Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Prosiectau Gwasanaethau Cyhoeddus

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau gwasanaethau cyhoeddus o fewn Dinas a Sir Abertawe? OAQ(5)0104(FLG)

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiectau gwasanaethau cyhoeddus, mawr neu fach, o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn amrywio o £100,000 o arian buddsoddi i arbed ar gyfer gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal i £100 miliwn tuag at safle Ysbyty Treforys.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, dros yr wythnosau diwethaf, mae pobl ar draws Abertawe wedi bod mewn cysylltiad yn pryderu am ddyfodol Fferm Gymunedol Abertawe, sydd wedi gwneud gwaith arbennig dros 20 mlynedd a mwy yn darparu cyfleoedd dysgu i bobl o bob oed. Yn anffodus nawr, mae’n wynebu cau ar ddiwedd y mis yma os na allan nhw godi £50,000 i gadw’r lle ar agor. A wnewch chi gydweithio gydag aelodau eraill eich Llywodraeth a chyngor Abertawe i drio diogelu dyfodol yr ased bwysig yma yn y tymor byr, tra byddan nhw’n edrych ar ffyrdd eraill o godi arian yn yr hir dymor?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy’n gyfarwydd gyda’r pwnc. Gwelais yr ateb roedd arweinydd y sir yn Abertawe wedi rhoi mas, yn dweud bod arian ychwanegol ar gael i’r fferm i roi cais i fewn amdano, i weld os mae nhw’n gallu helpu nhw yn y ffordd yna. Mae’r sir yn mynd i helpu’r fferm gyda manylion am sut i roi i fewn am yr arian, ac rwy’n fodlon siarad ag aelodau eraill y cabinet i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud. Ond nid ydym ni wedi derbyn cais o gwbl gan y fferm fel Llywodraeth eto.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am grybwyll Ysbyty Treforys? Rwyf fi, fel pawb sy’n byw yn ninas-ranbarth Abertawe, yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysbyty Treforys, a’r gwaith y mae’n ei wneud, gan ddenu’r model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer iechyd ar draws de-orllewin Cymru i gyd. Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: y prosiect o’r pwys mwyaf i ddinas Abertawe ar hyn o bryd yw dinas-ranbarth Abertawe a’r angen am gymorth ariannol ar gyfer hwnnw. Yr hyn rwy’n ei ofyn yw a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i barhau i gefnogi prosiect dinas-ranbarth Abertawe yn llawn?

Rwy’n hapus iawn i roi’r ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i arwyddo bargen ddinesig Abertawe ers rhai wythnosau bellach. Rydym yn teimlo’n rhwystredig oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU yn y gwahanol negeseuon y mae gwahanol Weinidogion yn y Llywodraeth honno i’w gweld yn eu cyfleu. Roeddwn yn falch o weld y llythyr oddi wrth Ganghellor y Trysorlys i Jonathan Edwards, yr AS dros Ddwyrain Caerfyrddin, lle roedd y Canghellor yn ymrwymo i’r fargen unwaith eto, a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hynny’n fuan iawn. Rydym yn sicr yn credu y dylent fod yn y sefyllfa honno.

Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r rhesymau dros yr oedi yw pryderon Llywodraeth y DU ynglŷn â’r cydbwysedd sector cyhoeddus/sector preifat gyda’r fargen ddinesig honno. Ac ar y pwnc hwnnw, os hoffech, tybed a allech roi syniad i ni—rwy’n sylweddoli na allwch roi ffigur penodol i mi—pa gyfran o gyllid Ewropeaidd Cymru yn fy rhanbarth sydd wedi cael ei wario ar brosiectau gwasanaethau cyhoeddus lle y mae’r prif bartner cyflenwi wedi dod o naill ai’r sector preifat neu’r trydydd sector?

Rwy’n hapus iawn i ddarparu’r ffigurau a’r manylion hynny i’r Aelod. Yn gyffredinol, fel y gŵyr, partneriaid sector preifat yw un o’r prif ffyrdd y gallwn gyflenwi arian Ewropeaidd ochr yn ochr â’n prifysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ei hun. Mae partneriaid sector preifat i fyny yno ar y pen hwnnw i’r gynghrair, ac yn cael eu cynrychioli’n llawn yn y pwyllgor monitro rhaglenni, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Julie Morgan. Roeddwn yn falch o fod ar y pwyllgor monitro rhaglenni ar ddiwedd Chwefror, ac yn falch o siarad â phartneriaid sector preifat yno, am y ffordd y maent yn gallu defnyddio arian o dan y cylch presennol, a sut y gallant ein helpu i ffurfio syniadau mewn perthynas â pholisi rhanbarthol y tu hwnt i Brexit.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £300 miliwn y flwyddyn i Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Abertawe. Yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf, roedd nifer y bobl a oedd yn teimlo bod Dinas a Sir Abertawe yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ychydig dros 50 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu bod hyn yn cynrychioli gwerth am arian, a beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu ac i geisio cyrraedd 70 y cant yn yr arolwg nesaf a gwella ar hynny yn y dyfodol?

Rwy’n credu bod pobl Abertawe yn cael gwerth da am arian o’r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn eu gwasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau iechyd a gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn uchelgeisiol parthed lefelau boddhad. Mae lefelau boddhad y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddoch, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn eithriadol o uchel a bob amser wedi bod. Gwn fod cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn anelu at gyflawni lefelau boddhad tebyg yn y dyfodol.

Diwygio Llywodraeth Leol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb cychwynnol yr awdurdodau lleol i'r papur gwyn ar ddiwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru? OAQ(5)0111(FLG)[W]

Diolch am y cwestiwn. Hyd yn hyn, dim ond un awdurdod lleol, sef Caerffili, sydd wedi ymateb yn swyddogol i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, sy’n cau ar 11 Ebrill. Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y Papur Gwyn ar ran yr awdurdodau lleol, gan nodi ei fod wedi’i lunio ar sail trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol.

Diolch. Mae’r ymateb cychwynnol rydw i wedi’i dderbyn gan gynghorwyr yn bennaf, ac o bob rhan o Gymru, yn nodi nifer o bryderon difrifol. Tra’n cefnogi’r ymgais i wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn fwy effeithiol, mae llawer yn pryderi fod y cynigion sy’n cael eu hamlinellu yn y Papur Gwyn yn peryglu egwyddorion craidd llywodraeth leol—egwyddorion sy’n ymwneud efo bod yn ymatebol ac yn atebol yn lleol. Fe all eich cynigion chi beryglu rôl llywodraeth leol fel rhan allweddol o ddemocratiaeth Cymru. Mae yna eraill yn gofyn a fydd creu’r haenau rhanbarthol yn arwain at gyfundrefn fwy effeithiol ac effeithlon. Felly, sut ydych chi’n bwriadu cynnal yr atebolrwydd pwysig yma yn y gyfundrefn ranbarthol? A fydd yna ddadansoddiad o gost cynigion y Papur Gwyn yn cael ei wneud?

Lywydd, fel dywedais i, dim ond un ateb swyddogol rŷm ni wedi’i dderbyn ar hyn o bryd. Roedd hwnnw’n adeiladol, ac roedd yn codi cwestiynau, wrth gwrs, gan roi sylwadau newydd i ni er mwyn trio cryfhau’r Papur Gwyn. Dyna beth yr wyf fi eisiau i’r bobl sydd yn mynd i ymateb yn swyddogol i’r Papur Gwyn ei wneud. Os yw pobl yn codi cwestiynau, mae hynny’n helpu, ond mae’n helpu mwy pan fyddant yn codi atebion hefyd ac yn rhoi sylwadau i ni ar sut rydym yn gallu cryfhau’r sylwadau rŷm ni wedi eu rhoi yn y Papur Gwyn ac er mwyn ein helpu ni i ymateb i’r cwestiynau y mae Sian Gwenllian wedi’u codi'r prynhawn yma.

Ar ymweliad diweddar ag Aberdaugleddau gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, roeddwn yn synnu clywed uwch-swyddog un o’r cyrff cyhoeddus yn y cyfarfod yn dweud bod syndod wedi’i fynegi, ar lefel uwch, fod arian yn cael ei dalu i sefydliad arall gyflawni swyddogaeth a oedd yn mynd i fod o fudd cyfunol i’r gymuned. Pa mor dda rydych chi’n credu y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn manteisio ar gyfleoedd y byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel ffordd newydd o weithio ac fel ffordd newydd o feddwl ynglŷn â sut rydym yn darparu’r manteision i’n cymunedau?

Rwyf wedi bod yn falch o’r cynnydd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi ei wneud hyd yma ar eu tasg graidd gyntaf, sef asesu llesiant lleol. Rwy’n credu ein bod yn awr, fel Llywodraeth, wedi derbyn drafftiau o’r asesiadau hynny gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac maent yn cael eu hadolygu gan fy swyddogion. Rwyf wedi cael cyfle i ddarllen rhannau o’r asesiadau hynny o wahanol rannau o Gymru ac rwy’n credu eu bod yn dangos ymgais wirioneddol ymroddgar i geisio darparu dull sy’n seiliedig ar asedau i asesu llesiant yn eu hardaloedd, gan edrych ar gryfderau eu poblogaethau lleol a sut y gallwn adeiladu ar y rheini’n well yn y dyfodol. Yr hyn na fyddant yn gallu ei wneud yw llwyddo i’r graddau yr hoffem iddynt lwyddo os ydynt yn adlewyrchu’r agwedd a fynegwyd gan Jenny Rathbone yn y rhan gyntaf o’i chwestiwn atodol. Holl bwyslais y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’r Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yw dod â phobl at ei gilydd mewn perthynas gydweithredol newydd lle y bydd pobl yn cydnabod y bydd rhai pethau’n cael eu gwneud gan sefydliadau eraill ar ran y boblogaeth ehangach, a dyna fydd y ffordd gywir a phriodol o wneud pethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn am ofyn y cwestiwn ynglŷn â’r ymatebion sy’n dod i mewn ar uno gwirfoddol, a gofyn a oes unrhyw awdurdodau lleol wedi ymateb mewn gwirionedd ac yn awyddus i uno’n wirfoddol, sy’n rhan fawr o’ch cynlluniau sydd ar y ffordd ar gyfer diwygio llywodraeth leol o ran chwilio am arbedion effeithlonrwydd. O ystyried nad ydym ond wedi cael un ymateb—un yn unig o 22 awdurdod lleol—sut rydych yn bwriadu bwrw iddi yn awr? Mae wedi bod yn anhrefn arnom dros y tair blynedd diwethaf o ran diwygio llywodraeth leol. Nid yw’n ymddangos i mi fod yna awydd i ymgysylltu â chi, o ystyried mai un ymateb yn unig a gafwyd. Felly, sut rydych yn bwriadu symud ymlaen yn awr a gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i sicrhau nad ydym yn cadw ein gweithwyr rheng flaen a’n haelodau etholedig mewn sefyllfa amwys lle nad oes neb yn gwybod beth sy’n digwydd? Rwy’n siomedig iawn o glywed nad ydym ond wedi cael un ymateb.

Nid wyf wedi siomi, Lywydd, o ystyried nad yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad tan 11 Ebrill. Rwy’n gwbl hyderus y cawn nifer fawr o ymatebion o bob cwr o Gymru erbyn y dyddiad cau. Gofynnodd yr Aelod ddau gwestiwn penodol. Nid ydym wedi derbyn unrhyw gais ffurfiol o ran uno gwirfoddol hyd yn hyn. A dweud y gwir, gydag etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, ni fyddwn wedi rhagweld y byddai unrhyw awdurdod lleol wedi gwneud cynnig o’r fath o ystyried mai ychydig wythnosau yn unig sydd tan hynny. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn y Papur Gwyn—pan fo awdurdodau lleol yn cyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn niwtral ar hynny, ond byddem yn ceisio eu cefnogi lle y gallem i geisio sicrhau bod y cynigion hynny’n dwyn ffrwyth. O ran pwynt olaf yr Aelod, rwyf wedi llwyddo i’w anghofio yn fy ateb—.

Ymddiheuriadau. Roeddem yn ymgysylltu llawer ag awdurdodau lleol er mwyn eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud y cyflwyniadau hynny, ond bydd yn fanteisiol iddynt wneud hynny, a dyna pam rwy’n teimlo’n hyderus y byddwn yn gweld nifer lawer mwy dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

A gawn ni aros gyda’r Papur Gwyn, Lywydd, a hefyd yr argymhelliad ynglŷn â’r map rhanbarthol newydd i Gymru? Mae’n 20 mlynedd—rwyf bron ffaelu credu—ers i fi gael fy nghomisiynu, ar y cyd â’r Athro Kevin Morgan, gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Ron Davies, i ail-lunio map rhanbarthol Cymru o ran NUTS II, i greu rhanbarth y Cymoedd a gorllewin Cymru, a dwyrain Cymru, er mwyn ymgysylltu â’r ardaloedd mwyaf difreintiedig a thrwy hynny, wrth gwrs, ennill statws Amcan 1. Mae’r map yma, wrth gwrs, yn gwneud y gwrthwyneb: mae’n ymgysylltu ag ardaloedd difreintiedig a’r ardaloedd mwyaf llewyrchus. A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ai dyma’r map y bydd e’n defnyddio wrth drafod y dyfodol ar gyfer unrhyw ddilyniant o ran cronfeydd rhanbarthol a hefyd y map ar gyfer ardaloedd a gynorthwyir, sef yr ‘assisted areas map’, i Gymru?

Wel, wrth gwrs, rwyf i’n cofio’r gwaith 20 mlynedd yn ôl. Rwyf i’n meddwl fy mod i’n cofio clywed yr Aelod yn siarad am y gwaith a beth oedd yn dod mas o’r gwaith mewn cynhadledd yma yng Nghaerdydd.

The map provides three footprints—the three city region footprints in effect—which we say will be responsible for economic development responsibilities. In that sense, the map is clearly relevant to the way in which regional policy and regional economic development policy would be taken forward in Wales post Brexit. What I don’t want to do, though, is to in any way close down debate about that at this point. I think there is the need for a lot of further thought, a lot of further engagement with people in the sector, about how that regional policy will be taken forward and what the geographies of that might be. If we’re trying to look at some of the upsides of Brexit, then we might say that greater geographical flexibility in the way that we deploy funds could be one of them, and that certainly has been a point made at the programme monitoring committee, where discussions of a future regional policy have already very usefully begun.

Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb ystyrlon. Fe glywom ni yn y Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau y bore yma gonsýrn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, a gan yr Athro Karel Williams, bod gorddibyniaeth ar y model ac ar y map sydd, yn y de, ar sail y dinas-ranbarthau, yn y gogledd ar y fargen twf i ogledd Cymru, a'r perig o ddiwallu—o lastwreiddio’r ffocws, yn hytrach—ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng ngogledd y Cymoedd, er enghraifft, neu yng ngogledd-orllewin Cymru. A fyddai fe yn edrych ar y syniadau amgen sy’n cael eu cyflwyno gan Sefydliad Bevan ynglŷn â chreu parth menter i’r Cymoedd ac, a dweud y gwir, gan fy mhlaid i ynglŷn a chreu fersiwn newydd o’r Bwrdd Datblygu Cymru Wledig mewn ffordd, a hefyd asiantaeth datblygu pwrpasol i’r Cymoedd?

Wel, Lywydd, wrth gwrs, mae diddordeb mawr gyda fi yng ngwaith Sefydliad Bevan. Roedd gwaith yr Athro Karel Williams—roedd hwnnw’n rhan o’r trafodaethau yn y PMC ym Merthyr nôl ym mis Chwefror, lle roeddem ni’n treial i—. Wel, y ddadl oedd am le.

How do we have a sense of place in the way that we fashion our future regional economic development policies that takes account of those places where there are the greatest concentrations of disadvantage, while not doing it in a way that seems to isolate those communities from possibilities that lie nearby or around their borders? And it was a very interesting discussion, with contributions from all the different sectors around that table, as to how we can best map a future, both geographically and conceptually, that allows us to find a way of taking account of the very particular needs of those whose needs are greatest without, as I say, seeking to isolate them from opportunities that they need to be connected to and would make a difference to their futures if we have a different set of ideas about how place-based policies can operate more successfully in the future.

Fe gawsom ni ddeialog, llai ystyrlon efallai, ychydig ddyddiau nôl ar draws y Siambr ynglŷn â’r cwestiwn o falans y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar draws ein rhanbarthau, a gad i mi bwysleisio nad oes unrhyw beth y byddwn i am ddweud a fyddai’n wrth-Caerdydd, ond a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ystyried comisiynu ymchwil fel bod gyda ni ystadegau i edrych ar yr agendor sydd yna dros gyfnod o flynyddoedd—mae wedi bod yna dros ddegawdau—ynglŷn â buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y gwahanol ranbarthau?

Ac, yn olaf, wrth ffocysu ar gyfle euraid i’r Cymoedd, nid wyf yn gofyn iddo fe ddweud beth fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru, ond mae hwn yn rhan o’i gyfrifoldeb ef, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud a ydy unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â’r Circuit of Wales yn cael ei effeithio gan reolau Llywodraeth Cymru ynglŷn â ‘purdah’ llywodraeth leol a fydd yn digwydd ymhen 10 diwrnod, neu, gan ei fod yn gyhoeddiad o bwys cenedlaethol, fydd e ddim?

Gadeirydd, clywais y drafodaeth yn y Siambr ddoe rhwng arweinydd y tŷ a’r Aelod mewn perthynas â buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae llawer o wybodaeth eisoes ar gael am batrymau buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n siŵr y gellid sicrhau bod y wybodaeth ar gael. Yn bersonol, rwy’n canolbwyntio mwy ar sicrhau ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir ar gyfer y dyfodol a’n bod yn buddsoddi ein hadnoddau cyfalaf prin mewn ffordd sy’n sicrhau ffyniant i bawb ym mhob rhan o Gymru.

O ran y cwestiwn ar Gylchffordd Cymru, gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, wedi crybwyll yr hyn y mae eisoes wedi ei addo i’r Siambr hon, sef cyfnod o graffu ar y cynlluniau terfynol a ddaeth i law gan Gylchffordd Cymru. Bydd yn dymuno gwneud hynny gydag ymdeimlad priodol o ddiwydrwydd dyladwy a bydd yn rhaid iddo gymryd yr amser sydd ei angen i wneud y gwaith hwnnw. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol o’r purdah, ond bydd yn canolbwyntio, rwy’n siŵr, ar sicrhau bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn destun i’r lefel gywir o graffu er mwyn iddo allu gwneud argymhelliad i’r Cynulliad Cenedlaethol maes o law.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau rhyng-lywodraethol ar gyflwyno datganoli treth yn sgil y cytundeb ar y fframwaith cyllidol?

Wel, diolch i chi, Lywydd. Ers i’r fframwaith cyllidol gael ei lofnodi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, rwyf wedi parhau i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng Nghaeredin mewn cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle y trafodwyd datganoli ariannol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Dwy agwedd, mae’n debyg: sut rydym yn gwneud i’r system yr ydym yn awr wedi cytuno arni i weithio’n effeithiol; pa bethau y mae angen i ni eu gweld ar y gorwel y gallem fod eisiau eu rhoi ar ein hagendâu yn y dyfodol ar gyfer cyflawni gwaith rhyngom.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, roedd cefnogaeth drawsbleidiol i’r fframwaith cyllidol ac rydym yn croesawu ei weithrediad. Y bore yma, yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom dystiolaeth gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar yr her fawr nesaf—nid yw cyflawni rhagolygon cywir o dreth Gymreig yn dasg hawdd. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod cywirdeb yn hanfodol, gan y bydd y rhagolygon yn cael eu defnyddio i wneud didyniadau grant bloc yn y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â chyflawni rhagolygon a sut rydych yn rhagweld y byddwch yn gweithio gyda hwy yn y dyfodol i sicrhau bod y rhagolygon mor gywir â phosibl?

Wel, Lywydd, cyfarfûm â Robert Chote, pennaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yng Nghaerdydd ychydig cyn y Nadolig i drafod gwaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a sut y gall gasglu data sy’n bwysig i ni yng Nghymru. Ond fel y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, un o’r pethau allweddol a sicrhawyd gennym yn y fframwaith cyllidol oedd ffrwd o gyngor annibynnol—annibynnol ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—a fyddai’n dod o safbwynt Cymreig yn benodol pe bai angen i ni ddefnyddio hwnnw fel rhan o’r cytundeb fframwaith cyllidol. Rhan o’r cytundeb oedd y byddem yn sicrhau gwaith craffu annibynnol ar ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol agos, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i’r Aelodau ychydig ddyddiau yn ôl, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill y cytundeb i ddarparu’r oruchwyliaeth annibynnol honno.

Diolch. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—ac eraill, yn wir—wedi nodi, yn y blynyddoedd diwethaf, fod twf yn yr incwm a dderbynnir wedi bod yn sylweddol is yng Nghymru nag ar draws y DU, yn rhannol oherwydd materion fel codi trothwy lwfans personol a symud y baich yn uwch i fyny’r raddfa incwm, gydag incwm is yn ffurfio cyfran fwy o’r sylfaen dreth yng Nghymru. Mae’n hanfodol fod rhagolygon yn cael eu teilwra i anghenion Cymru ac rwy’n fodlon â’r ateb rydych newydd ei roi mewn perthynas â sut rydych yn ceisio sicrhau golwg annibynnol ar anghenion y dreth yng Nghymru a rhagolygon Cymru.

Fel y dywedais o’r blaen, mae’n hanfodol fod gennym ragolygon cywir. Mae’n hanfodol nad oes gennym ateb un maint i bawb i hynny. Yn absenoldeb comisiwn cyllidol Cymreig, sut rydych yn bwriadu sicrhau cymaint o fewnbwn â phosibl o ddata Cymreig a phrofiad Cymreig dros y blynyddoedd i ddod i gael ei gynnwys yn y broses o gyflawni rhagolygon, sydd mor hanfodol mewn perthynas â faint o arian a gawn yn y grant bloc?

Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r pwyntiau cyffredinol y mae Nick Ramsay yn eu gwneud—pwysigrwydd goruchwyliaeth dda, annibynnol o’r broses a data cywir sy’n rhoi’r canlyniadau gorau posibl a mwyaf dibynadwy i ni. Mae creu rhagolygon economaidd yn gelfyddyd, nid gwyddor, a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—gyda’i hadnoddau na fyddwn byth yn gallu cael eu tebyg—fe fyddwch yn gwybod bod ei rhagolygon, mewn cyfnod o chwe mis, yn gallu symud cryn dipyn mewn rhai meysydd pwysig iawn.

Felly, hyd yn oed gyda data da iawn, ac adnoddau da iawn, mae’n dal i fod yn weithgaredd anfanwl. Cyfarfûm â chadeirydd Comisiwn Cyllidol yr Alban, yr Arglwyddes Susan Rice, pan oeddwn yng Nghaeredin rai wythnosau yn ôl i ddysgu oddi wrthynt sut y maent wedi mynd ati i sicrhau’r math hwnnw o gyngor. Rwy’n dal i ystyried gyda swyddogion beth yw’r ffordd orau o ddarparu’r ffrwd honno o oruchwyliaeth annibynnol y tu hwnt i’r cytundeb gyda Bangor, sydd ar gyfer y dyfodol agos. Rwy’n credu bod y cwestiwn pa un a oes angen comisiwn llawn arnom ar gyfer y lefel o ddatganoli cyllidol sydd gennym, yn un y mae’n rhaid i ni fod yn barod i’w ofyn, ond nid yw hynny’n golygu nad oes ffyrdd eraill y gallwn sicrhau’r math o gymorth a mewnbwn annibynnol i’r broses hon y mae Nick Ramsay wedi tynnu sylw ati’n briodol y prynhawn yma.

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud y bydd ei Llywodraeth yn cynnal ail refferendwm annibyniaeth. Un o’r heriau a fydd yn ei hwynebu yw bod yr Alban, ar ei phen ei hun, yn gweithredu ar ddiffyg o tua 9 y cant neu 10 y cant o gynnyrch domestig gros, o’i gymharu â 4 y cant ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Amcangyfrifir, felly, y byddai’n rhaid i Alban annibynnol lenwi twll cyllidol o tua £15 biliwn i £16 biliwn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud unrhyw amcangyfrif o’r ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru?

Wel, mae ffigurau o’r math hwnnw ar gael ar gyfer Cymru, wrth gwrs, ond mae materion yr Alban, Lywydd, yn faterion i Lywodraeth yr Alban ac yna i bobl yr Alban eu pwyso a’u mesur a gwneud penderfyniad.

Yn ddefnyddiol iawn, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar lle y mae’n nodi cyfanswm gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru ar bob lefel o’r Llywodraeth. Y flwyddyn ddiweddaraf y mae ganddynt ddata cymaradwy ar ei chyfer yw 2014-15, ac roedd yn £38 biliwn. Mae hynny’n cymharu â chyfanswm refeniw sector cyhoeddus i Gymru o £23.3 biliwn. Felly, mae’r adroddiad yn canfod mai cydbwysedd cyllidol net Cymru oedd diffyg o £14.7 biliwn, bron yr un fath â’r Alban, er gwaethaf economi sylweddol lai, a fyddai’n gadael bwlch cyllidol o 24 y cant o’r cynnyrch domestig gros. O ystyried y bwlch hwnnw, a dibyniaeth Cymru ar drosglwyddiadau cyllidol o Loegr, a yw’n synhwyrol i’r Prif Weinidog ddweud mai’r Alban a ddylai fod yn fodel ar gyfer Cymru?

Rwy’n siŵr fod y Prif Weinidog yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod yna sawl ffordd y gall yr Alban fod yn fodel ar gyfer Cymru, yn union fel y mae llawer o bethau rydym yn eu gwneud yma y mae’r Alban yn eu hystyried yn fodelau y gallant ddysgu oddi wrthynt hefyd. Felly, nid oes unrhyw bwyntiau o natur synhwyrol i’w gwneud o’r sylw hwnnw. Yr hyn sydd gennym, fel y dywed yr Aelod—ac o safbwynt y Llywodraeth hon, rydym yn Llywodraeth ddatganoliadol sy’n credu mewn bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Y rheswm y credwn mewn bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig yw ein bod yn ystyried hynny’n bolisi yswiriant lle rydym yn cyfuno ein risgiau ac yn rhannu buddiannau. Nid wyf yn credu bod cwestiynau sydd i’w gweld yn gosod un rhan o’r Deyrnas Unedig yn erbyn rhan arall ac yn dweud bod un rhan yn cael ei sybsideiddio gan ran arall—nid wyf yn credu bod honno’n ffordd ddefnyddiol o feddwl am bethau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod yr un adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod Cymru yn gwneud mwy o ymdrech cyllidol y pen o’r boblogaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Rydym i gyd yn gwneud cyfraniadau, mae gennym i gyd anghenion y gallwn fynd i’r afael â hwy, ac rwy’n credu mai dyna’r ffordd fwyaf synhwyrol o geisio meddwl am y materion hyn.

Felly mae tua £7,500 y pen o dreth yn cael ei godi yng Nghymru, o’i gymharu â £10,000 ar draws y DU yn ei chyfanrwydd. Rwy’n falch o glywed ailddatganiad ac eglurhad Ysgrifennydd y Cabinet fod ei blaid, o leiaf, a’r Llywodraeth y mae’n ei harwain, yn un ddatganoliadol, oherwydd, yn llawer o weithredoedd y Llywodraeth hon, ceisir cytundeb ag un o’r gwrthbleidiau gyferbyn—ac nid wyf byth yn hollol siŵr a ydynt yn wrthblaid neu’n cefnogi’r Llywodraeth, ond 6 y cant yn unig o’r bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n cefnogi eu polisi mwyaf arwyddocaol sef sicrhau annibyniaeth i Gymru. Nawr, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach am gyfarfod pedairochrog, ac mae’r Prif Weinidog wedi rhoi pwyslais mawr ar y math o strwythur sydd i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, ond onid ydym mewn sefyllfa wahanol iawn? Nid yn unig fod Cymru, fel Lloegr, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, a’i bod wedi gwneud hynny o fwy na’r DU yn ei chyfanrwydd, y sefyllfa sy’n ein hwynebu yw nad oes gan Ogledd Iwerddon lywodraeth, ac nid yw’n glir pryd y bydd ganddynt lywodraeth, tra bydd Llywodraeth yr Alban, hyd y gellir rhagweld, yn ymgyrchu dros annibyniaeth, gan geisio chwilio am esgus dros greu anghydfod, yn hytrach na cheisio gwneud i’r DU weithio. Yn y sefyllfa honno, oni ddylai Llywodraeth Cymru roi mwy o bwyslais ar gyfarfodydd dwyochrog a negodi â Llywodraeth y DU i gael y canlyniad gorau i Gymru, fel y ceisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud â’r fframwaith cyllidol?

Mae cysylltiadau dwyochrog â Llywodraeth y DU yn bwysig. O ran Brexit, cefais gyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos cyn y ddiwethaf, a chafodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog ag ef yr wythnos diwethaf. Ond nid yw’r pethau hyn, yn y pen draw, yn gweithredu yn lle proses y Cyd-bwyllgor Gweinidogion nac yn wir, yn lle fersiwn well a chryn dipyn yn fwy datblygedig o broses Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Dywedodd Gweinidog yr Alban dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn benodol iawn wrthyf, er bod ganddynt gyfres wleidyddol o uchelgeisiau y maent yn gobeithio bwrw ymlaen â hwy yn y ffordd y mae Prif Weinidog yr Alban wedi ei nodi, bwriad yr Alban oedd parhau i fod yn aelod cyfrannog o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion. Credaf na ddylai cysylltiadau dwyochrog gymryd lle’r ffordd honno o ddod ynghyd, lle y mae pedair cydran y Deyrnas Unedig yn rhannu syniadau ac yn ceisio dod o hyd i atebion cyffredin i broblemau cyffredin. Mae cysylltiadau dwyochrog yn eu hategu ac yn bwysig, ond nid ydynt yn cymryd eu lle.

Cyllideb y Gwanwyn

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o Gyllideb y Gwanwyn Canghellor y DU? OAQ(5)0114(FLG)

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio gwneud y defnydd gorau o unrhyw gyllid newydd sydd ar gael i ni. Nid yw’r symiau canlyniadol sy’n codi o gyllideb y gwanwyn yn gwneud dim i wrthdroi polisi niweidiol caledi y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn.

Cyn i chi ofyn y cwestiwn atodol, rwy’n credu eich bod wedi gofyn i’r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 4.

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn 2017 Llywodraeth y DU i grant bloc Cymru? OAQ(5)0110(FLG)

Yn ei gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor gronfa o £5 miliwn i ddathlu canmlwyddiant y wraig gyntaf ym Mhrydain i gael y bleidlais yn 1918 y flwyddyn nesaf. Mae hwn, rwy’n gwybod, yn swm bychan o arian o’i gymharu â’r gyllideb gyfan, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o’r arian hwnnw y byddem yn ei dderbyn yng Nghymru, sut y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddosbarthu ac i ba fath o brosiectau.

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. £294,000 yw cyfran Cymru o’r gronfa o £5 miliwn. Dyna’r swm canlyniadol. Bydd Cabinet Cymru yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i ystyried sut y byddwn yn defnyddio symiau canlyniadol y gyllideb, a bydd hynny’n rhan o’n hystyriaeth.

Weinidog, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol, yn wahanol i’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n dal i fod yn wir fod y pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn enfawr. Rwy’n gobeithio eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i ddefnyddio’r arian ychwanegol i fynd i’r afael â’r pwysau hwnnw. Rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o fy mhryder parhaus ynglŷn â’r toriad yn y cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd mynd i’r afael â’r pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn brif flaenoriaeth i chi, ac a fyddech yn cytuno bod yr arian ychwanegol hwn yn gyfle gwych i adolygu’r gefnogaeth i blant anabl yn gyffredinol a’r toriad i Gronfa’r Teulu yn benodol?

Wel, Lywydd, y flaenoriaeth honno yr ydym bob amser wedi ei rhoi i’r gwasanaethau cymdeithasol yw’r rheswm pam nad yw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi dioddef o’r toriadau a wnaed ar draws y ffin. Mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau sylweddol iawn o ganlyniad i ddemograffeg a ffactorau eraill—rwy’n cydnabod hynny’n llwyr—ond maent mewn lle gwell i wynebu’r pwysau hynny na gwasanaethau eraill mewn mannau eraill. Bydd yr Aelod wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 sy’n cadarnhau, unwaith eto, bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon yn 106 y cant o’r gwariant yn Lloegr, a dyna pam, yn y gyllideb a roddwyd gerbron y Cynulliad hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, mewn cytundeb â Phlaid Cymru, y cafodd £25 miliwn ychwanegol ei nodi yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac yna cafodd £10 miliwn o gyllid rheolaidd pellach ei nodi rhwng y gyllideb derfynol a’r gyllideb ddrafft, i helpu adrannau gwasanaethau cymdeithasol i ddod o hyd i ateb teiran i bwysau’r hyn a elwir yn gyflog byw mewn gofal cymdeithasol. Yn y cyfnod yn arwain at y gyllideb, ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys, yn ei annog i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a bydd y mater hwnnw’n sicr o gael ei drafod pan fydd cyd-Aelodau yn y Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i drafod y symiau canlyniadol. Bydd sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio, os gellir sicrhau y bydd unrhyw ran ohono ar gael ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, yn fater i’r Gweinidog dan sylw, ond bydd hi’n sicr yn ymwybodol o farn yr Aelod a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cynnydd o £50 miliwn i gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru a fydd yn awr yn dod yn sgil y gyllideb, sy’n adeiladu ar y cynnydd o £400 miliwn a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref? Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd go iawn i ni o ran datblygu cyfalaf.

