Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
01/02/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Fe dynnwyd y cwestiwn cyntaf [OAQ(5)0088(ERA)] yn ôl. Felly, yr ail gwestiwn, Neil Hamilton.
Y Diwydiant Pysgota yng Nghymru
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith gadael yr UE ar y diwydiant pysgota yng Nghymru? OAQ(5)0097(ERA)
Diolch. Mae llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ynghlwm wrth ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol mewn perthynas â dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Er mwyn diogelu ffyniant y diwydiant a’n cymunedau arfordirol, bydd fy adran yn datblygu polisi pysgodfeydd sy’n edrych tua’r dyfodol, fel y nodir yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.
Rwy’n fodlon iawn gydag ateb Ysgrifennydd y Cabinet. A yw’n derbyn y bydd y cyfleoedd a fydd ar gael i bysgotwyr Cymru yn sylweddol iawn, fod ein moroedd wedi cael eu hysbeilio dros y 43 mlynedd diwethaf o ganlyniad i’r polisi pysgodfeydd cyffredin, y difrod i stociau pysgod, sydd wedi cymryd sawl blwyddyn i ddechrau eu hunioni, a bod gennym gyfle, drwy ailgymryd rheolaeth ar y dyfroedd arfordirol a rhannau pellach o’r môr, nid yn unig i ddatblygu adnodd economaidd enfawr i Gymru, ond hefyd i wella cadwraeth yn nyfroedd Cymru?
Credaf ei bod braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol y bydd Brexit mor gadarnhaol i’r diwydiant pysgota yn gyffredinol ag y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Ond rwy’n derbyn yn llwyr—ac rwyf wedi dweud sawl tro—er y bydd gadael yr UE yn peri llawer o risgiau a heriau, y bydd yna gyfleoedd yn y dyfodol. Credaf fod mynediad at y farchnad yn gwbl hanfodol, ac fel y dywedais, bydd gennym bolisi pysgodfeydd cyffredin ar gyfer y dyfodol—polisi pysgota penodol iawn i Gymru—i gymryd lle’r polisi pysgodfeydd cyffredin. Ond credaf fod angen inni ystyried yr egwyddorion sylfaenol o ran sut rydym yn rheoli ein pysgodfeydd yng Nghymru. Credaf fod angen mwy o hyblygrwydd, yn ogystal â chyfundrefnau rheoli addasadwy, ar gyfer y dyfodol.
Gobeithio na fyddwch chi’n gwrando ar y brenhinoedd Cnut draw ar yr ochr arall, sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu rheoli’r moroedd. Ond mae yna bysgodfa bwysig yng Nghymru, sef y bysgodfa gregyn, sy’n hynod bwysig. Beth yw’r posibiliadau, wrth i ni edrych ar bysgota cregyn bylchog, er enghraifft, ac, wrth gwrs, cregyn gleision, i agor pysgodfeydd wedi eu tystio o dan gynllun y Marine Stewardship Council, er mwyn hybu pysgodfeydd yng Nghymru? A oes modd i chi ddatblygu’r ochr honno i bethau, fel ein bod ni’n cael pysgodfeydd cynaliadwy wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd?
Diolch. Wel, gobeithiaf eich bod wedi derbyn fy mod wedi dweud, yn fy ateb i Neil Hamilton, fy mod yn credu bod y rhagdybiaeth y bydd yn rhywbeth cadarnhaol braidd yn gynnar. Ond fel y dywedais, mae cyfleoedd i’w cael, a chredaf fod angen yr ymagwedd fwy hyblyg honno arnom. Rydych yn sôn yn benodol am gregyn bylchog a chregyn gleision, a sut y dylem fynd yn ein blaenau, yn enwedig mewn perthynas â bwyd môr. Byddaf yn mynychu ein expo bwyd môr lleol ym Mrwsel ym mis Ebrill, gan fy mod o’r farn fod llawer y gallem ei wneud ar gyfer y diwydiant pysgodfeydd, sydd efallai wedi cael ei lesteirio yn y gorffennol, ac mae’n ymwneud â sicrhau’r ymagwedd fwy hyblyg honno. Ond dychwelaf at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud: mae mynediad at y farchnad yn gwbl hanfodol.
Ar yr un thema, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n gwybod, wrth gwrs, pa mor fregus yw diwydiant cocos Gŵyr oherwydd marwolaeth cynnar stociau ym moryd Burry. Ac efallai fydd y Bil diddymu mawr yn diogelu’r diwydiant hwn drwy gadw rheoliadau pysgod cregyn yr Undeb Ewropeaidd, ond ni fydd yn amddiffyn marchnadoedd pysgod cregyn yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu ein pysgod cregyn o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, i sicrhau bod ein cynnyrch yn mynd i fod yn ddewis cyntaf—gyda thariffau, neu hebddynt?
Wel, soniais yn fy ateb i Simon Thomas y byddaf yn mynychu’r expo bwyd môr ym Mrwsel. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod yn mynychu’n bersonol, er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’n diwydiant bwyd môr gwych yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael y strategaeth bwyd môr a helpais i’w lansio gyda’r diwydiant oddeutu tri neu bedwar mis yn ôl.
Rhaglen Cartrefi Clyd
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cartrefi Clyd? OAQ(5)0102(ERA)
Diolch. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £26.5 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai ac er mwyn helpu i drechu tlodi tanwydd. Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried opsiynau ariannu ar gyfer y pedair blynedd nesaf a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn diwedd mis Mawrth.
Wel, croesawaf yr ymateb hwnnw, a bydd yn adeiladu ar y gwaith lle y gwnaed gwelliannau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i effeithlonrwydd ynni oddeutu 8,000 o gartrefi y llynedd o dan Nyth ac Arbed. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â thlodi tanwydd, ac roeddwn am ofyn hynny yn fy nghwestiwn atodol. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd, ac maent wedi gwneud argymhellion penodol, gan adeiladu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud. Maent wedi gofyn am ymagwedd strategol newydd, wedi’i chefnogi gan raglen ac amserlenni clir, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Maent wedi gofyn am ddata cadarn sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar ansawdd y stoc dai, ac adroddiadau ar lefelau tlodi tanwydd. Ac un o’u hargymhellion, i gloi, yw y dylem ystyried targed newydd uchelgeisiol ar gyfer tlodi tanwydd yn seiliedig ar godi sgôr tystysgrif perfformiad ynni gofynnol nifer o gartrefi incwm isel i C neu’n uwch bob blwyddyn. Ceir argymhellion eraill, ond tybed a fydd hi’n ymroi i edrych ar argymhellion Age Cymru ac yn ymateb iddynt, ac yn bwrw ymlaen â’r gwaith yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru.
Ie, rwy’n ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd, ac yn sicr, ar hyn o bryd rydym yn ystyried y cynigion a argymhellwyd ganddynt ar gyfer datblygu ein polisi tlodi tanwydd ehangach yn y dyfodol. Rydym eisoes wedi ymateb i lawer o’r cynigion a gyflwynwyd ganddynt yn ein hymateb i ymgynghoriad Nyth a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Felly, er enghraifft, rydym yn cynnig ymestyn cymhwysedd ar gyfer pecyn o fesurau Nyth i wella ynni yn y cartref i aelwydydd incwm isel sydd â phreswylwyr yn dioddef o rai cyflyrau iechyd penodol, ac mae gennym drefniadau llwybr carlam ar waith ar gyfer pobl agored i niwed sy’n gymwys, sy’n rhywbeth gwirioneddol bwysig yn fy marn i. Hefyd, pan oedd fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, a minnau yn ein portffolios—ac rydym bellach wedi cyfnewid—penderfynasom y buasem yn ystyried casgliad data newydd pwysig ar gyfer ein stoc dai, gan nad oedd gennym y data yr oedd y ddau ohonom yn teimlo y dylai fod gennym. Felly, rydym wedi cyflwyno hynny, ac wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y cyd ynglŷn â hynny i’r Aelodau.
Croesawaf gyfeiriad Huw Irranca-Davies at adroddiad, canfyddiadau ac argymhellion Age Cymru. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad ar gynllun tlodi tanwydd seiliedig ar alw ar gyfer y dyfodol, ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru wedi mynegi pryderon y bydd cyflwyno gofynion oedran yn y meini prawf cymhwysedd a gynigir yn atal llawer o gartrefi mewn tlodi tanwydd sy’n gymwys ar hyn o bryd rhag cael cymorth. Felly, sut rydych yn ymateb i ddatganiad Age Cymru yn benodol fod strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig 2010 bellach wedi dyddio, a bod angen i Gymru a Llywodraeth Cymru ddarparu strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig newydd i Gymru, i adlewyrchu nid yn unig effeithlonrwydd ynni, er mor bwysig yw hynny, ond yr holl faterion cyfiawnder cymdeithasol ehangach sy’n gysylltiedig â’r mater pwysig hwn?
Wel, soniais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies fy mod yn ystyried y cynigion a ddaeth o ddatganiad Age Cymru ar dlodi tanwydd wrth ddatblygu ein polisi tlodi tanwydd ehangach ar gyfer y dyfodol.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac i ofyn cwestiwn cyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Os caf ymateb i’r her a roddwyd i mi gan Simon Thomas mewn perthynas â’r Brenin Cnut, roedd y Brenin Cnut, wrth gwrs, yn ddyn doeth a ddangosodd i’w wŷr llys sebonllyd fod cyfyngiadau ar rym awdurdod brenhinol a’r llywodraeth, ac na allai rwystro’r llanw, felly teimlaf y byddai yn ôl pob tebyg wedi bod yn sgeptig mewn perthynas â chynhesu byd-eang wedi’i achosi gan bobl pe bai’n fyw heddiw. [Torri ar draws.] Ond i ddychwelyd at fusnes heddiw, a gaf fi groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ddoe ei bod yn dynodi sawl ardal cadwraeth arbennig ar gyfer llamidyddion ac adar môr eraill? Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran creu rhwydwaith cydgysylltiedig o ardaloedd gwarchodedig ar y môr i warchod ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd morol. A all ddweud wrthym pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwblhau’r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, yn seiliedig ar adroddiad cynnydd y rhwydwaith gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn 2016?
Diolch am groesawu’r datganiad ar y tri maes ychwanegol mewn perthynas â llamidyddion. Mae gwaith sylweddol ar y gweill mewn perthynas â pholisi morol a chynllunio morol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cynllun morol cenedlaethol Cymru ar waith gennym, a gobeithiaf wneud hynny erbyn yr haf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb defnyddiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol, a gwnaed cynnydd da mewn perthynas â dynodiad. Ond nid wyf yn siŵr a wnaed cynnydd tebyg ar wella’r modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Yn 2012, dywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wrth gwrs, fod 47 y cant o rywogaethau a 54 y cant o gynefinoedd safleoedd Natura 2000 mewn cyflwr anffafriol, ac yn bwysicach, nad oedd 100 y cant o’r rhywogaethau a 79 y cant o’r cynefinoedd o dan gyfundrefnau rheoli diogel i wella’r amodau. O ystyried bod cyfyngiadau ariannol ar Cyfoeth Naturiol Cymru a’u bod wedi gorfod ymdopi â thoriad o 15 y cant i’w cyllidebau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a yw’n fodlon fod ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni’r amcanion a osodir gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth?
Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn derbyn bod cyfyngiadau ariannol arnom oll, ac yn sicr, rwy’n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn fisol—gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr—ac rwy’n fodlon fod yr adnoddau hynny yn eu lle ganddynt.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Yn y cynllun gweithredu strategol ar faterion morol a physgodfeydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2013 ar gyfer Cymru, roedd paragraff 12 yn cyfeirio at adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf ym mis Ionawr 2013, a gwnaed ymrwymiad, yn dilyn hynny, i ddarparu datganiadau gweinidogol bob chwe mis i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd. Oni bai fy mod yn anghywir, nid ydym wedi cael un ers oddeutu 18 mis bellach a tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i ddychwelyd at y system o adroddiadau cynnydd bob chwe mis a roddwyd ar waith sawl blwyddyn yn ôl.
Yn sicr, rwyf wedi bod yn y swydd ers wyth mis ac ni allaf gofio cyflwyno un, felly fe edrychaf ar hynny, ac os yw’n briodol, byddaf yn gwneud datganiad, ac os nad yw’n briodol, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Ysgrifennydd Cabinet, fe fyddwch chi’n ymwybodol o’r gwaharddiadau sy’n deillio o ffliw adar ar hyn o bryd yng Nghrymu. Os yw’r gwaharddiadau yma’n para tan ddiwedd mis Chwefror, bydd 90 y cant o gynhyrchwyr wyau yng Nghymru yn colli eu statws wyau buarth neu wyau maes—beth bynnag sydd orau gyda chi—a byddwn ni felly wedi mynd heibio i’r cyfnod lle caniateir i ieir gael eu cadw o dan do. Byddwn ni’n colli statws sydd yn hynod bwysig i gwsmeriaid ac i gynhyrchwyr wyau yng Nghymru. A ydych chi’n cael trafodaethau ar hyn o bryd, drwy Lywodraeth San Steffan, gyda phartneriaid Ewropeaidd ynglŷn ag estyn y cyfnod yma neu ynglŷn ag amrywio’r gwaharddiadau?
Bydd y mesurau rhagofalus yn parhau ar waith tan 28 Chwefror. Rydych yn llygad eich lle—mae 85 y cant o gynnyrch wyau Cymru yn wyau maes. Cyfarfûm y bore yma gyda’r prif swyddog milfeddygol, ac ydy, mae’n trafod â’r gweinyddiaethau eraill. Gwn ei bod wedi cael trafodaethau ddoe gyda swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a’r bore yma hefyd, gan fod wyth achos o ffliw adar wedi bod yn y DU bellach. Credaf mai ddydd Llun y cafwyd y diwethaf, felly mae’n amlwg ei fod yn dal yn fater byw iawn. Felly, mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt.
Rwy’n falch bod trafodaethau wedi dechrau, achos, os yw’r gwaharddiadau presennol yn estyn y tu hwnt i fis Chwefror, fe fyddwn ni’n colli’r statws wyau buarth yna. Fel rŷch chi newydd ei gadarnhau, mae 89 y cant o wyau yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu o dan y statws yna. Mae hwn yn cymharu â 44 y cant drwy Brydain yn gyffredinol. Felly, rydym ni yng Nghymru yn arbenigo mewn wyau buarth ac mae’n bwysig iawn i gynhyrchwyr ein hwyau ni.
Mae arweinwyr yr undebau amaethyddol ar lefel Ewropeaidd wedi gofyn am estyn y cyfnod 12-wythnos. Mae hefyd yn wir i ddweud bod y gwaharddiadau sydd gyda chi, fel Ysgrifennydd Cabinet yng Nghymru, yn rhai rŷch chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi mewn sefyllfa o gwbl i roi amlinelliad i’r Cynulliad heddiw ar a ydych chi am barhau â’r gwaharddiadau heibio diwedd y mis bach neu a ydych mewn sefyllfa i osod camau eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys bioddiogelwch uchel, er mwyn cadw statws wyau buarth?
Nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd mewn gwirionedd i roi penderfyniad i chi ynglŷn ag ymestyn y tu hwnt i 28 Chwefror. Fel y dywedais, cyfarfûm â’r prif swyddog milfeddygol y bore yma a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf, yn dilyn ei thrafodaethau gyda’i chydweithwyr. Credaf fod angen inni edrych ar sicrhau cydbwysedd. Ni allwn gadw’r adar dan do am byth. Fodd bynnag, soniais ein bod newydd gael ein hwythfed achos yn y DU ddydd Llun, felly mae’n ymwneud â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Ond rydym yn gweithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r gweinyddiaethau datganoledig ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael cyngor arbenigol hefyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n derbyn, wrth gwrs, fod hon yn sefyllfa gyfnewidiol. Ni chredaf ein bod wedi cael unrhyw achosion newydd yng Nghymru eleni, ond nid yw hynny’n gyfystyr â dweud na chawn achos arall. Fodd bynnag, mae yna broblem wirioneddol yma, oherwydd os bydd wyau’n colli statws maes ddiwedd mis Chwefror, a bod yn onest ni fydd y cwsmeriaid yn gwybod beth y maent yn ei brynu. Gyda’r hyn y bu Cyngor Diwydiant Wyau Prydain yn ei drafod, er enghraifft, am y deunydd mewn archfarchnadoedd, gwybodaeth ac yn y blaen, credaf y byddwn yn colli peth o’r hyder sydd gan gwsmeriaid mewn wyau maes—sy’n bwysig iawn yn y cyd-destun Cymreig—a bydd dryswch ynglŷn â beth sy’n gynnyrch maes ai peidio. Rydym wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda chwsmeriaid i’w perswadio ynglŷn â materion lles anifeiliaid mewn perthynas ag wyau maes ac mae pobl wedi dod gyda ni ac maent yn barod i dalu mwy, sydd wedi golygu mwy o fuddsoddiad yn y diwydiant yng Nghymru yn ei dro. Felly, os yw hyn yn parhau ar ôl 28 Chwefror, pa gamau yr ydych yn eu cymryd eisoes gydag archfarchnadoedd a chyflenwyr wyau yng Nghymru i sicrhau bod y cwsmer yn deall y rhesymau llawn dros y fath newid yn nynodiad yr wyau y maent yn eu prynu, ac i sicrhau y gallwn gael y math o sticeri a gwybodaeth a fydd yn mynd ar yr wyau a werthir yng Nghymru wedi’u gwneud yn barod, er mwyn i bobl allu deall y sefyllfa’n iawn?
Diolch. Mae Simon Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn. Pan gefais fy mhortffolio a gweld bod 89 y cant o’n cynhyrchiant wyau yn gynnyrch maes, fe feddyliais, ‘Oni fyddai’n wych pe bai’r ffigur yn 100 y cant?’ Ond yn amlwg, allan o’r awyr las, mae rhywbeth fel hyn yn cwympo arnoch. Mae’r diwydiant wyau maes eisoes wedi cysylltu â mi i ofyn am gyfarfod; rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â hwy. Gwyddom am y gost sylweddol a fyddai’n deillio o hyn o ran eu deunydd pacio ac yn y blaen, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i’w helpu. Mae hefyd yn dangos, pan gafodd y mesurau rhagofalus eu rhoi ar waith, mai aros oedd y peth iawn i’w wneud. Yn amlwg, mae ffliw adar wedi dod i ben yn Ewrop. Ni weithredwyd yn rhy gynnar oherwydd y cyfnod hwnnw o 12 wythnos pan na allem wneud dim heblaw cadw’r adar dan do. Fel y dywedais, ni allwn eu cadw dan do am byth; mae angen i ni edrych ar hyn yn ofalus iawn. Ond mae’r sefyllfa’n gyfnewidiol a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i ni fynd drwy fis Chwefror.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa bryd y rhagwelwch y bydd grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig yn cyhoeddi ei adroddiad ar wella rheoli?
Erbyn yr haf.
Diolch am yr ateb cryno iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Roedd yn—[Anghlywadwy.] Y gwaith olaf a wnaed—. Fe’i comisiynwyd gennych, neu fe’i comisiynwyd gan eich rhagflaenydd, ym mis Mawrth 2014, felly buasai wedi cymryd ychydig dros dair blynedd iddynt i’w gwblhau, gwaetha’r modd. Gwnaed y gwaith mawr diwethaf gan ragflaenydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, a dywedodd hwnnw fod diffyg rheolaeth effeithiol yn yr ardaloedd morol gwarchodedig pwysig hyn, ond dywedodd yr adroddiad hwnnw hefyd fod angen arweiniad ar lefel uchel gan Lywodraeth Cymru, gan fod blaenoriaeth isel iawn i’r maes hwn ar draws yr awdurdodau ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno?
Na, ni chredaf fod y flaenoriaeth yn isel ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun a strategaeth. Yn fy ateb i Neil Hamilton ynglŷn â’r ymgynghoriad ar gynllun morol cenedlaethol Cymru soniais hefyd fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hadnoddau naturiol morol. Mae’n flaenoriaeth i mi. Mae’n gymhleth iawn, mae’n rhan gymhleth iawn o’r portffolio, ond byddwn yn cyflwyno’r gwaith hwnnw eleni.
A dylai fod yn flaenoriaeth, a chredaf y bydd yn dawelwch meddwl i bawb ohonom pan fyddwch yn cyflawni hynny. Mae llawer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn credu bod angen ymagwedd fwy gofodol ar ardaloedd morol gwarchodedig yn hytrach na’u bod yn benodol i rywogaethau neu gynefinoedd. Yn ychwanegol at hynny, roedd llawer yn dadlau hefyd dros ardaloedd lle na chaniateir echdynnu. A yw’n debygol mai dyma fydd y cyfeiriad polisi?
Credaf y bydd yn rhaid i’r Aelod aros am y polisi pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Lles Anifeiliaid
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid ledled Cymru? OAQ(5)0087(ERA)
Diolch. Mae ‘Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid—Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd’ yn esbonio ein hymagwedd at gyflawni gwelliannau parhaus a pharhaol mewn safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Mae cynllun gweithredu 2016-17 yn nodi’r camau penodol y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod hwn o 12 mis.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig a ofynnais, gwnaethoch yn glir nad ydych wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i’ch cymheiriaid gweinidogol ar draws y DU ynghylch y posibilrwydd o gofrestr cam-drin anifeiliaid, ac rydych hefyd wedi cadarnhau nad oes gennych unrhyw fwriad i godi’r mater o gynyddu cosbau ar gyfer troseddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid ar hyn o bryd. O ystyried y byddwch yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yfory, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a allwch gadarnhau y byddwch yn awr yn dwyn y materion hyn i sylw Llywodraeth y DU, ac ar ôl y cyfarfod hwnnw, a wnewch chi hefyd gyhoeddi datganiad yn amlinellu agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid drwy gydol y pumed Cynulliad?
Mewn perthynas â’r gofrestr cam-drin anifeiliaid, cyflwynodd Bethan Jenkins ddadl fer ar y mater ac rwyf wedi ymrwymo i edrych yn ofalus iawn ar y posibilrwydd o gael cofrestr o’r fath. Ni chredaf fod angen i mi gael trafodaethau gyda fy nghymheiriaid ar draws y DU mewn perthynas â hynny.
Byddaf yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol yfory. Fe’i gwahoddais i Gaerdydd i fynychu digwyddiad i randdeiliaid gyda mi mewn perthynas â thrafodaethau Brexit. Felly, nid wyf yn addo y byddaf yn dwyn y mater hwn i’w sylw, ond byddaf yn sicr yn edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych.
Nid wyf am gamddehongli’r hyn sydd wedi cael ei ddweud, ond credaf eich bod wedi dweud wrthyf mewn ymateb blaenorol eich bod am fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr ac effeithiol, ac rydych wedi dweud eich bod am edrych ar yr hyn yr oedd y DU yn ei wneud er mwyn gallu pwyso a mesur yr hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru, fel nad ydym yn dyblygu gwaith neu’n rhoi cofrestr ar waith yn ddiangen. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oes trafodaeth o’r fath wedi bod. Rydych hefyd wedi dweud wrthyf y byddwch yn cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain y mis hwn a thybed a yw hynny wedi digwydd, er mwyn inni gael syniad a fuasech yn ystyried edrych ymhellach ar hyn ai peidio.
Rwy’n parhau i edrych ar hyn, yn eithaf trylwyr mewn gwirionedd. Cefais gyflwyniad da iawn gan filfeddyg o’r Alban ynglŷn â gwaith yn y maes hwn, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r cyflwyniad, gan fy mod yn credu y buasai’n fuddiol iawn i chi ac i unrhyw Aelod arall sy’n dymuno ei weld. Felly, mae’r gwaith yn parhau a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau maes o law.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn ystyried bod problem gudd yng Nghymru o ran mwncïod a phrimatiaid eraill. Credant fod oddeutu 120 yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, a bod rhai ohonynt o leiaf yn dioddef yn ddiangen o ganlyniad i ddiffyg gofal a’r ffaith nad ydynt yn addas i gael eu cadw fel anifeiliaid domestig. Mewn gwirionedd, mae’r RSPCA yn galw am waharddiad llwyr ar gadw mwncïod a phrimatiaid eraill fel anifeiliaid anwes yng Nghymru. A wnewch chi ystyried yr achos dros waharddiad o’r fath?
Gwnaf, yn sicr. Rwy’n ymwybodol o ymgyrch yr RSPCA ac rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol gael golwg arni i mi.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) yn 2014, i reoleiddio’r diwydiant cŵn bach yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi ei hasesiad o effeithiolrwydd neu aneffeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, a faint o arian, yn arbennig, sydd wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn hwyluso’r gwaith o orfodi’r ddeddfwriaeth honno?
Gwnaf. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad y byddwn yn adolygu’r ddeddfwriaeth honno, gan fod angen i mi sicrhau mai’r ddeddfwriaeth honno yw’r un fwyaf priodol, a bydd y gwaith hwnnw’n dechrau yn y gwanwyn eleni.
Bioamrywiaeth mewn Amgylcheddau Morol
5. Pa bolisïau sydd ar waith i gynyddu bioamrywiaeth mewn amgylcheddau morol? OAQ(5)0090(ERA)
Diolch. Rwy’n cydnabod gwerth cynnal a gwella bioamrywiaeth forol ac adeiladu cydnerthedd ein hamgylchedd morol. Mae cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol yn ei gwneud yn ofynnol inni sicrhau bod ein moroedd mewn cyflwr amgylcheddol da. Mae’n nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i ddiogelu, cynnal ac adfer yr amgylchedd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol ac mae hynny’n ein hymrwymo i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020, ac yna i ddechrau gwrthdroi’r dirywiad hwnnw. Darllenais yn ddiweddar am y gostyngiad yn nifer y sewin yn afonydd a moroedd Cymru. Maent yn nodwedd o Gymru mewn sawl ffordd—sewin. Maent yn ein hatgoffa pa mor wyliadwrus y mae angen i ni fod yn y maes hwn ac yn sicrhau ein bod yn bodloni’r targedau hyn ac yn rhagori arnynt.
Cytunaf yn llwyr â’r Aelod, ac rwyf wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau bod Cymru’n cwblhau ei chyfraniad i rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig cydgysylltiedig yn ecolegol a reolir yn effeithiol. Fe fyddwch yn gwybod am yr asesiad o’r rhwydwaith a gyflawnwyd gennym y llynedd, a ddangosodd fod Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at rwydwaith y DU, er enghraifft. Mae gennym 128 o ardaloedd morol gwarchodedig yn nyfroedd Cymru, ond rydym yn gweithio i sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei reoli’n effeithiol, fel ei fod yn parhau i gyfrannu at y broses o warchod a gwella ein hardal.
Mi es i ar ymweliad ddydd Llun â Chemlyn, sef eiddo arfordirol hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar arfordir gogledd Môn. Mae o’n safle pwysig iawn o ran bioamrywiaeth, yn cynnwys cyfran sylweddol o boblogaeth byd y môr-wennol bigddu, neu’r ‘sandwich tern’, ac mae’n un o’r gwarchodfeydd natur hynaf ym Mhrydain, yn deillio’n ôl bron i ganrif. Mae unrhyw un sy’n adnabod Cemlyn yn gwybod ei fod yng nghysgod Wylfa. A ydy’r Gweinidog, felly, yn cytuno â fi y dylai datblygwyr Wylfa Newydd fod yn rhagweithiol, a chymryd pob cyfle posib i gefnogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei hymdrechion i ddiogelu a datblygu’r safle sensitif yma ar gyfer cenedlaethau y dyfodol?
Ydw, yn sicr. Mae’n safle pwysig iawn, a chytunaf yn llwyr â’r Aelod.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyn cyfarfod â chi y bore yma, dechreuodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda sesiwn ar yr ymchwiliad morol yr ydym yn ei roi ar waith. Cafodd yr aelodau eu synnu gan gymhlethdod y ddeddfwriaeth yn y maes, y cyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd, yr amrywiaeth eang o wahanol ardaloedd gwarchodedig a’r rheolau sy’n gysylltiedig â hwy. Gydag ymestyn cyfrifoldeb Cymru y tu hwnt i’r terfyn 12 milltir, gan fynd â’r ardal honno oddi wrth Lywodraeth y DU, a chyda Brexit, tybed a fydd lle i resymoli’r system gydag un sy’n fwy seiliedig ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a hybu’r nod o gynyddu bioamrywiaeth yn ein hamgylchedd morol?
Bydd, yn sicr. Credaf fod hynny’n un o’r cyfleoedd, yn hytrach na’r risgiau a’r heriau, ac rydych yn llygad eich lle. Soniodd David Melding am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae gennym gyfarwyddebau natur yr UE. Mae gennym ein cyfarwyddebau ein hunain, fel y dywedwch, ac mae gennym ein deddfwriaeth ein hunain ar waith bellach, yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly credaf fod hynny’n bosibl.
Dyfroedd Mewndirol Cymru
6. Pryd y bydd mynediad at ddyfroedd mewndirol Cymru yn ôl ar agenda Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0094(ERA)
Diolch. Nid yw mynediad at ddyfroedd erioed wedi bod oddi ar ein hagenda. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran cyfleoedd i bobl fwynhau’r awyr agored. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fynediad at yr awyr agored, ac rwy’n bwriadu nodi fy null o weithredu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, a hoffwn gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn i gynyddu hygyrchedd cefn gwlad dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r cynnydd hwn wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ddefnydd o dir yn hytrach nag ar fynediad at ddyfroedd. Mae oddeutu naw mlynedd wedi bod ers i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd gyhoeddi adroddiad mewn ymateb i ddeiseb o 10,000 o lofnodion gan y Pwyllgor Deisebau. Ymysg pethau eraill, roedd eu hadroddiad yn datgan fod y sefyllfa mewn perthynas â mynediad at ddyfroedd yn anghynaladwy a bod angen deddfwriaeth newydd. Nawr, fe fyddwch yn gwybod am Dyfroedd Cymru. Cymuned o ymgyrchwyr annibynnol ydynt sy’n cynrychioli nofwyr, defnyddwyr cychod, cerddwyr a phartïon eraill â diddordeb, ac maent yn galw am ddeddfwriaeth a fuasai’n ymgorffori hawliau i fynediad cyfrifol at ddyfrffyrdd mewndirol ledled Cymru. Rwy’n cydnabod, fel y soniodd fy nghyd-Aelod mewn perthynas â’r amgylchedd morol, y buasai’n rhaid i chi ymdrin â mater cymhleth iawn, ond onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, ar ôl naw mlynedd, ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r mater hwn, yn enwedig o ystyried y buasai hawliau o’r fath yn effeithio’n gadarnhaol ar y fasnach dwristiaeth, ac yn gymorth mawr hefyd o ran amcanion y Ddeddf iechyd a lles?
Wel, roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn ôl yn 2009; credaf mai yn 2010 y cawsom ein hymchwiliad i fynediad at ddyfroedd mewndirol mewn gwirionedd. A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud hyd yma mewn gwirionedd yw dilyn argymhellion adroddiad y pwyllgor. Ond rydym wedi cael adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar fynediad i’r awyr agored, ac rydym wedi cael ymgynghoriad cyhoeddus i ddilyn hynny y cyfeiriais ato yn fy ateb cychwynnol i chi, ymgynghoriad sydd wedi cynnwys llawer o randdeiliaid. Cawsom weithdy a edrychodd yn benodol ar fynediad at ddyfroedd mewndirol. Fel y dywedaf, byddaf yn gwneud datganiad dros yr wythnosau nesaf mewn perthynas â hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb a’ch awgrym y byddwch yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir. Yn amlwg, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyrdd, mynegwyd pryderon mawr gan bysgotwyr ynglŷn â’r effaith y buasai’n ei chael ar stociau pysgota ac amseroedd bridio. Ac efallai mai mater mynediad ‘cyfrifol’ yw’r gair pwysig. Cyfarfûm â fy nghymdeithas bysgotwyr leol nos Wener diwethaf, ac maent yn dal i fod yn bryderus ynglŷn ag amseroedd mynediad er mwyn sicrhau na fydd unrhyw darfu ar y pysgod pan fyddant yn bridio. A wnewch chi sicrhau felly mai’r broses wirfoddol a nodwyd gennych yw’r ffordd orau efallai o sicrhau perthynas dda rhwng y pysgotwyr a’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r afonydd, er mwyn i bawb allu cael budd o’r dyfrffyrdd mewndirol?
Gwnaf, yn sicr. Credaf ei fod yn fater emosiynol iawn. Pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd, rwy’n cofio bod fy mag post yn llawn o lythyrau gan bysgotwyr a chanŵ-wyr, ac mae pethau’r un fath yn union fel Gweinidog. Mae’n fater hynod o emosiynol. Mae’n ymwneud, rwy’n credu, ag ystyried nid yn unig pysgotwyr, nid yn unig canŵ-wyr—mae’n ymwneud â cherddwyr, mae’n ymwneud â nofwyr, mae’n ymwneud â cherddwyr ceunentydd; rwyf wedi cael gohebiaeth gan bobl sy’n mwynhau cerdded ceunentydd. Felly, credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae’n ymwneud ag edrych ar y manteision ychwanegol hefyd—y manteision i iechyd a lles—ac unwaith eto, credaf ein bod wedi gweld hynny gyda llwybr yr arfordir, er enghraifft, felly mae angen hynny arnom gyda’n mynediad at ein dyfroedd mewndirol hefyd.
Mi ydw innau o’r un farn mai cytundebau gwirfoddol yw’r ffordd orau i symud ymlaen, ond, wrth gwrs, mae rhywun yn cydnabod bod cael y cytundeb yna yn anodd iawn ar adegau. Pa ystyriaeth felly mae’r Llywodraeth wedi ei rhoi i benodi cymodwr neu gymodwyr penodol mewn sefyllfa o’r fath—efallai rôl y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu ei chwarae—er mwyn sicrhau ein bod ni yn dod i gytundeb gwirfoddol a fyddai wedyn, wrth gwrs, gobeithio, yn llawer mwy llwyddiannus?
Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried. Mae’n debyg mai mynediad at ddyfroedd yw’r mater mwyaf dadleuol i ddeillio o’r ymgynghoriad. Mae’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y cytundebau mynediad gwirfoddol presennol—. Oddeutu 4.6 y cant yn unig o gyfanswm hyd prif afonydd Cymru sydd ar gael ar gyfer canŵio a cheufadu, felly mae angen i ni edrych ar hynny. Rydych yn llygad eich lle; pe bai angen cyfryngu, Cyfoeth Naturiol Cymru fuasai’r corff mwyaf addas i wneud hynny, ond rwy’n ystyried yr holl ymatebion, a byddaf yn cyhoeddi datganiad.
Hawliau Pori ar Dir Comin
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hawliau pori ar dir comin? OAQ(5)0099(ERA)
Diolch. Mae tir comin a reolir yn dda yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i bobl Cymru. Mae hawliau pori yn rhan bwysig o’r drefn reoli ar dir comin. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006, sydd mewn grym yma ar hyn o bryd, yn darparu proses sefydledig ar gyfer sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod.
Dywed swyddogion cynllunio o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrthyf mai mater preifat i’r partïon â diddordeb yw anghydfodau dros hawliau pori. Mae’r awdurdod lleol yn cadw cofrestr o dir comin a meysydd pentref, ond nid oes ganddo bwerau statudol i warchod neu orfodi hawl unigolyn i bori anifeiliaid ar dir comin, yn ôl yr hyn a ddywedant wrthyf. Dywed yr awdurdod lleol y dylid datrys unrhyw anghydfodau o’r fath drwy gyngor cyfreithiol.
Rwyf wedi bod yn gweithio ar achos un o fy etholwyr ac un o etholwyr Andrew R.T. Davies, yn yr ardal honno, ill dau’n ffermwyr, sy’n dymuno pori anifeiliaid ar dir comin ond yn wynebu rhwystrau go anodd rhag gwneud hynny. Gall ceisio cyngor cyfreithiol fod yn gostus a chymryd llawer o amser, ac yn rhwystr—yn rhwystr pur—i nifer ohonynt. A all Ysgrifennydd y Cabinet, felly, sicrhau bod y canllawiau’n glir, er mwyn lleihau’r angen i roi camau cyfreithiol ar waith, ac os oes angen, a allai benderfynu tybed a fyddai’n briodol diweddaru’r cyngor cyfredol mewn perthynas â’r mater hwn?
Gallaf, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny. Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn, a buaswn yn fwy na pharod i edrych ar hynny hefyd i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud. Ond byddaf yn edrych ar y canllawiau, ac os oes angen eu diweddaru, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ategu sylwadau Hefin? Mae’r ddau ohonom wedi bod yn ymdrin â mater penodol mewn perthynas â chomin Eglwysilan, ond mewn sawl rhan o Gymru, ceir darnau enfawr o dir lle y mae hawliau wedi cronni dros nifer o flynyddoedd—dros nifer o ganrifoedd mewn gwirionedd. Wrth i bwysau gynyddu, yn enwedig pwysau trefol ar diroedd comin trefol, mae yna broblemau go iawn bellach ynglŷn â’r hyn oedd yn ddefnydd traddodiadol o’r tiroedd comin gan ffermwyr a phorwyr yn yr ardal. Gyda newid teitl arglwydd y faenor, mae pobl yn ceisio arfer hawliau nad oes ganddynt er eu bod yn berchen ar deitl arglwydd y faenor. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad i ddangos pa lefelau o gefnogaeth sydd yno i amddiffyn hawliau sydd wedi cronni dros sawl blwyddyn, ac i warchod defnydd traddodiadol o’r tiroedd comin hyn fel y gellir parhau i’w mwynhau, nid yn unig gan borwyr, ond gan y bobl sy’n byw yn agos iawn atynt, ac fel bod modd rhoi’r bygythiadau a wnaed yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf i’r naill ochr.
