Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/02/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Julie Morgan.

Ystyriaethau Iechyd sy'n Effeithio ar y DU Gyfan

1. Pryd y mae Prif Weinidog Cymru yn bwriadu trafod ystyriaethau iechyd sy'n effeithio ar y DU gyfan â Phrif Weinidog y DU? OAQ(5)0435(FM)

Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Phrif Weinidog y DU, ond Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon fyddai fel rheol yn arwain unrhyw drafodaethau yn ymwneud ag iechyd gyda chynrychiolwyr Llywodraeth y DU ar faterion iechyd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Bythefnos yn ôl, roedd cefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Cynulliad i gynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus statudol i’r sgandal o bobl â hemoffilia y rhoddwyd gwaed halogedig iddynt yn y 1970au a'r 1980au, sydd, wrth gwrs, wedi arwain at farwolaeth 70 o bobl o Gymru, ac mae llawer mwy o bobl yn dal i fyw gyda HIV, hepatitis C a chlefyd yr afu. A wnaiff y Prif Weinidog godi hyn yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, Theresa May, pan fydd yn ei chyfarfod nesaf, fel y gall teuluoedd y 70 o bobl a fu farw yng Nghymru, a phawb a gafodd eu heffeithio, gael rhyw fath o ben ar y mater.

Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet yn arwain y trafodaethau ar hyn. Ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar 20 Rhagfyr, gan gefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus ar draws y DU ar ran pawb a dderbyniodd waed halogedig. Mae hefyd wedi clywed yn uniongyrchol safbwyntiau unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw a'u teuluoedd, ac mae bellach yn ystyried y materion a'r pryderon cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.

Prynhawn da, Brif Weinidog. A gaf i, yn gyntaf oll, ailadrodd galwadau Julie Morgan am yr ymchwiliad cyhoeddus cenedlaethol hwnnw? Credaf ei fod yn bwysig iawn. Adroddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ddiweddar ar ansawdd gwasanaethau iechyd y DU, a argymhellodd yr angen i sefydlu cyfres o ddata iechyd allweddol a dangosyddion ansawdd ar gyfer pob un o systemau iechyd y DU, fel y gallwn feincnodi ein hunain yn effeithiol gan ddefnyddio diffiniadau cyffredin a gytunwyd a hwyluso ansawdd. Tybed, Brif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi neu eich cydweithwyr yn y Cabinet wedi eu cael gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill, a San Steffan, i hwyluso’r argymhelliad hwn fel y gallwn wir farnu ein hunain ar sail cymar i gymar.

Ceir trafodaethau gweithredol rhwng swyddogion ynglŷn â hyn. Mae'r dangosyddion ar gyfer iechyd yn amrywio'n fawr, fel y gwyddom, ond, er hynny, mae hyn yn rhywbeth sydd yn y camau archwilio cynnar.

A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff y GIG o dramor, o ystyried ein dibyniaeth fwy ar hyn o bryd ar aelodau staff y GIG o wledydd eraill? Hefyd, a wnaiff ef ofyn am sicrwydd, yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, nad yw’r gofynion i gael trwyddedu meddyginiaeth yn mynd i gael eu gwanhau pan fydd lobïwyr y cwmnïau fferyllol mawr yn gweld cyfle?

Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal a bod cyffuriau yn cael eu profi'n briodol cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad. Bu sawl achos dros flynyddoedd lawer, o gyffuriau nad ydynt yn cael eu gwerthuso’n iawn—thalidomid yw'r un sydd fwyaf adnabyddus—ac mae'n hynod bwysig bod y rheoliadau presennol yn parhau i fod ar waith. Mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y mater o fisâu gwaith rhanbarthol, mae hwnnw'n fater nad yw Llywodraeth y DU wedi ei wrthod hyd yma. Felly, mae'n fater diddorol. Ceir materion ymarferol y byddai angen eu datrys—nid oes dwywaith am hynny—ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i ymchwilio iddo, yn sicr, ar hyn o bryd.

Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gofal iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain yw'r cynnydd sylweddol mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cafwyd rhai achosion yn Tsieina, lle gwelwyd ymwrthedd i wrthfiotigau cyfle olaf. Oni bai fod camau llym yn cael eu cymryd, byddwn yn byw yn y byd a oedd yn bodoli cyn darganfod penisilin, lle'r oedd pobl yn marw o'r clefydau mwyaf syml. Mae adolygiad O'Neill o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn argymell newidiadau i’r gadwyn ymchwil a datblygu gwrthfiotig ac ymyrraeth gan y G20. Pa drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei chael gyda Phrif Weinidog y DU am y mater hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i arwain y ffordd o ran mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd?

Mae rheoli ac amddiffyn rhag clefydau yn fater rhyngwladol sydd angen y cydweithrediad rhyngwladol mwyaf posibl. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, ymddangosiad mathau o TB sy’n ymwrthod cyffuriau. Rydym ni hefyd yn gweld, er enghraifft, rai cyflyrau nad yw’r hyn a elwir yn wrthfiotigau cyfle olaf, fel vancomycin, hyd yn oed wedi gallu eu gwella. Felly, ydy, mae'n frwydr gyson rhwng dynoliaeth a microbau, os caf ei roi felly, i sicrhau nad ydym yn dechrau symud tuag yn ôl a chanfod nad oes cyffuriau effeithiol mwyach i drin cyflyrau penodol. Ac, felly, mae cydweithrediad rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr ein bod ni’n aros ar flaen y gad.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0432(FM)

Gwnaf. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal perfformiad da mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys canser, perfformiad ambiwlans, a strôc. Ac, ers cael ei wneud yn destun mesurau arbennig, maen nhw fwy neu lai wedi rhoi terfyn ar amseroedd aros am ddiagnosis o fwy nag wyth wythnos. Ond, nid yw perfformiad mewn rhai meysydd eraill yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur.

Wel, mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet wneud mwy na gwneud ei ddisgwyliadau’n eglur. Mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig, ac eto, yn Ysbyty Glan Clwyd, ar hyn o bryd, 112 wythnos yw’r amser aros arferol am lawdriniaeth orthopedig. Mae hynny'n fwy na phedair gwaith targed y Llywodraeth o 26 wythnos. Pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, o ystyried bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, i roi sylw i’r broblem benodol hon ynglŷn ag amseroedd aros orthopedig, ar draws y gogledd ac, yn Ysbyty Glan Clwyd yn arbennig?

Wel, mae llawfeddyg locwm ychwanegol wedi cael ei benodi yng Nglan Clwyd, i leihau amseroedd aros yn yr ardal hon. Bydd rhywfaint o weithgarwch yn cael ei roi ar gontract allanol i ddarparwyr eraill. Byddwn yn parhau i wella’r timau clinigol cyhyrysgerbydol, gan gynnwys y pwyslais ar ffisiotherapi. Felly, do, penodwyd llawfeddyg ychwanegol, ac rydym ni’n credu—ac yn disgwyl—y bydd y rhestrau aros yn lleihau nawr.

Mae yna gonsýrn yn ardal Bae Colwyn bod yna feddygfa yn cau. Mae yna feddygfeydd eraill o dan bwysau ac mae yna dri o’r meddygfeydd, a dweud y gwir, gyda dim ond un meddyg teulu. Mae hi’n ardal, wrth gwrs, lle mae’r uned mân anafiadau yn Hesketh Road wedi cau ers rhai blynyddoedd. Mae yna boblogaeth hŷn na’r cyfartaledd yn yr ardal honno, ac, wrth gwrs, mae yna gannoedd o dai nawr yn cael eu codi o ganlyniad i’r cynllun datblygu lleol. A fyddech chi’n cytuno â fi bod sefyllfa o’r fath yn anghynaliadwy? Ac, a allwch chi ddweud beth rydych chi’n ei wneud i helpu’r bwrdd iechyd lleol i gwrdd â’r cynnydd sylweddol yn y galw, oherwydd mae’r galw yn mynd lan, ond mae’r ddarpariaeth, wrth gwrs, yn mynd lawr?

Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld enghreifftiau lle mae meddygfeydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau aros ar agor ddim rhagor, ond, wrth gwrs, mae’r bwrdd iechyd wedi hynny yn sefydlu system er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Mae Prestatyn yn enghraifft o hynny, lle mae’r gwasanaeth nawr yn well na beth oedd yna o’r blaen, gyda’r meddygfeydd a oedd yna. Felly, mae profiad gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw, a, hefyd, fod y gwasanaeth yn fwy eang, ac yn well.

Brif Weinidog, darllenais erthygl am gyflwr bwrdd iechyd gogledd Cymru, am lawdriniaethau ar y glun yn benodol, ac roedd yn honni bod rhai cleifion yn y gogledd yn aros dwy flynedd am lawdriniaethau o'r fath. O'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae'n gwbl gywilyddus. Rydym ni’n aros blwyddyn a hanner yn fwy na'r hyn a argymhellir. Nawr, rwyf i fy hun wedi bod yn aros—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—Lywydd.

Mae’n ddrwg iawn gennyf, ond mae hwn yn fater difrifol iawn. Rwyf i fy hun wedi bod yn aros 30 wythnos i rywun edrych ar fy nghlun fy hun. Rwy’n cymryd cyffuriau i leddfu’r boen, y dywedodd fy meddyg, pan wnaeth eu rhoi i mi, ei fod yn dweud ar y bocs, 'Os cymerwch chi’r rhain am fwy na thri diwrnod, byddwch yn mynd yn gaeth iddynt'. Gofynnais i’m meddyg am hynny, a dywedodd, 'Eich dewis yw dioddef y boen neu eu cymryd nhw'. Nawr, gall pobl sy'n aros am lawdriniaethau ar y glun fynd yn ddigalon iawn oherwydd y boen barhaus—rwy'n gwybod hyn fy hun—a gallant fod yn cymryd cyffuriau i leddfu’r boen sy'n arwain at bob math o sgîl-effeithiau. Pam, yng Nghymru—ac yn y gogledd, yn benodol—mae'n rhaid i ni aros hyd at ddwy flynedd am y llawdriniaethau hyn? Nid yw hyn yn ddigon da. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny?

Wel, rwy’n synnu mai dyna'r cyngor y mae’r meddyg teulu wedi ei roi iddo o ran cyffur; cyffur a roddwyd ar bresgripsiwn y dywedir y gall pobl fynd yn gaeth iddo ar ôl tri diwrnod. Hynny yw, os yw hynny'n gywir, yna rwy’n synnu mai dyna'r cyngor a roddwyd iddo gan ei feddyg teulu ei hun.

Ond, i ymdrin â’r mater y mae wedi ei godi, mae'n iawn dweud bod amseroedd aros yn rhy hir mewn rhai rhannau yn y gogledd—rwy’n cyfaddef cymaint â hynny. Ond, er hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes ac fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu, mae camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys, wrth gwrs, cael llawfeddyg ychwanegol yng Nglan Clwyd, a gwneud yn siŵr bod darparwyr eraill ar gael i gleifion cyn gynted â phosibl er mwyn i lawdriniaethau barhau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych lawer gwaith yn y Siambr hon, rydych chi wedi nodi addysg, yn gwbl briodol, fel blaenoriaeth i’ch stiwardiaeth fel Prif Weinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor addysg, rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod nifer yr athrawon yn ein hysgolion wedi gostwng gan dros 1,000 ers 2010. Os yw addysg yn flaenoriaeth i chi, pam ydych chi wedi caniatáu i nifer yr athrawon sy'n addysgu yn ein hysgolion i ostwng gan dros 1,000 rhwng 2010 a 2015?

Cofiwch, wrth gwrs, nad yw tâl ac amodau athrawon wedi eu datganoli ac na fyddan nhw’n cael eu datganoli tan y flwyddyn nesaf, felly mae gan ei blaid ef gyfrifoldeb am ariannu’r mater penodol hwnnw. Bydd rhai ysgolion, wrth gwrs, lle y mae niferoedd wedi gostwng ac, o ganlyniad, mae aelodau staff addysgu wedi gostwng. Ond rydym ni’n edrych ymlaen nawr, y flwyddyn nesaf, at weithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu pecyn telerau ac amodau cwbl gynhwysfawr i wneud yn siŵr bod addysgu yn parhau i fod yn ddeniadol.

Mae bob amser yn fai ar rywun arall yn eich tyb chi, Brif Weinidog, onid yw? A bod yn deg, mae nifer y disgyblion yn ein hysgolion wedi aros yn gymharol sefydlog, ac eto rydym ni wedi gweld mwy na 1,000 o athrawon yn diflannu o'r ystafelloedd dosbarth, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn ystod eich cyfnod chi.

Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf hefyd oedd bod y bwlch ariannu rhwng yr hyn a ariennir yn Lloegr wedi ymestyn o £31 y disgybl yn 2001 i £607 yn 2015. Felly, nid yn unig yr ydym ni’n cael llai o athrawon yn yr ystafell ddosbarth, ond mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod llai o arian ar gael i’r athrawon hynny ei ddefnyddio i addysgu disgyblion Cymru. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â chau'r bwlch hwnnw pan ddaw at gyllid?

Mae’n tynnu fy nghoes, does bosib? Mae ef yn cynrychioli plaid a oedd eisiau torri gwariant ar addysg yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf. Roedd eisiau torri 12 y cant ar y gwariant ar addysg a chymryd arian oddi wrth ysgolion. Pe byddai ef wedi bod yn fy swydd i nawr, byddai ysgolion wedi colli cyllid, byddai gennym ni lai o athrawon a llai o lwyddiannau yn ein hysgolion. Rydym ni wedi cadw ein haddewidion ar ariannu ysgolion; rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod ysgolion wedi cael eu hariannu'n briodol; rydym ni wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau TGAU; rydym ni’n gweld gwelliant yng nghanlyniadau Safon Uwch; gwelsom y canlyniadau categoreiddio o’r wythnos diwethaf, lle’r oedd ysgolion wedi gwella; rydym ni wedi darparu arian i helpu’r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig; rydym ni wedi helpu’r ysgolion hynny, yn ariannol, nad ydyn nhw’n perfformio fel y dylen nhw, i ddechrau gwella. Mae gennym ni hanes da o ran addysg ac nid y toriadau y byddai ef yn eu cynnig.

Wel, yn amlwg, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd, oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw gynigion ar gyfer toriadau ym maes addysg yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Yn rhyfedd braidd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers y Nadolig yw canlyniadau’r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr; rydym ni wedi cael yr adroddiad Estyn sydd wedi dangos yn eglur bod addysg, yn ystod eich cyfnod chi, naill ai wedi gwaethygu neu wedi aros yn ei unfan. Mae hynny’n ffaith—adroddiad Estyn a chanlyniadau PISA yw hynny, Brif Weinidog. Mae hynny'n ffaith, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf yn cyfeirio’n eglur at lai o athrawon a llai o arian ar gael mewn ysgolion yma yng Nghymru.

Felly, y broblem sydd gennych chi yn awr, o ran y newyddion, heddiw, yw bod y broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd hefyd yn peri problemau pan ddaw at arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol, yn ogystal â’r ffaith nad yw ysgolion arloesi yn gwybod yn union i ba gyfeiriad y maen nhw'n mynd o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Sut allwch chi roi unrhyw sicrwydd eich bod chi’n mynd i gywiro camgymeriadau eich tymor cyntaf yn y swydd, fel y gall disgyblion, athrawon a rhieni weld gwelliant gwirioneddol mewn ysgolion? Neu a ydym ni’n mynd i fod ar y daith ddirgel y dywedodd Gweinidog addysg yr Alban, John Swinney, y mae eu system nhw’n mynd arni ar hyn o bryd? A ydych chi’n barod i ganiatáu i ysgolion Cymru fynd ar daith ddirgel, Brif Weinidog?

Nid oes gennyf unrhyw syniad beth mae'n ei olygu wrth ddweud hynny. Os hoffai unrhyw un esbonio hynny i gyd, yna dyna ni. Nid wyf am adael iddo ddianc yn groeniach ar hyn, iawn? Mae wedi ymladd etholiadau ar sail toriad o 12 y cant i gyllid addysg. Mae hynny'n ffaith. Mae hynny'n ffaith. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad yn 2011 pan aeth ei arweinydd ar deledu byw—teledu byw—a dweud bod angen i ni dorri 20 y cant ar addysg. Mae'n wir, mae tystiolaeth; nid y ffeithiau gwahanol y mae ef eisiau eu cyflwyno. A beth ydym ni’n ei weld? Rydym ni’n gweld rhaglen adeiladau ysgol—ysgolion newydd yn agor ledled Cymru. Bydd yr Aelodau yn gweld ble maen nhw. Pe byddai ef wedi bod wrth y llyw, ni fyddai dim wedi cael ei adeiladu, gan na fyddai rhaglen adeiladau ysgol, gan fod ei blaid ef wedi torri'r rhaglen adeiladau ysgol yn Lloegr. Ni fyddem wedi gweld y gwelliant mewn ysgolion o ran categoreiddio; ni fyddem wedi gweld y grant amddifadedd disgyblion; ni fyddem wedi gweld yr arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn i Her Ysgolion Cymru; ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran TGAU ac ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran Safon Uwch. Na. Mae'n iawn dweud, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai addysg yng Nghymru wedi cael ei thaflu i'r bin sbwriel.

Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n gefnogwr brwd o bolisi Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwy'n edmygu’n fawr y Gweinidog dysgu gydol oes, sy'n dod â'i sgiliau diplomyddol ac arweinyddiaeth chwedlonol i gyflawni’r amcan hwnnw. Yn benodol, rwy’n cymeradwyo’r egwyddor sylfaenol o oddefgarwch a pharch, i siaradwyr Saesneg ac i siaradwyr Cymraeg, y mae wedi ei gyfrannu at ddatblygiad y polisi hwn, yr wyf yn credu sydd wedi ei gwneud yn bosibl ei werthu y tu hwnt i ardaloedd lle y gallai fod wedi ei werthu fel arall.

A yw'r Prif Weinidog yn credu bod llwyddiant y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi mewn perygl gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a reolir gan Blaid Cymru, sy'n gorfodi ysgol Gymraeg ar bobl yn Llangennech ger Llanelli, yn erbyn dymuniadau llethol y rhan fwyaf o rieni yn y pentref hwnnw?

Wel, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud asesiad o ran yr hyn y maen nhw’n ei ystyried yw’r ateb cywir i unrhyw ardal benodol o fewn eu ffiniau sirol.

Wel, mae'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dweud y dylai Cymru fod yn wlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y naill neu’r llall, neu'r ddwy, Cymraeg neu Saesneg, ac rwy'n credu bod hynny'n amcan rhesymol iawn. Yma rydym ni wedi cael proses ymgynghori yn Llangennech, 18 mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, lle y mae pump o bobl wedi gwrthwynebu'r cynnig ar gyfer pob un o blaid, a bu 757—sy’n nifer enfawr mewn pentref bach—o ymatebion yn erbyn y cynnig hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Nid ymgynghoriad yw hwn, ond 'dimgynghoriad'.

A yw'n cytuno â Michaela Beddows, sy'n arwain y bobl sydd yn erbyn y cynnig hwn, pan fo’n dweud bod 'Cymraeg drwy orfodaeth yn magu dicter'?

Fel y dywedais, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Fel Llywodraeth, rydym ni’n gefnogol o'r Gymraeg, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld cynnydd i addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o blant yn cymryd rhan ynddi. Ond, yn y pen draw, mater i Gyngor Sir Caerfyrddin yw cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud, o ystyried yr etholiadau sydd i ddod ym mis Mai, wrth gwrs.

Rwy’n cytuno mai dyna'r sefyllfa gyfansoddiadol, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru—oherwydd polisi Llywodraeth Cymru yw hwn i wella cyflwr y Gymraeg yng Nghymru, a sicrhau bod ei hapêl a’i chyrhaeddiad mor fawr â phosibl—gael dylanwad perswadiol yma. Ceir ateb ymarferol i'r broblem hon, gan fod tair ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanelli ar hyn o bryd sydd â 170 o leoedd dros ben, mae 120 o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg o’r tu allan i'r ardal yn dod i mewn i'r ysgol yn Llangennech ar hyn o bryd, ac mae 81 o ddisgyblion cyfrwng Saesneg yn cael eu symud allan o'r ysgol yn Llangennech. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael ateb ymarferol ar lawr gwlad sy'n bodloni'r ddwy ochr. Gellir gwneud hynny heb beryglu derbynioldeb yr hyn sydd, fel arall, rwy’n meddwl, yn bolisi ardderchog sy'n dangos y ffordd i’r Gymraeg.

Wel, mae'r rhain yn faterion y byddwn wedi disgwyl i Gyngor Sir Caerfyrddin eu hystyried wrth wneud y penderfyniad a wnaeth. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, fod unrhyw awdurdod lleol yn ystyried barn y rhai sy'n byw yn lleol, gan bwyso a mesur, wrth gwrs, yr anogaeth yr ydym ni’n ei rhoi fel Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. Ond, yn y pen draw, mae’n fater i'r cyngor benderfynu arno ac, wrth gwrs, ei esbonio.

Diolch. Rwy'n siŵr y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth gennych chi, Brif Weinidog, wrth ystyried y Gymraeg, ond hoffwn droi at fater o wahaniaethau incwm. [Torri ar draws.] Brif Weinidog, wrth ystyried gwahaniaethau rhwng incwm rhanbarthau—.

Diolch, Lywydd. Pan ddaw i wahaniaethau rhwng incwm ei rhanbarthau a’i gwledydd, mae'r DU yn un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn Ewrop, ac mae Cymru yn dioddef o’r anghydbwysedd hwn hefyd. Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, mae angen swyddi sector cyhoeddus sydd o ansawdd da yn ein trefi marchnad a’n trefi ôl-ddiwydiannol. Mae Cyllid a Thollau EM, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r ganolfan waith yn symud swyddi o drefi sy'n dioddef o gyflogau isel, fel Porthmadog, Llanelli, a Phorth yn y Rhondda, ac mae swyddi yn cael eu symud i fannau mwy canolog. Nid dim ond adrannau Llywodraeth y DU sy’n gwneud hyn; mae ymgynghoriad ar symud swyddi’r gwasanaeth ambiwlans o Sir Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr. A ydych chi’n cydnabod yr agenda ganoli hon, ac a ydych chi’n pryderu am swyddi a gwasanaethau yn cael eu symud allan o gymunedau i nifer lai o leoliadau?

Ydw, ac rwy’n gresynu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM ym Mhorthmadog a lleoliadau eraill, gan gynnwys fy nhref fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Yn yr un modd, yn sicr, rwy'n pryderu am fanciau masnachol yn gadael nifer o'n cymunedau, a'r angen i sicrhau, er enghraifft, y gall swyddfa’r post wedyn gynnig yr un mathau o wasanaethau y mae'r banc yn eu cynnig. Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar bresenoldeb y swyddfeydd post hefyd, a dyna pam, wrth gwrs, yr oedd gennym ni’r gronfa datblygu swyddfeydd post ar waith a helpodd gymaint o gymunedau i gadw'r gwasanaeth hwnnw.

Rwy’n rhannu eich pryder am y swyddfeydd post a’r banciau, a cheir pryder gwirioneddol ynghylch hyfywedd canol rhai o'n trefi os bydd yr agenda hon yn parhau. Gwyddom beth yw agenda Llywodraeth y DU, ond, Brif Weinidog, mae gennych chi ysgogwyr hefyd i wrthsefyll hyn trwy Awdurdod Refeniw Cymru. Byddai Plaid Cymru yn cytuno bod ystâd ddiwydiannol Trefforest yn lleoliad gwell na Chaerdydd, ond mae’r penderfyniad hwnnw yn golygu bod Porthmadog a Wrecsam yn teimlo y gwnaed tro gwael iawn â nhw, ac mae angen cynnig arall arnyn nhw yn awr. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i gefnogi presenoldeb sector cyhoeddus Cymru yn y gogledd-orllewin a hefyd yn Wrecsam? Rydych chi wedi dweud y bydd gan Awdurdod Refeniw Cymru bresenoldeb yn Aberystwyth a Llandudno; faint o swyddi mae 'presenoldeb' yn ei gynrychioli? Ac o ran y targedau sydd gennych chi ar gyfer dosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru ledled y wlad, a ydych chi ar y trywydd iawn i fodloni’r targedau hynny?

O ran nifer y swyddi, 40 fydd cyfanswm y swyddi yn Awdurdod Refeniw Cymru. Bydd rhai pobl a fydd yn gallu gweithio gartref. Edrychais yn ofalus dros ben ar ble y gellid lleoli’r Awdurdod, a chomisiynwyd adroddiad i'r perwyl hwnnw, a dylai’r Aelodau wybod y rhoddwyd yr adroddiad hwnnw, rwy’n credu, yn y Llyfrgell ddydd Gwener. Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru ar hyn o bryd yn sgiliau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru i unrhyw raddau helaeth. Nid ydyn nhw yr un sgiliau â’r rhai sydd gan bobl ym Mhorthmadog. Mae'n rhaid i ni recriwtio o'r tu allan i Gymru, ar y cyfan, er mwyn i’r sgiliau hynny fod ar gael i ni pan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn dechrau ym mis Ebrill. Gwnaed yn eglur iawn i mi mai dod â phobl i Gaerdydd i weithio oedd y dewis hawddaf o ran recriwtio pobl, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu yn y dyfodol na all y corff ailystyried lle y gallai fynd. Ond, ar hyn o bryd, yn sicr, bydd y corff yn mynd i Drefforest, a dyna oedd y cyngor cryf—hwnnw oedd y lleoliad mwyaf ffafriol o bell ffordd o ran gallu denu'r bobl â sgiliau arbenigol, y mae llawer ohonynt yn Llundain ar hyn o bryd.

Brif Weinidog, os oes prinder sgiliau yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi yw hynny. Chi sy'n gyfrifol am sgiliau pobl yn y wlad hon.

Fodd bynnag, hoffwn symud ymlaen at drafnidiaeth yn awr. Flwyddyn yn ôl, cyflwynwyd cynllun gennych ar gyfer metro gogledd Cymru, ac ni lwyddodd y cynllun hwnnw i gynnwys Gwynedd, Conwy nac Ynys Môn, er ei fod yn cynnwys Swydd Gaer, Lerpwl a Manceinion. Mae'r mapiau yn dangos bod llawer o'r llwybrau yn llwybrau rheilffyrdd a bysiau presennol, a dyfynnwyd eich ysgrifennydd economi gan y BBC yn dweud y byddai £50 miliwn ar gael ar gyfer hyn. A ydych chi wir yn credu bod £50 miliwn yn ddigon i ddarparu metro mewn gwirionedd? A wnewch chi ymrwymo heddiw i’r ffaith y bydd y ddwy system fetro sy'n cael eu cynllunio yng Nghymru yn cychwyn yn y mannau sydd bellaf i ffwrdd o'r trefi a'r dinasoedd poblog, fel y gall y bobl hynny sy'n teimlo’n bell o'r sefydliad hwn, o’r canolfannau a'r ffyrdd prifwythiennol, weld rhywfaint o fudd cynnar o’r buddsoddiad hwn mewn trafnidiaeth?

Yn gyntaf oll, bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn weithredol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae angen pobl arno’n gyflym; nid yw'n bosibl hyfforddi pobl yn y sgiliau arbenigol yn yr amser sydd ar gael, a dyna oedd y—

A dyna oedd y farn a gymerwyd gennym. Nid yw’n bosibl hyfforddi’n sydyn a chael cronfa o bobl fedrus mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae'r bobl hynny yn Llundain, ar y cyfan, ar hyn o bryd; maen nhw’n arbenigwyr, ac rydym ni’n ceisio eu recriwtio. Nid yw'r sgiliau hyn yn bodoli, ar y cyfan, yng Nghymru.

O ran trafnidiaeth, ein syniad ni oedd y metro. Wrth gwrs ein bod ni eisiau ei hyrwyddo. Ein syniad ni oedd metro gogledd-ddwyrain Cymru, soniwyd am fetro de Cymru am y tro cyntaf gennyf i yng nghlwb rygbi Bedwas yn 2008, o bob man, ac rydym ni’n gweld datblygiad o ran hynny. Mae'r gwaith datblygu ar fetro gogledd-ddwyrain Cymru yn symud ymlaen ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni wedi galw’n ddi-baid am drydaneiddio prif reilffordd y gogledd cyn belled â Chaergybi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau gweld Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth i ni ystyried metro gogledd-ddwyrain Cymru, y gall, ymhen amser, geisio ehangu i’r gorllewin wedyn. Nid yw’r rhain yn systemau metro sydd wedi'u cynllunio i fod yn hunangynhaliol; maen nhw’n systemau sydd wedi eu cynllunio i gael eu hymestyn yn y dyfodol.

Ffyniant Economaidd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu ffyniant economaidd ar draws Cymru? OAQ(5)0428(FM)[W]

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiadau i sicrhau cymunedau cadarn a ffyniant i bawb. Bydd ffyniant economaidd yn sail i bedair strategaeth drawsbynciol a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Fel yr ydym ni wedi ei glywed, fe gafwyd cyhoeddiad mai i Drefforest y bydd pencadlys Awdurdod Refeniw Cymru yn mynd. Ar ôl gweld yr arfarniad yr oeddech chi’n sôn amdano fo ar sut y dewiswyd y lleoliad, roedd y meini prawf yn ei gwneud hi’n gwbl amhosibl i unrhyw beth ddod i’r gogledd, nac i unrhyw le y tu hwnt i gyrraedd hawdd i Gaerdydd. Roedden nhw’n ymwneud â sgiliau—un ohonyn nhw—ond yr oedd dau yn ymwneud â bod yn agos at randdeiliaid ac yn agos at gwsmeriaid. Nid oedd Caernarfon na Phorthmadog ar y rhestr o’r chwe lleoliad a oedd yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth, er gwaethaf beth ddywedoch chi wrthym ni yn fan hyn ar 10 Ionawr. A wnewch chi roi sylw manwl i’r angen am feini prawf newydd wrth ystyried lleoli swyddi—meini prawf a fydd yn caniatáu gwasgaru twf ar draws Cymru? Fel arall, geiriau gwag iawn ydy’r rhai diweddar gan y Blaid Lafur yn fan hyn ac yn San Steffan gan eich Canghellor cysgodol, John McDonnell.

Mae’n rhaid i ni gofio realiti fan hyn ac mae’n bwysig dros ben i sylweddoli fod yn rhaid i ni sicrhau ei bod hi’n ddigon hawdd i gael yr arbenigedd sydd ei eisiau arnom ni. Rŷm ni’n gwybod ei bod hi’n rhwyddach i wneud hynny mewn rhai rhannau o Gymru nac eraill. Nid yw hynny’n meddwl, wrth gwrs, nad oes rôl na rhan i’r gogledd, na hefyd i’r canolbarth, a dyna pam rŷm ni’n moyn sicrhau bod yna swyddfeydd fanna hefyd er mwyn rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid. Ond, rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain ac felly mae’n rhaid i ni sylweddoli taw swyddi gwahanol ydyn nhw i’r swyddi a gafodd eu creu ym Mhorthmadog. Ond, byddwn i’n moyn gweld mewn amser, wrth gwrs, gyfleon i bobl mewn trefi fel Porthmadog i ddod yn rhan o’r awdurdod yn y pen draw pan fydd yr awdurdod yn tyfu.

Brif Weinidog, ddoe, dechreuodd Ysgrifennydd yr economi wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gyda'r newyddion rhagorol bod y BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yn y DU ar un safle yng Nghrymlyn, yn fy etholaeth i, ym Mharc Technoleg Border. Mae hyn, i raddau helaeth, o ganlyniad i grant gan Lywodraeth Cymru o £1.8 miliwn, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn arwain at y gyflogaeth BBI hon yng Nghymru yn cynyddu—yn dyblu bron—erbyn 2020, a bydd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol ardderchog ac o ansawdd yn rhanbarth cymoedd de Cymru, gan feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned academaidd wyddonol, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Brif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dosbarthu ffyniant economaidd ledled Cymru? A phryd all y Prif Weinidog ddod i Islwyn nesaf i ddathlu'r newyddion gwych hyn?

Wel, rwy'n siŵr y byddaf yn ymweld ag Islwyn yn fuan, ond mae cyhoeddiad BBI yn arwydd o'r gwaith caled a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled y wlad i'w helpu i gadw ac i ehangu eu gweithrediadau yma. Roeddwn i’n falch iawn bod buddsoddiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i nifer y gweithwyr BBI Group yng Nghymru dyfu, yn enwedig gan y bydd y rhain yn swyddi rheoli, yn swyddi gwyddonol ac yn swyddi technegol o ansawdd. Yn ogystal â hynny, roedd yn bleser i mi gael treulio amser yn y gogledd bythefnos yn ôl i weld rhai o'r prosiectau ardderchog sydd wedi eu datblygu yno hefyd, o ran creu swyddi ym meysydd twristiaeth ac addysg.

Brif Weinidog, nod strategaeth ddiwydiannol y DU yw cau’r bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol. Yma, yng Nghymru, mae cynhyrchiant rhanbarthol yn amrywio'n fawr, gydag Ynys Môn â 53 y cant o werth ychwanegol gros y DU, o’i gymharu â 90 y cant yng Nghaerdydd. Mae eich Llywodraeth wedi datgan yn y gorffennol fod amrywiadau yn lefelau gwerth ychwanegol gros y pen yn cael eu heffeithio gan batrymau cymudo. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £80 miliwn o gyllid Ewropeaidd at wella ffyrdd Blaenau'r Cymoedd, mae’r canolbarth a’r gogledd wedi dioddef cysylltedd trafnidiaeth gwael yn draddodiadol. Nodaf eithriad, wrth gwrs, ffordd osgoi'r Drenewydd, sy’n gwneud cynnydd da. A gaf i ofyn beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bylchau rhanbarthol hyn o ran ffyniant economaidd a achosir gan seilwaith trafnidiaeth annigonol?

Wel, mae wedi dadlau yn erbyn ei hun braidd trwy ddweud bod diffyg seilwaith pan fo ffordd osgoi'r Drenewydd, yn wir, yn cael ei hadeiladu. Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig. Rydym ni wedi gweld gwelliannau ar yr A470 dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran sythu’r ffordd. Rydym ni wedi gweld hyn yn ddiweddar yn Nolgellau, er enghraifft; a, dros y blynyddoedd, Cross Foxes; Pont-yr-Afanc; ymhellach i'r de yng Nghwmbach Llechryd, gyda'r ffordd osgoi; a Christmas Pitch, fel y’i gelwir, ar y ffordd o Erwyd. Felly, ceir llawer iawn o enghreifftiau lle mae'r A470 wedi cael ei chryfhau. Ac, wrth gwrs, o ran y rhwydwaith rheilffyrdd, rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran gwasanaethau i deithwyr drwy'r etholaeth y mae’n ei chynrychioli, a cheir cyfleoedd pwysig yn y dyfodol, i wella'r gwasanaeth ac i ystyried gorsafoedd newydd o bosibl. Mae Bow Street yn enghraifft o hynny. Felly, rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat.

Datblygu Economaidd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0423(FM)

Rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi busnesau yn eu twf, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, a gwella amodau datblygu economaidd.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i, yr wythnos diwethaf, wedi dod â grŵp o unigolion ynghyd sydd â hanes o gyflawni yng Nghymru wledig i gyflwyno’r achos dros ddatblygu strategaeth datblygu economaidd benodol ar gyfer Cymru wledig. Er bod y model dinas-ranbarth yn fodel a allai weithio i sawl rhan o'r wlad, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad yw o reidrwydd yn fodel sy'n berthnasol na'n briodol i Gymru wledig? A ydych chi’n cytuno bod angen brys i ddatblygu cynllun o'r fath, yn enwedig yn sgil y bleidlais Brexit, gan fod effaith gadael yn debygol o fod yn fwy yng Nghymru wledig nag mewn rhannau eraill o’r wlad? A wnewch chi ymrwymo i gymryd o ddifrif yr awgrymiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y grŵp hwn a’u defnyddio fel sail ar gyfer datblygu strategaeth economaidd gynhwysfawr i Gymru wledig?

Gwnaf, mi wnaf. Wrth gwrs, mae Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhan o ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei weld fel rhaniad trefol a gwledig. Diolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi ei wneud a’r angerdd y mae’n ei ddangos tuag at Gymru wledig. Nid yw’r ddinas-ranbarth yn cyflwyno un ateb i bawb. Bydd angen defnyddio olion traed eraill yn y dyfodol i ddatblygu economïau Cymru wledig, ond mae'n iawn i ddweud bod heriau yn bodoli. Y tu hwnt i 2020, byddwn yn gweld £260 miliwn yn diflannu, ar hyn o bryd, o economi Cymru wrth i gymorthdaliadau ffermio ddiflannu. Nid oes sicrwydd yn hynny o beth felly, ie, nawr yw’r amser yn sicr i ddechrau cynllunio ar gyfer economi wledig yng Nghymru a fydd yn colli symiau sylweddol o arian oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfrifoldeb ac yn gwneud yn siŵr bod yr arian ar gael.

Brif Weinidog, un o elfennau allweddol cynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru oedd y parthau menter, gan gynnwys, wrth gwrs, creu parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn fy etholaeth i. Yn sgil y ffaith fod parthau menter yn allweddol i’ch cynlluniau datblygu, a allwch chi felly roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, gan gynnwys y cynnydd a wnaed tuag at ganolfan sgiliau rhagoriaeth ar gyfer y sectorau ynni, peirianneg a morol, a hefyd y cyfleoedd datblygu a nodwyd gan eich Llywodraeth chi yn benodol ar gyfer y parth menter, fel canolbwyntio nid yn unig ar ynni ond ar dwristiaeth hefyd?

Wel, mae 65 o fusnesau wedi cael lles. Maen nhw wedi cael mwy na £2 filiwn mewn cefnogaeth ariannol ynglŷn â’r cynllun lleihau trethi busnes. Mae yna grŵp wedi cael ei sefydlu yn y parth menter ei hunan sydd â rhaglen o waith i gefnogi busnesau i ennill cytundebau newydd. Rŷm ni wedi gweld buddsoddiadau yn y parth hefyd, fel Consort Equipment Products, sydd wedi buddsoddi £1 miliwn yn Aberdaugleddau ei hunan. Ac, wrth gwrs, rŷm ni wedi gweld bod Valero ym Mhenfro nawr wedi dodi cais cynllunio i mewn i adeiladu lle newydd i greu ynni werth £100 miliwn ym Mhenfro. So, mae lot fawr o bethau wedi digwydd yn y parth menter lan i nawr.

Roedd incwm y pen Cymru yn 2014 yn 70.5 y cant o gyfartaledd y DU, yr isaf a gofnodwyd erioed ers i gofnodion ddechrau ym 1954 ar gyfer Cymru—yn wir, yr isaf erioed ar gyfer unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. Cynyddodd yn ôl i 71 y cant yn 2015, ond roedd hwnnw’n un o'r ffigurau isaf erioed hefyd. A yw’r Prif Weinidog yn barod i ymrwymo Llywodraeth Cymru na fyddwn yn gweld y ffigur incwm y pen hwn yn gostwng hyd yn oed ymhellach, ond, os gwnaiff, ar ôl wyth mlynedd fel Prif Weinidog, a fyddai'n barod i gymryd cyfrifoldeb personol?

Cofiwch, wrth gwrs, mai ei blaid ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd am bedair blynedd, felly nid yw fel pe na bai gan ei blaid ef unrhyw swyddogaeth yn hyn. Gwelsom CMC yn gostwng bryd hynny, ac mae'n dangos—[Torri ar draws.] Mae'n dangos—[Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwybod; mae’n hawdd anghofio hynny, onid yw, ond dyna ni. Mae'n dangos yr heriau sy'n bodoli o ran codi CMC. Yr allwedd i’r cwbl, i mi, yw sgiliau. Po fwyaf y sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf y gallan nhw ei ennill, yr uchaf y mae eu CMC yn ei gyrraedd. Rydym ni wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni. Fel y dywedais, cyflogaeth 4.1 y cant—is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon— y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd, a CMC yw’r her yn awr. Nid yw diweithdra yn gymaint o broblem â CMC. Mae'n mynd i'r cyfeiriad iawn, a byddwn yn parhau i arfogi ein pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu cynhyrchiant, mae cymaint â hynny’n wir, ond hefyd, wrth gwrs, i gynyddu CMC y pen hefyd.

Gwasanaethau Deintyddol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0441(FM)[W]

Wel, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio tuag at wella’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol ac mae cynnydd wedi cael ei weld. Mae tua 30,000 o gleifion ychwanegol yn defnyddio gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Mae’n bosibl y byddwch chi’n gwybod, Brif Weinidog, mai’r prif reswm y mae plant yn ymweld ag unedau brys y dyddiau yma yw oherwydd pydredd dannedd, ac felly mae’n gwbl allweddol bod gofal deintyddol da yn cael ei ddarparu ar eu cyfer nhw mewn oedran ifanc. Ond, wedi dweud hynny, mae plant ysgolion o ardal y Bala i gyrion Wrecsam wedi colli’r defnydd o ddeintydd symudol a oedd yn dod i’r ysgolion i ymweld â nhw oherwydd nad oedd dim arian yn y gyllideb i brynu cerbyd newydd. Nawr, mae yna gerbyd arall, mae’n debyg, ond mae hwnnw ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel deintyddfa barhaol ym Mhwllheli oherwydd diffyg deintyddion yn y fan yna. Mae’r gwasanaeth penodol yna wedi gweld 4,000 o blant yn y flwyddyn ddiwethaf, a 500 o’r rheini ag angen triniaeth bellach. A ydych chi yn cytuno â fi fod colli’r gwasanaeth yna yn gwbl annerbyniol, a beth ŷch chi’n ei wneud i sicrhau ei fod e ar gael yn y dyfodol?

Wel, rhywbeth dros dro yw hwn. Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw. Maen nhw yn edrych ar unedau ‘mobile’ o ardaloedd eraill er mwyn sicrhau hynny, ac maen nhw yn ystyried cyfleon ynglŷn â chyllido uned ‘mobile’ newydd er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd. Yn y cyfamser, mae yna ofal ar gael yng Nghorwen a Dolgellau, ond rhywbeth dros dro yw hwn, a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau yn y pen draw.

Nid yw tua 40 y cant o blant yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd o hyd. Mae traean o blant sy’n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn dangos arwyddion o bydredd dannedd, a dyma’r un rheswm mwyaf cyffredin pam mae’n rhaid i blant rhwng pump a naw oed gael eu derbyn i'r ysbyty. O gofio bod yr uned ddeintyddol symudol hon yn y gogledd wedi dod i ben fis Medi diwethaf, ac mai dim ond nawr y mae'r bwrdd iechyd yn hysbysu am ei gais am arian i brynu cerbyd newydd a’i fwriad i adleoli adnoddau deintyddiaeth symudol eraill i ddarparu cymorth yn yr ardal, onid yw braidd yn hwyr, chwe mis yn ddiweddarach, ac oni ddylid bod wedi ymdrin â hyn fel blaenoriaeth? Ac, os ydych chi’n cytuno â hynny, a wnaiff eich cydweithwyr fynd ar y ffôn â'r bwrdd iechyd a sicrhau, gyda’ch partneriaeth, fod hyn yn cael ei drin fel blaenoriaeth?

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Fel y dywedais, mae darpariaethau amgen ar waith, er mai’r bwriad yw ailgychwyn y gwasanaeth. Gallaf ddweud, fodd bynnag, oherwydd y Cynllun Gwên, fod yr arolwg deintyddol diweddaraf yn 2014-15 o blant pum mlwydd oed, yn dangos gostyngiad o 6 y cant yng nghyfran y plant sydd â phrofiad o bydredd dannedd yng Nghymru o'i gymharu â'r arolwg blaenorol, a gynhaliwyd yn 2011-12. A, dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad o 12 y cant yng nghyfran y plant ag o leiaf un dant sydd wedi ei effeithio gan bydredd, ac mae hynny'n enghraifft o lwyddiant y Cynllun Oes.

