Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
14/12/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Amgylchedd a Materion Gwledig, a’r cwestiwn cyntaf, Dawn Bowden.
Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau cynhyrchu ynni lleol? OAQ(5)0082(ERA)
Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes sefydledig o gefnogaeth yn y maes hwn, sy’n parhau ar hyn o bryd o dan y gwasanaeth ynni lleol. O ganlyniad i’n cymorth, mae naw o gynlluniau ynni lleol wedi cael eu sefydlu. Mae’n cynnwys Cyfeillion Taf Bargoed yn nyffryn Merthyr a phedwar arall sy’n cael eu sefydlu ar hyn o bryd.
Ardderchog. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet am eich ymateb. Ac rwy’n ymwybodol eich bod wedi ymweld, mewn gwirionedd, â Thaf Bargoed ar ddiwedd yr Hydref—y cynllun ynni dŵr yno. Ac mai Taf Bargoed yw’r cam diweddaraf o brosiect sydd wedi trawsnewid y safle hwnnw o dri phwll glo segur yng nghanol cymuned y Cymoedd ac sydd wedi gweld lansiad y cynllun dŵr sy’n cynhyrchu incwm. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y parc yn enghraifft wych o drawsnewid safle diwydiannol yn ganolfan hamdden ac adloniant, sydd wedi dod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol, ac mae’r fenter ddiweddaraf yn ddilyniant naturiol a chadarnhaol. Ond fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar ddarparu ynni glân, er gwaethaf yr hyn rydych newydd ei ddweud am y pedwar cynllun sydd yn yr arfaeth, a gaf fi ofyn i chi sut y gallwn annog hyd yn oed mwy o gymunedau i gynhyrchu eu hynni eu hunain a dysgu o esiampl ragorol prosiectau fel Taf Bargoed?
Diolch. Mae cynllun Taf Bargoed yn enghraifft wych o bobl leol yn dod at ei gilydd, gan wneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n bodoli yn eu cymuned, a’n gweledigaeth yw gweld llawer mwy o gymunedau a busnesau yn defnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, ac ennill incwm yn y broses—rwy’n credu bod hwnnw’n beth arall i feddwl amdano. Soniais yn fy ateb cychwynnol ein bod yn cefnogi cymunedau drwy broses gwasanaeth ynni lleol. Mae hynny’n darparu cefnogaeth swyddog datblygu, mae’n darparu cyllid, ac mae hefyd yn darparu mynediad at grwpiau cyngor arbenigol. Felly, un o brif fanteision grwpiau cymunedol yn gweithio gyda’r gwasanaeth ynni lleol yw’r mynediad at gyllid cyfalaf y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig. A gwyddom o brofiad y gall grwpiau ei chael yn anodd yn aml i godi arian ar gyfer cynlluniau o’r fath, felly rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud yn siŵr fod y cyllid hwnnw ar gael yma yng Nghymru.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau’r statws a’r pwyslais a roddir ar bolisïau mewn cynlluniau datblygu lleol pan fydd ei swyddogion yn penderfynu pa mor dderbyniol yw unrhyw gynllun cynhyrchu ynni lleol, sydd, yn rhinwedd ei allbwn disgwyliedig, bellach yn cael ei gategoreiddio bellach fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol?
Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda nodyn ar hynny.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â phrosiect trydan dŵr cymunedol yng ngogledd Cymru, a chefais sgwrs bellach gydag Ofgem am y mater a godwyd, sef bod yn rhaid i gostau cysylltu â’r grid, lle nad oes digon o gapasiti yn yr ardal eisoes, gael eu talu gan y datblygwr yn gyffredinol, ond y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr oedd mai defnyddwyr trydan ledled y DU oedd i dalu am uwchraddio’r grid. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y dull yn deg i Gymru ar hyn o bryd ai peidio?
Mae hwn yn fater y mae’n rhaid i mi edrych arno. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod digon o gapasiti ar y grid cenedlaethol. Cyfarfu’r Prif Weinidog gyda’r Grid Cenedlaethol yn ddiweddar i drafod hyn, ac mae’n rhywbeth y byddwn yn edrych arno yn y dyfodol, fel y dywedaf.
Gwella Amddiffynfeydd rhag Llifogydd
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd? OAQ(5)0080(ERA)
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi cymunedau sydd mewn perygl ac adeiladu cydnerthedd drwy ddarogan llifogydd yn well, codi ymwybyddiaeth ac ariannu cynlluniau â blaenoriaeth. Mae £23 miliwn o’r rhaglen £54 miliwn ar gyfer eleni yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydweithio ar y rhaglen rheoli risg arfordirol, gan gynyddu ein gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, gan wario dros £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar leihau peryglon a chynnal asedau cyfredol. Mae’r buddsoddiad parhaus hwn i’w groesawu ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod cartrefi teuluol a busnesau’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd. Dros ddegawd yn ôl, cafodd tref yr Wyddgrug yn fy etholaeth ei difrodi gan lifogydd ar ôl i afon Alyn orlifo, ac mae’r ardal yn parhau i wynebu perygl llifogydd heddiw. Mae cynllun lliniaru llifogydd ar gyfer yr Wyddgrug wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer, ond hyd yn hyn, ni chafwyd cytundeb. Weinidog, a allwch sicrhau fy etholwyr fod cynlluniau yn parhau i fod ar y trywydd cywir i weithredu’r cynllun, ac y bydd y gwaith hwnnw rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru yn parhau ar y mater hwn?
Diolch. Gwn fod fy swyddogion yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint, ac rwy’n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun yn ailasesu ac yn adolygu’r gost. Oherwydd rwy’n credu, dros 10 mlynedd, yn amlwg, mae’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers y rhagfynegiad gwreiddiol. Felly, rwy’n deall fod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd lleol i adolygu’r gwaith modelu a’r wybodaeth am yr asedau.
Y realiti, wrth gwrs, yw bod y gyllideb ar gyfer gwarchod rhag llifogydd wedi ei thorri. Nawr, o gofio bod yna arian cyfalaf ychwanegol yn mynd i ddod i Gymru yn sgîl datganiad yr hydref, a wnewch chi wneud yr achos cryfaf posibl ar gyfer sicrhau bod y ffynhonnell honno yn cael ei hadfer?
Rwyf wedi gwneud yr achos cryfaf posibl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a chewch wybod yr wythnos nesaf a fu’n llwyddiannus ai peidio.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod adnoddau’n brin, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, a bod cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd, o ran cyfalaf, yn ddrud iawn, a refeniw yn ogystal, a ydych yn credu y buasai’n amser da yn awr, gyda’r agenda yn symud at fwy o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, a datblygiadau ar draws awdurdodau lleol, megis metro de Cymru, a dinas-ranbarthau, i edrych ar ranbartholi gwaith amddiffyn rhag llifogydd, yn hytrach na’i adael gydag awdurdodau lleol unigol, er mwyn eu cael i gydweithio’n agosach ac i ddatblygu cynlluniau mwy costeffeithiol a chynaliadwy?
Mae’n debyg ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd os yw cynllun llifogydd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol. Nid wyf yn siŵr y buasai rhanbartholi yn arbennig o fuddiol. Fodd bynnag, rydym bob amser yn annog awdurdodau lleol i gydweithio’n agosach â’i gilydd, felly, fel y dywedaf, os ydynt yn teimlo y buasai’n fuddiol, nid oes gennyf wrthwynebiad i hynny o gwbl.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymuned y Teithwyr, os gwelwch yn dda?
Nid dyna’r cwestiwn cywir. Huw Irranca-Davies.
Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, cafodd llawer o fy etholwyr, yn enwedig y rhai ym Maesteg, eu heffeithio gan y llifogydd sydyn yn ddiweddar. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae llawer ohonynt wedi gorfod gadael eu cartrefi, yn aros gyda pherthnasau, gyda theulu, eu heiddo wedi’i gludo ymaith mewn sgipiau, ac mae eu tai yn sychu. Gallai rhai ohonynt fod allan o’u cartrefi am beth amser.
A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am gyngor i un etholwr o’r fath, sydd wedi’i ddal mewn trafferthion enbyd? Mae eu cartref dan ddŵr oherwydd bod llifogydd sydyn wedi llifo i lawr y bryn a thrwy eu tŷ hwy ac adeiladau eraill—dim i’w wneud â llifogydd afonydd, dim i’w wneud â gorlifo arfordirol. Eto i gyd, mae eu hyswiriwr wedi dweud bod eu hawliad yn annilys, ar ôl i’w heiddo gwlyb domen gael ei gario i’r sgip, oherwydd eu bod wedi methu nodi, wrth arwyddo’r polisi, bod eu tŷ o fewn 200m i afon. Amryfusedd oedd hyn, a thybed faint o bobl sydd yn awr yn cael eu dal gan y rheol 200m hon, sy’n ymddangos yn gyffredin bellach mewn nifer o bolisïau. A dweud y gwir, nid oes llawer o leoedd yn fy etholaeth i, sy’n ddyffrynnoedd afonydd, nad ydynt o fewn 200m i ryw afon neu’i gilydd. Felly, pa gyngor y gallai hi ei roi i fy etholwr, ac a fuasai hi’n codi’r mater hwn mewn trafodaethau yn y dyfodol â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain ac â Chymdeithas Yswirwyr Prydain? Mae cymal cyffredinol ynglŷn â byw o fewn 200m i afon yn andros o ddihangfa i ddiwydiant yswiriant Prydain.
Ydy, mae clywed am brofiad eich etholwyr gyda hynny yn peri pryder mawr. Ac mae’n dda iawn eich bod wedi codi’r mater yma yn y Siambr. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at froceriaid yswiriant Prydain ar unwaith i sôn am y mater, ac yn amlwg, byddaf yn rhannu’r wybodaeth honno gyda chi pan ddaw i law.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, amser cinio heddiw, roeddwn yn cyd-noddi sesiwn briffio Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Angela Burns, ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn mewn perthynas â’r cynigion ymgynghori, a allai osod baich enfawr ar ffermwyr a’u gorfodi allan o fusnes o ganlyniad. O ystyried bod y Prif Weinidog wedi dweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn awr yw penderfynu pa gyfreithiau y dylid eu cadw ac na ddylid eu cadw yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allech chi egluro pam fod Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad hwn i gyflwyno parthau perygl nitradau, sy’n deillio o gyfarwyddeb Ewropeaidd?
Oherwydd ein bod yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wel, mae angen i mi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fod ganddi gyfle yma i edrych ar y cynigion hyn unwaith eto o ystyried ein bod yn awr yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n sylweddoli bod angen i ni gynnal ansawdd ein hamgylchedd naturiol ac am y rheswm hwnnw, mae’n peri pryder, gyda llaw, nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, oherwydd mae asesiad effaith rheoleiddiol yn sicr yn hanfodol i ddangos sut y bydd y cynigion hyn yn arwain at wella ansawdd ein dŵr a’n hamgylchedd naturiol. A allwch chi, felly, egluro wrthym pam nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynigion Llywodraeth Cymru?
Rwy’n mynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf: mae gweithredu’r gyfarwyddeb nitradau yn rhwymedigaeth Ewropeaidd, a thra byddwn yn dal i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac rydym yn mynd i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd am y ddwy flynedd a hanner nesaf o leiaf, rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod safonau gofynnol ar gyfer storio slyri wedi cael eu cyflwyno dros 25 mlynedd yn ôl—25 mlynedd yn ôl—ac mae’r asesiadau rydym wedi eu gwneud yn dangos nad yw tua 65 y cant o ffermydd yn bodloni’r safonau hyn. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi i ffermwyr, pan fyddant yn sôn wrthyf am hyn, yw y buasai cost cydymffurfio â gofynion Parthau Perygl Nitradau yn fach iawn i’r rhai hynny sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. I mi, mae hynny’n gwobrwyo arfer da, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Fel rwy’n ei ddweud, rydym yn ymgynghori a bydd asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Wel, mae’n siomedig nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, ac onid yw’n wir nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi oherwydd nad oes digon o dystiolaeth wyddonol i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru? Nid yn unig nad oes digon o dystiolaeth wyddonol, ond bydd y cynigion hyn yn niweidio ffermwyr ledled Cymru mewn gwirionedd ac yn cael effaith sylweddol ar yr economi wledig ehangach. Ac mae’n ymddangos i mi mai gordd i dorri cneuen yw’r cynigion hyn yn y bôn a diau y bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn adleisio’r pryderon hyn mewn gwirionedd. Felly, o dan yr amgylchiadau, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gwirfoddol o weithredu ar y mater hwn, ac yn dilyn yr ymgynghoriad, a fyddwch yn awr yn ystyried barn ffermwyr ac yn wir, y diwydiant amaethyddol ac yn ystyried gweithio gyda hwy drwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?
Nid wyf yn cytuno â’r cwestiwn rydych yn ei ofyn i mi. Nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Rwy’n hapus iawn i weithio gyda’r diwydiant. Soniais yn fy ateb blaenorol i chi pa mor hir y mae’r safonau hyn wedi bodoli, yr hyn y mae ein hasesiadau wedi’i ddangos a sut y buasai’r gofyniad yn fach iawn ar gyfer y rhai sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. Ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymddygiad da.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf am siarad am gyfarwyddeb Ewropeaidd arall, ond rwyf am iddo gael ei gofnodi fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gofyn i chi fabwysiadu’r dull gwirfoddol mewn perthynas â’r gyfarwyddeb Parthau Perygl Nitradau hefyd. Ond pa asesiadau a wnaethoch o ddyfarniad yr Uchel Lys y mis diwethaf nad oedd cynllun ansawdd aer DEFRA o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer yn cydymffurfio mewn gwirionedd?
Mae swyddogion yn sicr yn edrych ar yr achos llys a gynhaliwyd ac a ddyfarnodd, wrth gwrs, yn erbyn Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf y wybodaeth honno ar hyn o bryd, ond rwy’n hapus iawn i’w rhannu pan fyddaf yn ei chael.
Wel, diolch i chi, Weinidog. Rwy’n credu ei fod yn achos llys pwysig iawn ac er mai yn erbyn DEFRA y’i cynhaliwyd, cyfrifoldeb adrodd y DU o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer ydyw mewn gwirionedd. Felly, mae’n effeithio arnom ni, ac roedd yn goddiweddyd neu’n cydredeg â’ch ymgynghoriad chi ar ansawdd aer, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Yn yr ymgynghoriad ar ansawdd aer fe ddywedoch hyn:
‘Mae cryn ansicrwydd ynghylch i ba raddau y byddwn yn dal i orfod cadw at ein dyletswyddau presennol yn yr Undeb Ewropeaidd—’
er bod eich ymateb i Paul Davies yn swnio fel pe baech wedi eich rhwymo gan eich dyletswyddau UE presennol—
‘gyda golwg ar lygredd aer a sŵn ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn ddweud yn fanwl eto pa gamau pellach y bwriadwn fwrw ymlaen â nhw yn ystod ail, trydedd, pedwaredd a phumed flwyddyn y Cynulliad hwn.’
A gaf fi ddweud wrthych, Weinidog, ar ôl cael amcangyfrif gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint bod llygredd aer yng Nghymru yn gysylltiedig â dros 1,300 o farwolaethau cynnar—dyna ffigur Cymru; rydym wedi clywed ffigurau’r DU o’r blaen; dyna ffigur Cymru—a allwch chi wir fod mor laissez-faire yn eich ymateb ar fynd i’r afael â llygredd aer?
Na, nid wyf yn laissez-faire o gwbl, ac oherwydd fy mhryderon y lansiais yr ymgynghoriad mor fuan ar ôl i mi gychwyn yn y swydd. Mae gennym fframweithiau deddfwriaethol Ewropeaidd a chenedlaethol ar waith yng Nghymru. Mae’n peri pryder mawr i mi. Mae gennym yn sicr ardaloedd â phroblem, os mai ardaloedd â phroblem yw’r term cywir, lle y ceir ansawdd aer gwael iawn, sy’n peri pryder i mi. Fe sonioch am yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Mae swyddogion eisoes wedi dechrau dadansoddi’r ymatebion, a byddaf yn gallu cyflwyno mwy o wybodaeth pan fydd hwnnw wedi’i gwblhau, yn amlwg.
Wel, rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth honno hefyd yn cynnwys eich ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, ac rwy’n gobeithio hefyd y gallwch ystyried y polisi cyhoeddus sy’n newid yn gyflym yn y maes hwn. Mae pump o’r dinasoedd y credaf eich bod wedi ymuno â hwy mewn rhwydwaith rhanbarthol yn dilyn Marrakech wedi cefnogi’r cynnig i wahardd trafnidiaeth ddiesel o’r dinasoedd. Yn aml, mae ceir diesel yn cael eu gweld fel problem benodol, er mai lorïau a thrafnidiaeth ddiesel sy’n creu’r rhan fwyaf o’r llygredd mewn gwirionedd. Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu gwahardd pob car tanwydd ffosil; efallai nad dyna ei awgrym mwyaf—. [Torri ar draws.] Pob car, mewn gwirionedd; ie, o bosibl. Efallai nad dyna ei awgrym mwyaf chwerthinllyd, mewn gwirionedd, gan fod Copenhagen eisoes wedi awgrymu hynny mewn 10 mlynedd. Mae Paris yn edrych ar y syniad. Mae ceir yn cael eu gwahardd bob yn ail ddiwrnod mewn nifer o ddinasoedd ledled y byd. Ond wrth gwrs, nid ymosod ar geir preifat yw’r ateb; yr ateb yw newid i seilwaith trydan. A’r ateb yw defnyddio’r offer sydd gennym yma yng Nghymru eisoes—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 i gyflawni’r cynigion polisi hynny. Felly, mewn ymateb i’r hyn y mae dinasoedd eraill yn ei wneud, sut y gall Cymru gamu i’r adwy a chyflawni’r trawsnewidiad hwnnw o drafnidiaeth tanwydd ffosil personol i gerbydau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n llawer mwy cynaliadwy?
Rydych yn hollol gywir. Y C40—y grŵp o ddinasoedd rydych yn cyfeirio atynt—cyfarfûm â sawl un o’r meiri pan oeddwn yn Marrakech yn COP22, ac roedd yn ddiddorol iawn clywed am eu cynlluniau i roi diwedd ar y defnydd o geir diesel, er enghraifft, erbyn 2025. Mae gwledydd eraill yn ystyried gwneud hynny hefyd erbyn 2030, 2035, ac mae’n rhaid i ni ddal i fyny, fel arall byddwn yn edrych fel deinosoriaid. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud hynny. Rwy’n cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ynghylch trafnidiaeth gynaliadwy. Rwy’n credu bod angen i ni osod rhai targedau, ac fe grybwyllais yn y datganiad ynni yr wythnos diwethaf fod yn rhaid i ni gael targed realistig, ond rwy’n hapus iawn i edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn hapus iawn os oes unrhyw ddinasoedd—. Mae’n debyg fod Caerdydd, rwy’n credu, wedi gwneud rhai sylwadau fod Caerdydd yn ystyried gwneud hynny hefyd, felly rwy’n hapus iawn i gael y trafodaethau hynny, ond mae gwir angen i ni sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad mewn perthynas â’r cyhoeddiadau hyn mewn gwirionedd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu y bydd ffermwyr ac, yn wir, busnesau bach yn gyffredinol yn siomedig iawn gyda’r ymateb cyndyn a roddodd ysgrifennydd yr amgylchedd i gwestiwn Paul Davies yn gynharach. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cynnal arolwg o ffermwyr a’r effaith y buasai cyflwyno parthau perygl nitradau yn ei gael arnynt a’u diwydiant, ac maent wedi canfod nad oes gan 73 y cant o’r ffermwyr sy’n cynhyrchu slyri yng Nghymru ddigon o gyfleusterau storio i fodloni gofynion y cynigion Parthau Perygl Nitradau, ac y byddai’r gost gyfartalog o gydymffurfio â hwy bron yn £80,000. Mewn byd lle y mae incwm ffermydd yn isel ac yn plymio—mae incwm ffermydd wedi gostwng 25 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf—bydd dull ansensitif o fynd i’r afael â’r broblem hon yn syml yn golygu y bydd busnesau nifer fawr o ffermwyr, yn enwedig yn y diwydiant llaeth, yn mynd i’r wal. Yn sicr, nid wyf yn credu fod hwnnw’n bris gwerth ei dalu am yr enillion tymor byr y mae ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori yn eu cylch.
Wel, rwy’n credu bod ‘ansensitif’ yn un gair na allwch ei briodoli i mi, ac yn sicr nid wyf yn ansensitif i hyn. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn gynnar ym mis Hydref, a chawsant gyfarfod adeiladol iawn. Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar sawl achlysur, ac roedd y cyfarfod diwethaf wythnos i ddydd Iau diwethaf, rwy’n credu. Yn amlwg, maent yn pryderu ac maent wedi dod â’r pryderon hynny i fy sylw. Heb ymgynghoriad—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad hwnnw, ac rwy’n mynd yn ôl at fy ateb i Paul Davies pan ddywedais y buasai’r gost gydymffurfio’n fach iawn i’r rhai sydd eisoes yn bodloni’r safonau storio presennol.
Wel, mae’r ffeithiau, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud hynny, ac rwy’n credu bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ymgynghoreion eithaf dibynadwy ar y materion penodol hyn. Ond mae yna atebion eraill i broblem llygredd nitrad, ac maent wedi cael eu gweithredu yn Lloegr. Mae’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol wedi cynhyrchu llyfryn sy’n dwyn y teitl, ‘101 ways to reduce nitrates’. Yn wir, yng Nghymru, mae’r defnydd o wrtaith nitrad wedi gostwng 43 y cant rhwng 1990 a 2013, felly nid yw fel pe na bai dim byd yn digwydd yn y byd go iawn. Ac mewn gwirionedd, yn ardal Cleddau yn Sir Benfro, roedd yn rhaid i un hufenfa dorri 8 tunnell fetrig oddi ar ei gwastraff nitrad, a daeth ffermwyr lleol at ei gilydd i ffurfio cwmni cydweithredol—25 ohonynt—a llwyddodd pob un ohonynt i dorri tunnell yr un oddi ar eu gwastraff nitrad eu hunain. Felly, llwyddasant mewn gwirionedd i dorri cyfanswm o 25 tunnell oddi ar y gwastraff nitrad yn yr ardal honno. Nawr, mae hynny wedi digwydd heb ddull llawdrwm y gyfundrefn y mae Ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori arni ar hyn o bryd. Felly, rwy’n meddwl tybed os gallaf gael—heb achub y blaen ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn amlwg—ymrwymiad meddwl agored ganddi i edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd ac i ystyried, er hynny, y posibilrwydd o gyfundrefn wirfoddol os nad yw canlyniad yr ymgynghoriad yn bendant.
Rwyf bob amser â meddwl agored pan fyddaf yn ymgynghori, ond rwy’n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais, nad yw 65 y cant o’n ffermydd yn bodloni’r safonau—safonau sydd wedi bod ar waith ers 25 mlynedd. Ond wrth gwrs, ochr arall y geiniog yw bod 35 y cant yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai y dylem wneud yn siŵr fod arfer gorau o’r 35 y cant o ffermydd yn cael ei rannu â’r 65 y cant arall, ond mae gennyf feddwl agored yn sicr.
Da iawn. Wel, rwyf wrth fy modd yn clywed hynny. Rydym yn gwneud cynnydd, ond wyddoch chi—
Mor nawddoglyd.
Wel, rydym yn gwneud cynnydd. Rwy’n golygu hynny fel canmoliaeth. Wel, mae’n rhaid i mi ddweud, yn ei hatebion i mi o’r blaen, Lywydd, y cwbl rwyf wedi’i gael yw atebion unsill ar fater asesiadau effaith rheoleiddiol, er enghraifft, sy’n rhan o god ymddygiad y Llywodraeth ei hun. Maent wedi addo cael asesiadau effaith rheoleiddiol fel rhan o ymgynghoriadau fel hyn, ac nid oes un, ac rwy’n credu mai’r rheswm am hynny yw’r hyn y cyfeiriodd Paul Davies ato.
O gofio y byddwn yn gadael yr UE o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf, erbyn i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben ac erbyn y bydd y rheoliadau mewn sefyllfa i gael eu gweithredu, efallai mai dim ond mater o fisoedd fydd ar ôl beth bynnag. Yn sicr, mewn amgylchiadau fel hyn, lle y mae gennym gyfle i deilwra rheoliadau sy’n gweddu i Gymru fel endid ar wahân, yn hytrach na threfn sy’n cwmpasu cyfandir cyfan, mae’n rhaid ei bod yn gwneud synnwyr i gael moratoriwm ar fesurau fel hyn, a all effeithio’n ddinistriol ar fusnes ar gyfer gwelliannau ymylol yn ansawdd yr amgylchedd, o gofio bod yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem.
Rwy’n siŵr y buasai’r Aelod wrth ei fodd yn gadael yr UE yn llawer cyflymach nag y byddwn yn ei wneud, ond rydym yn dal i fod yn yr UE. Tra byddwn yn yr UE, mae angen i ni barchu ein dyletswyddau i’r UE. Felly, yn anffodus nid wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Yn y dyfodol, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fater cwbl wahanol, os mynnwch. Mae angen i ni sicrhau felly fod y polisïau penodol hyn yn iawn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn yr UE.
Lagwnau Slyri
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi i awdurdodau cynllunio ynghylch lagwnau slyri? OAQ(5)0078(ERA)
Diolch. Mae ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn glir y dylai’r system gynllunio hyrwyddo arfer amgylcheddol da sy’n cynnwys lleihau peryglon llygredd. Mae canllawiau ar lagwnau slyri ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gwrandewais yn astud iawn ar yr hyn oedd gennych i’w ddweud wrth Aelodau eraill o amgylch y Siambr, oherwydd, eisoes, mae ffermwyr yn ei chael yn anodd cael caniatâd ar gyfer lagwnau slyri. Rydych yn siarad am y 65 y cant nad ydynt yn cydymffurfio—buaswn yn gofyn i chi, Weinidog, faint o’r ffermydd hynny sydd wedi cael trafferth i gael caniatâd cynllunio ac sydd wedi wynebu gwrthwynebiad hynod o ffyrnig gan bobl leol nad ydynt eisiau lagŵn slyri ar garreg eu drws? Dyna’r realiti, a’r cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi yw hwn: mae gennym y posibilrwydd y bydd y Parthau Perygl Nitradau yn cael eu cyflwyno, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’ch cyd-Aelodau Cabinet ynglŷn â sut y gallwch newid y system gynllunio, sydd â thueddiad negyddol wedi’i adeiladu i mewn iddi, a beth y gallwch ei wneud i oresgyn y costau dan sylw a gwrthwynebiad y trigolion lleol fel y gall ffermwyr osod lagwnau lle y bo hynny’n briodol a lle na fyddant yn cael eu difrodi gan unrhyw Barthau Perygl Nitradau posibl? Oherwydd hoffwn eich atgoffa, gyda phob parch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod ffermwyr yn stiwardio ein tir yn dda iawn ac maent yn wynebu anawsterau mawr, yn enwedig yn erbyn awdurdodau cynllunio.
Gyda phob parch, nid oes rhaid i mi gael unrhyw drafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet gan mai fi sy’n gyfrifol am gynllunio hefyd. Felly, gallaf ailstrwythuro polisi cynllunio, yn enwedig yng ngoleuni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ymrwymiad strategol hirdymor o fewn y system gynllunio i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy—mae hynny’n cynnwys lleihau llygredd.
Rydych yn hollol gywir, mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn gofalu am eu tir. Yr un peth sydd wedi fy nharo mewn llawer o drafodaethau rwyf wedi’u cael gyda ffermwyr dros yr ychydig fisoedd diwethaf yw eu balchder yn eu gwaith rheoli tir a’u bod yn gymaint mwy na chynhyrchwyr bwyd, er enghraifft. Yn bendant, nid wyf yn credu bod stiwardio tir yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan y cyhoedd yn y modd y dylai gael ei gydnabod. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda ffermwyr wrth ymweld â hwy, ac rwyf bob amser yn gofyn am gael gweld eu lagŵn slyri—rwy’n credu fy mod yn gwneud enw i mi fy hun—oherwydd mae’n agwedd mor bwysig ar fywyd iddynt. Gwn fod rhai ohonynt wedi cael anawsterau gyda chynllunio, ni allaf ddweud wrthych faint na pha mor benodol ydyw i wrthwynebiadau lleol, ond mae’n bwysig fod ein polisi cynllunio yn eu cynorthwyo lle y maent am wneud hynny.
Wel, mae’r dasg yn mynd yn fwy anodd achos, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae cabinet sir Benfro wedi gwrthwynebu’r NVZ, a bore yma, pleidleisiodd Cyngor Sir Gâr yn erbyn yr NVZ hefyd. Ond, wrth gwrs, pwrpas lagŵn slyri yw i gadw slyri nes ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn rhyw ffordd bwrpasol ac yn cael ei daenu neu ei ddefnyddio yn y ffordd yna, gan fwyaf. Pa drafodaethau ydych chi’n cael gyda chontractwyr, sydd yn rhan bwysig o’r jigso yma, achos nhw sy’n gyfrifol am fynd â slyri o lagwnau, ac ailddosbarthu’r cyfoeth, os liciwch chi, o gwmpas yr ardal? Byddan nhw’n cael eu heffeithio’n drwm iawn gan y ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw roi i’r neilltu y gweithlu dros y gaeaf os yw’r NVZ yn dod i mewn, ac efallai y bydd hi’n fwy anodd i gael contractwyr i weithio mewn ffordd mor wyddonol ag sy’n bosib, fel sy’n digwydd nawr. A oes trafodaeth gyda chontractwyr o gwmpas y defnydd yma o slyri a’r NVZs?
Nid wyf wedi cael yr un drafodaeth yn bersonol, ond gwn fod fy swyddogion wedi’u cael. Rydym wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu hefyd. Rydych yn nodi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chapasiti’r lagwnau, o ran faint y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ymgysylltu cynnar, cyn ymgynghori.
Morlynnoedd Llanw
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o botensial ynni morlynnoedd llanw? OAQ(5)0084(ERA)
Diolch. Fel rhan o’r datblygiad ar gyfer y cynllun morol cenedlaethol cyntaf i Gymru, mae asesiadau amrywiol wedi’u cynnal. Mae’r rhain wedi nodi potensial cyfleoedd ynni adnewyddadwy o fwy na 6 GW ar hyd arfordir Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet. Fe fyddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, o’r holl drafodaethau sydd wedi mynd ymlaen ers amser hir ynglŷn â’r datblygiad posib o forlyn llanw ym mae Abertawe. Yr hyn mae’r trigolion lleol eisiau gwybod ydy pryd mae morlyn llanw bae Abertawe yn mynd i gael ei adeiladu.
Wel, yn amlwg rydym yn disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth y DU. Rwy’n gwybod bod yna lawer o sgyrsiau ar y gweill rhwng y cwmni, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf wedi cyfarfod â’r cwmni i ddangos ein bod, mewn egwyddor, yn gwbl ymroddedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiant môr-lynnoedd llanw cynaliadwy yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb ar fôr-lynnoedd llanw roeddech yn tynnu sylw at sut y gallent chwarae rhan bwysig yn darparu ynni gwyrdd a rhan o’r fasged gymysg o gyfleoedd ynni adnewyddadwy y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei hyrwyddo. Ond hefyd yn y fasged honno o gyfleoedd ynni cymysg mae’r gallu i gael prosiectau adnewyddadwy llai ar y tir. Mae’r broblem go iawn yn ymwneud â chael cysylltiad â’r grid i lawer o’r prosiectau hynny. Gwn fy mod wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi o’r blaen, ond a ydych yn gwneud cynnydd gyda’r darparwyr ynni, megis Western Power—neu’r darparwyr seilwaith, dylwn ddweud—i’w galluogi i gynorthwyo fel y gall prosiectau ynni bychan gael y cysylltiadau hynny, a chynorthwyo gyda chymwysterau ynni gwyrdd Cymru?
Ydw, mae’r sgyrsiau hynny yn sicr yn barhaus ac rydym yn gwneud cynnydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe fydd y cynllun cyntaf o’i fath yn y byd ac mae’n dechnoleg heb ei phrofi i bob pwrpas. Mae’r datblygwyr yn honni y bydd y cynllun yn darparu 320 MW o gapasiti gosodedig, ond nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod faint o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Fel rydym wedi’i weld o gynllun llanw swnt Dewi, nid yw pethau bob amser yn mynd yn ôl y bwriad. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y cynllun môr-lynnoedd llanw i Gymru yn darparu’r manteision a nodwyd, o ystyried y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sydd ei angen?
Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Dai Lloyd, rydym yn aros, yn amlwg, am benderfyniad Llywodraeth y DU ar hyn. Rwyf wedi eu cyfarfod i ddangos ein bod, mewn egwyddor, wedi ymrwymo i gefnogi môr-lynnoedd llanw yma yng Nghymru. Yn sicr, o’r trafodaethau rwyf wedi’u cael, rydych chi’n iawn: mae’n dechnoleg newydd, felly mae angen i ni wybod mwy amdano. Ond rwy’n sicr yn credu y gallai Cymru a’r DU ddod yn arweinwyr yn y maes hwn ac rwy’n credu y buasem yn cael budd economaidd sylweddol.
Pan gynhaliodd Charles Hendry ddigwyddiad yma ar y morlyn llanw, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn amlwg fod yna gonsensws cryf iawn o gefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol ac yn wir, yng Nghymru yn gyffredinol. Nawr bod Charles Hendry wedi cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, rwy’n credu, a fyddwch yn parhau i wneud cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn amlwg i Lywodraeth y DU a hefyd yn pwysleisio’r consensws sy’n bodoli yng Nghymru ac yn y Cynulliad?
Byddaf, yn sicr. Roeddem wedi gobeithio y buasai adroddiad Hendry wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ychydig yn gynt na’r wythnos diwethaf. Roeddem yn gobeithio y câi ei gyflwyno ddechrau mis Tachwedd, yn sicr. Rwy’n falch iawn ei fod ganddynt bellach. Rydym yn edrych ymlaen at glywed eu barn ar yr adroddiad. Rwyf wedi gofyn, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Ken Skates, am i ni gael cymryd rhan lawn yn y trafodaethau cyn i unrhyw gyhoeddiadau eraill gael eu gwneud.
Ansawdd Aer
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r modd y caiff ansawdd aer ei reoli o safbwynt sŵn yng Nghymru? OAQ(5)0068(ERA)
Diolch. Rydym yn mynd i’r afael â llygredd sŵn ac aer mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys drwy reoli ansawdd aer lleol, rheoleiddio diwydiant, y gyfundrefn gynllunio a hyrwyddo teithio llesol. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n gofyn am farn y cyhoedd ar beth arall y gallwn ei wneud yng Nghymru.
Diolch. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad rheoli ansawdd aer a sŵn lleol. Sut rydych yn ymateb i bryderon a ddaeth i fy sylw fod y cwestiynau yn hwnnw’n awgrymu cyflawni’r asesiad o ansawdd aer ar sail cyfartaleddu unrhyw effeithiau a manteision ar draws poblogaeth Cymru gyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed, a diystyru’r pwysoliad allweddol y dylid ei roi i fanylion hyperleol a allai ganfod a rhoi gwybod am lygredd gormodol a ddioddefir gan blant, pobl hŷn neu bobl anabl yn arbennig? Hefyd, mae’r ffaith nad oes unrhyw sôn yn y rhagymadrodd i’r ddogfen am ganllawiau neu ymgynghoriad gan uned gymorth asesu effaith ar iechyd Cymru.
Nid wyf wedi clywed unrhyw gwynion am y cwestiynau na’r ffordd y cafodd yr ymgynghoriad ei roi at ei gilydd. Os ydych wedi derbyn un neu fwy, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael nodyn gennych er mwyn i mi allu edrych ar hynny. Mae llawer iawn o feddwl wedi mynd i’r ddogfen ymgynghori honno, ac rwy’n credu bod y cwestiynau rydym wedi eu gofyn yn gwbl briodol.
Mae un o’r ardaloedd sydd â phroblem llygredd aer yng Nghaerdydd, felly rwy’n awyddus iawn i gael gwybod yn union sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau ansawdd aer yn ardal drefol Caerdydd. Pa mor hyderus ydych chi y byddwch yn llwyddo i fodloni Mr Justice Garnham erbyn diwedd mis Ebrill eich bod yn gallu rhoi camau ar waith i ymdrin â’r lefelau anghyfreithlon o lygredd aer rydym yn eu dioddef?
Ar hyd a lled Caerdydd, mae yna rai ardaloedd lleol lle y mae llygredd aer yn broblem, yn bennaf, rwy’n credu, o ganlyniad i allyriadau traffig ar y ffordd. Yn y lleoliadau hyn, mae gennym ardaloedd sydd wedi’u datgan yn ardaloedd rheoli ansawdd aer gan yr awdurdod lleol. Eu dyletswydd hwy yw mynd i’r afael ag ansawdd aer lleol. Rwyf wedi cael fy sicrhau y bydd eu cynlluniau gweithredu i gyd yn eu lle cyn bo hir, yn unol â chanllawiau statudol.
Rwy’n credu bod mynd i’r afael â llygredd aer, mewn gwirionedd, yn gofyn am agwedd gydweithredol. Rydym ar hyn o bryd, fel y dywedais, yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn bwydo canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw i awdurdodau lleol, oherwydd fel y dywedaf, eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu holl ofynion.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi crybwyll allyriadau traffig ffordd ac mae’n amlwg eu bod yn chwarae rhan arwyddocaol iawn o ran llygredd aer a’r effaith ar iechyd pobl. Mae allyriadau diesel yn arbennig o arwyddocaol. A fyddech yn cytuno â mi fod—? Y gobaith yw y byddwn yn symud at gerbydau trydan cyn gynted ag y bo modd, ond cyn i ni wneud hynny, mae camau ymarferol eraill y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn, megis trosi fflydoedd tacsi o ddiesel i nwy petrolewm hylifedig. Mae’r diwydiant yn dweud wrthyf y gellir cyflawni hynny gyda rhywfaint o gymorth grant, efallai, a gallent ad-dalu’r grant hwnnw o fewn cyfnod o tua dwy flynedd.
