Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/12/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Lynne Neagle.

Cylchffordd Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru? OAQ(5)0092(EI)

Gwnaf. Bydd Cylchffordd Cymru yn cyflwyno cais diwygiedig cyn bo hir, wedi i mi osod her iddynt ym mis Gorffennaf i sicrhau bod unrhyw gymorth a ddarperir gan y trethdalwr yn gymesur ac yn deg. Pan dderbynnir cais ffurfiol, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gefnogaeth drawsbleidiol fawr i Gylchffordd Cymru, gydag awdurdodau lleol yng Ngwent, a llawer o Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur, yn cefnogi’r hyn y gall y prosiect hwn ei gyflawni. A ydych yn cydnabod y brwdfrydedd a’r cyffro ynghylch cyflawni’r prosiect seilwaith trawsnewidiol hwn, i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig?

Ydw, rwy’n cydnabod y brwdfrydedd a’r gefnogaeth i’r prosiect. Ac wrth gwrs, rwyf yr un mor rhwystredig â llawer o bobl o ran pa mor hir y mae’r prosiect yn ei gymryd. Ond mae’n bwysig sylweddoli bod hwn yn brosiect a ariennir yn breifat, ac nad y Llywodraeth sy’n pennu cyflymder y prosiect, ac nad yw ychwaith o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, hoffwn weld pwynt penderfynu clir gan y cwmni cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod fy swyddogion, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni, gan gyfarfod â hwy yn wythnosol, a bod y cwmni wedi cadarnhau bod ganddo bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ofyn ganddo.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi annog yr holl gymorth priodol gan Lywodraeth Cymru? Bydd hwn yn brosiect gwych i Flaenau Gwent, i Went yn gyffredinol ac i Gymru gyfan, gan y byddai’r potensial marchnata’n enfawr. Rydych chi wedi dewis camp hynod o boblogaidd ac arloesol, y math o ddelwedd rydym am ei chyflwyno—fod Cymru yn agored i fusnes newydd a chyffrous.

Rwy’n cytuno. Mae’r potensial o ran hysbysebu neu gyfwerth hysbysebu mewn perthynas â digwyddiadau mawr yn enfawr. Pan fyddwn yn cynnal digwyddiadau mawr, megis rygbi, megis cyfres y Lludw, gwyddom fod ffocws y byd ar Gaerdydd, ac ar Gymru, yn anferth. Ac ar gyfer ardal megis y Cymoedd, byddai’n hynod o werthfawr pe bai llu o ddigwyddiadau mawr yn digwydd yno’n rheolaidd, yn ei hyrwyddo, nid yn unig fel lle deniadol i ymweld ag ef, ond fel lle deniadol i fyw a gweithio yno.

Gan ddilyn sylwadau’r Aelod dros Dorfaen, ceir cefnogaeth drawsbleidiol i’r prosiect hwn, ac ar y meinciau hyn hefyd. Rwy’n sicr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol honedig sy’n wynebu Silverstone, gyda ffigurau allweddol yn y sector Fformiwla 1 yn cwestiynu a fydd yn cynnal Grand Prix y DU wedi 2026 ai peidio. Mae llawer o’r ffigurau allweddol hynny yn y sector yn siarad yn agored ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Cymru gynnal Grand Prix y DU, yng Nghylchffordd Cymru. Oni fyddech yn cytuno â mi, felly, fod hynny’n gyfle gwych i arddangos Cymru i’r byd, gyda’r llwyfan rhyngwladol sydd gan Fformiwla 1, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth y mae Cymru wedi’i chael ym maes chwaraeon ac yn fyd-eang, yn enwedig ar ôl yr haf llwyddiannus a gawsom ym maes chwaraeon?

Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau ar sefyllfa bresennol Silverstone. Ond o ran Fformiwla 1, wrth gwrs, mae’n un o’r digwyddiadau chwaraeon blynyddol mwyaf sy’n digwydd ym Mhrydain, yn Silverstone ar hyn o bryd. Mae tîm Cylchffordd Cymru wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw gais posibl yn y dyfodol am Fformiwla 1 angen cyllid ar unrhyw ffurf gan Lywodraeth Cymru. Byddai’n ddigwyddiad mawr hynod o ddrud i’w gynnal, ond yn un digynsail i raddau helaeth iawn o ran chwaraeon modurol yng Nghymru.

A gaf fi gydnabod diddordeb Ysgrifennydd y Cabinet yn y prosiect hwn, a’r cymorth a roddodd i sicrhau ei fod yn cyrraedd y pwynt hwn, ac ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth Lynne Neagle fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr—gan gynnwys fy mhlaid fy hun yn bendant—i’r prosiect hwn?

A wnaiff gydnabod hefyd fod y warant a geisir yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael ei thalu amdani, ac mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y byddai hawlio arni, lle y byddai’r holl asedau yr argymhellwyd eu hadeiladu ar y safle wedi eu cwblhau, maes o law, ac y byddai’n warant ar £190 miliwn yn unig mewn prosiect gwerth £380 miliwn, felly byddai sicrwydd o 100 y cant, a risg o 50 y cant? O ystyried ei bod yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael £3 miliwn y flwyddyn amdani, mae hynny, i raddau helaeth, yn gwrthbwyso’r risg y gofynnir i’r Llywodraeth ei chymryd. Ac felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet hwyluso hynny gymaint ag y bo modd.

Ac mae’r Aelod yn iawn, yn gyffredinol, yn ei honiadau. Credaf fod y ffigurau wedi codi ychydig, ond serch hynny, byddai’r enillion gwirioneddol, cyhyd ag y bo’r gylchffordd yn gweithredu am y cyfnod llawn, yn darparu enillion o oddeutu £2.5 miliwn o ran y gymhareb cost a budd i’r trethdalwr. Felly, mae’r Aelod yn hollol gywir yn hynny o beth.

Gan ystyried yr hyn a ddywedodd Aelodau eraill, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, rwy’n credu efallai fy mod wedi cynnal digwyddiad, ond yn sicr fe siaradais mewn digwyddiad, ar ran Cylchffordd Cymru, gan sôn am werth cyfleusterau o’r math hwn a digwyddiadau mawr yn y sectorau modurol a chwaraeon eithafol yn hyrwyddo Cymru. O ran chwaraeon eithafol, maent yn chwarae rôl bwysig iawn yn hyrwyddo 2016 fel y Flwyddyn Antur a byddant yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd, fel Blwyddyn y Chwedlau ac yn 2018 yn ystod Blwyddyn y Môr.

Cefnogi Busnesau Bach yn Arfon

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion y llywodraeth i gefnogi busnesau bach yn Arfon? OAQ(5)0089(EI)[W]

Mae llawer o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach a chanolig yn Arfon, ac yn wir ledled Cymru, drwy rwydwaith cefnogi Busnes Cymru.

Yr wythnos diwethaf, bûm yn ymweld â busnes bach llewyrchus yn fy etholaeth. Maen nhw’n ceisio prynu’r adeilad y maen nhw’n lesio gan y Llywodraeth ar hyn o bryd ac maen nhw ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon. Maen nhw eisiau prynu’r adeilad er mwyn ehangu eu busnes. Roedd y cwmni a ddaeth i brisio’r uned ar ran y Llywodraeth yn dod o Fryste. Roedd eu pris nhw am werth yr eiddo llawer uwch na phris y cwmni lleol o ogledd Cymru a ddefnyddiwyd i bennu pris gan y tenant. Felly, mae gennych bris o Fryste, pris o ogledd Cymru a rhai degau o filoedd o bunnau o wahaniaeth. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y Llywodraeth yn defnyddio cwmni o Loegr, sydd yn mynd yn groes, mae’n debyg, i bolisïau caffael y Llywodraeth yma? A ydych yn cytuno bod gan y cwmni prisio lleol lawer gwell dealltwriaeth o brisiau’r farchnad yn lleol? A ydych yn cytuno hefyd fod y cwmni yma dan anfantais fawr yn sgil y sefyllfa yma? Nid ydynt yn gallu symud ymlaen i brynu ar y pris sy’n cael ei bennu. A wnewch chi edrych eto ar y sefyllfa os gwelwch yn dda?

Ni chredaf y byddai’n iawn i mi roi sylwadau manwl ynglŷn â mater sy’n amlwg yn fater masnachol, ond os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion ynglŷn â’r ddau brisiad, byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion yn y tîm eiddo edrych i weld pam fod gwahaniaeth mor glir a sylweddol rhwng y gwerthoedd a bennwyd ar ei gyfer.

Yn ogystal, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod swyddogion Busnes Cymru yn cysylltu â’r cwmni i sicrhau bod yr holl gefnogaeth angenrheidiol ar gael i gynorthwyo’r cwmni i brynu’r eiddo, pe bai’n dymuno parhau â thrafodiad o’r fath.

O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi addo torri trethi ar gyfer busnesau bach ac yn lle hynny wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a oedd wedi bod yn gynllun dros dro, disgrifiwyd hyn gan Ffederasiwn Busnesau Bach Gogledd Cymru, sy’n cynrychioli busnesau o Arfon ar draws y rhanbarth fel y gwyddoch, yn

gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.

Sut felly rydych yn ymateb i’r £16 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref i Lywodraeth Cymru ei wario ar ardrethi busnes? Credaf eu bod wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn faich ariannol enfawr ar fusnesau bach. Ar hyn o bryd, nid yw gwerth ardrethol pob busnes sy’n talu ardrethi busnes yng Nghymru yn ddim ond hanner y gwerth yn Lloegr, ac nid yw maint y cwmni, yn wahanol i Loegr a’r Alban, yn cael ei ystyried, gan roi cwmnïau llai o dan anfantais uniongyrchol. Felly, sut y byddwch yn ymgysylltu â busnesau bach yn Arfon a chynrychiolwyr eu sector, megis y Ffederasiwn Busnesau Bach, i fynd i’r afael â’r pryderon hynny?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud mai un unigolyn yn y Ffederasiwn Busnesau Bach oedd hynny, a bod llawer o bobl eraill yn y Ffederasiwn Busnesau Bach yng ngogledd Cymru wedi croesawu toriad Llywodraeth Cymru i drethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Arfon. Mae’r Aelod yn crybwyll y cynllun yn Lloegr, ond mae hwnnw’n gymwys i lawer llai o fusnesau. Bydd ein cynllun yn gymwys i oddeutu 70 y cant o fusnesau ac ni fydd oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. O ran y cymorth a roddwn i fusnesau yn Arfon, credaf ei bod yn eithaf amlwg fod ein cymorth yn dwyn ffrwyth, gan fod nifer y mentrau sy’n gweithredu yng Ngwynedd wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda 15,786 o fusnesau’n gweithredu yn y rhan honno o Gymru. Caiff hynny ei adlewyrchu ledled gogledd Cymru hefyd, lle y mae’r nifer uchaf erioed o fusnesau’n gweithredu ar hyn o bryd—bron i 62,000.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y cynnydd o 1.6 y cant yn allforion Cymru. Fodd bynnag, mae’n peri pryder i mi, wrth edrych yn fanylach ar y ffigurau, fod masnach i Ogledd America wedi gostwng yn sylweddol o dros chwarter allforion Cymru yn 2012 i 15 y cant yn unig yn 2016. Yn yr un cyfnod, mae nifer yr allforion wedi gostwng 15 y cant. Ar ben hynny, dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o deithiau proffil uchel i’r Unol Daleithiau, gyda’r daith ddiweddaraf ym mis Medi. A ydynt wedi bod yn llwyddiant?

Ydynt, maent wedi bod yn llwyddiant, gan fod data’n dangos bod yr enillion ar fuddsoddiad y teithiau masnach hynny oddeutu 40:1. Felly, llwyddiant mawr o ran yr enillion i’r trethdalwr. Rydym yn cynllunio dwy daith fasnach arall i’r Unol Daleithiau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, i San Francisco ac i Efrog Newydd. Credaf ei bod yn eithaf clir y bydd y £5 miliwn ychwanegol a sicrhawyd ar gyfer Croeso Cymru, o ganlyniad i’r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, hefyd yn gymorth i hyrwyddo Cymru ym marchnad allweddol yr Unol Daleithiau, ond byddwn yn dweud wrth yr Aelodau fod yr Unol Daleithiau yn wlad enfawr a bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau a’n gweithgaredd mewn ardaloedd allweddol. Felly, efallai’n wir y byddwn yn canolbwyntio ar ddinasoedd neu daleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau wrth i ni geisio manteisio ar gyfleoedd i gynyddu ein potensial allforio yno.

Rwy’n falch o glywed y bydd rhagor o deithiau masnach i’r Unol Daleithiau—mae hynny i’w groesawu—ond wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig yw llwyddiant y teithiau hynny. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu strategaeth economaidd newydd, sydd hyd yn oed yn fwy o flaenoriaeth, yn fy marn i, o ystyried y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad mewn allforion i Ogledd America. Er bod twf cymedrol mewn allforion yn gyffredinol, byddwn yn dweud y dylai eich Llywodraeth fod yn gweithio’n rhagweithiol i chwilio am y cyfleoedd newydd hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yn flaenoriaeth yn 2017 a chynnwys hybu masnach gyda Gogledd America yn y strategaeth honno?

Gwnaf, yn wir. Bydd allforion, fel rydym wedi’i ddweud ar sawl achlysur, yn nodwedd allweddol o’n gwaith yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad a gweithgarwch yn y maes hwn, nid yn lleiaf am fod cyfraddau cyfnewid arian yn rhoi mantais gystadleuol glir i ni mewn nifer o farchnadoedd ar hyn o bryd. Dylwn ddweud hefyd, o ran allforion, fod y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn dangos mai mewn pump yn unig o 12 gwlad a rhanbarth y DU y bu cynnydd mewn gwerthoedd allforio. Roedd Cymru’n un ohonynt. Bu gostyngiadau yn y cyfnod hwn yn y saith arall gyda’r Alban yn dioddef y gostyngiad canrannol mwyaf. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ei llwyddiant diweddar o ran allforion, ac rwy’n bwriadu gwneud hynny.

Er fy mod yn cydnabod hefyd fod yr UE yn farchnad bwysig i Gymru, dylid rhybuddio, wrth gwrs, yn erbyn gorddibyniaeth ar fasnachu gydag un ardal. Rhwng 2012 a 2016, mae cyfran yr UE o farchnad allforio Cymru wedi codi o 44 y cant i 67 y cant. Mae hynny’n ddwy ran o dair o allforion Cymru. Cyfartaledd y DU, mewn cyferbyniad, yw 49 y cant, sef oddeutu’r un faint ag yr oedd bedair blynedd yn ôl cyn i fasnach Gogledd America ddechrau dirywio. Mae’r darpar-Arlywydd wedi mynegi ei barodrwydd i fasnachu gyda’r DU. Pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â hyn ac a fyddwch yn derbyn y gwahoddiad hwnnw ac yn sicrhau bod Cymru ar flaen y ciw?

Nid wyf wedi cael unrhyw sgyrsiau hyd yn hyn gyda’r darpar-Arlywydd nac unrhyw wahoddiad i fynychu unrhyw ddigwyddiadau masnach yn yr Unol Daleithiau. Wrth gwrs, byddem yn eu hystyried, pe baent yn dod i law. Do, mae’r darpar-Arlywydd wedi mynegi y byddai’n dymuno creu cytundebau ffafriol â’r Deyrnas Unedig. Wedi dweud hynny, drwy gydol ei ymgyrch, roedd yn dweud ei fod yn dymuno cau’r pontydd codi, yn hytrach nag estyn llaw i bartneriaid ledled y byd. Felly, bydd angen i ni aros tan fis Ionawr i weld mewn gwirionedd a yw ei barodrwydd neu ei frwdfrydedd ymddangosiadol i gofleidio peth o’r Deyrnas Unedig yn ddilys.

Diolch, Lywydd. Gan droi at faterion mwy cyffredin, ond pwysig ynddynt eu hunain serch hynny, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i ni pwy sy’n gyfrifol am glirio ysbwriel oddi ar y cefnffyrdd yng Nghymru?

Wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond y rheswm dros fy nghwestiwn yw bod cyflwr cyffredinol y lleiniau ar ymylon ffyrdd o’r fath, a bod yn onest, yn ofnadwy. Soniodd Nick Ramsay am fater yr A449 wrth eich rhagflaenydd, a chliriwyd y ffordd dros dro. Fodd bynnag, yn fuan wedyn, dychwelodd i’w chyflwr echrydus arferol. Nawr, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl ymrwymedig i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, felly o ystyried bod llawer o’r cefnffyrdd hyn naill ai’n croesi neu’n arwain at ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno na ellir goddef y sefyllfa, yn enwedig gan fod yr holl ysbwriel nid yn unig yn annerbyniol yn amgylcheddol, ond hefyd yn hynod o beryglus?

Cytunaf fod taflu ysbwriel yn hollol annerbyniol, ond ni ddylid ymateb i broblem o’r fath drwy glirio ysbwriel yn unig, dylid perswadio pobl i newid eu hagweddau, eu hymddygiad a’u diwylliant. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o atal problemau o’r fath rhag codi yn y dyfodol. Felly nid yw hyn yn ymwneud â chlirio’r cefnffyrdd yn unig; rydym yn ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i’r adnoddau i wneud hynny, yn union fel y mae awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd, o ystyried y cyfnod parhaus hwn o galedi. Ond yn y tymor hwy, mae angen i bobl newid eu hymddygiad er mwyn i ni gadw ein tirweddau’n daclusach ac yn fwy deniadol, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr ond ar gyfer y bobl sy’n byw yno.

Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond mae hyn yn rhan mor hanfodol o sut yr hoffem werthu Cymru i’r twristiaid a ddaw yma. Ac nid yw gweld y lleiniau ar ymyl y ffyrdd yn y fath gyflwr yn annog neu’n rhoi argraff dda o Gymru yn gyffredinol. Dylid gwneud rhywbeth am hyn, ac ar frys.

Mae ansawdd lleoliad yn gwbl hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn ymfalchïo yn lle y maent yn byw, a chytunaf â’r Aelod fod angen ei wella, nid yn unig o ran y lleiniau ar ymylon cefnffyrdd, ond o ran strydoedd yn gyffredinol a chanol trefi. Mae llawer o awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd gyda chynnydd, mewn rhai ardaloedd, mewn taflu ysbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ond yr hyn sy’n allweddol, yn y tymor hir, i wella ein hamgylchedd adeiledig yw sicrhau bod pobl yn newid eu hymddygiad, ac rydym yn ceisio gwneud hynny. Yn wir, o’r ysgol gynradd ymlaen, gyda chyflwyno’r cwricwlwm newydd, gobeithiwn y bydd pobl yn dod yn oedolion mwy cyfrifol a pharchus ac yn rhoi’r gorau i daflu ysbwriel.

Rwy’n teimlo’n rhwystredig iawn yn fy etholaeth i, lle y mae man gwerthu bwyd brys adnabyddus ar ochr un o’n cefnffyrdd. Rydym yn aml yn gweld llawer o ysbwriel yn cael ei daflu, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod y man gwerthu bwyd hwnnw’n gyfrifol iawn gan eu bod yn talu am, ac yn aml yn trefnu, sesiynau casglu ysbwriel. Wrth gwrs, ni allant fynd ar y gefnffordd, ond yn y mannau cyfagos. A hoffwn weld rhagor o gyfrifoldeb corfforaethol o’r math hwnnw yn ein trefi a’n dinasoedd, ac yn wir, ar y ffyrdd, lle y ceir problem ar hyn o bryd gydag ysbwriel, yn enwedig gyda bwyd brys.

Diolch, Lywydd. Roedd disgwyl i’r ffigurau gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol gael eu cyhoeddi heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond cawsant eu gohirio am wythnos—efallai am eu bod yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cael wythnos ddigon anodd gyda chanlyniadau PISA ddoe. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at adroddiad a gyhoeddwyd gan Ernst and Young yr wythnos hon ar ragamcanion twf rhanbarthol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rhagwelir twf arafach ar draws y DU, gyda thwf cyfartalog o 1.5 y cant ar gyfer y DU. Mae Cymru, fodd bynnag, hyd yn oed yn waeth, a disgwylir y bydd twf yn 1 y cant yn unig—twf mewn gwerth ychwanegol gros y dros y tair blynedd nesaf. Os ydych yn cynnwys y gyfradd twf a ragwelir, yna byddai gwerth ychwanegol gros Cymru yn gostwng yn is na’r cyfartaledd o 70 y cant, o gymharu â gwerth ychwanegol gros y DU, am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion economaidd. Onid hon yw llinell Maginot polisi economaidd Cymru, os mynnwch—llinell na ddylid ei chroesi? Ar hyn o bryd, nid oes gennym darged uchaf gan Lywodraeth Cymru o ran gwerth ychwanegol gros. Roedd gennym un ar un adeg; targed o 90 y cant. Fe’i diddymwyd. A allem gael targed is, o leiaf, ffin dlodi genedlaethol na ddylem byth ei derbyn? Ac os croesir y ffin honno—a gobeithiaf na fydd hynny byth yn digwydd—a fydd gennym ymrwymiad cyhoeddus y bydd rhywun yn Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am hynny yn y pen draw?

Wel, mae’r Aelod yn nodi nifer o bwyntiau pwysig. Yn gyntaf, roeddwn yn siomedig iawn fod yr ystadegau hynny wedi cael eu gohirio. Roeddent y tu hwnt i’n rheolaeth, fel y gŵyr yr Aelod, ond roeddwn yn gobeithio’n fawr y byddent yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon. Ni allaf roi sylwadau ar yr hyn rwyf wedi ei weld yn y datganiad ystadegol. Wedi dweud hynny, mae rhagamcaniadau yn aml yn seiliedig ar wyddoniaeth a brofir yn anghywir yn ddiweddarach. Gwyddom hynny o etholiadau a refferenda diweddar. Yr hyn y gallwn ei wneud yw dibynnu ar y ffigurau sydd gennym eisoes ac maent yn dangos, ers datganoli, fod Cymru wedi gweld y pumed cynnydd uchaf o ran gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 gwlad a rhanbarth y DU. Ers y dirwasgiad, mae gwerth ychwanegol gros y pen wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn y DU. O ran gwerth ychwanegol gros am bob awr o waith, Cymru oedd â’r pedwerydd cynnydd canrannol mwyaf mewn gwerth ychwanegol gros. O ran y mynegai cynhyrchu yn y pedwar chwarter diwethaf, mae allbwn cynhyrchu wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd: 3.9 y cant o gymharu ag 1 y cant. Ar sail ar ein perfformiad hyd yn hyn, credaf y dylem fod ychydig yn hapusach gyda’r rhagfynegiadau. Ond wedi dweud hynny, ni allwn fod yn hunanfodlon, a dyna pam yr ydym wedi gweithio’n ddiflino eleni i ddenu cwmnïau gwerth uchel, fel Aston Martin, i Gymru, gan fuddsoddi hefyd mewn cyfleusterau megis parc gwyddoniaeth Menai a’r sefydliad gweithgynhyrchu uwch i dyfu ac ehangu’r cwmnïau brodorol presennol ac i sicrhau y gallant gydweithio er mwyn cystadlu ar y lefel uchaf.

Rwyf o blaid optimistiaeth a brwdfrydedd ac angerdd. Edmygaf Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth, ond mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain ein bod ar 71.3 y cant o gyfartaledd y DU yn barod. Y cam cyntaf i wella ein perfformiad economaidd ofnadwy yw ystyried realiti ein sefyllfa ar hyn o bryd.

Wrth iddo ddyfeisio ei strategaeth economaidd newydd, a gaf fi ei annog i ddarllen adroddiad diweddar Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ar ddatgloi twf rhanbarthol? Un o’r meysydd allweddol y maent yn canolbwyntio arno yw mater seilwaith trafnidiaeth a’i rôl gwbl allweddol. A gaf fi ddweud wrtho fy mod yn credu bod hyn yn un o’r cyfyngiadau allweddol ar ein perfformiad economaidd ar hyn o bryd? Nid oes ond angen darllen y cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol ar hyn o bryd i weld bod ein seilwaith trafnidiaeth yn gwegian: teithwyr ar Drenau Arriva Cymru yn cwyno am brofiadau ofnadwy. Dywedodd Jac Larner, am 8.58 a.m. y bore yma,

Am yr ail dro eleni mae fy nhrên ar dân. Mae’n debyg ei bod yn dda fod hynny ond wedi digwydd ddwywaith, ond teimlaf fod hynny’n dal yn rhy aml.

Leon Williams: Y bore yma. Yn llythrennol, heb orliwio, dyma’r tro cyntaf mewn 11 mis i mi gael sedd wrth gymudo i Gastell-nedd Port Talbot.

Hannah, ddoe:

Mae rhywun wedi llewygu eto ar y trên 07.42 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Aberdâr.

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod hwn bellach yn argyfwng cenedlaethol a bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys? Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai unrhyw un mewn unrhyw wlad oddef hyn.

Mae’r ffordd y mae’n rhaid i rai pobl oddef trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd yn annerbyniol, ac rydym wedi bod yn llym iawn gyda’r gweithredwyr. Rydym hefyd yn llym gyda Network Rail, sydd wedi tanariannu rhwydwaith Cymru yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd yn credu’n gryf mai nawr yw’r amser i ddatganoli pob cyfrifoldeb am wasanaethau rheilffyrdd, er mwyn i ni allu sicrhau bod y buddsoddiad yn mynd lle y mae ei angen. Yn y tymor hwy, pan fydd y fasnachfraint newydd ar waith, bydd gennym wasanaeth rheilffyrdd newydd a fydd wedi ei drawsnewid yn llwyr. Ond yn y cyfamser, mae’n bwysig fod y gallu yno i ddiwallu anghenion y teithwyr. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi a bydd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau, ac fel yr amlinellais yn fy natganiad ar 9 Tachwedd, rydym yn archwilio ffyrdd o gynyddu’r ddarpariaeth o gerbydau hefyd.

Un o’r problemau mawr rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw nad oes digon o arian yn cael ei wario ar dorri’r coed ger y rheilffyrdd. Nid ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny. Mae’n fater nad yw wedi’i ddatganoli ac mae’n annerbyniol, gan ei fod wedi arwain at drenau’n cael eu gohirio, yn enwedig—gwn fod Mark Isherwood wedi codi’r mater hwn yn y gorffennol—yn y gogledd, ac ar reilffyrdd y Cymoedd hefyd. Mae’n achosi problemau sylweddol o ran oedi a gwasanaethau’n cael eu gohirio, a phroblemau capasiti. Un peth sy’n gyfrifol am hyn: tanariannu rhwydwaith y rheilffyrdd. Byddaf yn cyfarfod â Network Rail yfory i amlinellu fy siom, unwaith eto, ynglŷn â’r diffyg gweithredu. Ond mae’n hollol iawn, wrth i ni symud ymlaen, ein bod yn datganoli’r cyfrifoldebau hyn a’n bod yn buddsoddi yn yr hyn y mae’r teithwyr yn disgwyl i ni fuddsoddi ynddo.

Y maes arall y mae adroddiad Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn ei amlygu yw sgiliau. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod hyfforddiant yn y gweithle yn cael ei wneud yn iawn, ac ni allwn wneud hynny oni bai ein bod yn siarad â’r cyflogwyr. Mae’n peri cryn bryder fod diffyg gwybodaeth ac eglurder ar hyn o bryd ynglŷn â sut y caiff yr ardoll brentisiaethau ei gweithredu. Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol gan Lywodraeth y DU, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynnal eu hymgynghoriad ffurfiol eu hunain, ond ychydig iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn gwirionedd. Cafwyd ymgynghoriad sgiliau oddeutu dwy flynedd yn ôl. A allwn ni gael deialog go iawn gyda’n cyflogwyr?

Y quid pro quo, pan fo ardollau hyfforddi gorfodol wedi cael eu cyflwyno, boed hynny drwy’r hen fyrddau hyfforddi diwydiannol, neu ar y cyfandir mewn gwirionedd, yw eu bod yn cael eu harwain gan gyflogwyr—yn yr achos hwnnw gan y siambrau masnach—ac eto nid ydym yn gweld yr ymgysylltiad hwnnw. Dylem fod yn cyflwyno system lle y dylem o leiaf fod yn gofyn i gyflogwyr, os ydym yn cymryd arian ganddynt, lle y dylem ei fuddsoddi.

Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â’r strategaeth sgiliau a’r gwaith a wnaed gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Weithiau, mae rhagamcanion yn dod yn wir; rhagwelsom y gallai hyn godi heddiw, y cwestiwn hwn, felly fe’ch trosglwyddaf at sylw’r Gweinidog.

O, mae gennym dîm tag. Mae hwnnw’n beth newydd. Rwyf o blaid hynny. [Chwerthin.]

Diolch, Lywydd. Mae’r ardoll brentisiaethau yn rhan bwysig o fy mhortffolio, ac felly roeddwn yn credu y byddai’n ddefnyddiol—

Roeddwn yn credu y byddai’n ddefnyddiol, pe bai’r cwestiwn hwn yn codi, i mi fod mewn sefyllfa i allu rhoi’r wybodaeth ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf. Mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi £13.7 miliwn yn ychwanegol, ar ôl ailgyfrifo’r setliad ar sail ychydig yn wahanol i sail y setliad gwreiddiol, a oedd yn rhan o fformiwla Barnett. Maent yn awgrymu mai dyma’r arian ychwanegol i gyd, ond nid dyna’r sefyllfa mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynd drwy’r ystadegau o’r blaen, a byddaf yn gwneud hynny eto. Yn fras—[Torri ar draws.] Na, mae’n syml iawn, fel y dywedais. Yn fras, yr hyn a ddigwyddodd yw ein bod wedi cael £114 miliwn i Gymru o ganlyniad i fformiwla Barnett ar gyfer yr ardoll brentisiaethau, a diddymwyd £90 miliwn o hwnnw ar unwaith am ei fod wedi cael ei roi yn y llinell sylfaen ar gyfer fformiwla Barnett, a £90 miliwn yw’r gostyngiad mewn cyllid prentisiaeth yn Lloegr o ganlyniad i’r symud rhwng yr ardoll brentisiaethau a threthiant cyffredinol. Cafwyd cyhoeddiad o £13.7 miliwn arall o ganlyniad i ailgyfrifo’r fformiwla, yn seiliedig ar yr arian a ddaw o Gymru, wedi llawer o lobïo o Gymru gan fusnesau a’r Llywodraeth. Fodd bynnag, y sefyllfa yw bod hon yn dal i fod yn dreth ar gyflogwyr a godir gan CThEM heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru.

Nid yw CThEM, fel y gwyddoch, wedi ei ddatganoli i Gymru mewn unrhyw ffordd, ac mae’r arian yn mynd yn hollol groes i’n hardoll brentisiaethau. Rydym wedi bod yn glir iawn fod yr ymgynghoriad helaeth a gynhaliwyd gennym, ychydig cyn i’r ardoll gael ei chyhoeddi, ac a groesawyd gan bob cyflogwr yng Nghymru, yn dal i sefyll. Rydym wedi gohirio cyhoeddi ein polisi prentisiaeth terfynol—gobeithiaf wneud hynny tuag at ddiwedd mis Rhagfyr—o ganlyniad i geisio deall beth yn union sy’n digwydd. Ond diwedd y gân yw nad yw’r arian hwn yn dod yn ôl i Gymru ar y ffurf y byddai’r cyflogwyr yn ei ddymuno. Treth yw hi, yn syml iawn. Nid yw trethi wedi’u datganoli, fel y gwyddoch, ac nid ydynt wedi’u neilltuo yn Lloegr chwaith—nid yw trethi yn cael eu neilltuo—felly polisi’r Llywodraeth bresennol yw ei wario yn y ffordd hon. Gallai hynny newid yfory. Byddwn yn dal ein gafael ar ein rhaglen brentisiaeth yr ymgynghorwyd yn drylwyr arni ac a brofwyd yn drwyadl.

Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd

3. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0077(EI)

Byddwn yn cyflwyno metro de Cymru ar y cyd â datblygiad masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau, a fydd yn darparu gwelliannau sylweddol i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru. Gall teithwyr ddisgwyl gweld newid sylweddol o ran ansawdd y gwasanaethau rheilffyrdd a ddarperir.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae data a ddarparwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos bod teithwyr rheilffyrdd yn Nwyrain De Cymru a de Cymru yn wynebu peth o’r gorlenwi gwaethaf yng Nghymru a Lloegr. Bu’n rhaid i deithwyr ar bron i 40 y cant o’r gwasanaethau trên a gyrhaeddodd Caerdydd yn ystod awr frys y bore yn 2015 sefyll yn ystod y daith. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â gorlenwi ar wasanaethau trên i gymudwyr, ac a wnaiff roi sylwadau ar adroddiadau y gellid trosglwyddo cerbydau dros ben o reilffordd Gatwick i Drenau Arriva Cymru y flwyddyn nesaf?

Gobeithiaf y byddai’r Aelod yn cydnabod nad yw tanariannu hanesyddol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel yr amlinellais i Adam Price, wedi bod o gymorth, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn wir, nid yw’n rhywbeth newydd; yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn waeth yn ystod misoedd y gaeaf gan na wnaed y buddsoddiad lle y dylid ei wneud. O ran yr hyn y gallwn ni fel Llywodraeth—nid ydym yn rheoli’r fasnachfraint eto; daw hynny gyda’r fasnachfraint newydd—ei wneud ar hyn o bryd, nifer cyfyngedig iawn o gerbydau diesel a geir. Mae arnaf ofn na chlywais y manylion ynglŷn â ble y cred yr Aelod y gall fod cerbydau diesel sy’n bodoli eisoes y gellid eu defnyddio, ond yn sicr, os gall roi’r wybodaeth i mi, byddaf yn ystyried hynny. Ychydig iawn o gerbydau diesel sydd ar gael ar hyn o bryd, ond fel y soniais yn gynharach, rydym yn trafod gyda’r diwydiant rheilffyrdd i geisio dod o hyd i atebion a allai ddarparu’r capasiti ychwanegol yn y tymor byr wrth i ni agosáu at y fasnachfraint newydd. Fel rwyf wedi’i ddweud, nid oes amheuaeth fod dail yn disgyn yn yr wythnosau diwethaf wedi effeithio’n andwyol ar gapasiti rhai o reilffyrdd y Cymoedd, gan gynnwys rheilffordd Glyn Ebwy, ac mae hynny’n annerbyniol.

Mae rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y bydd £50 miliwn yn ychwanegol ar gael i hybu datblygiad system metro gogledd Cymru. Dylid croesawu hyn, ond cyn cyflwyno system metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru, credaf fod angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod y system bresennol sydd gennym yno yn barod am system metro, fel petai. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon ac yn y gymuned ynglŷn â’r angen am well cysylltedd yn yr ardal—gwell cysylltedd o ran y gwasanaethau trên ar lwybrau allweddol, nid traffig o’r gogledd i’r de yn unig, ond yn bwysicach, o’r dwyrain i’r gorllewin, gan mai hwnnw yw’r llwybr hollbwysig ar gyfer ein heconomi ranbarthol. Credaf fod angen i ni sicrhau hefyd fod trenau’n cysylltu â’r gwasanaethau bws, fod y bysiau’n stopio mewn gorsafoedd trenau a bod amserlenni bysiau a threnau yn cael eu cydamseru i sicrhau bod pob taith mor effeithlon â phosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy’n cael eu cymryd yn y tymor byr i allu cyflawni’r uchelgais hirdymor ar gyfer metro gogledd Cymru?

Mae’r Aelod yn hollol iawn fod angen i ni sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn gwbl integredig. Ddoe, amlinellais i Llyr Huws Gruffydd sut rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau gogledd-ddwyrain Cymru yn yr ardal lle y bydd y metro’n dechrau o ran yr ymagwedd sydd angen ei mabwysiadu ers i GHA Coaches fynd i’r wal. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sefydlogi’r rhwydwaith bysiau yn y tymor byr wrth i ni gynllunio’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Mae £50 miliwn o bunnoedd wedi ei sicrhau ar gyfer datblygu’r metro, ac mae’r gwaith cwmpasu cychwynnol ar gyfer y gwaith wedi canolbwyntio ar gysyniad o ganolfan integredig yn ardal Glannau Dyfrdwy a fyddai’n cwmpasu gwelliannau, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod, i reilffyrdd, bysiau, teithio llesol a ffyrdd. Yn ogystal â’r gwaith o ddatblygu metro gogledd Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn croesi’r ffin, rydym wedi ymrwymo i ymgynghori â’r cyhoedd yn y flwyddyn newydd ynglŷn â gwaith uwchraddio sylweddol ar yr A494/A55 i liniaru tagfeydd ar y llwybr hwnnw.

Rydym yn cyfarfod eto, Weinidog y Cabinet. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a’r metro yw’r prosiect mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol a gynigiwyd erioed gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n sicr y byddai’r Siambr gyfan yn eich canmol am eich gweledigaeth yn hyn o beth, ond a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect hwn—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n ymddiheuro; nid ydych yno eto, ond efallai yn y dyfodol, syr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect yn dechrau mewn gwirionedd?

Iawn, gwnaf, yn sicr. Mae’n brosiect hynod uchelgeisiol a hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn caredig iawn i mi. Amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd metro de Cymru yn costio dros £700 miliwn ac mae’r amserlenni fel a ganlyn—fe af drwy bob un o’r pwyntiau allweddol. Byddwn yn dyfarnu pwy fydd y gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a’r metro erbyn diwedd 2017. Byddwn yn dyfarnu’r contractau seilwaith erbyn gwanwyn 2018. Erbyn mis Hydref 2018, bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau. Bydd y metro’n cael ei gynllunio yn 2018-19. Bydd y seilwaith yn cael ei gyflawni ar y safle o 2019 a bydd y gwasanaethau’n weithredol o 2023. Fel yr amlinellodd yr Aelod, mae hwn yn brosiect hynod o uchelgeisiol, un y dylem edrych ymlaen ato a bod yn falch ohono a gobeithiaf y gallwn gyflawni’r gwaith o fewn yr holl derfynau amser a’r marcwyr allweddol hynny. Hyd yn hyn, nid ydym wedi methu unrhyw un o derfynau amser allweddol y prosiect hwn.

Busnesau yn Ynys Môn

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith bancio stryd fawr ar fusnesau yn Ynys Môn? OAQ(5)0090(EI)[W]

Er nad yw bancio wedi ei ddatganoli, ac er mai mater masnachol i’r banciau yw cau canghennau, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau ac unigolion ledled Cymru yn cael mynediad at gyfleusterau bancio, gan gynnwys peiriannau codi arian a mannau talu arian i mewn a chyfleusterau casglu. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i gefnogi hyn.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o gyhoeddiad NatWest ynglŷn â’u bwriad i gau tair cangen ar Ynys Môn fis Mehefin nesaf yng Nghaergybi, yn Amlwch ac ym Mhorthaethwy, gan adael ond un banc yn unig i fod ar agor am oriau cyfyngedig yn Amlwch, a heb fanc o gwbl yn nhref ffyniannus Porthaethwy. Mae hyn yn dilyn nifer o fanciau’n cau yn ddiweddar, gan adael rhannau helaeth o’r ynys heb unrhyw wasanaethau bancio. Bydd y Gweinidog yn gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i fusnesau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i gondemnio’r modd y mae banciau mawr y stryd fawr i’w gweld yn cefnu ar rannau helaeth o Gymru, ac a wnaiff ymrwymo i wneud popeth yn ei allu, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, i geisio atal rhagor o’r gwasanaethau hanfodol hyn rhag cael eu colli?

A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn cydymdeimlo â’i sefyllfa a sefyllfa ei gymunedau ar hyn o bryd? Yn fy etholaeth i, De Clwyd, un banc yn unig sydd ar ôl—un banc yn unig. Banc Barclays yw hwnnw. Felly, dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod drwy ymgynghoriadau, fel y’u gelwir, dro ar ôl tro, sydd bob amser yn gorffen gyda banc yn cau. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod argymhellion adolygiad Griggs yn cael eu rhoi ar waith a’n bod yn ymbellhau oddi wrth ymgynghoriadau artiffisial a thuag at ymgynghoriadau ystyrlon a allai arwain at gadw gwasanaethau bancio.

O ran yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru, yn ogystal â mynnu bod argymhellion adolygiad Griggs yn cael eu rhoi ar waith, credaf fod angen i ni sicrhau bod swyddfeydd post yn parhau i ddarparu cyfleusterau bancio. Ar hyn o bryd, credaf fod oddeutu 95 y cant o gwsmeriaid yn gallu cael mynediad at eu cyfleusterau bancio drwy swyddfeydd post, felly mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi’r rhwydwaith hwnnw hefyd. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod NatWest yn gwrando nid yn unig arnoch chi, ond hefyd, rwy’n siŵr, ar y bobl y byddwch yn mynd â hwy i’r banc, yn enwedig cwsmeriaid busnes, gan fod cwsmeriaid busnes yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar yr ystod lawn o wasanaethau sydd ar gael yn y swyddfa bost y maent yn disgwyl gallu cael mynediad atynt yn eu cangen leol. Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â’r Aelod i drafod unrhyw gymorth ychwanegol y gallwn ei roi, ond unwaith eto, rwy’n cydymdeimlo â’r Aelod ynglŷn â hyn a byddwn fwy na pharod i weithio gydag ef i ddod o hyd i atebion ar gyfer y tair cymuned yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad NatWest.

Datganiad yr Hydref y Canghellor

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith yn sgil Datganiad yr Hydref y Canghellor? OAQ(5)0083(EI)

Gwnaf. Croesawir y cyllid ychwanegol ond nid yw’n gwrthdroi’r toriadau i’n cyllideb gyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf. Ein blaenoriaeth fydd sicrhau ein bod yn defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i gefnogi’r gwaith o greu a diogelu Cymru ffyniannus.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru. Gwyddom fod pryderon wedi bod ynghylch cyllid ar gyfer y metro, yn enwedig yn sgil y refferendwm ar Ewrop. Pa gynlluniau sydd gennych i ddefnyddio peth o’r arian ychwanegol hwn i gefnogi’r metro, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel fy etholaeth i, lle y gellid cysylltu ardaloedd pellennig fel Mynwy â’r ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor?

Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor, yn enwedig o ystyried datblygiad y ganolfan gynadledda yno a’i harwyddocâd cynyddol fel cyrchfan bwysig yn ne-ddwyrain Cymru. O ran costau ac adnoddau mewn perthynas â’r prosiect metro yn ei gyfanrwydd, rydym yn disgwyl y bydd bob ceiniog a oedd i ddod o Ewrop yn dod gan Lywodraeth y DU pan fyddwn yn gadael yr UE. Byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at y gwarantau a roddwyd i ni. Mae hwn yn brosiect hynod o uchelgeisiol. Mae wedi’i gynllunio i fod yn brosiect deinamig hefyd, a all dyfu ac ehangu. Yn sicr, o ran y ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor, byddwn yn awyddus iawn i edrych ar y datblygiad arfaethedig hwn.

Y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl y pedwerydd chwyldro diwydiannol ar swyddi yng Nghymru? OAQ(5)0088(EI)

Mae hwn yn bwnc hynod o ddiddorol ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i harneisio’r cyfleoedd y mae’r pedwerydd chwyldro yn eu darparu. Bydd ein cefnogaeth i dechnoleg, ymchwil a datblygu arloesol yn sicrhau bod arloesedd yn alluogwr economaidd o bwys i Gymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd yr awtomeiddio a’r roboteg sydd i ddod yn darparu cryn gyfleoedd, ond bygythiadau gwirioneddol hefyd i swyddi yng Nghymru. Nos Lun yn Lerpwl, rhoddodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, araith lle y dywedodd y gallai oddeutu 15 miliwn o swyddi gael eu heffeithio gan awtomeiddio. Gan ddefnyddio’r fformiwla a ddefnyddiwyd gan Fanc Lloegr i gyfrifo’r ffigur hwnnw, rwyf wedi cyfrifo y gallai oddeutu 700,000 o swyddi yng Nghymru fod mewn perygl o ganlyniad i awtomeiddio. Cyfrifiad bras yw hwn, ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i wneud astudiaeth briodol o’r effaith er mwyn deall y bygythiad, ond hefyd y cyfle gwirioneddol a ddaw o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol hwn?

Gwnaf, yn sicr. Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn deall bod Diwydiant Cymru—sydd wedi bod o gymorth mawr, a hoffwn gofnodi hyn, yn dysgu rhywbeth i mi am ddiwydiant 4.0—yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion Cymru ac yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid mewn perthynas â diwydiant 4.0 yn rownd gyfredol cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ac maent yn galw am gynigion ymchwil ac arloesi, a fydd yn cau ar 31 Ionawr. Gobeithiaf y bydd y cais hwnnw’n llwyddiannus, gan y credaf y byddai’n cyflawni’r hyn yn union y mae’r Aelod wedi galw amdano.

Yn ogystal â hyn, rwy’n falch o ddweud bod tîm arloesi Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n weithredol â rhwydweithiau trosglwyddo gwybodaeth y DU ar gyfer menter gweithgynhyrchu a lansiwyd yn ddiweddar, ac sydd wedi eu hanelu’n benodol at wireddu potensial y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae’r Aelod yn hollol gywir i dynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau a’r bygythiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac os edrychwn ar Ffrainc, efallai, fel model lle y gallem ddysgu rhai gwersi pwysig iawn o ran sut i symud tuag at economi awtomataidd, gan gymryd y gallwn wneud y newid hwnnw’n ddigon cyflym, credaf yn gryf y gallwn fwynhau’r cyfleoedd yn hytrach na’r bygythiadau.

Adeiladau Rhestredig Gradd I

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladau rhestredig gradd I yng Nghymru? OAQ(5)0079(EI)

Gwnaf. Mae oddeutu 30,000 o adeiladau ledled Cymru wedi’u gwarchod drwy eu rhestru fel adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy’n bwysig ar raddfa genedlaethol. Mae 493 o’r rhain yn radd I.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am gadarnhau bod 493 o adeiladau rhestredig gradd I yng Nghymru. Gwyddom hefyd fod ganddynt amryw o wahanol fath o berchnogaeth. Yn bersonol, mae gennyf ddiddordeb yng nghapeli gwych Cymru a grëwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credaf fod angen strategaeth arnom i amddiffyn yr holl adeiladau rhestredig gradd I yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried creu strategaeth o’r fath, heb gynnwys Cadw yn ddelfrydol?

