Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/09/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A’r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac rwy’n galw ar Paul Davies i ofyn y cwestiwn cyntaf.

Gwella Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0139(FM)

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod pobl sir Benfro yn cael gwasanaethau iechyd sy’n rhoi’r canlyniadau gorau posib i gleifion.

Brif Weinidog, mae rheoli meddygfa Wdig yn y fy etholaeth i wedi cyflwyno heriau sylweddol ers peth amser bellach, ac mae wedi arwain at herio o ran recriwtio, ac, ar adegau, mae mynediad i gleifion wedi bod yn broblem go iawn. O ystyried bod rhaglen lywodraethu eich Llywodraeth yn ymrwymo i barhau i wella mynediad ar feddygfeydd, pa gymorth y gall, a bydd, eich Llywodraeth chi yn ei gynnig i gymuned fel Wdig i ddod o hyd i ateb mwy sefydlog ar gyfer eu meddygfa leol?

Un o’r pethau rydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod ymgyrch i dynnu mwy o feddygon teulu i mewn i Gymru—bydd hynny’n dechrau fis nesaf—ac, wrth gwrs, i ystyried ym mha ffordd y gall meddygfeydd weithio mewn ffordd gynaliadwy yn y pen draw. Dyletswydd meddygfeydd yw recriwtio yn y lle cyntaf, achos maen nhw’n annibynnol, ond mae yna gymorth iddyn nhw o’r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw recriwtio yn y pen draw. Ond nod y Llywodraeth yw sicrhau bod mwy a mwy o feddygon teulu eisiau dod i Gymru i weithio.

Brif Weinidog, roeddwn i’n falch iawn o glywed ddydd Llun bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel iawn ei pharch yr 'Health Service Journal' 2016 yn y categori arloesedd gofal sylfaenol am ei arloesedd o ran gwasanaeth brysbennu a thrin fferylliaeth cymunedol, y mae 17 o fferyllfeydd yn darparu'r gwasanaeth hwnnw ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, gyda chynlluniau ar gyfer naw arall erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd, a dylai, chwarae rhan bwysig iawn o ran lleihau presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr ardaloedd hyn trwy ddarparu triniaeth a chyngor ar gyfer anghenion lefel isel, gan gynnwys mân glwyfau ac ati. A bydd, wrth gwrs, yn lleihau pwysau ar lawer o wasanaethau damweiniau ac achosion brys y mae wir eu hangen. Felly, gofynnaf i chi, Brif Weinidog: a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y staff o Hywel Dda sydd wedi gweithio'n arbennig o galed i gyflwyno'r gwasanaeth newydd, hynod lwyddiannus ac arloesol hwn, a dymuno'n dda iddyn nhw ym mis Tachwedd?

Gwnaf, ni wnaf, wrth gwrs. Mae'n fraint cael enwebiad ar gyfer y wobr hon, ac mae'n dangos y math o feddwl arloesol yr ydym ni eisiau ei weld yn ein gwasanaeth iechyd, sydd nid yn unig o fudd i'r system, ond, yn bwysig, o fudd i gleifion.

Pan fydd bwrdd iechyd yn cael ei enwebu am wobr a’i fod ar ymyrraeth lefel 2 gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i chi ofyn i chi'ch hun, 'Beth sy'n mynd o'i le?' Y gwir amdani yw bod mynediad pobl at ofal iechyd sylfaenol, yn Sir Benfro, yn cael ei effeithio’n beryglus gan y ffaith ei bod yn cymryd hyd at bythefnos i gael apwyntiad â meddyg, y ffaith nad oes gennym unedau mân anafiadau mwyach, a bod Dinbych-y-pysgod yn arbennig yn cael trafferth i ddarparu'r math o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol yr wyf yn siŵr ei fod ef, fel Prif Weinidog Cymru, eisiau eu gweld. Pa gamau eraill y mae'n mynd i’w cymryd nawr i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn camu i mewn pan nad yw meddygfeydd teulu lleol yn recriwtio ac nad ydynt yn gallu darparu'r gwasanaethau yr ydym ni’n disgwyl eu cael?

Fel yr ydym ni wedi ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru, bydd adegau pan fydd meddygfeydd yn cael eu cymryd drosodd gan y bwrdd iechyd, a byddant yn gwella'r gwasanaeth yn aml iawn. Gofynnwch i bobl Prestatyn—byddan nhw’n dweud hynny wrthych chi. Ar adegau eraill, mae meddygfeydd eraill yn cymryd drosodd y gwaith o redeg y gwasanaeth, a hynny gyda llwyddiant mawr. Rwy’n synnu ei fod ef yn meddwl bod yr 'Health Service Journal' yn rhywbeth y dylid ei anwybyddu neu fod rhywbeth o'i le gyda nhw, gan mai’r 'Health Service Journal' sydd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr enwebiad hwn yn digwydd, ac mae’n gyfnodolyn sy’n cael ei ddarllen yn eang. Os yw e’n meddwl bod y cyfnodolyn yn ddiwerth mewn rhyw ffordd, gall ddweud hynny. Y gwir amdani yw bod hwn yn gynllun arloesol iawn y maen nhw wedi ei gyflwyno ac mae'n un i'w groesawu. Mae'n drueni nad yw ef wedi ei groesawu.

Gofynnodd gwestiwn penodol am Ddinbych-y-pysgod—[Torri ar draws.] Cafodd ei gyfle i’w groesawu a methodd â gwneud hynny. Soniodd am Ddinbych-y-pysgod— [Torri ar draws.]

Mae’n dweud nad yw’n mynd i groesawu rhywbeth y mae Hywel Dda wedi ei wneud, a rhywbeth sydd wedi ei gydnabod mewn mannau eraill. Cyn belled ag y mae Dinbych-y-pysgod yn y cwestiwn, bydd yn gwybod bod cynlluniau hynod ddatblygedig i wneud yn siŵr bod gwasanaeth meddyg teulu galw i mewn yn cael ei gynnig yn y dref honno, a fydd yn hynod gyfleus nid yn unig i’r rhai sy'n byw yn y dref, ond i'r rhai sy'n ymweld â hi.

Ymateb i’r Argyfwng Ffoaduriaid

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng ffoaduriaid presennol? OAQ(5)0146(FM)

Rydym ni’n parhau i roi arweinyddiaeth a hybu cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi sefydlu tasglu a bwrdd gweithrediadau i sicrhau’r ddarpariaeth ac i oresgyn unrhyw rwystrau. Rydym ni hefyd wedi sefydlu is-grŵp plant i weithio'n rhagweithiol i ystyried y cymorth sydd ei angen ar gyfer cynlluniau sy'n dod i'r amlwg.

Wel, diolch i chi am hynna, Brif Weinidog. Ddydd Sadwrn, ymunais â nifer o gydweithwyr o’r fan hon, a dweud y gwir, yn rali Stand as One yn Abertawe. Er bod Abertawe, ynghyd â Phort Talbot, wedi llwyddo i adsefydlu nifer fach iawn o ffoaduriaid, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn eglur ein bod ni eisiau croesawu ffoaduriaid yma. Fe wnaethoch chi gyhoeddi eich rhaglen adsefydlu pobl agored i niwed o Syria ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac eto, erbyn mis diwethaf, dim ond 112 o ffoaduriaid yr oeddem ni wedi eu croesawu i Gymru. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wedi sicrhau’r 20,000 o leoedd y mae wedi ymrwymo iddynt, felly pa gamau rhagweithiol ydych chi wedi eu cymryd i gael mwy o ffoaduriaid yma, yn gyflymach, a pham nad yw 13 o gynghorau wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid o gwbl?

Wel, bydd yn rhaid i chi ofyn hynny i Lywodraeth y DU; eu cyfrifoldeb nhw yw e pan ddaw i adsefydlu ffoaduriaid. Rydym ni wedi gwneud ein safbwynt yn eglur iawn, iawn o ran yr hyn y byddwn yn ei wneud i'w helpu. Mae'n gywir i ddweud bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi tri chynllun adsefydlu yn ddiweddar. Rwyf eisiau i Gymru chwarae ei rhan i adsefydlu plant a ffoaduriaid agored i niwed yn y DU. Byddaf yn siarad â chadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am sut y gallwn ni barhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref a llywodraeth leol pan fydd rhagor o wybodaeth am y cynllun yn dod i’r amlwg.

Brif Weinidog, un o'r materion y dylid rhoi sylw iddo er mwyn caniatáu i ffoaduriaid yng Nghymru gyfrannu'n llawn at fywyd yma, yw cydnabod yn briodol ac yn ddigonol y sgiliau a'r cymwysterau sydd ganddyn nhw. A wnewch chi gymryd camau i sicrhau bod hynny'n wir am bob ffoadur yma yng Nghymru?

Wel, yn sicr. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd â sgiliau y mae eu hangen ar ein heconomi ac ar ein gwasanaeth iechyd, bod y sgiliau hynny'n cael eu defnyddio. Ac, yn sicr, un o'r materion y byddwn ni eisiau ei archwilio gyda CLlLC—a'r Swyddfa Gartref, a dweud y gwir—yw sut y gallwn ni nodi’r bobl hynny o ran y sgiliau sydd ganddyn nhw.

Brif Weinidog, rydych chi eisoes wedi crybwyll y plant, ond mae 200 o blant mewn gwirionedd yn ardal Calais nad ydynt yn cael eu derbyn gan unrhyw Lywodraeth ar hyn o bryd, a hefyd yn Libanus a Syria, yn ogystal, yn ychwanegol at y 200. Rydym ni wedi gweld y lluniau erchyll ar ein sgriniau dros yr haf, ac, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae’r ffaith nad ydym ni’n gwneud digon i'r plant hynny yn codi cywilydd, ac ni ddylent fod yn y fath sefyllfa o drawma na chael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymorol am eu bywydau. Nid wyf yn cyd-fynd â’r codi bwganod hyn mai nhw ddewisodd fynd i Calais, ac y bydd mwy yn dilyn oherwydd ein bod ni’n ceisio helpu’r plant ar eu pennau eu hunain hynny.

Heddiw, mae arweinwyr y byd yn casglu yn Efrog Newydd i drafod yr argyfwng ffoaduriaid. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i Lywodraeth y DU ddod â'r 200 o blant hyn i ddiogelwch ar unwaith? Ac rwyf hefyd yn gofyn i chi ymrwymo Cymru i helpu yn yr argyfwng digynsail hwn trwy dderbyn ein cyfran deg o blant ar eu pennau eu hunain o’r gwersylloedd yn y rhanbarth, yn ogystal ag yn Calais? A byddwn yn gwerthfawrogi pe na byddech yn dweud wrthym mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn; beth ydych chi'n mynd i'w wneud, Brif Weinidog?

Wel, ym mis Tachwedd 2015, fe wnaethom ni sefydlu tasglu ffoaduriaid o Syria. Roeddem ni ar flaen y gad o bell ffordd o ran Llywodraethau eraill. Roeddem ni’n gwbl eglur y byddai Cymru yn cymryd cyfran deg o ffoaduriaid. Mae'r un peth yn wir am blant, wrth gwrs. Mae'r ffaith fod gan Lywodraeth y DU dri chynllun adsefydlu plant erbyn hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir sydd i'w groesawu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn chwarae ei rhan lawn o ran croesawu plant, sy’n aml iawn wedi colli eu rhieni, plant sydd wedi gweld rhyfeloedd, plant sydd wedi gweld pethau o'u blaenau na fyddem fyth eisiau i unrhyw un—plant nac oedolion—eu gweld, ac rydym ni’n sefyll yn barod i helpu’r plant hynny.

Er fy mod i’n deall dymuniad yr Aelodau yma i hwyluso dyfodiad rhagor o ffoaduriaid, mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod pryder eang yn y DU am nifer yr ymfudwyr economaidd sy'n ceisio cyrraedd y DU gan esgus bod yn ffoaduriaid. [Torri ar draws.] Am ffoaduriaid fydd hyn. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd yn cyrraedd Cymru yn ffoaduriaid dilys.

Wel, yn gyntaf oll, os yw’n credu bod y bobl sy'n gadael Syria yn ymfudwyr economaidd, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu lladd o’u blaenau, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu llofruddio, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu bomio, pan eu bod wedi gweld plant yn cael eu lladd, ac os yw ef wir yn credu, â chydwybod dda—wel, gall edrych i lawr—os yw e’n credu, â chydwybod da, bod y bobl hyn yn ymfudwyr economaidd mewn rhyw ffordd, mae angen iddo edrych yn ofalus iawn, iawn arno ef ei hun.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd yr Wrthblaid, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cafodd Gweinidog Brexit Llywodraeth yr Alban gyfarfod gydag Ysgrifennydd Cabinet y DU dros adael yr UE yr wythnos diwethaf i drafod pa ran y gallai gweinyddiaeth Caeredin ei chwarae yn safbwynt trafod y DU. Bythefnos yn ôl yn Chicago, dywedasoch na all Cymru fforddio bod—a dyma eich geiriau—

yn arsylwyr goddefol yn y penderfyniad hynod bwysig hwn.

A wnewch chi, felly, ailystyried nawr eich penderfyniad i beidio â phenodi Gweinidog Brexit penodedig, neu a ydych chi’n barod i wneud Cymru yn amherthnasol?

Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw bwrw ymlaen â mater Brexit, nid ei ddadlwytho i Weinidog arall. Ni fyddaf yn gwneud hynny; fy nghyfrifoldeb i yw hyn.

Wel, rwy'n credu ei bod yn drueni, Brif Weinidog, na fydd gan Gymru, yn wahanol i'r Alban, Weinidog sydd yn ymroi’n llwyr i ystyried Brexit a dim byd arall. Brif Weinidog, rwy’n deall eich bod wedi sefydlu grŵp cynghori arbenigol ar Brexit yn ôl ym mis Awst i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru o'r trafodaethau Brexit. A allwch chi ddweud wrthym: a yw’r grŵp hwnnw wedi cyfarfod eto? Fy nealltwriaeth i yw nad yw'r grŵp wedi cyfarfod eto, ac felly esboniwch pam os gwelwch yn dda. Yna, mae gennym ni’r pwyllgor cyswllt Brexit—a fi yw cynrychiolydd Plaid Cymru ar y pwyllgor hwnnw—ac rwy'n meddwl tybed pam nad oes cyfarfod o'r pwyllgor hwnnw wedi ei gynnal eto. Nid wyf hyd yn oed wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r fath eto. Felly, Brif Weinidog, onid y gwir reswm pam nad ydych wedi penodi Gweinidog Brexit ac nad ydych wedi cynnal y cyfarfodydd hyn yw’r ffaith nad oes gennych chi gynllun, nad oes gennych chi weledigaeth, a dim clem ynghylch sut y dylai Cymru edrych y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?

