylai bod gan ysgolion drefniadau i gefnogi eu dysgwyr. Dylai merched gael eu hatgoffa yn rheolaidd bod nwyddau hylendid ar gael oddi wrth aelodau benywaidd penodol o staff, os oes angen.

Diolch am yr ateb gan y Gweinidog, ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e siŵr o fod yn ymwybodol bod nifer o gwestiynau cyffredinol yn cael eu gofyn ym maes addysg ar y maes yma ar hyn o bryd, yn enwedig yn yr Alban, lle mae yna ymgais i wneud defnyddiau ar gael am ddim ymhob ysgol, ac mae yna ddeiseb gerbron Senedd San Steffan, rwy’n deall.

Nawr, pan gynhaliwyd ymchwiliad gan y pwyllgor plant a phobl ifanc blaenorol, fe edrychwyd i mewn i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel, ac mae’n wir i ddweud nad oedd y mater yma wedi codi, fel rwyf fi’n ei gofio fe, yn yr ymchwiliad yna. Ond, wrth gwrs, mae’n fater personol iawn, ac efallai rhywbeth sy’n cael ei gelu a ddim yn cael ei drafod yn agored. A fedr y Gweinidog, felly, gadarnhau, pe bai ysgol yn defnyddio arian gan Lywodraeth Cymru, megis y grant amddifadedd disgyblion, i dalu am gynnyrch o’r fath, er mwyn sicrhau bod merched yn teimlo’n gartrefol ac yn hapus a chysurus mewn ysgol, neu unrhyw gefnogaeth arall i sicrhau bod y defnyddiau ar gael, y byddai’r Llywodraeth yn cefnogi hynny, ac yn annog hynny?

Absolutely’. Rwy’n hapus iawn i ddweud hynny. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni fynd yn bellach na hynny. Mae tlodi yn ymddangos mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym ni’n deall bod teuluoedd a phobl yn cael eu heffeithio gan dlodi mewn ffyrdd gwahanol. Ac nid yw’n ddigonol i unrhyw Lywodraeth ‘simply’ i ddweud, gan fod yna ddim tystiolaeth ar hyn o bryd bod yna broblem yn y maes yma, nad ydym ni’n gwneud dim byd amdano fe. Rydym ni’n mynd i archwilio i sicrhau unrhyw dystiolaeth o gwbl y gallwn ni ei ffeindio. Os oes yna broblem i’w datrys, mi fyddwn ni’n datrys y broblem, ac mi fyddwn ni’n gweithio gydag ysgolion i sicrhau—fel yr awgrymodd yr Aelod—os oes unrhyw ffordd y gall ysgolion weithio i sicrhau bod merched yn yr ysgol yn teimlo’n gartrefol ac yn gallu derbyn eu haddysg, y byddwn ni’n gwneud hynny. Felly, rwyf eisiau sicrhau bod yna ymateb ‘proactive’ i sicrhau bod hyn ddim yn digwydd yng Nghymru.

Mae’n anodd iawn i ni feddwl, yn 2017, fod merched ifanc ledled y DU, ac o bosibl yng Nghymru, yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio’r diogelwch hylendid sydd ei angen arnynt. Ac mae’n eithaf amlwg fod hyn yn ymwneud â thlodi. Felly, rwy’n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet—neu Weinidog—a yw’n bosibl i chi asesu’r posibilrwydd o weithio gydag ysgolion, drwy sefydliadau elusennol, i ddarparu’r cynnyrch misglwyf am ddim sydd ei angen ar ferched er mwyn iddynt allu cymryd eu lle priodol yn yr ystafell ddosbarth, a sicrhau nad ydynt mewn sefyllfa lle y mae eu cyrhaeddiad addysgol dan anfantais.

Fel y credaf fy mod wedi dweud eisoes, wrth ateb y cwestiwn cynharach, ceir gwahanol ffurfiau ar dlodi, mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol bobl, mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau. Ac mae’n rhaid i ni, fel Llywodraeth, sicrhau nad ydym ond yn ymateb i broblemau, ond ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau nad yw merched sy’n mynychu ysgolion yng Nghymru yn cael eu rhoi dan unrhyw anfantais o gwbl, ac nad ydynt yn wynebu embaras, nad ydynt yn wynebu unrhyw anawsterau o gwbl, o ran cael mynediad at addysg. Ac os oes unrhyw broblemau o gwbl gyda chynnyrch misglwyf, yna byddwn yn sicrhau bod pob cam posibl yn cael ei gymryd, ac yn cael ei gymryd yn rhagweithiol, gan ysgolion, gennym ni ein hunain ac eraill—sefydliadau ac unigolion priodol eraill—i sicrhau bod y problemau hyn yn cael eu nodi a’u datrys.

Weinidog, mae rhai o’r adroddiadau yn y cyfryngau ar y mater hwn wedi bod yn eithaf annifyr. Mae gweld merched ifanc yn colli wythnosau o’u haddysg bob blwyddyn oherwydd eu cyfansoddiad biolegol, ac yn byw mewn tlodi, yn annerbyniol. Weinidog, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi’u cael â sefydliadau yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â chael gwared ar y dreth ar werth ar ddeunydd hylendid benywaidd? A pha ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i rhoi i ddefnyddio eich pwerau caffael cyhoeddus i swmpbrynu deunydd hylendid benywaidd er mwyn eu cynnig am bris gostyngol, neu’n rhad ac am ddim hyd yn oed, i ferched ifanc yn y sefyllfa hon lle y mae’n rhaid iddynt golli addysg werthfawr? Diolch.

Fel y dywedais wrth ateb Simon Thomas, byddem yn annog ac yn sicrhau bod ysgolion, lle bynnag y bo angen, yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, er mwyn sicrhau bod merched yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn, sy’n eu galluogi i gael eu haddysg. Fel y dengys y cofnodion, mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn dadlau ers nifer o flynyddoedd na ddylid trethu’r cynhyrchion hyn yn y ffordd honno.

Goruchwylwyr Llanw

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o rôl goruchwylwyr llanw mewn ysgolion uwchradd? OAQ(5)0105(EDU)

Yr ysgolion sy’n gyfrifol am nodi eu hanghenion staffio a’r rolau y maent yn eu cyflawni. Mae pob gweithiwr cymorth dysgu yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi addysg yn yr ystafelll ddosbarth a’r tu allan iddi.

A allai’r Gweinidog gadarnhau nad yw’n ofynnol i oruchwylwyr llanw addysgu dosbarthiadau, oherwydd ceir tystiolaeth anecdotaidd fod hyn yn digwydd weithiau? Eu tasg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw rhoi’r gwersi sy’n cael eu paratoi gan yr athro dosbarth rheolaidd. Ymddengys bod peth dryswch ynglŷn â hyn.

Mae goruchwylwyr llanw yn perthyn i gategori cofrestru gweithwyr cymorth dysgu. Mae goruchwylwyr llanw’n darparu goruchwyliaeth tymor byr yn absenoldeb athro, ac ni ddylai hyn gynnwys addysgu fel y’i diffinnir yn y gofynion gwaith penodol. A mater i’r pennaeth yw sicrhau bod unigolyn yn barod i ymgymryd â rôl o’r fath ac yn meddu ar y ddawn i gyflawni’r dyletswyddau hyn. Wrth benderfynu a oes gan unigolyn y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ymgymryd â’r gwaith a bennir yn yr ysgol, mae’n rhaid i benaethiaid roi sylw i osod safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch. Rwy’n gobeithio bod y sefyllfa’n glir i bob pennaeth ac eraill ei deall, ac yn sicr, ni ddylai fod unrhyw ddryswch mewn unrhyw ysgol ar draws Cymru.

Weinidog, yn amlwg, gyda’r cynigion gofal plant y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno, cafwyd cyflwyniadau gan y Llywodraeth sy’n dweud y byddwch yn defnyddio’r ystad ysgolion mewn rhai agweddau i ddarparu rhywfaint o’r capasiti hwn. A ydych yn rhagweld y bydd goruchwylwyr llanw yn cael eu hannog neu eu hyfforddi i helpu i gefnogi’r Llywodraeth wrth iddynt gyflwyno’r 30 awr o ofal plant am ddim dros yr wythnosau, fel y cynlluniwyd, neu a ydych yn rhagweld na fydd unrhyw rôl o gwbl ar gyfer y goruchwylwyr llanw a ddarperir yn yr ystad ysgolion ar hyn o bryd, naill ai mewn addysg gynradd neu uwchradd?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn arwain y broses o gyflwyno’r cynnig gofal plant, fel y mae’r Aelod yn gwybod, a rhan o hynny—. Un o’r rhesymau am y cynlluniau peilot a fydd yn dechrau ym mis Medi mewn gwahanol rannau o Gymru yw sicrhau bod gennym y gweithlu ar gael—y gweithlu sy’n briodol i anghenion y cynnig gofal plant sy’n cael ei ddarparu—a’i fod yn cael ei ddarparu yn y lleoliadau a fyddai’n briodol hefyd. A bydd hynny’n cynnwys cymysgedd gwahanol mewn gwahanol leoedd, ar wahanol adegau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y materion hyn ar nifer o achlysuron, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i hysbysu’r Aelodau am gynnydd y cynlluniau peilot.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. A yw’r Gweinidog yn pryderu bod bron i hanner y colegau addysg bellach yng Nghymru yn wynebu diffyg ariannol sylweddol?

Bydd yr Aelod yn gwybod bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu sefyllfa sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru yn ddiweddar, ac nid oedd yn ystyried eu bod yn dioddef yr un anawsterau ariannol â’r rhai sy’n bodoli yn Lloegr o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

O’r ymateb hwnnw, rydych o leiaf yn cydnabod bod yna broblemau yma yng Nghymru, yn wahanol i arweinydd y tŷ pan holais i hi ar y pwynt hwn yr wythnos diwethaf. Nid newyddion ffug mo hyn. Mae’r rhain yn ffigurau ariannol go iawn gan golegau yma yng Nghymru. Rydym wedi gweld toriadau enfawr yn y cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser yn arbennig—71 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gostyngiad o 13 y cant mewn termau real i golegau addysg bellach. Mae’r rheini’n doriadau sydd bellach yn gadael eu hôl yn y colegau hynny. Mae rhai yn diddymu mynediad at gyrsiau penodol. Rwy’n sylweddoli eich bod am ganolbwyntio ar draws y ffin yn Lloegr, ond os gallwch ganolbwyntio ar Gymru am eiliad, beth a wnewch i wella rhagolygon y colegau hynny, fel nad ydym yn gweld cyrsiau’n cael eu diddymu mewn cymunedau lleol, ac nad ydym yn gweld colegau addysg bellach yn methu cael y math o effaith economaidd y maent wedi’i chael yn y cymunedau hynny yn y gorffennol?

Rwyf wedi mwynhau cyfraniadau’r Aelod dan sylw ers bron i ddegawd yn y lle hwn, lle y mae wedi rhefru yn erbyn canlyniadau polisïau Llywodraeth y mae’n ei chefnogi ar draws y ffin yn Lloegr. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru, ac rydym yn gwybod pam fod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru—oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud y penderfyniadau anghywir ar yr economi, y penderfyniadau anghywir ar gyllid cyhoeddus, ac oherwydd eu polisi economaidd aflwyddiannus, rydym yn wynebu cryn dipyn yn fwy o anawsterau o ran polisi caledi sydd wedi methu ac wedi methu ac wedi methu eto. Mae’r Aelod yn ymwybodol o hyn a gallaf ddeall ei fod yn rhy llywaeth i gyfaddef hynny mewn gwirionedd.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gwaddol polisi economaidd aflwyddiannus a chamreoli arian cyhoeddus Gordon Brown yn un y mae ein gwlad yn dal i geisio ymdopi ag ef. Ac er gwaethaf y pwysau ar gyllid cyhoeddus, y gwir amdani yw bod y toriadau a wnaed gennych yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn fwy na’r toriadau a wnaed i grant bloc Cymru. Felly, penderfyniadau y mae eich Llywodraeth chi wedi eu gwneud yng Nghymru sydd wedi arwain at yr ergydion ariannol sy’n wynebu colegau addysg bellach.

Nawr, bydd rhywfaint o adnoddau ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru—rhywfaint o arbedion yn sgil y diwygiadau i gymorth addysg uwch i fyfyrwyr. Bydd hynny’n rhoi difidend i Lywodraeth Cymru y gall ei ailfuddsoddi mewn mannau eraill. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn gallu dweud wrthym a fydd y colegau addysg bellach ledled Cymru yn derbyn rhywfaint o’r buddsoddiad a fydd yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r arbedion hynny ac a fyddwch yn gallu adfer yr ymrwymiad i gyllidebau dangosol tair blynedd er mwyn cynorthwyo gyda’u cynlluniau ariannol, ac a fydd rhywfaint o’r adnodd hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach.

Yr hyn rwy’n ei gofio, Darren, o’r dyddiau pan oedd Gordon Brown yn dod â’r G20 at ei gilydd i achub yr economi orllewinol oedd bod y Blaid Geidwadol yn eistedd gyferbyn, lle rydych chi heddiw, fel pysgod aur yn dweud dim mewn ymateb i hynny. Gadewch i mi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: mae’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn adroddiad pwysig ac rwy’n siomedig eich bod wedi dewis peidio â chyfeirio ato yn eich cwestiynau y prynhawn yma. Pe baech wedi cyfeirio ato a’i ddarllen, byddech yn deall bod gennym sefydliadau sy’n wynebu heriau ariannol—ac rwyf wedi siarad yn blaen ynglŷn â hynny—ond maent yn iach fel cneuen, yn enwedig pan fyddwch yn cymharu hynny â’r sefyllfa ar draws y ffin, ac rwy’n credu bod honno’n gymhariaeth ddilys i’w gwneud.

Gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn deall y sefyllfa gydag addysg cyfrwng Cymraeg. Sefydlodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, grŵp i edrych ar hynny yr haf diwethaf. Bydd yn adrodd yr haf hwn a byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer addysg bellach. Byddwn yn parhau i ddiogelu addysg bellach, cyn belled ag y gallwn, a phan fyddwn yn eu diogelu, byddwn yn eu diogelu rhag Llywodraeth yr ydych chi’n ei chefnogi ar draws y ffin yn Lloegr.

Cyn i mi alw ar Llyr Gruffydd, a gaf fi ddweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon yn llywaeth ac yn arbennig, byddwn yn dweud nad yw Darren Millar yn adnabyddus am y nodwedd arbennig honno, ac felly, nid ydym am gael rhagor o alw enwau, yn enwedig gan Weinidog sy’n cymryd lle Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma? Llyr Gruffydd.

Wel, rwy’n ofni dweud rhywbeth a dweud y gwir, ond, diolch, Lywydd. [Chwerthin.]

Rwyf innau am fynd ar ôl thema eithaf tebyg, ond efallai mewn modd gwahanol iawn—fe ddywedwn i fel yna. Mae’r pwyllgor addysg dros y misoedd diwethaf wedi clywed cryn dystiolaeth ynglŷn â’r pwysau y mae’r ysgolion yn ei wynebu ar hyn o bryd o safbwynt trafferthion gyda chapasiti a phwysau gwaith i athrawon ac yn y blaen, ond y thema glir sy’n dod nôl dro ar ôl tro yw sefyllfa ariannu ysgolion ar hyd a lled y wlad. Mae’r straen ar gyllidebau ysgolion yn ddifrifol iawn mewn sawl achlysur. Yn wir, mi ddywedodd un ei fod e wedi cyrraedd ‘breaking point’ yn ei brofiad e. Ac mae yna dystiolaeth hefyd nawr yn dangos bod ysgolion yn defnyddio ffynonellau ariannu sydd wedi eu rhoi at bwrpasau penodol mewn gwirionedd i gynnal lefel staffio ac nid o reidrwydd i gyflawni’r hyn y maen nhw i fod i’w gyflawni. A ydych chi’n ymwybodol o’r realiti yna fel Llywodraeth, ac os ydych chi, a ydych chi’n cydnabod nad yw sefyllfa o’r fath yn gynaliadwy?

Rwy’n deall bod ysgolion, lle bynnag y maen nhw, yn wynebu sefyllfa anodd iawn ambell waith oherwydd y sefyllfa ariannol a chyllidebol rydym i gyd yn ei ddeall, ac rydym yn deall pam y mae yno. A gaf fi ddweud hyn: os oes gan yr Aelod enghraifft benodol y mae ef eisiau cyfeirio ati, rwy’n hapus iawn i dderbyn llythyr ganddo fe yn esbonio beth yn union mae’n ei feddwl, ac fe wnaf i ateb yr enghraifft benodol? Ond rydym ni’n deall bod prifathrawon a llywodraethwyr yn delio gyda sefyllfa anodd ac rwy’n credu y dylai pob un ohonom ni gefnogi’r prifathrawon a’r llywodraethwyr am y ffordd maen nhw’n delio gyda’r sefyllfa ariannol yma.

Iawn. Wel, mi allwn i ddarllen y dyfyniad i chi, ond ni wnaf hynny; fe ysgrifennaf atoch chi. Ond, i bob pwrpas, mae yn honiad bod yr arian PDG yn cael ei gyfeirio at bwrpasau eraill, sydd, i bob pwrpas, yn propio lan y lefelau staffio mewn ysgolion.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi clywed bod yna anghysondeb sylweddol yn yr arian y mae ysgolion yn ei dderbyn o un rhan o’r wlad i’r llall. Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu casglu gan NAHT Cymru ar ‘age-weighted pupil units’ yng Nghymru, mae cyllid y pen ar gyfer disgyblion yn amrywio o £1,798 mewn un sir i £3,200 mewn sir arall. Mae hyn, wrth gwrs, yn ffactor sy’n cyfrannu at y darlun yma o bwysau ariannol sydd yn siŵr o fod yn cael effaith, wrth gwrs, ar yr amrywioldeb yma yn yr ansawdd dysgu rŷm ni’n clywed Estyn yn cyfeirio ato o hyd, a hefyd yn yr anghysondeb sydd yna o safbwynt darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i athrawon mewn rhai ysgolion a rhai siroedd, oherwydd nad yw’r adnoddau angenrheidiol oddi fewn i’r ysgolion i wneud hynny. A gaf i ofyn felly, a ydych chi’n credu bod yr anghysondeb ariannu yma yn dderbyniol, a beth mae’r Llywodraeth am ei wneud i geisio mwy o degwch ariannu, neu o leiaf system ariannu sy’n fwy cyson ar draws Cymru?

I’m not certain that I do accept that, because if we do accept that analysis and accept the suggestion that the Plaid Cymru spokesperson is making, then of course we would have one funding system for all schools across Wales. We would be nationalising, if you like, the local schools. I’m not sure that the Member is asking for that. I certainly wouldn’t wish to see that. So, you’re bound to have some kind of inconsistency, if I might call it that, in different parts of the country that reflects the priorities of the local education authority. That is a matter for local people and for local democracy. Do we believe that the importance of consistency is more important than local democratic needs or priorities? And I think that that’s the broader question.

Well, you make a valid point. ‘Some inconsistency’ was the term you used, but we’re talking here of almost double the spend in some areas as compared with others. So, what I was trying to ask was: what can we do to try and bring some consistency to that picture? There’s no doubting that the financial pressure is very grave and it’s going to lead to significant problems in the future. When you look at all the changes in the pipeline in education over the next few months and years—we’ve discussed the ALN Bill and the additional requirements as a result of that; we know of curriculum changes and the needs in terms of CPD of the workforce, and so on—now it’s clear that there will be huge increasing pressures on teachers and on school resources over the next few months, and at the very same time, of course, we see that staff are being dismissed—many of us are governors in schools that are having to make some very difficult decisions—where schools are cutting back on their budgets. Bearing in mind the research by NUT Cymru last year that revealed that some 52,000 school days had been lost in 2015 because of illness as a result of workplace stress, and bearing in mind the financial pressures that we’ve talked about, are you confident that schools in Wales have the capacity necessary to implement all of these changes that are in the pipeline, and not just implement them, but to implement them effectively?

Yes, I do. I know that that is not an adequate response. It’s one thing to list the problems and the challenges facing schools, but it’s quite another thing to resolve them. This Government has resolved problems and faced challenges and then ensured that we can invest in children’s education for the future, and we have done so. Through the kinds of changes that you’ve listed partially this afternoon, and you are aware of through the work of the committee, we are going to ensure that we invest in improving the standard of education for each child across Wales, and that is going to be a challenge, but we will ensure that schools will have the resources and the support to ensure that they can do that. And, yes, I am certain of it.

Diolch i chi, Lywydd. Mae pobl yn tynnu fy sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod yna argyfwng recriwtio yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam fod athrawon o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dymuno gweithio yng Nghymru neu fel arall?

Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym amgylchedd gwaith yng Nghymru y bydd athrawon yn ei werthfawrogi a’i fwynhau, fel ein bod yn gallu rhoi’r math o gefnogaeth, y cwricwlwm a’r adnoddau ar waith—mewn ymateb i Llyr Gruffydd. Byddwn yn sefydlu amgylchedd addysgu a fydd yn ddeniadol i athrawon, nid yn unig o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, ond i bobl yng Nghymru yn ogystal.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ni chlywais i chi’n dweud wrthym beth rydych yn ceisio’i wneud i ganfod pam y byddai athrawon eisiau dod i weithio yng Nghymru neu fel arall. Os nad ydym yn cyflenwi ein hathrawon ein hunain, mae angen i ni ddod o hyd iddynt o rywle arall. Felly, un o’r pethau y mae angen i ni ei ddeall yw pam y byddai pobl eisiau gweithio yng Nghymru a’r hyn sy’n gwneud iddynt beidio â bod eisiau gweithio yng Nghymru. Felly, pa fath o ymchwiliadau a gynhelir gennych i ganfod hynny?

Rydym yn deall—rydym wedi cynnal nifer o arolygon gweithlu yn ddiweddar ac rydym wedi creu Cyngor y Gweithlu Addysg, wrth gwrs, a fydd yn adrodd ar y materion hyn yn fanylach maes o law. Ond rydym yn deall mai un o’r materion pwysicaf o ran pobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â ble y byddant yn byw a ble y byddant yn gweithio yw’r amgylchedd gwaith ei hun, a thrwy drin athrawon â pharch, rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gymdeithas, yn cael eu gwerthfawrogi yn yr ysgolion, a thrwy roi diwygiadau ar waith sy’n cael eu cefnogi a’u hariannu. Roeddech yn y pwyllgor y bore yma a chlywsoch y ddadl ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol. Yng Nghymru, mae hwnnw’n cael ei ariannu; yn Lloegr, nid yw’n cael ei ariannu. Mae hynny’n dangos nad ydym ond yn creu diwygiadau i fethodoleg, dulliau a mecanweithiau addysgu, ond ein bod hefyd yn eu cefnogi. Rwy’n credu y bydd hynny’n cael ei werthfawrogi gan athrawon.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae gan y system addysg yng Nghymru enw gwael iawn yn anffodus. Pa un a ydych yn cytuno â’r enw gwael hwnnw, pa un a ydych yn cytuno bod y system addysg yng Nghymru yn haeddu’r enw gwael hwnnw ai peidio, rydym yn mynd i’w chael yn anodd iawn recriwtio gweithwyr proffesiynol ifanc sydd â theuluoedd ifanc, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol, oni bai bod yr enw gwael hwnnw’n cael ei wella. Beth a wnewch i wella enw da’r system addysg yng Nghymru y tu allan i Gymru?

Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r rhagdybiaeth. Rwy’n anghytuno â’r dadansoddiad. Rwy’n anghytuno â’r casgliad. A ydych chi’n ymwybodol o’r anhawster sy’n ein hwynebu yng Nghymru, Lywydd? Mae pobl yn gwneud y mathau hynny o sylwadau heb unrhyw dystiolaeth yn sail iddynt neu heb unrhyw fodd cynhaliol o gadarnhau’r mathau hynny o honiadau di-sail. Yr hyn sy’n digalonni llawer o bobl, rwy’n credu, nid yn unig ym maes addysg yng Nghymru, ond mewn agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, yw’r ffordd y mae UKIP a’r Ceidwadwyr yn dod at ei gilydd o hyd i ddibrisio’r sector cyhoeddus, i ladd ar ysgolion cyhoeddus a sicrhau nad yw pobl yn gefnogol. Mae hon yn Llywodraeth a fydd yn cefnogi athrawon, yn cefnogi staff addysgu, yn cefnogi’r system addysg, a phan fyddwch chi’n eu bychanu, rydym ni’n eu dyrchafu.

Coleg Harlech

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y bwriad i gau Coleg Harlech yn arwain at golli argaeledd unrhyw gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion? OAQ(5)0098(EDU)

Rydym yn cydnabod y bydd cau safle Wern Fawr yn arwyddocaol, ond ni ddylai arwain at golli cyrsiau ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr. Mae Addysg Oedolion Cymru, ynghyd â swyddogion, yn parhau i weithio gyda’r gymuned i gyflwyno darpariaeth dysgu oedolion yn nhraddodiad Coleg Harlech.

Fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r effaith trawsnewidiol mae Coleg Harlech wedi ei gael ar gymaint o fyfyrwyr dros y blynyddoedd, lle maen nhw wedi cael ail gyfle i gydio ym myd addysg. A ydy’r Gweinidog yn gallu cadarnhau os oes yna unrhyw drafodaeth wedi bod gyda WEA—Addysg Oedolion Cymru o ran defnydd yr adeilad yn y dyfodol, ac os oes yna unrhyw drafodaeth wedi bod gydag Ysgrifennydd yr economi o ran cynaliadwyedd y ganolfan celfyddydau os nad yw’r ganolfan addysg bellach yna?

A gaf i ddechrau drwy gytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi ei wneud amboutu traddodiadau Coleg Harlech a gwaith a chyfraniad Coleg Harlech? Rydw i’n credu bod pob un ohonom ni sydd wedi ymweld â’r coleg a phob un ohonom ni sydd wedi eistedd yn y Siambr yma yn cynrychioli ardal Harlech yn deall ac yn cydnabod y cyfraniad mae wedi ei wneud i addysg gydol oes dros y blynyddoedd. Rydw i’n gallu eich sicrhau bod f’adran i wedi bod yn trafod gydag adran yr economi yn Llywodraeth Cymru amboutu defnydd yr adeilad yn y dyfodol a safle Coleg Harlech. Mi fyddwn ni’n parhau i gydweithio i gefnogi Adult Learning Wales i ffeindio ffordd gynaliadwy i gynnal y safle ar gyfer y dyfodol. Rydw i hefyd yn gallu cadarnhau bod ‘Cabinet Secretary’ yr economi wedi cyfarfod cynghorwyr Cyngor Gwynedd i drafod dyfodol safle Coleg Harlech. Mae opsiynau yn dal i gael eu gweithio trwyddynt gyda’r cyngor ac mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gyda Cyngor Gwynedd y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydw i’n siŵr y bydd Aelodau eisiau gwybod a chlywed ‘updates’ pellach ar y gwaith hwnnw.

Cylch Arolygiadau Nesaf Estyn

4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ag Estyn ynghylch y cylch nesaf o arolygiadau? OAQ(5)0093(EDU)

Mae Estyn yn llwyr gyfrifol am gynllunio eu gwaith arolygu. Mae’r arolygiaeth yn cyflwyno newidiadau i drefniadau arolygu ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill o fis Medi 2017 ymlaen er mwyn helpu i ysgogi gwelliant a chefnogi arloesedd. Mae’r arolygiaeth wrthi’n datblygu trefniadau arolygu newydd hefyd ar gyfer gwasanaethau addysg awdurdodau lleol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Dangosodd yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan y prif arolygydd ysgolion fod llawer gormod o amrywiaeth o ran safonau addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru. O ystyried hynny, a yw’r Gweinidog yn bryderus nad yw Estyn yn cynllunio neu’n arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf? Yn lle hynny, mae’n bwriadu canolbwyntio ar y consortia rhanbarthol.

Mae’n bwysig cydnabod, pe bai hynny’n wir, efallai y byddai gan bobl bryderon, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae Estyn yn parhau i gyfarfod ag awdurdodau lleol, awdurdodau addysg lleol, er mwyn parhau i gynnal trafodaethau gyda hwy am y math o gymorth sydd ei angen arnynt; mae’r cynadleddau gwella sydd wedi’u cynnal ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael eu cynllunio i edrych eto ar y ffordd rydym yn arolygu awdurdodau addysg lleol; ac nid yw’n wir i ddweud na fydd unrhyw berthynas rhwng Estyn ac awdurdodau addysg lleol am y cyfnod o amser y mae’r Aelod yn cyfeirio ato. Ac mae’n bwysig felly nad ydym yn dod i ormod o gasgliadau rhy fawr o’r datganiad hwnnw. Bydd perthynas yn parhau rhwng Estyn ac awdurdodau addysg penodol lle y mae angen y cymorth hwnnw, a bydd cyfarfodydd rhwng Estyn ac awdurdodau addysg lleol yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

Weinidog, mae adroddiad diweddaraf Estyn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r deilliannau arolygu ar gyfer ysgolion arbennig ddim cystal o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Mae’r canlyniadau ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn wael. Yn sgil hyn, pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau mewn ysgolion arbennig, ac mewn unedau cyfeirio disgyblion?

Rydw i’n gobeithio y bydd y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion arbennig yn cael ei chynnig gan y consortia ac eraill lle mae hynny yn angenrheidiol. Rydw i’n deall ac yn derbyn y pwynt sydd wedi cael ei wneud gan yr Aelod, ac rydw i’n meddwl bod y system o adolygu sydd gennym ni yn un sy’n gryf ac yn gweithio, ac oherwydd hynny rydym ni’n deall y sefyllfa a fydd gan rai ysgolion arbennig, ac mi fydd yr ysgolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wella.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion cyfnod nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0110(EDU)

Mae band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cael ei gynllunio ar gyfer y cyfnod 2019-24, ac mae’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a’r sector addysg bellach i ddeall y galw am fuddsoddiad a phrosiectau allweddol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi bod yn enghraifft ardderchog hyd yn hyn o sut y gallwn wella’r cyfleusterau addysg ar gyfer ein plant ifanc. Yn fy etholaeth fy hun, rydym newydd weld Ysgrifennydd y Cabinet yn agor Ysgol Bae Baglan yn swyddogol; mae Awel y Môr wedi cael ei chreu; a cheir tri safle newydd ym Margam; yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Sandfields; a’r ysgol gynradd newydd yn Llansawel. Ond mae hyn yn bwysig, gan fod gennym ysgolion yng nghategorïau C a D o hyd, lle y mae angen ysgolion newydd yn lle’r ysgolion hynny. Rydych wedi rhoi llinell amser o 2019-24 i mi, ond pa feini prawf y gallwn eu cael ar waith i sicrhau bod yr ysgolion sydd angen symud ymlaen yn awr at y cam nesaf yn gallu cyflwyno eu ceisiadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau y gellir rhoi’r cyllid ar gyfer y plant sy’n mynd i’r ysgolion hynny, a’r cyfleusterau addysg ar gyfer y plant sy’n mynd i’r ysgolion hynny, ar waith cyn gynted â phosibl?

Mae’r Aelod yn gwbl gywir i bwysleisio’r buddsoddiad sydd wedi digwydd mewn ysgolion ledled Cymru. Mae band A wedi gweld dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu. Mae hwnnw’n fuddsoddiad go iawn yn addysg plant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ail don yn dechrau—bydd band B yn dechrau yn 2019 ac yn para am gyfnod o bum mlynedd hyd at 2024. Mae blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y cyfnod ariannu nesaf yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac eraill. Nod y rhaglen band B yw lleihau nifer yr ysgolion a cholegau sydd mewn cyflwr gwael, er mwyn sicrhau bod digon o leoedd ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, a sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o’r ystad addysgol. A byddwn yn cynghori pawb sydd â diddordeb yn hynny i drafod ar unwaith gydag awdurdodau lleol a bwrw ymlaen â’r materion hyn.

Weinidog, tybed a fyddech yn edrych ar y wefan swyddogol sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, clicio ar ‘newyddion diweddaraf’, a’r newyddion diweddaraf arni yw cynhadledd adeiladu ar sut i adeiladu ysgol dda, dyddiedig 12 Mai 2015. Nawr, rwy’n gwybod ein bod rhwng cynlluniau neu gyfnodau, ond mae hyn yn rhoi’r argraff fod y rhaglen gyfan yn segur, a byddwn yn awgrymu bod angen gwefan fwy bywiog arnoch.

Er gwaethaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae anawsterau’n parhau gydag ysgolion hŷn sydd angen eu hatgyweirio. Cawsom sefyllfa braidd yn chwerthinllyd y gaeaf hwn, pan gafodd 1,400 o ddisgyblion o dair ysgol uwchradd yng Nghaerdydd eu cludo i lefydd fel Arena Motorpoint, stadiwm SWALEC, neuadd y sir a Choleg y Barri i gael gwersi. Achosodd hyn aflonyddwch sylweddol. A yw’r Gweinidog yn credu bod y sefyllfa hon yn dderbyniol, ac a yw ei adran yn gallu gwneud unrhyw beth i osgoi aflonyddwch tebyg yn y dyfodol?

Yn amlwg, mater i’r awdurdod addysg yn y ddinas yw hwnnw. Yr hyn a ddywedaf yw bod disgwyl i bob awdurdod addysg ddarparu addysg gydlynol drwy gydol y dydd a thrwy gydol y cyfnodau hyn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu addysg iddynt.

Y Cynllun Cylch Ti a Fi

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun Cylch Ti a Fi y Mudiad Meithrin? OAQ(5)0097(EDU)

Mae cylchoedd Ti a Fi, grwpiau rhieni a babanod cyfrwng Cymraeg, yn rhan bwysig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar a gefnogir gan y Mudiad Meithrin. Rydym am sicrhau bod llwybr clir o gymorth i rieni ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, gyda’r nod o weld niferoedd cynyddol yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Diolch, Weinidog. Os rydym ni eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’r daith, i lawer, yn dechrau gyda mudiad Ti a Fi, wedyn Mudiad Meithrin, ar ôl hynny ysgol gynradd, ac, yn olaf, ysgol gyfun. Yna bydd gyda ni blant 16 oed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r mudiad Ti a Fi?

Rydw i’n diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna becyn o gefnogaeth i gylchoedd Ti a Fi, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod hydref y llynedd, ac mae hynny yn cynnig cyngor ac enghreifftiau o ymarfer da i sicrhau bod grwpiau sy’n bodoli yn barod, a grwpiau newydd, yn gallu cael eu cefnogi a’u creu. Yn ychwanegol at hynny, mae yna grant o £1.4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy’n cefnogi ‘range’ o weithgareddau, sy’n cynnwys cefnogaeth at ehangu darpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae grwpiau Ti a Fi, cylchoedd Ti a Fi, yn rhan hynod o bwysig o’r ddarpariaeth yna.

Mae’n hanfodol ehangu a datblygu gwaith y Mudiad Meithrin fel rhan o strategaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth, ond wrth gwrs mae angen gweithio ar sawl maes arall hefyd er mwyn cyrraedd y nod. Yr wythnos diwethaf, fe lansiwyd hwn—’Cyrraedd y Miliwn’—gan Blaid Cymru, gan osod y blaenoriaethau strategol y mae’n rhaid gweithredu o’u cwmpas. Mae hwn yn cynnwys ehangu gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd mae’n rhaid creu’r amodau economaidd priodol i ffyniant yr iaith. Mae’n dod yn gynyddol amlwg fod her yr iaith yn sefyll ochr yn ochr â’r her o drechu tlodi a sicrhau dycnwch economaidd ein cymunedau. Felly, wrth i chi ddatblygu eich strategaeth miliwn o siaradwyr, pa gyd-weithio trawsadrannol sydd yn digwydd yn y Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â’r effaith mae economi wan a thlodi yn ei gael ar ddyfodol yr iaith?

Dylwn i ddiolch i’r Aelod am yrru copi o’r ddogfen i mi. Nid ydw i wedi cael cyfle i’w darllen hi eto, ond mi fyddaf i’n ei wneud e dros y penwythnos, efallai. Rydw i’n gwerthfawrogi hynny. A gaf i ddweud hyn? Mi fydd y strategaeth iaith yn strategaeth Llywodraeth, nid strategaeth unrhyw adran neu adran benodol. Mi fydd y strategaeth yn cael ei datblygu ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys pob un adran o Lywodraeth, ac wedi hynny bydd hi’n cael ei derbyn gan y Cabinet i sicrhau ei bod hi’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Felly, mae pob un mater, fel tlodi, fel mae’r Aelod wedi ei godi, yn mynd i fod yn rhan ohoni hi, a darpariaethau cylchoedd Ti a Fi, fel sydd wedi cael eu codi gan Mike Hedges, mi fydd y rhain yn rhan ohoni hi, a’r ddarpariaeth ehangach blynyddoedd cynnar yn rhan ohoni hi hefyd. Mae hon yn strategaeth gynhwysfawr, yn cynnwys pob un rhan o Lywodraeth Cymru.

Byddaf i’n ceisio siarad tipyn bach o Gymraeg hefyd. Fis diwethaf, ymwelais i â chylch yn fy etholaeth. Mwynheais i wrando ar y plant yn canu a dechrau dysgu Cymraeg. Rydw i’n dal i ddysgu Cymraeg hefyd

in case you hadn’t guessed. [Laughter.] Minister, what’s struck me when I visit the ‘cylch’, now it’s been incorporated as part of Ysgol Gwenffrwd in Holywell, is that over 90 per cent of the children come from non-Welsh-speaking homes, and many of the nursery assistants are actually the former parents of children who have actually come through as adult learners to work in the ‘cylch’ as well. So, Minister, I’d like to ask specifically what is being done, not just to support these parents to learn Welsh alongside their children, and to encourage their children to stay in Welsh-medium education, but to potentially offer a career path for the parents themselves.

Rwy’n credu mai un o’r pethau mwyaf ysbrydoledig rydym wedi’i weld yn y blynyddoedd diwethaf yw’r twf yn y brwdfrydedd dros yr iaith yn y rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru rydych yn eu cynrychioli, nad ydynt wedi bod, yn draddodiadol, yn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Rwy’n cofio mai un o fy ymweliadau cyntaf fel Gweinidog yn y Cynulliad hwn oedd â’r Eisteddfod yn Sir y Fflint. Rwy’n credu ei fod yn brofiad gwych i lawer ohonom, a mwynhaom ein hamser yno’n fawr. A gaf fi ddweud mai un o’r pethau rydym yn ystyried eu gwneud yw buddsoddi mewn rhaglenni fel Cymraeg i Blant, sydd yno i gefnogi a chynnal defnydd o’r iaith a chaffael iaith, nid gan blant unigol ond gan deuluoedd, a bod rôl rhieni yn gwbl hanfodol i hynny, pan fo rhieni’n teimlo’n anghyfforddus gyda phlentyn yn caffael ac yn defnyddio’r iaith, nad yw, o bosibl, wedi cael ei defnyddio yn y cartref o’r blaen, ond hefyd cynnal a galluogi’r rhiant i fwynhau addysg y plant, i deimlo’n gyfforddus yn yr hyn y mae’r plant yn ei ddysgu, i helpu gyda gwaith cartref ac i gefnogi anghenion ieithyddol datblygol y plentyn a chaffael iaith? Felly, rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen Cymraeg i Blant yn cynnal ac yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg, ymysg y plant eu hunain yn ogystal ag ymysg y teulu cyfan. Rwy’n gobeithio, os gallwn wneud hynny, y byddwn yn cyflawni llawer mwy na darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer y plant yn unig, ac yn sicrhau profiad diwylliannol llawer cyfoethocach ar gyfer y teulu cyfan.

Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y £21.1 miliwn a drosglwyddwyd o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0109(EDU)

Trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros dalu’r grant ffioedd dysgu o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr addasiad technegol o £21.1 miliwn yn gadarnhad o drosglwyddiad terfynol y gyllideb wedi’i chlustnodi a amlinellwyd yn y llythyr cylch gwaith gweinidogol ar gyfer 2016 i CCAUC.

Mae’r Gweinidog yn disgrifio hyn fel newid technegol, a dyna a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wrthyf hefyd mewn llythyr ar 15 Mawrth, ei fod yn addasiad technegol o fewn y portffolio. Felly, a all y Gweinidog egluro pam y dywedodd Kirsty Williams wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 17 Hydref y bydd y grant ffioedd dysgu

‘yn fwy na’r amcangyfrifon gwreiddiol o £257.6m ar gyfer 2016-17. Felly, byddwn yn mynd ati i drosglwyddo £21.1m o CCAUC i Lywodraeth Cymru yn yr ail gyllideb atodol yn rhannol i dalu am y gwariant ychwanegol.’

Lywydd, mae’r Aelod o leiaf yn gyson yn gofyn yr un cwestiwn i nifer o wahanol Weinidogion a phwyllgorau ar wahanol adegau, ond byddaf yn siomi’r Aelod drwy roi’r un ateb ag y mae’r Gweinidogion hynny eisoes wedi’i roi iddo. Mae wedi derbyn ei lythyr ar 15 Mawrth. Rwy’n hapus iawn, Lywydd, i brofi eich amynedd eto a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd ar gyfer y cofnod, ond nid wyf yn siŵr y byddai hynny’n cyflawni llawer iawn. Mae’n rhaid i mi ddweud hyn wrth yr Aelod: cafodd y pwyntiau y mae wedi’u codi yn y Pwyllgor Cyllid ac eto yma eu hateb yn y llythyr ar 15 Mawrth. Mae hwn yn addasiad technegol i’r cyllidebau sy’n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae’r dogfennau cyllideb a gyhoeddwyd yn esbonio hyn, ac mae wedi cael ei esbonio gan y Gweinidog cyllid a’r Ysgrifennydd addysg yn y materion hyn.

Dai Lloyd. David Rees. O, nid wyf yn gwneud yn dda yma. Mohammad Asghar. [Chwerthin.]

Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, rwy’n cydnabod bod y trosglwyddiad cyllid o £21 miliwn ar gyfer CCAUC i gefnogi’r grant ffioedd dysgu wedi cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod safonau yn ein prifysgolion yn cael eu cadw’n uchel, ac mae angen iddynt gael yr adnoddau priodol i wneud hynny. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cyllideb CCAUC yn ddigonol i gefnogi cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n hanfodol o ran darparu’r gweithlu hyfedr y mae Cymru ei angen yn ein dyfodol? Diolch.

Wel, rydych yn ymwybodol, drwy’r sgyrsiau a gawsom yma o’r blaen, ein bod yn rhyddhau’r arian y mae CCAUC ei angen er mwyn darparu’r math o brofiad addysg uwch a buddsoddiad rydym am ei gyflawni yng Nghymru. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n credu bod angen i ni fynd gam ymhellach, weithiau, na dim ond ariannu’r ystad a’r sefydliad addysg uwch er mwyn cyflawni’r pethau hynny. Rwy’n credu bod angen i ni edrych yn ehangach ar ddatblygu polisi diwydiannol sy’n seiliedig yn rhannol o fewn addysg uwch, ond nid yn unig o fewn addysg uwch, ar gynyddu sgiliau, masnacheiddio’r ymchwil sydd ar gael i ni, a buddsoddi mewn economi sy’n gallu gwrthsefyll yr anawsterau y bydd ein heconomi yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod.

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu’r fframwaith cymhwysedd digidol gan ysgolion cynradd yn y canolbarth? OAQ(5)0103(EDU)

Cafodd y fframwaith cymhwysedd digidol ei chyflwyno i ysgolion a lleoliadau ym mis Medi 2016. Mae ysgolion a lleoliadau ar hyd a lled Cymru yn cael eu helpu i ddatblygu’r gwaith o gyflwyno’r fframwaith drwy’r arloeswyr digidol a’r consortia rhanbarthol.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymwybodol fod diffyg band eang ar draws rhannau o gefn gwlad Powys yn rhoi ysgolion gwledig, yn arbennig, o dan anfantais sylweddol, sy’n cael effaith ganlyniadol ar addysg y disgyblion. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 28 o ysgolion cynradd ledled Cymru yn dal i fethu cael band eang digonol i’w galluogi i addysgu disgyblion drwy ddefnyddio adnodd dysgu digidol Hwb. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall athrawon gael mynediad at yr adnodd digidol sydd ei angen arnynt i gyflwyno’r cwricwlwm llawn i’w disgyblion?

Cytunaf â’r pwynt sylfaenol y mae’r Aelod yn ei wneud, fod yn rhaid i bob ysgol gael mynediad cyfartal at fand eang er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn, a ddylai fod ar gael iddynt. Nid oes gan 23 o ysgolion ar hyn o bryd y band eang cyflym iawn sy’n angenrheidiol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd mynediad cyfartal. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo £5 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod pob ysgol â mynediad at fand eang cyflym iawn. Lywydd, rydym yn disgwyl y bydd y gwaith ym mhob un o’r ysgolion hyn wedi’i gwblhau erbyn 31 Mawrth, yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, ceir tair ysgol ble y mae BT wedi canfod problemau ac ni chânt eu cwblhau hyd nes 28 Ebrill.

Gwella Addysg yn Sir Benfro

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0099(EDU)

Rydym ni wedi amlinellu ein hymgyrch genedlaethol i godi lefelau cyrhaeddiad addysg drwy raglen o ddigwyddiadau addysgol ledled Cymru, yn cynnwys sir Benfro. Yn eu plith, mae datblygu cwricwlwm newydd a diwygio proses asesu, gwella addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol ymhlith athrawon, meithrin arweinwyr, a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.

Rydw i’n ddiolchgar i’r Gweinidog am yr ymateb yna. Rydw i’n hynod o falch, hefyd, fod Ysgol Bro Cleddau, yn fy etholaeth i, wedi cael ei henwi yn ddiweddar fel llysgennad cyntaf y Cynulliad yng Nghymru, ac mae llwyddiant y cynllun wedi arwain yr ysgol i ddeall mwy am waith y Cynulliad, ac mae hyn hefyd wedi rhoi llwyfan i’r disgyblion drafod a dadlau materion cyfoes.

Nawr, yn sgil y llwyddiant hwn, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cynllun fel hwn ac annog cymaint o ysgolion cynradd â phosibl i gymryd rhan, sydd yn ei dro yn gwella addysg disgyblion, fel y gall ein cenedlaethau i ddod ddysgu mwy am y Cynulliad a’r effaith y mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yma yn cael ar eu bywydau?

Rydw i’n credu bod pob un ohonom ni’n croesawu’r newyddion y mae Paul wedi eu rhannu â ni. A gaf i ddweud hyn? Mae’r Cynulliad ei hun, wrth gwrs, yn rhedeg cynlluniau arbennig o dda, ac rydw i wedi gweld llwyddiant cynlluniau Comisiwn y Cynulliad yn ysgolion Blaenau Gwent, yn fy etholaeth fy hun, sydd wedi derbyn cyfleoedd i ymweld â’r Senedd a hefyd i ddod i ddysgu mwy amboutu’r Senedd a’r Cynulliad a sut y mae hynny’n cael impact ar eu bywydau nhw. Rydw i’n credu bod y rhaglenni yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac rydw i’n gwybod y buasai’r Llywodraeth eisiau cefnogi’r Comisiwn yn y gwaith y mae yn ei wneud ar hyn o bryd.

