Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf—Paul Davies.

Busnesau Bach yng Ngorllewin Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0511(FM)

Mae cymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid ac i fusnesau micro, bach a chanolig ym mhob rhan o Gymru trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Ein ffocws ar hyn o bryd yw cefnogi entrepreneuriaid arloesol, swyddi a’r economi.

Brif Weinidog, rwy’n parhau i dderbyn etholwyr a busnesau yng ngorllewin Cymru yn cysylltu â fi ynglŷn â threthi busnes. Er bod eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi arian ychwanegol i fusnesau ar y stryd fawr, mae yna lawer o ddryswch, ac mae yna nifer o fusnesau sydd ddim yn gwybod pwy sy’n gymwys i dderbyn y cymorth hwn. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn llawer mwy clir ynglŷn â phwy sydd yn gymwys? Hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni pam roedd y Llywodraeth eisiau targedu busnesau ar y stryd fawr, heb gynnwys busnesau eraill?

Beth rydym wedi targedu yw trio helpu’r rheini sydd wedi colli allan, a’u helpu nhw dros dro, o achos y ffaith bod adnewyddu wedi bod o’r trethi busnes. Mae lot fawr o bobl wedi elwa o achos hynny—lot o fusnesau, wrth gwrs, sydd yn dawel, sydd wedi gweld cwymp yn y trethi maen nhw’n eu talu. Ond mae yna gynllun mewn lle er mwyn helpu busnesau bach yn enwedig sydd wedi gweld twf a chynnydd yn eu trethi nhw.

Mae ffigurau o fanc Lloyds wedi dangos bod 40 y cant yn llai o fusnesau wedi cael eu sefydlu yn y pum mlynedd diwethaf yma yn sir Benfro, Gwynedd, Ceredigion a sir Fôn, i gymharu gyda chwymp o 26 y cant ar draws Cymru ac 20 y cant yn Lloegr. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon edrych i fewn i’r rhesymau pam fod y ffigurau mor wahanol yn y siroedd gorllewinol o’u cymharu, yn nodweddiadol, gyda llefydd fel Blaenau Gwent, lle gwelwyd cwymp o dim ond 8 y cant? Mae’r wobr yn mynd i Ferthyr, lle roedd cwymp o llai na 0.5 y cant. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon gofyn i’w Weinidogion i edrych ar y mater yma o beth sy’n digwydd yn y gorllewin yn uniongyrchol ar y pwnc yma?

Rwy’n credu eich bod chi’n sôn am ffigurau banc Lloyds. Nid ydym yn gwybod beth yw’r fethodoleg maen nhw wedi’i ddefnyddio, nac, wrth gwrs, beth yn gwmws yw natur y ‘data set’. Wrth ddweud hynny, mae’r nifer o enedigaethau busnes wedi cynyddu o 8,225 yn 2011 i 11,525 yn 2015. Ond, wrth gwrs, fe wnawn ni ystyried y ffigurau sydd wedi dod o fanc Lloyds, er mwyn gweld os oes unrhyw fath o broblem fan hyn sydd eisiau ei datrys mewn un rhan o Gymru.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy gronfa buddsoddiad busnes newydd o £7 miliwn yr un. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymhen dim ond pum wythnos. Digwyddodd yr un peth gyda'r gronfa twf a ffyniant y llynedd. Fe’i cyhoeddwyd ar 17 Medi y llynedd ac roedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mawr bedair wythnos yn unig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth yr Alban wedi creu cronfa £500 miliwn â ffenestr agored ar gyfer ceisiadau dros dair blynedd. Mae’n ymddangos ein bod ni’n rhedeg y sioe drwy: bob tro y mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i rywfaint o arian i lawr cefn soffa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae’n cyhoeddi cronfa newydd, ac mae'n cael ei chau cyn i’r rhan fwyaf o fusnesau gael y cyfle i glywed amdani. Y gwrthwyneb i strategol yw hyn, a byddwn yn dweud wrth y Prif Weinidog, yn dyner, ei fod yn gwneud i Gymru edrych yn amaturaidd.

Wel, mae ein cyfradd ddiweithdra yn well na'r Alban, a dweud y gwir. Mae ein twf economaidd yn well na'r Alban. Rydym ni wedi gwneud yn llawer gwell na Llywodraeth yr Alban yn hynny o beth. A gaf i hefyd ddweud bod y cynlluniau y mae ef wedi cyfeirio atynt wedi eu gordanysgrifio? Efallai fod y ffenestr yn fyr, ond serch hynny, mae'r cynlluniau’n boblogaidd, maen nhw’n cyflawni ac mae eu hystadegau economaidd yn dangos hynny.

Cysgu Allan

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru? OAQ(5)0518(FM)

Mae cysgu ar y stryd, rydym ni’n gwybod, yn broblem mewn sawl rhan o Gymru, a dyna pam mae gennym ni’r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei phasio i sicrhau yr ymdriniwyd â chysgu ar y stryd. Ceir marc cwestiwn ar hyn o bryd o ran ein gallu i ddeall niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Gall fod yn anodd asesu’r bobl hyn, ond nid ydym yn hunanfodlon, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi drwy ein rhaglen Cefnogi Pobl a grantiau atal digartrefedd.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiadau yn y wasg brofiad pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghastell-nedd. Roedd y bobl a gyfwelwyd wedi bod trwy golli swyddi, anhawster yn hawlio budd-daliadau, carchar a chaethiwed, a gwnaethant siarad yn deimladwy am yr effaith ar eu hiechyd a'u hymdeimlad o unigrwydd. Cydnabyddir bod y ddeddfwriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati yn un sydd wedi gwneud cynnydd gwych, yn enwedig o ran atal, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Cefnogi Pobl yn cael ei gadw, fel y soniwyd ganddo yn ei ymateb. Ond mae Shelter yn credu bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd yn golygu, yn eu geiriau nhw:

Yn syml, nid ydym yn gwybod digon am...gysgu ar y stryd i allu ei ddatrys.

Tynnwyd sylw ganddynt hefyd at y diffyg cymharol o lety Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Yn ogystal â'r mesurau sydd eisoes ar waith, a wnaiff y Prif Weinidog edrych felly ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall y ffordd orau o fynd i'r afael â hynny, ac a wnaiff ef edrych hefyd ar faint o stoc Tai Cyntaf sydd ar gael yng Nghymru?

Gwnaf. Mae gwerthusiad annibynnol o weithrediad Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei gomisiynu, a disgwylir adroddiad interim ar ffurf drafft erbyn mis Mehefin eleni. Bydd y gwaith hwnnw'n ein helpu i ddeall sut mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu trin o dan y ddeddfwriaeth, a gallaf ddweud bod systemau monitro eraill yn cael eu harchwilio er mwyn cynorthwyo â’r monitro blynyddol sy'n digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth am hynny ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, ein bwriad yw gweithio gydag awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion yn eu hardaloedd lleol, i sicrhau nad yw pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf, a dyna, wrth gwrs, yw bwriad y ddeddfwriaeth.

Brif Weinidog, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, mae Shelter yn poeni’n fawr bod yna ddiffyg data ar gael ar gyfer monitro’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy’n credu gyda nifer o gynlluniau eraill, megis Cymunedau dros Waith a Chymunedau yn Gyntaf, mae data a diffyg data yn thema sydd yn dod trwyddo gan eich Llywodraeth chi. Gyda mater sydd mor bwysig, a gyda’r ffaith bod gennym ni Ddeddf mor gryf, pam ydy sefyllfa’n codi ble mae yna ddiffyg data ar rywbeth mor bwysig? Pa waith, yn ogystal â’r gwaith rydych chi newydd sôn am yn eich ymateb i Jeremy Miles, sydd yn mynd i fod yn digwydd er mwyn sicrhau na fydd yna dwf y flwyddyn nesaf yn y nifer o bobl sydd yn ddigartref?

Un peth o’r data sydd yn bwysig i ddweud yw bod yr ystadegau'n dangos, yn 2015-16, bod y ddeddfwriaeth ei hun yn llwyddiannus er mwyn helpu 65 y cant o deuluoedd a oedd o dan bwysau, ac efallai’n colli tŷ o achos hynny. Felly, rŷm ni’n gwybod bod hynny wedi gweithio’n dda dros ben, ond fel y dywedais i’n gynharach, mae’n hollbwysig i sicrhau bod y data sydd gyda ni yn ddigonol er mwyn sicrhau ein bod yn deall bod y ddeddfwriaeth yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol ag sy’n bosibl.

Fel aelod o'r gweithgor amlasiantaeth a thrawsbleidiol a ymgyrchodd yn llwyddiannus o dan arweiniad yr ymgyrchwyr cymunedol Ymgyrchwyr Trefnu Cymunedol Cymru i sefydlu lloches nos Tŷ Nos yn Wrecsam, mae'n arbennig o rwystredig bod cyfrifiad cenedlaethol diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r rheini sy’n cysgu ar y stryd nid yn unig yn dangos cynnydd o 72 y cant i bobl sy'n cysgu ar y stryd ledled Cymru, ond bod y niferoedd yn Wrecsam ar noson y cyfrif i fyny o 17 i 27 o’i gymharu â’r blynyddoedd cynt, a Wrecsam oedd â’r gyfran uchaf o bobl, 61, yn cysgu ar y stryd dros gyfnod o bythefnos yng Nghymru—sy’n sylweddol uwch na Chaerdydd, hyd yn oed. Sut, felly, ydych chi’n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, y mae ei gadeirydd, Andrew Atkinson, wedi dweud ei bod yn bryd i bawb roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, rhoi'r gorau i feio ei gilydd a gweithio gyda'i gilydd ar y ddwy ochr i fynd i’r afael â phroblemau’r dref?

Mae'r Aelod yn dyfynnu ymgeisydd Ceidwadol, efallai nad yw’r unigolyn mwyaf gwrthrychol, fel y gwyddom, i’w ddyfynnu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i’w blaid ef gymryd cyfrifoldeb am hyn. Mae llawer o bobl yn dod yn ddigartref oherwydd y newidiadau i fudd-daliadau lles. Mae'r ergyd y mae pobl wedi ei chael gan y dreth ystafell wely—[Torri ar draws.] Ydy, mae'n wir i ddweud ein bod ni’n bwriadu defnyddio deddfwriaeth a dulliau eraill i geisio atal digartrefedd, ond wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gymryd arian oddi wrth bobl a’u rhoi mewn perygl o fod yn ddigartref. Ac felly, mae’n rhaid i’w blaid ef dderbyn cyfrifoldeb am lawer o'r bygythiad o ddigartrefedd y mae’n rhaid i bobl ei wynebu.

Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy’n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a’u brandio fel tramgwyddwyr a phla i’w waredu o’n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi, yn hytrach na chyflwyno gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r bobl hyn neu eu rhoi dan glo am gardota, y dylai cynghorau ledled Cymru fod yn darparu lloches ac yn gweithio gyda’r gwahanol asiantaethau a phartneriaethau i ddod o hyd i lety a chymorth parhaol iddynt?

Wel, nid wyf yn siŵr y gallwch chi roi pobl dan glo am gardota mwyach, ond rwy’n derbyn y pwynt am stigma. Rwyf i wedi bod ym mws porffor Byddin yr Iachawdwriaeth sy'n ymddangos ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd. Rwyf wedi gweld a chyfarfod llawer o'r bobl sy'n ddigartref. Mae ganddyn nhw straeon gwahanol iawn i'w hadrodd. Mae'n rhaid i rai ohonyn nhw frwydo â chaethiwed, mae rhai ohonynt yn ei chael hi’n anodd iawn aros mewn llety pan eu bod yn cael eu llety, a cheir llawer o broblemau y mae’n rhaid i unigolion eu hwynebu. Ond trwy waith grwpiau fel Byddin yr Iachawdwriaeth gyda'r llety y maen nhw’n ei gynnig, gan weithio gydag awdurdodau lleol a’r Llywodraeth, ein nod yw cynnig ateb cyfannol i'r problemau y mae cymaint o bobl yn eu hwynebu sy’n eu gwneud yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddymuno pen-blwydd hapus i chi, Brif Weinidog? Fel rhywun sydd â blynyddoedd lawer i fynd cyn i mi gyrraedd y garreg filltir o 50, edrychaf ymlaen efallai at glywed gennych chi sut brofiad yw hwnnw. [Chwerthin.] Ond dymunaf yn dda iawn i chi ar eich pen-blwydd heddiw, a hoffwn hefyd anfon dymuniadau gorau at Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig sydd, yn amlwg, yn gwella ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd hi yn ôl gyda ni cyn gynted â phosibl.

Ddoe, Brif Weinidog, llofnodwyd bargen ddinesig Abertawe gan y ddwy Lywodraeth ac, yn amlwg, y partneriaid a weithiodd i lunio’r fargen honno—yr awdurdodau lleol ac, yn bwysig, busnesau a oedd yn rhan o greu'r cyfuniad o brosiectau a fydd, gobeithio, yn codi lefelau GYG a sgiliau cyflogadwyedd a'r rhagolygon i ddinas-ranbarth Abertawe. Rwy’n sôn yn benodol am 'ranbarth', gan nad Abertawe yn unig yr ydym ni’n ei hystyried yma. Fodd bynnag, awgrymwyd i bobl, ac nid yn afresymol, nad yw hyn yn debyg iawn i'r hyn yr oedd Syr Terry Matthews yn siarad amdano pan gyflwynwyd hyn ganddo, fel cadeirydd bwrdd y ddinas-ranbarth, ar y cychwyn tua blwyddyn yn ôl, a bod y cysyniad wedi symud oddi wrth bobl a mwy at adeiladau. A ydych chi’n rhannu'r safbwynt hwnnw, a’r safbwynt, mewn gwirionedd, y gallai’r cytundeb sydd o’n blaenau fod yn un 'adeiladu i bobl ddod', yn hytrach na buddsoddi ym mhobl y rhanbarth?

Na, nid wyf yn credu bod hynny'n deg. Mae'r cytundeb ei hun yn gytundeb y bu’n rhaid ei gytuno drwy'r awdurdodau lleol a chan Lywodraeth y DU a chyda ni. Mae'n hollol gywir i ddweud y bydd bron i hanner y buddsoddiad a fydd yn dod yn dod o’r sector preifat—mae'n enghraifft dda iawn o'r hyn sy'n digwydd pan fydd Llywodraethau’n cydweithredu; mae'n enghraifft dda iawn o'r hyn sy'n digwydd pan fydd y sector cyhoeddus a phreifat yn cydweithredu hefyd. Bwriedir i’r 11 prosiect a fydd yn cael eu hariannu greu dros 10,000 o swyddi, felly nid yw'n ymwneud ag adeiladau; mae'n ymwneud â chreu swyddi a chyfleoedd i bobl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae’r ddwy Lywodraeth a'r awdurdodau lleol yn ffyddiog fydd yn digwydd.

Ac ydych chi’n hyderus, Brif Weinidog, gyda'r cytundeb hwn, y bydd GYG, sydd tua 74 y cant o lefel y DU yn ninas-ranbarth Abertawe, yn cynyddu dros 15 mlynedd y cytundeb. Felly, a allwch chi roi dangosyddion pendant i ni y byddwch chi’n eu meincnodi, ac y bydd eich Llywodraeth yn eu meincnodi, fel llwyddiant? Beth allwn ni ei ddisgwyl ymhen tair, pump, wyth a 10 mlynedd pan fydd y cytundeb hwn yn cael ei gyflwyno, fel y gallwn eich marcio chi a Llywodraeth y DU a'r partneriaid ar gynnydd i lefelau GYG yn y maes hwn? Oherwydd mae’n hanfodol bod pobl yn gallu gweld cyfoeth a chyfleoedd yn cynyddu, yn hytrach na rhai o'r sylwadau bachog yr ydym ni wedi eu cael ar fentrau adfywio eraill sydd efallai wedi digwydd yn y gorffennol.

Ceir problem yng Nghymru, fel sydd yn y DU a dweud y gwir, ynghylch cynhyrchiant. Nid oes unrhyw fwled arian hawdd sy'n ymdrin â chynhyrchiant, ond un maes lle gellir gwella cynhyrchiant yw drwy sgiliau a darparu i bobl drwy’r sgiliau hynny swyddi sy'n talu'n well. Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig sut yr ydym yn barnu a yw'r cynllun yn llwyddiannus. Ceir dwy ffordd o fesur: yn gyntaf oll, cynnydd i GYG y pen ac yn ail, cynnydd i GYG y pen o’i gymharu â gweddill Cymru a gweddill y DU. Rwy’n disgwyl gweld y ddau beth hynny yn cael eu cyflawni.

Rwy’n croesawu hynny. Byddwn wedi hoffi, efallai, marc mwy pendant o ran ble y byddech chi’n hoffi gweld GYG yn tyfu iddo o ble y mae ar hyn o bryd, sef 74 y cant. Ond mae'n bwysig bod gan Gaerdydd fargen ddinesig a bod gan dinas-ranbarth Abertawe fargen ddinesig. Yn amlwg, mae’r gogledd mewn angen dybryd i’r cytundeb twf gael ei gyflawni. Ddoe yn 'The Guardian', cyhuddwyd Prif Weinidog y DU gennych o fod yn fyddar o ran gwrando ar bryderon a godwyd gennych ynghylch datganoli ac efallai ffabrig cyfansoddiadol y DU. Un peth sydd wedi dod allan o’r gogledd, o’r bwrdd uchelgais yn arbennig, yw'r gallu i Lywodraeth Cymru ddatganoli cyfrifoldeb i’r gogledd fel bod y pwerau hynny o ran ardrethi busnes, er enghraifft, o ran sgiliau ac o ran trafnidiaeth—rwy’n sylweddoli bod problemau ynghylch ardrethi busnes—ond o ran sgiliau a thrafnidiaeth, byddai mwy o synergedd rhwng y Northern Powerhouse a gogledd Cymru i greu gwell sbardun ar gyfer ffyniant economaidd yn y gogledd. A wnaiff eich Llywodraeth ystyried yn weithredol datganoli cyfrifoldebau allan o Barc Cathays, neu a fyddwch chithau yn fyddar i'r ceisiadau sy'n dod allan o’r gogledd gan fusnesau ac arweinwyr cyngor pan eu bod yn gofyn i chi am y cyfrifoldebau hyn?

Wel, nid oes unrhyw anhawster â'r hyn y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ddweud. Mae’r fargen ddinesig hon i Gaerdydd a chytundeb Bae Abertawe yn cael eu hysgogi gan awdurdodau lleol. Nid yw'n rhywbeth yr ydym ni’n ceisio ei orfodi; bydd yr un peth yn berthnasol i gytundeb twf gogledd Cymru. Fe wnes i’r pwynt ddoe: nid yw hyn yn ymwneud â de Cymru, na chydag ardaloedd trefol mawr yn wir. Dyma’r ddau gytundeb a oedd yn barod gyntaf oherwydd y gwaith rhwng awdurdodau lleol. Y gogledd-ddwyrain, yn arbennig, fyddai’n dod nesaf, a’n nod fydd datganoli cymaint o bwerau ag y gallwn, yn y dyfodol. O ran ardrethi busnes, mae'n anoddach oherwydd, gydag ardrethi busnes, rydym ni’n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol a fyddai ar eu colled pe byddai ardrethi busnes yn cael eu datganoli. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymaint o benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol â phosibl, ac mae hynny'n golygu’n sicr bod awdurdodau lleol wrth y llyw, yn cydweithio i ddarparu ar gyfer eu rhanbarthau ac yn gweithio ar draws ffiniau, wrth gwrs, gan greu ffyniant ar y ddwy ochr i’r ffin.

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn innau ddymuno pen-blwydd hapus i'r Prif Weinidog, hefyd, a’i sicrhau, wrth i chi heneiddio, nad oes unrhyw beth i'w ofni cyn belled â'ch bod yn parhau i fod mewn iechyd perffaith fel fi. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno—[Torri ar draws.] Bydd y Prif Weinidog yn cytuno, rwy'n siŵr, beth bynnag fo’n gwahanol safbwyntiau ar Brexit, bod ansicrwydd i’w resynu, ac mae Prif Weinidog y DU, o leiaf, ar fin datrys un ansicrwydd drwy sbarduno erthygl 50. Mae'n anffodus, fodd bynnag, bod Nicola Sturgeon bellach wedi ceisio creu ansicrwydd arall dros refferendwm yn yr Alban, gan fod yn ffyddiog, heb os, y byddai Prif Weinidog y DU yn gwrthod ei chais. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o leihau’r ansicrwydd penodol hwn yw derbyn her Nicola Sturgeon a chynnal refferendwm.

Wel, yn gyntaf oll, dylwn ddiolch i arweinydd UKIP ac, yn wir, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am eu dymuniadau da, o wahanol safbwyntiau, yn wir, yn hynny o beth. Ond fy marn i yw, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, os bydd Senedd yr Alban yn pleidleisio i gynnal refferendwm, ni ddylai Llywodraeth y DU atal Senedd yr Alban, ddim mwy nag y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd neu Senedd Ewrop fod wedi atal y DU rhag cynnal refferendwm ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn iawn os bydd Senedd yr Alban yn cefnogi refferendwm ac yn edrych ar ddyddiad penodol, y dylai safbwyntiau Senedd yr Alban gael eu parchu.

Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud hynny, oherwydd rwy’n cytuno ag ef mai anaml iawn y mae’n anghywir i ymgynghori â phobl ar fater pwysig fel hwn. Pe byddai ymgyrch refferendwm, byddai hefyd yn berthnasol i Gymru i ryw raddau, gan fod gan yr Alban ddiffyg yn y gyllideb o £15 biliwn y flwyddyn, er ei bod yn economi fwy na Chymru, ac mae’n debyg iawn i’r ffigur sydd gennym ni yma—diffyg o £15 biliwn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o arian o un rhan o'r DU i un arall, a fyddai'n diflannu pe byddai Cymru neu'r Alban yn dod yn wleidyddol annibynnol.

Wel, nid wyf i’n credu bod annibyniaeth o fudd i Gymru. Rwy'n ymwybodol o'r trosglwyddiadau ariannol sylweddol sy'n digwydd ac sy'n dod i Gymru, a dyna pam yr wyf yn ddatganolwr pybyr, ond nid yn rhywun sy'n cefnogi annibyniaeth.

Mae'n bwysig iawn, rwy’n meddwl—dylai pob un ohonom ni sy'n credu yng nghyfanrwydd y Deyrnas Unedig aros yn unedig ar y pwynt hwn y byddai Cymru, mewn gwirionedd, yn llawer tlotach pe byddai'n gadael y Deyrnas Unedig, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gellid mantoli unrhyw doriad i unrhyw gyllideb gan adran y DU a fyddai'n cael ei ddatganoli i Gymru wedyn mewn unrhyw ffordd arall. Felly, gan fod gwariant cyhoeddus bron i 60 y cant o CDG Cymru erbyn hyn, byddai’n ergyd fawr i’r holl bobl dlawd ac agored i niwed, ac i bawb sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant.

Mae’r achos dros annibyniaeth gan y rhai sy'n ei ddadlau yng Nghymru wedi ei seilio nid ar yr economi, yn fy marn i, ond ar emosiwn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni warchod yn ei erbyn, yn fy nhyb i, yw nad yw'r achos emosiynol yn gorlethu'r un economaidd, a dyna pam mae’n hynod bwysig, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod gennym ni strwythur ar waith sy'n adlewyrchu partneriaeth briodol o bedair gwlad y DU, ond nid yw'n achos o Lywodraeth y DU yn gorfodi ei hewyllys mewn meysydd datganoledig ar y Llywodraethau datganoledig, a bod gennym ni hefyd broses ddyfarnu annibynnol ar gyfer plismona rheolau marchnad sengl mewnol y DU. Rwy'n credu mai dyna’r ffordd ymlaen—parch at bedair hunaniaeth genedlaethol y DU, yn ogystal â hunaniaethau eraill o fewn y DU. Byddai hynny, i mi, yn cynrychioli canlyniad da iawn i Gymru. Ond fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth y DU—fe wnes i ddweud bod clust fyddar, er bod y cyfarfod ddoe yn well, mae’n rhaid i mi ddweud, nag unrhyw un yr ydym ni wedi ei gael yn y gorffennol. Mae'n bwysig iawn nad yw Llywodraeth y DU ei hun yn creu'r amodau lle mae pobl yn teimlo'n ddigon ddig i fabwysiadu’r safbwynt nad ydynt yn credu bod y DU yn werth ei chadw. Nid yw hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld.

Wel, mae'n amlwg bod Cymru mor gyfoethog ac mor llewyrchus mai’r status quo yw'r unig ddewis i ni, ynte? Brif Weinidog, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o sgandalau yn ymwneud ag ansawdd triniaeth rhai cleifion mewn rhai wardiau yn y GIG yng Nghymru. Pa mor hyderus ydych chi fod y systemau ar gyfer nodi a chywiro problemau yn ddigon cadarn erbyn hyn i atal sgandal arall tebyg i Dawel Fan neu Dywysoges Cymru?

Rydym ni’n hyderus y byddai’r strwythurau sydd ar waith nawr yn osgoi’r sefyllfaoedd hynny, a’u bod yn gadarn.

Brif Weinidog, un maes o driniaeth ysbyty lle nodwyd problemau yn rheolaidd yw maeth a hydradiad mewn ysbytai. Mae maeth yn yr ysbyty yn angen gofal iechyd sylfaenol, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi ar hynny. Nawr, ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad arall ar faeth, ac mae hyn bum mlynedd ar ôl yr adroddiad diwethaf ar faeth. Canfu'r adroddiad, a dyfynnaf,

‘gwnaethom ganfod diffyg arweinyddiaeth, diffyg gweithgarwch a chynnydd rhwystredig o araf mewn sawl maes pwysig.’

Rydych chi’n honni eich bod wedi cyflwyno mentrau newydd i ddatrys hyn. Pam nad ydynt wedi llwyddo eto, a pha resymau allwch chi eu rhoi am y cynnydd araf o ran maeth mewn ysbytai?

Wel, wrth gwrs, ceir proses ffurfiol ar gyfer ymateb i adroddiadau, ond mae'n iawn i ddweud bod maeth a hydradiad yn hynod bwysig. Tynnodd yr adroddiad sylw at gynnydd da a wnaed mewn nifer o feysydd, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig cael adroddiadau fel hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cymaint o welliant ag y byddai bob un ohonom yn dymuno ei weld.

Faint o adroddiadau sydd eu hangen arnom ni, Brif Weinidog? Nododd yr adroddiad bod 9 y cant o gleifion nad oeddent yn cael digon o ddŵr i'w yfed. Ceir meysydd eraill lle na fu unrhyw gynnydd o gwbl—dim cynnydd ar system gwybodaeth arlwyo gyfrifiadurol, a nodwyd y broblem honno yn ôl yn 2011. Nid oes gan yr un bwrdd iechyd gyfarwyddwr penodedig yn gyfrifol am faeth, ac nid oes yr un bwrdd iechyd wedi sicrhau cydymffurfiad o 100 y cant â hyfforddiant llwybr gofal maethol, er ei fod yn orfodol ers ei gyflwyno yn 2011.

Mae’r hyn y byddwch chi’n ei glywed gan reolwyr yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn ei glywed gan gleifion a’n hetholwyr. Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld rhywfaint o arweinyddiaeth gennych chi o ran maeth mewn ysbytai? Pryd y byddwn ni’n mynd y tu hwnt i ymddiheuriadau a honiadau o wersi a ddysgwyd i weld bod yn rhaid atal y problemau syml, sylfaenol hyn yn y GIG cyn iddyn nhw achosi niwed difrifol i rai o'n cleifion?