Yn hollol. Rwy’n credu bod Birmingham yn ystyried trydaneiddio eu fflyd tacsi, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld yr hyn y byddant yn ei wneud. Mewn perthynas â cherbydau trydan, rwy’n awyddus iawn i’n gweld yn symud at fwy o gerbydau trydan, ond wrth gwrs, un maen tramgwydd neu rwystr yw’r diffyg pwyntiau gwefru. Felly, rwy’n edrych i weld os gallaf, efallai, ddod o hyd i swm bach o arian er mwyn i mi allu helpu i gymell awdurdodau lleol i’w gosod, hyd yn oed os mai un yn unig a osodir, er mwyn dechrau’r broses. Mae gan rai awdurdodau lleol y pwyntiau gwefru hyn, yn amlwg. Mae gan bobl rai yn eu cartrefi. Ond rwy’n credu ei fod yn rhwystr i bobl sy’n prynu cerbydau trydan, am nad oes unrhyw bwyntiau gwefru ac wrth gwrs, ni cheir pwyntiau gwefru am nad oes digon o gerbydau trydan, felly mae’n gylch dieflig rwy’n awyddus iawn i’w dorri.
Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ(5)0070(ERA)] yn ôl.
Cwestiwn 7, John Griffiths.
Ardaloedd Trefol Casnewydd
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yng nghanol ardaloedd trefol Casnewydd? OAQ(5)0079(ERA)
Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella lle y maent yn byw neu’n gweithio. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen eco-sgolion, sy’n cynnwys 20 o ysgolion yng nghanol Casnewydd, sy’n grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w bywydau.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi cael newyddion da yn ddiweddar mewn perthynas ag ansawdd llwybr arfordir Cymru a’r manteision y mae’n eu cynnig i Gymru. Rhagwelwyd o’r cychwyn y buasai llwybr yr arfordir yn cael ei gysylltu ag ardaloedd trefol drwy lwybrau cylchol. Tybed a allech chi ddweud wrth y Cynulliad pa gynnydd a wnaed o ran y gobeithion a’r cynlluniau hynny ac a allech chi gefnogi’r syniad o sefydlu’r llwybrau hynny yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill.
Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd i sicrhau mynediad i gymunedau er mwyn hyrwyddo gwell iechyd a lles. Mae llwybr arfordirol Cymru wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid, ond yn bendant hefyd, mae wedi bod yn boblogaidd gyda chymunedau lleol a phobl ledled Cymru. Rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynnal a gwella’r llwybr, ac mae rhaglen waith fanwl wedi’i chytuno gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cysylltiadau rhwng cymunedau lleol megis ardaloedd trefol a’r arfordir. Buaswn yn gobeithio y buasai Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu nodi rhai llwybrau ac yna sicrhau cefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’w gwella a’u datblygu.
Weinidog, mae tipio anghyfreithlon yn broblem gynyddol mewn rhannau o Gasnewydd. Mae grŵp cymunedol o’r enw Pride in Pill wedi gweithredu drwy gynnal sesiynau casglu sbwriel rheolaidd fel rhan o’i ymgyrch i wella’r amgylchedd lleol ar gyfer trigolion. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi a llongyfarch Pride in Pill ar ei ysbryd cymunedol? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, sy’n difetha llawer o’n hardaloedd trefol mewnol yn ne-ddwyrain Cymru?
Diolch. Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod am fy ngwahodd i ymuno ag ef mewn sesiwn gasglu sbwriel, a buaswn yn fodlon iawn i wneud hynny, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un dros yr ychydig fisoedd diwethaf. [Chwerthin.] Ond rwy’n sicr yn llongyfarch y grŵp. Mae wedi bod mor dda gweld cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn dangos cymaint o falchder. Euthum draw i gasglu sbwriel mewn ardal yng Nghaerdydd ychydig fisoedd yn ôl, ac roedd yn dda gweld trigolion yn dod draw i ddiolch i’r gwirfoddolwyr am wneud eu cymuned yn lle gwell o lawer. I ateb eich cwestiwn ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â thipio anghyfreithlon, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol yn gorfodi dirwyon mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Cyfarfûm yn ddiweddar â Phil Bale, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, am fod ganddynt broblem benodol gydag un bag bin du o sbwriel yn cael ei adael, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli bod hynny’n achos o dipio anghyfreithlon, ond mae’n bendant yn wir—er mai un bag ydyw. Felly, rydym yn edrych i weld pa ddirwyon y gellir eu gorfodi mewn perthynas â hynny hefyd.
Uwchgynhadledd Meiri C40
8. Beth yw'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd Meiri C40, pan ymrwymodd Paris, Athen, Madrid a Dinas Mecsico i statws rhydd rhag diesel erbyn 2025? OAQ(5)0076(ERA)
Diolch. Mae ymrwymiad y meiri i wahardd cerbydau diesel o’r pedair dinas erbyn 2025 yn un ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd o effeithiau llygredd aer ar iechyd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein polisïau ansawdd aer, yn dilyn ein hymgynghoriad ar y pwnc, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr.
Mae’n eithaf clir mai’r neges yma yw bod ardaloedd trefol angen aer glân o’r ansawdd gorau posibl er mwyn bod yn wirioneddol ddeniadol i’r boblogaeth leol, ond hefyd o ran denu mewnfuddsoddiad a’u hiechyd economaidd. Mae yna ffyrdd y gallwn reoli hynny yn awr, hyd yn oed cyn ein bod yn gwahardd ceir diesel yn ffurfiol. Mae’n bwysig iawn ein bod, yng Nghymru, yn gweld yr arweinyddiaeth y gallem fod yn ei rhoi i’r DU gyfan, a bydd hynny’n sicrhau manteision mawr iawn i ni’n economaidd hefyd.
Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan dynnodd Simon Thomas sylw at fater tebyg yn ymwneud â hyn, David, ac roeddwn yn dweud, wyddoch chi, eich bod yn hollol gywir. Mae gennym y grŵp hwn o feiri—a chyfarfûm â nifer ohonynt pan oeddwn yng Nghynhadledd y Partïon 22—sy’n uchelgeisiol iawn gyda’u targedau ar gyfer dod â’r defnydd o geir diesel i ben erbyn 2025. Roeddwn yn dweud yn fy ymateb blaenorol fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod Cymru yn aros ar flaen y gad. Rydym bob amser wedi bod ar y blaen gyda’r pethau hyn, ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym yn cael ein gadael ar ôl.
Mae’n ddiddorol fod yr hwb amgylcheddol yno’n awr i leihau’r defnydd o geir diesel oherwydd mae’n ymddangos mai ychydig flynyddoedd yn unig sydd ers i ni gael ein hannog, mewn gwirionedd, i ddefnyddio diesel gan lawer o’r un bobl. Felly, rwy’n meddwl tybed a fuasai’r Gweinidog yn cytuno fod hon yn un enghraifft o faes lle y mae’r doethineb a dderbyniwyd yn gyffredinol yn y maes amgylcheddol, o fewn ychydig flynyddoedd, yn gwbl anghywir wedi’r cyfan.
Wel, rwy’n credu mai’r hyn y maent yn galw hynny yw gwyddoniaeth a symud ymlaen a dysgu. Buaswn yn sicr yn hoffi gosod targed i gael gwared ar geir tanwydd ffosil erbyn dyddiad penodol, ond i wneud hynny mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym y metro, er enghraifft, lle y mae gennym y drafnidiaeth gynaliadwy honno ar waith i’r cyhoedd ei defnyddio. Ond yn sicr, y ffordd ymlaen yw cael gwared ar geir diesel a cheir tanwydd ffosil.
Torri’r Biblinell Olew yn Nantycaws
9. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ganlyniadau torri’r biblinell olew yn Nantycaws? OAQ(5)0077(ERA)
Diolch. Mae asesiad o’r arllwysiad olew yn Nantycaws ar y gweill ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yr asesiad yn ymchwilio i achosion yr arllwysiad, ei effeithiau ac unrhyw gamau gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei bwerau fel rheolydd. Hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, ni allaf roi sylwadau pellach.
Roeddwn i mewn cyfarfod cyhoeddus yn lleol wythnos diwethaf ac mae’n rhaid i mi ddweud yr oedd yna gryn anniddigrwydd ymhlith trigolion lleol yn wyneb absenoldeb cwmni Valero, ond hefyd rwy’n credu oherwydd diffyg gwybodaeth sy’n dod o du awdurdodau cyhoeddus. Felly, a allaf ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet fynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi canlyniadau yr holl brofion y maen nhw wedi’u cynnal ar y tir ac ar yr afonydd? Nid ydynt wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Pa waith monitro a fydd yn mynd ymlaen yn y dyfodol? A allith hi hefyd ddwyn pwysau ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd i roi’r wybodaeth angenrheidiol i ffermwyr lleol ynglŷn ag unrhyw halogiad posib sydd wedi bod o’r tir a’r gadwyn fwyd? A oes modd cadarnhau pa gamau gorfodi y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd yr holl waith adfer y mae’r cwmni wedi’i addo, ac sydd wedi cael ei ofyn amdano gan drigolion lleol, yn cael ei wneud cyn gynted ag sy’n bosib?
Diolch. Rwyf wedi cael gwybod na fydd yr ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gwblhau tan ddiwedd mis Mawrth, ac yn amlwg mae cryn dipyn o amser nes hynny. Felly, rwy’n hapus iawn i ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi’r hyn a allant cyn yr amser hwnnw. Gwn eich bod yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Gwener, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn ei wneud cyn hynny. Rwy’n bryderus iawn o glywed am y cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf a’r anniddigrwydd ymhlith eich etholwyr. Unwaith eto, byddaf yn siarad â Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â hynny. Hefyd, ydw, rwy’n hapus iawn i ysgrifennu at yr Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau bod unrhyw wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen ar ffermwyr ynglŷn ag ardal yr arllwysiad yn cael ei roi iddynt cyn gynted â phosibl.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd hon yn ddamwain ddiwydiannol, roedd yn annisgwyl, roedd yn anfwriadol, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr adroddiad. Hoffwn ganmol Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru am y ffordd gyflym iawn y maent wedi delio â hyn. Hoffwn i ni i gyd gadw rhag lleisio barn. Mae Valero yn gwmni cryf iawn yn fy etholaeth ac mae ganddynt hanes amgylcheddol sydd, mae’n werth nodi, yn hynod o dda. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wersi y gellid eu dysgu am beth arall a allai fod yn digwydd yn y biblinell wrth iddi symud ymlaen drwy Gymru. A oes unrhyw ffyrdd eraill y gallem fonitro’r biblinell honno i sicrhau nad fydd yr arllwysiad olew y mae Adam Price yn cyfeirio ato yn digwydd yn rhywle arall mewn gwirionedd?
Ie, pan oeddwn yn bresennol ar safle’r arllwysiad—ar Ddydd Sadwrn 8 Hydref rwy’n credu—cyfarfûm â Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y ffordd roeddent yn gweithio gyda’i gilydd. Ond rydych yn hollol gywir; ar y pryd, nid oedd achos yr arllwysiad wedi’i ganfod, ond mae’n bwysig—mae’n biblinell hir iawn—mae’n wirioneddol bwysig ei bod yn cael ei monitro mewn ffordd sy’n caniatáu i ni ddysgu’r holl wersi y gallwn i osgoi’r math hwn o arllwysiad eto.
Diogelu Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau? OAQ(5)0073(ERA)
Diolch. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn yfory. Byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cynllun, megis cofrestru neu drwyddedu, ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys syrcasau, sy’n arddangos anifeiliaid domestig ac egsotig yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yma yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Rwy’n croesawu’r ateb hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr iawn ac yn diolch iddi amdano. Tybed a allai roi syniad, felly, o’r amserlen ar gyfer gweithredu a chyflwyno unrhyw reoliadau a deddfwriaeth newydd, gan fod hon wedi bod yn broblem barhaus ers peth amser eisoes.
Mae wedi bod yn broblem dros amser maith, ac mae’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo ers i mi gychwyn yn y swydd ym mis Mai. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Gweinidog DEFRA, oherwydd roeddwn eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau gyda hwy i weld a allem gael rhyw fath o gynllun a mentrau ar y cyd yn y dyfodol. Roedd yn awyddus iawn hefyd i siarad â’r Alban a Gogledd Iwerddon i weld a fuasem yn gallu mabwysiadu dull o weithredu ar draws y DU. Fodd bynnag, mae angen ei wneud yn gyflym, ac os na chaiff ei wneud yn gyflym, bydd gennym ein cynllun ein hun, fel y dywedaf, a byddwn yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Ond rwy’n cytuno: mae angen iddo gael ei wneud yn gyflym iawn. Fel y dywedaf, bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yfory, cyn toriad y Nadolig, gyda mwy o fanylion.
Rwy’n ddiolchgar; nid wyf yn credu bod unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Rwy’n cytuno â hynny. Mae hwn yn fater a hyrwyddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig rai blynyddoedd yn ôl, ac rwy’n falch y bydd yna ddatganiad yfory. Ond a gaf fi ddweud: pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn? Eich rhagflaenydd, Rebecca Evans, a gododd y mater hwn yn gyntaf, ac mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd y pwynt hwn.
Wel, fel y dywedaf, mae’n rhywbeth rwyf wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, wyddoch chi, chwe mis—wel, saith mis—i mewn i’r swydd. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog DEFRA bellach. Rydym wedi bod yn aros i weld—. Nid oes gennym unrhyw syrcasau trwyddedig yma yng Nghymru mewn gwirionedd; maent yn cael eu trwyddedu yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym ddull traws-Lywodraethol o weithredu ar hyn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf—Andrew R.T. Davies.
Cartrefi mewn Parciau
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Deall Economeg y Diwydiant Cartrefi mewn Parciau'? OAQ(5)0090(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yr astudiaeth hon yw’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed ar y sector yng Nghymru. Mae’n cynnwys bron i 74 y cant o’r holl safleoedd cartrefi mewn parciau, yn ogystal â rhanddeiliaid. Mae’n cynnwys pedwar argymhelliad allweddol, ac rwy’n eu hystyried ar hyn o bryd o ran gweithredu.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn llygad eich lle yn nodi’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau sylweddol—oddeutu £50,000 rwy’n credu—tuag at yr adroddiad hwn, ac roedd yna argymhellion allweddol, a buaswn yn falch o glywed sut y byddwch yn datblygu’r argymhellion hynny. Ond cyfarfûm â rhai trigolion o gartrefi mewn parciau yr wythnos diwethaf a wnaeth y pwynt fod un o’u prif bryderon yn ymwneud â’r comisiwn pan fyddant yn gwerthu cartrefi mewn parciau—ac mae’r cyfyngiadau ar werthu’r cartrefi mewn parciau hynny’n ôl i’r perchnogion, yn broses feichus a thrafferthus iawn, a chyfyngol iawn hefyd. Nid oedd yr adroddiad yn cynnig ateb i ddatrys y pryder penodol hwnnw a oedd gan berchnogion cartrefi mewn parciau. A ydych yn bwriadu archwilio cyfleoedd pellach i weld a oes modd cael ychydig o gymorth i godi’r mater hwn a chael gwared ar y baich hwn sy’n cael ei roi ar ysgwyddau perchnogion cartrefi mewn parciau ac sydd mor gyfyngol pan fyddant yn penderfynu gwerthu eu cartrefi mewn parciau ar ddiwedd eu deiliadaeth?
Rwy’n credu bod llawer o Aelodau wedi cyflwyno sylwadau i mi a Gweinidogion blaenorol ar y mater hwn. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cafodd Kirsty Williams sgwrs â mi am grŵp yn ei hetholaeth. Rwy’n ymwybodol o’r mater ynglŷn â’r ardoll 10 y cant, y gyfradd gomisiwn, ar hyn, ac rwy’n rhoi ystyriaeth bellach i’r adroddiad yn ei gyfanrwydd, yn seiliedig ar ganlyniadau fy nhrafodaethau gyda fy nhîm, a byddaf yn gwneud datganiad pellach ar hyn.
Tlodi Plant yn Nhorfaen
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yn Nhorfaen? OAQ(5)0091(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn cynorthwyo rhieni i ddod o hyd i waith drwy Cymunedau am Waith, gan fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac adeiladu cymunedau cryf a all gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn chwarae rhan hanfodol yn Nhorfaen yn y gwaith o drechu tlodi. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus iawn a daeth i frig y rhestr yng Nghymru am helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac o ran nifer yr oedolion a gwblhaodd gyrsiau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Mae hyn yn ychwanegol at y rôl hanfodol y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae i liniaru effaith diwygiadau lles. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i gael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf fesul cam, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfennau gorau un o’r rhaglen yn cael eu cadw ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael ar eu cyfer?
Mae’r Aelod yn iawn i godi mater Cymunedau yn Gyntaf, fel y mae llawer o bobl eraill yn ei wneud yn y Siambr hon. Rwyf wedi dweud yn aml fod llawer o raglenni da o fewn clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, ond y gwir yw, fel y trafodasom ddoe yn y ddadl ar dlodi plant, mae effeithiau ystyfnig iawn tlodi yn anodd iawn i’w symud i le gwahanol. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu dull newydd o weithredu mewn perthynas â’r ffordd rydym yn rheoli ac yn cefnogi cymunedau cryf. Rwy’n ddiolchgar am sylwadau’r Aelod. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf eto, ond byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi a chyd-Aelodau eraill wrth i mi ystyried y penderfyniadau hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf amheuaeth eich bod yn gwneud gwaith ardderchog ar amryw o bethau i leihau tlodi. Rydych wedi cymryd llawer o—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Rydych wedi cymryd llawer o—. [Torri ar draws.] Rydych wedi cymryd llawer o, mae eich Llywodraeth wedi cymryd llawer o fentrau i leihau tlodi ymysg plant—do, cawsom Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond y ffaith yw—[Torri ar draws.] Y ffaith yw ein bod yn dal i fod, yn anffodus—ein plant yn Nhorfaen, Islwyn a Blaenau Gwent yw’r plant tlotaf sy’n byw yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Hoffwn ofyn i chi pa fentrau eraill rydych yn eu rhoi ar waith. Rwy’n credu bod ein Llywodraeth yn codi’r lwfans personol i £12,500, a fydd o fudd i lawer o deuluoedd—[Torri ar draws.] —nifer o deuluoedd, 1.5 miliwn, i leihau tlodi mewn gwaith, sef un o amcanion y strategaeth tlodi plant gan Lywodraeth Prydain. Felly, pa gynllun rydych yn mynd i’w roi ar waith i leihau tlodi plant yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau ar ddechrau ei gwestiwn; rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt. Nid fy lle i yw rhoi gwers hanes i’r Aelod, ond rwyf am ei atgoffa nad yw tlodi yn digwydd drwy hap a damwain—mae pethau’n achosi hynny’n aml. Yn ôl yn y 1980au, pan oedd ei blaid mewn grym yn y DU, llwyddasant i ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gyda’r pyllau glo a’r gweithwyr dur, a chafodd hynny effaith enfawr ar ein pobl ifanc a’u bywydau o’u blaenau.
Gallaf ddweud beth yw ein rhaglenni, ac mae’r Aelod yn eu hadnabod—mae Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a’r holl fecanweithiau cymorth o gwmpas y teulu yn rhai pwysig. Ond ni ddylech dynnu dim oddi ar y ffaith fod eich dulliau diwygio lles yn cael effaith enfawr ar bobl Cymru a’r DU. Dylech chi, fel plaid, feddwl am hynny’n ofalus iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae UKIP yn cytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu neu roi diwedd ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hon yn strategaeth flaengar gan y Llywodraeth a gynlluniwyd i ddileu amddifadedd yng Nghymru. Er bod rhai enghreifftiau o lwyddiant, mae yna hefyd enghreifftiau amlwg o gamreoli. Er enghraifft, gwariodd y rhaglen Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G ym Merthyr Tudful £1.3 miliwn ar gyflogau staff allan o gyllideb o £1.5 miliwn. A fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau bod pobl Penydarren, Galon Uchaf a’r Gurnos wedi cael cam gan y sefydliad hwn?
Edrychwch, nid wyf am ladd ar weithlu Cymunedau yn Gyntaf—maent yn gwneud gwaith gwych ar draws cymunedau—ond mae hon yn broblem ddyrys iawn. Nid yw tlodi’n symud i’r cyfeiriad cywir. Dyna pam fod yn rhaid i ni ailfeddwl yn gyffredinol. Nawr, mae Huw Lewis a Dawn Boden yn gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau, yn cynrychioli eu cymunedau gyda gweithluoedd Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn gwneud penderfyniad yn ystod y flwyddyn newydd ynglŷn â sut ddyfodol rydym yn ei ragweld, ond yr hyn y mae’n rhaid i ni ei gofio am hyn yw ei fod yn ymwneud â’r bobl ar lawr gwlad.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i deuluoedd perchen-feddianwyr sydd mewn perygl o gael eu troi allan o’u cartref gan eu cwmni morgais oherwydd ôl-ddyledion morgais?
Mae gennym lwybrau drwy awdurdodau lleol lle y mae cyfleoedd i siarad â swyddogion atal digartrefedd mewn awdurdodau ledled Cymru. Mae gennym gydnabyddiaeth dda iawn ar ostyngiad o 63 y cant mewn ffigurau digartrefedd yng Nghymru.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fis Tachwedd diwethaf, amcangyfrifodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan fod 240 o bobl ledled Cymru yn cysgu allan yn ystod un wythnos ym mis Tachwedd 2015. Er mai amcangyfrif ydyw, bydd llawer o bobl yn cysgu ar y stryd y Nadolig hwn, a hynny’n aml heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon a helpu pobl sy’n cysgu allan i ddianc rhag eu sefyllfa erchyll?
Rwy’n cytuno â’r Aelod yn yr ystyr na ddylai neb fod yn ddigartref ar unrhyw adeg, yn enwedig adeg y Nadolig. Mae’n sefyllfa ofnadwy i’w hystyried. Ond rydym yn buddsoddi mewn darpariaeth ar gyfer y digartref drwy sefydliadau megis Llamau. Rydym yn buddsoddi yn ein cymunedau—mewn awdurdodau lleol—ond mae yna bobl sy’n ddigartref o hyd ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau darpariaeth i gefnogi’r bobl sydd yn y sefyllfa hon.
Diolch. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor bryderus â minnau ynghylch lles cyn-filwyr ein lluoedd arfog. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i roi blaenoriaeth i sicrhau tai i gyn-filwyr digartref? Os nad yw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud hynny?
Yr wythnos diwethaf, cyflwynasom lwybr tai newydd ar gyfer cyn-filwyr wedi’i greu a’i gynllunio gyda chyn-filwyr yn rhan o’r broses. Lansiais y llwybr hwnnw yn etholaeth Lesley Griffiths yn Wrecsam, ac mae’n un poblogaidd iawn. Roeddwn yng nghwmni aelodau’r lluoedd arfog yr wythnos diwethaf, gyda’r cadfridog yng Nghymru, ac roedd yn ganmoliaethus iawn am yr ymdrechion rydym yn eu gwneud yma i gefnogi’r lluoedd arfog, gan gynnwys grŵp cynghori’r lluoedd arfog a’r grŵp trawsbleidiol a gadeirir gan Darren Millar yn y Siambr.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn gwybod fy mod wedi cyfarfod â chryn dipyn o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn ddiweddar yn Abertawe mewn perthynas â’r amodau erchyll y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu o ran darpariaeth y Swyddfa Gartref drwy gwmni Clearsprings Ready Homes. Roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu hwyluso sgwrs gyda’r Swyddfa Gartref ynglŷn â’r amodau ofnadwy hyn, er gwaethaf y ffaith fod llawer o landlordiaid preifat yng Nghymru wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod yn prydlesu eu cartrefi i’r Swyddfa Gartref i Clearsprings eu defnyddio fel tai ar gyfer ceiswyr lloches. Felly, er nad yw’n benderfyniad uniongyrchol i chi ei wneud fel Gweinidog tai yma, o bosibl, y canlyniad anochel yw bod gennym gyfrifoldebau yn y maes hwn, a hoffwn i chi gyflwyno sylwadau i ddangos difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru erbyn hyn.
Rwy’n gefnogol i gwestiwn yr Aelod. Rwy’n credu y dylai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion ynglŷn â hynny. Er bod hon yn swyddogaeth heb ei datganoli, rwy’n credu ei bod yn iawn i grybwyll ein bod yn wynebu canlyniadau pobl sy’n agored i niwed. Rwy’n credu bod hwnnw’n fater rwy’n awyddus iawn i geisio’i ddatrys gyda’r Aelod.
Yn dilyn hynny, tybed a fuasech yn fodlon, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod â rhai o’r ceiswyr lloches a’r ffoaduriaid yn yr ardal fel y gallant ddweud wrthych yn uniongyrchol beth yw’r pryderon hynny, oherwydd mae llawer ohonynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Mae yna fythau, wrth gwrs, am y ffaith eu bod yn cymryd cartrefi oddi wrth bobl Cymru. Nid yw hynny’n hollol wir—nid ydynt ar unrhyw restr y buasai unrhyw berson arall yma yng Nghymru arni o ran tai cymdeithasol. Maent yn ei chael yn anodd iawn gwneud cwynion, ac maent wedi dweud wrthyf eu bod wedi dioddef hiliaeth gan staff Clearsprings wrth iddynt ailwampio eu cartrefi. Felly, a fuasech yn barod i wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch glywed am y problemau hynny drosoch eich hunain?
Yn sicr, os byddaf yn gallu eu cyfarfod, fe wnaf hynny. Os na fyddaf yn gallu, byddaf yn sicr yn anfon aelod o staff i gefnogi eich cymorth yn eu cyfarfod.
Diolch yn fawr iawn. Ar fater hollol wahanol, rwy’n gwybod y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael tywydd oer iawn yn ddiweddar, ond wrth gwrs, mae wedi bod ychydig yn fwynach—nid fy mod yn ddynes y tywydd yn sydyn iawn. Roedd yna—[Torri ar draws.] O, mae’n ddiwrnod olaf y tymor.
Ar lefel ddifrifol, cafwyd adroddiadau newyddion yn ddiweddar am ddyn yn rhewi i farwolaeth yn Birmingham, ac yn awr mae fy swyddfa wedi cael gwybod nad yw un awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru wedi darparu unrhyw lety brys ar gyfer pobl sy’n cysgu allan yn ei ardal uniongyrchol. Er nad yw’r protocol argyfwng tywydd garw yn orfodol i awdurdodau lleol yma, mae cod ymarfer eich Llywodraeth yn datgan y dylai pob cyngor fod â chynllun tywydd oer ysgrifenedig sy’n cynnwys eu trefniadau i helpu’r rhai sy’n cysgu allan yn ystod cyfnodau o dywydd oer a garw.
Rydym wedi edrych, fel swyddfa, ar fwy o’r cynlluniau ledled Cymru. Mae gan rai awdurdodau lleol gynlluniau da, ond dywedodd rhai eraill wrthym fod trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r hyn y dylai’r cynlluniau hynny fod. A ydych yn credu ei bod yn dderbyniol nad yw rhai awdurdodau lleol wedi cael y trafodaethau hynny gyda phartneriaid eto? Beth fyddwch chi’n ei wneud i wneud yn siŵr fod gan yr holl awdurdodau lleol hynny gynlluniau ar waith fel nad ydym yn wynebu sefyllfaoedd lle y mae pobl yn marw ar ein strydoedd y gaeaf hwn?
Fe edrychaf ar hynny’n fanylach—fe siaradaf â’m cyd-Aelodau yn y Cabinet yn ogystal. Rwy’n credu bod hwn yn fater moesol—gan roi gwleidyddiaeth unrhyw awdurdod lleol o’r neilltu, rydym yn sôn am fodau dynol yma mewn gwirionedd. Dylai unrhyw un sy’n mynd yn ddigartref—buasai’n ddychrynllyd, ac weithiau rwy’n meddwl y gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Y ffaith yw y dylem sicrhau ein bod yn gofalu am bobl yn drugarog. Byddaf yn edrych ar y manylion y mae’r Aelod yn eu cyflwyno, a byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet edrych ar hynny yn eu portffolios eu hunain hefyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Roedd brîff cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2016 ar dlodi yn dweud bod ffigurau diweddaraf arolwg yr Adran Gwaith a Phensiynau o aelwydydd o dan yr incwm cyfartalog yn dangos bod aelwydydd incwm isel yn parhau i fod yn broblem sylweddol yng Nghymru, gyda mwy nag un o bob pump o bobl yn byw ar incwm aelwydydd sy’n is na 60 y cant o’r canolrif, a’r plant hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o dlodi, er bod y grŵp mwyaf o bobl ar incwm isel yn oedolion o oedran gweithio. Ac roeddent yn ychwanegu nad yw’r tueddiadau tymor hwy a’r tueddiadau mwy diweddar o ran tlodi wedi cael llawer o effaith ar sefyllfa Cymru o’i chymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU, gyda Chymru’n parhau i fod ag un o’r cyfraddau uchaf o dlodi yn y DU ar gyfer pob grŵp oedran. Pam hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Dyna pam ein bod yn cyflwyno 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran. Dyna pam ein bod yn parhau gyda rhaglen Cymunedau am Waith. Dyna pam ein bod yn parhau â’r rhaglen Esgyn. Dyna pam ein bod yn awyddus i ymgysylltu â’n cymunedau i adeiladu cymunedau gwell a chryfach. Roeddwn yn glir iawn ynglŷn â fy ymdeimlad o gyfeiriad ddoe. Buaswn yn croesawu sylwadau’r Aelod o ran gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru, gydag effaith ystyfnig iawn tlodi. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd. Ni all Llywodraethau ddatrys tlodi. Mae’n rhaid i ni gydweithredu ar hyn, ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn, a dyna pam fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn un bwysig, lle y mae gan ein holl bartneriaid yn y sector cyhoeddus ran i’w chwarae yn hyn.
Felly, nid ydych yn mynd i ddweud wrthym pam. A gaf fi awgrymu eich bod chi a’ch cyd-Aelodau wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yng Nghymru ers 1999, a dyna yw’r sefyllfa erbyn hyn? Eich adran chi, rwy’n credu, sy’n gyfrifol am raglen Esgyn, fel rhan o’ch cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, gan ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ar aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio. Ac rwy’n credu eich bod hefyd yn gyfrifol am raglen Cymunedau am Waith, gan ganolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, sy’n amlwg yn rhan o’ch portffolio. Ac rydych hefyd yn ymestyn y ddwy raglen o 2018 i 2020. Pa gamau diwydrwydd dyladwy a wnaethoch? Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi methu neu wedi bod yn amharod i ryddhau data’r canlyniadau o’r rhaglenni hynny, a deellir, mewn cyferbyniad i hynny, fod darparwyr Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yng Nghymru, wedi gallu cyflawni pump i 10 gwaith y gwerth am arian, gan ddarparu swydd ar gost gyfartalog o £3,000, ond deellir bod y swyddi o dan eich cynlluniau chi’n costio degau o filoedd o bunnoedd o bosibl.
Dau bwynt. Yn gyntaf oll, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am awgrymu ymateb i fy nghwestiwn yn gynharach. Ond a gaf fi ei atgoffa mai ei Lywodraeth ef, a oedd mewn grym yn yr wythdegau, a chwalodd Gymru’n llwyr, gyda’r gyfradd uchaf o ddiweithdra erioed yn y DU? Ac roedd ei ffrind ar y fainc flaen yn y fan acw, yn UKIP, yn rhan o’r Llywodraeth ar y pryd hefyd, felly ni all ef ysgwyd ei ben chwaith. Mae’r ail bwynt sy’n ymwneud â Cymunedau am Waith a rhaglen Esgyn yn un pwysig. Nid wyf wedi osgoi’r ffaith na fyddwn yn rhyddhau ffigurau; rwy’n fwy na pharod i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd a rhoi’r manylion hynny i’r Cynulliad. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl sydd ar y pen caletaf yn ôl i’r gweithle—nid yw’n garfan hawdd o bobl i ymdrin â hwy, ond rydym yn llwyddo a dylem ddathlu llwyddiant. Rhowch y gorau i ddifrïo Cymru.
Rwyf wedi cael gwybod o ffynhonnell ddibynadwy nad yw pobl wedi gallu cael gafael ar y data priodol er eu bod wedi gofyn amdano, felly byddai’n dda pe baech yn gallu darparu’r data hwnnw. A pheidiwch â sôn wrthyf fi am yr 1980au. Rwy’n gwybod sut beth yw cael eich tad yn dod adref a dweud wrthych fod y cwmni gweithgynhyrchu y mae’n gweithio iddo wedi cau a’i fod yn ddi-waith. Digwyddodd hynny ym 1978 oherwydd y chwalfa economaidd a grëwyd gan y Blaid Lafur. [Torri ar draws.] Do, fe wnaeth, ac rwyf wedi byw’r bywyd hwnnw, felly peidiwch â rhoi darlith i mi.
Yn olaf, y sefyllfa yng Nghymru yn ôl y ffigurau diweddaraf yw bod gennym gyfraddau anweithgarwch economaidd uwch na’r lefelau yn Lloegr, yr Alban a’r DU. Mae gennym y ganran uchaf ond un o bobl mewn gwaith sy’n byw o dan y cyflog byw. Mae gennym y lefelau uchaf o dangyflogaeth yn y DU, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK. Mae gennym y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol, a’r gyfran uchaf ond un o gyflogeion ar gontractau dim oriau, eto ar ôl 17 a hanner mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Pam hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y dôn hynod o ymosodol yng nghwestiynau’r Aelod. Rwyf hefyd yn cofio yr adegau drwy’r 1980au pan oedd yr Aelod yn gweithio yn y gymdeithas adeiladu leol, yn cymryd y sieciau diswyddo gan y gweithwyr dur a gafodd eu gwneud yn ddi-waith gan Lywodraeth y DU ar y pryd—cyfnod anodd iawn, a chymuned a oedd wedi torri ar y pryd. Felly, unwaith eto, wrth ddarlithio am yr hyn a ddigwyddodd yn ein cymunedau, gallwch ofyn i lawer o’r Aelodau ar y meinciau hyn beth ddigwyddodd i’w cymunedau o dan y weinyddiaeth Geidwadol.
A gaf fi ddweud na ellir ailadeiladu cymunedau, fel y dywedais yn gynharach, drwy wasgu botwm? Mae’n rhaid i chi weithio ar hyn, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn. Ac mae llefydd fel Sir y Fflint, a gafodd ei dinistrio â’r rhybudd diswyddo uchaf a roddwyd erioed yn Ewrop mewn un diwrnod gan Lywodraeth y DU, bellach wedi cael ei thrawsnewid i fod ag un o’r lefelau diweithdra isaf. Ac nid yw hynny wedi digwydd drwy hap a damwain—gwaith awdurdod Llafur ydyw, gyda gweinyddiaeth Lafur yma. Felly, nid wyf am wrando ar unrhyw ddarlithoedd gan yr Aelod gyferbyn; mae angen iddo edrych ar realiti’r sefyllfa.
Tai Newydd yn Islwyn
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy newydd yn Islwyn? OAQ(5)0086(CC)
Diolch i’r Aelod dros Islwyn am ei chwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn tai rhent cymdeithasol a Cymorth i Brynu, ac rydym yn datblygu cynlluniau newydd arloesol, er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol eleni tuag at ddarparu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy. Rhagorwyd ar darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru o 10,000 gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y Cynulliad diwethaf, gyda’r cytundeb cyflenwad tai rhwng Llywodraeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn chwarae rhan bwysig i gyrraedd y targed hwnnw. Pa gamau y gall y bartneriaeth honno eu cymryd i gyrraedd ein targedau newydd uchelgeisiol, a sut y bydd pobl Islwyn yn elwa’n uniongyrchol o hyn?
Wrth gwrs, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am atgoffa’r Siambr o lwyddiant tymor diwethaf y Llywodraeth. Rwy’n falch iawn o fod wedi llunio cytundeb tai newydd, yn y pythefnos diwethaf, gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Mae’n darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi, ond mae fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn rhoi cymorth i ni drwy gyhoeddi £30 miliwn yn ychwanegol y mis hwn i ddechrau ar waith adeiladu’r prosiect sylweddol o 20,000 o gartrefi y bydd eich etholwyr yn elwa’n uniongyrchol ohono.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae cyngor Caerffili wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu 175 o dai ar dir diffaith ar ystad ddiwydiannol Hawtin Park, ger Coed-duon. Mae’r canllawiau ar gyfer y datblygiad yn cynnwys darpariaeth y dylai 25 y cant fod yn dai fforddiadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r cynnydd hwn yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yn Islwyn, a pha fesurau y mae’n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod rhagor o dir diffaith ar gael ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru?
Wel, mae Ken Skates a minnau—nid wyf yn gyfarwydd â’r prosiect y cyfeiriodd yr Aelod ato, ond rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod gennym dai fforddiadwy ledled Cymru. Mae Ken Skates a minnau’n gweithio ar gronfa gyfle tir, lle y gallwn weld nid yn unig sut y gallwn ddatblygu tir Llywodraeth Cymru, ond sut y gallwn ddatblygu tir y sector cyhoeddus hefyd, a’i ryddhau’n rhan o’r cyfle i adeiladu cartrefi yn y dyfodol.
Elusennau sy’n Cefnogi Teuluoedd
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i elusennau sy’n cefnogi teuluoedd? OAQ(5)0083(CC)
Prynhawn da. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sefydliadau sy’n darparu cymorth i deuluoedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yn fy mhortffolio, mae’r grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn rhoi cefnogaeth i grwpiau yn y trydydd sector sy’n ceisio cyflawni blaenoriaethau cefnogi lles, trechu tlodi, ac yn wir, mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Diolch am eich ateb. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch egluro pam fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu lleihau’r cyllid ar gyfer elusen Cronfa’r Teulu o £2,508,950 yn 2015-16 i ffigur o £1.9 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf? Cymharer hynny â Llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a San Steffan, sydd wedi penderfynu cadw’r un lefel o gyllid a oedd ganddynt yn flaenorol. Mae hyn i’w weld yn mynd yn groes i’ch atebion blaenorol y prynhawn yma braidd, sy’n dangos eich bod o’r farn fod y sefyllfa economaidd yng Nghymru yn gwella.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn dynnu sylw’r Dirprwy Lywydd at y ffaith fod cyllideb Cronfa’r Teulu yn rhan o linell gyllideb fy nghyd-Aelod, ond byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch. Rebecca Evans yw’r Gweinidog sy’n ymdrin â’r mater penodol hwn.