Cymorth Dysgu Arbenigol

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth cymorth dysgu arbenigol mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0101(EDU)

Mae’n rhaid darparu cymorth dysgu arbenigol i bob plentyn y nodwyd bod ganddynt angen. Drwy ein rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cysylltiedig, bydd anghenion dysgwyr yn cael eu nodi’n gynharach a bydd cefnogaeth briodol yn cael ei darparu. Rydym wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i gefnogi’r broses o weithredu a chyflwyno’r system newydd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar cefais wybod am sefyllfa yn fy etholaeth lle roedd cynorthwyydd cymorth dysgu yn darparu cymorth i ferch sydd ag anghenion yn ymwneud â’i golwg—cymorth Braille. Mae’r cynorthwyydd cymorth dysgu wedi gadael y cyngor i weithio yn rhywle arall ac nid yw’r cyngor wedi llwyddo i ddod o hyd i rywun i lenwi’r swydd honno, felly nid yw’r ferch wedi gallu parhau i gael y lefel honno o gefnogaeth, a hynny heb fod unrhyw fai arni hi, na’r awdurdod lleol hyd yn oed. Rwy’n credu bod pawb ohonom, yn ôl pob tebyg, yn cytuno y byddai mwy o gydweithio rhwng awdurdodau i ddarparu cefnogaeth o’r fath yn helpu, fel y byddai defnydd awdurdodau lleol o bremiymau cadw a recriwtio pe bai angen. Ond a all y Gweinidog ddweud beth arall y gall yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod plant, fel plentyn fy etholwr, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan nad yw awdurdodau lleol yn gallu llenwi’r swyddi hyn?

Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydymdeimlo â phobl sy’n cael eu rhoi yn y sefyllfa honno, a dyna pam rwyf wedi ceisio pwysleisio, drwy gydol y ddadl a’r sgwrs rydym wedi bod yn ei chael ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, fod y Bil yn rhan o raglen drawsnewid ehangach, ac mai’r rhaglen sy’n gwbl allweddol i lwyddiant y Bil. Mae hynny’n golygu rhaglen gynllunio’r gweithlu sy’n gallu nodi ble y mae’r pwysau, ac mae’r Aelod wedi amlinellu pwysau sylweddol nad wyf yn credu ei fod wedi’i gyfyngu i Ferthyr, fel y mae’n digwydd—rwy’n credu ei fod yn wir mewn mannau eraill hefyd.

Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn deall ac yn gallu mapio’r pwysau sy’n bodoli o fewn y system ar hyn o bryd, ac wrth gwrs rydym yn ariannu’r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny’n hollol allweddol, oherwydd os ydym am lwyddo yn y dyfodol, ac os yw’r Bil ei hun, y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r cod a phopeth sy’n mynd law yn llaw ag ef, a phob un o’n huchelgeisiau a’n gweledigaethau ar gyfer y dyfodol, i gael eu cyflawni, yna byddant yn cael eu cyflawni gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant yn yr ystafell ddosbarth neu leoliadau eraill. Mae hynny’n golygu bod angen i ni fuddsoddi ym mhobl a gweithlu’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod pob un o’r arbenigeddau hyn ar gael i blant pan fyddant eu hangen a lle y byddant eu hangen, a’u bod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ar ôl i bryderon gael eu dwyn i fy sylw gan rieni a glywodd y byddai toriadau yn y cymorth un i un yn ysgolion cynradd Gwynedd ar gyfer plant sydd â diabetes math 1, maent wedi dweud wrthyf fod yna newyddion da, a’u bod wedi dod o hyd i ffordd wych ymlaen, ac maent yn falch o’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan staff y cyngor a’u parodrwydd i gydweithio. Fodd bynnag, mynegwyd pryder fod hyn yn cael ei ariannu drwy gyllidebau anghenion dysgu ychwanegol ac maent yn chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol sydd ar y gweill yn peryglu’r cyllid hwnnw. Pa sicrwydd y gallwch ei roi iddynt?

Nid wyf am gamu’n llwyr i mewn i’r enghraifft y mae’r Aelod newydd gyfeirio ati. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion am yr enghraifft honno, rwy’n fwy na hapus i’w ateb a rhoi copi o’r ateb hwnnw yn y llyfrgell i’r Aelodau eraill ei weld. Ond a gaf fi ddweud hyn? Yn y dull rydym yn ei fabwysiadu, ni ddylai fod unrhyw leihad na gostyngiad yn y gwasanaethau. Yn wir, dylai fod darpariaeth o wasanaethau ar gael sydd wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn, a gallai’r gwasanaethau hynny fod ar gael i fwy o bobl, ac nid i lai o bobl, a bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu hariannu. Rwyf newydd gyfeirio yn fy ateb blaenorol at y rhaglen drawsnewid ehangach rydym yn ymgymryd â hi er mwyn trawsnewid y profiad, fel bod pob plentyn, ni waeth beth yw eu hangen dysgu ychwanegol, yn gallu mwynhau profiad addysgol cyfoethog lle bynnag y maent yn digwydd bod. Gan fod yr Aelod wedi crybwyll anghenion plant sydd â diabetes, carwn ddweud ein bod yn cyhoeddi cyfres o ganllawiau statudol yr wythnos nesaf ar sut y dylid cefnogi plant gydag anghenion gofal iechyd o fewn yr ysgol a lleoliadau eraill.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau nawr i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Julie Morgan.

Hela â Chŵn

1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o ran hela â chŵn? OAQ(5)0031(CG)

Bydd yr Aelodau’n deall, os byddaf yn gwneud asesiadau, eu bod yn gyfreithiol freintiedig.

Mae TB buchol yn fater datganoledig ac mae hela â chŵn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon, a ganfu fod TB buchol mewn haid o gŵn hela yn Swydd Buckingham, a bod hyn wedi arwain at ddifa tua 40 o helgwn oherwydd y perygl y byddai’r cŵn yn lledaenu’r clefyd i wartheg. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu deddfu i fynd i’r afael â’r perygl newydd hwn yn yr ymdrech i reoli TB buchol yng Nghymru?

Wel, diolch i chi am y sylwadau hynny. Rwy’n gwybod am yr adroddiad y cyfeiriwch ato, ac rwy’n credu ei fod wedi’i anfon at bob Aelod o’r Cynulliad mewn gwirionedd. Mae’n crybwyll mater diddorol ac unwaith eto, mae’n datgelu rhai o’r gwendidau yn Neddf Cymru 2017. Mae hela â chŵn yn amlwg yn fater a gedwir yn ôl yn y Ddeddf. Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gymhwysedd. Mae Comisiwn y Gyfraith, wrth ystyried Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, wedi edrych ar bwerau Cynulliad Cymru mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae’n ddigon posibl fod y mater a nodwch yn perthyn i agweddau eraill ar gyfrifoldeb Cymreig. Fodd bynnag, ni fyddai’n addas i mi dresmasu i feysydd y mae’n briodol i Weinidogion gyda chyfrifoldeb polisi dros y materion dan sylw ymdrin â hwy. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod eich cwestiwn a’r mater rydych yn ei grybwyll yn cael ei gyfeirio at y Gweinidog priodol am ymateb. O ran Deddf Hela 2004 yn gyffredinol, safbwynt Llywodraeth Cymru—fel y byddwch yn gwybod—yw ei bod yn gwrthwynebu diddymu’r Ddeddf honno. O ran Deddf Cymru 2017, dywedwyd ar sawl achlysur fod y Ddeddf yn ddiffygiol ac y bydd angen deddfwriaeth gyfansoddiadol bellach maes o law, ac mae honno’n sicr yn farn rwy’n cytuno â hi.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(5)0029(CG)

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r ateb, unwaith eto, yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith.

Diolch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod materion fel tipio anghyfreithlon, baw cŵn a sbwriel yn bryder go iawn i lawer o bobl. A fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylai’r cosbau a roddir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn gymesur â’r pwyslais y mae’r cyhoedd yn ei roi ar yr angen i atal ymddygiad o’r fath?

Wel, rydych yn nodi nifer o faterion pwysig o ran deddfwriaeth a’r pwerau sydd gan y Cynulliad hwn ac sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. O dan Ddeddf Cymru 2017, mae agweddau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â gwaharddebau, ymddygiad troseddol ac yn y blaen yn faterion a gedwir yn ôl wrth gwrs. Ond mae gennym bwerau sylweddol mewn perthynas â meysydd eraill o weithgaredd gwrthgymdeithasol—tai, yr amgylchedd—ac rydych wedi cyfeirio at faw cŵn a thipio anghyfreithlon. Mae’r rhain yn faterion sy’n cael eu dwyn i sylw pob Aelod Cynulliad yn rheolaidd, rwy’n siŵr. Felly, mae cosbau’n bwysig ac mae’n bwysig fod cosbau sy’n cael eu cyflwyno nid yn unig yn cael effaith ataliol ond hefyd eu bod yn gymesur â manteision posibl y gweithgaredd gwrthgymdeithasol hefyd. Felly, er enghraifft, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod ymgynghoriad ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas â thipio anghyfreithlon ac mae mater cosbau a dirwyon yn y fan a’r lle yn rhan annatod o hynny. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i euogfarnau a chosbau am weithgareddau gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon sicrhau nad yw’r gweithgaredd yn fasnachol hyfyw a phroffidiol er gwaethaf y gosb. Felly, o ran gosod cosbau ar gyfer meysydd o fewn y cymhwysedd, bydd y Llywodraeth yn meddwl am ystyried difrifoldeb y troseddau dan sylw a’r niwsans y mae’r troseddau yn ei achosi. Wrth bennu cosbau am ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, mae hyn yn debygol o ymestyn i gynnwys costau posibl clirio, ynghyd â’r nod o sicrhau bod y gosb yn ddigonol i atal y fath weithgarwch—gyda gorfodaeth, wrth gwrs, yn fater ar gyfer llywodraeth leol, ond hefyd, wrth gwrs, mae gorfodi’n rhan sylweddol a phwysig o sicrhau bod deddfwriaeth yn effeithiol.

Mae baw cŵn, sbwriel a thipio anghyfreithlon i gyd yn faterion pwysig iawn, ond mae arnaf ofn fy mod yn gorfod ymdrin ag enghreifftiau llawer mwy difrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fy etholaeth. Yn benodol, mae unigolyn allan ar fechnïaeth sy’n aros am ddedfryd, yn ôl y sôn, wedi bod yn ymddwyn yn fygythiol tuag at bobl sydd hefyd wedi dioddef difrod troseddol blaenorol i flaen ac ochr eu tŷ. Yn amlwg, mae hyn yn hynod fygythiol ac mae’n bosibl nad yw’n amherthnasol i’r drosedd y mae’r person yn aros i gael ei ddedfrydu amdani. Felly, pa drafodaethau rydych chi’n eu cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â’r angen i sicrhau nad yw rhywun sydd allan ar fechnïaeth yn cyflawni troseddau pellach wrth aros am ddedfryd?

Wel, wrth gwrs, ac unwaith eto, yn unol â’r confensiwn, fe fyddwch yn ymwybodol nad wyf mewn sefyllfa i drafod sgyrsiau â swyddogion y gyfraith eraill. Efallai mai’r hyn y gallwn ei wneud, fodd bynnag, yw eich cyfeirio at y pwerau deddfwriaethol sydd gennym. Wrth gwrs, mae cymal cadw 43 yn cadw rhannau o’r pwerau yn ôl i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’n ymwneud yn benodol â gwaharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gorchmynion ymddygiad troseddol, pwerau gwasgaru, hysbysiadau amddiffyn cymunedol, hysbysiadau amddiffyn mannau cyhoeddus, cau adeiladau sy’n gysylltiedig â niwsans neu anhrefn, atebion cymunedol i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn y blaen. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod am y ddadl barhaus dros y cymalau cadw sy’n bodoli a pham fod Llywodraeth Cymru yn credu na ddylai rhai o’r cymalau cadw hynny, mewn gwirionedd, fod wedi cael eu gweithredu gan eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â meysydd eraill o gyfrifoldeb. Ond o gofio bod y rheini’n feysydd nad ydynt o fewn ein cymhwysedd ar hyn o bryd—maent yn faterion a gedwir yn ôl—serch hynny, mae yna gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd drwy waith yr awdurdodau lleol, drwy ariannu gwasanaethau ymyrraeth gynnar cyn ymddangosiadau llys a dulliau adferol, a’r ffaith ein bod, mewn gwirionedd, yn darparu cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol sydd oll yn gwneud gwaith i gefnogi cymunedau. Ni allaf ddweud y bydd y sefyllfa’n gwbl foddhaol oherwydd y rhaniad pwerau hwnnw, ond mae’r rheini’n feysydd a fydd, yn amlwg, yn codi o flwyddyn i flwyddyn ac nid oes unrhyw amheuaeth y byddant yn cael eu hystyried ymhellach yn y dyfodol. Ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae yna gymalau cadw amlwg yn y pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd i ymdrin â rhai o’r materion rydych yn eu crybwyll yn ddilys ac yn gywir iawn.

Gorsaf Bŵer Aberddawan

3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch dyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan? OAQ(5)0032(CG)[W]

Diolch am y cwestiwn. Nid yw’n fwriad gennyf wneud datganiadau am drafodaethau a gefais gyda swyddogion y gyfraith neu ddatgelu cynnwys unrhyw drafodaethau o’r fath. Mae hwn yn gonfensiwn sefydledig a luniwyd i gadw cyfrinachedd y trafodaethau hynny a’r berthynas rhwng swyddogion y gyfraith, ac edrychaf ymlaen at eich cwestiwn atodol.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi ychydig yn well ar y cwestiynau atodol hefyd. Felly, caf weld os gallaf eich temtio. Ers i mi gyflwyno’r cwestiwn hwn, cafwyd adroddiad pwysig iawn gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, sydd ag argymhelliad penodol yn ymwneud â gwaith Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit. Mae’n dweud yn glir iawn fod y Pwyllgor Cyfiawnder yn argymell y dylai rôl Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd barhau

fel pris gwerth ei dalu i gynnal offerynnau cyfiawnder trawsffiniol effeithiol.

Wrth gwrs, mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â chyfiawnder amgylcheddol ac allyriadau anghyfreithlon. A gaf fi ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol, felly, yn gyntaf oll: a yw’n croesawu’r adroddiad gan y Pwyllgor Cyfiawnder ac yn gweld rôl barhaus i’r Llys Cyfiawnder wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cynnal y cysylltiadau cyfiawnder trawsffiniol hynny? Yn ail, a gaf fi ofyn iddo beth fyddai ei gyngor fel Cwnsler Cyffredinol a phrif swyddog y gyfraith yng Nghymru i ddinesydd Cymreig sy’n rhwystredig ynglŷn â’r ffaith fod gorsaf bŵer Aberddawan yn parhau i bwmpio allyriadau anghyfreithlon, er bod y Llys Ewropeaidd wedi canfod bod Llywodraeth y DU wedi tramgwyddo yn ôl ym mis Medi diwethaf?

Roeddwn yn gwybod y byddai yna dro yng nghynffon y cwestiwn atodol. Mae rhan gyntaf eich cwestiwn mewn perthynas â Llys Cyfiawnder Ewrop yn bwynt pwysig iawn mewn gwirionedd ac wrth gwrs, oherwydd y Bil diddymu mawr, y bwriedir iddo gynnal parhad, neu ymgorffori, yn y bôn, cyfraith Ewrop yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig, yn amlwg bydd penderfyniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, felly, yn dod yn rhan annatod o gyfreitheg y Deyrnas Unedig fel y mae ar hyn o bryd. Bydd honno’n cael ei chadw ac wrth gwrs, erys y cwestiwn ynglŷn â dehongli dilynol. Felly, mewn gwirionedd, nid yw Llys Cyfiawnder Ewrop yn diflannu ac mewn gwirionedd, gellir dadlau ei fod yn chwarae rhan barhaus arwyddocaol iawn a rôl y byddai’r Deyrnas Unedig, hyd yn oed y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn dymuno ymwneud â hi, oherwydd nid yw materion amgylcheddol yn parchu ffiniau cenedlaethol daearyddol. Rwy’n credu mai un o’r meysydd mwyaf diddorol yw sut yr ymdrinnir â hynny, a hefyd, rwy’n credu, o fewn Llywodraeth Cymru, sut rydym yn dymuno edrych ar a chyfeirio at y materion a’r gwahanol gyfarwyddebau a rheoliadau a newidiadau sy’n digwydd yn ystod yr hyn a allai fod yn gyfnod trosiannol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

O ran y pwynt a wnewch am yr achos ei hun, ac fe gyfeiriasoch yn benodol at ddinesydd Cymreig, wel wrth gwrs, nid yw’n briodol i mi gynghori dinasyddion unigol; mae fy rôl yn ymwneud â Llywodraeth Cymru. Ond mae’n werth nodi’r hyn yr oedd y dyfarniad yn ymwneud ag ef yn benodol.

Roedd yn ymwneud â chyfarwyddeb gwaith glo mawr penodol a oedd mewn gwirionedd ond yn berthnasol i un safle yn y Deyrnas Unedig, fel y gwyddoch, sef Aberddawan. Ac wrth gwrs, roedd yna randdirymiad ohoni—ac mae hyn yn dechnegol iawn, a phan ddarllenais y dyfarniad, byddai’n dda gennyf pe bawn wedi gwrando mwy fel myfyriwr pan oeddwn yn astudio cemeg flynyddoedd lawer yn ôl—yn ymwneud â’r allyriadau gwirioneddol a oedd yn deillio o losgi glo a’r cyfuniadau penodol ac yn y blaen.

A safbwynt y Deyrnas Unedig oedd bod y rhanddirymiad hwnnw’n berthnasol i Aberddawan, roedd y Comisiwn yn anghytuno, aeth y mater i Lys Cyfiawnder Ewrop, a oedd hefyd yn cytuno â’r Comisiwn nad oedd y rhanddirymiad yn berthnasol. Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, yw’r corff rheoleiddio priodol, ac fel rwy’n deall y sefyllfa yn awr, mae’r broses ar y gweill o ran y newidiadau i’r drwydded ar gyfer Aberddawan—y bydd hynny, mae’n debyg, yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ac ar ôl y dyddiad hwnnw, dylid cydymffurfio â chyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd. Mae pa bynnag hawliau sydd gan unigolion yn fater iddynt hwy gael cyngor yn eu cylch a rhoi eu camau gweithredu eu hunain ar waith.

Hawliau Dinasyddion Ewrop

4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion eraill y gyfraith parthed hawliau dinasyddion Ewrop yng Nghymru? OAQ(5)0033(CG)[W]

Wel, ni fydd yr Aelod yn synnu clywed bod y cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn: rydym wedi galw am warantu hawliau mewnfudwyr yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru ar unwaith.

Wel, diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru, ac rwy’n siŵr, fel finnau, ei fod mewn cysylltiad yn aml, ac rwy’n golygu bob wythnos, os nad bob dydd, ag etholwyr sy’n bryderus iawn, naill ai eu bod hwy eu hunain yn ddinasyddion yr UE, neu’n benodol—yn yr achosion rwy’n ymdrin â hwy—fod eu rhieni’n ddinasyddion yr UE. Maent yn ddinasyddion Cymreig, gyda rhieni a ddaeth rywbryd yn y gorffennol, o Wlad Pwyl, neu’r Almaen, neu beth bynnag, ac nid ydynt wedi bod angen unioni eu dinasyddiaeth, oherwydd, yn syml iawn, eu bod yn byw yma, o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Rwy’n gwrthwynebu’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r dinasyddion hyn—ein dinasyddion ni, y bobl sy’n pleidleisio drosom yma, ac sydd â hawl i bleidleisio drosom fel Aelodau Cynulliad—yn y modd hwn, fel testun bargeinio. Mae angen iddynt gael eu gwneud i deimlo’n gartrefol yng Nghymru, ac mae angen neges glir oddi wrth Lywodraeth Cymru, o leiaf, fod eu rôl yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a’u rôl fel dinasyddion Cymreig, yn cael ei thrysori a’i gwella yma. Pa waith pellach y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o safbwynt cyfreithiol yn benodol, a chyda’i waith ef, er mwyn sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn cael eu parchu fel dinasyddion, ni waeth o ble y dônt, a bod hawliau penodol dinasyddion yr UE, yn arbennig, yn gallu cael eu hymgorffori yn y ffordd y gweithiwn fel Cynulliad, a’r ffordd y mae ef, fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru’n gweithio?

Wel, rwy’n credu mai’r peth cyntaf yw ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn y mae wedi’i wneud, mewn gwirionedd, sef siarad yn glir ar ran y dinasyddion Cymreig hynny, y rhai sydd wedi dod o wledydd eraill yn Ewrop efallai, sy’n byw yng Nghymru, sydd wedi gwneud bywyd iddynt eu hunain yma, sy’n gweithio yma, ac sy’n cyfrannu cymaint at ein heconomi a’n teulu. Ac mae hynny’n cael ei nodi’n glir iawn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru a anfonwyd at Lywodraeth y DU, ac sy’n destun trafodaethau. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl—mae’n fater y bydd y Prif Weinidog yn ei grybwyll yn gyson—ei fod yn nodi ein safbwynt yn glir iawn:

‘Dylid gwarantu ar unwaith hawliau mudwyr o’r UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru i aros, a rhaid i bob un sy’n byw yma gael ei drin gyda’r un faint o barch. Rydym yn galw ar yr UE i roi gwarant cyfatebol i ddinasyddion Cymru a’r DU sy’n byw yn yr UE.’

A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld y datganiad ar wefan Llywodraeth y DU, sy’n dweud,

Pan fyddwn yn gadael yr UE, rydym yn disgwyl y bydd statws cyfreithiol dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU, a dinasyddion y DU sy’n byw yn aelod-wladwriaethau’r UE, yn cael eu diogelu’n briodol.

Ac felly, mae’r ymgais gan Simon Thomas i greu ofn ym meddyliau’r rhai a ddisgrifiodd fel dioddefwyr yn gwbl ddiangen, ac mewn gwirionedd, mae’n rhan o’r broblem, nid yn rhan o’r ateb. A gaf fi hefyd ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol am ei farn ar effaith Confensiwn Fienna ar Gyfraith Cytuniadau 1969 yn hyn o beth? Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae’n datgan bod unrhyw hawliau a gafwyd cyn i wlad dynnu’n ôl o gytuniad yn cael eu cadw wedi hynny, ac mai rhagweledol yn unig fydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a gaiff eu heffeithio, ac nid ôl-weithredol.

Rwyf am ymdrin â’r pwynt olaf yn gyntaf, ynglŷn â chonfensiwn Fienna. A allwch gadarnhau mai at adran 70 o’r confensiwn y cyfeiriwch—neu efallai nad ydych yn gwybod?

Fe ddywedaf wrthych felly: adran 70 o’r confensiwn yw hi mewn gwirionedd. Mae wedi bod yn destun ystyriaeth gyfreithiol, ac wrth gwrs, mae’n gonfensiwn sy’n berthnasol i aelod-wladwriaethau. Nid yw’n cronni ac yn rhoi hawliau. Roedd yn rhan o’r fytholeg, mewn gwirionedd, a gododd yn ystod y ddadl ar Brexit na fyddai hyn, rywsut, yn broblem, ond y farn gyfreithiol flaenllaw ar hyn yw, nid yn unig mai mater i aelod-wladwriaethau ydyw, nid yw’n trosglwyddo’r hawliau hynny, ac ni fyddai modd ei orfodi drwy lysoedd y Deyrnas Unedig.

