Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
19/10/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Dechreuwn y trafodion drwy goffáu digwyddiad trasig a ddigwyddodd 50 mlynedd yn ôl yn Aberfan, ar 21 Hydref 1966 pan gafodd 144 o bobl eu lladd, 116 ohonynt yn blant. Bydd yr Aelodau wedi clywed cyfraniadau ein gwesteion o Aberfan a ymunodd â ni yn nigwyddiad coffa’r Cynulliad yn gynharach, ac sy’n ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus. Ar ran yr holl Aelodau, diolch i chi am ymuno â ni heddiw, ac am gymryd rhan mewn teyrnged mor arbennig.
The Senedd is a platform on which we can represent our nation’s story. It’s important that it plays a role in reflecting our spirit, our past, our present and our future. The resilience of the community of Aberfan in the face of adversity is testament to the triumph of hope, even in the face of tragedy. I know invite Dawn Bowden to speak on behalf of her constituency and the community of Aberfan, Merthyr Tydfil and Rhymney. Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Chwarter wedi naw y bore, ddydd Gwener 21 Hydref, 1966—fe wnaeth effaith digwyddiadau ofnadwy’r diwrnod hwnnw yn Aberfan ddiasbedain o gwmpas y byd. Ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol, collodd un pentref glofaol bychan 116 o blant a 28 o oedolion. Ni fyddai dim yr un fath byth eto i Aberfan, i Gymru, i’r byd. Un diwrnod yn ddiweddarach, un awr yn gynt, a byddai pethau wedi bod mor wahanol.
Aberfan oedd y trychineb mawr cyntaf a welodd y byd drwy lens camera teledu, ac roedd yr effaith yn enbyd. Mae gweld ffrydiau diddiwedd o lowyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr brys a’r lluoedd arfog yn ymladd yn ddiflino i ddod o hyd i rai’n fyw, ac i gludo’r rhai a fu farw, yn glir iawn yng nghof unrhyw un a oedd o gwmpas ar y pryd. Er gwaethaf yr ymdrechion arwrol hyn, ni chafodd neb ei ganfod yn fyw ar ôl 11:00 y bore.
Fel plentyn bach, nad oedd yn byw yn Aberfan, na hyd yn oed yng Nghymru ar y pryd, dyma’r stori newyddion gyntaf y mae gennyf gof amdani. Cymaint oedd ei heffaith, mae arswyd yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw wedi aros gyda mi drwy gydol fy oes, wrth i mi gofio mor glir fy rhieni’n diolch i Dduw nad fi neu fy mrawd a oedd wedi mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw i beidio â dod adref byth. Roedd eu tristwch yn arllwys allan dros bobl nad oeddent yn eu hadnabod ac na fyddent byth yn eu cyfarfod, ond fel rhieni ifanc eu hunain, dyma bobl roedd ganddynt empathi llwyr â hwy. Ar y pryd, teimlai pawb boen Aberfan.
Wrth gwrs, dyna’r diwrnod y newidiodd cymuned Aberfan am byth. Ni fyddai’r rhai a oroesodd byth yn gwybod am normalrwydd bywyd heb drasiedi. Collodd teuluoedd feibion, merched, brodyr, chwiorydd, gwŷr, gwragedd, rhieni a neiniau a theidiau—bywydau a chwalwyd o dan y mynydd o laid du. Euogrwydd y rhai a oroesodd pan fu farw eu ffrindiau, euogrwydd rhieni roedd eu plant wedi goroesi pan gafodd llawer eu gadael yn ddi-blant, rhieni plant a gollwyd, yn methu ymweld â’u beddau, neu newid ystafell wely plentyn, athrawon a laddwyd wrth wneud eu gwaith—trawma mud y gwyddom ei fod yn aros gyda chymaint ohonynt hyd yn oed yn awr.
Ni adawyd neb heb ei effeithio gan y digwyddiadau ofnadwy hyn, ond rhoddodd y gymuned bob cysur a nerth i’w gilydd i ddod drwyddi. Wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant y trychineb, mae’n rhoi amser i ni i gyd fyfyrio ar y bywydau a gollwyd, y teuluoedd a dorrwyd, y goroeswyr a boenydiwyd. Ond mae hefyd yn ein galluogi i fyfyrio ar gadernid cymuned a’r dewrder a ddangoswyd yn wyneb y trychineb mwyaf enbyd.
Mae’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn dangos i ni fod pris glo, mewn man lle roedd cloddio amdano yn unig reswm dros ei fodolaeth, yn bris rhy uchel i unrhyw gymuned ei dalu. Ond glo hefyd oedd wedi creu’r cymunedau glofaol hyn nad oedd eu gwerthoedd o undod, brawdoliaeth ac ysbryd cymunedol i’w weld yn aml mewn mannau eraill. Mae’r ysbryd hwnnw wedi parhau i fyw ymhell wedi i’r glo olaf gael ei dorri yn Ynysowen, ac mae’r ysbryd hwnnw wedi bod er y fath glod i bobl Aberfan, gan eu galluogi i ailadeiladu eu bywydau a’u cymuned, ac i edrych ymlaen gyda dewrder, urddas a gobaith.
Mae’r urddas hwnnw wedi bod mor amlwg wrth i’r bobl Aberfan ddod ynghyd i wneud trefniadau i nodi’r hanner canmlwyddiant, ac rwy’n talu teyrnged i bob un ohonoch, nid eleni’n unig, ond bob dydd o bob blwyddyn, am bopeth a wnewch dros eich gilydd, ac er cof am y rhai a gollwyd. Rwyf wedi gweithio gyda nifer ohonoch yn ystod y misoedd a’r wythnosau diwethaf wrth i ni drafod y digwyddiadau hyn, a bu’n fraint dod i’ch adnabod a bellach i’ch galw’n ffrindiau.
Er ei bod yn anodd siarad am bethau cadarnhaol wrth ystyried maint y dioddefaint a wynebodd y gymuned lofaol fechan hon, efallai fod rhyw gysur mewn cydnabod ei fod wedi arwain yn y pen draw at gael gwared ar yr holl domenni glo ar draws y wlad, gan sicrhau na allai trychineb Aberfan byth ddigwydd eto. Arweiniodd at welliannau mewn iechyd a diogelwch yn y gwaith, yn enwedig mewn diwydiant trwm, ac arweiniodd at gydnabod effaith profiadau pobl yn Aberfan o’r diwedd fel cyflwr meddygol anhwylder straen wedi trawma, fel bod y rhai a oedd angen triniaeth am y trawmâu roeddent wedi’u dioddef yn gallu ei chael. Felly, er bod digwyddiadau’r hanner canmlwyddiant yn sicr yn dod ag atgofion ofnadwy yn ôl i lawer, mae hefyd yn amser i’r wlad gyfan ddod at ei gilydd i gefnogi Aberfan a rhoi gwybod iddynt nad aiff y rhai a gollwyd byth yn angof. Bydd y gymuned hon yn tyfu ac yn cryfhau gyda phob blwyddyn ac wrth i genedlaethau newydd adeiladu eu dyfodol a dod yn obaith newydd.
Wrth gloi, mae’n rhaid i mi gydnabod pa gydymdeimlad ac empathi bynnag a fynegwn, ni all neb ond y rhai sy’n rhan uniongyrchol o hyn wybod beth oedd gwir effeithiau 21 Hydref 1966. Ond fe allwn, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ran pobl Cymru, a chymaint o bobl y tu hwnt iddi, obeithio y bydd ein gweithgarwch coffáu yn cynnig rhywfaint o gymorth a chysur parhaus i gymuned Aberfan.
Galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Lywydd, am 9.15 y bore ar 21 Hydref 1966 newidiodd Cymru am byth. Pan lithrodd tomen Rhif 7 Ynysowen drwy niwl y bore mewn ton 40 troedfedd a lyncodd ysgol gynradd Pantglas a’r adeiladau cyfagos, fe gafodd effaith ddofn ar y gymuned, wrth gwrs, ond hefyd ar y byd ehangach. Roedd fy mam yn athrawes ysgol ifanc, yn feichiog gyda mi, pan glywodd am y newyddion o Aberfan. Roedd yn amser egwyl yn yr ysgol gynradd lle roedd hi’n dysgu. Daeth y pennaeth i mewn a dweud, ‘Mae yna ysgol ym Merthyr wedi dymchwel. Nid ydym yn gwybod a oes unrhyw un wedi brifo.’ A dyna’r cyfan a wyddent ar y pryd. Ac yna daeth y stori lawn allan yn ystod y dydd.
Fe effeithiodd arni. Dros y blynyddoedd, clywais hi’n siarad am Aberfan. Clywais hi’n sôn am athrawon a ganfuwyd wedi’u claddu gyda’u breichiau o gwmpas y plant i geisio’u hamddiffyn rhag y dilyw, a phan oedd fy mhlant fy hun yn ifanc, fe aethom i amgueddfa lofaol Big Pit, ac yno’n cael eu harddangos mae tudalennau blaen papurau newydd yn disgrifio’r trychineb, ac fe effeithiwyd arni’n ddwfn bryd hynny. Oherwydd, er nad oedd hi o Aberfan, roedd hi’n dod o bentref bach glofaol ac roedd hi’n gwybod beth fyddai’r gost i’r gymuned.
Roedd dynion yn gwybod am y peryglon o weithio dan ddaear. Roeddent yn gwybod am y peryglon o gwymp. Roeddent yn ofni cael eu llyncu gan dagnwy. Roeddent yn gwybod am rym ffrwydrol llosgnwy. Roeddent yn gwybod am y risg o gael anaf o dan y ddaear. Roedd y lamprwms yn llawn o ddynion a dystiai i hynny. Gwelodd llawer ohonom yn ein teuluoedd effaith llwch ar ysgyfaint y rhai a weithiai o dan y ddaear—a niwmoconiosis ac emffysema yn dwyn bywydau’r rheini wrth iddynt heneiddio cyn pryd a chael eu cymryd mor ifanc. Roeddent yn gwybod bod pris glo yn uchel, ond nid oeddent yn sylweddoli y byddai’r pris mor ormodol, oherwydd pwy fyddai wedi meddwl y gallai glo gymryd bywydau plant mor sydyn, a hynny uwchben y ddaear?
Ni allwn rannu profiad cymuned Aberfan a’r rhai a gollodd cymaint. Ni allwn rannu eu galar am fod eu galar yn wahanol. Mae eu galar wedi bod, ac yn dal i fod, yn digwydd o dan y chwyddwydr cyhoeddus. A bydd yr wythnos hon yn anodd. Bydd dydd Gwener yn hynod o anodd i gynifer o deuluoedd. Ond rwy’n gobeithio fy mod yn siarad ar ran pob Aelod yn y Siambr hon pan ddywedaf heddiw ein bod yn sefyll yn unedig â phobl Aberfan. Rydym yn cynnig cefnogaeth iddynt a rhywfaint o gysur gobeithio wrth iddynt ymdopi ag atgofion y diwrnod hwnnw pan ddaeth tywyllwch gaeaf yn gynnar i gymuned Aberfan.
Mae digwyddiadau 21 Hydref 1966 yn diasbedain ar draws Cymru gyfan. Cafodd llawer o’n cymunedau eu creu o ganlyniad i’r wythïen gyfoethog o lo o dan ein traed. Daeth glo â gwaith, daeth â chyfleoedd, rhoddodd seilwaith i ni, ond fe gostiodd yn ddrud iawn hefyd. Tyfodd llawer ohonom i fyny gyda thomen lo yn clwydo ar y mynyddoedd uwch ein pennau. Gallai’r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan fod wedi digwydd bron yn unrhyw le a oedd â phwll glo. Tyfodd llawer ohonom i fyny mewn cymunedau clòs iawn lle roeddech yn edrych ar ôl eich cymdogion a lle roedd eich cymdogion yn edrych ar eich ôl chi. Ac oherwydd y cysylltiadau hyn y teimlwn y fath undod cryf gyda phobl Aberfan.
I’r rhai sydd agosaf at y digwyddiad, rhaid i chi wybod ein bod yn eich cefnogi, ein bod yn cydymdeimlo â chi, ein bod yn unedig â chi a’n bod yn eich parchu. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom a’r cenedlaethau sy’n dilyn i sicrhau ein bod yn parhau i gofio beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn Aberfan 50 mlynedd yn ôl a heddiw byddwn yn sicrhau bod Cymru’n cofio.
Taflodd lluniau erchyll trychineb Aberfan rywfaint o oleuni ar y golygfeydd annirnadwy y bu’n rhaid i gymuned Aberfan, Cymru a’r byd eu dioddef 50 mlynedd yn ôl. Aeth y drasiedi hon, a lyncodd 20 o dai ac ysgol y pentref, â bywydau 28 o oedolion a 116 o blant. Roedd y plant newydd ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth ar ôl canu ‘All things bright and beautiful’ yn eu gwasanaeth. Heddiw, fe gofiwn yr oedolion a’r plant a gollodd eu bywydau mewn modd mor drasig, ond rhaid i ni hefyd fyfyrio ar ddewrder y rhai a oroesodd a’r rhai a gafodd brofedigaeth. Ar ôl darllen straeon y goroeswyr sydd bellach wedi teimlo y gallant dorri’r tawelwch hunllefus a rhannu eu profiadau o’r diwrnod hwnnw, rwy’n rhyfeddu at ddewrder aruthrol ac ysbryd cymunedol pobl Aberfan wrth wynebu’r dyfodol yn dilyn y fath dorcalon a dinistr. Mae’r straeon personol a roddwyd gan y rhai a oedd yno ar y diwrnod, fel Karen Thomas, a achubwyd gyda phedwar o blant eraill gan eu cynorthwy-ydd cinio, Nansi Williams, a aberthodd ei bywyd ei hun mor anhunanol i achub y plant ifanc yn ei gofal, yn dangos y dewrder rhyfeddol sy’n rhan annatod o gymuned Aberfan.
O’r lluniau du a gwyn hunllefus hynny, gallwn weld y duwch aruthrol a lyncodd Aberfan y diwrnod hwnnw. Ond er gwaethaf yr erchyllterau a ddioddefwyd, ni ildiodd y gymuned i’r tywyllwch, gan ddewis cloddio’n ddiflino am y goleuni yn lle hynny. Fe gofiwn gyda theimladau o’r parch a’r tosturi mwyaf.
Aberfan: 50 mlynedd yn ôl i heddiw, pentref pwll glo di-nod nad oedd fawr o neb y tu hwnt i’w orwelion ffisegol yn gwybod amdano, ond o fewn 48 awr daeth yn adnabyddus ledled y byd am y trychineb ofnadwy a lyncodd ysgol y pentref a sicrhau anfarwoldeb i’w enw. Malodd llithrad y domen gyrff 116 o blant a 28 o oedolion a malodd galon ein cenedl hefyd am gyfnod ac mae’n dal i gyffwrdd â chalonau cenedlaethau nad oedd wedi eu geni bryd hynny.
Cofiaf ddydd Gwener 21 Hydref, 1966 yn glir iawn. Roedd hi’n hanner tymor. Roedd fy rhieni, fy chwaer a minnau wedi croesi’r bont a oedd newydd gael ei hadeiladu dros yr Hafren i aros am ychydig ddyddiau gyda modryb ac ewythr fy nhad ger Caerfaddon. Yn y dyddiau hynny nid oedd yna newyddion teledu 24 awr, nid oedd yna ffonau symudol—nid oedd gan fy mherthnasau ffôn o gwbl. Clywsom y newyddion ar yr hyn a alwem y pryd hwnnw yn ‘wireless’. Roedd fy nhad yn brif beiriannydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yng ngorllewin Cymru ac aeth i flwch ffôn coch y pentref i gael clywed drosto’i hun beth oedd yn digwydd. Daeth ein gwyliau i ben yn sydyn. Fe baciom ein bagiau ar unwaith, wrth iddo ruthro i helpu gyda’r gwaith achub.
Cefais fy magu mewn byd sydd wedi diflannu, o domenni glo ac offer weindio pen pwll. Mae Cymru wedi gweld llawer o drychinebau pyllau glo, a chollwyd hyd yn oed mwy o fywydau yn rhai ohonynt fel Senghennydd yn 1913 a Gresffordd yn 1934, ond roedd Aberfan yn rhywbeth arall. Roedd perygl yn endemig mewn pwll dwfn, ond roedd y trychineb hwn ar yr wyneb yn ymddangos yn aberth mwy byth o ddiniweidrwydd.
Wrth edrych yn ôl yn awr ar fyd y lluniau du a gwyn roeddem yn byw ynddo bryd hynny, yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw’r urddas ar wynebau’r galarwyr a thristwch stoicaidd, tawel eu galar. Heddiw fe gofiwn, nid yn unig y rhai a fu farw, ond y rhai a oroesodd: eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymdogion.
‘Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru: oherwydd cânt hwy eu cysuro.’
Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau. Mae’n iawn i Senedd Cymru ddangos parch ar adeg hanner canmlwyddiant y trychineb hwn. I gymuned Aberfan, rydym yn ymwybodol ei fod yn drychineb rydych yn byw gydag ef ddydd ar ôl dydd. Fodd bynnag, rhown glod i’r gymuned am wynebu’r dyfodol gyda chryfder a chadernid. Yn awr gofynnaf i’r Cynulliad Cenedlaethol a’r oriel gyhoeddus godi i gofio am y 144 o ddynion, menywod a phlant, y cafodd eu dyfodol ei gipio oddi wrthynt ar y bore hwnnw, 21 Hydref 1966.
Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.
Diolch.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Y cwestiwn cyntaf—Angela Burns.
Gwariant Cyfalaf Diweddar Awdurdodau Lleol
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyfalaf diweddar awdurdodau lleol? OAQ(5)0042(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ar ôl addasu ar gyfer y gwariant cyfalaf untro sy’n gysylltiedig â phrynu allan o system y cymhorthdal cyfrif refeniw tai, cynyddodd gwariant cyfalaf gan awdurdodau lleol 7.4 y cant yn 2015-16.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 45 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o £22 miliwn yn 2014-15 i £12.6 miliwn yn y flwyddyn y ariannol ddiwethaf—y gostyngiad mwyaf o holl wariant cyfalaf llywodraeth leol. Mae’r gwariant refeniw hefyd wedi gostwng 0.4 y cant. Yn wyneb y gostyngiad hwn yn y cyllid, a fyddech mor garedig ag egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well a gweithio i gael gwared ar yr ansicrwydd sy’n wynebu llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn atodol. Pan gaiff addasiadau cyfrifyddu eu hystyried, credaf fod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 1.1 y cant y llynedd mewn gwirionedd, ac roedd hynny’n cyd-fynd â’r amcangyfrifon roedd awdurdodau lleol wedi’u darparu ac nid yw’n ystyried y cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn a ddarparwyd drwy’r gronfa gofal canolraddol, sy’n cael ei wario’n bennaf ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.
Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ddoe, lle y gallwn, am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd, roi cyllideb i awdurdodau lleol yng Nghymru heb doriadau arian parod ynddi, rwyf wedi clustnodi £25 miliwn at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, mewn ymateb i’r alwad gan yr awdurdodau lleol eu hunain, ond gan gydnabod yn glir y pwysau y mae’r gwasanaeth hwnnw’n ei wynebu.
Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fy etholaeth yn fuan ar ysgol gynradd gymunedol newydd yng Nghwmaman, lle mae’r awdurdod lleol yn defnyddio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ddarparu cyfleusterau ysgol sy’n addas i’r diben. A wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y ffordd y mae’n ymwneud â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i wella cyfalaf seilwaith, ond hefyd am y cyfleoedd addysgol y mae’n eu cynnig i blant a phobl ifanc?
Yn sicr, rwy’n ategu canmoliaeth Vikki Howells i gyngor Rhondda Cynon Taf, a chynghorau ledled Cymru yn wir am y modd y maent wedi croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn gweld eu safleoedd yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu. Ond y pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod yn ei chwestiwn atodol tuag at y diwedd yw’r pwysicaf efallai. Mae ysgolion yn fwy nag adeiladau; mae’n ymwneud â’r neges y maent yn ei chyfleu i bobl ifanc am ba mor werthfawr ydynt i ni a’r cyfleoedd y bydd safleoedd priodol o’r math hwn yn parhau i’w darparu yn y dyfodol.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch Cyngor Dinas Caerdydd ar eu prosiect ar gyfer gwariant cyfalaf i gyflwyno deuodau allyrru golau a goleuadau stryd pyladwy yn y ddinas? A yw’n credu bod honno’n ffordd wych o ddefnyddio arian cyfalaf gyda buddiannau hirdymor?
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu bod hanes Caerdydd o ddefnyddio gwariant cyfalaf at ddibenion amgylcheddol o’r math hwn yn rhagorol. Mae’r bwriad diweddaraf i ddefnyddio gwariant cyfalaf ar oleuadau stryd yn y ddinas yn rhan o batrwm ehangach lle maent wedi defnyddio arian, sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn rhannol, ar gyfer effeithlonrwydd ynni goleuadau stryd, effeithlonrwydd ynni adeiladau cyngor a rhaglenni goleuo ysgol—yn Ysgol Gynradd Rhydypenau yn ei hetholaeth ei hun, er enghraifft. Mae’n enghraifft dda iawn o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r cymorth sydd ar gael i ddatgarboneiddio’u gwariant, gan ddarparu gwell dyfodol, nid yn unig i’w dinasyddion eu hunain, ond i’n cenedl gyfan.
Diffyg Trysorlys ei Mawrhydi
2. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith a gaiff diffyg Trysorlys Ei Mawrhydi o £66 biliwn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(5)0049(FLG)
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith a gaiff y diffyg o £66 biliwn, sydd wedi’i ragfynegi yn adroddiad y Trysorlys a ddatgelwyd yn answyddogol, ar Gymru pe baem yn cael telerau llym wrth adael yr UE?
Diolch i Eluned Morgan am y cwestiwn. Mae diogelu ein buddiannau economaidd yng nghyd-destun gadael yr UE yn hanfodol i Gymru. Ynghyd â Gweinidogion cyllid o’r Alban a Gogledd Iwerddon, byddaf yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf cyn datganiad yr hydref. Bydd effaith y trefniadau pontio Ewropeaidd ar frig ein hagenda.
Diolch. Rhybuddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ddoe fod yna adegau o brinder o’n blaenau, ac y dylid defnyddio’r gyllideb eleni fel cyfle i’r rhai sy’n derbyn cyllid yn y sector cyhoeddus baratoi ar gyfer toriadau o ran y caledi sy’n cael ei orfodi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ond yn awr mae gennym y broblem ychwanegol hon o £66 biliwn o ddiffyg a ragfynegir pe baem yn mynd am delerau llym wrth adael yr UE, gan gydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn hytrach na chael mynediad rhydd a dilyffethair at yr UE. Byddai hynny’n gwneud tolc anferth yn nerbyniadau Llywodraeth Cymru. I ba raddau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnwys effaith y tolc o £66 biliwn yn ei ragfynegiadau, a pha effaith a gâi hynny ar ragamcanion gwariant cyfalaf yn y dyfodol?
Mae Eluned Morgan yn tynnu sylw at yr effaith hirdymor y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau anghywir yn ei chael ar Gymru. Mae’r gyllideb a gyflwynais ddoe yn ymdrin â chanlyniadau uniongyrchol colli cyllid Ewropeaidd posibl a fyddai wedi dod i Gymru fel arall. Ond effaith hirdymor llai o dwf yn economi’r DU, gyda phopeth y byddai hynny’n ei olygu o ran derbyniadau treth ac arian sydd ar gael ar gyfer gwariant cyhoeddus, yw’r pryder mwyaf yn y tymor hir. Ar gyfer y gyllideb ddoe, mae tu hwnt i gwmpas y gyllideb refeniw un flwyddyn y gallwn ei chyflwyno, yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd y mae hi’n cyfeirio ato. Yn ddi-os, pe baem yn gweld toriadau ar unrhyw beth tebyg i’r raddfa a awgrymir yn y ddogfen honno a ddatgelwyd yn answyddogol, byddai’r goblygiadau i Gymru yn ddifrifol iawn yn wir.
Yn ychwanegol at ragolygon y Trysorlys a gafodd eu datgelu’n answyddogol ynglŷn â’r diffyg ariannol ac effaith gadael yr UE ar hynny, cafwyd nifer o adroddiadau hefyd ar effaith gadael yr undeb tollau Ewropeaidd a’r farchnad sengl hefyd—sydd oll yn faterion y disgwyliaf y byddant yn cael eu trafod yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Adael yr UE sy’n digwydd ddydd Llun yn ôl yr hyn a ddeallaf. Wrth gwrs, yng ngwasg yr Alban, mae hwnnw’n cael ei ddisgrifio fel gornest rhwng Sturgeon a May. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Adael yr UE a beth yw’r cynllun ar gyfer sicrhau nad yw llais Cymru yn cael ei foddi?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn y Cydbwyllgor Gweinidogion gan y Prif Weinidog a byddaf yn mynd gydag ef i’r cyfarfod hwnnw. Byddwn yn mynd i’r trafodaethau hynny yn yr un modd yn union ag y byddech yn ei ddisgwyl i Weinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fynd i’r trafodaethau hynny, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu dwyn yn gadarn ac yn anosgoadwy i sylw Prif Weinidog a Gweinidogion eraill y DU, ac i sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed wrth i safbwynt negodi’r DU barhau i ddatblygu.
Weinidog, yn amlwg, ers 23 Mehefin, nid yw’r awyr wedi disgyn ar ein pennau, mae twf economaidd yn iach ac yn y pen draw, mae capasiti gweithgynhyrchu yn ehangu. Bu llawer o ragfynegiadau ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm, ond yr hyn rydym yn ymwneud ag ef yma yw’r byd go iawn ac mae angen yn awr iddo fynd rhagddo, wedi’r trafodaethau. A ydych wedi cael trafodaethau gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd buddsoddi, gan fod gweinyddiaethau datganoledig eraill, a rhanbarthau yn wir, ar draws y Deyrnas Unedig yn cynyddu eu gweithgarwch i hyrwyddo rhinweddau eu hardaloedd? A ydych wedi cael trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i wneud llwyfan cryfach ar gyfer hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ar ôl pleidlais y refferendwm ar adael yr UE ar 23 Mehefin?
Mae hyrwyddo cynnig Cymru yn parhau’n rhan bwysig iawn o’r gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn gyffredinol, ac mae’n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Rwy’n credu ei bod yn deg tynnu sylw arweinydd y Blaid Geidwadol at y ffaith nad ydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto, ac yn sicr rydym eto i weld effaith hynny ar ein heconomi. Yr hyn sy’n gwbl glir, gan y busnesau sydd wedi siarad yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl yn parhau i fod yn ffactor penderfynu mewn busnesau sy’n dymuno lleoli yng Nghymru.
A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau nad oes unrhyw ragolwg swyddogol o’r Trysorlys o ddiffyg o £66 biliwn yn deillio o adael yr UE, a bod y ffigwr hwn wedi dod o un papur briffio ymysg nifer gan un o weision sifil anhysbys y Trysorlys, ac mae’n bur bosibl ei fod wedi’i ysgrifennu er mwyn cael ei ddatgelu’n answyddogol yn y lle cyntaf? Byddai’r diffyg o £66 biliwn mewn refeniw treth, sef yr hyn y cyfeiriai ato, yn awgrymu cwymp o 9.5 y cant yn ein hincwm cenedlaethol. Mae hyn yn amlwg yn afresymol o ystyried hyd yn oed os na chawn gytundeb â’r UE o’r trafodaethau gadael hyn, ni fydd tariff ar 75 y cant o nwyddau a gwasanaethau masnachu yr UE beth bynnag.
Mae’r ffigur o £66 biliwn yn dod o ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol, fel y cytunodd yr Aelod. Serch hynny, cynhyrchodd y Trysorlys gyfres o sesiynau briffio llawer mwy ffurfiol cyn y refferendwm ar 23 Mehefin. Dangosai pob un o’r rheini yr effaith andwyol y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ragolygon economaidd y Deyrnas Unedig. Gwelaf nad yw’r Trysorlys wedi datgysylltu ei hun oddi wrth unrhyw un o’r datganiadau a wnaeth bryd hynny.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Galwaf yn awr am gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Diolch yn fawr. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno’r gyllideb ddrafft ddoe. Da iawn oedd gweld nifer o flaenoriaethau Plaid Cymru yn cael eu hadlewyrchu ynddi hi, gan gynnwys £25 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Fel y gwyddoch chi, mae awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi dioddef o doriadau cyllidebol difrifol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’u cyllidebau adnoddau yn gostwng o ryw £461 miliwn mewn termau gwirioneddol rhwng 2010-11 a 2014-15. Felly, mae’n dda gweld bod y cyllid ychwanegol a gafwyd fel rhan o gytundeb y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn golygu, gan gymryd i ystyriaeth y cyllid a ddarperir drwy’r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd, mai dyma’r flwyddyn gyntaf ers 2013-14 i gyllid awdurdodau lleol gynyddu mewn termau nominal, er, wrth gwrs, bydd y pwysau ar eu cyllidebau yn parhau mewn termau gwirioneddol.
Mae’n sylw ni rŵan, wrth gwrs, yn troi at setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18. Mi fuaswn i’n hoffi gofyn am y fformiwla a ddefnyddiwyd i ddosrannu cyllid rhwng y gwahanol awdurdodau lleol. Rwy’n darllen yn eich datganiad chi—
Cwestiwn, plîs, Sian Gwenllian.
Rydw i’n gweld bod y fformiwla wedi cael ei diwygio. A fyddwch chi’n gallu ymhelaethu, os gwelwch yn dda, ar sut yn union mae hynny wedi cael ei gyflawni?
Diolch yn fawr i Sian Gwenllian am beth y dywedodd hi i ddechrau am y cyllid i’r awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth gwrs, rydw i’n cydnabod y ffaith bod £25 miliwn yn y gyllideb honno ar ôl y cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.
As far as the formula is concerned, I have followed the convention that has, for very many years, been taken by local government Ministers in this Assembly. I take the advice of the expert group that is established to advise us on the formula. That group includes political representatives—the leader of Gwynedd is a member of that group, and other council leaders—together with experts in the field. And I have followed the advice of that group. So, here are three ways in which the formula has been amended this year. As a result of their advice, it has been updated to take account of the latest population estimates, it has been updated to take account of the latest information in relation to pupils attending schools, and it has begun to take account of the latest advice in relation to social services expenditure. There was a major reform of the way in which social services expenditure was to be negotiated through the formula. The advice of the sub-group was to implement that over a two-year period. I’ve taken that advice. It will be implemented and it will be phased in that way.
Diolch. Fel cyn-aelod cyllid ar gabinet Cyngor Gwynedd, rydw i’n falch iawn o weld bod yna ddechrau, rŵan, diwygio ar y fformiwla a bod yr elfen wledig o wariant gwasanaethau cymdeithasol yn gallu amrywio a bod yn bwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig.
Mae yna ffyrdd eraill o ddiwygio’r fformiwla, ac mae sawl grŵp, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i ddiwygio’r fformiwla, gan gyfeirio’n benodol at y defnydd o hen ddata, sy’n deillio o gyfrifiadau blaenorol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ar gyfer setliad blwyddyn nesaf i sicrhau bod y data a ddefnyddiwyd yn ddata mwy cyfredol ac yn adlewyrchu amodau heddiw yn well? A ydych chi’n meddwl ei bod hi, rŵan, yn amser adolygu’r fformiwla yn y ffordd yna hefyd?
Wrth gwrs rwy’n cytuno y dylai’r fformiwla ddibynnu ar y data mwyaf cyfredol posibl. Dyna pam roeddwn yn falch o gytuno ar yr argymhellion mewn perthynas â niferoedd poblogaeth a niferoedd disgyblion ysgol. Rwy’n meddwl bod pob ymdrech yn cael ei gwneud, gan bartneriaid awdurdodau lleol a’r rhai sy’n eu cynghori, i sicrhau bod y fformiwla’n dibynnu ar y data mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Yn ystod fy ymweliadau o amgylch Cymru, gan gyfarfod â phob un o’r 22 arweinydd awdurdod lleol, roedd gan bob un ohonynt rywbeth i’w ddweud am gymhwysiad y fformiwla yn eu hardaloedd eu hunain.
Yr hyn rwyf wedi cytuno gydag aelodau’r grŵp sy’n cynghori’r Llywodraeth yw y byddwn yn dechrau rownd y flwyddyn nesaf i ystyried y fformiwla gyda seminar fwy agored, lle byddwn yn edrych ar y ffordd y mae’r fformiwla’n gweithio ar hyn o bryd ac yn meddwl a oes ffyrdd gwell y gallem ei diwygio ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny mewn modd meddwl agored gyda’n partneriaid.
Iawn, diolch yn fawr. Yn y naratif ar y gyllideb a gafodd ei gyhoeddi ddoe, rydych chi’n sôn bod y Llywodraeth am gymryd camau pellach i leihau baich gweinyddol llywodraeth leol, drwy gyfuno grantiau a symud cyllid o grantiau penodol i gronfeydd heb eu neilltuo, drwy’r grant cynnal refeniw. Pa gamau y mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd tuag at y nod yma?
Wel, rŷm ni’n bwrw ymlaen gyda’r bwriad yna yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rydw i wedi siarad â phob aelod o’r Cabinet; maen nhw i gyd wedi rhoi rhai grantiau i mewn i’r RSG am y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhan o’r patrwm rŷm ni wedi’i greu fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n awyddus i fwrw ymlaen yn yr un modd am y flwyddyn nesaf, hefyd, ble rŷm ni’n gallu rhoi mwy o hyblygrwydd i’r awdurdodau lleol i ddefnyddio’r arian sydd ar gael iddyn nhw. Rwy’n cytuno gyda nhw mai hynny yw’r ffordd orau i drio defnyddio’r arian yn y dyfodol.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedodd Sian Gwenllian, mae eich cytundeb cyllideb, a gyhoeddwyd ddoe, yn cynnwys cyllid ychwanegol o £25 miliwn i awdurdodau lleol, ond daw hyn yn sgil y £761 miliwn o ostyngiad mewn termau real mewn cyllid allanol cyfun, fel y nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny rhwng 2011 a 2016-17. Sut rydych chi’n mynd i sicrhau bod yr arian ychwanegol sy’n mynd i gael ei dderbyn gan awdurdodau lleol eleni yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal ac yn deg ar draws yr awdurdodau hynny?
Fe wnaf hynny yn union yn y ffordd yr eglurais eiliad neu ddwy yn ôl. Mae gennym fformiwla gyllido. Mae’n fformiwla y cytunwyd arni. Mae’n cael ei diwygio bob blwyddyn. Mae wedi cael ei diwygio eto eleni. Mae’n cynnwys lleisiau gwleidyddol a lleisiau arbenigwyr, ac rwy’n cymryd cyngor y grŵp arbenigol hwnnw. Byddwn yn defnyddio’r fformiwla fel yr argymhellwyd i mi ac yna byddwn yn dosbarthu’r swm y gallwn ei ryddhau i awdurdodau lleol drwy’r fformiwla sydd wedi’i diweddaru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Diolch. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig iawn i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ariannol. Mae’r rhaglen lywodraethu’n ymrwymo i gyllid gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer awdurdodau gwledig sydd wedi cael bargen waelach yn gyson, am ba reswm bynnag—efallai y bydd gennych chi a minnau syniadau gwahanol am y rhesymau dros hynny. Ond am ba reswm bynnag, maent yn gyson wedi cael bargen waelach na’u cymheiriaid trefol ar draws Cymru. Mae hynny’n ffaith. Ond pa bryd rydych yn rhagweld y cyllid gwaelodol newydd yn dod yn weithredol? Ac a allwch chi gadarnhau y bydd yn cael ei weithredu’n llawn eleni ac ar ba lefel?
Wel, Lywydd, rhaid i mi fod yn weddol ofalus i beidio ag achub y blaen ar fanylion y datganiad na fydd yn cael ei ryddhau tan yn ddiweddarach y prynhawn yma. Yr hyn rwy’n meddwl y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod ar y pwynt hwn yw fy mod yn bwriadu defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer dosraniad y flwyddyn nesaf i awdurdodau lleol a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y setliad y byddaf yn ei osod gerbron y Cynulliad yn ddiweddarach heddiw.
Fe ragwelais fod hyn yn ôl pob tebyg cyn eich datganiad yn ddiweddarach heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fel y dywedais, mae’n fater pwysig iawn i awdurdodau lleol, felly mae angen ei wyntyllu ar y cyfle cyntaf. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud. Mae cyllid gwaelodol, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, yn iawn, ond fel y gwyddom o brofiad gyda Barnett, gellid ystyried cyllid gwaelodol fel ateb cyflym nad yw’n ymdrin â’r problemau strwythurol sylfaenol dros y tymor hwy.
Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid blaenorol y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad sylfaenol o’r fformiwla ariannu. Crybwyllwyd hyn gan Blaid Cymru yn y cwestiynau blaenorol. Pam rydych chi wedi gwrthod adolygiad sylfaenol pellgyrhaeddol? Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch ynglŷn â gwrando ar arbenigwyr ar draws llywodraeth leol ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond pam nad ydych yn ystyried o leiaf ymrwymiad cychwynnol i adolygiad yn y dyfodol o’r mecanweithiau ariannu llywodraeth leol yng Nghymru? Oherwydd, yn sicr, yn y tymor hir, bydd adolygiad strwythurol llawn sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar awdurdodau lleol ar draws y Gymru fodern yn llawer gwell na mynd ati bob blwyddyn yn barhaus i wneud newidiadau tameidiog i’r fformiwla bresennol, sydd wedi pasio’i dyddiad gwerthu.
Rwy’n meddwl bod yna ddwy ffordd wahanol y mae’n bwysig archwilio’r mater hwn yng Nghymru. Yn gyntaf oll, rwy’n awyddus i ddechrau gwaith a fydd yn edrych ar yr holl ffordd rydym yn codi trethi lleol yng Nghymru ac i weld ai’r system sydd gennym ar hyn o bryd yw’r un sy’n adlewyrchu anghenion y dyfodol orau. Fodd bynnag, pa ddulliau bynnag a ddefnyddiwch ar gyfer codi arian, bydd bob amser angen dod o hyd i ffordd o ddosbarthu’r arian hwnnw ledled Cymru. Mae’r fformiwla bresennol yn ymdopi â phob math o wahanol amrywiadau: anghenion trefol, anghenion gwledig, anghenion sy’n gysylltiedig ag oedran, dadleuon economaidd, dadleuon am anghenion ac yn y blaen. Yn y pen draw, mae yna swm sefydlog, a pha ffordd bynnag y byddwch yn ei ddosbarthu, mae’r swm yn aros yr un fath. Weithiau rwy’n meddwl mai’r cyngor gorau i’r rhai sy’n fy annog, yn eithaf pendant, i gael gwared ar y fformiwla a dyfeisio un newydd yw y dylent ymboeni ynglŷn â beth y maent yn ei ddymuno, gan nad oes unrhyw ffordd o wybod i ble y gallai’r fath ddiwygio sylfaenol ar y fformiwla arwain—at enillwyr a chollwyr, ac efallai na fyddant bob amser lle byddai pobl yn ei ragweld.
Llefarydd UKIP, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma fod yna £10 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i gynlluniau peilot ar gyfer cynlluniau gofal plant y Llywodraeth. Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud y bydd y gyllideb gyffredinol yn £84 miliwn pan fydd yn gwbl weithredol. A gawn ni, felly, ragdybio y bydd oddeutu un ardal o bob wyth yn elwa o gynllun peilot, a pha bryd y byddwn yn clywed lle bydd y rhain?