Wel, anfonodd hi lythyr ataf yr wythnos diwethaf ac rwyf i wedi gweld yr ateb i'r llythyr hwnnw—nid wyf yn gwybod pam nad yw wedi ei dderbyn—oherwydd, yn y llythyr hwnnw, roedd yn awgrymu dyddiad pryd y dylem ni gyfarfod i drafod y materion hyn. Efallai nad yw hi wedi ei dderbyn eto, ond mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf i wedi rhoi fy nghaniatâd iddo gael ei anfon ati. Nid wyf yn credu y dylai Prif Weinidog ildio cyfrifoldeb. Nid 'Ar gyfer Cymru, gweler yr Alban' yw'r ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Mater i'r Prif Weinidog yw cymryd cyfrifoldeb o ran y ffordd ymlaen cyn belled ag y mae'r UE yn y cwestiwn. Bydd y grŵp cynghori yn cyfarfod ddiwedd y mis hwn. Mae is-bwyllgor y Cabinet wedi cyfarfod eisoes. Amlinellwyd ein chwe blaenoriaeth gennym y diwrnod ar ôl y refferendwm. Gelwais Gyngor Prydain-Iwerddon i Gaerdydd, ynghyd ag arweinwyr o bob cwr o'r DU, dibynwledydd y Goron ac, yn wir, Gweriniaeth Iwerddon, i ddechrau llunio ymateb, a bu cyswllt cyson ar lefel gweinidogol. Rwyf wedi siarad â’r Gweinidog Brexit, ond rydym ni’n bell o gytuno ar unrhyw beth gan ei fod o’r farn nad yw tariffau yn bwysig. Cynhaliwyd y cysylltiadau hynny trwy gydol yr haf. Rwyf hefyd wedi trafod y mater gyda Phrif Weinidog y DU yn bersonol.

Brif Weinidog, rydych chi’n dweud, 'Ar gyfer Cymru, gweler yr Alban', ond mae'n edrych yn debycach eich bod yn dweud, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Popeth y maen nhw’n ei wneud, rydych chi’n barod i gyd-fynd ag ef, ac mae eich safbwynt ar Brexit yn llawn anghysondebau. Gadewch i ni gael golwg ar yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, er enghraifft, am feto i Gymru. Yn ystod eich ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau, dywedasoch,

Pa bynnag gytundeb a fydd cael ei sicrhau yn y diwedd, dylai ei dderbyn fod yn amodol ar gefnogaeth y pedair senedd sy’n deddfu ar gyfer y DU erbyn hyn.

Ac eto, erbyn dydd Sul, roeddech chi wedi troi eich cefn ar y farn honno. Erbyn hyn nid ydych chi’n credu y dylai fod feto o'r Cynulliad hwn os nad yw'r cytundeb Brexit yn un da i Gymru. A wnewch chi gyfiawnhau heddiw eich penderfyniad i ildio i Theresa May a'i Llywodraeth Dorïaidd trwy roi’r gair olaf iddyn nhw o ran sut y bydd Brexit yn effeithio ar y wlad hon?

Mae hi wedi drysu o ran y mater. Yr hyn a awgrymwyd oedd fy mod i eisiau i Lywodraeth Cymru gael feto. Na—rwyf wedi dweud y dylai pob un o'r pedair Senedd yn y DU gael cadarnhau unrhyw gytundeb. Rwy’n sefyll wrth hynny. Fi oedd y cyntaf i’w ddweud.

Wrth gwrs y dylai'r Cynulliad gael cyfle i gadarnhau unrhyw gytundeb sydd ar y bwrdd, a hynny'n briodol, oherwydd ni fyddai'n iawn i Lywodraeth y DU gytuno ar faterion fel polisi ffermio a physgodfeydd heb fewnbwn gan y Seneddau datganoledig, gan nad oes ganddynt unrhyw ran mewn ffermio a physgodfeydd cyn belled ag y mae Cymru a'r Alban yn y cwestiwn. Rwy'n credu bod synnwyr ymarferol mewn gwneud hynny, oherwydd os ydych chi eisiau cael yr ymrwymiad ehangaf posibl i unrhyw gytundeb ar ôl Brexit, mae'n gwneud synnwyr perffaith, os mai chi yw Llywodraeth y DU, byddwn yn dadlau, i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon roi cadarnhad pendant i unrhyw gytundeb. Os bydd cytundeb heb gefnogaeth y Cynulliad hwn neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd yn anochel bod y cytundeb hwnnw’n cael ei wanhau ac ni fydd yn sefyll prawf amser.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, mewn adroddiadau diweddar yn y wasg, ac y bore yma yn benodol, rydych chi’n siarad am eich safbwynt newydd ar symudiad rhydd pobl, pe byddai cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd i gynnal mynediad at y farchnad sengl. Mae’n ymddangos eich bod yn cyfeirio at ryw fath o gyfnod pan na ddylid caniatáu unrhyw symudiad dros gyfnod penodol, fel pan ddaeth y gwledydd dwyrain Ewrop newydd i mewn, yn 2004. Ym mis Mehefin eleni, roeddech chi’n glir iawn bod nwyddau, gwasanaethau a phobl yn gysylltiedig â'i gilydd ac na ellid eu hysgaru. Ai safbwynt Llywodraeth Cymru nawr yw nad yw symudiad rhydd pobl yn llinell goch i Lywodraeth Cymru, ac mai dim ond nwyddau a gwasanaethau yw'r pwyntiau yr ydych chi’n eu hyrwyddo?

Wel dyna yn union, wrth gwrs, y mae llawer yn Llywodraeth y DU yn ei gredu. I mi, mae mynediad at y farchnad sengl o ran nwyddau a gwasanaethau yn llinell goch. Mae hynny'n rhywbeth na ellir ei negodi i ffwrdd. Rwyf wedi gwneud yr awgrym i gael moratoriwm saith mlynedd; credaf fod hynny’n cynnig posibilrwydd cyn belled ag y mae’r DU yn y cwestiwn—rwy’n ceisio bod o gymorth cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn yn y fan yma—er mwyn cynnal mynediad at y farchnad sengl. Ond, na, i mi, mynediad at nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch.

Felly, i chi—ac rwy'n eich holi chi fel Prif Weinidog—rydych chi’n dweud mai safbwynt Llywodraeth Cymru, y mae, yn amlwg, o fewn y Llywodraeth honno, Aelod sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, a chyfrifoldeb ar y cyd. Felly, mae pob Aelod o amgylch bwrdd y Cabinet yn cytuno nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru bellach yn ymwneud â symudiad rhydd pobl, a oedd, fel yr wyf i’n ei ddeall, yn llinell goch i chi yn ôl ym mis Mehefin. Ai dyna’r gwir?

Nage. Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch; mae’r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a'i drafod yn rhan o'r trafodaethau.

Mae'r sefyllfa wedi newid yn llwyr, Brif Weinidog, ac rydych chi wedi ymrwymo eich Llywodraeth i ollwng y rhagofyniad bod symudiad rhydd pobl yn rhywbeth angenrheidiol yr oeddech chi ei eisiau yn ôl yn eich datganiad ym mis Mehefin. Mae gennych chi gytundeb Plaid Cymru hefyd yn eich cefnogi yn eich ymdrechion, ac felly rwy'n tybio bod y trafodaethau hyn wedi cael eu cynnal gyda Phlaid Cymru ac nad ydych chi’n gwneud y penderfyniadau hyn ar eich pen eich hun. Yr hyn sy'n peri pryder yma, wrth i’r atebion ddod gennych chi yn araf bach, yw, yn aml iawn, eich bod yn ymddangos ar gamera ac yn llunio polisi yn y fan a'r lle. Sut ydych chi'n cyrraedd cyfrifoldeb cyfunol Llywodraeth Cymru fel y gall eich safbwynt fel arweinydd Llywodraeth Cymru gael ei gymryd o ddifrif pan fyddwch chi’n trafod y materion hyn yn San Steffan? Rydych chi wedi symud ar egwyddor sylfaenol yma, a ddywedasoch oedd yn llinell goch i chi ym mis Mehefin. Camwyd yn ôl oddi wrth hynny nawr ym mis Medi, ac mae un o'ch Aelodau yn y Cabinet wedi ymrwymo i hynny, sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol—a Phlaid Cymru, trwy gefnogi eich Llywodraeth.

A oes unrhyw un yma yn gwybod beth yw polisi'r Ceidwadwyr, naill ai yn y DU neu yng Nghymru, o ran Brexit? Ydych chi'n gwybod beth maen nhw’n ei ddweud am Brexit? 'Mae Brexit yn golygu Brexit.' Gwych. Gwych. Dyna naid ardderchog o resymeg. Nid oes gen i unrhyw syniad beth yw ei safbwynt ar Ewrop—dim syniad o gwbl. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod pob un ohonom ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwybod yn iawn fod mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn hanfodol i ddiwydiant Cymru. A wnaiff ef gefnogi hynny? A wnaiff ef gefnogi hynny? A wnaiff ef gefnogi'r cynnig bod angen i ni allu gwerthu yn un o farchnadoedd mwyaf y byd—mwy nag America a Rwsia—heb unrhyw rwystrau masnach? Dyna'r cwestiwn yr oedd buddsoddwyr yn yr Unol Daleithiau yn ei ofyn i mi pan roeddwn i yn yr Unol Daleithiau. Pe byddai ef wedi bod yno, ni fyddai hyd yn oed wedi rhoi ateb iddyn nhw.

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rwy’n falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog i ymrwymo i bolisi UKIP ar fewnfudo. Rydym ni’n gwneud cynnydd. Ond rwy’n siŵr bod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen gyda chymaint o bleser ag yr wyf innau at gyhoeddi canlyniad etholiad arweinyddiaeth y Blaid Lafur ddydd Sadwrn. A yw'n cytuno â mi y byddai ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn dda iawn i Gymru, oherwydd, yng ngeiriau cofiadwy yr Arglwydd Kinnock, mae'n amheus iawn y byddwn yn gweld Llywodraeth Lafur arall eto yn ystod ei oes ef?

Wel, mae dau beth y mae’n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP: yn gyntaf, mae'n ymddangos mai polisi ei blaid ef yw trin pobl sy'n ffoaduriaid o ryfel fel ymfudwyr economaidd. Rydym ni wedi clywed hynny gan Aelod o'i feinciau cefn ei hun. Yn ail, gallaf ei sicrhau—[Torri ar draws.] Gallaf ei sicrhau mai’r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg yn yr 1980au yw'r blaid sy'n cael ei chasáu fwyaf gan etholwyr Cymru. Maen nhw’n cofio yr hyn a wnaeth ef, a'i blaid, ar ôl y gyllideb honno ym 1981 yr oedd ef mor falch ohoni. Maen nhw’n cofio’r hyn a wnaeth, wrth gefnogi streic y glowyr yn erbyn ein pobl ein hunain—cau ein diwydiant mwyngloddio i lawr, cau ein diwydiant dur i lawr. Os mai dyna bolisi UKIP, ewch allan ar bob cyfrif i’w werthu i bobl Cymru.

A gaf i ddod â'r Prif Weinidog yn ôl i heddiw, yn hytrach na 30 mlynedd yn ôl, sydd braidd yn fwy perthnasol? Gyda llaw, nid oedd Gareth Bennett o'r farn bod y bobl sy'n dod o Syria i gyd yn ymfudwyr economaidd, ond holl bwynt y gyfraith ar ffoaduriaid yw bod gennych chi hawl i statws ffoadur yn y wlad gyntaf yr ydych chi’n mynd iddi ar gyfer diogelwch o’r wlad yr ydych chi’n dod ohoni, a Thwrci yw honno yn y rhan fwyaf o achosion. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Twrci, o’r fan honno ymlaen, ymfudwyr economaidd ydyn nhw. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi yn gyntaf mai dyna'r gyfraith?

Na wnaf, nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Bydd pobl yn ceisio mynd i'r lle cyntaf y gallant ei gyrraedd fel man diogel. O’m safbwynt i, mae'n bwysig—. Mae ef yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae ei holl Aelodau yn ddisgynyddion mewnfudwyr. Cwestiwn o bryd ddaeth eu teuluoedd i’r ynys hon yw hyn. Mae pob un ohonom ni yn yr ystafell hon yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae'r cyfan yn dibynnu ar bryd y daeth ein teuluoedd yma mewn gwirionedd ac, o’m safbwynt i, mae'n gwbl gywir, pan fo pobl yn ffoi rhag rhyfel a gormes, eu bod yn cael cyfle mewn gwlad wâr—mewn gwlad wâr—i gael byw eu bywydau mewn heddwch, ac mae hynny'n rhywbeth na wnaf i fyth gyfaddawdu yn ei gylch.

Mae pawb yn cytuno â'r egwyddor gyffredinol ac nid oes ganddo unrhyw beth o gwbl i’w wneud â’r UE oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i gonfensiynau rhyngwladol o dan y Cenhedloedd Unedig a chonfensiwn Genefa. Wrth gwrs, mae'n iawn y dylai ffoaduriaid gael lloches ac amddiffyniad rhag y gwledydd lle na allant fyw yn ddiogel. Ond mae mudo economaidd yn un o ffeithiau bywyd yn Ewrop. Mae miliynau o bobl yn ciwio ar ffiniau’r Undeb Ewropeaidd, sydd yn fandyllog, ac mae'n rhaid cael ateb Ewropeaidd i hyn. Ni ellir ei adael i siawns pan fo miliynau o bobl yn llwyddo i gael drwy'r system, cyrraedd Calais, a chiwio i ddod ar draws y sianel. Mae’n rhaid cael proses wedi'i rheoli, ond mae'n rhaid cael cyfyngiad oherwydd, os na reolir mewnfudiad i'r wlad hon, caiff pob math o gymhlethdodau cymdeithasol eu creu a'r bobl sy'n dioddef fwyaf yw'r rhai ar waelod y raddfa incwm, y rhai dan yr anfantais fwyaf, y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas, y daethpwyd â’r Blaid Lafur, roeddwn i’n meddwl, i fodolaeth i’w hamddiffyn.

Wel, nid wyf yn mynd i gymryd pregeth gan rywun a oedd yn chwythu utgorn Thatcher yn ôl yn y 1980au. Ond byddaf yn cytuno ag ef ar un pwynt: dylid cael ateb Ewropeaidd. Ond y broblem nawr yw nad ydym ni’n mynd i fod yn rhan o'r ateb Ewropeaidd gan na fyddwn ni yn Ewrop. Dyna’r broblem. Ni fydd gennym lais yn hynny. Ond mae’n iawn: mae'n hynod bwysig bod hon yn cael ei thrin fel her Ewropeaidd a bod holl wledydd Ewrop yn ymateb i'r her honno. Gadewch i ni gofio ei fod o fewn cof pan oedd miliynau o bobl yn ffoaduriaid o fewn Ewrop ac yn symud o un wlad i'r llall mewn cyfnewidiadau poblogaeth enfawr ar ddiwedd y rhyfel ac, yn wir, yn Iwgoslafia yn y 1990au. Felly, weithiau rydym ni’n anghofio ein hanes ein hunain pan fyddwn ni’n sôn am ffoaduriaid. Croesawaf yr hyn a ddywedodd am yr angen i wneud yn siŵr bod pobl sy'n ffoaduriaid gwirioneddol yn cael cymorth a lloches. Rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud am fewnfudo direolaeth. Nid wyf yn dadlau o blaid mewnfudo direolaeth; mae’n rhaid cael cyfyngiadau ar y rhai y gall unrhyw wlad eu derbyn, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio ag awgrymu nad yw’r bobl hynny sy'n ffoi rhag rhyfel ac sydd yn ddiobaith ac sydd wedi gweld pobl yn boddi yn y môr Aegean yn nwyrain Môr y Canoldir ond yn chwilio am swydd sy'n talu'n well. Nid wyf yn derbyn hynny, mae'n ddrwg gennyf.