Rydym ni eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr o ran bwyta'n iach. Rydym ni’n ystyried ffyrdd o wella'r ddarpariaeth o fwyd iach mewn ysbytai hyd yn oed ymhellach, gan gynnwys adolygiad o safonau gorfodol sydd ar y gweill. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae’r datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod y gwelliannau enfawr a wnaed eisoes gan y GIG. Dywedodd yr archwilydd cyffredinol, yn ei adroddiad, ei fod yn cydnabod bod cyrff y GIG wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed ganddo fe a chan y pwyllgor, a bod dwy ran o dair o'r argymhellion wedi eu gweithredu’n llawn, a bod gwaith parhaus yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny nad ydynt yn gyflawn hyd yn hyn. Felly, mae'r rhan fwyaf wedi eu gwneud. Mae rhai nad ydynt wedi eu gwneud eto, ond yr hyn sy'n eglur o'r hyn a ddywedwyd gan yr archwilydd cyffredinol yw bod yr hyn sydd ar ôl i'w wneud wrthi’n cael ei wneud.

Gwell Swyddi yn Nes at Adref

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi yn nes at adref? OAQ(5)0521(FM)

Mae tîm traws-Lywodraeth yn bwrw ymlaen â’r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref i gyfochri amrywiaeth o brosiectau masnachol yn well gydag ymyraethau eraill i gefnogi creu cyflogaeth ystyrlon mewn cymunedau sydd â lefelau uchel o ddiweithdra.

Mae'n werth cofio mai ym mis Hydref 2015 y gwnaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru lansio ei ymgyrch ardderchog ar gyfer swyddi gwell yn nes at adref, er budd cymunedau’r Cymoedd fel yr un yr wyf i’n ei gynrychioli yng Nghaerffili, ac, yn wir, derbyniais nodyn cyfeillgar iawn ganddyn nhw yr wythnos diwethaf yn pwysleisio hynny, ac roeddwn i’n falch o weld yr un egwyddorion wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu.

Hoffwn groesawu'r araith a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddoe yng Ngholeg y Cymoedd, pryd y cydnabu bwysigrwydd mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol a rhoi pwyslais rhanbarthol ar greu cymunedau cydnerth ac yn wir swyddi gwell yn nes at adref. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog gynnig rhagor o fanylion am ddull Llywodraeth Cymru a fydd yn mynd i'r afael â’r heriau economaidd hynny a wynebir gan Gymoedd gogleddol y de, gan helpu i ddatblygu ein sectorau arbenigol ein hunain, gan adeiladu ar gryfder presennol, a'r cyfalaf cymdeithasol sy'n bodoli yno?

Wel, yn gyntaf, mae’r treialon masnachol yn dechrau profi'r ymyraethau i weld sut y gallant fod mor effeithiol ag y gallant fod. Rydym yn bwriadu gweithredu strategaeth benodol, yn rhanbarthol yn y Cymoedd gogleddol, ac ar draws Cymru gyfan. Ceir tasglu gweinidogol a sefydlwyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Yr her i ni yw bod gwahaniaethau o fewn y Cymoedd eu hunain o ran perfformiad. Rydym ni’n gwybod bod Merthyr yn gwneud yn arbennig o dda o ran denu buddsoddiad. Nid yw hynny yn cael ei adlewyrchu ym mhob cymuned yn y Cymoedd. Felly, yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau y gallwn wasgaru datblygiad a gwelliant economaidd yn gyfartal dros y blynyddoedd nesaf, yn hytrach na gweld rhai rhannau o'r Cymoedd yn gwneud yn dda ac eraill ddim cystal—ac eithrio ymyraethau masnachol a phrosiectau arbrofol. O hynny, mae’r tasglu yn gangen arall o hynny.

Gwell swyddi yn nes at adref—i fy etholwyr i, beth mae hyn yn ei olygu yw creu swyddi o ansawdd yn y gogledd-orllewin, ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddangos y ffordd efo hyn, ac i gael polisïau cwbl fwriadus i wasgaru swyddi Llywodraeth ar draws Cymru. Pryd, felly, mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu diwygio ei strategaeth lleoli swyddi? Mae angen cynnwys meini prawf penodol newydd a fyddai’n arwain ar ddosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru mewn ffordd gyfartal ar draws Cymru. Rydw i’n awgrymu eich bod chi yn diwygio’r strategaeth lleoli swyddi ar frys cyn i bobl y gogledd golli pob ffydd yn eich Llywodraeth.

Mae hynny’n hollol annheg o gofio’r ffaith mai ni, fel Llywodraeth, wnaeth agor Cyffordd Llandudno. Ni fel Llywodraeth oedd â swyddfa yng Nghaernarfon. Ni fel Llywodraeth sydd wedi symud mwy o swyddi mas o Gaerdydd nag erioed o dan y Swyddfa Gymreig, gyda swyddi ar draws Cymru. Nid yw’n bosibl cael swyddfa ym mhob lle, yn amlwg, ond mae’n record ni yn un da dros ben ynglŷn â symud swyddi, yn enwedig i’r gogledd. Mae mwy o swyddi yn y gogledd nawr—pobl sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru—nag oedd erioed yn wir ynglŷn â sefyllfa’r Swyddfa Gymreig.

Brif Weinidog, os ydym ni eisiau cael mwy o bobl yn gweithio’n agosach at adref, yna beth am weithwyr cartref? Un o'r problemau y mae gweithwyr cartref yn eu hwynebu yn fy etholaeth i ac mewn rhannau eraill, o’r gogledd yn enwedig, yw cysylltedd band eang gwael. Gwelsom adroddiad yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod rhai o'r cyflymderau mwyaf araf i'w gweld yng ngogledd Cymru, a cheir llawer o bobl nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn o hyd. Beth ydych chi'n ei wneud i ddwyn BT ac Openreach i gyfrif i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewidion a'u rhwymedigaethau o dan y cynllun? A pha gamau ydych chi’n eu cymryd i fynd i'r afael â’r 4 neu 5 y cant o’r cartrefi hynny sydd y tu allan i gwmpas y cynllun ar hyn o bryd, fel y gall y bobl hynny hefyd yn yr ardaloedd hynny gael y cyfle i weithio o gartref?

Fel y mae’r Aelod yn gwybod, ein nod yw i 96 y cant o gartrefi gael mynediad at fand eang cyflym iawn erbyn yr haf. Ni fyddai llawer o'r cartrefi hynny fyth wedi cael mynediad heb ymyrraeth gan y Llywodraeth gan nad oedd y farchnad yno erioed. Mae'n iawn nodi, wrth gwrs, y ffigur bras o 4 y cant o bobl na fyddent wedi bod yn rhan o Gyflymu Cymru—maen nhw mewn ardaloedd arbennig o anghysbell. Bydd dewisiadau eraill y bydd yn rhaid eu harchwilio ar eu cyfer nhw, fel, er enghraifft, y defnydd o loerennau yn hytrach na defnyddio'r ceblau. Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymwybodol ohonynt. Er bod Cyflymu Cymru yn canolbwyntio ar y 96 y cant, nid yw’r 4 y cant wedi eu hanghofio.

Brif Weinidog, rwyf wedi cael ar ddeall bod 175 o fusnesau ar restrau aros am unedau sy'n eiddo i'r cyngor yng Nghaerffili ar hyn o bryd, rhai ers hyd at bum mlynedd. A allwch chi nodi felly a oes unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth i helpu cynghorau fel Caerffili i adeiladu unedau newydd i ddarparu ar gyfer gwargedion o'r fath, o ystyried y ffaith, yn amlwg, bod gan y cwmnïau hyn y potensial i greu miloedd o swyddi yn agos at adref?

Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghaerffili fel y mae’n ei disgrifio. Byddaf yn ysgrifennu ato ynglŷn â hynny, gan ei fod yn benodol i gyngor Caerffili yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru. Mae angen i ni osgoi sefyllfa lle’r ydym ni’n adeiladu llawer iawn o wahanol unedau ffatri ar hap gan ein bod ni’n gwybod bod llawer ohonynt yn aros yn wag, neu roedden nhw’n aros yn wag yn y 1990au. Yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yw nodi adeiladau presennol sy'n briodol i fusnesau sydd eu heisiau, ac edrych lle y gellir adeiladu unedau lle’r ydym ni’n gwybod y bydd galw. Ac mae hynny'n rhywbeth sy’n sicr yn rhan o'n strategaeth economaidd.

Confensiwn Cyfansoddiadol

4. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu confensiwn cyfansoddiadol? OAQ(5)0517(FM)

Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi bod yn galw ers nifer o flynyddoedd am gonfensiwn cyfansoddiadol i ystyried llywodraethiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae'r heriau a ddaw yn sgil gadael yr UE yn gwneud yr achos dros gonfensiwn o'r fath hyd yn oed yn gryfach.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna ac rwy’n ei longyfarch am godi’r mater pwysig iawn hwn ers cymaint o flynyddoedd. A fyddai'n cytuno bod cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn anghynaladwy, o ystyried gadael yr UE a chyda'r bygythiad o ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban?

Wel, mae sofraniaeth seneddol a'r syniad bod yr holl rym yn dod o un lle yn San Steffan, sydd â'r gallu i wneud beth bynnag y mae’n dymuno, wrth wraidd y broblem, wrth i ni adael yr UE. Nid wyf yn credu mai dyna'r dull cywir. Rwy'n credu y ceir sawl canolfan o atebolrwydd democrataidd, ac mae’r Cynulliad hwn yn un ohonynt. I mi, mae’n rhaid i’r DU symud mwy at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n gweithio yng Nghanada. Nid yw'n creu ansefydlogrwydd. Mae Canada yn un o'r gwledydd mwyaf ffyniannus a diogel yn y byd, ond mae'n rhaid i ni symud oddi wrth y syniad hwn bod popeth, rywsut, yn israddol i San Steffan a Senedd y DU yn San Steffan. Nid dyna'r model rwy’n credu—. Efallai ei fod wedi gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid dyna’r model sy'n mynd i weithio yn y ganrif hon.

Roeddwn i’n siomedig mai ymateb y Prif Weinidog i ddatblygiadau yr wythnos diwethaf oedd yr hyn a oedd yn swnio fel galwadau am gonfensiwn cyfansoddiadol mewnol i’r Blaid Lafur. Ond wrth symud ymlaen, rydym ni’n gwybod bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru ar Ewrop wedi ei wrthod yn bendant gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i gael un dull ar gyfer y DU gyfan ar gyfer trafodaethau’r UE cyn sbarduno erthygl 50. Nid yw hyn yn argoeli'n dda i’r Bil diddymu mawr ddisgwyliedig a deddfwriaeth gysylltiedig, ond ceir cymal ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru—mae'n debyg y gellid ei alw’n erthygl 132—sy’n golygu y gallai'r Prif Weinidog sbarduno, a fyddai'n golygu dod â Bil dilyniant i'r Cynulliad hwn nawr, gan ragweld y Bil diddymu, i amddiffyn cyfansoddiad presennol Cymru rhag ymgais gan San Steffan i gydio pŵer.

Wel, yn gyntaf oll, ni fu unrhyw ymateb ffurfiol i'r Papur Gwyn yr ydym ni wedi ei lunio. Yn ail, cynlluniwyd y Bil diwygio mawr, fel y’i gelwir, i fod yn Fil a fydd yn cadw—felly y dywedir wrthym—cyfraith yr UE yn awdurdodaethau’r DU a chyfreithiau gwahanol rannau a gwahanol wledydd y DU. Os mai dyna’r cwbl y mae'n ei wneud, yna mae'n synhwyrol. Fodd bynnag, yr hyn na fyddem yn ei dderbyn—a dweud y gwir, byddem yn gwrthwynebu hyn i’r carn—yw unrhyw awgrym y bydd pwerau presennol yn cael eu cydio’n ôl, neu y dylai pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel orwedd, hyd yn oed am gyfnod o amser, yn San Steffan. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn wyliadwrus iawn ohono, a byddwn yn archwilio’r Bil diddymu mawr yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Ac ni fyddwn yn cefnogi hynny os cynigir hynny yn rhan o'r Bil hwnnw.

Brif Weinidog, rwy’n credu mai’r broblem gyda chonfensiwn cyfansoddiadol yw na allwch chi wir gael un tan ar ôl yr ail refferendwm yn yr Alban, sydd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn edrych fel posibilrwydd. Rwy’n meddwl tybed a ddylai eich nodau mwy uniongyrchol fod gyda Phrif Weinidog y DU i weld sut y gallai system y Cydbwyllgor Gweinidogion gael ei chryfhau. Rwy’n cymeradwyo sylwadau Mr Drakeford ar sut y gallai hynny ddigwydd, os nad yr arddull a ddefnyddiodd i’w gwneud. Rwy’n meddwl ei bod yn rhy ddeifiol yn y Senedd pan gymharodd y broses bresennol i Gyngor Cymuned Sain Ffagan. [Chwerthin.] Ond, fe wnaeth rhai pwyntiau diddorol am sut y gallai'r Cydbwyllgorau gael eu gwneud yn fwy cadarn, gydag agendâu, ysgrifenyddiaeth a diben eglur a chynllun gwaith ar gyfer y dyfodol. Dyna beth y dylech chi fod yn canolbwyntio arno.

Dros y ddwy flynedd nesaf, ar ôl sbarduno erthygl 50, ceir cyfle euraidd i ailstrwythuro'r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ar draws y DU. Nid oes diben aros tan y bydd y cyfnod hwnnw o amser wedi mynd heibio, oherwydd wedyn byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw ffordd o gyflwyno system arall. Beth mae hynny’n ei olygu? Mae'n golygu y dylai'r Cydbwyllgor Gweinidogion esblygu i fod yn gyngor Gweinidogion priodol lle mae penderfyniadau ar y cyd yn cael eu gwneud, pan fo hynny'n briodol, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'n ddigon posibl bod rhinwedd mewn cael fframwaith cyffredinol o ran amaethyddiaeth, neu bysgodfeydd yn wir, cyn belled â’i fod wedi ei gytuno. Rydym ni’n gwybod, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod posibilrwydd cryf na fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn gymwys mwyach, ac os felly bydd gennym sefyllfa gwbl agored ym marchnad sengl fewnol y DU. Rwyf wedi crybwyll y term 'cyfraith fasnach'. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl bosibl. Roedd cyfraith fasnach rhwng Iwerddon a'r DU yn y 1930au. Nid yw o fudd i unrhyw un i hynny ddigwydd. Y dewis yn hytrach na hynny yw llunio cyfres o reolau yn y DU, wedi’u cytuno gan bedair Llywodraeth y DU ac, yn bwysig, corff dyfarnu annibynnol sy'n plismona’r rheolau hynny—llys. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn cyflawni’r swyddogaeth honno ym marchnad sengl Ewrop; mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn cyflawni’r swyddogaeth honno o ran masnach ryng-dalaith yn yr Unol Daleithiau. Nid yw marchnad sengl fewnol heb reolau y cytunwyd arnynt a dull o blismona’r rheolau hynny yn farchnad sengl fewnol briodol. Rwyf eisiau gweld y farchnad sengl fewnol honno’n gweithio’n iawn.

Yn bersonol, rwy’n croesawu'n fawr yr arweinyddiaeth y mae'r Prif Weinidog yn ei dangos ar yr ymgyrch hon i gael confensiwn cyfansoddiadol. Ond, ymhellach i gwestiwn pwysig David Melding, ar hyn o bryd, ac yn dilyn y sesiwn ddiddorol honno a gawsom ddoe, lle'r oedd gennym ni fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol De Cymru yn yr oriel yn ein gwylio, os na fyddwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran parch y gallech chi ei weld mewn cyngor Gweinidogion a dyfarnu annibynnol hefyd, beth yw eich prognosis, felly, wrth symud ymlaen, wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a newid i fframwaith gwahanol iawn o fewn y DU? Beth yw eich prognosis os na fyddwn yn cael y mecanweithiau hynny ar waith?

Mae perygl y bydd y DU yn dechrau datod. Yn arbennig, un peth nad yw'n cael ei grybwyll yn aml, ond yr wyf yn credu sy’n werth ei nodi, yw’r hyn a allai achosi twf cenedlaetholdeb Seisnig, a phobl yn Lloegr yn teimlo bod y system yn gwneud cam â nhw. Ac rwy’n meddwl y gellir osgoi hyn oll yn weddol hawdd. Gall hunaniaethau cenedlaethol amlwg ein pedair gwlad gael eu cydnabod drwy gydnabod ar yr un pryd y diben cyffredin y mae’r DU yn ei ddarparu, ond mae hynny'n golygu sefydlu strwythur sy'n adlewyrchu'r ffaith fod hon yn bartneriaeth o genhedloedd, yn hytrach na chredu fod hyn yn rhywbeth tebyg i’r wladwriaeth unedol yr oedd y DU ym 1972, cyn iddi ymuno â’r hyn a oedd y Farchnad Gyffredin ar y pryd. Felly, mae modd datrys y materion hyn—nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl am hynny. Mae angen eu datrys fel, pan fydd y DU yn gadael yr UE, y bydd y strwythur hwnnw ar waith eisoes o ran marchnad sengl fewnol y DU, o ran cyngor y Gweinidogion, yn hytrach na'i wneud ychydig flynyddoedd wedi hynny ac yna gadael gwagle. Nid yw hynny o fudd i neb.

Digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0515(FM)

Wel, gwnaf. Soniais yn gynharach am y ddeddfwriaeth a'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i fonitro'r ddeddfwriaeth. Rydym ni’n parhau, wrth gwrs, i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol i sicrhau mwy o gysondeb a chefnogaeth i'r rheiny sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae fy mhryderon yn debyg i'r rhai a godwyd gan Jeremy Miles yn gynharach, ond hoffwn ganolbwyntio ar un pwynt penodol. Cefais y cyfle yn ystod mis Ionawr hyd at yr wythnos hon i wirfoddoli yn lloches nos y gaeaf ym Merthyr Tudful a ddarparwyd gan y cyngor, ac mae’n debyg yr hoffwn nawr gofnodi fy niolch i Gyngor Merthyr Tudful am ddarparu’r lloches nos honno ac i’r gwirfoddolwyr anhunanol sydd wedi gweithio trwy gydol y cyfnod hwnnw i gefnogi'r trigolion yno. Ond mae’n debyg mai’r hyn a wnaeth effeithio mwy na dim arall arnaf oedd anobaith llwyr pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref nawr. Roedd llawer o bobl yno yn defnyddio'r lloches a oedd wedi canfod eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau y cyfeiriasoch atynt yn gynharach—problemau iechyd, a chaethiwed i gyffuriau, ac yn y blaen. Ond cefais fy nharo hefyd gan y nifer a oedd yno oherwydd chwalfa deuluol mewn perthnasoedd. Felly, nid oedd ganddynt broblemau eraill, dim ond nad oedd ganddynt unman arall i fyw, yn llythrennol. Ac yr oedd yn fath o sefyllfa sydd yn gwaethygu—

[Yn parhau.]—y mae’r bobl hynny yn ei hwynebu. Daeth y cwestiwn, Brif Weinidog, o drafodaeth a gefais gyda dau ddyn cymharol ifanc a benderfynodd mai’r ffordd orau iddynt allu codi eu hunain allan o ddigartrefedd oedd trwy ymuno â'i gilydd i gael lle i'w rentu. Roedden nhw wedi dod o hyd i le addas—

Na, rydych chi eisoes wedi esbonio eich esboniad, nawr dewch at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.

Iawn. Nid oeddent yn gallu dod o hyd i warantwr, gan nad oedd ganddynt fynediad at unrhyw un a allai warantu’r rhent gyda'r landlord preifat. Felly, a allech chi, Brif Weinidog, roi rhyw syniad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o bosibl drwy weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a darparwyr tai, i chwalu'r rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd i bobl ddigartref sicrhau llety rhent ac o bosibl ystyried—

A allwch chi ateb y cwestiwn os gwelwch yn dda, Brif Weinidog? Mae'r cwestiwn wedi'i ofyn.

Ceir nifer o faterion y mae fy nghyfaill yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni wedi eu nodi, sef, yn aml iawn, na all pobl gael eu hunain allan o'r twll y maen nhw’n canfod eu hunain ynddo: ni allant gael swydd, gan nad oes cyfeiriad ganddynt; ni allant edrych yn drwsiadus ar gyfer swydd, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw arian; maen nhw’n ei chael yn anodd cael cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl neu ar gyfer problemau caethiwed. Ceir llwybrau y gall pobl eu dilyn a ddarperir gan nifer o sefydliadau trydydd sector, ond cael pobl ar y llwybr hwnnw yw’r peth anodd yn aml. Rwy’n amau, i lawer o unigolion, mai dull wedi'i deilwra'n benodol i'r unigolyn hwnnw fydd yn gweithio’n fwyaf effeithiol, ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn wynebu sefyllfa lle mae pobl yn ddigartref oherwydd nad oes ganddynt unrhyw le i fyw, yn llythrennol, ac na allant hawlio budd-dal tai oherwydd eu hoedran. Oherwydd hynny, maen nhw’n canfod eu hunain yn byw ar y strydoedd o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU fod wedi ei atal.

Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol raglen gwerth £14 miliwn i ddarparu dull arloesol o fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys nifer o fentrau i helpu unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i helpu’r rheini sy'n cysgu ar y stryd i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg, ac i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol pobl sy’n cysgu ar y stryd yn yr hirdymor, fel iechyd meddwl gwael neu gamddefnyddio sylweddau. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i ystyried rhaglen Llywodraeth y DU i weld pa fesurau y gellir eu cyflwyno i fynd i'r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a rhannau eraill o’r de-ddwyrain?

Yn gyntaf, ceir llawer o bobl ifanc sy'n ddigartref oherwydd Llywodraeth y DU a'r penderfyniadau a wnaeth o ran cynorthwyo’r rheini a oedd angen rhywle i fyw. Nid oes ganddyn nhw unrhyw le arall i fyw; ni allant gael budd-dal tai; maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael swydd; felly, maen nhw’n byw ar y strydoedd o ganlyniad i hynny. Gallai’r arian hwnnw fod wedi cael ei dargedu’n well, awgrymaf i’r Aelod, pe byddai wedi cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno.

Mae Llywodraeth y DU yn dal i fyny â ni. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig iawn o ran atal digartrefedd. Rydym ni wedi diogelu’r gyllideb honno. Gwariwyd £124.4 miliwn gennym ar y rhaglen honno yn 2017-18. Rydym ni hefyd wedi datblygu nifer o ddulliau ar wahân i gefnogi’r aelodau hynny o’n cymuned sydd yn y perygl mwyaf—er enghraifft, cyn-filwyr, y rheini sy’n gyn-droseddwyr—a llwybr i geisio helpu pobl ifanc osgoi digartrefedd oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU. Felly, byddwn yn dadlau, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth y DU yn ceisio dal i fyny â'r hyn yr ydym ni’n ei wneud eisoes.

Cefnogaeth Ariannol ar gyfer Cyflogaeth

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0513(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n parhau i ddarparu pob math o gymorth cyflogaeth i bob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Busnes Cymru hynod lwyddiannus, buddsoddiad ychwanegol mewn prentisiaethau ac, wrth gwrs, heb anghofio, amrywiaeth o raglenni eraill a ariennir gan yr UE.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Codwyd y cyhoeddiad gan Newsquest eu bod yn bwriadu cau eu canolfan is-olygu yng Nghasnewydd ac adleoli i Weymouth yn y Siambr hon o'r blaen. Fodd bynnag, datgelwyd bod Newsquest wedi derbyn £95,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2012-13 o dan raglen Sgiliau Twf Cymru, a £245,000 arall i ehangu ei ganolfan is-olygu y llynedd.

A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa amodau oedd yn gymwys i’r grantiau hyn a pha gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn cefnogi cyflogaeth yng Nghasnewydd?

Yn 2015, darparwyd £245,808 gennym i'r cwmni tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi yn y cyfleuster ym Maesglas. Aethpwyd y tu hwnt i hynny, ond roedd y dyfarniad yn amodol bod y swyddi yno tan fis Mai 2020. Os na chaiff yr amod hwnnw ei fodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian.

Cadwyni Cyflenwi'r Sector Cyhoeddus

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo arferion cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0523(FM)

Lansiwyd cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ar 9 Mawrth. Rydym yn disgwyl i'r sector cyhoeddus yng Nghymru gytuno i’r cod a helpu i wella llesiant gweithwyr yn ein cadwyni cyflenwi.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd yn galonogol clywed am y cod ymarfer newydd ar gyfer cyflogaeth foesegol ar gyfer cadwyni cyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn dangos arweinyddiaeth wirioneddol. Ond wrth lansio’r cod ymarfer, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

'Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd.'

Felly, a gaf i ofyn am sicrwydd gan y Prif Weinidog y byddwn yn ceisio sicrhau bod hyn yn treiddio’n ddwfn yng Nghymru trwy gyrhaeddiad hir y sector cyhoeddus ac asiantaethau eraill, y trydydd sector ac eraill, ond hefyd defnyddio’r cyrhaeddiad dwfn hwnnw i wledydd eraill, gan gynnwys gwledydd datblygol, fel nad yw ein cadwyni cyflenwi, gan gynnwys y rhannau hynny sy'n dibynnu ar ffynonellau tramor, yn cam-fanteisio ar unrhyw weithiwr yn unrhyw le?

Mae'r cod yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar arferion anghyfreithlon ac anfoesegol sy'n effeithio ar weithwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae angen i ni gael y cyrhaeddiad hiraf posibl ac wrth gwrs sicrhau bod hyn yn digwydd drwy’r sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat. Felly, byddwn yn annog busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru i gytuno â’r cod hefyd. Bydd hynny’n codi ac yn sicrhau sefyllfa deg i fusnesau moesegol-gyfrifol fel na all y rhai sy'n cyflogi staff yn gyfreithlon ac yn foesegol gael eu tanbrisio gan y rheini nad ydynt.

Cefnogi Pobl Anabl

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl i barhau'n aelodau gweithgar o'u cymunedau? OAQ(5)0520(FM)

Mae ein 'Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol' yn nodi ein cynlluniau i gefnogi pobl anabl yng Nghymru i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau. Rydym yn bwriadu adolygu'r fframwaith eleni, gan groesawu, wrth gwrs, egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf wedi bod yn ymdrin ag etholwr y bu’n rhaid i’w gadair olwyn fynd i mewn i gael ei hatgyweirio. Fe’i gadawyd heb gadair addas arall, gan fod hon yn gadair bwrpasol, am dros ddau fis ac nid yw wedi llwyddo i gysylltu ag unrhyw un i gael y newyddion diweddaraf. Dim ond ar ôl i mi gysylltu â phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol y cymerwyd unrhyw gamau. Mae hyn yn annerbyniol. Dywedir wrthyf fod amser aros am gadeiriau olwyn yn ormodol. Sut y gallwn ni obeithio cefnogi pobl anabl i barhau i fod yn aelodau gweithgar o'u cymuned os na allwn ni ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol o'r fath? Brif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gael gwared ar amseroedd aros am gadeiriau olwyn a sicrhau atgyweiriadau prydlon i’r elfen hanfodol hon o gymorth person anabl?

Wel, mae'n amlwg bod yr etholwr a gysylltodd â chi wedi bod trwy brofiad anodd. Mae angen ymchwilio iddo. A gaf i ofyn i'r Aelod ysgrifennu ataf a byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu'n ôl ati i ddarparu esboniad i’w hetholwr?