Wel, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros faes polisi gofal plant yw’r rheini mewn gwirionedd. Gwn ei fod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda swyddogion a phartneriaid y tu hwnt i’r Cynulliad ar lywio’r cynlluniau peilot, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud cyhoeddiad i Aelodau’r Cynulliad cyn gynted â’i fod mewn sefyllfa i wneud hynny.
A siarad mwy am y cyllido, fel tad i blant dwy a phedair oed rwyf wedi cael profiad o systemau gofal plant yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae’n amlwg fod y ddarpariaeth mewn ysgolion yng Nghymru yn dda o ran ansawdd at ei gilydd, ond mae anhyblygrwydd pum sesiwn 2.5 awr yn golygu ei bod yn anodd iawn i lawer o rieni sy’n gweithio fanteisio arni, ac mae cyfradd cyfranogiad menywod yn y farchnad lafur, yn arbennig, yn is yng Nghymru. A yw hynny’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei newid drwy ei system gofal plant newydd? Ai’r bwriad i raddau helaeth yw hybu cyfranogiad yn y farchnad lafur? Os felly, ac er gwaethaf y gwaith ymchwil annibynnol, a yw Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif yn hyderus fod £84 miliwn yn ddigon i ddarparu ar gyfer y newid ymddygiad tebygol pan ddaw’r system gynhwysfawr hon yn weithredol?
Wel, mae ein hymagwedd tuag at ofal plant yng Nghymru bob amser wedi bod seiliedig ar y cysylltiadau rhwng argaeledd gofal plant fforddiadwy o ansawdd da a chyfranogiad yn y farchnad lafur. Rydym bob amser wedi bod eisiau sicrhau bod digon o ofal plant yno i wneud yn siŵr fod menywod, yn arbennig, yn gallu dilyn gyrfaoedd yn y farchnad swyddi yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am hyblygrwydd oherwydd dyna’n union pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ymlaen ar sail cynllun peilot, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn llunio’r cyflenwad ychwanegol o ofal plant y bydd ei angen i gyflawni’r addewid mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r patrymau gweithio y bydd eu hangen ar y teuluoedd a fydd am fanteisio ar y gwasanaeth newydd. Felly, mae’n ystyriaeth bwysig, ac eisoes yno fel rhan o’r dull peilot. Fe wnaethom waith mawr cyn yr etholiad ar bennu’r ffigurau rydym wedi’u cyhoeddi sy’n dangos beth y credwn fydd ei angen ar y cynllun hwn, ond byddwn yn dysgu o’r cynlluniau peilot mewn perthynas â’r swm hefyd, yn ddiau.
Rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet a’r Llywodraeth at ei gilydd ar y system sy’n cael ei chynnig. Yn ddiau, fe fydd yn darparu llawer mwy o hyblygrwydd a chymorth i rieni sy’n gweithio, ond rwy’n anghytuno â’i honiad fod yr hyblygrwydd a’r cymorth hwnnw i rieni sy’n gweithio wedi bod yn rhan o’r system yng Nghymru yn y gorffennol. Mae pum sesiwn 2.5 awr heb hyblygrwydd yn ei gwneud yn llawer anos i ddau riant fynd allan i weithio. Rwy’n credu ei bod yn debygol y bydd cynnydd sylweddol iawn yn y gyfradd sy’n cyfranogi, ac rwy’n cwestiynu pa un a ganiatawyd ar gyfer hynny wrth ariannu’r £84 miliwn.
Hefyd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma wrth y Pwyllgor Cyllid y bydd yn rhaid iddo gynyddu gwariant yn raddol oherwydd diffyg capasiti. Yn sicr, yn fy mhrofiad personol, mae’n hynod o anodd cael lle gofal plant mewn meithrinfa dda yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae’n llawer haws cael lle yng Nghaerdydd a de-ddwyrain Cymru a dod o hyd i nifer o feithrinfeydd o ansawdd da iawn a all gymryd plentyn yn gyflym yn y sector preifat. O ystyried hynny, a wnaiff y Llywodraeth edrych ar fwy o ddefnydd o feithrinfeydd yn y sector preifat, yn ogystal â darpariaeth y wladwriaeth, gan ystyried yn arbennig, pan fyddwch yn ei chynyddu o 38 awr i 48 awr yr wythnos, y gallai hynny ffitio’n llai hwylus i amserlen a darpariaeth yr ysgol ac arwain at gostau cyfartalog uwch am ddarpariaeth ysgol nag sydd wedi bod yn wir hyd yn hyn?
Wel, Lywydd, rwy’n hapus i gadarnhau yr hyn a ddywedais wrth y Pwyllgor Cyllid: os ydych am gynllunio system sy’n cynnwys cyfranogiad gweithredol rhieni o’i mewn ac sy’n dysgu o’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am y math o ofal plant y byddant ei angen yn y dyfodol, mae angen trefnu’r rhaglen i ystyried y safbwyntiau hynny, a bydd hynny’n golygu cronni’r capasiti y byddwn yn ei ddatblygu dros amser. Rwy’n eithaf siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb yn edrych ar gyfraniadau’r gwahanol sectorau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gofal plant yng Nghymru, a bydd yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn alinio’r rheini yn y ffordd sy’n diwallu anghenion rhieni orau, gan gynnwys yr angen am hyblygrwydd.
Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
3. Yn dilyn ei ddatganiad ar 11 Hydref, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyllid fydd ar gael ar gyfer gweddill y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd o 2014 tan 2020? OAQ(5)0034(FLG)[W]
Wel, diolch i Simon Thomas am y cwestiwn. Dros gyfnod y rhaglen o 2014 i 2020, mae tuag at £1.9 biliwn ar gael drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Mae £855 miliwn, sef 44 y cant o’r dyraniad, wedi cael ei ymrwymo eisoes. Rydw i’n disgwyl y bydd yn bosib defnyddio’r cyfan o’r £1 biliwn sydd ar ôl, ond bydd ein gallu i wneud hynny’n dibynnu ar amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb, gan ddweud wrtho ef, wrth gwrs, ein bod ni i gyd yn gobeithio y bydd modd cadw cymaint o’r arian yma y tu mewn i’r grochan, fel petai, cyhyd ag sy’n bosib. A gaf i gyflwyno ei sylw ef at un cynllun yn arbennig sydd wedi bod yn llwyddiant, rwy’n meddwl, yng Nghymru, sef cynllun Sêr Cymru, i ddenu ymchwilwyr a gwyddonwyr i Gymru? Mae’r cylchgrawn ‘Science’ o fewn y pythefnos diwethaf wedi adrodd ar lwyddiant y cynllun yma sydd wedi denu dros 100 o gymrodorion i Gymru a rhyw 20 o ymchwilwyr blaengar iawn, sy’n ein helpu ni, wrth gwrs, i ymateb i bethau fel newid hinsawdd, ynni, ac, yn wir, ymateb i Brexit yn y ffordd yr ydym yn edrych ar ddyfodol y diwydiant amaeth, er enghraifft. Pa gadarnhad y medrwch, Weinidog, ei roi y bydd cynlluniau fel Sêr Cymru yn parhau i gael eu cefnogi gan y Llywodraeth, hyd yn oed ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y rhaglen Sêr Cymru a’r gwaith arbennig o dda maen nhw’n ei wneud yn y rhaglen. Cefais gyfle, pan oeddwn i’n gyfrifol am y maes iechyd yng Nghymru, i gydweithio â Edwina Hart ar y pryd ar y rhaglen a thrio tynnu pobl i mewn i’r ‘life sciences’ yng Nghymru a gwneud y gwaith maen nhw’n ei wneud mor wych yn Abertawe.
Designing everything that we want to do in the context of reductions, potentially, in European funding will cause some challenges, but those programmes that have such demonstrated records of success speak for themselves in making a call on the limited, inevitably, resources that we are able to put to all the different needs we wish to address in Wales.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Abertawe ar ddatblygu rhaglen i ymestyn graddau Meistr ymchwil a doethuriaethau mewn peirianneg, gan weithio gyda rhai o’r cwmnïau diwydiannol mwyaf blaenllaw yn y DU ac yn y byd? Yn sicr, mae’n rhywbeth y mae economi Cymru ei angen yn daer. Cefnogir hyn gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Beth fydd yn digwydd pan ddaw cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ben?
Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf o allu cyhoeddi £850,000 yn ychwanegol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynllun y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ynddo yn cynnwys Tata Steel, BASF, y Bathdy Brenhinol ac eraill. Byddant yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio prosiectau ymchwil yn seiliedig ar ddatblygiadau technolegol sy’n digwydd yn eu diwydiannau. Ein nod, fel y mae’n gwybod, yw sicrhau cymaint â phosibl o arian Ewropeaidd tra bo ar gael i ni. Mae cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ynglŷn â’r warant oes ar gyfer cynlluniau y cytunwyd arnynt cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddefnyddiol yn y ffordd honno. Rwy’n siŵr y bydd y cynllun hwn yn dangos ei werth a gallwn ddadlau wedyn dros ei barhau y tu hwnt i’r cyfnod o ariannu strwythurol.
Effaith Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Islwyn)
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ(5)0047(FLG)
Diolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn. Mae Islwyn wedi elwa o gronfeydd strwythurol mewn sawl ffordd wahanol, o’r gefnogaeth leol iawn i ddau brentis mewn meddygfa ddeintyddol yn Nhrecelyn i effaith lawer ehangach rhaglen Aspire to Achieve, er enghraifft, ar gyfer pobl ifanc mewn perygl a chynllun cefnogi busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaeth Busnes Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers 2007, mae prosiectau cronfeydd strwythurol yr UE ar eu pennau eu hunain, yng Nghymru, wedi helpu bron i 73,000 o bobl i gael gwaith, wedi helpu dros 234,000 o bobl i ennill cymwysterau, wedi cefnogi’r broses o greu bron i 12,000 o fusnesau ac wedi creu oddeutu 37,000 o swyddi. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau gwariant ar gyfer pob un o’r cynlluniau buddsoddi strwythurol Ewropeaidd a gymeradwyir cyn i’r DU adael yr UE i’w groesawu. Beth fyddai’r effaith ar gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi yn union yr un faint o arian i Gymru ag y mae’n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd?
Wel, rwy’n siŵr y gall yr Aelod ragweld yr effaith: y byddai’r buddsoddiadau hynny y gallwn eu gwneud, sy’n helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer unigolion a chymunedau a sicrhau llwyddiant hirdymor economi Cymru, yn cael eu dal yn ôl pe na bai gennym yr arian sydd wedi ei sicrhau ar ein cyfer ar hyn o bryd yn sgil ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai’n neges ryfedd, rwy’n siŵr y byddai’n cytuno, i’w chyfleu i’w hetholwyr pe na bai Cymru yn gwneud cystal o’i haelodaeth o’r Deyrnas Unedig nag o’i haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg o ganlyniad refferendwm yr UE nad oedd y bobl sy’n byw yn Islwyn ac ardaloedd eraill yn Nwyrain De Cymru yn teimlo effaith a budd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Pleidleisiodd dros 50 y cant o bobl yn ardal cyngor Caerffili dros adael yr UE, dros 56 y cant ym Merthyr Tudful, 60 y cant yn Nhorfaen, a 62 y cant ym Mlaenau Gwent. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y ffigurau hyn yn dangos methiant llwyr y Blaid Lafur i amlygu budd aelodaeth o’r UE yn ei chadarnleoedd, wedi iddi gael ei llesteirio gan gefnogaeth lugoer Jeremy Corbyn dros ‘aros’, a sut y bydd eich Llywodraeth yn ychwanegu at y cyllid i gymoedd Dwyrain De Cymru yn y dyfodol agos?
Ofnaf, Ddirprwy Lywydd, fod hyn yn ymdebygu i gyrraedd y sinema a gweld rîl o hen ffilm yn dal i droi o’ch blaen. Wrth gwrs fy mod yn ymwybodol o ganlyniadau’r refferendwm. [Chwerthin.] Rwyf yr un mor sicr na phleidleisiodd y bobl yn y cymunedau hynny y cyfeiriodd atynt dros ddyfodol tlotach a mwy anghenus.
Cyllid Llywodraeth Leol
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol hon? OAQ(5)0044(FLG)
Diolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid a ddarperir i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu drwy’r setliad blynyddol. Yn y flwyddyn ariannol hon, 2016-17, mae’r setliad wedi darparu £4.1 biliwn mewn cyllid refeniw heb ei neilltuo.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch o groesawu’r cyhoeddiad ddoe y byddwch yn diogelu cyllid llywodraeth leol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor o fanylion gennych ynglŷn â sut y byddwch yn blaenoriaethu’r broses o dargedu ein hawdurdodau lleol mwyaf anghenus. Mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fodd bynnag fod Llywodraeth Cymru o blaid dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, a diwedd ymddangosiadol Her Ysgolion Cymru yn dawel bach yn y gyllideb ddoe, yn gwneud i mi boeni bod Llywodraeth Cymru yn dechrau llacio ei hymrwymiad i dargedu adnoddau at y cymunedau mwyaf anghenus yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi heddiw nad yw hynny’n wir?
Wel, fel y dywedais yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddoe, nid yw penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei sbarduno gan ystyriaethau cyllidebol. Mae’n cael ei sbarduno gan awydd i wneud gwell defnydd o’r cyllid a ddefnyddiwyd at y dibenion hynny yn y gorffennol, a dod ag ef ynghyd â chyllidebau ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg a cheisio sicrhau ein bod yn cael mwy o effaith yn y cymunedau hynny y mae hi’n eu cynrychioli mor rheolaidd ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. O ran y rhaglenni addysg, roedd yna ddwy raglen â therfynau amser na fyddai fel arfer wedi cael unrhyw gyllid y flwyddyn nesaf. Yn yr amgylchiadau a wynebwn, mae’n amhosibl i ni barhau â phob dim, yn enwedig pan fo cynlluniau wedi’u nodi’n benodol fel rhai ag oes gyfyngedig. Nid oedd modd i ni barhau â Her Ysgolion Cymru, ond gallasom fwrw ymlaen â’r grant amddifadedd disgyblion, sydd â goblygiadau cyllidebol llawer mwy, a dyblu’r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer plant yn eu blynyddoedd mwyaf cynnar a ffurfiannol. At ei gilydd, credaf eu bod yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i’r agendâu y mae hi wedi’u hyrwyddo mor effeithiol.
Bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf, mae cyngor sir Powys neu gyngor sir Ceredigion wedi cael y cyllid gwaethaf, neu gydradd waethaf, gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi clywed eich atebion i gwestiynau yn gynharach heddiw, ond yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a ydych yn derbyn bod angen i chi ystyried y farn leiafrifol sydd i’w chlywed yn aml ymysg awdurdodau lleol gwledig, ac nad yw’n cael ei chlywed pan gaiff yr argymhelliad hwnnw ei wneud i chi, ac a yw hynny’n rhywbeth y byddech yn barod i’w ystyried pan ddaw’r argymhelliad hwnnw i chi?
Rwy’n gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y mae awdurdodau gwledig yn ei ddweud wrthyf, ac mae’r newidiadau i elfen y gwasanaethau cymdeithasol yn y fformiwla eleni yn bendant yn ymateb i’r ddadl a gyflwynwyd gan yr awdurdodau hynny. Rwy’n ofni y bydd yn rhaid i’r Aelod aros gyda phawb arall i weld effeithiau penodol y newidiadau hynny ar awdurdodau penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Roeddwn eisiau dwyn mater technegol i sylw’r Gweinidog. Nawr, pan wnaethoch eich datganiad ar ddiwygio llywodraeth leol yn ddiweddar, fe fuoch mor garedig â rhoi briff i mi rai dyddiau ymlaen llaw, ac roeddwn yn ddiolchgar am hynny, ac wrth gwrs, perchais yr embargo. Gyda’ch setliad llywodraeth leol, er mawr siom, ni chefais y briff tan 1.30 brynhawn heddiw. A allem gael briff cynnar lle bo hynny’n bosibl, gan fy mod yn teimlo y byddai hyn o fudd i waith y Cynulliad, ac efallai y gallech roi gwybod i mi pa reswm sydd yna dros gael yr embargos hyn, gan fy mod yn teimlo eu bod yn amharu rhywfaint ar waith y Cynulliad?
Wel, Ddirprwy Lywydd, cynigiwyd cyfarfod briffio technegol i holl lefarwyr y gwrthbleidiau ar y cyhoeddiad a fydd yn cael ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, a chynigiwyd y briff hwnnw i holl lefarwyr y gwrthbleidiau fwy neu lai ar yr un pryd. Rydym yn awyddus i barhau i gynnig y cwrteisi hwnnw i lefarwyr y gwrthbleidiau, gan y byddem yn hoff o weld pobl yn wybodus, fel eich bod, pan ofynnir i chi roi sylwadau, fel sy’n sicr o ddigwydd, wedi cael cyfle i ystyried bwriad y Llywodraeth, ar ôl cael peth amser ymlaen llaw i ystyried effaith hynny. Credaf ei fod yn draddodiad sydd wedi bod o fudd i ni hyd yn hyn. Rwy’n awyddus i’w barhau. Rwy’n fwy na pharod i drafod gyda’r Aelod i sicrhau ei fod yn gallu manteisio’n briodol ar y cyfleusterau y ceisiwn eu darparu.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyflog byw gwirioneddol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0037(FLG)
Diolch i Dawn Bowden am hynny. Gan weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a chyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus, mae’r cynnydd yn parhau o ran mabwysiadu’r cyflog byw yn ehangach yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd gwaith ymchwil diweddar gan Brifysgol Middlesex a Phrifysgol Lerpwl yn rhoi achos cryf o blaid y cyflog byw gwirioneddol, yn hytrach na chyflog byw ffug y Torïaid wrth gwrs, gyda busnesau sy’n ei dalu yn gweld llai o anghydfodau â chyflogeion, cynnydd mewn cynhyrchiant a chymhelliant staff, a mantais dros gystadleuwyr o ran enw da a brand corfforaethol. Dangosodd astudiaeth arall gan Sefydliad Bevan o gyflogwyr ym Merthyr Tudful fod oddeutu 6,000 o weithwyr yn yr ardal honno—oddeutu chwarter y gweithlu lleol—yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw gwirioneddol. Datgelodd ymchwil Sefydliad Bevan fod gwahanol gyflogwyr ar gamau gwahanol o ran symud tuag at y cyflog byw gwirioneddol, ond eu bod yn aml yn cael anogaeth a hyder gan gyflogwyr lleol eraill sy’n ei dalu. Mae cyflogwr mwyaf Cymru, y GIG yng Nghymru, sydd â’r lefel uchaf o weithwyr benywaidd yn brif enillwyr yn eu teuluoedd, yn talu’r cyflog byw gwirioneddol, a hoffwn dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet a fu’n gweithio’n galed, yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog iechyd, gydag undebau llafur i gyflawni hyn. Felly, wrth i ni agosáu at Wythnos Cyflog Byw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y gall ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru chwarae rhan arweiniol drwy gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, nid yn unig ar gyfer eu gweithwyr eu hunain, ond hefyd er mwyn sicrhau bod hyn yn ddisgwyliad mewn perthynas â chyflogwyr sy’n darparu gwasanaethau ar gontract allanol, ac a wnaiff longyfarch hefyd yr awdurdodau lleol hynny, megis cynghorau Caerffili a Merthyr Tudful yn fy etholaeth, a all alw eu hunain, gyda pheth balchder, yn gyflogwyr cyflog byw?
Wel, yn sicr, rwy’n llongyfarch cynghorau Merthyr Tudful a Chaerffili am yr ymagwedd y maent wedi ei mabwysiadu a’r arweinyddiaeth y maent wedi ei dangos yn y maes hwn. Credaf fod yr Aelod wedi dechrau â’r achos pwysicaf dros y cyflog byw gwirioneddol, sef ei fod o fudd i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr mewn gwirionedd, a bod manteision busnes pendant i gwmnïau sy’n talu’r cyflog byw gwirioneddol o ran llai o salwch, llai o absenoldeb, llai o gostau recriwtio, a llai o gostau hyfforddi. Mae’n gwneud synnwyr busnes da, ac mae’r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan awdurdodau lleol yn y maes hwn yn gymorth i ddangos hynny.
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
7. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith diwygio arfaethedig llywodraeth leol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0041(FLG)
Diolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Bwriad y cynigion a gyhoeddais ar 4 Hydref ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig rhwng awdurdodau lleol yw adeiladu cadernid a gwella effeithiolrwydd gwasanaethau a chanlyniadau i ddinasyddion.
Diolch am hynny. Gan fod peidio â bwrw ymlaen ag argymhellion comisiwn Williams wedi golygu erbyn hyn wrth gwrs fod angen i ni geisio sicrhau mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, tybed a allech roi ychydig rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â’r trafodaethau rydych wedi’u cael gydag awdurdodau lleol neu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A ydych wedi nodi amserlen ar gyfer gallu gweld rhai manteision pendant o ganlyniad i gydweithredu rhwng awdurdodau lleol?
Wel, Ddirprwy Lywydd, fel yr eglurais yn fy natganiad ar 4 Hydref, treuliais lawer iawn o amser dros yr haf yn ymweld â phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gyfarfod ag arweinwyr a phrif weithredwyr. Rwyf wedi cyfarfod ag undebau llafur, rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau’r trydydd sector ac rwy’n cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rwyf wedi gwneud fy ngorau i deithio o gwmpas yn hynny o beth.
Yr amserlen ar gyfer cam nesaf y drafodaeth yw gweddill y flwyddyn galendr hon, pan fydd angen i ni edrych ar y manylion sy’n sail i batrwm y darlun mawr a gyhoeddais ar 4 Hydref. Y wobr rwy’n ceisio atgoffa awdurdodau lleol yn ei chylch yw y byddwn yn hoffi bod mewn sefyllfa i ddadlau dros Fil llywodraeth leol yn ystod rhaglen ddeddfwriaethol ail flwyddyn y Cynulliad hwn. Bydd yn gylch ceisiadau cystadleuol, gallwch fod yn sicr o hynny, gyda llawer o gyd-Aelodau yn y Cabinet eisiau gweld eu syniadau’n rhan o’r rhaglen. Ni fyddaf yn gallu cael lle i Fil llywodraeth leol allu gwneud yr holl bethau y byddem yn hoffi eu gwneud oni bai bod gennyf gytundeb y gallaf fwrw ymlaen ag ef. Rwyf am sicrhau hynny erbyn dechrau’r flwyddyn galendr nesaf, ac yna rwy’n dymuno symud ymlaen i’r cam nesaf.
Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0043(FLG)
Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar weithredu’r Ddeddf, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyhoeddi ‘Symud Cymru Ymlaen’. Mae wedi ein hymrwymo i ddatblygu pedair strategaeth drawsbynciol wedi’u harwain gan ein hamcanion lles. Byddaf yn cyhoeddi’r fersiwn gyntaf o amcanion llesiant Gweinidogion Cymru erbyn 5 Tachwedd, fel y mae’r Ddeddf yn ei wneud yn ofynnol.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod cytundeb eang fod y Ddeddf hon yn gyfle pwysig iawn i helpu i adeiladu Cymru well. Tybed a allech esbonio rhai o’r cysylltiadau rhwng amcanion llesiant Llywodraeth Cymru a’r datganiad sy’n cyd-fynd a hwy o dan y Ddeddf, gyda’r rhaglen lywodraethu, y pedair strategaeth drosfwaol a grybwyllwyd gennych, yn ogystal â’r gyllideb.
Wel, Ddirprwy Lywydd, fe’m holwyd ynglŷn â hyn o flaen y Pwyllgor Cyllid y bore yma, a cheisiais nodi’r ffordd y mae’r gyllideb wedi’i halinio â’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Nid wyf am eu hailadrodd i gyd, ond gobeithiaf fy mod wedi gallu dangos ein bod wedi ystyried hyn o ran y tymor hir, gan gydbwyso anghenion cenedlaethau presennol â chenedlaethau’r dyfodol, ein bod wedi ceisio cynnwys pobl yn y ffordd y gwnaethom y penderfyniadau hynny, a bod Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, drwy ein penderfyniadau cyllidebol, a’r polisïau a nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, wedi darparu ffordd o edrych ar y camau gweithredu ar draws y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.
Cydweithredu ar draws Awdurdodau Lleol
9. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gydweithredu ar draws awdurdodau lleol? OAQ(5)0040(FLG)
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Mae gan awdurdodau lleol lawer o drefniadau cydweithredol ar waith eisoes ledled Cymru. Mae’r trefniadau hyn nid yn unig yn darparu gwasanaethau gwell i bobl, ond maent yn gallu gwneud hynny’n fwy effeithiol ac effeithlon. Gan adeiladu ar hyn, bwriad fy nghynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol yw sicrhau cydweithredu mwy systematig a gorfodol rhwng awdurdodau mewn trefniadau rhanbarthol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf yn gwybod a weloch raglen ‘Who’s Spending Britain’s Billions?’ neithiwr ar BBC 2, ond roedd yn amlinellu cydweithrediad nad yw pobl o bosibl yn meddwl ei fod yn teilyngu gwario miliynau o bunnoedd arno—pan ofynnwyd yn benodol i arweinydd Plaid Cymru Ceredigion ynglŷn â chontract gyda PricewaterhouseCoopers, a gwario’r swm mawr hwnnw o arian ar gael eu hysbysu sut i gau cyfleusterau er mwyn arbed arian, a sut i breifateiddio gwasanaethau lleol. Felly, wrth i chi feithrin rhagor o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, Ysgrifennydd y Cabinet, a chydweithredu ariannol hefyd, os gwelwch yn dda, a wnewch chi edrych yn ofalus ar y defnydd o’r hyn a elwir yn gontractau risg a gwobr? Oherwydd roeddwn innau hefyd y tu allan ddoe gyda chynrychiolwyr Unsain, sy’n teimlo’n ddig ynglŷn â’r defnydd hwnnw o arian, a hynny’n hollol iawn yn fy marn i.
Diolch am y cwestiwn. Ofnaf na welais y rhaglen deledu. Treuliais y noson yng nghwmni fy ffolder gwestiynau a’r cyngor roedd ei angen arnaf cyn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid y bore yma. Ond clywaf yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ac wrth gwrs, byddaf yn ei ystyried yn ofalus yn fy sgyrsiau nesaf ag awdurdodau lleol.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Thank you very much, Cabinet Secretary. We now move to questions to the Assembly Commission. The first question will be answered by the Commissioner for security and Assembly resources, Caroline Jones.
Cerbydau Trydan
1. Pa ddarpariaeth y mae’r Comisiwn wedi’i gwneud ar gyfer cerbydau trydan yn y Cynulliad? OAQ(5)0001(AC)[W]
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fel rhan o gynllun amgylcheddol Comisiwn y Cynulliad, rydym yn annog y defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy. Rydym yn cydnabod datblygiad ceir trydan a’u costau sy’n gostwng ac rydym yn ystyried dichonoldeb pwyntiau gwefru o fewn yr ystad ym Mae Caerdydd. Bydd y galw, yn rhannol, yn cael ei asesu drwy’r arolwg teithio y bwriadwn ei gynnal yn fuan.
A gaf fi achub y blaen ar eich arolwg teithio a dweud fy mod eisiau car trydan? Ond a minnau’n byw yn Aberystwyth, ni allaf deithio i lawr i Gaerdydd os na allaf ei wefru yma. Felly, beth am i ni gymryd y cam hwnnw? Beth am ddangos y byddwn yn arwain y ffordd o ran ymateb i newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, a rhoi’r seilwaith hwnnw yma? Ar bob cyfrif, codwch dâl am wefru. Roedd rhai o’r problemau gyda chyfleusterau gwefru yn y gorffennol yn ymwneud â rhyw syniad fod yn rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim. Nid oes rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid iddo fod ar gael, fel arall ni allwn symud tuag at sicrhau atebion trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Diolch i’r Aelod am wneud y pwynt hwnnw. Yn amlwg, cynhaliwyd arolwg teithio ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac yn yr arolwg teithio, rhoddwyd yr arolygon i 250 o aelodau staff a chawsant eu llenwi. Fodd bynnag, 12 y cant yn unig oedd y galw ar y pryd. Felly, ar yr ochr gadarnhaol, hoffwn ddweud wrth yr Aelod eu bod, yn wir, yn ddull carbon isel o deithio, ac mae ein system amgylcheddol Draig Werdd yn galw am leihau ôl troed carbon. Byddai ein seilwaith yn ein maes parcio yn caniatáu i ni osod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan, ac mae’r gost o gaffael a gosod pwyntiau gwefru wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â chost ceir trydan. Felly, rydych yn gwneud pwynt dilys. Fodd bynnag, pan ymatebodd 12 y cant yn unig, roedd yn nifer bychan o bobl â diddordeb—nid yw hynny’n dweud ein bod yn mynd i brynu. Felly, byddai cyflwyno pwyntiau gwefru yn y maes parcio yn lleihau’r nifer o leoedd parcio ar gyfer cerbydau confensiynol, felly mae llawer iawn y mae’n rhaid i ni ei ystyried, a byddai’r galw ar gyflenwad trydan y Cynulliad yn cynyddu. Byddai angen i ni gyflwyno system dalu er mwyn i’r staff allu talu am drydan a ddefnyddir gan berchnogion cerbydau trydan.
Ond byddwn yn dweud wrth yr Aelod y byddwn, o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, yn cynhyrchu arolwg pellach i fonitro’r galw gan staff. A chredaf y bydd cost is prynu ceir trydan yn ysgogi’r galw hwnnw. Felly, bydd yn rhaid i ni aros am yr arolwg nesaf y byddwn yn ei gynnal yn ystod y mis neu ddau nesaf, ac efallai y bydd gennym ymateb mwy ffafriol i gwestiwn yr Aelod.
Diolch yn fawr iawn. Bydd yr ail gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn cael ei ateb gan y Llywydd, sy’n Gadeirydd y Comisiwn ac yn Gomisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu.
Senedd Ieuenctid i Gymru
2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddatblygu senedd ieuenctid i Gymru?? OAQ(5)0002(AC)
Mae’r Comisiwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi cyfleoedd i nifer fawr o bobl ifanc ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau a chyfrannu at y gwaith hwnnw. Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Comisiwn gytuno, fel rhan o’n strategaeth newydd ar gyfer y pumed Cynulliad, ein bod am ddatblygu’r llwyddiant yma ymhellach, ac yn sicr rwyf i am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu’n gynnar yn nhymor cyfredol y Cynulliad. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r comisiynydd plant a’r Ymgyrch Dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ar y ffordd orau ymlaen a byddwn ni fel Comisiwn yn trafod y camau nesaf ar hyn yn ein cyfarfod ddechrau mis Tachwedd.
Yn amlwg, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i’r ddadl gael ei chyflwyno heddiw ac fe’i cyflwynais am fy mod yn credu ei bod yn hynod bwysig i ni sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Croesawaf eich ateb yn fawr iawn. Rwy’n gobeithio siarad yn y ddadl yn nes ymlaen, ond a gaf fi ofyn i chi ddatgan eich ymrwymiad personol fel Llywydd i yrru’r gwaith hwn yn ei flaen ar ran y Comisiwn.
Mae’n gwestiwn amserol a diolch i chi am ei grybwyll cyn y ddadl y prynhawn yma. Gallaf roi fy ymrwymiad personol, a gobeithiaf, yn dilyn cyfarfod y Comisiwn ar 3 Tachwedd, y gallaf hefyd ddatgan cymeradwyaeth y Comisiwn llawn i roi’r camau nesaf ar waith o ran sefydlu senedd ieuenctid yma yng Nghymru o’r diwedd. Rydym yn aros am waith sy’n cael ei wneud gan yr ymgyrch dros gynulliad plant a phobl ifanc, a bydd y gwaith ymchwil hwnnw’n allweddol i’n cynghori ynglŷn â’r ffordd iawn i wneud hyn. Ond yn sicr, gallaf eich sicrhau o fy nghefnogaeth i hyn ac y dylai ddigwydd yn gynnar yn nhymor y Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn ymlaen at eitem 4, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar flaenraglen waith y pwyllgor sy’n cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Galwaf ar John Griffiths i gynnig y datganiad. John.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a roddir i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau i’r Siambr. Mae’n gyfle y dylid ei groesawu, Ddirprwy Lywydd, er mwyn codi proffil materion sy’n bwysig i’r cyhoedd yng Nghymru.
Rwyf fi ac aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi ystyried yn ofalus y blaenoriaethau yr hoffem ganolbwyntio arnynt yn ystod pumed tymor y Cynulliad hwn, ac roedd yr Aelodau’n unfryd yn eu cred fod yn rhaid i waith y pwyllgor: wynebu tuag allan, drwy ymgysylltu’n ddidwyll â chymunedau ym mhob rhan o Gymru, ac mewn ffyrdd newydd ac arloesol; ymrwymo i ganolbwyntio ar atebion drwy ddod â gwybodaeth a phrofiad arbenigol at ei gilydd er mwyn darparu atebion i awdurdodau cyhoeddus allu mynd i’r afael â rhai o anghydraddoldebau mwyaf Cymru; ac ymrwymo i graffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru, gyda golwg ar wella polisi cyhoeddus a deddfwriaeth yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn cyflawni gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy’n fodlon â chynnydd y gwaith hwn a gobeithiaf y bydd yn cyfrannu at weithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus. Bydd ein gallu i edrych eto ar benderfyniadau allweddol gan Lywodraeth Cymru o ran deddfwriaeth a pholisi, a dadansoddi eu cynnydd yn feirniadol, yn rôl allweddol i’n pwyllgor. Yn y flwyddyn newydd, mae’r pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio’n drylwyr ar drechu tlodi ac adolygu cynnydd ymyriadau, megis Cymunedau yn Gyntaf, hyd yn hyn. Gobeithiaf gyflwyno diweddariadau pellach i’r Siambr hon yn gynnar yn 2017.
Bydd ymchwiliad nesaf y pwyllgor yn canolbwyntio ar un o faterion pwysicaf y byd. Y llynedd, roedd un o bob 113 o bobl naill ai’n ffoadur, wedi’i ddadleoli’n fewnol, neu’n ceisio lloches. At ei gilydd, mae mwy o bobl heddiw wedi’u dadleoli o’u hanfodd na phoblogaethau’r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu’r Eidal. Yn 2016, gyda’r gwrthdaro yn Syria yn dwysáu ac ansicrwydd enfawr yng ngwledydd y rhan honno o’r byd, erbyn hyn mae mwy o bobl wedi’u dadleoli yn y byd nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes. Mae miliynau wedi marw, teuluoedd wedi’u chwalu gan wrthdaro a phlant wedi’u gadael heb rieni. Mae’r cylch newyddion cyson o luniau a straeon am bobl yn dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn hynod drallodus. Mae’n sefyllfa sydd wedi peri cryn boendod i mi a sawl un arall yn y Siambr hon, fe wn.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am i’r Cynulliad hwn wneud cyfraniad bach ond arwyddocaol i’r broblem fyd-eang hon. Yn gynharach y mis hwn, penderfynodd Llywodraeth Ffrainc gau gwersyll y Jyngl yn Calais, lle mae oddeutu 7,000 o bobl yn byw ar hyn o bryd. Mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn hollol iawn, wedi croesawu hyn, gan fod disgwyl y bydd llety a chymorth mwy addas yn cael eu darparu. Ond y gwir amdani yw y gall 700 o blant ar eu pen eu hunain sy’n byw yn y Jyngl, a llu o bobl eraill, gael eu gadael yn agored i fasnachu pobl a chamdriniaeth.
Bydd gan ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i’r Deyrnas Unedig anghenion penodol ar gyfer setlo yn eu bywydau newydd a dod yn rhan lawn o’n cymunedau. Er mai Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb pennaf dros adsefydlu’r bobl hyn, rwy’n ymwybodol fod yna ymyriadau a chymorth allweddol o hyd y gall Llywodraeth Cymru eu darparu.
Yng Nghymru, mae yna 112 o bobl yma ar hyn o bryd o dan gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed. Mae yna 862 yn yr Alban, ac mae 155 wedi’u hadsefydlu yng Ngogledd Iwerddon. Er mwyn sicrhau bod pobl a ddadleolwyd yn cael cefnogaeth effeithiol yng Nghymru, bydd ymchwiliad y pwyllgor yn edrych ar y meysydd lle y gallwn wneud pethau’n wahanol ac yn well.
Bydd gan y pwyllgor ddiddordeb arbennig yng nghyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru o adsefydlu ffoaduriaid drwy gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed; effeithiolrwydd cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, atebolrwydd, cymorth iechyd meddwl, eiriolaeth, y ddarpariaeth dai, mynediad at hawliau, amddiffyn plant, ac amddifadrwydd; a sut y mae plant ar eu pen eu hunain yn cael eu cynorthwyo, yn enwedig gan fod Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud bod y cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches
yn anwybyddu’r angen am eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc y tu hwnt i ddyletswyddau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych ar ba mor dda y mae strategaeth cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yng nghymunedau Cymru. Bydd y pwyllgor yn siarad â theuluoedd sydd wedi eu hadsefydlu yng Nghymru yn ddiweddar ac yn archwilio arferion da yn y DU ac yn rhyngwladol.
Ddirprwy Lywydd, caf fy nghalonogi gan alwad y Prif Weinidog gyda’r trydydd sector ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i helpu ffoaduriaid sy’n blant. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Llywodraeth Ffrainc ar fin cau gwersyll y Jyngl yn Calais.
I gloi, gobeithiaf y bydd yr ymchwiliad hwn yn arwain at wella profiadau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Rwyf am i’r cenedlaethau o bobl sydd wedi’u dadleoli fod yn falch o alw Cymru’n gartref iddynt.
Mae’n bleser gen i siarad fel aelod o’r pwyllgor. Rwy’n croesawu’r darn pwysig o waith y bydd y pwyllgor yn ei wneud ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sydd yn ceisio lloches. Mae gennym ni bron 3,000 o bobl yng Nghymru yn chwilio am loches, sydd yn cynrychioli 0.1 y cant o’r boblogaeth—ffigwr bychan iawn ond carfan bwysig a bregus sy’n haeddu ein cefnogaeth lawn ni.
Mi fydd yn bwysig i’r ymchwiliad gan y pwyllgor ddarganfod nifer o faterion, ac rydych chi wedi cyfeirio at rai ohonyn nhw, ond, i mi, mi wnaf i restru rhai pethau pwysig. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddarganfod beth ydy’r ymateb Cymreig i argyfwng ffoaduriaid Syria. Mae hi’n sefyllfa sydd yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Er enghraifft, a ydy’r ffigurau adleoli ffoaduriaid yn deg ac a ydy awdurdodau lleol yn cymryd eu cyfran deg? Mae hynny’n amlwg angen sylw. Bydd angen inni hefyd ystyried pa mor dda y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod. Mae rhywun yn clywed am wahaniaeth enfawr rhwng beth gafodd ei gytuno a beth sy’n cael ei ddarparu. Felly, rydym ni, yn ystod ein hymchwiliad, angen deall sut y mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol wedi medru ymateb i’r argyfwng hyd yn hyn, a hefyd pa mor gyflym y maen nhw’n mynd i fedru ymateb i adleoli ffoaduriaid yn y dyfodol.
Rwy’n gobeithio y gallwn ni edrych ar sut mae’r gwaith yma yn cael ei fonitro, ac felly mi fydd angen i’r pwyllgor ystyried pa mor effeithiol mae’r tasglu ffoaduriaid Syria wedi bod wrth gefnogi ymdrechion adleoli. Mi fydd yn bwysig hefyd, rwy’n meddwl, i ni ffeindio sut mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar bolisi adleoli gan y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar ymarfer da, beth sydd wedi mynd yn dda, ond hefyd i wybod beth sydd ddim yn gweithio.