Mae fy swyddogion yn gwneud gwaith sylweddol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r Ddeddf Tiroedd Comin, felly byddaf yn sicr yn edrych ar y pwynt penodol hwnnw, ac os yw’n briodol, byddaf yn cyhoeddi datganiad.
Datblygiad Fferm Wynt Mynydd y Gwair
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygiad fferm wynt Mynydd y Gwair? OAQ(5)0096(ERA)
Fferm wynt fasnachol yn ardal chwilio strategol E yw datblygiad Mynydd y Gwair. Mae wedi cael pob caniatâd angenrheidiol a deallaf y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau y mis nesaf. Bydd y datblygwr yn buddsoddi £50 miliwn ac yn darparu cyflogaeth yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynhyrchu digon o ynni glân i bweru hyd at 22,600 o gartrefi.
Diolch am yr ateb yna. Mi fydd Aelodau yn ymwybodol bod y cais i ddatblygu fferm wynt ar dir sy’n eiddo i’r Dug Beaufort ar Fynydd y Gwair ger Felindre, Abertawe, wedi bod yn un sydd wedi rhygnu ymlaen dros 20 mlynedd ac wedi creu gwrthwynebiad cryf yn lleol. Mae’r saga ddiweddaraf, yn ogystal â beth rydych chi wedi’i ddweud yn fanna, yn ymwneud â’r mynediad i’r safle o’r A48 ym Mhontarddulais. Ynglŷn â’r safbwynt yna yn benodol, a allwch chi roi diweddariad i’r Siambr ynglŷn â’r trafodaethau diweddaraf yr ydych wedi’u cael gyda’r datblygwyr, a sut a phryd a ydych chi’n disgwyl i’r sefyllfa bresennol gael ei datrys?
Wel, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r datblygwr. Byddaf yn holi fy swyddogion a ydynt wedi gwneud hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Mae digonedd o wrthwynebiad o hyd i Fynydd y Gwair, ac mae trigolion lleol yn pryderu hefyd ynglŷn â’r effaith bosibl ar boblogaeth ystlumod yn lleol. Tynnaf sylw at hyn fel hyrwyddwr yr ystlum pedol lleiaf yn y Cynulliad. Mae’r trigolion yn nodi adroddiad diweddar prifysgol Caerwysg ar farwolaethau ystlumod o ganlyniad i’r ffaith fod y llafnau’n tarfu ar sonar ac ar botensial clwydydd ger y trac mynediad arfaethedig i’r safle. Mae ecolegydd cymwysedig y cwmni yn fodlon nad yw’r clwydydd ystlumod y daethant o hyd iddynt wedi’u lleoli mewn coed y bwriedir eu cwympo, er bod arbenigwr cymwysedig arall wedi cynghori bod clwydydd wedi cael eu darganfod mewn coeden arall sydd i fod i gael ei chwympo. Gan ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o ddryswch ynglŷn â pha goed a pha glwydydd y mae pawb yn siarad amdanynt, a ydych yn credu y dylid sicrhau rhywfaint o eglurder cyn cwympo unrhyw goed?
Yn sicr, credaf fod angen i ni edrych ar y mater, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod.
Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol? OAQ(5)0095(ERA)
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes llwyddiannus o gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 11 o gynlluniau wedi eu sefydlu ac ar waith, ac yn darparu budd i’r ardal leol, ac mae pump arall wrthi’n cael eu datblygu.
Diolch yn fawr unwaith eto, Ysgrifennydd, am yr ateb yna. Yn wahanol iawn i’r cynllun ar Fynydd y Gwair, mae ymateb y trigolion lleol ger fferm wynt Awel Aman Tawe wedi bod yn bositif iawn, yn rhannol oherwydd maint y fferm, wrth gwrs, ond, yn ei hanfod, oherwydd bod y gymuned leol yn elwa’n uniongyrchol ohoni. Felly, a ydych chi’n cytuno bod yna wersi gan Lywodraeth Cymru i’w dysgu yn fan hyn yn nhermau’r angen i gefnogi cymunedau lleol sydd am weld ynni adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu, a beth yw eich cynlluniau chi yn y maes yna?
Rwy’n fwy na pharod i gefnogi cynlluniau ynni lleol. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, gan fy mod wedi agor cynllun ynni dŵr bychan ym Merthyr Tudful, ymwelais â’r un y cyfeiriwch ato, a soniais yn fy ateb cychwynnol i chi fod gennym 11 o gynlluniau ar waith o ganlyniad i waith y gymuned leol. Credaf fod yna rai pobl ddygn iawn sy’n teimlo’n hynod o angerddol ynglŷn â hyn. Mae’n broses hir, ac maent yn hollol benderfynol o weld ei diwedd. Mae pump arall yn cael eu datblygu gennym, ac rwy’n fwy na pharod i sicrhau bod y cyllid ar gael i gefnogi’r ardaloedd hynny.
Mae llawer ohonom yn y Siambr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn pryderu ynglŷn â sicrhau cadwyni cyflenwi economaidd byrrach yng Nghymru i gynnal economïau lleol, ac mae cynhyrchu ynni lleol yn un sector allweddol ar gyfer y gwaith hwnnw. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog cynhyrchu ynni trefol yng Nghymru?
Credaf fod yna gyfleoedd gwych i allu gwneud arbedion yn y meysydd yr ydych wedi’u trafod. Rwyf wedi annog pob corff cyhoeddus yng Nghymru i wneud y gorau o’r cyfle, ac yn sicr, bydd ein menter twf gwyrdd Cymru yn helpu i gyflawni’r prosiectau hyn drwy ddarparu nifer o wasanaethau, a chyllid sylweddol hefyd.
Fodd bynnag, gwelir un o’r tagfeydd sy’n digwydd yn y maes hwn, Weinidog, o fewn y cynghorau lleol sy’n gorfod rhoi caniatâd i’r gwahanol gynlluniau a gyflwynir. A ydych yn credu bod cynghorau lleol yn ddigon gwybodus ynglŷn â manteision cynlluniau cymunedol lleol, ac mewn gwirionedd, yn ddigon gwybodus ynglŷn â’r ffordd orau o’u hyrwyddo, boed hynny’n ynni gwynt, yn ynni afonydd, neu beth bynnag y bo? A oes angen i ni gael trafodaethau pellach neu a oes angen i chi gael trafodaethau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ynglŷn â sut y gallem hybu’r broses o gael gwared ar y tagfeydd ledled Cymru, fel y gallwn sicrhau bod mwy o’r cynlluniau hyn ar waith?
Mae’n bwysig iawn fod gan yr awdurdodau lleol yr arbenigedd hwnnw’n fewnol, neu os nad oes, gallant gydweithio ag awdurdod lleol cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn ei gael. Ni chredaf ein bod yn dymuno gweld tagfeydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cynlluniau hyn yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Soniais yn fy ateb i Dai Lloyd fod rhai o’r bobl y cyfarfûm â hwy sydd wedi cyflwyno’r cynlluniau lleol hyn yn ddygn iawn, am fod rhaid iddynt fod. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod cael gwared ar y tagfeydd hyn.
Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd mannau gwyrdd a pharciau yng Nghymru? OAQ(5)0086(ERA)
Diolch. Mae argaeledd mannau gwyrdd a pharciau o safon yn bwysig i iechyd a lles pobl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Dylai pawb gael mynediad at fannau gwyrdd o safon yn agos at eu cartrefi.
Diolch. Roeddwn ar ben fy nigon pan enwyd Parc Pont-y-pŵl yn barc gorau Cymru ar gyfer 2016, yn dilyn pleidlais gyhoeddus gan elusen Meysydd Chwarae Cymru tuag at ddiwedd y llynedd. Hefyd, cafodd y parc ei gynnwys ar restr fer o blith 214 o geisiadau am wobr parc gorau’r DU, gan golli o drwch blewyn i Barc Glen Rouken yn yr Alban. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono ym Mhont-y-pŵl, ac mae’r parc ei hun yn unigryw. Sawl parc yng Nghymru, neu ledled y DU, a all ddweud eu bod yn cynnwys pyllau, gerddi Eidalaidd, maes chwarae, groto cragen a ffug-gastell hanesyddol, clwb rygbi Pont-y-pŵl, canolfan hamdden a hyd yn oed llethr sgïo? A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Parc Pont-y-pŵl, yn ogystal â thalu teyrnged i holl waith caled ac ymroddiad cyfeillion Parc Pont-y-pŵl sy’n rhoi eu hamser i sicrhau bod y parc yn cael ei gadw’n lân ac yn daclus er mwyn i bawb ei fwynhau?
Wel, gobeithiaf mai cwestiwn rhethregol oedd hwnnw ac nad oeddech yn gofyn i mi roi ffigur i chi. Ydw, rwy’n fwy na pharod i longyfarch Parc Pont-y-pŵl. Efallai yr hoffai’r Aelod fy ngwahodd ar ymweliad.
Mae’n debyg, mewn gwirionedd, fod pawb â hawl i fannau gwyrdd ac yn eu haeddu, heblaw am orllewin y brifddinas. A allwch gyfiawnhau’r fandaliaeth amgylcheddol a dinistrio coetiroedd hynafol a chaeau sy’n digwydd yng ngorllewin Caerdydd? A allwch chi gyfiawnhau hynny os gwelwch yn dda?
Wel, na; ni fuaswn yn gallu cyfiawnhau hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Mannau Agored wedi galw ar awdurdodau lleol a datblygwyr i sicrhau mai 2017 yw blwyddyn maes y pentref. Maent yn annog datblygwyr i gynnwys meysydd pentref cofrestredig ar eu safleoedd, er mwyn sicrhau lle gwyrdd gwarantedig i bobl leol ar gyfer gweithgareddau hamdden. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i drafod y mater hwn gyda’i chyd-Aelod yn y Cabinet i weld beth y gellir ei wneud i gynyddu nifer y meysydd pentref yng Nghymru?
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i drafod gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet os yw hynny’n briodol.
Gorsaf Bŵer Aberddawan
11. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan ers 1 Ionawr 2017? OAQ(5)0089(ERA) [W]
Diolch. Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Aberddawan, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ostwng y terfyn uchaf ar gyfer allyriadau ocsidau nitrogen yn nhrwydded amgylcheddol Aberddawan, yn unol â dyfarniad y llys. Bydd yn rhaid i Aberddawan gydymffurfio â’r terfyn diwygiedig wedyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro’r cynnydd a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE tuag at sicrhau cydymffurfiaeth.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, er nad oedd yn egluro’n benodol pa drafodaethau y mae hi wedi eu cael. Ond o fewn yr awr ddiwethaf, credaf fod holl Aelodau’r Cynulliad wedi cael llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas ag Aberddawan. Nodaf, o’r llythyr hwnnw, nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ysgrifennu at RWE, sy’n gweithredu’r gwaith hwn, tan 6 Ionawr eleni, er bod yr achos llys wedi’i gynnal fis Medi diwethaf. Ni wnaethant ysgrifennu i ofyn ynglŷn ag amrywiadau i’r drwydded tan 6 Ionawr—fel y mae’n digwydd, ar ôl i mi gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn gofyn beth yn y byd oedd yn digwydd. Mae angen i reoliad y drwydded leihau allyriadau nitrogen ocsid Aberddawan islaw’r terfyn uchaf o 500 mg/cu, a gafodd ei gynnwys gan ddyfarniad y llys. Maent yn parhau—yn ôl eich llythyr at Aelodau’r Cynulliad—i dorri’r rheoliad bedwar mis ar ôl dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop. Rydych yn dweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am drwyddedu hyn, ond mae’n amlwg nad ydynt wedi trafferthu gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hyn yn adlewyrchu’n wael iawn arnom ni fel cenedl ac arnoch chi fel Llywodraeth.
Dosbarthwyd y llythyr i Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai David Melding a wnaeth gais i’r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fel y dywedodd Simon Thomas, roedd yn nodi’r terfynau drwyddo draw. Bu gostyngiad, ond rydych yn gywir fod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod Aberddawan yn gallu gweithredu o dan y terfyn uchaf o 500 mg /cu m ar allyriadau. Bu cryn dipyn o drafodaethau rhwng fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fonitro’r sefyllfa’n ofalus.
Y peth hanfodol yma, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd yr orsaf bŵer yn awr yn parhau i gynhyrchu ynni yn y tymor canolig i ddiwallu’r galw brig. Felly, mae’n rhan o’r seilwaith cynhyrchu pŵer a rhaid i bobl gael sicrwydd bod y safonau uchel hyn—neu safonau uwch, beth bynnag—yn cael eu dilyn fel mater o drefn ac nad ydynt ond yn dod i sylw’r cyhoedd yn sydyn pan fo Aelodau penodol o’r Cynulliad yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru.
Cytunaf yn llwyr, ac rwyf am sicrhau’r Aelodau fy mod wedi bod yn cael trafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â RWE, rwyf wedi cyfarfod ag Aberddawan, rwyf wedi cyfarfod â fy nghyd-Aelod, Jane Hutt mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi sicrhau bod swyddogion yn monitro’r sefyllfa’n ofalus iawn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian.
Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y rhaglen 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0104(CC)[W]
Diolch i’r Aelod dros Arfon am ei chwestiwn. Mae’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi llwyddo i ddarparu cymorth a buddsoddiad mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae rhaglen adfywio cyfalaf o dan ystyriaeth ar gyfer y dyfodol a byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth i’r Aelodau’n fuan.
Diolch. A fedrwch chi gadarnhau a ydy’r cynllun presennol yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth? Beth fyddai’n digwydd ar ôl hynny? A fydd y rhaglen yn parhau fel ag y mae o, neu a fydd o’n dod yn rhan o rywbeth mwy? Beth fydd y canllawiau, a beth yw’r amserlen efo hynny? Mae awdurdodau lleol yn awyddus i gael y manylion cyn gynted â phosib er mwyn cynllunio ymlaen. Yn wir, mae yna ansicrwydd a diffyg eglurder cyffredinol yn y maes adfywio. A ydych chi’n cytuno nad ydy’r weledigaeth yn glir ar hyn o bryd? Ac os mai’r bwriad ydy lleihau tlodi, a fydd y rhaglenni newydd yn gosod deilliannau clir, pwrpasol er mwyn cynorthwyo i greu’r gwahaniaeth y mae’r ddau ohonom ni yn gweithio tuag ato fo?
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Bydd yn ymwybodol o’r gwaith gwych a wnaed yn ei hetholaeth, yng Ngwynedd, o ran y gweithgarwch Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid sy’n digwydd yno. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud nad ydym eto wedi llunio rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar gyfer y dyfodol. Y bwriad yw iddi ddod i ben, a byddaf yn gwneud penderfyniad pellach ar hynny. Rwy’n meddwl mai’r hyn oedd yn llesteirio’r mater oedd y swm o gyllid cyfalaf adfywio a oedd ar gael i mi. Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog cyllid a thrafodaethau gydag ef ar y gallu i wella’r proffil hwnnw. O’r trafodaethau hynny gydag ef, gallaf ddechrau edrych ar raglen ar gyfer y dyfodol, a allai fod yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid 2, neu fersiwn arall o hynny yn wir.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gobeithio y buasech yn cytuno â mi fod Casnewydd wedi gweld defnydd buddiol o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar gyfer adfywio canol y ddinas, gan greu adeiladau preswyl a defnydd yn lle manwerthu i bob pwrpas. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol o ran Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid neu gynllun tebyg, a wnewch chi barhau i weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ddatblygu’r rhaglen adfywio bwysig a buddiol hon?
Yn wir, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymweld â Chasnewydd gyda chi a’r Aelod, Jane Bryant, i weld yr effeithiau gwych a gafodd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn eich cymunedau a’r ardaloedd cyfagos. Mae’n rhywbeth rwy’n wirioneddol o ddifrif yn ei gylch o ran sut i barhau â’r gwaith o ddatblygu cymunedau yn y ffordd a wnaethom yn y gorffennol. Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi cynlluniau newydd yn y dyfodol. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod am y cynnig hwnnw.
Yr wythnos diwethaf roeddech yn sôn fod rhai prosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn mynd i gael mwy o arian yn sgil tanwario mewn ardaloedd eraill, sy’n fy nharo braidd yn rhyfedd, fod rhai awdurdodau lleol i’w gweld yn eithaf gwael am ddilyn canllawiau os yw rhai’n tanwario a bod eraill heb ddigon o arian. Oherwydd nid sôn yn unig am adnewyddu meysydd parcio sy’n dadfeilio a wnawn yma; rydym yn sôn am rywbeth sydd o ddiddordeb mawr iawn i mi: byw gydol oes a’r cyflenwad tai a fuasai’n diwallu hynny. Felly, a ydych yn bwriadu defnyddio rhywfaint o’r tanwariant hwn i dargedu prosiectau penodol, ac yn arbennig y math o dai y gellir eu dwyn i ganol dinasoedd, nid yn unig tai fforddiadwy a dim byd arall wedyn, ond rhywbeth sydd â diben gydol oes iddo ?
Wrth gwrs, mae’r Aelod yn crybwyll mater pwysig ynglŷn â sut y dosberthir cyllid. Mae’n deg dweud bod y polisi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi’i gymhlethu gan weithgarwch arall megis cynllunio a mynediad at dir, ac yn y blaen, felly mae hynny weithiau’n cymhlethu rhai o’r cynlluniau y credir eu bod ychydig yn haws nag eraill. Rwy’n edrych ar yr awdurdodau sy’n dod â chynlluniau amgen ataf sy’n gallu bod yn hyblyg, ond yn sicr mae’r cynlluniau y soniodd yr Aelod amdanynt, ynglŷn â chyflwyno cyfleoedd hirdymor ym maes tai, nid yn unig tai fforddiadwy, ond trawsnewid eu cymunedau, yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i fynd ar ei drywydd.
Gofal Plant
2. Faint ymlaen llaw y byddai'n rhesymol disgwyl i ddarparwr gofal plant a gefnogir gan Lywodraeth Cymru hysbysu rhieni sy'n gweithio o ddyddiad dechrau eu plant? OAQ(5)0107(CC)
Caiff rhieni eu hysbysu pa bryd fydd eu hawl i ofal plant Dechrau’n Deg yn dechrau drwy ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg yn fuan ar ôl genedigaeth. Yn ddiweddarach yn y broses, bydd awdurdodau lleol yn cyfeirio rhieni at ddarparwyr lleol fel y gellir cytuno ar ddyddiadau dechrau cyn belled â phosibl ymlaen llaw.
Roeddwn yn synnu na chefais rybudd ymlaen llaw wrth ddechrau fy mhlentyn tair oed fy hun yn ddiweddar. Y broses oedd cael cyfarfodydd ar ddechrau’r tymor a chytuno ar ddyddiad wedyn. Nid wyf yn chwilio am unrhyw ymyriad yn fy achos i, sydd wedi’i ddatrys, ond roeddwn yn meddwl tybed, o gael gofal plant i gynorthwyo rhieni sy’n gweithio yn ogystal ag addysg y plentyn, onid fuasai’n briodol os yw’r ddau riant yn gweithio, a gorfod rhoi rhybudd i feithrinfa breifat efallai, i gael o leiaf mis o rybudd ymlaen llaw ynglŷn â pha ddyddiad y gallai plentyn ddechrau mewn gwirionedd.
Mewn perthynas â gofal plant y tu allan i Dechrau’n Deg, nid oes unrhyw fater statudol o ran canllawiau ynglŷn â hyn, ond rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod ac wrth i ni ddatblygu’r polisi gofal plant, wrth i ni symud ymlaen, mae’n rhywbeth y byddaf yn edrych arno’n ofalus i sicrhau bod rhieni’n ymwybodol ac yn hyderus ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y cyfleusterau gofal plant hyn ar draws Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyfeirioch at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru a chyflwyno hynny yn awr wrth inni symud ymlaen yn y Cynulliad. Rwy’n credu bod y cynlluniau peilot yn mynd i ddechrau y flwyddyn hon yn y gwahanol awdurdodau lleol a nodoch fel rhai addas i’r diben ar gyfer cynnal y cynlluniau peilot hynny. Pa fath o wybodaeth gyhoeddus, pa fath o wybodaeth fydd ar gael gennych i rieni yn yr ardaloedd peilot hynny’n gyntaf fel eu bod yn ymwybodol o beth yw eu hawliau o dan y cynllun gofal plant a beth fydd ar gael iddynt?
Mae gennym bump o ardaloedd peilot, sy’n cwmpasu chwe awdurdod lleol, ac rydym eisoes wedi dechrau gweithio gyda hwy ar sut y maent yn llunio eu cynlluniau. Mater i’r awdurdod lleol fydd pa fath o ardal y byddant yn ei dewis, boed yn seiliedig ar wardiau neu ysgolion neu’r sector preifat, ond rydym yn awyddus i wneud yn siŵr, cyn yr haf, y gallwn sicrhau bod y neges yn mynd allan at rieni yn y garfan honno o unigolion lle y gallant gael mynediad at ofal plant. Cynllun peilot ydyw a rhagwelwn na fydd rhai o’r cynlluniau peilot hyn yn parhau ar y ffurf honno mewn gwirionedd. Ond yr hyn a wnawn yw dysgu o’r ffordd y mae’r cynllun cymhleth hwn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn digwydd yn Lloegr. Mae ceisio cael hynny allan drwy’r drws yn eithaf heriol, ond rydym yn dysgu o hyn a gobeithio y bydd y wybodaeth sydd—y rhan bwysig yw gwneud yn siŵr fod rhieni’n gwybod ymhell ymlaen llaw am eu gallu i gael mynediad at y rhaglen hon.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru—Bethan Jenkins.
Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn rhywbeth rwyf wedi’i ddwyn i’ch sylw gryn dipyn o weithiau bellach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mewn perthynas â NSA Afan, roeddwn yn meddwl a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad, yn benodol oherwydd bod pobl ym Metws sydd â ffrydiau ariannu yn sgil darparu’r gwasanaeth hwn yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf nad oes ganddynt syniad beth sy’n digwydd. Yr hyn nad yw’n glir i mi, pan soniwyd am broblemau ym Mhlas Madoc, oedd bod y cyllid wedi parhau tan i’r ymchwiliad gael ei gwblhau. Felly, os ydych yn trin hyn mewn ffordd wahanol, rwyf am ddeall pam eich bod yn gwneud hynny. Fe sonioch am yr heddlu mewn atebion blaenorol i mi. A yw’r cyfan wedi ei drosglwyddo i’r heddlu, neu a ydych yn dal i ymchwilio’n fewnol fel Llywodraeth Cymru?
Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb yr Aelod yn hyn a diddordeb Dai Rees hefyd, yr Aelod arall sydd wedi dwyn hyn i fy sylw ar sawl achlysur. Rwy’n ofalus iawn o’r ymchwiliad sydd ar y gweill gan yr heddlu a hefyd ein hadolygiad llywodraethu o hyn. Mae ychydig yn wahanol i ddigwyddiad Plas Madoc. Ni allaf ennill, beth bynnag a wnaf. Os byddaf yn tynnu cyllid yn ôl, bydd pobl yn fy meirniadu am beidio â’i dynnu’n ôl yn ddigon cynnar, neu am beidio â’i adael yn ei le i sefydliadau. Yr hyn rwy’n ymwybodol ohono yw y gallai’r canlyniad anuniongyrchol os na fydd gan NSA gyllid—sut y gallwn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i’r gymuned leol yn cael eu parhau yn y ffordd orau sy’n bosibl. Mae fy nhîm wedi dechrau trafodaethau, trafodaethau ymlaen llaw, gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â chamu i’r bwlch ar gyfer darparu.
Mae hynny’n ateb y cwestiwn ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ond nid yw’n ei ateb ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Nid beirniadaeth oedd hi; roeddwn yn ceisio darganfod y gwahaniaethau rhwng y gweithrediadau a pham y gwnaethoch y penderfyniad hwnnw, ac mae’n dal i fod braidd yn aneglur i mi.
Ar agenda ehangach Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n clywed gan y rhai sydd â diddordeb yn nyfodol Cymunedau yn Gyntaf nad oedd yr ymgynghoriad mor gryf ag y gallai fod wedi bod mewn gwirionedd. Rwyf eisiau deall sut rydych yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Rwy’n clywed eich bod wedi cael ymatebion cynhwysfawr iawn gan blant yn ysgrifennu nodyn bach i ddweud pa mor bwysig y mae’r gwasanaethau wedi bod iddynt hwy’n bersonol. Sut y byddwch yn dadansoddi pa mor bwysig ydynt, a dod o hyd i gynllun i geisio sicrhau dyfodol pa gynllun bynnag sydd gennych mewn golwg?
Wrth gwrs, rwy’n ddiolchgar am farn yr Aelod ar Cymunedau yn Gyntaf a barn llawer o Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Daeth cyfnod ymgynghori 1 i ben ar 15 Ionawr. Rwy’n synnu ynglŷn â sylwadau’r Aelod yn dweud nad oedd yn llwyddiannus iawn neu wedi’i ddarparu’n llwyddiannus gan drydydd parti—rwy’n tybio bod hynny’n anghywir. Cawsom dros 2,300 o ymatebion, yn bennaf—80 y cant ohonynt—gan y gweithlu neu bobl sy’n gysylltiedig â’r sefydliad yn y lle cyntaf. Mae fy nhîm yn dadansoddi’r ymateb i’r rhaglen yn agos iawn—maent yn rhoi cyngor i mi ar yr union fater hwnnw ac rwy’n gobeithio gwneud datganiad ynglŷn â’r hyn yw cymunedau cryf o fewn y ddwy neu dair wythnos nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn caniatáu peth amser i mi gwblhau manylion sut beth fydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol, ond byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr hon i roi gwybod i’r Aelodau.
Diolch i chi, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw, gan fy mod yn meddwl bod llawer o bobl yn y sector yn awyddus i wybod yn union sut y gall unrhyw gynllun newydd dargedu tlodi’n effeithiol. Mae llawer o’r bobl y siaradais â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi dweud ei fod yn ymwneud â’r economi a hybu’r farchnad swyddi i’r rhai llai cefnog: er enghraifft, mwy o swyddi yn agosach at ardaloedd difreintiedig, camau i wella telerau ac amodau—er enghraifft, cyflog byw—a strategaethau i wella sectorau cyflog isel, e.e. gofal cymdeithasol a thwristiaeth. A yw’r rhain yn bethau rydych yn eu hystyried fel elfennau allweddol o unrhyw raglen newydd, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf wedi cael eu rhedeg yn dda ac yn effeithiol, ond buasem yn dweud bod llawer ohonynt nad ydynt wedi cyflawni’r amcanion o ran dileu neu drechu tlodi yn eu hardaloedd?
Rwy’n meddwl bod y ffigurau tlodi yn siarad drostynt eu hunain—maent wedi bod yn ystyfnig iawn, yn bownsio ar hyd y gwaelod, a’r hyn a wnaethom fel Llywodraeth yw edrych ar, ac adolygu ein holl raglenni. Rydym yn symud rhwng rhai o’n rhaglenni Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf; mae Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei adolygu, i edrych ar beth y gallai fod; mae gennym ffocws mawr ar gyfleoedd cyflogaeth, gan weithio gyda Ken Skates—felly Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, Esgyn, a Cymunedau am Waith. Byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr gydag ymrwymiad, gweledigaeth, ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud ac am ei wneud gyda’n cymunedau i sicrhau y gallwn ddechrau troi tlodi i gyfeiriad cadarnhaol.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, roedd Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn gorff sy’n derbyn grantiau a gafodd gyllid uniongyrchol. Ar ôl i’r chwythwr chwiban gael eu cyfiawnhau, gyda chefnogaeth Janet Ryder, Eleanor Burnham a minnau, mentraf ddweud, a chafwyd euogfarnau yn y llys, cawsom ddau Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru hefyd, un ar Blas Madoc yn benodol ac un ar Cymunedau yn Gyntaf yn gyffredinol, y gofynnais i’r archwilydd cyffredinol ar y pryd ei gomisiynu. Canfu’r rheini, yn anad dim, fod methiant wedi bod ers dechrau Cymunedau yn Gyntaf ar ran Llywodraeth Cymru i roi rheolaethau llywodraethu corfforaethol effeithiol ar waith—rheolaethau ariannol, adnoddau dynol, ac archwilio.
Yn Shotton Uchaf, pan chwythodd y cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf y chwiban yn erbyn Cyngor Sir y Fflint, sef y corff sy’n derbyn grantiau, gwnaed honiadau yn ei herbyn y canfuwyd wedyn eu bod yn ffug. Nawr, yng nghyd-destun NSA Afan, y corff cyflawni arweiniol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn Sandfields ac Aberafan, fe ddywedoch yr wythnos diwethaf fod cyllid NSA Afan wedi cael ei derfynu yn dilyn ymchwiliad a oedd wedi darparu tystiolaeth gref o afreoleidd-dra ariannol. A oedd hwn yn gorff sy’n derbyn grantiau ai peidio? A roddwyd sylw i ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yr holl flynyddoedd yn ôl ynglŷn â’r angen i weithredu’r rheolaethau llywodraethu corfforaethol, ariannol, adnoddau dynol, ac archwilio hynny a oedd wedi arwain at y problemau yn y gorffennol?
Diolch am gwestiwn yr Aelod. Mae’n well gennyf beidio ag edrych yn fanwl ar NSA Afan oherwydd y trafodaethau manwl sydd ar y gweill gyda Heddlu De Cymru a chyda fy nhîm archwilio. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw na wnaed y penderfyniad i derfynu cyllid NSA Afan yn ysgafn—fe’i gwnaed yn dilyn ymchwiliad trylwyr i’r trefniadau llywodraethu ariannol gyda NSA Afan. Mae ein hymchwiliad wedi cychwyn. Mae’r Swyddog Llywodraeth Cymru a oedd yn arwain y tîm ymchwilio wedi rhoi gwybod i Swyddfa Archwilio Cymru am yr achos ac mae wedi parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Swyddfa Archwilio Cymru wrth iddo symud ymlaen.
Ceir proses drwyadl ar waith i reoli’r cyllid a ddarparwn i filoedd o sefydliadau bob blwyddyn. Yn hyn o beth, mae’r ganolfan ragoriaeth grantiau bellach wedi sefydlu’n dda ac yn gweithio i sicrhau gwelliannau parhaus o ran darparu arian grant ar draws Llywodraeth Cymru. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei gydnabod yw bod hon yn rhaglen enfawr—gwerth £300 miliwn o fuddsoddiad yn ein cymunedau. Wrth gwrs, ar rai camau, bydd yna bobl yn ceisio manteisio ar system y maent yn eu deall. Mae’n rhaid i ni dderbyn hynny fel y daw a deall sut y gallwn ddatrys y materion hynny pan fyddant yn digwydd. Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb yr Aelod ym mhob un o’r gweithgareddau hyn a phan allaf ryddhau mwy o wybodaeth am yr achos penodol hwn, byddaf yn gwneud hynny.
Wel, wrth gwrs, y pryder penodol oedd a oedd hwn yn gorff sy’n derbyn grantiau, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yr holl flynyddoedd yn ôl o ran sicrhau bod rheolaethau effeithiol ar waith.
Ond i symud ymlaen at fater cysylltiedig, fel y soniais wrthych o’r blaen, mae ffigurau’r ONS a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf yn dangos bod gan Gymru niferoedd uwch na chyfartaledd y DU—un o bob wyth o blant yn byw mewn cartrefi heb waith tymor hir—ac ymchwil sy’n dangos bod plant sy’n byw gyda rhieni di-waith yn y tymor hir yn tueddu i wneud yn waeth yn yr ysgol neu’n wynebu risg uwch o fod yn ddi-waith yn nes ymlaen yn eu bywydau.
O ystyried canfyddiadau adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant nad oedd mwy na 65,000 o blant y mae eu teuluoedd yn cael budd-daliadau i’r di-waith neu gredydau treth yng Nghymru yn byw mewn rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf, sut yr ymatebwch i ffigurau StatsCymru ar aelwydydd di-waith a gyhoeddwyd ddau fis yn ôl sy’n dangos, er bod canran y plant sy’n byw mewn cartrefi di-waith yng Nghymru wedi gostwng ychydig, roeddent wedi codi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, o Flaenau Gwent i Ben-y-bont ar Ogwr, o Sir Ddinbych i Ferthyr Tudful a llawer mwy yn ogystal?
Mae’n fy mhoeni’n wirioneddol fod gennym blant sy’n byw mewn cartrefi di-waith ac yn byw mewn tlodi ble bynnag y maent yn byw, boed hynny mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf neu yn rhywle arall. Ac nid yw bob amser yn fater sy’n ymwneud â dosbarth—gall ddigwydd i unrhyw gymuned ac unrhyw unigolyn.
Mae’n uchelgais gan y Llywodraeth hon i fynd i’r afael â thlodi, a dyna pam ein bod yn ystyried adolygu ein holl raglenni a’n hymyriadau, er mwyn sicrhau ein bod yn ymdrin â’r bobl sydd angen, mewn ffordd y gallwn ei chyflawni gyda’r rhaglenni yr ydym yn buddsoddi ynddynt. Nid yw’n rhoi unrhyw bleser i mi ddweud bod y niferoedd hynny’n ystyfnig. Ond nid oes dim o’i le ar unrhyw Lywodraeth gydag uchelgais yn ceisio gwneud y newidiadau hynny.
Rwy’n cytuno, oherwydd, yn anffodus, fel y gwyddoch, mae gan Gymru dlodi plant gwaeth na’r Alban, Gogledd Iwerddon a phob un ond dau o’r naw rhanbarth yn Lloegr. Rydym o leiaf wedi codi’n uwch na dau o’r rhanbarthau—Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr rwy’n credu. Ond yr wythnos diwethaf, dywedodd coleg brenhinol y pediatregwyr mai tlodi oedd y bygythiad mwyaf i iechyd plant yng Nghymru. O ystyried eich sylwadau blaenorol, rwy’n croesawu’r newyddion fod eich swyddogion bellach wedi cyfarfod â rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru, a ailenwyd yn Mae Pawb yn Rhan o Hyn, a ddoe, fe’ch clywais hyd yn oed yn cyfeirio’n gadarnhaol at gydgynhyrchu. Sut yr ymatebwch i’r datganiad gan y rhaglen Gogledd Cymru Iach, y byddwch yn gyfarwydd â hi o bosibl, fod gan gymunedau mwy difreintiedig gogledd Cymru gyfradd oddeutu 25 y cant yn uwch o dderbyniadau argyfwng na’r cymunedau mwy cefnog, a bod angen mynd i’r afael, felly, â materion yn ymwneud ag amddifadedd a thlodi ar lefel y gymuned leol, drwy gyflawni egwyddorion iechyd darbodus, yn enwedig mewn perthynas â chydgynhyrchu?
Rwy’n falch fod yr Aelod a minnau yn amlwg yn dod at ein gilydd o ran ein polisïau mewn rhai meysydd. [Chwerthin.] Gadewch i ni beidio â bod yn rhy uchelgeisiol. Rwy’n meddwl bod yr Aelod yn iawn i grybwyll mater gofal iechyd darbodus. Ers amser hir, mae Mark Drakeford wedi bod yn tynnu sylw at hyn yn y Cabinet, ac rwy’n rhannu ei farn ar hyn ynglŷn ag atal ac ymyrryd yn gynnar. A dyna pam ein bod yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle bynnag y bont mewn teuluoedd a chymunedau. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi ynddo yn awr, er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol. Nid mater moesol yn unig ydyw, mae’n fater cyllidol hirdymor i unrhyw Lywodraeth mewn grym.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Yn ôl Cymdeithas Fawcett, bydd merched yn colli tua £300,000 dros eu bywydau gwaith oherwydd cyflog anghyfartal. Fel y gwyddoch, mae gorfodi deddfwriaeth cyflog cyfartal yn nwylo’r gweithiwr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai sicrhau cyflog sy’n gyfartal rhwng y rhywiau fod yn ddyletswydd ar y cyflogwr, yn hytrach na’r cyflogai?
Rwy’n cytuno.
Mae gorfodi hawliau cyflog cyfartal yn cael ei wneud yn anodd iawn, os nad yn amhosibl, gan ddiffyg tryloywder ynglŷn â chyflogau ar ran cyflogwyr. Ni all gweithiwr wneud hawliad ynghylch cyflog cyfartal oni bai eu bod yn gwybod beth yw cyflog pawb arall a chael cymharydd. Rhaid cyfaddef, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros yr hyn y mae cyflogwyr yn y sector preifat yn ei wneud. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai data cyflog ar bob lefel fod ar gael i weithwyr y sector cyhoeddus er mwyn hwyluso’r broses o orfodi eu hawliau cyflog cyfartal?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod yn cael cydraddoldeb wrth werthuso swyddi. Mae’n rhywbeth y mae llawer yn y Siambr hon, ym mhob plaid, wedi’i hyrwyddo ers blynyddoedd lawer. Mae sicrhau bod hynny’n digwydd yn fater arall, ond rydym wedi dioddef y pla o helwyr ambiwlansys sy’n ceisio atal cyflog cyfartal ar y sail fod pobl am atal yr hawliadau rhag cael eu cyflwyno. Ac rwy’n credu bod llawer o awdurdodau lleol wedi gweithredu’n gyfrifol iawn o ran y ffordd y maent yn gweithredu. Mae’r undebau llafur wedi cyflwyno deddfwriaeth a chymorth ar gyfer ymyriadau’r Llywodraeth mewn awdurdodau lleol, ac mae’n rhywbeth rwy’n awyddus iawn i ni fynd ar ei drywydd.