Caffael Gwasanaethau Cyhoeddus

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch caffael gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0140(FM)

Gwnaf. Disgwylir i awdurdodau lleol gydymffurfio ag egwyddorion datganiad polisi caffael Cymru i helpu i sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl i Gymru o gaffael.

Brif Weinidog, mae'r cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru sy'n eiddo preifat, Grŵp Potter, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi ei wahardd rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan nad yw'n bodloni’r gofynion o fod â throsiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. A ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn anghymesur gwneud trosiant blynyddol mor fawr yn ofynnol, sy'n arwain at wahardd hyd yn oed y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru rhag gwneud cais am y mathau hyn o gontractau, ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol—yn hyn o beth o ran contractau caffael?

Mae'n codi pwynt pwysig ar ran busnes yn ei gymuned. Pe byddai'n ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, yna byddaf yn rhoi iddo, wrth gwrs, y sylw gofalus y mae’r cwestiwn yn ei haeddu.

Brif Weinidog, bu cynnydd sylweddol o ran harneisio grym y bunt gyhoeddus, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’r Athro Kevin Morgan, sy’n un o brif arbenigwyr Ewrop ar fwyd cynaliadwy, wedi tynnu sylw at fwlch sgiliau fel her fawr o'n blaenau. Mae wedi gwneud awgrymiadau ynghylch recriwtio dwsin o weithwyr proffesiynol medrus i allu rhoi i sector cyhoeddus Cymru y gweithwyr proffesiynol medrus y mae eu hangen i harneisio grym y bunt honno ymhellach. A fyddech chi’n barod i ymchwilio i gynigion yr Athro Morgan?

Wrth gwrs. Gwn fod yr awdurdodau lleol hynny, mae rhai wedi bod yn well nag eraill dros y blynyddoedd: mae Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn hanesyddol, wedi bod yn gryf iawn pan ddaw i gaffael, gan gyflogi saith o weithwyr proffesiynol dim ond yn yr un sir ar un adeg. Nid yw awdurdodau lleol eraill wedi bod mor rhagweithiol o ran cyflogi arbenigwyr caffael. Byddem yn disgwyl i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, wrth gwrs, gaffael cymaint â phosibl yn lleol ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae contractwyr o Gymru, er enghraifft, yn ennill 77 y cant o'r holl ddyfarniadau adeiladu mawr ac mae hynny i fyny o 30 y cant cyn cyflwyno'r dull cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr. Mae canlyniadau o'r 259 o brosiectau cyntaf sydd wedi eu dyfarnu sydd werth £1.2 biliwn yn dangos bod 82 y cant wedi cael ei ailfuddsoddi yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydym ni’n gweld sefyllfa sydd lawer iawn yn well pan ddaw i gaffael, ond, wrth gwrs, rydym ni’n barod i ystyried unrhyw beth sy’n gwella'r sefyllfa ymhellach.

Rwy’n credu bod disodli mewnforion yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy hanfodol, yn economaidd, i ni o ganlyniad o bosibl i'r dull trwsgl a dryslyd o ymdrin â mynediad at y farchnad sengl yr ydym ni’n ei weld gan y Llywodraeth hon ar hyn o bryd, ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a yw’r math o gyngor a chyfarwyddyd a roddir i awdurdodau lleol ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogaeth gadarnhaol i bethau fel system brynu ddeinamig, sy'n galluogi cwmnïau, cwmnïau newydd, i gyflenwi yn rhan o gontract, hyd yn oed ar ôl i sefydliad arall gael ei benodi, ac oddi wrth y gorddefnydd o gontractau fframwaith a bwndelu contractau, sy'n andwyol, mewn gwirionedd, i gynnig cyfleoedd i fentrau bach a chanolig eu maint yn arbennig?

Mae'n gwbl gywir y dylai awdurdodau lleol ystyried peidio â bwndelu contractau; dyna oedd un o'r problemau flynyddoedd yn ôl pan na châi cwmnïau lleol wneud cais. Fe’i gwelsom yn y gwasanaeth iechyd lle'r oedd cyfuniad o geisio cael cyflenwyr mawr i mewn ac, ar y pryd, nid oedd cyflenwyr o Gymru mewn sefyllfa i gyflenwi’r gwasanaeth iechyd; nid oedden nhw’n cael. Cafodd hynny ei ddatrys. Ymhell o fod yn drwsgl o ran sefyllfa’r UE, rwy’n credu ein bod ni’n gwbl eglur—nid wyf yn hollol siŵr beth yw safbwynt ei blaid ef ar hyn, ond rwyf wedi bod mor eglur ag y gallaf fod, ac rwy'n siŵr y bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu datblygu rhwng y pleidiau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Mae'r datganiad polisi caffael yn rhoi cyfeiriad eglur i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Os caiff hwnnw ei gymhwyso'n effeithiol, yna, wrth gwrs, gallwn weld effaith gadarnhaol i’n heconomi a'n cymunedau. Rydym ni’n gweld hynny ers dechrau'r broses SQuID. Rydym ni, wrth gwrs, yn ymrwymedig i helpu cwmnïau llai a chwmnïau trydydd sector hefyd gael mynediad at gaffael cyhoeddus yng Nghymru, ac mae canllawiau ymgeisio ar y cyd yn helpu busnesau llai a microfusnesau i ffurfio consortia er mwyn helpu i gynnig am y contractau hynny pan na fyddent fel arall mewn sefyllfa i wneud cais llwyddiannus amdanynt oherwydd eu maint ac oherwydd natur y cyflenwad sydd ei angen yn rhan o'r contract hwnnw.

Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu pennu ein rheolau caffael cyhoeddus ein hunain i ddiwallu ein hanghenion economaidd a chaffael ein hunain, yn hytrach nag anghenion busnesau mawr mewn gwledydd eraill. Pa fesurau ydych chi’n mynd i’w rhoi ar waith i roi blaenoriaeth i fusnesau Cymru wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus, a pha newidiadau ydych chi'n mynd i'w gwneud i reolau caffael cyhoeddus i'w gwneud yn haws i fusnesau bach gystadlu am gontractau o'r fath?

Rwy'n credu fy mod i wedi ateb rhan o’r cwestiwn yna, ond mae angen iddi fod yn ofalus am yr hyn y mae'n ei ddymuno, oherwydd byddai hefyd yn golygu y byddai cwmnïau o Gymru a gweddill y DU yn cael eu hatal rhag cynnig am gontractau ym marchnad llawer mwy yr Undeb Ewropeaidd, ac nid yw hynny’n rhywbeth y byddem ni yn dymuno ei weld. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gallu datblygu polisi caffael ymhellach yn y dyfodol er mwyn adeiladu ar y canlyniadau llwyddiannus yr ydym ni eisoes wedi eu gweld, er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o arian yn cael ei gadw’n lleol.

Rwyf newydd ddod o’r dathliad o brydau ysgol a gynhaliwyd gan Lesley Griffiths—yn falch iawn o glywed gan bennaeth y gwasanaeth prydau ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu bod yn gwneud cais am y nod siarter ar gyfer eu gwasanaeth prydau ysgol, sef yr hyn yr ydym ni’n ei fwynhau i fyny'r grisiau yn ein ffreutur ni—ac roeddwn i’n meddwl tybed pa gymorth y mae’r gwasanaeth caffael bwyd cenedlaethol yn mynd i allu ei roi i ysgolion fel y gall pob ysgol wneud cais am y nod siarter, yn enwedig o ran ffrwythau a llysiau. Dim ond 3 y cant o ffrwythau a llysiau sy’n dod o ffynonellau lleol, gan arwain at ddiffyg enfawr o ran masnach. Pa uchelgais, felly, sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ein holl ysgolion y nod siarter, yn union fel sydd gan Oldham?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bwynt cyfeirio poblogaidd y prynhawn yma mi welaf, ond rwy'n falch o glywed yr hyn a glywodd hi yn gynharach heddiw. Mae’r pwynt y mae hi'n ei wneud yn un pwysig. Mae ffrwythau a llysiau yn anodd; nid ydym ni’n cynhyrchu cymaint â hynny yng Nghymru. Mae’n debyg na allem ni gyflenwi ein holl ysgolion yng Nghymru oherwydd natur ein topograffi a'n hinsawdd; rydym ni’n tueddu i gynhyrchu llaeth a chig. Wedi dweud hynny, o ran y pethau eraill y gellir eu cyflenwi, mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gweithio'n agos i wella diogelwch bwyd a maeth yr holl gynhyrchion bwyd, ac mae ysgolion eisoes yn darparu prydau bwyd cytbwys o ran maeth o dan y fenter Bwyta'n Iach mewn Ysgolion. Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gwella’r ffynonellau a’r amrywiaeth sydd ar gael trwy barhau i reoli cysylltiadau â chyflenwyr yn strategol.

Gwasanaethau Llyfrgell

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgell yng Nghymru? OAQ(5)0141(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus gan ein bod yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw’n ei wneud i les pobl yng Nghymru. Ers 2007, rydym ni wedi buddsoddi oddeutu £14 miliwn i foderneiddio dros 100 o lyfrgelloedd cymunedol, gan gynnwys £1 filiwn i foderneiddio a chyd-leoli chwe llyfrgell yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd i’w groesawu, yn enwedig yng Nghaerffili. Rydym ni wedi gweld y datblygiad llyfrgelloedd yng Nghaerffili a Bargoed, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud yn Ystrad Mynach ar hyn o bryd. Roedd gennyf ddiddordeb, hefyd, yn nhystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i'r pwyllgor cyfathrebu yr wythnos diwethaf, pan ddywedodd fod llyfrgelloedd yn ymwneud â mwy na llyfrau yn unig, maen nhw'n ymwneud â llawer iawn o ddarpariaethau technolegol i drigolion.

Roeddwn i eisiau gofyn, yn benodol, am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdyn llyfrgell Cymru gyfan, a gyhoeddwyd gyntaf flwyddyn yn ôl. Cysylltodd etholwr sydd â chartref gwyliau ym Mhorth Tywyn—lle braf yn etholaeth Lee Waters—â mi ac roedd eisiau defnyddio'r llyfrgell yno. Ni chaniatawyd iddo ymuno â'r llyfrgell ac ni chaniatawyd iddo ddefnyddio ei gerdyn cyngor bwrdeistref sirol Caerffili yno ychwaith. Rwyf wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin i geisio egluro beth sy'n digwydd, ond yn arbennig, hoffwn gael gwybod, o ran y cynllun cerdyn llyfrgell, a fyddai hynny’n helpu. Rwy’n deall y byddai hefyd yn arwain at arbedion sylweddol i awdurdodau lleol.

Mae'r rhain yn faterion sy'n dal i gael eu hystyried gan y Gweinidog. Wrth gwrs, mae'n digwydd yn ddigidol eisoes, o ran benthyca digidol, lle mae llawer iawn o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y un adnodd canolog, ond mae'r gwaith yn dal i gael ei ystyried i weld a fyddai cerdyn llyfrgell Cymru gyfan i fenthyg yn ffisegol yn ymarferol. Mae'n debyg o safbwynt yr awdurdod lleol, y byddai’n poeni, pe bydden nhw’n drigolion dros dro, a ellid canfod y person hwnnw pe na byddai’r llyfr yn mynd i ddod yn ôl. Nid yw'r rhain yn broblemau anorchfygol, ond maen nhw’n sicr yn broblemau y gwn sy’n dal i gael eu hystyried o ran gweld a ydyn nhw’n dal i fod yn ymarferol.

Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel, a sefydlodd elusen er mwyn cymryd gweithrediad y llyfrgell ym Mae Cinmel drosodd ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fygwth ei chau? A ydych chi’n derbyn bod her i awdurdodau lleol gwledig yn arbennig o ran gallu cynnig mynediad digonol at wasanaethau llyfrgell dim ond oherwydd y gost ychwanegol y mae awdurdodau lleol gwledig yn ei hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? Pa gamau ydych chi’n eu cymryd fel Llywodraeth i edrych ar y fformiwla ariannu i wneud yn siŵr ei bod yn ddigonol i ddarparu adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol fel Conwy a Sir Ddinbych, er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau llyfrgell mewn cymunedau eraill a allai gael eu heffeithio yn yr un ffordd ag yr effeithiwyd ar Fae Cinmel, yn y dyfodol?

Wrth gwrs, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol wedi ei chytuno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; nid oes cynlluniau ar hyn o bryd, i gynnal adolygiad eang o'r fformiwla honno, oherwydd yn anochel, bydd rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled.

Brif Weinidog, er ein bod yn croesawu eich ailgadarnhâd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgelloedd, nid yw eich cefnogaeth yn fawr o gysur i'r cymunedau hynny y caewyd eu llyfrgelloedd o ganlyniad i doriadau llywodraeth leol. Rydym ni wedi gweld llawer o lyfrgelloedd yn cau eu drysau am byth, tra bod eraill yn ddyledus i dîm bychan o wirfoddolwyr ymroddedig am eu bodolaeth. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at lyfrgell leol dda?

Wel, rwy’n meddwl fy mod i wedi ateb y cwestiwn yna o ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i helpu 100 o lyfrgelloedd cymunedol. Bydd hi’n ymwybodol o ddwy lyfrgell newydd o leiaf sydd wedi agor yn yr ardal lle mae’r ddau ohonom ni’n byw—ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn y Pîl. Maen nhw’n gyfleusterau cymharol newydd sydd wedi agor yn y blynyddoedd diwethaf, y mae'r cymunedau lleol yn falch iawn ohonynt. Ceir enghreifftiau o lyfrgelloedd sydd wedi eu hailwampio neu eu hailadeiladu ar draws Cymru gyfan.

Yn dilyn ymlaen o hynny, Brif Weinidog, yn amlwg, mae'r cynghorau'n wynebu anawsterau oherwydd toriadau cyni cyllidol San Steffan yn cael eu trosglwyddo i lawr iddyn nhw; maen nhw’n edrych ar y gwasanaethau i’w darparu a llyfrgelloedd cymunedol yw un o'r ffyrdd y mae'n digwydd. Rydych chi, eich hun, wedi ymweld â llyfrgell Llansawel ac wedi gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan y gymuned yno—mae Tai-bach a'r Cymer yn debyg yn fy etholaeth i. Ond, maen nhw bob amser yn wynebu cyfnodau anodd pan eu bod yn dechrau fel llyfrgell gymunedol. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r grwpiau cymunedol hynny sy'n ceisio cymryd y llyfrgelloedd drosodd i gynnig gwasanaeth, yn enwedig, fel y nodwyd, yr elfennau TG, ar gyfer oedolion a phlant, sy'n hanfodol i'r cymunedau hynny?