Wel, Gadeirydd, rwy’n croesawu unrhyw arian ychwanegol sy’n dod i Gymru. Bydd y cyfalaf ychwanegol o £50 miliwn yn cael ei rannu dros gyfnod o bedair blynedd. Pan fyddwch yn ei ystyried gydag arian datganiad yr hydref, mae’n golygu mai dim ond 21 y cant yn llai y bydd ein cyllidebau cyfalaf yn 2019-20 yn awr, o’i gymharu â’r hyn oeddent yn 2009-10. Felly, mae’r Canghellor wedi mynd ran o’r ffordd—rhan fach o’r ffordd—i lenwi’r twll a grëwyd gan ei ragflaenydd.

Mewn cyllidebau blaenorol ar gyfer y DU, mae cryn anghytundeb wedi bod ynglŷn â sut y mae Llywodraeth y DU wedi dosbarthu llinellau gwariant penodol, yn enwedig mewn gwariant cyfalaf—felly, pa un a ydynt yn dynodi prosiect ledled y DU lle nad oes symiau canlyniadol Barnett, neu brosiect yn Lloegr yn unig os yw ar gael. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal unrhyw asesiad ar y gyllideb ddiweddar i weld a gafwyd unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod cyfrifo ystrywgar tebyg wedi digwydd mewn perthynas â symiau canlyniadol Barnett?

Wel, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn cadw llygad barcud wrth chwilio am yr union fathau hynny o ystrywiau, ac mae fy swyddogion wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion yr hyn a ddywedwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae’r gyllideb yn wledd newidiol iawn yn wir, a newidiodd eto o fewn yr awr ddiwethaf yn unig gyda chamu’n ôl eto o’r argymhellion a wnaed gwta wythnos yn ôl. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac yn herio lle y mae angen i ni wneud hynny, lle y credwn fod dosbarthiadau’n cael eu defnyddio ar gam er anfantais i symiau canlyniadol Barnett.

Mae cyllideb y gwanwyn yn darparu hwb o £150 miliwn i gyllideb adnodd Llywodraeth Cymru a £50 miliwn i’w chyllideb cyfalaf, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn helpu i dalu costau ychwanegol yr isafswm cyflog cenedlaethol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i roi ystyriaeth gref i ddefnyddio peth o’r cynnydd yn y grant bloc i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Wel, fel y credaf fy mod wedi’i ddweud eisoes y prynhawn yma, Lywydd, gall yr Aelodau fod yn sicr y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn briodol pan fydd y Cabinet yn cyfarfod i edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio’r adnoddau ychwanegol sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb yr wythnos diwethaf.

Roeddwn yn mynd i ofyn i chi, yn wir, am effaith y codiadau yswiriant cenedlaethol ar y grant bloc, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yng nghefn gwlad Cymru, ond mae arogl y gwreichion o’r tro pedol penodol hwnnw yn dal i fod yn fyw yn fy ffroenau. Felly, gadewch i mi ofyn, yn lle hynny: un mater nad aethpwyd i’r afael ag ef yn y gyllideb hon sy’n effeithio ar lawer o drigolion Cymru yw anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod—ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. Ai safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw eich bod yn ceisio dod o hyd i ateb i hynny, ac a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda’r Prif Ysgrifennydd neu unrhyw un arall yn Llywodraeth San Steffan ynglŷn â mynd i’r afael â hynny mewn cyllidebau pellach yn y dyfodol?

Lywydd, roeddem yn siomedig iawn fod y Canghellor wedi methu manteisio ar gyfle yr wythnos diwethaf i fynd i’r afael â’r mater hwnnw ac ymateb i’r pwyntiau a wneir yn briodol iawn gan yr ymgyrch honno. Rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni i barhau i drafod materion o’r fath gyda’r Prif Ysgrifennydd a Llywodraeth y DU yn fwy cyffredinol, ac roeddem wedi gobeithio y byddai’r gyllideb wedi cael ei gweld fel cyfle i wneud iawn am rai o’r anghyfiawnderau y mae’r ymgyrch honno wedi tynnu sylw atynt.

Tryloywder o ran Llywodraeth Leol

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gynyddu tryloywder o ran llywodraeth leol? OAQ(5)0112(FLG)

Diolch i Angela Burns am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog llywodraeth leol i gynnal ei fusnes mewn modd agored a thryloyw. Mae’r Papur Gwyn cyfredol ar ddiwygio llywodraeth leol yn cynnig ystod o ffyrdd i gynyddu tryloywder ymhellach.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, yw bod y Papur Gwyn cyfredol wedi diddymu’r rhwymedigaeth i gynghorwyr gyhoeddi adroddiad blynyddol i gynyddu tryloywder ac i ganiatáu i bleidleiswyr weld beth y mae eu cynrychiolwyr wedi bod yn ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech, efallai, esbonio rhywfaint mwy ar hynny ac egluro pam fod y gofyniad hwnnw wedi’i wanhau ac os yw, pam y teimlwch nad yw sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn adrodd yn rheolaidd a chyson ar y gwaith a wnânt ar ran y rhai y maent yn eu cynrychioli yn system addas i lywodraeth agored ac atebol.

Wel, Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr ei bod yn rhwymedigaeth ar unrhyw gynghorydd etholedig i fod mewn perthynas barhaus â’r bobl hynny sydd wedi eu hethol. Yr hyn y mae’r Papur Gwyn yn ei wneud yw sefydlu dewislen o ffyrdd y gall cynghorydd lleol ddangos eu bod wedi gwneud hynny. Bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gwneud hynny. Ond os ydych yn gynghorydd lleol, er enghraifft, sy’n cyhoeddi pedwar cylchlythyr chwarterol ac yn eu dosbarthu o amgylch eich ward, yna rwy’n credu eich bod wedi mynd y tu hwnt i un adroddiad blynyddol i ddangos eich bod yn cyflawni’r rhwymedigaeth y mae’r Papur Gwyn yn ei chreu, sef bod yn rhaid i chi fel cynghorydd allu dangos eich bod yn gwneud yr hyn y byddem i gyd, rwy’n credu, yn cytuno y dylech ei wneud. Felly, mae dewislen o ddewisiadau y bydd cynghorwyr yn gallu ei defnyddio i ddangos eu bod yn gwneud hynny. Mae adroddiad blynyddol yn un, ond mae ffyrdd eraill yn ogystal. Bydd yn rhaid i gynghorwyr ddangos yr hyn y maent wedi’i wneud o’r rhestr honno o bethau i aros yn y berthynas atebol barhaus honno gyda’u poblogaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi ddigon o eisiau cyflog cyfartal i gyflwyno tryloywder cyflog mewn llywodraeth leol, gan fod tryloywder yn gam hanfodol tuag at gyflog cyfartal?

Wel, rwy’n cytuno bod tryloywder yn bwysig iawn mewn perthynas â chyflog. Dyna pam, ym mis Rhagfyr 2015, y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Tryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru’, cyfres o egwyddorion a chanllawiau. Dyna pam y gofynnwyd i Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ddatblygu canllawiau ar hyn, ac fe’u cyhoeddwyd ganddynt ym mis Rhagfyr y llynedd. Trafodwyd y canllawiau hynny yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, a gadeiriwyd gennyf yr wythnos diwethaf, gyda chyflogwyr ac undebau llafur. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gymryd camau pellach, lle y bo angen, er mwyn sicrhau bod tryloywder yn y ffordd y caiff cyflog ei adrodd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynllun Peilot Parcio Ceir

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cyllid i’r portffolio Cymunedau a Phlant i gefnogi cynllun peilot parcio ceir Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0105(FLG)

Mae cyllideb 2017-18, a gymeradwywyd gan y Cynulliad, yn adlewyrchu ein cytundeb gyda Phlaid Cymru i ddarparu £3 miliwn ar gyfer cynlluniau peilot i gefnogi meysydd parcio am ddim yng nghanol trefi.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ofyn pa fanylion pellach y gallwch eu rhoi am y gronfa £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi a sut y bydd yn gweithredu? Pa ymwneud a fu rhyngoch chi ac awdurdodau lleol ledled Cymru hyd yn hyn? Rwyf am ddweud bod un awdurdod lleol yr ysgrifennais ato’n ddiweddar wedi dweud wrthyf nad oedd yn ymwybodol o’r arian hwn na sut i wneud cais amdano ac o ganlyniad, nid yw wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y cyllid hwn.

Wel, Lywydd, nid oes rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am y cyllid gan eu bod yn ei dderbyn drwy’r grant cynnal refeniw. Felly, byddant i gyd yn derbyn eu cyfran o’r cyllid. Gadewch i mi ddweud fy mod yn disgwyl y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun newydd. Deallaf fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant wedi cyfarfod â llefarydd Plaid Cymru ar y mater hwn yn gynharach heddiw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol heddiw, ac mae’r llythyr eisoes wedi cael ei gyhoeddi, lle roedd yn nodi cyfres o ofynion a chanllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o’r cynllun ac y byddant yn cymryd rhan ynddo yn y ffordd y byddem wedi ei ddisgwyl.

Mae Plaid Cymru yn siomedig bod yr arian ar gyfer y cynllun parcio am ddim yn cael ei ddosbarthu drwy’r grant cynnal refeniw, yn hytrach na bod pot penodol o arian ar gael i gynghorau bidio amdano fo, oherwydd bod yna berig na fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i’r pwrpas a fwriadwyd. Ond rwy’n deall, yn dilyn y cyfarfod rwyf wedi’i gael y bore yma, ac ar fy nghais i, y byddwch chi yn cysylltu â phob arweinydd cyngor yn gofyn iddyn nhw neilltuo’r arian ar gyfer y cynllun penodol yma. A wnewch chi felly gadarnhau bod eich Llywodraeth chi yn gofyn i gynghorau ddefnyddio’r arian ar gyfer parcio am ddim, fel y cytunwyd rhwng y ddwy blaid, a hynny, wrth gwrs, fel rhan o ymgyrch barhaus i wella’r stryd fawr ar draws Cymru?

Wel, Gadeirydd, pryd bynnag y bydd gan rywun gynllun penodol y maent wedi ymrwymo iddo, rwy’n deall y byddent yn hoffi ei weld mewn grant arbennig am ei fod yn fwy gweladwy yn y ffordd honno. Mae hynny bob amser yn creu tipyn o wrthdaro â’r egwyddor ei bod hi’n well gan awdurdodau lleol o bob plaid weld yr arian yn mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl ar lawr gwlad. Yn yr achos hwn, penderfynais y byddai’n mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw, ond y byddai’n cael ei fonitro’n ofalus iawn. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny’n glir. Rydym eisiau arloesedd. Rydym eisiau caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu’r cynlluniau peilot sy’n gweithio orau yn eu hardaloedd eu hunain, gyda’r nod—. Fel y dywedodd Sian Gwenllian, y nod a rennir ganddynt oll yw gwneud mwy i ganiatáu i’n strydoedd mawr fod yn lleoedd ffyniannus lle y gall busnesau weithredu’n llwyddiannus a lle y gall pobl leol deimlo eu bod yn cael rhywbeth sy’n fywiog ac yn werth chweil yn eu bywydau hefyd.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Mae’r cwestiwn cyntaf gan Simon Thomas.

Cerbydau Trydan

1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i hybu teithio i'r Cynulliad mewn cerbydau trydan? OAQ(5)0004(AC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn ddweud, yn dilyn fy ymateb i’ch cwestiwn ar y mater hwn ym mis Hydref, rwy’n falch o allu cadarnhau fod trefniadau ar y gweill i osod dau bwynt gwefru ar yr ystad. Bydd y rhain yn defnyddio system cerdyn talu wrth ddefnyddio/cerdyn allwedd a fydd yn caniatáu ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar y safle a chynllun taliad hawdd i’r defnyddiwr. Unwaith y bydd ar waith, byddwn yn hyrwyddo gwybodaeth am y cyfleuster ymysg Aelodau a staff. Rydym yn gobeithio y bydd y ddarpariaeth hon yn annog y defnydd o gerbydau trydan.

Diolch i’r Comisiynydd am ei hateb, ac rwy’n croesawu’n fawr y datblygiad a’r ymateb i gwestiynau cynharach ar hyn, a’r ffaith y bydd gennym, cyn bo hir, bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y Cynulliad. Nid yw technoleg batri wedi datblygu’n llawn eto i mi allu teithio o Aberystwyth i’r Cynulliad heb ailwefru, ond rwy’n credu ei fod bron â bod yno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn anfon datganiad clir iawn o’n hegwyddorion cynaliadwyedd a’n bod yn croesawu pob math o drafnidiaeth gynaliadwy i’r Cynulliad. Edrychaf ymlaen, felly, a hoffwn gael cadarnhad gan y Comisiynydd y bydd hyn ar gael i staff ac Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal ag ymwelwyr.

Hoffwn ddiolch i’r Aelod unwaith eto am holi ynglŷn â cherbydau trydan. Hoffwn ddweud y bydd angen i ni fynd drwy’r broses gaffael briodol, a bydd hyn yn cymryd peth amser. Ond yn dilyn yr arolwg a anfonwyd allan ym mis Chwefror, cafwyd ymateb mwy cadarnhaol i gerbydau trydan, ac rydym wedi ymateb yn unol â hynny. Hoffwn ddweud ein bod yn gobeithio ac yn bod yn gadarnhaol y bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn yr haf—y baeau gwefru—ond yn amlwg mae’n rhaid i ni ganiatáu amser ar gyfer hapddigwyddiadau. Diolch.

Rwy’n croesawu cyflwyniad y ddau bwynt gwefru ar ystad y Cynulliad. A allech egluro ai ar safle’r Cynulliad Cenedlaethol yma yng Nghaerdydd yn unig y bydd hyn yn digwydd, neu a fydd pwyntiau gwefru eraill ar rannau eraill o ystad y Cynulliad Cenedlaethol yn y gogledd? Oherwydd, fel y dywedodd Simon Thomas, un o’r prif broblemau yw nad yw’n bosibl teithio o dde Cymru i ogledd Cymru oherwydd nad oes digon o bwyntiau gwefru i’ch galluogi i gyrraedd yno.

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Hoffwn ddweud ein bod, ar hyn o bryd, yn edrych yn unig ar ddau bwynt gwefru yn Nhŷ Hywel, ond yn amlwg, fe welwn pa mor llwyddiannus fydd hyn, ac mae gennym ddiddordeb mewn edrych ar hyn yn gadarnhaol a lleihau ôl troed allyriadau carbon. Rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â’r syniad hwn, felly gyda chynnydd, byddwn yn rhagweld y byddem yn edrych ar safleoedd eraill.

3. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Mis Mawrth yw Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari. Canser yr Ofari yw’r pumed canser mwyaf cyffredin mewn menywod. Yn y DU yn unig, mae tua 7,200 o fenywod yn cael diagnosis o’r clefyd bob blwyddyn, ac mae tua 4,300 o farwolaethau o ganlyniad i ganser yr ofari bob blwyddyn. Bydd llawer ohonom yma ag aelod o’r teulu neu ffrind, neu’n adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt gan ganser yr ofari. Ac er bod hwn yn ganser cymharol brin, mae’r ffaith fod un fenyw’n marw bob dwy awr o’r clefyd yn tystio i’r angen i fynd i’r afael â hyn, i godi ymwybyddiaeth ac i chwalu mythau am ganser yr ofari ymysg menywod ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Mae canser yr ofari wedi cael ei alw’n ‘llofrudd distaw’ oherwydd yr anhawster i wneud diagnosis, ond mae yna symptomau i fod yn ymwybodol ohonynt. Mae gwybod am y symptomau, eu cymryd o ddifrif a gweithredu arnynt yn ffactor allweddol yn y frwydr i guro’r canser creulon hwn. Y prif symptomau i edrych amdanynt yw poen parhaus yn y stumog, chwyddo parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta neu deimlo’n llawn yn gyflym, a’r angen i basio dŵr yn amlach. Rydym yn gwybod nad yw 90 y cant o fenywod yn ymwybodol o’r pedwar prif symptom hyn. Mae mwy y gellir ei wneud ac mae mwy sy’n rhaid ei wneud i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â chanser yr ofari. Os ydych yn dioddef unrhyw symptomau, mae’r elusen Ovarian Cancer Action yn argymell na ddylech eu hanwybyddu, gweithredwch yn gyflym a siaradwch â’ch meddyg teulu. Os gwneir diagnosis yng ngham 1, mae cyfradd oroesi menywod o ganser yr ofari yn 90 y cant. Mae canfod y clefyd yn gynnar yn achub bywydau; mae gwybod beth yw’r symptomau yn gwneud gwahaniaeth.

Diolch, Lywydd. Yn 40 oed eleni, mae Biosffer Dyfi wedi bod yn un o chwech o warchodfeydd biosffer cydnabyddedig UNESCO yn y Deyrnas Unedig. Ailenwyd ac ymestynnwyd y biosffer yn 2001, ac erbyn hyn mae’n ymestyn o Aberystwyth i Lanbryn-mair ac o Borth i Ddinas Mawddwy. Mae ganddo weledigaeth bendant a chlir, sef: bydd Biosffer Dyfi yn cael ei gydnabod a’i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref wedi’i gwreiddio yn lleol.

I gwrdd â’r weledigaeth heriol a chyffrous, mae ganddo naw prif amcan. Un ohonynt yw sicrhau y bydd yn gymuned ddwyieithog, a fydd yn cael ei chydnabod a’i pharchu am ei threftadaeth. Felly, mae statws y biosffer yn ymwneud â llawer mwy na’r amgylchedd—mae’n cwmpasu sefyllfa’r iaith Gymraeg o gwmpas aber Afon Dyfi.

Hoffwn ddiolch a chymeradwyo Biosffer Dyfi am ei waith, nid yn unig fel platfform i ddatblygiadau cynaliadwy, ond am ei bendantrwydd i ganoli’r iaith Gymraeg fel rhan annatod o’i waith. Rwy’n annog, felly, Lywodraeth Cymru i barchu a hyrwyddo’r biosffer fel enghraifft o gynaliadwyedd yng Nghymru sydd â statws rhyngwladol, ac i gydweithio ag UNESCO i sicrhau ei ddyfodol.

4. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur Aelod ynghylch diogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Rydw i’n galw ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6249 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Dai Lloyd AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i esbonio’r rhesymeg dros gynnig y Bil hwn i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol, ac am roi cyfle i’r Aelodau drafod y modd y gall y Bil ddatblygu. Yn y bôn, nid oes diogelwch yn awr. Rwy’n gobeithio defnyddio’r ddadl hon i esbonio i’r Aelodau yr amcan polisi clir iawn sydd gennyf mewn golwg, er mwyn dangos fy mod wedi cynnal ymgynghoriad gydag ystod o sefydliadau ac arbenigwyr yn y maes, i ddangos bod yna gefnogaeth i amcanion y Bil, a bod ystod o opsiynau ar gael i ni er mwyn gallu cyflawni amcanion y polisi. Byddaf hefyd yn datgan sut y credaf y gallwn ddysgu o brofiadau rhyngwladol yn y maes hwn wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth.

Yn ei hanfod, mae diben y Bil yn syml iawn—diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, a cheisio sicrhau nad yw elfen allweddol o’n treftadaeth leol a chenedlaethol yn cael ei cholli. Bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymwybodol o’r enghreifftiau adnabyddus o enwau lleoedd hanesyddol sydd wedi cael eu colli neu sydd wedi bod mewn perygl o gael eu colli ac wedi cael sylw yn y cyfryngau o ganlyniad—newid ‘Maes-llwch’ ym Mhowys yn ‘Foyles’, ‘Cwm Cneifion’ yn Eryri yn ‘Nameless Cwm’, a fferm ‘Faerdre Fach’ ger Llandysul, sydd bellach yn cael ei hyrwyddo fel fferm ‘Happy Donkey Hill’.

As a farmer’s son, agricultural culture is important to me. And it’s important to note that every field on farms in Wales has a specific historic name—as well as every crag and hill, to that end—but that now they are at risk of being lost. They’re on the ancient maps but not necessarily on modern maps. In fact, across Wales, the names of farms, fields, historic houses, natural features and landscapes are being lost. Often, our place names reflect the topography of an area, a link with a notable or historic person, a link with historic events, for example battles such as Garn Goch in Swansea, where a lot of blood was lost—and the ‘coch’, ‘red’, there means the red of the blood—or periods, such as attacks, that have had an impact on the social and cultural and economic history of Wales, and also a link with the cultural history of a location, for example links with traditions and legends.

Losing these names means that we are losing our local and national heritage. Indeed, the Welsh Government already acknowledges the importance of these names, and the Historic Environment (Wales) Act 2016, proposed by the Government, places a duty on Welsh Ministers to—and I quote—

compile and maintain a list of historic place names in Wales.’

In terms of what’s included in this list, the explanatory memorandum in the Bill notes:

Historic place names provide invaluable evidence about social, cultural and linguistic history. The names of settlements, houses and farms, fields and natural features provide information about past and present agricultural practices, local industries, changed landscapes and current and former communities. They provide evidence for the development of a rich linguistic heritage—Welsh, English and other languages.’

This reflects our history over the last 2,000 years. There are names that are Welsh, Latin, Anglo-Saxon, Scandinavian, French, Norman, English—they’re all there, and any other language that I might have forgotten.

This national list is in the process of being created, with the Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales leading on this work. So, we already have a definition of a historic name and we already have a list. Specific experts are assisting with this work and, at present, more than 300,000 historic names are listed. We must ensure that this register is dependable and authoritative, and in securing this, it will be possible to use this list as the basis for additional legislation to safeguard and promote the historic place names contained within it.

Following the successful ballot on 25 January this year, a number of institutions and individuals interested in the safeguarding and protecting of historic names indicated their interest and their support for the general principle and the policy aims of the Bill. I have contacted and consulted with a number of these institutions and experts in the field, and as part of this consultation process, a specific stakeholder event was held on 17 February, here in the Senedd. I was very pleased to see so many attending, including representatives and individuals from the Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, the National Trust, the Ordinance Survey, the Welsh Place-Name Society, the Cardiff University, the Welsh Local Government Association, the office of the Welsh Language Commissioner and the Welsh Language Society.

Support for the aims of the Bill have been accepted by the Society for Welsh Place-Names, Mynyddoedd Pawb, the Welsh Language Commissioner and a number of other individuals, including academics and experts in the field. The main aim of the stakeholder event held here on 17 February was to discuss the scope of the Bill, the options as regards legislative structures and the possible costs associated with the Bill. Those discussions clearly showed that there is a diversity of ways in which we can protect historic place names.

This spectrum includes, inter alia, ensuring that landowners are aware of the historic significance of their place names; or introducing a requirement for landowners or public bodies to consult with a specific public body, or public bodies, when they change the name of a historic place; or make it a requirement for landowners or public bodies to use historic place names when preparing information that is available to the public; or, again, to introduce a consent system as you set about changing a historic name; or introducing a general ban on changing historic place names; or, finally, a combination of these various options, depending possibly on the kind of name or situation where a name may be changed. It’s important to note that there is no protection whatsoever available for historic place names at present, apart from the fact that they already exist, or will be included in the schedule that is being developed by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. So, any of the aforementioned options on the spectrum would be a step forward.

I have worked closely with both the Research Service and the legislation service in the Assembly over the past month, and I’m very grateful to then all for their work in developing options for the Bill. In pursuing this work, I am completely convinced that it is possible to create positive legislation in the field, and also of the possibility of looking towards other countries and how they set about protecting historic names. Countries such as New Zealand, for example, acknowledge the importance of historic names, and it has developed legislation, so there is potential to learn from others as we develop legislation here in Wales. Evidently, following today’s vote, I hope that I will have another year to develop this Bill and to decide on an appropriate model of legislation. I look forward to listening to Members and to collaborating with Members across the Chamber in order to ensure that we can develop this legislation. In fact, those discussions have already begun, and I was pleased to have the opportunity to discuss the matter with the Cabinet Secretary for culture last week, and also this week, and I hope to see those discussions continuing as the Bill develops.

There is a requirement under Standing Order 26.91A(iv) to undertake an initial assessment of any costs or savings arising from the Bill. A great deal of work has been undertaken on this. As I’m looking at a range of options as regards the development of the Bill, it became obvious during the initial stakeholder event, held on 17 February, that this is an opportunity to create a Bill that wouldn’t have a huge impact, but would remain true to the principle of the intention of protecting Welsh historic place names. This has been included in the explanatory memorandum of the Bill, which includes writing guidelines and making amendments to legislation known; establishing or validating a current list of places and names; any consultation costs that could be part of the implementation system. Established by the Bill and/or costs associated with processing applications for historic place name consent; enforcing the legislation and the costs of dealing with appeals/tribunals; and also any unforeseen consequences. Obviously, the change in status and changes regarding the requirements on landowners or those affected by the Bill would need to be communicated. An estimate of these costs for similar Bills is available, but, of course, the real cost would depend on the complexity of the guidelines and the number of people or institutions that we would need to contact to inform them of changes to the legislation.

Whilst the task of establishing a schedule of names and places could have a significant cost associated with it, I’ve already noted that the Historic Environment (Wales) Act 2016 already ensures that Welsh Ministers must create and maintain a schedule of historic place names in Wales. I will therefore investigate how well this schedule meets the needs of the Bill that will be developed. There will be a need to edit and assess the quality of the data on this schedule, and also consider whether we would need to validate the names on the schedule, or undertake further work on them. However, the fact that a schedule already exists, and that funding is also available to create the schedule, means that the financial implications arising from this Bill will not be great at all. There is also potential that bringing this Bill into being could raise the profile of the current Welsh Government schedule and its expectations. As a consequence, there could be more demand to add names to that schedule.

Obviously, I will be consulting broadly during the development of the Bill in order to ensure that we won’t have unintended consequences, for example, additional costs for institutions and individuals. I am extremely aware of the need to control costs and bureaucracy, and in developing the legislation on various options, I will evaluate and bear in mind the need to keep the costs as low as possible and the way in which the aims of this Bill can be achieved.

Felly, Lywydd, i grynhoi, rwy’n falch o nodi bod cefnogaeth gref i amcanion y Bil gan nifer o sefydliadau allanol a chan unigolion allweddol yn y maes, a bod yna nifer o opsiynau ar gael i ni wrth i ni geisio datblygu’r ddeddfwriaeth. Byddwn yn awyddus i wrando ar Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn ystod y flwyddyn nesaf wrth ddatblygu’r Bil, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr Aelodau i’w ddweud ar y pwnc heddiw wrth i’r drafodaeth honno ddechrau. Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i Dai Lloyd am gyflwyno’r cynnig hwn, a hefyd am y ddeialog adeiladol a gefais gydag ef yn yr wythnosau diwethaf? Nid oes amheuaeth fod enwau lleoedd hanesyddol yn rhan bwysig o’n treftadaeth ac yn tystio i’r newidiadau ieithyddol, cymdeithasol, a hanesyddol sydd wedi siapio ein cenedl. Mae Dai yn cydnabod hyn ac rwyf innau hefyd. Maent yn ffurfio etifeddiaeth gyfoethog ar gyfer y presennol ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac fel y bydd rhai yn y Siambr hon yn cofio, nid dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad roi ystyriaeth i gydnabod a hyrwyddo pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol.

Yn wir, yn ystod hynt Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), roedd enwau lleoedd hanesyddol yn destun dadl, yma yn y Siambr ac yn y pwyllgor. Ystyriodd y Cynulliad nifer o opsiynau ar gyfer eu diogelu ac rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod trefn gydsynio ffurfiol yn gymhleth iawn: mae’n gostus i’w gweinyddu a bron yn amhosibl i’w gorfodi. Ond rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi’r awydd i ddiogelu’r enwau hanesyddol sy’n golygu cymaint i bob un ohonom. Dyna pam roeddwn yn falch iawn o ymateb i’r ddadl adeiladol a gawsom yn ystod hynt Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a chyflwyno gwelliant llwyddiannus y Llywodraeth i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i greu a chadw rhestr o enwau lleoedd hanesyddol ar gyfer Cymru.

Ym mis Mai, bydd gan Gymru yr unig restr statudol o enwau lleoedd hanesyddol—y gyntaf, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond y gyntaf yn y byd. Mae’r rhestr hon yn torri tir newydd ac yn cael ei datblygu gan y comisiwn brenhinol dan arweiniad grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hefyd, fel sylwedydd, Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd y rhestr ar gael i bawb, nid yn unig ar-lein, ond hefyd drwy gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd yn cofnodi enwau hanesyddol ac amrywiadau nodweddion daearyddol, aneddiadau, tramwyfeydd, ffermydd, tai a chaeau hanesyddol. Yn wir, yr unig feini prawf ar gyfer cynnwys enw lle yw y gellir ei nodi’n hyderus a’i fapio am dystiolaeth hanesyddol ddibynadwy. Wrth ei lansio, fel y mae Dai Lloyd wedi’i amlinellu, bydd y rhestr yn cynnwys dros 350,000 o enwau lleoedd yn deillio o fapiau hanesyddol Arolwg Ordnans, mapiau degwm o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyfrannau a thystiolaeth gynharach. Fodd bynnag, dechrau’n unig fydd hynny. Bydd y rhestr yn parhau i ddatblygu a thyfu wrth i ffynonellau eraill gael eu hychwanegu ac wrth i ymchwil pellach ychwanegu mwy o ddyfnder i gofnodion ein henwau lleoedd hanesyddol. Ni fydd y rhestr yn ceisio nodi un enw lle hanesyddol awdurdodol ar gyfer pob nodwedd, ardal neu eiddo. Byddai honno’n dasg amhosibl o ystyried y nifer fawr o enwau a’u trawsffurfiadau cymhleth, weithiau, dros lawer o ganrifoedd. Yn hytrach, bydd yn cyflwyno’r dystiolaeth i ddangos sut y mae enw lle wedi newid dros amser. Bydd ymchwilwyr, wrth gwrs, yn ei ystyried yn adnodd amhrisiadwy, ond bydd hefyd yn rhywbeth y gall aelodau’r cyhoedd ei ddefnyddio’n hawdd os ydynt yn chwilfrydig ynglŷn â hanes eu heiddo neu eu hardal leol. Fel y cyfryw—.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ac wrth gwrs, nid oeddwn yma pan gyflwynwyd y Ddeddf honno, fel y mae yn awr. Beth yw goblygiadau hynny, boed yn awdurdod lleol neu’n ddatblygwr mewn ardal leol, o ran rhoi sylw dyledus i’r rhestr honno o enwau? Oherwydd, fel y dywedwch, ni all fod yn hollol derfynol. Hyd yn oed yn fy ardal fy hun, gwn am goetiroedd hardd sydd â dau enw gwahanol, tri o bosibl, yn cael eu defnyddio gan bobl leol ac sydd wedi cael eu defnyddio ers cenedlaethau. Ond beth yw effaith ymarferol hynny ar rywun sy’n cynnig rhyw fath o ddatblygiad neu, er enghraifft, ar fap yr Arolwg Ordnans?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt cryf iawn. Mae llawer o enwau lleoedd wedi newid sawl gwaith dros y canrifoedd. Ceir trefi a phentrefi yng Nghymru sydd wedi cael cymaint â phum enw. Pwynt allweddol Deddf yr amgylchedd hanesyddol yw ein bod wedi gallu cyflwyno dyletswyddau statudol—a byddaf yn dod at y pwynt hwn—ar awdurdodau cynllunio lleol i roi sylw dyledus i’r rhestr honno ac i ystyried enwau lleoedd hanesyddol mewn unrhyw newidiadau a allai ddigwydd. Felly, mae yna ddibenion ymarferol yn sail i’r rhestr hon sy’n mynd y tu hwnt i addysgu a hysbysu’r cyhoedd yn unig.

Bydd y rhestr, wrth gwrs, yn helpu i godi ymwybyddiaeth gyffredinol am bwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol ac yn annog pobl i’w defnyddio, ond bydd yn llawer mwy na chofnod yn unig. Fel y soniais, bydd hefyd yn cefnogi rheolaeth wybodus a sensitif ar yr amgylchedd hanesyddol. Mewn canllawiau statudol y byddaf yn eu cyhoeddi i awdurdodau parciau lleol a chenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mai, bydd defnydd o’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yn cael ei ystyried yn benodol. Yn gyffredinol, bydd y canllawiau hynny’n cyfarwyddo’r cyrff cyhoeddus hyn i ystyried y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, adeiladau a lleoedd eraill, naill ai’n uniongyrchol neu’n wir, fel yr amlinellodd yr Aelod, gan barti arall. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod enwau hanesyddol priodol yn cael eu hystyried yn briodol cyn i’r cyrff hyn wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag enwau. Yn fwy penodol, bydd yn cyfeirio awdurdodau lleol ar eu defnydd o’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wrth iddynt arfer eu cyfrifoldebau statudol dros enwi a rhifo strydoedd ac eiddo. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno newid enw eiddo sy’n rhan o’i gyfeiriad swyddogol, pa un a yw’r enw hwnnw’n hanesyddol ai peidio, wneud cais i’r awdurdod lleol. Bydd y canllawiau newydd yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i gydnabod enwau lleoedd hanesyddol a’u polisïau ar enwi strydoedd ac eiddo, a gwneud ymgeiswyr yn ymwybodol o enwau hanesyddol a’u hannog i’w defnyddio.