Gall awdurdodau lleol lunio rhestrau lleol o ddiddordeb hanesyddol, ond o ran yr hyn y mae Cadw yn ei wneud—a chredaf ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru yno i gefnogi’r amgylchedd hanesyddol, o ran swyddogaethau statudol a swyddogaethau anstatudol—rydym yn arwain ar dair menter allweddol. Un ohonynt yw’r cynllun gweithredu ar gyfer mannau addoli, un arall yw’r gefnogaeth y mae Cadw yn ei chynnig i awdurdodau lleol i baratoi cofrestri o adeiladau mewn perygl, sy’n gwbl hanfodol yn fy marn i o ystyried bod lleoedd megis Tabernacl Treforys yn etholaeth fy ffrind wedi cael arian yn ddiweddar i arfarnu opsiynau ar gyfer yr adeilad, sy’n gymorth i gynllunio a diogelu ei ddyfodol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hynny heb gydweithio agos â’r awdurdod lleol. Yn drydydd, rydym yn gwella diogelwch adeiladau rhestredig gradd I, a chapeli o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn arbennig, drwy ddiogelwch y gyfraith. Mae Deddf yr amgylchedd hanesyddol 2016 wedi ei chynllunio i wella diogelwch adeiladau rhestredig gradd I, ac yn wir, adeiladau gradd II a gradd II* hefyd.

Hyrwyddo Celf a Diwylliant Cymru Dramor

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo celf a diwylliant Cymru dramor? OAQ(5)0093(EI)

Mae gan ein sector diwylliant ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n wynebu tuag allan ac sy’n gwerthfawrogi cyfnewid diwylliannol. Byddwn yn pwyso am gymal eithrio diwylliannol i gyfyngiadau ar ryddid pobl i symud, ac i gronfeydd cenedlaethol y DU lenwi unrhyw fwlch mewn cyllid diwylliannol o ganlyniad i golli arian yr UE.

Diolch am eich ateb. A gaf fi gyfeirio Ysgrifennydd y Cabinet at ŵyl ryng-Geltaidd flynyddol Lorient, a gynhelir bob blwyddyn yn Llydaw? Honno yw’r ŵyl fwyaf yn Ffrainc a’r dathliad mwyaf o ddiwylliannau Celtaidd drwy’r byd. Mae’r ŵyl wedi gwahodd Cymru i fod yn genedl anrhydeddus yn 2018. Y flwyddyn nesaf, yr Alban fydd y genedl anrhydeddus. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi blwyddyn Cymru yn Lorient?

Rwy’n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod y byddaf yn ariannu ein gweithgarwch yn yr ŵyl honno. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein dewis i fod yn bartner allweddol yn 2018, Blwyddyn y Môr, ond hefyd blwyddyn cyfeillgarwch gyda’n partneriaid ledled Ewrop.

Cynllun Cyflymu Cymru

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cyflymu Cymru? OAQ(5)0095(EI)

Rydym yn parhau i wneud cynnydd da mewn perthynas â Cyflymu Cymru. Rydym wedi darparu mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 620,000 eiddo na fyddai wedi gallu cael band eang ffeibr cyflym heb ein hymyrraeth ni.

Diolch am eich ateb. Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, gydag arian Ewropeaidd, ar gyfer pobl Cymru. Mae £20 miliwn arall wedi ei glustnodi ar gyfer y cam nesaf. Yn amlwg, mae cyflawni cynllun Cyflymu Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i’r Llywodraeth hon, ac mae wedi helpu busnesau i dyfu, ehangu a datblygu yn fy rhanbarth. Ond a allech ddweud wrthyf, Weinidog, sawl busnes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi elwa o gynllun Cyflymu Cymru?

Nid oes gennym wybodaeth am fusnesau unigol yn y ffordd honno, gan ein bod yn gosod y contract ar sail Cymru gyfan i safleoedd a basiwyd. Felly, mae pob safle unigol sy’n cael cyflymder o dros 30 Mbps yn cael ei dderbyn i raglen Cyflymu Cymru. Mae arnaf ofn nad oes gennym unrhyw ffordd o wahaniaethu rhwng eiddo preswyl neu fusnes. Ond mae gennym raglen gwerth £12 miliwn ar waith i fusnesau fanteisio ar fand eang cyflym iawn er mwyn sicrhau bod busnesau ledled Cymru, gan gynnwys llawer mewn mannau gwledig a mannau gwledig iawn, yn cael y budd mwyaf o fand eang cyflym iawn, ac yn wir, yn manteisio ar y band eang cyflym iawn pan ddaw ar gael, oherwydd, yn aml, oni bai bod pobl wedi ei weld yn gweithio, nid ydynt yn deall beth y mae’n gallu ei gynnig i chi. Rhoddaf un enghraifft i chi: roedd gwesty yr ymwelais ag ef yn Abergwaun wrth eu boddau eu bod wedi cael Cyflymu Cymru a chefais wahoddiad ganddynt i weld pa mor dda roedd yn gweithio. Roedd ganddynt un o’r cynlluniau talebau hynny sy’n caniatáu i bobl gael pris cymharol dda am wyliau penwythnos, er enghraifft, ac roeddent wrth eu boddau gan fod y gwesty’n hollol lawn ac roeddent yn hapus iawn â faint o fand eang oedd ganddynt. Fodd bynnag, wedi i’r band eang gyrraedd, fe wnaethant sylweddoli’n fuan y gallent gynnal priodasau gan ddefnyddio WedPics ac yn y blaen, a bod pobl yn rhannu’r wybodaeth honno ar-lein, a chyn bo hir, roedd angen llawer mwy o fand eang cyflym iawn arnynt nag yr oeddent wedi’i ragweld yn wreiddiol. Felly, mae’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn galonogol yn lleol ac yn rhanbarthol, ac yn rhyngwladol mewn gwirionedd. Felly, roedd y gwesty hwn yn Abergwaun yn denu ymwelwyr rhyngwladol am y tro cyntaf. Felly, mae’n rhaglen wych sy’n gymorth gwirioneddol i fusnesau allu manteisio, ac yn wir, rydym wedi contractio gydag Airband yn 2015 i dargedu bron i 2,000 o safleoedd, yn benodol mewn parciau busnes ac ystadau diwydiannol ledled Cymru nad oeddent yn rhan o’r rhaglen wreiddiol, os cofiwch. Pan gynhaliwyd adolygiad newydd y farchnad agored, bu modd i ni gynnwys y busnesau hynny. Felly, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae pawb sydd wedi ei gael wedi gweld cynnydd go iawn yn eu cynhyrchiant busnes.

Nifer yr Ymwelwyr o Dramor

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymwelwyr o dramor â Chymru dros y pum mlynedd diwethaf? OAQ(5)0082(EI)

Gwnaf. Mae’n bleser gennyf ddweud bod nifer yr ymwelwyr rhyngwladol â Chymru wedi tyfu llawer, gyda nifer y teithiau’n cynyddu 10 y cant a gwariant yn cynyddu 25 y cant rhwng 2011 a 2015. Mae ffigurau’r arolwg teithwyr rhyngwladol ar gyfer chwe mis cyntaf 2016 hefyd yn dangos twf o ran teithiau a gwariant.

Mae nodi’r ffigurau hynny yn newyddion calonogol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae gwerth y bunt bellach hefyd yn gymorth i ddenu ymwelwyr i’r DU. Ond mae gan ogledd Cymru gynnig unigryw o ran twristiaeth, ac fel y gwyddom, mae’n gynnig sydd gyda’r gorau drwy’r byd. Mae ar restr y 10 uchaf o ran cyrchfannau, ym marn Lonely Planet. Ond un o’r anfanteision sydd gennym yw nad oes gennym faes awyr rhyngwladol yng ngogledd Cymru. Nawr, nid wyf am alw arnoch i adeiladu un, ond gofynnaf i chi ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i wella cysylltiadau â’r meysydd awyr rhyngwladol yn Lerpwl a Manceinion, rhwng gogledd Cymru a’r cyrchfannau hynny. Mae’n bwysig iawn, os ydym am ddenu’r ymwelwyr pwysig i ogledd Cymru, fod y cysylltiadau hynny â’r ddau faes awyr yn gwbl hanfodol. Beth rydych yn ei wneud i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar wella’r cysylltiadau hynny?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod hefyd yn falch mai gogledd Cymru yw’r pedwerydd rhanbarth gorau ar y blaned? Yr wythnos hon, rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod Cymru wedi ennill gwobr arall. Rydym wedi ennill y wobr am y lle gorau yn y DU ar gyfer pobl ifanc, myfyrwyr a theithwyr addysgol, a hynny yng Ngwobrau Teithio Ieuenctid Prydain. Mae gan ogledd Cymru gynnig unigryw, heb os nac oni bai, ac rwy’n awyddus i sicrhau y daw’n fwy hygyrch i deithwyr o dramor ac o rannau eraill o’r DU am y rheswm hwnnw.

Byddwn yn ymgynghori, fel y dywedais, ar welliannau i’r pwyntiau mynediad allweddol hynny—yr A494 a’r A55—er mwyn gwella teithio ar ffyrdd. Rydym yn datblygu’r weledigaeth ar gyfer metro trawsffiniol a fydd yn cysylltu â maes awyr Manceinion yn ogystal â maes Awyr Lerpwl. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn arbennig o falch o fynychu cinio gwobrau busnes y ‘Daily Post’ ym Mhrifysgol Bangor, lle y noddwyd y wobr dwristiaeth gan Faes Awyr John Lennon Lerpwl. Wrth gwrs, mae hwn wedi datblygu’n faes awyr arwyddocaol iawn i economi ymwelwyr gogledd Cymru, felly rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â’r maes awyr hwnnw a hefyd â maes awyr Manceinion, sydd eisoes yn gwneud llawer o fusnes gyda ni mewn perthynas â hyrwyddo Cymru. Rwy’n cytuno â’r Aelod y gallwn wella cysylltiadau gyda’r meysydd awyr hyn; gallwn wella’r cysylltiadau ffyrdd a’r cysylltiadau rheilffordd hefyd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Mae’r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Anhwylderau Cysgu nad ydynt yn Ymwneud ag Anadlu

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anhwylderau cysgu nad ydynt yn ymwneud ag anadlu? OAQ(5)0092(HWS)[W]

Diolch am y cwestiwn. Mae’n bwysig bod achos anhwylderau cysgu nad ydynt yn achosion anadlol yn cael eu canfod yn gynnar gan y gall fod ystod eang o broblemau yn sail iddynt yn amrywio o ddeiet, anhwylderau niwrolegol, anhwylderau seiciatrig neu fwy. Bydd yr achos sylfaenol yn pennu’r ffordd orau o reoli’r cyflwr, ond gofal sylfaenol fydd y man cychwyn ar gyfer ei reoli.

Diolch am eich ateb. Fel yr ŷch chi’n dweud, fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o anhwylderau cysgu yn cael eu trin ar draws adrannau o fewn ein hysbytai. Nid oes yna adran neu ganolfan arbenigol ar gyfer anhwylderau cysgu. Mae dioddefwyr yn cwyno am fynediad at ddiagnosis ac at driniaeth ar gyfer anhwylderau cysgu nad ydynt o ganlyniad i resymau anadlol, ac mi gyfeirioch at anhwylderau sy’n deillio o gyflyrau niwrolegol. Mae diagnosis yng Nghymru yn isel ofnadwy ar gyfer cyflyrau fel narcolepsi. A oes gennych chi gynlluniau i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer cyflyrau o’r fath yng Nghymru a beth yw’r ‘prospect’ o ddatblygu canolfan arbenigol benodol ar gyfer yr ystod ehangach yna o anhwylderau cysgu yma yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn dilynol. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau yn dioddef rhyw fath o her gyda’n cwsg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt, fodd bynnag, yn pasio, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, gyda llond tŷ o blant ifanc. Ond o ran yr anhwylderau penodol a’r heriau ehangach, gwyddom fod narcolepsi yn her arbennig, nid yn unig mewn perthynas â chwsg ond mewn bywyd bob dydd. Nid oes iachâd ar hyn o bryd; mae’n ymwneud â rheoli’r cyflwr yn llwyddiannus. Mae gennym ganolfan drydyddol ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond rwyf wedi gofyn i’r grŵp gweithredu a chyflawni ar gyflyrau niwrolegol ystyried faint mwy o bwyslais y gallem ei roi ar y rhai yr effeithir arnynt gan anhwylderau cysgu a achosir gan ffactorau niwrolegol. Felly, mae gwaith ar y gweill ac rydym yn gwybod ei fod yn faes lle y mae angen i ni ehangu ein dealltwriaeth, ac yna deall ble a sut y gallwn reoli’r cyflwr a helpu a chefnogi pobl yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch iawn fod Llyr Gruffydd wedi gofyn y cwestiwn hynod o bwysig hwn. Ceir cysylltiadau cryf rhwng anhwylderau cysgu ac iechyd meddwl, felly wrth ddelio â chyflyrau anhwylderau cysgu, rydych yn darparu mesur ataliol gwerthfawr o ran iechyd meddwl a meysydd eraill o’r gwasanaeth iechyd. Rwy’n credu eich bod newydd sôn am ganolfan gwsg Aneurin Bevan, sydd wedi’i lleoli yn Nevill Hall yn y Fenni. Rwy’n credu mai honno yw’r unig ganolfan gwsg o’i bath yng Nghymru—yn sicr yr unig un sy’n ymdrin â chwmpas o’r fath. Nid yw ond yn cael ei ariannu’n rhannol gan y GIG, ac nid wyf yn credu bod y cyllid hwnnw wedi ei warantu o flwyddyn i flwyddyn. Rwy’n sylweddoli bod arian yn dynn, ond a allech ystyried rhoi rhywfaint mwy o sicrwydd i’r ganolfan gwsg yn y dyfodol mewn perthynas â’i chyllid, ac ystyried ymestyn yr arfer gorau hwnnw ledled gweddill Cymru, oherwydd, fel y dywedais, mae’n fesur ataliol a fydd yn gwneud llawer i leihau gwariant mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd?

Rwy’n credu eich bod yn crybwyll dau fater yn eich cwestiwn. Y cyntaf yw’r pwynt ynglŷn â thrin yr achos sylfaenol, felly pa un a yw hynny’n wahanol fathau o weithgarwch ai peidio, a lle y ceir her iechyd meddwl sy’n arwain at broblemau cysgu pobl yn y lle cyntaf. Yr ail, wedyn, yw’r hyn sy’n digwydd wedyn o ran y driniaeth, ac rwy’n credu bod canolfan Aneurin Bevan yn enghraifft dda o ble y mae gennym rywfaint o arbenigedd. Mae mwy o waith yn cael ei ddatblygu gyda Chanolfan Ddelweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd, yn ogystal, ac mae’n bwysig deall yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynglŷn â’r hyn y dylem ei wneud wedyn.

Byddaf yn ystyried hyn, ond mae’r gwasanaeth hwn yn benodol yn un o’r rhai cyntaf i ddeall lefel y galw sy’n bodoli, yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud, ac yna sut y mae’n ariannu hynny’n gywir gyda phartneriaid eraill hefyd. Felly, rwy’n deall pam rydych yn gwneud cais am gyllid ychwanegol mewn perthynas â’r mater penodol hwn, ond mae angen i mi weld y dystiolaeth ar yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud a sut y mae hynny’n cyd-fynd â’r angen a’r galw sydd gennym, a sut y gallwn ddiwallu’r rheini o fewn y system yn ôl pob tebyg.

Gofal Cyfartal ar Gyfer Cleifion y GIG

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i sicrhau gofal cyfartal ar gyfer cleifion y GIG ledled Cymru? OAQ(5)0093(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rwyf am gychwyn drwy gydnabod a’i llongyfarch ar ei gwobr neithiwr yn seremoni wobrwyo Gwleidydd y Flwyddyn Cymru. Yr her fwyaf o hyd mewn perthynas â chydraddoldeb gofal yng Nghymru yw anghydraddoldebau iechyd rhwng ein cymunedau mwy cyfoethog a’n cymunedau tlotach. Dyna pam rydym yn cyflwyno’r rhaglen ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn ehangach, yn dilyn cynlluniau arbrofol llwyddiannus yn ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf. Y mater cyffredinol hwn, wrth gwrs, oedd ffocws adroddiad y prif swyddog meddygol eleni.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog, ac am fy llongyfarch. Yn gynharach eleni, collodd un o fy etholwyr, mam ifanc i dri o blant, ei brwydr yn erbyn canser. Cyn iddi farw, ceisiodd ei phartner yn daer, ond yn ofer, i sicrhau cyffur iddi a allai’n sicr fod wedi ymestyn ei bywyd. Efallai eich bod wedi gweld yr achos hwn yn cael sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar. Cafodd ei chais ei wrthod ar y sail na châi ei hachos ei ystyried yn un digon eithriadol, er gwaethaf y ffaith fod cynghorwr genetig y claf wedi dweud wrthi mai hi oedd yr unig berson yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf i gael diagnosis o’r hyn rwy’n gobeithio sy’n cael ei ynganu fel syndrom Li-Fraumeni, sef rhagdueddiad genetig prin i ganser. Dywedodd oncolegydd y claf nad ydynt wedi gweld claf o’i thebyg o’r blaen, ac mae’n amau y bydd hi’n gweld un arall eto. Mewn adroddiad torcalonnus gan ei phartner a gyflwynais ar ei ran i’r adolygiad annibynnol o’r ceisiadau cyllido, mae’n gofyn y cwestiwn: beth sydd ei angen i fod yn glinigol eithriadol yng Nghymru?

Yn ogystal â gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r ceisiadau cyllido, a fyddwch yn cymryd camau i sicrhau bod pobl sy’n dioddef o ffurfiau prin o salwch, gan gynnwys canser, yn cael y gofal gorau posibl?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r achos rydych yn tynnu sylw ato yn ailadrodd unwaith eto pa mor anhygoel o anodd yw’r dewisiadau hyn—anodd i glinigwyr, anodd i’r gwasanaeth iechyd wrth geisio bodloni’r holl fathau o angen amrywiol a gwahanol, yn enwedig y gofal unigol ac arbenigol iawn rydych yn cyfeirio ato, ond yn bennaf oll, pa mor anhygoel o anodd yw hyn i’r unigolion a’u teuluoedd. Credaf mai dyna pam ei bod yn bwysig ein bod wedi cytuno i gael adolygiad annibynnol o’r cais cyllido cleifion unigol, ac mae hynny, ynghyd â’r gronfa triniaethau newydd, yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal gorau posibl pan fo meddyginiaeth yn cynnig ateb—oherwydd nid ydynt yn cynnig ateb bob amser. Felly, rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan yr adolygiad i’w ddweud am y broses genedlaethol a’r prosesau lleol ar gyfer deall sut y gwneir ceisiadau cyllido cleifion unigol. Yn benodol, fe fyddwch yn gwybod bod eithriadoldeb clinigol yn faes penodol yn yr adolygiad, ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad.

Ond mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r gofal gorau posibl, a byddwn yn parhau’n ymroddedig ar y sail orau un, y sylfaen dystiolaeth orau un, sydd ar gael i ni. Ni fydd hynny’n lleihau’r penderfyniadau anodd iawn y mae’n rhaid i glinigwyr unigol a thimau eu gwneud, ac y mae teuluoedd unigol yn eu gwneud ac yn gorfod eu hwynebu eu hunain. Ond rwy’n benderfynol y byddwn yn gwneud y gorau posibl i bob teulu, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gallu i ddenu staff i’r GIG yng Nghymru yn amlwg yn elfen hanfodol o ddarparu GIG modern a deinamig yma yng Nghymru. Cyflwynodd Coleg Brenhinol y Meddygon eu harolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos na chafodd o leiaf 40 y cant o’r swyddi a hysbysebwyd ar lefel meddygon ymgynghorol eu llenwi, ac yn achos llawer o’r swyddi nid oedd neb yn ymgeisio amdanynt hyd yn oed. Pa mor hyderus ydych chi, pan fydd yr asesiad hwn yn cael ei wneud ymhen 12 mis, y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r byrddau iechyd, wedi gwneud cynnydd o ran denu mwy o feddygon ymgynghorol i Gymru, ac yn hollbwysig, ar gael ceisiadau am swyddi ble bynnag y mae’r swyddi meddygon ymgynghorol hynny’n bodoli yng Nghymru?

Wel, mae’r pwynt ynglŷn â’r heriau recriwtio i’r gweithlu meddygol yn heriau ar draws system y DU, fel y gwyddoch. Yma yng Nghymru, yn sicr nid ydym yn ddiogel rhag yr heriau hynny, ac maent yn amrywio rhywfaint, ond yn aml rydym yn gweld yn union yr un heriau ym mhob cenedl yn y DU. Felly, dyna pam y mae ein strategaeth recriwtio a chadw staff yn bwysig a dyna pam ei fod yn cysylltu â hyfforddiant yng Nghymru ac yn wir, yn annog pobl i ddod atom i weld y pecyn llawn. Felly, mae hyfforddiant yn edrych ar yr holl ffactorau gwahanol hynny.

Ond mae’n mynd yn ôl bob amser at sylwadau rwyf wedi eu gwneud o’r blaen, a byddaf yn eu gwneud eto, ynglŷn â’r angen i ddeall pa fodelau gofalu sy’n ddeniadol i ddenu pobl. Er enghraifft, yn Aneurin Bevan, yn dilyn ad-drefnu eu gwasanaethau strôc, a oedd yn anodd—nid pawb oedd eisiau gweld gwasanaethau strôc yn cael eu canoli mewn canolfan arbenigol—mewn gwirionedd rydym wedi gweld canlyniadau’n gwella i gleifion. Rydym hefyd wedi ei gwneud yn haws recriwtio staff ymgynghorol i’r model gofalu newydd hwnnw sydd wedi’i ddiweddaru. Felly, mae yna ystod o wahanol bethau y mae angen i ni eu cydbwyso.

Ac nid yn unig fod angen i ni gael uchelgais gan y Llywodraeth, ond mae’n rhaid i ni wrando ar bobl o fewn y gwasanaeth a gweithio ochr yn ochr â hwy i ddeall sut y gallwn wneud Cymru yn fan mwy deniadol i bobl ddod i fyw ac i weithio yma, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud wedyn ar gyfer yr hyfforddiant a’r cymorth ehangach sydd ynghlwm wrth hynny. Rwyf hefyd yn credu y bydd creu Addysg Iechyd Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa well i gael y trosolwg eang, strategol hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y rhagolygon gorau ar gyfer annog a recriwtio a chadw’r holl staff rydym eu hangen i gynnal system gofal iechyd fodern o ansawdd uchel.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Mi fydd dadl yn cael ei chynnal yn y Siambr yma y prynhawn yma ar ordewdra, a hynny yn tanlinellu y bygythiad y mae hyn yn ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Faint mae’r Llywodraeth yn ei wario a pha adnoddau mae’r Llywodraeth yn eu buddsoddi i geisio taclo ac atal gordewdra yng Nghymru?

Wel, mae’n anodd iawn rhoi ateb penodol yn nhermau punnoedd a cheiniogau o ran yr hyn rydym yn ei wario ar yr agenda hon, gan ei bod mor eang. Mae ein dull o weithredu yn ystyried teithio llesol, er enghraifft, felly mae’r holl waith rydym yn ei wneud drwy’r adran y mae Ken Skates yn ei harwain, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud o ran ein cefnogaeth i iechyd y cyhoedd yn fwy cyffredinol—ein gwaith drwy’r rhwydwaith ysgolion iach, er enghraifft. Felly, mae’n anodd iawn rhoi ffigur penodol ar hyn, o ystyried y ffaith fod y gwaith rydym yn ei wneud yn amrywio mewn ysgolion, drwy awdurdodau lleol, a thrwy’r GIG, ac agweddau ar y GIG megis ein rhaglenni ymarfer corff, ac yn y blaen. Felly, o ran rhoi ateb yn nhermau punnoedd a cheiniogau, mae’n anodd iawn dweud.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, yn hytrach nag Ysgrifennydd Cabinet. O ystyried y gost o daclo a rhoi triniaeth i bobl oherwydd cyflyrau wedi eu hachosi gan ordewdra, o ystyried y gost i’r gwasanaeth iechyd, nid yw faint bynnag sy’n cael ei wario gan y Llywodraeth ddim yn ddigon, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Os ydy rhywun am roi’r gorau i ysmygu, mae yna ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael: cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogaeth, mae yna hefyd drethiant trwm, wrth gwrs, ar gynnyrch, a gwaharddiadau ar hysbysebu, ac yn y blaen. Gan ein bod ni’n gallu gweld bod camau felly wedi gweithio—wedi cymryd amser, ond wedi gweithio—a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sydd yn ysmygu erbyn hyn, a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi bod angen cymryd agwedd debyg rŵan wrth i ni geisio taclo yr her fawr arall o ran iechyd cyhoeddus, sef gordewdra?

Wel, rwy’n falch eich bod wedi cydnabod y llwyddiant rydym wedi’i gael o ran gostwng lefelau smygu, sydd ar eu lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion. Ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ein targed o 16 y cant erbyn 2020.

Rydych yn hollol gywir i ddweud bod mynd i’r afael â gordewdra yn fater cymhleth iawn, ac mae’n cynnwys pethau fel trethi a hysbysebu. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’r ardoll siwgr, er enghraifft. Fodd bynnag, rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw gynnydd amlwg wedi bod yn y maes hwnnw. Felly, mae hwn yn fater rydym yn parhau i bwyso yn ei gylch, fel y gwnawn wrth bwyso am weithredu pellach a chryfach mewn perthynas â hysbysebu. Ac unwaith eto, mae hwn yn fater rydym yn ei godi’n rheolaidd gyda Llywodraeth y DU. Mae gwaith yma i’r Llywodraeth ei wneud, ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel Llywodraeth y DU. Mae yna bethau y gall y diwydiant ei hun ei wneud hefyd; er enghraifft, mae’r gwaith y mae’r diwydiant wedi’i wneud yn wirfoddol ar leihau lefelau halen mewn bwyd yn cael ei ystyried yn batrwm cyffredinol o arfer da mewn gwirionedd. Felly, mae rôl yno i’r diwydiant weld beth arall y gall ei wneud o ran y cynnwys siwgr a braster hefyd.

A, gyda pharch, er fy mod i’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar daclo ysmygu, pan rwy’n sôn am y llwyddiannau sydd wedi digwydd dros ddegawdau, rwy’n sôn am lwyddiannau sydd wedi digwydd dros y byd wrth i’r broblem yma gael ei hadnabod. Mae’n berffaith glir i fi fod angen inni gymryd agwedd hirdymor, gan ddechrau rŵan, tuag at ordewdra hefyd.

Rwy’n gobeithio bydd y ddadl yma y prynhawn yma yn fodd i ddod â nifer o syniadau at y bwrdd ynglŷn â chamau pellach a allai gael eu gwneud yn fan hyn. Ond mae’r paralel, rwy’n meddwl, efo ysmygu yn rhoi un rhybudd arall i ni hefyd. Mae yna arian mawr wedi cael ei fuddsoddi dros y blynyddoedd mewn atal gweithredu gan lywodraethau ar ysmygu. A allwch chi a Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y byddwch yn cyfyngu ar ddylanwad y byd corfforaethol ar bolisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â gordewdra hefyd, fel na fydd yn rhaid inni aros am weithredu am ddegawdau fel bu’n rhaid inni wneud efo ysmygu a hefyd atal newid hinsawdd?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw ac rwy’n falch iawn fod yr Aelodau wedi dewis cael dadl ar iechyd y cyhoedd mewn perthynas â dadl yr Aelodau unigol y prynhawn yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed y syniadau y bydd Aelodau o bob plaid yn eu cyflwyno, oherwydd mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy’n gweithio ac mae gennym ddiddordeb mewn syniadau arloesol, felly edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. O ran dysgu gwersi o’r hyn sydd wedi digwydd mewn perthynas â mynd i’r afael â smygu, yn amlwg rydym yn awyddus i weld beth sydd wedi gweithio yn y maes hwnnw a beth y gallwn ei wneud yn gyffredinol i fynd i’r afael â heriau eraill i iechyd y cyhoedd, yn enwedig gweithgarwch corfforol a smygu, ond hefyd materion sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn fwy eang, megis goryfed alcohol, er enghraifft.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw at y ffaith fod bronciolitis mewn babanod yn bwysau mawr ar y GIG yng Nghymru dros y gaeaf. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell palivizumab a Synagis fel brechiadau y dylid eu cynnig i grwpiau risg uchel er mwyn helpu i amddiffyn rhag effeithiau bronciolitis. Pa gyngor a roddwyd i’r byrddau iechyd i sicrhau bod agwedd gyson yn cael ei gweithredu mewn perthynas â’r mater hwn?

Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd a system GIG Cymru yn ehangach ddilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mewn modd cyson. Mae hwnnw’n safbwynt y mae’r Llywodraeth hon yn ei gymryd ar bob un o’r materion hyn.

Rwy’n falch iawn o’ch clywed yn dweud hynny Ysgrifennydd y Cabinet oherwydd, mewn gwirionedd, mae’r GIG yn Lloegr yn defnyddio llwybr canolog o gyllid i dalu am y brechiadau hyn, sy’n sicrhau bod y canllawiau gofynnol yn cael eu bodloni o leiaf. Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, ond mae tystiolaeth yn dangos, drwy ystyried carfanau bychan o fabanod sydd mewn perygl, fod achos economaidd clir dros ddefnyddio Synagis oherwydd y gostyngiad dilynol yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty. Fodd bynnag, mae’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn amrywio’n eang mewn perthynas â babanod yn gallu cael mynediad at feddyginiaeth, gyda byrddau iechyd yn mabwysiadu dulliau gwahanol ac mae’n llithro i’r bylchau rhwng arbenigeddau. Felly, a wnewch chi ystyried edrych ar newid naill ai’r modd y mae’r brechlyn yn cael ei gyllido neu newidiadau o ran sut y gallech gyhoeddi rhagor o ganllawiau ar y mater hwn?

Ie, ac os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda’r wybodaeth y mae’n credu sydd ganddi, byddaf yn hapus i edrych ar hynny a rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo ac i’r hyn y gallwn ei wneud nesaf i wella’r sefyllfa yng Nghymru.

Rwyf hyd yn oed yn fwy balch o’ch clywed yn dweud hynny. Rwyf am grybwyll un teulu penodol yn gyflym, sy’n cynnwys dwy efaill 12 mis oed a aned yn gynnar, ar ôl 28 wythnos. Mae’r ddwy ohonynt wedi dioddef o fronciolitis bedair gwaith yn ystod y tymor hwn yn unig, gan arwain at naw ymweliad â’r ysbyty a chwe ymweliad ar wahân â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Ni chaiff y babanod y brechlyn gan nad ydynt yn bodloni’r meini prawf brechu llym. Fodd bynnag, mae’r derbyniadau cyson i’r ysbyty a’r ffaith eu bod wedi gorfod brwydro’n erbyn y firws yn gyson wedi rhoi straen enfawr ar y teulu, yn ogystal â rhwystro datblygiad y babanod, yn enwedig un sydd wedi cael parlys yr ymennydd oherwydd ei bod wedi’i geni mor gynnar. Yn ogystal â disgwyl i’r byrddau iechyd ufuddhau i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a yw’n bosibl i ni hefyd eu galluogi i feddwl ychydig yn fwy ochrol mewn amgylchiadau o’r fath fel eu bod yn edrych ar y darlun cyffredinol ac yn dangos yr hyblygrwydd a ganiateir er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar eu hysbytai, ar gyllid y GIG ac ar y teulu hwnnw, teuluoedd tebyg iddynt, a’r babanod hynny? Mae’n costio £600 y brechiad o’i gymharu â naw arhosiad yn yr ysbyty a chwe ymweliad â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Buaswn wedi meddwl ei fod yn hollol amlwg.

Diolch am y cwestiwn dilynol a’r enghraifft. Fel rwy’n ei ddweud yn rheolaidd, rydym yn gweithredu ar sail tystiolaeth ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth a’r canllawiau arbenigol y mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn eu darparu. Credaf ei bod yn bwysig deall a fuasai’r brechlyn yn arwain yn effeithiol at osgoi’r derbyniadau a’r driniaeth a amlinelloch yn yr achos unigol ai peidio. Mae hefyd yn bwysig deall a oes llwybr amgen i driniaeth, boed yn frechlyn neu’n rhywbeth arall. Ac wrth gwrs, mae hyn yn mynd yn ôl at ddealltwriaeth y clinigwyr sy’n rhoi’r driniaeth a’u cyngor ar y math gorau o driniaeth. Rydym yn gwybod bod yna lwybrau ceisiadau cyllido cleifion unigol ar gyfer triniaeth sydd y tu hwnt i’r llwybrau arferol. Ond rwy’n credu mai’r peth mwyaf defnyddiol yw i ni gael yr ohebiaeth sy’n amlinellu’r sefyllfa bresennol gennych, i mi allu rhoi ystyriaeth ddifrifol a phriodol iddi a buaswn yn hapus i gael sgwrs gyda chi wedi hynny.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod o boenus darllen yn y papurau am artaith teulu dyn 86 mlwydd oed a laddodd ei wraig 85 oed a oedd yn dioddef o ddementia, ac yna, ag yntau’n methu ag ymdopi, ei fod wedi camu o flaen trên. Ef oedd gofalwr ymroddgar ei wraig ac maent yn gadael chwech o blant sy’n teimlo’n siomedig ac yn honni nad oedd darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol. Mae hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni wella cydweithrediad yn ogystal â chyfathrebu rhwng adrannau i atal pobl, fel y pâr hwn o Gaerdydd, rhag llithro drwy’r craciau yn ein system. Wrth i ni gydymdeimlo â’r teulu, pa wersi y gallwn eu dysgu a sut y gallwn atal y sefyllfa drasig hon rhag digwydd eto?

Rwy’n cydnabod yr enghraifft benodol y mae’r Aelod yn tynnu sylw ati. Mae’n achos gwirioneddol drasig ac rwy’n deall y bydd y teulu’n hynod o ofidus yn ei gylch. Yr her wrth ddysgu gwersi, nid yn unig o’r achos unigol hwn, ond yr her gymdeithasol ehangach rydym yn ei hwynebu, yw sut y rhennir y cyfrifoldeb rhwng unigolion a’u teuluoedd, a rhwng gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd yn ogystal. Beth y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd a sut rydym yn gwneud yn siŵr wedyn ein bod yn datblygu i fod yn genedl sydd at ei gilydd yn deall dementia?

Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi ymrwymiad yn y Siambr hon i amrywiaeth o Aelodau sydd wedi bod â diddordeb yn y maes penodol hwn y bydd y cynllun cyflawni ar ddementia rydym yn ymgynghori arno yn cyhoeddi drafft ar gyfer ymgynghori cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd hwnnw’n nodi safbwynt y Llywodraeth, ar ôl gweithio gyda, a gwrando ar randdeiliaid, y trydydd sector ac unigolion sy’n byw gyda dementia eu hunain, i geisio deall yr hyn sydd gennym yn awr, ond hefyd yr hyn y gallem ei wneud yn y dyfodol. Rwy’n disgwyl y byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr ar ryw adeg yn y flwyddyn newydd hefyd.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2014, cwblhawyd adolygiad o ofal preswyl, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’. Daeth i’r casgliad fod gan ormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd annerbyniol. Er bod cyfres o ofynion ar gyfer gweithredu ar gartrefi gofal wedi cael eu gweithredu gan Sarah Rochira, ein comisiynydd pobl hŷn ymroddedig sydd a thîm o staff ymroddedig, mae’n amlwg y bydd ei hadnoddau yn cael eu gorymestyn yn helaeth i gwmpasu Cymru gyfan. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen ymgysylltiad y sector gwirfoddol. Fodd bynnag, sut y gallwn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin gyda’r urddas a’r parch y maent yn ei haeddu?

Diolch i’r Aelod am yr ail gwestiwn. O ran adnoddau, rydym newydd gael dadl am y gyllideb ac mae’n rhaid i ni ddyrannu cyllidebau i bob un o’n meysydd, gan gydnabod realiti y cyllid cyfyngedig sydd ar gael i ni. Nid yw’r her bob amser yn ymwneud ag arian, ond rwy’n credu bod eich pwyntiau olaf yn ymwneud mewn gwirionedd â’r diwylliant yn y gofal rydym yn ei ddarparu a’r modd y caiff ei gomisiynu, yn bennaf gan awdurdodau lleol, ond o ran comisiynu gofal iechyd hefyd, a’r hyn y buasai pawb ohonom yn ei ddisgwyl ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer ein hanwyliaid hefyd.

Mae’r pwynt ynglŷn â thrin pobl gydag urddas yn ymwneud mewn gwirionedd â gwrando ar ac ymgysylltu’n iawn â’r unigolyn a’u gofalwyr. Mae hynny’n bwydo i mewn i gyfeiriad teithio polisi’r Llywodraeth hon dros gyfnod hir o amser. Cafodd ei gychwyn yn flaenorol gan Gwenda Thomas wrth iddi ddod ag ystod o faterion at ei gilydd a oedd yn ymwneud â llais y bobl mewn gofal cymdeithasol. Ac i’r gwasanaeth iechyd hefyd mewn gwirionedd, mae rhywbeth ynglŷn ag ennill rhywfaint o’r tir y mae gofal cymdeithasol wedi’i ennill. Nid yw ar sail gyfartal—mae’n anghyfartal ym maes gofal cymdeithasol; rydym yn cydnabod hynny—ond mae’n ymwneud yn gyffredinol ag ymgysylltu mwy a gwrando ar yr unigolion a’u teuluoedd a gweithio gyda rhywun i ddarparu gofal iechyd, yn hytrach na darparu gofal iechyd i neu ar gyfer unigolyn.

Felly, mae yna heriau go iawn yma, ond rwy’n credu y dylem i gyd gael rhywfaint o gysur yn y ffaith, y rhan fwyaf o’r amser o bell ffordd, fod iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu urddas a thosturi mawr yn y gofal a ddarperir. Ond ni ddylai fod unrhyw reswm neu ddisgwyliad y byddwn yn hunanfodlon ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o gyhoeddusrwydd a phryder ar hyn o bryd ynglŷn â ffioedd atodol mewn cartrefi gofal ac i ba bwrpas y defnyddir y ffioedd hyn. Sut y gallwn sicrhau perthnasau, a phreswylwyr yn wir, mewn cartrefi gofal bod eu ffioedd yn cael eu defnyddio’n briodol?

Wel, pan fo unigolion yn talu ffioedd atodol, maent yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn cael eu hasesu, ac maent naill ai am dalu cyfraniad ar ben hynny neu cânt eu hasesu fel unigolion sy’n gallu gwneud cyfraniad. Mae hyn yn ymwneud â chomisiynu gofal, ac mae’n ymwneud â phwy sy’n comisiynu’r gofal hwnnw a pha safonau sy’n cael eu darparu. Mae rhywbeth i’r sector cyhoeddus yn y modd y caiff y gofal ei gomisiynu, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Gweinidog yn arwain y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn cydgomisiynu ystod o wasanaethau rhwng partneriaid iechyd a llywodraeth leol yn y dyfodol wrth i’r Ddeddf gael ei gweithredu’n raddol. Fe fyddwch yn ymwybodol o rôl teuluoedd unigol hefyd, oherwydd mae rhywbeth ynglŷn ag ansawdd y gofal a sut rydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw.

Felly, mae rôl gan y sector cyhoeddus yn bendant, ond i’r un graddau, mae gan deuluoedd unigol ran i’w chwarae hefyd yn y math o ofal y maent yn dymuno ei ddarparu gyda ac ar gyfer eu hanwyliaid, ond yn yr un modd, y bobl sy’n mynd i mewn i ofal—nid yw hi fel pe bai pobl bob amser mewn sefyllfa lle y mae rhywun arall yn gwneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan. Lle y mae pobl yn talu eu ffioedd eu hunain, mae’r ffioedd hynny’n cael eu talu gan unigolion sy’n aml yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau, ac mae’n ymwneud â sut rydym yn arfogi pobl i wneud y penderfyniadau hynny. Dyna pam y mae’r wybodaeth a’r darpariaethau ar gyfer y canllawiau yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant mor bwysig. Fel amryw o bobl eraill yn y Siambr, rwy’n cofio gwneud y gwaith o graffu a chael y mathau hyn o broblemau yn union yn cael eu hamlygu pan oedd y Bil yn mynd drwy’r broses graffu cyn dod yn Ddeddf. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau, nid ydym yn esgus y byddwn yn eu datrys erbyn rhyw amser penodol, ond rydym yn cydnabod ei fod yn fater sy’n bodoli a’i fod yn un rydym yn benderfynol o’i weld yn gwella.

Argaeledd Cynlluniau Mân Anhwylderau (Canol De Cymru)

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cynlluniau mân anhwylderau mewn fferyllfeydd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0078(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Roedd y cynllun peilot cychwynnol ar gyfer y cynllun anhwylderau cyffredin, a labelwyd yn Dewis Fferyllfa, sy’n rhannu’r un enw â’r platfform TG sy’n helpu i’w gyflawni, yn cynnwys nifer o fferyllfeydd yng Nghwm Taf yng Nghanol De Cymru. Erbyn hyn mae yna 19 o fferyllfeydd yng Nghwm Taf sydd eisoes yn rhedeg y cynllun anhwylderau cyffredin, a disgwylir y bydd 19 pellach yn eu mabwysiadu i alluogi’r platfform TG. Mae Caerdydd a’r Fro yn disgwyl galluogi mwy o fferyllfeydd i ddechrau darparu’r cynllun anhwylderau cyffredin yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Weinidog, cefais fy nghalonogi ynglŷn â Chwm Taf, ond fel y gwyddoch, gellir trin 20 o’r afiechydon mwyaf cyffredin yn dda iawn mewn fferyllfeydd, ac mae hyn yn lleihau’r pwysau ar feddygon teulu. Mae yna gynllun hysbysebu—sydd yn ôl pob tebyg yn cael ei redeg gan y GIG yn Lloegr, ond mae’n parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru—sy’n annog pobl i chwilio am gyngor yn gynnar, gan gynnwys ymweld â’u fferyllfeydd. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid oes unrhyw gynllun anhwylderau cyffredin yng Nghaerdydd eto. Rwy’n credu bod hwn yn fodel da iawn, ac mae’n un y dylid ei ddefnyddio mewn ardaloedd trefol mewn gwirionedd, lle y mae mynediad at fferyllfeydd yn hawdd iawn fel arfer.

Rwy’n cytuno. Dyna pam y mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau bod o leiaf hanner y fferyllfeydd yng Nghymru yn darparu’r cynllun anhwylderau cyffredin. Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio’n ehangach wedyn. Nid yw Caerdydd a’r Fro yn darparu’r cynllun ar hyn o bryd, ond bydd yn cael ei gyflwyno yn yr ardal yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Ac rwy’n cydnabod yr union bwynt rydych yn ei wneud. Dyna oedd yn ein maniffesto ac mae yn ein rhaglen lywodraethu i wneud yn siŵr ein bod yn darparu mwy o wasanaethau drwy fferyllfeydd cymunedol, er mwyn lleihau llwythi gwaith ac amser meddygon teulu. Rydym yn amcangyfrif bod hyd at 18 y cant o lwyth gwaith meddygon teulu ac 8 y cant o ymgynghoriadau adrannau achosion brys ar gyfer anhwylderau cymharol fychan. Rwy’n siŵr y byddwch yn cofio, pan lansiwyd y cynllun, fy mod wedi ymweld â fferyllfa, fferyllfa Sheppards, ac roeddwn yn dioddef o lid yr amrant ar y pryd, yn digwydd bod. Unwaith eto, anhwylder cyffredin y mae rhai pobl yn mynd i weld eu meddyg teulu yn ei gylch pan nad oes angen iddynt wneud hynny; gellir ei drin yn hawdd mewn fferyllfeydd cymunedol. Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig, fodd bynnag, yw rhannu fersiwn o gofnodion meddygon teulu er mwyn caniatáu i’r cynllun fwrw ymlaen. Mae llawer mwy o botensial nag anhwylderau cyffredin yn unig yn deillio o’r ffaith fod y cofnodion hynny’n cael eu rhannu, ac rwy’n wirioneddol gyffrous ac wedi fy nghalonogi gan y sefyllfa gyda fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a beth arall y gallwn ei wneud o fewn y gwasanaeth iechyd.

Gan fod y cynllun yn cyd-fynd yn llwyr â gofal iechyd darbodus, rwy’n meddwl tybed pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i’w weithredu. O ble y daw’r gwrthwynebiad, ac ym mha ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru eu goresgyn?

Wel, mewn gwirionedd rydym wedi cynnal cynllun peilot ar hyn cyn penderfynu ar y broses o gyflwyno, a chyhoeddais ei gyflwyniad ym mis Mawrth y llynedd. Daeth hynny, mewn gwirionedd, gyda buddsoddiad o £0.75 miliwn i alluogi sefydlu’r platfformau TG. Mae yna bethau ymarferol i’w gwneud i sicrhau y gellir rhannu cofnodion Meddygon Teulu. Mae gennym gymeradwyaeth a chefnogaeth partneriaid, yn enwedig ein partneriaid sy’n feddygon teulu, i wneud yn siŵr y gellir rhannu’r cofnodion, am ein bod eisiau gwneud yn siŵr bod y gofal a ddarperir mewn fferyllfeydd yn cael ei rannu ar y cofnod mewn gwirionedd, fel bod pobl yn deall y driniaeth sy’n digwydd. Ac rwy’n credu mai dyna yw’r rhan fwyaf drawsffurfiol o’r cynllun rydym yn ei weithredu. Dylai fod mwy y gallwn ei wneud mewn perthynas â rhannu’r cofnodion hynny’n ddiogel, gyda mewngofnodi priodol a llwybrau archwilio priodol yn ogystal. Felly, rwy’n disgwyl y byddwn yn gwneud cynnydd gwirioneddol dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Rydym wedi dweud ein bod eisiau i hanner y fferyllfeydd, o leiaf, allu darparu’r cynllun hwn o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf; rydym yn credu y gallwn fynd gam ymhellach na hynny mewn gwirionedd. Mae byrddau iechyd yn dangos uchelgais go iawn yn sicrhau bod fferyllfeydd cymunedol yn darparu mwy a mwy mewn perthynas ag iechyd, gan ei bod yn ffordd gyfleus i’r unigolyn dderbyn gofal iechyd, ond hefyd yn ffordd fwy effeithlon i’r gwasanaeth iechyd ddarparu sawl un o’r gwahanol ffurfiau ar ofal rydym wedi sôn amdanynt.