Mae’n ddrwg gennyf, ni chlywais yn iawn a ydych yn barod i gyflwyno tryloywder cyflogau yn y sector cyhoeddus mewn gwirionedd, oherwydd os nad ydych, a allwch esbonio i fenywod yn y sector cyhoeddus sut y maent yn mynd i orfodi eu hawliau cyflog cyfartal os nad ydych yn mynd i ddweud wrthynt beth yw’r cyfraddau cyflog cymharol yng ngweddill eu sefydliad?
Rwy’n credu bod llawer o ddata ar gael ynglŷn â chyflogau a graddfeydd cyflog. Mater i’r cyflogwr yw sut y caiff hwnnw ei roi i gyflogeion. Ond ni fydd cyflogwyr yn gweld unrhyw ddrysau caeedig ar lefel Llywodraeth Cymru o ran cyflwyno cyflog cyfartal.
Parthau Plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â pharthau plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0100(CC)[W]
Diolch i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei gwestiwn. Mae nifer o sefydliadau wedi cyflwyno cynigion ar gyfer treialu parthau plant yng Nghymru. Byddaf yn cyhoeddi’r ardaloedd peilot cyn gynted ag y cawn gyfle i asesu’r cynigion a ddaeth i law.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae’n gwybod fy mod wedi tynnu ei sylw yn y gorffennol at enghreifftiau o arfer da iawn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd y tu allan i rai o bethau Cymunedau yn Gyntaf a phethau a gefnogir gan y Llywodraeth, ac mae rhai pethau da’n digwydd yn y trydydd sector ac yn y sector gwirfoddol. Cyfarfûm â Jig-So, sef prosiect yn Aberteifi, rai wythnosau yn ôl. Mae’n brosiect hirsefydlog sy’n gweithio ar draws ffiniau, sy’n aml yn golygu ei fod yn disgyn rhwng dwy stôl o ran cymorth gan awdurdodau lleol, gan ei fod yn Sir Gaerfyrddin, gogledd Sir Benfro a Cheredigion. Mae’n gweithio o gwmpas darpariaeth crèche, hyfforddiant i rieni, rhianta, sgiliau coginio a chymorth i bobl ifanc yn gyffredinol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn barod, neu a yw ei swyddogion yn barod, i edrych ar brosiectau fel Jig-So? Oherwydd teimlant fod ganddynt rywbeth gwahanol ac arbennig i’w gynnig i’r cysyniad o barthau plant y tu hwnt i’r un y mae’r sector cyhoeddus yn tueddu i ddod ato yn ei gylch?
Ydw, rwy’n hapus iawn i ymgysylltu gyda fy nhimau. Fel y dywedais, rydym wedi cael nifer o geisiadau am y cyfle i redeg parthau plant ar draws Cymru. Ond byddaf yn holi fy nhîm a yw Jig-So yn rhan o hynny, ac os nad ydynt, gallant drafod, wrth gwrs.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n derbyn eich bod yn dal i edrych ar barthau plant, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth yn edrych ar raglenni lle y gall weithio’n llawer agosach gyda’r trydydd sector mewn gwirionedd. Nawr, gan dderbyn y gall darparu gwasanaethau i blant mewn rhannau gwledig o Ganolbarth a Gorllewin Cymru fod yn wahanol iawn i ardaloedd mwy trefol o bosibl, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha drafodaethau a gawsoch gyda’r trydydd sector ar ddarparu gwasanaeth sy’n ateb anghenion teuluoedd ym mhob rhan o Ganolbarth a Gorllewin Cymru mewn gwirionedd?
Mae’r Aelod yn iawn, a’r hyn nad wyf am ei wneud yw rheoli’r farchnad. Ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni alluogi sefydliadau i gyflawni cynlluniau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer y sector. Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â sefydliadau fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf mewn gwahanol ardaloedd i wneud yn siŵr fod gennym synergedd ar hynny. Yn ddiweddar, rwyf wedi buddsoddi gyda Kirsty Williams a Rebecca Evans mewn ffocws ar gyfer profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sy’n ymwneud â datblygu rhaglen lle y gallwn gael yr holl arbenigedd, boed mewn lleoliad gwledig neu drefol, o ran sut y gallwn sicrhau bod yr ymarfer yn mynd allan yno ar gyfer cyflawni. Bydd parthau plant yn rhan o hynny, yn cydredeg yn gyfochrog â’r cynllun, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni. Ond mae’r Aelod yn iawn i sôn am gymunedau gwledig, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae dirprwy gyfarwyddwr yr is-adran plant a theuluoedd wedi tynnu sylw at y meini prawf allweddol ar gyfer parthau plant mewn gwirionedd, yn enwedig gwaith amlasiantaeth, y cwmnïau angori a’r sefydliadau, ac mae’r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Yn awr, mae’r cynigion wedi cael eu cyflwyno i chi. A wnewch chi sicrhau bod y cynigion yn bodloni’r meini prawf hynny mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau eu bod yn gydweithredol, y byddant yn bodloni’r meini prawf ac y byddant yn cynnwys y trydydd sector, fel y gallant fwrw ymlaen gyda’r cryfderau gorau?
Yn wir, a dyna yw egwyddor hyn. Nid cyllid ychwanegol yw hyn. Mae’n ymwneud â dwyn ynghyd yr hyn sydd gennym a gweithredu hyn yn well. Ceir enghreifftiau o’r parthau plant hyn yn gweithio ar draws y byd ac mae hynny’n rhywbeth y dylem ei ddefnyddio mewn arfer gorau yma yng Nghymru hefyd.
Ymddiheuriadau, Ysgrifennydd y Cabinet, am fy ymyrraeth amhriodol. Fe ddysgaf sut y mae’r broses yn gweithio yn y man. Rwy’n credu, i raddau, eich bod wedi ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond fe fyddwch yn ymwybodol o drafodaethau a gawsom mewn gohebiaeth yn flaenorol fy mod wedi siarad â chi am nifer o gynlluniau yn fy etholaeth sy’n chwarae rhan bwysig yn cynnwys pobl ifanc yn arbennig. Rwy’n cyfeirio’n benodol at gynlluniau fel Forsythia Youth yn y Gurnos a’r Engine House yn Nowlais, y byddwch yn gwybod amdanynt o bosibl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar gyda nifer o bobl ifanc a fuasai, yn ôl pob tebyg, heb y math hwnnw o gefnogaeth, yn crwydro’r strydoedd ac yn dod yn droseddwyr ifanc, yn anffodus. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol nad ydym yn colli’r math hwn o gynllun ymyrraeth gynnar? Yn rhan o’r dull parthau plant, a all fy sicrhau y rhagwelir y bydd gan gynlluniau ymyrraeth gynnar rôl hanfodol i’w chwarae?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Dawn a Lynne a nifer o Aelodau eraill ar y meinciau wrth fy ymyl wedi gwneud sawl cyfeiriad at ddyfodol cymunedau a sut beth fydd hynny, a hynny’n briodol, gan gydnabod y cryfderau yn eu cymunedau eu hunain.
Mae parthau plant yn ymwneud ag integreiddio gwasanaethau a dod â gwasanaethau at ei gilydd. Yr hyn na allaf ymrwymo iddo yw llyfr sieciau agored, oherwydd mae yna heriau o ran y cyllid, ond rwy’n cydnabod bod ymyrraeth, atal a chynlluniau lles yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn deall sut y bydd ardaloedd yn gweithio yn y dyfodol, a gwneud yn siŵr, lle y gallwn gyflawni’r ymyriadau clyfar hynny, ein bod yn gwneud hynny. Rwy’n cydnabod rhai o’r meysydd y mae’r Aelod wedi’u crybwyll yma heddiw.
Chwarae Hygyrch
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleoedd ar gyfer chwarae hygyrch ledled Cymru? OAQ(5)0096(CC)
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Ni yw’r wlad gyntaf i roi chwarae ar sylfaen statudol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n hawdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid, i sicrhau, lle y bo’n ymarferol, cyfleoedd chwarae sy’n diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardaloedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i gefnogi’r nod hwn.
Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer rhai sydd â nam ar y synhwyrau, wedi darganfod bod 92 y cant o rieni sydd â phlant anabl yn teimlo nad yw eu plant yn cael yr un cyfleoedd i chwarae â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae canllawiau cyfredol, fel yr ydych yn ei ddweud yn hollol gywir, yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i wneud chwarae’n hygyrch. Rwyf wedi gweld tystiolaeth dda o hyn yn fy ardal fy hun gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr mannau chwarae eraill, megis datblygiadau tai preifat neu gynghorau cymuned, er mwyn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gwneud mannau chwarae mor hygyrch â phosibl?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i grybwyll y mater hwn ac mae’n manteisio ar bob cyfle a gaiff i hyrwyddo achos plant anabl. Mae fy swyddogion yn gweithio ar draws meysydd polisi i sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn cael eu hystyried yn briodol ac yn gadarnhaol wrth ddatblygu a chyflwyno polisi. Ar gefn yr asesiadau digonolrwydd chwarae, mae swyddogion yn archwilio sut y mae meysydd polisi yn gweithio gyda’u partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ac yn wir sut rydym ni’n gweithredu. Anogir cynllunwyr gwlad a thref i wneud defnydd da o gytundebau adran 106 i ffurfio cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid. Byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, hefyd i gael golwg ar hyn mewn perthynas â chynigion cynllunio a sut y maent yn gweithredu, yn enwedig gyda datblygwyr preifat. Mae’n iawn dweud y byddwn yn creu parc, ond mae parc sy’n hygyrch yn barc gwahanol iawn.
Mae chwarae hygyrch yn bwysig iawn wrth gwrs, ond mae cyfraniad mawr i’w wneud gan y defnydd o chwarae fel therapi hefyd, yn enwedig o ran y rhai sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n rhywbeth y credaf nad ydym yn ei ddefnyddio’n ddigonol, neu’n sicr, nid yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad i. Felly, a allech ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu gwasanaethau therapi chwarae yng Nghymru, a hefyd a fuasech yn cytuno i gyfarfod â grŵp o ymarferwyr yng ngogledd Cymru a fuasai am drafod eu syniadau ynglŷn â sut y gallent chwarae rhan gryfach yn cyflawni rhai o’r canlyniadau cadarnhaol yr ydym i gyd am eu gweld i blant a phobl ifanc yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn wir, cyn y cwestiynau heddiw, cyfarfûm â StreetGames, a ddywedodd wrthyf am y gwaith sy’n digwydd mewn llawer o gymunedau ledled Cymru lle y mae chwarae’n ffactor pwysig, nid yn unig o ran manteision iechyd, ond hefyd o ran hyder ac agweddau eraill ar y ddarpariaeth iechyd meddwl ac yn y blaen. Mae budd mawr i’w gael o chwarae. Rydym yn awyddus i ddefnyddio chwarae fel therapi amgen—a rhagnodi cymdeithasol. Mae gennyf ddiddordeb yng nghysylltiadau lleol yr Aelod o ran y grŵp y mae’n sôn amdano. Os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion, byddaf yn ystyried hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir yn aml mai chwarae yw gwaith plant, ond mewn ardaloedd difreintiedig, mae llawer o blant heb fynediad at fannau chwarae diogel. Genhedlaeth neu fwy yn ôl, yn aml buasent wedi chwarae ar y stryd. Nid yw hynny hyd yn oed yn opsiwn bellach. Ac rydych yn iawn—mae gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn yn y maes hwn. Ond rwy’n credu mai un gwendid, efallai, yw nad yw wedi cyrraedd y cam cynllunio lle byddwn yn edrych ar ddarparu mannau chwarae, ac yn arbennig yn yr ardaloedd difreintiedig hynny, a lle nad oes rhai ar gael, ein bod yn cynllunio ar eu cyfer. Mae yna ffyrdd o wneud hyn, ond mae gofyn cael arloesedd a phenderfyniad.
Rwy’n cytuno â’r Aelod, ac fel y dywedais wrth Vikki Howells, byddaf yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio i weld sut y gallwn gael ymagwedd gyfannol tuag at ddatblygu a’r ystad ac edrych ar hynny ar gyfer y dyfodol.
Croesewir ffocws y Llywodraeth ar chwarae. Erbyn hyn mae gennym ddogfen Lywodraeth weddol swmpus ar hyn. Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, gweithwyr cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Problem fawr, fodd bynnag, yw bod cymaint o rieni yn eisteddog neu hyd yn oed yn ordew fel bod rhaid eu perswadio i fynd allan o’r tŷ i’r parc lleol i chwarae gyda’u plant. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwn ei wneud i annog hyn.
Wel, mae’n waith i bawb ohonom. Gall llywodraethau wneud llawer o bethau, ond nid yw dweud wrth bobl am fynd allan ar eu beiciau’n rhywbeth rwyf am ei wneud yn sicr. Un o’r pethau newydd a ddigwyddodd y llynedd—ac roedd rhai pobl yn feirniadol iawn ohono—oedd yr ap Pokémon Go a ddefnyddiwyd ar lawer o ffonau. Rwy’n gwybod bod llawer o blant nad oeddent yn codi eu pennau o’u ffonau ac yn taro i mewn i waliau ac yn y blaen, ond llwyddodd i dynnu pobl allan o’u tai. Roedd honno’n ffordd glyfar iawn o gael pobl yn ôl i mewn i’w cymunedau. Felly, mae yna raglenni yr ydym yn ceisio eu gwneud. Mae Ken Skates yn hyrwyddo’r argymhellion hyn, ac rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gydag ef ynglŷn â sut y gallwn gael mwy o bobl i wneud gweithgarwch corfforol yn ein cymunedau.
Trais Domestig
5. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â thrais domestig yn ystod pencampwriaeth rygbi y Chwe Gwlad a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill? OAQ(5)0102(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’i phartneriaid i fanteisio ar bob cyfle i fynd i’r afael â thrais domestig. Ein nod yw ymagwedd fwy cydgysylltiedig tuag at gyhoeddusrwydd gyda gweithgaredd parhaus i gynulleidfa mor eang â phosibl. Fel rhan o’r dull hwn, bydd cynnydd yn y lefel o weithgaredd cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng yr ymgyrch Byw Heb Ofn dros gyfnod y bencampwriaeth.
Rwy’n croesawu’r ymateb hwnnw. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tystiolaeth empirig gynyddol a damniol ac astudiaethau academaidd cymhwysol sy’n tynnu sylw at y cam-drin a’r trais domestig cynyddol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon mawr, nid y chwe gwlad yn unig, ond rownd derfynol Super Bowl, pêl-droed Cwpan y Byd ac eraill. A dyna pam y cafwyd yr ymdrechion hyn gan Lywodraeth Cymru, gan Undeb Rygbi Cymru, gan chwaraewyr eu hunain ac eraill i godi ymwybyddiaeth o’r broblem ddiwylliannol ddofn hon a chyflwyno mesurau i’w newid. Pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad yn 2009, cofnododd Heddlu De Cymru gynnydd o bron i 80 y cant mewn achosion o gam-drin domestig o gymharu â’r penwythnos blaenorol. Ym mhencampwriaeth 2012, gwnaed dros 4,300 o alwadau i’r llinell gymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer Cymru gyfan. Cafwyd cynnydd o bron i 10 y cant o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn cynt. A phan chwaraeodd Cymru yn erbyn Lloegr yn ystod y chwe gwlad y flwyddyn honno cofnododd Heddlu De Cymru gynnydd o 76 y cant yn nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig o gymharu â’r penwythnos blaenorol. Felly, wrth amlygu hyn, cam cyntaf yn unig yw codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad cynyddol o gam-drin domestig o gwmpas pencampwriaeth y chwe gwlad a digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae gan bawb ohonom rôl i’w chwarae yn tynnu sylw at hyn ac mae chwaraewyr rygbi eu hunain wedi siarad am hyn yn flaenorol, ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru, a’i phartneriaid hefyd, ei wneud i fynd i’r afael â gwreiddiau diwylliannol ac unigol anodd y broblem barhaus hon?
Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad. Rwy’n credu bod digwyddiadau chwaraeon yn un agwedd ar hyn. Ond yr hyn sy’n hollol amlwg yw bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng camddefnyddio alcohol a thrais domestig, a dyna’r cysylltiad. Fel arfer, bydd hynny’n digwydd mewn digwyddiadau chwaraeon, felly nid y rygbi neu’r pêl-droed yw hyn yn hollol, ond y digwyddiadau diwylliannol sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n achosi’r problemau. Mae’r agwedd ynglŷn â rhoi gwybod am hyn yn un gadarnhaol. Y ffaith amdani yw bod pobl yn siarad am hyn nawr a chawn hyd i fynediad a chyfleoedd i ymdrin â chyflawnwyr, ac yn bwysicach, dioddefwyr trais domestig, a rhoi diwedd arno, gobeithio. Ond roedd cwestiynau’r Aelod yn gofyn yn benodol iawn ynglŷn â phencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad. Rwy’n dweud yn eithaf clir wrth fy nhîm mai neges ddyddiol yw hon, nid neges am chwe wythnos. Mae’n ymwneud â rhywbeth y gallem siarad amdano drwy’r amser a gwneud yn siŵr fod mynediad at wasanaethau yma ac ar gael yng Nghymru.
Ddoe, pan oeddwn yn gwybod fy mod yn dod i mewn ar y cwestiwn atodol hwn, fe roddais gwestiwn bach ar Facebook i ofyn i bobl beth oedd eu barn am y ffaith fod yr ymgyrchoedd hyn wedi digwydd. Mae llawer o bobl yn ymwybodol, ond roedd yna nifer go drawiadol o bobl nad oedd yn ymwybodol fod yr ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd hyn yn bodoli hyd yn oed. Trwy Cymorth i Fenywod, gallwn ddod o hyd i ddadansoddiad o’r hyn sydd wedi digwydd yn y DU—yn Lloegr yn bennaf—ar yr ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth hyn, ond ni welais ddim mewn perthynas â Chymru. Felly, nid wyf yn bychanu pa mor bwysig yw cynnal yr ymgyrchoedd hyn, ond rwyf am ddeall eu heffeithiolrwydd, rwyf am ddeall a oes angen iddynt fod â phroffil uwch ac a oes angen iddynt ddigwydd dros gyfnod hwy o amser, oherwydd y neges a ddaeth yn ôl i mi ddoe oedd, iawn, fel y dywedoch, ni all fod yn un achlysur yn unig, mae’n rhaid iddo fod yn systematig ac mae’n rhaid iddo ddigwydd drwy gydol y flwyddyn.
Ac fe ddywedais hynny yn fy ymateb blaenorol. Rwy’n meddwl bod yna adegau brig pan fo digwyddiadau chwaraeon yn creu pwysau uchel i ddarparwyr gwasanaeth, ac mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu cyfleu neges i bobl i ddweud bod rhif llinell gymorth neu fecanwaith cymorth ar waith. Ond mae’n rhywbeth rwy’n awyddus iawn i edrych arno yn y tymor hir, ac rwyf wedi dechrau trafodaeth gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru er mwyn sicrhau y gallwn gael ymateb ar y cyd yma, ar draws Cymru, ar ffurf rhaglen negeseuon arferol y gall pawb ohonom ei rhannu drwy gydol y flwyddyn. Felly, rwy’n obeithiol y bydd hynny’n rhoi canlyniadau gwell i ni o ran cyflawni.
Tua 10 mlynedd yn ôl, roedd fy ngwraig yn fydwraig gymunedol, a phan arferwn glywed rhai o’r straeon yr oedd yn rhaid i’r timau cymunedol ymdrin â hwy mewn perthynas â thrais domestig—gan bobl y buasent wedi’u gweld ar ddiwedd yr wythnos o gymharu â’r hyn yr oeddent yn ymdrin ag ef ar ddechrau’r wythnos, ac mai’r hyn oedd wedi digwydd rhwng y ddwy adeg oedd digwyddiad chwaraeon mawr—roedd yn wirioneddol erchyll, a dweud y lleiaf. Wrth glywed y sylwadau agoriadol gan y prif holwr yma am y cynnydd yn y canrannau a nodwyd gyda’r chwe gwlad, ond yn wir, nifer o ddigwyddiadau chwaraeon, yr un ffactor sylfaenol yma yw alcohol yn bennaf, a chyffuriau, problem sy’n gyrru pobl ar hyd llwybr o drais domestig. Pa mor hyderus ydych chi, Weinidog—ac rwy’n eich canmol am y gwaith a wnaethoch ar yr agwedd benodol hon—pa mor hyderus ydych chi fod timau cymorth cymunedol, boed ym maes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, neu yn y sector elusennol, yn ddigon cadarn i allu bod yno mewn gwirionedd i gynorthwyo’r bobl sydd yn y sefyllfa erchyll hon gyda thrais domestig, a gallu cynnig ffordd allan o’r hyn sydd i’w weld yn ddirywiad cynyddol a allai arwain yn y pen draw at ddigwyddiadau catastroffig yn y teuluoedd hynny, a hunanladdiad yn y pen draw?
Mae trais domestig yn epidemig, ac nid wyf yn siŵr—. Rydym newydd ddatgelu copa’r mynydd iâ, ac mae’n her i’r gallu i ddarparu gwasanaethau. Ac rwyf wedi gofyn i fy uwch gynghorydd, y cynghorydd ar drais domestig, sydd yn y Ddeddf, i edrych ar fodel ariannu cynaliadwy a gweld a allwn weithio gyda’r sector i ddarparu gwasanaethau gwell yn y tymor hwy. Hoffwn fuddsoddi mwy o arian yn y cynnig hwn, oherwydd po fwyaf o gyfleusterau a ddatblygwn, y mwyaf y bydd pobl yn gwneud defnydd ohonynt. Yr hyn sy’n wir, pan fyddwn yn cyfeirio rhywun drwy linell gymorth neu drwy gysylltiad drwy ymwelwyr iechyd neu fel arall, yw ei bod yn gwbl hanfodol fod gennym weithdrefn i ddilyn hynny. Yn hytrach na dim ond dweud wrth bobl, ‘Rydych chi wedi rhoi gwybod’, mae’n rhaid i chi sicrhau bod llwybr gwasanaeth ar waith, ac rwy’n awyddus iawn i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd. Rwy’n hyderus ar hyn o bryd y gallwn ei gyflawni, ac rydym yn ei wneud, ond bydd yn dod yn fwy heriol byth. Po fwyaf o bobl sy’n rhoi gwybod—ac mae’n gwbl briodol eu bod yn rhoi gwybod—bydd yn her i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni ar gyfer y bobl hyn.
Sefydliadau Gwirfoddol
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo sefydliadau gwirfoddol sy'n helpu i gefnogi'r gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0099(CC)
Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Rwyf wedi darparu £4.4 miliwn o gyllid eleni ar gyfer cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru ac i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i fudiadau’r trydydd sector. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chodi arian, llywodraethu da a lleoli gwirfoddolwyr.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel nifer o’r Aelodau, cefais y fraint o gyfarfod â grwpiau gwirfoddol a gweld y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud. Un enghraifft wych yn fy etholaeth i yw’r Robiniaid, gwirfoddolwyr gydag Age Cymru, sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, ac sy’n darparu cymorth i gleifion sy’n agored i niwed yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Gwynllyw. Maent yn neilltuo amser ar gyfer siarad gyda chleifion a darllen iddynt, gwneud eu gwallt a’u hewinedd, a darparu cymorth gyda phrydau bwyd, siopa a llawer o bethau eraill a all wneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae staff yr ysbyty a’r cleifion yn disgrifio’r Robiniaid fel gwasanaeth amhrisiadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymeradwyo gwaith y Robiniaid, sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell yng Nghasnewydd, a chanmol ymdrechion pawb sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli?
Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae bron 1 filiwn o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd bob blwyddyn, ac mae eu cyfraniad i gymdeithas yn amhrisiadwy. Hoffwn ddweud diolch yn fawr. Rwyf hefyd yn awyddus i ganmol y Robiniaid yn eich etholaeth. Pe gallem roi bonllef o gymeradwyaeth, rwy’n siŵr y buasem yn gwneud hynny yn awr, ond yn wir, Jayne, rwy’n ddiolchgar i chi am ddwyn hyn i fy sylw heddiw, gan gydnabod y gwaith da y maent yn ei wneud, ac os gwelwch yn dda, trosglwyddwch fy llongyfarchiadau i’r sefydliad hwnnw.
Mae yna bron 80 o grwpiau elusennol a gwirfoddol yn gweithio gyda chleifion a staff gofal iechyd yng ngogledd Cymru yn unig, ac, os oes yna 80 o fudiadau, mae yna gannoedd ar gannoedd o wirfoddolwyr, ac felly mae yna filoedd ar filoedd o oriau gwirfoddol yn cael eu rhoi i gefnogi eu gwaith nhw. Mae’r ‘return’ ar fuddsoddiad cymharol fach yn sylweddol iawn, wrth gwrs. A gaf i ofyn, felly, tra’ch bod chi’n dweud bod yna arian wedi’i roi i gefnogi llawer o’r gwaith yma, a ydych chi’n cydnabod bod y gwasanaethau statudol sydd yna ar hyn o bryd o dan fwy o bwysau nag erioed ac, felly, o ganlyniad i hynny, mae’r mudiadau gwirfoddol a’r gwirfoddolwyr yma hefyd o dan bwysau i gwrdd â’r anghenion ychwanegol sy’n disgyn ar eu hysgwyddau nhw? A allech chi ddweud wrthym ni beth yn fwy rŷch chi fel Llywodraeth yn gobeithio y gallwch chi ei wneud i’w cefnogi nhw?
Mae’r sgyrsiau rwy’n eu cael â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol yn rhai pwysig ar y sail fy mod yn gwybod pe na bai gennym wirfoddolwyr yn ein cymunedau, buasai gwasanaethau statudol yn methu; ni fuasem yn gallu cyflawni’r pethau rydym am eu gwneud gyda’n gilydd. Dyna pam rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud. Ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw cael gwared ar beth o’r dyblygu a gwneud yn siŵr fod gennym wasanaethau da, effeithiol, ac mae hynny’n wir am y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, ac ymateb y sector cyhoeddus hefyd. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn ddod o hyd i ffordd drwy hyn. Ond fel y dywedais yn y gorffennol, rwyf wedi rhyddhau £4.4 miliwn o gyllid eleni, a byddaf yn edrych yn ofalus ar sut y mae hynny’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Groes Goch yn cynnig cymorth rheolaidd i’r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn ystod gwaith arferol a digwyddiadau mawr. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r Groes Goch er mwyn eu galluogi i barhau i ddarparu’r cymorth mwyaf gwerthfawr i wasanaethau ambiwlans Cymru?
Yn wir. Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Groes Goch ac Ambiwlans Sant Ioan yn gwneud gwaith rhagorol ar draws Cymru, a buaswn yn dweud—nid oes gennyf fanylion niferoedd ar gyfer y Groes Goch, yn benodol, yng Nghymru—diolch yn fawr iawn iddynt. A dylai Llywodraeth y DU ddiolch yn fawr i’r Groes Goch hefyd. Yn ystod yr argyfwng a welwyd dros y ffin yng nghyd-destun iechyd, camodd y Groes Goch i’r adwy i helpu’r gwasanaethau statudol i ddarparu gwasanaethau. Felly, ni ddylem byth fychanu’r ffaith fod y gwirfoddolwyr teilwng hyn yn gwneud gwaith gwych yn ein holl gymunedau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl mynychu Cyfarfod Blynyddol diweddar o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, cefais fy synnu gan y nifer fawr o fudiadau gwirfoddol yn cynnig cefnogaeth yn ymwneud ag iechyd sy’n gweithredu yn fy rhanbarth i. Roeddwn eisoes yn ymwybodol o’r gwaith rhagorol a wneir gan rai fel Tŷ Elis ym Mhorthcawl a Chanolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig, ond yng nghyfarfod Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, cyfarfûm â phobl o gynllun Interact, Caer Las a’r prosiect gwirfoddol iechyd meddwl a lles i enwi ond ychydig. Mae pob un o’r prosiectau hyn yn cynnig cefnogaeth hanfodol i’n GIG, ac eto ychydig iawn sy’n derbyn unrhyw gymorth ariannol uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod y cyrff gwirfoddol hyn yn arbed miliynau lawer o bunnoedd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig iddynt?
Gallaf gynnig geiriau cynnes; ni allaf gynnig cyllid, yn anffodus. Byddai’n anonest pe bawn yn dweud hynny, ond rwy’n diolch i bob un o’r sefydliadau hyn sy’n camu i’r bwlch weithiau lle y bo pobl mewn angen, ac mae’r sefydliadau trydydd sector yn y lle iawn i gyflawni hynny; maent yn deall cymunedau’n dda iawn. Felly, er cymaint y buaswn yn hoffi cefnogi pob un o’r sefydliadau yng Nghymru, buasai’n amhosibl yn ariannol. Ond rwy’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud ym mhob un o’n cymunedau.
Cryfhau Cymunedau
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cryfhau cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0098(CC)
Diolch i’r Aelod dros Fynwy am ei gwestiwn. Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer cryfhau cymunedau yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso. Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried safbwyntiau o raglen ymgysylltu eang ar ddull newydd o adeiladu cymunedau cryf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach maes o law.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, mae gennyf ddadl fer yn ddiweddarach heddiw ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Nid chi fydd yn ymateb; Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fydd yn gwneud hynny. Yn y ddadl honno, byddaf yn nodi’r ffaith ei bod yn fargen sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol, ac yn amlwg, bydd yn ymwneud â thyfu cysylltiadau rhwng cymunedau a fydd yn cryfhau’r cymunedau hynny—cymunedau trefol a gwledig, hynny yw. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynglŷn â defnyddio cyllid sylweddol y fargen ddinesig a ddaw, nid yn unig o’r lle hwn, ond hefyd o San Steffan i sicrhau bod y cyllid yn mynd tuag at gryfhau ein cymunedau gwledig a chryfhau prosiectau megis metro de Cymru, a fydd yn sicrhau bod pobl sy’n byw yn rhai o’r rhannau mwy pellennig o ranbarth Dwyrain De Cymru yn gallu cyrraedd ardaloedd fel Caerdydd a Chasnewydd mor gyflym ac mor hawdd â phosibl i sicrhau eu bod yn well eu byd yn economaidd?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i nodi’r mater hwn. Mae’r egwyddorion y mae’r Llywodraeth yn gweithio arnynt yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ynglŷn â gwneud yn siŵr y gallwn adeiladu’r jig-so hwn gyda’n gilydd, a rhoi darlun arno hefyd er mwyn inni allu gwybod a deall beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i’n cymunedau a’n teuluoedd yn y mannau rydym yn eu cynrychioli. Un agwedd yn unig yw’r metro neu’r fargen ddinesig ar wneud yn siŵr fod gennym les unigolion yn flaenllaw yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae cymunedau cryf hefyd yn dibynnu, nid yn unig ar y tri ffactor a grybwyllwyd gennych, ond hefyd ar iechyd a lles y cymunedau hynny er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr holl agweddau eraill. I’r perwyl hwnnw, ar hyn o bryd mae gan Cymunedau yn Gyntaf elfen iechyd a lles o’i fewn, ac rydych wedi dweud mewn datganiad blaenorol eich bod yn bwriadu edrych ar y tri arall. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i sicrhau y gall y byrddau iechyd gymryd rhan yn y broses hon mewn gwirionedd ond hefyd, fod ganddynt ddigon o arian i wneud hynny, gan ei bod yn bwysig i ni sicrhau ein bod yn cryfhau iechyd a lles y cymunedau hynny?
Wrth gwrs, ac fe ddywedais yn gynharach wrth ateb cwestiwn blaenorol beth yw ein gweledigaeth o ran adeiladu cymunedau cryf, a beth sy’n ymwneud ag adfywio economaidd, swyddi a thwf, a beth sy’n ymwneud â lles. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a Gweinidogion eraill ar draws yr adran ynglŷn â sut y byddwn yn edrych ar ein ffrydiau ariannu ac yn symud at broses atal ac ymyrraeth gynnar wrth wneud y gwaith bob dydd hefyd, oherwydd mae’n rhaid i ni gael cenedl iach, gwasanaeth llesiant yn hytrach na gwasanaeth iechyd, ac rwy’n siŵr fod fy nghyd-Aelodau ar draws y Cabinet yn ymateb i hynny yn y ffordd y datblygwn ein polisïau ar gyfer y dyfodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd—esgusodwch fi. Simon Thomas.
I was slightly presumptuous. Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
Cabinet Secretary, you talked about empowerment as one of your themes, and if that’s going to mean anything at all, it must include empowerment of the most marginalised people in our communities. I’d like to draw your attention to a project called the Unity Project in Monkton in Pembrokeshire, which is a project amongst the Gypsy and Traveller community there. I’ve been contacted by a member of that community who has used that project to develop her skills and to become trained to a degree level, but she is very concerned that the project is coming to an end now and that other people from the Gypsy and Traveller community similar to her won’t have that opportunity. I understand the project is being run by Save the Children, possibly, and Pembrokeshire County Council, but I ask you: are you aware of this project and what conversations are you having with Pembrokeshire County Council, because there are a number of Gypsy and Traveller communities in that area, regarding ensuring that there is empowerment of those communities as well?
Yn wir, ac mae’r Aelod yn gywir i grybwyll y mater. Nid yw grymuso’n ymwneud â’i gyfyngu i ddosbarth neu ddiwylliant; mae hyn yn hollgynhwysol. Yn ddiddorol, tynnodd yr Aelod, Julie Morgan, fy sylw at yr union fater hwn ddoe, ynglŷn â Phrosiect Undod. Rwy’n deall ei fod yn brosiect a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Rwy’n credu ei fod wedi dod i ben ddoe, os deallaf yn iawn, ond fe ofynnaf i fy swyddogion edrych ar fanylion hynny, gan fod y gymuned Sipsiwn/Teithwyr yn un o’r cymunedau mwyaf agored i niwed yn y DU. Mae cyfleoedd bywyd y gymuned hon yn wael iawn. Mae’n rhywbeth y dylem ysgwyddo cyfrifoldeb yn ei gylch.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rwyf wedi derbyn un cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru? EAQ(5)0116(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Mae gennym gamau ar waith i wella ein gofal iechyd yng Nghymru drwy gynllun cyflenwi ar gyfer gofal llygaid, ynghyd â’r cynllun gwella gofal offthalmoleg wedi’i gynllunio. Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn tanlinellu’r angen am welliant pellach ledled Cymru. Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd weithredu’r camau sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bob claf.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mewn archwiliad diweddar o faterion iechyd a dynnwyd i fy sylw gan etholwyr, roedd offthalmoleg yn agos at frig y rhestr mewn gwirionedd, gan wneud i mi feddwl bod yna broblem benodol yma. Wrth gwrs, gydag offthalmoleg, mae amser aros hir yn fwy nag anghyfleustra’n unig neu amser hwy na’r angen mewn poen, oherwydd gwyddom fod amseroedd aros hir i rai cleifion yn achosi niwed, gan gynnwys colli eu golwg, ac mae’r adroddiad yn dangos hynny. Mae hefyd yn dweud bod rheolwyr mewn dau fwrdd iechyd yn blaenoriaethu cleifion risg is sy’n symlach i’w trin yn hytrach na rhai sydd â mwy o angen clinigol er mwyn iddynt allu cyrraedd y targedau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth. A wnaiff y Llywodraeth archwilio’r honiad difrifol hwn fel mater o frys, ac a roddir camau ar waith yn erbyn rheolwyr y gwelir eu bod wedi ymddwyn yn y ffordd hon, ac a fydd yna adolygiad o’r targedau, gyda chlinigwyr a chyda chleifion hefyd, er mwyn sicrhau system fwy cadarn wedi’i chynllunio i atal pobl rhag colli eu golwg?
Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau yno. Mae’n werth atgoffa pawb ohonom fod yna alw cynyddol am ofal iechyd y llygaid wrth gwrs. Felly, mae’n ymwneud yn rhannol â’r gallu i ganfod rhagor o gyflyrau, ond hefyd â’r stori lwyddiant fod mwy ohonom yn byw’n hwy. Wrth gwrs, nid yw pob aros yn peri niwed, ond mae’n bosibl y gallai rhai, ac mae yna bwynt ynglŷn ag angen clinigol.
Mae gennyf ychydig bach o broblem gyda pheth o iaith eich cwestiwn ond nid y byrdwn, fel petai, yn yr ystyr efallai nad yw rheolwyr wedi gwneud hyn, am fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydnabod yn ei hadroddiad, yn yr iaith, nad yw’n gwybod a yw’r honiadau’n wir, neu a yw’n bolisi systemig gan y bwrdd iechyd. Ond rwyf wedi dweud yn glir ar sawl achlysur yn y gorffennol y dylai cleifion gael eu gweld yn ôl angen clinigol. Rwyf eisoes wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â’r bwrdd iechyd a grybwyllwyd i fynd drwy’r honiadau sy’n cael eu gwneud.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â mesurau canlyniadau, mae’n deg dweud bod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, er enghraifft, yn cefnogi ein hagenda a’r camau rydym yn eu rhoi ar waith i wella gofal iechyd y llygaid, gyda mwy o ofal yn y gymuned, ac maent hwy, fel minnau, am weld mwy o gyflymder a chysondeb. Cefais sgwrs adeiladol iawn gyda hwy ynglŷn â’r hyn yr ydym yn ei wneud a’r meysydd sy’n peri her, ac mae hynny’n cynnwys ein targedau a mesurau canlyniadau, gan fy mod yn credu bod achos cryf i gredu nad yw ein targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth cyfredol yn y maes hwn yn hyrwyddo lles gorau cleifion, na’n helpu i gynorthwyo’r gwasanaeth i wneud yn siŵr mai angen clinigol yw’r flaenoriaeth. Felly, mae yna drafodaeth ar y gweill rhwng yr RNIB a chlinigwyr ynglŷn â sut rydym yn diwygio ac yn adolygu’r targedau hynny, ac rwy’n disgwyl adroddiad i ddod i law yn ystod y gwanwyn. Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill, gan fy mod wedi cydnabod eisoes y gallem ac y dylem wneud gwelliannau nid yn unig i’r gwasanaeth, ond o ran y modd yr ydym yn mesur ac yn deall beth yw llwyddiant yn y gwasanaeth i gefnogi ac ategu arfer clinigol gorau.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adroddiad AGIC yn canolbwyntio’n bennaf ar wasanaethau dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint, ond mae’r problemau a gafodd sylw yn dangos bod yna broblemau ehangach gyda gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru. Mae rhestrau aros ar gyfer offthalmoleg yn rhy uchel. Mae RNIB Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod cleifion yn mynd yn ddall wrth aros am driniaeth. Bob tro y bydd yr RNIB yn codi’r mater, dywedir wrthynt nad yw barn yr RNIB yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau yng Nghymru.