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Mae gennyf ychydig o newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ddyfodol cyflawni gwaith ieuenctid wedi ei ohirio nes 4 Ebrill. Yn lle hynny, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad llafar ar gyfraddau comisiwn cartrefi mewn parciau—y camau nesaf. Yn olaf, mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau llafar y Cynulliad i’r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau ac mae busnes y tair wythnos nesaf yn dilyn yr hyn a ddangosir yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru? Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw wasanaethau rhewmatoleg bediatrig—gwasanaethau penodedig—ac yn benodol nid oes gennym unrhyw dimau i helpu pobl ifanc sy'n canfod bod ganddynt arthritis yn ifanc iawn, yn aml iawn plant o oedran ysgol. Mae hyn yn achosi llawer iawn o broblemau, nid yn unig o ran yr ochr boen o reoli poen arthritis, ond hefyd y gallu i gymryd rhan lawn yn y system addysg a gallu cefnogi plant sy'n mynd drwy'r system addysg fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. Rydw i'n deall, yn dilyn cyfarfod a gefais ddoe, fod llawer o bobl yn cael eu hailgyfeirio i'r canolfannau yn Lloegr, lle ceir 12 ohonynt. Yn yr Alban, mae dwy ganolfan, ac yng Ngogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth lai o lawer na Chymru, ceir un ganolfan bwrpasol. Dim ond un gwasanaeth ymgynghorol sydd yma yn ne Cymru ar hyn o bryd, ac nid yw hwnnw'n darparu'r gwasanaeth llawn y byddai gweithio mewn tîm yn ei ddatblygu, lle—. Pe baech yn edrych ar y safonau a ddylai fod ar waith, fe ddylai fod meddyg ymgynghorol, fe ddylai fod dwy nyrs arbenigol, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol, i helpu i ddatblygu'r gwasanaethau yma yng Nghymru. Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i ni gael datganiad fel y gallwn weld a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o gyflwyno’r hyn y byddwn i’n ei alw’n ddolen goll yn y ddarpariaeth o ofal iechyd i bobl ifanc sy'n dioddef poen— poen cronig —arthritis a'r cymorth y mae'n rhaid bod ei angen arnynt.

Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt pwysig. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod gennym bellach ysbyty plant yma yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn datblygu triniaethau arloesol a llwybrau gofal—a chredaf mai’r hyn y mae angen i ni edrych arno yn ofalus iawn nawr yw, o ran rhewmatoleg bediatrig, pa lwybr gofal sydd ar gael, ac, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pwynt a wnaed heddiw.

Tybed a oes modd i ni ddod o hyd i amser am ddatganiad ar effaith y newidiadau i amodau gwaith a phensiynau ar gyfer y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, a'r effaith yng Nghymru yn benodol. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau, pwyllgor trawsbleidiol, wedi cwestiynu’r egwyddor y tu ôl i’r toriadau hyn i’r lwfans cyflogaeth a chymorth o 1 Ebrill. Maen nhw wedi cael eu cyfiawnhau ar y sail y byddant yn cael gwared ar gymhellion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n annog pobl i beidio â dychwelyd i'r gwaith. Ond mae'r pwyllgor yn datgan bod y dystiolaeth yn amwys ar y gorau ac mewn gwirionedd bydd perygl iddo, yn eu geiriau nhw, effeithio ar safon byw pobl anabl a'r tebygolrwydd o fynd i weithio. Felly, tybed a allwn ni ddod o hyd i amser ar gyfer rhyw asesiad neu ryw ddatganiad ar effaith hynny yng Nghymru, oherwydd mae’n cael effaith sylweddol ar fywydau fy etholwyr i.

Wel, Huw Irranca-Davies, defnyddiol iawn yw clywed gan bwyllgor dethol trawsbleidiol, y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn San Steffan , am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, a’r gwaith craffu a monitro hwnnw. O ran effaith y newidiadau hynny sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am y newidiadau i’r rhai sy’n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth a neilltuwyd i'r grŵp gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, a fydd yn dechrau o fis Ebrill eleni. Bydd hyn yn golygu y bydd hawlwyr newydd yn derbyn tua £28 yr wythnos yn llai na’r hawlwyr presennol.

Arweinydd y tŷ, bythefnos yn ôl gofynnais i'r Prif Weinidog gwestiwn amhleidiol ar ran fy etholwyr i. Rwyf yn croesawu'r twf yn nifer y teithwyr ar y gwasanaeth bws T9 i Faes Awyr Caerdydd, a gofynnais a yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ddargyfeirio cymorthdaliadau i wasanaethau bysiau eraill ledled Cymru wledig. Ni wnaeth y Prif Weinidog ateb fy nghwestiwn sylfaenol i o gwbl—yn hytrach ceisiodd wneud cyfres o bwyntiau gwleidyddol pleidiol a oedd yn hollol amherthnasol i’m cwestiwn. Mae’r etholwyr wedi codi hyn gyda mi, ac wedi gofyn i mi fynegi pryder ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau pwysig sy’n cael eu cyflwyno yn y Siambr hon. Efallai y gallech adolygu'r cofnod, ac a wnewch chi annog eich cydweithiwr y Prif Weinidog i ateb cwestiynau gan roi mwy o wybodaeth?

Rydych wedi ennyn fy chwilfrydedd—rydym yn neidio’n sydyn o Faes Awyr Caerdydd, yn wir yn fy etholaeth i, i fyny i’ch etholaeth chi, o ran rhywbeth sy'n ymddangos fel petai’n gwestiwn dilys iawn, Russell George, am y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau gwledig, y mae, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth hefyd yn bryderus iawn amdano. A dyna pam mae wedi arwain uwchgynhadledd bysiau, ac rwy'n siŵr y byddech chi wedi cymryd rhan ynddi, gan ei fod yn ymwneud â hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyfan ac ym mhob rhan o Gymru, pob rhan o Gymru, ac yn benodol o ran mynediad mewn ardaloedd gwledig.

Yr wythnos diwethaf siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain i roi blas ar yrfaoedd yn y dyfodol i ddisgyblion ysgol byddar a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn. Roedd y digwyddiad hwn yn cyd-daro ag Wythnos Iaith Arwyddion Prydain. Rwyf wedi bod yn meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am ei barn ynglŷn â gwneud Iaith Arwyddion Prydain yn iaith swyddogol. Hefyd yr wythnos diwethaf, cododd y comisiynydd plant y mater fod yn rhaid i famau dalu £350 i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cyfathrebu â'u plant byddar, sy’n amlwg yn dipyn o faich ariannol, ac a oes unrhyw ddatganiad y gellid ei wneud ynghylch sut y gellid ymdrin â’r mater hwn —.

Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Mae'r mater hwn wedi cael ei drafod a’i gyflwyno, mewn gwirionedd, i grwpiau trawsbleidiol dros y blynyddoedd. Yn wir, sefydlwyd deiseb gan y cyhoedd a grwpiau anabledd yn benodol, fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol—cafodd ei grybwyll yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn i'r Prif Weinidog—ac mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ni, ar draws y Llywodraeth, weithredu a datblygu'r materion pwysig hynny sy'n cael gymaint o effaith ar fywydau pobl, sydd wedi’i wreiddio, wrth gwrs, yn y model cymdeithasol o anabledd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, rydym mewn gwirionedd yn achub ar y cyfle i ddatblygu fframwaith diwygiedig i’w gweithredu erbyn yr haf. Mae gennym fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, ac rwy’n credu y bydd y cwestiynau hyn, yn enwedig yn edrych ar y cyfleoedd sydd gennym i symud ymlaen ag Iaith Arwyddion Prydain, yn—bydd yr ymgynghoriad a'r fforwm yn rhoi cyfle i ystyried hyn eto.

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad diweddaru pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, yn enwedig yn y gogledd? Cefais gyfarfod cyhoeddus ddoe yn Llanarmon-yn-Iâl, ac roedd cynrychiolwyr yno o Eryrys, Graianrhyd a Thafarn-y-Gelyn yn fy etholaeth i. Mae pob un ohonynt yn wynebu problemau sylweddol â'u seilwaith telathrebu, a chredaf fod hynny’n rhwystr i’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn eu hardaloedd. Rwy'n bryderus iawn nad yw BT Openreach yn gwella ei seilwaith ei hun yn ddigon da i’r ddarpariaeth gyflym iawn gael ei darparu ar draws y rhwydwaith, ac mae’n defnyddio hyn fel esgus i beidio â’i ddarparu i rai aelwydydd. Mae'r rhain yn gymunedau gweddol fawr, er eu bod braidd yn fychan o’u cymharu â llawer o'r cymunedau trefol y mae Superfast Cymru yn eu gwasanaethu. Ond, serch hynny, mae diffyg mynediad at fand eang yn broblem sylweddol i'r cymunedau hynny. A hyd yn oed dros y rhwydwaith copr dim ond 0.5 Mbps yn unig y maent yn ei gael ar hyn o bryd pan mae’r cyflymder ar y rhyngrwyd yn dweud wrthynt y dylent fod yn cael 7 Mbps neu 8 Mbps, hyd yn oed dros y rhwydwaith copr. Felly, rwy'n bryderus iawn am hyn ac rwy’n teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru ddwyn BT Openreach i gyfrif am wella a buddsoddi yn ei seilwaith ei hun y tu allan i brosiect Superfast Cymru er mwyn i’r deiliaid tai a busnesau unigol hyn yn yr ardaloedd hynny gael manteisio ar y rhaglen. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ar y mater hwnnw.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwybod na fyddai llawer o rannau o Gymru wedi cael mynediad at fand eang cyflym iawn heb ymyrraeth Superfast Cymru. O ganlyniad i'r rhaglen honno, mae gan 194,199 o eiddo ar draws y gogledd, ac rwy'n canolbwyntio ar eich rhanbarth chi, fynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, mae aelwydydd yn cael mynediad bob dydd wrth i'r broses o’i gyflwyno barhau. Wrth gwrs, ein nod yw darparu band eang dibynadwy, cyflym i bob eiddo yng Nghymru. Mae Superfast Cymru yn adeiladu ar y seilwaith hwnnw. Byddai siroedd cyfan, megis Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Sir Benfro, Ceredigion, ac eraill, wedi bod heb fynediad o gwbl i fand eang cyflym iawn heb ymyrraeth Superfast Cymru. Ond, gan fynd yn ôl at y sefyllfa yr ydym ynddi nawr, hyd yn hyn, mae dros 621,000 o eiddo ar draws Cymru yn gallu derbyn Superfast Cymru. Ond mae'n edrych ar sut y gallwn gyrraedd yr ychydig eiddo olaf pan fydd Superfast Cymru yn dod i ben eleni gyda buddsoddiad o £80 miliwn, ac mae hynny’n golygu pennu, fesul eiddo, lle mae band eang cyflym iawn ar gael ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i lywio'r cynllun nesaf wrth iddo symud ymlaen.

Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma wedi cadarnhau bod nifer o ffynonellau tystiolaeth yn dangos bod proffylacsis cyn-gysylltiad yn hynod effeithiol o ran atal haint HIV. Mae PrEp eisoes yn cael ei ragnodi yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Norwy ac Israel. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno datganiad, sy’n cadarnhau’r pwynt cynharaf y bydd yn disgwyl bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar ddarparu PrEp yng Nghymru, ac yn cadarnhau, yng ngoleuni'r dystiolaeth glinigol, y bydd nawr yn ystyried cymeradwyo bod y grwpiau risg uchaf yn cael defnyddio’r cyffur er mwyn cefnogi’r ymdrech i atal HIV yng Nghymru?

Diolch i Jeremy Miles am y cwestiwn hwnnw. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio'r dystiolaeth ddiweddaraf. Wrth gwrs, bydd hynny’n helpu i lywio'r gwerthusiad a fydd yn cael ei gynnal gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, ein corff arbenigol annibynnol sy'n darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar feddyginiaethau newydd nad ystyriwyd eto gan NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, fis nesaf. Bydd yn ystyried effeithiolrwydd y feddyginiaeth o safbwynt clinigol a chostau. Felly, mae'n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl iddo gael ac ystyried cyngor gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Bore heddiw mae deintyddion yn Lloegr wedi bod yn mynegi pryder eithafol am y cynnydd mewn pydredd dannedd ymhlith plant pum mlwydd oed yn Lloegr. Tybed a—. Yn amlwg, mae gennym y Cynllun Gwên yma, sydd wedi arwain at ostyngiad amlwg yn nifer y plant pum mlwydd oed sy’n dioddef pydredd dannedd yng Nghymru. Ond, serch hynny, mae un plentyn â phydredd dannedd yn bump oed yn ormod o lawer. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i drethu diodydd llawn siwgr, yn ogystal â'r sgyrsiau a gafwyd gyda chynhyrchwyr grawnfwydydd melys y mae plant yn cael eu hannog i fwyta yn y bore. Y rhain, yn amlwg, yw’r cyswllt rhwng nifer y plant â phydredd dannedd a’r hyn y gallem yn hawdd wneud rhywbeth i’w atal?

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod dros Ganol Caerdydd wedi tynnu sylw at y Cynllun Gwên. Mae wedi cael ei grybwyll yn y cyfryngau dros y 24 awr ddiwethaf, gan gydnabod bod Lloegr yn disgyn y tu ôl i Gymru oherwydd y fenter hon. Rwy'n credu ei bod yn werth edrych ar y gostyngiad hwnnw o ganlyniad i’r Cynllun Gwên, sef yr hyn yr ydym wedi ei ddatblygu: mae arolwg deintyddol 2014-15 o blant pum mlwydd oed yn dangos gostyngiad arall o 6 y cant yng nghyfran y plant â phrofiad o bydredd deintyddol yng Nghymru o’i gymharu â'r arolwg blaenorol a gynhaliwyd yn 2011-12. Dyna’r gwelliant parhaus cyntaf ac arwyddocaol yn nifer yr achosion pydredd dannedd a brofir gan blant yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, ac mae'n cael ei briodoli i sylw ac ymdrechion y rhaglen Cynllun Gwên. Ac, wrth gwrs, mae angen iddo fynd y tu hwnt i'r fenter benodol honno, sydd wedi gweld y gostyngiad hwnnw a groesawyd, ac mae wedi ymdrin mewn gwirionedd â materion anghydraddoldebau iechyd. Ond mae'n rhaid i ni fynd y tu hwnt i hynny, gan edrych ar ei atal yn y persbectif iechyd cyhoeddus ehangach, o ran lleihau faint o ddiodydd a grawnfwyd melys sydd ar gael iddynt. Rwyf bob amser yn cofio pan gyflwynwyd y rhaglen arloesol o roi brecwast am ddim mewn ysgolion yng Nghymru—ac nid pob plaid yn y Siambr hon oedd yn ei chefnogi—ond pan sefydlwyd y brecwast hwnnw roedd yn seiliedig ar safonau maeth, a oedd yn golygu bod grawnfwyd heb siwgr yn cael ei ystyried yn ddechrau maethlon i'r diwrnod. Nid brecwast am ddim mewn ysgolion yn unig mohono, ond brecwast ysgol maethlon am ddim. Ac rwy'n siŵr bod hynny hefyd wedi cyfrannu at y llwyddiant a gafwyd o ran lleihau pydredd dannedd ymhlith plant yng Nghymru.

Arweinydd y tŷ, ar hyn o bryd rwy’n cael cwynion di-ri am broblem sbwriel ar gefnffyrdd a lleiniau ymyl cefnffyrdd a chilfannau yn fy etholaeth i. Gwn fod Aelodau eraill o'r Cynulliad yn cael cwynion tebyg. Yn aml, gwn fod y cyfrifoldeb am gynnal glendid cefnffyrdd wedi ei ddirprwyo i, yn fy ardal i, Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, neu i awdurdodau lleol, ond gwn mai Llywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am ein ffyrdd, a bod gennych gyfrifoldeb dros dwristiaeth. Rwy'n bryderus iawn am y ddelwedd sy'n cael ei phortreadu o Gymru i dwristiaid sy'n dod yma. Byddwn yn falch pe gallai Llywodraeth Cymru edrych ar yr hyn y gellid ei wneud am hyn fel mater o frys, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at dymor yr haf. Tybed a fyddai modd i ni gael datganiad neu ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut yr ydych chi'n sicrhau bod awdurdodau lleol a chonsortia lleol yn cynnal eu cyfrifoldeb i gadw ein cefnffyrdd a thraffyrdd yn lân fel ein bod yn portreadu’r ddelwedd orau bosibl o Gymru i'r bobl sy'n ymweld â'n gwlad.

Wel, wrth gwrs, byddem i gyd yn dymuno i hynny ddigwydd. Mae rhan o hyn yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r rhai sy'n defnyddio ein ffyrdd. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn wynebu sefyllfa pan fyddwch yn gyrru ar hyd ffordd ac yn gweld pobl yn taflu sbwriel allan o'u ffenestri. Felly, mae'n rhaid cael rhaglen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a hefyd pwy wedyn sy’n ymdrin ag effaith taflu’r sbwriel hwnnw, fel y dywedwch, sy'n dinistrio ein hamgylchedd. Ond nid problem i Gymru yn unig yw hon, wrth gwrs—mae'n broblem ledled y DU ac, rwy'n siŵr, y tu hwnt i hynny. Felly, yn sicr mae'n rhywbeth y byddem yn edrych arno o ran sut y gallem ddatblygu’r math hwnnw o ymwybyddiaeth y cyhoedd a’r dull gorfodi.

3. 3. Datganiad: Adolygiad o'r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar adolygiad o geisiadau cyllido cleifion unigol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd. Fis Gorffennaf diwethaf, cyhoeddais sefydlu adolygiad annibynnol o'r broses IPFR—y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol. Pwrpas yr adolygiad oedd edrych o'r newydd ar y meini prawf clinigol—y cyfeirir atynt fel rheol fel ‘eithriadoldeb clinigol’—a ddefnyddir i wneud penderfyniadau IPFR a'r potensial i leihau nifer y paneli IPFR yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio cadw agwedd agored, gynhwysol a thryloyw tuag at yr adolygiad hwn ers y dechrau. Roedd hynny'n cynnwys yr holl bleidiau gwleidyddol, y cyhoedd a'r GIG yng Nghymru. Er enghraifft, mae llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau wedi chwarae rhan lawn yn y broses gyfan, gan gynnwys sesiynau briffio gyda chadeirydd y grŵp adolygu ar ddechrau a diwedd yr adolygiad. Roedd safbwynt y claf yn elfen gref. Roedd dau o gleifion yn aelodau o'r grŵp adolygu a chynhaliwyd sesiynau trafod ledled Cymru i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr a sefydliadau cleifion. Cymerodd y diwydiant fferyllol, byrddau iechyd a chlinigwyr ran lawn, gan roi eu barn am sut y gellid gwella’r broses.

Cyhoeddais adroddiad yr adolygiad ym mis Ionawr eleni, cyn gynted ag yr oedd ar gael, er mwyn i bawb gael cyfle cyn gynted â phosibl i ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion. Ochr yn ochr â hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn trafod yr adroddiad â’r byrddau iechyd, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Wales a'n harbenigwyr ar feddyginiaethau yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, a gobeithiaf y gwnewch faddau imi am gyfeirio at honno, o hyn ymlaen, fel yr AWTTC. Y consensws yw bod hwn yn adroddiad defnyddiol sy'n gwneud argymhellion meddylgar ac ymarferol a fydd yn helpu byrddau iechyd i ymdrin â'r penderfyniadau sensitif hyn sy’n aml iawn yn rhai cymhleth. Rwy'n arbennig o falch mai llais y claf sydd bwysicaf yn yr adroddiad.

Rwyf nawr yn mynd i ymdrin ag argymhellion y grŵp adolygu am y materion y gofynnwyd iddynt eu hystyried. Mae eithriadoldeb clinigol wedi bod yn egwyddor sylfaenol ac yn sail i benderfyniadau am IPFR ledled y DU. Nid oes dealltwriaeth dda o’r cysyniad, ac mae'n agored i amrywiol ddehongliadau. Mae’r adroddiad yn trafod hyn yn llawn ac yn gwneud argymhellion ymarferol i ddiwygio meini prawf penderfyniadau IPFR, sydd wedi cael croeso cyffredinol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys sefyllfaoedd lle ceir argymhelliad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, y byddaf nawr yn cyfeirio atynt fel NICE ac AWMSG yn y drefn honno. Maent hefyd yn cyfeirio at achosion lle nad yw NICE nac AWMSG wedi gwneud argymhelliad. Mae'r grŵp adolygu'n argymell prawf dwy ran newydd i gynnwys, fel pwynt cyntaf, budd clinigol sylweddol i'r claf ac, yn ail, gwerth am arian. Mae hyn yn golygu asesu faint o fudd clinigol a ddisgwylir gan y driniaeth, ac a yw cost y driniaeth yn gymesur â’r buddion disgwyliedig.

O ran a ddylid bod wedi lleihau nifer y paneli IPFR, casgliad y grŵp adolygu oedd bod y risgiau cynhenid ​​wrth symud at un panel cenedlaethol neu leihau nifer y paneli yn negyddu unrhyw ddadl rymus dros newid. Mae'r grŵp adolygu, fodd bynnag, wedi gwneud argymhellion defnyddiol eraill i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau pellach i'r broses. Mae hyn yn cynnwys egluro polisïau comisiynu ac ymgorffori polisi IPFR o fewn y fframweithiau hynny, a chryfhau swyddogaethau cefnogaeth arbenigol ganolog, sicrwydd ansawdd a swyddogaeth llywodraethu yr AWTTC.

Mae byrddau iechyd, gyda chymorth yr AWTTC, eisoes wedi dechrau’r gwaith cychwynnol i ddiwygio'r meini prawf ar gyfer penderfyniadau clinigol gyda'r nod o wneud y newid hwn i'r canllawiau erbyn mis Mai. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at gadeiryddion byrddau iechyd i gadarnhau'r trefniadau i roi pob un o'r argymhellion ar waith erbyn mis Medi eleni. Bydd yn rhaid i fyrddau iechyd wneud dewisiadau anodd bob amser am y manteision clinigol cymharol yn erbyn y gost a'r gwerth am arian ar lefel cleifion unigol, gan gydbwyso hyn ag anghenion iechyd eu poblogaeth leol. Felly, bydd penderfyniadau IPFR bob amser yn sensitif. Fodd bynnag, gyda'i gilydd, bydd yr holl argymhellion, ar ôl eu rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar y broses IPFR, gan ei gwneud yn haws ei deall ac yn llai tueddol o gael ei chamddefnyddio.

Mae gan y broses IPFR le o fewn y fframwaith polisi ar gyfer mynediad at driniaeth ar gyfer nifer cymharol fach o unigolion. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod y broses werthuso yn ganolog i’n dull seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod triniaeth glinigol effeithiol a chost-effeithiol ar gael i bobl. Mae'r gronfa driniaeth newydd gwerth £80 miliwn a gyhoeddais ym mis Ionawr yn cefnogi'r ymagwedd hon drwy ddarparu mynediad cynharach at feddyginiaethau newydd a argymhellir gan NICE neu’r AWMSG. Mae'r grŵp adolygu yn cefnogi ein safbwynt polisi o sicrhau bod gwerthuso yn ganolog i benderfyniadau am argaeledd arferol triniaeth. Maent hefyd yn amlygu pwysigrwydd gwerthuso fel y ffordd orau o werthuso effeithiolrwydd clinigol a gwerth am arian. Yn benodol, ryw’n croesawu eu hargymhelliad y dylai'r diwydiant fferyllol gyflwyno eu meddyginiaethau i’w gwerthuso cyn gynted â phosibl ar ôl eu trwyddedu i sicrhau gwerthusiad amserol a thryloyw o'r buddion clinigol.

Mae gennym berthynas dda â’r diwydiant ac â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Wales. Mae'r ABPI a’r cwmnïau unigol yn ymgysylltu â ni a’r AWMSG am yr agenda werthuso a'r gwaith ehangach ar feddyginiaethau newydd. Cyfrannodd yr ABPI at waith y grŵp adolygu ac maent yn gefnogol i roi argymhellion yr adroddiad ar waith. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i gefnogi ac annog diwydiant i weithio gyda ni a GIG Cymru i sicrhau’r mynediad cynharaf posibl at driniaethau arloesol.

Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r grŵp adolygu yn eu cyfanrwydd am eu hymdrech a'u hymroddiad wrth ymdrin â’r maes cymhleth iawn hwn, gan wneud hynny mewn modd tosturiol a deallus, ac am ddarparu eu hargymhellion o fewn amserlen heriol.

Hoffwn hefyd ychwanegu at y geiriau hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sicr yn llongyfarch y panel am adolygiad trylwyr iawn, do, wedi’i gwblhau o fewn amserlen dynn, ac adolygiad yr wyf yn meddwl ei fod yn gwneud nifer o argymhellion pwysig iawn a fydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn gwella bywydau llawer o gleifion. Cafodd yr adolygiad, wrth gwrs, ei sicrhau gan Blaid Cymru yn y cytundeb ôl-etholiad hwnnw, gan ddangos gwir werth cydweithredu pan fo hynny'n briodol, ac mae’r canlyniad, rwy’n meddwl, yn dangos yn glir i mi ein bod yn iawn i fynd ar drywydd hynny. Nid yw'r datrysiadau a gyflwynodd y panel adolygu mewn gwirionedd i gyd fel yr oeddem wedi’u rhagweld fel plaid, nac fel y gwnaethom eu cyflwyno fel cynigion fel plaid, ond mae’r canlyniad, a dyna beth sy'n bwysig. Yn sicr, rwy’n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno nawr i roi argymhellion yr adolygiad ar waith. Rwy'n meddwl y byddai wedi bod yn anodd iddo beidio â rhoi’r argymhellion hynny ar waith. Rydym yn edrych ymlaen, nawr, wrth gwrs, i’w gweld yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.

Un neu ddau gwestiwn cyflym, oherwydd mae nawr yn fater o beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Yn gyntaf, efallai y gallech egluro ychydig bach mwy am y broses weithredu, er enghraifft, sut y bydd clinigwyr eu hunain yn cael gwybod am y newidiadau a sut y gallant helpu eu cleifion drwy'r broses. Hefyd, rwy’n meddwl bod gwerth llais cleifion yn y broses wedi cael ei ddangos yn glir, ac mae ymrwymiad y panel adolygu wedi dangos hynny. A wnaiff y Llywodraeth nawr ystyried pa ffyrdd y gellir cadw safbwynt y claf yn barhaol o fewn y system, er enghraifft yn y prosesau sicrhau ansawdd a gynlluniwyd i sicrhau cysondeb, sydd, wedi’r cyfan yn un o'r prif elfennau yr ydym yn chwilio amdanynt yn yr adolygiad hwn?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Wrth gwrs, roedd cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru wrth ddod i gytundeb am y compact i fwrw ymlaen ag adolygiad yn y maes hwn. Ac rydym yna wedi ei ehangu i wneud yn siŵr bod pleidiau eraill wedi cael cymryd rhan yn y sgwrs cyn hynny, ac mae wedi bod, rwy’n meddwl, yn broses synhwyrol ac adeiladol.

O ran y ddau faes holi penodol am ymwybyddiaeth y clinigwyr o’r newid a sut y gallant helpu cleifion drwyddo, roedd hynny’n un o'r heriau yr ydym yn cydnabod ei bod yn bodoli eisoes—bod rhai clinigwyr yn well am esbonio beth yw'r broses a sut i helpu eu cleifion drwy hynny. Yn yr un modd, roedd rhai sylwadau am wneud yn siŵr nad yw’r broses yn cael ei defnyddio yn lle egluro i glaf unigol o’ch blaen chi, fel clinigwr, nad oes opsiwn triniaeth rhesymol yn bodoli. Ac felly mae rhywbeth yma am y gonestrwydd hwnnw yn y sgwrs, nad yw’n hawdd, ond fel yr ydym yn ei gydnabod, nid oes unrhyw gais cyllido claf unigol ynddo’i hun yn hawdd. Felly, mae sensitifrwydd dynol gwirioneddol yn ymwneud â hyn.