Yn wir, un o’r byrddau iechyd hynny sydd â brwdfrydedd mawr mewn perthynas â hyn yw Cwm Taf. Yn wir, mae cwestiwn David wedi fy atgoffa am fy ymweliad yr wythnos diwethaf â fferyllfa Sheppards yn Llanhari lle y gwnaed argraff fawr arnaf gan y modd y mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn cofleidio’r cyfleoedd newydd hyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymdrin â mân anhwylderau ac anhwylderau cyffredin, ac fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys hefyd. Ar fy ymweliad, croesawyd ailddatganiad Llywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i’r sector fferylliaeth gymunedol gyda buddsoddiad o £20 miliwn i gefnogi a gwella gwasanaethau fferyllol yng Nghymru. Felly, er fy mod yn deall bod manylion y cyhoeddiad yn cael eu trafod ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru, a fuasai’n cytuno â mi fod yna hyder tawel o fewn y sector, yn wahanol i Loegr, lle y mae’r cyllid yn cael ei dorri dros y ddau gylch gwariant nesaf mewn gwirionedd—yn cael ei dorri—y gallem weld, yma yng Nghymru, nifer y gwasanaethau y gellid eu cael mewn fferyllfa leol yn ehangu’n sylweddol, ac yn arbennig, fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet, gyda’r rhaglen TG newydd Dewis Fferyllfa yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, mae’n bosibl mai dyma’r allwedd i ddatgloi’r broses honno o rannu data a fydd yn caniatáu i fwy o bobl gael eu trin am anhwylderau cyffredin a mân anhwylderau yn eu fferyllfa gymunedol ddibynadwy leol a lleihau llwyth gwaith meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys hyd yn oed?

Cytunaf yn llwyr, mae hwnnw’n gyfeiriad teithio ar gyfer y Llywodraeth hon ac mae gwahaniaeth amlwg rhwng agwedd y Llywodraeth hon ac agwedd Llywodraeth y DU tuag at y sector fferylliaeth gymunedol. A chaiff hynny ei gydnabod a’i adlewyrchu yn ôl yn rheolaidd gan fferylliaeth gymunedol ei hun. Yn Lloegr, bydd toriad o 4 y cant i’r sector fferylliaeth gymunedol eleni, a bydd hynny’n cynyddu i 7 y cant y flwyddyn nesaf. Nid yw’r miliynau o bunnoedd sy’n dod allan o’r sector yn Lloegr yn digwydd yma. Rydym yn cynnal ein cyllid ar gyfer y sector fferylliaeth gymunedol ac maent wedi ymateb yn bositif i’r her a nodais ynglŷn â chael system daliadau sy’n fwy seiliedig ar ansawdd. Felly, ni fyddwn yn darparu taliadau ar sail cyfaint a chyfaint presgripsiynu, bydd mewn gwirionedd yn ymwneud ag elfen sy’n seiliedig ar ansawdd hefyd. Mae hynny’n ymwneud â hwy’n rhoi mwy o werth a mwy o wasanaethau i unigolion. Rydych yn gywir yn nodi bod fferyllfeydd cymunedol wedi ymwreiddio, maent yn lleol, maent ar gael ac mae pobl yn ymddiried ynddynt. Mae angen i ni fanteisio ar sefyllfa’r gweithwyr proffesiynol medrus iawn sy’n gweithio yn y lleoliadau hynny. Felly, at ei gilydd rwy’n frwdfrydig ac yn gadarnhaol ynglŷn â’u rôl yn awr ac rydym yn disgwyl datblygu mwy eto gyda hwy yn y dyfodol hefyd.

Gwasanaethau Orthodonteg yn Ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau orthodonteg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(5)0094(HWS)[W]

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r bwrdd iechyd yn gweithio i wella darpariaeth gwasanaethau orthodonteg sy’n diwallu anghenion iechyd deintyddol a aseswyd yn glinigol eu poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaeth allgymorth, sy’n golygu bod plant sydd angen triniaeth orthodontig yn cael eu hasesu yn nes at adref.

Wel, yn sicr mae angen iddynt wella’r gwasanaeth yn eithaf sylweddol. A gaf fi dynnu eich sylw, a sylw’r Siambr, at fy etholwr ac etholwr y Llywydd hefyd, Sheila Joseff, mam i fachgen 15 oed a gyfeiriwyd at orthodontydd am ymgynghoriad ar gyfer bresys? Dywedwyd wrtho, ag yntau’n byw yng Ngheredigion, y buasai’n rhaid iddo fod ar restr aros o dair blynedd i ffitio’r bresys, tra bod y rhestr aros ym Mhowys yn 8 wythnos. Penderfynodd wario £3,000 i gael triniaeth breifat gan na allai aros iddo fod yn oedolyn cyn iddo gael bresys. Erbyn hyn mae’n rhaid iddi deithio taith ddwy ffordd i Gaerfyrddin bob ychydig wythnosau yn syml er mwyn mynychu apwyntiad pum munud i’w haddasu, gan nad oes clinig allgymorth ar gyfer orthodonteg ar gael yng Ngheredigion. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd gyda’r bwrdd iechyd, Weinidog, i sicrhau yn gyntaf ein bod yn cael clinig allgymorth, fel nad oes raid i’n hetholwyr deithio tair awr ynfyd i addasu eu bresys yn unig, ac yn ail, i dorri’r rhestr aros yng Ngheredigion fel ei bod yn debycach i hyd rhestrau aros mewn rhannau eraill yng nghanolbarth Cymru?

Fel y bwrdd iechyd, rwy’n cydnabod bod her ynglŷn â’r ddarpariaeth o fewn ardal y bwrdd iechyd, yn cynnwys yn sir Ceredigion. Mae amrywiaeth o glinigau asesu wedi bod ar draws ardal y bwrdd iechyd, gan gynnwys nifer o glinigau yn Aberystwyth, ac rwyf wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig atoch yn ddiweddar ar y pwnc penodol hwn. Felly, rwy’n cydnabod nad yw popeth fel y dylai fod, fod rhai pobl yn aros yn rhy hir ac mae’n her go iawn i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â hi a’i rheoli’n effeithiol. Mewn gwirionedd, rwy’n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad ar gyflwr y gwasanaethau orthodontig ar hyd a lled y wlad—diweddariad ar ein sefyllfa. Dylai hwnnw gael ei ddarparu ddiwedd mis Ionawr, gyda mwy o esboniad o ble rydym ar hyn o bryd a’r meysydd sydd angen eu gwella. Ond mae Hywel Dda yn deall bod hon yn elfen y byddwn yn dychwelyd ati. Gallant ddisgwyl hynny, nid yn unig gennych chi, ond gan y teuluoedd eu hunain sy’n aros yn hwy nag y dylent am y driniaeth rydych yn ei hamlinellu ac yn ei nodi. Felly, nid oes unrhyw synnwyr o laesu dwylo ac mae’r gwelliant sydd ei angen yn cael ei gydnabod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siwr y byddwch yn cytuno â mi na ellir bychanu pwysigrwydd gofal iechyd y geg da ac mae hyn yn arbennig o bwysig mewn lleoliad gofal cymdeithasol lle y gall gofal iechyd y geg gwael effeithio ar allu pobl i siarad, i gyfathrebu a bwyta hyd yn oed. Mae diweddariad cynllun lleol iechyd y geg bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn cydnabod y mater hwn, ond nid yw’n rhoi fawr o amlinelliad o’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes penodol hwn. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru’n monitro effeithiolrwydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn sicrhau bod gofal iechyd y geg yn cael ei integreiddio i gynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol, fel bod y rhai sydd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn derbyn y gwasanaethau gorau sydd ar gael?

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n cydnabod bod hyn yn symud ymlaen o’r pwynt penodol am wasanaethau orthodonteg i ofal iechyd cyffredinol y geg, ond mae hwn yn fater rwyf wedi’i drafod gyda’r prif swyddog deintyddol newydd yng Nghymru ac yn wir, rwyf wedi gwneud y pwynt gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain hefyd—ein bod yn cydnabod bod gofal iechyd y geg yn rhan bwysig o’r unigolyn cyfan. Dyna pam ein bod wedi lansio cynllun gwell ar gyfer gofal iechyd y geg mewn lleoliadau gofal preswyl yn y Cynulliad diwethaf. Rwy’n disgwyl derbyn y newyddion diweddaraf ar y camau gweithredu a gymerir, gan fod rhywbeth ynglŷn â chydnabod y gwaith o gomisiynu gofal mewn lleoliad gofal preswyl ac am ddarparu gofal sylfaenol ar gyfer y person hwnnw yn ogystal. Felly, mae hwn yn fater sydd ar fy meddwl. Mae’n rhan o’r sgwrs a gefais gyda’r prif swyddog deintyddol, ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd pellach yn cael ei wneud yn ystod y tymor hwn.

Gwasanaethau Bydwreigiaeth

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bydwreigiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0079(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ein nod yw sicrhau fod beichiogrwydd a rhoi genedigaeth yn brofiad diogel a chadarnhaol i bob mam yng Nghymru, ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag yw eu hamgylchiadau.

Yn flaenorol, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd angen uned mam a’i baban arbenigol yng Nghymru oherwydd bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu yn y gymuned, ond ar ôl ymchwilio ymhellach mae’n ymddangos i mi mai dau fwrdd iechyd yn y wlad hon yn unig sydd â darpariaeth ar gyfer gofal iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Rwy’n tybio bod y Llywodraeth, ac efallai Ysgrifennydd y Cabinet hyd yn oed, wedi cynnal asesiad effaith ar y penderfyniad i gau’r uned mam a’i phlentyn arbenigol olaf ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru yn 2013. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod copïau o’r asesiad hwnnw ar gael yn llyfrgell y Cynulliad?

Rwy’n hapus i roi rhagor o wybodaeth am y penderfyniad i beidio â chomisiynu darpariaeth cleifion mewnol yng Nghaerdydd. Roedd y penderfyniad, mewn gwirionedd, yn deillio o bryderon ynglŷn â’r gallu i ddarparu’r ansawdd gofal a’r diogelwch gofal cywir. Mae hwn yn faes hynod o arbenigol ar gyfer nifer fach iawn o famau, a’n her oedd rhagweld a allem wneud hynny’n ddiogel yng Nghymru ai peidio. Yr hyn nad wyf yn barod i’w wneud yw comisiynu gofal sydd o ansawdd gwael a thynnu sylw at y ffaith ei fod yn lleol yn hytrach na’i fod yn ofal o’r ansawdd cywir. Ar hyn o bryd rydym yn comisiynu’r gwasanaeth hwnnw naill ai yn system Lloegr yng ngogledd-orllewin Lloegr neu’n wir ym Mryste ar gyfer de Cymru. Fodd bynnag, gellid a dylid darparu’r rhan fwyaf o’r gofal yn y gymuned; dyna’r pwynt rwy’n ceisio ei wneud. Mae angen i ni wella’r ddarpariaeth ofal cymunedol, oherwydd rydym yn cydnabod bod yna heriau iechyd meddwl i’w hwynebu ar ôl geni plentyn i amryw o famau. Felly, mae’n angen gwirioneddol rydym yn ei gydnabod. Dyna pam ein bod yn buddsoddi arian ychwanegol mewn darpariaeth gymunedol, ond rwy’n fwy na pharod i sicrhau bod yr asesiad a wnaethom, neu’r asesiad a wnaed gan y grŵp comisiynu gofal iechyd arbenigol yng Nghymru o’r rhesymau pam y cafodd y gwasanaeth hwnnw ei ddadgomisiynu yng Nghaerdydd ar y pryd, ar gael i’r Aelodau, ynghyd â’r asesiad diweddaraf o’r angen a’r gallu i wneud hynny’n ddiogel ac o’r ansawdd cywir ar gyfer mamau yma yng Nghymru.

Cynllun Ysgol Feddygol Bangor

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cynllun ysgol feddygol Bangor? OAQ(5)0088(HWS)[W]

Fel y bydd yr Aelod yn gwybod o’n gohebiaeth flaenorol, rwyf wedi cytuno i ystyried yr achos dros ysgol feddygol fel rhan o’r gwaith o ystyried anghenion y gweithlu ehangach am addysg broffesiynol a hyfforddiant iechyd yng ngogledd Cymru. Bydd angen i unrhyw benderfyniad gael ei gefnogi gan dystiolaeth glir y buasai newid yn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau i hyfforddi a chadw mwy o staff ar gyfer GIG Cymru.

Mae ysgol feddygol i Fangor wedi cael ei gynnwys fel prosiect lefel uchel yn ‘growth bid’ gogledd Cymru, sydd wedi cael ei gytuno a chael cefnogaeth pob un o’r chwech awdurdod lleol yn y gogledd. Mae llythyr a gefais i gennych chi yn ddiweddar yn nodi eich bod chi’n disgwyl ‘briefing’ gan swyddogion ar y mater. Rwy’n sylwi bod y geiriau ‘achos busnes’ wedi diflannu o’r llythyr, ond dyna a addawyd cyn yr haf—achos busnes, nid ‘briefing’. A fedrwch chi fy sicrhau i a phobl yn y gogledd-orllewin fod y cynllun i ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor yn cael blaenoriaeth gennych chi a gan y Llywodraeth?

Ydw, rwy’n falch o gadarnhau bod ystod o drafodaethau gweithredol wedi cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gyda llywodraeth leol, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Caerdydd, sydd oll yn cymryd rhan yn ysgol glinigol gogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae angen i ni gael achos busnes yn nodi’r dystiolaeth dros ysgol feddygol bosibl. Rwy’n disgwyl cael sesiwn friffio ar y diweddariad i’r gwaith sy’n parhau. Y pwynt pwysig yma yw gwneud y peth iawn i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn rhoi mwy o gyfle i hyfforddiant ddigwydd yng Nghymru, i recriwtio a chadw staff ddigwydd yng Nghymru, a sut rydym yn rhoi gwahanol gyfleoedd a gwell cyfleoedd i bobl gyflawni eu hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru ac ar draws y wlad yn ehangach. Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru wedi helpu i wneud rhywfaint o hynny. Mae’n golygu bod mwy o leoliadau’r bedwaredd a’r bumed flwyddyn yn digwydd yng ngogledd Cymru, ac mae hynny wedi arwain yn ymarferol at fwy o feddygon iau yn dewis dod i Gymru ar ôl bod ar leoliad yng ngogledd Cymru. Mae angen i ni ddeall beth sydd wedi bod yn llwyddiannus am hynny a beth arall y gallem ei wneud. Mae hynny’n cyd-fynd â’n disgwyliad a’n hawydd cyffredin i gael system gofal iechyd sydd â hyfforddiant o’r ansawdd cywir, sy’n cadw ac yn recriwtio’r staff cywir sydd â’r math o sgiliau gofal iechyd rydym eu heisiau, ac sy’n cydnabod o ddifrif ac yn myfyrio ar y rheini, nid myfyrwyr o Gymru’n unig na fyddant o bosibl eisiau hyfforddi yng Nghymru ac a fydd yn mynd i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig i gael eu hyfforddiant meddygol o bosibl, ond sut rydym yn eu denu’n ôl, yn ogystal â’u denu o rannau eraill o’r DU ac ymhellach i ddod i Gymru i gael eu hyfforddiant meddygol. Felly, mae gennyf feddwl hollol agored am yr achos posibl dros ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Yn syml, rwyf angen y dystiolaeth ynglŷn â’r dewis iawn i’w wneud er mwyn cyflawni’r amcanion hynny i ddarparu’r math o ofal iechyd sydd ei angen arnom.

Gwella Safon Gwasanaethau’r GIG (Canol De Cymru)

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i wella safon gwasanaethau'r GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0089(HWS)

Rydym yn parhau i weithio gyda’r holl fyrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau yn ardal Canol De Cymru i wella safonau. Mae hyn yn cynnwys systemau llywodraethu, arweinyddiaeth a rheoli perfformiad cryf, monitro digwyddiadau a phryderon, mentrau gwella ansawdd fel ein rhaglen Gwella 1000 o Fywydau ac wrth gwrs, arolygaeth drwyadl o’r gwasanaethau.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y buasech, fel fi, wedi cael eich dychryn gan nifer yr ambiwlansys sydd y tu allan i adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru a’r pwysau y mae hynny’n ei roi ar y staff a’r pryder y mae’n ei roi ym meddyliau cleifion. Gwn fy mod wedi gofyn am gwestiwn brys ar y mater penodol hwn oherwydd bod y materion sy’n ymwneud â phroblemau staffio’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn parhau yng Nghaerdydd. Pa gamau rydych yn eu cymryd i weithio gyda Chaerdydd a’r Fro i sicrhau bod y pwysau hwnnw’n cael ei leddfu, yn enwedig wrth i ni wynebu cyfnod prysur y Nadolig oherwydd ni all fod yn dderbyniol cael cymaint â hynny o ambiwlansys wedi parcio y tu allan i adran ddamweiniau ac achosion brys, ambiwlansys nad ydynt mewn defnydd yn y bôn ac nad ydynt yn gallu gwneud y gwaith y maent yn ei wneud o gwmpas Canol De Cymru, sef cludo pobl i’n hysbytai mewn argyfwng?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn dilynol. O ran ambiwlansys, mae’n bwysig peidio â cholli golwg ar y ffaith fod gennym wasanaeth llawer gwell o’i gymharu â’r sefyllfa roeddem ynddi ddwy flynedd yn ôl. Ond mae’n rhan o system gofal iechyd gyfan: gallasai’r rhai nad oes angen iddynt alw am ambiwlans gael eu trin yn ddiogel ac yn briodol mewn gofal sylfaenol—gan fynd yn ôl, o bosibl, at Dewis Fferyllfa; mae pobl ag anhwylderau cymharol fân yn cyrraedd ein hadrannau damweiniau ac achosion brys—a’r hyn sy’n digwydd wedyn i sicrhau bod pobl, os oes angen iddynt fod yn yr ysbyty, yn cael eu trosglwyddo i’r ysbyty yn ddiogel mewn modd amserol, a hefyd, eu bod wedyn yn gallu gadael yr ysbyty’n ddiogel a dychwelyd i’r gymuned. Felly, nid ag un rhan o’r system yn unig rydym yn ymwneud.

Rwy’n credu bod y lluniau o ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys bob amser yn ennyn elfen o ddiddordeb, ond mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn gwybod pa mor hir y mae’n ei gymryd i drosglwyddo rhywun i’r cam nesaf o’u gofal yn ddiogel, a’r rhan angenrheidiol o’r daith ofal. Felly, pa mor hir y mae’n ei gymryd i nifer fawr o ambiwlansys ddadlwytho eu cleifion i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd lle y mae angen iddynt fod ac yna i’r ambiwlansys hynny gael eu rhyddhau i’r system drachefn? Felly, mae hwn yn waith rydym wedi ymgymryd ag ef. A dweud y gwir, mae llawer mwy o graffu wedi bod ar y mater hwn ers i ni gyflwyno’r model newydd oherwydd y ffigurau chwarterol sy’n tynnu sylw at nifer yr oriau ambiwlans a gollwyd wrth drosglwyddo. Felly, anfonwyd canllawiau at y system gofal iechyd gyfan mewn perthynas â gwella trosglwyddo, gan ystyried y rhagoriaeth a’r arferion gorau yng Nghwm Taf yn ardal Canol De Cymru. Felly, mae ystod o gamau gwella ac nid oes unrhyw laesu dwylo mewn perthynas â hyn. Rydym yn disgwyl y bydd mwy o her yn ystod cyfnod y gaeaf, fel y buasech yn ei ddisgwyl ym mhob rhan o’r system gofal iechyd, ond rwy’n hyderus y byddwn, dros y flwyddyn nesaf, yn parhau i weld gwelliant, craffu a herio parhaus o fewn y system wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o’r hyn rydym angen iddo weithio. Os nad ydym yn edrych ar y system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd, yna rwy’n credu y bydd gennym yr atebion anghywir ar yr adeg anghywir ac ni fyddwn ond yn trosglwyddo’r pwysau i wahanol rannau o’r system. Felly, rwy’n credu bod gennym y dull cywir, ond gadewch i ni beidio ag esgus y bydd hyn yn hawdd. Nid fy rhan i fel gwleidydd fydd rhan anoddaf y gwaith; ond rhan y bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen mewn amgylchiadau real iawn ac anodd iawn.

Defnydd Mwy Diogel o Feddyginiaethau Presgripsiwn

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd â byrddau iechyd ynghylch defnydd mwy diogel o feddyginiaethau presgripsiwn? OAQ(5)0086(HWS)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Cyfrifoldeb y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n ysgrifennu’r presgripsiwn yw sicrhau bod unigolyn yn deall beth sy’n cael ei bresgripsiynu a sut y dylid ei gymryd. Mae gan fferyllwyr cymunedol rôl bwysig yn sicrhau bod y claf yn deall y drefn ar gyfer cymryd y feddyginiaeth wrth ddarparu’r presgripsiwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ymateb hwnnw. A gaf fi dynnu sylw at waith sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ar hyn o bryd, sydd wedi bod yn cynnal ymgyrch i hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddefnydd effeithiol o feddyginiaethau presgripsiwn dros y 15 neu’r 16 mis diwethaf? Ers i’r bwrdd iechyd ddechrau ei ymgyrch, rhoddwyd cefnogaeth a chyngor i fwy na 7,000 o ddefnyddwyr meddyginiaeth rheolaidd ar waredu hen feddyginiaethau, gan nodi pa gleifion, os o gwbl, nad ydynt yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn; mynd â meddyginiaethau i’r ysbyty os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty; a chymryd meddyginiaeth ar wyliau. Un effaith y mae’r ymgyrch wedi’i chael yw’r ffaith y byddai’r meddyginiaethau diangen a ddychwelwyd yn llenwi tri bws deulawr.

Gall hyn hefyd amlygu problem gorbresgripsiynu, yn ogystal â chleifion nad ydynt yn cymryd eu meddyginiaeth, am ba resymau bynnag. Wrth gwrs, buasai angen mynd i’r afael â’r costau sy’n gysylltiedig â hynny hefyd. Ond a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i gymeradwyo’r ymgyrch ardderchog hon ar ran bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf ac annog byrddau iechyd eraill i ystyried mentrau tebyg?

Ydw, rwy’n hapus i wneud hynny. Mae’n ffigwr amlwg iawn i feddwl amdano—digon i lenwi tri bws deulawr. Rydym yn cydnabod bod heriau go iawn yma a meysydd go iawn ar gyfer gwelliant pellach. Mae’r pwyntiau rydych yn eu gwneud ynglŷn â hen feddyginiaethau a phobl sy’n dychwelyd y rheini er mwyn gallu cael gwared arnynt yn ddiogel, ac yn benodol, pwyntiau ynglŷn ag amlgyffuriaeth a deall sut y mae gwahanol feddyginiaethau’n rhyngweithio â’i gilydd neu pa un a ydynt mewn gwirionedd yn lleddfu’r pethau y maent yn ceisio eu trin. Dyna pam y cefais fy nghalonogi gan y ffaith fod clystyrau gofal sylfaenol wedi cyflogi ystod o fferyllwyr clinigol i wneud y gwaith hwn drostynt, felly mae wedi rhyddhau amser meddygon teulu yn ogystal â gwella ansawdd y gofal y mae’r unigolyn yn ei gael.

Mae hefyd yn mynd yn ôl at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod, o fewn y system fferylliaeth gymunedol, yn gwobrwyo ansawdd, ac mae hyn yn rhan o fesur ansawdd i ddeall sut rydym nid yn unig yn dosbarthu yn ôl cyfaint, ond hefyd yn gwella ansawdd y gofal a ddarperir. Yn wir, mae Cwm Taf ar flaen y gad yn hyn o beth, er enghraifft, gyda llythyrau rhyddhau electronig gan y gwasanaeth ysbytai yn ogystal. Felly, mae cynnydd gwirioneddol i’w wneud mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty, drwy wasanaeth fferyllol yr ysbytai, a rhan fwy i fferyllfeydd cymunedol ei chwarae hefyd. Felly, rwyf wedi cael fy nghalonogi gan ein sefyllfa a’r cyfeiriad rydym yn mynd iddo, ond mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith fod llawer mwy o welliannau y gallem ac y dylem eu gwneud, yn sicr, ac rwy’n credu bod unigolion yn gweld budd go iawn o ganlyniad i hynny.

Y Rhaglen 'Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd'

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen 'Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd'? OAQ(5)0080(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, ynghyd â Phrifysgol Abertawe a phrifysgol y Drindod i ddatblygu achos busnes strategol, a disgwylir y bydd hwnnw’n cael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Rwyf hefyd yn cefnogi’r egwyddor o gydweithio agosach rhwng y ddau fwrdd iechyd a’r ddwy brifysgol. Rwyf am dynnu sylw at bwysigrwydd Ysbyty Treforys fel canolfan ranbarthol ar gyfer yr ardal a gwmpesir gan y ddau fwrdd iechyd. Pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar ddefnyddio mwy ar y model prif ganolfan a lloerennau sydd wedi gweithio mor dda mewn gwasanaethau arennol ac a allai fod yn berthnasol i wasanaethau eraill, fel y gwasanaeth orthodontig a drafodwyd yn gynharach?

Mae llawer i’w ddysgu gan wasanaethau arennol yn ne-orllewin a chanolbarth a gorllewin Cymru. Mae buddsoddiadau yn cael eu gwneud ar hyd a lled yr ardal o ran y ddarpariaeth dialysis, ond yn benodol, rwy’n credu ei fod yn gyfle defnyddiol i dynnu sylw at y ffaith fod yna waith gwirioneddol arweiniol drwy’r DU yn digwydd yn yr uned arennol yn Nhreforys, yn enwedig dialysis yn y cartref a dialysis dros nos. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i unigolion. Mae ansawdd canlyniadau gofal cleifion yn llawer gwell os ydynt yn gallu dialysu gartref, ac yn arbennig felly i bobl iau a’r bobl sydd â’r bywydau mwyaf gweithgar, ac i rieni, sy’n gallu byw eu bywydau arferol o ddydd i ddydd neu eu bywydau gwaith heb orfod mynd i ganolfan ddialysis yn ystod y dydd. Felly, mae llawer iawn i’w ddysgu am y ffordd y mae hynny eisoes wedi cael ei ddatblygu.

Rwyf wedi bod yn hynod o glir gyda’r gwasanaeth iechyd fod cydweithredu gwell fel hyn rhwng byrddau iechyd ar ddarparu gwasanaethau ar draws ardaloedd byrddau iechyd yn rhan o’r hyn y mae angen i ni ei weld yn cael ei ddatblygu a’i wella a’i weithredu ar draws y system gofal iechyd gyfan yn y GIG yng Nghymru. Felly, mae llawer i’w ddysgu ac yn gyffredinol rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y cynnydd sydd eisoes wedi cael ei wneud gan y ddau fwrdd iechyd a’r partneriaid prifysgol.

3. Cwestiwn Brys: Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Dai Lloyd i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan ddoe sy’n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli’r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd? EAQ(5)0098(EI)

Gwnaf. Mae sylwadau’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â sut y gellid rhannu swyddogaethau cyfreithiol yn y dyfodol, ac nid ydym wedi dod i gytundeb terfynol yn y maes hwn eto. Yr hyn y byddem yn ei bwysleisio, fel y mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi’i gadarnhau, yw y bydd Llywodraeth Cymru naill ai’n derbyn swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau trawsffiniol, neu’n gallu eu harfer ar ei ran. Ni fydd manylion y cytundebau a wnaed ar swyddogaethau cyfreithiol yn effeithio ar yr ystod o wasanaethau a ddarperir drwy fasnachfraint nesaf Cymru a’r gororau.

Diolch yn fawr i chi am yr ymateb yna. Yn naturiol, bu tipyn o gynnwrf ddoe yn sgil sylwadau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Chris Grayling, a oedd yn gwbl glir na fyddai rheolaeth lwyr o’r fasnachfraint yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn gyfan gwbl groes i beth rydym wedi dod i ddeall oedd eich sefyllfa chi gan eich Llywodraeth chi, a hefyd gan Lywodraeth San Steffan cyn nawr. Nid ydym ni’n sôn am gyfrifoldeb cyfreithiol yn unig. Roedd e’n sôn am fwy na hynny. Roedd hefyd yn sôn am reolaeth dydd i ddydd ddoe. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn glir, ac rydw i’n dyfynnu,

‘we are not devolving responsibility for the whole Welsh franchise…we are doing so in part. I have said to the Welsh Government that I am happy with their taking control of the valleys lines, with a view to developing the metro system that they hope to put into service’.

Now, these comments clearly point to the partial devolution of responsibility of the Wales and borders franchise and not the full devolution, in direct contradiction to assurances given by the Secretary of State for Wales and the Welsh Government on previous occasion. It is worth emphasising the word ‘partial’ here as, if the Secretary of State’s comments are correct, this is a significantly smaller devolution deal than anyone had hitherto imagined. The Cabinet Secretary might care to elaborate further on the discussions his Government have had with the UK transport Secretary regarding the devolution of the franchise. For example, will the franchise map remain, as was promised, the same, or will the Welsh Government inherit a rump franchise? In an answer to a written question of mine of October 11, you stated that you expected, and I quote;

‘the next…franchise to be broadly unchanged.’

If, as the transport Secretary stated yesterday, and, again, I quote:

‘We cannot have a situation where we, the Government in Westminster, give up control over services in England to the Welsh Government’,

what does that mean for current cross-border services? Who will be responsible for overseeing the operation of these services—the Welsh Government or the Department for Transport? Or will they be split at the border? What does this mean for rail services between north and south Wales that have to travel through England? Now, these are important questions that need to be answered if we are to have any clarity as to the future of the franchise. The Siambr will be aware, of course, that a procurement process for the next franchise is well under way, with four train operating companies having been shortlisted in October.

Cabinet Secretary, I hope that you will be able to convince me, in your response, that the Welsh Government knows what is happening. Do the train operating companies also know what they are bidding for now? Because, to be honest, whether it’s plain politics or plain incompetence, the current mismanagement of this process demonstrates that Wales is being failed once again by Governments at both ends of the M4. Your party in Westminster failed to secure the devolution of the responsibility over the rail network to Wales as part of the Wales Bill, and now your Government seem to be failing in securing the devolution of the full Wales and borders franchise. This is threatening to become somewhat of a shambles. So, I ask you: is this the product of incompetence on the part of the Westminster Government and Welsh Labour, or is this a serious roll-back on one of the key pillars of the next round of devolution to Wales?

Roeddwn yn bwriadu bod yn hael yn fy ymateb, yn wahanol i’r Aelod, ac awgrymu mai camgymeriad ar ei ran yn hytrach na drygioni a’i harweiniodd i honni llawer o wallau ffeithiol. Ond rwyf am gychwyn gyda’r dyfyniad y mae wedi’i ailadrodd, gan Chris Grayling, na lwyddodd i’w ailadrodd yn llawn. Dywedodd Chris Grayling,

Mae angen i mi gywiro’r gŵr bonheddig ar hynny: nid ydym yn datganoli cyfrifoldeb dros y fasnachfraint gyfan ar gyfer Cymru,

ac yna fe stopioch, ond aeth Chris Grayling ymlaen i ddweud, ‘fel y mae’n ei ddisgrifio’. Aeth ymlaen i ddweud, mewn perthynas â throsglwyddo rheolaeth i Lywodraeth Cymru, ‘heb rwystrau a gwrthbwysau’. Yr hyn y mae’n ei olygu yw sicrhau bod yna atebolrwydd ar gyfer teithwyr sy’n teithio rhwng lleoliadau yn Lloegr ar ochr Lloegr i’r ffin o fewn llwybr Cymru. Mae’r rhain yn gytundebau nad ydynt wedi cael eu cyrraedd eto, ond cefais fy nghofnodi’n dweud ei bod yn hollol gywir a phriodol y dylai fod gennym atebolrwydd ar waith ar gyfer yr elfennau hynny o’r gwasanaeth. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU—gadewch i mi fod yn gwbl glir, eto, heddiw—y bydd yr holl wasanaethau a weithredir o dan fasnachfraint gyfredol Cymru a’r gororau yn cael eu cynnwys ym masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau ac y byddwn yn arwain ar y broses o gaffael y gwasanaethau hyn. Mae’r pedwar cynigydd yn gwybod hynny. Bydd y map, fel y dywedais, yn aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth. Yn wir, yn amodol ar ein gallu i sicrhau llwybrau trenau, rydym hefyd wedi sicrhau cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i weithredu gwasanaethau i Lerpwl a Bryste o dan fasnachfraint Cymru a’r gororau yn y dyfodol. Felly, mewn gwirionedd, nid yn unig y bydd y map yn aros yn ddigyfnewid, mae’n ymddangos y byddwn yn gallu ymestyn gwasanaethau yn y dyfodol.

4. Cwestiwn Brys: Ffliw Adar

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar? EAQ(5)0075(ERA)

Diolch. Rwyf wedi datgan bod Cymru yn barth atal ffliw adar, mesur rhagofalus er mwyn helpu i atal pobl rhag dal heintiau gan adar gwyllt. Gan weithio’n agos â Lloegr a’r Alban, rydym yn monitro’r sefyllfa ac wedi cynyddu gwyliadwriaeth. Rwyf wedi annog ceidwaid i wella bioddiogelwch a bod yn effro i arwyddion o glefyd.

Hoffwn i ddiolch am y datganiad byr gan y Gweinidog. Roedd yna rywfaint o ddryswch y bore yma pan glywyd bod gwaharddiad ar gadw ieir a gwyddau ac ati yn yr awyr agored yn Lloegr a’r Alban ar y newyddion a dim sôn am Gymru. Mae’n glir bellach fod y rheol hefyd yn cael ei gweithredu yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog gwpl o gwestiynau rydw i’n meddwl sy’n berthnasol?

Yn gyntaf oll, a ydy hyn wedi cael ei gytuno ar y cyd? Mae yna gydweithio, fel y dywedodd y Gweinidog, ond a oes unrhyw beth wedi cael ei gytuno ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan—DEFRA, sy’n gyfrifol am Loegr—a’r Alban? Ac am faint, felly, mae’r gwaharddiad yma, neu’r rheolau yma, yn debygol o fod mewn lle? Gan ein bod ni’n nesáu at Nadolig ac efallai bod bywyd rhai o’r anifeiliaid yma ar y ddaear yma ddim yn hir iawn i fynd, ond, wedi dweud hynny, mae yna fusnesau pwysig yn sir Benfro yn magu twrcïod, fel Cuckoo Mill Farm, ac mae yna fusnes ieir buarth pwysig yn Aberteifi—Postance ac ati. Mae yna bob math o gwmnïau yn paratoi at y Nadolig ac ar gyfer gwerthu’r cynnyrch. A oes angen i’r Llywodraeth gymryd unrhyw gamau i sefydlu hyder y cyhoedd yn y gadwyn fwyd, achos bydd y Llywodraeth yn gwybod yn y gorffennol fod unrhyw berygl o ffliw adar wedi codi pryderon ynglŷn â bwyd a chig yn y siopau? Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu osgoi unrhyw beth o’r fath yna. Y cwestiwn olaf yw: a oes yna unrhyw gamau penodol mae’r Llywodraeth yn eu hargymell neu am eu hargymell i gynhyrchwyr bwyd o’r adar a fydd yn medru cael eu cymryd yn ystod yr wythnosau nesaf?

Diolch. Wel, anfonwyd y datganiad i’r wasg o fy swyddfa neithiwr, felly nid wyf yn hollol siŵr pam na chafodd y datganiad i’r wasg ei gyhoeddi. Yn amlwg, nid yw hynny’n rhywbeth y mae gennyf reolaeth drosto. Nid wnaed y penderfyniad ar y cyd â Llywodraeth y DU, gyda DEFRA, na’r Alban. Cefais sgyrsiau â’n prif swyddog milfeddygol ddoe. Mae hi wedi bod mewn cysylltiad agos iawn, yn amlwg, â phrif swyddogion milfeddygol yr Alban a Lloegr hefyd. Mae’r gorchymyn a arwyddais neithiwr yn para am 30 diwrnod, felly bydd yn para tan 6 Ionawr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwn yn parhau i fonitro’n agos iawn. Fel y dywedais, rydym wedi rhoi mesur rhagofalus ar waith. Rwy’n credu bod y mater a godwyd gennych ynglŷn ag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gadwyn fwyd yn bwysig iawn, felly mae’n dda iawn ein bod yn cael y cyfle yma. Gwn fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud, yn ôl y dystiolaeth neu’r cyngor gwyddonol cyfredol, nad yw ffliw adar yn peri risg i ddiogelwch bwyd defnyddwyr y DU. Mae wyau’n ddiogel, er enghraifft. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn i mi ddweud nad oes unrhyw achosion o ffliw adar wedi eu canfod yng Nghymru na’r DU, ond rydym yn monitro’r sefyllfa yn ofalus iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r feirws hwn yn broblem newydd, ac fel y gwyddoch, rwyf eisoes wedi cyflwyno cwestiynau ar y mater yr wythnos diwethaf, felly rwy’n croesawu’r cyfle i glywed mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Rwy’n falch eich bod wedi cyhoeddi heddiw y bydd parth atal 30 diwrnod ar waith ar draws Cymru. Nawr, mae’n hanfodol fod cyllid ac adnoddau digonol yn eu lle i sicrhau bod asiantaethau’n hyderus fod ganddynt yr hyn sydd ei angen i gyflawni mesurau rheoli clefydau yng Nghymru pe bai achosion o’r fath yn digwydd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gefnogaeth a chyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried pe bai bygythiad y clefyd yn gwaethygu? Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd hefyd i gyfleu unrhyw fesurau rhagofalus yn effeithiol o fewn y diwydiant dofednod a’r rhwydwaith lles anifeiliaid ehangach yng Nghymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa ganllawiau a chefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn i sicrhau eu bod yn deall y sefyllfa’n iawn a’r hyn sy’n ofynnol ganddynt? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi dweud yn glir fod eich adran yn monitro’r sefyllfa ledled Ewrop. Efallai y gallwch ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith penodol sydd eisoes wedi’i wneud yng Nghymru i nodi lefel bygythiad y clefyd. Gwn fod gwaith wedi cael ei wneud mewn mannau eraill yn y DU, ond mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu ei threfniadau monitro ei hun i sicrhau bod popeth sydd angen ei wneud yn cael ei wneud. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni mewn perthynas â’r gwaith y mae eich adran wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf?

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dylwn ddweud bod lefel y perygl o ffliw adar yn lledaenu i’r DU ar y lefel ‘ganolig’ ar gyfer adar gwyllt—mae’r lefel honno wedi cael ei chodi o’r lefel ‘isel ond wedi dwysáu’—ac mae’r lefel ar’ isel ond wedi dwysáu’ ar gyfer dofednod domestig. Fel y dywedaf, rwyf am ddweud yn glir iawn mai neges ragofalus yw hon. Nid oes neb wedi gofyn i mi am unrhyw gyllid ychwanegol. Pan fydd penderfyniad fel hwn yn cael ei wneud, yn amlwg, unwaith eto, rwy’n credu bod yna fesurau rhagofalus ar waith gyda’n ceidwaid dofednod ac yn y blaen i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymateb yn gyflym iawn i’r penderfyniadau hyn.

Soniais fod y prif swyddogion milfeddygol yn gweithio’n agos iawn â’i gilydd. Pan oeddwn yn siarad â’n prif swyddog milfeddygol ddoe, roedd yn amlwg iawn ei bod wedi bod yn cael trafodaethau gyda’i thîm. Nid oes unrhyw achosion, fel y dywedaf, yng Nghymru nag yn y DU. Cyn belled ag y gwn, mae’r achos agosaf atom yn Calais yn Ffrainc, ac mae hwnnw wedi yno ers peth amser. Ceir 14 o wledydd ledled yr UE a Rwsia sydd ag achosion o ffliw adar, ac roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn i ni gyflwyno’r parth atal hwn. Gwn fod Lloegr a’r Alban wedi gwneud hynny. Fel rwy’n dweud, ni wnaethpwyd y penderfyniad ar y cyd yn hollol, ond roeddwn yn credu ei fod yn beth da cael penderfyniad drwy Brydain gyfan yn yr achos hwn. Rwyf am sicrhau’r Aelodau a’r cyhoedd y byddwn yn parhau i fonitro hyn yn ofalus iawn.

5. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Lywydd, 100 mlynedd yn ôl, daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog. Llwyddodd y Llywodraeth a ffurfiodd i arwain y cynghreiriaid i fuddugoliaeth a enillwyd drwy waith caled, ehangodd y bleidlais yn aruthrol, a sefydlodd iechyd a thai fel blaenoriaethau llywodraethol. Roedd hi’n ymddangos bod Cymru wedi dod o hyd i ffigur arwrol—yr Arthur chwedlonol. Lloyd George oedd y dyn cyntaf heb incwm preifat i fod yn Brif Weinidog, a dangosodd y gallai’r Cymry gyrraedd swyddi uchaf y wladwriaeth. Er bod y Tuduriaid yn ystyried eu hunain yn Gymry weithiau, neu o leiaf roedd Shakespeare yn credu hynny ar eu rhan, roedd Lloyd George yn Gymro i’r carn. Dyna oedd union ffynhonnell ei egni. Fel Canghellor y Trysorlys, roedd eisoes wedi ailffurfio’r wladwriaeth. Ar ôl cyhoeddi cyllideb y bobl ym 1909, prif amcan y wladwriaeth, yn hytrach na diogelu eiddo, oedd hyrwyddo lles y bobl—Lywydd, efallai y dylwn ddweud y ‘werin’. Arweiniodd at y frwydr anhygoel honno gyda Thŷ’r Arglwyddi ac un o’r sylwadau mwyaf doniol yn ein hanes gwleidyddol, pan ddywedodd am Dŷ’r Arglwyddi

nid ci gwarchod y cyfansoddiad ydyw, ond pwdl Mr Balfour.

Wel, efallai ei fod yn fwy doniol yn ystod y cyfnod Edwardaidd. [Chwerthin.]

Mae Lloyd George ymhlith ein Prif Weinidogion gorau. O blith ei gyfoeswyr, Churchill ac Atlee yn unig a ragorodd arno—Churchill drwy sicrhau buddugoliaeth mewn brwydr a oedd hyd yn oed yn fwy erchyll; Atlee drwy ffurfio consensws adeg heddwch dros wladwriaeth les. Eto i gyd, yn ei gyfnod, nid oedd neb yn hafal iddo. Mewn cyfnodau o ryfel a heddwch, arddangosodd Lloyd George grefft lywodraethu ar ei gorau. Lywydd, rydym yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol a geowleidyddol eithriadol, ac mae’n briodol y dylem gael ein hysbrydoli gan lwyddiannau Lloyd George, a aeth i’r afael â heriau a oedd yn ddyfnach byth.

Diolch, Lywydd. Mae’r frwydr am randir Standing Rock yn yr Unol Daleithiau wedi dal sylw’r byd: y bobl yn erbyn piblinell Dakota Access; cymuned hynafol a balch yn erbyn grym y corfforaethau. Mewn blwyddyn pan fo’r miliwnyddion a’r biliwnyddion i’w gweld yn ennill popeth, mae Standing Rock yn dangos y gall gwrthsafiad poblogaidd ddal i ennill. Mae’n dangos bod yna bobl na fydd yn gadael i’n hadnoddau naturiol gael eu difrodi gan y rhai sydd ond eisiau dryllio’r tir er mwyn gwneud elw. Drwy sefyll gyda’i gilydd, mae’r bobl wedi ennill buddugoliaeth gyntaf yn y frwydr, ond mae’n rhaid iddynt hwy a ninnau barhau i fod yn wyliadwrus. Diolch i rym cyfryngau cymdeithasol, mae’r Americanwyr brodorol wedi ysbrydoli pobl ar draws y byd. Maent wedi gofyn am ein hundod ac fe’i rhoesom fel rhan o’r actifiaeth newydd lle y mae brwydrau lleol wedi eu cysylltu’n fyd-eang. Rydym ni yng Nghymru yn gwybod yn rhy dda beth yw gwerth ein hadnoddau naturiol. Onid Tryweryn oedd ein fersiwn ni o Standing Rock? Wrth gofio ein hanes ni ein hunain yng Nghymru, gadewch i ni ddweud heddiw fod Cymru yn sefyll gyda Standing Rock.

Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod pedair o ddisgyblion ysbrydoledig blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Dinbych, Amy Martin, Jessica Briody-Hughes, Holly Roberts a Katie Rowlands, sef Tîm Tachyon. Maent yn bencampwyr y byd am yr ail dro yng nghystadleuaeth Her Ysgolion F1, ar ôl ennill y gwobrau i gyd, gan amddiffyn eu gwobr am y cyflwyniad gorau ar lafar a’r gwobrau nawdd a marchnata gorau roeddent wedi eu hennill yn rownd derfynol y byd yn Singapore y llynedd, ac y llwyddodd y tîm i’w hennill eto yn Texas eleni.

Mae ganddynt gabinet yn llawn o dlysau ac eleni maent wedi ennill gwobr yr FIA i Fenywod mewn Chwaraeon Moduro i ychwanegu at eu casgliad trawiadol. Maent wedi goresgyn yr holl heriau sy’n defnyddio pynciau STEM, ac yn ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer yn nes ymlaen yn eu bywydau. Mae Amy wedi cael cynnig lle yn academi tîm F1 Williams ac mae’n awyddus i gamu ymlaen i yrfa mewn peirianneg. Maent yn fenywod ifanc gwirioneddol ysbrydoledig sydd wedi wynebu heriau’r prosiect y tu allan i’w gwaith ysgol. Maent wedi dod yn fentoriaid i blant ysgolion cynradd sy’n ymgymryd â her F1 yn awr, ac maent wedi gwneud eu teuluoedd, eu hysgolion, eu cymunedau a minnau’n falch iawn ohonynt. Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn hefyd yn falch o’u cyflawniadau. Diolch.

6. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Iechyd y Cyhoedd

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21. Rydw i’n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6144 Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns, Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;

b) bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio;

c) nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud;

d) mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac

e) bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae chwarter poblogaeth oedolion Cymru yn ordew, ac mae bron 60 y cant yn cario gormod o bwysau: cyfuniad o ormod o alcohol, rhy ychydig o ymarfer corff a gormod o fwyd llawn o fraster, siwgr a halen. Mae’r canlyniadau’n ddifrifol o ran diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd a sawl math o ganser. Y tri chyflwr hwn yw achosion pennaf marwolaeth gynnar ac maent yn bygwth tanseilio a hyd yn oed gwrthdroi pa bynnag ddatblygiadau a wneir i roi triniaeth feddygol i glefydau sy’n bygwth bywyd.

Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y prif swyddog meddygol yn nodi, tra bod y cyfoethog yn mynd yn iachach ac yn byw’n hirach, nid yw hynny’n wir am y tlodion. Mae’r bwlch disgwyliad oes eisoes cymaint â naw i 11 mlynedd rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd yn unig. Mae hyn yn annheg, yn osgoadwy ac yn rhywbeth na ddylem fod yn barod i’w dderbyn neu ei oddef mwyach. Mae angen gweithredu ar frys ac yn bendant i fynd i’r afael â’r epidemig iechyd hwn, a fydd fel arall yn gwneud y GIG yn fethdalwr. Ar draws y DU, mae eisoes yn costio £5 biliwn y flwyddyn i’r GIG, a rhagwelir y bydd hynny’n dyblu i bron £10 biliwn erbyn 2050. A bydd y gost ehangach i gymdeithas yn cyrraedd £50 biliwn y flwyddyn.

Felly, er gwaethaf yr ymgyrch 5 y dydd, rydym yn bwyta llai o lysiau—nid yw’n ddim gwell nag yr oedd yn y 1970au. Dywedodd llai na thraean o’r holl oedolion eu bod yn bwyta pum cyfran neu fwy o ffrwythau a llysiau y dydd. Yn syml nid yw pobl yn gwrando ar yr hyn rydym yn ei ddweud wrthynt, ac 1 y cant o’r arian a werir ar hysbysebion bwyd sy’n cael ei wario ar hyrwyddo llysiau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rydym yn gaeth i ddiwylliant sy’n tueddu i achosi gordewdra ac mae angen i ni weithredu yn awr. Mae trin pobl sydd â lefelau sy’n bygwth bywyd o ordewdra yn anodd a chymhleth dros ben. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar atal. Ac yn anffodus ac yn drasig, nid clefyd oedolion yn unig yw hwn. Mae dros chwarter ein plant pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, ac mae hynny’n cymharu’n wael â 22 y cant yn Lloegr. Yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae’n codi i dros 28 y cant.

Felly, er gwaethaf Blas am Oes, er gwaethaf Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, gan Gymru y mae’r gyfradd waethaf o ordewdra ymhlith plant yn y DU. Nid yw codi ymwybyddiaeth ar ei ben ei hun wedi gweithio. Mae angen mwy o weithredu mewn sawl ffordd, ar draws pob lefel o Lywodraeth. Ni allwn barhau fel hyn.

Felly, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, yn dweud bod tri pheth y gallem ei wneud: yn gyntaf, gallem gyfyngu ar farchnata bwyd afiach, nad yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli, ac felly nid yw’n rhywbeth sy’n rhaid i ni ei ystyried yma yn ôl pob tebyg; yn ail, hybu bwyta’n iach mewn ysgolion; ac yn drydydd, defnyddio trethi i gyfleu’r neges.

Cyflwynwyd ‘Blas am Oes’ yn 2008, a daeth yn orfodol yn 2013. Cafodd wared ar werthu diodydd swigod a melysion o beiriannau gwerthu, ond nid wyf yn argyhoeddedig ei fod wedi cynhyrchu’r newid bywyd, a’r newid yn y system, sy’n ofynnol yn ein holl ysgolion. Mae’n iawn cyn belled ag y mae’n mynd, ond nid yw’n mynd yn ddigon pell. Faint o lywodraethwyr ysgol sy’n ymwybodol eu bod yn gyfrifol am sicrhau bod y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 gorfodol yn cael ei ddilyn? Sut y byddent yn mynd ati i wybod o ble roedd y cynhwysion wedi dod, a beth oedd ynddynt? Rwyf eto i weld unrhyw hyfforddiant ar hyn yn cael ei ddarparu gan fy awdurdod lleol, fel llywodraethwr ysgol.

Ddiwedd y mis diwethaf, ymwelais ag Ysgol Parc Cornist yn y Fflint. Yno, maent wedi dyblu nifer y prydau ysgol sy’n cael eu bwyta ers iddynt fabwysiadu nod siarter Bwyd am Oes, a sefydlwyd gan Gymdeithas y Pridd. Mae plant yn archebu eu pryd wrth gofrestru bob dydd, felly maent yn dewis yr hyn y maent yn mynd i’w fwyta, ac maent yn sicr o’i gael. Gan fod staff arlwyo yn gwybod yn union faint o brydau y mae’n rhaid iddynt eu coginio, mae hynny’n dileu pob gwastraff bwyd bron yn llwyr. Mae bar salad, sy’n cael ei hyrwyddo’n weithredol gan y staff, yn mynd gyda’r fwydlen o chwe opsiwn i ddewis o’u plith. Ceir ffyn moron a chiwcymbr mewn powlenni bach ar y bwrdd, a gall y disgyblion helpu eu hunain iddynt. Mae o leiaf 75 y cant o’r fwydlen o chwe opsiwn yn cael ei baratoi’n ffres o gynhwysion heb eu prosesu. Caiff cynnyrch tymhorol eu hyrwyddo, ac mae llawer o blant yn dweud mai cinio yw uchafbwynt eu diwrnod.

Mae’r pennaeth yn dweud bod y gegin yn ganolog i’w hysgol. I fynd gyda’r prydau bwyd eu hunain, mae’r ysgol yn defnyddio addysg bwyd fel rhan o’r cwricwlwm, ac mae disgyblion a’u teuluoedd yn rhan o’r broses o wella profiad cinio ysgol. O leiaf unwaith y flwyddyn, caiff y gymuned wahoddiad i ginio, gan helpu i hyrwyddo bwyta’n iach yn y cartref, yn ogystal ag yn yr ysgol. Mae pob un o’r 73 o ysgolion yn Sir y Fflint wedi mabwysiadu’r nod bwyd arlwyo lefel mynediad yn ôl yn 2002. Cefais fy sicrhau gan y rheolwr arlwyo nad yw’n fwy costus na bodloni’r Mesur bwyta’n iach mewn ysgolion, ond i chi fod ychydig yn fwy gofalus ynglŷn ag o ble y daw’r bwyd, a pham na fyddem am wneud hynny, gyda phlant?

Mae’r aelod cabinet dros addysg yn dweud,

Rydym eisiau i’n rhieni fod â hyder yn y gwasanaeth, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i brofiad amser cinio eu plant.

Pam nad yw awdurdodau lleol eraill wedi dilyn esiampl Sir y Fflint? Roedd pawb yng nghonsortiwm gogledd Cymru o Awdurdodau Addysg Lleol yn meddwl ei fod yn syniad da yn ôl yn 2012, ond nid oes yr un wedi dilyn arweiniad Sir y Fflint, ac nid oes unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi gwneud hynny chwaith. Eto i gyd, ar draws y DU, gweinir 1.6 miliwn o brydau bwyd bob dydd mewn lleoliadau addysg a gofal iechyd sy’n bodloni’r meini prawf Bwyd am Oes, gan gynnwys ein ffreutur ni ein hunain. Mae gan dros hanner ein prifysgolion wobr Bwyd am Oes. Pam na fyddem eisiau’r un peth ar gyfer holl ddisgyblion Cymru?

Mae cyfle yma i gynhyrchwyr bwyd hefyd oherwydd lefel efydd o achrediad yn unig sydd gan Sir y Fflint, ac er mwyn iddynt gael y wobr arian a’r wobr aur, byddai angen iddynt allu defnyddio cyflenwyr mwy organig sy’n gallu darparu o fewn yr ystod pris a gyda’r dibynadwyedd y mae’r Awdurdodau Addysg Lleol ei angen. Felly, mae’n galonogol nodi bod Canolfan Organig Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaeth prydau ysgol Sir y Fflint i ddarparu ystod o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer cogyddion ysgol, ymweliadau â ffermydd, cymorth garddio, a marchnadoedd fferm ar fuarth yr ysgol. Felly, mae’r nod arlwyo yn cynnig cymhellion i arlwywyr ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol, a fyddai’n helpu i gadw’r cyflenwad a’r galw am gynnyrch o Gymru yng Nghymru, gan fedi’r manteision o gael ein gwasanaeth caffael bwyd cenedlaethol ein hunain.

Yn ail, rwyf am edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i drethu’r hyn sy’n ddrwg i ni. Mae’r Ffindir, Ffrainc, Hwngari a Mecsico i gyd wedi dechrau gwneud hyn. Yn Ffrainc, ceir treth ar siwgr a diodydd wedi’u melysu’n artiffisial—yn debyg i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei argymell mae’n debyg—ac yn y Ffindir, mae treth ar losin, hufen iâ a diodydd meddal eisoes wedi dangos rhai manteision. Ond yn Hwngari, maent wedi mynd hyd yn oed ymhellach. Ers 2011, mae ganddynt dreth iechyd y cyhoedd ar gynnyrch siwgr, diodydd wedi’u melysu, melysion, byrbrydau hallt, pupur a halen ac alcohol â blas. Caiff y diodydd eu trethu os ydynt yn cynnwys mwy nag 8gm o siwgr ym mhob 100ml a chaiff bwyd ei drethu os yw’n cynnwys mwy nag 1gm o halen neu fwy na 275 o galorïau ym mhob 100gm. Mae gwerthiannau cynhyrchion trethadwy wedi gostwng 27 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn gyntaf, ac mae defnyddwyr naill ai’n dewis cynnyrch rhatach, iachach neu ddewis arall iachach. Ddwy flynedd ers ei gychwyn, gwelodd Sefydliad Iechyd y Byd newid ar draws yr holl grwpiau incwm a grwpiau oedran, ond mwy o newid ymysg pobl iau a grwpiau incwm is. Dair blynedd ers ei gychwyn, mae’r newid yn ôl i fwyta bwyd iach wedi cael ei gynnal ac mae 40 y cant o gynhyrchwyr bwyd Hwngari wedi ailffurfio eu cynnyrch er mwyn osgoi’r dreth.

Mecsico sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y byd o glefydau cronig a achosir gan yfed diodydd siwgr—bron dair gwaith y wlad a ddaeth yn ail, De Affrica. Mae yfed gormod o Coca Cola a diodydd ysgafn eraill yn lladd ddwywaith gymaint o Fecsicanwyr â’r fasnach yn y math arall o gôc y mae Mecsico wedi cael enw drwg amdano. Mecsico, mor bell oddi wrth Dduw, ond mor agos at yr Unol Daleithiau. Yn anffodus, yn yr Unol Daleithiau y mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant bwyd a diod sy’n tueddu i achosi gordewdra wedi’i leoli ac Americaneiddio byd-eang ein deiet yw prif achos ein gofidiau ac yn sicr felly ym Mecsico. Yn y 14 mlynedd diwethaf, cafwyd gostyngiad o 30 y cant yn y ffrwythau a’r llysiau a fwyteir ym Mecsico, a gostyngodd lefel y ffa a fwyteir i’w hanner, er mai ffa, ynghyd â reis ac ŷd, oedd yn arfer bod yn brif ymborth. Mae treth o 8 y cant ar fwyd sothach nad yw’n hanfodol a threth o 10 y cant ar ddiodydd wedi’u melysu â siwgr wedi cael effaith anhygoel yn ystod y tair blynedd gyntaf. Cafwyd gostyngiad o 5 y cant yn yr eitemau bwyd wedi’u trethu a brynwyd, ond lleihad o 10 y cant ymhlith teuluoedd incwm is—mwy o effaith na threthi tybaco ar y defnydd o dybaco. Roedd yr effaith yn fwyaf dwys ymhlith y tlodion sy’n talu’r pris mwyaf o ran gordewdra a diabetes. Fel yn Hwngari, mae llawer o gwmnïau wedi ailffurfio’u cynhyrchion er mwyn osgoi’r dreth.

Ers hynny mae’r BMJ wedi dweud bod hyn wedi cael effaith anhygoel o ran faint o ddiodydd wedi’u melysu â siwgr a gâi eu hyfed yn y gorffennol. Mae effaith gyffredinol y dreth ar faint o faeth a fwyteir a faint o bwysau a fegir neu a gollir heb gael ei astudio eto. Ond rwy’n credu y gallwn weld eisoes o’r enghreifftiau hyn fod trethi yn newid yr hyn rydym yn ei fwyta ac yn ei yfed ac mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol ein hunain yn galw allan am hyn. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am dreth o 20 y cant ar ddiodydd swigod a diodydd ffrwythau mewn ymgais i fynd i’r afael â’n hargyfwng gordewdra.

Dylai Cymru fod ar flaen y gad o ran datblygu polisïau arloesol yn y maes hwn, a dylai gydnabod y bydd mynd i’r afael â baich clefyd sy’n gysylltiedig â deiet yn galw am gyfres o ymyriadau polisi bwyd, gan gynnwys y defnydd profedig o fesurau economaidd a chymhellion pris. Ni allwn aros am ganlyniad ymchwil Doeth am Iechyd Cymru, sy’n cael ei wneud gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe ar y gydberthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw; mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.

Diolch i bawb sydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma’r prynhawn yma. Rwy’n falch iawn o fod yn un o gydgynigwyr y cynnig yma.

Nid yw’n ormod i ddweud bod gordewdra yn un o heriau iechyd mwyaf ein hoes ni. Mae’r ystadegau dros y 15 mlynedd diwethaf wedi dangos cynnydd clir iawn yn nifer yr oedolion a phlant sydd dros bwysau neu sy’n ordew. Mae hynny ym mhob grŵp oedran, fel rwy’n dweud, sy’n golygu nid yw’r llanw yn ymddangos ar hyn o bryd fel ei fod o’n troi yn yr un ffordd ag y mae yna dystiolaeth ei fod o wedi troi mewn perthynas ag ysmygu ac yfed alcohol, lle mae pobl iau yn llai tebygol o fod yn mabwysiadu ffyrdd o fyw sy’n niweidiol i’w iechyd nhw o’i gymharu â phobl ifanc cenedlaethau blaenorol.

Beth sydd yn ofnadwy o bryderus, rwy’n meddwl, yw bod gordewdra plant i’w weld yn waeth rŵan nag oedd o hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, rwy’n drist iawn i ddweud bod gan fy etholaeth i, Ynys Môn, yr ystadegau gwaethaf ar gyfer gordewdra plant yng Nghymru, efo ychydig o dan draean o blant pump oed yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu yn ordew. Efallai bod dweud bod hyn yn mynd i achosi problemau yn y dyfodol, yn storio problemau at y dyfodol yn ystrydebol, ond mae hynny, wrth gwrs, yn hollol wir. Felly, mae’n amlwg i mi fod yr angen i fynd i’r afael â’r broblem yma yn gofyn inni gael o leiaf yr un lefel o ymdrech, a’r un lefel o adnoddau ac ymrwymiad, ac y mae mynd i’r afael ag ysmygu wedi’i gael yn fyd-eang dros gyfnod o ddegawdau.

Mewn rhai ffyrdd, mae’r paralelau efo ysmygu yn glir iawn. Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i ysmygu wedi bod yn glir ers degawdau, er gwaethaf beth mae un cyn-arweinydd UKIP yn ei feddwl. Ond, wrth gwrs, dim ond yn 2007 y daeth y gwaharddiad mewn mannau cyhoeddus i rym. Mi oedd gan dybaco mawr gymaint o bŵer i gyfyngu, yn gyntaf, ar y ddealltwriaeth o’r wyddoniaeth ac yna wedyn i atal camau i leihau defnydd o gynhyrchion niweidiol. Dim ond drwy drethu yn drwm, gosod gwaharddiadau ar hysbysebu’n gyhoeddus a negeseuon cyson rydym wedi llwyddo i gael cyfraddau ysmygu i lawr. Hyd yn oed wedyn, wrth gwrs, mae’r rhifau yn rhy uchel.

Ond, mewn rhai ffyrdd, mae mynd i’r afael â gordewdra yn mynd i wneud datrys problemau ysmygu neu fynd i’r afael â phroblemau ysmygu i edrych yn hawdd iawn. Er bod pobl yn deall yn glir iawn beth ydy’r peryglon iechyd efo ysmygu, efo gordewdra mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth a mwy amwys mewn llawer o ffyrdd. Mae adnabod un math o fwyd i fynd i’r afael â fo, yn y ffordd y cafodd sigaréts eu targedu, yn fwy o broblem. Nid leiaf oherwydd bod cwmnïau a sefydliadau y tu ôl i ambell i gynnyrch wastad yn mynd i ddadlau a’n ‘bombard-io’ ni efo negeseuon, ‘Peidiwch â phigo arnom ni, pigwch arnyn nhw yn y fan yna.’ Ar ben hynny, y gwahaniaeth mawr arall ydy nad ydych yn gallu ymysgu sigaréts yn gymedrol heb iddynt wneud niwed i chi, ond mi fedrwch chi efo llawer o fathau o fwyd. Mae’r mathau hynny o fwyd ddim ond yn dod yn niweidiol pan fydd rhywun yn cael gormodedd ohonynt.

Mae’r NHS hefyd yn ymateb yn wahanol i bobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, o’i gymharu â’r rhai sydd am golli pwysau. Mi all pobl, wrth gwrs, gael eu hannog i drio defnyddio ‘willpower’ ar gyfer atal ysmygu, ond mae’r ystadegau’n awgrymu nad yw hynny’n mynd i fod yn llwyddiannus iawn. I rywun sydd eisiau mynd gam ymhellach, mae yna help, wrth gwrs—cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogi, ac yn y blaen. Ond, pan mae’n dod at rywun sy’n ordew ac yn awyddus i golli pwysau, nid yw’r un lefel o gymorth ar gael. Y ffordd arferol, i weld, ydy darparu rhywfaint o gyngor dietegol a gobeithio y bydd grym ewyllys, sef ‘willpower’, yn ddigon, er gwaethaf y ffaith bod temtasiynau o fwyd afiach ym mhob man o’n cwmpas ni. Dim ond pan fydd y problemau’n parhau y bydd claf yn cael ei gyfeirio, o bosibl, at driniaethau mwy dwys.

Tra bo Llywodraethau wedi cymryd camau i wneud y dewis i beidio ag ysmygu yn haws ac wedi atal rhai ffactorau amgylcheddol, pan mae’n dod i ordewdra, mae rhywun yn cael y teimlad weithiau bod Llywodraethau yn dal i wneud penderfyniadau sy’n annog rhywun i beidio â bod yn iach—yn dal i gynllunio dinasoedd o gwmpas y car yn hytrach na theithio llesol, ac yn y blaen. Weithiau, nid yw hyd yn oed yn hawdd cael gafael ar wybodaeth am ddeietau iach.

Felly, mae’n glir i fi, i gloi, y bydd yr ymdrechion i fynd i’r afael â gordewdra angen ymateb llywodraethol o bosibl hyd yn oed yn fwy na’r hyn a ddigwyddodd efo tybaco. Mae angen i holl adrannau’r Llywodraeth fod yn barod i ymrwymo i hyn yn y tymor hir a rhoi egni go iawn i mewn i gael Cymru mewn i siâp a chael cenedl sy’n ffit ac yn iach, achos rwy’n ofni nad ydym ni’n ffit ac yn iach ar hyn o bryd.

Fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hatgoffa yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, eu meysydd polisi â blaenoriaeth ar gyfer creu Cymru iach, mae dros hanner oedolion Cymru ac oddeutu chwarter plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, gyda phroblemau penodol mewn cymunedau difreintiedig, fel fy un i yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae’r ffigur yn 63 y cant o oedolion. Os yw nifer y bobl sy’n cario gormod o bwysau neu’n ordew yn parhau i gynyddu ar y gyfradd bresennol, erbyn 2050 bydd yn costio £465 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, gyda chost i gymdeithas a’r economi o £2.4 biliwn.

Yn gysylltiedig â hyn ceir heriau clir mewn perthynas â lefelau gweithgarwch corfforol. Mae yna lawer o oedolion nad ydynt yn gwneud y lefelau wythnosol a argymhellir o weithgarwch corfforol, gyda dim ond un o bob tri phlentyn yn cyrraedd y lefelau a argymhellir. Yn wyneb y ffeithiau moel hyn, rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig hwn heddiw, yn ein herio i ddatblygu atebion sy’n datrys yr hyn a ddisgrifiwyd fel epidemig o ordewdra ac yn galw ar bob un ohonom i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael i ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith. Mae’r ymgyrch Newid am Oes yn hyrwyddo cyngor ar fwyta’n iach, ac mae disgwyl i ysgolion hyrwyddo dewisiadau bwyd iach. Mae polisïau fel nofio am ddim yn hyrwyddo mynediad i gyfleoedd ymarfer, ac roeddwn yn falch o gyfarfod Cerddwyr Cymru yn ddiweddar i siarad am y fenter a noddir gan Lywodraeth Cymru, Dewch i Gerdded, sy’n dathlu manteision 30 munud yn unig o gerdded y dydd o ran gwella iechyd. Bydd mentrau eraill, fel Plant Iach Cymru, yn dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd i ddod.

Ymyriadau’n ymwneud â gordewdra ymysg plant yw un o gonglfeini dull bwrdd iechyd Cwm Taf o weithredu. Mae’r grŵp llywio ar ordewdra ymhlith plant yn dod â’r bwrdd iechyd a phartneriaid megis Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Cymunedau yn Gyntaf at ei gilydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Mae’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn yn cynnwys datblygu canllawiau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar i sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar faeth a gweithgarwch corfforol, ymarfer mapio i bennu’r angen am hyfforddiant, ac adroddiad ymchwil a oedd yn ystyried ymgysylltiad effeithiol teuluoedd mewn rhaglenni rheoli pwysau wedi’u targedu ar gyfer plant a theuluoedd. Yn yr un modd, menter arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw cynllun Ysgolion Iach Cwm Taf. Mae’n pontio iechyd ac addysg i hybu iechyd da yn gyfannol mewn lleoliadau ysgol, gan ddefnyddio ymyriadau fel coginio yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Glen-boi yn fy etholaeth, a gwblhaodd gam 4 y rhaglen ddoe.

Mae dull Cwm Taf hefyd yn cynnwys elfen gynenedigol. Mae cyfradd gordewdra mewn menywod beichiog yng Nghwm Taf oddeutu 33 y cant, a chan fod hwn yn ddangosydd allweddol o dan y strategaeth mamolaeth ar gyfer Cymru gyfan, mae’r bwrdd iechyd wedi datblygu ymateb priodol. Gan ddechrau yn 2015, mae Bump Start yn wasanaeth cynenedigol arbenigol i helpu menywod sydd â BMI o 35 neu drosodd i gyfyngu ar faint o bwysau y maent yn ei fagu yn ystod beichiogrwydd i lefelau sy’n iach. Mae apwyntiadau ac ymweliadau cynenedigol arferol yn cynnwys ymgynghoriadau gyda’r fydwraig iechyd y cyhoedd a deietegydd arbenigol. Yn ei flwyddyn weithredol gyntaf, mae’r cynllun wedi cael adborth da iawn. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o hyd. Yn allweddol, mae bwyd afiach yn parhau i fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno, pwynt a gafodd ei gyfleu’n gadarn pan gasglodd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, yr wyf yn aelod ohono, dystiolaeth arbenigol ar ordewdra ymlith plant.

Rwy’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi glastwreiddio’r cynigion a ddisgwyliwyd yn ei chynllun gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant, yn enwedig mewn perthynas â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Rwy’n falch fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i bwysleisio’r achos dros weithredu llymach, a’u bod hefyd wedi cofnodi unwaith eto eu hymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau sydd wedi’u datganoli.

Yn olaf, rwyf am ddychwelyd at thema arall y credaf ei bod yn cynnig ateb i fynd i’r afael â’r argyfwng y mae’r cynnig hwn yn ei ystyried. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod wedi cyfeirio o’r blaen at anhwylder diffyg natur, lle y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystyried bod eu cysylltiad â’r byd naturiol yn wannach na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu hyd yn oed Llundain. Mae gan fentrau fel ysgol feithrin natur gyntaf Cymru yn fy etholaeth i, ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, rôl adferol i’w chwarae, ond mae angen i ni sicrhau newid sylweddol i annog ein plant i fynd allan i’r awyr agored. Bydd gwneud hynny’n eu galluogi i gymryd rhan yn yr ymarfer corff sy’n gallu mynd i’r afael â gordewdra a meithrin arferion gweithgarwch gydol oes a fydd yn arwain at fywydau iachach.

Rwy’n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar bwnc dyrys iawn, ac mae’n bwysig i ni nid jest sôn amdano fe, ond ceisio mynd i’r afael ag o. Efallai fy mod wedi sôn wrth basio rhai troeon o’r blaen fy mod i, mewn bywyd arall, yn feddyg, ond hefyd, yn naturiol, wedi bod yn ymdrin efo’r problemau sy’n deillio o ordewdra dros y blynyddoedd. Ac ie, cyfuniad, fel rydym ni wedi clywed eisoes, o fwyta’n iach—er haws dweud na gwneud yw hynny hefyd, hefyd, ac rydw i’n cytuno efo hynny. Mae’n anodd iawn, weithiau, cael gafael mewn bwyd iach. Os ydych chi’n ceisio mynd i siopa mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn ein dinasoedd mawrion ni, mae’n anodd iawn ffeindio bwyd iach mewn siop sy’n dweud ei bod hi’n gwerthu bwyd. Mae’n anodd iawn. Mae eisiau mynd i’r afael efo hynny. Yn naturiol, mae yna elfen o drio ailddiffinio beth yw maint platiad go iawn—‘portion size’—er enghraifft. Mae hynny wedi cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd. Hefyd, wrth gwrs, yng nghanol hyn i gyd mae eisiau pwysleisio pwysigrwydd bwydo o’r fron i’n babanod ni i roi dechrau cyson cyn belled ag y gallwn ni, a hyrwyddo bwydo o’r fron i roi dechrau cadarn mewn bywyd. Hefyd, mae yna ymchwil sy’n dangos bod hynny’n lleihau graddfeydd gordewdra.

Roeddwn yn mynd i sôn hefyd am y cyfuniad o beth rydych yn ei fwyta a pha mor ffit ydych chi. Faint rydych yn symud o gwmpas y lle ydy’r peth. Mae’r diet ychydig bach yn bwysicach na lefel ein ffitrwydd ni, ond nad anghofier pwysigrwydd lefel ffitrwydd personol hefyd. Does dim eisiau mynd i eithafion a phethau eithafol fel mynnu cael y wisg gyntefig ddiweddaraf i fynd i’r gampfa. Mae dim ond cerdded 10,000 o gamau'r dydd yn gwneud y tro, ynghyd â hepgor defnyddio lifftiau ac ati. Cerdded i bob man cyn belled ag sy’n bosibl—ac rydym wedi clywed Vikki efo hanesion y Ramblers ac ati—ie, hyrwyddo cerdded naturiol. Roeddem ni’n arfer ei wneud yn llawer mwy cyffredin nag ydym y dyddiau yma. Ond o fod jest ychydig bach yn fwy ffit o ganlyniad i’r holl gerdded yna, rydych yn gweld gostyngiad o 30 y cant yn lefel eich siwgr, fel rwyf wedi dweud o'r blaen fan hyn, gostyngiad o ryw 30 y cant yn lefel y colesterol yn y gwaed, gostyngiad o ryw 30 y cant yn eich pwysau gwaed a hefyd rydych yn colli pwysau yn naturiol. Pe bawn i’n datblygu tabled sy’n gallu dod â’r atebion yna i ni, fe fyddem i gyd yn pwyso y dylem ni gyd fod yn rhagnodi'r dabled yna yfory. Ond, wrth gwrs, ffitrwydd naturiol sy’n dod â’r gostyngiadau yna yn y lefelau siwgr, colesterol a phwysau gwaed. Mae’n rhaid i ni gael y wybodaeth yna allan yna fel bod pobl yn gallu gwneud dewisiadau amgen.

Yn yr amser sydd ar ôl, roeddwn jest yn mynd i bwysleisio—yn ogystal â’r holl addysg yma—bwysigrwydd deddfu yn y maes. Fel yr oedd Rhun wedi crybwyll eisoes, roeddem wedi bod wrthi’n rhannu’r wybodaeth am sgil-effeithiau drwg a thrychinebus ysmygu am flynyddoedd maith, ac eto roedd lefelau ysmygu yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel, yn rhedeg ar rywbeth fel 32 y cant tan y flwyddyn 2000. Beth sydd wedi newid ydy ein bod ni wedi deddfu i wahardd ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus, ac mae hynny wedi gwyrdroi sut mae cymdeithas yn meddwl am ysmygu. Mae deddfu weithiau yn gallu arwain y gad ac yn gallu newid y ffordd mae cymdeithas yn meddwl am rhywbeth. Yn ogystal â’r holl addysgu sy’n mynd ymlaen, rwy’n credu bod angen deddfu, felly, yn y maes yma hefyd. Mae angen treth ar siwgr, mae angen deddfu i gael isafswm pris ar alcohol ac mae angen deddfu i gael gwared â rhai pethau fel ‘trans fats’ o’n bwydydd sydd wedi’u prosesu. Felly, mae yna rôl i ddeddfu, fel mae’r cynnig yma yn ei ddweud. Ond hefyd, mae fel petai’r cwmnïau bwyd a diod mawr, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, yn bihafio fel y cwmnïau tybaco, yn trio tanseilio pob neges sy’n trio gwneud rhywbeth penderfynol ynglŷn â threth y siwgr, neu isafswm pris alcohol. Rydym wedi gweld y problemau yna mewn gwledydd eraill, megis yr Alban. Efo Bil Cymru sydd ar y ffordd yma, mae yna berygl y byddwn ni’n colli’r hawl. Mae gennym yr hawl ar hyn o bryd i bennu isafswm pris alcohol, ond ddim am yn rhy hir os bydd Bil Cymru yn dod i weithrediad fel y disgwylir iddo wneud. Os nad ydym yn gallu cael rhyw ddeddfwriaeth newydd i fewn cyn gorffen y cyfnod cyntaf o unrhyw Fesur newydd cyn Ebrill 2018, mae angen gweithredu ar fyrder weithiau, a dyna pam rwy’n croesawu pwysigrwydd y ddadl yma, ond hefyd pwysigrwydd gweithredu a deddfu. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n meddwl bod yr heriau’n gwbl glir, fel rydym wedi clywed gan eraill, ac maent wedi bod yn amlwg ers peth amser, ond nid oes unrhyw amheuaeth y dônt yn fwyfwy amlwg oherwydd y gymdeithas sy’n heneiddio sydd gennym, oherwydd y pwysau y mae hynny’n ei roi ar y gwasanaeth iechyd. Rydym wedi siarad ers peth amser, onid ydym, ynglŷn â cheisio bod yn fwy ataliol o ran y gwasanaeth iechyd: edrych ar benderfynyddion ehangach iechyd ac afiechyd a cheisio achub y blaen yn hytrach na bod yn adweithiol yn bennaf. Felly, rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn rhan o’r ddeialog honno, ddirprwy Lywydd, sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser ac mae’n anochel y bydd yn cryfhau oherwydd yr her sy’n ein hwynebu. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cael enghreifftiau lleol da a chryf, gobeithio, yng Nghymru o’r hyn y gellir ei wneud i oresgyn yr heriau hynny. Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, ac rwy’n falch iawn o sôn unwaith eto, ein bod wedi bod yn cynnal uwchgynadleddau gweithgarwch corfforol yng Nghasnewydd ers peth amser i ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd: iechyd y cyhoedd, bwrdd iechyd Aneurin Bevan, Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth gwasanaethau hamdden, Cartrefi Dinas Casnewydd fel cymdeithas dai a gymerodd y trosglwyddiad o stoc dai llywodraeth leol, sefydliadau chwaraeon megis Dreigiau Gwent Casnewydd, Clwb Pêl-droed Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru—mae yna restr hir, Ddirprwy Lywydd—ac rydym wedi dod at ein gilydd i edrych ar yr heriau hyn ac i geisio gwneud cynnydd yn lleol.

Felly, rwy’n falch o ddweud ein bod bellach wedi cyrraedd y cam lle y mae’r sefydliadau i gyd wedi ymrwymo diwrnod y mis o amser y staff i symud yr agenda yn ei blaen. Rydym wedi adeiladu partneriaeth fwyfwy cryf a gweithgar. Rydym yn edrych ar bob math o faterion, gan gynnwys sut y mae’r Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu’n effeithiol yng Nghasnewydd. Rydym wedi cryfhau’r parkrun. Fe wnes i’r parkrun yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd wythnos neu ddwy yn ôl, ac mae’r egni yno’n wirioneddol aruthrol; cannoedd o bobl am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn yn gwneud y parkrun, yn ei fwynhau, yn cymdeithasu wedyn, yn siarad am beth arall y maent am ei wneud i gadw’n weithgar, yn heini ac yn iach. Yn awr fe fydd—nid yw wedi’i sefydlu eto—parkrun canol y ddinas yn cael ei gynnal ar hyd glan yr afon yng Nghasnewydd i adeiladu ar y diddordeb sy’n cael ei greu.

Trwy hyn oll, Ddirprwy Lywydd, rydym hefyd yn edrych ar agweddau eraill megis bwyta’n iach, gan gysylltu â rhwydweithiau bwyta’n iach mewn ysgolion, a bydd prosiectau penodol yn dod ynghyd yn rhan o hyn i fynd i’r afael â’r materion hynny mewn ysgolion. Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn datblygu llythrennedd corfforol yn ein hysgolion, oherwydd un peth rwy’n meddwl mai un peth y mae bron bawb yn gytûn yn ei gylch yw hyn: os gallwch sefydlu a sefydlu arferion da yn ein pobl ifanc mor gynnar â phosibl, mae’n debygol iawn y bydd yr arferion da hynny’n aros gyda hwy drwy gydol eu bywydau ac er budd y gwasanaeth iechyd a Chymru’n gyffredinol. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr fod yr adroddiad a wnaeth Tanni Grey-Thompson ar lythrennedd corfforol yn cael ei ddatblygu ar ryw ffurf neu’i gilydd drwy’r diwygiadau cwricwlaidd rydym ar fin eu gweld, a’i fod yn gwbl ganolog i fywyd yn ein hysgolion.

Yr hyn y byddwn yn ei ofyn hefyd, Ddirprwy Lywydd, yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod lle y caiff cynnydd ei wneud yn lleol, fel y mae yng Nghasnewydd, a’i bod yn edrych arno’n fanwl ac arferion da’n cael eu lledaenu, a hefyd fel bod modd cael rhywfaint o gymorth. Yn y gorffennol, roedd rhywfaint o drafod ynglŷn â chynlluniau peilot posibl lle roedd prosiectau lleol yn mynd i’r afael â’r heriau hyn o wneud mwy o ymarfer corff a phoblogaeth leol iachach, ac yna efallai y byddai rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru i’w gryfhau, ei strwythuro a’i symud ymlaen yn fwy effeithiol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd, ond beth bynnag sy’n digwydd, rwy’n credu ein bod wedi cyrraedd y pwynt yng Nghasnewydd, lle y mae digon o gefnogaeth a digon o egni, syniadau ac ymrwymiad i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth pwysig a gwerthfawr i’n poblogaeth leol.

Diolch i’r pump Aelod a restrwyd am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae yna ystod o faterion dan ystyriaeth yma, gormod i roi sylw iddynt mewn un cyfraniad, felly fe ganolbwyntiaf ar y materion sy’n ymwneud â gordewdra a gweithgarwch corfforol, gyda theithio llesol yn rhan o hynny.

Nid yw lefelau cyfranogiad mewn teithio llesol wedi dangos gwelliant, yn anffodus, ers pasio’r Ddeddf teithio llesol, ac mae’r elusen annibynnol Strydoedd Byw yn dweud ein bod yn dal i ymdrin â dirywiad yn y niferoedd sy’n cerdded i’r ysgol wrth i fwy a mwy o rieni yrru yn lle cerdded pellteroedd sy’n weddol fyr weithiau. Mae angen i ni wneud mwy i hybu cerdded i’r ysgol. Nodaf fod yna raglen wedi bod; gallwn gynnig rhyw fath o anogaeth ariannol i ysgolion gymryd rhan mewn grwpiau cerdded wedi’u trefnu? Hefyd, mae’r mater a grybwyllodd Vikki yn gyntaf oll yn ei dadl fer a wnaeth ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â gweithgareddau awyr agored. Dyna beth arall y gall ysgolion fynd ati i’w hyrwyddo, a fyddai, rwy’n siwr, yn cael effaith fuddiol, ond a all y Llywodraeth gael unrhyw effaith ar y math hwn o beth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd, oherwydd mae angen i ni eu dechrau’n gynnar? A allwn roi mwy o gefnogaeth i awdurdodau lleol ar gyllido canolfannau hamdden, o gofio ein bod yn awr yn wynebu’r posibilrwydd o gontractau allanol, a allai arwain at godi ffioedd mynediad? Rwy’n sylweddoli mai materion i awdurdodau lleol yw’r rhain mewn gwirionedd, ond efallai y gallem wneud rhywbeth fel Llywodraeth—wel, nid wyf fi yn y Llywodraeth—fel Cynulliad, mae’n ddrwg gennyf, i fonitro hyn, o leiaf, ac efallai i roi rhyw fath o gymorth i awdurdodau lleol wrth iddynt roi cymhorthdal i ganolfannau hamdden, o gofio yn y pen draw y gallem fod yn talu cryn dipyn yn fwy ar ffurf costau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru os nad ydym yn gwneud hyn yn awr.

O ran pobl hŷn, ceir mater clybiau bowlio, sef eu hunig weithgaredd hamdden yn eithaf aml. Cawsom achos yn ddiweddar lle roedd clwb bowlio poblogaidd yn nwyrain Caerdydd yn mynd i gael ei gau. Unwaith eto, penderfyniad i awdurdod lleol yw rhoi cymhorthdal i’r clybiau hyn neu beidio ond gallem fabwysiadu rôl fwy gweithredol, yn y Cynulliad, a hyrwyddo’r mathau hyn o weithgareddau i bobl hŷn—yn yr un modd, pethau fel clybiau cerdded Nordig, a gawsom.

O ran teithio llesol, rwy’n meddwl bod gennym broblem yn yr ystyr fod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd bellach, ond nid yw’n ymddangos bod yna unrhyw beth sy’n cysylltu’r ddwy ddeddfwriaeth. Er enghraifft, nid oes dangosydd teithio llesol yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gallu dwyn byrddau gwasanaethau cyhoeddus neu gynghorau i gyfrif am eu darpariaeth deithio llesol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar system metro de Cymru gan fod pryderon wedi cael eu mynegi, yn y bwrdd teithio llesol, am y gofynion ar gyfer teithio llesol ac a ddarperir ar eu cyfer pan gawn y metro. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gosod y sgoriau ar gyfer caffael a gallai a dylai hyn gynnwys safonau i gynyddu teithio llesol i ac o orsafoedd. Rwy’n sylweddoli bod angen i ni ddarparu metro de Cymru—dyna’r flaenoriaeth—ond a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i sicrhau, pan fyddwn yn cael y metro, y bydd yn cynnwys darpariaeth dda ar gyfer teithio llesol mewn gwirionedd? Diolch.

Hoffwn ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyflwyno’r ddadl oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater hollbwysig. Mae siaradwyr blaenorol wedi disgrifio’r sefyllfa yng Nghymru, sy’n amlwg yn fater o bryder mawr. Mae’n amlwg fod angen gwella arferion bwyta ac arferion ymarfer corff—clywsom yr ystadegau am hynny heddiw.

Rwy’n falch iawn fod gennym Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’i bod wedi cael ei phasio—Deddf unigryw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru—ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni sicrhau pob cyfle i’w defnyddio i’w llawn botensial. Er enghraifft, gwn ein bod yn ymgynghori ar y llwybrau cerdded a beicio lleol y mae’r cymunedau eu hunain yn teimlo y dylid eu blaenoriaethu. Rydym wedi cael ymateb da yng Nghaerdydd, rwy’n credu bod gennym oddeutu 200 o bobl yn rhoi eu mewnbwn hyd yn hyn, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni wneud rhagor. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod mwy o bobl yng Nghaerdydd a ledled Cymru’n cyfleu’r neges y gallwn ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel, a chredaf fod hynny’n bwysig iawn i annog pobl i ddod yn heini ac i adael eu ceir gartref, ac mae gennym y ddeddfwriaeth honno yno yn awr ar hyn o bryd. Rwy’n credu ein bod wedi cael enghreifftiau da ledled Cymru ac mae gennym sefydliadau gwych fel Strydoedd Byw a Sustrans, sy’n gweithio’n galed ar y materion hyn. Gwn fod Sustrans hefyd yn ystyried targedu mamau ifanc a mamau beichiog yn benodol—ac rwy’n meddwl bod Dai Lloyd wedi sôn am hyn yn ei gyfraniad—oherwydd mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai’r effaith fwyaf ar ba un a yw pobl yn mabwysiadu arferion cerdded a beicio yw pa un a oedd eu rhieni’n teithio’n llesol, fel bod yr esiampl yno.

Yn amlwg ni allwn ennill y frwydr yn erbyn gordewdra yn syml drwy hyrwyddo teithio llesol, er fy mod yn meddwl bod yna gyfleoedd gwych yno. Mae newid arferion bwyta’n anodd iawn, ond rwy’n credu ei fod yn dechrau ar y cychwyn un ac roeddwn yn falch fod Dai Lloyd wedi crybwyll bwydo ar y fron—mynegais fy mhryder nad oedd hynny yn adroddiad y prif swyddog meddygol ar iechyd yr wythnos ddiwethaf. Ond rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn pryderu ynglŷn â hyrwyddo bwydo ar y fron, ond rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wthio’n galed eto. Mae’n bwysig iawn, fel y crybwyllodd Vikki Howells—pwysigrwydd cymorth cynenedigol a gweithio gyda mamau. Ond mae’n anodd iawn newid arferion bwyta, yn enwedig gydag oedolion. Ni waeth sawl ymgyrch iechyd y cyhoedd a gynhaliwn, mae bwyd yn dal yn gyfystyr â chysur i lawer o bobl a hefyd, rwy’n credu mai un o’r pwyntiau pwysicaf yw bod tlodi’n effeithio ar arferion bwyta, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth rwyf am ddweud ychydig amdano yn awr.

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant newydd gyhoeddi llyfr o’r enw ‘Gwella Cyfleoedd Bywyd Plant’, sy’n dangos, ymhlith merched a bechgyn rhwng 2 a 15 oed, fod yna fwy o ordewdra a chario gormod o bwysau ymhlith y 40 y cant o blant o grwpiau incwm is. Ac rydym yn gwybod hynny. Rydym yn gwybod, drwy waith ar anghydraddoldebau iechyd, mai’r teuluoedd tlotach sy’n fwy tebygol o gario gormod o bwysau.

Dengys ymchwil fod bwydydd sy’n llawn maeth fesul calori yn ddrutach. Mae data o arolwg deiet a maeth cenedlaethol 2008-12 yn dangos bod y grŵp incwm isaf yn gyffredinol yn bwyta llai o brotein, llai o haearn, llai o ffrwythau a llysiau, llai o fitamin C, llai o galsiwm a llai o bysgod olewog. Ac un o’r rhesymau am hynny yw bod cig heb lawer o fraster, ffrwythau ffres, llysiau a physgod yn anodd ac yn ffurfiau drud ar galorïau. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn gwybod bod y bwyd hwnnw’n ddrutach. Felly, mae’n gwneud synnwyr, pan fydd incwm yn uwch, eich bod yn gallu fforddio bwyd o ansawdd gwell, a dyna pam y mae effeithiau toriadau caledi a budd-daliadau mor niweidiol—am eu bod yn effeithio ar yr hyn y mae pobl yn gallu ei fwyta.

Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn yng nghyd-destun cyffredinol bywydau pobl ac rwy’n credu bod tlodi’n effeithio’n fawr ar yr hyn y gallwn ei wneud. Nid yw rhai o’r dulliau mewn perthynas â thlodi yn ein dwylo yn y Cynulliad hwn, ond rwy’n credu bod gennym ddulliau yma y gallwn ac y dylem eu defnyddio. Mae pobl wedi sôn llawer am y dulliau hynny heddiw, ond rwy’n meddwl ei fod yn dechrau gyda’r bwyd cyntaf a gewch—neu y gobeithiwn y byddwch yn ei gael—sef llaeth y fron. Mae’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol yn hanfodol bwysig o ran bwyta’n iach a chafwyd llawer o awgrymiadau yma heddiw, a’r mater ymarfer corff y gwyddom y gallwn ei hyrwyddo drwy’r Ddeddf teithio llesol. Rwy’n credu bod gennym lawer o ddulliau yma yn y Cynulliad i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

Hoffwn wneud rhai sylwadau cryno mewn ymateb i rai o’r areithiau yma y prynhawn yma. Hoffwn gefnogi’r hyn a ddywedodd John Griffiths am botensial y parkrun yn frwd. Yn ddiweddar, cymerais ran yn y parkrun newydd ar arfordir Llanelli, a oedd yn brofiad gwych. Bob tro rwyf wedi cymryd rhan yn y parkrun, fel rhywun nad yw’n rhedwr naturiol, rwyf bob amser yn cael fy llenwi â brwdfrydedd gan gefnogaeth y gwirfoddolwyr sy’n eich annog i ddal ati. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan yn y parkrun, oni bai am y gweithgaredd hwnnw, ni fyddent yn gwneud dim am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn. Am y £6,000 o fuddsoddiad sydd ei angen i’w gweithredu, rwy’n meddwl eu bod yn gwbl amlwg yn fuddsoddiad iechyd y cyhoedd gwerth chweil, ac rwy’n falch o’u gweld yn ffynnu ar draws y wlad.