Mynediad i Bobl Anabl mewn Gorsafoedd Trenau

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran mynediad i bobl anabl mewn gorsafoedd trenau ledled Cymru? OAQ(5)0437(FM)

Mae mynediad i bawb yn rhan annatod o’n gwaith ym maes trafnidiaeth gyhoeddus. Rŷm ni’n monitro pa mor fodlon yw teithwyr â gwahanol orsafoedd drwy ddefnyddio gwaith ymchwil gan Transport Focus ac, wrth gwrs, ar ôl hynny, i weld pa fath o rwystrau a ddylai gael eu symud er mwyn sicrhau nad oes yna ddim rhwystrau mewn gorsafoedd i bobl sydd eisiau eu defnyddio nhw.

Diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Ymhellach i hynny, dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi derbyn nifer o gwynion ynglŷn â gallu pobl anabl i ddefnyddio sawl gorsaf drenau, yn cynnwys Cwmbrân, y Fenni, a Phont-y-pŵl. Nawr, wrth gydnabod bod, yn naturiol, gorsafoedd trenau heb eu datganoli ar y foment, beth ydych chi’n ei wneud, felly, fel Llywodraeth i sicrhau bod gorsafoedd ar draws Cymru yn cyrraedd y safonau priodol?

Yn hollol gytûn â hynny. Mae yna 245 o orsafoedd o dan y ‘franchise’ yng Nghymru a Lloegr. Dim ond chwarter o’r rheini sy’n cael eu staffio ar hyn o bryd. Rŷm ni yn erfyn gwelliannau sylweddol i gael eu gwneud ynglŷn â mynediad i orsafoedd yn ystod tymor y ‘franchise’ nesaf.

Brif Weinidog, roedd gan Bort Talbot orsaf â mynediad ofnadwy i bobl anabl ac, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o ymgyrchu, yn enwedig gan fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, dyrannwyd y grant gwella gorsafoedd i sicrhau bod gorsaf Port Talbot yn cael ei huwchraddio, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n croesawu'r newidiadau yr ydym ni’n eu gweld ym Mhort Talbot yn awr o ran mynediad i'r anabl a chyfleusterau i bobl anabl yn yr orsaf. Fodd bynnag, tynnwyd y sglein braidd oddi ar hyn, efallai oherwydd y cyflwr a’r lloriau a’r baw yr ydym ni’n ei weld yn awr o ganlyniad i ddiffyg penderfyniad o bosibl rhwng Network Rail a Threnau Arriva ynghylch pwy sy'n rhedeg yr orsaf. A wnewch chi ddysgu gwersi o'r datblygiad hwn er mwyn sicrhau bod mynediad i bobl anabl ar gael, a’i fod yn mynd i barhau i fod yn fynediad da, yn fynediad glân, i bawb? A wnewch chi hefyd ystyried y cyfleoedd a gafwyd mewn canolfannau trafnidiaeth yn ymwneud â gorsafoedd rheilffordd, fel na fydd mynediad i bobl anabl yn yr orsaf ei hun yn unig, ond hefyd o ran cyrraedd yr orsaf ac, o’r fan honno, mynd i mewn i'r orsaf?

Wel, mae canolfannau trafnidiaeth yn hynod bwysig o ran cyflenwi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod mor hygyrch ag y—wel, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hygyrch, a dyna ni. Rydym ni’n ymwybodol o broblemau yn ymwneud â glendid yn yr orsaf. Mae trefniadau'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb diogelwch a threfn lanhau newydd tan ddiwedd y fasnachfraint ym mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac ar ôl y dyddiad hwnnw bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu gan y cwmni trenau.

Brif Weinidog, soniodd Dai Lloyd yn ei gwestiwn agoriadol am y problemau i bobl ag anableddau yng ngorsaf y Fenni. Os caf ganolbwyntio ar y rheini, efallai y byddwch yn ymwybodol o waith un o’m hetholwyr, yr ymgyrchydd dros hawliau mynediad i bobl anabl, Dan Biddle, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn fy ardal i a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwella mynediad i bobl anabl. Er eich bod yn iawn i ddweud, ac roedd Dai Lloyd yn iawn i nodi, bod agwedd fawr ar hyn nad yw wedi ei datganoli, wrth gwrs mae rheolaeth gorsaf y Fenni yn rhan o gylch gwaith Trenau Arriva a’r fasnachfraint honno. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, wrth i’r dyddiad masnachfraint newydd hwnnw, 2018 rwy’n credu yw hwnnw, brysur agosáu, fod materion anabledd wir yn ganolog i hyn oll fel y gellir, hyd yn oed os na ellir eu datrys yn llawn pan fydd y fasnachfraint newydd yn dechrau, rhoi pwyslais newydd ar hynny fel bod pobl anabl yn fy ardal i yn y Fenni a ledled Cymru yn cael y mynediad y maen nhw’n ei haeddu i orsafoedd?

Wel gan y byddwn ni bellach yn rheoli’r fasnachfraint yn llawn, mae'r cyfle yno i wneud yn siŵr bod ein gorsafoedd wedyn yn hygyrch. Mae'n hynod bwysig bod y materion hynny yn cael sylw, yn sicr, yn rhan o drefniadau’r fasnachfraint nesaf, i wneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio trenau yn y dyfodol.

Cawsom ymweliad â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf gan Whizz-Kidz, grŵp o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a oedd â chwynion ailadroddus nad oedd aelodau staff trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â phobl anabl. Yn anffodus roedd hyn yn wir am aelodau staff rheilffyrdd, gyrwyr bysiau, a gyrwyr tacsis. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod aelodau staff trafnidiaeth yn cael eu hyfforddi'n briodol yn hyn o beth?

Wel, mater i'r gweithredwyr, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â'r gyfraith. Rwyf wedi gweld aelodau staff, yn sicr yn fy ngorsaf fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynorthwyo pobl sydd angen cymorth yn fedrus iawn, ac yn sicr nid wyf wedi clywed dim byd ond canmoliaeth i aelodau’r staff yno. O ran gwasanaethau bysiau, mae'n anghyson. Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl y cyngor ym Mhen-y-bont yn gosod cyrbiau uwch ym mhob safle bws dim ond i’r cwmni bysiau gyflwyno bysiau nad oedden nhw’n gostwng. Roedden nhw, i bob pwrpas, yn goetsys a oedd yn cynnwys sedd y gellid ei gostwng i’r ddaear—yn aml iawn nid oedd y sedd honno’n gweithio. Mae honno'n enghraifft dda o gwmni trafnidiaeth ddim yn ystyried anghenion ei gwsmeriaid. Ond, yn sicr, mae'n hynod bwysig bod cwmnïau trafnidiaeth yn cydymffurfio â'r gyfraith bresennol, er mwyn gwneud yn siŵr bod mynediad ar gael i bawb.

Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-radd

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid i fyfyrwyr ôl-radd yng Nghymru? OAQ(5)0434(FM)[W]

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cadarnhau’r wythnos hon y bydd benthyciadau ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gwrs Meistr ôl-radd ym mlwyddyn academaidd 2017-18.

Diolch am yr ateb yna. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ar ôl eitem ar newyddion ITV Cymru ychydig o ddyddiau yn ôl, am hanes Emma Stenson o’m hetholaeth i sydd wedi troi at ‘crowdfunding’ i drio helpu talu’i ffordd trwy gwrs ôl-radd i fod yn gynorthwyydd meddygol, neu ‘physician associate’, ym Mangor. Mae gan Emma radd dosbarth cyntaf mewn gwyddorau meddygol, ond mae’n cael trafferth fforddio’r cwrs oherwydd y diffyg gallu iddi hi a myfyrwyr eraill tebyg i gael benthyciad ôl-radd yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth iechyd angen Emma, ac felly mae myfyrwyr fel Emma angen y cymorth yna rŵan. Yn ogystal â’r addewid ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs rydym ni’n ddiolchgar am hynny, pa fodd sydd yna i edrych ar fyfyrwyr sydd mewn perig o ollwng allan o gyrsiau rŵan mewn maes lle rydym ni’n wirioneddol angen eu galluoedd nhw?

Wel, wrth gwrs, os yw’r cwrs yn dechrau yn yr hydref eleni, felly, bydd y cymorth ar gael i rywun fel yna. Fe fyddai wedi cael, wrth gwrs, lles lot yn llai na myfyrwyr o Loegr, ynglŷn â’r cwrs y byddai wedi’i wneud o’r blaen. Ond, wrth gwrs, un o’r pethau roedd rhaid inni ei ddatrys oedd sicrhau bod mwy o arian ar gael i’r rheini sy’n dod mas o’r prifysgolion, y graddedigion ôl-radd, er mwyn sicrhau bod yna gymorth ar gael iddyn nhw’n ariannol. Dyna beth yn gwmws sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref.

Safonau Bwyd

8. Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU na ddefnyddir y ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i wanhau safonau bwyd, a gaiff eu gwarantu ar hyn o bryd drwy ein haelodaeth o'r UE? OAQ(5)0439(FM)

Mae'r rhain, wrth gwrs, wedi eu datganoli. Mater i'r Cynulliad hwn fydd penderfynu beth fydd yn digwydd o ran safonau bwyd. Gwn fod y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar. Rydym ni, wrth gwrs, i bob pwrpas, yn prynu i mewn i wasanaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau na fydd gadael yr UE yn peryglu safonau diogelwch bwyd o'r radd flaenaf y DU, a ddatblygwyd ar ôl blynyddoedd lawer o broblemau yn y gorffennol, wrth gwrs.

Yn anffodus, ceir dihirod ar draws y byd sy'n awyddus i dreiddio unrhyw wendidau yn ein hamddiffynfeydd ar y mater hwn. Gallwn gofio’r sgandal byrgyrs ceffyl. Yr hyn yr wyf yn poeni amdano yw ei bod hi’n ymddangos bod Theresa May yn gwbl benderfynol i gael cytundeb o ryw fath gyda’r Unol Daleithiau, sydd â safonau llawer is ynghylch tarddiad bwyd na’r wlad hon neu unrhyw ran arall o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, pa sicrwydd ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd yn cadw mewn cof y swyddogaeth bwysig y mae’r asiantaeth safonau bwyd Ewropeaidd yn ei chyflawni o ran sicrhau bod y labeli ar fwyd yn onest, a'n bod ni ar ben ein pethau yn gyfan gwbl o safbwynt nodi bwyd amhur a allai gyrraedd y farchnad fel arall?

Mae'n wir, yn ystod yr ail ryfel byd, nad oedd lluoedd Americanaidd yn fodlon defnyddio lladd-dai Prydain, oherwydd yr ystyriwyd bod eu safonau yn rhy isel. Yn y 1990au, roedd gennyf dipyn o ail fusnes fel cyfreithiwr yn erlyn lladd-dai ac roedd yn anodd amgyffred y safonau gwael mewn rhai ohonyn nhw. Yr hyn sydd gennym ni erbyn hyn, wrth gwrs, yw arferion sy'n arwain y byd, arferion y mae gwledydd eraill yn sicr wedi bod yn eu dilyn, ac arferion sy'n golygu bod ein bwyd ni ymhlith y mwyaf diogel yn y byd. Ni ddylem beryglu’r statws hwnnw y gweithiwyd mor galed i'w ennill. Byddwn yn sicrhau, o ran ein cymhwysedd datganoledig, nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng yma yng Nghymru.

2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)

Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod ag uwch reolwyr o Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Ford Ewrop i drafod y mater. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r rheolwyr, y gweithlu a'r undebau llafur.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o gynnydd. Dyna yw’r sefyllfa fel y mae pethau heddiw.

A gaf i ofyn efallai am rywfaint o sicrwydd gan y Llywodraeth eich bod wedi edrych ar bob cyfle, ac wedi archwilio yn arbennig i’r dyfodol tymor hir o ran sut y gallwch gefnogi'r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu cyfathrebu yn briodol i'r gweithlu a’ch rhan chi yn hynny?

Hefyd, tybed a allech chi ddweud pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi eu cynnal ynglŷn â chyfleoedd eraill ar gyfer y ffatri, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y ffatri Ford yn Dagenham yn gweithio hyd eithaf ei chapasiti ar hyn o bryd, yn cynhyrchu injans diesel. Pa drafodaethau sydd wedi eu cychwyn gyda Ford am y posibilrwydd o ddod â'u gwaith cynhyrchu injans trydan i Ben-y-bont ar Ogwr?

Ac yn olaf, mae buddsoddiad blaenorol gan Ford wedi denu £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i annog cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gynhyrchu yn y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a hefyd am y newyddion diweddaraf oedd ganddo, y gallaf innau roi diweddariad pellach arnynt. [Chwerthin.] Byddai'r Senedd yn dymuno cael gwybod bod ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite, Len McCluskey, ynghyd ag ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite Cymru, Andy Richards, wedi ymweld â Ford Pen-y-bont ar Ogwr heddiw. Maen nhw wedi siarad ag uwch swyddogion yr undeb ac yna fe aethon nhw yn eu blaenau i drafod materion gydag uwch reolwyr Ford. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar natur gystadleuol y ffatri a chytunodd pob un dan sylw i barhau i ymdrechu i wneud y ffatri mor gystadleuol ag sy’n bosibl o'i chymharu â’r rhai cyfatebol iddi yn Ewrop. Gofynnodd Len McCluskey am ddata gan Ford ynghylch cylch gweithgynhyrchu’r ffatri. Gofynnodd hefyd am wybodaeth ynglŷn â safleoedd cystadleuol eraill ac am sicrwydd gan Ford ynghylch dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor hir. Rwy'n falch o ddweud bod Ford wedi cytuno i'r cais hwn ac y bydd yn rhoi'r wybodaeth i'r ysgrifennydd cyffredinol cyn sesiwn briffio torfol yn ôl yn y ffatri ar 1 Mawrth. Mae angen i mi ailadrodd y pwynt ein bod yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddiogelu dyfodol y safle, gan gynnwys cyflwyniad yr injan Dragon, a byddaf yn defnyddio'r holl asedau sydd ar gael i mi i gynorthwyo'r cwmni ac i nodi busnes newydd.

Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged hefyd i Aelodau Cynulliad lleol sydd wedi bod yn llwyr ac yn gyson ymrwymedig i’r safle, gan gynnwys yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, a'r Aelod dros Ogwr, Huw Irranca-Davies. Rydym yn awyddus i weld y safle yn ffynnu ac yn llwyddo. Rwyf yn credu bod yna gyfleoedd, yn sicr, cyn belled ag y mae datblygiad injans petrol yn y cwestiwn. Gwyddom fod gostyngiad sylweddol yn y galw am injans diesel yn sgil sgandal Volkswagen ac y bu cynnydd, o’r herwydd, yn y galw am injans petrol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod galw cynyddol am injans trydan ac rydym yn awyddus i weithio gyda Ford i nodi pa gyfleoedd yn y maes newydd sy’n datblygu hwnnw o dechnoleg y gellir eu manteisio arnynt yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr atebion hyd yma. Yn amlwg iawn, mae’n ymddangos bod ansicrwydd ynghylch aelodaeth y DU o’r farchnad sengl yn fater allweddol ac mae'n arwydd clir o'r wasgfa y mae Cymru yn ei hwynebu ac y bydd yn parhau i’w hwynebu os bydd y safbwynt Brexit caled a goleddir gan Lywodraeth y DU yn parhau yn ystod y trafodaethau Brexit. Rydym i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod chi a’r swyddogion wedi gweithio’n galed y tu ôl i'r llenni o ran Tata Steel yn y cyfnod anodd hwn. A gawn ni sicrwydd hefyd, ymhellach at yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud eisoes, y byddwch hefyd yn archwilio pob dewis posibl, y tu ôl i'r llenni, i sicrhau dyfodol tymor hir ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Cewch, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny a byddwn yn cytuno bod ansicrwydd ledled, nid yn unig y sector modurol, ond gweithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd oherwydd yr effaith y gallai Brexit caled ei gael ar economi Cymru. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi bod yn gyson ein hymagwedd gan ddweud ei bod yn angenrheidiol i Gymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Mae'n ddiddorol ac mae'n bwysig cadw mewn cof bod 30 y cant o werthiant Ewropeaidd Ford yn y DU. Y DU yw ei farchnad fwyaf yn Ewrop a Ford sy’n gwneud 68 y cant o injans modur y DU, 40 y cant ohonyn nhw wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Mae Cymru a'n safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn hanfodol i'r cwmni, nid yn unig o fewn y DU, ond hefyd ledled Ewrop.

Mae'n debyg mai’r cwestiwn cyntaf y dylwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai a yw'r wybodaeth y mae Len McCluskey yn gofyn amdani gennych chi eisoes. Ym mis Medi, fe wnaethoch ateb cwestiynau yn y Siambr hon am y sefyllfa yn ffatri Ford yn seiliedig ar sicrwydd yr oeddech wedi ei gael ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yn arbennig, dywedasoch fod Ford wedi dweud wrthych nad oedd unrhyw lafur yn ychwanegol i’r galw yn y tymor byr. Felly, bum mis yn ddiweddarach, hoffwn i wybod beth yr ydych chi’n ei ystyried yn ddiffiniad o 'tymor byr'. Un o'r cwestiynau na wnaethoch ei ateb ym mis Medi oedd un gan arweinydd fy mhlaid i, Andrew R.T. Davies, am ddyddiadau allweddol ar gyfer penderfyniadau ac ar gyfer buddsoddiadau. Ys gwn i: a ydych chi rywfaint o gwbl yn nes at allu rhoi’r dyddiadau allweddol hynny i ni nawr? Gan fod buddsoddiad amodol Llywodraeth Cymru a glustnodwyd ar gyfer Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei seilio ar nifer y swyddi y gellir eu sicrhau ganddo dros bum mlynedd, sut mae'r oedi rhwng, ddywedwn ni, Medi a nawr, a’r hyn sy'n edrych fel oedi parhaus, yn effeithio ar eich gallu i ymateb i gyhoeddiadau pwysig? Rwy’n cyfeirio yn arbennig at eich cyllideb eich hun.

Yn olaf, ymrwymiad Ford oedd i 125,000 o injans petrol Dragon gyda’r potensial—dyna oedd eich gair ar y pryd—i ddyblu’r nifer hwnnw o unedau. Felly, a wnaethoch chi lwyddo yn eich trafodaethau gyda phennaeth uned pwerwaith Ford Ewrop wrth ddod i gasgliad am sut y gellir hybu’r galw am yr injan Dragon? Ar y pryd, derbyniwyd nad oedd gan hynny unrhyw beth i'w wneud â Brexit. Os nad ydych wedi llwyddo i feddwl am syniadau am sut y gellir hybu’r galw, pa un o'r syniadau eraill am gynhyrchu y gwnaethoch chi eu cyflwyno i ni ym mis Medi sy’n edrych fel y gallai fod yr un a allai dod i Ben-y-bont ar Ogwr pe byddai methiant o ran Dragon?  Roedd hwnnw yn bwynt na wnaethoch ei ateb pan y’i codwyd gan Russell George. Diolch.

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud bod dyddiadau allweddol ar gael, a bod y cynllun pum mlynedd, wrth gwrs, yn hanfodol? Gofynnodd Len McCluskey yn briodol am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun pum mlynedd er mwyn ei rannu gyda'r gweithlu, sydd yn iawn i fod yn bryderus. Ond, mae 2020 hefyd yn ddyddiad allweddol ac rydym yn ceisio sicrwydd gan Ford ac rydym yn barod i weithio gyda nhw a buddsoddi, os bydd angen, mewn cyfleoedd i wneud yn siŵr bod yna ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer y ffatri. Rydym eisoes wedi gweithio gyda Ford Pen-y-bont ar Ogwr drwy fuddsoddi mwy na £140 miliwn yn y safle ers 1978, ac mae hyn wedi cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau. Mae wedi cynnwys cymorth ar gyfer buddsoddi cyfalaf, gwelliannau i isadeiledd a gwelliannau amgylcheddol hefyd. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn er mwyn gwneud yn siŵr bod dyfodol cryf ac ymarferol i’r gwaith a’i fod yn manteisio ar y lefelau cynhyrchiant anhygoel yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar. Ond, rydym yn awyddus i sicrhau bod y ffatri yr un mor gystadleuol â’r rhai cyfatebol yn Ewrop, fel yr wyf wedi ei ddweud. Byddwn yn hyblyg yn ein hymagwedd i’r cymorth a allai fod yn ofynnol, pe byddai Ford yn dod atom gyda chais am gefnogaeth, yn arbennig i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n datblygu. Rydym yn cynnig ystod o ddulliau cymorth i helpu busnesau—bach a mawr—i fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Ford yn awyddus iawn i’w archwilio gyda ni.

O ran ysgogi’r galw am injans petrol, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, mae'r dirywiad cymharol yn y galw am yr injan diesel yn dilyn sgandal Volkswagen wedi arwain at alw cynyddol am injans petrol. Mae Ford wedi ailadrodd bod faint o injans y rhagwelir y byddant yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn iach yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac rwyf yn credu y dylem gael ffydd o hynny, gyda’r disgwyl y bydd gofynion ar lafur cysylltiedig yn debyg i lefelau heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi hyd yn hyn. Yn amlwg iawn, mae hyn yn achos pryder enfawr ac mae llawer o'r gweithwyr hefyd yn byw ym Mro Morgannwg ac ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Mae'r swyddi, yn hanesyddol, yn ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ddeniadol iawn, yn talu'n dda, ac mae pobl wedi aros yn y ffatri ar ôl iddyn nhw gael eu cyflogi yno. Mae cyfres unigryw o amgylchiadau yn berthnasol i’r ffatri hon; mae’n amlwg, roedd yn rhan o deulu Jaguar Land Rover flynyddoedd lawer yn ôl. Yn y pen draw, bydd llawer o’r gweithgarwch yn symud yn awr i Wolverhampton oherwydd y ffatri injans newydd y mae Jaguar Land Rover wedi ei hagor yno.

Gofynnais i chi yn ôl ym mis Medi am eich bwriadau a’ch ymrwymiadau gyda'r cwmni i geisio sicrhau dyfodol tymor canolig a hirdymor ar gyfer y ffatri hon. Fel y gwyddom, mae'r penderfyniad i leihau cynhyrchu yn y ffatri injans wedi ei gymryd yn Detroit, ym mhencadlys byd-eang Ford, nid yn Ewrop, ac nid gan reolwyr y DU. Nodaf nad ydych, hyd yn hyn, wedi cynnal yr ymweliad y dywedasoch y byddech yn ei gynnal ar adeg y cwestiwn brys hwnnw—sef fynd i Detroit a chael trafodaethau wyneb yn wyneb gyda Ford yn eu pencadlys byd-eang. Mae hyn yn rhan, mae’n amlwg, o weithrediad enfawr yn Ewrop a ledled y byd y bydd Ford yn edrych arno o bryd i’w gilydd, a gofynnaf: pryd fyddwch chi’n cynnal yr ymweliad hwnnw â Detroit i siarad mewn gwirionedd â’r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac y byddwch yn gallu rhoi’r sicrwydd sy’n ofynnol gan y Llywodraeth hon, y gweithwyr a'r gymuned o amgylch y ffatri injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Oherwydd, fel y dywedais, am bron i 40 mlynedd erbyn hyn, mae’r ffatri wedi darparu swyddi o safon ac mae wedi darparu diogelwch swyddi hefyd. Ond nid wyf yn credu bod rhethreg heddiw o gymorth, os na fydd cynllun ar y gweill o fewn pythefnos fe fydd streic yn y ffatri hon, fel y mae Len McCluskey wedi ei nodi yn ei ddatganiad i'r wasg. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn cytuno â mi mai streic yw'r peth olaf sydd ei eisiau ar ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwy'n credu ei bod yn werth nodi—a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Mae'n werth nodi bod Ford wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani a fydd yn tawelu pryder o fewn y gweithlu. Mae trafodaethau heddiw wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Yn wir, mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, pennaeth Ford Ewrop, Linda Cash, y gweithlu, yr undebau llafur ac uwch reolwyr wedi bod yn adeiladol a chynhyrchiol am fisoedd lawer.

Gwnaethpwyd y penderfyniad yn Cologne; mae pob penderfyniad allweddol gan Ford Europe ynghylch ffatrïoedd Ewropeaidd Ford yn cael eu gwneud yn Cologne. Er hynny, fel yr wyf wedi ei ddweud yn y gorffennol, rydym yn fwy na pharod i fynd i ble bynnag sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol safle Ford Pen-y-bont ar Ogwr. Os yw hynny'n golygu mynd i Detroit, byddwn yn mynd i Detroit. Ond, rydym wedi ein sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Ewrop. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ymgysylltu â'r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau am ddyfodol ffatrïoedd Ford yn Ewrop.

3. Cwestiwn Brys: Pencadlys Newydd S4C yng Nghaerfyrddin

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0119(EI)

Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr a chytbwys i'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae ffyrdd y gallem gefnogi'r prosiect drwyddynt wedi eu hymchwilio yn drylwyr erbyn hyn, ac rwyf yn bwriadu galw’r tri Gweinidog sydd â diddordebau portffolio yn y mater hwn at ei gilydd yr wythnos nesaf er mwyn gallu dod i benderfyniad y mis hwn.

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yr hyn sydd angen i ni ei gael, yn anad dim byd arall, yw goleuni ar y sefyllfa hon, ac wedyn, gobeithio, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i Yr Egin. Mae hyn mor bwysig i Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi sôn am y prosiect hwn erbyn hyn, mae’n rhaid ei bod ymhell dros 18 mis, y tu mewn a’r tu allan i'r Siambr hon. Mae wedi bod yn destun cefnogaeth enfawr bob amser, nid yn unig gan y gwleidyddion sy’n eistedd o amgylch yma, ond gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gan S4C eu hunain ac, wrth gwrs, gan nifer fawr o fusnesau. Mae gennyf i fy hun nifer o lythyrau a ddaeth oddi wrth sefydliadau mawr a hoffai gymryd rhan yn y prosiect hwn i ddatblygu sylfaen ar gyfer y diwydiant gwasanaethau creadigol yn y gorllewin.

Mae dros 60 y cant o'r arwynebedd llawr a ragwelir eisoes wedi ei ymrwymo, neu wedi ei glustnodi fel mynegiadau o ddiddordeb. Mae’r posibilrwydd gennym i greu 850 o swyddi llawn-amser ledled yr ardal hon a chael effaith enfawr ar ein heconomi leol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siwr y byddwch yn deall y wasgfa sydd ar Sir Gaerfyrddin. Tebyg iawn y byddwn yn colli nifer sylweddol o swyddi yn ein canolfan alwadau leol. Rydym eisoes wedi colli nifer sylweddol o swyddi drwy ad-drefniad HMRC, ac mae Sir Gaerfyrddin yn dref sydd angen y mathau hyn o swyddi medrus i allu symud ymlaen.

Er fy mod yn cytuno ein bod i gyd eisiau gwerth am arian, yr hyn y byddwn wir yn hoffi ei ddeall yw pa un a ydych chi’n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod mwy o gydraddoldeb ledled Cymru ar gyfer twf economaidd, gan fod llawer o ranbarthau gwledig a diwydiannol wedi eu gadael ar ôl, ac nid ydym yn dymuno i Sir Gaerfyrddin fod yn un ohonynt. Rwyf yn bryderus ynghylch y nodyn cyngor yr ydych wedi ei dderbyn oddi wrth banel y diwydiannau creadigol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ehangu ychydig ar hynny, gan fod cadeirydd y panel yn ddiamwys iawn yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Dywedodd, ac mae angen i mi ddyfynnu hyn:

Dylai S4C ei hun gael ei hadleoli i’r gogledd neu’r gorllewin. Byddai’r sefydliad yn elwa yn ddiwylliannol ar fod yn nes at ei chynulleidfa graidd. Byddai’r ardal a ddewiswyd yn gweld hwb economaidd enfawr a, chyn bwysiced â hynny, hwb economaidd yn y Gymraeg.

Nid yw hi’n eglur i mi, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf o’r cyngor a gawsoch, o ran ei bod yn ymddangos bod ei farn ef wedi newid. Ac, os felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y rhowch wybod i ni beth yn eich tyb chi sydd wedi newid cymaint.

I gloi, fe hoffwn i ddweud nad oes, cyn belled ag y deallaf—ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â rhai o'r cwmnïau sydd wedi eu lleoli yn Abertawe—unrhyw glwstwr Cymraeg yn Abertawe, ac mae rhan o'r cyngor hwn yn ymddangos o fod wedi ei seilio ar hynny. Tybed a wnewch chi egluro hynny.

Ni allaf ei ddweud yn ddigon aml: byddai’r prosiect hwn yn bendant yn hynod bwysig i Sir Gaerfyrddin. Ac ydwyf, rwyf i'n mynd i ymladd dros fy ardal, a gwn y byddech yn disgwyl i mi wneud hynny, ond rydym wedi siarad am hyn. Mae S4C mor bwysig yn ddiwylliannol i Sir Gaerfyrddin. Mae’r gorllewin yn ardal â chanddi egni creadigol enfawr. Mae rhai o'r arlunwyr mwyaf a’r beirdd mwyaf o’r gorllewin, a byddai seilio diwydiant gwasanaeth creadigol, a llusgo, i fod yn syml, y dorf o Gaerdydd ar hyd y coridor, fel y gall ardaloedd fel ein hardal ni elwa, a byddai ymledu i Geredigion, i Sir Benfro, i Sir Gaerfyrddin—fel y byddem i gyd yn elwa arno—yn bwysig iawn. Ac a gaf i ofyn i chi roi esboniad pellach i ni. Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a’i chymeradwyo am ei brwdfrydedd wrth iddi ddwyn y mater hwn i'n sylw? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod gan Gaerfyrddin ac, yn wir, y gorllewin cyfan, lawer iawn i'w gynnig, nid yn unig i economi Cymru ond i bobl o'r tu allan i Gymru, fel cyrchfan wych i dwristiaid hefyd. Fe wn i hynny oherwydd fy mod i yno yn y gorllewin ddoe, yn agor cyfleusterau newydd yn yr economi ymweld.

Mae'r Aelod wedi mynegi ei barn gref yn y gorffennol o blaid y cynigion, ond mae'r Aelod hefyd wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, ein bod yn defnyddio diwydrwydd dyladwy yn briodol ac yn drylwyr ar gyfer cynigion a ddaw ger ein bron sy’n gofyn am gefnogaeth gan y pwrs cyhoeddus.

Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi uchelgais y brifysgol o fod yn awyddus i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol yn y rhanbarth, yn ogystal ag i annog datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ac rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a allai ddarparu adnewyddiad economaidd a manteision diwylliannol mewn cymunedau ledled Cymru, ond mae'n rhaid i’r prosiect fod yn un y gellir ei gyflawni ac yn ymarferol. Ac felly rwyf wedi bod yn awyddus i ymchwilio i bob dull o gefnogi achos busnes boddhaol, y gellid ei gyflwyno mewn ffordd sy'n dangos hyfywedd ariannol, manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ond sydd hefyd yn esbonio'r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Roedd yn rhaid i mi ystyried hefyd, fel y mae’r Aelod wedi ei amlygu, barn arbenigol, nid yn unig oddi wrth Banel y Sector Diwydiannau Creadigol, ond hefyd cyngor arbenigol o bob rhan o Gymru, a phryderon o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-orllewin. Wedi dweud hynny, rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallaf ddod â Gweinidogion at ei gilydd yr wythnos nesaf i drafod y mater, a gwneud penderfyniad y mis hwn.

Cyn belled ag y mae rhannu’r cyfoeth dan sylw, mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod eisoes wedi datgan fy mwriad i ymweld â phencadlys y banc datblygu yn y gogledd, a cheir cyfleoedd ar y cyd â Cymru Hanesyddol i weld rhagor o fuddsoddiad yn cael ei ddarparu i'r rhanbarthau, ac, o bosibl, byddwn yn gweld beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cynigion gael eu hystyried yn llawn. Ond un o'r argymhellion yw esblygiad Cadw, ac mae’n bur debyg y gallwn edrych ar fuddsoddi mewn un o’r rhanbarthau yn nhermau mwy o bresenoldeb Cadw. Rwyf yn mynd i ddefnyddio'r holl offerynnau sydd ar gael i ni, er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru—pob rhanbarth, pob cymuned—yn rhannu’r cyfoeth a grëir.

A all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ei fod e wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, sianel deledu Gwyddeleg, yn dadlau y bydd yna fudd economaidd a diwylliannol ieithyddol yn deillio o’r project yma, ar sail eu profiad nhw yn Galway, a’i fod e hefyd wedi gweld tystiolaeth o gwmnïau y tu fas i Gymru—ac, a dweud y gwir, y tu fas i Brydain—a fyddai â diddordeb adleoli yn Yr Egin, pan gaiff ei adeiladu? Ac a allai, yn olaf, gadarnhau bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cynnig telerau a fyddai’n golygu bod yna ddim grant parhaus—hynny yw, eu bod nhw’n derbyn yr arian ar sail ad-daladwy yn llwyr, benthyciad, a fyddai’n golygu wedi hynny bod yna broject gyda ni fan hyn a fyddai’n creu yn uniongyrchol 200 o swyddi, ac yn anuniongyrchol 650, heb geiniog o gost yn y pen draw i Lywodraeth Cymru? Os nad yw hynny yn cynrychioli gwerth am arian, mae’n anodd meddwl am unrhyw beth a fyddai yn.

Rwy’n sicrhau'r Aelod ein bod bellach wedi derbyn yr wybodaeth honno a phob gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynnig y gallwn ei ystyried erbyn hyn. Rydym hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, yr ydym, wrth gwrs, wedi gallu ei ystyried, ynghyd â gohebiaeth gan bartneriaid posibl yn y prosiect. Ac o ran—yr oeddwn ar fai yn wir am beidio â chyffwrdd ar y pwynt a godwyd gan Angela Burns—datblygu canolfan Gymraeg yn Abertawe, mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno ei drafod gyda’m cyfaill a’m cydweithiwr Alun Davies. Ac mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr, pan fyddwn yn trafod prosiect Yr Egin.

Diolch i’r Ysgrifennydd am ei ymateb, a diolch i Angela hefyd am ddod â sylw’r tŷ yma i’r achos yma. Roedd yn siom i weld yr wythnos yma bod y panel diwydiannau creadigol wedi dweud y byddai datblygu Yr Egin yn tanseilio hwb cyfryngau tebyg yn Abertawe. Ond mae wedi dod i’n sylw i nad yw, er enghraifft, gyfarwyddwr Telesgop, sef y cwmni cyfryngau mwyaf sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg o Abertawe, yn ymwybodol o unrhyw hwb sydd yn bodoli yn Abertawe. A phan rydym ni mewn amser o ansicrwydd, yn arbennig yn ein hardaloedd gwledig, wedi pleidlais Brexit, a phan fyddai’r project yma yn rhoi rhyw lygedyn o obaith i’r ardaloedd yma, a ydy’r Ysgrifennydd yn gallu dweud wrth y tŷ, a oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o beth fyddai effaith peidio â datblygu Yr Egin yng Nghaerfyrddin?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Ac mae'n rhaid i mi bwysleisio fy mod i’n credu bod y cyngor gan banel y sector diwydiannau creadigol wedi ei ddarparu yn ddiffuant ac wedi ein helpu wrth i ni benderfynu ar y prosiect. Rwyf yn credu y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried yr hyn sydd orau i Gaerfyrddin fel cymuned a’r diwydiannau creadigol o fewn y gymuned hefyd. Mae'n amlwg bod y prosiect yn cynnig potensial enfawr, ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau y gall ac y gallai’r potensial ei gyflawni gan yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r prosiect.

Rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyflymder wrth benderfynu ar y mater hwn. A wnewch chi dderbyn gennyf i bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r fenter hon a’n bod i gyd, yn y Cynulliad hwn, yn derbyn bod y de-orllewin wedi llusgo’n bell y tu ôl i’r rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran incwm? Mae Adam Price wedi gwneud cymwynas hynod bwysig â ni, rwyf yn credu, wrth dynnu ein sylw at hyn, nid yn unig heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond hefyd ar achlysuron blaenorol pryd y dangosodd ein bod yn un o ranbarthau tlotaf gorllewin Ewrop. Nid wyf yn ystyried hynny yn anrhydedd i ni ymfalchïo ynddo. Mae prosiectau o'r fath yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer y swyddi a ddaw ar unwaith yn eu sgil, ond hefyd ar gyfer newid holl naws y rhanbarth neu’r is-ranbarth, a fydd wedyn yn ei gwneud yn fwy deniadol i gwmnïau eraill leoli yno. Effaith y dynfa yw’r hyn sydd mor bwysig yn y fan yma.

Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo yw, oes, wrth gwrs fod ganddo gyfrifoldebau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth, ond mae manteision diwylliannol ac ieithyddol ynddyn nhw eu hunain â gwerth y tu hwnt i arian. Ac rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd y prosiect hwn o ran meithrin y Gymraeg, a’r effaith y bydd yn ei gael yn ehangach nag yn y rhanbarth ei hun. Felly, er nad wyf yn disgwyl iddo roi ateb sylweddol heddiw, gan y bydd yn rhaid iddo drafod gyda'i gydweithwyr ac eraill i ystyried y mater yn ei holl agweddau, ond fe ddylai o leiaf wyro at fod o blaid cydymdeimlo â’r cynnig hwn, ac nid bod ag ymagwedd calon-galed, Thatcheraidd ato.

Gall yr Aelod fod yn sicr na fyddaf yn cymryd ymagwedd calon-galed a Thatcheraidd at y prosiect hwn, ac er gwaethaf ei ymdrechion gorau, ni fyddaf yn dangos arwydd o benderfyniad y gellid ei wneud o fewn y 10 diwrnod nesaf. Ond mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod heriau strwythurol hanesyddol i’w cael y mae angen eu goresgyn, nid dim ond yn y gorllewin ond mewn rhannau eraill o Gymru lle mae angen i ni weld cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant, ac yn lefelau’r sgiliau y mae pobl wedi eu cyrraedd. Gan hynny, rwyf yn canmol y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth heddiw am lansio'r rhaglen prentisiaeth newydd i greu 100,000—fel lleiafrif—prentisiaethau o ansawdd da ar gyfer pob oedran, a fydd, wrth gwrs, o fudd mawr i rannau o Gymru fel Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle mae rhaglenni prentisiaeth a rennir yn cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl, a lle y gwn am nifer o gyflogwyr sydd ar hyn o bryd yn bwriadu derbyn mwy o brentisiaid. Yr allwedd i fagu economi ranbarthol yw sicrhau crynhoad a darpariaeth sgiliau priodol, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn, wrth graffu ar y prosiect penodol hwn, i wneud yn siŵr y bydd y partneriaid sydd wedi mynegi eu diddordeb i ymuno yn Yr Egin yn symud ymlaen â’r diddordeb hwnnw, ac y byddwn yn gweld crynhoad, o fewn y canolbwynt, o arbenigwyr yn y diwydiannau creadigol sy'n gallu cynnig y cyfleoedd am swyddi a addawyd.

Dyna’r union bwynt, Weinidog, os caf ddweud. Beth rydym ni’n deisyfu ei weld yn y gorllewin yw buddsoddiad a dyfodol llewyrchus i’n pobol ifanc ni, fel bod y plant sydd nawr yn mynd i ysgol Llangennech i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod bod swyddi da i gael hefyd yn y gorllewin iddyn nhw. Rydym ni eisiau gweld gan y Llywodraeth yr un math o hyblygrwydd tuag at gyllido’r project yma ag yr ydych chi wedi’i ddangos tuag at gyllido ac ymwneud â chynllun megis Cylchdaith Cymru ym Mlaenau Gwent. Mae yna agwedd gyllidol y medrwch chi ei chymryd, ac rydych chi newydd gadarnhau bod modd ailedrych ar y cynllun yma i ailbroffilio’r buddsoddiad ariannol fel bod y risg i’r trethdalwr mor isel ag sy’n bosibl, ond sy’n caniatáu i’r cynllun fynd yn ei flaen. A wnewch chi gadarnhau dau beth, felly? Yn gyntaf oll, a wnewch chi gadarnhau bod y cyngor rŷch chi wedi’i dderbyn gan y panel ymgynghorol ar ddiwydiannau creadigol, yn eich barn chi, yn gyngor cwbl ddiduedd? Dywedoch chi fod y cyngor ‘in good faith’, ac rwy’n derbyn hynny, ond hoffwn i wybod gennych chi, ar gofnod, eich bod chi’n derbyn y cyngor ei fod yn ddiduedd llwyr.

Yr ail gwestiwn, felly, rydych chi newydd drafod—rwy’n credu, yr wythnos diwethaf, neu’r wythnos gynt, o bosib—gyda nifer o Aelodau’r Cynulliad fan hyn ynglŷn â’r fargen dinas ranbarth, y ‘city deal’ ar gyfer bae Abertawe, mewn cyfarfod gyda nifer ohonom ni. Rwy’n ddiolchgar am hynny. Fe drafodwyd Yr Egin yn y cyfarfod hwnnw yng nghyd-destun pecyn, ac roeddech chi’n awyddus iawn ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad, yn dadlau dros y pecyn cyfan a ddim, yn eich geiriau chi, yn ‘cherry-pick-o’ gwahanol agweddau ohono fe. Yn yr un ffordd, a wnewch chi dderbyn bod pecyn y ‘city deal’ yn cynnwys Yr Egin fel pecyn cyfan, ac felly, gobeithiaf yn fawr, yr wythnos nesaf, ar ôl i chi wneud yr arsylwi sydd angen ei wneud ar unrhyw gynllun o’r fath, y byddwch chi’n cefnogi’r cynllun fel bod y ‘city deal’ fel pecyn cyfan hefyd yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod, unwaith eto, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn falch bod SA1 a cham 2 o brosiect Yr Egin wedi sicrhau cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer datblygu?

O ran darparu cyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc, mae’r sector diwydiannau creadigol wedi dangos ei fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru o ran ei dwf ac o ran ehangu cyfleoedd i bobl ifanc nag mewn unrhyw ran arall o'r DU ar wahân i Lundain. Mae hynny oherwydd ein bod wedi tyfu diwydiant i’w eiddigeddu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi magu’r sgiliau a'r arbenigedd sydd yn angenrheidiol i ddenu prif gynyrchiadau drama teledu. Ond rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr nad ydym yn gorffwys ar ein bri a’n bod yn dal ati i gyflwyno mwy o bobl i'r diwydiannau creadigol er mwyn ateb y galw. Y galw yw’r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn gwirionedd, o ystyried y diddordeb gan gynhyrchwyr teledu yn arbennig, heb anghofio’r presenoldeb a'r diddordeb y mae cynhyrchwyr ffilm yn ei ddangos yng Nghymru, ond yn enwedig o ran dramâu teledu, ac yn gynyddol o ran animeiddio. Bydd rhagor o gyfleoedd i bobl fynd i mewn i'r diwydiant. Bydd mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd er mwyn mynd i mewn i'r diwydiant. Felly, rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, wrth inni graffu ar brosiect Yr Egin, ein bod yn ffyddiog y bydd yn cyflenwi’r cyfleoedd hynny.

O ran y cyngor a gafwyd gan banel y diwydiannau creadigol, fel y dywedais wrth Eluned Morgan, rwyf yn ffyddiog ei fod wedi ei roi yn ddiffuant. Wedi dweud hynny, nid wyf yn credu bod dyfalu ynghylch unrhyw wrthdaro buddiannau o ddefnydd o gwbl. Yr hyn sy'n bwysig yw fy mod i, ac ein bod ninnau fel Llywodraeth Cymru, yn ystyried pob tystiolaeth, yn archwilio'r cynigion yn drylwyr, ac yna’n gwneud penderfyniad ar sail yr hyn sydd orau i bobl Caerfyrddin a’r diwydiant.