O ran y pwynt a godwyd mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth y DU ei bod yn disgwyl i’r hawliau hynny gael eu hanrhydeddu, mae’n golygu bod Llywodraeth y DU yn creu posibilrwydd—ac mae hwn yn destun pryder i’r unigolion hynny—na chânt eu parchu, o bosibl. Os yw Llywodraeth y DU yn awyddus i hawlio’r tir uchel moesol, ac yn disgwyl i’r holl hawliau hyn gael eu hanrhydeddu, efallai mai’r hyn y dylem ei wneud yw arddel safbwynt ein dinasyddion a gwneud yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n anrhydeddus a’r hyn sy’n foesol mewn perthynas â dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru, yn hytrach na’u defnyddio fel testun bargeinio.

Mae fy etholaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o bob gwlad yn Ewrop, ac eithrio, o bosibl, Lwcsembwrg a Liechtenstein, a gallaf sicrhau’r Cwnsler Cyffredinol nad ffrwyth dychymyg yw hyn. Mae wedi arwain at gynnydd sydyn yn y sylwadau difrïol sy’n cael eu cyfeirio at bobl sy’n dod o wledydd eraill yn Ewrop. Rwy’n arbennig o bryderus am y rhai sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu plant yn y wlad hon, sy’n ddinasyddion Prydeinig, ac eto sy’n wynebu’r posibilrwydd, ar hyn o bryd, o gael eu gorfodi i adael y wlad hon er mai dyma ble y mae eu teuluoedd yn byw. A allech ddweud wrthym a oes gan blant unrhyw hawliau yn y sefyllfa hon a beth yw hawl eu rhieni i barhau i fyw yn yr un wlad â hwy?

A gaf fi ddweud, mewn ymateb i hynny, fy mod mewn gwirionedd yn cytuno’n llwyr â’r datganiad a wnaeth Marilyn Brown o UKIP ar ‘Sharp End’ ychydig wythnosau’n ôl, y dylid rhoi dinasyddiaeth lawn i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru yn awr, ac na ddylid eu defnyddio fel testun bargeinio, felly mae’n amlwg fod anghytundeb o ran y safbwynt y mae UKIP wedi’i gyflwyno?

A gaf fi hefyd ddweud, mewn perthynas â phlant—mai hynny, mewn sawl ffordd, yw un o’r pethau mwyaf annifyr a gofidus am yr holl beth? Rwyf fi, fel yr Aelodau, wedi derbyn sylwadau gan ddinasyddion yr UE sy’n disgrifio eu sefyllfa deuluol, eu hamgylchiadau teuluol. Roedd gennyf un yn arbennig a oedd yn poeni y gallai orfod gadael, gan adael ei fab, sydd yn ei arddegau, a’i wraig o Gymraes ar ôl, oherwydd, er eu bod wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 40 mlynedd, byddai’n colli ei hawl i fod yn ddinesydd. Rwy’n gobeithio bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod, ond i’r unigolion yr effeithir arnynt mae’r sefyllfa lawn cywilydd o gael eich ystyried yn rhywun nad oes gennych unrhyw hawliau dinasyddiaeth yn sydyn yn hollol anghywir ac anfoesol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried hyn eto. Carwn ailadrodd yr anogaeth honno, ac rwy’n siŵr mai dyna yw barn mwyafrif llethol Aelodau’r Cynulliad hwn.

Annibyniaeth y System Farnwrol

5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynghylch annibyniaeth y system farnwrol yng Nghymru? OAQ(5)0030(CG)

Diolch am y cwestiwn. Mae annibyniaeth y farnwriaeth yn ganolog i reolaeth y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod unrhyw her i uniondeb barnwriaeth tribiwnlysoedd Cymru yn gryf iawn. Mae eu penderfyniadau’n seiliedig ar y dystiolaeth ger eu bron ac yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe.

Nid yn unig fy mod yn ymwybodol ohono, rwyf am ddyfynnu ohono yn awr. Ddoe, yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch:

‘Mae’r un mor bwysig i’n sefydliadau barnwrol wybod eu bod yn ennyn hyder y ddeddfwrfa’.

Sut rydych chi’n credu y gellir cyflawni hyn?

Rwy’n credu ei fod yn ddatganiad pwysig ac mae’n bwynt pwysig ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei gyflawni. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll heddiw, fy mod wedi dysgu y bore yma fod yr Arglwydd Brif Ustus, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi, wedi cyfeirio’n benodol at y datganiad hwnnw ac at ddwy ran benodol ohono? Nid wyf am ailadrodd y ddwy ran o’r datganiad, ond darllenodd ran eithaf manwl ohono ac aeth yn ei flaen i ddweud y bydd yn brawf cynyddol o aeddfedrwydd y Cynulliad hwn fel deddfwrfa a Senedd ei fod yn cydnabod ac yn deall pwysigrwydd annibyniaeth ei sefydliadau barnwrol a’r egwyddorion y cafodd ei sefydlu arnynt ac y mae’n gweithredu ar eu sail, ac mae hi yr un mor bwysig fod ein sefydliadau barnwrol yn gwybod eu bod yn ennyn hyder y ddeddfwrfa a phobl Cymru, a’u bod yn cael eu hamddiffyn rhag ymyrraeth wleidyddol a beirniadaeth ac ymosodiadau di-alw-amdanynt a di-sail wrth arfer eu dyletswyddau cyhoeddus. 

Mewn gwirionedd, aeth ymlaen i ddweud: ‘Mae’n ymddangos ei fod yn ddatganiad eithaf clir, mewn gwirionedd, o ddyletswydd yr Arglwydd Ganghellor’. Ac aeth ymlaen i ddweud: ‘Rwy’n gresynu bod yn rhaid i mi ei beirniadu mor hallt ag y gwneuthum, ond yn fy marn i, mae hi’n gyfan gwbl anghywir. Rwy’n siomedig a gallaf ddeall y pwysau a oedd yno ym mis Tachwedd, ond mae hi wedi arddel safbwynt hollol anghywir yn gyfansoddiadol.’

Credaf fod hynny’n cefnogi’r safbwynt rydym wedi’i ddatgan mewn perthynas â fy rôl fel swyddog y gyfraith a safbwynt y Cynulliad hwn. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw bod Aelodau unigol y Cynulliad hwn ac arweinyddion y pleidiau gwleidyddol bob amser yn sefyll dros yr egwyddorion sylfaenol hynny am eu bod yn sylfaen i’n sefydliadau, ac os ydym yn dymuno cael ein cymryd o ddifrif, fel awdurdodaeth ac fel Senedd, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod pawb yn cynnal yr egwyddorion hynny.

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar David Rees i ofyn y cwestiwn brys.

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? EAQ(5)0124(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol â Gweinidog carchardai’r DU ynglŷn â’r safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y cynnig hwn botensial i gynnig cyfleuster modern, addas i’r diben i dde Cymru, sy’n canolbwyntio ar adsefydlu, a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Gwnaed y penderfyniad hwn gan Lywodraeth San Steffan cyn i unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal ac rwy’n gresynu’n fawr nad ydynt wedi manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, er fy mod yn cydnabod y bydd y broses gynllunio yn caniatáu cyfleoedd, efallai, ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach hwnnw.

Nid yw’n ymddangos eu bod yn nodi safleoedd penodol, er fy mod wedi clywed efallai ei fod ar dir Llywodraeth Cymru, ar ystad ddiwydiannol Baglan, oddi ar Ffordd Moor. A allwch chi gadarnhau hynny? A allwch nodi hefyd pa asesiadau effaith a gynhaliwyd o wasanaethau lleol—iechyd, boed yn iechyd corfforol neu iechyd meddwl, addysg, yn enwedig ar gyfer y carcharorion a fydd yn mynd i’r carchar, ac efallai yr effaith ar faterion trafnidiaeth, oherwydd, yn amlwg, pwy fydd yn talu’r costau hynny hefyd? Pa wasanaethau cymorth sy’n cael eu nodi ar gyfer y carcharorion a fydd yn cael eu rhyddhau o’r carchar a ble y cânt eu lleoli?

Gallwn ddefnyddio Carchar Berwyn fel enghraifft, efallai, fel asesiad i’w wneud o’r manteision lleol, ond a ydych wedi cael unrhyw syniad faint o swyddi sy’n cael eu creu o ganlyniad i’r penderfyniad hwn, yn enwedig yng ngoleuni data Prifysgol Caerdydd a ryddhawyd heddiw, yn nodi’r ffaith, os yw Port Talbot yn garchar ychwanegol, y bydd yna fwy o leoedd nag a geir o garcharorion o Gymru sydd angen eu lleoli? A yw hynny’n awgrymu bod Caerdydd ac Abertawe yn cael eu hadolygu ac o bosibl yn addas i’w cau, sy’n golygu na fydd swyddi’n cael eu creu, ond yn cael eu trosglwyddo yn lle hynny, sydd felly’n cael effaith wahanol ar y safle? Rwy’n cydnabod y gall rhai o’r agweddau hynny fod yn gwestiynau i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hateb, ond a ydych wedi gofyn y cwestiynau hynny ac a ydych wedi cael atebion i’r cwestiynau hynny?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn hynny, wrth gynrychioli ei etholwyr. Wrth gwrs, mae llawer o’r cwestiynau y mae wedi’u gofyn, yn gywir, yn galw am atebion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae’n ddyddiau cynnar iawn. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud â’r awgrym i ystyried adeiladu carchar yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae’r cwestiynau sylfaenol hynny ynglŷn â’r canlyniadau anuniongyrchol y mae’r Aelod yn eu crybwyll yn bethau a fydd yn digwydd drwy ymgynghori yn ogystal â’r prosesau cynllunio priodol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bydd fy nhîm yn ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â’r materion hyn ac wrth gwrs, bûm yn ymweld â Charchar Berwyn yn Wrecsam. Rwy’n credu bod nerfusrwydd sefydliadau newydd fel hwn yn un sy’n ysgogi cymunedau, ond gallaf sicrhau’r Aelod, a byddwn yn ei annog i fynd i gael golwg ar Garchar Berwyn er mwyn tawelu rhai o’i ofnau. Ond mae rhai o’r cwestiynau y mae’n eu gofyn i mi heddiw yn gywir ac yn briodol, ac mae’n haeddu atebion iddynt.

Fy ymateb cyntaf yw dweud nad ydym yn dymuno troi Cymru yn garchar enfawr. Mewn egwyddor, nid ydym yn cefnogi datblygu carchardai mawr. Nid yr Unol Daleithiau yw’r fan hon. Onid ydych yn cytuno â mi fod angen cyfleusterau sy’n addas i anghenion carcharorion o Gymru a bod angen i ni ddatganoli cyfiawnder i Gymru a sicrhau nad ydym yn syrthio i’r fagl o adeiladu carchardai newydd heb drafod diwygio carchardai a ffyrdd o atal pobl rhag troseddu yn y lle cyntaf? A ydych yn cytuno â mi ei bod yn annoeth croesawu swyddi er mwyn croesawu swyddi, heb weld yr holl fanylion? Hyd yn hyn, nid ydym yn gwybod beth y mae hyn yn ei olygu i’r sector adeiladu ei hun, ac nid ydym yn gwybod a fydd y rhain yn swyddi hirdymor yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Er enghraifft, a fydd y rhain yn gontractau dim oriau, contractau tymor byr, neu a fyddant yn swyddi hirdymor ar gyfer y gymuned?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nid ydym yn gwybod llawer o’r manylion hyd yn hyn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chynghorwyr o fy mhlaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac maent wedi dweud wrthyf mai cyfrifoldeb y cynghorau a/neu Lywodraeth Cymru yw cyflwyno meini prawf i alw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud cais am y swyddi hynny. Felly, rwy’n awyddus i ddeall a yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot neu chi fel Llywodraeth Cymru wedi rhoi meini prawf iddynt yn dweud bod y tir ym Maglan yn iawn iddynt ei ddefnyddio, a’ch bod wedi rhoi’r lefel honno o ganiatâd iddynt, fel petai, fel eich bod wedi nodi bod yna ffordd ymlaen ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Rwyf wedi clywed mai proses wirfoddol oedd hi ac nad oedd angen i’r cyngor na Llywodraeth Cymru gyflwyno cais yn hynny o beth.

A fydd y carchar hwn yn hwyluso cau carchardai Abertawe a Chaerdydd? Hyd yn oed os yw hyn yn wir, pam carchar mawr? Mae ffigurau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, fel y clywsom, yn dangos, os adeiladir y carchar hwn, y byddai’n creu 2,400 o leoedd dros ben yng Nghymru a 600 pe bai Caerdydd yn cau. A yw Llywodraeth y DU yn troi Cymru yn wladfa gosbi tra’u bod yn anfon ein carcharorion ein hunain, gan gynnwys menywod, i fannau eraill? Beth rydych yn ei wneud mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU i ddod â’r 50 y cant a mwy o ddynion sy’n garcharorion o Gymru nad ydynt wedi’u lleoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl yma, er mwyn i’w teuluoedd allu eu cefnogi yma yn y wlad hon?

Fy mhwynt olaf yw fy mod yn credu bod y gymuned, hyd yn hyn, wedi cael ei hamharchu gan Lywodraeth y DU. Mae gennym ysgol fawr newydd ym Maglan, ysgol Gymraeg newydd ar fin cael ei hadeiladu yno, mae llawer o broblemau traffig yn yr ardal honno, ac mae angen i bobl leol fod yn rhan o’r sgwrs hon, yn hytrach na chael gwybod beth sy’n dod i’w cymuned gan Lywodraeth y DU.

Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae llawer o faterion yn codi. Unwaith eto, mae’n crybwyll ymatebion y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y crybwyllodd yr Aelod lleol, Dai Rees. A gaf fi ddweud, o fy mhrofiad o Garchar Berwyn, mai personél o’r ardal leol oedd tua 60 y cant o’r rhai a gyflogwyd i ddatblygu ac adeiladu’r carchar, felly roedd yn hwb diwydiannol mawr i’r ardal honno?

O ran diwygio carchardai, mae Bil yn mynd drwy ddau Dŷ’r Senedd. Nid fy lle i yw amddiffyn gweinyddiaeth y DU, ond gallaf ddweud bod carchardai modern, lle y mae eu hangen o dan yr agenda ddiwygio, yn llawer gwell na’r hen garchardai hynafol sydd gennym wedi’u gwasgaru o amgylch y wlad. Mae hon yn ffordd lawer gwell o leihau’r risg i’n cymunedau, a datblygu cymorth cyswllt teulu hefyd ar gyfer carcharorion o Gymru, a gwneud yn siŵr nad ydym yn aildroseddu ac yn mynd yn ôl i’r carchar.

Mewn perthynas â charchardai menywod, cytunaf yn llwyr y dylem gael uned ddiogel i fenywod yma yng Nghymru. Os mai dyna yw’r pwynt olaf, wrth gwrs, o ran carcharu, yna rwy’n credu ei bod yn gywir ac yn briodol fod gennym gyfleusterau yng Nghymru ar gyfer darparu hynny.

Fel y mae’r ddau Aelod wedi dweud, mae llawer o gwestiynau sy’n parhau heb eu hateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’n ddyddiau cynnar iawn. Byddwn yn disgwyl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr awdurdod lleol a chyfranogiad Llywodraeth Cymru gael rhaglen ymgysylltu lawn â’r gymuned. Nid yw ond yn iawn ac yn briodol fod hynny’n digwydd.

O ran eich pwynt olaf ynglŷn â thir a datblygu tir, mae’r tir arfaethedig yn eiddo i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond nid yw hynny’n unigryw i unrhyw ddatblygwr, o ran y sector preifat neu’r sector cyhoeddus, lle y ceir golwg ar y sylfaen tir ledled Cymru i weld ble y gallai datblygiadau ddigwydd. Mae hwn yn digwydd bod yn garchar, ac mae’n digwydd bod yn dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Er bod hwn yn ddatganiad sy’n cael ei wneud gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, bydd yn rhaid iddo fynd drwy’r broses gynllunio lawn er mwyn ennill momentwm, os momentwm o gwbl.

Rwy’n rhannu rhai o bryderon Bethan Jenkins y gallem fod yn symud tuag at sefyllfa debyg i’r Unol Daleithiau lle y maent, mewn gwirionedd, yn gwario mwy o arian ar garcharu pobl nag y maent yn ei wneud ar eu system addysg, ac am feirniadaeth yw honno o’r gymdeithas. Ond rwy’n deall yn llwyr yr hyn roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am yr angen i gartrefu pobl mewn amodau sy’n cefnogi eu hadsefydliad, yn hytrach nag mewn amodau Fictoraidd nad ydynt yn gwneud hynny. Ond fel rhan o’r cyhoeddiad hwn ddoe, datgelwyd bod Llywodraeth y DU yn adolygu rhai carchardai gyda golwg, rwy’n credu, ar eu gwerthu, ac mae hynny’n cynnwys carchar Caerdydd.

Nawr, mae dau beth yn peri pryder i mi. Un yw ei bod yn bwysig iawn fod pobl, fel rhan o’u hadsefydliad, yn gallu cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd. Cafwyd prawf cadarn fod hynny’n wir. Y llall yw effeithlonrwydd y gwasanaeth carchardai. Mae angen iddo gynnwys agosrwydd y carchardai at y gwasanaeth llys, a dyna, yn amlwg, sy’n cael ei ddarparu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Felly rwy’n gobeithio y bydd hynny’n cael ei ystyried yn y trafodaethau y byddwch yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ar ein hymagwedd tuag at garchardai yn gyffredinol. Yn bersonol, rwy’n gwrthwynebu sefydlu carchar i fenywod yng Nghymru, oherwydd mae hynny’n gwbl groes i argymhellion adroddiad 2007 ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â menywod sy’n troseddu, gan fod yr effeithiau ar eu teuluoedd yn gwbl ddinistriol. Ceir achosion prin iawn o fenywod y mae angen iddynt fod mewn carchar, ond eithriadau ydynt yn bendant.

Mae’r Aelod yn nodi materion pwysig iawn, ond a gaf fi ddweud bod y rhain yn gyfleusterau modern iawn? Mae mater addysg ac adsefydlu yn un pwysig. Mewn gwirionedd mae gan garchar Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr brosesau da iawn gydag ailintegreiddio i’r gymuned yn un bwysig. Os ydych yn rhoi pobl dan glo ac yn eu trin fel anifeiliaid gwyllt mewn cewyll, dônt allan yn eu holau o’u cewyll fel anifeiliaid gwyllt. Dyna pam y mae’n rhaid i ni gael cynnig gwahanol, ac mae’r hen gyfleusterau sydd gennym yn gweddu’n dda i’r senario hwnnw. Mae’n rhaid i ni gael ymagwedd newydd, fodern at garcharu os mai dyna’r unig ddewis yn y pen draw.

Rwy’n derbyn pwynt yr Aelod am garchardai menywod. Mae’n fy mhoeni’n fawr fod gennym unrhyw un wedi’i garcharu—pobl ifanc, dynion neu fenywod. Ond mae rhai adegau pan fo’n rhaid i hyn ddigwydd, ac os oes rhaid iddo ddigwydd, yna rwy’n creu bod rhaid i hyn ddigwydd yn agos at adref, lle y gallwn barhau i weld integreiddio’n digwydd â chysylltiadau teuluol sy’n arwain at ganlyniadau gwell i bobl. Felly, rwy’n derbyn pwynt dilys iawn yr Aelod ynglŷn â charchardai menywod yn gyffredinol, ond lle rydym eu hangen, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn eu rheoli’n briodol.

Mae’r mathau hyn o gyfleusterau—sy’n fodern iawn o ran carchardai—yn wahanol iawn. Mae gan yr un yn Wrecsam, cyfleuster newydd sbon, sefydliad Coleg Cambria yno, yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd a hyfforddiant, proses brentisiaeth i bobl ifanc fynd drwyddi hefyd, a chyfleuster gofal iechyd nad yw’n cael ei ddefnyddio’n unig ar gyfer carcharorion, ond ar gyfer y cyhoedd yn ogystal. Felly, mae’r cyfleusterau sydd ganddynt yno yn ychwanegol at y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae’n amlwg fod yna bryderon ynglŷn â lleoliad y carchar hwn a sut y mae’n edrych ar gyfer y dyfodol, ond peidiwch â gadael i ni neidio i gasgliadau ynglŷn â sut y gallai fod, oherwydd mewn gwirionedd gallai ddarparu canlyniadau gwell i bobl yn yr holl gymunedau a gynrychiolir gennym.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r newyddion fod de Cymru yn mynd i gael carchar newydd o bosibl. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai ers blynyddoedd lawer, rwy’n gwybod yn iawn am y problemau gyda gorlenwi, sy’n creu amgylchedd anniogel ar gyfer carcharorion a staff. Bydd cael carchardai ychwanegol yn ne Cymru yn caniatáu i fwy o garcharorion gael eu cadw yn nes at eu cartrefi. Mae hyn yn fanteisiol iawn o ran ymdrechion i adsefydlu. Fel y mae, caiff carcharor ei gadw lle bynnag y mae lle ar gael, boed hynny’n mewn carchar yng Nghymru, mewn carchar yn Lloegr neu fel arall.

Ar wahân i’r manteision amlwg i boblogaeth a staff carchardai, bydd y gwaith adeiladu a gweithgarwch y carchar ei hun yn sicrhau manteision mawr i fy rhanbarth. Bydd cartrefu 1,600 o garcharorion yn dod â swyddi y mae eu hangen yn fawr ar yr economi leol. Nid swyddogion carchar yn unig sy’n gweithio mewn carchar; maent yn cyflogi gweithwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, staff addysg, staff cynnal a chadw, a llu o staff ategol. A gaf fi ddweud, gan fy mod wedi gweithio mewn carchar, nad oedd y carcharorion yn cael eu cadw dan glo am 23 awr y dydd lle roeddwn yn gweithio? Roeddent allan am 10 i 14 awr er mwyn adsefydlu. Iawn?

Rydym hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn a fydd yn gwario eu harian yn yr economi leol. Fodd bynnag, rhaid i ni gael cefnogaeth ein cymuned hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i fynd i’r afael â phryderon trigolion lleol a hybu manteision carchar newydd, gyda’r pwyslais ar adsefydlu?

Rwy’n meddwl bod yr holl Aelodau wedi tynnu sylw at bwyntiau pwysig heddiw. Mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r cais, a byddant yn bwrw ymlaen ag ef. Mae gennym rôl mewn perthynas â chanlyniadau anuniongyrchol adeiladu sefydliad o’r fath yng Nghymru, o ran y pwysau addysgol a mathau eraill o bwysau lleol, ond mae’n cynnig cyfleoedd hefyd ar gyfer cyflogaeth a chaffael cymorth ar gyfer safle’r carchar.

Dylai carchar fod yn ddewis olaf i unrhyw wlad. Mae’r ffaith ein bod yn carcharu pobl yn feirniadaeth o’r unigolion hynny, ond o gymunedau yn ogystal, ac mae’n rhaid inni fynd i lygad y ffynnon ar hyn. Mewn gwirionedd, y lle olaf y byddwn am roi neb yw mewn carchar, a dyna pam y mae ein rhaglen yma yn mynd i’r afael â phroblemau yn llawer agosach at y gwraidd, gan weithio gyda David Melding ar fater plant sy’n derbyn gofal a gofalu am y materion addysgol sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Oherwydd mae llawer o’r bobl sy’n cael eu carcharu, os edrychwch ar eu proffil, wedi cael profiadau yn ystod plentyndod na fyddai neb ohonom eu heisiau yn ein gorffennol. Mae’n rhaid i ni newid hynny. Dyna pam mai’r tamaid olaf yw hyn. Gadewch i ni obeithio y gallwn gael carchar nad yw ond yn hanner llawn, gan y byddai hynny’n iawn gennyf fi. Y ffaith amdani yw ein bod angen cyfleusterau modern gyda chanolfannau adsefydlu a all sicrhau canlyniad gwell i bobl. Rwy’n credu bod rhaid i ni roi hyder i gymunedau fel y rhai y mae’r Aelodau wedi sôn amdanynt yn y Siambr heddiw mai’r hyn y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei adeiladu yw adeilad sy’n addas a phriodol ar gyfer eu cymuned.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei atebion hyd yn hyn? Rwy’n dal ychydig yn aneglur ar un neu ddau o bwyntiau. Y mater sylfaenol cyntaf yw: sut y daethom i’r fan hon? Dihunais y bore yma i glywed newyddion teledu brecwast: ‘Carchar ym Maglan’. Iawn, fel Aelod di-nod o’r wrthblaid, ni fyddwn yn disgwyl bod yn rhan o unrhyw ymgynghoriad â Llywodraeth y DU, ond rwy’n disgwyl y byddai rhywun wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad â Llywodraeth y DU, felly a allwch amlinellu’n union pa ymgyngoriadau a gynhaliwyd dros yr ychydig ddyddiau, wythnosau, misoedd diwethaf, a oedd hefyd yn cynnwys yr awdurdod lleol, er mwyn i ni gael syniad clir o sut y cyraeddasom lle rydym heddiw? Dyna fy nghwestiwn cyntaf.