Bydd y mesurau hyn yn amlygu pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn elfennau hanfodol o dreftadaeth Cymru. Mae’r mesurau hyn yn gymesur ac yn allweddol, maent yn gyflawnadwy. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth i gyflwyno diogelwch ffurfiol ar hyn o bryd yn gynamserol. Ar ben hynny, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd ym memorandwm esboniadol yr Aelod, mae gennyf rai amheuon ynglŷn â’r cynigion.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. A gaf fi ofyn am yr ochr arall i hynny? Mae sicrhau bod datblygwyr lleol neu awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol yn rhoi sylw dyledus i enwau lleoedd hanesyddol yn hollol gywir. Ond beth am yr ochr arall os yw datblygwr yn cyflwyno cynnig y maent wedi’i brofi ar y farchnad ar gyfer rhyw enw newydd gwych ar ddatblygiad deniadol sydd ganddynt? A yw’r cymesuredd hwnnw’n gywir o ran y baich a roddir arnynt hwy hefyd? A oes unrhyw beth yn hyn mewn gwirionedd sy’n ei wneud yn rhy feichus ac yn rhy fiwrocrataidd? A ydych yn teimlo bod y cydbwysedd yn gywir?

Rydym bob amser yn ymwybodol o’r angen i leihau biwrocratiaeth a gweinyddiaeth, ond i’r un graddau i sicrhau bod unrhyw ddarpariaethau a gyflwynwn yn arwain at well dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o enwau lleoedd hanesyddol a’n treftadaeth. Rydym yn hyderus y bydd y trefniadau a ddatblygwyd yn rhan o hynt Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn arwain at gyn lleied â phosibl o gostau biwrocratiaeth a gweinyddiaeth ychwanegol ond y byddant yn cyflawni’r gwaith o wella’r modd o roi gwybod am enwau lleoedd hanesyddol a sicrhau eu bod, yn wir, yn cael eu gwarantu a’u diogelu.

Rwyf eisoes wedi dweud bod y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol bellach yn cynnwys dros 350,000 o gofnodion, a bydd, wrth gwrs, yn parhau i dyfu. Bydd yn tyfu ar raddfa gyflym. Bydd yn tyfu, o bosibl, i 1 filiwn o enwau lleoedd. Ac o ystyried nifer yr enwau lleoedd hanesyddol a’r diogelwch eang y byddai’r Aelod yn hoffi ei gyflwyno, nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw system ganiatâd cyffredinol neu reolaeth dros newidiadau fod yn ymarferol nac yn fforddiadwy.

Mae mater gorfodaeth hefyd yn peri pryder i mi. Bydd rheoleiddio enwau nodweddion naturiol, caeau ac olion archeolegol yn broblem benodol. Pwy fyddai’n plismona troseddau a pha gosbau fyddai’n cael eu rhoi? Yn ymarferol, rwy’n ei chael hi’n anodd gweld beth fydd y ddeddfwriaeth y mae’r Aelod yn ei chynnig yn ei chyflawni y tu hwnt i’r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd. Ym mis Mai, bydd gennym adnodd a fydd, am y tro cyntaf, yn darparu mynediad i bawb at ein stoc gyfoethog o enwau lleoedd hanesyddol. Bydd hyn yn hyrwyddo ein henwau lleoedd hanesyddol fel eu bod yn parhau i fod yn rhan fyw o’n cenedl ymhell i’r dyfodol.

Er na allaf gefnogi’r cynnig hwn, rwy’n credu bod y mesurau arloesol yr ydym ar fin eu cyflwyno yn gamau hanfodol yn y broses o werthfawrogi’r etifeddiaeth werthfawr hon. A dyma ble y credaf y dylid cyfeirio ein hegni a’n hadnoddau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r comisiwn brenhinol a’i gynghorwyr, cyrff cyhoeddus perthnasol ac eraill sydd â diddordeb mewn ehangu ymwybyddiaeth o’r rhestr a’r rôl bwysig a fydd ganddi yn y dyfodol, a byddaf yn parhau i roi gwybod i’r Aelodau am ein gwaith.

Diolch i chi, Dai Lloyd, am gyflwyno’r cynigion hyn heddiw. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi fynd drwy’r holl ieithoedd hynny i mi eto, oherwydd ni lwyddais i’w dal i gyd, ond diolch yn fawr iawn.

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gallaf gadarnhau ein bod yn hapus i gefnogi’r cynigion ar gyfer y Bil ar hyn o bryd, gan gydnabod y nodau a grybwyllwyd gennych. Yn ystod hynt Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), cytunodd Llywodraeth Cymru i lunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol y gellir dod o hyd iddi drwy’r cofnod amgylchedd hanesyddol, a chyda’r ddyletswydd honno ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal y rhestr o enwau lleoedd. Felly, yn unol â hynny, nid wyf yn synnu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dadlau ei fod eisoes yn diogelu enwau lleoedd hanesyddol yn rhinwedd y rhestr gynyddol hon.

Serch hynny, yng Ngham 2, derbyniodd y Dirprwy Weinidog ar y pryd na fyddai cyfeirio enwau lleoedd hanesyddol drwy’r cofnod amgylchedd hanesyddol yn eu diogelu’n ffurfiol. Huw Irranca-Davies, fe sylwoch chi ar hynny a chithau heb fod yma yn ystod y pedwerydd Cynulliad hyd yn oed, felly rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw am y cadarnhad ynglŷn â sylw dyledus. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ofyn o hyd: pa statws sydd gan ganllawiau yn yr amgylchiadau hyn, a pha ganlyniadau a fyddai’n dod i ran yr unigolion sy’n methu cydymffurfio â’r canllawiau yr ydych wedi nodi heddiw eich bod yn eu cynhyrchu, Ysgrifennydd y Cabinet?

Dai, mae’r memorandwm esboniadol yn awgrymu bod y ddyletswydd hon yn sail i ddeddfwriaeth fwy pendant, a gallaf gefnogi rhai o’i hamcanion heb unrhyw gwestiwn pellach, mewn gwirionedd, ond ceir rhai amcanion eraill yr hoffwn eu gweld yn cael eu datblygu mewn memorandwm esboniadol diwygiedig neu’n wir, mewn Bil drafft. Yn benodol, rwyf am edrych ar y gofyniad i dirfeddianwyr ymgynghori ar newid enwau, ac mae tri pheth yno. Y cyntaf yw nad yw, ar y darlleniad cyntaf, i’w weld yn datrys problem yr ‘happy donkey’ ynddo’i hun, lle y gelwir y daliad yn beth bynnag y gelwir y daliad, ond bod y busnes yn cael ei alw’n rhywbeth arall, a dyna sy’n peri gofid. Felly, rwy’n meddwl tybed, wrth i’r Bil hwn ddatblygu, a fyddwch yn mynd i’r afael â’r cwestiwn penodol hwnnw.

Yr ail beth ar y pwynt penodol hwn yw’r berthynas rhwng sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o enw hanesyddol a’r ddyletswydd i ymgynghori os ydynt yn dymuno ei newid. Ac rwy’n chwilio am sicrwydd pendant nad ydym yn ailadrodd stori anhapus Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), lle y crëwyd trosedd atebolrwydd caeth, hyd yn oed pan oedd enghreifftiau y gellid eu nodi lle roedd hi’n amlwg nad oedd yn rhesymol disgwyl i berchennog tir unigol wybod rhywbeth pwysig am eu tir. Er nad wyf yn credu y gallwch osod methiant i ymgynghori oherwydd anwybodaeth yn yr un categori â niweidio heneb gofrestredig oherwydd anwybodaeth, bydd angen i chi egluro beth a olygwch wrth sicrhau bod tirfeddianwyr ‘yn ymwybodol’ o arwyddocâd hanesyddol enw lle i ni allu cefnogi’r pwynt hwnnw yn y cam nesaf.

Y trydydd peth—ac mewn gwirionedd, crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet fater tebyg—yw pa gosbau sydd gennych mewn golwg ar gyfer rhai sy’n anwybyddu’r system ganiatâd arfaethedig. A fyddwch yn fwy llym tuag at ddatblygwyr mawr na rhywun sy’n newid enw Pen-y-bryn yn Squire’s Roost, i nodi un enghraifft leol ddiflas? Mae defnyddio’r rhestr mewn system ganiatâd yn hytrach nag fel pwynt cyfeirio, os mynnwch, yn ddeniadol, ond bydd yn rhaid i chi fod yn glir iawn fod y broses yn gymesur â diben hynny.

Rwy’n falch o weld y byddai’r diogelwch yn gymwys ni waeth beth y bo’r iaith. Tybed, fodd bynnag, a oes gennych unrhyw gynlluniau i gofnodi ynganiad lleol yn ogystal. Saith neu wyth mlynedd yn ôl, cafodd cymunedau lleol eu cynnwys—efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio hyn—mewn ymgyngoriadau ar sillafiad cywir enw eu trefi neu eu pentrefi yn y ddwy iaith ar gyfer arwyddion ffyrdd a dogfennau swyddogol, a gallaf gofio un noson arteithiol o hir yn trafod sut i sillafu Crucywel yn y Gymraeg. Ar gefn hynny, fodd bynnag, rydym wedi cadarnhau sillafiadau Cymraeg cywir, gan golli’r sillafiad Seisnigaidd mewn llawer o achosion, ond yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall bydd rhestr Bil yr amgylchedd hanesyddol yn dal i gofnodi’r ‘Dolgelleys’ a’r ‘Llanellys’ gydag ‘y’ ynddynt. Ar y llaw arall, nid ydym wedi gwneud unrhyw beth i gydnabod bod sillafiadau ac ynganiadau lleol yn gallu amrywio’n eithaf sylweddol. Tybed beth fydd yn digwydd i Hirwaun, Pencoed, Groes-faen, Llan-faes, Waunarlwydd, Beddau, Ponty, Llani, Aber—tybed a fydd eich Bil yn cwmpasu’r rheini hefyd.

Yn fyr iawn felly, dau gwestiwn arall. Roedd y Dirprwy Weinidog ar y pryd yn bendant y byddai cynnwys enwau cyfredol a ddefnyddir yn gyffredin yn newid natur y rhestr yn sylfaenol. Er nad oes gennyf unrhyw broblem benodol gyda system ganolog ar gyfer cofnodi rhestr at ddibenion cysondeb ac osgoi rhyw fath o Wicipedia am ddim i bawb, fy safbwynt i yn sicr oedd bod barn leol yn bwysig wrth gynnwys enwau ar y rhestr ac roeddwn yn cefnogi Bethan Jenkins yn ei gwelliant i gynnwys defnydd cyfredol, gan mai defnydd cymdeithasol heddiw, wrth gwrs, yw defnydd hanesyddol yfory. Pan fydd fy wyrion yn tyfu i fyny, rwyf am iddynt wybod beth a olygwn pan gefais fy ngwahardd i fynd i fyny’r Werfa yn blentyn—rhywbeth y bydd Vikki Howells efallai’n gwybod am beth rwy’n sôn—a byddwn yn hoffi iddynt wybod nad oeddwn yn cloddio am lo ac nad oeddwn yn gwneud unrhyw beth anweddus. Felly, rwyf am i chi egluro a fydd y Bil yn cwmpasu defnydd cyfredol yn ogystal â defnydd hanesyddol. Diolch.

Wel, rwy’n codi i gefnogi Dai Lloyd yn y cynnig hwn ac i’w longyfarch ar y ffordd weinidogol argyhoeddiadol y mae wedi cyflwyno’r cynnig heddiw. Mae fy mhlaid yn aml yn cael ei chyhuddo’n annheg o fyw yn y gorffennol, ond mae parch tuag at y gorffennol yn elfen hanfodol o’r hyn y safwn drosto. Roedd Lee Waters, y diwrnod o’r blaen, yn siarad am UKIP eisiau mynd â’r blaid yn ôl i’r 1950au—wrth gwrs, yr hyn a olygai mewn gwirionedd oedd y 1450au. Os edrychwn ar hanes cenedl, caiff ei adlewyrchu yn bwysig iawn yn nharddiad enwau lleoedd, ac maent yn dweud cymaint wrthym am y wlad ydym ni a’r wlad yr arferem fod. Rwyf wedi anghofio pwy a ddywedodd unwaith, wrth i’r gorffennol

roi’r gorau i daflu ei oleuni ar y dyfodol, mae meddwl dyn yn crwydro mewn tywyllwch,

ond rwy’n credu bod yna wirionedd sylfaenol yn hynny.

Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r modd y mae enwau wedi cael eu llygru dros y blynyddoedd. Yn wir, mae’n debyg y dylai Dai gael ei alw’n ‘Dai Llwyd’ mewn gwirionedd, er ei fod yn gwbl groes i ddyn llwyd yn fy marn i. Ond mewn enwau lleoedd, mae hyn i gyd yn rhan o’n hanes, fel y nododd Suzy Davies funud yn ôl. Mae’r newidiadau a’r llygredigaethau eu hunain yn rhan hanfodol o hanes hefyd.

Gyda’r enghreifftiau sydd wedi ymddangos yn y papurau newydd ac yn y blaen dros y blynyddoedd diwethaf—rhai anhapus megis stori ‘Happy Donkey Hill’. Mae’n cyfeirio, fel y dywedodd Dai yn ei araith, at y Faerdre Fach, sy’n golygu ‘fferm fach y tywysog’ rwy’n credu, sef tyddyn a luniwyd i ddarparu incwm i’r arglwydd yn yr Oesoedd Canol. Byddwn wedi meddwl nad oes angen llawer iawn o ddychymyg, o ran marchnata, os ydych yn cynnal busnes sy’n seiliedig ar blot o’r fath, i wneud rhywbeth o hynny. Mae ei newid i rywbeth fel ‘Happy Donkey Hill’, nad oes ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â hanes y lle, braidd yn anffodus ac ni fyddwn wedi meddwl bod yna lawer o fantais busnes yn hynny. Mae’n ddiddorol bod Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ei hun yn enw a ddyfeisiwyd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i werthu manteision twristaidd ymweld â’r rhan honno o Sir Fôn. Felly, mae hyn yn gweithio’r ddwy ffordd hefyd, o bosibl.

Mae yna ddadl, wrth gwrs, y cyfeiriwyd ati gan Suzy Davies yn ei haraith, am ymyrryd â hawliau pobl eu hunain i wneud beth bynnag y maent yn dymuno ei wneud gyda’u heiddo. Ond wrth gwrs, rydym yn derbyn hyn mewn perthynas ag adeiladau hanesyddol lle y mae pobl yn gwybod bod yna fudd i’r cyhoedd o ddiogelu’r hyn a ymddiriedwyd iddynt am y cyfnod y maent ar y ddaear hon. Rwy’n credu, felly, nad oes unrhyw gwestiwn gwirioneddol o egwyddor dan sylw yma mewn perthynas â diogelu enwau lleoedd hanesyddol, ac er bod llawer o faterion technegol a allai godi yn ystod taith y Bil, y cyfeirwyd atynt yn barod, er hynny, yn gyffredinol, dylem roi croeso cynnes i’r Bil hirddisgwyliedig hwn.

Rwy’n gresynu at agwedd braidd yn ddiddychymyg Llywodraeth Cymru, oherwydd yn sicr nid wyf yn credu y dylem wneud y gorau yn elyn i’r da, ac nid yw’r ffaith fod y Llywodraeth eisoes yn gwneud rhywbeth sy’n werth chweil ac yn werthfawr yn golygu na ddylem ychwanegu mesur arall at hynny a allai ategu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Felly, rwy’n rhoi croeso cynnes iawn i’r cynnig hwn a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnwys yn y llyfr statud.

Diolch am roi’r cyfle i fi gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwyf i, yn amlwg, yn mynd i gefnogi ymgais Dai Lloyd i gyflwyno’r Bil yma, sy’n bwysig yn nhermau ein hetifeddiaeth a’n hanes ni fel gwlad.

Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan nifer o Aelodau yma heddiw, roedd yna drafodaeth eithaf trylwyr yn y Senedd ddiwethaf, ac roedd gwelliannau wedi cael eu rhoi i mewn gennym ni, fel plaid, a gan bleidiau eraill, a daethom ni at ryw fath o gyfaddawd gyda'r rhestr, ond nid oeddem ni’n dal i fod yn hapus gyda’r ffaith nad oedd yna ffordd i amddiffyn yr enwau hynny o fewn y ddeddfwriaeth fel y cafodd ei phasio yn y Senedd ddiwethaf. Rwy’n credu, ac yn dal i gredu, ei fod wedi colli ar gyfle i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn fwy cryf nag yw hi, oherwydd, fel y mae Dai Lloyd wedi’i amlygu’n barod, rhestr yw rhestr, ac mae’n rhaid i ni roi cig ar y rhestr hynny i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r rhestr a chael ffydd yn sut mae hynny’n cael ei ddatblygu.

Felly, wrth gwrs, mae unrhyw fath o ‘guidance’ newydd yn hynny o beth yn mynd i fod yn rhywbeth da, ond nid yw hynny’n mynd i fod yn ddeddfwriaeth, ac felly rydw i angen clywed gan y Gweinidog yma heddiw sut mae hynny’n mynd i newid y sefyllfa sydd ohoni, a sut, wedyn, mae pobl yn mynd i sicrhau bod y rhestr hynny’n ddigon cryf ynddi’i hun. Rwy’n credu mai beth sy’n bwysig yn y drafodaeth yma yw sut rydym ni’n amddiffyn ein treftadaeth, ynglŷn â’r gorffennol, a hefyd sut rydym ni’n trafod yr hyn sydd yn digwydd nawr yn ein cymdeithas sydd ohoni. Os ydy enw’n mynd i newid jest achos bod rhywun yn meddwl ei fod e’n enw neis, wedyn, sut ydym ni’n gallu dweud y stori am hanes y cae, neu am hanes y diwydiant penodol hynny, os nad oes rhyw fath o statws, wedyn, i’r dreftadaeth honno at y dyfodol?

Fel rhywun sydd wedi rhoi deddfwriaeth gerbron y lle yma o’r blaen, nid wyf i wir yn prynu’r ddadl ynglŷn â chost ar gyfer y ddadl yma. Rydw i’n gwybod bod Dai Lloyd yn gwneud y ddadl, oherwydd mae e, yn amlwg, eisiau dod i gyfaddawd gyda’r Llywodraeth. Ond, os ydy rhywbeth yn flaenoriaeth wleidyddol, ni ddylai rhywbeth fel rhestr a gwarchod y rhestr hynny a gwarchod yr enwau hyn, fod yn rhywbeth nad sydd yn bosib. Rwyf i wedi gweld y Llywodraeth yn dweud bod pethau eithaf cymhleth yn bosib yn y gorffennol, ac nid wyf i’n gweld sut y byddai hyn yn rhy gymhleth i allu ei wneud os yw’r ewyllys wleidyddol yno i ddelifro yn y maes yma.

Rydw i’n credu y byddwn i eisiau clywed mwy gan y Gweinidog ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r records amgylchedd hanesyddol—yr ‘historical environment records’—yn hynny o beth. Mae yna bobl sydd yn gwneud gwaith trylwyr iawn yn casglu data pob dydd ar hyn o bryd. Nid ydym ni’n dal i wybod rhai enwau hanesyddol oherwydd y ffaith bod archeolegwyr ar hyn o bryd allan yn y maes yn gwneud ymchwil. Felly, sut ŷm ni’n gallu defnyddio’r records hyn i ‘complement-o’ y gwaith y mae’r rhestr yn ei wneud? Dyna’r hyn y byddwn ni eisiau ei ychwanegu yma heddiw.

Hefyd, un o’r gwelliannau y gwnes i ei roi gerbron yn y Senedd ddiwethaf oedd y dylai pobl unigol allu ychwanegu at y rhestr neu dynnu enwau oddi ar y rhestr hynny. Wrth gwrs, mae angen i rywun fonitro hynny, ond mae’n ffordd i bobl gyffredin ar draws Cymru allu ymwneud â’r broses yma. Felly, os oes rhywbeth—fel y mae Suzy yn gwybod am rywbeth lleol yn Aberdâr, os yw rhywun yn gwybod am rywbeth lleol yn eu hardal nhw nad yw’n drafodaeth genedlaethol ar hyn o bryd, maen nhw’n gallu ychwanegu at y rhestr honno fel rhan o’r drafodaeth ar y mater yma.

Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig nad ydym ni’n colli ein hanes, ac ein bod ni’n dathlu ein hanes ac ein bod ni’n cael gwerth ein hanes, a, drwy enwau—. Efallai bod rhai pobl yn meddwl nad yw’n bwysig, ond, drwy enwau, rydym ni’n gallu deall ein hanes. Rydym ni i gyd yma yn cael enwau fel pobl. Mae Neil Hamilton wedi disgrifio enw Dai Lloyd, ond mae’n ein creu ni fel person—mae ein enw ni yn creu pwy ydym ni, ein personoliaethau ni, ac rwy’n credu bod yr un peth yn wir os ydy’n dŷ, neu’n fferm, neu’n gae, neu’n fynydd. Rydym ni’n adnabod y mynydd neu’r cae hwnnw drwy’r enw hwnnw ac rydym ni’n cael rhyw fath o hiraeth neu ryw fath o gysylltiad mwy tyngedfennol gydag ef oherwydd yr enw. Felly, peidiwn â diystyru y ddadl yn hynny o beth, a diolch, felly, i Dai am roi’r syniad yma gerbron eto. Gobeithio’n fawr y bydd e’n llwyddiannus, fel y mae e wedi bod yn llwyddiannus gyda’i ddeddfwriaeth blaenorol, pan oedd yma gynt gyda’r meysydd caeau chwarae. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, a llongyfarchiadau mawr i Dai Lloyd ar ei ymgais i gyflwyno Bil Aelod ynghylch diogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Rydw i’n falch iawn o’i gefnogi fo heddiw, ac yn hyderus y gaiff o gefnogaeth ar draws y pleidiau. Mae enwau lleoedd hanesyddol Cymru yn rhan o’n treftadaeth balch, ac yn haeddu’r un warchodaeth ag mae anifeiliaid neu blanhigion prin yn ei gael. Yn aml, mae'r enw Cymraeg gwreiddiol yn llawn ystyr ehangach, ac mewn un neu ddau o eiriau fe ellir cael cyfoeth cefndir y man dan sylw o ran ei le yn y tirwedd neu hanes lleol.

Yn anffodus, mae sawl enghraifft o newid dibwrpas wedi digwydd neu lurgunio llwyr a hyll ar enwau traddodiadol ein gwlad. Rydym wedi clywed sawl o enghraifft o hyn heddiw yma. Rydw i am sôn am enghraifft o fy etholaeth i a arweiniodd at ymgyrch fer, ond, rydw i'n falch o ddweud, ymgyrch effeithiol i gadw enw hanesyddol plasty enwog o'r enw Glynllifon. Fe saif y tŷ hynafol mewn parc gwledig mawr gyda muriau o'i gwmpas tua chwech milltir o Gaernarfon ar y brif ffordd i Ben Llŷn. Defnyddiwyd yr enw Glynllifon cyn belled yn ôl a'r unfed ganrif ar bymtheg—plasty 100 stafell mewn safle 700 erw—ond, yn 2015, fe gafwyd ymgais i newid yr enw. Roedd cwmni o Swydd Efrog yn Lloegr o'r enw MBI Sales yn cynnig gwerthu unedau yn y plasty hynafol fel buddsoddiadau prynu i rhentu. Fe ddaeth hyn i sylw'r boblogaeth leol, ac fe sylwyd nad yr enw Glynllifon oedd yn cael ei ddefnyddio, ond roedd y cwmni wedi bathu enw newydd, a'r enw hwnnw oedd ‘Wynnborn Mansion’—dim sôn am yr enw iawn, Plas Glynllifon. Roedd yr holl ddeunydd marchnata yn cyfeirio at Wynnborn Mansion. Rhyw ymgais, mae’n debyg, i greu delwedd arbennig—rhyw adlais o ‘To the Manor Born’ neu'r lleoliad opera enwog Glyndebourne, efallai. Ond, yng nghefn gwlad Cymru, nid oedd yn gweddu o gwbl.

Mi oedd y bobl leol yn gandryll. Nid oedd yna ddim ymgynghori lleol wedi digwydd ynglŷn â'r newid enw. Cafwyd ymgyrch effeithiol, ac mi ges i’r fraint o arwain yr ymgyrch honno. Ar y pryd mi oeddwn i’n aelod o bwyllgor iaith Cyngor Gwynedd, ac mi ges i gefnogaeth unfrydol trawsbleidiol i geisio cael y cwmni i ymwrthod â'r newid enw. Cafwyd cefnogaeth o bob cwr a chornel—roedd poblogaeth di-Gymraeg yr ardal yr un mor benderfynol â'r siaradwyr Cymraeg i gadw'r enw gwreiddiol. Roedd yna deimladau cryfion yn dod i'r amlwg, ac roedd yn dda gweld pa mor bwysig oedd treftadaeth leol i bobl yr etholaeth. Mi ges i gyfarfod efo MBI Sales, cafwyd sylw mawr yn y wasg, ac, yn y diwedd, yn wyneb y ffasiwn wrthwynebiad lleol, fe newidiodd y cwmni ei feddwl ac fe aed yn ôl i ddefnyddio Plas Glynllifon yn Hydref 2015. Gyda llaw, ni ddaeth dim byd o'r syniad prynu i rentu, ac erbyn hyn rydw i'n deall fod Plas Glynllifon mewn dwylo newydd sy'n bwriadu ei droi yn westy, gan gadw'r enw gwreiddiol a'r holl hanes sydd ynghlwm â hynny.

Un stori ydy hon, a, diolch byth, stori efo diweddglo cadarnhaol. Ond faint o enwau, ac, felly, sawl darn o'n hetifeddiaeth ni sydd wedi cael eu colli am byth? Rydw i’n falch o weld bod Bil Dai Lloyd yn cynnig nifer o opsiynau ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r mater yma o ddiogelu enwau hanesyddol. Rydw i yn nodi sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi, ond rydw i yn dymuno’n dda i Dai, a diolch iddo am ddod â’r Bil yma gerbron. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng canllawiau a gosod gwarchodaeth mewn deddfwriaeth, a dyna sydd angen ei wneud yn yr achos yma. Diolch.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r holl gyfranwyr yn y ddadl heddiw ac i’r Aelodau hynny sy’n gefnogol i egwyddorion ac i brif amcan y Bil o ddiogelu enwau hanesyddol Cymru yn y gyfraith? Gallaf i ddweud ‘ie’ i bron bob un o gwestiynau Suzy Davies, ond gallaf i ymhelaethu eto tu allan i’r Senedd, efallai, ar y manylion, achos prif bwrpas y ddadl heddiw oedd jest ennill pleidlais ar egwyddorion cyffredinol—ar yr angen i gael cyfraith. Mae gyda fi 13 mis i fynd ar ôl y manylion—y fath o fanylion a oedd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau eu gwybod nawr. Wel, rydym ni wedi cael tua mis i gyrraedd y pen hwn. Dyna pam mae yna broses, ac ennill pleidlais nawr ar jest yr egwyddor o fynd i gyfraith—dyna i gyd. Bydd y manylion yn cael eu datrys dros yr 13 mis nesaf. Dyna pam mae’r broses fel y mae. Felly, nid yw holi am y manylion heddiw yn gwneud dim synnwyr o gwbl, ac rwy’n siomedig, felly, yn agwedd Ysgrifennydd y Cabinet.

The vote today was about establishing a general principle. That’s all. Is it a good idea to protect our historic place names in Wales—yes or no—in law? It’s not difficult. Cab Sec.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ildio? Ni fyddai neb yn anghytuno â hynny o gwbl, ond pwynt deddfwriaeth yw y dylai fod yn ddewis olaf. Y broblem gyda’r cynigion, fel y cawsant eu cyflwyno, yw nad oes unrhyw sylfaen dystiolaeth, ac yn wir, gofynnodd Sian Gwenllian faint o enwau sydd wedi cael eu newid. Heb sylfaen dystiolaeth gadarn, yn syml, nid yw’n bosibl—rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno—creu deddfwriaeth gadarn.

Rwy’n anghytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny. Cafwyd cyflwyniadau di-ri. Dyna pam y cawsom y Ddeddf amgylchedd hanesyddol wreiddiol a’r diwygiadau gan Blaid Cymru a’ch galluogodd i gael y gofrestr sydd gennych heddiw. Y ffaith amdani yw nad oes unrhyw ddiogelwch statudol i’n henwau lleoedd hanesyddol mewn unrhyw iaith—Saesneg, Eingl-Sacsoneg, ieithoedd Llychlyn, Lladin, hen Gymraeg, Cymraeg newydd, Norseg, Fflemeg, pa iaith bynnag a fynnwch. Mae smorgasbord cyfoethog ein hanes yn dirywio, ac rydym yn loetran yn segur, naill ai’n gwneud dim neu’n dweud yn chwithig, ‘Duw, gadewch i ni gael ychydig o ganllawiau, ie?’ [Chwerthin.] Na, nid yw’n iawn. Rydym yn sôn am hanes cenedl yma, balchder yn hanes y genedl honno, balchder sy’n haeddu cael ei ymgorffori yn y gyfraith. Nick.

Rydych wedi fy ysbrydoli gyda’r tamaid hwnnw o hen Saesneg, Dai, neu beth bynnag ydoedd.

Norseg.

Norseg. Byddaf yn cefnogi eich Bil ar y cam hwn a’r egwyddorion cyffredinol, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn cydymdeimlo rhywfaint ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’n rhaid i’r gyfraith fod yn glir iawn. Yn fy etholaeth i, mae gan bentref Tryleg 13 o amrywiadau lleol gwahanol o ran ynganiadau a sillafiadau, sy’n achosi dryswch enfawr ar arwyddion ffyrdd, fel y gallwch ei ddychmygu. Felly, mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn pan fyddwch yn datblygu hyn nad ydych yn diogelu un amrywiad ar enw lle ar draul enwau eraill. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld sut y byddwch yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.

Nid yw’n ymwneud â diogelu un enw lle yn hytrach na ffurf arall arno. Os yw’n hanesyddol ac ar y rhestr honno, caiff pob un ei ddiogelu, ni waeth beth y bo’r iaith—Tryleg, Treleck, beth bynnag. Caf fy atgoffa hefyd fod yna bentref yn Sir Fynwy, Point of Scotland, ac mae pobl yn dweud, ‘Duw, o ble y cawsom "Point of Scotland "?’ O’r hen air Cymraeg ‘pysgotlyn’, pwll llawn o bysgod, yn wreiddiol. Ond byddai’r ddau enw’n cael eu diogelu o dan fy Mil. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol, ac rydw i’n galw ar Russell George i wneud y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM6258 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i. Roedd ymchwiliad y pwyllgor i gomisiwn seilwaith cenedlaethol yn waith sylweddol i’r pwyllgor. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn ymddangos bod sawl prosiect blaengar a phwysig gennym ar y gweill. Mae gennym ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ffordd liniaru’r M4, wrth gwrs—a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gynnal sesiwn alw heibio ar gyfer yr Aelodau heddiw—cynigion ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, trydaneiddio’r brif reilffordd drwy Gaerdydd ac i Abertawe a metro de Cymru, ac wrth gwrs, y potensial hefyd ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe, a dylwn ychwanegu fod cefnogaeth drawsbleidiol i’r syniad hwnnw yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, nid wyf am anghofio am ganolbarth Cymru: mae gennym brosiectau fel ffordd osgoi’r Drenewydd, a fydd yn hynod fuddiol i economi canolbarth Cymru. Felly, credaf ei bod yn briodol fod Ysgrifennydd y Cabinet yn argymell comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru cyn diwedd y flwyddyn hon.

Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dangos cryn ddiddordeb yn y cynlluniau, ac wedi sicrhau y bydd un o’i ymchwiliadau cyntaf yn ymdrin â’r cynlluniau hynny. Felly, edrychodd y pwyllgor yn fanwl ar y cynigion a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn gynharach eleni. Gwahoddwyd rhanddeiliaid yng Nghymru sy’n ymwneud â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd y DU i roi tystiolaeth, a buom yn edrych ar sut y mae sefydliadau tebyg yn gweithio yn Awstralia. Dylwn ychwanegu na chynhaliasom ymweliad safle; gwnaed popeth heb ymweliad safle, yn anffodus. Roedd ein casgliadau at ei gilydd yn gadarnhaol iawn. Credaf fod gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet am gorff arbenigol sy’n gallu dadwleidyddoli rhai o’r penderfyniadau mwyaf dadleuol a phellgyrhaeddol yng Nghymru yn weledigaeth gref iawn, ac roedd y pwyllgor o’r un farn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ond argymhellodd y pwyllgor newidiadau mewn tri maes. Er ein bod yn cytuno na ddylai deddfwriaeth ohirio’r broses o sefydlu’r corff, credwn y byddai rhoi sail statudol iddo yn fuddiol iawn, er mwyn sicrhau bod ganddo fwy o hygrededd a grym, ac i’r perwyl hwnnw, argymhellwyd y dylid ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y bydd deddfwriaeth yn dilyn. Roeddem o’r farn y dylai cylch gwaith y comisiwn fod ychydig yn ehangach er mwyn iddo gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol, ac roeddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod y corff yn fwy annibynnol, drwy ei wneud yn atebol i gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a thrwy sicrhau ei fod wedi’i leoli y tu allan i Gaerdydd, a heb fod yn rhannu adeilad gyda’r Llywodraeth, a thrwy roi cyfle i un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y cadeirydd cyn ei benodi neu ei phenodi. Felly, at ei gilydd, gwnaethom 10 argymhelliad, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi ymgysylltu o ddifrif â’r gwaith a wnaethom ac wedi ystyried y syniadau a gyflwynwyd gennym, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech o argymhellion y pwyllgor. Mae tri arall wedi’u derbyn mewn egwyddor, a gwrthodwyd un.

