Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/09/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a’r cwestiwn cyntaf, Steffan Lewis.

Teithiau Addysg Dramor

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau diogelwch ar gyfer teithiau addysg dramor? (OAQ(5)0020(EDU)

Diolch i chi, Steffan. Mae’r cyngor diweddaraf ar deithiau tramor yn cael ei gynhyrchu gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Cyfeirir at y cyngor hwn hefyd yn y canllawiau Cymru gyfan ar gyfer ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gellir dod o hyd i’r cyngor o wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Fe fydd hi’n gwybod, rwy’n siŵr, am farwolaeth drychinebus Glyn Summers, a fu farw tra roedd ar daith coleg i Barcelona yn 2011. Ac er y byddai pawb yma, rwy’n siŵr, yn cytuno y dylem roi pob cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr deithio dramor gyda’u hysgolion a’u colegau, rwy’n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno bod rhaid i ddiogelwch fod o’r pwys mwyaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod y canllawiau cyfredol yn mynd yn ddigon pell, ac a yw’n fodlon gyda’r prosesau cyfredol sydd ar waith ar gyfer pan fydd pethau’n mynd o chwith? A wnaiff hi ystyried a ddylid gwneud y canllawiau hyn yn rheoliadau, neu’n ddeddfwriaeth hyd yn oed, er mwyn sicrhau bod diogelwch myfyrwyr a disgyblion yn cael ei warantu cystal ag y bo modd? Ac a wnaiff hi hefyd ystyried y ffordd orau i ni sicrhau tryloywder llawn i rieni a theuluoedd, fel teulu Glyn, pan fydd pethau’n mynd o chwith mor drychinebus?

Diolch i chi, Steffan. A gaf fi fanteisio ar y cyfle i gynnig fy nghydymdeimlad â theulu Glyn yn wyneb y golled enbyd y maent wedi’i dioddef? Gwn eu bod yn cael eu cymell gan ymdeimlad o allgaredd i sicrhau bod y rheoliadau cystal ag y gallant fod, fel na fydd raid i unrhyw deulu ddioddef yr hyn y maent hwy wedi’i ddioddef.

Rwy’n ymwybodol fod swyddfa’r Prif Weinidog yn parhau i edrych ar rai o’r materion sy’n codi ynglŷn â’r modd y cafodd yr achos penodol hwn ei drin, a gofynnodd y cyn-Weinidog addysg i Estyn gynnal adolygiad thematig ar faterion sy’n ymwneud â sut y mae colegau addysg bellach yn ymddwyn ac yn cynnal teithiau. Ar y pryd, credai Estyn nad oedd unrhyw fethiannau systematig, ond yn amlwg, roedd pethau wedi mynd o chwith yn yr achos penodol hwn. Fel y dywedais ar y pryd, y gred oedd nad oedd angen rhoi camau pellach ar waith. Yn bennaf, deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw hon, mater nad yw wedi’i ddatganoli. Ond os oes gan yr Aelod enghreifftiau penodol o sut y mae’n teimlo nad yw’r canllawiau cyfredol mor gryf ag y gallant fod, a bod pŵer gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i newid hynny, byddai fy swyddogion a minnau yn hapus i edrych ar gynigion penodol y gallai eu cyflwyno.

Yn yr Eglwys Newydd, mae gennym gwmni o’r enw Schools into Europe, a dywedodd y cyfarwyddwr yno wrthyf fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr ysgolion sy’n cynnal teithiau tramor, ac mae’n credu bod hynny’n rhannol oherwydd y dryswch ynghylch canllawiau diogelwch teithio, ac ysgolion yn mabwysiadu eu rheolau ad hoc eu hunain ynglŷn ag a yw’n ddiogel i deithio neu beidio. Felly, yn dilyn ei hateb i’r cwestiwn blaenorol, a fyddai hi’n gallu sicrhau mwy o eglurder i ysgolion, ac i awdurdodau lleol, mai’r canllawiau diffiniol yw canllawiau’r Swyddfa Dramor, yn hytrach na chael canllawiau unigol, sydd weithiau’n creu cymysgwch braidd o’r canllawiau mewn gwirionedd, ac efallai’n lladd awydd ysgolion i drefnu yr hyn y gwyddom eu bod yn deithiau gwerthfawr iawn?

Diolch i chi, Julie. Rwy’n ddiolchgar i chi a Steffan am gydnabod pwysigrwydd teithiau ysgol ac ymweliadau tramor fel rhan o gwricwlwm cyffrous y gallwn ei gynnig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn rhan bwysig o addysg. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n trefnu teithiau ysgol fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau rheoli risg synhwyrol ar waith ar gyfer trefnu a chynllunio gweithgareddau.

Ond o ystyried y pryderon a nodwyd, byddaf yn sicr, Julie, yn gofyn i fy swyddogion atgoffa ysgolion ac awdurdodau lleol o’r angen i gyfeirio at y cyngor diweddaraf ar deithiau tramor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wrth gynllunio teithiau tramor. A bydd fy swyddogion hefyd yn tynnu eu sylw at ganllawiau cynhwysfawr Cymru gyfan ar ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae’r canllawiau hynny hefyd yn cynnwys dolenni i gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ond dyna’r cyngor diffiniol.

Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynhyrchu datganiad yn nodi bod teithiau ysgol o fudd amlwg i ddisgyblion, ond mae’n bosibl y bydd camddealltwriaethau’n annog ysgolion ac athrawon i beidio â threfnu teithiau o’r fath, ac maent yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw pryderon iechyd a diogelwch cyfeiliornus a di-sail yn creu rhwystrau sy’n atal y teithiau hyn rhag digwydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch, neu y gallech ei gael, gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu galluogi i ganolbwyntio ar sut i reoli’r gwir beryglon, yn hytrach nag ar y gwaith papur a allai fod ynghlwm wrth hynny?

Diolch i chi, Mark. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau blaenorol, mae canllawiau Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn adnodd ar y we sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson i nodi newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac arferion da gan weithgor o arbenigwyr yn y maes. Mae gan y wefan ddolenni at gyngor perthnasol arall, gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae llawer i’w ennill o ganiatáu i fyfyrwyr, pobl ifanc a phlant gymryd rhan mewn ymweliadau, teithiau, gweithgareddau awyr agored, ac os yw ysgolion yn dilyn y cyngor sydd ar gael iddynt, byddant yn gwneud hynny gan wybod mai dyna yw’r cyngor diweddaraf a’r arferion gorau.

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OAQ(5)0031(EDU)].

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Felly, cwestiynau’r llefarwyr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd rydych wedi’i wneud mewn perthynas â gweithredu eich blaenoriaeth o leihau maint dosbarthiadau babanod i uchafswm o 25 yng Nghymru?

Diolch i chi, Darren, am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais cyn toriad yr haf, mae swyddogion a minnau yn astudio’r dystiolaeth ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu polisi o’r fath, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod potensial gan ddosbarthiadau llai o faint i wneud y gwahaniaeth mwyaf i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, i blant nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, a lle gwyddom y bydd hynny’n caniatáu newid mewn arddulliau addysgu. Gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru.

Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â’r consensws barn eang ymhlith llawer o academyddion nad dyma’r ffordd orau i fuddsoddi arian er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer disgyblion iau, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o’r ffaith fod gennym heriau recriwtio sylweddol ledled Cymru bellach o ran staff addysgu. A wnewch chi ystyried edrych unwaith eto ar wneud hyn yn flaenoriaeth, fel y gallwn edrych ar gost cyfle buddsoddi’r adnoddau a allai fod ar gael? Ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddech yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio tua £42 miliwn i’w gyflawni. Oni fyddai’n well gwario’r arian ar flaenoriaethau eraill, megis gwella ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i’n disgyblion iau?

Mae yna hefyd gonsensws ymysg rhieni ac yn wir, athrawon, fod maint dosbarthiadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn wir, yn y gweithredu diwydiannol diweddaraf a welsom gan athrawon ar draws y ffin yn Lloegr, cynnydd ym maint dosbarthiadau oedd eu pryder mwyaf. Nawr, rwy’n cydnabod nad maint dosbarthiadau ar ei ben ei hun yw’r unig beth y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef er mwyn codi safonau addysgol yn ysgolion Cymru, ond mae’n un rhan o agenda gwella rwyf fi a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi.

Fe fyddwch yn gyfarwydd â’r ffaith fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried rhai newidiadau tuag at hyn, ac mai’r casgliad y daeth gweithgor yn yr Alban iddo oedd bod y rhain yn faterion cymhleth, ac er y byddai pawb yn hoffi gweld dosbarthiadau llai o faint, byddai’n well gwario’r arian ar bethau eraill.

A gaf fi newid i fater arall, a gwn ein bod wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, sef cydnabyddiaeth i gymhwyster bagloriaeth Cymru gan sefydliadau addysg uwch, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr? Fe fyddwch yn gwybod o’r ohebiaeth rydym wedi’i chael fod yna nifer o brifysgolion nad yw’n ymddangos eu bod yn ystyried ansawdd yr addysg y mae ein pobl ifanc yn ei chael wrth astudio bagloriaeth Cymru yn ysgolion Cymru, ac mae hyn yn eu rhwystro rhag cael mynediad at y cyrsiau y maent am eu dewis yn y sefydliadau addysg uwch hynny. Pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau hynny, ac a wnewch chi ymuno â mi i ymweld â rhai o fyfyrwyr bagloriaeth Cymru yn fy etholaeth, er mwyn trafod y mater hwn gyda hwy?

Lywydd, a gaf fi ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei gefnogaeth i fagloriaeth Cymru? Gwn ei fod yn cydnabod ei bod yn gymhwyster pwysig. Mae pasio Bagloriaeth Cymru lefel uwch yn cyfateb i 120 o bwyntiau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Mae hynny’n cyfateb i radd A, a chyfarfûm â llawer o fyfyrwyr dros yr haf a oedd wedi cael lle mewn prifysgol o ganlyniad i basio bagloriaeth Cymru. Ond mae’r Aelod yn hollol iawn: mae llawer mwy i’w wneud gyda rhai sefydliadau nad ydynt yn cydnabod trylwyredd ein Bagloriaeth Cymru ddiwygiedig newydd. Felly, o ganlyniad i’r ohebiaeth a gefais gennych, Darren, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gydag UCAS i nodi’r sefydliadau a’r cyrsiau penodol o fewn sefydliadau nad ydynt yn derbyn Bagloriaeth Cymru, ac rwy’n bwriadu ysgrifennu at bob un o’r sefydliadau hynny i’w sicrhau ynglŷn â thrylwyredd y fagloriaeth a’r cefndir polisi sydd wrth wraidd y cymhwyster pwysig hwn. Byddwn wrth fy modd yn dod gyda chi i ymweld ag ysgolion sy’n gwneud gwaith mor dda yn cyflwyno bagloriaeth Cymru.

Diolch, Lywydd. Mi fyddwch chi’n gwybod rwy’n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, fod gwaith ymchwil diweddar gan NUT Cymru wedi datgelu bod athrawon yng Nghymru wedi colli hyd at 52,000 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ddiwethaf oherwydd salwch sy’n deillio o bwysau gwaith. Mae’n debyg bod 12 o awdurdodau lleol Cymru wedi nodi cynnydd yn yr absenoldebau oherwydd straen gwaith, ac mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif cost ariannol o tua £34 miliwn i’n hysgolion ni dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa yna?

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Rwy’n cydnabod bod straen yn y gweithle a salwch sy’n deillio o’r gweithle yn niweidiol tu hwnt i’r unigolion dan sylw ac i’n gallu i drawsnewid addysg yma yng Nghymru. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol, fel rhan o’n hysgolion arloesi a’n rhwydweithiau, fod rhai ysgolion yn edrych ar faterion llwyth gwaith ar hyn o bryd i weld beth y gallwn ei wneud i leihau llwyth gwaith yn yr ystafell ddosbarth i athrawon. Rydym yn cynnal archwiliad ar hyn o bryd o rywfaint o’r gwaith papur sy’n gysylltiedig ag addysgu i edrych i weld beth y gallwn gael gwared arno nad yw’n ychwanegu gwerth at ddealltwriaeth athrawon o’u disgyblion neu’n gwneud gwahaniaeth i ddisgyblion. Ac yn ddiweddarach eleni, am y tro cyntaf erioed, byddaf yn cynnal arolwg a gefnogir gan Lywodraeth Cymru o’r holl athrawon yng Nghymru a chynorthwywyr dosbarth fel y gallaf glywed ganddynt yn uniongyrchol am agweddau ar eu swydd sy’n achosi straen a rhwystredigaeth iddynt ac nad ydynt yn helpu eu gallu i wneud yr hyn rydym i gyd am iddynt ei wneud mewn gwirionedd, sef treulio eu hamser yn addysgu ein plant.

Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae’n debyg bod y pwysau yma yn cael ei deimlo fwyaf ar ysgwyddau penaethiaid sydd, ar ddiwedd y dydd, yn gorfod gwneud llawer o’r gwaith biwrocrataidd ychwanegol yma. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna drafferthion yma yng Nghymru gyda nifer uchel o swyddi penaethiaid yn wag a nifer o swyddi penaethiaid dros dro yn eu lle, sydd yn ei hunan, wrth gwrs, yn creu mwy o stres nid yn unig ar yr unigolion hynny, ond, yn aml iawn, ar yr athrawon sydd ar ôl yn gorfod pigo lan y beichiau sy’n cael eu gadael oherwydd bod swyddi yn wag. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn trio delio â’r gwrthanogaethau, y ‘disincentives’, sydd allan yna—ac mae stres, wrth gwrs, yn amlwg yn un ohonyn nhw—i athrawon i gamu lan i fod yn benaethiaid?

Rwy’n cydnabod bod hon yn broblem go iawn i’n cenhedlaeth nesaf o ddarpar arweinwyr ysgol, ac mae nifer o bethau sydd angen i ni eu gwneud: mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau addysg lleol unigol yn darparu mecanweithiau cymorth i’r bobl hyn allu gwneud y cam nesaf; ac mae angen i ni weithio gyda’n consortia i sicrhau, wrth gymryd y cam i fod yn bennaeth, fod pobl yn cael eu cefnogi yn yr ychydig fisoedd a blynyddoedd cyntaf o gychwyn yn y rôl benodol honno. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi gwneud cyhoeddiad cyn yr haf ynglŷn â sefydlu academi arweinyddiaeth yng Nghymru, a fydd yno’n benodol, yn y lle cyntaf, i gefnogi penaethiaid. Mae pethau’n datblygu’n dda ac rwy’n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â ffurfio hynny yn ddiweddarach yn ystod tymor yr hydref. Rydym yn edrych hefyd ar ddatblygu rôl rheolwyr ysgol, er mwyn caniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar ddatblygu’r cwricwlwm a materion addysgol a rhoi peth o’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â rheoli’r hyn sy’n aml yn sefydliadau mawr i reolwyr ysgolion proffesiynol. Rwyf fi, ynghyd â swyddogion, yn edrych hefyd ar opsiynau ar gyfer diwygio’r cymwysterau y bydd eu hangen i fod yn bennaeth yn y dyfodol, oherwydd gwyddom fod rhai ffactorau, yn enwedig o ystyried newidiadau dros y ffin, sydd efallai’n lleihau ein cronfa o benaethiaid posibl, ac rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer newid ar hyn o bryd.

Rŷch chi wedi dweud ddwywaith nawr i’r ddau gwestiwn eich bod yn cydnabod bod yna broblemau. Rŷch chi wedi sôn am rai pethau sydd wedi cychwyn, ac rŷch chi’n sôn am gael deialog yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod athrawon a phenaethiaid yn wynebu’r heriau a’r pwysau yma nawr. Nid wyf yn gwybod os ydych chi’n ymwybodol, ond mewn un awdurdod addysg yng Nghymru, dim ond ers dechrau’r flwyddyn, mae yna dri phennaeth wedi dioddef strôc oherwydd y pwysau gwaith. Nid yw hynny’n dderbyniol. Fydd hi ddim yn llawer o gysur i nifer yn y rheng flaen bod yna ‘rhywbeth yn mynd i ddigwydd rhywbryd’. A allwch chi ddweud wrthym yn fwy penodol erbyn pryd y bydd y bobl ar y ffas lo yn gweld gwahaniaeth?

Bydd y coleg arweinyddiaeth, fel y dywedais wrthych cyn toriad yr haf, yn cael ei sefydlu yn ystod y flwyddyn hon ac yn derbyn ac yn darparu cyrsiau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

O ran rheolwyr ysgol a gwahanol ffurfiau ar lywodraethu ysgolion ac arweinyddiaeth, rwy’n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiadau hynny yn unol â’r adnoddau a ddyrennir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn nes ymlaen y tymor hwn. Rydym yn symud mor gyflym â phosibl i edrych ar ffyrdd y gallwn newid cymwysterau i benaethiaid. Rwyf yn llythrennol ond wedi bod yn y swydd hon ers hanner ffordd drwy fis Mai ac rydym yn bwrw ymlaen â phopeth mor gyflym ag y gallwn. Wrth gychwyn yn y swydd, sylwais fod diffyg cefnogaeth i arweinwyr ysgol. Mae’n un rhan o’r materion y nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â hwy, ac rwy’n bwrw ymlaen â hwy fel mater o flaenoriaeth.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru’n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth lefarydd UKIP yw, drwy beidio ag aros i weld beth yw’r canlyniadau PISA cyn—

Na, nid wyf yn eu gwybod yn barod fel mae’n digwydd, Simon. Nid wyf yn eu gwybod ac os oes gennych dystiolaeth fy mod yn eu gwybod, efallai y dylech godi a dweud wrthym. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O’.]

Diolch. Nid ydym yn aros am y canlyniadau PISA. Rydym wedi rhoi rhaglen uchelgeisiol ar waith i ddiwygio addysg, rhaglen a ffurfiwyd gan farn arbenigol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a ddywedodd rai pethau beirniadol iawn am system addysg Cymru yn eu hadroddiad yn 2014. Rwyf o ddifrif ynglŷn â’r pethau hynny ac yn wir, rwyf wedi gofyn i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddod yn ôl i Gymru y tymor hwn er mwyn i mi allu bod yn sicr ein bod ar y trywydd cywir a’n bod yn gwneud y penderfyniadau cywir a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes gennyf unrhyw fwriad o aros i weld beth fydd y canlyniadau PISA cyn gwneud unrhyw un o’r newidiadau hynny. Mae’r diwygio’n parhau. Mae’n digwydd yn awr.

Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud ynglŷn â ffioedd dysgu yng Nghymru yn awr fod adroddiad Diamond wedi cael ei gyhoeddi? A fyddai’n cytuno nad yw’r system gyfredol o roi cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru i astudio yn Lloegr yn gynaliadwy ac nad yw’n ddefnydd da o adnoddau gwerthfawr Llywodraeth Cymru?

Rwy’n cymryd bod yr Aelod yn bresennol yn y Siambr ddoe pan roddais fy natganiad ar adolygiad Diamond, lle roeddwn yn datgan yn gwbl glir fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr egwyddorion sylfaenol sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Rwyf am sicrhau y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu cefnogi mewn system sy’n unigryw yn y DU, yn yr ystyr ei bod yn gwbl symudol, fel y gall myfyrwyr astudio mewn rhannau eraill o’r DU ac yn wir, o amgylch y byd, a bod y dull o astudio yn cael ei gefnogi hefyd, pa un a ydych yn fyfyriwr rhan-amser, yn fyfyriwr israddedig amser llawn neu’n fyfyriwr ôl-raddedig. Dyna yw’r argymhellion gan Syr Ian Diamond. Gwn nad yw UKIP yn hoffi derbyn cyngor arbenigwyr a’u bod yn byw mewn byd ôl-ffeithiau, ond ar ôl derbyn yr adroddiad gan Syr Ian Diamond, sy’n un o academyddion mwyaf blaenllaw y DU, adroddiad a ysgrifenwyd ac a gefnogwyd hefyd gan bobl fel is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyn-Aelodau uchel eu parch yma yn y Siambr hon, rwy’n credu y dylai UKIP fod yn ofalus iawn wrth fwrw amheuon ar ansawdd y bobl a fu’n ystyried yr adroddiad hwnnw. Rwyf wedi ei ystyried ac mae’r Cabinet yn cefnogi’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys ynddo.

Mae Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid refferenda pan fyddant yn gweddu i’w dibenion gwleidyddol, sef ar ddatganoli pellach a diwygio pleidleisio. Felly, gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i Ysgrifennydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth Lafur roi cyfle i bobl leol sefydlu ysgolion gramadeg newydd, lle mae digon o alw lleol wedi’i ddangos drwy gyfrwng refferendwm dan reolaeth yr awdurdod lleol. A wnaiff hi ymuno ag UKIP a rhoi mwy o ddewis i bobl leol dros addysg eu plant?

Lywydd, roeddwn yn credu fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y ddadl yr wythnos diwethaf am fy safbwyntiau ar ysgolion gramadeg. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod ysgolion gramadeg yn gwasanaethu eu myfyrwyr yn well nag ysgolion cyfun traddodiadol. Gwyddom eu bod yn newyddion drwg i’r disgyblion tlotaf a gwyddom hefyd fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er bod ganddo nifer o bethau anodd i’w dweud am addysg yng Nghymru, wedi canmol ein system gyfun. Maent yn dweud mai dyna’r ffordd orau i wneud gwelliannau i’r system addysg yng Nghymru, ac rwy’n bwriadu dilyn y cyngor hwnnw.

Taliadau i Ysgolion yn y Sector Preifat

3. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i ysgolion yn y sector preifat? OAQ(5)0033(EDU)

Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i ysgolion yn y sector preifat.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. A yw’n gallu cadarnhau yr hyn a welais drwy gais rhyddid gwybodaeth gan un o’i hetholwyr, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud taliad o £90,000 y flwyddyn i Ysgol Gymraeg Llundain, sy’n ysgol breifat sy’n codi ffioedd?

Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud taliad i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain, lle mae llawer o Gymry’n gweithio ac yn awyddus i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Rydym yn gwybod bod addysg yn hanfodol i sicrhau bod targedau cyffrous a manwl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â siaradwyr Cymraeg—. Os ydym am eu cyrraedd, mae angen i ni ganolbwyntio ar addysg ac rydym eisiau gallu cefnogi hynny lle bo’n ymarferol bosibl, ac yn yr achos hwn rydym yn ei gefnogi yn Llundain.

Ansawdd Prydau Ysgol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd prydau ysgol yng Nghymru? OAQ(5)0028(EDU)

Diolch i chi, Nick. Nod y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yw gwella safonau maeth bwyd a diod sy’n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod bwyd a diod iach yn cael ei gynnig i blant a phobl ifanc drwy gydol y diwrnod ysgol.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a fynychodd ddigwyddiad Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn y Pierhead. Rwy’n credu eich bod chi yno, ynghyd â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau, sydd ar y dde i mi. Cawsom fwynhau rhai o fwydydd ysgol gorau Cymru, gan gynnwys jam roli-poli, tikka masala ac wrth gwrs, pwdin eirin. Cafodd Aelodau Cynulliad y pleser o fwyta’r bwyd gorau, ond wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae safonau bwyd yn amrywio ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae costau’n uwch. Sut rydych yn sicrhau bod y safonau’n uchel ledled Cymru, er mwyn i bob ysgol allu elwa ar brydau ysgol o’r ansawdd gorau?

Diolch yn fawr iawn, Nick. Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu mynychu’r digwyddiad yr aethoch iddo, ond fe wnaeth Lesley Griffiths, fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, ynghyd â fy swyddogion. Nawr fy mod yn gwybod bod jam roli-poli ar gael yno, rwy’n arbennig o siomedig nad oeddwn yn gallu bod yno. Rwy’n ymwybodol fod awdurdodau lleol yn adolygu’n gyson sut y gallant sicrhau mai bwyd o’r ansawdd gorau sy’n cael ei ddefnyddio yn eu gwasanaeth prydau ysgol, ac maent yn gwneud hynny, gan geisio cydbwyso anghenion fforddiadwyedd i rieni yn ogystal, a chynnal gwasanaeth prydau ysgol. Rwy’n arbennig o awyddus i dimau arlwyo awdurdodau lleol ddefnyddio cynnyrch lleol, lle y gallant, yn ffreuturiau eu hysgolion. Rwy’n gwneud hynny oherwydd ei fod yn newyddion da i’r economi leol ac mae’n golygu eu bod yn cael cynnyrch ardderchog yn eu prydau ysgol, ond mae hefyd yn ffordd wych o roi dysgwyr mewn cysylltiad â tharddiad y bwyd y maent yn ei fwyta, rhywbeth sydd wedi ei golli mewn llawer o leoedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’n Ddiwrnod Llaeth Ysgol heddiw, felly dylem ni gydnabod hynny wrth drafod bwyd maethlon mewn ysgolion. Pa gyfleoedd sydd gan yr Ysgrifennydd nawr, o dan y sefyllfa bresennol, i wella maethlondeb a hefyd ansawdd a safon bwyd ysgol, gyda’r ffaith ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac nad yw rheolau caffael yn mynd i fod yn gymwys yn yr un ffordd, felly gallwn hybu bwyd lleol, a gyda’r posibilrwydd o dan y cwricwlwm newydd o gael plant a phobl ifanc i dyfu eu bwyd eu hunain, i brosesu eu bwyd eu hunain wrth ei goginio fe yn yr ysgol, a bwyta’r bwyd wedyn? Achos, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae problemau difrifol yn rhwystro plant rhag gwneud hynny ar hyn o bryd.

A gaf fi ddiolch i Simon am hynny? Mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol eisoes yn caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol gaffael cynnyrch o Gymru os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ac mae llawer yn gwneud hynny lle gallant, a lle gallant gydbwyso, fel y dywedais, y materion sy’n ymwneud â chaffael lleol gyda chynnal prisiau prydau ysgol ar lefel sy’n fforddiadwy i rieni. Bwriadwn adolygu pa gyfleoedd a allai ddeillio o newidiadau i’r rheolau caffael, nid yn unig ym maes addysg ond ar draws y prosesau caffael yng Nghymru. Ond os oes cyfleoedd i gael mwy o gynnyrch lleol i mewn i ysgolion, yna byddwn yn croesawu hynny.

Mewn perthynas â disgyblion yn tyfu eu bwyd eu hunain, mae’r cwricwlwm newydd a amlinellwyd gan Donaldson yn creu llawer mwy o hyblygrwydd yn ein cwricwlwm mewn gwirionedd i ganiatáu i ysgolion allu addasu eu hanghenion heb orfod cyfeirio’n gyson at y cwricwlwm ticio blwch, i raddau helaeth, sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn gobeithio bod cyfleoedd i gael mwy o’r gweithgarwch hwnnw. Yn sicr, yn y cyfnod sylfaen a’r ffocws ar addysg awyr agored, mae digonedd o gyfleoedd i’n disgyblion ieuengaf oll a’u hathrawon ac ymarferwyr dysgu i gymryd rhan yn y math hwnnw o weithgaredd, a gwn fod llawer yn gwneud hynny.

Lefelau Cyrhaeddiad yng Nghyfnodau Allweddol 1 i 3

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cyrhaeddiad yng Nghyfnodau Allweddol 1 i 3 mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0021(EDU)

Diolch i chi, Oscar. Rydym wedi gweld gwelliant parhaus eleni ar draws pob pwnc yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Cafwyd gwelliannau hefyd mewn mathemateg a’r dangosydd cyfnod sylfaen cyffredinol yn y cyfnod sylfaen. Mae’r gwelliannau hyn yn dangos effaith gadarnhaol barhaus ein ffocws ar wella safonau a chanlyniadau i ddisgyblion.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru wedi dangos bwlch cyrhaeddiad cyffredinol amlwg yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Mae merched yn perfformio’n well na bechgyn ym mhob pwnc allweddol ym mhob un o’r tri cham cyntaf o ddysgu ac am y tro cyntaf, mae’r gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched yn y dangosydd cyfnod sylfaen allweddol wedi lledu. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch hwn, sydd â goblygiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ymhellach i mewn i’r farchnad swyddi yng Nghymru a thramor? Diolch.

Diolch i chi, Oscar. Er mwyn bod yn glir, ac er mwyn ei gofnodi, mae gwelliannau eleni yn dangos ein canlyniadau gorau erioed ar gyfer diwedd cyfnod allweddol 2, ac mae canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 hefyd wedi gwella. Rydym yn croesawu’r newyddion fod y bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched wedi culhau yn y rhan fwyaf o bynciau yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac mae mwy o welliant eto yn y rhan fwyaf o bynciau uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig ym mhob un o feysydd dysgu’r cyfnod sylfaen. Felly, mae’r bwlch rhwng bechgyn a merched yn cau, ond mae’n un sy’n dal i fodoli. Nid ffenomen sy’n effeithio ar Gymru yn unig yw hon, ond ffenomen sy’n effeithio ar hyd a lled y DU. Yn wir, yng ngorllewin Ewrop, ceir bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio strategaethau penodol mewn ysgolion penodol i fynd i’r afael ag anghenion dysgwyr sy’n fechgyn. Mae’n arbennig o amlwg yn achos disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio’r grant amddifadedd disgyblion i allu creu cyfleoedd a chwricwlwm a phrofiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yn y bechgyn ifanc hyn yn eu haddysg ysgol.

Archwilio Ysgolion gan Estyn

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd mae Estyn yn archwilio ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0019(EDU)

Diolch i chi, Mike. Mae Estyn yn gorff annibynnol ac mae’r Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn gyfrifol am arolygu ysgolion. Bydd arolygwyr yn llunio barn ar y safonau, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth mewn ysgol yn seiliedig ar fframwaith arolygu cyffredin Estyn.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ogystal ag arolygiadau Estyn, mae ysgolion hefyd yn cael eu hasesu’n flynyddol gan y consortiwm rhanbarthol o dan y drefn ‘gwyrdd/ambr/coch’—sy’n fwy adnabyddus fel y system goleuadau traffig. Pam eu bod yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol, a pha rai y dylai rhieni dalu fwyaf o sylw iddynt?

Wel, diolch i chi, Mike. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch canmol ar yr arweinyddiaeth yn yr ysgolion lle rydych yn llywodraethwr sydd wedi cael canlyniadau cadarnhaol iawn gan Estyn yn ogystal â bod wedi gwella eu sgoriau categoreiddio ysgolion mewn gwirionedd, gan symud o gael eu categoreiddio’n felyn yn 2014 i wyrdd yn 2015? Felly, llongyfarchiadau mawr i chi, Mike, a’ch cyd-lywodraethwyr, yn yr ysgolion penodol hynny yn Abertawe. Mae’r consortia rhanbarthol ac Estyn yn edrych ar setiau ychydig yn wahanol o feini prawf, ond byddem am wneud yn siŵr fod y cymwyseddau, y sgiliau, a’r ddarpariaeth sy’n cael eu barnu gan Estyn a’r consortia rhanbarthol mor gyson ag y gallant fod. Yr hyn sydd angen i rieni ei wneud wrth edrych ar gategoreiddio ysgolion ac adroddiadau Estyn yw edrych ar yr ysgol yn ei chyfanrwydd. Mae Estyn yn rhoi darlun o ysgol, mae’r system gategoreiddio yn rhoi darlun arall, ond mewn gwirionedd mae ymweld ag ysgol ac edrych ar ethos yr ysgol honno—wyddoch chi, mae angen i rieni neu ddarpar rieni edrych ar ysgolion yn eu cyfanrwydd, yn hytrach nag edrych ar un darn penodol o wybodaeth yn unig.

Adroddiad yr Athro Sioned Davies am Ddysgu’r Gymraeg

7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies am ddysgu’r Gymraeg? OAQ(5)0023(EDU)[W]

Bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol hyd at 16 oed a bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys continwwm ieithyddol ar gyfer y Gymraeg o 2021 ymlaen. Rydym ni wedi cynnal cynlluniau peilot yn ehangu’r Gymraeg i feysydd pwnc eraill a byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar wella sgiliau cyfathrebu ein pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn cynyddu ein cymorth ar gyfer y Gymraeg i athrawon ac ysgolion.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi ddweud, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, na fyddai Cymraeg ail iaith yn cael ei dysgu fel rhan o’r cwricwlwm newydd erbyn 2021, ac, yn ei lle, byddai yna un continwwm o ddysgu’r iaith i bob disgybl. Ond nid ydw i’n dal i fod yn glir ynglŷn â’r newidiadau i’r cymwysterau. A allech chi gadarnhau’r hyn a gafodd ei adrodd yn y wasg wedi’r cyfweliad ar ‘Newyddion 9’, sef y byddwch chi yn disodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg ac mai hwnnw fydd pob disgybl yn ei ddefnyddio erbyn 2021?

Rydw i’n gwybod bod lot fawr o bobl wedi gresynu wrth y geiriau yr oeddwn i wedi’u defnyddio. Roeddwn i’n synnu at hynny hefyd, achos nid oeddwn i’n newid polisi; roeddwn i’n ailadrodd polisi presennol. Rydym ni ar hyn o bryd mewn cyfnod pontio o ble yr oeddem ni pan oedd yr Athro Sioned Davies wedi cyhoeddi ei hadroddiad hyd at gyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2021. Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi’i awgrymu yn 2021, ac mi fyddwn ni’n edrych ar sut yr ydym yn mynd i ddatblygu ‘qualifications’ gwahanol ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau o 2021.

Mae adroddiad yr Athro Davies yn argymell y dylai cymwysterau ôl-16 gael eu diwygio i ddatblygu sgiliau iaith lafar well sy’n addas ar gyfer y gweithle. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru eich bod

‘yn gweithio gyda Sefydliadau Dyfarnu a rhanddeiliaid eraill’.

Pwy yw’r rhanddeiliaid eraill hynny? A ydych chi, er enghraifft, wedi bod yn siarad â Tata Steel, Tidal Lagoon Power, Aston Martin neu Ford Motor Company i ganfod eu barn fel y mae ar hyn o bryd ar yr iaith Gymraeg, ac i’w helpu i ddeall sut y byddai’r sgiliau hyn yn fantais i gyflogwyr mawr? Ac a ydych chi’n cytuno y dylai’r datganiad penodol hwn ddechrau cyn 16 mlwydd oed?

Rydw i’n hapus iawn i barhau’r drafodaeth ar hynny os oes gan yr Aelod awgrymiadau y buasai hi’n licio eu gwneud. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae wedi bod lot o drafod amboutu lle rydym ni ar hyn o bryd ers i adroddiad Sioned Davies gael ei gyhoeddi. Mi fydd yna newidiadau sylfaenol yn cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac felly ni fydd yna ddim cyfnod coll, fel y mae rhai wedi awgrymu, ond mi fydd yna gyfnod pontio o ble yr oeddem ni i ble yr ydym ni’n mynd i fod. Mae’r trafodaethau y mae’r Aelod wedi’u disgrifio wedi digwydd ac yn mynd i barhau i ddigwydd, ac rydw i’n agored iawn i ehangu ar a pharhau’r trafodaethau gyda’r bobl y mae wedi’u henwi ac eraill, os oes raid. Ond a gaf i ddweud hyn? Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pobl yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i siarad a defnyddio’r Gymraeg, nid jest er mwyn pasio arholiad pan fônt yn 16, ond i allu defnyddio a siarad Cymraeg yn ystod eu hoes. Felly, rydym ni’n symud mewn ffordd eithaf sylfaenol i newid y ffordd yr ydym yn dysgu Cymraeg.

Ymgorffori Hyfforddiant Iaith Gymraeg â Chymwysterau Galwedigaethol

8. A wnaiff y Gweinidog nodi beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori hyfforddiant iaith Gymraeg â chymwysterau galwedigaethol? OAQ(5)0024(EDU)

Mae’n ofynnol i holl ddarparwyr cyrsiau galwedigaethol hyrwyddo a datblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i holl ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau addysg bellach gynyddu nifer y dysgwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn rhan o’u dysgu a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Diolch am yr ymateb hynny. Rwy’n falch o glywed hynny, ond rwyf wedi cysylltu’n ddiweddar â chwmni Ynni Cymru, sydd wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru, a byddai’r cymorth yn cynnwys cyngor ar gymwysterau galwedigaethol defnyddiol. Nid oes gan y cwmni bolisi iaith Gymraeg, na dealltwriaeth o uchelgeisiau eich Llywodraeth chi ar gyfer gwella dwyieithrwydd yn y gweithlu. Pan ofynnais i am hynny, cefais yr ymateb, ‘Wel, mae gyda ni rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg rhywle yn ein busnes’. Collodd y pwynt yn llwyr.

Byddwn i’n disgwyl i gwmni o’r fath o leiaf gynghori busnesau newydd y dylen nhw gadw mewn cof bod llygaid y Llywodraeth ar y Gymraeg yn y gweithlu, ac i’w hannog i ystyried sut y gallent ddarparu hynny. O ran yr iaith Gymraeg, beth yw eich disgwyliadau chi o unrhyw sefydliad a gefnogwyd gydag arian Llywodraeth Cymru sy’n honni eu bod yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol neu gymorth busnes?