O ran yr ail fater, yn amlwg mae’n ymwneud â fy mhryder ynglŷn â chyfraddau aildroseddu, a drysau tro pan fydd pobl yn mynd i’r carchar, allan o’r carchar, ac yn ôl i’r carchar o hyd. Un o hanfodion atal aildroseddu mewn gwirionedd yw’r gefnogaeth wrth gefn gan y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, y ddarpariaeth dai, addysg, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, cyffuriau ac alcohol—mae’r rheini i gyd wedi’u datganoli i Gymru, wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ar gyfer Cymru. Yn rhyfeddol, mae plismona a chyfiawnder troseddol yn dal i fod heb eu datganoli. Dyna un o’r pethau, yn ôl pob tebyg, a barodd inni ddihuno y bore yma i gael carchar mawr wedi’i wthio arnom, gan nad yw wedi’i ddatganoli i Gymru, yn hytrach na bod yn ganlyniad trafodaethau gofalus a gynhelid dros fisoedd lawer.

Ond mae yna ddatgysylltiad sylfaenol. Os ydym yn mynd i gael cannoedd o garcharorion—1,600 ohonynt—ym Mhort Talbot, a’n bod yn disgwyl iddynt gael eu hadsefydlu yn y gymuned, mewn cymuned dan straen, lle y mae’r gwasanaeth iechyd dan straen—nid af ar ei ôl, ond gwyddom eu bod dan straen: gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol, tai, camddefnyddio sylweddau. Mae pob un o’r gwasanaethau datganoledig hyn dan straen, ac yn awr rydym yn cael cannoedd o bobl i mewn, yn ychwanegol, sy’n ceisio ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn er mwyn eu hatal rhag aildroseddu.

A gaf fi ofyn pa ddadansoddiad a wnaed i geisio cwmpasu pa effaith y bydd y llwyth newydd hwn o bobl ym Mhort Talbot yn ei chael ar ein gwasanaethau lleol datganoledig? Oherwydd mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ni chlywais alwad gref yn lleol i gael carchar i greu swyddi, sydd i’w gweld yn un o’r dadleuon. Clywais alwad am forlyn llanw i greu swyddi. Clywais alwad i wneud yn siŵr fod gennym waith dur o hyd, i wneud yn siŵr fod gennym swyddi o hyd, a chlywais alwad am drydaneiddio ein rheilffyrdd. Yr unig beth y methais glywed galwad amdano yw carchar newydd.

Felly, tybed sut y gallwn ddatrys y mathau hyn o bethau, gan ein bod yn siarad, fel yr amlinellodd Bethan Jenkins, am 2,400 o leoedd dros ben. Mae gennym garchar mawr yn Wrecsam, carchar mawr ym Mhort Talbot. Mae Llafur yn San Steffan yn gwrthwynebu carchardai mawr, yn ôl pob tebyg, yn Lloegr—ac yn amlwg o blaid carchardai mawr yng Nghymru. Ceir 2,400 o leoedd dros ben gyda’r rhain, i lawr i 1,600 os ydych yn cau Caerdydd, ond mae hynny’n dal i fod yn 1,600 o leoedd dros ben i’n gwasanaethau iechyd, addysg, tai, sydd eisoes o dan straen aruthrol—. Dywedwch wrthyf: sut rydym yn mynd i ymdopi?

Wel, diolch i Dr Lloyd am ei gwestiynau—ac roedd yn frwd iawn hefyd. Rwy’n credu—un neu ddau o bwyntiau, os awn ati i’w dadansoddi. Mae’n dechrau cyflwyno’r ddadl ei fod yn gwrthwynebu hyn ar sail gyfansoddiadol. Rwy’n credu bod hynny’n anffodus, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan ein carcharorion, ein Cymry sy’n byw yng Nghymru, gyfleuster a all eu helpu gyda—[Torri ar draws.] Os yw’r Aelod eisiau cwestiwn, mater yw hwnnw i’r Llywydd. Ond mae’r mater, os caf, yn deillio o—. Y ddadl y mae’n ei chyflwyno yw bod hyn yn rhywbeth newydd. Nid yw’r mater ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ac elfennau eraill a ddarparwn yn ein gwasanaethau i atal aildroseddu yn newydd i Gymru. Rydym yn darparu hynny yng Nghaerdydd, rydym yn darparu hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn darparu hynny yn Abertawe yn barod. Felly, nid yw’n anathema newydd; mae hyn yn ymwneud â rhywbeth yr ydym yn brofiadol yn ei gylch ac mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn talu am y prosesau hynny hefyd. Ond mae’n rhywbeth sy’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod wedi ei ystyried yn llawn, a chael yr arian sy’n dilyn y gweithdrefnau hynny wrth law.

Rwyf hefyd yn derbyn bod yr Aelod yn siarad, ar sail wleidyddol, am gael carchar mewn rhyw ardal benodol. Yn gyffredinol, pan fyddwch yn gwneud cais am garchar ym mha ardal bynnag, nid ydynt yn boblogaidd, ond mae’r Aelod yn dymuno neu’n ceisio manteisio ar hynny ar sail wleidyddol—rwy’n credu bod hynny’n eithaf anffodus. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod am y broses y dechreuodd â hi, am y ffordd y gwnaeth hyn i gyd ddechrau—[Torri ar draws.] Lywydd, rwy’n fwy na hapus i gael rhagor o gwestiynau, ond—

Y mater yma, Lywydd, yw fy nhîm—nid yw ymgysylltu gydag unrhyw ddarpar ddatblygwr ynglŷn â maes sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn anarferol, gyda’r sector preifat neu gyhoeddus, fel y dywedais wrth Bethan Jenkins yn flaenorol. Mae fy nhîm wedi bod yn ymwneud â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail y posibilrwydd y bydd y cyfleuster hwn yn cael ei gyflwyno. Roedd cyhoeddiad heddiw yn ymwneud â’r potensial hwnnw’n dod i’r amlwg. Nawr, nid yw’n golygu ei fod yn mynd i ddigwydd; cynhelir proses ymgynghori lawn, dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, nid Llywodraeth Cymru. Yr unig gyfran sydd gennym yn hyn yw mai ein tir ni yw hwn yn digwydd bod, nid ein prosiect. Ond mae’r materion y mae’r Aelodau’n eu crybwyll yma heddiw yn rhai pwysig i sicrhau, os daw cyfleuster i Gymru, mai hwnnw fydd y cyfleuster iawn, yn y lle iawn, gyda’r camau gweithredu cywir i atal mwy o aildroseddu yn ein cymunedau.

Diolch, Lywydd. Fel rhywun sydd, fel fi, wedi ymweld â charchardai dros y blynyddoedd, a wnewch chi gadarnhau, er ein bod i gyd yn dymuno gweld carcharorion o Gymru yn cael eu lleoli mor agos i’w cartrefi â phosibl, fod categoreiddio carcharorion weithiau’n ei gwneud yn amhosibl? Yn ail, fel gyda Charchar Berwyn, a allwch gadarnhau pa un a fydd y carchar newydd arfaethedig ym Mhort Talbot wedi’i ffurfio o unedau llai ar wahân fel nad yw pobl yn y gymuned yn byw yn amgylchedd carchar mawr, ond mewn amgylchedd llai o faint, sy’n debycach i dŷ neu goleg mawr? O ran adsefydlu, a wnewch chi gadarnhau eich bod wedi gofyn am sicrwydd, neu wedi cael sicrwydd y bydd y rhaglenni adsefydlu sy’n darparu arweiniad i Garchar Berwyn yn cael eu datblygu ym Mhort Talbot a sut y mae eich profiad o ddatblygu gwasanaethau datganoledig ochr yn ochr â gwasanaethau sydd heb eu datganoli yng Ngharchar Berwyn yn llywio eich ffordd ymlaen yma? A wnewch chi gadarnhau, mewn gwirionedd, y bydd yna swyddi lleol? Yn ddiweddar, cyfarfûm â gŵr un o ffrindiau fy merch sydd newydd gwblhau ei hyfforddiant i weithio yng Ngharchar Berwyn, dyn sy’n byw yn ardal Wrecsam. Ac yn olaf, sut y byddwch yn ymgorffori’r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai a phrosiect Ymweld â Mam Sova i famau yn y carchar yn rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghymru?

Dyna gwestiynau da iawn gan yr Aelod, ond rwy’n gobeithio bod ei ymweliadau â’r carchar yr un fath â fy rhai i, drwy fynedfa’r ymwelwyr, er mwyn iddo allu gadael. Ond proses bwysig. Nid wyf wedi cael y manylion, a chefais sgwrs gyda Sam Gyimah AS ddoe a oedd yn brin o fanylion, gan fod yn rhaid gweithio ar y pethau hyn, ond yr hyn y byddwn yn awgrymu yw bod y model, er yn ddadleuol ar y dechrau yn ardal Wrecsam ar gyfer Carchar Berwyn, wedi profi’n un cadarnhaol iawn o ran rhyngweithio gyda chymunedau. Mae llawer o waith gwirfoddol yn digwydd yno, cyfleusterau addysg, adsefydlu gyda sefydliadau trydydd sector. Byddwn yn awgrymu bod y model hwnnw wedi datblygu’n dda. Bydd yn rhyw fath o gyfle dysgu hefyd. Ond hefyd, y pwynt am garchar mawr—Berwyn yw’r carchar mwyaf yn y DU, ond mae wedi’i ffurfio o nifer o dai, sydd, i bob pwrpas, yn garchardai llai o fewn yr ardal, ac rwy’n gwybod y bydd yr Aelod wedi ymweld â’r lle hefyd. Felly, mae’r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Aelod, a’r cwestiynau y mae llawer o’r Aelodau wedi’u gofyn heddiw, yn faterion i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu cais i’r awdurdod lleol pan gaiff ei gyflwyno, ond heb amheuaeth, maent yn ystyriaethau difrifol fel sy’n rhaid iddynt fod er mwyn sicrhau cyfleoedd buddiol ar gyfer gwneud yn siŵr y gallwn adsefydlu cyn-droseddwyr a throseddwyr wrth i ni symud ymlaen.

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad
5. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Las

Felly, awn at eitem 4, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi las, a galwaf ar Jeremy Miles i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6259 Jeremy Miles, Lee Waters, Simon Thomas, Jayne Bryant, Rhun ap Iorwerth, Angela Burns

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a’r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â’r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i’r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o’n hasedion economaidd mwyaf.

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a’i gwneud yn elfen ganolog o’i strategaeth economaidd newydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle heddiw i gyflwyno’r ddadl hon ar yr economi las yng Nghymru, ynghyd â Jayne Bryant, Lee Waters, Angela Burns, Rhun ap Iorwerth a Simon Thomas. Mae’r ‘economi las’ yn cyfeirio at ystod eang o weithgareddau economaidd sy’n gysylltiedig â’n moroedd—yn cynnwys ynni morol adnewyddadwy, cludiant morol, porthladdoedd, twristiaeth a chwaraeon morol, pysgota a dyframaethu, biotechnoleg, peirianneg a gweithgynhyrchu morol. Mae Cymru’n genedl arfordirol ac mae’r moroedd eisoes yn rhan bwysig o’n heconomi. Mae gennym sector dyframaethu sy’n tyfu, gan gynnwys y bysgodfa cregyn gleision fwyaf ym Mhrydain. Mae gennym ddatblygiadau ynni adnewyddadwy morol arloesol, gan gynnwys morlyn llanw bae Abertawe. Mae gennym dwristiaeth arfordirol sylweddol, a llwybr yr arfordir gwych, ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed mwy am y rhain yn nes ymlaen yn y ddadl heddiw.

Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod gweithgarwch economaidd yr economi forol Cymru oddeutu £2.1 biliwn o werth ychwanegol gros, sy’n cynnal 31,000 o swyddi uniongyrchol a 56,000 o swyddi anuniongyrchol. Mae’n werth nodi bod y Llywodraeth o’r farn fod y ffigurau hyn yn amcangyfrif rhy isel, ac wrth gwrs, mewn sawl ystyr, mae’r sector yn dal yn ifanc iawn. Mae economïau morol o bob maint ledled y byd yn troi at eu moroedd i ategu twf sy’n arafu yn eu heconomïau daearol. Bellach, mae Tsieina, sydd hefyd yn cyhoeddi ffigurau cynnyrch morol crynswth ynghyd â ffigurau cynnyrch domestig gros yn credu bod ei heconomi forol yn 10 y cant o’r cynnyrch domestig gros. Mae’r economi las yn gyfle, wrth gwrs, i’n cymunedau arfordirol, ond gadewch i ni fod yn glir: mae hefyd yn gyfle i’n cymunedau mewndirol ledled Cymru, a byddwn yn adleisio galwadau gan fy awdurdod lleol, Castell-nedd Port Talbot, y dylai caffael yn yr economi las gynnwys cymalau budd cymdeithasol, gyda rhwymedigaethau o ran recriwtio, sgiliau, a hyfforddi, yn ogystal â thargedau ar gyfer cyrchu lleol. Ond mae’r economi las yn fwy na dim ond y môr neu’r economi forol. Mae’r term ei hun, yr economi las, yn deillio o’r mudiad gwyrdd ehangach a chydnabyddiaeth gynyddol o’r difrod i ecosystemau morol o orbysgota, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Felly, mae cynaliadwyedd wrth galon yr economi las. Gwelodd adolygiad diweddar gan y cyfnodolyn ‘The Economist’ o gynlluniau twf glas gwahanol wledydd, gan gynnwys rhai’r UE, fod egwyddor cynaliadwyedd mewn perygl o golli ei lle fel prif flaenoriaeth. Yng ngeiriau ‘The Economist’,

mae’n ymddangos yn glir nad yw’r elfen cadwraeth neu gynaliadwyedd yn brif nod na hyd yn oed o reidrwydd yn nod yn y pen draw.

Mae’r economi las yn ymwneud â datblygu defnydd economaidd o’r môr o fewn gallu hirdymor y môr i gynnal hynny ac i gadw’n iach, a dim mwy na hynny. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei osgoi yw darlunio gweithgarwch economaidd confensiynol fel gweithgarwch glas lle y mae’r ymrwymiad i gynaliadwyedd yn arwynebol neu’n ôl-ystyriaeth. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gadw egwyddorion cynaliadwyedd wrth wraidd ei pholisi ar yr economi las.

Ond ar yr ochr arall i’r geiniog i gynaliadwyedd ceir arloesedd. Mae’n rhaid i fflyd pysgota â threillrwydi y DU heddiw weithio 17 gwaith yn galetach i ddal yr un faint o bysgod ag y gwnâi yn 1889. Felly, nid yw camau mawr ymlaen mewn technoleg hyd yn oed yn gallu dal i fyny gyda graddau’r gorbysgota sy’n digwydd. Mae rôl ymchwil arloesol y sector addysg uwch yng Nghymru yn hanfodol i’r math o arloesi sy’n ganolog i ddyfodol ein heconomi las. Mae’r rhan fwyaf o’n prifysgolion, wrth gwrs, wedi’u lleoli ger yr arfordir, a llawer o’n hymchwil forol o’r safon orau, ond mae Dr Ian Masters o Brifysgol Abertawe wedi bwrw amcan fod gan grŵp ymchwil forol prifysgol Caeredin fwy o gapasiti ymchwil yn ôl pob tebyg na’r hyn a geir yng Nghymru gyfan. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn os nad ydym am lusgo ar ôl yr Alban ac Iwerddon yn arbennig. Dylai ymchwil gael ei harwain gan y diwydiant wrth gwrs, ond hefyd mae angen i ni greu’r graddedigion sydd eu hangen arnom yn y sector i ddatblygu ei botensial llawn. Hefyd, mae’r prosiect Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy—sy’n cynnwys prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor—wedi dangos bod rôl allweddol i bartneriaethau rhwng diwydiant ac addysg uwch, lle y gall ymchwil wyddonol dileu rhwystrau risg i fuddsoddiad. Gwyddoniaeth yw’r allwedd i ddeall potensial, ac yn bwysig, cyfyngiadau’r moroedd, boed hynny mewn biotechnoleg neu ddyframaethu ac mewn meysydd eraill.

Mae llawer o’r ymchwil i’n moroedd yn rhyngwladol am resymau amlwg. Mae graddau’r adnoddau sydd eu hangen ar lawer o brosiectau yn aml yn rhwystr i wledydd unigol allu eu gwneud. Mae’r ffaith ein bod yn gadael yr UE yn peryglu mynediad at gronfeydd ymchwil hanfodol oni bai y gellir cytuno ar drefniadau eraill, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r flaenoriaeth bwysig hon.

Croesawaf y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi €100 miliwn o gronfeydd strwythurol ar gyfer ynni morol—y buddsoddiad morol mwyaf o’i fath yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn fwy cyffredinol, un o’r rhwystrau posibl ar gyfer datblygiad yr economi las yw diffyg cymharol cyllid buddsoddiad preifat wedi’i deilwra’n benodol i’r sector. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i edrych ar rai o’r datblygiadau rhyngwladol o ran ariannu’r economi forol. Roedd uwchgynhadledd cefnforoedd y byd yn ddiweddar, a gynhaliwyd ym mis Chwefror, yn ymwneud â’r union bwnc hwnnw. Mae gwaith arloesol ar y gweill gan rai o wledydd y Môr Tawel a’r Caribî yn enwedig—gwledydd bach ag arfordiroedd mawr—i lansio bondiau glas i fuddsoddi yn yr economi forol gynaliadwy a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Carwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyfarwyddo Banc Datblygu Cymru maes o law i edrych ar gynhyrchion ariannu arloesol gyda’r sector preifat, a hefyd, efallai, gyda Banc Buddsoddi Ewrop i greu cronfa fuddsoddi las ar gyfer Cymru.

Ond rydym hefyd yn wynebu cystadleuaeth am fuddsoddiad o rannau eraill o’r DU. Efallai fod hyn yn fwyaf amlwg yn y sector ynni adnewyddadwy morol. Rydym ar y camau cynnar, mae’n wir, ond yr ochr arall i hynny yw bod pobl yn ein gwylio, ac maent yn pwyso a mesur sut y mae pethau’n mynd rhagddynt, ac yn cymharu hynny â sut y maent yn mynd rhagddynt mewn mannau eraill. Fel y gwyddom, mae buddsoddwyr yn symudol. Rydym yn gwneud yr achos yn briodol dros fod yn genedl fach sy’n rhwydweithio’n dda, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny’n golygu hyblyg ac ymatebol, yn ogystal â hawdd i gael mynediad ati.

Bydd angen caniatâd datblygu a thrwydded forol ar y rhan fwyaf o brosiectau ynni mawr. Mae gan Loegr orchymyn caniatâd datblygu a phroses drwyddedau morol syml, lle y bydd datblygwr yn cael trwydded dybiedig pan fydd y gorchymyn yn cael ei roi. Yn yr Alban, mae’r ddwy broses yn rhedeg yn gyfochrog. Yng Nghymru, mae’r gorchymyn caniatâd datblygu yn fater wedi’i gadw’n ôl a’r drwydded forol wedi’i datganoli, ond dylai Gweinidogion ystyried cyfarwyddo eu bod yn gweithio ar y cyd, gan ystyried yr un dystiolaeth lle y bo’n berthnasol, a gweithio yn ôl yr un amserlenni. Dylem newid rheoliadau fel y gall Gweinidogion ymyrryd ac—yn achos prosiectau mwy o faint—gallai fod ganddynt ran lawer mwy ymarferol yn y broses. Dylem newid y rheoliadau fel bod yna amserlenni statudol caeth i Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu o’u mewn. Gyda llaw, nid yw hynny’n fater o lefelu’r cae chwarae. Yn wir, byddai’n rhoi mantais gystadleuol i Gymru dros wledydd eraill y DU, a pham na fyddem eisiau hynny?

Yn olaf, dylem ymatal rhag dehongli deddfwriaeth yn rhy dechnocratig. Oes, mae’n amlwg fod lle i ddadansoddiad manwl o’r effaith, ond mae’n sicr na all hynny fod yn nodwedd bwysicaf bob amser. Mae hyn, i fod yn deg, yn gofyn am arweiniad polisi clir, felly byddwn yn annog y Llywodraeth i gyflwyno canllawiau polisi newydd ar sut y gellir dehongli deddfwriaeth. Oni bai ein bod yn gwneud hynny, mae perygl mai’r sefyllfa ddiofyn fydd gofal. Rwy’n gobeithio, felly, ein bod yn gweld yr ateb i’r heriau hyn yn y cynllun morol newydd a chynigion polisi newydd, ac rwy’n gobeithio hefyd y bydd y cynllun morol yn cefnogi ymagwedd Llywodraeth gyfan tuag at yr economi las. Yn ôl ei natur, mae’n cyffwrdd ar ystod o wahanol bortffolios, a’r hyn yr ydym ei angen yw hyrwyddwr i gydlynu gweithgarwch y Llywodraeth ar yr economi las ar sail drawsbortffolio, ac i sicrhau cyflawniad ar draws y Llywodraeth.

Blwyddyn y Môr yw 2018. Dyna gyfle gwych i dwristiaeth Cymru. Gadewch i ni hefyd ei gwneud yn flwyddyn pan ddechreuir gwireddu potensial llawn ein moroedd a’n heconomi las. Rwy’n cynnig y cynnig.

Rwyf innau’n falch o fod yn un o gefnogwyr y cynnig yma. Fel cenedl, mae’r heli yn ein gwaed ni; mae o’n rhan o’n gwead ni, ein hanes, ein diwylliant, ein llenyddiaeth ni hyd yn oed—o Cynan ‘a thonnau gwyllt y môr’ yn ‘Aberdaron’ i Ceiriog yn ein gwahodd ni i gyd i rwyfo gyda’r don i Ynys Môn. Ond gymaint ag y mae’r môr wedi bod yn awen ac yn ysbrydoliaeth i feirdd yn y gorffennol, y cwestiwn i ni, wrth inni sefyll ar ein glannau ni yn edrych tua’r môr heddiw, ydy: sut ydym ni am allu cael ysbrydoliaeth, os liciwch chi, o’r newydd i fanteisio i’r eithaf ar yr adnodd yna fel sail i greu cyfoeth i’r genedl ac i genedlaethau’r dyfodol?

Yn y môr, ac ar y glannau, mae yna harddwch a hamdden i wella safon bywyd dinasyddion a phobl Cymru ac i ddenu ymwelwyr. Mae yna fwyd. Mae yna ynni di-ben-draw. Mae’r môr yn cynnig her i ddatblygu technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu newydd i allu rhyddhau’r potensial. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at ein heconomi las ni, ond a ydy pob cam yn cael ei gymryd, ydy’r cwestiwn, i fanteisio i’r eithaf ar yr addewid hwnnw?