Rydym ni hefyd angen edrych ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches. A ydy’r ymateb wedi ei gydlynu yn ddigon da, ac a oes yna ddigon o gydlyniant yn yr ymateb rhwng gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd, y cyflenwyr tai, addysg ac yn y blaen? Mae hynny’n rhan bwysig o’n gwaith ni, rwy’n meddwl.
Hefyd, mae eisiau ystyried sut mae polisi a deddfwriaeth ddiweddar yn medru bwydo mewn i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches, ac yn benodol efallai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i chyfrifoldebau.
Rwy’n deall nad oes gan Gymru wasanaeth cefnogaeth eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ffoi neu sydd ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth rydw i’n credu y dylai’r ymchwiliad yma ei ystyried hefyd.
Dyna luchio nifer o awgrymiadau i ni i’w trafod yn fanylach, ond rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig yma yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr, Sian. A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i’r Aelod am ei hymrwymiad i’r gwaith hwn, a gwn fod ganddi ddiddordeb mawr ynddo? Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw’r gwasanaethau yng Nghymru, a sut y gellir sicrhau eu bod yn gydgysylltiedig ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i Gymru, ac yn wir, sut y gall deddfwriaeth newydd fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ein helpu i gyflawni’r cydgysylltiad hwnnw yn ogystal â gwelliannau cyffredinol i’r gwasanaethau.
Rwy’n cydnabod y pwyntiau ynglŷn ag eiriolaeth. Fel y soniais yn fy araith, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi tynnu sylw at hynny fel maes sydd angen ei archwilio.
Credaf ei bod yn amlwg o ymarfer ymgynghori’r haf a gynhaliwyd gan y pwyllgor fod cefnogaeth sylweddol yng Nghymru i’r gwaith hwn a bod angen i’n pwyllgor ei gyflawni. Felly, edrychaf ymlaen at lefel uchel o ddiddordeb a chyfraniad parhaus gan yr holl sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb. A bydd yn bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, ar y darlun yn Ewrop, a gwneud pwyntiau priodol, ond wrth gwrs, bydd ein prif ffocws ar rôl Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn wir, fel y crybwyllodd yr Aelod, gan eu bod yn hollol hanfodol o ran y pwerau a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru a all wneud gwahaniaeth i brofiad y grwpiau agored i niwed hyn.
Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwyf mewn sefyllfa ryfedd gan mai dyma’r tro cyntaf, ers i mi fod yn y Cynulliad, i mi beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor hwn neu ei ragflaenwyr cyfatebol, er bod llawer o’r materion rydych yn eu nodi wedi bod yn destun gwaith gan y pwyllgorau blaenorol hynny. Gobeithiaf, felly, y byddwch—ac rwy’n siŵr y byddwch yn cadarnhau eich bod—yn edrych ar waith etifeddol y pwyllgor diwethaf yn arbennig, ond hefyd ar beth o waith etifeddol pwyllgorau rhagflaenol a ddygwyd ymlaen ac sy’n berthnasol i’r gwaith rydych yn ei wneud.
Fe ddywedoch eich bod wedi canolbwyntio eisoes ers peth amser ar waith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Gobeithiaf y byddwch, neu byddwn yn eich annog, i gynnwys yn rhan o hynny—rwy’n siŵr y byddwch yn cadarnhau eich bod wedi gwneud hynny—y mater a achosodd beth tensiwn ar y diwedd, fel y cofiwch, sef yr angen hanfodol am addysg ar berthnasoedd iach. Cawsom addewid y byddai camau i fynd i’r afael â hynny yn y rheoliadau a’r codau, a’r strategaeth ganlynol. Roedd peth pryder, yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drais yn erbyn menywod a phlant, nad oedd hynny, efallai, wedi cael ei drin yn ddigon trylwyr. Yn yr un modd, nodwyd pryderon yno gan nifer o arbenigwyr, gan gynnwys y cynghorydd cenedlaethol, fod y strategaeth genedlaethol ddrafft ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hyd at 2020-21 wedi achosi pryder o ran nifer o faterion, yn enwedig yr angen i fabwysiadu diffiniad a gydnabyddir yn rhyngwladol o drais yn erbyn menywod. Felly, byddai’n cael ei werthfawrogi, yn sicr gan y bobl sy’n mynychu’r grŵp trawsbleidiol, pe bai’r pwyllgor yn gwrando ar eu tystiolaeth gydunol yn hynny o beth.
Rydych yn cyfeirio at ganolbwyntio’n helaeth ar raglenni i drechu tlodi. Efallai y gallech gadarnhau pa un a ydych nid yn unig yn edrych ar yr etifeddiaeth ond yn bwrw ymlaen â chyfres o ymchwiliadau roedd y pwyllgor blaenorol wrthi’n eu cyflawni ond heb eu cwblhau—credaf ein bod wedi cyrraedd cam 2 o broses dri cham—a pha un a ydych yn mynd i fwrw ymlaen â hynny ar yr un sail ai peidio.
Croesawaf y ffaith y bydd eich ymchwiliad nesaf yn canolbwyntio ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Rydych yn cyfeirio at y 112 o bobl sydd yma o dan gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed, o gymharu â 862 yn yr Alban a 155 yng Ngogledd Iwerddon. Ymddengys bod y ddwy genedl arall, hyd yn hyn, wedi cymryd cyfran fwy o’r boblogaeth yr effeithir arni. Gobeithio y byddwch yn edrych ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny, a allech roi sylwadau hefyd ar y ffigurau a roddwyd i mi gan Oxfam Cymru yr wythnos diwethaf sy’n nodi bod rhaglen adsefydlu ffoaduriaid Syria eisoes wedi dod â 257 o bobl i Gymru, gyda disgwyl i 103 arall gyrraedd cyn diwedd y flwyddyn hon, a 21 o’r 22 awdurdod lleol eisoes wedi derbyn rhai pobl o’r rhaglen honno?
Erbyn diwedd 2015, bydd 65.3 miliwn o bobl ledled y byd wedi cael eu gorfodi i ddadleoli o ganlyniad i erledigaeth, gwrthdaro, trais neu ymyriadau â hawliau dynol, a chyfran fechan ohonynt wedi ceisio lloches yng Nghymru. Mewn gwirionedd, byddaf yn cynnal ac yn noddi digwyddiad Lloches yn y Senedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru ar 7 Rhagfyr, pan fydd modd i’r Aelodau gyfarfod â cheiswyr lloches a ffoaduriaid o bob rhan o Gymru. Felly, nid oes gennyf gywilydd fy mod yn hysbysebu hynny yn awr, ac rwy’n annog yr Aelodau i ddod draw i gyfarfod, dysgu a chlywed am brofiadau pobl o lygad y ffynnon, a’r rôl y mae Cymru wedi ei chwarae ac y gall ei chwarae yn y dyfodol.
Yn amlwg, cyfeiriwyd at y gwersyll yn Calais y rhoddwyd yr enw erchyll ‘Jyngl’ arno a’r ffaith ei fod yn cau. Mae Comisiynydd Plant Lloegr wedi dweud yn flaenorol y bydd oddeutu 300 o blant o’r gwersyll, o wledydd fel Syria ac Afghanistan, yn dod i’r DU. Gwyddom, yr wythnos diwethaf, fod rhai o swyddogion Prydain a Ffrainc wedi dechrau cofrestru plant ar eu pen eu hunain yn y gwersyll sy’n gobeithio ymuno â pherthnasau ym Mhrydain. A oes gennych unrhyw syniad a yw’r ffigurau hynny’n gywir, neu a allwch geisio darganfod yr union nifer? Os yw’n 300, neu’n fwy, pa gyfran a ddaw i Gymru?
Yn yr un modd, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, wedi dweud bod Llywodraeth y DU, a dyfynnaf, yn ‘symud yn gyflym’. Mae hi am i gymaint o blant â phosibl ddod i’r DU cyn bod y gwersyll yn cau. Ond mae’r elusen Safe Passage UK, sy’n gweithio gyda Llywodraeth y DU, yn dweud nad yw wedi gweld unrhyw gynlluniau gweithredol hyd yn hyn i nodi sut y bydd y plant yn cael eu trosglwyddo. Unwaith eto, a allwch edrych ar y cynlluniau gweithredol wrth iddynt ddatblygu, nid yn unig gyda Llywodraeth y DU, ond gyda Llywodraeth Cymru, o ran y setliad yma? Ni ddywedaf lawer mwy, heblaw gofyn—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dowch i ben, Mark, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae’r cwestiwn olaf, felly, yn ymwneud â—. Rwy’n siŵr y gallwch gadarnhau y byddwch yn cadw golwg ar y cyflawniad anghymesur yng Nghymru hyd yn hyn. Rwyf wedi cynrychioli pobl gyda nifer o gynghorau, ac mae’r ymagwedd wedi bod yn wahanol, ond yn bennaf oll, y pwyntiau allweddol a nodwyd, er enghraifft, yn Wrecsam—sydd eisoes wedi cytuno i dderbyn—yw’r angen am gymorth iaith, ac yn Sir y Fflint, am gymorth llawn gydag iaith a’r cwricwlwm, gan gefnogi’r broses o integreiddio teuluoedd i’r cymunedau lleol, yn ogystal â’r materion yn y pen blaen ynglŷn â phethau fel tai ac iechyd. Unwaith eto, gobeithiaf y gallwch gadarnhau y byddwch yn edrych ar y rheini. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gyfraniad i’r datganiad hwn a’i gwestiynau? Yn wir, fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor blaenorol, ac rydym wedi gwneud hynny’n barod, ond byddwn yn sicr yn edrych arno mewn perthynas â’r materion y soniodd yr Aelod amdanynt. O ran Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, rydym wedi bod, heddiw mewn gwirionedd, yn gwneud gwaith craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, ar y cynghorydd cenedlaethol, ac roedd llawer o’n cwestiynau’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach a sut y cawn y cynnig addysg ysgol yn iawn. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Kirsty Williams ac wedi cael ymateb yn hynny o beth, a byddwn yn mynd ar drywydd hynny. Mae llawer o hyn, wrth gwrs, yn ymwneud â Donaldson ac adolygiad y cwricwlwm, a lle addysg perthnasoedd iach yn hynny, a pha un a yw ar sail statudol ai peidio, ac yn gyson ledled Cymru o ran ansawdd ac argaeledd. Felly, rwy’n siŵr y bydd y materion hynny’n ymddangos yn adroddiad ein pwyllgor. Hefyd, fe grybwyllwyd pwysigrwydd cael diffiniadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a gwn fod hynny’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried yn ofalus iawn o ran y strategaeth genedlaethol a pholisi cyffredinol.
A gaf fi ddweud hefyd, o ran ymchwiliadau blaenorol yn ymwneud â thlodi, fod rhywfaint o fusnes anorffenedig yn wir, yn enwedig, rwy’n meddwl, o ran y ffaith fod y pwyllgor wedi dynodi budd-daliadau lles a thlodi mewn gwaith fel meysydd a allai arwain yn ddefnyddiol at waith yn y dyfodol? Felly, yn amlwg, bydd y pwyllgor, wrth fwrw ymlaen ag ymholiadau pellach a rhagor o waith ar dlodi, yn edrych ar y busnes anorffenedig hwnnw, fel petai, yn ogystal â’r gwaith cyffredinol y mae’n dymuno ei wneud ar dlodi, ac rwy’n siŵr y bydd gwaith blaenorol y pwyllgor yn llywio’r gwaith hwnnw.
O ran niferoedd, boed yn ffoaduriaid o Syria a chynllun diweddaraf Llywodraeth y DU, neu’n wir, y sefyllfa yn Calais, credaf y bydd y pwyllgor yn awyddus iawn i gael syniad mor gywir â phosibl o’r ffigurau hynny, a bydd hynny’n rhan o waith y pwyllgor.
Yn olaf, wrth ystyried yr ymchwiliad hwn yn y pwyllgor y bore yma, fe wnaethom ystyried digwyddiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar 7 Rhagfyr, a chredaf ein bod yn cytuno y bydd hwnnw’n gyfle defnyddiol i’r pwyllgor ymgysylltu â’r rhai sy’n bresennol ynglŷn â’r gwaith hwn.
A gaf fi ddiolch i chi, John, am eich datganiad, a chroesawu’n gynnes iawn y gwaith y byddwch yn ei wneud ar gefnogi ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain? Mae awdurdod lleol Torfaen wedi bod yn cyflawni’n well na’r disgwyl o ran derbyn ffoaduriaid o Syria, ac rwy’n falch iawn o hanes blaenorol y cyngor hwnnw, a hefyd yn falch iawn fod y cyngor, ddoe, wedi cytuno’n unfrydol i gyflwyno papur i’r cabinet i ddod yn un o’r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i dderbyn plant ar eu pen eu hunain. Felly, credaf fod hynny’n rhywbeth y gallwn oll fod yn falch ohono a’i ganmol.
Amlygwyd eisoes, fodd bynnag, fod awdurdodau lleol yn amrywio o ran eu hymwneud â’r cynlluniau hyn, ac roeddwn am ofyn sut rydych yn gweld rôl y pwyllgor o ran pwyso ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol, i wella ymgysylltiad â’r cynlluniau hynny ledled Cymru. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y cyfeiriad at eiriolaeth yn eich datganiad hefyd. Bydd y pwyllgor plant yn cynnal ymchwiliad byr ar eiriolaeth, gan fod rhai materion rydym yn dal i boeni yn eu cylch mewn perthynas â chyflawni ledled Cymru, a chredaf y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r ddau bwyllgor gydweithredu ar hynny.
Fe gyfeirioch at Cymunedau yn Gyntaf; eto, rwy’n falch iawn y byddwch yn edrych ar Cymunedau yn Gyntaf. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud, pan wnaeth y Gweinidog ei gyhoeddiad yn ddiweddar, fod ein hanes yn Nhorfaen o ran cyflawniad Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn wych, gan gynnwys o ran y math o allbynnau pendant fel cyflogadwyedd. Tybed a allech ddweud ychydig yn rhagor wrthym ynglŷn â sut rydych yn bwriadu craffu ar benderfyniad y Llywodraeth i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r rhannau ardderchog o’r rhaglen honno yn y dyfodol, ac rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ei sicrwydd ynglŷn â hynny yn gynharach. Hoffwn wybod hefyd sut rydych yn bwriadu ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r ymgynghoriad. Rydym yn dal i ddisgwyl am fanylion yr ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allanol a mewnol, a hoffwn wybod beth fydd cyfraniad y pwyllgor yn hynny o beth.
Diolch yn fawr iawn i Lynne Neagle am ei chroeso cynnes i’r gwaith hwn a’i chefnogaeth iddo. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda’r pwyllgor plant, Lynne, ar eiriolaeth yn arbennig. Credaf fod llawer mwy o feddwl ac ystyriaeth, yn y Cynulliad hwn, ynglŷn â sut y gall y pwyllgorau weithio gyda’i gilydd yn gyffredinol, ac efallai y gallai hyn fod yn enghraifft bwysig o sut y gallwn gyflawni hynny. Cytunaf yn llwyr ein bod angen i awdurdodau lleol yng Nghymru ddangos y math iawn o ymrwymiad i ddeall yr achos moesol enfawr, i chwarae eu rhan yn derbyn plant ar eu pen eu hunain, yn ogystal, wrth gwrs, â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Felly, pan osodir esiampl dda, megis yn Nhorfaen, mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn ei nodi. Mae’n braf clywed am y papur cabinet sy’n cael ei gyflwyno hefyd.
Credaf mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn ein gwaith yw dweud yn glir pa awdurdodau lleol sy’n camu i’r adwy, fel petai, a thrwy wneud hynny, credaf y bydd yn rhoi cryn bwysau ar awdurdodau lleol eraill nad ydynt yn dangos ymrwymiad a gweithredu cyffelyb. Credaf mai gweithredu, yn amlwg, yw’r peth pwysig, gan fod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cytuno i chwarae rhan yn derbyn pobl o dan y cynlluniau amrywiol, ond nid ydym wedi gweld llawer o weithredu hyd yn hyn. Felly, mae angen mwy o gyflymder, a nifer fwy o oedolion a phlant yn elwa ar yr ymrwymiad llafar a roddodd yr awdurdodau lleol.
O ran Cymunedau yn Gyntaf, bydd hwnnw’n fater i’r pwyllgor, yn amlwg, ond credaf y byddwn yn ceisio craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd y datganiad yn cael ei wneud yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn dilyn yr ymgynghoriad, a hefyd, cyn hynny, o ran ein gwaith yn craffu ar y gyllideb, ac yn enwedig, fel y dywedwch, y prosiectau pwysicaf—y cynnydd gwirioneddol a wnaed drwy Cymunedau yn Gyntaf—sut y bydd y meysydd gweithgaredd hynny’n cael eu cynnal a’u cefnogi yn y dyfodol. Credaf mai profiad cyffredinol y rhan fwyaf o’r Aelodau o Cymunedau yn Gyntaf yw ei fod wedi bod yn amrywiol ac yn anghyson, ond do, mae wedi gweithio’n arbennig o dda mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae yna waith arbennig o werthfawr sydd angen ei gadw. Felly, credaf mai dyna fydd ein ffocws.
Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond mae gennyf ddiddordeb mawr yn y mater hwn a hoffwn eich llongyfarch am ymgymryd â’r ymchwiliad penodol hwn, gan fy mod yn credu ei fod yn hanfodol bwysig. Yn amlwg, oherwydd yr holl newyddion diweddar ynglŷn â phlant ar eu pen eu hunain yn cyrraedd y DU, credaf fod hwnnw’n un o’r materion sydd ar flaen ein meddyliau.
Roeddwn yn siomedig iawn y bore yma—efallai fod Aelodau eraill wedi’i glywed, ar y rhaglen ar Radio 4, a oedd yn cynnwys dadl ynglŷn ag a yw’r plant ar eu pennau eu hunain sy’n cyrraedd dros 18 oed ai peidio, ac roedd sôn am sganiau deintyddol a sganiau esgyrn i geisio canfod a ydynt yn blant ai peidio. Roedd yn ymddangos i mi ein bod yn ymwybodol fod y bobl ifanc sy’n cyrraedd wedi dioddef trawma, a’n bod yn gwybod eu bod wedi colli eu teuluoedd ac ymddengys i mi fod hyn yn ffordd ofnadwy o gychwyn y drafodaeth ynglŷn â’r bobl hyn yn cyrraedd yma. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd y pwyllgor yn mynd i edrych ar rai o’r agweddau sy’n bodoli—a oes unrhyw ffordd o edrych ar agweddau pobl at ffoaduriaid. Oherwydd, am wn i, pan fyddwch yn meddwl am ffoadur sy’n blentyn, bydd pobl yn meddwl am blentyn ifanc, a gwyddom fod y rhan fwyaf ohonynt yn eu harddegau—yn fechgyn yn eu harddegau. Parodd hynny gryn sioc i mi, felly gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn ystyried hynny. Gan gofio y bydd llawer o’r plant a’r bobl ifanc hyn wedi dioddef trawma, byddant angen mynediad at wasanaeth cwnsela a thriniaeth ar gyfer straen wedi trawma, a gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn edrych ar hynny hefyd.
Ddoe, roeddwn gyda’r rhaglen Radio Wales a’r BBC World Service yn y Pierhead—credaf fod eraill yno hefyd—a gwnaed pwynt gan un o’r siaradwyr a ddaeth o Syria chwe blynedd yn ôl nad yw pobl sy’n dod o Syria, ei gydwladwyr, yn bobl heb sgiliau ar y cyfan. At ei gilydd, maent yn feddygon, athrawon, penseiri a pheirianwyr—dyna’r proffesiynau a restrwyd ganddo—ac maent yn awyddus iawn i weithio, oherwydd pan na fyddwch yn gweithio, yn aml iawn rydych yn colli eich hunan-barch ac yn colli’r teimlad eich bod yn cyfrannu at y gymuned. Dywedodd hefyd, os ydych yn gweithio mewn cymuned a bod y gymuned honno’n cynnig cyfeillgarwch i chi, fe fyddwch yn ffyddlon i’r gymuned honno yn y dyfodol, oherwydd yr hyn y mae wedi ei wneud i chi.
Felly, o ran y cynllun i adsefydlu pobl o Syria, roeddwn i’n meddwl tybed a allai’r pwyllgor ystyried pa gyfleoedd i weithio a fyddai ar gael, gan y gwyddom, o dan y cynllun i adsefydlu pobl sy’n agored i niwed, y bydd ffoaduriaid yn cael caniatâd i weithio am bum mlynedd, ond nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill yn y DU. Dros y blynyddoedd, rwyf fi, fel pawb arall yma, wedi cyfarfod â nifer fawr o geiswyr lloches sydd—wel, heb ystyr i’w bywydau gan nad ydynt yn gallu gweithio. Felly, credaf y bydd llawer o’r bobl a ddaw yma o dan gynllun Syria yn cael llawer o sylw a chymorth, ond tybed a fyddai modd i’r pwyllgor gofio hefyd fod yna geiswyr lloches eraill yma heb y math o gefnogaeth y bydd cynllun Syria yn ei chynnig, cynllun rwy’n ei gymeradwyo, a’n bod yn dymuno gwneud popeth a allwn i’w helpu. Ond mae pobl eraill yno hefyd, ac mae yna bobl amddifad sy’n geiswyr lloches ac sy’n chwilio am swyddi yn y wlad hon ac sydd ar y strydoedd yng Nghaerdydd. Cafwyd noson o gysgu ar y stryd y penwythnos diwethaf i nodi’r ffaith fod pobl ddigartref ac anghenus ar y strydoedd yng Nghaerdydd.
I gloi, y pwynt olaf rwyf am ei wneud yw hwn: gwn ein bod yn siarad am yr adnoddau sydd angen eu rhoi i’r cymunedau i helpu ffoaduriaid i setlo ac integreiddio, a chredaf hynny’n gryf iawn—mae angen i ni wneud hynny—ond credaf hefyd fod yn rhaid i ni gydnabod cryfderau’r teuluoedd hynny. Rwy’n meddwl yn benodol am ysgolion, oherwydd yn Ysgol Uwchradd Cathays yn fy etholaeth i, lle y ceir llawer o blant sy’n ceisio lloches ac ymfudwyr economaidd, fel rydym yn eu galw, mae 63 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad ac mae yno blant o lawer o gymunedau gwahanol, gan gynnwys cymunedau Somalïaidd, Tsiecaidd, Slofacaidd, Roma, Bangladeshaidd, Pacistanaidd—gallwch barhau i restru o ble y maent yn dod. Mae’r holl staff a’r ysgol yn dweud eu bod yn dod ag egni anferthol i’r ysgol, eu bod yn wirioneddol gyfoethogi’r ysgol, a bod y rhieni yn awyddus iawn i’r plant lwyddo gan fod llawer ohonynt wedi mynd i lawer o drafferth i gyrraedd y wlad hon, a chredaf, yn rhan o’ch adroddiad, y byddai’n dda gweld peth o’r cyfoeth enfawr sydd wedi dod i’r wlad hon.
Diolch yn fawr i Julie Morgan am ei syniadau ynglŷn â’r math o waith y gallai’r pwyllgor ei gyflawni fel rhan o’r ymchwiliad hwn. Mae’n wirioneddol ddefnyddiol cael y syniadau hynny’n cael eu cyflwyno heddiw fel rhan o’r datganiad hwn. Rwy’n siŵr y bydd gan y pwyllgor gryn ddiddordeb mewn edrych ar yr holl feysydd gwaith hynny.
A gaf fi ddweud fy mod innau, hefyd, wedi clywed peth o’r ddadl heddiw o ran sut rydych yn canfod oedran y bobl ifanc a ddaw yma o dan rai o’r cynlluniau adsefydlu hyn? Gwn fod gan lawer o bobl yn y proffesiwn meddygol bryderon difrifol ynglŷn â moeseg feddygol cynnal sganiau, er enghraifft, a allai arwain at ganlyniadau iechyd posibl pan nad oes rheswm meddygol dros gyflawni’r driniaeth honno. Felly, credaf fod yna rai materion difrifol, ac wrth gwrs, o ran urddas pobl, credaf y byddai gan lawer ohonom farn gref ynglŷn â’r hyn a ddylai ddigwydd a’r hyn na ddylai ddigwydd. Felly, rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn ystyried y materion cyfredol hyn. Mae’n ymwneud ag agweddau, onid yw? Os ydym am roi’r croeso cynnes a ddylai gael ei gynnig yng Nghymru i geiswyr lloches, ffoaduriaid a phlant ar eu pen eu hunain, yna mae angen i ni gyfleu’r negeseuon cywir a cheisio creu’r awyrgylch cywir yng Nghymru ac yn ein cymunedau. I ryw raddau, credaf ein bod yn gobeithio y bydd y cyfryngau’n rhoi sylw cyfrifol, ac yn anffodus, nid yw hynny bob amser yn wir, o bell ffordd.
Byddwn yn gwneud gwaith ar gydlyniant cymunedol ac yn edrych ar sut y gallwn integreiddio pobl mor effeithiol â phosibl. Credaf ei fod yn ymwneud ag agweddau a negeseuon, a’r awyrgylch sy’n bodoli. Felly, credaf y bydd y rheini’n faterion diddorol i’r pwyllgor edrych arnynt. Cytunaf yn llwyr fod llawer o bobl eraill, nid pobl o Syria yn unig, yn dod â sgiliau, cymwysterau proffesiynol a phrofiad gwerthfawr iawn gyda hwy, a byddant yn werthfawr iawn yng Nghymru, a gallant lenwi rhai bylchau pwysig o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol i gyflawni’r swyddi hynny. Felly, unwaith eto, credaf y bydd hynny’n rhan sylweddol o’r gwaith hwn.
Fel y dywedodd yr Aelod—dyna yw fy mhrofiad innau hefyd yng Nghasnewydd, fel ardal amlethnig—mae ysgolion â llawer o blant o amrywiaeth o gymunedau amrywiol yn dod â llawer o egni i’r ysgol, llawer o ymrwymiad i addysg, a chryn awydd i lwyddo i’r ysgolion hynny, er eu lles hwy, ond hefyd er lles y disgyblion eraill a’r ysgol gyfan.
Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall, ond credaf ei fod yn bwnc y mae gan bobl ddiddordeb ynddo. Felly, os gallant addo i mi y gallant fod yn gryno, gallwn glywed gan bawb. Felly, Gareth Bennett.
Diolch. Diolch, Gadeirydd, am eich datganiad. Dylid croesawu’r ffaith fod y pwyllgor yn edrych yn ofalus ar fater ffoaduriaid. Mae’n anochel, fodd bynnag, y bydd llawer o’r gwaith yn ymwneud â chlywed gan grwpiau sy’n ymwneud â ffoaduriaid, grwpiau sy’n ceisio rhoi cymorth iddynt integreiddio yn y gymdeithas yn gyffredinol, grwpiau sy’n darparu gwasanaethau i ffoaduriaid, ac mae rhai o’r grwpiau hyn hefyd yn galw arnom i dderbyn rhagor o ffoaduriaid.
Fel y dywedoch, Gadeirydd, mae angen i ni wynebu tuag allan, ac wrth ystyried ffoaduriaid, mae angen i ni ystyried eu heffaith ar y gymuned ehangach. Mae angen i ni ystyried effaith debygol cost ac adnoddau ar gyfer adsefydlu ffoaduriaid yma yng Nghymru. Sut y bydd yn effeithio ar gynghorau lleol yn ariannol? Sut y bydd yn effeithio ar y rhestr dai? Sut y bydd yn effeithio ar y gwasanaethau iechyd ac addysg? Felly, yn ogystal â chlywed manylion gan ddarparwyr y gwasanaethau ffoaduriaid yng Nghymru, mae’n rhaid i’r Cynulliad hefyd—ar yr un pryd, yn fy marn i—ystyried y goblygiadau ehangach hyn.
Diolch i Gareth Bennett am ei gyfraniad. Bydd y pwyllgor yn ystyried y materion cymunedol ehangach sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol, fel y dywedais yn fy ateb i Julie Morgan. Yn fy natganiad, nodais y bydd hynny’n rhan sylweddol o waith y pwyllgor. Mae angen i ni glywed gan bobl y tu hwnt i’r grwpiau sy’n darparu’r gwasanaethau ac sydd â rôl benodol yn helpu i adsefydlu a chefnogi ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phlant ar eu pen eu hunain. Wrth gwrs, mae cyllid yn bwysig. Mae yna lawer o faterion sy’n codi ynglŷn â lefel y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei darparu i awdurdodau lleol, er enghraifft, a chredaf fod hynny wedi bod yn rhan bwysig o’r wybodaeth y mae awdurdodau lleol wedi gofyn amdani cyn cymryd rhan yn y cynlluniau amrywiol. Felly, credaf y bydd yr holl faterion hynny’n arwyddocaol i waith y pwyllgor wrth gyflawni’r ymchwiliad hwn.
Diolch am eich datganiad, John. Rwyf wedi cael fy nrysu ychydig gan ffigurau Mark Isherwood yn gynharach, ond yn eich araith fe sonioch fod 112 o ffoaduriaid o Syria wedi’u hadsefydlu yng Nghymru, sy’n golygu nad ymddengys fod y ffigur hwnnw wedi newid ers mis Awst, os yw hynny’n dal yn wir, ac mae’n dal i olygu nad yw 13 o’r cynghorau wedi adsefydlu unrhyw ffoaduriaid o Syria o gwbl. Byddwn yn sicr yn hoffi gwybod a fydd eich ymchwiliad i hyn yn ceisio canfod y rheswm pam, ar ôl dwy flynedd a hanner, fod 13 chyngor heb dderbyn neb hyd yn hyn. Ar ôl dweud hynny, llongyfarchiadau i Dorfaen. Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot hefyd wedi adsefydlu niferoedd bach o ffoaduriaid o Syria. A fydd eich ymholiad yn asesu ansawdd y cymorth a’r canlyniadau i ffoaduriaid sydd wedi’u hadsefydlu yma? Dywedodd y Prif Weinidog bythefnos yn ôl y byddai’n siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bersonol ynglŷn â’r cynlluniau newydd ar gyfer adsefydlu plant. Roeddwn yn meddwl tybed a yw’r Prif Weinidog yn debygol o gael gwahoddiad i ddychwelyd i roi tystiolaeth uniongyrchol yn sgil y trafodaethau hynny.
Ar fater gwahanol: iaith. Mewn gwirionedd, rwy’n difaru troi’n llwfr rhag cynnig y gwelliant hwn yn awr, ond pa un a yw ieithoedd yn rhai o gymunedau Cymru—ac nid wyf yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg yn awr—yn dal i gyfrannu’n helaeth at ynysu grwpiau penodol o bobl, gan gynnwys menywod yn arbennig a phobl hŷn a allai fod wedi symud i gymunedau heb ddod i gysylltiad ag ieithoedd ac eithrio’r rhai y maent yn eu siarad eu hunain; pa un a oes unrhyw waith y gellid ei wneud yn hynny o beth i ganfod faint o rwystr y gall iaith fod i integreiddio. Mae’n ddrwg gennyf; mae’n debyg eich bod yn gwybod i ble rwy’n mynd gyda hynny.
Yna, yn drydydd ac yn hollol wahanol, tybed a fyddai’n bosibl i’r pwyllgor ystyried adolygu effeithiolrwydd codi ymwybyddiaeth anabledd yng Nghymru ar draws pob sector, nid y sector cyhoeddus yn unig, gan bennu, o bosibl, pwy’n union a ddylai ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros hynny. Hoffwn gynnwys ymwybyddiaeth awtistiaeth ac ymwybyddiaeth dementia hefyd. Rwy’n sylweddoli bod hynny’n wahanol i ymwybyddiaeth anabledd, ond rydym yn siarad am hyn yn aml ac roeddwn yn tybio a allwn, ar ryw adeg, gael adroddiad ar hyn gan y Cynulliad, yn hytrach na ffigurau’r Llywodraeth, i ddangos pa mor dda y mae hynny’n mynd rhagddo. Diolch.
Diolch i’r Aelod unwaith eto am nifer o syniadau a allai helpu i lywio gwaith y pwyllgor ac ychwanegu gwerth at waith y pwyllgor. Mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth anabledd, cawsom ymarfer dros yr haf i ofyn i sefydliadau yng Nghymru am syniadau ar gyfer ein blaenraglen waith. Nid oedd hwnnw’n un arbennig o amlwg, ond rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor, wrth symud ymlaen dros dymor y Cynulliad hwn, yn ystyried y materion hynny, ynghyd â llawer o faterion eraill.
O ran niferoedd, gobeithiaf y gallwn ddarparu mwy o gywirdeb ynglŷn â niferoedd. Bydd rhai’n haws nag eraill. Credaf nad yw peth o’r wybodaeth ar gael yn hawdd. Yn amlwg, os bydd pobl yn cael statws ffoadur, cânt deithio o Gymru i rannau eraill o’r DU neu ymhellach, a gall fod yn eithaf anodd olrhain hynny, ond credaf y bydd yn haws o ran ceiswyr lloches sy’n rhan o drefniadau lletya penodol, ac o ran plant ar eu pen eu hunain hefyd.
Gydag awdurdodau lleol, fel y dywedais yn gynharach, drwy waith y pwyllgor, gobeithio y gellir rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol sydd wedi bod yn llai parod i helpu i adsefydlu ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Gobeithio y gwelwn fwy o ymrwymiad, ond yn bwysicach, gobeithio y gwelwn fwy yn cael ei wneud gan y rhai sydd wedi bod yn gymharol amharod hyd yn hyn.
Ydy, mae’n ymwneud ag ansawdd y cymorth a’r gwasanaethau, a byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. O ran iaith, credaf fod cynlluniau megis darparu Saesneg fel ail iaith yn bwysig tu hwnt, a byddem eisiau edrych i weld faint o’r ddarpariaeth sydd ar gael ledled Cymru, a pha un a yw’n ddigonol i ateb y galw, a chynaliadwyedd y gwasanaethau hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn yn ariannol.
Mater i’r pwyllgor wrth i ni fwrw ymlaen fydd pa un a fyddwn yn galw ar y Prif Weinidog i roi tystiolaeth ai peidio. Rydym yn ystyried tystion ar hyn o bryd.
Diolch. Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, am eich datganiad. Heb ymestyn y ddadl yn ormodol, dymunaf ganolbwyntio’n benodol ar yr adroddiad y byddwn yn ei gynhyrchu maes o law ar geiswyr lloches, ffoaduriaid, ac yn benodol, ar blant ar eu pen eu hunain. Wrth i ni fynd drwy gamau’r adroddiad, hoffwn i ni ystyried y plant rydym wedi’u gweld o adroddiad gofal ECPAT, sy’n canolbwyntio’n benodol ar blant sy’n ceisio lloches a osodir mewn gofal am eu bod yn blant ar eu pen eu hunain, ac sy’n mynd ar goll wedyn o’r ddarpariaeth ofal am nad ydynt wedi cael gofal yn y ffordd y dylent fod wedi’i gael, efallai, ac am nad oedd rhai o’r camau arferol sy’n gysylltiedig â phlant ar eu pen eu hunain wedi cael eu hystyried.
Rwyf am fod yn eithaf penodol a dweud ei bod yn aml iawn yn wir—a gobeithiaf na fydd hyn byth yn wir yng Nghymru—fod plant sydd ar eu pen eu hunain yn cael eu masnachu. Maent yn cael eu masnachu am nad yw pobl wedi deall eu bod o dan bwysau eithriadol, a bod llawer ohonynt wedi cyrraedd lle y maent, yn y lle cyntaf un, am eu bod wedi cael eu masnachu yn y lle cyntaf un. Felly, mae angen i ni fod yn ymwybodol iawn o hynny.
Gan barhau â’r un thema, a byddai’n werth i ni archwilio hyn, mae Bil atal caethwasiaeth newydd y DU ar y ffordd. Gallem yn sicr edrych ar brosiectau treialu yng Nghymru pan fyddwn yn edrych ar rôl gwarcheidwaid masnachu mewn plant, a gall unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o hynny fod yn ddefnyddiol i weithio ar y trywydd hwnnw yn hyn o beth.
Mae’n rhaid i mi ddweud—ac nid wyf yn disgwyl sylwadau, ond mae’n rhaid i mi ei ddweud—fod deffro y bore yma a chlywed David Davies, Aelod Seneddol Mynwy, yn awgrymu’r hyn a awgrymodd y bore yma ynglŷn â gwirio unigolion mewn modd ymwthiol a phersonol iawn, wedi fy mrawychu, ac roeddwn am gofnodi hynny.
Diolch yn fawr i Joyce Watson am ei safbwyntiau a’i sylwadau. Dywedais yn gynharach, mewn gwirionedd, fy mod yn cytuno’n gryf â’r teimladau sy’n mynegi pryder mawr ynglŷn â sylwadau David Davies ar wiriadau oedran a’r modd o’u cynnal. Mae’n anurddasol iawn, ac fel y dywedais, mae’n codi nifer o bryderon ynglŷn â moeseg feddygol, yn ogystal â llawer o bryderon eraill. O ran y system ofal a’r adroddiad, credaf y bydd honno’n agwedd ddiddorol ar y gwaith y gallai’r pwyllgor ei gyflawni oherwydd, yn amlwg, mae’r plant hyn yn agored iawn i niwed ac yn galw am gryn dipyn o ffocws a chanolbwyntio ar ran y pwyllgor.
Rydym yn clywed yn awr, yn Calais, fel rhan o’r broses o ddymchwel y safle hwnnw, ei bod yn gwbl bosibl—mae wedi bod yn wir yn y gorffennol mewn gwirionedd—fod llawer o blant yn diflannu ac yn mynd ar goll. Mae yna bryderon difrifol ynglŷn â masnachu, a chamfanteisio yn gyffredinol, o ran y plant hynny. Gorau po gyntaf y bydd gwledydd yn cytuno i dderbyn y plant hynny, a gorau po gyntaf y gallant setlo mewn amgylchiadau diogel. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn awyddus i roi sylw gofalus i sut y gall Cymru chwarae ei rhan yn y posibilrwydd mwy cadarnhaol hwnnw i’r plant hyn, yn hytrach na’r peryglon sy’n amlwg yn eu hwynebu. Unwaith eto, gyda’r Bil atal caethwasiaeth a’r gwarcheidwaid masnachu mewn plant, credaf y gall hynny hefyd fod yn rhan sylweddol o waith y pwyllgor.
Diolch yn fawr, Gadeirydd.
Symudwn yn awr at gynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynigion—Rhun ap Iorwerth.
Cynnig NDM6124 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Cynnig NDM6125 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol;
1. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. Adam Price (Plaid Cymru) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynigiwyd y cynigion.
Yn ffurfiol.
Diolch. Rwy’n gweld nad oes unrhyw un yn dymuno siarad. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion hynny yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Symudwn yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl Plaid Cymru ar lywodraeth leol. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig y cynnig. Sian.