Rhan o'r pwynt am yr ymwybyddiaeth yw ein bod yn cael trafodaeth genedlaethol, a bod gan lawer o glinigwyr ddiddordeb pendant iawn yn y drafodaeth ac yn yr adolygiad ei hun ac yn natganiad heddiw. Ond rwyf wedi ei gwneud yn glir y dylai'r meini prawf i gefnogi gwneud penderfyniadau fod wedi eu sefydlu mewn canllawiau erbyn mis Mai. Dylai hynny yn sicr fod yn rhan o sicrhau, yn y cyfnod cyn hynny ac yna ar ôl hynny, bod clinigwyr yn briodol ymwybodol o'r newid i’r canllawiau am y meini prawf gwneud penderfyniadau, ac yna dylai pob un o'r argymhellion cysylltiedig fod ar waith erbyn mis Medi. Ond ni allwch ddianc rhag y ffaith y bydd yn rhaid i glinigwyr ddal i fynd drwy broses sy’n anodd. Nid yw'n fater o arbenigedd technegol wrth benderfynu beth sy’n opsiwn triniaeth priodol; mae’n fater o ryngweithio dynol gyda'u cleifion a sut y maent yn arwain yr unigolyn hwnnw ac yn esbonio beth y gallant ei wneud a’i gwneud yn glir y bydd angen i'r clinigwr ddal i fod yn rhan o’r broses er mwyn cefnogi'r achos o blaid IPFR. Felly, rwy'n siŵr y bydd unigolion yn ein hetholaethau yn dal i gysylltu â chi, â mi ac ag Aelodau eraill am y dewisiadau a’r penderfyniadau penodol hyn.

Mae'n ddrwg gennyf, dim ond yn gyflym am lais y claf. Ynglŷn â’r gwaith parhaus yr ydym yn sôn amdano o ran y swyddogaeth ansawdd, mae'r AWTTC yn ymgysylltu mewn gwirionedd â grwpiau cleifion, ac unigolion hefyd, felly mae angen inni weld hynny’n parhau fel rhan o'r adolygiad o effeithiolrwydd yr hyn sy'n digwydd hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr iawn am gyflwyno’r datganiad hwn heddiw. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r panel adolygu am gynnal hyn a’m diolch i chi am gynnwys yr holl wrthbleidiau mewn modd mor gynhwysfawr yn y broses gyfan hon. Hoffwn hefyd ddiolch i'r nifer fawr o aelodau'r cyhoedd. Yn arbennig, rwy’n gwybod bod llawer o fy etholwyr wedi cyflwyno eu hachosion ac roeddent yn ddewr iawn i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i bob un ohonynt, oherwydd rwy’n meddwl bod hwn yn adroddiad cytbwys iawn ac rwyf wrth fy modd eich bod wedi derbyn yr holl argymhellion ac yn bwriadu gweithredu arno.

Serch hynny, hoffwn ofyn un neu ddau o gwestiynau ichi amdano. Mae llawer o hyn yn ymwneud â’r gair 'arwyddocaol'. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom o amgylch y Siambr hon yn falch iawn na fydd yn rhaid inni ddefnyddio'r cymalau eithriadoldeb mwyach, ond mae'n dweud yma yn eithaf clir,

'Drwy "arwyddocaol", rydym yn golygu y dylai natur y budd sydd i'w ddisgwyl, ac ystyriaeth o gost-effeithiolrwydd yr ymyrraeth, fod yn gymaradwy â’r meini prawf a ddefnyddir fel arfer ar gyfer cleifion y mae eu cyflyrau yn elwa ar ganllawiau HTA'.

Felly, mae 'arwyddocâd' yn amlwg yn air a dderbynnir gan y brif garfan wrth ichi basio meddyginiaeth a dweud ei bod yn iawn i gael ei defnyddio ar lefel gyffredinol, ac nawr, wrth gwrs, rydych yn bwriadu defnyddio'r gair hwnnw, neu mae'r adolygiad yn argymell defnyddio'r gair 'arwyddocaol' ar gyfer clefydau prin a thra amddifad, ar gyfer rhai heb HTA, ac ar gyfer ymyraethau newydd. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi ychydig o eglurder ynghylch sut yr ydym yn diffinio 'arwyddocâd'—sut mae hynny wedi’i ddiffinio a sut y gallwn gael gwared ar unrhyw ddiffyg eglurder ynghylch hynny fel bod pobl yn glir iawn ei fod yn asesiad, wel, rhesymegol iawn, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn ceisio tynnu’r gwres allan o bwnc sy’n emosiynol iawn.

Byddwn yn ddiolchgar iawn hefyd pe gallech roi diweddariad cyflym inni am ble yr ydych yn gweld swyddogaeth ansawdd cenedlaethol newydd yr IPFR. A fyddai'n rhan o un o'r meysydd sydd eisoes yn bodoli, fel—wn i ddim—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ynteu a fyddwch chi’n sefydlu rhywbeth o fewn eich portffolio eich hun, neu gorff hyd braich annibynnol?

Dim ond dau gwestiwn arall: roedd un maes nad oeddwn i’n meddwl bod yr adolygiad yn ymdrin ag ef, yn benodol, sef y mater o roi amseriadau ar brosesau gwneud penderfyniadau. Nid wyf wedi gallu ei weld wrth fynd drwy'r adolygiad, ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi sylwadau am hynny. Gydag amseriadau, rwy’n sôn am amseriadau ar gyfer gwneud penderfyniad, oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gwneud cais am y rhain drwy'r driniaeth IPFR yn bobl sy’n ddifrifol wael—nid yw amser yn ffrind iddynt—ac rwy’n gwybod y cyflwynwyd enghreifftiau i'r panel adolygu ynghylch pa mor hir y mae wedi’i gymryd i wneud penderfyniad, a sut, yn y diwedd, mae’r unigolyn hwnnw wedi mynd heibio i’r pwynt lle y byddai’r hyn y maent yn gwneud cais amdano wedi eu helpu. Felly, pe gallech wneud rhai sylwadau am hynny.

Ac yn olaf—eto, ynglŷn ag amseru, ond y tro hwn amseru’r adroddiadau. Rwy’n deall nawr bod gan y byrddau iechyd rhwng nawr a mis Medi i roi’r argymhellion ar waith, ac y byddant yn cyflwyno eu hadroddiadau cyntaf inni ym mis Mehefin 2018 ac yna’n cyflwyno adroddiadau parhaus bob mis Mehefin ar ôl hynny. Un o'r beirniadaethau o un o ddulliau blaenorol yr IPFR oedd nad oedd yn ddigon tryloyw, a bod y cyhoedd a chlinigwyr wedi colli hyder ynddo. Rwy'n poeni, os na chawn adroddiad llawn yn ôl tan fis Mehefin 2019, â 12 mis cyfan o ddata, y gallai hyn fod yn rhy hir i’w addasu, ymateb i unrhyw faterion, a chywiro unrhyw broblemau. Felly, tybed a allech chi ystyried cyflwyno, efallai, ar gyfer y tymor byr, adroddiadau efallai bob tri mis. Rwy'n meddwl y byddai'n helpu i gynyddu hyder y cyhoedd, ac yn ein galluogi i ganfod problemau a chywiro’r cwrs yn llawer cynharach, er fy mod yn derbyn y byddech, yn y tymor hir, yn awyddus i ymestyn y broses adrodd yn ôl allan eto. Diolch.

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y cyfraniad a’r diddordeb cyhoeddus sylweddol gan un grŵp arwahanol o'r cyhoedd, ond grŵp pwysig o'r cyhoedd, a hefyd cafwyd safbwynt nifer o Aelodau'r Cynulliad ar draws gwahanol bleidiau, ar ran eu hetholwyr, ond hefyd ynglŷn â sut y mae hynny’n effeithio ar Aelodau unigol sy’n ceisio cynrychioli a chefnogi etholwyr drwy broses yr wyf eisoes wedi cydnabod ei bod yn un anodd a sensitif.

Os caf i roi sylw i amser a nifer y paneli yn gyntaf, oherwydd mae hynny'n rhan o'r ystyriaeth yr oedd yr adolygiad yn ei hystyried—wyddoch chi, y ffaith, pe byddech yn symud at banel cenedlaethol, y byddai'n rhaid ichi naill ai gael panel sefydlog, neu oddef a derbyn y ffaith y byddai yna gyfnod hirach, ac ni fyddai hynny ynddo'i hun yn dderbyniol. Byddwn bob amser yn awyddus i weld sut y gallwn sicrhau bod paneli ar gael i gwrdd ar adeg brydlon a phriodol, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam yr ydym yn sefydlu rhwydwaith o baneli. Fel arfer, nid yw amseru’r penderfyniad yn broblem. Rwyf yn deall, i rai pobl, bod amser yn ffenestr mor fyr fel y gall hyn fod yn ffactor. Mae hynny'n rhan o ddysgu a deall yr hyn y gallwn ei wneud i wella. Nid oes neb yn esgus bod yr adolygiad yn darparu’r holl atebion ar gyfer gwella yn y maes hwn.

Unwaith eto, rydym wedi rhoi gwerthuso ac adrodd. Mae gennym adroddiad blynyddol am geisiadau IPFR a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud, ac, a dweud y gwir, rydym yn falch bod hynny’n bodoli. Ac roedd y bobl hynny sy'n ymwneud â system Lloegr, rwy’n meddwl, yn gadarnhaol iawn am y wybodaeth yr ydym yn dechrau ei darparu nawr, a hoffem weld hynny'n parhau, a bydd yn parhau. Wrth inni fynd drwy'r adroddiadau gwerthuso am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud, wrth iddynt gael eu rhoi ar waith yn llawn, rwy’n disgwyl, fel y dywedais heddiw ac yn fy llythyr at y byrddau iechyd, o fis Medi eleni ymlaen, bydd angen imi feddwl ychydig am beth sy’n gyfnod defnyddiol i ddechrau adrodd ar hynny. Felly, nid wyf yn dweud 'yn bendant na' i gael amserlen wahanol, ond fe wna i fynd i ffwrdd a meddwl am y peth, oherwydd nid wyf wedi fy mherswadio yn llwyr y gallai adroddiad chwarterol fod o gymorth. Ond rwy’n hapus i edrych ar y mater.

O ran y swyddogaeth ansawdd, rwy’n gweld ei bod yn datblygu’r gwaith y dylai'r AWTCC fod yn ei wneud, yn hytrach na chreu rhywbeth hollol newydd, i ddatblygu’r hyn sydd gennym i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn ymgymryd â'r meysydd gweithgarwch y mae'r adroddiad yn argymell ein bod yn ymgymryd â hwy ag ychydig mwy o bwrpas, a gwelededd yn ogystal.

O ran eich cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, ynglŷn â budd clinigol arwyddocaol, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ddatganiad sy'n haws ei ddeall ac yn cael ei ddeall yn well i wneud yn siŵr, pan nad oes gwerthusiad technoleg, ein bod yn dal i gael rhywfaint o dystiolaeth bod budd gwirioneddol i'w ennill a fyddai'n cyrraedd yr un math o feini prawf, a byddech yn disgwyl y byddai gwerthusiad technoleg iechyd wedi ei gynnal. Nawr, yr anhawster yma bob amser yw, heb y gwerthusiad llawn a ffurfiol hwnnw, bod eich sail dystiolaeth yn anoddach. Mae amrywiaeth o feysydd, er enghraifft, yn ymwneud â meddyginiaeth heb batent—cawsom gyfarfod ddoe gydag Aelod Torfaen, nad yw hi yma, ond, fel y gwyddoch, sydd wedi bod yn bencampwr yn yr achos o blaid yr adolygiad—Lynne Neagle—ynglŷn ag edrych ar sut yr ydym yn edrych ar y maes hwnnw, lle, unwaith eto, nad oes gwerthusiad technoleg ar gyfer defnyddio’r cyffuriau hynny mewn maes gwahanol, ond, yn aml, nid oes digon o dystiolaeth i wneud asesiad rhesymol o'u budd clinigol. Nid wyf eisiau mynd i ormod o fanylder, fodd bynnag, oherwydd, wrth gwrs, gallwn dreulio amser hir yn yr un maes hwn, ond yn yr adroddiad ac yn yr atodiadau cysylltiedig, maen nhw’n sôn, yn llawer mwy manwl, am sut y maen nhw’n edrych ar y mater budd clinigol arwyddocaol a hefyd ar y mater gwerth am arian. Gan nad ydym, a dweud y gwir, wedi ei gwneud mor glir yn y gorffennol bod hyn yn ymwneud â’r ddau gymal—rydych yn edrych ar y budd i'r unigolyn ac rydych yn edrych i weld a all y GIG fforddio'r driniaeth ei hun, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae gan bob rhan o'r gwasanaeth iechyd adnoddau cyfyngedig, ac mae'n rhaid inni ystyried hynny mewn ffordd onest. Rydym yn onest hefyd ynglŷn â’r gwerth yr ydym eisiau ei ganfod i’r unigolyn ac i’r gwasanaeth cyfan.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Andrew Blakeman a'i dîm am y modd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymwneud â'r adolygiad ac am eu hargymhellion ardderchog. Rydym i gyd yn derbyn nad oes arian diderfyn ar gael i’r GIG; fodd bynnag, rydym hefyd i gyd yn derbyn, ar adegau, mai triniaeth newydd nad yw'n gyffredinol yn gost-effeithiol yw'r driniaeth orau sydd ar gael i glaf unigol. Dylid gwneud y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol, yn hytrach nag ar daenlen cyfrifydd. Dyma beth oedd bwriad y broses IPFR, ond, yn anffodus, roedd ei dyluniad yn ddiffygiol.

Fel y gwelodd y panel adolygu yn ystod eu hadolygiad, roedd yr egwyddor eithriadoldeb yn ddryslyd ac yn annheg. Felly, rwy’n cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y panel i ddisodli eithriadoldeb â phroses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar sicrhau budd clinigol arwyddocaol i’r claf ynghyd â gwerth rhesymol am arian. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Y nam dylunio mawr arall yn y broses IPFR bresennol oedd diffyg ymagwedd gyson. Byddai paneli IPFR unigol yn defnyddio’r meini prawf gwneud penderfyniadau yn wahanol, gan arwain at loteri cod post. Rwy’n derbyn casgliad y panel adolygu nad yw'n ymarferol cael un panel IPFR cenedlaethol ac, felly, rwy’n croesawu eu hargymhelliad y bydd corff newydd i fonitro'r paneli IPFR unigol er cysondeb. Mae'n rhaid inni roi terfyn ar y sefyllfa wrthnysig lle y gallwch gael triniaeth, neu beidio, yn seiliedig ar ble yr ydych yn byw. A allwch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a fydd swyddogaeth ansawdd genedlaethol newydd yr IPFR ar waith erbyn mis Medi ac a fydd yn edrych ar geisiadau hanesyddol ynteu dim ond yn ystyried ceisiadau newydd yn y dyfodol?

O ran gweithredu, rwy’n ddiolchgar bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn gobeithio rhoi’r holl argymhellion ar waith erbyn mis Medi. Mae hyn yn newyddion gwych, ond a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd cleifion sy’n ceisio IPFR ar hyn o bryd yn cael eu barnu yn erbyn y meini prawf newydd, yn hytrach na'r hen feini prawf eithriadoldeb?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sicrwydd bod gennych berthynas dda â’r diwydiant fferyllol ac ABPI Cymru. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi bod yn llai effeithiol wrth weithio gyda'r diwydiant i sganio'r gorwel. Er mwyn cefnogi meddyginiaethau newydd yn y dyfodol, mae'n rhaid inni gynllunio ar eu cyfer. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu sut yr ydych yn gweithio gyda'r ABPI a'r sector fferyllol fel y gall y GIG baratoi ar gyfer triniaethau a chyffuriau’r dyfodol? A diolch ichi, unwaith eto, am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y ffordd wirioneddol gynhwysol a thryloyw yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad hwn. Edrychaf ymlaen at weld argymhellion y panel yn cael eu rhoi ar waith er lles cleifion yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Rwy’n cydnabod bod yna nifer o gwestiynau a byddaf yn ceisio bod yn gryno ac i'r pwynt gyda phob un ohonynt, ond hoffwn gydnabod cyfraniad Andrew Blakeman, a gydnabuwyd gan Aelodau’r gwahanol bleidiau yma, ond hefyd gan aelodau eraill y panel adolygu, a gan randdeiliaid hefyd. Rydym yn ffodus ein bod wedi sicrhau ei wasanaethau, gyda'i gefndir yn y sector preifat, ond hefyd ei ddealltwriaeth o sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio hefyd.

Ynglŷn â’r pwynt am gyllid: mae pawb yn wrthrychol yn derbyn ac yn cydnabod bod gan yr NHS adnoddau cyfyngedig a bod angen system o ddeall sut yr ydym yn dyrannu ac yn blaenoriaethu triniaeth, a sut yr ydym yn deall gwerth clinigol a gwerth ariannol ehangach yn y gwasanaeth. Yr her bob amser yw lle mae unigolion yn sylwi eu bod ar yr ochr anghywir i’r llinell honno, naill ai oherwydd, yn anffodus, bod rhai pobl yn dioddef o gyflyrau na allwn mewn gwirionedd eu trin, ac adegau eraill lle, mewn gwirionedd, mae triniaeth a allai fod yn effeithiol ond sy’n hynod o ddrud. Rydym yn gweld enghreifftiau o hynny yn rheolaidd. Bob ychydig fisoedd bydd rhywbeth yn y wasg ehangach am driniaeth a allai fod yn effeithiol sydd mewn gwirionedd yn ddrud iawn, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal yn ei gwrthod. Nid yw'r argymhellion hyn yn mynd i atal hynny rhag digwydd. Gobeithio, fodd bynnag, y cawn sgwrs fwy rhesymegol am sut i wneud y dewisiadau hynny, pryd i werthuso technoleg, yn ogystal â sut i ymdrin â chais cyllido’r claf unigol. Ond mae eithriadoldeb yn parhau i fod yn faen prawf ar gyfer gweddill y DU, felly rydym yn sicr yn wahanol i weddill y DU o ganlyniad i dderbyn yr argymhellion hyn.

Nid wyf yn meddwl ei bod yn deg nodweddu'r broses barhaus a fydd gennym am yr ychydig fisoedd nesaf o leiaf fel mater o dystiolaeth glinigol yn erbyn cyfrifydd a'i daenlen. Mae'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar baneli IPFR yn arbenigwyr. Maent yn bobl sy'n trin pobl; nid biwrocratiaid di-wyneb, dienw ydynt. Mae'r rhain yn bobl sy'n cynnal, yn arwain ac yn rheoli ein gwasanaeth ac yn gofalu am gleifion ar y rheng flaen. A dylem fod yn ofalus ynglŷn â sut y maent yn gwneud y dewisiadau hynny a sut yr ydym yna’n disgrifio'r dewisiadau a wnânt, y dewisiadau hyn yr wyf wedi dweud eu bod yn rhai gwirioneddol anodd, cymhleth a sensitif i orfod eu gwneud. Ac mae’r pwynt am y loteri cod post—yr awgrym bod yna loteri cod post yn rhan o'r rheswm yr aethom drwy'r adolygiad, ac, mewn gwirionedd, canfu'r panel nad oedd tystiolaeth sylweddol o loteri cod post. Roedd rhai achosion lle y gallai pobl bwyntio at esiampl ac na allech ei hesbonio’n iawn. Mae hynny’n arwain at yr angen inni ymdrin yn briodol â chyfres o benderfyniadau gan garfan Cymru gyfan, ac, mewn gwirionedd, rydym yn gwneud mwy o hynny. A'r hyn y dylem ei weld yn cael ei sbarduno o ganlyniad i'r adroddiad hwn yw sut yr ydym yn gweld y garfan Cymru gyfan honno o benderfyniadau yn cael eu gwneud. Oherwydd, wrth archwilio, mae'n ymddangos bod yr hyn a oedd ar yr wyneb yn edrych fel penderfyniad anghyson, mewn gwirionedd, yn fater o amrywiad yn nodweddion unigol y claf, a'r budd tebygol y byddai’n ei gael, ac mae hynny’n mynd yn ôl at yr anhawster i gydgysylltu’r maes hwn yn onest ac yn gryno. Rwy'n hapus i gadarnhau y dylai'r swyddogaeth ansawdd fod ar waith erbyn mis Medi, ond y dylai’r maen prawf ar gyfer y canllawiau clinigol fod ar waith erbyn mis Mai. Felly, mewn gwirionedd, dylem gael gwared ar eithriadoldeb ar yr adeg y bydd y canllawiau hynny ar waith.

Ac yn olaf, ar y pwynt am sganio'r gorwel, cefais gyfarfod defnyddiol ac adeiladol yn ddiweddar gyda'r ABPI am sut yr ydym yn awyddus i wneud gwelliannau yn y rhan hon o'r broses. Felly, mae gwaith yn parhau rhwng cynrychiolwyr y diwydiant a'r Llywodraeth. A dim ond i fod yn gwbl glir, nid yw hyn yn fater o rywsut naill ai werthu allan y gwasanaeth iechyd, ac ildio i'r gallu i gwmnïau, sydd wrth gwrs, wedi'r cyfan, yn gorfod gwneud elw i barhau â’u busnes, ond mae'n fater o ddeall bod proses gliriach o fudd iddynt hwy hefyd, lle’r ydych yn cael gwybodaeth yn gynharach, fel nad ydym yn gweld cystadleuaeth ddrud rhyngddynt hwy a'r gwasanaeth ynglŷn ag a yw eu cynnyrch newydd ar gael i ddarparu'r budd clinigol yr ydym i gyd yn disgwyl iddynt eu cyflawni. Felly, rwy’n meddwl ein bod mewn lle da a bydd gennyf fwy i'w ddweud yn y dyfodol am yr agwedd benodol hon.

Fel y siaradwyr cynharach, rwy’n cytuno eu bod yn gwneud argymhellion clir iawn yn yr adolygiad hwn. Mae llawer ohono’n ymwneud ag ansawdd y cyfathrebu rhwng cleifion a meddygon. Felly, er enghraifft, mae argymhelliad 25 yn nodi ei bod yn ymddangos bod rhai meddygon wedi bod yn cuddio y tu ôl i IPFR yn hytrach na dweud wrth gleifion nad ydynt yn gallu derbyn cais am driniaeth benodol lle nad oes unrhyw dystiolaeth y bydd yn effeithiol, ond, nid ydym ychwaith eisiau i feddygon yn syml fod yn dweud, 'Mae'r cyfrifiadur yn dweud na.' Mae arnom angen meddygon a fydd yn edrych ar holl anghenion y cleifion, ac yn ei gwneud yn glir iddyn nhw bod cleifion yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am yr opsiynau a'r dewisiadau eraill, y risgiau a’r manteision, fel yr amlinellir yn argymhelliad 24. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol bod gennym dryloywder ac eglurder wrth wneud penderfyniadau, a hefyd ein bod yn sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Mae'r arweinlyfr sydd wedi ei argymell yn argymhelliad 4—i'w gwneud yn glir ac yn hawdd deall sut mae'r IPFR yn gweithio—yn ymddangos yn gwbl hanfodol i mi, fel nad ydym yn codi gobeithion pobl yn ddiangen a’n bod yn glir ynghylch y broses o wneud penderfyniadau. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am ba mor gyflym yr ydym yn mynd i weld diweddariad am ansawdd y broses o wneud penderfyniadau IPFR oherwydd, yn amlwg, ni ddylai neb fod yn gwneud penderfyniadau oni bai bod ganddynt wrth law yr argymhelliad arbenigol y gall fod ei angen ar gyfer triniaeth benodol, os yw'n rhywbeth anghyffredin. A allwch chi ein sicrhau na chaiff yr IPFR ei ddefnyddio fel ffordd o oedi atgyfeirio at wasanaeth arbenigol sy'n cael ei ystyried yn effeithiol ac wedi’i gymeradwyo, ond oherwydd natur ei arbenigedd efallai mai dim ond yn Lloegr y mae ar gael?

Rwy’n diolch ichi am y cwestiynau. Mae wir yn ddefnyddiol iawn ar y pwyntiau olaf nad ydym wedi siarad amdanynt heddiw. Mae eich pwynt cyntaf ynghylch cyfathrebu rhwng y clinigwr a'r claf, a chael claf mwy gwybodus, yn bwyntiau pwysig iawn yn y maes hwn ac ym mhob agwedd ar driniaeth a gwneud penderfyniadau. Rydym eisiau i'n dinasyddion fod yn fwy gwybodus a chyfrannu mwy at y dewisiadau gofal iechyd a wneir ar eu cyfer. Yn aml mae’r maes penodol hwn o wneud penderfyniadau, sy'n effeithio ar nifer fach iawn o bobl, yn cael y proffil hwn oherwydd effaith unrhyw benderfyniad a wneir, naill ai i gynnig triniaeth neu beidio. Mae llawer o'r bobl hyn yn dioddef o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, yn newid bywyd ac a allai fod yn angheuol. Felly, a dweud y gwir, y penderfyniadau a wneir yn y maes hwn—dyna pam mae ganddynt broffil mor enfawr. Dyna hefyd pam maent yn hynod o anodd o ran datblygu dyfarniad, yn enwedig os mai’r ateb fydd 'na' i driniaeth benodol. Felly, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â chlinigwyr sy'n gorfod mynd drwodd a chael y sgwrs anodd honno, ond mae'n rhan o'r sgìl a'r disgwyliad ar y clinigwr i allu cael y sgwrs honno, ac i beidio â dweud wrth rywun y gallai gael ateb gwahanol pe byddai’n symud i lawr y ffordd i siarad â chlinigwr gwahanol neu grŵp gwahanol ohonynt, neu yn wir â chynrychiolydd etholedig. Felly, mae hynny'n rhan o—[Anghlywadwy.]—sut yr ydym yn cefnogi clinigwyr i wneud hynny, sut yr ydym yn eu galluogi a'u grymuso, ond hefyd ein bod yn glir ynghylch ein disgwyliadau ei fod yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt o fewn ein system gofal iechyd. Mae'r pwyntiau a godwyd gennych wedi cael eu gwneud gan Aelodau eraill yn eu cyflwyniadau unigol ac, yn amlwg, yn y sgyrsiau a gafodd y grŵp adolygu eu hunain.

O ran eich pwynt olaf ynglŷn â lle ceir triniaeth effeithiol a gymeradwywyd, boed yn feddyginiaeth neu fel arall, roedd hyn yn rhan o'r mater a godwyd yn yr adolygiad o bobl sy’n defnyddio IPFR yn amhriodol pan, mewn gwirionedd, mae'n benderfyniad comisiynu. Mae'n ddewis y dylai’r gwasanaeth iechyd ei wneud ynghylch pa un a fydd neu na fydd yn comisiynu gwasanaeth penodol. Mae'r IPFR yn cael ei ddefnyddio weithiau fel esgus neu reswm i hynny beidio â digwydd. Weithiau, y sefyllfa mewn gwirionedd yw bod angen i’r bobl sy'n cynnal ac yn arwain y gwasanaeth fod yn fwy eglur. Dyna pam mae argymhellion am hyn yn yr adroddiad, ond mae hefyd yn fater o sicrhau bod clinigwyr yn cael eu cyfeirio yn y ffordd iawn i wneud hynny. Mae'r canllawiau’n ymwneud â chlinigwyr a’u dealltwriaeth o sut i ddefnyddio’r broses yn briodol, a’r gwahaniaeth rhwng y rhan hon a’r comisiynu, ond yn yr un modd o safbwynt y claf hefyd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol iawn tynnu sylw at y ffaith bod hynny'n bendant yn rhan o'r gwaith a fydd yn dilyn, a dyna pam, ar yr argymhelliad ehangach, yr ydym yn disgwyl gweld gweithredu erbyn mis Medi eleni hefyd.