Felly, rwy’n falch fod y pwyllgor wedi gallu dylanwadu ar y model ar gyfer y comisiwn seilwaith cenedlaethol yn y ffyrdd canlynol. Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio’r comisiwn mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar ar gyfer y sawl a ffafrid yn gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd y comisiwn yn cynhyrchu adroddiad ‘cyflwr y genedl’ bob tair blynedd ar anghenion seilwaith Cymru ar gyfer y dyfodol, i ddatgysylltu ei waith oddi wrth y cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu a gwaith yn y gorffennol a gwaith sydd ar y gweill, ac mae’r Llywodraeth wedi cytuno i ymateb i’r holl argymhellion o fewn chwe mis. Bydd llythyr cylch gwaith blynyddol y comisiwn yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gallu ei wario ar gyllid seilwaith dros yr amser hiraf posibl i roi cyd-destun pwysig i’r argymhellion. Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog y comisiwn i adeiladu perthynas gref gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU a’r Scottish Futures Trust i sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl. Bydd angen ystyried amrywiaeth y cymunedau ledled Cymru wrth benodi i’r comisiwn, a bydd ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu ar lefelau rhanbarthol. Yn olaf, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio mecanweithiau megis y banc datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith.

Yr unig argymhelliad a wrthodwyd gan y Llywodraeth yw ein safbwynt y byddai’r comisiwn mewn sefyllfa gryfach pe bai’n cael ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y byddai’n cael ei roi ar sail statudol maes o law. Nawr, dylanwadwyd ar ein hargymhelliad gan y dystiolaeth gan gyrff ymgynghorol ar gyfer seilwaith ar lefel ffederal a lefel y taleithiau yn Awstralia, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod eu statws fel llais awdurdodol ar seilwaith wedi cael ei wella gan eu statws annibynnol, ac y gallai manteision dull o’r fath ymestyn y tu hwnt i Awstralia. Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol wedi ei gwneud yn bosibl ei sefydlu’n gyflymach, ond roedd yna ochr lai cadarnhaol hefyd gan fod rhanddeiliaid yn ei ystyried yn llai parhaol. Roedd y pwyllgor yn cytuno â’r Llywodraeth na ddylem aros am ddeddfwriaeth er mwyn sefydlu’r comisiwn yn gyflym, ond teimlem y byddai budd gwirioneddol mewn rhoi ymrwymiad clir o’r cychwyn y byddai deddfwriaeth yn debygol o ddilyn. Nawr, fel y mae pethau, mae’r risg yn parhau y gallai un o Ysgrifenyddion y Cabinet yn y dyfodol—un llai ymroddedig, efallai, nag Ysgrifennydd presennol y Cabinet a’i weledigaeth am gomisiwn seilwaith cenedlaethol—gael gwared ar y sefydliad mewn dim o dro, neu beryglu ei annibyniaeth. Felly, byddai corff statudol yn darparu diogelwch i’r corff newydd ac yn rhoi neges glir i’r rhanddeiliaid ei fod yma i aros. Felly, rwy’n siomedig, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad penodol hwn.

Fodd bynnag, rwy’n nodi nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi clepio’r drws ar gau yn llwyr ar hyn, a gobeithiaf y bydd ei gynllun i adolygu’r corff cyn diwedd tymor y Cynulliad yn rhoi cyfle i ystyried y materion hyn eto. Felly, byddaf i a fy nghydweithwyr ar y pwyllgor yn edrych ymlaen at adolygu cynnydd yn 2021—mae’n swnio’n bell i ffwrdd—a gweld a yw’r weledigaeth yr ydym oll yn ei rhannu heddiw wedi cael ei gwireddu. Felly, gwn fod nifer o aelodau’r pwyllgor yn awyddus i siarad a chael eu galw yn y ddadl hon heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, croesawaf y cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon ac ychwanegu fy nghefnogaeth i’r cynnig. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor a staff y pwyllgor am eu gwaith a wnaed ar gynhyrchu’r adroddiad, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ystyriaeth ofalus a chadarnhaol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r Cadeirydd yn iawn ynglŷn ag ystod a maint y prosiectau posibl sydd ar y gweill, ac fel Gogleddwraig falch, byddwn yn esgeulus pe na bawn yn ychwanegu metro gogledd-ddwyrain Cymru a’r trydydd croesiad posibl dros y Fenai at y cynnwys.

Hoffwn ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor yn fy nghyfraniad heddiw, sef argymhellion 7 ac 8. Gan ddechrau tuag yn ôl, mae argymhelliad 8 yn nodi y

‘Dylai’r penodiadau a wneir i’r Comisiwn adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru er mwyn sicrhau bod y Comisiwn yn deall pob rhan o Gymru.’

Rwyf bob amser wedi pwysleisio bod angen i’r corff hwn ar gyfer Cymru gyfan, mewn egwyddor, fod yn union hynny yn ymarferol, a bod potensial i bob rhanbarth o Gymru elwa. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r comisiwn sicrhau bod ganddo ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion a dyheadau gwahanol ardaloedd ein cenedl. O ystyried ffocws a chydnabyddiaeth o rôl y gwahanol fargeinion dinesig a’r weledigaeth ar gyfer twf trawsffiniol yng ngogledd Cymru, rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y bydd yn bwysig i’r comisiwn ymgysylltu â fforymau rhanbarthol ar y lefelau priodol. Yn wir, noda’r ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor:

‘Bydd yr egwyddor hon yn cael ei hymgorffori yn y cylch gorchwyl. Rwy’n credu mai mater i’r Comisiwn yw penderfynu ar y trefniadau manwl.’

Wedi i’r comisiwn gael ei sefydlu, gobeithiaf y byddwn fel pwyllgor yn gallu chwarae ein rhan yn sicrhau bod y mecanweithiau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn ddigonol ac yn effeithiol, wrth gwrs.

Gan ddychwelyd at argymhelliad 7, sy’n dweud

‘Dylai’r Comisiwn lunio adroddiad rheolaidd ar “Gyflwr y Genedl” gan ddilyn amserlen wahanol i’r amserlen wleidyddol’,

a chynnig awgrym o bob tair blynedd—awgrym a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru—cafwyd consensws a chefnogaeth, mewn digwyddiad diweddar Dyfodol Sir y Fflint a gynhaliwyd gennyf yr wythnos hon yn fy etholaeth er mwyn trafod anghenion a dyheadau ein heconomi leol gyda rhanddeiliaid ledled yr ardal, i’r syniad hwn o gymryd camau i sicrhau y cedwir prosiectau sydd mor arwyddocaol i fuddsoddi ein heconomi yn y dyfodol a seilwaith ein gwlad ar wahân i’r cylch gwleidyddol, ynghyd â’r llif gwaith, y cynlluniau a’r weledigaeth hirdymor a ddaw, gobeithio, o ganlyniad i sefydlu’r comisiwn. Dylid sicrhau mai’r flaenoriaeth yn awr yw sefydlu’r comisiwn o fewn yr amserlen a gynlluniwyd a thanio’r gwaith ar y prosiectau allweddol hyn, a fyddai nid yn unig o fudd i fusnesau, cymunedau a rhanddeiliaid yn fy ardal i, ond ledled Cymru gyfan.

Fel y nododd y Cadeirydd, er bod ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i rai o’r argymhellion i’w groesawu, credaf fod peth anghytuno ynghylch rôl a chylch gwaith y comisiwn seilwaith cenedlaethol, ac mae peth ohono’n anghytundeb sylfaenol. Mae’n mynd i wraidd y cwestiwn ynglŷn â pha broblem y mae’r comisiwn yn ceisio’i datrys. Ni fyddech o reidrwydd yn ymwybodol o’r lefel hon o anghytuno o edrych ar y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â’i hymgynghoriad ei hun. Y canrannau sy’n anghytuno: 1 y cant a 0 y cant yn unig mewn llawer ohonynt. Mae’n rhaid i mi ddweud—ac nid wyf yn ceisio bod yn fwriadol bryfoclyd yma—fod rhai ohonynt bron yn gwestiynau y mae’n amhosibl anghytuno â hwy:

‘Ydych chi’n cytuno y dylai’r Comisiwn gydweithio â Chomisiwn Seilwaith y DU...?’

Pwy’n wir a allai anghytuno â hynny? Nid oes unrhyw un yn anghytuno â hynny. Yn yr un modd, ‘Ydych chi’n cytuno y dylai pob penodiad i’r Comisiwn gael ei wneud drwy ymarfer penodi cyhoeddus agored?’ Felly, os ydym am ddysgu rhywbeth o ymgynghoriadau, credaf efallai y dylem fframio’r cwestiynau am y meysydd lle y ceir anghytuno dilys a diffuant yn eu cylch. Hyd yn oed yn y cwestiwn cyntaf, sef yr un sylfaenol am y rôl a’r cylch gwaith, mae’n dweud bod 87 y cant yn cytuno—ond mewn cromfachau, mae’n dweud ‘yn llwyr neu’n rhannol’. Yn yr ail ran—’yn rhannol’—y gwelwn, wrth gwrs, fod yna anghytuno. Felly, o ran y cwestiwn ynglŷn â’r sail statudol, mae rhai o gyrff allweddol y diwydiant—Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil—yn amlwg yn dadlau, fel y gwnaethant mewn perthynas â Chomisiwn y DU, fod angen i’r comisiwn hwn, er mwyn iddo gyflawni ei waith ar ran pobl Cymru, gael ei sefydlu ar sail statudol. Yn wir, aeth yr Arglwydd Kinnock, mewn ymateb i’r tro pedol yn dilyn yr ymrwymiad yn araith y Frenhines yn San Steffan—sy’n golygu bellach, wrth gwrs, na fydd sail statudol i Gomisiwn y DU ychwaith—mor bell â dweud bod hynny’n dinistrio holl effaith y corff o ran creu’r math o annibyniaeth ac awdurdod sydd ei angen er mwyn sicrhau ymagwedd hirdymor tuag at ein hanghenion seilwaith, sy’n mynd y tu hwnt i’r cylch gwleidyddol ac yn mynd y tu hwnt i fympwyon newid yn y weinyddiaeth o un tymor i’r llall. Felly, mae’n rhaid i mi ddweud bod hynny’n siom enfawr, nid yn unig i fy mhlaid, ond yn amlwg, fel y gwelir yn adroddiad y pwyllgor, ar draws y Siambr ac ymhlith cyrff a sectorau allweddol sy’n ei seilio ar eu harbenigedd eu hunain.

O ran seilwaith cymdeithasol, unwaith eto, rhan o’r broblem sydd gennym ac rydym yn ceisio’i datrys yw anghydbwysedd ein buddsoddiad mewn seilwaith: y ffaith nad oes ymagwedd hirdymor, ond hefyd nad oes ymagwedd gynhwysfawr neu gyfannol ychwaith. Dyna pam, er na allwn argyhoeddi pob un o fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor ynglŷn â hyn—. Pam hepgor seilwaith cymdeithasol? Fel y clywsom yn rymus y bore yma, yn fy marn i, mewn tystiolaeth gan Karel Williams, mae’n rhaniad mympwyol—y gwahaniaeth rhwng seilwaith cymdeithasol a seilwaith economaidd neu gynhyrchiol. Felly, dewch inni ei gynnwys. Ceir ymdrechion petrus, o bosibl, yn cuddio o fewn ymateb y Llywodraeth, ond mewn gwirionedd, gadewch i ni sicrhau ei fod yn rhan o’r cylch gwaith craidd. Rwy’n falch o weld bod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn archwilio dewisiadau eraill mewn perthynas â’r cwestiwn allweddol ynglŷn â sut yr awn ati i ariannu buddsoddiad mewn seilwaith, ond a gaf fi ofyn cwestiwn uniongyrchol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet? A yw hynny’n golygu y bydd buddsoddi mewn seilwaith yn rhan o’r llythyr cylch gwaith arall y bydd yn ei ysgrifennu cyn bo hir at fanc datblygu Cymru?

Yn olaf, ynglŷn â’r cwestiwn o ran yr anghydbwysedd arall, sef anghydbwysedd mewn buddsoddi ledled Cymru, mae’n obsesiwn personol, ac yn wir, yn obsesiwn gan ein plaid ar hyn o bryd. Ceir cyfeiriad at gael lleisiau gwahanol ranbarthau Cymru wedi’u clywed yng nghyd-destun y comisiwn seilwaith, ond a allwn gael ymrwymiad yn y llythyr cylch gwaith i’r corff hwn i gydraddoli buddsoddiad—yn wir, yn rhanbarth ei etholaeth hefyd, yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru—er mwyn iddo fod yno’n rhan amlwg o’r cylch gwaith? Ac i ni gael syniad—os na chaiff ei osod ar sail statudol, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym, o leiaf, os oes ganddo ffigur, beth fydd maint y gyllideb ar gyfer y corff newydd, er mwyn inni gael rhyw fath o syniad o’i allu i gwblhau’r gwaith o oresgyn y degawdau o danfuddsoddi y cyfeiriais atynt yn gynharach?

Fel y nodwyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad ein pwyllgor,

‘Gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yw sefydlu corff arbenigol, annibynnol a all wneud penderfyniadau hynod bwysig mewn meysydd dadleuol heb unrhyw ddylanwad gwleidyddol. Mae’r weledigaeth honno’n un gref... Gobeithiwn y bydd ein hargymhellion yn rhoi sail i sefydlu’r Comisiwn yn ddiymdroi. Bydd y Comisiwn hwnnw—ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau—yn gallu sicrhau bod Cymru yn datblygu’r seilwaith hanfodol rydym i gyd yn dibynnu arno er mwyn creu cenedl ffyniannus yn yr unfed ganrif ar hugain.’

Fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb,

‘rydym wedi ymrwymo i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol ac arbenigol ar yr anghenion a’r blaenoriaethau o ran y seilwaith strategol’.

Felly, mae’n drueni fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis gwrthod argymhelliad y pwyllgor y dylai’r comisiwn gael ei sefydlu fel corff anstatudol ond gyda rhagdybiaeth glir y bydd deddfwriaeth yn dilyn i sicrhau bod y comisiwn yn dod yn gorff statudol annibynnol.

Fel y dywed ein hadroddiad,

‘Er bod y Pwyllgor yn credu mai’r ffordd orau o sicrhau annibyniaeth a hygrededd y Comisiwn yw rhoi sail statudol iddo, nid oes angen oedi cyn ei sefydlu drwy aros am ddeddfwriaeth.’

Ond fel y dywedodd y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil wrth y pwyllgor,

os yw’n rhan o’r Llywodraeth, nid wyf yn credu y byddwn yn cael yr hyn yr ydym ei angen ganddo. Rwy’n golygu hynny nid fel diwydiant, ond fel cenedl.

Roedd tystiolaeth gan gyrff seilwaith Awstralia yn pwysleisio pwysigrwydd cael eu sefydlu drwy ddeddfwriaeth. Dywedodd Infrastructure Australia wrthym fod y ffaith fod deddfwriaeth wedi cryfhau eu rôl fel corff ymgynghorol annibynnol, tryloyw ac arbenigol wedi eu galluogi i weithredu’n fwy effeithiol ac annibynnol. Dywedodd Infrastructure Victoria wrthym fod y rhesymau dros sefydlu corff annibynnol i gynghori ar seilwaith nid yn unig yn berthnasol i’w hamgylchiadau penodol hwy, ond i wledydd gwahanol, gan gynyddu hyder cymunedol mewn prosesau a chanlyniadau.

Er bod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i adolygu statws y comisiwn cyn etholiad nesaf y Cynulliad, daeth y pwyllgor i’r casgliad, er mwyn sicrhau ei ddylanwad a’i hygrededd ac i fynd i’r afael â’r canfyddiad nad yw comisiwn anstatudol yn ddigon parhaol, y byddai’n rhaid i’r corff fod yn gorff annibynnol, a chael ei ystyried yn gorff annibynnol.

Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol fod ymgyrchoedd lleol yn erbyn datblygiadau tai arfaethedig yn canolbwyntio’n gyffredinol ar amhriodoldeb honedig y safle arfaethedig ac annigonolrwydd seilwaith lleol megis ysgolion, meddygfeydd a chysylltiadau trafnidiaeth i gynnal poblogaeth fwy. Felly, mae’n drueni hefyd mai mewn egwyddor yn unig y derbyniodd argymhelliad y pwyllgor y dylid ymestyn cylch gwaith y comisiwn i gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig ochr yn ochr â’r seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Golyga ei ddatganiad na fydd y mater yn cael ei ystyried nes yr adolygiad o’r comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn fod Llywodraeth Cymru yn dilyn yn hytrach nag yn arwain yr agenda.

Yn eironig, mae llawlyfr Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun datblygu lleol, sy’n nodi’r meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio lleol, yn cynnwys tai, mynediad, parcio, dylunio, seilwaith gwyrdd a thirlunio, ac yn cyfeirio at safleoedd i’w datblygu yn ogystal ag ardaloedd atal datblygu. Felly, byddai’n hollol anghyson pe na fyddai cylch gwaith y comisiwn yn cynnwys hyn. Mewn cyferbyniad, gwelir arfer da yn adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’, sy’n nodi y bydd y gwaith o gyflawni’r weledigaeth yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau ar gyfer cynllunio cymunedol cynaliadwy, ond er mwyn sicrhau economi fwy llwyddiannus a chytbwys, y bydd angen buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â heriau hirdymor, gan gynnwys anghenion tai, ac y bydd yn rhaid i’r cynnig tai yng ngogledd Cymru, sy’n elfen allweddol o ran hybu twf, ymateb i newidiadau demograffig a diwallu anghenion tai ledled y rhanbarth. Mae hefyd yn nodi’r angen i fynd i’r afael â’r rhwystrau allweddol mewn perthynas â chyflenwi tai er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o dir yn cael ei ddarparu ar gyfer datblygiadau eiddo preswyl i fodloni’r galw a’r angen a ragwelir, yn enwedig o ran ailddefnyddio safleoedd tir llwyd, ac i gynorthwyo gyda chostau sy’n gysylltiedig ag adfer safleoedd a galluogi seilwaith.

Wrth dderbyn, mewn egwyddor yn unig, argymhelliad y pwyllgor y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd ac na ddylai rannu adeilad ag adrannau Llywodraeth Cymru, ond y dylai rannu adeilad gyda chorff cyhoeddus arall i leihau’r costau, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i nodi bod angen i’r comisiwn warchod ei annibyniaeth rhag nifer o ddylanwadau a chyrff, sef yr union bwynt a wnaed gan y pwyllgor. Fodd bynnag, nid yw ei ymateb yn cyfeirio o gwbl at leoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd, ac felly gofynnaf iddo wneud sylwadau ar hyn yn ei ymateb heddiw.

Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith ategol cysylltiedig yn adroddiad y comisiwn, ochr yn ochr â seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Gwnaeth tystiolaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, a’r Gymdeithas ar gyfer Ymgynghori a Pheirianneg achos cryf iawn a nodai fod angen i’n hymagwedd at dai fod yn gyfannol, ar gyfer Cymru gyfan ac wrth wraidd y ffordd y meddyliwn am seilwaith.

Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd y defnyddiwn dir strategol yn ystod yr adolygiad o’r comisiwn yn y Cynulliad hwn. Ond hoffwn ychwanegu, pan fo tai’n cael eu datblygu, fod angen inni sicrhau hefyd fod y seilwaith ymylol yn iawn. Er enghraifft, rwy’n ymdrin â mater ar ystad dai a ddatblygwyd ychydig flynyddoedd yn ôl yng nghanol ardal drefol yn fy etholaeth. Dros yr holl amser hwn, nid yw’r trigolion wedi gallu cael band eang boddhaol. Er enghraifft, dywedodd un o’r trigolion wrthyf mai 0.3 cilobeit yr eiliad yn unig oedd cyflymder eu band eang. Y rheswm am hyn: nid yw’r ddarpariaeth seilwaith ar y safle erioed wedi’i gydgysylltu. Mae hyn yn effeithio ar eu gallu i weithio, i astudio, i gyfathrebu ac i ymlacio. Mae trigolion yn cael eu gorfodi i fynd i gostau diangen ac yn cael eu siomi nad yw’r disgwyliad o ran seilwaith ar ystad o dai newydd sbon yn cyrraedd y safon.

Ochr yn ochr â hyn, ystyriwyd seilwaith cymdeithasol gan y pwyllgor. Ni ddaethom i gytundeb y dylai cylch gwaith y comisiwn gynnwys pob agwedd ar hyn, ond rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cofnodi yn ei ateb y bydd disgwyl i gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru ystyried y rhyngweithio posibl rhwng ei argymhellion yn y dyfodol a’r seilwaith cymdeithasol. Yn gryno, hoffwn archwilio pam fod hyn mor bwysig, a pham mai dyma yw’r glud sy’n gallu dod â chymunedau lleol ynghyd a’u cryfhau, i ddyfynnu o ddogfen ar ystyried seilwaith ym mhorth Tafwys. Cafwyd tystiolaeth bwysig, a ddyfynnir yn ein hadroddiad, gan Ed Evans, o Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru. Dywedodd:

[fod] angen inni weld seilwaith yn ei gyfanrwydd, ac mae hynny’n cwmpasu ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Os na wnawn hyn, byddwn yn dadlau na fyddwn yn cydymffurfio â’r egwyddorion cynaliadwyedd sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Tynnodd Chwarae Teg sylw at y pwynt hwn hefyd, gan nodi bod y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Ddeddf yn cydblethu agweddau cymdeithasol gydag agweddau economaidd ac amgylcheddol. Bydd cynnwys gofal plant, gofal cymdeithasol a chyfleusterau addysgol yn sicrhau y gall y comisiwn gyflawni ei rôl strategol yn effeithiol. Yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mae angen inni ystyried yr elfennau hyn o seilwaith cymdeithasol ochr yn ochr ag agweddau mwy traddodiadol ar seilwaith megis trafnidiaeth neu fand eang, gan y gallant bennu a yw pobl yn gallu cael mynediad at waith ai peidio, yn ogystal â sut a ble y gallant wneud hynny. Mae gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn elfennau allweddol o’r economi sylfaenol ac roeddwn yn falch o allu cyflwyno cynnig yr wythnos diwethaf gyda dau aelod arall o’r pwyllgor ar y mater hollbwysig hwn.

Mae darpariaeth gofal plant sy’n hyblyg yn un agwedd ar hyn. Mae fy etholaeth i ac eraill ledled y Cymoedd gogleddol yn cael eu gwasanaethu’n dda gan lu o ddarparwyr gofal plant, ac rydym yn gweld rhai arferion arloesol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, megis ysgol feithrin awyr agored gyntaf Cymru, a fydd yn agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ystod yr haf. Bydd y rhwydwaith presennol o ddarpariaeth yn cael rhagor o ddefnydd wrth i bolisi gofal plant Llywodraeth Cymru gael ei roi ar waith, ac yn wir, efallai y bydd y galw am ofal plant yn fwy na’r cyflenwad. Yn ôl pob tebyg, bydd angen rhagor o ddarparwyr gofal plant i ddarparu’r seilwaith hanfodol hwn—seilwaith sydd â’r potensial i gynorthwyo trigolion i wella eu rhagolygon cyflogadwyedd, cynyddu eu hincwm gwario a hybu eu symudedd cymdeithasol.

Fy mhwynt olaf i gefnogi’r syniad o gynnwys seilwaith cymdeithasol yng nghylch gwaith y comisiwn yw’r ffaith mai dyma beth y mae’r enghreifftiau mwyaf uchelgeisiol ledled y byd eisoes yn ei wneud. Mae’r llywodraeth ffederal a llywodraethau’r taleithiau yn Awstralia yn edrych ar seilwaith economaidd a chymdeithasol. Mae cyrff seilwaith cenedlaethol Seland Newydd a Chanada hefyd yn cynnwys agweddau cymdeithasol yn eu cylchoedd gwaith. Ac ymddengys eu bod yn enghreifftiau da i ni eu dilyn.

Bydd llawer o’r hyn a ddywedaf yn adleisio sylwadau gan aelodau eraill y pwyllgor, ond nid yw ailadrodd rhai o’r pwyntiau hynny’n gwneud unrhyw niwed. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cydnabod ac yn croesawu’r syniad o ffurfio comisiwn a fydd yn darparu cyngor arbenigol, proffesiynol, ac yn anad dim, annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, rwy’n falch hefyd y bydd y comisiwn hwn yn derbyn mandad eglur a syniad clir o’i fodel ariannu.

Er fy mod yn sylweddoli ac yn derbyn y bydd yn cael ei sefydlu fel corff anstatudol i gychwyn, nodaf y wybodaeth a gafwyd gan nifer o gyrff cynghori ar seilwaith yn Awstralia, ac roeddent i gyd bron yn dweud bod canfyddiadau ynglŷn â’r corff wedi gwella’n sylweddol o ganlyniad i’w statws fel corff statudol. Yn ogystal â chyhoeddi’r statws hwn, byddai mantais ychwanegol o ganlyniad i’r ffaith y byddai’r comisiwn yn sefydliad parhaol. Felly, er fy mod yn siŵr na fyddai Ysgrifennydd presennol y Cabinet yn ceisio diddymu’r corff hwn ar unrhyw adeg, byddai’n atal unrhyw un sy’n ymgymryd â’r swydd ar ei ôl rhag gwneud hynny ar ryw adeg yn y dyfodol. Hoffwn ychwanegu hefyd fy mod o’r farn y byddai parhauster y comisiwn yn gwella’i ragolygon yn fawr o ran recriwtio personél o’r ansawdd gorau. Ystyrir bod derbyn mewn egwyddor y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd yn gam cadarnhaol a chroesawaf yr argymhelliad hwn.

Hoffwn nodi’r pwynt fod craffu ar y comisiwn yn hollbwysig, a nodaf yma nad oes gennym set ddiffiniedig o dargedau. Teimlaf y dylid cywiro’r diffyg hwn cyn gynted â phosibl. Ni ellir gorbwysleisio y dylai penodiad i swydd cadeirydd y comisiwn fod yn destun gwrandawiad cyn penodi gan bwyllgor perthnasol. Mae hyn yn gwbl angenrheidiol, o ystyried pwysigrwydd y penodiad, a byddai’n sefydlu annibyniaeth y comisiwn o’r cychwyn cyntaf. Hefyd rwy’n awyddus i adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor o ran cynnwys seilwaith cymdeithasol yng nghylch gwaith y comisiwn.

Felly, i gloi, rydym ni yn UKIP yn croesawu gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â chreu corff sydd ar wahân i faich hwylustod gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau o bwys strategol gyda goblygiadau hirdymor. Bydd fy mhlaid yn cefnogi ei weithrediad yn llawn.

A gaf fi adleisio’r diolch y mae fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor eisoes wedi’i roi i staff Comisiwn y pwyllgor a phawb sydd wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor? Credaf fod tystiolaeth ddefnyddiol iawn yn y trawsgrifiadau nad yw o bosibl wedi cyrraedd yr adroddiad, a byddai’n werth myfyrio arni.

Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Mae’n drueni nad oedd yn teimlo y gallai fynd ymhellach o ran tir ar gyfer tai ac mewn perthynas hefyd â chydnabod cyfeiriad statudol ar gyfer y comisiwn yn y pen draw, os mynnwch, ond rwyf hefyd yn derbyn y ffaith y bydd yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn ei adolygiad maes o law.

Rwyf am wneud sylwadau cryno ar dair agwedd ar waith y comisiwn a’i oblygiadau. Y cyntaf yw’r llinell amser 30 mlynedd y bwriada’r comisiwn weithio drosti. Clywsom, yn anecdotaidd mewn trafodaethau ac yn ffurfiol, pa mor bwysig oedd hynny i fuddsoddwyr ac i’r diwydiant yn gyffredinol o ran cynllunio adnoddau, cynllunio ariannol, ac yn wir, cynllunio sgiliau. Felly, croesawaf y ffrâm amser hir y bydd yn gweithio ynddi. Gŵyr unrhyw fusnes fod mwy o sicrwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar na’r blynyddoedd canlynol, ond serch hynny, credaf fod gwelededd yn bwysig. Fe’i croesawaf hefyd gan fy mod yn credu y bydd, mewn gwirionedd, yn cynyddu’r posibilrwydd o gonsensws gwleidyddol mewn perthynas â rhai o’r prosiectau a fydd, yn anochel, yn cael eu cynnig. Mae cael sylfaen gadarn o dystiolaeth gyhoeddus dros amser, tystiolaeth a fydd ar gael i fyfyrio drosti a’i herio, yn sicr o arwain at gymaint o gyfle â phosibl i gyrraedd consensws gwleidyddol lle y bo hynny’n bosibl.

Fodd bynnag, byddwn yn deud nad yw llinell amser 30 mlynedd yn dasg hawdd. Nid oes 30 mlynedd wedi bod eto ers dyfeisio’r we fyd-eang, ac os gall unrhyw un ohonom feddwl am ddatblygiad mwy trawsnewidiol dros y degawdau diweddar—rwy’n sicr na allwn ni. Mae gwneud hynny’n dasg sylweddol, boed yn sector ynni adnewyddadwy ar y môr, o ran yr heriau sy’n ein hwynebu mewn perthynas â dosbarthu ynni, sut y byddwn yn pweru ein cerbydau, beth fydd ein porthladdoedd yn ei wneud, a sut y bydd y rhyngrwyd o bethau’n dod yn rhan annatod o’n bywyd bob dydd. Dychmygwch fyd lle y mae cysylltedd 10G yn gwbl hanfodol ym mhob rhan o Gymru ar gyfer darparu gofal iechyd yn y cartref, a allai fod yn arferol erbyn hynny. Mae sawl math o her na ellir ei dirnad ar hyn o bryd. Credaf, felly, ei bod yn bwysig fod gennym unigolion ar y comisiwn sy’n gallu meddwl yn greadigol, ac na chawn faddeuant am adeiladu seilwaith ddoe yfory. Ac o ystyried cyflymder newidiadau technolegol, nid yw’r cyfnod o 30 mlynedd erioed wedi bod yn hwy nag y mae heddiw.

Rwyf am siarad ychydig am gyfansoddiad ac ymagwedd at waith y comisiwn. Yn ogystal â’r unigolion creadigol a grybwyllais, bydd angen pobl ar y comisiwn hefyd sydd â phrofiad ymarferol o gyflawni: pobl â’r dychymyg i feddwl ymlaen. Gan adlewyrchu’r sylwadau a wnaeth Vikki Howells a siaradwyr eraill heddiw, er gwaethaf y ffaith nad yw seilwaith cymdeithasol yn rhan o’r cylch gwaith, credaf ei bod yn bwysig fod gennym bobl â dealltwriaeth o seilwaith cymdeithasol ar y comisiwn, gan fod deall y rhyng-gysylltiad rhwng seilwaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn hanfodol, hyd yn oed os nad yw hynny’n rhan ffurfiol o’i weithgaredd.

Mentraf ddweud hefyd nad wyf yn credu mai dyma’r amser ar gyfer y wynebau cyfarwydd yn unig. Dylem fod yn feiddgar a dylem geisio dod o hyd i’r bobl orau sydd ar gael, ni waeth o ble y dônt. Yn bersonol, hoffwn weld profiad o seilwaith rhyngwladol ar y comisiwn ei hun. Rwy’n digwydd meddwl fod ansawdd y bobl y gallwn eu denu i’r comisiwn yn cyfateb yn agos iawn i’w hyder yn annibyniaeth y corff. Beth bynnag y bo’r strwythur ffurfiol, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn myfyrio ar hynny yn nhrefniadau’r comisiwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod gan aelodau’r comisiwn hyder llwyr yn ei annibyniaeth.

Mae’r trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â’i rôl fel partner her. Nid yw’n gorff cyflawni: mae’n gorff ymgynghorol ac mae’n bodoli er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru yn bennaf, ac i fod yn bartner her i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Ond gobeithiaf hefyd y bydd cyrff cyhoeddus eraill sydd â diddordeb a chyfrifoldeb dros seilwaith yn ymgymryd yn yr un modd â gwaith y comisiwn, ac y gall fod o ddefnydd wrth herio rhai o’r rhagdybiaethau yn ein hawdurdodau lleol, y GIG a’n dinas-ranbarthau. Gobeithiaf y bydd y cyrff hynny’n ei groesawu. Nid oes gan unrhyw gorff cyhoeddus fonopoli ar ddoethineb, ac yn sicr nid dros linell amser 30 mlynedd. Ar yr amod ei bod yn her resymol, credaf y byddai’n gyfraniad defnyddiol i fywyd economaidd Cymru, a gobeithiaf y bydd cyrff cyhoeddus eraill yn ymgysylltu yn yr un ffordd ag y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei wneud.