Cynnig NDM6121 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ‘wan ac anghyson’, ac wedi’u nodweddu gan ‘ddiffyg uchelgais’, fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio’r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn ganolog i genedl y Cymry. Dyma’r glud sydd yn clymu ein cymdeithas ynghyd. Mae Plaid Cymru wastad wedi sefyll dros wasanaethau cyhoeddus, dros y bobl sy’n eu cyflwyno, a dros y cymunedau a’r aelwydydd sy’n eu derbyn. Mae’r sector cyhoeddus yn bartner hanfodol i’r sector preifat i wneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus, teg a chynaliadwy. Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn sylfaen i lwyddiant y sector preifat, o addysg a sgiliau i ddarparu cludiant cyhoeddus, seilwaith a chyfleon am waith yn sgil polisïau caffael cadarn. Mae llwyddiant neu fethiant gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn allweddol o ran pennu cynnydd y genedl Gymreig, ond mae dyfodol y gwasanaethau hynny mewn perygl sylweddol a difrifol. Ni fedrwn orbwysleisio difrifoldeb her llymder ar adeg pan fo demograffeg yn newid.
Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol ac eraill wedi rhagweld y bydd y galw am wasanaethau iechyd yn parhau i gymryd cyfran gynyddol o gyllidebau Cymru yn y dyfodol, a fydd yn gosod straen enfawr ar y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn benodol. Mae her benodol hefyd yn wynebu Cymru o ran sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar lefelau priodol i leihau cymhlethdod ac i sicrhau gwell democratiaeth, craffu a chydweithrediad. Mae ein cynnig ni heddiw yn canolbwyntio ar yr elfennau hollbwysig pan yn edrych ar ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau y bydd yn gwasanaethu ein cymunedau ni yn effeithiol i’r dyfodol.
Rwyf am edrych yn gyntaf ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Yr ieuengaf y gallwn ddenu diddordeb pobl ifanc a phlant mewn gwleidyddiaeth, y gorau. Gall cynnig y cyfle i bobl ifanc bleidleisio yn 16 oed ennyn diddordeb pobl ifanc yn yr ysgol a thu hwnt. Os nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses etholiadol, mae perig i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ganolbwyntio eu neges ar anghenion pobl hŷn. Ac, fel rydym ni wedi ei weld nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, gwasanaethau ieuenctid sydd yn aml yn cael eu torri yn gyntaf.
O edrych ar ddiwygio trefniadau etholiadol, mae’n amlwg bod pobl wedi colli hyder mewn gwleidyddiaeth. Yn etholiadau lleol 2012, dim ond 39 y cant wnaeth fynd allan i bleidleisio. Ac, yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, dim ond 45 y cant, ac roedd hynny yn uchel—y gyfradd uchaf ers 1999, sydd yn broblem ynddi ei hun.
Mae yna lawer o resymau dros hyn, yn amlwg, ond un ohonyn nhw yn sicr ydy’r ffaith bod nifer o bobl yn dewis peidio â phleidleisio mewn rhai ardaloedd, oherwydd mae’r un rhai sydd yn ennill bob tro. Faint o weithiau ydym ni wedi clywed hynny? Ac yn enwedig yn y wardiau cyngor sydd ddim yn cael eu herio gan unrhyw blaid arall—99 yn etholiadau lleol 2012, sef dros 8 y cant o gyfanswm y seddau.
Rhai enghreifftiau: yn Sgeti, yn Abertawe, mi enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol yr holl seddi, er iddyn nhw ond ennill 37.4 y cant o’r bleidlais. Enillodd y Blaid Lafur 29 y cant, a’r Ceidwadwyr 20 y cant, ond methu ag ennill unrhyw sedd. Ac, yn y system bresennol, gall pleidiau sydd yn gorffen yn drydydd fynd yn eu blaen i ennill y rhan fwyaf o’r seddi. Yng Nghaerdydd, yn 2008, fe ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf yn ôl nifer o seddi, ond yn drydydd yn ôl nifer y pleidleisiau.
Mae system etholiadol newydd yn angenrheidiol er mwyn codi hyder pobl yn ôl mewn gwleidyddiaeth. A’n polisi hir sefydlog ni ym Mhlaid Cymru ydy cyflwyno system STV—pleidlais sengl drosglwyddadwy—er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol. Pan gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002, dywedwyd mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran y system etholiadol lleol, ac roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith system etholiadol arall.
Ac, yn fy marn i, cyflwyniad STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol, ac mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau y boblogaeth. Mae’r Llywodraeth yma wedi cael y cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol, ond nid ydy hynny wedi digwydd.
Ond mae hi yn bwysig nodi nad pwynt pleidiol ydy hwn, oherwydd mae’r holl bleidiau gwleidyddol wedi elwa yn anghymesur o’r system ‘first past the post’. Y cwestiwn ydy: a ydym ni am dderbyn annhegwch y broses? Ac, fel cenedl, os ydym ni wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna ddylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, bod pob pleidlais yn gyfartal. Nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae felly angen gwneud newid cadarnhaol er budd democratiaeth ein cenedl.
Gair am yr elfen ranbarthol yn ein cynnig ni: fel unrhyw genedl, mae ar Gymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynus ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni ydy esblygu graddol, gan ddefnyddio’r strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel rhanbarthau a chymuned. Ac mi fydd eraill o dîm y Blaid yn ehangu ar hyn ac ar agweddau eraill o’r cynnig.
O ran y gwelliannau, mi fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau’r Ceidwadwyr, yn amlwg, oherwydd maen nhw’n dileu ein pwyntiau ni. Nid ydym ni’n anghytuno efo’ch gwelliant cyntaf chi, ac, yn wir, dyma un o’r prif ffactorau sydd angen ei gysidro wrth edrych ar y ffordd y bydd llywodraeth leol yn cael ei chyllido yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw cymunedau gwledig dan anfantais anghymesur.
Efo’r ail welliant, ynglŷn â thryloywder, er bod tryloywder, wrth gwrs, yn hynod bwysig er mwyn craffu ar wariant arian y trethdalwyr, nid ydy tryloywder yn ei hun yn mynd i reoli cyflogau, nac yn mynd i greu fframwaith genedlaethol.
Ac, o ran gwelliannau Llafur, buaswn i’n hoffi mwy o eglurhad am beth yn union y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl, yn ymarferol, efo’r geiriau sydd ym mhwynt (a), sef
‘cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol’.
Rŵan, nid wyf yn gwybod yn union beth mae hynny’n ei feddwl. A ydych chi’n cytuno efo’r angen i gyflwyno newid yn y system etholiadol neu beidio? Efallai cawn ni fwy o eglurder ar hynny. Mi fydd aelodau eraill y tîm yn ehangu ar agweddau eraill y cynnig. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) archwilio’r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy’n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru; a
(b) gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a diolch i Sian Gwenllian am ei haraith agoriadol ar y ddadl ynglŷn â llywodraeth leol—dadl sy’n agos iawn at ein calonnau yma ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig, gan ei bod yn glir o’r argymhellion ynghylch awdurdodau cyfunol rhanbarthol, a gyflwynwyd, wrth gwrs, gan faniffesto Plaid Cymru, ac yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwygio llywodraeth leol yn gynharach y mis hwn, fod hwn yn un o’r meysydd dirgel hynny lle mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi taro bargen. Ac mae’n rhaid i mi ddweud ein bod yn siomedig na fu’r prosesau hyn yn fwy agored, ac yn wir, yn fwy tryloyw, yn enwedig o ystyried y galwadau a fu am gyflwyno’r dull newydd o ddiwygio llywodraeth leol ar draws y Siambr ar sail fwy trawsbleidiol—fodd bynnag. Ac mae’n hanfodol cofio, yn y Siambr hon, ac yn y swyddfeydd cefn i fyny’r grisiau ar y pumed llawr, ein bod i gyd, beth bynnag yw ein lliwiau gwleidyddol, yn atebol i bobl Cymru—i’r etholwyr. Ar eu cyfer hwy rydym yn ceisio diogelu a gwella gwasanaethau, ac arnynt hwy y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ceisio gweithio gyda’i gilydd yn awr i gyflawni amcanion maniffesto gwleidyddol Plaid Cymru. Ond nid strwythurau cymhleth llywodraeth leol sy’n bwysig i’n teuluoedd gweithgar, ond y sicrwydd o wybod y bydd gwasanaethau’n cael eu gwella ac y byddant yn cael eu darparu mewn modd effeithlon a chosteffeithiol.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai yn lleol y mae darparu gwasanaethau cyhoeddus orau fel y gall trethdalwyr ddwyn cynrychiolwyr lleol i gyfrif am yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned. Yn wir, mae Paul Williams, comisiwn Williams, ei hun wedi tynnu sylw at nifer o bryderon ynglŷn â chronni sofraniaeth gan gynghorau i ffurfio consortia rhanbarthol ac mae’n ei ddisgrifio fel rhywbeth ‘anodd iawn’. Nawr, i gyfiawnhau’r costau ychwanegol hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn rhagweld bod awdurdodau cyfunol rhanbarthol yn ymwneud yn ddemocrataidd â’r etholwyr ac yn atebol iddynt? Ar ôl gwario dros £130,000 ar gomisiwn Williams, a £434,000 pellach ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru y llynedd, roedd cost cynlluniau diwygio llywodraeth leol ac adolygiadau etholiadol yng Nghymru i’r trethdalwr ymhell dros £0.5 miliwn, ac nid ydym yn nes at weld unrhyw newidiadau ystyrlon. Yn lle hynny, mae gennym ffolineb—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Mike.
[Yn parhau.]—adroddiadau drud yn cael eu bwrw heibio, Biliau llywodraeth leol drafft, yn llenwi biniau papur gwastraff y Llywodraeth Lafur ddiweddaraf. Dyn a ŵyr faint yw’r costau llawn sy’n gysylltiedig â’r broses honno, y cyflwynasom gwestiynau i’w hateb yn ei chylch wrth gwrs. Unwaith eto, mae Paul Williams wedi sôn am ei siom, ers cyhoeddi’r adroddiad bron i dair blynedd yn ôl yn galw am ddiwygio mawr ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus, nid oes dim—dim—wedi digwydd. Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn petruso rhag ei ddweud. Rydym bob amser wedi bod yn gryf ac rydym bob amser wedi bod yn glir. Byddem yn cynnal refferenda i sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i unrhyw gamau mawr i uno llywodraeth leol. Byddem yn sicrhau ein bod yn gwbl agored ac yn atebol ar bob lefel o lywodraeth, a byddem yn cyhoeddi’r holl wariant awdurdodau lleol, fel cyngor Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, y nododd Swyddfa Archwilio Cymru fod ganddo drefniadau llywodraethu ariannol effeithiol, ac rwy’n gobeithio gweld mwy o gynghorau dan arweiniad y Ceidwadwyr ar ôl mis Mai nesaf.
Mae’n gwbl amlwg nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno mynd yn groes i’w gynghorwyr Llafur ei hun mor gynnar yn ei rôl bortffolio newydd. A phwy allai ei feio, o ystyried diwedd ei ragflaenydd, a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod diwygio o’r fath yn digwydd? Ond mae angen i ni edrych ar ffyrdd newydd callach a mwy agored o weithio. Nid ellir gwadu hynny. Yn sicr, mae angen i ni edrych ar y ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu i sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid cyfwerth sy’n deg, a phan fyddwn unwaith eto yn gweld Powys yn cael ei tharo gan y toriadau mwyaf yn y setliad dros dro i lywodraeth leol, mae’n amlwg nad ydych yn prisio nac yn gwerthfawrogi awdurdodau gwledig. Ac mae’n siomedig fod yr aelod o’r Cabinet dros y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, â sedd wrth fwrdd y Cabinet mewn gwirionedd ac wedi siomi ei phobl ei hun.
Ynghyd â chanoli gwariant gwasanaethau cymdeithasol, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth glir ar sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu gwella, nid eu hisraddio, o ganlyniad i’w toriadau cyson i awdurdodau lleol, ac adleisir y pryderon hynny yn nau bwynt cyntaf y cynnig hwn. Gallent a dylent edrych tuag at Sir Fynwy, wrth gwrs, am enghreifftiau o arfer da, tryloywder, effeithlonrwydd ac atebolrwydd democrataidd. Yno, mae’r tair ardal gwasanaethau cymdeithasol bellach wedi cyd-leoli gofal cymdeithasol a staff therapi galwedigaethol o dan reolaeth un rheolwr gofal integredig, gan ddarparu mynediad haws at uwch ymarferwyr therapi galwedigaethol am gyngor ar achosion cymhleth—
[Anghlywadwy.]
Iawn. Ac i fod yn wirioneddol atebol am ddarparu’r gwasanaethau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich cymeradwyo am y gwaith rydych wedi ei wneud ar y gwasanaethau cymdeithasol, i’r gyllideb yno, ac i feysydd parcio yng nghanol trefi, oherwydd roedd hynny o ddifrif yn effeithio ar fy etholaeth. [Torri ar draws.] Diolch i chi am fy nghyfraniad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio’r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Neil McEvoy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad mwy am
‘(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol’.
Roeddwn am fynd i’r afael â’r gwelliant Llafur yn gyflym
‘(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau... cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol’
ac yn y blaen ac yn y blaen. ‘Parhau i archwilio’r achos’, sy’n golygu gwneud dim yn y bôn: nid yw’n ddigon da. Os edrychwch ar lywodraeth leol yng Nghymru, rwy’n credu bod y cyflogau ar y pen uchaf allan o reolaeth, mewn gwirionedd, ac mae nifer y cyflogau chwe ffigur, nifer y bobl sy’n ennill dros £100,000 y flwyddyn, yn frawychus. Gellid arbed miliynau ar filiynau bob un flwyddyn a gellid rhoi’r arian hwnnw tuag at wasanaethau rheng flaen. Os edrychwch ar Abertawe, mae’r cyflog uchaf, heb gyfraniadau pensiwn, yn £140,000 y flwyddyn—mae Castell-nedd Port Talbot yn £125,000 y flwyddyn, mae Caerdydd yn £170,000, Wrecsam yn £125,000. Os edrychwch ar yr ombwdsmon llywodraeth leol, mae’n £140,000 y flwyddyn. Os edrychwn ar un—dim ond un—gymdeithas dai yn y ddinas hon, Cymdeithas Tai Wales & West Cyf, mae’r prif weithredwr yn ennill £133,000 y flwyddyn.
A wnewch chi ildio? A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, fe ildiaf.
Er darbodaeth, gallai’r Aelod wneud cyfraniad hael drwy roi yn ôl y lwfans cynghorydd o £12,000 y mae’n ei hawlio drwy fod yn AC a chynghorydd. Byddai hynny’n ddechrau da, rwy’n credu.
Diolch, Lee. Diolch am hynny. Ond os adiwch y cyfan rwy’n ei ennill ar hyn o bryd, mae ymhell o dan yr £100,000 rydym yn sôn amdano. A’r hyn rwy’n mynd i’r afael ag ef yma mewn gwirionedd, ac wedi bod yn ymdrin ag ef dros y pump neu chwe blynedd diwethaf yw cyflogau dros £100,000 y flwyddyn. Nawr, mae’r Prif Weinidog yn ennill £140,000 y flwyddyn. A ddylai unrhyw un ennill mwy na hynny mewn gwirionedd? Nid wyf yn credu y dylent. O ran ffigurau pellach, gadewch i ni fynd yn ôl at gymdeithas dai Wales & West: un person yn ennill £133,000 y flwyddyn, ac ym mhob un gymdeithas dai bron yn y ddinas a’r rhanbarth bydd y prif weithredwr yn ennill mwy na £100,000. Cartrefi RCT—rwy’n credu ei fod tua £160,000 y flwyddyn; efallai fy mod yn anghywir, mae’n bosibl ei fod yn £170,000, sy’n gwneud i’r £12,000 yna ymddangos yn fach iawn o bosibl.
O ran yr hyn sydd angen ei wneud, mae angen i ni ddeddfu ac o ran ein hanes, yr hyn a wnaethom fel cyngor pan oeddem yn rhedeg Caerdydd oedd mynd ati’n raddol i ddiddymu cyflogau dros £100,000 y flwyddyn, gan nad oeddem yn teimlo bod angen i ni dalu arian o’r fath. Yr eironi yw, pan gymerodd Llafur yr awenau eto a chyflwyno cyflogau enfawr unwaith eto—cyflogau enfawr ymhell dros £100,000 y flwyddyn—gwaethygodd gwasanaethau oherwydd toriadau yn y rheng flaen. Rwy’n talu teyrnged fach i’r cyngor dros y ffordd, oherwydd fe wnaethant gyflwyno cyflog byw. Ond ychydig iawn y tu allan i’r cyngor sy’n gwybod, pan gyflwynwyd y cyflog byw, eu bod wedyn wedi torri’r oriau roedd y rhai ar y cyflogau isaf yn y cyngor hwnnw’n ei weithio. Felly, yr hyn ydoedd mewn gwirionedd oedd gimic cysylltiadau cyhoeddus go wael.
Os edrychwn ar y darlun ehangach o ran trethdalwyr Cymru, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn fy marn i yw rhoi’r caead ar y pot mêl i bobl sy’n ennill llawer gormod: mwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Fe gymeraf y pwyntiau rwy’n cael fy heclo yn eu cylch o ran fy sefyllfa bersonol. Rwy’n aelod o Gyngor Caerdydd ac rwyf hefyd yn aelod yn y fan hon ac ydw, rwy’n ennill cyflog rhagorol drwy hynny. Ond yr hyn y byddwn yn nodi yw, er mwyn cyrraedd y Cynulliad hwn—[Torri ar draws.]—i gyrraedd y Cynulliad hwn, fe euthum am 12 mis heb gyflog proffesiynol amser llawn mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn mynd heb gyflog am 12 mis, mae yna oblygiadau. Beth—[Torri ar draws.]
Diolch. Bydd yr Aelod yn dirwyn i ben, gobeithio, mewn 30 eiliad. Diolch.
I rai o fy nghyd-Aelodau ar y chwith—yn gorfforol, ond yn sicr nid yn wleidyddol—efallai y cewch syndod yn y flwyddyn newydd o ran yr hyn y byddaf yn ei wneud; byddaf yn cyhoeddi bryd hynny.
Diolch. Mike Hedges.
Rwy’n credu fy mod yn ôl pob tebyg ar y chwith, yn gorfforol ac yn wleidyddol. A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? A gaf fi yn gyntaf oll ddychwelyd at y cynnig y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno? Hoffwn gytuno â’r datganiad fod llywodraeth leol yn cyfrannu tuag at yr economi leol, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol.
Gan gymryd pob un yn ei dro, mae llywodraeth leol yn gyflogwr mawr iawn ac yn brynwr mawr ar draws Cymru. Mae’n chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol, sy’n rheswm nad yw’n ymwneud â darparu gwasanaeth dros wrthwynebu creu cynghorau anferth.
Yn ail, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol i iechyd—iechyd yr amgylchedd, sy’n sicrhau diogelwch bwyd, casglu sbwriel a thrin fermin, gwasanaethau cymdeithasol sy’n darparu gofal cymdeithasol i oedolion a chadw pobl allan o’r system iechyd. Mae cyfleusterau hamdden yn cadw pobl yn heini ac yn gorfforol egnïol. Mae gwasanaethau tai yn rhoi llety addas i bobl. Mae pob un o’r rhain mewn gwirionedd yn cadw pobl allan o’r ysbyty. Gwn fod yna Aelodau sy’n gweld iechyd yn gyfystyr ag ysbytai, ond mae llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn diogelu iechyd pobl yn y wlad hon.
Mae darparu addysg drwy’r system ysgolion yn helpu i wneud Cymru yn wlad gyfoethog. Drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn adeiladu a gwella adeiladau ysgol, ac yn darparu Dechrau’n Deg, mae ansawdd yr adeiladau y mae plant yn mynd iddynt yn cynyddu’n barhaus.
A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi’r gyfres y cytunwyd arni yn genedlaethol o raddfeydd cyflog? Rwyf bob amser wedi cefnogi’r gyfres o raddfeydd cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Rwy’n mynd yn ôl at y dyddiau pan oedd gennym gydbwyllgor negodi ar gyfer prif swyddogion, lle y câi cyflog y prif swyddog ei bennu o fewn band, yn dibynnu ar faint y cyngor a’i fath. Ni welwn unrhyw reswm dros roi diwedd arno. Rhoddodd y Blaid Geidwadol ddiwedd arno. Digwyddodd o dan deyrnasiad Margaret Thatcher, a’r hyn a ddigwyddodd oedd eu bod yn meddwl y byddent yn cael pobl well i mewn o’r tu allan. Roedd gennych yr holl ddynion busnes gwych hyn yn mynd i ruthro i mewn i redeg llywodraeth leol. Nid yw wedi gweithio. Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yng nghyflogau prif weithredwyr ac aelodau eraill o staff uwch yng Nghymru. A oes unrhyw un yn credu mewn gwirionedd—neu efallai’n gallu pwyntio at bobl a recriwtiwyd oherwydd ein bod wedi cynyddu’r cyflogau hyn, pobl na fyddent wedi cael eu recriwtio’n flaenorol ar raddfeydd yr hen gydbwyllgorau negodi? Mewn gwirionedd mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl a oedd yn gweithio mewn llywodraeth leol ac wedi cael dyrchafiad o’i mewn.
Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi darganfod o’r diwedd nad oes maint cywir ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol—hyd yn oed yr un maes swyddogaethol. Nid y maint cywir ar gyfer rheoli datblygu yw’r maint cywir ar gyfer y cynllun strwythurol, y bydd angen iddo gwmpasu ardal lawer mwy o faint.
Yn olaf, rwy’n mynd i ddisgrifio sut y gellid trefnu gwasanaethau yn ninas-ranbarth Abertawe. Yn gyntaf, ac yn fwyaf syml, mae yna wasanaeth tân ac achub y gellir ei adlinio’n hawdd â ffin y dinas-ranbarth cyfan gan mai trosglwyddo allan o Bowys a Cheredigion yn unig sydd angen iddynt ei wneud.
Yn ail, os oes is-ranbarth economaidd yn mynd i fod, yna’r hyn sydd ei angen yw cael cynllun datblygu sy’n cyfateb i’r hen gynllun datblygu sirol ar gyfer yr ardal gyfan. Byddai hyn yn sicrhau bod modd alinio tai, datblygu economaidd a chynllunio dros y rhanbarth cyfan, ac nid dros ardal awdurdod lleol yn unig.
Mae datblygiad campws y bae yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond mae bron yn sicr o effeithio mwy ar Abertawe nag ar Gastell-nedd Port Talbot, ac mae’n enghraifft o’r dull ar sail ardal o weithredu. Mae cryn dipyn o’r rhain lle mae pethau’n digwydd bod mewn un ardal awdurdod lleol—. Mae canolfan siopa Trostre yn effeithio ar orllewin Abertawe. Nid yw yn Abertawe, ond mae’r cyfan yn rhan o’r is-ranbarth. Felly, mae gwir angen i ni ddechrau rhoi pethau at ei gilydd.
Y trydydd polisi ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe sydd angen ei gydlynu yw’r strategaeth drafnidiaeth. Mae angen yr hyn sy’n cyfateb i system metro dinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer bae Abertawe. Mae angen i hon sicrhau bod yna rwydwaith rheilffyrdd a bysiau cydgysylltiedig sy’n gallu symud pobl o’r ardaloedd preswyl i’r prif safleoedd cyflogaeth, manwerthu a hamdden. Hefyd, mae angen i’r rhwydwaith ffyrdd gynnwys ffordd ddeuol fan lleiaf ar gyfer symud pobl rhwng canolfannau poblogaeth mawr.
O fewn y ddinas-ranbarth, gellir rhannu’n ddau yn syml—gorllewin Morgannwg a Dyfed—sy’n cyfateb i hen siroedd Dyfed, heb Geredigion, a gorllewin Morgannwg. Gellir sefydlu cydfyrddau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sef dau brif wasanaeth y cyngor sir yn flaenorol, a gellir gwneud yr un peth ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gellid adlinio byrddau iechyd ar gyfer yr ardaloedd mwy o faint hyn i gynnwys y cydfyrddau. Byddai hynny’n alinio gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, yn union fel roeddent o dan yr hen fyrddau iechyd fel bwrdd iechyd gorllewin Morgannwg, a oedd yn bodoli i fod yn gyfrifol am iechyd yn ei ddyddiau fel cyngor sir. Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i’r bwrdd iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro weithio’n agosach gyda gorllewin Morgannwg.
Dylai’r awdurdodau lleol cyfredol barhau i ddarparu gwasanaethau lleol. Mae awdurdodau lleol yn darparu amrediad eang iawn o wasanaethau, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu darparu orau ar y lefel leol. Pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ar ran yr ardal lle maent yn byw yw sail democratiaeth leol. Mae’n ymwneud â chytuno ar ddinas-ranbarthau fel yr ôl-troed sylfaenol a chael gwasanaethau a drefnir yn effeithiol o fewn y rhanbarth hwnnw wedyn.
A gaf fi ddweud un peth i gloi am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Y ffordd orau o ddisgrifio’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yw ‘dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill’.
Rwy’n falch iawn o ddilyn fy nghyd-Aelod o’r Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n cytuno â llawer o’r hyn y mae Mike Hedges wedi’i ddweud, ar wahân efallai i’w sylwadau terfynol ar y bleidlais sengl drosglwyddadwy.
Rwy’n credu bod hon yn ddadl bwysig, gan ein bod yn ceisio denu gwybodaeth bellach yn y ddadl o ddatganiad pwysig a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet rai wythnosau’n ôl ar ddyfodol llywodraeth leol. Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn croesawu dull y Llywodraeth newydd hon o fynd ati ar y cyfan. Ond a gaf fi ddweud wrth y Ceidwadwyr eu bod yn gwastraffu eu hamser os ydynt yn meddwl bod yna ryw fath o fargen? Maent yn hoff iawn o fargeinion ystafelloedd cefn, efallai am nad ydynt erioed wedi mynd i mewn i ystafell gefn a chytuno ar un geiniog tuag at eu blaenoriaethau eu hunain un waith mewn 17 mlynedd yn y Cynulliad. Nid oes bargen ystafell gefn—dim byd o gwbl. Fe gyflwynwyd ateb amgen cynhwysfawr gennym yn lle argymhellion Williams, ac rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth hon, am ei rhesymau ei hun yn ddiau, wedi dod i gasgliad tebyg—nid yn union yr un fath, ond casgliad tebyg. A phwrpas y ddadl heddiw yw denu ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny, yn enwedig o ran sut y gallai’r gwahanol awdurdodau rhanbarthol weithio: ai awdurdodau wedi’u cyfuno ydynt, neu a oes ganddynt ryw fath o agenda gydweithredol? Mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir iawn y gallai fod cydweithredu gorfodol. Wel, i mi, mae hynny’n ein symud ar hyd y llwybr tuag at awdurdodau cyfunol, felly mae angen i ni ddeall ychydig mwy o’r manylion sydd ynghlwm wrth hynny.
Ond yn amlwg, beth bynnag y mae awdurdodau lleol yn mynd i’w wneud yng Nghymru, mae angen iddynt gael eu hariannu’n ddigonol i gyflawni eu hamcanion. Rwy’n meddwl bod pob un ohonom a oedd â diddordeb mewn llywodraeth leol neu a ddechreuodd ein bywydau gwleidyddol proffesiynol mewn llywodraeth leol yn hynod o bryderus, mewn gwirionedd, nad yw llywodraeth leol dros gyfnod datganoli wedi cryfhau. Yn wir, mae wedi gwanhau, a chredaf fod hwnnw’n wendid cyffredinol y dylem i gyd bryderu yn ei gylch.
Ni ddechreuodd y gwanhau mewn llywodraeth leol gyda datganoli; mae’n dyddio’n ôl i’r 1980au a phenderfyniad pendant y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd i dorri’n ôl ar lywodraeth leol, i gael gwared ar y pwerau a gwneud llywodraeth leol yn llai effeithiol—yn llai o her, yn wir, i’r Llywodraeth Geidwadol ganolog. Ond mae wedi gweithio, ar ôl datganoli, fel trefn sy’n dal llywodraeth leol yn ôl, ac yn arbennig yn ariannol, trefn nad yw’n caniatáu i lywodraeth leol wneud buddsoddiadau allweddol a bod yn ysgogiadau economaidd yn eu hardal fel y mae’r cynnig yn sôn. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf o galedi yn arbennig, rydym wedi gweld pwysau eithafol ar lywodraeth leol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru fel yr oedd, a’r Llywodraeth bresennol, wedi gwneud popeth a all, rwy’n credu, i amddiffyn llywodraeth leol i ryw raddau, ac mae’r setliad llywodraeth leol eleni a’r gyllideb eleni, yn dilyn y cytundeb gyda Phlaid Cymru, yn un o’r rhai mwy priodol a llwyddiannus i lywodraeth leol. Yn sicr, mae llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru yn ddiolchgar am setliad llawer gwell nag a welsom yn y gorffennol agos. Ond mae’r gostyngiadau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi disgyn yn anghymesur ar nifer o wasanaethau sydd o ddifrif yn cynnal lles ein poblogaethau lleol—mae llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol a gwasanaethau trafnidiaeth, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, wedi gweld toriadau enfawr o rhwng 20 y cant a 50 y cant, yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Mae pob awdurdod lleol yn sicr wedi ymateb i doriadau drwy fasnachu a threfnu contractau allanol, weithiau heb lawer o gefnogaeth, mae’n rhaid dweud, gan y poblogaethau lleol. Rydym yn deall pam y mae pob plaid mewn llywodraeth leol wedi cael ei gorfodi weithiau i archwilio ac edrych i weld sut y gallai hynny ddigwydd.
Ond rwy’n gobeithio, gyda’r eglurder ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, a’r syniadau a gyflwynir yng nghynigion newydd Ysgrifennydd y Cabinet a’r gyllideb eleni, y gallwn ddefnyddio’r cyfnod hwn o dawelwch cymharol i geisio ailsefydlu’r hyn yw llywodraeth leol yn y bôn—ei phriodoldeb a’r lefel orau o ddarparu gwasanaethau, a chryfhau cynghorau tref a chymuned weithiau, rwy’n meddwl, sydd â rhai pwerau cyffredinol gwych y gellid eu defnyddio’n greadigol iawn ar ran eu poblogaethau lleol.
Yn ogystal â’r adolygiad o’r fformiwla y mae’r cynnig yn sôn amdano, rwy’n credu bod gennyf ddiddordeb mewn gwybod, yn benodol, wrth i ni symud ymlaen gyda’n pwerau ein hunain ar gyfer ein gweithdrefnau cyllidebol ein hunain yma—y Bil cyllid, yn y pen draw, a’r holl bwerau amrywio trethi yma—pa un a ellir adlewyrchu hynny yn yr hyn rydym yn ei roi i lywodraeth leol. Rydym wedi grymuso byrddau iechyd i gael cynlluniau ariannol a chyllidebol tair blynedd mewn deddfwriaeth a basiwyd gennym yn y Cynulliad diwethaf. A allwn yn awr rymuso llywodraeth leol hefyd i symud at gynlluniau ariannol tair blynedd? A allwn roi pwerau ehangach i lywodraeth leol wneud pethau sydd mewn gwirionedd yn haws i’w gwneud yn Lloegr nag yng Nghymru bellach, sy’n rhyfedd—er enghraifft, sefydlu eich cwmni ynni lleol eich hun? Cafodd cwmni Robin Hood Energy, a sefydlwyd gan ddinas Nottingham a chynghorau yn yr ardal honno, ei rymuso mewn gwirionedd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae angen i ni edrych ar sut y gallai datganoli yng Nghymru ddarparu’r math hwnnw o ddatganoli yn ein hawdurdodau lleol hefyd. Byddai gennyf ddiddorddeb mawr mewn edrych ar arbrofion o gwmpas Bethesda, rwy’n credu, gydag Ynni Ogwen ac yn y blaen—lle y gellir chwyddo’r ddarpariaeth ynni leol gyda chymorth llywodraeth leol.
Felly, bwriad y ddadl hon yn sicr yw taflu goleuni ar y sefyllfa bresennol ac i ddenu ychydig mwy o fanylion ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei argymell, ond gadewch i ni fod yn glir: rhaid i ddatganoli yng Nghymru weithio law yn llaw â llywodraeth leol er mwyn cael y gefnogaeth ehangach i’n Cynulliad yn ogystal.
Mae’r cynnig yn cyfeirio at gomisiwn Williams yn disgrifio gwasanaethau cyhoeddus fel rhai a nodweddir gan ‘ddiffyg uchelgais’. Wrth gwrs, nododd adroddiad comisiwn Williams hefyd mai’r unig ffordd ymarferol i ateb anghenion a dyheadau pobl yw symud pwyslais gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal. Mae’r angen i wneud y newid hwn, meddent, yn cael ei rannu ar draws y byd datblygedig a democrataidd.
Fel y mae Cydgynhyrchu Cymru wedi dweud, nid atodiad bach cyfleus yn unig yw hyn, ond ffordd newydd o weithredu i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion eu hunain.
Mae’r adroddiad yn dweud bod
angen i arweinwyr ar bob lefel fod yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, gan gynnwys cydweithio neu gydgynhyrchu
a bod
angen ailddiffinio diben sylfaenol a natur gwasanaethau cyhoeddus. Nodweddion allweddol yr ailddiffiniad hwnnw yw: cydweledigaeth gliriach ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin rhwng llywodraethau ar bob lefel, dinasyddion, a chymunedau; llawer mwy o ffocws ar gydgynhyrchu gyda dinasyddion a chymunedau i nodi a gweithredu dulliau o fynd ar drywydd y canlyniadau hynny; ac o ganlyniad, pwyslais llawer cryfach ar alluogi, grymuso ac atal wrth fynd ati i gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’n dweud
y bydd modelau darparu newydd sy’n canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a rheoli galw drwy gydgynhyrchu ac ymgysylltu â dinasyddion yn hanfodol.
Mae rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru a ariennir gan y Loteri Fawr, ac a lansiwyd yn ffurfiol ym mis Mai, yn dangos y ffordd gyda dwsinau, os nad cannoedd, o sefydliadau—cyhoeddus a thrydydd sector—wedi ymuno’n rhan o’r chwyldro. Mae’n galonogol fod Swyddfa Archwilio Cymru ar y blaen yn y gwaith o werthuso cydgynhyrchu a mentrau newid ymddygiad. Mae eu hadroddiad, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dweud:
‘ceir cydnabyddiaeth lawer cliriach bellach nad yw dulliau gweithredu blaenorol wedi gweithio fel y bwriadwyd a bod angen newid radical. Gallai ffocws y naratif ar wneud diwygiadau lle mae’n bwysig gwneud hynny – sef yn rheng flaen y broses o ddarparu gwasanaethau – helpu i symud ymlaen o duedd i ystyried bod llunio strategaethau a chynlluniau yn ateb i broblemau ymarferol. Mae’r dull gweithredu hefyd yn gliriach wrth nodi’n benodol fod cydgynhyrchu yn ddull o ail-lunio ac ailgynllunio gwasanaethau yn y rheng flaen.’
Mae’r archwilydd cyffredinol yn dweud
‘Mae cydgynhyrchu a newid ymddygiad yn cynnig cyfleoedd i wella gwasanaethau cyhoeddus ond yn aml maent yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus fabwysiadu dulliau gweithredu hollol wahanol’.
Mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei gweledigaeth newydd ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus fel rhan o’i hymateb i adroddiad ac argymhellion comisiwn Williams gydag argymhelliad neu bwyslais cryfach ar gydgynhyrchu, cyfrifoldeb personol a chanolbwyntio ar atal. Yn wir, mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru’n dweud:
‘Mae’n rhaid datblygu ein gwasanaethau cyhoeddus i adlewyrchu perthynas newydd rhwng y bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r rheini sy’n elwa arnynt. Yn arbennig, mae angen i wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu’n fwyfwy gyda phobl yn hytrach nag i bobl… cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau, gan gydnabod cryfderau pobl ac addasu gwasanaethau’n briodol.’
Ond wrth gwrs, mae darparu, a’r neges, wedi bod yn llawer mwy amwys. Dangosodd arolwg yr archwilydd cyffredinol fod gwahaniaeth barn ynglŷn â phwysigrwydd cydgynhyrchu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dywedodd fod ymatebwyr llywodraeth leol yn llawer llai tebygol o gynnwys hyn yn eu tri uchaf, a chyfeiriodd at felin drafod y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a amlinellodd sut y gellid cyfuno cydgynhyrchu â dulliau system gyfan a diwastraff o ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, roedd yn dyfynnu Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn dweud eu bod yn defnyddio dull o’r fath fel rhan o’r broses o drawsnewid eu dull o gefnogi pobl hŷn ac oedolion ag anabledd dysgu.
Ac fel y dywedodd aelod o awdurdod cabinet llywodraeth leol a ddyfynnwyd yn yr adroddiad:
‘Mae’r angen i gydgynhyrchu a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn sylweddol ond ni ddeellir hyn yn dda yn y sector cyhoeddus ac mae’r buddsoddiad sydd ei angen mewn pobl, sgiliau a newid diwylliant yn ofyniad sylfaenol hirdymor.’
Felly, roeddent yn dweud:
‘Safon aur cydgynhyrchu yw bod pobl yn ymgysylltu’n fwriadus â gwasanaethau cyhoeddus ac yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan ohonynt.’
Fodd bynnag, yn anffodus, mae ymateb Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gyda rhai eithriadau nodedig, gan gynnwys, yn amlwg, Mark Drakeford—mae ymateb cyffredinol Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddion y Cabinet wedi bod yn anghyson, yn amwys, yn aml yn hierarchaidd, yn aml yn ddryslyd ac weithiau hyd yn oed yn ddiystyriol, ac eto roedd y llythyr a anfonwyd gan Cydgynhyrchu Cymru at y Prif Weinidog ar ddiwedd 2014, a gefnogwyd gan dros 130 o lythyrau, yn agor drwy ofyn i Lywodraeth Cymru gytuno ar yr hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu mewn gwirionedd, gan gydnabod nad yw hyn yn ymateb i galedi, ond yn rhan o fudiad byd-eang sy’n ddegawdau oed bellach ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol ar draws ein planed. Diolch.
Rwyf am siarad yn fyr am sut y mae llywodraeth leol effeithiol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd drwy eu gwaith nhw ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, i helpu i gadw pobl allan o ysbytai neu, os oes angen iddyn nhw dderbyn triniaeth ysbyty, i’w caniatáu iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn brydlon.
Yn anffodus, mae gofal cymdeithasol wedi cael ei ystyried yn draddodiadol, rywsut, i fod yn gefnder tlawd i’r gwasanaeth iechyd, ac mae hynny wedi arwain at danfuddsoddi mawr yn hanesyddol. Mae cyflogau’r gweithlu yn rhy isel, ac mae cytundebau dim oriau yn dal yn cael eu defnyddio, a hynny’n aml iawn yn cael ei yrru gan dangyllido. Ac mae’r berthynas, rwy’n meddwl, rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei chamddeall, braidd, hefyd. Mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi llwyddo i dwyllo pobl mewn difrif drwy ddweud eu bod nhw’n torri cyllidebau llywodraeth leol er mwyn talu am amddiffyn cyllid yr NHS yn dangos cyn lleied y ddealltwriaeth sydd yna o’r berthynas gwbl symbiotig yma rhwng y gwasanaethau mewn gwirionedd, ac mae yna farn eang iawn mai effaith y toriadau yna i lywodraeth leol oedd yr argyfwng yn yr adrannau gofal brys yn Lloegr yn ôl yn 2012. Yma yng Nghymru, mi wnaeth y Gweinidog iechyd blaenorol roi bai mewn difrif am bwysau ar adrannau brys ar y diffyg ym maes gwasanaethau cymdeithasol a oedd ar gael i helpu pobl allu cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn brydlon. Mae’n amlwg bod hynny’n broblem, a dyna pam mae’r gair ‘integreiddio’ yma wedi bod yn un mor bwysig. Os integreiddiwn ni ein gwasanaethau o ddifrif a chofio ar bob lefel bod angen i ofal cymdeithasol a gofal iechyd gael eu cynllunio ar y cyd, wel mae yna fwy o siawns y cawn ni un gwasanaeth llyfn, gyda phobl yn camu i fyny i’r ysbyty ac yn camu yn ôl i lawr i ofal cymdeithasol yn ddirwystr a heb ffiniau gweinyddol na chyllidol yn atal hynny. Rydym i gyd yn gytûn ar hynny, mae’n ymddangos, ond eto, er gwaethaf yr enghreifftiau lleol o gydweithio da sydd yna, heb os, nid yw’r geiriau’n dal ddim i’w gweld yn cael eu troi’n weithredoedd gwirioneddol drawsnewidiol.