Yn sicr, a byddem yn ceisio eu cyfeirio at eraill sydd wedi rhedeg llyfrgelloedd yn llwyddiannus, a helpu o ran gweithio gyda sefydliadau trydydd sector a'r cyngor y gallan nhw ei roi. Rydym ni wedi gweld llawer iawn o grwpiau—soniwyd am hyn ddwywaith yn y Siambr erbyn hyn—sydd wedi cymryd llyfrgelloedd drosodd, wedi cymryd ein cyngor ac sy’n gwneud y llyfrgelloedd hynny yn llwyddiant.

Gwasanaethau Bws o Aberystwyth i Gaerdydd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bws o Aberystwyth i Gaerdydd? OAQ(5)0149(FM)[W]

Ers i gwmni Lewis Coaches ddod i ben yn ddiweddar, rŷm ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau bws allweddol i orllewin Cymru yn ailddechrau cyn gynted â phosib.

Rwy’n ddiolchgar i glywed mai eich bwriad chi yw ail-weld y gwasanaeth bws yma. A gaf i ddweud—? Hyd yn oed yn ôl yn nyddiau Margaret Thatcher, roedd yna wasanaeth bws uniongyrchol o Gaerdydd i Aberystwyth, a bu hwnnw’n rhedeg yn ddi-dor tan yr haf hwn. Dyma’r tro cyntaf i ni golli’r gwasanaeth bws uniongyrchol yna—coets, hynny yw—a oedd mor ddeniadol i bensiynwyr a myfyrwyr. Dyna’r brif bobl a oedd yn ei ddefnyddio fe, yn bendant. Rwyf eisoes wedi clywed am bobl sydd wedi gorfod bwrw noswaith yng Nghaerfyrddin achos eu bod nhw wedi cyrraedd ar y trên yn rhy hwyr i gael y bws cyswllt nôl i Aberystwyth. Felly, pan rŷch chi’n dweud eich bod chi am weld y gwasanaeth yma’n ailgychwyn, a wnewch chi ddweud pryd, ac ym mha ffordd mae’r Llywodraeth yn mynd i ddiogelu bod hyn yn digwydd?

Rydym ni’n erfyn i’r gwasanaeth ailddechrau o fewn wythnosau. Rwy’n cofio bws yr hen TrawsCambria yn y 1980au ac wedi bod arno fe sawl gwaith, ond mae yna gwestiwn hirdymor fan hyn. Bydd y Cynulliad hwn yn cael y pŵer dros fysiau yn 2018. Mae e wedi bod fan hyn ers amser, a finnau, ac wedi gweld sawl cwmni yn stopio ac felly gwasanaeth yn cael ei golli. Wel, nid yw hynny’n rhywbeth cynaliadwy. Bydd yn rhaid ailystyried y strwythur bysiau ar ôl 2018 er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Mae’n gwybod beth ddigwyddodd gydag Arriva, wrth gwrs, yng Ngheredigion wrth i’r gwasanaethau fynd. Iawn, cafodd y gwasanaethau eu cymryd drosodd gan gwmnïau eraill, ond allwn ni ddim parhau gyda system sydd yn gweld gwasanaethau yn stopio achos y ffaith bod cwmni bysiau ddim yn rhedeg rhagor. Mae’n rhaid cael system fwy cynaliadwy na hynny a bydd yna gyfle i wneud hynny o fewn dwy flynedd.

Mae'r cynllun gweithredu pum pwynt ar wasanaethau bws lleol a gyhoeddwyd gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf i’w groesawu’n fawr iawn. Mae grantiau cymorth i wasanaeth bws wedi cael eu torri eisoes. A allwch chi sicrhau y bydd lefel presennol y cyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol, fel yr amlinellwyd yr wythnos diwethaf, ac unrhyw—. Mae'n ddrwg gennyf. A allwch chi sicrhau’r lefel presennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol ac amlinellu’n union pa gyllid ychwanegol fydd ar gael i gyflawni cynllun pum pwynt Llywodraeth Cymru?

Rydym ni’n ystyried, yn rhan o broses y gyllideb, beth sy'n briodol o ran y grant cymorth i wasanaethau bws. Yr hyn sy'n eglur, fodd bynnag, yn yr ateb a roddais yn gynharach—. Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn ers 17 mlynedd. Mae cwmnïau bysiau wedi mynd i’r wal lawer, lawer gwaith a bu’n rhaid cael gwasanaethau eraill yn eu lle. Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn a yw honno’n system gynaliadwy, i fod â chwmnïau bysiau nad yw’n ymddangos ei bod yn gallu llwyddo—nid pob un; mae rhai’n gwneud yn dda, wrth gwrs—a’r bwlch dilynol y mae hynny’n ei adael, waeth pa mor dros dro, ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau hynny. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o wasanaethau ledled Cymru sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat, ond na allant weithredu heb gymhorthdal ​​cyhoeddus. I mi, nid dyna oedd bwriad ei blaid ef pan gafodd bysiau eu preifateiddio. Roedden nhw i fod i gystadlu â'i gilydd. Ychydig iawn o rannau o Gymru sydd ag unrhyw fath o gystadleuaeth. Mae'n dueddol o fod yn un cwmni yn gweithredu'r gwasanaeth o dan gymhorthdal ​​cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni ystyried pa mor effeithiol yw hynny yn y dyfodol. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn effeithiol, ac mae rhai ohonyn nhw yn amlwg nad ydynt wedi bod yn effeithiol. Ond, ar ôl 2018, bydd cyfle i ailasesu sut y darperir gwasanaethau bws ar draws y wlad gyfan.

Yn dilyn ymlaen o’r drafodaeth hon ar wasanaethau bws mewn ardal benodol, rwy’n deall y bu asesiad rhagarweiniol o ailgyflwyno rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. A all y Prif Weinidog ein hysbysu am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i gynnal astudiaeth ddichonoldeb lawn ac, os felly, pryd?

Rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i, mewn egwyddor, ac eraill; Rwy’n gwybod hynny. Diflannodd rheilffordd Caerfyrddin-Aberystwyth fel rheilffordd i deithwyr ym 1964. Roedd yn dal yno, ar y cyfan, tan 1975. Rwy’n cofio trenau yn dod trwy orsaf Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl dod i lawr o Aberaeron a Chastellnewydd Emlyn ar y gangen, yn cludo llaeth yn y dyddiau hynny. Mewn gweithred o wiriondeb llwyr, codwyd y rheilffordd yn gyflym iawn iawn. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n peri problem. Mae rhan ohoni wedi ei hailgyflwyno gan reilffordd Gwili.

Rydym ni’n credu bod rhan sylweddol o'r ffordd barhaol yn dal yn gyfan, mai prin iawn yw’r bylchau yno, mewn gwirionedd. Mae llawer o bontydd yno o hyd; mae un neu ddwy ar goll. Felly, mae’r asesiad hwnnw wedi ei wneud, ond mae hefyd yn wir i ddweud y bydd angen cael asesiad o gost budd ailgyflwyno’r trac. Mae'n gost sylweddol, yn rhedeg i'r biliynau, a bydd angen gwneud y gwaith hwnnw yn ofalus o ran gweld a oes modd ailgyflwyno’r rheilffordd honno. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Rydym ni wedi ei weld yn cael ei wneud mewn mannau eraill yn y DU. Rydym ni’n gwybod bod yr Alban wedi ei wneud gyda rheilffordd Waverley, ond, cyn belled ag y mae’r rheilffordd hon yn y cwestiwn, bydd y gwaith yn parhau fel bod gennym ni ddealltwriaeth dda o'r gost, yr ymarferoldeb a'r amserlen.

TB Buchol yng Nghymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau TB buchol yng Nghymru? OAQ(5)0151(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni’n gweld tuedd ostyngol o ran achosion TB newydd. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hysbyswyd am 740 o ddigwyddiadau buchesi newydd yng Nghymru, o'i gymharu ag 884 y flwyddyn cynt. Mae hynny’n ostyngiad o 16 y cant.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fodd bynnag, bu cynnydd sydyn o 43 y cant i nifer y gwartheg a laddwyd o ganlyniad i ddal TB buchol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddod â llawer o ddiflastod a chaledi ariannol i'n ffermwyr. Rwy’n deall fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i’w rhaglen brechlyn ei hun ym mis Rhagfyr, o ystyried y lefelau TB dynol a phrinder y brechlyn sydd ar gael nawr. Mae UAC wedi pwysleisio’r gwahaniaeth yn yr ymagwedd a’r ddealltwriaeth rhwng eich Llywodraeth chi a pholisïau a roddwyd ar waith yn Lloegr, a gallai trafodaethau masnach ryngwladol ar gyfer Cymru gael eu rhoi mewn perygl sylweddol heb ddull rhagweithiol o reoli ffynhonnell yr haint mewn gwartheg a bywyd gwyllt. O ystyried yr hyn y gellir ond ei ddisgrifio bellach fel argyfwng ym myd ffermio, o ran TB buchol, pa gamau uniongyrchol ydych chi’n eu cymryd i ddatrys hyn? A wnewch chi, fel Prif Weinidog, wneud datganiad yn y Siambr hon i Aelodau'r Cynulliad, a hefyd i'n ffermwyr pryderus iawn allan yna yng Nghymru?

Mater i'r Gweinidog fyddai gwneud y datganiad hwnnw, a bydd hi’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Cynulliad. Ond, fel y dywedais, mae nifer y methiannau wedi gostwng. Cynhelir mwy o brofion. Rydym ni’n gwybod nad oes unrhyw anawsterau o ran masnach ryngwladol, cyn belled ag y mae TB buchol yn y cwestiwn. Yn wir, mae'r rhaglen ddileu, y mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol amdani ar y cyd, wedi cael £31 miliwn o arian Ewropeaidd. Dyna ni; gadewch i ni weld a fydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw anhawster o ran yr ymagwedd yr ydym ni wedi ei chymryd. Nid oes unrhyw wlad, na’r Undeb Ewropeaidd yn wir, erioed wedi dweud eu bod yn cael anhawster â'r ymagwedd a gymerwyd i leihau achosion o TB yng Nghymru.

A gaf i ofyn, gan fod y Llywodraeth, wrth gwrs, yn adolygu ei strategaeth ar hyn o bryd, pa wersi rydych chi wedi’u dysgu o wledydd eraill, yn enwedig, efallai, y profiadau maen nhw wedi’u cael yn Lloegr, lle maen nhw wedi mabwysiadu ‘approach’ gwahanol, ac efallai yng Ngweriniaeth Iwerddon?

Un o’r pethau rwy’n ei wybod am Loegr—rwy’n cofio yn ystod y treialon Krebs, gydag un o’r treialon fe aeth pethau’n waeth, o achos y ffaith eu bod nhw’n difa moch daear o’r canol mas. Wrth gwrs, beth oedd yn digwydd oedd bod y moch daear yn symud mas, a wedyn roedd y clwy yn lledu o achos hynny. Rwy’n gwybod bod yna dueddiad gyda rhai i feddwl bod yna ateb rhwydd i TB—os rŷch chi’n cael gwared ar moch daear felly nid oes dim problem gyda chi. Mae hi’n fwy cymhleth na hynny. Rwy’n cofio eistedd ar y pwyllgor a chlywed y dystiolaeth, a oedd yn dangos ei bod hi’n llawer mwy cymhleth a bod dim un ateb. Ond, wrth ddweud hynny, rydym wedi gweld lleihad, sydd i’w groesawu, wrth gwrs, yn nifer yr anifeiliaid sydd wedi cael eu profi gyda TB, ac mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n moyn gweld yn parhau yn y pen draw.

Datganoli Trethi

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli trethi? OAQ(5)0150(FM)

Gwnaf. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni trethi datganoledig Cymru, a threfniadau casglu a rheoli. O fis Ebrill 2018, byddwn yn gallu gwneud hynny, ond bydd hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar gytuno fframwaith cyllidol i Gymru, sy'n eithriadol o bwysig.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cefnogi'r fframwaith cyllidol. Roeddwn i’n falch o fod yn bresennol yng nghyfarfod yr Ysgrifennydd cyllid gyda phrif weithredwr newydd Awdurdod Refeniw Cymru ddydd Iau diwethaf i drafod y broses o benodi cadeirydd i'r sefydliad newydd. Mae hon yn amlwg yn mynd i fod yn un o'r swyddi newydd pwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Bydd datganoli treth yn llwyddo, Brif Weinidog, dim ond os bydd gan y cyhoedd ffydd ynddo. Yn amlwg, ar hyn o bryd, ychydig iawn o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol ei fod yn digwydd. Sut ydych chi’n sicrhau ein bod ni’n cael ymgeiswyr o’r ansawdd cywir a’r safon gywir i ymgeisio am y swydd newydd hon yn Awdurdod Refeniw Cymru? Sut mae eich Llywodraeth Cymru yn hysbysebu’r holl ddatganoli trethi fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol, pan fydd yn dechrau digwydd yn 2018, o'r hyn sy'n digwydd gyda'u biliau treth?

Bydd cynllun cyfathrebu, fel bob amser. Fe wnaethom ni hyn, wrth gwrs, gyda'r Ddeddf trawsblannu dynol—a gwelsom effeithiau hynny—lle’r oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth ac yn ymwybodol o'i chynnwys. Bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn hynod bwysig, wrth gwrs, o ran gallu casglu treth sy'n deg, yn gadarn ac, yn anad dim, y gellir ei chasglu ac na ellir ei hosgoi yn hawdd iawn. Rydym ni’n deall yr angen i wneud hynny. Felly, nid wyf yn ei chael yn anodd o gwbl credu y bydd gennym ni ymgeiswyr o ansawdd digonol i ddewis cadeirydd yr awdurdod o’u plith.

Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn hollbwysig, wrth ddatganoli unrhyw drethi, i Gymru beidio â dioddef unrhyw niwed o ddatganoli’r trethi hynny? A wnewch chi bwyso am gymrodeddu annibynnol i ddatrys anghydfodau gyda'r Trysorlys? Nid wyf yn dymuno swnio'n besimistaidd, ond mae gennyf deimlad y bydd gennym ni ambell i achos o anghydfod gyda'r Trysorlys. Ac os bydd y Trysorlys yn gweithredu fel barnwr a rheithgor yn yr achosion hynny, rydym ni’n debygol o fod ar ein colled. Felly, os bydd unrhyw anghydfod, mae angen rhyw fath o gymrodeddu teg arnom.