Mae’r ffigurau amseroedd aros diweddaraf yn dangos bod yr amser cyfartalog am lawdriniaeth cataract yn 115 diwrnod—ddwywaith mor hir ag yn Lloegr. Dyna’r sefyllfa bresennol, a phan fyddwch yn cyfuno hyn gyda’r ffaith fod llawer o offthalmolegwyr yn gorfod dibynnu ar bostio lluniau retinopathi am nad yw’r systemau TG yn ddigon da, gallwch weld pam y mae’r RNIB yn gwneud honiadau o’r fath.
Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru yn diwallu anghenion yr etholwyr?
Diolch am y sylwadau. Rwy’n meddwl fy mod, yn fy ymateb atodol i ddau gwestiwn cyntaf Rhun ap Iorwerth, wedi ceisio nodi ein bod yn cydnabod ein bod mewn gwirionedd yn achub golwg mwy a mwy o bobl. Yr her yw bod angen i fwy a mwy o bobl gael y gwasanaeth. Mae mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i’n gwasanaethau—mae’n ymwneud ag ateb y galw sydd gennym. Dyna pam y mae angen i ni ddiwygio’r system yn y modd a nodir yng nghynlluniau’r Llywodraeth a roddwyd at ei gilydd gyda chlinigwyr. Ni ellir cuddio rhag hynny, ac nid wyf erioed wedi ceisio gwneud hynny, ond nid wyf yn meddwl y dylai pobl fod o’r farn fod pob peth a ddywedodd yr holwr o reidrwydd yn adlewyrchiad cywir o farn yr RNIB. Er enghraifft, ar amseroedd aros cataract, mae’n faes lle y gallwch aros am gyfnod hwy o amser heb niwed clinigol. Os ydym yn mynnu dweud, ‘Rhaid i amseroedd aros am driniaeth cataract leihau fel mater o flaenoriaeth’, mae’n bosibl ein bod felly yn gogwyddo ein system i gyfeiriad nad yw’n diwallu’r angen clinigol.
Mewn gwirionedd mae ein hamserau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn lleihau mewn offthalmoleg, ond nid a yw ein mesurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth cyfredol yn lleihau yw’r unig her, ond ai dyna’r math cywir a deallus o fesurau a ddylai fod gennym i ddweud wrthym pa mor llwyddiannus yw ein gwasanaeth, ac rwy’n meddwl bod yna achos cryf dros ddweud nad ydynt yn gwneud hynny. Dyna pam y dywedais wrth y gwasanaeth, gyda’r RNIB, fy mod am ein gweld yn mabwysiadu ymagwedd wahanol, i geisio cael ymagwedd fwy deallus tuag at hyn. Rydym eisoes yn buddsoddi mewn TG i sicrhau bod modd cyfnewid delweddau’n ddigidol rhwng gofal eilaidd a gofal sylfaenol, ac rydym yn rhoi negeseuon i bobl fynd at eu hoptometrydd stryd fawr i gael gofal iechyd y llygaid, yn hytrach na meddyg teulu. Felly, rydym yn gwneud llawer o’r hyn y mae’r cwestiwn yn awgrymu y dylem ei wneud. Yr heriau yw cyflymder, cysondeb a set ddeallus o fesurau perfformiad.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer datganiadau 90 eiliad yr wythnos yma.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymchwiliadau’r pwyllgor, ac rydw i’n galw ar y Cadeirydd, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i siarad heddiw ac i roi gwybod i fy nghyd-Aelodau Cynulliad am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am ystyried ac ymchwilio adroddiadau gwerth am arian a gynhyrchir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Hyd yma yn y Cynulliad hwn, rydym eisoes wedi ymgymryd â nifer o ymholiadau yn seiliedig ar yr adroddiadau hyn, gan gynnwys Kancoat a llifogydd ac erydu arfordirol, ac mae gennym nifer o ymchwiliadau eraill wedi’u trefnu, gan gynnwys creu incwm a ffioedd a rheoli meddyginiaethau.
I gyd-fynd â’r gwaith hwn, ar ddechrau’r Cynulliad hwn, penderfynodd y pwyllgor adeiladu ar waith arloesol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod y Cynulliad diwethaf, a gyflwynodd y cysyniad o ymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor ym maes cyfrifon cyhoeddus. Felly, fel pwyllgor, cytunasom i ddatblygu rhaglen uchelgeisiol o ymchwiliadau i ymgymryd â hwy yn ystod y Cynulliad hwn, ac rydym yn bwriadu gosod pobl yn gadarn wrth wraidd pob un o’n hymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor. Mae hyn, gobeithio, yn newid cadarnhaol, a bydd yn gwneud gwaith hanfodol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn fwy dealladwy i bawb yng Nghymru.
Yn gyntaf, rydym wedi cytuno i fabwysiadu ymagwedd thematig tuag at ein gwaith craffu blynyddol ar y cyfrifon, felly, er enghraifft, ar gyfer cyfrifon 2015-16, buom yn canolbwyntio ar gyrff addysgol, a gwelsom eu bod, ar y cyfan, yn dda yn ein barn ni. Credwn y bydd gosod thema wahanol ar gyfer pob blwyddyn yn ychwanegu eglurder i’r cyhoedd mewn perthynas â’r gwaith hwn. Er, wrth wneud hyn, mae’n bosibl na fyddwn bob amser yn datgelu sgerbydau yng nghypyrddau sefydliadau, ond mae wedi cael effaith ataliol drwy sicrhau bod cyrff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn teimlo pwysau ar bob lefel i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. Ac yn wir, yr wythnos hon, cytunodd y pwyllgor i alw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ôl ar gyfer craffu ar gyfrifon ym mis Medi, ar ôl ystyried adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol ar lywodraethu yn y Llyfrgell Genedlaethol—mater arbennig o berthnasol o ystyried y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol am y trefniadau llywodraethu.
Ein prif waith dan arweiniad y pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn yw ystyried trosolwg rheoleiddio cymdeithasau tai. Mae gennym ddiddordeb yn y mater hwn am fod cymdeithasau tai yn derbyn symiau sylweddol o arian cyhoeddus, yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn digartrefedd ac yn cyfrannu at yr economi ehangach. Mae’r pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod y trefniadau rheoleiddio cyfredol yn effeithiol ac yn effeithlon, a bod trefniadau llywodraethu o fewn y sector yn gadarn. Mae hwn yn waith amserol, o ystyried y trafodaethau ynglŷn â dosbarthiad y cyrff pwysig hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fel gwaith sydd wedi cael ei ysgogi gan y pwyllgor, rydym wedi gallu rhoi tenantiaid wrth wraidd yr ymchwiliad hwn, sy’n rhywbeth y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni. Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiad diddorol a llawn gwybodaeth i randdeiliaid gydag ystod o denantiaid, ac yfory, byddwn yn cyhoeddi arolwg gyda’r nod o gyrraedd cynulleidfa mor amrywiol ag y bo modd. Rydym wedi mynd ati’n rhagweithiol i ymgysylltu â sefydliadau perthnasol i raeadru gwaith y pwyllgor ac i sefydlu deialog agored gyda’r rhanddeiliaid hynny ar bob lefel.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi dechrau pennu cwmpas ein gwaith nesaf i edrych ar gonsortia addysg rhanbarthol. Efallai fod yr Aelodau eisoes wedi gweld y memorandwm defnyddiol a baratowyd gan yr archwilydd cyffredinol ar gyfer y pwyllgor yn nodi’r sefyllfa bresennol gyda’r consortia. Mae’r pwyllgor wedi dechrau casglu tystiolaeth ar gyfer hyn a newydd gyhoeddi arolwg ar y cyd gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—sy’n gam arloesol yn y gobaith o atal pobl rhag blino ar ymgynghoriadau—i glywed gan athrawon a gweithwyr proffesiynol yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau.
Yn olaf, ar y gorwel, rydym yn bwriadu gwneud cryn dipyn o waith i edrych ar drefniadau llywodraethu a chymorth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Rydym wedi nodi pedair elfen ar gyfer hyn: gwariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; gwerth am arian y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer lleoliadau maeth; ac effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol. Byddwn yn ymgymryd â hyn fel rhaglen dreigl o waith, gan chwarae ar bŵer dyfalbarhad na fyddwn yn camu’n ôl hyd nes y gwelwn welliannau sylweddol yn y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario yn y maes hwn.
Er efallai nad yw llawer o’r hyn y soniais amdano heddiw ynglŷn ag anelu i sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio mwy ar y dinesydd yn hynod o arloesol i bwyllgorau’r Cynulliad sy’n seiliedig ar bolisi ehangach, mae’n gam mawr i bwyllgor cyfrifon cyhoeddus, a gobeithio y bydd yn helpu i gynnwys pobl a chynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’n rôl fel stiwardiaid y pwrs cyhoeddus. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pob Aelod i hyrwyddo’r gwaith hwn, yn enwedig ein harolygon, a chyflwyno unrhyw feysydd y credwch y dylai’r pwyllgor eu hystyried yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Rwy’n croesawu’r datganiad gan Nick Ramsay yn fawr, ac yn ei longyfarch ar y ffordd y mae wedi cadeirio’r pwyllgor dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Weithiau, fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn teimlo’n ddiddiwedd braidd: mae’r archwilydd cyffredinol yn cynhyrchu adroddiad, rydym yn cael cyflwyniad, daw gweision sifil y Llywodraeth a thystion eraill i mewn, rydym yn cynhyrchu adroddiad, sydd wedyn yn cael ei anfon at y Llywodraeth, sy’n ymateb, ac yna rydym yn dechrau eto fel rhyw fath o ddolen gyfrifiadurol ddiddiwedd. Mae’r cyfle i gael ymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor yn un da, ac yn un pwysig iawn. Rwy’n meddwl mai’r un peth sy’n wirioneddol bwysig yw nad ydym yn dyblygu’r hyn sy’n cael ei wneud gan bwyllgorau eraill. Dyna un o broblemau cyfrifon cyhoeddus gan ei fod mor amrywiol a gall gynnwys unrhyw beth a wnaed gan y Llywodraeth, neu gan y Cynulliad. Gall wneud pethau, a darganfod yn nes ymlaen fod pwyllgor arall wedi dechrau gwneud yn union yr un peth, neu wedi cynllunio i wneud yr un peth. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod gennym system i sicrhau, os oes pwyllgor arall yn ei wneud, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cymryd yr awennau neu fod y pwyllgor arall yn gwneud hynny. Ond nid wyf yn credu bod gennym ddigon o amser a phobl i wneud rhywbeth ddwywaith.
Gwn fod gennym i gyd ein diddordebau ein hunain, a’n profiadau ein hunain o’r gorffennol, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn rhoi cyfle i Aelodau eraill nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor awgrymu ymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor. Efallai y gall y Cadeirydd ddweud sut y gallai pobl wneud hynny. Yn ôl pob tebyg, gallwn ei gadw i fynd gyda fy awgrymiadau fy hun dros y pum mlynedd nesaf, ond nid wyf yn meddwl bod gennyf fi, nac unrhyw Aelod arall waeth pwy ydynt neu ble y gwasanaethant, yr holl wybodaeth a’r profiad neu fonopoli ar syniadau da. Rwy’n meddwl y dylai fod cyfle i unrhyw Aelod yma allu awgrymu maes i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus lle y byddai’n fuddiol iddynt wneud ymchwiliad dan arweiniad pwyllgor. Efallai, Gadeirydd—yn ôl eich cyfarwyddyd—y byddwn yn ymgymryd ag ef, neu efallai na wnawn hynny, ond rwy’n credu y dylai Aelodau ar draws y Siambr gael cyfle i gyflwyno awgrymiadau, oherwydd efallai’n wir y bydd ganddynt awgrym gwell na’r rheini ohonom sydd ar y pwyllgor. Felly, a allwch ddweud sut y gellid gwneud hynny, er mwyn i’r Aelodau gael cyfle i gyflwyno syniadau ynglŷn â’r hyn y gallem edrych arno?
Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am ei eiriau cynnes yno. Rydych yn gywir; mae’n teimlo’n aml fel proses ddiddiwedd. Gwn fod gan bob un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn waith caled i’w wneud, ond rwy’n meddwl ei bod yn anarferol i bwyllgorau newid gêr cymaint ag y gwnawn ni, o un maes i’r llall, ac weithiau o fewn y cyfarfod pwyllgor; pa un a ydym yn edrych ar fater iechyd neu blant sy’n derbyn gofal, fel y byddwn yn ei wneud, rydym yn newid yn gyson. Mae rhai blynyddoedd ers i mi fod ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fel aelod arferol—os gallaf ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw—yn ôl yn 2008-09. Nid fy mod yn anarferol yn awr, wrth gwrs, fel Cadeirydd, ond, wel, chi sydd i farnu ynglŷn â hynny. 2008-09 oedd hi ac mae’r pwyllgor wedi newid yn sylweddol ers hynny. Yr hyn sy’n dal i fod yr un fath, wrth gwrs, yw ein bod yn bwyllgor anghyffredin gan fod yr archwilydd cyffredinol gyda ni. Cawn ei gyngor, a chawn ei adroddiadau, ond rydym yn wahanol i bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus mewn mannau eraill—ac yn gynyddol felly—gan ein bod yn ystyried amrywio ein gwaith, ac nid bwrw ymlaen â gwaith yr archwilydd cyffredinol yn unig, ond cyflwyno ein hadroddiadau pwyllgor ein hunain hefyd. Ar y pwynt hwnnw, Mike Hedges, rwy’n meddwl eich bod yn hollol iawn: nid ein lle ni yn y pwyllgor yn unig yw awgrymu’r gwaith hwnnw; mae’n fater i Aelodau eraill y Cynulliad hefyd. Fforwm yw hwn heddiw. Pan fyddwn yn cyflwyno gwaith arall, rwy’n siŵr y buasai’r Aelodau’n hoffi cyflwyno eu hawgrymiadau, hyd yn oed os mai ar lafar yn unig y gwnânt hynny. Rydym yn bwyllgor agored sy’n gwrando, ac rydym yn anelu at fod yn gynyddol felly.
Hoffwn ddiolch i chi, Mike. Gwn eich bod wedi bod ar y pwyllgor ers peth amser dros y blynyddoedd diwethaf cyn i mi ddod yn aelod. Rwyf fi hefyd ar y Pwyllgor Cyllid gyda chi, felly nid wyf yn cael llawer o gyfle i fod i ffwrdd oddi wrthych, ond rydych bob amser yno i roi cyngor a chymorth. Ar ddechrau sesiwn y Cynulliad hwn, pan gafodd y pwyllgor ei ailsefydlu, roeddem yn ymdrin â llawer o ymchwiliadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol, a gwn fod hynny wedi peri dryswch, nid yn unig i mi, ond i aelodau mwy newydd o’r pwyllgor hefyd. Rydym yn symud y tu hwnt i hynny yn awr. Rydym yn symud tuag at edrych ar waith newydd a gyflwynwyd gan yr archwilydd cyffredinol a gwaith newydd a gyflwynwyd gan Aelodau yn ogystal. Ond rwy’n agored i awgrymiadau, felly mae croeso i chi gysylltu â mi neu aelodau eraill y pwyllgor ar unrhyw bwynt i awgrymu sut y buasech yn hoffi i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus symud ymlaen yn y dyfodol.
Rwy’n falch iawn fod yr Aelod newydd ddweud yr hyn a ddywedodd. Hoffwn dalu teyrnged i Nick Ramsay am gadeirio’r pwyllgor mewn ffordd mor deg. Hoffwn dalu teyrnged i Mike hefyd, sy’n gwneud gwaith da ar y Pwyllgor Deisebau—y pwyllgor cyflymaf yn y Senedd, rwy’n meddwl. Caiff ei gadeirio’n dda iawn.
Gan symud ymlaen, os edrychwn ar yr hyn y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn edrych arno gyda Kancoat, rydym yn siarad am faterion difrifol iawn. Hoffwn i’r Senedd wrando ar y canlynol o ran gwariant amheus gan y Llywodraeth: Kancoat, £3.4 miliwn; cytundeb tir Llys-faen, pan gollodd y trethdalwr £39 miliwn; Rhws, y tir yno, pan gollasom £7 miliwn; OysterWorld, y cwmni gemau, £1.4 miliwn; dwy siop ym Mhontypridd, £1 filiwn; Cardiff Aviation, honnir bod £1.5 miliwn yn ddyledus yn y rhent; a Kukd.com, wel, mae’r holl daliadau gan y Llywodraeth wedi cael eu hatal dros dro am fod y rhiant-gwmni yn destun ymchwiliad gan HMRC am afreoleidd-dra yn ei drefniadau treth. Gwariwyd miloedd o bunnoedd ar arhosiad David Goldstone, y miliwnydd, yn yr Hilton yng Nghaerdydd, ac Weinidogion, pan fyddwch yn ateb cwestiynau am y defnydd o’r car gweinidogol, daw hyn i gyd i ychydig dros £53 miliwn. Rwy’n credu y dylai’r cyn-Weinidog gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ateb dros y penderfyniadau a wnaed. Ac os na ddaw’r cyn-Weinidog, dylem alw’r Prif Weinidog, sy’n gyfrifol yn y pen draw.
Mae angen i ni fod o ddifrif ynglŷn â rhoi diwedd ar wastraff ariannol yng Nghymru, ac rwy’n credu mai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw’r lle perffaith i wneud hynny. Felly, hoffwn ofyn i’r Cadeirydd a fuasai’n derbyn fy ngalwad i gyflwyno’r awgrym o ymchwiliad fforensig—fforensig—gerbron y pwyllgor i’r holl faterion hyn, gan fod anghymhwysedd Llafur yn peryglu datganoli, ac mae’n rhaid i ni daflu goleuni ar y materion hyn a sicrhau tryloywder. Diolch. Diolch.
Buaswn yn cytuno gydag agoriad sylwadau’r Aelod yno. Rydym yn gymysgedd eclectig ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Dewisais fy ngeiriau’n ofalus yno. Rydym yn cyfnewid safbwyntiau’n frwd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd lle y bo angen, ond mae gan unigolion eu barn eu hunain hefyd. Rydych yn llygad eich lle hefyd, Neil, fod hwn yn bwyllgor gyda llwyth gwaith hynod o ddifrifol, llwyth gwaith enfawr, sy’n edrych ar werth am arian gwariant cyhoeddus ar draws ystod eang o feysydd yng Nghymru. Yn ôl pob tebyg, gallem gyfarfod—nid wyf yn awgrymu hyn, gyda llaw—bob dydd a dal i fod yn brin o amser i fynd drwy’r llwyth gwaith dan sylw.
Iawn, gan ddychwelyd at eich pwyntiau sylfaenol yno, fe grybwylloch chi Kancoat, ac fe soniais amdano yn fy natganiad agoriadol. Gwyddom fod problemau wedi bod yno. Yr hyn a ddywedwn, fel y gwyddoch, yw bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, o ran ei weithrediad, yn ymwneud yn bennaf â phenderfyniadau gweithredol y Llywodraeth, a dyna pam ein bod yn cymryd tystiolaeth gan amrywiaeth eang o swyddogion, hyd at ac yn cynnwys yr Ysgrifennydd Parhaol—bydd yr Ysgrifennydd Parhaol diwethaf, a’r Ysgrifennydd Parhaol newydd yn dod i mewn yn y dyfodol agos. Dyna ein harfer safonol. Nawr, gallwn alw unrhyw un wrth gwrs, ond rhaid i mi ddweud y buasai’n rhaid i ni fod yn glir, buasai’n rhaid cael syniad clir yn y dystiolaeth a gawn gan y swyddogion, yn weithredol, fod galw ar gyn-Weinidog, yn arbennig, o fudd i’n hymholiadau. Rydych yn amlwg yn credu bod tystiolaeth a gawsom hyd yma yn gwarantu hynny. Mae tystion, wrth gwrs, yn fater i’r pwyllgor yn ei gyfanrwydd ei ystyried, ac rwy’n credu y buasai dweud y dylai hynny ddigwydd yn torri cynsail i mi neu unrhyw Aelod arall yn y Cyfarfod Llawn hwn. Felly, mater i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw hwn, ac rydych yn gwybod hynny, Neil McEvoy. Os ydych am gyflwyno’r cais i’r pwyllgor, bydd pawb ohonom yn ystyried ac rwy’n siŵr y byddwn yn llunio ymateb ystyriol. Ond buaswn yn dweud, yn y lle cyntaf, ein bod yn gyfrifol am graffu ar y swyddogion. Nid ydym yn bwyllgor pwnc, nid ydym yn edrych ar bolisi; rydym yn edrych ar weithgaredd gweithredol. Yn yr ystyr hwnnw, buasai’n rhaid i chi gael tystiolaeth glir iawn ein bod yn galw tystion i mewn am y rhesymau cywir. Ond fel y dywedais, mater i’r pwyllgor ei ystyried yw hynny ac nid mater i’r Cyfarfod Llawn hwn.
Fel un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf ar y pwyllgor hwn, am y 10 mlynedd diwethaf i fod yn fanwl gywir, ac ar ôl 45 mlynedd fel cyfrifydd mewn practis cyhoeddus, rwy’n gwybod ychydig am waith ffigurau. Eisiau gwybod am afreoleidd-dra ariannol oedd Neil McEvoy. Mae’n rhaid i ni edrych ar adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru. Rwy’n cytuno â chi y dylai’r adran honno ymgymryd ag archwiliad fforensig, ac yna gallent roi’r adroddiad i ni. Nid oes unrhyw reswm pam na allant wneud hynny os oes unrhyw un yn gwneud gwaith gwael, naill ai’n wleidyddol neu’n ariannol. Os gall Tony Blair fynd at bwyllgor cyfrifon Tŷ’r Cyffredin i egluro i’r ASau pam yr aeth i Irac, pam na all Aelodau’r Cynulliad a wnaeth benderfyniadau ariannol anghywir ddod gerbron ein pwyllgor i roi atebion?
Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei ddatganiad a’i longyfarch ar gadeirio’r pwyllgor mor rhagorol. Un o gryfderau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw ein bod yn gallu cychwyn ein hymchwiliadau ein hunain, ochr yn ochr â gwaith Swyddfa Archwilio Cymru. Felly, a gaf fi ofyn sut y gwelwch waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn datblygu yn y dyfodol, gan gyfeirio’n benodol at y berthynas rhwng y pwyllgor a’r swyddfa archwilio? Dyna yr hoffwn ei wybod.
Diolch i chi, Oscar, a diolch i chi am eich geiriau cynnes. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi ar y pwyllgor dros yr ychydig fisoedd diwethaf hefyd. Nid wyf yn credu mai cais oedd hwnnw i ni alw Tony Blair i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cymru—o leiaf, nid wyf yn cymryd mai dyna oedd—ond rwy’n derbyn eich pwynt. Y pwynt yw, fel pwyllgor, rydym yn rhydd i ofyn i unrhyw aelodau o’r cyhoedd ddod i siarad â’r pwyllgor os credwn fod y dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny. Mae’n llwyth gwaith mawr ac yn aml bydd y dystiolaeth a gawn yn ein harwain i gymryd tystiolaeth gan dystion na wnaethom eu hystyried yn wreiddiol. Ond fel y dywedaf, mae’n rhaid i ni fod yn seiliedig ar dystiolaeth yn hynny o beth.
O ran eich prif gwestiwn, fe’i hatebwyd gennych chi eich hun mewn ffordd. Rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng ystyried gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ar y naill law a chynnal ein hymchwiliadau ein hunain bellach dan arweiniad ein Haelodau. Gwn fod llawer o aelodau’r pwyllgor, yn y Cynulliad hwn yn sicr, yn awyddus i ni gyflawni ein hymchwiliadau ein hunain, ac nid ymchwiliadau byr a sydyn yn unig. O ran plant sy’n derbyn gofal, mater y gwn fod gan Lee Waters ddiddordeb arbennig ynddo, o ran gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud gwaith yn y tymor canolig neu dymor hir nad yw ond yn cael ei adael ar silff lychlyd flwyddyn neu ddwy wedyn, ond ein bod o ddifrif ynglŷn â’r hyn a wnawn a’n bod yn mynd i edrych eto ar y mater hwnnw yn y dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr fod pethau wedi gwella, gan fod hwnnw’n faes rhy bwysig. Mae’n un enghraifft o faes sy’n rhy bwysig i ni beidio ag ailedrych arno a gwneud yn siŵr eu bod yn gwrando ar ein ceisiadau.
Hoffwn ddweud, yn olaf, o ran eich cwestiwn, mai fy lle i fel Cadeirydd, gyda’ch cymorth chi wrth gwrs fel aelodau, yw gwneud yn siŵr fy mod yn sicrhau’r cydbwysedd cywir. Ac os na chaf hynny’n iawn ar unrhyw bwynt, rwy’n siŵr mai chi fydd y cyntaf—wel, chi yw’r cyntaf i ddweud wrthyf, rwy’n gwybod hynny, felly efallai nad oes angen i fi ddweud hynny. Neu na ddylwn ei atgoffa. Felly, byddaf yn parhau i ymdrechu i wneud hynny. Ond peidiwch â bod ofn dweud wrthyf os ydych yn teimlo fy mod yn cael y cydbwysedd yn anghywir, gan nad wyf fi ond yn feidrol.
Rwy’n datgan fy niddordeb fel Cadeirydd grŵp cynghori’r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. A gaf fi groesawu penderfyniad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymgymryd â gwaith cynhwysfawr ar wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal? Rwy’n credu y bydd hyn yn helpu grŵp cynghori’r Gweinidog yn ei waith yn darparu cyngor ar sut y gellir datblygu cynllun a rhaglen genedlaethol, gyda’r nod o gynhyrchu gwasanaethau o’r ansawdd gorau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn unrhyw le yn y DU neu’r tu hwnt i hynny hyd yn oed. Felly, edrychaf ymlaen at ddilyn eich trafodaethau.
Yn union fel yr oeddech yn ei ddweud am y gwaith a wnaethoch ar dai—eich bod eisiau i denantiaid fod yn allweddol i’r ymchwiliad—credaf ei bod yn bwysig iawn eich bod yn gallu ymgysylltu â phlant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn arbennig, naill ai drwy dystiolaeth uniongyrchol neu ddulliau allanol o gasglu tystiolaeth. Ceir sefydliadau fel Voices from Care a Phlant yng Nghymru a all roi cyngor ar hyn, oherwydd credaf y byddai’n gyfle rhagorol i’w llais gael ei glywed yn uniongyrchol.
Rwy’n gwybod bod gennych ddiddordeb ers tro ym maes plant sy’n derbyn gofal. Roeddwn i’n meddwl y buasai hynny’n codi, felly deuthum â rhai o’r ffigurau ar gyfer hynny, ac wrth edrych drwyddynt, rydym yn bwriadu craffu ar y gost gyffredinol a gwerth am arian yr ystod o wasanaethau sydd wedi’u hanelu at wella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Ond mae hwn yn faes mor enfawr fel ein bod yn mynd i ddychwelyd ato dros y blynyddoedd, buaswn yn dweud, nid misoedd hyd yn oed, ond dros y cyfnod hwnnw. Rydym yn mynd i edrych ar bob agwedd ar hyn, o werth am arian i rianta corfforaethol. Fel cyn-gynghorydd sir, gwn yn dda iawn am y rôl bwysig y mae cynghorwyr sir ar draws Cymru wedi’i chwarae, ac yn mynd i fod yn ei chwarae, yn rôl rhianta corfforaethol.
Ond bob tro, o ran hyn oll, nid ydym yn—. Rhaid i mi bwysleisio, nid ydym yn bwyllgor pwnc; rydym bob amser yn edrych ar hyn o safbwynt gwerth am arian i’r trethdalwr. Nid yw hynny’n golygu nad oes gennym ddiddordeb yn y polisïau sy’n cael eu rhoi ar waith, oherwydd weithiau mae’n anodd iawn gwahanu polisi a gwerth am arian. Felly, mae’n cynnwys hynny i gyd, ond rydym yn edrych, yn gyntaf ac yn bennaf, i weld a ydym yn cael gwerth am arian. Ac a yw’r system yn dryloyw? A yw pobl yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu? A yw plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael y math o wasanaeth y maent yn ei haeddu mewn gwirionedd?
Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn—. Rwy’n meddwl bod yr archwilydd cyffredinol wedi edrych ar hyn yn gynnar yn 2015, rwy’n meddwl—y dystiolaeth bryd hynny oedd bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, ond fel sy’n digwydd yn aml, gellid gwneud rhagor, ac yn enwedig ym maes materion iechyd meddwl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Ac roedd mwy nag wyth y cant o blant sy’n derbyn gofal wedi cael diagnosis o fod â phroblem iechyd meddwl, roedd bron i chwech y cant o blant sy’n derbyn gofal â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, ac roedd gan bron i 13 y cant o blant sy’n derbyn gofal anabledd. Nawr, wrth gwrs, mae yna gyfrannau o bobl yn y boblogaeth gyffredinol sydd â hynny, ond nid ydynt yn aml yn cyrraedd y ffigurau hyn mor gyson drwyddi draw. Felly, mae llawer o waith i’w wneud yma, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy aelodau ar y pwyllgor i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl fel pwyllgor. Oherwydd, yn y pen draw, dyna yw ein diben.
Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Rwy’n credu ei fod yn un o’r pwyllgorau allweddol mewn unrhyw senedd, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol nad yw’n troi’n syrcas. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda dilyn unrhyw dystiolaeth a dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn drylwyr. Ond mae hynny’n ei gwneud yn ofynnol i bob Aelod fod o ddifrif ynglŷn â’r pwyllgor a chymryd rhan yn ei waith, darllen y papurau swmpus ymlaen llaw, ymgysylltu â’r dystiolaeth—nid treulio cyfarfod y pwyllgor yn gyfan yn tapio ar eu iPhones a mynd ati wedyn i wyntyllu rhyw theori gynllwyn ddallbleidiol. Oherwydd rwy’n credu bod hynny’n dwyn anfri ar waith y pwyllgor. Pan fydd tystiolaeth ar gael, mae’n rhaid i ni ei dilyn, a rhaid i ni fynd ar ei drywydd yn ddiarbed, ac mae pob aelod o’r pwyllgor yn barod i wneud hynny.
Mae’r litani o honiadau a grybwyllodd Neil McEvoy yn gynharach—ac nid dyna’r tro cyntaf iddo sôn amdanynt—yn faterion sy’n cael eu hystyried gan y pwyllgor, ac a fydd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor. Nid oes neb ar y pwyllgor hwnnw nad yw’n meddwl yr un peth ac yn awyddus i fynd at wraidd y mater. Ond nid yw awgrymu’n gyson fod rhyw theori gynllwyn wleidyddol anferth yn sail i bob penderfyniad gwael neu achos amheus yn arbennig o ddefnyddiol, ac nid yw treulio cyfarfodydd yn trydar bob tro y gwelant rywbeth y credant y gall sicrhau pennawd iddynt, neu dynnu lluniau o bapurau dan gyfyngiadau a’u rhoi ar Twitter—nid yw’n helpu achos a chywirdeb y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Ategaf sylwadau David Melding a Nick Ramsay mai un o’r materion allweddol yr ydym am edrych arno dros y misoedd nesaf yw canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Rwy’n gobeithio y byddwn yn arloesol wrth ddilyn esiampl a osodwyd gan y pwyllgor diwylliant o ran ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â’n cylch gorchwyl i wneud yn siŵr ein bod yn edrych yn y mannau cywir, a’n bod yn dangos rhywfaint o gysondeb drwy ddychwelyd at y mater hwn. Oherwydd mae’r data, fel yr awgrymodd David Melding a Nick Ramsay, yn ystyfnig—yn ystyfnig o wael. A dyna’r math o waith y credaf y dylai’r cyfrifon cyhoeddus fod yn ei wneud, yn hytrach na mynd ar drywydd penawdau hawdd. Diolch.
Rwyf ar fin gwneud hynny. Fel y gwelwch, Aelodau, rydym yn bwyllgor o aelodau brwd, a safbwyntiau brwd, a phan fyddwn yn cytuno a phan fyddwn yn gweithio fel tîm, rwy’n credu ein bod ar ein gorau mewn gwirionedd, oherwydd, credwch fi, mae’r Aelodau ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad hwn â barn eu hunain go iawn. Buaswn yn dweud o ran—. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi ynglŷn â thrydar, ac mewn gwirionedd fe gawsom y drafodaeth honno, ac mae’n debyg fod pwyllgorau eraill wedi cael y drafodaeth honno hefyd yn ystod y Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol, yn ystod pwyllgor, boed yn ystod sesiwn breifat neu sesiwn gyhoeddus, fod trydariadau’n mynd allan cyn i’r pwyllgor yn ei gyfanrwydd allu ystyried y dystiolaeth. Yn aml, yn y Siambr hon, fel y mae’r Llywydd yn gwybod o brofiad, gallwn gael dadleuon cadarn, ac fe gewch bleidgarwch, neu beth bynnag y’i galwch; wrth gwrs hynny. Ond nid yw’r pwyllgor yno ar gyfer yr un diben yn llwyr ag y mae’r Siambr hon. Nid yw yno’n unig er mwyn i ni i wneud pwyntiau pleidiol. Wrth gwrs, gall Neil McEvoy wneud pwyntiau pleidiol, gallwch chi wneud pwyntiau pleidiol, gallaf finnau hefyd, ond yn y pen draw, a yw hynny’n helpu gweithrediad y pwyllgor hwnnw? A yw hynny’n ein helpu o fewn cylch gwaith y pwyllgor hwnnw i ddwyn y sefydliadau hynny i gyfrif? Nid wyf yn credu ei fod. Ac rwy’n meddwl bod angen i ni gofio pwrpas y Cynulliad hwn, pam y cawsom ein hethol iddo. Mae yna adeg i ni fynd i’r afael â’n gilydd, ond mae yna adeg hefyd i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’n buddiannau breintiedig ble bynnag y bônt, ym mha sector bynnag y bônt. A dyna’r gwaith rwy’n bwriadu bwrw ymlaen i’w wneud.
Felly, nid oes gennyf broblem gydag Aelodau’n trydar yr hyn sydd ar eu meddwl pan fydd cyfarfodydd pwyllgor wedi gorffen, ac ni fyddent yn gwrando arnaf pe bawn yn dweud wrthynt am beidio. Nid wyf yn trydar cymaint â’r rhan fwyaf o bobl. Ond rwy’n meddwl, ydy, mae hwn yn waith gwirioneddol bwysig, mae hwn yn bwyllgor sydd o ddifrif. Rwyf wrth fy modd yn cael pob aelod o’r pwyllgor yn gweithio gyda fi. Gadewch i ni symud hyn yn ei flaen. Rydym yn dîm. Gadewch i ni fynd i ble y dymunwn fynd. Rydym i gyd am fynd i fan lle y byddwn yn sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd i’r trethdalwr. Mae llawer ohonom yn dewis gwahanol ffyrdd o gyrraedd yno, ond yn y pen draw, rydym yn mynd i gyrraedd yno, a chyn i Mark Isherwood ddechrau siarad am gydgynhyrchu, rwyf am orffen fy sylwadau.
Diolch yn fawr iawn i Gadeirydd y pwyllgor am ei eiriau a’i ddatganiad.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor yma i symud y cynnig—Dai Lloyd.
Cynnig NDM6220 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rydw i’n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yma ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf rydym ni yn ei ganol o, 2016-17. Nawr, wrth gwrs, mae’r gaeaf yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n adeg pan fo’r pwysau sy’n codi gydol y flwyddyn yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio, y galw cynyddol am wasanaethau, a heriau’r gweithlu, i gyd ar eu mwyaf amlwg. Dim ond ryw bythefnos yn ôl dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru fod y gwasanaeth iechyd eisoes wedi wynebu heriau eithriadol y gaeaf hwn, a’i fod yn gweld rhai o’r dyddiau prysuraf erioed yn hanes unedau brys ein hysbytai a gwasanaethau ambiwlans Cymru.
Yn yr yn wythnos, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y byddai targedau penodol ar gyfer meddygon teulu yn cael eu hatal dros dro i helpu i ryddhau apwyntiadau yn ein practisys, a hynny am fod cymaint o bwysau ar ofal sylfaenol y gaeaf hwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn sicr yn ymwybodol hefyd o’r sylw yn y cyfryngau ar bwysau tebyg ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn arbennig.
Nawr, roeddem ni fel pwyllgor yn teimlo ei bod yn bwysig ymchwilio i weld pa mor barod yw gwasanaeth iechyd gwladol Cymru a gwasanaethau gofal cymdeithasol i ymdopi â’r pwysau ar wasanaethau gofal heb eu trefnu dros y gaeaf hwn. Fel rhan o’r gwaith hwn, roeddem ni’n awyddus i edrych ar y cynnydd a wnaethpwyd yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers gwaith y pwyllgor blaenorol yn 2013-14. Roedd ein cylch gorchwyl hefyd yn rhoi pwyslais, ymhlith pethau eraill, ar lif cleifion, gan gynnwys gofal sylfaenol y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau ambiwlans brys, adrannau achosion brys, ac oedi wrth drosglwyddo gofal.