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rŷm ni’n symud, felly, i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae datganiad llafar heddiw ar y fenter ymchwil i fusnesau bach wedi ei ohirio a, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w ateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae amseriadau yfory wedi eu haddasu yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, neu hyd yn oed dim ond llythyr yn y Llyfrgell, yn gyntaf gan y Gweinidog cyllid, yn esbonio'r cynllun ardrethi busnes newydd—yr arian ychwanegol a roddwyd ar y bwrdd? Rwyf yn sylweddoli y codwyd hyn ryw ddwy neu dair wythnos yn ôl, ac, yn ein dadl ar y dydd Mercher, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei fod yn obeithiol o gyflwyno’r cynigion yn gynnar ym mis Chwefror. Rwy'n ymwybodol ei bod, yn awr, yn gynnar ym mis Chwefror a, hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i law o ran sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol a amlygwyd cyn y Nadolig gan Lywodraeth Cymru i’w roi ar gael i lywodraeth leol ar gyfer busnesau a gafodd eu dal gan yr ailbrisio, yn cael ei weinyddu a'i gyflwyno i'r busnesau hynny. Felly, yn absenoldeb yr wybodaeth honno, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am yr wybodaeth ddiweddaraf am ble yn union y mae'r Llywodraeth o ran ei gwybodaeth fel bod awdurdodau lleol ac, yn wir, busnesau, yn gallu deall sut y byddan nhw’n elwa ar yr arian ychwanegol hwn?

Yn ail, er fy mod i’n croesawu'r symudiad i greu swyddi ledled Cymru, yn enwedig y banc datblygu y mae'r Llywodraeth wedi ei roi yn y gogledd-ddwyrain ac, yn amlwg, yr awdurdod refeniw yn Nhrefforest, rwyf braidd yn bryderus am y diffyg trefn ym mholisi'r Llywodraeth, a byddwn i’n ddiolchgar pe byddem yn cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, oherwydd bod gennym ni ardal fenter gwasanaethau ariannol yma yng Nghaerdydd, a does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo honno, ac eto pan fydd swyddi ar gael yn y sector gwasanaethau ariannol, nid yw'n ceisio’u lleoli o fewn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru yn yr ardal fenter. Yn yr un modd, mae'n gynllun creu swyddi gwych bod Aston Martin wedi mynd i Sain Tathan, a chroesawn y cyfle hwnnw, ond, o dan strategaeth economaidd y Llywodraeth, canolbwynt hedfanaeth yw hwnnw i fod, ac mae’r sector modurol i fod yn yr ardal fenter yng Nglyn Ebwy. Felly, rwy'n ymwybodol bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd, rwy'n ymwybodol bod yr ardaloedd menter wedi eu cyflwyno gan y Gweinidog blaenorol, ond, mewn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, ymddengys bod yna darfu rhwng y polisi o hyrwyddo ardaloedd menter a gweithredoedd y Llywodraeth. Fel y dywedais, rwyf i’n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru ledaenu swyddi ledled Cymru; ond ryw’n poeni am ba un a yw'r gwahaniaethau rhwng y mentrau polisi a’r ysgogiadau polisi ynghylch hyrwyddo ardaloedd menter.

Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau yna. Ynglŷn â’ch pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi sicrwydd i’r Cynulliad hwn a’r Aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ef a'i swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ni gael y rhybudd cynnar hwnnw. Newydd fynd i mewn i fis Chwefror ydym ni, fel y dywedwch, a gwn eu bod yn bwriadu cyhoeddi'r ffyrdd y bydd busnesau lleol yn gallu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfran ychwanegol bwysig iawn o arian ar ben y cyllid trosiannol a gyhoeddwyd, wrth gwrs, yr hydref diwethaf. Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny yn symud ymlaen.

O ran eich ail bwynt, rwyf braidd yn ddryslyd am eich ail bwynt, oherwydd ei bod yn anochel bod gan Lywodraeth Cymru bolisi i ddatganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo’n bosibl, y swyddi y mae gennym unrhyw reolaeth arnyn nhw, yn ogystal ag annog o ran y sectorau. Soniasoch am y sector gwasanaethau ariannol, ac rwy’n credu bod croeso mawr i’r newyddion am leoli’r banc datblygiad mewn rhan arall o Gymru, gan gysylltu’n agos iawn, wrth gwrs, â’n holl wasanaethau a busnesau ariannol. Ond byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n gwerthfawrogi mai’r wobr enfawr a enillodd Cymru drwy gael Aston Martin i Sain Tathan, i Gymru, yw'r hyn y dylem fod yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt hwnnw mewn gwirionedd.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Yn ychwanegol at hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf,

yn nodi dull o sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru’,

mae'n dweud yn y fan yma. Yn amlwg, mae argymhellion y grŵp adolygu sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol yr hyn a elwir yn Gymru Hanesyddol wedi cael croeso gofalus. Mae'n sôn am bartneriaeth strategol sydd, mae’n ymddangos, yn cyfiawnhau annibyniaeth lleoedd fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Felly, mae hynny i gyd i'w groesawu mewn datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y datganiad ysgrifenedig, ceir sôn am adolygiad newydd i strategaeth a gweithrediadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru—atodiad bach annisgwyl yn y fan yna. Roeddwn i’n meddwl tybed, o’r safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar ar fanylion yr adolygiad hwnnw i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.

Croesawaf yn fawr iawn eich cydnabyddiaeth bod adolygiad y gwasanaethau treftadaeth yn y datganiad ysgrifenedig, Dai Lloyd, yn seiliedig ar yr adolygiad agored yr oedd y pwyllgor a'r Aelodau yn cael cyfrannu ato, ac mae’r holl bartneriaid sy'n cael eu heffeithio ganddo, wrth gwrs, wedi cymryd rhan mewn datblygu’r dewisiadau hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i egluro maes o law yr adolygiad hwn y mae wedi’i gomisiynu o ran strategaeth a gweithrediadau’r amgueddfa genedlaethol.

Arweinydd y tŷ, hoffwn i ymhelaethu rhywfaint ar bwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar ardaloedd menter. Yn amlwg, cyflwynwyd ardaloedd menter yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae'n bwysig ein bod ni’n deall y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ardaloedd menter. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi i gynhyrchu diweddariad ar gynnydd o ran ardaloedd menter a pha mor effeithiol ydyn nhw, yn arbennig yr ardal fenter yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot? Ond, mewn cysylltiad â hynny, a wnewch chi ofyn iddo hefyd roi sylwadau ar y paratoadau sydd ar waith ar gyfer buddsoddi a thwf mewnol, gan fy mod i ar ddeall bod prinder adeiladau, troedfeddi sgwâr, maint a gallu i ymgymryd â rhywfaint o dwf yn yr ardaloedd hynny? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod adeiladau, strwythurau a seilwaith ar gael i sicrhau y gall twf ddigwydd yn yr ardaloedd hynny ac y gall busnesau naill ai dyfu neu ddod i’r ardaloedd hynny er mwyn sicrhau y gall ein heconomïau, yn enwedig ym Mort Talbot, fanteisio arnyn nhw?

Diolchaf i David Rees am y cwestiwn perthnasol iawn yna. Mae Andrew R.T. Davies wedi gadael y Siambr, i glywed y newyddion pwysig y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad maes o law ar y rhaglen ardaloedd menter. Wrth gwrs, gallwn ni adrodd yn ôl iddo eich pwyntiau pwysig am y cysylltiad â'r sector a chyfleoedd ar gyfer twf. Mae'n cwblhau adolygiad cyfredol o’r rhaglen lywodraethu, felly, pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn gwneud datganiad.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n un o'r pethau hynny y mae pawb yn siarad amdano—yr ardaloedd menter. Dim ond hanner awr yn gynharach, braf oedd clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dweud—yn ei eiriau ei hun—

bob rhan o Gymru ... y rhannu’r cyfoeth a grëir.

Gwaith gwych. Dangosodd ffigurau a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2015 hefyd ganlyniadau cymysg ardaloedd menter yng Nghymru, gyda dros 1,000 o swyddi'n cael eu creu yn ardaloedd Caerdydd a Glannau Dyfrdwy rhwng 2014 a mis Mawrth 2015, ond dim ond saith—saith—yng Nglyn Ebwy a Sain Tathan. A gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am greu swyddi ac ardaloedd menter sy'n bodoli eisoes ac am gynlluniau Llywodraeth Cymru, os o gwbl, i ehangu nifer yr ardaloedd menter i rannau eraill o Gymru i gefnogi sectorau eraill o'r economi? Fel y gwyddom, mae Brexit wedi creu gwagle mewn gwahanol feysydd datblygu. A fyddai modd i ni ddefnyddio llwybr blaenoriaeth mewn ardaloedd penodol er mwyn sicrhau y gofelir am greu swyddi a mewnfuddsoddi a’u bod yn mynd ar lwybr blaenoriaeth i dyfu ein heconomi cyn gynted ag y bo modd? Diolch.

Rwy'n gwybod y byddai’r Aelod wedi bod yn falch iawn o glywed fy mod i wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i David Rees y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ar y rhaglen ardaloedd menter.

A gawn ni ddatganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hawliadau ôl-weithredol ar gyfer arian gofal iechyd parhaus y GIG? Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros am bron i bedair blynedd am benderfyniad ar ei chais, ac rwyf ar ddeall bod bron i 1,000 o geisiadau ôl-weithredol yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae pedair blynedd yn gwbl annerbyniol i un o ddinasyddion y wlad hon aros am benderfyniad ar gais ôl-weithredol, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru roi’r gorau i osgoi a thaflu baich materion y gwasanaeth iechyd o ran ariannu gofal iechyd parhaus? A gawn ni ddatganiad i egluro'r sefyllfa honno ac i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni hyn?

Mae hwn yn bwynt ac yn gwestiwn pwysig, ac mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio arno, er mwyn sicrhau bod y bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn cael yr wybodaeth gynnar honno o ran hawliadau ôl-weithredol. Byddaf yn sicrhau y bydd diweddariad ar ble y mae’r Gweinidog arni yn hyn o beth.

Ddoe oedd Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Roeddwn i’n falch iawn o gynnal cynhadledd y daeth llawer iddi yma yn y Senedd ar y pwnc ofnadwy hwn. Fe'i trefnwyd gan BAWSO, ond roedd cynrychiolwyr pwysig yn bresennol o NSPCC, Cymorth i Ferched Cymru ac o wahanol rannau o Gymru yn ogystal â Lloegr. Nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud yn unig â’r 30 miliwn o ferched sydd mewn perygl ledled y byd o gael eu llurgunio cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed, ond mae hefyd yn ymwneud ag atal hyn rhag digwydd i'r merched sy'n byw yn y wlad hon. Yn ôl Dr Chimba, sy'n arwain ar anffurfio organau cenhedlu benywod gyda BAWSO, mae rhyw 2,000 o fenywod yng Nghymru sy'n byw â rhan neu’r cyfan o’u horganau cenhedlu wedi’u torri i ffwrdd. Pe byddai hyn yn ymwneud â phidynnau dynion yn cael eu torri i ffwrdd, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyn.

Un o'r materion a godwyd yn y gynhadledd oedd diffyg data cywir am Gymru, oherwydd roedd cryn dipyn o ddata wedi’u casglu am Gymru a Lloegr. Rwyf ar ddeall y bydd y GIG yn Lloegr, yr wythnos hon, yn rhyddhau'r data sydd wedi eu casglu o wahanol rannau o'r GIG, gan nyrsys, bydwragedd, meddygon teulu ac unrhyw un arall sydd wedi cael gwybodaeth gywir am hyn. Roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallai’r wybodaeth hon fod ar gael yng Nghymru, oherwydd ei bod yn bwysig iawn i ddeall pa wasanaethau arbenigol y dylem ni fod yn eu comisiynu yng Nghymru, yn hytrach nag anfon pobl i rannau eraill o Loegr. A oes gennym y màs critigol i gyfiawnhau gwasanaeth arbenigol o'r fath?

Wel, rwy’n credu yr hoffem ni i gyd—yn y Siambr hon—ddiolch i Jenny Rathbone am drefnu'r digwyddiad pwysig iawn hwn ddoe—digwyddiad a gafodd ei gefnogi'n dda yn y Senedd, ac yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi gallu dod iddo neu ei gefnogi. Dim ond gair bach i adrodd yn fyr ar gynnydd a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi cefnogi datblygiad darpariaeth iechyd ac wedi hyfforddiant cydlynol, sy'n hollbwysig, a dyma lle y gallwn ddysgu gan ein cydweithwyr y tu allan i Gymru, ond BAWSO sy’n arwain yr hyfforddiant ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn ein holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Fe ddechreuodd drwy nodi arweinwyr anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd. Mae gennym ni grŵp iechyd anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru gyfan sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo gynllun gwaith ac—i ateb eich cwestiwn pwysig—y mae wedi dechrau casglu data am fenywod a phlant sydd wedi’u heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod ar draws byrddau iechyd, ac y mae hefyd wedi dyfeisio ac mae’n rhoi llwybr nodi ac atgyfeirio clinigol Cymru gyfan ar waith, yn ogystal â’r hyfforddiant.

Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y rhaglen Plant Iach Cymru. Mae gan honno raglen iechyd cyffredinol i bob teulu â phlant hyd at saith oed, ac mae hynny hefyd yn nodi cysylltiadau gwybodaeth y gellir eu gwneud ar lefel byrddau iechyd. Yn rhan o'r rhaglen hon, bydd gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar blant a allai gael eu heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Dechreuodd byrddau iechyd Cymru weithredu’r llwybr hwn fis Hydref diwethaf—ar 1 Hydref 2016—ac mae ganddyn nhw ddwy flynedd i weithredu'r rhaglen yn llawn.

Arweinydd y tŷ, mae pythefnos wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru roi i’r cwmni Cylchdaith Cymru—. Rwy'n credu mai terfyn amser o ddwy wythnos ydoedd, yn rhyfedd ddigon, i ddarparu sicrwydd am eu cefnogwyr ariannol fel y gall y prosiect symud yn ei flaen. Dywedais yn fy nadl yr wythnos diwethaf ynglŷn â dinas-ranbarth Caerdydd fy mod i’n credu bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol i bawb sydd ynghlwm wrth y prosiect—a allai fod yn brosiect trawsnewidiol i brifddinas-ranbarth Caerdydd—ond y mae angen eglurder arnom yn awr o ran pa un a yw’n gallu mynd yn ei flaen. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar y cyfle cyntaf, fel y gallwn ddatrys hyn unwaith ac am byth a symud ymlaen, neu beidio â symud ymlaen yn ôl y digwydd? O leiaf wedyn byddwn ni i gyd yn gwybod yn ardal y ddinas-ranbarth yn union beth yr ydym yn ymdrin ag ef yn y prosiect hwn.

Wel, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi cyrraedd y terfyn amser hwnnw. Felly, wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y sefyllfa.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud datganiad am bolisi’r Llywodraeth ynglŷn â geni plant ar ran pobl eraill? Oherwydd bod cyllid yn cael ei wrthod ar gyfer triniaeth IVF i lawer o fenywod yng Nghymru sy’n methu â chario plant o ganlyniad i ganser, er enghraifft, oni bai bod mam fenthyg eisoes wedi ei nodi. Rwy'n credu bod angen llawer o eglurhad ar y maes cyfan, a byddem yn ddiolchgar iawn pe gallai’r mater o ariannu IVF a mamau benthyg gael eu hystyried fel mater o frys.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn wir, mae hwn yn gwestiwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o sylw iddo, ond mae hefyd yn bwysig iawn, os oes gennych chi bobl sydd wedi eu heffeithio yn y modd hwn eich bod chi hefyd yn gwneud sylwadau ar eu rhan.

Mae heddiw yn Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rwyf wedi fy nghalonogi i weld gwaith yr NSPCC, Stop it Now! Cymru a The Survivor’s Trust Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel i ddiogelu plant ac atal camfanteisio rhywiol rhag digwydd. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Ganolfan Diogelwch Rhyngrwyd y DU fod saith o bob 10 o blant a phobl ifanc wedi gweld delweddau anaddas ar-lein. Heddiw, mae'r NSPCC wedi cynhyrchu fideos ar gyfer ei ymgyrch Pwyllo a Rhannu, i dynnu sylw rhieni a phlant at beryglon rhannu gwybodaeth ar-lein. Cynhaliodd fy nghydweithiwr Lynne Neagle ddigwyddiad heddiw yn y Pierhead, lle rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith allweddol. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel y rhain, sy'n codi ymwybyddiaeth o gam-drin a chamfanteisio ar-lein ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a’m sicrhau i ac eraill yn y Siambr hon y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu ar hyn?

Diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, a hoffwn ddiolch iddi am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol. Mae hynny'n rhoi cyfle i Aelodau ar draws y Cynulliad ddod at ei gilydd a gweithredu a chael y dystiolaeth am y sefyllfa yr ydych chi’n ei disgrifio, a amlygwyd yn dda iawn heddiw, rwy’n gwybod, yn y digwyddiad y siaradodd Kirsty Williams ynddo. Rwyf hefyd yn tynnu sylw'r Aelodau at y datganiad ysgrifenedig a wnaeth Kirsty Williams heddiw ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Dywedaf hefyd mai ni yw’r sefydliad arweiniol o ran diogelwch ar-lein yng Nghymru—Llywodraeth Cymru—ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg i’n plant, pobl ifanc, rhieni ac athrawon.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ei pholisi o ddatganoli swyddi i wahanol rannau o Gymru? Mi glywon ni, wrth gwrs, y cwestiynau yn gynharach ynglŷn â’r penderfyniad am Awdurdod Cyllid Cymru. Rŷm ni hefyd wedi clywed cyfeiriadau y prynhawn yma at y posibilrwydd y bydd swyddi banc datblygu Cymru yn cael eu lleoli, o bosib, yn y gogledd neu mewn rhannau eraill o Gymru. Gwnaeth Ysgrifennydd yr economi hyd yn oed awgrymu efallai fod yna fwriad i adleoli neu greu rhyw fath o bresenoldeb i Cadw mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Yr argraff y mae rhywun yn ei gael yw—neu, y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw: a oes yna strategaeth ar draws y Llywodraeth fan hyn? A oes rhywbeth cydlynus, bwriadol yn digwydd? Mae’n swnio ychydig fel rhywbeth ad hoc, gydag adrannau yn gweithio mewn rhigolau. Rwyf yn meddwl y byddai datganiad yn gyfle i’r Llywodraeth osod eu stondin, mewn gwirionedd, ynglŷn â ble yn union y maen nhw’n mynd ar yr agenda yma, a sut y maen nhw’n bwriadu cyflawni hynny. Byddai hefyd yn gyfle, wrth gwrs, i drafod y meini prawf y cyfeiriwyd atynt gan Aelod Arfon yn gynharach. Os mai dyna yw’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio bob tro, yna mae yna gwestiwn ynglŷn ag a welwn ni fyth rhai o’r swyddi posibl yma yn cael eu hadleoli i rywle fel gogledd Cymru. Yn bwysicach na dim, wrth gwrs, byddai cael datganiad o’r fath hefyd yn rhoi mwy o eglurder i bawb ynglŷn â sut y gall pob rhan o Gymru fod yn hyderus mai Llywodraeth i Gymru gyfan yw hon.

Yn amlwg mae’n rhaid cael ymagwedd ar draws y Llywodraeth ar gyfer hyn. Fel y dywedais yn gynharach, wrth ymateb i'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies, pan fo gennym reolaeth uniongyrchol, o ran ein gallu i wneud penderfyniadau ar leoliad corff newydd, swyddogaethau newydd—. Wrth gwrs, o ran Awdurdod Refeniw Cymru, nid corff newydd yn unig mohono; mae ganddo swyddogaethau newydd. Mae sgiliau newydd hefyd, o ran y pwerau treth yr ydym yn eu derbyn sydd wedi’u datganoli i Gymru erbyn hyn. Felly, mae'n fater o sicrhau bod gennym ni’r gallu a'r sgiliau i ddatblygu, ac mae hynny yn effeithio ar leoliad. Do, yn ôl ym mis Hydref—. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi nodi ei ddymuniad bod y pencadlys, er enghraifft, ar gyfer banc datblygu Cymru yn cael ei sefydlu yn y gogledd. Felly, pan fo cyfle a phan nad oes rhai o'r materion hynny sydd wedi eu crybwyll eisoes o ran ein gallu i ddylanwadu ar leoliad, byddem yn dymuno sicrhau bod presenoldeb datganoledig ledled Cymru. O ran buddsoddiad y sector preifat a buddsoddiad mewnol, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at ystyriaeth arall—y pwyntiau a wnaed am y sectorau a'r ardaloedd menter yng Nghymru. Mae pwyslais penodol eu sector yn effeithio ar leoliad busnes y sector preifat a chyfleoedd newydd. Yn amlwg, mae hon yn strategaeth ar draws y Llywodraeth o ran lleoliad ac adleoliad busnesau a gwasanaethau ledled Cymru.

5. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y ‘Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd.

Ar 6 Ionawr eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’ ar ei newydd wedd. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i leihau clefyd y galon y gellir ei atal ac i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan unrhyw fath o gyflwr ar y galon yn cael mynediad amserol at ofal o ansawdd uchel. Ac y dylid darparu gofal o ansawdd uchel ni waeth ble y mae pobl yn byw. Yn gynyddol, rydym yn disgwyl y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty, pan fo hynny'n briodol. Mae'r cynllun cyflawni bellach yn cynnwys adran benodol ar blant a phobl ifanc, ac rydym wedi gwneud hyn er mwyn cynnwys canfyddiadau’r adolygiad annibynnol ar wasanaethau cardiaidd i blant ym Mryste a gyhoeddwyd y llynedd. Dylai plant sy'n byw gyda chyflwr ar y galon gael y cymorth a'r gofal gorau posibl yng Nghymru.

Bu datblygiadau sylweddol mewn gofal cardiaidd ar draws Cymru ers y cynllun cyflawni gwreiddiol yn 2013. Mae llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru erbyn hyn: bu gostyngiad mewn cyfraddau gan bron i 1,000 o bobl y flwyddyn rhwng 2010 a 2015. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i welliannau mewn gofal, ond gwyddom y gellir gwneud mwy. Bu gostyngiad o 21 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer clefyd coronaidd dros y pum mlynedd diwethaf, o ganlyniad i aelodau staff a chleifion yn rheoli’r cyflwr yn well. A gwyddom fod nifer o brosiectau gwella arloesol bellach ar waith, ac mae'r rhain yn cynnwys: datblygu’r rhaglen hypercolesterolemia etifeddol; cardioleg cymunedol; gwell asesiad o risg cardiofasgwlaidd; gwasanaeth clefyd cynhenid ​​y galon i oedolion yn y de; mynediad uniongyrchol i’r rhai sy’n derbyn gofal sylfaenol at ddiagnosteg; diagnosteg o dan arweiniad nyrsys; a systemau e-atgyfeirio ac e-gyngor. Mae pob un o'r datblygiadau newydd hyn wedi arwain at well canlyniadau i gleifion, ac rwy’n dymuno talu teyrnged i bawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau hyn.

Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel gwlad sy’n arwain y byd o ran adsefydlu cardiaidd, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yng Nghymru. Cynyddodd niferoedd Cymru o 42 y cant yn 2014-15 i 59 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo a byddwn yn ceisio gwella mwy eto yn y dyfodol. Mae'r weledigaeth a nodir yn ein cynllun ar gyfer llwybrau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol wedi’u llwyr integreiddio, a chynllunnir y rhain er mwyn bodloni anghenion y claf, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen arno er mwyn ei alluogi i wneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i reoli ei gyflwr ei hun. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru, ac mae’r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi buddsoddi £1 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd a gwasanaethau cardioleg cymunedol.

Mae achosion o glefyd y galon, fe wyddom, yn amrywio'n sylweddol ac yn annerbyniol rhwng ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig yma yng Nghymru. Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl o dan 75 oed yn 106 fesul 100,000 o bobl, sydd bron ddwywaith y gyfradd ym Mro Morgannwg, sydd ond yn 56 fesul 100,000 o bobl. Yn ddiweddar, roeddwn ym Meddygfa Tynycoed yn Sarn yn lansiad y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd cymunedol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a gwnaed argraff fawr arnaf gan frwdfrydedd aelodau’r staff sy’n adeiladu ar lwyddiant y rhai yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf ac yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Nhw, mewn gwirionedd, arweiniodd y prosiect hwn ar y cychwyn cyntaf, ac yn ogystal â chael arweinyddiaeth gan feddygon teulu mewn practisau unigol ac ar lefel clwstwr, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar weithwyr cymorth gofal iechyd am ei llwyddiant, oherwydd eu gallu nhw i ymgysylltu â grwpiau o bobl sy’n anfoddog ond â risg uchel, nad ydynt yn cysylltu’n rheolaidd â meddygon teulu, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen. Mae’r ymgysylltu hwnnw yn fwriadol yn digwydd i ffwrdd oddi wrth leoliadau clinigol neu feddygol. Felly, mae arfogi pobl â gwybodaeth i’w galluogi a’u grymuso i newid eu hiechyd presennol ac yn y dyfodol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dylai’r rhaglen hon barhau i gael effaith wirioneddol ar anghydraddoldebau o ran iechyd. Mae datblygu gwasanaethau cardioleg cymunedol, er bod hynny’n amrywio ar draws ardaloedd byrddau iechyd, i gyd yn cefnogi ein blaenoriaeth i wella mynediad at ofal sylfaenol a chymunedol, ac rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o drin pobl, lle bo'n briodol, mor lleol â phosibl, er mwyn helpu i leihau rhestrau aros ac i osgoi eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer yr eiddil, yr henoed a phobl â chyflyrau hirdymor.

Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi nodi eu blaenoriaethau ar gyfer 2017-18, ac mae'r rhain yn cynnwys datblygu llwybrau triniaeth ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin, treialu amseroedd aros cydrannol ac amseroedd aros ar gyfer diagnosis, datblygu a gweithredu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, a gwella mwy ar wasanaethau ffisioleg ac adsefydlu cardiaidd, gweithredu’r prosiect gwybodeg cardiaidd carlam Cymru gyfan, a datblygu system adolygu materion cardiaidd gan gymheiriaid ar draws Cymru.

Rydym eisoes wedi gweld gwelliannau mewn amseroedd aros cardiaidd drwy welliannau mewn gwasanaethau megis y gwaith ailddatblygu gwerth £6.6 miliwn yn y ganolfan gardiaidd yn Abertawe, sydd wedi mynd i'r afael â’r cynnydd yn y galw am welyau gofal critigol cardiaidd ar ôl llawdriniaeth ar y galon. Bydd y llwybrau clinigol drafft ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin yn cael eu trafod yng nghyfarfod y gwanwyn Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru ar ddiwedd mis Ebrill i gael consensws clinigol Cymru gyfan. Mae gweithredu’r llwybrau hynny ledled Cymru yn allweddol i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y cynllun.

Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos bod tua 8,000 o bobl yn dioddef trawiadau sydyn ar y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae’n bosib achub llawer mwy o fywydau pe byddai dadebru cardio-anadlol a diffibrilio cynnar yn cael eu cynnal yn amlach. Mae’r ffaith bod gwasanaethau ymyrraeth coronaidd sylfaenol drwy'r croen ar gael 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos yn y gogledd o 3 Ebrill ymlaen yn ddatblygiad arwyddocaol. Nawr bydd gennym ddarpariaeth Cymru gyfan.

Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion, o bwysigrwydd sgiliau achub bywyd megis dadebru cardio-anadlol a defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd. Mae'r cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, y byddwn yn ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Bydd yn ymdrin â chanfod trawiad ar y galon yn gynnar, CPR ar unwaith ac o ansawdd uchel, a diffibrilio cynnar yn ogystal â gofal effeithiol ar ôl dadebru.

Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'n hadnoddau yma yng Nghymru—yn enwedig sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein haelodau staff clinigol, rheolwyr gwasanaeth, a sefydliadau trydydd sector. Rydym ni’n dymuno meithrin perthynas mwy cyfartal rhwng y cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan alluogi pobl i gydgynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu nodau a’u hamgylchiadau. Datblygwyd y cynllun hwn ar ei newydd wedd trwy bartneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, Rhwydwaith y Galon Cymru, cyrff proffesiynol, a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni’r cam nesaf o weithio gyda'n gilydd, oherwydd y dasg a rennir rhyngom yw sicrhau gwell canlyniadau yn gyflymach a gydag mwy o effaith.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn cymryd camau bras ymlaen. Mae cyfraddau goroesi a gofal cardiaidd yn parhau i wella. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad aelodau staff y GIG a rhanddeiliaid eraill, sydd wedi gwneud y gwelliannau hyn yn bosibl ac sy’n hanfodol ar gyfer ein llwyddiant parhaus wrth wella mwy o fywydau ac achub mwy o fywydau.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ydw, rwy’n ymuno â chi i ddiolch i’n haelodau staff gweithgar yn y GIG. Mae'n anhygoel ac yn foddhaus iawn gweld y gwelliannau mewn gofal cardiaidd, ac rwy’n llwyr groesawu'r gwelliannau hyn ac yn diolch i'r aelodau staff sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl o ganlyniad i’w gwaith caled iawn.

Roeddwn wrth fy modd yn darllen y datganiad a'r cynllun. Rydych wedi nodi yn eich datganiad rywbeth y gwyddom i gyd, sef bod clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru. A wnewch chi ymhelaethu ychydig yn fwy ar unrhyw raglenni addysg posibl? Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi awgrymu dull 'sicrhau bod pob cyswllt yn gwneud gwahaniaeth’ wrth geisio mynd i'r afael â’r materion o golli pwysau a gordewdra. Pa gyfle sydd i annog y math hwn o ddull er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n cyfrannu at glefyd y galon? Roeddwn i’n falch iawn o weld bod adran benodol ar gyfer plant a phobl ifanc erbyn hyn, ond mae’r camau gweithredu allweddol yn ymwneud â’r rhai hynny sydd eisoes â chlefyd neu gyflwr cronig yn hytrach nag atal y clefyd er mwyn osgoi cyrraedd y sefyllfa hon. Felly, byddai ychydig mwy o fanylion am hynny a sut efallai y byddai’r cynllun gweithredu yn gallu hybu hynny, yn fwy na defnyddiol.

Rydych yn llygad eich lle wrth nodi bod nifer yr achosion o glefyd y galon, yn uchel iawn yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Pan eich bod yn sôn am yr anghydraddoldebau enfawr hyn, a wnewch chi amlinellu ymhellach pa gynlluniau sydd gennych i addysgu pobl y tu allan i'r lleoliadau gofal iechyd traddodiadol hyn fel y gallwn weld yn glir sut efallai y byddwn ni’n gallu atal yr anghydraddoldebau hyn, neu o leiaf lliniaru rhywfaint arnynt?

Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’ch paragraff, os mynnwch, ar ddiffibrilio a dadebru cardio-anadlol—rwy’n falch iawn o glywed bod cynlluniau i roi pwyslais ar sgiliau achub bywyd, ond a wnewch chi hefyd ystyried pa grwpiau eraill y gellid eu targedu i ddysgu'r sgiliau hyn, megis Sefydliad y Merched, y sgowtiaid, y geidiaid, sefydliadau cymunedol eraill? Rydym wedi rhoi pwyslais enfawr ar gynlluniau rhoi megis rhoi gwaed a rhoi organau. Tybed a ddylid defnyddio adnoddau tebyg yn awr er mwyn hyrwyddo technegau achub bywyd.

Gan gyfeirio at fuddsoddiad gwerth £1 miliwn y grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, a wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd hwn yn cael ei ledaenu neu ei ddosrannu ar draws y byrddau iechyd? Yn olaf, tybed, Weinidog, sut yr ydych chi’n bwriadu mesur llwyddiant. Gwelaf, yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon, fod gennych chi adran fach iawn ar ddangosyddion canlyniadau a mesurau sicrwydd. Mewn rhai ffyrdd, nid ydyn nhw’n ymddangos yn bendant iawn. A fyddwch chi’n gweithio i weithredu ambell DPA llawer mwy dwys mewn gwirionedd fel y gallwn weld pa mor dda y mae hyn yn cael ei gyflawni yn erbyn y canlyniadau? Oherwydd, er enghraifft, dim ond dweud:

Ar gyfer canlyniadau sy'n ymwneud â phlant, byddwn yn ystyried gwybodaeth sydd ar gael ar ysmygu yn ystod beichiogrwydd, marwolaeth amenedigol, pwysau geni isel,

ac ati—nid yw ‘ystyried’ yn ddull dwys a chyflym ar gyfer monitro canlyniadau mewn gwirionedd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut yr ydych chi’n bwriadu gwneud hynny. Diolch.

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gwn eich bod chi’n hoffi gofyn llawer o gwestiynau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny; rwy’n bwriadu ceisio ateb bob un o fewn yr amser penodedig.

Rwyf yn croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau o swyddogaeth aelodau staff wrth gyflawni gwelliannau real iawn gan GIG Cymru. Gwn, bob hyn a hyn, fod hanfod y ddadl ynglŷn ag iechyd yn ymwneud â'r heriau sydd gennym, ac rwy’n cydnabod bod gennym ni heriau, ond mae hwn yn faes lle y bu gwelliant gwirioneddol a sylweddol, a mwy o fywydau yn cael eu hachub o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud.

Yn gyntaf, af i’r afael â’r pwynt ynglŷn â sgiliau achub bywyd, oherwydd mewn gwirionedd, roeddwn wedi dangos, yn y—. Bydd gennym gynllun sy'n mynd i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei ddatblygu gan amrywiaeth o wahanol bobl o ran sut yr ydym yn cyflwyno mwy o sgiliau achub bywyd ac yn adeiladu ar y llwyddiant presennol, yn ogystal â deall lle y mae’r diffibrilwyr hynny a'r bobl sydd wedi’u hyfforddi i'w defnyddio. Felly, mae mwy o waith sy'n mynd rhagddo a byddaf yn lansio’r cynllun hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at ei weithredu yn ystod gweddill y tymor hwn gyda phartneriaid ac i asesu ei effaith unwaith eto ar gyflawni rhagor o welliant.

Ynglŷn â’ch cwestiwn ynghylch sut y bydd yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio, nid yw'n mynd i gael ei ddyrannu ar sail fformiwla ar draws byrddau iechyd. Caiff yr £1 miliwn, yr un fath â phob cynllun cyflawni arall, ei ddyrannu mewn gwirionedd gan y grŵp gweithredu yn erbyn ei flaenoriaethau. Dylech allu gweld y rheiny yn y cynllun, ond rwyf wedi nodi rhai ohonynt. Felly, dyna sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.

Rwy’n credu y bydd rhan o'r hyn y byddant yn ei wneud yn ateb rhai o'ch cwestiynau eraill ynglŷn â mesurau, gan eu bod yn ystyried treialu camau cydrannol i geisio deall, ar wahanol adegau, wrth i chi gael eich trin, pa mor hir y mae pobl yn aros ar hyd y llwybr cyfan hwnnw, er mwyn nodi lle y ceir rhwystrau neu anghydraddoldeb posibl. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Dylai hynny roi trosolwg diddorol iawn i glinigwyr, yn ogystal â'r cyhoedd, ac ar gyfer y ffordd y byddwn ni wedyn yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau.

Efallai i gychwyn na fydd hi’n hawdd cael gwybod am ble yr ydym ni’n aros a’r pethau nad ydyn ni’n hapus â nhw. Ond mae'n rhaid i ni allu deall sut yr ydym ni’n cyflawni’r gwelliant hwnnw, ac mae hynny’n cael ei sbarduno gan glinigwyr i ddeall lle y mae’r amseroedd aros cydrannol hynny'n bodoli, a’r hyn y gallan nhw ei wneud wedyn i'w lleihau, yn y ffordd y mae bron pob un o’r elfennau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw wedi deillio o’r sgwrs rhwng clinigwyr, y trydydd sector, a chleifion.

Mae’r un peth yn wir o ran y datblygiadau mewn cardioleg cymunedol sy'n cael eu cyflwyno. Ac, yn arbennig, yn fy marn i, ynglŷn â’ch pwynt cyffredinol am anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a'r negeseuon sydd gennym o ran hynny mewn cysylltiad â heriau iechyd y cyhoedd, nid dim ond ynghlwm wrth glefyd y galon, ond amrywiaeth eang o gyflyrau yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw: y gallu i wneud rhywbeth ynghylch cyfraddau ysmygu, er mwyn parhau i weld y rheiny’n gostwng, i wneud rhywbeth ynghylch ein defnydd o alcohol, ond hefyd deiet ac ymarfer corff, oherwydd gwyddom fod gordewdra yn broblem enfawr. Felly, os na allwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â deiet ac ymarfer corff, yna byddwn ni’n cael ein rhwystro rhag gallu gwneud unrhyw gynnydd pellach ar leihau achosion o glefyd y galon o fewn y boblogaeth.

Dyna hefyd pam y cychwynnodd y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yn Aneurin Bevan a Chwm Taf, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—a dargedwyd yn fwriadol felly gan ein bod wedi cydnabod yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n bodoli. Dyna hefyd pam mae’r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno yn ardal ABM a'r ardaloedd mwy difreintiedig yn gyntaf. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw’n mynd at y gwasanaethau iechyd yn aml, pobl sydd yn y grwpiau risg uchel hynny, ac os nad ydyn nhw’n cael eu gweld a'u trin ac yn cael eu hannog mewn gwirionedd i wneud dewisiadau ynglŷn â’u hiechyd eu hunain mewn ffordd wahanol, yna nid ydym yn debygol o weld eu cyflyrau meddygol sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, na’r risg ychwanegol y maen nhw’n ei ddatblygu, yn cael eu herio.

Dyna pam mae hi’n fwriadol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n ceisio cael gwared ar yr elfen feddygol sydd ynghlwm wrth hynny, i geisio annog pobl yn eu cymunedau eu hunain i ymgymryd â gwahanol fathau o weithgarwch, ac mae'n pwysleisio’r pethau pwysig fel rhagnodi cymdeithasol a'r ffordd y gallwn ni wneud gweithgarwch a dewisiadau iachach yn haws, heb fod yn feirniadol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydych chi’n cynnal sgwrs â rhywun yn eu cymuned y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddi, a’u bod nhw’n cydnabod y budd gwirioneddol iddyn nhw o wneud newid. Felly, mae llawer i'w wneud, ond mae llawer i fod yn gadarnhaol amdano hefyd, yn fy marn i.

Rydw i’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma a fydd wrth gwrs o ddiddordeb i lawer iawn o bobl yng Nghymru oherwydd bod gymaint yn byw efo cyflyrau ‘cardiac’ neu’n dioddef o glefyd y galon. Wrth gwrs, rydym ni yn croesawu hefyd lle mae yna dir wedi cael ei ennill oherwydd gwaith caled ein staff ni o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd mae’n rhaid cofio oherwydd pethau sydd wedi deillio o fan hyn fel y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sy’n cael ‘impact’ go iawn ar iechyd.

Mae gennyf bedwar cwestiwn i’w gofyn. Mae’r datganiad yn sôn am wasanaethau adferiad cardiaidd neu ‘cardiac rehabilitiation’. Mae’r Llywodraeth yn llongyfarch ei hunain bod bron i 60 y cant o gleifion rŵan yn cael cymryd rhan mewn gwasanaeth adferiad. Ond mae’r cynllun cyflawni ei hun yn dweud ar hyn o bryd fod pobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir cyn dechrau triniaeth adferiad. Rŵan, rydym ni’n gwybod am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth yn y lle cyntaf. Rydym ni’n gwybod fawr ddim am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth adferiad, sydd mor bwysig. Felly, pa bryd fydd y data yna yn cael ei wneud yn fwy cyhoeddus, ac a fydd y Llywodraeth wedyn yn sefydlu pa mor hir y dylai cleifion aros cyn dechrau triniaeth adferiad, o gofio, wrth gwrs, bod y cynllun ei hun yn dweud bod yr amser aros yn rhy hir ar hyn o bryd?

Yn ail, mae’r datganiad hefyd yn cydnabod bod angen mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau, a bod angen cynyddu’r lefel o ymgysylltu sydd yna rhwng pobl a thimau gofal sylfaenol, rhywbeth nad yw pobl mewn grwpiau risg uchel yn aml iawn yn ei wneud. Felly, o ystyried bod y Llywodraeth am roi pwysau ychwanegol yn hynny o beth ar y sector gofal sylfaenol, pa fwriad sydd yna i roi adnoddau ychwanegol i gyd-fynd â hynny, gan gynnwys meddygon ychwanegol ac ati, er mwyn i’r sector gofal sylfaenol allu cyflawni’r amcanion y mae’r Llywodraeth yn eu gosod ar eu cyfer nhw?

Mae’r nesaf yn un i’r Ysgrifennydd Cabinet ei drafod efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o bosib. Rydw i’n croesawu’r adran yn y cynllun cyflawni ar blant â chyflyrau ar y galon. Yn y cynllun hwnnw, mae yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet—y Llywodraeth—am i blant sydd efo cyflyrau ar y galon allu mwynhau mynediad llawn at addysg, gan gynnwys teithiau ysgol. A ydy’r Ysgrifennydd, felly, yn credu, o ran cyflawni’r amcanion strategol yna, bod angen adolygu’r cyfreithiau ar dripiau ysgol i sicrhau diogelwch plant? Rydym ni’n ymwybodol o nifer o achosion lle mae plant sydd efo cyflyrau cronig wedi bod yn agored i risg ac, ar y lleiaf o bosib, rydw i’n credu bod angen cynyddu’r ddarpariaeth cymorth cyntaf i’w wneud yn rhan ehangach o’r cwricwlwm.

Ac, yn olaf, rydym ni hefyd yn gwybod yn y blynyddoedd blaenorol bod amseroedd hir am driniaeth wedi bod yn broblem: cleifion yn aros mwy nag sy’n dderbyniol yn glinigol. Dyna pam bod rhai triniaethau wedi cael eu rhoi ar gontract i’r sector preifat ac wedi cael eu hallanoli. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn olaf, felly, yn gallu rhoi sicrwydd bod y capasiti bellach yno o fewn y system er mwyn gallu osgoi troi at y math yna o weithredu yn rhy gyson?

Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n credu, ynglŷn â’ch pwynt olaf, fod gennym ni’r capasiti priodol o fewn ein system erbyn hyn. Byddwch yn gweld bod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol yn ein dwy ganolfan yn y de ac roedd hynny ynddo'i hun yn her. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol yr anfonwyd nifer sylweddol o bobl, ar wahanol adegau, i ddefnyddio gwasanaethau yn Lloegr am nad oedd gennym y capasiti yma. Felly, dylid canmol canolfannau yn Abertawe a Chaerdydd am y gwaith sylweddol y maen nhw wedi’i wneud, nid dim ond o ran cyfrannu'n sylweddol at leihau amserau aros ar gyfer llawdriniaeth, ond hefyd y ffaith bod eu canlyniadau’n dda iawn, iawn ac yn well na chyfartaledd y DU. Felly, unwaith eto, ni ddylem fod yn swil wrth ganmol ein GIG pan i fod mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau da iawn a gofal o ansawdd uchel iawn. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes mwy y byddem ni’n dymuno ei wneud, ac mae rhai pobl sy'n aros ychydig yn hirach nag y byddem ni’n ei hoffi, ond mae’r rheiny’n niferoedd llawer, llawer llai. Felly, rwy'n hyderus ynghylch ein gallu i ymdrin â'r capasiti o ran hynny. Ond mae hefyd yn pwysleisio eich pwyntiau ynglŷn â’r cynnydd y byddwn yn ei wneud o ran cardioleg cymunedol a’r cynnydd na fyddwn yn ei wneud, oherwydd yr hyn a oedd yn galonogol iawn—wn i ddim os yw’r gŵr bonheddig y tu ôl i chi wedi bod yn rhan o hyn yn ei bractis cyn dychwelyd i'r lle hwn—oedd edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau cardioleg cymunedol ardal Abertawe eisoes wedi’u cyflwyno. A meddygon teulu â chanddyn nhw ddiddordeb arbenigol, neu sgiliau arbenigol, yn dibynnu ar bwy yr ydych chi’n siarad â nhw a sut y maen nhw’n disgrifio hynny, sy’n gweithredu hyn mewn gwirionedd. Ac yr oedd yn her o ran y sgwrs rhwng y clinigwyr gofal sylfaenol hynny a'u cydweithwyr ym maes gofal eilaidd ynghylch a fydden nhw’n gallu cyflawni rhywfaint o’r swydd hon mewn gwirionedd. Ac nid oedd pob clinigydd gofal eilaidd yn frwdfrydig drosto, ond maen nhw’n frwdfrydig erbyn hyn, oherwydd eu bod yn cydnabod y ceir sgiliau mewn gofal sylfaenol y gellir eu defnyddio, ac nid dim ond pobl sy'n feddygon teulu, ond mewn gwirionedd yn ymwneud â rhywfaint o'r gwaith mwy ataliol. Mae wedi gostwng amseroedd aros yn y maes hwnnw hefyd mewn gwirionedd, felly mae pobl yn cael gwasanaeth gwell, mwy lleol ym maes gofal sylfaenol, ac mae pobl sydd angen gofal eilaidd neu drydyddol yn cael mynediad cyflymach o ganlyniad i hynny. Ac mae'n helpu ein rhaglenni adsefydlu hefyd mewn gwirionedd.