Rwy’n cytuno’n llwyr. Un peth y gallaf ei ddweud wrtho yw bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwybod ac yn deall y bydd unrhyw gefnogaeth i Fil Cymru yn dibynnu ar gael fframwaith cyllidol ar waith. Nid oes diben cael hynny ac yna cael y fframwaith cyllidol. Rhoddwyd y cwrteisi hwnnw i’r Alban. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Cymru gael yr un lefel o gwrteisi. Ac mae’n iawn, wrth gwrs: ar hyn o bryd, mae'r broses o ddatrys anghydfod o fewn Cydbwyllgor y Gweinidogion yn golygu, os oes anghydfod gyda'r Trysorlys, yna mae’r anghydfod yn parhau tan iddo gael ei benderfynu gan y Trysorlys yn y pen draw. Felly, nid oes unrhyw drydydd parti yn rhan o’r broses. Cyflwynais ddadleuon ar y pryd y dylid cael panel annibynnol o gymrodeddwyr. Nid yw hynny'n rhywbeth yr oedd Llywodraeth y DU ar y pryd yn fodlon ei dderbyn. Ceir modelau mewn mannau eraill, wrth gwrs. Yn Awstralia, ceir comisiwn grantiau sy'n gweithredu’n annibynnol er mwyn cymrodeddu rhwng gwladwriaethau a rhwng gwladwriaethau a’r Llywodraeth ffederal. Nid oes unrhyw reswm pam na all hynny ddigwydd yma. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y Trysorlys yn deall na all fod yn farnwr a rheithgor ar bopeth.

Brif Weinidog, mae gen i ateb i chi o ran cyfathrebu’r pwerau codi trethi yr ydych chi’n mynd i fod yn eu cael. Nawr, nid oes gan y mwyafrif llethol o bobl, os ydym ni’n onest, ddim syniad bod hyn ar ei ffordd tuag atyn nhw. Mae ffordd i chi roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, a hefyd i chi allu cael y cyfathrebu—ddwy ffordd—gyda'r cyhoedd, sef rhoi refferendwm iddyn nhw. Peidiwch â rhoi’r bai ar gostau a phethau felly, y gwn eich bod yn ei wneud fel arfer. A ydych chi’n ymddiried ym mhobl Cymru, ac a wnewch chi gael y drafodaeth honno gyda nhw, ac a wnewch chi ganiatáu iddyn nhw leisio eu barn? [Torri ar draws.] Mae'n athrylith, diolch.

Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am ei gyngor. Ni fydd yn syndod iddo nad wyf yn derbyn ei gyngor y byddai refferendwm a fyddai'n costio £4 miliwn o gymorth arbennig, o gofio’r ffaith bod pleidiau gwleidyddol wedi esbonio eu safbwyntiau i bobl Cymru yn eu maniffestos yn yr etholiad ym mis Mai. Gwnaeth pobl Cymru benderfyniad o ran yr hyn yr oedden nhw eisiau ei wneud. Mae hwn yn fater i wneud penderfynu priodol arno mewn etholiad, a mynegodd pobl Cymru eu barn.

Lleihau Achosion o Ordewdra Mewn Plant

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y mesurau a ddefnyddir i leihau achosion o ordewdra mewn plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0152(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth, polisïau ac ystod o ymyraethau i wella deiet a chynyddu gweithgarwch corfforol. Ond, wrth gwrs, ni all hyn gael ei wneud gan y Llywodraeth yn unig. Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n mynd i'r afael ag ef gydag amrywiaeth eang o sefydliadau.

Diolch. Rwyf wedi cwrdd â’r cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus dros fwrdd iechyd Hywel Dda yn ddiweddar. Mae hi wedi cadarnhau bod arolwg diweddar wedi dangos bod 28 y cant o blant hyd at bedair oed dros bwysau; 28 y cant—mae hwnnw’n ffigur anhygoel. Mae adroddiad arall yn ddiweddar wedi dangos bod tri chwarter o blant ym Mhrydain yn cael llai o amser y tu fas yn yr awyr iach na phobl yn ein carchardai. A ydych yn cytuno y byddai’n werth chweil cyflwyno mecanwaith i fonitro pwysau plant wrth iddyn nhw fynd drwy’r ysgol, a hefyd i fonitro eu gweithgaredd corfforol, fel yr awgrymodd Tanni Grey-Thompson yr wythnos diwethaf?

Wel, mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n rhan o adolygiad Donaldson—sef dweud mai pwrpas addysg yw sicrhau bod plant yn iach ac yn hyderus—a bydd yn rhan o’r gwaith sy’n symud ymlaen ynglŷn â’r cwricwlwm newydd. Bydd iechyd a hefyd gweithgareddau corfforol yn ganolog i strwythur y cwricwlwm newydd. Ar hyn o bryd, mae 96 y cant o ysgolion yn gweithredu Dragon Sport, er mwyn sicrhau bod plant rhwng saith ac 11 yn gwneud chwaraeon, ac mae yna weithwyr ym mhob ysgol i hybu iechyd, sef pob ysgol sy’n rhan o’r rhwydwaith o gynlluniau ysgolion iach, ac maen nhw’n cefnogi ffyrdd newydd o sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Felly, mae gwaith wedi cael ei wneud, ond mae’n hollbwysig bod iechyd ac addysg gorfforol yn ganolog, fel y dywedais, i’r dyfodol. Bydd hwn yn rhan o’r cwricwlwm newydd.

Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OAQ(5)0143(FM)].

Llwybrau Beicio a Rennir

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio llwybrau beicio a rennir yng Nghymru? OAQ(5)0142(FM)

Mae’r canllawiau dylunio teithio llesol yn nodi’r meini prawf a’r safonau ar gyfer eu defnyddio.

Diolch am yr ateb hynny. Efallai y byddai o ddiddordeb i’r Prif Weinidog wybod, pan oeddwn i allan yn rhedeg yng Nghastell-nedd yn weddol ddiweddar, gwnes i bron â chael fy ngwthio i mewn i’r gamlas gan feic a oedd yn mynd yn rhy glou ar hyd yr un trac ag yr oeddwn i’n rhedeg arno, ac felly, y cwestiwn yw: gan fod yna rannu rhwng beicio a phobl sy’n cerdded, rwyf wedi cael pobl yn ardal y Mwmbwls, sy’n mynd yno’n aml, lle mae yna feicwyr nad ydyn nhw’n cymryd i mewn i ystyriaeth y bobl hynny sydd yn cerdded—rwyt ti’n gwybod, mae yna lot o bobl yno ddydd Sul, er enghraifft—. Sut maen nhw wedyn yn gallu bod yn sensitif i’r hyn sydd yn digwydd yna o’u cwmpas nhw, yn hytrach na cheisio mynd mor glou ag y bydden nhw yn mynd ar ben mynydd, hynny yw? Beth ydych chi’n gallu ei wneud o ran addysg i sicrhau bod pawb yn gallu byw yn yr un fath o amgylchfyd?

Wel, mae yna ddyletswydd ar feicwyr i sicrhau nad ydyn nhw’n teithio’n rhy gyflym lle bydden nhw’n bwrw rhywun. Wel, wrth gwrs, wedi hynny, byddai bai arnyn nhw. Un o’r pethau sydd yn digwydd yn y Mwmbwls—ac rwy’n nabod y llwybr yn dda dros ben, wedi bod yna ar y beic sawl gwaith—yw’r ffaith bod pobl yn cerdded ar lwybr y beiciau. Nawr, wrth gwrs, nid ydyn nhw’n sylweddoli hynny, so un o’r pethau rwy’n credu y bydd rhaid ei wneud yn y pen draw yw sicrhau, lle mae yna lwybr i feiciau a llwybr i gerddwyr, efallai eu bod nhw’n wahanol liwiau, so mae pobl yn deall ble maen nhw i fod i gerdded a ble maen nhw i fod i feicio. Ond nid yw hynny’n cymryd y ddyletswydd o feicwyr i sicrhau eu bod nhw’n reidio eu beiciau mewn ffordd sydd yn gyfrifol ac sydd ddim yn beryglus i bobl eraill.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, rwyf wedi ychwanegu un peth at yr agenda heddiw. Yn fuan, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am y rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021'. Rwyf hefyd wedi diwygio teitlau’r datganiadau llafar heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i'w hateb gan Gomisiwn y Cynulliad yfory, felly mae’r amserau wedi eu haddasu’n briodol. Ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yng nghyhoeddiad y datganiad busnes sydd ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i godi dau fater gyda chi, a gofyn, yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros seilwaith, yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â chau’r A48 tua’r dwyrain y tu allan i Gaerfyrddin? Rwyf ar ddeall bod y ffordd eisoes wedi’i chau ac y bydd y gwaith yn parhau am chwe wythnos, rhwng Caerfyrddin a Nant-y-caws. Rwyf eisoes wedi cael adborth am oedi, oedi difrifol, yn ardal Caerfyrddin. Ac, wrth gwrs, nid mater lleol yn unig yw hwn; dyma’r prif gyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon a rhwng Cymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, a gaiff ei ddefnyddio yn helaeth gan gerbydau nwyddau, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi teithio ar y ffordd. Mae dargyfeirio’r holl draffig ar hyd yr hen ffordd, fel petai, drwy Langynnwr, eisoes yn achosi pryderon ac, yn bwysicach yn y cyd-destun hwnnw, yn achosi oedi hir.

Hoffwn i, yn benodol, gael datganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ei gorau i liniaru’r oedi hwn, ac ar y berthynas sydd gennym â chontractwyr pan—rwy’n deall bod y gwaith yn hanfodol—mae cyfnodau mor hir yn cael eu caniatáu ar gyfer gwneud y gwaith, ac a ydym yn rhoi digon o bwysau a gofynion ar rai cwmnïau i gyflawni’r gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd, yn hytrach na llusgo’u traed. Bydd yn cael effaith wael yn economaidd ar y gorllewin os na chaiff hyn ei ddatrys yn fuan. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ni o leiaf gael datganiad ysgrifenedig ynghylch hynny yn fuan.

Yr ail fater yr hoffwn i ofyn yn ei gylch yw hwn: beth yw'r weithdrefn–rwy’n credu y gall y Prif Weinidog helpu yn hyn o beth, trwy ddatganiad neu eglurhad–o ran datganiadau gan Weinidogion y Cabinet ar bolisi Llywodraethol heb fod yn y Siambr hon? Nodaf fod yr Ysgrifennydd dros addysg wedi mynd i gynhadledd ei phlaid, sy’n wahanol i gynhadledd plaid y Llywodraeth, wrth gwrs, a gwneud sawl cyhoeddiad am addysg–dyblu’r grant amddifadedd disgyblion, gwaharddiad ar ysgolion gramadeg yng Nghymru–ac eto, wrth imi edrych ar y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd heddiw, ni welaf sôn am yr ymrwymiadau hynny o gwbl. Mae rhai sylwadau amwys ynglŷn â rhai ohonynt, ond nid oes sôn am yr ymrwymiadau hyn, felly rwy'n gofyn y cwestiwn, ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn gwneud yr un fath: a yw’r Gweinidog Cabinet sy’n mynd i gynhadledd ei phlaid ac yn gwneud datganiad, yn cyflwyno ymrwymiad polisi gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, neu ddim ond yn mynegi gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol, yr ydym wedi cael llawer ohonynt yn wir dros y diwrnodau diwethaf? Byddai'n dda cael gwybod gan y Prif Weinidog a yw'r rhain, mewn gwirionedd, yn bolisïau sydd wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth a’r Cabinet, ac a oedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwybod bod yr Ysgrifennydd dros addysg yn mynd i wneud ymrwymiadau o'r fath ar ran Llywodraeth Cymru yn gyhoeddus.

Diolch yn fawr, Simon Thomas, am eich cwestiynau. Mae’r cwestiwn cyntaf yn bwynt pwysig iawn. Wrth gwrs, byddwch chi’n ymwybodol, rwy'n siŵr, fod pibell nwy yn gollwng a bod angen gwneud gwaith hanfodol arni. Wrth gwrs, o ran ymdrin â hynny, a'r effaith ar fusnesau, y cyhoedd, a’r daith i'r ysgol a’r gwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, seilwaith a sgiliau wedi rhoi ystyriaeth i’r holl faterion hynny. Byddwn yn amlwg yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith hynny, o ran gwyriadau ac ymdrin â’r sefyllfa, a byddwn yn sicr yn adrodd yn ôl, ac yn ateb cwestiynau, rwy'n siŵr, ar yr effaith wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen.

Mae eich ail bwynt yn bwynt diddorol, oherwydd, wrth gwrs, rwy’n cofio’n dda yr amser pan oeddem mewn clymblaid gyda'n gilydd, pan gafodd yr un fath o ddatganiadau a threfniadau eu gwneud. Ond byddwn i hefyd yn dweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi bod yn glir iawn, fel yr oeddem, ac yn wir, chithau hefyd rwy’n credu, yn y pedwerydd Cynulliad, am ein cefnogaeth, nid yn unig i’r grant amddifadedd disgyblion, ond hefyd i’r blynyddoedd cynnar.

A gaf i ofyn am ddatganiad ar gasglu data cyfrifiad ar gyfer cyfrifiad 2021? Pa fewnbwn sydd gan naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu Lywodraeth Cymru i ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is? Caiff y data hyn, fel y gwyddoch, eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i dargedu rhaglenni gwrthdlodi. Gall y gymysgedd a grëir arwain–fel sydd wedi digwydd yn fy etholaeth i–at sefyllfa lle mae rhai o'r ardaloedd tlotaf ar eu colled oherwydd eu bod wedi eu huno, rai ohonynt, ag ardaloedd cefnog, a’r data felly yn rhoi cyfartaledd eithaf uchel, er bod yna ardaloedd sy’n dioddef amddifadedd eithafol. Beth y gellir ei wneud i geisio trefnu’r cyfrifiad i greu ardaloedd casglu data mwy unffurf er mwyn ceisio atal hynny rhag digwydd?

Wel, mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, a gwn y bydd yn ymwybodol mai cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw dylunio’r ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hynny. Mae'n rhan o'i gwaith o reoli cyfrifiad Cymru a Lloegr, ond rydym ni’n cyfrannu at lywodraethu’r cyfrifiad hwnnw. Mae gennym berthynas waith agos, wrth gwrs, â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rydym yn ymgynghori’n rheolaidd â nhw. Mae angen inni edrych ar sut i reoli'r effaith pan fydd newid penodol yn y boblogaeth sy'n effeithio ar faint yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hynny. Ond, wrth gwrs, fel y dywedodd Mike Hedges, mae hyn yn rhywbeth lle gellir tynnu sylw ato hefyd trwy ymgynghori gan Aelodau'r Cynulliad.

Diolch. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn gyntaf ar gymhwyso lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer darparwyr tai â chymorth? Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Waith a Phensiynau fod Llywodraeth y DU yn gohirio cymhwysiad cyfraddau lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer tai â chymorth tan 2019-20. Byddai wedyn yn cyflwyno model cyllido newydd lle byddai costau uwchben lefel y cyfraddau lwfans tai lleol yn Lloegr yn cael cyllid wedi’i ddatganoli i lywodraeth leol i’w ddyrannu’n lleol. Ond cyhoeddwyd y byddai swm cyfatebol yn cael ei ddarparu i Gymru a'r Alban, a phenderfyniad y gweinyddiaethau hynny, meddai, fyddai sut orau i ddyrannu’r cyllid. Ar ôl siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol darparwr Cefnogi Pobl mawr yn y gogledd ddydd Gwener diwethaf lle holwyd am hyn—ac, yn amlwg iawn, mynegwyd pryder y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ac egluro ei safbwynt ar hyn dros y misoedd nesaf—byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Cynulliad gael datganiad yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i hynny.