Mae yna bum mlynedd erbyn hyn ers i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi strategaeth i ddatblygu’r economi forol, ‘Harnessing Our Ocean Wealth’. Mae o’n deitl da. Os caf i gyfeirio at y corff Cyfoeth Naturiol Cymru—’Natural Resources Wales’ yn Saesneg—mae’r enw Cymraeg yn un gwell, rwy’n credu. Y cyfieithiad llythrennol o Cyfoeth Naturiol Cymru ydy ‘Wales’s natural wealth’, ac mae o’n cyfeirio at gyfoeth naturiol, wrth gwrs, y gwerth ehangach sy’n dod o warchod ein hamgylchedd ni, ond mi allwn ni hefyd ei ystyried o fel cyfeiriad at gyfoeth economaidd. Achos, yn sicr, wrth edrych tua’r arfordir a’r môr, mae yna ffynhonnell naturiol o adnoddau yn y fan yna a all helpu i roi Cymru ar seiliau mwy cadarn yn economaidd at y dyfodol.

Beth wnaeth Iwerddon oedd edrych ar y sector forol yn ei chyfanrwydd, a dyna yn union rwy’n credu y mae angen inni ei wneud yma yng Nghymru. Mi wnaeth pwyllgor menter y Cynulliad diwethaf alw am strategaeth forol hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ymgynghori ar gynllun morol cyntaf Cymru yn dechrau eleni, ond, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl.

Mi glywn ni lawer o sôn heddiw, rwy’n siŵr, am yr elfen mwyaf amlwg, efallai, o’r potensial sy’n cael ei gynnig gan y môr, sef ynni adnewyddol, ond nid ydy’r potensial hwnnw ddim yn mynd i’w ryddhau fo ei hun. Nid ydy o’n mynd i wirfoddoli i gael ei ryddhau. Gwaith Llywodraeth, yn gweithio efo busnes, efo addysg uwch, ydy gwthio ffiniau a chwilio am gyfleoedd newydd. Mae’n destun rhwystredigaeth fawr iawn i mi fod Llywodraeth Prydain yn methu â dod i benderfyniad o hyd ynghylch dyfodol morlyn bae Abertawe. Ai’r elfen o risg sy’n eu dal nhw yn ôl? Wel, mae’n rhaid inni fentro. Mae yna gyfle i Gymru arloesi yn fan hyn. A gadewch inni beidio hefyd ag aros am weithredu gan Lywodraeth Prydain yn unig; mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd ‘stake’—£50 miliwn o bosibl—yn y fenter yma fel bod Cymru gyfan yn gallu manteisio wedyn, wrth i’r dechnoleg yna ganfod ei ffordd o fae Abertawe i’r byd.

Mae yna arloesi yn fy etholaeth i hefyd yn y maes yma. Mae Menter Môn, drwy barth datblygu Morlais, yn denu cwmnïau o draws y byd i arbrofi â’r genhedlaeth nesaf o offer cynhyrchu ynni morol oddi ar arfordir gorllewinol yr ynys. Rwy’n hyderus iawn y bydd cwmni Minesto a’i farcud tanfor rhyfeddol, arloesol yn creu diwydiant newydd ac y bydd nid yn unig yn cyflogi yn lleol, ond yn allforio i’r byd.

Mae’n bwysig hefyd sôn am waith rhagorol adran SEACAMS Prifysgol Bangor, ym Mhorthaethwy. Mae Cymru yn gallu arloesi. Mae Cymru yn gallu arwain. Ac o sôn am SEACAMS ac yn ategu beth yr ydym ni wedi clywed yn barod, rydw i’n croesawu’r arian sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn ymchwil morol yng Nghymru. Wrth gwrs, mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn allweddol yn hynny o beth. Nid oes yna ddim sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y gwnân nhw’n iawn am yr arian hwnnw yn y dyfodol, ac mae’r ansicrwydd yna—gadewch inni fod yn blaen—yn bygwth tanseilio llawer o’r gwaith da sydd wedi’i wneud yn barod.

Fe soniaf i yn fras am gwpl o elfennau eraill o’r economi forol y gallwn ni eu datblygu: twristiaeth, er enghraifft. Mae angen mynd â diwydiant llongau pleser i’r cam nesaf yn Ynys Môn drwy fuddsoddi mewn adnoddau. Mae’r sector bwyd yn un pwysig yn Ynys Môn—Halen Môn yn enghraifft o burdeb ein dŵr ni, ond rydym ni hefyd yn cynhyrchu’r cregyn gleision gorau yn y byd—y cyfan y cael eu allforio, bron. Gadewch i ni fuddsoddi mewn adnoddau prosesu er mwyn gallu datblygu hynny ymhellach fel diwydiant.

I gloi, strategaeth sydd ei hangen. Rydw i’n falch ein bod ni heddiw yn cael cyfle i wyntyllu barn ar beth ddylai fod ymhlith gwahanol elfennau strategaeth o’r fath. Mae’n heconomi forol eisoes, fel y clywsom ni, yn werth dros £2 biliwn. Rydw i’n credu bod y potensial am dwf yn aruthrol, a byddwn ni i gyd ar ein hennill o wireddu’r potensial yna.

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein harfordir o amgylch Cymru yn un o’r asedau naturiol mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Mae fy etholaeth, Gorllewin Casnewydd, yn etholaeth lle y mae’r afon yn amlwg, gan ei bod yn rhedeg drwy’r ddinas ac i mewn i aber afon Hafren. Mae cyrhaeddiad llanw afon Wysg wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad Casnewydd o fod yn aneddiad yn yr Oes Efydd i’r ddinas a welir heddiw. Yn hanesyddol, mae cyrhaeddiad llanw afon Wysg wedi cael ei ddefnyddio fel porthladd llongau mawr ar gyfer rhan helaeth o’r mileniwm diwethaf, yn bennaf oherwydd ceg lydan a dwfn yr afon a mynediad mordwyol da. Mae rhan ogleddol yr afon yn gartref i bentref Caerllion. Yn 2011 darganfu archaeolegwyr borthladd 2,000 oed a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid. Saif castell Normanaidd Casnewydd ar lannau gorllewinol afon Wysg, lle y cafodd ei adeiladu i warchod yr aneddiad a rheoli’r groesfan dros yr afon. Cafwyd tystiolaeth bellach o ddefnydd hirsefydlog yr Wysg fel llwybr llongau pwysig pan ddarganfuwyd olion llong o’r bymthegfed ganrif—llong fasnachol yn ôl pob tebyg—a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, chwaraeodd y dociau ran fawr yn tanio’r chwyldro diwydiannol.

Mae gan y llanw a’r trai o amgylch ein harfordir botensial enfawr o hyd ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, a cheir ffyrdd newydd o’i harneisio. Yn gynharach y mis hwn roeddwn yn falch o ymuno â mwyafrif Aelodau’r Cynulliad, ar draws y pleidiau, a ysgrifennodd at y Prif Weinidog i annog Llywodraeth y DU i roi’r golau gwyrdd i’r morlyn llanw ym mae Abertawe. Byddai’r prosiect yn gwneud Cymru yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy. Mae potensial y cynllun hwn yn hynod gyffrous ac rwy’n gobeithio mai’r cyntaf o lawer fydd hwn, yn harneisio’r llanw a’r trai. Yn wir, yn sgil morlyn yn Abertawe, ceir argymhellion ar gyfer môr-lynnoedd llanw yng Nghasnewydd a Chaerdydd, yn aber yr Hafren. Byddai’r morlyn llanw rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn harneisio’r ystod llanw ail uchaf yn y byd. Gallai’r prosiect yn hawdd ddiwallu’r hyn sy’n cyfateb i ofynion trydan blynyddol pob cartref yng Nghymru, a gallai’r morlyn fod yn gyfle economaidd arwyddocaol i brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae amcangyfrifon annibynnol cynnar yn awgrymu y byddai angen dros 3,000 o weithwyr adeiladu i wneud y gwaith adeiladu, gyda’r potensial i greu a chynnal dros 8,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru a’r DU yng nghadwyn gyflenwi’r prosiect. Drwy amgáu tua 70 cilometr sgwâr yn yr aber, byddai’r prosiect yn gallu trosglwyddo dros 800 miliwn metr ciwbig o ddŵr drwy ei dyrbinau yn ystod pob cylch llanw, mwy nag 11 gwaith y cyfaint o ddŵr sydd ar gael i’r prosiect braenaru ym mae Abertawe. Gallai’r morlyn llanw rhwng Caerdydd a Chasnewydd gynhyrchu’r trydan rhataf o holl orsafoedd pŵer newydd y DU.

Mae môr-lynnoedd llanw’n wyrdd, yn gyfan gwbl ragweladwy, yn ddi-garbon, yn Gymreig ac yn dragwyddol. Gallai môr-lynnoedd storio ynni dros ben ar adegau brig o gynhyrchiant neu pan fydd y galw am ynni ar lefel isel er mwyn darparu ynni toreithiog pan fo’i eisiau. Yn bwysig, gellir defnyddio technoleg wedi’i phrofi i dapio pŵer y llanw. Mae sector ynni’r llanw heb ei hail yn addo cyfleoedd marchnad newydd ar gyfer busnes yng Nghymru, ac fel yr awgrymodd Charles Hendry, gallai fod yn achubiaeth i rai. Bydd yn helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi, yn cymryd lle gorsafoedd pŵer sy’n heneiddio ac yn adfywio economïau a diwydiannau traddodiadol.

Mae gwerth y llanw a’n harfordir hardd yn syfrdanol. Mae cyfleoedd ar gyfer twristiaeth o amgylch ein harfordir yn tyfu, yn enwedig gyda’r llwybr arfordirol bendigedig sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd a thrwy gydol y flwyddyn. Yn 2014, gwariodd cerddwyr £84 miliwn yng Nghymru a chynnal dros 1,000 o swyddi. Mae hynny’n rhywbeth y dylai pawb ohonom fod yn falch ohono ac yn benderfynol o’i gefnogi. Felly, Ddirprwy Lywydd, ers canrifoedd, mae’r llanw wedi bod yn hollbwysig i Gymru. Ceir cyfleoedd cyffrous i ni ddod yn arweinwyr byd gyda phrosiectau môr-lynnoedd llanw, gan roi budd i bobl Cymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio ein harfordir gwych yn gynaliadwy i sicrhau’r fantais fwyaf i genedlaethau’r dyfodol.

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles a’r ACau eraill a gyflwynodd y ddadl bwysig hon. Mae UKIP yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein harfordir yn ei gyfrannu i ffyniant Cymru, ac fel y crybwyllwyd yn gynharach, dyfodol ei botensial mewn perthynas â phrosiect Abertawe a phrosiectau môr-lynnoedd yn sgil hynny. Wrth gwrs, mae llawer o’n diwydiant twristiaeth yn gysylltiedig ag ansawdd ein dyfroedd arfordirol. Fodd bynnag, yn fy nghyfraniad i’r ddadl hon, hoffwn dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol sydd ar ddod i ddiwydiant pysgota Cymru ar ôl Brexit. Wedi’r cyfan, rydym yn wlad sydd wedi ein hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. Byth ers i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, bu dirywiad trychinebus yn y diwydiant pysgota yn y DU ac yng Nghymru. Roeddem unwaith yn allforio pysgod ar raddfa enfawr, rydym bellach yn mewnforio pysgod ar raddfa fawr. Yr eironi, wrth gwrs, yw bod y mewnforion hyn i raddau helaeth yn cynnwys pysgod a ddaliwyd yn yr hyn a oedd yn ffurfiol yn ddyfroedd a oedd yn perthyn i ni. Ni all fod beddargraff mwy huawdl i ddinistr fflyd bysgota y DU na’r ffaith fod 23 y cant o’r cwota pysgota cyfan a ddyrannwyd i Brydain gan Frwsel yn awr yn mynd i un dreill-long bysgota o’r Iseldiroedd ac yn mynd i’r lan yn yr Iseldiroedd. O dan—

A fyddech yn cydnabod bod y diwydiant pysgod cregyn hefyd yn rhan bwysig iawn o’n diwydiant pysgota; fod oddeutu 97 y cant o bysgod cregyn o’r Fenai yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd a’u bod yn ofnus iawn ynglŷn ag effeithiau posibl tariffau Sefydliad Masnach y Byd o 40 y cant, o bosibl, ar eu hallforion?

Wel, wrth gwrs, dyna pam y dywedwn na chawn fynediad rhydd at y farchnad Ewropeaidd. Mae’n nodweddiadol, yn anffodus, o agweddau’r rhai a oedd yn erbyn Brexit i geisio cyflwyno’r holl bosibiliadau negyddol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna enghraifft o’r union beth rwy’n ei ddweud.

Rydym bellach yn deall, o ffynonellau yn Senedd Ewrop, fod symudiadau ar y gweill i wrthod gadael i’r DU gael yr hawl i’r ardaloedd pysgota a oedd yn perthyn i ni cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Gallwch ddeall eu pryder yn iawn, o gofio bod 80 y cant o ddalfa fflyd Denmarc yn yr hyn a oedd yn arfer bod yn ddyfroedd Prydain. Mae gan y Ffrancwyr 84 y cant o benfras y sianel a 9 y cant yn unig sydd gan y DU. Ychwanegwch ffigurau fflyd bysgota Sbaen yn ysbeilio ein dyfroedd at y ffigurau hyn, wedi’u helpu’n fedrus gan symiau enfawr o gyllid Ewropeaidd wrth gwrs—€5.8 biliwn ers y flwyddyn 2000—nid yw’n fawr o syndod fod Brwsel yn daer am barhau i fanteisio ar ein hardaloedd pysgota cyfoethog. Roedd gan y DU oddeutu 80 y cant o ardaloedd pysgota Ewrop cyn i Ted Heath benderfynu cael eu gwared fel rhan o’n cytundeb mynediad. A wnaiff y pleidiau sosialaidd yn y Cynulliad hwn ymuno â mi i gondemnio unrhyw ymgais gan y Llywodraeth Dorïaidd i negodi ymaith ein hardaloedd pysgota sy’n perthyn i ni am yr eildro yn ein hanes? Mae’n rhaid i ni fynnu bod ein hardaloedd pysgota yn cael eu hadfer yn eu cyfanrwydd er mwyn gallu dechrau adfer pysgota yn y DU ac yng Nghymru i’w hen ogoniant, ac i bysgotwyr Cymru allu cyfrannu’n sylweddol unwaith eto at economi Cymru.

Rwyf wrth fy modd yn siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Yn wir, gallaf wneud hynny o safbwynt unigryw, sef yr unig Aelod Cynulliad sy’n aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Gyda’i gilydd, mae gwaith y pwyllgorau hyn yn rhoi trosolwg trawsbynciol o arwyddocâd economi las Cymru i mi.

Yn ystod y Cynulliad diwethaf, cafwyd adroddiad rhagorol gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar botensial yr economi forol yng Nghymru. Mae ei gynnwys yn cefnogi’r cynnig heddiw’n rymus. Fel y dywed yr adroddiad, mae gan Gymru botensial sylweddol i dyfu ei heconomi forol, y gwyddom eisoes ei bod yn werth dros £2 biliwn, ac i fod yn arweinydd yr economi las yn ein rhan ni o’r byd. I ddyfynnu’r adroddiad:

‘Mae’r dŵr sy’n amgylchynu tair ochr Cymru yn adnodd naturiol a allai fod yr un mor werthfawr i Gymru yn y dyfodol ac yr oedd y glo yn ei chymoedd yn y gorffennol. Ond, nid drwy ddamwain y defnyddir y potensial hwnnw. Bydd angen i Lywodraeth Cymru feddwl yn strategol a dangos arweinyddiaeth, gan gydlynu camau gweithredu ar draws adrannau i gyflawni’r weledigaeth.’

Mae cynllun morol cryf ac uchelgeisiol yn hanfodol i gyflawni hyn. Rhaid i’r camau cydlynol hynny ddigwydd o fewn Llywodraeth Cymru, a rhaid iddynt ddigwydd hefyd ar draws a rhwng Llywodraethau a gwledydd. Er enghraifft, mae mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu datblygiad y sector ynni morol yn golygu bod angen dull mwy cydlynol ar draws ardal yr Iwerydd. Mae’n rhaid i ni hefyd weithio i barhau i weithio gyda chyrff Ewropeaidd, megis Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, a rhaid i’r gwaith hwn fod yn rhan allweddol o unrhyw drafodaeth Brexit.

Mae hyn hefyd yn sicrhau nad ydym yn colli’r cyfle i fabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig at ein stiwardiaeth ar y dyfroedd o’n cwmpas. Fel rhan o hyn, mae angen inni hefyd ddatblygu prosiectau casglu data cyfannol, fel y gallwn fonitro newidiadau yn ein hamgylchedd morol yn effeithiol. Fel y noda’r cynnig, mae ynni morol adnewyddadwy yn un maes lle y gall Cymru ddod yn arweinydd byd go iawn. Gallwn wneud hyn drwy fabwysiadu egwyddorion economaidd sylfaenol, a gwneud y gorau o’r adnoddau o’n cwmpas. Gall egwyddorion sylfaenol sefydlogrwydd economaidd hirdymor gyfrannu at fynd i’r afael â gwendid cymunedau arfordirol wrth wynebu newid economaidd.

Ond mae’r fantais o ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy morol yn ymestyn y tu hwnt i hyn. Er enghraifft, gallai cynlluniau ar gyfer rhwydwaith o chwe morlyn llanw o gwmpas y DU, gyda’r cynllun braenaru yn Abertawe, olygu buddsoddiad o £40 biliwn. Byddai hyn yn arwain at greu 6,500 o swyddi hirdymor, a gallai gynhyrchu bron i £3 biliwn o werth ychwanegol gros yn flynyddol. Er mwyn uchafu manteision y sector, mae angen ymgysylltiad rhagweithiol â chwmnïau Cymreig lleol o fewn y gadwyn gyflenwi.

Diolch. Diolch i Vikki am ildio, a llongyfarchiadau iddi hi a chydweithwyr eraill, a Jeremy, am gyflwyno hyn. Oherwydd potensial, union botensial y sector ynni adnewyddadwy, boed yn fôr-lynnoedd llanw, boed yn ynni adnewyddadwy arall ar wely’r môr ac yn y blaen, ond hefyd treillio, gosod pibellau ac ati, ar y cyd â bwrw ymlaen â photensial yr economi las, a fyddai’n cytuno bod angen hefyd inni ddeall capasiti cludo gwahanol rannau o’n moroedd, a hefyd mae angen cadarnhau cynlluniau gofodol morol yn awr, fel na fydd gennym ddatblygiad tameidiog, fod gennym ddatblygiad a gynlluniwyd, gan wybod beth yw capasiti gwely’r môr, a’r môr mawr draw mewn gwirionedd?

Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Ac rwy’n meddwl mai dyna beth sydd angen i’r cynllun morol ei gwmpasu mewn gwirionedd. Ac mae fy ngalwad am ddulliau gwell o gasglu data yn gysylltiedig â hynny hefyd. Credaf fod angen i’r holl bethau hynny weithio gyda’i gilydd.

I fynd yn ôl at y gadwyn gyflenwi, felly, mae Tidal Lagoon Power wedi cyfeirio at graidd Cymreig yn y gadwyn gyflenwi a gynlluniwyd ganddynt, ac mae fy nhrafodaethau gyda hwy am yr amrywiaeth o gwmnïau lleol a rhanbarthol a allai fod yn rhan o’r broses o gynhyrchu cydrannau ar gyfer y tyrbinau a generaduron wedi creu argraff arnaf. Trwy dynnu cwmnïau ledled Cymru i mewn i’r broses gaffael, gallwn ddefnyddio’r economi las wedyn fel ysgogydd ffyniant, nid yn unig yn ein cymunedau arfordirol, ond mewn rhannau o’r Cymoedd gogleddol, fel fy etholaeth i yng Nghwm Cynon hefyd.

Wrth gwrs, er mwyn sicrhau’r gorau o’r potensial ynni morol, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen. Fel y casglodd y Pwyllgor Menter a Busnes, mae angen i ni gynnal astudiaeth systematig o sgiliau ar gyfer y dyfodol y bydd eu hangen ar yr economi las wrth symud ymlaen. Mae ynni yn hanfodol yma, ond rhaid inni hefyd ystyried y posibiliadau economaidd eraill a nodir yn y cynnig, megis twristiaeth a pheirianneg. Rydym yn gwybod bod porthladdoedd Cymru yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i’n heconomi, ac rydym yn gwybod eu bod yn arallgyfeirio fwyfwy i’r sector ynni hefyd, ond mae’n rhaid i unrhyw ymarfer mapio ystyried sylfaen sgiliau’r rhanbarthau o’u cwmpas hefyd. Ond nid oes unrhyw amser i’w wastraffu, gyda’r RMT yn sôn am argyfwng o ran diffyg sgiliau morol. Mae angen i agenda sgiliau Llywodraeth Cymru ystyried hyn, ynghyd â ffocws ar ailsgilio ac ailhyfforddi. Yn wir, bydd honno’n ffordd bwerus o ledaenu potensial economaidd diamheuol yr economi las.

Rwy’n croesawu’n fawr y ddadl hon, un a fyddai wedi bod yn hollol ddibwynt oni bai am y bleidlais dros ‘adael’ ar 23 Mehefin y llynedd. Rwy’n cefnogi’r cynnig yn fras. Fodd bynnag, rwy’n pryderu nad yw’r cynnig ei hun yn argymell unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gall Cymru fanteisio ar ei harfordir a’i moroedd. Nid yw’n syndod mewn gwirionedd fod llawer yn y Siambr hon ychydig ar goll ynglŷn â’r pwnc hwn, gan fod y rhan fwyaf o’r bobl yma yn hapus i weld ein pysgota wedi’i reoli’n gyfan gwbl gan weision sifil yr UE gannoedd o filltiroedd i ffwrdd ym Mrwsel. Bydd y rhan fwyaf yn y Siambr hon yn hapus i weld yr UE yn parhau i reoli pysgota yng Nghymru, ac ar sail bron yn ddyddiol, yn dweud cymaint y maent yn gresynu at ganlyniad refferendwm yr UE. Fe wnaeth rheolau pysgota’r UE, gan gynnwys rhannu ein dyfroedd gyda bron unrhyw un a oedd eisiau eu pysgota, ddinistrio cymunedau pysgota yn ein heconomi arfordirol. A thra oedd y Blaid Lafur yn torri eu calonnau ynglŷn â chau pyllau, roedd yr UE yn brysur yn dinistrio ein heconomi bysgota a fu unwaith yn ffyniannus. Yn rhyfedd ddigon, clywais lawer o gasineb tuag at y rhai a gaeodd y pyllau glo—

[Parhau.]—ond ble roedd dicter Llafur ynglŷn â dinistrio ein diwydiant pysgota a diwydiannau cysylltiedig? Ewch chi, Huw.

Diolch. Rwy’n siarad fel cyn Weinidog pysgodfeydd, ac rwy’n rhannu rhai o’r rhwystredigaethau. Ond a gaf fi nodi wrthi ein bod, cyn 2010, wedi dechrau symud tuag at reolaeth ranbarthol ar y moroedd, er enghraifft ym môr y Gogledd, ac mae niferoedd penfras yno, ar ôl defnyddio’r wyddoniaeth, bellach yn dechrau gwella mewn gwirionedd? Ond a gaf fi ei hannog i ochel rhag awgrymu y dylem fynd yn ôl at ddyddiau diplomyddiaeth llong ryfel ym môr y Gogledd—

Nid wyf yn awgrymu hynny. Nid wyf yn awgrymu hynny. Dyna yr hoffech i mi ei awgrymu—

Esgusodwch fi. Rydych wedi cymryd yr ymyriad. Gadewch iddo orffen—mae’n mynd i ddirwyn i ben yn gyflym iawn er mwyn i chi ymateb.