Fy nealltwriaeth i yw bod gennym ni’r capasiti i allu gwneud hynny o fewn gofal sylfaenol, ond fel yr wyf wedi dweud o'r blaen pan fo pobl yn gwneud ceisiadau gwahanol am adnoddau ychwanegol mewn gwahanol rannau o'r system, ar y cyfan mae ein cyllideb yn gyfyngedig, ac felly, os byddwn yn gofyn am ragor o arian ar gyfer un rhan o'n system gofal iechyd, mae angen i ni dynnu’r arian hwnnw o rywle arall, ac mae hynny’n eithaf anodd ei wneud mewn gwirionedd. Ond, os ydym ni am drosglwyddo gwasanaethau i fod yn rhan o ofal sylfaenol, yna mae’n rhaid i’r adnodd fod yno ac ar gael naill ai yn ariannol, neu o ran pobl, er mwyn gallu cyflawni hynny yn y ffordd yr ydym yn disgwyl i'r gwasanaeth gael ei ddarparu'n wahanol.

Felly, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â defnyddio ein holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn well, ac mae'n cyfeirio’n ôl at y sgyrsiau rheolaidd yr ydym ni’n eu cael ynglŷn â gwneud y defnydd gorau o amser meddygon teulu, oherwydd gall gweithwyr proffesiynol eraill ymdrin â rhywfaint o'r hyn y mae meddygon teulu yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, mae pethau fel hyn, lle y gallai meddygon teulu sydd â diddordeb arbennig wneud mwy, a darparu gofal o ansawdd uchel yn fwy lleol, yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei weld yn cael ei ysgogi yn fwy cyson mewn gwirionedd. Ac rwy’n falch iawn o weld bod pob bwrdd iechyd wedi cymryd sylw o’r dysgu llwyddiannus yn ardal Abertawe, yn rhan o fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, sy’n bwysig ac yn gadarnhaol ar gyfer cleifion.

Rwyf yn cydnabod y pwyntiau a wnewch am y ffordd yr ydym ni’n rheoli plant â chyflyrau cronig—nad ydynt yn ymwneud â’u gallu i ddysgu, o reidrwydd—ond yr anghenion iechyd cronig a allai fod ganddynt a sut y maen nhw’n cael eu rheoli gyda lefel briodol o reoli risg. Ond, yr hyn nad wyf eisiau ei weld yw ein bod yn defnyddio ymagwedd gwrth-risg sy'n golygu nad yw plant yn cael cyfleoedd oherwydd eu cyflwr iechyd. Ond mae’n ymwneud â sut y caiff y lefel honno o risg ei rheoli'n gywir ac yn briodol, a bydd angen sgwrs barhaus rhwng llywodraeth leol, yn ogystal â Gweinidogion a swyddogion yn y Llywodraeth, ynglŷn â sut y mae hynny'n cael ei wneud yn iawn. Rwy’n cydnabod yr enghreifftiau trasig diweddar a roddir lle mae'n ymddangos fod pethau wedi mynd o chwith, ond rwy'n awyddus ein bod mewn gwirionedd yn cymryd safbwynt synhwyrol nad yw'n lleihau’r cyfleoedd sydd ar gael i amrywiaeth o blant.

Ac ar eich pwynt am gynnydd o ran gwasanaethau adsefydlu'r galon, rwy'n hapus iawn â'r ymgysylltu mwy llwyddiannus yr ydym wedi ei gael gyda chleifion. Ond mae peth o hyn yn dal i fod ynghylch faint o bobl sy'n barod i gymryd rhan mewn rhaglen adsefydlu. Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn rhyfedd, ar ôl i rywun gael llawdriniaeth neu ymyrraeth ar gyfer gofal y galon, nad ydynt yn fodlon ar y pwynt hwnnw i fynd a cheisio gwella eu gofal. Ond nid yw pawb yn fodlon gwneud hynny, ac felly, rhan o her hyn yw sut yr ydym yn argyhoeddi’r bobl hynny o’i werth, yn ogystal â chynnig y cyfle hwnnw yn gynharach. Rwy'n wirioneddol falch o'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Gymru ym mlwyddyn ddiwethaf y ffigurau a gofnodwyd, gan ei bod yn dangos ein bod ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU ym maes adsefydlu'r galon. Ac, unwaith eto, dylem i gyd fod yn falch iawn. Nid dim ond y Llywodraeth yn llongyfarch ei hun yw hyn; mae'n ymwneud â llongyfarch ein gwasanaeth cyfan am yr hyn y mae'n ei wneud—y ffaith ein bod yn ail-ymgysylltu dinasyddion i wneud dewisiadau gwahanol ar gyfer eu gofal eu hunain, oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw ymgysylltu â’r rhaglen er mwyn iddi fod yn llwyddiannus.

Ond rwyf yn awyddus i fod yn glir iawn: nid yw hyn yn lleihau ein huchelgais i wella. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. Byddwn ni’n gweld cyfres newydd o ffigurau a fydd yn cael eu cyhoeddi ac fe wnawn ni edrych eto ar yr hyn yr ydym wedi ei wneud o ran yr amser y mae pobl yn aros i fynd a chael y rhaglen adsefydlu wedi’i chychwyn, yn ogystal â nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen adsefydlu hefyd. Rwyf i wedi ymrwymo i fod yn agored am yr hyn yr ydym yn gallu ei wneud a'r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gwneud rhagor o welliannau eto—ond hefyd y gwelliant yr ydym yn dal i gydnabod y gallem ac y dylem ei wneud gyda'n poblogaeth hefyd.

Y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta ydym ni ac, yn drist, mae llawer gormod o bobl nad ydynt ond yn bwyta bwyd sydd wedi’i drochi’n gyfan gwbl mewn braster, siwgr a halen. Ac mae hynny, ynghyd â pheidio â gwneud llawer o ymarfer corff, yn amlwg yn rysáit ar gyfer clefyd y galon. Rydych chi’n dweud yn hollol gywir yn eich datganiad bod llawer o'r grwpiau targed yn rhai sy'n amharod i fynd at y meddyg teulu. Roeddwn i’n myfyrio ar hynny, ac rwy’n dymuno canmol gwaith pobl fel Bwyd Caerdydd, sydd yn estyn allan at bobl i geisio eu cael i newid eu deiet, yn arbennig drwy ysgolion. Ond mae dynion, rwy’n meddwl, mewn perygl penodol o gael clefyd y galon ac maen nhw’n llai tebygol o fod yn mynd i’r ysgol a chlywed am beth sydd ar gael yno. Roeddwn i braidd yn siomedig o weld nad yw hyn yn estyn allan at y rhai hynny nad ydynt yn mynd at y meddyg teulu yn aml iawn, neu nid tan ei bod yn rheidrwydd meddygol, ac nad yw hynny ar y rhestr o flaenoriaethau a amlinellwyd gennych ar ddiwedd eich datganiad. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydym ni’n mynd i gyrraedd y bobl hyn sy'n cael eu lladd yn gynnar ac yn cael eu hanfon i fedd cynnar. Maent yn cael eu hanfon i fedd cynnar gan y proseswyr bwyd, sef, wrth gwrs, pam yr wyf i eisiau gweld treth ar siwgr, halen a braster, i’n galluogi ni i ofalu am y bobl hyn pan fyddant yn anochel yn cyrraedd y sector aciwt .

Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n cydnabod eich diddordeb cyson ym maes deiet, iechyd, ac ymarfer corff. Nid dim ond ynghylch diabetes y mae hyn, gan fod llawer o'r ffactorau risg yr ydym yn sôn amdanynt ym maes diabetes yn ffactorau risg mewn amrywiaeth o gyflyrau eraill, gan gynnwys clefyd y galon a chyflyrau ar y galon hefyd.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae deiet ac ymarfer corff yn ei gael ar amrywiaeth eang o gyflyrau, ac rwyf innau hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Bwyd Caerdydd yn ei wneud i gyrraedd nifer o bobl. Ond pan fyddaf yn disgrifio'r rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd, mae honno'n ymestyn yn fwriadol at bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn gwasanaethau arferol. Dyna’r llwyddiant yr ydym wedi ei weld yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld mwy o lwyddiant yn ardal Abertawe Bro Morgannwg hefyd.

Ac felly rydym yn disgwyl i'r rhaglen gael ei chyflwyno yn llwyddiannus, i ymestyn at y bobl hynny nad ydynt yn cymryd rhan yn eu dewisiadau gofal iechyd eu hunain yn awr, er gwaethaf yr holl dystiolaeth sy'n bodoli. Mae ystod gyfan o bethau, ond mae'n debyg mai astudiaeth Caerffili sy’n dal i fod yr hyn sy'n dweud wrthym am effaith hirdymor gwneud dewisiadau iechyd gwahanol. Ac felly dyna pam y mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno, oherwydd ei bod yn mynd at y bobl hynny lle’r ydym yn cydnabod bod anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ac yn cydnabod eu bod yn annhebygol o ymgysylltu â’r negeseuon iechyd cyhoeddus ehangach hynny, lle bynnag y maent. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ysgolion fel sbardun gwirioneddol—ysgolion cynradd yn enwedig, lle mae rhieni yn fwy tebygol o ymgysylltu. Ond rwy’n cydnabod, hyd yn oed yn yr ysgol gynradd, mae'n dal i fod yn fwy tebygol mai menywod a fydd yn ymgysylltu â bywyd yr ysgol.

A gyda’r llwyddiant yr ydym wedi’i weld, rydym mewn gwirionedd yn gweld cyfraddau amrywiol, rhwng 50 y cant a 70 y cant, o ymgysylltu â'r rhaglenni risg cardiofasgwlaidd yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan. Mae hwnnw’n welliant sylweddol; yn ymgysylltiad sylweddol o bobl na fyddai yno fel arall. Dyna pam—rwyf wedi’i bwysleisio yn y datganiad—y byddwch yn gweld mwy o hynny’n digwydd ledled y wlad.

Ac yn yr holl bethau hyn, mae angen i ni ddeall pam y mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid dim ond model o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio mewn lleoliadau gwahanol yw hwn—ond y cwestiwn yw a yw’n dal yn mynd i weithio mor llwyddiannus wrth iddo gael ei gyflwyno? Rwy'n hyderus y dylai weithio yn bron pob un o'n lleoliadau, mewn gwirionedd, ond, unwaith eto, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a dysgu bob amser: a yw’n dal i fod y dull cywir, a oes mwy y gallwn ei wneud, a sut mae'n cyd-fynd â’n hymyrraethau eraill, a gwaith arall ar draws y Llywodraeth? Felly nid dim ond iechyd ym mhob polisi, ond yr holl bolisïau mewn iechyd hefyd, a sut yr ydym yn gweld hynny’n cael ei gyflawni ar draws yr holl Lywodraeth a'n partneriaid.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er gwaethaf datblygiadau diweddar mewn gofal coronaidd, mae clefyd y galon yn parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Y mis hwn, bydd tua 750 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd; bydd 720 yn mynd i'r ysbyty oherwydd trawiad ar y galon; ac, yn anffodus, bydd 340 o'r rheini yn marw. Hefyd, y mis hwn, bydd tua 16 o fabanod yn cael eu geni gyda nam ar y galon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae croeso mawr i’r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon.

Fel y mae’r cynllun yn amlygu, rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae angen i ni gyflawni nid gwelliant graddol, cynaliadwy, ond newid ar unwaith a sylfaenol o ran cyflymder. Mae'r cynllun cyflawni yn briodol yn rhoi llawer o bwyslais ar atal. I leihau nifer yr oedolion sy'n ysmygu, mae'r cynllun yn nodi bod yn rhaid inni sicrhau bod pob cysylltiad â'r gwasanaethau iechyd a gofal yn cael ei ddefnyddio i atal nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu ac yn annog pobl i roi'r gorau i ysmygu. Er gwaethaf blynyddoedd o dynnu sylw at beryglon ysmygu, mae nifer yr ysmygwyr yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i'r defnydd o e-sigaréts fel ffordd o leihau’r niwed gan fwg tybaco ymhlith y 19 y cant o oedolion yng Nghymru sy'n parhau i ysmygu?

O ran y prif ffactor ffordd o fyw arall o ran clefyd y galon, y diffyg gweithgarwch corfforol, a deiet gwael, mae dros hanner y boblogaeth sy'n oedolion yng Nghymru naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Mae mynd i'r afael â'r broblem hon yn llawer anoddach na lleihau niwed o ganlyniad i ysmygu. Felly, pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i rhoi i sicrhau bod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd yn canolbwyntio ar addysgu ein pobl ifanc sut i fwyta'n iach, a sut i fyw'n iach?

Wrth gwrs, byddwn ni ond yn rhwystro hyn a hyn o glefyd y galon, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ddulliau o ganfod a thrin amserol ac effeithiol. Y tro diwethaf i’r targed 95 y cant i drin cleifion y galon o fewn 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad gael ei gyflawni oed ym mis Ebrill 2012. Rydym ni’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud, a hefyd y staff sy'n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae angen lleihau nifer y bobl sy'n aros mwy na 26 wythnos ac mae angen gwneud hynny ar frys. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r prif ffactorau wrth fethu'r targed atgyfeirio i driniaeth? A yw o ganlyniad i brinder o bobl, neu a yw'n dioddef effaith y gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi amlygu bod nifer fawr o bobl yn y DU yn byw gyda genyn diffygiol sy'n eu rhoi mewn perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon, neu hyd yn oed farwolaeth sydyn. Bob wythnos, mae tua 12 o bobl, a oedd yn ymddangos yn iach, o dan 35 oed yn marw o farwolaeth sydyn yn gysylltiedig â’r galon. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella ymchwil i farwolaeth gardiaidd sydyn ac a ydych chi’n bwriadu datblygu sgrinio priodol ar lefel y boblogaeth ar gyfer y cyflyrau hyn ar y galon? Rwy’n diolch i chi, unwaith eto, am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wella gofal y galon yng Nghymru. Diolch.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac yn arbennig am y croeso i’r cynllun ac unwaith eto, y gydnabyddiaeth o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud ac yr ydym yn bwriadu ei wneud yma yng Nghymru. Rwyf am ymdrin â'r pwynt olaf am ymchwil a sgrinio yn gyntaf. Wrth gwrs, mae amrywiaeth o ymchwil sy'n digwydd ar draws ein sectorau prifysgol a bwrdd iechyd. Pryd bynnag y mae pobl yn sôn am sgrinio, rwyf i—. Mae angen i ni gymryd cam yn ôl a deall yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth hynny, mewn gwirionedd, a beth yw gwerth hyn i gyd. Y peth hawddaf i’w wneud yw galw am raglen sgrinio genedlaethol i ddeall ac i adnabod yn gynnar ystod o gyflyrau, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni gael profion dibynadwy sydd mewn gwirionedd yn dweud rhywbeth defnyddiol wrthym ac nid yn achosi niwed i bobl. Dyna ein her. A oes prawf dibynadwy y gallwn sgrinio'r boblogaeth ag ef? Ydym ni wir yn gweld budd o ran iechyd wrth geisio ymgymryd â rhaglen sgrinio genedlaethol yn y maes hwn, neu a ydym ni’n mynd i gael mwy o fudd o ran y gwerth i unigolion, yn ogystal â'r GIG, gyda mesurau eraill? Ar hyn o bryd, nid wyf yn ymwybodol fod dull synhwyrol ar gyfer sgrinio'r boblogaeth yn y maes hwn. Mae angen i ni ymgymryd â gweithdrefnau lle yr ydym yn deall bod risg a deall y risg sydd gan bobl yn hanes eu teulu eu hunain.

O ran y pwynt am amseroedd aros, rydym ni’n gweld amseroedd aros yn lleihau. Fel yr ydych chi wedi gweld, yn fy natganiad, nodais ein bod wedi buddsoddi £6.6 miliwn yn y ganolfan yn Abertawe, hefyd, i roi mwy o allu i ganiatáu i'r amseroedd aros hynny ostwng ymhellach fyth, yn ogystal â'r gwaith yr wyf eisoes wedi’i ddisgrifio wrth ateb cwestiynau eraill am y gwaith yr ydym yn ei wneud ym maes gofal sylfaenol i sicrhau bod gennym wasanaethau amgen i wneud yn siŵr bod y bobl sydd wir angen cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd neu drydyddol yn cael y cyfle i wneud hynny yn gyflym.

O ran eich pwynt am ysmygu yn gostwng, unwaith eto, yr oedd bai arnaf am beidio â chydnabod yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae camau a gymerwyd gan y lle hwn i osgoi ysmygu mewn rhai rhannau o'r ystâd gyhoeddus yn arbennig wedi cael effaith wirioneddol ar newid natur y sgwrs ynghylch ysmygu. Mae'n rhan o'r arfogaeth sydd gennym wrth leihau cyfraddau ysmygu mewn gwirionedd. Roedd yn ddewis anodd ei wneud. Efallai bod pobl yn meddwl erbyn hyn wrth gwrs, na ddylech chi gael ysmygu mewn amrywiaeth o fannau cyhoeddus, ond roedd gwrthwynebiad gwirioneddol a sylweddol iawn ar y pryd oherwydd bod y lle hwn wedi dewis gwahardd hynny. Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i wneud hynny. O ran eich pwynt ynglŷn ag e-sigaréts, wel, nid yw e-sigaréts heb niwed; nid yw’n wir nad oes niwed o gwbl. Yr her yw nad ydym yn deall union natur y niwed yn y cynhyrchion hyn. Dyna pam y mae rheoleiddio yn cael ei ddatblygu ar yr hyn y gellid ac y dylid fod mewn e-sigarét. Ond rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn eu defnyddio wrth geisio rhoi'r gorau iddi, ond rydym wedi parhau i ddweud, fel Llywodraeth, y byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r hyn sydd ar gael, am y niwed a achosir gan e-sigaréts, ac yna fel dewis arall i dybaco. Felly, nid wyf i ar ffansi heddiw yn mynd i gyhoeddi dull cwbl wahanol neu newydd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull rhagofalus, ond byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth ar y ffordd iawn ymlaen.

Yn olaf, eich pwynt am ddeiet ac ymarfer corff. Unwaith eto, mae wedi codi mewn cwestiynau eraill, ond ceir neges ysgolion iach gyson, a bydd unrhyw Aelod sy'n ymweld ag un o'u hysgolion cynradd lleol yn arbennig yn ei chael hi’n anodd iawn peidio â gweld negeseuon byw'n iach a bwyta'n iach yn eu hysgolion. Felly, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod ein hysgolion yn cyflawni eu rhan nhw o'r fargen o ran darparu’r neges bwyta'n iach, byw'n iach honno. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud, er enghraifft, wrth gyflwyno'r filltir ddyddiol mewn ysgolion yn rhan o'r neges honno. Yr her bob amser yw sut yr ydym yn ymgysylltu â'r grŵp o rieni a gofalwyr o gwmpas yr ysgol honno, oherwydd y maen nhw’n dylanwadau mwy nag y mae ein hysgolion eu hunain ar yr ymddygiadau iechyd y mae pobl yn eu magu ac yna'n eu parhau yn eu bywydau fel oedolion. Felly, mae'n ymwneud â’r darlun cyfan; nid dim ond dweud mai cyfrifoldeb ysgolion yw hyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae pob un ohonom yn ein swyddogaethau—fel unigolion, rhieni a gofalwyr ac yn ein swyddogaethau mewn cymunedau—mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb hefyd, ond yr her bob amser yw sut yr ydym ni’n helpu pobl i wneud dewisiadau , yn hytrach na chael ein gweld yn pregethu wrth bobl neu ddweud wrthynt eu bod yn gwneud y peth anghywir. Mewn gwirionedd, nid yw hynny wedi profi i fod yn ffordd effeithiol iawn o gyflawni newid. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall negeseuon byw'n iach a bwyta'n iach; ein her ni yw sut yr ydym am eu helpu i wneud hynny’n fwy llwyddiannus ac yn fwy effeithiol.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw, ac am yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni. Rwy’n sicr yn gwerthfawrogi hynny. Un o'r pethau yr oeddwn i eisiau eich holi amdano oedd un o'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau'r galon, sef y cynllun i gael cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru—rhywbeth y byddwn i yn sicr yn ei groesawu. Nawr, byddai’r cynllun hwnnw yn sicrhau bod llwybrau clir ar gyfer rheoli cleifion ar ôl i’w cylchrediad y gwaed ddychwelyd yn digymell, ac rwy’n credu y gallwch chi gynllunio ar gyfer hynny. Yr hyn sy’n fwy anodd i gynllunio ar ei gyfer yw colli cylchrediad gwaed digymell yn y lle cyntaf.

Heb achub y blaen ar ddadl yfory, rwy’n credu y gallech chi ystyried mwy o ddiffibrilwyr, a hyfforddiant ar lefel y boblogaeth gyfan i roi'r hyder o ran sut i ddefnyddio'r offer, sut i’w ymarfer a’i ddiweddaru, oherwydd y mae angen iddo gael ei ddiweddaru—technegau adfywio cardiopwlmonari ehangach. Gallai'r holl bethau hyn mewn gwirionedd fod yn gam 1 o'ch cynllun gweithredu ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Os ydych chi’n cytuno â hynny, tybed a ydych chi’n credu mai’r ffordd o greu’r cam cyntaf hwnnw fyddai drwy fabwysiadu ymagwedd hawliau a chyfrifoldebau, yn hytrach na dibynnu ar y math o weithgaredd a grybwyllwyd gennych yn y datganiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr—a oedd yn dangos cynnydd enfawr, yr oedd croeso mawr iawn, iawn iddo, mewn diddordeb a gweithgarwch ar y mater o sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw sicrwydd o hirhoedledd, mewn gwirionedd, nac o gyrraedd y boblogaeth gyfan, sef yr hyn y byddai wedi bod ei angen er mwyn rheoli yr hyn na ellir ei reoli, sef natur ysbeidiol ac ar hap pobl sy’n cael trawiad ar y galon y tu allan i leoliad ysbyty. Diolch.

Dywedais fis Ebrill, ond mewn gwirionedd, ym mis Mai y byddaf yn disgwyl gallu cyhoeddi'r cynllun newydd. Nid wyf innau am achub y blaen yn llwyr ar ddadl yfory ychwaith, y byddwch chi’n ei harwain ar gynnig deddfwriaethol newydd, ond mae peth o hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn darparu mwy o sgiliau achub bywyd a ble a sut yr ydym yn mynd i allu gwneud hynny. Ac mae cydbwysedd rhwng yr hyn yr ydym yn ei wneud yn orfodol, a'r hyn nad ydym yn ei wneud yn orfodol. Byddwch yn gweld yr ymagwedd—nid wyf i’n mynd i achub y blaen ar ddatganiad a dadl yfory—. Ond mae rhan o hyn yn sicr wedi bod ynglŷn â deall lle mae'r holl diffibrilwyr.

Felly, mewn gwirionedd, ychydig o flynyddoedd yn ôl, lansiwyd yr hyn y gwnaethom ei alw’n amnest—sydd yn ôl pob tebyg y term anghywir, mewn gwirionedd—ar ble y mae’r diffibrilwyr ac ynghylch sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Roedd gan nifer o fusnesau un, ond roeddent ar gael y tu mewn i’r gweithle hwnnw yn hytrach nag ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Yn wir, ymwelais â thafarn ar stryd fawr y Barri, gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg, i edrych ar eu diffibriliwr nhw, a oedd ar y gofrestr, ac felly roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod lle yr oedd, roedd ymatebwyr cyntaf cymunedol yn gwybod lle y mae ac yna’n gallu ei ddefnyddio os ceir trawiad sydyn ar y stryd fawr yn y Barri. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn fwy effeithiol. Rydym ni eisoes wedi cofrestru 2,000 o ddiffibrilwyr ledled y wlad, ac mae'n ymwneud â deall mwy am yr hyn y gallwn ei wneud mwy ohono yn y maes hwnnw, yn ogystal ag arfogi pobl â'r sgiliau achub bywydau hynny.

Ni ddywedaf fwy ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae gennym ddadl ar hyn yfory, ac nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y gallech ei ddweud yno, neu unrhyw beth y gallwn i ei ddweud mewn ymateb i'r ddadl. Ond rydym ni yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, ac rydym ni wrth gwrs yn awyddus i wneud cynnydd pellach.

6. 4. Datganiad: Menter Ymchwil Busnesau Bach
7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yw Eitem 5: gweithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel. Galwaf ar Carl Sargeant i siarad am y datganiad hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae diogelwch a diogeledd ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth bob amser. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn fwy diogel fyth yn y dyfodol, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer diogelwch cymunedol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn benodol, byddwn yn datblygu ein gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a byddwn yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill ar faterion yn cynnwys seiberdroseddu, diogelwch a mynd i'r afael ag eithafiaeth. Byddwn yn parhau i annog gweithio agosach rhwng y gwasanaethau brys.

Ddirprwy Lywydd, mae gwneud ein cymunedau yn fwy diogel yn gofyn am weithredu ar draws y Llywodraeth, a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft—mae hyn yn cael ei arwain gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac mae gan ymyrraethau fel y rhain, yn aml gyda rhai o'r dinasyddion mwyaf agored i niwed, oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer diogelwch ein cymunedau. Yn wir, rwy’n sicr na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un gwasanaeth Llywodraeth—boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru—neu gymuned. Mae hon yn agenda a rennir.

O fewn fy mhortffolio i, mae llawer eisoes wedi ei gyflawni ledled Cymru drwy weithio gyda'n partneriaid. Ynghyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydym wedi sefydlu panel ymgynghorol cyfiawnder ieuenctid Cymru. Mae hyn yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o lywodraeth leol, iechyd, y gwasanaeth prawf, y trydydd sector a'r heddlu, ac mae'n darparu arweinyddiaeth gydlynol a chyfeiriad strategol ar draws meysydd polisi, a sefydlwyd gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU yn gysylltiedig â'n strategaeth Rhoi Plant yn Gyntaf Cymru. Mae effaith y gwaith ar y cyd a arweiniwyd gan y panel dros y pum mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf, lleihad yn nifer y bobl ifanc yn yr ystâd ddiogel ac ymagwedd effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ymyrraeth gynnar—canlyniadau sy'n dangos perfformiad gwell nag yn Lloegr.

Ac o ganlyniad i'r cydweithio agos gyda'r heddluoedd yng Nghymru, rydym wedi recriwtio a defnyddio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ledled Cymru. Hefyd, ynghyd â'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr - Cymru, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a mwy o integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau. Yn y modd hwn, ein nod yw targedu’r adnoddau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig yn fwy effeithiol.

Ac, wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, wedi cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol gyntaf ac wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau hyfforddiant. Rydym wedi creu sawl ymgyrch proffil uchel, gan gynnwys yr ymgyrch Croesi’r Llinell a enillodd wobrau, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol. Rwyf hefyd yn cadeirio’r grŵp ymgynghorol VAWDA amlasiantaeth, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector statudol a'r trydydd sector, ynghyd ag academyddion blaenllaw. Mae'n rhoi arweiniad strategol ar weithrediad y Ddeddf a'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Bydd y grŵp yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni'r strategaeth genedlaethol newydd. Yn hollbwysig, mae'r dull hwn yn sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau goroeswyr.

Gyda'n partneriaid, rydym ni, mewn llawer agwedd ar ein gwaith, yn arwain y ffordd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, gan ddenu sylw y DU a sylw rhyngwladol. Trwy waith partneriaeth Cymru, rydym ni’n codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth i wella adrodd a helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod y troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.

Ond nid yw cadw cymunedau'n ddiogel yn golyygu atal neu fynd i'r afael â throseddu yn unig. Er enghraifft, mae tân a pheryglon eraill yn peri risg sylweddol. Mae ein gwasanaethau tân wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005, mae tanau ac anafiadau oherwydd tân wedi haneru bron. O ganlyniad, mae gan ein diffoddwyr tân y gallu cynyddol i fynd i’r afael â bygythiadau eraill, hefyd, ac maent yn ymateb yn rheolaidd i achosion o lifogydd, sefyllfa yr wyf yn gobeithio ei ffurfioli mewn dyletswydd gyfreithiol newydd yn fuan. Mae llawer erbyn hyn yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans wrth ymdrin ag argyfyngau meddygol pan fyddant mewn sefyllfa well i wneud hynny hefyd. Ac mae eu gwaith ataliol, sy'n cael effaith mor fawr wrth leihau tanau, yn cael ei ymestyn i gynnwys peryglon domestig eraill. Rydym yn falch o barhau i gefnogi ein gwasanaethau tân yn y gwaith hollbwysig hwn.

Wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n ein hwynebu oherwydd peryglon naturiol a pheryglon o waith dyn a bygythiadau terfysgaeth. Dyna pam yr ydym yn cefnogi ein gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i ddatblygu a chryfhau eu gallu i’n hamddiffyn rhag y risgiau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn arfer swyddogaeth arweinyddiaeth wrth gynnal a gwella strwythur i gydlynu cynllunio, ymateb ac adfer brys ledled Cymru, sydd, yn y pen draw, yn diogelu’r cyhoedd. Byddwn ni’n cryfhau’r swyddogaeth hon ac yn ceisio mwy o bwerau i'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau yn fwy effeithiol.

Ond, Lywydd, mae’r agenda, oherwydd ei natur, yn gymhleth. Nid oes unrhyw ddiffiniad y cytunwyd arno yn gyffredinol o ddiogelwch cymunedol ac rydym yn gweithio mewn cyd-destunau sy'n newid yn gyson. Mae deddfwriaeth a pholisïau yn berthnasol i gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli a heb eu datganoli. Mae dwy flynedd ar bymtheg o ddatganoli wedi arwain, o reidrwydd, at wahaniaethu rhwng ein dull polisi ni a gwaith Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi gweld comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu cyflwyno. Bu gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol ers 2011 ac mae'r manteision wedi cynnwys sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae'r newidiadau hyn wedi dod â chyfleoedd newydd, ond nid yw pob un ohonynt wedi symleiddio cyd-destun y gwaith a wnawn.

Y llynedd, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdodau'r agenda ac yn amlygu peth o'r gwaith cadarnhaol yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn codi nifer o faterion, ac er y byddwn yn amrywio ar y materion penodol ar safbwyntiau, rwy’n credu bod yr adroddiad yn rhoi cyfle gwerthfawr i bob un ohonom bwyso a mesur.

Gyda chytundeb, ac ochr yn ochr â’r partneriaid allweddol hynny a grybwyllwyd gennyf yn gynharach sydd mewn sefyllfa i ysgogi newid, rwy'n sefydlu grŵp goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol. Bydd yn helpu i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru sy'n datblygu’r gwaith rhagorol a wnaed eisoes neu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn ystyried argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwyf eisiau i'r adolygiad fod yn uchelgeisiol o ran ei feddylfryd a datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol sy'n gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol—gweledigaeth ar gyfer y tymor hir. Diolchaf i'r Llywydd.

Diolch, a diolch am y datganiad. Wrth gwrs, rydym ni’n rhannu gyda chi y gydnabyddiaeth na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un llywodraeth, gwasanaeth neu gymuned. Agenda a rennir yw hon. Gwnaethoch gyfeirio at y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Fel y gwyddoch, y broblem yw’r aildroseddwyr sy’n aildroseddu’n barhaus sydd, yn gynyddol, yn mynd i’r ddalfa yn y pen draw, ond pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adolygiad annibynnol Taylor o gyfiawnder ieuenctid, yn enwedig ei gynigion i sefydlu cynlluniau hyfforddi yn y gwaith i gynorthwyo i ddiwygio a helpu troseddwyr i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau.

Gwnaethoch chi gyfeirio at gydweithio agos gyda heddluoedd yng Nghymru a recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ledled Cymru. Pa ymgysylltiad neu gyfranogiad ydych chi wedi’i gael, yn fwy cyffredinol, oherwydd cawsom wybod, yn y cyfarfod briffio hwnnw gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru fis diwethaf—nad oeddech, yn anffodus, yn gallu bod yn bresennol ynddo, ond roedd rhai o'ch cydweithwyr yno—y bu, yn y gogledd, er enghraifft, gynnydd yn nifer y cwnstabliaid arbennig i 192, gwirfoddolwyr arbennig yr heddlu i 110, a bod rhaglen cadetiaid gwirfoddol yr heddlu wedi’i dechrau a bod y niferoedd wedi cyrraedd 60, rwy’n credu, erbyn yr adeg honno.

Gwnaethoch chi gyfeirio at y gwasanaethau tân ac achub—yn amserol, o ystyried y sylw yn y wasg ddoe i gynnydd yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru, a gwasanaethau yn cael eu dargyfeirio o alwadau 999 eraill a chriwiau tân yn cael eu galw i fwy na 7,100 o danau bwriadol yn ystod 2015-16—cynnydd o bron i 11 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chi a Gweinidogion neu Ysgrifenyddion Cabinet eraill yn gyfrifol am y portffolio perthnasol. Tybed a allech chi ddweud wrthym eto, neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgysylltu hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r gwasanaethau tân, ac asiantaethau eraill—gan gynnwys y trydydd sector, gobeithio—ynglŷn â mynd i'r afael â hynny.

Gwnaethoch chi gyfeirio at wasanaethau ambiwlans. Unwaith eto, yn y cyfarfod briffio gan Heddlu Gogledd Cymru, clywsom am swyddogion yr heddlu yn cael ei galw i ategu’r gwasanaeth ambiwlans ar alwadau. Roeddent yn dweud eu bod yn cynorthwyo i reoli effaith pwysau ar ysbytai i wella prosesau gwneud penderfyniadau o ran pryd y dylai'r gwasanaeth ambiwlans alw'r heddlu er mwyn lleihau presenoldeb diangen yr heddlu mewn digwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r heddlu. Unwaith eto, nid wyf yn gwybod pa un ai chi neu gydweithwyr eraill yn y Cabinet sy’n gyfrifol, ond efallai y gallech ddweud pa swyddogaeth, os o gwbl, y gallai fod gan Lywodraeth Cymru yn hynny.

Fe wnaethoch chi gyfeirio yn briodol at Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Deddf (Cymru). Pan wnaethoch chi ddatganiad ar hyn fis Tachwedd diwethaf fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau statudol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i arwain ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Nodais fod y Gweinidog ar adeg y ddeddfwriaeth wedi dweud y byddai canllawiau ysgogi ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi aelod o staff, disgybl a llywodraethwr i’r swyddogaethau hynny. Fe wnaethoch ymateb yn gadarnhaol. Tybed a allwch chi nodi pa gynnydd sydd wedi ei gyflawni, o bosibl, hyd yn hyn.

Ar yr un pryd, cyfeiriais at yr alwad gan yr NSPCC am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Cymru i atal cam-drin plant yn rhywiol, yn dilyn yr adroddiad ‘Pa mor ddiogel yw ein plant ni? 2016’ a oedd yn nodi y bu cynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan 16 oed yng Nghymru. Cyfeiriais hefyd at raglenni cyn carchar ar gyfer dynion sy’n cyflawni troseddau trais yn y cartref a chynllun y gwnaethoch chi ei gydnabod, Atal y Fro, sydd hefyd yn datblygu rhaglenni i fenywod a throseddwyr glasoed, yn ogystal â'r rhai hynny ar gyfer dynion. Efallai y byddwch yn cofio imi weithio’n galed, ochr yn ochr â chydweithwyr, i geisio cynnwys hyn yn y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth y Gweinidog, yn y diwedd, er nad oedd yn derbyn hynny, ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hyn ac edrych ar y dystiolaeth yn unol â hynny. Pa gamau y mae eich cydweithwyr wedi’u cymryd i edrych ar yr unig raglen achrededig yng Nghymru i weld sut y gallai hyn gael ei gynnwys yn well a llenwi'r bylchau sy'n bodoli?

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Fel y gwyddoch efallai, daeth Erin Pizzey, yr ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref a agorodd y lloches gyntaf yn y byd yn Chiswick yn 1971, i’r Cynulliad yn ddiweddar. Dywedodd hi fod trais yn y cartref yn ymwneud â thrais teuluol rhwng y cenedlaethau, bod angen inni edrych ar rianta, ac os nad ydym yn ymyrryd, bydd y bobl hyn yn llenwi ein carchardai a’n hysbytai. Sut ydych chi’n ymateb i'w datganiad, felly, bod angen i fenywod a dynion fod yn rhan o'r ddeialog i fynd i'r afael â hynny? Rwy’n gwybod eich bod yn sicr wedi cysylltu eich hun â'r ddeialog honno.

Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw ddiffiniad y cytunwyd arno yn gyffredinol o ddiogelwch cymunedol ac i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydych chi’n cyfeirio at bartneriaethau diogelwch cymunedol, hyd y gwelaf i, er mai’r rhain yw'r cyrff sy'n targedu'r prif broblemau trosedd ac anhrefn yn ein siroedd. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder dro ar ôl tro nad oes gan raglenni trydydd sector megis, er enghraifft, Cymdeithas Gwarchod y Gymdogaeth Sir y Fflint a Wrecsam sy’n darparu’r rhaglen OWL, lais strategol cyfartal ar y lefel honno, ac y gallem, o bosibl, gyflawni mwy pe byddai ganddynt y llais hwnnw?

Wrth gwrs, rydym ni wedi clywed cyfeiriadau heddiw at Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel a gwell i bawb, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi datganiad ynghylch cadw plant a phobl ifanc—dysgwyr—yn ddiogel ar-lein. Ond, o ystyried bod hyn hefyd yn ymestyn i mewn i'n cymunedau, tybed pa ymgysylltu y mae hi, o bosibl, wedi’i wneud gyda chi ynghylch sut y dylid cyflawni hyn, nid yn unig yn y lleoliad addysg, ond yn ehangach.

O ran camddefnyddio sylweddau, rydych chi’n cyfeirio at fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Rydym ni’n gwybod y bu cynnydd o 153 y cant yn nifer y marwolaethau o bob achos o wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, a bod marwolaethau yn sgil alcohol yn cynnwys bron i 5 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder bod byrddau cynllunio ardal yn esblygu mewn gwahanol ffyrdd—ond nid o reidrwydd mewn gwell ffyrdd—sy'n arwain at amrywiadau sydd, mewn rhai achosion, wedi gweld rhai yn diflannu bron yn llwyr a chael eu disodli gan asiantaeth statudol arweiniol, a'r trydydd sector, drwy ei hepgor, yn aml yn absennol o'r cynllunio strategol? Mae'n debyg i'r pwynt blaenorol. O ran cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, rydych chi’n sôn am weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â bylchau yn y gwasanaethau haen 4—gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu preswyl. Wrth gwrs, mae naw mlynedd wedi mynd heibio ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi’r bylchau, ac ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fodel adsefydlu dadwenwyno cyffuriau ac alcohol tair canolfan, uned atgyfeirio ganolog ar gyfer Cymru, a chynnydd sylweddol mewn capasiti.

Tybed a wnewch chi nodi pa gynnydd yr ydych chi wedi'i gyflawni â hynny. Yn olaf, os caf, pwnc y byddech yn disgwyl imi dynnu sylw ato, o ystyried, y bu cynhadledd, yr wythnos diwethaf, ar gymunedau cynaliadwy a datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd: sut ydych chi’n ymateb i alwad y gynhadledd honno am ymagwedd sy'n hybu camau gweithredu a arweinir gan ddinasyddion i ddechrau, ac sydd yna’n ysgogi cefnogaeth o’r tu allan i gyfateb asedau cymunedol pan fo angen, gan ddatblygu’r cryfder cymunedol presennol i gefnogi cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau pellgyrhaeddol. [Chwerthin.] Roeddwn i’n prysur redeg allan o le ar fy nhudalen, ond byddaf yn ceisio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. A gaf i ddechrau gyda’i bwynt cyntaf, ac adolygiad Charlie Taylor o ran gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid? Rwyf i wedi gwneud barn Llywodraeth Cymru yn glir iawn i Lywodraeth y DU ar adroddiad Charlie Taylor. Nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'n gywir y materion gwirioneddol o ran yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae'r ffordd yr ydym wedi gallu ymdrin â chyfiawnder ieuenctid yn wahanol iawn, ac mae'r gwasanaethau a’r swyddogaethau datganoledig sy'n dilyn o’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn dangos yn glir ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn arbennig o dda yng Nghymru yn y lle hwn. Byddwn i’n gofyn i'r Aelod edrych ar y cynlluniau arbrofol lle’r ydym wedi cyflwyno gwell system ar gyfer rheoli achosion troseddwyr ifanc. Yn wir, mae cynllun treialu yn Sir y Fflint, lle y cafwyd canlyniadau gwych yn sgil ymyrraeth ar y pen anodd iawn o aildroseddwyr, lle nad ydyn nhw’n aildroseddu bellach oherwydd y dulliau cefnogi sydd gennym ar waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno hyn ledled Cymru gyfan, ac ar y cyd â’r Gweinidogion yn San Steffan. Rwyf wedi cael sgwrs hir ag ef. Cyfarfûm â Dr Phillip Lee, yr AS, ychydig cyn y Nadolig a thrafod sut y gallwn ni edrych ar Gymru fel achos penodol iawn, yn sgil y natur ddatganoledig, ac yr oedd yn fodlon trafod hynny ymellach.

Rwy’n credu, o ran y materion sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys a gododd yr Aelod o ran yr heddlu a'r gwasanaeth tân, fy mod am dalu teyrnged i’r ddau sefydliad hynny, un wedi’i ddatganoli ac un heb ei ddatganoli, ond, mewn gwirionedd, maen nhw’n gweithio yng nghyd-destun Cymru, ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych ar y rheng flaen. Talaf deyrnged i aelodau staff gweithredol ar lawr gwlad a phobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, sydd yn aml yn arwyr di-glod, hefyd. Mae’r cadetiaid heddlu gwirfoddol a'r prosiect Phoenix y mae’r gwasanaeth tân yn ei weithredu yn ddau gynllun rhagweithiol iawn lle, unwaith eto, maen nhw’n meddwl mewn ffordd wahanol—mae’n nhw’n gweithredu agenda gwasanaeth tân a mwy neu wasanaeth heddlu a mwy, sydd wirioneddol yn mynd i galon ein cymunedau.

Ac ar y mater a godwyd ynglŷn â’r gwasanaeth tân a thanau bwriadol, cafodd y Gweinidog blaenorol gyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a'r heddlu, ar y mater hwn i weld sut y gallen nhw roi terfyn ar danau glaswellt anghyfreithlon. Rydym ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn hynny o beth, ond, yn y pen draw, mae tanau bwriadol yn drosedd a dylid hysbysu amdanynt, a byddwn yn mynd i'r afael â’r materion hynny. Ac mae’r mater o danau bwriadol mewn cartrefi neu ddiwydiant yn aml yn ffordd o guddio trosedd ychwanegol hefyd, ac mae'r gwasanaeth tân yn awyddus iawn i wneud yn siwr ein bod yn gweithredu ar hyn.