Efallai y byddai’n hwylus petaech chi’n ysgrifennu ataf i gyda manylion yr enghraifft benodol rydych wedi ei disgrifio’r prynhawn yma. Ond a gaf i ddweud yn fwy cyffredinol, ac nid am yr enghraifft ei hun, mi fuaswn i’n disgwyl i unrhyw sefydliad sy’n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru weithredu polisi iaith? Pan fyddwn yn sôn amboutu’r sector preifat a busnesau preifat, wrth gwrs, mae fframwaith statudol gwahanol ar gyfer y sector preifat. Ar hyn o bryd, rydym ni’n ymgynghori ar y strategaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, ar gyfer y targed o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ar ôl i ni gyhoeddi’r strategaeth, mi fyddaf yn dechrau gwaith ymgynghori ar y fframwaith statudol. Petai Aelodau neu Aelod ag unrhyw sylwadau i’w gwneud amboutu’r sector preifat, dyna fyddai’r amser i ni gael trafodaeth felly.

Mewn cyfarfod pwyllgor ar 13 Gorffennaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei gwneud hi’n glir mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru dros addysg eich bod chi’n mynd i edrych ar y posibilrwydd o ehangu ‘remit’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach. A wnewch chi ein diweddaru ni o ran cynnydd yn dilyn y datganiad yna, achos mi fyddai’n mynd peth o’r ffordd tuag at gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn addysg bellach?

I think the Cabinet Secretary’s clear in her vision and she’s in the Chamber and listening to your comments this afternoon. The Cabinet Secretary for Education and the First Minister made such a statement during the National Eisteddfod, and we as a team of Ministers have been discussing this since that time. I know that the Cabinet Secretary for Education is about to make a statement.

Presenoldeb mewn Ysgolion

9. Pa fesurau sydd ar waith i wella presenoldeb mewn ysgolion, yn enwedig o ran disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim? OAQ(5)0025(EDU)

Diolch i chi, David. Mae’r fframwaith presenoldeb ar gyfer Cymru gyfan yn effeithio’n uniongyrchol ar lefelau presenoldeb. Ynghyd â rhaglenni addysg ehangach, gan gynnwys ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’ a’r grant amddifadedd disgyblion, mae cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ar ennyn mwy o ddiddordeb yr holl bobl ifanc mewn addysg.

Weinidog, er bod y sefyllfa’n gwella’n raddol, mae absenoldeb yn parhau i fod yn bryder mewn bron i draean o’n hysgolion uwchradd. Mae’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn absennol na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae ychydig o dan un rhan o bump o’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim yn absennol yn gyson, sy’n cael effaith enbyd ar eu cyrhaeddiad addysgol. Eto i gyd, llai na hanner yr ysgolion yn unig sydd wedi cynnal dadansoddiad digon da o’r rhesymau pam nad yw disgyblion yn mynychu’r ysgol—yn ôl Estyn. A fyddech chi, fodd bynnag, yn cymeradwyo’r arferion gorau yn y sector, megis Ysgol Uwchradd Cathays, sydd â 37 y cant o’u plant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac eto sy’n gwneud cynnydd da ar gynyddu cyfraddau presenoldeb?

Diolch i chi, David. Hoffwn ddweud bod absenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gostwng yn gyflymach ymysg disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim nag ymysg unrhyw ddisgyblion eraill dros y pum mlynedd diwethaf. Ers 2009-10, mae wedi gostwng 3.6 pwynt canran, ac ymysg disgyblion eraill mae wedi gostwng 2.6 pwynt canran, felly rydym yn gwneud gwell cynnydd gyda phlant sy’n cael prydau ysgol am ddim nag a wnawn gyda gweddill y cohort. Ond mae mwy i’w wneud eto, oherwydd gwyddom mai presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yw’r cyfle gorau y mae plant yn ei gael i sicrhau’r profiad cadarnhaol a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt. Byddwn yn disgwyl i ysgolion fod wedi cyflawni gwaith i ddeall y rhesymau pam fod rhai plant yn absennol o’r ysgol yn gyson, ond byddwn yn sicr yn awyddus i ganmol yr arferion da a nodwyd gennych yn yr ysgolion rydych yn gyfarwydd â hwy, yn ogystal ag ysgolion eraill rwyf wedi ymweld â hwy.

Yr haf hwn, ymwelais ag Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn Abertawe. Maent wedi canolbwyntio ar wella presenoldeb drwy gyflogi swyddog presenoldeb, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod cyfartaledd presenoldeb disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi codi 6.9 y cant ers 2012, felly mae arferion da i’w cael. Byddwn yn disgwyl i ysgolion unigol fod o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn, a byddwn yn disgwyl i gonsortia rhanbarthol fod yn gweithio mewn ysgolion ar hyd a lled eu rhanbarth i sicrhau, lle mae arfer da yn digwydd a lle mae canlyniadau da yn cael eu cyflawni gan ysgolion ar yr agenda hon, fod yr arferion da hynny’n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion eraill lle nad yw’r cynnydd cystal ag y byddech chi a minnau am iddo fod.

Bwlio Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig mewn Ysgolion

10. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob ymgais i fynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion? OAQ(5)0027(EDU)

Diolch i chi, Hannah. Rwyf am ei gwneud yn glir na fyddaf yn goddef unrhyw fwlio yn y system addysg yng Nghymru. Rwy’n disgwyl y bydd ysgolion a gwasanaethau addysg yn ei gwneud yn glir fod pob math o fwlio yn hollol annerbyniol ac yn mynd ati’n egnïol i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau, gan sicrhau bod y disgyblion yn cael eu cefnogi’n briodol.

Diolch. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad yn y maes hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, a’r amser rydych wedi’i roi hefyd i gyfarfod â mi a fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, i drafod hyn. Un o’r pethau y buom yn siarad amdano yn y cyfarfodydd hynny oedd yr enghreifftiau o arferion gorau sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru. A wnewch chi ymrwymo, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymweld â rhai o’r ysgolion hyn i weld yr arferion gorau ar waith?

Diolch i chi, Hannah. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi a Jeremy am arwain yr agenda hon ac am ddod i fy ngweld cyn toriad yr haf i siarad am bwysigrwydd yr agenda hon. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, rwy’n sefydlu grŵp gorchwyl arbenigol i fy nghefnogi i a swyddogion yn well o ran sut y gallwn gefnogi ysgolion gyda’r agenda hon. Yr hyn rydym yn ymwybodol ohono, o ‘r ymchwil, yw bod llawer o ysgolion yn teimlo—ac mae athrawon yn aml yn teimlo—nad oes ganddynt y wybodaeth na’r ddealltwriaeth ynglŷn â’r ffordd orau i fynd i’r afael â rhai o’r sefyllfaoedd hyn. Felly, byddwn yn gofyn i’r grŵp arbenigol ein helpu i ddatblygu adnoddau newydd a fydd ar gael i athrawon i fynd i’r afael â bwlio o bob math i allu rhoi hyder iddynt. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi ysgolion ac athrawon unigol er mwyn sicrhau eu bod wedi’u paratoi yn y ffordd orau i gefnogi eu disgyblion ac i sicrhau bod ein hysgolion yn barthau di-fwlio.

Ysgrifennydd y Cabinet, trefnwyd ymgyrch gan Lindsay Whittle, fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad blaenorol, y gwn eich bod yn ei adnabod yn dda, i godi ymwybyddiaeth o broblemau bwlio yn y cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ne-ddwyrain Cymru, a sylwodd fod lefel uchel o fwlio mewn ysgolion mewn perthynas â’r agenda honno. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi nodi’r ymchwil a wnaeth, ac a gymerodd lawer o amser i’w gwblhau, ac a ydych wedi edrych ar Gymru gyfan mewn perthynas â sut y gallwch fynd i’r afael â hyn ac wedi troi at ei waith ymchwil ef i fod yn sylfaen i’r gwaith posibl hwnnw yn y dyfodol.

Diolch i chi, Bethan. Rwyf ar fai—nid oeddwn yn ymwybodol o fodolaeth gwaith Lindsay, ond gwn fod Lindsay wedi bwrw iddi yn ei holl waith yn ystod ei amser yn y Cynulliad hwn gyda brwdfrydedd a diwydrwydd mawr, ac felly byddwn yn falch iawn o’i weld. Efallai y byddwch cystal â sicrhau fy mod yn cael y gwaith ymchwil hwnnw, oherwydd byddwn yn falch iawn o edrych arno. Yn ogystal â chyfarfod â Hannah Blythyn a Jeremy Miles, mae gennyf gyfarfod i ddod â Stonewall Cymru, cyfarfod â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth—rydym yn gweithio gyda hwy—cyfarfod â chynghorydd Llywodraeth Cymru ar drais domestig; rydym yn cyfarfod â chynifer o arbenigwyr ag y gallwn er mwyn gallu defnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd, fel y gallwn rannu’r wybodaeth a’r arferion da hynny er mwyn sicrhau bod bwlio o bob math, boed yn ymwneud â rhywioldeb rhywun, eu hil, eu crefydd—fel y gallwn gefnogi ysgolion ac unigolion, fel bod plant sy’n mynychu ysgolion yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel. Os na allwn wneud hynny iddynt, ni allwn ddisgwyl iddynt ddysgu. Felly mae’n rhaid gwneud yn siŵr mai ein cam cyntaf fydd sicrhau bod ein hamgylcheddau yn ddiogel.

Rwy’n credu bod 13 mlynedd wedi bod ers i mi fynychu cyfarfod Stonewall Cymru am y tro cyntaf—roeddem yn arfer ei alw’n fwlio homoffobig bryd hynny, heb y termau perthnasol ychwanegol a ddefnyddir yn awr. Rwy’n credu eich bod chi’n bresennol bryd hynny hefyd, yn ôl pob tebyg, 13 mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar, fodd bynnag, cysylltodd rhieni dyn ifanc a oedd yn dioddef bwlio homoffobig â mi—ni wnaf enwi’r awdurdod lleol—ond er bod yr awdurdod lleol a’r athrawon yn honni bod ganddynt ymwybyddiaeth i allu ymateb, nid oedd hynny’n cael ei ddangos. Ni chawsant wybod am fynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol nes iddo gysylltu â mi, a chael ei gyfeirio gennyf at Stonewall Cymru. Pa gamau y gallwch eu rhoi ar waith, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwybod y dylent fod yn rhoi gwybod i bobl ifanc o’r fath am eu hawl i eiriolaeth annibynnol ar ddechrau’r broses?

Diolch i chi, Mark, am dynnu fy sylw at y digwyddiad hwnnw. Os hoffech roi manylion llawn yr achos hwnnw i mi, byddwn yn fwy na pharod i edrych arno, ac i ofyn i fy swyddogion edrych i weld a oedd popeth a wnaed yn yr achos penodol hwnnw yn dilyn yr hyn a ddylai fod wedi cael ei wneud. Os byddech cystal â’i anfon ataf, byddwn yn ddiolchgar iawn yn wir. Rydym ar fin adnewyddu strategaeth gwrthfwlio gyfredol Llywodraeth Cymru er mwyn edrych i weld a allwn ei mireinio, ei thargedu’n well, a gwneud yn siŵr ei bod yn gyfoes. Byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

The next item on the agenda is questions to the Counsel General, and the first question is from Jeremy Miles.

Cymheiriaid yn y DU Ynghylch Erthygl 50

1. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â chymheiriaid yn y DU ynghylch Erthygl 50? OAQ(5)0003(CG)

Bydd yr Aelodau’n deall bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, sy’n bodoli i ddiogelu cyfrinachedd fy rôl fel cynghorydd cyfreithiol. Felly, er nad wyf yn gallu dweud a wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, gallaf yn sicr ddweud wrthych ei bod yn gynnar iawn, ac nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd o gwbl eto ar unrhyw fater. Ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ynglŷn ag amseriad a thelerau ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac ynglŷn â ffurf ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno y bydd gweithredu erthygl 50 yn effeithio’n sylweddol ar Gymru. Efallai y gallech gadarnhau eich barn ar hynny. A allech roi asesiad o effaith hynny ar ddeddfwriaeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol?

Mae’n werth ailadrodd yr hyn y mae erthygl 50 yn ei ddweud. Mae’n darparu ar gyfer aelod-wladwriaeth yn hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd o’i bwriad i adael. Yna, ceir cyfnod o ddwy flynedd i lunio cytundeb gadael, a fydd yn galw am fwyafrif cymwysedig yn y Cyngor Ewropeaidd, a chaniatâd y Senedd Ewropeaidd wedyn. Os na cheir cytundeb, caiff yr aelodaeth a chytundebau eu terfynu’n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd. Nid oes unrhyw eglurder neu arweiniad pellach ar y broses hon, naill ai yn Ewrop neu yn Senedd y DU, ac mae problem wedi codi ynglŷn â sut y gellid galw erthygl 50 i rym ar lefel y DU, sydd wedi denu her gyfreithiol. Mae camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn Lloegr, yng Nghymru, ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r heriau cyfreithiol yn ymwneud â pha un a ellir galw erthygl 50 i rym drwy uchelfraint frenhinol neu a oes angen awdurdodiad Tŷ’r Cyffredin. Mae hyn o bwys cyfansoddiadol am ei fod yn effeithio ar ba un a all yr uchelfraint frenhinol, ar ôl refferendwm ymgynghorol, rwystro ewyllys y Senedd a gwrthdroi statud, sef Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, heb awdurdodiad, o leiaf, gan y Senedd.

Mae gan Ogledd Iwerddon ddiddordeb penodol oherwydd telerau penodol cytundeb heddwch Gogledd Iwerddon. Rwy’n monitro’r sefyllfa, ac mae’n debygol y bydd y mater yn cael ei benderfynu gan y Goruchaf Lys yn y pen draw, a bydd goblygiadau cyfreithiol y penderfyniad hwnnw’n cael eu hystyried maes o law. Byddaf yn sicrhau wrth gwrs fod unrhyw ddiddordeb neu oblygiadau cyfreithiol penodol i Gymru yn cael eu hystyried yn ofalus. O ran y goblygiadau i ddeddfwriaeth yn awr ac yn y dyfodol, ar y pwynt pan fydd cyfraith yr UE yn peidio â bod yn gymwys, mae deddfau’r UE sydd eisoes wedi’u hymgorffori yn ein deddfwriaeth yn parhau. Felly, er mwyn cael gwared ar rwymedigaethau’r UE o gyfraith y DU, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a deddfwriaeth arall sy’n gweithredu cyfraith yr UE. Lle mae hyn yn amharu ar ddeddfwriaeth Cymru, bydd galw am gydsyniad deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wrth gwrs, nid statud yn unig y mae deddfwriaeth yn ei chynnwys; mae’n cynnwys rheoliadau yn ogystal â dyfarniadau cyfreithiol. Hyd nes y ceir mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU a hyd nes y gwyddys beth yw canlyniad yr her gyfreithiol i erthygl 50, nid yw’n bosibl bod yn fwy manwl. Felly, fel rwyf wedi’i ddweud, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl faterion hyn a’u goblygiadau, ac mae’n ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn rhoi sylw manwl i’r holl ddatblygiadau cyfreithiol a chyfansoddiadol, gyda golwg ar ystyried eu goblygiadau cyfreithiol i Gymru.

Hoffwn groesawu’r Cwnsler Cyffredinol i’w swydd gan nad wyf wedi cael cyfle i wneud hynny cyn hyn. Ni fu’n bosibl i mi ddilyn ei ateb yn ei gyfanrwydd, yn anffodus, ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen yn y man. A yw’n cytuno â mi fod egwyddor deddf Parkinson yn berthnasol yma, sef bod gwaith yn ehangu i lenwi’r amser sydd ar gael, ac y byddai’n well bwrw ymlaen â dechrau proses erthygl 50 cyn gynted â phosibl er mwyn i ni i gyd fanteisio ar fudd llawn gadael yr UE cyn gynted â phosibl?

Dyna gwestiwn rhesymol ond un sy’n galw am ateb eithriadol o gymhleth, ac sy’n ddibynnol iawn ar ddadansoddiad rhywun o natur a chyflwr y trafodaethau, beth yw gadael yr UE a beth y mae gadael yr UE yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae archwilio goblygiadau hynny i gyfraith Cymru, i statud Cymru, i gyfreitheg Cymru, i benderfyniadau Cymru, i benderfyniadau a wneir yn Lloegr sy’n effeithio ar Gymru, yr ymagwedd y gallem ei mabwysiadu tuag at ddeddfwriaeth Cymru, pa rannau o gyfraith yr UE yr hoffem eu cadw a’r berthynas â chonfensiynau eraill yn fater cymhleth iawn. Mae’n hawdd iawn dweud, ‘Wel, gadewch i ni ddechrau’r broses’, ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw un yn gwybod beth sy’n cael ei drafod yn fanwl a beth yw’r pecyn; mae’n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn gwybod. Yr unig beth y gallaf ei ddweud yw bod rhwymedigaeth a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â ni, ac yn y pen draw bydd y mater hwn yn dod gerbron y Siambr hon. Bydd yna feysydd i’w cytuno, ond ar hyn o bryd nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu.

Amddiffyn Adnoddau Morol Naturiol

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i Lywodraeth Cymru o ran amddiffyn adnoddau morol naturiol? OAQ(5)0004(CG)

Unwaith eto, bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig, ond credaf fod cryn werth i amddiffyn adnoddau morol naturiol. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith erlyn gweithredol rwy’n ei gyflawni ar ran Llywodraeth Cymru.

Diolch. Yn y Cynulliad diwethaf, tynnodd dau o’r pwyllgorau—y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Menter a Busnes—sylw at bwysigrwydd datblygu cynllun morol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar gynllun drafft yn ddiweddarach eleni, cynllun a fydd yn arloesol ar gyfer Cymru ac a fyddai’n sicrhau ein bod yn diogelu ein hamgylchedd naturiol eithriadol. Wrth adael yr UE, bydd pysgodfeydd ac adnoddau morol naturiol Cymru yn dod o dan y chwyddwydr. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gweithrediad y cynllun yn gallu gwrthsefyll craffu cyfreithiol?

Yn amlwg, dylid cyfeirio’r materion a nodwyd gennych, at ei gilydd, at y Gweinidog Cabinet priodol. O’m rhan i, mae gennyf ddiddordeb a chyfrifoldeb penodol mewn perthynas â’r camau gorfodi a gyflawnir o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Wrth gwrs, mae’n amlwg y bydd y ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau a dull Llywodraeth Cymru o weithredu newidiadau i gyfraith Cymru yn sgil gadael yr UE. Ond mae’n werth rhoi sylwadau ar y camau a gymerir i ddiogelu ein hadnoddau naturiol, gan nad oes unrhyw ystyr i hynny os nad yw’r gyfraith yn cael ei gorfodi.

Mae ein hadnoddau naturiol yn werthfawr tu hwnt ar gyfer ein dyfodol, yn fasnachol ac yn amgylcheddol, felly gallaf ddweud bod swyddogion wedi ymchwilio i 57 o droseddau dros y tair blynedd diwethaf, gan arwain at 31 erlyniad llwyddiannus. Ac o ganlyniad i waith caled ein swyddogion gorfodi morol, mae chwe erlyniad am droseddau pysgota wedi cael eu dwyn yn fy enw i fel Cwnsler Cyffredinol gerbron llysoedd ynadon Hwlffordd ers mis Mai eleni. Ym mis Gorffennaf, cafodd tair llong bysgota cregyn bylchog gyfanswm o £62,000 o gosbau, ac ym mis Awst erlynwyd tair llong arall gyda dirwyon a chostau cyfunol o dros £26,000. Felly, dylai’r erlyniadau hyn fod yn ataliad ac yn rhybudd clir i bysgotwyr fy mod i fel Cwnsler Cyffredinol a’r llysoedd o ddifrif ynglŷn â throseddau pysgota yng Nghymru, ac y byddaf yn cynnal ein deddfau er mwyn amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Er mwyn deall natur y prosesau gorfodi a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn well, gallaf ddweud wrthych hefyd y byddaf yn teithio i Hwlffordd yfory er mwyn ymweld â’r swyddogion gorfodi ac i drafod unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r materion pwysig hynny.

Rwy’n falch o glywed bod y Cwnsler Cyffredinol yn mynd i Hwlffordd ac yn teithio i’r gorllewin. Os caf i ofyn iddo fe: bydd e’n ymwybodol, mae’n siŵr, bod datblygu’r cynllun morol a nifer o ardaloedd cadwraeth yn y môr yn deillio’n uniongyrchol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Rwy’n credu ei bod hi’n hynod bwysig bod deddfwriaeth o’r fath yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae nifer o bobl yn awgrymu bod y ddeddfwriaeth yna ar fin cael ei thorri gan y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn brydlon i’r ddeddfwriaeth honno. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol, felly, roi gwarant i’r Cynulliad nad ydym mewn unrhyw beryg o wynebu gweithredoedd ‘infraction’ gan y Comisiwn Ewropeaidd?

Nid wyf yn credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi deall y cwestiwn yn llawn oherwydd problemau technegol, felly a fyddech chi mewn sefyllfa i ailadrodd rhan gyntaf y cwestiwn?

A gaf fi ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol—?

Is the interpretation equipment working?

Dylwn fod wedi dweud ‘un Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg’, yn hytrach na ‘drws nesaf’.

Simon Thomas, apologies but could you repeat your question?

Mae’n flin iawn gen i fy mod i ddim wedi gosod cwestiwn, ond mae gen i ddau gwestiwn beth bynnag, mae’n ymddangos. Roeddwn i’n gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol, gan fod y cynllun morol a’r ddeddfwriaeth arall mae’r Llywodraeth yn ei hwynebu yn deillio, yn y lle cyntaf, o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a gan ein bod ni eisoes yn hwyr, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, yn y dydd yn gweithredu’r cynlluniau yma, a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd—beth bynnag am ganlyniad y refferendwm—a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Cymru gan fod y ddeddfwriaeth yma’n hwyr yn y dydd yn cyrraedd? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol warantu nad yw’r Llywodraeth yn wynebu unrhyw fath o weithredu ‘infraction’ gan y Comisiwn Ewropeaidd?

O dan y gyfarwyddeb cynefinoedd, o ran adar, ac o ran llamidyddion harbwr, rwy’n meddwl, gwn fod dwy set o achosion am dorri cyfraith Ewropeaidd ar y gweill yn erbyn Llywodraeth y DU, neu gamau cychwynnol ar waith. Yn amlwg, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud rhagor am yr achosion hynny gan eu bod yn faterion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU, ac yn amlwg, bydd trafodaethau ac ystyriaethau pellach yn eu cylch. Felly, yn amlwg, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol. Mae’n rhaid i ni lynu wrth y cyfarwyddebau. Rydym eto i ddechrau proses—nid yw erthygl 50 wedi ei rhoi ar waith, felly mae ein sefyllfa yn parhau i fod yn union fel yr oedd yn flaenorol o ran ein rhwymedigaethau i sicrhau cydymffurfiaeth. Wrth gwrs, rydych hefyd yn nodi’r pwynt diddorol iawn y bydd yn rhaid ystyried, hyd yn oed ar ôl gadael yr UE, pa rannau o ddeddfwriaeth yr UE y byddwn eisiau eu cadw mewn gwirionedd gan ei bod yn ddeddfwriaeth dda a chadarnhaol ac yn llesol i Gymru.

Cefais y fraint o arwain dirprwyaeth ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cynnwys Jayne a Simon, i arfordir Ceredigion ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Un mater a ddysgasom yno gan sefydliadau morol oedd bod cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol yn torri rheolau o bosibl, yn ôl yr hyn a awgrymwyd, gan arwain, yn ddamcaniaethol o leiaf, at gamau gorfodi. Roeddem yn meddwl tybed—o dan y gyfarwyddeb honno, ceir gofyniad i lunio parthau gwarchod ac i wirio wedyn fod ganddynt statws amgylcheddol da, ond ymddengys bod cryn dipyn o orgyffwrdd â Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a’n hymrwymiadau yno, ond ceir cyfle hefyd gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i fabwysiadu ymagwedd fwy rhagweithiol ac uchelgeisiol. Bûm yn meddwl tybed a fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cefnogi’r ymagwedd ehangach honno—neu i ba raddau y dylem boeni ynglŷn ag wynebu achos am dorri cyfraith Ewropeaidd o dan gyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol.

Yn amlwg, fy rôl i yw cynghori pan fo materion penodol yn codi wrth fynd ati i weithredu polisi, a chredaf fod datblygiad ardaloedd gwarchodaeth arbennig yn gwestiwn y byddai’n well ei gyfeirio at yr Ysgrifennydd Cabinet priodol yn ôl pob tebyg.

3. 3. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Ddull Gweithredu’r Pwyllgor o ran ei Gylch Gwaith, a Sut y mae’n Bwriadu Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddull gweithredu’r pwyllgor o ran ei gylch gwaith, a sut y mae’n bwriadu ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwy’n galw, felly, ar Gadeirydd y pwyllgor hynny, Bethan Jenkins.

Dangoswyd cyflwyniad i gyd-fynd â’r drafodaeth. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Diolch yn fawr, Lywydd. Dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad hwn sefydlu pwyllgor a fydd yn gyfrifol am gyfathrebu, darlledu a’r cyfryngau—pwyllgor sydd wedi ymrwymo i ddwyn darlledwyr a chyfryngau eraill i gyfrif. Mae hwn yn faes hollbwysig i Gymru. Mae angen cyfryngau arnom sy’n adlewyrchu’r wlad hon, ac sy’n egluro i’w dinasyddion sut yr ydym ni yn newid fel cenedl. A dylai’r Cynulliad hwn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu gwasanaethu’n briodol gan y rhai sy’n gwario arian cyhoeddus ar eu rhan.

Er bod y cymhwysedd ar gyfer darlledu a’r cyfryngau yn gyfyngedig ar hyn o bryd, mae consensws nawr yn bodoli—yn y lle yma, gyda Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill—bod y cyfryngau a’r darlledwyr yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran eu cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau yng Nghymru. Bydd y pwyllgor yma yn rhoi’r ffocws angenrheidiol ar gyfer yr atebolrwydd hynny, ac rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy ethol yn Gadeirydd.

However, our remit is much wider than communications. Culture, the arts and the historic environment—key components in how we see and express ourselves as a nation—are also part of the committee’s role. These are the things that enrich our lives and that make us distinctive. They provide real wealth in ensuring that Wales is known throughout the world.

The Welsh language is the foundation of our culture and heritage, and the vehicle for so much of what is unique about our arts. Whether we speak it or not, it is one of the most defining features of what it is to be Welsh. The language belongs to us all, and so I am pleased that the Welsh Government has set an ambitious target of 1 million Welsh speakers by 2050.

Nid oes dim amheuaeth ei fod yn darged uchelgeisiol, a chymaint ag y mae’r pwyllgor yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r targed hwn, mae’n hanfodol bod y strategaeth a’r camau penodol ar hyd y ffordd yn cael eu craffu’n drwyadl, fel y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad fodloni ein hunain eu bod yn realistig ac yn gyraeddadwy.

Cyn toriad yr haf, cytunodd y pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr hyn ddylai fod yn flaenoriaethau i’r pwyllgor yn y pumed Cynulliad. Cawsom amrywiaeth eang o ymatebion, ar draws pob maes o’n cylch gwaith, gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith, a hynny drwy gyfrwng pob maes—y cyfryngau cymdeithasol, e-bost, negeseuon uniongyrchol—pa bynnag ffordd a oedd yn haws i’r cyhoedd gysylltu â ni. Yn yr haf, mewn darllediad byw ar Facebook—rwy’n credu bod y Llywydd hefyd wedi gwneud un—eglurais i waith y pwyllgor. Cafodd ei ddarlledu’n fyw, a’i wylio gan dros 2,000 o bobl.

Yr wythnos diwethaf, defnyddiodd y pwyllgor yr ymatebion hyn i’n llywio a’n harwain wrth i ni ystyried ein blaenoriaethau ar gyfer y Cynulliad hwn. O ganlyniad, rydym wedi cytuno y dylai ein hymchwiliad ffurfiol cyntaf ganolbwyntio ar sut y gellir cyflawni’r nod o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd hwn yn ymchwiliad cymharol fyr a phenodol a fydd yn ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu’r uchelgais hwn, wrth geisio dylanwadu ar sut y gellir ei gyflawni.

Mae’r pwyllgor hefyd yn bwriadu cynnal nifer o ymchwiliadau eraill. Rydym fel pwyllgor yn pryderu am y dirywiad parhaus mewn cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol yng Nghymru. Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed bod MagNet, gwasanaeth ‘hyperlocal’ Port Talbot, wedi cyhoeddi ei rifyn olaf y penwythnos hwn. Bydd ymchwiliad i ddod o hyd i atebion go iawn a pharhaol yn un o’r blaenoriaethau cyntaf.

Rydym yn pryderu mai yn anaml iawn y caiff Cymru ei phortreadu ar rwydweithiau darlledu’r Deyrnas Unedig, a’n bwriad yw gwneud gwaith ar hyn. Rwy’n falch y bydd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yn dod gerbron y pwyllgor ar 2 Tachwedd, pan rwy’n disgwyl iddo wynebu cwestiynau gweddol galed gan yr Aelodau ar y mater hwn.

Mae angen rhoi rhagor o ystyriaeth i rôl radio yng Nghymru. Mae rhai o’r gorsafoedd radio cyhoeddus a masnachol mwyaf poblogaidd sy’n darlledu yng Nghymru yn darparu braidd dim cynnwys o Gymru ac, yn arbennig, dim newyddion o Gymru. Y flwyddyn nesaf, bydd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn adolygu cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C. Bydd angen i ni chwarae rhan lawn yn yr adolygiad hwnnw, a cheisio dylanwadu ar ei ganlyniad.

We received a range of other suggestions through the public consultation, all of which are worth considering. So, we have come up with the idea that the public should decide what our next full inquiry should be, after the work that we’ve done on the Welsh language strategy is finished. I think I’m right in saying that this will be the first time that this direct influence on our work has happened. Yes, we all consult and engage as well as we possibly can as Assembly Members with our constituents, but research carried out by Dr Andy Williamson shows that we really need to develop how people help make decisions here, so they can shape the agenda and potentially, I hope, feel more empowered through these democratic processes. This institution was established as a way of moving decisions about people’s lives closer to those who are affected by them, and I see this move very much as the next step in that ambition. So, we will now conduct an online poll—you’ll see you the graphics around you here today, expertly done by our communications team—as well as allowing people to contribute in the more traditional ways. So, we’ll be allowing people to do the poll by paper and send the information back by freepost—just in case there are people who will ask me that question afterwards—and we will launch it next week.

So, we’ll be asking the public which one of the following ideas they like: strengthening the participation and improving the access to politics; preserving local cultural heritage in Wales; how history is taught in Wales, particularly Welsh culture and heritage; how to develop and promote the Wales brand; the Welsh Government’s review of local museum provision in Wales; supporting and developing unique and traditional art forms in Wales; funding of the arts at a grass-roots and local level; a strategy for artists’ fees and terms for the visual and applied arts in Wales; developing the music industry in Wales; funding for and access to music education; bilingual support for deaf, hard of hearing and people with communication difficulties. Now, this doesn’t mean that we’ll ignore all but the most popular issue. How the public responds to these suggestions will help us decide our priorities further down the line. And we fully intend to follow up all of these areas through potential formal inquiries, asking questions to Ministers, or by seeking Plenary debates.

Mae gan y pwyllgor bellach raglen amrywiol a phwysig o waith o’i flaen. Rydym wedi gwrando ar y cyhoedd, ac rwy’n llawn fwriadu, fel Cadeirydd, barhau â’r ffordd newydd hon o symud ymlaen, gyda phobl yn bartneriaid yn ein gwaith. Rwy’n croesawu nawr cwestiynau gan Aelodau eraill. Diolch yn fawr.

Diolch, Lywydd, a diolch am hynny hefyd, Bethan.

I hope, actually, that the Assembly is rather inspired by the way that this committee is attempting to engage more widely, and by that I mean engagement being a two-way process. It’s one of those jargon words we kind of take for granted, actually, but this isn’t just about this committee trying to seek information or ideas from outside this building, but, actually, allowing the people of Wales to influence what the agenda is in this place as well.

One of the observations I think all of us might have made of the last Assembly—and I hope this doesn’t sound too critical—but certainly, working on committees, we tended to see the same people responding to the consultations, the same people coming in to give us evidence, and sometimes that evidence was verging on the predictable. So, I think this is a big step forward, and this is why I’m saying I hope it inspires other committees to look at the way this committee is doing its work, so that, actually, we can hear from people we don’t usually hear from. And I suppose this is one of my more difficult questions for you, Bethan, on the back of this statement: who else are we hoping to engage, and is this a sort of general attempt to speak to absolutely everybody in Wales, or is this committee going to work through a series of priorities of new groups, and perhaps new geographical areas of Wales that don’t necessarily traditionally take part in consultations?

I welcome the focus that you gave in your presentation now on the work we’ll be doing on media. Obviously, in the short to medium term, it’s inevitable that we’ll be talking quite a lot about the media, what with S4C’s review on the horizon. I hope, of course, that we will continue, as an Assembly, to talk about the role of the media in the scrutiny of this place itself. One of our roles as the committee, of course, is to scrutinise the Government; we can’t just leave that to the media. And perhaps this is as pertinent a time to mention that today’s statement on Historic Wales would have been introduced as an oral statement yesterday rather than today, because it might have given us a chance to scrutinise you, Cabinet Secretary, rather than me having to ask Bethan now. Could we please ask our committee to scrutinise the Cabinet Secretary on simple matters like whether bringing together commercial functions will actually help secure new sources of income for Cadw and the national museum, and why the merger of Cadw and the National Museum is even on the table? I’m sure the Government is still bearing the scars of the fight in the last Assembly regarding the royal commission.

So, my question on the back of that is: with so many institutions within the purview of this committee either part of Government or, even if they’re at arm’s length, heavily funded by Government, I wonder if you’d support me in hoping that we might be able to have some of these bodies themselves come before our committee rather than having to filter questions through a Minister. I don’t know if you can give me an answer to that one today, but I’d certainly love you to say ‘Yes’.

Then, just finally, obviously we talk about art, heritage and culture a lot within our committee, I’m wondering how the committee is going to work with other committees on cross-cutting issues. Clearly, we’re talking about the arts and its use in, perhaps, mental health or heritage’s regeneration. I don’t really want that to fall off our longer term five-year agenda. Thank you.

Diolch yn fawr, Suzy. Diolch i chi am y cadarnhad ein bod yn ceisio gwneud pethau’n wahanol, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno ynglŷn â hynny. O’m rhan i, credaf mai’r rheswm pam roeddwn i’n bersonol—ac rwy’n siŵr y bydd barn gan Aelodau eraill—yn awyddus i ganiatáu i’r cyhoedd benderfynu’n uniongyrchol ynghylch yr hyn a wnawn—ac nid wyf yn bwriadu tramgwyddo unrhyw un sy’n eistedd yma—yw am fod gennym ein prosiectau bach ein hunain weithiau, ac mae’n bosibl y byddwn yn gwthio’r prosiectau hynny yn eu blaenau weithiau ac efallai na fyddwn yn gwybod—efallai na fyddwn yn gwybod—mai dyna y mae pobl eisiau i ni ei drafod. Felly, cynllun peilot yn unig yw hwn er mwyn gweld os yw hyn yn gweithio. Nid wyf yn dweud y bydd yn ateb i’n holl broblemau, ond credaf ei fod yn rhywbeth y dylem geisio ei wneud o leiaf. Mae gennym bum mlynedd fel pwyllgor a theimlaf, fel pwyllgor cyfathrebu, y byddem yn esgeulus pe na baem yn ceisio edrych ar y ffyrdd newydd hynny o weithio a cheisio cyrraedd y bobl nad ydynt o reidrwydd yn siarad â ni’n rheolaidd. Ond hefyd, fel y gwyddoch, mae gennym dîm allgymorth ardderchog a gobeithiaf y gallant ein helpu gyda’r gweithgaredd hwn fel y gallant ymchwilio’n ddyfnach wedyn o ran siarad â phobl wahanol i’r un hen rai. Credaf y gall hynny fynd yn bell i’n helpu ni i symud ymlaen hefyd.

O ran Cymru Hanesyddol, mae’n wir, nid fi yw’r un a all ateb hynny—byddai gwneud hynny’n gyfystyr â dyrchafu fy hun i swydd arall—ond credaf y byddai’n rhywbeth y gallem ei ystyried fel pwyllgor o bosibl. Os oes newidiadau sylweddol ar y ffordd—ni wyddom yn iawn eto; mae yna grŵp yn edrych ar hynny—credaf y byddai’n werth i ni ffurfio safbwynt o leiaf. Ond wrth gwrs, byddai’n rhaid i ni wneud y penderfyniad hwnnw fel pwyllgor, fel y gwyddoch.

Cytunaf â chi ynglŷn â’r agenda hyd braich, yn bersonol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi llythyr cylch gwaith i gyrff o’r fath, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, ond credaf y byddai’n gymorth i ni ddeall eu gwaith yn well pe baent yn dod i mewn. Nid oes rhaid i hynny fod yn ffurfiol: gallem ymweld â hwy fel y gwnaethom heddiw gydag ITV a’r BBC. Ond am wn i, byddai’n dda ei gofnodi er mwyn i ni allu deall yn iawn sut y maent yn gweithredu.