A gaf fi dynnu eich sylw, Weinidog, at waith Fforwm Cymunedol Penparcau? Roedd Penparcau yn arfer bod yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf; rwy’n byw yn y gymuned honno. Collodd ei statws Cymunedau yn Gyntaf yn ystod cyfnod blaenorol ac adolygu Cymunedau yn Gyntaf, ond os rhywbeth, mae wedi bod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus ar ôl Cymunedau yn Gyntaf nag o’r blaen, gan eu bod wedi gallu gwneud llawer mwy o waith gyda phartneriaid eraill, mewn ffordd sydd wedi eu rhyddhau, os hoffech. Maent yn awyddus iawn i chi edrych ar y gwaith y maent wedi ei wneud, gan eu bod o’r farn eu bod yn arwain y ffordd ymlaen ar gyfer y cyfnod ar ôl Cymunedau’n Gyntaf, y byddwch yn ei ystyried yn y flwyddyn newydd. Cawsom gyfarfod llwyddiannus iawn oddeutu 18 mis yn ôl—daeth eich rhagflaenydd i gyfarfod â’r fforwm cymunedol ym Mhenparcau, gyda’r Llywydd a minnau. Ers hynny, maent wedi symud ymlaen; mae ganddynt gyfleuster cymunedol newydd, a fydd yn agor yn yr haf. Maent yn eich croesawu’n gynnes i’r agoriad o gwmpas yr adeg honno ac yn gobeithio y gallwch dderbyn gwahoddiad bryd hynny, ond maent yn arbennig o awyddus i siarad â chi ynglŷn â’r ffordd y gallant weithio ar lefel gymunedol ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, gyda theuluoedd â lefel uchel o dlodi plant i fynd i’r afael o ddifrif â phroblemau’r gymuned. Gobeithiaf y byddwch yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod â hwy a dysgu amdanynt.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad ac yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn ffurfiol. Rwy’n gyfarwydd â Penparcau; yn wir, croesawais eu trydariad ynglŷn â’r ffaith fod yna fywyd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol o ran y cyfleoedd—[Anghlywadwy.]—a’n bod yn dysgu gan sefydliadau o’r fath. Rwyf wedi siarad â’r Gweinidog blaenorol ynglŷn â’r sefydliad hwn a byddwn fwy na pharod i ddod i ymweld a siarad â hwy ynglŷn â’r llwyddiant y maent wedi ei gael.
Y Gymuned Teithwyr
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned teithwyr? OAQ(5)0088(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i wella canlyniadau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr drwy fframwaith gweithredu a chynllun cyflawni ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’. Mae cryn gynnydd wedi’i wneud ers 2014 a chyhoeddwyd diweddariad i’r cynllun ym mis Mawrth eleni.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i feithrin cyswllt a chyfathrebu rhwng Teithwyr a’r cymunedau sefydlog lleol y maent yn symud iddynt?
Mae gennym gydgysylltwyr cydlyniant yn gweithio gyda grwpiau Sipsiwn a Theithwyr ac rwy’n cyfarfod â chynrychiolwyr y gymuned yn rheolaidd.
O ran yr ymdrech allgymorth, Ysgrifennydd y Cabinet, gwn ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu teuluoedd Sipsiwn/Teithwyr yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys gwell cyrhaeddiad addysgol a lefelau presenoldeb gwell yn yr ysgol. Gwn fod yr ymdrech honno’n golygu gwaith yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysgol, ac ymagwedd y teulu cyfan. O ran ymagwedd y teulu cyfan ac allgymorth, a wnewch chi edrych ar adnoddau a chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr agwedd honno ar y gwaith hwn, os gwelwch yn dda?
Rydym yn darparu cyllid ar gyfer prosiect Teithio Ymlaen elusen Achub y Plant drwy’r grant cydraddoldeb a chynhwysiant i hybu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfranogiad ymhlith Sipsiwn a Theithwyr ifanc. Rydych yn llygad eich lle: mae ymagwedd y teulu cyfan yn un bwysig. Yn ôl pob tebyg, teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yw rhai o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig, a’r rhai â’r hyd oes byrraf o’r rhan fwyaf o’r elfennau mewn perthynas â chydraddoldeb. Mae’n rhywbeth y dylem ei ystyried yn ofalus iawn o ran ein hymyrraeth. Cyfarfûm â llefarydd yr wythnos diwethaf, a siaradodd am y ffaith nad ydynt yn rhoi gwybod am droseddau casineb yn eu herbyn, am eu bod yn ofni na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud. Dylem fod yn ystyried hynny’n ofalus iawn hefyd. Felly, rwyf wedi gofyn i fy nhîm ymgysylltu ymhellach â hwy. Ond mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â’r ffordd rydym yn ymgysylltu ac ymagwedd y teulu cyfan.
Rwy’n datgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys. Mae aelodau o Gyngor Tref Machynlleth wedi mynegi eu pryderon ynghylch cynigion gan Gyngor Sir Powys i leoli safle parhaol i Deithwyr ger Machynlleth. Mae cynghorwyr y dref yn cytuno na fu ymgynghoriad ffurfiol, er bod y cyngor sir wedi addo cynnal un gyda’r trigolion ynglŷn â lleoliadau posibl ar gyfer y safle. Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cefnogi’r galwadau ar Gyngor Sir Powys i gynnal ymgynghoriad llawn a phriodol a thryloyw i sicrhau bod y trigolion yn cael cyfle i fynegi eu hawgrymiadau ynglŷn â lleoliad a’u syniadau eu hunain.
Buaswn yn synnu os nad yw’r awdurdod wedi ymgysylltu â’u cymunedau lleol, ond fe gymeraf air yr Aelod am hynny. Mae’n rhywbeth y byddwn yn disgwyl iddynt ei wneud mewn ffordd dryloyw. Weithiau, pan nad yw pobl yn hoff o ganlyniadau penderfyniadau, mae yna gynllwyn yn sail i’r peth bob amser, ond yr hyn sy’n rhaid i ni feddwl amdano yma yw’r broses. Mae un o egwyddorion gweithredu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â chynnwys ac ymgynghori a buaswn yn disgwyl i Bowys fod yn rhan o hynny.
Ond mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd, yn aml, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, eu bod yn fannau sy’n anodd iawn dod o hyd iddynt mewn cymunedau gan y bydd llawer o bobl yn dweud, ‘Nid ydym yn dymuno eu cael’, am y rhesymau anghywir. A dweud y gwir, mae’n rhaid i ni siarad yn aeddfed yma ynglŷn â ble rydym yn lleoli pobl ar sail hirdymor. Unwaith eto, dychwelaf at gwestiwn blaenorol, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins: pobl yw’r rhain rydym yn siarad amdanynt. Mewn gwirionedd, nid yw’n addas eu rhoi o dan ffordd osgoi. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ddarpariaeth briodol ar gyfer y teuluoedd Roma sy’n dymuno byw yn y mannau hyn.
Cyfiawnder Ieuenctid
6. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid? OAQ(5)0084(CC)
Credwn y dylai plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid gael eu trin fel plant yn gyntaf ac fel troseddwyr yn ail. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein strategaeth ar y cyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, cefais siom wrth ddarllen bod gan dros 60 y cant o’r rhai 15 i 18 oed mewn carchar yn fy rhanbarth broblem sy’n gysylltiedig â chyffuriau wrth ddod i’r carchar. Amlygwyd hefyd y bydd llawer o’r bobl ifanc hyn wedi treulio amser yn y system ofal, wedi chwarae triwant o’r ysgol, neu wedi dioddef o ganlyniad i anawsterau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl. O ystyried bod y dangosyddion hyn o fregusrwydd wedi eu hamlygu eisoes, pam na chawsant eu cefnogi’n ddigonol cyn mynd i’r carchar, ac a ydym eisoes wedi gwneud cam â’r bobl ifanc hyn unwaith, a phan fyddant yn cael eu rhyddhau o’r carchar, oni bai ein bod yn gweithredu, byddant yn dychwelyd i’r un amgylchedd ac yn fwy tebygol o aildroseddu unwaith eto? Ysgrifennydd y Cabinet, pa systemau sydd gennych ar waith i gynorthwyo pobl ifanc sy’n agored i niwed er mwyn eu hatal rhag dod yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid yn y lle cyntaf, a pha gymorth y mae’r Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, wedi ei roi ar waith i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael y carchar er mwyn atal aildroseddu?
Wel, mae dwy agwedd yn perthyn i hyn. Mae un yn ymwneud â’r carchar, sy’n swyddogaeth nad yw wedi ei datganoli, ond y ffaith yw nad oes unrhyw beth yn fy mrifo mwy na gweld pobl ifanc yn cael eu carcharu. Mae’n fethiant yn ein system. Mae’n rhaid i ni fynd y tu hwnt i—. Mae’n rhaid i ni weithredu ein gwasanaethau cyn i ni fynd i mewn i’r gofod hwnnw. Dyna pam rydym yn buddsoddi yn y rhaglen reoli achosion uwch gyda’r bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi cael cryn lwyddiant, gyda phedwar cynllun peilot ar waith ledled Cymru. Mae ugain o’r aildroseddwyr mwyaf mynych ymysg pobl ifanc wedi cael eu hatal rhag aildroseddu oherwydd ein bod wedi trin symptomau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, rydym wedi edrych yn ôl ar y problemau sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol, teuluoedd yn chwalu, ac rydym yn eu trin, yn hytrach na dweud, ‘Ni chewch aildroseddu.’ Nid yw’n gweithio erbyn hynny, mae’n rhaid i ni fynd i mewn i’r system yn gynnar, a dyna pam ein bod yn anelu ein cynigion at fynd i’r afael â lles economaidd, rhoi swyddi, twf a sgiliau i bobl—a byddwch yn cael llond bol ar fy nghlywed yn siarad am hyn, ond mae’n rhaid i ni wneud hyn a mynd i’r afael â’r agwedd llesiant mewn perthynas â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan mai dyna ble y mae’n rhaid i ni fuddsoddi ein cyllid er mwyn sicrhau nad yw plant yn dod yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad Taylor o gyfiawnder ieuenctid yn ddiweddar, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd rhagor o ddylanwad dros gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru drwy’r pwerau sydd gennym eisoes mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed? Felly, er enghraifft, cynigiodd y Llywodraeth ddiwethaf y dylid sefydlu partneriaeth ailintegreiddio ac ailsefydlu statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond ni chawsom amser oherwydd y cyfnod cyn etholiadau’r Cynulliad. Felly, a yw’n bryd rhoi hyn yn ôl ar yr agenda ac archwilio meysydd eraill lle y gallwn, yng Nghymru, wneud pethau’n wahanol a gwneud pethau’n well?
Yn wir, ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r cynnig hwnnw ac adolygiad Charlie Taylor. Cyfarfûm â Dr Phillip Lee AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, ddydd Llun i siarad ynglŷn ag adolygiad Taylor. Buom yn trafod mater datganoli. Credaf fod Charlie Taylor yn anghywir yn ei sylwadau. Siaradodd am ddatganoli mewn ystyr Seisnig, heb gydnabod bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau a ddarperir mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid eisoes wedi’u datganoli. Felly, swyddogaethau’r Llywodraeth hon neu gyrff sy’n perthyn i’r Llywodraeth hon yw iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Siaradais â Phillip Lee, ac roedd ef o’r farn—mae’n mynd i ymweld â Chymru i drafod y materion sy’n berthnasol i ni, ond credaf, yn y pen draw, y dylai hyn fod yn rhan o Fil Cymru ac y dylid ei ddatganoli i ni. Rydym yn gwneud gwaith gwych yn rheoli pobl ifanc a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddai mynd gam yn ôl yn anghywir. I fod yn deg â’r Is-ysgrifennydd Gwladol, roedd yn cytuno â ni yn hynny o beth; nid oedd am gymryd cam yn ôl, roedd am weithio gyda ni.
Mewn ymateb i adolygiad Taylor a gyhoeddwyd ar ddydd Llun ac y cyfeiriwyd ato nawr, yr adolygiad o gyfiawnder ieuenctid, mae’r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys lansio dwy ysgol ddiogel, gan ganolbwyntio ar Saesneg, mathemateg ac ystod o gynlluniau hyfforddiant gwaith i gynorthwyo gyda diwygio troseddwyr a’u helpu i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau. Ym mis Chwefror 2010, cynhyrchodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad adroddiad, ‘Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn Sefydliadau Diogel’, a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU
‘gyda golwg ar alluogi datblygu lleoliadau newydd mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, gan ddefnyddio uned ddiogel Hillside [yng Nghastell-nedd] yn fodel, a chan gynnwys datblygu darpariaeth mewn lleoliad priodol yn y gogledd.’
A allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha ymgysylltu a wnaed, yng nghyd-destun argymhellion adolygiad Taylor?
Gallaf, diolch, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod wedi gwrando ar fy ymateb i Huw Irranca-Davies. Rydym yn anghytuno â chryn dipyn o adolygiad Charlie Taylor. Ni fyddwn yn cyflwyno ysgolion diogel yma yng Nghymru. Rwyf wedi ymweld â rhaglen Hillside. Rwy’n edrych ar gyfleusterau cam-i-lawr. Yn hynny o beth, mae gennym atebion Cymreig i’r problemau hyn. Nid wyf yn credu mai proses yr ysgolion diogel yw’r ffordd gywir a phriodol. Ni ddylem fod yn carcharu ein pobl ifanc; dylem fod yn eu cefnogi ymlaen llaw.
Rhaglen Atal Trais Caerdydd
7. Beth sy'n cael ei wneud i gynnal momentwm ar weithredu rhaglen Atal Trais Caerdydd ledled Cymru? OAQ(5)0076(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau’n ddiogel. Rwy’n croesawu mentrau fel rhaglen atal trais Caerdydd, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau, ac rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y GIG ar ddatblygu hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rhai blynyddoedd wedi bod bellach ers i’r Athro Jonathan Shepherd wneud gwaith arloesol yng Nghaerdydd ar gasglu data damweiniau ac achosion brys er mwyn lleihau trais yng nghanol dinas Caerdydd. Ers hynny, mae Llywodraeth Lloegr wedi mabwysiadu’r ymagwedd honno a’i hymgorffori yng ngweithrediad gwasanaethau cyhoeddus Lloegr. Beth y gellir ei wneud i sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm sy’n sail i’n rhaglen ein hunain, a beth yw’r cyfleoedd o weithredu’r polisi gofyn a gweithredu o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i sicrhau bod y data’n cael ei gasglu ac y gweithredir arno?
Credaf fod Jonathan Shepherd wedi gwneud gwaith ardderchog. Yn wir, o ganlyniad i’w waith ar hyn, mae bellach yn rhan o fy ngrŵp cynghori ar wasanaethau trais domestig. Felly, daw â’i ddeallusrwydd ynglŷn â hyn i’r rhaglen hon hefyd. Yr her sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yw’r gofynion drwy’r GIG ac adrannau’r gwasanaethau brys mewn perthynas ag integreiddio’r rhaglen ar draws y system. Ond gwn fod y Gweinidog iechyd yn edrych ar hyn yn ofalus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi’r agenda hon ar waith. Mae’n fodel atal gwych gan y gwyddom, os gallwn nodi lle y ceir problemau mewn cymunedau drwy gamddefnyddio alcohol a thrais, y gallwn atal hynny drwy ymyriadau cynnar a digyfaddawd. Felly, rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod heddiw. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â gweithrediad y rhaglen o fewn system y GIG.
A gaf fi ychwanegu at y ganmoliaeth i’r rhaglen hon, gan nad oes unrhyw amheuaeth y gallwn ddefnyddio data’n effeithiol iawn i weld lle y gellir sicrhau bod ymddygiad yn newid o ganlyniad i fân newidiadau yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau neu’r hyn a ganiatawn yn yr amgylchedd trefol, er enghraifft, pa un a oes gennych wydrau gwydr neu wydrau plastig? Mae llawer o bethau yno sy’n ymwneud â’r broblem o lawer o bobl ifanc yn yfed gormod ar adegau penodol ac yna’n camymddwyn, a chyda rhai newidiadau fel bugeiliaid stryd, gallai llawer o bethau helpu i leihau lefelau trais.
Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac unwaith eto, mae’n rhaglen ardderchog, gyda’r ymchwil yn deillio nid o’r sector diogelwch cymunedol ond o’r sector meddygol, ac roedd hynny’n ddiddorol iawn. Wrth fesur yr effaith yng Nghaerdydd, gwelsom 42 y cant o ostyngiad yn lefelau trais, sy’n ostyngiad mawr iawn. Mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r rhaglen hon, ac fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau o ran sut y caiff y rhaglen ei rhoi ar waith ar draws ein hystad.
Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro
8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio cymunedau yn Sir Benfro? OAQ(5)0075(CC)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Y blaenoriaethau adfywio ar gyfer Sir Benfro yw cefnogi canol trefi a helpu i gynnal cymunedau cryfion. Cyflawnir hyn drwy gymorth y gronfa benthyciadau canol trefi a chynllun partneriaeth canol y dref.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn siŵr o fod yn ymwybodol o’r bwriad i gau canghennau banc Lloyds ledled Cymru a bod y nifer arfaethedig o fanciau i’w cau yn Sir Benfro yn gwbl anghymesur â nifer y banciau a fydd yn cau ledled y wlad, o gofio bod tair o’r 49 cangen y bwriedir eu cau yn fy etholaeth i mewn gwirionedd. Ddirprwy Lywydd, dylwn ddatgan buddiant fel cyn-weithiwr ym manc Lloyds. O gofio bod llawer o bobl yn ddibynnol ar y banciau hyn ac y bydd eu cau yn cael cryn effaith ar y cymunedau hynny, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i liniaru effeithiau negyddol cau’r banciau hyn ar gymunedau yn Sir Benfro, a pha gymorth adfywio penodol a fydd ar gael mewn gwirionedd i gefnogi’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt?
Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr effaith y gall cau banc ei chael ar etholaethau, ac mae Aelodau eraill wedi nodi hynny hefyd. Ymddengys fod popeth wedi mynd o chwith ers i’r Aelod adael, efallai, o ran ei rôl flaenorol. Yn benodol yn Sir Benfro, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda £1.25 miliwn drwy gynllun benthyciadau canol trefi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid er mwyn lleihau nifer y safleoedd ac eiddo gwag a segur nad ydynt yn cael defnydd digonol yng nghanol y dref ym Mhenfro, Aberdaugleddau a Hwlffordd. Mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod hyn yn llwyddiant. Mae’n anodd iawn gweddnewid cymunedau—pan ddaw’r safleoedd hyn yn wag, mae’n anodd eu hailagor. Felly, mae Ken Skates a minnau yn gweithio dros ddwy ran yr adrannau i sicrhau ein bod yn gallu gwneud buddsoddiadau, nid yn unig yn Sir Benfro, ond ledled Cymru.
Weinidog, gall fod canlyniadau annisgwyl i adfywio o bryd i’w gilydd. Mae gwelliannau i’r seilwaith ffyrdd, er enghraifft, yn Abergwaun yn golygu bod Transition Bro Gwaun, sy’n brosiect adfywio cymunedol, yn colli ei gartref sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal caffi bwyd dros ben, yn cynnwys llawer o bobl leol, ac sydd hefyd yn gwneud yn wych yn amgylcheddol. Maent hefyd yn gwneud gwaith adfywio ehangach yn yr ystyr fod ganddynt dyrbin cymunedol sy’n eiddo i’r gymuned leol yn rhannol. Yn amlwg, rwy’n derbyn mai penderfyniad ar gyfer Cyngor Sir Penfro yw hwn, a byddaf yn cysylltu â hwy yn uniongyrchol, ond credaf y byddai cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru y dylid mabwysiadu dull integredig i sicrhau nad ydym yn colli pethau wrth gyflawni gweithgareddau adfywio yn ddefnyddiol yn y cyswllt hwn.
Dyma holl ddiben y Ddeddf llesiant. Mae llesiant cymuned yn seiliedig ar edrych ar beth sydd ei angen ar y gymuned, yr hyn sydd gan y gymuned a’r hyn y gallwn ei ddatblygu gyda hwy. Unwaith eto, nid wyf yn gyfarwydd â’r hyn sydd yn y cwestiwn penodol iawn a ofynnodd yr Aelod, ond ymddengys i mi y gellid bod wedi cynllunio ar gyfer hyn yn y lle cyntaf. Buaswn yn annog yr Aelod i fynd ar drywydd y mater gyda’r awdurdod lleol.
Tlodi Plant yn Ne Cymru
9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi plant yn ne Cymru? OAQ(5)0081(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein blaenoriaethau o ran trechu tlodi plant yn cynnwys adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith, a gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod ymysg yr uchaf yn y DU. Yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, mae gennym dros 36,000 o blant yn byw mewn tlodi, sef 28.4 y cant o blant y rhanbarth. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar gyflwr y genedl yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan ddatgan nad ydynt yn ddigon effeithiol. Fe gyhoeddoch chi ddoe nad yw’n debygol y byddwn yn cyrraedd y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Yn hytrach na tharged mympwyol, mae’r comisiynydd plant wedi dweud bod angen i ni ddarparu cynllun uchelgeisiol gyda chamau gweithredu penodol a mesuradwy a fydd yn gwella canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd mewn tlodi. Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, a allwch ddweud wrthyf pa newidiadau rydych yn bwriadu eu gwneud i’ch strategaeth tlodi plant ar gyfer fy rhanbarth dros y tair blynedd nesaf, gan fod tlodi yn difetha cyfleoedd y plant hyn, sy’n fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael, o wneud yn waeth yn yr ysgol ac o fod â rhagolygon gwael yn y dyfodol o ran cyflogaeth?
Mae’r Aelod yn iawn i nodi’r mater pwysig hwn, a gwnaethom ddatganiad ddoe a chredaf fy mod wedi cael tri chwestiwn heddiw ynglŷn â thlodi plant. Felly, mae’n rhan o agendâu pawb, ac mae hynny’n briodol. Dywedais yn y datganiad ddoe nad yw’r holl ddulliau ac ysgogiadau yn ein dwylo ni i allu cyrraedd y targed uchelgeisiol erbyn 2020, a byddaf yn agored iawn ynglŷn â hynny, ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud. Mae gwaith dadansoddi gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o’u hincwm net ar gyfartaledd, neu oddeutu £459 y flwyddyn, o ganlyniad i gynlluniau i gyflwyno diwygiadau treth a budd-daliadau erbyn 2020. Felly, mae hon yn agwedd arall lle nad oes gennym ran i’w chwarae ond sy’n cael cryn effaith ar ein cymunedau mewn gwirionedd. Felly, pam rydym yn newid y cyfeiriad teithio wrth fynd i’r afael â swyddi a llesiant? Oherwydd ein bod yn gwybod fod y sefyllfa bresennol yn ei chael yn anodd iawn ymdrin â’r materion sy’n trechu tlodi.
Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod i’r ffordd y byddwn yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a gobeithiaf y gall ein cefnogi ar y gyllideb pan gaiff ei chyflwyno yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Tasglu’r Cymoedd
Yn ein trefi yng Nghymoedd de Cymru, gwnaed ymdrechion aruthrol a pharhaus dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio, yn economaidd ac yn gymdeithasol, y cymunedau a ddinistriwyd yn y blynyddoedd wedi’r—. [Torri ar draws]
A wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn, os gwelwch yn dda?
Rwy’n ymddiheuro, rwy’n ymddiheuro. [Torri ar draws]. Rwy’n gwybod—saith mis. Byddaf yn arfer â hyn. [Chwerthin.]
Mae gennych bedair blynedd. Parhewch.
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog sy'n goruchwylio Tasglu'r Cymoedd ar adfywio cymunedau yn y cymoedd? OAQ(5)0078(CC)
Diolch am gwestiwn yr Aelod. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi rhaglenni adfywio dilynol yn y Cymoedd, gan gynnwys y rhaglen gyfalaf bresennol, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Rwyf wedi archwilio gyda’r Gweinidog sut y gall pob rhan o fy mhortffolio gefnogi’r gwaith y mae’n ei wneud ochr yn ochr â’r blaenoriaethau a ddaw’n amlwg ar gyfer y tasglu.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac efallai y bydd ganddo rywfaint o syniad i ble rwy’n mynd gyda’r cwestiwn hwn. [Chwerthin.] Yn ein trefi yng Nghymoedd de Cymru, gwnaed ymdrechion aruthrol a pharhaus dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio, yn economaidd ac yn gymdeithasol, y cymunedau a ddinistriwyd yn y blynyddoedd wedi i’r pyllau glo gau, ac mae’r ymdrechion hynny’n parhau. Ond un o greithiau mwyaf amlwg y dirywiad economaidd yn rhai o drefi’r Cymoedd yw’r dirywiad parhaol ar y stryd fawr, sydd hefyd yn adlewyrchu’r newid mewn patrymau siopa yn ogystal â llai o rym gwario ac ymwelwyr, ac adlewyrchir hynny yn nifer y siopau sy’n cau a’r safleoedd gwag, a gall hynny ynddo’i hun arwain at ymdeimlad o ddirywiad pellach oni bai ei fod yn cael ei rwystro ar frys. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: mewn cydweithrediad â chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am dasglu’r Cymoedd, a wnaiff asesu effeithiolrwydd mesurau presennol a all helpu gydag adfywiad ffisegol y stryd fawr yn ein trefi yn y Cymoedd, ac archwilio’r posibilrwydd o ragor o fesurau a allai roi hwb i fywiogrwydd economaidd y strydoedd mawr hyn? Ac wrth gwrs, buaswn yn fwy na pharod i’w groesawu i Ogwr unrhyw bryd i ddangos y llwyddiannau a gawsom gydag adfywio cymunedol ac economaidd, yn ogystal â’r heriau sy’n parhau.
Yn wir. Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig o ran y gwaith anodd o newid rhai o’n cymunedau mwy datgysylltiedig y tu allan i’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi cyflawni nifer o raglenni llwyddiannus, ond rwy’n cydnabod y mater a grybwyllodd yr Aelod, ac mae Alun Davies, yn benodol, wedi tynnu fy sylw at y materion hyn. Rwy’n ystyried sut y gallai rhaglenni adfywio edrych yn y dyfodol. Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf i roi ei syniadau i weld a all ddylanwadu ar fy mhenderfyniadau o ran sut y gallai hynny edrych er budd ei etholaeth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rydym wedi derbyn dau gwestiwn brys y prynhawn yma o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig? EAQ(5)0092(CC)[W]
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd swyddfeydd post a’r gwasanaethau pwysig y maent yn eu darparu i gymunedau lleol. Fel y gŵyr yr Aelod, nid yw hwn yn fater datganoledig, ond yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar rwydwaith y swyddfeydd post ar hyn o bryd. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys unrhyw gynigion penodol ar gyfer swyddfeydd post gwledig.
Wel, nid wyf yn siŵr a ydy hynny yn gywir, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae yna ddyletswydd ar hyn o bryd i’r Swyddfa Bost sicrhau bod yna ddarpariaeth o fewn rhyw 3 milltir i 95 y cant o’r boblogaeth wledig o fewn y Deyrnas Gyfunol. Mae hynny yn cael ei adolygu fel rhan o’r hyn sydd yn cael ei weithredu gan y Llywodraeth yn San Steffan ar hyn o bryd, a phwy â ŵyr beth fydd canlyniad hynny. Ond yn sicr, mae e yn destun pryder i ni gyd, ac ar ben hyn, rŷm ni yn gwybod bod y sybsidi mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi i’r rhwydwaith swyddfeydd post yn dod i ben mewn ychydig dros flwyddyn, ym mis Mawrth 2018. Nawr, gyda swyddfeydd post, wrth gwrs, ar eu prysuraf ar adeg y Nadolig fel hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fewnbwn rŷch chi fel Llywodraeth wedi ei roi i’r adolygiad yma sydd yn digwydd, yn enwedig o gofio, wrth gwrs, mai dim ond wythnos diwethaf roedd y Prif Weinidog yn dweud wrthyf i, mewn ateb i gwestiwn ynglŷn â dyfodol banciau gwledig, mae ei flaenoriaeth e nawr yw sicrhau dyfodol y rhwydwaith swyddfeydd post, oherwydd eu bod nhw yn gallu darparu rhai gwasanaethau bancio? Ac a fyddech chi yn cytuno â fi, Ysgrifennydd, mai’r ffordd orau nawr i sicrhau dyfodol y swyddfeydd post yng Nghymru yw sicrhau bod y cyfan yn cael ei ddatganoli i ni fan hyn?
Rwy’n sicr yn cefnogi’r egwyddor o gefnogi swyddfeydd post yn ein cymunedau, ac mae hynny’n briodol, ond mae’r Aelod yn iawn mai penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid wyf yn ymwybodol o’r cynlluniau i gau swyddfeydd post gwledig. Credaf efallai fod yr Aelod wedi darllen y stori hon yn y ‘Telegraph’—[Torri ar draws.]—a ffynonellau eraill o wybodaeth. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i gynnal rhwydwaith y swyddfeydd post ar ei faint presennol o 11,600 o ganghennau, ond mae’n iawn i nodi y dylem gadw llygad ar yr hyn y maent yn ei wneud yn San Steffan, oherwydd pwy a ŵyr beth y gallant ei wneud gyda’r swyddfeydd post yn y dyfodol.
Mae yna berig, serch hynny, i nifer o gymunedau, achos rŷm ni eisoes yn colli’r banciau—fel sydd wedi cael ei drafod sawl gwaith yn y Cynulliad yn ddiweddar—ac ateb i hynny, i nifer o gyrff, gan gynnwys y Llywodraeth fan hyn a’r Llywodraeth yn San Steffan, yw sôn am ddefnyddio’r adeiladwaith swyddfeydd post i ddelio â hyn. Nawr, mae yna ddwy broblem yn y fan yna. Mae’r broblem y mae Llyr Gruffydd eisoes wedi ei hamlinellu, ond yr ail broblem yw nad yw pob swyddfa post, yn enwedig mewn rhai o’n trefi bach ni, yn gallu ymdopi gyda busnesau. Beth sydd ei angen yw ffenest ddiogel er mwyn delio â’r arian sy’n cael ei roi i mewn i swyddfa bost gan fusnes. Os ydym ni’n colli ein banciau, mae’n rhaid i swyddfeydd post fod yn gallu delio â busnesau bach cefn gwlad a threfi bach. Mae yna enghraifft dda o hyn yn digwydd yn ddiweddar ym Mlaenau Ffestiniog, lle mae’r swyddfa bost wedi symud, ond drwy symud mae wedi diogelu y gallu i ddelio â busnesau bach. Dyna’r ffordd yr ydym ni eisiau gweld pethau’n datblygu. Er nad yw’r peth wedi’i ddatganoli, mae’n hynod bwysig bod y Llywodraeth hyn yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod y ddarpariaeth yng nghefn gwlad Cymru yn ddigonol, nid yn unig ar gyfer unigolion ond ar gyfer busnesau bach yn ogystal.
Mae’r Aelod yn iawn; bwriad yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yw llywio’r cais nesaf am gymorth gwladwriaethol er mwyn caniatáu i’r Llywodraeth barhau i ariannu elfennau aneconomaidd rhwydwaith Swyddfa’r Post, a chredaf y dylent edrych ar hynny’n ofalus iawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau a byddwn yn annog yr Aelod i wneud yr un peth.
Mewn gwirionedd, credaf eich bod newydd ateb fy nghwestiwn. Credaf ein bod oll yn dibynnu ar yr erthygl honno yn y ‘Telegraph’ lle y mae adran fusnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn dweud nad yw’r ymgynghoriad
yn ymwneud â chau canghennau,
a dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post fod yr ymgynghoriad yn rhan o gais y Llywodraeth i’r Undeb Ewropeaidd i barhau â’r cymorth gwladwriaethol i’r rhwydwaith.
Croesawaf y ffaith eich bod yn dweud eich bod am wneud sylwadau. Tybed a allwch gadarnhau y byddwch yn rhannu’r sylwadau a wnewch a’r ymatebion a gewch gyda’r Cynulliad.
Credaf y byddai’n anodd pe baem yn dechrau cael cwestiynau brys gan y ‘Telegraph’ bob wythnos—am ei fod yn y ‘Telegraph’. Buaswn yn awgrymu nad oedd hynny’n wir yn yr achos hwn, ond gwelais innau’r erthygl yn y cyhoeddiad hwnnw. Byddaf yn hapus i rannu ymateb y Llywodraeth gyda’r Aelodau yn ogystal â’r ymateb gan Weinidogion y DU.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Galwaf yn awr ar Neil Hamilton i ofyn yr ail gwestiwn brys. Neil Hamilton.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4? EAQ(5)0099(EI)
Mae datganiad y Gweinidog y bore yma yn datgan dyddiad yr ymchwiliad cyhoeddus ac mae’n dweud y bydd:
Y prosiect yn mynd ymlaen i gael ei ystyried gan arolygwyr annibynnol mewn ymchwiliad a bennir gan yr arolygiaeth gynllunio i ddechrau ar 28 Chwefror 2017 gyda chyfarfod cyn yr ymchwiliad... ar 27 Ionawr.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am y datganiad hwnnw a chroesawu’r cyhoeddiad heddiw, a nodi, yn wir, fod Ysgrifennydd y Cabinet, pan wnaeth ei ddatganiad diwethaf ar hyn ar 3 Hydref, wedi dweud y byddai’n dechrau heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth y flwyddyn nesaf? Felly, mae’n newyddion da y bydd yn dechrau fis yn gynharach na’r dyddiad hwyraf posibl.
Disgrifiwyd sefyllfa bresennol y tagfeydd ar yr M4 gan David Cameron, yn un o’i ddatganiadau mwy cofiadwy, yn
‘droed ar bibell wynt economi Cymru’.
Mae’n hanfodol, felly, fod yr ymchwiliad hwn yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
A all y Gweinidog roi unrhyw awgrym ynglŷn â pha mor hir y mae’r ymchwiliad yn debygol o bara? Yn y datganiad ym mis Hydref, dywedwyd y byddai’n para oddeutu pum mis. A yw’r amcangyfrif hwnnw wedi newid? Ers mis Hydref, mae rhagolygon traffig yr M4 ar gyfer y dyfodol wedi cael eu diwygio i lefel is, a thybed a yw brwdfrydedd y Llywodraeth dros y llwybr du wedi cilio—[Torri ar draws.] Rwy’n gofyn cwestiwn yn awr. [Torri ar draws.] Os yw brwdfrydedd y Llywodraeth dros y llwybr du wedi cilio gan olygu y bydd y llwybr glas yn cael ei ystyried yn briodol fel dewis arall, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthyf hefyd a yw hi neu unrhyw un o’i chyd-Aelodau wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda’r Athro Stuart Cole neu unrhyw un sydd wedi bod yn dadlau dros y llwybr glas i weithio ar yr achos drosto fel dewis arall yn lle’r llwybr du yng nghyd-destun yr ymchwiliad hwn, ac felly a wnaiff hi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cadw meddwl agored mewn perthynas â hyn, fod mwy nag un ffordd o ddatrys y broblem hon ac y bydd tystiolaeth y Llywodraeth i’r ymchwiliad yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cynigion eraill sydd ar gael. [Torri ar draws.]
Diolch. Weinidog, a wnewch chi ateb, os gwelwch yn dda?
Er mwyn cynnal didwylledd a thryloywder, mae’r holl adroddiadau technegol economaidd ac amgylcheddol a lywiodd yr adolygiad o’r data wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, i ganiatáu i bawb ei ystyried. Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried barn pawb sy’n gysylltiedig â’r mater. Bydd yn cymryd cyhyd ag y bydd angen. Rwy’n ymwybodol iawn fod amrywiaeth o safbwyntiau ar draws y Siambr ac mewn mannau eraill ledled Cymru ynglŷn â’r prosiect hwn, a holl ddiben yr ymchwiliad yw caniatáu i’r safbwyntiau hynny gael eu clywed a’u hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.
Weinidog, a allwch gadarnhau—? Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y byddai gwaith yn dechrau yn 2018, ond yn amlwg mae 24 mis tan ddiwedd 2018. A allwch gadarnhau pryd yn 2018 y gallai ddechrau? A allwch roi dyddiad ychydig yn fwy manwl, yn amodol, wrth gwrs, ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus?
Yn eich datganiad heddiw, dywedwch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod yr asesiad diweddaraf yn dangos y bydd lefelau traffig yn y dyfodol, gan ystyried y cynigion diweddaraf ar gyfer y metro, yn parhau i dyfu, ond ychydig yn arafach nag a ragwelwyd yn flaenorol. A fydd y modelu newydd yn effeithio ar brosiectau seilwaith eraill sydd ar y gweill? Ac yn olaf, a allwch gadarnhau bod y prosiect yn dal yn hyfyw ar y costau amcangyfrifedig, gyda’r data poblogaeth diwygiedig wedi’i ychwanegu?
Wel, Ddirprwy Lywydd, rwyf mewn perygl yn awr o ddarllen y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth. Mae datganiad ysgrifenedig y bore yma yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r adolygiad o ddata a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach. Mae’r datganiad yn nodi dyddiad cychwyn yr ymchwiliad cyhoeddus, ac rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn croesawu hynny, ac mae’n nodi rhai posibiliadau o ganlyniad i ymchwiliad cyhoeddus.
Diolch yn fawr iawn. Rydym yn awr—. [Torri ar draws.] Parhewch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf o ddifrif yn chwilio am eglurhad fel Aelod newydd yn y Cynulliad hwn. Rwy’n edrych am eglurhad—ac nid yw’r llyfr rheolau gennyf o fy mlaen—ynglŷn â’r rhan berthnasol o’r Rheolau Sefydlog sy’n cyfeirio at gwestiynau brys, a beth sy’n cyfrif fel cwestiwn brys. Nid wyf yn dweud hynny er amarch i’r cwestiwn a glywsom yn awr ond ymddengys nad yw rhai cwestiynau brys yn rhai brys nac yn newydd, nac yn gwestiynau [Chwerthin.] O’r herwydd, rwy’n gofyn i chi’n ddiffuant, fel Aelod newydd, am eich cyngor a’ch arweiniad ynglŷn â’r hyn y dylem ei gyflwyno, yn y dyfodol, fel cwestiwn brys.
Diolch. Os caiff y cwestiwn a gyflwynir ei dderbyn gan y Llywydd, neu yn absenoldeb y Llywydd, gennyf fi, fe’i hystyrir yn gwestiwn brys. Felly, dylid gwrando arno yn yr un modd â chwestiynau brys y buasech chi’n eu hystyried yn faterion brys, na fyddent o reidrwydd yn faterion brys ym marn pawb arall. Felly, mae’n benderfyniad i’r Llywydd. Credaf mai’r meini prawf a ddefnyddiwyd heddiw oedd mai dyma gyfarfod olaf y Cynulliad cyn y toriad, ac felly mae’n gyfle i Aelodau gwestiynu materion perthnasol sydd efallai newydd eu cyhoeddi eisoes fel datganiad. Fe’i derbyniwyd ar y mater hwnnw. Ond diolch am godi’r pwynt o drefn.
Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad a galwaf ar Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ganed Griffith Morgan, a gâi ei alw’n Guto, yn 1700, ac roedd yn byw ar fferm Nyth Brân yn Llanwynno. Roedd Guto’n rhedwr heb ei ail, a gallai gorlannu defaid y teulu ar ei ben ei hun, a hyd yn oed dal adar wrth iddynt hedfan. Mae un stori’n ei ddisgrifio’n rhedeg y 7 milltir i Bontypridd ac yn ôl adref cyn i’r tegell ferwi. Yn ei ras fwyaf, rhedodd Guto 12 milltir mewn 53 munud, ond bu farw’n fuan wedi hynny, ac yntau ond yn 37 mlwydd oed.