Rwy'n credu fy mod i’n iawn yn dweud, ond o ran mater yr heddlu ac ymateb i alwadau iechyd neu bryderon iechyd, rwy’n credu fy mod i'n iawn yn dweud bod gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’i leoli mewn rhai o'r ystafelloedd rheoli erbyn hyn, lle gallan nhw roi gwell cyngor. Os wyf i'n anghywir, maddeuwch i mi, ond rwy’n credu fy mod i’n iawn, mewn rhai o'r heddluoedd, ond nid ym mhob un, mae rhywun yn y man hwnnw, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn dymuno parhau i weithio arno gyda'n cydweithwyr iechyd.

Y broses VAWDA: mae ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' yn cael ei gyflwyno ar draws llawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cynnwys y rhaglen hyfforddi ar gyfer sefydliadau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Ddeddf, ac mae llawer o gymdeithasau tai sydd eisoes wedi dechrau’r hyfforddiant hwnnw hefyd. Rwy’n cytuno â'r Aelod am y dull ysgol gyfan hwnnw, ac mae'n rhywbeth y byddaf i’n rhoi diweddariad i'r Aelodau amdano pan fydd gennyf ragor o fanylion, ac rwyf i wedi trafod yr union fater hwnnw gyda fy nhîm.

Rhaglenni troseddwyr: mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith ar hyn. Mae cynllun arall sy'n gweithredu yn y de, mewn gwirionedd, ar sail cyfnod prawf. Heddlu Essex sydd wedi’i ddatblygu, ac enw’r prosiect yw Drive, sydd, unwaith eto, yn rhaglen arall sy’n canolbwyntio ar y troseddwr. Mae Atal y Fro yn sefydliad arall yr wyf yn gyfarwydd iawn ag ef. Mae’n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn o’r ddau ben: sicrhau y gallwn gefnogi unigolion sy'n dioddef trais yn y cartref, ond hefyd mynd i'r afael â'r mater o ran troseddwyr hefyd.

Y pwynt olaf yr wyf am ei godi yw dull egwyddor cyffredinol o ymgysylltu â'r trydydd sector, a pha un a fyddai hynny drwy'r prosiect OWL, a gododd yr Aelod, neu beidio. Mae'r grŵp goruchwylio yn rheswm pam yr wyf wedi dechrau dull newydd o edrych ar sut y mae diogelwch cymunedol yn edrych a sut y mae’r partneriaid hynny yn rhyngweithio. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol mewn rhai mannau yn—. Roedd rhai pwyntiau hollbwysig ynddo, ond, mewn gwirionedd, rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych mewn ffordd gwbl newydd ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â diogelwch cymunedol gyda'n sefydliadau partner, gan gynnwys y trydydd sector a gododd yr Aelod.

Diolch yn fawr am y datganiad, ac mae o’n cynnwys nifer o faterion. Byddwch chi’n falch o glywed fy mod i’n mynd i siarad am bedwar maes. Rwy’n nodi eich bod chi yn gweithio efo comisiynwyr yr heddlu wrth daclo eithafiaeth. Buaswn i’n licio gwybod a ydy hyn yn cynnwys eithafiaeth gan grwpiau asgell dde gwyn, sef un o’r bygythiadau pennaf sy’n ein hwynebu ni yn y Gymru gyfoes. Ac a oes gennych chi raglen waith i weithio efo pobl ifanc bregus sydd ar gyrion y dde eithafol ac yn cael eu hudo atyn nhw, yn anffodus, ar hyn o bryd?

Diolch am y diweddariad am y gwaith sydd wedi’i wneud ers pasio’r Ddeddf trais yn erbyn merched, ond hyd y gwelaf i, nid oes yna ddim yn y datganiad am ddatblygu perthnasoedd iach yn ein hysgolion. Fel y gwyddoch chi, roedd yn bwnc trafod allweddol yn ystod y cyfnod pan oedd y Ddeddf yn mynd trwyddo. Felly, pryd gawn ni weld addysg perthnasoedd iach safonol yn ein hysgolion ni? Mae hyn yn rhan bwysig o’r newid mawr cymdeithasol sydd ei angen a’r parch yr ydym ni angen ei feithrin at ein gilydd boed yn ddynion neu’n ferched.

Rydw i’n croesawu’r diweddariad am rôl ehangach y gwasanaeth tân yn sgil y lleihad mewn tanau, ac rydw i’n nodi hefyd eich bod chi’n ystyried dyletswydd gyfreithiol newydd ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau llifogydd— rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro. Mae’r llwyddiant efo lleihau’r tanau yn cynnig cyfle i edrych ar ddyletswyddau ehangach ar gyfer y gwasanaeth tân. Hoffwn i wybod a ydych chi yn barod i ystyried hynny—hynny yw, i ehangu allan rôl y gwasanaeth tân.

Mae’r datganiad yn sôn eithaf tipyn am y cydweithio rhwng sefydliadau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli. Ond, yn amlwg, mae yna ben draw i hynny ac rydw i’n siŵr bod yna wrthdaro yn codi hefyd ar brydiau. A ydy hynny yn ffaith sydd yn mynd yn fwyfwy rhwystredig i chi, ac a fyddai, er enghraifft, datganoli’r heddlu yn eich helpu chi i gyrraedd rhai o’ch amcanion yn y maes yma? A fyddech chi’n gallu gwneud mwy o gynnydd, hynny yw, petai rhai o’r pwerau yma yn gorwedd yng Nghymru er mwyn symud y maes ymlaen?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau cryno. Yn wir, ynglŷn â mater y comisiynwyr heddlu a throseddu, rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd, ac rwy’n cwrdd â'r prif swyddogion hefyd. Rydych chi'n iawn i godi mater y casineb a ddangosir gan lawer o unigolion yr asgell dde. Mae’r heddlu yn awyddus iawn i weithredu ar hyn. Hefyd, rydym ni’n buddsoddi mewn CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru i wneud yn siŵr bod gennym ddealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau. Ond mae faint o adrodd a wneir wedi cynyddu, ac ers Brexit cyrhaeddwyd brig o ran troseddau casineb, ac mae'n rhywbeth y mae'r comisiynwyr yn pryderu yn ei gylch, ac rwyf i wedi codi hynny gyda nhw o ran rheoli'r sefyllfa honno.

O ran perthnasoedd iach a thrais yn y cartref, rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod am y camau cadarnhaol yr ydym yn parhau i’w cymryd fel Llywodraeth, ond yr ydych yn gwthio drws agored yn hyn o beth gyda mi o ran perthnasoedd iach a sut yr ydym yn datblygu hynny. Mae'r adolygiad Diamond yn rhan hollbwysig o edrych ar y cwricwlwm ar gyfer y dyfodol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—rydym ni wedi cael sgyrsiau am sut y mae perthnasoedd iach yn edrych o ran symud hynny ymlaen.

Mae'r gwasanaeth tân wedi gwneud gwaith gwych o ran lleihau nifer y tanau. Fel y dywedais yn gynharach, bu gostyngiad o oddeutu 50 y cant yng ngweithgarwch tân yr awdurdodau, ond rwy’n siarad â'r prif swyddogion tân a'r byrddau am hyn. Siaradais â nhw yr wythnos hon, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r pwyllgor materion cenedlaethol, lle'r ydym yn edrych ar gydweithredu a chydweithio i gyflawni dyletswyddau newydd neu gyfleoedd newydd. Mae'n broses bwysig ein bod yn siarad â'r undebau llafur a rheolwyr y timau i sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd mewn modd cadarnhaol, pryd y gallan nhw symud i swyddogaeth newydd sy'n diogelu’r gorsafoedd tân a’r personél tân yn ein cymunedau, y mae pob ohonom yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.

O ran datganoli’r heddlu, nid ydym yn profi gormod o densiwn ar hyn o bryd o ran gweithgareddau, ond roedd ein safbwynt ar ddatganoli'r heddlu yn glir iawn o ran Bil Cymru. Rydym ni mewn cyfnod penodol ar hyn o bryd, ond pwy a ŵyr yn y dyfodol? Gallai datganoli ein cynorthwyo i reoli diogelwch cymunedol yn well ar ein cyfer.

Tanlinellodd yr adroddiad 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a luniwyd gan yr archwilydd cyffredinol, y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gwella diogelwch cymunedol yng Nghymru. Felly, rwy’n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw, ac yn croesawu sefydliad grŵp goruchwylio i adolygu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Er nad oes diffiniad yn bodoli o ddiogelwch cymunedol y cytunwyd arno yn gyffredinol, rwy’n credu bod dangosyddion clir o ran sut mae ymagwedd gyfannol Llywodraeth Cymru yn parhau i wella diogelwch y cyhoedd a lles pobl.

Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud ac, ym maes cyfiawnder ieuenctid, mae sefydlu panel ymgynghorol ar gyfer cyfiawnder ieuenctid Cymru yn enghraifft wych o fanteision dull cydweithredol rhwng llywodraeth genedlaethol a lleol, gweithwyr proffesiynol iechyd a'r heddlu. Fel y crybwyllwyd, mae’r gwaith a’r ddeddfwriaeth ynglŷn â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi torri tir newydd yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, am ei benderfyniad a’i gymhelliant yn y mater hollbwysig hwn. Fel cyn aelod o'r bwrdd prawf cenedlaethol, croesawaf ddull cydweithredol ac integredig o ymdrin â throseddwyr sy'n oedolion—a gyfiawnhawyd yng ngwaith Llywodraeth Cymru gyda'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, NOMS.

Yn yr un modd, mae cryfhau partneriaethau rhwng cyrff perthnasol wrth wraidd ein dull radical o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru, ac rydym ni’n falch iawn o'n hanes ar y mater hwn. Fis nesaf, byddaf yn mynd i’r seminar gwrth-gaethwasiaeth yng Ngwent, wedi’i drefnu gan gomisiynydd yr heddlu a throseddau Gwent, Jeff Cuthbert. Mae hon yn enghraifft berthnasol o ddigwyddiadau i randdeiliaid sy'n hwyluso trafodaeth gynhyrchiol rhwng y rhai hynny o'r sectorau cyfreithiol, gwleidyddol, a’r trydydd sector.

Rwy’n croesawu hefyd y sylwadau ar gydweithio yn y gwasanaeth tân. Yn wir, mae gwell cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau brys wedi hwyluso cynnydd calonogol o ran recriwtio swyddogion cymorth cymunedol. Gwn fod swyddogion cymorth cymunedol, fel Susan yn fy etholaeth i, yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ymgysylltiad â'r gymuned leol. Fel y cyfryw, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae addewid maniffesto Llafur Cymru i gynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol yn fuddiol i les pobl yn y modd pwysig hwn? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae Cymru yn arwain y ffordd yn llwyr yn ein modd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid. Fel y dywedais wrth Mark Isherwood yn gynharach, nid yw adolygiad Charlie Taylor yn ddefnyddiol ar gyfer sefydlu cyfle gwahanol i’r DU ei symud ymlaen, ac rwy’n credu, mewn gwirionedd—. Dywedodd y Gweinidog wrthyf yn Llundain, A dweud y gwir, gallem ni ddysgu rhywbeth gan Gymru yn hyn o beth, ac roedd hynny yn galonogol iawn. Rwyf yn gobeithio y bydd yn ymweld â ni cyn bo hir i weld y gwaith sy'n cael ei wneud am y dull cyflawni aml-asiantaeth. Rydym ni’n gweld y manylion gwirioneddol am leihau troseddu mewn llawer o'r camau gweithredu yr ydym yn gallu eu cyflawni.

Ni yw'r unig ran o'r DU sydd â chydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, a benodwyd ddwy Lywodraeth yn ôl. Y mae wedi gwneud gwaith anhygoel wrth fynd i'r afael â’r agenda caethwasiaeth cudd hwn. Mae pobl yn ymweld o wledydd ledled y byd, ac yn dod i Gymru i edrych ar y gwaith yr ydym yn ei wneud yma, felly mae’r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn yn enghraifft dda. Byddwn i’n annog rhannau eraill o'r DU i ystyried dod â grŵp o bobl—cydlynwyr gwrth-gaethwasiaeth yn eu hawdurdodaeth eu hunain—at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â hyn fel ynys. Mae angen i ni reoli hyn yn well o lawer, ond rydym ni’n bendant yn ymdrin â hyn yma yng Nghymru.

Mae'r swyddogion cymorth cymunedol yn addewid poblogaidd iawn yr ydym wedi’i gyflawni. Mae 500 ohonyn nhw ledled Cymru, gan gynnwys—mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain rai o'r swyddogion cymorth cymunedol. Gallai pob un ohonoch chi adrodd stori am sut y maen nhw’n agos iawn at y gymuned ac yn gwneud cymaint o waith da yn ein cymunedau. Rwyf i wedi bod allan gyda rhai o'r swyddogion cymorth cymunedol wrth eu gwaith, sydd bob amser yn ddiddorol. Mae ganddyn nhw nifer fawr o gysylltiadau a hir y pery hynny. Mae'n bolisi gennym i barhau â hyn yn y tymor hwy a gwn fod yr Ysgrifennydd cyllid yn awyddus i sicrhau bod gennym y cyllid i'w cefnogi hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i’n croesawu'r swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi a sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae'n drueni, yn sicr yn y gogledd, bod gormod o orsafoedd heddlu yn anhygyrch erbyn hyn a’r safleoedd wedi’u gwerthu. Mae’r sicrwydd o gael gorsaf heddlu weladwy a hawdd ei chyrraedd wedi ei dynnu oddi ar lawer o bobl. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion i ni am y sylwadau y mae wedi’u gwneud i gomisiynwyr heddlu a heddluoedd Cymru o ran cau neu leihau gorsafoedd heddlu?

Rwy’n croesawu unrhyw ymdrechion a wnaed i leihau, ac yn y pen draw, dileu trais yn erbyn menywod, trais rhywiol a cham-drin domestig. Fel yr wyf wedi nodi o'r blaen, mae gan athrawon gwrywaidd a dynion mewn bywyd cyhoeddus—er enghraifft, sêr pop a sêr chwaraeon—i gyd ran bwysig i’w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Sut ydych chi'n gweithio i annog sefydliadau dynion a dynion adnabyddus i’r cyhoedd gymryd rhan yn eich gwaith i ddileu trais yn y cartref a thrais rhywiol, ac yn eu helpu i ddeall eu bod yn gallu chwarae rhan allweddol wrth sicrhau diwylliant hapusach a mwy diogel ar gyfer cenedlaethau o fenywod a dynion yn y dyfodol?

Rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet nad atal troseddau yw diwedd y gân o ran diogelwch cymunedol. Gall damweiniau yn y cartref ac mewn lleoedd eraill newid bywydau y dioddefwyr a'r rhai o'u cwmpas am byth, ac mae atal, fel y maen nhw'n ei ddweud, yn well na gwella. Yn aml, ceir cyfres o gyfleoedd ar hyd llinell amser damwain, pob un ohonynt yn cynnig cyfle i atal y ddamwain, ond addysg ac ymwybyddiaeth yw’r man cychwyn. Mae PentrePeryglon, yn fy etholaeth i, yn gyfleuster addysgol sy'n dileu damweiniau ac anafiadau yn y dyfodol yn y cartref ac mewn mannau eraill ar hyn o bryd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'u cyfrifoldebau cymdeithasol a chyfreithiol, gan eu helpu i osgoi mynd i drwbl â’r awdurdodau. Elusen annibynnol yw PentrePeryglon dyma'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r cyfleuster hwn fod yn derbyn cyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyfleusterau eraill o'r fath a sicrhau eu bod ar gael i blant a phobl ifanc yng ngweddill Cymru? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei holl gwestiynau. Rwy'n ymwybodol o PentrePeryglon ac es i yno sawl blwyddyn yn ôl gyda'r Dirprwy Lywydd, Ann Jones, yn ei hetholaeth hi—rhaglen wych, ac, unwaith eto, wedi’i hariannu gan nifer o elusennau a busnesau yn yr ardal honno. Mae'n gweithio'n effeithiol iawn a thalaf deyrnged iddyn nhw. Cododd yr Aelod lawer o faterion yn ymwneud â materion gweithredol yr heddlu a gorsafoedd. Materion gweithredol yw’r rhain ac nid ydyn nhw wedi eu datganoli i ni; mater i'r Swyddfa Gartref yw hwn ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi rhoi sylwadau i'r corff perthnasol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae hyrwyddwyr gwrywaidd yn rhan wirioneddol bwysig o ran ymdrin â thrais yn y cartref ac mae llawer o gydweithwyr yn y Siambr hon sy'n hyrwyddo’r union fater hwn. Rwyf i, unwaith eto, yn eu hannog i wneud safiad fel y dylem ei wneud i gefnogi'r broses bwysig iawn hon. Mae'r heddlu yn ymdrin â llawer o faterion, gan gynnwys swyddogion cyswllt ysgolion a siarad â'n pobl ifanc am gyfleoedd lles. Yn wir, maen nhw hefyd yn gweithredu i reoli sylweddau anghyfreithlon. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn y fan yma yw ein bod yn gallu gweithio ar y cyd i sicrhau ein bod, gyda'n gilydd, fel Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, sefydliadau trydydd sector, ac awdurdodau lleol, yn llunio pecyn o gyfleoedd a fydd yn helpu ein cymunedau i fod yn fwy cydnerth, yn gryfach, ac yn fwy diogel wrth inni symud ymlaen.

8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, trefniadau pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.

Cynnig NDM6228 Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.

2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.

4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.

5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.

6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.

8. Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig hwnnw.

On 24 January, I presented to the Chamber our White Paper, ‘Securing Wales’ Future’. It sets out the priorities for Wales as we approach the UK’s exit negotiations from the EU. I’ve been pleased by the support that Members from different parties and others more widely have given to that paper. It shows how packed and fast the agenda is that, in the fortnight since then, there have been some rather significant developments. In no particular order we’ve seen a very helpful report from the External Affairs and Additional Legislation Committee on the impact of leaving the EU, a Supreme Court judgment that the UK Government could not use the royal prerogative to invoke article 50, we’ve seen the meeting of the Joint Ministerial Committee here in Cardiff, the introduction of a UK Bill to allow the UK Government to trigger article 50, a surprise commitment from the Prime Minister to a UK Government White Paper, and, hot on the heels of that announcement, the publication of that White Paper. But, sadly, what we are still waiting for is a clear and detailed explanation of what the UK Government’s position really is. The UK Government White Paper is a small step in that direction, but I still fear that the UK Government has not yet worked out a comprehensive strategy as to how it wants to deal with the challenges ahead and what sort of journey it wishes to get onto. I’ve seen little evidence of these issues being addressed.

As ever, each development answers some questions and raises many others, but there is one fixed certainty in this: as I have said many times since 24 June, the UK is leaving the EU; that debate is over. But I want to stress again that my role is to lead the Welsh Government and to speak to the UK Government on Wales’s behalf to secure the best outcome for the people of Wales. Overall, I am very confident that the positions and principles we set out in the White Paper two weeks ago will remain highly relevant throughout the negotiations. We’ve articulated them in discussions with the UK Government, and will continue to do so. Without betraying confidences, it’s fair to say that the UK Government, and particularly the Secretary of State for Exiting the European Union, have said clearly that they share many of our objectives. Llywydd, I hope Members will now have had a chance to consider them in detail and will see them as the firm basis to support the resolution.

So, let me set out our priorities once again, and I’ll reference the UK Government’s position where I can.

First, let me reiterate our overriding economic priority. We need to continue to have full and unfettered access to the single market. That access is key to attracting and retaining investment, it’s fundamental to so many jobs—and, in particular, so many highly paid, highly skilled jobs here in Wales—it’s fundamental to our economic future, so why would we want to walk away from it?

Ar y pwynt hwn, mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod y Papur Gwyn o San Steffan yn sôn am fasnach ddiffrithiant bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau. A oes ganddo unrhyw syniad beth yw ystyr diffrithiant yn y cyd-destun hwnnw?

Na. Gallaf ddyfalu ei fod yn golygu, am wn i, mynediad i’r farchnad ar yr un telerau ag yn awr, ond dyfalu yw hynny. Nid oes neb wir yn gwybod beth yw ystyr yr ymadrodd hwn. Yn wir, i roi'r cymal llawn i'r Siambr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd

yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd a mwyaf diffrithiant bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau

yn yr UE. Wel, y gair allweddol yno yw 'bosibl'. Bydd yn rhaid inni aros i weld beth yw ystyr hynny. Mae'r Papur Gwyn yn methu â’i gwneud yn glir sut y bydd Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu rhwng ei gwahanol amcanion, a fydd weithiau yn cystadlu â’i gilydd. Nid yw Papur Gwyn Llywodraeth y DU ychwaith yn cydnabod y gallai’r DU golli llawer yn fwy difrifol o godi unrhyw rwystr â thariff neu heb dariff rhag masnachu nag unrhyw un o'n partneriaid Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae gan wledydd eraill yr UE orchmynion gwleidyddol, yn union fel sydd gan y DU. Fel y nodwyd yn adroddiad Reuters y diwrnod o'r blaen, mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn paratoi i addasu i’r effeithiau negyddol ar eu model busnes o ganlyniad i gyflwyno tariffau ar y DU.

Yn yr un modd, rydym ni’n credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i'r UE, ac mae cymryd rhan yn yr undeb tollau hefyd yn galluogi masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE. Ystyriwch, hefyd, sefyllfa Ynys Manaw, Jersey, a Guernsey, nad oes ganddyn nhw, er eu bod y tu allan i'r UE, ond yn yr undeb tollau, reolaeth ar faterion tramor a masnach ac a gaiff felly eu tynnu allan o'r undeb tollau, o bosibl, heb gael dweud eu dweud o gwbl, neu heb i neb erioed ofyn iddyn nhw.

Mae Llywodraeth y DU yn methu â chydnabod y dystiolaeth bod manteision cryfaf masnach rydd yn dod pan fo’r partïon dan sylw yn ddaearyddol agos ac yn debyg i’w gilydd o ran lefelau datblygiad. Mae un astudiaeth yn amcangyfrif y byddai cyfres o gytundebau masnach rydd â'r Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd gyda’i gilydd yn cynyddu masnach cyffredinol y DU 3 y cant, ond dim ond degfed rhan yw hynny o'r gostyngiad yn ein masnach gyffredinol a fyddai'n digwydd pe byddem yn gadael y farchnad sengl ar delerau Sefydliad Masnach y Byd.

Mae amcan Llywodraeth y DU o sicrhau trefniant tollau â’r UE sydd o fudd i'r ddwy ochr yn aneglur, ac yn sicr yn edrych fel ymdrech i’w chael hi bob ffordd, ac nid yw'n glir beth mae hynny'n ei olygu i’r ffin tir y bydd gan y DU â’r UE yn Iwerddon, ac, yn wir, â Sbaen.

Beth felly am y wobr fawr, y mae Llywodraeth y DU yn credu y dylem ni ildio ein cyfranogiad yn yr undeb tollau er ei mwyn: cyfnod newydd o gytundebau masnach dwyochrog gyda marchnadoedd newydd a marchnadoedd sy’n ehangu? Nawr, ni ddylem ein twyllo ein hunain y bydd yn hawdd ffurfio cytundebau masnach da. Mae'n debygol o gymryd blynyddoedd, efallai blynyddoedd lawer, ac mae’n ddigon posibl y bydd cytundebau newydd, yn enwedig os yw ein cefnau yn erbyn y wal oherwydd camdrafod y trafodaethau Brexit, yn ein gwneud ni’n ysglyfaeth hawdd i wledydd sydd eisiau inni gofrestru ar gyfer cytundebau masnach neo-ryddfrydol sy'n tanseilio safonau cyflogaeth a safonau amgylcheddol.

Yn ail, rydym ni wedi cydnabod yn glir bod pryderon am fudo wedi bod yn rhan o'r rheswm pam y pleidleisiodd rhai pobl dros ‘adael’, ac mae ein safbwynt yn glir: mae’n rhaid bod cysylltiad clir rhwng yr hawl i ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw’n fyfyrwyr nac yn economaidd hunangynhaliol i ddod i’r wlad hon ar ôl Brexit, a gwaith. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni weld ymrwymiad llawer cryfach gan Lywodraeth y DU i weithredu deddfwriaeth bresennol a ddylai diogelu gweithwyr, boed o Benfro neu o Boznań, rhag cael eu twyllo a’u hecsbloetio. Nawr, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn fylchog iawn ynglŷn â sut yr hoffai ymdrin â hyn; nid yw’n rhoi dim eglurder ynghylch beth yw ystyr rheoli ein ffiniau mewn gwirionedd, heblaw y bydd y ffin yn agored o ran y ffin tir â’r UE. Nid yw'n rhoi’r sicrwydd diamwys yr ydym wedi galw amdano i hawliau dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma.

Yn drydydd, mae angen cydnabyddiaeth briodol arnom gan Lywodraeth y DU y dylai Cymru barhau i gael yr arian sydd ei angen arni i weithredu polisi datblygu rhanbarthol a gwledig yn seiliedig ar ein hanghenion gwrthrychol, ac rwy’n disgwyl y bydd Aelodau yn gallu rhoi cefnogaeth gadarn iawn imi ar y pwynt hwn.

Yn bedwerydd, mae arnom angen archwiliad trylwyr o ddyfodol datganoli yn y DU, ar ôl Brexit. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU barchu canlyniadau'r refferenda a gyflwynodd ddatganoli yn y DU, yn ogystal â’r un ar 23 Mehefin y llynedd. Ni allan nhw ddewis a dethol pa refferenda y maen nhw’n dymuno eu parchu. Mae'n gwbl glir, yn 2011, bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno gweld pwerau llawn yn cael eu rhoi i'r Cynulliad hwn yn y meysydd a oedd wedi’u datganoli, yn ddiamod. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad y gwnaeth y Prif Weinidog imi yr wythnos diwethaf na fydd dim cipio tir ar gymwyseddau datganoledig, ond mae'r Papur Gwyn yn portreadu diffyg dealltwriaeth o'r ffordd y bydd Brexit yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Felly, mae sôn am ddychwelyd pwerau o Frwsel yn gamarweiniol iawn, fel y mae’r Goruchaf Lys eisoes wedi ei gwneud yn glir, oherwydd unig effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gymwyseddau datganoledig fydd cael gwared ar gyfyngiadau sydd ar hyn o bryd yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag deddfu yn groes i gyfraith yr UE. Felly, i ddyfynnu’r llys:

'Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno. Yn absenoldeb cyfyngiadau newydd o'r fath, bydd tynnu'n ôl o’r UE yn gwella’r cymhwysedd datganoledig.'

Mewn geiriau eraill, pan fydd pwerau’n dychwelyd o Frwsel, byddan nhw’n dod yn syth yma. Ni fyddan nhw’n oedi ychydig, nac, yn wir, yn aros, yn Whitehall.

Nawr, gadewch imi fod yn gwbl glir: nid oes gen i ddim bwriad o gwbl i argymell i'r Cynulliad hwn ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i unrhyw gyfyngiadau deddfwriaethol newydd a fyddai i bob diben yn golygu bod San Steffan yn dwyn pwerau gan Gaerdydd.

Yn bumed, mae llawer o fanteision yn deillio o aelodaeth o'r UE neu’n cael eu cryfhau ganddyn nhw. Maen nhw’n ymdrin â meysydd mor amrywiol ag amddiffyn cyflogaeth, cydraddoldeb, hawliau defnyddwyr a gwella ein hamgylchedd. Byddwn yn gweithio i gadw’r manteision hyn yn y trafodaethau gadael. Er fy mod i’n croesawu'r sicrwydd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU y byddan nhw’n diogelu hawliau cyflogaeth, mae eto’n aneglur sut y mae’r flaenoriaeth hon yn gydnaws ag amcanion eraill, fel cwblhau cytundebau masnach rydd newydd, a allai arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at eu gwanedu.

Yn chweched, rydym yn pwysleisio ei bod yn debygol y bydd angen cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n hanfodol, fel egwyddor, ein bod yn cydnabod bod angen rheoli’r ymadael hwnnw mewn ffordd sy'n peri'r tarfu lleiaf. Ni allaf weld dim rheswm da pam y mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu hynny, ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos eu bod.

Felly, er ein bod mewn rhai ffyrdd yn croesawu Papur Gwyn y Llywodraeth y DU, ar y cyfan mae’n dipyn o siom. Mae'n dweud yn y bôn, 'Mae hyn yn fwy cymhleth nag yr oeddem ni’n meddwl y byddai ac nid oes gennyn ni ddim atebion eto.' Ond mae angen dod o hyd i’r atebion hynny, ac yn fuan. Nid gêm o ‘poker’ yw hon lle mae gennym ni law hap yn Texas hold 'em ac nid yw’r ochr arall yn gwybod dim am gryfder y llaw; mae'n drafodaeth aeddfed lle gall y ddwy ochr wneud asesiad eithaf da, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, o'r hyn sy'n debygol o fod yn bwysig i'r llall. Ar ryw adeg, cyn bo hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU nodi'n glir yr hyn maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd, ac efallai, yn anad dim, bod yn glir ynghylch pa gyfaddawdau y maen nhw’n fodlon eu derbyn rhwng eu gwahanol ofynion. P'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU roi eu gofynion i gyd mewn un Brexit. [Chwerthin.] Mae'n rhaid cael gair mwys yn ei ganol.

Nawr, gadewch imi roi sylw i’r cwestiwn am y gwelliant a gynigiwyd gan Blaid Cymru. Roeddwn i, ac rwy’n dal i fod, yn falch bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi datblygu ein Papur Gwyn a’i gymeradwyo ar y cyd, ac wedi cyflwyno'r cynnig o sylwedd sydd ger ein bron ar y cyd. Mae'n hanfodol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad dros Gymru â llais cryf ac unedig. Rwy’n ei gwneud yn glir: ni wnaf i gymeradwyo Brexit nad yw'n sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, boed hynny drwy'r llwybr EFTA neu'r llwybr AEE, neu drefniant pwrpasol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw hefyd, er eu bod yn gwneud hynny mewn iaith wahanol. Ond nid yw’n glir a all Llywodraeth y DU gyflawni’r canlyniad hanfodol hwn, ynghyd â rhai o'i 11 o amcanion eraill. Yn bersonol, rwy'n amheus. Rydym yn aros i weld. Ond ni fydd yn dod yn glir nes bod y trafodaethau ar y gweill. Dim ond bryd hynny y gallwn ni fod yn siŵr a yw Llywodraeth y DU wir yn barod i aberthu ein heconomi am ideoleg ac egwyddorion cyfansoddiadol haniaethol. Os bydd hynny'n digwydd, byddaf i a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i’w hatal rhag gwneud hynny.

Felly rwy'n glir: er fy mod, fel Plaid Cymru, yn cefnogi'n gryf ymdrechion yn San Steffan i ddiwygio’r Bil drafft, ni allwn ac ni ddylem geisio rhwystro’r trafodaethau hynny rhag dechrau. Hynny, wedi'r cyfan, oedd diben y refferendwm. Mae'n rhaid parchu’r canlyniad a dyna pam y bydd y grŵp Llafur yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Felly gadewch imi fod yn glir i gloi: rydym ni o’r farn bod ein Papur Gwyn yn cynnig safbwynt mwy realistig a manwl, wedi’i seilio ar dystiolaeth, nag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn. Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ystyried ei negeseuon, ac i gadw at yr ymrwymiad y maen nhw wedi ei wneud i geisio consensws rhyngddyn nhw eu hunain a'r gweinyddiaethau datganoledig ar amcanion trafod y DU. Hoffem ni weithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sydd â budd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n dda i Gymru ac yn dda i’r DU. Lywydd, byddwn ni’n parhau i wneud hynny.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.

3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Er ein bod ni’n cytuno bod yn rhaid datblygu unrhyw gytundeb terfynol gyda phwyslais pennaf ar les gorau economi a chymdeithas Cymru, mae digwyddiadau wedi mynd yn drech na’r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i felly yn cynnig gwelliant 1 i ddisodli hwn â chynnig i gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r UE; i groesawu 12 amcan negodi Llywodraeth y DU ar gyfer tynnu allan o’r UE a chyhoeddi eu Papur Gwyn; i nodi cyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru; i nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth; i gydnabod y cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac i groesawu ymrwymiad parhaus y Prif Weinidog i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.

Roedd y neges gan y cyhoedd cyn ac yn ystod ymgyrch y refferendwm yn glir: mae’n rhaid i Brexit olygu rheolaeth dros nifer y dinasyddion o’r UE sy'n dod i'r DU. Byddwn ni’n parhau i ddenu'r mwyaf disglair a'r goreuon, gan ganiatáu i DU sofran bennu a diwallu anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, boed yn beirianwyr, yn wyddonwyr, yn weithwyr iechyd proffesiynol, yn ofalwyr neu’n weithwyr fferm. Ond roedd llais y bobl yn glir; mae’n rhaid cael rheolaeth. [Torri ar draws.] Cymeraf un ymyriad.

Diolch am ildio, Mark. Rwy’n dweud hyn â phob rhesymoldeb: os, o'r ddau amcan hynny, yw’r un o geisio gosod cap ar fudo naill ai oddi mewn yr UE neu'n allanol yn gwrthdaro â'r syniad o ganfod a recriwtio’r bobl fedrus hynny a fydd yn gyrru ein heconomi, ein prifysgolion a’n swyddi, pa un sy’n cael blaenoriaeth? Oherwydd byddwn i’n meddwl bod hyd yn oed y Prif Weinidog yn dechrau sylweddoli bod y ddau’n gwrthdaro.

Na, y cyntaf yw'r ffordd i'r ail.

Er bod Papur Gwyn Llafur a Phlaid Cymru yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth ffiniau i'r DU, nid yw hyn yn anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am gytundeb masnach rydd heb aelodaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi eisiau cytundeb pwrpasol sy'n gweithio dros y DU gyfan, gan groesawu’r fasnach fwyaf di-dariff a di-rwystr bosibl gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Roedd yn ymddangos bod Prif Weinidog Cymru yn cydnabod bod angen cytundeb pwrpasol pan ddywedodd wrth y pwyllgor materion allanol ddoe nad oedd yn awgrymu bod model mudo Norwy yn 100 y cant addas i’r DU, ond, yn hytrach, bod yna ddewisiadau eraill. Ac, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud, 'Mae gennym ni feddwl agored ynglŷn â sut i wneud hyn.'

Gall dinasyddion yr UE hawlio’r hawl i breswylio'n barhaol, heb ddim amodau, os ydyn nhw wedi byw yma’n gyfreithlon am bum mlynedd yn barhaus. Tra bo’r DU yn dal i fod yn yr UE, mae dinasyddion yr UE yma yn parhau i fod â’r un hawliau ag sydd ganddyn nhw nawr. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi bod yn glir ei bod yn dymuno diogelu statws dinasyddion yr UE yma, fel ninnau, ac mae hi'n dweud mai'r unig amgylchiadau lle na fyddai hynny'n bosibl yw os na chaiff hawliau dinasyddion y Deyrnas Unedig mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE wedi eu diogelu yn gyfnewid.

David Rees a gododd—

Nid oes gennyf amser.

Rwy’n croesawu’r ffaith bod Sbaen, er enghraifft, yn dweud y bydd hyn yn flaenoriaeth o ran trafodaethau, oherwydd eu bod yn derbyn bod angen rhoi sylw i hyn hefyd.

Fel mae Papur Gwyn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei ddweud, dylai cydweithredu trawsffiniol mewn ymchwil a datblygu, fel Horizon 2020, a rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, fel ERASMUS +, barhau ar ôl i'r DU adael yr UE. Rydym ni felly'n croesawu'r ffaith bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn cyfeirio at ymgysylltu agos â'r gronfa gwyddoniaeth ac ymchwil, gan gynnwys gweithgor rhanddeiliaid lefel uchel ar adael yr UE, prifysgolion, ymchwil ac arloesi, i sicrhau bod y DU yn adeiladu ar ei safle byd-eang cryf o ran rhagoriaeth mewn ymchwil ac arloesedd.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU hefyd yn nodi na chaiff dim penderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu cymryd oddi arnyn nhw ac, yn wir, y bydd rhagor o benderfyniadau yn cael eu datganoli. Mae Papur Gwyn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn galw am fframwaith i’r DU i ddarparu sail gyfreithiol i reoleiddio materion megis yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yn effeithiol—materion sy'n cael eu llywodraethu’n drwm gan gyfraith yr UE.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid archwilio a chreu fframweithiau i’r DU gyfan ar gyfer y materion hyn ac eraill, gan gynnwys cronfeydd strwythurol ac addysg uwch. Mae angen i'r fframweithiau hyn ystyried yr holl genhedloedd yn y DU a diogelu'r cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau y gallan nhw gyflawni dros Gymru.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir: fel yr adleisiodd y Prif Weinidog, ni fydd dim cipio tir o ran cymwyseddau sydd o dan bŵer presennol y gweinyddiaethau datganoledig. Mae’n rhaid i hyn barchu’r setliad datganoledig presennol wrth i gyllid, cynlluniau a mentrau ddychwelyd o’r UE. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i wneud yr achos o blaid rhoi blaenoriaeth i amaethyddiaeth yn y trafodaethau gadael. Ac wrth siarad yng Nghymru yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd DEFRA y DU ei bod yn benderfynol o sicrhau marchnadoedd allforio i gynnyrch Cymreig o ansawdd uchel ar ôl inni adael yr UE.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House fis diwethaf,

Rwyf i eisiau i ni fod yn Brydain wirioneddol Fyd-eang—y ffrind a’r cymydog gorau i'n partneriaid Ewropeaidd, ond gwlad sy'n ymestyn y tu hwnt i ffiniau Ewrop hefyd. Gwlad sy'n mentro i'r byd i greu perthynas â hen ffrindiau a chynghreiriaid newydd fel ei gilydd. Hoffwn i Brydain fod yr hyn y mae gennym y potensial, y dalent a’r uchelgais i fod. Cenedl wych, sy’n masnachu’n fyd-eang ac sy'n cael ei pharchu o amgylch y byd ac sy’n gryf, yn hyderus ac yn unedig gartref.

Nid dim ond oherwydd bod ein hanes a'n diwylliant yn hollol ryngwladol, er mor bwysig yw hynny. Mae llawer ym Mhrydain erioed wedi teimlo bod lle’r Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dod ar draul ein cysylltiadau byd-eang, ac ar draul bod yn fwy beiddgar wrth gofleidio masnach rydd â'r byd ehangach.'

Dywedodd:

'Fel blaenoriaeth, byddwn yn mynd ar drywydd cytundeb masnach rydd beiddgar ac uchelgeisiol â'r Undeb Ewropeaidd. Dylai'r cytundeb hwn ganiatáu ar gyfer y fasnach fwyaf rhydd bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau rhwng Prydain ac aelod-wladwriaethau’r UE. Dylai roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau Prydeinig fasnachu â marchnadoedd Ewrop a gweithredu oddi mewn iddyn nhw—a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth ym Mhrydain.

'Ond rwyf am fod yn glir. All yr hyn yr wyf yn ei gynnig ddim golygu aelodaeth o’r farchnad sengl. Mae arweinwyr Ewropeaidd wedi dweud droeon bod aelodaeth yn golygu derbyn y '4 rhyddid' sef nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobl. A byddai bod allan o'r UE, ond yn aelod o'r farchnad sengl, yn golygu cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r UE sy'n gweithredu'r pedwar rhyddid hynny, heb inni gael pleidlais ar beth yw’r rheolau a'r rheoliadau hynny. Byddai'n golygu derbyn swyddogaeth i Lys Cyfiawnder Ewrop a fyddai'n golygu bod ganddo awdurdod cyfreithiol uniongyrchol yn ein gwlad o hyd. Byddai i bob pwrpas yn golygu peidio â gadael yr UE o gwbl. A dyna pam y pwysleisiodd y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm y byddai pleidlais i adael yr UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl.'

Dywedodd:

"Felly nid ydym yn gofyn am aelodaeth o’r farchnad sengl. Yn hytrach, rydym yn gofyn am gymaint â phosibl'—[Torri ar draws.] Rydych yn byw ym mro breuddwydion. [Torri ar draws]

'Yn hytrach, rydym yn gofyn am gymaint â phosibl o fynediad iddi yn unol â chytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol'—[Torri ar draws.]

'Gallai’r cytundeb hwnnw gynnwys elfennau o drefniadau presennol y farchnad sengl mewn rhai meysydd—ar allforio ceir a lorïau er enghraifft, neu’r rhyddid i ddarparu gwasanaethau ariannol ar draws ffiniau cenedlaethol—oherwydd dydy hi ddim yn gwneud dim synnwyr dechrau o'r dechrau eto pan fo Prydain a’r Aelod-wladwriaethau eraill wedi cadw at yr un rheolau ers cynifer o flynyddoedd.'

Ond mae hi’n parchu, meddai hi, y safbwynt a gymerodd arweinwyr Ewropeaidd sydd wedi bod yn glir am eu safbwynt, yn union fel y mae hi’n glir am ei safbwynt hi.

'Felly, rhan bwysig o'r bartneriaeth strategol newydd yr ydym yn ei cheisio â’r UE fydd ceisio sicrhau’r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, ar sail gwbl ddwyochrog, drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.'

Diwedd y dyfyniad. Wedi'r cyfan, y DU yw cwsmer mwyaf yr UE ac mae cytundeb masnach rydd sydd o fudd i’r naill a’r llall â’r UE—sy’n farchnad sengl—yn golygu, drwy ddiffiniad, mynediad i’r farchnad sengl honno.

Er gwaethaf sylwadau Llywodraeth Cymru yn yr apêl i mewn i benderfyniad yr Uchel Lys bod yn rhaid i’r Senedd bleidleisio ar y broses i dynnu’r DU allan o'r UE, gwnaeth y Goruchaf Lys hi’n glir nad oedd angen caniatâd y gweinyddiaethau datganoledig cyn tanio erthygl 50. Mae'r Uchel Lys hefyd ers hynny blocio wedi her gyfreithiol a oedd yn dadlau bod yn rhaid i’r Senedd hefyd gymeradwyo bod y DU yn gadael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae’n rhaid parchu pleidlais y bobl i adael yr UE yn y refferendwm fis Mehefin diwethaf—gan gynnwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Yn ystod y misoedd dilynol, fodd bynnag, rydym wedi dioddef proffwydoliaethau o ofid a gwae gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddydd ar ôl dydd, yn hytrach na’r geiriau hyderus a gobeithiol yr oedd eu hangen. [Torri ar draws.] Byddwch yn creu proffwydoliaeth hunangyflawnol. Mae’n rhaid ei bod yn rhwystredig i Brif Weinidog Cymru sydd yn aml wedi swnio fel Private Frazer gwleidyddiaeth Cymru, ac i 'Blaid Gremlin' draw fan’na, sydd ond yn bodoli i wanhau a rhannu ein hynys drwy ddinistrio ein Teyrnas Unedig—[Torri ar draws.]—bod Banc Lloegr wedi codi eu rhagolwg ar gyfer economi'r DU eleni, gyda thwf cyflymach, llai o ddiweithdra a chynnydd chwyddiant mwy cymedrol. Mae pobl Prydain, gan gynnwys Cymru, wedi penderfynu gadael yr UE, ac mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni hynny. Fodd bynnag, fel y mae pob Llywodraeth gyfrifol yn ei wybod, dydych chi ddim yn dangos eich cardiau cyn i drafodaethau ddechrau.