Yn ail ac yn olaf, rwy'n ddiolchgar am ddatganiad ar ddarparu nyrsys i blant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd. Mae'r elusen Together for Short Lives wedi lansio ymgyrch newydd, You Can Be That Nurse, i annog rhagor o nyrsys i weithio gyda phlant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd. Maent yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n dangos bod prinder nyrsys cymwysedig yn darparu gofal lliniarol i blant yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys hosbisau plant. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar blant sydd â chyflyrau sy'n byrhau bywyd, nid yn unig ledled y DU, ond yng Nghymru hefyd. Maent yn dweud eu bod, fel rhan o'r ymgyrch, yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chynllunwyr y gweithlu gofal iechyd i gymryd camau i ddod â'r gyfradd gyfartalog o swyddi gwag nyrsio mewn sefydliadau gofal lliniarol i blant yn y sector gwirfoddol i lai na 10 y cant ac yn nes at y gyfradd swyddi gwag am nyrsys GIG yn y DU. Unwaith eto, mae galw ar Lywodraeth Cymru, sy'n haeddu ymateb gan Lywodraeth Cymru, a byddem yn croesawu datganiad priodol.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwbl ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â chymhwyso lwfans tai lleol ac mae’n cymryd rhan mewn trafodaethau, ac mae'n ddefnyddiol cael adborth, wrth gwrs, ar yr effeithiau hynny ar lefel ranbarthol i’r bobl gysylltiedig, ond mae’n amlwg yn ymateb i'r rheini. O ran eich ail bwynt, unwaith eto, mae'n gyfle i dynnu sylw at Together for Short Lives, yr ymgyrch y gwnaethoch chi sôn amdani. Wrth gwrs, mae nyrsys yn hanfodol i'n GIG, ac rydym ni wedi cynyddu nifer y nyrsys yn y gwasanaeth. Ond hefyd, mae'n ymwneud â chymysgedd effeithiol o sgiliau a gwneud yn siŵr bod gennym y nyrsys profiadol iawn hynny er mwyn sicrhau y gallwn ddiwallu’r anghenion y gwnaethoch chi eu disgrifio.

Arweinydd y tŷ, roedd hi’n dda ymuno â chi a llawer o ACau Llafur eraill y tu allan i'r Senedd yr wythnos ddiwethaf i gefnogi menywod o bob rhan o Gymru sy'n protestio yn erbyn y newidiadau annheg i drefniadau pensiwn menywod sydd, yn syml, wedi eu gwthio arnom gan Lywodraeth y DU. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hasesiad o’r effaith y mae’r newidiadau hyn wedi eu cael, oherwydd bydd gorfodi menywod i weithio'n hirach yn sicr yn cael ôl-effaith ddifrifol ar ein polisïau economaidd a chyflogaeth yma yng Nghymru?

Hoffwn i ddiolch i Vikki Howells am sicrhau bod yna bresenoldeb cryf iawn, yn sicr gan gydweithwyr yma. Roedd Huw Irranca-Davies, rwy’n credu, ac Aelodau Cynulliad eraill o’r blaid Lafur yno, yn ogystal ag ASau, gan nad yw hyn wedi ei ddatganoli. Roedd yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu ac rwy'n falch iawn o waith yr ymgyrch. Ac, wrth gwrs, yn y pedwerydd Cynulliad, ysgrifennodd y cyn- Weinidog, Lesley Griffiths, at y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ym mis Chwefror eleni yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru am effaith Deddfau Pensiynau 1995 a 2011, ac yn galw am drefniadau pontio gwell i’r menywod hynny y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt. Wrth gwrs, tynnwyd sylw at hyn unwaith eto gan y diwrnod cenedlaethol hwnnw o weithredu, a byddwn ni’n parhau i godi’r pryderon hynny.

3. 3. Datganiad: Y Rhaglen Lywodraethu—‘Symud Cymru Ymlaen’

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen lywodraethu, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser i ddatgan cyhoeddiad ‘Symud Cymru Ymlaen’, sef ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’n rhaglen sydd yn uchelgeisiol, yn strategol, a hefyd yn glir, ond hefyd mae’n un sy’n canolbwyntio ar weithredu a sicrhau gwelliannau real ym mywydau pobl Cymru. Mae’r ddogfen ei hunan yn glir, yn gryno, ac rwyf yn moyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu pigo lan y ddogfen ei hunan a deall yn gwmws beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud iddyn nhw dros dymor y Cynulliad hwn.

As a Government, we want a stronger, fairer economy, improved and reformed public services, and a united, connected, and sustainable Wales, and ‘Taking Wales Forward’ sets out how we will approach the task of delivering those aims. Members will see that while it focuses on the main pledges in the Welsh Labour manifesto, it also includes the key elements of the agreement with the Liberal Democrats, under which Kirsty Williams became Cabinet Secretary for Education, and also the priority areas agreed with Plaid Cymru before the summer recess. Members will also see that it is a very different document to the one we published five years ago. I have been clear since being appointed First Minister that this Government will work differently from others. We want to work creatively with all partners across Wales to find solutions to the challenges that we acknowledge face us.

The commitments set out in ‘Taking Wales Forward’ are our headline commitments. However, we know that these alone will not deliver our ambitions for our country. We also know that how we deliver things is just as important as what we deliver—that programmes viewed in isolation can have their impact reduced, or even create problems elsewhere. That’s why our agenda for this Government will not become fixed with the publication of ‘Taking Wales Forward’, and today marks a beginning of a phase where we will consider in greater detail how we can work together and change services to deliver our priorities.

The four areas set out today will form the basis for our well-being objectives. The development of four cross-cutting and intertwined strategies will allow us to consider how we can use the levers available to us to have the greatest impact. So, ‘Taking Wales Forward’ embodies our commitment to be an open and inclusive Government, taking a what-works approach in pursuit of our shared national goals, and working with the people best equipped to make a difference in Wales.

Of course, since the Assembly elections, we’ve had the UK’s vote to leave the European Union—the full implications of which are still far from clear, not least in terms of public finances. As a Government, we felt it was prudent and responsible to take the summer recess to look again at financial projections relating to our planned programmes. But, we won’t let these uncertainties dictate the terms of this Government. Today, I can confirm, Llywydd, we are pressing ahead with our commitments in full. These were the policies the people of Wales voted for, and these are the policies that we will deliver. Yes, there are difficult decisions ahead, and we will need to be innovative in our delivery, but we will stand by the pledges that we made.

Securing Wales’s national interests in the long and complex EU negotiations ahead will, of course, be a key priority for us, and I am confident that we have the right team in place to deliver the strong national leadership required. But be in no doubt, this is also a Government that is already delivering, and will continue to deliver our domestic agenda too—the bread-and-butter issues that matter most to people in their lives every day.

Llywydd, we want a Wales that is prosperous and secure. So, we will deliver a tax cut for 70,000 businesses, create a Wales development bank, implement the most generous childcare offer of anywhere in the UK, create a minimum of 100,000 high-quality, all-age apprenticeships, and deliver an extra 20,000 affordable homes, some through our continuing and successful Help to Buy scheme.

We want a Wales that is healthy and active. So, we will recruit and train more GPs, nurses and health professionals, double the capital people can keep when entering residential care, introduce a new treatment fund to give people fast access to innovative drugs, invest to reduce waiting times, and make sure schools are giving children an active start in life.

We want a Wales that is ambitious and learning. So, we will invest an additional £100 million to drive up school standards, introduce a new curriculum to give us the skills we need, promote teaching excellence, extend the pupil deprivation grant, and ensure a generous and comprehensive system to support Welsh students.

Llywydd, we want a Wales that is united and connected. So, we will deliver an M4 relief road, improvements to the A55, the A40, and other key routes, a metro system in both the south and the north of our country, and fast, reliable broadband for every property in Wales. We will work towards 1 million Welsh speakers by 2050 and push ahead with the local government reform that works with councils to deliver the best services for everyone, no matter where they live in Wales.

Llywydd, these are just a few of our key priorities in ‘Taking Wales Forward’, and of course our priorities are to improve the well-being of everyone. In that spirit, all of these will be shaped and developed according to the guiding principles of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, considering how each of our actions can have the maximum impact across the range of things that matter most to the people of Wales.

Prosperous and secure, healthy and active, ambitious and learning, united and connected—these are the areas where we can have the greatest impact, and can contribute to all of the national goals. This is not just an agenda for us as a Government, but for the whole public sector to get behind and deliver.

Llywydd, this programme for government gives us what we need to tackle the major challenges that lie ahead, and to make the tangible difference to people’s lives that they want to see. It enables us to approach the next five years with confidence, energy and clarity. We’ve set the ambition, and we have set out what we will do to achieve it, and now we will get on and deliver.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am y datganiad heddiw, ac am ddadlennu eich rhaglen lywodraethu y bu disgwyl mawr amdani.

Rydych chi wedi datgan mai ar wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru y bydd pwyslais di-baid y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad nesaf. Onid yw’n wir mai dyna oedd pwyslais y Llywodraeth ar gyfer y 17 mlynedd ddiwethaf? Wrth gwrs, nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw blaid yn y Siambr hon yn anghytuno ag amcanion o'r fath, nac, yn wir, â llawer o'r dyheadau eraill a amlinellir yn y rhaglen lywodraethu. Mae llawer o bethau yn hwn na allai neb anghytuno ag ef. Mae'n rhestr o ddymuniadau mewn sawl ffordd. Mae'n rhestr o ystrydebau. Pwy na fyddai am alluogi pobl Cymru i fyw bywydau iach a chyflawn, neu iddynt fyw mewn gwlad fwy ffyniannus, iach ac unedig, neu i adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, mwy cyfartal, â gwell sgiliau ac yn fwy cydnerth? Y cwestiwn yw: ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, pam nad ydym ni’n ffyniannus, yn iach, yn gyfartal neu hyd yn oed yn unedig eto? Ydych chi erioed wedi adolygu llwyddiant y rhaglenni llywodraethu blaenorol?

Mae pum mlynedd allweddol o'n blaenau ar gyfer Cymru, gallwn gytuno ar hynny, ac rwy'n awyddus i wybod sut y bydd eich Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r heriau ac yn manteisio ar y cyfleoedd y mae'r bobl yn y wlad hon yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cawsom ar ddeall eich bod yn dadlennu cynllun pum mlynedd i symud Cymru ymlaen heddiw, ac yn hynny o beth roeddwn wedi gobeithio cael mwy o fanylion ynglŷn â sut, yn union, y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny. Fodd bynnag, fel yn achos eich rhaglenni llywodraethu blaenorol, rydym yn cael cynnig rhestr gynhwysfawr o amcanion a blaenoriaethau, ond ychydig iawn o fanylion ynghylch sut y byddwch yn eu cyflawni.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Plaid Cymru ein rhaglen ar gyfer yr wrthblaid—pecyn cynhwysfawr o bolisïau sydd â’r nod o newid y wlad hon yn sylweddol—ac mae'n dda gweld bod llawer o bolisïau Plaid Cymru wedi’u cynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Mae modd adnabod sawl un ohonynt fel bod yn rhan o'n cytundeb untro â’r Llywodraeth ar ôl yr etholiad—mae cronfa newydd ar gyfer cyffuriau a thriniaethau, banc datblygu Cymru, comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, rhagor o ofal plant rhad ac am ddim i blant tair a phedair blwydd oed, a phrentisiaethau ychwanegol o ansawdd da i bawb yn faterion y gwnaethom ni i gyd gytuno arnynt yn rhan o'r cytundeb. Mae'n dda gweld bod y Llywodraeth hefyd yn bwriadu parhau â chronfa gofal canolraddol Plaid Cymru. Mae'r rhain yn ymrwymiadau a sicrhawyd oherwydd gwaith gwrthblaid gyfrifol Plaid Cymru, a byddant yn gwireddu manteision gwirioneddol i fywydau pobl.

Yr hyn nad yw’r rhaglen hon yn ei wneud yw dweud wrthym sut y cânt eu cyflawni. Er enghraifft, rydych chi’n datgan yn y rhaglen mai eich nod yw sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus, cynaliadwy. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno ag ef, ac rwy'n falch o weld bod eich Llywodraeth wedi gwrando ar Blaid Cymru yn galw am gyflwyno cynllun grantiau bach o dan y cynllun datblygu gwledig. Fodd bynnag, rydych yn nodi hefyd y byddwch yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned, yn hyrwyddo datblygu sgiliau, creu swyddi, entrepreneuriaeth, ynni cymunedol, trafnidiaeth wledig a’r gallu i ddefnyddio band eang. Ond, nid ydych chi’n darparu unrhyw fanylion ynghylch beth fydd y cymorth hwn, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar y pwynt hwnnw yn eich ymateb, Brif Weinidog.

Yr hyn sydd gennym yma heddiw yw rhestr o flaenoriaethau, disgrifiad o broblemau, ac ychydig o bolisïau Plaid Cymru wedi eu hychwanegu atynt. Yr hyn yr ydym ei eisiau yw rhagor o fanylion. Felly, gofynnaf i'r Prif Weinidog a wnaiff roi rhagor o fanylion ar yr ymrwymiadau allweddol a amlinellir yn y rhaglen lywodraethu. Rydym yn dymuno gwybod rhagor am 'sut', nid dim ond 'beth'. Rydych yn datgan y byddwch yn chwilio yn gyson am farchnadoedd a buddsoddwyr newydd o bob cwr o'r byd ac yn hyrwyddo Cymru fel partner gweithredol, rhyngwladol. Unwaith eto, a wnewch chi ddweud wrthym sut? Mae'r rhaglen yn nodi y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £100 miliwn ychwanegol i godi safonau ysgolion dros y tymor nesaf. Gwnaeth Ysgrifennydd Addysg Cymru ei gwneud yn glir mewn araith ddiweddar nad oes yn rhaid dewis rhwng naill ai buddsoddi mewn maint dosbarthiadau neu mewn addysgu—nad ydynt yn ddau beth nad ydynt yn cyd-fynd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau felly a yw'r grant amddifadedd disgyblion a’r costau lleihau maint dosbarthiadau hyn yn ychwanegol at y £100 miliwn? Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym beth y byddwch yn ei wneud os na fydd hyn yn codi safonau? Ymrwymiad arall yr ydych chi’n ei wneud yw gwella’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau meddygon teulu. Nawr mae hynny yn rhywbeth sydd wedi bod yn uchelgais tymor hir ichi. Mae canran y meddygfeydd teulu sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6.30pm wedi gostwng ers 2012, a dim ond llond dwrn o feddygfeydd teulu sy’n cynnig apwyntiadau dros y penwythnos yn y wlad gyfan. Felly, dywedwch wrthym, sut ydych chi’n mynd i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw?