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau—Y Camau Nesaf

Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfradd comisiwn wrth werthu cartrefi mewn parciau. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiweddaru'r Aelodau am fy nghynlluniau i ymdrin â phryderon parhaus am y diwydiant cartrefi mewn parciau yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi'r ymchwil i economeg y sector yr hydref diwethaf. Fe gofiwch ein bod wedi comisiynu ymgynghorwyr economaidd cyhoeddus a chorfforaethol i gynnal yr adolygiad hwn. Rwy'n ddiolchgar iddynt am gwblhau'r adolygiad mwyaf a'r mwyaf cynhwysfawr o’r sector yng Nghymru. Roedd eu hadroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Roedd yn nodi'n glir bod angen codi ymwybyddiaeth preswylwyr presennol o rwymedigaethau cytundebol ac i sicrhau bod preswylwyr y dyfodol yn glir ar y materion cyn llofnodi contractau. Roedd hefyd yn argymell ein bod yn ystyried sut i ganfod ac unioni arfer gwael. Rwy’n derbyn y ddau argymhelliad hyn mewn egwyddor, a byddaf yn gwahodd cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol i weithio gyda ni i’w rhoi ar waith, gan gynnwys datblygu deunyddiau i amlinellu’r arfer gorau a hyrwyddo gwell tryloywder ar gyfer preswylwyr a pherchnogion safleoedd. Hefyd, roedd yr adroddiad yn nodi pryderon ynghylch costau ynni ac yn awgrymu y dylid rhoi ystyriaeth bellach i fentrau i'w lleihau. Mae gwaith eisoes wedi'i wneud i atal perchnogion safleoedd rhag codi mwy na’u pris cost am ynni, ac rwy'n hapus i edrych ar sut y gallem annog perchnogion safleoedd i chwilio am y bargeinion ynni mwyaf cost effeithiol ar y farchnad. Fodd bynnag, Lywydd, argymhelliad yr adroddiad ynglŷn â chomisiwn sy’n daladwy ar hyn o bryd i berchennog y safle ar adeg gwerthiant sy'n peri’r pryder mwyaf imi, a byddaf yn canolbwyntio ar hynny heddiw.

Cyn imi wneud hynny, mae'n werth ystyried bod mwy wedi’i wneud i amddiffyn preswylwyr cartrefi mewn parciau yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae pob safle cartrefi mewn parciau yng Nghymru wedi gorfod gwneud cais am drwydded newydd, ac mae rheolwyr safleoedd wedi gorfod pasio prawf unigolyn addas a phriodol. Nid yw Lloegr na'r Alban wedi mynd mor bell â hyn. Rydym wedi ceisio helpu preswylwyr cartrefi mewn parciau yn gyson—er enghraifft, nid yw perchnogion safleoedd yn gallu rhoi feto ar werthiant mwyach, ac mae’n rhaid ymgynghori â phreswylwyr am newidiadau i reolau’r safle. Yn ogystal, mae’n rhaid cydnabod cymdeithasau preswylwyr cymwys mewn ffordd gytbwys, a bydd hyn yn parhau i fod yn wir.

I droi’n ôl at y gyfradd comisiwn, mae adroddiad yr ymgynghorwyr yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater cymhleth a allai beri canlyniadau sylweddol. Roedd yr ymgynghorwyr yn wynebu nifer o heriau wrth lunio eu hadroddiad. Er gwaethaf y ffaith bod dros hanner cyfanswm nifer y gweithredwyr parciau wedi cymryd rhan yn yr ymchwil, dim ond chwarter y gweithredwyr a roddodd wybodaeth ariannol fanwl. Mae hyn yn siomedig ac yn golygu ei bod yn anodd deall yn llawn economeg y diwydiant ar hyn o bryd ac union oblygiadau gwneud unrhyw newid i'r gyfradd comisiwn. Yn yr un modd, Lywydd, nid wyf yn argyhoeddedig ychwaith, yn absenoldeb darlun cyflawn a dibynadwy o economeg y diwydiant, bod achos wedi’i wneud i gynnal y status quo. Yn wir, rwyf wedi cael sylwadau cryf iawn sy'n awgrymu y gall fod rheswm da i leihau neu hyd yn oed ddiddymu’r gyfradd comisiwn. Yn amlwg, mae'n rhaid imi seilio fy mhenderfyniad terfynol ar y dystiolaeth orau bosibl. Hoffwn, felly, wahodd perchnogion y cartrefi mewn parciau i adael imi gael y dystiolaeth y credant y byddai'n cyfiawnhau gadael pethau fel ag y maent. O ystyried y prinder gwybodaeth a gyflwynwyd i'r ymgynghorwyr, byddai'n arbennig o ddefnyddiol cael tystiolaeth ariannol a dynnwyd o gyfrifon busnes perchnogion safleoedd a ffynonellau perthnasol eraill a allai fod ganddynt.

Bydd yr opsiynau y byddaf yn eu hystyried yn cynnwys lleihau neu hyd yn oed ddiddymu’r gyfradd comisiwn, sef, ar hyn o bryd, yr hyn yr wyf yn ffafrio ei wneud, ond ni wnaf ymrwymo ymhellach ar hyn o bryd gan nad wyf am achub y blaen ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus sydd ar ddod. Mae'r adroddiad yn awgrymu bod nifer o safleoedd cartrefi mewn parciau yn gweithredu naill ai ar golled neu ag elw bach yn unig. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am wybodaeth ariannol ystyrlon oherwydd, yn ogystal â bod yn deg â phreswylwyr, yn enwedig o ran eu gallu i gael cartrefi iddynt eu hunain, mae angen inni sicrhau nad ydym yn cael effaith anfwriadol ar hyfywedd hirdymor y sector cartrefi mewn parciau yng Nghymru ychwaith, sydd yn gyffredinol yn cynnwys safleoedd llai na'u cymheiriaid yn Lloegr. Fy mlaenoriaethau portffolio yw lles a ffyniant economaidd. Yn amlwg, felly, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn taro cydbwysedd rhwng cynaliadwyedd y sector a buddiannau preswylwyr. Bydd hyn yn gofyn am asesiad manwl o'r achos busnes dros newid, ond rwy'n hyderus y gallwn gynnal yr ymarfer hwn gyda chyfranogiad llawn perchnogion safleoedd a phreswylwyr cartrefi mewn parciau.

Lywydd, byddaf nawr yn ceisio ymgysylltu â phawb dan sylw, drwy gyrff cynrychioliadol ar gyfer preswylwyr a pherchnogion safleoedd a drwy fwy o ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgynghori. Hoffwn i bawb, ar bob ochr i'r ddadl, gael cyfle teg a chyfartal i ddweud eu dweud, cyflwyno eu tystiolaeth, a chyfrannu at y ddadl. Nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yr wyf wedi ei gweld hyd yma yn dangos ei bod yn ddymunol gadael pethau fel y maent. Rwy'n mawr obeithio y bydd pawb sydd â diddordeb yn manteisio ar y cyfle y byddwn yn ei ddarparu nawr i gyflwyno gwybodaeth bellach a chraffu’n fanylach ar y dystiolaeth sydd ar gael. Rwy’n bwriadu dechrau ymgysylltu ar unwaith a byddaf yn ymgysylltu â'r cyrff sy'n cynrychioli’r ddwy ochr, sef preswylwyr a pherchnogion safleoedd. Byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn gynted a bod hynny’n ymarferol.

Lywydd, rwy’n gobeithio y bydd yr ymgysylltiad hwn yn rhoi mwy o eglurder ynghylch y materion ac yn fy ngalluogi i gymryd golwg gytbwys ar y camau nesaf o ran y gyfradd comisiwn. Yn y cyfamser, bydd fy swyddogion yn bwrw ymlaen â datblygu canllawiau arfer gorau ac yn rhoi sylw i argymhellion eraill yr adroddiad. Diolch.

Diolch am eich datganiad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn hapus i ddweud ein bod ar ochr perchnogion y cartrefi mewn parciau ac nid y landlordiaid yn yr achos hwn. Mae'r comisiwn o 10 y cant yn annheg. Nid wyf yn meddwl y gallai fod unrhyw gasgliad arall. Mae ffi comisiwn fympwyol o 10 y cant i'r landlord ar ben unrhyw ffi arall y gallai fod yn rhaid i werthwr ei thalu yn ystod proses yn rhywbeth nad ydym yn ei weld fel bod yn dderbyniol.

Rydym yn gwybod nad oedd y ddeddfwriaeth yn nodi diddymu'r ffioedd oherwydd pryderon y byddai ffioedd llain a thaliadau cynnal a chadw yn cynyddu. Rydym wedi edrych ar hyn ac nid ydym yn argyhoeddedig bod hyn yn wir. A dweud y gwir, rydym yn meddwl bod lle hefyd i ddefnyddio rhai o'r mecanweithiau sydd gennym i atal hyn rhag digwydd beth bynnag.

Mae'r datganiad yn nodi y gall economeg y diwydiant fod mewn perygl ac, yn amlwg, bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn taflu goleuni ar economeg ehangach y busnes. Ond, mae'n amlwg yn annheg cadw comisiwn o 10 y cant ar werthiant i gadw'r diwydiant yn hyfyw gan ei fod yn cosbi perchnogion y cartrefi, a bydd llawer ohonynt yn oedrannus ac wedi ymddeol. Felly, a fydd ef yn fodlon edrych ar ffyrdd eraill y gellid cefnogi safleoedd neu hyd yn oed ffyrdd i’r preswylwyr eu hunain gymryd yr awenau os aiff y perchennog i'r wal? Rwy'n meddwl y gallai fod gwerth inni edrych ar fodel perchenogaeth gydweithredol, er enghraifft.

Rydych hefyd yn dweud y byddwch yn ymgynghori ar y cynnig i leihau neu ddileu'r ffioedd. Hoffwn ddeall ai un o ymgynghoriadau arferol y Llywodraeth fydd hwn: ddim yn hygyrch i lawer o bobl ac wedi’i ogwyddo o blaid budd y diwydiant. Sut yr ydych chi wir yn mynd i sicrhau eich bod yn cyrraedd nifer fawr o bobl, gan gynnwys, er enghraifft, pobl a oedd yn arfer bod yn berchen ar gartref mewn parc ac nad ydynt bellach oherwydd arferion rhai o'r perchnogion safleoedd dywededig hyn? Rwy'n siŵr y gallai’r bobl hyn roi mewnwelediad a mewnbwn pwysig i'r broses o wneud penderfyniadau a hoffem glywed ganddynt hwythau hefyd.

Mae eich datganiad hefyd yn nodi’r rhwystredigaeth sydd gan lawer o bobl ynglŷn â biliau ynni. Rydym yn gwybod am rai enghreifftiau o arfer rhagorol a chynlluniau lle mae preswylwyr yn prynu swmp o danwydd i gael gostyngiadau. Felly, rwy'n meddwl tybed a ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn meddwl y dylai fod cynlluniau o'r fath yn orfodol, neu o leiaf ar gael yn eang fel bod mwy o bobl yn ymwybodol ohonynt ledled Cymru.

Yn olaf, yn amlwg mae deddfwriaeth newydd yn mynnu bod landlordiaid preifat yn cael hyfforddiant fel eu bod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau. Rwy’n meddwl tybed, yn rhan o'r broses drwyddedu a'r prawf unigolyn addas a phriodol, a allech chi edrych ar ba un a fyddai hyfforddiant gorfodol o werth i landlordiaid cartrefi mewn parciau. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i chwestiynau. Yn gyntaf oll, yr hyn mae'n rhaid inni ei ddeall yn llawn, ac rwy’n meddwl fy mod wedi cyfleu hynny drwy'r datganiad heddiw, yw economeg y parc. Roedd hyfywedd ariannol yr adroddiad yn amheus o ran y manylion a gawsom yn ôl a dyna pam nad wyf wedi gallu gwneud penderfyniad. Ond, rwyf yn ddeall y bydd rhai parciau’n cynnwys cyfradd comisiwn o 10 y cant yn eu cynlluniau busnes. Mae'n rhaid i ni ddeall hynny’n well, a phan gawn dystiolaeth yn ôl ganddynt, byddwn yn deall hynny’n llawn.

Rwy’n anghytuno ag awgrym yr Aelod bod ein hymarferion ymgynghori wedi’u gogwyddo i un ochr, wedi’u gogwyddo tuag at fusnesau, ac ati—nid yw hynny’n wir. Bydd hwn yn gyfle llawn, agored a thryloyw i bob ochr neu bawb â diddordeb i gymryd rhan. Mae fy nhîm eisoes yn dechrau cynllunio sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid, sef y perchnogion safleoedd a’r preswylwyr, sy’n broses bwysig.

Mae'r Aelod yn ehangu’r cwmpas o ran cyfle’r datganiad hwn ynglŷn â biliau ynni ac arfer gorau. Byddaf yn edrych ar gyhoeddi canllawiau o gwmpas hynny. Mae'r Aelod yn codi rhai materion, neu gyfleoedd efallai, hyfforddiant ac ati, a hyfforddiant gorfodol. Rhoddaf ystyriaeth bellach i hynny. Yn wir, mae modelau cydweithredol o berchnogaeth safleoedd yn rhai y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt. Rwyf eisoes wedi siarad â fy nghydweithiwr Jeremy Miles, a gododd hynny ar ymylon y trafodaethau yn gynharach heddiw. Wrth gwrs, rwy’n meddwl mai’r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod gennym ddiwydiant cynaliadwy, gan fod pobl yn byw yno, ond gwneud yn siŵr ei fod yn deg i bawb.

A gaf i ddweud fy mod yn cytuno â chraidd adroddiad yr ymgynghorwyr, yn enwedig o ran codi ymwybyddiaeth preswylwyr o natur a maint y trefniadau cytundebol, canfod arfer gwael a’i unioni a mentrau i reoleiddio ac, os yn bosibl, lleihau costau ynni? Felly, ar y darn hwnnw nad yw'n ymddangos yn ofnadwy o ddadleuol ac a fyddai o fudd i'r sector cyfan, tybed pryd y byddwch yn cyflwyno cynigion i sicrhau bod y rhan honno o adroddiad yr ymgynghorwyr yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Yna rydym yn dod at ran arall y mater, sef y ffioedd comisiwn. Rwy'n meddwl ei fod yn iawn i ddechrau â’r datganiad hwnnw, ond cynaliadwyedd y sector hwn yw'r peth cyntaf, oherwydd os bydd llawer yn gadael, ac yn sydyn, yna bydd hynny'n achosi problemau enfawr. Felly, mae angen inni fod yn fwy ymwybodol o economeg y sector arbennig hwn. Mae, yn wir, yn siom nad oedd hyn yn ddigon clir yng ngwaith yr ymgynghorydd ac rwy’n meddwl y byddem i gyd yn annog perchnogion safleoedd, os ydynt wedi bod yn amharod hyd yn hyn i gyflwyno'r wybodaeth ariannol, eu bod nawr yn cymryd rhan, oherwydd yn ôl pob tebyg bydd angen inni weithredu yn y maes hwn, ac mae angen inni ddeall y sail dystiolaeth yn llawn i wneud y polisi cyhoeddus mwyaf cydlynol posibl.

Ac rwy’n meddwl eich bod yn iawn: y nod yw taro cydbwysedd rhwng cynaliadwyedd y sector a buddiannau preswylwyr, ac yn y fan yna, wyddoch chi, mae cysyniad o elw rhesymol, y mae'n rhaid inni ei wynebu. Yn gyffredinol, nid wyf yn hoffi cyfraddau comisiwn. Rwy'n meddwl y dylai fod yn rhent neu’n gost y llain ar y safle. Dyna, wir, yw’r lle mwyaf rhesymegol i ganolbwyntio ar gostau darparu’r gwasanaeth hwnnw ac mae hefyd, o bosibl, yn fwy sefydlog, oherwydd, ar y funud, os yw wedi’i ymwreiddio yn y model busnes, mae elfen o siawns o ran pryd yr ydych chi’n mynd i gael y comisiwn—yn amlwg, mae hynny’n ddibynnol ar bobl yn gwerthu. Felly, rwy’n gobeithio bod strwythur mwy rhesymegol yn aros i gael ei ddarganfod yn weddol fuan. Hoffwn wybod pa amserlen yr ydych yn mynd i’w gosod ar gyfer yr ymgynghoriad, oherwydd rwy’n meddwl yr hoffai pobl weld gweithredu’n weddol fuan, ond, yn amlwg, mae casglu'r sail dystiolaeth, mae’n siŵr y bydd hynny’n cymryd peth amser. Rwy’n meddwl, efallai, bod paratoi am i rai perchnogion safleoedd adael—rwy’n gobeithio nad yw'n nifer fawr, ond rwy’n meddwl bod angen i hynny bellach fod yn rhan o ddatblygiad polisi cyhoeddus yn y maes hwn. Yn olaf, dywedasoch, 'diddymu neu leihau'. Wrth gwrs, mae’r comisiwn hwn eisoes wedi cael ei leihau amser maith yn ôl erbyn hyn—1983, rwy’n meddwl—pan ddaeth i lawr o 15 y cant i 10 y cant. Felly, pe byddech yn ei leihau i rywbeth fel 8 y cant, rwy’n meddwl y gallai pawb feddwl bod hwnnw’n bolisi gwael. Mae'n ymddangos i mi mai eich dewis yw ei ddiddymu neu ei adael fel ag y mae. Tybed a ydych chi’n mynd i ddiystyru ymyrryd â’r gyfradd a chadarnhau yn lle hynny eich bod am ateb y cwestiwn hwn yn llawn, oherwydd mae’n hen bryd, a dweud y gwir, inni roi eglurder yn y sector hwn. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy’n meddwl bod yr Aelod, mewn egwyddor gyffredinol, yn gefnogol i'r datganiad heddiw. Wrth gwrs, o ran yr argymhellion eraill heblaw am y comisiwn, mae fy nhîm eisoes wedi dechrau gweithio ar hynny a byddwn yn gobeithio cyhoeddi rhywfaint o arweiniad tuag yr hydref. O ran y gyfradd comisiwn yn benodol, rwy’n disgwyl i’r broses lawn o ymgysylltu ac ymgynghori ddechrau o gwmpas amser y Pasg ar gyfer proses ymgynghori lawn 12-wythnos i bobl â budd gymryd rhan ynddi. Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau ar y rhestr o bobl y mae angen iddynt ymgysylltu'n bersonol â nhw, ni waeth beth yw cynigion yr ymgynghoriad.

Mae’n siŵr y byddwn yn anghytuno â’r Aelod ar hyn o bryd o ran y datganiad a wneuthum ynglŷn â naill ai leihau neu ddiddymu. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn deall economeg y parciau yn llawn, a dyma'r rheswm pam yr wyf yn gwneud hyn. Yn seiliedig ar yr adroddiad—a'r anhawster a gawsom o ran cyflwyno cyfrifon oedd y diffyg tystiolaeth yno. Felly, gallwn, ar sail yr adroddiad yn unig, droi at ymgynghoriad ar y sail ein bod yn mynd i ddiddymu’r cyfraddau hyn. Rwy'n meddwl ei bod yn deg inni gydnabod bod yn rhaid inni fod yn gefnogol o fusnes hefyd. Rwy’n cydnabod eu bod yn darparu gwasanaeth tai i lawer o bobl ledled Cymru. Byddaf yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd gan berchnogion parciau, ond bydd yn ddarn cadarn o waith. Rwy’n hyderus y gallwn wneud hynny. Ni fydd methiant i gyflwyno'r cyfrifon na thystiolaeth i awgrymu bod eu busnesau’n economaidd anghynaliadwy yn ddigon da imi oni bai bod gen i dystiolaeth i ategu hynny, a byddaf yn bwriadu, fel y dywedais, lleihau neu ddiddymu, os yw’r broses yn symud ymlaen.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn bresennol, gydag Aelodau eraill, yn amser cinio lobïo preswylwyr cartrefi mewn parciau ac rwy’n cydnabod eu pryder, gan fod llawer ohonynt ar incwm isel, wedi ymddeol, y byddent yn hoffi gweithredu ar y taliadau hyn, ac rwy’n croesawu’n gryf eich awgrym eich bod yn bwriadu naill ai leihau neu ddiddymu’r ffi. Yn amlwg, mae angen gwneud penderfyniad cytbwys, ac rwy’n cefnogi'n gryf yr awgrym, os gostyngir y tâl a bod hynny’n gwneud y busnes yn anhyfyw, y byddai’r Llywodraeth yn mynd ati’n weithredol i alluogi ateb cydweithredol—nid dim ond bod yn barod i fod yn agored i hynny, ond darparu'r cyllid a'r gefnogaeth i wneud hynny’n ddewis dichonadwy ar gyfer safleoedd llai. Wrth gwrs, nid yw pob safle’n safle llai—rwy’n cydnabod y broblem sydd gennych â'r sail dystiolaeth—mae llawer ohonynt yn rhan o gwmnïau corfforaethol mwy, a fyddai'n gallu amsugno'r ffi. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a fyddwch chi’n gwneud yn siŵr wrth ystyried hyn bod unrhyw gyfleoedd eraill i gynyddu taliadau eraill, pe byddai’r comisiwn yn cael ei leihau, yn cael sylw ac yn cael eu hatal yn syth?

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a diolch am ei gyfraniad. Rwy'n meddwl mai’r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall yn llawn natur y busnesau a sut y maent yn gweithredu yma yng Nghymru. Rydych yn iawn i ddweud bod llawer mwy o weithredwyr llai na rhai mwy yng Nghymru, a beth mae hynny’n ei olygu o ganlyniad—ni fyddwn eisiau cael gwared ar y gyfradd comisiwn pe byddem yn gwybod, yn gyffredinol, bod hyn yn cael effaith anffafriol ar allu parciau i fod yn gynaliadwy, oherwydd mae hynny’n groes i’r diben, ac, mewn gwirionedd, byddwch yn cau'r parc ac yn gwneud 30 o bobl yn ddigartref, neu 60 o bobl yn ddigartref, ac nid dyna ein bwriad. Mater o degwch yw hyn, a’r gallu i fforddio llety teg ar barciau, ac, yn wir, mae pwynt David Melding yn gynharach am y broses gomisiynu, mae'n—ni allwch gynllunio, oherwydd nid ydych yn gwybod pryd fydd pobl yn gadael y parciau. Felly, roeddwn yn synnu bod pobl yn cynnwys hynny yn eu cynllun busnes yn y lle cyntaf, oherwydd efallai na wnaiff neb adael am 10 mlynedd, ac felly ni fydd unrhyw gyfraddau comisiwn. Felly, nid yw'n swnio’n hollol glir imi o ran penderfynu ar eu cyfrifon.

Yr hyn sy'n allweddol yn y fan yma yw cael rhai sgyrsiau agored â pherchnogion parciau i sicrhau eu bod yn gallu dangos bod newid yn y gyfradd comisiwn yn mynd i gael effaith andwyol ar eu busnes. Os na chaf y dystiolaeth i ategu hynny, byddwn yn symud mewn cyfeiriad i leihau neu ddiddymu’r cyfraddau hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rydym yn croesawu'r datganiad, oherwydd rydym ni yn UKIP yn llawn cydymdeimlad o bryderon preswylwyr y cartrefi mewn parciau. Mae rhai o'r Aelodau UKIP wedi bod yn cwrdd heddiw â’r preswylwyr, a daeth yn amlwg mai un o'u pryderon parhaus yw bod llawer ohonynt yn gweld ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ddim ond ffordd o gicio mater y comisiwn gwerthu dros yr ystlys. Mae deiseb wedi bod yn cylchredeg yn y Cynulliad ers 2013 ar y mater hwn. Cafwyd trafodaeth yn 2014, pryd yr addawodd y Gweinidog ar y pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud ymchwil i effaith economaidd y gyfradd comisiwn—felly, rydym wedi cymryd amser eithaf hir i gyrraedd y pwynt hwn. Rwy’n deall bod angen casglu tystiolaeth cyn i'r Llywodraeth wneud penderfyniad, ond byddwn yn gofyn, fel fy nghwestiwn cyntaf, pam mae wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y fan yma.

Yn ail, mae llawer o'r preswylwyr wedi cwyno am yr anhawster o gwrdd â Gweinidogion fel grŵp preswylwyr, felly a oes gennych nawr gynlluniau i gwrdd â’r preswylwyr yn rhan o'ch ymgynghoriadau? Rydym yn teimlo yn UKIP nad yw’r gwasanaeth yr oedd perchnogion y cartrefi mewn parciau yn arfer ei ddarparu i hwyluso gwerthu’r cartrefi hyn yn cael ei ddarparu mwyach, felly nid yw’r comisiwn o 10 y cant, erbyn hyn, yn ddim mwy na threth gwerthiant. Yn anffodus, mae llawer o'r preswylwyr, fel y mae siaradwyr eraill wedi’i nodi, yn bobl oedrannus, ac mae rhai ohonynt angen symud i dai gwarchod. Mae'r dreth o 10 y cant a godir arnynt yn cyfyngu’n ddifrifol ar eu cyfalaf, ac felly’n cyfyngu ar eu gallu i symud i mewn i lety addas arall. Felly, byddem yn eich cefnogi pe byddech yn dymuno symud tuag at ddiddymu'r comisiwn. A ydych yn gweld y comisiwn yn yr un modd, fel baich ariannol diangen ac annheg, ac a fyddech yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw marchnad dai fwy hyblyg, a fyddai'n fwy cyraeddadwy pe byddech yn bwrw ymlaen ac yn diddymu'r comisiwn? Nawr, rwy’n gwerthfawrogi'r ffaith bod angen cydbwysedd yn eich ymchwiliad, ac rwy’n croesawu eich sylwadau y byddech yn dangos agwedd gadarn tuag at ymgynghoriadau pellach, yn enwedig â pherchnogion parciau, oherwydd, os ydynt yn dymuno gwneud achos y gallai eu busnes fod yn anhyfyw heb ddim comisiwn, eu lle nhw, mewn gwirionedd, yw darparu'r dystiolaeth honno. Diolch.

Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol. Rwy'n meddwl y dylai'r Aelod gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar ran ei blaid os dyna mae'n dymuno ei wneud. Rwyf i wedi cwrdd â phreswylwyr cartrefi mewn parciau a pherchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau yn y gorffennol ac mae'n anffodus fy mod—fel Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion rydym yn cael llawer o geisiadau gan unigolion i gwrdd â nhw; mae’n gorfforol amhosibl inni wneud hynny oherwydd ymrwymiadau’r dyddiadur. Ond yr hyn yr wyf wedi ymrwymo i’w wneud yn ystod yr ymgynghoriad 12 wythnos—a chyn hynny, mae fy nhîm eisoes yn cynllunio i gwrdd â rhanddeiliaid, felly, grwpiau cymdeithas y preswylwyr, gyda chyrff cynrychioliadol perchnogion y safleoedd cartrefi mewn parciau, a byddwn yn gwneud hynny drwy broses agored a thryloyw. Mae gennyf lawer o lythyrau gan lawer o Aelodau: Lesley Griffiths, Jane Hutt, a llawer o rai eraill sydd wedi ysgrifennu ataf; mae Kirsty Williams yn ysgrifennu ataf bob yn ail wythnos am faterion cartrefi mewn parciau. Rwyf wedi gwneud ymrwymiad i edrych ar hyn yn fanwl a gwneud penderfyniad eleni am yr hyn y byddwn yn ei wneud ac a oes angen inni ddeddfu neu beidio neu a ydym yn diddymu’r cyfraddau comisiwn hynny neu’n eu cadw. Ond nawr, fel y dywedodd yr Aelod yn gwbl briodol, lle perchnogion y safleoedd cartrefi mewn parciau yw dangos imi y byddai eu busnesau’n mynd yn anhyfyw pe byddem yn diddymu'r cyfraddau comisiwn neu’n gwneud newidiadau iddynt.

5. 6. Datganiad: Menter Ymchwil Busnesau Bach

Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth ar Fenter Ymchwil Busnesau Bach a galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein menter ymchwil busnes bach. Yn 2013, roedd ein strategaeth 'Arloesi Cymru', ymysg pethau eraill, yn argymell defnyddio rhagor o ddychymyg wrth arloesi gyda chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a chaffael Llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, mewn partneriaeth ag InnovateUK, rhoddodd Llywodraeth Cymru raglen catalydd gwerth £3 miliwn ar waith i ysgogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru a busnesau Cymru i gymryd rhan yng nghystadlaethau’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Cafodd model y DU ei seilio ar raglen hirsefydlog yn yr Unol Daleithiau, sef ymchwil arloesi busnes bach. Drwy weithio gyda busnesau bach a chanolig eu maint, mae hon yn gwario tua $2.5 biliwn yn flynyddol, wrth ddatblygu datrysiadau ar gyfer anghenion y llywodraeth ffederal, a chan ddefnyddio gwariant caffael, nid grantiau gan lywodraeth. Yn y DU, mae contractau’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach gyda chwmnïau wedi cynyddu o fod yn llai na £15 miliwn yn 2010 i fod dros £50 miliwn eleni. Datblygwyd ystod eang o ddefnyddiau a datrysiadau arloesol, a chydnabuwyd rhinweddau mecanwaith y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn eang dros lywodraeth a diwydiant. Yng Nghymru, mae’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn helpu i drawsffurfio problemau ymarferol yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â helpu wrth ddatrys rhai o heriau mawr cymdeithas, a ddaeth i’r amlwg yn 'Arloesi Cymru'.