Rwy’n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne Wood.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut y gallaf ddilyn hynny. Rwy’n cynnig gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin y llynedd, mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu budd cenedlaethol Cymru. Ni fydd yn syndod i neb—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i fod yn genedlaetholwr Cymreig o'i gymharu â’ch cenedlaetholdeb Brydeinig chi, diolch yn fawr iawn. Ni fydd yn syndod i neb yn y Siambr hon bod fy mhlaid yn dal i fod o blaid cyfranogi yn y farchnad sengl Ewropeaidd—rhywbeth sydd yn bosibl, naill ai o’r tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd neu o'r tu allan iddo. Nawr, rydym yn gwybod bod ardaloedd a chytundebau masnach rydd mawr yn gallu dod â pheryglon i gymdeithasau, ond mae'r farchnad sengl Ewropeaidd wedi gweithio'n dda i Gymru. Mae cymryd rhan ynddi wedi helpu i greu swyddi tra medrus â chyflogau uchel. Mae tua 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â'r farchnad honno. Ac yn hanfodol, mae'r farchnad sengl Ewropeaidd yn seiliedig ar safonau uchel, ac mae’n seiliedig ar ragoriaeth, arloesi a diogelu’r amgylchedd. Ar y naill law, mae'n cael gwared ar rwystrau rhag masnach. Ac ar y llaw arall, mae'n gwella ac yn hyrwyddo ansawdd. Mae gan y farchnad sengl Ewropeaidd rai o'r safonau diogelwch defnyddwyr gorau yn y byd. Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â'r marc CE a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i fod yn berthnasol i nwyddau ledled yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu’r AEE. O deganau plant i’r nwyddau gweithgynhyrchu o’r ansawdd uchaf, mae’r marc CE yn golygu bod yn rhaid i gynnyrch fodloni’r safonau diogelwch ac amgylcheddol uchaf posibl.

Ond nid dim ond nwyddau cartref sydd ar gael yn y farchnad sengl. Mae hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd: Airbus; Ford ym Mhen-y-bont; Siemens yn Llanberis; cig oen Cymru—90 y cant o'n hallforion cig oen; Halen Môn. Mae pob un o'r cwmnïau neu’r sectorau hyn naill ai wedi cefnogi’r farchnad sengl neu’n dibynnu arni am eu hallforion rhyngwladol. Rydym wedi clywed sôn am yr angen i’r sectorau hyn ddod o hyd i farchnadoedd eraill, ond pam y byddem yn cerdded i ffwrdd oddi wrth y farchnad fwyaf yn y byd pan mae ar ein stepen drws yn barod? Dylen ni yng Nghymru feddwl yn ofalus iawn am ein hawliau defnyddwyr, ein hallforion, ein hamgylchedd, ein hawliau gweithwyr wrth inni ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig fel dewis arall.

Mae amryw o Geidwadwyr wedi amlinellu dewis arall i aros yn y farchnad sengl. Rwyf wedi eu clywed yn dweud y bydd rywbeth yn debyg i Singapore. Wel, nid oes gennyf unrhyw broblem â Singapore, ond byddai mewnforio model o'r fath i'r DU yn annerbyniol i ni. Nid ydym am weld Cymru yn cael ei llusgo i mewn i fyd Eingl-Americanaidd o breifateiddio, lle y byddem mewn perygl o wynebu diwedd nawdd cymdeithasol a diwedd y GIG. Byddai fersiwn newydd, ac yn ôl pob tebyg yn waeth, o TTIP o dan y cytundebau masnach rydd, a byddai hynny’n israddio hawliau gweithwyr a mesurau i ddiogelu ein hamgylchedd. Byddai'n rhaid i ffermwyr Cymru gysoni safonau amaethyddol â’r Unol Daleithiau, neu weld agor ein marchnadoedd i fwy o gig oen o Seland Newydd. Mae'r rhain yn bosibiliadau y bydd Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu ar bob cyfle.

Clywsom hefyd y Brexiteers yn cynnig dewis arall gwahanol yn ystod ymgyrch y refferendwm.

Nid oes neb o gwbl yn sôn am fygwth ein lle yn y farchnad sengl,

meddai Daniel Hannan o Vote Leave.

'Dim ond gwallgofddyn fyddai’n gadael y farchnad mewn gwirionedd.'

Nid yw'r rhain yn eiriau y byddwn i’n eu dewis, ond geiriau Owen Patterson ydyn nhw. A

'A fyddai mor ddrwg i fod fel Norwy?'

Dyfalwch pwy ddywedodd hynny. Nigel Farage. Doedd Brexit caled y tu allan i'r farchnad sengl yn ogystal â'r UE ddim yn gwestiwn a oedd ar y papur pleidleisio. Cyplwch hynny â'r addewid i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd bob wythnos mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol y GIG, ac mae’n dod yn amlwg bod gwir angen i ddal yr ochr 'gadael' i gyfrif am eu haddewidion ac am eu llwon. Rwy’n cynrychioli etholaeth a bleidleisiodd i adael. Mae'r Rhondda wedi colli meddygfeydd teulu. Mae rhai cymunedau’n diboblogi ac felly yn dioddef o niferoedd yn gostwng, cau ysgolion. Mae gormod yn cael trafferth â phroblemau cymdeithasol. Roedd yr addewidion hynny o arian ychwanegol yn ddeniadol iawn, ac mae yna bobl a gynigiodd yr addewidion hynny yn bresennol yn y Siambr hon heddiw, ac maen nhw’n bresennol yn Llywodraeth y DU hefyd.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod rhoi siec wag i Lywodraeth y DU i danio erthygl 50, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno ein gwelliant heddiw, yn ogystal â'n gwelliant a gyflwynwyd neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin. Lywydd, mae gennym gynnig ger ein bron heddiw sy'n cydnabod canlyniad y refferendwm ac yn nodi cynllun manwl ar gyfer Cymru, a bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig hwnnw, hyd yn oed os yw ein gwelliant yn methu. Mae'r cynnig yn iawn i nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu ag amlinellu cynllun manwl. Mae hyn yn rhan o'n problem.

Rydym wedi gweld nawr bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn bodoli, ond mae'n ddogfen llawn gwrthddywediadau, a dydyn ni dal ddim yn gwybod beth mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd. Gwnaf.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel yr ydych wedi’i ddweud, bod cymaint o undod â phosibl ar draws y Siambr ar y cynnig hwn a'n bod yn dod at ein gilydd ar ran budd cenedlaethol Cymru. Ar ôl negodi cynnig ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a allwch esbonio pam yr ydych wedyn yn cyflwyno cynnig ar wahân sy’n rhoi signal o dacteg wahanol i'r hen gynnig yr oeddech wedi cytuno arno? A oes gan hyn fwy i’w wneud â’ch rhaniadau gwleidyddol mewnol eich hun, yn hytrach na budd cenedlaethol Cymru?

Nid oes gennym ni ddim anawsterau mewnol o fewn Plaid Cymru ar hyn. Nid oes dim sôn am danio erthygl 50 yn y Papur Gwyn. Rydym ni’n ymrwymo'n llwyr i'r Papur Gwyn, ond mae gennym ein safbwynt ein hunain ynglŷn ag erthygl 50, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn heddiw. Ond, fel yr wyf newydd ei ddweud, byddwn yn cefnogi'r cynnig, hyd yn oed os bydd ein gwelliant hunain yn methu.

Nawr, mae Papur Gwyn y DU yn disgrifio sefyllfa masnach nad yw'n adlewyrchu amgylchiadau Cymru. Er enghraifft, dim ond 11 y cant o nwyddau'r DU sy’n cael eu hallforio i'r Almaen, ond ar gyfer Cymru, mae'r ffigur yn 24.8 y cant. Mae Cymru yn allforio 13.7 y cant o'i nwyddau i Ffrainc, ond ar gyfer y DU, dim ond 6.5 y cant yw’r ffigur. Nid wyf yn petruso cymeradwyo'r Papur Gwyn ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel disgrifiad cywir o fudd cenedlaethol Cymru ar gyfer y trafodaethau i ddod. Rwy’n cymeradwyo’r blaenoriaethau polisi yn ogystal â'r dull a awgrymwyd. Mae ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’ yn amlinellu math o bontio a gâi gefnogaeth tair o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod gan Gymru ei safbwynt ei hun a llwyfan ar wahân i'r JMC a thrafodaethau eraill y tu mewn i'r DU. Mae'n amlinellu’r berthynas agosaf a mwyaf cadarnhaol y gallem ei chael â'r Undeb Ewropeaidd o'r tu allan, ar ôl Brexit. Mae'n nodi cysylltiadau ag Iwerddon fel blaenoriaeth strategol i’n cenedl, ac mae'n amlinellu’r rhannau hanfodol o’n cymdeithas y mae angen eu diogelu a’u hamddiffyn rhag unrhyw darfu, ac yn arbennig mewn amaethyddiaeth ac yng nghefn gwlad Cymru.

Rwyf hefyd yn cymeradwyo'r eglurhad a’r disgrifiad yn y Papur Gwyn o gyfranogi yn y farchnad sengl. Mae'r opsiynau ar gyfer hyn yn dal i fod ar agor, p'un ai drwy fod yn aelod o EFTA a chyfranogi yn yr AEE, neu drwy gytundeb pwrpasol a drafodwyd, ar yr amod, wrth gwrs, bod cytundeb o'r fath yn diystyru tariffau ac yn cadw ein rheoliadau’n gydnaws â rhai’r farchnad sengl. Byddai unrhyw gytundeb nad yw'n cyflawni'r amodau a gymeradwywyd gan Bapur Gwyn Cymru yn anfanteisiol i Gymru ac yn rhoi ein heconomi mewn perygl.

Lywydd, mae Cymru ar dir newydd. Mae'r ddadl yn parhau i esblygu, a bydd Plaid Cymru yn cyfrannu ein syniadau a'n hegni wrth i'r broses Brexit fynd rhagddi. Byddwn yn parhau i weithio gydag eraill lle mae’r budd cenedlaethol yn mynnu hynny a lle ceir tir cyffredin, yn union fel y bydd Cymru yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Ond mae Plaid Cymru yn dal i fod yn wyliadwrus o Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i ddweud y byddan nhw’n gwrando ar bob un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw a ydyn nhw mewn gwirionedd yn bwriadu gwneud hyn, ynteu dim ond ceisio creu’r argraff eu bod yn gynhwysol a theg. Pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon roedd y bleidlais yn wahanol. Gallai unrhyw ymagwedd at adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwrthod dyheadau’r tiriogaethau datganoledig hynny arwain at ddiwedd y Deyrnas Unedig. Gallai unrhyw ddull sy'n anwybyddu llais Cymru ddwyn anfri ar Lywodraeth y DU a niweidio perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Papur Gwyn ar y cyd yn nodi ffordd o osgoi’r difrod hwnnw ac i gadw’r cysylltiadau pwysig a buddiol hynny ag Ewrop, gan gydnabod canlyniad y refferendwm. Mae er budd cenedlaethol Cymru i gymeradwyo'r Papur Gwyn hwn heddiw. Diolch yn fawr.

Rwy’n gwerthfawrogi jôc y Prif Weinidog am beidio â rhoi ein hwyau mewn un Brexit, ond rwy’n ofni nad comedi yw ei siwt gryfaf oherwydd mae mor felodramatig yn y dadleuon hyn. Mae’r gofid a’r gwae sy’n dod allan o'i geg wir yn eithaf rhyfeddol, ac mae, rwy’n credu, yn ei fodelu ei hun yn fwy ar Private Frazer yn ‘Dad’s Army’—‘We’re doomed, we’re doomed’. Mae ei gydweithiwr ar draws y Siambr, yn fy marn i, yn ei modelu ei hun ar y cymeriad comig o'r sioe radio 'ITMA', Mona Lott, y ferch ddigalon yn y golchdy—‘Bod mor siriol sy’n fy nghadw i fynd’. Mae cwmwl du i bob ymyl arian yw’r ffordd y maen nhw’n edrych ar y peth, a dyma'r peth rhyfeddol: nid oes ond yn rhaid ichi ddarllen y ddogfen hon, y Papur Gwyn, i weld o ble mae hynny'n dod. Yn y dechrau un, bron:

'gallai disodli cyfranogiad yn y Farchnad Sengl â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) arwain at economi'r DU sydd hyd at 8 i 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall'—

Ie, wel, byddaf yn cyrraedd hyn mewn munud yn yr araith hon. Sut ar y ddaear y gallai symud i reolau WTO o reolau’r farchnad sengl, lle byddai’r tariff cyfartalog yn llai na 3.5 y cant, gynhyrchu gostyngiad 10 y cant ym maint ein hincwm cenedlaethol, o gofio nad yw cyfanswm ein hallforion i'r UE ond 12 y cant o’n cynnyrch mewnwladol crynswth? Mae hyn yn hollol economaidd anllythrennog, ac mae gwacter y ddogfen hon, a dweud y gwir, y tu hwnt i ddisgrifiad. Mae'r syniad bod hwn yn gynllun, fel y mae’r wraig anrhydeddus yn ei ddweud, yn gwbl hurt. A gaf i ei hatgoffa bod y Llywodraeth wedi nodi ei safle trafod yn fras, ac fel y nododd strategydd milwrol mawr yr Almaen Helmut von Moltke unwaith,

‘Kein Plan überlebt die erste Feindberührung’.

Dyna ddangos fy nghymwysterau Ewropeaidd: 'nid oes dim cynllun brwydr yn goroesi’r cyswllt cyntaf â'r gelyn'. Felly, nid oes dim pwynt ceisio llunio cynllun wedi’i ystyried yn ofalus iawn ar gyfer y trafodaethau hyn. Safbwynt bras y Llywodraeth yw'r un synhwyrol, ac, yn ôl pob golwg, mae cytundeb ar draws y Cynulliad hwn ag ef—mai’r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni, yn y geiriau a ddyfynnodd y Prif Weinidog, yw masnach ddiffrithiant rhwng yr UE: pethau’n debyg iawn i sut y maen nhw yn awr o ran masnach rhyngom. Mae'n bendant er budd yr UE i hynny ddigwydd. Roedd gennym ddiffyg masnach o £61 biliwn gyda’r UE yn 2015. Mae'n llawer iawn mwy er eu lles nhw nag er ein lles ni i gadw masnach rydd rhwng Prydain a gweddill Ewrop. [Torri ar draws.] Rwy’n ildio.

Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnewch chi dderbyn, fodd bynnag, bod y Papur Gwyn hwn yn ceisio ymdrin â’r cyd-destun Cymreig penodol i adael yr UE, gan gynnwys y pwynt bach hwnnw bod Cymru yn allforiwr net i'r Undeb Ewropeaidd?

Wrth gwrs, bydd gadael yr UE yn effeithio ar wahanol farchnadoedd a gwahanol gynnyrch oni bai ein bod yn parhau â'r trefniadau masnachu sydd gennym ar hyn o bryd. Dyna pam mae, wrth gwrs, yn iawn bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y broses negodi. Ond nid oes gan Lywodraeth Cymru ddim diddordeb, a dweud y gwir, mewn cyfrannu at y broses negodi hon, oherwydd maen nhw’n dechrau o ben arall y negodi cyn belled ag y mae Llywodraeth Prydain dan sylw. Maen nhw’n dweud yn y ddogfen hon

'byddai unrhyw gyfyngiadau ar symudiad rhydd gweithwyr yn effeithio’n ddifrifol ar allu Cymru i gael mynediad at'

bob math o bethau. A diwedd y gân i’r Prif Weinidog, ac rwy’n tybio i Blaid Cymru hefyd, yw bod yn rhaid i weithwyr gael symud yn rhydd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Dylai eu gallu fod yn ddilyffethair i ddod i'r wlad hon, nid dim ond i dderbyn cynigion o waith, ond hefyd i chwilio am waith. Dyna'r hyn y mae symud rhydd yn ei fynnu o dan reolau’r AEE. Dyma beth sy'n digwydd yn Norwy, ac mae Norwy wrth gwrs yn rhan o'r cytundeb Schengen yn ogystal. A dweud y gwir, byddai'n gwneud pethau'n waeth pe baem yn mabwysiadu model Norwy, fel yr argymhellodd y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen.

Mae'n rhaid ichi dderbyn bod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin wedi’i ysgogi i raddau mawr gan ofnau ar ran y cyhoedd ym Mhrydain a'r cyhoedd yng Nghymru am fudo. Os ydych yn anwybyddu hynny, byddwch yn ei anwybyddu ar berygl i chi eich hun. Rhoddaf y darn hwnnw o gyngor ichi am ddim. Dydyn ni ddim yn gwybod a yw'r UE yn mynd i wneud y peth synhwyrol. Mae'r bêl yn eu cwrt nhw, nid yn ein un ni. Rydym wedi dweud beth rydyn ni eisiau ei wneud: hoffem barhau i fasnachu gyda nhw mewn ffordd mor rhydd ag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Yn bron bob un sector yn ein masnach gyda'r UE, mae gan Brydain warged mawr. Gadewch inni sôn am gig oen, rhywbeth y soniodd y wraig anrhydeddus amdano yn ystod ei haraith. Mae'r ffigurau ar gynhyrchion amaethyddol yn ddadlennol iawn, a dweud y gwir. Mae ein hallforion cig oen i'r UE—dim ond ffigurau'r DU sydd gennyf, nid oes gen i ddim ffigurau Cymru. Ond, ffigurau’r DU yw £392 miliwn y flwyddyn o fewnforion o gig oen o’r UE a £302 miliwn o allforion. Mae gennym ddiffyg o £90 miliwn y flwyddyn mewn cig oen.

Gallem fforddio, gyda'r difidend Brexit—yr £8 biliwn yr ydym yn ei roi i Frwsel ar hyn o bryd i’w wario ar amaethyddiaeth a phethau eraill mewn rhannau eraill o'r UE—gallem fforddio prynu cig oen i bawb yn y wlad hon a'i roi allan am ddim, pe baem yn dymuno. Dyna beth—. Mae'n opsiwn a fydd gennym ni, fel deddfwyr etholedig. Byddwn yn gyfrifol am ein penderfyniadau yn y lle hwn, ac am y rhai yn San Steffan, a byddwn yn atebol i'r bobl. Mae hynny'n rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn ddiffygiol o ganlyniad i ddiffyg democrataidd yn yr UE. Ildiaf.

Diolch am ildio. A allwch egluro imi sut mae rhoi cig oen am ddim yn cynhyrchu marchnad gynaliadwy i fy ffermwyr mynydd?

Mae ffermwyr mynydd Dafydd Elis-Thomas yr un rhai â fy ffermwyr mynydd i. Dydw i ddim wir—[Torri ar draws.] Wel, mae Canolbarth a Gorllewin Cymru, os nad yw’r wraig anrhydeddus wedi ei ddarganfod, yn cynnwys Dwyfor Meirionnydd ac felly—

A gaf i ddweud, yn y fan hon, mai dyna’r trydydd tro i chi sôn am wraig anrhydeddus? Nid oes neb yn anrhydeddus yn y Siambr hon. Rydym i gyd yn gyfartal. [Chwerthin.]

Lywydd, rwy’n credu mai dyna ddyfyniad y degawd, ac rwyf wedi fy ngheryddu’n briodol.

Wrth gwrs, doedd hwnnw ddim yn awgrym synhwyrol; roeddwn yn mynd â’r ddadl i'r pen pellaf hurt. Yr unig beth yr wyf yn ei ddweud yw y bydd gennym y rhyddid i wneud rheolau a rheoliadau i benderfynu ar ein polisïau mewnol ein hunain. Os byddwn yn dewis rhoi rhyw fath o gymorth i un sector yn hytrach nag un arall, mae hynny nawr o fewn ein gallu ni i wneud penderfyniadau, nid gallu rhyw gasgliad afloyw ac amhosibl ei adnabod o weision sifil rhyngwladol wedi’u lleoli ym Mrwsel, nad yw’r mwyafrif llethol o bobl yn gwybod pwy ydyn nhw. [Torri ar draws.] Nid wyf i’n credu, Lywydd, bod gen i amser—rwyf i wedi ildio dair gwaith yn barod, sy’n eithaf hael, yn fy marn i.

Yr oll a ddywedaf wrth yr Aelodau yn y ddadl hon yw: wrth gwrs, mae pob newid yn cynhyrchu heriau a risgiau. Dyw hi ddim fel pe nad oedd dim risgiau i aros yn yr UE ar y telerau a fu gennym am y 40 mlynedd diwethaf. Yn ystod 43 mlynedd, rydym wedi gweld newidiadau a dirdyniadau enfawr yn digwydd ym mywydau ffermwyr mynydd, er enghraifft, neu gynhyrchwyr llaeth, ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'r byd bob amser yn enigma, ond yr hyn y mae’r cyfle hwn yn ei roi inni yw’r rhyddid i wneud penderfyniadau drosom ein hunain fel gwlad, gan wleidyddion etholedig sy’n atebol i'r bobl yn rheolaidd, a bydd yn rhaid inni fod yn atebol am ein penderfyniadau iddyn nhw, sy'n rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.

O ystyried ein bod mewn diffyg mor sylweddol yn ein masnach â'r UE, ac mewn gwarged yn ein masnach gyda gweddill y byd, byddai bod yn rhan o'r undeb tollau, a dweud y gwir, yn ataliad enfawr ar y rhyddid y mae Brexit yn ei roi. Nid yn unig ydw i’n credu y byddai'n ffôl inni aberthu masnach rydd yn yr UE, er nad yw hynny o fewn ein gallu i’w reoli—penderfyniad i’r UE yw hwnnw, ac efallai y gallai'r Prif Weinidog gynorthwyo Llywodraeth Prydain i’w gyflawni drwy fod mewn cysylltiad â’i gyd-sosialwyr ar y cyfandir—. Bydd ffrynt unedig ar ran pob plaid yn y trafodaethau hyn yn fanteisiol inni. Ond, o ran masnach gyda gweddill y byd, byddai bod yn yr undeb tollau yn golygu y byddai'n amhosibl inni gwblhau unrhyw fath o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau, rhywbeth y mae’r Arlywydd Trump—beth bynnag yr ydych yn ei feddwl amdano—yn ymddangos yn awyddus i’w ffurfio, a llawer o wledydd eraill hefyd, boed yn Awstralia neu Seland Newydd. Mae India a Tsieina hefyd yno i ddechrau trafodaethau â hwy. Mae hwn yn gyfle enfawr. Nid wyf yn credu ei fod yn ddim byd i'w ofni. Beth yw diben plaid genedlaethol wedi'r cyfan, os nad sicrhau bod y bobl sy'n rhedeg eu cenedl eu hunain yn gwneud y penderfyniadau allweddol? Beth sy’n genedlaetholgar am ddymuno cael eich llywodraethu gan weision sifil di-draidd sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel, yn anatebol i bobl Cymru? Dyna'r union wrthwyneb i blaid genedlaetholgar yn fy marn i. Ond rwy'n credu bod yn rhaid imi gloi fy sylwadau nawr oherwydd er bod hon yn ddadl dwy awr, mae’n rhaid imi beidio â chymryd mwy o amser nag yr wyf eisoes wedi ei gymryd. Dydw i ddim yn gwybod a gawn ni fwy o'r dadleuon hyn, ond rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau’n codi eto, er hynny.

Felly, yr oll y byddwn yn ei ddweud yw bod hwn yn gyfle inni, nid bygythiad. Ni fydd yn gwneud y gorau ohono, neu’r gwaethaf ohono. Os awn i mewn i'r trafodaethau ac os awn i mewn i'r dyfodol ag ysbryd o besimistiaeth—'O, na, allwn ni ddim gwneud hyn; all y bumed economi fwyaf yn y byd ddim goroesi ar ei chryfderau ei hun’—wrth gwrs, chawn ni mo’r gorau ohono. [Anghlywadwy.] Rhun ap Iorwerth, o’i eistedd, 'Beth am Gymru?' Os nad yw wedi sylwi, mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn debygol o aros felly ac, felly, mae’n rhaid i Gymru dderbyn y realiti ein bod yn rhan o drafodaeth ehangach. Mae'r syniad y gallai’r Alban fod yn annibynnol at y dibenion hyn yn hurt ac mae’r awgrym chwerthinllyd o gael trefn fisa i Gymru, fel y soniwyd amdano yn gynharach, wrth gwrs, yn gwbl anymarferol. Os—

Oes. Ac mae hynny oherwydd, fel rhan o wladwriaeth unedol, er ei bod yn cynnwys Seneddau a Chynulliadau datganoledig, bod yn rhaid inni dderbyn bod y Deyrnas Unedig yn negodi ar ran y wlad i gyd. Ond mae gan Gymru popeth i obeithio amdano, rwy’n credu, a phopeth i'w ennill o agwedd gadarnhaol tuag at y trafodaethau Brexit a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd ehangach.

Pan siaradais yn y Siambr hon rai dyddiau ar ôl pleidlais y refferendwm, roeddwn yn mynegi siom enfawr wrth y canlyniad, ond gan ychwanegu bod yn rhaid inni dderbyn y canlyniad a dyna yw fy safbwynt o hyd. Ac mae hynny er gwaethaf y ffaith bod 62 y cant o bleidleiswyr ym Merthyr Tudful naill ai wedi pleidleisio i aros neu heb bleidleisio o gwbl. Yn anffodus, doedd trothwy pleidleisio’r undebau llafur ddim yn berthnasol yn y refferendwm, felly y mwyafrif pleidleisio syml ar y diwrnod hwnnw oedd yn ennill. Ond ac ystyried y rhaniad barn clir hwnnw, byddaf yn derbyn fy nghyfrifoldeb i ystyried beth sydd er pennaf les fy holl etholwyr. Yn fwy na dim, yr hyn sydd ei angen ar bawb yw i’r Llywodraeth roi terfyn ar yr ansicrwydd. Ond saith mis yn ddiweddarach, mae’r ansicrwydd hwnnw’n parhau.

Lywydd, roeddwn yn fwy trist nag wedi fy syfrdanu wrth ganlyniad y refferendwm, nid oherwydd yr hyn oedd yn ei olygu i mi yn bersonol, ond oherwydd yr hyn y byddai'n ei olygu i bobl yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig. I lawer, roedd pleidleisio ‘gadael’ yn bleidlais daer dros newid, pleidlais dros rywbeth gwell gan bobl a oedd wedi dioddef darnio eu cymunedau yn yr 1980au a'r 1990au, gan arwain at aelwydydd heb waith am ddegawdau, ac yn y pen draw daeth yr union gymunedau hynny yn ddioddefwyr y mesurau cyni a osodwyd gan y Torïaid. Ond fy ofn gwirioneddol yw, ar ôl Brexit, na fydd yn dod â'r newid y mae pobl yn erfyn amdano, ac mai’r union bobl a bleidleisiodd i adael yw'r union bobl sydd ag angen y gefnogaeth yr oedd yr UE yn ei darparu fwyaf.

Daeth yn amlwg hefyd bod llawer o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd ystod o bethau yr oedden nhw’n credu y bydden nhw’n deillio o adael yr UE, gan gynnwys terfyn ar fewnfudo. Ond pan gefais sgyrsiau â llawer o'r bobl hyn, nid oedd eu pryderon am fewnfudo wedi’u hategu gan unrhyw brofiadau personol ac nid oedden nhw ychwaith, yn wir, yn gallu dweud gydag unrhyw sicrwydd sut yr oedd mewnfudo wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw. Fodd bynnag, wedi’u gwysio gan y celwyddau a'r propaganda Goebbels-aidd gan y cyfryngau adain-dde, cafodd mewnfudwyr eu pardduo fel achos yr heriau yr oedden nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Ond, wrth gwrs, nid y celwyddau am fewnfudo oedd yr unig rai o bell ffordd. Roedd yr holl ymgyrch ‘gadael’ yn seiliedig ar gelwyddau ac addewidion ffug, boed yr addewid i ail-fuddsoddi £350 miliwn yn y GIG neu'r cyfoeth a fyddai'n deillio o gytundebau masnach newydd, y cyfeiriodd Ken Clarke atyn nhw yr wythnos diwethaf fel 'ffantasïau Alice in Wonderland'.

I mi, fodd bynnag, canlyniad mwyaf trallodus y bleidlais ‘gadael’ fu'r cynnydd helaeth mewn achosion o hiliaeth agored a chyhoeddus a normaleiddio ymddygiad o'r fath. Yn anffodus, nid yw hyn wedi dangos llawer o arwyddion o arafu, a phan fyddwch yn cyplu hyn â'r hyn yr ydym wedi ei weld gan Donald Trump ac esgyniad yr adain dde hiliol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae’n rhaid i hyn beri pryder inni i gyd.

Am eiliad, a gaf i ganolbwyntio ar yr effaith bersonol ar ddinasyddion yr UE sydd wedi eu dal yn yr ansicrwydd presennol, yma ac yn Ewrop? Dysgais yn ddiweddar am un o ddinasyddion yr UE—Almaenwr—a ddaeth i'r DU 40 mlynedd yn ôl. Mae'n byw yng Nghymru gyda'i bartner ac mae wedi sefydlu rhaglen fach, lwyddiannus sy'n seiliedig ar y celfyddydau. Er gwaethaf yr hyn yr ydym wedi’i glywed o feinciau'r Ceidwadwyr yma, mae ef, ei wraig a'i fab bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch a fyddan nhw’n gallu aros gyda'i gilydd, yn byw yn y wlad hon, ac mae'n credu bod ei deulu ac eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu defnyddio fel sglodion bargeinio yn nhrafodaethau Brexit Theresa May. A beth am ddinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop? Beth sy'n digwydd iddyn nhw? Mae hynny'n dal i fod yn anhysbys.

Os oes angen argyhoeddi unrhyw un o hyd pa mor daer yw hyn, edrychwch ar y ffigurau gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy'n dangos bod cofrestru staff nyrsio Ewropeaidd yn y DU wedi gostwng yn syfrdanol o 90 y cant ers y refferendwm.

Felly, wrth inni symud ymlaen, beth ydyn ni ei eisiau gan Brexit? Yn fwy na dim arall, i bobl Merthyr Tudful a Rhymni, ni waeth sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm, hoffwn i weld tai boddhaol, fforddiadwy; gwell gwasanaethau; twf busnes; swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda; terfyn ar dlodi; a chymunedau bywiog a ffyniannus. Mae arian yr UE wedi cyfrannu’n aruthrol at drawsnewid fy etholaeth i dros y blynyddoedd, ac er nad yw pobl bob amser wedi teimlo’r manteision uniongyrchol o ganlyniad i effeithiau’r mesurau cyni, mae’n rhaid i rywbeth gymryd lle arian yr UE sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, oherwydd mae’r amgylchedd lle mae pobl yn byw yn hanfodol i ansawdd eu bywyd ac mae’n mynd law yn llaw â buddsoddiadau economaidd eraill.

Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin yn awr â'r ansicrwydd sy'n parhau; cydnabod pwysigrwydd cyllid yr UE, yn hanesyddol, i sawl rhan o Gymru; ystyried dymuniadau ac anghenion cenhedloedd datganoledig mewn unrhyw drafodaethau i sicrhau nad yw ein cymunedau ni yma yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i Brexit; a dod o hyd i ffordd o droi hyn yn ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer yr ardaloedd difreintiedig hynny sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn flaenorol. Am y rhesymau hyn, Lywydd, ynghyd â llawer o rai eraill nad wyf wedi cael amser i roi sylw iddyn nhw heddiw, rwy’n cefnogi’r cynnig a Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’.

Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae ychydig yn swreal, i fod yn onest gyda chi, oherwydd mae gennym gynnig ger ein bron sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y ddwy blaid sydd wedi llunio’r cytundeb ac yna welliant wedi’i gyflwyno sydd mewn gwirionedd yn gwrthwynebu tanio erthygl 50 oni bai bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Felly, rwy’n ei chael braidd yn rhyfedd na allwn gael y cytundeb hwnnw ar y cynnig syml sydd ger ein bron, heb sôn, efallai, am rai o'r pwyntiau ehangach yn y ddogfen sydd ger ein bron i'w thrafod heddiw. Rwy’n nodi bod arweinydd Plaid Cymru wedi sôn am hybu hunan-benderfyniad cadarnhaol, sy'n air arall—tri gair—am annibyniaeth. Os ydyn nhw’n mynd i wneud hynny, sut y gallan nhw gytuno â’r sylwadau a’r dyheadau yn y ddogfen sy'n sôn am y Deyrnas Unedig a fframweithiau’r Deyrnas Unedig a fyddai'n deillio ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd? Oherwydd os ydych yn hyrwyddo hunan-benderfyniad cadarnhaol, yn y pen draw, pam na wnewch chi jyst defnyddio'r gair 'annibyniaeth'? Rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog beth yn union yw ystyr y gair 'cyfranogiad' yng nghyd-destun y farchnad sengl, oherwydd mae’n ymddangos bod hwnnw bron yn safbwynt cyfaddawd y mae’r ddwy blaid wedi ei gyrraedd, ac onid yw pob—

Efallai y gallaf fod o gymorth iddo. [Chwerthin.] Fy nealltwriaeth o 'hunan-benderfyniad' yw hynny yn union: gallai grŵp o bobl sy’n cael eu cydnabod fel cenedl neu gymuned hunan-benderfynu aros yn y sefyllfa sydd ohoni. Ar y llaw arall, gallai hunan-benderfyniad fod yn rhywbeth ymhellach. Felly, dydy’r ddau beth ddim yn gyfystyr, yn fy marn fach i.

Dydw i ddim yn hollol siŵr ai dyna beth mae arweinydd Plaid Cymru yn credu ydyw, ac rwy’n credu, yn amlwg, bod y teimlad yn ymwneud ag annibyniaeth. Ond fe wnes i glywed yr Ysgrifennydd materion gwledig yn dweud bod arnaf angen rhywfaint o help i ddeall y materion hyn. Byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd materion gwledig, os yw'n dymuno rhoi sylwadau o’i heistedd, pam nad yw hi nawr yn cymeradwyo amaethyddiaeth y DU, pan, yn Sioe Frenhinol Cymru, dewisodd hi ddweud nad oedd y fath beth ag amaethyddiaeth y DU? Pam, os mae ganddi gymaint o ddiddordeb—[Torri ar draws.] Os oes ganddi gymaint o ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a chefnogi'r diwydiant amaethyddol yn y wlad, pam nad yw hi’n gwneud cynnydd ar TB mewn gwartheg, lle mae Cymru mewn perygl o gael eu dynodi fel 'endemig', gwlad endemig, a fydd yn cau marchnadoedd allforio i Gymru? [Torri ar draws.] Mae hynny'n ffaith. Nawr, os ydych am wneud sylwadau o’ch eistedd, ceisiwch ddweud rhywbeth cadarnhaol yn hytrach na chwilio am benawdau syfrdanol.

Rwyf wedi—[Torri ar draws.] Pan gafodd y ddogfen hon ei chyhoeddi, edrychais yn fanwl arni ac edrych ar rai o'r meysydd lle gallem ddod o hyd i dir cyffredin, fel y fframwaith a fyddai'n cefnogi mesurau pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fel y DU; rwy'n credu y byddem wedi gallu dod i gytundeb ar hynny. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth ymateb i'r datganiad a gawsom ryw bythefnos yn ôl, yn cydnabod bod yna rai meysydd y gallwn, fel Cynulliad, weithio'n gadarnhaol â nhw.

Yr un maes lle’r wyf i’n credu bod angen i’r Cynulliad hwn wneud gwaith sylweddol yw'r trefniadau pontio, oherwydd rydym yn edrych ar y trefniadau pontio o ran Ewrop i'r Deyrnas Unedig, ond mae llawer o waith i’w wneud i benderfynu ar y trefniadau trosglwyddo o fewn y Deyrnas Unedig ei hun fel na chawn y gwahaniaethau hynny. Unwaith eto, rwy’n credu y gallai hynny fod wedi bod yn ddarn cadarnhaol iawn o waith y gallem fod wedi ei wneud a dod i gytundeb cyffredin drosto. Ond rwyf wedi gwrando ar y sylwadau sydd wedi'u cyflwyno, yn enwedig gan brif siaradwr grŵp y Blaid Lafur yn sôn am drigolion Merthyr Tudful, ac rwy’n atgoffa'r Aelodau yn y Siambr hon bod y nifer a bleidleisiodd yn y refferendwm yn 71 y cant. Saith deg un y cant o bleidleiswyr—[Torri ar draws.] Fe gymeraf yr ymyriad mewn munud, ond—[Torri ar draws.] Wel, os gallwn i orffen y pwynt yr wyf yn ei wneud, byddaf yn hapus i gymryd yr ymyriad.

Fe wnaeth saith deg un y cant o bleidleiswyr Cymru gymryd rhan yn y refferendwm. Nid yw hynny'n golygu y dylem anwybyddu'r 48/49 y cant o bleidleiswyr a bleidleisiodd i aros. Mae hwnnw'n nifer sylweddol yn yr hafaliad. Ond gwnaethpwyd penderfyniad allweddol yma yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig y mae angen ei barchu, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bwrw ymlaen â hynny, ac, a dweud y gwir, drwy'r broses o fwrw ymlaen ag tanio erthygl 50, y dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin, yr achos ei hun yn y Goruchaf Lys—ac, mae’n rhaid cyfaddef, aethpwyd â hwy i'r Goruchaf Lys, ond dyna sut yr ydym yn byw; rydym yn byw o dan rym y gyfraith, mae gan bobl hawl i fynd yno. Ond mae angen i ni fel gwleidyddion weithredu’r hyn y mae'r bobl yn ein hanfon ni yma i'w gyflawni, a phleidleisiodd Cymru i ddod allan.

Yr hyn y mae angen inni fod yn ei wneud nawr yn gwneud y gwaith gorau posibl i wneud yn siŵr bod y trafodaethau hynny o fudd nid yn unig i Gymru, ond i'r Deyrnas Unedig gyfan. Ac mae'r materion hynny’n mynd i fod yn gymhleth, mae’r trafodaethau hynny’n mynd i fod yn hir, ond, yn y pen draw, mae gennym amserlen: 730 diwrnod ar ôl gweithredu erthygl 50. Yn hytrach na rhai o'r safbwyntiau cul sydd wedi ceisio dyblygu canlyniad y refferendwm a ddigwyddodd ar 23 Mehefin, gadewch inni symud y tu hwnt i hynny. Gadewch inni weithio drwy rai o'r materion hyn mewn gwirionedd.

Byddaf yn parhau i wneud y cynnig hwnnw o feinciau'r Ceidwadwyr, y byddwn yn gweithio gydag unrhyw blaid ac unrhyw unigolyn i sicrhau'r fargen orau bosibl i Gymru a'r Deyrnas Unedig. Ond roedd un mater yn glir iawn o’r refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, sef y neges a roddodd pobl y Deyrnas Unedig a Chymru i wleidyddion: cymerwch yr awenau unwaith eto. A dyna’r cyfarwyddyd.

Diolch, Lywydd. Hon yw’r ddadl gyntaf am yr Undeb Ewropeaidd yr wyf wedi siarad ynddi yn y Cynulliad hwn. Yn sicr, ni fyddwn yn fy nisgrifio fy hun fel Europhile. Rwy’n siarad fel rhywun a bleidleisiodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ond, yn fy arddegau yn 1975, pleidleisiais i beidio ag aros i mewn. Mae'n rhaid inni gydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael. Roeddem yn disgwyl i bawb dderbyn canlyniad refferendwm 1997 ar greu’r Cynulliad Cenedlaethol, er bod y bleidlais honno’n agosach. Mae’n rhaid inni dderbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac ym Mhrydain am inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n rhaid inni gofio, er nad yw’r mwyafrif yn iawn bob amser, eu bod bob amser yn fwyafrif. Mae hefyd yn ymddangos i mi, fodd bynnag, yn annirnadwy nad yw pobl yn dymuno parhau i fasnachu â’n marchnad allforio fwyaf. O'r deddfau ŷd ymlaen, dim ond pobl gyfoethog sydd wedi elwa ar ddiffyndollaeth. Un o effeithiau uniongyrchol canlyniad y refferendwm oedd gostyngiad sydyn yng ngwerth y bunt. Er y bu rhywfaint o amrywiad, mae'r cyfeiriad wedi bod tuag i lawr ac i lawr. Mae dibrisiad, wrth gwrs, yn gwneud dau beth: mae'n rhoi hwb tymor byr i'r economi. Pe bai’r ymateb yn un tymor hir, byddai’r gyfres o ddibrisiadau ar ôl y rhyfel yn erbyn y ddoler yn golygu y byddai economi Prydain yn ffynnu. Rydym wedi mynd i lawr o dros $4 i'r bunt i ychydig dros $1.2. Mae hefyd yn arwain at gynnydd ym mhrisiau nwyddau sy’n cael eu mewnforio fel olew, gan arwain at gynyddu prisiau petrol, fel y mae pobl yn ôl pob tebyg wedi ei weld wrth roi petrol yn eu ceir yn yr orsaf betrol.

Mae hefyd yn arwain at gynyddu cost defnyddiau crai wedi’u mewnforio ar gyfer gweithgynhyrchu, ac, felly, mae rhai o fanteision y dibrisio yn cael eu colli. Ar ba werth i’r bunt at y ddoler y bydd Banc Lloegr yn ymyrryd i ddiogelu'r arian cyfred? A wnânt adael i’r bunt fynd yn is na chydraddoldeb â’r ewro neu'r ddoler Americanaidd? Mae'r ddau yn debygol, ac yn ôl pob tebyg yn debygol eleni, heb ddim ymyrraeth. Er bod dibrisio yn golygu—

Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Ac ystyried yr ehangu yn economi'r DU, fel y nodwyd gan Fanc Lloegr, ac o gofio’r sylwadau gan y rhan fwyaf o economegwyr mawr sy'n dweud, mewn gwirionedd, y caiff y bunt ei hailbrisio wrth inni fynd ymhellach i mewn i'r flwyddyn, ac ystyried cadernid y DU economi, hoffwn ddeall pa ddadl economaidd y mae'n ceisio ei datblygu neu pa brofiad economaidd sydd ganddo i wrthsefyll y dadleuon a gyflwynodd Banc Lloegr a’r rhan fwyaf o uwch economegwyr am gyflwr y bunt yn y flwyddyn hon.

Ai’r rhain yw’r un economegwyr a gafodd eu galw’n arbenigwyr na ddylem wrando arnyn nhw? Y cyfan a ddywedaf, os edrychwch ar hanes y bunt, roedd yn werth dros $4 ar ddiwedd yr ail ryfel byd, mae'n werth tua $1.20 awr, mae wedi symud i lawr yn gyson, a’r hyn yr wyf yn ei ddweud yw mai’r tebygolrwydd yw y bydd yn parhau i'r cyfeiriad hwnnw. Er bod yr economi wedi cael y sbonc tymor byr hwnnw gan y dibrisio, bydd symud allan o'n prif farchnad allforio, os yw hynny'n digwydd, yn cael effaith ddifrifol ar economïau Prydain a Chymru.

Er bod dibrisio’n golygu na fydd tariffau bach yn anorchfygol—er, os wyf yn gwrando ar Andrew R.T. Davies, bydd tariffau bach yn anorchfygol, ond gan dybio nad ydyn nhw’n anorchfygol—y rhwystrau di-dariff, bodloni safonau Ewropeaidd, a chael eich gwirio eich bod yn gwneud hynny, a allai gynnwys datgymalu rhannol fel bod yn rhaid ailadeiladu eitemau wrth iddyn nhw gyrraedd—. Pam wnes i ddweud hynny? Gofynnwch i'r Japaneaid, pan oedden nhw’n allforio i Ffrainc a phan wnaeth y Ffrancwyr yn union hynny. Fe wnaethon nhw ddatgymalu eu nwyddau ac yna roedd yn rhaid eu rhoi at ei gilydd eto.

Bydd llawer o gydweithwyr wedi siarad, ac rwy'n siŵr y bydd mwy yn gwneud, am fuddiannau amgylcheddol a buddiannau cyflogaeth yr Undeb Ewropeaidd, a phwysigrwydd cadw’r buddiannau hynny. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Ni ddylem fod yn colli’r manteision sydd gennym.