Felly, gobeithiaf fod hynny’n ateb y rhan fwyaf o’ch cwestiynau. O ran y materion trawsbynciol wrth gwrs, efallai y byddwn yn dymuno edrych, er enghraifft, ar addysg Gymraeg. Felly, wrth gwrs, byddem yn awyddus i drafod gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pe baent yn gwneud gwaith ar hynny. Yn amlwg, ni fyddem am ddyblygu’r gwaith. Rydym yn parablu digon ynglŷn â dyblygu gwaith Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn credu y byddai’n edrych yn dda iawn pe baem yn dechrau gwneud hynny yma yn y sefydliad hwn.

Diolch, Lywydd. Mae’n braf cymryd rhan yn y ddadl yma a hefyd croesawu Bethan i’w rôl arloesol fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant sy’n gweithredu mewn modd arloesol fel rydym newydd ei glywed, hynny yw y cyfathrebu yma. Gan fod cyfathrebu mor ganolog i waith y pwyllgor yma, mae ein cyfathrebu hefyd yn arloesi yn y maes, drwy’r ffordd mae Bethan newydd ei hamlygu efo’r ffordd yr ydym wedi bod yn cyfarfod a chyfathrebu efo’r cyhoedd dros yr haf. Wrth gwrs, bydd y math o gyfathrebu yna a chraffu ar sut y mae’n cyfryngau ni’n cyfathrebu negeseuon am y lle yma ac am Gymru yn y cyd-destun Prydeinig hefyd yn rhan annatod o friff newydd y pwyllgor yma.

Roeddwn yn mynd i bwysleisio treftadaeth Cymru. Mae’r ‘issue’ yma wedi codi yn y dyddiau diwethaf. Roedd yna sôn wrth basio yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf am Cymru Hanesyddol—Historic Wales, ac mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet grybwyll beth oedd ar fin digwydd. Wrth gwrs, rydym wedi cael y datganiad ysgrifenedig yma heddiw, sydd gerbron, ond rwy’n credu bod yna gryn bryder ar lawr gwlad ynglŷn â’r penderfyniad yma, neu’r ffordd ymlaen fan hyn, ac mae nifer o bobl yn pryderu beth mae hyn i gyd yn mynd i olygu i’n hamgueddfa genedlaethol ni, er enghraifft, heb sôn am Cadw ac efallai sefydliadau cenedlaethol eraill. Rwy’n credu bod y pwnc yn haeddu lefel ddyfnach o graffu nac sydd wedi bod yn bosibl hyd yma, ac, fel y gwnes i ddweud yn y Siambr yma prynhawn ddoe, buaswn i eisiau dadl lawn yn amser y Llywodraeth ar y pwnc pwysig yma. Mae yna gryn bryder ar lawr gwlad ac rwy’n credu bod rhaid inni gael y materion hyn allan yn yr agored. Wedyn, buaswn i’n galw am ddadl lawn yn amser y Llywodraeth yn y Siambr yma ar Dreftadaeth Cymru. Wrth gwrs, buaswn i hefyd yn disgwyl y buasem ni, yn dilyn beth mae Suzy wedi’i ddweud, yn y pwyllgor yn gallu craffu ar y syniad yma hefyd, achos mae yna gryn anniddigrwydd, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni adlewyrchu’r anniddigrwydd yna yn ein gweithgareddau yn y lle hwn.

Fel arall, gwnaf orffen trwy gytuno â chi y bydd yna rai materion sydd yn torri ar draws gwaith fwy nag un pwyllgor, ac, wrth gwrs, rydym ni’n edrych ar yr iaith Gymraeg yn y pwyllgor yma, ond, gan feddwl bod y Llywodraeth a ninnau i gyd yn mynd i gyfrannu at gyrraedd y targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd trwy’r ganrif yma—wrth gwrs, yn rhannol, mae rhan fwyaf o’r gwaith yna’n mynd i gael ei wneud yn y sector addysg—ac o feddwl am ein gwaith craffu ni fel pwyllgor, bydd yn rhaid i ni edrych ar sut y mae’r cyflawniad yna’n mynd i ddigwydd hefyd. Bydd rhaid inni fod yn cydlynu efo’r pwyllgor addysg yn hyn o beth. Diolch yn fawr iawn i chi am adroddiad bendigedig a hefyd am arweiniad aeddfed ac arloesol.

Diolch, Dai. Wnes i ddim talu Dai i ddweud y pethau hynny. [Torri ar draws.] Byddai’n sgandal pe byddai hynny wedi digwydd.

Rwy’n credu ei fod yn bwysig inni geisio cyfathrebu â phobl Cymru mewn ffordd arloesol. Fel y dywedais i wrth Suzy Davies, mae’n rhaid inni edrych ar fodelau o wledydd eraill dros y byd hefyd i weld sut y maen nhw’n cyfathrebu gyda phobl. Nid oes un ateb gan unrhyw un ohonom ni yn yr ystafell yma, nid wyf i’n credu. Rydym ni i gyd yn ceisio ein gorau glas, ond efallai weithiau fod yna ffyrdd gwahanol newydd, efallai eithaf radical, efallai—. Mae syniadau yn dod i fy mhen i ac mae pobl yn dweud, ‘Wel, na, efallai dylem ni ddim trio hynny’. Er enghraifft, wnes i feddwl am syniad lle gallem ni gael côr yn canu ‘terms of reference’ y pwyllgor ac efallai fod hynny wedi bod yn boenus i’r clerciaid yn y tîm pwyllgor. Mae yna ffyrdd o wneud pethau. Roeddwn i’n ceisio dweud, os ydym yn bwyllgor dros y cyfryngau a’r celfyddydau, sut ydym ni’n defnyddio’r celfyddydau trwy ein gwaith yn hytrach na dim ond cael pobl i mewn i’r pwyllgor. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth creadigol y gallem ni edrych i mewn iddo.

Eto, mae Dai Lloyd yn trafod Treftadaeth Cymru ac, eto, buaswn i’n dweud wrth gwrs ei fod yn rhywbeth i ni fel pwyllgor feddwl amdano. Byddai’n edrych yn od pe byddai rhywbeth yn mynd heibio heb ein bod ni’n edrych arno, ond nid fi ar fy mhen fy hun sydd i wneud y penderfyniad hwnnw. Buaswn i’n hoffi trafod hynny ymhellach gyda phob aelod o’r pwyllgor. Mae’n bwysig bod sefydliadau cenedlaethol yn cael eu hamddiffyn ac mae’n bwysig ein bod ni’n sefyll yn gryf o blaid hynny.

O ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn hapus mai’r Gymraeg bydd ffocws cyntaf y pwyllgor yma a bod pobl yn gallu cael mewnbwn clir i mewn i waith y Gweinidog yn ei strategaeth newydd i geisio cyrraedd y targed arloesol hynny. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n chwarae rhan ganolig o ran sicrhau ein bod yn siapio’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y targed hwnnw’n gallu cael ei warantu a’n bod ni’n gallu cyrraedd y targed a lle nad ydym mewn sefyllfa lle nad yw hynny’n digwydd a bod angen ailedrych ar y sefyllfa eto. Mae yna lot fawr o bobl yn ennyn natur da’r amcan hynny ac mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn gefnogol o hynny.

A gaf fi hefyd longyfarch y Cadeirydd a’r pwyllgor am edrych ar ffyrdd arloesol o ymgysylltu â’r cyhoedd a’r pwyllgor? Fe sonioch am y cyfryngau, ac maent wedi cael eu trafod gryn dipyn, ond rydym yn tueddu i ganolbwyntio llawer ar y BBC ac S4C yn y cyfryngau, ac ni sonioch yn eich datganiad am y cyfryngau hyperleol a cholli’r ‘Port Talbot MagNet’. Rydych chi a minnau wedi cefnogi’r cyhoeddiad hwnnw. A wnewch chi hefyd edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a goblygiadau cyfryngau cymdeithasol i weithgareddau cyfathrebu a’r cyfryngau, gan y gallem weld sefyllfa lle byddem yn gweld y cyfryngau cymdeithasol yn goddiweddyd rôl gweithgareddau’r cyfryngau hyperleol a gallem golli’r cyhoeddiadau buddiol hyn i’n cymunedau lleol o ganlyniad i hynny? Felly, yn eich ymchwiliad, a wnewch chi sicrhau bod yr agwedd honno yn cael ei hystyried yn drwyadl, a bod effaith yr agwedd honno yn cael ei hystyried?

Diolch am eich sylwadau, David. Yn amlwg, rwy’n rhannu eich tristwch fod y ‘Port Talbot MagNet’ yn dod i ben. Bob tro y byddwn yn siarad mewn gwahanol ddigwyddiadau cyfryngol, roeddwn bob amser yn tynnu sylw atynt fel goleuni disglair yn nhywyllwch y sefyllfa lle rydym wedi gweld ‘The Merthyr Express’, ‘The Neath Guardian’ ac eraill yn cau eu swyddfeydd, gan ei gwneud yn amhosibl i bobl siarad â gohebwyr ac adrodd eu straeon wrthynt am eu cymunedau. Credaf fod hynny’n rhywbeth roedd y ‘MagNet’ yn ceisio ei wneud mewn ffordd effeithiol, ac nid straeon arwynebol efallai—roeddent yn adrodd straeon eithaf difrifol, ac rydych chi a minnau wedi rhoi straeon o’r fath iddynt. Felly, credaf ei bod yn bwysig cadw hynny.

Ond yn fy marn i—a chredaf fod aelodau eraill o’r pwyllgor yn cytuno â mi yn hyn o beth, gan ein bod wedi trafod y peth yn breifat—mae pobl yn aml yn disgrifio’r broblem mewn perthynas â’r hyperleol a dod o hyd i atebion, ond nid oes ateb gan unrhyw un mewn gwirionedd. Felly, os ydym yn cyflawni gwaith, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn edrych yn fanwl ar beth y gallai’r atebion hynny fod. Yn amlwg, mae Golwg360 wedi derbyn arian gan y Llywodraeth ar gyfer eu gwefan drwy gyfrwng y Gymraeg, ond a ydym am weld hynny’n digwydd drwyddi draw? A fyddant yn teimlo y byddai ganddynt fuddiant personol yn y newyddion pe baent yn cael cyllid gan y Llywodraeth? A oes ffordd arall o’i wneud? A gawn ni edrych ar fusnesau lleol, mentrau bach a chanolig yn y sector bwyd, yn y sector amaethyddol, er mwyn gweld sut, efallai, y gallai hynny fod yn berthnasol wedyn i’r sector cyfryngau yng Nghymru? Credaf ein bod yn ei roi mewn bocs bach gan feddwl nad oes ffyrdd eraill o’i wneud.

Ond rwy’n derbyn eich pwynt o ran y cyfryngau cymdeithasol a’r goblygiadau. Credaf fod llawer ohonom, fel y Llywydd a minnau, wedi gwneud Facebook live am ein bod yn teimlo bod yn rhaid i ni greu ein hagenda ein hunain os oes diffyg darpariaeth newyddion neu allfeydd newyddion i ni yma yng Nghymru. Felly, credaf fod y cyfryngau cymdeithasol yn llenwi’r bwlch hwnnw weithiau. Nid wyf o reidrwydd yn gwybod eto—efallai eich bod chi’n gwybod—a fydd yn fygythiad mewn gwirionedd i fusnesau newydd o’r fath, ond mae hynny’n rhywbeth y gallem ei ystyried fel pwyllgor o bosibl. Ond diolch i chi am eich sylwadau.

4. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): TB Buchol

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, y ddadl ar TB buchol. Rwy’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6088 Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton, Llyr Gruffydd

Cefnogwyd gan Angela Burns, Janet Finch-Saunders, Andrew R.T. Davies, Adam Price, Mark Isherwood, Dafydd Elis-Thomas, David Melding, Russell George, Nick Ramsay, Mohammad Asghar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a’r cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn ardal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae dda gen i agor y ddadl yma. Rwy’n arbennig o falch bod y ddadl yn un sydd yn cynnwys nifer o bob plaid—gwrthblaid, beth bynnag—yma, ac yn ymgais, rwy’n gobeithio, i roi gerbron y Senedd ddarlun o’r hyn sydd yn digwydd nawr, heddiw, ar lawr gwlad yn ein cymunedau gwledig ni a’r bygythiad i fywyd teuluol, i fywyd fferm ac i fywyd cymunedol y mae’r clefyd yma’n ei gynrychioli. Rydym ni’n edrych ymlaen at y datganiad mewn rhyw dair wythnos, rwy’n credu, gan y Llywodraeth ynglŷn â’u cynllun nhw ar gyfer difa’r diciáu mewn gwartheg. Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl yma yn rhoi cymorth i’r Llywodraeth drwy roi darlun eang a dwfn iddyn nhw o’r problemau y mae amaethwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

A gaf i jest ddweud gair am eiriad y cynnig rhag ofn bod pobl yn gofyn pam mae’r cynnig wedi ei eirio fel y mae? Mae wedi ei seilio ar y cyngor a gafodd y Llywodraeth gan ei grŵp ymgynghorol hithau ynglŷn â lles anifeiliaid, gan gynnwys lles anifeiliaid fferm, a gyhoeddodd ei adroddiad ar 28 Gorffennaf, adeg y sioe fawr. Yn y papur hwnnw, fe ofynnwyd yn benodol am gynllun i ddifa TB a fyddai’n gyfuniad o wahanol fesurau wedi eu hanelu at bob ffynhonnell—ffynonellau yn y buchesi a ffynonellau bywyd gwyllt—ac a fyddai’n caniatáu i ni ddifa TB buchod. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn gofyn am gyflwyno rhyw fath o raglen ar y dicáu mewn gwartheg a oedd yn cynnwys asesiad gwahanol yn yr ardaloedd yna lle oedd y digwyddiadau yn isel, ac i edrych ar reolau ar gyfer TB a oedd yn gymesur â statws y clefyd yn y gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Felly, dyna bwrpas y ddadl, ac rwy’n gobeithio y bydd modd i’r Cynulliad cyfan uno o gwmpas dadl sydd mor bwysig i’n hamaethwyr ni.

Does dim dwywaith am yr effaith y mae TB yn ei chael ar ffermydd godro a ffermydd cig eidion ar hyn o bryd, nid jest yn gyllidol ac yn ariannol, ond yn emosiynol hefyd, achos mae cymaint o fuddsoddiad o ran amser teuluoedd cyfan, gweithwyr a chenedlaethau, weithiau, yn y buchesi. Er bod nifer y buchesi sydd wedi’u heffeithio gan TB wedi gostwng yn ddiweddar—a da o beth yw hynny, o ran nifer—rwy’n credu ei bod hi’n bwysig edrych ar y ganran. Mae pob un ohonom ni sydd wedi bod yn edrych ar y sefyllfa gyda ffermydd godro yn gwybod yn iawn fod nifer o ffermydd wedi mynd allan o fusnes dros y degawd diwethaf. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod bod 56 y cant o’r holl fuchesi godro yng Nghymru eleni wedi cael eu heffeithio gan ryw fath o gyfyngiadau yn deillio o ddigwyddiad o’r clefyd hwn—56 y cant. Ddeng mlynedd yn ôl, 38 y cant o’r holl fuchesi a gafodd eu heffeithio. Felly, ie, mae gostyngiad yn y nifer, ond mae yna gynnydd yn y ganran. Mae cynnydd arbennig, wrth gwrs, yn yr ardaloedd hynny sydd i fod yn ganolbwynt ar gyfer gweithredu dwys yn erbyn y clefyd yma: gogledd sir Benfro, rhannau o sir Gâr, a chynnydd syfrdanol yn nyffryn Clwyd yn ddiweddar, sydd yn dipyn o ergyd i’r rhai sy’n meddwl bod y clefyd o dan ryw fath o reolaeth yng Nghymru.

Mae yna gost sylweddol iawn i’r trethdalwr, achos fe delir—ac fe ddylid eu talu, wrth gwrs—y ffermwyr ar gyfer eu colled o dda, ac mae’r gost honno tua £100 miliwn y flwyddyn dros Brydain gyfan. Mae canran sylweddol o hynny—degau o filiynau—yn deillio o Gymru.

Mae yna un agwedd arall yr hoffwn ei hagor reit ar ddechrau’r ddadl hon, i’r Aelodau fod yn hysbys yn ei chylch, sef, nawr ein bod wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r statws marchnata rhwng Cymru a gweddill Prydain a gweddill yr hyn sy’n weddill o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynllun difa TB yn gynllun Llywodraeth Cymru—mae’n gynllun Cymru—ond y mae hefyd, yn bwysig iawn, yn gynllun y Comisiwn Ewropeaidd; mae wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae wedi’i dalu amdano, yn helaeth iawn, gan y Comisiwn Ewropeaidd. Oherwydd bod gennym ni gynllun yn ei le sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn, nid oes unrhyw ffordd i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd gwestiynu cynnyrch o Gymru. Mae cynnyrch o Gymru yn cael ei dderbyn ym mhob man yn y farchnad sengl, ac nid oes modd gwrthwynebu hynny. Ond, unwaith yr ydym ni wedi gadael y farchnad sengl, fel sy’n cael ei gynnig gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, mae modd cwestiynu Cymru wedyn. Mae gennym lefel uwch o TB yn ein gwartheg ni, ac mae modd cwestiynu, felly, a ddylid derbyn cynnyrch llaeth a chynnyrch biff o Gymru i wledydd fel Ffrainc, neu unrhyw ran arall o’r farchnad sengl. Nid oes sicrwydd y bydd gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn awr yn derbyn hynny, ac fe atgyfnerthwyd hynny ddim ond y bore yma gan Peter Midmore. Fe ddaeth Peter Midmore o Brifysgol Aberystwyth i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a gofynnwyd i’r Athro Midmore a oedd yna risg o hyn yn digwydd, a dywedodd e, yn blwmp ac yn blaen, ‘Real risk’—risg go iawn y bydd hyn yn digwydd, achos mae modd caniatáu o dan reolau’r WTO, atal allforion os oes yna broblem clefyd mewn gwlad neilltuol.

A gaf fi ganmol Simon am gyflwyno’r ddadl hon, ond hefyd am y ffordd y mae wedi ei chyflwyno yn bwyllog a rhesymegol iawn? Mae’n llygad ei le; clywsom y pryder hwnnw heddiw, ac rwyf wedi ei glywed gan ffermwyr unigol yn fy etholaeth yn ogystal ag eraill rydym wedi eu cyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae hynny’n ei gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys y tri a oedd yn dymuno gadael yr UE, ond hefyd ein Hysgrifennydd Cabinet da ein hunain, i’w gwneud yn glir i’r Comisiwn Ewropeaidd, i Aelodau’r Undeb Ewropeaidd o Senedd Ewrop sydd yno ar hyn o bryd, ac i arweinwyr y cenhedloedd eraill y dylai’r hyn sy’n dderbyniol yn awr fod yn dderbyniol ar wedyn hefyd. Os oes gennym raglen i ddileu TB ledled y DU—er bod gwahaniaethau—sy’n dderbyniol yn awr, nid oes unrhyw reswm o fath yn y byd i’w gwneud yn annerbyniol yfory. Dyna sydd angen i ni ei ddweud ar hyn o bryd.

Nid wyf yn anghytuno â Huw Irranca-Davies ar y mater hwnnw, ond byddwn yn dweud wrtho nad wyf yn credu bod y pethau hyn wedi eu gwarantu o gwbl gan fod cymaint o ansicrwydd yn y sefyllfa rydym ynddi.

Mae’n rhaid i mi ddod â fy sylwadau agoriadol i ben er mwyn i Aelodau eraill gael dweud eu barn, ond credaf ei bod yn bwysig cofnodi mai’r cyngor clir bob amser i Lywodraeth Cymru oedd y dylem ymdrin â TB yn y boblogaeth anifeiliaid fferm a’r boblogaeth bywyd gwyllt. Pan oedd gan y Llywodraeth bolisi brechu credadwy, credaf ei bod wedi gallu perswadio llawer o bobl, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, ac eraill ledled y Deyrnas Unedig, ei bod yn bosibl ymdrin â phroblem bywyd gwyllt drwy frechu moch daear. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau eraill yn y ddadl yn dweud pa un a yw hwn yn bolisi effeithiol ai peidio, ond mae’n ffaith ei fod wedi llenwi bwlch, gan ei fod yn dangos bod rhywbeth yn cael ei wneud am y fector bywyd gwyllt. Nid yw’r brechlyn hwnnw ar gael mwyach. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru ers blwyddyn fan lleiaf. Mae yna seiliau moesol difrifol dros holi a ddylem fod yn defnyddio brechlyn a fyddai’n fwy defnyddiol, mewn gwirionedd, yn Affrica ac mewn gwledydd sydd â TB ym mhoblogaeth eu plant ifanc, lle mae angen mwy a mwy o’r brechlyn ar foch daear mewn gwirionedd er mwyn iddo weithio ynddynt. Felly, credaf fod angen i ni weld cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru. Os nad ydym am ddefnyddio brechlyn i ymdrin â’r fector bywyd gwyllt, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun cydlynol ar gyfer ymdrin â TB mewn moch daear, gan mai dyna yw’r broblem yn y bôn.

Nid yw hyn yn ymwneud â throsglwyddo’r clefyd yn uniongyrchol rhwng moch daear a gwartheg. Nid ydynt yn mynd o gwmpas y lle yn lapswchan. Mae’n bresennol yn y porfeydd. Mae’n ymwneud, weithiau, â’r ffordd y mae ffermwyr yn cyflawni eu harferion eu hunain. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod yn amlwg drwy’r amser, er enghraifft, ynglŷn â’r defnydd o slyri a dulliau eraill. Ond mae’n endemig, ac mae’n endemig iawn mewn rhannau o Gymru, ac os nad oes gennym gynllun credadwy ar gyfer cael gwared arno, byddwn yn wynebu anawsterau masnach, byddwn yn wynebu anawsterau iechyd anifeiliaid a byddwn yn wynebu anawsterau ariannol difrifol i nifer o’n ffermwyr.

Nid wyf wedi crybwyll difa eto, felly fe soniaf am y difa rwyf am ei weld yn dod i ben. Y difa rwyf am ei weld yn dod i ben yw’r 117,771 o wartheg sydd wedi cael eu difa oherwydd TB yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gadewch i ni siarad am ddifa pan fo raid i ni, ond gadewch i ni ei roi yn y cyd-destun cywir o ran pa anifeiliaid sy’n haeddu ein cefnogaeth. Rwyf am weld pob anifail yn cael ei drin yn gywir, a chyda’r lefel uchaf o les, ac rwyf am weld rhywbeth yn cael ei wneud ynglŷn â’r clefyd mewn gwartheg a moch daear.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon yma heddiw. Methais fynychu’r cyfarfod briffio gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, anfonais gynrychiolydd ac rwyf wedi darllen y nodiadau’n ofalus iawn. Fel y byddwch i gyd yn gwybod, rwyf bob amser wedi ystyried y pwnc o safbwynt sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am symud ymlaen yn syth at fater moch daear. Mae’n wir fod moch daear yn dod i gysylltiad â gwartheg sydd wedi’u heintio â TB buchol, ac fel arall. Mae wedi ei brofi, ar rai achlysuron, fod rhywfaint o gyswllt a rhyngweithio rhwng y ddwy rywogaeth.

Ond hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith fod corff gwyddonol annibynnol wedi cyhoeddi adroddiad Krebs ym 1997. Daeth hwnnw i’r casgliad fod yna ddiffyg tystiolaeth y byddai difa moch daear yn helpu i reoli lledaeniad bTB mewn gwirionedd. Felly, trefnodd Llywodraeth San Steffan gyfres o dreialon i geisio dod o hyd i ateb, ac fe’u galwyd yn Hap-dreialon Difa Moch Daear—RBCT. Glynent at egwyddorion gwyddonol manwl a pharhau am bron i ddegawd. Daethant i’r casgliad na allai difa moch daear, a dyfynnaf,

wneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.

Pam felly? Un o’r pethau cyntaf y darganfu’r treial oedd bod cyfraddau TB mewn ardaloedd o ddifa adweithiol—hynny yw, difa ar ôl achos o TB gwartheg—yn uwch nag mewn ardaloedd heb unrhyw ddifa. Roedd yn 20 y cant yn uwch mewn gwirionedd. Cynyddodd hynny ein dealltwriaeth o aflonyddu a gwasgaru, pan fo moch daear â’r clefyd yn gwasgaru ac yn lledaenu’r clefyd hyd yn oed ymhellach. Yn hytrach, er mwyn cael gostyngiad bychan, hyd yn oed, mewn TB buchol, mae’n rhaid difa 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr. Mae’n rhaid gwneud hyn dros gyfnod byr iawn o oddeutu chwe wythnos bob blwyddyn. Wrth gwrs, os ydych yn lladd gormod o foch daear, rydych mewn perygl o ddiddymu’r rhywogaeth yn lleol, sydd eisoes wedi digwydd yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Mae papur Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn argymell difa yng Nghymru ar y sail hon, ar yr amod ei fod wedi’i dargedu, yn effeithiol ac yn ddi-boen. Cyfeiria ‘di-boen’ at y dull o drapio mewn cewyll a saethu, fel y’i defnyddir gan RBCT. Mae hynny’n cynyddu’r trothwy cost a budd yn sylweddol, sy’n ein harwain at yr hyn sy’n digwydd dros y ffin. Yn Lloegr, mae unrhyw esgus o ddefnydd neu ddiben gwyddonol wedi ei hen anghofio. Mae’r difa sy’n ehangu o hyd yn anwybyddu tystiolaeth Krebs yn llwyr. Mae’n drychineb digamsyniol ac yn dwll du ariannol. Ac mae’n ddigon posibl ei fod yn gwneud y broblem ddifrifol iawn i ffermwyr yn llawer gwaeth.

Yma yng Nghymru, fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y cyn-Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd y byddai’n rhaid atal brechu moch daear dros dro yn yr ardal dan reolaeth oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG. Ar y pryd, roeddem bedair blynedd i mewn i brosiect pum mlynedd yn yr ardal triniaeth ddwys honno, sydd yn fy rhanbarth. Rwy’n deall ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailasesu ein strategaeth yn unol â hynny. Ond wrth wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i lynu at y wyddoniaeth. Fel y dywedodd yr Arglwydd Krebs yn ddiweddar am—nid wyf am ddweud ‘treialon’, rwyf am ddweud y ‘difa yn Lloegr’:

Mae difa moch daear yn fater eilradd. Yr unig ffordd effeithiol o atal TB yw atal y lledaeniad o fuwch i fuwch drwy gynnal mwy o brofion a phrawf llawer gwell.

Ac mae hynny hefyd, gyda llaw, yn egluro’r cynnydd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, o 50 y cant yn nifer y buchesi y nodwyd eu bod wedi’u heintio, gan ein bod mewn gwirionedd wedi eu sgrinio’n amlach ac yn fwy rheolaidd.

Rwy’n canmol Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd difrifol y mae wedi dadlau ei achos, yn enwedig ei gasgliad, gan mai dyna sut yr oeddwn yn bwriadu dechrau fy araith, beth bynnag, er mwyn tynnu sylw at y difa gwartheg sylweddol sydd wedi digwydd—heb unrhyw ymgynghori. Ers 1996, mae bron i 120,000 o wartheg wedi cael eu lladd yn rhan o’r broses o reoli twbercwlosis mewn gwartheg. Felly, mae’n rhaid ystyried y ddadl hon, sy’n digwydd mor aml yng nghyd-destun y rhaglen ddifa moch daear, mewn cyd-destun llawer ehangach, gan fod rhywogaethau eraill hefyd wedi cael eu difa yn naturiol yn sgil y cynnydd afreolus yn nifer y moch daear yng nghefn gwlad—draenogod, llyffantod, nadroedd, nadroedd defaid, ac yn y blaen. Felly, gall natur gignoeth fod yn annymunol iawn, gwaetha’r modd, ond dyna yw realiti bywyd gwyllt.

Mae’r problemau yng Nghymru yn arbennig o ddifrifol. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2015, lladdwyd 9,500 o wartheg, sy’n gynnydd o 43 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’n broblem arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Yn Sir Benfro, bu cynnydd o 55 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd hyd at fis Mehefin 2015. Yn Sir Gaerfyrddin, bu cynnydd o 89 y cant. Cyfeiriodd Simon at y problemau penodol yng Nghlwyd, lle bu cynnydd o 129 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd. Mae’r rhain yn ffigurau ofnadwy ac mae pob un yn drasiedi i’r fferm yr effeithiwyd arni a’r teulu sy’n ei ffermio.

Felly, nid yw hon yn broblem sy’n mynd i gael ei datrys yn fuan iawn. Y drasiedi ar hyn o bryd, yn sgil y diffyg brechlyn, yw nad oes gan y Llywodraeth unrhyw bolisi i bob pwrpas. Mae canran y buchesi yng Nghymru sydd o dan gyfyngiad ar hyn o bryd wedi codi o bron 4 y cant yn 2006 i bron 6 y cant yn 2015, ac mae hynny wedi arwain hefyd at gostau ac anawsterau sylweddol i’r ffermydd unigol dan sylw. Heb os, mae brechu’n rhan o’r ateb i’r broblem, ond ni fydd gennym frechlyn ar gael yn gyffredinol tan o leiaf 2023, yn ôl y diwydiant.

Hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu, rhaid i ni gofio na fyddai hynny’n creu imiwnedd mewn moch daear sydd eisoes wedi’u heintio, er y byddai’n helpu i atal moch daear eraill rhag cael eu heintio. Fodd bynnag, dywedir ei bod yn bosibl nad yw effeithiolrwydd y brechiad ei hun yn fwy na 70 y cant neu 80 y cant. Felly, hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu priodol, ni fyddai hynny’n ateb 100 y cant.

Mae cost y polisi presennol yn sylweddol—neu’r polisi a oedd gennym tan i’r brechlyn ddiflannu, hynny yw. Yn 2015, gwariwyd £922,000 ar 1,118 o foch daear—sef £825 am bob mochyn daear. Ni wn sut y gallwn ddod i’r casgliad fod hwn yn bolisi y gallwn ei fforddio, os yw’n mynd i gael ei roi ar waith i gyflawni’r lefelau yr hoffem eu gweld o ran cael gwared â’r haint.

Mae gwell gwyliadwriaeth a bioddiogelwch yn bwysig hefyd, a heb amheuaeth, maent wedi cael effaith ar y ffigurau. Maent wedi lleihau nifer y digwyddiadau newydd—mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny—o 1,112 yn 2012 i lawr i 854 yn 2014, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. Ond mewn gwirionedd, mae nifer y gwartheg a laddwyd wedi codi wrth i nifer y buchesi a heintiwyd bob blwyddyn ostwng. Yn 2014, lladdwyd 8,103 o wartheg, o gymharu â 6,102 yn 2012.

Mae’n rhaid i ni gofio bod twbercwlosis yn glefyd ofnadwy, a bod y moch daear a heintiwyd yn dioddef hefyd. Felly, bydd unrhyw ddull y gallwn ei ddefnyddio a fydd yn arwain at y budd hirdymor o leihau nifer yr achosion o TB mewn moch daear yn dda i’r moch daear eu hunain. Mewn gwirionedd, mae’n greulon cael polisi nad yw’n gweithio. Felly credaf, efallai, y dylem fod yn llai cysetlyd ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’r mater hwn.

Nid oes amheuaeth fod moch daear yn lledaenu twbercwlosis i wartheg—mae hynny wedi ei brofi’n wyddonol. Mae wedi ei brofi hefyd fod difa moch daear yn lleihau’r achosion o TB mewn buchesi. Clywais yr hyn a ddywedodd Joyce Watson ynglŷn ag adroddiad Krebs, ond mae adroddiad Krebs wedi cael ei feirniadu am lawer o resymau oherwydd y gwendidau a’r anomaleddau yn ei strategaethau. Nid oes amser gennym i drafod hynny heddiw. Ond cytunaf â’i chasgliad o’r adroddiad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain y bydd yn rhaid i bolisi difa di-boen ac effeithiol wedi’i dargedu fod yn rhan o bolisi difa hirdymor. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd di-boen. Nid yw saethu gyda reifflau o bell yn ffordd ddi-boen nac effeithiol o wneud hynny—nid yw’n rhywbeth y byddwn yn ei gefnogi. Ond ceir dulliau mwy di-boen o drapio a nwyo mewn brochfeydd â charbon deuocsid, ac nid yw hynny’n angheuol i foch daear, ac eithrio mewn rhai dosau, felly os nad yw’n cael ei wneud yn iawn, nid ydynt yn teimlo unrhyw effaith wael.

Felly, ofnaf y bydd y difa’n parhau—nid difa moch daear, fodd bynnag, ond difa gwartheg, gyda’r holl gostau. Credaf fod Simon Thomas yn llygad ei le yn cyfeirio at y costau emosiynol sydd ynghlwm wrth hyn, yn ogystal â’r costau ariannol. Yn y pen draw, o ran ein trafodaethau gyda’r UE, cytunaf gydag ef a Huw Irranca-Davies y gallai hwn fod yn rhwystr y bydd yn rhaid i ni ei oresgyn. Mae’n hynod bwysig, felly, fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt cadarn ar hyn, a chredaf fod Huw Irranca-Davies wedi dangos y ffordd ymlaen—o dan y drefn bresennol sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, nid oes unrhyw esgus o gwbl dros ddefnyddio hyn, fel y gwnaeth Ffrainc mewn perthynas â BSE, i geisio rhwystro allforion cynhyrchion cig o Gymru neu’r Deyrnas Unedig.

Felly, er nad oes gennym ateb cyflawn, efallai, o ran y problemau mewn perthynas â TB buchol, efallai ein bod heddiw, mewn dadl drawsbleidiol, wedi dechrau archwilio’r atebion y bydd y Llywodraeth, yn anochel, yn gorfod eu hwynebu yn y pen draw.

Fel y dywed NFU Cymru wrthym yn eu briff, TB buchol yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant gwartheg yng Nghymru. Maent yn ychwanegu bod methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r clefyd yn effeithiol mewn bywyd gwyllt yn golygu ei fod yn parhau i effeithio nid yn unig ar geidwaid gwartheg a’u teuluoedd ond ar y rhai ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi hefyd.

Maent yn dweud bod TB buchol yn

‘glefyd cymhleth sydd rhaid ei daclo’n gyfan o bob ochr, yn cynnwys mynd i’r afael â ‘r cronfeydd o glefyd mewn bywyd gwyllt, os bydd gennym unrhyw obaith o ddileu’r clefyd’.

Rydym eisoes wedi clywed bod nifer yr achosion newydd a gofnodwyd mewn buchesi yng Nghymru hyd at fis Mehefin wedi gostwng 16 y cant y llynedd, ond bod nifer y gwartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi codi 43 y cant yn y cyfnod cyfatebol. Ychwanegodd Undeb Amaethwyr Cymru ystadegyn sy’n dangos bod nifer y gwartheg yng Nghymru a gafodd eu difa oherwydd TB buchol yn y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2016 yn wedi cynyddu mwy na 900 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Dywed NFU Cymru fod rhoi diwedd ar raglen frechu Llywodraeth Cymru oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn wedi arwain at ddiffyg polisi, a hoffai llywydd UAC atgoffa holl Aelodau’r Cynulliad pa mor hanfodol yw hi fod Llywodraeth Cymru yn rhoi strategaeth ar waith i fynd i’r afael â TB buchol mewn gwartheg a bywyd gwyllt, gan ei bod yn anodd gweld heb hynny, meddant, sut y gallwn sicrhau cytundebau masnach â gwledydd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE—pwynt a wnaed yn effeithiol gan siaradwyr yn gynharach.

Wrth siarad yma saith mlynedd yn ôl, dywedais fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod

‘methu â mynd i’r afael â ffynonellau’r haint ymysg bywyd gwyllt wedi golygu bod y clefyd wedi para’n hwy ymhlith poblogaethau’r holl rywogaethau yr effeithir arnynt.’

Wrth siarad yma dair blynedd yn ôl, dyfynnais ddatganiad gan lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn y cinio blynyddol yng Nghymru, sef

‘bod arnom angen yr holl adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r clefyd, a rhaid i hynny gynnwys difa moch daear mewn ffordd drugarog wedi’i thargedu o dan amgylchiadau penodol’.

Roedd hynny dair blynedd yn ôl. Mewn e-bost, dywedodd meddyg teulu sydd wedi ymddeol yn Ninbych, ‘Mae moch daear wedi marw ar ochr y ffordd yn olygfa gyffredin. Maent yno am wythnosau. Os yw’r moch daear hyn yn cario TB, mae’n rhaid bod perygl y bydd yr haint yn cael ei drosglwyddo i wartheg ac anifeiliaid eraill. Dylai rhywun fod yn gyfrifol am gael gwared ar foch daear marw oddi ar briffyrdd cyhoeddus.’