Mae pob cystadleuaeth gan y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn canolbwyntio ar adran yn y gwasanaeth sector cyhoeddus lle nad oes datrysiadau i’w cael hyd yn hyn neu lle y byddai modd i wella datrysiadau rhannol. Mae rownd gyntaf ein cystadlaethau wedi ennyn diddordeb gwirioneddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yr heriau’n cynnwys problem cyngor Caerdydd gydag ôl-ffitio datrysiadau ynni effeithlon o fewn ei adeiladau traddodiadol a hanesyddol, ymgyrch Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i wella iechyd a lles ein pobl drwy ddefnydd gwell o ddata iechyd cyfunol, materion Adnoddau Naturiol Cymru yn ymwneud â rheoli symudiadau da byw er mwyn lleihau’r effaith sydd gan amaethyddiaeth ar ansawdd dŵr, ac uchelgais Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gofal cleifion drwy helpu nyrsys a gofalwyr i gwtogi ar eu dyletswyddau gweinyddol, a rhoi mwy o sylw i gleifion o’r herwydd. Y nod ar gyfer yr her honno oedd bod nyrsys yn treulio 10 y cant yn fwy o amser gyda chleifion, a meddyliwch chi pa mor werthfawr fyddai’r 10 y cant o amser hwnnw yng ngolwg y cleifion hynny a’u perthnasau, ac o ran effeithlonrwydd yr ysbyty. Ar ôl dwy flynedd o gydweithrediad ymarferol rhwng nyrsys yn yr ysbyty a dechrau busnes bach ym Mangor, mae prototeip meddalwedd wedi ei ddatblygu yn ddatrysiad a allasai gynyddu amser y nyrsys gyda’r cleifion nid gan y 10 y cant a addawyd ond, fe allai fod, hyd at 23 y cant. Mae llwyddiant yr heriau cychwynnol hyn yn dangos i ni sut y gall y sector cyhoeddus fod yn gwsmer arweiniol effeithiol a deallus gan helpu i hybu cwmnïau arloesol Cymru a chreu swyddi, twf a lles i Gymru.

Rwyf yn awr yn dymuno gweld mwy o fusnesau bach a chanolig yn cymryd rhan ym mhroses gaffael y sector cyhoeddus, er mwyn defnyddio cyllid ymchwil a datblygu i fagu datrysiadau newydd i broblemau caled. Ac rwyf yn dymuno i’r heriau fod yn berthnasol i’r gymdeithas, a’u bod o fantais wirioneddol i bobl Cymru. Rydym wedi dysgu oddi wrth y cynlluniau peilot fod parodrwydd cynyddol yng Nghymru i arloesi dros y sector cyhoeddus. Felly, ar y cyd ag InnovateUK, rydym wedi estyn dwy alwad arall. Wrth i’r rhaglen fynd o nerth i nerth, bydd lleihad yng nghyfradd yr ymyrraeth gyhoeddus â’r rhain wrth i'r manteision i bawb dan sylw gael eu nodi a'u deall. Er nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu i fusnesau bach, gwelwyd cynrychiolaeth gref yn y cystadlaethau gan ein busnesau bach a chanolig. Bydd lefelau’r ariannu yn amrywio, ond bydd prosiectau yn para am ddwy flynedd neu ragor fel arfer, gyda chyllid cychwynnol o hyd at £100,000 ar gyfer pob cwmni llwyddiannus. Bydd y goreuon yn gallu cystadlu wedyn am gontractau pellach o hyd at £1 miliwn a mwy i ddatblygu’r wedd fasnachol ar eu syniadau.

Yn unol â’r rhaglen, rydym wedi cefnogi Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn cael gwelliant yn adferiad rhywogaethau cynhenid ac ansawdd pridd, a fydd yn gwrthsefyll yn erbyn effeithiau rhywogaethau estron ymosodol fel clymog Japan. Rydym wedi cefnogi gwasanaeth anafiadau i'r ymennydd gogledd Cymru wrth annog cleifion i fod yn annibynnol gyda’u tasgau coginio, i leddfu'r wasgfa sydd ar ofal cymdeithasol a gwella ansawdd bywydau pobl. Rydym yn helpu Heddlu De Cymru gyda datblygiad arloesol offer dadansoddol rhagfynegol, a fydd yn gwneud defnydd amgen o'u hadnoddau ac yn rhoi gwasanaeth gwell i gymunedau’r De.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio’r rhaglen yn llwyddiannus. Cynhaliodd ein hadran drafnidiaeth gystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach i ddatblygu datrysiadau ar gyfer lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Dewiswyd dau brosiect ac mae'r un cyntaf wedi ei gwblhau nawr. Mae Armourgel Cyf wedi datblygu leinin i helmed beic modur a fydd yn lleddfu’r cywasgiad sydd ar ben beiciwr mewn gwrthdrawiad. Gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng anaf difrifol i’r ymennydd a mân anaf iddo. Mae'r ail brosiect wedi datblygu system rybuddio ar gyffordd, a fydd yn cael ei dreialu cyn bo hir ar ffyrdd Cymru.  Bydd y prosiect hwn yn gallu rhoi’r system ar brawf yn ystod prif dymor beicio modur. Erbyn mis Medi, bydd y cwmni wedi cwblhau’r profion ar y system ym mhob tywydd a bydd yn adrodd am ei phosibiliadau masnachol. Mae gan y ddau brosiect hyn y potensial i achub bywydau beicwyr modur, nid ar ffyrdd Cymru yn unig, ond dros y byd.

Mae’r rhaglen hon nid yn unig yn hyrwyddo newid yn niwylliant y sector cyhoeddus; ond cafodd ei harddangos gan Innovate UK yn enghraifft o arfer gorau. Mae rhanbarthau datganoledig eraill yn dysgu o esiampl Cymru, ac mae hefyd yn ennyn diddordeb yn Iwerddon, Sweden ac Awstralia. Hyd yma, mae 29 o gontractau sector cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygu wedi eu rhoi i fusnesau Cymru, sy’n werth dros £1.8 miliwn. Ac mae 66 contract i gyd, sy’n werth £4.9 miliwn, wedi eu rhoi gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae dros 300 o fentrau wedi derbyn cymorth, a thros £2 miliwn o arian cyfatebol wedi cael ei ddenu i Gymru o adrannau Innovate UK a Llywodraeth y DU. Cafwyd cydweithrediad ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Adnoddau Naturiol Cymru, yr heddlu ac adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU. Hyd yn hyn, mae tair adran yn y Llywodraeth ganolog wedi cyfrannu'n ariannol at heriau sydd wedi eu harwain gan Gymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Innovate UK wrth iddyn nhw geisio gwneud y mwyaf o effaith y Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Fy mwriad ar hyn o bryd yw bod ein rhaglen Menter Ymchwil Busnesau Bach yn offeryn prif ffrwd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan hyrwyddo arloesi a hybu ein potensial technolegol. Gall y Fenter Ymchwil Busnesau Bach agor y drws i gyfleoedd enfawr i fusnesau Cymru a gall helpu wrth ddatrys rhai o'r heriau mawr y byddwn i gyd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu ei defnyddio. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r bwriad hwn. Diolch.

Pleser i mi yw cael dilyn y Gweinidog a’i chanmol am y datganiad hwn, ac yn wir am y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu wrth roi arloesedd nid yn unig wrth galon caffael cyhoeddus ond wrth galon polisi cyhoeddus hefyd. Rydym wedi clywed lawer gwaith, mi dybiaf, y sector cyhoeddus, gyda chyfiawnhad mae’n debyg, yn cael ei phardduo am fabwysiadu dull sy'n aml yn isel ei gost o ran ystyriaethau ehangach gwerth a chyfle, ac yn sicr yn un sydd yn osgoi risg. Mae'r rhaglen hon yn gwbl groes i hynny, ac fel yr oedd hi’n iawn i’w ddweud, cafodd ei modelu yn wreiddiol ar brosiect ymchwil arloesi busnes bach yn America, yr wyf yn deall ei fod ar fin cael ei ddiddymu gan Arlywydd Trump. Felly, mae hynny yn rheswm arall dros gredu ein bod fwy na thebyg ar y trywydd cywir o ran hyrwyddo’r dull o weithredu a amlinellwyd ganddi hi.

Byddai'n ddiddorol cael gwybod, yn yr ysbryd hwn o gefnogaeth eang, ychydig mwy am yr hyn y bwriedir ei wneud i ehangu’r prosiect hwn, a hynny o ran arian parod ac o ran maint y rhaglen. Ond hefyd hoffwn gael gwybod i ba raddau y gallai fod yn fwy yn y brif ffrwd. Clywsom y Gweinidog yn cyfeirio at gyfres o alwadau. A allem ei wneud yn gyfundrefnol i bob pwrpas, mewn ystyr mwy sylfaenol, fel ei fod yn rhan annatod, nid yn elfen ymylol o’n harferion caffael cyhoeddus, ond wrth galon caffael? Rydym yn deall o adolygiad Academi Frenhinol Peirianneg o'r fenter yn Lloegr bod rhywfaint o broblem ynglŷn â’r dull o fesur yr effeithiau. Ac, mewn gwirionedd, rwy’n ei chymeradwyo hi’n fawr hefyd am fywiogi rhai o’r straeon hyn am arloesi. Rydym yn aml yn siarad yn fras iawn am bolisi cyhoeddus. Mae'n beth gwych i ni gael y manylion yn eu llawnder a chlywed am yr effeithiau gwirioneddol sydd o wir bwys o ran gwella ansawdd bywyd pobl Cymru.

Ond fel yn achos pob rhaglen, mae'n bwysig ein bod yn cael rhywfaint o fetrigau. Ac er mai ansoddol fydd rhai ohonyn nhw, ac oherwydd eu natur, bydd yn rhaid i rai ohonyn nhw fod yn hirdymor, rwy’n credu mai da o beth bob amser yw cael rhai rhifau hefyd. Ac felly, byddai gennyf ddiddordeb gweld—. Rwy’n gwybod nad oes gennym ar hyn o bryd, o bosib, fframwaith gwerthuso manwl. Wrth ehangu'r rhaglen, byddwn yn ei hannog i edrych ar y math o fetrigau effaith arloesedd o ran elw o fuddsoddiad arloesedd ac ati y gellid eu rhoi ar waith.

Ac yn olaf, yn ysbryd gwneud y dull hwn yn un cyfundrefnol, a chredaf fod hynny’n beth cyffrous iawn, gwelwn gyfle yma i wneud cenedl y Cymry yn fainc arbrofi ac y bydd y byd, mewn gwirionedd, yn cyrchu at ei drws, am ein bod ni’n dda iawn am nodi datrysiadau arloesol i'r union heriau mewn gwasanaethau cyhoeddus a pholisi cyhoeddus y mae'r byd yn eu hwynebu. A gawn ni, yn yr ysbryd hwnnw, weld creu corff arloesi cenedlaethol a fydd yn adeiladu ar y sylfeini ardderchog sydd wedi eu gosod yn y rhaglen hon, ond a fydd yn gallu mynd rhagddo yn wir ar y sail honno a rhoi enw da i Gymru fel cenedl sy’n arloesi?

Diolch am hynny, Adam Price. Rwyf yn cytuno â chi ei bod yn fenter gyffrous iawn, ac rydym wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb, fel y dywedais, o fannau eraill sydd am gael gweld sut yr ydym yn mynd ati yma yng Nghymru. Ac rwyf hefyd yn cytuno bod angen inni ddatblygu rhai metrigau wrth inni fynd yn ein blaenau. Mae llawer o hyn wedi bod, fodd bynnag, yn ymatebion penodol i heriau mawr neu broblemau penodol, a datblygu'r metrigau o ystyried y risg, os hoffwch chi, tra bod mesur yr allbwn hefyd yn dasg ynddi ei hun, ond byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Os oes gan yr Aelod unrhyw weledigaeth benodol ar sut y gellid strwythuro hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn i'w hystyried.

Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw prif ffrydio ychydig ar hynny yn y ffordd yr ydym yn ymateb i heriau a hybu rhai o'r gwelliannau technolegol gan ddefnyddio rhai o systemau data Llywodraeth sydd ar gael gennym. Efallai bod yr Aelod yn gwybod—ar wahân i hynny ar hyn o bryd, ond fe allwn integreiddio'r ddau beth—rydym hefyd wedi bod yn cynnal rhai heriau data a rhai hacathonau, fel y’u gelwir, ac anghynadleddau—mae'r rhain i gyd yn dermau cymharol newydd i mi, ond mae’r cymunedau bach o bobl sy'n eu cefnogi yn eu deall nhw—i nodi’r heriau y gellir eu datrys drwy ein setiau data hefyd, yn rhai o'r heriau craidd cymdeithasol, amgylcheddol a phrif ffrwd.

O ran y cyllidebau, maen nhw wedi eu hariannu ar hyn o bryd o gyllideb craidd Cymru. Mae'r gyllideb hyd yma wedi bod ychydig dros ryw £6 miliwn. Rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei ariannu. Rydym yn ystyried beth allai ein partneriaid yn y sector cyhoeddus ei wneud, a'r hyn y gallwn ninnau ei wneud gyda gwariant caffael, ac yn y blaen. Felly, y syniad yw ein bod yn ei yrru ymlaen i feddylfryd caffael prif ffrwd gyda golwg ar ddatrys problemau, nid ar brynu pethau yn unig.

Felly, rwyf yn cytuno i raddau helaeth â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaethoch, a byddwn yn bwrw ymlaen yn yr ysbryd hwnnw.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Fel Plaid Cymru, rydym ninnau’n falch o weld rhywfaint o gynnydd wedi bod gyda chymorth i ddatblygu rhai datrysiadau i rai o'r problemau dybryd sydd gennym, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond, wrth gwrs, roedd y fenter hon yn deillio'n wreiddiol o’r ddogfen 'Arloesi Cymru', a oedd yn nodi pedwar maes arbenigedd—cyfeiriwyd atynt fel arbenigo craff, rwy’n credu. Dyma oedden nhw: gwyddorau bywyd ac iechyd; ynni carbon isel ac amgylchedd; uwch beirianneg a deunyddiau; a TGCh a'r economi ddigidol. Tybed beth oedd cydbwysedd y ceisiadau yn y rownd gyntaf. Wnaethon nhw gyrraedd y targedau i ganfod problemau penodol y gellid eu datrys o fewn pob un o'r meysydd arbenigol allweddol hynny? Os nad oedd digon o geisiadau yn cael eu cyflwyno yn rhai o’r meysydd penodol hynny a nodwyd yn flaenorol, a wneir unrhyw ymdrech i geisio dod o hyd i rai sydd â’r posibilrwydd ganddyn nhw i roi cynnig ar fynd i'r afael â rhai o'r datrysiadau i’r problemau penodol hynny?

Rwy'n falch iawn hefyd, wrth gwrs, mai partneriaeth rhwng y cyhoeddus a’r preifat yw hon i fod. Ond yn amlwg, mae llawer o'r prosiectau yr ydych yn eu nodi—ac rydych wedi awgrymu hynny yn eich datganiad—wedi gwneud môr a mynydd o’r manteision, mae’n debyg iawn gen i, ar gyfer y sector cyhoeddus i rai o'r pethau y gweithiwyd arnynt. Ac rwyf yn clywed yr hyn a ddywedoch chi am geisio rhoi pwyslais ar y manteision ehangach, os mynnwch chi, yn enwedig i'r sector preifat hefyd er mwyn annog mwy o fuddsoddi ynddi. Pa feysydd, tybed, yr oeddech yn meddwl amdanyn nhw pan oeddech yn gwneud y datganiad arbennig hwnnw. I mi, mae'n ymddangos yn debyg iawn mai pethau fel TGCh a'r economi ddigidol—roeddem yn trafod rhai o'ch cyfrifoldebau eraill yn gynharach mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, fel argaeledd band eang, er enghraifft—gallai datrysiadau eraill gael eu datblygu gyda'r mathau hyn o gronfeydd ymchwil, a tybed a allech chi wneud sylw o ran pa mor ddymunol fyddai hynny. Mae’n amlwg, eich bod, gobeithio, yn hysbysebu’r cyfleoedd i wneud cais yn eang. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa fath o lwyfannau ydych yn hysbysebu arnyn nhw fel y gellir annog pobl a allai fod yn gwylio heddiw—busnesau bach ac ati, a chanolfannau a chyfleusterau ymchwil eraill—i fod yn ymwybodol o’r cronfeydd hyn a chael gwybod a oes modd iddyn nhw ddefnyddio rhywfaint o’r arian hwnnw?

A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd—? Rwy'n gwybod bod ein prifysgolion yn amlwg yn ganolfannau sy’n rhagori mewn ymchwil, ond mae gan ein colegau addysg bellach ran gynyddol yn y maes penodol hwn. Fe wnaethoch chi sôn am rai o'r materion sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu, er enghraifft, gyda chyngor Caerdydd, a tybed faint o ymgysylltiad, os o gwbl, sy’n bodoli rhwng y gronfa ymchwil ac arloesi benodol hon a sector y colegau addysg bellach ar hyn o bryd, ac os na, pa gamau y gallech chi yn Llywodraeth eu cymryd er mwyn cael ymgysylltiad gwell rhyngddynt.

Dim ond i gloi—ac mae hyn yn ymwneud â’r mater ehangach o gaffael, ac rwyf yn deall nad eich cyfrifoldeb chi yn gyfan gwbl yw hynny; ei fod yn fwy o gyfrifoldeb ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—ond yn amlwg, ynglŷn â chaffael, mae'n bwysig iawn fod busnesau llai a busnesau lleol yn gallu bod â rhan yn rhai o'r datrysiadau lleol y gallen nhw eu cynnig. Ond wrth i ni symud fwy a mwy tuag at strategaeth caffael mwy cenedlaethol, am resymau dealladwy, yn enwedig gydag arbedion maint, mae llawer o’r busnesau llai a’r cwmnïau llai hynny’n teimlo eu bod wedi eu gwthio i’r neilltu i raddau. Felly, tybed pa gamau a gymerwyd gyda'r gronfa hon ac efallai’n ehangach, i sicrhau bod y busnesau bach hynny a allai fod yn rhanbarthol, neu hyd yn oed yn llai, yn cael eu hannog yn weithredol i gymryd rhan yn y mathau hyn o gynlluniau cyffrous ac arloesol.

Diolch. Dyna gryn dipyn o gwestiynau amrywiol a gwnaf fy ngorau i'w hateb. O ran TGCh a band eang, er enghraifft, un o'r pethau y bydd yr Aelod yn ei wybod yw ein bod yn edrych ar yr hyn yr ydym am ei wneud ar ddiwedd y prosiect cyfredol ac ar gyfer y ganran fechan sy'n weddill o’r boblogaeth a’r safleoedd yng Nghymru nad ydyn nhw wedi eu cynnwys. Ac mae hynny’n sicr yn un o'r pethau y byddwn yn debygol iawn o ystyried eu gwneud, hynny a gwthio datrysiadau arloesol mewn meysydd penodol. Pan gawn ni fap o'r holl safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys yn y contract cyfredol, a byddwn yn ei gael yn fuan iawn, yna, byddwn yn gallu ystyried sut y gallem drefnu cystadleuaeth o'r fath. Ond mae'n enghraifft ardderchog o rywbeth a allai fod yn werth ei godi yn hyn o beth. Fel y dywedais wrth Adam Price, mae ’na ddatrysiadau TGCh eraill ar sail data a allai gydorwedd yn hapus y tu mewn i’r fenter hon hefyd.

O ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud hyd yn hyn, rydym wedi dyfarnu 44 contract ar gam cyfnod 1. Roedd pum contract bach arall a ddyfarnwyd gan ryw lun o ragflaenydd iddi, nad ydynt wedi'u cynnwys, ond mewn gwirionedd maen nhw’n rhan ohoni. Ac mae 22 ar gam cyfnod 2 hyd yn hyn. Enillwyd tri deg wyth y cant o hynny gan sefydliadau yng Nghymru a rhoddwyd 44 y cant o'r holl ddyfarniadau contract i sefydliadau yng Nghymru. Roedd gennym bump o fusnesau yng Nghymru oedd yn llwyddiannus mewn cystadlaethau Menter Ymchwil Busnesau Bach tu hwnt i Gymru, felly rydym wedi cefnogi ein busnesau i wneud ceisiadau y tu allan i Gymru. Roedd gennym bedwar corff cyhoeddus yn rhedeg mwy nag un her ar yr un pryd, ac nawr mae gennym ddau fusnes yng Nghymru sydd wedi ennill ein heriau, a fydd o bosibl yn mewnfuddsoddi.  Oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wneud, pan fyddwn yn cael rhywun sydd â diddordeb yn ateb un o'r heriau, yw eu cefnogi hefyd gyda’n rhaglenni cymorth busnes er mwyn eu perswadio i ddod i Gymru, i bob pwrpas, ac rydym yn defnyddio’r egwyddor honno i gyflawni ein hamcan. Felly, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lawer cyfrif.

Rydym yn awyddus iawn bod hyn yn dod yn ymarfer caffael safonol ac rydym yn annog busnesau bach a chanolig i wneud cais. Nid yw’n gyfyngedig i fusnesau bach a chanolig—gall unrhyw un wneud cais—ond mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cryn dipyn o ddiddordeb gan fusnesau bach a chanolig ac rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw ffordd o annog rhagor eto o fusnesau bach a chanolig i wneud cais yn y dyfodol. Y syniad yn amlwg yw gwobrwyo'r syniad da, ac yna helpu'r cwmni gyda’r ochr fasnachol, felly nid oes unrhyw faintioli yn angenrheidiol i ddechrau ar y broses honno.

Diolch. Rwy’n credu bod Darren Millar wedi gofyn cymaint o gwestiynau fel yr oedd yn siŵr o daro ar un o’m rhai i, a dyna a wnaeth gyda’i gwestiwn olaf. Nid yr union gwestiwn yr oeddwn i’n mynd i’w ofyn oedd hwnnw, ond mae'n dilyn ymlaen yn dwt iawn rywsut.

Un o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog oedd y byddai’r lefelau ariannu yn amrywio, ond mae’r prosiectau fel arfer yn para am ddwy flynedd neu ragor, gyda chyllid dechreuol o hyd at £100,000 yn arwain ymlaen at gystadleuaeth bellach ar gyfer contractau o £1 filiwn. Yn fy marn i, gellid dadlau, nid yw cwmnïau bach o reidrwydd, yn enwedig yn y sector microgwmni a'r sector ychydig mwy, yn cystadlu â'i gilydd, ond maent yn dueddol o feithrin rhwydwaith o gefnogaeth ac ennill ymddiriedaeth. Tybed a oes modd i gwmnïau wneud cais mewn clystyrau i ddatblygu prosiectau mewn clystyrau—prosiectau wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’i gilydd—er mwyn cyflawni hynny, a sut fyddai’r Llywodraeth yn sicrhau bod hynny'n digwydd. A oes cyfle arall wedyn i ddatblygu cymunedau ymarfer a rhwydweithiau addysg cymdeithasol, o ryw fath, a allai dyfu yn sgil rhai o'r cystadlaethau hyn?

Credaf fod hynna’n syniad diddorol iawn. Felly, nid oes dim i atal crynoadau o fusnesau bach, grwpiau buddiannau cymunedol—nid yw’n gyfyngedig mewn unrhyw ffordd, felly gall unrhyw un wneud cais. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y syniad o gynorthwyo crynoadau o fusnesau i wneud cais hefyd; er nad ydym wedi gwneud hynny hyd yn hyn, mae'n syniad da sy’n werth bwrw ymlaen ag ef. Does dim byd i’w atal, ond nid ydym wedi annog gwneud hynny chwaith hyd yn hyn, ond byddwn yn hapus i edrych ar hynny. Mae'n debyg y byddai rhai manion cyfreithiol i’w goresgyn, fel y rheidrwydd am endid arweiniol mewn contract ac yn y blaen, ond rwy'n siŵr y gallem esmwytháu rhai o'r anawsterau ynglŷn â hynny. Ac mae gen i ddiddordeb mawr yn y syniad o gymunedau ymarfer, y trefniant clystyru, a chynhyrchu mwy o ddatrysiadau i'r her oherwydd y clystyru ac, fel petai, y trefniant cymunedau ymarfer o fath.

Yr hyn y gallem ei wneud yw edrych i weld a allwn gynnwys asedau cyhoeddus neu gymunedol, a fyddai'n arbennig o addas ar gyfer y math hwnnw o beth. Felly, a dim ond bwrw amcan, os ydym am edrych ar brosiectau sydd yn fwy cymunedol eu natur—cadwraeth llwybrau troed, ac agor cefn gwlad, hygyrchedd, pethau fel yna—gallem annog datrysiadau i rai o'r heriau sydd gennym yng Nghymru wrth wneud ein cymunedau yn fwy cyfarwydd â'u cynefin, a chael grwpiau o fusnesau bach a chanolig, cwmnïau buddiannau cymunedol, i gymryd rhan yn hynny. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth sy’n werth edrych arno. Ac fel y dywedais wrth Darren Millar, mae'r cynllun hwn yn arbennig o fuddiol i fentrau bach neu ganolig eu maint yn ystod y camau cynnar, oherwydd rydym yn hapus i helpu a datblygu ochr fasnachol eu syniad. Felly, mae'n neilltuol o dda i gwmnïau bach yn y ffordd honno. Rydym hefyd yn hapus iddyn nhw gadw'r holl hawliau eiddo deallusol ac yn y blaen, oherwydd eu datrysiad nhw yw hyn i'n problem ni. Felly gallech weld rhai cymunedau ymarfer da a rhywfaint o gyfalaf cymdeithasol yn datblygu o rai o’r Eiddo Deallusol ac ati. Rwy’n credu ei fod yn syniad gwych sy’n werth ymchwilio iddo, a byddwn yn siŵr o’i godi yn y rownd nesaf.

6. 7. Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017

Eitem 7, sef Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017-Galwaf ar arweinydd y tŷ, Janet Hutt, i wneud y cynnig. Jane.

Cynnig NDM6265 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Bydd y rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn rhoi sylfaen gyson i bwyllgorau cynllunio yng Nghymru wneud y gorau o’u heffeithlonrwydd ac ategu penderfyniadau effeithlon. Mae'r rheoliadau yn cyflwyno argymhellion o adroddiad annibynnol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru i weithrediad pwyllgorau cynllunio yng Nghymru. Yn benodol, mae'r rheoliadau yn mynnu bod pwyllgorau cynllunio yn cynnwys rhwng 11 a 21 o aelodau, ond dim mwy na 50 y cant o gyfanswm nifer aelodau'r awdurdod lleol. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyfyngu aelodaeth y pwyllgor cynllunio i un aelod etholedig o bob ward, er mwyn sicrhau bod aelod ar gael i fod yn gynrychiolydd lleol a chymryd rhan mewn materion cynllunio lleol.