Er ei fod wedi marw, roedd ei hanes yn dal yn fyw. Ar Nos Galan 1958, trefnodd Bernard Baldwin, un o drigolion Aberpennar, y ras Nos Galan gyntaf i dalu teyrnged i chwedl Guto, gyda’r ras drwy ganol y dref am hanner nos yn uchafbwynt i’r digwyddiad. Bob blwyddyn, mae rhedwr dirgel, ffigwr amlwg o fyd chwaraeon a gedwir yn gyfrinach bob tro, yn arwain y ras, gan ymgorffori ysbryd Guto mewn gweithred o bererindod sy’n dechrau wrth fedd Guto yn Eglwys Sant Gwynno.
Mae cefnogaeth gref y gymuned wedi bod yn sylfaen i’r digwyddiad wrth iddo fynd o nerth i nerth, gyda rasys i’r elît, i amaturiaid ac i blant yn llawn dop o redwyr. Erbyn hyn mae ras Nos Galan yn wirioneddol ryngwladol, ac yn denu bron i 10,000 o bobl i Aberpennar bob blwyddyn. Cynhelir y 59fed ras Nos Galan yn 2016, gyda phobl o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan ac yn codi arian ar gyfer elusennau. Y llynedd, daeth cystadleuwyr o lefydd mor bell â De Affrica a Texas. Byddaf yn stiwardio yn y rasys Nos Galan eto eleni, gan chwarae fy rhan yn coffáu Guto Nyth Brân a dathlu ei chwedl.
Rydw i am dynnu eich sylw at y fenter Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Menter gan Safonau Masnach Cenedlaethol ydy hi ac mae ei hangen hi, achos mae ffigurau’n dangos bod yna gynnydd o 60 y cant wedi bod yn y math yma o dwyll dros y bum mlynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar, mi gafodd etholwyr imi alwad ffôn gan rywun oedd yn honni dod o gwmni band eang adnabyddus yn gofyn am fanylion eu cyfrifiadur. Dim ond pan wnaethon nhw ofyn am fanylion cyfrif banc y gwnaeth yr etholwyr sylweddoli bod rhywbeth o’i le a rhoi’r ffôn i lawr. Yn ffodus, mi wnaethon nhw gysylltu efo fy swyddfa i ac mi fedron ni roi cyngor iddyn nhw ar sut i ddiogelu eu cyfrifiadur a’u harian.
Rydw i’n nabod yn dda iawn un arall a wnaeth ddisgyn am sgam debyg iawn. Oedd, mi oedd yna golled ariannol, ond yn fwy na hynny, mi welais i’r embaras yr oedd y person yma yn ei deimlo. Mae’r rheini sy’n gyfrifol am sgamiau yn aml yn targedu’r bobl fwyaf bregus ac maen nhw’n dibynnu ar i bobl deimlo cywilydd fel eu bod nhw’n peidio â sôn wrth unrhyw un. Mae yna ddyfalu mai dim ond, efallai, 5 y cant o bobl sydd wedi cael eu sgamio sy’n rhoi gwybod i’r awdurdodau.
Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod troi at deulu neu ffrind yn fodd i rannu’r gofid ac mae yna ddigon o fudiadau i bobl droi atyn nhw hefyd i rybuddio eraill ac i geisio cael arian yn ôl, yn cynnwys y comisiynydd pobl hŷn, yr adran safonau masnach leol neu Cyngor ar Bopeth. Mi fuaswn i’n annog pawb yma i fynd ar wefan Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau, friendsagainstscams.org.uk, ac ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o sgamio er mwyn ceisio amddiffyn pobl ddiniwed rhag y troseddwyr creulon yma.
Diolch yn fawr iawn. Daw’r olaf am eleni a’r cyfarfod hwn gan Elin Jones.
Un o freintiau fy rôl fel yr Aelod Cynulliad dros Geredigion yw fy mod yn cynrychioli’r dref odidog, Aberteifi. Mae’r enw Aberteifi yn deillio o’i lleoliad ar lan yr afon fawreddog, afon Teifi. Mae ei henw Saesneg yn Seisnigeiddiad o Ceredigion—’gwlad Ceredig’, brenin Ceredigion ar un adeg. Sawl canrif yn ddiweddarach, arweiniodd seithfed Iarll Aberteifi gyrch y frigâd ysgafn yn rhyfel y Crimea, a rhoddwyd yr enw ‘cardigan’ ar ddilledyn a wisgwyd gan filwyr yn y rhyfel hwnnw, ac sydd bellach yn cael ei wisgo gan bawb.
Yfory, bydd tref Aberteifi yn cael ei hailenwi’n swyddogol yn ‘Siwmper’. Bydd yn gwneud hynny yn ysbryd y Nadolig, ond hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymgyrch gwisgo siwmper Nadolig wlanog Achub y Plant. Bydd ‘Cardigan’ yn troi’n Siwmper. Bydd siwmper Nadolig anferth yn cael ei dadorchuddio gan faer Siwmper. Bydd plant ysgol Siwmper yn gwisgo siwmperi Nadolig. Bydd clwb rygbi Siwmper yn hyfforddi mewn siwmperi, a bydd y defaid yn y caeau ger Siwmper yn gwisgo siwmperi gwlân. [Chwerthin.] Byddaf yn Aelod Cynulliad dros Siwmper. Gallwn fod wedi gwisgo siwmper Nadolig ar gyfer y datganiad hwn, ond dewisais beidio â mentro cael fy nhaflu allan gan y Dirprwy Lywydd am wisgo’n anseneddol. [Chwerthin.]
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pobl Siwmper yn cael amser gwych yn gwisgo siwmperi yn hytrach na’u cardiganau. Fodd bynnag, maent yn gwneud hyn am reswm difrifol: i’n hatgoffa na fydd llawer iawn o blant yn ein gwlad a’n byd yn cael Nadolig gwych a bod angen i ni barhau i weithio i newid hynny.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn yn awr at eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ymchwiliad y pwyllgor i hawliau dynol. Galwaf ar John Griffiths fel Cadeirydd y pwyllgor. John.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau heddiw fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lansio galwad am dystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad sydd i ddod ar hawliau dynol yng Nghymru. Dros yr haf, buom yn ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â beth y teimlent y dylai ein blaenoriaethau strategol fod. Roedd nifer o sefydliadau, gan gynnwys Stonewall Cymru, Plant yng Nghymru a Sefydliad Bevan, am i ni wneud gwaith ar hawliau dynol. Roeddent yn tynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder, fel effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynigion Llywodraeth y DU i newid deddfwriaeth ddomestig.
Rwy’n disgwyl i hawliau dynol fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd at lawer, os nad pob un, o’r ymchwiliadau a gyflawnir gan y pwyllgor. Mae hyn yn sicr yn wir am ein gwaith hyd yma. Ddydd Llun, cyhoeddasom ein hadroddiad cyntaf ar ein gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Gwnaethom nifer o argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod addysg perthnasoedd iach yn cael ei darparu ym mhob ysgol fel rhan o’r cwricwlwm newydd a roddir ar waith yn dilyn adolygiad Donaldson. Dylanwadodd sylwadau’r cynghorydd cenedlaethol ar y pwyllgor, pan ddywedodd wrthym y dylai’r cwricwlwm gynnwys rhaglenni ataliol gorfodol ar bob math o drais, yn seiliedig ar fframwaith cydraddoldeb rhywiol a hawliau dynol.
Ar hyn o bryd mae’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym wedi ymweld â darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac wedi dechrau casglu tystiolaeth ar lafar yr wythnos diwethaf. Mae’n dod yn amlwg fod deall a gorfodi eu hawliau yn fater allweddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
Yr wythnos cyn yr wythnos diwethaf buom yn Glasgow a Chaeredin. Roeddem yn awyddus i gymharu dulliau o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a’r Alban. Cawsom gyfarfod cynhyrchiol iawn hefyd gyda chynullydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban, Christina McKelvie ASA. Mae cryn botensial i waith ar y cyd ar hawliau dynol ac amryw o faterion eraill. Edrychaf ymlaen at ragor o drafod gyda Christina a’n cymheiriaid ledled y DU a thu hwnt. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau wrth i’r cysylltiadau hyn ddatblygu.
Ond gadewch i mi ddychwelyd, Lywydd, at yr ymchwiliad rydym yn ei lansio heddiw. Buaswn yn ddiolchgar pe bai’r Aelodau yn tynnu sylw pobl yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau at y gwaith hwn. Rwy’n fwy na pharod i ddarparu rhagor o wybodaeth a deunyddiau er mwyn helpu’r Aelodau i roi cyhoeddusrwydd i’r ymchwiliad ac annog adborth. Buaswn yn eich annog i drafod eich anghenion penodol gyda’r swyddogion sy’n cefnogi’r pwyllgor. Po fwyaf yr ystod o dystiolaeth, y mwyaf cymwys fydd y pwyllgor i wneud argymhellion a dwyn y Llywodraeth i gyfrif mewn perthynas â’r mater hwn. Y dyddiad cau ar gyfer ein hymgynghoriad yw 10 Chwefror. Rydym yn disgwyl gallu cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ym mis Mawrth, cyn toriad y Pasg.
Mae hawliau dynol yn bwnc eang a chymhleth. Ar gyfer ein gwaith cyntaf ar y mater hwn yn benodol, mae’r pwyllgor wedi penderfynu mabwysiadau ymagwedd lefel uchel â ffocws. Wrth fabwysiadu’r ymagwedd hon, rydym yn awyddus i adeiladu ar waith blaenorol yn y maes. Yn benodol, rydym yn awyddus i wneud gwaith dilynol ar ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad yn 2013 i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn adeiladu ar y drafodaeth arbenigol a gynhaliwyd yn 2014 gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd y drafodaeth hon yn cynnwys materion megis y setliad datganoli presennol mewn perthynas â hawliau dynol, yr ymagwedd at hawliau dynol mewn deddfwriaeth Gymreig, arferion da a gwael, a datblygu’r agenda hawliau dynol yng Nghymru.
Mae tair cydran i’n cylch gorchwyl. Yn gyntaf, rydym yn awyddus i archwilio effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gwaith o amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru. Diogelir hawliau dynol gan gasgliad cymhleth o ddeddfau a chytundebau. Ni fydd statws y DU fel un o lofnodwyr y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn cael ei effeithio’n awtomatig o ganlyniad i’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r confensiwn yn gytuniad rhyngwladol ar wahân i gytundebau a siarter hawliau sylfaenol yr UE.
Rwy’n awyddus iawn i’n hymchwiliad gysylltu â’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y mater hwn gan Gydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol, yn ogystal â chan Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban. Byddaf yn cysylltu’n agos â Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn ail, rydym yn awyddus i asesu effaith argymhelliad Llywodraeth y DU i gyflwyno deddf hawliau i’r DU yn lle Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hawliau dynol yn rhan allweddol o’r setliad datganoli a chyfansoddiad y DU. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno deddf hawliau i’r DU yn lle’r Ddeddf Hawliau Dynol, a fyddai’n cyfyngu ar rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop. Roedd y Twrnai Cyffredinol i’w weld yn awgrymu yr wythnos diwethaf y gellid gohirio hyn wrth i Lywodraeth y DU ymdrin â materion eraill. Byddwn yn gofyn am eglurhad ynglŷn â’r amserlen.
Yn y cyfamser, rwy’n croesawu’r sicrwydd a roddwyd i’r pwyllgor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ym mis Medi, pan ddywedodd wrthym y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau mewn perthynas ag unrhyw gynigion pendant gan Lywodraeth y DU. Rhannaf ei farn y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd rhan lawn mewn unrhyw ymgynghoriad sy’n effeithio ar hawliau dynol pobl Cymru. Yn amlwg, bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rôl yn archwilio unrhyw gynigion o’r fath. Gobeithiaf y bydd gwaith polisi rhagarweiniol ein pwyllgor yn llywio ystyriaethau o’r fath.
Y drydedd gydran a chydran olaf yr ymchwiliad hwn yw canfyddiadau’r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru. Rydym yn arbennig o awyddus i weld pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru. Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ynglŷn â pherthnasedd hawliau dynol ym mywyd pob dydd Cymru, a rôl cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu a rhoi gwybod i’r cyhoedd ynglŷn â’u hawliau. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr ymagwedd wahanol at hawliau dynol yng Nghymru, er enghraifft, ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n ystyried gwaith y pwyllgor, wrth lansio’r ymchwiliad hwn heddiw, yn rhan o ddull o graffu sy’n seiliedig ar hawliau drwy gydol y pumed Cynulliad. Rwy’n disgwyl y bydd ein rhaglen waith yn cyfuno ymchwiliadau sy’n canolbwyntio’n benodol ar hawliau dynol gydag archwilio’r ystod eang o bynciau yn ein cylch gorchwyl o safbwynt hawliau. Bydd yr ymchwiliad hwn yn nodi’r cyd-destun strategol ar gyfer y dull hwnnw. Byddaf yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau, i’n helpu i lunio’r ymchwiliad hwn. Diolch yn fawr.
Rwyf yn credu bod yr ymchwiliad hawliau dynol yn un pwysig ac yn un amserol iawn i’r pwyllgor ymgymryd ag o. Hoffwn i’r prynhawn yma siarad am un agwedd, un maes penodol o’r ymchwiliad a fydd angen sylw manwl, yn fy marn i, sef cydraddoldeb rhwng dynion a merched. Un o amcanion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd ydy cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae o’n cael ei adnabod fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Ewrop. Ond, wrth gwrs, mae hawliau merched dan fygythiad yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n rhaid inni wneud pob dim i ddiogelu’r hawliau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac yma yng Nghymru y dylai’r pwerau dros gydraddoldeb a materion cyflogaeth orwedd. Mae’r achos dros hynny yn gryfach nag erioed erbyn hyn.
Cyfraith Ewrop sydd wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r buddiannau sydd wedi cael eu gosod mewn cyfraith. Er enghraifft, cyfraith Ewrop sydd wedi bod yn gyfrifol am ehangu’r hawl am dâl cyfartal, cryfhau diogelwch rhag gwahaniaethu ar sail rhyw. Cyfraith Ewrop sydd wedi gwella mynediad i gyfiawnder i ferched sydd wedi cael eu trin yn annheg. Cyfraith Ewrop sydd wedi helpu merched sy’n gweithio yn rhan amser, ac wedi cryfhau hawliau merched beichiog a merched newydd yn y gweithle. Ond, wrth gwrs, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r union hawliau yna dan fygythiad. Efallai na fyddan nhw ddim yn diflannu dros nos, ond mi fyddan nhw, mae’n debyg, yn erydu dros amser, a bydd enillion y 40 mlynedd diwethaf yma yn mynd. Ac o gofio’r hinsawdd wrth-fenywaidd y mae Trump ac UKIP drwy ddatganiadau Farage yn ei hyrwyddo, mae yna le inni fod yn wyliadwrus iawn. Ac felly, rwy’n credu bod yr ymchwiliad yn gallu ein helpu ni i ddeall y sefyllfa yn well a deall beth sydd angen ei wneud i ddiogelu’r hawliau hynny sydd wedi cael eu hennill yn raddol.
Mae’r ymchwiliad i drais yn erbyn merched a’r Ddeddf a basiwyd y llynedd wedi cael ei gwblhau, ac mi fyddwn i’n hoffi pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu yr argymhellion sydd wedi dod yn sgil yr ymchwiliad yna—14 o argymhellion i gyd, a fydd, gobeithio, yn cryfhau y ffordd y mae’r Ddeddf yn gweithredu ar lawr gwlad.
Mae’r ymchwiliad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, ac mae hi’n dod yn fwyfwy amlwg, fel cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor—mae hi’n dod yn fwyfwy amlwg bod yna broblemau enfawr o ran diffyg mynediad a diffyg gwybodaeth am wasanaethau sylfaenol yn wynebu nifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Ac mae gobaith y gallwn ni, yn yr ymchwiliad yma, gynnig ffordd ymlaen efo’r materion yna hefyd.
Rwy’n falch iawn o’r cyswllt sydd yn datblygu rhwng ein pwyllgor ni yma yn y Cynulliad, a phwyllgor cydraddoldeb y Llywodraeth yn yr Alban, ac rwy’n gobeithio gweld hwnnw yn ffynnu, ac, yn sicr, yn sgil yr ymchwiliad i hawliau cydraddoldeb sydd ar y gweill ar hyn o bryd—yr hawliau dynol—mi fydd yna gyfle i ni fod yn rhannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae hynny’n beth i’w groesawu yn fawr iawn. Felly, rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad.
Diolch yn fawr iawn i Sian Gwenllian am y pwyntiau hynny, a chytunaf yn gryf y bydd cydraddoldeb rhywiol yn hollol ganolog i waith y pwyllgor a bod llawer o’r amddiffyniadau pwysig yn dod o’r Undeb Ewropeaidd. Ac yn amlwg, bydd Brexit, a’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, yn berthnasol iawn i waith y pwyllgor a’r broses o ystyried nid yn unig sut y gallwn ddiogelu hawliau presennol, ond yn amlwg sut y gallwn eu datblygu a’u gwella. Ac rwy’n siŵr y cawn lawer o dystiolaeth sy’n berthnasol i’r pryderon hynny a’r materion hynny.
Cytunaf yn gryf hefyd fod yr ymchwiliad blaenorol gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad diwethaf yn sylfaen i ni adeiladu arni o ran gwaith y pwyllgor. Mae’r gwaith ar y dyletswyddau cydraddoldeb, er enghraifft, yn berthnasol a phwysig iawn. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr iawn at barhau’r gwaith hwn gyda Sian Gwenllian ac aelodau eraill y pwyllgor.
O ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid a’n hymchwiliad parhaus, credaf fod gwybodaeth am wasanaethau, ac yn amlwg am ansawdd ac argaeledd gwasanaethau, yn ganolog i hynny. Credaf fod ein hymweliad â’r Alban—â Glasgow a Chaeredin—yn addysgiadol iawn, a chredaf y bydd perthynas barhaus yn datblygu o ganlyniad i hynny, wrth i ni rannu profiad a gweithio fel pwyllgor gyda’n pwyllgor cyfatebol yn yr Alban, ac yn wir, â phwyllgorau eraill yn y DU.
Rydym yn croesawu’r ymchwiliad hwn i hawliau dynol, ac fel rhywun a fu’n rhan o ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, croesawaf y ffaith eich bod yn dymuno gwneud gwaith dilynol ar hynny. Tybed a allwch roi sylwadau, o ystyried bod cydraddoldeb a hawliau dynol, yn amlwg, yn hanfodol bwysig, ond yn cael eu dehongli’n aml fel pethau gwahanol, er yn perthyn—. Tybed, felly, o ystyried y ddeialog hyd yn hyn, i ba raddau y byddwch yn canolbwyntio ar hawliau dynol yn benodol, neu i ba raddau y byddwch yn edrych hefyd ar y materion cydraddoldeb ehangach y mae llawer o’r hawliau hynny’n berthnasol iddynt.
Rydych yn cyfeirio, yn ddealladwy, at gynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno deddf hawliau Prydeinig yn lle Deddf Hawliau Dynol 1998, ac rydym yn rhannu eich dealltwriaeth ei bod yn ymddangos bod y Twrnai Cyffredinol wedi cyhoeddi cyfnod o oedi, wrth i’r Llywodraeth ganolbwyntio ar adael yr UE, er ein bod yn nodi bod Ysgrifennydd cyfiawnder y DU, ym mis Awst, wedi cadarnhau bwriad parhaus Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â hyn. Y cynnig, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw y bydd y ddeddf hawliau arfaethedig yn sicrhau mai’r Senedd yw ffynhonnell eithaf awdurdod cyfreithiol, ac mai’r Goruchaf Lys fydd oruchaf wrth ddehongli’r gyfraith, a bydd yn rhoi testun y confensiwn hawliau dynol gwreiddiol mewn deddfwriaeth sylfaenol. Tybed i ba raddau y byddwch yn rhoi sylw i hyn, a sut y bydd y meysydd y byddai Cymru yn dymuno’u diogelu yn cael eu diogelu wrth fynd i’r afael â’r hyn a ddisgrifiwyd gan rai fel ‘mission creep’ yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg. Fe fyddwch yn gwybod bod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi ei hen sefydlu i orfodi telerau’r confensiwn, ond na ddaeth awdurdodaeth rwymedigol y llys, a hawl unigolion i fynd ag achos i Strasbwrg, yn angenrheidiol ar gyfer y gwledydd a’r gwladwriaethau a oedd wedi ymrwymo i’r confensiwn tan 1998. A digwyddodd y datblygiadau hyn ar yr un pryd ag y cyflwynodd y DU ei Deddf Hawliau Dynol ei hun.
A wnewch chi, felly, roi sylw i athrawiaeth yr offeryn byw, a fabwysiadwyd gan Lys Hawliau Dynol Ewrop, i ehangu hawliau’r confensiwn i feysydd newydd y tu hwnt i’r rhai a oedd gan lunwyr y confensiwn mewn golwg pan ymrwymasant iddo? Yn amlwg, mae yna bryder fod rhai penderfyniadau’n ymddangos fel pe baent yn dyfarnu yn erbyn Seneddau a etholwyd yn ddemocrataidd, ac yn gwrthdroi cymhwysiad llysoedd y DU o hawliau’r confensiwn.
Unwaith eto, a wnewch chi ystyried effeithiau’r gofyniad i lysoedd y DU roi ystyriaeth i ddyfarniadau llys Strasbwrg pan fyddant yn dehongli hawliau’r confensiwn, sy’n golygu bod cyfreitheg broblemus Strasbwrg yn aml yn cael ei chymhwyso yng nghyfraith y DU, a hefyd, pa un a yw Deddf Hawliau Dynol y DU ar hyn o bryd yn tanseilio sofraniaeth y Senedd ac atebolrwydd democrataidd i’r cyhoedd?
Gan symud ymlaen o’r cynigion penodol sydd gan Lywodraeth y DU fel y gallent gael effaith yng Nghymru, yn gynharach eleni, cyflwynwyd y ddarlith hawliau dynol flynyddol yng Nghymru gan y Parchedig Aled Edwards, sy’n adnabyddus i’r rhan fwyaf ohonom fel prif weithredwr Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, Cytûn, ac ysgrifennydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. Trafododd brofiad ceiswyr lloches, mewnfudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru ac ar draws y byd, gan gysylltu hyn â diogelu a hyrwyddo hawliau dynol. Gofynnodd pa rôl y gall sefydliadau ac unigolion yng Nghymru ei chwarae i helpu i ddiogelu hawliau dynol ceiswyr lloches, mewnfudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru ac mewn mannau eraill. A allech gadarnhau pa un a allai ateb i’r cwestiwn hwnnw fod yn rhywbeth y byddech yn ceisio mynd i’r afael ag ef?
Yn y cyd-destun hwnnw, yr wythnos diwethaf cynhaliais ddigwyddiad Lloches yn y Senedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, i gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru i weld Cymru’n dod yn genedl noddfa, ond gan gydnabod bod angen i gymdeithas yn gyffredinol, pobl ac awdurdodau lleol wneud mwy i droi’r dyhead yn realiti. Ac unwaith eto, a wnewch chi ystyried eu saith cam i noddfa, a fwriadwyd i symud Cymru ymlaen ar ei thaith i ddod yn genedl noddfa?
Fel y soniais ddoe, yn gynharach y mis hwn fe welsom y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl, ar y trydydd. Yng Nghymru, ymgorfforwyd siarter y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghod ymarfer Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd hyn yn seiliedig ar weithredu’r model cymdeithasol o anabledd, nad oedd yn y Ddeddf ei hun mewn gwirionedd, i gydnabod bod pobl yn anabl nid oherwydd eu namau, ond oherwydd y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a bod gan y gymdeithas ddyletswydd i gael gwared ar rwystrau i fynediad a chynhwysiant ar eu cyfer, drwy weithio gyda hwy i nodi a deall y rhwystrau hynny. Unwaith eto, a wnewch chi roi ystyriaeth i hyn a’i weithrediad, lle y mae’n amlwg—yn sicr yn fy ngwaith achos, ac yn ddiau, yng ngwaith achos llawer o Aelodau eraill—fod llawer o gyrff sector cyhoeddus o bosibl yn cael trafferth i ddeall sut y dylid ei weithredu, drwy ymgysylltu â grwpiau pobl anabl, eiriolwyr, grwpiau mynediad, cyn y gwneir penderfyniadau, yn hytrach nag ar ôl gwario’r arian?
Rwyf bron â gorffen. Roeddwn eisiau cyfeirio at bobl hŷn. Mae hawliau dynol yn arbennig o berthnasol i bobl hŷn, a allai fod mewn sefyllfaoedd lle y maent yn profi tramgwyddo yn erbyn eu hawliau dynol yn ddiweddarach mewn bywyd. Ychydig iawn o hawliau dynol sy’n fwy sylfaenol, fel y mae Age Cymru yn ei ddatgan, na chael eich diogelu rhag trais neu gamfanteisio, a rhaid peidio â gosod pobl hŷn mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Sut, felly, rydych yn ymateb i’w galwad i asiantaethau weithio gyda’i gilydd i ddiogelu unigolion, i gynnal hawl sylfaenol unigolyn i fod yn ddiogel, ac i gefnogi’r rhai sydd wedi profi cam-drin neu esgeulustod, a hefyd eu pryder am ddiffyg diogelwch hawliau dynol i bobl sy’n hunanariannu eu gwasanaethau gofal, sydd wedi dod yn fater o bryder, lle y mae’n rhaid i bawb sydd mewn gofal—pobl hŷn—gael amddiffyniad cyfartal rhag camdriniaeth a thriniaeth wael? Mae’n debyg, yn y cyd-destun hwn, os allwch gadarnhau y byddwch yn cymryd y dystiolaeth y maent yn sicr wedi’i rhannu gyda mi a llawer o rai eraill, yn ddiau.
Yn olaf un—[Anghlywadwy.]—cynhyrchwyd adroddiad yn seiliedig ar y drafodaeth o amgylch y bwrdd ar hawliau dynol a gynhaliwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gyda 22 o sefydliadau’n cael eu cynrychioli, gan gynnwys y cyrff hynny, Stonewall Cymru, Mencap, Anabledd Cymru a llawer o rai eraill. Gwnaethant gyfres o argymhellion ar y ffordd ymlaen a allai helpu i symud hawliau dynol yng Nghymru ymlaen—i ddatblygu naratif hawliau dynol, fel y dywedasant, sy’n nodi bod hawliau dynol ar gyfer pawb ac y gellid eu defnyddio hefyd i wella gwasanaethau ac archwilio sut rydym yn ymdrin â materion sydd heb eu datganoli hefyd o ran hawliau dynol. Felly, unwaith eto, a allech gadarnhau y byddwch yn pwyso ar y gwaith hwnnw i lywio’r dystiolaeth y byddwch yn ei chasglu? Diolch.
Diolch i Mark Isherwood am y pwyntiau hynny. Yr hyn rydym yn ei wneud heddiw, wrth gwrs, yw lansio ein hymchwiliad a gwahodd tystiolaeth. Rwy’n siŵr y bydd llu o fudiadau yn crybwyll llawer o faterion ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonynt ar y sail y mae Mark Isherwood wedi’i nodi heddiw oherwydd, yn amlwg, mae’r materion hyn yn berthnasol iawn i hawliau dynol yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ymlaen at y broses honno ac at dderbyn tystiolaeth gan ystod eang iawn o sefydliadau, gobeithio, ac unigolion yn wir. Fel y dywedais yn gynharach, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n chwarae eu rhan yn annog yr adborth hwnnw.
O ran rhai o’r materion cyfansoddiadol, yn amlwg nid y pwyllgor rwy’n gadeirydd arno’n unig a fydd yn ymwneud â’r materion hyn. Fel y dywedais yn gynharach, bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy’n siŵr, diddordeb brwd, a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn yr un modd, ac eraill, gan gynnwys pwyllgorau mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, rwy’n siŵr y bydd llawer o waith yn digwydd ac yn amlwg fe fydd gennym ddiddordeb brwd yn hynny i gyd fel pwyllgor. Ond rydym yn ceisio gweithredu ar lefel uchel a meddu ar ffocws ar yr un pryd. Felly, dyna pam rydym wedi gosod allan y tair agwedd mewn gwirionedd: i roi ffocws a disgyblaeth i’r corff hwn o waith, oherwydd gallai fod yn gymhleth iawn a bron yn hollgynhwysol. Felly, mae’n ymwneud ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar hawliau dynol yng Nghymru, mae’n ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu’r ddeddfwriaeth hawliau dynol a chael Deddf hawliau’r DU yn ei lle, ac mae’n ymwneud â chanfyddiadau’r cyhoedd ynglŷn â pherthnasedd hawliau dynol i fywyd bob dydd yng Nghymru. Felly, dyna fydd paramedrau ymagwedd y pwyllgor ac o fewn hynny, fel y dywedais, rwy’n siŵr y gwelwn syniadau cryf yn cael eu bwydo i mewn i ni allu eu hystyried yn y cyd-destun hwnnw.
O ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid, bydd yr ymchwiliad penodol hwnnw’n canolbwyntio ar sefydliadau yng Nghymru a’r rôl y gallant ei chwarae’n darparu cefnogaeth a chymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Pan aethom i ymweld â rhai o’r sefydliadau hynny sy’n gwneud y ddarpariaeth yng Nghymru, cyfarfuom â nifer o sefydliadau gwirfoddol ac aelodau o’r gymuned sy’n gwneud hynny, ac roedd yn addysgiadol iawn ac yn amlwg bydd tystiolaeth bellach yn cael ei darparu mewn ffyrdd eraill.
Roeddwn yn meddwl bod y digwyddiad Lloches yn y Senedd yn werthfawr iawn. Roedd aelodau o’r pwyllgor rwy’n gadeirydd arno yn y digwyddiad hwnnw, ac yn siarad yn y digwyddiad hwnnw yn wir, fel y gwnaeth Mark Isherwood. Wedyn, roedd yn ddiddorol cyfarfod â nifer o bobl a oedd yn cynrychioli gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â’r meysydd gweithgarwch hyn. Felly, rwy’n meddwl y bydd gennym ddiddordeb brwd yn y mudiad noddfa yng Nghymru ac yn wir y camau y maent yn eu hystyried yn briodol i wneud Cymru yn wlad groesawgar fel y credaf ein bod i gyd am ei weld.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad. Rwy’n siŵr y bydd yr ymchwiliad hawliau dynol hwn yn amlygu nifer o feysydd diddordeb, nid yn lleiaf i mi, gan fod holl fater hawliau dynol wedi tueddu i fod yn ddirgelwch i mi braidd dros y blynyddoedd. Rwy’n cofio darllen llawer am Ddeddf Hawliau Dynol 1998 cyn ei rhoi ar waith a chan fy mod yn gweithio mewn canolfan alwadau ar y pryd, roeddwn yn meddwl tybed pa welliannau rhyfeddol mewn hawliau cyflogaeth y gallai fy nghydweithwyr a minnau eu cael. Ond yn anffodus, unwaith y daeth y Ddeddf i rym, ni sylwais ar unrhyw welliannau. Felly, rwy’n falch o nodi mai un o amcanion yr ymchwiliad hwn fydd asesu canfyddiad y cyhoedd yn ehangach o hawliau dynol, oherwydd i lawer o bobl yng Nghymru, rwy’n amau bod hawliau dynol yn gysyniad braidd yn niwlog nad yw’n effeithio go iawn ar eu bywydau, cyn belled â’u bod hwy’n ymwybodol. Felly, gallai fod agwedd addysgiadol ddefnyddiol i’r ymchwiliad, ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan ynddo.
Diolch i Gareth Bennet am y pwyntiau hynny. Rwy’n meddwl y bydd yn rhan werthfawr o waith y pwyllgor i fynd allan i ymgysylltu â phobl yng Nghymru i gael gwell syniad o’r hyn y maent yn ei feddwl am hawliau dynol yng Nghymru a sut y mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd, fel y mae’r Aelod wedi awgrymu. Wrth gwrs, yma, yn y Cynulliad, gwyddom fod datganoli wedi mabwysiadu agwedd sy’n seiliedig i raddau helaeth iawn ar hawliau tuag at lawer o faterion. Felly, mae llawer o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a’r strategaethau a pholisi Llywodraeth Cymru wedi’i seilio’n gadarn ar yr agenda hawliau honno. Felly, rwy’n meddwl, wrth i ni gynnal yr ymchwiliad hwn, y bydd hynny’n dod yn glir ac os gallwn wneud hynny’n fwy amlwg i bobl Cymru, yn ogystal â chael eu safbwyntiau, rwy’n meddwl y bydd honno’n agwedd werthfawr ar yr ymchwiliad hwn.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5 ar yr agenda, sef dadl Plaid Cymru ar aelwydydd lle y mae plant yn wynebu cael eu troi allan. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig—Bethan.
Cynnig NDM6190 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
[Torri ar draws.] Tynnu sylw ataf fy hun. [Chwerthin.]
Rhwng y ddadl hon a’r Nadolig, bydd 16 o blant yn colli eu cartrefi am y byddant yn cael eu troi allan gyda’u teuluoedd o dai cymdeithasol. Bydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £600,000 yn ymdrin â chanlyniadau’r achosion hyn o droi allan. Mae’r plant hyn yn debygol o wynebu canlyniadau gydol oes ar eu hiechyd, ar eu haddysg ac felly, ar eu lefelau incwm. Felly, mae ein cynnig heddiw yn syml: dylai Cymru fod yn genedl lle nad yw plant bellach yn wynebu cael eu troi allan a digartrefedd. Eto i gyd, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae yna 792 o deuluoedd â phlant mewn llety dros dro, ac mae 84 o’r teuluoedd hyn mewn hostelau. Ddoe, cafwyd adroddiad ar y BBC am sgandal pobl ifanc yn eu harddegau mewn llety gwely a brecwast ac mae’r ffigurau’n dangos 27 o deuluoedd gyda phlant mewn llety gwely a brecwast, sydd wedi dyblu bron ers y chwarter diwethaf. Digon yw digon.
Nid dyma’r tro cyntaf i ni drafod digartrefedd, troi allan ac amddiffyn plant yn y Siambr hon. Efallai pe bai’r ystadegau yn dangos gwelliant, byddai llai o frys yn perthyn i’r ddadl hon. Ond dangosodd yr wythnos diwethaf, ymhell o fod yn dangos gwelliant, mae pethau’n gwaethygu. Dangosodd adroddiad yr wythnos diwethaf ar dlodi gan Sefydliad Joseph Rowntree fod achosion o droi allan gan landlordiaid cymdeithasol wedi cynyddu yn y rhan fwyaf o’r DU, gan gynnwys tuedd ar i fyny yng Nghymru.
Mae ymchwil Shelter Cymru yn amcangyfrif bod 500 o blant wedi cael eu troi allan o dai cymdeithasol yn 2015-6. Dyna 500 o blant â risg uwch o broblemau iechyd, mwy o risg o gyrhaeddiad addysgol is ac felly, mwy o risg o ddod yn oedolion sy’n byw mewn tlodi—ac nid oedd angen iddo fod wedi digwydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chanmol yn haeddiannol am gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd gyda’r dystiolaeth gynnar yn dangos rhywfaint o lwyddiant. Ond hoffwn atgoffa’r Aelodau mai’r Llywodraeth hon a wrthwynebodd ymdrechion Jocelyn Davies i gael gwared ar brawf Pereira a gwrthwynebu ein hymdrechion i ymestyn angen blaenoriaethol ym maes tai i bawb o dan 21 oed a rhai sy’n gadael gofal hyd at 25 oed.
Fodd bynnag, nid yw deddfwriaeth ond yn rhan o’r hyn y dylem ei wneud i atal achosion o droi allan ac atal digartrefedd. Bydd fy nghyd-Aelodau’n ymhelaethu ar y pwynt hwn yn ddiweddarach, ond mae llawer mwy y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ei wneud i sicrhau bod gennym bolisi dim troi allan ar gyfer plant.
Mae dros 80 y cant o achosion o droi allan yn digwydd oherwydd ôl-ddyledion rhent. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion hyn, yn ôl ymchwil Shelter Cymru yn ddiweddar, yn bobl sydd mewn gwaith ond ar gyflogau isel ac incwm anwadal yn aml. Mae’r rhan fwyaf o bobl mewn tai cymdeithasol ac ar fudd-dal tai mewn gwaith ac yn aml mewn swyddi sy’n galw am waith caled ac ymdrech gorfforol. Y broblem go iawn yw hyn: mae gennym system fudd-daliadau sy’n analluog i ddeall patrymau gwaith ar y pen isaf. Fel y mae’r adroddiad yn ei roi, ac rwy’n dyfynnu:
Gall patrymau gwaith incwm isel olygu newidiadau aml mewn amgylchiadau, gydag oriau ac incwm weithiau yn newid bob mis neu hyd yn oed bob wythnos. Mae hyn yn arwain at anawsterau ac anghysondebau o ran talu Budd-dal Tai, gan roi tenantiaethau mewn perygl.
Gall datrys hyn fod mor syml mewn gwirionedd â chael landlordiaid cymdeithasol, atebion tai ac adrannau budd-daliadau tai i gyfathrebu â’i gilydd.
Mae hyn yn gadael cyfran lai sy’n weddill o achosion o droi allan lle y ceir anghenion mwy cymhleth. Mae hyn yn aml yn cynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu ffyrdd o fyw caotig eraill sy’n golygu y gallai rhenti beidio â chael eu talu neu fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd. Nid yw llawer o swyddogion tai yn cael eu hyfforddi i adnabod neu gynorthwyo pobl ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion eraill. Mae swyddogion tai yn aml yn camddehongli hyn fel amharodrwydd i ymgysylltu.
Lle y mae anghenion cymorth ychwanegol yn arwain at ôl-ddyledion, mae bygythiadau troi allan yn gwneud pethau’n waeth—rwyf wedi ei weld fy hun yn fy rhanbarth. Mae tenantiaid yn aml yn ofni awdurdod ac yn teimlo na allant ennill, felly mae rhybuddion troi allan eu hunain yn rhwystro cynnydd, gan droi’r berthynas yn un elyniaethus a gwneud ateb yn llai tebygol yn y tymor hir.