Nawr, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn nodi bod tystiolaeth wyddonol yn profi bod moch daear a gwartheg yn lledaenu bTB i wartheg. Mae eu safbwynt yn cefnogi dull cynhwysfawr o fynd i’r afael â TB buchol, yn seiliedig ar ddefnyddio ymchwil wyddonol, ynghyd â’r defnydd o epidemioleg milfeddygol. Dywedant fod yn rhaid rhoi mesurau rheoli gwartheg ar waith ar yn un pryd ac ochr yn ochr â mesurau cydlynol ar gyfer moch daear, mathau eraill o fywyd gwyllt a rhywogaethau fferm sy’n agored i’r haint. Maent yn credu ei bod yn hanfodol lladd gwartheg sy’n profi’n bositif am TB buchol er mwyn rheoli’r clefyd mewn gwartheg, ond nad yw hynny wedi bod yn ddigon i reoli’r clefyd. Felly, maent hefyd yn credu bod angen difa moch daear mewn modd di-boen ac effeithiol wedi’i dargedu mewn ardaloedd sydd wedi eu dethol yn ofalus. Dywedant y dylai brechu gwartheg a moch daear fod yn rhan ganolog o unrhyw bolisi i ddileu TB buchol, ond na ddylid gorbwysleisio neu orliwio ei rôl bresennol, gan ychwanegu na phrofwyd bod brechlyn BCG moch daear yn diogelu rhag yr haint, nad yw’n effeithio ar foch daear a heintiwyd cyn cael eu brechu, ac nad oes brechlyn gwartheg trwyddedig ar gael hyn o bryd, sy’n golygu na allai’r DU fasnachu anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid.

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A oes unrhyw dystiolaeth o gwbl, pan gaiff moch daear eu difa, eu bod wedi cynnal profion ar y rhai a heintiwyd a’r rhai a oedd heb eu heintio â bTB? Oherwydd, os ydych yn sôn am gael darlun cyflawn, byddai angen gwneud hynny hefyd.

Unwaith eto, yn anffodus ni alloch fynychu’r cyfarfod yr wythnos diwethaf, ond esboniodd cynrychiolydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain y problemau gyda phrofion hefyd, ac mae angen eu datblygu. Felly, pan gynhaliais eu cyfarfod briffio yn y Cynulliad ar TB gwartheg yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at eu sylwadau hanesyddol, ond clywsom yn y cyfarfod hwnnw fod yr adroddiad ar yr hap-dreial difa moch daear yn 2007 wedi canfod bod moch daear yn cyfrannu’n sylweddol at y clefyd mewn gwartheg, a bod trosglwyddo o fuwch i fuwch hefyd yn bwysig iawn. O ran brechu gwartheg, clywsom nad yw brechlyn BCG yn diogelu unrhyw rywogaeth yn gyfan gwbl, nad yw’r prawf gwahaniaethu rhwng anifeiliaid wedi’u brechu ac anifeiliaid wedi’u heintio wedi’i ddilysu eto, a bod hyn yn anghyfreithlon yn yr UE ar hyn o bryd. Cawsom ein hatgoffa bod yr hap-dreial difa moch daear rhwng 1998 a 2006 wedi canfod bod difa moch daear yn rhagweithiol yn lleihau nifer y digwyddiadau TB mewn buchesi gwartheg. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn cefnogi difa moch daear fel rhan o strategaeth gynhwysfawr, ar yr amod ei fod wedi’i dargedu, yn effeithiol ac yn ddi-boen. Er eu bod, fel y clywsom, wedi tynnu’n ôl eu cefnogaeth i’r defnydd o saethu a reolir, maent wedi galw am gyflwyno rhaglenni difa yn ehangach, gan ddefnyddio trapio mewn cewyll a saethu mewn ardaloedd wedi’u dethol yn ofalus yn unig. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru roi camau pendant ar waith i fynd i’r afael â TB gwartheg, gan weithio gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain i gyflwyno’r strategaeth TB gwartheg gynhwysfawr a gwyddonol y maent yn galw amdani ochr yn ochr â’r diwydiant a llawer yn y gymuned wyddonol ehangach. Diolch.

Rŷm ni’n gwybod beth yw effaith ddinistriol y diciâu yn economaidd ar deuluoedd a busnesau fferm, ar gymunedau, ac yn emosiynol hefyd ar unigolion, gan chwalu cenedlaethau o waith a gofal yn datblygu stoc o linach ac o ansawdd. Nid oes angen i mi baentio’r darlun yna, ond rydw i yn poeni weithiau ein bod ni’n cael ein dad-sensiteiddio, yn enwedig efallai os nad ŷm ni fel gwleidyddion yn agos at rai o’r cymunedau a’r unigolion yma sy’n cael eu heffeithio.

Fel rhywun sy’n byw ar fferm deuluol—ac mae’n angenrheidiol i mi ddatgan diddordeb, wrth gwrs, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm—mae gweld ffermydd ffrindiau a chymdogion yn mynd lawr â TB—mae’r un mor erchyll o brofiad iddyn nhw heddiw ag y mae wedi bod erioed. Mae methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i daclo’r haint yn effeithiol yn golygu, wrth gwrs, bod y gwewyr a’r torcalon yna yn mynd i barhau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Nid yw yr ystadegau diweddaraf, a bod yn onest, yn ddim cysur i mi. Do, rŷm ni wedi gweld gostyngiad yn yr achosion o fuchesi sy’n cael eu heintio, ond, wrth gwrs, mae yna 30 y cant yn llai o fuchesi yn bodoli nawr o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac mae hynny yn dweud stori yn ei hun, yn fy marn i. Mae 5.6 y cant o fuchesi o dan gyfyngiadau heddiw o’i gymharu, fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, â 3.8 y cant yn 2006. Ac, wrth gwrs, y cynnydd sylweddol yma rŷm ni wedi glywed amdano yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu lladd—43 y cant yn genedlaethol dros gyfnod o 12 mis. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at Clwyd, yr ardal rwy’n byw ynddi—cynnydd o 129 y cant o’r gwartheg sy’n cael eu difa. Wrth gwrs, fe fydd pobl yn dweud, ‘Wel, rŷm ni’n profi mwy’. Ydym, fe rŷm ni—5 y cant yn fwy o brofion yng Nghlwyd; 129 y cant yn fwy o wartheg yn cael eu difa.

Mae’r prawf croen sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod TB wedi bod yn llwyddo i helpu i reoli a dileu’r haint o nifer o wledydd dros y 50 mlynedd diwethaf. Ac, yn ddiddorol, nid yw ond yn methu lle mae’r haint yn bodoli mewn bywyd gwyllt. Ym Mhrydain, mi oedd y prawf yn llwyddiannus iawn yn y 1950au a’r 1960au, heblaw am mewn ardaloedd â nifer uchel o foch daear.

Rŷm ni’n gwybod am y sefyllfa yn Lloegr—roedd yna gwymp o 53 y cant yn yr achosion newydd o fuchesi wedi eu heintio yn y chwe mis ar ôl cwblhau treialon difa moch daear ‘proactive’ yn Lloegr. Mae yna gwymp o rhwng 60 y cant a 96 y cant wedi bod yn y raddfa yr oedd buchesi yn cael eu cadarnhau i fod â chyfyngiadau arnyn nhw yn dilyn difa moch daear yng Ngweriniaeth yr Iwerddon.

Rŷm ni wedi clywed am gonsyrn ynglŷn â pherthynas masnachu Cymru â gweddill y byd. Wel, mi aeth Awstralia a Seland Newydd ati i ddileu TB yn llwyddiannus oherwydd y bygythiad penodol o gyfyngiadau masnachol ar eu cynnyrch amaethyddol nhw achos bod lefelau uchel o heintio. Yn ganolog, wrth gwrs, i’r llwyddiant hwnnw oedd rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt.

Mae’n rhaid i mi ddweud bod clywed Carwyn Jones yn y Siambr yma wythnos diwethaf yn dweud mewn rhyw arddull reit ffwrdd-â-hi nad oedd bygythiad mewn gwirionedd i fasnachu ac allforio o Gymru oherwydd TB—mi oedd hynny yn destun gofid i mi, a dylai fod yn destun gofid i bob un ohonom ni. Peidiwch chi â disgwyl i wledydd eraill i’w gwneud hi’n hawdd i ni; mae’r ‘stakes’ yn uwch nawr nag y maen nhw wedi bod erioed, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ddefnyddio pob arf posibl i daclo TB yn fwy effeithiol.

A beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud? Rŷm ni fel gwleidyddion yn licio dweud yn aml iawn, ‘Pan fyddem ni’n trafod polisi iechyd, mae’n bwysig i ni wrando ar lais y doctoriaid a’r nyrsys; pan fyddem ni’n trafod polisi addysg, mae’n bwysig i ni wrando ar yr athrawon.’ Mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg hynny ryw awr a hanner yn ôl pan oeddem yn sôn am leihau maint dosbarthiadau, er bod yr OECD, academyddion a chyrff ymchwil yn dweud yn wahanol—’O, na, mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar lais yr athrawon a rhieni’. Ie, ocê, efallai mai fel yna y dylai hi fod. Beth felly mae’r gweithwyr sydd yn y rheng flaen yn y frwydr yna yn erbyn diciâu mewn gwartheg yn ei ddweud wrthym ni? Gofynnwch i’r milfeddygon. Gofynnwch i’r BVA, cymdeithas milfeddygon Prydain. Maen nhw o blaid difa moch daear fel rhan o strategaeth gynhwysfawr i daclo diciâu, a dyna yn union sydd ei angen yn fy marn i hefyd. Mae’r amser wedi dod i’r Llywodraeth yma fod yn ddewr ac i wynebu y realiti unwaith ac am byth. Mae angen cynllun difa moch daear fel rhan o’r ateb i’r diciâu yng Nghymru ac mae ei angen ef nawr.

Rwy’n llongyfarch Simon Thomas ar gael y ddadl hon ac am gynnig ei gynnig heb grybwyll moch daear, rwy’n credu, a chredaf ein bod i gyd yn gwybod mai moch daear oedd hanfod y ddadl i ddod. Rwy’n ei chael hi’n anarferol siarad ar hyn o bryd gan nad oes gennyf farn gref o blaid neu yn erbyn difa moch daear fel ateb posibl neu o leiaf fel ffordd o wella, lliniaru, y sefyllfa o ran TB gwartheg. Pleidleisiais yn erbyn y difa a ddigwyddodd yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw, ond i mi roedd yna ddadleuon cryf ar y ddwy ochr, a chlywyd gan ffermwyr yr effeithiwyd arnynt a sawl un a oedd yn pryderu am y creulondeb posibl ac awydd i amddiffyn moch daear a ysgrifennodd ar yr ochr arall i’r ddadl. Rwy’n credu, ar y pwynt hwnnw, fodd bynnag, fod y posibilrwydd o frechu fel ateb arall yn—rwy’n meddwl bod mwy o optimistiaeth ynghylch hynny, efallai, nag yn awr, rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Fel cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mae hwn yn rhan o gylch gorchwyl y pwyllgor a rhaid i ni fel aelodau o’r pwyllgor benderfynu faint o’n hamser rydym yn dymuno’i roi i ddeall y mater hwn yn well a cheisio symud y sefyllfa yn ei blaen.

Rwy’n cymeradwyo Simon Thomas ar eiriad ei gynnig. Rwy’n credu efallai y gall y bobl sy’n credu y gallai brechu fod yn ateb realistig o hyd neu sydd â syniadau eraill ynglŷn â sut y gellid ymdrin â TB buchol gefnogi’r cynnig hwn. Ond yr hyn y byddwn i’n ei ofyn, beth bynnag yw safbwynt Aelodau, rwy’n gobeithio na fyddem yn glynu’n rhy bendant at ein safbwynt heb ganolbwyntio ac ymdrechu’n galed i ddeall tystiolaeth newydd a allai ddod gerbron. Rydym wedi clywed, rwy’n meddwl, am astudiaeth Krebs a gynhaliwyd o’r blaen, a rhai astudiaethau eraill mwy diweddar y cyfeiriodd pobl atynt, fel rhai y gallai fod goblygiadau gwahanol iddynt o bosibl. Ond hefyd, ar ochr y ffermwyr, gallaf weld y boen y mae’r mater hwn yn ei achosi iddynt, ond rwyf hefyd yn ofni y bydd y syniad o ddifa moch daear yn ateb i rai, os nad yn ateb i bob dim, ac rwy’n meddwl bod llawer o ffydd yn cael ei roi yn hynny. Ond pe baem yn dilyn trywydd cynlluniau sylweddol a pharhaus iawn i ddifa moch daear, nid yw’n glir i mi o leiaf, faint o effaith y byddai hynny’n ei chael ar y broblem, hyd yn oed pe bai’n cael rhywfaint o effaith, ac rwy’n parhau i astudio’r dystiolaeth ar y naill ochr a’r llall i hyn.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w ddweud wrthym ymhen dwy neu dair wythnos yn ei datganiad. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr adroddiad llawn ar y difa yng Ngwlad yr Haf ac yn Swydd Gaerloyw, a fydd ar gael yn ddiweddarach yr hydref hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Hyd yn oed os na fydd y sail wyddonol dros y difa yn y fan honno mor gryf ag y gallem fod ei eisiau o ran cymhariaeth, gan fod anawsterau wedi bod gyda’r ffordd y cafodd ei gynnal, rwy’n gobeithio y bydd yn symud y ddadl yn ei blaen ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n parhau i ymwneud â hyn wrth i ni ar y pwyllgor wneud yr hyn a allwn i symud y mater yn ei flaen. Edrychaf ymlaen, rwy’n gobeithio, at weld hyn yn parhau i gael ei drafod yn y Siambr hon er mwyn i ni allu adrodd rhywfaint ar y mater a gwneud y peth iawn, cystal ag y gallwn, i ffermwyr yn ogystal ag er gwarchod bywyd gwyllt ac atal creulondeb o bob math. Diolch.

Roeddwn eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar y trallod personol sy’n cael ei achosi i fusnesau a theuluoedd ffermio. Rwy’n credu bod busnesau ffermio yn unigryw yn y ffaith nad yw’r ffermwr yn mynd allan i weithio am wyth ac yn dychwelyd am chwech. Mae’r teulu cyfan yn rhan o’r busnes, gan gynnwys plant, a phan fydd problem ar y fferm, mae’n effeithio ar y teulu cyfan.

Lywydd, cysylltodd ffermwr â fy swyddfa yr wythnos diwethaf a siaradodd gyda fy rheolwr swyddfa ac roedd y ffermwr yn ei ddagrau. Roedd yn sgwrs emosiynol gyda fy rheolwr swyddfa, i’r fath raddau nes iddi effeithio ar fy rheolwr swyddfa yn ogystal.

Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei wneud heddiw oedd darllen detholiad o lythyr a anfonodd ataf, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn cymryd y rhan fwyaf o’r amser sydd gennyf. Ond roeddwn yn meddwl ei fod yn ddarn pwerus. Mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu:

Fferm fechan ydym ni ac mae gennym fuches gaeedig sydd, yn anffodus, yn colli ei hanifeiliaid yn gyflym oherwydd lledaeniad TB gwartheg. Nid ydym wedi prynu unrhyw wartheg ers 65 mlynedd ac nid oes gwartheg gan neb o’n cymdogion cyfagos felly nid yw’n bosibl ei fod yn lledaenu o fuwch i fuwch.

Cawsom ein hachos cyntaf o TB chwe blynedd yn ôl, a gobeithiem na fyddai rhaid i ni fynd drwy’r dinistr hwn byth eto. Ar ôl prawf rheolaidd, roedd gennym wartheg adweithiol y bu’n rhaid eu lladd, yn anffodus; gwartheg a oedd yn gyflo ers peth amser oedd y rhain, ond o dan reoliadau lles anifeiliaid ni chânt deithio os ydynt i fod i fwrw lloi o fewn 28 diwrnod felly rhaid eu lladd ar y fferm. Fodd bynnag, bydd y llo bach yn mygu’n araf y tu mewn i’r groth—ffordd greulon a barbaraidd o farw, a’r digwyddiad mwyaf emosiynol y gallai neb fod yn dyst iddo.

Bydd yr un drefn o ladd ar y fferm yn digwydd os yw’r fuwch wedi rhoi genedigaeth i’w llo newydd o fewn y 7 diwrnod diwethaf. Bydd y fuwch sydd wedi adweithio i brawf TB yn cael ei saethu, gan adael y llo newydd-anedig yn amddifad.

Unwaith eto, mae hwn yn brofiad echrydus o emosiynol yn enwedig os mai chi yw’r person sydd wedi magu’r fuwch ers iddi gael ei geni, a hefyd wedi helpu cenedlaethau o’i blaen i ddod i’r byd. Er nad yw’n ymddangos ein bod yn cael gwared ar y clefyd, rydym fel pe baem yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, ond heb fynd i’r afael ag atal TB.

Yn Lloegr, pan fydd buwch yn cael prawf TB a’r llo i fod i’w eni o fewn 28 diwrnod, caniateir i’r fuwch aros ar y fferm a’i chadw ar wahân i weddill y fuches, bydd y llo’n cael ei eni’n naturiol a’r fam yn cael ei symud 7 diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth.

Ac yn Iwerddon, os oes gan fuches wartheg sydd wedi adweithio i brawf TB, bydd pob mochyn daear o fewn radiws o dri chilometr i’r fferm honno yn cael ei ddifa. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dysgu o brofiad gwledydd cyfagos sy’n dangos bod angen dull deublyg o ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt er mwyn llwyddo i ddileu TB gwartheg.

Nawr, i mi, wrth ddarllen hwn, nid wyf yn credu mai’r undebau a’r sefydliadau eraill yn unig yw hyn, ond profiad go iawn ffermwr sydd wedi dioddef y clefyd hynod o greulon hwn. Nid yw ffermwyr eisiau gweld difa bywyd gwyllt er ei fwyn ei hun, ond yr hyn rydym ei angen yw opsiwn sy’n ystyried yr holl opsiynau i ddileu’r clefyd creulon hwn. Hoffwn ddweud yn syml wrth Ysgrifennydd y Cabinet: peidiwch â throi eich cefn ar amaethyddiaeth yng Nghymru a theuluoedd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniad cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn ymateb.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton a Llyr Gruffydd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwy’n cytuno bod angen i ni fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd. Nid wyf yn cytuno mai difa moch daear yw’r dull mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â TB buchol. Mewn gwirionedd, mae’r holl dystiolaeth wyddonol yn dangos mai o fuwch i fuwch y caiff y clefyd ei drosglwyddo’n bennaf, ac ni fydd lladd moch daear yn cael gwared ar drosglwyddo o fuches i fuches.

Cynhaliwyd treial difa moch daear annibynnol a chadarn yn wyddonol, a bu’n weithredol am bron i ddegawd gan gostio oddeutu £50 miliwn o bunnoedd, a bywydau 11,000 o foch daear. Yn dilyn y treial, daeth y grŵp gwyddonol annibynnol i’r casgliad nad yw difa moch daear yn gallu gwneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.

Yn wir, oni bai ein bod yn dileu moch daear o Brydain yn llwyr mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall difa arwain at gynnydd yng nghyfraddau haint TB mewn gwirionedd. Mae hyn am fod natur diriogaethol moch daear yn atal moch daear rhydd sy’n dioddef o’r clefyd rhag crwydro ar hyd a lled y wlad. A yw’r rhai sy’n argymell rhaglen ddifa o ddifrif eisiau hela moch daear i ddifodiant? A oes rhaid i ni ddinistrio un o rywogaethau mwyaf eiconig Prydain, a ddiogelir gan eu Deddf Seneddol eu hunain, am ei bod yn rhatach eu lladd yn hytrach na’u brechu hwy yn ogystal â’r gwartheg?

I’r rhai sydd o blaid difa, a wnewch chi egluro sut y byddech yn lladd moch daear yn ddi-boen? Yn ystod treialon difa 2013, roedd tua chwarter y moch daear yn dal yn fyw bum munud ar ôl cael eu saethu. Arweiniodd hyn at alwad Cymdeithas Milfeddygon Prydain i roi’r gorau i saethu a reolir fel dull difa. Nid yn unig y mae difa yn greulon; mae hefyd yn aneffeithiol. Ceir tri pharth difa gweithredol yn Lloegr, ac mae pob un o’r tri wedi gweld cynnydd mewn TB buchol. Nid oes TB yn yr Alban, ac eto mae ganddynt boblogaeth fwy o faint o foch daear. Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad mewn TB buchol heb ladd moch daear, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, maent wedi bod yn lladd moch daear ers 30 mlynedd heb gael unrhyw effaith amlwg ar TB. Maent yn awr yn awyddus i ymestyn y difa i gynnwys ceirw.

I gloi, y mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd yw cynyddu bioddiogelwch a brechu, ac nid dileu holl boblogaeth y DU o foch daear. Diolch yn fawr.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld o’r datganiad busnes diweddaraf, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ddull newydd o ddileu TB ar 18 Hydref. Felly, nid wyf yn bwriadu rhoi gormod o fanylion heddiw. Fodd bynnag, ers i mi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai, rwyf wedi dweud yn glir iawn mai fy mwriad yw adnewyddu’r rhaglen TB yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei bod yn gadarn ac yn addas i’r pwrpas, ac yn sicr ni fyddaf yn troi fy nghefn ar sector amaethyddol hynod o bwysig Cymru.

Cefnogaf y cynnig a argymhellir heddiw, ac rwy’n credu mai’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn yw defnyddio cyfuniad o’r mesurau mwyaf priodol ac effeithiol sy’n addas ar gyfer y gwahanol ardaloedd sydd mewn perygl yng Nghymru. Rhaid i bob dull a ddefnyddir fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac asesiad o risg milfeddygol, gan ganolbwyntio ar bob llwybr trosglwyddo, nid trosglwyddo o gronfeydd bywyd gwyllt yn unig, sydd i’w weld yn cael yr holl sylw. Mae ymateb yn synhwyrol i lefelau’r clefyd mewn gwahanol rannau o Gymru yn gam pwysig iawn tuag at ddileu TB. Ers i mi ddechrau yn y portffolio hwn ym mis Mai, rwyf wedi siarad â nifer sylweddol o ffermwyr, undebau ffermio, milfeddygon a chyrff eraill yn y diwydiant ar draws Cymru yn y sioeau amaethyddol ac ar ymweliad â ffermydd unigol. Hoffwn sicrhau pawb fy mod yn gwrando ar yr holl bryderon a ddaeth i fy sylw, ac wrth gwrs, bydd fy natganiad y mis nesaf yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut rwy’n bwriadu datblygu ein rhaglen dileu TB yn y dyfodol.

Hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng yn gyson yng Nghymru rhwng diwedd 2012 a chanol 2014, ac ar ôl cyfnod gwastad, mae’r nifer wedi gostwng unwaith eto. Bu gostyngiad o 29 y cant yn nifer yr achosion newydd o TB rhwng 2009 a 2015, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y duedd yn parhau i’r cyfeiriad iawn, gyda gostyngiad o 16 y cant yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016. Mae hyn yn golygu, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, fod 66 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau oherwydd achosion TB yng Nghymru.

Mae’r darlun TB ledled Cymru yn un cymhleth. Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb cynyddol nifer yn y Siambr hon a’r diwydiant ei hun yn nifer y gwartheg a laddwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf. Fodd bynnag, hoffwn eich sicrhau nad yw hyn yn golygu bod y clefyd ar gynnydd: lladdwyd 9,476 o wartheg at ddibenion rheoli TB yn y 12 mis hyd at fis Mehefin eleni, sy’n gynnydd o 43 y cant o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, ond y rheswm dros y duedd gynyddol ddiweddar yn yr anifeiliaid a laddwyd oedd y niferoedd cynyddol o anifeiliaid adweithiol mewn buchesi a heintiwyd eisoes, yn hytrach na digwyddiadau newydd. Mae llawer o hyn yn deillio o dargedu profion yn well a darllen o dan amodau llym i gynyddu’r sensitifrwydd, ynghyd â’r defnydd o’r prawf gwaed gama interfferon yn y buchesi yr effeithir arnynt yn fwyaf cronig.

O ran bywyd gwyllt, rwy’n cytuno bod angen i raglen effeithiol dargedu pob llwybr trosglwyddo os oes tystiolaeth gadarn i gefnogi’r ymyrraeth honno. Mae fy swyddogion yn cysylltu gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o dorri’r cylch trosglwyddo mewn buchesi gydag achosion cronig, lle gellir dangos bod moch daear yn cyfrannu at y broblem. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolwg moch daear marw i’n helpu i ddeall gwir lefel y clefyd yn y boblogaeth moch daear yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu polisi ar lefel leol a lefel genedlaethol lle mae’r clefyd yn endemig. Nid yw’r arolwg wedi’i gwblhau eto. Fodd bynnag, er mwyn rhoi syniad i chi o’r canfyddiadau hyd yn hyn, o’r 584 carcas a gasglwyd hyd yn hyn, roedd 40 wedi’u heintio, sy’n llai na 7 y cant, er bod y lefel hon yn amrywio ar draws y wlad. Mewn ymateb i bwynt a wnaeth rhywun yn flaenorol, nid yw DEFRA yn cynnal profion ar foch daear wedi’u difa yn Lloegr.

Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’i Gweinidog cyfatebol yn Lloegr, oherwydd mae’n ymddangos i mi, boed yn yr arolwg moch daear marw neu’r monitro gwyddonol arall sy’n digwydd, mai dyna’n union ddylai fod yn digwydd yn Lloegr fel y gallwn fynd ati’n iawn i brofi’r hyn sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd. Mae’n drueni nad yw hynny’n cael ei wneud dros y ffin ar hyn o bryd, gan y gallai roi gwybodaeth werthfawr i ninnau hefyd.

Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol gyda fy Ngweinidog cyfatebol, ond mae fy swyddogion yn gweithio’n agos iawn, ac fel y gwyddoch, mae’r prif swyddogion milfeddygol yn enwedig—y pedwar ohonynt ar draws y DU—yn cydweithio’n hynod o agos.

Rydym yn awr mewn sefyllfa i nodi a chytuno ar dri chategori o ardal TB ledled Cymru, yn seiliedig ar lefelau digwyddiadau. Bydd hyn yn caniatáu i ni addasu a gweithredu mesurau a dulliau gwahanol sy’n gymesur ac sy’n adlewyrchu lefelau amrywiol y clefyd a risgiau ar draws Cymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn cael y mesurau hyn yn iawn er mwyn gwarchod ardaloedd â lefelau isel o’r clefyd a chyfyngu ar nifer yr achosion mewn ardaloedd lle mae’r clefyd bellach yn endemig. Byddaf yn dweud mwy am hyn y mis nesaf yn fy natganiad llafar.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ildio ar y pwynt hwnnw. Croesawaf yr hyn a ddywedodd. Rwy’n deall ei bod yn mynd i wneud datganiad llafar, ac felly nid yw’r manylion yma, ond wrth gwrs, mae un rhan o’r cynnig y mae hi wedi’i dderbyn yn mynd i’r afael yn union â’r hyn y mae hi newydd ei ddweud am ddulliau cymesur mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Os yn bosibl, fodd bynnag, beth bynnag sy’n digwydd yn y sector bywyd gwyllt ar hyn o bryd, a all gadarnhau heddiw nad oes gan Lywodraeth Cymru frechlyn at ei defnydd? A yw hynny’n dal i fod yn wir ar gyfer y dyfodol agos?

O ran y brechu, mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Neil Hamilton, roeddwn yn mynd i ddweud nad yw’r ffaith nad oes gennym gyflenwad o’r brechlyn yn golygu nad oes gennym bolisi—wrth gwrs fod gennym bolisi ac mae’r rhan fwyaf ohono’n ymwneud, yn briodol felly, â mesurau rheoli gwartheg. Nid wyf yn gwybod pa bêl risial sydd gan Neil Hamilton, ond nododd y dyddiad 2023 ac na fyddwn yn gallu brechu tan yr adeg honno. Rydym yn gwybod na fyddwn yn ei gael y flwyddyn nesaf, ond nid oes gennym ddyddiad ar gyfer pa bryd y byddwn yn cael y brechlyn.

Felly, rydym yn parhau i adeiladu ar y rhaglen, sydd, fel y nodais, wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion ac yn bwysicach, gostyngiad yn nifer y ffermydd o dan gyfyngiadau. Fodd bynnag, rwy’n sylweddoli y gallwn ddysgu gwersi gwerthfawr gan wledydd eraill sy’n ymladd TB. Ac fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, mae gan fy swyddogion berthynas waith agos iawn gyda’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU, a hefyd gyda chydweithwyr ar draws y byd, gan gynnwys mewn gwledydd fel Seland Newydd, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r dulliau newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r broblem.

Credaf yn gryf ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru mewn sawl modd a bod ein dull hyd yma wedi bod yn gymesur ac yn sicrhau cydbwysedd da rhwng parhad busnes a dileu clefydau.

Felly, i gloi, Lywydd, nid wyf am i neb gamgymryd—bydd dileu TB yn dibynnu ar y diwydiant, y proffesiwn milfeddygol a’r Llywodraeth yn gweithio ac yn rhannu’r baich gyda’i gilydd. Rwy’n credu y bydd y mesurau newydd y byddaf yn eu cyhoeddi y mis nesaf yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach wrth symud ymlaen a bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at greu Cymru heb TB. Diolch.

Diolch, Lywydd. Pleser yw cael cloi’r ddadl bwysig hon. Dylwn ddatgan o’r cychwyn cyntaf fod fferm fy rhieni-yng-nghyfraith wedi cael ei heffeithio gan TB gwartheg dros y 15 mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod, o brofiad personol, pa mor ddinistriol yw’r clefyd, yn emosiynol ac yn ariannol.

Mae’r ddadl heddiw wedi ymwneud â chyfleu’r neges i Lywodraeth Cymru na fydd mesurau gwartheg a chyfyngiadau gwartheg ar eu pen eu hunain yn dileu’r clefyd ofnadwy hwn. Bydd angen ymagwedd gyfannol, sy’n cynnwys defnyddio’r holl ddulliau sydd gennym i ddileu TB gwartheg ac yn ein poblogaeth bywyd gwyllt. Mae’n gwbl glir fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n llawer mwy cynhwysfawr ar y mater hwn.

A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn ddadl dda iawn ac rwy’n gwybod bod gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y dylem fynd ati i drechu’r clefyd hwn, ond gwn fod pob Aelod am weld TB gwartheg yn cael ei ddileu o’n cymunedau.

Agorodd Simon Thomas y ddadl a gosod yr olygfa drwy ddarparu trosolwg o TB gwartheg, gan ddyfynnu rhai o’r ystadegau dinistriol sy’n gysylltiedig â’r clefyd hwn a chanlyniadau’r clefyd i deuluoedd ffermio a sut y mae angen i ni ymdrin â’r clefyd yn effeithiol ac mewn ffordd sy’n llawer mwy cynhwysfawr.

Mae’n llygad ei le fod ffermwyr Cymru angen ac yn haeddu mwy o gymorth a sut y mae’n rhaid cyflwyno pecyn llawer mwy cynhwysfawr yn awr i gefnogi ein diwydiant ffermio. Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg yng nghyd-destun Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n iawn i ddweud bod hyn yn dilyn pryderon dwfn gan yr undebau ffermio, sy’n iawn i ddweud y gallai statws cyfredol y clwy fod yn offeryn, yn enwedig o ystyried y bwlch a grëwyd yn sgil y methiant ar ôl brechu. Yn sicr, ni fydd anallu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn yn gwneud ein cynnyrch ronyn yn fwy deniadol i wledydd eraill a gallai beri niwed difrifol i unrhyw drafodaethau masnach. Rwy’n sylweddoli mai ychydig fisoedd yn unig sydd ers i Ysgrifennydd y Cabinet ddechrau yn ei rôl, ond mae’n rhaid bod ei hymwneud dros yr haf gyda’r diwydiant wedi pwysleisio pwysigrwydd y mater hwn i’n diwydiant ffermio yn y dyfodol ac i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru am gynyddu gwerthiant bwyd a diod Cymru 30 y cant i £7 biliwn, sy’n nod gwych. Fodd bynnag, bydd methu ymdrin â materion megis TB gwartheg yn niweidio’r gobaith o gyrraedd y targed hwnnw ac yn peryglu ein gallu i werthu i farchnadoedd newydd.

Nawr, yn ei chyfraniad, lleisiodd Joyce Watson hefyd ei gwrthwynebiad i ddifa bywyd gwyllt a difa moch daear a dywedodd fod rhaid mynd ar drywydd polisïau eraill er mwyn trechu’r clefyd hwn. Er fy mod yn parchu ei barn yn fawr iawn, ni fydd yn synnu clywed y bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno ar y ffordd orau o fynd ati i ddileu TB gwartheg. Soniodd hefyd fod angen i ni wella’r prawf, ond yng nghyfarfod briffio Cymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos diwethaf, gwnaed yn eglur fod y prawf yn briodol a’i fod wedi cael ei ddefnyddio mewn gwledydd lle mae nifer yr achosion o TB gwartheg wedi gostwng yn ddramatig. Felly, mae’r prawf yn iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dull mwy cynhwysfawr o weithredu.

Croesawaf gyfraniad Neil Hamilton i’r ddadl hon a’i gefnogaeth gyffredinol i weithredu’n fwy cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â TB gwartheg. Hefyd, dyfynnodd rai o ystadegau dinistriol yr effaith y mae’r clefyd hwn yn ei chael ar ein cymunedau ffermio.

Nododd Mark Isherwood gyfarfod briffio Cymdeithas Milfeddygon Prydain a’u tystiolaeth, ac roeddwn innau hefyd yn teimlo ei fod yn addysgiadol iawn. Ac rwy’n credu ei fod wedi atgyfnerthu’r gefnogaeth i fwy o weithredu gan y diwydiant milfeddygol.

Ailadroddodd Llyr Gruffydd bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg a phwysigrwydd ymdrin â’r mater hwn, yn enwedig o ystyried yr effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd ffermio. Cyfeiriodd hefyd at fethiant Llywodraethau olynol yng Nghymru i ymdrin â’r mater hwn. Roedd hefyd yn iawn i ddweud pa mor bwysig yw hi i Lywodraeth Cymru wrando ar yr arbenigwyr, ac wrth gwrs, yr arbenigwyr yn yr achos hwn yw Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y gymdeithas filfeddygol, a’r undebau ffermio.

Yn ei gyfraniad, dywedodd Mark Reckless na ddylem fod yn rhy ddiysgog yn ein safbwyntiau, a dyna pam ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r clefyd hwn mewn modd cyfannol a pham ei bod yn bwysig defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Siaradodd Russell George yn ei gyfraniad am effaith emosiynol y clefyd ar ffermwyr. Ac wrth gwrs, dyfynnodd ei etholwyr a’r effaith ddinistriol y mae hyn yn ei chael arnynt.

Siaradodd Caroline Jones am bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg, a chanolbwyntiodd ei sylwadau ar ddifa moch daear.

Gwrandewais yn astud iawn ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch ei bod wedi dweud bod yn rhaid i ni ymdrin â’r clefyd mewn gwartheg ac yn y boblogaeth bywyd gwyllt. Fodd bynnag, ers etholiad y Cynulliad, cafwyd bwlch ym mholisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, rwy’n credu, a diffyg cyfarwyddyd clir ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â TB gwartheg. Rwy’n gobeithio, felly, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn ystyried cyfraniadau’r Aelodau heddiw ac yn darparu pecyn o gymorth i ffermwyr Cymru sy’n ymdrin â’r clefyd hwn unwaith ac am byth. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Fwrsariaeth Nyrsio

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar y fwrsariaeth nyrsio, ac rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6103 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gadw’r fwrsariaeth nyrsio fel rhan o raglen ehangach i gynorthwyo rhagor o bobl o gefndiroedd incwm isel i gael gyrfaoedd yn GIG Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw am reswm syml iawn: credwn fod y fwrsariaeth nyrsio yn werthfawr ac rydym yn chwilio am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’i bwriadau mewn perthynas â dyfodol y fwrsariaeth. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dileu’r fwrsariaeth yn Lloegr gan ganu larymau yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd. Ond ar 20 Mehefin cafwyd ochenaid enfawr o ryddhad yn yr Alban, pan gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban na fyddai’n dilyn arweiniad Lloegr ac y byddai’n cadw’r fwrsariaeth. Ond dri mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i ddisgwyl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bosibl, wrth gwrs, ei bod yn cadw rhywfaint o newyddion da i fyny ei llewys, ond mae’r ansicrwydd—yr aros hir—yn achosi pryder go iawn yn y GIG yng Nghymru, ac ymhlith nyrsys cyfredol a darpar nyrsys yn y dyfodol yn arbennig.

Rhaid cryfhau hyfforddiant nyrsio yng Nghymru a’i roi ar sylfaen gadarnach. Rydym yn gwybod y byddwn angen mwy o nyrsys yn y dyfodol. Mae anghenion iechyd ein poblogaeth, yn syml iawn, yn gwneud hynny’n anochel. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn rhywbeth sydd i’w ddathlu, ond mae’n rhywbeth y bydd angen i ni fuddsoddi ynddo. Mae rhan o’r buddsoddiad hwnnw yn addysg y rhai a fydd yn gofalu am y boblogaeth sy’n heneiddio—pawb ohonom.