Mae yna ffyrdd ehangach lle y gall llywodraeth leol effeithiol gyfrannu tuag at greu cenedl fwy iach, a gwnaf sôn am rai ohonyn nhw. Mi oeddem ni, fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb, yn falch iawn o allu sicrhau nad oedd toriad ‘cash’ yng nghyllidebau rhaglen Cefnogi Pobl. Dyma i chi raglen sy’n arbed arian, wrth gwrs. Mae digartrefedd wastad yn costio mwy i’r pwrs cyhoeddus i ddelio ag o na fyddai’n costio i’w hatal, felly mae gwneud yn siŵr bod gan lywodraeth leol rôl gref i’w chwarae mewn taclo digartrefedd yn rhywbeth sydd nid yn unig yn rhywbeth rydym yn dymuno ei weld yn digwydd a rhywbeth sy’n foesol gywir, ond mae’n gost-effeithiol hefyd, o siarad yn gwbl blaen. Mae rôl llywodraeth leol ym maes tai yn ehangach—taclo safonau tai isel, taclo gorlenwi o fewn tai—hefyd yn bwysig o ran cadw pobl yn iach, ac felly arbed arian i’r NHS. Mae buddsoddi mewn addasiadau i dai hefyd, wrth gwrs, yn ffordd bwysig o ganiatáu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Edrychwch ar faterion amgylcheddol, trafnidiaeth leol, a’r system gynllunio hefyd, byddwn i’n dweud. Pan mae’r rhain yn effeithiol, maen nhw’n gallu bod yn hwb enfawr o ran pethau fel teithio llesol, ac annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau. Dyma’r math o bethau sydd yn dda i iechyd pobl.
Felly, mae gwasanaethau cyhoeddus yn gyd-ddibynnol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Mae’n anochel bod methiant mewn un rhan o’r system yn mynd i roi straen ar rannau eraill o’r system. Pam y mae methiant yn digwydd? Mae cyflwyno toriadau heb ystyried goblygiadau yn un ffordd fawr mae hyn yn digwydd. Mae torri mewn un maes yn aml iawn yn arwain at yr angen i wario mwy yn y pen draw—ac rwy’n cyfeirio nôl eto at y trafferthion yna mewn gofal brys yn Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond mae llywodraethiant sâl yn broblem arall, ac fe wnaeth comisiwn Williams dynnu sylw at sawl enghraifft o lywodraethiant sâl. Petasai’r comisiwn wedi edrych ar y gwasanaeth iechyd, rwy’n siŵr y bydden nhw wedi canfod problemau yn y fan yna hefyd, ac mae nifer y byrddau sy’n wynebu amrywiol lefelau o ymyrraeth ar hyn o bryd yn brawf o hynny.
Felly, i gloi, mae’n glir bod sgrwtini o wasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwella. Mae hynny’n gyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni i gyd, wrth gwrs, bob un ohonom ni, ond mae o’n ymwneud hefyd ag ymrymuso pobl allan yna—pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae yna gamau y gallwn ni eu cymryd, fel pleidleisio yn ifancach, cyflwyno pleidleisio yn 16 oed, newid y gyfundrefn bleidleisio, i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau ni yn cael gwir ddylanwad arnyn nhw.
Diolch i Sian am gynnig y ddadl heddiw. Rydym ni yn UKIP yn llwyr gefnogi rhai o gynigion Plaid Cymru. Ydym, rydym yn cytuno â’r rhan gyntaf, y gall llywodraeth leol dda wneud—ac rwy’n aralleirio yma—cyfraniad cymdeithasol gwerthfawr. Nid oes dim y gallwn anghytuno ag ef yn hynny o beth. O ran pwynt 2, ar ddiffyg uchelgais llywodraeth leol, fel y tystiwyd gan gomisiwn Williams, wel, ydym, rydym yn gresynu at hynny hefyd. Pwynt 3 yw lle rydym yn gwyro mewn mannau oddi wrth gynigion Plaid Cymru. Fel hwythau, rydym yn cefnogi diwygio etholiadol. A bod yn fanwl gywir, rydym ninnau hefyd eisiau rhyw fath o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol ac yn ein maniffesto, roeddem yn cefnogi cyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yng Nghymru. Yn sicr rydym am symud oddi wrth drefn y cyntaf i’r felin, sy’n tueddu i sicrhau mwyafrifoedd Llafur mawr ar lai na 50 y cant o’r bleidlais. Felly, nid yw’n syndod go iawn, felly, ein bod am weld diwedd ar y system anghynrychioliadol hon a bod Llafur eisiau ei chadw. Felly, rydym gyda Phlaid Cymru ar hynny, pa un a ydynt yn hoffi hynny ai peidio.
Rydym hefyd yn hoffi’r raddfa gyflog genedlaethol a gynigiwyd gan Blaid Cymru. Mae gennym rai penaethiaid cynghorau lleol yn cael cyflogau afresymol o uchel yng Nghymru. Yn Sir Benfro, mae’r prif weithredwr yn cael £200,000; mae hynny’n fwy na’r Prif Weinidog—hollol hurt. Yn ddiweddar, cawsom sgandal gyflogau ym mwrdeistref bwdr Llafur yng Nghaerffili, ac mae llawer o fwrdeistrefi sirol pwdr Llafur eraill yng Nghymru. Felly, mae rhyw fath o raddfa gyflog genedlaethol—
A gaf fi ymyrryd yno, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs.
Rwy’n credu y dylai Gareth Bennett fod yn ofalus iawn o’r hyn y mae’n ei ddweud, gan nad oedd y rhan fwyaf o gynghorwyr yn gwybod dim am y sefyllfa gyda’r cyflogau yng Nghaerffili. Nifer o aelodau’r cabinet a dirprwy arweinydd Plaid Cymru a oedd yn rhan o’r pwyllgor oedd hynny, a phan ddaeth y mwyafrif o’r aelodau i wybod, fe ymddiheurodd yr arweinyddiaeth Lafur a gwrthdroi’r rhan fwyaf o’r penderfyniad hwnnw. Felly, rwy’n meddwl y dylai fod yn ofalus iawn ynglŷn â’r honiadau y mae’n eu gwneud yn y Siambr hon ac rwy’n gofyn iddo dynnu ei eiriau’n ôl.
Diolch i chi, Hefin, ac o ystyried y wybodaeth rydych wedi’i rhoi, efallai fy mod wedi camgymryd ac rwy’n tynnu fy sylwadau yn ôl.
Nid yw hyn yn tynnu dim mewn gwirionedd oddi wrth sylwedd yr angen am raddfa gyflog genedlaethol, yn debyg i raddfa gyflog y gwasanaeth sifil efallai. Byddai hwnnw i’w groesawu’n fawr.
Ond down yn awr at y mater nad yw prin wedi cael sylw heddiw—fe gyffyrddodd Rhun â’r mater—sef pleidlais i rai 16 oed. Wel, rydym yn gwrthwynebu hynny’n llwyr am y rhesymau canlynol. Y cyntaf yw’r dystiolaeth feddygol syml. Yn gyntaf, rydym yn sôn yma am y glasoed ac nid am oedolion, ac mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau grŵp. Mae rhieni wedi hen arfer sylwi ar newidiadau ymddygiadol sy’n effeithio ar lawer o blant pan fyddant yn cyrraedd blynyddoedd yr arddegau. Maent hefyd wedi sylwi nad pobl ifanc, yn aml, yw’r creaduriaid mwyaf rhesymegol. Mae gwyddonwyr yn awr yn canfod tystiolaeth gadarn o wahaniaethau meddygol gwirioneddol rhwng ymennydd oedolion ac ymennydd rhai yn eu harddegau. Dyfynnaf o ‘The Brain Teen: Still under Construction’, llyfryn a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl yn Maryland, UDA, y sefydliad ymchwil mwyaf yn y byd sy’n ymdrin ag iechyd meddwl:
Mae’r ymchwil wedi datgelu rhai pethau annisgwyl, yn eu plith darganfyddiad newidiadau trawiadol sy’n digwydd yn ystod blynyddoedd yr arddegau. Mae’r canfyddiadau hyn wedi newid rhagdybiaethau ynglŷn â pha bryd y mae’r ymennydd yn aeddfedu. Mewn ffyrdd allweddol, nid yw’r ymennydd yn edrych fel un oedolyn tan yr 20au cynnar.
Gallai dealltwriaeth o sut y mae ymennydd person yn ei arddegau’n newid helpu i egluro anghysondeb dyrys glaslencyndod: mae pobl ifanc yr oedran hwn yn agos at uchafbwynt gydol oes o iechyd corfforol, cryfder, a gallu meddyliol, ac eto, i rai, gall fod yn oedran peryglus. Mae cyfraddau marwolaethau yn neidio rhwng glaslencyndod cynnar a glaslencyndod hwyr. Mae cyfraddau marwolaeth drwy anaf rhwng 15 a 19 oed tua chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd rhwng 10 a 14 oed. Mae cyfraddau troseddau ar eu huchaf ymhlith dynion ifanc a chyfraddau cam-drin alcohol yn uchel o gymharu ag oedrannau eraill. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn dod drwy’r oedran trosiannol hwn yn dda, mae’n bwysig deall y ffactorau risg ar gyfer ymddygiad a all gael canlyniadau difrifol. Mae genynnau, profiad plentyndod, ac amgylchedd person ifanc sy’n cyrraedd glaslencyndod oll yn ffactorau sy’n ffurfio ymddygiad. Gan ychwanegu at y darlun cymhleth hwn, mae ymchwil yn datgelu bellach sut y mae’r holl ffactorau hyn yn gweithredu yng nghyd-destun ymennydd sy’n newid, gyda’i effaith ei hun ar ymddygiad.
Po fwyaf a ddysgwn, y gorau y gallwn ddeall galluoedd a gwendidau pobl yn eu harddegau, ac arwyddocâd y cam hwn i iechyd meddwl gydol oes.
Diwedd y dyfyniad.
Rydym yn cydnabod bod rhai pobl ifanc yn eu harddegau’n berffaith abl i feddwl yn rhesymegol ac mae ganddynt ddealltwriaeth wleidyddol weddol soffistigedig. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir yn achos llawer ohonynt. Mewn sawl ffordd, cydnabu Cynulliad Cymru fregusrwydd y grŵp oedran hwn pan newidiodd y gyfraith yng Nghymru i wahardd rhai 16 a 17 mlwydd oed rhag gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon. Os na ellir ymddiried mewn pobl ifanc yr oedran hwn i arfer crebwyll ynghylch prynu pecyn o sigaréts, yna pam ar y ddaear rydym yn cynnig ein bod yn rhoi cyfrifoldeb iddynt ethol gwleidyddion? Mae’n hurt. Mae yna ddadl fod y grŵp oedran hwn yn talu treth, ac felly y dylid rhoi hawl iddynt bleidleisio. Ond y gwir amdani yw bod y grŵp hwn, gydag ehangu prifysgolion, yn cael ei faldodi am gyfnod hwy yn ystod glaslencyndod mewn gwirionedd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u sefydliadoli yn y system addysg hyd nes eu bod yn 21 oed neu wedi hynny.
A ydych yn dod i ben, os gwelwch yn dda?
Y realiti yw mai 30 y cant yn unig o’r grŵp 16 i 24 oed sy’n talu treth incwm. Os ydych am ymestyn y ddadl am dreth, fe allech ymestyn y bleidlais i gynnwys rhai 10 oed sy’n mynd i’r siop a thalu TAW ar becyn o Smarties.
A ydych yn dod i ben, os gwelwch yn dda?
Ydw. Rydym yn cefnogi gwelliannau’r Ceidwadwyr.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A allaf ddechrau trwy ddiolch i Sian Gwenllian am gyflwyno’r ddadl hon gerbron y Cynulliad y prynhawn yma? Dywedais i ar 4 Hydref fy mod yn edrych ymlaen at set fanwl o drafodaethau ar ddyfodol llywodraeth leol yn ystod diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd y trafodaethau hyn yn cynnwys awdurdodau lleol yn unigol ac ar y cyd, ynghyd â’u partneriaid pwysig. Mae’n rhaid i’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys y pleidiau gwleidyddol, ac, yn arbennig, y pleidiau gwleidyddol yma yn y Cynulliad.
Rwy’n ddiolchgar i holl lefarwyr y pleidiau yma am eu parodrwydd i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ers yr etholiad ym mis Mai ac rwyf yn dal yn awyddus i barhau’r trafodaethau hynny wrth i’r broses symud yn ei blaen.
Ddirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth wedi gosod gwelliant i’r cynnig gan Blaid Cymru. Mae’r gwahaniaethau a gyflwynwyd yn gymharol fach, ond maent yn egluro sefyllfa’r Llywodraeth.
Dirprwy Lywydd, in respect of point 1 of the motion, we are very happy indeed to sign up to the sentiments expressed in it. Mike Hedges, who I always listen to very carefully on the subject of local government, very well set out the wide agenda of vitally important services that local government provides and the important part it plays in the lives of every citizen in Wales: educating our children, looking after the elderly, disposing of our waste, lighting our streets and much, much more.
As far as the second leg of the motion is concerned, of course, we share the wish for ambitious local authorities—local authorities that are ambitious for their local populations and that are able, in a way that is reliable and general, to provide services of high quality. I think that matters have moved on since the Williams commission and that local authorities in Wales, often with significant assistance from outside, have taken very seriously the need for improvement. I’ve often said that I’ve been fortunate to become responsible for local government at a point when no local authority has its education services in special measures, no social services departments are in special measures, and no local authority requires external support for its corporate centre. I very regularly emphasise to local authority leaders the responsibilities they carry for ensuring the continuation of this position, and they, quite understandably, in return point out the improvements that they have been able to make in conditions of very considerable difficulty as a result of budgetary constraint.
Dirprwy Lywydd, I turn to the third part of the motion. Because of the way in which votes are to be sequenced this afternoon, the Government side will oppose the amendment moved by Janet Finch-Saunders, not so much for reasons of substance—although, as I said this afternoon, rurality is a significant factor in the way that the current formula works—but more for reasons of procedure. I noticed what Janet had to say about Monmouthshire and, of course, I was very glad to see Councillor Peter Fox, the Conservative leader of Monmouthshire County Council, saying that, despite having called strongly for the retention of Monmouthshire as a separate council, he strongly believed that a move to deeper regional and collaborative ways of working would allow efficiencies of scale and provide a sustainable future for many service areas. He said that in welcoming the statement, and I’m glad to be able to put his views on record here this afternoon.
The Government amendment to part 3 of the motion is set out in order for us to be able to clarify some—
Nick Ramsay a gododd—
[Yn parhau.]—o’r pwyntiau. Iawn, wrth gwrs.
Gan eich bod wedi crybwyll fy nghydweithiwr yn Sir Fynwy, Peter Fox, Weinidog, rwy’n credu y byddwch yn cofio hefyd ei fod yn un o’r bobl gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, neu un o’r swyddogion etholedig cyntaf, i alw am y model awdurdodau cyfunol a roddwyd ar waith mewn ardaloedd megis Manceinion Fwyaf. Rwy’n credu ei fod wedi galw amdano cyn i Blaid Cymru sôn am y math hwnnw o fodel hyd yn oed.
Wel, ddirprwy Lywydd, rwy’n awyddus i ddysgu gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, o bob lliw gwleidyddol. Mwynheais fy ymweliad â Threfynwy. Rwy’n ddiolchgar am wahoddiad i ddychwelyd yno, ac rwy’n bwriadu manteisio arno dros y misoedd nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd cyfle i drafod y safbwyntiau hynny gyda’r arweinydd yno.
Bwriad gwelliant y Llywodraeth yw egluro ein safbwynt ar nifer o bwyntiau pwysig. Rydym yn gadael ail elfen y cynnig gwreiddiol fel y mae. Rydym yn diwygio’r elfen gyntaf i ehangu’r cyfeiriad at ddiwygio etholiadol i ddiwygio trefniadau etholiadol yn gyffredinol. Yn wahanol i Gareth Bennett, rydym ni, ar yr ochr hon, yn cefnogi gostwng oed pleidleisio i 16 oed. Gwrandewais gyda diddordeb ar ei ddadl: ei bod yn annoeth darparu’r bleidlais i bobl sy’n dueddol o ymladd, a bod anhawster i gynnal dadl resymegol yn rheswm arall dros gyfyngu’r etholfraint. Efallai ei fod wedi bod yn darllen taflen a ddarparwyd gan ei blaid ei hun. Yn sicr, rwy’n ei atgoffa o gyngor Hayek, yr economegydd enwog o Awstria, a hoff awdur Mrs Thatcher, a oedd yn dadlau y dylid codi’r oedran pleidleisio i 45 oed ar sail llawer o’r dadleuon a gyflwynodd Mr Bennett y prynhawn yma. I ni, rydym yn cefnogi’r oed pleidleisio yn 16 oed. Dywedais hynny wrth Weinidog y Llywodraeth dros y Cyfansoddiad, Chris Skidmore, pan oedd yma yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Dywedais wrtho fy mod eisiau symud i system lle mae cofrestru etholiadol yn dod yn broses lawer mwy awtomatig, ac y gallai hynny fod yn gymwys i fyfyrwyr ysgol yn arbennig, fel y gallem sicrhau bod rhai 16 a 17 oed ar y gofrestr i bleidleisio. Rwyf am edrych ar ffyrdd y gellir gwneud pleidleisio’n haws i bobl: pleidleisio electronig, cynnal etholiadau ar wahanol ddyddiau o’r wythnos. Mae’n rhaid i ni wneud pleidleisio mor hygyrch â phosibl, gwneud i’r broses gydweddu’n well â’r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau heddiw, ac mae ein gwelliant yno i dynnu sylw at yr ystod ehangach o bosibiliadau sydd ynghlwm wrth ddiwygio etholiadol.
A ydych hefyd yn cefnogi pleidleisio a chofrestru etholiadol ar yr un diwrnod, fel sydd ganddynt yn America?
Wel, Mike, rwyf o blaid defnyddio’r pwerau y gallwn eu cael drwy Fil Cymru i fod mor radical ag y gallwn i ganiatáu cymaint o gyfle â phosibl i gynifer ag y gallwn o’n cyd-ddinasyddion ddefnyddio’u hetholfraint ddemocrataidd. Os mai dyna un o’r ffyrdd y gellid datblygu hynny, byddwn yn awyddus iawn i edrych arno.
Mae’r drydedd elfen yng ngwelliant y Llywodraeth, ddirprwy Lywydd, yn cydnabod y ddadl am gyflogau uwch-reolwyr a phrif swyddogion, a’r achos y gellir ei wneud dros drefniadau wedi’u penderfynu’n genedlaethol. Mae hyn un cam yn fyr o ymrwymiad i symud i’r cyfeiriad hwnnw yn awr, oherwydd credaf nad yw’r trafodaethau angenrheidiol gydag aelodau etholedig awdurdodau lleol, a’r trefniadau cynrychioliadol ar gyfer staff uwch, wedi’u cwblhau eto. Rwy’n meddwl ein bod wedi dangos parodrwydd i symud i’r cyfeiriad hwnnw yma yng Nghymru. Mae gennym y panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol, sy’n cyflwyno cyd-destun cenedlaethol a her newydd i unrhyw newidiadau yng nghyflogau uwch-reolwyr a phrif swyddogion, ac mae’n faes rwy’n barod i’w gadw dan arolwg yn briodol ac yn weithredol.
Yn olaf, mae ein gwelliant yn newid rhan olaf y cynnig gwreiddiol gan Blaid Cymru, sy’n cyfeirio at awdurdodau cyfunol rhanbarthol. Cyflwynais welliant i hynny gan fy mod yn credu y gellir darllen yr ymadrodd hwnnw fel ymrwymiad i gyfres benodol iawn o drefniadau cyfreithiol sy’n rheoli cydweithio rhanbarthol. Yn fy natganiad ar 4 Hydref gwneuthum ymrwymiad i drafod y trefniadau llywodraethu manwl ar gyfer gweithio rhanbarthol gydag awdurdodau lleol, undebau llafur a phartneriaid eraill, ac rwyf am gael meddwl agored ynglŷn â’r awgrymiadau a fydd yn cael eu cynnig yn ystod y trafodaethau hynny, ac mae gwelliant y Llywodraeth, yn fwriadol, yn llai pendant na’r cynnig gwreiddiol yn hynny o beth.
Ddirprwy Lywydd, mwynheais yn arbennig y cyfraniadau gan Simon Thomas a Mark Isherwood. Mae llawer mwy i’r ddadl am ddyfodol llywodraeth leol na threfniadau etholiadol yn syml. Roeddent yn tynnu sylw at hynny. Rwy’n gobeithio y bydd yn amlwg o hyn oll ein bod wedi bwrw i’r ddadl y prynhawn yma mewn ffordd adeiladol a chysylltiedig iawn. Bydd yn ychwanegiad gwerthfawr a chynnar i’r trafodaethau a fydd yn parhau dros weddill y flwyddyn hon, ac mae ein gwelliant wedi ei gynllunio i ganiatáu i ehangder y drafodaeth honno barhau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf ar Sian Gwenllian i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am y drafodaeth. Rwyf i yn cytuno â’r siaradwr cyntaf, Janet Finch-Saunders, fod angen inni fod yn atebol i bobl Cymru. I mi, mae gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd hollol glir o fod yn atebol i bobl Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad ni i hynny.
Nid oes yna ddêl efo Llafur. Beth sydd wedi digwydd ydy bod Llafur wedi gweld doethineb ein cynigion ni ar ranbartholi. Ond, lle rydym yn gwahaniaethu ydy ein bod ni’n teimlo nad ydy rhanbartholi yn unig ddim yn mynd at wraidd y broblem. Nid yw’n ddigon radical. Nid yw’n cael gwared ar y muriau artiffisial rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac nid oes yna bwyslais, fel sydd gennym ni, ar integreiddio.
Soniodd fy nghyfaill Neil McEvoy am yr angen am fframwaith i edrych ar reoli cyflogau uwch swyddogion. Yn glir, mae’r bwlch yn rhy fawr rhwng y rhai sydd ar frig y sefydliadau a’r rheini sydd ar y rheng flaen—y gofalwyr cartref, y cynorthwywyr dysgu, y cogyddion yn yr ysgolion, ac yn y blaen—ac mae’n rhaid inni unioni y cam yna.
Roedd Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd gwasanaethau o ansawdd a’r angen i reoli cyflogau hefyd. Roedd ganddo syniadau diddorol ar gyfer ardal Abertawe. Rwy’n siŵr y bydd y rheini yn cael sylw wrth symud ymlaen.
Roedd Simon yn egluro mai pwrpas y drafodaeth heddiw ydy ceisio cael ychydig bach mwy o fanylion am gynlluniau Llafur. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi llwyddo i wneud hynny yn union. Roedd hefyd yn lleisio pryder am wanhau llywodraeth leol dros nifer fawr o flynyddoedd. Rwy’n rhannu’r pryder yna efo fo, yn enwedig o safbwynt cyllid a’r toriadau enfawr sydd yn dal yn wynebu llywodraeth leol. Yn sicr, mi fyddai grymuso cynghorau efo mwy o bwerau a chyllidebau tair blynedd yn gwneud llawer i unioni’r sefyllfa.
Soniodd Mark Isherwood am gomisiwn Williams. Y broblem rydym ni’n ei gweld ydy arafwch yr ymateb i argymhellion Williams. Gwelsom gadeirydd y comisiwn ei hun yr wythnos diwethaf, Paul Williams, yn lleisio rhwystredigaeth ynglŷn â hynny yr wythnos diwethaf.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am yr agwedd o ddod â gofal cymdeithasol—sef y cefnder tlawd sydd wedi gweld tanfuddsoddi—ac iechyd a’r berthynas yna’n agosach at ei gilydd. Yn sicr, mae yna gamddealltwriaeth ynglŷn â’r berthynas yna. Er bod yna enghreifftiau lleol o gydweithredu gwych, ac mi fedraf i enwi Ysbyty Alltwen ger Porthmadog fel enghraifft dda iawn o sut mae gwasanaethau yn integreiddio ar lawr gwlad, nid ydy hynny’n digwydd ym mhob man, ac mae angen symud tuag at hynny.
Rwy’n sylwi bod UKIP yn cytuno â ni ar STV. Rwy’n sylwi hefyd eich bod wedi tynnu sylwadau yn ôl ar ôl cael eich cywiro gan Aelod Caerffili. Rwy’n nodi hefyd eich barn chi nad ydy ymennydd pobl ifanc yn ddigon aeddfed i bleidleisio. Rwy’n gweld hynny’n ddiddorol iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc 16 oed yr wyf i’n eu hadnabod yn aeddfed, cyfrifol, synhwyrol a rhesymegol. Mae’n biti nad ydym yn gallu dweud hynny am bawb sydd yn y Siambr yma. [Chwerthin.]
Sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet yn olaf, rwy’n falch o gael y rheini. Rwy’n falch bod y trafodaethau yn parhau a bod yna’n dal cyfle, yn sicr, i fod yn dylanwadu wrth inni symud ymlaen. Rwy’n rhannu’r awydd am awdurdodau lleol uchelgeisiol. Rwyf hefyd yn nodi bod natur wledig rhai awdurdodau lleol yn cael sylw gennych chi a bod yna angen gwahanol yn codi yn sgil hynny a bod angen felly i’r fformiwla gydnabod y gwahaniaethau hynny.
Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi hefyd yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac yn nodi eich sylwadau chi ynglŷn â chofrestru awtomatig yn yr ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hynny’n gam da ymlaen. Yn sicr, mae galluogi pobl i bleidleisio yn electronig ac i ddefnyddio dulliau llawer iawn mwy modern er mwyn caniatáu i bobl fwrw pleidlais yn rhywbeth yn sicr y dylem ni symud tuag ato. Ond, rwyf yn nodi nad ydych chi’n mynd i bleidleisio o blaid STV, ac mae hynny’n biti y prynhawn yma achos rwy’n meddwl y byddai hynny wirioneddol yn creu llywodraeth leol rymus ac y byddai pobl yn teimlo ei bod yn berthnasol iddyn nhw a bod eu pleidleisiau nhw wir yn cyfrif.
Rwy’n falch, felly, fod y syniadau awdurdodau cyfunol—bod yna fwy o drafodaethau’n gallu digwydd ynghylch hynny, a’i fod yn dal i fod ar y bwrdd. Felly, edrychwn ymlaen at fwy o drafodaethau i’r dyfodol ar hynny. Diolch yn fawr i bawb.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Gohiriwn y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig—senedd ieuenctid. Galwaf ar Darren Millar i gynnig y cynnig. Darren.
Cynnig NDM6120 Paul Davies, Neil Hamilton, Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cyfle i agor ac arwain y ddadl hon heddiw, sy’n galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Rwyf eisiau dweud diolch i bob plaid yn y Siambr am y gefnogaeth sydd wedi’i hymestyn i’r cynnig hwn.
Dirprwy Lywydd, this Assembly has a proud tradition in relation to supporting children and young people. Since its establishment in 1999, there have been landmark pieces of legislation and decisions that have placed Wales as a world leader in promoting the place of children and young people in our nation. In the early years of this Assembly, the decision to adopt a rights-based approach to children and young people put this institution on a path that led the way for other UK nations. The unanimous support for the creation of the post of a children’s commissioner for Wales to champion those rights was a landmark step. In 2001, Wales became the very first nation in the UK to appoint a children’s commissioner—a truly independent person to hold the Welsh Government, this Parliament and others to account, and to ensure that we deliver for our young citizens. Then, in 2011, we went further, legislating to enshrine the rights of children and young people in Welsh law, placing duties on Ministers to have regard for the United Nations Convention on the Rights of the Child, and then, in 2014, extending those duties to promote knowledge and understanding of the UNCRC.
We’ve supported the development of school councils to give children and young people a greater say in how their schools are run, and we’ve encouraged young people to use the Assembly’s petitions process to raise concerns and to campaign for change. These are all ground-breaking achievements, of which we can be rightly proud. To make them all the more special, they were achieved with cross-party support. Not only have we adopted policies and legislated for the rights of children and young people, but each one of the parties in this Chamber has also expressed its support for youth engagement. Individual AMs, through school visits and encountering young people in their constituencies, visiting colleges, and engaging with youth organisations, for example, have all improved engagement. We’ve supported the excellent work of the Assembly Commission in engaging with young people also in our schools, colleges and universities. Assembly engagement teams have delivered thousands of education sessions to thousands of young people across the country, informing them of our work as an Assembly and encouraging them to get involved in what we do. They have also supported the programme of Assembly committees, facilitating evidence exercises with children and young people to enable them to feed in to our work. I remember, for example, the excellent engagement activities that the former Health and Social Care Committee in the previous Assembly had with young people in relation to our inquiry into new psychoactive substances, or so-called legal highs.
The Commission, of course, also provides support with transport costs for schools and others to enable them to visit the Senedd. All of these things are very positive examples of youth engagement, which need to continue. They help to demonstrate how we seek compliance with the UNCRC’s requirement to respect the views of the child. But, in spite of these important achievements, our record as an institution has been tarnished in recent years as a result of the absence of a youth parliament in Wales. Of course, it hasn’t always been this way. Back in 2003, Funky Dragon, a children and young people’s Assembly, was established with the financial support of the Welsh Government. The creation of a platform from which children and young people could discuss their concerns and voice their opinions and engage with elected representatives at all levels of government was welcomed by all. Funky Dragon worked very carefully to be inclusive and to be a representative body that reached out to communities across Wales and that ensured that young people in hard-to-reach groups were also heard. It engaged well with other youth parliaments in the UK, in Europe and beyond, soon becoming the go-to organisation to seek the views of children and young people. And, of course, it engaged well with the Welsh Government, the National Assembly, Commissioners, and other decision makers across the country.
Funky Dragon was a success. It discussed issues of concern to young people, from bullying and the environment to access to public transport and mental health services. Young people were facilitated and supported to research, to debate, and to make recommendations to decision makers. Yet, in spite of the success, in 2014, its funding was axed, and, unfortunately, Funky Dragon was wound up. It was, of course, replaced with another youth engagement project, called Young Wales, a project that is doing some excellent work, engaging with young people across the country, listening to their views, and seeking to amplify their voice to decision makers, but it is not, nor has it ever pretended to be, a youth parliament.
Now, I don’t want to go into the arguments that raged in the Assembly at the time that the decision was taken to disinvest in Funky Dragon, but, needless to say, it was seen as a retrograde step by many on all sides of this house. And, since Funky Dragon’s demise, there has been a growing chorus of voices that has been seeking a new youth parliament to be established in Wales. A survey of young people by the Campaign for the Children and Young People’s Assembly for Wales found that an overwhelming 92 per cent of respondents wanted to see a new youth parliament, and 85 per cent of those who were surveyed want the youth parliament to be permanent and protected in law. The Children’s Commissioner for Wales has also called for a reinstated national democratic space for young people in the form of a youth assembly in her recent report. The British Council, the Electoral Reform Society and others have also expressed their support for a youth parliament as well. And, in this year’s report by the UNCRC monitoring committee, which was published in July, the committee expressed concern that Wales has no youth parliament, and it called for one to be established.
Now, I recognise that there are different models of youth parliaments in different nations and jurisdictions around the world, including here in the United Kingdom. Some are established by Governments, some are established by parliamentary institutions, and I listened carefully to what was said earlier on in response to the Member for Torfaen’s question to the Llywydd in relation to the establishment of a youth parliament here, and I was very pleased to hear the response, and I’m looking forward to hearing more in the debate about how this National Assembly can take forward a proposal for a youth parliament here. But the precise model that the National Assembly should adopt is not something that I want to debate in too much detail; I’m sure other people will bring ideas to the Chamber this afternoon. But what I’m seeking to do today, and I’m grateful for the support of all parties, is to secure agreement to resolve to establish a national youth parliament for Wales, so that young people here can have the opportunity to have their say and to influence decisions that are made about their lives in this place and in other places, and, of course, we all know that a youth parliament can help to make that happen.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf.
Fe sonioch am ddylanwadu ar benderfyniadau mewn mannau eraill yn ogystal, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddech yn cytuno â mi fod yna opsiwn y dylem ei ystyried hefyd ar gyfer cynghorau ieuenctid, math o gynghorau cysgodol, oherwydd os dywedwn nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ar ein lefel ni, mewn gwirionedd rydym angen iddynt ymwneud ar lefel cynghorau hefyd.
Rydych yn hollol gywir, ac mae yna enghreifftiau da ledled Cymru o gynghorau ieuenctid ar waith, ond yn anffodus, ni cheir cysondeb ledled y wlad, er gwaethaf gwaith Cymru Ifanc a sefydliadau eraill tebyg.
Felly, mae gennym hanes ardderchog. Roeddem yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu â phobl ifanc yn gynnar iawn ym mywyd y Cynulliad. Fe wnaethom fuddsoddi yn hyn ac rydym wedi parhau i fuddsoddi fel sefydliad, fel senedd, ac yn wir, mae’r Llywodraeth hefyd wedi parhau i fuddsoddi. Rydym i gyd eisiau ymgysylltu’n well â phobl ifanc, yn unigol ac fel mudiad, ac rwy’n digwydd credu mai’r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy ailsefydlu senedd ieuenctid cyn gynted ag y bo’n ymarferol i wneud hynny. Rwy’n cydnabod bod costau’n gysylltiedig â’r mathau hyn o benderfyniadau, ond y gwir yw bod hwn yn bris gwerth ei dalu i wneud yn siŵr fod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i Gymru yn bobl sy’n deall y prosesau democrataidd ac sy’n sylweddoli bod eu lleisiau i fod i gael eu clywed, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pawb yn y Siambr hon yn unfrydol yn eu cefnogaeth i’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Diolch.
Mae’n ffaith drist fod gormod o bobl ifanc yn teimlo’u bod wedi’u datgysylltu oddi wrth wleidyddiaeth heddiw. Mae angen mynd i’r afael â’r teimlad hwn o ddatgysylltiad os ydym i gynnal democratiaeth iach ac atebol yng Nghymru. Mae arolwg manwl gan y cwmni Opinium yn awgrymu bod y nifer a bleidleisiodd o blith rhai 18 i 24 oed yn y refferendwm diwethaf yn 64 y cant, sy’n newyddion go galonogol. Roedd y ffigur yn llawer uwch nag y tybiwyd yn wreiddiol. Credaf fod ymgysylltu â phobl yn gynnar yn y broses ddemocrataidd yn hanfodol os ydym am sicrhau eu bod yn parhau i gymryd rhan yn ein dyfodol.
Ni fydd creu senedd ieuenctid yng Nghymru yn gwneud hyn ar ei phen ei hun, ond rwy’n credu bod rhoi cyfle i bobl ifanc leisio’u barn a chael eu clywed, yn enwedig ar faterion sy’n effeithio arnynt, yn gymorth mawr i gynyddu’r ymgysylltiad rydym i gyd am ei weld. Mae seneddau ieuenctid yn bodoli mewn llawer o wledydd eraill, megis Gwlad Belg, y Ffindir ac Awstralia. Ddirprwy Lywydd, mae gan yr Alban ei senedd ieuenctid ei hun, ac mae Gogledd Iwerddon wedi gwneud camau sylweddol o fewn ei sefydliadau democratiaeth ieuenctid eu hunain. Mae Cymru’n parhau i fod mewn lleiafrif nad oes ganddynt senedd ieuenctid ymhlith gwledydd a thiriogaethau’r DU. Dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ddiweddar mai un o’r problemau sy’n wynebu Cymru oedd y siom ynglŷn â’r ffaith nad oes gan bobl ifanc senedd ieuenctid genedlaethol annibynnol, wedi’i hethol yn ddemocrataidd. Mae pawb ohonom yn credu bod senedd ieuenctid yng Nghymru yn hanfodol er mwyn ehangu dealltwriaeth o rôl y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn arolwg diweddar, 61 y cant o’r ymatebwyr yn unig a wyddai mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am addysg yng Nghymru. Yn rhyfeddol, 48 y cant o’r ymatebwyr yn unig a wyddai mai hi sy’n gyfrifol am y GIG. Os nad yw pleidleiswyr yn deall y pŵer datganoledig sydd gennym yng Nghymru, yna ni fydd fawr o ysgogiad i fynd i bleidleisio.
Ddirprwy Lywydd, gwneuthum ychydig o nodiadau tra roeddwn yn gwrando ar fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae’r system wleidyddol yn cael ei rhoi at ei gilydd mewn gwirionedd ac mae’r farn gyhoeddus yn dod at ei gilydd ac mae’n rhaid i lais y bobl ifanc gael ei glywed o fewn yr arena honno. Mae dealltwriaeth o gysylltiadau hiliol, dealltwriaeth o faterion lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, a dealltwriaeth o gysylltiadau gwahanol eraill o oedran ifanc yn hanfodol i sicrhau cymdeithas heddychlon ar gyfer y dyfodol. Mae’r holl feysydd eraill, megis ffioedd dysgu, yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyflog byw a thlodi plant. Dyma’r meysydd lle mae’n rhaid i ni wybod barn y plentyn, a’r hyn y maent yn ei brofi yn eu teuluoedd, yn enwedig yng Nghymru, lle mae tlodi’n dal yn broblem ddifrifol iawn ymhlith ein plant ifanc. Mae 15 y cant o’n poblogaeth—15 y cant, Ddirprwy Lywydd—rhwng 11 a 18 oed. Mewn gwirionedd, mae hynny tua 0.5 miliwn o blant. Felly, mae’n rhaid i ni fod o ddifrif am y peth ac mae’n rhaid i ni wneud, nid beth sydd orau i ni, ond beth sydd orau iddynt hwy hefyd, a’r hyn sydd orau ar gyfer ein dyfodol.
Mae gostwng yr oedran pleidleisio hefyd yn farn a glywais gan y Gweinidog yn gynharach. Mae gan blant farn wahanol am hynny. Pam nad ydym yn gwrando ar y plant o ran beth yw eu barn ar hynny hefyd? Rydym hefyd yn gwybod y gall plant ifanc ofalu am faterion iechyd meddwl yn ein cymdeithas yn dda iawn. Mae plant ifanc yn rym; mae’r neiniau a’r teidiau a’r rhieni bron—cânt eu gwella gan y bobl ifanc yn eu teuluoedd eu hunain yn fwy na meddyginiaethau a phethau eraill. Mae dim goddefgarwch yn yr ysgol—hynny yw, bwlio—yn un arall sy’n rhaid i ni ystyried barn y plant yn ei gylch. Rhaid i ni gynnig yr argymhellion ar ac—[Anghlywadwy.]—Siambr hon, Ddirprwy Lywydd. Ond y ffaith amdani yw bod rhaid i ni—rhaid i ni—wrando ar farn plant ifanc a’u safbwyntiau a’u pryderon cyn i ni wneud unrhyw reolau ac is-ddeddfau yma.