Roeddwn eisiau siarad yn benodol am yr elfen o’r cynnig sy’n ymwneud â photensial dihysbydd y Ddeddf teithio llesol, a chredaf ei bod ychydig yn llym o bosibl, o ystyried mai newydd gael ei rhoi mewn grym y mae’r Ddeddf, ond rwy’n credu ei bod yn gywir nodi na allwn weld hwn fel ymarfer ticio blychau’n unig ac ni allwn ei weithredu rywsut-rywsut. Dyma gyfle enfawr i geisio cael pobl nad ydynt yn gwneud fawr ddim gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd i wneud hynny. Mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos mai’r ffordd i gael pobl sy’n segur yn gorfforol i wneud rhywfaint o weithgarwch corfforol yw ei wneud yn rhan o’u trefn bob dydd, ac mae disgwyl iddynt fynd i ganolfannau hamdden neu gampfeydd yn debygol o fod yn aneffeithiol. Felly, dyma gyfle enfawr i gyrraedd rhan o’r boblogaeth sydd fwyaf o angen i ni estyn allan ati.

Rwy’n credu ein bod yn dioddef weithiau yn y Siambr hon o’r hyn a elwir yn ‘anghysondeb gwybyddol’ pan fyddwn yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall. O ran iechyd y cyhoedd, rydym yn siarad yn frwdfrydig am werth teithio llesol a gweithgarwch corfforol, ac eto, pan fyddwn yn sôn am strategaeth economaidd, er enghraifft, neu os ydym yn siarad am faterion trafnidiaeth, rydym yn rhoi hynny i’r naill ochr, ac rydym fel pe baem yn meddwl mai cyfrifoldeb y proffesiwn iechyd yw gweithgarwch corfforol. Pan fyddwn yn gwneud gweithgareddau eraill, nid ydym yn meddwl sut y gellir defnyddio’r tasgau hynny i gyflawni’r lefelau cynyddol o weithgarwch corfforol sydd angen i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, i ddychwelyd at thema rwyf wedi siarad amdani’n ddiweddar—annog parcio am ddim yng nghanol trefi. Dylem fod yn annog canol trefi a threfi sy’n gwneud beicio a cherdded yn hawdd, a defnyddio buddsoddiad cyhoeddus prin i adeiladu rhwydweithiau i annog pobl i wneud y teithiau dyddiol byr hynny. Mae tua 20 y cant o deithiau car yn llai na milltir. Gellid cerdded a beicio yn lle defnyddio car ar lawer o’r teithiau hyn.

Er enghraifft, yn fy nhref i, sef Llanelli, cafwyd argymhelliad ar gyfer rhwydwaith beicio trefol i gysylltu pobl â’r cyrchfannau pob dydd y byddant eisiau eu cyrraedd. Ond yn anffodus, mae’r cyngor sir—cyn dyddiau teithio llesol, ond mae’r cynlluniau hynny bellach ar y gweill—yn canolbwyntio eu buddsoddiad ar lwybrau pellter hwy a llwybrau twristiaeth, ac nid ar lwybrau bob dydd. Yn hytrach na sefydlu polisïau sy’n mynd i annog ffyrdd o fyw llonydd, megis meysydd parcio rhad ac am ddim, mae gwirioneddol angen i ni achub ar bob cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol ym mhob un o’n cynlluniau.

Nodaf yn ddiweddar fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi strategaeth feicio uchelgeisiol ar gyfer y ddinas, ac mae gwir angen i ni ei chefnogi a’i hyrwyddo. Gwn eu bod wedi bod yn cael trafferth o fewn y dinas-ranbarth, er enghraifft. Mae’r cytundeb dinas, sy’n dal yn frith o feddwl uniongred a hen-ffasiwn iawn, lle y mae awdurdodau lleol ar hyd a lled y Cymoedd yn gweld cyfle am gyllid ac yn chwythu’r llwch oddi ar gynlluniau ffyrdd sydd wedi bod ganddynt ar y silffoedd ers 30 a 40 mlynedd mewn rhai achosion. Mae Caerdydd, i fod yn deg â hwy, yn dangos gwir arweiniad yn adeiladu ar yr enillion a welsom yn y 10 mlynedd diwethaf yn y ddinas o ran lefelau uwch o feicio, ac maent wedi llunio cynllun uchelgeisiol. Ond rwy’n gwybod eu bod wedi cael anhawster yn y dinas-ranbarth i gael cymorth ar gyfer hynny. Rwy’n falch, yn achos dinas-ranbarth bae Abertawe, nad yw gweledigaeth Terry Matthews wedi ymwneud â ffyrdd a pharciau menter—mae wedi ymwneud â chysylltedd digidol. Rwy’n credu mai dyna’r meddylfryd sy’n rhaid i ni ei gofleidio.

Mae’r Ddeddf teithio llesol, fel y crybwyllwyd, yn rhoi gwobr enfawr bosibl o fewn ein gafael. Ond ni ellir ei hystyried yn syml fel dyletswydd y mae’n rhaid i ni ei chyflawni. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei gofleidio’n frwdfrydig. Mae’n rhaid i ni wthio—pob un ohonom yn ein rolau arweiniol yn ein cymunedau—i gael pobl i fwydo’r llwybrau posibl y byddent yn hoffi eu gweld i mewn yn rhan o’r mapiau rhwydwaith integredig, er mwyn cael y teithiau bob dydd hynny yn y cynlluniau fel mai dyna a gaiff ei ddarparu’n gyntaf. Mae’n wobr enfawr, a dim ond camau gweithredu o’r fath sy’n mynd i drechu gordewdra. Felly, mae gwir angen i ni roi’r gorau i’r anghysondeb gwybyddol, ac archwilio pob cyfle i gynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol yn ein holl raglenni. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns a Dai Lloyd am ddewis canolbwyntio ar faterion iechyd y cyhoedd pwysig yn y ddadl i Aelodau unigol a gyflwynwyd ganddynt y prynhawn yma, ac mae ei hysbryd yn gyson â’n hymrwymiad i gynorthwyo pobl i fod yn iach ac yn weithgar. Rwy’n croesawu’n fawr yr holl gyfraniadau meddylgar a wnaed. Er ein bod yn sicr yn gwneud llawer iawn i greu’r amgylchiadau a’r amodau cywir i bobl wneud dewisiadau iach ac egnïol, rhaid i ni gydnabod hefyd na all y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun. Os ydym am wireddu gweledigaeth y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae angen dull cymdeithas gyfan o weithredu i sicrhau cymaint ag y bo modd o les corfforol a meddyliol heddiw, ac i sicrhau ein bod yn deall patrymau ymddygiad sy’n fuddiol i iechyd yfory a’n bod yn gweithredu arnynt.

Mae hon yn agenda heriol. Mae lefelau gordewdra mewn oedolion wedi codi’n araf ers i’r arolwg iechyd Cymru cyntaf ddechrau yn 2003, ac er bod lefelau mewn plant yn awr yn sefydlog, maent yn dal i fod yn annerbyniol o uchel. Rydym yn gwybod bod lefelau’n cynyddu gydag amddifadedd, felly mae yna achos cryf dros weithredu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Rydym am gynorthwyo’r cyhoedd i wneud dewisiadau iachach. Yn ddiweddar, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hymgyrch 10 Cam at Bwysau Iach i gefnogi hyn, ac mae’n cynnwys ffocws ar fwydo ar y fron. Mae hyn yn ategu ein rhaglen Newid am Oes a’n gwaith ymgyrchu arall. Mae ein rhaglen Plant Iach Cymru yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, ar sail y dystiolaeth fod cario pwysau iach yn y blynyddoedd cynnar yn effeithio’n hirdymor ar lefelau gordewdra ac iechyd pan fyddant yn oedolion.

Mae rhyngweithiadau â’r gwasanaeth iechyd yn aml yn adegau amserol pan fo unigolion yn barod i dderbyn cyngor ar ffordd o fyw. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu eu dull sy’n seiliedig ar systemau yn hyn o beth, sy’n cynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif. Y nod yw arfogi staff â’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cyngor byr i annog newidiadau bach er mwyn gwella iechyd a lles ar bob cyfle. Ond mae’r agenda hon yn gymhleth. Mae gan addysg a sgiliau gwell, mynediad haws at fwyd iachach a pholisïau caffael cyhoeddus ran i’w chwarae. Mae arnom angen mwy o gyfyngu ar hysbysebu a hyrwyddo bwydydd sy’n llawn braster, halen a siwgr, yn enwedig i blant. Mae angen i beth o’r gwaith gael ei wneud ar lefel y DU. Rydym wedi galw ers amser ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ddarparu camau gweithredu cryfach, megis gweithredu llymach ar siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach i blant, ac rydym yn cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn ag ardoll siwgr ar ddiodydd wedi’u melysu â siwgr, ond mae angen i ni weld rhywfaint o gynnydd.

Mae gan y diwydiant bwyd ei hun ran i’w chwarae. Mae targedau lleihau halen gwirfoddol ar draws y DU, yr ystyrir eu bod yn enghraifft fyd-eang o arfer gorau, wedi arwain at ostwng lefelau halen mewn bwydydd hyd at 50 y cant ers 2012, ac mae hyn yn sicr yn cael ei groesawu, ond rydym angen i’r diwydiant wneud mwy.

Mae dylanwadu ar gaffael cyhoeddus yn yr agenda hon yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu i greu gwasanaeth caffael cenedlaethol i Gymru sy’n datblygu dulliau caffael canolog ar gyfer holl sefydliadau’r sector cyhoeddus. Rydym yn ymgysylltu’n weithredol â hwy i osod meini prawf caffael sy’n cynnwys manylebau maeth. Mae system gaffael y GIG eisoes yn cyflogi deietegydd i wneud hyn. Bydd hwn yn gam sylweddol i sicrhau bod yr holl fwyd a diod a ddarperir yn ein sector cyhoeddus yn iachach. Bydd yn adeiladu ar y safonau maeth rydym wedi’u cyflwyno yn rhai o’n sefydliadau cyhoeddus, megis ysgolion ac ysbytai. Rydym hefyd yn datblygu dulliau tebyg ar gyfer lleoliadau eraill, megis y blynyddoedd cynnar a chartrefi gofal, gan ein bod yn gwybod pa mor hanfodol yw maeth da ar gyfer plant ifanc a phobl hŷn.

Mae angen i bobl gael y sgiliau a’r wybodaeth sy’n sail i ddewisiadau ffordd o fyw iachach, ac mae gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae yn hyn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach. Mae gennym sylfaen dda i adeiladu arni gyda’n rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach, a byddwn yn sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer cryfhau gwaith mewn ysgolion ymhellach drwy ddatblygiad y cwricwlwm newydd.

Mae cynnig heddiw yn tynnu sylw at botensial y Ddeddf teithio llesol i godi lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth, gan gynnwys ar gyfer plant. Mae’r rhaglen teithiau llesol, sy’n gweithio mewn ysgolion i hyrwyddo teithio llesol ymysg disgyblion, yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i ysgolion ledled Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ein prosiect Cerdded i’r Ysgol Cymru, a fydd yn datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo ysgolion i adolygu a gwella dewisiadau teithio llesol yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer hyfforddiant cerdded a beicio, sy’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn bennaf, a bydd y rhaglenni hyn yn cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod gyda’r bwriad o atgyfnerthu’r gwaith o hyrwyddo teithio llesol.

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith ar waith i gefnogi teithio llesol fel elfen allweddol o ddatblygu gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae’n gwneud hynny drwy fynnu bod rhwydweithiau cerdded a beicio cydlynus yn cael eu cynllunio yn ein cymunedau ac yn cael eu gwella bob blwyddyn. Eleni, gwelsom gyfnod allweddol cyntaf y Ddeddf gyda chymeradwyo mapiau llwybrau presennol yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae awdurdodau lleol bellach yn gweithio ar baratoi eu mapiau rhwydwaith integredig. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y rhain o ddifrif yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol ac yn cysylltu’r lleoedd y mae angen iddynt deithio rhyngddynt. Mae hyn yn galw am fewnbwn o amrywiaeth eang o bersbectifau gwahanol. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o siarad â chynulleidfa o weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac iechyd ac roedd pawb yn awyddus i gryfhau’r cysylltiadau rhwng eu sectorau a’u proffesiynau i symud yr agenda teithio llesol ac agendâu ehangach iechyd a lles yn eu blaenau. Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn gweld effaith y Ddeddf teithio llesol ar nifer y bobl sy’n gwneud teithiau teithio llesol.

Rwy’n falch ein bod bellach yn gallu adrodd am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion nad yw dros 80 y cant o’n poblogaeth sy’n oedolion yn smygu. Cyflawnwyd hyn drwy ddefnyddio’r dull cynhwysfawr a amlinellir yn ein cynllun gweithredu ar reoli tybaco. Mae’n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc i’w hatal rhag dechrau smygu, gweithio gyda smygwyr i’w helpu i roi’r gorau iddi a chynnydd mewn amgylcheddau di-fwg. Mae deddfwriaeth yn rhan o’r darlun ehangach hwn, gan gynnwys gwaith ar draws y DU i gyflwyno pecynnu safonol ar gyfer cynnyrch tybaco, ac yng Nghymru, bydd y bwrdd strategol rheoli tybaco sydd newydd ei sefydlu yn goruchwylio gweithredu parhaus.

Roeddwn yn falch o fod wedi cyflwyno’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i’r Cynulliad yn ddiweddar. Mae’r Bil yn rhoi pwyslais arbennig ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu amodau sy’n hybu iechyd da ymhlith plant. Mae’r agweddau ar y Bil sy’n ymwneud â smygu yn arbennig o gryf yn hyn o beth, ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed o leihau smygu i 16 y cant erbyn 2020. Mae pwysigrwydd creu cyfleoedd a’r amgylchedd i bobl allu gwneud dewisiadau ffordd o fyw iachach yn amlwg o’r cyfraniadau a glywsom yn y ddadl heddiw. Gobeithiaf fy mod wedi rhoi sicrwydd i chi ein bod yn defnyddio ystod eang o ddulliau ar draws y Llywodraeth i wneud hyn. Ond fel y dywedais, nid yw’n rhywbeth y gallwn ei wneud ar ein pen ein hunain, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ystod eang o bartneriaid i gyflymu cynnydd yn y maes hwn.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf yn mynd i fynd drwy bob un o’ch cyfraniadau unigol gan nad oes gennyf lawer iawn o amser, ond roedd un neu ddau o bwyntiau roeddwn yn awyddus iawn i’w gwneud. Mae hon, os hoffech, yn gêm o ddau hanner, felly gadewch i ni edrych ar y plant yn gyntaf.

Rwy’n falch iawn fod rhai o’r Aelodau wedi crybwyll pwysigrwydd cael gafael arnynt yn ifanc. Weinidog, byddwn yn dweud wrthych mai un o’r pethau allweddol y gallech eu gwneud heddiw, yn awr, o fewn eich pŵer, heb orfod gwneud strategaethau mawr enfawr, fyddai cynyddu faint o amser rydym yn ei roi i chwaraeon yn yr ysgol—nid cynyddu faint o amser y gall plentyn ymgymryd â chwaraeon yn unig, ond bod yn llawer mwy creadigol hefyd ynglŷn â’r hyn y mae gweithgarwch corfforol yn ei olygu. A bod yn onest, ychydig iawn o ferched sy’n hoffi chwaraeon tîm. Ychydig iawn o fechgyn fydd yn hoffi rhai pethau eraill. Mae yna anghydbwysedd enfawr rhwng y rhywiau. Mae merched yn eu harddegau yn ymwybodol iawn o’u cyrff, ac rwy’n meddwl y gallem fod yn greadigol iawn ynghylch edrych ar sut y gallem gyflwyno dawns, symud, rhedeg, chwaraeon unigol—annog pob math o bethau yn hytrach na dim ond dweud, ‘Os ydych yn mynd i wneud chwaraeon, mae’n rhaid i chi wneud y math hwn o chwaraeon neu’r math arall o chwaraeon.’ Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol ein bod yn rhoi sylw i hyn. Mae hefyd yn hanfodol iawn ein bod yn mynd i’r afael â faint o amser rydym yn ei roi i chwaraeon. Gadewch i ni fod yn wirioneddol glir: yn ein hysgolion, mae’r amser rydym yn ei roi i chwaraeon wedi bod yn lleihau dros y degawd diwethaf, ac mae hynny’n mynd yn groes i bopeth rydym wedi treulio’r awr ddiwethaf yn sôn amdano yma.

Wrth gwrs, y peth arall yw, os oes gennym bobl ifanc iach, byddant yn tyfu i fod yn oedolion ifanc ac oedolion hŷn llawer iachach, oherwydd byddant wedi arfer â’r holl gysyniad o fynd allan, gwneud pethau, beicio ac yn y blaen. Mae’r mentrau bendigedig y mae llawer ohonoch wedi sôn amdanynt heddiw yn wych, ond wyddoch chi beth? Ni allwn wneud parkrun. Mae’n debyg y buaswn yn para tua thair llath ac yn disgyn—bwmp, a buaswn wedi mynd. Felly, bobl ffit—Lee—i ffwrdd â chi, ac mae hynny’n wych. Ond mae yna ddosbarth cyfan ohonom allan yno—. Yn wir, gadewch i ni fod yn glir, mae yna 59 y cant ohonom allan yno sy’n cario gormod o bwysau neu’n ordew. Felly, beth rydym yn ei wneud ar gyfer y 59 y cant, a sut rydym yn newid y ffordd rydym yn siarad am y peth? Sut rydym yn ei atal rhag bod yn ddifrïol? Sut rydym yn mynd allan yno a dweud wrth y bobl hynny, ‘Hei, nid oes rhaid i chi golli pwysau drwy fynd i gampfa, wedi’ch amgylchynu gan fynychwyr cyson yn eu Lycra, tra byddwch chi’n eistedd yno’n stryffaglu, yn ceisio bod yn heini’? Dyna pam nad yw pobl fawr—menywod yn arbennig, ond dynion yn ogystal—eisiau gwneud pethau o’r fath, oherwydd ei fod yn creu embaras. Yn wir, os edrychwch ar ordewdra yn y DU, mae llawer o seicoleg yn rhan o hyn. Mae adroddiad seicolegol enfawr ar hyn, ac mae’n sôn yn glir iawn am y ffaith fod angen i ni edrych ar yr amgylchedd ymarfer corff. Mae angen mynd i’r afael â hyn, fel nad yw gorbryder cymdeithasol am y corff yn gwaethygu, ac fel nad yw pobl dew, pobl fawr, yn teimlo embaras mawr ynglŷn â cheisio gwneud unrhyw beth, fel nad ydynt yn rhoi cynnig arni. Rwy’n credu bod angen i ni edrych ar hynny. Mae angen i ni fod yn llawer clyfrach ynglŷn â sut rydym yn targedu pobl. Mae gennym lawer iawn o bobl ifanc sy’n cario gormod o bwysau. Sut y gallwn eu cyrraedd? Beth rydym yn ei wneud amdanynt hwy? Nid ydynt am i fynd i gampfa, ac maent yn annhebygol o fynd i barc. Ond os gallwn hyfforddi ein gweithwyr iechyd proffesiynol mewn ymddygiadau gwybyddol, efallai y byddant yn gallu dod o hyd allweddi sy’n helpu i ddatgloi rhannau penodol o’n poblogaeth a dod â hwy yn ôl i mewn i bethau.

Felly, yn fy marn i, y pethau hawsaf y gallwn eu gwneud—. Rydym wedi siarad am lawer o bethau eraill—trethi, siwgr, hyn a’r llall—ond maent i gyd yn perthyn i’r darlun mawr. Y darlun bach: cael ein plant ysgol gynradd a’n plant ysgol uwchradd i wneud ychydig mwy o weithgaredd—gweithgaredd y maent yn ei fwynhau; gweithgaredd sy’n gwneud iddynt fod eisiau parhau i’w wneud. Rhoi bwyd gwell iddynt. Ers pa bryd y mae olwyn gaws wedi bod yn ffurf ar fwyd, heb sôn am fwyd da? Y bobl sydd eisoes yn cario gormod o bwysau neu’n ordew: byddwch yn fwy caredig tuag atynt o ran sut rydym yn eu cynnwys a’u cael i wneud y gweithgaredd sydd angen iddynt ei wneud, fel nad ydynt yn teimlo cywilydd, embaras ac fel pe baent yn wehilion cymdeithas braidd. Mae llawer o bobl sy’n cario gormod o bwysau yn cael y teimlad, oherwydd y sgwrs genedlaethol, eu bod yn broblem bellach. Mae angen i ni eu helpu a bod yn garedig am y peth.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datganiad yr Hydref

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddatganiad yr hydref 2016. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig y cynnig. Nick.

Cynnig NDM6182 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU;

2. Yn cydnabod y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn ychwanegol erbyn 2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref;

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU;

4. Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw yn nodi datganiad yr hydref Llywodraeth y DU—datganiad sy’n rhoi cynnydd sylweddol yn y cyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Er bod yn rhaid cyfaddef ei bod yn adeg anodd iawn yn ariannol o hyd, mae Cymru mewn sefyllfa gyllidol gryfach nag o’r blaen. Nid ein barn ni’n unig ar y meinciau hyn yw hynny, ond barn economegwyr fel Gerry Holtham. Bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros chwarter mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf, o £1.28 biliwn yn 2015-16 i £1.78 biliwn yn 2020-21. Mae hyn yn cynnwys £436 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd. Dyna arian y gellir ei wario yma yng Nghymru ar ffyrdd, tai, ysgolion, ysbytai—seilwaith pwysig.

Mae angen i ni wneud yn siŵr fod Cymru’n chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymchwil sylweddol ac arian datblygu ar gyfer ein prifysgolion. Mae hyn yn cryfhau ymhellach yr enw da sydd eisoes gan Gymru am fod ar y blaen yn y maes hwn. Rydym yn gwybod bod yna bryderon wedi bod am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu, felly mae’n bwysig ein bod yn cael gafael ar gyllid lle y gallwn, yn paratoi ar gyfer y dyfodol, ac yn datblygu ein strategaeth ddiwydiannol ein hunain yma.

O’i roi’n blwmp ac yn blaen, mae angen i ni baratoi Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Wrth gwrs, mae yna rai dulliau y tu hwnt i gyrraedd Llywodraeth Cymru: trethi—wel, tan 2018 o leiaf. O fis Ebrill 2017, bydd Llywodraeth y DU yn torri treth incwm, a fydd yn lleihau’r bil treth incwm i dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru yn 2017-18 ac yn golygu y gall 61,000 o bobl roi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl.

Ceir dulliau eraill sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd ar hyn o bryd—ardrethi busnes, er enghraifft. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod yn rhy dda, rwy’n siŵr, am fy mhryderon ynglŷn ag ailbrisio ardrethi busnes ac effaith hyn ar fusnesau yn fy etholaeth. Ac nid fy etholaeth i yn unig—ceir pocedi o godiadau arfaethedig yn yr ardrethi busnes ar draws ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal. Cynhaliais gyfarfod cyhoeddus nos Lun a oedd yn llawn o siopwyr a phobl fusnes eraill a oedd yn pryderu. Mae rhai busnesau’n wynebu codiadau enfawr yn eu hardrethi. Mae eraill yn wynebu codiadau llai, ond sylweddol er hynny, ac yn syml, ni allant eu fforddio. Mae gwir angen cynllun rhyddhad ardrethi busnes yma yng Nghymru sydd o leiaf yn gyfartal â’r hyn a geir dros y ffin, ac yn bwysig iawn, cynllun trosiannol cadarn. Mae’n fater o degwch. Mae angen i fusnesau gael eu trin yn deg. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn unwaith eto i Lywodraeth Cymru edrych eto ar hyn, a rhoi’r cymorth y maent ei angen mor daer i fusnesau yn y cyfnod cyn y daw’r ailbrisio i rym fis Ebrill nesaf?

Nawr, ar yr ochr olau, rydym yn croesawu rhagolwg y DU y bydd yr economi’n tyfu, gyda diweithdra’n parhau ar ei isaf ers 11 mlynedd, wrth i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ddatgan mai economi’r DU yw’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7 eleni. Dywedodd y Canghellor y rhagwelir y bydd y twf hwnnw’n 2.1 y cant eleni ac 1.4 y cant yn 2017. Ildiaf i Huw Irranca-Davies.

Diolch i Nick am ildio. Yn sicr, mae cael pobl mewn gwaith yn beth da. Mae’n rhaid i ni gytuno ar hynny. Ond tybed beth y mae’n ei wneud o ragolwg diwygiedig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awr ar gyflogau, twf a buddsoddiad? Oherwydd yr hyn y maent yn ei ddangos yn glir yw bod nifer enfawr, nid is-ddosbarth bach o bobl, ond nifer fawr o’r bobl rydym yn eu cynrychioli yn mynd i fod oddeutu £1,000 y flwyddyn yn waeth eu byd. Ar gyfer y bobl roedd yn sôn amdanynt—y busnesau bach, y rhai sydd eisiau’r rhyddhad ardrethi busnes, ac yn y blaen—dyna’r un bobl na fyddant yn gallu gwario’r arian yn y siopau. Felly, beth mae’n ei wneud o hynny? Beth sydd wedi mynd o’i le yma gyda’r gyllideb?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig, ac nid wyf yn anghytuno â chi fod rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon yma, Huw. Rwy’n credu y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Rydym yn gwybod ers rhai blynyddoedd yn ôl y gall rhagolygon fod yn anghywir. Dyna yw eu natur. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod, at ei gilydd, ers 2010, yn gwybod bod yna leihad wedi bod yn y diffyg. Efallai y byddwn yn anghytuno am lefel y lleihad roedd ei angen yn y diffyg, ac mae hynny’n gwahaniaethu rhwng un blaid a’r llall a rhwng un Aelod â’r llall, ond mae’r economi mewn sefyllfa gadarnach nag o’r blaen. Ond nid yw hynny’n golygu bod y cyfoeth wedi ei ledaenu’n gyfartal. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, yw bod gwir angen i ni wneud yn siŵr fod y bobl rydych yn eu cynrychioli ac rwyf fi’n eu cynrychioli, y bobl yng Nghymru, yn parhau i gael cyfran deg o’r gacen mewn gwirionedd, oherwydd gwn fod hynny wedi bod yn bryder mawr i’r Aelodau yma ac yn fy etholaeth i yn ogystal. Ond rydych yn gwneud pwynt da iawn.

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu ar efadu treth. Wrth gwrs, mae gennym ein barn ein hunain ar hyn i gyd yma yng Nghymru gyda datganoli rhai trethi yn 2018 a sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, sydd ar ffurf embryonig ar hyn o bryd.

Rwyf wedi eistedd drwy—a gallaf weld Aelodau eraill sydd wedi gwneud hyn—oriau lawer o sesiynau Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y ddeddfwriaeth treth newydd, ar gyfer y dreth trafodiadau tir i ddechrau. Mae mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ac efadu treth yn rhan annatod o’r ddeddfwriaeth. Mae’r rheolau cyffredinol ar atal camddefnydd a’r cynllun targededig i atal osgoi yn syfrdanol. Bydd Aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn gwybod beth rwy’n ei olygu wrth hynny, a phan fyddwn yn dod ag ef i’r Siambr hon, caiff pob un ohonoch gyfle i weld manylion diddorol yr agweddau hyn ar ddeddfwriaeth treth.

Rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud gwaith da ar graffu ar y maes hwn a darparu mesurau diogelu a gwiriadau effeithiol. Er, wrth gwrs, amser a ddengys ac mae hwn yn dir newydd i raddau helaeth i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ac mae angen i ni gadw llygad barcud ar sut y mae’n datblygu.

Felly, pa gyllid ychwanegol y bydd Cymru’n ei gael o ganlyniad i’r datganiad hwn? Bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros chwarter mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf. Fel y dywedais yn gynharach, mae hyn yn cynnwys £436 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ein ffyrdd, ein tai, ein hysgolion a’n hysbytai—seilwaith hanfodol.

O fis Ebrill 2018, bydd Llywodraeth y DU yn hwyluso gallu Llywodraeth Cymru i fenthyg hyd at derfyn cyffredinol o £500 miliwn i ariannu gwariant cyfalaf. Bydd y gyfran o £2 biliwn o drethi incwm Cymru sydd i ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn fuan yn caniatáu ar gyfer cynnydd yn y terfyn benthyca cyfalaf hwn a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Dyma fydd un o ganlyniadau allweddol y trafodaethau parhaus ar y fframwaith cyllidol. A gaf fi unwaith eto gofnodi cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i fframwaith cyllidol? Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am hyn ac rwyf wedi trafod y mater gyda’i ragflaenydd sydd yn y Siambr heddiw hefyd. Mae hwn yn fater sy’n peri pryder cyson i bob un ohonom yma. Mae’n gwbl hanfodol, yn enwedig gyda datganoli trethi yn awr. Mae’n hanfodol fod gostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol yn cael eu mynegeio’n briodol ac yn gymesur er mwyn osgoi yr hyn a elwir yn wasgfa Barnett, sydd wedi bod yn broblem sylweddol yn y gorffennol, ond sy’n bygwth bod yn fwy o broblem yn y dyfodol os nad ydym yn cael y gostyngiadau hynny yn y grant bloc yn iawn.

Er ein bod yn parhau i edrych ymlaen at amser pan fydd fformiwla Barnett yn cael ei disodli, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dderbyn arian drwy fformiwla Barnett yn yr un modd â buddsoddiad y Llywodraeth mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan gynnwys trafnidiaeth a thai. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i graffu ar benderfyniadau buddsoddi Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi’n dryloyw ac i ddarparu gwelliannau i seilwaith Cymru.

Mae’r lwfans personol di-dreth wedi ei godi eto i gynorthwyo pobl sy’n gweithio ar draws y DU ac ar draws Cymru. Ledled y DU, mae hyn wedi torri trethi i 28 miliwn o bobl ers 2010, ac wedi golygu na fydd yn rhaid i 4 miliwn ychwanegol o bobl dalu treth incwm o gwbl. Bydd y lwfans personol yn cael ei godi hyd yn oed ymhellach i £12,500 erbyn diwedd Senedd bresennol y DU. Dylai hyn leihau’r bil incwm treth i dros 1 filiwn o bobl yng Nghymru yn 2017-18 a sicrhau y gall 61,000 o bobl roi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl.

Os caf droi, yn yr amser sydd gennyf ar ôl, at y cytundebau dinas, rwy’n meddwl y byddem i gyd yn derbyn bod angen i ni ddatgloi twf a chynhyrchiant rhanbarthol, ac mae cytundebau dinas yn allweddol i wneud hyn. Rydym yn croesawu cynnydd yn y trafodaethau ar gytundeb dinas ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, yr ystyriaeth o fargen twf ar gyfer gogledd Cymru a’r cytundeb dinas gwerth £1.2 biliwn ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd. Ceir cynnydd ar fargen twf y gogledd ac yn nes at adref, mae un o adeiladau eiconig Caerdydd, hen orsaf reilffordd Bae Caerdydd, yn mynd i fod yn amgueddfa meddygaeth filwrol newydd gyda £2 filiwn o gyllid. Gwn fod y Gweinidog blaenorol, Edwina Hart, wedi cefnogi hynny. Cefais drafodaethau gyda hi ynglŷn â hynny pan oedd yn Aelod o’r Cynulliad. Hefyd, £1 filiwn o arian ychwanegol i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ac £1.5 miliwn ychwanegol i Mind i ddarparu cymorth iechyd meddwl gwell i staff y gwasanaethau brys yng Nghymru a Lloegr.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch o fod wedi agor y ddadl hon heddiw. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn ei bod yn dal i fod yn adeg anodd iawn yn ariannol ac rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru waith anodd ei wneud. Fodd bynnag, mater o flaenoriaethau a gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael i chi yw Llywodraeth. Rydym yn credu bod datganiad yr hydref o leiaf yn gadael Cymru mewn sefyllfa well nag o’r blaen. Yr hyn sy’n bwysig yn awr yw ein bod yn achub ar y cyfle ger ein bron ac yn gwneud y gorau o’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ddatblygu ein seilwaith ac i adeiladu dyfodol gwell i bawb sy’n byw yn ein gwlad.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Jane Hutt i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le, gan ail-rifo yn unol â hynny:

2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a 2020-21.

3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben.

4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â dynodi HS2 fel prosiect seilwaith Lloegr yn unig.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch i fedru symud gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Plaid Cymru. Ac wrth gwrs, mae’r gwelliannau yma yn ffocysu yn benodol ar y pethau a adawyd mas o’r datganiad. Efallai ei fod yn rhyw fath o adlewyrchiad o bersonoliaeth wahanol y Canghellor yma. Mae yna ryw awgrym nad oedd am ddilyn y math o ymagwedd mwy theatrig a oedd gan y Canghellor blaenorol a chyhoeddi llwyth o bethau'r un pryd, felly roedd e eisiau, efallai, dal rhai pethau yn ôl. Rwy’n gobeithio, gyda rhai o’r pethau rwyf am eu codi mewn munud, mai dyna beth ddigwyddodd, ac na fyddwn ni’n gorfod aros yn rhy hir ar gyfer y cyhoeddiadau rydym am eu gweld.

Rydym ni’n cyfeirio yng ngwelliant 2, wrth gwrs, at drydaneiddio, nid yn unig y llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe, lle mae yna oedi, wrth gwrs, sy’n gwbl annerbyniol, ac sy’n mynd i effeithio, wrth gwrs, ar yr economi i’r gorllewin o Gaerdydd, ond hefyd trydaneiddio llinell gogledd Cymru. Yn y cyswllt yna, wrth gwrs, hefyd, mae’n beth gwael i weld nad oes cytundeb mai prosiect ar gyfer Lloegr yn unig ydy HS2 a dweud y gwir. Mae yna dystiolaeth gan KPMG sy’n awgrymu y bydd Cymru mewn sefyllfa waeth o ran cystadleurwydd ar ôl HS2, ac eto, oherwydd y ffordd mae wedi cael ei gategoreiddio, wrth gwrs, nid oes codiad Barnett o ran cyllid yn sgil hynny. Mae’n drist ofnadwy, a dweud y gwir. Cefais air gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â hyn yng nghinio’r CBI. Pam, unwaith eto, nad yw Cymru yn cael ei drin yn gydradd o ran y dreth teithwyr awyr? Nid oes yna ddim rhesymeg, nid oes yna ddim moeseg y tu ôl i’r penderfyniad, a dweud y gwir, pan mae Cymru ei angen, yn y cyfnod ôl-Brexit yma, sy’n fregus yn economaidd â’r holl ansicrwydd. Pam nad ydym ni’n cael chwarae teg? Dyna beth rydym ni’n gofyn amdano fe, wrth gwrs: yr un gallu ag sydd wedi cael ei roi i Ogledd Iwerddon a’r Alban.

Rwy’n ddiolchgar i Adam Price am ildio. Anghofiais sôn am y doll teithwyr awyr yn fy araith, ond rydych newydd gyfeirio ati, ac rydych yn gwneud pwynt dilys iawn, a byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ar y doll teithwyr awyr. Rwy’n credu y byddai’n adnodd pwysig iawn yng nghasgliad adnoddau Llywodraeth Cymru.

Wel, rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn, a dweud y gwir. Os ydy’r lle yma yn gallu siarad gydag un llais, rwy’n gobeithio’n wir y bydd y llais hwnnw’n cael ei glywed lawr yng nghoridorau Whitehall a San Steffan.

Yn olaf, ac i’r un perwyl, a dweud y gwir, rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth yn dod i hwn hefyd. Mae angen symud ymlaen, onid oes, gyda’r cyfle euraidd yma sydd gennym gyda’r morlyn morlanw—dyna y mae Dai Lloyd yn mynnu yw’r term Cymraeg ar gyfer ‘tidal lagoon’. Nid wyf yn siŵr a yw’n trio awgrymu rhywbeth sydd ddim cweit yn gwbl glir, ond rwy’n licio’r cyflythreniad, beth bynnag; mae hi bron yn gynganeddol. Mae’n rheswm arall dros gefnogi’r peth, a dweud y gwir. Mae Charles Hendry wedi cyflwyno ei adroddiad erbyn hyn i’r Ysgrifennydd Gwladol, felly mae’n rhaid nawr, rwy’n credu, inni symud ymlaen a gweld cyfle i Gymru gydio yn y cyfle yma.

Mae yna rai pethau yn y datganiad roeddwn i’n eu croesawu, a dweud y gwir: arian ychwanegol ar gyfer arloesedd, sydd wedi cael ei grybwyll gan yr Aelod sy’n llefaru ar ran y Torïaid—y cynnydd mwyaf, a bod yn gywir, mewn arian ar gyfer arloesedd ers 1979. Felly, mae yna £4.7 biliwn yn ychwanegol dros y cyfnod yma, a £2 biliwn yn ychwanegol erbyn 2020. Mae’n rhaid inni wneud yn siwr bod Cymru yn elwa ar y cyfle yma. Mae yna sôn am greu DARPA, sef y corff yn America a oedd wedi, wrth gwrs, arwain yn rhannol at Tim Berners-Lee yn dyfeisio’r we. Wel, beth am leoli’r corff hwnnw a fydd yn rhedeg y gronfa newydd ar gyfer heriau diwydiannol nid yn y de-ddwyrain o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond fan hyn, yma yng Nghymru?

Gan barhau tuedd y blynyddoedd diwethaf rhagwelir mai economi’r DU yw’r economi fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd eleni gyda rhagolwg twf o 2.1 y cant gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd yn rhagweld y bydd y diffyg yn gostwng i 3.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros eleni ac i 0.7 y cant yn 2021, yr isaf ers dau ddegawd, ac y bydd dyled fel cyfran o incwm cenedlaethol yn dechrau gostwng yn 2018-19 am y tro cyntaf ers 2001-02. Fodd bynnag, mae peiriant gwario Llywodraeth Lafur Cymru yn mesur llwyddiant yn ôl faint a wariwyd yn hytrach na pha mor dda y’i gwariwyd ac yn parhau i gwyno am galedi yn hytrach na chydnabod mai etifeddiaeth oedd hon nid dewis, yn cael ei diffinio gan faint o arian sydd gennych i’w wario. Nid oeddent yn cwyno pan aeth y Llywodraeth Lafur flaenorol ar drywydd rheoleiddio ariannol llai dwys gan anwybyddu blynyddoedd o rybuddion fod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyled eilaidd nag unrhyw le arall yn y byd. [Torri ar draws.] Gadawodd y Blaid Lafur y DU gyda’r diffyg ail uchaf ymysg gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’i diffyg cyllidebol uchaf erioed mewn cyfnod o heddwch. Maent yn dal i fethu â chydnabod, os oes gennych ddyled fawr, eich bod yn eiddo i rywun arall ac y byddai’r dewis arall yn cynhyrchu toriadau mwy. Fe ildiaf.

Diolch yn fawr iawn am ildio yno, yn wir, a hoffwn ddweud yn syml, yn ôl yn 2007-08 pan oeddwn yn Aelod Seneddol, rwy’n cofio sefyll gyda changhellor yr wrthblaid ar y pryd i gefnogi’r Llywodraeth Lafur am y ffordd roedd yn rheoleiddio. Roedd y ddwy ochr yn anghywir ar reoleiddio llai dwys. Roedd y ddwy ochr yn anghywir. Ond rhaid i mi dynnu sylw’r gŵr bonheddig at y ffaith fod canghellor yr wrthblaid ar y pryd, George Osborne, yn dweud mai dyma oedd y ffordd i gyflawni materion ariannol. Roedd yn anghywir, ac roeddem ninnau’n anghywir hefyd. Ond peidiwch â bwrw’r bai yn syml ar y blaid Lafur. Rwy’n meddwl bod y byd i gyd yn anghywir bryd hynny.

Pe baech wedi bod yma byddech wedi fy nghlywed yn rhybuddio yn 2004 ein bod yn wynebu dydd y farn fel rhywun a ddaeth o’r sector bancio cydfuddiannol a gwybod bod yna fom yn tician nad oedd yn cael sylw.

Mae’r Canghellor bellach wedi gallu mabwysiadu rheolau mwy hyblyg ar gyfer y diffyg yn y gyllideb, ond ni fuasai wedi gallu gwneud hynny heb ddisgyblaeth ar wariant ers 2010 ac oherwydd na fydd yn rhaid i ni fodloni gofyniad yr UE mwyach i gael y ddyled gyffredinol i lawr i 60 y cant o’r cynnyrch domestig gros ar ôl i ni adael. Felly, mae datganiad yr hydref wedi gallu cydnabod yr angen am ysgogiad pellach i leihau’r bil treth incwm i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru y flwyddyn nesaf gan olygu y gall 61,000 pellach o bobl yng Nghymru roi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl, gan sicrhau cynnydd o dros chwarter yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant seilwaith mewn termau real hyd at 2020-21 a thrafod opsiynau ar gyfer bargen twf â gogledd Cymru.

Aeth cynigion ar gyfer gwella trafnidiaeth ranbarthol a seilwaith economaidd y manylir arnynt mewn gweledigaeth twf ar gyfer economi gogledd Cymru a ddatblygwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Chynghrair Merswy Dyfrdwy a phartneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yr haf hwn. Ymatebodd Trysorlys y DU drwy ofyn i’r bwrdd uchelgais fynegi eu blaenoriaethau strategol ac i flaenoriaethu prosiectau ac ar hyn o bryd mae’r bwrdd yn gweithio ar hyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi fy nghwestiynau ynglŷn ag y mha fodd y mae wedi ymateb i’r alwad yn y ddogfen weledigaeth twf ar gyfer gogledd Cymru am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, y dywed y bydd yn rhoi hwb i’r economi, swyddi a chynhyrchiant, yn creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn cynyddu gwerth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035. 

Rhagamcenir y bydd economi’r DU yn parhau i dyfu gyda diweithdra, fel y clywsom, yn parhau ar ei lefel isaf ers 11 mlynedd. Er mai Cymru yw’r rhan sydd wedi bod yn tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain ers 2010, dechreuodd o’r safle isaf ac mae’r diolch i bolisïau disgyblaeth economaidd a ddilynwyd ers newid Llywodraeth y DU yn 2010. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad fod y flwyddyn yn cyd-daro. Gyda Llafur yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru, fodd bynnag, rydym yn dal i fod â’r lefelau uchaf o dangyflogaeth, diweithdra oedran gwaith a thlodi plant ym Mhrydain. Mae Cymru yn dal i gynhyrchu’r nwyddau a gwasanaethau isaf eu gwerth y pen o blith 12 cenedl a rhanbarth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi siarter ddrafft newydd ar gyfer cyfrifoldeb ariannol i sicrhau nad yw cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu llethu gyda ein dyled ac i adfer terfyn benthyca i greu ysgogiad yn ystod adegau o arafu.

Mae datganiad yr hydref yn manylu ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal disgyblaeth ariannol gan gydnabod yr angen i fuddsoddi i wella cynhyrchiant a chynnal twf economaidd. Mewn ymateb, dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain y bydd ei bwyslais ar ymchwil a datblygu a seilwaith lleol yn helpu busnesau ym mhob cwr o’r DU i fuddsoddi gyda mwy o hyder ar gyfer y tymor hir. Dywedodd Sefydliad y Cyfarwyddwyr fod hwn yn ddatganiad hydref synhwyrol a chymedrol, a dywedodd Siambrau Masnach Prydain na fydd ffocws cryf y Canghellor ar ofynion twf ein dinasoedd, ein rhanbarthau a’n gwledydd yn cael ei anwybyddu mewn cymunedau busnes ledled y DU. A yw’n ormod gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn lle tanseilio buddsoddiad a swyddi, yn cydnabod o’r diwedd fod ganddi gyfrifoldeb i geisio meithrin hyder yn yr economïau trefol a gwledig drwy groesawu a mynd ar drywydd polisïau sy’n gwella cynhyrchiant, cystadleurwydd a chydnerthedd? Diolch.

Weithiau byddaf yn meddwl fy mod mewn realiti swreal. Na foed i neb fod mewn unrhyw amheuaeth, felly, fod datganiad yr hydref hwn yn fwy o brawf eto, pe bai ei angen, fod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn trin Cymru fel ôl-ystyriaeth, gyda bron ddim i’w ddweud am yr heriau sylweddol sy’n wynebu ein gwlad.

Mae’r £436 miliwn ychwanegol i Gymru a gafodd ei ganmol yn fawr ac y clywsom lawer amdano i’w groesawu, yn sicr, ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ond canlyniad syml i fformiwla Barnett ydyw yn hytrach nag unrhyw arddangosiad go iawn o fwriad neu gefnogaeth i Gymru. Yn wir, mae’n werth nodi bod buddsoddiad seilwaith fel canran o’r cynnyrch domestig gros wedi parhau i ddisgyn o dan y Canghellor hwn.

Mae busnesau a chymunedau yng Nghymru angen sicrwydd gan y Canghellor. [Torri ar draws.] Os caf barhau am ychydig bach yn hirach. Sicrwydd ar ddyfodol prosiectau seilwaith fel morlyn llanw Abertawe, gwaith ar drydaneiddio ac ymrwymiad croyw i gefnogi buddsoddiad hanfodol ym metro de Cymru. Yn lle hynny, ni chawn ddim ond adleisiau a thawelwch gan y Canghellor ar y prosiectau pwysig hyn. Ac mae’n werth nodi ac yn berthnasol nad yw’r Canghellor wedi sôn dim am y gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr o gwbl, er ein bod wedi cael llithoedd ailadroddus gan y rhai gyferbyn ynglŷn â rhinweddau honedig y gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn wahanol i’r tawelwch hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi gwerth £240 miliwn yn rhagor yn 2017-18 i gwrdd â chostau cynyddol a gofynion cynyddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Pan oedd angen gweithredu go iawn ar bobl Cymru, y cyfan rydym wedi’i gael gan Lywodraeth Dorïaidd y DU oedd ailadrodd ailgyhoeddiadau a distawrwydd. Mewn gwirionedd, ychydig iawn yn natganiad yr hydref fydd yn gwella bywyd i bobl yng Nghymru, yn sicr nid i’r rhai sy’n dioddef yn sgil toriadau i daliadau annibyniaeth personol, anabledd a budd-daliadau mewn gwaith, dyledion mawr a chyflogau disymud. Yn sicr, mae paragraff 2 o gynnig y Ceidwadwyr yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi’r cyflog byw cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac enillion ar draws y DU, ond mae’r cyflog byw cenedlaethol ar gyfer 2017 yn is na’r hyn a ddaroganwyd gwta wyth mis yn ôl, er bod yn rhaid i mi rybuddio’r Aelodau i fod yn ofalus iawn gyda’r diwygiad i ddiwygiad i ddiwygiad i dargedau’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y maent yn glynu atynt.