Cafodd y Bil staffio diogel ei ddathlu gan nyrsys yng Nghymru, ac yn haeddiannol felly, a chanlyniadau anochel pasio’r Bil, wrth gwrs, yw y bydd yn ofynnol i fwy o nyrsys gyflawni ei amcanion. Rwy’n ofni ein bod yn siŵr o weld gostyngiad yn nifer y nyrsys sy’n dewis dod i weithio yma o dramor, a chyflawni rolau hanfodol yn y GIG yng Nghymru, o ganlyniad i’r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma, gyda llaw, pam y dylai pleidiau yn y Siambr hon sy’n honni eu bod o ddifrif am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn wyliadwrus iawn rhag rhoi’r gorau i egwyddorion hirsefydlog mewn perthynas â symud diamod pobl ar draws Ewrop. Mae’n rhaid i ni gydnabod pryderon llawer o bobl ar draws Cymru ar y mater hwn, wrth gwrs, ond ni ddylem ofni parhau i egluro sut y mae ein cymdeithas a sut y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyfoethogi, mewn sawl ffordd, gan bobl o’r tu allan i’r ynysoedd hyn.

Pam y mae angen y cymorth ychwanegol hwn drwy’r fwrsariaeth ar fyfyrwyr nyrsio? Mae yna nifer o resymau. Fe af drwy rai ohonynt. Yn gyntaf, maent yn tueddu i fod yn hŷn na’r boblogaeth myfyrwyr yn gyffredinol. Mae’n ddigon posibl, felly, y gallai fod cyfrifoldebau teulu a gofal plant gan lawer ohonynt sy’n golygu costau byw uwch, ac yn sicr, gallai cael gwared ar y fwrsariaeth eithrio llawer o’r myfyrwyr hyn.

Yn ail, mae cyrsiau nyrsio yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn—nid y 30 wythnos arferol neu lai na hynny sydd gan fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn golygu nad yw’r opsiwn i gael gwaith y tu allan i’r tymor ar gael iddynt. Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn nodi bod hon yn sefyllfa unigryw. Mae angen blwyddyn galendr lawn, yn hytrach na blwyddyn academaidd, er mwyn cyrraedd y 4,600 o oriau sydd angen eu cwblhau cyn gallu cofrestru’n nyrs. Mae hynny’n golygu gwasanaeth ar ddyletswydd, gan weithio o fewn y GIG, yn cyflawni swyddogaeth bwysig o fewn y GIG fel rhan o’r broses hyfforddi.

Diolch. Ar y pwynt hwnnw’n unig. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o nyrsys mewn hyfforddiant i ddod i lefydd fel Llwynhelyg nad ydynt yn cael eu gweld yn draddodiadol fel mannau lle bydd nyrsys yn hyfforddi. A phe baem yn cael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â beth fydd cynlluniau’r Llywodraeth yn y dyfodol, gallem symud ymlaen gyda rhai o’r cynlluniau hynny a chynyddu nifer y nyrsys sydd ar gael ar gyfer rhai mannau sy’n anodd recriwtio iddynt o bryd i’w gilydd.

Yn hollol, oherwydd mae’r cyfnod hyfforddi a gweithio yn y GIG yn ffordd o agor y drws ar yrfa yn y dyfodol yn yr ardaloedd lle rydym yn ei chael hi’n anodd recriwtio iddynt o bosibl.

Rwy’n credu bod nyrsys yn haeddu cael eu talu am y gwaith a wnânt—am weithio’r hyn sy’n cyfateb i swydd amser llawn yn y GIG wrth astudio. Er enghraifft, a yw’n ymarferol iddynt weithio’n rhan-amser mewn bar, neu mewn siop adrannol brysur, efallai, ochr yn ochr â sifftiau 12 awr mewn ysbyty? A yw’n foesol gywir mewn gwirionedd fod nyrsys yn gwneud y gwaith hwn tra’u bod ar leoliad heb gael unrhyw dâl ariannol amdano? Beth sy’n digwydd i ddiwrnod teg o waith am gyflog teg os yw’r fwrsariaeth hon yn diflannu?

Ond rydym yn poeni hefyd am y canlyniadau, wrth gwrs, i’r GIG a’r ffordd y mae’n gweithredu. Byddai cael gwared ar gymorth ariannol i addysg nyrsio yng Nghymru yn cynyddu’r risg o dlodi i fyfyrwyr nyrsio, a gallai annog pobl i beidio â dewis yr yrfa hon yn sgil hynny. Felly, mae posibilrwydd o fethu cyrraedd y niferoedd sydd angen i ni eu hyfforddi. Ar hyn o bryd gan Gymru y mae’r cyfraddau gadael cyn gorffen isaf ymhlith myfyrwyr nyrsio y DU, a byddwn yn awgrymu mai annoeth fyddai peryglu hyn. Atgoffaf y Senedd fod hyd yn oed gohirio’r penderfyniad wedi achosi peth pryder. Nid oes amheuaeth fod yr ansicrwydd y mae hynny’n ei greu yn rhwystro gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gweithlu gofal iechyd y dyfodol.

Cyn i mi orffen, byddaf hefyd yn gofyn am sylwadau gan y Gweinidog yn sgil cyhoeddi adolygiad Diamond ddoe—a all roi sicrwydd y bydd myfyrwyr nyrsio yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth prawf modd, ochr yn ochr â myfyrwyr eraill hefyd, ar wahân i’r ddadl rydym yn ei chael heddiw ar y fwrsariaeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw, fel y dywedais, i ddangos ein cefnogaeth i gadw’r fwrsariaeth fel rhan o becyn ehangach i annog pobl o gefndiroedd incwm is i mewn i’r proffesiwn. Mae angen hynny ar ein GIG yn y dyfodol. Mae ein nyrsys yn y dyfodol yn haeddu hynny. Mae angen i’r Llywodraeth roi’r gorau i oedi ar y mater hwn a gwneud penderfyniad.

Dechreuaf fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw ar gadw’r fwrsariaeth nyrsio yng Nghymru. Rydym wedi clywed eisoes sut y penderfynodd Llywodraeth y DU yn Lloegr beidio â pharhau i ddarparu bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd cysylltiedig. Maent yn fwrsariaethau sy’n talu am ffioedd dysgu yn ogystal—nid grantiau byw yn unig y maent yn eu cynnwys. Mae Llywodraeth y DU yn honni y bydd camau o’r fath yn caniatáu i brifysgolion dynnu cap oddi ar leoedd i fyfyrwyr ac o ganlyniad, i chwyddo niferoedd myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd cysylltiedig—cap, cofiwch, sy’n cael ei osod gan y Llywodraeth sy’n ariannu’r cynlluniau beth bynnag.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylw ar addysg nyrsio, ond mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain am effaith cael gwared ar y fwrsariaeth ar yr holl broffesiynau eraill hynny, gan eu bod hwythau hefyd yn wynebu’r un heriau i’r gweithlu y mae’r ddadl hon yn eu priodoli i nyrsys. Er mwyn darparu’r gweithlu sydd ei angen yn y dyfodol ar gyfer y GIG yng Nghymru, mae’n wir ei bod hi’n hanfodol sicrhau bod niferoedd digonol o fyfyrwyr nyrsio yn mynd i mewn i’r proffesiwn, ac mae angen i ni barhau â’r cynnydd yn nifer y myfyrwyr a welsom yn y blynyddoedd diwethaf—sef cynnydd o tua 40 y cant ers 2013, er y bydd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn siŵr o fy saethu os nad wyf yn atgoffa pawb fod yna ostyngiad wedi bod cyn hynny.

Mae nyrsys dan hyfforddiant yn treulio tair blynedd yn dilyn cyrsiau gradd mewn nyrsio ac fel y nododd llefarydd Plaid Cymru, nid blwyddyn academaidd o 30 wythnos yw honno ond blwyddyn academaidd estynedig, o 42 wythnos fel arfer. Pan fyddant yn astudio, byddant yn treulio 50 y cant o’u hamser ar leoliad ymarferol—ac mae honno’n wythnos waith lawn mewn lleoliad ymarferol. Fel y nodwyd, mae hynny’n creu anawsterau enfawr i’r rheini allu dod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu eu hunain.

Nawr, mae’r angen am nyrsys â chymwysterau gradd wedi’i gefnogi gan ymchwil a wnaed yn 2014 ar draws naw o wledydd Ewrop, ac a welodd fod gweithlu nyrsio wedi’i addysgu’n well yn lleihau nifer y marwolaethau diangen. Roedd pob cynnydd o 10 y cant yn nifer y nyrsys a addysgwyd i lefel gradd Baglor mewn ysbyty yn gysylltiedig â gostyngiad o 7 y cant yn lefel marwolaethau cleifion.

Fodd bynnag, mae yna heriau i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa nyrsio, yn enwedig o ran cyllid personol. Er enghraifft, amlygwyd eisoes mai cyfartaledd oedran myfyriwr nyrsio yw 29 oed, ac maent yn llawer mwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu. Darganfu arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol fod gan 31 y cant ohonynt blant dibynnol, roedd 10 y cant yn rhieni sengl, ac roedd 23 y cant yn gofalu am berthnasau sâl, anabl neu oedrannus. Mae myfyrwyr nyrsio yng Nghymru yn derbyn bwrsariaeth gan Lywodraeth Cymru, yn debyg i’r un sy’n cael ei diddymu yn Lloegr, i ganiatáu iddynt fynd ar drywydd eu huchelgais o ddilyn gyrfa nyrsio a dod yn rhan o broffesiwn sy’n rhoi cryn foddhad. Ni allwn ganiatáu i’r fwrsariaeth hon gael ei diddymu gan fod hynny’n cynyddu’r risg o dlodi i fyfyrwyr nyrsio a gallai ladd awydd pobl i ddewis y llwybr gyrfa hwn.

Nododd Ymddiriedolaeth Nuffield fod llawer o astudiaethau wedi awgrymu, gan fod galw am y cyrsiau’n hyblyg, gyda phrisiau uwch yn lladd awydd pobl i’w dilyn, gallai colli’r cymorth hwn gael ei waethygu gan broffil demograffig y rhai sy’n ymgeisio—mae lefelau anghymesur ohonynt yn fenywod, yn hŷn na 25 oed ac yn rhieni. Mae’r system newydd o gymorth sy’n seiliedig ar fenthyciadau yn llai hael ar gyfer gofal plant ac i bobl â dibynyddion. Mae asesiad effaith yr Adran Iechyd ei hun yn dangos bod cyflwyno ffioedd myfyrwyr yn wreiddiol wedi effeithio’n llawer mwy arwyddocaol ar bobl dros 21 oed o gymharu â myfyrwyr iau. A dyna’r proffil cenedlaethol, fel rydym wedi clywed.

Ychydig wythnosau yn ôl cynhaliais ddigwyddiad gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yma yn y Senedd i lansio’u hymgyrch ddiweddaraf i hybu arweinyddiaeth yn y proffesiwn ac i barhau â’r gwaith ar y lefelau staffio nyrsys. Yn y digwyddiad hwnnw, mynegodd llawer eu pryderon difrifol ynglŷn â dyfodol y fwrsariaeth nyrsio yma yng Nghymru a’r effaith y byddai’n ei chael ar lefelau myfyrwyr nyrsio Cymru, yn enwedig myfyrwyr rhan-amser, i ryw raddau. Hefyd yn ddiweddar cynhaliais ddigwyddiad i’r naw proffesiwn iechyd cysylltiedig—nid wyf am eu henwi i gyd—ac roeddent yn mynegi’r un pryderon ynglŷn â niferoedd myfyrwyr newydd yn eu proffesiynau. Rhoddodd mwy nag 20 o elusennau, cyrff meddygol a phroffesiynol ac undebau llafur bwysau ar David Cameron, y cyn-Brif Weinidog, drwy ddadlau y byddai rhoi diwedd ar y system fwrsariaeth i nyrsys a bydwragedd yn gambl heb ei phrofi. Nid wyf am weld gambl heb ei phrofi o’r fath yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n derbyn y gall fod angen i ni edrych ar sut rydym yn parhau i gefnogi’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa nyrsio, neu un o’r proffesiynau iechyd eraill, ond mae’n bwysig edrych ar y model addysg. A allwn ehangu addysg nyrsio i astudio ar batrwm mwy rhan-amser? A allwn ystyried math o gynllun prentisiaeth—ac rwy’n defnyddio’r gair yn llac yma—sy’n caniatáu i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn ystod eu hastudiaethau? A ddylem ystyried gadael i fyrddau iechyd gyflogi myfyrwyr nyrsio, er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog wrth iddynt symud drwy eu rhaglen gradd estynedig dair blynedd o hyd, wrth iddynt gyflawni gweithgareddau ymarferol mewn gwirionedd ar ran y bwrdd iechyd? Rwy’n credu bod yna fwy y gallwn edrych arno a gwahanol fodelau sy’n rhaid i ni eu harchwilio’n fanwl gyda’r proffesiynau hyn.

Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn dweud bod toriadau i’r gyllideb hyfforddiant neu addysg yn annoeth. Mae prinder staff yn bygwth diogelwch ac ansawdd gofal cleifion ac yn y pen draw, gall gostio arian sylweddol os ydynt yn cymell dibyniaeth ar staff banc ac asiantaethau. Mae angen i ni gadw ein nyrsys lleol. Mae angen i ni gadw cymorth i’r nyrsys hynny.

Rwy’n falch iawn o glywed y ddadl hon yn cael ei chyflwyno heddiw gan Blaid Cymru am ei bod yn dilyn ymlaen o lawer o’r dadleuon rydym wedi’u cael—mae’n dilyn ein dadl yr wythnos diwethaf ynglŷn â chynllunio’r gweithlu. Mae gennym y fath argyfwng cynllunio drwy bob haen o’r gweithlu ac rwy’n credu bod hyn yn ychwanegu ato. Byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn.

Ystyriais ychwanegu gwelliant iddo, gan mai’r hyn y byddwn yn ei hoffi’n wirioneddol, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai i chi gynnal ymchwiliad byr i gymorth hyfforddiant nid yn unig i nyrsys, ond ar gyfer proffesiynau eraill yn y diwydiannau gofal iechyd sy’n gorfod mynd ar leoliadau hirdymor sylweddol yn rhan o’u cymwysterau. Felly, byddwn yn defnyddio’r enghraifft o ffisiotherapydd a fydd yn gorfod treulio pedair wythnos yma, pedair wythnos yn rhywle arall. Mae’n anodd cael y lleoliadau hyn. Yn aml iawn, mae’n rhaid i bobl fod yn bell o’u prifysgol neu eu coleg, mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i lety a chynhaliaeth yn rhywle arall, ac yna mae’n rhaid iddynt deithio yno—y cyfan oll.

Felly, rydym yn mynd i gefnogi hyn yn llwyr, oherwydd credaf fod nyrsys yn allweddol. Ond fy mhle yw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i edrych ar yr ystod gyfan, oherwydd, fel rydym wedi sôn yn ein gwahanol ddadleuon, gan gynnwys yr un dda iawn a gawsom yr wythnos diwethaf, mae arnom angen nyrsys, ffisiotherapyddion, seicolegwyr clinigol, therpayddion galwedigaethol a therapyddion lleferydd ac iaith. Mae’r holl bobl hyn yn rhan o’r anghenion gweithlu sy’n ein hwynebu a byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod modd denu’r bobl hyn i mewn i’r proffesiwn a’u cadw yn yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs, David.

Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Cytunaf yn llwyr â chi. Mae angen i ni edrych ar y lleoliadau am eu bod yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer datblygu’r arbenigedd ymarferol, ond mae angen i ni edrych hefyd, felly, ar y staffio sydd ar gael i fentora’r myfyrwyr yn y lleoliadau hynny. Felly, mae yna gwestiwn pellgyrhaeddol yn galw am sylw yma.

Oes, ac rwy’n meddwl eich bod yn gwneud pwyntiau da iawn yn eich cyfraniad y gellid yn hawdd eu cynnwys yn yr ymchwiliad. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn gyndyn o dderbyn y syniad o dalu cyflog i’r holl nyrsys dan hyfforddiant, oherwydd, os felly, a ydym yn talu cyflog i feddygon, deintyddion a milfeddygon dan hyfforddiant? Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo pobl mewn ffordd deg. Ac mae’n rhaid i ni wneud yr hyn sydd orau i’n cenedl ac ar hyn o bryd, mae ein prinder difrifol yn y GIG, yn ein gweithlu. Felly, fel cenedl, os ydym yn defnyddio mwy o’n hadnoddau i ddenu pobl, yna credaf mai dyna sydd angen i ni edrych arno.

Rwy’n credu na ddylem gamu’n ôl ychwaith rhag ceisio ehangu mynediad, nid yn unig, fel rydych chi wedi’i roi mor dda, Rhun, i fwy o fyfyrwyr aeddfed—pobl sy’n awyddus efallai i gyfnewid eu swyddi neu bobl sydd eisiau camu’n uwch ar lwybr gyrfa, efallai eu bod wedi bod yn gynorthwy-ydd gofal iechyd a bellach yn dymuno bod yn nyrs—ond rwy’n meddwl mewn gwirionedd y gallwn ystyried ceisio potsio pobl o broffesiynau gwahanol iawn sydd â rhyw fath o gysylltiad. Rwy’n credu bod angen i ni geisio potsio pobl o dramor i ddod yma, a phobl o Loegr, o’r Alban. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i geisio’i gwneud yn llawer mwy deniadol i bobl ddod i Gymru, i weithio yn y proffesiwn meddygol ac yna, yn bwysicach, i ymgartrefu yma, i wneud eu cartref yng Nghymru, i’n mabwysiadu fel eu cenedl a’n helpu i adeiladu ein gwlad ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes go gymhleth.

Nid wyf yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i unrhyw ymchwiliad neu arolwg ar sut y gallwn gefnogi nyrsys a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill fod yn gymhleth. Rydym wedi dangos hynny’n barod gyda’r ymchwiliad annibynnol i’r ceisiadau cyllido cleifion. Gallwn wneud rhywbeth bach, cyflym, gyda ffocws pendant a set glir iawn o gyfeiriadau, ac yna rydym eisiau canlyniad cyflym iawn. Y rheswm pam y mae angen iddo fod yn ganlyniad cyflym yw bod angen i ni edrych i weld pa effaith y gallai ei chael gydag adolygiad Diamond, fel y crybwyllodd Rhun, a pha effaith y byddai’n ei chael ar Donaldson. Rwy’n meddwl bod elfen Donaldson yn bwysig iawn, oherwydd hoffwn orffen drwy wneud un sylw: pa mor aml rydym yn mynd â myfyrwyr—plant ysgol—allan o’u hysgolion i ysbyty neu i feddygfa i geisio eu hannog i mewn i’r proffesiynau meddygol hyn? Ddim mor aml â hynny mewn gwirionedd. Dyna’r mathau o bethau y gallem eu gwneud: adolygiad byr, sydyn i edrych ar sut y gallwn ei wneud yn fwy deniadol; sut y gallwn gefnogi a gweithredu pecynnau cymorth da; sut y gallwn roi gwasanaethau mentora da ar waith ac efallai gael clystyrau allweddol ledled Cymru sy’n gweithredu fel pwyntiau ffocws i hyfforddiant, fel nad oes rhaid i bobl frwydro i ddod o hyd i leoliad; a sut y gallwn eu cefnogi’n ariannol ac yn anad dim, denu mwy o bobl o bob cefndir i mewn i’n proffesiynau gofal iechyd, oherwydd rydym eu hangen, ac rydym eu hangen yn ddirfawr.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac afraid dweud y bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn hollbwysig, ac fel y pleidiau eraill yn y Siambr hon, rydym yn anghytuno’n llwyr â phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu bwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio yn Lloegr. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gynnal bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio yng Nghymru.

Mae cael gwared ar fwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio, nid yn unig creu anfanteision i rai o gefndiroedd tlotach, mae hefyd yn atal graddedigion prifysgol rhag dilyn cwrs nyrsio oni bai eu bod yn gallu fforddio’r ffi o £9,000 y flwyddyn. Rydym yn awyddus i ddenu’r bobl fwyaf disglair i’r proffesiwn nyrsio, ond os ydych eisoes wedi dilyn cwrs israddedig, nid ydych yn gymwys i gael cymorth myfyrwyr. Heb fwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio, ni fydd graddedigion yn gallu dilyn cwrs nyrsio—ni fyddant yn gallu fforddio dilyn cwrs nyrsio.

Mae yna ddadl ynglŷn â thegwch hefyd. Gan fod myfyrwyr nyrsio yn treulio 50 y cant o’u hamser mewn ymarfer clinigol uniongyrchol, a’u tri mis olaf yn gweithio amser llawn yn y GIG, a yw’n iawn ein bod yn disgwyl iddynt dalu hyd at £9,000 y flwyddyn am y fraint honno? Nid wyf yn deall rheswm Llywodraeth y DU dros gael gwared ar y bwrsariaethau, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn ymateb i’r ddadl, yn gwarantu na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn arweiniad San Steffan. Nyrsys yw enaid—

Roeddwn i eisiau ymyrryd yn fyr, am eich bod wedi gwneud y sylw hwn—mae David wedi’i wneud, rwy’n meddwl bod Rhun wedi’i wneud yn ôl pob tebyg, ac rwy’n eithaf siŵr y bydd y Gweinidog yn ei wneud—ond a bod yn onest, rydym i gyd yn cefnogi datganoli, onid ydym? Felly os yw cenedl sydd wedi datganoli, h.y. Lloegr, yn dewis cael gwared ar fwrsariaethau, pa ots? Dyna maent am ei wneud. Nid wyf yn cytuno â hynny, ond nid wyf yn deall pam y mae’n rhaid i ni dreulio cymaint o amser—cymaint o’ch araith, ac yn wir, areithiau pobl eraill—yn siarad am beth y mae’r Saeson yn ei wneud, a’r hyn rydym yn ceisio’i wneud yw datrys beth sydd angen i ni ei wneud yma yng Nghymru. Pe baent yn trafod pob penderfyniad a wnawn yma—

[Yn parhau.]—mor fanwl yno ag y gwnewch chi, byddai’n wastraff llwyr o’n hamser.

Mae’n cael effaith ganlyniadol, ac mae’n effeithio ar Gymru. Nyrsys yw enaid ein GIG, a dylem wneud popeth a allwn i annog mwy o bobl i ddewis nyrsio fel gyrfa, nid ei gwneud yn anoddach i unrhyw un ymuno â’r proffesiwn nyrsio. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig.

Mae’n bwysig cydnabod bod trefniadau bwrsariaeth y GIG yn cwmpasu ystod eang o broffesiynau ac nid nyrsio’n unig—dyna bwynt a nododd David Rees. Bydd penderfyniad y Llywodraeth Geidwadol i gael gwared ar fwrsariaeth y GIG yn Lloegr yn effeithio’n sylweddol ar gostau cynnal y rhai sy’n dymuno astudio pynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd, ond rwy’n croesawu agwedd wahanol Angela Burns tuag at wrthod dull y Ceidwadwyr yn Lloegr.

Roedd trefniadau’r fwrsariaeth yn golygu bod myfyrwyr o weddill y DU a oedd yn dewis astudio yng Nghymru yn cael eu hariannu drwy’r trefniadau yng Nghymru, ac roedd Llywodraethau eraill y DU yn gwneud yr un fath gyda’n myfyrwyr ni. Bydd hynny’n newid yn awr. Rydym ni yng Nghymru, fodd bynnag, wedi ymrwymo i gadw’r trefniadau presennol ar gyfer 2016-17, ac rydym wedi gwneud hynny. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar fwrsariaethau yn Lloegr wedi arwain at nifer o broblemau anodd gyda’r llif trawsffiniol ac rydym yn gweithio drwyddynt ar hyn o bryd.

Rwyf wedi bod yn gyson yn fy marn, wrth siarad ag Aelodau etholedig a rhanddeiliaid, na ellir ystyried myfyrwyr sy’n gysylltiedig ag iechyd yn llwyr ar wahân i’r trefniadau cymorth i fyfyrwyr yn gyffredinol. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am adolygiad Diamond a gyhoeddwyd ddoe, ac felly byddaf yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ac yn benodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Byddwn yn ystyried argymhellion adolygiad Diamond yn ofalus, gan fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud yn siŵr nad yw cyllid yn rhwystr i yrfa mewn nyrsio.

Mae’n werth cofio pwynt a wnaeth Rhun a David, mai cyfartaledd oedran nyrs dan hyfforddiant yng Nghymru yw 28 neu 29 oed. Dyma bobl, at ei gilydd, sydd â chyfrifoldebau pan fyddant yn dechrau gyrfa mewn nyrsio. Felly, mae angen i ni ystyried y ffordd orau o gefnogi pobl sy’n debygol o fod â chyfrifoldebau ehangach o’r fath. Enghraifft dda iawn yw gweithwyr cymorth gofal iechyd, gan fod nifer ohonynt yn awr yn hyfforddi i fod yn nyrsys, mewn llwybr gyrfa fel gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae llawer ohonynt eisiau mynd ymlaen i fod yn nyrsys, ac rydym yn annog hynny. Bydd y grŵp hwnnw o weithwyr at ei gilydd eisiau parhau i weithio tra’u bod yn astudio. Unwaith eto, mae ganddynt gyfrifoldebau a gallai rhoi’r gorau i’r incwm sydd ganddynt ar hyn o bryd fod yn broblem iddynt. A dyna pam—a dyma’r pwynt a wnaeth David Rees—mae angen i ni ystyried sut rydym yn cefnogi ac yn galluogi astudio amser llawn neu ran-amser, a sut rydym yn ehangu mynediad. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth yno hefyd.

Mae’r rhain yn bwyntiau pwysig iawn i’w hystyried o ran pwy hoffem eu gweld yn nyrsys yn y dyfodol, ac yn enwedig pobl sydd â phrofiad mewn rhannau eraill o’r diwydiant gofal, a phrofiad personol hefyd o fod yn ofalwyr, ac ar wahanol adegau yn eu bywydau efallai y byddant eisiau trosi’r profiad hwnnw yn yrfa nyrsio. Felly, ar gyfer y dyfodol, byddaf am ystyried sut y gallwn ddefnyddio cymhellion i weithio a hyfforddi yng Nghymru, a sut y gallai’r gallu i annog pobl i hyfforddi yng Nghymru chwarae rhan yn y system gymorth a ariannwn.

Diolch am ildio. Er eglurder, rydym yn ddiolchgar eich bod yn awgrymu y byddwch yn cefnogi’r cynnig heddiw, ond a allwch gadarnhau eich bod yn cadarnhau yr hyn sydd yn y cynnig mewn perthynas â 2016-17 yn unig, a bod yr hyn a fydd yn digwydd y tu hwnt i hynny yn agored i drafodaeth o hyd?

Dof yn ôl at y pwynt hwnnw gyda hyn, wrth i mi ddod i ben, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn nodi’r egwyddorion sydd gennym, a’r ffaith y byddwn am gefnogi myfyrwyr nyrsio. Nid ydym yn mabwysiadu’r ymagwedd a gymerwyd yn Lloegr. Yn amlwg bydd angen i mi ystyried setliad terfynol y gyllideb wrth wneud hynny hefyd, ac mae honno wedi bod yn sgwrs gyson a gefais gyda chynrychiolwyr nyrsio ers dod i’r swydd hon.

Ni fyddaf yn cynnal yr ymchwiliad byr ond ffurfiol a awgrymodd Angela Burns, ond rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid yn y GIG ac ym maes addysg, ac wrth gwrs y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unison, fel rhanddeiliaid pwysig yn y proffesiwn nyrsio, wrth i ni weithio drwy ein hargymhellion ar gyfer y dyfodol. O ran yr amserlen, rwy’n hapus i gadarnhau fy mod yn disgwyl gwneud datganiad sy’n nodi ein cynlluniau ac yn amlinellu ein llwybr yng Nghymru yr hydref hwn. Rwy’n cydnabod bod angen darparu sicrwydd i bobl mewn addysg ac yn y gwasanaeth iechyd, a’r rhai sy’n ystyried gyrfa mewn nyrsio, felly edrychaf ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y dyfodol cymharol agos.

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Amser byr iawn yn unig sydd gennyf i grynhoi. Yn gyntaf, diolch i’r Aelodau sydd wedi siarad dros y cynnig hwn heddiw. Roedd David Rees yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith fod yna amrywiaeth o bobl ac nid nyrsys yn unig—yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig—yn elwa o’r bwrsariaethau. Diolch hefyd i lefarydd iechyd y Ceidwadwyr, a byddwn, fe fyddwn yn adleisio’r angen i wneud yn siŵr fod gennym ddulliau da sy’n seiliedig ar dystiolaeth o flaengynllunio ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol. Mae hwnnw’n fater allweddol. Diolch i Caroline Jones.

I Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl mai’r hyn a glywsom yw eich bod yn derbyn mewn egwyddor yr hoffech i’r fwrsariaeth barhau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rwy’n credu bod gennym warant am flwyddyn. Mae hynny’n siom i mi, a bydd yn siom i rai o’r nyrsys a fydd yn gwrando heddiw, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn chwilio am sicrwydd ar gyfer y tymor hir. Rwy’n ddiolchgar i glywed y bydd datganiad yn y dyfodol agos iawn—rwy’n meddwl bod ‘hydref’ yn golygu y daw yn ystod y pump neu chwe wythnos nesaf—ac edrychaf ymlaen at weld y datganiad yn rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer y tymor hir.

Iechyd hirdymor y GIG yng Nghymru yw’r hyn y mae pob un ohonom yma â diddordeb ynddo, ac mae’n rhaid i’r gweithlu GIG hirdymor diogel hwn gynnwys nyrsys wedi’u hyfforddi’n dda yn ganolog iddo, nyrsys sy’n cael eu cefnogi drwy’r cyfryw hyfforddiant, a chan gydnabod wrth gwrs fod llawer o’r hyfforddiant hwnnw’n gyfraniad gwerthfawr ynddo’i hun i’r gwaith sy’n mynd rhagddo o ddydd i ddydd yn y GIG. Edrychaf ymlaen at agwedd gadarnhaol fwy hirdymor gan y Gweinidog maes o law.

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Y Rhaglen Cefnogi Pobl

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar y rhaglen Cefnogi Pobl, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig—Bethan.

Cynnig NDM6104 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Yn aml yn y dadleuon hyn rydym yn craffu ar faes lle credwn y gallai Llywodraeth Cymru wneud yn well ac yn tynnu sylw at yr hyn rydym yn ystyried yw ei diffygion, cyn cynnig dewisiadau amgen cadarnhaol. Ar gyfer y ddadl hon, rydym am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Rydym yn cymryd cynllun Llywodraeth Cymru sydd wedi llwyddo i arbed arian ac wedi helpu pobl, gydag un eithriad y byddaf yn dod ato, ac rydym yn gofyn iddo gael ei ddiogelu rhag toriadau drwy gydol y Cynulliad hwn.

Wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld mwy o adnoddau yn cael eu dyrannu i’r cynllun, a gellid ei addasu i wella ei effeithiolrwydd, ond rydym yn dechrau o’r safbwynt pragmatig fod angen i ni ddiogelu’r cynllun cyn ei ehangu.

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu tua 60,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac yn eu hatal rhag mynd yn ddigartref—yn llwyddiannus iawn, fel rwyf wedi dweud. Mae’n helpu pobl i ddychwelyd at addysg, yn cynnal tenantiaethau, ac yn eu cael yn ôl i mewn i waith. Mae’r achos moesol dros wneud hyn yn ddealladwy iawn, ond mae yna achos ariannol dros wneud hyn hefyd. Yn 2006, am bob £1 a wariwyd gan y rhaglen, gwelwyd bod arbediad o £1.68 i bwrs y wlad. Roedd hyn cyn i welliannau gael eu gwneud i’r rhaglen, felly gallem weld mwy fyth o arbedion pan fydd y gwerthusiad nesaf yn cael ei gyhoeddi.

Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod bellach fod ymdrin â digartrefedd yn hytrach na’i atal yn costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus. Gwnaed ymchwil yn Ninas Efrog Newydd i olrhain bron i 10,000 o bobl ddigartref, a daeth i’r casgliad fod pob un yn costio $40,500 y flwyddyn i’r gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys amser a gâi ei dreulio mewn ysbytai, llochesi a charchardai. Ar ôl eu cartrefu, câi’r costau hyn eu lleihau i’r pwynt lle roeddent i bob pwrpas yn cydbwyso holl gostau darparu cymorthdaliadau tai a gwasanaethau cymorth dwys i bobl. Pe bai digartrefedd wedi cael ei atal yn y lle cyntaf, ni fyddai’r bobl hyn wedi bod angen gwasanaethau a oedd mor ddwys, gan arbed rhagor fyth o arian.

Roedd adroddiad UK Crisis 2015 yn tanlinellu canfyddiadau Efrog Newydd drwy fodelu nifer o senarios digartrefedd yn y DU—gan gydnabod, wrth gwrs, fod y rhesymau dros ddigartrefedd yn wahanol i bob unigolyn, ac y gallai rhai unigolion fod yn fwy gwydn nag eraill ac y byddai rhai angen llai o wasanaethau. Roedd y casgliadau’n syfrdanol. Ym mhob senario, roedd yr arbedion i wasanaethau cyhoeddus yn gwrthbwyso’r gost o atal digartrefedd ar raddfa o 3:1 dros un flwyddyn yn unig. Ar gyfer rhai senarios lle rydych yn rhagdybio costau ychwanegol fel restiadau aml a defnydd o gyfleusterau gwasanaethau iechyd meddwl, gallai’r arbedion fod mor uchel ag 20:1. Mae yna neges glir iawn yma—mae atal a datrys digartrefedd yn gyflym bob amser yn costio llai i’r cyhoedd na chaniatáu i ddigartrefedd ddod yn barhaus neu ddigwydd dro ar ôl tro. Mae gwers sylfaenol yma am y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhyngweithio, yn ategu ac yn gwella effeithiolrwydd yr hyn y maent yn ei wneud pan fyddant yn canolbwyntio ar atal problemau ac yn edrych yn fwy hirdymor ar yr hyn sy’n costio mewn gwirionedd.

Un agwedd ar galedi na chaiff ei chofnodi’n ddigonol yw ei fod yn methu ar ei delerau ei hun. Daw Llywodraethau adain dde i rym a thorri gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a gweld eu bod yn gorfod gwario arian yn ymdrin â chanlyniadau eu hanallu i weld yn bell. Er enghraifft, pan fydd ysgolion yn methu, rydym yn aml yn y pen draw yn gweld galwadau cynyddol posibl ar y system fudd-daliadau, gwasanaethau addysg i oedolion a’r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig pan fyddwch yn sôn am bobl nad ydynt mewn hyfforddiant neu addysg. Fel arfer, nid gwrthdroi’r toriadau a gwneud ein hysgolion yn well yw’r ymateb i hyn, ond torri hawliau i fudd-daliadau wedyn a gwneud toriadau pellach i addysg oedolion. Dywedir wrth y system garchardai wedyn i gadw pobl mewn warysau ac i beidio â thrafferthu gyda dulliau addysgol neu greadigol i’w hatal rhag aildroseddu, ac felly mae’r cylch yn ailadrodd unwaith eto.

Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dioddef toriadau, gall olygu bod llawdriniaethau’n mynd o chwith oherwydd prinder staff. Byddai pobl a fyddai wedi gwella yn cael salwch cronig ac yn dod i ddefnyddio’r gwasanaeth yn fynych, ac efallai na fyddant yn gallu gweithio a chyfrannu tuag at incwm y wladwriaeth.

Rydym wedi cydnabod ers tro y peryglon i gynlluniau sy’n dda ond nad ydynt yn meddu ar yr un lefel o ‘adnabyddiaeth brand’ â gwasanaethau eraill. Yn aml y rhain yw’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn ystod cyfnodau o heriau ariannol. Rydym hefyd yn gwybod y gall cynlluniau sydd o fudd yn bennaf i grwpiau o bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, yn hytrach na’r rhai sydd bob amser yn pleidleisio, hefyd fod mewn perygl o ran wynebu’r fwyell, ni waeth pa mor effeithiol ydynt na’u gwerth am arian. Dyna pam ein bod yma yn y sefydliad hwn wedi pasio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Gwelsom y byddai yna demtasiwn bob amser i ganolbwyntio gwariant ar gyflyrau iechyd nad oedd â stigma ynghlwm wrthynt yn hytrach na chyflyrau a ddioddefir gan bobl na allant fynegi nac amddiffyn eu hunain am resymau cymhleth iawn. Felly, fe’i gwnaethom yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau na allai’r byrddau iechyd byth dorri’r gwasanaethau hynny. Yn yr un modd, mae’r cynnig hwn heddiw, yn syml, yn gofyn am gyfleu’r neges na fydd hi’n dderbyniol torri cyllideb Cefnogi Pobl yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ac os ydym yn pasio’r cynnig hwn heddiw, byddwn yn dangos bod o leiaf rai ohonom yn y Siambr hon yn gallu deall y syniad o fuddsoddi i arbed—fod gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn rhatach—

[Yn parhau.]—na chael gwared ar gymorth a gyrru pobl allan i’r strydoedd. Iawn.

Diolch i chi am ildio, Bethan. Rwy’n cytuno â chi o ran cyfleu neges ynglŷn â’r hyn rydym am ei gyflawni. Fe sonioch am y ddeddfwriaeth iechyd meddwl y mae’r Cynulliad wedi ei phasio. Mae yna, wrth gwrs, fyd cyfan o wahaniaeth rhwng gwneud deddfwriaeth a sicrhau mewn gwirionedd fod canlyniadau’r ddeddfwriaeth honno yn digwydd ar lawr gwlad. Sut rydych chi’n mynd i wneud yn siŵr—sut, felly, rydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr—fod y neges rydym yn ei chyfleu heddiw yn cael ei dehongli gan awdurdodau lleol ar lawr gwlad mewn gwirionedd?