Yn olaf, mae'n destun pryder bod y rhaglen lywodraethu yn cyfeirio cyn lleied at Brexit, o gofio y bydd bron yn sicr yn un o'r ffactorau sy’n diffinio—os nad y ffactor diffiniol—sy’n dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Felly, a gaf ofyn i'r Prif Weinidog pa ymrwymiadau sydd wedi eu cynnwys yn benodol yn y rhaglen lywodraethu i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu Cymru yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Nid yw pobl y wlad hon yn edrych tuag at eu Llywodraeth i ailadrodd yr heriau niferus sy'n eu hwynebu, nac i restru neu ddisgrifio’r problemau y mae angen eu datrys. Mae pobl yn gwbl ymwybodol o'r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu Llywodraeth yw arweinyddiaeth, atebion, datrysiadau. Pryd a sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu darparu hyn?

Wel, rwy’n synnu o glywed arweinydd Plaid Cymru yn disgrifio'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon fel ‘ystrydebau’. Mae gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn addewid allweddol ym maniffesto Llafur; gostwng treth ar gyfer busnesau bach—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; banc datblygu ar gyfer Cymru—roedd y ddau faniffesto yn cefnogi hynny; cronfa driniaeth newydd ar gyfer afiechydon sy’n peryglu bywyd—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; cynyddu'r terfyn cyfalaf i bobl sy'n mynd i ofal preswyl—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; a 100,000 o brentisiaethau o safon ar gyfer pob oedran—addewid allweddol ym maniffesto Llafur. Nawr, mae materion yma, wrth gwrs, nad oedd yn ein maniffesto ac sy'n adlewyrchu'r trafodaethau yr ydym wedi'u cael gyda’i phlaid. Ond, nid yw’n briodol o gwbl dweud ein bod ni, rhywsut, wedi dod i’r trafodaethau heb unrhyw syniadau, o ystyried y ffaith bod ein maniffesto yn llawn dop ohonynt a bod y syniadau hynny wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu hon, ochr yn ochr â rhai eraill, wrth gwrs.

O ran yr awgrym ei bod yn rhestr o ddymuniadau, nid rhestr o ddymuniadau ydyw hi. Yn 2011-16, gwnaethom gyflawni pob addewid a wnaethom—pob addewid a wnaethom. Roedd pobl yn gwybod hynny ar garreg y drws ac roeddynt yn gwerthfawrogi hynny ar garreg y drws. O ganlyniad, roeddem yn awyddus i lunio rhaglen lywodraethu nad oedd yn llunio rhestr ddymuniadau o addewidion na ellid eu cyflwyno ac na ellid talu amdanynt, ond yn hytrach roeddem am gael addewidion ar waith y gellid talu amdanynt. Dyna pam y cymerodd tan yr haf i ni ystyried beth fyddai'r sefyllfa ar ôl Brexit, i wneud yn siŵr y gallem fod yn sicr ac y gallem ddweud wrth bobl Cymru y gallem gyflawni'r addewidion hyn hyd yn oed gyda Brexit. Ni allwn gael dogfen sydd ond yn sôn yn bennaf neu'n gyfan gwbl am Brexit. Mae pobl yn gwybod bod hynny’n digwydd; mae'n hynod bwysig yn awr ein bod yn mynd ati i gyflawni dros y bobl yn unol â’r hyn y mae’r maniffestos wedi ei ddweud. Mae pobl am wybod beth sy'n mynd i ddigwydd o ran iechyd ac addysg, maent yn awyddus i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd o ran tai—ac mae 20,000 yn fwy o dai yn mynd i gael ei darparu, wrth gwrs—ac maent yn awyddus i wybod y bydd y Llywodraeth sydd mewn grym yn cyflawni’r addewidion a wnaeth, ac rydym wedi gwneud yr union beth hynny.

O ran yr economi, wel, mae gennym ni yng Nghymru'r lefelau isaf o ddiweithdra o blith Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae gennym y lefelau isaf. Mae gennym y diweithdra ieuenctid isaf, ac mae gennym y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers 30 mlynedd. Mae'r rhain yn cael eu cyflawni trwy waith caled. Nid yw pobl yn dod i Gymru oni bai eich bod yn mynd allan ac yn gwerthu eich hunan o gwmpas y byd. Pan ddes i’n Brif Weinidog, roedd llawer o'r gweithrediadau tramor wedi eu cau i lawr, rhaid i mi ddweud. Roedd llawer o'r swyddfeydd wedi mynd, ac nid oedd unrhyw weithgarwch tramor go iawn. Roedd yn rhaid ailadeiladu hynny. Ac rydym yn gweld yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny. Rydym yn gweld y gwaith sydd wedi ei wneud gyda chyflogwyr fel Aston Martin, sydd wedi dod i Gymru oherwydd—a’u geiriau nhw yw’r rhain—angerdd a phroffesiynoldeb Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi fynd allan ac ymladd am y cyfleoedd hyn.

Pan ddaw i gymunedau gwledig, byddwn, byddwn ni yn cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig. Un enghraifft y gallaf ei rhoi yw band eang. Erbyn haf y flwyddyn nesaf, bydd 96 y cant o safleoedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn. Ni fyddai hynny wedi digwydd heblaw am y ffaith bod arian wedi ei darparu o’r pwrs cyhoeddus er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, oherwydd ni fyddai'r farchnad erioed wedi gwneud hynny. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyflwyno band eang i lawer iawn o gymunedau na fyddai byth wedi ei gael fel arall, ac rydym yn falch o hynny.

O ran rhai o'r materion eraill a godwyd ganddi, rydym yn fwy na hapus â’n haddewid o £100 miliwn ar gyfer addysg. Byddwn yn parhau i adeiladu ysgolion ledled Cymru, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu hadeiladu yn Lloegr. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn addysg, o ran adeiladau, ie, ond hefyd o ran y gweithlu.

Rydym wedi gweld mwy a mwy o feddygfeydd teulu yn aros ar agor gyda’r nos, a rhai ar benwythnosau. Mae angen i ni weld cynnydd pellach o ran y penwythnosau, mae hynny’n wir. Ond, yr hyn sydd gennym yma yw rhaglen lywodraethu sy'n strategol, y mae’n bosibl ei chyflawni, sy'n fforddiadwy ac yn un y gwnaethom ni fel plaid sefyll yr etholiad ar ei sail hi ac, wrth gwrs, rydym wedi ymestyn allan at bleidiau eraill er mwyn llunio’r rhaglen lywodraethu hon gyda’n gilydd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phawb sydd am gefnogi Cymru a chyflawni'r gorau ar gyfer ein gwlad, ac mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r trafodaethau sydd wedi eu cynnal.

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae braidd yn dorcalonnus gweld bod grym deallusol cyfunol Plaid Cymru, Plaid Lafur Cymru a'r Rhyddfrydwyr wedi llunio dogfen sydd yn ddim mwy na 15 o dudalennau o hyd, ac mae hynny'n cynnwys y clawr blaen. Nid yw pymtheg o dudalennau ar gyfer gwerth pum mlynedd o lywodraeth yn eich llenwi chi â hyder, rhaid i mi ddweud. Yn amlwg, mae'n llai o lawer na'r 666 o dudalennau y cyflwynodd y Llywodraeth Cymru flaenorol, yr oedd ef yn Brif Weinidog arni, y tro diwethaf iddynt gyflwyno rhaglen lywodraethu. Ond rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo. Efallai ei bod yn rhyfedd i chi glywed hynny gan arweinydd yr wrthblaid, ond, yn y pen draw, os nad ydych chi’n llwyddo, y bobl a'r cymunedau ar hyd a lled Cymru a fydd ar eu colled yn y pen draw. Felly, mae pobl yn mynd i bleidleisio, maent yn pleidleisio ac mae'r Cynulliad hwn yn cynnull. Ond mae hi braidd yn dorcalonnus a dweud y lleiaf—mae'n dorcalonnus a dweud y lleiaf—mai hon yw ymdrech orau Llywodraeth Cymru i lunio rhaglen lywodraethu bum mlynedd pan ddywedwyd wrthym fod angen iddynt dreulio haf yn myfyrio—myfyrio—ar eu blaenoriaethau.

A dweud y gwir, pan fyddwch yn edrych ar yr hyn a gyflawnwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y Cynulliad diwethaf, a’i bolisi blaenllaw oedd comisiwn Williams, a oedd yn mynd i ad-drefnu llywodraeth leol, ac roedd ef yn mynd i fwrw ymlaen â’r agenda hon a diwygio’r map llywodraeth leol yng Nghymru, ni waeth beth yr oedd pobl yn meddwl am hynny, mae'n dangos cyfyngiadau'r Prif Weinidog hwn o ran ei allu i fwrw ymlaen â newid a bwrw ymlaen â rhaglen lywodraethu. Ac mae hwnnw’n wendid, yn wendid gwirioneddol o ran unrhyw beth yn y ddogfen hon, gan fod y Prif Weinidog wedi profi yn ystod ei dymor cyntaf nad yw’n gallu cyflawni dros bobl Cymru nac, yn wir, y comisiynau a’r gweithrediadau y mae’n eu sefydlu. Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gweithio’n wirioneddol galed yn ystod y tymor hwn a’i fod yn wirioneddol gyflawni'r newidiadau a fydd yn gwella bywydau pobl, boed hynny mewn addysg, boed hynny yn yr economi neu boed hynny yn y GIG.

Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i'r cwestiynau y byddaf yn eu holi iddo, y bydd yn gallu cadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon, erbyn diwedd 2021, yn sicrhau bod system addysg Cymru yn sicrhau safle uwch na system addysg Fietnam, sef y safle lle'r ydym ni wedi ein rhestru ar hyn o bryd yn y tablau cynghrair. Felly, a wnaiff ef gadarnhau bod y mentrau addysg—gwn nad yw’n nod rhagorol i anelu ato, ond a wnaiff ef roi targed i ni y byddwn uwchben Fietnam pan ddaw at 2021? O ran yr economi, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon, erbyn 2021—y rhaglen lywodraethu hon—yn ein gwneud yn fwy ffyniannus yn economaidd na rhannau o Rwmania a Bwlgaria, sef lleoedd yr ydym yn cyfateb iddynt ar hyn o bryd, ac mae hynny ar ôl 17 mlynedd o Lafur Cymru yn y Llywodraeth yma? A wnaiff ef, ar ddiwedd y cyfnod hwn yn 2021, gadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn cyflawni GIG na fydd â’r amseroedd aros hwyaf o unrhyw GIG yn y Deyrnas Unedig? Dyna yw’r tri chwestiwn syml yr wyf yn gobeithio y bydd yn gallu ymateb iddynt a dweud, ‘Ie, ie, ie’, fel ein bod, yn 2021, yn gallu ei feincnodi ef o’i gymharu â pherfformiad ei Lywodraeth.

Ond rwyf yn meddwl mai’r un peth sy’n arwydd damniol o 17 mlynedd o fethiant Llafur yw bod y ddogfen hon, sy’n sôn am gyflwyno cronfa driniaeth newydd, pan wnaethom dreulio'r Cynulliad diwethaf i gyd yn gwneud y pwynt am gronfa cyffuriau canser a’r gallu i gael meddyginiaethau yma yng Nghymru. Mae'r ddogfen ei hun, ar ôl 17 mlynedd Lywodraeth Lafur, yn sôn am

‘loteri cod post ar gyfer cyffuriau a thriniaethau nad ydynt ar gael fel mater o drefn gan y GIG'

yng Nghymru. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y GIG ers 17 mlynedd, Brif Weinidog. Eich plaid chi sydd wedi creu'r loteri cod post hwnnw ar gyfer cael meddyginiaethau ledled Cymru. Felly, pan fyddwn yn edrych ar y rhaglen lywodraethu hon, gallwn weld yn glir nad oes unrhyw newid gwirioneddol, wrth gwrs, dim newid cyfeiriad gwirioneddol, dim ond mwy o'r un peth. Ac rwy’n gobeithio, yn y pen draw, y bydd y Prif Weinidog yn mynd i'r afael â'r sefyllfa ac yn dechrau cyflawni yn economaidd, yn addysgol ac ar gyfer ein GIG fel nad yw pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi eto ar ddiwedd y pumed Cynulliad hwn.

Credaf ei bod yn bwysig atgoffa arweinydd y Ceidwadwyr o un peth: fe gollodd ef yr etholiad. Rhoddodd gynnig ar hyn i gyd cyn mis Mai. Nododd yr holl bwyntiau hyn ac, mewn gwirionedd, aeth ei blaid tuag yn ôl. Mae llawer ohonom yn cofio ei fod ar y teledu yn dweud, ‘Fe fyddaf i yn Brif Weinidog’. Roedd yn gwneud hyn am 10 o'r gloch ar noson yr etholiad. Rwy'n edrych ar Ken Skates am fod ei bobl ef yn dweud bod Ken wedi colli ei sedd. Collodd ef yr etholiad. Mae'n rhaid iddo ddeall hynny, ac i ddefnyddio'r un hen ddadleuon diflas drosodd a drosodd a throsodd—mae angen i ni weld rhai syniadau newydd gan y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n credu y byddai pobl Cymru yn elwa pe byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio fel gwrthblaid weithgar nid fel plaid sy'n parhau i gyflwyno’r un hen ddadleuon y maent yn parhau i’w colli.

O ran addysg, rydym yn hapus â'r cynnydd sydd wedi ei wneud gyda TGAU, ac o ran Safon Uwch, rydym yn gweld cynnydd da yno. Rydym yn gweld adeiladau yn cael eu codi ledled Cymru. Roeddwn i yn chweched Glannau Dyfrdwy yr wythnos diwethaf—adeilad newydd sbon. Ni fyddai hwnnw wedi ei adeiladu pe byddai wedi bod ychydig o filltiroedd dros y ffin, dim byth bythoedd, gan fod y rhaglenni hynny wedi cael eu hatal gan Lywodraeth y DU, gan ei blaid ef. Rydym yn falch o hynny. O ran yr economi, ie, rydym yn gwneud yn iawn am y 1980au a'r 1990au y creodd ei blaid ef. Rydym yn falch o'r ffaith bod diweithdra yn 4.1 y cant. Byddai hynny wedi bod y tu hwnt i’r dychymyg dan y Torïaid. Allwch chi ddychmygu—rydym yn buddsoddi mewn pobl ifanc, Twf Swyddi Cymru, mae'n debyg, yw'r cynllun mwyaf llwyddiannus o'i fath yn Ewrop os nad o gwmpas y byd? Rydym yn hapus â hynny. Rydym yn gwybod bod her o hyd i gynyddu cynnyrch domestig gros, ond erbyn hyn rydym yn gweld mwy a mwy o swyddi mwy medrus yn dod i Gymru sy'n talu’n well. Nid yw pobl yn gweld Cymru fel man lle mae cyflogau’n rhad fel y gwnaeth ei blaid ef ei hyrwyddo yn y 1990au. Dyna'r ffordd yr oedd Cymru’n cael ei hyrwyddo yn y 1990au. Mae pobl Cymru yn haeddu swyddi o ansawdd uchel, a dyna beth yr ydym ni’n ei gyflawni.