Felly, fy nghwestiwn yw: a wnaiff hi ddweud, beth bynnag am adael yr UE, mewn gwirionedd mae angen i ni weithio gyda chenhedloedd eraill, doed a ddel, er mwyn osgoi diplomyddiaeth llong ryfel o’r fath?

Nid wyf yn siarad am ddiplomyddiaeth llong ryfel. Rwy’n siarad am adfer rheolaeth ar ein dyfroedd. Mae’n profi fy mhwynt. Rydych chi bobl yn dal yn gaeth i’r syniad y byddai’n well i’r holl benderfyniadau hyn gael eu gwneud gan yr UE. Mae angen i ni eu gwneud ein hunain. Mae gennym gyfle yn awr i adfer ein dyfroedd i Gymru, i adfer dyfroedd y DU, ac i ymelwa a manteisio ar hynny. Dychwelaf at yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddweud.

Yn rhyfedd ddigon—[Torri ar draws.] Yn rhyfedd ddigon, clywais lawer o gasineb tuag at y rhai a gaeodd y pyllau glo, ond lle roedd dicter Llafur yn sgil distrywio ein diwydiant pysgota a diwydiannau cysylltiedig? Yn unman, dyna ble. Diolch i bolisïau’r UE, nid yw ein fflyd bysgota ond yn rhan fach iawn o’i maint ar un adeg. Nid yw nifer y pysgotwyr a chrefftau cysylltiedig ond yn rhan fechan o’r hyn y dylent fod. Mae angen i Lywodraeth Cymru, a’r gweddill a oedd dros ‘aros’ yn y Siambr hon roi’r gorau i gwyno am Brexit a chrafu eu pennau ynglŷn â pham ar y ddaear y pleidleisiodd pobl Cymru dros adael, a dechrau cynnig cynlluniau difrifol ynglŷn â sut i ailadeiladu ein heconomi bysgota a’n heconomi arfordirol. Rwy’n falch iawn fod gadael yr UE—[Torri ar draws.] Rwy’n falch iawn fod gadael yr UE yn golygu bod y ddadl heddiw yn bosibl ac y gall fod yn ystyrlon. Wrth ymgyrchu dros, ac ennill dadl Brexit, mae UKIP eisoes wedi gwneud mwy dros economi las Cymru nag unrhyw blaid arall yn y Siambr hon, ac rwy’n cefnogi’r cynnig hwn i raddau helaeth, gydag un neu ddau o amodau synhwyrol.

Yn gyntaf, rwy’n cydnabod bod angen rheoliadau a thrwyddedau pysgota er mwyn rheoli meistri gangiau, yn ogystal â stoc pysgota, diogelwch llongau ac yn y blaen. Ond rhaid i ni hefyd sicrhau bod ffioedd yn rhesymol ac nad ydynt yn atal pobl ar incwm isel rhag gallu helpu i gael dau ben llinyn ynghyd drwy bysgota’r hyn a fydd unwaith eto yn ddyfroedd Cymreig go iawn. Mae’r ffioedd a gasglwyd yn y blynyddoedd diweddar—[Torri ar draws.] Gallwch chwerthin cymaint ag y dymunwch, ond rydych yn profi fy mhwynt. Aeth y ffioedd a gasglwyd dros y blynyddoedd diwethaf i goffrau’r UE, felly byddai’n anghywir awgrymu y bydd Cymru’n colli arian drwy ostwng ffioedd unwaith y bydd Brexit yma. A chofiwch, rwy’n siarad am leihau ffioedd trwyddedu i’r rhai ar gyflogau isel.

Yn ail, rhaid inni sicrhau na fyddwn byth yn mynd ar hyd y llwybr o geisio rheoli stociau pysgod drwy gyfundrefn sy’n cynnwys yr arfer o waredu pysgod, sy’n arfer anfoesol a dweud y gwir. Roedd pysgod taflu yn ôl a ddaeth yn sgil rheolau’r UE yn hynod o wrthgynhyrchiol ac yn niweidio stociau pysgod. Er bod y drefn honno bellach i fod wedi’i diddymu, mae’r drefn newydd yn dal i arwain at niferoedd enfawr o bysgod marw yn cael eu taflu yn ôl.

Ac yn olaf ar bysgota, mae gennym fater y dyfroedd tiriogaethol, neu’n hytrach, pwy sydd â hawl i bysgota. Efallai y gallai unrhyw awgrym y dylem wahardd neu godi ffi neu dariff uwch ar bysgotwyr o wledydd eraill y DU greu penawdau rhad am ddiogelu adnoddau Cymru, ond yn ymarferol, byddai hynny’n niweidio economi Cymru. Mae unrhyw rwystr yn ffordd cychod eraill y DU yn debygol o ennyn rhwystrau tebyg a chyfyngu ar allu criwiau pysgota o Gymru i weithio yn nyfroedd ehangach a chyfoethog y DU. Dewisodd pleidleiswyr Cymru adael yr UE, nid y DU, ac mae’n rhaid parchu eu penderfyniad ym mhob ffordd.

Yn olaf, ar ddefnyddio’r môr i gynhyrchu ynni, gadewch i ni ymrwymo i beidio â sefydlu neu ehangu ffermydd gwynt ar y môr. Hefyd, rhaid i ni fod yn ofalus gyda phrosiectau llanw ac ystyried yn fanwl iawn beth fydd goblygiadau araeau llanw neu forgloddiau llanw ar bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr arfordir a’r môr. Caiff yr hyn y mae ein heconomi yn ei ennill mewn buddion ynni o ffermydd gwynt ei erydu’n gyflym drwy golledion posibl mewn meysydd eraill. Ni ddylid caniatáu i gynhyrchu ynni o’r economi las, fel y’i galwch, neu’r môr, fel y mae’r rhan fwyaf o bobl eraill yn ei alw, darfu ar harddwch ein golygfeydd arfordirol neu ffyrdd eraill posibl o ddefnyddio’r môr.

Mae angen i Lywodraeth Cymru a’r lleill sydd am ‘aros’ yn y Siambr hon roi’r gorau i gwyno am Brexit—[Torri ar draws]—a dechrau ffurfio—[Torri ar draws]—a rhoi’r gorau i grafu eu pennau ynglŷn â pham ar y ddaear y pleidleisiodd pobl Cymru i adael a dechrau ffurfio cynlluniau difrifol. Nid ydym eisiau rhagor o ddatganiadau annelwig ynglŷn ag amcanion cyffredinol; rydym angen syniadau a chynigion ymarferol. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig hwn i raddau helaeth, ond yn awgrymu ein bod yn bwrw ymlaen yn ofalus ac yn sicrhau bod llanw’r farn gyhoeddus gyda ni ar bob cam. Diolch.

Cyn i mi ddechrau fy sylwadau, a gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad a fy meddyliau gyda’n cydweithwyr yn San Steffan y prynhawn yma, lle y mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un terfysgol ar hyn o bryd ac mae ein cydgefnogaeth a’n dymuniadau gorau gyda phawb ohonynt?

A gaf fi longyfarch Jeremy Miles am gyflwyno’r ddadl hon? Rwy’n credu bod dadleuon Aelodau unigol yn profi’n ddyfais ddefnyddiol iawn ar gyfer cyflwyno syniadau newydd ac at ei gilydd y prynhawn yma, mae’r cyfraniadau wedi bod yn feddylgar ac yn ystyriol. Pan fyddwn yn canolbwyntio ar syniadau newydd ynglŷn â’r economi, rwy’n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio’n glir iawn ar ba arbenigedd pwnc y gall Cymru ei gyflwyno i feysydd newydd sy’n datblygu—pwysigrwydd denu sgiliau, profiad ac adnoddau sydd gennym eisoes er mwyn adeiladu mantais gystadleuol neu mewn geiriau syml: beth yw ein pwynt gwerthu unigryw? Mae’r cynnig yn nodi bod Cymru’n elwa ar arfordir hir a’r cyrhaeddiad llanw ail uchaf yn y byd. Felly, mae’n amlwg fod potensial mawr yn yr economi las. Yn union fel y mae Dinas Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn ymelwa ar eu manteision cystadleuol, neu eu cyhyrau ariannol, eu pŵer gwleidyddol a’u lleoliad daearyddol, mae’n rhaid i ni yng Nghymru hybu ein manteision cystadleuol ein hunain. Mae gennym adnoddau ynni adnewyddadwy di-garbon sylweddol. Felly, sut y gall Cymru sicrhau mantais gystadleuol ym maes ynni adnewyddadwy, mantais fel yr oeddem yn ei mwynhau pan oedd glo yn frenin?

Soniwyd llawer y prynhawn yma, yn arbennig gan Vikki Howells, am botensial morlyn llanw bae Abertawe. Rhaid i mi ddweud, wrth fyfyrio ar y datblygiadau, neu’n wir y diffyg datblygiadau, ar forlyn llanw bae Abertawe, rwy’n dod yn gynyddol bryderus ein bod yn cyfyngu ein hunain rhag gallu ymateb yn hyblyg i’r cyfleoedd y mae’r economi las yn eu cynnig i ni. Rydym wedi llwyddo i ildio’r holl bwerau rheoleiddio a deddfwriaethol gan y Senedd hon yng Nghymru i gorff annibynnol, ac nid wyf yn poeni llawer am hynny ynddo’i hun. Fodd bynnag, pan fo’r corff annibynnol hwnnw’n cymryd cymaint o amser i ddod i benderfyniad ac yn cael trafferth i ddod o hyd i arbenigedd, gallai goblygiadau hynny’n hawdd fod yn drychinebus i ddatblygiad Cymru fel chwaraewr byd-eang mewn diwydiant a allai fod o fudd enfawr i newid hinsawdd ar draws y byd. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidogion, os nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu ymateb yn brydlon, nid ydym am weld y posibilrwydd o Lywodraeth y DU yn rhoi ei holl ganiatadau a’r prosiect hwn yn methu am fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthod gweithredu. Felly, byddwn yn gofyn i Weinidogion ystyried y posibilrwydd o adennill rhai o’r pwerau hynny i’r Cynulliad Cenedlaethol, os nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu eu cyflawni mewn modd cyfrifol.

Ond y tu hwnt i sôn am y morlyn llanw, rwy’n credu bod angen, fel y crybwyllodd Jeremy Miles a Rhun ap Iorwerth—. Mae’r economi las hefyd yn cynnwys elfennau llai mawreddog, os mynnwch, yn fwyaf nodedig twristiaeth a bwyd. Mae economi twristiaeth yn dod â thua £5 biliwn y flwyddyn i Gymru ac yn yr un modd, mae gan y diwydiant bwyd botensial allforio sylweddol, er gwaethaf y rhwystrau posibl i fasnach. Wrth gwrs, fel y trafodwyd gennym yn flaenorol, maent wedi’u difetha â chyflogau isel ac amodau gwael. Rhan o wireddu potensial yr economi las yw canolbwyntio ar y sectorau sylfaenol hyn i weld sut y gallwn godi’r lefelau sgiliau, cynyddu’r cynhyrchiant a lefelau cyflog i wneud yn siŵr eu bod yn cyfrannu’n llawn at economi Cymru ac yn diwallu eu potensial.

Mae’n ddiddorol clywed sôn am ddyframaethu fel rhan o’r economi las a soniodd Rhun ap Iorwerth am gynhyrchu cregyn gleision a physgod cregyn yng Nghymru. Mae’n werth nodi bod y ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn yn awr yn golygu bod llawer o’r gwerth ychwanegol yn mynd i wledydd eraill. Rydym yn allforio’r cynhyrchion hyn, ond cânt eu prosesu mewn gwledydd eraill. Oherwydd yr amgylchedd masnachol rydym ynddo, mae’n bosibl iawn y bydd y ddynameg honno’n newid. Dylem fod yn meddwl yn awr am y modd y gallwn ymateb yn ddychmygus i hynny a gallu mynd i’r afael â’r problemau. Clywsom yr wythnos hon am ansawdd y bwyd yn ein hysbytai. Rydym yn trafod y posibilrwydd o ddiwygio caffael. Wel, gallem ystyried cadw peth o’r gwerth hwnnw’n fewnol ac yn hytrach nag allforio a chaniatáu i wledydd eraill gael y gwerth ychwanegol o’r cynhyrchion hyn, gallem ganiatáu iddynt gael eu defnyddio’n fewnol lle y gellid eu gweini fel bwyd o ansawdd uchel mewn ysgolion ac ysbytai. Mae angen i ni feddwl yn ochrol ynglŷn â photensial yr economi las.

Hoffwn sôn, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, am yr angen i arloesi. Mae datblygiad y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn achosi aflonyddwch mawr drwy ddiwydiant ac mae angen i ni ystyried datblygu systemau ffisegol seiber fel y’u gelwir, systemau sy’n tyfu, lle y gallwn ddwyn ynghyd y wybodaeth sydd gennym ynglŷn ag algorithmau a thechnoleg ddigidol er mwyn gallu cymhwyso’r arbenigedd pwnc sydd gennym yng Nghymru mewn ffordd sy’n goresgyn heriau’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, fel y gall yr economi forol fod yn rhan o ddatblygiad economaidd ein gwlad yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfleoedd hyn ac mae dirfawr angen gwaith i nodi ble y gallem gynnig mantais gystadleuol. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon heddiw, sy’n cael ei chynnal wrth i ddigwyddiadau sy’n peri pryder mawr ddatblygu yn Llundain. Rwy’n siwr fod meddyliau pob Aelod gyda’r cyhoedd o amgylch San Steffan ar hyn o bryd wrth i’r hyn sy’n ymddangos fel ymosodiad terfysgol ddigwydd yn San Steffan. Ni allwn ond gobeithio nad oes pobl ddiniwed wedi colli eu bywydau yn y digwyddiadau hyn.

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r economi las. Rydym yn ffodus iawn i gael budd o ystod llanw uchel a gallai llawer o’n 1,200 cilometr o arfordir fod yn addas ar gyfer datblygiadau ynni’r llanw. Mae’n ffaith fod proffil Cymru fel lleoliad ar gyfer ynni’r môr wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Yn achos datblygiad y morlyn, mae wedi rhoi Cymru ar flaen y gad yn y diwydiant yn fyd-eang, fel yr oedd Vikki Howells yn gywir i ddweud. Mae datblygwyr o bedwar ban byd yn dangos diddordeb gweithredol mewn datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru. Maent yn cydnabod bod gan Gymru un o’r adnoddau ynni morol gorau, a’r strwythurau cynhaliol gorau yn wir, ar gael iddynt.

Rydym eisoes yn cefnogi buddsoddiadau ynni mawr mewn ynni adnewyddadwy ar y tir, ar y môr, niwclear ac yn y blaen, yn cynnwys ein dau brosiect ynni mwyaf: Wylfa Newydd a morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe. Gyda’r cymorth cywir ac os ceir neges gref gan Lywodraeth y DU i gefnogi ynni morol, mae’r datblygwyr sy’n rhan weithredol o hyn yng Nghymru wedi nodi buddsoddiad disgwyliedig o £1.4 biliwn. Cyfanswm y buddsoddiad uniongyrchol mewn ynni morol yng Nghymru yn ystod 2015 oedd £45.4 miliwn. Erbyn 2017, roedd wedi codi mwy na 50 y cant i £68.3 miliwn.

Nawr, mae Jeremy Miles a Lee Waters yn siarad am arloesedd fel sbardun i dwf cynaliadwy yn yr economi las. Rydym wedi sicrhau dros €100 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE i hwyluso prosiectau arloesol dan arweiniad datblygwyr a fydd yn helpu i ysgogi twf economaidd yn y sector. Rwy’n credu bod gennym gyfle yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf i ddatblygu a thyfu diwydiant morol yng Nghymru yn seiliedig ar yr adnoddau naturiol sydd gennym. Mae gennym gyfleoedd yn y sector twristiaeth, yn enwedig y sector mordeithio, ac fel y dywedwyd, mae’r flwyddyn nesaf wedi’i dynodi’n Flwyddyn y Môr i gydnabod ei werth i’r economi ymwelwyr a hefyd i sectorau economaidd allweddol eraill.

Mae gennym gyfleoedd yn ein porthladdoedd, er enghraifft. Bob blwyddyn, mae porthladdoedd Cymru yn trin 9 y cant neu tua 53 miliwn o dunelli o nwyddau’r DU. Maent yn darparu cyfleusterau hanfodol ar gyfer llongau mordeithio, gweithgareddau hamdden morol a’r diwydiant pysgota. Mae’r marchnadoedd amrywiol a sylfaenol hyn yn cynnal bron i 11,000 o swyddi yn y porthladdoedd, ac yn cynnal rhannau hanfodol eraill o’r economi. Yn wir, mae gennym nifer o enghreifftiau sy’n dangos sut rydym eisoes yn arwain y ffordd ym maes ynni adnewyddadwy morol. Yng ngogledd Cymru, mae gennym Minesto UK, a gyhoeddodd eu bwriad yn ddiweddar i ehangu eu prosiect Holyhead Deep drwy gynyddu’r gwaith a gynlluniwyd ar osod ei aráe lanw i 80 MW. Ac yn ne Cymru, mae gennym gynllun Ocean Wave Rower. Bydd y cynllun penodol hwnnw’n cynhyrchu ynni o donnau’r môr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Felly, o safbwynt economaidd, rydym yn cydnabod y modd y gall prosiectau ynni morol fod yn gatalyddion i sicrhau manteision etifeddol hirdymor, yn enwedig wrth i ni symud tuag at economi carbon isel. Mae’n rhaid i ni sicrhau’r manteision economaidd mwyaf posibl o’r prosiectau hyn, ac rydym wedi datgan yn gyson ein hymrwymiad mewn egwyddor i wneud hynny drwy gefnogi datblygiad diwydiant môr-lynnoedd llanw cynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi cyfleu’r neges hon i’r diwydiant morol. Rydym wedi dangos y gefnogaeth y gallwn ei rhoi iddynt. Rydym wedi dangos hefyd sut y mae Cymru yn ddelfrydol ar gyfer datblygiadau o’r fath, ac rydym yn parhau i wneud yr holl bethau hyn.

Ond mae’r economi las yn llawer ehangach na hynny, wrth gwrs, yn union fel y mae Jeremy Miles, David Rowlands, Jayne Bryant ac eraill wedi dweud yn briodol. Mae llawer o’n diwydiannau’n dibynnu ar y môr. Mae gennym ein porthladdoedd yn Aberdaugleddau, Port Talbot a Chaergybi, sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru. Ac mae gennym Airbus, sy’n cludo ei adenydd ar hyd aber afon Dyfrdwy. Mae gennym nifer o fusnesau yn ein parthau menter llwyddiannus yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac wrth gwrs, mae Tata Steel yn mewnforio’r cynhyrchion crai sydd eu hangen ar gyfer gwneud dur i mewn i Bort Talbot o’r môr, ac mae’n gallu allforio cynnyrch dur yn ogystal.

Gan droi at eich galwad i gyflwyno cynllun morol uchelgeisiol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi dweud y bydd yn ymgynghori ar gynllun morol drafft ar gyfer Cymru yr haf hwn. Bydd y drafft ymgynghori y trefnwyd i’w ryddhau cyn bo hir, yn tynnu sylw at arwyddocâd ein hadnoddau llanw ac yn darparu fframwaith integredig ar gyfer datblygiad cynaliadwy ein moroedd. Bydd yn archwilio opsiynau ar gyfer polisi môr-lynnoedd llanw a chanllawiau ar ynni adnewyddadwy tonnau, gwynt a’r llanw, a bydd yn cynnwys cefnogaeth gref i brosiectau ynni adnewyddadwy morol. Gallai gynnwys mapiau sy’n dangos yr ardaloedd gyda’r potensial mwyaf, a pholisi sy’n diogelu ein hasedau morol ar gyfer defnydd posibl yn y dyfodol, oherwydd fel y mae Jeremy Miles wedi dweud yn gywir hefyd, ni ddylid camliwio economi las Llywodraeth Cymru. Rydym bellach, wrth gwrs, yn aros am ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Hendry.

Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, hefyd yn sefydlu grŵp Cymreig i ystyried yr adroddiad hwnnw. Iawn, fe ildiaf.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Wrth drafod cynlluniau morol, ac rwy’n ymwybodol fod gennym amser oherwydd gallaf weld rhai cyd-Aelodau’n cwyno am y ffordd yr ydym yn ei wneud. A gaf fi ofyn iddo—? Wrth gyflwyno’r cynlluniau morol hynny, mae ei wneud ar sail Cymru gyfan yn eithaf uchelgeisiol a tybed, wrth ymgynghori arno, oni ddylai ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd edrych ar y mannau hynny lle y mae’r gwrthdaro mwyaf o bosibl, a lle y mae angen gwneud y gwaith mwyaf—yr mannau lle y mae treillio, ynni, ac ati, ac ati, yn fwyaf dwys a lle y ceir y potensial mwyaf, ond hefyd lle y gallai eu datrys drwy gynlluniau morol roi’r bodlonrwydd mwyaf ar gam cynnar.

Mae’r Aelod yn hollol iawn. Yn fy nhrafodaethau cynnar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, nodwyd yr union fater hwn fel ystyriaeth â blaenoriaeth, oherwydd rhaid inni sicrhau mai’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf yw’r ardaloedd lle y ceir yr enillion cyflymaf o ran gallu dod â’r gymuned gyfan a’r holl ystyriaethau gyda hwy.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fe gymeraf bwyntiau’r Aelodau’n fyr iawn. Rwy’n meddwl bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud nifer o gyfraniadau gwerthfawr ynglŷn ag adroddiad Hendry a nododd, wrth gwrs, mai prif rôl Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant fydd cefnogi’r gadwyn gyflenwi. Hefyd, pwynt Vikki Howells fod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol iawn i’w chwarae yn sicrhau bod gan bobl Cymru sgiliau i fanteisio i’r eithaf ar y sector hwn sy’n tyfu o economi Cymru. Yn fwy cyffredinol, wrth ddatblygu ein strategaethau trawsbynciol, byddwn yn ystyried sut y gallwn gefnogi’r defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yn well, fel eu bod yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’n pobl a’n cymunedau.

Lywydd, i gloi, ni allwn fod yn gliriach ein cefnogaeth i’r economi las a gallaf eich sicrhau y bydd y gefnogaeth yn parhau.

Cyn i mi alw ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl, rwyf eisiau dweud ein bod yn ymwybodol o’r digwyddiadau cythryblus yn San Steffan. Rwyf wedi siarad â’n personél diogelwch yma yn y Senedd, ac rydym yn cymryd camau priodol, a byddaf yn parhau i adolygu’r mater wrth i fusnes y prynhawn fynd rhagddo. Rwy’n siŵr fod meddyliau pawb ohonom gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan ar yr adeg anodd hon. Angela Burns.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, am eich datganiad cysurol ar y materion yr ydych newydd eu crybwyll.

Diolch i chi, Jeremy Miles, am ein tynnu i gyd at ein gilydd—grŵp o bobl wahanol—i gyflwyno dadl ar yr economi las. Rwy’n ddiolchgar iawn eich bod wedi gwneud hynny. Yn ôl pob tebyg, ein moroedd yw’r adnodd pwysicaf un, a dyna pam, yn y ddadl hon, ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las ac i’w gwneud yn elfen ganolog o’r strategaeth economaidd newydd.

Mae anweddiad o’n moroedd yn troi’n law sy’n ein dyfrio ni a phob bywyd ac yn adfywio ein planed. Mae’r cefnforoedd wedi ei gwneud hi’n bosibl masnachu ac wedi ein bwydo ers miloedd o flynyddoedd, ac yn gywir, yn awr, wrth i boblogaethau dyfu, gydag adnoddau yn dod yn fwyfwy prin a heriau newid hinsawdd a galw cynyddol am fwyd, nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn troi at ein harfordiroedd a’n moroedd ac yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r economi las yn eu cynnig.