Wel, rwy’n meddwl mai’r neges gryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi yw na fyddent yn ymrwymo i wneud unrhyw doriadau i’r cynllun hwn, gan na fyddai’r awdurdodau lleol wedyn yn teimlo bod yna unrhyw amwysedd yn y broses o wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i’r hyn y maent yn ei wneud ar y lawr gwlad, oherwydd, os nad ydynt yn cael arwydd clir gan Lywodraeth Cymru fod hyn yn cael ei ddiogelu, efallai y byddant yn ystyried ei bod yn briodol, o bosibl, i wneud pethau mewn ffordd wahanol ac yna efallai yn dadwneud peth o’r gwaith da y mae rhai o’r elusennau yn y sector yn ei wneud ar hyn o bryd.

Roeddwn am orffen yn fyr ac roeddwn am nodi un pwynt olaf a glywais gan y sector. Efallai fod derbyniadau ar sail angen blaenoriaethol wedi gostwng 63 y cant, ond fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw mesur galw digartrefedd yn ôl faint o bobl sydd ag angen blaenoriaethol yn ddull cywir o fesur mwyach. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda’r holl aelwydydd cymwys a lleddfu digartrefedd. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan Shelter Cymru wedi dod i’r casgliad fod y nifer sy’n troi at wasanaethau digartrefedd wedi cynyddu oddeutu chwarter ers i’r gyfraith newid mewn gwirionedd. Bydd yn ddiddorol clywed ymateb Llywodraeth Cymru i hyn felly. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac felly galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Mark.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.

(b) sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â’r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a’r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac

(c) cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw’n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rydym yn cytuno â’r cynnig gwreiddiol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol, ac wedi cynnwys hyn yn ein gwelliant i gymryd lle hyn yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae ein gwelliant yn mynd ymhellach, gan ymateb i alwadau gan ddarparwyr Cefnogi Pobl i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â’r rhaglen Cefnogi Pobl o’r gyllideb atal digartrefedd a’r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu hefyd, a chydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw’n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i wasanaethau statudol ac yn rhoi llwyfan i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio mewn gwaith atal—h.y. nid yn unig yn dda ynddo’i hun ond yn ffordd ddelfrydol o fynd i’r afael â chyllideb sydd wedi lleihau.

Amcangyfrifir yn geidwadol fod y rhaglen Cefnogi Pobl yn arbed £2.30 am bob £1 a werir, ac mae hefyd yn denu cyllid arall i mewn, yn atal digartrefedd, yn atal gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cynyddu diogelwch cymunedol—gan leihau’r angen am ymyriadau costus a lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol.

Lansiwyd ymgyrch Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl eleni gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru i sicrhau buddsoddiad parhaus a gwneud yn siŵr fod pobl sy’n cael eu gwthio i’r cyrion ac yn wynebu risg yn parhau i gael eu diogelu. Fel y maent yn datgan, mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn atal digartrefedd ac yn cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a chydag urddas yn eu cymuned. Maent yn dweud bod y rhaglen yn wasanaeth ataliol hanfodol

‘sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n cael budd ohoni, gan gynyddu eu gwytnwch a’u gallu i gynnal cartref sefydlog’

yn ogystal â lleihau eu galw ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

‘Cafodd dros 750,000 o fywydau eu trawsnewid ers sefydlu’r rhaglen yn 2004’,

ychwanegant.

Mae gwasanaethau Cefnogi Pobl yn cefnogi ystod eang o bobl sydd mewn perygl o wynebu argyfwng, gan gynnwys pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, teuluoedd sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol neu sydd ag anableddau dysgu—neu anawsterau dysgu, dylwn ddweud—cyn-bersonél y lluoedd arfog, rhai sy’n gadael gofal, a phobl hŷn sydd angen cymorth. Mae astudiaeth ddichonoldeb ar gysylltu data Cefnogi Pobl eleni yn dangos bod ymyriadau Cefnogi Pobl yn lleihau’r defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd meddygon teulu, sy’n golygu bod llai o adnoddau’n cael eu defnyddio a mwy o wasanaethau ar gael ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dangos sut y gellid lleihau llawer o’r problemau iechyd a’r problemau cymdeithasol mwyaf dyrys pe baem yn ymyrryd yn ddigon cynnar i ddiogelu plant. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn ein helpu i ateb yr angen hwn.

Mae darparwyr Cefnogi Pobl wedi bod yn gwneud popeth a allant i dorri costau a darparu gwasanaethau effeithiol gyda chyllidebau sy’n lleihau, ond byddai toriadau pellach yn gwneud niwed anadferadwy i’r gwasanaethau ataliol hanfodol hyn, gan adael llawer o bobl sy’n agored i niwed heb unman arall i droi. Mae grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn £124.4 miliwn ac mae Cymorth Cymru yn ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol a sicrhaodd fod hwn yn cael ei ddiogelu y llynedd. Maent yn datgan bod y cyllid pontio ar gyfer tai hefyd wedi bod yn hynod o addawol ac effeithiol. Fodd bynnag, roedd hwn oddeutu £5 miliwn y llynedd, a disgynnodd i oddeutu £3 miliwn eleni, ac mae’n wynebu ei flwyddyn derfynol o gyllid y flwyddyn nesaf.

Fel bod awdurdodau lleol yn gallu cadw’r arian hwn i alluogi dulliau arloesol o weithio, maent yn awgrymu y dylid cynyddu’r grant Cefnogi Pobl i £130 miliwn a chynnwys y cyllid pontio yn rhan ohono. Byddai hyn yn caniatáu sicrwydd ariannol i awdurdodau lleol a darparwyr fel ei gilydd i archwilio ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblem digartrefedd ar sail fwy hirdymor.

Mae Shelter Cymru, Llamau, Gisda, Digartref Ynys Môn a Dewis yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob un o’r tair cyllideb sy’n cefnogi gwaith i atal digartrefedd yn cael eu diogelu: Cefnogi Pobl, y gronfa pontio, a’r gronfa atal digartrefedd. Dywedant fod y grant atal digartrefedd yn darparu un o’r ychydig ffynonellau cyllid sefydlog ar gyfer cyngor annibynnol ar dai i’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a byddai llawer o’r gwaith hwnnw mewn perygl heb yr arian hwn. Maent yn ychwanegu bod y grant wedi rhoi llwyfan i ddefnyddio ffynonellau eraill o arian mewn gwaith atal ac mae’n gweithio gyda phobl cyn i’w problemau waethygu, sy’n golygu bod gwasanaethau statudol yn elwa ar y cyllid hwn. Mewn geiriau eraill, byddai toriadau i unrhyw un o’r cronfeydd hyn sy’n cefnogi ei gilydd, yn doriad mwy o faint i wasanaethau statudol i bob pwrpas.

Fel y dywedodd y bobl y cyfarfûm â hwy pan ymwelais â phrosiectau Cefnogi Pobl yr haf hwn, roedd y rhain wedi achub eu bywydau. Wedi’r cyfan, fel y clywsom yn seminar y Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru a LivesthroughFriends a gynhaliwyd gennyf heddiw, gallwn i gyd elwa o’r cyfoeth o dalent ac adnoddau sydd gan ein dinasyddion drwy hyrwyddo hunanddibyniaeth, annog dwyochredd a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, dinasyddion a chymunedau yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Gadewch i ni beidio â cholli’r cyfle hwn. Gallwn, fe allwn arbed arian, ond nid heb wneud pethau’n wahanol. Diolch.

Go brin fod yna Aelod yn y Siambr hon heb nifer sylweddol o etholwyr yr effeithiwyd arnynt mewn rhyw ffordd gan y gwasanaethau a gefnogir gan Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Yn fy etholaeth i, mae Gwalia, Grŵp Tai Coastal, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot, Tai Dewis a llawer o rai eraill yn darparu gwasanaethau hanfodol a ariennir drwy Cefnogi Pobl. Rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi cael eu hannibyniaeth yn ôl oherwydd Cefnogi Pobl, ac ni allai unrhyw bobl weddus gyfarfod â rhywun yn y sefyllfa honno heb werthfawrogi gwerth aruthrol y gwaith y mae’r cynllun yn ei ariannu.

Dylai cefnogi pobl agored i niwed neu bobl hŷn i fyw bywydau annibynnol fod yn ganolog i’r hyn y mae pob un ohonom am ei gyflawni yn y Siambr hon, waeth beth yw ein hymlyniad gwleidyddol. Felly, gadewch i mi fod yn glir: ni cheir monopoli ar gefnogaeth i’r rhaglen ar feinciau’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw hi ac yn wir, er bod Llywodraeth y cenedlaetholwyr yn yr Alban a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri cymorth i’w rhaglenni, mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi blaenoriaeth gyson i Cefnogi Pobl.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, ac rwy’n deall y pwyntiau y mae’n eu gwneud, ac rwy’n deall bod y Llywodraeth wedi cefnogi hyn. Ond rhaid i mi ddweud wrtho mai’r gyllideb cyn y gyllideb ddiwethaf, pan awgrymodd ei Lywodraeth y dylid torri Cefnogi Pobl, sydd wedi arwain at y ddadl hon yn awr.

Wel, rwy’n llwyr ddisgwyl i’r Llywodraeth gynnal ei hymrwymiad i Cefnogi Pobl yn y gyllideb hon, ac os na wnaiff ydyw, byddaf yr un mor ddig a siomedig ag unrhyw un a gyflwynodd y cynnig hwn heddiw. Ond rhaff achub yw’r gwaith a ariennir gan Cefnogi Pobl, nid pêl-droed wleidyddol. Y lle ar gyfer pleidleisio ar ariannu gwasanaethau a rhaglenni a pholisïau’r Llywodraeth yw’r bleidlais ar y gyllideb. Bydd pawb sy’n dilyn hynt y lle hwn yn ofalus yn gwybod hynny, ond i lawer o bobl nad ydynt yn ei ddilyn, neu sy’n arsylwyr achlysurol, a fydd yn cynnwys llawer o bobl yr effeithir arnynt gan y rhaglen Cefnogi Pobl, bydd yn ymddangos bod y bleidlais heddiw yn y bleidlais ar y rhaglen, ac nid dyna ydyw.

Felly, rwy’n apelio ar yr Aelodau i gadw pryderon pobl mewn cof—llawer ohonynt yn etholwyr i ni—a fydd yn deall yn iawn beth yw effaith toriadau caledi Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru, ac yn deall yn iawn cymaint y maent yn dibynnu ar Cefnogi Pobl. Bydd eraill yn ffurfio eu barn eu hunain am oportiwnistiaeth y blaid sydd â rôl ganolog yn ysgrifennu’r gyllideb ar y pwyllgor cyswllt, ac oportiwnistiaeth y blaid y mae eu cydweithwyr yn San Steffan wedi dinistrio eu rhaglen eu hunain ac wedi torri cyllideb Cymru, sy’n dewis cyflwyno’r cynnig hwn ger ein bron heddiw.

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig, ond ni fyddaf yn pleidleisio yn erbyn Cefnogi Pobl. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y math o wleidyddiaeth sy’n trin Cefnogi Pobl fel ergyd sydyn 30 munud yn y Siambr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw, a diolch i’r Aelodau am eu sylwadau. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy gydnabod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gofalu am lawer o bobl agored i niwed yn ein cymunedau, a dechrau drwy ddiolch i Cymorth Cymru am y man cychwyn? Diolch i Auriol Miller, a phob lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i’r cyfarwyddwr dros dro, Katie Dalton, pan ddaw i’w swydd.

Er ei fod yn cael ei gymryd yn ganiataol yn aml, mae cartref sefydlog yn angen sylfaenol. Mae’n sylfaen i addysg plant, i gynnal swydd, i iechyd a lles, ac mae’n helpu pobl i wireddu eu potensial llawn. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl, fel y soniodd yr Aelodau, yn helpu pobl i ddod o hyd i gartref a’i gadw, yn darparu cymorth allweddol ar gyfer goresgyn problemau—anawsterau anodd mewn llawer o achosion. Eleni, disgwylir y bydd tua 58,000 o bobl, gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed, wedi cael eu cyffwrdd gan y rhaglen hon. Boed yn unigolyn neu’n deulu, yn hen neu’n ifanc, mae’r gefnogaeth yno iddynt. Mae yno ni waeth a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain, mewn tai cymdeithasol, yn byw mewn tai â chymorth, neu yn y sector rhentu preifat. Mewn rhai achosion, daw’r cymorth gyda llety, megis llochesi, sy’n helpu dioddefwyr trais domestig. Mewn achosion eraill, darperir cymorth fel y bo’r angen byrdymor yn eu cartref.

A gaf fi fynd ar ôl y pwyntiau roedd Mark Isherwood yn eu gwneud? Rwy’n rhyfeddu bod yr wrthblaid ar feinciau’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r dadleuon hyn a gyflwynwyd gan rai o’r Aelodau’r wrthblaid—ond rhaid i’r Aelod gael rhyw syniad o realiti ynglŷn â’i sylwadau heddiw. Mae adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru 11.6 y cant yn waeth ei byd o ran cyllid erbyn 2019-20, o’i gymharu â’r flwyddyn pan ddechreuasom gyntaf. Credaf fod yn rhaid i’r Aelod gydnabod mai un pot o arian sydd gennym. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio’n dda. Mae atal yn sicr yn rhywbeth rwy’n awyddus i fynd ar ei drywydd gyda fy nhîm o gyd-Aelodau o amgylch bwrdd y Cabinet.

Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol fod canlyniadau cynnar y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd yn galonogol iawn—fel y nododd Bethan Jenkins yn wir—cymaint felly nes bod Llywodraeth y DU o dan bwysau i ddilyn ein hesiampl. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig iawn yn y llwyddiant hwn, ond nid yw ei manteision wedi eu cyfyngu i dai yn unig. Rwyf wedi cyfarfod â Shelter Cymru yr wythnos hon, a byddaf yn cael trafodaethau pellach ynglŷn ag effeithiau hynny—cynaladwyedd hirdymor rhaglen o’r fath, sydd wedi cael llwyddiant mawr.

Fe gymeraf ymyriad os yw’r Aelod yn dymuno ymyrryd.

Rwy’n gobeithio eich bod wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cydnabod bod cyllidebau wedi bod yn crebachu. Rwy’n gofyn pam yn union, felly, nad yw Llywodraeth Cymru yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol er mwyn gwneud iawn am hynny, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i reoli cyllidebau llai. Nid cost ydyw, ond buddsoddiad.

Yn wir, mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw. Dyna pam y pleidleisiodd yr Aelod yn erbyn y Ddeddf tai yn y Llywodraeth ddiwethaf, pan oeddem yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon. Dylai feddwl yn ôl am sut y gweithredodd.

Mae ein hymchwil yn dangos sut y mae’r rhaglen yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG—sy’n fantais sylweddol ynddi ei hun. Mae’n darparu achos dros ymyrraeth gynnar ac atal, sy’n gynhenid ​​yn ein Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Er enghraifft, ar gyfer pobl ag anghenion yn sgil camddefnyddio sylweddau, mae yna ostyngiad cyffredinol hirdymor yn y defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau meddygon teulu ar ôl cael cymorth. Rwy’n awyddus iawn i fynd ar drywydd y materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan fy mod yn credu bod hwn yn ateb hirdymor sy’n effeithio’n arbennig ar y gwasanaeth iechyd, a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd.

Mae’r enghreifftiau hyn, Ddirprwy Lywydd, yn dangos sut y mae’r rhaglen—ac, yn bwysig, eu dull integredig gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill—o fudd i bawb: yr unigolion dan sylw, y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill megis gwasanaethau digartrefedd lleol. O ystyried y pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, ni fu atal neu leihau’r galw erioed mor bwysig. Rwy’n gobeithio o ddifrif y bydd yr Aelod sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw hefyd yn cydnabod drwy broses y gyllideb yr heriau y mae Llywodraethau yn eu hwynebu, a lle gallwn wneud buddsoddiadau doeth megis Cefnogi Pobl, mae yna ganlyniad mewn rhan arall o fecanwaith y gyllideb. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus ble rydym yn gwneud ein buddsoddiadau. Rwyf am weld mwy o gyfraniad byth tuag at waith atal digartrefedd—mwy o weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill fel bod pobl yn cael cymorth pan fyddant ei angen. Waeth beth fo’r trefniadau ariannu, mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr arian yn gwneud cymaint o wahaniaeth ag y bo modd i’r rhai sydd ei angen.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod ysbryd y cynnig heddiw. Fodd bynnag, ni allwn achub y blaen ar broses y gyllideb gyfredol na dyfalu ynglŷn â’n cyllideb gyffredinol yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol parhaus, ac mewn rhai achosion, y pwysau ariannol cynyddol sydd arnom. Am y rhesymau hynny, byddaf yn gofyn i’r Aelodau wrthwynebu’r cynnig.

Rwy’n falch, fodd bynnag, fod Paul Davies yn cydnabod rôl ataliol bwysig y rhaglen yn rhan o’i welliannau. Fodd bynnag, am yr un rhesymau ag y cyfeiriais atynt, bydd yn rhaid i mi wrthwynebu gwelliant 1. Hyderaf nad oes neb—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, mae’r Aelod yn rhydd i ymyrryd os yw’r Aelod yn dymuno.

Roeddwn i ond yn dweud ei bod hi’n mynd mor dda ac roeddwn wedi gobeithio y byddech wedi cefnogi gwelliant synhwyrol iawn y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod i mewn pan drafodwyd gwelliant y Ceidwadwyr, ond mae’n drawiadol ei fod yn cofio.

Hyderaf na fydd neb yn ceisio camliwio neu amharchu proses gyllidebol briodol y Cynulliad hwn wrth i Lywodraeth Cymru anghytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd ar draws y Siambr ar bwysigrwydd y gwaith hwn, Lywydd—na ddylai negeseuon cytûn fynd ar goll ym mlerwch gwleidyddiaeth plaid a’n bod ni i gyd, yn y Siambr hon, yn gefnogol i’r rhaglen Cefnogi Pobl, er bod yna broses briodol i’w dilyn, fel y bydd yr Aelodau yma yn cydnabod. Diolch.

Diolch. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y mater penodol hwn.

Fe welwch mewn gwleidyddiaeth weithiau na allwch ennill beth bynnag a wnewch. Rydych yn cefnogi rhaglen gan y Llywodraeth ac rydych yn cael eich cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth â hi. Rydym yma i wneud yn siŵr, fel y brif wrthblaid, ein bod yn eich dwyn i gyfrif, Weinidog, ac yn sicrhau bod rhaglenni fel hyn yn bwysig ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn dweud wrth eich Aelod mainc gefn, Jeremy Miles: a ydych chi, felly, yn bod yn nawddoglyd tuag at y bobl yn yr oriel gyhoeddus nad ydynt yn dweud mai ergyd wleidyddol 30 munud yn unig yw hon? Maent yn gwybod am bwysigrwydd y ddadl hon oherwydd mai eich Llywodraeth chi a gyflwynodd y cynnig i dorri Cefnogi Pobl, felly mae’n rhaid i ni gadw hyn ar yr agenda wleidyddol. Os na wnawn hynny, yna mae’n fethiant ar ein rhan fel y brif wrthblaid yma i’ch dwyn i gyfrif. Felly, rwy’n derbyn bod Gweinidog y Llywodraeth wedi bod yn rhyddfrydol iawn ei ysbryd i siarad â ni yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gallu clywed pryderon y bobl yma heddiw, ond yn sicr nid chwarae gemau yw hyn. Nid wyf yn gwneud hynny mewn gwleidyddiaeth, felly cefais fy mrifo braidd gan y sylwadau hynny, a hefyd gan y Ceidwadwyr. Wyddoch chi, gwelliant ‘dileu popeth’—daethom yma yn llawn o ewyllys da. Gallech fod wedi helpu i wella ein cynnig a’i ymestyn. Fe ddywedoch bron yn union yr un peth ag a ddywedais i, Mark Isherwood.

Felly, os gwelwch yn dda gadewch i ni geisio cynnal y cynlluniau hyn. Maent yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl yn ein cymunedau.

A wnewch chi dderbyn bod y sylwadau a wneuthum yn adlewyrchu’r sylwadau a gefais gan yr elusennau a enwais, a ddywedodd fod y tair cronfa yn gyd-ddibynnol, er mwyn cyflawni’r nodau a rannwn?

Collais hynny. Mae’n ddrwg gennyf am hynny.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Felly, byddaf yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Rhaglen Lywodraethu

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhaglen lywodraethu. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6102 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na’r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cynnig y cynnig sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r Prif Weinidog yma i ymateb i’r ddadl. Rwy’n cymryd ei bod yn rhaid mai arweinydd y tŷ sy’n ymateb i’r ddadl y prynhawn yma yn lle hynny.

Mae’r cynnig ar y papur trefn yn edrych ar raglen lywodraethu’r Prif Weinidog ac yn datgan nad yw

‘yn ennyn yr hyder na’r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru’,

a hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflwyno ei rhaglen lywodraethu o fewn ei chyllideb. Nid wyf yn credu bod y ddau bwynt yn afresymol, i fod yn onest gyda chi. Rwy’n credu eu bod yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl gan unrhyw raglen lywodraethu. Ond wedyn, pan gyflwynwyd hon i ni yr wythnos diwethaf, yn 15 o dudalennau i gyd, gan gynnwys y clawr blaen, gyda holl nerth deallusol plaid y cenedlaetholwyr a’r blaid lywodraethol, Llafur, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn siarad drwy’r haf—a dyma’r gorau y gallent ei greu.

Fel y dywedais yn fy ymateb i’r datganiad yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog, yn gyffredinol dymunais yn dda i’r Llywodraeth gyda’i rhaglen gyflawni oherwydd, mewn gwirionedd, pobl a chymunedau Cymru sy’n cael eu siomi pan nad yw’r mentrau hyn yn cael eu cyflawni i’r union bobl sydd angen iddynt gael eu cyflawni ym maes iechyd, addysg a’r economi. Ond os edrychwch drwy’r ddogfen hon, mae’n amhosibl gweld mewn gwirionedd sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu symud Cymru ymlaen, fel y mae’r dudalen flaen yn dweud.

Nid yw Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cael ei chrybwyll unwaith yn y ddogfen hyd yn oed. Eto i gyd, mae’r mater cyfansoddiadol mwyaf y mae’r wlad hon yn ei wynebu, cwestiwn gadael yr UE, ym meddyliau pawb. Yn y pen draw, nid oes sôn yma o gwbl ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i thrafodaethau a’i chyd-drafodaethau ynglŷn â chyllid strwythurol, ynglŷn â chyllid prifysgolion, ynglŷn â chyllid datblygu cefn gwlad—ac mae hynny’n eithaf rhyfedd mewn dogfen sydd i fod i grynhoi gwaith y Llywodraeth am y pum mlynedd nesaf. Nid 12 mis, nid chwe mis; dyma werth pum mlynedd o waith mewn 15 o dudalennau. Rhaid bod hynny’n rhywbeth y mae gwir angen i’r Llywodraeth ei ystyried. Felly dyna pam y mae’r cynnig rydym wedi ei gyflwyno heddiw yn galw am y diffyg hyder sydd gennym yng ngallu’r Llywodraeth i symud ymlaen ar lawer o’r cynlluniau y maent wedi eu hamlinellu mewn gwirionedd.

Yn gynharach y prynhawn yma, er enghraifft, cafwyd dadl ar TB gwartheg yn y Siambr hon, a chymerodd sawl Aelod o bob plaid ran ynddi. Nid yw TB gwartheg yn cael ei grybwyll hyd yn oed yn y rhaglen lywodraethu hon. Dim sôn o gwbl. Eto i gyd, pan fyddwch yn siarad â’r sector amaethyddol a’r undebau yn ogystal—ac mae Cymru yn enwog am ei chynhyrchiant da byw—dyna’r un eitem fawr y maent yn chwilio am ymateb iddi, am ffordd ymlaen, gan y Llywodraeth. Eto i gyd, yn ei rhaglen lywodraethu, mae wedi methu cynnwys y geiriau ‘TB gwartheg’ hyd yn oed.

Os af yn ôl at y pwynt am rôl Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau—. Yr ardoll brentisiaethau, er enghraifft: newid enfawr, trawsnewid mawr yn y ffordd y datblygir prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi, ond unwaith eto, dim sôn o gwbl yn y rhaglen lywodraethu hon ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio i ddatblygu’r ardoll brentisiaethau. Rwyf wedi siarad â dau gwmni mawr yr wythnos hon sydd wedi nodi, o ystyried yr ymateb traed moch gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ardoll brentisiaethau, ei bod yn mynd i fod yn haws iddynt gau eu lleoedd hyfforddi yn hytrach na’u parhau. Pa ymateb a gawn gan Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i ni nad ydych yn gweithio ar y llinell ochr a’ch bod mewn gwirionedd ar y maes chwarae?

Wedyn, rydych yn edrych hefyd ar fater gwasanaethau trawsffiniol lle mae gan Lywodraeth y DU, unwaith eto, rôl enfawr i’w chwarae yn datblygu strategaeth gydlynol ar gyfer gwasanaethau trawsffiniol i etholwyr yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Russell George, er enghraifft, a llawer o etholaethau eraill, yn enwedig yng ngogledd Cymru, lle mae llawer o wasanaethau dwys, gwasanaethau niwrolegol, er enghraifft, yn ddibynnol ar berthynas drawsffiniol dda—yn enwedig mewn perthynas â’r economi, er enghraifft, lle mae cytundeb twf gogledd Cymru yn ddibynnol ar y cysylltiad trawsffiniol hwnnw.

Unwaith eto, nid yw’r ddogfen ‘Symud Cymru Ymlaen’ sydd yn fy llaw, yn sôn o gwbl am unrhyw fath o berthynas na dealltwriaeth o sut y bydd y strategaethau hyn yn cael eu symud ymlaen. Felly, mae’n ddyletswydd wirioneddol yn awr ar y Llywodraeth yma i ddweud, dros yr wythnosau nesaf, cyn toriad y Nadolig, sut y gall roi hyder i unrhyw un fod hon yn rhaglen lywodraethu o ddifrif, y bydd yn cyflawni ei dyheadau ac yn y pen draw, na fyddwn yn gweld yr un rhaglenni blaenorol a gyflwynwyd gan Lywodraethau Llafur olynol yn cael eu hailadrodd, rhaglenni sydd, yn anffodus, wedi ein harwain at fethiant economaidd mewn sawl rhan o Gymru oherwydd y strategaethau amrywiol y mae’r Llywodraeth Lafur wedi eu cyflwyno. Yn addysgol, yn anffodus, ar safleoedd PISA, rydym wedi mynd ar yn ôl. Ac ym maes iechyd, mae gennym amseroedd aros hwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Nid yw hwnnw’n gynnig afresymol i’w roi ar ddechrau tymor Llywodraeth.

Beth ydych chi’n mynd i’w wneud mewn gwirionedd ar y tri chwestiwn mawr? Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i wella perfformiad economaidd ledled Cymru fel nad yw cymunedau ar draws Cymru yn parhau i fod yn dlotach na rhannau o Fwlgaria neu Rwmania? Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i wella lefelau cyrhaeddiad addysg fel nad ydym, yn y pen draw, yn llusgo ar ôl yn nhablau safleoedd PISA, ond ein bod yn cael ein gweld fel arloeswyr mewn gwirionedd? Oherwydd, er tegwch i’r Gweinidog addysg blaenorol, Leighton Andrews, roedd ganddo ddyhead. Efallai ei fod wedi cael ei wawdio oherwydd ei ddyhead i gael Cymru o fewn yr 20 uchaf, ond roedd yn ddyhead aruchel i’w gael, oherwydd gallech ddweud mewn gwirionedd, ‘Wel, o leiaf mae am i Gymru symud ymlaen’.

Nid yw’r ddogfen hon yn cynnig unrhyw beth o gwbl o ran bod eisiau gwthio Cymru ymlaen ym maes addysg. Parhau i reoli’r dirywiad yn unig y mae eisiau ei wneud. Wel, nid yw hynny’n ddigon da—nid yw’n ddigon da. Pan edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, ac yn arbennig yr amseroedd aros cronig sy’n golygu bod un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG, nid oes unrhyw ffordd ymlaen yn y rhaglen lywodraethu hon o ran sut y mae’r rhestrau aros hynny’n mynd i gael eu cwtogi a pha gynnydd rydym yn mynd i’w weld. [Torri ar draws.] Rwy’n falch o ildio i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

Rwy’n ddiolchgar iawn. Mae’r Aelod wedi bod yn siarad llawer am Loegr. Dywedodd Angela yn y ddadl flaenorol na ddylem ystyried Lloegr a’r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr. Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno dweud wrthym beth y mae’r meddygon iau yn ei wneud yn Lloegr ac nid yng Nghymru.

Mae’r meddygon iau yn datblygu GIG saith diwrnod a fydd yn cael gwared ar farwolaethau cynamserol ar benwythnosau, a fydd yn darparu gwasanaeth y bydd ysbytai acíwt yn ei gyflawni, ac a fydd yn gwneud yn siŵr fod amseroedd aros yn disgyn yn Lloegr, gan eu bod eisoes yn is na’r hyn sydd gennym yma yng Nghymru. Rhag ofn na chlywsoch y newyddion diweddaraf, mae’r llysoedd wedi barnu heddiw mewn gwirionedd fod gan Lywodraeth y DU yr hawl i osod y contract a fydd yn darparu GIG saith niwrnod. Efallai y byddwch yn anghytuno â GIG saith niwrnod, ond o leiaf mae Llywodraeth y DU wedi rhoi—[Torri ar draws.] O leiaf mae Llywodraeth y DU wedi rhoi eu dyheadau ar y bwrdd. Beth ydych chi wedi ei wneud yn y ddogfen hon? 15 tudalen o eiriau teg, a fawr ddim sylwedd, os o gwbl. Ni all honno fod yn Llywodraeth sy’n—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hyn o bryd. Os oes gennyf amser, byddaf yn ildio ychydig yn nes ymlaen, Joyce. Ond ni all hynny fod arwydd o Lywodraeth hyderus—Llywodraeth sy’n gyforiog o syniadau. Rydych yn rhan gyntaf eich deiliadaeth—eich pum mlynedd i newid tirwedd Cymru—ac yn syml iawn, nid ydych wedi llwyddo i wneud hynny gyda’r ddogfen hon.

Heddiw, er enghraifft, rydym wedi gweld y pwyllgor ymgynghorol allanol ar Ewrop yn cael ei roi at ei gilydd. Ar dudalen 14, mae’r ddogfen yn nodi

‘Gweithio i sicrhau bod aelodaeth ein cyrff democrataidd yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan yn well a gwella cynrychiolaeth gydradd ar gyrff etholedig a byrddau’r sector cyhoeddus’.

Nid oes un ymgeisydd o leiafrifoedd ethnig ar y bwrdd hwnnw—dim un. Dim ond 28 y cant o aelodau’r bwrdd sy’n fenywod, ac mae dau gynrychiolydd o ogledd Cymru. Sut y mae hynny’n diwallu’r dyhead mwyaf sylfaenol yn y ddogfen hon yn ôl pob tebyg? Os nad ydych yn gallu diwallu dyhead mwyaf sylfaenol y ddogfen, sut ar y ddaear rydych chi’n mynd i allu cyflwyno’r materion mwy cymhleth a mwy dyrys sydd angen eu datrys?

Yn benodol, y peth mwyaf cythruddol yn y ddogfen hon yw’r dynodiad fod yna loteri cod post mewn perthynas â chyffuriau ac amseroedd aros yng Nghymru. Pwy sydd wedi bod yn rhedeg y GIG yng Nghymru ers 17 mlynedd? Nid ydych wedi gwneud dim ers 17 mlynedd, ac eto rydych yn tynnu sylw yn eich dogfen eich hun at y ffaith fod yna loteri yn bodoli yng Nghymru. Rydych wedi methu gwneud hyn dros yr 17 mlynedd gyntaf—pa hyder y gallwn ei gael y byddwch yn llwyddo i ymdrin â hynny gyda’r ddogfen hon rydych wedi’i gosod ger ein bron?

Felly, rwy’n dweud wrth y tŷ heno mai’r hyn sy’n rhaid digwydd yma heddiw yw bod y tŷ yn dod at ei gilydd, yn anfon neges glir i’r blaid lywodraethol i ddangos ein diffyg hyder yn y ddogfen hon ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno strategaeth fwy cydlynol ar gyfer llywodraethu Cymru ac i symud Cymru ymlaen â strategaeth y gellir ei chyflawni, strategaeth a fydd yn sicrhau gostyngiad mewn amseroedd aros, strategaeth a fydd yn sicrhau gwelliant mewn addysg ac yn anad dim, strategaeth a fydd yn sicrhau ffyniant ym mhob rhan o Gymru. Os yw Aelodau’r tŷ hwn ar feinciau’r gwrthbleidiau yn dewis ceisio tanseilio’r cynnig hwn, neu’n pleidleisio gyda’r Llywodraeth, yna gallwn yn wir weld y dagrau crocodeil y tu ôl i’r teimladau y maent yn eu pwysleisio, o bryd i’w gilydd, yn y lle hwn.

Mae hon yn ddogfen syml sydd angen ei disodli a gosod rhywbeth mwy sylweddol yn ei lle, rhywbeth y gellir ei feincnodi ac sy’n gallu darparu’r enillion gwirioneddol sydd eu hangen yn daer ar Gymru yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Bydd unrhyw beth llai na hynny yn gwneud cam â phobl Cymru a bydd pum mlynedd arall wedi eu gwastraffu. Cynigiaf y cynnig heddiw, ac rwy’n eich annog i gefnogi’r cynnig sydd gerbron.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig a galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, fadam Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cytuno ag arweinydd y Ceidwadwyr: mae hon yn rhaglen dila ofnadwy, o ystyried bod holl rym, holl allu a holl faint y gwasanaeth sifil y tu ôl i’r Llywodraeth. Rŷm ni wedi cynhyrchu ein syniadau ein hunain yn rhaglen yr wrthblaid—mae cyfeiriad at hyn yn ein gwelliant ni. Mae mwy o syniadau yn fanna nac yn rhaglen Llywodraeth Cymru. Mae’r peth yn warthus, a dweud y gwir. Rwy’n gwybod nid maint yw popeth, wrth gwrs, ond 16 o dudalennau, am bum mlynedd o raglen ar adeg dyngedfennol yn hanes Cymru. Hynny yw, o gymharu â beth wnaeth y Llywodraeth bum mlynedd yn ôl—y Llywodraeth yma—51 o dudalennau. Gallwn ni edrych lan i’r Alban—89 o dudalennau; Gogledd Iwerddon—113, a dim ond rhaglen ddrafft yn unig ydy hynny. Ac, wrth gwrs, mae’n mynd yn ddyfnach na hynny. Fel roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud, rydym wedi mynd lawr o raglen flaenorol y Llywodraeth—roedd yna 12 maes polisi. Rydym yn mynd i lawr nawr i bedwar pennawd yn unig, a dim targedau. Roedd gan y Llywodraeth flaenorol 122 o ddangosyddion canlyniad—braidd yn jargonllyd yntefe, ond o leiaf roedden nhw yna. Roedd yna 224 o ddangosyddion tracio. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau beth yna—ond o leiaf roedd yna dargedau clir, fel ein bod ni yn y lle yma, ac yn bwysicaf oll dinasyddion yn gallu mesur cyrhaeddiant y Llywodraeth, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Wrth gwrs, roedd yna adroddiadau blynyddol ar y rhaglen lywodraethu yn gosod mas cyrhaeddiant yn erbyn y targedau hynny. Dim targedau—[Torri ar draws.] Iawn.

Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A fyddai’r Aelod yn ystyried tynnu ei welliant yn ôl heno, oherwydd, yn amlwg, rwy’n derbyn y pwynt eich bod am ddatblygu eich gweledigaeth amgen a’ch Rhaglen yr Wrthblaid, ond drwy gyflwyno eich gwelliant, bydd yr wrthblaid yn chwalu ac yn amlwg, ni fyddwn yn gallu gosod safbwynt cydgysylltiedig i ddangos ein diffyg hyder yn y rhaglen lywodraethu a gyflwynwyd gan y blaid sy’n llywodraethu?

Rwy’n gobeithio bydd yr Aelod yn deall pam—. Nid wyf eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, oherwydd rŷm ni’n cefnogi’r rhaglen rŷm ni wedi’i gosod. Ond rydw i’n hapus i gadarnhau y byddwn ni’n cefnogi cynnig y Torïaid, oherwydd mae’n rhaid dwyn y Llywodraeth yma i gyfrif am raglen sydd yn sâl—sydd yn wag, a dweud y gwir, pan mae Cymru’n haeddu gwell.