Mae’n bleser dilyn fy ffrind Jeremy Miles, ac adleisio ei alwad am unigolion creadigol i ymroi i’r drafodaeth ynglŷn â’n hanghenion seilwaith ar gyfer y dyfodol. Rwyf ychydig yn betrus ynglŷn â’r pwyslais ar bwysigrwydd seilwaith. Fel rydym wedi’i drafod o’r blaen yn y Siambr hon, bydd angen ymateb ailadroddol mwy ystwyth a chyflym i fynd i’r afael â’r pwysau economaidd y byddwn yn ei wynebu yn y dyfodol, yn hytrach na chanolbwyntio’n helaeth ar seilwaith fel y gwnaethom yn y gorffennol. Wedi dweud hynny, mae angen i ni feddwl yn hirdymor er mwyn goresgyn yr heriau hirdymor y gwyddom eu bod yn wynebu ein heconomi a’n cymdeithas, yn enwedig y targed newid hinsawdd y mae pawb ohonom wedi ymrwymo iddo, a goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n eithaf amlwg nad yw’r system bresennol yn gweithio yn arbennig o dda. Cofiaf Gerry Holtham yn dweud wrthyf am ei brofiad fel cynghorydd Llywodraeth Cymru ar gyllid, pan ofynnwyd iddo fynd i’r ddinas i geisio codi arian amgen i ariannu uchelgeisiau seilwaith Llywodraeth Cymru. Treuliodd ei amser yn meithrin cysylltiadau yn y ddinas yn amyneddgar, gan gytuno ar becyn o gyllid, ac roedd ar fin arwyddo pan ad-drefnwyd y Cabinet a olygai fod blaenoriaethau seilwaith y Llywodraeth wedi newid gan wneud yr holl waith yn ofer, a bu’n rhaid dechrau o’r dechrau o ran ceisio dod o hyd i arian ar gyfer seilwaith.

Credaf, fodd bynnag, ei bod yn hanfodol fod unrhyw gorff newydd yn gwneud ei benderfyniadau mewn modd sy’n ystyried yr heriau hirdymor, ac yn nodi, yn hollol dryloyw, ar ba sail y mae’n gwneud y penderfyniadau hynny, ac yn eu rhoi ar waith mewn modd cyson. Dylai gwerth am arian fod yn fesur allweddol. Yn sicr, dylem roi blaenoriaeth i’r cynlluniau sy’n rhoi’r elw mwyaf. Yn ddefnyddiol iawn, mae Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn categoreiddio’r hyn y mae’n ei ystyried yn werth da am arian.

Soniaf yn gryno am ei ganllawiau. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu rhwng £1 a £1.50 am bob £1 a fuddsoddir yn cynnig gwerth isel am arian. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu £2 am bob £1.50 a fuddsoddir yn cynnig gwerth canolig am arian. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu rhwng £2 a £4 am bob £1 a fuddsoddir yn cynnig gwerth uchel am arian, ac ystyrir bod unrhyw beth sy’n darparu elw o dros £4 yn cynnig gwerth uchel iawn am arian. Fel enghraifft o hynny, mae cynlluniau sy’n annog cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr, er enghraifft, fel arfer yn darparu oddeutu £9 am bob £1 a fuddsoddir. Ond nid yw rhai o’r cynlluniau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd neu sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ddiweddar yn talu’n arbennig o dda yn ôl y meincnod hwnnw.

Rhagwelir y bydd llwybr du yr M4, er enghraifft, yn darparu elw o £1.62 am bob £1 a fuddsoddir. A dylid cofio bod y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo’r ffigur hwnnw yn rhagfarnllyd iawn er mwyn gwneud i gynlluniau adeiladu ffyrdd edrych yn ddeniadol. Felly, er mwyn rhoi enghraifft i chi o sut y mae’n gweithio, bydd yn rhagweld y bydd y cynllun yn cynhyrchu arbedion o nifer penodol o funudau o ran amser teithio, ac yn amcangyfrif wedyn sawl car a fydd yn gwneud y daith honno; bydd yn cymryd y ffigur hwnnw ac yn ei luosi â’r flwyddyn honno—felly, i bob pwrpas, bydd yn dewis rhif ar hap nad oes iddo unrhyw sail yn ffeithiol; amcanestyniad ydyw—ac yna bydd yn lluosi’r rhif hwnnw â 30, gan mai dyna nifer y blynyddoedd y mae’n credu y bydd y cynllun yn darparu adenillion ar fuddsoddiad. Felly, mae cynlluniau ffyrdd yn cael eu hystumio i edrych fel pe baent yn darparu cymaint o elw â phosibl ar arian cyhoeddus. Hyd yn oed o ddefnyddio’r fformiwla honno, nid yw’r cynlluniau a roddwn ar waith yn talu’n arbennig o dda.

Unwaith eto, roedd yr A477, rhwng Sanclêr a Rhos-goch, yn darparu elw o £1.35 am bob £1 a fuddsoddwyd, hyd yn oed o ddefnyddio’r fformiwla uchelgeisiol iawn honno a’i rhagdybiaethau. Mae hynny’n cynnig adenillion isel ar fuddsoddiad. Cefais fy syfrdanu wrth dderbyn ymateb ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â ffordd osgoi Llandeilo, a ddywedai mewn gwirionedd nad oedd ganddo ffigur yn sail i’w benderfyniad i roi sêl bendith i’r cynllun. Dyfynnaf:

Gan nad oes unrhyw waith datblygu wedi ei gyflawni ar y cynllun dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Gymhareb Budd a Chost yn dyddio’n ôl i’r Ymchwiliad Cyhoeddus yn y nawdegau, ac ar y pryd, 1.16 oedd y ffigur hwnnw.

Ffigur isel iawn am fuddsoddiad o £1. Aeth ymlaen i ddweud:

y bydd sefydlu Cymhareb Budd a Chost gadarn ar gyfer y prosiect yn weithred gynnar fel rhan o ddatblygiad y cynllun.

Nawr, pan fydd gennym gomisiwn seilwaith, gobeithiaf na fyddwn yn rhoi sêl bendith i gynlluniau heb ddata cadarn i’w cyfiawnhau a heb eu bod yn cydymffurfio’n gadarn â’r nod o gyflawni’r targed yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddo mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd.

Clywaf Adam Price yn mwmian. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo sôn am yr angen am gorff statudol, a fyddai’n mynd â’r disgresiwn o ddwylo’r Gweinidogion, ac ar yr un pryd yn cael eithriad ar gyfer unrhyw gynllun—

Adam Price a gododd—

Cael eithriad—. Fel y mae’n digwydd, Dai Lloyd, rwyf wedi ildio i Adam Price lawer mwy o weithiau nag y mae ef wedi ildio i mi.

Ydw. Caniatawyd eithriad i ffordd osgoi Llandeilo fel na fyddai angen i’r comisiwn annibynnol ei hystyried, gan wybod yn iawn, ar sail elw o £1.16 ar y buddsoddiad, na fyddai’n ddigon da. Rwyf wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo fynnu bod yn rhaid i gynlluniau eraill basio prawf tebyg. Rydym oll wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bawb ohonom gyflawni ein hymrwymiad a’i adlewyrchu yn y penderfyniadau a wnawn.

Gadewch i ni dawelu. Hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 1 ac argymhelliad 8 yn fy ymateb, yn enwedig argymhelliad 1:

‘y modd y cyflenwir tir ar gyfer datblygiadau tai ac iddynt arwyddocâd strategol, ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig’.

Mae hon yn thema y siaradais amdani ar sawl achlysur yn y Siambr pan gefais fy ethol gyntaf ac yn wir, roeddwn yn rhan o ddeuawd annhebygol gyda Neil McEvoy, yn siarad am yr angen am gynlluniau cydgysylltiedig—. [Torri ar draws.] Mae’n drueni nad yw yma heddiw, oherwydd gyda’i statws annibynnol newydd efallai y gallem fod wedi ailffurfio’r ddeuawd honno. Soniasom am yr angen am gynlluniau datblygu strategol cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r heriau trawsffiniol ym maes tai yn arbennig, ond cyflogaeth a thrafnidiaeth hefyd, yn hytrach na nifer o gynlluniau datblygu lleol yn cystadlu mewn ardaloedd agos yn ddaearyddol. Mae hyn yn rhywbeth a drafodwyd yn helaeth yn y pwyllgor, ac mae’n rhywbeth nad wyf yn credu ein bod wedi mynd i’r afael ag ef yn iawn o hyd. Rwy’n gobeithio y gallai fod modd i’r comisiwn archwilio hyn, hyd yn oed os nad yw’n rhan o’i gylch gwaith ffurfiol.

Gan fod y galw am dai a’r cyflenwad tai wedi’u cysylltu’n agos â’r economi a’r amgylchedd, i mi, mae’n gwneud synnwyr i ehangu cylch gwaith y comisiwn yn hyn o beth. Gwnaeth Mark Isherwood y pwynt hwnnw, er iddo wneud hynny mewn ffordd ychydig yn flin. Nid yw’n flin mewn bywyd go iawn, ond roeddwn yn cytuno ag ef. [Chwerthin.] Nodais fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, yn amodol ar adolygiad ffurfiol. Yn ei ymateb mae’n dweud bod mecanweithiau presennol ar waith eisoes i ystyried y mater hwn a bod angen i gynlluniau datblygu rhanbarthol wreiddio cyn ymestyn cylch gwaith y comisiwn. Hoffwn wybod mwy am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei olygu wrth wreiddio, ac mae angen cynlluniau rhanbarthol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn fy marn i. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fonitro’r sefyllfa honno’n agos iawn felly. Maent wedi dweud ‘yn ystod y tymor Cynulliad hwn’. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro i mi felly sut y caiff datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol eu hymgorffori’n anffurfiol yng nghylch gwaith y comisiwn er mwyn mabwysiadu’r safbwynt cyfannol y mae’n cyfeirio ato yn ei ymateb i’r adroddiad?

Yn olaf, mae argymhelliad 8 yn dweud y dylai bwrdd y comisiwn:

‘adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru er mwyn sicrhau bod y Comisiwn yn deall pob rhan o Gymru.’

Ac y dylai

‘ystyried sefydlu fforwm i ddwyn ynghyd y gwahanol ranbarthau yng Nghymru ac i ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y rhanbarthau hynny.’

Mae hynny, wrth gwrs, yn uniongyrchol gysylltiedig â’r fargen ddinesig yng Nghaerdydd—bargen ddinesig Caerdydd. Byddai fy etholwyr yng Nghaerffili yn elwa o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a’r metro de Cymru cysylltiedig. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ond un o’r cysyniadau y ceisiais ei ddatblygu yn y Siambr, ac y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato heddiw, yw’r cysyniad o’r Cymoedd gogleddol, a’r angen am strategaeth economaidd ar gyfer y rhannau hyn o Gymru nad ydynt yn denu cymaint o fuddsoddiad â’r canol dinesig. Rwy’n awyddus i’r fargen ddinesig wasanaethu’r Cymoedd gogleddol. Gyda’r diddordeb yn y Cymoedd gogleddol, sy’n gymunedau yn eu hawl eu hunain, a fyddai gennych gynrychiolwyr o’r ardal honno wedyn ar fwrdd y comisiwn i sicrhau bod yr ardal hon yn cael ei hystyried mor drylwyr ag y dylai, yn awr ac yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn, a galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hymchwiliad a’u hadroddiad? Roedd yr ymchwiliad yn drylwyr a chynhwysol, ac fe’i cadeiriwyd yn fedrus gan Russell George, ac roedd gan aelodau’r pwyllgor ddiddordeb dwfn a chwilfrydig iawn yn y pwnc. Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad cryf y mae eu canfyddiadau wedi’i wneud i ddatblygiad comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru. Mae sicrhau bod pobl yn unedig a chysylltiedig yn rhan sylfaenol o waith y Llywodraeth hon, ac yn rhan allweddol o ‘Symud Cymru Ymlaen’. Caiff ein llwyddiant ei fesur yn ôl y twf economaidd a’r sefydlogrwydd y gallwn ei ddarparu i gymunedau ledled Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, a dyna pam y mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ddatblygu economi gryfach a thecach.

Elfen sylfaenol ar gyfer gwella sefydlogrwydd economaidd yw ystod ac ansawdd seilwaith gwlad—y systemau ffisegol a’r gwasanaethau sydd angen inni eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod Cymru’n gweithio’n effeithiol. Mae angen i unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau gael eu cefnogi gan wasanaethau cynaliadwy sy’n diwallu anghenion heddiw, ond sydd hefyd yn ein paratoi ar gyfer heriau yfory. Bydd hyn yn arbennig o hanfodol gan ein bod yn gwybod pa mor anodd y mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod. Felly, ein her yw creu’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar gyfer lles hirdymor ein pobl a’n cymunedau.

Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol mawr, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy pwysig ein bod yn gweithredu yn awr ac yn cryfhau’r ffordd yr ydym yn ystyried ac yn blaenoriaethu anghenion seilwaith yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni greu’r amodau ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy hirdymor ac nid oes amheuaeth fod cael y seilwaith cywir yn hanfodol. Am y rheswm hwn mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i symud tuag at strategaeth fwy gwybodus, mwy hirdymor o fuddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru yn gam hanfodol tuag at yr uchelgais hwn, ac roeddwn yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod pwysigrwydd y comisiwn drwy ei wneud yn destun un o’i ymchwiliadau cyntaf yn y Cynulliad hwn. Ni allai’r amseru fod wedi bod yn well gan i mi lansio ymgynghoriad cyhoeddus dros 12 wythnos y llynedd ar y comisiwn i redeg ochr yn ochr ag ymchwiliad y pwyllgor. Croesawaf yn fawr adroddiad y pwyllgor a’r cyfle heddiw i drafod ymhellach gyda’r Aelodau.

Roedd yr adroddiad, a oedd yn adleisio llawer o’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus, yn un adeiladol iawn a helpodd i lunio fy ystyriaethau o’r comisiwn. Roeddwn yn falch o dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, bron bob un o’r argymhellion. Un o’r themâu amlycaf a godai o’r adroddiad ac o’r ymarfer ymgynghori oedd yr angen dybryd am gyngor sy’n strategol, yn drawsbynciol ac yn cynnal safbwynt gwrthrychol hirdymor.

Bydd cylch gwaith y comisiwn yn cael ei deilwra i sicrhau bod ffocws ac adnoddau wedi’u cyfeirio tuag at anghenion seilwaith strategol. Fe fydd yn hanfodol er mwyn amddiffyn annibyniaeth y comisiwn hefyd. Felly, rwy’n croesawu awgrymiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol fabwysiadu rôl weithredol yn y gwaith o graffu ar annibyniaeth ac argymhellion y comisiwn, yn ogystal â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion hyn. Felly, er mwyn hwyluso hyn, rwy’n bwriadu gosod adroddiad blynyddol y comisiwn gerbron y Siambr. Rwyf hefyd yn cytuno ag awgrym y pwyllgor ynglŷn ag adroddiad tair blynedd ar gyflwr y genedl i ddarparu fframwaith effeithiol ar gyfer y trefniadau adrodd.

Nawr, er bod argymhellion y pwyllgor yn cyd-fynd i raddau helaeth â’n syniadau ni, ceir rhai meysydd lle y mae angen mwy o amser i asesu’r budd a’r effaith bosibl. Rwy’n ystyried mai cam cyntaf mewn proses sy’n datblygu yw sefydlu’r comisiwn a chefais fy nghalonogi gan y gefnogaeth glir yn adroddiad y pwyllgor a’r ymatebion i’r ymgynghoriad i adolygiad o statws a chylch gwaith y comisiwn tuag at ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Byddwn yn sefydlu’r comisiwn ar sail anstatudol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu darparu cyngor ac argymhellion cyn gynted ag y bo modd.

Rwy’n cytuno â’r pwyllgor na ddylai’r cylch gwaith ymestyn i seilwaith cymdeithasol yn gyffredinol, ac wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ymestyn y cylch gwaith i gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai. Rwy’n cydnabod y cysylltiadau clir rhwng y cyflenwad tai a thwf economaidd, ond rwy’n bwriadu rhoi ystyriaeth fwy gofalus i hyn o gofio’r mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli yn y sector hwn. Ar ben hynny, mae angen mwy o amser i gynlluniau datblygu strategol aeddfedu ac i’w heffeithiolrwydd gael eu hasesu. Felly, rwy’n ystyried y bydd cwmpas y comisiwn yn ffocws i adolygiad a gynlluniwyd cyn diwedd y Cynulliad hwn.

Fodd bynnag, o’r cychwyn cyntaf, bydd disgwyl i’r comisiwn ystyried y rhyngweithio posibl rhwng ei argymhellion a seilwaith cymdeithasol, fel y mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi sôn heddiw. Bydd hyn yn sicrhau bod argymhellion y comisiwn yn edrych yn gyfannol ar anghenion seilwaith, ond hefyd yn cynnal ei brif ffocws. Ar ben hynny, drwy ei gyngor a’i argymhellion, bydd disgwyl i’r comisiwn adlewyrchu’n llawn y rhwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Deddf yr amgylchedd yn ogystal â nodau ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Agwedd allweddol arall ar yr ymgynghoriad oedd pwysigrwydd cael perthynas waith agos gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu a datblygu perthynas adeiladol a buddiol i’r ddwy ochr gyda chomisiwn y DU ar feysydd allweddol megis cysylltedd rheilffyrdd ac ynni, ac roedd y pwyllgor ac ymatebion i’n hymgynghoriad yn cefnogi hyn yn gryf.

Mae comisiwn y DU wedi cydgysylltu’n agos gyda ni ar ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i helpu i lywio ei asesiad seilwaith cenedlaethol cyntaf. Rydym yn cydweithio i gynnal ymweliad gan gomisiwn y DU â Wrecsam yr wythnos hon gyda thrafodaethau o gwmpas y bwrdd i wleidyddion ac i fusnesau.

Fe af ar ôl y nifer fach o bwyntiau ychwanegol a nodwyd heddiw yn ystod y ddadl. Fel y mae’r Aelodau wedi nodi, rwy’n credu y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd, ond mewn ardal, mewn adeilad, sy’n ei osod ychydig ar wahân i unrhyw sefydliadau a allai elwa o’i ystyriaethau. Rwyf hefyd yn credu, fel y mae Aelodau wedi nodi, y dylai adnoddau gael eu dyrannu’n decach ar gyfer prosiectau ledled Cymru. Ni ddylem edrych yn unig ar gyfran decach o adnoddau, fodd bynnag, ar gyfer y rhanbarthau, ond hefyd o fewn y rhanbarthau. Oherwydd, a dweud y gwir, pe baem yn dilyn yr awgrym a gynigiwyd gan rai i leihau gwariant yn ddramatig yn ne-ddwyrain Cymru heb edrych ar sut y rhennir y gwariant o fewn de-ddwyrain Cymru, yna—

Pa bryd y mae unrhyw un, rwy’n meddwl, yn y Siambr hon, wedi galw mewn gwirionedd am lai o fuddsoddiad yn ne-ddwyrain Cymru, neu yn unrhyw ran o Gymru? Y pwynt yw cynyddu buddsoddiad yn y rhanbarthau eraill yn ogystal. Rydym wedi darparu rhai dulliau arloesol ar ei gyfer er mwyn iddo allu gwneud hynny.

Wrth sôn am wahaniaethau rhwng rhanbarthau, ac yn ei hanfod, drwy osod rhanbarthau yn erbyn ei gilydd o ran y gwariant, oni bai eich bod yn gallu nodi sut i gynyddu’r gwariant a’r adnoddau yn yr ardaloedd hyn heb dorri mewn meysydd eraill o’r Llywodraeth, rhaid cymryd yn ganiataol eich bod yn trafod, ac yn argymell toriad mewn rhyw ardal neu’i gilydd o Gymru er mwyn cynyddu’r cyllid mewn ardal arall. Mae fy mhwynt yn bwynt y dylech ei gefnogi, ‘does bosibl: nid yw’n ymwneud yn unig ag anghydraddoldeb rhanbarthol, mae’n ymwneud ag anghydraddoldeb o fewn rhanbarthau yn ogystal, a rhaid inni sicrhau, o fewn y rhanbarthau, fod adnoddau’n cael eu dyrannu’n deg er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymunedau’n cael eu gadael ar ôl neu dan anfantais.

O ran rhai o’r pwyntiau eraill a wnaed, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol y dylem ystyried denu’r arbenigwyr technegol gorau nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd, a byddwn yn cytuno yn llwyr gyda Jeremy Miles fod yn rhaid i ni estyn allan a dod â gwaed newydd a syniadau newydd ac arloesedd i mewn. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod â’r Arglwydd Adonis ddydd Gwener.

Yn olaf, o ran seilwaith cymdeithasol, gwnaeth Vikki Howells bwynt pwysig iawn am ofal plant. Wrth gwrs, dylai darpariaeth gofal plant fod yn gysylltiedig iawn â datblygu gorsafoedd metro newydd, a dyna pam y credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod dealltwriaeth dda o seilwaith cymdeithasol yn datblygu ar y comisiwn.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen yn awr at weld y comisiwn wedi’i sefydlu ac yn dechrau cyflawni ei botensial. Fy nod yw lansio’r ymarfer penodiadau cyhoeddus ar gyfer y cadeirydd a’r aelodau yn gynnar yn yr hydref a chael y comisiwn yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw. Rwy’n meddwl bod y ffaith fod pob aelod o’r pwyllgor, ac Aelodau eraill hefyd nad ydynt yn rhan o’r pwyllgor, wedi cymryd rhan yn y ddadl yn dangos lefel y diddordeb mewn comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac yn wir, y potensial sydd ganddo, rwy’n credu, i ddatblygu Cymru’r dyfodol.

Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch nid yn unig i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn, ond hefyd am y gefnogaeth a gawsom gan dîm clercio’r pwyllgor a’r tîm integredig ehangach. Rwy’n siarad ar ran fy holl aelodau yn hynny o beth. Maent wedi cynnig cefnogaeth wych yn ein cynorthwyo yn ein gwaith.

Cyflwynodd Adam Price safbwyntiau teg mewn perthynas â rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd yn ymgynghoriad y Llywodraeth, ac rwy’n meddwl tybed a oes cyfle yma lle y mae’r Llywodraeth yn ymwybodol fod yna bwyllgor yn cynnal ymchwiliad lle y gallai, yn wir, ymgynghori â’r pwyllgor hwnnw a chynnwys y pwyllgor hwnnw, yn wir, drwy ofyn i’r pwyllgor am ei farn ar ei gwestiynau ymgynghori ei hun. Rwy’n meddwl y byddai pawb ohonom eisiau gweld cwestiynau dilys a phwrpasol mewn ymgynghoriad, a tybed a oes gan bwyllgorau yn y Cynulliad rôl i’w chwarae yn cefnogi’r Llywodraeth yn hynny o beth. Siaradodd Adam Price hefyd ynglŷn â pham hepgor seilwaith cymdeithasol, a chawsom sesiwn dda iawn gyda’r Athro Karel Williams y bore yma ar hynny hefyd. Rwy’n ddiolchgar i Hannah Blythyn ac i Mark Isherwood, sy’n aml, ill dau, yn chwifio’r faner dros ogledd Cymru yn y pwyllgor, ac fe wnaethant hynny yn y ddadl heddiw yn ogystal, ac i Mark am ehangu’n fwy manwl ar yr argymhellion a gafodd eu derbyn mewn egwyddor yn unig.

Mae Vikki Howells wedi cefnogi seilwaith cymdeithasol yn gryf yn y pwyllgor yn ein trafodaethau, a bu’n rhan fawr iawn o’r gwaith o siapio ein hadroddiad yn hynny o beth ac ysgogodd yr argymhelliad oddi wrthym yn hynny o beth yn ogystal, rwy’n meddwl, a diolch i Vikki am ymhelaethu rhywfaint yn rhagor ar hynny a chyflwyno’r enghreifftiau a gafwyd ganddi heddiw hefyd. Diolch i David Rowlands a Jeremy Miles a Hefin David am eu cyfraniadau, a Lee Waters—diolch i Lee am gymryd rhan yn y ddadl heddiw; ag yntau heb fod yn aelod o’r pwyllgor, mae’n ddiddorol cael barn o’r tu allan i’r pwyllgor. Roeddwn ychydig yn siomedig nad oedd amser ar gyfer ymyriad Adam Price, ond pe bai Adam eisiau i mi gymryd ymyriad iddo allu cyflwyno’r pwynt yr oedd am ei roi i chi, byddwn yn hapus i dderbyn yr ymyriad hwnnw. [Chwerthin.]

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor—mor gydsyniol a chydweithredol ag erioed. Rwy’n meddwl mai’r pwynt allweddol oedd rôl comisiwn seilwaith cenedlaethol os yw, yn y llythyr cylch gwaith, yn cael arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fod angen inni gydraddoli’r lefelau o fuddsoddiad seilwaith ar draws y rhanbarthau ac yn bendant—i adleisio’r pwynt a wnaeth Hefin David—o fewn y dinas-ranbarthau presennol hefyd fel nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl.

Byddwn yn sicr yn cefnogi hynny’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn meddwl mai’r pwynt pwysig yma hefyd yw nad yw hynny’n cael gwared ar—ni fyddai comisiwn seilwaith yn mynd â chyfrifoldeb oddi wrth Weinidog y Llywodraeth, ond byddai’n caniatáu i’r comisiwn weithio y tu allan i wleidyddiaeth, ac rwy’n credu mai dyna pam y sefydlwyd y comisiwn o ran hynny.

A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mabwysiadu dull pragmataidd, rwy’n meddwl, o sefydlu’r comisiwn, ac mae ei fwriad, rwy’n credu, i adolygu ei effeithiolrwydd ar ddiwedd tymor y Cynulliad i’w groesawu yn ogystal? Bydd yn rhoi cyfle i ni ystyried a yw’r comisiwn wedi cyflawni ac yn cyflawni ei botensial hefyd, ac a oes angen cymorth arno, er enghraifft, drwy ei roi ar sail statudol er mwyn iddo lwyddo. Bydd y camau nesaf yn gwbl hanfodol, rwy’n credu, a siaradodd Jeremy Miles yn gryf i’r perwyl hwn, ond rwy’n dymuno’n dda i Ysgrifennydd y Cabinet a’i dîm wrth iddynt recriwtio’r unigolion o ansawdd uchel y bydd eu hangen, gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiad a gwybodaeth am Gymru, i roi’r seilwaith dynol sydd ei angen ar y comisiwn er mwyn iddo allu cyflawni dros Gymru. Felly, hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor a Lee Waters am gyfrannu at y ddadl heddiw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig i nodi adroddiad y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Perfformiad Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar yr agenda heddiw, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6257 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol, cynnig a oedd yn galw am lawer iawn o feddwl a llythrenogrwydd i’w roi at ei gilydd, ac mae’n datgan yn syml:

‘Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.’

Rwy’n deall bod arweinydd y tŷ yn ymateb ar ran y Llywodraeth. Nid yw’n syndod na fyddwn yn derbyn gwelliant Plaid Cymru sydd wedi ei ychwanegu at ein cynnig. Roedd hi’n anodd pwyso a mesur hwnnw hefyd a threuliasom amser hir yn ei drafod yn y grŵp. Ond rwy’n gobeithio y bydd Plaid Cymru yn ystyried, oherwydd, o gofio’r iaith sydd wedi dod gan Blaid Cymru yn ystod y dyddiau a’r wythnosau diwethaf, mae’n ymddangos bod yna elfen o anhapusrwydd gyda Phlaid Cymru, ac yn sicr mae’n ymddangos mai’r sefyllfa ar hyn o bryd yw nad ydynt o reidrwydd yn cael y gorau o ddau fyd, fel y dywedodd eu harweinydd yn eu cynhadledd, o ran eu trefniadau gyda Llywodraeth bresennol Llafur Cymru.

Byddai’n drueni os na all y gwrthbleidiau uno o gwmpas y cynnig hwn y prynhawn yma i bleidleisio ar yr hyn sydd ger ein bron. Oherwydd mae’n ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ennill yr etholiad yn ôl ym mis Mai diwethaf. Nid yw’r cynnig hwn yn ceisio gwadu hynny, a daeth y Llywodraeth at ei gilydd a ffurfio, yn amlwg, ar ôl yr etholiad hwnnw. Ond mae’r rhan fwyaf o lywodraethau, pan fyddant yn dod i fodolaeth, yn meddu ar ryw egni, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf, y 18 mis cyntaf, pan fyddant yn gosod llwybr ac yn nodi’r llwybr hwnnw i ddangos bod ganddynt egni a’u bod yn awyddus i wneud y newid a’r diwygiadau sydd eu hangen mor daer, yn enwedig yn yr amgylchedd yr ydym ynddo heddiw ac wrth inni symud ymlaen yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’n ddiddorol, wrth wylio’r Llywodraeth, sut y mae’n gweithio dros yr ychydig fisoedd diwethaf—neu beidio, boed fel y bo. Mae yna gwestiwn ynglŷn ag a allwch ysgwyddo cydgyfrifoldeb y Llywodraeth. Mae’n ddiddorol gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, sydd newydd gerdded i mewn yn awr. Mae’n ddiddorol ystyried yr un bleidlais Ewropeaidd o bwys a gynhaliwyd ryw dair wythnos yn ôl, pan oedd yr Ysgrifennydd addysg yn methu cefnogi safbwynt y Llywodraeth i wrthwynebu gwelliant Plaid Cymru a gyflwynwyd y diwrnod hwnnw. Rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn gweld hynny braidd yn rhyfedd, a dweud y lleiaf, pan fyddwch yn meddwl am gydgyfrifoldeb. Yna gwelsom gynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol dros y penwythnos, lle roeddech yn mynd i fod yn gwrthwynebu bwriad y Llywodraeth, y tu allan i’r Siambr hon, i ddeddfu ar yr hawl i brynu. Eto i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi y bydd yn arfer cydgyfrifoldeb ac yn pleidleisio i wahardd yr hawl i brynu yma yng Nghymru, a dof at hynny yn nes ymlaen yn fy araith.

Credaf ei bod yn drueni mawr, wrth edrych ar yr wythnosau cynnar a’r misoedd cynnar hyn, fod y Llywodraeth wedi cael cymaint o anhawster wrth geisio cydlynu ei hun, ac yn arbennig, gyda Phlaid Cymru. Maent yn dweud eu bod yn cael y gorau o’r ddau fyd, ond ychydig cyn y Nadolig, gwelsom Adam Price, sydd wedi gadael y Siambr, yn taflu ei bapurau i’r awyr mewn anobaith llwyr yn syth ar ôl i ni gael Ysgrifennydd yr economi yn gwneud ei araith arweinyddiaeth—neu, mae’n ddrwg gennyf, ei araith ym Maes Awyr Caerdydd am ddatblygiadau seilwaith economaidd—pan nad oedd neb wedi ymgynghori â hwy o gwbl ar yr hyn a oedd yn yr araith honno. Mae hynny’n sicr yn gofyn y cwestiwn: sut yn union y mae’r Llywodraeth hon yn gweithio, a sut yn union y maent yn mynd i ymdrin â rhai o’r heriau gwirioneddol y mae angen meddwl o ddifrif amdanynt ac atebion cadarnhaol gan Lywodraeth y dydd? Yn anffodus, nid ydym yn gweld hynny’n digwydd ac nid ydym yn ei weld yn dod gan y Llywodraeth a ffurfiwyd ar ôl mis Mai.

Mae’r ddogfen wych hon a gafodd ei rhoi at ei gilydd sy’n amlinellu gwerth pum mlynedd o waith—pum mlynedd. Rwyf wedi bod yn gwneud fy ngorau i geisio meddwl beth ar y ddaear y gallaf wneud â hi: nid yw hyd yn oed yn ddigon llydan i gynnal neu ddal drws ar gau neu agor drws, pa bynnag ffordd y byddech eisiau ei ddefnyddio. Rwy’n dal i geisio meddwl am syniadau ynglŷn â beth y gellid ei wneud â hi, er y gallai fod yn ôl pob tebyg nad dyma’r lle gorau i awgrymu beth i’w wneud gyda’r ddogfen hon gan fod gennym Gofnod y Trafodion. Oherwydd mae hi mor eang ei natur, yn wir, fel na ellir cyfiawnhau ei galw’n rhaglen lywodraethu o gwbl, a bod yn deg. Am werth pum mlynedd o waith, cawn 15 tudalen o—wel, o ddim byd, a bod yn onest gyda chi. Rwy’n gobeithio y bydd arweinydd y tŷ yn fwy cadarnhaol yn ei hymateb mewn gwirionedd ac yn cynnig rhai atebion i ni nad yw’r ddogfen hon yn eu cynnig i ni, mae’n amlwg, yn—

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Efallai y gallaf roi rhywfaint o gyngor i chi: defnyddiwch hi ar gyfer eich maniffesto nesaf. Mae’n gweithio.

Wel, rwy’n amau a yw’n gweithio, mewn gwirionedd, oherwydd—. Mae hynny’n fy arwain yn daclus iawn at y problemau, y problemau dwfn, y mae pobl Cymru yn eu hwynebu. Rwy’n gweld y Dirprwy Weinidog sgiliau yn eich llongyfarch ar ymyriad mor wych. [Chwerthin.] Os yw’n haeddu llongyfarchiadau, pam y mae un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros? Pam y mae’r Llywodraeth hon yn methu mynd i’r afael ag un o’r rhwystrau mawr sydd wedi bod o amgylch gwddf y GIG yma yng Nghymru ers 17 mlynedd, sef mynd i’r afael â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd?