Mae yna restr hir, Ddirprwy Lywydd—mae amser yn brin—ond rhaid i ni wneud beth bynnag a allwn i wneud y wlad hon yn fwy gwyrdd, ac ni allwn gael dyfodol mwy gwyrdd os nad yw ein plant yno, yn cymryd rhan yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Os yw un plentyn yn plannu un goeden neu ddwy goeden neu dair coeden yn ei oes, byddai yna 1.5 miliwn o goed yn y saith i 10 mlynedd nesaf. Mae yna restr hir, Weinidog, ac rydym am sicrhau bod senedd ein plant mor anhepgor â’r senedd hon yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, addysg yw’r allwedd o hyd i ymgysylltiad democrataidd. Credaf y byddai senedd ieuenctid, ar y cyd â mesurau eraill, yn hybu diddordeb yn y broses ddemocrataidd ac yn darparu manteision hirdymor. Bydd yn dod â lliw hardd i’n darlun gwleidyddol du a gwyn yn y wlad hon. Diolch.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad heddiw. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am adael i’r Cynulliad ddefnyddio peth o’u hamser dadlau ar gyfer y ddadl bwysig hon?
Rwy’n falch iawn o siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, oherwydd rwy’n credu o ddifrif fod yr angen am senedd ieuenctid yn gwbl amlwg. Rwy’n falch o’r rôl y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi chwarae yn hyrwyddo hawliau plant ac rwy’n falch fod y Cynulliad hwn wedi arwain y ffordd yn y byd gyda chefnogaeth drawsbleidiol i’n Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 hefyd.
Roeddwn yn siomedig, yn 2014, pan benderfynodd Llywodraeth Cymru roi’r gorau i ariannu’r Ddraig Ffynci, a nodais wrth Weinidogion ar y pryd fy mod yn teimlo y byddai wedi bod yn well gweithio gyda’r Ddraig Ffynci a sefydliadau gwirfoddol ar gyfer plant yng Nghymru i ddod o hyd i ffordd o gynnal senedd ieuenctid yng Nghymru.
Ym mis Mehefin eleni, rhoddodd y Cenhedloedd Unedig eu dyfarniad ar y cynnydd a wnaed ar gyflawni hawliau plant yng Nghymru yn dilyn adolygiad ledled y DU. Gwnaeth fwy na 150 o argymhellion ac un o’r pryderon a fynegwyd oedd nad oedd safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn systematig wrth lunio polisïau ar faterion sy’n effeithio arnynt. Nodai nad oes senedd ieuenctid yng Nghymru ac argymhellodd y dylid sefydlu un fel mater o flaenoriaeth.
Rwyf wrth fy modd fod Comisiwn y Cynulliad yn datblygu’r cynllun hwn ac yn croesawu’n wirioneddol yr ymrwymiad personol y mae’r Llywydd wedi ei roi i wneud hyn yn flaenoriaeth heddiw. Er gwaethaf fy sylwadau cynharach am y penderfyniad i roi’r gorau i ariannu’r Ddraig Ffynci, rwy’n credu bod cael senedd ieuenctid wedi’i sefydlu gan y Cynulliad hwn yn llawer gwell, yn fy marn i, na chael un sy’n cael ei hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Gobeithiaf y bydd yn fwy annibynnol ac yn rhoi llais llawer cryfach i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru am y gwaith y maent wedi’i wneud i hyrwyddo’r mater hwn, ac am yr ymgynghoriad y maent wedi’i gynnal gyda phobl ifanc ar yr hyn y dylai senedd fod. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld manylion yr ymgynghoriad hwnnw, ond fel y mae Darren Millar wedi dweud eisoes, mae’n wych gwybod bod 92 y cant o’r ymatebwyr wedi cefnogi sefydlu senedd ieuenctid ac y byddai 85 y cant o’r ymatebwyr yn hoffi gweld y senedd yn cael ei gwneud yn barhaol a’i gwarchod mewn cyfraith. Ac rwy’n gobeithio bod hynny hefyd yn rhywbeth y bydd y Comisiwn yn edrych arno.
Roeddwn am gloi drwy ddweud ychydig eiriau am yr angen i sicrhau’r cyfranogiad ehangaf posibl gan bobl ifanc yng Nghymru mewn senedd yn y dyfodol. Rwy’n meddwl bod yna risg bob amser fod seneddau o’r fath yn tueddu i ymgysylltu â’r bobl ifanc mwy huawdl a hyderus—ac rwy’n dathlu’r ffaith fod gennym y bobl ifanc hyn yng Nghymru—ond prawf o senedd wirioneddol gynrychioliadol fydd pa mor effeithiol y mae’n sicrhau ein bod yn clywed lleisiau rhai o’r bobl ifanc hynny nad yw eu lleisiau fel arfer yn cael eu clywed. Credaf y gallwn ddysgu o arferion da yn hyn o beth, ac rwy’n gobeithio y bydd y Comisiwn yn edrych ar hyn. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, dysgais am brosiect sy’n cael ei gyflawni gan Glybiau Bechgyn a Merched Cymru o’r enw Not the Usual Suspects, prosiect a gynlluniwyd i ymgysylltu â phobl ifanc nad oes neb yn ymgynghori â hwy fel arfer. Yn rhan o hynny, datblygwyd ap o’r enw ‘Politically Incorrect’. Rwy’n credu bod angen i ni edrych ar bob arfer da i wneud yn siŵr, wrth symud ymlaen, ein bod yn ymgysylltu â’r nifer ehangaf o bobl ifanc, ac adeiladu ar y gwaith ardderchog y mae’r Comisiwn eisoes yn ei wneud yn ymgysylltu â phobl ifanc.
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o gael gwahoddiad i fforwm a drefnwyd gan y comisiynydd plant i rai rhwng 15 a 24 oed yng Nghymru sydd â phrofiad o dderbyn gofal, gyda Llyr Gruffydd, Darren Millar a Carl Sargeant. Yno, clywsom gan bobl ifanc am eu profiadau hynod o bwerus ac ysgytwol yn y system ofal yng Nghymru. Er gwaethaf yr holl heriau roeddent wedi’u hwynebu, siaradodd y bobl ifanc hyn yn rymus ac yn bwerus am eu hanghenion. Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw senedd ieuenctid yn sicrhau mai’r rheini yw’r mathau o leisiau rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed hefyd—bydd senedd ieuenctid sy’n mynd i’r afael ag anghenion y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn un y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohoni yng Nghymru. Diolch.
Mae’r cwestiwn ynglŷn â senedd ieuenctid—neu gynulliad ieuenctid yn wir, fel y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, ac fel y byddwn i’n ei ffafrio hefyd rwy’n meddwl—yn un sydd wedi’i drafod sawl gwaith yn y Cynulliad hwn gan nifer o gyn-Aelodau Cynulliad ac Aelodau presennol dros y blynyddoedd, ond nid ydym erioed wedi cyrraedd yno’n iawn—ddim eto, yn sicr.
Mae hyn yn y pen draw yn ymwneud â democratiaeth—cynyddu cyfranogiad ieuenctid a chynyddu niferoedd pleidleiswyr, ac rwy’n meddwl y byddem i gyd am wneud hynny. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn un o chwe gwlad ddatganoledig heb senedd ieuenctid, ac nid yw hynny’n ddigon da. Nid ni’n unig sy’n dweud hyn, nid yr ACau ar draws y pleidiau yn unig sy’n dweud hyn; mae’r Cenhedloedd Unedig yn cytuno. Fel y dywedwyd eisoes, credant y byddai senedd ieuenctid yng Nghymru yn ffordd allweddol o gefnogi erthygl 12. Mae’r comisiynydd plant hefyd wedi dweud rhywbeth tebyg. Mae’r comisiynydd plant yn gweld senedd fel cyfrwng ar gyfer ymgysylltu ac etholfreinio. Roedd senedd ieuenctid yn ymddangos ym maniffesto mwy nag un o’r pleidiau, felly mae hwn yn un o’r materion sy’n wirioneddol drawsbynciol ar draws pob plaid, a byddai’n cael cefnogaeth eang pe bai’n digwydd.
Ond er bod Aelodau fel Lynne Neagle wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith dros y math hwn o ddatblygiad, nid yw’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru o hyd, neu’n sicr ni fu’n flaenoriaeth nes yn awr. Dyna’r rheswm pam y cyflwynwn y ddadl hon heddiw—i ddangos nad un plaid yn unig sydd eisiau senedd ieuenctid, ond yr holl bleidiau, y Cynulliad yn gyfan. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes i sefydlu hyn neu fecanwaith priodol.
Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â rhoi llais democrataidd i bobl ifanc. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfrwng newydd a all ddarparu trefn graffu fwy cadarn i’r prosesau democrataidd yng Nghymru. Bydd pobl ifanc yn gallu rhoi tystiolaeth yn fwy uniongyrchol i bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar. Ond gadewch i ni fynd yn ôl at fater ymgysylltu, sydd, yng Nghymru, gadewch i ni ei wynebu, ar lefel isel yn hanesyddol. Dangosodd archwiliad gan Gymdeithas Hansard o ymgysylltiad gwleidyddol yn 2014 mai 30 y cant yn unig o bobl ifanc sy’n sicr o bleidleisio, ond fel y gwyddom, byddai 58 y cant yn barod i wneud rhywbeth pe baent yn teimlo’n ddigon cryf. Felly, mae gan bobl ifanc ymagwedd wahanol tuag at wleidyddiaeth—gwahanol i’r cenedlaethau hŷn, beth bynnag. Mae’n un y dylem ei chydnabod a dylem ddarparu mecanweithiau a chyfryngau sy’n cyd-fynd â hynny.
Nawr, nid wyf yn sefyll yma’n datgan mai senedd ieuenctid yw’r ateb i bob dim ac y bydd yn newid popeth er gwell dros nos. Byddai’n hurt honni hynny. Ni fydd yn gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn ateb i bob dim chwaith. Yn wir, yn y gorffennol yn y Siambr hon, nid wyf wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio. Rhaid i mi gyfaddef bod fy marn ar y mater wedi newid, ond pa un a yw’n ymwneud â’r oedran pleidleisio neu â’r senedd ieuenctid, credaf nad yw’r un o’r rhain ar eu pen eu hunain yn fecanweithiau digonol i gynyddu ymgysylltiad ieuenctid. Ond gyda’i gilydd fel pecyn, credaf y byddai’n gyfrwng i allu symud y dadleuon yn eu blaenau. Rwyf wedi dod i’r casgliad fod hon yn un ffordd allweddol y gallem wneud hyn. Rydym am i bobl ifanc gymryd rhan, felly mae’n rhaid i ni ymgysylltu â hwy a hwythau â ninnau. Mae’n broses symbiotig.
Rwy’n dychmygu y byddem i gyd am weld y ganran sy’n pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar yr un lefel ag etholiadau cyffredinol yn San Steffan, ac mae denu pobl ifanc i gymryd mwy o ran yn y broses yma yn y Cynulliad yn gam tuag at wneud hynny. Ond ni fydd yn digwydd drwy eiriau’n unig, ac rwy’n credu ei bod yn bryd i ni weld gweithredu ar hyn er mwyn cael y pethau hyn wedi’u gwneud.
Ganed Senedd Ieuenctid y DU yn 1999, yr un flwyddyn ag y ganed y Cynulliad hwn, felly efallai nad ydym mor bell â hynny ar ei hôl hi, ond mae gennym lawer o waith caib a rhaw i’w wneud, a pho gyntaf y dechreuwn, y cynharaf y byddwn yn cyrraedd. Fel y clywsom, mae ardaloedd eraill wedi ei wneud. Sefydlodd Gogledd Iwerddon fforwm ieuenctid yn ôl yn 1979. Canmolwyd sefydliad yr Alban am ei fod yn cynnig un o’r lefelau uchaf o gyfranogiad ieuenctid a geir yn unman. Felly, heb fod mor bell â hynny yn y Deyrnas Unedig hon, mae seneddau ieuenctid a fforymau ieuenctid wedi bod yn gweithio, a byddant yn parhau i weithio yn y dyfodol. Ymhellach i ffwrdd, yn Awstralia, gellir pasio Biliau ieuenctid ymlaen i’r Senedd go iawn eu hadolygu. Felly, mae pobl ifanc yn teimlo’n rhan go iawn o’r broses gyffredinol yn Awstralia ar oedran ifanc iawn.
Ni fydd hyn yn gweithio yma os nad oes gennym gysylltiadau cryf rhwng ysgolion, cyfleusterau addysgol eraill a’r senedd ieuenctid neu’r cynulliad ieuenctid newydd rydym am ei greu. Fel y dywedodd Mohammad Asghar yn ei gyfraniad, mae hyn yn ymwneud â chreu democratiaeth iach a bywiog yn gyffredinol. Nid yw pobl ifanc yn bobl ifanc am byth. Hwy yw pobl hŷn yfory. Roeddem i gyd yn perthyn i’r genhedlaeth iau unwaith—llawer ohonom o leiaf, rwy’n credu—ac rydym ni yma yn awr. Felly, gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith. Iawn, gadewch i ni siarad am hyn yn y ddadl hon heddiw a gadewch i ni gytuno bod angen senedd ieuenctid, ond gadewch i ni fwrw ymlaen â gosod y sylfeini hynny heddiw fel y gall y senedd ieuenctid fod yn weithredol cyn gynted ag y bo modd ac er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â chreu democratiaeth lawer iachach a mwy bywiog yng Nghymru.
Diolch. David Rowlands.
Na? Iawn. Diolch. Julie Morgan. Mae’n ddrwg gennyf—. Iawn; parhewch, Julie Morgan. Mae’n ddrwg gennyf, Rhun. Mae fy sgrin yn neidio o gwmpas. Mae’n ddrwg gennyf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon. Mewn gwirionedd hoffwn ddechrau drwy ganmol gwaith y Ddraig Ffynci. Credaf fod llawer i’w ganmol yn y gwaith a wnaeth y Ddraig Ffynci dros nifer o flynyddoedd. Bu cryn dipyn o gysylltiad rhyngof a’r Ddraig Ffynci am nifer o flynyddoedd yn San Steffan, ac rwy’n gwybod eu bod wedi grymuso llawer o’u haelodau i fynd ymlaen ac i gael lle amlwg yn eu cymunedau. Yn sicr, gwyddom fod rhai ohonynt wedi mynd ymlaen i fod yn gynghorwyr, a’u bod wedi ymgyrchu ar faterion. Credaf fod y Ddraig Ffynci wedi gwneud llawer iawn o dda. Rwy’n gresynu na wnaethom symud o’r Ddraig Ffynci i senedd ieuenctid oherwydd byddai hynny wedi osgoi’r bwlch hwn a’r teimlad ein bod wedi cael ein gadael ar ôl yn y maes gwaith penodol hwn, ac mae’n rhaid i ni gydnabod bod hynny’n wir wrth gwrs.
Rydym yn llusgo ar ôl gwledydd eraill, a chlywsom eisoes am y ffaith fod senedd y DU wedi’i sefydlu ers 1999 ac wrth gwrs, gwnaed llawer o gynnydd yno. Mae’r bobl ifanc bellach yn eistedd ar y meinciau gwyrdd sanctaidd, a oedd yn frwydr fawr mewn gwirionedd i’w cael yno, ond maent yn trafod yn y Siambr honno yn awr, yn Nhŷ’r Cyffredin. Hefyd, mae’r bobl ifanc yno’n gynrychioliadol iawn. Pan gyfarfûm â grŵp o bobl ifanc, roeddwn yn falch iawn fod yna Sipsiwn/Teithwyr yn cael eu cynrychioli fel aelodau seneddol ifanc. Felly, roeddwn yn meddwl mai dyna’r math o beth sydd angen i ni feddwl amdano i wneud yn siŵr fod pob grŵp yn cael ei gynrychioli. Wrth gwrs, cyfeiriwyd eisoes at Senedd yr Alban. Mae gan Senedd Ieuenctid yr Alban aelodau rhwng 14 a 25 oed, ac maent yn cynrychioli pob un o’r 32 awdurdod lleol yn yr Alban. Felly, unwaith eto, rwy’n meddwl bod hwnnw’n fodel da iawn y gallwn edrych arno.
Mae yna seneddau ieuenctid ar hyd a lled Ewrop, ac wrth gwrs, mae yna Senedd Ieuenctid Ewropeaidd. Mae seneddau ieuenctid y cenhedloedd datganoledig, a seneddau’r holl wledydd, yn anfon cynrychiolwyr i’r senedd ieuenctid honno. Yn y DU mae gennym bŵer i anfon pobl i’r senedd ieuenctid. Rwy’n teimlo, ar yr adeg hon, pan fo mor bwysig ein bod yn cadw cynifer o gysylltiadau ag y gallwn ag Ewrop, ac i adeiladu ein cysylltiadau ag Ewrop, fod hynny, gobeithio, yn mynd i fod yn ffordd, pan sefydlwn y senedd ieuenctid, o gael cysylltiadau cryf â’r Senedd Ieuenctid Ewropeaidd.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig ymgysylltu â phobl ifanc o oed cynnar yn y broses wleidyddol. Yn y ddadl gynharach, nad oeddwn yn bresennol ar ei chyfer i gyd, gwn fod trafodaeth wedi bod ar bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 mlwydd oed. Mae hynny’n rhywbeth y bûm yn ymgyrchu drosto am flynyddoedd lawer gyda’r Ddraig Ffynci. Roedd yn o’u pum blaenoriaeth ar un adeg—yn ogystal â Chyngor Ieuenctid Prydain. Rwy’n teimlo bod awydd newydd yn dod i’r Siambr hon bellach o bob rhan, gan gynnwys ar feinciau’r Ceidwadwyr, i weld pleidleisiau i rai 16 a 17 oed. Ond rwy’n cytuno; ni cheir dim sy’n ateb i bopeth. Ni fydd un peth ar ei ben ei hun yn sicrhau bod gennym leisiau pobl ifanc wedi’u gwreiddio mewn gwirionedd ym mhopeth a wnawn, oherwydd dyna rydym am ei wneud, a dyna mewn gwirionedd sydd yn ein cyfreithiau. Oherwydd mae’r Mesur hawliau plant yn golygu ein bod i fod i ystyried popeth a wnawn o ran sut y mae’n effeithio ar blant—a Bil cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal. Mae hynny wedi’i ymgorffori ynddo. Ond er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, rhaid i ni ddefnyddio pobl ifanc fel cyfeirbwynt. Mae’n rhaid i ni gael pobl ifanc i ddweud wrthym beth yw eu barn am bethau. Y ffordd y gallwn wella’r deddfau a wnawn yw drwy gael llais pobl ifanc yno. Ni allwn wneud hynny heb gael corff cynrychioliadol yn fy marn i.
Felly, rwy’n credu ei bod yn galonogol iawn ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw. Rwy’n meddwl mai’r peth pwysig—gwn y byddwn yn trafod gwahanol fodelau, ac nid wyf yn credu mai heddiw yw’r amser iawn ar gyfer hynny fel y dywedodd cynigydd y cynnig—heddiw yw’r amser i ni ddangos ein cefnogaeth yn iawn i senedd ieuenctid Cymru, i barhau â’n traddodiad o ymladd dros hawliau plant, a rhoi llais go iawn i blant yn yr hyn rydym yn ei wneud yma yn y Cynulliad.
Fe roddaf gynnig arall arni. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae’n od, braidd, bod y drafodaeth yn digwydd yn amser dadl wrthblaid, achos rydym yn sôn yn fan hyn am rywbeth, wrth gwrs, sydd ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. A dyna pam fy mod i wedi bod yn hapus iawn i fod yn un o’r rhai i arwyddo’r cynnig yma yn drawsbleidiol.
Rwy’n teimlo’n frwd iawn dros yr egwyddor o sefydlu senedd ieuenctid. Rwy’n cofio pan oeddwn i yn fy arddegau fy hun yn cael fy nhanio gan faterion cyfoes, yn cael fy neffro gan drafodaethau ar orffennol, presennol a dyfodol fy ngwlad. Mi oedd o’n ddechrau’r daith, mae’n siŵr, a arweiniodd at yr anrhydedd o gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol fy hun.
Rŵan, o edrych yn ôl, rwy’n trysori’r cyfleon a gefais i bryd hynny, profiadau fel y gymdeithas ddadlau enwog yn fy hen ysgol i, Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Mae gennym ni, wrth gwrs, bob math o grwpiau ar draws Cymru sy’n rhoi profiadau i bobl ifanc. Mae fy merch i yn cael budd mawr o’i gwaith efo Bwrdd Syr IfanC efo’r Urdd ar hyn o bryd. Mae eraill yn cael profiadau gwerthfawr efo’r sgowtiaid neu’r Guides. Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn un arall pwysig iawn. Yn fan hyn, mi wnaf ddymuno’n dda i Laura Elliott, un sydd wedi cael llawer o brofiad efo’r ffermwyr ifanc ac sydd, drwy hynny yn rhannol, wedi cael ei dewis gan gangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad i’n cynrychioli yn senedd ieuenctid y Gymanwlad yn Victoria yng Nghanada fis nesaf. Dyna werth profiad i rywun pan yn ifanc.
Mae gennym ni gyfle rŵan, wrth gwrs, i greu fforwm cenedlaethol go iawn i bobl ifanc Cymru, beth bynnag yw eu diddordebau nhw, beth bynnag fo’u cefndir. Mae adroddiad gan yr undeb ryng-seneddol o ryw ddwy flynedd yn ôl yn dweud wrthym ni fod yna seneddau ieuenctid yn bodoli mewn rhyw 35 o wledydd—mae’n bosibl bod yna fwy erbyn hynny, wn i ddim. Mae yna bob mathau o ffurfiau iddyn nhw, ac mae eu cyswllt nhw â seneddau cenedlaethol y gwledydd hynny yn amrywio.
Mi wnes i gyfarfod â gwleidydd difyr iawn o Rwanda ryw ddwy flynedd yn ôl, eto drwy fy ngwaith i efo’r Gymanwlad. Mi fu o yn aelod o senedd ieuenctid ei wlad o, ac oherwydd perthynas ffurfiol iawn rhwng y senedd ieuenctid a’r brif senedd, mi oedd o’n eistedd fel cynrychiolydd yr ieuenctid ar y senedd genedlaethol ymhlith yr aelodau seneddol eraill. Ar ôl gadael y senedd ieuenctid, mi oedd ei ddiddordeb o wedi’i danio ac mi aeth o’n ei flaen i gael ei ethol yn Aelod Seneddol.
Soniodd Nick Ramsay wedyn am fodel gwahanol o Awstralia, lle mae Biliau ieuenctid yn cael eu pasio ymlaen i’r Senedd. Felly, mae yna bob math o fodelau, ond beth am Gymru? Mae yna ryw gred bod rhyw fath o senedd ieuenctid wedi bod gennym ni yn barod yma. Mae Cymru Ifanc gennym ni rŵan, a’r Ddraig Ffynci cyn hynny. Tra roeddwn i’n feirniadol iawn o’r penderfyniad disymwth i gael gwared ar y Ddraig Ffynci, nid senedd ieuenctid oedd hi, a dyna rwyf i yn dymuno ei weld. Fforwm oedd o gan y Llywodraeth i gydgysylltu â phobl ifanc. Mae hynny’n hollol iawn, ac rwy’n gefnogol iawn i hynny, ond, yn yr un ffordd â’n bod ni’n eiddgar i sicrhau nad yw pobl Cymru yn cymysgu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae hi’n bwysig iawn inni ddilyn yr egwyddor mai y Senedd yma ddylai esgor ar senedd ieuenctid.
Mae yna elfennau, i gloi, sy’n gyffredin i seneddau ieuenctid drwy’r byd. Yn gyntaf, maen nhw yno i wrando ar bobl ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw fynegi barn. Yn ail, maen nhw yno i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am eu systemau gwleidyddol a seneddol sy’n effeithio ar eu bywydau nhw. Ac, yn drydydd, maen nhw yno i rymuso pobl ifanc yn y gobaith y bydd rhoi profiadau uniongyrchol o’r systemau democrataidd yn deffro eu hawydd nhw i chwarae rhan yn fwy gweithgar fel dinasyddion yn eu gwledydd. Rwy’n meddwl, o weithredu’r egwyddorion yna, y gallem osod seiliau cadarn iawn i senedd ieuenctid i Gymru.
Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan yn y ddadl hon a hoffwn ganmol Darren Millar am yr holl waith y mae wedi’i wneud ers blynyddoedd lawer ar hyrwyddo’r prosiect hwn ac yn wir, os caf ddweud, Lynne Neagle, yr oedd ei haraith ddeniadol a deallus y prynhawn yma yn llawn gyfiawnhau’r bleidlais a roddais iddi am gadeiryddiaeth ei phwyllgor.[Chwerthin.]
Wrth gwrs, mae ieuenctid, i mi, yn atgof mwyfwy pell, ond maent yn dweud eich bod mor ifanc ag y teimlwch, a phob bore rwy’n deffro gan ryfeddu’n gyson fy mod yn gallu teimlo unrhyw beth o gwbl ar ôl y bywyd garw rwyf wedi’i fyw. [Chwerthin.] Ond roedd hi’n ddiddorol gwrando ar Rhun ap Iorwerth funud yn ôl yn siarad am ei atgofion o’i laslencyndod. Roeddwn i, fy hun, yn laslanc anioddefol o henaidd a barn gennyf ar bob dim. Yn wir, rwyf wedi treulio fy mywyd i gyd yn chwilio am seiliau rhesymegol y rhagfarnau a goleddwn y pryd hwnnw. Ond ni ellir bychanu pwysigrwydd y prosiect hwn yn fy marn i. A dweud y gwir, mae’n warth cenedlaethol mai oddeutu 30 y cant yn unig o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed a aeth i bleidleisio yn y refferendwm ychydig fisoedd yn ôl. Mae datgysylltiad pleidleiswyr yn un o felltithion mawr ein hoes, ac mae’n mynd yn waeth wrth i chi edrych ar ddemograffeg pleidleiswyr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Byddem ni, wrth gwrs, wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16, ond a ydych yn derbyn pe bai hynny wedi digwydd, efallai y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn?
Wel, fe ddof at y pwynt hwnnw mewn eiliad. Mae’n bwysig ymgysylltu mwy â phobl ifanc ym mywyd dinesig ein gwlad, ac rwy’n meddwl y byddai senedd ieuenctid yn un ffordd o gyflawni hynny. Mae’n wirionedd anffodus mai ni yw’r unig wlad yn Ewrop i beidio â chael fforwm ieuenctid annibynnol o ryw fath. Gwn fod un yn arfer bod gennym yng Nghymru ar ffurf y Ddraig Ffynci, a grybwyllwyd sawl gwaith yn ystod y ddadl hon heddiw. Hoffwn dynnu sylw at Theo Davies-Lewis a’r pamffledyn a ysgrifennodd ar gyfer ‘Gorwel’, a soniaf amdano ym mhresenoldeb David Melding yma, a’r trafodaethau a gafodd gyda’r Prif Weinidog, na lwyddodd, yn anffodus, i argyhoeddi’r Prif Weinidog. Ond rwy’n gobeithio, o ganlyniad i’r ddadl hon heddiw a’r cyfraniadau a wnaed gan Aelodau Llafur ynddi, y bydd yn achosi i’r Llywodraeth fabwysiadu safbwynt ychydig yn wahanol.
Nid yw fy mhlaid yn cefnogi pleidlais i rai 16 oed, am y rhesymau a nodwyd yn gampus gan Gareth Bennett yn ei araith yn gynharach. Hefyd, rwy’n meddwl y bydd senedd ieuenctid yn rhyw fath o dŷ hanner ffordd rhwng y ddwy ochr i’r ddadl hon. Rhoddodd Disraeli, yn 1867, naid i’r tywyllwch, fel y dywedodd yr Arglwydd Derby, drwy ymestyn yr etholfraint i’r dosbarthiadau gweithiol diwydiannol, ac yna dywedodd ei fod wedi gorfod paratoi meddwl y wlad a’i blaid. Un o’r ffyrdd, rwy’n credu, o baratoi meddwl y wlad ar fater gostwng oed pleidleisio fyddai drwy gyflwyno sefydliad o’r math hwn.
Yn ei gyfraniad i’r ddadl hon, cyfeiriodd Mohammad Asghar at anwybodaeth eang y cyhoedd ynglŷn â phwerau’r Cynulliad hwn a’r weinyddiaeth ddatganoledig. Mae’n rhyfeddol nad oes gan hanner pobl Cymru bron unrhyw syniad mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi iechyd, er enghraifft. Credaf efallai ein bod i gyd ar fai am beidio â chwarae ein rhan yn llawn yn sicrhau bod dealltwriaeth y cyhoedd ynglŷn â’r Llywodraeth a’r weinyddiaeth yn well nag y mae. Felly, rwy’n meddwl mai un o’r ffyrdd y gallem wella gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r hyn rydym yn ei wneud yma, ac yn wir, ysbrydoli pobl i gyflawni gwasanaeth cyhoeddus yn y ffordd y mae gwleidyddion yn ei wneud—. Mae gennym enw gwael iawn ar y cyfan, ac mae llawer iawn o sinigiaeth am wleidyddion, sy’n annheg i raddau helaeth. Un o’r ffyrdd y gallem annog mwy o hyder ymysg y cyhoedd yn ein proffesiwn yw drwy gynnwys pobl mewn modd ffurfiol ar gam cynharach. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y cynnig hwn yn pasio’n unfrydol y prynhawn yma, yn yr ysbryd o gonsensws adeiladol a amlygir ym mherson yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi hyn ers blynyddoedd lawer. Felly, ar y sail honno, rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i’r Cynulliad.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Elin Jones.
Diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y ddadl yma ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y trafodaethau ynghylch creu senedd ieuenctid i Gymru yn y dyfodol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y Comisiwn wedi trafod y mater yma yn ystod dyddiau cynnar y pumed Cynulliad fel rhan o’r ystyriaeth ehangach ynghylch ein strategaeth dros y pum mlynedd nesaf. Un o’n tri nod strategol ar gyfer y pumed Cynulliad yw ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a hyrwyddo llwyddiannau’r Cynulliad.
Mae gan y Cynulliad, fel Seneddau ledled y byd, her gyffredinol i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n prosesau gwleidyddol. Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae’n bwysig inni atgoffa ein hunain nad yw’r Cynulliad yma yn llawn o hen draddodiadau a ffyrdd hynafol o weithio; ni yw un o seneddau ifancaf Ewrop. Nid yw hynny’n rhywbeth i’w ofni; dylem wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil bod yn senedd newydd, sy’n ein rhyddhau ni i greu ffyrdd arloesol o wleidydda. Ac mae’n rhaid inni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith yma. Mae’r penderfyniadau a wnawn ni yma yn effeithio ar eu dyfodol, ac felly mae’n rhaid inni wrando ar eu llais fel rhan annatod o’n trafodaethau.
Mae gennym hanes balch yn hyn o beth. Mae timau allgymorth ac addysg y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu seneddol, ac mae gennym berthynas gynhyrchiol hirsefydlog gyda phlant a phobl ifanc Cymru. Yn ystod y Cynulliad diwethaf, gwnaeth y Comisiwn benderfyniad pendant i ganolbwyntio ar ei ymdrechion i ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol ym musnes ffurfiol y Cynulliad, gan roi cyfle iddynt ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau yma. Ers hynny, rydym wedi sefydlu rhaglen waith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sydd yn aml heb lais: plant sy’n derbyn gofal, plant anabl, a gofalwyr ifanc. Mae dros 20,000 yn ymweld â Siambr Hywel neu’n cyfarfod ag Aelodau a swyddogion bob blwyddyn.
Mae llawer ohonoch chi Aelodau wedi cysylltu â phobl ifanc drwy eich gwaith pwyllgor. Yn gynyddol, rwy’n gweld bod eu cyfraniad yn rhan greiddiol a dylanwadol o’r broses o gasglu tystiolaeth, ac nid dim ond fel atodiad neu gyfeiriad ar ddiwedd adroddiad. Fe gyfeiriwyd ynghynt yn y drafodaeth am y gwaith yr oedd rhai ohonom ni’n ymwneud ag e ar y pwyllgor iechyd yn y pedwerydd Cynulliad, ac fel aelod o’r pwyllgor iechyd hynny rwy’n mawr gofio’n glir iawn y dystiolaeth gawsom ni gan bobl ifanc yn gadael gofal wrth inni drafod deddfwriaeth a llunio deddfwriaeth ar wasanaethau cymdeithasol.
Fel llawer ohonoch, rwy’n siŵr nad wyf yn derbyn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Er gwaethaf y ffaith na allant bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad hyd yn hyn, maent yn deall pwysigrwydd y penderfyniadau yr ydym ni’n eu gwneud yma. Maent yn gallu dweud wrthym pryd a sut y mae ein gweithredoedd yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, ac mae llawer ohonynt yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar ein prosesau. Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell.
Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae’n rhaid inni wneud yn well. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan fel dinasyddion nawr. Felly, mae’n rhaid inni gynyddu cyfleoedd ystyrlon i’w cynnwys yn ein gwaith ni yma—cyfraniad a fydd, rwy’n siŵr, yn ein hysbrydoli i feddwl yn wahanol am ddyfodol ein cenedl. Dylem hefyd eu helpu i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw, canfod ffyrdd i bobl ifanc ysgogi ein hagenda ni, ac, yn fwy na dim, mae’n rhaid inni wrando. Dyna pam, ers cychwyn yn y swydd yma ym mis Mai, rwyf wedi gwneud fy ymrwymiad yn glir i gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad ymhellach.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer cynulliad ieuenctid cenedlaethol i Gymru ers i’r Ddraig Ffynci ddod i ben ym mis Hydref 2014. Yn ddi-os, roedd y Ddraig Ffynci yn arloeswr wrth iddi fod yn fodd i bobl ifanc yng Nghymru siarad yn uniongyrchol â phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yng Ngenefa, er enghraifft. Ond heddiw mae cyfle gennym i feddwl o’r newydd am ofod democrataidd cenedlaethol i bobl ifanc Cymru—gofod sy’n adlewyrchu’r gwahaniad rhwng llywodraeth a senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strwythurau at ei diben ei hun i alluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar ei pholisïau ac er mwyn galluogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â’i dyletswyddau o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Felly, rwy’n falch ein bod ni’n cael y ddadl hon heddiw, gan ei bod yn fy ngalluogi i gadarnhau fy ymrwymiad i i sefydlu senedd ieuenctid parhaol i Gymru yn gynnar yn y pumed Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cymeradwyo’r uchelgais yma fel rhan o’r strategaeth newydd, ac un o’r sgyrsiau yr wyf wedi eu cael â chydweithwyr ers mis Mai, ac wrth gyfrannu heddiw at y ddadl hon, yw bod yna frwdfrydedd ym mhob plaid am gam o’r fath yma. Mae swyddogion y Cynulliad wedi bod mewn cysylltiad agos â grŵp Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ers iddynt lansio eu hymgynghoriad yn gynharach eleni, ac mae’r ymgynghoriad hwnnw yn cwmpasu mewnbwn gan arbenigwyr hawliau plant, barn pobl ifanc yn ogystal â chymariaethau o amryw fodelau seneddol rhyngwladol. Rwyf hefyd wedi trafod y mater yma â’r comisiynydd plant, Sally Holland, ac wedi canfod ein bod yn rhannu’r un syniadau a’r un dyhead ar y mater yma. Hoffwn roi gwybod i Aelodau fy mod wedi ysgrifennu at ymddiriedolwyr Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru, cyn eu cyfarfod nhw ar 23 Hydref, yn nodi ein hymrwymiad ni fel Comisiwn i fynd â’r mater yma yn ei flaen. Wrth gwrs, byddaf yn parchu eu hymgynghoriad ac edrychaf ymlaen at weld eu hargymhellion terfynol ar senedd ieuenctid cyn y Nadolig.
I gloi, heddiw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i ymddiriedolwyr Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru a’u hymgyrchwyr am eu hymroddiad i’w hachos. Am ddwy flynedd, maent wedi ymgyrchu’n ddiflino dros sefydlu cynulliad ieuenctid, gan greu corff gwych o waith ymchwil a thystiolaeth a fydd yn ein helpu ni i ddatblygu’r uchelgais yma. Diolch am ein hatgoffa nad yw ein dyletswydd i bleidleiswyr heddiw yn unig, ond i bob dinesydd o bob oedran sydd â rhan yn ein democratiaeth, yn y presennol a’r dyfodol. Os bydd y Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig yma y prynhawn yma, yna mi fydd yn fandad clir i’r Comisiwn symud ymlaen i weithio ar y manylion er mwyn sefydlu, yn y dyfodol agos, senedd ieuenctid gyntaf Cymru.
Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i’r ddadl.
A gaf i ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth? Nid wyf yn cofio gymaint o unfrydedd ar unrhyw gynnig—heblaw efallai am gyfeiriadau at bleidleisio yn 16 oed. Yn sicr o safbwynt cynnwys y cynnig ei hunan, rwy’n meddwl bod y mandad yn mynd i fod yn glir ac yn unfrydol, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu ac i bawb arall a fydd, wrth gwrs, yn cefnogi’r cynnig.
Mi oedd hi’n berffaith addas ein bod ni’n clywed ar ddechrau’r drafodaeth ynglŷn â’r modd y mae’r Cynulliad yma wedi bod yn arwain y gad ac wedi bod yn arloesi o safbwynt hawliau plant a phobl ifanc, o safbwynt creu comisiynydd plant a hefyd, wrth gwrs, fel sefydliad, o safbwynt y modd rydym yn ymfalchïo yn ein hygyrchedd ni fel sefydliad i bobl ifanc, a’r gwaith sy’n digwydd gydag ysgolion a’r 20,000 sydd wedi dod yma’n flynyddol fel rhan o’r cynlluniau hynny. ‘No brainer’ oedd disgrifiad Lynne Neagle o’r cysyniad yma o gael senedd i blant a phobl ifanc, ac rwy’n meddwl y byddem ni i gyd yn ategu hynny. Ac, wrth gwrs, roedd hi’n bwysig ei bod hi hefyd yn ein hatgoffa ni o’r hyn y mae’r Cenhedloedd Unedig wedi ei ddweud o safbwynt y diffyg darpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Diolch i Julie Morgan hefyd am ein hatgoffa ni am senedd ieuenctid y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweld lluniau o bobl ifanc ar y meinciau gwyrdd yn San Steffan, ac maen nhw’n lluniau pwerus iawn, mae’n rhaid i fi ddweud. Nid dynion canol oed mewn siwtiau llwyd, ond pobl ifanc, ac, yn sydyn iawn, mae Tŷ’r Cyffredin yn edrych llawer mwy byw a llawer mwy perthnasol, a gwleidyddiaeth wedyn, wrth gwrs, yn sgil hynny yn dod yn llawer mwy byw ac yn llawer mwy perthnasol i’r bobl ifanc sydd, efallai, yn teimlo eu bod nhw’n ymbellhau oddi wrth wleidyddiaeth fel y mae hi yn y wlad yma.