Treuliwyd haf 2016 yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ynghylch a oedd gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn sefyllfa i allu ymdopi efo’r pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf i ddod. Cawsom ni ymateb da iawn ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb am roi o’u hamser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth i ni yn ein cyfarfodydd ffurfiol.
Dyma'r dystiolaeth sydd wedi helpu i lunio casgliadau clir iawn a'n galluogi ni i lunio’r hyn sydd, yn ein barn ni, yn argymhellion cadarn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog. Er bod llawer o'n hargymhellion yn bwysig o ran rheoli pwysau ychwanegol dros y gaeaf, mae angen eu hystyried fel rhan o adolygiad llawer ehangach i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn wir, ein casgliad pwysicaf yw y byddai gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaeth gofal cymdeithasol mwy gwydn mewn sefyllfa well i ymdopi efo’r cynnydd sylweddol yn y galw dros gyfnod y gaeaf. Os na fydd modd sicrhau'r gwytnwch hwn drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymdrechion i ymdopi â phwysau penodol y gaeaf yn ymwneud mwy â cheisio cyfyngu ar eu heffeithiau na newid y system gyfan, sef yr hyn y mae gwir angen ei wneud. Bydd darllenwyr cyson a chraff ein hadroddiad ni yn gwybod taw paragraffau 71 i 75 sydd yn dweud hyn.
Rwy'n nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf yn rhannol. Rydym ni i gyd yn ymwybodol y cafodd byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol eu sefydlu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel ffordd o fwrw ymlaen â'r agenda i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Fodd bynnag, rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod mwy i'w wneud ac y bydd ei Lywodraeth yn cefnogi gwelliannau pellach.
Yn gyffredinol, daethom i'r casgliad fod angen gwell integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y broses o gynllunio ac o ran darparu gwasanaethau, a bod angen cynnwys y sector annibynnol—gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref fel ei gilydd—yn y gwaith hwn hefyd. Yng ngoleuni hyn, testun siom i mi yw bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai gomisiynu neu efallai adolygu unrhyw ymchwil sydd ar gael i effeithiolrwydd cyd-leoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig gan ei fod wedi cydnabod y dystiolaeth ar draws y Deyrnas Unedig sy'n dangos effeithiolrwydd cyd-leoli. Mae'r wybodaeth y mae wedi'i darparu ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yn gweithio ochr yn ochr ag adrannau achosion brys i'w chroesawu, serch hynny.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Roedd gwahaniaeth barn ymysg y rhai a rhoddodd dystiolaeth i'r pwyllgor am y lefelau o barodrwydd am y gaeaf, sef ffaith sy’n peri rhywfaint o bryder ynddo'i hun. Dylai'r sector cyfan fod yn fwy hyderus bod y broblem o dan reolaeth a bod modd ei drin. Gallai'r diffyg hyder hwn fod, yn rhannol, oherwydd bod angen gwella'r cyfathrebu rhwng yr holl grwpiau perthnasol, er gwaethaf y ffaith bod trefniadau fel cynlluniau integredig ar waith yn barod.
Yn gysylltiedig â hyn, mae gennym rai pryderon am ymgyrch Llywodraeth Cymru i frechu rhag y ffliw, yn enwedig o ran y ffaith mai nifer weddol fach o staff y gwasanaeth iechyd a staff gofal cymdeithasol sydd wedi cael eu brechu. O ran staff y gwasanaeth iechyd, mae ffigurau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond ryw 48.4 y cant ohonynt sydd wedi cael eu brechu rhag y ffliw hyd yn hyn. Mae brechu staff rheng flaen yn rhywbeth allweddol er mwyn atal y clefyd, ac rydym ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru a'r sector fod yn fwy uchelgeisiol wrth osod targedau yn y maes hwn. Mae gennym rai pryderon hefyd am strwythur yr ymgyrch eleni, ynghyd â pha mor weledol yw hi a sut y mae'n cael ei thargedu. Mae angen eglurder ynghylch rolau priodol meddygon teulu a fferyllwyr yn yr ymgyrch ac ynghylch cryfder a gwelededd y negeseuon cenedlaethol i grwpiau targed. Rydym yn argymell bod trefniadau'n cael eu rhoi ar waith i ymgymryd â dysgu system gyfan yn seiliedig ar werthusiad o effeithiolrwydd holl ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru ynghylch iechyd dros y gaeaf. Argymhelliad 3 yw hwnnw.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar y mater hwn. Rydym ni’n falch o nodi—ac rydw i'n siŵr y bydd aelodau eraill y pwyllgor yn teimlo'r un ffordd—y bydd gwersi o'r gwerthusiad yn cael eu hymgorffori mewn gwaith cynllunio blwyddyn gyfan yn y dyfodol, gan gynnwys yr ymgyrch ar gyfer y gaeaf nesaf. Nid oes amheuaeth y bu rhai gwelliannau clir yn y system. Mae ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru yn enghraifft amlwg a dylid ei llongyfarch am hynny. Fodd bynnag, mae’r ymchwiliad hwn wedi nodi nifer o faterion a gododd yn adroddiad y pwyllgor blaenorol yn 2013 fel materion y mae angen eu blaenoriaethu, gan gynnwys derbyniadau amhriodol i adrannau damweiniau ac achosion brys, llif cleifion drwy ysbytai ac oedi wrth drosglwyddo gofal. Clywsom lawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â gwlâu, angen mwy o wlâu a’r pwysau angerddol ar ofal cymdeithasol. Mwy gan aelodau eraill o’r pwyllgor, yn amlwg.
Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod y gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn wedi galw am ymdrechion ac adnoddau sylweddol iawn. Rydym yn croesawu’r ffaith y dechreuodd y gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf yn gynnar. Mae’n bwysig bod gwersi’r blynyddoedd blaenorol yn cael eu dysgu. Er gwaethaf hyn, rydym yn pryderu am allu’r system i ymdopi â phwysau ychwanegol y tymor a’r niwed y gallai un digwyddiad difrifol, fel achos o ffliw neu gau cartref gofal, ei achosi. Rydym wedi croesawu’r buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pwysau’r gaeaf eleni. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn disgwyl gweld canlyniadau penodol yn sgil y buddsoddiad ychwanegol yma: ymdopi â’r galw ychwanegol ar ofal heb ei drefnu a pharhau i ddarparu llawdriniaethau dewisol dros gyfnod y gaeaf. Rydym yn cydnabod bod y targedau hyn yn rhai uchelgeisiol ar gyfer buddsoddiad o’r fath. Argymhelliad pedwar yw hynny. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Mai ynghylch y cynnydd tuag at y targedau uchelgeisiol hynny. Diolch yn fawr.
Nid wyf yn dymuno ailddatgan yr hyn mae Dai Lloyd, Cadeirydd y pwyllgor, wedi’i ddweud yn barod, ond rwyf yn sicr am iddo gael ei gofnodi fy mod i yn sicr yn cyd-fynd â’r sylwadau glywsom ni yn fanna ac yn cytuno efo casgliadau’r adroddiad yma. Wrth gwrs bod yna ofynion gwahanol yn codi yn ystod y gaeaf, yn enwedig, fel y clywsom ni yn ystod ein hymchwiliad ni, o ran y mathau o broblemau iechyd sy’n codi efo’r henoed ac efo plant hefyd. Ond beth wnaeth fy nharo i, rwy’n meddwl, mwy na dim byd yn ystod yr ymchwiliad ac yng nghanfyddiadau’r adroddiad ydy’r graddau mae pwysau’r gaeaf yn bwysau sydd ddim yn cael eu hachosi gan ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth, fel y tywydd ac oerfel, ond mai pwysau sy’n cael eu hachosi gan ffactorau a ddylai fod o fewn rheolaeth y Llywodraeth sy’n achosi’r problemau rydym yn eu gweld o fewn y gwasanaeth. Rydym yn gwybod, onid ydym, pa mor bwysig ydy brechiad y ffliw, er enghraifft, ac rydym yn gwybod y dylai staff ar y rheng flaen o fewn iechyd gael y brechiad hwnnw. Nid yw’n gostus i sicrhau bod staff yn ei gael o. Ond mi dderbyniom ni dystiolaeth glir yn awgrymu nad yw staff yn ein hysbytai ni ddim yn derbyn y brechiad yna. Dyma’r math o beth ddylai fod yn gymharol sylfaenol.
Mi glywsom ni hefyd nad yw paratoadau o fewn y sector gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf ddim mor fanwl ag y dylen nhw fod. Rwy’n gwybod bod y meinciau yma yn aml yn cyfeirio’n feirniadol at Lywodraeth San Steffan am fethu, yng nghyd-destun Lloegr, â sylweddoli gwerth gofal cymdeithasol o fewn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfan. Ond yn fan hyn, rwy’n meddwl bod gennym enghraifft o Lywodraeth Cymru hefyd yn gwneud camgymeriad tebyg o gynllunio—ie, fel sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth iechyd, yr NHS—ond yn methu ar yr un pryd â rhoi'r sylw ddylai gael ei roi i’r system ofal yn ehangach. Mae’r dystiolaeth y clywsom ni fel pwyllgor yn sicr yn atgyfnerthu, yn ein barn ni, y teimlad bod yna argyfwng yn wynebu gofal cymdeithasol, ac mi fyddwn ni yn rhoi ffocws i hynny yn nadl Plaid Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Mi wna i roi sylw yn sydyn i faint o wlâu yn ein hysbytai ni sy’n cael eu defnyddio ar unrhyw adeg. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae yna ostyngiad wedi bod yn nifer y gwlâu sydd ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a hynny, rwy’n meddwl, wedi cael ei yrru gan ideoleg, yn fwy na chyllid, mewn difri. Ond mi welsom ni fel pwyllgor dystiolaeth bod y diffyg gwlâu wedi cyrraedd at bwynt rŵan sy’n achosi problem o fewn y gwasanaeth iechyd. Rŷm ni’n gwybod na ddylai ‘occupancy’ fod mwy nag 85 y cant neu mae hynny’n achosi problemau o ran hyblygrwydd o fewn y system. Mae sawl un wedi awgrymu wrthyf fi bod y rheini sy’n gwrthod gweld y cysylltiad yna efo pwysigrwydd peidio â mynd dros yr 85 y cant—bod y bobl yna hefyd yn rhai sydd wedi cefnogi symudiad ideolegol tuag at leihau nifer y gwlâu o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae’n rhaid inni, rwy’n meddwl, gychwyn ar raglen o sicrhau bod gennym ni’r gwlâu ar gael, ac mi wnawn ni roi sylw i hynny hefyd yn ein dadl ni y prynhawn yma.
Ond, fel rwy’n dweud, rwy’n meddwl mai’r wers fwyaf y gallwn ni ei chymryd o’n hymchwiliad ni fel pwyllgor ydy bod y gwasanaeth iechyd yn wynebu pwysau drwy’r flwyddyn, a bod y pwysau a’r hyn sy’n digwydd o fewn y maes iechyd yn y gaeaf—yr anghenion ychwanegol gan blant a phobl hŷn—yn rhywbeth yr ydym ni’n gwybod sy’n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf hefyd, ac mae’n mynd i ddigwydd y flwyddyn wedyn. Felly, mi ddylem ni fod yn gallu paratoi mwy, yn enwedig o ystyried y newidiadau yn ein poblogaeth ni a’r cynnydd mewn salwch cronig ac ati. Felly, rŷm ni’n gwybod beth ydy’r pwysau, rŷm ni’n gwybod hynny ymlaen llaw, ac, yn syml iawn, mi ddylem ni fod yn gwneud mwy am y peth.
Mwynheais fod yn rhan o’r pwyllgor hwn yn fawr a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth o’i flaen fel tystion. Roeddent yn fanwl iawn, roeddent yn wybodus iawn ac ar y cyfan, roeddent yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r gwahanol feysydd yr oeddent yn eu cynrychioli. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm clercio a’r staff am gael cystal trefn arnom.
Rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn siarad drosto’i hun. Mae yna gryn dipyn o fanylder yn yr adroddiad, a phan fyddwch yn darllen Cofnod y Trafodion, ceir mwy byth o fanylion yno. Ond i mi, yn dod at hyn mewn modd newydd sbon—dyma’r tro cyntaf i mi eistedd ar y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol—roedd yna ddau brif faes yn amlygu eu hunain—dau fater mawr. Yn gyntaf, er bod y pwysau ar y GIG yn parhau’n gyson 365 diwrnod y flwyddyn, nid oes amheuaeth ei fod yn newid ei ffurf yn y gaeaf. Rydym yn gwybod ei fod yn newid ei ffurf, a phob gaeaf gwyddom ei fod yn mynd i newid ei ffurf am mai math gwahanol o glaf sy’n cael eu derbyn yn bennaf, math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaeth ambiwlans a math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Felly, ni ddylai fod y tu hwnt i allu pawb ohonom yma—ond yn enwedig Llywodraeth Cymru, gan mai eich cyfrifoldeb chi ydyw, Ysgrifennydd y Cabinet—i sicrhau bod y byrddau iechyd yn adlewyrchu nid yn gymaint y pwysau, ond y newid yn y pwysau, fel ein bod yn sicrhau cydweithio da ac integreiddio da, a’n bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael mathau penodol o welyau, oherwydd fe wyddom, er enghraifft, ein bod yn mynd i gael llawer iawn mwy o blant ifanc ac rydym yn mynd i gael llawer iawn mwy o bobl oedrannus; ein bod yn meddwl am bethau fel cydleoli a’n bod yn meddwl sut y gallwn wneud taith pobl drwy’r adrannau damweiniau ac achosion brys a thrwy unedau penderfyniadau clinigol i’r ysbyty ac yn ôl allan o’r ysbyty yn llawer cyflymach a mwy effeithlon.
Nid oes neb yn bychanu’r ffaith fod y pwysau yno bob amser, ond rydym yn gwybod wrth i’r gaeaf ddod—a daw’n aeaf bob blwyddyn—y bydd ffurf y pwysau’n newid. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, cawsom adroddiad pwyllgor yn 2013 a gyfeiriai at yr union faterion hyn, ac nid ydym yn dysgu’r gwersi. Felly, mae fy nghwestiwn cyntaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ddifrif yn pwysleisio’r ffaith fod angen i ni fod ar flaen y gad a deall nad yw’r pwysau bob amser yr un fath, ni waeth sut y byddwn yn ei ddisgrifio.
Yr ail faes a ddaeth yn amlwg iawn i mi yn y pwyllgor hwn oedd yr holl stori sy’n ymwneud ag integreiddio a chydweithio. Yn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, rydych yn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod
‘disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu’n rheolaidd â’r sector gofal cymdeithasol a’r sector annibynnol wrth ddatblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig’.
Cerddais o’r pwyllgor hwnnw gyda theimlad sicr iawn nad oedd meddygon teulu yn teimlo bod unrhyw un wedi ymgynghori â hwy go iawn na’u bod wedi bod yn rhan o’r broses gydweithredol o gyflawni cynlluniau pwysau’r gaeaf a gofal iechyd ar gyfer y gaeaf, a cherddais o’r pwyllgor hwnnw hefyd yn teimlo nad oedd y sector gofal wedi cael rhan hynod o fawr yn y gwaith mewn gwirionedd. A dyna pam fy mod yn siomedig iawn o weld eich sylwadau ar argymhelliad 6 a’ch gwrthodiad i dderbyn yr argymhelliad hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod trosolwg o’r farchnad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hollol hanfodol, a hoffwn gael eglurhad o’r amseriadau a thrylwyredd y gwaith sy’n mynd i gael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal a Gwaith Cymdeithasol Cymru a’r bwrdd comisiynu cenedlaethol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod y farchnad ym maes gofal cymdeithasol yn eithriadol o fregus ar hyn o bryd.
Mae yna nifer fawr o rwystrau i dwf pellach y farchnad gofal cymdeithasol: ceir llai a llai o welyau cartrefi gofal, mae’r stoc adeiladau’n heneiddio, a rheoliadau a chyfyngiadau ariannol yn dechrau cael effaith. Os ydym yn mynd i dderbyn eich ymateb i argymhelliad 1, sef eich bod yn credu bod angen i ni fwrw ymlaen a gwneud mwy o integreiddio, mwy o gydweithio, adeiladu’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn sy’n edrych ar y sector cyfan—yr holl ffordd o ofal sylfaenol, pan fyddai rhywun yn cerdded allan drwy’r drws am y tro cyntaf gyda phroblem, yr holl ffordd i’r ysbyty ac yna efallai yn ôl i gartref gofal—rhaid i ni gynnwys pob un o’r elfennau hynny yn y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn. Ni chefais unrhyw deimlad—unrhyw wir deimlad—fod unrhyw un o’r byrddau iechyd a gyfwelwyd gennym neu’r tystion a welsom yn credu bod y cydweithio hwnnw rhwng yr holl sectorau wedi’i gyflawni’n llwyddiannus mewn gwirionedd. Oni bai ein bod yn gallu sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cadarn o’n blaenau, gyda’r ewyllys gorau yn y byd, gyda’r holl gynllunio gyda meddygon teulu, gydag unrhyw gynllunio mewn ysbytai, os na allwn fynd â phobl sy’n iach allan o’r ysbyty a’u rhoi mewn lleoliad gofal cymdeithasol, credaf ein bod yn mynd i wynebu’r goralw cyson am welyau yn ein hysbytai, ac mae hynny’n dod â’r holl broblemau eraill hynny yn ei sgil yr holl ffordd at ddrws blaen yr ysbyty ac yna’n ôl drwy ddrws cefn y meddygfeydd. Felly, dyna fy nau bwynt, Ysgrifennydd y Cabinet, a buaswn yn eich annog yn wir i edrych ar ffordd o fynd i’r afael â chyflwr y farchnad mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau cydweithio ac integreiddio, a derbyn bod y pwysau yno bob amser, ond bod pwysau’n edrych yn wahanol ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Diolch yn fawr iawn yn wir.
Hoffwn ddiolch i’r clercod, y pwyllgor iechyd a’r Gwasanaeth Ymchwil am eu cymorth yn ystod ein hymchwiliad. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni drwy gydol ein hymchwiliad. Yn ystod ein hymchwiliad, dywedodd mwyafrif y rhanddeiliaid wrthym fod pethau ychydig yn well eleni, ond eto i gyd, nid oeddent yn barod ar gyfer y gaeaf ac ar gyfer wynebu pwysau drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wrthym nad oedd y gwasanaethau yn hollol barod. Mae’n gwbl amlwg fod angen i ni wneud newidiadau sylweddol er mwyn ymdopi â’r pwysau ychwanegol hwn.
Fel pwyllgor, buom yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus ac yn croesholi tystion cyn llunio naw argymhelliad yn unig. Felly, mae’n siomedig mai tri yn unig o’n hargymhellion y gallodd Llywodraeth Cymru eu derbyn yn llawn. Rwy’n arbennig o siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 5. Amlygodd llawer o’r tystion i’n hymchwiliad y ffaith fod y model gwasanaeth presennol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn anghynaladwy. Er bod yr ymgyrch Dewis Doeth yn gam i’r cyfeiriad cywir, mae’n mynd i gymryd llawer mwy o amser i lwyr ailaddysgu’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’n rhan o mor annatod o feddylfryd y cyhoedd fod angen i ni weld meddyg pan fyddwn yn sâl fel bod argyhoeddi pobl fod fferyllfa gymunedol yn opsiwn llawer gwell weithiau yn mynd i gymryd amser hir.
Pan gysylltwch y meddylfryd hwn â’r ffaith ei bod yn mynd yn anos gweld meddyg teulu oherwydd tangyllido a gorweithio, nid yw’n syndod fod pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol. Er na ddylai hyn ddigwydd, mae’n rhaid i ni wynebu realiti. Hyd nes y byddwn yn cyflogi mwy o feddygon teulu a chael timau gofal sylfaenol sydd wedi’u hintegreiddio’n well, mae ein hysbytai’n mynd i orfod dal y slac yn dynn yn y system. Pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion bryd a arweiniodd at greu’r unedau mân anafiadau, ac felly buasai cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol i’w weld yn ddilyniant naturiol. Awgrymodd Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y dylem ystyried cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol a’r defnydd o feddygon drws blaen. Dylem wrando arnynt.
Dysgasom y gellid trin hyd at 30 y cant o’r bobl sy’n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn fwy priodol mewn mannau eraill yn y system iechyd. Mae arnom angen ffordd well o ymdrin â’r bobl hyn. Mae cael gwasanaeth un pwynt mynediad sy’n gallu sianelu pobl at y gwasanaeth priodol yn ateb llawer gwell na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd ac yn haeddu ei archwilio’n briodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i ailystyried. Rydych yn dweud bod hwn yn fater i fyrddau iechyd, ond gyda’r rhan fwyaf o’n byrddau iechyd angen rhyw fath o ymyrraeth ar ran y Llywodraeth, mae angen i chi ddangos arweiniad. Nid yw’r broblem yn mynd i ddiflannu ohoni’i hun. Ni allwn eistedd yn ôl a gobeithio y gallwn ddatrys pwysau’r gaeaf gydag ymgyrch hysbysebu. Ystyriodd ein pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd ger ein bron yn ofalus, ac rydym wedi awgrymu atebion yn seiliedig ar y dystiolaeth honno. Buaswn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i’n hadroddiad. Diolch yn fawr.
Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Wrth ystyried yr heriau sy’n wynebu ein system gofal iechyd, mae’n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy’n ymgorffori iechyd a gofal cymdeithasol yn sylfaenol, fel cylch cyflawn, fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn. Nid oes neb yn gwadu’r pwysau mawr sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn gwbl ymwybodol, yn ystod y misoedd oerach, ei bod hi’n amlwg y ceir cynnydd sylweddol tymhorol. Amlygodd yr adroddiad nifer o bethau sy’n achosi pryder difrifol o ran y lefel o barodrwydd a gallu’r ddau sector i ymdopi: unigolion yn byw’n hirach; cymhlethdodau anadlol dros fisoedd y gaeaf; cyfraddau heintiau mewn ysbytai yn cyrraedd uchafbwynt ar wahanol adegau o’r flwyddyn; ac wrth gwrs, oedi wrth drosglwyddo gofal ac aildderbyniadau—mae’r rhain oll yn bwysau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae aildderbyniadau i’r ysbyty yn gostus ac yn aml gellir eu hosgoi. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Age Cymru yn dangos bod dros 15,000 o bobl dros 75 oed yng Nghymru wedi’u haildderbyn i’r ysbyty o fewn 30 diwrnod yn unig i gael eu rhyddhau. Mae mabwysiadu model gofal yn y gymuned yn ganmoladwy, ond yn fy marn i, gwelwyd tuedd i dorri nifer y gwelyau ar wardiau ein hysbytai gyda rhagdybiaeth naturiol y bydd y gwelyau hyn yn syml yn cael eu llenwi adref, gyda phecyn cyflawn o ofal ar gael i’r claf wrth iddynt gyrraedd adref.
Mae cymorth ailalluogi ledled Cymru, yn sicr yn y gogledd, yn anghyson ac yn dameidiog. Lle y mae’n gweithio’n dda, gwyddom nad yw 70 y cant o’r bobl hynny angen cymorth na’u derbyn i’r ysbyty mwyach. Rhaid i hynny fod yn uchelgais i’r Llywodraeth hon a hefyd i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn tynnu sylw at anghysondeb a chymhlethdod gwasanaethau ailalluogi a ddarperir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Nid oes unrhyw safon bendant o ran ailalluogi ledled Cymru. Gall gwariant y pen gan awdurdodau lleol ar wasanaethau ailalluogi fod hyd at 10 gwaith yn uwch mewn rhai ardaloedd na’r hyn ydyw mewn ardaloedd eraill. Mae gofal da i unigolyn yn y gymuned yn aml yn galw am becyn gofal cwbl integredig wedi’i deilwra i anghenion penodol a chymhleth yr unigolyn dan sylw, ac yn aml hefyd gall alw am fewnbwn gweithiwr cymdeithasol, darparwyr gofal, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, darpariaeth meddygon teulu, a dietegydd weithiau hyd yn oed—yr olaf, wrth gwrs, ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw broblemau’n ymwneud â maeth neu hydradiad. Unwaith eto, mae’n hanfodol fod yr holl asiantaethau’n gweithio mewn modd cyson ac yn cyfathrebu’n dda er mwyn atal unrhyw heintiau posibl er enghraifft, neu er mwyn cadw’r croen yn iach, ac yn gyffredinol er mwyn cefnogi lles cyffredinol y rhai sy’n derbyn eu gofal y tu allan i’r ysbyty, ond yn eu cartref eu hunain.
Nododd tystiolaeth bellach a gymerwyd yn ystod y cam pwyllgor fod gofal cymdeithasol bellach ar ymyl y dibyn, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth yw colli nifer o’n cartrefi nyrsio a phrinder asiantaethau darparu gofal yn ein hetholaethau. Yn wir, mae Fforwm Gofal Cymru yn datgan nad oes angen mwy nag un methiant mawr arall mewn cartref nyrsio cyn iddi fynd yn drychineb llwyr mewn unrhyw ran o Gymru. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud nad oes unrhyw le mewn unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru ble y gallent gynnal 60 o unigolion yn gyflym yn sgil cau cartref. A all addasiadau polisi Cymru megis cyflwyno asesiadau aros yn y cartref, y galwodd Altaf Hussain amdanynt yma fel Ceidwadwr Cymreig, ddarparu mesur ymyrraeth gynnar allweddol, gan atal derbyniadau i ysbytai, osgoi oedi wrth drosglwyddo gofal ar ôl gadael yr ysbyty, a lleddfu’r pwysau ar ein wardiau ysbyty ar gyfnodau brig? Mae’r adroddiad yn argymell cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a gofynnaf i mi fy hun pam nad yw hyn yn digwydd a pham eich bod yn gwrthod yr argymhelliad. Fel y maent yn ei ddweud, mae’n gwneud synnwyr perffaith. Roeddwn yn meddwl mai holl bwrpas cymryd tystiolaeth mewn pwyllgorau oedd rhoi gwybod yn well i Lywodraeth Cymru am y pryderon a fynegir gan ein gweithwyr proffesiynol—y rhai sy’n cyflawni gwaith iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd—ac addysgu ar yr hyn sydd ei angen. Dyna yw’r holl reswm pam ein bod yma a pham y’i gelwir yn graffu. Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion a wnaed, bob un ohonynt, a’u gweithredu, a hoffwn ddiolch i’r Aelod Cynulliad, Dai Lloyd, a holl aelodau’r pwyllgor hwn am adroddiad mor ardderchog. Diolch.
Diolch i’r pwyllgor iechyd am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae materion iechyd yn cael eu trafod yn aml yma yn y Siambr, ac nid yw hynny ond yn adlewyrchu’r ffaith mai dyma un o’r pethau sy’n achosi fwyaf o bryder i’n hetholwyr. Fel newydd-ddyfodiad i’r lle hwn, mae gennyf ddiddordeb yn y broses lle y bydd pwyllgor, gyda 50 y cant o’i aelodau’n perthyn i’r blaid lywodraethol, yn llunio adroddiad gydag argymhellion pendant a’r Llywodraeth wedyn yn penderfynu pa rai, os o gwbl, y bydd yn dewis eu gweithredu. Yn amlwg, rhaid i’r Llywodraeth allu rheoli, ond os yw’n anwybyddu llawer o argymhellion ar ôl i bwyllgor gynnal ymchwiliad sy’n seiliedig ar dystiolaeth drylwyr, yna mae’r Llywodraeth honno’n gadael ei hun yn agored i lawer iawn o feirniadaeth os yw pethau i’w gweld yn mynd o chwith wedyn.
Ar hyn o bryd, mae llawer o amser yn cael ei wastraffu gyda chleifion yn gaeth mewn ambiwlansys wedi’u parcio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, weithiau am oriau ar y tro, tra bydd parafeddygon yn gofalu amdanynt. Mae hyn yn wastraff go iawn ar adnoddau, yn ogystal â bod yn brofiad annymunol i gleifion. Rwy’n sylweddoli bod y Llywodraeth yn aros am adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar wasanaethau y tu allan i oriau, ac y bydd hynny’n effeithio ar yr hyn y mae’n penderfynu ei wneud ynglŷn â chydleoli gwasanaethau meddygon teulu mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw gorau po gyntaf y bydd y Llywodraeth yn cael yr adroddiad hwn, yn ei dreulio ac yna’n rhoi camau gweithredu ystyrlon ar waith. Mae’n ymddangos i mi y gallai cydleoli yn hawdd fod yn opsiwn synhwyrol i leddfu’r straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor a’r ystod o sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw, er na fyddaf yn cytuno â phob un ohonynt. Ond rwy’n falch iawn fod yr adroddiad yn cydnabod y gwelliannau yr ydym eisoes wedi’u gwneud wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf, a’r heriau parhaus yr ydym yn dal i’w hwynebu.
Mae’r pwyllgor, wrth gwrs, yn gwneud nifer o argymhellion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli pwysau’r gaeaf, ond hefyd yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn. I gychwyn, rwy’n awyddus i gydnabod eto fod ein system iechyd a gofal dan bwysau gwirioneddol a sylweddol iawn. Dywedais cyn y Nadolig, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor, ein bod wedi paratoi’n well nag o’r blaen ar gyfer y gaeaf, ond y bydd yna ddyddiau anodd wrth gwrs, ac fe fu. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld ymchwydd yn y galw, yn enwedig gan gleifion sydd ag anghenion cynyddol gymhleth. Ac rwy’n dweud eto: mae dyddiau anos i ddod eto cyn y daw’r gaeaf i ben, a dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar iawn ein bod ni yma yn y Siambr, ac nid yn wynebu’r pwysau hwnnw ar y rheng flaen. Oherwydd mae’n glod i ymrwymiad a sgiliau ein staff, er gwaethaf y pwysau y maent yn ei wynebu, fod y mwyafrif helaeth o gleifion a dinasyddion yn parhau i dderbyn gofal o ansawdd uchel mewn ffordd broffesiynol ac amserol.
Nid yw hynny’n golygu ein bod, fel Llywodraeth, yn hunanfodlon neu’n anwybyddu maint yr heriau y mae ein system gyfan yn eu hwynebu. Rydym yn dibynnu ar ein staff, ac rydym yn falch yn y Llywodraeth hon o’u gweld fel partneriaid. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn mynd ben-ben â meddygon iau. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn rhoi’r bai ar feddygon teulu am bwysau’r gaeaf. A dyna pam rwy’n falch o fod yn aelod o Lywodraeth sy’n buddsoddi yn ein gweithlu gofal cymdeithasol.
Rydym yn fwriadol wedi mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio, ac nid wyf yn derbyn beirniadaeth Rhun ap Iorwerth fod y system gofal cymdeithasol rywsut yn cael ei hanghofio neu ei hanwybyddu. Rydym yn parhau i ariannu gofal cymdeithasol ar lefel lawer gwell nag yn Lloegr, ond nid yw hynny’n golygu nad oes pwysau ar ofal cymdeithasol yma yng Nghymru; nid yw hynny’n wir, yn bendant. Mae gofal cymdeithasol yn rhan bwysig o’r cynlluniau a’r ddarpariaeth yn y gaeaf, ac mae gofal cymdeithasol hefyd yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar ddadansoddi’r farchnad. Rydym yn gweithio, a byddwn yn parhau i weithio, ar draws iechyd, llywodraeth leol, mewn partneriaeth â’r trydydd sector a’n gwasanaethau brys. Nawr, nid yw hynny’n golygu bod ein system yn berffaith ar hyn o bryd, ond mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud a bydd yn parhau i gael ei gryfhau ymhellach mewn ffordd integredig, gan weithio rhwng y gwasanaethau hynny.
Nawr, rwy’n cydnabod, wrth gwrs, y gall llunio gwasanaethau sy’n gallu rhagweld ac ymateb i natur gyfnewidiol y galw gymryd amser i’w gael yn iawn. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o ysgogi gwelliannau pellach, ac roeddwn yn falch o weld argymhellion y pwyllgor yn adlewyrchu llawer o’r gwaith hwn. Cafodd sefydliadau eu hannog i adeiladu ar eu cynlluniau a’u profiad o flynyddoedd blaenorol i baratoi ar gyfer y gaeaf hwn a thu hwnt. Rwyf wedi fy nghalonogi bod lefelau oedi wrth drosglwyddo wedi gostwng eto ym mis Rhagfyr—mae hynny’n anarferol; nid dyna a welwn dros y ffin—mae amseroedd ymateb ambiwlans yn well na’r gaeaf diwethaf ac yn parhau felly; ac mae 111 wedi bod yn llwyddiant hyd yma yn ei ardal beilot yn Abertawe Bro Morgannwg, ac nid oedd hynny’n wir pan gafodd ei gyflwyno ar draws Lloegr. Felly, rydym yn cael amrywiaeth o bethau’n iawn, ac rydym yn cael amrywiaeth o bethau sy’n gwella o flwyddyn i flwyddyn. Yr her yw: a ydynt yn gwella’n ddigon cyflym i ddal i fyny gyda natur gyfnewidiol a chynyddol y galw? Ac mewn gwirionedd, gwelwn fwy o bobl yn eu cartrefi y gaeaf hwn; mae hynny’n rhan o’r rheswm pam ein bod yn parhau i ymdopi. Ceir llawer o dystiolaeth sy’n dangos bod ein dull o weithredu’n anelu i’r cyfeiriad cywir, ond mae’r cwestiwn bob amser yno: a yw’n ddigon ac a allwn wneud mwy?
Cafwyd cryn dipyn o ffocws, wrth gwrs, ar ysbytai, ond rwy’n falch fod y pwyllgor yn cydnabod rôl hollbwysig meddygon teulu, gofal cymdeithasol, y gronfa gofal canolraddol, gwasanaeth y tu allan i oriau a staff ambiwlans yn trin a gofalu am bobl. Mae argymhellion 1 i 5, 8 a 9 yn benodol yn canolbwyntio ar gynllunio, darparu a dysgu ar draws ein system gyfan, a dylwn ddweud, gan fod sylwadau wedi’u gwneud ar y mater, fod argymhelliad 5 wedi’i wrthod am ein bod yn y bôn yn gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud, ac rwy’n awyddus i beidio â dyblygu neu ailgychwyn ein hymdrechion. Ond rwy’n credu bod llawer o wersi i’w dysgu o ran sut yr awn ati i gynllunio, darparu a chydleoli ein gwasanaethau amrywiol, a bydd rhai o blaid cydleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a rhai’n dweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylech gydleoli popeth o fewn yr ysbyty.’ Mae’n rhaid i ni feddwl sut y darparir gofal mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas ein cymuned gyfan.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yr adroddiad yn sôn am hyn yn ogystal: fod yn rhaid i fyrddau iechyd reoli gofal wedi’i drefnu a heb ei drefnu dros y gaeaf. Y gaeaf hwn, mae byrddau iechyd wedi newid ffocws eu gweithgarwch, gyda mwy o weithgarwch cleifion allanol ac achosion dydd, nad yw’n dibynnu ar welyau i gleifion mewnol. Ac rydym wedi darparu’r £50 miliwn ychwanegol hwnnw i’r GIG y gaeaf hwn er mwyn helpu i reoli’r galw, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach ar ddiwedd y flwyddyn hon mewn amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth a diagnosteg, ac y gwelwn gynnydd pellach mewn gweithgaredd dewisol drwy’r gaeaf. Ac rwy’n disgwyl i’r sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth eleni wella eto o gymharu â’r llynedd.
Wrth gwrs, byddwn yn gwerthuso’r modd y mae ein system gyfan wedi ymdopi drwy’r gaeaf. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y gallwn ddisgwyl y bydd yna wersi i’w dysgu ac angen gwella. Fodd bynnag, mae hynny’n cynnwys llwyddiant neu fethiant Dewis Doeth, ac effaith y cyhoedd a’u defnydd o’r system gyfan. Dylem addysgu a hysbysu ein cyhoedd, nid eu beio. Ond mewn gwirionedd, mae’r cyhoedd yn rhan o’r gwaith o’n helpu i wneud y defnydd gorau o’r system gyfan. Rwy’n falch o ddweud y gofynnir am farn clinigwyr a’r cyhoedd fel rhan o’r gwerthusiad o’n hymateb a’n darpariaeth yn ystod y gaeaf.
Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns am ei fod yn bwynt a wneuthum ar sawl achlysur yn y gorffennol. Yn rheolaidd dywedir wrthym drwy gydol y flwyddyn ym maes iechyd nad oes y fath beth â phwysau’r gaeaf mewn gwirionedd gan fod pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, ac mae’n wir, ceir pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, mewn gofal dewisol ac mewn gofal brys hefyd. Ond yna, bob gaeaf, rydym yn siarad am yr heriau penodol sy’n dwysáu yn y gaeaf, a hynny am fod gennym fath gwahanol o glaf ac angen gwahanol yn dod drwy ein drysau mewn niferoedd gwahanol yn y gaeaf. Mae’r niferoedd cyffredinol yn mynd i lawr mewn gwirionedd, ond mae natur y galw yn newid yn sylweddol. Dyna pam y bwriadwn ddarparu, a pham ein bod yn darparu capasiti gwely ychwanegol yn y gaeaf. Dyna pam rwy’n gwrando ar feddygon teulu, fel yr oedd Dai Lloyd yn cydnabod, a pham rwy’n llacio fframweithiau ansawdd a chanlyniadau drwy weddill y gaeaf hwn er mwyn rhoi mwy o amser i feddygon teulu ofalu am eu cleifion mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, dylem gydnabod cyd-destun ein system iechyd a gofal drwy gydol y flwyddyn, a’r dewis sy’n rhaid i ni ei wneud—nid yn unig yn y gaeaf, ond wrth gynllunio a darparu ein system drwy gydol y flwyddyn. Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau y clywir amdano’n fynych sydd ynghlwm wrth ddisgwyliadau’r cyhoedd a phoblogaeth sy’n heneiddio, effaith tlodi, ein heriau iechyd cyhoeddus hirsefydlog, ac wrth gwrs, effaith anochel caledi Llywodraeth y DU. Mae’n nodwedd reolaidd a dealladwy o wleidyddiaeth fod pobl yn galw am fwy o arian ac adnoddau lle y ceir heriau, ac mae hynny lawn mor wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ag unrhyw weithgaredd arall. Ond mae galw am gynnydd yn y gwariant ar iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn alwad am yr amhosibl, a ninnau’n wynebu realiti caledi.