Mae gen i bryder arall am bobl sydd eisiau cytundebau masnach rydd gyda ni. Mae bron fel pigo ar y gwannaf. Mae Seland Newydd eisiau codi prisiau is am gig oen na phris cig oen Cymru, mae’r Unol Daleithiau ac eraill eisiau codi prisiau is am gig eidion na phris cig eidion Cymru, mae Tsieina eisiau codi prisiau is am weithgynhyrchu na phris gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys dur—ydych chi'n credu y byddai diwydiant gweithgynhyrchu Cymru yn goroesi cytundeb masnach rydd gyda Tsieina a gallu Tsieina i ddympio nwyddau ar unrhyw wlad yn y byd? Mae'r Tsieineaid wedi defnyddio eu heconomi yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd gyda dur eisoes gyda dympio Tsieineaidd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gofalu am ein diwydiannau ein hunain.

Gallwn fynd ymlaen am y problemau, ond rwy’n mynd i orffen ar nodyn cadarnhaol. Gallwn ymdrin â phrisiau mewnol trosglwyddo cwmnïau o fewn yr Undeb Ewropeaidd sy'n osgoi treth gorfforaeth Brydeinig, yr hen drefniant dwbl Gwyddelig neu symud arian o gwmpas Ewrop drwy drosglwyddo cyfalaf yn rhydd. A fydd y bobl hynny sydd o blaid dod allan o Ewrop am ymdrin â hynny?

Gellir gwneud contractau sy'n pennu ymgeiswyr lleol yn unig a bydd yr angen i hysbysebu ar draws Ewrop yn diflannu. A fydd pobl yn cefnogi hynny? Gallwn ddefnyddio tariffau i ddiogelu diwydiannau allweddol, oherwydd, os ydym ni’n masnachu ag Ewrop ar amodau masnach y byd, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud yr un peth gyda ni. Gallwn hefyd sicrhau bod symudiad rhydd llafur yn dod i ben a’n bod yn atal cyflogwyr diegwyddor rhag dod â llafur rhad i mewn—mae rhai yn cael eu talu, i bob pwrpas, llai na’r isafswm cyflog—i leihau cyflogau a thelerau ac amodau. Nid y gweithwyr o ddwyrain Ewrop sy'n cael eu hecsbloetio yw’r broblem i mi, ond y cyflogwyr sy’n eu hecsbloetio a'u defnyddio i ymosod ar gyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr Cymru.

I gloi, rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen inni amddiffyn ein hamgylchedd a hawliau gweithwyr. Rydym wedi pleidleisio i ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd, nid i fod yn dlotach naill ai fel unigolion nac fel gwlad.

Cyn troi at fanylder y Papur Gwyn, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y cyd-destun gwleidyddol cyffredinol a sut rydym ni’n trin ein gilydd fel dinasyddion, ar ôl mynd trwy ymgyrch a phroses ‘binary’ fel y refferendwm llynedd. Ar brydiau, mae tôn y ddadl gyffredinol wedi bod yn ffiaidd, a hyd yn oed yn dreisgar ar adegau. Mae’n iawn, wrth gwrs, mewn cymdeithas ddemocrataidd inni ddadlau a dadlau’n frwd, ond ni ddylem ni fyth stopio parchu gwahaniaethau barn a thrin ein gilydd mewn ffordd barchus a hyd yn oed caredig, a dylai gwleidyddion, efallai, ddangos esiampl ar hyn.

Ond, a throi at y Papur Gwyn, i Blaid Cymru, mae’n hymateb i ganlyniad y refferendwm wedi ei seilio ar egwyddorion cyson, ac rwy’n falch bod y rhain wedi eu hadlewyrchu ym Mhapur Gwyn cenedlaethol Cymru. Yn gyntaf, tra bod mandad i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes mandad i adael y farchnad sengl, a dylai buddiannau economaidd Cymru, yn cynnwys amaeth a diwydiant, gael eu diogelu, yn ogystal, wrth gwrs, ag ariannu i gymunedau tlawd. Yn ail, nid oes yn bendant dim mandad i dynnu nôl ar ddatganoli. Yn drydydd, dylai Cymru gael rôl glir yn y negodi gyda’r Undeb Ewropeaidd. Yn bedwaredd, dylai Cymru adnewyddu ei phroffil rhyngwladol er mwyn sicrhau nad oes dehongliad ein bod ni fel cenedl am ynysu ein hunain o’r byd. Yn bumed, ni ddylai pobl ifanc Cymru golli’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw nawr yn nhermau cael profiad o fywyd tramor neu yn nhermau astudio tramor ychwaith. Ac, yn olaf, ni ddylai fod yna gost ddynol i adael yr Undeb Ewropeaidd, naill ai drwy golli hawliau i weithwyr yng Nghymru neu golli safonau amgylcheddol, nac ychwaith hawliau i ddinasyddion o wledydd eraill Ewrop sydd yn byw yma i aros yma.

Rwy’n falch bod yr egwyddorion yma i gyd wedi eu plethu drwy’r Papur Gwyn cenedlaethol Cymreig ac wedi eu gosod yn glir. Mae’n biti, yn wir, bod Papur Gwyn San Steffan ddim llawer mwy na chyfres o ddisgrifiadau o’r problemau, yn hytrach na chynnig ar atebion, ond, yn nhermau’r camau nesaf, beth sydd yn hollbwysig nawr yw nad yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu eistedd yn ôl a gwylio datblygiadau yn digwydd o’u blaenau. Rhaid iddyn nhw benderfynu siapio’r dyfodol yn hytrach nag aros i’r dyfodol eu siapio nhw.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys nodau y gall Llywodraeth Cymru weithredu arnyn nhw yn syth, heb orfod aros i unrhyw Lywodraeth arall. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi polisi rhyngwladol newydd i hyrwyddo Cymru yn fydol, a gallan nhw wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau proses i geisio ymaelodi â chyrff rhyngwladol sydd yn ymwneud â materion sydd yn disgwyl cael eu trosglwyddo o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Gall Llywodraeth Cymru ddatgan ei bwriad i sicrhau partneriaeth swyddogol newydd gyda Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau cydweithio yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru gynnig cynnal confensiwn cyfansoddiadol a gwahodd Llywodraethau’r ynysoedd yma i ddod a chymryd rhan, yn enwedig ar fater y farchnad sengl Brydeinig a’i dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau ymgynghoriad ar bolisi rhanbarthol newydd i Gymru a gall y Llywodraeth wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddatgelu fframwaith newydd ar gyfer dyfodol ein cymunedau amaethyddol.

Fy apêl i yw i wneud popeth y gallwn ni i roi cryfder i Gymru drwy gymryd yr awenau ein hunain. Bydd y fath agwedd nid yn unig o fudd i’n heconomi ni a’n cenedl ni, ond hefyd bydd yn ddull gwerthfawr i ddod â’n gwlad ni yn ôl at ei gilydd ar ôl cyfnod o ymraniad niweidiol iawn.

Mae gadael yr UE wedi bod yn fater hynod rwygol yma yng Nghymru a ledled y DU. Rwy’n credu mai ein gwaith ni yma yw gwneud ein gorau, gan weithio gyda'n gilydd, rhwng cynifer o bleidiau ag y gallwn ddod â nhw at ei gilydd, i geisio uno pobl Cymru â chynllun gweithredu i fynd â ni ymlaen dan yr amgylchiadau anodd iawn hyn. Rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom yma yn y Cynulliad i wneud hynny.

Rwy'n ymwybodol iawn bod mwyafrif llethol o fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd wedi pleidleisio i aros yn yr UE ar 23 Mehefin. Pleidleisiodd Caerdydd ei hun 60 y cant i aros, ychydig bach o flaen sut y pleidleisiodd Llundain, ac rwy’n gwybod, yng Nghaerdydd, nad oedd y bleidlais wedi'i chyfyngu i'r ardaloedd mwy cyfoethog. Yng Ngogledd Caerdydd, prin iawn oedd yr ardaloedd lle na fu pleidlais fawr i aros. Felly, rwy’n teimlo bod gen i fandad gan fy etholaeth i wneud popeth yn fy ngallu, cyn belled ag y mae'n bosibl, i gadw elfennau allweddol yr hyn yr oedd aelodaeth o'r UE yn ei olygu i fy etholwyr. Rwy’n credu bod Papur Gwyn Cymru yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn safbwynt da ar gyfer trafodaethau. Fodd bynnag, er bod mwyafrif llethol o Ogledd Caerdydd wedi pleidleisio i aros, rwy'n gwybod bod gennych chi fynydd Caerffili ac, ewch heibio i’r Traveller’s Rest ac ewch i lawr yr ochr arall—[Torri ar draws.] Ydy. Mae'n ddarlun cwbl wahanol, a phleidleisiodd etholaethau’r Cymoedd 'na', dim ond ychydig iawn o filltiroedd i ffwrdd. Rwy'n parchu eu pleidlais, ac rwy’n parchu'r ffaith mai dyna oedd y bleidlais mwyafrif a enillodd ledled Cymru. Ond, rwy’n tybed pam digwyddodd hyn. Hynny yw, mae pobl Gogledd Caerdydd yn bobl sydd wedi symud i lawr o'r Cymoedd, fel y gwnaeth fy nheulu fy hun. Yn wir, cafodd cyfoeth Caerdydd ei adeiladu ar gludo glo i lawr o'r Cymoedd, a mynd ag ef allan i lefydd fel Aden a Singapore, yn ogystal â gogledd Ffrainc, Bordeaux a Nantes. Mae wedi bod yn ddinas ryngwladol erioed, Caerdydd, ac mae pobl yng Nghaerdydd yn dod o bob cwr o'r byd, yn ogystal ag o'r Cymoedd, gorllewin Cymru, gogledd Cymru ac Iwerddon. Rwy’n credu bod y Prif Weinidog wedi dweud mewn araith flaenorol a wnaeth bod pob un ohonom yn ddisgynnydd i fewnfudwyr. Felly, tybed a wnaeth Caerdydd bleidleisio 'ie' oherwydd ei chysylltiadau rhyngwladol a’r diwylliant cosmopolitan sydd wedi dod yma oherwydd bod cynifer o’r bobl yma’n dod o gynifer o wahanol rannau.

Ond rydym yn gwybod bod mudo yn fater mawr yn y refferendwm. Felly, sut ydym ni’n cysoni manteision enfawr mudo i Gymru, sy’n rhywbeth yr wyf i’n credu y mae’n rhaid inni i gyd ei gydnabod, â’r gwahanol safbwyntiau amdano mewn gwahanol rannau o Gymru? Mae'r ystadegau'n dangos mai’r ardaloedd â'r nifer lleiaf o ymfudwyr oedd â'r bleidlais fwyaf i adael. Felly, sut y gallwn dalu sylw i’r 52 y cant a bleidleisiodd i adael ac i’r 48 y cant a bleidleisiodd i aros? Rwy’n credu bod y Papur Gwyn yn gwneud ymgais dda yn hynny o beth. Mae'n cydnabod pwysigrwydd mewnfudwyr i economi Cymru. Nid wyf i’n credu y gallai neb wadu eu cyfraniad at y prifysgolion, y gwasanaeth iechyd na’r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr yma. Mae'n galw am sicrwydd ar unwaith y bydd ymfudwyr o’r UE sy'n byw yng Nghymru yn gallu aros ac y perchir eu hawliau. Rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol—bod yn rhaid inni drin ein holl ddinasyddion sy'n byw yng Nghymru â pharch. Mae'r ansicrwydd y mae’r teuluoedd hynny yn ei brofi yn anfaddeuol, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni alw yma o'r Cynulliad hwn ar y Prif Weinidog i roi'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw yn ei haeddu iddyn nhw ar unwaith. Rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a gaiff ei ystyried.

Rwy’n cefnogi’r ffaith bod y Papur Gwyn yn cynnig bod myfyrwyr ac ymchwilwyr yn rhydd i symud. Rydym yn gwybod pa mor gwbl hanfodol yw hi bod ymchwil wedi ei seilio ar sail ryngwladol a pha mor bryderus yw’r prifysgolion am adael yr UE. Mae angen y myfyrwyr Ewropeaidd arnom. Mae angen y myfyrwyr rhyngwladol arnom. Rydym eisoes yn gwybod y bu gostyngiad mewn ceisiadau gan fyfyrwyr o’r UE—rwy’n credu ei fod tua 7 y cant. Mae hynny wedi digwydd eisoes. Ymwelais â Phrifysgol Caerdydd yn fuan iawn ar ôl pleidlais y refferendwm, ac roedd y staff yn ddigalon iawn am y canlyniad. Roedden nhw’n arbennig o ddigalon gan fod ymchwilydd o'r Eidal a oedd wedi cael cynnig swydd allweddol fel yr ymgeisydd gorau am y swydd newydd dynnu'n ôl oherwydd ei fod eisiau byw yn yr UE. Rwy’n gwybod bod nifer o enghreifftiau felly yng Nghymru. Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y gallai mudo fod yn gysylltiedig â chyflogaeth—naill ai symud i swydd a gafwyd eisoes, neu efallai gyfnod cyfyngedig i chwilio am swydd. Fy marn i yw fy mod o blaid symud yn rhydd fel sydd gennym nawr, ond rwy’n credu bod hyn yn ffordd o wneud cynnig ymarferol am ffordd y gallem symud ymlaen, a byddai'n bwysig iawn ei drafod yn y trafodaethau.

Yn olaf, hoffwn wneud dau bwynt cyflym. Rydym wedi siarad llawer am fynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Rwy’n credu bod hynny'n gwbl hanfodol, ac rwyf hefyd yn credu na allwn gefnogi Brexit os nad yw hynny'n cael ei gyflawni yn ystod y trafodaethau. Yn olaf, pwysigrwydd cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, sy’n hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru.

Efallai mai’r cwestiwn cyntaf am y ddogfen hon yw pam dewisodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, the Party of Wales, ei lansio yn Llundain, o ystyried y dymuniad y maen nhw’n ei ddatgan yn fynych i ddangos annibyniaeth y Cynulliad ar sefydliad Llundain. Gallwn hefyd nodi yn y fan hon na chafodd y ddwy blaid arall yn y Cynulliad olwg hyd yn oed ar y ddogfen aruthrol bwysig hon i Gymru, heb sôn am gael cyfrannu at ei chynnwys, a oedd i bob pwrpas yn difreinio’r miloedd lawer o bleidleiswyr a bleidleisiodd dros y pleidleisiau hynny a dros Brexit.

Yna, rydym yn craffu ar sylwadau ail lofnodwr y ddogfen hon, sy’n datgan yn ei chyflwyniad ei bod yn cadarnhau'r rhyddid i symud ac yn gyson â chyfranogiad llawn yn y farchnad rydd—mewn geiriau eraill, mewnfudo llawn heb ei reoli. Ond wrth gwrs, mae hyn yn ddealladwy wrth iddi fynd ymlaen i ddweud:

'Ni waeth sut y pleidleisiodd pobl yn y refferendwm.'

Mae'n arwydd clir bod Plaid yn benderfynol o anwybyddu ewyllys y Cymry.

O ran y ddogfen ei hun, mae’n bell o fod yn lasbrint ar gyfer datblygu economaidd Cymru—mae ganddi, mewn gwirionedd, dôn o ofid, gwae ac anobaith di-ildio. Mae'n frith ag ymadroddion fel

'i osgoi'r anhrefn a’r ansicrwydd',

'ymadawiad "ymyl y clogwyn"’,

'mae disgwyl i'r effaith economaidd gyffredinol fod yn negyddol'

a llawer o sylwadau eraill o'r fath, y mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu hailadrodd gan y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad heddiw, ac y mae pob un ohonyn nhw’n seiliedig ar y cynsail ffug na chawn fynediad anghyfyngedig i farchnadoedd economaidd Ewrop. Neu, mewn geiriau eraill, byddwn, oni bai ein bod yn ofalus iawn i beidio â derbyn gwleidyddion Ewrop, yn cael ein cloi allan o’r farchnad sengl. Wel, pryd fydd y remoaners yn sylweddoli mai diwydianwyr mawr Ewrop a fydd yn penderfynu ein telerau masnach â’r Undeb Ewropeaidd ac nid gwleidyddion? Mae tystiolaeth o hyn, i unrhyw un sy’n trafferthu i gymryd sylw, yn y nifer o ddatganiadau gan gewri diwydiannol Ewrop ers Brexit. Bydd pob diwydiant yn Ewrop yn awyddus iawn i barhau â'r fasnach ddilyffethair, iddyn nhw eu hunain â marchnadoedd y DU ac, yn ymarferol, i fusnesau’r DU â'r UE.

Roedd ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i archwilio eu perthynas â'r UE—ac rwy’n mynd i roi hyn mor ofalus ag y gallaf—yn anaddas. Efallai nad yw ef na’i gynghorwyr wedi sylwi ar y gagendor enfawr o wahaniaeth rhwng masnach Norwy ag Ewrop a’n masnach ni ag Ewrop. Mae Norwy yn masnachu mewn gwarged mawr ag Ewrop, felly mae o fudd iddyn nhw dalu i allu masnachu'n rhydd gyda'r UE ac, yn wir, i gytuno â rhai rheoliadau eraill a bennir gan Frwsel. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r DU, sy'n masnachu mewn diffyg enfawr gyda'r UE o tua £61 biliwn y flwyddyn. Gall unrhyw bragmatydd weld bod hyn yn arf bargeinio enfawr i sicrhau y cawn gytundeb â'r UE a fydd yn fanteisiol iawn inni. Mae peidio â chydnabod hyn—

Mi wnaf; mewn un eiliad. Mae peidio â chydnabod hyn, a dweud y gwir, yn ffolineb o'r math mwyaf. Y ffaith amdani yw bod ar Ewrop ein hangen ni lawer mwy nag y mae eu hangen nhw arnom ni. Iawn, gwnaf gymryd ymyriad nawr.

Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am gymryd fy ymyriad. Nawr, mae semanteg a geiriau yn bwysig. Heddiw, rwyf wedi gwrando ac rwyf wedi clywed y geiriau 'ni', 'y wlad hon' ac 'ein'. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn ei glywed heddiw yw'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig pobl yn y Siambr hon a'r cenedlaetholdeb Cymreig sydd ar yr ochr hon, oherwydd pan fyddwn ni’n sôn am ein gwlad, rydym ni’n golygu Cymru. Mae'r DU yn cynnwys Lloegr, Yr Alban, Cymru a gogledd Iwerddon. Dyna'r peth pwysig i'w gofio—ac rwy’n credu mai dyna ddiwedd fy ymyriad. Diolch.

Pleser. Pleidleisiodd Cymru i adael yr UE. Derbyniwch hynny, cofleidiwch ef a symudwch ymlaen yn gadarnhaol, gan ymddiried ym mhobl Cymru i gyflawni hynny. Diolch.

A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar y Papur Gwyn ac ychwanegu y byddaf i’n cefnogi'r cynnig heddiw, er fy mod yn gresynu at y ffaith nad yw’n cyfeirio’n benodol at gynnal safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE? Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu sicrwydd ar faterion sy'n ymwneud â hawliau gweithwyr a gwarchod yr amgylchedd, ac mae'n drueni nad oedd hynny yn y cynnig. Ond rwy’n falch bod y Papur Gwyn yn sôn am hyn; rwy’n credu ei fod yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o'r heriau sy'n wynebu Cymru yn wyneb y bleidlais Brexit honno. Ac rwy’n credu mai’r rhannau mwyaf diddorol o'r Papur Gwyn yw’r atodiadau, oherwydd dyna lle mae’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r honiad y câi economi Cymru ei difrodi’n aruthrol pe byddem yn gadael y farchnad sengl o dan unrhyw un o'r modelau eraill o aelodaeth o'r UE . Byddwn yn awgrymu i arweinydd UKIP y dylai ddarllen yr atodiadau a sylwi, oherwydd maen nhw’n seiliedig ar dystiolaeth, nid ar ryw gynllun gobeithiol y bydd pobl yn llwyddo i ffurfio cytundebau masnachu yn y dyfodol.

Rwy'n credu ei bod yn iawn i’r Prif Weinidog bwysleisio'r ffaith bod angen parchu’r bleidlais Brexit, pa mor anodd bynnag yw hynny i Ewro-selogion fel fi. Ond nid yw hynny'n golygu y dylem dorri garddyrnau economi Cymru a gwylio ein gwlad yn dilyn llwybr di-ildio at dlodi. Yr hyn y mae angen i bobl Cymru ei ddeall yw nad dim ond y rhagolygon swyddi a’r cyfleoedd i'n plant sydd o dan fygythiad gan Brexit, ond hefyd ein gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i bobl Cymru. Rydym ni wedi clywed sôn heddiw am y difidend Brexit £8 biliwn hwn. Gadewch imi ddweud wrthych beth yw cost gadael yr UE.

Yn gyntaf oll, y llynedd casglodd y Llywodraeth £90 biliwn—anghofiwch yr UE, mae hyn cyn i ni ddechrau—fe gasglon nhw £90 biliwn yn llai mewn treth incwm nag a wnaethant yn y flwyddyn flaenorol. Eisoes, mae gennym fanciau'r Ddinas yn ceisio adleoli rhannau o'u gweithgaredd i'r cyfandir o ganlyniad i Brexit. Nid dim ond Dinas Llundain fydd yn gweld effaith hynny. Bydd y lleihad hwnnw yn y dreth a gesglir yn golygu y bydd gennym lai i'w wario ar ein hysgolion a'n hysbytai yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod y bydd angen i’r Llywodraeth fenthyca £58 biliwn i dalu am dwll du Brexit, a bydd dirywiad o £220 biliwn yn nhermau'r ddyled genedlaethol o ganlyniad i Brexit yn ystod y Senedd hon.

Gwyddom y bydd bil ysgariad a fydd rhywle rhwng £35 biliwn a £60 biliwn, ac rydym yn gwybod eu bod yn bygwth cymodi yn awr a gwneud bargen â'r UE—rhowch i ni yr hyn yr ydym ei eisiau neu byddwn yn torri’r dreth gorfforaeth'. Os ydym am gystadlu o ddifrif yn y ffordd honno, byddai'n rhaid i ni ddod i mewn dan lefel treth gorfforaeth Iwerddon—12 y cant. Mae hynny'n golygu £100 biliwn arall yn cael ei stwffio i mewn i bocedi’r cyfoethog, a llai o arian i’n gwasanaethau cyhoeddus ni. Nid dyna’r math o wlad yr wyf yn dymuno byw ynddi.

Yn awr, gwnaed addewidion yn ystod y refferendwm—addewidion y dechreuodd y Brexiteers sleifio allan ohonynt o'r foment y gwnaeth y polau refferendwm gau. Un o'r bobl a wnaeth yr addewidion hynny oedd arweinydd y blaid Dorïaidd yn y Cynulliad. Yn awr, fe wnaeth llawer o ffermwyr ei ddilyn fel ŵyn i'r lladdfa gyda'i addewid o gymorthdaliadau parhaus. Wel, maent yn awr yn deffro i realiti: y bydd yn rhaid iddynt am y tro cyntaf gystadlu â iechyd am eu cyllid. Pan fydd y ffermwyr yn sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo gan ei addewidion ffug— arweinydd y Torïaid—byddant yn troi arno. [Torri ar draws.] Gadewch imi orffen. Byddant yn troi arno a bydd yn mynd o Brexit i ‘bricks it'. Nawr gallwch ymyrryd.

Rwy’n gresynu’r iaith y mae’r Aelod wedi’i defnyddio, o dorri garddyrnau i ŵyn i'r lladdfa, mewn dadl y mae hi fwy na thebyg yn ei chael yn anodd dod i delerau â hi. Fel y dywedais, mae’r refferendwm wedi digwydd. Mae angen i ni symud ymlaen.

Rydych yn iawn: pleidleisiodd mwyafrif y ffermwyr i ddod allan o Ewrop gan fod gennym oedran cyfartalog o 62 yn y diwydiant amaethyddol, a dim cyfle am olyniaeth ac ychydig neu ddim cyfle am ddatblygiadau newydd. Bydd gennym ddiwydiant amaeth a byddwn yn llwyddo. Ond eich Llywodraeth chi sy'n methu â mynd i'r afael â materion bara menyn TB gwartheg a datblygu gwledig.

Gadewch i mi ddweud wrthych am TB gwartheg. Ydych chi'n gwybod o ble y daw'r iawndal i dalu ffermwyr o ran TB gwartheg?  Mae'n dod o Ewrop. A ydych yn addo gwneud iawn am hynny hefyd? Dewch ymlaen. Mae'n rhaid i chi beidio â thwyllo eich hun a deall eich bod wedi gwneud addewidion nad oes modd eu cadw i’r ffermwyr hynny.

Last night in Westminster, the Government refused even to agree to produce a report that would outline the effect of Brexit on public spending in Wales. We would not accept in Wales a situation where those who have the least pay the largest price for Brexit. There is not one expert in commerce that thinks that it’s possible for the UK to create an agreement within two years, and this uncertainty will mean less investment, and will have an impact on jobs.

The tables in the White Paper show clearly the dependence of industry in Wales on people from the European Union, and it’s true that tourism, that contributes £3 billion to the Welsh economy, will be one of those areas that would suffer most if there was too much restriction on the number of people from the EU who were able to work here.

We have to remember also that 6 per cent of our doctors are trained in the EU. We need more of those, not less.

Mae’n rhaid ichi ddod â’ch sylwadau i derfyn nawr. Yn wir, mae’n rhaid i chi orffen. Diolch.

Diolch fawr, Lywydd. Nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylem aros yn yr UE. Rydym i gyd wedi symud ymlaen o hynny. Rwy'n gresynu’r canlyniad yn fawr, ond y canlyniad yw’r canlyniad. Yn awr, mae gennym nod cyffredin, sef sicrhau Brexit llwyddiannus. Ceir heriau sy'n wynebu'r DU a Chymru yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n credu y bydd angen diwygio rhai o fecanweithiau’r Llywodraeth a gwaith rhyng-lywodraethol yn arbennig o fewn y DU. Hoffwn i ddweud ychydig eiriau am hynny. Hoffwn ddweud ychydig eiriau am ein cysylltiadau â'r UE, ac yna mae rhai buddiannau sy’n benodol i Gymru.

A gaf i i ddechrau, felly, gyda strwythur Llywodraethu y DU? Rwy’n credu ein bod wedi sylweddoli ers amser hir y byddai gweithio rhynglywodraethol gwell yn cryfhau cyfansoddiad Prydain, ac yn awr y broses Brexit ei hun, ac yna ymdrin â gwleidyddiaeth pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae angen gweithio rhynglywodraethol llawer mwy effeithiol ar y pethau hyn. Gallwn edrych ar gyd-bwyllgor y gweinidogion, yn enwedig Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, o ran y ffordd y mae wedi gweithio yn y gorffennol, fel rhyw fath o fodel gorau, ond mae angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach na hynny. Fe wnaeth Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop weithio’n weddol effeithiol am eu bod wedi cynhyrchu—mae’n ddrwg gen i fod yn dechnegol—nodyn siarad ar ran Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn Ewrop, ac roedd angen llawer o gydweithrediad yn hynny o beth rhwng y Llywodraethau, ac yn enwedig y swyddogion. Dyna'r math o beth yr ydym yn mynd i fod angen ei ailadrodd.

Mae’r Prif Weinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud rhai awgrymiadau beiddgar iawn, yn fy marn i, y dylem fynd o Gydbwyllgorau Gweinidogion i Gyngor Gweinidogion. Rwy'n credu ei fod yn iawn i bwyso am hynny. Rwy’n gobeithio bod ganddo gynghreiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan eu bod yn mynd i fod yn allweddol. Ac mae wedi galw am gyflafareddu annibynnol—nawr, fel ffederalydd mawr, dymunaf yn dda iddo ac, yn arbennig, rwy’n dymuno mwy o ddylanwad iddo nag yr wyf i erioed wedi ei gael ar y Llywodraethau Ceidwadol sy'n penderfynu ar y materion hyn. Byddai cyflafareddu, rwy’n tybio, yn bosibl ar system grantiau’r Trysorlys. Mae hynny'n cael ei weld yn bendant mewn gwladwriaethau ffederal eraill. Ond rwy’n credu y gall cyflafareddu ar draws y fframwaith polisi, lle mae gennym bolisïau ar y cyd yn y DU, fod yn anodd ei gyflawni. Ond os llwydda i gyflawni hynny, byddai'n sicr o fudd i ni yma yng Nghymru.

Rwy’n credu bod yr hyn a welwn yn y Papur Gwyn ynghylch yr angen am rai polisïau ar draws y DU—yn ôl pob tebyg amaethyddiaeth, yr amgylchedd, ac efallai y bydd materion cymdeithasol a pholisi rhanbarthol hefyd. Ni ddylai'r un ohonom anghofio hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi’r holl bleidiau sydd wedi cydnabod hynny.

A gaf i yn awr droi at gysylltiadau â'r UE? Yma, rwy’n credu bod angen i’r Brexiteers ddatrys eu dadl yn weddol gyflym, oherwydd mae rhai ohonyn nhw’n sôn yn llawen am y posibilrwydd o’r UE yn dymchwel gyda'r farchnad sengl a'r ewro. Maent wedi clymu eu hunain at y teigr Trump, sydd wedi dweud rhai pethau llac iawn yn y cyfeiriad hwn. Ac i ble y bydd y teigr yn mynd â ni, wel, ‘does neb a ŵyr eto, ond rwy’n credu y bydd yn daith braidd yn anghyfforddus. Mae angen i ni ddweud ein bod am i'r UE ffynnu. Dyna pam mae angen i ni gael Brexit da ac effeithiol. Mae angen iddynt gael y cyfle nawr i fwrw ymlaen â'u hamcanion eu hunain a’u hangen eu hunain am ddiwygio, sydd yno—mewn unrhyw sefydliad, unrhyw wladwriaeth, mae angen gwaith cyson o ddiwygio. Mae angen i ni gael y rhethreg yn iawn yn hyn o beth. Nid yw gwneud bargen â nhw, a ninnau’n eu beirniadu nhw neu’n ymddangos i’w beirniadu, beth bynnag, yn ffordd dda o symud ymlaen. [Torri ar draws.] Ildiaf.

Nid wyf yn credu bod neb ar ochr Brexit yn ddigon ffôl i feddwl bod modd cael mantais i Brydain a mantais i Gymru trwy achosi’r UE i ddymchwel. Ond y broblem fawr gyda'r UE yw ei fod, yn y bôn, yn brosiect gwleidyddol ac nid yn brosiect economaidd. Ac mae'r gwleidyddion sy'n benderfynol o geisio sicrhau llwyddiant Brexit yn ofni, os ydym yn gwneud Brexit yn llwyddiant economaidd, fod hynny yn tanseilio eu prosiect gwleidyddol eu hunain, ac mae hynny’n benbleth gwirioneddol. Dyna pam mae angen undod rhwng y pleidiau i geisio goresgyn y rhwystr hwnnw.

Wel, rwy’n credu eich bod wedi gwneud fy mhryder yn waeth yn hytrach na gwneud unrhyw beth i’w dawelu. [Chwerthin.]

A gaf i ddweud hyn? Rwyf i o’r farn bod angen rhyw fath o fecanwaith, efallai rhywbeth tebyg i’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, rhwng Llywodraeth y DU a sefydliadau’r UE, sy’n cynnwys y Llywodraethau datganoledig. Rwy'n credu y byddai proses o’r fath yn anfon neges gadarnhaol iawn ein bod ni am fod yn bartneriaid effeithiol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin.

A gaf i gloi drwy sôn am rai buddiannau Cymru? Rydym yn agored i niwed. Does dim dwywaith am hynny, dim ond oherwydd yr adnoddau a gawsom gan yr UE a dibyniaeth ein diwydiant ein hunain ar farchnadoedd Ewrop. Mae angen i ni gydnabod hynny a gwneud cymaint ag y bo modd i amddiffyn yr amlenni o adnoddau yr ydym yn eu cael ar hyn o bryd o ffynonellau UE. Mae llawer o Brexiteers wedi dweud pethau eithaf eangfrydig am hyn, ac, fe wyddoch, gallaf sicrhau cydweithwyr yma y byddaf yn cofio hynny ac yn dadlau gyda nhw ar eu cyfrifoldeb moesol. Mae angen i ni gael y mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, y tariffau isaf posibl, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyblygrwydd yno i gyflawni hynny.

Ac yn olaf, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod cyfleoedd yno hefyd a allai fod o fantais ni, ond mae'n rhaid i ni wynebu realiti ein sefyllfa heriol hefyd.

Diolch i chi, David, am eich cyfraniad ystyriol iawn.

Does dim byd yn fwy deniadol, ond camarweiniol, na’r slogan hwn o gymryd rheolaeth yn ôl, ac un o'r pethau y mae'n rhaid i'r Brexiteers ei wneud yn awr yw, fel y dywed David, diffinio'r hyn yr ydym mewn gwirionedd yn ei olygu wrth hynny. Ac ymhell o gymryd rheolaeth yn ôl, rwy’n teimlo y gallwn golli’n llwyr reolaeth dros rywbeth sy’n hynod bwysig i bob un ohonom, sef ansawdd a diogelwch bwyd. Am ddegawdau, mae’r bwyd ar ein plât wedi cael ei ddiogelu gan ein haelodaeth o'r UE. Beth sydd bellach yn mynd i ddigwydd i safonau bwyd, a phwy fydd yn eu rheoleiddio ym Mhrydain Brexit? Sut ydym ni’n mynd i osgoi sgandal cig ceffyl arall?

Rydym ni yng Nghymru yn falch iawn o'r bwyd Cymreig a gynhyrchwn ac yr ydym yn ei allforio, ynghyd ag anifeiliaid byw, i'r UE, a gobeithio y gallwn barhau i wneud hynny. Ond, mewn termau crynswth, mae’r swm dan sylw yn fach iawn o'i gymharu â'r nwyddau diwydiannol a weithgynhyrchwyd neu wasanaethau sy'n cyfrannu at ein mantolen fasnach. Edrychais yn ofer am y rhestr o fwydydd yn y tabl o nwyddau a allforiwyd ym Mhapur Gwyn Cymru, ac wrth gwrs nid yw yno, oherwydd bod y symiau dan sylw yn is na'r 25 uchaf. Felly, mae'n berygl gwirioneddol y bydd diogelwch bwyd yn cael ei fasnachu gan rymoedd llawer mwy pwerus eraill a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y bydd Theresa May yn mynd o gwmpas y trafodaethau hyn.

Yn awr, mae Theresa May wedi datgan yn glir iawn nad yw hi am i’r DU aros yn y farchnad sengl. Ac mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd tariffau yn cael eu gosod ar nwyddau’r DU, wrth i ni ddod at ddiwedd y broses ddwy flynedd. Mae hynny'n golygu y bydd y DU yn gosod tariffau ar nwyddau’r UE er mwyn dial. Fodd bynnag, nid wyf yn credu mai tariffau yw'r prif risg i amaethyddiaeth Cymru. Mae'r gostyngiad yn y bunt eisoes wedi cynhyrchu hwb ôl-Brexit i allforion Cymru, sydd i'w groesawu. Ond mae llawer mwy o berygl i amaethyddiaeth yng Nghymru, sef llif o fewnforion rhad o rannau eraill o'r byd, heb ddim o'r mesurau diogelu ar ansawdd bwyd yr ydym yn dibynnu arnynt o fewn yr UE.

Mae Theresa May yn ymddangos i fod yn hynod o awyddus i daro bargen ar draws y dŵr gyda Donald Trump, ac mewn cyfweliad ar radio’r BBC ychydig wythnosau yn ôl, eglurodd prif economegydd Ffederasiwn Biwro Ffermydd America yn hollol glir y byddai unrhyw gytundebau masnach yr Unol Daleithiau a fyddai’n cael eu gwneud gan Theresa May o bosib yn amodol ar weld cyhoedd y DU yn stumogi mewnforion bwydydd o’r Unol Daleithiau yr ydym wedi’u gwrthod yn flaenorol. Rydym yn siarad am gig eidion sy’n dod o wartheg lle mae hormonau twf wedi’u mewnblannu, cywion ieir wedi’u golchi â chlorin, a bwydydd heb eu labelu a addaswyd yn enetig. Byddai'n rhaid i ni lyncu’r 82 o blaladdwyr a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau sy'n cael eu gwahardd yn yr UE ar sail amgylcheddol ac iechyd. Ymysg y rhain y mae atrasin, chwynladdwr y tybir sy’n effeithio ar y system imiwnedd ac sy’n gysylltiedig â namau geni. A siarad am fwydydd GM, yn yr UE rydym yn cael ein diogelu gan y ffaith bod unrhyw un sy'n gwneud bwyd gan ddefnyddio cynhwysion GM yn gorfod labelu hynny’n glir. Yr unig fwydydd GM ar silffoedd Prydain ar hyn o bryd yw bwydydd sothach Americanaidd melys fel popgorn ac olewau coginio rhad wedi’u hanelu at y fasnach arlwyo. Yn yr Unol Daleithiau, mae GM ym mhobman ac nid oes rhaid iddo gael ei labelu. Yr unig ffordd y gallwch osgoi bwyta cynhwysion GM yw prynu bwyd organig, coginio yn y cartref a byth bwyta allan.

Felly, mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i gyd wedi gwahardd amaethu GM i bob pwrpas; dyna ein penderfyniad gwleidyddol ni. A pha berthnasol fydd confensiwn Sewel os yw Theresa May yn taro bargen gyda'r Unol Daleithiau, sy'n golygu llif o fwydydd GM yn dod i mewn i'r farchnad yn y DU? Bydd yn amhosibl cynnal y polisi hwnnw. Felly, mae'n rhaid i ni sylweddoli y bydd yna bosibilrwydd y gwelwn yr holl fwydydd difwynedig hyn yn gorlifo ein marchnad ac yn sicr gallai ein busnesau amaethyddiaeth fynd i’r wal. Mae hynny'n gwbl frawychus i mi.

O ran ein trafodaethau ar Brexit, mae'n golygu y gallem gael ein diarddel o'r rhwydwaith o asiantaethau sy'n rheoleiddio ac yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â gweithgareddau difwyno bwyd. Rydym eisoes yn wynebu heriau mawr o ran ein bwyd ac mae angen i ni fod yn wirioneddol ymwybodol o sut y gallwn ddiogelu ein defnyddwyr drwy aros yn rhan o Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac rwy’n deall y gallwn wneud hynny hyd yn oed os ydym yn cael ein taflu allan o'r farchnad sengl. Mae'n rhaid i ni gofio, ar hyn o bryd, y gallem fod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am orfodi bwyd priodol pan fo adnoddau awdurdodau lleol ar reolaethau diogelwch bwyd eisoes dan straen, ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei chyfyngu ar hyn o bryd, ac nid oes ganddi bellach y math o arbenigedd y byddai ei hangen ar yr hyn sydd eisoes yn ddiwydiant byd-eang.

Felly, mae'r rhain yn bryderon mawr yr wyf yn gobeithio y bydd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru a chan Senedd y DU.

Rwy'n credu bod y rheswm dros welliant Plaid Cymru i’r ddadl heddiw, er ein bod yn cytuno â'r Papur Gwyn, yn eithaf clir, ac mae wedi ei fynegi’n well gan Gerry Holtham i'r Arglwyddi y bore yma, mewn gwirionedd, wrth archwilio hyn pan ddywedodd:

Heb amddiffyniad cyfansoddiadol bydd buddiant Cymru yn cael ei anwybyddu

Ac aeth ymlaen i ddweud hefyd:

Y realiti gwleidyddol creulon yw mai ychydig o seddi ymylol sydd gennym ac nid ydym yn bwysig.

Wel, mae'r gwelliant hwn, a’r hyn y mae Plaid Cymru yn siarad amdano, yn gwneud yn siŵr ein bod yn bwysig, ac er na allwn wneud y gwarantau yn y Cynulliad o fesurau diogelu ynghylch osgoi llanast yn cael ei wneud o Brexit gan Theresa May a'r Ceidwadwyr, gallwn roi rhybudd—rhybudd na fyddwn yn maddau i’r rhai sy'n negodi ar ein rhan am fargen wael i Gymru.

Gallwn hefyd anfon neges gref iawn gyda’r gwelliant hwn a’r ddadl hon heddiw. Am 20 mlynedd, mae'r Eurosceptics wedi beio'r Undeb Ewropeaidd ac ymfudwyr am bob peth drwg ac am bob sarhad canfyddedig. Ac er bod y rhan fwyaf o'r penderfyniadau sydd wedi gadael llawer o'n cymunedau yn garpiog ac yn wag wedi cael eu gwneud gan Lywodraethau San Steffan, mae hefyd wedi bod yn gyfleustra gwleidyddol mawr, hyd yn oed i’r rheini o blaid yr UE, i wyro tân gwleidyddol ar sefydliadau'r UE yn hytrach na nhw eu hunain. Ac ym mis Mehefin gwnaethom dalu’r pris am y ffolineb hwnnw a’r anghyfrifoldeb hwnnw.

Wel, nid yw Brexit yn dod â hynny i ben. Ni yn awr yw’r rhai fydd yn plagio, yn pwyso ar, ac yn dal i gyfrif y rhai a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, a'r rhai a wnaeth yr addewidion a ddaeth â ni i’r sefyllfa hon: £350 miliwn bob wythnos i’r GIG; dim lleihau pwerau’r Cynulliad; cadw pob ceiniog i’r ffermwyr; arian cymorth rhanbarthol yn cael ei gyflenwi gan Lywodraeth ganolog. Ni fyddaf yn anghofio’r addewidion hynny. Nid wyf yn obeithiol iawn y byddant yn cael eu cadw, ond ni fyddaf yn eu hanghofio. A dim ond neithiwr, cafodd gwelliant Plaid Cymru, a oedd yn sicrhau bod ymgyrchwyr ‘gadael’ fel Boris Johnson a Michael Gove yn cadw eu haddewidion, ei drechu yn Nhŷ’r Cyffredin gan Boris Johnson, Michael Gove et al. I fod yn deg neu—[Torri ar draws.] Mewn eiliad; roeddwn yn gwneud rhywfaint o gynnydd. I fod yn deg, pleidleisiodd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru o blaid y gwelliant hwnnw, ond unwaith eto, cafodd anghenion Cymru eu hysgubo o'r neilltu gan elit gormesol San Steffan. Byddaf yn ildio i'r Aelod.

Rwy'n ddigon ffodus i fod yn ddigon hen i fod wedi clywed yr addewidion a aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, a gallaf eich sicrhau bod y celwyddau a aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd yn fwy na’r celwyddau hyn sydd wedi mynd â ni allan. [Torri ar draws.] Mae’r celwyddau hynny, fel yr ydych yn dweud maent yn gelwyddau, a aeth â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd yn ddibwys o’u cymharu â’r celwyddau a ddaeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, megis dim colli sofraniaeth, dim colli ein tiroedd pysgota, ac na, ni fyddai’n ofynnol inni ymuno â’r arian sengl. Aeth pob un o’r celwyddau hynny â ni i mewn i Ewrop.

[Anghlywadwy.] —gloddio eich twll eich hun, Lywydd. [Chwerthin.] Mae'n fy atgoffa i o'r hyn a ddywedodd Eurosceptic wrth fy nghydweithiwr Jonathan Edwards heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddant yn dweud unrhyw beth i ennill y ddadl, ac rydym newydd ei glywed o geg yr ymgyrch ei hun.

Dyma’r math o ddichell sydd wedi cael gwleidyddiaeth i mewn i'r byd ofnadwy ôl-wirionedd, ffeithiau amgen yr ydym yn byw ynddo. Dyna ni, roeddwn wedi ei ysgrifennu i lawr, yn barod i’r Aelod ddod i mewn gyda’r ymyriad hwnnw. Yn awr, Papur Gwyn Theresa May ei hun ar Brexit yw'r peth mwyaf tila a dienaid. Does bosib, na fydd unrhyw un ohonom sy'n poeni o ddifrif am ein cenedl yn chwilio am dri ymrwymiad allweddol mewn unrhyw Bapur Gwyn o’r fath. Y cyntaf yw y gallai ffermwyr, cynhyrchwyr a masnachwyr Cymru barhau i gael mynediad at y farchnad sengl heb rwystrau neu dariffau. Rydym eisoes, fel Cynulliad, wedi pleidleisio o blaid aelodaeth o'r EFTA neu Ardal Economaidd Ewropeaidd fel y ffordd orau o gyflawni hyn, ond efallai fod dewisiadau eraill ar gael—gadewch i ni eu gweld. Nid yw’r Papur Gwyn, fodd bynnag, yn cynnig dim ond sothach diystyr:

yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd a mwyaf llyfn posibl mewn nwyddau a gwasanaethau rhwng y DU a'r UE.