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos y gall landlordiaid cymdeithasol fod yn anhyblyg ac yn llym wrth ofyn am ôl-ddyledion—dyfynnaf o’r adroddiad eto:
Roedd yn rhaid i un tenant dalu diffyg o £130 y mis, gan gynnwys £30 fel "taliad wrth gefn" i’r landlord. Dywedodd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig wrthi, os oedd hi’n fyr o geiniog eto hyd yn oed, byddent yn mynd â hi’n ôl i’r llys i’w throi allan.
Mae hyn yn dangos y gallai llawer o’r 500 o’r achosion o droi allan a oedd yn ymwneud â phlant y llynedd fod wedi cael eu hosgoi.
Felly, beth am y teuluoedd hynny y mae eu budd-daliadau’n cael eu talu’n brydlon ond sy’n dal i wrthod talu rhent ac yn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n dinistrio’r gymdogaeth y maent yn byw ynddi? Mae’n ddigon teg i’r 0.01 y cant o oedolion sy’n perthyn i’r categori hwnnw wynebu cael eu troi allan fel y dewis olaf. Byddai plentyn sy’n byw mewn amodau o’r fath yn cael ei ystyried yn agored iawn i niwed ac mae’n debyg y byddai wedi cael ei roi mewn gofal ymhell cyn i’r rhybudd troi allan ddechrau beth bynnag.
Felly, ar ôl gweithredu ein holl newidiadau, os oes cyfran fechan o’r 500 o blant hynny’n dal i wynebu’r broses droi allan ac nad oes unrhyw dystiolaeth o esgeulustod neu gam-drin a fyddai’n cyfiawnhau gorchymyn gofal, yna dylem gyfarwyddo awdurdodau lleol i ddefnyddio taliadau disgresiynol i gynnal y denantiaeth.
Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod y gost o droi allan ac achosion sy’n dod yn agos at droi allan yn £24.3 miliwn bob blwyddyn. Nid yw’r amcangyfrif hwn yn cynnwys canlyniadau iechyd hirdymor neu ganlyniadau addysgol i blant. O ystyried bod achosion o droi allan yn digwydd pan fydd ôl-ddyledion fel arfer rhwng £1,500 a £2,500, mae hyn yn golygu ein bod yn gwario llawer mwy yn gorfodi gorchmynion troi allan nag y byddai’r refeniw a gollwyd yn ei gyfiawnhau.
I’r nifer fach iawn o deuluoedd nad oes ateb wedi’i ganfod ar eu cyfer eto, mae’r achos ariannol ar ei ben ei hun yn cyfiawnhau peidio â bwrw ymlaen â’r troi allan. I’r rhai sy’n honni y dylem gadw’r gallu i droi allan, rwy’n meddwl bod yn rhaid iddynt ateb o ble y daw’r £24 miliwn hwn. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau ac at gloi’r ddadl hon. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r mater hwn, gan fy mod yn credu ei fod yn un hynod o bwysig. Rwyf am siarad am ddau newid yn y gyfraith sy’n debygol o wneud y broblem yn waeth, nid yn well: un yw’r credyd cynhwysol a’r llall yw’r rheolau mewnfudo newydd.
Rwy’n cydnabod yn llwyr, fel yn wir y mae Bethan Jenkins wedi ei wneud, fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cefnogi cymunedau a threchu tlodi plant yn flaenoriaeth, gan nodi bod ymyrraeth gynnar yn allweddol i iechyd a lles hirdymor, ac y byddai troi teuluoedd a phlant allan—gan wneud plant yn ddigartref yn fwriadol—yn tanseilio hyn oll. Mae cymdeithasau tai a chynghorau yn mynd i drafferth fawr i osgoi camau troi allan yn erbyn pobl sy’n methu â thalu eu rhent neu sy’n creu niwsans gwrthgymdeithasol i’w cymdogion. Ers 2002, mae achosion o droi allan gan gymdeithasau tai wedi gostwng 32 y cant, a 6 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, ac nid oes amheuaeth fod hynny wedi digwydd yn sgil y Ddeddf tai, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bawb wneud eu gorau.
Mae swyddogion cymorth tenantiaid yn gwneud eu gorau i helpu pobl sydd â bywydau caotig i fynd yn ôl ar y trywydd iawn, ond mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw bob amser yn gweithio a bod rhai pobl yn cael eu niweidio’n fawr gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn y pen draw, mae’n rhaid cael cosb os yw pobl (a) yn peidio â thalu eu rhent a (b) yn achosi hafoc llwyr i fywydau pobl eraill, gan fod pawb â hawl i lonydd i fwynhau eu cartref. Rwy’n ofni fy mod yn ymdrin yn rhy aml ag enghreifftiau o deuluoedd sy’n creu hafoc llwyr, ac yn achosi gofid emosiynol a meddyliol enfawr i bobl eraill. Felly mae’n rhaid cael cosb os nad yw pobl yn dilyn y rheolau.
Ond os ydych yn cyferbynnu’r sefyllfa honno, lle rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw tenantiaeth pobl yn chwalu—mae hawl gan landlordiaid preifat i droi teuluoedd allan o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 heb roi unrhyw reswm o gwbl. Dim ond rhoi 2 fis o rybudd iddynt sy’n rhaid iddynt ei wneud. Nid oes gwahaniaeth os ydynt yn denantiaid delfrydol, ni fydd ganddynt hawl i aros mewn man y mae eu plant yn ei alw’n gartref. Felly, i’r teuluoedd hyn, mae yna ymdrech diddiwedd o chwilio am le newydd i fyw, ac ymdrechu i geisio sicrhau bod eu plant yn parhau i fynychu ysgolion y maent wedi setlo ynddynt ac yn ofidus iawn ynglŷn â cholli eu ffrindiau. Efallai y byddant ar restr aros y cyngor, ynghyd â—yng Nghaerdydd—9,000 o deuluoedd eraill, ond maent yn ddi-os yn mynd i orfod aros yn hir iawn yn y rhan fwyaf o achosion. Mae hyn yn peri rhai problemau heriol iawn i ysgolion wrth iddynt weld plant newydd yn cyrraedd yn ystod y flwyddyn, a phlant yn gorfod newid ysgol dro ar ôl tro.
Mae hyn i gyd yn hynod o drasig. Ond mae’r credyd cynhwysol yn mynd i wneud y broblem yn llawer iawn gwaeth oherwydd—mae landlordiaid preswyl a darparwyr tai cymdeithasol yn bryderus iawn ynglŷn â hyn—gellir talu budd-dal tai yn uniongyrchol i’r landlord ar hyn o bryd er mwyn atal yr arian rhag cael ei wario ar rywbeth arall. Mae hynny’n arbennig o bwysig os oes rhywun yn y cartref yn gaeth i ddibyniaeth ddifrifol. Bydd credyd cynhwysol yn y dyfodol ond yn mynd i un oedolyn yn y cartref, ac fel arfer y dyn fydd hwnnw—yr un sy’n ennill fwyaf o gyflog yn draddodiadol—ac mae hwn yn fater sy’n peri pryder arbennig i deuluoedd sy’n byw mewn perthynas gamdriniol. Yn anochel, yn sgil hynny, yn fy marn i, bydd y niferoedd sy’n cael eu troi allan yn codi, beth bynnag fydd yr awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai neu’n wir, landlordiaid preifat yn ceisio ei wneud am y peth. Os nad yw pobl yn talu eu rhent, dyna fydd yn digwydd.
Y bygythiad mawr arall yw Deddf Mewnfudo 2016, nad yw’n weithredol eto yng Nghymru, ond pan gaiff ei gweithredu mae’n sicr o gynyddu amddifadedd. Yn wir, dyna y’i lluniwyd i’w wneud. Ar hyn o bryd, pan fydd cais am loches yn cael ei wrthod, daw cymorth lloches i ben oni bai bod gennych blant yn eich cartref, ac yna bydd gennych hawl i aros yn y tŷ sy’n cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref i ganiatáu i chi apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae’n bwysig cofio yma fod nifer sylweddol iawn o geiswyr lloches sydd wedi cael eu gwrthod yn cael y penderfyniad wedi’i wrthdroi drwy apelio pan fyddant wedi cael cynrychiolaeth gyfreithiol briodol i gyflwyno eu hachos. Ond bydd Deddf Mewnfudo 2016, o dan wiriadau ‘hawl i rentu’, yn ei gwneud yn drosedd i rentu i berson sydd wedi ei anghymhwyso o ganlyniad i’w statws mewnfudo. Beth felly sy’n mynd i ddigwydd i’r bobl hyn, yn enwedig y plant hyn? O bosibl, byddwn yn siarad am deuluoedd â phlant yn cael eu troi allan o’u llety dros dro cyn gynted ag y caiff eu cais cychwynnol am statws ffoadur ei wrthod. A ydym o ddifrif eisiau iddynt orfod cysgu yn y parc? Os a phan—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu adran 42, rwy’n cymryd mai lle’r awdurdodau lleol wedyn fydd rhoi llety i’r plant hynny o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant, oni bai, wrth gwrs, eu bod hwythau hefyd yn dod o dan waharddiadau adran 42 rhag yr hawl i rentu. Byddai’n ddefnyddiol cael canllawiau’r Llywodraeth ar y mater hwn, gan fod baich enfawr, o bosibl, ar y ffordd i awdurdodau lleol, un nad ydym wedi ei ystyried o ddifrif o’r blaen.
Nid oes dim amheuaeth bod cael eu troi allan o’u cartref a gorfod byw mewn llety dros dro, fel mae 792 o deuluoedd yn ei wneud ar hyn o bryd, yn brofiad trawmatig i blentyn. Mae effaith digartrefedd ar blant yn dechrau ar eu genedigaeth. Mae plant sy’n cael eu geni i famau sydd wedi bod mewn llety gwely a brecwast ar gyfer peth amser yn fwy tebygol o fod o bwysau geni isel. Maen nhw hefyd yn fwy tebyg o golli allan ar eu brechiadau. Mae un o bob dwy fam sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi yn profi iselder. Mi fydd y plant eu hunain yn dioddef—mae’r effeithiau yn niferus. O’u cymharu â phlant eraill, mae gan blant digartref bedair gwaith gymaint o heintiau anadlol a phedair gwaith y gyfradd o asthma. Mae ganddyn nhw bum gwaith gymaint o heintiau stumog a dolur rhydd, chwe gwaith yn fwy o broblemau lleferydd ac atal dweud, ac maen nhw’n mynd i’r ysbyty ar frys ddwywaith mor aml. Mae yna hefyd dystiolaeth helaeth o effaith tai gorlawn ar iechyd, ac mae gorlenwi, wrth gwrs, yn gyffredin mewn llety dros dro. Mae plant mewn tai gorlawn hyd at 10 gwaith yn fwy tebygol o gael llid yr ymennydd na phlant yn gyffredinol. Yn ogystal â bygwth bywyd, yn amlwg, mae effeithiau hirdymor y clefyd hwnnw yn gallu cynnwys colli clyw, colli golwg a phroblemau ymddygiad. Mae cysylltiad cryf rhwng lefel gorlenwi yn ystod plentyndod a haint pylori helicobacter, sy’n un o brif achosion canser y stumog a chyflyrau eraill sy’n effeithio ar y system dreulio mewn oedolion, yn cynnwys ‘gastritis’ cronig a chlefyd wlser peptig. Mae’r rhai sy’n byw mewn tai gorlawn iawn yn ystod plentyndod wedi cael eu canfod i fod yn ddwywaith mwy tebygol o gael yr haint pan fyddan nhw’n cyrraedd 65 i 75 oed.
Felly, galwch le gwely a brecwast neu hostel yn gartref dros dro os liciwch chi, ond nid oes dim byd dros dro am yr effaith. Ac yng nghyd-destun treth greulon y dreth ystafell wely, rwy’n gwahodd unrhyw Aelodau sy’n credu mai tan-ddeiliadaeth, neu ‘under-occupancy’, ydy’r broblem fwyaf sy’n wynebu tai cymdeithasol i feddwl yn ddwys am y ffeithiau rydw i newydd eu nodi. Mae effaith hirdymor ar iechyd meddwl hefyd. Mae plant digartref dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl na phlant eraill, hyd yn oed sbel ar ôl cael eu hailgartrefu—hyd yn oed flwyddyn, efallai, ar ôl cael eu hailgartrefu. Felly, o ystyried yr effeithiau iechyd yma, a ydy hi o ryw syndod bod cyrhaeddiad addysgol yn dioddef hefyd? Mae plant digartref mewn llety dros dro yn colli, ar gyfartaledd, 55 o ddyddiau ysgol, sy’n cyfateb i chwarter y flwyddyn ysgol, oherwydd y tarfu arnyn nhw sy’n digwydd wrth iddyn nhw symud i mewn i neu symud rhwng gwahanol lety dros dro. Ac mae hefyd y ffaith bod llety dros dro, yn amlach na pheidio, yn anaddas fel lle i blentyn ddysgu, pa un ai o ran gwneud gwaith ysgol ffurfiol neu hobi mwy addysgol, os liciwch chi, fel dysgu offeryn cerdd.
Gadewch imi droi rŵan at y costau ariannol. Mae’r costau i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn niferus. Mi allwn ni eu rhannu nhw, o bosib, i sawl categori—costau uniongyrchol y troi allan, yr ‘eviction’ ei hun, i’r landlord; costau uniongyrchol ehangach o ailgartrefu'r person neu’r teulu sydd wedi cael eu troi allan o’u cartref; ond wedyn mae gennych chi hefyd gostau ehangach i wasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod y gost yma rhyw £23.4 miliwn y flwyddyn, ac mae hwn, mae’n rhaid dweud, yn amcangyfrif digon ceidwadol sydd ddim yn cynnwys iechyd hirdymor a chostau addysgol ar blentyn o fyw trwy brofiad o’r math yma. Mae unrhyw un sy’n cefnogi’r arfer o droi pobl allan o’u cartrefi yn gorfod wynebu’r cwestiwn o sut rydych chi am dalu am hyn, achos y gwir ydy, mae unrhyw ddadansoddiad o’r economeg yn dod i’r casgliad ei bod hi wastad gryn dipyn yn rhatach i atal digartrefedd ac atal troi allan—hyd yn oed yn fwy, felly, pan rydym yn sôn am deuluoedd efo plant lle bydd cost hirdymor i gymdeithas o fynd i lawr y trywydd hwnnw.
I gloi, felly, rydw i’n synnu nad ydym ni wedi cael adroddiad difrifol, beirniadol gan y swyddfa archwilio ar yr arfer o droi pobl allan. Rydym ni’n gwario £468,000 yr wythnos ar droi pobl o’u cartrefi. Beth am inni wario’r arian yna ar addysg?
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn—pwysig iawn. Dyma’r tymor pan fyddwn yn draddodiadol yn edrych ar anghenion y mwyaf agored i niwed o ran tai ond rwy’n credu ei bod yn wers y dylid ei hystyried drwy gydol y flwyddyn. Fel y nodwyd eisoes, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o achosion o droi allan yn cael eu cyflawni gan landlordiaid cymdeithasol ac mae Shelter yn amcangyfrif bod dros 900 o achosion o droi allan o dai cymdeithasol yn digwydd bob blwyddyn yn awr ac maent yn cynnwys mwy na 500 o blant. Felly, nid yw’n syndod ei fod yn digwydd yn y sector hwn oherwydd mae’n amlwg ei fod yn cynnwys rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae llawer o’r rheini ar incwm isel iawn. Yn anad dim, mae byw ar incwm isel iawn yn her gyllidebol enfawr, yn enwedig os ydych yn gyfrifol am blant hefyd. Felly, rwy’n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar hyn a sut y caiff tenantiaid eu cefnogi.
Rhaid i mi wrthbrofi peth o’r wybodaeth sydd wedi cael ei rhoi am y credyd cynhwysol. Nid yw’n ‘offeryn di-fin’ fel y mae Jenny Rathbone i’w gweld yn ei gredu. Mae yno i bontio’r rhaniad mawr rhwng byd gwaith a budd-dal ac i gymell pobl i weithio ac mae yna fecanweithiau sy’n galluogi’r rhai mwyaf bregus i gael eu rhent wedi’i dalu’n uniongyrchol. Nid yw’n ymwneud â chreu system sy’n gwneud hynny’n llai tebygol a chreu beichiau ychwanegol i’r rhai sy’n byw ar incwm isel. Felly, rwy’n meddwl bod angen i chi fod yn deg yn eich asesiad o’r diwygiadau hyn hyd yn oed os nad ydych yn cytuno â hwy mewn egwyddor.
Rydym wedi clywed mai ôl-ddyledion—rwy’n credu y byddai hyn yn dipyn o syndod i’r cyhoedd—sydd i gyfrif am y mwyafrif llethol o achosion o droi allan ac nid ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n arbennig o ofidus yw bod dros dri chwarter y tenantiaid sy’n cael eu troi allan yn dal i fod yn ddigartref chwe mis yn ddiweddarach.
Mae un neu ddau o’r siaradwyr eisoes wedi sôn am y costau, sy’n sylweddol, ac rwy’n meddwl y gallai’r costau hynny gael eu hailgylchu’n wariant gwell ar wasanaethau atal troi allan yn arbennig. Fel y siaradwyr eraill, rwy’n canmol addroddiad Shelter ar y materion hyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref, rwy’n meddwl. Er bod yna ddiwylliant cyffredinol, fel y mae’r adroddiad yn nodi, sy’n ystyried pob achos o droi allan yn fethiant, mae polisïau ymhlith landlordiaid cymdeithasol yn amrywio ac yn aml cânt eu cymhwyso’n anghyson a dylid bod system o brotocolau cyn-gweithredu sy’n sylfaen o gymorth effeithiol ar gyfer tenantiaid mewn gwirionedd. A gaf fi hefyd gymeradwyo argymhellion penodol Shelter i’r Gweinidog gan fy mod yn credu ei fod yn adroddiad ymarferol iawn ac mae wedi ei ymchwilio’n dda dros ben ond maent yn dweud na ddylid rhoi unrhyw achos llys ar y gweill cyn gweithredu ymateb ataliol llawn a chredaf y dylai hwnnw fod yn fan cychwyn pendant iawn?
Mae ymgysylltu â thenantiaid yn allweddol ac mae’n aml yn anodd iawn oherwydd pan fyddwch yn mynd i ddyled a’ch bod mewn trafferthion, nid ydych eisiau cymryd rhan—weithiau, ni fyddwch yn agor eich post. Ceir rhai profiadau anodd iawn pan fydd pobl yn mynd i’r twll hwnnw heb wybod sut i ddod allan ohono. Felly, mae ymgysylltu’n allweddol ac mae’n amlwg na fydd sbarduno ymgysylltiad gyda’r bygythiad o droi allan yn debygol o arwain at ymgysylltiad cadarnhaol iawn. Ond mae angen trylwyredd yn y broses hefyd, fel y dywedodd Jenny Rathbone, am ei fod yn fater difrifol os nad ydych yn talu eich rhent.
Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng ymgysylltiad ac iechyd meddwl tenantiaid yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono, ac roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn argymhelliad Shelter y dylai pob tîm tai rheng flaen gael cyswllt iechyd meddwl enwebedig. Rwy’n credu y byddai hynny’n ddefnyddiol tu hwnt. Rwyf hefyd yn cytuno gyda’r argymhelliad terfynol y mae Shelter yn ei wneud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am gydlynu neu chwarae rôl gydgysylltiol yn y maes hwn er mwyn sicrhau bod landlordiaid yn darparu gwasanaethau ataliol sy’n seiliedig ar gymorth. Fan lleiaf, gellid atal llawer o’r achosion hyn o droi allan, ac yn sicr mae unrhyw droi allan sy’n cynnwys plentyn yn drasiedi fawr. Diolch.
Mae nifer wedi sôn am gost troi pobl a theuluoedd allan o’u cartrefi. Jest i grynhoi, mae symud teuluoedd allan o’u cartrefi yn beth drud. Mae o’n costio dros £24 miliwn y flwyddyn mewn costau uniongyrchol, heb sôn am y costau anuniongyrchol ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaeth addysg. Mae bron i £0.5 miliwn yr wythnos yn cael ei wario ar symud pobl o’u cartrefi, ac mae Plaid Cymru yn credu bod hyn yn wastraff arian ac y byddai yn llawer iawn gwell i’w ddefnyddio fo ar addysg, ac y byddai hynny yn well ac yn fwy buddiol i bawb—y plant, y teuluoedd a’r gymuned yn gyffredinol.
Mae 80 y cant o’r achosion yn codi yn sgil dyledion rhent, a’r cefndir yn aml ydy tlodi, cyflogau isel a chyflogaeth ansicr sy’n arwain at incwm sy’n amrywio o wythnos i wythnos, ac ar ben hynny, budd-daliadau sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu hoedi wrth i’r broses geisiadau fynd rhagddi, a diffyg trefn cyffredinol y system wladwriaeth les. Ond mae yna ddiffyg cysondeb o ardal i ardal. Nid oes raid i hyn ddigwydd. Rwy’n anghytuno efo Jenny Rathbone yn fan hyn; nid oes raid iddo fo ddigwydd, yn enwedig i’r lefel mae o’n digwydd ar hyn o bryd. Rwyf yn falch o weld bod yna amrywiaeth ar draws Cymru; nid yw pob ardal gynddrwg, ac rwy’n falch o ddweud bod Gwynedd a Cheredigion efo cyfraddau is na Chaerdydd a Wrecsam, er enghraifft, o ran troi pobl allan o’u cartrefi.
Yng Ngwynedd, mae’r pwyslais ar waith ataliol. Fe sefydlwyd partneriaeth wrthdlodi, sef corff ymbarél yn dod â’r pedair cymdeithas dai sy’n gweithredu yn yr ardal, y cyngor sir, Shelter a Chyngor ar Bopeth at ei gilydd—partneriaeth sydd â’i ffocws ar wrthdlodi ac a gafodd ei sefydlu i weithio yn erbyn agenda dinistriol Llywodraeth San Steffan o gwmpas diwygio lles. Fe sefydlwyd cronfa, sef pot o arian lle mae modd rhoi taliad tai dewisol i bobl sydd yn debygol o fynd i mewn i sefyllfa anodd iawn efo talu rhent ac yn y blaen, ac felly’n wynebu efallai cael eu troi allan o’u cartrefi. Mae’r pot yma o arian wedi cael ei sefydlu ar ôl lobïo penodol gan y cyngor am arian ychwanegol ar gyfer ardaloedd gwledig, ac arian o San Steffan ydy hwn. Mae yna waith da yn digwydd efo’r garfan o bobl sydd yn wynebu caledi, ac mae yna help ariannol i’w gael i helpu efo taliadau budd-dal tai allan o’r gronfa yma. Ond mae yna hefyd help ymarferol ar gael i bobl sydd yn wynebu problemau dyled. Mae yna gyngor ariannol i’w gael, ac mae yna roi pobl ar ben ffordd i osgoi'r problemau. Yn y pen draw, wrth gwrs, mae yna wedyn lai o deuluoedd yn cael eu troi allan o’u cartrefi, a ‘last resort’ go iawn ydy o yn yr ardaloedd blaengar yma.
Mae yna arferion da gan gymdeithasau tai mewn llefydd eraill ar draws Cymru, a beth sy’n bwysig ydy dysgu o’r arferion da hynny. Mae hi yn bosib osgoi troi pobl allan o’u cartrefi. Mae Plaid Cymru yn credu bod gwaith ataliol yn llawer iawn gwell, yn cadw teuluoedd rhag cael eu troi allan o’u cartrefi, ac wedyn yn ei dro yn osgoi'r canlyniadau eraill sy’n gysylltiedig â cholli cartref i blentyn, er enghraifft osgoi mynd i ofal y gwasanaethau cymdeithasol, osgoi camddefnydd cyffuriau, osgoi problemau iechyd meddwl, ac osgoi mynd ar ei hôl hi yn yr ysgol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi atal problemau rhag digwydd neu mynd yn waeth fel rhywbeth canolog i waith y Cynulliad yma, ac mae’n hen bryd rŵan i hwn dreiddio lawr i bethau sydd yn digwydd ar lawr gwlad, a gweithredu arno fo. Rwy’n credu bod y maes yma yn rhoi cyfle euraid i hynny ddigwydd—bod y pwyslais yn symud ar y gwaith ataliol ac ar osgoi'r problemau dybryd sy’n wynebu unrhyw un sy’n cael eu lluchio allan o’u cartref.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig, sy’n adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r cynghorau, a’n hymrwymiad ar y cyd i fynd â hyn ymhellach. Mae atal digartrefedd a mynd i’r afael â’i achosion sylfaenol yn parhau’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle y mae plant yn y cartref. Gall digartrefedd neu’r bygythiad ohono effeithio’n ddinistriol ar oedolion, ac effeithio’n ddifrifol ar blant. Gall greu pwysau sy’n niweidio iechyd a lles pobl, sy’n arwain at blant yn dioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod—gall effeithio arnynt am weddill eu bywydau. Mae hwn yn fater y dylai pawb bryderu yn ei gylch ac rydym yn gweld yma ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael ag ef.
Bydd llawer o bobl wedi gweld a chael eu heffeithio gan gynhyrchiad diweddar Channel 5, sef ‘Slum Britain: 50 Years On’. Er fy mod yn ddiolchgar fod pethau’n gwella yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn fod llawer mwy i’w wneud. Mae achosion o droi allan o dai yn ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol gan arwain yn uniongyrchol at ddigartrefedd, ac roedd yna dueddiadau cadarnhaol cyffredinol yn 2015, gyda llai o adfeddiannu, hawliadau a gorchmynion, a llai o adfeddiannu morgeisi a gwarantau troi allan. Yn anffodus, roedd cynnydd, fodd bynnag, o 8 y cant yn nifer y gorchmynion adfeddiannu gan landlordiaid preifat, ac mae angen i ni roi sylw i hynny.
Mae ein gwaith ar ddiwygio’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd yng Nghymru—Deddf 2014—wedi creu fframwaith newydd sy’n sicrhau y bydd pob aelwyd yn cael eu helpu o ran eu hatal rhag bod yn ddigartref lle bynnag y bo modd, ac o ran cynorthwyo’r rhai sydd yn colli eu cartrefi. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i helpu pobl sy’n cael eu bygwth â digartrefedd o ganlyniad i droi allan neu am unrhyw reswm arall, ac mae disgwyl iddynt ymyrryd mor gynnar â phosibl. Mae’n hanfodol fod gwaith yn parhau gydag asiantaethau cymorth a landlordiaid i nodi pobl sydd mewn perygl ar draws pob sector, yn enwedig os oes ganddynt blant.
Mae angen deall yn well sut a pham y mae pobl yn mynd yn ddigartref fel y gellir mynd i’r afael â phroblemau posibl, Lywydd, a darparu cymorth ar y camau cynharaf posibl. Rydym angen i asiantaethau ar draws y sector cyhoeddus weithio’n well gyda’i gilydd, atebion tai effeithiol, a’r gefnogaeth angenrheidiol i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl a gallu cadw eu llety. Mae’r cymorth sydd ei angen yn cynnwys llawer o feysydd yn fy mhortffolio, gan gynnwys cyngor ariannol, diogelwch cymunedol a’r sector rhentu preifat. Pan fo teuluoedd â phlant dan fygythiad o gael eu troi allan, mae’n rhaid gweithio’n agos gyda gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diogelu.
Mae’n rhaid i ni hybu ymwybyddiaeth o wasanaethau a all helpu pobl os ydynt yn mynd i drafferthion. Un o achosion mwyaf cyffredin digartrefedd yw ôl-ddyledion rhent, sydd wedi cael ei grybwyll gan sawl un heddiw. Dyma pam ein bod yn datblygu strategaeth gynghori genedlaethol i roi pobl mewn cysylltiad â chyngor annibynnol pan fo’i angen. Mae’r cyllid a ddarparwn i Shelter Cymru ac i Gyngor ar Bopeth Cymru yn sicrhau y gall pobl gael cyngor arbenigol i’w helpu i gadw eu cartrefi.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Shelter Cymru adroddiad ar gael a chadw tenantiaethau cymdeithasol. Nodai rai diffygion yn y modd y mae sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn osgoi achosion o droi allan. Ni ddylai landlordiaid cymdeithasol ddefnyddio troi allan heblaw fel dewis olaf un, a phan fetho pob dewis arall posibl. Fel y dywedais, canlyniad ôl-ddyledion yw troi allan gan amlaf a dylid mynd ati’n weithredol i ddefnyddio gwasanaethau cymorth a chyngor dwys i achub y denantiaeth. Rydym yn gwneud gwaith dilynol ar yr adroddiad hwn a’i argymhellion gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gyfyngu ar achosion o droi allan ac atal digartrefedd rhag digwydd.
Lywydd, rydym hefyd yn mynd i orfod gweithio hyd yn oed yn galetach i liniaru problemau yn sgil diwygio lles. Mae’r newidiadau diwygio lles a grybwyllodd Jenny, ac a gyflwynwyd hyd yn hyn, eisoes wedi creu pwysau newydd a all arwain at ddigartrefedd. Rwy’n pryderu y bydd y pwysau hwn yn cynyddu ymhellach gyda chyflwyno’r credyd cynhwysol yn raddol a’r cyfyngiadau ychwanegol a osodir ar hawliau budd-dal rhai rhwng 18 a 35 oed. Bydd diwygiadau lles pellach gan Lywodraeth y DU yn cynyddu’r perygl o deuluoedd yn colli eu cartrefi. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar deuluoedd sy’n byw ar incwm isel. Mae tystiolaeth annibynnol yn awgrymu y bydd yn gosod hyd yn oed mwy o blant mewn perygl o dlodi a digartrefedd.
Hefyd, rhaid i atal digartrefedd gael ei ymgorffori hyd yn oed yn well mewn gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai. Bydd y rhaglen Cefnogi Pobl hefyd yn parhau i fod yn ganolog i’n hymrwymiad i helpu grwpiau agored i niwed. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn gwneud cyfraniad mwy byth tuag at atal digartrefedd, gan gynnwys disgwyliad y bydd unrhyw un sydd mewn perygl o gael eu troi allan yn cael cynnig cymorth i gadw eu tenantiaeth.
Rydym i gyd yn cydnabod na ellir osgoi troi allan bob amser fodd bynnag, yn enwedig yn y sector rhentu preifat, ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael cymorth i ddod o hyd i lety arall cyn gynted ag y bo modd. Nid yw hyn bob amser yn hawdd a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o ddarparu 20,000 pellach o gartrefi fforddiadwy yn ystod y Llywodraeth hon.
Lywydd, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, o gwmpas y Nadolig, dylem fod yn ymwybodol iawn o bobl yn colli eu cartrefi—y posibilrwydd y gallent golli eu cartrefi—ac yn enwedig plant. Rwy’n siŵr fod pob Aelod o’r Siambr hon yn ymroddedig iawn i fynd i’r afael â’r mater hwn. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y materion hynny sy’n effeithio ar les teuluoedd a phlant, gan gynnwys cydnerthedd ariannol, drwy gyflogaeth, hybu iechyd meddwl a fframwaith cyfreithiol a pholisi sy’n sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i osgoi’r achosion hyn o droi allan. Byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Bethan Jenkins i ymateb i’r ddadl. Bethan.
Diolch a diolch i chi, bawb, am gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel y mae llawer ohonoch wedi dweud, rwy’n meddwl, nid dadl i ni ei chael ar yr adegau hynny’n unig pan fyddwn efallai’n teimlo bod hyn yn fwy difrifol yw hon; yr adegau y mae angen i ni drafod hyn yw drwy gydol y flwyddyn a gwneud yn siŵr fod y problemau’n cael eu dileu.
Clywsom gan Jenny Rathbone yn gyntaf oll ac rwy’n cytuno â chi mewn perthynas â chredyd cynhwysol a’r pwysau a ddaw gan y Ddeddf mewnfudo. Pan allai statws rhywun gael ei wrthod o bosibl, buaswn yn pryderu sut y byddent wedyn yn gallu ymdopi mewn amgylchiadau sydd eisoes yn anodd, mewn gwirionedd—nid oes ganddynt gyflog, nid ydynt yn gallu troi at y system fudd-daliadau fel y gallwn ni, felly buaswn hyd yn oed yn fwy pryderus yn yr amgylchiadau eithafol hynny. Ond o ran eich sylwadau ar ystadegau troi allan, buaswn yn dweud bod yna gynnydd sylweddol ers 2011, ac nid yw hynny’n cyfateb â’r hyn a ddywedoch yn gynharach. Ac yn aml, ni chânt eu defnyddio fel y dewis olaf, fel arall ni fyddai’r fath anghysondeb rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Pe bai’n cael ei ddefnyddio fel y dewis olaf, rwy’n meddwl y byddem yn gweld yr ystadegau’n llawer is nag y maent ar hyn o bryd.
Thank you very much to Rhun ap Iorwerth for your contribution. I think it is important and quite painful to hear your comments in terms of the impact on young people’s health in so many different ways; not just in terms of mental health, but also in terms of other aspects that I personally wasn’t aware of. I thought that your comments struck a chord in that some people do have to stay in hotels or B&Bs for brief periods of time, but the impact of that is not temporary; it has an impact on a young person who has experienced that throughout their life. I think, of course, that we have to use that funding not only for education, but for the public sector more generally. If we can fund things that will assist our young children, then that’s how we should be using those funds.
Gwnaeth David Melding sylwadau gwerthfawr iawn hefyd. Yn amlwg rwy’n meddwl, fel fi, rydych wedi darllen adroddiad Shelter, ond mae’n llywio llawer o’r hyn sydd gennym i’w ddweud am hyn. Yn amlwg, pan fyddwn yn sôn am heriau cyllidebol i bobl ar incwm isel, byddaf bob amser yn cyfeirio’n ôl at bwysigrwydd addysg a chynhwysiant ariannol, a gobeithio y bydd y strategaeth cynhwysiant ariannol newydd yn dweud rhywbeth am hynny. Nid yw’n ymwneud yn unig â’r ffaith fod pobl â llai o arian, o bosibl, mae’n ymwneud â sut y maent yn rheoli’r hyn sydd ganddynt. Nid wyf yn dweud mai pobl ar incwm isel yn unig sy’n wynebu’r her honno, ond os oes gennych lai o arian, gall fod, felly, eu bod angen mwy o gymorth ar sut i wneud hynny er mwyn iddynt beidio ag wynebu cael eu troi allan yn yr amgylchiadau eithafol iawn hynny.
Fel y dywedwch, mae gwir angen protocolau cyn-gweithredu. Rydym i gyd yn Aelodau’r Cynulliad yma. Mewn perthynas ag ymgysylltu â thenantiaid, rwy’n meddwl eich bod yn llygad eich lle. Rwyf wedi gweld llythyrau gan etholwyr lle y maent wedi cael y rhybuddion hynny ar y cam cyntaf, ac yna nid ydynt eisiau ymgysylltu o gwbl mewn gwirionedd ac maent yn troi cefn yn gyfan gwbl oddi wrth yr hyn y maent yn ei weld, felly, fel rhyw fath o blismon yn eu bywydau. Felly, os gallwn newid hynny, yna rwy’n meddwl ein bod i gyd yn ennill fel cymdeithas yn hynny o beth.
Thank you, Sian Gwenllian, for your comments as well. It is very expensive to do this, so I think that’s the point made by Plaid Cymru in terms of putting this forward, that the cost of evicting people from their homes is the most problematic thing for families and it then takes about six months for those people to find another home. Of course, we want to praise what Gwynedd Council is doing in terms of its work, working preventatively with people like Shelter and Citizens Advice, and I think every local authority should look at how it could do more creative things, or more unique things in this area, to ensure that people can have financial support when they’re in these very difficult situations in their lives.
Yn olaf, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud, ac na ddylem fod yn hunanfodlon yn hyn o beth. Fe’ch clywais, gryn dipyn, yn disgrifio’r broblem; rwy’n credu bod angen i ni edrych ar fwy o atebion yn awr yn hyn o beth mewn gwirionedd. Os oes llawer o ardaloedd sy’n gweithredu’n wahanol mewn perthynas â throi teuluoedd â phlant allan, yna mae gwir angen i ni roi’r atebion hynny ar waith. Rydych yn dweud bod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau a bod disgwyl iddynt ymyrryd cyn gynted ag y bo modd, ond yn amlwg, mewn rhai achosion nid dyna sy’n digwydd. Mae angen i ni ddeall pam nad yw hynny’n digwydd a sut y gallwn newid eu canfyddiadau o ran sut y maent yn ymgysylltu â phobl yn eu hardal.
Rwy’n croesawu’r strategaeth gyngor genedlaethol a’r cyngor arbenigol y mae Shelter ac eraill yn ei roi. Rwy’n credu eu bod yn chwarae rhan aruthrol o bwysig yn darparu’r gwasanaethau hynny lle nad yw gwasanaethau eraill yn gallu gwneud y gwaith hwnnw.
Dylai credyd cynhwysol a diwygio lles fod yn destun pryder i ni gyd, ac rwy’n meddwl ei fod yn fom sy’n tician. Efallai y byddwn yma y flwyddyn nesaf yn trafod sefyllfaoedd hyd yn oed yn fwy anodd nag eleni o ganlyniad i’r newidiadau hynny. Rwy’n eich annog fel Ysgrifennydd y Cabinet, felly, i wneud yn siŵr fod gennych linellau cyfathrebu clir gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod yn gallu amddiffyn pobl Cymru ac nad yw plant yn cael eu troi allan ac yn wynebu’r teimlad eu bod yn ddinasyddion eilradd yng Nghymru pan na ddylent gael eu trin felly. Mae angen iddynt gael yr un parch a’r un cyfleoedd mewn bywyd ag unrhyw un arall. Os yw eu cyrhaeddiad addysgol, os yw eu hiechyd meddwl, os ydynt yn fwy tebygol o gael canser na phlant ifanc eraill, rwy’n meddwl y dylai hynny fod yn rhywbeth y dylem i gyd falio amdano a bod yn bryderus yn ei gylch yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a galwaf ar Darren Millar i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6188 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.
2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gynnig y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am wneud hynny’n ffurfiol ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.
Yr wythnos diwethaf, cafodd Cymru newyddion am ei chanlyniadau yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu PISA, fel y cyfeirir ato’n fwy cyffredin, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cyn cyhoeddi’r canlyniadau hynny, gweithiodd Llywodraeth Cymru yn galed iawn i leihau disgwyliadau o unrhyw gynnydd neu welliant ac wrth gwrs, ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, rydym i gyd wedi gweld pam. Roedd y canlyniadau hynny, unwaith eto, yn dangos Cymru’n dihoeni yn hanner gwaelod y tabl cynghrair addysg byd-eang ac roeddent yn ailgadarnhau statws gywilyddus Cymru fel y system ysgolion sy’n perfformio waethaf yn y DU—teitl rydym wedi’i ddal byth ers ein set gyntaf o ganlyniadau PISA yn ôl yn 2006.