Angela Burns a gododd—
Ni allwn ariannu’r holl feysydd hynny ar lefel uwch a ninnau i gyd yn gwybod bod ein cyllideb gyffredinol wedi cael ei lleihau. Ac fe gymeraf yr ymyriad.
Diolch. Rwy’n credu bod yr adroddiad hwn yn eithaf clir, er hynny. Rydym yn deall y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn byw o’u mewn, ond os caf ddod yn ôl at argymhelliad 6, un o’n pryderon gwirioneddol yw bod y cyfyngiadau ariannol hynny’n effeithio’n andwyol ar y sector cartrefi gofal, a dyna pam y credwn ei bod mor bwysig i Lywodraeth Cymru fod â dealltwriaeth glir a da iawn o ble y mae’r sector cartrefi gofal yn awr a ble y mae’n debygol o fod yn y 5, 10 neu 15 mlynedd nesaf, oherwydd heb y sector hwnnw, rydym ar goll yn llwyr yn y GIG, gan fod angen i ni allu trosglwyddo pobl yn ddidrafferth i’r sector gofal.
Wel, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo gyda’r sector gofal. Maent yn bartneriaid sy’n dod o gwmpas y bwrdd, a chlywais y sylwadau gan Fforwm Gofal Cymru, er enghraifft, ond mewn gwirionedd, pa bryd bynnag y caewyd cartrefi, ac mae wedi digwydd, mae iechyd a gofal cymdeithasol wedi llwyddo bob tro mewn gwirionedd i helpu pobl i symud i lety gwahanol. Rydym eisiau mwy o sefydlogrwydd yn y sector gofal, yn enwedig y rhan yr ydym yn talu llawer o arian amdano, i gomisiynu, gydag arian cyhoeddus, a dyna waith y mae’r Gweinidog yn ei arwain gyda swyddogion. Felly, nid yw hwn yn faes sy’n cael ei anwybyddu.
Ond er ein bod yn wynebu realiti caledi, ac mae’n rhan o’r cyd-destun—mae’r rhain yn sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw mewn perthynas â’r maes hwn—ni allaf ac ni fyddaf yn esgus gwrando o ddifrif ar lais y rhai sy’n mynnu’r hyn y gwyddant ei fod yn amhosibl o ran ariannu, ac ariannu pob rhan o’n system ar lefel uwch. Nid yw’n bosibl. Fodd bynnag, fe fyddaf yn gwrando o ddifrif ar bob llais yn y ddadl hon a’r rhai sydd i ddod sy’n dilyn ymagwedd ddifrifol, onest ac aeddfed y pwyllgor yn yr adroddiad hwn. Mae’n fraint cael ein gwasanaethu gan staff sy’n gweithio o dan bwysau aruthrol yn ein system iechyd a gofal. Maent yn haeddu ein cefnogaeth, ond yn fwy na hynny, maent yn haeddu ein gonestrwydd ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu, yr hyn yr ydym yn ei wneud i ymateb i’r heriau hynny a’r hyn y gallwn ac y byddwn yn ei wneud o fewn ein hadnoddau ariannol.
Fe orffennaf yma, Ddirprwy Lywydd, ond gwn nad yw llawer o’r hyn y gallwn ei wneud yn ymwneud ag arian, ond â sut y defnyddiwn fanteision ein dull system gyfan wrth i ni barhau i integreiddio gwasanaethau o gwmpas anghenion y dinesydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor wrth i ni barhau i ddysgu ac i wella ar draws y system iechyd a gofal.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gyfraniad a diolch hefyd i aelodau eraill y pwyllgor, ac Aelodau sydd ddim yn aelodau o’r pwyllgor, am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddechrau drwy gyfeirio at bwysigrwydd cydnabod bod yn rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â’r ffliw a hefyd y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol a’r pwysau sydd ar ein gwlâu ni, a’r angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa yna.
Wedyn Angela Burns, hefyd, yn trin a thrafod yn ei ffordd aeddfed, ddihafal ei hun, ac yn gwneud pwyntiau gwerthfawr ynglŷn â’r ffaith sy’n cael ei gydnabod gan bawb: bod cleifion gwahanol yn ymddangos ym mhrysurdeb y gaeaf ac y dylem ni fod yn gallu cynllunio gogyfer hynny achos mae’r un math o beth yn digwydd gaeaf ar ôl gaeaf. Rydym ni’n disgwyl gaeaf arall ar ddiwedd y flwyddyn hon hefyd. Roedd hi hefyd yn gwneud y pwynt ynglŷn â gofal integredig.
Rydw i’n ddiolchgar iawn am gyfraniadau Caroline Jones, Janet Finch-Saunders a Gareth Bennett i’r ddadl, achos mi oedd hwn yn adroddiad pwysig iawn ar barodrwydd y gwasanaeth iechyd i ymdopi efo’r gaeaf. Roedd o’n ganlyniad, wrth gwrs—roedd yna adroddiad wedi bod yn flaenorol yn 2013-14, ac felly adeiladu ar yr argymhellion hynny oedd y bwriad a gweld pa fath o dwf a oedd wedi bod yn y gwaith sydd yn mynd rhagddo.
Wrth gwrs, prif gasgliad y pwyllgor ydy y dylai’r holl system yr ydym ni i gyd wedi bod yn sôn amdani hi—nid jest y gwasanaeth iechyd, ond hefyd y gwasanaeth gofal cymdeithasol—fod yn fwy gwydn gydol y flwyddyn, ac felly mewn sefyllfa lawer gwell wedyn pan fo pwysau ychwanegol yn dod ar yr adegau prysur iawn yna yng nghanol y gaeaf, a bod y system i gyd yn gallu delio â hynny yn nhermau’r capasiti pan fo yna nifer uchel iawn o gleifion yn gallu ymddangos ar rai dyddiau penodol, fel yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn ddiweddar. Wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bydd y trefniadau sydd mewn lle y gaeaf yma yn cael eu gwerthuso yn fuan ac rydym ni’n edrych ymlaen yn awyddus at ganfyddiadau’r gwerthusiad yna.
Ac i gloi, wrth gwrs, ac i ategu hefyd ddiolchiadau y sawl sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma yn nhermau sylweddoli cyfraniad arwrol y staff sydd yn y gwasanaeth iechyd. Yn naturiol, rwy’n eu cyfarfod nhw yn aml iawn yn y gweithle, ac roeddwn i’n teimlo’r emosiwn a’r angerdd yna yn y gwahanol gyfraniadau i’r adolygiad yma yn ein pwyllgor. Mae yna gariad angerddol tuag at ein gwasanaeth iechyd ni—ie, o ochr y cleifion, ond hefyd, yn enwedig, o ochr ein staff ni. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar yr angerdd yna, a’r ymroddiad yna i system sy’n wirioneddol bwysig i ni allu ei chadw a’i datblygu i fod hyd yn oed yn fwy arloesol nag y mae ar hyn o bryd.
Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Mae’n rhaid i ni ddod dros y gwahaniaeth yma rhwng gofal cynradd allan yn fanna, o’i gymharu efo gofal yn yr ysbyty. Mae’n rhaid dod â’r ddau sector hynny at ei gilydd. Rydym yn licio gweld y dyhead yna, bod meddygon a nyrsys yn gallu gweithio yn yr ysbyty a hefyd yn ein cymunedau ni—rhyw ffordd ddeuol ymlaen fel hynny. Byddem yn disgwyl gweld datblygiadau cyffrous fel hynny i’r dyfodol. Nid yn unig fel y bydd meddygon teulu yn gweithio yn yr ysbytai, ond hefyd bydd arbenigwyr ein hysbytai ni yn gynyddol yn gweithio yn ein cymunedau ni. Rhaid mynd i’r afael efo gwneud yn siŵr bod pob arbenigwr hefyd yn gallu edrych yn gyffredinol ar y claf—nid ar jest un system sydd yn mynd ar chwâl. Mae gennym ddigon o arbenigwyr rŵan sydd jest yn edrych ar ôl y thyroid, neu ddim ond yn edrych ar ôl diabetes neu’r galon. Wel, yn gynyddol, rŵan, mae’n rhaid i ni gael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, gan taw twf yn nifer yr henoed sydd yna. Y ffordd i ymdopi efo hynny ydyw cael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, fel yr oeddem ni’n arfer ei chael. Rŵan, dim ond meddygon teulu, yn sylfaenol, oni bai am ambell i arbenigwr sydd yn gofalu am yr henoed, sydd â’r doniau angenrheidiol i wneud hynny. Mae eisiau ailedrych ar y system fel hynny hefyd.
Felly, a gaf i ddiolch o waelod calon am gyfraniad staff y gwasanaeth iechyd—ein meddygon a’n nyrsys ni, ffisiotherapyddion, OTs a phawb arall? Ac hefyd, wrth gloi, diolch i’r clerciaid ac i’r holl swyddogion sy’n cefnogi fy ngwaith i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am bob cefnogaeth a hefyd am eu gwaith dygn a chaled yn dod â’r adolygiad yma, yn dod â’r cyfraniad sylweddol yma yr ydych chi’n ei weld o’ch blaen chi yn yr adroddiad yma, i olau dydd. Mae’n golygu lot o waith caled y tu ôl i’r llenni er mwyn dod â’r fath beth i fodolaeth yn y lle cyntaf. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu trafodaeth y prynhawn yma ac am eu sylw. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig hwnnw yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar ofal cymdeithasol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6223 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw’r GIG yn gynaliadwy.
2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.
3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso’r broses bontio yn ôl i ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r arfer o gau ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i’w defnyddio gan wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma ar ofal cymdeithasol, gofalwyr ac ysbytai cymunedol. Yr ydym yn siarad yn aml iawn, fel y dylem, yn y Siambr hon, am y gwasanaeth iechyd—am yr NHS—ond mae’n hynod bwysig ein bod ni bob amser yn cofio bod yna, y tu ôl i’r NHS, ecosystem gefnogol o ofal cymdeithasol, grwpiau trydydd sector, gofalwyr di-dâl—y cyfan ohonynt yn cyfrannu at yr hyn sydd ei angen ar drigolion ar hyd a lled Cymru. Yr ydym wedi cyfeirio yn aml at gamsyniad polisi y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain o ddiogelu cyllideb yr NHS yn Lloegr ar draul cyllidebau awdurdodau lleol, yn cynnwys gofal cymdeithasol. Nid wyf am dreulio llawer o amser ar hynny. Rydw i yn meddwl, serch hynny, ei bod yn deg dweud bod gan y Ceidwadwyr Cymreig farn wahanol i’w cyd-Aelodau Ceidwadol yn San Steffan. Rydw i’n meddwl bod yr Aelod dros orllewin Caerfyrddin yn haeddu clod am hynny. Nid wyf yn meddwl y byddem yn gallu dweud yr un peth flwyddyn yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa ni yn aml am y ffaith—ac y mae’n ffaith—nad yw’r gwariant ar ofal cymdeithasol yma wedi cael ei dorri fel y mae o yn Lloegr. Mae o’n wir: o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol 2011-12, mae’r gwariant ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion rhyw £100 miliwn yn fwy mewn termau arian parod yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, ac mae hyn hefyd yn trosi i gynnydd termau real. Felly, mi ddylem ni fod yn gweld gwelliannau. Rydw i am ichi gadw hynny mewn cof yn ystod y ddadl yma. Ond mae gen i fwy o ddiddordeb—fel y mae gan bob un ohonom ni, rwy’n gobeithio—mewn allbynnau na mewn cyllidebau. Felly, rydw i wedi bod yn edrych ar y tueddiadau dros y cyfnod yma o amser er mwyn cael trosolwg o sut mae gofal cymdeithasol yn perfformio, a hynny tra’n cydnabod bod y pwysau yn cynyddu oherwydd poblogaeth sydd yn heneiddio.
Mi oedd yna gynnydd yn nifer yr oriau o ofal cartref hyd at y flwyddyn 2014-15, ond mae yna ostyngiad wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny yn rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus yn ei gylch, ac yn sicr yn cadw llygad arno o ran y patrwm. Mae hefyd yn werth nodi bod yr oriau sy’n cael eu darparu o ofal yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol wedi gostwng, tra bod yr oriau o ofal sy’n cael eu darparu gan gontractwyr annibynnol ar ran awdurdodau lleol wedi codi. Mae yna gwmnïau rhagorol, wrth gwrs, yn darparu gofal, ond mae angen bod yn ofalus i warchod staff a defnyddwyr gwasanaeth mewn hinsawdd lle mae contractau sero awr a chyflogau isel yn gyffredin.
Mi symudaf i at ddarparu addasiadau a chyfarpar yn y cartref. Yno rydym ni’n gweld gostyngiad o 21 y cant mewn addasiadau cartref a gostyngiad o 15 y cant mewn offer. Beth ddywedodd y Gweinidog mewn ateb i gwestiwn gen i wythnos diwethaf oedd bod angen cofio bod anghenion pawb yn wahanol ac na ddylem ni fod yn neidio i gasgliadau. Ond, mae gweld gostyngiad o 21 y cant ar adeg pan fo’r boblogaeth yn heneiddio a’r galwadau ar y gwasanaeth yn cynyddu yn creu rhywfaint o syndod i fi, o leiaf.
Mi wnaf i droi at oedi wrth drosglwyddo gofal, sy’n fesur pwysig iawn, wrth gwrs, o’r ffordd y mae’r NHS a gofal cymdeithasol yn gweithio efo’i gilydd. Mae’r Llywodraeth wedi tynnu sylw at y perfformiad yma fel enghraifft o lwyddiant, ac yn wir, os ydym ni’n edrych ar y niferoedd blynyddol o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, mae yna gyflawniad gwych wedi bod. Mae’n rhaid dweud, yn y cyfnod yna rhwng 2000 a 2013 pan welsom ni ostyngiad o ryw 5,000 o achosion mewn blwyddyn i lawr i 1,200 y flwyddyn, nid oes yna ddim cwestiwn bod hynny yn welliant sylweddol, ond ers 2013, wedyn, mae’r ffigurau wedi bod yn cropian i fyny yn araf. Y llynedd mi oedd yna 1,343 o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol. Felly, mi fuaswn i’n rhybuddio’r Llywodraeth—ac rydw i’n gobeithio na fyddan nhw ddim—i beidio â llaesu dwylo. Mae pethau ar hyn o bryd yn symud i’r cyfeiriad anghywir a mwy na 100 o achosion o oedi bob mis am resymau gofal cymdeithasol yn dal i fod. Mae hyn yn broblem i’r NHS, wrth gwrs, ond mae o yn rhywbeth sy’n achosi problemau a loes meddwl, yn sicr, i gleifion sy’n canfod eu hunain wedi’u dal gan y mathau yma o oedi.
Diolch i chi, Rhun. Dywedodd adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar fod yr angen am gyllid gofal cymdeithasol yn mynd i ddyblu yn y 13 mlynedd nesaf. Onid ydych yn credu y dylem fod yn cynllunio yn awr, nid aros am yr ychydig flynyddoedd nesaf a gorfod dod o hyd i’r holl gyllid hwn yn sydyn? Rwy’n derbyn bod £50 miliwn wedi cael ei neilltuo i’n helpu i fod yn barod ar gyfer y gaeaf, ond yn y bôn, pe bai hwn yn fusnes, ni fuasech yn caniatáu iddo barhau’r holl amser hwnnw—buasech yn dechrau cynllunio, a buasech yn dechrau ei ariannu yn awr. A ydych chi’n cytuno?
Rwy’n siwr y maddeuwch i mi am nodi’r eironi fod Aelod Ceidwadol yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol ar adeg pan ydym wedi gweld cymaint o doriadau. Er, wrth gwrs, rwyf wedi nodi bod y blaid yma yn y Cynulliad o bosibl yn meddu ar agwedd wahanol. Mae yna gyllidebau cyfyngedig, wrth gwrs, ac fe helpaf y Llywodraeth o ran hynny, ond un o’r pethau, gobeithio, y byddwn yn gallu ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw dweud nad yw’n ymwneud yn unig â faint o arian sy’n mynd i mewn, mae’n ymwneud â beth a wnawn gyda’r arian hwnnw er mwyn cyflawni gwell canlyniadau. Ond wrth gwrs, rwy’n cytuno, mae po fwyaf o arian y gellir dod o hyd iddo i ymdrin â galw cynyddol yn rhywbeth sy’n mynd i orfod cael sylw wrth inni symud ymlaen.
I’m going to focus now on carers. Carers, I think, have suffered in two ways over the past few years. They’ve suffered because of the changes to welfare at a UK-level—and I’m very sorry, Janet Finch-Saunders, for highlighting once again the failings of the Conservative Government in Westminster. The impact that the cuts in welfare have had are something that Members here are very much aware of. But they’ve also suffered because of the poor performance in many areas here. Respite care is one such specific area. There has been a reduction of 24 per cent in the number of nights of respite care that are available, and that respite care is extremely important. Very often, that is the difference between someone coping with caring responsibilities or not coping.
We know from a recent survey that two thirds of carers had given up work or had reduced their working hours because of their caring responsibilities, and that 50 per cent of carers have had financial problems as a result of that; 55 per cent said that their physical health had deteriorated, and almost half of carers said that their mental health had deteriorated—the highest percentage anywhere in the UK, and I hope that we would all be concerned about that figure. Fifty per cent of carers—this is a statistic that I want to refer to—have left their own health problems untreated because of the pressures on them as care providers themselves. So, this respite is so important. It’s certainly no help that there are fewer beds available in community hospitals as one option in terms of providing that kind of respite care. We will cover that in more detail later on.
Things are getting worse. Carers in Wales have published their monitor of performance since the social services Bill. This is what they have found: 17 of the 22 local authorities in Wales can’t provide any data on the number of carers contacting them over the phone, on the internet, or personally, for advice or support. Most local authorities in Wales don’t know how many carers they have referred to other organisations. Carers Wales found that 16 of the 22 local authorities couldn’t provide a figure as to how many people they had referred on to other organisations. We need this kind of data. The needs of carers from ethnic minorities still aren’t taken into account. They have no representation on steering groups, local boards or fora. There was a significant variety in the number of carers assessments that each local authority had undertaken, something that was very important as part of the Bill. And, of the people who completed the survey, 80 per cent hadn’t been offered a needs assessment, which is quite shocking given the fact that those people who did complete the survey had already noted that they were carers, and we know what that Act has to say about that.
So, we certainly must strengthen social care in Wales. My fellow Members will be addressing some of the steps that we believe should be taken, including, as I said earlier, the need to reverse this process of losing beds in community hospitals. But there are so many different elements to the bigger picture of social care we must ensure that none of those are left behind. I look forward to the debate and the Minister’s response. Somehow, we need a social care regime that is more resilient and more sustainable for the future, where there will be greater pressure and greater demand.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau waethygu neu wella.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;
b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:
ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl hon a chynnig ein gwelliannau. Efallai y caf sôn hefyd y bydd cyfle i’r Aelodau ddatblygu’r safbwyntiau a gyflwynir heddiw mewn dadl y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei chyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n meddwl yn bendant y dylem gadw hyn yn ein golwg. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn ei drafod yn aml, yn enwedig gydag adolygiad seneddol Ysgrifennydd y Cabinet ar y gweill.
Effeithir ar ofal cymdeithasol da gan nifer o faterion cymhleth am fod gan ein hetholwyr anghenion cymhleth. Nid yw’n agored i ateb homogenaidd gan nad ydym yn Gymru homogenaidd. Ni ellir ystyried labeli fel ‘integreiddio’ yn fwled arian fwy nag y gellir ystyried Llywodraeth Cymru yn ŵydd aur. Mae integreiddio systemau sydd eu hunain yn amherffaith ac yn anghyfartal o ran statws yn creu ei beryglon ei hun yn ogystal â rhai enghreifftiau hynod o gyffrous a da. Ond pam fod y llwybr mor gul tuag at newid systemig sylfaenol, sef yr hyn y gallai fod ei angen arnom mewn gwirionedd?
Yn sicr, nid wyf am i chi feddwl nad wyf yn credu mai integreiddio yw’r ffordd anghywir i fynd—nad integreiddio yw’r ffordd anghywir i fynd—ond pa mor bell a pha mor eang? A ydym o ddifrif am gydleoli popeth mewn ysbytai? A ydym yn sôn am wasanaeth gofal gwladol sy’n datgysylltu gofod ysbyty cyffredinol dosbarth i bob pwrpas oddi wrth lefiathan newydd sy’n gyfrifol am ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol, ac efallai’n cael gwared ar gyfrifoldeb strategol awdurdodau lleol yn gyfan gwbl hyd yn oed? A ydym eisiau rhwydwaith o fodelau Llanfair-ym-Muallt neu fodelau Prestatyn? A ydym yn trosglwyddo pob gweithiwr cymdeithasol i mewn i’r GIG neu’r holl therapyddion galwedigaethol allan i’r awdurdodau lleol? Faint o gyfrifoldeb a roddwn ar yr unigolyn neu eu teulu neu eu cyfrif banc neu’r pwrs cyhoeddus?
Nid wyf yn credu y gall adolygiad seneddol y Llywodraeth gau llygaid wrth wynebu newid gweledigaethol trawsnewidiol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn mynd ati o ddifrif i ddefnyddio’r cyfnod hwn o arbrofi, os hoffech, gyda’r gronfa gofal canolraddol fel ateb tystiolaethol, ond nid yr ateb terfynol. Chwyldro neu esblygiad—rwy’n eithaf agored fy meddwl ynglŷn â’r naill lwybr neu’r llall, cyn belled ag y ceir penderfyniad yn nau ystyr y gair, ond ni chawn hynny oni bai ein bod yn edrych y tu hwnt i’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Ar y cynnig—pwyntiau 3 a 4 yn gyntaf. Gwnaeth yr wrthblaid o bob lliw, neu’r pleidiau o bob lliw, yr achos yn y Cynulliad diwethaf, fel y gwnaethant eisoes yn y Cynulliad hwn, fod cau ysbytai cymuned wedi mynd yn rhy bell—ymrwymiadau maniffesto gan bawb. Oedd, roedd angen moderneiddio neu adnewyddu rhai adeiladau, ond yr hyn yr ydym yn galaru ar eu holau mewn gwirionedd yw’r gwelyau, nid yr adeiladau. Cau ysbytai cymuned a cholli eu gwelyau oedd y ‘trobwynt’ yn ôl yr hyn a ddywedodd Cydffederasiwn GIG Cymru yn eu cyfarfod â mi yr wythnos diwethaf.
Bydd pob un ohonom yn dweud bod unigolyn yn well ei fyd gartref gyda phecyn gofal galluogi neu ailalluogi priodol, ond nid oes cynllun B, oes ‘na? Nid cadw pobl mewn gwelyau acíwt neu gomisiynu lleoedd cam-i-lawr mewn cartrefi preswyl yw’r ystod hyblyg neu eang o leoliadau y cyfeirir atynt yng ngwelliant y Llywodraeth. Rydym angen y gwelyau cymunedol bellach i ddiogelu pobl rhag y sefydliadoli newydd mewn gwelyau acíwt a grëwyd gan oedi wrth drosglwyddo gofal. Nid y gwelyau cymunedol hyn sy’n achosi sefydliadoli mwyach.
Mae proffesiynau perthynol i iechyd yn debygol o gael asesiad mwy cywir o anghenion cymorth parhaus rhywun o wely cymunedol—yn amlwg, efallai na fydd mor gywir ag y buasai yng nghartref unigolyn, ond mae hynny’n dal i greu risgiau lle na chaiff asesiad ei ddiwallu gan ddarpariaeth uniongyrchol. Hyd nes y gallwn lwyr ddiwallu anghenion cleifion drwy agor gwelyau cymunedol newydd fel rhan o’u gofal seibiant ac ailalluogi, mewn lleoliadau newydd o bosibl, yna dylai’r Llywodraeth wrando. Yn y Cynulliad hwn a’r diwethaf, a oedd hefyd yn gytbwys, gadewch i mi ddweud, mae’r holl wrthbleidiau sy’n cynrychioli eu hetholwyr wedi bod yn dweud wrthych am roi’r gorau i gau ysbytai cymuned.
Byddwn yn cefnogi pwynt 1 y cynnig, ac nid yw ein gwelliant iddo ond yn pwysleisio beth sydd bellach yn hunanamlwg: gofal ailalluogi neu oedi’r angen i dderbyn i’r ysbyty yn y lle cyntaf—dyna beth rydym ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr a dyna beth rydym ei eisiau i’r GIG. Ni allwch gael y cyfraniad hwnnw tuag at gynaliadwyedd heb y pethau hyn, nid yn unig gyda gofal corfforol, ond yn seicolegol hefyd, oherwydd os ydych yn teimlo bod eich anghenion meddygol a phersonol o dan eich rheolaeth—eich bod yn teimlo eu bod yn cael eu diwallu—efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n ddigon hyderus i ofyn am help gyda’ch anghenion cymdeithasol, ac unigrwydd yw’r enghraifft y mae pawb ohonom wedi bod yn siarad amdani’n ddiweddar.
Yn olaf, pwynt 2 y cynnig a’n hail welliant—wel, ie, wrth gwrs, mae gofalwyr di-dâl yn gwneud y cyfraniad hwn tuag at gynaliadwyedd, ac mae diwallu eu hanghenion yn rhan o ddiwallu anghenion y rhai sy’n derbyn gofal, a dyna pam y defnyddiais adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn hytrach nag adran 40, yn y gwelliant. Rwy’n gobeithio na fydd yn cael ei wrthod am y rheswm syml na restrais naw adran ar wahân o’r Ddeddf honno. Dyma fy ymgais drwsgl i ddweud bod gofal cymdeithasol yn ymwneud â grŵp o bobl o bob oed, sut bynnag y caiff ei dorri’n fân yn y ddeddfwriaeth—y rhai sy’n derbyn gofal yn gyntaf ac yn bennaf, ond hefyd gofalwyr, gweithwyr gofal, gweithwyr iechyd, darparwyr tai, adeiladwyr tai, teuluoedd, elusennau, cymdogaethau, cwmnïau ynni ac ie, hyd yn oed rheolwyr a gwleidyddion. Mae angen i ni godi ein pennau ychydig ar hyn, ac mae edrych ar agenda integreiddio’r GIG yn golygu mai chwilio am hanner yr ateb yn unig yr ydym. Diolch.
Croesawaf y ffaith fod Janet Finch-Saunders yn dweud bod angen i ni ddyblu’r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, ac rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei hymgais i gael y math hwnnw o arian allan o Lywodraeth y DU—nid yw’n debygol gyda’r Llywodraeth bresennol. Ond rwyf hefyd yn croesawu safbwynt ychydig yn fwy cadarn Suzy Davies, nad yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU yn wyddau aur, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd eithaf gwahanol, mewn gwirionedd, yn enwedig gan ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw newid yn lefelau’r cyllid rhwng nawr a 2020.
Nid wyf yn siŵr mai ysbytai cymuned yw’r ateb fel y cyfryw, oherwydd, yn sicr ar sail fy mhrofiad personol, mae pobl hŷn sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes eisiau bod gartref, yn bendant. Mae yna rôl, wrth gwrs, i hosbisau gofal seibiant fel nad yw gofalwyr yn disgyn o dan y straen o ofalu am eu hanwyliaid, ond rwy’n meddwl bod—. Felly, mae angen sicrhau bod modelau amrywiol o gymorth yn cael eu rhoi, ac mae’n bwysig iawn, yn unol â’r Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod yn edrych yn holistaidd ar anghenion pobl a gwrando ar yr hyn y maent ei eisiau, a deall hefyd pa lefel o gefnogaeth a all ddod gan eu perthnasau, oherwydd yn y pen draw, gyda’u perthnasau neu eu ffrindiau y byddant fwyaf o eisiau bod, lle bo hynny’n bosibl.
Ond ni allwn fychanu’r straen y mae’r rhain yn ei achosi i bobl sy’n darparu gofal di-dâl, gwaith sy’n dod i ran menywod rhwng 50 a 64 oed yn arbennig, ond mae’r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau’n lleihau pan fydd pobl yn ymddeol ac mewn gwirionedd, mae dynion ychydig yn fwy tebygol o fod yn darparu gofal na menywod ar ôl oedran ymddeol. Mae iechyd gofalwyr di-dâl yn gwaethygu’n gynnyddrannol yn ôl y lefelau o ofal di-dâl. Mae’r baich o ddarparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos er hynny, o ran yr effaith ar eu hiechyd cyffredinol, ar ei uchaf ymysg gofalwyr ifanc o dan 24 oed. Ond mae’n rhaid i ni gymeradwyo’r 9,000 a mwy o ddynion a 5,000 a mwy o fenywod sy’n gweithio’n amser llawn ac yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl. Mae’n ymddangos i mi, yn yr amgylchiadau hynny, ei bod yn hynod o bwysig i ni wybod pwy yw’r gofalwyr di-dâl a’n bod yn gallu rhoi cymorth iddynt er mwyn sicrhau na fyddant hwythau hefyd angen gofal eu hunain.
Os edrychwn ar yr hyn yr ydym yn mynd i allu ei wneud, rwy’n meddwl bod y sefyllfa bresennol, er enghraifft, yng Nghaerdydd—yng Nghaerdydd, yn 2014, y flwyddyn ddiwethaf yr oedd ffigurau ar gael i mi, roedd ganddynt 11 o ddarparwyr fframwaith, yn ogystal â chontractau yn y fan a’r lle gyda bron i 80 o sefydliadau darparu eraill. Ac mae effaith tendro cystadleuol yn gwthio prisiau i lawr, yn gostwng cyflogau ac amodau, a’r ras i’r gwaelod, oherwydd yr enillion i’r cyfranddalwyr, yw’r sbardun allweddol i gwmnïau preifat. Ac yn syml iawn ni cheir y dilyniant gofal sy’n ofynnol. Os meddyliwch am y gwasanaethau gofal personol y mae gofalwyr yn gorfod eu darparu, mae cael person nad ydych yn ei adnabod i newid eich dillad gwely neu eich helpu i fynd i’r toiled yn ddinistriol iawn, ac mae gwir angen i ni feddwl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Yn parhau.]—am ffyrdd eraill o wneud pethau.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad. Roeddwn i’n gwrando ar eich pwynt am wthio costau i lawr yn y sector preifat; a fuasech yn derbyn hefyd fod yna anhawster gydag awdurdodau lleol yn gallu talu mwy i’r contractwyr preifat hynny?
Ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond rwy’n credu bod angen i ni chwilio am rai o’r atebion mewn mannau eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y model a ddatblygwyd yn yr Iseldiroedd, model Buurtzorg, gan fod hwnnw wedi cynyddu’n aruthrol y gyfradd sy’n cymeradwyo’r cynllun a boddhad swydd y nyrsys hefyd. Yn 2006, sylweddolodd pedair nyrs yn nhref fechan Almelo yn yr Iseldiroedd fod y berthynas â’r cleifion wedi cael ei thanseilio gan y system a weithredent o dan gynllun yswiriant a gâi ei ariannu gan y Llywodraeth. Felly, sefydlodd Jos de Blok a thri chydweithiwr arall eu menter gymdeithasol eu hunain o’r enw Buurtzorg i ofalu am bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, drwy ofal tosturiol cydgysylltiedig. A 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae ganddynt fwy na 9,000 o gydweithwyr sydd wedi ymuno â hwy, ac maent yn edrych ar ôl mwy na hanner y bobl yn yr Iseldiroedd sydd angen gofal yn y cartref. Mae wedi cael ei enwi droeon yn gyflogwr gorau’r wlad, o un flwyddyn i’r llall, ac mae’n batrwm ar gyfer gweddill y sector.
Yn ddiddorol, mae hefyd wedi torri costau, gan fod nyrsys yn rheoli eu hunain mewn 800 o wahanol dimau cymdogaeth. Maent yn ymwneud yn fwy effeithiol â gwasanaethau lleol eraill, gofalwyr gwirfoddol a’r cleifion eu hunain, a chefnogir eu timau sy’n trefnu eu hunain, nid gan reolwyr, ond gan hyfforddwyr peripatetig a system TG a luniwyd ar gyfer darparu gofal a chydweithio. Caiff y gweithgarwch cenedlaethol cyfan ei redeg o swyddfa gefn fach sy’n gofalu am y biliau ac yn cydlynu gwybodaeth a dysgu ar draws y timau. 40 o staff gweinyddol ar gyfer 9,000 o bobl yn y maes; mae hynny’n rhywbeth y dylem fod yn anelu tuag ato.
Felly, credaf fod hon yn ddadl barhaus, ond rwy’n croesawu’r ffaith y bydd seminar yn cael ei chynnal ar Buurtzorg ddiwedd mis Mawrth yn y Celtic Manor, ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o’n hawdurdodau lleol yn anfon cynrychiolwyr i ddarganfod sut y mae’n gweithredu.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw drwy sôn am bwysigrwydd cynnal pobl yn eu cartrefi er mwyn gwella gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar un agwedd i ddechrau. Un maes penodol ymarferol, sydd yn gallu cyfrannu at wella ansawdd bywydau llawer o bobl, yw gwneud addasiadau i’w cartrefi: ei gwneud hi’n haws i bobl defnyddio cadair olwyn; cawod bwrpasol; lifft i fyny’r grisiau; neu ddolenni i helpu pobl i symud o gwmpas y tŷ yn well. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, ers 2011 mi rydym ni wedi gweld gostyngiad o 21 y cant yn y nifer o addasiadau mewn cartrefi yng Nghymru, a 15 y cant o ostyngiad mewn achosion lle mae offer yn cael ei ddarparu i bobl sydd ei angen.
Mae’r holl broblemau ac anawsterau sy’n cael eu hachosi gan fiwrocratiaeth i gael gafael ar grantiau er mwyn addasu cartrefi yn parhau i fod yn broblem. Cafodd hyn ei amlygu gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth nôl yn 2013. Ond, hyd yn hyn, nid yw’n ymddangos bod yna fawr o ymdrech i weithredu ar rai o’r materion a godwyd yn yr adroddiad hwnnw, ac mae’r gostyngiad yn y ddarpariaeth yn amlygu ac yn awgrymu nad yw’r mater wedi cael y sylw mae o’n ei haeddu.
Y tu ôl i bob ystadegyn, mae yna berson cig a gwaed. Fe gefais i gyfarfod yn ddiweddar efo etholwr a oedd yn pryderu am blentyn yn y teulu sydd angen llawdriniaeth. Er mwyn gallu gofalu am y plentyn ar ôl iddo fo ddod yn ôl o’r ysbyty, mae angen i’r cartref dderbyn cyfres o addasiadau. Mae’r oedi wrth drefnu’r addasiadau hyn yn golygu bod y llawdriniaeth ei hun yn debygol o gael ei hoedi. Mae hyn yn ychwanegu at straen y teulu a’r plentyn, ac nid yw’n dderbyniol. Mae’n effeithio ar ansawdd byw y plentyn a’r teulu, ac fe all yr oedi arwain at fwy o broblemau i lawr y lein wrth i gyflwr meddygol y plentyn waethygu, gan arwain at yr angen am fwy o addasu a fydd yn costio mwy yn y pen draw.
Straeon fel hyn sydd yn gorwedd y tu ôl i’r ystadegau. Rydw i’n ymchwilio i’r achos hwn ar hyn o bryd, ond rwy’n amau mai diffyg arian sydd wrth wraidd y broblem—hynny yw, nad oes digon o arian ar gael i helpu pawb sydd angen addasiadau yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol wneud penderfyniadau tu hwnt o anodd wrth flaenoriaethu pwy sydd i gael addasiadau a phryd. Ond, os yw agenda Llywodraeth Cymru yn symud fwyfwy tuag at wneud gwaith ataliol, yna mae yna le i ddadlau y dylai addasiadau gael eu hariannu yn deg, os ydy’r Llywodraeth am ddilyn y blaenoriaethau mae hi’n gosod iddi hi ei hun yn y maes ataliol.
I droi at agwedd arall, mae’n wir nad ydy’r proffesiwn gofal ddim yn derbyn y statws a’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Mae’r amodau gweithio yn aml yn wael, ac nid oes llawer o gyfle i bobl ddatblygu eu gyrfa fel rhan o’r sector yma. Mae contractau dim oriau—‘zero-hours contracts’—yn dal yn amlwg yn y sector, er gwaethaf ymdrechion Plaid Cymru i’w gwahardd nhw—ymdrechion, yn anffodus, a gafodd eu rhwystro gan Llafur a’r Ceidwadwyr nifer o weithiau. Mae’r ffactorau yma yn cyfuno i wneud recriwtio i’r sector yn eithriadol o anodd, sydd, felly, yn cael effaith ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig. Mae’r methiant i dalu staff am yr amser pan maen nhw’n teithio yn cael effaith anghymesur ar ardaloedd gwledig, ac mae prinder siaradwyr Cymraeg yn y sector yn peri pryder, yn arbennig pan maen nhw’n delio â phobl sydd wedi colli’r gallu i ddeall a siarad Saesneg.