I fod yn syml iawn ynglŷn â hyn, nid oes yna data perfformiad nawr yn mynd i fod ynghlwm wrth unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y rhaglen yma. Roeddwn i’n edrych drwy’r ddogfen am ffigurau. Bach iawn o ffigurau sydd ynddi o gwbl. Hynny yw, 20,000 o dai fforddiadwy oedd yn eu maniffesto nhw. Torri cyfraddau ysmygu Cymru i lawr i 16 y cant. Yn y ddogfen gyfan, rhyw ddau darged, felly, i’w cyrraedd erbyn—a 100,000 o brentisiaethau—dau neu dri o dargedau yn unig, o’u cymharu â’r cannoedd o ddangosyddion oedd yn y rhaglen flaenorol. Mae yna gwpl o dargedau, wrth gwrs, sy’n mynd â ni i ganol y ganrif nesaf—hynny yw, 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg ac yn y blaen. Wel, nid yw’r rheini’n dargedau yr ydych chi’n gallu dwyn y Llywodraeth i gyfrif arnyn nhw mewn tymor o bum mlynedd.

Hyd yn oed os ydym ni’n edrych ar yr ieithwedd, wrth gwrs, fel sydd wedi cael ei ddweud—iaith aneglur, gwantan, penagored. Lot o ryw bethau fel ‘hyrwyddo’, ‘cefnogi’, ‘gweithio tuag at’. Gallwch chi weithio tuag at rywbeth i ebargofiant. Nid yw’n golygu dim yw dim i unrhyw un—i bobl gyffredin, yn sicr ddim. Mae’n anodd anghytuno â lot sydd yma, ond nid oes affliw o syniad gyda’r un ohonom ni beth maen nhw’n ei olygu, a pha ffon fesur sydd yno i wybod a ydyn nhw wedi cael eu cyrraedd neu beidio.

And it’s not just us saying that—the Institute of Welsh Affairs, the National Union of Teachers, the Electoral Reform Society, Community Housing Cymru, et cetera. Based on this document, there’s a vacuum of leadership, as we’ve seen from Brexit to bovine TB, and based on this document, this risks being the weakest Government, the worst Government, possibly, we’ve had since the days of Alun Michael. It’s not a road map to the future—it’s not taking us anywhere in particular. And if we can’t replace this Government at the moment, then it will fall to us as a legislature to do our best to try and rescue it from the sheer lack of ideas that are currently contained in this document.

Yn 2012 cefais ganiatâd i gyflwyno Bil menter yn y Cynulliad hwn. Nod fy Mil oedd argymell cyfres o fesurau i hybu twf economaidd, cyflogaeth, caffael a sgiliau. Byddai’r mesurau hyn, rwy’n credu, wedi cynyddu ffyniant ac wedi mynd i’r afael ag amddifadedd cymunedol yng Nghymru. Yn anffodus, ni lwyddodd fy Mil i ddod yn gyfraith. Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chynllun pum mlynedd. Maent yn honni y bydd eu rhaglen yn meithrin yr amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu a chreu swyddi o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy hyrwyddo gweithgynhyrchu a lleihau’r baich ar fusnesau. Wel, gwell hwyr na hwyrach. Bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy’n edifarhau nag am 99 o rai nad oes angen iddynt wneud hynny.

Fel erioed, yn y manylion y mae’r diafol. Ond nid oes fawr ddim manylion yn y ddogfen hon o ran sut y byddant yn gwella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn addo creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog sgiliau ym mis Mehefin fod y targed ar gyfer prentisiaid wedi cael ei gynnwys yn y dyraniad cyllideb presennol i ddarparwyr prentisiaethau. Ond yn y Siambr hon, dywedodd y Gweinidog, a’i ddyfyniad ef yw hwn:

‘nid wyf yn mynd i gael fy nhynnu i wneud ymrwymiadau i rifau na ellir eu cyflawni’.

Felly, pa sicrwydd sydd gennym y caiff yr addewid hwn ei gyflawni a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd tuag at ei nodau?

Maent hefyd yn ymrwymo i ail-lunio cyflogadwyedd unigolion parod am waith a’r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi er mwyn iddynt gael y sgiliau a’r profiad i allu cael gwaith cynaliadwy a’i gadw. Unwaith eto, ni roddir unrhyw fanylion. Ni cheir cyfeiriad at sut y bydd y prentisiaethau’n canolbwyntio ar sgiliau penodol. Mae economi Cymru yn wynebu prinder sgiliau difrifol. Wynebodd mwy na 70 y cant o fusnesau Cymru anhawster i recriwtio staff priodol y llynedd. Mae 61 y cant yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr medrus iawn i ateb y galw ac i dyfu.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn cynlluniau dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau? Yn aml, pobl hŷn yng Nghymru sydd fwyaf o angen ailhyfforddi a chymorth cyflogadwyedd. Maent yn gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, ac eto cânt eu gwthio i’r cyrion gan Lywodraeth Cymru o ran asesu, dysgu, hyfforddi a chyfleoedd uwchsgilio. Mae Twf Swyddi Cymru yn gwahaniaethu’n awtomatig yn erbyn pobl hŷn drwy ariannu cyflogwyr i gyflogi pobl rhwng 16 a 24 oed yn unig. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r broblem hon o wahaniaethu ar sail oedran? Rwy’n credu y dylid cael mwy o gydweithredu rhwng addysg a busnes i sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau parod am waith wrth adael yr ysgol. Mae arnom angen mwy o dargedu i sicrhau bod cynaliadwyedd sgiliau yn cael sylw yn ein hanghenion ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.

Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf yn economaidd ar brosiectau seilwaith mawr, megis morlyn llanw bae Abertawe a ffordd liniaru’r M4. Nid yw’r M4 yn ei chyflwr presennol yn addas i’r diben. Mae’r lefel gynyddol o dagfeydd ar y ffordd yn rhwystr mawr i dwf economaidd yn ne Cymru a Chymru gyfan. Eto i gyd, mae’r prosiect hanfodol hwn wedi bod yn destun tin-droi ac oedi gan y Llywodraeth. Mae’r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i adeiladu seilwaith i gadw Cymru i symud. Ni allwn ond gobeithio bod hyn yn golygu darparu ffordd liniaru’r M4.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n gobeithio y bydd y pum mlynedd nesaf yn cynhyrchu ffrwyth a fydd yn deilwng o edifeirwch y Llywodraeth hon. Diolch.

Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon i gefnogi rhaglen y Llywodraeth. Rwy’n meddwl bod y gwrthbleidiau wedi protestio ychydig gormod y prynhawn yma ac wedi protestio ychydig gormod am faint y ddogfen, nad wyf yn meddwl ei fod yn fater allweddol mewn gwirionedd—y mater allweddol yw’r cynlluniau hirdymor ac rwy’n falch iawn o siarad o blaid y cynlluniau hynny heddiw.

Yn amlwg, rydym mewn amgylchiadau anodd. Rydym yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â sefyllfa’r UE ac wrth gwrs, rydym wedi profi’r toriadau di-baid yn y gyllideb o San Steffan. Felly, ar adeg fel hon, rwy’n credu ei bod yn bwysicach byth fod gennym raglenni dychmygus ac uchelgeisiol gyda chanlyniadau sy’n treiddio i wahanol rannau o gymdeithas ac yn helpu pobl Cymru sy’n dod atom, i’n cymorthfeydd, i chwilio am gymorth a chyfleoedd, ac i’r bobl sy’n dod i fy nghymorthfeydd mae’r rhaglen hon yn cynnig llawer.

Felly, rwy’n mynd i gyfeirio’r rhan fwyaf o fy sylwadau at y cynnig i ymestyn gofal plant ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed—gan ymestyn nifer yr oriau o 10 awr yr wythnos i 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim am 48 wythnos o’r flwyddyn. A gaf fi ddweud bod y 10 awr sydd eisoes yn bodoli yn y cyfnod sylfaen, ac a gaf fi ddweud hefyd fod y cyfnod sylfaen yn fenter arloesol a gyflawnodd y Cynulliad—y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur? Felly, hoffwn wneud y pwynt fod y Llywodraeth hon wedi sicrhau llwyddiannau mawr, a bod angen cydnabod hynny.

Felly, eisoes mae gennym y 10 awr yn y cyfnod sylfaen ac mae hwnnw’n mynd i gael ei gynyddu i 30 awr am 48 wythnos o’r flwyddyn. Dyna un o’r materion cwbl allweddol. Mae’n 48 wythnos y flwyddyn, felly nid darpariaeth yn ystod y tymor yn unig ydyw, ac rwy’n credu ei fod gwbl hanfodol i rieni gan ei fod yn cadw mewn cof mai pedair wythnos yn unig o wyliau’r flwyddyn y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn ei gael. Mae’n addewid uchelgeisiol, ond bydd yn trawsnewid bywydau teuluoedd. Bydd yn effeithio ar gyfraddau cyflogaeth, bydd yn rhoi hwb i’r economi, bydd yn rhyddhau talentau llawer o rieni—gyda llawer ohonynt yn fenywod—yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgol a gofal o’r radd flaenaf ar gyfer y plant. Felly, rwy’n meddwl bod hon yn rhaglen uchelgeisiol a heriol. Gwn fod fy etholwyr wrth eu boddau fod y cyfle hwn yn mynd i gael ei gynnig, felly rwy’n credu y dylai’r gwrthbleidiau ystyried hynny o ddifrif.

Hefyd, yn Lloegr mae’r cynnig gofal plant yn—[Torri ar draws.] Mewn munud. Yn Lloegr, mae’r cynnig gofal plant am 15 awr yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn, ac yn yr Alban mae’n 16 awr yr wythnos dros y tymor ysgol yn unig. Felly, rwy’n gwybod nad ydym yn dymuno cymharu gormod, ond yn bendant y cynnig gofal plant hwn yw’r cynnig gorau yn y DU.

Diolch i’r Aelod dros Ogledd Caerdydd am gymryd fy ymyriad. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae gofal plant yn gynnig gwirioneddol bwysig y gall y Llywodraeth ei wneud ac mae’n rhywbeth roedd pob plaid wedi cyflwyno cynnig yn ei gylch. Mae’n amlwg mai chi oedd y blaid fwyaf, felly eich cynnig chi fydd yr un y byddwch yn gyfrifol am ei gyflawni. Ond nid yw’r ddogfen hon yn dweud sut y mae’n mynd i gael ei gyflawni, yr amserlen ar gyfer ei gyflwyno, y gyllideb ar gyfer ei gyflwyno, neu beth yn union fydd y categorïau. Felly, rydym yn cefnogi’r cynnig, ond gadewch i ni gael ychydig rhagor o gig ar sut yn union y mae’n mynd i gael ei ddatblygu. ‘Does bosibl nad yw hwnnw’n gwestiwn afresymol i ni ei ofyn.

Prif ddogfen yw hon. Yn amlwg, bydd yr holl drafodaeth honno, a’r ddadl a’r manylder yn digwydd, a’r hyn rwy’n meddwl y dylem ei wneud heddiw yw tynnu sylw at rinweddau’r hyn sydd yn y ddogfen. Roeddwn yn siarad ag etholwr y bore yma mewn gwirionedd a oedd yn dweud bod yna feithrinfa o ansawdd uchel iawn yng Ngogledd Caerdydd roedd hi eisiau i’w phlentyn fynd iddi, ond ni allai’r plentyn fynd yno am mai dros y tymor ysgol yn unig roedd hi’n agor. Felly, rwy’n meddwl bod manylion y cynnig hwn yn bwysig iawn.

Pan fyddwn yn datblygu’r manylion, credaf ei bod yn bwysig iawn datblygu’r model yn hyblyg, gan y bydd yn cael ei ychwanegu at 10 awr bresennol y cyfnod sylfaen, a gwn fod y ddarpariaeth honno’n heriol iawn yn ymarferol i lawer o rieni am ei bod yn anodd gwneud defnydd ohoni os mai am ddwy awr y dydd yn unig y mae ar gael, fel y’i darperir ar hyn o bryd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei wneud yn hyblyg, fel bod gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae a meithrinfeydd yn cael eu cydnabod fel darparwyr gofal plant a fyddai’n gymwys i gael yr arian hwn, oherwydd mae’n rhaid iddo gael ei gyfuno gyda’r cyfnod sylfaen ac rydym angen cymysgedd o leoliadau.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gydnabod bod talu am ofal plant yng Nghymru yn ddrud iawn. Mae adroddiad 2016 gan Chwarae Teg yn amcangyfrif bod cost gofal plant ar gyfer swyddi amser llawn, yn seiliedig ar bum niwrnod o feithrinfa a gwarchodwr plant, yn 32 y cant o gyflog cyfartalog dynion a 37 y cant o gyflog cyfartalog menywod. Felly, mae cost gofal plant yn uchel iawn yng Nghymru. Felly, yn fy marn i mae hwn yn bolisi eithriadol o bwysig, ac rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno hwn yn rhan o elfennau allweddol ei rhaglen lywodraethu.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma. Pan fyddaf yn darllen rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, yr hyn rwy’n siomedig yn ei gylch yw ei bod yn methu’n glir â nodi’r hyn y byddant yn ei wneud yn wahanol—yn wahanol—y tro hwn er mwyn sicrhau bod eu nodau yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Nid yw’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys unrhyw dargedau cyflawni y gellid dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch, nac unrhyw fanylion ynglŷn â pha bryd, ble a sut y maent yn mynd i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd i gefnogi busnesau neu hyrwyddo cysylltedd digidol a darparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas i’r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r nodau’n dda; mae digon o nodau yn y ddogfen, ond nid yw nodau’n dda i ddim oni bai eu bod yn cynnwys y manylion sy’n dweud sut y cânt eu cyflawni. Julie Morgan, rwy’n derbyn nad yw maint y ddogfen yn bwysig i chi, ond mae’n rhaid ei fod yn bwysig, a dyna beth sy’n bwysig yma. Roeddwn yn meddwl bod Adam Price wedi tynnu sylw’n dda iawn at y cymariaethau rhwng rhaglenni llywodraethu’r gorffennol a rhaglenni llywodraethu mewn gwledydd eraill a’r ddogfen fach iawn a gyflwynwyd i ni yr wythnos diwethaf.

O ran busnes hefyd, ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i godi’r trothwy—. Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn mynd i ddweud mai’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn eu rhaglen lywodraethu, rhywbeth rwy’n ei groesawu’n fawr iawn, yw eu bod yn mynd i gyflwyno toriad treth ar gyfer busnesau llai o faint, er mwyn gostwng eu biliau, a byddant yn darparu hynny ar gyfer 70,000 o fusnesau. Wel, mae hynny’n wych, ond ni cheir unrhyw fanylion ynglŷn â sut y cyflawnir hynny ac ni cheir manylion nac ymrwymiad i godi’r trothwy ar gyfer y 100 y cant o ryddhad ardrethi i fusnesau bach o’r gwerth ardrethol o £6,000. Nawr, mae ardrethi busnes wedi cael eu datganoli ers mis Ebrill 2015, ond rydym yn dal i aros i rywbeth ddigwydd, ac mae ein busnesau bach yn crefu am gymorth.

Ar gysylltedd digidol, ni cheir fawr o sôn sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i chwarae ei rhan yn ymestyn cysylltedd symudol i gymunedau sydd heb signal o gwbl, neu sut y mae’n mynd i gefnogi cysylltedd symudol 4G a 5G gwell. Yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw bod y Llywodraeth yn edrych ar Lywodraeth yr Alban. Mae ganddynt gynlluniau manwl yn y maes hwn ac efallai y gallent ddysgu gwers ganddynt hwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig band eang cyflym da a dibynadwy, ond nid oes amserlen ynghlwm wrth hynny na diffiniad, yn allweddol, o’r hyn y mae ‘cyflym’ a ‘dibynadwy’ yn ei olygu. Gwn mai’r nod ar hyn o bryd yw sicrhau bod 96 y cant o eiddo yn cael band eang cyflym iawn erbyn mis Mehefin eleni, ond y gwir amdani yw bod 50 y cant o eiddo yng nghefn gwlad Cymru yn dal i fod heb fand eang cyflym iawn. 50 y cant. Cyhoeddwyd y gwerthusiad terfynol o genhedlaeth nesaf y rhaglen Band Eang Cymru yn gynharach heddiw, ac mae hwnnw’n amlygu pryderon sylweddol, gan gynnwys problemau gydag argaeledd gwybodaeth hanesyddol a gwybodaeth sy’n edrych tua’r dyfodol gan BT, a beirniadaeth fod y marchnata a gwaith cyfathrebu ar yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddarpariaeth wedi bod yn anghyson. Felly, byddai’n ddefnyddiol gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu pedwar argymhelliad yr adroddiad.

Byddai hefyd yn dda cael gwybodaeth a manylion am yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’w wneud a sut y bydd yn gweithio gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol sy’n cael ei sefydlu’n rhan o’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur. Sut y mae’n mynd i weithio? Sut y mae’r comisiwn seilwaith cenedlaethol yn mynd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, neu ai creu rhagor o weinyddiaeth yn unig yw hyn? Felly, sut y diffinnir pob un o’r rolau hyn?

Hefyd, sylwais fod rhai materion pwysig eraill ar goll o’r rhaglen lywodraethu. Mae Andrew R.T. wedi dweud nad oes sôn o gwbl am drechu TB gwartheg. Mae’n gywilyddus peidio â sôn am hynny yn y rhaglen lywodraethu, o ystyried cymaint y mae’n effeithio ar lawer o’n cymunedau ffermio ym mhob rhan o’r Gymru wledig. Nid oes fawr o sôn am y Gymru wledig yn y rhaglen lywodraethu. Rwy’n credu bod hynny’n arbennig o siomedig i rannau mawr o Gymru. A sylwais nad oes sôn am gefnogi’r diwydiant dur yn y rhaglen lywodraethu. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae’n ymddangos bod yna ddiffyg uchelgais. Os wyf yn anghywir, yn sicr ni allaf ei weld yn y ddogfen a gyflwynwyd i ni yr wythnos diwethaf.

Nid wyf am rygnu ynglŷn â’r diffyg tudalennau, gan fod Julie eisoes wedi cymryd ati ynglŷn â hynny, ond hyd yn oed os ydym yn derbyn mai 16 tudalen o hyd yw’r ddogfen, hyd yn oed o fewn ei maint bach, mae yna ddiffyg cynnwys pendant ynddi. Nid oeddwn yma bum mlynedd yn ôl, ond dywedir wrthyf fod y ddogfen gyfatebol bryd hynny’n 600 o dudalennau o hyd. Mae hynny i’w weld yn dangos rhyw ddiffyg yn rhywle.

Efallai eu bod wedi gorymdrechu i wneud iawn yn yr achos hwn. Efallai y dylent fod wedi sicrhau cydbwysedd rywle yn y canol. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Ah.’]

Yn hollol. [Torri ar draws.]

Hefyd, roedd yna rywbeth, rwy’n credu, yn y Cynulliad blaenorol, a alwyd yn uned gyflawni. Nid yw gyda ni mwyach, hyd y gwn. Mae’n ymddangos na chyflawnodd unrhyw beth, gan mai ychydig iawn o’r targedau a gyrhaeddwyd, ac felly cafodd ei anfon i ebargofiant. Felly, erbyn hyn, mae’r targedau wedi diflannu i raddau helaeth, a’r hyn sydd ar ôl yw rhestr o uchelgeisiau niwlog heb unrhyw ffordd o fonitro i ba raddau y gallwn eu cyflawni’n llwyddiannus.

Mae llawer iawn o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar hoff brosiectau’r Llywodraeth Lafur, ond pa mor effeithiol yw’r prosiectau hyn? Yn ddiweddar, cawsom dystiolaeth sylweddol nad oedd un o’u cynlluniau mawr, Twf Swyddi Cymru, yn cael unrhyw effaith economaidd o gwbl. Mae hyn yn cyd-fynd â sylwadau Oscar ynglŷn â’r prinder sgiliau a’r ffordd rydym wedi methu cynhyrchu pobl sy’n gadael coleg yn meddu ar sgiliau parod am waith. Sut yr eir i’r afael â hyn yn y dyfodol?

Mae’n arfer gan y Prif Weinidog yn ddiweddar i ddweud wrthym am beidio â dibynnu ar anecdotau, ond yn hytrach, y dylem ddibynnu ar dystiolaeth. Ni ddylem ddifrïo tystiolaeth. A yw’r Gweinidog yma heddiw yn cytuno bod y ddogfen hon, gyda’i diffyg targedau, yn dangos bod y Llywodraeth hon yn troi ei chefn yn llwyr ar yr angen i gydymffurfio â thargedau a thystiolaeth?

Rwy’n teimlo fel pe bawn mewn sefyllfa freintiedig, fel y llefarydd tai, gan fod yna ymrwymiad—ymrwymiad penodol—yn y rhaglen lywodraethu y gallaf ymateb iddo. A dweud y gwir, roeddwn yn falch iawn—wedi cynhyrfu hyd yn oed—pan ddarllenais fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yna, edrychais yn fanylach ar hyn, a phwyso ar y Prif Weinidog. Yn anffodus, roeddwn yn rhy bell i lawr y papur trefn ddoe i gael fy ngalw mewn gwirionedd, ond fel sy’n arfer gennym, gwnaed fy nghwestiwn llafar wedyn yn destun ateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog. Mae wedi datgan fod yr ymrwymiad i 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn gadael targed cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi newydd a adeiladir bob blwyddyn yng Nghymru heb ei newid. Mae’n parhau i fod yn 8,700—er nad ydych yn cyflawni hynny, gyda llaw. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn ei chael yn rhyfedd iawn fod yna ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu cartrefi fforddiadwy ychwanegol, ac eto nid yw’r targed cyffredinol ar gyfer adeiladu tai wedi newid. Mae wedi bod yn fras yr hyn ydyw yn awr ers pum mlynedd. Efallai y bydd meddyliau gwell na fy un i yn gallu ymdopi gyda’r lefel hon o baradocs, ond rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi eglurhad i ni yn nes ymlaen wrth iddi ymateb.

Nid yw hwn yn bwynt dibwys. Rydym yn wynebu argyfwng tai. Mae’n un sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd. Yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Cynulliad, dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain,

‘Nid ydym wedi bod yn adeiladu’r cartrefi newydd mae Cymru eu hangen am ormod o flynyddoedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn prisiau, sy’n tanseilio ein gallu cystadleuol economaidd ac enw da Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddiad.’

Cytunaf yn llwyr â hynny. Hefyd, mae adeiladu tai yn lluosydd economaidd ardderchog. Mae’n defnyddio adnoddau lleol, llafur lleol, i raddau helaeth, a llawer o fusnesau bach a chanolig, a dylem fod yn adeiladu mwy o gartrefi ar hyn o bryd.

Mae’r dystiolaeth yn dynodi’r angen i adeiladu o leiaf 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, a phan welais yr ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn, meddyliais, ‘A, maent wedi derbyn y targed o 12,000 o gartrefi fan lleiaf yn awr. O’r diwedd mae yna gynnydd go iawn yma, a gallwn ei groesawu’. Oherwydd byddai hynny wedi codi eich targed i 12,700. Ond na. Rywsut, mae’r gair ‘ychwanegol’ yng ngeiriadur Prif Weinidog Cymru yn golygu rhywbeth gwahanol i’r hyn yw ei ystyr cyffredin i’r gweddill ohonom, rwy’n amau.

Nid yw’n syndod fod yr argyfwng tai wedi arwain at brisiau anhygoel o uchel yn ôl unrhyw gymhariaeth hanesyddol. Mae pris tŷ ar gyfartaledd yn £173,000 ar hyn o bryd yng Nghymru. A ydym wedi colli’r gallu i gael ein synnu gan beth o’r data hwn, sy’n ymwneud â hanfodion bywyd—yr awydd a’r angen am gartref? Mae’r pris cyfartalog bellach yn £173,000. Mae hwnnw’n lluosrif anhygoel o’r cyflog cyfartalog, ar 6.4—6.4 gwaith y cyflog cyfartalog i gael y tŷ cyfartalog yng Nghymru. Mae rhywbeth mawr iawn o’i le ar y modd rydym yn ateb y galw am dai.

Mae’r argyfwng tai yn taro pobl iau yn arbennig o galed. Ar hyn o bryd mae 150,000 o rai rhwng 20 a 34 oed yn dal i fyw gartref. Mae cartrefi i deuluoedd yn llawer rhy aml allan o gyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf, h.y. pobl yn eu 30au, pan fyddant yn magu teuluoedd. Y drasiedi yma yw y gallem fod yn gwneud rhywbeth, a gallem fod yn gwneud rhywbeth sy’n gynhyrchiol iawn yn economaidd yn ogystal ag ateb y galw sylfaenol hwn am dai.

A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud fy mod yn siomedig iawn fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer gweithredol yn awr ac nad yw wedi dewis ategu uchelgais plaid y Ceidwadwyr Cymreig fel y caiff ei amlinellu yn ein maniffesto pan ddywedasom y byddem wedi cyflwyno Bil mynediad at dai i helpu pobl ifanc i gael troed ar yr ysgol dai, i hyrwyddo marchnad dai fwy bywiog, ac i roi hwb i’r diwydiant adeiladu? Dyna sydd ei angen ar Gymru. Gwnewch hynny.

Wel, rydym wedi cael dadl fywiog y prynhawn yma. Rwy’n gwerthfawrogi’r modd y cafodd ei hagor gan Andrew Davies, ac er ein bod mewn gwahanol bleidiau, credaf fod gennym lawer yn gyffredin. Mae gennym un peth yn gyffredin—mae ein dwy blaid yn erbyn y weinyddiaeth ddiwerth hon sydd wedi dominyddu Cymru am gyfnod mor hir.

Pan roddodd y Prif Weinidog ei ddatganiad ar hyn yr wythnos diwethaf, diystyrais y ddogfen fel cyfres o ystrydebau. Wel, rwy’n meddwl mai 15 tudalen o fflwff yw hi, onid e? Dyna beth sydd gennym yma—yr hyn y gallech ei alw’n soufflé o ewyn melys, ond nid yw soufflés yn elwa ar gael eu hailgynhesu, a dyma’r trydydd tro i ni gael rhaglen bum mlynedd yn y 15 neu 16 wythnos y buom yma yn y pumed Cynulliad. Felly, os ydym yn mynd i gael rhaglen lywodraethu newydd ar gyfer Llywodraeth bum mlynedd bob pum wythnos, yna rydym yn mynd i fod yn cynhyrchu llawer o bapur ac yn cwympo llawer o goed dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Os edrychwch drwy’r ddogfen hon, mae’n cynnwys llawer o eiriau, ond fawr iawn o weithredu. Rydym wedi clywed gan siaradwyr yn y ddadl heddiw am ei chyfyngiadau. Rwyf am ganolbwyntio ar amaethyddiaeth, gan fy mod yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru. Y cyfan y mae’r ddogfen yn ei ddweud am amaethyddiaeth, yn y bôn, yw ein bod yn mynd i

‘weithio gyda’n partneriaid i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru’.

Wel, pwy na fyddai’n gwneud hynny? Ond nid yw hynny’n fawr o gysur i ffermwyr—[Torri ar draws.] Fawr o gysur i ffermwyr, nad oes ganddynt unrhyw syniad beth y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud am TB, nac unrhyw syniad beth y mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud am y cwymp yn incwm ffermydd. Iawn.

Rwy’n synnu braidd eich bod yn sefyll i siarad am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i ffermio pan oeddech chi, eich plaid chi mewn gwirionedd, eisiau gadael yr UE. Rydych chi wedi cael hynny. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych yw hyn: beth oeddech chi’n meddwl oedd yn dod nesaf? Oherwydd ni ddywedoch hynny. Fe ymgyrchoch chi ar lwyfan o gasineb, a dyna’n union a wnaethoch, ac nid oedd gennych syniad beth oedd yn dod nesaf.

Na, mae’n ddrwg gennyf, a wnewch chi gyfeirio at yr Aelod fel y mae wedi ei rhestru ar y papur trefn, os gwelwch yn dda? Ei henw yw Joyce Watson.

Ond byddaf yn gwybod yn well y tro nesaf. Nid yw’r ddogfen yn dweud dim am yr ateb i’r problemau TB, nid yw’n dweud dim am y cwymp yn incwm ffermydd, ac nid yw’n dweud dim am orlwytho ffermwyr â rheoliadau.

Ar y gwasanaeth iechyd, unwaith eto, maent

‘wedi ymrwymo o hyd i egwyddorion sylfaenol y GIG, sef gofal iechyd rhad ac am ddim ar gael i bawb pan fo’i angen.’

Ond mae hynny’n syndod mawr i drigolion Blaenau Ffestiniog, fel y dywedais wrth holi’r Prif Weinidog ddoe, gan fod eu hysbyty wedi cau a phrin fod ganddynt unrhyw feddygon teulu ar ôl. Nid oes ateb i argyfwng recriwtio meddygon teulu yng Nghymru yn y ddogfen hon chwaith.

Ar drafnidiaeth, y cyfan sydd gennym yw rhestr wedi ei hail-gynhesu o brosiectau sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd. Ffordd liniaru’r M4—mae honno wedi bod yn cael ei thrafod ers wyth mlynedd ac nid ydym wedi cyrraedd y llinell gychwyn ar honno o hyd. Ond dywedir wrthym ein bod yn mynd i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn y flwyddyn 2050, a chanlyniadau hynny fydd ychwanegiad enfawr at faich costau diwydiant Prydain a chynnydd enfawr ym miliau trydan cartrefi cyffredin ledled Cymru, ac aelodau tlotaf y gymuned fydd y rhai a fydd yn dioddef fwyaf. A dyna beth y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi ymrwymo i’w wneud.

Mae’r ddogfen gyfan yn seiliedig, i fynd yn ôl at ymyriad Joyce Watson, ar y syniad ein bod yn mynd i gael economi sy’n crebachu o ganlyniad i adael yr UE, ond mae rhagolwg gan y Trysorlys a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei ddiwygio bellach i’r cyfeiriad arall, i ffwrdd o’r ‘prosiect gwae’. Felly, yr hyn y mae gadael yr UE yn ei roi i ni yw cyfle enfawr i ddod â phwerau adref, nid i San Steffan yn unig, ond hefyd i Gaerdydd, a’u defnyddio er mwyn gwella potensial cynhyrchiol economi Prydain ac felly, er mwyn gwella ffyniant pob dosbarth a lefel incwm yn y gymdeithas. Am fod y pwerau hynny ar hyn o bryd yn nwylo pobl nad ydynt yn cael eu hethol ac nad ydynt yn atebol felly i bobl y wlad hon, mae’n rhoi pob cyfle i ni wella democratiaeth ym Mhrydain hefyd.

Mae’n hurt meddwl y bydd gadael yr UE—hyd yn oed yn yr hyn y gallech ei ystyried yn senario waethaf o fethu gwneud unrhyw fath o gytundeb â’r UE o gwbl—fod hynny’n mynd i arwain at grebachu’r economi, gan mai 5 y cant yn unig o’n cynnyrch domestig gros a ddaw o allforion i’r UE, a byddai tariff o 4 y cant fan bellaf ar 65 y cant o’r 5 y cant hwnnw pe na baem yn dod i unrhyw gytundeb gyda’r UE. Felly, rydym yn sôn yn unig, yn y senario waethaf, am leihad posibl o ran o 1.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros—os anwybyddwch holl effeithiau dynamig gadael yr UE a’n rhyddid i ffurfio cytundebau masnach â gwledydd o amgylch y byd sy’n cael eu blocio neu eu rhwystro ar hyn o bryd yn sgil yr angen i 28 o wledydd gytuno ar y cytundebau hyn cyn y gellir eu rhoi ar waith.

Rwy’n dod i ben. Mae yna bethau yn y ddogfen hon y gellir eu croesawu. Un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050—rwy’n gobeithio y byddaf yn dal yma i weld a yw’r Llywodraeth yn gallu cyflawni ar y cytundeb hwnnw, ac mae fy nghefnogaeth i Alun Davies, un o fy hoff Weinidogion, yn gryf yn hyn o beth, a llawer o bethau eraill hefyd. [Torri ar draws.] Ond rwy’n mynd i ddod â fy sylwadau i ben. Mae’r Llywodraeth yn aml yn sôn am y tlodi sy’n bodoli yng Nghymru, ond yr enghraifft waethaf o dlodi sy’n bodoli yng Nghymru mewn gwirionedd yw’r tlodi yn uchelgais Llywodraeth Cymru, a gynrychiolir gan y llosgfynyddoedd marw ar y fainc flaen yma.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl fywiog hon y prynhawn yma. Diolch i chi am ddymuno’n dda i’r Llywodraeth, Andrew R.T. Davies, wrth iddi gyflawni’r rhaglen lywodraethu hon. Rydym wedi darparu datganiad clir iawn i bobl Cymru ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto—yr hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto a’r hyn yw ein hegwyddorion a pha gamau gweithredu y bwriadwn eu rhoi ar waith. Rydym wedi tynnu sylw at y meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf, gyda phrif ymrwymiadau i’n symud ymlaen. Rwy’n hapus iawn, unwaith eto, i atgoffa’r Cynulliad am yr ymrwymiadau hyn.

Rydym am greu Cymru sy’n ffyniannus ac yn ddiogel. Felly, byddwn yn cyflwyno toriad treth i 70,000 o fusnesau. Byddwn yn creu banc datblygu Cymru. Byddwn yn gweithredu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU, fel y dywedodd Julie Morgan. A byddwn yn creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed ac yn darparu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy.

Cafodd hynny ei groesawu’n gynnes, rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, David Melding, gan Cartrefi Cymunedol Cymru. Ond rwy’n croesawu’r ffaith hefyd eich bod yn cydnabod bod hwn yn faes polisi pwysig i Lywodraeth bresennol Cymru. Rwyf am wneud un neu ddau o bwyntiau.

Diolch i chi am ildio. Mewn cyfnod o bum mlynedd, sut y gallwch chi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ac eto mae eich targed blynyddol yn parhau i fod yr un fath, sef 8,700? Mae’n drech na fy ngallu i’w resymu. Eglurwch os gwelwch yn dda.

Wrth gwrs, yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, nodwyd targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Cyflawnwyd dros 9,000 gennym yn ystod y pedair blynedd gyntaf—mewn gwirionedd mae’r ystadegau ar gyfer y llynedd yn cael eu rhyddhau mewn wythnos neu ddwy. Rwy’n hyderus y byddant yn dangos ein bod wedi rhagori ar y targed. [Torri ar draws.] Na, rwyf am orffen fy mhwynt i David Melding. Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd mae hwn yn darged uchelgeisiol—darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy—a byddwch yn ein dwyn i gyfrif am hynny, rwy’n gwybod. Mae’n cynnwys tai cymdeithasol a chanolradd, yn ogystal â helpu i gynorthwyo pobl i berchen ar eu cartrefi drwy Cymorth i Brynu—Cymru, sydd mor bwysig i’r bobl ifanc sydd hefyd yn defnyddio Cymorth i Brynu.

Hefyd, mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru, yn wahanol i Lywodraeth y DU, lle nad yw’n bodoli mwyach, yn buddsoddi £68.1 miliwn mewn tai fforddiadwy newydd drwy’r rhaglen grant tai cymdeithasol. Rydych yn cydnabod bod hyn yn hanfodol o ran darparu tai cymdeithasol hygyrch. Hefyd—a dyma’r pwynt pwysig—rydym yn adeiladu. Mae awdurdodau lleol bellach, am y tro cyntaf ers y 1980au, yn adeiladu cartrefi newydd o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi llwyddo i adael cymhorthdal y cyfrif refeniw tai. Yn sicr—rwy’n gwybod y bydd David Melding yn cydnabod hynny.

Ond gadewch i ni symud ymlaen at yr ymrwymiadau eraill. Rydym am greu Cymru sy’n iach ac yn weithgar, felly byddwn yn recriwtio ac yn hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Cafodd hynny groeso cynnes pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei gyhoeddiad ar hynny, a chafodd groeso cynnes ddoe pan wnaeth ei ddatganiad ar y gronfa triniaethau newydd. Mae hyn yn ymwneud â Llywodraeth sydd wedi gwrando, Llywodraeth sy’n gweithio gyda chi, ac yna’n gwneud datganiadau ar sut y mae’n mynd i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu hon.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaethoch ymrwymiadau blaenorol yn eich rhaglen lywodraethu ddiwethaf yn y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod pawb dros 50 oed yn cael archwiliad iechyd blynyddol ac y gallai pawb weld meddyg teulu gyda’r nos ac ar benwythnosau. Fe fethoch gyflawni’r ymrwymiadau hynny. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni eich bod yn mynd i gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn awr?

Wel, rydych yn sicr wedi croesawu’r ymrwymiadau a gyflawnwyd gennym, Darren Millar, o ran y gwasanaeth iechyd. Ond hefyd, rwy’n meddwl ac yn cofio eich bod wedi croesawu’r ffaith ein bod ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi rhoi arian tuag at ofal cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn cael ei dorri yn Lloegr yn awr, gan arwain at bobl yn aros yn yr ysbyty am nad oes cyllid ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod gofal cymdeithasol yn uchelgais blaenllaw.