Nid wyf o reidrwydd yn cytuno â Neil Hamilton bod sefydlu cynulliad i bobl ifanc yn rhyw fath o ‘halfway house’. Fe fyddwn i’n licio mynd yr ‘whole hog’, fel maen nhw’n dweud, a chael pleidlais i’r rhai sy’n 16 a senedd, a mwy hefyd wrth gwrs, achos proses barhaus yw hon, nid rhywbeth sy’n mynd i gael ei gyflawni ac wedyn dyna ni. Rwy’n meddwl bod senedd ieuenctid Rwanda y clywom ni amdani yn her i ni i gyd. Meddyliwch, senedd ieuenctid lle y mae aelod o’r senedd honno yn cael eistedd yn y senedd lawn. Dyna ichi her; dyna ichi her i ni i gyd. Ac rwy’n meddwl y byddai hynny’n beth gwych i’w efelychu, ac yn sicr yn sbarduno trafodaeth ynglŷn â ble rydym ni’n mynd nesaf o safbwynt ymbweru llais pobl ifanc yn y wlad yma.
Wrth gwrs, ar ôl y refferendwm yn yr Alban, mi welom ni don o bobl ifanc yn yr Alban yn sicr, ond hefyd ar draws y Deyrnas Unedig, yn dod yn rhan o wleidyddiaeth ac yn ymwneud fwyfwy â gwleidyddiaeth ieuenctid, ac fe’n hatgoffwyd ni fod y fforymau yna’n bodoli yn y rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, i sianelu llawer o’r brwdfrydedd yna. Ac mae gan bobl ifanc, fel rydym yn gwybod, ofidiau gwirioneddol—am Brexit, am lymder, am ddiffyg hawliau yn y sector rhentu a mwy—ond yn rhy aml o lawer, nid yw’r gofidiau hynny’n cael eu clywed yn ddigonol, heb sôn, efallai, am gael eu gwrando arnyn nhw hefyd, sydd yn rhywbeth arall eto.
Ond, ble mae llais pobl ifanc yn y drafodaeth ar Brexit heddiw? Rŷm ni’n gwybod bod y Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp ymgynghori ar Ewrop, ond nid wyf yn meddwl bod yna lais ifanc yn eistedd ar y grŵp yna, felly, sut ydym ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n clywed lleisiau pobl ifanc o fewn y disgwrs a’r drafodaeth yna? Mae’r siarter gwaith ieuenctid sydd gennym ni yng Nghymru, wrth gwrs, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth rhyw chwe mis yn ôl, yn sôn am hawl pobl ifanc i gael, ac rydw i’n dyfynnu:
‘Cyfleoedd i gyfranogi yn y gwaith o wneud penderfyniadau trwy strwythurau anffurfiol a ffurfiol i ymgysylltu â phobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol’.
Wel, mae yna wagle ar lefel genedlaethol yn sicr, a’r darlun yn ddigon amrywiol, wrth gwrs, ar lefel leol.
As someone who began his career in the youth work sector, as a youth worker many years ago, I’m reminded of some of the basic principles of youth work in Wales, which talk about giving young people expressive opportunities, empowering opportunities, participative opportunities. Yet, on Brexit, a matter that will define not only our generation, but of course future generations as well, where is the voice of young people? If we get this wrong, then they’re the ones, clearly, who’ll be paying the price.
We were reminded of the divergence in voting. We know that, of course, between younger and older generations, but the lower turnout, as well, amongst the younger generation—30 per cent, I think it was, turnout amongst young people in that particular referendum. Now, of course, a youth assembly isn’t the answer, it’s not the only answer, but it does have a practical and a very symbolic significance, I think, as reflected in this discussion today.
Felly, rwy’n llongyfarch y Llywydd ar ei sylwadau. Yn amlwg, fe ddechreuwyd y drafodaeth hon yn gynnar iawn ar ôl ei phenodiad ac yn gynnar iawn ym mywyd y pumed Cynulliad yma. Mae yn gyfle i ni fel sefydliad ifanc, fel ein hatgoffwyd ni, i arloesi. Os ydy San Steffan, sydd ddim yn enwog am fod yn sefydliad sy’n arloesi, yn gallu cyflawni hyn, yna rydw i’n meddwl bod hynny’n adlewyrchu ar y sefyllfa siomedig sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydw i’n croesawu’r ymrwymiad a’r cadarnhad o’r ymrwymiad gan y Llywydd, ac yn diolch bod y sgyrsiau a’r trefniadau eisoes ar waith.
Gwireddu cynulliad cenedlaethol i blant a phobl ifanc yw’r nod. Rydw i’n siŵr y byddwn ni’n unfrydol, gobeithio, yn cefnogi’r cynnig yma heddiw. Ond, fel y dywedais i, rhan o broses barhaus yw hon. Carreg filltir fydd cyflawni hynny. Gadewch inni gyrraedd y garreg filltir honno cyn gynted ag y gallwn ni. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6119 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2016.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl aelodau ein pwyllgor o bob plaid, i’n tîm clercio rhagorol a’r tîm cymorth o’n cwmpas a hefyd i’r rhai sydd wedi cyfrannu gyda thystiolaeth arbenigol i’n hadroddiad?
Yn aml, ystyrir bod materion cyfansoddiadol yn faterion sych nad ydynt yn effeithio fawr ddim ar y person cyffredin ar y stryd. Ond os yw’r penderfyniad i adael yr UE wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dangos bod materion cyfansoddiadol yn bwysig a’u bod yn ymgysylltu. Felly, ni ddylem synnu bod Bil Cymru wedi bod yn ffynhonnell llawer o drafodaeth, nid yn unig rhwng gwleidyddion, ond hefyd pan fydd pobl yn defnyddio ein cyfreithiau ar sail ddyddiol. Bydd Bil Cymru yn pennu’r deddfau y gallwn eu llunio i wella ffyniant ac ansawdd bywyd pob dinesydd yng Nghymru. Ein rôl fel deddfwyr wrth graffu ar y Bil yw sicrhau bod gan y Cynulliad y fframwaith gorau posibl ar gyfer llunio’r deddfau hynny. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod y cyfansoddiad yn hygyrch i bawb.
Nid bogailsyllu cyfansoddiadol yw hyn fel y byddai rhai eisiau i chi gredu; mae’n ymwneud â sicrhau bod gan y Cynulliad yr holl offerynnau angenrheidiol i wneud cyfreithiau sy’n cyflawni dros bobl Cymru. A dyna pam, er mai dyma’r pedwerydd Bil Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, fod yn rhaid i ni godi llais os yw’r Bil hwn yn gwneud y gwaith o ddeddfu’n fwy cymhleth ac os nad yw’n cyflawni’r hyn a addawyd.
Rydym yn croesawu elfennau o’r Bil hwn. Mewn egwyddor, rydym yn cytuno â’r symud i fodel cadw pwerau. Rydym hefyd yn croesawu cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â chyfraith breifat a throseddol, gan roi mwy o ryddid i ddeddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol. Rydym yn croesawu’r gallu i ddileu ac addasu rhai o swyddogaethau Gweinidogion y DU heb gydsyniad, gyda chyrff megis yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Comisiwn Etholiadol wedi’u torri allan o’r gofynion cydsynio. Rydym hefyd yn croesawu’r rhestr o holl brif awdurdodau cyhoeddus Cymru yn y Bil, gan ddileu unrhyw amheuaeth fod y cyrff hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Fodd bynnag, ein hasesiad cyffredinol o’r Bil yw ei fod yn ddarn cymhleth ac anhygyrch o gyfraith gyfansoddiadol. Ni fydd yn darparu’r setliad parhaol cadarn y mae pobl Cymru wedi ei ddisgwyl. Mae hynny’n siomedig ac mae’n anffodus. Yn sicr nid yw’r Bil yn cynnig y setliad blaengar ac uchelgeisiol y mae llawer yng Nghymru wedi gobeithio amdano ac yn credu bod ei angen. Nid yw ychwaith yn gweddu i ddeddfwrfa fodern a phartner cyfartal yn y teulu o genhedloedd sy’n creu’r Deyrnas Unedig.
Mae’r Bil hwn yn well na’r Bil drafft, ac rydym yn croesawu’r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, yr hyn sy’n bwysicach yw na fydd y Bil hwn yn gwella’r setliad datganoli yn gyffredinol, fel y mae. Mae’r ffordd gymhleth y mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cael ei fynegi, gan gynnwys nifer a chyrhaeddiad y cymalau cadw a’r cyfyngiadau, yn llawer rhy gyfyngol. Mae’n dangos diffyg cysylltiad ac mae’n hen ffasiwn.
Yn ogystal, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei rwystro rhag ysgwyddo cyfrifoldebau y byddai disgwyl i ddeddfwrfa aeddfed ymwneud â hwy. Oni bai bod y Bil yn cael ei ddiwygio’n sylweddol yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’n amlwg y bydd y Cynulliad yn colli pŵer i ddeddfu mewn rhai meysydd. Yn ein barn ni, nid yw’n adlewyrchu na’n parchu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru fel y’i mynegwyd yn 2011.
Cyn trafod casgliadau ein gwaith yn fanwl, hoffwn ddefnyddio rhai enghreifftiau i egluro effaith ymarferol y Bil a sut y mae’n methu grymuso’r Cynulliad Cenedlaethol yn llawn fel deddfwrfa fodern. Felly, er enghraifft, mynegodd y pwyllgor iechyd a’r Prif Weinidog bryderon ynglŷn â chadw gwerthu a chyflenwi alcohol yn ôl, a allai effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Clywsom fynegi pryderon hefyd ynglŷn â cholli cymhwysedd mewn perthynas ag amddiffyn plant a’r polisi mabwysiadu—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn sicr, fe ildiaf.
Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. A yw Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn credu y byddai unrhyw un o’r cymalau cadw a restrir yn effeithio ar allu’r Llywodraeth hon a’r Cynulliad hwn i ddileu’r amddiffyniad o gosb resymol, sy’n un o’r amcanion sydd wedi bod yn y rhaglen lywodraethu?
Diolch i Julie Morgan am yr ymyriad, ac yn wir, dyna un o’r meysydd pryder a nodwyd gan arbenigwyr sy’n awdurdod ar y cyfansoddiad a deddfwriaeth a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor. Felly, mae’n un o’r meysydd sy’n peri pryder i ni, yn anffodus.
Mae’r rhain yn tynnu sylw at rai enghreifftiau syml. Byddai’n cymryd gormod o amser i egluro sut y mae cymhlethdod y profion a’r cymalau cadw yn gweithio gyda’i gilydd ac yn effeithio ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfreithiau. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi enghraifft o’r anawsterau a wynebid mewn perthynas â Bil damcaniaethol, enghraifft a ranasom â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi yr wythnos diwethaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Bil i ddarllen honno.
Er bod angen ailwampio’r Bil yn llwyr, mewn gwirionedd, byddai’n rhy gymhleth ceisio ailysgrifennu Bil o’r math hwn drwy wneud gwelliannau. Mae’n bwynt cyffredinol o egwyddor a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’. Felly, yn wyneb yr heriau a amlinellais, fel pwyllgor, a chan weithio’n adeiladol gyda rhanddeiliaid, roeddem yn cydnabod mai ein rôl ni o reidrwydd yw awgrymu gwelliannau a fyddai’n gwneud y Bil yn fwy ymarferol nag y mae ar hyn o bryd, lleihau’r fiwrocratiaeth y mae’n ei chyflwyno ac o leiaf—fan lleiaf—dod â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl i’r hyn a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar y pwynt olaf hwn, hoffwn nodi y dylid edrych ar y dyfarniad ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) fel safbwynt y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd y DU mewn perthynas â Deddf 2006. Mae hwn yn bwynt cyfansoddiadol pwysig.
Felly, ein dull o weithredu oedd nodi a chefnogi gwelliannau a awgrymwyd yn flaenorol gan y Llywydd neu Lywodraeth Cymru a oedd yn cyflawni’r amcanion rwyf newydd gyfeirio atynt. Yn benodol, fe gefnogom welliannau a fyddai: mewn perthynas â chymal 2, yn ei gwneud yn llawer mwy eglur ym mha amgylchiadau y byddai Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig; mewn perthynas â chymal 3, yn cael gwared ar brofion angenrheidrwydd er mwyn sicrhau bod lefel gyfredol—cyfredol—cymhwysedd y Cynulliad yn cael ei chynnal; ac mewn perthynas â chymal 18, yn ceisio sicrhau bod swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig wedi’u halinio â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Awgrymasom ein gwelliannau eu hunain hefyd, yn fwyaf amlwg, gwelliant sy’n caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol gydgrynhoi, heb addasu, yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru yn ein hieithoedd swyddogol. Mae dull o’r fath yn dryloyw a bydd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn hygyrch. Mewn democratiaeth iach, mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddinasyddion fod yn glir ynglŷn â pha sefydliad seneddol sy’n gyfrifol am ddeddfu mewn maes polisi penodol. Ond mae cymhlethdod a diffyg eglurder y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn bwrw amheuaeth ar gadernid hirdymor y setliad. Ffactor arall sy’n effeithio ar y cadernid hwn yw’r methiant i ddarparu ar gyfer awdurdodaeth benodol neu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Fel y clywsom mewn digwyddiad i randdeiliad, bydd pwysau ymarferol—pwysau ymarferol—yn anochel i’r rhai sy’n ymarfer y gyfraith neu’n rhoi cyngor ar y gyfraith yng Nghymru. Felly, bydd yr achos dros awdurdodaeth o’r fath yn parhau i godi. Mae’n anffodus, felly, fod y Bil hwn yn debygol o barhau yn hytrach na datrys ansicrwydd cyfansoddiadol.
Mae setliad cadarn ac ymarferol yn hanfodol i gywirdeb cyfansoddiadol y DU yn ogystal ag i Gymru. Am y rheswm hwnnw rydym yn credu y bydd yn rhaid i wleidyddion yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at setliad datganoli Cymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
I fod yn llwyddiant, mae diwygio cyfansoddiadol yn mynnu ymgysylltiad llawn ac agored gan bawb: mae hyn yn adeiladu consensws ar draws y pleidiau gwleidyddol a’r gymdeithas ehangach a fydd yn sail i setliad cadarn, ond yn anffodus, nodweddir y Bil hwn gan broses wedi’i gyrru gan Whitehall dan reolaeth dynn Llywodraeth y DU, sydd wedi colli’r cyfle i sicrhau cefnogaeth a chonsensws ehangach. Credwn fod angen mabwysiadu dull newydd o ystyried Biliau cyfansoddiadol. Dylai hwn fod yn ddull cytûn o gydweithredu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’n pwyllgorau a dau Dŷ’r Senedd a’u pwyllgorau. Rydym yn argymell datblygu’r ffyrdd newydd hyn o weithio fel mater o frys. Dylent fod ar waith cyn y bydd deddfwriaeth gyfansoddiadol fawr yn cael ei chyflwyno—er enghraifft, mewn ymateb i’r penderfyniad i adael yr UE—ac rydym yn barod i gyfrannu at y gwaith hwn.
Felly, wrth ddod â’r sylwadau agoriadol hyn i ben, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau eraill i’r ddadl hon, ac i weld beth oedd yr Aelodau eraill yn ei feddwl o’r adroddiad rydym wedi’i gyflwyno. Diolch.
Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am y gwaith manwl a chynhwysfawr y maen nhw wedi’i wneud ar Fil Cymru, ac yn arbennig i’r Cadeirydd am amlinellu mor glir, rydw i’n meddwl, y pryderon sydd gyda’r Bil, a beth sydd ymhlyg yn y Bil wrth fynd ymlaen, pe bai’r Bil heb gael ei wella yn y ffordd mae’r pwyllgor wedi ei hargymell.
Rydym ni wedi cael addewid, wrth gwrs, taw dyma fydd y Bil a fydd yn rhoi setliad cyfansoddiadol tymor hir i Gymru. Yn anffodus, am y rhesymau y mae Huw Irranca-Davies wedi’u hamlinellu, mae’r Bil yn brin iawn o gyflawni yr amcan hwnnw, a byddwn ni yn sicr yn wynebu pumed Bil datganoli ymhen fawr o dro.
Rwy’n credu bod y Bil yn estyn, ar un llaw, y cyfle—y cysyniad—o symud ymlaen gyda datganoli yn y syniad yma o bwerau a gedwir yn ôl, tra, ar yr un llaw, yn tagu gweithredoedd y Llywodraeth a gweithredoedd y Senedd yn y ffordd mae wedi cadw pwerau yn ôl ac wedi creu darlun cymysg, mwdlyd, lleidiog o’r hyn sydd yn gorwedd ym mha le.
Mae yna bethau positif yn y Bil. Mae’r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei gydnabod fel sefydliad a fydd yn parhau yn hynod o bwysig ar gyfer ffordd aeddfed o drafod cyfansoddiad Prydain. Mae modd adeiladu ar hynny yn y ffordd mae’r Cadeirydd newydd ddechrau ei amlinellu, rydw i’n meddwl. Rydw i â diddordeb gweld bod yna ryw fath o brotocol seneddol yn cael ei sefydlu rhwng y lle hwn a’r Senedd yn San Steffan, lle rydym ni’n gallu gwneud y cyd-drafod roedd y Cadeirydd yn ei amlinellu. Gan ein bod ni nawr wedi ein sefydlu—unwaith y bydd y Bil yn troi’n Ddeddf—yn sefydliad parhaol, bydd modd adeiladu ar hynny.
Mae pethau positif eraill yn y Bil ynglŷn â newid ein prosesau mewnol ni. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i ddatblygu prosesau cyllidol newydd, lle mae modd mynd â Deddf cyllid drwy’r Senedd hon a lle rydym ni’n gallu wir edrych ar y ffordd mae treth yn cael ei chodi yng Nghymru a rhoi hwnnw yn y cyd-destun o wariant. Mae hynny yn ei hunan yn aeddfedu’r lle hwn fel Senedd, ond yn aeddfedu Llywodraeth Cymru hefyd.
Ond—ac mae’n ‘ond’ sylweddol iawn—am y tro cyntaf, rŷm ni’n gweld Deddf datganoli sydd yn crafu yn ôl bwerau i San Steffan ac yn ôl i Lundain, ac mae hynny’n drist iawn. Yn gyntaf oll, pwerau sydd wedi cael eu cydnabod gan y Goruchaf Lys, yn enwedig, fel sydd wedi cael ei grybwyll, ym maes sector cyflogaeth amaeth—mae’r rheini’n cael eu tynnu’n ôl. Ond, yn fwy na hynny, mae yna ymgais wedi bod, yn amlwg, wrth baratoi’r Bil yma, drwy fynd drwy wahanol adrannau yn San Steffan, i bob adran geisio rhoi eu bysedd bach ar y Bil a gadael eu hôl ar y Bil yma. Er bod yna welliant wedi bod ers y Bil drafft cyntaf gael ei gyhoeddi, mae ôl-bysedd gwahanol adrannau—rai ohonynt nad ydynt erioed wedi deall datganoli—yn dal ar y Bil yma.
Mae yna sawl darn o ddeddfwriaeth yn y gorffennol—mae’r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu nhw gerbron y Cynulliad o’r blaen—mae sawl enghraifft o ddeddfwriaeth sydd eisoes wedi eu pasio gan y Cynulliad hwn na fydd yn bosib, neu a fydd o leiaf yn cael eu herio yn y Goruchaf Lys nawr, o dan y Bil arfaethedig.
Nid oes dwywaith amdano, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, bod y refferendwm yn ddatganiad clir iawn. Ac rŷm ni wedi clywed yn ystod y misoedd diwethaf yma pa mor bwysig yw hi eich bod yn gwrando ar refferenda ac yn dilyn beth mae pobl yn ei ddweud wrthych chi. Roedd y refferendwm nôl yn 2011 yn glir: roedd dros 60 y cant o bobl yn dweud yn glir ein bod ni eisiau adeiladu ar hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud fel corff seneddol, ac rydym ni’n moyn i chi gael y pwerau deddfu llawn, a’n moyn i chi weithredu hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Bil yn tramgwyddo’r egwyddor yma ac yn gosod cynsail peryglus, felly, i’r berthynas rhwng gwahanol senedd-dai yn y Deyrnas Gyfunol, yn enwedig gyda’r her ychwanegol nawr sydd gyda ni o ddelio â Brexit—pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei datganoli fan hyn, pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei datganoli i San Steffan, pa gyllid fydd yn dod fan hyn, pa gyllid fydd yn cael ei ddal yn ôl gan San Steffan. Mae’r Bil yma yn dempled anffodus iawn ar gyfer symud ymlaen ar y materion yna.
There was a very famous quote by an Irish nationalist, Charles Stewart Parnell, who said very clearly that no man—or woman, these days, but no man; Victorian—
‘No man has the right to say to his country “Thus far shalt thou go and no further”.’
Westminster doesn’t have the right to say to the people of Wales that you can go no further. It is for the people of Wales to express their self-determination in whichever way is appropriate for them. The job of Westminster, as our unitary Parliament for the United Kingdom, is to prepare the legislative way for the expression of the people of Wales. That has not been achieved in this Bill.
A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar arwain y pwyllgor a’r ysgrifenyddiaeth i gynhyrchu’r hyn rwyf yn ei ystyried yn adroddiad rhagorol? Roedd yn rhaid ei wneud yn gyflym iawn yn ystod dyddiau cynharaf y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddogfen bwerus, ac rwy’n arbennig yn ddiolchgar i’r holl swyddogion a’n helpodd ni i ddrafftio’r adroddiad. Mae’n arwydd rhagorol, rwy’n credu, o ansawdd staff y Comisiwn, os caf ddweud, Lywydd.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud fod y Bil mewn gwirionedd yn hael mewn sawl ffordd? Mae’r datganiad am barhauster, rwy’n credu, yn mynd â ni mor bell ag y gallwn fynd yn ein cyfansoddiad lled-ffederal tuag at sefydlu cyfraith sylfaenol a bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau sylfaenol.
Rwy’n credu bod cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad, gan gynnwys etholfraint a systemau etholiadol, yn bwysig iawn hefyd. Rydym wedi clywed sawl cyfeiriad y prynhawn yma at y bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn llywodraeth leol a’r posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Wel, yn fuan bydd gennym bŵer i benderfynu ar y materion hyn. Hefyd, roedd cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â chyfraith breifat a chyfraith trosedd yn newid i’w groesawu’n fawr o’r Bil drafft. Fodd bynnag, fel y mae’r pwyllgor yn ei nodi, gellid gwella’r Bil hwn mewn rhai ffyrdd allweddol i wireddu’r dyhead am setliad llawnach a mwy cadarn. Rwy’n cofio, pan oeddwn yn Gadeirydd ar y pwyllgor ac roedd gennym yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd ger ein bron, cafodd ei ganmol gennym am y weledigaeth honno o setliad llawn a chadarn—uchelgais anodd. Ond mewn rhai agweddau, fel rydym wedi clywed, nid ydym wedi cyrraedd y safon honno eto.
Rwy’n credu y dylai rhyw brawf arall ddisodli’r profion angenrheidrwydd sy’n parhau mewn meysydd a gedwir yn ôl, er enghraifft un sy’n rhoi pwerau ategol i ni newid cyfraith Cymru a Lloegr. Mater technegol yw hwn ar sawl ystyr, ond mae’n bwysig iawn caniatáu i’n cymhwysedd i ddeddfu weithio’n effeithiol. Heb y cwmpas a’r hyblygrwydd hwnnw, gallwch fod yn brin o egni i ddefnyddio’r hyn sy’n ymddangos yn bwerau eithaf eang dros dai, addysg neu iechyd, dyweder. Rwy’n ofni y gallem orfod mynd yn ôl i’r Goruchaf Lys yn y pen draw, neu ddadlau â Llywodraeth y DU am y lle i gael cyfraith wirioneddol effeithiol. Mae’r rhestr o gymalau cadw yn parhau i fod yn llawer rhy hir ac mae’n cynnwys, fel y clywsom, trwyddedu gwirodydd meddwol neu fangreoedd sy’n eu gwerthu. Fel y mae K.O. Morgan, yr hanesydd gwych, yn nodi, roedd gan Gymru reolaeth dros ei thafarndai cyn iddi gael rheolaeth dros ei heglwys, neu o leiaf cyn datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd, ac yn awr rydym yn mynd i weld setliad na fydd yn rhoi’r pŵer hwnnw i ni. Wrth fynd heibio, Lywydd, rwy’n cofio cymryd rhan yn y gyfres ddiwethaf o refferenda ar agor ar y Sul. Cafwyd pleidlais yng Nghaerdydd ym 1989, ac rwy’n credu mai dyna pryd y penderfynodd Ceredigion ganiatáu tafarndai i agor ar y Sul, er gwaethaf ymbil undeb y myfyrwyr yn Aberystwyth, a oedd yn elwa’n arbennig ar ddydd Sul ac yn hapus iawn gyda’r trefniadau mwy cyfyngedig. Ond, hynny yw, rwy’n credu ei bod yn hurt i ni beidio â chael pwerau dros drwyddedu. Hefyd, dylai trosglwyddo pwerau gweithredol ddilyn yr un drefn â Deddf yr Alban. Mae’n dal i fod yn ddirgelwch i mi pam nad yw hyn yn digwydd yn llawn hyd yn oed yn awr.
Ond a gaf fi dynnu nodi rhywbeth fel aelod o’r pwyllgor a chyn-gadeirydd? Y rhwystr gwirioneddol i setliad terfynol yw diffyg consensws gwleidyddol ar gwestiwn awdurdodaeth Gymreig. Rydym yn y sefyllfa ryfeddaf a mwyaf afreolaidd o ran model San Steffan, lle mae gennym ddeddfwrfa nad oes ganddi awdurdodaeth. Mae’n peri i rywun feddwl tybed beth rydym i fod i’w wneud yma os nad pasio deddfau er lles y bobl. Neu, o’i roi mewn ffordd arall: rydym mewn un awdurdodaeth sydd â dwy ddeddfwrfa. Mae hon yn ffordd ryfedd iawn o fwrw ymlaen, ac mae’n gwneud model cadw pwerau go iawn yn anodd iawn i’w ddarparu. Gellir gweld yr amharodrwydd i fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn yn fwyaf clir, rwy’n credu, mewn perthynas â phwerau plismona, lle mae plismona cymunedol ym mron pob un o’r systemau canoledig hyn, yn cael ei roi i’r sefydliadau datganoledig, ac yna caiff swyddogaethau plismona uwch eu cadw gan y wladwriaeth. Dyma sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, ac mae ar fin digwydd ym mhrif ddinasoedd Lloegr. Felly, byddwn yn cael ein goddiweddyd yn ein setliad ein hunain hyd yn oed.
A gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn credu bod modd gweithio ar y Bil hwn? Rwyf hefyd yn credu y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn ei le yn ôl pob tebyg. Ni fydd yn ‘bedwerydd Bil a dyna fo’, fel y dywedodd un aelod uchel iawn o’r farnwriaeth. Yn ôl pob tebyg, bydd rhaid i ni gael pumed Bil Llywodraeth Cymru. Ond er mwyn i’r Bil hwn weithio, bydd angen y cydweithio mwyaf effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganiatáu i’r ddeddfwrfa hon arfer y pwerau y mae pobl Cymru eisiau i ni eu cael. Diolch.
Hoffwn yn gyntaf ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar Fil Cymru ac am yr adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor. Mewn egwyddor, mae’r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, fel nododd y pwyllgor, mae’r Bil yn un cymhleth ac anhygyrch. Mae’r newid i fodel cadw pwerau felly yn cael ei danseilio gan y cymhlethdod hwnnw a chan nifer y cymalau cadw sydd wedi’u cynnwys yn y Bil. Mae’r pwerau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU mor niferus nes peri i rywun feddwl tybed pa feysydd o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n cael eu gadael i Gynulliad Cymru ar ôl ystyried yr holl gymalau cadw. Mae’r ffordd y mae’r cymalau cadw wedi’u drafftio yn eu gwneud yn agored i fod yn destun anghytundeb rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y DU o ran yr hyn sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Ni fydd yr oedi anochel tra bydd materion o’r fath yn cael eu datrys yn gymorth i sicrhau llywodraethu da ac effeithiol yng Nghymru. Mae’r ffaith nad yw’r cymalau cadw yn gwneud synnwyr mewn rhai achosion yn dangos diffyg sylw a diffyg meddwl ymlaen llaw ar ran Llywodraeth y DU. Mae’r ffaith fod cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei dynnu’n ôl mewn rhai achosion yn destun pryder mawr. Cytunaf yn llwyr â’r pwyllgor nad yw’r Bil hwn yn darparu setliad cyfansoddiadol parhaol ar gyfer Cymru. Efallai pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori’n iawn â’r Cynulliad hwn ar Fil Cymru, yn hytrach na gosod setliad datganoli newydd ar Gymru oddi fry fel petai, ni fyddem yn awr yn cyfarch y Bil hwn â marc cwestiwn mawr.
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod pŵer deddfwriaethol yn dychwelyd o Frwsel i’r DU yn rhoi cyfle euraidd i Gymru gael trafodaeth aeddfed â Llywodraeth y DU ynglŷn â rhannu cymhwysedd deddfwriaethol yn briodol rhwng deddfwrfa’r DU a’r Cynulliad. Cyflwynwyd rhecsyn i’r pwyllgor, ac aeth yr argymhellion ati’n lew i wnïo rhywbeth ystyrlon ohono. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU i fynd ati o ddifrif i ystyried argymhellion y pwyllgor. Serch hynny, yn fy marn i, mae angen ailfeddwl o’r bôn i’r brig ac ailysgrifennu’r Bil.
Rwy’n cydymdeimlo â’r Llywydd, sydd â’r dasg anodd o’n llywio drwy’r cawdel hwn o statud pan ddaw i rym. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn gydnabod y gwaith a wnaeth fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor. Fe ymdrechom yn galed iawn, ond hoffwn dynnu sylw at Huw Irranca-Davies a’i longyfarch ar gadeiryddiaeth y pwyllgor hwn a’r gwaith y mae wedi’i wneud—proffesiynol iawn, ac mae wedi creu argraff fawr arnaf. Diolch i chi, Huw.
Fel y sonioch, dyma’r pedwerydd Bil mewn 20 mlynedd, ac rwy’n credu mai’r cwestiwn y mae pawb ohonom yn ei ofyn yw: ai hwn fydd yr olaf? Yn sicr, mae Simon Thomas a David Melding wedi nodi y bydd pumed Bil. Wel, mewn gwirionedd, rwy’n credu bod hynny’n wir; mae’n rhywbeth y gallwn i gyd ei weld. Nawr, mae fy rhesymeg sy’n sail i hynny yn rhywbeth nad yw wedi cael ei grybwyll o bosibl, ond wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod yr hyn a ddigwyddodd ar 23 Mehefin a’r ffaith fod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n siŵr eich bod i gyd yn cwyno am fy mod yn cyfeirio at y mater hwnnw eto, ond y gwir amdani yw nad yw’r Bil hwn yn cydnabod hynny mewn gwirionedd. Nid yw’n cael ei gydnabod ynddo o gwbl ein bod yn mynd i gael rhai o’r meysydd a ddatganolwyd i Gymru yn dod yn ôl i ni, gobeithio, boed yn bysgodfeydd, ffermio neu gynhyrchu bwyd. Un o’r pethau y mae angen i ni ei wneud, yn sicr, yw hyn: fel deddfwrfa, mae angen i ni edrych ar y meysydd hynny a phenderfynu sut rydym am fwrw ymlaen gyda hwy, pa feysydd rydym am eu newid a pha ddeddfwriaeth yr UE rydym yn dymuno cael gwared arni, drwy’r Ddeddf ddiddymu fawr, a defnyddio’r cyfle hwn i newid er gwell er mwyn pob un ohonom.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod y penderfyniad a wnaed ar y trydydd ar hugain, a dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais iddo ynglŷn â’r polisi pysgodfeydd, fod angen i Gymru ddatblygu ei pholisi pysgodfeydd ei hun pan fydd y DU yn gadael yr UE er mwyn diogelu ffyniant diwydiant pysgota Cymru a’n cymunedau arfordirol yn y dyfodol. Nawr, rydym yn gadael yr UE, ac mae hwn yn gyfle euraidd i ni ddatblygu ein polisïau a’n deddfau ein hunain ac i fynd ar drywydd buddiannau Cymru a ffyniant Cymru. Felly, mewn gwirionedd, o’r hyn a welaf fi, ac rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod hyn, bydd angen diwygio’r Bil o fewn ychydig fisoedd, mewn gwirionedd, er mwyn i ni ddechrau, ar ôl rhoi proses erthygl 50 ar waith.
Mae un maes arall sy’n peri rhywfaint o broblem i mi, yn bersonol, a hoffwn ddyfynnu geiriau’r Arglwydd Hain o Hansard, a ddywedodd, wrth sôn am y Bil:
Yn y cyfamser, fy ngwrthwynebiad mawr arall yw bod Cymal 17 o’r Bil hwn yn dileu adrannau o Ddeddf Cymru 2014—ddwy flynedd yn ôl yn unig—sy’n cadw’r gofyniad sydd wedi bodoli ers 1997 fod angen cynnal refferendwm i weithredu’r pwerau i amrywio treth incwm o dan y Ddeddf honno.
Ac yna aiff rhagddo i ddweud nad oedd ail gwestiwn o gwbl yn y refferendwm yn gofyn a oedd pobl eisiau datganoli treth incwm ai peidio. Aiff ymhellach i ddweud y byddai
datganoli pwerau treth incwm i Gymru yn galw am refferendwm arall fel y cafodd yr Alban ar dreth incwm.
Cytunaf yn llwyr â Peter Hain yn ei asesiad o hynny. Diolch.
‘Nid wyf yn gweld y setliad yma mewn unrhyw ffordd yn fwy parhaol na’r lleill.... Tan i ni gyrraedd y pwynt o gael rhyw fath o awdurdodaeth arbennig ar gyfer Cymru, nid wyf yn credu y bydd y broses o ddatganoli wedi dod i ben. Ond, eto rwy’n teimlo bod y modd y mae’r materion sy’n cael eu cadw’n ôl yn cael eu delio â nhw yn y Bil yma eto yn rhywbeth sydd yn sefyllfa dros dro, nid yn sefyllfa barhaol mewn unrhyw ffordd.’
Nid fy ngeiriau i, ond geiriau’r cyfreithiwr cyfansoddiadol disgleiriaf yng Nghymru. A sut ydw i’n gwybod mai fo ydy’r disgleiriaf yng Nghymru? Wel, mae o’n athro cyfraith er anrhydedd ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, a gallwch chi ddim mynd yn uwch na hynny.
Mae’r Athro Thomas Glyn Watkin a’r rhai eraill a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ar y Bil yma wedi dangos yn gwbl glir yr holl ddiffygion sydd wedi cael eu hailadrodd yn y Bil yma, oherwydd roedd hi’n amlwg o’r dechrau, pan gynigiwyd y Bil drafft gwreiddiol, pa lwybr roeddem ni’n ei ddilyn, sef llwybr o symud o bwerau wedi eu gosod i bwerau wedi eu cadw nôl. Ond, i mi, nid dyna oedd y cwestiwn; y cwestiwn bob tro oedd: sawl eithriad sydd yna? A’r peth allweddol i mi yw cymharu’r eithriadau sydd yn neddfwriaeth ddatganoli’r Alban a deddfwriaeth ddatganoli Gogledd Iwerddon a gweld beth yw’r rheswm, a holi—ac rwy’n dal i ofyn hyn: beth yw’r rheswm cyfansoddiadol pam fod Cymru yn gorfod cael ei thrin yn wahanol? Fe ofynnais i’r cwestiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol cynt, a gofyn iddo fo os oedd o wedi darllen y cymal priodol yn Neddf Gogledd Iwerddon sydd yn cynnwys eithriadau, achos nid oes yna ddim—fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn—ond ychydig iawn o eithriadau, ac mae’r eithriadau yng Ngogledd Iwerddon i bwerau cadwedig yn rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth a senedd Gogledd Iwerddon er mwyn iddyn nhw allu delio â’r weriniaeth ar yr un telerau. Hynny yw, nid eithriadau i rwystro pobl rhag gwneud pethau, ond eithriadau i’w galluogi nhw i wneud rhywbeth.
Felly, mae’n amlwg i mi nad yw’r model rydym wedi bod yn ei ddilyn i ddatblygu datganoli—. Rwy’n llongyfarch y Cadeirydd newydd ar ei waith, a fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor, pan roeddwn i arno fo, ac rwy’n falch ei fod wedi gwneud y pwynt yma, ac mae hwn yn bwynt allweddol: mae’n rhaid inni ddod i sefyllfa lle rydym yn gallu cyd-ddeddfu gyda San Steffan. Ac, os caf i ddweud, fe wnaethom ni hynny yr wythnos o’r blaen, pan, o dan arweiniad y Cadeirydd, fe aethom ni i gwrdd â chyfeillion sy’n aelodau o Bwyllgor Cyfansoddiadol yr ail Dŷ yn San Steffan. Nid wyf erioed wedi teimlo’n falchach o fod yn Aelod o’r Cynulliad yma—ac rwy’n digwydd bod, hefyd, oherwydd y gorffennol, yn Aelod o’r ail Dŷ yn San Steffan—oherwydd roedd ein perfformiad ni yn y pwyllgor yna gystal ag unrhyw wleidyddion, gystal ag unrhyw ddeddfwyr yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw fan yn Ewrop—lle rydw i wedi bod, beth bynnag. Ac eto, dyma ni’n cael ein cyfyngu rhag gwneud y gwaith deddfu ein hunain.
Nawr, rwyf wedi manteisio ar waith y pwyllgor yma ac wedi gosod nifer o welliannau drafft fydd yn cael eu trafod yn y Cyfnod Pwyllgor yn yr ail Dŷ yr wythnos ar ôl nesaf, ac mi fydd fy nghyfaill y farwnes goch o Drelái yna efo fi. Nid wyf i’n gwybod beth yw ei theimlad hi, ond nid wyf i’n obeithiol iawn y bydd y Llywodraeth yn gwrando. Nid wyf i’n obeithiol iawn, o’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda’r Llywodraeth, bod ganddynt wirioneddol ddiddordeb mewn ymateb i’r hyn rydym ni’n ei wneud, sydd yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â’r rhagfarnu yn erbyn y tŷ hwn yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid inni geisio ffyrdd cwbl wahanol o ddelio â chwestiynau cyfansoddiadol, ac mae’n rhaid i hynny olygu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn fy marn i, yn gallu cyd-ddeddfu bob amser ar ei chyfansoddiad ei hun gyda San Steffan ac unrhyw le arall.
Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hon a chydnabod hefyd y newid a fu yn UKIP? Rwy’n dweud hynny mewn termau sy’n hollol niwtral wrth blaid nad oedd, ar un adeg, o blaid datganoli. Heddiw, clywsom UKIP yn dweud nad yw’r Bil yn ddigonol ac yn dweud o ddifrif fod angen i’r sefydliad hwn gael mwy o eglurder a mwy o bwerau. Ac rwy’n cydnabod hynny.
Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid cymharu’r Bil hwn â’r Bil gwreiddiol. Gwnaeth y Bil gwreiddiol lanast llwyr o ganlyniad refferendwm 2011. Dywedir y dylid parchu refferenda, ac rwy’n cytuno â hynny, ond i rai yn Whitehall, ymddengys eu bod yn cael eu parchu pan fydd hynny’n gyfleus iddynt hwy.