Rwy’n derbyn eich pwynt am y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi darogan hefyd fod y cynnydd bach gryn dipyn yn is na’r hyn y byddai gofyn ei gael hyd yn oed ar eu ffigurau hwy i fod yn gyflog byw go iawn, ac yn llawer is na’r hyn y mae’r Blaid Lafur yn ymrwymo i’w gyflwyno.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod gyferbyn. Rwy’n credu ei bod yn bryd i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol edrych ar ei diwygiadau a’r modd y mae’n diwygio ei diwygiadau yn rheolaidd iawn. Ni fuaswn yn eu cymryd fel mesur.

Felly, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld cyflog byw cenedlaethol o £7.60 yr awr yn 2017. Mae cynnig y Ceidwadwyr ei hun yn nodi y bydd 10c yn is ar £7.50. Mae hyn yn mynd i gostio dros £200 y flwyddyn ar gyfartaledd i’r sawl sy’n derbyn y cyflog byw cenedlaethol. Bydd y rhai nad ydynt yn gallu fforddio bod ar eu colled unwaith eto ar eu colled. Nid yn unig fod cyhoeddiad y Llywodraeth, felly, yn is nag y mae angen iddo fod i gyd-fynd â’u hymrwymiad eu hunain i £9 erbyn 2020, mae’n is na’r cyflog byw gwirioneddol o £8.45. Mae’n hollol wir, ond ar yr un pryd yn gywilyddus fod caledi aflwyddiannus y Torïaid wedi cynhyrchu economi yn y DU sy’n seiliedig iawn ar gyflogau isel, lefelau isel o fuddsoddi, dyledion mawr a chynhyrchiant sy’n aros yn ei unfan. Mae’r twf cyflog cyfartalog ar ei isaf ers y 1900au yn ôl Sefydliad Resolution. Dyna realiti datganiad yr hydref hwn.

Mae’r Blaid Lafur yn credu mewn cyflog llawn a phriodol am ddiwrnod o waith, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gyflwyno cyflog byw go iawn statudol. [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, fe fuaswn, ond nid oes gennyf amser o gwbl i orffen fy mhwynt. Bydd Llafur yn atal malltod cyflogau isel drwy greu corff annibynnol newydd i adolygu cyflog byw er mwyn argymell cyflog byw blynyddol go iawn. Ac o dan Lywodraeth Lafur nesaf y DU, byddwn yn ymdrechu i sicrhau y bydd gan bawb ddigon i fyw arno.

Yn olaf, hoffwn ganolbwyntio ar ddull amgen Llywodraeth Cymru o weithredu. Er gwaethaf toriad o 8 y cant mewn termau real i’w chyllideb gyffredinol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf caledi parhaus ac ansicrwydd cyllidol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud hyn er mwyn lliniaru ac arloesi yn erbyn toriadau gwaethaf y DU sydd i ddod.

Mae Llafur Cymru yn y llywodraeth wedi dangos bod yna ffordd wahanol yn lle’r obsesiwn aflwyddiannus gyda chaledi y mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn ei ddilyn yn ddiamod. Mae wedi bod yn ddrwg i dwf, yn ddrwg i gyflogau, yn ddrwg i ddyled ac yn ddrwg i bobl y DU.

Yn olaf, mae’n iawn dweud bod gan Lywodraeth Lafur Cymru flaenoriaethau gwahanol i’r Torïaid yn Lloegr lle y gwelwyd bod toriadau enfawr i gyllidebau llywodraeth leol, y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd eisoes yn achosi anhrefn ac yn mynd i greu problemau enfawr ar gyfer y dyfodol ac i’r rhai sydd angen defnyddio’r gwasanaethau cyhoeddus hyn yn awr. Mae’n iawn datgan ei fod yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn fwy diogel yn nwylo Llafur. Gyda phob parch, rwy’n cynnig bod cymhariaeth rhwng datganiad yr hydref Llywodraeth Dorïaidd y DU a chyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru yn dangos yn llwyr fod ffyniant ein pobl yn fwy diogel yn nwylo Llafur Cymru. Diolch.

Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar ddatganiad yr hydref y Canghellor. Bydd fy nhôn yn wahanol iawn yn wir i’r siaradwr diwethaf sydd i’w weld fel pe bai eisiau bychanu Cymru. Mae’n ymddangos fod y gwydr yn hanner gwag i’r siaradwr diwethaf—

O na, yn hollol wag, yn bendant. Nawr, rwy’n croesawu buddsoddiad y DU yn nyfodol economaidd Cymru drwy gynnydd o £400 miliwn mewn cyllid cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r arian hwn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £500 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ei fenthyca i’w fuddsoddi hefyd o 2018, symudiad y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud y gallai agor y drws ar gynnydd mawr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fenthyca a thalu am rai o’r prosiectau seilwaith mawr eu hangen ar draws Cymru. Fy marn i yw—

Diolch. Mae’n eithaf clir o ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 4.4 y cant o’n gwariant cynnyrch domestig gros wedi mynd ar seilwaith o dan y Llywodraeth Lafur, ac yna aeth i lawr i 3.3 y cant, yna aeth i lawr ymhellach i 2 y cant rhwng Osborne a Phillip Hammond ar hyn o bryd.

Rydych yn parhau i fod â ‘gwydr hollol wag’. Er gwaethaf y rhagolwg tywyll, mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn gorffen 2016 gyda diweithdra is nag erioed—[Torri ar draws.]

Rydym yn gorffen 2016 gyda diweithdra is nag erioed, yn sylweddol is na chyfartaledd yr UE, a gydag economi Prydain ar y trywydd i dyfu’n gynt na gwledydd eraill y G7. Fy marn i yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi’r flaenoriaeth i wella ein seilwaith, yn enwedig o ganlyniad i adael yr UE. Yn wir, o ganlyniad i’r sicrwydd cyllid y mae’r Canghellor wedi ei ddarparu, gall Llywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol ac achub ar y cyfleoedd ar gyfer Cymru yn ystod y flwyddyn i ddod ac mae pob rheswm, rwy’n credu, dros fod yn hyderus ynglŷn â’r rhagolygon i Gymru yn 2017.

Ond rwy’n cytuno â Nick Ramsay a Huw Irranca-Davies: ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon.

Esgusodwch fi, a allwn roi’r gorau i gael sgwrs rhwng arweinydd y Ceidwadwyr a’r fainc flaen yn y fan honno a gwrando ar yr hyn sydd gan Mr George i’w ddweud, os gwelwch yn dda? Mae’n ddrwg gennyf—parhewch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, wedi crybwyll hefyd fod datganiad yr hydref yn nodi’r sylfeini cyllido cadarn ar gyfer buddsoddi yn ein ffyrdd a’n hysgolion a’n hysbytai i wella twf, wrth gwrs, a chynnal yr economi hefyd. Nawr, ar seilwaith digidol megis band eang ffibr a phumed genhedlaeth—mae hon yn un o fy mhregethau, rwy’n gwybod—mae datganiad yr hydref yn paratoi’r ffordd i gartrefi a busnesau elwa ar fwy o gysylltedd a thechnolegau newydd drwy gronfa seilwaith digidol o £400 miliwn a £740 miliwn pellach i dreialu rhwydweithiau symudol 5G cyflym iawn. Nawr, mae Llywodraeth Cymru bob amser i’w gweld yn llusgo ar ôl ar hyn mewn perthynas â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Maent i’w gweld ar ei hôl hi drwy’r amser ar y mater hwn. Bydd y cyllid ychwanegol yn mynd ymhell i helpu o ran Llywodraeth Cymru. Nid oes gan Lywodraeth yr Alban unrhyw bwerau ychwanegol i’r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn, ac eto maent wedi rhoi cynllun gweithredu symudol at ei gilydd sy’n eu rhwymo i gydweithio â’r diwydiant telathrebu. Nid yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi meddwl am gynllun tebyg eto. Felly, rwy’n meddwl hefyd fod angen i ni gefnogi ein busnesau bach a chanolig eu maint.

Yn ystod etholiadau’r Cynulliad, addawodd Llafur ddileu ardrethi busnes yn gyfan gwbl. Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud, mae hwnnw’n addewid gwych—rwy’n ei gefnogi’n llawn—ond nid yw wedi cael ei gyflwyno eto, wrth gwrs. Mae’r pwerau wedi cael eu datganoli ar gyfer ardrethi busnes ers 2013 ac eto rydym yn dal i aros am system barhaol o gymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Hefyd, mae yna £16 miliwn ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf mewn cyllid adnoddau y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar ardrethi busnes a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r pŵer i bennu ardrethi busnes, rwy’n meddwl, yn un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gan Lywodraeth Cymru i gael yr economi i symud. Rydym wedi clywed nifer o faterion yn ymwneud â Sir Fynwy a fy etholaeth fy hun mewn perthynas â busnesau sy’n dioddef yno.

Felly, wrth i mi gloi, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud bod digon o gyfleoedd ar gael, ond nid wyf am iddynt aros yn gyfleoedd; rwyf am iddynt ddod yn gyfleoedd, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n wir ar gyfer economi Cymru yn 2017.

Rwy’n gwerthfawrogi tôn optimistaidd yr araith flaenorol. Gallwn gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, ond rwyf am ganolbwyntio ar welliannau Llafur mewn gwirionedd, yn arbennig gwelliant 3, gan fod hwn yn fantra a glywn mewn nifer o ddadleuon yn y lle hwn, am y polisi caledi honedig ddifrodus hwn. Wel, beth yw caledi yn yr amgylchiadau presennol? Mae’r geiriadur yn diffinio ‘austerity’ fel ‘sternness or severity of manner or attitude’, yn debyg iawn i’r araith a glywsom gan Rhianon Passmore yn gynharach, efallai—nid wyf yn gwneud sylwadau ar ei chynnwys, arddull y cyflwyno rwy’n ei olygu. Ond y cyfan y mae caledi’n ei olygu, mewn gwirionedd, yn y cyd-destun hwn, yw byw o fewn eich gallu. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni i gyd ei wneud mewn bywyd preifat ac eto dyna beth nad yw Canghellor presennol y Trysorlys yn ei wneud, gan ein bod wedi cael diffyg yn y gyllideb rhwng mis Ebrill a mis Awst eleni o £33.8 biliwn yn erbyn rhagolwg ym mis Mawrth ar gyfer y flwyddyn gyfan o £55.5 biliwn. Mae’r Canghellor wedi methu ei darged ar gyfer gostwng gwariant a hynny o gryn dipyn. Mewn gwirionedd, rydym yn gorwario £6.5 biliwn y mis—dyna £80 biliwn y flwyddyn ac mae hynny’n gyfwerth â 5 y cant o’n hincwm cenedlaethol. Mae’n eithaf clir na all hynny barhau am gyfnod amhenodol.

Roedd yna adeg, wrth gwrs, pan oedd Llywodraethau Llafur wedi ymrwymo i gyllideb gytbwys. Roedd gweinyddiaeth Blair, rhwng 1997 a 2001, yn fodel o ddoethineb ariannol, oherwydd, wrth gwrs, roeddent yn dilyn cynlluniau Kenneth Clarke yn y Llywodraeth flaenorol. Ond ar ôl etholiad cyffredinol 2001, wrth gwrs, cafodd y breciau eu tynnu oddi ar y trên a glaniodd y droed yn gadarn ar y sbardun, ac yn hytrach na chynnal gwargedion ar y cyfrif cyfredol, sef yr hyn a ddigwyddai yn y blynyddoedd hynny, aeth popeth yn gyflym am yn ôl.

Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. Mae’n iawn fod angen i ni, yn y pen draw, os nad sicrhau cydbwysedd yn gyfan gwbl, o leiaf symud tuag at strwythur mwy cytbwys o fewn y trefniadau ariannol. Ond a yw’n rhannu fy mhryder yn y cyfnod hwn o dynhau gwregysau, y bydd y twf mewn anghydraddoldeb cyfoeth rhwng y rhai ar y brig sydd i’w gweld wedi gwneud yn eithriadol o dda—a bydd y data i gyd yn dangos hynny—a’r rhai ar y gwaelod sydd wedi cael eu cosbi, a dyna yw problem caledi—methu sicrhau cydbwysedd, ond cydbwyso caledi ar gefn y rhai sydd leiaf tebygol o allu ei fforddio?

Byddwn yn dweud mai dyna un o’r rhesymau dros lwyddiant cymharol UKIP mewn gwirionedd—gwireddu hynny. Rwy’n meddwl ei fod yn sicr yn un o’r rhesymau pam mai Donald Trump fydd Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau—teimlad pobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn sgil globaleiddio—ac nid yw hynny’n rhywbeth sy’n mynd i fod yn hawdd iawn ymdrin ag ef.

Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar y cwestiwn hwn o’r hyn y mae caledi yn ei olygu a beth, felly, yw ein rhyddid i weithredu i godi refeniw treth i’w wario ar yr holl bethau da y byddem yn hoffi gwario arnynt. Y ffaith amdani yw bod y ddyled genedlaethol wedi dyblu yn y 13 mlynedd roedd Gordon Brown naill ai’n Ganghellor y Trysorlys neu’n Brif Weinidog, ond yn anffodus, dyblodd eto yn ystod y pum mlynedd roedd George Osborne yn Ganghellor y Trysorlys. O ddyled genedlaethol o £350 biliwn yn 1997, eleni mae’n £1.6 triliwn, ac yn awr mae hynny’n 85 y cant o’n cynnyrch domestig gros. Felly, gosododd y Canghellor blaenorol nod i fantoli’r gyllideb erbyn 2015, yna cafodd ei symud i 2020, ac mae’r Canghellor presennol bellach wedi troi ei gefn ar y targed hwnnw’n gyfan gwbl. Mae’r llog ar y ddyled sy’n cael ei dalu, hyd yn oed ar y cyfraddau llog presennol, yn £50 biliwn y flwyddyn. Dyna arian y gellid ei wario’n well ar y gwasanaeth iechyd neu unrhyw un o’r pethau da eraill y byddem yn hoffi gweld yr arian yn cael ei wario arnynt, ond os ydym yn parhau i fenthyca o dan yr argraff fod yna goeden arian fawr allan yno i ni allu casglu ei ffrwythau, yna mae gennyf ofn fod y llog ar y ddyled yn mynd i dyfu fel cyfran o wariant y Llywodraeth a bydd gwasgfa hyd yn oed yn fwy ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nid sylweddoliad gwyrthiol ar fy rhan yw hyn. Mae llawer o Lywodraethau eraill wedi mynd i sefyllfa lle nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond gorfodi caledi. Rwy’n ddigon hen i gofio’r Llywodraeth Lafur yn y 1970au, ac rwy’n cofio Jim Callaghan, y cyn Aelod dros Dde-ddwyrain Caerdydd, a ddywedodd mewn araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn 1976,

Roeddem yn arfer meddwl y gallech wario eich ffordd allan o ddirwasgiad, a chynyddu cyflogaeth drwy... roi hwb i wariant y Llywodraeth. Rwy’n dweud wrthych yn hollol onest nad yw’r opsiwn hwnnw yn bodoli mwyach, ac i’r graddau ei fod wedi bodoli erioed, yr unig ffordd y gweithiai ar bob achlysur... oedd drwy chwistrellu dos fwy o chwyddiant i mewn i’r economi, wedi’i ddilyn gan lefel uwch o ddiweithdra fel y cam nesaf.’

Yn wir, nid oes rhaid i ni fynd yn ôl mor bell â Jim Callaghan, oherwydd gallwn ddarllen geiriau Alistair Darling, a dyma’r frawddeg neu ddwy olaf y byddaf yn eu dweud yn yr araith hon. Ar 24 Mawrth 2010, pan ofynnodd y BBC iddo sut roedd ei gynlluniau fel y Canghellor Llafur ar y pryd yn cymharu ag ymgais Margaret Thatcher i leihau maint y wladwriaeth, atebodd Alistair Darling,

Byddant yn ddyfnach ac yn fwy llym—mae lle rydym yn gwneud yr union gymhariaeth... yn eilaidd i... gydnabod y bydd y toriadau hyn yn anodd.

Rwy’n ofni nad oes dianc rhag realiti yn y pen draw.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae’n rhoi cyfle i dynnu sylw at y trawsnewid sydd wedi digwydd yn economi’r Deyrnas Unedig, diolch i bolisïau’r Llywodraeth Geidwadol hon yn Llundain. Gadawodd Llafur etifeddiaeth economaidd ddigalon ar ei hôl: roedd Prydain wedi dioddef y dirwasgiad dyfnaf ers y rhyfel, cawsom y diffyg strwythurol ail fwyaf o blith unrhyw economi ddatblygedig yn y byd, ac roedd diweithdra wedi cynyddu bron 0.5 miliwn. Roedd yn rhaid i’r Llywodraeth newydd wneud asesiadau realistig am gyflwr economi Prydain. Roedd hyn yn golygu gwneud y penderfyniadau anodd oedd eu hangen i leihau’r diffyg ac i reoli gwariant.

Diolch i’w cynlluniau economaidd hirdymor, mae gan Brydain economi gref sy’n tyfu bellach. Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol, gan y DU y mae’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7 eleni. Mae cyflogaeth 2.8 miliwn yn uwch er pan oedd Llafur mewn grym, ac mae diweithdra wedi gostwng i lefel is nag y bu ers 11 mlynedd. Mae’r diffyg ddwy ran o dair yn llai a bydd y ddyled fel cyfran o incwm cenedlaethol yn dechrau lleihau yn 2018-19.

O ganlyniad, mae Llywodraeth y DU wedi helpu teuluoedd cyffredin sy’n gweithio i gadw mwy o’r hyn y maent yn ei ennill. Mae codi’r lwfans personol di-dreth—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen ychydig o bethau. Os oes gennyf amser, byddaf yn gadael iddynt. Mae codi’r lwfans personol di-dreth wedi torri treth, mewn gwirionedd, i fwy na 28 miliwn o bobl, ac mae 4 miliwn o bobl wedi gallu rhoi’r gorau i dalu treth yn gyfan gwbl. Mae’r cyflog byw cenedlaethol yn codi i £7.50 yr awr o’r flwyddyn nesaf, gan roi codiad cyflog pellach i 1.3 miliwn o bobl. Mae’r dreth ar danwydd wedi cael ei rhewi am y seithfed blwyddyn yn olynol, gan arbed bron £130 ar gyfartaledd i yrwyr ceir a dros £350 y flwyddyn i yrwyr faniau.

Yma yng Nghymru, rydym ni hefyd wedi gweld manteision y trawsnewidiadau economaidd hyn. Maent wedi caniatáu i Lywodraeth y DU fuddsoddi swm digynsail o arian yng Nghymru. Mae gennym eisoes y rhaglen seilwaith rheilffyrdd fwyaf ers oes Fictoria. Mae trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rhwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â record y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, nad aeth ati i drydaneiddio un fodfedd sengl o drac yng Nghymru mewn 13 mlynedd.

Buddsoddi mewn trydaneiddio’r rheilffyrdd yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o dyfu’r economi yng Nghymru. Bydd datganiad yr hydref yn galluogi Llywodraeth Cymru i elwa ar hwb i gyllidebau cyfalaf o dros £400 miliwn. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gryfhau’n fawr ac arallgyfeirio economi Cymru. Yn ddiweddar, cadarnhaodd Gerry Holtham—gwrandewch ar y bobl ar yr ochr hon, yn awr—nad yw Cymru’n cael ei thanariannu mwyach. Dyna gau ei ddyfyniad. Ni all Llywodraeth Cymru daflu’r baich mwyach a beio San Steffan am eu methiant i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen yn ddirfawr ar Gymru. Gobeithio y gallwn symud ymlaen â ffordd liniaru’r M4, sydd ei hangen yn ddirfawr i liniaru tagfeydd ar y brif wythïen hanfodol hon yn economi Cymru.

Rwyf hefyd am ddweud rhywbeth am yr ardoll prentisiaeth. Rwy’n gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu ymrwymo i ailfuddsoddi’r arian hwn i wella hyfforddiant prentisiaeth. Dyma arian a roddwyd gan fusnesau, ac mae’n hanfodol ei fod yn cael ei ailfuddsoddi mewn hyfforddiant. Mae grwpiau fel Consortiwm Manwerthu Cymru wedi mynegi eu siom fod Llywodraeth Cymru’n edrych ar symiau canlyniadol yr ardoll fel ffrwd refeniw’n unig. Gellid eu defnyddio i hybu a gwella hyfforddiant sgiliau i bobl, yn enwedig y rhai yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, megis de-ddwyrain Cymru. Lywydd, rwy’n croesawu datganiad yr hydref, sy’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfleoedd o’n blaenau, mewn ffordd sy’n adeiladu economi sy’n trawsnewid Cymru ac o fudd i bobl Cymru. Yn olaf, rydym newydd glywed, oherwydd ein Llywodraeth yn Llundain, fod holl safleoedd Tata yn y DU yn mynd i aros ar agor, ac ni fydd unrhyw ddiswyddiadau yn y dyfodol. Diolch.

Cafwyd ychydig o feirniadaeth heddiw ynglŷn â rhai ar yr ochr hon i’r Siambr sydd wedi bod ychydig yn besimistaidd wrth siarad—y gwydr hanner llawn ac yn y blaen. Wel, rwy’n mynd i siarad y prynhawn yma dros y bobl y mae’r gwydr, yn wir, yn hanner gwag. Pan fydd gwleidyddion fel ni yn meddwl tybed pam y mae pobl yn gwrthdaro yn erbyn y sefydliad, rwy’n meddwl, weithiau, fod yr ateb yn glir o’n blaenau. Fel y crybwyllodd Adam Price ddoe, pan fydd Llywodraethwr Banc Lloegr—cadarnle’r sefydliad; pinacl sefydliadau cyfalafiaeth; meistri gwreiddiol y bydysawd—yn dweud ein bod yn wynebu’r degawd coll cyntaf ers y 1860au, neu fel y dywedodd, degawd coll a welwyd ddiwethaf pan oedd Karl Marx yn sgriblo yn y Llyfrgell Brydeinig, byddai’n well i ni gymryd sylw oherwydd bydd hanes yn sicr o wneud. Dywedodd Carney wrth y gynulleidfa ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl:

Rydym yn cyfarfod heddiw yn ystod y degawd coll cyntaf ers y 1860au... Yn hytrach nag oes aur newydd, mae globaleiddio’n gysylltiedig â chyflogau isel, cyflogaeth ansicr, corfforaethau heb wladwriaeth ac anghydraddoldebau trawiadol.

Dyna broblem y gwydr hanner gwag. Soniwyd am gyfleoedd, ond i lawer o bobl, nid ydynt yn gweld unrhyw gyfleoedd. Dywedodd nad yw’r economeg o’r brig i lawr a ffefrir gan rai ar y dde yn gweithio, ac er bod masnach yn gwneud rhai gwledydd yn well eu byd—ac yn fy ngeiriau fy hun, rhai pobl yn well eu byd a rhai corfforaethau yn well eu byd—dywedodd nad yw’n codi’r cychod i gyd ac aeth ymlaen i alw am ailddosbarthu cyfoeth cyfyngedig. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd yr araith a ddaeth yn enwog yn syth yn Lerpwl, yn mynd i lawr mewn hanes fel y foment pan edrychodd cyfalafiaeth ddigyfyngiad y farchnad rydd yn y drych a gweld rhywbeth hyll a hollol ffiaidd. A dyma yw’r cefndir i ddatganiad yr hydref.

A yw datganiad yr hydref yn helpu i wrthdroi’r argyfwng hwn? A yw’n stacio’r cardiau o blaid gweithwyr cyffredin, yr henoed bregus, yr ifanc? A yw’n ailgysylltu ein gwleidyddiaeth a’n heconomeg â’r bobl rydym yn eu cynrychioli? Wel, rydym i gyd yn gwybod bod gweithwyr yn awr yn wynebu ergyd ddwbl yn eu safonau byw sef llai o godiad cyflog a chwyddiant uwch y flwyddyn nesaf. Ers y rhan fwyaf o ddegawd, rydym wedi gweld twf economaidd yn cael ei ddal yn ôl—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn eiliad—twf cynhyrchiant ar lefelau isel iawn, a thwll du hyd yn oed yn fwy, fel y dywedwyd, mewn cyllid cyhoeddus. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi diwygio cyflogau, twf a buddsoddiad i lawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, tra bo’r diffyg ariannol a’r ddyled wedi cael eu diwygio i fyny. Ym mhob dangosydd rydym yn mynd i’r cyfeiriad anghywir. Erbyn hyn, disgwylir i incwm gwario aelwydydd dyfu ar gyfradd arafach na’r hyn a ddisgwylid yn flaenorol. Fe ildiaf iddo, ar bob cyfrif.

A wnaiff yr Aelod Cynulliad gydnabod y ffaith fod mewnfudo torfol yn ffactor enfawr yn gostwng cyflogau’r gwaethaf eu byd mewn cymdeithas? Y bobl hynny sy’n talu pris am y 330,000 o bobl y flwyddyn sy’n dod i’r wlad hon heb unrhyw sgiliau, ac maent yn cymryd swyddi’r gwaethaf eu byd yn ein cymdeithas.

Na, dyna bwynt lle rydym yn anghytuno. Gallwn ymdrin â chamfanteisio ar weithwyr drwy ymdrin â chamfanteisio ar yr holl weithwyr. Gallwn ymdrin mewn ffordd briodol, mewn ffordd resymol, â mudo dan reolaeth ac wedi’i reoli’n dda. Ond gadewch i ni beidio â rhoi’r bai am yr holl ddrygau a amlygodd Mark Carney a sylwebwyr gwybodus eraill ar fewnfudwyr. Os gwelwch yn dda. Cawsom ddigwyddiad mawr heddiw, allan yma, gyda ffoaduriaid sydd yma, yn bresennol yng Nghymru. Gadewch i ni beidio â rhoi’r bai am holl ddrygau’r byd arnynt hwy, gan fod drygau’r byd yn deillio o’r ffordd y mae gennym economi anghytbwys lle y mae’r cyfoethog iawn yn elwa, a lle yr edrychir ar ôl y rhai cefnog iawn. Yn rheolau’r gêm ac yn natganiad yr hydref maent yn elwa. Y tlotaf mewn cymdeithas a’r tlotaf yn eich etholaeth chi a minnau ac eraill, sy’n cario’r baich hwn. Nid bai’r mewnfudwyr yw hyn, ond y ffordd rydym yn trefnu rheolau’r gêm.

Nawr, buaswn wedi hoffi—[Torri ar draws.]

Na, oherwydd mae fy amser yn brin, Lywydd. A gaf fi ddweud—mae fy amser yn mynd i ddod i ben fan hyn—ein bod yn gwybod nad oes disgwyl i enillion cyffredinol gwirioneddol godi mwy na £23 yr wythnos rhwng 2015 a 2020? Mae hyn yn golygu y bydd y cyflog blynyddol cyfartalog £1,000 yn is yn 2020 nag a ragwelwyd wyth mis yn ôl yn unig. I’r bobl hynny, mae’r gwydr yn hanner gwag neu hyd yn oed yn waeth.

Buaswn wedi hoffi i’r Canghellor newydd a’r Prif Weinidog newydd fod wedi defnyddio eu datganiad hydref cyntaf i newid yr ymagwedd tuag at effaith anghymesur polisïau’r Llywodraeth ar fenywod, ar leiafrifoedd ethnig, ac ar bobl anabl. Ond yn hytrach, mae rhywfaint o ailwampio wedi bod, ac maent wedi gwrthod cynhyrchu asesiad priodol o effaith eu polisïau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn awr ar y grwpiau hynny. Nid yw cyllideb y Canghellor yn rhoi fawr ddim i fenywod, sydd wedi dioddef y gwaethaf o’r math hwn o bolisi. Dywedodd Dr Eva Neitzert, cyfarwyddwr y Grŵp Cyllideb Menywod—

Cyn datganiad yr hydref cawsom addewid o gamau gweithredu i helpu’r rhai sydd prin yn ymdopi.

Y JAMs—ymadrodd y dydd.

Er bod y cynnydd yn yr isafswm cyflog a’r gostyngiad yn y tapr credyd cynhwysol i 63c yn bethau i’w croesawu, diferyn yn y môr ydynt o gymharu â’r toriad o rhwng 18 ac 20 y cant yn y safonau byw y bydd menywod a’r teuluoedd tlotaf yn ei wynebu erbyn 2020 oherwydd toriadau i fudd-daliadau, credydau treth a gwasanaethau ers 2010.

Gallwn fynd ymlaen, ond mae fy amser wedi dod i ben. A gaf fi ddweud hyn? Galwodd Llywodraethwr Banc Lloegr yn yr araith yn Lerpwl ar wleidyddion i ddatblygu system o dwf cynhwysol lle y mae gan bawb gyfran ynddi. Roedd datganiad yr hydref yn gyfle i rannu elw twf yn well, neu o leiaf i rannu poen caledi yn fwy cyfartal. Mae’n gyfle a gollwyd ac mae fy etholwyr, a llawer o etholwyr yr Aelodau yma heddiw, wedi cael eu condemnio i fwy o’r un peth, a mwy o’r boen. I lawer ohonynt, mae’r gwydr yn wir yn hanner gwag, os nad yn hollol wag.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw. Mae’n rhoi cyfle i ni ymateb i’r hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel cyfle a gollwyd gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig ar ddiwrnod datganiad yr hydref yn nodi’r goblygiadau i Gymru. Cafodd gyfle yn y Siambr ddoe hefyd i glywed beth y mae datganiad yr hydref yn ei olygu i gyllideb Cymru a’n cynlluniau gwariant yn y dyfodol. Ond rwy’n meddwl bod y ddadl heddiw yn rhoi cyfle arall—ac mae’n amlwg fod hynny wedi ei ddangos y prynhawn yma—i fyfyrio ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar Gymru.

Rydym wedi cael bron i ddegawd o bolisïau caledi Llywodraeth y DU, ac mae’n amlwg nad ydynt yn gweithio. Ochr yn ochr â datganiad yr hydref, fel y dywedwyd y prynhawn yma, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol wedi israddio llawer o’i rhagolygon allweddol ar gyfer gweddill y Senedd hon, ac nid yw’r dyfodol yn addo gwelliant mawr. Gallwn edrych ymlaen at gyllideb yn parhau mewn diffyg tan ar ôl diwedd y Senedd hon, gyda fawr ddim gwelliant mewn safonau byw, os o gwbl. Os rhywbeth, gallwn ddisgwyl cynnydd mewn chwyddiant, pwysau parhaus ar ddyfarniadau cyflog a dirywiad parhaus yn y safonau byw. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae caledi wedi dyfnhau anghydraddoldebau.

Os dilynwch wedyn y pwyntiau pwerus a wnaed gan Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr—hoffwn innau hefyd ailadrodd rhai o’r pwyntiau a wnaeth yn Lerpwl. Dywedodd mai twf gweddol yn unig a gofnodwyd ar gyfer y DU yn yr economi a fawr ddim twf o gwbl mewn cynhyrchiant. Yn y cyfamser, mae’r diffyg yn y gyllideb yn parhau a dyled y Llywodraeth wedi cynyddu’n aruthrol. Siaradodd am yr effaith ar fywydau pobl, fel y mae Huw Irranca-Davies wedi gwneud heddiw, a dywedodd:

O gyfuno’r effaith â chynnydd isel mewn incwm ac wedi’i gwreiddio mewn anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau, nid yw’n syndod fod llawer yn cwestiynu eu rhagolygon.

Ond rydych chi’n iawn, Nick Ramsay, wrth gynnig y cynnig hwn, mai un maes sy’n cynnig rhywfaint o addewid yw’r hwb i fuddsoddiad yn y seilwaith—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wrth gwrs wedi bod yn dadlau’n gryf drosto ers nifer o flynyddoedd. Byddwn yn gwneud defnydd da o’r cyfalaf ychwanegol o £442 miliwn rhwng 2016-17 a 2020-21. Mae’r chwystrelliad yn mynd beth o’r ffordd i adfer y toriadau y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud i’n cyllideb gyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bydd ein cyllideb gyfalaf yn dal i fod 21 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag yr oedd yn 2009-10.

Mae’n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar y cyfle i roi terfyn ar galedi. Mewn cyfnod o chwyddiant cynyddol gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, gadewch i ni edrych ar y newidiadau i’n cyllideb refeniw. £35.8 miliwn ychwanegol rhwng 2016-17 a 2019-20—bach iawn. Nid yw’n dechrau gwneud iawn am y toriadau dwfn rydym wedi’u gweld i’n gwariant cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf. Ac erbyn diwedd y degawd, bydd ein refeniw DEL wedi gweld toriad o 8 y cant mewn termau real, sy’n cyfateb i oddeutu £1 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar ben hynny, fel y buom yn trafod ddoe, mae £3.5 biliwn o doriadau yn ein haros ar gyfer 2019-20, gan fygwth mwy o doriadau i gyllideb Cymru. Mae hyn yn parhau’r ansicrwydd rydym yn ei wynebu ar adeg pan fo darparu sefydlogrwydd a sicrwydd yn bwysicach nag erioed.

A beth am feysydd allweddol eraill lle rydym wedi bod yn chwilio am gynnydd—gyda’n gilydd, fe fyddwn yn dweud, ar draws y Siambr hon—i helpu i symud ein heconomi yn ei blaen? Rwy’n cytuno gydag Adam Price, wrth i chi gynnig eich gwelliant; mae’n siomedig na chafodd y mentrau a’r dulliau allweddol hynny, megis datganoli’r doll teithwyr awyr a phwysigrwydd morlyn llanw Abertawe, eu cefnogi yn natganiad yr hydref—cyfle arall a gollwyd. Ni ddywedwyd dim, ond rwy’n croesawu’r ffaith fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ein galwad, fel y gwnaethant yn y comisiwn Silk trawsbleidiol. Mae cefnogaeth i’r alwad ar draws y Siambr hon ac ar draws y pleidiau, am ddatganoli’r doll teithwyr awyr.

Bob amser, pan fyddwn yn siarad gyda llais unedig, mae gennym achos cryfach, mwy pwerus, i gefnogi Mark Drakeford wrth iddo gael ei drafodaethau hollbwysig—fel y dywedwch, Nick Ramsay, o ran y fframwaith cyllidol—a dadlau wrth gwrs, fel y mae’n gwneud heddiw mewn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop ar ein hanghenion o ran effaith Brexit.

Cyn datganiad yr hydref, ysgrifennodd Mark Drakeford at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i forlyn llanw bae Abertawe ac rwy’n falch fod cytundeb dinas Abertawe a bargen twf gogledd Cymru wedi cael eu cydnabod yn natganiad yr hydref. Erbyn hyn rhaid i ni weld Llywodraeth y DU yn symud ymlaen o ran ymateb.

Ond Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at galedi. Fe’i nodwyd yn ein cyllideb ddrafft, cyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais, a basiwyd ddoe yn y Siambr hon. Er gwaethaf blynyddoedd o galedi, rydym yn ymdrechu’n galed i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol—ac yn cael canlyniadau. Fel y dywedodd Rhianon Passmore, mae angen sicrwydd a gweithredu go iawn ar bobl Cymru.

Mae’n siŵr mai’r feirniadaeth fwyaf dinistriol o weithredu Llywodraeth Cymru hyd yma ar wasanaethau cyhoeddus yw’r feirniadaeth a wnaed ddoe ar addysg, sy’n dangos bod maes polisi y bu Llafur Cymru’n ei reoli ers 17 mlynedd wedi methu’n llwyr wrth ei feincnodi’n rhyngwladol yn erbyn y gorau yn y byd. Honno, yn sicr, yw’r feirniadaeth sylfaenol o’r modd y mae Llafur Cymru wedi gwneud cam â’r Cymry? Drwy addysg, rydych yn grymuso ac rydych yn rhoi ffyniant, ac nid ydych wedi rhoi hynny i filoedd lawer o blant ledled Cymru.

Wel, wyddoch chi, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ddoe, mae gan Gymru bellach gyfeiriad teithio clir. Mae gennym gynlluniau ar waith i ddatblygu gweithlu proffesiynol ardderchog ac rydym yn gwybod beth rydym am i’n cwricwlwm newydd ei gyflawni. Ac wrth gwrs mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn glir iawn ein bod ar y trywydd iawn, ac rydym yn buddsoddi mwy mewn addysg. Rwyf am atgoffa arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y toriad o 20 y cant roeddent yn mynd i’w wneud ym maes addysg pan gynhyrchwyd eu cyllideb ddrafft. Ond hefyd, wrth gwrs, nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn cymryd cyfrifoldeb yma, yn y Siambr hon, nid ydynt yn cydnabod—maent yn ceisio tanseilio ein gwasanaethau cyhoeddus, nid ydynt yn cydnabod bod gwella GIG Cymru a sicrhau ei fod yn datblygu’n effeithiol i ateb anghenion yn ganolog i’n hagenda, a sut rydym wedi diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ie, rwy’n gobeithio y bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â mi i ganmol gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae’r gwelliant trawiadol ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru a’r ffaith mai dyma’r unig wasanaeth ambiwlans yn y DU i wella amseroedd ymateb i alwadau 999 sy’n bygwth bywyd yn dyst i waith caled a pherfformiad rhagorol pawb sy’n ymwneud â’r gwaith hollbwysig hwn. Ond rydym yn gresynu at y ffaith nad oedd Llywodraeth y DU yn cydnabod yr angen am fwy o fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd.

Felly, rwy’n meddwl, o ran buddsoddi a’r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â hyn, gan fod o ddifrif am ein cyfrifoldebau, rydym yn buddsoddi yn ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol—iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Trysorlys yn dangos bod y swm y byddwn yn ei wario y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Arddangosiad o’n hymrwymiad: £240 miliwn arall yn y gyllideb ddrafft. Ond yn bwysicaf oll, mae ein buddsoddiad mewn tai a’r cyhoeddiad a wnaed gan Carl Sargeant yr wythnos diwethaf o £30 miliwn—cytundeb tai newydd i ddarparu 20,000 o gartrefi. Ein hanes o fuddsoddi mewn tai ac adeiladu tai—a dyma beth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gyflawni: adeiladu cartrefi, diwallu anghenion tai, diwallu anghenion iechyd ac addysg, manteision i blant a theuluoedd, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chytundeb tai gyda’r sector cyhoeddus, ac ysgogiad cyllidol ar gyfer ein hadeiladwyr tai. Felly, rwy’n amau a allai Mark Isherwood hyd yn oed amau’r canlyniad hwnnw mewn perthynas â’n buddsoddiad o £30 miliwn. Byddwn yn gadarn, Lywydd—byddwn yn gadarn ac yn uchelgeisiol gyda’r pwerau a’r cyfrifoldebau sydd gennym. Ar ôl chwe blynedd a wastraffwyd ar galedi, byddwn yn parhau i ddarparu amddiffyniad i’r bregus, yn cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol, yn buddsoddi yn ein heconomi a’n sgiliau a dyfodol ein plant.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddweud diolch hefyd wrth bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw? Roedd craidd datganiad yr hydref, wrth gwrs, yn ymwneud â’r cyhoeddiad cyfalaf a’r posibiliadau ar gyfer seilwaith. Mynegodd Adam Price beth rhwystredigaeth, wrth gwrs, ynglŷn â chyflymder y datblygiad, ond ni wnaethoch betruso ynglŷn â’i bwysigrwydd. Dof yn ôl at seilwaith, ond rwyf am ddechrau gyda’r effaith uniongyrchol ar bocedi teuluoedd, gan fod nifer o siaradwyr wedi cyfeirio at hyn, ond yn bennaf Huw Irranca-Davies, oherwydd rwyf am eich sicrhau ein bod yn deall eich pwyntiau. Efallai y byddwn i gyd yn edrych ar newyddion da o ran gallu cymharu â gweddill y G7, fel y dywedodd Mohammad Asghar, ond roedd Nick Ramsay yn iawn: nid yw hunanfodlonrwydd yn gyfaill i neb yma. Serch hynny, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n gallu derbyn bod y cyflog byw a’r newid ynddo, y newid yn y trothwyon treth incwm a gwrthdroi toriadau lles yn gynharach, a oedd yn peryglu diben y credyd cynhwysol, i’w croesawu fel camau i wella rhagolygon y rhai ar incwm is i helpu i gadw mwy o’r hyn y maent yn ei ennill a chael mwy o reolaeth ar eu cyllid teuluol.

Ond yn ôl at bwysigrwydd seilwaith a’r 25 y cant ychwanegol o gyllid cyfalaf y bydd Cymru yn ei gael dros gyfnod y Cynulliad, gwnaeth Mark Isherwood y pwynt hanfodol yma mai sut y caiff yr arian ei wario, yn hytrach na’r arian ei hun yw’r peth pwysicaf. Ac rwy’n credu y bydd pob un ohonom yn gofyn i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd hynny i egluro i ni sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith sy’n mynd y tu hwnt i ffyniant adeiladu yn y cyfnod byr. Oherwydd yr hyn sydd yr un mor bwysig â’r gostyngiadau treth a budd-daliadau i boced y teulu, yw seilwaith sy’n arwain at gyflogaeth gyson o ansawdd da, yn hytrach na chael gwerth eich arian am gyfnod byr o amser. Felly, rwy’n gobeithio, Rhianon Passmore, y byddwch yn ein helpu i annog Llywodraeth Cymru i gael y gwaith ar seilwaith ar y gweill ac fe fyddwch yr un mor awyddus â ni i osgoi’r ffwdanu diamcan a welwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â’r M4, na fyddai’n rhoi’r un geiniog ym mhocedi eich etholwyr, a byddent yn wir wedi elwa o’r gwelliannau hynny a’u gallu i gael mynediad i wahanol rannau o Gymru ac o bosibl, i gyfleoedd economaidd dros y ffin. Mae llanast cyffordd 41 y bydd rhai ohonom yn ei gofio, ac a adawodd greithiau mawr, wedi costio—costio—i berchnogion busnesau bach yn fy rhanbarth, cyflogwyr lleol sy’n cyflogi pobl ac yn talu arian iddynt. Felly, gallwch ddeall fy mhryderon ynglŷn â’i phlaid yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb hanfodol a phwysig hwn am seilwaith. Arweinydd y tŷ, rydym i gyd yn ofalus ynglŷn â’r hyn rydych yn ei ddymuno.

Gwnaeth Russell George hi’n amlwg nad yw seilwaith yn nod ynddo’i hun: mae’n ymwneud â thwf. Mae twf yn golygu rhagolygon swyddi gwell, cyflogau gwell, llai o bwysau ar fusnesau bach i wneud y gwaith trwm yn ein heconomi ar hyn o bryd, yn enwedig â hwythau’n wynebu’r methiant hwn i ymdrin ag ardrethi busnes andwyol. Pan ydym wedi wynebu beirniadaeth yma ein bod yn siarad gormod am fusnesau a’r economi a chyflogwyr, gadewch i ni gofio mai’r cyfleoedd iddynt hwy yw’r cyfleoedd i’r rhai sy’n gweithio iddynt yn ogystal, i’r rhai sy’n gweithio yn y busnesau hynny, ac i’r rhai a allai fod eisiau sefydlu eu busnesau eu hunain. Ond rwy’n dweud hyn: mae busnesau wedi gwneud yn eithaf da o ran cymorth o dan y ddwy Lywodraeth yn Llundain ers 2010 a hoffwn eu gweld yn ymateb drwy rannu manteision unrhyw dwf a gawsant gyda’r rhai sy’n gweithio iddynt. Ond os na all y Llywodraeth yma eu helpu gydag ardrethi busnes, caiff y manteision hynny eu llyncu gan gostau na allant eu rheoli. I bawb gael cyfran, fel y dywedwch, Huw Irranca-Davies, mae’n rhaid i ni roi cyfle i fusnesau, busnesau bach yn arbennig, i lenwi’r gwydr yn y lle cyntaf. [Torri ar draws.] Rwy’n meddwl bod gennyf ddigon o amser.

Mae’n ymyriad byr iawn. A fyddai’n ymuno â mi i ganmol siopau coffi fel yr un—ni wnaf ei henwi, ond mae’n odli gyda hosta—a anfonodd lythyr at fy mab 17 oed yn dweud bod y cyflog i bobl sy’n faristas—ac mae ef yn un; nid bargyfreithiwr, ond barista—yn codi? Roeddent yn dweud, ‘Dyma fyddwn yn ei dalu i rai 25 oed, ond rydych chi’n farista hefyd; gallwch wneud y gwaith, rydym yn mynd i dalu i chi.’ Pam na all pawb wneud hynny?

Gwrandewch, nid oes neb yn cefnogi pobl sy’n sefydlu eu siopau coffi annibynnol eu hunain yn fwy na fi, fel y mae’n digwydd, felly fe ddewisoch y person iawn i siarad â hi.

Ond ar fater busnesau bach, arweinydd y tŷ, ni chlywais ddim am hynny yn y gyllideb ddrafft y cyfeirioch ati ac y treuliasom gryn dipyn o amser arni ddoe.

Rwy’n brin o amser erbyn hyn. Rwyf eisiau sôn am Neil Hamilton. Lleihau’r ddyled—wel, wrth gwrs, rydym i gyd am weld hynny, ond nid wyf yn credu bod bwgan tariffau yn effeithio ar weddill ein taliadau yn y dyfodol, sy’n amlwg yn ganlyniad tebygol i’ch safbwynt, na’n mynd i leddfu pryderon unrhyw un yn sylweddol am yr hyn sy’n broblem anodd iawn. Ond mae’n broblem ac rwy’n credu y dylai ymwneud â ni i gyd, a dyna pam rwy’n cymeradwyo’r datganiad hydref gofalus a phwyllog iawn hwn i’r Siambr. Diolch.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 6. Dadl UKIP Cymru: Ffioedd Asiantau Gosod

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl UKIP ac rwy’n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6181 Neil Hamilton, Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.