Rhaid i ni hefyd gydnabod bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â dysgu. Rydym wedi buddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol er mwyn gwella safonau ysgol, ac wedi cyflwyno cwricwlwm newydd i gael y sgiliau sydd eu hangen arnom a hyrwyddo rhagoriaeth ym maes addysgu. Rwyf wrth fy modd fod Neil Hamilton yn croesawu’r ffaith ein bod yn gweithio tuag at 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond mae’n swnio fel pe baech yn ein gadael, Neil Hamilton, o’r hyn a ddywedoch, ond gadewch i ni gydnabod bod yna bwyntiau pwysig i’w gwneud.

Hoffwn ymateb hefyd i bwyntiau Mohammad Asghar am y 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pobl o bob oedran. Dyna beth, neithiwr, roedd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu—roeddwn yn y cinio, roedd Russell George yn y cinio, Simon Thomas—yn croesawu’r ffaith ein bod wedi cyhoeddi 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pobl o bob oedran yn edrych ar y meysydd allweddol: gwyddorau bywyd, gwasanaethau ariannol a thechnolegau digidol—yn croesawu’r ffaith. Yn wir, dywedodd James Wates, cadeirydd y bwrdd yn y DU, ‘Pan ddof i Gymru, rwy’n gweld arloesedd’. Rydych yn gwybod hynny—fe’i clywoch, y rhai ohonoch a oedd yno neithiwr. Ond roeddent hefyd yn dweud wrthym pa mor bryderus ydynt am yr ardoll brentisiaethau. Nid wyf yn gwybod sut y gall arweinydd yr wrthblaid feddwl nad yw hon yn broblem—yn broblem Llywodraeth y DU a osodwyd arnom heb unrhyw ymgynghori, baich diangen ar gyflogwyr, ac mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn bryderus iawn am y peth. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn ar yr agenda hon a sut y gallwn symud ymlaen ar hyn yn ein huchelgeisiau.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ildio i’ch ochr chi gryn dipyn eisoes. Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu ansicrwydd. Rydym yn paratoi ar gyfer cyllideb ddrafft ynghanol toriadau cyhoeddus parhaus, caledi ac ansicrwydd, wrth gwrs, ers pleidlais y DU i adael yr UE—amser mwy ansicr. Nid ydym yn mynd i achub y blaen ar gynnwys ein cyllideb ar gyfer 2017-18, ac mae’n rhaid i ni gydnabod ei fod yn ymwneud â threfnu adnoddau yn ôl ein blaenoriaethau. Ond rwyf am ddweud yn olaf ein bod, nid yn unig yn cyflawni ein hymrwymiadau, ond rydym yn gwybod beth sydd ei angen ar Gymru, rydym yn gwrando ar yr hyn sydd angen ar Gymru—ei bod eisiau i ni gefnogi busnesau, ei bod am i ni gefnogi ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein rhaglen tai fforddiadwy, ond mae hefyd yn awyddus i ni gydnabod anghenion newydd, a disgrifiodd Julie Morgan y rheini mewn perthynas â’n cynnig gofal plant. Gadewch i ni edrych ar y cynnig gofal plant. Mae’n un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth hon. Mae’n darparu bargen well ar gyfer gofal plant nag unrhyw ran arall o’r DU, gan adeiladu ar y cyfnod sylfaen, a rhoi i deuluoedd sy’n gweithio 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth yn ystod y tymor ac adeg gwyliau. Rwyf mor falch fy mod wedi cael y cyfle i ddweud hynny a chyhoeddi hyn yn y ddadl hon heddiw. Dyma’r flaenoriaeth fwyaf uchelgeisiol i ni fel Llywodraeth Cymru. Yn Lerpwl ddydd Sul, dyfynnodd y Prif Weinidog Nye Bevan, pan ddywedodd,

ni allwch gael y blaenoriaethau’n gywir heb feddu ar bŵer.

Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym wedi nodi ein blaenoriaethau, rydym wedi nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud i’w cyflawni, a gallwn eu gwneud yn adeiladol gyda’ch ymgysylltiad chi drwy’r compact gyda Phlaid Cymru ar draws y Siambr hon. Ond rydym yn glir fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros ein rhaglen, ac mae gennym fandad i’w darparu.

Mae hon yn sicr wedi bod yn ŵy curad o ddadl, a chredaf fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi llwyddo i fachu’r holl rannau da, gan fy mod yn meddwl bod y rhan fwyaf o’r cyfraniadau eraill yn eithaf tenau, yn enwedig Llywodraeth Cymru, na lwyddodd i ddod o hyd i fwy nag un ar y meinciau cefn i amddiffyn ei rhaglen. Arweinydd y tŷ, rwy’n deall ei bod yn rhaid bod canlyniad yr etholiad ym mis Mai wedi creu panig mawr ynoch chi a’ch cyd-Aelodau. Rwyf hefyd yn deall ei bod yn rhaid eich bod wedi oedi i ystyried a oeddech yn ddigon dewr ar y cyd i geisio ffurfio Llywodraeth leiafrifol gyda’r dewrder deallusol i ffurfio consensws, Fil wrth Fil, bolisi wrth bolisi. Ac o fethu cael y dewrder deallusol, rwyf hefyd yn deall bod angen i chi weld a oedd gennych amser a lle i amsugno’r un Democrat Rhyddfrydol, a chreu rhyw fath o gytundeb gwlanog gyda’r cenedlaetholwyr.

Efallai y gellid fy mherswadio eich bod, ar ôl 17 mlynedd ddifflach, angen amser i ailfywiogi, ac i lunio cynllun cadarnhaol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw sut y gall hwn fod yn ganlyniad hynny—sut y mae eich rhaglen lywodraethu ar gyfer y pedair blynedd a hanner neu bum mlynedd nesaf wedi lleihau’n daflen ddisylwedd, heb ddim amcanion, a llai fyth o uchelgais, ac yn bennaf oll, heb ddull o fonitro’n seiliedig ar ganlyniadau. Dywedodd Julie Morgan mai prif ddogfen yw hi. Ond y gwir amdani yw ein bod, bawb ohonom—y gymdeithas ddinesig, y cyhoedd—yn disgwyl gweledigaeth ychydig yn fwy manwl ar gyfer eich amcanion. Yn lle hynny, cawn ymadroddion gwlanog megis, a dyfynnaf,

‘parhau i wella mynediad at feddygfeydd, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad’.

Rwy’n credu ei bod yn deg dweud y byddai’r rhan fwyaf ohonom wedi disgwyl i apwyntiadau haws fod yn ganlyniad i fynediad gwell. Y manylion go iawn sydd ar goll yw sut y byddwch yn ei wneud, a sut y byddwch yn cael eich mesur.

Rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr o sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r rhan fwyaf yn sôn am obeithion chwilfriw, a rhwystredigaeth o ganlyniad i’r ddogfen hon sy’n honni ei bod yn symud Cymru ymlaen. Rhestrodd Andrew R.T. Davies a Russell George y meysydd niferus nad yw’r ddogfen hon yn rhoi fawr o sylw iddynt, yn amrywio o TB gwartheg, i faterion trawsffiniol, i amseroedd aros, i’r diwydiant dur. Mae eich rhaglen lywodraethu yn ddisylwedd, ac yn llawn gwrthdaro, arweinydd y tŷ. Un enghraifft syml yw eich bod am wella iechyd a gweithgarwch corfforol plant, ond torwyd 7 y cant o’r cyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng nghyllideb 2016-17, ac rydych wedi lleihau’r amser y gall plant gymryd rhan mewn Addysg Gorfforol.

Gadewch i mi edrych ar faes arall yn eich rhaglen lywodraethu.

Na, ni wnaf, diolch i chi, Joyce.

Y dyhead mwyaf gwlanog oll—eich addewid i gynnal trafodaeth ehangach ynglŷn â diwygio llywodraeth leol. Felly, er gwaethaf y misoedd o ymdrech, a’r tunelli o eiriau a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Williams, a’r Prif Weinidog yn mynd ati’n bersonol i hyrwyddo diwygio llywodraeth leol yn y Cynulliad diwethaf, a ydych yn dweud bod y rhaglen lywodraethu newydd hon yn gosod llywodraeth leol, eu cynrychiolwyr etholedig, y swyddogion a’r miloedd o bobl sy’n rhan o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru mewn limbo?

Rwyf wedi crybwyll y diffyg gweledigaeth, rwyf wedi crybwyll dyheadau gwlanog, rwyf wedi crybwyll y gwrthdaro o ran polisi ac rwyf wedi sôn am y tin-droi diddiwedd. Felly, gadewch i mi sôn yn olaf am y cafflo mawr. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ysgogi buddsoddiad, arloesedd a chreu swyddi newydd drwy ddarparu mwy o gymorth i fusnesau, gan gynnwys toriad treth—toriad treth sydd, mewn gwirionedd, yn addewid i gadw’r cynllun ardrethi busnes presennol am flwyddyn arall; cynllun a allai arwain yn y pen draw at gynnydd o 10 y cant yn y gyfradd fusnes unffurf yng Nghymru o ganlyniad i ailbrisio y flwyddyn nesaf.

Yn wir, cyffyrddodd David Melding ar faes arall—tai—lle mae un datganiad i’w weld yn golygu rhywbeth hollol wahanol. Pan oeddwn yn yr ysgol, rhaid i mi ddweud bod y gair ‘ychwanegol’ yn y cyd-destun rydych chi’n ei ddefnyddio yn eich dogfen yn golygu ‘yn rhagor’. Mae’n amlwg nad yw hynny’n wir yma yng Nghymru.

Arweinydd y tŷ, rydych chi, eich cyd-Aelodau a’ch timau wedi cael digon o amser i gynllunio ble rydych eisiau mynd. Rydych wedi cael 146 o ddiwrnodau. Mae gennych filoedd o weision sifil yn ogystal â’r addewidion diddiwedd yn eich maniffesto, heb sôn, Gareth Bennett, am yr uned gyflawni fawr ei chlod a ddiflannodd i ebargofiant. Ac eto mae gennym ddogfen rydych chi, Brif Weinidog, yn ceisio ei hamddiffyn fel trywydd strategol, nad yw hyd yn oed yn sôn am dirlithriad y penderfyniad i adael yr UE a allai rwystro eich ffordd. Rwy’n rhyfeddu nad oes unrhyw sôn ynglŷn â sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn, y mater pwysicaf, mae’n rhaid, sy’n ein hwynebu heddiw. Ni allaf ond meddwl tybed a yw eich rhaglen lywodraethu wedi ei ffurfio yn y fath fodd am y byddwn ni’r Cymry, arweinwyr busnes a chymdeithas ddinesig yn gallu herio a dwyn eich perfformiad i gyfrif ym mis Mai 2021—oherwydd mae bron yn amhosibl gwerthuso’r hyn na allwch ddarllen amdano, yr hyn na ellir ei fesur a’r hyn nad yw’n cael ei weithredu.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf, felly, ar y rhaglen Cefnogi Pobl, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwnnw. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 36. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6104.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, yn erbyn y gwelliant 34. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 16, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6104.

Nid ydym wedi derbyn unrhyw beth yn awr, nac ydym? Mae hynny’n iawn. Iawn, diolch. Ni dderbyniwyd dim, felly symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda ar gyfer pleidleisio arni, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhaglen lywodraethu. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os derbynnir y cynnig hwn, byddwn wedyn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, yn erbyn 34. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar welliant 1.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6102.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, yn erbyn y gwelliant 40. Felly, unwaith eto, ni dderbyniwyd dim.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 40, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6102.

Gan nad yw’r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio ac am nad yw wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. Diolch yn fawr iawn. Trown yn awr at y ddadl fer. A wnaiff yr Aelodau sy’n gadael y Siambr wneud hynny’n ddistaw ac yn gyflym, os gwelwch yn dda?

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

9. 9. Dadl Fer: Heriau i'r Sector Gofal yng Nghymru yn y Dyfodol

Symudaf yn awr i’r ddadl fer, a galwaf ar Eluned Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym i gyd am weld pobl hŷn yn cael y gofal gorau posibl. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, fel mewn mannau eraill yn y DU, mae gennym fom sy’n tician ym maes gofal cymdeithasol, a chyn iddo ffrwydro, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael trafodaeth onest a heriol ynglŷn â sut ddyfodol sydd i ofal yng Nghymru a sut rydym yn mynd i dalu amdano. Fel arall, rydym mewn perygl o wynebu argyfwng cymdeithasol na welsom ei debyg yn y wlad hon ers dyddiau’r wyrcws.

Nawr, mae hon yn her i ni i gyd; mae’n her i’r Cynulliad, i Lywodraeth Cymru ac i bobl Cymru. Ond yn hytrach na gweld hyn fel problem, rwy’n credu bod angen i ni ei weld fel cyfle. Yr hyn yr hoffwn ei awgrymu heddiw yw ein bod yn cychwyn y drafodaeth ar sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru—gwasanaeth a fydd, ymhen amser, yn dod i gael ei garu a’i barchu lawn cymaint â’n gwasanaeth iechyd gwladol, ond gwasanaeth a fydd yn rhan annatod o’r gwasanaeth iechyd ac yn gweithio ar y cyd ag ef. Mae arnom angen fframwaith cyffredinol, lle bydd pobl yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn derbyn gwasanaeth o ansawdd sy’n gyson ar draws Cymru gyfan.

Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n drawsbleidiol a thrawsadrannol, a’n bod yn datblygu consensws rhwng y cenedlaethau. Mae angen i ni ystyried model ariannu newydd sy’n datblygu cydbwysedd teg rhwng y wladwriaeth a’r unigolyn. Mae angen i ni ailfeddwl ein polisi adeiladu i ddarparu ar gyfer yr henoed, rhywbeth a allai hyrwyddo datblygiad economaidd yn ein cymunedau. Ond yn bennaf oll, mae angen i ni ddatblygu parch newydd a dwfn at y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth hanfodol hwn a rhoi iddynt yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ariannol y maent eu hangen ac yn eu haeddu.

Y ffaith yw bod disgwyliad oes, pan sefydlwyd y GIG gan y Llywodraeth Lafur yn 1948, yn 66 oed i ddynion ac yn 71 oed i fenywod. Nawr, roedd y dynion hyn druain yn ymddeol o’u gwaith yn 65 oed, felly roeddent yn lwcus os oeddent yn byw am flwyddyn.

Yn awr, rydym yn byw i mewn i’n hwythdegau a gall plant sy’n cael eu geni heddiw ddisgwyl byw nes eu bod yn 100 oed. Ond gyda phobl yn byw’n hwy ac yn goroesi gyda chyflyrau mwy cymhleth, mae angen gofal a chymorth mwy arbenigol. Mae gwasanaethau gofal yn cael trafferth ymdopi ac mae’r wladwriaeth yn cael trafferth talu amdano.

Mewn adroddiad ar ôl adroddiad nodwyd bod angen gwneud rhywbeth. Mae’r goleuadau ambr wedi bod yn fflachio ers amser hir, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych eu bod ar fin troi’n goch. Ni allwn wadu tystiolaeth ystadegau diweddar sy’n ein rhybuddio bod y system bresennol yn anghynaliadwy. Ym mis Awst yn unig, cofnodwyd bod dros 455 o gleifion wedi wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa’n mynd i waethygu. Mae rhagolygon poblogaeth Cymru yn rhagweld cynnydd dramatig yn nifer y bobl dros 85 oed yn ystod y 25 mlynedd nesaf, a disgwylir y bydd y niferoedd yn codi o 80,000 i dros 180,000. Mae hynny’n cyfateb i’r holl bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Ein ffrindiau yw’r rhain, aelodau o’n teuluoedd, ein hanwyliaid, ac mae’n ddyletswydd arnom i ofalu amdanynt.

Gwariwyd bron £300 miliwn ar edrych ar ôl ein henoed yng Nghymru yn 2013. Erbyn y byddaf yn 85 oed, bydd angen i ni fod yn gwario bron £1 biliwn. Mae hynny’n cyfateb i 7 y cant o gyllideb Cymru gyfan. Bydd ein polisi Llafur yn sicrhau bod y wladwriaeth yn cyfrannu tuag at gost gofal os yw cynilion unigolyn yn disgyn o dan y trothwy o £50,000. Disgwylir i’r rhai sydd â chyfalaf sy’n uwch na’r swm hwn dalu costau llawn eu gofal. Nawr, nid yw gofal yn rhad. Ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol yn talu £450 i £500 yr wythnos ar gyfartaledd am ofal preswyl a £500 am ofal nyrsio. Gall y rhai sydd â gofynion ychwanegol ddisgwyl talu mwy na hynny hyd yn oed. Nawr, os oes angen i rywun fynd i gartref gofal, yr amser cyfartalog y bydd unigolyn yn ei dreulio yno yw ychydig dros ddwy flynedd a hanner, gan arwain at gostau o dros £75,000. Mae hyn yn llawer mwy na’r pot pensiwn cyfartalog a’r cap ar gyfraniad oes ar £35,000 a argymhellwyd gan Dilnot. Caiff menywod eu taro’n arbennig o galed, gan eu bod dros ddwywaith yn fwy tebygol o fod angen gofal hirdymor a thros ddwywaith yn fwy tebygol o ymddeol heb eu potiau pensiwn eu hunain. Diolch i lywodraeth leol yng Nghymru—maent wedi capio cyfraniadau gofal cartref wythnosol ar £60. Felly, mae hynny’n golygu bod gofal cartref yn fwy fforddiadwy yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, lle nad oes cap. Ond gyda’r newidiadau demograffig hyn a ragwelir, bydd rhaid wynebu rhai cwestiynau eithriadol o anodd.

Ac mae yna oblygiadau economaidd, nid yn unig i’r henoed, ond i rai sydd â pherthnasau sy’n heneiddio. Gyda mwy o bobl yn gadael swyddi neu’n gweithio llai er mwyn ysgwyddo’r cyfrifoldebau gofal hynny, mae ein heconomi yn dioddef. Yr her yw sut i adeiladu system sy’n deg i bob cenhedlaeth. Mae llawer o bobl hŷn, er nad i gyd wrth gwrs, wedi elwa ar y cynnydd enfawr ym mhrisiau tai. Nid oedd rhaid i lawer ohonynt dalu am addysg bellach ac uwch. Roedd gan lawer swydd am oes a phensiynau wedi’u diogelu rhag chwyddiant. Yn y cyfamser, ni fydd y genhedlaeth nesaf sydd, drwy eu gwaith a threthi, yn talu costau gofalu am eu henoed, byth yn gallu fforddio tŷ eu hunain. Bydd llawer yn wynebu dyledion myfyrwyr sylweddol neu’n byw ar gontractau dim oriau. Mae ein poblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol yn golygu bod nifer cynyddol o bobl hŷn yn mynd i gael eu cynnal gan lai o drethdalwyr iau. Er y gall hyn ymddangos yn annheg, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith fod gwahaniaethau ariannol o fewn y cenedlaethau yr un mor fawr â’r rhai rhwng y cenedlaethau. Felly, mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn: a ydym yn meddwl ein bod i gyd yn haeddu’r un gofal a chyfleoedd, pa un a ydym yn neiniau a theidiau neu’n wyrion?

Mae gan Gymru broblem ychwanegol. Rydym yn byw mewn gwlad brydferth gyda rhagolygon deniadol i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd ymddeol rhatach o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac maent yn dod, yn eu miloedd. Nawr, gadewch i mi fod yn glir, rwy’n croesawu’r ffaith fod pobl yn awyddus i ymddeol yma, ond yn y tymor hwy, a allwn roi llaw ar ein calon a dweud y gallwn dalu am unrhyw un sy’n cyrraedd heb unrhyw fecanwaith i gynllunio ar eu cyfer yn ariannol? Er bod yn rhaid i ni dderbyn eu bod o bosibl wedi talu’n hael i mewn i system drethi cyffredinol y DU, mae angen i ni a hwythau ddeall bod talu am gartrefi gofal yn dod o gyllideb awdurdod lleol—pot gwahanol. Felly, bydd i ba raddau y gall y wladwriaeth gefnogi’r henoed yng Nghymru yn dibynnu ar ba mor denau rydym yn taenu’r jam.

Mae angen i ni ystyried o ddifrif yr angen i ddatblygu system sy’n fwy seiliedig ar gyfraniadau, ond un sy’n sicrhau bod y rhai nad ydynt yn gallu hunanariannu hefyd yn cael eu diogelu gan roi cymhellion i’r rhai sy’n gweithio i gynilo a chyfrannu. Mae’r rhain yn faterion anodd a sensitif iawn ac nid ydynt yn hawdd eu datrys. Ond fe allem ac fe ddylem gychwyn trafodaeth ynglŷn â sut y gallai system o’r fath weithio.

I ba raddau y dylem ddisgwyl i bobl ryddhau ecwiti o’u cartrefi, prynu yswiriant a rhyddhau cronfeydd pensiwn? Ac ydw, rwy’n mynd i ddweud yr hyn na ellir ei ddweud: a ddylem ystyried treth newydd i Gymru i dalu am hyn gan fod gennym bwerau i wneud hynny yn awr? Nid oes yr un ohonom yn gwybod pa ofal fydd ei angen arnom yn y dyfodol, felly mae angen i ni ofyn a oes angen i ni, fel cymdeithas, gydrannu’r risg fel rydym yn ei wneud gyda gofal iechyd.

Wrth edrych ymlaen, mae angen i ni feddwl am bolisïau adeiladu a chynllunio tai gyda’r henoed ar flaen ein meddyliau. A allai hwn fod yn gyfle i hyrwyddo datblygiad economaidd yn ein cymunedau? A allem ystyried cyflwyno rhaglenni adeiladu ar y cyd â cholegau a chynlluniau prentisiaeth? Gadewch i ni ddatblygu sgiliau ein bricwyr, trydanwyr a phlymwyr lleol ac adfywio gweithlu Cymru. Mae deall lefel y galw am wasanaethau gofal yn y dyfodol a’r costau cysylltiedig yn hanfodol wrth gynllunio ar gyfer system gofal cymdeithasol effeithlon a theg, ac o ystyried y pwysau presennol ar y GIG, rhaid i ni ymdrechu lle bynnag y bo modd i symud oddi wrth ofal costus, ymatebol sy’n seiliedig ar welyau a thuag at ofal sy’n ataliol, yn rhagweithiol, ac yn canolbwyntio lawn cymaint ar iechyd ag ar ymateb i salwch. Dylem edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill fel yr Iseldiroedd, lle mae myfyrwyr yn cael cynnig llety am ddim yn gyfnewid am yr amser a dreuliant gyda phobl hŷn. A allem ninnau hefyd ddatblygu cynllun gwirfoddol wedi’i noddi gan y wladwriaeth i gynorthwyo gyda mân dasgau megis newid bylbiau golau neu helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd? Mae Gofal Solfach yn fy etholaeth i yn enghraifft wych.

Mae angen i ni hefyd sicrhau bod parch priodol yn cael ei ddangos tuag at y rhai sydd yn y proffesiwn gofal. Mae eu gwaith yn gymhleth; mae’n galw am sgiliau, profiad a gwybodaeth. Mae’r bobl hyn yn ymwneud â phobl fregus yn emosiynol mewn amgylcheddau heriol gydag adnoddau a chymorth cyfyngedig. Mae angen mwy o weithredu i frwydro yn erbyn cyflogau ac amodau gwael yn y sector. Mae angen i ni feithrin uchelgais yn ein gweithwyr gofal profiadol a’u hannog i ddod yn rheolwyr y dyfodol.

Gadewch i ni beidio ag anghofio goblygiadau refferendwm Ewrop. Gyda bron i 6 y cant o’n gweithlu gofal yn cynnwys gwladolion nad ydynt yn hanu o’r DU, rydym yn debygol o wynebu gostyngiadau sylweddol yn y lefelau staffio mewn sector sydd eisoes yn cael trafferth gydag anawsterau trosiant uchel a recriwtio.

Nawr, yn ystod fy ymweliadau diweddar â chartrefi gofal, dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro fod cartrefi preifat yn rhoi’r gorau i ofal nyrsio. Maent yn honni nad yw’n ymarferol yn economaidd a’u bod yn cael anawsterau eithafol wrth recriwtio nyrsys. Mae’n ymddangos bod y model preifat mewn trafferth. Felly, a ddylai’r wladwriaeth gamu i mewn yn awr a darparu mwy o gartrefi nyrsio i ateb y galw cynyddol? Mae angen i ni weithredu nid adweithio pan fydd pethau’n chwalu. Gadewch i ni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddatblygu partneriaethau gyda chartrefi gofal preifat i atal y darparwyr hyn rhag methu. Gadewch i ni leihau’r ddibyniaeth ar nyrsys banc ar deirgwaith y gost a chefnogi’r gwasanaethau hyn, a gweithio gyda nyrsys y GIG a rhoi’r un cyfraddau ac amodau iddynt. Fodd bynnag, ni allwn gael system lle mae’r wladwriaeth yn berchen ar gartrefi gofal neu gartrefi nyrsio a bod llywodraeth adain dde yn y dyfodol yn dod i mewn a’u gwerthu, fel y maent wedi’i wneud gyda’r cymdeithasau tai yn Lloegr. Mae angen i ni ddatblygu model nad oes modd i’r wladwriaeth ei breifateiddio i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o henoed yn cael eu diogelu. Byddai hyn yn ategu’r argymhelliad i gael system sy’n fwy seiliedig ar gyfraniadau, y gallai unigolion hyd yn oed neu gydweithrediaethau fod yn berchen arni’n rhannol.

Bydd angen i ni roi ystyriaeth ychwanegol i fater cymhleth darparu gofal mewn lleoliadau gwledig, lle mae costau rhedeg a lefelau recriwtio isel ar gyfer cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio yn parhau i fod yn broblem, ac o ganlyniad yn atal buddsoddwyr preifat.

Yn olaf, mae angen dymchwel y rhwystrau artiffisial rhwng iechyd a gofal. Ar hyn o bryd, mae dadleuon ynglŷn â phwy sy’n talu a sut i dalu yn tagu’r system ac yn achosi oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, nid yw £60 miliwn mewn cyllideb o oddeutu £7 biliwn ar gyfer iechyd yn ddim mwy na diferyn yn y môr. Mae angen i ni ofyn pa mor bell y dylem fynd i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a meddwl y tu hwnt i amgyffred hyd yn oed ac uno’r ddwy gronfa efallai, ond bydd angen trafod hyn yn sensitif gydag awdurdodau lleol.

Rwy’n gobeithio heddiw y gallwn roi cychwyn ar y cyfle hwn. Rwy’n credu mai ein cyfrifoldeb fel cynrychiolwyr etholedig yw sicrhau newid mewn perthynas â’r mater hynod o sensitif hwn. Roedd maniffesto Llafur Cymru yn pwysleisio’n gywir y dylai’r sector gofal fod yn sector o bwys cenedlaethol strategol, felly gadewch i ni adeiladu ar hynny a’i wneud yn realiti. Nid yw’r broblem hon yn mynd i ddiflannu. Rhaid i ni weithredu yn awr, ac mae’n rhaid i ni sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru.

Diolch. A hoffech chi gynnig munud o’ch amser i siaradwyr eraill heddiw?

Diolch. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i chi, Lywydd dros dro, ac yn fwy pwysig, a gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am funud yn y ddadl hon, ac am roi sylw i’r materion hyn? Gadewch i mi ddatgan ar y cychwyn nad wyf o reidrwydd yn cytuno â phopeth a ddywedodd, ond rwy’n meddwl bod y pethau hyn yn werth eu trafod, ac maent yn bwysig.

Mae’r rhan fwyaf o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac mae hynny’n cynnwys y gwasanaeth iechyd. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy’n rhaid eu darparu y tu allan i’r ysbyty. Rydym hefyd yn gwybod bod dirywiad mewn iechyd ac arosiadau yn yr ysbyty yn digwydd fel rheol yn ystod y ddwy flynedd olaf mewn bywyd, ar ba oedran bynnag, ond gallai fod angen gofal cymdeithasol am ddegawdau ac mae faint fydd ei angen yn gallu cynyddu, ac fel arfer yn cynyddu wrth i bobl fynd yn fwy bregus ac angen mwy o gefnogaeth.

A gaf fi ychwanegu dau bwynt cyflym? Rwy’n credu bod unigrwydd yn rhywbeth sy’n felltith wirioneddol i lawer iawn o bobl oedrannus. Mewn gwirionedd, pe gallwn wneud un peth drwy chwifio ffon hud, byddwn yn ymdrin ag unigrwydd oherwydd mae’n bur debyg mai dyna yw’r lladdwr mwyaf. Y peth arall yw hyn: siaradodd Eluned am uno cyllid iechyd a gofal cymdeithasol. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw na wnaeth gofal sylfaenol yn dda iawn pan unwyd gofal sylfaenol a gofal eilaidd.

A gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am ddadl hynod o addysgiadol a heriol? Rwy’n llwyr gefnogi’r syniad o wasanaeth gofal cenedlaethol. Rydym yn gorfod ymdrin ag enillion llwyddiant—llwyddiant ein gwasanaeth iechyd—ond sut rydym yn mynd i ymdrin â hynny? Yn 1950, llofnododd y Brenin Siôr VI 250 o gardiau i bobl a oedd yn 100 oed. Erbyn 1990, roedd yn rhaid i’r Frenhines Elizabeth lofnodi 2,500 o gardiau i bobl cant oed, a ddwy flynedd yn ôl bu’n rhaid i’r Frenhines Elizabeth lofnodi 13,000 o gardiau ar gyfer pobl cant oed. Felly, sut rydym yn mynd i ymdopi â’r lefel honno o lwyddiant?

Cyn bodolaeth y GIG, roedd y gwasanaeth iechyd wedi’i rannu rhwng y sector preifat, sefydliadau elusennol ac awdurdodau lleol, ac rydym yn y sefyllfa honno yn awr gyda gofal. Mae angen i ofal gael parch cydradd ag iechyd, a chredaf y dylem gael ein herio i greu gwasanaeth gofal gwladol oherwydd ar hyn o bryd mae gofal wedi’i rannu rhwng y sector preifat, y sector elusennol ac awdurdodau lleol. Mae angen dod â’r cyfan at ei gilydd, a gadewch i ni gael trafodaeth gall ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Diolch yn fawr, Eluned.

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.

Diolch. Rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon, a diolch i Eluned, Mike a Dai am eu cyfraniadau. Mae’r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio’n gadarn ers nifer o flynyddoedd bellach ar adeiladu gwasanaeth gofal addas ar gyfer pwysau’r byd modern. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i ddiwygio gofal, yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym wedi diogelu cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol er gwaethaf polisïau caledi Llywodraeth y DU, ac rydym wedi arwain y sector tuag at ddulliau newydd o gydweithio ac integreiddio. Ers 2011 a lansio ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, rydym wedi darparu ymateb cydlynol a strategol i’r materion sy’n ymwneud â phoblogaeth sy’n heneiddio, a disgwyliadau uwch y cyhoedd a thwf ariannol cyfyngedig.

Fe wyddom, wrth gwrs, fod y boblogaeth yng Nghymru yn mynd yn hŷn. Mae disgwyliad oes yn cynyddu, a rhagwelir y bydd y gyfran o bobl 75 oed a hŷn yn cynyddu bob blwyddyn. Mae cymdeithas yn newid, a rhaid i wasanaethau cymdeithasol newid i ymateb i hynny. Fe fu newid yn nisgwyliadau’r cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, a bydd hynny’n parhau. Mae angen i wasanaethau cymdeithasol addasu ac ymateb yn sgil rhagolygon ariannol anodd.

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid sail sylfaenol y system gwasanaethau cymdeithasol i ateb yr heriau hyn. Mae ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ wedi newid sylfeini gofal cymdeithasol, gan osod y dinesydd yn y canol a chydnabod mai gwasanaethau effeithiol yw’r rhai sy’n cael eu siapio gan y bobl sy’n eu derbyn.

Mae’r ffocws a’r her yn awr ar sicrhau bod y newidiadau sy’n seiliedig ar y ddau ysgogiad statudol pwysig ar gyfer trawsnewid, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn ymwreiddio’n llawn. Mae ein rhaglen lywodraethu newydd, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn cydnabod yn glir y rheidrwydd i wneud hyn. Mae’r rhaglen lywodraethu yn cydnabod heriau gwirioneddol costau gofal hefyd. Bydd y Llywodraeth yn mwy na dyblu’r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl yn ystod y weinyddiaeth hon, gan sicrhau bod pobl yn gallu cadw mwy o’u hadnoddau a enillwyd drwy waith caled pe bai angen iddynt gael gofal preswyl.

Mae partneriaeth a chydweithrediad yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Yr her yma yw gwneud gwaith iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd gydweithredol er mwyn darparu gofal a chymorth o ansawdd da i bobl ag anghenion, gan gydnabod bod angen i awdurdodau lleol a phartneriaid, yn cynnwys y trydydd sector, gwasanaethau tai a chymunedau gydweithio er mwyn sicrhau y gellir rhoi gwasanaethau ataliol ar waith i helpu pobl i fyw’n annibynnol.

Sefydlwyd byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol i ddod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector at ei gilydd i asesu, cynllunio a darparu ar y cyd ar gyfer anghenion eu poblogaethau. Mae hyn yn cynnwys cytuno ar gapasiti gwasanaethau sydd eu hangen gan gartrefi gofal, a threfniadau comisiynu integredig. Mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi’n sylweddol i gefnogi modelau newydd arloesol o ofal. Eleni’n unig, mae’r gronfa gofal canolraddol wedi darparu £60 miliwn i ranbarthau, i hyrwyddo dulliau o atal ac integreiddio. Rwyf wedi gweld canlyniadau’r buddsoddiad hwnnw drosof fy hun ledled Cymru mewn cyfleusterau cam-i-lawr, mewn gwasanaethau gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd, mewn gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r arian hwn yn sylweddol ac mae’n gwneud gwahaniaeth.

Gadewch i mi droi at y farchnad ym maes gofal cymdeithasol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru edrych ymlaen a meddwl am ddyfodol y farchnad gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn rhoi pwerau newydd i’r rheoleiddwyr i fonitro iechyd y farchnad, yn enwedig y cwmnïau mawr y gallai eu hymadawiad achosi problemau sylweddol i’r rhai sy’n derbyn gofal. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr i drafod y materion hyn a byddaf yn parhau i edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi sector cryf, bywiog a gwydn yn y dyfodol.

Mae’r darparwyr hynny, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, yn aelodau o grŵp llywio cartrefi gofal y Llywodraeth. Yn ddiweddar, gofynnodd y corff hwnnw i’r bwrdd comisiynu cenedlaethol gyflawni dadansoddiad marchnad o’r sector cartrefi gofal. Mae’r gwaith hwn yn allweddol, ac rwy’n disgwyl gweld canlyniadau’r ymchwil yn fuan. Bydd yn rhoi’r darlun cliriaf a gawsom erioed o’r ddarpariaeth a’r capasiti presennol o fewn y sector, ac rwy’n siŵr y bydd yn helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol i ateb gofynion y Llywodraeth, o fis Ebrill 2018, eu bod yn sefydlu cronfeydd cyfun mewn perthynas â llety mewn cartrefi gofal i oedolion.

O ran y gweithlu, gwyddom fod y sector gofal yn wynebu pwysau sylweddol mewn perthynas â recriwtio a chadw staff. Mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi dros £8 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddiant ar gyfer y gweithlu ac mae wedi ymrwymo i roi camau ar waith i wella atyniad y sector i’r gweithlu posibl. Barn gyffredinol yr ymatebwyr yn ymgynghoriad diweddar y Llywodraeth ar wella ansawdd gofal cartref oedd y dylid gwella telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr gofal cartref. Mae’r cyflog byw cenedlaethol yn welliant sydd i’w groesawu i delerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod hyn yn creu heriau i iechyd ariannol y sector. Rwy’n ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio gyda’r sector i archwilio ac ymateb i heriau’r cyflog byw cenedlaethol.

Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil sylweddol ar y cysylltiadau rhwng telerau ac amodau’r gweithlu ac ansawdd y gofal, ac mae’r cysylltiad hwnnw bellach wedi’i hen sefydlu. Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir, ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig yn nodi cyfeiriad teithio’r Llywodraeth hon yn hyn o beth. Byddaf yn gweithio gyda’r sector yn y cyfnod sydd i ddod i ystyried sut i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau, fel yr addawyd yn ein maniffesto.

Daw hyn â mi at un her derfynol sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar, sef effaith y bleidlais i adael yr UE a’r ffaith y bydd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i’n cymdeithas. Ond mewn gwirionedd, efallai y bydd y risgiau i ofal cymdeithasol yn fwy uniongyrchol. Mae ein sector yn dibynnu ar weithlu o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac rwyf am i’r staff hynny deimlo’n ddiogel yn eu rolau a pheidio â theimlo dan fygythiad yn sgil canlyniad y refferendwm. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan bobl o’r tu allan i’r DU ac i sicrhau ein bod yn gallu denu gweithlu galluog a brwd i’n system gofal cymdeithasol.

Felly, mae llawer wedi cael ei gyflawni gan y sector mewn ymateb i’r newid trawsnewidiol a nodwyd yn y ddeddfwriaeth ddiweddar. Mae’r sector yn dal i wynebu heriau a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i oresgyn yr heriau hynny yn y dyfodol. Fe allwn ac fe fyddwn yn tyfu system gynaliadwy o ofal a chymorth yng Nghymru, sydd â lles, a chanlyniadau da i bobl yn ganolog iddi. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.