Byddai’r Bil hwnnw yn wreiddiol wedi golygu y byddem wedi colli’r pŵer i ddeddfu yn ôl ewyllys pobl Cymru a fynegwyd yn gryf iawn yn 2011. Mae’r Bil hwn yn well; byddai’n anodd iddo fod yn waeth, ond mae, er hynny, yn well. Mae yna rai rhannau o’r Bil y byddai’r Aelodau, rwy’n siŵr, yn cytuno â hwy. Rydym yn cael rheolaeth sylweddol ar ein cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cynulliad, o ran y niferoedd, o ran dull o ethol ac wrth gwrs, o ran ein gallu i lywodraethu ein hunain fel sefydliad, yn hytrach na chael eraill i ddweud wrthym sut y dylem lywodraethu ein hunain. Mae’n cynnwys cryn dipyn o ddatganoli cyfraith trosedd; mae’n gwneud cynnydd mewn perthynas â dŵr—peth cynnydd—ynni a meysydd eraill y bydd yr Aelodau’n gyfarwydd iawn â hwy. Ond wrth gwrs, mae yna feysydd eraill nad ydynt yn cael eu trin yn briodol, sy’n golygu ei bod yn gwbl anochel y bydd yn rhaid mynd i’r afael â Bil arall yn y dyfodol. Ac mae’n drueni, oherwydd yn hytrach na gweithredu fel iâr or-ffyslyd â’i chywion, gallai Llywodraeth y DU ddangos gweledigaeth mewn gwirionedd drwy gyflwyno setliad a fyddai’n fwy parhaol ac yn fwy cadarn. Nid dyna’r ffordd y maent yn gweithredu yn San Steffan, yn anffodus.
Dau beth yn benodol sydd wedi achosi pryder i’r Aelodau yw’r awdurdodaeth a phlismona. Nid yw’n gydlynol i gael un awdurdodaeth gyda dwy ddeddfwrfa ynddi. Dyma’r unig le yn y byd sydd â system fel hon ac nid yw’n un gadarn. Pam rwy’n dweud hynny? Oherwydd gyda datganoli cyfraith trosedd sylweddol, bydd yn golygu y bydd yn berffaith bosibl i rywun gael eu harestio yng Nghaerdydd yn y dyfodol am drosedd nad yw’n drosedd yng Nghymru. Bydd yn berffaith bosibl i rywun dreulio amser yn y carchar yn Lloegr am drosedd nad yw’n drosedd yn Lloegr. Eisoes, dywedwyd wrthyf—yr Arglwydd Brif Ustus a ddywedodd hyn wrthyf—fod cyfreithwyr wedi dod i lysoedd yng Nghymru a dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn credu bod un awdurdodaeth yn golygu un gyfres o ddeddfau. Mae’r dryswch hwn yn sicr o barhau yn y dyfodol. Oherwydd y methiant i ddatganoli’r heddlu, rydym hefyd mewn sefyllfa lle bydd y rhan fwyaf o’r gyfraith sy’n rheoli trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli—yn wir, bydd y rhan fwyaf o gyfraith trosedd wedi’i datganoli—ond ni fydd yr asiantaethau sy’n gyfrifol am erlyn a gorfodi’r gyfraith honno wedi’u datganoli. Nawr, nid yw hynny’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, fel y gwêl yr Aelodau yn y dyfodol.
Ar fater trwyddedu, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod o’r farn fod trwyddedu’n fater iechyd. Nid oedd Llywodraeth y DU yn derbyn hynny; dywedasant ei fod yn fater trefn gyhoeddus. Eto i gyd, bellach, bydd y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli, ond ni fydd trwyddedu’n cael ei ddatganoli. Felly, mae’r rhesymeg sy’n sail i’r methiant i ddatganoli trwyddedu yn diflannu. Dyna’r broblem: nid oes rhesymeg yn y Bil hwn o gwbl. Pam y dylai’r Alban gael rheolaeth ar doll teithwyr awyr, ac nid Cymru? Gwn yr ateb i’r cwestiwn hwnnw: maent yn gresynu eu bod wedi rhoi rheolaeth dros doll teithwyr awyr i’r Alban yn y lle cyntaf. Nid ydynt am sicrhau ein bod ni’n cael yr un hawliau dros eu crogi. Pam y mae porthladdoedd yn cael eu datganoli, ac eithrio porthladd cytundeb Aberdaugleddau? Y rheswm, mewn gwirionedd, yw oherwydd y llif o nwy naturiol hylifedig i’r porthladd. Rwyf wedi cael gwybod hynny gan Lywodraeth y DU: ‘Wel, mae’n rheoli 25 y cant o’r nwyon naturiol hylifedig’. Fel pe baem am roi stop arno. Pam y ceir pŵer ymyrryd mewn perthynas â dŵr, sy’n negyddu unrhyw beth y gallai’r Cynulliad fod eisiau ei wneud yn y dyfodol? Byddai’r pŵer ymyrryd hwnnw’n golygu na allem gael rheolaeth dros ein hadnoddau dŵr; byddai’n golygu y gellid gorfodi Tryweryn arall arnom. Nid yw hynny’n iawn o ran yr angen i gael perthynas aeddfed rhwng Llywodraethau. Unwaith eto, mae’n ymwneud â’r ffaith fod ganddynt obsesiwn â’r syniad y byddwn, mewn rhyw ffordd, yn cau’r tapiau os oes gennym reolaeth dros ddŵr. Rwyf wedi cael profiad o hyn. Pan oeddwn yn Weinidog yr amgylchedd, roeddem eisiau rhoi’r ffin wleidyddol yn ei lle ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Y ddadl a daflwyd yn ôl atom oedd, ‘Ie, ond efallai y byddwch yn gwneud rhywbeth i afon Hafren yn y Drenewydd a fydd yn achosi llifogydd yng Nghaerloyw.’ Nawr, pam y cawn ein gweld fel rhyw fath o bŵer gelyniaethus, nid wyf yn gwybod, ond dyna’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gweld pethau weithiau. Mae’n drueni, oherwydd, fel rwy’n dweud, mae cyfle yma i wneud pethau’n iawn.
Mae’n anochel, rwy’n credu, y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys yn y pen draw, ac mae hynny, unwaith eto, yn tanseilio’r ddadl fod hwn yn setliad parhaol yn seiliedig ar gytundeb Dydd Gŵyl Dewi, nad yw’n gytundeb ac ni fu’n gytundeb erioed. Unwaith eto, rydym mewn sefyllfa lle nad oes rhesymeg yn sail i’r cwestiwn pam fod rhai meysydd yn cael eu cadw’n ôl a meysydd eraill yn cael eu datganoli.
Ar fater cosb resymol, nid wyf yn credu y bydd yn amharu ar ein gallu i fynd i’r afael â hynny, gan ei bod yn eithaf amlwg i mi y bydd trosedd ymosod cyffredin wedi’i datganoli’n gyfan gwbl ac felly bydd yr amddiffyniadau’n dilyn hynny. Byddwn yn gallu gosod ein llwybr ein hunain mewn perthynas â’r drosedd honno.
Mae’n gywir dweud bod yna rai meysydd lle mae datganoli’n mynd am yn ôl—meysydd fel cyflogaeth, er enghraifft, a meysydd lle bydd angen cydsyniad Gweinidog y Goron o hyd mewn meysydd nad ydynt mor bwysig â hynny mewn gwirionedd, ac mae’n anodd dirnad pam eu bod i’w gweld mor bwysig i Whitehall.
Ar rai o’r materion eraill a grybwyllwyd gan yr Aelodau, mae’r materion a nododd Nathan Gill yn rhai pwysig. Pysgodfeydd môr—eto, oherwydd y penderfyniad i adael yr UE, mae angen mynd i’r afael â nifer o bethau. Yn gyntaf oll, gyda physgodfeydd môr, mae gennym reolaeth dros y terfyn 12 milltir, ond nid y tu hwnt i hynny. Mae’r rheolaeth honno gan bawb arall: mae’r rheolaeth honno gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ond nid Cymru. Nawr, yn nyddiau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, nid oedd o bwys mewn gwirionedd. Mae’n bwysig yn awr, oherwydd mae’n amharu ar ein gallu i gael polisi pysgodfeydd priodol sy’n galluogi fflyd bysgota Cymru i gael mynediad cynaliadwy i ddyfroedd Cymru. Ni fydd hynny’n bosibl fel y mae pethau. Bydd Llywodraeth y DU o’r farn fod y pwerau a fydd yn dychwelyd o Frwsel yn mynd i San Steffan yn y pen draw. Nid yw hynny’n wir. Os cânt eu datganoli, byddant yn osgoi San Steffan ac yn dod yn syth yma, a’r pryder sydd gan rai ohonom yw y gwneir ymgais i atal hynny rhag digwydd, rywsut, gyda ffermio a physgodfeydd. Fel arall, wrth gwrs, byddent yn cael eu datganoli’n awtomatig.
Ar y refferendwm, yr hyn rwyf wedi’i ddadlau bob amser yw hyn: mewn rhai ffyrdd, mae’r ddadl wedi symud ymlaen. Mae gan yr Alban bwerau cyllidol llawer cryfach na’r hyn sydd gennym ni, ac mae hynny wedi digwydd heb refferendwm. O ganlyniad i hynny, nid wyf yn gweld yr angen am refferendwm yng Nghymru bellach, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban a’r pwerau sydd wedi’u datganoli yno.
Mae’n rhaid i ni ddeall nad ydym eto mewn sefyllfa yn y DU lle mae Llywodraeth y DU, a dweud y gwir yn blaen, yn ddigon aeddfed i drin y Llywodraethau eraill yn y DU gyda pharch. Yn y Bil hwn, mae llawer o bethau y gellir eu cefnogi; mae yna bethau eraill a fydd yn achosi pryder mawr i’r Aelodau. Byddwn yn cynnig gwelliannau fel Llywodraeth i adlewyrchu pryder yr Aelodau mewn ymgais wirioneddol i wella’r Bil, er mwyn ei wneud yn gliriach i ni ddeall yn iawn beth yw’r ffiniau rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn nad yw wedi’i datganoli, gan barchu canlyniad refferendwm 2011. Rydym yn aros i weld beth fydd safbwynt Llywodraeth y DU ar hynny. Mae ein cefnogaeth i’r Bil yn parhau i fod yn amodol ar yr hyn y byddwn yn ei weld yn dod drwy’r gwahanol gamau yn Nhŷ’r Arglwyddi. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried barn, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond pobl eraill, mewn pleidiau eraill o amgylch y Siambr hon, ac yn gweithio o ddifrif i sicrhau bod hwn yn Fil sy’n diwallu anghenion cyfansoddiadol Cymru, sy’n cydnabod y farn a fynegwyd gan bobl Cymru yn 2011 ac yn fwy na dim arall, sy’n golygu na fydd yn rhaid i ni ddod yn ôl eto mewn ychydig flynyddoedd i ddadlau yr un pwyntiau drosodd a throsodd. Mae hynny wedi’i golli hyd yn hyn ac rwy’n gobeithio na fydd yn cael ei golli yn y dyfodol. Mae’r neges wedi mynd yn glir o’r Cynulliad hwn heddiw, o bob ochr i’r Cynulliad: mae gwaith i’w wneud o hyd i gynhyrchu Bil sy’n dderbyniol.
Rwy’n galw ar Huw Irranca-Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwyf wedi fy synnu gan y ffaith fod cymaint o gonsensws. Efallai fod gwahaniaethau o ran pwyslais a naws, ond y consensws, fel y’i mynegwyd gan y Prif Weinidog yn awr, yw y byddwn, yn gyntaf, yn ôl yma eto, ac yn ein hadroddiad, rydym wedi dweud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ond hefyd, nodaf fod y Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn anochel y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys. ‘Does bosibl mai dyna yw diben setliad deddfwriaethol a chyfansoddiadol da a chlir.
Ar un manylyn, Lywydd, o ran y mater a nododd Julie Morgan, gall fod yn rhywbeth unwaith eto rydym am geisio eglurhad yn ei gylch oherwydd, yn sicr, roedd y dystiolaeth a gawsom gan bobl fel Emyr Lewis yn—wel, fe’i dyfynnaf:
‘rwy’n credu ei bod hi’n eithaf eglur ar hyn o bryd bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i gael gwared ar yr amddiffyniad mewn achos o ymosod ar blentyn o gystwyo rhesymol… Pe bai’r Bil yma’n dod yn Ddeddf, rwy’n credu y byddai hynny’n diflannu, oherwydd y newidiadau mewn perthynas â chyfraith droseddol.’
Ond y ffaith syml yw na ddylem orfod ceisio osgoi hyn a cheisio egluro, yn y dryswch hwn, beth sy’n digwydd. Dyna beth y mae’r Bil hwn yn ei wneud i ni.
Ond rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae Simon Thomas, gyda’r cyfraniad yma, wedi cyffwrdd ar y parch rhwng dau sefydliad aeddfed. Efallai ein bod yn sefydliad ifanc, ond rydym yn alluog, rydym yn hyderus, mae gennym gorff o gyfreithiau, ac mae gennym gorff o ddeddfwyr. Wrth ddatblygu cyfraith gyfansoddiadol—mae’n bwynt a wnaethom yn glir iawn—mae angen i ni weithredu gyda mwy o gydbwysedd wrth ei datblygu, a mwy o gydbwysedd yn y canlyniadau rhwng y ddwy Lywodraeth, a’r Cynulliad a’r Senedd, ac yn y blaen. Fel y gwnaeth eraill, amlygodd y perygl o golli pwerau sydd gennym eisoes, mater rydym wedi tynnu sylw ato. Soniodd am ddyfyniad Charles Parnell. Os oes gennyf amser, efallai y ffeiriaf ddyfyniad gan rywun arall gydag ef yn y man.
A gaf fi dalu fy nheyrnged fawr i gyn-gadeirydd y pwyllgor hwn, David Melding, ac am ei gyfraniad i hyn hefyd? Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael pwyllgor ymrwymedig iawn. Mae pob un o aelodau’r pwyllgor wedi cyfrannu, ond yn sicr mae profiad rhai Aelodau hŷn sydd wedi cadeirio’r pwyllgor hwn, neu sydd â phrofiad hir o faterion cyfansoddiadol, wedi bod o fantais fawr i’r pwyllgor. Ategaf ei sylwadau, a’i sylwadau am ein tîm cymorth a’r clercod yn ogystal, a hefyd ei sylwadau ar elfennau da’r Bil. Rwy’n gwbl argyhoeddedig, os gellir addasu’r Bil wrth iddo fynd ar ei daith, mae’n werth tynnu sylw at elfennau da’r Bil hwn. Ond mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r bobl yn ‘y lle arall’, fel roeddem yn arfer ei alw yn San Steffan—yn Nhŷ’r Arglwyddi—ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod y camau olaf i wneud y gwelliannau angenrheidiol hynny. Ond fe ellir ei wella. Mae’n werth ei wella yn yr wythnosau i ddod sy’n weddill.
Diolch hefyd i Michelle Brown a oedd yma am y rhan fwyaf o’r Bil hwn, ac mae hi wedi cyffwrdd ar yr angen am gydweithredu i ddatblygu setliad cyfansoddiadol. Mae’n thema allweddol yn ein gwaith. Dywedodd Nathan fod pumed Bil yn realiti yn eithaf buan. Mae hynny’n hollol gywir, ac mae yna gonsensws ynglŷn â hynny ymhlith yr holl gyfranwyr heddiw. Nid hwn yw’r setliad parhaol a chadarn. Nid yw’n agos at fod, ond efallai y gallwn symud ychydig gamau ymlaen os gallwn roi’r gwelliannau hyn ar waith.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn parhau ei ymwneud â hyn ar ben arall yr M4 neu reilffordd y Great Western, ‘Os ydym am gael model cadw pwerau, gadewch i ni gael model cadw pwerau priodol’. Nid wyf am ddweud pwy, ond rwy’n siŵr fod un o aelodau fy mhwyllgor, pan aethom i bwyllgor cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi, wedi dweud ‘Gadewch i ni gael model cadw pwerau yn hytrach na model gwrthdroi pwerau’.
Cafwyd consensws cryf heddiw. Gadewch i mi, wrth gloi, ddweud yn fyr iawn fod un o’r enghreifftiau diddorol yn ymwneud â thraffig ffyrdd. Mae’n enghraifft sy’n pwysleisio cymaint o bethau sy’n annigonol yn y Bil. Mae’n ymddangos y gallai’r Cynulliad basio deddfwriaeth sy’n pennu terfyn cyflymder ar ffordd, ond ni fyddai’n gallu pennu trosedd traffig ffyrdd y byddai torri’r terfyn cyflymder hwnnw’n ei thramgwyddo. Mae hynny’n hurt. Felly, wrth gloi, a gaf fi rannu meddyliau un tyst gyda chi, Dr Diana Stirbu, a wnaeth sylwadau huawdl a oedd yn taro tant yn y pwyllgor? Meddai,
dylai setliad cyfansoddiadol fod yn uchelgeisiol hefyd. Ac rwy’n credu mai’r hyn rydym yn methu â’i weld yw uchelgais a dyhead clir ar gyfer statws cyfansoddiadol Cymru a sut y bydd Cymru’n cael ei hail-leoli’n gyfansoddiadol o fewn y DU.
Mae hyn yn adleisio sylwadau a wnaeth Prif Weinidog Cymru ac eraill yn flaenorol. A dywedodd,
‘rwy’n credu bod cyfansoddiadau yn cyfleu negeseuon ynglŷn â pha fath o wleidyddiaeth rydych yn ei harfer mewn gwlad, pa fath o gymdeithas yr hoffech fyw ynddi, pa fath o ddyheadau sydd gennych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. A’r holl negeseuon hyn, symbolaidd neu beidio, ar lefel ddatganiadol neu ar lefel dechnegol iawn—credaf y dylai’r cyfansoddiad fynd ymhellach na mynegiant technegol a chyfreithiol o realiti gwleidyddol yn unig.’
Rwyf fi a holl aelodau’r pwyllgor yn wirioneddol ddymuno’r gorau i’r Bil hwn. Rydym yn gobeithio y caiff ei wella fel y bydd angen, ond byddwn yn ôl yma’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae angen i ni weithio ar y cyd i gyflawni’r setliad clir, ymarferol a pharhaol hwnnw sydd ei angen, nid yn unig ar Gymru, ond ar y DU hefyd.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw’r cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Y bleidlais felly ar ddadl Plaid Cymru. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais.
Cau’r bleidlais. O blaid saith, 44 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i wrthod.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 44, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6121.
Mae’r bleidlais nesaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Rydw i’n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi’i wrthod.
Gwrthodwyd gwelliant 1: O blaid 17, Yn erbyn 34, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6121.
Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd gwelliant 2: O blaid 27, Yn erbyn 13, Ymatal 11.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6121.
Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6121 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ‘wan ac anghyson’, ac wedi’u nodweddu gan ‘ddiffyg uchelgais’, fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio’r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, 11 yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 6, Ymatal 11.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6121 fel y diwygiwyd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
A gaf fi ofyn i’r Aelodau, os ydynt yn gadael y Siambr, a allant wneud hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Diolch.
Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Neil McEvoy i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis, sef gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored. Neil McEvoy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lobïo yng Nghymru—nid rhywbeth y dylem ei drafod yw hwn; mae’n rhywbeth y mae angen i ni ei drafod. Fy nod heddiw yw ailagor y ddadl a ddechreuwyd yma ar lobïo rai blynyddoedd yn ôl. Er lles iechyd democratiaeth Cymru, mae’n rhaid i ni reoleiddio lobïo masnachol a dod ag ef allan o’r cysgodion. Mae’n rhaid i ni warchod sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae lobïo yn ddiwydiant sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ddiweddar. Yn y DU, mae’n werth £2 biliwn a mwy bellach. Dylai’r swm hwnnw o arian yn unig ddweud wrthym fod angen rheoleiddio. Yn y Cynulliad blaenorol, cyflawnodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad adolygiad o lobïo, ond roedd yr argymhellion yn wan a methodd â darparu unrhyw fath o drefn reoleiddio. Mae’r Prif Weinidog yn credu nad oes angen rheolau ar gyfer lobïwyr. Ymddengys bod hyn yn rhan ehangach o’r diwylliant yn y Cynulliad, gan wrthod cydnabod y lobïo sy’n digwydd yma. Aeth y Llywydd diwethaf mor bell ag ysgrifennu at San Steffan i ofyn iddynt hepgor Cymru o unrhyw ddeddfwriaeth ar lobïo. Dywedodd, a dyfynnaf,
‘nad ydym ni’n wynebu’r un math o faterion negyddol ynghylch cael mynediad at aelodau etholedig ag y mae San Steffan yn eu hwynebu.’
Wel, o fy amser byr yn y Cynulliad yma, mae’n glir i mi ein bod yn wynebu’r un materion. Mae fy ngheisiadau am ddyddiaduron Gweinidogion wedi cael eu gwrthod. Rwy’n credu bod hynny’n werth ei ddweud eto: Gweinidogion Cymru yn gwrthod datgelu pwy maent yn eu cyfarfod. Pam? Pam hynny? Mae’n amhosibl gweld y galwadau a wneir gan Weinidogion ar eu ffonau cyhoeddus—eu ffonau cyhoeddus—y talwn amdanynt.
Yn yr hydref, honnodd chwythwr chwiban dienw fod penderfyniad wedi’i wneud i beidio â chymeradwyo cyllid Llywodraeth Cymru i GlobalWelsh. Cafodd y busnes wybod am hyn drwy lythyr dyddiedig 5 Gorffennaf. Honnwyd bod y lobïwr, na fyddaf yn ei enwi ar y cam hwn, wedi cysylltu â’r Gweinidog a’i fod ef wedi gwrthdroi ei benderfyniad. Dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw waith papur na dadansoddiad i gefnogi unrhyw newid o’r fath. Ar 7 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hysbysiad penderfynu yn datgan bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i gefnogi sefydlu cwmni buddiannau cymunedol, GlobalWelsh, i ddatblygu rhwydwaith, ac mae hynny i’w weld yn gwrthddweud llythyr 5 Gorffennaf braidd. Ymddengys bod y chwythwr chwiban yn gywir o ran bod y cais rhyddid gwybodaeth yn dangos nad oedd unrhyw sail ar bapur dros unrhyw newid penderfyniad. Nawr, nid wyf yn honni bod unrhyw ddrygioni yma; yr hyn rwy’n ei gredu yw bod y math hwn o honiad yn dangos bod angen mawr am fwy o dryloywder ac ymagwedd agored. Bydd rheoleiddio’n amddiffyn pawb—lobïwyr, Gweinidogion a’r cyhoedd.
Ar ôl mis Mai 2011, pan oeddwn yn ddirprwy arweinydd cyngor Caerdydd, methais gael cyfarfod â’r Gweinidog—methu’n llwyr â chael cyfarfod. Ac roedd pobl sy’n gwybod am beth y maent yn sôn yn dweud wrthyf y gellid trefnu cyfarfod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru pe baech yn talu £3,000 i gwmni lobïo. Nawr, rwy’n pwysleisio nad yw’r arian hwn yn mynd i’r gwleidydd, mae’n mynd i’r cwmni lobïo. Felly, rwy’n honni bod ‘arian am fynediad’ yn bodoli ym Mae Caerdydd. Ac rwy’n herio unrhyw Weinidog yma, unrhyw Weinidog sy’n bresennol, i ddweud ar gyfer y cofnod nad oes unrhyw lobïwr erioed wedi hwyluso’r ffordd i rywun gael eu cyflwyno iddynt. Ni allant ei ddweud, yn fy marn i. Felly, mae’r ffaith fod y cyn-Lywydd wedi honni nad oes lobïo o natur arbennig yn digwydd yma nid yn unig yn anghywir ond yn eithaf sarhaus i’r Cynulliad a’r cyhoedd yng Nghymru. Dywedodd y Llywydd blaenorol hefyd mai’r Cynulliad a ddylai benderfynu sut i reoleiddio lobïo, ac rydym yn cytuno ar hynny. Ond hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw ddeddfwriaeth. Nid wyf yn credu mai pwynt cael ein hepgor o ddeddfwriaeth San Steffan oedd gadael Cymru heb ddiogelwch o gwbl, ond yn hytrach, er mwyn i ni allu wynebu’r diwydiant lobïo sy’n amgylchynu’r sefydliad hwn a chyflwyno deddfwriaeth ein hunain ar lobïo sy’n arwain y byd.
Mae angen i ni gyrraedd lle yn y Cynulliad lle mae’n agored i’r cyhoedd, ond lle nad yw’n llydan agored i lobïwyr. A dyna pam rwy’n cynnig bod y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth ar lobïo gyda chofrestr o lobïwyr a fydd yn cyflawni tri pheth. Byddem yn gwybod yn syml pwy yw’r lobïwyr gan y byddai’n rhaid iddynt arwyddo’r gofrestr. Byddem yn gwybod pwy sy’n lobïo pwy ac am beth, felly pe bai lobïwr cofrestredig yn cyfarfod â Gweinidog y Llywodraeth, byddai hynny’n cael ei gofnodi’n swyddogol, a byddai diben y cyfarfod yn hysbys. Yn drydydd, dylem wybod faint sy’n cael ei dalu i’r cwmni lobïo am gael mynediad. Mae hynny’n hollbwysig. Os na wnawn hyn, yna bydd lobïo’n parhau i ddigwydd yn y cysgodion, sy’n rysáit ar gyfer llygredd.
Yn ystod dadl refferendwm yr UE, roedd llawer yn ystyried nad oedd yr UE yn rhywbeth ar eu cyfer hwy. Mae 30,000 o lobïwyr ym Mrwsel—a 75 y cant o ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn cael ei heffeithio ganddynt. Ac o’r hyn rwyf wedi ei ddysgu gan bobl sy’n gweithio ym Mrwsel, mae’n amhosibl i unrhyw un o unrhyw bwys newynu amser cinio gan fod cymaint o brydau am ddim, ciniawau am ddim, diolch i gardiau busnes y lobïwyr—eu cardiau credyd busnes. A phe baem yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn refferendwm yr UE, yn amlwg yng Nghymru, mae ar raddfa lai yn y fan hon. Ond pe baech yn edrych ar Blaid Diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r gefnogaeth a gawsant, yna dylai fod yn destun pryder, oherwydd ni allwn gymryd pethau’n ganiataol, ac ni allwn anwybyddu swigen y diwylliant lobïo yn y Bae.
Mewn sawl ffordd, mae Cymru’n hollol agored i lobïo—rydym yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ein hunain, y system ysgolion hefyd, rydym yn llunio deddfau. Rydym yn ffodus ar hyn o bryd oherwydd bod cwmnïau lobïo wedi bod â mwy o ddiddordeb yn Lloegr nag yng Nghymru. Ond pan fyddant wedi dod i ben â phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus Lloegr, ble y byddant yn troi eu golygon nesaf? Ac mae’n destun pryder fod lobïwyr sydd wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru wedi cael cryn lwyddiant. Yn 2013 aeth Llywodraeth Cymru ati i gyflwyno targedau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, gyda gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon. Yn awr, yn lle hynny, dewisodd y Llywodraeth yr opsiwn o 8 y cant yn unig ar ôl lobïo dwys gan y datblygwyr tai. Ar y pryd, dywedodd Cyfeillion y Ddaear yn gyhoeddus eu bod wedi’u rhyfeddu gan y ffordd roedd y datblygwyr wedi cerdded dros Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod datblygwyr mawr, fel Persimmon Homes, yn gleientiaid i lobïwyr yng Nghaerdydd, a dyna pam ein bod angen cofrestr.
Mae’n wir fod rhai cwmnïau lobïo’n cofrestru’n wirfoddol gyda’r Gymdeithas Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol, ond mae cipolwg cyflym ar y gofrestr yn dangos beth rydym yn ei wynebu. Caiff Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain ei chynrychioli gan lobïwyr. Maent wedi bod yn dadlau yn erbyn unrhyw fath o dreth siwgr, sy’n gynnig allweddol ym maniffesto fy mhlaid i ddarparu 1,000 o feddygon ychwanegol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn annog gwledydd i gyflwyno’r dreth hon. Mae Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain hefyd wedi brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i wahardd gwerthu diodydd egni melys iawn sy’n cynnwys caffein i blant.
Y broblem gyda chofrestr wirfoddol yw mai ychydig a wyddom am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd a phwy sy’n dylanwadu ar ba benderfyniad. Dangosodd y chwalfa fancio nad yw hunanreoleiddio’n gweithio o gwbl. Mae llawer o gwmnïau hefyd yn gweithredu ledled y DU, sy’n golygu ei bod yn amhosibl gwybod a ydynt yn dylanwadu ar Ogledd Iwerddon, yr Alban neu’n wir, Cymru. Un o’r agweddau mwyaf peryglus ar lobïo yw’r drws tro sydd wedi sefydlu rhwng y Cynulliad hwn a’r cwmnïau lobïo sy’n ceisio dylanwadu arno. Mae’r cwmnïau hyn wedi’u llenwi fwyfwy ag wynebau cyfarwydd—cyn-Aelodau Cynulliad, cynghorwyr arbennig, cyn-swyddogion y Llywodraeth—a dylem i gyd sylweddoli bod gwybodaeth yn gyfrwng gwerthfawr, ac o’i chael, weithiau’n anffurfiol, caiff ei gwerthu i’r sawl sy’n cynnig fwyaf amdani.
Un o’r dadleuon a wnaeth lobïwyr yn erbyn y gofrestr yng Nghymru yn adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad oedd ei bod yn amhosibl diffinio beth yw lobïwr. Ond mae cofrestri lobïwyr gorfodol yn bodoli mewn sawl gwlad. Mae gan Lywodraeth Awstralia ddeddfwriaeth sy’n golygu bod, a dyfynnaf,
rhaid i unrhyw lobïwr sy’n gweithredu ar ran cleientiaid trydydd parti at ddibenion lobïo cynrychiolwyr y Llywodraeth fod wedi cofrestru ar y Gofrestr Lobïwyr ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Cod Lobïo.
Dyna’r gyfraith.
Mae Tŷ’r Cyffredin Canada wedi ei gwneud yn orfodol i gomisiynydd lobïo gadw cofrestr o lobïwyr ynghyd â rheoliadau sy’n pennu’r ffurf a’r dull y mae’n rhaid i lobïwyr eu dilyn ar gyfer cofrestru eu gweithgareddau pan fyddant yn cyfathrebu â deiliaid swyddi ffederal a chyhoeddus.
Yn Ffrainc, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gofrestr a gedwir gan Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Llywyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Yn yr Unol Daleithiau, mae’n rhaid i ddatgeliadau gorfodol gan lobïwyr gael eu cadw’n electronig bob chwarter wrth lobïo aelod o Senedd yr Unol Daleithiau ac mae’n ofynnol i gwmnïau lobïo gadw cyflwyniadau a chofrestriadau ar wahân ar gyfer pob cleient. Yn nes at adref, mae’r Alban ar hyn o bryd yn pasio Deddf lobïo a fydd yn arwain at gofrestr lobïwyr ac sydd hefyd yn pennu beth yw lobïo wedi’i reoleiddio.
Mae’r ddeddfwriaeth yn San Steffan, y gofynnodd y cyn-Lywydd i ni gael ein hepgor ohoni, wedi creu cofrestr o lobïwyr. Yng Nghymru, nid oes gennym ddim ac mewn gwirionedd mae angen i ni fynd ymhellach o lawer na chofrestr—mae angen i ni wybod natur y cytundeb rhwng cwmnïau lobïo masnachol a’r cleientiaid fel ei bod yn glir pwy maent yn ceisio’u cynrychioli ac i ba ddiben. Rwy’n credu ei fod yn eithaf syml. Mae’n bryd i ni ymuno ag Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Unol Daleithiau a hyd yn oed yr Alban a San Steffan a chyflwyno deddfwriaeth gadarn ar lobïo.
Gallwn wneud lobïo’n fwy agored a sicrhau bod yna ddiwylliant tryloyw yn y Cynulliad hwn a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth lobïo ar unwaith gan mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Diolch yn fawr.
Diolch. A ydych wedi nodi eich bod yn caniatáu i Aelod gael munud o’ch amser?
Ydw.
Ac ai Jayne Bryant yw honno?
Jayne Bryant, ie.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gyfrannu fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yn y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y pwyllgor safonau ymchwiliad i lobïo a lluniwyd yr adroddiad gan gynrychiolwyr o bob plaid a’i gytuno’n unfrydol gan y Pedwerydd Cynulliad.
Ers yr adroddiad hwn, cafwyd newidiadau i ddeddfwriaeth yn San Steffan a Holyrood ac o ganlyniad i hyn, ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwarchod ein hunain rhag unrhyw hunanfodlonrwydd, cytunodd y pwyllgor safonau i gynnal ymchwiliad newydd i lobïo yn ystod tymor yr hydref. Rydym wedi gofyn i’r comisiynydd safonau wneud rhywfaint o waith cychwynnol ar hyn. Bydd yn trafod gyda Seneddau eraill y DU i weld beth yw eu trefniadau a sut y maent yn gweithio’n ymarferol, ac rwy’n credu bod y ffordd y maent yn gweithio’n ymarferol yn bwynt hollbwysig mewn gwirionedd. Felly, bydd y comisiynydd yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor ym mis Tachwedd, a bryd hynny byddwn yn cytuno ar gamau nesaf yr ymchwiliad a hoffwn sicrhau pob Aelod yma heddiw y bydd y pwyllgor yn cadw llygad ar hyn. Diolch i chi am y tro.
Diolch. Galwaf ar Jane Hutt i ymateb i’r ddadl.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar lobïo Gweinidogion. Mae’n safbwynt syml iawn. Rwy’n falch iawn o ddweud yn glir heddiw nad yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol ac rwy’n ddiolchgar eich bod wedi caniatáu i Gadeirydd y pwyllgor safonau roi diweddariad i ni ar waith y pwyllgor, gyda Chadeirydd newydd yn y pumed sesiwn, ac ar y gwaith pwysig y maent yn ei wneud yn y maes hwn.
Wrth gwrs, mae wedi bod yn destun craffu dros y blynyddoedd diwethaf. Ond rwy’n falch fod mwy o waith yn cael ei wneud gan y pwyllgor bellach ac yn falch y bydd y comisiynydd yn ymateb maes o law. Ac wrth gwrs, rydych wedi tynnu sylw at waith blaenorol. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol fod Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad ym Mai 2013 ar drefniadau’r Cynulliad mewn perthynas â lobïo, ac rwy’n credu ei bod yn werth ystyried yr adroddiad hwnnw. Roedd yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad eang o’r trefniadau gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn 2012. Dywedodd
‘mai barn unfryd pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sy’n gweithredu yng Nghymru a/neu yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod arferion lobïo, yn eu hanfod, yn dryloyw a’u bod yn cael eu plismona a’u rheoleiddio’n ddigonol’
Ond dywedodd hefyd—a chomisiynydd safonau annibynnol Cymru yw hwn—ei bod yn ffaith na wnaed unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â lobïo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, neu’n wir, cyn belled ag y gallai’r comisiynydd ei weld, ers ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, nid yw’n syndod fod y comisiynydd wedi dod i’r casgliad pendant, a dyfynnaf,
‘bod y trefniadau presennol sydd yn eu lle ar gyfer rheoleiddio lobïo, fel y maent yn berthnasol i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn eu hanfod yn ddigon cadarn ac addas i’r diben’
Dyna oedd y casgliad a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y pryd. Ac fe aeth y pwyllgor i’r afael yn uniongyrchol â’r cwestiwn o gofrestr lobïwyr bosibl ond daeth i’r casgliad nad oedd yn ateb rhesymol na chymesur yng Nghymru i’r pryderon a fynegwyd bryd hynny ynglŷn â gweithgareddau lobïo—pryderon a fynegwyd ar lefel y DU yn unig ac nid yng Nghymru o gwbl. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad, cafodd ei ystyried yn ofalus gan y Prif Weinidog yng nghyd-destun sut y mae Gweinidogion Cymru yn gweithredu ac nid oedd Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol bryd hynny, ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol. A chan na lwyddodd y comisiynydd safonau na’r pwyllgor i ganfod tystiolaeth o broblem, daeth y Prif Weinidog i’r casgliad nad oedd unrhyw achos dros weithredu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru ac mae hynny’n parhau i fod yn wir heddiw. Nid oes dim a glywais gan yr Aelod heddiw sy’n peri i mi gwestiynu’r penderfyniad hwnnw.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod gweithwyr proffesiynol materion cyhoeddus yng Nghymru wedi ymrwymo i weithredu’n broffesiynol, yn gyfrifol ac yn dryloyw, ac mae eu corff aelodaeth Public Affairs Cymru wedi dangos hyn drwy weithio’n rhagweithiol ar ddatblygu a gweithredu cod ymddygiad y mae pob un o’i aelodau wedi ymrwymo iddo ac sy’n rhaid iddynt ei gynnal. Rwy’n croesawu’r cod hwn a’r dystiolaeth y mae’n ei roi bod y proffesiwn materion cyhoeddus yng Nghymru yn benderfynol o fod, a chael ei weld i fod, yn broffesiynol a moesegol.
Wrth gwrs, bydd cymariaethau bob amser yn cael eu gwneud â’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill ac ydi, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofrestr o lobïwyr ymgynghorol. Ac efallai nad yw hynny’n syndod, o ystyried mai yn San Steffan bob amser y mae dadleuon ynglŷn â lobïo wedi digwydd. Fodd bynnag, nid yw’r gofrestr ond yn cynnwys lobïo ymgynghorol ac mae hynny’n golygu nad yw ond yn cwmpasu cyfran fechan o ddiwydiant lobïo’r DU. Yn wir, ar hyn o bryd, 114 yn unig sydd wedi’u cofrestru arni. Felly, nid yw trefniant y DU yn fodel o fynediad cyhoeddus cynhwysfawr at wybodaeth am lobïo. Rwyf eisoes wedi dweud nad yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol, ond maent, wrth gwrs, yn cyfarfod â llawer o bobl a sefydliadau ac yn ystyried ystod eang o safbwyntiau fel rhan o’r broses o lunio polisi’r Llywodraeth, ond mae cod y gweinidogion yn ei gwneud yn glir y dylid cofnodi holl ffeithiau sylfaenol pob cyfarfod ffurfiol o’r fath rhwng Gweinidogion a grwpiau buddiant allanol. Mae’n ofynnol i bob Gweinidog gydymffurfio â chod y gweinidogion, ac mae’r Prif Weinidog yn atebol am eu hymddygiad. Ac fel y mae wedi dweud yn glir ar sawl achlysur, ni fydd y Prif Weinidog yn oedi rhag gweithredu os oes ganddo dystiolaeth fod y cod wedi cael ei dorri mewn unrhyw ffordd. O ganlyniad, mae’r Prif Weinidog yn atebol i’r Cynulliad hwn, ac nid oes amheuaeth y byddai’r Siambr hon yn gofyn iddo amddiffyn ei benderfyniadau yma ar unrhyw fater a gyfeiriwyd ato o dan y cod na chafodd ei drin yn foddhaol.
Sicrwydd pellach o ddidwylledd a thryloywder yw Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, gyda’i gylch gwaith i archwilio darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ganddo rôl bwysig yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ac rwy’n parchu hawl yr Aelod i ofyn y cwestiwn hwn fel testun dadl fer, ond nid oes tystiolaeth i gyfiawnhau cyflwyno trefniadau newydd ar lobïo yng Nghymru. Rwy’n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd i’r Aelod fod hanes y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad a rennir i fonitro hyn yn effeithiol ac yn briodol. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo—ac rwy’n credu mai dyma’r pwynt pwysicaf wrth ymateb i ddadl fer yr Aelod heddiw—mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod tryloywder ac atebolrwydd i’r cyhoedd yn egwyddor sylfaenol yn y modd rydym yn gweithredu.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Na, rwy’n credu bod y Gweinidog wedi gorffen. Diolch. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.