2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;

(b) cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:

(i) tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a

(ii) landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr ysgol eiddo.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel y mae llawer ohonom yn gwybod, gall symud o un eiddo rhent i un arall fod yn anodd weithiau. Rwy’n deall hyn, gan nad wyf erioed wedi cael morgais preswyl, ac felly erioed wedi bod yn berchennog preswyl. Felly, rwyf wedi treulio llawer o amser yn fy mywyd yn byw yn y sector rhentu preifat. Yn rhyfedd ddigon, fodd bynnag, mae gennyf forgais prynu i osod hefyd, felly rwyf hefyd wedi bod yn landlord. O’r herwydd, rwyf hefyd wedi ymdrin â thenantiaid o’r safbwynt arall. Felly, mae angen i mi ddatgan buddiant pan fyddaf yn ymdrin â materion tai. Ond mae gennyf fantais ddamcaniaethol fach hefyd, gobeithio, gan fy mod wedi gallu edrych ar holl fater perchnogaeth eiddo a rhentu o’r ddwy ochr i’r ffens.

I fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud ar y dechrau, mae symud fel arfer yn amser anodd, ac weithiau’n drawmatig. Gall hyn fod yn berthnasol i rentwyr preifat, a rhai ohonynt, wrth gwrs, yn deuluoedd cyfan, lawn cymaint ag i berchen-feddianwyr sy’n symud i fyny neu i lawr yr ysgol eiddo. Yn gynyddol, gyda phrinder tai yn y DU, gall fod problemau gyda dod o hyd i’r eiddo cywir a’i brynu cyn iddo gael ei fachu. Yn gysylltiedig â’r anhawster hwn, mae’r gost sy’n rhan o’r broses. Nid oes modd osgoi rhai o’r costau a geir wrth symud. Fodd bynnag, mae yna hefyd gostau ychwanegol sydd nid yn unig yn amheus, ond yn aml yn hollol anesboniadwy. Ffioedd yr asiantaethau gosod tai yw’r rhain.

Yng Nghymru a Lloegr, mae hwn yn faes sydd, i raddau helaeth, heb ei reoleiddio. Yn y 1980au, pan ddechreuodd prisiau eiddo ddod yn bwnc trafod cyffrous i fwyfwy o bobl a oedd yn anelu i symud i fyny mewn cymdeithas ar draws y DU, câi ei ddweud yn aml gyda pheth dirmyg, er bod cyfreithwyr a chyfrifwyr angen rhyw fath o broses arholi er mwyn cymhwyso, nid oedd gofyniad o’r fath ar gyfer gwerthwyr tai ac asiantaethau gosod tai.

Er bod gennym y gymdeithas fasnach a elwir yn Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl, neu ARLA, ers 1981, mae’r sefyllfa honno o ddiffyg rheoleiddio yn parhau i fod yr un fath i raddau helaeth heddiw. Mae ARLA yn ceisio gosod cod ymddygiad gofynnol ar gyfer asiantaethau gosod tai, ond y gwahaniaeth hanfodol yma yw nad oes yn rhaid i rywun ddod yn aelod o ARLA i weithredu fel asiant gosod tai. Nid yw’n debyg i Gyngor y Bar neu Gymdeithas Feddygol Prydain. I ddyfynnu o adroddiad o lyfrgell Tŷ’r Cyffredin ym mis Mawrth 2015,

Nid oes unrhyw reoleiddio statudol trosfwaol mewn perthynas ag asiantau sy’n gosod neu’n rheoli tai y sector preifat yn Lloegr nac unrhyw ofyniad cyfreithiol iddynt berthyn i gymdeithas fasnach, er bod llawer o asiantau sy’n gosod a rheoli tai yn gwirfoddoli i gael eu rheoleiddio.

Mae’r sefyllfa yma yng Nghymru ychydig yn wahanol, yn yr ystyr ein bod eisoes wedi pasio Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd hon yn cyflwyno cynllun cofrestru gorfodol i gynnwys landlordiaid preifat ac asiantau sy’n gosod a rheoli tai, cynllun a gâi ei oruchwylio gan y corff cyhoeddus newydd o’r enw Rhentu Doeth Cymru. Mae’r system drwyddedu yn darparu man cychwyn defnyddiol ar gyfer y pwnc rydym yn edrych arno heddiw, gan fod gennym y fframwaith rheoleiddio yng Nghymru eisoes i gyflwyno safonau pellach yn ymwneud yn benodol â ffioedd yr asiantaethau gosod tai. Pam y mae’n gymaint o bwnc llosg yn awr? Wel, gyda phrinder tai cyngor a thai cymdeithasol, mae mwy o bobl yn gorfod mynd i mewn i’r sector rhentu preifat i ddod o hyd i eiddo addas i symud iddo. Daw hyn â mwy a mwy o bobl i mewn i fyd yr asiant gosod tai. Felly, efallai ei bod yn bryd ystyried rhyw fath o reoleiddio ar gyfer y sector, rheoleiddio, o bosibl, a allai ategu rhai o’r mesurau uchod a gyflwynodd y Cynulliad yn ystod pedwerydd tymor y Cynulliad i reoleiddio landlordiaid preifat.

Wrth gwrs, nid oes diben cyflwyno rheoliadau os nad oes unrhyw beth o’i le ar y sector. Yn anffodus, profiad nifer sylweddol o bobl sy’n rhentu yng Nghymru yw bod llawer o gostau ynghlwm wrth symud a rhentu, a hyd yn oed wrth adnewyddu tenantiaeth, sy’n ychwanegu at y gost ac yn aml, nid ydynt yn eu deall. Canfu Shelter Cymru, mewn adroddiad diweddar, fod un o bob tri thenant sy’n defnyddio asiantaethau gosod wedi talu mwy na £200 mewn ffioedd asiantaeth er mwyn dechrau tenantiaeth. O’u cymryd gyda rhent ymlaen llaw a bond, mae hyn yn golygu bod y gost o symud i gartref tair ystafell wely cyffredin yng Nghaerdydd yn cael ei gwthio i fyny dros £1,600. Mae’r rhain yn gostau sylweddol. Beth y mae’r ffioedd hyn yn ei gynnwys? Wel, yn aml cânt eu disgrifio’n syml drwy ddefnyddio’r ymadrodd cyffredinol, ‘taliadau gweinyddol’. Cyn symud i mewn, byddai disgwyl i ganolwyr a chredyd personol darpar denantiaid gael eu harchwilio. Fodd bynnag, nid yw llawer o’r gwiriadau hyn yn arbennig o gostus i’w cynnal, a phrin eu bod yn cyfiawnhau’r ffioedd sydd weithiau’n afresymol ac sy’n cael eu codi ar y darpar denantiaid mewn rhai achosion.

Datgelodd adroddiad ar y sefyllfa yn Lloegr gan Bwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ’r Cyffredin lawer o arferion llym sydd yr un mor gyffredin yng Nghymru yn ôl pob tebyg. Un o’r rhai a nodwyd yn yr adroddiad oedd prisio ychwanegol cudd, techneg werthu lle nad yw’r taliadau ond yn cael eu datgelu’n raddol i’r darpar brynwr, neu yn yr achos hwn, y darpar denant. ‘Gall fod ffioedd i’w talu’ yw’r ymadrodd gweithredol yma. Gall tâl dwbl gael ei godi, pan fo landlord a’r tenant yn talu i’r asiantaeth am gyflawni’r un archwiliadau. Mewn rhai achosion, nid yw’r landlord yn gwybod bod yr asiantaeth yn codi tâl ar y darpar denant. Mewn achosion lle y ceir ceisiadau lluosog am yr un eiddo, gall yr asiantaethau gael arian gan nifer o ddarpar denantiaid, ac ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn symud i mewn. A gall darpar denantiaid sy’n chwilio am gartref newydd orfod talu am wiriadau credyd a ffioedd gweinyddol eraill sawl gwaith cyn gallu symud i mewn i eiddo o’r diwedd, gobeithio. Efallai mai’r mathau mwyaf enbyd o’r ffioedd hyn yw taliadau sy’n ailadrodd ar gyfer tenantiaid sy’n byw yn yr eiddo eisoes ac sydd ond yn adnewyddu eu tenantiaeth bresennol. Yn yr achos hwn, ni ddylai fod angen gwiriadau credyd a geirda personol mwyach, ond bydd y math mwy diegwyddor o asiantaeth gosod tai yn dal i godi tâl dirgel iawn. Wrth gwrs, mae asiantaethau gosod tai yn wynebu costau, ond mae eu prif ffynhonnell incwm i fod i ddod o’r ganran o’u comisiwn ar y rhent misol ar eiddo y byddant yn ei gymryd gan y landlord, a hynny’n briodol. Felly, bonws iach iddynt, a dim mwy na hynny, yw ffioedd gweinyddu gormodol.

Ym mis Tachwedd 2015, daeth Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn gyfraith, deddf San Steffan a oedd hefyd yn berthnasol i Gymru. Roedd i fod i orfodi asiantaethau gosod tai i fod yn dryloyw wrth arddangos eu ffioedd, fel bod cwsmeriaid—yn yr achos hwn, darpar denantiaid—yn gallu gwneud dewis gwybodus ynglŷn â pha asiantaeth roeddent am ei defnyddio. Yn anffodus, pan aeth Shelter Cymru ati i archwilio pa mor dda roedd hyn yn gweithio ym misoedd cynnar 2016, darganfu fod y gyfraith yn cael ei herio ar raddfa eang. Cynaliasant archwiliad dirgel o 85 o asiantaethau gosod tai ar draws Cymru i weld sut roeddent yn arddangos eu ffioedd ac a oedd y ffioedd hyn yn dal i fod yn gyson. Mae’r gyfraith yn mynnu bod asiantaethau’n dangos rhestr lawn o ffioedd yn y swyddfa ac ar y wefan. Nid oedd mwy na hanner—52 y cant—yr asiantaethau yn arddangos ffi wirioneddol neu’n wir, unrhyw ffordd o allu cyfrifo’r ffi. Rhoddodd mwy na hanner yr asiantaethau ffi wahanol i’r hyn a oedd ar eu gwefan pan gysylltwyd â hwy dros y ffôn.

Felly, beth sydd angen ei wneud yn awr? Wel, rwyf weithiau’n cael fy siomi braidd o ran i ba raddau y mae’n ymddangos ein bod yn dilyn llwybr yr Alban yma yn y Cynulliad. Ar yr achlysur hwn, fodd bynnag, os edrychwn tua’r gogledd, yna fe welwn fod yna gwrs deddfwriaethol y gallem ei ddilyn o bosibl. Ym mis Tachwedd 2012, pleidleisiodd Senedd yr Alban o blaid cymeradwyo deddfwriaeth newydd a oedd yn gwahardd pob taliad tenantiaeth, ar wahân i rent a blaendal ad-daladwy. Effeithiodd y symudiad hwn ar Loegr wedyn. Ym mis Gorffennaf 2013, lluniodd pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin ar gymunedau a llywodraeth leol adroddiad ar y sector rhentu preifat. Ystyriwyd dilyn arweiniad yr Alban ar ffioedd asiantaethau gosod tai bryd hynny, ond yn gall iawn, penderfynodd y pwyllgor aros i fwy o dystiolaeth ddod yn amlwg o’r Alban ynglŷn â’r effaith roedd y newidiadau deddfwriaethol yn yr Alban wedi ei chael ar y sector rhentu preifat yn yr Alban.

Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd yr un pwyllgor Tŷ’r Cyffredin adroddiad lle y casglwyd ynghyd y dystiolaeth o’r Alban ac edrychodd eto ar y sefyllfa. Roedd yna bryder mawr, os nad oedd asiantaethau gosod tai yn gallu codi tâl ar denantiaid mwyach am wahanol archwiliadau, yna efallai y byddent yn codi tâl ar y landlordiaid yn lle hynny, a byddai’r landlordiaid yn syml yn trosglwyddo’r ffioedd ymlaen i’r tenantiaid drwy godi’r rhent. Fodd bynnag, ni chanfu ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin dystiolaeth glir fod rhenti wedi codi o ganlyniad i ddiddymu ffioedd asiantaethau gosod tai. Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylid cael asesiad effaith cynhwysfawr o effeithiau cyflwyno gwaharddiad tebyg yn Lloegr. Ers hynny, yn natganiad yr hydref yn ddiweddar, dywedodd y Canghellor y bydd y Gweinidogion yn cyflwyno gwaharddiad cyn gynted ag y bo modd.

Ai gwaharddiad cyffredinol ar y ffioedd hyn rydym ei eisiau, er hynny? A fydd gwaharddiad o’r fath yn orfodadwy? Ac os cyflwynir gwaharddiad o’r fath, a fydd yn codi’r rhenti’n uwch? O ran gorfodi, mae angen i ni fynd yn ôl at enghraifft yr Alban. Yno, roedd yn anghyfreithlon i godi premiymau mewn gwirionedd—hynny yw, ffioedd a godir ar ddechrau’r denantiaeth—ar ôl Deddf tai (yr Alban), a basiwyd gan Senedd San Steffan yn ôl yn 1984. Fodd bynnag, roedd deddf 2012 a basiwyd gan Senedd Holyrood yn ei hegluro ac arweiniodd at roi camau gorfodi ar waith o’r diwedd. Mae’r bwlch o 30 mlynedd bron yn dangos y perygl o basio deddfwriaeth a ddrafftiwyd yn wael a’i bod yn anorfodadwy yn sgil hynny, ac mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus rhag hynny wrth gwrs.

Beth am fater taliadau’n cael eu trosglwyddo i denantiaid ar ffurf codiad yn y rhent? Wel, edrychodd Generation Rent, y grŵp ymgyrchu, ar yr Alban cyn ac ar ôl y gwaharddiad a daeth i’r casgliad nad oedd diddymu ffioedd o reidrwydd yn cynyddu rhenti. Fodd bynnag, y broblem amlwg oedd bod rhenti wedi codi yn y cyfnod dan sylw ac ni allodd Generation Rent wahanu mater ffioedd asiantaethau oddi wrth ffactorau eraill yn y farchnad dai. Felly, yn syml iawn, nid oeddent yn gwybod. Daeth pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin i’r casgliad hefyd fod y dystiolaeth yn amhendant, a bod angen gwneud mwy o ymchwil ar hyn tra oedd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid yn credu, yn yr Alban, fod

y ffi osod yn dal i fodoli, ond ei bod wedi ei throsglwyddo’n rhan o’r rhent; mae tenantiaid bellach yn talu rhent uwch.

Roedd PricedOut, grŵp pwyso arall, o’r farn hyd yn oed os yw rhai o’r ffioedd wedi eu trosglwyddo ymlaen ar ffurf rhent uwch, byddai hyn yn golygu bod y taliadau’n cael eu gwasgaru ar hyd y denantiaeth, a oedd yn well na bod tenantiaid yn cael eu taro gan gyfandaliad enfawr pan fyddent eisiau symud i le newydd. Mae ARLA, Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl, wedi bod yn feirniadol o’r gwaharddiad arfaethedig yn Lloegr. Maent yn honni mai’r ffi gyfartalog mewn gwirionedd yw £202 am bob tenant a bod hon yn ffi deg at ei gilydd i dalu costau asiantaethau. Dywed y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl y byddai wedi bod yn well gwella tryloywder ffioedd a godir gan asiantaethau drwy eu gorfodi i roi sylw i’w ffioedd a beth y mae’r ffioedd yn talu amdano mewn gwirionedd yn hytrach na chael gwaharddiad llwyr. Y broblem gyda hyn yw bod deddfwriaeth y Ddeddf defnyddwyr eisoes wedi gwneud hyn, ar gyfer Cymru a Lloegr, ac roedd tystiolaeth Shelter Cymru i’w gweld yn datgelu’n derfynol mai ychydig iawn o effaith a gafodd ar ymddygiad masnachol llawer o asiantaethau gosod tai.

Felly, os ydych am ymdrin â’r broblem hon, mae gennych ddau opsiwn yn ôl pob tebyg. Gallech alw am dryloywder cyflawn. Byddai hyn yn golygu bod asiantaethau’n gorfod cyhoeddi dadansoddiad llawn o’r ffioedd ochr yn ochr ag unrhyw hysbyseb eiddo. Byddai hefyd yn gwahardd codi tâl dwbl a fyddai’n gorfodi asiantaethau gosod tai i ddatgelu pob un o’r taliadau tenantiaeth i’r landlordiaid y maent yn gweithio iddynt. Ond darparwyd ar gyfer hyn eisoes yn y Ddeddf hawliau defnyddwyr ac mewn gwirionedd, mae’n debyg nad yw’n gweithredu’n dda iawn yn y sector tai mewn gwirionedd. Y dewis arall yw cael gwaharddiad llwyr a gwneud yr holl ffioedd a thaliadau, heblaw rhenti a blaendaliadau, yn anghyfreithlon pan gânt eu codi ar y darpar denant. Gallai fod achos dros y naill opsiwn neu’r llall. Ond gan fod deddfwriaeth gynharach wedi methu, mae’n ymddangos i mi y gallai fod angen i ni fynd i’r afael â hyn yn awr fel mater deddfwriaethol, wedi’i dargedu’n llwyr ar yr asiantaethau gosod tai. A dyna yw’r ddadl y mae UKIP Cymru wedi ei chyflwyno yma heddiw.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Rydw i’n galw ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffïoedd gormodol gan asiantau gosod.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffïoedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliannau. Rydw i hefyd yn datgan diddordeb fel mam i bedwar o bobl ifanc sydd wedi talu crocbris mewn ffïoedd gosod ar hyd y blynyddoedd.

Mae Plaid Cymru’n falch o gefnogi’r cynnig yma i wahardd ffïoedd gosod. Fel rydych chi’n gwybod, fe wnaethom ni gyflwyno gwelliannau i’r perwyl hwnnw yn ystod y drafodaeth ar y Bil rhentu tai, a, bryd hynny, fe gawsom ni ein cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl honno. Mae’n amlwg o’r cynnig sydd gerbron heddiw, y buasai UKIP hefyd wedi cefnogi’r gwelliannau hynny, sy’n golygu mai’r unig blaid sydd ddim eto wedi ymrwymo’n gyhoeddus i wahardd ffïoedd asiantau gosod yw’r blaid Lafur. Ond, mae’r gwelliannau gan y Llywodraeth heddiw yn arwydd gobeithiol, a, gobeithio’n wir, erbyn diwedd y dydd heddiw, y byddan nhw hefyd yn cefnogi rhoi diwedd ar y ffïoedd tramgwyddus hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.

Mae gwelliant 1, felly, yn gresynu na fanteisiwyd ar y cyfle i wahardd y ffïoedd hyn yn gynharach. Nod ein hail welliant ni ydy ceisio ychwanegu at y cynnig a galw am ystyried ffyrdd o roi diwedd ar daliadau gwasanaeth eithafol ac annheg, neu godiadau mewn taliadau gwasanaeth lle mae pobl sydd yn dal prydles yn aml yn gorfod ei dalu. Felly, mae’r ail welliant yn ehangu’r maes. Mae’r taliadau hyn yn aml yn debyg eu natur i ffïoedd gosod eithafol yn yr ystyr bod y defnyddiwr eisoes wedi ei glou i mewn i drefniant tymor hir, heb fedru siopa o gwmpas, ac y bydd weithiau’n gorfod talu’n ddrud am wasanaeth sy’n aml jest ddim yn cael ei ddarparu. Gall codiadau mawr mewn ffïoedd hefyd greu anhawster wrth werthu fflat neu eiddo arall, sy’n golygu na all rhywun symud fel y maen nhw’n dymuno.

Mae’r gwelliant olaf yn ymwneud â’r stori a oedd yn y cyfryngau ychydig wythnos yn ôl, lle’r honnwyd bod y Llywodraeth wedi dweud wrth ei meincwyr cefn mai’r rheswm nad oedd am bleidleisio dros welliant Plaid Cymru i wahardd ffïoedd gosod oedd oherwydd bod yna gwestiynau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd. Rŵan, nid dyna ydy’r ddadl a wnaed yn gyhoeddus gan y Llywodraeth ar y pryd, ac mae rhywun angen gofyn cwestiwn pam na ddefnyddiwyd y ddadl honno. Ond, mi oedd o’n rhan o batrwm cyffredinol gan y Llywodraeth i atal gwelliannau a deddfwriaeth a defnyddio dadleuon technegol nad oedd llawer o Aelodau Cynulliad mewn sefyllfa i graffu arnyn nhw na’u cwestiynu. Rydym ni, felly, o’r farn os ydy’r Llywodraeth yn dymuno defnyddio dadleuon cyfreithiol yn erbyn gwelliant neu Fil arfaethedig, yn hytrach na dadleuon o egwyddor, yna fe ddylai’r dadleuon cyfreithiol hynny gael eu cyhoeddi ymlaen llaw. Mi fyddai hynny wedyn yn rhoi digon o amser i bobl sydd, efallai, ddim yn cyd-fynd efo’r farn yna i gael y ddadl at ei gilydd ac i gael cyngor annibynnol.

Ond, i fod yn glir, mae Plaid Cymru yn bendant o’r farn bod gwahardd ffïoedd asiantau gosod yn rhywbeth y gall ac y dylai’r Siambr hon ddeddfu arno fo, a gobeithio bod y Llywodraeth, bellach, yn sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud cam gwag mawr yn hyn o beth yn y gorffennol. Mae’n ddiddorol iawn gweld bod UKIP yn defnyddio’r Alban fel esiampl o arfer dda. Mae’n dangos, wrth gwrs, onid ydy, fod Llywodraethau datganoledig yn gallu bod yn llawer mwy goleuedig na’r wladwriaeth ganolog.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:

(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn weithio yng ngoleuni tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn Lloegr.

(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Byddwn yn ategu sylwadau fy nghyfaill Gareth Bennett ar yr anawsterau a grëwyd i denantiaid gan ffioedd a thaliadau. Nid yw materion tenantiaeth a ffioedd asiantaethau gosod tai wedi eu cyfyngu i ffioedd ar gyfer gwirio credyd a geirda cyn neu ar ddechrau’r denantiaeth, er hynny. Yn aml, ceir atodlenni o gostau sefydlog y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer toriadau, atgyweiriadau ac yn y blaen, a thaliadau eraill a godir yn ystod y denantiaeth, sy’n rhoi cyfle i asiantaethau gosod tai diegwyddor—a landlordiaid o ran hynny—gamfanteisio a chodi gormod ar denantiaid.

Mae Tenantiaid Cymru, sefydliad sy’n gweithredu fel llais ar ran tenantiaid yng Nghymru, yn rhoi enghraifft o atodlen ffioedd a thaliadau asiant gosod tai ar eu gwefan. Mae’n cynnwys rhai taliadau diddorol, gawn ni ddweud, megis: newid cyfleustodau—£25; newid tenant—25 y cant o’r rhent misol; ac adnewyddu contract, fel y soniodd Gareth Bennett—£50. Mae beth yn union y mae’r taliadau hyn yn eu cynnwys mewn gwirionedd o ran y gwaith neu’r gwasanaethau a ddarperir gan yr asiant gosod tai neu sut y cânt eu cyfiawnhau gan yr asiantaeth ei hun yn amheus. Efallai mai’r enghraifft orau o’r ffioedd yn yr enghraifft a ddarperir gan Tenantiaid Cymru yw ffi o £25 am ddychwelyd rhent a ordalwyd. Felly, os yw tenant yn gordalu rhent, codir tâl o £25 arnynt am y fraint o gael eu harian wedi’i ddychwelyd iddynt. Mae’n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi. Yr atodlen enghreifftiol hon yw un o’r atodlenni gwaethaf o ffioedd a thaliadau a osodir gan asiantaethau gosod tai, neu rwy’n gobeithio hynny o leiaf, ac rwy’n siŵr fod llawer o asiantau nad ydynt mor awyddus i godi taliadau â’r hyn a geir yn yr atodlen honno.

Fodd bynnag, mae’r ffaith fod asiantaethau yn gallu codi taliadau o’r fath heb gael eu cosbi yn dweud llawer am gyflwr y sector rhentu preifat a’r angen dybryd i fynd i’r afael â chostau ychwanegol i denantiaid sy’n llesteirio neu’n eu rhwystro rhag symud i lety mwy addas. Dadleuwyd, yn enwedig gan sefydliadau masnach sy’n cynrychioli asiantaethau gosod tai ac asiantaethau gosod tai eu hunain, y bydd rhenti’n codi os yw’r ffioedd gosod hyn yn cael eu gwahardd. Nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir yn ôl yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Cyfeiriaf yr Aelodau at adroddiad Shelter, ‘End Letting Fees’, yn 2013, a ddaeth i’r casgliad nad oedd landlordiaid yn yr Alban, ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym yno, yn fwy tebygol o gynyddu rhenti na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU.

Hyd yn oed os yw gwahardd y ffioedd hyn yn arwain at godi rhenti, byddwn yn awgrymu, yn gyntaf, o leiaf y bydd y tenant yn talu ffioedd mewn ffordd haws. Bydd y ffioedd yn cael eu rhannu dros fisoedd yn hytrach na gorfod talu cannoedd o bunnoedd ymlaen llaw yn ychwanegol at y bond a’r rhent. Yn ail, mae landlordiaid mewn sefyllfa well i drafod ffioedd a thaliadau synhwyrol gydag asiantaethau gosod tai nag y mae eu tenantiaid, a bydd hynny’n cadw cynnydd yn y rhenti i lawr yn y lle cyntaf.

Gellir gweld arwydd o ba mor broffidiol yw’r ffioedd a’r taliadau hyn i asiantaethau gosod yn y ffordd y disgynnodd prisiau cyfranddaliadau asiantaeth gosod tai Foxtons yn yr oriau’n dilyn cyhoeddi gwaharddiad ar ffioedd yn Lloegr. Mae’n awgrymu, ar wahân i’r ffaith fod costau dilys yn cael eu trosglwyddo i denantiaid, fod y ffioedd a’r taliadau hyn yn ffynhonnell elw i asiantaethau gosod tai. O edrych ar rai o’r ffioedd a’r taliadau yn yr atodlen ffioedd a thaliadau y cyfeiriais ati’n gynharach, mae canran dda o elw i’w gael o’r costau sefydlog hynny i asiantaeth gosod tai ddiegwyddor. Er enghraifft, byddai tâl sefydlog o £400 am beiriant golchi a fyddai ond wedi costio £250 i landlord neu asiantaeth gosod tai osod un arall yn ei le yn arwain at gryn dipyn o elw.

Mae Rhentu Doeth yn debygol o roi mwy o eiddo rhent preifat yn nwylo asiantaethau gosod tai, felly nid yw’r gyfran o denantiaid yng Nghymru yr effeithir arnynt gan y ffioedd a’r taliadau hyn yn mynd i leihau’n fuan iawn. Bydd angen archwiliad manwl o weithrediad asiantaethau gosod tai yng Nghymru felly. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i fentrau masnachol wneud cymaint o elw ag y dymunant gan bobl sydd â digon o rym bargeinio i ddiogelu eu hunain rhag talu gormod a chael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, nid dyna’r sefyllfa y mae’r mwyafrif o denantiaid ynddi. Dau opsiwn yn unig sydd gan y rhan fwyaf o denantiaid: talu’r taliadau a bod â gobaith o gael y cartref y maent ei eisiau, neu wrthod talu ac aros lle y maent—os oes lle i fyw ganddynt eisoes, hynny yw. Yn y Siambr hon y ceir yr unig gymorth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru, a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Diolch.

Y bobl sy’n dioddef fwyaf o’r taliadau hyn i asiantaethau gosod tai yw’r rhai a fyddai, yn y gorffennol, wedi cael cartref mewn tŷ cyngor neu eiddo cymdeithas dai. Prinder tai cymdeithasol yn sgil y ddeddfwriaeth hawl i brynu a methiant i adeiladu cartrefi newydd yn lle’r tai hynny sydd wedi gyrru pobl sy’n gymwys i gael lwfans cyflogaeth a chymorth i mewn i’r sector rhentu preifat. Mae yna lawer o bobl agored i niwed mewn iechyd gwael, sy’n byw ar fudd-daliadau, yn cael eu gorfodi i symud bob blwyddyn, hyd yn oed os ydynt yn denantiaid di-fai. Rhaid talu’r ffi i’r asiantaeth gosod tai o’u lwfans cyflogaeth a chymorth—yr arian sydd i fod i gael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd, gwres ac eitemau hanfodol eraill fel dillad. Felly, ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros barhau â’r ffi hon, sy’n cael ei chodi gan asiantaethau gosod tai ar denantiaid a’r landlordiaid am yr un gwaith. Ar ben hynny, maent yn codi gormod lawer ar y tenantiaid am bethau nad ydynt yn costio cymaint â hynny mewn gwirionedd. Felly, yr unig reswm y gallant wneud hyn yw am mai marchnad y gwerthwr yw hi i raddau helaeth iawn. Rhaid mai’r ateb, felly, yw diddymu ffioedd asiantaethau gosod tai a sicrhau bod unrhyw ffioedd sydd angen eu codi yn cael eu codi ar y landlord. Yn union fel y mae’n digwydd gyda gwerthwyr tai sy’n prynu a gwerthu eiddo, y gwerthwr sy’n talu’r ffi. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ddatrys y mater hwn. Yn amlwg, rwy’n gobeithio y bydd lwc dda’n gwenu arnaf pan ddaw’n adeg i bleidleisio dros Filiau Aelodau unigol ym mis Ionawr, ac y caf fy newis er mwyn i mi allu cyflwyno Bil o’r fath. Ond rwy’n gobeithio y bydd pwy bynnag sy’n lwcus ar y diwrnod hwnnw hefyd yn ystyried y mater pwysig hwn.

A gaf fi groesawu’r ddadl hon gan UKIP a chymeradwyo’r araith agoriadol gan Gareth Bennett hefyd, a oedd yn dadansoddi’r sefyllfa bresennol yn effeithiol ac yn drylwyr iawn, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn cyflwyno achos argyhoeddiadol iawn? Felly, rydym yn croesawu’r newid polisi hwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn bwysig adlewyrchu’r newid yn y gymdeithas. Erbyn hyn mae gennym genhedlaeth rent. Bydd yn cymryd amser hir i adeiladu’r nifer o dai sydd eu hangen arnom i ni effeithio ar gyflenwad a lleihau cost tai ar gyfartaledd, a fyddai’n sicr o fudd i’r cyhoedd sut bynnag y cyflawnir hynny—drwy adeiladu tai preifat neu gymdeithasol, neu gyfuniad o’r ddau fath o adeiladu. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod y Canghellor wedi nodi’r pwnc hwn fel un sy’n deilwng o sylw ac wedi awgrymu gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod tai.

Nid wyf yn siŵr ei fod wedi cael ei grybwyll hyd yn hyn, ond yn y 10 neu 15 mlynedd diwethaf, bu cynnydd cyffredinol yn y taliadau a godir gan asiantaethau gosod tai. Hefyd, ychydig iawn o gysondeb a geir rhwng eu dulliau o weithredu, a soniodd un neu ddau o’r Aelodau am hyn. Mae’n ymddangos weithiau nad ydynt ond yn ymgais ar hap i gael tâl ychwanegol, ar adeg pan nad oes gan denant posibl fawr o bŵer, mewn gwirionedd, i wrthwynebu. Beth bynnag, o ran gweithrediad y farchnad, byddai’n well pe bai’r costau hyn yn cael eu talu gan y landlord, a all ofyn am y math mwyaf effeithiol o wasanaeth ac sydd mewn sefyllfa i fargeinio’n effeithiol. Rydym wedi clywed bod yna eisoes brofiad o sut y gallai’r diwygiad weithredu yn yr Alban, lle y maent wedi gwahardd y ffioedd. Ac er bod cynnydd cyffredinol wedi bod yn y rhenti yn—wel, hyd yn oed ers y cwymp ariannol, mae rhenti wedi codi, ond nid wyf yn credu bod tystiolaeth fod rhenti’r Alban wedi codi mwy na chyfartaledd y DU. Felly, byddai hynny’n awgrymu nad yw tenantiaid wedi gorfod ysgwyddo’r baich yn uniongyrchol yn sgil gwahardd ffioedd yr asiantaethau gosod tai. Mae’n ymddangos eu bod wedi cael eu hamsugno i raddau helaeth.

A gaf fi ddweud y byddwn yn ymatal ar y cynnig ei hun, a hynny’n unig er mwyn sbarduno’r newidiadau? Byddwn yn cefnogi’r holl welliannau heblaw am y gwelliant olaf, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr lle rydym o ran y fraint sydd gan Lywodraethau mewn perthynas â chyngor cyfreithiol, ac maent angen cyngor cyfreithiol weithiau. Byddai hynny’n wir ar gyfer Llywodraeth y DU yn ogystal â’r Llywodraeth yma, felly byddwn yn ôl pob tebyg yn ymatal ar welliant 4, ond wedyn byddwn yn cefnogi’r cynnig, sut bynnag y caiff ei ddiwygio. Rydym yn gwneud hyn oherwydd credaf fod Llywodraeth Cymru yn iawn i geisio ymgynghori â’r rhanddeiliaid amrywiol ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Ond rwy’n credu erbyn hyn fod yn rhaid i’r rhagdybiaeth gyffredinol fod o blaid diddymu’r ffioedd hyn. Diolch.

Diolch i chi, Lywydd. Diolch i’r cymrodyr am eu cyfraniadau. Mae Jenny Rathbone wedi bod yn hyrwyddo’r cynnig hwn ers misoedd lawer, ac mae hi’n parhau i wneud. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael trafodaethau gyda hi ynglŷn â’r union fater hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad cyson i fargen deg i denantiaid y sector preifat, gan gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn fwyaf diweddar a chyflwyno Rhentu Doeth Cymru, yn wir.

Lywydd, rydym yn mynd ar ôl asiantaethau a landlordiaid diegwyddor ac yn gweithio i godi safonau yn y sector. Nid yw’r ddadl hon yn ymwneud â phwy sy’n malio fwyaf am fuddiannau tenantiaid. Mae’n ymwneud ag un cynnig penodol, ac mae ei effeithiolrwydd eto i’w brofi. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ei sicrwydd ein bod yn mynd ati i ystyried gwaharddiad ar ffioedd gosod i denantiaid a’r mater hwn, ac rwy’n hapus i gadarnhau hynny heddiw.

Cyn i mi barhau, mae’n werth nodi cyfraniad Sian Gwenllian heddiw, a oedd angen ychydig mwy o gig ar yr asgwrn o ran y manylion o bosibl. Rwy’n awyddus iawn i gydnabod bod Aelodau o bob plaid ar y cam hwn o ystyried y cynnig, ond byddai’r Aelod yn anghywir i feddwl bod y Ceidwadwyr mewn unrhyw ffordd wedi cefnogi’r Bil rhentu cartrefi. Yn wir, aethant ati i geisio’i atal. Maent wedi gweld y goleuni ynglŷn â ffioedd asiantaethau gosod tai; mewn gwirionedd, pleidleisiasant yn erbyn y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yma yn y Siambr hon. Y ffaith arall y bydd yr Aelod yn dymuno’i hystyried o bosibl yw fy mod yn meddwl ei bod wedi awgrymu ein bod wedi rhannu cyngor cyfreithiol gyda meinciau cefn Llafur. Ni ddywedwyd hynny erioed, ac nid yw’n wir chwaith. Os nad oedd yr Aelod yn awgrymu hynny, rwy’n ymddiheuro, ond o’i geiriad, dyna a ddeallais o’i chyfraniad. Ond os yw hynny’n wir, yna rwy’n cydnabod hynny hefyd.

O ran y cynigion y credaf ein bod i gyd yn eu rhannu am rai o arferion asiantaethau gosod tai, bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwella’r ffordd y cânt eu rhedeg, eu busnesau, gyda sancsiynau os nad ydynt yn gwneud hynny. Mae deddfwriaeth a gyflwynwyd drwy Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 yn golygu bod yn rhaid i asiantaethau gyhoeddi eu ffioedd ymlaen llaw, ond rwy’n ymwybodol o arolwg Shelter a gynhaliwyd hefyd, ac mae’n rhaid i ni edrych ar hyn yn fwy gofalus o ran yr hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddweud.

Mae’r cynnig yn cyfeirio, yn gwbl briodol, at bryderon ynghylch yr effaith y gall ffioedd asiantaethau ei chael ar denantiaid ac mae’n argymell rhagor o ddeddfwriaeth. Rwy’n deall y meddylfryd sy’n sail i’r cynnig, ond mae yna ddau ddiffyg sylfaenol y mae’n rhaid i chi feddwl drwyddynt cyn i ni ddeddfu. Yn gyntaf, mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu ein bod yn ystyried yr effaith ac yna’n symud ymlaen yn uniongyrchol ac yn gyflym iawn at y ddeddfwriaeth honno heb ystyriaeth bellach. Yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd yw ystyriaeth fanwl a gofalus iawn o brofiad mewn mannau eraill—yr Alban, er enghraifft—ac amcanion polisi yr ateb deddfwriaethol a gyflwynwyd. Yn yr un modd, mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer Lloegr a’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i hynny hefyd.

Yn ail, mae’r cynnig yn awgrymu na ddylid trosglwyddo costau i denantiaid drwy godi rhent. Ceir trafodaeth ar wahân am ddichonoldeb rheolaethau rhent cynhwysfawr, ond mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i’r cwestiwn o wahardd ffioedd asiantaethau i denantiaid. Felly, unwaith eto, rydych yn codi pwynt cymhleth yn yr un ddadl y credaf mewn gwirionedd y byddai wedi cael ei drafod yn well, efallai, ar achlysur ar wahân. Ond mae’n rhywbeth rydym yn ei ystyried yn ei gyfanrwydd, fel y mae’r cynnig yn awgrymu. Byddai’r argymhelliad i rwystro asiantaethau rhag cynyddu eu ffioedd i landlordiaid yn galw am system o derfynau wedi’u pennu gan y Llywodraeth ar ffioedd asiantaethau, ac mae’r asiantaethau gosod yn fusnesau. Gyda’i gilydd maent yn cyflogi miloedd o bobl mewn cymunedau ledled Cymru, ond rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda deddfwriaeth, ein bod yn rheoli hynny’n iawn.

Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi’r cynnig heddiw. Mae’r diffygion yng nghynigion UKIP yn dangos yr angen i ystyried y dystiolaeth a’r ymgynghoriad yn llawn cyn i ni symud at ddeddfwriaeth. Yn yr un modd, nid wyf yn gallu cefnogi gwelliant cyntaf Plaid Cymru, sy’n awgrymu y dylem fod wedi gweithredu heb dystiolaeth neu ystyriaeth lawn. Buaswn yn synnu os yw’r Aelod, a’r blaid, yn ystyried mai dyna yw eu safbwynt o ddifrif. Rydym bob amser yn barod i fyfyrio ar yr hyn sydd ar waith a chymryd camau pellach os yw’r dystiolaeth yn dangos bod mwy y gellir ei wneud. Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg yn awr o’r Alban, a dyma’r amser i benderfynu beth y dylem ei wneud yma yng Nghymru. Mae ein dull o weithredu wedi’i nodi yng ngwelliant y Llywodraeth. Mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth a gyflwynwyd. Cyflwynodd yr Alban ddeddfwriaeth yn gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai yn gyntaf yn 1984. Atgyfnerthwyd honno ganddi yn 2012, ac er bod y dystiolaeth o ymchwil Shelter yn awgrymu mai prin fu’r effaith ar lefelau rhent, mae tystiolaeth anecdotaidd arall yn awgrymu bod rhenti wedi codi, a cheir mwy fyth o straeon am asiantaethau sy’n dal i godi tâl ar denantiaid. Mae’n rhaid i ni edrych drwy hynny i weld a oes ateb i ni yma yng Nghymru. Ond rwy’n hapus i gynnig ein gwelliant heddiw.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, mae hwn wedi bod yn un o’r achlysuron dymunol hynny lle y mae pawb yn cytuno’n fras, er fy mod yn gwybod am sawl achlysur o’r fath yn y gorffennol lle roedd pawb yn anghywir. Ond nid wyf yn credu bod hwn yn debygol o fod yn un ohonynt. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gynigiwyd gan y Blaid Geidwadol a chan Blaid Cymru. Gallaf ddweud ein bod ni, o’n rhan ninnau, yn derbyn gwelliannau Plaid Cymru i’n cynnig.

Roedd yn ddiddorol clywed pwynt Sian Gwenllian ynglŷn â sut y gallai seneddau datganoledig, weithiau, fod yn fwy goleuedig efallai na’r seneddau y daethant ohonynt. Gall y gwrthwyneb fod yn wir hefyd, ond rwyf o blaid cystadleuaeth, yn gyffredinol, ac felly os gallwn elwa o brofiad seneddau datganoledig eraill, mae’n beth da iawn. Felly, mae’n un o fanteision datganoli rwy’n hapus i’w dderbyn.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone a fy nghyd-Aelod Michelle Brown at y ffaith mai marchnad y gwerthwr yw hi. Dyma ble y mae’r rhan fwyaf o’r broblem yn codi, wrth gwrs, mai gan yr asiantaethau gosod tai a’r landlordiaid i bob pwrpas y mae’r llaw uchaf ac nid oes gan y tenant bŵer bargeinio cyfartal, sy’n galluogi’r asiantaethau gosod tai i godi’r ffioedd hyn. Gobeithiaf y bydd Jenny Rathbone yn ffodus yn y balot i gael y Bil Aelod preifat hefyd. Gan fy mod yn gwybod ei bod wedi dadlau’n frwd dros y newidiadau arfaethedig hyn ers blynyddoedd lawer, byddai’n sicr yn rhywbeth i’w groesawu pe bai’n cael cyfle i gyflwyno mesur o’r fath.

Yn ystod y ddadl, cafodd rhai o’r cyhuddiadau mwy diegwyddor eu nodi’n eithaf manwl, ac mae’n eithaf amlwg eu bod yn hollol anamddiffynadwy. Gwnaeth Michelle Brown gyfraniad gwerthfawr iawn i’r ddadl yn hynny o beth, rwy’n credu. Felly, mae’n ymddangos bod cytundeb eang ar yr egwyddor gyffredinol. Gallaf ddeall agwedd y Llywodraeth yn dymuno edrych ar brofiad o ddeddfwriaeth o’r fath mewn mannau eraill, yn amlwg, a’r cynigion fel y maent yn mynd i gael eu cyflwyno yn Lloegr. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol i ymgynghori, yn amlwg, cyn y cyflwynir mesurau o’r fath, ond rydym yn awyddus i bwysleisio ein cred fod hwn yn fater brys y mae angen ymdrin ag ef.

Felly, os ydym yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant Llafur heddiw, nid yw’n golygu ein bod yn credu bod y Llywodraeth yn afresymol yn cynnig yr hyn y mae’n ei wneud, ond yn hytrach am ein bod am danlinellu’r angen i fwrw ymlaen â’r gwaith cyn gynted â phosibl. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu datrys y dolur llidus hwn, sy’n effeithio ar y mwyaf bregus mewn cymdeithas. Dylem fod yn ofalus, wrth gwrs, rhag peri i’r farchnad dai grebachu, ac felly ni ddylem fynd ar hyd y llwybr cyffredinol o reoli rhenti, ond rwy’n credu y dylid gwneud ffioedd diegwyddor o’r mathau hyn yn anghyfreithlon mor fuan â phosib.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cwestiwn Brys: Tata Steel

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a’r Undebau ynghylch dyfodol ei weithgareddau yng Nghymru a Phrydain? EAQ(5)0097(EI)

Ie, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Llywydd am ohirio’r cwestiwn brys hwn nes yn awr. Mae hon yn foment enfawr i ddur yng Nghymru a Phrydain. Rwy’n croesawu, fel cam arwyddocaol iawn, y cyhoeddiad yn gynharach y prynhawn yma fod yr undebau dur wedi cael ymrwymiad gan Tata Steel i ddiogelu cyflogaeth a chynhyrchiant ym Mhort Talbot a’i safleoedd dur eraill ledled y DU.

Ni all fod unrhyw amheuaeth o gwbl ar ôl blwyddyn hynod o anodd, fod rhywfaint o sicrwydd, yn y tymor byr o leiaf, i weithwyr dur a’u teuluoedd yn newyddion da iawn yn wir, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd ‘argyfwng wedi’i osgoi’ i’r diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei groesawu ar bob ochr i’r Cynulliad, ond byddai ‘argyfwng wedi’i oedi’n unig’ yn gynnig gwahanol iawn a dyna pam rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn awyddus i astudio manylion canlyniad y trafodaethau rhwng Tata Steel a’r undebau. Yn hyn o beth, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud mwy wrthym ynglŷn â’r hyn y mae’n ei wybod am y cynnig?

Deallwn fod cynllun buddsoddi 10 mlynedd wedi’i addo ar gyfer Port Talbot ac ar gyfer y safleoedd derbyn, ond ymrwymiad pum mlynedd yn unig ar gyfer cadw’r ddwy ffwrnais chwyth a thrwy’r compact cyflogaeth. A yw’n wir fod y cynllun buddsoddi gwerth £1 biliwn yn cael ei hunanariannu i bob pwrpas gan weithrediadau ym Mhort Talbot, ac os nad yw’r targedau hynny ar gyfer enillion yn cael eu cyrraedd byddai’r buddsoddiad yn dod i ben, sy’n ein gadael gyda’r posibilrwydd y gallem fod yn ôl yma yn cael yr un sgyrsiau yn 2021? ‘Does bosibl nad yw cynllun buddsoddi 10 mlynedd yn haeddu ymrwymiad 10 mlynedd. A allai ddweud beth yw statws y trafodaethau uno gyda ThyssenKrupp yn awr? Prif fantais cau’r gronfa bensiwn yw atyniad hynny i bartneriaid uno posibl neu i brynwyr.