Felly, beth fedrwn ni ei wneud? Wel, yn gyntaf, o ran yr addasiadau, yn sicr, mae angen i’r Llywodraeth dderbyn argymhellion adroddiadau’r pwyllgor a gweithredu arnyn nhw. Yn anffodus, nid oes llawer o dystiolaeth o hyn o edrych ar yr adroddiadau mwyaf diweddar ar yr ystadegau ynglŷn ag addasiadau. Heb os, mae’n rhaid i ni roi mwy o gydnabyddiaeth i’r proffesiwn gofal cymdeithasol a rhoi iddo’r parch mae o’n ei haeddu, gyda phobl yn cael eu hannog i weld y proffesiwn fel gyrfa hir oes, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys addewid gan y Llywodraeth i wahardd contractau dim oriau.
Er ei fod yn wir bod gwariant wedi codi mewn termau real yn hanesyddol, mae’r broblem o danariannu gofal cymdeithasol yn parhau i fod efo ni. Mae wedi mynd yn diwn gron bellach i ddweud hyn, ond rwyf am ei ddweud o ac rwyf am ddweud o eto ac eto ac eto, mae’n debyg, yn y Siambr yma: mae angen gweld llawer mwy o gydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid i’r gronfa gofal canolradd fod yn fan cychwyn ac nid yn ben draw cyllido ar y cyd rhwng y sefydliadau gwahanol. Mae’n rhaid cael integreiddio pellach rhwng gofal cynradd, cymunedol a chymdeithasol i oedolion fel bod modd cynllunio a darparu gofal mewn ffordd gydlynol o gwmpas y person, a’i ddarparu yn lleol.
Mae Suzy Davies wedi codi pwyntiau trafod defnyddiol a phwysig y prynhawn yma. Byddai’n braf cael mwy o amser i wyntyllu’r rheini ar ryw gyfle yn y dyfodol. A gaf i ychwanegu trefniadau Ysbyty Alltwen, Tremadog, i’r rhestr o arferion da? Ond mae angen i’r arferion da yma gael eu rowlio allan erbyn hyn.
Mae angen symud i ddileu’r ffiniau artiffisial rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae angen i ysbytai cymunedol fod yn rhan allweddol o hyn—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych ymhell dros yr amser.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i gau’r clytwaith o ysbytai cymunedol, a hefyd i symud i greu hybiau gofal ac iechyd cymunedol newydd, fel yr un yr wyf i’n gobeithio ei weld yn Waunfawr yn fy etholaeth i cyn hir. Mae’r rhain yn rhan bwysig o’r gadwyn ofal yr ydym am ei gweld yng Nghymru i’r dyfodol.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Gyda’r rhagolwg y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu oddeutu un rhan o dair yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf, a thraean o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru ag o leiaf un salwch cronig, rydym yn dod yn fwyfwy dibynnol ar ein sector gofal cymdeithasol. Yn anffodus, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi straen ychwanegol ar ofal cymdeithasol, ac wedi cael effaith ganlyniadol ar ein GIG. Mae lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Am y chwarter diwethaf y ceir ffigurau ar ei gyfer, gwelsom gynnydd o 2 y cant mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo ac erbyn hyn mae dros 500 o gleifion yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty nag sydd ei angen. Yn wir, wynebodd oddeutu 30 o gleifion oedi o fwy na 26 wythnos, a dyna hanner blwyddyn wedi’i threulio yn yr ysbyty heb fod angen.
Mae’r achosion hyn o oedi diangen yn costio miliynau o bunnoedd i’r GIG bob blwyddyn, ond mae’r gost i’r unigolyn yn anfesuradwy. Yn ôl Age Cymru, ymhlith y prif ffactorau sy’n gyfrifol am oedi wrth drosglwyddo gofal mae diffyg cyfleusterau priodol ar gyfer ailalluogi ac ymadfer, oedi hir wrth drefnu gwasanaethau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Canfu arolwg diweddar o reolwyr y GIG gan Gydffederasiwn y GIG fod llawer yn teimlo bod diffyg gwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar eu gwasanaethau. Felly, mae’n hollbwysig fod gennym wasanaethau gofal cymdeithasol sy’n effeithiol ac wedi’u hariannu’n dda a fydd yn cadw’r GIG yn gynaliadwy.
Polisi UKIP ac yn wir, un o’n dadleuon cynharach oedd ailgyflwyno ysbytai bwthyn cymunedol, neu fersiwn ddiwygiedig ohonynt. Mae gan ysbytai cymuned, neu ysbytai bwthyn, rôl hanfodol i’w chwarae yn darparu gofal seibiant a lleddfu’r broses o drosglwyddo’n ôl i leoliadau iechyd cymunedol i rai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty. Nid oes angen i rai pobl aros yn yr ysbyty, ond ni allant fynd adref i fod ar eu pen eu hunain, neu am nad ydynt yn ddigon da am resymau eraill efallai, felly mae ysbytai bwthyn yn hanfodol.
Erbyn hyn mae gennym ychydig o dan 11,000 o welyau ysbyty a chyfraddau defnydd o bron 87 y cant. Pan drosglwyddwyd y gwaith o redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i’r Llywodraeth Lafur, roedd gennym bron i 15,000 o welyau ysbyty a chyfraddau defnydd o 79 y cant. Rwy’n sylweddoli bod pethau wedi newid a bod mwy o wasanaethau ar gael, ond os yw pobl yn cael eu rhyddhau’n rhy gynnar o’r ysbyty—a rhaid i ni gadw hyn mewn cof—oherwydd prinder gwelyau fel hyn, mae perygl uchel o atglafychu, a bydd hynny, unwaith eto, yn effeithio ar wasanaethau ariannol GIG. Lle y ceir prinder gwelyau, y canlyniad yw rhestrau aros hwy, pwysau’r gaeaf sy’n para’r rhan fwyaf o’r flwyddyn, a’n GIG dan bwysau na all ei gynnal rhagor. Rydym yn cydnabod yn llwyr y ddyled na allwn byth mo’i had-dalu i ofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl.
Felly, gan gadw’r arian sydd ar gael mewn cof, a chyllideb nad yw’n gallu ymestyn llawer pellach, hoffwn weld y broses o gau ysbytai bwthyn cymunedol yn cael ei gwrthdroi a chyllid ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gynyddu. Diolch yn fawr.
Rwy’n falch o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Wrth gwrs, mae’r ffaith ein bod ni i gyd yn byw yn hŷn yn destun dathliad, a dweud y gwir. Fel rydw i wedi’i ddweud o’r blaen am hyn i gyd, mae’n destun dathliad, llwyddiant y gwasanaeth iechyd. Yn ôl yn 1950 fe wnaeth y brenin ar y pryd arwyddo 250 o gardiau pen-blwydd i’r sawl a oedd yn 100 mlwydd oed y flwyddyn honno—250 ohonyn nhw trwy Brydain i gyd. Erbyn 1990, 40 mlynedd yn ddiweddarach, roedd angen i’r Frenhines Elizabeth, nawr, arwyddo 2,500 o gardiau i’r sawl a oedd yn 100 mlwydd oed. Ddwy flynedd yn ôl, roedd rhaid i’r Frenhines Elizabeth arwyddo 13,000 o gardiau i bobl yn y Deyrnas Unedig a oedd yn 100 mlwydd oed, ac ar ben hynny 14,000 o gardiau eraill y llynedd i’r sawl a oedd wedi cyrraedd eu 100 mlwydd oed. Felly, mae’n destun dathliad ein bod ni yn y sefyllfa lle rŷm ni, er efallai bod achos pryder i ‘work-life balance’ y Frenhines.
Ond ar ddiwedd y dydd, mae hyn yn achos dathliad, a’r synnwyr ydy: sut ydym ni’n mynd i ddelio efo’r ffrwydrad yma yn yr henoed, sydd i’r groesawu? Ie, rydym wedi colli gormod o wlâu. Yn gynyddol nawr fel meddygon teulu rydym yn cadw pobl adref yn eu cartrefi sydd yn eu 80au a’u 90au, yn fregus iawn ac yn sâl iawn. Mewn blynyddoedd a fu, buasem ni wedi eu danfon nhw i fewn i ysbyty, ond rŵan ni fedrwn gyfiawnhau hynny achos nid oes gwely ar gael, felly rydym yn gorfod cadw’r bobl yma, yn hen ac yn fregus, yn eu cartrefi. Rydym yn hollol ddibynnol ar y gofal cymdeithasol yn y cartrefi. Mae’r gofal yna yn fendigedig y rhan fwyaf o’r amser, mae’n rhaid i mi ddweud, ac rwyf i’n hollol ddibynnol arno fo fel meddyg teulu, neu buasai’r system yn cwympo yn deilchion. Mae’n rhaid i ni gydnabod—rydym wastad yn sôn am y gwasanaeth iechyd yn fan hyn, ond os ydy’r gwasanaeth gofal cymdeithasol yn mynd, mae o’n gyfan gwbl yn tanseilio bodolaeth y gwasanaeth iechyd. Nad anghofier hynny.
I athronyddu ychydig bach ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen, roeddwn yn gwrando ar Eluned Morgan mewn dadl fer rai misoedd yn ôl yn sôn am yr angen am ail-greu gwasanaeth gofal cymdeithasol. Rwy’n cytuno gyda hynny, achos mae eisiau ‘revolution’, fel y buasai Suzy’n dweud, achos rydym wedi mynd i ddiystyru pwysigrwydd gofal fel dimensiwn. Mae pawb yn edrychyd ar feddygon a nyrsys, ac yn dweud eu bod nhw’n ffantastig, ac mae’r parch bendigedig yma—ond yng nghanol yr holl dechnoleg a’r gallu a’r uwch-seinyddion a’r pelydr X a phob peth, rydym wedi mynd i israddio gofal tyner, tosturiol tuag at berson arall. Rydym wedi israddio hynny, ac rydym wedi colli hynny—nid ydym yn gallu ei wneud o—ac nid ydym yn rhoi’r parch y dylai’r sawl sydd yn gofalu ei gael. Rydym ni’n gweld hynny, fel mae Sian Gwenllian wedi dweud, efo’r ‘zero-hours contract’ ac ati. Nid ydych chi’n cael hynny efo nyrsys a meddygon, ond mae gofalwyr yn gorfod eu derbyn nhw, achos, fel cymdeithas, nid ydym ni’n dangos digon o barch i’r syniad yma o ofalu am gyd-ddyn, ac rydym ni wedi colli hynny. Roeddem ni’n arfer, yn ein hysbytai, pan nad oeddem ni’n gallu gwneud yr holl fedrusrwydd yma, yr holl lawdriniaethau bendigedig, gofalu yn dyner am ein cleifion achos nid oedd yna ddim llawer o bethau eraill yr oeddem ni’n gallu eu gwneud, yntife. Ond nawr, rydym ni wedi anghofio am bwysigrwydd jest gofalu a bod yn dosturiol tuag at berson arall ac rydym ni wedi ei israddio fo’n gyfan gwbl ac wedi ei ddatganoli fo i bobl, falle, sydd â dim cymwysterau. Dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cael deddfwriaeth sydd yn golygu bod ‘care support workers’—gofalwyr, felly—yn mynd i gael eu cofrestru. Wel, ni fyddech chi’n dychmygu sefyllfa lle’r oedd nyrs nad oedd wedi ei gofrestru yn edrych ar eich ôl chi na meddyg nad oedd wedi cael ei gofrestru yn edrych ar eich ôl chi, ond rydym ni’n caniatáu gofalwr heb ei gofrestru i edrych ar eich ôl chi. Mae angen mynd i’r afael â’r holl system, a’i hailgynllunio hi.
Hefyd, mae’r agwedd tai, hynny yw ‘sheltered accommodation’, yn allweddol bwysig. Mae ishio newid y system—ie, bod yn ‘revolutionary’, fel buasai Suzy’n ei ddweud. Ac fel mae Eluned Morgan hefyd wedi dweud, mae ishio creu system newydd o ofal cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r busnes tai hefyd, a ‘sheltered accommodation’—llwyth ohonyn nhw, rhwydwaith ohonyn nhw—fel ein bod ni’n gallu gofalu am ein henoed yn iawn yn y gymuned. Diolch yn fawr.
Roeddwn yn gobeithio gwneud cyfraniad mwy cynhwysfawr i’r ddadl hon heddiw, ond mae peswch ofnadwy’n golygu fy mod yn mynd i orfod ei gwtogi, fel nad wyf yn rhannu fy mheswch epig, cras â’r Siambr.
Rwyf am ddechrau drwy groesawu’r buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn i ofal cymdeithasol, i gydnabod y galwadau ychwanegol ar ofal cymdeithasol, ond rydym i gyd yn gwybod bod angen i ni ystyried sut yr adeiladwn ar hyn, wrth symud ymlaen. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Dai, mae pobl yn byw yn hwy. Dylem yn wir fod yn falch o hynny a dathlu hynny, ond ni allwn anwybyddu’r canlyniad—y pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau—a bydd angen i ni wneud mwy i weithio gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau a chymorth arloesol o fewn cyd-destun ariannol tynn.
Rwy’n falch fod fy nghyngor fy hun yn Sir y Fflint yn cadw tri chartref gofal yn fewnol, a chefais y pleser o ymweld â Chartref Gofal Croes Atti yn fy etholaeth ychydig wythnosau yn ôl, a chael cyfle i sgwrsio gyda’r trigolion hyfryd a defnyddwyr dydd, yn ogystal â’r staff gweithgar, gwych. Un o’r trigolion y cyfarfûm â hi oedd Jessie Joy, a oedd yn 100 mlwydd oed, a phan ofynnais iddi beth oedd y gyfrinach i gael bywyd hir ac a oedd unrhyw wybodaeth y gallai ei rhannu â mi, y cyngor a roddodd i mi oedd, ‘Peidiwch â dangos yn y ffenestr y cyfan sydd gennych yn y siop.’ [Chwerthin.]
Ond i fod o ddifrif, rydym yn ymwybodol iawn fod pwysau’r costau ar gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref yn gwaethygu fwyfwy. Wrth symud ymlaen, rwy’n meddwl bod angen i’r holl bartneriaid—awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd—ddatblygu modelau newydd o ddarpariaeth a arweinir gan y sector cyhoeddus, ond hefyd mae angen i ni ddefnyddio cymorth busnes, argaeledd cyfalaf a chynlluniau’r gweithlu i weithio gyda’r busnesau bach a chanolig eu maint sy’n darparu gofal. Mae fy awdurdod fy hun yn Sir y Fflint wedi arwain ar hyn drwy ariannu rheolwr prosiect i weithio gyda darparwyr gofal cartref a chartrefi gofal i wneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy yn y tymor canolig, ond dylai hyn hefyd fod yn fater allweddol i fyrddau iechyd i fynd i’r afael â’r modd y gallant gefnogi darparwyr gofal.
Er bod llawer mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl drwy fod yr awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd yn fy mhrofiad i, mae angen hefyd inni adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau’r bwlch sy’n dal i fod weithiau rhwng ysbytai aciwt, ysbytai cymuned a mathau eraill o ofal seibiant a gofal cartref. Drwy’r gofal a roddir i fy nain, sydd bellach yn tynnu at ei 90 oed—mae’n siŵr na fydd yn diolch i mi am ddweud wrth y Cynulliad faint yw ei hoed—rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon mewn gwirionedd, ar hyn o bryd ac yn y 18 mis cynt, y rôl y mae ysbytai cymuned yn ei chwarae wrth ddarparu gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr. Mae’n ymwneud â mwy na lleddfu pwysau ar ysbytai aciwt; mae’n golygu hefyd fod y cleifion sy’n aml yn oedrannus yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn agosach i’w cartref ac mewn amgylchedd sy’n peri llai o straen.
Ac ar destun ysbytai cymuned, mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i ddycnwch ac ymroddiad grŵp ymgyrchu ysbyty Fflint, grŵp yr ymrwymais i weithio gyda’u cynrychiolwyr, cyn yr etholiad ac ers i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad dros Delyn, i ddod o hyd i ateb sy’n gwasanaethu’r gymuned heddiw yn y ffordd orau, ateb sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i gyfrannu mewn dadl mor bwysig heddiw, ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies, fe fydd yna gyfleoedd pellach. Rwy’n credu’n gryf ei fod yn sicr yn un o faterion pwysicaf a mwyaf allweddol ein dyddiau ni. Diolch.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad yn y ddadl hon ar rôl gofalwyr ifanc a’r rhan y maent yn ei chwarae yn cadw ein system iechyd a gofal cymdeithasol i redeg a’r cymorth, neu ddiffyg cymorth—yn aml iawn, neu’n rhy aml, ddywedwn i—o ran yr hyn sydd yno i’w helpu. Amcangyfrifir bod dros 11,000 o ofalwyr sy’n blant neu’n oedolion ifanc yng Nghymru, er ei fod yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel, yn amlwg, gan na fuasem yn gwybod am lawer ohonynt. Ni fuasai nifer ohonynt, wrth gwrs, yn nodi eu hunain fel rhai â chyfrifoldebau gofalu. Mae bod â’r mathau hynny o gyfrifoldebau yn rhoi plentyn o dan anfantais o ran eu cyfleoedd addysgol. Yn aml, ni fydd gofalwyr ifanc yn cael yr un cyfleoedd â phlant eraill i ddysgu a chwarae.
Dywedir wrthyf fod gofalwyr ifanc yn colli 48 diwrnod o ysgol ar gyfartaledd, naill ai’n llawn neu’n rhannol oherwydd eu rôl ofalu bob blwyddyn. Mae’r ffigurau hefyd yn awgrymu bod oddeutu 68 y cant o ofalwyr ifanc yn cael eu bwlio yn yr ysgol, a dim ond hanner y gofalwyr ifanc sydd â pherson penodol yn yr ysgol sy’n gwybod eu bod yn ofalwyr ac yn eu helpu. Felly, nid yw’n syndod efallai y bydd un o bob pum gofalwr yn dod yn rhywun nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant pan fyddant yn gadael yr ysgol—un o bob pump. Pam nad yw gofalu yn cael ei ystyried yn waith, er yn waith di-dâl—mae’n bosibl mai dyna ran o’r broblem yma.
Felly, mae’n aberth enfawr. Mae’r plant hyn yn aberthu’n enfawr. Cofiwch, pe na baent yn gofalu, y GIG a gofal cymdeithasol a fuasai’n gwneud y gwaith yn eu lle ac yn talu’r pris. Ond mae’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i’r plant hyn, rhaid i mi ddweud, yn gwbl warthus. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes gan hanner y gofalwyr berson penodol yn yr ysgol a all helpu a chefnogi gofalwr. Yn amlwg, mae angen cael llawer mwy o gymorth a gweithio rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion i roi’r gefnogaeth honno ar waith. Ond rydym yn dechrau o sylfaen isel yma, wrth gwrs. Nid yw’r wybodaeth a ddarperir i bobl ifanc yn ddigon da o gwbl. Yn ôl Cynhalwyr Cymru, mae gwefan un awdurdod lleol i’w gweld yn gwahardd gofalwyr unrhyw un o dan 18 oed rhag cael mynediad at asesiad o anghenion gofalwyr. Mae angen diweddaru’r wefan honno o leiaf.
Wrth gwrs, nid pobl ifanc â chyfrifoldebau gofalu yn unig sy’n talu’r pris am fethiant ein cenhedlaeth i’w hamddiffyn. Mae yna hefyd rieni â chyfrifoldebau gofalu am blant a welodd eu cymorth yn cael ei dorri gan newidiadau i nawdd cymdeithasol. Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â’r dreth ystafell wely, wrth gwrs, ac yn ddiweddar mae’r achos penodol yng ngorllewin Cymru yn enghraifft o hyn. Ond hefyd mae yna 4,000 o deuluoedd â phlant anabl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad i dorri Cronfa’r Teulu a ddisgrifiwyd, wrth gwrs, fel rhaff achub.
Ceir rhieni hefyd sydd â phlant ar y sbectrwm awtistig sydd wedi tynnu sylw cyson at y diffyg cymorth a’r frwydr sy’n ofynnol i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, yn amlwg, mae angen llawer iawn o welliant yn ein system gofal cymdeithasol a’n system addysg os ydym am fynd ati o ddifrif i gefnogi’r rhai sy’n rhoi cymaint yn gyfnewid am gyn lleied.
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a alwodd am gyflwyno rhaglen gofalwyr ifanc yn ysgolion Cymru—un a all fod yn rhan lawn ac annatod o’r cwricwlwm newydd. Mae yna newidiadau ar y gweill yn y cwricwlwm, ac mae’n amlwg fod cyfle yno i fynd i’r afael â rhai o’r meysydd hyn. Buasai’r rhaglen yn darparu canllaw cam wrth gam i adnabod, cynnwys a chefnogi gofalwyr ifanc. Buasai’n cyfarparu ysgolion ag arferion effeithiol ac yn achredu’r gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i gefnogi gofalwyr ifanc. Buasai’r rhaglen yn seiliedig ar y rhaglen ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion yn Lloegr, a ddatblygwyd ac a gyflwynir ar y cyd gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a Chymdeithas y Plant yno. Mae’r rhaglen wedi bod ar waith yn Lloegr ers ymhell dros flwyddyn bellach, ac mae gwerthusiadau cychwynnol wedi dangos bod y rhaglen yn hynod o effeithiol. Er enghraifft, o’r ysgolion a gymerodd ran, dywedodd 94 y cant eu bod wedi nodi mwy o ofalwyr ifanc yn eu hysgol, roedd 91 y cant wedi gweld effaith gadarnhaol ar gyflawniad gofalwyr ifanc yn eu hysgol, ac roedd bron i dri chwarter wedi sylwi ar lefelau presenoldeb gwell ymysg y gofalwyr ifanc hynny hefyd. Felly, mae llawer y gallwn ei ddysgu ac ystyried ei efelychu yng Nghymru yn hynny o beth.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi ariannu cronfa seibiant byr yn y trydydd sector ers 2010, gyda ffocws ar ‘respitality’—cyfuniad o seibiant a lletygarwch. Gall hyn greu nifer o fanteision wrth gwrs—manteision amlwg i’r rhai sy’n darparu gofal a seibiant ar eu cyfer, ond hefyd mae darparu seibiant yn ystod y tymor tawel yn rhatach, felly mae’n darparu gwell gwerth am arian, ond hefyd mae’r incwm ychwanegol yn cael ei ddarparu yno hefyd ar gyfer busnesau twristiaeth ar adeg dawelach o’r flwyddyn. Nawr, rwy’n gwybod bod maniffesto Llafur wedi ymrwymo i ymchwilio i gynllun seibiant cenedlaethol. Nid oedd yn ymddangos yn y rhaglen lywodraethu, ond deallaf fod cynlluniau ar y gweill, a buasai’n dda clywed y newyddion diweddaraf am hyn y prynhawn yma.
Am bob £1 a fuddsoddir mewn cymorth i ofalwyr, mae’n dod ag elw ar fuddsoddiad o £4, ac arbedir £8 biliwn o bunnoedd yng Nghymru bob blwyddyn gan y gofal y mae gofalwyr yn ei ddarparu. Felly, mae’r ystadegau’n gwneud eu hachos eu hunain dros fuddsoddi mewn gofalwyr, a gofalwyr ifanc yn arbennig. Edrychaf ymlaen at glywed beth arall y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud pan fyddant yn ymateb i’r ddadl hon.
Hoffwn adleisio’r sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill ar y diolch sy’n ddyledus i ofalwyr di-dâl. Mae’n hanfodol ein bod yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu, ac rwy’n meddwl bod Llyr wedi nodi pwynt pwysig iawn am ofalwyr ifanc yn arbennig.
Heddiw, rwyf am sôn am effaith y gronfa gofal canolraddol. Mae’n enghraifft dda iawn o ble y mae integreiddio gwell rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn bodoli’n ymarferol, gan atal derbyniadau diangen i’r ysbyty ac oedi wrth ryddhau o’r ysbyty. Ceir un enghraifft o’r llwyddiant hwn yn fy etholaeth i. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £0.5 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a £390,000 mewn cronfeydd refeniw i ddatblygu’r uned gofal canolraddol yng nghartref preswyl Parklands ym Malpas. Mae’r gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd wedi darparu man lle y gall cleifion sy’n ddigon iach i adael yr ysbyty, ond nad ydynt yn gallu dychwelyd adref eto, gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr adeg honno.
Rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2016, derbyniwyd 55 o bobl i Parklands, gydag arhosiad cyfartalog o bedair wythnos. O’r rhai a dderbyniwyd, chwech o bobl yn unig a ddychwelodd i’r ysbyty, gyda 47 yn gallu dychwelyd i’w cartrefi eu hunain. Mae profiadau dau o fy etholwyr yn dangos y gwahaniaeth y mae’r cyfleuster hwn wedi ei wneud i’r unigolion hyn a’u teuluoedd. Cafodd un etholwr ei dderbyn yn dilyn strôc. Roedd ei symudedd a’i leferydd wedi’u cyfyngu ac roedd wedi colli llawer o bwysau. Cafodd gymorth gan y tîm adsefydlu niwrolegol cymunedol yn Parklands, a oedd yn cynnwys therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd, dietegydd a therapydd lleferydd ac iaith. Yn ystod ei arhosiad o tua chwe wythnos, magodd bwysau a gwellodd ei symudedd a’i leferydd, a olygai ei fod yn gallu dychwelyd adref i fyw gyda’i wraig.
Cafodd cyn-breswylydd arall o Parklands ei atgyfeirio yn dilyn sawl arhosiad yn yr ysbyty, oherwydd dirywiad cyffredinol yn ei hiechyd, ac nid oedd yn gallu ymdopi gartref. Teimlai fod angen iddi gael gofal preswyl ond cafodd gyfle i aros yn Parklands gyntaf. Arhosodd yn Parklands am oddeutu 10 wythnos, ond yn gynnar yn ei harhosiad, roedd wedi magu digon o hyder i ddychwelyd adref. Gyda chymorth staff, adferodd ei symudedd, ac yn dilyn cyfarfod gyda’i theulu, sylweddolodd y gallai fyw’n annibynnol. Gosodwyd lifft risiau i’w galluogi i gael mynediad at bob rhan o’i heiddo a dychwelodd adref gyda phecyn gofal. Nid yw wedi cael ei haildderbyn i’r ysbyty ers hynny.
Mae yna lawer mwy o enghreifftiau y gallwn gyfeirio atynt, a phob un ohonynt yn dangos bod Parklands wedi gallu personoli anghenion gofal yr unigolyn. Mae’r math hwn o ofal cam-i-fyny, cam-i-lawr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a’u teuluoedd, fel y gwelais i a’r Gweinidog drosom ein hunain. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn gallu gwella ansawdd bywyd i lawer sydd angen gofal cymdeithasol a lleddfu’r pwysau ar welyau ysbyty. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae mwy o ddarpariaethau llety fel Parklands yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn aros yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd.
Mae 11 mlynedd bellach ers i mi lansio CHANT Cymru ar gais ymgyrchwyr ledled Cymru a oedd yn ymladd dros gadw gwelyau lleol mewn ysbytai cymuned. Roedd ymgyrchwyr yn erbyn cau Ysbyty Cymuned Chatsworth House ym Mhrestatyn wedi gofyn i mi ffurfio CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—i ddod â grwpiau lleol at ei gilydd o bob rhan o Gymru a oedd yn ymgyrchu i achub eu hysbytai cymuned lleol a oedd dan fygythiad gan raglen gau Llywodraeth Lafur Cymru ar y pryd.
Roedd gwrthwynebiad eang i gau eisoes wedi cynhyrchu protestiadau cyhoeddus poblogaidd ar draws Cymru gyfan, a CHANT Cymru oedd llais cenedlaethol yr ymgyrchwyr yn y frwydr i achub eu hysbytai cymuned. Roeddem yn hyrwyddo ar lefel genedlaethol rôl ysbytai cymuned yn darparu gofal iechyd o safon, yn cefnogi ymgyrchoedd lleol ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros ei haddewid i ddiwallu anghenion iechyd ei chleifion a darparu gofal iechyd lleol hygyrch. Arweiniais ddadl ar hyn yma, cynhaliwyd rali ar risiau’r Senedd a fynychwyd gan fyseidiau o bobl o bob cwr o Gymru, ac fe lwyddasom i sicrhau bod hwn yn un o’r pynciau allweddol yn etholiad y Cynulliad yn 2007.
Cyhoeddodd Llywodraeth glymblaid newydd Cymru ei bod yn gwneud dro pedol. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd y Gweinidog Iechyd Llafur,
‘Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.’
Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i wthio yn eu blaenau gyda’u rhaglen i gau ysbytai cymuned. Ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynglŷn â pha mor gadarn oedd y wybodaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er gwaethaf lefelau defnydd gwelyau o 95 y cant ac uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot yng ngogledd Cymru, y cynllun gofal cartref gwell, gyda’r bwrdd iechyd y byddai hyn
‘yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd,’
ac na fydd
‘rhan ganolog o’r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd—darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl—yn llenwi’r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned.’
Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur hon refferendwm y Fflint, pan bleidleisiodd 99.3 y cant o blaid dod â gwelyau i gleifion mewnol yn ôl i’r Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog pan bleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid dod â gwelyau yn ôl yno.
Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff yno wrthyf y buasai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, megis Treffynnon, a gwelyau cymunedol y GIG yn y Fflint yn tynnu pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i’r afael ag argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddefnyddio’i adnoddau yn fwy effeithlon. Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig wrth ofalu am gleifion hŷn.
Yn nigwyddiad Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghynulliad Cymru fis Mehefin diwethaf ar gryfhau ymarfer cyffredinol er mwyn cefnogi’r GIG, clywsom fod ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG, 27.8 y cant o’r gyllideb, a bod tanfuddsoddi hirdymor yn golygu bod cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru yn gyffredinol.
Ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu. Mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer gynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig.
Clywsom ganddynt hefyd fod gwelyau cymunedol y GIG yn ychwanegu at yr amrywiaeth o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynnwys gofal seibiant a cham-i-lawr, i gynorthwyo’r sector sylfaenol a’r sector eilaidd. Os yw o ddifrif yn golygu’r hyn y mae’n ei ddweud am gydgynhyrchu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar y gweithwyr proffesiynol hyn a llunio a darparu gwasanaethau lleol gyda chlinigwyr a chymunedau lleol.
Mae rhaglen Gogledd Cymru Iach yn nodi gofyniad i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amddifadedd a thlodi ar lefel gymunedol leol drwy gydgynhyrchu. Fel y dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16,
Gall y dull rhagnodi cymdeithasol wella hunan-barch, hwyliau, cyswllt cymdeithasol a sgiliau trosglwyddadwy—a lleihau’r galw am wasanaethau iechyd.
Mae’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, Mae Pawb yn Rhan o Hyn, wedi tynnu sylw, er enghraifft, at gynllun rhagnodi cymdeithasol Green Dreams: Creating Health through Community a sefydlwyd gan feddyg teulu yn Lloegr. Fel y dywed prif swyddog meddygol Cymru,
‘Gallai cydgynhyrchu gyda chymunedau fod yn ffordd sy’n galluogi staff y sector cyhoeddus i ymateb i raddiant cymdeithasol o ran angen iechyd.’
‘Cydgynhyrchu yw’r ffordd orau o ddeall sut y gellir trefnu gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn fwyaf effeithiol.’
‘Ymddengys bod deall asedau cymunedol a gweithio cydgynhyrchiol yn hollbwysig i bractisau meddygon teulu, canolfannau adnoddau gofal sylfaenol a chlystyrau gofal sylfaenol.’
Ac os caf ychwanegu, yn hollbwysig ar gyfer ysbytai cymuned a gwelyau cymunedol hefyd?
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o’r pwyntiau yr oeddwn am eu nodi wedi cael sylw bellach. Felly, fe gyfyngaf fy nghyfraniad i’r ddadl hon i’r rhan o’r cynnig sy’n ymdrin yn benodol ag ysbytai cymuned ac yn arbennig, pwysigrwydd datblygu’r agenda integreiddio.
Rwy’n tybio bod pawb, fel minnau, yn rhoi pwys mawr ar ein hysbytai cymuned lleol, ond yn anffodus, rwy’n meddwl bod geiriad y cynnig yn awgrymu mai cadw pob ysbyty cymuned presennol ar agor yw’r ateb ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae’n ddigon posibl y gallai rhai ysbytai cymuned presennol ddarparu’r sylfaen ar gyfer rhai cynlluniau yn y gymuned, gan ddarparu ystod o wasanaethau gofal iechyd, fel practisau meddygon teulu, gwasanaethau deintyddol, optegwyr a fferyllfeydd, a bod yn sylfaen hefyd ar gyfer darparu gofal cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd gallai polisi cyffredinol o gadw pob ysbyty cymuned ar agor fod yn rhwystr, mewn rhai achosion, i gynlluniau ar gyfer integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn well.
Mae yna enghreifftiau gwych i’w cael yn barod, a soniodd Sian Gwenllian am rai yn ei hetholaeth, canolfannau un stop ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn fy etholaeth mae gennyf ddwy enghraifft wych, ac un ohonynt yw Parc Iechyd Keir Hardie ym Merthyr Tudful, a’r llall yw’r ganolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn Rhymni. Credaf mai i’r cyfeiriad hwnnw y dylid teithio, yn gyffredinol, o ran darpariaeth gymunedol.
O’r cyfraniadau a glywsom gan Mark Isherwood a Hannah Blythyn, rwy’n gwybod pa mor emosiynol y gall cynigion i gau ysbytai cymuned fod, ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag yr angen i fwrw ymlaen â’r broses o integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, a ni ddylai beri i ni, yn y tymor byr ac er hwylustod gwleidyddol yn unig, i gadw ysbytai cymuned anghynaladwy yn agored heb gyfiawnhad, os yw gwneud hynny’n atal y gwaith o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal integredig lleol cynaliadwy.
A wnewch chi ildio? A fuasech yn cytuno, gan gydnabod—[Anghlywadwy.]—bod angen adnewyddu hen adeiladau anaddas, na ddylid bod wedi gwneud hynny heb bontio a heb fod gwelyau eraill ar gael yn eu lle?
Rwy’n deall hynny’n iawn ac yn cytuno. Wrth symud gwasanaethau neu gau gwasanaethau ysbyty, mae angen cael gwasanaethau yn eu lle cyn cau gwasanaethau eraill. Rwy’n meddwl mai’r pwynt rwy’n ceisio ei wneud yw na ddylem ddefnyddio cau ysbytai cymuned, a gwrthwynebu cau ysbytai cymuned, am ddim rheswm heblaw’r ffaith fod y gymuned eisiau gwrthwynebu hynny, oherwydd rwy’n meddwl bod pawb yn awyddus i gadw’r hyn sydd ganddynt. Byddaf yn meddwl weithiau fod yn rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach, a dyna’r pwynt yr oeddwn yn ei wneud mewn gwirionedd.
Felly, byddaf yn cefnogi’r gwelliant gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod y rôl ehangach y gallai ysbytai cymuned ei chael, ond sy’n cydnabod yn allweddol arwyddocâd y gronfa gofal integredig gwerth £60 miliwn a’r gronfa £40 miliwn i ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, ac efallai y bydd ysbytai cymuned wrth wraidd hynny, neu efallai na fyddant.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau sydd gennyf i ymateb i’r ddadl heddiw, buasai’n amhosibl i mi roi popeth sydd gennyf yn y siop yn y ffenestr, i ddefnyddio ymadrodd Hannah, gan ei bod wedi bod yn ddadl mor eang ac rydym yn gwneud cymaint yn y maes hwn.
Ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Nid yw hon yn ymagwedd newydd, wrth gwrs—datblygwyd ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 2011, ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu’. Er bod y galw’n cynyddu ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, a bod y rhagolygon ariannol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus yn anodd, mae’r Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol fod angen i ni wneud mwy na mynd ar drywydd yr arbedion effeithlonrwydd amlwg yn unig. Mae’r Ddeddf yn rhoi fframwaith cyfreithiol newydd i ni ar gyfer y ffordd y darparwn wasanaethau gofal a chymorth.
Yng Nghymru, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau y darperir gofal a chymorth o ansawdd uchel. Mae’r gyllideb ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £25 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a chroesawyd y cymorth ychwanegol hwn gan lywodraeth leol, a bydd yn helpu i ymateb i’r pwysau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £10 miliwn pellach o gyllid rheolaidd er mwyn helpu i reoli effaith y cyflog byw cenedlaethol.
Y ffordd orau i godi safonau yw drwy gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd. Er mwyn cynyddu cydnerthedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen i ni fabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio a darparu gwasanaethau. Datblygwyd y gronfa gofal canolraddol i ddatblygu modelau newydd ac arloesol o weithio integredig rhwng y sector iechyd, y sector gwasanaethau cymdeithasol, y sector tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Neilltuwyd £60 miliwn eleni, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys ymrwymiad i gadw’r gronfa bwysig hon. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn cefnogi mentrau sy’n atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, derbyniadau amhriodol i ofal preswyl ac oedi wrth ryddhau o’r ysbyty. Mae’r mentrau hyn wedi creu capasiti yn y system ofal ac maent wedi gwella cysondeb yn y modd y darperir gwasanaethau yn y rhanbarthau.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu ar gyfer sefydlu saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol ar ôl troed ardal y bwrdd iechyd. Mae’r byrddau hyn yn dod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill at ei gilydd i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig yn effeithiol yng Nghymru. Eu diben yw gwella canlyniadau i bobl, a’u lles, a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y darperir gwasanaethau. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ hefyd yn cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Neilltuwyd £40 miliwn i gefnogi hyn, ac mae sefydliadau yn y broses o flaenoriaethu cynlluniau fel rhan o’u gwaith ystadau a chynllunio gwasanaethau.