Mae'r gofynion deddfwriaethol wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a chafodd gefnogaeth sylweddol gan bob sector sy'n ymwneud â'r broses gynllunio. Mae cynigion yr ymgynghoriad eisoes wedi arwain at nifer o awdurdodau cynllunio lleol yn ymgymryd â’r gwaith eu hunain o newid maint a chyfansoddiad eu pwyllgorau cynllunio fel eu bod yn bodloni gofynion y rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno heddiw. Serch hynny, mae datblygu’r ddeddfwriaeth yn dal i fod yn bwysig. Mae maint pwyllgorau cynllunio yng Nghymru wedi amrywio’n fawr drwy’r blynyddoedd gan weld cynnydd a lleihad fel ei gilydd, a hynny’n aml ar draul perfformiad.  Mae’r risg yn parhau gan y bydd maint pwyllgorau cynllunio yn cynyddu unwaith eto, yn sgil yr etholiadau llywodraeth leol sydd o’n blaen, i lefel sy'n anfanteisiol i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod strwythurau pwyllgorau cynllunio cyfredol yn cael eu cadw, ac er mwyn helpu gyda datblygiad pwyllgorau cynllunio medrus ac effeithiol ledled Cymru. Cynigiaf y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr i ddadlau, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?  Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Symudwn ymlaen at eitem 8 ar ein hagenda, sy'n ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6262 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu manwl ar y Bil yma drwy Gyfnod 1. Diolch yn fawr hefyd i bawb sydd wedi bod yn trafod gyda ni ac wedi cyfrannu at ein syniadau wrth inni ddatblygu’r ddeddfwriaeth ar y dreth gwarediadau tirlenwi. Rydw i’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen inni sicrhau treth newydd unwaith y bydd y trefniadau presennol yn dod i ben, er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa o’r refeniw sy’n cael ei godi o dreth tirlenwi ar ôl 2018.

Maer ddau bwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion: 24 gan y Pwyllgor Cyllid a 12 gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac rydw i’n gallu derbyn y mwyafrif llethol o’r rhain. Dirprwy Lywydd, gan fod y ddau bwyllgor wedi cyflwyno adroddiadau manwl iawn ac wedi gwneud nifer o argymhellion, nid yw’n bosibl imi ymateb i bob un ohonynt yn unigol yn yr amser sydd ar gael y prynhawn yma. Rydw i felly wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y ddau bwyllgor cyn y ddadl heddiw i ymateb i bob un o’r argymhellion.

Dirprwy Lywydd, before turning to some of the detailed matters raised in those reports, I thought it would be useful to begin this afternoon by addressing two general issues raised in different ways by both committees. The first refers to the overall approach taken by the Welsh Government in framing this legislation. I have said regularly, during the scrutiny of both tax Bills currently before the Assembly, that I believe there to be a clear public interest in ensuring that the systems we create for April 2018 are recognisable to those who will have to operate them on a daily basis and that safeguard the revenue that those taxes raise. When reference is made in our legislation to relationships with established practice in England or Scotland, it is not because of any hesitation in bringing forward legislative measures that are designed specifically for Wales. It is because we take seriously the unambiguous advice from the professional community in this area that stability and certainty are essential at the outset of this new tax for business continuity, business planning and confidence in making investments.

Now, where changes can be made to improve clarity and to provide greater certainty, or to guard against abuse, then we have done so. It is why, Dirprwy Lywydd, I am happy to accept that part of the third recommendation of the Finance Committee to publish tax rates for landfill disposals tax by 1 October this year in order to provide certainty to taxpayers.

The second general point I thought I would make refers to the balance struck in this Bill between what is placed in primary legislation and what is left to secondary measures. My aim has been to place as much as possible of the detail and the operation of this tax onto the face of the Bill so that that detail appears in primary legislation. While we have worked hard to secure continuity, we have also systematically pursued the goal of accessibility. This Bill draws together 20 years’ worth of UK legislation scattered across primary and secondary statutes, as well as guidance and statutory notices. Inevitably, an approach that aims to place as much as possible on the face of a Bill means that secondary powers are required if the law is to be kept up to date and capable of meeting future needs. While my aim has been to provide stability and continuity at the outset, I have also been keen to construct the Bill in a way that allows this National Assembly to develop greater policy differentiation in the future, should there be a wish to do so.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Now, I know that not all Members will agree with the balance that we have come to in the Bill, particularly in relation to the use of Henry VIII powers, but I do want to be clear this afternoon about the rationale that underpins our approach. It reflects what we believe to be the best available balance between an advanced level of detailed provision on the face of primary legislation, and the necessary flexibility exercised within the scrutiny procedures of the legislature, which secondary powers provide.

Llywydd, I need to deal rapidly with a series of recommendations for changes to the Bill contained in the Finance Committee’s report in particular. Provided agreement is given today to move this Bill to the next stage, and provided the necessary legal and drafting work can be completed, I intend to bring forward, at Stage 2, amendments to take the committee’s advice in relation to pet cemeteries, water discounts, use of weighbridges and tax relief in relation to flood prevention. I will do so within the terms of my written response to recommendations 7, 9, 13 and 16 of the Finance Committee’s report.

Llywydd, there’s been a great deal of interest in the Welsh Government’s commitment to establish a community scheme to support those areas affected by landfill sites, and I wrote to the Finance Committee yesterday to update Members on stakeholder responses to the paper I published before Christmas. The committee has called for a provision in relation to the community scheme to be included directly in the Bill. I have carefully considered the views of the committee and stakeholders, and will now work to bring forward a Government amendment to that end, later in the Bill’s process.

In relation to the Finance Committee’s recommendation 11, specification of qualifying material, further discussions are needed to test the response I intend to make to the committee’s views. Provided some genuinely complex and technical matters can be resolved, I hope again to lay Government proposals to respond to this recommendation during the Bill’s amending stages.

In relation to recommendation 5 of the Finance Committee report, the definition of disposal of material as waste, I provided the committee with a detailed note setting out the process by which the definition of a taxable disposal was constructed, and the reasons why we think the proposed provisions are necessary and appropriate.

This all means, Llywydd, that in terms of recommendations by the Finance Committee, there is only one that cannot be taken forward positively by the Government. I have looked again carefully at the committee’s views on credit for bad debt, as set out in recommendation 18 of the report. This is an area where provision will be technical, intricate and lengthy, and therefore I continue to conclude that it would be better suited to being set out in secondary regulation. In order to assist the scrutiny process, however, and in recognition of the points that both committees have made about scrutiny of this matter, I will aim to publish draft regulations, in order that the committee can be aware of them, and consider them ahead of laying final versions before the National Assembly in the autumn. In this way, the Government will be able to take account of any views of the committee, having had a chance to consider those draft regulations. I will also provide the committee with more detail of the policy intent behind these regulations during Stage 2 proceedings, again in order to assist the scrutiny process.

Llywydd, there is a great deal more in both reports of both committees to which I have made response in my letters to committee Chairs. I thank them again for the detailed and constructive spirit in which the Stage 1 consideration has been undertaken, and I hope that Members will see that my response this afternoon has been shaped in the same spirit. I believe it to be a shared ambition across the Chamber that the National Assembly takes on our new fiscal responsibilities in the best possible way, and I have considered the advice of both committees as constructive contributions to achieving just that. I hope that Members will agree to this Bill proceeding this afternoon, as recommended by the Finance Committee, so that this work can continue.

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ein hadroddiad ni heddiw ar y rhan yma o’r Bil, ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i’r adroddiad ac wedi ymateb y prynhawn yma hefyd i’r argymhellion gan y pwyllgor. Dyma’r trydydd darn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â datganoli pwerau trethu yn Neddf Cymru 2014, a’r ail Fil, felly, yn ymwneud â threth i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Cyllid yn y pumed Cynulliad. Cyfarfu’r pwyllgor i ystyried y Bil yn ystod tymor y gwanwyn, ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a wnaeth roi tystiolaeth a’n cynorthwyo yn y broses graffu.

Mae’n dda gennyf ddweud ar gychwyn fy sylwadau ein bod ni fel Pwyllgor Cyllid yn argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’n amlwg bod angen y Bil er mwyn sicrhau nad yw tirlenwi yn dod yr opsiwn rheoli gwastraff rhataf sydd ar gael yng Nghymru, gan danseilio polisïau amgylcheddol eraill ac annog pobl i gludo gwastraff i Gymru. Er y bydd y refeniw treth sy’n gysylltiedig â thirlenwi yn parhau i ostwng wrth i’r Bil gyflawni ei amcanion o sicrhau bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod y bydd yn hanfodol cynnal y ffrwd refeniw hon i Gymru, o ystyried yr addasiad canlyniadol yn y grant bloc yn sgil datganoli’r dreth hon. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR—yn rhagweld mai £25 miliwn fydd hyn yn 2018-19, sef y flwyddyn y caiff y dreth gwarediadau tirlenwi ei chyflwyno yng Nghymru.

Fodd bynnag, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymdrin â nifer ohonyn nhw. Rwy’n falch, o’r 34—sori, 24; mae hynny’n ddigon—o’r 24, mae 23 wedi’u derbyn gan Ysgrifennydd y Cabinet naill ai yn llwyr neu yn ysbryd eu derbyn nhw, beth bynnag. Felly, rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw eto ar rai o argymhellion y pwyllgor sydd yn ymwneud â’r egwyddorion sylfaenol yn y ffordd yr ŷm ni’n paratoi Biliau sy’n ymwneud â threthi.

Yn gyntaf, rwyf am drafod y pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil. Mae’r Bil yn cynnwys 29 o ddarpariaethau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan gynnwys 19 a fyddai’n caniatáu iddynt ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Rydym yn credu bod system dreth sefydlog yn hanfodol i fusnesau Cymru, ac nad yw lefel yr hyblygrwydd a ddarperir gan y pwerau gwneud rheoliadau yn bodloni egwyddorion Llywodraeth Cymru ei hun y dylid darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnes. Rydw i’n derbyn, wrth gwrs, fod rhai o sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl eisoes yn mynd rhywfaint tuag at liniaru ein pryderon ni yn y maes yma.

Roeddem ni yn chwilio am fwy o fanylion wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil. Er enghraifft, mae pedwar prif faes: cyfraddau arfaethedig ar gyfer y dreth; rhestr o’r deunyddiau cymwys ar gyfer y dreth; y diffiniad o ‘swm bychan’; a darpariaeth ar gyfer rhyddhad dyled ddrwg. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ddelio yn eithaf manwl â’r olaf. Er y bydd y rhan fwyaf o’r darpariaethau ar gyfer gwneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, ni fydd hyn yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddiwygio darpariaethau. Yr unig ddewis fyddai pleidleisio yn eu herbyn, neu eu derbyn nhw.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cydbwysedd y manylion ar wyneb y Bil, ac yn benodol i ailystyried cynnwys y cyfraddau treth arfaethedig. O ran pennu’r cyfraddau treth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth roi tystiolaeth, y bydd yn cyflwyno’r cyfraddau fel rhan o’r broses o baratoi’r gyllideb yn Hydref. Fodd bynnag, os na fydd y cyfraddau treth yn cael eu cynnwys ar wyneb y Bil, fel isafswm, rydym yn ceisio sicrwydd y bydd y cyfraddau arfaethedig yn cael eu cyhoeddi cyn 1 Hydref 2017, yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru o ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cyfraddau treth erbyn y dyddiad hwnnw.

Rwyf wedi nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n anghymesur i ystyried cyflwyno Bil cyllid blynyddol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil fframwaith ariannol mor fuan â phosib. Byddwn ni, fel pwyllgor, yn cynnal rhywfaint o waith ar hyn yn ystod y misoedd i ddod, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn fodlon gweithio gyda’r Pwyllgor Cyllid i hyrwyddo’r gwaith hwn. Mae hwn yn waith, rwy’n gobeithio, y bydd y Cynulliad cyfan yn ymddiddori ynddo fe.

Mae’r Bil yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau ar gyfer credydau treth, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddefnyddio mewn perthynas â chredyd dyled ddrwg mewn achos o ansolfedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried bod creu rhyddhad dyled ddrwg yn gymhleth ac yn dechnegol, fel yr ydym ni newydd ei glywed. Fodd bynnag, nid yw’r pwyllgor yn credu y dylai hyn atal rhai manylion rhag cael eu cynnwys ar wyneb y Bil. Gwnaeth argymhelliad, felly, y dylid cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer dyled ddrwg a’r amgylchiadau lle y gellid ei defnyddio yn y Bil.

Mae Rhan 4 o’r Bil yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i godi treth am waredu gwastraff heb ei awdurdodi mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n bwysig nodi mai’r bwriad pennaf yw atal pobl rhag osgoi talu trethi yn y maes yma, ac nid rhwystro’r hyn a ystyrir yn gyffredinol fel tipio anghyfreithlon, neu ‘fly-tipping’—y mân dipio anghyfreithlon sy’n digwydd. Rydym yn cytuno â rhanddeiliaid bod yn rhaid i’r darpariaethau gael eu cefnogi gan drefn ystyrlon o orfodi ac archwilio, ac wrth gwrs, mae angen adnoddau digonol ar gyfer y drefn honno. Fe wnaethom felly argymell y dylai Llywodraeth Cymru fonitro nifer yr achosion o waredu gwastraff heb awdurdod a nifer yr erlyniadau sy’n deillio o hynny, a chyhoeddi’r ffigurau, i fesur llwyddiant y darpariaethau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Clywsom amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â chynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi, a gynigiwyd gan y Llywodraeth i ddisodli’r gronfa cymunedau tirlenwi presennol. Mae hyn yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol ger safleoedd tirlenwi. Roedd rhai rhanddeiliaid o blaid y syniad y dylai’r cynllun gael ei weinyddu gan un corff dosbarthu, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau ynglŷn â meini prawf cymhwysedd arfaethedig y cynllun, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Mae un peth yn glir: mae rhanddeiliaid yn pryderu na fydd bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu’r cynllun y tu allan i’r Bil yn amddiffyn y cyllid. Rydym yn cydnabod y bydd angen rheoli disgwyliadau wrth i lai o’r dreth gael ei chasglu, fel sy’n anochel. Serch hynny, fe wnaethom argymell y dylid cynnwys dyletswydd statudol i sefydlu cynllun cymunedol yn y Bil er mwyn sicrhau’r ffrwd ariannu bwysig hon, gan ddarparu ar gyfer manylion y cynllun drwy ddulliau eraill. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hyn a’i fod newydd gyhoeddi y bydd yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i’r Bil. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ystyried y dystiolaeth a gawsom ar ddatblygu’r cynllun cyn lansio ymarfer caffael i benodi corff dosbarthu’r gwanwyn hwn.

Yn olaf, roedd y pwyllgor yn siomedig o glywed bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn bwriadu gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth treth dirlenwi’r Deyrnas Gyfunol ym Mil Cyllid 2017. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid inni ei fonitro ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi, Trysorlys Ei Mawrhydi, a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar weithredwyr safleoedd tirlenwi Cymru.

Mae nifer o argymhellion manwl o gwmpas adroddiad y pwyllgor ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet bellach i’w cael ar dudalen y Bil gan y pwyllgor, ac rwy’n annog felly unrhyw Aelod sydd â diddordeb i archwilio’r dudalen honno.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Cyn dechrau, a gaf i ymddiheuro i chi a chyd-Aelodau, ac i’r Gweinidog hefyd, am fod ychydig yn hwyr a cholli ei sylwadau agoriadol? Cefais fy synnu gan y cynnydd yr ydym wedi ei wneud y prynhawn yma. Felly, rwy’n ymddiheuro.

Diolch, Lywydd. Wel, a gaf i yn gyntaf oll ganmol y ffordd adeiladol a diddorol iawn y mae’r Gweinidog a'i dîm wedi gweithio gyda ni ar graffu’r Bil hwn?  Adroddwyd ar y Bil ar 10 Mawrth, gwnaed 12 o argymhellion, ac mae'n braf bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei araith heddiw ac mewn llythyr at y pwyllgor, wedi derbyn 10 argymhelliad. Felly, rydym yn nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi ceisio rhoi mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil na'r hyn sy'n bodoli yn neddfwriaeth gyfredol y DU, ac rydym yn croesawu hynny. Ond rydym yn dal yn bryderus, mewn egwyddor, am nifer y pwerau Harri’r VIII y mae’r Llywodraeth Cymru hon yn ceisio eu cymryd yn y Bil hwn.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch pam mae angen cymryd pwerau mor helaeth, ac rydym yn nodi sylwadau a rhesymeg Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ac yn ei lythyr. Ond, yn ein barn ni, ni ddylai cynyddu faint o fanylion sydd ar wyneb y Bil gael ei weld fel trwydded ar gyfer defnyddio pwerau eang Harri’r VIII i newid deddfwriaeth sylfaenol drwy ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, gan fod perygl y bydd craffu seneddol yn gyfyngedig. Ac rydym yn nodi, pa bynnag sicrwydd y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet cyfredol, sydd wedi ymgysylltu mor dda â'r pwyllgor hwn, yn gallu ei gynnig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ei fwriadau wrth ddefnyddio pwerau Harri’r VIII, nid ydynt wrth gwrs yn rhwymo ei olynwyr.

Rydym yn cydnabod nad yw’r tensiwn hwn rhwng hawliau’r ddeddfwrfa a dymuniadau’r Pwyllgor Gwaith yn newydd ac nid yw’n gyfyngedig i’r sefydliad seneddol hwn. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni i barhau i godi'r pryderon hyn fel rhan o'r broses graffu, a byddwn yn gwneud hynny drwy gydol y pumed Cynulliad. Felly, heddiw rydym yn croesawu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhelliad 2 ac yn nodi'r cyfiawnhad dros ddefnyddio pob pŵer Harri’r VIII yn y Bil. Bydd yn cynorthwyo ein gwaith craffu ar y rheoliadau sy'n deillio o'r pwerau hyn.

Mae Deddf Cymru 2017 bellach yn darparu pwerau a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil cyllid blynyddol yn y dyfodol. Rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Cyllid y byddai Bil cyllid blynyddol yn golygu ffordd fwy tryloyw a mwy hygyrch o newid cyfreithiau sy'n ymwneud â threth. Er ein bod yn nodi dadl y Gweinidog dros beidio â gwneud hynny yn awr, yn ei lythyr, rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth bellach i'r defnydd o Fil cyllid blynyddol yn y dyfodol.

Rydym yn croesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn argymhelliad mewn egwyddor i roi rhestr o ddeunydd cymhwyso ar wyneb y Bil yn adran 15, yn amodol ar drafodaeth gyda rhanddeiliaid. Nawr, fel mater pwysig o egwyddor, rydym yn dal i gredu y dylai rheoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol bob amser. Mae ein safbwyntiau cyson ar gofnod.  Gwnaethom dair set o argymhellion i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i reoliadau gael eu gwneud o dan adrannau 40, 59 a 90 o'r Bil sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Er ein bod yn croesawu ei benderfyniad i dderbyn yr argymhelliad mewn cysylltiad ag adran 59, rydym yn gresynu na chafodd ei argyhoeddi i dderbyn yr argymhellion mewn cysylltiad ag adrannau 40 a 90.

Wrth gloi, trof at adran 90, sy'n ymwneud â rheoliadau a all wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â'r Bil. Oherwydd bod modd defnyddio’r pwerau hyn mor eang, rydym yn gwneud argymhellion yn gofyn am eglurhad ynghylch pam mae angen y pwerau hyn ar Ysgrifennydd y Cabinet a sut y mae'n bwriadu eu defnyddio. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth yn ei lythyr, a fydd yn ddefnyddiol i'r pwyllgor.

Ond, fel y dywedais eisoes, rydym hefyd yn argymell cyflwyno gwelliant i'r Bil fel bod rheoliadau o dan adran 90 sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Yn ei ymateb, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod y dull gweithredu yn dilyn yr un a gymerir yn y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Wrth gwrs, roedd ein hadroddiad ar y Bil hwnnw hefyd o blaid y defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol, ond cafodd yr argymhelliad hwnnw hefyd ei wrthod. Fodd bynnag, o bwys a diddordeb arbennig yw bod y darpariaethau cyfatebol a geir ym Miliau eraill Llywodraeth Cymru, megis, er enghraifft, y Bil iechyd y cyhoedd a'r Bil dysgu ychwanegol, yn unol â barn y pwyllgor hwn a'r argymhellion hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei atebion, egluro’r anghysondeb ymddangosiadol o fewn Llywodraeth Cymru ar y pwynt pwysig hwn o egwyddor.

Ond wrth gloi, a gaf i ddiolch iddo ef a'i dîm eto am yr ymgysylltiad adeiladol iawn â gwaith craffu ein pwyllgor? Rwy'n edrych ymlaen at ei ymateb.

A gaf i ddweud ar y dechrau y bydd Plaid Geidwadol Cymru yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol a geir yn y Bil hwn? I bob pwrpas, mae’r Bil yn disodli'r dreth bresennol ac yn gweithredu ein cyfrifoldebau datganoledig yn y maes hwn. Yn wir, rwy’n credu ei fod yn ddatblygiad mawr mewn llywodraethu yng Nghymru bod gennym yn awr y pwerau a'r cyfrifoldebau hyn. Bydd yn adeiladu atebolrwydd ein system lywodraethu yn sylweddol. Mae hynny, rwy’n credu, yn egwyddor gadarn iawn o fodel San Steffan. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu.

Rwy’n credu, felly, bod y ffordd y mae’r Bil hwn wedi cael ei ddatblygu a'i gyflwyno yn arbennig o bwysig. Mae'n un o'r Biliau cynharaf—yr ail, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roeddwn yn falch, o leiaf, o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud mai ei fwriadau ar gyfer y Bil hwn oedd bod yn glir, yn syml ac yn hygyrch. Credaf fod hynny’n gosod y math o safon y byddem yn ei disgwyl ac, yn amlwg, y safon y gellir craffu arni wedyn wrth i'r Bil gael ei archwilio’n fanwl gan y pwyllgorau perthnasol fel CLAC a chyllid, ond hefyd yng Nghyfnod 2.

Rwy'n credu bod cydymffurfio a gorfodaeth wrth wraidd deddfwriaeth gadarn yn y maes treth hwn. Yn sicr, dylai cydymffurfio gael ei wella gan ddeddfwriaeth sydd yn gliriach ac yn symlach, fel ei bod yn rhywbeth y gall pobl ei deall yn rhwydd. Unwaith eto, mae honno'n bendant yn egwyddor yr ydym yn ei chroesawu. Rwy'n credu y bydd gorfodaeth yn gofyn am gydweithrediad effeithiol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol. Yn amlwg, mae hynny'n mynd â ni i mewn i faes ehangach, ond mae bob amser yn bwysig cofio, wrth osod fframwaith sy'n gymharol hawdd ei orfodi, ein bod wedyn yn gwneud cymwynas â'r cyhoedd. Rwy'n credu bod y rhwystrau yn y maes hwn o ran codi tâl ar y rheini sy'n ddefnyddwyr heb awdurdod a gwneud hwnnw yn ddewis mwy costus, yn amlwg, mae hynny'n fuddiol, ond mae angen cyfle teg i ddal y bobl hynny ac mae hynny, rwy’n credu, yn ei dro, yn gofyn am gydweithrediad effeithiol rhwng yr asiantaethau allweddol. Mae llawer o'r Bil yn ymwneud, mewn gwirionedd, ag elfennau technegol gosod treth a sut mae hynny'n cael ei gynllunio a'i gymhwyso yn effeithlon. Mae hynny wir yn bwysig ac rwy'n ddyledus i'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith y maent wedi ei wneud yn y maes hwn.

Rwyf yn aelod o CLAC, felly roeddwn eisiau troi, yn olaf, at y mater hwn o bwerau Harri’r VIII. Maent yn wir yn ddyfais sy'n rhoi llawer o rym yn nwylo’r Weithrediaeth ac yn diystyru swyddogaeth ddeddfwriaethol craffu llawn a phriodol. Nawr, rwy’n clywed—. Mae’r Gweinidog, yn ei ffordd ddengar iawn, ac nid dyma’r tro cyntaf, mae wedi ein tawelu wrth ddweud ei fod yn defnyddio hyn oherwydd ei fod eisiau cymaint ar wyneb y Bil. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gadarn yma, oherwydd er fy mod yn croesawu cymaint o fanylion ar wyneb y Bil—. Ac, wrth gwrs, mewn meysydd treth rydych yn sylweddoli bod pethau yn newid ac mae'n rhaid gwneud addasiadau. Ond fel y dangosodd Cadeirydd CLAC mewn ffordd mor fedrus, y ffordd o amgylch hyn fyddai cael Bil cyllid blynyddol. Felly, rwy’n parhau i wrthwynebu troi at bwerau Harri’r VIII mewn unrhyw sefyllfa oni bai argyfwng, yn wir, ond efallai y gallai roi rhywfaint o sicrwydd ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth yn eithaf buan i symud at yr arfer o Fil cyllid blynyddol, sydd wedyn yn gwneud y stranciau penodol hyn yn ddiangen. Ond, ar y cyfan, rydym yn cytuno â’r egwyddorion cyffredinol ac yn awr yn edrych ymlaen at Gyfnod 2.

Rwy’n cefnogi adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn fawr iawn ac rwy'n credu bod y Pwyllgor Cyllid yn cydweithio'n dda iawn. Nid ydym i gyd o’r un farn wleidyddol—yn wir, mae rhai ohonynt yn gwbl groes i’w gilydd—ond credaf mai ymrwymiad pawb a oedd yno oedd ceisio cael yr adroddiad gorau y gallem er mwyn sicrhau’r ddeddfwriaeth orau bosibl ar gyfer pobl Cymru. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn ddyletswydd arnom. Efallai fod ein safbwyntiau gwleidyddol yn wahanol ond, mewn gwirionedd, sicrhau’r gorau a allwn i bobl Cymru yw’r rheswm dros fod yma. Mae Bil cyllid blynyddol yn anochel, p’un a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i wneud hynny yn awr neu mewn cwpl o flynyddoedd. Wrth i fwy o drethi gael eu datganoli, mae'n anochel. A gaf i hefyd ddweud pa mor falch yr wyf gan ymateb cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet a'i barodrwydd i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid, nid yn unig ar hyn, ond ar ystod eang o eitemau sy'n bwysig i ni eu cael yn iawn ar gyfer pobl Cymru?

Rwy’n croesawu’n fawr iawn benderfyniad unfrydol y pwyllgor i gefnogi'r Bil i fynd ymlaen i Gyfnod 2 drwy argymhelliad 1, er nad ydw i, fwy na thebyg, mor falch ag yw Ysgrifennydd y Cabinet â’r argymhelliad unfrydol hwn.

Rwy'n falch hefyd o weld bod camau'n cael eu cymryd i drethu safleoedd anghyfreithlon. Dylai hyn roi terfyn ar yr arfer mewn rhai ardaloedd o safleoedd gwastraff yn cael eu hagor nad ydynt yn codi tâl tirlenwi ac yn parhau i wneud nes i lys eu hatal nhw, pan fydd llawer iawn o ddeunydd yn gallu cael ei adael ar y safle hwnnw. Bellach ni fydd unrhyw gymhelliant ariannol i ganiatáu'r math hwn o dipio anghyfreithlon ar rai tiroedd. Rydym hefyd yn gwybod bod incwm y dreth gwarediadau tirlenwi yn lleihau. Rydym yn disgwyl iddo barhau i ostwng. Mae pob rhagamcan yn dangos symudiad ar i lawr o ran tunelli a threth a godir. Mae cyngor Abertawe eisoes wedi lleihau 80 y cant o’i dirlenwi yn ei anterth. Ac os oes mwy o bobl yn dilyn egwyddorion 'lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu' yna rydym yn mynd i gael llai yn mynd i safleoedd tirlenwi ac rwy’n—ac rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl, os nad pawb yn y Siambr hon heddiw—yn falch iawn ein bod yn mynd i gael llai yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Ceir nifer o drethi ymddygiad a ddisgrifir gan rai fel 'trethi pechod’—mae treth tybaco ac alcohol yn ddau ohonynt. Er bod llawer o bobl hefyd yn eu gweld nid yn unig fel trethi i newid ymddygiad, ond hefyd yn ffynhonnell fawr o refeniw i'r Trysorlys, mae treth gwarediadau tirlenwi yn gwbl ymddygiadol; ychydig iawn o incwm a godir. Eto i gyd, mae ymhell dros hanner y dreth hon yn cael ei thalu gan y sector cyhoeddus, awdurdodau lleol yn bennaf. Mae'n cael effaith fawr ar ymddygiad. Beth sy'n digwydd pan, neu os, fydd y dreth yn codi llai nag y mae'n ei gostio i’w chasglu? Oherwydd dyna beth ddigwyddodd gyda thrwyddedau cŵn. Byddwn yn dadlau ei bod yn dreth er lles y cyhoedd ac y dylai barhau, hyd yn oed os yw'n costio i'w chasglu.  Os ydych yn diddymu’r dreth ar y cam hwnnw bydd tirlenwi yn dod yn ddewis buddiol yn ariannol, ac yna bydd rhai yn dewis yr opsiwn hwnnw a bydd y swm sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn cynyddu, ac ni fyddai hynny'n dda i'n hamgylchedd.  Gwnaeth y pwyllgor nifer o’r hyn a ystyriaf yn argymhellion allweddol. Yn gyntaf:

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y diffiniad o waredu deunydd fel gwastraff yn adran 6 ... i sicrhau eglurder a symlrwydd.