Ar lefel ehangach, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’n meddwl ei bod yn wirioneddol annioddefol fod gweithwyr mewn unrhyw gwmni yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, lle y mae’n rhaid iddynt ddewis rhwng eu pensiynau a’u swyddi? A ydym yn gosod cynsail peryglus y byddai cwmnïau solfent eraill yn ceisio manteisio arno? A yw’n gwybod a yw’r cynnig y dylai gweithwyr dur weithio tan eu bod yn 65 yn lle ymddeol yn 60 yn ôl ar y bwrdd? Ac a yw Tata wedi dweud wrtho beth fyddai’n digwydd pe bai gweithwyr dur yn gwrthod y cynigion pensiwn fel y gwnaethant bron yn unfrydol y llynedd? Yn olaf, pa hyder y gallwn ei gael ym mwrdd Tata Steel, sydd, ac eithrio’r cadeirydd dros dro, yn union yr un bwrdd ag a groesawodd gynllun Cyrus Mistry ar gyfer dadfuddsoddi ychydig fisoedd yn ôl yn unig, ac a wrthododd y cynllun gwrthdroad y mae’n hapus i’w groesawu heddiw?

Ie, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau. Rwy’n cytuno bod hon wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd iawn i holl weithwyr Tata, i’w teuluoedd ac i’r cymunedau ehangach, ac rwy’n falch fod yr ansicrwydd yn awr ar ben ac y gallant edrych ymlaen at y Nadolig ac wynebu’r flwyddyn newydd gyda hyder a sicrwydd. Rwy’n mynd i fod yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law ynglŷn â’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i Tata. Efallai fod yr aelodau’n ymwybodol hefyd fod datganiad wedi’i gyhoeddi yn cadarnhau ein cymorth o £4 miliwn tuag at gostau ariannol gweithredu’r ymyriadau hyfforddiant sgiliau. Bydd y buddsoddiad sy’n cael ei wneud gan y cwmni yn cyfateb iddo, ac mae’n sicr yn dangos ein cred gadarn yn nyfodol cynhyrchiant dur yng Nghymru, a’r manteision cystadleuol y mae gweithlu cymwys, effeithlon a medrus iawn yn eu cynnig.

Rwy’n cydnabod yn llwyr fod y manylion yn dal i ymddangos i’r Aelodau eu treulio, ond a gaf fi sicrhau’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru, Tata a’r undebau llafur wedi gweithio gyda’i gilydd yn ddiflino dros yr wyth mis diwethaf neu fwy, a heddiw rydym wedi cymryd y cam mwyaf ymlaen ers degawdau i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor cynhyrchiant dur yng Nghymru. Byddaf yn gallu rhoi rhywfaint o fanylion ynglŷn â’’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cytundeb. Mae’r cytundeb a gafwyd yn cynnwys ymrwymiad gan Tata Steel i ddiogelu swyddi a chynhyrchiant ym Mhort Talbot a gweithfeydd dur eraill—y gweithfeydd dur eraill ledled Cymru. Mae hwn yn gyhoeddiad sy’n berthnasol i bob gwaith dur ar draws y wlad.

Cyhoeddodd yr undebau fod elfennau sylweddol o’r ymrwymiad hwn yn ymrwymiad o bum mlynedd fan lleiaf o sicrwydd ar gyfer cynhyrchu dur yn y ddwy ffwrnais chwyth ac ymrwymiad i fuddsoddi yn ffwrnais chwyth 5 fel rhan o gynllun buddsoddi gwariant cyfalaf ehangach. Mae’n cynnwys cytundeb swyddi sy’n gyfwerth â’r hyn a gytunwyd gyda Tata Steel yn yr Iseldiroedd, sy’n cynnwys ymrwymiad i geisio osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol am bum mlynedd. Mae’n cynnwys cynllun buddsoddi 10 mlynedd gwerth £1 biliwn i gefnogi cynhyrchiant dur ym Mhort Talbot ac i sicrhau dyfodol gweithfeydd derbyn. Bydd ymgynghoriad gan Tata Steel ar gau cynllun pensiwn Dur Prydain a chael cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn ei le, gydag uchafswm cyfraniadau o 10 y cant gan y cwmni a 6 y cant gan y cyflogeion, yn dechrau maes o law a bydd yr aelodau’n pleidleisio yn y flwyddyn newydd.

Hyd y gwn, mae trafodaethau uno’n parhau fel roeddent gyda ThyssenKrupp, ond y ffactor pwysicaf yng nghyhoeddiad heddiw yw ei fod yn galluogi Port Talbot a’r gweithfeydd dur ledled Cymru i fod hyd yn oed yn fwy cystadleuol, i fynd drwy drawsnewidiad sy’n mynd i olygu eu bod yn cynhyrchu metel am flynyddoedd lawer i ddod. Y ffordd orau i sicrhau dyfodol hirdymor i gynhyrchiant dur yng Nghymru yw gwneud cynhyrchiant dur ymysg y mwyaf cystadleuol yn unrhyw le ar y blaned, ac ymwneud â hynny y bydd cyhoeddiad heddiw a chyhoeddiadau yn y dyfodol.

A gaf fi ymuno â chi i groesawu’r newyddion yma heddiw? Oherwydd, ar ôl siarad â’r undebau y prynhawn yma, mae’n amlwg fod yna rai pryderon difrifol o hyd ymysg yr undebau ynglŷn â rhai o’r cynigion hyn, yn enwedig mewn perthynas â’r cynllun pensiwn a’r agweddau tymor hwy, ond a ydych hefyd yn cytuno â mi yn awr fod yn rhaid i hyn gael ei gefnogi gan fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? Rwy’n meddwl eich bod wedi nodi eisoes—rydych newydd ddweud, fe glywais—eich bod yn mynd i wneud cyhoeddiadau, efallai, i’r perwyl hwnnw. A wnewch chi hefyd siarad â chydweithwyr yn y Cabinet yn San Steffan i sicrhau eu bod yn anrhydeddu rhai o’u hymrwymiadau o gefnogaeth i’r diwydiant dur yn awr? Roedd cyhoeddiad Tata ei hun yn gofyn am gefnogaeth i’r diwydiant dur ar rai o’r agweddau. Mae arnom angen hynny ar gyfer buddsoddiad yn y tymor hwy.

Pan fyddwch, gobeithio, yn cyfarfod â Ratan Tata—gelwais arnoch i wneud hynny’n gynharach—rwy’n meddwl ei bod hefyd yn bwysig i chi ei gael ef i roi ymrwymiad personol i’r diwydiant dur yma yn y DU mewn gwirionedd, gan fod Adam Price yn llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd: mae yna ddiffyg hyder yn ymrwymiadau Tata oherwydd y 12 mis diwethaf, ac mae hynny wedi creu straen yn y berthynas rhwng y gweithwyr a’r cwmni. Mae’n bwysig adfer yr hyder hwnnw yn awr ac efallai y gallai ymrwymiadau personol gan Ratan Tata helpu’r broses honno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gael hynny fel bod gennym hyder y bydd yr ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud am bum mlynedd yn cael eu cyflawni, a bod y buddsoddiad 10 mlynedd, gwerth £1 biliwn yn debygol felly o sicrhau y bydd yr ymrwymiadau hynny i’r gwaith yn parhau yn y tymor hwy.

A allwch ddweud wrthyf hefyd pa drafodaethau y gallech fod yn eu cael yn awr gyda ThyssenKrupp i edrych ar y cynigion i uno? Gwyddom o’r adroddiadau blaenorol am eu hystyriaethau ynglŷn â chyfuno. Mae hwn yn gynllun am bum mlynedd; beth yw eu safbwynt mewn perthynas â’r pum mlynedd nesaf? A fydd ymrwymiadau’r Iseldiroedd hefyd yn cael eu hanrhydeddu os oes uno’n digwydd? Rwy’n credu ein bod angen hynny.

Rwy’n croesawu’r sgiliau, gan mai effeithlonrwydd a chynhyrchiant yw’r ffordd ymlaen, ond mae angen i ni edrych hefyd ar sut rydym yn cael y marchnadoedd a’r caffael wedi’i wneud fel y gallwn sicrhau cystadleurwydd wrth gyflenwi a gwerthu’r dur mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi hefyd edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru edrych ar gaffael i sicrhau eto y gall y dur a gynhyrchir yng Nghymru gael ei ddefnyddio yng Nghymru pa bryd bynnag y bo modd, ac os nad yng Nghymru, a wnewch chi drafod gyda’ch cydweithwyr yn San Steffan ei fod yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, i ni allu cael y gorau ar gyfer ein diwydiant dur?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cyhoeddiad hwn wedi cael gwared, i raddau—defnyddiaf y geiriau ‘i raddau’—ar y tywyllwch i lawer o weithwyr dur a’u teuluoedd. Maent wedi bod yn byw drwy uffern dros y 12 mis diwethaf, nid oes amheuaeth am hynny. Mae’r cymunedau o’u hamgylch wedi ceisio eu cefnogi, ond cafwyd ansicrwydd, ac mae’r cymorth hwnnw, felly, wedi bod yn gyfyngedig oherwydd yr ansicrwydd hwnnw. Yr hyn y maent ei eisiau yn awr a’r hyn rydym ni ei eisiau yn awr yw sicrwydd. Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn ddechrau ar y broses honno o sicrwydd.

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a dweud ei fod yn sicr yn gwneud hynny, ac nid fi yw’r unig Aelod yn y Siambr hon, rwy’n siŵr, sydd ag aelodau o’r teulu’n cael eu cyflogi ar ystad gwaith dur Tata. Mae heddiw’n foment arwyddocaol iawn o ran rhoi sicrwydd i lawer o bobl sydd wedi byw dros y flwyddyn ddiwethaf mewn cyflwr cyson o bryder am eu gwaith yn y dyfodol.

O ran ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, mae’r Aelod yn hollol gywir. Byddwn yn parhau i bwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU i gefnogi dur yn y DU, ac yfory byddaf yn cyfarfod gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Nick Hurd, sy’n Weinidog Gwladol dros Newid yn yr Hinsawdd a Diwydiant i drafod Tata Steel a’r gefnogaeth rydym yn awr yn ei disgwyl gan Lywodraeth y DU. Rydym yn sicr yn disgwyl i Lywodraeth y DU roi camau ar waith o ran costau ynni ac ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol hirdymor. Byddaf hefyd yn gadael y Siambr i fynd i siarad drwy fideo-gynadledda gyda Bimlendra Jha, a byddaf yn tynnu sylw at y materion rydych wedi eu nodi ynghylch y rôl hanfodol y gallai Ratan Tata ei chwarae yn lleddfu tensiynau ac adfer ymddiriedaeth yn Tata ymysg y gweithlu.

O ran ein hymwneud â ThyssenKrupp, byddwn yn awr yn falch iawn o ymgysylltu â hwy. Rydym yn disgwyl y byddai’n rhaid i’r amodau rydym wedi’u gosod ar gyfer ein cefnogaeth a’r cymorth rwy’n gobeithio ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf allu gwrthsefyll unrhyw uno, a byddai’n rhaid iddo fod yn amodol ar unrhyw gefnogaeth barhaus. O ran caffael, mae David Rees yn ymwybodol o’r ffrwd waith, ac mae’n rhan o’r tasglu dur sydd wedi bod yn edrych ar y maes i sicrhau y gallwn fanteisio ar bob cyfle o ran prosiectau caffael cyhoeddus a phrosiectau seilwaith. Gyda’r pecyn cymorth rydym yn ei gynnig, gyda’r gefnogaeth bosibl y gallai, ac yn fy marn i, y dylai Llywodraeth y DU ei chyflwyno, rwy’n credu bod gan gynhyrchiant dur yng Nghymru a’r DU ddyfodol disglair iawn o heddiw ymlaen.

Rwy’n croesawu datganiad Tata heddiw yn fawr iawn, ac yn wir eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, yma yn y Siambr. Rwy’n credu bod datganiad Tata yn dyst i ymgyrch gref iawn y gweithwyr dur a’r undebau llafur sy’n eu cynrychioli i achub ein dur, ac yn wir y rôl a chwaraewyd gan ein Llywodraeth Lafur Cymru yma a chi eich hun fel Ysgrifennydd y Cabinet, a nifer o Aelodau Cynulliad hefyd wrth gwrs, yn enwedig fy nghyd-Aelod David Rees, yr AC dros Aberafan. Felly, mae’n braf iawn ein bod wedi cyrraedd y cam hwn heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond yn amlwg, fel rydym eisoes wedi trafod, mae mwy o waith i’w wneud i sicrhau ein bod yn cael y sicrwydd y siaradodd David Rees amdano a sefydlogrwydd wrth symud ymlaen.

I mi, wrth gwrs, mae fy niddordeb mawr i yn Tata yn Llanwern ac yn wir, gwaith dur Orb, gyda’u dur trydanol o ansawdd uchel iawn. Mae Tata yn Llanwern gyda ffatri Zodiac yn waith derbyn o ansawdd uchel iawn, sy’n cynhyrchu dur ar gyfer y diwydiant ceir a’u cynhyrchiant cyffredinol yn Llanwern. Felly, tybed a allwch fy sicrhau i a’r gweithwyr yng ngweithfeydd Casnewydd, Ysgrifennydd y Cabinet, na fyddwch yn esgeuluso safleoedd fel y rhai yn Llanwern a gwaith dur Orb wrth drafod y defnydd o’r buddsoddiad gwerth £1 biliwn i holl weithrediadau dur Tata, ac y byddwch yn gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad o £1 biliwn yn cefnogi’r gweithfeydd hyn sydd o ansawdd uchel ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gweithfeydd hynny yng Nghasnewydd.

Hoffwn ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a dweud, er fy mod yn ddiolchgar iawn am ei eiriau caredig, rwy’n credu mai’r Prif Weinidog sydd wedi arwain ar y mater hwn, ac sydd wedi gallu sicrhau ein bod ar y pwynt lle rydym heddiw. Hoffwn ddweud hefyd fod Aelodau’r Cynulliad wedi mynegi pryder ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur o bob rhan o’r Siambr, ac rwy’n meddwl y bydd Aelodau’r Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn teimlo rhyddhau ac yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Mae’r ymgyrch i achub ein dur wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rwy’n meddwl bod y rhai sydd wedi ei harwain, ac yn bennaf oll, pawb sydd wedi cymryd rhan ynddi, wedi sicrhau dyfodol hirdymor cynhyrchiant dur, o bosibl, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, eu plant, a llawer o bobl a allai fod yn cael eu cyflogi yn y sector yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys Llanwern wrth gwrs, a’r holl weithfeydd dur eraill, oherwydd heb Port Talbot, byddai pob un o’r gweithfeydd dur yng Nghymru dan fygythiad difrifol. Dylwn fod wedi ychwanegu gynnau fod y pecyn cymorth rwyf wedi ei gyhoeddi heddiw o fwy na £4 miliwn yn berthnasol, wrth gwrs, ac yn agored i weithwyr dur ar bob un o’r safleoedd yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb i’r datganiad heddiw hefyd? Ac a gaf fi fynegi fy llongyfarchiadau, yn sicr, i’r undebau llafur am ddod â hyn i ben ychydig cyn y Nadolig, beth bynnag, a rhoi rhywfaint o gysur o leiaf?

Ond rwy’n rhannu pryderon Adam Price a David Rees o ran pa ffydd y dylem ei roi yn yr ymrwymiadau y mae Tata Steel wedi eu rhoi heddiw. Yr adeg hon yr wythnos diwethaf roeddem yn sefyll yma’n gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â’r hyn roeddech yn ei feddwl o’r ymrwymiadau roedd Tata Steel yn gallu eu rhoi ac ar y pryd, fe sonioch nad oeddech, yn ddealladwy, yn barod i ymateb i ddyfalu yn y wasg, ac rwy’n parchu hynny, ond a allwch roi syniad i ni i ba raddau y cawsoch chi—neu’r Prif Weinidog o leiaf—eich cynnwys yn rhan o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf? Rwy’n sylweddoli y gallai rhywfaint o’r wybodaeth honno fod wedi cael ei rhoi’n gyfrinachol ac ni ddylid ei rhannu o reidrwydd, ond rwy’n meddwl y byddem i gyd yn hoffi rhywfaint o sicrwydd nad oes neb yn y Llywodraeth wedi cael ei gau allan rhag cymryd rhan lawn yn y sgwrs sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, os nad yn hwy na hynny.

Yn ail, i fynd yn ôl at y pwynt a wnaeth Adam Price—oherwydd yn amlwg, mae yna wahaniaeth yma rhwng pum mlynedd a 10 mlynedd. Er fy mod yn deall parodrwydd Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gyfnod penodol o amser yn unig ar hyn, efallai y byddwch yn cofio cwestiynau rwyf wedi eu gofyn o’r blaen am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud o ran diogelu’r pwrs cyhoeddus yn erbyn y posibilrwydd y caiff yr amodau eu torri, nid gan Tata o reidrwydd, ond gan brynwyr yn y dyfodol neu yn sgil uno, yn yr achos hwn. Mae pawb ohonom wedi mynegi ein pryderon am ThyssenKrupp yma yn y gorffennol.

Nawr, rwy’n sylwi yn eich datganiad heddiw, a welais yn weddol ddiweddar, y bydd y pecyn ehangach—y £4 miliwn hwn rydych yn ei ryddhau—yn amodol ar gytuno ar fanylion yr amodau sy’n rhwymo mewn cyfraith. Byddwn yn ddiolchgar, yn gyntaf oll, pe baech yn cadarnhau pwy fydd yn cael eu rhwymo’n gyfreithiol gan yr amodau hynny, oherwydd mae posibilrwydd bob amser fod y trefniant hwn—yn y 10 mlynedd nesaf, gallai Port Talbot, yn arbennig, fod yn destun opsiwn gwerthu arall eto. Yn ail, i ba raddau y byddwch yn gallu rhyddhau manylion yr amodau hynny i ni fel Aelodau’r Cynulliad? Rwy’n cydnabod y bydd gan gyfrinachedd masnachol ran i’w chwarae yma, ond gan gadw mewn cof yn arbennig yr hyn a grybwyllodd David Rees ar fater ymddiriedaeth yn gynharach, ni fuaswn yn hoffi meddwl bod hynny’n cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio â rhannu’r hyn a allwch yn gyfreithiol gyda ni. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau. Rydym wedi bod yn gweithio ar hyn, fel y gwyddoch, ers misoedd lawer ac ni chafodd neb ei gau allan. Yn wir, mae’r berthynas sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Tata wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Buaswn wedi bod wrth fy modd yn gallu darparu sylwebaeth ar ble roeddem gyda Tata, ond yn anffodus, o ystyried sensitifrwydd y mater a’r cyfrinachedd masnachol sy’n rhaid ei gynnal, yn syml iawn, ni allwn wneud hynny. Gallai ymateb mewn unrhyw fanylder i ddyfalu negyddol yn y wasg hefyd fod wedi tanseilio sgyrsiau a oedd ar y gweill ac o bosibl, gallai fod wedi ein harwain at sefyllfa wahanol i’r un rydym ynddi heddiw.

O ran y cymorth rydym yn barod i’w gynnig—nid yn unig y £4 miliwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant, ond cymorth ychwanegol hefyd y bwriadaf ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf—byddai amodau ynghlwm wrth y cymorth hwnnw pe bai Tata yn cael eu prynu neu’n cael eu meddiannu gan unrhyw gwmni arall yn y dyfodol. Byddem yn disgwyl i’r amodau gael eu hanrhydeddu, neu byddem yn disgwyl i’r adnodd hwnnw gael ei adfachu. Nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu dweud i ba raddau y gallwn rannu manylion y cymorth gyda chi, yn syml oherwydd ei bod yn wybodaeth gyfrinachol ar hyn o bryd.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Weinidog. Rhaid i mi ddweud, fe fynegaf fy rhyddhad ynglŷn â’r ffaith fod cytundeb wedi ei gyrraedd a hoffwn ddiolch i chi a’r Prif Weinidog a’r swyddogion am eich rôl yn hyn. Mae’n amlwg yn fater o bryder ein bod yn ddarostyngedig i fympwyon ystafell y bwrdd yn yr India ac rwy’n siŵr fod llawer yn y Siambr sy’n teimlo’n anesmwyth ynglŷn â pha mor ddibynnol yr ydym ar y penderfyniadau nad oes gennym fawr o reolaeth drostynt. A all ein sicrhau, yn y strategaeth economaidd y mae’n ei rhoi at ei gilydd gyda chyd-Aelodau, y gwneir ymdrech fawr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwrthsefyll sioc allanol o’r fath yn well yn y dyfodol, a’n bod yn rhoi opsiynau eraill ar waith ar gyfer ein cymunedau fel nad ydym yn cael ein dal yn wystlon fel hyn gan gwmnïau rhyngwladol, sy’n gwneud penderfyniadau ar chwiw weithiau?

Mae rheolaeth leol yn allweddol, wrth gwrs, ac mae atebolrwydd i’r gymuned yn hanfodol. Rwy’n credu mai un o’r gwersi y gallwn eu dysgu o’r flwyddyn ddiwethaf yw y bydd cymunedau’n sefyll yn unedig pan fyddant yn wynebu’r posibilrwydd o nifer sylweddol o swyddi’n cael eu colli. Rwy’n meddwl bod hynny, yn ei dro, yn cyfiawnhau ein safbwynt drwy’r rhaglen lywodraethu a maniffesto Llafur Cymru, sef edrych ar dyfu’r cwmnïau sy’n gynhenid i Gymru ac sydd â photensial byd-eang cyflym, i alluogi’r cwmnïau lleol hynny yn y bôn i dyfu o fod yn dda i fod yn wych ac i ddod yn gwmnïau o safon fyd-eang sy’n cyflogi niferoedd sylweddol. Yn gynharach heddiw, fe ofynnoch gwestiwn am y pedwerydd chwyldro diwydiannol ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod yn rhaid i’r strategaeth economaidd sy’n dod i’r amlwg roi sylw dyledus i hynny a’r materion rydych newydd eu crybwyll yn awr.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hon yn sicr wedi bod yn eitem lawer mwy cadarnhaol na’r diwrnod y cafodd y Cynulliad blaenorol ei alw’n ôl ar 4 Ebrill eleni. Mae wedi bod yn wyth mis hir iawn yn dilyn cyhoeddiad cyntaf Tata.

So, I thank the Cabinet Secretary. We now move to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I move to voting time.

10. 7. Cyfnod Pleidleisio

Y bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl yr Aelodau unigol ar iechyd y cyhoedd. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns a Dai Lloyd. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid, 48; yn ymatal, neb; yn erbyn, neb. Ac felly, mae’r cynnig yn cael ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6144.

Yr ail bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddatganiad yr hydref. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid, 17, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6182.

Rwy’n galw felly am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 31, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6182.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 37, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6182.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 37, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6182.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6182.

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6182.

Cynnig NDM6182 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU.

2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a 2020-21.

3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben.

4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref.

5. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU.

6. Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18.

7. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru.

8. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe.

9. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid 31, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6182 wedi’i ddiwygio.

Symud nawr at bleidlais ar ddadl UKIP ar ffioedd asiantau gosod. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 6, yn ymatal 11, 31 yn erbyn. Felly mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 31, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6181.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 25, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i NDM6181.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 36, ymatal 6, yn erbyn 6. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 36, Yn erbyn 6, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i NDM6181.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i NDM6181.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, 11 yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 25, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i NDM6181.

Cynnig NDM6181 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.

2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn weithio yng ngoleuni tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn Lloegr.

(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.

(c) ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 48, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6181 fel y’i diwygiwyd.

11. 8. Dadl Fer: Casnewydd—Dinas ar i Fyny

Rydym yn symud ymlaen yn awr i’r eitem olaf ar ein hagenda am y prynhawn yma, sef y ddadl fer. Rwy’n galw ar John Griffiths i gyflwyno y ddadl a gyflwynwyd yn ei enw e. John Griffiths.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n bwriadu rhoi dau funud i Jane Bryant, Lywydd, a munud i Mohammad Asghar i siarad yn y ddadl hon, yn dilyn eu cais am gael gwneud hynny. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer hon y gobeithiaf ei defnyddio i dynnu sylw at y ffyrdd y gall cynlluniau adfywio sy’n seiliedig ar feddwl trwyadl helpu i ailfywiogi dinas fel Casnewydd a rhoi i’r ddinas, a’r rhanbarth ehangach yn wir, y dyfodol ffyniannus rydym ei angen. Tref ddociau a chanolfan ddiwydiant oedd Casnewydd am flynyddoedd lawer, wrth gwrs, yn enwedig ar gyfer dur. Mae dur, wrth gwrs, yn dal yn bwysig iawn fel diwydiant yng Nghasnewydd, a’r her o’n blaenau yw cynnal a thyfu ein cryfderau presennol megis dur, gan ddatblygu swyddi a thwf newydd hefyd a fydd yn gwneud i’r ddinas ffynnu eto yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y mae wedi gwneud yn y gorffennol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae llawer o gymunedau yng Nghymru a thu hwnt wedi cael profiadau tebyg i rai Casnewydd dros y degawdau diwethaf. Mae natur gyfnewidiol gwaith a dirywiad diwydiant trwm wedi arwain at ostyngiad yn nifer y swyddi traddodiadol, ac mae’r newidiadau hyn wedi cwestiynu sut y byddwn yn ffynnu eto. Felly, croesawaf y cyfle i ddefnyddio’r ddadl hon i dynnu sylw at sut y mae’r her hon yn cael ei goresgyn yng Nghasnewydd a sut y mae dyfodol mwy disglair yn cael ei greu.

Un o’r themâu allweddol sy’n sail i ailfywiogi Casnewydd yw partneriaeth. Mae partneriaeth yn gwbl ganolog. Mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector preifat, y trydydd sector, prifysgolion a llawer o rai eraill yn gyrru’r adfywiad hwn yn ei flaen. A cheir cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd y bartneriaeth rhwng dinasyddion Casnewydd a’u cyngor. Mae’n fath gwahanol o bartneriaeth i’r un sy’n gyrru datblygiadau mawr, ond mae’n gwbl hanfodol i lwyddiant y ddinas.

Ddirprwy Lywydd, byddaf yn siarad am y ddau fath o bartneriaeth heddiw. Un o’r pethau cyntaf y mae’n rhaid i mi sôn amdano yw datblygiad blaenllaw y soniais amdano yn y Siambr hon a’r tu allan sawl gwaith o’r blaen. Cynllun manwerthu a hamdden Friars Walk Casnewydd yw conglfaen y gwaith o adfywio Casnewydd ac mae wedi bod yn allweddol i ddenu mwy o fewnfuddsoddiad i’r ddinas. Mae wedi bod yn ganolog i gynlluniau Cyngor Casnewydd i annog mwy o fywiogrwydd busnes ac yn wir, y defnydd o ofod preswyl newydd yn y ddinas. Gyda’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r datblygwyr, mae’r cynllun £100 miliwn hwn wedi dod â swyddi, siopau a hamdden yn ôl i mewn i galon y ddinas. Ond aeth y cynlluniau yn llawer ehangach na Friars Walk. Cyflwynodd y cyngor gais uchelgeisiol a chryf am gyllid o fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Roedd y cais yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £15 miliwn mewn grantiau a benthyciad o £1.2 miliwn ar gyfer cynlluniau adfywio amrywiol. Ar draws ystod o brosiectau, mae hyn wedi sicrhau buddsoddiad mewn 35 eiddo drwy grantiau neu fenthyciadau, mae wedi arwain at ddarparu sgiliau, swyddi a hyfforddiant, ac mae wedi cael effaith sylweddol. Yn wir, cyflwynodd Casnewydd y cynllun tai mawr cyntaf i’w gwblhau dan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gyda phrosiect mawr ar Heol Caerdydd. Mae cymysgedd o eiddo wedi cael eu darparu mewn partneriaeth â chymdeithasau tai, rhai i’w gwerthu ar gyfradd y farchnad a thai fforddiadwy i rai mewn angen, ynghyd ag eiddo rhent.

Mae’r effaith economaidd wedi cael ei gwylio’n ofalus. Rhwng Friars Walk a’r cynlluniau a ariennir gan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae’r cyngor yn cyfrifo bod dros 1,200 o swyddi wedi eu creu, ac o 600 o bobl sydd angen cymorth cyflogaeth yn ardal ganolog y ddinas, mae 340 wedi cael eu helpu i gael gwaith drwy hyfforddiant sgiliau yn y gweithle, a ariennir gydag arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Crëwyd hyfforddeiaethau adeiladu, ac mae 37 o gyflenwyr adeiladu lleol wedi llwyddo i sicrhau contractau, gan helpu i gadw swyddi lleol yn lleol a rhoi hwb i economi Cymru. Mae busnesau bach yn cael eu helpu drwy gronfa datblygu busnes. Mae dros £96 miliwn o fuddsoddiad preifat ychwanegol wedi cael ei ddenu gan y cynlluniau, sy’n arwydd pwysig o lwyddiant, rwy’n credu. Mae arian cyhoeddus wedi datgloi’r buddsoddiad ychwanegol hwn ac mae wedi dod â thwf ychwanegol. Ac wrth gwrs, busnesau bach, fel rydym i gyd yn gwybod, rwy’n credu, yw asgwrn cefn ein heconomïau lleol a chenedlaethol.

Ddirprwy Lywydd, dylid dathlu llwyddiant y cynlluniau hyn, ond nid yw ond yn rhan o’r darlun o’r datblygiadau cadarnhaol sy’n digwydd ar draws Casnewydd. Er enghraifft, bydd datblygiad tai a busnesau Glan Llyn yn fy etholaeth i—ar ran o hen safle cynhyrchu dur Llanwern mewn gwirionedd—yn darparu 4,000 o gartrefi a 6,000 o swyddi dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae gennym brosiect pwysig iawn, a fydd yn golygu bod Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru yn cydweithio mewn partneriaeth â’r cyngor a’r sector preifat i ddatblygu ardal wybodaeth fawr yng nghanol y ddinas, ar lan yr afon. Bydd hon yn cael ei hangori o amgylch campws presennol y brifysgol yng nghanol y ddinas a byddai’n golygu adleoli campws Casnewydd Coleg Gwent o Nash yn y ddinas i’r safle ar lan yr afon. Byddai’n sicrhau bod addysg bellach ac addysg uwch yn amlwg iawn i’r bobl leol gyda’i leoliad canolog ac yn fy marn i, byddai’n cryfhau’n fawr y llwybrau dilyniant o addysg bellach i addysg uwch.

Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y gwaith adeiladu ar ganolfan gynadledda fawr i fod i ddechrau y flwyddyn nesaf, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Celtic Manor. Hon fydd prif ganolfan gynadledda Cymru, ac amcangyfrifir y bydd yn dod â budd economaidd o £70 miliwn y flwyddyn i mewn i’r rhanbarth. Ac eisoes rydym yn gweld twf pellach mewn gwestai yn lleol, ac fe fydd yna fantais ddiamheuol i lu o fusnesau bach lleol. Cyhoeddwyd y dyddiad ar gyfer dechrau gwaith ar hyn yn uwchgynhadledd dinas Casnewydd yr wythnos diwethaf. Hon oedd y bedwaredd uwchgynhadledd o’r fath y mae Casnewydd wedi’i chynnal. Mae’n ddigwyddiad sy’n dwyn partneriaid allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i rannu syniadau a gwybodaeth am y prif brosiectau a’r datblygiadau sy’n digwydd yn y ddinas a’r rhanbarth ehangach. Eleni, roedd yn llwyddiannus iawn unwaith eto, gydag ymdeimlad cryf o gynnydd a chyfle pellach. Mewn gwirionedd, mae’r optimistiaeth yng Nghasnewydd yn galonogol iawn. Gyda’r arweinyddiaeth gywir, buddsoddi a gweithio mewn partneriaeth, mae’n dangos bod modd goresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu swyddi da, mannau y gellir byw ynddynt ac economi ffyniannus.

A Ddirprwy Lywydd, mae ein papur lleol, y ‘South Wales Argus’ yn hyrwyddo Casnewydd fel y gwnaeth erioed. Maent yn cynnal ymgyrch cefnogi Casnewydd i dynnu sylw at y ddinas a’i hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â siarad am ein cyflawniadau gwirioneddol a dangos lle mor dda yw Casnewydd i fyw, gweithio a gwneud busnes. Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â dathlu’r prosiectau mawr, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod ein busnesau annibynnol a bach. Maent yn asgwrn cefn ac yn gwbl ganolog i’n heconomi leol unigryw ac yn gymaint rhan o’n dyfodol â’r cynlluniau mawr pwysig, ac maent yn hanfodol i’n llwyddiant economaidd. Unwaith eto, maent yn cael eu cydnabod yn amlwg yn ymgyrchoedd parhaus y ‘South Wales Argus’ a chan gyngor y ddinas a phartneriaid allweddol.

Wrth gwrs, diben adfywio yw helpu pobl ac i wneud ein dinas yn lle gwych i fyw. Rhaid i ddinasyddion Casnewydd fod yn ganolog iddo. Mae’r cyngor wedi cydnabod hyn hefyd, gyda math gwahanol o bartneriaeth—un sy’n hyrwyddo Casnewydd fel dinas democratiaeth. Mae’n addas iawn y dylid hyrwyddo Casnewydd yn y ffordd honno, o ystyried ein hanes Siartaidd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at hynny yn un o’r datganiadau 90 eiliad cyntaf yma yn y Siambr hon. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adeiladu ar hanes balch iawn yn awr gyda Dinas Democratiaeth.

Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddom oll, mae unrhyw ddinas neu dref yn dibynnu’n allweddol ar ei phobl—nid yw ond cystal â’i phoblogaeth. Rwy’n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghasnewydd i gael poblogaeth leol ddyfeisgar, sydd wedi dangos ei gallu i addasu i anghenion economi sy’n newid dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae pobl Casnewydd yn cyfrannu at eu dinas yn falch iawn ac yn awyddus i’w gwneud yn llwyddiant. Pan edrychwn ar y cae chwaraeon, Ddirprwy Lywydd, gwelwn y balchder hwnnw’n cael ei amlygu ar ffurf cefnogaeth gref iawn i Ddreigiau Casnewydd Gwent a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, yr olaf, wrth gwrs, bellach wedi eu hadfer yn briodol i’r gynghrair bêl-droed ac yn mynd i aros yn y gynghrair bêl-droed am lawer o flynyddoedd i ddod, rwy’n gobeithio.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n parhau, ac rwy’n gwybod y bydd y cyd-Aelodau’n parhau i gefnogi ymdrechion pawb sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy disglair i Gasnewydd, fy nhref enedigol ac erbyn hyn, wrth gwrs, fy ninas enedigol. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd cryf rydym wedi’i wneud yn ddiweddar. Credaf yn gryf y bydd manteision Casnewydd, gan gynnwys ei lleoliad daearyddol a’i chysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu, yn helpu i sicrhau bod amseroedd mwyaf cyffrous y ddinas o’n blaenau.

Diolch i fy nghyd-frodor o Gasnewydd, John Griffiths, am dynnu sylw at ein dinas yma heddiw. Cytunaf yn llwyr â’r pwyntiau y mae John wedi eu gwneud. Mae bywiogrwydd newydd yn perthyn i ganol dinas Casnewydd, i raddau helaeth oherwydd Friars Walk, sydd wedi dod â siopau a bwytai blaenllaw i mewn, ynghyd â’r busnesau annibynnol amhrisiadwy—a rhai ohonynt wedi aros yng Nghasnewydd drwy adegau da a drwg—a busnesau newydd cyffrous megis Parc Pantry, Crafted a’r Tiny Rebel Brewery Co. sydd wedi ennill gwobrau, ac un neu ddau o enghreifftiau’n unig yw’r rhain.

Mae cymaint mwy i ddod. Mae John wedi crybwyll canolfan gynadledda newydd o safon fyd-eang yn y Celtic Manor, a fydd yn destun balchder unwaith eto i Gasnewydd, ac nid yn unig i Gasnewydd, ond i Gymru. Mae gennym un o’r unedau therapi pelydr proton cyntaf yn y DU ar gyfer triniaeth ganser ar fin agor yng ngorllewin y ddinas, ac rwyf wedi siarad yn y Siambr o’r blaen am gynllun y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu canolfan ddata.

Yn bersonol rwy’n falch, fel rhywun a gafodd ei eni a’i fagu ac sy’n byw yng Nghasnewydd, o’n treftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon, gyda’r olion Rhufeinig yng Nghaerllion, hanes morwrol canoloesol cyfoethog, ein pont gludo fawreddog a cheinder Tŷ Tredegar, ynghyd â’r parciau hanesyddol, megis Belle Vue. Mae ein hanes Siartaidd unigryw yn rhoi Casnewydd ar y blaen mewn democratiaeth fodern. Mae ein gorffennol a’n presennol diwydiannol a cherddorol yn denu pobl i’n dinas. O Ŵyl Werin Tŷ Tredegar i ŵyl gelfyddydau Caerllion, mae gennym hanes cyfoethog ac rydym yn ddinas sy’n rhaid iddi barhau i gamu ymlaen.

Rwy’n ddiolchgar i John Griffiths am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wrth fy modd â Chasnewydd. Dyma’r lle y dewisais wneud fy nghartref dros 45 mlynedd yn ôl, ond fel llawer o drefi a dinasoedd eraill, mae Casnewydd wedi dioddef o ganlyniad i newidiadau mewn arferion siopa. Mae’r adroddiad diweddaraf gan y Local Data Company yn gosod Casnewydd ymhlith y canol trefi sy’n perfformio waethaf o ran adeiladau manwerthu a hamdden gwag, gyda chyfradd o dros 25 y cant. Mae’n dda gweld, felly, y gwaith sy’n cael ei wneud ar adfywio’r ddinas. Rydym eisoes wedi gweld llwyddiant prosiect Friars Walk. Mae gan y cwmni sydd wrth wraidd Friars Walk, Queensberry Real Estate gynlluniau i greu sgwâr cyhoeddus i adfywio rhan ddeheuol Commercial Street—dyma newyddion da iawn. Ond rhaid i ni ddenu mwy o ymwelwyr i Gasnewydd.

Ddirprwy Lywydd, dros bum mlynedd yn ôl, yn y Siambr hon, nodais y pwynt am ganolfan gynadledda yng Nghymru. Rwy’n falch fod Syr Terry Matthews wedi deall ein cred ac ar ôl pum mlynedd, mae rhywbeth yn symud ymlaen. Rwy’n gyffrous iawn am y cynllun ar gyfer y ganolfan gynadledda ryngwladol a grybwyllodd John. Mae’n ddiwydiant gwerth £21 biliwn ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac rwy’n siŵr y byddwn yn cael cyfran fawr ohono. Rydym eisoes wedi gweld budd o gynnal Cwpan Ryder ac uwchgynhadledd NATO yn y Celtic Manor, a gall canolfan gynadledda ryngwladol adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a dod ag o leiaf £17 miliwn y flwyddyn i’r ardal honno yng Nghasnewydd. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn ymuno â mi i groesawu’r datblygiad a chydnabod y cyfraniad enfawr y bydd yn ei wneud i sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn ddinas ar gynnydd ac yn un o’r goreuon yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y bont gludo grog fawr; Fonesig Butler; Goldie Lookin Chain; Clwb Pêl-droed Dinas Casnewydd; John Griffiths—mae ei angerdd am Gasnewydd, fel bob amser, yn ysbrydoli, a dyna rai’n unig o’r pethau sy’n rhoi ei enwogrwydd i Gasnewydd. Mae’n hyrwyddwr cryf ar ran y ddinas ac yn dadlau’n benderfynol dros weithredu er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i gyflawni ei photensial.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n Ysgrifennydd y Cabinet o’r gogledd, fel y gwyddoch yn iawn, a gallaf ddweud bod Casnewydd wedi cael ei bendithio i gael dau o Aelodau gorau’r Cynulliad yn y de yn eu hardal—John Griffiths a Jayne Bryant—ac rwy’n falch iawn o allu gweithio gyda hwy. Mae eu cyfraniad yma heddiw yn dweud llawer iawn amdanynt a’r ddinas y maent yn ei chynrychioli. Croesawaf y cyfle i dynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud yn y ddinas hon a hoffwn adleisio’r clod i rai o’r llwyddiannau nodedig a fynegwyd eisoes yn y ddadl hon heddiw. Er hynny, siom bychan yw’r ffaith nad wyf, mewn tri ymweliad â’r ddinas dros y pythefnos diwethaf, wedi dod o hyd i fragdy’r Tiny Rebel eto, ond dibynnaf ar Jayne Bryant i roi cyflwyniad i mi, efallai. [Chwerthin.] Fel y mae John Griffiths yn ei ddweud yn ddigon cywir, mae Casnewydd yn ddinas ar gynnydd; mae Casnewydd yn ddinas sy’n symud i’r cyfeiriad cywir. Yn wir, gwrthryfel Siartwyr Casnewydd yn 1839—pe bai John yn ddigon hen, credaf y byddai wedi bod ar flaen y gad yn hwnnw, hefyd.

Mae Casnewydd wedi bod yn chwifio’r faner yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi croesawu digwyddiadau mawreddog o fri yn llwyddiannus iawn, megis uwchgynhadledd NATO ym mis Medi 2014, gan ddenu arweinwyr o bob rhan o’r byd—yr Arlywydd Obama yng Nghasnewydd; mae ef hyd yn oed wedi clywed amdani. Ac wrth gwrs, roedd hynny’n dilyn y Cwpan Ryder cofiadwy yn y Celtic Manor yn 2010. Mae’r digwyddiadau hyn wedi rhoi Casnewydd a Chymru ar y map, a phan oedd llygaid y byd arnom, fe gyflawnodd Cymru—fe gyflawnodd Casnewydd. Rydym yn ymwybodol iawn o’r digwyddiadau hyn ac maent yn fan cychwyn ar gyfer y ddinas ac yn sbardun gwych i gynnydd pellach. Felly, mae angen i’r cyngor ac eraill allu harneisio effeithiau cadarnhaol digwyddiadau mawr fel y rhain, er mwyn sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo drwy gymunedau lleol eraill yn ogystal—yn wir, yn etholaeth gyfagos Hefin—gan eu helpu i adeiladu cydnerthedd a dod yn fwy llewyrchus wrth i ni symud ymlaen. Nid yn unig y mae Casnewydd lwyddiannus a ffyniannus yn dda i drigolion lleol; mae o fudd i’r ardaloedd cyfagos hefyd, ac yn darparu cyfleoedd ehangach. Rydym yn aml yn clywed, fel y gwnaf yn y gogledd, am ddinasoedd a lleoedd sy’n cystadlu â’i gilydd, a Chasnewydd yn ail neu’n drydedd dref de Cymru. Rwy’n credu eich bod yn dod yn agos at y brig, ac rwy’n meddwl, oherwydd y gwaith rydych yn ei wneud ar y cyd—tîm Llafur, John Griffiths a Jayne Bryant, yn gweithio gyda Debbie Wilcox a’r tîm Llafur, a Bob Bright o’r blaen—mae hynny wedi dangos y gallwn ailadeiladu ein cymunedau. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o hynny.

Drwy ein rhaglen adfywio cyfalaf, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym wedi darparu £16 miliwn o gyllid cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i wella’r tai newydd, i wella amodau tai, datblygu seilwaith lleol, a’r adeiladau allweddol y mae’r Aelodau wedi cyfeirio atynt heddiw. Yn wir, roeddwn yn falch iawn o ymweld â Friars Walk yng nghanol y ddinas. Mae yna fywiogrwydd newydd ynglŷn â’r ardal honno, ac mae’n lle gwych i ddatblygu busnes newydd ac i gefnogi cyflogaeth, gan gefnogi’r gymuned leol. Ond nid drwy hap y digwyddodd hyn—mae wedi digwydd drwy gynllunio, a chefnogaeth yr awdurdod lleol, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol.

Soniais yn gynharach fy mod wedi ymweld â Chasnewydd ar dri achlysur yr wythnos diwethaf, a’r ymweliad diweddaraf y bore yma—yn wir, roeddwn yn y cae pêl-droed y mae John Griffiths yn aml yn ymddangos ynddo—nid i chwarae, ond mae’n gefnogwr brwd, a hir y parhaed hynny hefyd. Mae’n wych gwybod bod y tîm yn y gynghrair y gobeithiai y byddai ynddi.

Bythefnos yn ôl gwelais â’m llygaid fy hun rai o’r prosiectau ardderchog hyn. Mae’r gwaith a wnaed yn yr adeilad cenedlaethol yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gref—yn union yr hyn roedd John Griffiths yn siarad amdano. Mae’r prosiect bellach yn darparu safleoedd busnes, yn ogystal â 12 o gartrefi newydd yn y ddinas. Yn wir, roedd yn fraint cael agor meithrinfa newydd i blant, sy’n fusnes sydd wedi gallu ehangu oherwydd y cyfleusterau newydd mewn adeilad cenedlaethol wedi’i adnewyddu—cyfleuster gwych. Eiddo’r ystad dai ar Heol Caerdydd—eto, rwy’n cydnabod pob un o’r rhain fel pethau trawsnewidiol ar gyfer y ddinas wych hon.

Lywydd, rwy’n credu bod yna daith wych i Gasnewydd, a ddangoswyd gan weledigaeth unigolion wrth iddynt basio drwy’r gymuned honno, ond erbyn hyn nid pasio drwodd yn unig y mae pobl yn ei wneud—maent yn aros ac yn meddwl ac yn gweithio, gyda chyfle i gymryd rhan a buddsoddi yno. Unwaith eto, nid oes prinder gwaith yn cael ei gyflawni gan fy nghyfaill da, John Griffiths. Dymunaf bob lwc i Gasnewydd, a gobeithiaf y bydd y cynnydd hwnnw’n parhau, gan weithio gyda phartneriaid megis Cartrefi Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill yn wir, sy’n gweithio yn yr ardal honno. Rwy’n credu bod yna gyfle gwych i ni gyd ddweud, ‘Rydym yn cefnogi Casnewydd’, fel yr ymgyrch, ac mae hynny wedi cael ei amlygu heddiw gyda chyfraniad yr Aelodau yn y Siambr hon. Rwy’n dymuno pob lwc iddynt a gobeithio y bydd Casnewydd yn parhau i gamu ymlaen fel dinas ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:53