Felly, er y gallwn gefnogi pwynt 1 y cynnig heddiw, ni allwn gefnogi pwyntiau 2, 3 a 4, am nifer o resymau. Ceir oddeutu 384,000 o ofalwyr yng Nghymru sy’n darparu cymorth penodedig i’w hanwyliaid, ac rydym wedi clywed sut, yn ymarferol, y mae’r gofal hwn yn cyfateb i dros £8 biliwn y flwyddyn. Ond nid yw’n wir o gwbl i ddweud nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ein diolch yn fawr iawn i’n gofalwyr, a dyna pam ein bod wedi bod wrthi ers tro yn ceisio gwella bywydau gofalwyr. Yn 2000, cyhoeddwyd ein ‘Strategaeth Gofalwyr Cymru’, a oedd yn cynnig fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Yn 2010, cyflwynwyd y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), gan wella ymhellach y cymorth sydd ar gael i ofalwyr yn lleol, a gwnaeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) arloesol ein galluogi i adeiladu ar ein cynnydd a chryfhau ein hymrwymiad i ofalwyr. Mae’r Ddeddf yn cydnabod yn glir y rôl allweddol a chwaraeir gan ofalwyr a bydd yn rhoi hawliau iddynt i asesiad a chymorth sy’n gyfartal â rhai’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r arolwg y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth ato, gan fy mod wedi bod yn ei drafod fy hun eisoes gyda’n fforwm gofalwyr, ac o ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â’r materion a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion edrych yn fanwl eto ar y canfyddiadau ac wrth gwrs, fe fydd yna broses fonitro dri cham ar gyfer gweithredu’r Ddeddf.
Hefyd, cyhoeddais y bwriad i adnewyddu ein strategaeth bresennol ar gyfer gofalwyr yn fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Bydd y strategaeth yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â rhwydweithiau gofalwyr, sefydliadau a gofalwyr eu hunain, gan ddatblygu perchnogaeth ar y cyd a thynnu sylw at y materion sy’n wirioneddol bwysig, ac rwy’n sicrhau’r Aelodau fod gofalwyr ifanc yn ffocws arbennig yn y gwaith hwn. Bydd y gwaith yn cynnwys archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant, gan fod gofalwyr yn dweud wrthym fod hyn yn flaenoriaeth bwysig iddynt, ac mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda sefydliadau’r trydydd sector ar y manylion. A gallaf eich sicrhau hefyd fod peth o’r gwaith hwnnw’n cynnwys trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, yn ymwneud â’r dull o weithredu a ddisgrifiwyd yn yr Alban.
Yn y cyfamser, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gynllunio a darparu gofal a chymorth mor lleol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gofal seibiant i gynorthwyo gofalwyr yn eu rôl hanfodol. Dylai gofal seibiant fod yn hyblyg a dylai allu digwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach. Rwy’n ymwybodol fod cau ysbytai cymuned yn parhau i gael llawer o sylw, ond carwn gywiro Mark Isherwood: nid oes rhaglen gau ysbytai cymuned gan Lywodraeth Cymru. Mater i fyrddau iechyd lleol, gan weithio mewn partneriaeth â’u cymunedau lleol, yw penderfynu ar y gofal sy’n anghenrheidiol ar gyfer anghenion lleol.
Roeddwn yn cyfeirio at 2006, pan oedd yn amlwg iawn fod yna raglen o’r fath yn bodoli. Dyna pam y trefnwyd ymgyrch, gyda channoedd ar gannoedd o feiri a thrigolion ar y grisiau y tu allan. Yn baradocsaidd, ac yn rhyfedd, yn 2011, roedd y rhaglen gau a gyhoeddwyd gan y byrddau iechyd yr un fath yn union ag ymgyrch gau Llywodraeth Lafur Cymru bum mlynedd ynghynt.
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae’n 2017 erbyn hyn, ac yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau lleol, gall ysbytai cymuned chwarae rhan bwysig wrth gyflwyno ystod o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal seibiant. Fodd bynnag, mae gofal o ansawdd yn ymwneud â mwy nag adeiladau a niferoedd gwelyau yn unig. Mae nifer o hen ysbytai cymuned anaddas wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n cydnabod bod yr ysbytai hyn yn boblogaidd ac yn annwyl iawn yn eu cymunedau lleol, ond nid oeddent bellach yn gallu darparu gofal sy’n briodol i gyrraedd safonau modern heddiw. Mae canolfannau adnoddau gofal sylfaenol newydd, wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru, yn cymryd lle’r ysbytai hyn, ac maent yn darparu ystod fwy o wasanaethau mewn lleoliad modern, gan olygu bod pobl yn cael mwy o’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn agos i’w cartrefi. Yn aml, ceir beirniadaeth nad oes gwelyau cleifion mewnol yn y canolfannau newydd hyn, ond mae’n aml yn llawer mwy priodol i bobl dderbyn gofal drwy wasanaethau gwell yn y cartref. Mewn achosion lle y bernir bod angen clinigol am welyau cleifion mewnol, caiff y rhain eu darparu drwy’r ysbytai modern gerllaw, felly mae’n rhaid i’r pwyslais fod ar ansawdd y gwasanaeth a diwallu anghenion pobl, yn hytrach na’r man ffisegol lle y darperir y gofal hwnnw.
Mae ffrwd o fuddsoddiadau gofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei chyflwyno fel rhan o flaenoriaethau’r byrddau iechyd ar gyfer eu hystadau, ac mae hyn yn gysylltiedig â’r gwaith yr ydym am ei weld yn cael ei wneud i gynyddu graddau a chyflymder y newid yn y gwasanaeth i leoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Nodwyd rhai cyfleoedd cynnar eisoes ar gyfer buddsoddi yn yr ystad sy’n eiddo i’r GIG wrth i’r rhaglen fuddsoddi fwy hirdymor gael ei datblygu. Rydym wedi cymeradwyo bron i £5 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer nifer o gynlluniau blaenoriaeth, ac mae cyfleoedd ar gyfer buddsoddi cyfalaf pellach yn 2017-18 a thu hwnt yn cael eu trafod gyda thimau’r byrddau iechyd wrth i waith cynllunio gwasanaethau ddatblygu, ac yn unol â’u cynlluniau tymor canolig integredig.
Bellach, rydym yn gweld manteision y dull hwn o weithredu. Gwelsom ostyngiad pellach yn ein ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer mis Rhagfyr, ac rwy’n disgwyl y caiff fy hyder ei wobrwyo gan ostyngiad pellach pan gyhoeddir ffigurau mis Ionawr cyn bo hir. Rwyf am sicrhau Rhun ap Iorwerth nad ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, a gallai fod o ddiddordeb i’r Aelodau wybod mai dewis cleifion yw’r prif achos dros oedi wrth drosglwyddo gofal mewn gwirionedd, yn hytrach na diffyg o ran niferoedd gwelyau. Felly, efallai bod y sefyllfa’n fwy cymhleth nag y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
Gan droi at yr ail welliant, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, rydym yn cytuno bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn chwarae rôl hanfodol wrth leihau galw y gellir ei osgoi ar ofal cymdeithasol drwy fynd ati i weithio yn y gymuned a gofal sylfaenol. Trwy dimau amlbroffesiynol, maent yn darparu gofal ataliol ac yn osgoi derbyniadau i’r ysbyty, gan ail-lunio’r ffordd y caiff cleifion eu cynorthwyo i fyw eu bywydau a rheoli eu cyflyrau’n well. Felly, rydym yn cefnogi’r gwelliant hwn.
Ac yn ddiddorol, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaeth Rhun ap Iorwerth am gymhorthion ac addasiadau yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, fe drafodais hyn gyda gweithwyr proffesiynol rheng flaen, a ddywedodd wrthyf nad oes ôl-groniad mawr o ran cymhorthion ac addasiadau, ac mae’n bosibl iawn fod y gostyngiad yn y niferoedd yn deillio o lwyddiant safonau tai Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud cartrefi’n fwy priodol i bobl fyw ynddynt pan fyddant yn hŷn, a hefyd, mae ein ffocws ar atal yn gweithio. Felly, er bod diddordeb mewn allbynnau’n dda iawn, mae diddordeb mewn canlyniadau hyd yn oed yn well.
Rwy’n falch fod Sian Gwenllian yn edrych ar yr achos a ddisgrifiodd, ac os hoffai ysgrifennu ataf, buaswn yn hapus iawn i edrych ar yr achos hwnnw hefyd. Yn amlwg, bydd yr Aelodau’n sylweddoli bod arian y gronfa gofal canolraddol yn cael ei ddefnyddio ym maes cymhorthion ac addasiadau hefyd mewn gwirionedd.
Felly, nid oes amheuaeth fod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau, ond rydym yn ateb yr heriau hyn yn llawn, ac eisoes rydym wedi cynyddu cydnerthedd drwy fabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio a darparu gwasanaethau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid ac yn eu cynorthwyo wrth weithio gyda’n gilydd er mwyn integreiddio a chydweithio.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl. Rhun.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Rhyw ychydig o funudau sydd gen i ar ôl. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Sian Gwenllian am danlinellu mor werthfawrogol y dylem ni fod o weithwyr gofal proffesiynol ar draws Cymru—pwynt, wrth gwrs, sydd wedi cael ei wneud gan nifer o Aelodau? Mae’n bwysig iawn bod y gweithwyr proffesiynol yma yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw ei hangen—llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn gweithio ar gyflogau isel. Ac wedyn mi wnaed y pwynt yn gryf iawn gan nifer, yn cynnwys Jenny Rathbone a Jayne Bryant a Llyr Gruffydd, ynglŷn â’r cyfraniad amhrisiadwy sy’n cael ei wneud gan ofalwyr gwirfoddol. Fe ddywedodd y Gweinidog bod y Llywodraeth yn cydnabod y gwaith maen nhw yn ei wneud. Ar lefel unigol, wrth gwrs, byddai pob un ohonom yn ddiolchgar i unigolyn am y gwaith maen nhw yn ei wneud yn gofalu am rywun o’u teulu neu ffrind, ond fel sector mae’n rhaid i ni wneud mwy, rydw i’n meddwl, i werthfawrogi a dangos y gydnabyddiaeth yna bod y gwaith maen nhw yn ei wneud am ddim yn cynnal y gwasanaethau proffesiynol eraill.
Hannah Blythyn, diolch am grynhoi mor bwysig ydy ysbytai cymunedol ac, ie, y gwelyau sydd yn bwysig. Mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd Dawn Bowden, nid yr argraff yr oeddem ni eisiau ei roi oedd mai brics a mortar sy’n bwysig, ond mae yna ostyngiad wedi bod yn nifer y gwelyau cymunedol sydd ar gael, ac mae’n rhaid rhywfodd i ni gydnabod bod yna rôl bwysig iawn i’r gwelyau cymunedol yma yn y llwybr gofal. Rydw i’n gobeithio y gallwn ni gyrraedd at bwynt lle gallwn ni gael consensws bod angen—ar ôl blynyddoedd o golli gwelyau, achos dyna sydd wedi digwydd; mae yna 7 y cant yn llai o welyau NHS yng Nghymru rŵan nag ychydig flynyddoedd yn ôl—troi y llanw hwnnw a chyfrannu rhagor o welyau tuag at y dewis, yr ystod eang o opsiynau sydd yna, o gynnig gofal cymdeithasol.
Gwnaeth Suzy Davies ddechrau’r drafodaeth drwy sôn am integreiddio. Nid a ydym ni yn dymuno gweld integreiddio ydy’r cwestiwn, rydw i’n meddwl, ond, yn hytrach, sut fodel o integreiddio rydym ni yn chwilio amdano fo, achos mae’n rhaid i ni feddwl am y gwasanaeth fel un—mae’n rhaid iddo fo weithio fel un. Achos, ar eu taith nhw drwy y gyfundrefn iechyd a gofal, os liciwch chi, ddylai claf ddim teimlo ar unrhyw bwynt bod yna rwystr yn ffordd y gofal y mae o yn ei gael. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y gallwn ni fod yn gytûn ar hynny. Beth sydd eisiau, wrth gwrs, ydy ffeindio ffordd o weithredu hynny ar hyd a lled Cymru.
Rydw i yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei sylwadau—oes, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn allbynnau. Mi restrwyd gan y Gweinidog nifer o elfennau cyllidebol, cyfraniadau ariannol i wahanol strategaethau, ac, wrth gwrs, rydw i’n cydnabod yr arian hwnnw, ac mae peth o’r arian hwnnw, wrth gwrs, wedi deillio o drafodaethau sydd wedi bod rhwng y pleidiau yma. Ond mae’r straen ar y gwasanaethau cymdeithasol yn amlwg—rydw i’n clywed amdano fo yn fy mag post ac yn fy mewnflwch e-bost. A thra bod y dystiolaeth yn dangos bod y straen yna—ac ystadegau yn dangos bod y straen yno o ran y cynnydd sydd wedi bod yn ddiweddar yn yr oedi wrth drosglwyddo—mi barhawn ni i gadw’r Llywodraeth yma i gyfrif a mynnu bod yna gryfhau yn digwydd o fewn y sector hollbwysig yma.
I gloi, mi ddwedodd Dai Lloyd bod angen i ni ddathlu’r ffaith ein bod ni mewn sefyllfa lle mae yna gynnydd mewn galw, oherwydd ein bod ni yn byw yn hŷn. Ond mae’r newid demograffig yr ydym ni’n ei groesawu yn dod â chyfrifoldebau efo fo. A dyna rydym ni’n siarad amdano fo heddiw: sut i wynebu’r cyfrifoldeb hwnnw. Adeiladu system sydd ei angen, sy’n gallu ymdopi â heddiw ac sy’n barod am yfory.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad]. Iawn, symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio, felly.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed now to conduct a vote. No. Okay, fine. Thank you very much.
I call for a vote, then, on the motion tabled in the name of Rhun ap Iorwerth. If this proposal is not agreed, we will vote on amendments tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. For the motion 19, no abstentions, 32 against, therefore the motion is lost.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 19, Yn erbyn 32, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6223.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 39, Yn erbyn 13, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6223.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 51, neb yn ymatal, 1 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 51, Yn erbyn 1, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6223.
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 51, neb yn ymatal, 1 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 3.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 51, Yn erbyn 1, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6223.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6223 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy, ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
3. Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
4. Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau waethygu neu wella.
5. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;
b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 38, Yn erbyn 14, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6223 fel y diwygiwyd.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n ddistaw ac yn gyflym os gwelwch yn dda? Diolch. Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Nick Ramsay i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Nick.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu i Jenny Rathbone, Hefin David a David Melding gyfrannu munud yr un i’r ddadl hon. Roedd 15 Mawrth, 2016 yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru: y diwrnod y llofnodwyd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd o’r diwedd gan y Prif Weinidog, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y 10 awdurdod lleol sy’n cymryd rhan. Ers y diwrnod hwnnw, mae awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth wedi cadarnhau’r cynllun—gwnaeth Caerdydd hynny yn ôl ym mis Ionawr.
Felly, beth yn union yw’r holl ffws? Wel, mae ‘dinas-ranbarth’ yn derm a ddefnyddiwyd ers dechrau’r 1950au gan gynllunwyr trefol i ddisgrifio ardal drefol â rhanbarthau gweinyddol lluosog. Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnwys 10 awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Dyma’r dinas-ranbarth mwyaf yng Nghymru, gyda hanner cyfanswm allbwn economaidd economi Cymru, 49 y cant o gyfanswm cyflogaeth, ac mae ganddo dros 38,000 o fusnesau gweithredol. Mae’r fargen ddinesig hefyd yn cynnig cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy wella cysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau ymhellach eto, cynorthwyo pobl i gael gwaith, a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau allu arloesi a thyfu.
Credaf fod gan y prosiect hwn botensial mawr, ond gadewch inni beidio â bod o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau. Mae gwerth ychwanegol gros yn is nag ym mhob un ond un o ddinas-ranbarthau craidd Lloegr. Mae yna broblemau cysylltedd ar draws y rhanbarth sy’n ei gwneud yn anos i bobl yn y Cymoedd, er enghraifft, gael mynediad at gyfleoedd economaidd.
Os caf droi at elfennau allweddol o’r fargen, ac yn sylfaenol, datblygiad cronfa fuddsoddi 20 mlynedd gwerth £1.2 biliwn, a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau, fel y gwyddom, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £500 miliwn yr un tuag at y gronfa hon. Bydd yr awdurdodau lleol sy’n rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd yn cyfrannu isafswm o £120 miliwn dros gyfnod y gronfa o 20 mlynedd. Blaenoriaeth allweddol, wrth gwrs, yw cyflwyno metro de-ddwyrain Cymru, ac nid yw’n syndod, fod cyfran o’r gronfa fuddsoddi yn canolbwyntio ar ddau gam y cynllun metro ehangach, cyflwyno rhaglen drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, a chyflwyno cynllun metro de-ddwyrain Cymru ehangach y tu hwnt i hynny.
Unwaith eto, a gaf fi apelio arnoch i sicrhau bod pob rhan o’r dinas-ranbarth yn elwa o’r cynllun metro, gan gynnwys ardaloedd gwledig anghysbell fel Trefynwy, sydd wedi ymddangos a diflannu oddi ar wahanol fapiau metro yn rheolaidd dros y blynyddoedd yn ystod y Cynulliad diwethaf ac i mewn i’r un yma, mater y tynnais sylw Gweinidogion ato yn y Siambr hon ar sawl achlysur? Fel y dywedais o’r blaen, gallai canolfan drafnidiaeth gyhoeddus yn y Celtic Manor helpu i gyflawni hyn, ond mae angen iddo ddigwydd fel bod pawb yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys. Ac er mai rheilffyrdd ysgafn a thramiau yw’r ateb gorau ar gyfer rhai llwybrau yn awr ac yn y dyfodol, lle y mae’r seilwaith yno, ni ddylem danbrisio rôl bwysig bysiau, yn enwedig wrth ddarparu cysylltiadau o ganolfannau i ardaloedd gwledig.
Ond mae’n ymwneud â mwy na’r metro, er mor bwysig yw hwnnw. Defnyddir gweddill y gronfa fuddsoddi i fwrw ymlaen ag ystod eang o brosiectau sy’n cefnogi twf economaidd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd y penderfynir yn eu cylch gan gabinet rhanbarthol newydd. Bydd hynny’n cynnwys cynlluniau trafnidiaeth pellach, buddsoddi i ddatgloi safleoedd tai a chyflogaeth, a datblygu cyfleusterau ymchwil ac arloesi.
Felly, pa sicrwydd a geir yn sail i hyn i gyd? Wel, nid yw annog cydweithredu rhwng awdurdodau lleol bob amser wedi bod yn rhy lwyddiannus yn y gorffennol. Mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi ymrwymo i fframwaith sicrwydd ar gyfer y gronfa fuddsoddi hon, ac yn ganolog i hyn, mae’r cynlluniau’n cynnig gwerth da am arian ac yn seiliedig ar achos busnes cadarn. Byddwn yn gwylio’n ofalus i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan na chaiff y gyfran o gyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf ei ddatgloi oni bai bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn fodlon fod y buddsoddiadau hyd hynny wedi bodloni amcanion allweddol ac wedi cyfrannu at dwf cenedlaethol. A dylem gofio nad siec wag yw hyn. Mae risg yn rhan o’r broses; mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o hynny. Os nad yw arian cychwynnol yn arwain at gynnydd, yna cyllidebau awdurdodau lleol fydd yn talu’r costau yn y dyfodol. Mae hynny’n rhan o’r fargen. Felly, nid yw’n ateb i bob problem; mae yna economeg ddigyfaddawd ynghlwm wrtho.
Beth am y dyfodol? Wel, gallai datganoli incwm ardrethi busnes ddarparu cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Gallem ystyried caniatáu ar gyfer atodiad seilwaith, caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio ffynonellau ariannu amgen, neu gellid cael gwared ar yr amodau sydd ynghlwm wrth rai o grantiau penodol Llywodraeth Cymru i ganiatáu i gyllid gael ei gronni ar y lefel ranbarthol. Rwy’n siŵr y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei syniadau a’i argymhellion ei hun ar rai o’r meysydd hyn.
Rwy’n falch fod yna ymrwymiad i edrych eto ar system docynnau integredig sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth, fel y bu pwyllgor menter y Cynulliad blaenorol yn ei ystyried, pan oeddwn yn Gadeirydd arno. Yng ngeiriau’r Athro Stuart Cole, a oedd yn dyst i’n hymchwiliad yn y pwyllgor hwnnw, mae’n beth cythreulig o anodd i’w gyflawni, ond dyna’r greal sanctaidd o ran cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n cyd-fynd yn llwyr ag ysbryd y metro.
Gan droi at seilwaith, clywn lawer o siarad am y bwa arloesi sy’n rhedeg ar hyd coridor yr M4. Mae hynny’n wych, ond rwy’n meddwl bod angen inni edrych hefyd y tu hwnt i hynny ar gefnogi prosiectau y tu allan i goridor yr M4 mewn rhannau eraill o’r rhanbarth—mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd fel Blaenau’r Cymoedd—ac edrych ar botensial enfawr prosiectau fel Cylchffordd Cymru, fel y cydnabu arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a wobrwywyd yn ddiweddar gydag anrhydedd am ei waith ar brosiect y fargen ddinesig. Gyda llaw, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi terfyn amser i’r cwmni dan sylw, HVDC, ddangos bod ganddo’r cyllid angenrheidiol i symud ymlaen â hynny. Rwy’n credu bod hynny’n ddatblygiad iach.
Yn anad dim, rwy’n credu bod angen i ni gael eglurder yn ardal y dinas-ranbarth. Hefyd, mae angen perthynas agos â thair prifysgol y rhanbarth, a all helpu i danategu datblygiad posibl clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cystadleuol yn rhyngwladol y mae llawer o’r farn y bydd yn rhoi’r DU yng nghanol technoleg twf byd-eang sy’n datblygu.
Wrth gwrs, mae’n amlwg fod angen seilwaith digidol rhagorol ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, ac ni sicrhawyd hynny bob amser yn y gorffennol. Mae angen technolegau 4G a 5G, a mwy o wasanaethau Wi-Fi hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus drwyddi draw. Maent yn dod yn gynyddol bwysig.
A gaf fi ddweud ychydig hefyd am ddatblygiad seilwaith gwyrdd yn y prifddinas-ranbarth? Oherwydd mae gan hynny ran i’w chwarae mewn perthynas â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Mae seilwaith gwyrdd yn darparu nifer o gyfleoedd a manteision os yw’n cael ei wreiddio ym mhrosiect y dinas-ranbarth. Nid nodi seilwaith gwyrdd yn unig y dylid ei wneud, mae angen ei beiriannu’n rhan o’n pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Mae angen iddo ymwneud â chymunedau a’r sector preifat. Mae hon yn ffordd o sicrhau na chaiff gwaith ei wneud mewn seilos—ac mae hi mor bwysig torri drwy’r seilos hynny mewn prosiect fel prosiect y fargen-ddinesig.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, er bod llawer o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i gytuno ar y fargen, nid ydym ond yn dechrau ar y daith mewn gwirionedd. Ni fydd yn daith hawdd, ond rwy’n credu ei bod yn un sy’n angenrheidiol ac yn un a fydd, yn y pen draw, yn werth chweil i’r holl bartneriaid sydd ynghlwm wrthi. Yn sgil y bleidlais i adael yr UE, mae’n arbennig o bwysig fod cydrannau’r prifddinas-ranbarth yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i wneud y gorau o’u hasedau a’u manteision. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd nag yr ydym ar wahân.
Rwyf am gau’r ddadl fer hon—neu fy rhan i ynddi, beth bynnag—gyda’r weledigaeth ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a nodir yn y fargen ddinesig, sef
‘cydweithio i wella bywydau pobl yn ein holl gymunedau. Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i bawb ac yn sicrhau ein bod yn diogelu twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’
Mae’r fargen ddinesig hon yn rhoi pwerau ac adnoddau pellach i bartneriaid lleol allu gwireddu’r weledigaeth hon. Bellach, mater i’r rhai a lofnododd y cytundeb yw sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae arbenigwyr polisi yn cydnabod yn eang mai dinasoedd yw peiriannau twf economaidd, ac mae cysylltedd rhwng dinasoedd a’u cefnwledydd yn elfen allweddol yn y broses o ledaenu’r llwyddiant economaidd hwnnw i’r rhanbarth cyfan, nid i’r rhai sydd yn y canol yn unig. Mae’n rhaid i ni gydnabod mai’r Cymoedd oedd peiriant twf gwreiddiol Caerdydd yn y gorffennol, ac felly mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cymoedd yn elwa o dwf cyfredol Caerdydd. Gallwn weld o enghreifftiau Manceinion a Stuttgart fod yn rhaid i adfywio llwyddiannus ar raddfa fawr drwy ehangu’r sector gwybodaeth fod yn seiliedig ar rwydwaith cludo cyflym metropolitanaidd. Ar hyn o bryd, mae 80 y cant o’r bron i 80,000 o bobl sy’n cymudo i Gaerdydd yn dod mewn car. Mae’n anghynaladwy yn awr ac yn gwaethygu’n ddyddiol. A dweud y gwir, roedd yn codi cywilydd pan ddywedodd pobl ifanc yn y seminar COP ffug ddiweddar ddydd Gwener diwethaf, ‘Pam na allwn gael y system drafnidiaeth integredig fodern sydd ganddynt yn Iwerddon?’, ac nid oedd gennyf ateb i hynny. Pam yn wir? Mae bwrw ymlaen â’r metro yn fater o frys, a hebddo, ni fydd busnesau newydd a thalent newydd yn dod i’r rhanbarth hwn.
Rwy’n nodi ar gyfer y Siambr fy mod yn bresennol yng nghyngor Caerffili neithiwr fel aelod, ar un o fy ymddangosiadau diwethaf yno, a phleidleisiais i gefnogi’r fargen ddinesig, fel y gwnaeth y cyngor cyfan. Carwn ddweud wrth Nick Ramsay: rwy’n siŵr eich bod yn cofio model rhannu gwasanaeth de-ddwyrain Cymru i rannu cyflogres, hyfforddiant ac adnoddau dynol yn unig, model a oedd yn cynnwys yr un 10 awdurdod lleol ond a fethodd ddatblygu. Mae hyn, felly, yn enghraifft o rywbeth sydd wedi mynd yn llawer pellach na hynny, ac mae wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus. Rwy’n meddwl bod ein diolch yn fawr i bob un o arweinwyr yr awdurdodau hynny, a phob prif weithredwr. Credaf fod hynny’n wir ar draws y pleidiau.
Fel y nododd Jenny Rathbone eisoes, mae angen i’r fargen ddinesig fynd y tu hwnt i Gaerdydd, fel arall nid yw’n fargen o gwbl. Hoffwn roi hynny yn ei gyd-destun: nid yw’n ymwneud â Blaenau’r Cymoedd yn unig, ond y Cymoedd gogleddol, sy’n cynnwys ardal sy’n fwy na hynny mewn gwirionedd, yn ymestyn ar draws ardaloedd y Cymoedd gogleddol. Mae llwyddiant Manceinion yn deillio’n rhannol o’r ffaith ei fod yn rhanbarth consentrig. Wel, y broblem gyda’r Cymoedd yw mai sbôcs yn symud allan o ardal Caerdydd ydynt, sy’n creu her arall i ni—a her y gellir ei goresgyn, rwy’n credu, os gweithiwn gyda’n gilydd.
Yn olaf, mae Canolfan Arloesi Menter Cymru wedi’i lleoli yn fy etholaeth i, ym Mharc Busnes Caerffili. Rwy’n credu ei bod yn enghraifft wych o’r math o beth y gall y fargen ddinesig ei gyflawni yn y Cymoedd gogleddol. Rydym yn gweld Canolfan Arloesi Menter Cymru fel canolbwynt twf a datblygiad busnes. Beth am wasgaru Canolfan Arloesi Menter Cymru—y math hwnnw o fodel—ar draws y Cymoedd gogleddol? Nid creu swyddi yn unig a wnâi, ond tyfu a chreu busnesau hefyd. Rwy’n credu y gallwn gyflawni hynny.
Fel Jenny Rathbone, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thagfeydd yn ein dinasoedd, yn enwedig Caerdydd, ac aneffeithlonrwydd llwyr y ffordd yr ydym yn caniatáu i’r traffig lifo ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym a sicrhau bod cynlluniau eraill yno i gael pobl oddi ar y ffyrdd. Buasai peidio â gyrru ar deithiau sengl gydag un teithiwr yn unig yn gwella llif y traffig yn ddramatig. Dylid annog cynlluniau rhannu ceir drwy’r cyflogwyr mwy o faint, ond hefyd drwy’r rhyngrwyd, y dechnoleg newydd wych sydd gennym, fel y dylid annog lonydd arbennig i’w defnyddio gan geir sy’n cael eu rhannu. Bydd hynny hefyd yn gwella’r amgylchedd trefol ac yn rhoi opsiynau eraill i ni o ran dynodi rhai ffyrdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae gwir angen inni feddwl mewn modd cynhwysfawr iawn am y ffordd yr ydym yn rheoli llif traffig. Mae’n rhaid ei wneud ar y lefel uchaf. Fel arall, bydd y tagfeydd presennol yn gwaethygu fwyfwy.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Nick Ramsay am fanteisio ar y cyfle y mae’r ddadl fer yn ei roi i dynnu sylw at y cynnydd presennol a wneir mewn perthynas â bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? Yn fy marn i, roedd ei gyfraniad yn feddylgar, yn eang, yn optimistaidd ond yn realistig ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae gan fargeinion dinesig y potensial i gael effaith barhaol, a dyna pam y mae ymrwymiad i wneud bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn llwyddiant mor bwysig.
Nawr, un o’r nodweddion sydd wedi diffinio’r fargen yn y Siambr hon yw’r gefnogaeth drawsbleidiol gref a gafwyd iddi. Rydym wedi gweld rhywfaint o hynny eto heddiw. Mae’r partneriaid sydd ynghlwm wrthi wedi dangos uchelgais, gweledigaeth a gwaith caled wrth ei chael cyn belled â hyn, ond ni allwn fod yn hyderus y gall y fargen gyflawni ei haddewid heb gefnogaeth barhaus, a chefnogaeth wleidyddol barhaus.
Ddirprwy Lywydd, mae’r addewid yn sylweddol, oherwydd mae gan y fargen gronfa fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth o £1.2 biliwn dros gyfnod o 20 mlynedd. Dyma’r fargen ddinesig fwyaf fesul y pen o’r rhai y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn. Mae’n fwy na bargen ddinesig Glasgow ac mae’n fwy na bargeinion dinesig y chwe phrif ddinas-ranbarth yn Lloegr hefyd. Ei nod yw darparu pwerau ac adnoddau i bartneriaid lleol allu datgloi twf economaidd sylweddol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac mae honno’n thema a glywsom y prynhawn yma. Mae’n hollbwysig fod y twf hwnnw’n digwydd ar draws y rhanbarth cyfan drwy ddatblygu arweinyddiaeth gryfach a mwy effeithiol a galluogi 10 awdurdod lleol i uno’r broses o wneud penderfyniadau, rhannu adnoddau a gweithio’n fwy effeithiol gyda busnesau lleol. Mae’n fargen sy’n ceisio adeiladu ar gryfderau sectoraidd y rhanbarth, ei sylfaen sgiliau uchel, ei thair prifysgol lwyddiannus, a rhoi cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy wella cysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau, cynorthwyo pobl i gael gwaith a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau allu arloesi a thyfu.
Yn ystod ei hoes, mae disgwyl i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a denu gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad o’r sector preifat. Fel y clywsom yn glir y prynhawn yma, bydd cyflawni metro de-ddwyrain Cymru yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, gan gynnwys trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Mae’r fargen yn rhoi’r metro yng nghanol rhaglen sylweddol ar gyfer datblygu seilwaith gyda £734 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer ei gyflawni. Mae hwnnw’n cynnwys £503 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £125 miliwn gan Lywodraeth y DU ac wrth gwrs, £106 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd, drwy ERDF.
Y tu hwnt i’r metro, mae’r fargen yn cynnwys £495 miliwn pellach, sef £375 miliwn gan Lywodraeth y DU a £120 miliwn gan yr awdurdodau lleol eu hunain, sydd ar gael i flaenoriaethu yn unol ag amcanion y fargen.
Mae hyn oll wedi bod yn bosibl drwy uchelgais awdurdodau lleol eu hunain a newid sylweddol yn eu parodrwydd a’u gallu i ddod at ei gilydd ar gyfer cydweithio’n rhanbarthol, ond hefyd drwy gydweithrediad cryf gyda a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd i wneud hyn oll yn bosibl. Mae pob plaid yn gweithio i sefydlu’r trefniadau llywodraethu angenrheidiol yn gynnar y flwyddyn hon er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i weithgarwch prosiect gychwyn. Dyna pam, wrth gwrs, fel y clywsoch y prynhawn yma, y mae’r awdurdodau lleol ar draws y fargen ddinesig yn pleidleisio i wneud y trefniadau llywodraethu hynny’n realiti, a hoffwn longyfarch Hefin ar y rhan a chwaraeodd yn gwneud i hynny ddigwydd ddoe ddiwethaf.
Mae llawer iawn wedi digwydd, Ddirprwy Lywydd, ers y 10 mis a aeth heibio o’r adeg y llofnododd Prif Weinidog Cymru ac eraill y fargen. Mae’r partneriaethau’n gweithio, fel y gwyddoch, ar gaffael y metro ac mae’n hollol gywir, fel y mae eraill wedi dweud, y bydd y metro yn chwarae’r rhan allweddol hon yn symud pobl ar draws y rhanbarth ac yn symud pobl i Gaerdydd, ond nid yn unig hynny—yn symud pobl o Gaerdydd i rannau eraill o’r rhanbarth a rhwng rhannau o’r rhanbarth yn ogystal.
Fel y dywedodd Nick Ramsay, mae’n rhaid i ni fabwysiadu syniad mwy dychmygus o’r hyn fydd y metro na’r ffordd y caiff ei ddisgrifio weithiau mewn trafodaethau cyhoeddus. Ac roedd David Melding yn iawn hefyd pan dynnodd sylw at y ffaith y bydd angen atebion y tu hwnt i’r metro ar heriau trafnidiaeth ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Dyna pam y mae mor bwysig, yn ogystal â sefydlu Cabinet ar y cyd ar ffurf gysgodol, fod awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol cysgodol eisoes wedi’i sefydlu fel rhan o’r fargen hon a’i fod wedi bod yn gweithio’n weithredol, yn cyfarfod, er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Nawr, er bod cadarnhau’r fargen yn hynod o bwysig o ran ei threfniadau llywodraethu, mae’n bwysig am ei fod yn nodi’r symud i’r cam nesaf ac mae’r cam nesaf hwnnw’n ymwneud â chyflawni, drwy’r awdurdodau a’u partneriaid, y prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ar draws de Cymru.
Mae’r fargen bob amser wedi cael ei gyrru gan yr uchelgais clir i sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn seilwaith, arloesedd, sgiliau a busnes. Cyhoeddodd y comisiwn cystadleuol a sefydlwyd gan y fargen, dan arweiniad Greg Clark—neu’r Greg Clark arall, fel y dylem gyfeirio ato mae’n debyg—ei adroddiad fis Rhagfyr diwethaf ac roedd yn nodi, fel un o gryfderau’r fargen, fod yna gymaint o bobl, sefydliadau a busnesau yn awyddus i wneud twf economaidd cynaliadwy ar draws de Cymru yn realiti ac eisiau chwarae rhan yn y broses o wneud i hynny ddigwydd.
Mae’n hynod bwysig, felly, fod y prifddinas-ranbarth yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhaglen o brosiectau. Mae’r trefniadau llywodraethu’n cefnogi cyfranogiad penodol cynrychiolwyr busnes, ond rwy’n disgwyl i’r fargen ddinesig ymgysylltu’n eang i wneud yn siŵr fod pawb sydd â rhan i’w chwarae yn teimlo bod ganddynt gyfle go iawn i wneud y cyfraniad hwnnw.
Mae llawer wedi cael ei wneud y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, o gyfleoedd economaidd y fargen ddinesig, yn enwedig yr hwb ariannol i’r rhanbarth. Mae pwysigrwydd go iawn hefyd, yn fy marn i, yn y cam pwysig o roi cyfle i awdurdodau lleol wneud i hyn ddigwydd a datblygu’r gweithio trawsffiniol wrth i’r 10 awdurdod lleol ddod at ei gilydd er budd y rhanbarth ehangach a gynrychiolir ganddynt. Fel y dywedwyd yn y Siambr ddoe pan oeddem yn trafod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, mae cyflawniadau bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth lunio’r gwaith rhanbarthol ehangach hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Nid wyf am orffen fy sylwadau heb gydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae trafodaethau yn ninas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd rhagddynt yn dda, ac rwy’n hyderus fod gennym fodd o greu bargen y gall yr holl bartneriaid ei chefnogi. Mae gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gam datblygu cynharach, ond mae ganddo ymrwymiad gwirioneddol gan y partneriaid o amgylch y bwrdd, ac rydym yn parhau i weithio gyda hwy i archwilio sut y gallai bargen twf helpu i gyflawni eu huchelgeisiau ar gyfer y rhan honno o ogledd Cymru a gwneud y mwyaf o gysylltiadau â rhanbarthau ar draws y ffin yn Lloegr.
Mae’r llwybr y mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei droedio heddiw yn enghraifft o’r hyn yr ydym am ei weld yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, cyn belled ag y bydd gennym agenda ar y cyd i fanteisio i’r eithaf ar ein budd cyfunol a datgloi twf economaidd pellach ar gyfer pob rhan o’n cenedl. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.