Mae rhagdybiaeth ddiofal yma, yr ydym wedi’i chlywed drwy gydol y ddadl hon, fod diffyg masnach y DU mewn nwyddau—er nad oes gan Gymru ddiffyg masnach ond mae ganddi fasnach dros ben—yn golygu bod bargen masnach dda yn anochel. Wel, mae masnach bob amser wedi bod yn offeryn rhyfela gwleidyddol. Mae wedi dinistrio pleidiau gwleidyddol yn y gorffennol a gwneud cenhedloedd yn dlawd. Rydym yn gwybod na allwn ddisgwyl i Lywodraeth San Steffan ddatgelu ei llaw o flaen llaw, ond mae'r UE wedi datgelu ei law ymlaen llaw. Maent yn glir: ni all unrhyw fargen i adael yr UE fod yn well nag aros yn yr UE. Ymhlyg yn yr awgrym hwn yw bod yn rhaid bod y fargen yn waeth. Rydym wedi gweld eu llaw, ac mae’r asau i gyd ganddyn nhw. Yr unig beth sydd gennym ni yw tri jocer Brexiteer.

Yn ail, fel y crybwyllais eisoes, mae'n rhaid i ni gael sicrwydd y bydd y cyllid yn parhau ar gyfer Cymru. Yn awr, mae’r Papur Gwyn yn ddadlennol iawn yma. Mae'n dweud, ar ôl datganiad hydref 2016, y bydd y prosiectau yn cael eu hanrhydeddu os ydynt yn unol â blaenoriaethau strategol domestig.  Blaenoriaethau strategol domestig pwy?  Blaenoriaethau strategol domestig Theresa May a’r Llywodraeth Geidwadol—dyna pwy. Felly, rydym yn symud ein polisi datblygu rhanbarthol allan o Gymru ac i ddwylo’r Ceidwadwyr.

Yn drydydd, ac yn olaf, dylai hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru gael eu diogelu. Maent yn pleidleisio i ni fel Aelodau'r Cynulliad, felly ni allwn ganiatáu iddynt gael eu defnyddio fel porthiant i’r gynnau mawr yn rhyfel y Torïaid yn erbyn yr UE. Nid yw’r Papur Gwyn yn cynnig unrhyw sicrwydd ar eu rhan o gwbl. Mae'r Bil i sbarduno erthygl 50 yn ddryll wedi’i lifio o Fil—dim cyfeiriad, pin gwasgaru yn tanio pelenni i bob cyfeiriad heb unrhyw nod a dim targed clir yn y golwg. Mae mor debygol o niweidio'r rhai sy’n tynnu’r glicied ag ydyw o daro unrhyw darged. Os ydym yn cytuno i'r gwarantau hyn, ac nid ydym yn cymryd rheolaeth yn ôl, rydym yn ildio i gabál adain dde sydd heb unrhyw ddiddordeb yng Nghymru, sy’n esgus cefnogi ein hanghenion, ond yn pleidleisio dro ar ôl tro i wadu adnoddau, rheolaeth a thegwch i Gymru.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, a byddaf yn ceisio cadw yn gryno ar Brexit, gan gadw mewn cof ei bod yn iawn caniatáu i gynifer ohonom â phosibl gael cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar fater, heb amheuaeth, sydd yn mynd i fod yn un o faterion mwyaf diffiniol ein cyfnod. Mae’r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yn amlinellu rhywfaint o eglurder ac yn darparu pwrpas sydd yn rhy aml wedi bod, yn anffodus, yn absennol yn y ddadl ar beth sy'n digwydd nesaf, ar ôl canlyniad y refferendwm Undeb Ewropeaidd. Yn wir, mewn llawer man, mae wedi bod yn ddadl a ddifethwyd gan ddyfroedd mwdlyd ansicrwydd a rhethreg sydd wedi cyfleu nid yn unig ffeithiau amgen, ond wedi hybu realiti amgen. Dywedwyd wrth Gymru na fyddem yn colli ceiniog os byddai’r DU yn pleidleisio i adael yr UE. Os yw hon yn addewid a gaiff ei thorri, gallai fod canlyniadau pellgyrhaeddol i’n gwlad. Mae'n iawn, felly, ein bod ni fel cenedl, Cynulliad a Llywodraeth yn cyhoeddi hyn ac yn pwyso am y gorau ar gyfer ein dyfodol.

Y brif ddadl dros gyfranogiad yn y farchnad sengl yw atal colli swyddi a buddsoddiad. Mae hyn yn hanfodol i'n diwydiant dur sylfaenol ac i'r sector gweithgynhyrchu uwch sy'n ganolog wrth ddarparu cyflogaeth â sgiliau a ffyniant economaidd yn y gogledd-ddwyrain. Mae arnom angen y mecanweithiau sydd ar waith i sicrhau ein bod yn adeiladu ar y sylfeini economaidd hyn, nid eu dinistrio: Tata Steel yn Shotton, Airbus, Toyota, Kingspan, Kimberly-Clark—mae'r rhestr yn ddiddiwedd—a heb anghofio'r nifer o fusnesau bach a chanolig y mae gallu mewnforio ac allforio heb dariff yn allweddol iddynt. Wrth gwrs, mae’r sector amaethyddol yng Nghymru, a’n cymunedau gwledig o ganlyniad, yn wynebu ansicrwydd enfawr yn dilyn canlyniad y refferendwm ac yn y rhes flaen os digwydd i Gymru beidio â sicrhau cyfranogiad yn y farchnad sengl.

Ni ddylai gadael yr UE arwain at ras i'r gwaelod pan ddaw at ddiogelwch a hawliau gweithwyr. Mae'n hollol gywir bod yn rhaid inni gael deddfwriaeth i atal gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio. Mae modd proffwydo hyn yn fwy pan ystyriwn y gall llawer o'r pryderon a leisiwyd gan nifer o fy etholwyr i ar fewnfudo fod yn gysylltiedig ag ecsbloetio a thalu cyflogau is gan gyflogwyr diegwyddor. Mae cyfres o hawliau sy'n amddiffyn gweithwyr bob dydd wedi deillio o ddeddfwriaeth yr UE, a rhaid inni beidio â chael ein dal gan gamsyniad y rhethreg adain dde reolaidd sy'n dweud y bydd dadreoleiddio’r hawliau hyn yn arwain at fwy o gynhyrchiant. Bydd gostwng yr hawliau hyn yn dod ar draul y gweithwyr yng Nghymru, ac mae’n llwybr unffordd at gyflogau isel, ansicrwydd swyddi a gwahaniaethu.

Ymgyrchais i a phleidleisiais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd y rhan fwyaf o fy etholwyr yn Nelyn i adael, ac roedd canlyniad y refferendwm yn Sir y Fflint yn adlewyrchu yn fras ganlyniad cyffredinol y DU. Bellach mae gennyf etholwyr sydd yn cysylltu â mi, yn rhwystredig nad ydym eisoes ymhellach drwy'r drws allan, ond rwy'n cael yr un faint o e-byst gan etholwyr sydd yn ofni am ein dyfodol, a dyfodol Cymru yn arbennig, a byddai’n well ganddynt droi yn ôl ar y refferendwm. Er bod llawer ohonom yn y Siambr hon ac yn y wlad hon yn drist—a dweud y lleiaf—gan ganlyniad refferendwm yr UE, ni allwn adael i sut yr ydym yn bwrw ymlaen ar ôl y refferendwm hybu diffyg ymddiriedaeth, diffyg diddordeb ac ymddieithriad pellach mewn gwleidyddiaeth. Ond ni ddylem chwaith, fodd bynnag, gyfaddawdu ar werthoedd cwrteisi, amrywiaeth a chydraddoldeb y mae llawer ohonom wedi ymladd o’u plaid a’u hyrwyddo dros nifer o flynyddoedd.

Rwy’n credu y gallwn ni fynd i'r afael â'r tensiynau a arweiniodd at bobl yn ymosod ar system yr oeddent yn teimlo nad oedd yn gwneud, nac yn cyflwyno, dim byd iddynt—ansicrwydd yn eu swyddi, cyflogau isel, ecsbloetio, yr hyn a welir yn ddiffyg cyfle i fynd ymlaen mewn bywyd ac i ffynnu—heb bwyso i lawr ar yr elfen fwyaf elfennol o drafodaeth. Fel y dywedais yn ystod y ddadl ar gydraddoldeb yr wythnos diwethaf, ymddengys bod naws y ddadl wleidyddol yn anffodus wedi newid. Nid yw dweud bod hyn yn annerbyniol yn ymwneud â mygu rhyddid barn neu gywirdeb gwleidyddol; mae'n ymwneud â Chymru yn wlad gynhwysol, gynnes a chroesawgar, lle’r ydym yn ymddwyn gydag urddas a pharch tuag at ein gilydd fel bodau dynol.

Gadewch i ni fod yn glir: nid cynnydd ar hawliau cyfartal i fenywod, pobl LGBT, y gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ag anableddau yw gweld swyddi â sgiliau a chyfleoedd diwydiant yn cael eu difrodi a chynnydd mewn tangyflogaeth cyflog isel, ansicr. Rhaid inni gael yr ewyllys gwleidyddol a'r cymhelliant i fynd i’r afael a datblygu’r olaf heb fynd yn ôl ar yr hawliau a chreu ofn ar y cyntaf, i sicrhau dyfodol i Gymru sy'n un o degwch a ffyniant economaidd, ond hefyd yn un sy’n amddiffyn ac yn ymestyn cyfiawnder cymdeithasol.

Gofynnir i ni ddweud nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny’n gwbl deg. Roeddwn yn teimlo bod araith y Prif Weinidog yn eithaf sylweddol yn ei 12 pwynt a beth mae hi'n ei roi y tu ôl i hynny, ac yna fe gawsom Bapur Gwyn, yn rhoi ychydig mwy o fanylion am hynny. Yna, gofynnir i ni gydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n hapus iawn yn wir i wneud hynny.

Yna gofynnir i ni gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n hapus iawn yn wir i wneud hynny. Fel arfer pan fyddaf yn clywed yr ymadrodd hwnnw yn deillio o ffynhonnell Lafur, mae'n cael ei ddilyn gan y gair 'ond'. Yn yr achos hwn, yn hytrach na'r gair 'ond', mae gennym bwynt 3 a 4: i groesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru' ac i gadarnhau ei flaenoriaethau. Rwyf wedi siarad o'r blaen am rai o'r anghysonderau rhwng 'mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl a 'chyfranogiad llawn' yn y farchnad sengl. Cefais sicrwydd gan Lesley Griffiths, rwy’n credu, ddydd Iau fod y ddau ymadrodd yn golygu’r un peth. Felly, byddaf yn derbyn tôn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, yn y Papur Gwyn ac yn gynharach. Dywedodd ei fod yn dymuno aros yn y farchnad sengl, rwy’n credu, ac yn yr undeb tollau. Mae eisiau gweld marchnad lafur agored lle gall unrhyw un o’r UE ddod i'r wlad hon o hyd gyda chynnig am swydd, neu yn wir gall unrhyw un ddod i chwilio am swydd yn unig, er bod hynny o fewn cyfnod o amser. Mae'n dweud ei fod eisiau parhau i gyfrannu i'r gyllideb, ac mae eisiau cyfnod trosiannol hir cyn i unrhyw beth newid rhyw lawer.

Yn fy marn i mae Julie Morgan efallai yn fwy gonest am yr hyn y mae’r sefyllfa honno yn ei awgrymu. Mae'n awgrymu, yn ei geiriau hi, cadw holl elfennau allweddol yr UE. Nawr, efallai ei bod am wneud hynny yn cynrychioli ei hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd, ond mae'r Prif Weinidog i fod cynrychioli pobl Cymru, a 52 y cant wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ofnaf nad yw wedi deall pam y pleidleisiodd llawer o bobl 'na'. Rwy'n credu bod llawer o resymau da am fasnachu—nifer o resymau da am agor ein heconomi a masnachu rhydd gyda'r byd i gyd, yn hytrach na dim ond ag un rhan ohono sy’n dirywio yn ôl un set o reoliadau y mae'n rhaid i bawb ufuddhau iddynt er mwyn masnachu o gwbl. Ond credaf fod y syniad, yn syml, o gael rhai cyfyngiadau ar fudd-daliadau, neu gyfyngu ymhellach ar ecsbloetio gweithwyr, a thalu’n llai na’r isafswm cyflog, er bod y rheini’n bwysig ac y dylem eu cefnogi, nid ydynt yn ddigon. Rwy’n credu, i lawer o bobl, y broblem yw bod niferoedd diddiwedd o bobl o economïau cyflog llawer is yn gallu dod i mewn i'n gwlad a chystadlu am gyfle i weithio am yr hyn a allai fod yn swm uwch na'r isafswm cyflog. Yn gyflym, daw'r isafswm cyflog yn uchafswm cyflog.

Ac ymddengys ei fod wedi penderfynu o'r diwedd, ar ôl cyfnod o ddiffyg penderfyniad, a rhywfaint o gynnydd, dweud ei fod eisiau bod yn y farchnad sengl, hyd yn oed os yw hynny’n golygu nad ydym yn gallu symud i ffwrdd oddi wrth ryddid i symud llafur. Dyna ei benderfyniad. Ond rwy'n credu ei bod yn ei gwneud yn anodd iawn i'r Prif Weinidog a'r Cynulliad hwn, neu yn sicr ei Lywodraeth, ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU os mai llinell waelod Llywodraeth Cymru, yn ei hanfod, yw aelodaeth o’r farchnad sengl a'r holl ffactorau a restrais. Mae hynny'n amlwg iawn yn groes i ble mae Llywodraeth y DU yn awr. Mynediad llawn a dilyffethair—gallem edrych ar hynny, ynghyd â masnach rydd a llyfn; aelodaeth o EFTA fel y ffordd ymlaen.

Efallai y gallai fod wedi dod o hyd i dir cyffredin gyda phleidiau eraill yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, yn hytrach, mae wedi dewis ceisio dod i gytundeb â Phlaid Cymru, yr ymddengys, yn eu gwelliant, y maent wedi tynnu’n ôl arno. Mae rhywfaint o negodi mawr ac, ym mhwynt 6, gofynnir i ni nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio sbarduno erthygl 50. Mae hyd yn oed Jeremy Corbyn, yn San Steffan, yn chwipio ei Aelodau Seneddol i gefnogi sbarduno erthygl 50. Eto i gyd nid yw’r Prif Weinidog a'i lu yn gallu gwneud hynny. Yn hytrach, maent yn ceisio rhyw fath o gyfaddawd i guddio’r craciau gyda Phlaid Cymru, ac yn ei nodi yn unig, ac yna mae Plaid yn dod ymlaen ac yn cynnig y gwelliant hwn yn erbyn ysbryd yr hyn yr oeddent yn credu iddynt gytuno arno.

A fyddai'r Aelod yn cytuno y byddai'n haws efallai dod i gytundeb penodol pe byddem yn deall beth oedd bwriad Llywodraeth y DU o ran y farchnad sengl a mynediad parhaus i hynny? Er enghraifft, mae'n gwybod—gan ei fod newydd ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor yr ydym ein dau yn gwasanaethu arno—bod George Eustice heddiw wedi dweud na fydd yn dod i gael ei holi yn y pwyllgor ddydd Iau, am yr hyn y mae’r farchnad sengl yn ei olygu.

Diolch i'r Aelod yn fawr iawn am ddod â mi at yr hyn oedd yn mynd i fod yn bwynt nesaf. Mae gen i bryder penodol ynghylch yr hyn a ddywedodd David Davis, sef, yng nghyd-destun datganoli, y bydd pwerau yn dod o'r UE, a bydd yn rhaid i ni benderfynu lle y byddant yn glanio’n fwyaf priodol—boed hynny yn San Steffan, Holyrood, neu ble bynnag. Nid yw hynny'n wir. Caiff y cyfyngiad ar ein hawl i ddeddfu mewn cyd-destun datganoledig ei godi pan fyddwn yn gadael yr UE, fel y mae’r Prif Weinidog yn glir ac yn briodol iawn wedi’i ddweud.

A byddem wedi hoffi holi’r Gweinidog DU hwnnw am yr hyn yr oedd hynny yn ei olygu, yn enwedig ym maes y pwyllgor yr wyf y yn ei gadeirio, lle mae llawer o'r meysydd hynny yn eithriadol o bwysig i Gymru. Mae’r cyfle hwnnw bellach wedi cael ei golli. Rwyf wedi’ch copïo chi, Lywydd, i mewn i’r nodyn hwnnw. Ac rwy’n credu ei fod o leiaf yn ymddangos fel diffyg parch at y Cynulliad a’n pwerau datganoledig. Rwy’n gobeithio na fydd hynny yn parhau i ddigwydd; rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn defnyddio'i ddylanwad da i helpu i sicrhau hynny. Ond, yn sicr, pan fydd y Prif Weinidog yn siarad yn glir ar hynny, bydd yn cael cefnogaeth ein plaid i wneud hynny.

Yn awr, os caf i ddirwyn i ben, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi nodi dull gweithredu eithaf clir, yn fy marn i. Mae hi wedi dweud, os oes angen, y bydd yn rhoi blaenoriaeth ar gyfyngu rhyddid i symud uwchben y farchnad sengl. Rydym yn credu ei bod yn iawn i wneud hynny, credwn ei bod yn siarad ar ran pobl Cymru, yn ogystal â phobl y DU gyfan, ac rwy’n credu ei bod wedi ennill yr hawl i gael rhyddid a hyblygrwydd i drafod hynny unwaith y bydd erthygl 50, yr ydym yn ei gefnogi, wedi ei sbarduno.

Rwyf yn cyfyngu fy nghyfraniad i’r hyn yr ydym yn ei gydnabod fel cydraddoldeb. Fy sylw cyntaf yw, yn wahanol i Bapur Gwyn Cymru a Phapur Llywodraeth yr Alban, nad yw Papur Gwyn y DU yn trafod y goblygiadau yn uniongyrchol i gydraddoldeb Brexit. Ac, i mi, mae hynny'n hepgoriad amlwg ond yn un sy’n peri gofid. Efallai y gallai'r Prif Weinidog fod wedi tynnu sylw ato pe byddai Llywodraeth y DU wedi darparu drafft cyn y cyhoeddiad hwn. Serch hynny, a fyddech yn ei godi yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, os nad cyn hynny, Brif Weinidog?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn datblygu deialog â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ystyried y manylion a'r goblygiadau o ran cydraddoldeb o adael yr UE. Ac rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw eto. Ond rwy’n apelio atoch i annog y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Brexit i ddilyn esiampl Cymru a chynnal yr un trafodaethau hynny â'r EHRC oherwydd bod y goblygiadau i gydraddoldeb Brexit yn bwysig. Mae canlyniadau ac ystyriaethau uniongyrchol, yn ogystal â syniadau diwylliannol ehangach o amgylch hynny. Mae cyllid uniongyrchol, er enghraifft, ar gyfer y cyfnod 2014-20 trwy ymgysylltiad strategol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglenni cydraddoldeb rhywiol. Mae'r UE wedi dyrannu mwy na €6 biliwn i gyflawni targedau ac amcanion cydraddoldeb rhywiol. Yr hyn y mae angen i ni ei wybod yw a fydd y ffrydiau ariannu hynny yn sychu, ac os byddant, beth yw canlyniadau hynny?

Y bore yma, cyfarfûm â Chwarae Teg, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd dyfodol eu prosiect Cenedl Hyblyg 2 sy'n helpu i wella sefyllfa menywod yn y gweithlu ar draws naw sector blaenoriaeth yng Nghymru. Mae’r cynllun hwnnw’n cael ei ariannu, yn rhannol, gan Lywodraeth Cymru a hefyd gan gronfa gymdeithasol Ewrop, a dyna un enghraifft yn unig. Fel y mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ei nodi, rhaid rhoi ystyriaeth i effaith bosibl colli arian yr UE ar gydraddoldeb a lles pobl â nodweddion gwarchodedig. Yn San Steffan, mae Harriet Harman, gyda chefnogaeth clymblaid drawsbleidiol o ASau, wedi cyflwyno gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i ddiogelu hawliau menywod yn ystod ac ar ôl Brexit. Mae Papur Gwyn y DU yn nodi y bydd y Bil diddymu mawr yn cynnal y mesurau gwarchod a'r safonau sydd o fudd i weithwyr ac, ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo nid yn unig i ddiogelu hawliau gweithwyr a nodir mewn deddfwriaeth Ewropeaidd, ond eu gwella. Rwy'n hynod o falch o glywed hynny, ond dydw i ddim wedi fy argyhoeddi’n llwyr ganddo. Clywsom lawer iawn o addewidion ar hyd y ffordd ac mae hwn yn ymddangos i fod yn un arall o'r rheini.

Un o'r materion yr wyf yn wir yn poeni amdano, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl, yw beth yn union y mae Brexit yn ei olygu ar gyfer cydweithrediad y DU â chyrff yr UE fel Eurojust ac Europol. Mae'r Papur Gwyn yn dweud:

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r UE i warchod diogelwch Ewropeaidd, i ymladd yn erbyn terfysgaeth, ac i gynnal cyfiawnder ar draws Ewrop.

Ond nid yw hyd yn oed yn sôn am Eurojust ac uned cydweithrediad barnwrol yr UE. Rwy'n ymwybodol o’r amser ac fe wnes i addewid y byddwn yn gryno, felly, byddaf yn gorffen trwy ddweud hyn: mae'n drist bod rhywfaint o'r ddadl yr ydym wedi ei chael—nid y ddadl yma heddiw, ond yr hyn sydd wedi ein harwain at ble yr ydym—wedi rhoi bywyd newydd i hen ragfarn ac ofnau a hagrwch. Rwy’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn ddiamwys yn y neges yr ydym yn ei hanfon i leiafrifoedd a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, y dylai Llywodraeth y DU, yn gyntaf, weithredu yn awr yn hynny o beth, a rhaid iddi warantu statws dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yma yn yr UE ac nid eu defnyddio—ac mae wedi digwydd heddiw—fel tsips bargeinio ar gyfer y dyfodol.

Rwy’n falch i gymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig yma ac i longyfarch y sawl sydd wedi dod â’r Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’, i fodolaeth ar y ddwy ochr: ym Mhlaid Cymru ac yn Llafur. Hefyd, hoffwn longyfarch sawl cyfraniad eisoes y prynhawn yma ynglŷn ag aeddfedrwydd y ddadl sydd o’n blaenau ni: Steffan Lewis yn enwedig, ond hefyd Eluned Morgan, Hannah Blythyn, Julie Morgan—mi allwn ni gario ymlaen; a David Melding, hyd yn oed. Rwyf yn eich llongyfarch chi i gyd—ac hefyd Leanne Wood a Simon Thomas. Ond dim ond pum munud sydd gen i, so fe wnaf i stopio yn fanna yn naturiol.

We’ve heard a lot about respecting the result of the referendum on 23 June, and we do. The debate around triggering article 50 is not about rerunning that referendum campaign—that’s done and dusted; it’s about having a detailed plan to exit Europe. That’s what the debate is about.

A lot has been said about the need to heal a divided society. Healing—and I know a bit about healing—but healing on the part of the UK Government, I would suggest, should take the form of naturally respecting the views of the 52 per cent and, at the same time, doing your best to accommodate the 48 per cent, because serial triumphalism is not particularly endearing or healing. Rubbing the noses of the 48 per cent who voted ‘remain’ continuously in it because they lost, by now pushing for the hardest possible Brexit: how is that healing a divided society? Surely a soft Brexit, closer to the views of the 48 per cent, while respecting the views of the 52 per cent, would fit the bill. Making the best of a bad job. Huw.

Diolch. Diolch i chi am ildio. Ymddengys ei fod wedi darllen yn glir y bore yma y llw Hippocratic gwreiddiol, sy'n dweud, yn gyntaf oll, 'Na wna niwed'. [Chwerthin.]

Rwy'n falch i chi fy atgoffa i o un o fy hen lwon, Huw. Mae gwneud y gorau o'r gwaethaf yn y sefyllfa bresennol hon, wrth adael yr UE, yn golygu mewn gwirionedd ceisio aros yn y farchnad Ewropeaidd sengl, fel Norwy lewyrchus—y tu allan i'r UE, ond yn y farchnad sengl. Oherwydd mae’r farchnad sengl, fel y clywsom, yn hanfodol i Gymru. Mae chwe deg wyth y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE; mae 200,000 o swyddi Cymru wedi eu clymu i’r farchnad sengl honno. Yr holl gyllid cymorth rhanbarthol Ewrop hwnnw: beth sy'n mynd i ddigwydd iddo? Peidiwch â dal eich anadl; nid yw'n mynd i ddod o Senedd y DU. Mae hyn i gyd mewn perygl o gael ei daflu i ffwrdd os ydym ond yn rowlio drosodd a phleidleisio i sbarduno erthygl 50, heb gymaint â gwich, gan roi cynfas gwag i Theresa May i gwtsho lan at Donald Trump mewn ymgais anobeithiol i daro bargen fasnach gyda rhywun.

Yn awr, dim ond syniad: dan y Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 bresennol, nid yw cysylltiadau gyda'r UE yn cael eu rhestru fel pwnc o gymhwysedd neu eithriad. Arhoswch gyda mi yn awr, dîm, iawn; mae'n bwnc tawel. Mae gan y Cynulliad gymhwysedd yn awr i ddeddfu ar bynciau tawel, ar yr amod bod y ddeddfwriaeth dan sylw hefyd yn berthnasol i bwnc datganoledig, fel amaethyddiaeth, y mae arweinydd y Ceidwadwyr mor awyddus i arwain ein ffermwyr i lawr pa bynnag lôn wledig sy’n dod i ben yn bengaead. Felly, bydd y DU yn tynnu'n ôl o'r UE yn golygu diwedd i’r polisi amaethyddol cyffredin ac yn cael effaith enfawr ar ein hamaethyddiaeth, sydd yn bwnc a roddwyd yn awr, wedi’i ddatganoli i Gymru. Gellid dadlau bod gan y Cynulliad hwn y cymhwysedd yn awr i ddeddfu ar y mater o p'un a ddylid rhoi hysbysiad dan erthygl 50 yn awr. Fel y dywedais, dim ond syniad.

Yn ogystal â chefnogi’r Papur Gwyn hwn heddiw, a yw'r Aelod yn cytuno y dylai Aelodau yma yn y Siambr hon hefyd gefnogi gwelliant Plaid Cymru er mwyn dangos ein bod yn ddigon penderfynol yma am bwysigrwydd sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a'i barchu, ein bod yn dweud na allwn gefnogi erthygl 50 yn awr hyd nes y byddwn yn cael y diogelwch a hyd yn oed y fframwaith sydd eu hangen arnom, ac mae honno’n dyletswydd arnom i bobl, pa bynnag ffordd y gwnaethant bleidleisio yn y refferendwm?

Yn union, ac wedi’i fynegi yn dda. Mae ar Gymru angen cynllun manwl— [Torri ar draws.] does gen i ddim amser, dîm, yn enwedig i Andrew R. T. Davies. Mae ar Gymru angen cynllun—cynllun manwl—i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llafur a Phlaid Cymru yma wedi cynhyrchu un. Mae’n werth ei ddarllen, gan gynnwys yr atodiadau—‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Oherwydd—ac rwyf ar fin dod i ben yn awr—wrth siarad â nifer o bobl, yn enwedig ein pobl ifanc, maent yn teimlo eu bod wedi’u bradychu. Mae eu dyfodol fel Ewropeaid wedi mynd, oni bai ein bod yn gallu gwarantu teithio, addysg ac astudio yn Ewrop am ddim ar gyfer ein pobl ifanc. I gyd oherwydd cyni, dicter a ffeithiau amgen, a dim cynllun. Mae’r £350 miliwn hwnnw ar ochr bws yr un fath â’r arfau dinistr torfol. Nawr, rydym yn daer—rydym yn mynd i fod yn daer am fargeinion masnach. Theresa May yn cwtsho lan at Donald Trump. Na. Fel Rhun, fel grŵp Plaid, byddaf yn pleidleisio yn erbyn sbarduno erthygl 50. Gallem wneud hynny ac mae angen i ni wneud hynny oherwydd bod angen i lais Cymru gael ei glywed. Diolch yn fawr.

Diolch, Lywydd. Gwn fod amser yn brin, ond a gaf i ddechrau drwy ddweud bod rhai mythau sydd angen eu chwalu yma? Yn gyntaf oll, nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylai canlyniad y refferendwm gael ei barchu. Mae'n mynd i ddigwydd. Dyna ni. Mae'r cwestiwn wedi ei setlo. Ond gadewch i ni beidio ag esgus bod pleidlais o fwyafrif llethol i adael yr UE. Roedd yn 52 y cant. Gadewch i ni beidio ag esgus mai'r unig reswm pam y pleidleisiodd pobl i adael oedd mewnfudo. Siaradodd yr un faint o bobl â mi am fewnfudo ag a siaradodd â mi am eisiau rhoi cic i David Cameron. Dyna oedd un o'r rhesymau a glywais ar garreg y drws.

Rwy’n cofio, ym 1997,cafodd y lle hwn ei sefydlu ar ganran tebyg o’r bleidlais. Roedd rhai yn y Blaid Geidwadol a oedd eisiau anwybyddu'r refferendwm ar y pryd. Dadleuodd John Redwood, pan gafodd ei holi am ganlyniad refferendwm yr Alban, sef 3: 1 o blaid, na ddylai datganoli ddigwydd yn yr Alban gan nad oedd y rhan fwyaf o'r etholwyr wedi pleidleisio o blaid. Gwelwn yn awr, wrth gwrs, y safonau dwbl sydd ganddo. Gan fy mod i wedi ymladd yn frwd yn erbyn unrhyw syniad bod canlyniad y refferendwm, bryd hynny, ni waeth pa mor gul yr oedd, yn cael ei anwybyddu, ni allaf ddadlau dros anwybyddu canlyniad y refferendwm y llynedd, er mor agos yr oedd.

Felly, mae’r mater hwnnw wedi ei ddatrys. Ond, mae awgrymu ei bod rhywsut yn bleidlais ar gyfer Brexit caled yn absenoldeb unrhyw gwestiwn penodol yr un fath ag awgrymu bod y bleidlais ym 1997 yn bleidlais dros annibyniaeth. Yn amlwg, roedd yn bleidlais am ffurf gyfyngedig, bryd hynny, o hunanlywodraeth. Y wers i'w chofio yw hyn, ac fe wnaeth Dai Lloyd gyfeirio at hyn: gwnaeth y rhai ohonom a oedd ar yr ochr fuddugol ym 1997 weithio i ennill pobl drosodd ar ôl hynny, a dyna pam mae mwy na 80 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli bellach. Wnaethom ni ddim eu sarhau. Doedden ni ddim yn awgrymu eu bod yn fradwyr. Wnaethom ni ddim dweud eu bod yn dwp. Buom yn gweithio gyda nhw. Ac mae honno’n wers i'r Brexiteers caled, nid y rhai yn y Siambr hon, ond rhai y tu allan sy'n credu mai'r ffordd orau i gael eu ffordd yw drwy sarhau.

O ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaethpwyd, mae'n hollol iawn y dylai fod gwaith tuag at fframwaith y DU ar gyfer rhai meysydd, megis amaethyddiaeth. Mae'n bosib iawn ei fod yn gwneud synnwyr. Iechyd anifeiliaid—mae'n gwneud synnwyr i gael polisi cyffredin ar draws Prydain Fawr. Ond y pwynt yw hyn: dylai’r fframweithiau hynny gael eu cytuno nid eu gorfodi gan un Llywodraeth dros y tair arall. Mae amaethyddiaeth wedi'i ddatganoli. Atalnod llawn. Diwedd y stori. Pleidleisiodd pobl yn 2011 dros hynny o 2: 1 mewn refferendwm. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw hawl i newid hynny. Pan ddaw’r pwerau hynny yn ôl o Frwsel, maent yn dod yma. Nid ydynt yn aros yn Llundain. Mae'n hynod bwysig bod y trafodaethau hynny am fframweithiau yn parhau ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, wrth gwrs, eisiau ei weld yn digwydd.

A gaf i atgoffa'r rhai sy'n honni nad oedd model Norwy ar y bwrdd yn y refferendwm bod Arron Banks yn ei gefnogi, Daniel Hannan ei gefnogi a'r 'Daily Express' yn ei gefnogi? Felly, roedd model Norwy yn fawr iawn ar y bwrdd ar y pryd, a dyna pam yr es i yno. Mae'n fodel y gallwn edrych arno. Nid yw'n berffaith. Mae Norwy yn wlad ffyniannus—mae hanner olew y DU yn dod o Norwy—ac mae'n hapus i fod yn rhan o'r farchnad sengl er nad yw'n rhan o'r UE.

Clywais yr hyn oedd gan Neil Hamilton i'w ddweud. Mae'n rhoi llawer o ffydd mewn cytundeb masnach gyda Llywydd yr Unol Daleithiau, a etholwyd ar fandad gwarchodol, sydd wedi dweud bod pob gwlad yn y byd wedi manteisio ar yr Unol Daleithiau. Nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth y bydd gennym fargen masnach rydd gydag America sydd yn unrhyw beth ond da i America. Dyna'r hyn y cafodd ei ethol i'w wneud. Ni allwn gwyno am hynny. Mae'n Llywydd gwarchodol. Felly, nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth yn hynny o beth. Gwrandewais yn astud ar ei gynllun. Siaradodd am union 11 munud a 30 eiliad ac ni chlywais unrhyw beth. Rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Mae'n rhaid i ni ddechrau clywed mwy gan y rhai sydd ar ochr galetach Brexit.

Gwrandewais yn ofalus ar Andrew R. T. Davies. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl y refferendwm, yr oedd yn y cyfryngau yn awgrymu y dylai rhai meysydd gael eu rhoi yn ôl i San Steffan. Os cafodd ei gamddyfynnu, dylai fod wedi ymdrin â hynny yn y cyfryngau. Roedd yn dweud y dylai amaethyddiaeth a datblygu economaidd rhanbarthol fod yn gyfrifoldeb San Steffan. Nid dyna beth y pleidleisiodd pobl Cymru amdano. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Rwyf wedi parhau â’r ddadl a wneuthum ar ôl y refferendwm bod angen cael fframweithiau y DU ar amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol a chyllid prifysgolion oherwydd mai dyna'r ffordd orau o sicrhau llinellau cyllideb penodol allan o Drysorlys y DU—i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ei angen arnom yn llifo i Gymru. Gofynnaf ichi gefnogi'r safbwynt hwnnw oherwydd pan fy mod wedi cyflwyno’r safbwynt hwnnw, rydych chi wedi ceisio ei ddilorni. Rwy’n synhwyro eich bod yn symud at y tir hwnnw yn awr, Brif Weinidog.

Na. Rwy’n cytuno. Y cwestiwn yw hyn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU orfodi’r fframweithiau hyn neu a yw'n credu y dylent gael eu cytuno gan y pedair Llywodraeth?

Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad ar hynny, oherwydd nid dyna ddywedodd yn y refferendwm y llynedd. Mae wedi dweud, er tegwch iddo, ei fod yn credu y dylai’r fframweithiau hynny gael eu cytuno erbyn hyn, nid eu gorfodi gan Lywodraeth y DU. Rwy’n croesawu hynny. Rwy’n croesawu hynny. Dywedodd hefyd fod 730 diwrnod i ymdrin ag effaith—

Na. Mae wedi cael un ymyriad eisoes. Mae ar y cofnod. Croesawaf yr hyn y mae wedi'i ddweud.

Mae wedi dweud bod yna 730 diwrnod i ymdrin â Brexit—mae’n llai na hynny, oherwydd mewn gwirionedd, fydd dim yn digwydd cyn mis Medi, unwaith y bydd etholiadau Ffrainc a’r Almaen allan o'r ffordd, felly, mewn gwirionedd, mae’r amserlen yn cael ei gwasgu ychydig yn fwy.

Gwrandewais ar yr hyn oedd gan David Rowlands i'w ddweud. A gaf i ddweud wrtho nad gweiddi ar dramorwyr yw'r ffordd orau ymlaen? Os ydych yn dweud wrth yr UE, ‘Mae ein hangen ni arnoch chi yn fwy nag y mae eich angen chi arnom ni', byddant yn dweud wrthych ble i roi’r farn honno, yn yr un modd â phe byddai’r UE yn dweud hynny wrth y DU—byddai ef yn dweud yn union yr un peth, pe cai ei ddweud am y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid iddo gofio bod y DU wedi ymuno â'r UE, neu'r farchnad gyffredin ar y pryd, oherwydd ei bod yn awyddus iawn i ymuno, gan fod economi'r DU yn llanast. Ac, yn ei eiriau ef, roedd y celwyddau a aeth â ni i mewn yn fwy na'r celwyddau a aeth â ni allan. [Chwerthin.] Mae hynny’n fater iddo ef ei esbonio.

Y pwynt arall y mae’n rhaid i mi ddweud wrtho amdano yw hyn. Ydy, wrth gwrs, mewn termau ariannol, mae'r UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn allforio i’r UE; byddai'n rhyfedd pe na fyddai, oherwydd bod yr UE bron 10 gwaith maint y DU. Ond, fel canran, mae 67 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, 7 y cant o allforion yr UE yn mynd i'r DU. A dweud y gwir, o ran canran, rydym yn llawer mwy dibynnol ar y farchnad Ewropeaidd nag y mae’r farchnad Ewropeaidd arnom ni. Rwy’n erfyn arno i feddwl yn ofalus am hon fel cytundeb synhwyrol rhwng rhai cydradd ac nid ceisio dweud eu bod nhw fwy o’n hangen ni nag yr ydym ni eu hangen nhw. Nid yw hynny yn wir. Mae angen ein gilydd arnom ni yn Ewrop i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn ffynnu.

Rwy’n cytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Ond y pwynt yma, siawns, yw bod masnach yn cyfoethogi'r ddau barti ac, ar hyn o bryd, mae cydbwysedd y fasnach â'r UE ac ag aelodau unigol o'r UE yn fawr iawn o'u plaid nhw. Felly, y cyfan y mae hynny yn ei wneud yw dangos ei bod er eu lles nhw eu bod yn dod i gytundeb masnach rydd gyda ni i barhau â’r trefniadau sydd gennym yn barod. Nid yw'n gwestiwn ohonom ni yn eu gorchymyn nhw i wneud rhywbeth, neu’n mynnu rhywbeth; mae er eu lles nhw yn gymaint â’n lles ni.

Wel, rhaid i mi ddweud nad dyna'r argraff a roddir gan rai yn UKIP. Mae newydd gael ei ddweud bod ar yr UE ein hangen ni yn fwy nag y mae arnom ni eu hangen hwy. Mae arnom angen ein gilydd; dyna realiti'r sefyllfa. Ac, fel y dywedodd David Rowlands, nid ydym eisiau cael ein cloi allan o'r farchnad sengl. Nid ydym yn dymuno cael ein cloi allan o'r farchnad sengl—mae’n rhaid i ni fod yn y farchnad sengl. Mae'n dangos rhywfaint o’r meddwl dryslyd sy'n digwydd yma.

Rwy'n gwybod bod amser yn brin, Lywydd, ond rwyf wedi cymryd ymyriadau, gyda’ch goddefgarwch. David Melding, fel bob amser, bob amser yn werth gwrando arno—yn fyr, mae angen cyngor o Weinidogion arnom sy'n debyg i'r un sy'n bodoli yn yr UE; mae angen iddo fod yn gyngor o Weinidogion sy'n cytuno ar bolisïau a fframweithiau cyffredin. Os bydd cymorth gwladwriaethol yn y DU, bydd yn rhaid cytuno arno. Mae rhai fydd yn dadlau na ddylid cael unrhyw reolau cymorth gwladwriaethol o gwbl. Yn yr achos hwnnw, mae'n ysgarmes yn y DU ac rydych yn dechrau rhyfel masnach o fewn y DU. Nid yw hynny, yn sicr, o fudd i unrhyw un. Mae angen cael mecanwaith cyflafareddu annibynnol—llys yn ôl pob tebyg—i gymrodeddu anghydfod pan ddaw i ddehongli’r rheolau cymorth gwladwriaethol hynny. Ni all Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud; mae ganddi wrthdaro buddiant clir.

Rwyf wedi siarad â Llywodraethau eraill. Byddaf yn troi at yr hyn y mae Steffan Lewis wedi ei ddweud yn gyflym iawn.

Well, it’s not true to say that we haven’t done anything. We have been asking for a constitutional convention for a while. Scotland has no interest; they want independence. There is no way of getting any sort of agreement with Northern Ireland because of the situation there. We are internationally focused. I’ll be in America later this month to ensure that we still develop the business relationships between ourselves and America. I’ve spoken to the Prime Minister of Gibraltar, the Isle of Man, Jersey, Guernsey, the Taoiseach in the Republic of Ireland, and also Scotland and Northern Ireland. It’s not true to say, therefore, that nothing has happened in the meantime.

Yn olaf, gan ymdrin â'r pwynt a wnaeth Mark Reckless, un o'r pethau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo yw’r hyn a ddywedodd am ddefnyddio EFTA yn ffordd bosib ymlaen. Nid wyf eisiau ei gamddyfynnu; dyna beth a ddywedodd. Rwy’n croesawu hynny. Mae gan EFTA, wrth gwrs, lys sy'n llywodraethu'r cysylltiadau masnach rhwng aelodau EFTA ac felly byddai’r DU yn atebol i’r llys hwnnw. Mae'n nodio, felly rwy'n falch o’r eglurhad hwnnw.

Y mater arall nad yw erioed wedi cael sylw—ac mae'n berthnasol i Gymru—yw mater y ffin. Y realiti yw y bydd gan y DU ffin tir agored gyda gwlad arall yn yr UE. Nid oes unrhyw ffordd y mae'r UE yn mynd i ddweud, os oes gennych basbort coch gyda thelyn arno, mae gennych chi ryddid i symud i mewn i'r DU, ond, os oes gennych basbort coch gydag unrhyw arwyddlun arall arno, nid yw’r rhyddid gennych. Does neb yn mynd i gytuno i hynny. Felly, mae mater Iwerddon yn dal i fod heb ei ddatrys o bell ffordd. Mae'n effeithio arnom ni yng Nghymru, oherwydd y cysylltiadau masnach sydd gennym drwy'r tri phorthladd i mewn i borthladdoedd Iwerddon. Rydym yn dal heb gael ateb ynghylch a fydd gorsaf dollau, fel yr oedd, gorsafoedd ffin—ni fu rhai yn y gorffennol—yno yn y porthladdoedd hynny, gyda'r effaith a gaiff hynny ar fasnach.

Yn olaf, Lywydd, dim ond i ddweud hyn: rydym wedi symud ymlaen o’r ddadl am y refferendwm bellach. Mae'r refferendwm wedi digwydd. Mae angen cael realaeth ar y ddwy ochr; mae angen i ni bellach weithio tuag at ateb synhwyrol. Felly, i mi, mae’n rhaid mai neges heddiw yw bod angen i ni roi'r gorau i siarad am Brexit caled neu Brexit meddal, ond gadewch i ni gael, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, Brexit synhwyrol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydw i’n gohirio’r bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 7. Cyfnod Pleidleisio

Rydym ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r pleidleisio. Felly, y bleidlais ar y ddadl ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, ac rydw i’n galw yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 1: O blaid 17, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6228.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 10, Yn erbyn 46, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6228.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt a Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 38, Yn erbyn 18, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6228.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:37.