Nid Llywodraeth y DU ydyw—gallaf glywed yr Aelod dros Aberafan yn dweud ar ei eistedd mai Llywodraeth y DU yw’r rhwystr. Os edrychwch ar amseroedd triniaeth yma ar gyfer cataractau, er enghraifft, yn Lloegr, cewch eich gweld o fewn 58 diwrnod; yma, mae’n 107 o ddiwrnodau. Llwybr treulio uchaf, 21 diwrnod; 32 diwrnod yng Nghymru. Llawdriniaethau’r galon, 40 diwrnod; 48 diwrnod yng Nghymru. Llawdriniaethau’r clun—rhywbeth y bydd yr Aelod dros Aberconwy yn gwybod amdano’n fuan am fod ei gŵr yn mynd i mewn yn fuan i gael ei glun wedi’i wneud—yn Lloegr, 76 diwrnod i gael triniaeth; mae pobl yn aros 226 diwrnod yma yng Nghymru i gael y driniaeth honno. Ar ddiagnosis, clefyd y galon—38 diwrnod yn Lloegr; 46 diwrnod yma yng Nghymru. Ar hernia, 43 diwrnod yn Lloegr; 120 diwrnod yng Nghymru. Dyna’r ffeithiau. Nid fy ffeithiau i ydynt, ond ffeithiau Ymddiriedolaeth Nuffield a wnaed yn eu hadroddiad diweddar. Felly, mae’r Aelod dros Aberafan yn dweud ei fod yn faniffesto llwyddiannus. Nid wyf wedi gweld unrhyw beth yn ystod 12 mis cyntaf y tymor hwn i ddangos bod y Llywodraeth hon yn cael y llaw uchaf ar restrau aros.

A phan edrychwch ar recriwtio i’r GIG yng Nghymru, dywedir wrthym fod yn rhaid inni aros am yr ymgyrch recriwtio newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chyflwyno, wrth i feddygfeydd ar hyd a lled Cymru gau. Cawsom ymgyrch recriwtio yn ôl yn 2011 gan y Gweinidog iechyd ar y pryd yn y Cynulliad hwn, ac ni weithiodd honno’n dda iawn, pan welwch swyddi mewn practisau meddygon teulu a swyddi meddygon ymgynghorol yn wag ar hyd a lled Cymru. Fel y dywedais, nid wyf yn dadlau ynglŷn â hawl y blaid Lafur i gael Llywodraeth yma; chi a enillodd yr etholiad. Rwy’n cydnabod hynny. Ond dylai fod gennych egni. Dylai fod gennych awydd i ymdrin â’r problemau dyfnion hyn, ac nid oes. Pan edrychwch ar ein byrddau iechyd, mae pedwar o’r chwe bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o fesurau arbennig yma yng Nghymru, ac rwy’n sylweddoli bod pryderon ynglŷn ag iechyd ar draws y Deyrnas Unedig, ond nid oes unman gyda’r mathau hynny o ffigurau lle y mae pedwar o’r chwech—dim ond chwe bwrdd iechyd sydd gennych—yn destun mesurau arbennig o ryw fath neu’i gilydd.

Ym maes addysg, rydych yn edrych ar y safleoedd PISA a ddaeth allan cyn y Nadolig. Roedd gennym Brif Weinidog a ddywedodd yn gwbl briodol, pan ddaeth i’w swydd yn 2009, mai addysg oedd ei brif flaenoriaeth polisi, a’i fod am ddatblygu gwelliannau ar draws addysg yn gyffredinol. Roedd yn mynd i fuddsoddi i wella’r canlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru. A beth y mae safleoedd PISA yn dweud wrthym? Rydym yn mynd am yn ôl mewn addysg yma yng Nghymru, ac ni all honno fod yn sefyllfa, ar ôl chwech neu saith mlynedd o arweinyddiaeth, sy’n rhoi unrhyw hyder i unrhyw un o gwbl, heb sôn am yn y Siambr hon, ond y tu allan i’r Siambr hon. Mae gwariant fesul ysgol yn dal i fod yn ddiffygiol iawn o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, fel y clywodd y pwyllgor addysg yn ddiweddar gan yr undebau athrawon, lle y rhoddodd Rex Phillips ffigurau o £607 fel y gwahaniaeth rhwng ysgol uwchradd yng Nghymru ac ysgol uwchradd yn Lloegr. Gwerir £607 y disgybl yn fwy mewn ysgol uwchradd yn Lloegr nag yng Nghymru. [Torri ar draws.] Fe gymeraf yr ateb hwnnw’n llawen.

A ydych yn gwybod pam? A ydych wedi ystyried efallai mai un o’r rhesymau yw bod gwariant cyfalaf yng Nghymru gan awdurdodau lleol yn cael ei gadw ar wahân, ond yn Lloegr, mewn academïau, mae’n cael ei gadw gan yr academïau?

Nid yw hynny’n cyfrif amdano, Mike. Yr hyn a wn yw bod y bwlch hwnnw’n £32 yn y ffigurau a roddwyd i ni ar ddechrau datganoli. Mae bellach yn £607. Mae hynny wedi digwydd o dan eich arweiniad chi—o dan arweiniad y Blaid Lafur—ac nid yw’r Llywodraeth hon yn rhoi unrhyw hyder i ni ei bod yn ymdrin â’r mater penodol hwnnw. Pan edrychwch ar niferoedd athrawon, elfen hanfodol o unrhyw system addysg lwyddiannus, unwaith eto, mae’r dystiolaeth yn dangos bod llai o athrawon yn yr ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, ac mae dros 3,500 o athrawon wedi’u cofrestru i fod yn y proffesiwn—. [Torri ar draws.] Llai o athrawon. Caf fy nghywiro’n ramadegol gan fy nghyd-Aelodau.

O ran yr economi, pan edrychwn ar ffiasgo ardrethi busnes: dywedwyd wrthym ym maniffesto Llafur fod trefn ardrethi busnes newydd yn mynd i gael ei chyflwyno a fyddai’n rhyddhau busnesau oddi wrth y drefn ailbrisio ardrethi busnes a oedd yn dod yn fuan. A beth a gawsom? Cawsom fusnes ar ben busnes yn lobïo Aelod ar ben Aelod i ddweud bod eu bywoliaeth a’u dyfodol dan fygythiad. Pan edrychwch ar yr amodau cyflog mynd adref cyffredinol yma yng Nghymru, mae bron i £100 yr wythnos yn llai yn y pecyn cyflog cyfartalog yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Gennym ni y mae’r cyflog mynd adref isaf yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig. Sut y mae hynny’n rhoi hyder i ni fod y Llywodraeth hon yn mynd i’r afael â’r materion a’r problemau dyfnion hyn? A phan edrychwn ar y ffordd y mae’r datblygiadau seilwaith yn cael eu prosesu drwy Lywodraeth Cymru, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, mae’n ymddangos mai gwleidyddiaeth pwrs y wlad yw ffordd osgoi Llandeilo, fel rhan o gytundeb ar y gyllideb, pan fo pentref i lawr y ffordd o’r fan hon, Dinas Powys, sef y pentref mwyaf yng Nghymru, wedi bod yn galw am ffordd osgoi dros yr 50 mlynedd diwethaf, ac nid yw’n cael ei ystyried hyd yn oed ar gyfer cael ffordd osgoi. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.

Rwy’n mwynhau ei berorasiwn helaeth yma’n fawr. A gaf fi ofyn yn syml, ar fater seilwaith cenedlaethol, lle y mae’r trydaneiddio o’r tu hwnt i Gaerdydd i lawr i Abertawe a gorllewin Cymru? Pa bryd y mae’n mynd i ddigwydd—os o gwbl?

Esgusodwch fi. Cyn i chi barhau, a wnaiff pawb dawelu? Oherwydd pan fyddwch yn gweiddi, rhaid i rywun arall weiddi’n uwch na chi i gael eu clywed. A gawn ni dawelu rhywfaint, ac fe wrandawn?

Mae’n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn falch o dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Ogwr er mwyn iddo allu cywiro’r Cofnod i ddweud sawl gwaith y pleidleisiodd dros weld y Llywodraeth Lafur yn trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru pan oedd yn Aelod Seneddol. Rwy’n credu y bydd yn dangos na phleidleisiodd unwaith, ond mae’r Ceidwadwyr yn trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Paddington a Chaerdydd, a bydd yn parhau i drydaneiddio y tu hwnt i Gaerdydd. Mae hynny’n fwy nag y gwnaeth y Blaid Lafur erioed. Byddwn wrth fy modd yn ildio, ond mae’r cloc yn mynd yn drech na fi’n araf bach.

Os edrychwch ar yr ystadegau economaidd, nid yw’r Llywodraeth hon yn dangos yr hyder sydd ei angen i ddweud ei bod yn Llywodraeth newydd, gydag egni newydd ac ysgogiad newydd i ymdrin â’r problemau economaidd dwfn sy’n wynebu Cymru. Ni all hynny fod yn iawn. Ni all yr Aelodau ganiatáu i’r Llywodraeth fwrw rhagddi yn y ffordd hon am y pedair blynedd nesaf. Byddwn ni, ar yr ochr hon i’r tŷ, yn sicr yn parhau i herio’r Llywodraeth ar bob cyfle ac yn gweithio i sicrhau y gellir gwireddu dyheadau a ffydd pobl yn ein gwlad wych. Dyna pam y cyflwynasom y cynnig hwn heddiw. Gobeithiaf y bydd Plaid Cymru yn ystyried eu gwelliant. Mae’n siŵr y caf fy siomi yn hynny o beth yn ôl pob tebyg, ond bydd yn dda gweld y gwrthbleidiau’n dod at ei gilydd ac yn pleidleisio i ddangos nad oes gennym hyder yn y rhaglen lywodraethu bresennol—ac yn hytrach na rhedeg ar ôl y penawdau, eu bod yn gweithredu gyda sylwedd ac yn pleidleisio dros y cynnig sydd gerbron y Cynulliad heddiw.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys ar ddiwedd y pwynt:

‘a bod ei methiannau yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU’.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael enghraifft dda iawn yn awr o redeg ar ôl y penawdau a pheidio â chynhyrchu unrhyw sylwedd o gwbl. Rwy’n sylweddoli bod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r Blaid Lafur. Yr hyn nad wyf yn ei gael yw unrhyw synnwyr o’r hyn y byddent yn ei wneud pe baent mewn Llywodraeth yng Nghymru, neu unrhyw syniadau blaengar neu gadarnhaol sydd ganddynt ar gyfer ein heconomi neu ein cymdeithas.

Nawr, ni fydd yn syndod o gwbl i’r Ceidwadwyr, na’r Blaid Lafur o ran hynny, fod Plaid Cymru yn dweud wrth y ddwy blaid, ‘Deled pla i gartrefi’r ddwy ohonoch!’ Nid ydym yn sefyll yma i gefnogi’r naill neu’r llall o’r pleidiau unoliaethol sydd eisiau ein clymu at undeb a fu mor aflwyddiannus yn diogelu buddiannau pobl Cymru neu’n adeiladu economi Cymru. Nid ydym yn derbyn y naratif hwnnw o gwbl, ac yn y lle hwn fel yr wrthblaid etholedig, byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y dydd i gyflawni’r hyn sydd orau ar gyfer ein cymunedau, yr hyn sydd orau i Gymru—a byddwn yn gweithio gydag unrhyw blaid yn hynny o beth.

Rwy’n credu fy mod yn deall pam y cyflwynodd y Ceidwadwyr y cynnig braidd yn ddinod ond syml hwn heddiw. Gwelsant ein bod wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf, a gwnaeth hynny iddynt feddwl, ‘A, dyna bleidlais yn erbyn y cyflenwi, gadewch i ni gyflwyno cynnig ar yr hyder, a gadewch i ni weld a allwn gael rhyw fath o rywbeth seneddol ar waith yma’. Ond nid ydym yn dilyn confensiynau San Steffan yn y lle hwn. Yn sicr, nid yw Plaid Cymru yn gwneud hynny. Nid ydym mewn perthynas â’r Blaid Lafur sy’n berthynas o hyder a chyflenwi, neu’n berthynas glymblaid. Rydym yn rhan o ateb i Gymru a gytunwyd rhyngom a’r Blaid Lafur ar yr adeg yr etholwyd y Prif Weinidog gennym. Oherwydd, fel y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfod derbyn—ac mae’n rhaid i ni ei dderbyn hefyd—y Blaid Lafur a enillodd yr etholiad; ac felly roedd eu henwebiad ar gyfer Prif Weinidog yn haeddu ein sylw a’n cefnogaeth bosibl, neu oddefgarwch o leiaf, yn y Siambr hon. O ganlyniad i hynny, cawsom gyfres o gytundebau, yn arwain at y gyllideb, sydd, o’n rhan ni, wedi cyflawni llawer o’r pethau y credwn eu bod yn bwysig i Gymru. Rydym wedi gweld ffrwyth hynny, boed yn gronfa arloesol ar gyfer cyffuriau, boed yn adnoddau ychwanegol ar gyfer datblygu economaidd, neu’r hyn a wnaethom ar ardrethi busnes. Rydym wedi gweld hynny’n cael ei gyflawni yn y broses dros y flwyddyn ddiwethaf.

Felly, rydym yn hyderus wrth fynd yn ôl at y bobl a bleidleisiodd dros Blaid Cymru ynglŷn â’r hyn a wnaethom, ar ôl cael ein hethol i’r lle hwn. Yr hyn nad oes gennym, fodd bynnag, yw unrhyw hyder yn Llywodraeth Geidwadol y DU i gyflawni yn yr un modd. Rydym newydd weld hynny yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda’r gyllideb a’r tro pedol mawr a wnaed heddiw. Y ffaith amdani yw hyn: bellach, ar ôl bron i 10 mlynedd o wleidyddiaeth caledi, twf cymedrol yn unig a gofnodwyd yn yr economi, fawr o dwf o gwbl mewn cynhyrchiant ar draws y DU, ac mae Cymru hyd yn oed ymhellach ar ôl na hynny o ran cynhyrchiant. Erbyn 2022, bydd pobl 18 y cant yn waeth eu byd nag yr oeddent yn 2008. Nawr, rwy’n gwybod bod hynny’n syth ar ôl dirwasgiad, ond y ffaith amdani yw nad yw gwleidyddiaeth caledi, fel y bu’r Ceidwadwyr yn gweithio drwyddi, wedi cyflawni ar ran pobl Cymru.

A fyddech yn cytuno nad yw caledi erioed wedi gweithio, o Hoover yn Unol Daleithiau America, i Wlad Groeg heddiw, a’r cyfan y mae’n ei wneud yw gwneud pobl yn dlotach?

Rwy’n meddwl y byddwn i a Mike Hedges yn rhannu safbwynt Keynesaidd ar y byd yn hyn o beth. Byddwn yn dweud wrtho fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dod i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma. Ni wnaethant ddweud wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma oherwydd ei fod yn eu hadroddiad, ond dywedasant ei bod hi’n amlwg fod cyfuno cyllidol yn parhau i ostwng cynnyrch domestig gros. Mewn geiriau eraill, mae caledi’n niweidio’r economi. Ond mae San Steffan yn mynnu glynu ato, waeth beth yw’r niwed y mae’n ei achosi. Rhaid i mi ddweud, er bod y Blaid Lafur wedi newid ychydig dros y flwyddyn ddiwethaf, i ddechrau, fe ymrwymasant i’r siarter caledi. Fe gefnogodd hyd yn oed Jeremy Corbyn a John McDonnell y siarter caledi. Dyna pam eu bod yn wrthblaid mor aneffeithiol yn San Steffan ers hynny—hyd at ac yn cynnwys heddiw, fel y gallaf weld yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog.

Mae seilwaith yn rhywbeth a allai ein gwthio allan o galedi. Ond mae hyd yn oed y prosiectau seilwaith a allai fod o fudd i Gymru—megis trydaneiddio i Abertawe, megis y morlyn llanw, megis bargen ddinesig Abertawe—i gyd wedi’u hoedi gan wleidyddiaeth Llywodraeth y DU a’i hystyriaethau. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn rhy syml, mewn gwirionedd, i’r Ceidwadwyr yn San Steffan a chyn Geidwadwyr yma yn y Siambr hefyd—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser bellach, mae’n ddrwg gennyf, Mark. Rwy’n derbyn eich safbwynt, ond nid oes gennyf amser yn awr. Rwy’n credu ei bod yn hawdd iawn iddynt orfoleddu am y sefyllfa wael y mae Cymru ynddi—y rhygnu cyson a gawn na allem byth dalu ein ffordd ac na allem byth fod yn annibynnol. Oherwydd y ddwy blaid unoliaethol a’r hyn y maent wedi’i wneud i Gymru, rydym yn y sefyllfa wael hon ac yn methu gwneud y penderfyniadau allweddol drosom ein hunain, penderfyniadau y mae pobl yr Alban yn gallu eu gwneud. Felly, hyd nes y bydd hynny’n newid, byddwn yn parhau i fod yn llais yr wrthblaid yn y lle hwn, i’r Ceidwadwyr ac i’r Blaid Lafur—neu’n hytrach i’r llywodraeth glymblaid, fel y’i disgrifiwyd yn ddefnyddiol gan Peter Black yn awr. Byddwn yn parhau i fod yn llais clir gwleidyddiaeth amgen yn y lle hwn. Dyna yw ein safbwynt ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 18 mlynedd. Am 11 o’r 18 mlynedd, roeddent yn llywodraethu law yn llaw â Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Dros y 18 mlynedd hir a wastraffwyd, maent wedi methu’n systematig â gwella bywydau ein haelodau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae un o bob pump o blant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Dyna drueni. Mae’n uwch nag yn Lloegr neu’r Alban, ac yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Er iddynt wario £500 miliwn ers 2001 ar eu rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a glodforwyd yn fawr, maent wedi methu codi lefelau ffyniant yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru. Rwy’n cynrychioli nifer o’r cymunedau hynny yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r cymunedau hyn wedi cael eu siomi gan fethiant Llafur i dorri cylch tlodi ac amddifadedd. O blith 12 rhanbarth y Deyrnas Unedig, Cymru yw’r tlotaf ond dau, ac mae hynny’n drueni. Er gwaethaf y nod o ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae’r cyfraddau wedi aros yn llonydd. Y mis diwethaf, cyfaddefodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant fod Cymunedau yn Gyntaf, yn ei eiriau ef, heb gael yr effaith ar lefelau tlodi cyffredinol yn y cymunedau hyn, sy’n parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Aeth ymlaen i ddweud bod angen dull newydd sy’n ymdrin ag achosion sylfaenol tlodi.

Er gwaethaf y cyfaddefiad hwn o fethiant, nid ydym wedi cael unrhyw gyhoeddiad clir ynglŷn â’r hyn a ddaw yn lle Cymunedau yn Gyntaf. Yn lle hynny, bydd y rhaglen bresennol yn parhau tan fis Mawrth 2018 a bydd toriadau o 30 y cant yn y cyllid. Mae’n bosibl mai un o’r rhesymau dros fethiant Cymunedau yn Gyntaf yw na chyrhaeddodd digon o arian y prosiectau rheng flaen yng Nghymru. Er enghraifft, gwariodd clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaerffili, Ddirprwy Lywydd, £375,000 ar brosiectau rheng flaen y llynedd. Fodd bynnag, gwariasant fwy na £2 filiwn ar staffio. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi addo cymaint a chyflawni cyn lleied.

Addysg yw’r ffordd orau allan o dlodi o hyd, ond mae Llafur Cymru wedi methu darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gynifer o’n plant er mwyn iddynt lwyddo mewn bywyd. Mae’r canlyniad PISA diweddar, a grybwyllodd Andrew yn gynharach, yn tynnu sylw at y bwlch cynyddol rhwng y sgiliau y mae busnesau eu hangen gan eu gweithwyr a’r ddarpariaeth addysg yng Nghymru. Mae mwy nag un rhan o bump o fyfyrwyr Cymru heb y sgiliau darllen i allu gweithredu yn y gweithle. Unwaith eto, dyma’r gyfran uchaf o blith unrhyw genedl yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn wynebu prinder sgiliau yma yng Nghymru. Profodd mwy na 72 y cant o fusnesau Cymru anhawster i recriwtio staff cywir yn 2015. Mae 61 y cant o fusnesau Cymru yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr gyda sgiliau lefel uwch i ateb y galw ac i dyfu. Mae cyflogwyr mewn diwydiannau amrywiol yn aml yn mynegi pryderon eu bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i raddedigion sydd â’r sgiliau neu’r profiad gwaith cywir yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, deuthum i fyw yng Nghymru 47 mlynedd yn ôl. Roedd yn arfer bod yn ddinas wych, Casnewydd, ac yn dref ffyniannus. Ond os edrychwch arni yn awr, yn hytrach na symud ymlaen, rwy’n credu ei bod yn mynd am yn ôl ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hyn yn wir. Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth—rwyf wedi’i weld. Rwy’n adnabod y bobl sy’n byw yno. Pa un a fyddwch yn edrych ar addysg, tai, trafnidiaeth, beth bynnag—a gallaf gyfrif llawer o feysydd eraill lle y mae hyd yn oed ein cynghorau’n cael trafferth i gyflawni—. [Torri ar draws.] Roeddem yn trafod casglu sbwriel yma, rhywbeth a arferai fod yn dda iawn bob wythnos, ond nid mwyach—bob pythefnos. Ac mae mwy o sbwriel—[Torri ar draws.] Na, nid oes gennyf amser. Mae mwy o sbwriel ar y strydoedd yn awr nag ar gyfer ailgylchu yn ôl pob tebyg. Mae’n rhwystredig. Mae’n peri rhwystredigaeth i mi weld y wlad y dewisais wneud fy nghartref ynddi yn llithro ymhellach ac ymhellach ar ôl rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r byd. Ni all Llywodraeth Cymru osgoi ei chyfrifoldeb a throsglwyddo’r bai i eraill ar yr ochr arall i’r sianel, i Lywodraeth San Steffan. Mae hynny’n hollol ffôl. Maent wedi cael 18 mlynedd i newid ac i wneud bywyd yn well yng Nghymru, ac nid ydynt wedi gwneud hynny. Maent wedi gwneud cam â Chymru, ac mae’n drueni. Diolch.

Mae’n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl heddiw, i gofnodi’r gwaith ardderchog y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi’i wneud yng Nghymru, ac yn parhau i wneud, wrth i bobl Cymru brofi effaith ymosodiadau a methiant y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Nid oes ond angen i’r Aelodau edrych ar fy etholaeth i i weld sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu arweinyddiaeth gref ar gymorth economaidd ynghyd â buddsoddiad ar gyfer ein dyfodol, tra bo’r Llywodraeth Dorïaidd yn troi ei chefn arnom.

Ddirprwy Lywydd, gallwn dreulio gweddill yr awr gyfan yn tynnu sylw at lwyddiannau Llywodraeth Lafur Cymru a methiannau Torïaidd, ond yn fy nghyfraniad fe ganolbwyntiaf ar ddwy enghraifft yn unig a oedd yn amlygu gwahaniaethau o’r fath. Yn gyntaf, mae’r diwydiant dur, fel y byddech yn disgwyl, y cyfeirir ato’n aml fel curiad calon Port Talbot, wedi cael cefnogaeth ddiwyro gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau dyfodol hirdymor gweithfeydd Tata yng Nghymru. Mae’n parhau i weithio’n agos gyda’r undebau llafur a Tata Steel yn hyn o beth, ac ers y cyhoeddiadau am golli swyddi y llynedd, a gwerthu busnes Tata Steel yn y DU wedyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth sylweddol yn amodol ar gadw cynhyrchiant a swyddi dur ar bob safle Tata yng Nghymru. Mae cefnogaeth o’r fath yn cynnwys darparu dros £4 miliwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant, pecyn a fydd yn helpu i ddatblygu gweithlu safleoedd Tata yng Nghymru yn y dyfodol, gan wella cynllunio ar gyfer olyniaeth a hwyluso trosglwyddo sgiliau ar gyfer y gweithlu aeddfed i’r cyflogeion ifanc—maes hanfodol bwysig i sicrhau hirhoedledd cynhyrchu dur yng Nghymru, a maes sy’n dangos hyder Llywodraeth Cymru yn nyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cymorth gwerth £8 miliwn tuag at fuddsoddiad £18 miliwn yn y gwaith pŵer ar safle Port Talbot, gan ostwng costau ynni a lleihau allyriadau carbon. Yn y grŵp trawsbleidiol ar ddur yn ddiweddar yma yn y Cynulliad, dywedodd uwch-swyddogion undebau llafur wrthym y bydd hyn yn newid popeth i Bort Talbot, gan helpu tuag at ostwng costau ynni. Felly, beth y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi ei wneud? A oes unrhyw un eisiau ateb? [Torri ar draws.] O, iawn, rwy’n hapus i gymryd ymyriad.

Pecyn o fesurau ar gyfer ynni gwyrdd; mae £132 miliwn wedi mynd i gwmnïau trwm ar ynni fel Tata Steel, a mwy i ddod i fyny at yr ad-daliad o £400 miliwn a gynigiwyd gan y Trysorlys yn Llundain. Mae hynny’n llawer mwy nag wnaethoch ar ardrethi busnes, nad ydych wedi mynd i’r afael â hwy o gwbl o’r fainc flaen hon.

Roeddwn yn aros am honno. A gaf fi atgoffa’r Aelod fod ei blaid, mewn gwirionedd, wedi addo’r pecyn hwnnw yn 2011? Yn 2014 cymeradwyodd yr UE becyn mewn gwirionedd, yn 2015 cymeradwywyd un arall ganddynt, a’i ymestyn, ac erbyn 2016 roeddem yn dal heb gael yr arian. Pan gaiff cyhoeddiadau eu gwneud am golli swyddi, pan gafodd cyhoeddiadau eu gwneud am werthiannau—dros bedair blynedd o aros i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth. Felly peidiwch â dweud wrthyf eu bod yn ymateb. Roeddent yn araf i ymateb. Gwnaethant alw uwchgynhadledd ar ddur pan gafodd Redcar ei gau. Roedd digon o aer poeth yn dod gan wleidyddion i gadw’r melinau rholio i fynd am gryn amser. Ond wyddoch chi, roeddent angen help i sicrhau chwarae teg, a dyna’r oll y gofynnai’r diwydiant amdano—chwarae teg. Ni ddigwyddodd. Fe wnaethant fethu rhoi’r camau angenrheidiol ar waith i leihau’r costau ynni ar gyfer pob gwaith Tata a chwmnïau dur eraill, ac mae ansawdd dur yn y wlad hon ymhlith y gorau yn y byd. Ac mae angen hynny arnom i gefnogi ein diwydiant, ond er gwaethaf addewidion ynglŷn â chaffael, aeth y Weinyddiaeth Amddiffyn i Ffrainc mewn gwirionedd i gael dur ar gyfer llongau tanfor Trident, ac mae Llywodraeth y DU wedi methu ymrwymo i gaffael dur Prydain ar gyfer HS2. Mae’n ofnadwy, mewn gwirionedd. Ac mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi archwilio’r angen am ddur yn y dyfodol mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio caffael er mwyn agor cyfleoedd hygyrch, gan wneud mwy nag y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud erioed mewn gwirionedd.

Mae fy ail enghraifft—oherwydd fe wnes i ddweud dwy—yn adlewyrchu’r cynnydd ar adeiladu ysgolion modern o’r radd flaenaf ar gyfer ein plant. Yn Lloegr, gwelsom y Llywodraeth Dorïaidd yn diddymu’r rhaglen adeiladu ysgolion ar gyfer y dyfodol, a byddai hynny mewn gwirionedd wedi arwain at gysyniad tebyg. A phe bai wedi bod dan reolaeth y Llywodraeth yn Lloegr, ni fyddem wedi gweld unrhyw ysgolion yn cael eu hadeiladu yng Nghymru o gwbl. Yma yng Nghymru, rydym yn falch o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ond yn fwy nag adeiladu ysgolion newydd, mewn gwirionedd mae’n rhaglen sy’n canolbwyntio adnoddau ar adeiladu’r ysgol gywir yn y lle cywir i gyflwyno addysg o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg ôl-16. Mae’n darparu amgylcheddau dysgu a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i strategaethau gael eu gweithredu’n llwyddiannus er mwyn sicrhau canlyniadau addysgol gwell. Mae’n creu adeiladau cyhoeddus sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac yn lleihau’r costau y bydd yn rhaid i ysgolion ddod o hyd iddynt.

Ddydd Llun mewn gwirionedd, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet ag un o’r rhain, Ysgol Bae Baglan, a gwelodd drosti ei hun yr ysgol wych o’r radd flaenaf a ddaeth yn lle tair hen ysgol uwchradd yn fy etholaeth. Mae £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu i bobl ifanc yn Llansawel, Sandfields, Port Talbot a Baglan i elwa o gyfleusterau modern o’r radd flaenaf. Ac maent yn adeiladu tair ysgol newydd arall yn Aberafan—newyddion gwych a chefnogaeth wych gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, daw’r gwir i’r golwg bob amser ac mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa bod y Llywodraeth Lafur hon yn buddsoddi yn ein dyfodol, tra bod y Torïaid mewn grym yn San Steffan wedi dangos eu bod naill ai’n ein hanwybyddu neu’n ceisio cosbi’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymladd dros y Cymry a chydnabuwyd hynny gan y Cymry fis Mai diwethaf.

Caf fy nhemtio i beswch a dweud y geiriau ‘Cwrt Sart’ ond ni wnaf.

Roedd Andrew R.T. Davies yn siarad yn gynharach am ynni, ac mae 18 mlynedd yn amser hir i unrhyw blaid, ac rwy’n golygu unrhyw blaid, i fod mewn Llywodraeth. Nid yw fawr o bwys pwy sy’n eu cynnal, mae’n dal i fod yn amser hir. Ond yr un peth sy’n dda amdano yw ei fod yn rhoi cyfnod hir i’r pleidiau hynny i gynllunio, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da.

Ers dyddiau Alastair Campbell o bolisïau wedi’u hysgogi gan benawdau, mae byrdymhoriaeth wedi dod yn nodwedd lai na defnyddiol o wleidyddiaeth. Mae’r math hwn o ddisgwyliad ‘dangos i mi yn awr’ yn rhoi pwysau ar Lywodraethau i ddod o hyd i rywbeth newydd sgleiniog i dynnu sylw ar gefn pob cyllideb, ac mae cylch cyllideb blynyddol yn dod â’i anawsterau ei hun i gynlluniau hirdymor.

Mae 18 mlynedd hefyd yn rhoi llawer o amser i bleidiau wneud camgymeriadau. Rwy’n meddwl y gallwn gael maddeuant am wneud ambell gamgymeriad. Mae pawb yn camgymryd o bryd i’w gilydd. Ond fy anhawster sylfaenol â’r Llywodraethau Llafur hyn yw bod 18 mlynedd yn amser hir i unioni’r camgymeriadau hynny. Ac nid ydynt wedi gwneud hynny—maent yn parhau i’w gwneud. Mae 18 mlynedd hefyd yn amser hir i feio pawb arall. Yn yr oddeutu chwe blynedd y bûm yma, yr ymateb arferol i graffu yw, ‘Wel, nid fy mai i yw hyn, Miss, ond bai y Torïaid yn San Steffan.’ Wel, byddwn yn disgwyl ymateb mwy aeddfed gan unrhyw un sy’n 18 oed. Bu’n rhaid i’r Torïaid chwarae’r llaw a gawsant ac mae angen i’r Llywodraeth yma wneud yr un fath, yn enwedig gan eu bod wedi cael 12 mlynedd yn fwy o ymarfer. A byddwn, fe fyddwn yn disgwyl i blaid a fu mewn grym ers 18 mlynedd wneud pethau’n wahanol i Lywodraeth y DU. Y rheswm pam y mae gennym ddatganoli yw er mwyn rhoi anghenion pobl Cymru yn gyntaf. Rydych wedi gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu polisïau sy’n dra gwahanol i rai cydweithwyr yn San Steffan, oherwydd bod anghenion Cymru yn benodol. Ond realiti hynny yw bod yr anghenion hyn yn benodol yn awr, ac nid mewn ffordd dda, o ganlyniad i 18 mlynedd o Lywodraeth wael yma. Rhestrau aros y GIG, addysg a sgiliau a safonau—er gwaethaf yr ysgolion newydd hyfryd—gwerth ychwanegol gros, tlodi plant, penderfyniadau buddsoddi gwael ynghyd â marwolaethau busnesau bach, symudedd cymdeithasol gwael, difaterwch tuag at gymunedau gwledig.

Yn y chwe blynedd y bûm yma, nid San Steffan yn unig y mae’r Llywodraeth dan arweiniad Llafur wedi’u beio. Cafwyd cyfres o, ‘Rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd wneud hyn’, ‘Mater i awdurdodau lleol yw hwnnw’, ‘Dyna fater i’r pennaeth ei benderfynu’. A byddwn yn mynd rywfaint o’r ffordd tuag at dderbyn yr ymatebion hynny, fel cefnogwr lleoliaeth a sybsidiaredd fy hun, pe baent yn cael eu dilyn gan adnoddau digonol yn sgil pob disgwyliad newydd, a phe baent yn destun rhywfaint o atebolrwydd gweladwy.

Yr wythnos diwethaf, roeddwn yng Ngholeg Penybont, sydd wedi cael canlyniad dwbl ardderchog o’i arolwg Estyn. Mae hyn yn wyrth am ddau reswm. Y cyntaf yw eu bod wedi llwyddo i wrthsefyll colli 150 o aelodau o staff yn dilyn y toriadau andwyol a wnaeth Llywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, a’r ail yw bod 88 y cant o’u dysgwyr yn is na lefel 1 mewn rhifedd ac 84 y cant yn is na lefel 1 mewn llythrennedd.