Ac a gaf i ddweud ei bod yn bwysig iawn yr holl ffordd drwy'r Bil, ein bod yn cael eglurder a symlrwydd? Mae'n hawdd cymhlethu pethau. Y symlaf yr ydych yn ei gadw, yr hawsaf y mae i sicrhau y caiff ei ddilyn a’i ufuddhau. Yn ail:

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried geiriad adran 11 (mynwentydd anifeiliaid anwes) ynghylch gwaredu anifeiliaid anwes marw, gydag ystyriaeth arbennig i symleiddio'r gyfraith a sicrhau cysondeb yn ddwyieithog.

Mae cysondeb dwyieithog yn hynod o bwysig. Un o'r digwyddiadau cyntaf a ddigwyddodd yma oedd digwyddiad Aled Roberts, a ddigwyddodd oherwydd bod anghysondeb dwyieithog—bod yr hyn yr oedd pobl yn meddwl oedd yn mynd i ddigwydd heb ddigwydd. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod y Bil yn dweud yn union yr un peth yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac os nad yw'n dweud yr un peth—os bydd y Gymraeg yn agored i ddehongliad gwahanol—yna bod esboniad o'r hyn y mae’r geiriau hynny yn ei olygu yn y Gymraeg yn cael ei roi yno, fel nad oes unrhyw amwysedd. Mae problem—mewn rhai deddfwrfeydd sy'n ddwyieithog, maent yn ysgrifennu’r ddeddfwriaeth mewn dwy iaith. Yma rydym yn tueddu i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac rwy’n credu bod peryglon difrifol yn hynny, ac nid yn unig ar gyfer y darn hwn o ddeddfwriaeth, ond deddfwriaeth yn gyffredinol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau nad ydym yn cael pethau'n anghywir, yn enwedig mewn deddfwriaeth treth, oherwydd bod y Gymraeg yn dweud rhywbeth ychydig yn wahanol neu fod modd ei ddehongli yn wahanol.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu adran 26 (Deunydd a gaiff ei dynnu oddi ar wely afon, môr neu ddŵr arall) er mwyn sicrhau bod deunydd a dynnwyd yn ystod atal llifogydd yn ddarostyngedig i'r un rhyddhad â deunyddiau gaiff eu tynnu er lles mordwyo.

Fel arall, mae pobl yn mynd i esgus y gallwch hwylio i fyny afon na allwch ei hwylio oni bai mewn canŵ, er mwyn cael hynny. A phwy sy'n mynd i dalu?  Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf, neu'r awdurdodau lleol, neu bobl sy'n atal llifogydd. A ydym eisiau trethu rhyddhad rhag llifogydd ac amddiffyn rhag llifogydd? Credaf ein bod yn sicr nad ydym eisiau gwneud hynny. Ac, yn olaf, y cyfan yr hoffwn ei ddweud yw y byddwn wrth fy modd o weld y cynllun cymunedol ar wyneb y Bil. Mae'r cynllun cymunedol yn eithriadol o bwysig—mae wedi helpu nifer fawr o bobl. Os gwelwch yn dda allwn ni ei gael ar wyneb y Bil?

Wrth alw ar Adam Price, mae angen i mi ymddiheuro i chi am beidio â’ch galw yn gynharach yn y ddadl. Roeddech chi, mae'n debyg, yn un o'r ychydig rai a oedd yma yn brydlon, felly—. Adam Price.

Rwy’n hapus i aros yn amyneddgar. Nid wyf i’n siŵr a oedd fy araith i wedi cyrraedd—y nodiadau—erbyn hynny, felly rwy’n ddiolchgar i chi. Bob tro rŷm ni’n trafod trethiant, mae yna ryw gyfeiriad at ryw ffigur brenhinol—rwy’n credu mai Llywelyn ein Llyw Olaf oedd hi y tro diwethaf. Roedd y dreth trafodiadau tir yn ein hatgoffa ni mai dyna’r tro cyntaf, wrth gwrs, roeddem ni’n codi treth fel gwlad ers hynny. A’r tro yma, Harri VIII, wrth gwrs, sydd wedi bod yn rhyw fath o gysgod dros ein trafodaethau ni y prynhawn yma. Rydw i eisiau ffocysu ar yr egwyddorion, oherwydd mi fydd yna gyfle i ni fyfyrio a darllen ac ymateb yn llawn i’r holl argymhellion sydd wedi cael eu hawgrymu gan y ddau bwyllgor. Ac onid yw hi’n enghraifft, a dweud y gwir—manylder yr argymhellion sydd wedi dod gan y ddau bwyllgor, a’r ffaith bod y Llywodraeth yn barod wedi ildio a derbyn nifer helaeth ohonyn nhw—o le creiddiol y ddeddfwrfa yn rhan o’r broses o wella deddfwriaeth, sydd yn cryfhau’r ddadl rydw i am ei gwneud yng ngweddill fy araith ynglŷn â’r angen i gael y balans yn iawn rhwng gallu’r ddeddfwrfa i graffu a gallu’r Weithrediaeth, wrth gwrs, i lywodraethu? A dyna sydd wrth wraidd y sylwadau rŷm ni wedi eu clywed mor belled.

Wrth gwrs, pan fyddem ni’n cyfeirio at bwerau’r Harri VIII, maen nhw’n dyddio o statud proclamasiwn 1537. Roedd y Ddeddf Uno y flwyddyn gynt, felly mae’r Deyrnas Gyfunol bron mor hen â phwerau’r Harri VIII. Ond, wrth gwrs, mae’n rhoi rhyw fath o ffug gyfreithlondeb i’r pwerau yma i sôn am bwerau Harri VIII—hynny yw, ‘legitimacy’ ffug—oherwydd cawsan nhw eu diddymu rhyw 10 mlynedd wedi hynny, ac, â bod yn onest, gwnaethan nhw ddiflannu, a dweud y gwir, o’r broses gyfansoddiadol Brydeinig tan ddiwedd y ganrif cyn ddiwethaf. Dim ond ers y 1970au a’r 1980au maen nhw wedi dod yn rhan o brif ffrwd y broses ddeddfwriaethol yn y Deyrnas Gyfunol. Felly, peidied i ni dderbyn mai dyma’r ffordd arferol i wneud pethau. Mae wedi dod yn arferol am resymau gwleidyddol. Wrth gwrs, mae’n ffafriol i’r Weithrediaeth i weithredu yn y fath fodd. Felly, peidied i ni yn y Senedd hon gwympo i’r fagl yna, a dyna sut rydw i’n dehongli, a dweud y gwir, y cyfraniadau ar lefel egwyddorion craidd yr adroddiadau, a’r areithiau yr ydym ni wedi eu cael gan y ddau Gadeirydd.

Dau brif bwynt, wrth gwrs: mae angen fwy o fanylder ar wyneb y Bil fel bod modd i’r Cynulliad graffu ar ei gynnwys—hynny yw, mae cynnwys y rhestr o ddeunydd cymwys yn enghraifft o hynny, ar wyneb y Bil. Ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai darpariaeth ar gyfer ryddhad ar ddyledion drwg gael ei rhoi ar wyneb y Bil. Y pwynt arall yn gyffredinol, wrth gwrs, yw’r angen, lle mae yna reoliadau, i sicrhau bod rheini’n cael ei wneud drwy’r weithdrefn gadarnhaol. Felly, mae yna awgrym ynglŷn ag adran 40 ac adran 59 a symud o’r weithdrefn negyddol i’r cadarnhaol. Oni bai ein bod ni’n cael y balans yn iawn, wrth gwrs, allwn ni ddim wneud ein priod waith ni fel Senedd. Hynny yw, dyna’r egwyddor graidd: mae’n bwysig iawn gyda’r Mesurau cyntaf yma sydd wedi dod ger ein bron o ran trethiant ein bod ni’n cael y balans yna’n iawn.

Money Bills have often been right at the heart of the great battles between Parliaments and Executives in the United Kingdom, and, of course, across the world, and for good reason. There is the requirement for certainty that Mike Hedges referred to, and that’s why getting that balance right and ensuring that we can perform a proper constitutional role is vitally important.

So, finally, on the broader question, which both committees—recommendation 4 from the Finance Committee, and recommendation 3 from the Constitutional and Legal Affairs Committee—. Could we actually hear from the Cabinet Secretary what is his position in terms of an annual finance Bill? Both committees are in favour of that. There is a kind offer of working with him from the Finance Committee. We would wish him well in that collaboration, but could he tell the Senedd what is his position as Cabinet Secretary? Does he actually accept that basic principle of any properly functioning Parliament, actually, that we have an annual finance Bill that we can debate and amend?

Diolch, Lywydd, ac rwy’n credu y dylwn ymddiheuro’n fawr dros yr Aelodau yr ydych, yn sicr yn fy achos i, yn oddefgar iawn wedi caniatáu iddynt gyfrannu at y ddadl hon; ymddiheuraf i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am beidio â dal o leiaf rhan gyntaf ei sylwadau. Y peth a nodais fwyaf yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ac mae wedi meddwl ac mae wedi ystyried beirniadaeth ac awgrymiadau adeiladol ac mae wedi dod i'r Siambr heddiw gyda safbwynt diwygiedig. Fel y Cadeirydd ac Aelodau eraill, rwy'n ddiolchgar bod cynifer o argymhellion y Pwyllgor Cyllid wedi cael eu derbyn yn llawn neu'n rhannol.

Mae fy mhlaid i yn bwriadu cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn heddiw. Penderfynwyd cyn yr etholiad y byddem yn cefnogi'r datganoli trethi a oedd yn y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi gyda'r bwriad o gael setliad datganoli sefydlog. Nid wyf yn siŵr ein bod yn mynd i gael hynny, ond, serch hynny, byddwn yn cefnogi datganoli'r dreth benodol hon. Nodaf y drafodaeth a gawsom, o leiaf yn y tymor canolig, am yr angen am Fil cyllid. Byddwn yn credu ei bod yr un mor bwysig y dylai’r Bil cyllid hwnnw, o ystyried y byddwn yn symud at strwythurau cyllidebol newydd, ganiatáu nid yn unig i'r Siambr fynegi ei barn ar y lefel o dreth neu'r cymhwysedd treth, ond dylai fod posibilrwydd tebyg i ddylanwadu ar y lefel neu'r blaenoriaethau o fewn ochr gwariant y cyfriflyfr.

Rwy'n credu mai’r peth mwyaf siomedig ar y funud yw peidio â chael y cyfraddau cychwynnol ar wyneb y Bil. O ystyried bod hon yn dreth gynnar a gafodd ei datganoli i ni yn y Cynulliad hwn neu'r Senedd, byddai'n briodol nodi hynny gan y ddeddfwrfa hon sy’n penderfynu beth yw’r gyfradd dreth. Yn syml, nid yw’r syniad hwn yn foddhaol, sef y dylid ei adael i Weinidogion ac y dylem, ar y mwyaf, gael penderfyniad cadarnhaol, fel y dywedwyd yn fedrus gan bobl eraill, na ellir ei newid. Mae’r mater a drafodwyd ynghylch sicrwydd i drethdalwyr, ond rwy’n credu bod y mater o egwyddor yn llawer mwy sylfaenol: ai’r ddeddfwrfa etholedig ddylai fod yn trethu pobl Cymru, neu ai’r Gweinidogion ddylai fod yn gwneud hynny drwy ryw broses eilaidd? Rwy'n eithaf clir ynghylch fy safiad i a fy mhlaid ar hynny, ac rwy'n synnu nad ydym o leiaf wedi cael cefnogaeth lafar gan rai eraill yn y Siambr i’r cynnig. Efallai eu bod yn gwneud cytundebau eraill ac yn cael trafodaethau, a dymunaf yn dda iddynt. Ond serch hynny, rwy’n credu fel egwyddor y byddai'n llawer gwell cael y cyfraddau yn i ddechrau ar wyneb y Bil.

A gaf i dynnu sylw at un maes lle rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn barod i newid y ddeddfwriaeth, ac roeddwn yn credu ei fod yn arbennig o bwysig? Aethom ni fel Pwyllgor Cyllid i safle ailgylchu a gwaredu Lamby Way—er bod y gwaredu yn dod i ben cyn bo hir—ac yn ogystal â gweld dargyfeiriad afon Rhymni, roeddwn yn llawn edmygedd o’r ffordd yr oedd y pwyso yn digwydd. Nodais mai’r broses oedd bod y lori yn cario’r gwastraff yn dod i mewn, yn cael ei phwyso gan y bont bwyso wrth iddi ddod i mewn, yna roedd yn cael gwared ar y gwastraff ac yna’n cael ei phwyso ar y ffordd allan, a'r gwahaniaeth rhwng y mesuriadau hynny oedd swm y gwastraff a waredwyd, a dyna beth sy'n sbarduno cymhwysedd y dreth. Felly, roeddem yn pryderu o weld yn y Bil, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, ei bod yn ofynnol pwyso'r gwastraff oedd yn cael ei waredu cyn ei waredu, a fyddai wedi bod yn gwbl groes i’r hyn a oedd yn cael ei weithredu mewn gwirionedd, o leiaf ar y safle hwnnw, ond o bosibl mewn safleoedd eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ystyried barn y pwyllgor ar yr anhawster deddfwriaethol penodol hwnnw, ac rwy’n credu, yn sicr o'r hyn yr wyf wedi ei weld hyd yn hyn, bod y ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd y mae’r broses ddeddfwriaethol hon yn gweithio wrth i ni gymryd deddfwriaeth treth i’r lle hwn yn glod i'r sefydliad ac i’r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith. Diolch.

A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rwyf hefyd am ddiolch i fy ffrind a fy nghydweithiwr yma, Dafydd Elis-Thomas, am ddweud popeth wrthyf am reolau Brenin Harri’r VIII, nad oeddwn yn gwybod llawer amdanynt cyn y ddadl hon. Rwyf fwy na thebyg yn gwybod ychydig mwy am hynny yn awr nag yr wyf am safleoedd tirlenwi. Ond mae'n dda cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf wrth fy modd, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi ystyried ein pryderon am fynwentydd anifeiliaid anwes domestig, neu yn syml mynwentydd anifeiliaid anwes fel yr oedd yn y Gymraeg—roedd problem gyda drafftio'r fersiwn wedi'i chyfieithu o'r Bil drafft—ac roedd hynny'n eilbeth diddorol i’n trafodaeth gyfan ar sut yr ydych yn ffurfio deddfwriaeth, yn enwedig ym maes trethiant, sy’n weithgaredd newydd i’r Cynulliad hwn, ac yn un y mae gwir angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn ei gael yn iawn.

Fel yn achos y dreth trafodiad tir newydd, rydym yn gwybod y bydd treth tirlenwi'r DU yn dod i ben ym mis Ebrill 2018 a’r grant bloc yn cael ei ostwng yn unol â hynny. Felly nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddewis gwirioneddol ar wahân i ddatblygu ei threth ei hun. Fel y mae Mark Reckless newydd grybwyll, yr ymweliad â safle tirlenwi Lamby Way—roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid i fynd ar ymweliad â Lamby Way. Yn wreiddiol, roeddwn wedi bwriadu ymweld â sefydliad CERN yn Genefa y diwrnod hwnnw. Cafodd hynny ei gynllunio ychydig fisoedd cyn hynny, ond yn amlwg fe ges i’r fargen orau. [Chwerthin.] Pa mor genfigennus yr oeddwn i o'r bobl hynny a ymwelodd â Genefa, fel yr oeddem ni, ar ben Lamby Way—. Rwy’n credu bod fy het wedi chwythu i ffwrdd ar un adeg, ac fe wnaethoch chi, Mike Hedges, yn garedig ei dal. Ond roedd yn ymweliad diddorol. Dysgwyd llawer am waredu sbwriel a chafwyd trafodaeth hefyd, fel y crybwyllodd Mike Hedges, am sut y gellir gweld safleoedd tirlenwi presennol nid fel safleoedd tirlenwi yn unig, ond fel adnoddau yn y dyfodol. Mae rhywfaint o’r deunydd tirlenwi hwnnw, yn enwedig yn y safleoedd hŷn o flynyddoedd lawer yn ôl, bellach yn ailgylchadwy, a bydd yn ailgylchadwy, yn ôl pob tebyg, yn y dyfodol. Felly, mae cyfleoedd adfer posibl ar gyfer y dyfodol. Ar safle Lamby Way rwy’n credu eu bod yn cyfeirio atynt fel cyfleoedd mwyngloddio, a gododd set newydd gyfan o faterion ac ystyriaethau i ni.

Ymdriniwyd â llawer o'r meysydd yr oeddwn yn mynd i siarad amdanynt. Ond os caf droi yn fyr at yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Byddwn yn dweud hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn adroddiad ardderchog gan y Pwyllgor Cyllid—da iawn i'r Cadeirydd am gadeirio'r sesiynau a arweiniodd at hyn. Mae'n adroddiad syml ac, yn wir, mae'r Bil yn llawer byrrach nag oedd y Bil treth disodli’r dreth stamp. Mae'n dda gweld, yn achos y dreth hon, fod y sesiynau tystiolaeth wedi eu cynghori yn dda, gwrandawyd ar y tystion ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn llawer o'n hargymhellion.

Mae argymhelliad 3 yn benodol yn galw am gyfraddau trethi naill ai gael eu dangos ar wyneb y Bil, neu o leiaf—cyfaddawd—iddynt gael eu cyhoeddi cyn 1 Hydref 2017. Byddaf yn cytuno â'r galwadau gan yr Aelodau eraill i’r cyfraddau treth hynny fod yn fwy amlwg. Nid wyf yn credu bod angen bod yn gytbwys ynglŷn â hyn. Nid wyf yn dweud y dylai dwylo Llywodraeth Cymru gael eu clymu ac y dylai popeth gael ei nodi ar wyneb unrhyw Fil cyllid, ac na ddylech adael unrhyw beth i reoleiddio—credaf y byddai hynny'n wirion. Ond yn achos trethiant ac yn achos y dreth hon, fel gyda threth trafodiad tir, rydym i gyd yn ceisio sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r gyfundrefn drethu newydd cyn gynted ag y bo modd. Mae hynny'n golygu bod angen i’r diwydiant gael hyder yn y drefn newydd a hyder y bydd yr un mor debyg â phosibl, o leiaf yn y cyfnodau cynnar, i fodel presennol y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n credu bod cael manylion y gyfradd ar y Bil neu gael cyhoeddi’r cyfraddau o leiaf ar ryw adeg a bennir yn y dyfodol, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ein helpu ni i gyd i gytuno â daliadau’r Bil hwn.

Os caf fi grybwyll y term hyfryd 'twristiaeth gwastraff', roedd hwn yn bryder allweddol i’r pwyllgor—wel, fe ddaeth yn bryder allweddol—ac roedd gennym i gyd ddelweddau yn ein meddwl o lorïau gwastraff yn croesymgroesi’r ffin, ac yn amlwg mae’n rhaid osgoi hyn. Fe wnaethom ddysgu, ac mae'n bwysig cofio, bod y gost o gludo gwastraff yn rhan gyfrannol fach o'r gost gyffredinol o warediadau tirlenwi. Felly, gallai gwahaniaeth cymharol fach yn y cyfraddau tirlenwi gael effaith fawr ar ymddygiad. Ac felly, roedd angen ymdrin â hynny.

Yn allweddol i greu’r dreth newydd hon y mae’r angen i gynnal y llif refeniw. Felly rhaid i’r ddeddfwriaeth hon atal tirlenwi rhag bod, unwaith eto, yn ddewis rhataf o ran rheoli gwastraff. Fel y dywedodd Mark Reckless, rwy’n credu bod gan Ysgrifennydd y Cabinet y bwriadau gorau pan ddaw at y Bil hwn gan sicrhau pontio llyfn a gwneud yn siŵr bod gennym y system dreth gwarediad tir mwyaf effeithlon yma yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil treth hwn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac am yr arwyddion gan bob plaid yma eu bod yn bwriadu cefnogi datblygiad y Bil i Gyfnod 2. Rwyf yn ddiolchgar iawn am hyn.

Byddaf yn dechrau drwy ddiolch i Simon Thomas am wneud pwynt y dylwn mewn gwirionedd fwy na thebyg fod wedi ei wneud fy hun ond nid oedd gennyf amser, sef bod y Bil yn ymwneud â pholisi amgylcheddol yn ogystal ag yn ymwneud â threthi, ac mae’r defnydd o drethiant yn y maes hwn wedi bod yn effeithiol iawn, iawn, fel y nododd Mike Hedges. Ac mae gan y dreth statws unigryw fel treth sy’n clirio’i dyled ei hun yn fwriadol—mae'n gobeithio rhoi ei hun allan o fusnes, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth symud i'r cyfeiriad hwnnw. Nid ydym am wneud unrhyw beth a fyddai'n atal hynny rhag digwydd, ond yn y cyfamser, mae angen i ni godi refeniw, gan y bydd y Trysorlys yn cymryd yn ganiataol ein bod yn gwneud hynny, a bydd yn gwneud addasiad grant bloc ar y dybiaeth honno. Felly, mae'r ffaith y byddwn yn codi’r refeniw yn bwysig iawn.

Rydym wedi clywed llawer yn y ddadl ar bob ochr am bwerau Brenin Harri'r VIII. Gadewch i mi ddweud fy mod yn dechrau o'r sefyllfa o rannu'r gred y dylai Llywodraeth fod yn ofalus iawn wrth gyflwyno cynigion o'r fath bob amser, ac nid ydym yn ei wneud ar chwarae bach. Ond mae’r ffaith bod cymaint ohonynt yn y Bil hwn yn bennaf oherwydd, fel y gwelwch yn fy llythyrau at Gadeiryddion y pwyllgorau, ein bod wedi torri i lawr ar bŵer eang Harri’r VIII sydd ar gael i Weinidogion yn Lloegr i wneud llawer o bethau fwy neu lai fel y byddent yn eu hoffi, ac i wneud y pwerau hynny yn llawer mwy penodol a chul ac, yn fy marn i, yn rhai y gellir eu craffu. Mae angen cael cydbwysedd. Credwn ein bod wedi ei gael yn y ffordd iawn. Mae'n ddiddorol—byddech yn disgwyl imi ddweud hynny, rwy’n amau—hyd yn oed yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sy'n amheus o bwerau Harri’r VIII, mae’r pwyllgor ei hun yn gwneud argymhelliad, yn argymhelliad 6, i osod deunydd cymhwyso ar wyneb y Bil, y bwriadaf ei dderbyn, ac yn argymhelliad 7 i gymryd pŵer Harri'r VIII i allu newid hynny yn y dyfodol. Felly, gallwch weld y cydbwysedd a'r drafodaeth yn cael eu datblygu, hyd yn oed yn adroddiadau'r pwyllgorau eu hunain.

O ran Bil cyllid blynyddol, unwaith eto, mae nifer o Aelodau wedi cyfeirio ato. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor. Rwy'n gweld yr amser yn dod pan fydd Bil cyllid blynyddol yn rhan o’r drefn o wneud pethau yma. Ond ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw bwerau codi trethi, ac ym mis Ebrill 2018 bydd gennym ddwy dreth yn unig. Fel y dywedodd Mike Hedges, wrth i’r system aeddfedu, ac wrth i fwy o bwerau o'r fath ddod i Gymru, rwy’n credu y bydd yn anochel. Ond rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r pwyllgor i edrych ar y ffordd y mae Biliau o'r fath yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill , ac i gynllunio ymlaen llaw er mwyn i ni roi'r prosesau gorau ar waith yn barod ar gyfer yr amser y byddwn yn y sefyllfa honno.

Cyn belled ag y mae safleoedd heb eu hawdurdodi yn y cwestiwn—Simon Thomas gododd hyn—bydd wedi gweld yn Lloegr ddoe bod ymgynghoriad wedi cael ei lansio ar drethiant gwarediadau heb awdurdod, yn dilyn yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yng Nghymru. Ar yr un pryd, cafodd rheoliadau eu cyhoeddi i ymdrin â'r newidiadau i'r system dreth warediadau tirlenwi yn Lloegr y mae’r Trysorlys wedi’u cyhoeddi. Rwy’n credu pan fyddwn yn edrych arnynt—ac mae angen mwy o amser arnom i edrych arnynt yn iawn—byddwn yn gweld bod y newidiadau yn llai arwyddocaol nag a nodwyd yn wreiddiol. Ac rwyf wedi rhannu â'r pwyllgor y llythyr a gefais gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, sy'n rhoi rhywfaint o gysur i ni ar y mater hwnnw.

O ran y pwyntiau eraill a wnaed y prynhawn yma, byddaf yn gwrando'n ofalus, wrth gwrs, ar yr hyn y mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i ddweud am adrannau 40 a 90 ac yn ystyried y pwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn cysylltiad â'r pwerau hynny. Fe wnaeth David Melding, mewn cyfraniad a oedd yn bell o fod yn frathog, rai pwyntiau pwysig iawn, yn fy marn i, ynghylch cydymffurfio a gorfodaeth.  Oherwydd, er bod hwn yn Fil byrrach, fel y dywedodd Nick Ramsay, o'i gymharu â LTTA, mewn gwirionedd, mae materion cydymffurfio a gorfodaeth yn fwy cymhleth o ran y dreth warediadau tirlenwi nag y maent o ran treth dir y dreth stamp, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae gennym gymaint o fanylion ar wyneb y Bil.

Gadewch i mi orffen drwy gytuno â phwynt y dechreuodd Adam Price ymdrin ag ef. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus o fod yn gyfrifol am gyfres o Filiau sydd wedi dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, yn nhymor diwethaf y Cynulliad ac yn y tymor hwn. Nid wyf erioed wedi bod yn gysylltiedig â Bil lle nad oeddwn yn credu bod y broses graffu wedi gwella’r Bil hwnnw, ac rwy'n credu bod hynny'n wir iawn am y Bil hwn. Mae fy null i o weithio wedi bod yn union fel y dywedodd Mike Hedges: sef bod gennym ddiddordeb ar y cyd mewn gwneud pethau'n iawn, gan wneud y Bil gorau posibl, ac yn yr ysbryd hwnnw y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â Chyfnod 2 a'r gwelliannau yr wyf eisoes wedi cytuno arnynt y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 9. Cynnig i Gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig. Mark Drakeford

Cynnig NDM6263 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Nid oes dim siaradwyr ar yr eitem yma. Rydw i’n cymryd nad yw’r Ysgrifennydd eisiau ymateb i’r ddadl yna, felly rydw i’n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 10. Cynnig i Amrywio Trefn Ystyried Gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Yr eitem nesaf o fusnes yw’r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6264 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2-13;

b) Atodlen 2;

c) Adrannau 14-17;

d) Atodlen 3;

e) Adran 18;

f) Atodlen 4;

g) Adrannau 19-24;

h) Atodlen 5;

i) Adrannau 25-30,

j) Atodlenni 9-22;

k) Adrannau 31-32;

l) Atodlen 6;

m) Adrannau 33-41;

n) Atodlen 7;

o) Adran 42;

p) Atodlen 8;

q) Adrannau 43-76;

r) Atodlen 23;

s) Adrannau 77-81;

t) Adran 1;

u) Atodlen 1;

v) Teitl Hir

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Unwaith eto nid oes yna ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:45.