Ond yr hyn sy’n gwneud y canlyniadau hyn yn fwy diflas na rhai’r blynyddoedd blaenorol mewn gwirionedd yw bod Cymru wedi perfformio’n waeth ar gyfer PISA 2015 nag a wnaethom yn ôl yn 2006 ar bob un mesur—yn waeth mewn llythrennedd, yn waeth mewn mathemateg ac yn waeth mewn gwyddoniaeth. Mae’r canlyniadau’n nodi degawd o dangyflawni a methiant i wneud unrhyw gynnydd, ond nid dyna’r cyfan o bell ffordd. Roedd y canlyniadau hefyd yn dangos i ni fod yna ostyngiad parhaus wedi bod mewn sgiliau gwyddoniaeth ers 2006, yn enwedig ar gyfer y disgyblion sy’n cyflawni ar y lefel uchaf. Barnwyd bod traean o ddisgyblion Cymru yn dangyflawnwyr mewn un neu fwy o bynciau—yr uchaf o blith holl wledydd y DU. Roedd sgoriau darllen Cymru yn gyfartal â rhai Hwngari a Lithwania, a gwelwyd bod disgyblion yn Lloegr dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn gyflawnwyr uchel mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg nag yma yng Nghymru.
Er bod rhywfaint o gysur yn y ffaith fod y bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng disgyblion o’r cefndiroedd cyfoethocaf a’r cefndiroedd tlotaf yma yng Nghymru, roedd PISA mewn gwirionedd yn awgrymu bod hyn yn deillio’n bennaf o’r ffaith syml nad yw’r disgyblion mwy breintiedig hynny’n perfformio cystal ag y dylent ei wneud. Mae disgyblion Cymru yn gwneud mwy o ddysgu y tu allan i’r diwrnod ysgol na’u cymheiriaid yn Lloegr ac eto maent yn dal i berfformio’n waeth.
Llu o fethiannau—methiant gan Lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru i wella cyflawniad, methiant gan Weinidogion addysg i wrthdroi pethau, a methiant gan ein Prif Weinidog i ddarparu’r system addysg o’r radd flaenaf yn fyd-eang a addawodd pan ddaeth i’w swydd bron i ddegawd yn ôl. Dyma’r math o system y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu wrth gwrs.
Ond yn anffodus, mae’n amlwg iawn o’r canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, nad yw’r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru a fu gennym yma yng Nghymru wedi bod yn gwneud pethau’n iawn. Am y rheswm hwn byddwn yn pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma, sy’n credu bod y methiannau’n ganlyniad uniongyrchol 16 mlynedd o bolisïau addysg Llafur annigonol. Er, rhaid i mi ddweud, rwy’n credu bod Plaid Cymru yn rhagrithiol braidd yn ceisio rhoi’r bai i gyd ar y Blaid Lafur, pan oeddent mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur am bedair o’r blynyddoedd hynny mewn gwirionedd yn ystod y degawd diwethaf. Nawr maent yn crio dagrau ffug, ond byddai wedi bod yn well, a dweud y gwir, pe bai Plaid Cymru wedi gwneud ychydig mwy o wahaniaeth o gwmpas bwrdd y Cabinet pan oedd ganddynt Ddirprwy Brif Weinidog a llawer o Weinidogion Cabinet eraill. Felly, pam na chymerwch beth o’r bai heddiw pan fyddwch yn sefyll i wneud eich araith? Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Mae angen i chi gydnabod eich rôl yn y methiannau hynny ac ymddiheuro amdani.
Mae canlyniadau PISA gwael blaenorol, wrth gwrs, wedi arwain at lawer o siarad caled. Rydym wedi clywed y cyfan yn y Siambr hon: rydym wedi clywed addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog ac Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol, ac eto, er gwaethaf hyn, nid yw’r canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt yn gwneud dim hyd yn hyn, rwy’n ofni, i roi unrhyw hyder i fy mhlaid y byddwn yn gweld gwelliannau’n fuan. Yn lle hynny, dywedwyd wrthym fod angen i Gymru gadw at y llwybr, a bod angen i ni roi ychydig mwy o amser i ddiwygiadau ymwreiddio. Ond y broblem yw bod Llywodraeth Cymru wedi cael degawd ers canlyniadau tebyg yn ôl yn 2006 ac eto rydym wedi gweld methiant ar ôl methiant i gyflawni’r newid mawr yn y canlyniadau rydym i gyd am ei weld.
Nawr yr hyn na all llawer o sylwebyddion ei ddeall o gwbl yw sut y mae gwledydd fel Gwlad Pwyl wedi gallu troi eu systemau addysg o gwmpas mewn llai na degawd, ond ei bod yn ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud hynny. Mae Gwlad Pwyl, wrth gwrs, yn wlad a gafodd ganlyniadau PISA tebyg yn ôl yn 2000 i’n rhai ni yn 2006. Eto i gyd, llwyddodd i wella ei chanlyniadau erbyn 2009 i ddod yn un o’r gwledydd ar y brig. Wrth gwrs, nid yn unig eu bod wedi llwyddo i gyrraedd yno yn 2009, ond maent wedi cynnal y perfformiad hwnnw byth ers hynny. Maent wedi llwyddo i wneud hynny mewn gwlad sy’n fwy—llawer mwy—na Chymru a lle y gellid dadlau bod gwneud newidiadau yn llawer anos ac wrth gwrs, mae ganddynt genedl ôl-ddiwydiannol debyg i ymdopi â hi.
Ond wrth gwrs, tra oedd Gwlad Pwyl yn gwneud cynnydd cyflym yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, roedd Cymru’n chwilio mewn mannau eraill am ysbrydoliaeth o dan y Gweinidog addysg blaenorol, Jane Davidson—wrth gwrs, roedd hi’n edrych tuag at Ciwba. Ni allech greu’r fath stori, allech chi? Ond dyna ble roedd hi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer dyfodol y system addysg yng Nghymru. Nawr, yn ffodus, rydym wedi symud ymlaen ers G.I. Jane ac yn lle hynny, rydym wedi cael Gweinidogion eraill.
Cafodd y rownd bresennol o ddiwygiadau i’n cwricwlwm eu hysbrydoli i raddau helaeth gan genedl sydd ychydig yn agosach i gartref wrth gwrs—yr Alban. Mae chwe blynedd bellach ers i’r Alban gyflwyno ei chwricwlwm ysgol newydd, ac mae Cymru bellach yn ceisio efelychu llawer ohono. Ond gadewch i ni ystyried canlyniadau eu diwygiadau am eiliad. Yn y canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf, cofnododd yr Alban ei chanlyniadau gwaethaf erioed—y canlyniadau gwaethaf mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae ei safle fel cenedl wedi bod yn cwympo fel carreg—o safle 11 ar restr PISA ar gyfer darllen yn 2006 i safle 23 yr wythnos diwethaf, o safle 11 i safle 24 mewn mathemateg, ac o safle 10 i safle 19 mewn gwyddoniaeth. Mae cyfran plant yr Alban yr ystyrir eu bod yn perfformio’n is na’r safon mewn gwyddoniaeth a darllen wedi saethu i fyny ers y profion PISA diwethaf yn 2012, gyda’r sgoriau ar gyfer bechgyn a merched yn cwympo’n sylweddol, ac eithrio, ymhlith merched, ar gyfer mathemateg. Felly, nid yw’n syndod fod Ysgrifennydd Addysg yr Alban, John Swinney, wedi awgrymu yno fod angen diwygio’r system yn radical—ei eiriau ef, nid fy rhai i.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill yn ddiau yn ceisio awgrymu bod diwygiadau Cymru’n wahanol iawn i rai’r Alban. Rwy’n derbyn bod yna rai gwahaniaethau. Ond ni waeth pwy rydym yn ceisio ei dwyllo, ni waeth pwy rydym yn ceisio tawelu eu meddwl, rydym yn gwybod bod ein diwygiadau’n debyg ac mai’r un un yw awdur y diwygiadau hynny.
Nid wyf yn dadlau bod angen i ni roi’r gorau i ailffurfio ein cwricwlwm yma yng Nghymru neu na ddylem barhau gyda rhai o’r mesurau a’r camau gweithredu eraill a gymerwyd yn y gorffennol mewn perthynas â’r fframwaith llythrennedd a rhifedd. Nid oes angen i ni roi’r gorau i’r rheini. Ond yr hyn sy’n amlwg o’r Alban yw nad yw’r pethau hyn ar eu pen eu hunain yn mynd i gyflawni’r math o newid yn y safleoedd PISA sydd angen eu cael yma yng Nghymru. Ni allwn lwyr anwybyddu’r ffeithiau hyn a pharhau fel arfer. Yn ein barn ni, mae angen cyfnod o fyfyrio a gofyn yn onest ai diwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yw’r cyfrwng gorau i symud Cymru ymlaen mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried profiad yr Alban. Rydym yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn bryd gwthio’r botwm saib ar y diwygiadau i’r cwricwlwm a chymryd amser i ystyried ble rydym.
Rwy’n cydnabod bod yna lawer iawn o ewyllys da a chefnogaeth i ddiwygio’r cwricwlwm a’r math o ddull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru, ond rydym i gyd—pob un ohonom yn y Siambr hon a phob un ohonom sydd â rhan yn ein haddysg yma yng Nghymru—angen bod yn hyderus fod y diwygiadau rydym yn eu ceisio, ac rydym yn anelu atynt, yn mynd i wneud y math o welliannau y mae ein hysgolion a’n system addysg angen eu gweld. Rwy’n ofni bod y dystiolaeth o’r Alban yn awgrymu nad yw diwygio ar ei ben ei hun, hyd yn oed ar y cyd â rhai o’r camau gweithredu eraill sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i fod yn ddigon.
Nawr, rwyf wedi gweld gwelliant y Llywodraeth heddiw. Mae’n gofyn i ni nodi, a dyfynnaf,
‘sylwadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu’r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi’u rhoi ar waith bellach sy’n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.’
Ond rwy’n gofyn y cwestiwn hwn: sut ar y ddaear y gall Aelodau’r Cynulliad nodi sylwadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd pan nad ydynt wedi cael eu rhannu gyda ni? Rydym eto i weld adroddiadau ysgrifenedig. Rydym eto i weld unrhyw gasgliadau. Rydym eto i weld unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion sydd wedi dod i’r amlwg o’r adolygiad ciplun hwnnw. Felly, mae hi braidd yn gynamserol i ofyn i ni nodi’r pethau hynny os nad ydym wedi llwyddo i weld unrhyw un o’r pethau hynny. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw.
Felly, yn lle hynny—i fod yn glir—yr hyn rydym yn galw amdano gan Lywodraeth Cymru heddiw yw strategaeth glir gyda thargedau mesuradwy a fydd yn sefyll ochr yn ochr â’r gwaith arall hwn, sydd eisoes yn mynd rhagddo, i wrthdroi’r perfformiad hwn—ac nid erbyn 2021; rydym am weld gwelliannau erbyn y set nesaf o ganlyniadau PISA yn 2018. Os oedd Gwlad Pwyl yn gallu ei wneud, yna nid wyf yn gweld pam na all Cymru ei wneud hefyd. Rydym am weld gwelliannau mewn mwy nag un pwnc. Rydym am weld gwelliant ym mhob un o’r tri phwnc PISA—gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Dyna y mae ein pobl ifanc, dyna y mae ein plant, yn ei haeddu: dim llai na’r math hwnnw o welliant. Mae arnom angen targedau clir iawn nad ydynt, yn wahanol i dargedau blaenorol, yn cael eu diddymu, ond targedau y glynir atynt. Gwelsom Leighton Andrews yn gosod targed clir y dylem fod yn yr 20 uchaf erbyn 2016. Nid ydym yno. Felly, rhoddwyd y gorau i’r targed hyd yn oed cyn i ni gael cyfle i wneud Leighton yn atebol i’r targed hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, nid yw yma. Cafodd y targed ei ddiddymu gan ei olynydd, Huw Lewis, a osododd darged arall eto yn ei le: y tro hwn i sgorio dros 500 yn y prawf PISA, ond nid tan 2021, yn gyfleus iawn, ar ôl iddo ymddiswyddo o’r Cynulliad Cenedlaethol.
Felly, ni allwn barhau i drosglwyddo hyn ymlaen i bobl eraill ymdopi ag ef mewn Cynulliadau yn y dyfodol. Mae angen i ni fod yn atebol yma yn y Cynulliad hwn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd erbyn 2018, ac ie, eto yn 2021. Mae angen cyflwyno polisïau sy’n mynd i ganiatáu i ysgolion llwyddiannus ffynnu a thyfu—yr ysgolion sy’n boblogaidd ac sy’n mynd i weithio mewn partneriaeth â’r proffesiynau, y proffesiynau addysgu a’r holl randdeiliaid eraill yn ein hysgolion—i gyflawni’r newid mawr sydd angen i ni ei weld o ran PISA. Nid ydym yn mynd i wneud hynny oni bai bod gennym strategaeth gydag amserlen a thargedau clir.
Felly, gadewch i ni fod yn glir—ni all ein perfformiad gwael barhau. Bydd yn arwain at ganlyniadau os nad ydym yn mynd i’r afael ag ef, yn enwedig i’n heconomi ac i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol ac yn feiddgar gyda’n hatebion, gan edrych ar y math o ragoriaeth a’r math o gyflawniad a’r tir sydd wedi’i ennill mewn mannau eraill mewn llefydd fel Gwlad Pwyl a gwledydd eraill o amgylch y byd. Rydym yn dibynnu arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithredu, ac am y rheswm hwn rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod hyn o ganlyniad i 16 mlynedd o bolisïau addysg annigonol Llafur.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i symud neu gynnig y gwelliannau yn swyddogol? Mae PISA, wrth gwrs, yn anffodus, wedi ein hatgoffa ni unwaith eto bod Cymru wedi perfformio’r gwaethaf o wledydd y Deyrnas Unedig, bod sgoriau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag oedden nhw yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a bod Cymru heddiw ymhellach y tu ôl i gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y tri maes yna o’i gymharu â 2006.
Ac mae hynny, fel yr ydym ni’n ei ddweud yn y gwelliant, neu un o’r gwelliannau, yn sen ar record Llafur—olyniaeth ddi-dor ers datganoli o Weinidog addysg Llafur ar ôl Gweinidog addysg Llafur. Ac, wrth gwrs, 10 mlynedd ar ôl y methiant cyntaf yna, rŷm ni’n dal, wrth gwrs, yn aros i’r diwygiadau angenrheidiol gael eu gwneud. Ac mae’n rhaid imi ddweud, mae rhai o’r galwadau sydd wedi bod yn ddiweddar am gymryd pwerau yn ôl i San Steffan, fel rhyw fath o ddad-ddatganoli pwerau dros addysg, yn methu’r pwynt yn llwyr, wrth gwrs. Oherwydd, os yw tîm pêl-droed ar waelod y gynghrair, ni fyddech chi yn symud stadiwm na gofyn am gael chwarae mewn cynghrair arall. Yr hyn yr ŷch chi’n ei wneud, wrth gwrs, yw sacio’r rheolwr a newid y chwaraewyr, ac mae rheolwyr fel arfer—[Torri ar draws.] Na, nid wyf i ddim; mae gen i lot i’w gael i mewn yn y pum munud yma. Ond mae rheolwyr fel arfer mewn sefyllfa o’r fath yn cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa, rhywbeth y mae’r Prif Weinidog, wrth gwrs, wedi gwrthod ei wneud. Ydy, mae wedi dweud bod y canlyniadau yn siomedig. Ydy, mae wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd y canlyniadau’n well y tro nesaf. Ond, wrth gwrs, dyna yn union a ddywedodd e y tro diwethaf. Ac rydw i wedi atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf inni gael y canlyniadau siomedig yma, mi ofynnodd hi i’r Prif Weinidog, yn 2012, a oedd yn cywilyddio am y canlyniadau. Wel, oni ddylai fe fod yn cywilyddio hyd yn oed yn fwy y tro yma oherwydd y methiant unwaith eto?
Nawr, oes, mae yna ddiwygiadau mwy sylfaenol yn yr arfaeth. Mae’n resyn ei bod hi wedi cymryd 10 mlynedd inni gyrraedd fan hyn. Rŷm ni’n gwybod y cymeriff hi bedair i bum mlynedd arall cyn i’r diwygiadau hynny gael eu cwblhau, heb sôn, wrth gwrs, wedyn am weld yr effaith y byddai rhywun yn gobeithio ei gweld o safbwynt canlyniadau PISA. Ac mae rhywun yn teimlo, mewn sefyllfa o’r fath, bod hwn yn rhyw fath o dafliad olaf y dis fan hyn. Felly, mae’n allweddol ein bod ni yn sicrhau bod y newid iawn yn digwydd, ac nad yw o reidrwydd yn newid cyflym, rwy’n derbyn hynny. Ond, yn amlwg, mae’n rhaid inni fod yn hyderus ein bod ni ar y llwybr cywir. Ac mae’n rhaid iddo fe fod yn newid sydd wedi’i berchnogi gan y sector os ydyw am lwyddo. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth rwyf eisoes wedi ei godi ar nifer o achlysuron gyda’r Ysgrifennydd yng nghyd-destun y diwygiadau yma, felly wnaf i ddim ailadrodd hynny yn fan hyn.
Ond, fel yr ŷm ni wedi clywed, mae yna fodd cymryd rhywfaint o obaith gan wledydd eraill ac edrych ar record rhywle fel Gweriniaeth Iwerddon, wrth gwrs, sydd wedi perfformio yn gadarnhaol iawn y tro yma. Mae Estonia hefyd yn wlad arall yr oeddwn i’n darllen amdani yr wythnos yma sydd wedi troi perfformiadau rownd. Nid oes yn rhaid efelychu Singapôr a Tsieina a symud i ddiwylliant o weithio oriau afresymol o faith. Mae’r Ffindir ag un o’r lefelau oriau astudio isaf yn y byd, yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol, ac eto yn perfformio, wrth gwrs, yn dda. Ac nid cyllid, o reidrwydd, yw’r ateb chwaith. Mae yna wledydd sy’n gwario mwy ar addysg ac yn perfformio’n waeth, ac mae yna wledydd sy’n gwario llai ac yn perfformio’n well. Un wers, rwy’n meddwl, yr wyf i’n ei chymryd o gyd-destun Estonia—ac mae’n ddiddorol nodi bod athrawon yno fel arfer â gradd Feistr, ac wrth gwrs mae Plaid Cymru wedi dweud yn gyson, os ydym ni eisiau’r system addysg orau, mae’n rhaid inni gael yr addysgwyr gorau, ac rŷm ni wedi, yn ein maniffesto, ac ers hynny, wrth gwrs, esbonio sut rŷm ni am wneud mwy i ddenu’r bobl orau i ddysgu a sicrhau’r datblygiad proffesiynol parhaus yna i addysgwyr er mwyn creu’r diwylliant o wella parhaus. Rŷm ni’n sôn, wrth gwrs, am statws proffesiwn athrawon, gwella ansawdd yr hyfforddi, rhoi mwy o ryddid a chyfrifoldeb i athrawon wrth benderfynu beth y maen nhw yn ei ddysgu. Buom ni’n sôn am greu premiwm i bob athro hefyd a fyddai â gradd Feistr mewn ymarfer addysgu neu lefel gyfatebol o sgiliau. A byddai’r premiwm athrawon yna yn gymorth i ddenu a chadw’r mwyaf talentog yn y proffesiwn dysgu a hefyd gadw athrawon da yn yr ystafell ddosbarth, oherwydd rŷm ni’n colli gormod o’r rheini yn y sefyllfa sydd ohoni.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nawr, maen nhw’n dweud bod 30 pwynt o safbwynt sgoriau PISA yn cyfateb i flwyddyn o addysg. Os ydy hynny’n wir, wrth gwrs, ac nid wyf yn amau ei fod e, mae Cymru bellach flwyddyn y tu ôl i’n cyrhaeddiad ni yn 2006 o safbwynt gwyddoniaeth. Felly, ar y mesur yna, mae Cymru wedi mynd yn ôl blwyddyn mewn 10 mlynedd, a dyna, yn anffodus, yw ‘legacy’ addysg Llafur Cymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.
Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Paul Davies.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a thynnu sylw at rai o’r ffyrdd rwy’n meddwl y gallwn helpu ein dysgwyr i gyflawni safonau gwell mewn ysgolion yng Nghymru.
Nid oes amheuaeth ein bod i gyd yn hynod o bryderus ac yn siomedig ynglŷn â ffigyrau PISA Cymru yr wythnos diwethaf. Er gwaethaf y gwaith caled a phroffesiynoldeb athrawon ledled Cymru, mae’r ffigurau’n dangos nad yw Cymru ble yr hoffem iddi fod o ran meincnodau rhyngwladol.
Nawr, rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd agenda ddiwygio mewn addysg a bod newidiadau’n digwydd ar ail-lunio’r cwricwlwm cenedlaethol a chymwysterau. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd ar greu’r amgylchedd cywir ar gyfer dysgwyr yng Nghymru er mwyn darparu sefydlogrwydd ac felly gwella safonau.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad y prynhawn yma ar bwysigrwydd sefydlogrwydd yn ein system addysg a’r rôl allweddol y mae awdurdodau lleol hefyd yn ei chwarae yn gwella safonau yn ein hysgolion. Mae angen i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddarparu arweinyddiaeth strategol i wella safonau ac mae’n rhaid i ni weld strategaeth glir yn cael ei datblygu a thargedau mesuradwy’n cael eu gosod. Ond rhaid i ni hefyd weld bod arweinyddiaeth yn diferu i lawr i awdurdodau lleol, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am ddarparu addysg yn ein cymunedau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o’r traed moch a wnaed o’r ad-drefnu a welsom yn digwydd ledled Sir Benfro. Afraid dweud mai amcan allweddol unrhyw gynllun ad-drefnu ysgolion, o reidrwydd, yw gwella safonau addysg i blant a phobl ifanc. Os na, yna beth yn union yw’r pwynt? Yn Sir Benfro cafwyd ymgynghoriadau di-ri ar ad-drefnu ysgolion ar draws y sir ac mae’r broses gyfan nid yn unig yn peri pryder dwfn i ddysgwyr a rhieni, ond mae’n amlwg yn effeithio ar ganlyniadau addysgol.
O ystyried natur emosiynol ad-drefnu ysgolion, hyd yn oed os nad oes cau neu ad-drefnu’n digwydd yn y pen draw, mae cyhoeddi cynigion o’r fath gan ddiystyru safon yr addysg a ddarperir, i bob golwg, yn anfon neges negyddol i ddisgyblion a rhieni fod torri costau’n flaenoriaeth, yn wahanol i gynnal ansawdd. Rydym wedi gweld enghreifftiau yn y gorffennol lle y mae ysgolion da wedi cau ac nid yw’r math hwnnw o weithredu yn gwneud dim i warchod neu wella safonau ysgolion. Yn wir, mae’r dadlau parhaol ynglŷn â pha ysgolion fydd yn cau neu’n aros ar agor wedi creu’r fath ansefydlogrwydd i gymunedau yn fy etholaeth fy hun fel nad oes unrhyw ryfedd nad yw Cymru’n cael canlyniadau gwell yn erbyn meincnodau rhyngwladol.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012, nododd Estyn—a dyfynnaf:
‘Dylai unrhyw strategaeth ad-drefnu ysgolion fynd ati i wella safonau. Dylai rhaglenni ad-drefnu ysgolion fod ynglŷn â gwella ysgolion yn bennaf, yn hytrach na bod yn ymarfer rheoli adnoddau sy’n annibynnol ar fuddiannau dysgwyr.’
Argymhellodd yr adroddiad hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo arfer da wrth arfarnu effaith cynlluniau ad-drefnu ysgolion. Wel, rwy’n ofni nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i werthuso effaith ad-drefnu ysgolion mewn llefydd fel Sir Benfro a’r effaith y byddai’r newidiadau yn eu cael ar ddeilliannau dysgwyr.
Mae rhaglenni ad-drefnu ysgolion, fel yn fy ardal i, sydd wedi bod yn gymhleth ac yn destun pryder i gymunedau lleol yn rhan sylweddol o’r broblem. Yn sicr, rhaid i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol chwarae llawer mwy o ran yn goruchwylio rhaglenni ad-drefnu ysgolion oherwydd ni all llywodraethau ganiatáu i awdurdodau lleol anwybyddu rhieni, athrawon a dymuniadau disgyblion a chyhoeddi ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad—sydd wedi cymryd blynyddoedd yn ein hachos ni yn Sir Benfro—a rhoi addysg a dyfodol plant mewn perygl yn y cyfamser. Nid yw’n syndod nad ydym yn gwella safonau.
Mae digon o ddulliau eraill at ddefnydd Llywodraeth Cymru a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddeilliannau dysgwyr. Rwy’n derbyn yn llwyr fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhai camau ar waith o ran arweinyddiaeth ysgolion ar lefel penaethiaid ac uwch reolwyr, ond efallai fod rhinwedd hefyd mewn edrych ar rôl llywodraethwyr ysgolion, sydd hefyd â rôl i’w chwarae yn hyrwyddo safonau uchel. Yn wir, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu yn ei hymateb i’r ddadl a yw hynny’n rhywbeth y mae’n ei ystyried ar hyn o bryd a beth yw ei hasesiad o rôl llywodraethwyr ysgolion yn helpu i sicrhau safonau gwell yn ein hysgolion.
Lywydd, roedd yr holl Aelodau yma yn siomedig gyda’r canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf. Yn y pen draw, rydym i gyd am weld yr un peth: system addysg lewyrchus sy’n cyflawni ar gyfer ein dysgwyr ac yn arwain at wella deilliannau addysgol. Nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd credaf ein bod i gyd yn cydnabod bod cwmpas y gwaith sydd ei angen i wella safonau addysgol yn arwyddocaol. Fe ddaw drwy gydnabod yn gyntaf lle y ceir gwendidau yn ein system ac yna nodi ffyrdd y gallwn newid y system honno er gwell.
Rydym ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn gweithio’n adeiladol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i weithredu atebion ystyrlon i helpu i sicrhau canlyniadau gwirioneddol ar gyfer ein dysgwyr ac felly, ar gyfer ein cymdeithas. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud mai addysg yn amlwg yw un o’r rhoddion pwysicaf y gallwn eu rhoi i’n plant? Fel y cyfryw, mae’n rhaid i ni ei roi yn y modd cywir a sicrhau ei fod yn cyrraedd yn dda. Mae’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—fel y dywedodd Darren, yr enw hir am y PISA byr, fel rydym bob amser yn ei adnabod—yn rhoi dull i ni o gymharu perfformiad myfyrwyr mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, ond dylem hefyd nodi nad yw’n ymwneud mewn gwirionedd â throsglwyddo’r wybodaeth y mae’r profion yn ymwneud â hi, mae’n ymwneud â sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno. Mae’n ymwneud â meddwl yn feirniadol, yr ymchwiliad, yr atebion, y ffordd rydym yn cyfathrebu’r atebion hynny; mae’n ddarlun ehangach na chyflwyno gwybodaeth yn unig. Ac efallai fod angen i ni edrych ar yr agwedd honno ar ein system addysg pan fyddwn yn gwneud ein haddysgu.
Ond cyn i mi wneud sylwadau pellach ar PISA, efallai, nid wyf am golli golwg ar rai o’r llwyddiannau rydym wedi eu cael mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf wedi clywed rhai o’r ffeithiau eto: ein bod wedi cael lefelau uwch nag erioed o berfformiadau TGAU yma yng Nghymru y llynedd. Yn fy etholaeth fy hun, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, cafwyd canlyniadau TGAU ar lefelau uwch nag erioed. Mae’r rhain yn ganlyniadau sy’n dangos bod ein myfyrwyr yn cyflawni’r cymwysterau rydym yn awyddus iddynt eu cyflawni, ac maent yn cyflawni cymwysterau a fydd yn eu cael i mewn i leoliadau ar gyfer swyddi neu addysg bellach ac uwch. Ac rydym yn gweld y safonau hynny’n cynyddu. Ac mae’n ymddangos ein bod wedi cymryd PISA—ac nid wyf yn mynd i’w ddifrïo—ond mae’n ymddangos ein bod wedi cymryd PISA fel yr unig fesur, heb ystyried, mewn gwirionedd, fod yna bethau eraill rydym yn eu cyflawni. Gadewch i ni gydnabod y pethau hynny hefyd.
Rwyf hefyd yn awyddus, efallai, i siarad am rai o’r rhaglenni rydym wedi eu rhoi ar waith. Fe edrychaf ar Her Ysgolion Cymru. Rydym wedi gweld y rhaglen honno’n gweithredu ac mae wedi bod yn llwyddiannus, ac rwyf am roi clod i Huw Lewis, a’i gwelodd yn cael ei gweithredu. Rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig ein bod yn ei gweld yn dod i ddiwedd ei hoes, a hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a wnaiff hi edrych ar y cam nesaf, neu gam arall o’r rhaglen honno, oherwydd ei bod wedi cyflawni mewn ardaloedd. Rwy’n credu ei bod yn helpu’r athrawon a nodir drwy’r rhaglen gategoreiddio, mewn ysgolion lle y ceir categori is, coch, i allu elwa efallai ar brofiad ac arbenigedd pobl eraill. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau, lle y ceir arferion da, ein bod yn rhannu’r arfer da hwnnw. A dyna beth a wnai.
Rwyf hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, fod y bwlch cyrhaeddiad rhwng y prydau ysgol am ddim a phrydau ysgol nad ydynt am ddim wedi lleihau, ac rwy’n meddwl bod Darren wedi sôn fod PISA wedi sylwi ar hynny mewn gwirionedd. Efallai ein bod yn rhoi rhesymau gwahanol amdano, oherwydd yr hyn a ddywedodd PISA, ond mae’r bwlch yn lleihau, ac mae yna gyflawniadau. Yr hyn rydym yn tueddu i’w anghofio, weithiau, pan fyddwn yn sôn am A* ac A* i C, yw bod pobl a gafodd D neu E wedi ennill rhywbeth na allent byth fod wedi’i ddisgwyl, os yw’r addysgu’n dda. Rydym yn codi’r platfform. Rydym yn anghofio’r gwerth ychwanegol a roddir i nifer o’n disgyblion yn ein system addysg, a bod y disgyblion hynny mewn gwirionedd yn rhagori ar eu potensial oherwydd peth o’r addysgu y maent yn ei gael. Rydym yn aml yn anghofio hynny. Am yn llawer rhy hir, rydym wedi gweithio yn ôl faint o A* y mae ysgol yn eu cael, nid yr hyn a gyflawnodd y plentyn, a yw’r plentyn wedi gwireddu eu potensial, ac a ydynt wedi rhagori ar eu potensial. Ac weithiau nid y canlyniadau rydym yn eu mesur yw’r pethau gorau bob amser. Mae angen i ni edrych ar sut rydym yn gwneud hynny, oherwydd ein bod mewn byd lle y ceir lefelau amrywiol, ac mae angen i ni ganolbwyntio ar bob lefel o’r system addysg a gweld beth y gallwn sicrhau y gellir ei gyflawni gan ein plant.
Mae gennyf amser, felly af yn ôl at raglen PISA, y gwn ei bod wedi cael sylw’n barod. Ac rwy’n cytuno â phawb; nid yw’r canlyniadau PISA hynny’n dderbyniol. Maent yn llawer is na’r hyn y byddem ei eisiau, nid ydynt yn rhoi Cymru lle rydym am iddi fod yn y farchnad fyd-eang, ac maent yn ein hatgoffa o’r daith sy’n dal i fod angen i ni ei theithio yn y maes hwnnw. Ac mae’r daith, mewn gwirionedd, yn debyg i’r daith yng ngwledydd eraill y DU, a welodd eu sgoriau’n disgyn mewn o leiaf ddau o’r pynciau hynny yr wythnos diwethaf. Rwy’n credu ein bod yn gwneud cynnydd yn y maes, ac fe welsom y cynnydd mwyaf yn y DU mewn mathemateg, er enghraifft. A allai hynny fod yn deillio o’r fframwaith rhifedd a gyflwynwyd? Daeth y fframweithiau llythrennedd a rhifedd i mewn o ganlyniad i rai o’r penderfyniadau a seiliwyd ar ganlyniadau 2009 a 2012. Felly, rydym yn cyflwyno rhaglenni.
Nawr, rydym hefyd—. Mewn gwirionedd, efallai fod Darren wedi bychanu mewn ffordd—o leiaf, teimlwn mai dyna a wnaeth—y newidiadau i’r cwricwlwm. Nawr, rwy’n credu mai Donaldson yw’r ffordd iawn, gan ei fod yn newid y ffordd honno o feddwl yn feirniadol, o ddatrys problemau, o edrych ar sut y gallwn gymryd gwybodaeth a’i defnyddio. Ymwneud â hynny y mae Donaldson, ac rwy’n credu mai dyna’r cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Darren.
Diolch; rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Ni wneuthum fychanu’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio ei gyflwyno yng Nghymru. Gofynnais yn unig am i ni oedi ac ystyried ai diwygiadau cwricwlaidd tebyg i’r rhai sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd wedi methu â chyflawni yn erbyn y mesur PISA, yw’r dull cywir yma yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni fyfyrio o ddifrif ar hynny.
Rwy’n meddwl bod y myfyrio a’r ystyried a wnaeth Donaldson—. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni, pan fuom yn ei drafod—fe ddywedais yn y drafodaeth a gawsom fod y rhan fwyaf o bobl mewn gwirionedd wedi derbyn nad Donaldson oedd y ffordd ymlaen ar y pryd. Rwyf am ein gweld yn symud ymlaen.
Rwy’n ymwybodol o’r amser, Lywydd, felly i orffen: mae gennym gyfeiriad teithio clir, gyda phwyslais ar arweinyddiaeth, pwyslais ar ragoriaeth athrawon, lles dysgwyr—gadewch i ni beidio ag anghofio hynny—tegwch ar gyfer ein dysgwyr, cydgyfrifoldeb a chyflwyno cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain fel y gall ein pobl ifanc fyw mewn byd sy’n perthyn i’r unfed ganrif ar hugain. Mae’r rhai sy’n gwybod am addysg yn gwybod nad yw polisïau o’r fath yn digwydd dros nos; maent yn cymryd amser i ymwreiddio ac rydym am sicrhau eu bod yn cael yr amser hwnnw. Felly, buaswn yn dilyn cyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Buaswn yn awgrymu ein bod yn aros ar y llwybr ac yn parhau â’n taith i sicrhau y bydd gan ein plant a’n hwyrion yn y dyfodol system addysg dda.
Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud nad yw’n rhoi unrhyw bleser i mi gael cyfrannu mewn dadl lle rydym unwaith eto yn trafod methiant rhyfeddol Llywodraeth Cymru i ddarparu system addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru. Ar ôl torri addewid gan y Prif Weinidog a’i Lywodraeth Lafur, mae addysg yng Nghymru unwaith eto mewn sefyllfa enbyd. Ar ôl 10 mlynedd o dorri addewidion, mae degawd o dangyflawni wedi gadael Cymru yn llusgo ar ôl pob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, a Chymru sydd â’r gyfran fwyaf o ddisgyblion sy’n tangyflawni ar draws y Deyrnas Unedig.
Mewn gwyddoniaeth, mae Cymru’n llusgo ar ôl y gweddill o ran nifer y tangyflawnwyr, gyda’r gyfran uchaf o rai 15 oed yn gweithredu o dan lefel 2. Mewn mathemateg, mae Cymru yn parhau i dangyflawni’n ddifrifol o gymharu â’n cyfeillion yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yn anffodus, yn y canlyniadau PISA—Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—yr wythnos diwethaf roedd y gwledydd lleiaf fel Singapôr ac eraill ar frig y rhestr drwy’r byd, ac edrychwch lle rydym ni. Y bumed economi gyfoethocaf ac rydym yn is na safle 10. Nid ydym hyd yn oed yn y 10 uchaf. Yn anffodus, mae canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf yn dangos bod 23 y cant o ddisgyblion 15 oed wedi cael eu diffinio fel tangyflawnwyr mewn mathemateg—bron i chwarter y myfyrwyr. Lywydd, mae’n gwbl annerbyniol. Mae cyfartaledd sgôr mathemateg Cymru hefyd yn sylweddol is na’r sgoriau o weddill y Deyrnas Unedig gyda gwahaniaeth o tua 15 pwynt prawf—sy’n cyfateb i tua hanner blwyddyn o addysgu ychwanegol—ac mewn darllen, mae perfformiad Cymru unwaith eto yn ddramatig o brin o berfformiad gwledydd eraill y DU. Mae’n sefyllfa warthus lle rydym bellach ar yr un lefel â gwledydd megis Hwngari a Lithwania.
Heddiw, diolch i Lywodraeth Cymru, mae dros un o bob pump o fyfyrwyr Cymru yn brin o’r sgiliau darllen gofynnol i weithredu yn y gweithle. Mae’r ystadegyn moel hwn yn pwysleisio graddau’r her sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, nid yn unig yn eu haddysg, ond ar gyfer datblygu’r sgiliau angenrheidiol addas ar gyfer ein cyflogwyr yng Nghymru. Wrth siarad â chyflogwyr mewn diwydiannau gwahanol, maent yn aml yn sôn wrthyf am bryderon eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i raddedigion gyda’r sgiliau cywir neu brofiad gwaith iawn. Gyda’r canlyniadau PISA diweddaraf yng Nghymru, gallwch weld pam fod yn rhaid i’n system addysg wella. Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni greu cymdeithas sydd wedi’i seilio ar lythrennedd uchel. Mae hyn yn hanfodol bwysig ar gyfer sbarduno diwygiadau economaidd cadarnhaol. Ar hyn o bryd, y duedd sy’n peri pryder yw bod lefelau darllen disgyblion Cymru yn atal cynnydd o’r fath. Bydd cyflwyno system addysg o’r radd flaenaf yn sicrhau canlyniadau eithriadol o gadarnhaol i’n heconomi ac mae’n hanfodol fod hyn yn cael ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd. Dyna pam ei bod yn hanfodol nad yw’r canlyniadau’n cael eu bychanu a bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hwy’n iawn.
Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, mae gennym eisoes gynghorwyr etholedig o’r blaid Lafur yng Nghasnewydd yn dweud bod yn rhaid cymryd y canlyniadau hyn gyda—yn eu geiriau hwy—phinsiad o halen. Am jôc. Mae angen arholiadau Pisa arnynt hwythau hefyd yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Gadewch i ni fod yn glir, mae rhethreg o’r fath yn annerbyniol ac ni allwn ganiatáu i genhedlaeth o fyfyrwyr Cymru gael eu colli. Rydym yn colli cenhedlaeth yma, Weinidog. Mae eich newid cwricwlwm—yn bendant dylai fod rhyw fath o fuddsoddiad yn ein hathrawon. Oherwydd yr hyn a wnaeth gwledydd eraill sydd wedi cyflawni yn y system addysg yw buddsoddi yn eu hathrawon. Deiliaid gradd dosbarth cyntaf yn unig sy’n cael addysgu athrawon, ac—nid oes gennyf amser, David, ond parhewch. [Chwerthin.]
Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn rhoi amser. A ydych yn cydnabod felly mai cyflwyno gradd Meistr mewn ymarfer proffesiynol i athrawon gan Lywodraeth Cymru yw’r cam cywir ymlaen i sicrhau bod yna gymhwyster ar y lefelau rydych yn sôn amdanynt mewn gwirionedd?
Rwy’n cytuno â chi y dylai athrawon fod yn hynod o gymwys i addysgu athrawon eraill. Mae’n hen ddywediad da iawn; rydych yn cael yr hyn rydych yn talu amdano. Car yw car, car yw Rolls-Royce a char yw Mini. Rydych yn talu’r pris gorau, a byddwch yn cael y canlyniad gorau. Beth bynnag, rwy’n cytuno; rhaid i ni fuddsoddi yn ein hathrawon. A bydd anwybyddu’r canlyniadau hyn, rhoi ein pennau yn y tywod, ond yn chwyddo’r sgandalau hyn rydym wedi bod yn dyst iddynt yn y system addysg yng Nghymru.
Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am addysg ers dros 17 mlynedd. Nid oes esgus, nid oes lle i guddio chwaith. Mae disgyblion, rhieni ac athrawon ledled Cymru yn haeddu gwell, a’r Ceidwadwyr yn unig sy’n mynd i allu ei gyflawni.
Oscar—cafodd hwyl arni y prynhawn yma. Wrth ymuno â’r ddadl hon, pan gawsom y datganiad PISA, mae’n debyg fy mod braidd yn swil o fod yn or-feirniadol oherwydd y ffordd y cafodd y datganiad ei fframio. Oedd, roedd y canlyniadau’n wael, oedd, roedd y duedd ar i lawr, ond roedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn a oedd yn dweud wrthym y dylem aros ar y llwybr, ac ni ddylem boeni am hynny a dylem ddal ati i wneud yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Yn dilyn y sesiwn honno y sylweddolais nad oedd yna adroddiad, neu o leiaf nid fel yr awgrymwyd. Cefais hyd i’r adroddiad hwn, ‘Gwella Ysgolion yng Nghymru—Safbwynt OECD’, a gyhoeddwyd yn 2014 ac sy’n 143 tudalen o hyd. Rwy’n meddwl bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ychydig yn araf gyda rhai o’r adroddiadau hyn. Rydym yn edrych ar ganlyniadau PISA 2015. Dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu gweinyddu gan gyfrifiadur. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol efallai pe gallai’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd gyhoeddi eu cymariaethau’n gyflymach, ac fe wnaethant. Ond ar adroddiad 2014, tybed, mewn gwirionedd, a yw’r adroddiad hwn, neu beth bynnag yw’r cyfathrebiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chael, yn llawer gwahanol mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o gydbwysedd yn perthyn i’r hyn y mae’n ei ddweud—fe gymeraf ymyriad.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Mae yna adroddiad, nid yw wedi cael ei gyhoeddi eto, dyna’i gyd. A wnewch chi gydnabod, beth bynnag yw’r heriau rydym yn eu hwynebu, fod eich ateb chi, sef ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru, ond yn mynd i wneud pethau’n waeth?
Mae ein polisi ar ysgolion gramadeg yn un o nifer o bolisïau. Credaf ei bod yn wirioneddol annerbyniol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adroddiad na fydd yn ei rannu fel amddiffyniad yn erbyn yr hyn sydd—rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno—yn set hynod o anfoddhaol o ganlyniadau PISA. Sut y gallwn ymateb yn synhwyrol i’r datganiad, neu gymryd rhan yn y ddadl ar delerau teg gyda’r Llywodraeth, os oes ganddynt adroddiad y maent yn ei ddyfynnu i’w hamddiffyn na all pobl eraill gyfeirio ato am nad yw wedi cael ei gyhoeddi? Nawr, roedd cyfres o sylwadau cytbwys yn yr adroddiad yn 2014; roedd yn cynnwys pethau cadarnhaol a phethau negyddol. Nodaf yn y gwelliant hwn heddiw mai’r gorau y gall y Llywodraeth ei ddweud yw:
‘bod nifer o bethau wedi’u rhoi ar waith bellach sy’n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.’
Ac rwy’n siŵr y gallant ddewis a dethol a phan gaiff ei gyhoeddi byddwn yn gweld rhai sylwadau cadarnhaol, ond rwy’n amau y bydd yna lawer iawn o sylwadau negyddol hefyd.
Nodais sylwadau gan Syr Michael Wilshaw, pennaeth Ofsted yn Lloegr, pan gyhoeddwyd y canlyniadau hyn. Dywedodd fod Cymru a’r Alban yn tynnu perfformiad y DU i lawr. Ond aeth yn ei flaen a dweud bod addysg yng Nghymru yn talu’r pris am roi’r gorau i brofion asesu safonol. Mae’n dweud:
Rwy’n cofio pan gafodd Llywodraeth Cymru wared ar yr holl fesurau atebolrwydd sydd gennym yn Lloegr—TASau, profion ac yn y blaen—ac roedd hynny’n drychinebus, yn gwbl drychinebus ac mae addysg yng Nghymru yn talu’r pris am hynny.
Rwy’n credu y dylem gymryd y geiriau hynny o ddifrif, ac rwy’n clywed am y newidiadau yn y cwricwlwm. Rwy’n meddwl tybed a yw’r newidiadau hynny yn y cwricwlwm fel y cawsant eu hawgrymu gan y Llywodraeth—fod y newidiadau yn mynd i wrthdroi perfformiad addysgol Cymru—neu mewn gwirionedd a ydynt yn rhan o duedd a welwn yn y perfformiad sy’n dirywio. Rwy’n sylwi ar y cymariaethau a wnaed â’r dull yn yr Alban, lle rydym wedi gweld efallai sut y mae hwnnw bellach yn effeithio ar eu canlyniadau PISA, a’r modd y mae Cymru a’r Alban yn gwyro’n gynyddol i ffwrdd o berfformiad addysg Lloegr, lle y cafwyd tuedd o welliant mewn gwirionedd mewn rhai ardaloedd, yn enwedig Lundain—[Torri ar draws.] Nid wyf am gymryd ymyriad arall—lle y maent wedi cael perfformiad cryf iawn yn wir. Tybed, mewn gwirionedd, a oes rhywbeth i Gymru ei ddysgu o hynny. Cawsom gan Blaid Cymru y gymhariaeth y byddem yn symud y stadiwm i wneud hynny, a byddai’n well ganddynt hwy ddiswyddo’r rheolwr. A dweud y gwir, yn lle hynny, pam na wnawn ni ailymuno â’r gynghrair a chael rhywfaint o atebolrwydd mewn gwirionedd drwy asesu beth yw perfformiadau ysgolion a chyhoeddi’r data yn hytrach na’i guddio?
Bûm yn trafod hyn gyda’r Ysgrifennydd addysg, ond mae hi’n dweud na ddylid defnyddio canlyniadau cyfnod allweddol 2 heblaw fel cymorth i edrych ar sut y mae disgyblion penodol yn ei wneud. Mae hi’n hapus, er clod iddi, i ddefnyddio’r canlyniadau PISA er mwyn asesu sut y gall y system fod yn newid, ac mae’n dweud wrth athrawon y dylent fod o ddifrif yn eu cylch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi cymariaethau rhwng cynghorau lleol. A fyddai’n anghywir i’r cynghorau hynny edrych ar ganlyniadau cyfnod allweddol 2 eu hysgolion cynradd, er enghraifft, er mwyn eu gwneud yn atebol ac i geisio ysgogi gwelliant? Ac os yw’n iawn—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf. Ac os yw’n iawn i gynghorau wneud hynny, pam ei bod yn anghywir i rieni wneud hynny? Pam y dylai’r data hwn gael ei fygu a’i ganiatáu yn unig ar gyfer Gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth a’r rhai yn y fiwrocratiaeth, yn hytrach na’i ryddhau fel y gall pobl eraill farnu, ac fel eu bod yn gwybod, pan fydd ysgolion yn llwyddo, y bydd yn cael ei hysbysebu, ac felly pan fyddant yn methu, byddant yn gwybod na fydd yn cael ei gelu? Pe bai gennym y system honno, efallai y byddem mewn gwirionedd yn dechrau troi’r canlyniadau hyn o gwmpas.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar gynnig sydd, er tegwch, ond yn tynnu sylw at yr hyn sy’n amlwg, mewn gwirionedd. Roedd canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf yn destun siom enfawr, ac rwy’n meddwl bod yr holl Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y Siambr hon—. Mae David wedi gwneud y pwynt heddiw ynglŷn â pha mor anfoddhaol a gofidus, buaswn yn awgrymu, oedd y canlyniadau hynny, oherwydd rydym wedi cael Gweinidog ar ôl Gweinidog yn dod i’r Siambr hon o’r Blaid Lafur, sydd wedi bod yn Ysgrifenyddion Cabinet neu Weinidogion am 17 mlynedd cyntaf datganoli, ac yng ngoleuni perfformiadau gwael yn y gorffennol, maent wedi rhoi geiriau o sicrwydd i’r Siambr hon. Rwyf am ailadrodd rhai o’r geiriau hynny o sicrwydd a roddwyd, yn gyntaf gan Leighton Andrews, a siaradodd yn 2010 am onestrwydd, arweiniad ac ymagwedd newydd tuag at atebolrwydd. Ac fe osododd nod i fod yn y 20 uchaf Roedd hynny’n uchelgeisiol, ond o leiaf roedd yn nod i’r holl Lywodraeth weithio tuag ato. Ni allwch feirniadu neb am fod yn uchelgeisiol, ac yn sicr dylai Llywodraeth sy’n eistedd yma yn ychydig fisoedd cyntaf ei thymor fod yn gosod nodau clir o ran yr hyn y mae am ei gyflawni pan fydd y set nesaf o ganlyniadau PISA yn cael eu cymryd yn 2018. Dyna yw ein gwaith fel yr wrthblaid yn awr—ceisio deall yn union i ble y mae’r Llywodraeth yn mynd, yn wyneb y canlyniadau a gawsom yr wythnos diwethaf, gyda’u polisi addysg. Rydym wedi gweld Her Ysgolion Cymru yn cael ei roi naill ochr, cynllun a oedd yn gonglfaen i her addysg yr Ysgrifennydd Cabinet/Gweinidog blaenorol, gawn ni ddweud, i ysgolion, ac eto mae hwnnw wedi cael ei wthio naill ochr am nad yw’n cyd-fynd â diben yr Ysgrifennydd Cabinet newydd—a dyna yw eich rôl chi, yn amlwg, sef gosod allan strategaeth addysg y Llywodraeth hon. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn taflu rhagor o oleuni ar y daith ymlaen yn awr a fydd yn sicrhau mewn gwirionedd fod ein safonau yn symud i fyny tabl y gynghrair, oherwydd rydym yn dal i fod y tu ôl i ble roeddem yn 2010, gyda darllen a gwyddoniaeth yn syrthio ar ei hôl hi, a mathemateg—gwelliant i’w groesawu, ond doedd ganddo unman arall i fynd, i fod yn onest gyda chi. Os mai dyna mae’r Blaid Lafur yn ei ddathlu, rydym yn dal i fod y tu ôl i ble roeddem yn 2006 mewn mathemateg. Felly, go brin fod hynny’n rheswm i longyfarch. Er tegwch i Huw Lewis, a oedd yn eistedd ar y fainc flaen yma, yn yr union gadair honno, fe ddywedodd:
Rwy’n disgwyl gweld effaith ein diwygiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y set nesaf o ganlyniadau. Maent yn uchelgeisiol ac rwy’n credu y byddant yn cael effaith barhaol, gynaliadwy a chadarnhaol ar addysg yng Nghymru.
Dyna oedd ei eiriau, a bod yn deg, ac fe wnaethom ei gredu, a chredu y byddai’r diwygiadau hynny’n gwneud y—[Torri ar draws.] Fe gymeraf yr ymyriad mewn munud, Lee—gwahaniaeth a fyddai’n arwain at wella safonau ysgolion, a phan gawn ein meincnodi yn erbyn y 0.5 miliwn o ddisgyblion ar draws y byd sy’n sefyll y profion hyn mewn 72 o wledydd, byddai Cymru’n dechrau gwneud yn well. Fe gymeraf yr ymyriad.
Rwyf eisiau gwneud y pwynt ein bod wedi gwella mewn mathemateg. Rwy’n credu ei bod ond yn deg i chi gydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud.
Mae’n ddrwg gennyf os nad ydych wedi bod yn gwrando o bosibl, ond yn llythrennol 10 eiliad yn ôl, fe wneuthum yr union bwynt hwnnw, do, ac yn wir ni allai fod wedi mynd yn llawer is, felly os mai dyna beth y mae’r Blaid Lafur yn ei ddathlu ynglŷn â’u strategaeth ar gyfer addysg, yna druan â chi, oherwydd, fel y dywedais yn fy sylwadau, rydym yn dal i fod ar ôl mewn mathemateg o gymharu â ble roeddem yn 2006.
Felly, rwy’n mynd yn ôl at y gambit agoriadol a wneuthum yn fy sylwadau agoriadol: mae’r Llywodraeth hon ar ddechrau ei mandad. Erbyn hyn mae yna brawf newydd yn dod yn bendant yn 2018, set newydd o brofion PISA, a bydd disgyblion ledled Cymru yn sefyll y profion hynny. Yn sicr, fe gawn rywfaint o eglurder ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn disgwyl i addysg yng Nghymru berfformio a’r nodau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu gosod ar gyfer addysg yng Nghymru.
Mae’n rhaid i mi ddweud—. Ac rwy’n gresynu na chymerodd Llyr yr ymyriad oherwydd soniodd am—wyddoch chi, nid ydych yn newid y tîm, nid ydych yn symud y stadiwm mewn gwirionedd: rydych yn diswyddo’r rheolwr. Wel, rhaid i mi ddweud wrthych, Llyr, rydych wedi bod yn cadw’r rheolwr yn ei le yma, ydych wir. Rydych yn pleidleisio dro ar ôl tro dros gadw’r rheolwr yn ei le.
A dydd Sadwrn diwethaf—roeddem yn dathlu, neu’n cydymdeimlo, yn dibynnu pa ffordd rydych am edrych arno—seithfed pen-blwydd y Prif Weinidog yn ei swydd. Yn briodol, nododd fod addysg yn elfen hanfodol ar gyfer gyrru Cymru ymlaen a grymuso cymunedau ar hyd a lled Cymru. Defnyddiodd y geiriau ‘yr allwedd i lwyddiant’. Nid oes ganddo’r allwedd hyd yn oed, heb sôn am wybod ble i roi’r allwedd yn y drws mewn perthynas â’r mater yma, gan fod y perfformiad, o hyd ac—Duw, rwyf wedi eu cael i gyd ar eu traed—o hyd ac o hyd—[Chwerthin. ] Fe gymeraf Rhianon, os caf, felly, am eich bod chi wedi cael cyfle—.
Diolch. A wnewch chi gydnabod, pan ddywedwch fod canlyniadau mathemateg yn waeth, eich bod yn siarad am brosesau system y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a wnewch chi gydnabod y gwaith caled y mae athrawon ar hyd a lled Cymru wedi ei wneud i wella data lefel 2 ac uwch ar y TGAU mewn gwirionedd? Maent wedi gwella ac maent yn parhau i wella, fel y mae Safon Uwch yn parhau i wella ac rydych yn dwyn anfri ar yr holl gynnydd hwnnw. Mae gennym lawer i’w ddathlu ar y daith ymlaen a’r—[Torri ar draws.] Os nad oes ots gennych—mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eu hunain—
Ymyriad yw hwn ac rydych wedi gwneud eich ymyriad—
Ac mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cydnabod—
Na. Andrew R.T. Davies.
Rwy’n gresynu eich bod wedi defnyddio’r gair ‘anfri’. Y bore yma, teithiais i dair ysgol ar draws fy rhanbarth i ddathlu’r Nadolig gyda’r plant yno a’r athrawon a’r rhagoriaeth sy’n digwydd yn yr ysgolion hynny, ond ni allwch—. [Torri ar draws.] Beth rydych yn ei ddweud am amser? Ni allwch wadu record druenus addysg yng Nghymru pan fydd yn cael ei meincnodi rhwng 72 o wledydd ar draws y byd a 0.5 miliwn o—. A darllenais y dyfyniadau—nid gwleidyddion y gwrthbleidiau sydd wedi gosod y meincnodau hyn a gosod y nodau hyn. Leighton Andrews, y cyn Weinidog, a Huw Lewis, y cyn Weinidog yw’r rhain—eich cyd-Aelodau chi eich hunain. Felly, Llafur sydd wedi methu; nid y proffesiwn, nid y disgyblion. Ac fel y dywedodd fy llefarydd addysg yn gynharach, pan edrychwch ar record Llafur mewn Llywodraeth, gallwch fynd yn ôl i’r dechrau ar gychwyn datganoli ac Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Davidson a’r nodau a osodwyd ganddi hi. [Torri ar draws.] Rwyf wedi rhoi ymyriad—rydym ar chwe munud—felly clywsom yr hyn a oedd gennych i’w ddweud. Yn hytrach na phwyntio bys at yr wrthblaid, buaswn yn gofyn i chi bwyntio bys at eich mainc flaen a’ch Prif Weinidog a holi mwy iddo ef a oes ganddo ateb ar gyfer addysg yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi’r cynnig ar y papur trefn sydd mewn gwirionedd yn cyfeirio at yr hyn sy’n digwydd pan fydd addysg Cymru yn cael ei meincnodi’n rhyngwladol.
Rwyf am ddatgan buddiant fel rhywun sydd â 25 mlynedd o brofiad, yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, mewn addysgu. Os awn yr holl ffordd yn ôl at 1997, rwy’n meddwl ei fod yn beth cadarnhaol iawn fod y Llywodraeth Lafur wedi deddfu i ddod â maint dosbarthiadau i lawr i 30. Ond mewn gwirionedd, ers 1999, rwy’n meddwl mai’r hyn sydd gennym yng Nghymru yw etifeddiaeth o fethiant. Mae pob Gweinidog addysg yn amlwg—yn amlwg—wedi gwneud cam â phlant yng Nghymru. Rwy’n eithaf anhapus gyda llawer o drafodaeth am dargedau ac yn y blaen, oherwydd yn aml iawn mae targedau ond yn rhoi bwledi i wleidyddion gael dadleuon fel hyn, ac rydych yn dyfynnu canrannau ac yn y blaen. Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw tynnu gwleidyddiaeth allan o’r ystafell ddosbarth. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw gofyn i ni ein hunain: beth rydym ei eisiau gan ein system addysg? Beth yw ein dymuniad? Beth yw rhagoriaeth? Gadewch i ni ddiffinio’r hyn a olygwn wrth hynny. Beth yw safonau uwch? Beth rydym yn ei olygu mewn gwirionedd?
I mi, dechreuodd y pydredd mewn addysg mewn gwirionedd pan gyflwynodd y Ceidwadwyr y farchnad i mewn i’r system. Fe roddaf enghraifft i chi: cyrff dyfarnu’n cystadlu—
[Anghlywadwy.]—Neil—
Gallaf ildio, os hoffwch.
Nid oes cais. Oes, mae cais i ildio.
Ers datganoli, y Blaid Lafur, gyda’ch plaid chi a’r Rhyddfrydwyr, sydd wedi rhedeg addysg yma yng Nghymru, ac mae ganddynt gyfrifoldeb am y canlyniadau hyn. Nid wyf yn hollol siŵr o ble rydych yn cael y Ceidwadwyr.
Iawn. Rwy’n dod at hynny. Y syniad o’r farchnad—. Er enghraifft—. Rhoddaf enghraifft i chi ynglŷn â chyrff dyfarnu. Mae gennych nifer o gyrff dyfarnu i gyd yn cystadlu am fusnes. Beth yw’r peth naturiol i’w wneud? Gwneud pasio’n haws. Ac yna, pan fyddwch yn eistedd mewn ystafell ddosbarth gydag athrawon eraill, byddwch yn dewis y bwrdd lle rydych yn fwyaf tebygol o gael llwyddiant. Dyna’r broblem gyda’r farchnad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i ildio rhagor yn awr.
Yr hyn yr hoffwn ei weld yw comisiwn ar gyfer—[Torri ar draws.]
Trefn. A gawn ni wrando ar yr Aelod, os gwelwch yn dda?
Yr hyn yr hoffwn ei weld yw comisiwn ar gyfer addysg, oherwydd, gyda’r ewyllys gorau yn y byd, nid ydych yn mynd i ddatrys problemau’r system addysg dros y pum mlynedd nesaf. Felly, yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw eistedd gyda phobl o bob plaid wleidyddol, athrawon o bob rhan o Gymru, yr holl sectorau gwahanol, a thrafod beth y mae pobl ei eisiau a lle rydym eisiau mynd. O ran bod yn athro, mae’n syml iawn, mewn gwirionedd: adeiladau da, adnoddau a gadael i athrawon addysgu. Yr hyn y gallem ei gael yw system o fentora yn lle archwiliad cosbol. Mae arnom angen mwy o fuddsoddiad mewn anghenion addysgol arbennig. Cerddoriaeth, drama ac addysg gorfforol, ni ddylid eu torri, dylid buddsoddi ynddynt.
Rwy’n meddwl y dylem fod yn radical hefyd, o ran torri maint dosbarthiadau, gan fy mod yn cefnogi torri maint dosbarthiadau mewn gwirionedd. Yr hyn y dylem edrych arno yw, nid un neu ddau—os ydym am ganlyniadau go iawn, dylem fod yn ystyried torri maint dosbarthiadau i 20 neu 15, fel sydd ganddynt yn y Ffindir.
Dim ond un peth arall mewn perthynas ag addysg yn gyffredinol. Os edrychwch ar y system troseddau ieuenctid, un peth na all ynadon a barnwyr ei wneud yw rhoi amser ychwanegol ar gyfer dysgu. Os edrychwch ar garchardai, mae problemau enfawr yno hefyd gyda llythrennedd. Yn y bôn, mae ysgolion wedi gwneud cam â phobl mewn gwirionedd. Os edrychwch ar 20 y cant o’r bobl nad ydynt yn gallu darllen yn iawn, y bobl sy’n methu disgrifio’u hunain yn iawn yn ysgrifenedig a dweud beth y maent ei eisiau, wyddoch chi, mae’n sgandal go iawn.
I orffen, rwyf hefyd yn awyddus i dynnu sylw yn fyr iawn at sgandal athrawon cyflenwi yn cael cyflogau tlodi, tra bo gennych asiantaethau fel New Directions yn elwa ar ganran enfawr. Yr hyn y mae hynny’n ei wneud mewn gwirionedd yw mynd â miliynau ar filiynau o bunnoedd allan o’r system addysg a ddylai gael ei fuddsoddi yn ein plant ac yn ein hysgolion. Diolch yn fawr, diolch i chi.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch i chi, Lywydd. Rydym wedi cael wythnos gyfan ers i’r canlyniadau PISA gael eu cyhoeddi, ond nid yw hynny’n eu gwneud yn haws i’w treulio. Fe danlinellaf yr hyn a ddywedais ddydd Mawrth diwethaf. Mae’r canlyniadau yn siom enbyd; yn syml nid ydynt ddigon da. Nid ydym eto wedi cyrraedd lle y byddai unrhyw un ohonom—yn rhieni, gwneuthurwyr polisi, athrawon a disgyblion—eisiau bod. Fel y dywedais, unwaith eto, ddydd Mawrth diwethaf, nid oes dim y gall unrhyw un ei ddweud yn y Siambr heddiw wneud i mi’n bersonol deimlo’n fwy siomedig nag wyf fi gyda’r canlyniadau hynny.
Mae’n berffaith naturiol i fynnu newidiadau ar unwaith yn dilyn canlyniadau siomedig fel y rhai a gawsom. Rwy’n derbyn hynny. Rwy’n deall hynny. Ond rwyf hefyd yn gwybod mai dyna’r peth olaf un sydd ei angen ar ddisgyblion, rhieni ac athrawon ar hyn o bryd. Gwn hynny, Mr McEvoy, oherwydd rwy’n treulio llawer iawn o fy amser yn siarad ag athrawon rheng flaen, penaethiaid, staff cymorth, rhieni a llywodraethwyr. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw rhywun i wneud y penderfyniadau anodd, ond cywir. Maent angen Llywodraeth sy’n ddigon cryf i barhau â’r diwygiadau a fydd yn troi pethau o gwmpas, a’u blaenoriaethu.
Caiff profion PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eu parchu o gwmpas y byd, a hynny’n briodol, ni waeth beth y bydd rhai yn ei ddweud mewn Siambrau eraill. Felly, yr hyn y mae’n rhaid ei barchu hefyd yw dadansoddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Roedd eu hadroddiad ar gyfer 2014 yn taflu goleuni ar system Cymru. Datgelodd ein cryfderau, ond nid oedd yn dal yn ôl ychwaith ynglŷn â’n gwendidau. Ers hynny, mae’r adroddiad hwnnw wedi arwain diwygiadau’r Llywodraeth ac wedi cefnogi’r blaenoriaethau a nodais, megis arweinyddiaeth. Wrth fabwysiadu’r rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet, fe’u gwahoddais yn ôl i roi eu dadansoddiad annibynnol ar ein blaenoriaethau a’n cynnydd. Dyna’n union y math o ‘oedi ac ystyried’, Darren, y credaf eich bod wedi sôn amdano y prynhawn yma. Roedd eu neges i mi yn amlwg: rydym ar y trywydd iawn ac mae’n rhaid i ni gadw at ein cynlluniau uchelgeisiol. Byddaf yn gwrando ar y cyngor hwnnw.
Rwy’n gwerthfawrogi’r sylwadau y mae pobl wedi eu gwneud am y ffaith nad yw’r adroddiad ar gael ar hyn o bryd. Rwy’n disgwyl derbyn canfyddiadau llawn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mis Chwefror, a byddaf, wrth gwrs, yn gwneud hwnnw’n gyhoeddus—
Darren Millar a gododd—
[Yn parhau.]—nid yn unig i’r Aelodau yma yn y Siambr, ond i’r byd ehangach.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gadarnhau y byddwch yn sicrhau bod y ddogfen honno ar gael, ond yn sicr, cyn y ddadl heddiw, gallech fod wedi sicrhau bod peth, o leiaf, o’r crynodeb o’r canfyddiadau ar gael, sydd, yn amlwg, eisoes yn eich dwylo chi.
Mae gennym adborth cychwynnol gan PISA yn wir, ond nid wyf mewn sefyllfa i gyhoeddi hwnnw am mai eu hadroddiad hwy ydyw ac maent yn awyddus i gyhoeddi’r canfyddiadau llawn, a byddaf yn gwneud hynny ym mis Chwefror.
O ran y gwelliant, nid yw’r dyfyniad yn y gwelliant gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ddyfyniad o’r adroddiad. Mae’n ddyfyniad o’r datganiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yr wythnos diwethaf i’r cyhoedd. Dyna’r dyfyniad yn y gwelliant heddiw; nid yw’n ddyfyniad sydd mewn unrhyw adroddiad sydd eto i’w gyhoeddi. Mae yn y datganiad a ryddhaodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yr wythnos diwethaf ar gyhoeddi’r PISA.
Mae adroddiad PISA cenedlaethol Cymru, a ysgrifennwyd gan y Sefydliad Addysg, yn nodi bod ein canlyniadau mathemateg a darllen yn sefydlog, ond nid yw sefydlog yn ddigon da. Ein sgoriau mathemateg, ers rownd ddiwethaf y PISA, a welodd y cynnydd mwyaf yn y DU ac o’r gwledydd sy’n perfformio ar lefel uwch a sgoriodd uwchlaw 450, pedair gwlad yn unig a welodd gynnydd mwy mewn mathemateg dros y cyfnod hwn. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn eu datganiad, wedi dweud bod hyn yn galonogol. Mae’r Llywodraeth wedi rhoi’r fframwaith rhifedd ar waith yn llwyddiannus. Rydym wedi diwygio ein TGAU fel eu bod yn asesu’r sgiliau rydym eisiau i’n pobl ifanc eu cael ac sydd eu hangen yn ddirfawr ar ein heconomi. Rhaid i’r momentwm hwn barhau, a dyna pam rwyf wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol newydd o ragoriaeth ar gyfer mathemateg, gan greu rhwydwaith sy’n cynnwys ysgolion, prifysgolion a’r consortia rhanbarthol yn gweithio gyda’i gilydd.
Y fframwaith llythrennedd cenedlaethol ochr yn ochr â’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol yw’r sylfeini ar gyfer gwella llythrennedd a rhifedd. Mae’r rhain yn gosod disgwyliadau uchel, ond byddaf yn parhau i weithio gydag ysgolion a’r consortia i ganolbwyntio ar ddarllen, llafaredd a rhifedd. Rwy’n arbennig o awyddus i ni ystyried darllen a llafaredd. Rhaid i hynny ddigwydd cyn i’r plant fynd i’r ysgol mewn gwirionedd, a dyna pam, ar draws y Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda rhieni ein plant ieuengaf un i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau llafaredd y bydd eu hangen ar eu plant pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.
Roedd ein sgoriau gwyddoniaeth yn arbennig o siomedig ac mae llawer iawn o waith sy’n rhaid ei wneud. Yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn gwella ein perfformiad mewn gwyddoniaeth TGAU, wrth symud ymlaen gyda thrylwyredd. Nid wyf yn ymddiheuro am ddatgelu ffocws sinigaidd a llawer rhy gyfforddus ar BTEC. Roedd hon yn ffordd hawdd allan nad oedd yn arfogi ein pobl ifanc yn iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ildio?
Gwnaf wrth gwrs.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A wnewch chi hefyd ganolbwyntio ar wyddoniaeth yn y sector ysgolion cynradd, oherwydd os yw’r brwdfrydedd y bydd plant yn ei gael ar yr oedran hwnnw i’w symud ymlaen i’r sector nesaf yn bwysig, mae angen i ni ennyn brwdfrydedd ein hathrawon tuag at wyddoniaeth?
David, rydych yn gwneud pwynt da iawn, ac yn y flwyddyn newydd, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar gynlluniau a chyllid a fydd yn targedu ac yn hyrwyddo datblygiad athrawon a rhagoriaeth dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ar draws pob grŵp oedran.
Dangosodd y canlyniadau PISA y gallai ac y dylai Cymru wneud mwy i gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog. Sgôr pwyntiau newydd wedi’i gapio, symud i ffwrdd oddi wrth BTEC a rhwydwaith newydd o ragoriaeth ar gyfer mathemateg: bydd pob un o’r newidiadau hyn, ac eraill rydym bellach yn eu cyflwyno, yn profi ein disgyblion er mwyn sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.
Croesawaf welliant Plaid Cymru y dylem fynd ar drywydd diwygiadau i’r cwricwlwm, addysg hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon. Mae’r rhain yn ganolog i fy nghynlluniau. Mae hwn yn gyfraniad diwygiol sy’n edrych ymlaen, yn wahanol i welliant arall Plaid Cymru y mae’n well ganddo edrych yn ôl, yn anffodus, ac sy’n ceisio gwadu bod Llywodraeth Cymru’n Un wedi bodoli.
Clywais hefyd y gymhariaeth gyda diwygiadau’r Alban. Ydym, rydym yn dysgu gan yr Alban a systemau eraill, ond nid ydym yn eu dilyn yn slafaidd. Os oes gwersi i’w dysgu a pheryglon i’w hosgoi, yna credwch fi, fe wnaf hynny. Er enghraifft, rydym yn diwygio’r cwricwlwm yn sylweddol ochr yn ochr â diwygio’r drefn asesu. Mae un yn mynd law yn llaw gyda’r llall, a thrwy ein hysgolion arloesi rydym yn rhoi’r proffesiwn addysgu yng nghanol ein diwygiadau ac yn eu cefnogi gydag arbenigedd allanol. Rydym yn gosod disgwyliadau a chyfrifoldebau clir ar gyfer pob haen yn ein system.
Mae addysg gychwynnol i athrawon yn hanfodol i’n huchelgais, lle y bydd addysgu, wrth gwrs, yn addas ac yn barod ar gyfer system addysg ddiwygiedig, a dylai fod yn ddisgwyliad clir y bydd y rhai sy’n ymuno â’r proffesiwn yn ymroddedig i’w dysgu gydol oes proffesiynol a’u datblygiad proffesiynol eu hunain. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, sut y gall unrhyw un ddysgu’r cyfan sydd i’w ddysgu ym maes addysg? Unwaith eto, byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i weithredu cymhwyster dwy flynedd a phedair blynedd.
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl, Lywydd, fod arweinyddiaeth yn hanfodol ac yn sylfaenol i systemau addysg sy’n perfformio ar lefel uchel. Dyna pam, y mis diwethaf, y cyhoeddais sefydlu academi genedlaethol o arweinyddiaeth addysgol. Mae’n gam pwysig ymlaen ac yn cau bwlch a nodwyd gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2014. Yn awr, yn fwy nag erioed, yn y cyfnod hwn o ddiwygio, mae ar Gymru angen arweinwyr cryf sy’n barod am yr her ac arweinyddiaeth ar bob lefel. Paul, rydych yn hollol gywir: rhaid i awdurdodau addysg lleol a chonsortia wneud eu rhan, fel y mae’n rhaid i lywodraethwyr. Fel y gwyddoch, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddiwygio cyfundrefnau llywodraethu—maes diwygio sydd, yn anffodus, wedi arafu yn y blynyddoedd diwethaf.
Lywydd, i grynhoi, nid oedd y canlyniadau PISA yn ddigon da, ond nid oes gennyf amser i wasgu dwylo mewn anobaith. Mae gwaith i’w wneud yn lle hynny. Nid oes unrhyw atebion hawdd, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar arweinyddiaeth. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ragoriaeth addysgu. Rhaid i degwch a lles fod wrth galon popeth a wnawn. Bu’n rhaid disgrifio canlyniadau PISA blaenorol fel galwad i ddihuno. Bellach nid yw Cymru yn y fan honno. Y gwir syml yw ein bod yn gwybod beth yw realiti ein sefyllfa. Rwy’n gwybod beth yw realiti ein sefyllfa. Rwyf hefyd yn gwybod i ble rydym yn mynd. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn ymwneud â diwygio addysg, ac mae’n un y byddaf fi a’r Llywodraeth hon yn ei chyflawni.
Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. Dywedodd David Rees fod addysg yn rhodd, ond rwy’n meddwl bod addysg yn hawl sylfaenol mewn gwirionedd. Oherwydd heb addysg dda sut y gall y plentyn dyfu’n oedolyn gydag addysg dda a chyda’r gallu i gyfrannu at eu bywydau eu hunain, at fywydau’r bobl y maent yn eu hadnabod ac yn eu caru, ac at fywydau ein gwlad? A sut y bydd ein gwlad yn tyfu ac yn datblygu? A sut y bydd ein diwylliant yn cael ei gynnal os nad oes gennym boblogaeth wedi’i haddysgu’n dda? Felly, rwy’n dweud bod addysg yn hawl.
Mae’r canlyniadau PISA wedi ein hatgoffa unwaith yn rhagor nad ydym ble y mae angen i ni fod. Neil McEvoy, hoffwn ddweud wrthych am ‘Y Wlad sy’n Dysgu’—mai yno y dechreuodd y cyfan fynd o chwith. Oherwydd os ydych yn cael gwared ar bob meincnod ac asesiad safonol, yna rydych yn gadael athrawon yn yr anialwch ar eu pen eu hunain yn y tywyllwch, heb sêr, heb secstant, heb gwmpawd, ac nid yw’n syndod pan ddaw golau dydd fod pawb mewn lle gwahanol iawn. Dyna beth ddechreuodd fynd o chwith.
Credaf fod gennym gyfle i unioni hynny. Credaf fod arnom angen arweinwyr ysbrydoledig. Mae arnom angen athrawon rhagorol, mae arnom angen cyfleusterau gweddus, ac mae arnom angen corff o fyfyrwyr ymrwymedig a hapus. Mae arnom angen cwricwlwm sy’n addas ar gyfer heddiw—cwricwlwm nad yw’n gaeth i’r 1950au, y 1960au, y 1970au neu’r 1980au, ond sydd mewn gwirionedd yn addas ar gyfer rhai 10 oed, rhai 14 oed a rhai 16 oed heddiw. Felly, nid oes gennyf broblem gyda’r ffaith ein bod wedi edrych ar Donaldson—mae llawer o rinweddau ynddo—ond credaf fod pwynt Darren Millar am oedi ac ystyried yn allweddol iawn, oherwydd mae’r Alban yn llithro, a rhai o’r gwledydd sydd bob amser wedi gwneud yn dda—Sweden, gwledydd eraill—heb fod yn gwneud cystal. Mae angen i ni edrych, mae angen i ni feincnodi. Felly, arweinwyr ysbrydoledig, athrawon rhagorol—a gadewch i ni fod yn glir, nid yw pob un o’n hathrawon yn ardderchog. Mae llawer ohonynt yn ardderchog, ond mae’r rhai nad ydynt yn llusgo’r lleill i lawr ac yn gwneud eu swyddi mor anodd. Rydym angen datblygiad proffesiynol parhaus, ysgolion y mae plant yn mwynhau mynd iddynt, system addysgol sy’n bachu eu sylw ac yn ei ddal drwy gydol eu taith ysgol gyfan, ac mae angen i ni allu meincnodi ac asesu. Gall Gwlad Pwyl ei wneud; gallwn ni ei wneud. Os gall unrhyw un ei wneud, yn sicr ddigon fe all y wlad hon wella ein system addysg.
Mae’n hollol bosibl mai Donaldson yw’r ffordd ymlaen, ond wyddoch chi, os ydych ar ffordd dywyll yn y nos ac rydych yn gwybod mai dyna’r ffordd ymlaen, ond eich bod yn sydyn yn cael cipolwg ar arwydd sy’n dweud y gallai fod clogwyn o’ch blaen, mae’r person doeth yn oedi ac yn gwneud yn siŵr mai dyna’r ffordd ymlaen. Nid ydym am ailadrodd ‘Y Wlad sy’n Dysgu’. Nid ydym am golli’r cyfle hwn. Pam? Oherwydd y peth tristaf yw plentyn neu berson ifanc sy’n gadael yr ysgol yn 16 oed heb ddigon o gymwysterau i fynd a chael y swydd y maent am ei gwneud, ni allant gael swydd sy’n ddigon da iddynt gael bywyd teuluol hapus, i gael eu plant eu hunain, i gael eu tŷ eu hunain, i wneud yr holl bethau rydym i gyd am eu gwneud—mynd ar wyliau, yr holl bethau eraill. A’r rheswm am hyn i gyd yw’r ffaith nad ydynt wedi cael addysg dda.