Roeddwn yn teimlo bod rhai o’n cyfraniadau heddiw, er nad oeddwn yn cytuno â phob un ohonynt, ei bod yn dda iawn ein bod yn cael y ddadl hon, gan mai drwy gael trafodaeth a mireinio ein syniadau a’n meddyliau y gallwn lunio cynllun da iawn a all ein symud ymlaen ac rwy’n ddiolchgar iawn am lawer o’r cyfraniadau. Roeddwn yn meddwl bod Jeremy wedi rhoi rheswm clir a grymus iawn ynglŷn â pham y mae angen i ni wella a chadw cynaliadwyedd yn ganolog i’n heconomi las.

Rwy’n falch iawn fod Jayne ac un neu ddau o bobl eraill, rwy’n credu—maddeuwch i mi os nad wyf yn cofio enwau pawb ohonoch—wedi dechrau siarad am borthladdoedd, oherwydd roeddwn yn dechrau poeni braidd am y diffyg sylw i’n 32 o borthladdoedd yng Nghymru. Mae gennym saith porthladd mawr. Maent yn trin tunelledd sylweddol, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Maent yn cyflogi bron i 3,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn cynnal 11,000 i 12,000 o swyddi pellach. Rwy’n credu bod gennym gyfle gyda’n porthladdoedd i’w defnyddio fel lleoedd ar gyfer datblygu ein heconomi las, oherwydd rhaid inni symud oddi wrth y syniad fod porthladdoedd yn ddiwydiant hen ffasiwn. Os edrychaf ar borthladd Aberdaugleddau yn fy etholaeth i, sef Sir Benfro, mae’n borthladd ymddiriedolaeth, byddwn yn dadlau; mae’n ased cenedlaethol ac mae’n ganolfan sy’n tyfu ar gyfer yr economïau glas a gwyrdd. Mae gan y busnesau ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau hanes cadarn mewn peirianneg a thwristiaeth ac rwy’n meddwl, unwaith eto, ei bod yn bwysig iawn cydnabod faint o’r busnesau bach hyn—y gosodwyr pibellau, y weldwyr, ynni adnewyddadwy, gwneuthurwyr tyrbinau—maent i gyd yn deillio—. Maent angen cwmni angori allweddol. Ledled Cymru, mae angen cwmnïau angori allweddol a all weithredu fel y lleoliadau ar gyfer datblygu ein heconomi forol. Am ychydig eiliadau, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi—ac rwy’n gwybod na allwch ateb yn iawn, ond nodais y ffaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ymgynghori ar gynllun morol, ar gynllun economi las, os mynnwch. Wel, hoffwn ddadlau â chi, oni fydd yn cynnwys elfen gref o ffocws busnes, byddwn yn colli nifer enfawr o gyfleoedd. Oherwydd busnes sydd ei angen arnom i ysgogi ein heconomi. Rydym yn glynu yn y Siambr hon at economi werdd drwy’r amser, ond hoffwn ddweud fod yna bobl eraill sydd ymhell o’n blaenau ar hyn. Edrychwch ar yr Alban, edrychwch ar yr Ynysoedd Erch—maent yn honni mai hwy yw ynys ynni morol y Deyrnas Unedig, a rhaid inni fod yn fwy na dim ond rhedwr arall neu’n ‘finnau hefyd’. Felly, hoffwn ofyn i chi sicrhau, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ymgynghori, fod eich adran yn ymwneud yn helaeth â hyn a’n bod yn edrych arno o ddau gyfeiriad, sef adeiladu cynaliadwy ar y môr—rydym wedi siarad am fôr-lynnoedd llanw, rydym wedi siarad am y pysgodfeydd, popeth—. Ond rydym yn deall mewn gwirionedd, oni bai ei fod yn datblygu neu’n darparu budd economaidd gwirioneddol, oni bai bod pobl yn gallu cael swydd ohono, ennill arian gweddus ohono, a mwynhau byw wrth ein harfordiroedd a’n moroedd, yna byddwn wedi methu. Ni fyddwn am weld yr elfen fusnes yn cael ei cholli o’r hafaliad a’n bod yn cael ein gadael â rhywbeth yn debyg i’r strategaeth economaidd werdd y credaf ei bod wedi’i chanmol yn yr ail neu’r trydydd Cynulliad y bûm yn Aelod ohono, ac a ysgrifennwyd yn y bôn gan ddyn ar gefn paced sigarét mewn dau ddiwrnod. Gallem wneud rhywbeth gwirioneddol dda gyda hyn. Hoffwn orffen drwy—

Diolch yn fawr iawn, Angela. Rwy’n credu y dylem ddysgu ychydig o wersi gan Ogledd Iwerddon—ac Iwerddon. Rhoddwyd y 200 milltir o dir dan y môr, mewn gwirionedd, gan y Cenhedloedd Unedig i’r genedl Wyddelig i archwilio budd dŵr y môr. Mae llawer o drysor yno i ni ei archwilio hefyd. Diolch.

Rwy’n credu eich bod yn gwneud pwynt da iawn. I atgyfnerthu’r achos busnes, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan ddyfrffordd Aberdaugleddau, fel rhan o fargen ddinesig bae Abertawe, brosiect cyllido enfawr i gynllunio marina Doc Penfro—ar gyfer llunio, cynhyrchu, profi dyfeisiau ynni adnewyddadwy. Mae’r sector y maent yn anelu ato’n wirioneddol enfawr, maent yn ystyried dod â llawer iawn o swyddi o ansawdd da a safon uchel i’r ardal benodol honno. Mae’n gynllun busnes clir iawn fod gennym eisoes borthladd sefydledig, y trydydd mwyaf yn y DU, y mwyaf yng Nghymru, a ffocws clir iawn. Yr ail faes yw Destination Pembrokeshire—datblygu dyfrffordd Aberdaugleddau, adeiladu tai a siopau, sinemâu, cyfleusterau chwaraeon gwych, a’r cyfan, unwaith eto, yn canolbwyntio ar gael yr un neu ddau o gwmnïau angori mawr lle y gallwch adeiladu economi gref a chynaliadwy sy’n werth chweil, gan edrych arno mewn ffordd greadigol. Felly, rwyf am ailbwysleisio eto, pan edrychwch ar draws y byd, mae yna lawer o genhedloedd sydd ag enghreifftiau gwych o sut y maent yn defnyddio’u moroedd i fynd ati o ddifrif i ddatblygu economi forol gynaliadwy neu economi las, a hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sicrhau nad yw eich llais yn cael ei golli yn hyn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni ddetholwyd y gwelliant.

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar David Rees i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6267 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i’r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd, a chynigiaf y cynnig. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi ymuno ag eraill i fynegi fy mhryder ynglŷn â’r digwyddiadau diweddar yn San Steffan a’n gweddïau dros yr aelodau o’r cyhoedd a gwasanaeth yr heddlu sydd wedi cael eu hanafu o ganlyniad i’r weithred hon? Diolch i chi am y sicrwydd a roesoch i ni y prynhawn yma am y camau a gymerwyd yma. Lywydd, sefydlodd y Cynulliad y pwyllgor materion allanol—pwyllgor Brexit Cymru i bob pwrpas—gydag un diben clir: i amddiffyn buddiannau Cymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn y trefniadau sy’n dilyn ar ôl gadael. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, bûm ym Mrwsel, Llundain a Chaeredin yn ystod y mis diwethaf yn ymgysylltu ag Aelodau etholedig, rhanddeiliaid a swyddogion, er mwyn pwysleisio’r materion sydd o bwys i Gymru, ceisio cydweithrediad lle y bo’n briodol, a nodi tensiynau sy’n dod i’r amlwg lle y maent yn bodoli.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ni waeth sut y gwnaethom bleidleisio yn y refferendwm, ni waeth beth yw ein cysylltiadau gwleidyddol, mae’n rhaid i ni fod yn unedig wrth gynrychioli buddiannau Cymru wrth i broses Brexit ddechrau o ddifrif. Mae’n amlwg i mi fod ein llais mewn perygl o gael ei golli ymysg y nifer o leisiau sy’n galw am sylw mewn perthynas â’r materion heddiw. Fel Cynulliad, ni allwn adael i hynny ddigwydd. Mae’r broses o adael yr UE yn esblygu’n gyflym, ac nid oes ond angen i ni dynnu sylw at y cyhoeddiad ddydd Llun y bydd erthygl 50 yn cael ei sbarduno ddydd Mercher nesaf i ddangos y ffaith honno. Ni fu’r dasg a roddwyd i’r pwyllgor o geisio canfod sut y gallwn ddiogelu buddiannau Cymru erioed yn bwysicach wrth i ni symud at y trafodaethau a thu hwnt.

Lywydd—Ddirprwy Lywydd—mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw eisoes wedi chwarae rôl sylweddol yn cynrychioli materion sydd o bwys i Gymru ochr yn ochr â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi dechrau ar y dasg o ddisgrifio’r tasgau sydd o’n blaenau fel Cynulliad. Nid ein gwaith oedd ailgynnal dadl y refferendwm; ein gwaith fu canolbwyntio ar nodi’r materion sy’n bwysig i Gymru wrth i ni adael yr UE. Nid ymarfer ydoedd i geisio nodi manteision ac anfanteision gadael yr UE; ei ddiben oedd archwilio goblygiadau gadael yr UE i Gymru. Mae ei gryfder yn deillio o’r ffaith ei fod wedi’i gytuno gan bob un o’r wyth aelod o’r pwyllgor, yn cynrychioli pob un o’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad, ac Aelodau a oedd, mewn gwirionedd, ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm. Rwy’n talu teyrnged i’w gwaith a’u gallu i ddod o hyd i gonsensws.

Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o’r gwaith a’r cymorth a ddarparwyd gan y clerc a’i dîm. Manteisiaf ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch yn arbennig i Gregg Jones, cyn bennaeth swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel y mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r UE wedi bod yn amhrisiadwy i’r pwyllgor. Mae gennym olynydd ardderchog i Gregg yn Nia Moss, sy’n parhau’r berthynas ardderchog honno.

Os oedd unrhyw amheuaeth i ddechrau, cadarnhaodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym fod Brexit yn codi materion eang a chymhleth yng Nghymru. Mae’n torri ar draws llawer o feysydd polisi, yn ogystal â chodi cwestiynau cyfansoddiadol sylfaenol am ddatganoli a’r grym dynamig rhwng Llywodraeth y DU, y Senedd, a’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae rhan gyntaf ein hadroddiad yn nodi’r materion sectoraidd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Cymru, gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth o’r heriau cymhleth sy’n wynebu Cymru wrth i’r DU adael yr UE.

Ar economi Cymru, mae’r adroddiad yn canfod y byddai gosod rhwystrau wrth fasnachu gyda’r UE yn peri risgiau sylweddol i economi Cymru. Mae amlygrwydd cymharol y sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, o’i gymharu â gweddill y DU, yn cynyddu gwendid economi Cymru i rwystrau masnachu. Dangosodd y mwyafrif helaeth o’r dystiolaeth a gawsom fod sicrhau masnach rydd ar gyfer y farchnad sengl heb unrhyw dariffau na rhwystrau yn hanfodol bwysig i economi Cymru. Mae’r risg i economi Cymru o delerau gadael sy’n symud i drefniadau Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y pwyllgor yn galw am ffocws ar drefniadau trosiannol ar ôl i ni adael yr UE, rhywbeth y gwn fod Llywodraeth Cymru yn galw amdano hefyd. Bydd hyd yn oed cyfnod cymharol fyr o amser a dreulir o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn niweidio ein sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac nid wyf yn ofni ailadrodd y gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol i economi Cymru. Rhaid i drefniadau trosiannol fod yn ystyriaeth bwysig yn y trafodaethau.

Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol ac yn ffurfio nifer o gasgliadau gyda’r nod o gryfhau rôl Cymru yn y broses, ar lefel Llywodraeth Cymru a lefel y Cynulliad. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r trefniadau craffu y dymunwn eu gweld yn cael eu cymhwyso ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o bob un o ddeddfwrfeydd y DU i edrych ar gydweithio er mwyn cryfhau ein dull ar y cyd o gyflawni’r dasg hon.

Nawr, diolch i’r Llywodraeth am ei hymateb a’i pharodrwydd i ymwneud â gwaith y pwyllgor. Rwy’n gobeithio bod y lefel hon o ymgysylltiad yn mynd i barhau. Cyn siarad am yr argymhellion, hoffwn bwysleisio, er ein bod yn gwneud chwe argymhelliad, ein bod wedi dod i lawer mwy o gasgliadau—oddeutu 60 mewn gwirionedd. Nid wyf yn bwriadu egluro pob un o’r 60, Ddirprwy Lywydd; rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi hynny. Ond rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth a’r Aelodau yn rhoi amser i edrych arnynt.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei safbwynt arni. Mae hyn wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried hyn ac yn gweithredu ar yr argymhelliad i gynnig mwy o dryloywder. Rwy’n ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Llywodraeth yn ei Phapur Gwyn. Fodd bynnag, byddwn yn pwyso am dystiolaeth fanylach, a bydd hyn yn nodwedd, rwy’n meddwl, o graffu parhaus ar Lywodraeth Cymru, i weld beth yw eu safbwynt mewn gwirionedd a’r dystiolaeth y maent yn ei defnyddio.

Mae ein hail a’n trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r newidiadau gweinyddol a wnaeth mewn ymateb i bleidlais y refferendwm a rôl ei swyddfa ym Mrwsel yn y dyfodol—eto, mae’r rhain wedi cael eu derbyn ac unwaith eto, gwerthfawrogir y wybodaeth a ddarparwyd hyd yn hyn. Ond hoffwn bwyso am ragor o wybodaeth ac efallai rhywbeth y gallem edrych arno’n fwy manwl wrth graffu ar y gyllideb yn yr hydref.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cofrestr risg Brexit ar ein cyfer—unwaith eto, cafodd ei dderbyn mewn egwyddor, ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr allbynnau o’r ymarfer asesu risg newydd sydd i fod i ddechrau ar ôl sbarduno erthygl 50. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ychydig ar hyn yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma.

Roedd argymhelliad 5 yn gofyn am wybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y swm uchaf o arian Ewropeaidd yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio cyn i Brexit digwydd. Mae’r ffigurau a ddarparwyd yn awgrymu bod yna lefel dda o gynnydd yn hyn o beth, er bod rhai cronfeydd mewn sefyllfa well nag eraill. Byddwn yn ystyried y wybodaeth hon ac yn parhau i fonitro cynnydd. Yn ogystal, rydym wrthi’n cynnal ymchwiliad i bolisi rhanbarthol, ac yn gobeithio adrodd ar hynny cyn diwedd mis Mai.

Mae ein chweched argymhelliad, a’r olaf, yn ymwneud â rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau, maes lle y mae ein safbwynt yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol fod gan Lywodraeth Cymru rôl lawn yn y broses o lunio safbwynt negodi’r DU, a chyfranogiad uniongyrchol pan fydd hynny’n ymwneud â phwerau datganoledig neu’n effeithio ar bwerau datganoledig. Er bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r sylwadau hyn i Lywodraeth y DU, rydym yn ymchwilio hefyd i’r lefel o ymgysylltiad a geir rhwng Llywodraeth Cymru a Whitehall. Rydym wedi ysgrifennu at amrywiaeth o adrannau Llywodraeth y DU, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd eisoes wedi darparu ymatebion mewn gwirionedd, ac rydym yn bwriadu asesu’r rhain fel rhan o’n gwaith craffu, a byddwn yn adrodd ar hyn yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, mae’n hanfodol fod ein llais yn cael ei glywed ac y gwrandewir arno. Mae gwneud hynny yn amlwg o fudd i Gymru, ond credaf hefyd ei fod o fudd i’r DU yn ehangach. Mae ein cydweithwyr yn yr Alban hefyd wedi mynegi’r un farn, ei bod yn bwysig i’w llais gael ei glywed. Nid ydym yn wahanol. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn, Ddirprwy Lywydd, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), nid wyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Simon Thomas.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi, ar y dechrau, ddweud fy mod yn bersonol yn falch o fod wedi cael negeseuon fod fy nheulu a chydweithwyr yn Llundain yn ddiogel, ond yn drist iawn i glywed am ymosodiad ar chwaer Senedd, ac yn gobeithio y bydd pawb yn iawn ac y bydd pethau dan reolaeth? Mae’n beth brawychus iawn, ac mae’n berthnasol iawn i’r ffaith ein bod yn trafod ymarfer mawr mewn democratiaeth sydd wedi ein harwain at y sefyllfa hon, ac mae’n werth cofio rôl Seneddau a democratiaeth gynrychioliadol i sicrhau rheolaeth y gyfraith a heddwch—datrys anghytundebau yn heddychlon.

A gaf fi droi at yr adroddiad a dweud cymaint rwy’n croesawu’r adroddiad hwn? Mae’n gynhwysfawr iawn, yn ystyrlon iawn ac wedi defnyddio tystiolaeth sylweddol iawn, ac rwy’n cytuno’n fawr â’r ffordd y mae’r Cadeirydd wedi nodi’r casgliadau, sy’n niferus—ac ni cheir cymaint o argymhellion, gan nad ydym yn gwybod yn union sut y bydd rhai o’r pethau hyn yn datblygu, ond mae’n bwysig ein bod yn dod i rai casgliadau cynnar am y materion sy’n bwysig i Gymru, ein heconomi, a’n gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n meddwl y gallaf ei gyfyngu, fodd bynnag, i ddau brif beth sef chyllid a phwerau. A phan edrychwn ar bwerau, yn gyntaf oll, rwy’n meddwl bod yna nifer o faterion pwysig yn cael eu trafod yn yr adroddiad hwn yr hoffwn roi barn Plaid Cymru arnynt.

Yn gyntaf oll, o ran dychwelyd pwerau i Lywodraeth y DU o’r UE yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysig ac yn hanfodol fod hyn yn cael ei wneud ar sail parch cydradd rhwng y pedair gwlad yma yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu bod fframweithiau ar draws y DU, sy’n cael sylw yng nghyd-destun cadwraeth, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yn yr adroddiad, i’w croesawu, a gallwn weithio ar y sail honno, ond rhaid iddi fod yn un o gytundeb, nid un lle y caiff pwerau eu dychwelyd i Stryd Downing a’u gorfodi wedyn ar weddill y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n golygu, yn ein barn ni, y dylid datblygu cyngor Gweinidogion y DU, a dylid datblygu cymrodeddu annibynnol hefyd neu ddull dyfarnu annibynnol ar gyfer ymdrin ag anghytundebau. Ni fyddwn yn gallu mynd o gyfarfod i gyfarfod, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi dweud yn y gorffennol, heb unrhyw gofnodion, unrhyw gynnydd, unrhyw fath o ddatblygu syniadau. Mae’n rhaid i ni gael cynghorau Gweinidogion wedi’u gweithredu’n briodol, a system annibynnol briodol i gymrodeddu hefyd os oes angen. Pan fydd y pwerau hynny’n dychwelyd, bydd angen i ni fod yn sicr fod y rhai sy’n cael eu harfer yn awr ar lefel Ewropeaidd, y credaf y bydd yn rhaid i ni barhau i’w harfer, lle y bo’n berthnasol, ar lefel Ewropeaidd—rwy’n meddwl yn benodol, fel y gofynnais yn gynharach i’r Cwnsler Cyffredinol, am bwerau’n ymwneud â deddfwriaeth amgylcheddol, cyfiawnder amgylcheddol, gwaith parhaus Llys Cyfiawnder Ewrop, na fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r DU ond a fydd yn effeithio ar beth o’n cyfreitheg. Mae angen i hynny barhau yn ogystal fel bod gan ddinasyddion y DU syniad clir o sut y gellir datrys materion sy’n croesi ffiniau cenedlaethol, unwaith eto mewn modd heddychlon a chytûn. Felly, rwy’n meddwl bod yna fater yno y mae angen i ni edrych arno o ran pwerau hefyd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’n codi’r cwestiwn ynglŷn â beth sy’n digwydd os na fydd y Bil diwygio mawr, a gynigiwyd yn y Senedd, yn mynd i’r afael â datganoli pwerau sy’n dod i Gymru. Credwn fod yna ddadl dda, fel y mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ei hun yn nodi, dros gael Bil parhad neu Fil parhau ar gyfer y pwerau hyn. Gallai fod dwy fantais i hynny. Mae’n amddiffyn ein statws cyfansoddiadol presennol, a bydd hefyd yn caniatáu i ni gynnal ein safonau o ran amaethyddiaeth, lles anifeiliaid, newid yn yr hinsawdd, manteision amgylcheddol ac yn y blaen. Nodaf—nid yw’n argymhelliad fel y cyfryw, ond mae’n un o gasgliadau’r adroddiad sy’n dweud, yn benodol, y dylid ystyried bod confensiwn Sewel yn ymestyn yn y maes hwn, yn enwedig—ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd—yn enwedig pan fo gennym bleidlais sylweddol yn Senedd San Steffan ar y fargen—ar y cytundeb; ar yr hyn fydd y cytundeb Brexit. Bydd goblygiadau yma y credaf fod angen inni bleidleisio arnynt yma, a bydd angen i ni fod yn rhan o’r broses o lywio’r penderfyniad terfynol gan Lywodraeth y DU a’r Senedd yn San Steffan ar y mater hwnnw.

Yr ail thema—os caf gyffwrdd arni’n fyr, er ei bod yn enfawr—yw ariannu. Rwy’n credu, o safbwynt amaethyddiaeth yn arbennig, fod yr adroddiad yn mynd i’r afael â’r angen gwirioneddol i ddiogelu ein cyfranogiad yn y farchnad sengl. Byddai’r baich neu’r effaith y mae rhai pobl yn San Steffan i’w gweld yn gyffyrddus yn ei chylch yn sgil mynd yn syth at reolau Sefydliad Masnach y Byd yn drychinebus i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r tariff sydd mewn grym ar gig eidion ffres, er enghraifft, yn 84 y cant. Mae’r tariff sydd mewn grym ar garcas oen yn 45 y cant. Cyflwynwyd y ffigurau hynny i’r pwyllgor newid yn yr hinsawdd gan Hybu Cig Cymru. Nid yw’r rhain yn ffigurau y gellir ymdrin â hwy ar unwaith mewn perthynas ag amaethyddiaeth Cymru.

Yr agwedd olaf, wrth gwrs, o ran cyllid yw: pan fydd yr adnoddau’n cael eu dychwelyd i ni o Frwsel, rhaid iddynt gael eu dosbarthu yn y DU mewn ffordd deg, ac yn sicr, ni ellir ei wneud yn ôl fformiwla Barnett. Rydym wedi gwneud yn well yng Nghymru o gyllid Ewropeaidd na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni anfon neges gref nad ydym yn disgwyl bod yn waeth ein byd o gwbl o ganlyniad i’r penderfyniad democrataidd a wnaed gan bobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig.

Ni fyddaf yn galw siaradwyr pellach i’r ddadl hon. Mae digwyddiadau yn San Steffan yn dal i ddatblygu, ond maent yn cael eu trin fel digwyddiad terfysgol difrifol. Yng ngoleuni’r amgylchiadau hynny, ac mewn trafodaethau gyda rheolwyr busnes o bob plaid wleidyddol, rwyf wedi penderfynu gohirio trafodion heddiw o dan Reol Sefydlog 12.18. Bydd busnes yn cael ei aildrefnu’n unol â hynny. Fel y dywedais yn gynharach, mae ein meddyliau gyda’n holl gydweithwyr a phawb sy’n gysylltiedig ar hyn o bryd yn San Steffan. Mae’r busnes yn cael ei ohirio.

Gohiriwyd y Cyfarfod Llawn am 16:18.