Nawr, dyma fyfyrwyr a aned o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Maent wedi cael eu haddysgu yn unol â pholisi Llafur Cymru. Daw eu hanner o ardaloedd a gategoreiddiwyd fel y rhai ‘mwyaf difreintiedig’, y mwyaf difreintiedig ar ôl oes gyfan o bolisi Llafur Cymru. Nid yw ein hathrawon newydd y byddwn yn disgwyl cymaint ganddynt yn oes Donaldson ond yn adnabod y system addysg a gawsant eu hunain. Sut y gallwn ddychmygu bod TAR naw mis yn agos at fod yn ddigon hir iddynt edrych am y syniadau newydd hynny pan oedd eu profiad eu hunain yn ymwneud naill ai â methiant i gael y graddau, neu ddim disgwyliad o gwbl? Nid wyf yn amau penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â gwastraffu potensial cenhedlaeth arall, ond nid oes gennyf unrhyw synnwyr o gyfeiriad yr arweinyddiaeth ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur yn gwella canlyniadau 18 mlynedd o gamgymeriadau. Dyma’r un hen stwff: yr unig rai y gellir ymddiried ynddynt i sicrhau newid yw awdurdodau lleol sydd wedi diffygio eisoes, ond nid ydych yn rhoi adnoddau digonol iddynt wneud yr hyn y gofynnwch iddynt ei wneud—nid ar gyfer addysg; oedi wrth gynllunio unrhyw beth fel bod busnesau lleol â syniadau da yn rhoi’r gorau i’r holl syniad o weithio mewn partneriaeth a bwrw ymlaen â’r hyn a wnânt, gan gau’r caead ar eu harbenigedd yn hytrach na’i rannu; diffyg didwylledd ynglŷn â pha mor effeithlon y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, rhag ofn ei fod yn ymosodiad ar y gweithlu pan fo’r gweithlu, mewn gwirionedd, yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi pan fo’n gallu gwneud ei waith cystal ag y gall heb wastraff a heb ymyrraeth gyson, a byddwch yn cael ymyrraeth gyson pan nad oes gweledigaeth ar y brig, a dim llais ar y gwaelod.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly hefyd fod—? Rydych yn dweud cael y gorau gan y gweithlu—un ffordd o gael y gorau gan y gweithlu yw gweithio mewn partneriaeth gyda’r gweithlu, fel y gwelwn ar draws Castell-nedd Port Talbot, lle y ceir partneriaeth wych rhwng y gweithlu a’r cyngor. Dyna ffordd o gael llwyddiant.

Yn hollol; dyna oedd fy mhwynt. Rwy’n meddwl nad yw rhai o’r partneriaethau hyn yn gweithio oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw’r sector preifat yn chwarae cymaint o ran ag y gallai, ac rwy’n credu bod hynny’n drueni mawr i Gymru.

Dyma a welais dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy’n gwybod mai hyn a hyn o arian sydd i’w gael, ond pa mor dda y cafodd ei wario? Nid oes unrhyw weledigaeth, na dewrder, ac mae Cymru angen i’w Llywodraeth fod yn ddigon dewr i wneud rhywbeth. Rydych wedi cael y fraint o fod yn Llywodraeth hir. Mae’n ymddangos mai eich cynllun hirdymor oedd gwneud yr un peth drosodd a throsodd i gael yr un canlyniad, a dyna yw eich camgymeriad anfaddeuol.

Nid yw UKIP yn cael unrhyw anhawster o gwbl i gefnogi’r cynnig hwn heddiw. Y gorau y gellir ei ddweud am y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yw bod ei phroblemau’n ddifrifol ond nid yn angheuol, sef y gwrthwyneb i sefyllfa’r Blaid Lafur yn San Steffan, sydd â phroblemau angheuol ond nid yn ddifrifol. Yn ffodus, nid oes gennym—[Torri ar draws.] Yn ffodus, nid oes gennym Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog yng Nghymru i osod y polisïau economaidd sydd wedi creu llwyddiant mor enfawr yn Venezuela a Cuba, y gwledydd eraill yn y byd y mae’n eu mawrygu. Nid yw hynny’n dweud ein bod yn cymeradwyo popeth y mae’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn ei wneud hefyd, a gwelsom yn ystod yr wythnos ddiwethaf sut y mae un camgymeriad enbyd wedi cael ei wrthdroi bellach, ac mae dyn enwog y fan wen wedi llwyddo i newid meddwl y Canghellor a’i droi’n ddyn y faner wen, a da hynny hefyd.

Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi synnu braidd gan araith Simon Thomas am yr hyn y mae’n golygu i fod yn wrthblaid yn y lle hwn, oherwydd cyfeiriodd at hawl y Blaid Lafur i barhau i fod yn Llywodraeth y wlad hon fel pe baent wedi ennill yr etholiad fis Mai diwethaf. Y gwir amdani yw, nid yn unig na lwyddasant i ennill mwyafrif o’r seddi, ond 33 y cant o’r bleidlais yn unig a gawsant. Nid wyf yn credu bod hynny’n gymhwyster ysgubol ar gyfer arwain y wlad hon, ac ar ôl 18 mlynedd byddwn wedi meddwl y byddai gan y gwrthbleidiau fwy o uchelgais na bod yn byst pwll i Carwyn Jones gynnal ei weinyddiaeth sigledig. Yn anffodus, mae Plaid Cymru yn wrthblaid ffug, oherwydd ar bob cyfle pan fo pleidlais o hyder i bob pwrpas—a gwelsom hyn y dydd o’r blaen gyda’r gyllideb atodol—gwyddom na fyddant yn gwthio’r fantais mewn gwirionedd mewn pleidleisiau a gawn ar y cyd fel gwrthbleidiau. Maent yn cadw’r Llywodraeth sigledig hon yn ei lle, ac felly ni allant feio methiannau’r Llywodraeth Lafur yn gyfan gwbl ar y Blaid Lafur, oherwydd mewn gwirionedd hwy yw cynorthwywyr y Blaid Lafur yn hyn oll. A thros y 18 mlynedd diwethaf, o bryd i’w gilydd, maent wedi bod yn gynorthwywyr ffurfiol mewn gwirionedd. Erbyn hyn hwy yw’r rhai anffurfiol ond, serch hynny, hebddynt, ni fyddai’r Blaid Lafur yn Llywodraeth Cymru. A thros y 18 mlynedd diwethaf, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei araith agoriadol, mae Cymru wedi dod yn rhanbarth tlotaf gorllewin Ewrop fwy neu lai. Rydym wedi ein gweld yn mynd am yn ôl mewn 18—. [Torri ar draws.] O, ewch ymlaen.

Diolch i chi am ildio; rwy’n ddiolchgar iawn i chi. A wnaiff egluro felly pa Lywodraeth Cymru amgen y mae’n ei hargymell?

Wel, byddai Llywodraeth Cymru amgen yn un gydag ef a minnau, rwy’n meddwl, a byddai’n Llywodraeth amgen iawn yn wir, wrth gwrs. Mae’n wir dweud y byddai’n sicr yn glymblaid enfys o bleidiau pe bai Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, UKIP a’r aelodau annibynnol wedi cyfuno er mwyn darparu newid Llywodraeth ar gyfer Cymru. Ond mae newid cystal â gorffwys, fel y maent yn ei ddweud, ac rwy’n meddwl beth bynnag y byddai unrhyw beth yn well na’r hyn sydd gennym.

Mae Cymru wedi symud tuag yn ôl yn y 18 mlynedd diwethaf, ac o fod yn ail o’r gwaelod o holl ranbarthau Lloegr a gwledydd y Deyrnas Unedig, rydym bellach ar waelod y tabl cynghrair. Nododd Andrew Davies fod pedwar o’r chwe bwrdd iechyd naill ai’n destunau mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi’i thargedu, ac mae’r canlyniadau PISA yn siarad drostynt eu hunain. Ar yr holl brif fynegeion cyflawniad, mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu ac mae’n sicr yn bryd cael newid o ryw fath.

Rhaid i mi ddweud, synnais yr eilwaith pan ddywedodd Simon Thomas y byddai’r cyfan yn sydyn yn wahanol iawn pe baem yn cael annibyniaeth yng Nghymru, oherwydd gallem symud wedyn tuag at wynfyd Keynesaidd lle y gellid casglu arian yn tyfu ar goed a’i wario. Ond wrth gwrs, sut y gallai wneud hynny? Oherwydd oni bai bod gan Gymru ei harian ei hun, ni fyddai’n gallu argraffu’r arian y mae ef am ei wario. Hwn oedd y cwestiwn na allai’r SNP mo’i ateb yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban. Pe baent yn dod yn genedl annibynnol, sut y byddent yn rheoli eu cynlluniau gwariant pe baent naill ai’n rhan o ardal yr ewro, neu pe baent yn rhan o ardal sterling? Ac nid oes ateb i’r cwestiwn hwnnw. Yr ateb, wrth gwrs, yw hyn: er bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi dyblu’r ddyled genedlaethol yn y saith mlynedd diwethaf—ac mae’n rhaid mai dyna’r polisi mwyaf Keynesaidd a gawsom erioed yn y wlad hon—nid yw hynny wedi sicrhau’r effaith y mae Plaid Cymru yn meddwl y byddai wedi’i wneud pe baent yn cael cyfle i wneud hynny yng Nghymru.

Mae dyfodol Cymru gyda diwydiannau’r dyfodol, ym meysydd uwch-dechnoleg—dyfodol digidol y wlad hon. Yr hyn a welwn yn digwydd ar yr ochr arall i bont Hafren, gyda champws technoleg newydd Dyson yn Hullavington—awr yn unig o ble rydym ni yma yng Nghaerdydd—dyma’r math o ddiwydiannau y dylem fod yn eu denu i Gymru. Dylem edrych ymlaen at amgylchedd gyda threthi isel, lefel isel o reoleiddio sy’n mynd i wneud Cymru’n esiampl i ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen arnom i gynhyrchu’r swyddi hynny ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am roi cyfle i mi godi yn y ddadl hon i dynnu sylw at waith Llywodraeth Lafur Cymru mewn gwirionedd. Byddai’r un mor esgeulus ar fy rhan i ddechrau heb grybwyll ‘Spreadsheet Phil’ hyd yn oed ymhellach yn sgil cyhoeddiadau heddiw. Yr wythnos diwethaf, achosodd Canghellor Torïaidd Llywodraeth y DU lawer iawn o ddicter gydag un o’r enghreifftiau mwyaf amlwg o dorri addewid mewn gwleidyddiaeth—enghraifft o dorri addewid a fyddai’n achosi i Nick Clegg hyd yn oed gochi. Nid yn aml yn y Siambr hon y byddaf byth, gobeithio, yn dyfynnu David Cameron, ond fe roddaf gynnig arni. Trydarodd ar 25 Mawrth yn 2015,

Rwyf fi wedi diystyru codi TAW. Pam na wnaiff Ed Miliband ddiystyru codi cyfraniadau Yswiriant Gwladol? Mae Llafur bob amser yn codi’r Dreth Swyddi.

Nid ydynt yn ei godi.

Ond a bod yn deg—rwy’n sylweddoli—fe ddywedodd Dave unwaith, i’r rhai sydd â chof hir heddiw, ‘Mae gormod o drydariadau’n gwneud—’.

Ond a bod o ddifrif, torrodd y Ceidwadwyr, er gwaethaf y troeon pedol, addewid maniffesto penodol ac uniongyrchol a bradychodd 1.6 miliwn o bobl hunangyflogedig yn uniongyrchol. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflawni ei haddewidion i bobl Cymru. Gadewch i mi awgrymu wrth y Ceidwadwyr Cymreig y byddent yn well eu byd yn treulio’u hamser yn ceisio dod o hyd i’r twll du o £2 biliwn yng nghyllideb Geidwadol y DU yn hytrach na cheisio gweiddi yn y gwynt yn y Siambr hon. Mae hyd yn oed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a sefydlwyd gan y Llywodraeth hon yn y DU, wedi datgan y byddwn 18 y cant yn waeth ein byd yn 2020.

Fis Mai diwethaf, rhoddodd pobl Cymru eu dyfarniad ar Lywodraeth Lafur Cymru yn y blwch pleidleisio. Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig wrthym mai Andrew R.T. Davies oedd y Prif Weinidog yn mynd i fod—roedd gan bobl Cymru farn wahanol. Ac aeth y Ceidwadwyr Cymreig o fod yn brif wrthblaid i fod yn drydydd grŵp y Cynulliad hwn. Felly, os yw ACau Torïaidd Cymru yn galw hynny’n gynnydd, yna rwy’n cytuno eu bod yn anelu i’r cyfeiriad cywir a hir y parhaed.

Mae Cymru’n parhau i gyflawni’n well na gweddill y DU o ran lleihau diweithdra ac mae anweithgarwch economaidd a nifer yr hawlwyr yng Nghymru yn gostwng yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Mae Cymru’n mwynhau lefelau uwch nag erioed o fewnfuddsoddi, ffigurau twristiaeth uwch nag erioed, y cyfraddau diweithdra isaf yn y DU, y cyfraddau ailgylchu gorau yn y DU, y cyfraddau ailgylchu gorau ond un yn Ewrop a’r trydydd gorau yn y byd, a chanlyniadau TGAU cystal â’r gorau erioed. Mae’r GIG yng Nghymru’n trin mwy o bobl nag erioed o’r blaen, yn gyflymach nag erioed o’r blaen, er gwaethaf y galw uwch nag erioed. [Torri ar draws.] Mae’r GIG yng Nghymru’n darparu gwell gofal iechyd i bobl ledled Cymru. Gwasanaeth ambiwlans Cymru yw’r gorau yn y DU. Mae cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn, ac mae amseroedd aros cyffredinol wedi gostwng 20 y cant ers y llynedd. Ac rydym ni yng Nghymru yn amddiffyn bwrsari hyfforddi nyrsys y GIG, a dorrwyd ac a dociwyd yn Lloegr gan beri diffyg ac anfantais i’r GIG yn Lloegr.

A cheir heriau, yn amlwg. Eto i gyd, dro ar ôl tro, mae pobl Cymru wedi cyflwyno eu barn—

Andrew R.T. Davies a gododd—

Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser.

[Yn parhau.]—ac wedi dweud mai’r Blaid Lafur Gymreig yw gwir blaid Cymru: ar eu hochr, gyda hwy ac yn sefyll drostynt.

Ddirprwy Lywydd, deuthum i’r Cynulliad hwn o lywodraeth leol ac yng Nghymru, o dan Lafur, er gwaethaf toriadau grant bloc ar hyd y raddfa i Gymru, mae cyllid refeniw llywodraeth leol wedi cael ei ddiogelu, ar £4.114 biliwn—y setliad gorau, wedi’i ddiogelu yn dilyn blynyddoedd o doriadau gan Lywodraeth y DU, lefel o amddiffyniad na chafodd ei roi i lywodraeth leol yn Lloegr o dan y Torïaid. Mae cyllidebau’r Cyngor yno wedi cael eu torri 10 y cant mewn arian parod. Mae pobl agored i niwed—defnyddwyr mwyaf awdurdodau lleol yn Lloegr—yn dioddef, ond yng Nghymru, mae’r cyllidebau hynny wedi cynyddu 2.5 y cant. I roi hyn yn ei gyd-destun, cynyddodd gwariant Caerdydd £67 miliwn ac yn Lerpwl, gwelodd ostyngiad o £75 miliwn. Yng ngeiriau Catatonia—ac rwy’n addo na fyddaf yn eu canu—’Bob dydd, pan fyddaf yn deffro, rwy’n diolch i Dduw mai Cymraes wyf fi’ am fy mod wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol fel athrawes, ac yng Nghymru, o dan Lafur, mae adeiladau ysgol yn cael eu gwella’n sylweddol gyda rhaglen adeiladu ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy’n werth £2 biliwn—y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf a welodd Cymru erioed, ar ôl blynyddoedd o ddadfuddsoddi cyn datganoli mewn asedau ysgolion. Yn Islwyn, mae Ysgol Uwchradd odidog Islwyn yn codi o’r ddaear; yn Lloegr, fel y dywedwyd gan lawer, mae’r Torïaid wedi chwalu a diddymu rhaglen adeiladu ysgolion Llafur. Felly, os yw’n wir—ac mae’n wir—rwy’n dweud wrthyf fy hun, ‘Diolch i Dduw mai Cymraes wyf fi’, oherwydd fel y gŵyr yr Aelodau Ceidwadol yn eu calon, mae bywyd yn well o dan Lafur Cymru. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’r ddadl heddiw’n troi’r sbotolau ar brosesau Llywodraeth Lafur Cymru ac felly hefyd ar ei methiannau—Llywodraeth sydd wedi methu’n systematig â gwella safonau byw ar gyfer ein trigolion yma yng Nghymru. Nid yw 21 y cant o’n myfyrwyr yn cyrraedd lefelau hyfedr o ddarllen; y canlyniadau PISA a gwerth ychwanegol gros yw’r rhai isaf yn y DU; mae cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu wedi gweld toriad o £20 miliwn dros bedair blynedd; mae gwariant y pen ar y GIG yn is nag unman arall yn y DU; mae amseroedd aros ar gyfer triniaethau cyffredin ddwywaith a hanner yn hwy yng Nghymru nag yn Lloegr; mae un o bob saith yn dal i oedi ar restr aros y GIG; ac mae 127 o gleifion wedi aros dros 105 o wythnosau am driniaethau megis gosod cluniau a phen-gliniau newydd—do, yn y GIG yng Nghymru. Felly, ni ddylai fod yn syndod, felly, fod Ymddiriedolaeth Nuffield wedi dweud,

Dylai amseroedd aros Cymru sy’n ymestyn ganu larymau ymhlith llunwyr polisi.

Yr hyn a olygant wrth hynny, wrth gwrs, yw Llywodraeth Lafur Cymru. Nawr, rydym yn wynebu argyfwng gofal cymdeithasol—rhagolwg y bydd costau’n dyblu dros y 13 mlynedd nesaf, ac eto nid oes unrhyw flaengynlluniau rheoli gwaith strategol yn eu lle gan y Llywodraeth Lafur hon.

Yn lleol, cafwyd £299 miliwn o doriadau i gyllidebau llywodraeth leol ers 2013 sydd wedi arwain at erydu llawer o’n gwasanaethau lleol hanfodol. Mae’r dreth gyngor, ar y llaw arall, yn codi 3.6 y cant eto eleni ar gyfartaledd, gyda Chonwy, Ceredigion a Sir Benfro’n codi biliau 5 y cant sy’n llawer uwch na chwyddiant, diolch i Blaid Cymru a Llafur—uwch na phob un ond tri chyngor yn Lloegr a’r Alban, ac erbyn hyn mae llawer mwy yn wynebu codiadau pellach o hyd at 4.6 y cant ar gyfer 2017-18.

Ddirprwy Lywydd, mae ein trigolion yn talu cyfran sylweddol uwch o’u pecynnau cyflog tuag at filiau’r dreth gyngor nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain. Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod Cyngor Ar Bopeth wedi labelu’r dreth gyngor fel y broblem ddyled fwyaf yng Nghymru i’n teuluoedd am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i wneud defnydd priodol o gyllid canlyniadol o dros £94 miliwn a ddaeth i Gymru ac a ddarparwyd gan, ie, y Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan rhwng 2010 a 2016 yn golygu bod dros £794 o’u hincwm wedi’i ddwyn oddi wrth dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru—

Na wnaf, mae’n ddrwg gennyf. Rwyf wedi dechrau, fe orffennaf. Rydych bob amser yn awyddus i sôn am San Steffan; wel, gadewch i mi ddweud wrthych, mae treth gyngor eiddo band D yn San Steffan yn £669. Eiddo band D yng Nghonwy: £1,401. Mae ardrethi busnes yn parlysu ein hunigolion mwyaf gweithgar a llawn menter. Yn Lloegr, dan Lywodraeth Geidwadol, caiff ein busnesau eu gwerthfawrogi, cânt eu hystyried yn bwysig, cânt eu cefnogi, ac maent bellach wedi cael £3.6 biliwn mewn rhyddhad trosiannol. Byddai’r hyn sy’n cyfateb mewn termau ariannol i’r cymorth hwn o ran ei werth ar gyfer Cymru, pe bai’n cael ei ddarparu, yn £180 miliwn, ac eto mae’r brolio diweddar yn sgil cronfa gwerth £10 miliwn i liniaru’r cynnydd arswydus hwn yn sarhad enfawr—yn warth llwyr—gan brofi, unwaith eto, nad yw Llafur Cymru yn deall busnes.

Ar fand llydan, y cyflymder cyfartalog yng Nghymru yw’r isaf o blith rhanbarthau’r DU. Yn Aberconwy, mae safleoedd unigol, a rhai cymunedau cyfan bron yn cael eu heithrio o brosiect Cyflymu Cymru, tra bod y daith ffibr yn parhau i adrodd ar ddata annibynadwy dan Lafur Cymru mewn grym, wedi’u cefnogi, wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yr un hen stori. Beth arall y gallaf ei ddweud? Ond mae fy etholwyr yn Aberconwy wedi gweld cynnydd o 230 y cant ym miliau’r dreth gyngor; eu bwrdd iechyd lleol yn dod yn destun mesurau arbennig, ac yn aros yno am 22 mis bellach; a chau ein hysgolion gwledig, yn groes i ddymuniadau nifer o rieni a llywodraethwyr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud cam â fy etholaeth, ac mae’n sicr yn gwneud cam â phobl Cymru. Diolch.

Yn ei araith agoriadol, roedd arweinydd yr wrthblaid—er nad wyf yn siwr y gallaf ei alw’n hynny eto; gwelaf nad yw Neil McEvoy wedi’i restru fel Aelod Plaid Cymru mwyach. Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld Llywodraeth newydd gydag egni newydd ac ysgogiad newydd. Rwy’n meddwl ei fod wedi mynd mor bell hyd yn oed â dweud ei fod am 18 mis wedi rhagweld ffrwydrad o egni. Ond wrth gwrs nid Llywodraeth newydd dan arweiniad Llafur yw hon i bob pwrpas. Nid y 18 mis cyntaf ydyw. Dyma ddiwedd 18 mlynedd ac a dweud y gwir, mae’n dangos.

Mae gennym wyth dangosydd economaidd allweddol Llywodraeth Cymru a osodwyd ganddynt hwy eu hunain, a’r cyntaf ohonynt—y pwysicaf yn fy marn i—oedd gwerth ychwanegol gros y pen. Rydym yn ddeuddegfed allan o 12 o ranbarthau Lloegr a’r tair gwlad: Cymru, £18,002; y DU, £25,351. Rydym yn mynd i lawr y rhain ac rydym yn ddegfed allan o 12; yn unfed ar ddeg allan o 12; yn ddeuddegfed allan o 12; yn nawfed allan o 12; yn unfed ar ddeg allan o 12; yn gydradd ddegfed allan o 12. Mae un, mewn gwirionedd, lle rydym ychydig yn well, ond nid yw’r holl ddata ar gael ar yr un hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth yn fwy pwysig na’r ddau brif wasanaeth cyhoeddus sydd wedi’u datganoli: y gwasanaeth iechyd ac addysg.

Rydym yn edrych ar atgyfeiriadau canser brys gan feddygon teulu. Rydym wedi gosod targed o 95 y cant i ni’n hunain i bobl gael eu gweld o fewn dau fis, ac eto nid yw ond yn 86 y cant. Amser aros o bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys: dim ond 82 y cant yng Nghymru sy’n cael eu gweld o fewn hynny. Yn Lloegr, mae’n 86 y cant, o’i gymharu â’r targed o 95 y cant a osodwyd ganddynt. Rydym yn ei weld ar gyfer amseroedd aros: dair gwaith mor hir ar gyfer gosod clun newydd neu hernia; bron ddwywaith mor hir ar gyfer llawdriniaethau cataract; ac mewn gwirionedd, yr unig reswm y mae gennym y niferoedd hynny yw oherwydd Ymddiriedolaeth Nuffield. Y realiti yw bod Llafur, pan nad ydynt yn cyrraedd eu targedau, yn rhoi’r gorau i gasglu’r data. Ond un darn o ddata sydd ar gael yn y gwasanaethau iechyd yw marwolaethau, ac ar gyfer marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru mae gennym 240 o bob 100,000 o bobl, o’i gymharu â 221 yn Lloegr. Mewn un flwyddyn yn unig, mae hynny’n awgrymu bod 600 o farwolaethau ychwanegol a marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru, a 10,000 o bosibl dros gyfnod datganoli.

Gan droi at addysg, dywedodd arweinydd yr wrthblaid fod y canlyniadau PISA yn mynd tuag yn ôl, a chlywais fwmian gan Aelod Llafur, ‘Nac ydym.’ Ond edrychwch arnynt. Hynny yw, mathemateg, mae nifer Cymru’n 478 o gymharu â 493. Mae’r bwlch hwnnw’n tyfu, ac mae’n gostwng yng Nghymru o gymharu â’r niferoedd blaenorol. O ran darllen, mae gennym 477 yng Nghymru o’i gymharu â 500 yn Lloegr. Mae’r bwlch hwnnw wedi dyblu yn y degawd diwethaf, ac mae’r nifer yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Wedyn, mewn gwyddoniaeth, mae gennym Gymru ar 485, o’i gymharu â 505 yn ôl yn 2006; eto, mae’r bwlch rhyngom a Lloegr wedi dyblu. Felly, dyna’r record o ran y gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Ond wedyn edrychwn hefyd ar y mater cyfansoddiadol, ac nid oes gennym unrhyw setliad datganoli sefydlog. Yn lle hynny, mae’r Prif Weinidog wedi gosod Cymru ar daith ansicr drwy ddweud y dylai’r Alban fod yn fodel ar ein cyfer. Nawr, nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur yn gyfan gwbl am natur anfoddhaol Deddf Cymru 2017, ond rwy’n meddwl hefyd fod peth cyfrifoldeb am hynny ar fainc flaen Llafur ac Aelodau Seneddol Llafur Cymru, sy’n fwyafrif, a dyna rwy’n credu yw barn Syr Humphrey a’i ddylanwad niweidiol ar y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Ond newidiadau go ymylol a gawsom wrth ddrafftio, rwy’n credu, ac eto cawsom areithiau gan gynifer o Aelodau Llafur, gan gynnwys y fainc flaen, yn dweud ‘A, nid yw’n wych, mae’n cynnwys yr holl broblemau hyn, ond at ei gilydd, a phenderfyniad ‘at ei gilydd’ ydyw i raddau helaeth, mae’n wych fod confensiwn Sewel yn mynd i gael ei godeiddio yn y gyfraith a chaiff y Ddeddf ei barnu wedyn gan y llysoedd, ac ar y sail honno, dylem bleidleisio drosti.’ Eto i gyd, o fewn ychydig o wythnosau, cawsant eu tanseilio, ac yn sgil ymyrraeth y Cwnsler Cyffredinol, dywedir wrthym gan y Goruchaf Lys nad yw’r ffaith ei bod yn gyfraith yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, ac mae’n parhau’n gonfensiwn.

Ac yna, ar ôl gadael yr UE, gwelwn sut y mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi esblygu. Nid wyf eisiau bod yn rhy feirniadol o hyn; mae’n rhywbeth y bu gennyf obsesiwn yn ei gylch ar hyd fy oes. Mae’r Prif Weinidog wedi arwain arno ac mae wedi paratoi ar ei gyfer dros y naw mis diwethaf ac mae ei ddealltwriaeth wedi datblygu. Ond mae wedi bod â thri safbwynt gwahanol ar y rhyddid i symud. Ar un adeg, fe ddywedodd, yn synhwyrol iawn, na allem fod yn aelodau o’r farchnad sengl—yn wir, fe bleidleisiodd yn erbyn cynnig gan Blaid Cymru arno—gan ein bod angen ymdrin â rhyddid i symud. Yn anffodus, ymddengys bod y safbwynt hwnnw yn awr wedi mynd yn ôl, ac mae mynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl, rwy’n meddwl, yn rhywbeth a fyddai’n cael consensws. Ond wedyn, pan fydd hwnnw wedyn yn dod yn gyfranogiad llawn yn y farchnad sengl, fel y dywedais o’r blaen, beth ar y ddaear yw ystyr hynny? Gwelais fod Jane Hutt, arweinydd y tŷ, wedi mabwysiadu fformiwleiddiad newydd wrth ateb cwestiynau ddoe—cyfeiriodd at ‘gyfranogiad’ yn y farchnad sengl. Ond yn y pen draw, a ydym yn mynd i wneud yr hyn y mae pobl Cymru eisiau? Fe wnaethant bleidleisio dros adael. A ydym yn mynd i ddod allan o’r farchnad sengl? A ydym yn mynd i gyfyngu ar y rhyddid i symud? A ydym yn mynd i fabwysiadu ymagwedd synhwyrol at hyn a chefnogi, mewn gwirionedd, yr hyn a benderfynodd pobl Cymru, neu a ydym yn mynd i geisio cofleidio Llywodraeth yr Alban? Y cyfan y mae Llywodraeth yr Alban yn malio amdano yw annibyniaeth.

Mae’r syniad o fframwaith y DU yn y dyfodol fel rhywbeth y mae perthynas Cymru â Lloegr neu gyda Llywodraeth y DU, a phwysigrwydd enfawr hynny i ni—mae’r syniad y dylai hynny fod yn seiliedig ar beth bynnag y mae Nicola Sturgeon awydd ei ysgogi neu ei gael fel argymhelliad mewn trafodaethau ar fframwaith y DU yn anghywir yn fy marn i. Mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn arwain ar ddod o hyd i fodel datganoli sefydlog, nid yr annibyniaeth a gefnogir gan 6 y cant o’r wlad, er hynny, ni waeth faint o Aelodau sydd yno gyferbyn yn awr, ac edrychwn ar y Llywodraeth am arweiniad ar hynny. Yn anffodus, nid yw’n gwneud hynny, ac rwy’n falch iawn o gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o gael cyfle i ymateb i’r ddadl hon, ac rwy’n bwriadu siarad am ein record a bod yn bositif ynglŷn â beth y mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei gyflawni yng Nghymru, gan mai record ydyw o Lywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ar ran pobl Cymru.

Felly, gadewch i ni ddechrau gyda’r economi: llai o bobl allan o waith yng Nghymru a nifer bron gyfuwch ag erioed mewn gwaith. Mae’r ffigurau diweddaraf yn tystio i hyn: mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU, ac rydym wedi creu degau o filoedd o swyddi newydd. Y llynedd yn unig, helpodd Llywodraeth Cymru i greu a diogelu 37,500 o swyddi. Ond rydym hefyd wedi ymateb i’r heriau economaidd, ac mae cefnogi ein hymgyrch Achubwch ein Dur yn enghraifft o hynny, fel y dywedodd David Rees. Rydym wedi rhoi camau ar waith i ddiogelu’r diwydiant dur yma yng Nghymru. Diolch i’r £60 miliwn o gymorth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer cefnogi’r diwydiant dur, rydym wedi gallu cadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yma yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, mae mwy na 15,000 o bobl ifanc ar draws pob un o’n hetholaethau wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglen gyntaf Twf Swyddi Cymru, ac mae cyfraddau llwyddiant prentisiaethau yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Rydym yn cynorthwyo degau o filoedd o fusnesau bach gyda’u hardrethi busnes ac rydym wedi gwrando ac ymateb i’w pryderon ynglŷn ag ailbrisio drwy greu dau gynllun rhyddhad pwrpasol.

Sut rydych yn ymateb i ffigurau swyddogol sy’n dangos mai gan Gymru y mae’r lefel uchaf o bobl nad ydynt mewn gwaith, y lefel uchaf o dangyflogaeth, a’r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol o blith 12 cenedl a rhanbarth y DU?

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wrth gwrs, yn dangos yn awr fod diweithdra yng Nghymru yn 4.4 y cant, o’i gymharu â 4.7 y cant ar draws y DU gyfan. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn siarad drostynt eu hunain. Ond hefyd, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â gwelliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Gadewch i ni egluro’r sefyllfa eto: rydym yn gwario 6 y cant yn fwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae pobl yn cael eu trin yn gyflymach ac yn byw’n hirach, mae amseroedd aros yn gostwng—mae’r ffigurau canser diweddaraf yn brawf o hynny. Bydd ein cronfa triniaethau newydd gwerth £16 miliwn y flwyddyn yn darparu mynediad cyflymach a mwy cyson at feddyginiaethau newydd ac arloesol. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru yn uwch na’r targed yn gyson ac ymhlith y gorau yn y DU. Mae lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn agos at fod yn is nag erioed er gwaethaf cynnydd yn y galw am ofal ysbyty—yn wahanol iawn i Loegr lle y mae lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ôl ffigurau Llywodraeth y DU ei hun, wedi codi’n uwch nag erioed ac mae gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng dwfn.