Lywydd, hoffwn ddweud un peth arall hefyd. Mae’n rhaid i ni gofio bod gan ychydig o dan chwarter ein plant, Weinidog, anghenion dysgu ychwanegol. Nid yw’n syndod. Nid yw’n syndod. Mae’n rhaid i ni eu cynnwys. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rwyf wedi derbyn trydydd cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, a chyn imi ofyn i Adam Price ofyn ei gwestiwn, rydw i eisiau diolch i’r Dirprwy Lywydd am ymateb yn gynhwysfawr i bwynt o drefn yn gynharach y prynhawn yma. Ni fyddwn ond yn ychwanegu y byddai’n deg dweud fy mod bob amser am dderbyn cwestiynau brys pan gredaf fod Aelodau yn haeddu cyfle i graffu ar ddatganiad gan y Llywodraeth sydd o bwys cyhoeddus. Fel y dywedodd y Dirprwy Lywydd, gall fod mwy o frys ar y craffu hwnnw ar drothwy toriad.
Mae’n bosibl y bydd yr Aelodau eisoes yn gwybod bod y Pwyllgor Busnes, yn y flwyddyn newydd, yn mynd i edrych ar ein gweithdrefnau o ran cwestiynau brys a chwestiynau amserol, ac fe fyddaf i’n awyddus iawn i glywed barn yr Aelodau ar y diwygio sydd ei angen ar ein cyfundrefn ni.
Felly, rwyf yn galw nawr ar Adam brys [Chwerthin.]—Adam Price i ofyn ei gwestiwn brys.
Diolch o galon, Lywydd—rwy’n credu.
A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw? EAQ(5)0100(EI)
Y bore yma, mewn digwyddiad brecwast busnes ym Maes Awyr Caerdydd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith araith yn manylu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda chynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith dros y pum mlynedd nesaf. Y buddsoddiad hwn, sy’n cynnwys gwelliannau mawr i’r M4, yr A55, yr A40 a’r A494, cyflwyno metro de Cymru, datblygu metro yng ngogledd Cymru, masnachfraint rheilffyrdd newydd, cronfa datblygu porthladdoedd, datblygu trydedd bont dros y Fenai, gwasanaethau bysiau gwell a mwy cynaliadwy, a mwy, fydd y mwyaf y mae Cymru wedi’i weld mewn cenhedlaeth.
Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am sefyll yn y bwlch yma ac ateb y cwestiwn brys hwn, fod y Llywodraeth heddiw wedi cyhoeddi yr hyn a ddywedodd oedd y buddsoddiad mwyaf yn y seilwaith ers datganoli, ac eto, mewn democratiaeth, byddem wedi disgwyl y datganiad hwnnw, yr honiad mawr hwnnw, i gael ei wneud mewn senedd ac nid mewn maes awyr mewn brecwast busnes. Mae’n anghwrteisi eithafol i bob un o’r bobl a’n hetholodd. Rydym ar fin ail-enwi’r lle hwn; efallai y dylem alw ein hunain yn siambr wactod, oherwydd absenoldeb y craffu sy’n nodweddu fwyfwy y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ein trin.
Fel y clywsom mewn termau—[Torri ar draws.] Fel y clywsom am yr adroddiad PISA anweledig yn gynharach, nid yw’n dderbyniol. Ceisiais ddod o hyd i fanylion, ceisiais ymchwilio i’r sylwedd y tu ôl i’r datganiad bachog, ac nid oes unrhyw fanylion. Rydym wedi cael y Llywodraeth hon o’r blaen yn cynhyrchu cynlluniau heb arian—yn awr, mae gennym arian heb gynllun. Felly, a gaf fi ofyn i’r Dirprwy Weinidog—[Torri ar draws.] A gaf gi ofyn i’r Dirprwy Weinidog: beth yw’r ffigur penodol? Beth yw’r ffigur penodol o ran buddsoddi yn y seilwaith? A all ddweud beth yw statws y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol? A yw bellach yn ddiangen, neu a allwn ddisgwyl cynllun diwygiedig newydd yn syth? Beth yw statws y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2015? A yw bellach yn ddiangen a pha bryd y gallwn ddisgwyl cynllun newydd gan y Gweinidog? A allwn gael democratiaeth briodol lle y mae gennym graffu go iawn? Fel arall, bydd y lle hwn yn mynd yn ddiangen hefyd.
Wel, Lywydd, byddai unrhyw un yn meddwl ei bod yn tynnu at ddiwedd y tymor. [Torri ar draws.] Ac, yn wir, oherwydd ei bod—[Torri ar draws.] Ac oherwydd ei bod yn tynnu tuag at ddiwedd y tymor, y bore yma gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith araith i gynulleidfa o randdeiliaid busnes a thrafnidiaeth yng Nghymru lle y manylodd ar nifer o gyhoeddiadau a wnaed yn y Siambr hon mewn datganiadau ac mewn cynlluniau ar draws y tymor hwn. Gwnaeth hynny fel datganiad diwedd tymor, a gallaf roi eu manylion i chi eto.
Rydym wedi cyhoeddi ein cynigion ar gyfer comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, sydd bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau trafnidiaeth Cymru a chanllawiau gwerthuso 2017; mae hwnnw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, fel y dywedodd Adam Price, yn nodi rhaglen dreigl bum mlynedd uchelgeisiol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth ar hyd a lled Cymru. Manylais arnynt yn fy ateb i’w gwestiwn gwreiddiol. Rwy’n hapus i wneud hynny eto, os yw’n dymuno. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith i wella diogelwch a thagfeydd ar yr A55, yr A494 a’r A548, er enghraifft, a buddsoddiad o dros £200 miliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy, a fydd yn un o’r rhai mwyaf arwyddocaol ers datganoli a bydd yn rhoi hwb aruthrol i’r economi a chynaliadwyedd trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r prosiect ar gyfer prosiect gwella’r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Phenblewin. Bydd y cynigydd a ffafrir yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, ac mae eisoes yn fater sydd gerbron y Cynulliad. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn manylu ar yr holl waith da—[Torri ar draws.] Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn manylu ar yr holl—[Torri ar draws.] Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn manylu ar—
Gadewch i ni glywed yr ateb. Diolch yn fawr, Weinidog.
[Yn parhau.]—yr holl waith da y mae’r Llywodraeth wedi’i roi ar waith i sicrhau bod gennym system drafnidiaeth a seilwaith gynaliadwy a buddiol yn economaidd i Gymru, fel roedd yn iawn iddo ei wneud.
A gaf fi gefnogi safbwyntiau Adam Price yn llwyr? Mae’n warthus na allai Ysgrifennydd y Cabinet fod yma heddiw i gyflwyno i’r Siambr yr hyn a gyflwynodd yn ei araith y bore yma. Nid wyf—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith honno y bore yma, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw hyn: mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith a roddodd y bore yma.
Ni allaf glywed y cwestiwn, ac ni all y Gweinidog. A wnewch chi dawelu? Russell George.
Y ddau gwestiwn penodol sydd gennyf, Weinidog, yw: a gaf fi ofyn i chi amlinellu, Weinidog, pa brosiectau seilwaith fydd yn cael eu dynodi ar gyfer cefn gwlad Cymru, ac yn ail, pa brosiectau penodol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i ddarparu’r gwasanaeth rhwydwaith bysiau cynaliadwy y mae wedi ymrwymo iddo? Mae’n siomedig nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yma ei hun nac wedi cyflwyno datganiad heddiw er mwyn i Aelodau’r Cynulliad allu ei holi’n iawn heddiw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet i ffwrdd ar fusnes brys yn Llundain, yn diogelu swyddi a gwasanaethau yng Nghymru. Ni allai fod wedi rhagweld mewn unrhyw fodd yr angen i fod yma i ateb cwestiwn brys ar yr hyn a oedd yn araith ddiwedd tymor ym Maes Awyr Caerdydd.
Fodd bynnag, rwy’n eithaf hapus i ddarllen, unwaith eto, y gyfres o brosiectau a adolygodd yn ystod ei araith. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys gwelliannau mawr i’r M4, yr A55, yr A40, yr A494, cyflwyno metro de Cymru, datblygu metro yng ngogledd Cymru, masnachfraint rheilffyrdd newydd, cronfa datblygu porthladdoedd, datblygu trydedd bont dros y Fenai, gwasanaethau bysiau gwell a mwy cynaliadwy, y mwyaf y bydd Cymru wedi’i weld mewn cenhedlaeth. Dyna oedd prif bwyslais ei araith. Ar hyn o bryd rwy’n trefnu i’r araith gael ei rhoi ar y wefan; bydd yno ar ôl iddi gael ei chyfieithu.
Dychrynais innau braidd hefyd i weld y cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud y bore yma, nid yn y lle hwn ond mewn adeilad arall sy’n eiddo i’r Llywodraeth i lawr y ffordd. A gaf fi ofyn chi—[Torri ar draws.]? A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, gan gyfeirio’n benodol at y buddsoddiad sydd wedi’i gyhoeddi yng ngogledd Cymru, rydych wedi awgrymu mai mater syml yw hyn o ailgynhesu a microdonni buddsoddiad blaenorol a gyhoeddwyd yn y Siambr a thrwy’r tŷ hwn—nid wyf yn ymwybodol o’r buddsoddiad sylweddol rydych wedi cyfeirio ato mewn perthynas â diogelwch a thagfeydd ar yr A55? A allwch ddweud wrthym a fydd yn cynnwys ychwanegu llain galed i’r rhannau o’r A55 sydd heb un ar hyn o bryd, a fydd yn mynd i’r afael â’r problemau sylweddol rydym yn eu cael o hyd gyda llifogydd ar hyd yr A55, ac a fydd rhai o’r rhannau penodol o’r A55 lle y ceir tagfeydd yn ddyddiol, nid yn ardal Glannau Dyfrdwy yn unig, ond mewn mannau eraill, yn cael sylw hefyd o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn?
Y gwaith y manylwyd arno ar gyfer yr A55 yng ngogledd Cymru yw gwella diogelwch a thagfeydd. Nid oedd araith Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma yn cynnwys manylion o’r math y gofynnir amdanynt yn awr, ond rwy’n siŵr y bydd yn hapus i ysgrifennu atoch ynglŷn â hynny.
O ran y mater ei fod yn adeilad sy’n eiddo i’r Llywodraeth, rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi ddweud, Lywydd, mai’r peth cyntaf a wneuthum fel cyfreithiwr ifanc pan ddeuthum i Gymru oedd gwerthiant gorfodol Maes Awyr Caerdydd o’r sector cyhoeddus oherwydd faint o arian a wnai, a phleser o’r mwyaf oedd bod ymysg Gweinidogion Llywodraeth a’i cymerodd yn ôl i mewn i’r sector cyhoeddus yn sgil methiant y sector preifat.
[Anghlywadwy.] Hoffwn ofyn i’r Dirprwy Weinidog, o ystyried y dicter a ddangoswyd gan Adam Price heddiw—byddai gwleidyddion yn y Siambr a’r cyhoedd, a bod yn deg, yn cael eu synnu, gan ein bod wedi cael gwybod yr holl ffordd drwy’r tymor seneddol hwn fod Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn gweithio law yn llaw i ddatblygu’r prosiectau seilwaith hyn, ac yn wir, roedd y comisiwn seilwaith i fod i gael ei gyflwyno. Mae’n ymddangos nad oes fawr o ddeialog os o gwbl yn digwydd ar y prosiectau hyn, ac nid oes sylwedd o gwbl yn sail i’r hyn a gyhoeddodd Ken Skates ym Maes Awyr Caerdydd heddiw, ac nid yw’n ddim ond datganiad i’r wasg arall y mae mwy a mwy o bobl yn mynd i ddechrau gweld drwyddo? A wnewch chi ateb—? [Torri ar draws.] Wel, na, nid yw’n araith, gofyn rwyf fi—[Torri ar draws.] Gofyn rwyf fi—[Torri ar draws.] Gofyn rwyf fi—[Torri ar draws.] Gofyn rwyf fi—[Torri ar draws.] Gofyn rwyf fi i’r Dirprwy Weinidog gadarnhau sut y mae’r Llywodraeth yn gweithredu, yn gweithio, ac yn bwriadu cyflawni’r prosiectau hyn, yn enwedig pan ddywedir wrthym wythnos ar ôl wythnos fod yna grwpiau trawsbleidiol yn gweithio o fewn y Llywodraeth, ac nid yw’n ymddangos eu bod yn gweithio, mae’n amlwg, ac yn y pen draw, rydym yn byw ar sbin.
Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Fel y dywedais—ac rwyf wedi’i ddweud sawl gwaith erbyn hyn, ond rwy’n hapus i’w ddweud eto—y bore yma, mewn digwyddiad brecwast busnes i randdeiliaid trafnidiaeth a busnes, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith araith yn manylu ar y cynnydd a wnaed ar gynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith sydd wedi cael eu dwyn yn briodol o flaen y Cynulliad hwn ac sy’n rhaid i’r Cynulliad eu craffu. Lywydd, ni fyddaf yn profi eich amynedd drwy ddarllen y prosiectau buddsoddi sylweddol iawn—[Torri ar draws.]
Diolch i chi, Weinidog, am beidio â phrofi fy amynedd, er bod y 10 munud olaf wedi gwneud hynny yn ôl pob tebyg. Buaswn yn dweud fy mod yn meddwl mai’r wers o’r 10 munud olaf yw, os yw polisïau Llywodraeth i gael eu pecynnu fel cyhoeddiadau, yna y lle gorau i wneud hynny yw yma yn y Siambr hon fel ein bod i gyd yn gallu craffu a chlywed y datganiadau hynny—[Torri ar draws.] Tawelwch.
Dyma fydd ein sesiwn bleidleisio olaf cyn y Nadolig ac yn 2016. A gaf fi ddymuno Nadolig llawen i chi gyd? Hyd yn oed ar ôl hynny.
Merry Christmas to you all. And, unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.
Y bleidlais, felly, ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, nid yw’r cynnig wedi ei dderbyn.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 34, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6188.
Rwy’n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 26, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6188.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 24, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6188.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6188.
Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6188 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.
2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.
3. Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.
4. Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.
5. Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd cynnig NDM6188 fel y’i diwygiwyd: O blaid 44, Yn erbyn 0, Ymatal 6.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6188 fel y’i diwygiwyd.
Os caf ofyn i Aelodau adael y Siambr yn dawel er mwyn i ni fedru symud ymlaen gyda’r eitem nesaf ar ein hagenda ni, sef y ddadl fer.
Rwy’n galw ar Bethan Jenkins i gyflwyno’r cynnig yn ei henw hi.
Diolch. Cyn i mi ddechrau heddiw, hoffwn dalu teyrnged arbennig i’r tri ymgyrchydd diflino y mae eu hangerdd a’u hymrwymiad wedi sbarduno’r mater rwy’n mynd i siarad amdano yma heddiw, ac sydd fan lleiaf yn haeddu gwrandawiad llawn a theg i’r cynnig blaengar hwn. Y cyntaf yw fy etholwr Jenna Satterley, a wynebodd drasiedi yn ddiweddar, byrgleriaeth yn lloches Ty-Nant yn y Cymer yn fy rhanbarth ym mis Gorffennaf, pan gafodd tair cath eu hanafu’n ofnadwy a’u lladd. Defnyddiodd Jenny y digwyddiad i roi hwb newydd i’r syniad cadarnhaol hwn. Y ddau arall yw Maxine a Brian Berry o ymgyrch Justice for Chunky. Fel deddf Rocky, gweithred o greulondeb erchyll yn erbyn ci a barodd i’r pâr ddechrau eu hymgyrch dros gyflwyno cofrestri cam-drin anifeiliaid yn y DU. Yn anffodus, nid wyf yn meddwl bod gennyf ddigon o amser i fanylu ar eu gwaith gofalus sy’n nodi’r tirlun deddfwriaethol, ond rwy’n siŵr y byddent yn fodlon i mi rannu’r hyn rydym wedi ei wneud a’r hyn y maent hwy wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru.
Mae hon yn ddadl na fuaswn yn dymuno ei chael yma heddiw. Mewn cymdeithas ddelfrydol, gwyddom na fyddai’r fath beth â chreulondeb i anifeiliaid. Ac i’r mwyafrif llethol ohonom, mae gweithred o falais disynnwyr yn erbyn anifail yn rhywbeth sy’n troi arnom, ac yn rhywbeth na allwn ei ddirnad, ond mae’n bodoli. Y mis hwn, cafodd cath fach nad oedd yn fwy nag ychydig wythnosau oed ei churo i farwolaeth gyda rholbren a’i thaflu i uned gwaredu bwyd gan staff y gegin mewn gwesty ym Metws-y-coed. Cymerodd brotest ar gyfryngau cymdeithasol a bygythiad i fusnes yn ôl pob tebyg, i’r rheolwyr ymddiheuro a diswyddo’r rhai a oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, cŵn yw’r anifeiliaid sy’n cael eu cam-drin fwyaf yng Nghymru o hyd. Ym mis Gorffennaf, bu’n rhaid i’r RSPCA ddifa ci defaid Almaenig o’r enw Sindy ar ôl iddi gael ei gadael wedi’i chlymu wrth reiliau yn Sir y Fflint gydag anafiadau i’w choesau a nodyn yn dweud na allai ei pherchennog ymdopi.
Felly, ni waeth sut y mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo am ddigwyddiadau o’r fath, mae’n anwarineb ac mae’r ffaith ei fod yn digwydd mor rheolaidd yn mynnu ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i ddileu cam-drin anifeiliaid, gan mai dyna ddylai fod yn nod i ni—dileu creulondeb i anifeiliaid yn llwyr.
Mae’r hyn rwy’n ei gynnig heddiw o fewn y cymhwysedd. Mae hefyd wedi cael ei sefydlu a’i brofi mewn mannau eraill, er mai dyma’r tro cyntaf y byddai’n digwydd yn y DU, ac mae iddo fanteision posibl y tu allan i les anifeiliaid a thu allan i’r hyn y mae’r Cynulliad hwn yn ei wneud. Yn y pen draw, os gallwn gefnogi gorfodi’r gyfraith, yna fe ddylem, hyd yn oed os nad oes gennym y pwerau. Nid yw hynny’n rheswm dros wrthod y cynnig hwn.
Wrth gynnig cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, fel y dywedais, nid oes angen ail-greu’r olwyn. Mae gennym fodelau sy’n gweithio eisoes yn yr Unol Daleithiau. Er nad yw’n ateb Cymreig, am ei fod yn perthyn i fframwaith cyfreithiol gwahanol, mae’n darparu’r sail ar gyfer adeiladu cofrestr wrth edrych ar y newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth—os oes angen deddfwriaeth—ac yn nodi problemau posibl.
Felly, fel y dywedais, ar hyn o bryd nid oes unrhyw gofrestr cam-drin anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon. Yn ddiweddar, edrychodd pwyllgor yn San Steffan ar sefydlu cofrestr anifeiliaid yn Lloegr fel rhan o ymchwiliad i les anifeiliaid anwes yn y cartref. Argymhellodd yr ymchwiliad y dylai Llywodraeth y DU archwilio’r potensial ar gyfer sefydlu cofrestr cam-drin anifeiliaid. Mae hyn yn dilyn deiseb y Cynulliad yn 2012 a alwai am gofrestr troseddwyr anifeiliaid yng Nghymru. Archwiliodd y Pwyllgor Deisebau nifer o faterion a theimlai ar y pryd na fyddai’n ymarferol. Fodd bynnag, mae digwyddiadau wedi symud ymlaen yn ddigonol i’r syniad hwn gael ei ailystyried. Maent wedi cael eu sefydlu mewn mannau eraill a gallwn weld eu bod yn gweithio.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ceir enghreifftiau niferus o gofrestri cam-drin anifeiliaid yn yr Unol Daleithiau, lle y defnyddir dau fodel gwahanol. Cofrestr agored yw’r cyntaf, megis yn Tennessee, pan fo gwybodaeth am yr unigolyn a gafwyd yn euog yn cael ei gyhoeddi ar-lein gan gynnwys eu ffotograff, eu henw, eu cyfeiriad a’u dyddiad geni. Cofrestr breifat yw’r llall, megis yn Ninas Efrog Newydd, sydd ond ar gael i sefydliadau penodol, fel llochesi anifeiliaid a’r rhai sy’n gwerthu anifeiliaid.
Mae Biwro Ymchwilio Tennessee yn gweithredu nifer o gofrestri: cofrestr troseddwyr rhyw, cofrestr troseddwyr cyffuriau, cofrestr cam-drin a chofrestr cam-drin anifeiliaid. Mae’r gofrestr cam-drin anifeiliaid yn cael ei gweithredu ar draws y dalaith o dan un o ddeddfau talaith Tennessee, y Ddeddf cofrestru cam-drin anifeiliaid. Dyma’r gofrestr gyntaf i fod ar gael i’r cyhoedd yn yr Unol Daleithiau. Ers mis Ionawr eleni, mae wedi postio’r wybodaeth ganlynol: enw’r troseddwr, cyfeiriad, dyddiad geni a’r math o drosedd. Nid yw’n cynnwys rhif nawdd cymdeithasol, rhif trwydded yrru nac unrhyw rif adnabod arall. Cedwir y wybodaeth ar y gofrestr am ddwy flynedd am drosedd gyntaf, ac mae’n codi i bum mlynedd am ail drosedd. Nododd erthygl yn ‘Huffington Post’ nad oedd Biwro Ymchwilio Tennessee, gyda chyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, yn wynebu cost sylweddol am gynnal y gofrestr ar ei wefan bresennol.
Ceir cofrestri agored yn sir Albany a sir Orange, y ddwy yn nhalaith Efrog Newydd. Mae’r gofrestr agored ar-lein yn sir Albany yn cael ei chynnal gan loches anifeiliaid, Cymdeithas Ddyngarol Mohawk Hudson, fel gwasanaeth i’r cyhoedd. Fel y cyfryw, nid oes unrhyw gost i’r trethdalwr. Mae angen i unrhyw un a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid yn sir Albany ar ôl mis Ionawr 2012 gyflwyno gwybodaeth i adran y siryf sir Albany, a’i diweddaru bob blwyddyn. Yna, caiff y wybodaeth honno ei throsglwyddo i’r lloches. Dywed ei wefan:
Dylai unrhyw un sy’n gwerthu anifail, rhoi anifail neu fabwysiadu anifail i berson arall yn Albany... archwilio’r gofrestr cyn unrhyw newid mewn perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu fabwysiadu anifail i berson ar y gofrestr yn groes i gyfraith y sir.
Crëwyd cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange yn 2015 gan Ddeddf a elwir yn Ddeddf Rocky yn neddfwrfa sir Orange, ar ôl gorfod difa ci a oedd wedi’i adael allan yn yr eira heb fwyd a dŵr am bum wythnos tra oedd ei berchennog ar wyliau. Caiff y gofrestr ei chadw yn swyddfa’r siryf, ac mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn y sir a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid gyflwyno eu gwybodaeth i swyddfa’r siryf sir Orange, ac yna caiff ei rhoi ar-lein. Codir ffi o $125 arnynt hefyd. Mae’r ddeddf yn mynnu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n trosglwyddo perchnogaeth anifail am dâl neu fel arall archwilio cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange cyn unrhyw newid perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu ganiatáu mabwysiadu anifail i berson yn yr ardal yn groes i gyfraith y sir.
Yn Efrog Newydd, mae Deddf Cofrestru Cam-drin Anifeiliaid 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn Ninas Efrog Newydd a geir yn euog o drosedd cam-drin anifeiliaid gofrestru gydag adran iechyd y ddinas, ble y cânt eu hychwanegu at gofrestr cam-drin anifeiliaid Dinas Efrog Newydd. Mae’r wybodaeth sydd arni gryn dipyn yn fwy na’r hyn sydd ei angen ar gyfer cofrestr agored Tennessee, gan gynnwys disgrifiad o’r drosedd, trwydded gyrwyr, taldra, pwysau, ethnigrwydd a lliw llygaid y person hwnnw. Fodd bynnag, y sefydliadau hynny a enwir o dan y Ddeddf yn unig sy’n cael gweld y gofrestr. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi pa fath o fusnesau’n ymwneud ag anifeiliaid y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt archwilio’r gofrestr a gwrthod gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth anifail i unrhyw un a restrir ar y gofrestr. Mae hyn yn cynnwys siopau anifeiliaid anwes, llochesi anifeiliaid a milfeddygon yn Efrog Newydd.
Mae dros 20 o Filiau’n sefydlu cofrestri cam-drin anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno ar draws America, gan gynnwys Illinois, Maryland, Rhode Island a California. Yn Colorado, gwrthodwyd Bil ar gyfer cofrestr agored ar sail y gost. Fodd bynnag, ar ôl cyflwyno deddfwriaeth fy hun, nid yw cost ynddi’i hun yn ddigon o reswm i’w hatal rhag cael ei chyflwyno; mae’n rhaid cael pwrpas. Nid yw cost ond yn dod yn broblem pan na ellir sefydlu beth yw’r pwrpas hwnnw, neu os oes diffyg ewyllys.
Rwy’n gweld dau bwrpas i gofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru. Y cyntaf yw dangos i droseddwyr a darpar droseddwyr y bydd canlyniad arall i’w hymddygiad troseddol; ein bod yn dechrau symud, fel cymdeithas, tuag at ei gwneud yn gwbl glir bod cam-drin anifeiliaid y tu hwnt i ffiniau ymddygiad derbyniol, yn yr un modd ag y mae gwahanol fathau o ragfarn yn cael eu hystyried yn llawer mwy annerbyniol nag yr oeddent flynyddoedd yn ôl.
Wrth gwrs, ni allwn ddweud bod rhagfarn wedi cael ei ddileu yn gyfan gwbl, ond mae’n symud i’r cyfeiriad iawn. A dyna’r pwynt yma. Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n cam-drin anifeiliaid i’w gweld yn fwy tebygol o gael eu cywilyddio a’u ceryddu ar gyfryngau cymdeithasol nag y maent drwy ateb cyfreithiol. Mae angen arf ataliol. Hefyd, nododd ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin fater arall sy’n ymwneud â cham-drin anifeiliaid: ei bod yn anodd iawn olrhain y rhai sydd wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid. Gwelodd y gallai cofrestr hygyrch chwarae rhan bwysig yn diogelu anifeiliaid ac atal camdrinwyr rhag dod i gysylltiad ag anifeiliaid. Ac roedd yn argymell gwaith pellach ar y mater hwn.
Fe ddywedais yn gynharach fod dimensiwn arall i’r ddadl hon. Cynhyrchodd Links Group, sefydliad sy’n cynnwys yr NSPCC, RSPCA a Ffederasiwn Cymorth i Fenywod Lloegr, waith sy’n dweud bod yna fwy o ymchwil a thystiolaeth glinigol sy’n awgrymu bod cysylltiadau weithiau rhwng cam-drin plant, oedolion sy’n agored i niwed ac anifeiliaid, ac y gallai
gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn helpu i ddiogelu dioddefwyr, yn bobl ac anifeiliaid, a hybu eu lles.
Os yw plentyn yn greulon i anifeiliaid, canfu’r gwaith y gallai fod yn arwydd fod y plentyn hwnnw wedi dioddef esgeulustod a cham-drin difrifol. Er bod ymchwil diweddar yn y DU yn awgrymu bod cam-drin anifeiliaid gan blant yn eithaf cyffredin, mewn lleiafrif o achosion mwy eithafol, mae’n ymddangos ei fod yn gysylltiedig â cham-drin plant, neu ymddygiad camdriniol dilynol gan y plentyn.
Lle y cafodd anifail ei gam-drin yn ddifrifol mewn cartref, efallai y bydd mwy o debygolrwydd fod rhyw fath arall o drais teuluol yn digwydd, ac y gallai unrhyw blant sy’n bresennol hefyd fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin. Gall gweithredoedd o gam-drin anifeiliaid, mewn rhai amgylchiadau, gynnwys gorfodi, rheoli a dychryn menywod a phlant i aros yn eu sefyllfa gamdriniol neu i beidio â dweud wrth neb. Gall cam-drin neu fygwth cam-drin anifail anwes atal menywod rhag gadael sefyllfaoedd o drais domestig. Mae creulondeb cyson i anifeiliaid mewn plentyndod wedi’i gysylltu â thebygolrwydd cynyddol o ymddygiad troseddol treisgar yn erbyn pobl pan fyddant yn oedolion. Os yw plentyn yn arddangos ymddygiad ymosodol neu rywioledig eithafol tuag at anifeiliaid, gallai hyn, mewn rhai achosion, fod yn gysylltiedig â cham-drin plant eraill neu oedolion agored i niwed yn nes ymlaen, oni bai bod yr ymddygiad yn cael ei adnabod a’i drin.
Nid oes amheuaeth fod y ddau bwynt olaf yn bwysig mewn perthynas â gorfodi’r gyfraith. Ers peth amser, gwyddys bod llawer o lofruddwyr cyfresol a throseddwyr difrifol eraill wedi dechrau eu taith gyda cham-drin anifeiliaid. Yn wir, mae’r FBI yn America yn ei ddefnyddio’n rhan o waith proffilio troseddol. Ni allaf gredu am eiliad y byddai unrhyw heddlu yng Nghymru yn ystyried na fyddai cofrestr o’r fath o ddefnydd iddynt wrth iddynt fynd ati i ddatrys trosedd, a buaswn yn dadlau y dylai pob asiantaeth gorfodi’r gyfraith gael gweld cofrestr o’r fath.
Un o’r pryderon ynglŷn â chofrestr o’r fath yw sut y byddem yn diffinio cam-drin, ac yn penderfynu pwy ddylai fynd arni a phwy na ddylai. I mi, mae’n ymddangos yn eithaf syml. Os yw rhywun wedi ei gael yn euog—nid ei gyhuddo, ond ei gael yn euog—o greulondeb i anifeiliaid, yna, dylai eu henw fynd ar y gofrestr honno. Mater i’r gyfraith bresennol, sydd â’i gwendidau yn fy marn i, fyddai pennu euogrwydd neu fel arall y rhai a gyhuddir o droseddau o’r fath.
Cyn cyflwyno’r ddadl hon, cefais gyngor a gwneuthum yn siŵr ei fod o fewn ein cymhwysedd yn gyfan gwbl. Fel y gwyddoch, mae gan y Cynulliad hwn bwerau i ddeddfu ar faterion lles anifeiliaid, ond i ddechrau, roeddwn wedi meddwl tybed a oeddem yn y man llwyd hwnnw, fel y gwelsom gyda’r Gorchymyn cyflogau amaethyddol neu Fil undebau llafur Llywodraeth y DU, lle nad oedd neb yn hollol siŵr lle y mae’r ffin cymhwysedd. Ond mae’n llawer symlach na hynny, gan nad oes unrhyw gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, a byddai angen i rywun gael ei ddyfarnu’n euog cyn cael ei gofnodi ar y gofrestr. Felly nid yw sefydlu cofrestr o’r fath y tu allan i’n cymhwysedd.
Ym mis Mehefin eleni—er nad wyf bob amser yn cytuno gyda Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd—cefnogodd Cynulliad Gogledd Iwerddon alwad gan Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd i sefydlu cofrestr hygyrch o’r rhai a gafwyd yn euog o droseddau creulondeb anifeiliaid. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog fod ganddo ddiddordeb yn y syniad, oherwydd er bod gan yr heddlu restr o bobl o’r fath, roedd dadl dros iddi fod ar gael i sefydliadau perthnasol eraill.
Hoffwn ddiolch hefyd, yn olaf, i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ymateb mewn modd cadarnhaol tebyg i fy nghwestiwn ar 12 Hydref am gofrestri cam-drin anifeiliaid yma. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf,
‘Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag anifeiliaid.’
Felly, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud ar y mater hwn ac i geisio symud y ddadl hon yn ei blaen. Ni fydd yn syndod i chi fod llawer iawn o ddiddordeb wedi’i ddangos o bob cwr o’r byd, mewn gwirionedd, yn y ddadl hon yma heddiw. Rwy’n credu bod gan bobl berthynas agos a phwysig iawn gyda’u hanifeiliaid anwes, boed hynny am eu bod yn cadw cwmni iddynt os ydynt yn teimlo’n unig, neu am ei fod yn rhan o’r amgylchedd teuluol. Mae’n rhywbeth y teimlwn ei fod yn estyniad o’r modd rydym yn trin pobl eraill yn ein bywydau hefyd mewn perthynas â sut, felly, rydym yn trin anifeiliaid. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon eu profiadau ataf drwy e-bost o’r holl wahanol wledydd sydd wedi cysylltu â mi. Rwy’n gobeithio y gall Cymru fod y wlad gyntaf i gyflwyno’r gofrestr hon yn y DU. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyflwyno’r pwnc hwn, Bethan, ar gyfer eich dadl fer heddiw. Fel y dywedwch, fe wnaethoch ei ddwyn i fy sylw mewn cwestiwn llafar yn ôl ym mis Hydref a’r wythnos diwethaf, atebais gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Paul Davies, sydd yn y Siambr. Dywedais wrth y ddau ohonoch nad oedd yn rhywbeth roeddwn wedi ei ystyried erioed, ond ers hynny, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y mater, a byddaf yn dweud ychydig mwy am y math o gyngor a thrafodaethau rydym yn eu cael.
Oherwydd nid oeddwn erioed wedi meddwl am y peth o’r blaen o safbwynt iechyd a lles anifeiliaid, ond wrth wrando ar Bethan yn sôn am lefelau creulondeb i anifeiliaid, mae’n wers lesol mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl bod y ffordd rydym yn trin ein hanifeiliaid yn dweud llawer am y math o gymdeithas sydd gennym. Felly, mae’n drist iawn clywed am yr achosion roeddech yn siarad amdanynt ar ddechrau eich dadl.
Rwy’n deall yn iawn hefyd y sylwadau a wnaeth Bethan ynglŷn â sut y mae’r rhai sy’n cam-drin anifeiliaid yn aml yn gysylltiedig â mathau eraill o gam-drin. Yn anffodus, ceir gormod o enghreifftiau lle y caiff cam-drin anifail ei ddilyn gan gam-drin aelod arall o’r teulu neu unigolyn arall. Cefais achos yn fy nghymhorthfa fy hun mewn gwirionedd, lle nad oedd gwraig am adael y sawl a oedd yn cyflawni cam-drin domestig oherwydd ei chi. Felly, mae’n bendant yn rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol iawn ohono.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o waith yr RSPCA ar eu lloches anifeiliaid anwes ac yn yr un modd, rwy’n ymwybodol o’r pryderon eang y gwn eu bod wedi’u mynegi ar draws y DU ar y mater hwn, nid Cymru yn unig, gan nifer o sefydliadau. Mae’n fater cymhleth iawn—rydych yn iawn, mae gennym y cymhwysedd a byddaf yn parhau i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i’r holl bwnc ac yn arbennig mewn perthynas â pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae llawer o’r canlyniadau’n berthnasol ar draws yr holl fathau o berchnogaeth ar anifeiliaid. Credaf hefyd fod angen i mi ystyried y pwnc hwn gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, oherwydd cwmpas posibl y materion hyn—er y byddech yn meddwl i gychwyn efallai eu bod yn perthyn i fy mhortffolio, rwy’n meddwl bod yna oblygiadau y tu allan i fy mhortffolio.
Rwy’n meddwl y dylai fod dull cenedlaethol o weithredu unrhyw system o’r fath er mwyn iddi fod yn effeithiol ac yn gynhwysfawr, ac unwaith eto mae’n rhywbeth y buaswn yn hoffi ei drafod gyda chyd-Weinidogion o bob rhan o’r DU. Cafwyd trafodaethau blaenorol yn uned diogelu’r cyhoedd Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, sef y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn flaenorol, ynglŷn â defnyddio systemau presennol, gan fy mod yn credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio unrhyw gronfeydd data sy’n bodoli eisoes mewn ffordd lawer gwell bellach, drwy well cysylltedd a rhannu gwybodaeth. Felly, unwaith eto, rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud ymholiadau yn yr adran briodol yn Llywodraeth y DU yn awr.
Mae yna gwestiynau hefyd rwy’n meddwl y byddai’n rhaid i ni eu gofyn pe baem yn datblygu polisi o’r fath: diogelu data, a fyddai cael proses adnabod o’r fath yn syniad da; a yw’n ymarferol a beth fyddai cofrestr yn ei gyflawni o ran lles anifeiliaid nad yw’r trefniadau presennol yn ei gyflawni? Fe sonioch chi, Bethan, am heddluoedd ac y byddai’n ddefnyddiol iddynt hwy. I’r awdurdodau lleol hefyd rwy’n credu, ac i agweddau eraill ar y sector cyhoeddus mae’n debyg.
Yng Nghymru, rydym yn credu bod atal yn well na gwella. Dyna’r rheswm pam rydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar les anifeiliaid a phwysigrwydd perchnogaeth gyfrifol a rôl milfeddygon. Rwy’n cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain y mis nesaf, a byddaf yn trafod y mater hwn gyda hwy, a’u canllawiau cynhwysfawr ar gyfer timau milfeddygol ar adnabod cam-drin mewn anifeiliaid a phobl a gyhoeddwyd ganddynt fis Ionawr diwethaf.
Felly, rydym yn mynd i barhau i ddatblygu ein syniadau ar y materion a nododd Bethan heddiw. Byddwn yn gwneud hynny wrth i ni wneud cynnydd ar ein gwaith ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid hefyd. Rydym yn disgwyl i’r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid fod ar waith ar gyfer pob anifail a warchodir yma yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd gofal. Mae wedi’i gwreiddio yn y Ddeddf Lles Anifeiliaid, a gychwynwyd bron i 10 mlynedd yn ôl. Ond rwy’n credu bod y pwnc rydych wedi tynnu sylw ato eto heddiw, Bethan, angen ei ystyried o ddifrif eto. Byddwn yn hapus iawn i weithio ar hynny gyda chi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. A’r cyfan sydd gennyf ar ôl i’w wneud yw dweud wrth bawb sydd ar ôl—cyfarchion y tymor i chi i gyd, a gobeithio y bydd pawb ohonom yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw—am eleni, mewn gwirionedd. Dyna ni. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:06.