O ran addysg, mae perfformiad disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 yn parhau i godi. Mae’r bwlch rhwng plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion yn culhau. Mae absenoldeb o’n hysgolion cynradd ar y lefel isaf erioed. Ac fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, rydym ddwy ran o dair o’r ffordd drwy’r rhaglen adeiladu ac adnewyddu ysgolion fwyaf uchelgeisiol ers y 1960au—mae 112 o 150 o ysgolion a cholegau naill ai wrthi’n cael eu hadeiladu neu wedi’u cwblhau. Diolch i chi unwaith eto, David Rees, am dynnu sylw at Ysgol Bae Baglan sy’n werth £40 miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dylem fod yn falch o hyn—yng Nghastell-nedd Port Talbot, cafodd ei hagor yn swyddogol yr wythnos diwethaf gyda Kirsty Williams—ysgol sydd â lle ar gyfer 1,500 o ddisgyblion, yn lle tair ysgol uwchradd ac un ysgol gynradd. Bydd yn aros ar agor tan 10 o’r gloch y nos yn ystod yr wythnos, a bydd y ffreutur yn trawsnewid yn gaffi cymunedol. Dyna Lywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi yn ein plant a’n pobl ifanc, gan gefnogi ein hathrawon—yr amgylchedd dysgu gorau. Ysgol Bro Teifi yng Ngheredigion—un arall o’n hysgolion unfed ganrif ar hugain—oedd yr ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru a adeiladwyd yn bwrpasol ac a gyfunai ysgolion cynradd ac uwchradd. Cafodd ei chynllunio mewn partneriaeth ag athrawon a disgyblion, gan gysylltu pob cyfnod dysgu ar un safle. Ond rydym hefyd yn gweithredu pecyn unigryw o gymorth addysg uwch, gan warantu cymorth i fyfyrwyr yn gysylltiedig â’r cyflog byw cenedlaethol wrth iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Hefyd, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cyflawni dros gymunedau ledled Cymru. Nid oes neb wedi crybwyll tai. Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnaethom adeiladu mwy na 11,000 o gartrefi fforddiadwy, a dod â 5,000 o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Gwelais y tai a oedd wedi’u cau yn agor i bobl a oedd angen tai, a helpu 3,300 o brynwyr drwy Cymorth i Brynu—Cymru.

David Melding a gododd—

Arhoswch un eiliad. Erbyn 2021, byddwn wedi gwneud mwy, gan y byddwn yn adeiladu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy.

Dylem fod wedi adeiladu oddeutu 4,000 neu 5,000 o gartrefi’n fwy bob blwyddyn drwy gydol y cyfnod ers datganoli. Os nad ydych yn fy nghredu ynglŷn â’n sefyllfa a’r argyfwng rydym ynddo, a gaf fi eich cyfeirio at y memorandwm esboniadol ardderchog y mae’r Llywodraeth wedi’i gynhyrchu ar ddiddymu’r Bil hawl i brynu? [Chwerthin.]

Wel, rwy’n credu y byddai’r bobl sydd angen tai, ac sy’n cael budd, pobl rwyf wedi’u cyfarfod—nid yn unig o ran tai fforddiadwy a thai cymdeithasol, ond o ran y rhai sydd â mynediad at gymorth i brynu fel prynwyr am y tro cyntaf—yn anghytuno â’r modd yr ydych yn dadlau ynglŷn â ffigurau, sydd, wrth gwrs, yn glir iawn o ran yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn ‘Symud Cymru Ymlaen’.

Ar yr amgylchedd, rydym wedi buddsoddi mewn mesurau i amddiffyn rhag llifogydd. Ddoe, clywsom am y statws yr ydym yn ei gyrraedd, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, o ran bod yn arweinydd byd ym maes ailgylchu: ail yn Ewrop, trydydd yn y byd, yn ystod hanner cyntaf 2016-17. Fe wnaethom ailgylchu 62 y cant o’n gwastraff, yn sylweddol well, unwaith eto, na Lloegr—gwnaeth Carl Sargeant y pwynt hwnnw’n eglur iawn—lle y mae cyfraddau ailgylchu o dan 44 y cant. Onid ydych yn falch o fyw yng Nghymru, fel y dywed Rhianon Passmore? Rydym yn gwneud hyn i gyd yn erbyn cefndir o galedi, yng nghysgod Llywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi methu’n systematig â buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae wedi cymryd oddi wrth y tlawd a’r bregus ar yr union adeg pan ddylai fod yn eu cefnogi. Mae wedi gwastraffu biliynau mewn hoff brosiectau sydd o fudd i’r cefnog a’r breintiedig. Felly, ni chymerwn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr am lywodraeth. Yn San Steffan, mae eu Llywodraeth hwy yn un sy’n torri addewidion—Llywodraeth a dorrodd ymrwymiad maniffesto yr wythnos diwethaf i beidio â chynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, fel y cawsom ein hatgoffa gan ddisgrifiad huawdl Rhianon Passmore. [Torri ar draws.] Do, y prynhawn yma—fel y dywedodd Simon Thomas yn gynharach, arogl y gwreichion gyda’r tro pedol, y tro pedol rhyfeddol, a rhoi’r gorau i’w cynlluniau. Ond mae gennyf gwestiwn difrifol i Andrew R.T. Davies, i chi ei ofyn i’ch cydweithwyr yn San Steffan. Mae’r tro pedol wedi gadael twll o £645 miliwn yn y gyllideb hon a’i gynlluniau gwariant ar gyfer gofal cymdeithasol ac ysgolion. Felly, hoffwn ofyn y cwestiwn: beth sy’n mynd i gael ei ddiddymu a’i dorri yn awr o ganlyniad i’r tro pedol?

Ond ar nodyn difrifol iawn am y gwrthdaro a’r gwahaniaethau rhwng ein gwerthoedd, dyma’r un Lywodraeth Dorïaidd a gafodd wared cyn pryd ar gynllun gwelliant Dubs ar ôl rhoi lloches ddiogel i un rhan o ddeg yn unig o’r ffoaduriaid sy’n blant yr addawodd yn wreiddiol y byddai’n rhoi lloches iddynt yn y DU. Mae hynny’n fy ngwneud yn ddig. Mae’n gwneud llawer o bobl yn ddig yma yng Nghymru. Oherwydd, yng Nghymru, mae gennym groeso cynnes i ffoaduriaid. Rydym yn cefnogi ein hawdurdodau lleol yn eu rôl hanfodol yn gofalu am ymfudwyr a cheiswyr lloches.

Felly, Ddirprwy Lywydd, bydd Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cymryd £1 biliwn gan Gymru yn y degawd ers 2011—arian y mae ein gwasanaethau cyhoeddus ei angen yn daer. Ddirprwy Lywydd, rwyf am gloi drwy ddychwelyd at ein record fel Llywodraeth Cymru. Ie, diolch i chi am gydnabod fy mod, fis Mai diwethaf, yn falch iawn pan ailetholodd pobl Cymru Lafur Cymru fel y blaid fwyafrifol i ffurfio Llywodraeth, a’n bod wedi nodi uchelgais, rhaglen lywodraethu, a bod Kirsty Williams yn rhan o’n Llywodraeth. Bydd ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn ein helpu i gyflawni hynny. Ond hoffwn ddweud wrth y Cynulliad hwn, yn olaf, ein bod mewn grym ar adeg allweddol o bwysig—gellid dadlau mai dyma’r adeg bwysicaf o’r 18 mlynedd diwethaf. Chwe wythnos ar ôl etholiad y Cynulliad, pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel Llywodraeth, rydym yn gweithio i sicrhau bod buddiannau gorau Cymru yn cael eu cynrychioli a’u diogelu yn ystod y trafodaethau i adael Ewrop. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Phlaid Cymru i gynhyrchu’r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Dyma ble rydym yn rhannu—ac mae’n rhaid i ni; mae’n ddyletswydd arnom i rannu—cyfrifoldeb, gan fod yn rhaid i ni roi buddiannau Cymru yn gyntaf. Dyna y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn ei wneud, ac rwy’n falch o hynny.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu ac yn llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl yn eu ffordd arbennig eu hunain. Roedd yn amlwg nad aeth arweinydd y tŷ i’r afael â’r union bwyntiau a roddwyd iddi ynglŷn ag amseroedd aros ym maes iechyd, ynglŷn â recriwtio meddygon a nyrsys i gael ein gwasanaeth iechyd yn ôl i ble rydym am iddo fod, ynglŷn â’r mesurau arbennig ar gyfer pedwar o’n chwe bwrdd iechyd, ac ynglŷn â’r pwyntiau y cyffyrddodd Mark Reckless â hwy, lle y defnyddiodd y mynegeion sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae Cymru, yn anffodus, wrth odre’r tablau cynghrair hynny. Nid oes yr un ohonom yn falch o hynny o gwbl. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru, ond yr hyn yr ydym ei eisiau yw Llywodraeth yn y lle hwn sydd â’r un uchelgeisiau â phobl Cymru. Yn anffodus, o’r arddangosiad a roddodd arweinydd y tŷ heddiw—. Y cyfan a roddodd oedd esgus gwael dros yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn gan y Llywodraeth hon. A wyddoch beth sy’n fy ngwneud yn ddig, arweinydd y tŷ? [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad mewn munud. A ydych yn gwybod beth sy’n fy ngwneud yn ddig, arweinydd y tŷ? Fod cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ysgol wedi colli’r cyfle i gyrraedd eu potensial o dan y system addysg yr ydych wedi llywyddu drosti, lle rydych wedi bod yn Weinidog yr holl ffordd drwodd ers gwawrio datganoli. Sylwaf nad aethoch i’r afael â’r pwyntiau a roddais i chi ar addysg mewn perthynas â safleoedd PISA, mewn perthynas â’r cyllido—£607—ynglŷn â diffyg athrawon yn ein hysgolion, sydd oll yn ffigurau a roddodd yr undebau i’r pwyllgor addysg. Rydych wedi llywyddu dros y ffigurau hynny, ac rydych yn parhau i lywyddu dros y ffigurau hynny. Soniodd David Rees am—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Jenny, fe anghofiais. Fe gymeraf yr ymyriad. Mae’n ddrwg gennyf.

Os ydych mor ddig ynglŷn ag addysg, pam na wnaethoch gyflwyno cynnig i’w drafod ar ansawdd ein haddysg, yn lle’r cynnig dal popeth hwn sy’n ein harwain i unman ac yn gwastraffu amser y Cynulliad?

Wel, gyda pharch, Jenny, tair wythnos sydd gennym tan ddiwedd y tymor. Mae un rhan o bump o dymor y Cynulliad hwn wedi mynd. Rwy’n sylweddoli nad oeddech yma ar ddechrau’r ddadl, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraethau pan ddônt i rym yn meddu ar egni, ar fywiogrwydd, ac maent yn llawn o syniadau ac yn torri llwybr ar gyfer syniadau y mae pobl am eu cefnogi. Yn anffodus, nid yw’r Llywodraeth hon wedi gwneud dim ond parhau—[Torri ar draws.]—parhau gyda’r un polisïau a arweiniodd at ddirywiad mewn addysg, dirywiad mewn iechyd, a dirywiad yn yr economi. Crybwyllodd David Rees y diwydiant dur. Un peth y mae’r diwydiant dur wedi bod yn siarad amdano dro ar ôl tro yw help gydag ardrethi busnes. Nid yw’r Llywodraeth hon wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn ag ardrethi busnes o gwbl. Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi cronfa o £400 miliwn ar gyfer defnyddwyr trwm ar ynni—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf lawer o amser, a bod yn onest gyda chi—£400 miliwn ar gyfer defnyddwyr trwm ar ynni, ac mae £130 miliwn ohono wedi cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr trwm ar ynni eisoes. A phwy roddodd y rhan fwyaf o’r tariffau ar waith a gododd brisiau ynni yn y wlad hon? Neb llai na Ed Miliband, yn ôl yn 2009 a 2010. Ef a’i gwnaeth—Llafur a’i gwnaeth. Gyda’r parch mwyaf i’r Aelod dros Islwyn, mae’n ffaith, pan edrychwch ar eich cymunedau yn Islwyn a’r prosiectau Cymunedau yn Gyntaf sydd bellach—. Diolch byth, dyna’r un peth y mae’r Llywodraeth hon wedi sylwi: na chawsant fawr o ddylanwad os o gwbl ar godi pobl allan o dlodi. Diolch byth, yr un peth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud yn ystod ei amser yn y swydd mewn gwirionedd yw dweud, ‘Digon yw digon’ a chau’r bont godi ar y prosiect hwnnw.

Eich Llywodraeth chi y dylech ei dwyn i gyfrif am y methiant i godi gwerth ychwanegol gros a gweithgaredd economaidd yn eich etholaethau. Ond mewn gwirionedd, os yw Plaid Cymru’n credu mai’r ffordd i annibyniaeth yw’r achubiaeth i Gymru, yna Duw a’n helpo, rhaid i mi ddweud, a bod yn onest gyda chi, oherwydd yn y pen draw, honno fyddai’r ffordd i ddinistr. Mae undeb y Deyrnas Unedig wedi cynnig cyfleoedd enfawr i Gymru a chryfder drwy rannu adnoddau’r undeb i gefnogi pob un o bedair rhan yr undeb hwnnw—[Torri ar draws.]

Mae ganddynt y cymhleth israddoldeb hwn. Mae gwir angen iddynt ddod drosto. Yn hytrach na dal dig—[Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—fe synnech beth y gallwch ei gyflawni.

Ond mae’r cynnig hwn heddiw, ar ddiwedd yr hyn sy’n un rhan o bump o dymor y Cynulliad hwn, yn ceisio tynnu sylw at sut y mae’r Llywodraeth yma wedi methu mynd i’r afael â phroblemau strwythurol dwfn gyda’r economi, gydag iechyd, gydag addysg, gyda thai, fel y nodwyd gan lefarwyr yma heddiw. Yn wir, arweinydd y tŷ a gyflwynodd y maes tai ei hun: 5,000 yn llai o dai yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn ers datganoli. Dyna pam y mae gennym argyfwng tai, a’ch ateb yw cael gwared ar y ddeddfwriaeth hawl i brynu sydd wedi grymuso cymaint o bobl ar hyd a lled Cymru—140,000 o bobl yn byw yn eu cartrefi eu hunain ac yn berchen arnynt heddiw a chanddynt gyfran yn economi Cymru a chymdeithas Cymru, ac os ydych am sefyll yn erbyn dyhead, daliwch ati. Ond ar yr ochr hon i’r Siambr, byddwn yn parhau i wneud yn siŵr y gall pobl gyrraedd eu potensial llawn. Dyna pam y mae’r cynnig hwn gerbron y tŷ heddiw, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n ei gefnogi.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly gohiriaf y bleidlais hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd yn awr, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu. Nac oes? Iawn, symudwn at y pleidleisio.

7. 7. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dai Lloyd. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 28. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 25, Yn erbyn 28, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6249.

Symudwn yn awr at y bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6257.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 12, dau yn ymatal, 39 yn erbyn, felly gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 39, Ymatal 2.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6257.

Gan na dderbyniwyd y cynnig, na’r gwelliant, nid ydym wedi cytuno dim, ac felly nid yw’r cynnig wedi ei dderbyn ac mae’n methu.

8. 8. Dadl Fer: Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw—Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU

Symudaf yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, os gwelwch yn dda gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Galwaf ar Paul Davies i siarad ar y pwnc y mae wedi’i dewis—Paul Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o ddefnyddio fy nadl fer y prynhawn yma i dynnu sylw at pam y dylai dinas Tyddewi ddod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2021. Rwy’n falch hefyd o roi munud o fy amser i Eluned Morgan.

Efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol fod dinas Tyddewi ar y camau cynnar o lunio ei chais. Felly, byddai neges gref o gefnogaeth o bob cwr o Gymru yn sicr yn helpu i greu cefnogaeth fwy lleol a chenedlaethol i’r cais. Wrth gwrs, dylai unrhyw ymdrechion i hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol Cymru yn well gael eu hannog gan fod diwylliant yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau. Mae’n dod â phobl at ei gilydd, mae’n ein dysgu am ein gorffennol ac mae’n denu ymwelwyr a thwristiaid o bob cefndir a chred.

Mewn geiriau eraill, mae diwylliant yn chwarae rhan enfawr ar lefel gymdeithasol, addysgol ac economaidd. Mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ei annog ar gyfer y dyfodol. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi dewis marchnata 2017 fel Blwyddyn y Chwedlau i ddod â’n diwylliant a’n treftadaeth i ganol ein brand cenedlaethol. Yn wir, nid oes dim yn fwy cenedlaethol i’w ddathlu yng Nghymru na’r ardal gyda’r mwyaf o gysylltiad â’n nawddsant.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

I’r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, adeiladwyd dinas Tyddewi ar safle’r fynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant yn y chweched ganrif, ac ef, wrth gwrs, yw nawddsant Cymru. Felly, nid ased diwylliannol i Sir Benfro yn unig yw Tyddewi, ond ased i orllewin Cymru ac wrth gwrs i Gymru gyfran. Felly, er mai Tyddewi yw dinas leiaf Prydain o ran daearyddiaeth, rwy’n credu ei bod yn un o’r dinasoedd mwyaf o ran gwerth diwylliannol.

Bu farw Dewi Sant ei hun yn y flwyddyn 589 ac yn ôl y chwedl, dywedir bod y fynachlog wedi llenwi ag angylion wrth i Grist dderbyn ei enaid. Wrth gwrs, hyd heddiw, mae dinas Tyddewi’n dal i fod â lle arbennig yn y gymuned Gristnogol. Mae’r eglwys gadeiriol wedi bod yn safle pererindod ac addoliad ers dros 800 mlynedd ac mae’n parhau i ddenu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Yn wir, roeddwn yn falch iawn o fynychu gorseddiad esgob benywaidd cyntaf Cymru yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ddiweddar, gydag Aelodau eraill, sydd ond yn dangos bod yr eglwys gadeiriol yn parhau i fod â rôl bwysig mewn Cristnogaeth Gymreig heddiw.

Fodd bynnag, mae Tyddewi’n adnabyddus am fwy na’i phwysigrwydd i dreftadaeth Gristnogol. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog yr holl Aelodau yn y Siambr hon i wneud ymdrech i ymweld â’r ardal leol a gweld drosoch eich hun yn union beth sydd gan Dyddewi i’w gynnig, gan fod yna rywbeth at ddant pawb.

Mae’r ddinas yn gartref i rai o draethau mwyaf anhygoel y byd. A gaf fi atgoffa’r Aelodau fod Tyddewi ym mharc cenedlaethol Arfordir Penfro, sef yr unig barc cenedlaethol yn y DU sydd ar yr arfordir? Mae Tyddewi hefyd wedi chwarae ei rhan yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i chadw’n fyw drwy gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, gan ddangos pwysigrwydd y ddinas i ddiwylliant Cymru unwaith eto.

Mae’r canllawiau ar gyfer proses geisiadau Dinas Diwylliant y DU yn nodi eu bod yn chwilio am geisiadau sy’n dangos rhagoriaeth ac arloesedd diwylliannol ac artistig a chredaf fod Tyddewi’n gwneud hynny’n helaeth.

Rwyf wedi egluro ychydig am arwyddocâd diwylliannol Tyddewi ond mae’n bwysig atgoffa’r Aelodau fod gan Dyddewi gymuned artistig lewyrchus gyda chelf yn cael ei arddangos yn gyson ar amrywiaeth o lwyfannau, megis ar gynfas, gwydr a cherflunwaith. Mae Tyddewi’n gartref i oriel a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc, sydd ag oriel o’r radd flaenaf ar gyfer arddangos gweithiau celf o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru a stiwdio artist preswyl, gan ddangos unwaith eto ymrwymiad yr ardal i gelf.

Fy nealltwriaeth i yw mai uchelgais cyffredinol cais Tyddewi yw gwella lles pawb a gyffyrddir gan ymwneud Tyddewi â’r rhaglen Dinas Diwylliant. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan gelf a diwylliant rym i sicrhau budd positif sylweddol i les pobl. Dangosodd adroddiad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd yn 2013 fod mynediad at, a chyfranogiad mewn gweithgaredd creadigol a’r celfyddydau yn ei holl ffurfiau yn rhan bwysig o iechyd a lles cyffredinol cymdeithas a’r unigolion o’i mewn.

Mae ‘Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru 2015’ Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod hanner yr holl oedolion sydd ag anabledd yn cael eu hysbrydoli gan weithgarwch artistig ac yn mwynhau cymryd rhan, a bod tri o bob pump o oedolion yng Nghymru yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod y celfyddydau a gweithgarwch diwylliannol yn helpu i gyfoethogi ansawdd bywyd.

Felly, os yw’r Aelodau’n dysgu unrhyw beth yn y ddadl y prynhawn yma, boed i hynny gynnwys gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd Tyddewi i hunaniaeth ddiwylliannol ac artistig Cymru a’r effaith y gallai cais fel hwn ei gael ar les pobl. Byddai cais i weld Tyddewi’n dod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021 yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o gyfalaf diwylliannol ac artistig yr ardal, ac os mai cais Tyddewi fydd yr unig gais o Gymru yn y gystadleuaeth, rwy’n falch fod y Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn cefnogi’r cais.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn glir mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais rai wythnosau’n ôl y byddai’n cyfarfod â threfnwyr unrhyw geisiadau o Gymru yn yr wythnosau nesaf. Felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â ble y mae arni gyda’r trafodaethau hynny. Ar lefel leol, deallaf fod trafodaethau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a phartneriaid ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Benfro wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy’n croesawu hynny. Mae’n gwbl hanfodol fod cymaint o randdeiliaid â phosibl yn dod ynghyd i gefnogi’r cais hwn, am mai drwy gydweithio’n unig y bydd gan Dyddewi obaith o ennill y gystadleuaeth hon.

Mae’n rhaid i’r cais ddangos gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr hyn y bydd Tyddewi yn ei gyflawni yn 2021 ac ar ôl hynny, ac felly byddai’r cais yn cael ei gryfhau’n sylweddol drwy gefnogaeth a thystiolaeth gan bartneriaid fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru. Rwy’n cytuno ag arweinydd Cyngor Sir Penfro, Jamie Adams, pan ddywed ‘Rwy’n credu bod gennym rywbeth gwahanol iawn yn Nhyddewi; nid yw’n ymwneud â chynigion mawr a dim arall, ond â’r effaith mewn perthynas â’r ddinas ei hun’. Mae’r gefnogaeth gan Gyngor Sir Penfro i’w groesawu’n fawr, oherwydd os yw’r cais yn llwyddiannus, yna bydd gan y cyngor rôl allweddol i’w chwarae yn sicrhau bod modd i’r seilwaith twristiaeth a thrafnidiaeth lleol ymdopi â’r ymwelwyr ychwanegol â’r ardal. Yn wir, mae’r canllawiau ar gyfer y broses ymgeisio nid yn unig yn gofyn am dystiolaeth o gryfderau diwylliannol ac artistig yr ardal, ond hefyd am amcangyfrif o’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd tebygol ar gyfer yr ardal pe bai’r cais yn llwyddiannus. Rwy’n falch fod cabinet Cyngor Sir Penfro yn yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi cytuno i ddarparu gwarant cyfalaf o £5 miliwn i gefnogi cais cam 1 y ddinas.

Wrth gwrs, os yw Tyddewi’n ddigon ffodus mewn gwirionedd i ennill y gystadleuaeth, yna bydd y manteision i’r ardal i’w teimlo am flynyddoedd i ddod. Byddai rhaglen Dinas Diwylliant y DU yn rhoi mynediad i Dyddewi at gyllid ac adnoddau allweddol a fyddai’n gwneud mwy na helpu i adfywio’r ardal leol yn unig, ond byddai’n arddangos y gorau o ddiwylliant lleol Tyddewi i weddill y byd. Byddai hefyd yn adeiladu ar enw da twristiaeth gref Sir Benfro, gan y byddai gwaith marchnata a hyrwyddo ychwanegol ar gyfer Tyddewi yn sicr o arwain at ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Rydym yn gwybod bod effaith lawn Dinas Diwylliant y DU ar Londonderry eto i’w gwerthuso’n llawn, ond mae ymchwil cychwynnol gan Fwrdd Croeso Gogledd Iwerddon yn dangos ei fod wedi sicrhau effaith gadarnhaol sylweddol, gyda chydnabyddiaeth fod y budd i’w deimlo y tu hwnt i Londonderry yn unig. Yn ôl eu hadroddiad, roedd 87 y cant o fusnesau twristiaeth yng ngogledd-orllewin Iwerddon yn teimlo effaith gadarnhaol ar refeniw twristiaeth, a chymeradwyodd y diwydiant effaith etifeddol Dinas Diwylliant y DU ar dwf twristiaeth yn y dyfodol hefyd. Dyma’n union y math o effaith yr ydym am ei weld yn Nhyddewi ac ar draws Sir Benfro a gorllewin Cymru.

Mae Sir Benfro eisoes wedi meithrin enw da am ddarparu profiad twristiaeth o’r radd flaenaf, a gwyddom fod yr ardal yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru. Cafodd Sir Benfro ei henwi unwaith yn gyrchfan arfordirol ail orau’r byd yn ôl y cylchgrawn ‘National Geographic’, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi a hybu’r mathau hyn o ardaloedd. Byddai cais llwyddiannus i Dyddewi allu dod yn Ddinas Diwylliant y DU yn arwain yn naturiol at fwy o bobl yn gwario arian yn ardal Tyddewi ac yn rhoi hwb i’w groesawu i’r economi leol. Felly, byddai cefnogaeth i gais Tyddewi i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021 yn arwain at gefnogi targed Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion twristiaeth yng Nghymru 10 y cant neu fwy erbyn 2020.

Mae’r ymgysylltiad hwn yn tanlinellu’r canlyniad mwyaf pwysig y bydd gwneud cais am y gystadleuaeth hon yn ei sicrhau—gweithio mewn partneriaeth. Pa un a fydd cais Tyddewi’n mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth genedlaethol ai peidio, bydd y cydweithio rhwng partneriaid ledled gorllewin Cymru, a thu hwnt gobeithio, ynddo’i hun yn cael effaith gadarnhaol. Ni all dod â phartneriaid at ei gilydd o fewn ac ar draws gwahanol sectorau ac adrannau Llywodraeth i ailfeddwl sut rydym yn hyrwyddo ein hunain fod yn beth drwg i’r ardal. Rwy’n gobeithio y bydd gwneud cais am Ddinas Diwylliant y DU hefyd yn arwain at ailfywiogi’r modd yr edrychwn ar ddiwylliant yn ein cymunedau. Wrth gwrs, mae sylfeini cais llwyddiannus eisoes yno, ond byddai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gais gan Dyddewi yn ennyn cefnogaeth genedlaethol fwy eang ledled Cymru ac yn gwneud y cais yn gystadleuydd o bwys. Ond rwy’n sylweddoli bod yna geisiadau eraill sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Byddai’n ymestyn y lefel o weithio mewn partneriaeth er budd gorllewin Cymru ymhellach, ac yn gwneud datganiad fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwylliant Cymru ar draws y wlad.

Felly, i gloi, mae’r economi ddiwylliannol a chreadigol ar hyn o bryd yn ardal Tyddewi ac yn wir, ar draws Sir Benfro, yn cynnig sylfaen ddigonol ar gyfer adeiladu cais cryf i ddod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU.

Mae Tyddewi’n ymfalchïo mewn llu o asedau diwylliannol, o bensaernïaeth a hanes Cristnogol i gelf a cherddoriaeth gyfoes, ac mae’n gartref i’n nawddsant ein hunain. Bydd cais llwyddiannus i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn atgyfnerthu enw da diwylliannol cynyddol Tyddewi ac yn creu etifeddiaeth barhaol am flynyddoedd i ddod. Felly rwy’n mawr obeithio y bydd Tyddewi’n cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu fel ei bod yn dod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2021.

A gaf i ddiolch yn fawr i Paul Davies am arwain y drafodaeth yma ar gefnogi Tyddewi a chantref Bro Dewi i fod yn ddinas diwylliant Prydain yn 2021? Rwy’n meddwl eich bod chi wedi rhoi ‘pitch’ arbennig o dda heddiw, ac nid ydw i’n gweld pam y byddai neb yn ei droi i lawr. Fel rhywun sydd â’i gwreiddiau teuluol yn mynd yn ôl 400 o flynyddoedd yn Nhyddewi, byddai neb yn fwy balch na fi pe byddai Tyddewi a Bro Dewi yn ennill y bìd yna.

Rwy’n meddwl mai beth sy’n bwysig i’w danlinellu yw na fydd cais Tyddewi yn edrych unrhyw beth yn debyg i fidiau o ddinasoedd eraill. Tyddewi yw’r ddinas leiaf ym Mhrydain ac un o’r rhai mwyaf ymylol yn ddaearyddol. Mae’n eistedd ar arfordir mwyaf prydferth y byd. Nid ydwyf yn cytuno â ‘National Geographic’: nid yr ail orau, y gorau yw hi, yn fy marn i. Rwyf yn meddwl y bydd hi’n dod â rhywbeth gwreiddiol ac unigryw i’r gystadleuaeth.

Mae’n amlwg na fydd Tyddewi yn gallu cystadlu ar yr un raddfa yn ariannol, o ran poblogaeth, yn ddaearyddol â dinasoedd eraill, ond rwy’n meddwl y bydd y bìd yn un ysbrydoledig ac yn un ysblennydd. Bydd yn defnyddio diwylliant fel modd i drawsnewid yr ardal. Bydd yn cwrdd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran iechyd a lles, adfywiad, cydlyniad cymunedol, addysg a dysgu. Hoffwn i ddymuno pob lwc i’r fenter yma. Rwy’n meddwl ei fod yn gyfle unigryw i Dyddewi a Bro Dewi, ac mi fyddwn i’n hoffi cynnig fy help i i’r bìd mewn unrhyw ffordd bosibl.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw, a diolch hefyd i Eluned Morgan am gyfrannu? Mae statws Dinas Diwylliant y DU, a ysbrydolwyd gan amser Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008, yn fwy na theitl yn unig—mae’n rhywbeth sydd â photensial mewn gwirionedd i greu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar gyfer Tyddewi a’r ardal gyfagos. Mae ganddo botensial i ddenu mwy o ymwelwyr, cynyddu diddordeb y cyfryngau yn y ddinas a dod ag aelodau’r gymuned at ei gilydd mewn lefelau cynyddol o gydweithio proffesiynol ac artistig, yn ogystal â gweithgareddau ar lawr gwlad, wrth gwrs.

Mae Tyddewi yn ddinas unigryw a hardd dros ben—y ddinas leiaf ym Mhrydain, gyda phoblogaeth o ychydig dros 1,600 o bobl. Fel y mae Paul Davies wedi amlinellu, prif nodwedd Tyddewi yw’r eglwys gadeiriol. Ers y chweched ganrif, mae eglwys wedi bod ar y safle, ac am y 1,500 o flynyddoedd diwethaf, mae wedi croesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr a phererinion sy’n dod i’r eglwys gadeiriol a chysegrfa Dewi Sant bob blwyddyn. Mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan beth o’r arfordir gorau yn Ewrop, ac wedi’i lleoli, fel y nododd Paul Davies, yn unig barc cenedlaethol arfordirol y DU—Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rwy’n meddwl y bydd yn elwa’n sylweddol o Flwyddyn y Chwedlau yn 2017, ond rwyf hefyd yn credu bod Blwyddyn y Môr yn 2018 yn cynnig nifer o gyfleoedd i Dyddewi ffynnu.

Mae’n gyfle cyffrous iawn ac rwy’n cymeradwyo’r ffaith fod Cyngor Sir Penfro wedi cofrestru eu diddordeb i Dyddewi fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021. Mae’n dangos penderfyniad y Cyngor yn ogystal, nid yn unig i wneud Tyddewi’n gyrchfan diwylliant a thwristiaeth hyd yn oed yn fwy llwyddiannus, ond hefyd i helpu i adfywio’r ardal gyfagos. Byddai’n sicr yn gamp wych os gallant ei gael. Rydym eisoes mewn cysylltiad agos gyda Chyngor Sir Penfro ynglŷn â’u cais a byddwn yn parhau mewn cysylltiad agos wrth i’r awdurdod ddatblygu ei argymhellion manwl. Yn wir, byddaf yn cyfarfod â’r awdurdod ar ôl iddo ddatblygu ei gynigion yn llawnach, ac yn sicr cyn y dyddiad cau ar 28 Ebrill i geisiadau cychwynnol. Ond yn y cyfamser, mae fy swyddogion yn cynorthwyo Tyddewi i nodi’r holl opsiynau posibl ar gyfer cyllid ac i gefnogi’r cais.

Yr ydym, wrth gwrs, yn cynnig cymorth tebyg i Abertawe, sydd hefyd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Ond fel y mae pennawd y ddadl heddiw yn datgan, dinas fechan yw Tyddewi gyda chyfle mawr unigryw. Yn wir, gweledigaeth benodol tîm y cais ei hun yw dod â’r byd i Dyddewi a Thyddewi i’r byd drwy raglen ysbrydoledig o weithgarwch diwylliannol ffisegol a digidol. Byddwn wrth fy modd yn gweld Tyddewi yn cael statws dinas diwylliant. Gwelais sut y cynyddodd yr ymdeimlad o falchder yn Lerpwl a dal dychymyg ei phoblogaeth gyfan, a hyd heddiw hyd yn oed, gwelwn superlambananas, nid yn unig yn Lerpwl, ond yng ngogledd Cymru, gan arddangos beth y gall statws dinas diwylliant ei gynnig a’i gyflawni.

Rwy’n credu bod Tyddewi yn ddinas fach iawn, ond mae ganddi galon fawr, a gallai statws dinas diwylliant wneud mwy byth i roi hwb i ffyniant economaidd y ddinas a’r rhanbarth, yn ogystal â rhoi sylw byd-eang i’r ddinas. Byddwn yn parhau i gefnogi Tyddewi ac Abertawe ym mha ffyrdd bynnag y gallwn, yn y gobaith y bydd statws dinas diwylliant y DU yn dod i Gymru yn 2021. Ac os daw, efallai y dylem barhau ein dull o bennu blwyddyn thematig ar gyfer twristiaeth drwy ddatgan mai 2021 fydd blwyddyn ddiwylliant.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.