O ran y GIG, nid oes gennym GIG sy’n ennyn streiciau gan feddygon. Dyna un peth y gallaf ei addo i bobl Cymru na fyddwn ni’n ei wneud, a byddwn yn parhau i ddarparu'r gofal iechyd gorau, gan sicrhau ei fod yn cael ei ariannu ac, wrth gwrs, ein bod yn cyflawni cronfa driniaethau newydd, yn wahanol i'r hyn y mae'r blaid gyferbyn wedi ei awgrymu. Maent wedi ei ollwng yn Lloegr, wrth gwrs—mae wedi mynd; mae’r gronfa cyffuriau canser wedi mynd yn Lloegr, felly maent wedi colli’r cyfle hwnnw. Yr hyn sydd gennym ar waith yw rhywbeth llawer mwy cynhwysfawr, ac, yn fy marn i, llawer tecach oherwydd mae'n ystyried yr holl bobl sydd â salwch sy'n bygwth bywyd, nid yn unig canser, ac roedd hynny’n hynod bwysig.

Gadewch i mi ofyn un peth i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: mae fy mhlaid i, Kirsty Williams, Plaid Cymru ac UKIP yn rhannu un peth yn gyffredin, sef ein bod ni i gyd yn dweud na ddylai Cymru golli’r un geiniog o gyllid Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit. Mae UKIP wedi bod yn dweud hynny. Nid yw ef. A wnaiff ef gefnogi pobl Cymru a dweud na ddylai Cymru golli’r un geiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit? A yw mewn gwirionedd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig neu’n gynrychiolydd i Lundain yn y blaid Geidwadol Gymreig? Dyna’r cwestiwn y mae’n rhaid iddo ef ei ateb. Gadewch iddo sefyll dros Gymru, a dadlau’r achos gyda'i gydweithwyr yn San Steffan a dweud fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ‘Ni wnaf i oddef gweld Cymru yn colli’r un geiniog o ganlyniad i ymadael ag Ewrop’, yn union fel pob plaid arall yn y Siambr hon ac yn union fel y byddai pob unigolyn yng Nghymru am ei weld.

Un peth, o leiaf, yr wyf yn cytuno ag arweinydd yr wrthblaid, yw bod yr hyn yr ydym wedi ei glywed heddiw gan Lywodraeth Cymru yn ddim ond cyfres o ystrydebau. Yr un peth y bydd yn ei wneud o leiaf yw helpu'r Llywodraeth i gyflawni ei thargedau ailgylchu, oherwydd rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen sawl gwaith—dwywaith o'r blaen ers i mi fod yn y lle hwn ers dechrau mis Mai. Os ydych chi’n edrych drwy'r adran drafnidiaeth—ail-becynnu’r gwelliannau i'r M4, yr A55, yr A40, metro de Cymru, y fasnachfraint rheilffyrdd dielw newydd—nid oes dim byd newydd yn yr adran drafnidiaeth o gwbl nad ydym wedi ei glywed o'r blaen. Ugain mil o gartrefi fforddiadwy—cyhoeddwyd fis Mehefin diwethaf a pholisi’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd hwnnw, nid polisi Llafur beth bynnag. Felly, mae'r cyfan yn bethau dymunol na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn anghytuno ag ef. Ac mae braidd yn haerllug, mewn gwirionedd, i’r Prif Weinidog ddweud bod hyn yn rhywbeth y pleidleisiodd pobl Cymru drosto. Mae’n ymddangos ei fod yn anghofio, yn yr etholiad, bod dwy ran o dair o bobl Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y Blaid Lafur; collodd ef yr etholiad.

Mae'n ddrwg gen i weld yn rhagair y ddogfen hon fod y Prif Weinidog yn dal i fod yn besimistaidd ynglŷn â Brexit, oherwydd y mae’n dal i ddweud bod pob dadansoddiad gwrthrychol o effaith bosibl Brexit yn dweud y dylem fod yn barod ar gyfer economi sy’n crebachu. Ni allai ddim bod ymhellach o'r gwir; mae’r holl ffigurau economaidd sydd cael eu rhyddhau ers yr haf yn dangos bod yr economi yn ehangu, ac nid oes dim rheswm i feddwl nad yw hyn yn mynd i barhau. Felly, y cyfan sydd gennym yn y ddogfen hon yw llwyth o lol ddiystyr. Roedd gennym rai enghreifftiau dethol a ddyfynnwyd gan arweinydd yr wrthblaid. O fewn llywodraeth leol, maent yn mynd i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach; datblygu sgwrs ehangach am y diwygio angenrheidiol i addysg bellach ac addysg uwch; blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer cysylltiadau gwell rhwng addysg a diwydiant; defnyddio ein cysylltiadau presennol â phrifysgolion Cymru yn well; ymgynghori ymhellach ar yr argymhellion penodol yn adolygiad Hazelkorn ar dai; parhau â gwaith cydweithredu hirdymor ag adeiladwyr tai i gyflawni cyfraddau cyflymach o adeiladu tai—ni fydd yr un tŷ yn cael ei adeiladu ar sail geiriau yn unig; archwilio opsiynau i roi terfyn ar fancio tir. Geiriau yw hyn i gyd—does dim unrhyw gamau o gwbl a allai ddod ohono.

Ac, ynglŷn â’r adran bwysig iawn ar amaethyddiaeth—gwaith gyda phartneriaid i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru. Wel, pwy na fyddai? Ond nid ydym wedi clywed dim am TB mewn gwartheg. Nid ydym yn clywed dim am y bygythiad i hyfywedd ffermydd gan barthau perygl nitradau. Nid ydym yn clywed dim am y cwymp yn incwm ffermydd. O leiaf ym maniffesto UKIP, gwnaethom addo y byddem yn ailddyrannu rhannau o'r gyllideb amaethyddiaeth drwy roi cap ar y cymorthdaliadau a fyddai'n cael eu talu i ffermwyr, ar £125,000 y flwyddyn, fel mai gwir fuddiolwyr y polisi amaethyddol cyffredin ym Mhrydain fyddai'r ffermwyr bach, y ffermydd teuluol ac nid y busnesau amaeth a'r cwmnïau rhyngwladol. Nid oes dim byd o'r math hwnnw o gwbl yn y ddogfen hon.

O ran ardrethi busnes, gallwn groesawu biliau llai—[Torri ar draws.] Gallwn groesawu biliau llai ar gyfer hyd at 70,000 o gwmnïau, ond beth am gael diwygiad llwyr o'r system trethi eiddo glogyrnaidd gyfan, lle y gallwn gysylltu yr hyn sy’n cael ei godi â phroffidioldeb y busnesau sy’n gorfod eu talu fel nad oes gennym y bloc hwn ar sefydlu busnesau newydd oherwydd y rhwystrau y mae'n rhaid iddynt eu neidio o ran ardrethi busnes?

Band eang cyflym dibynadwy i bob tŷ—erbyn 2021, rwy’n tybio. Rwy'n gobeithio y gall y Prif Weinidog gyflawni hynny, ac fel arweinydd y Blaid Geidwadol, rwyf am iddo ddweud heddiw y bydd pob eiddo unigol yng Nghymru—dyna mae'n ei ddweud yn y ddogfen hon—yn cael ei gysylltu â band eang cyflym a dibynadwy erbyn 2021.

O ran prentisiaethau, unwaith eto, gallwn groesawu yn ofalus yr hyn a ddywedir yn y ddogfen hon am brentisiaethau, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni fod yn sicr ohono yw nad yw cwmnïau mawr, cwmnïau rhyngwladol yn arbennig, yn talu dim ond cyfraddau prentisiaeth i bobl ac nad ydynt yn darparu cymwysterau priodol, sylweddol o ganlyniad, ond dim ond yn cynhyrchu cymwysterau cyfwerth nad ydynt o unrhyw werth economaidd posibl yn y gweithle.

Yn olaf, o ran y gwasanaeth iechyd, sydd, wrth gwrs, yn gatalog dieithriad o fethiant ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur, a hanner y byrddau ysbyty yn y wlad hon dan fesurau arbennig—beth am argyfwng y meddygon teulu? Mae hwn yn fater a godwyd yn y Siambr hon yn ystod yr wythnosau diwethaf gan bob plaid—mae Simon Thomas wedi codi problemau yn y Drenewydd, rwyf i wedi codi problemau ym Mlaenau Ffestiniog, a heddiw mae Paul Davies wedi codi problemau gyda meddygon teulu yn ei etholaeth ei hun yn Sir Benfro? Nid ydym wedi clywed dim byd—dim byd yn y ddogfen hon—a fydd yn ein symud ni ymlaen o ran datrys y problemau wrth recriwtio meddygon teulu. Ac o ran cysylltiadau agosach rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae hyn yn gwbl angenrheidiol, ond pa bryd yr ydym ni’n mynd i roi rhywfaint o gig ar yr esgyrn noeth hyn yr ydym wedi eu clywed heddiw?

Felly, rwyf i’n gobeithio, fel arweinydd y blaid Geidwadol, y bydd y Prif Weinidog yn gallu cyflawni'r addewidion difflach hyn y mae wedi eu nodi yn y ddogfen hon heddiw, ond dewch i ni gael rhywfaint o fanylion, dewch i ni gael rhywbeth y gallwn ni gael trafodaeth wirioneddol yn ei gylch, nid dim ond geiriau gwag.

Rwy’n croesawu ei sylwadau o'r tu allan i Gymru ac yn awgrymu wrtho y byddai'n cael mwy o ddylanwad—

Nac ydy, nid yw hynny’n wirion. Byddai’n cael mwy o ddylanwad pe byddai mewn gwirionedd yn byw yng Nghymru os yw’n mynd i feirniadu'r hyn yr ydym wedi ei wneud yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl deg—yn gwbl deg.

Pan mae’n dweud nad oes dim manylion yma, wel, gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio, mae’r manylion yno; y banc datblygu, mae’r manylion yno; y trethi llai ar gyfer busnesau bach, mae’r manylion yno; y gronfa driniaeth; y terfyn cyfalaf; y camau i hyfforddi meddygon teulu; y prentisiaethau; y safonau ar gyfer ysgolion; y comisiwn seilwaith; y metro; yr M4. Nid yw'r rhain yn eiriau amwys, mae'r rhain yn bolisïau yr ydym yn benderfynol o fwrw ymlaen â nhw i wella bywydau pobl Cymru. Mae cyllideb eto i ddod gerbron y Cynulliad hwn, ac mae deddfwriaeth sydd eto i ddod gerbron y Cynulliad hwn.

A yw'n dweud y dylem ni gael gwared ar barthau perygl nitradau? Oherwydd, gallaf ddweud wrthych chi, mae llawer o bobl yng Nghymru a fyddai’n bryderus iawn ynghylch hynny a beth fyddai hynny'n ei olygu i'r afonydd a beth fyddai hynny'n ei olygu i rai o'n haberoedd, yn benodol. Maen nhw yno am reswm, nid ydynt yno i geisio gwneud rhywbeth heb unrhyw synnwyr o gwbl. Maen nhw yno am reswm o ran gwarchod ein hamgylchedd.

Rhaid i mi ddweud wrtho: mae'n sôn am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol; rydym ni’n gwneud hynny. Bydd yn gwybod bod y Cynulliad diwethaf wedi gweld deddfwriaeth â’r bwriad o gryfhau gwasanaethau cymdeithasol a galluogi’r gwasanaethau cymdeithasol i weithio'n agosach gydag iechyd. Os yw’n edrych ar y ddeddfwriaeth sy'n wedi cael ei phasio yma dros y—wel, ers i ni gael y pwerau yn 2011—fe fydd yn gweld bod y rhain yn faterion yr ydym wedi mynd i'r afael â nhw ac y byddwn yn parhau i roi sylw iddynt yn rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn hon a thu hwnt. Bydd yn gweld bod yr hyn yr ydym wedi ei roi yn y rhaglen lywodraethu hon yn arwain at gyflawni’r addewidion yr ydym wedi'u gwneud. Y peth hawsaf yn y byd yw gwneud addewidion gwyllt heb unrhyw waith costio ac yna canfod nad ydych yn gallu eu cyflawni; fe wnaethom ymatal rhag hynny yn yr etholiad, ac rydym yn ymatal rhag gwneud hynny yn awr, oherwydd bydd pobl Cymru yn gwybod y byddwn yn gwneud yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei wneud.

Mae'r holl arweinwyr wedi siarad bellach, felly, gofynnaf am gwestiynau gan yr Aelodau, fel yr wyf yn eu galw. Jenny Rathbone.

Nodaf gyda diddordeb eich bod yn amlwg yn tynnu sylw at y ffaith bod gennym rwymedigaeth i sicrhau gostyngiad o 80 y cant yn ein hallyriadau carbon erbyn 2050, ac rydych hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd metro de Cymru a metro gogledd Cymru, yn ogystal â chael pob awdurdod lleol i gyflawni o ran teithio llesol cydgysylltiedig. Sut ydych chi'n meddwl y byddwn ni’n gallu mesur cynnydd ar y darnau hyn o'r rhaglen a pha darged, yn eich barn chi, y dylem ni fod yn ei osod dros dro i sicrhau nad ydym, yn sydyn, yn 2040, yn sylweddoli nad ydym wedi bodloni ein rhwymedigaethau?

Rwy'n meddwl bod sawl ffordd o wneud hynny. Mae gwella'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl allweddol ac, wrth ddweud hynny, nid wyf yn golygu y metro yn unig—er mor bwysig yw hwnnw—ond annog beicio. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, wrth gwrs, yn hynod bwysig o ran cychwyn ar y broses o, ac rwy’n defnyddio'r gair, cyn belled ag y mae’r cyhoedd yn y cwestiwn, ‘normaleiddio’ beicio—sef, pan fo ffordd newydd yn cael ei hadeiladu, bod llwybr beicio yn cael ei adeiladu gyda hi yn awtomatig. Rwy'n credu mai dyna’r ffordd yn sicr ar gyfer y dyfodol. Mewn rhai ffyrdd, roedd y bobl a adeiladodd hen bont Llansawel o flaen eu hamser trwy roi llwybr beicio ar y bont yn y 1960au. Dyna beth y mae’n rhaid i ni ei annog: sef, pan fo gennym gynlluniau ffordd, felly, bod beicio yn rhan ohonynt, ac y gallwn gadw’r beicwyr i ffwrdd o’r ceir— [Anghlywadwy] —hefyd, wrth gwrs. Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o Gymru lle mae cymaint o draffig bod ceir yn segura a bod ansawdd yr aer yn wael. Oni bai ein bod yn mynd i’r afael â hynny, bydd yn parhau i fod yn wael.

Ond, i mi, mae'n ymwneud â sicrhau bod y system drafnidiaeth gyhoeddus sydd gennym yn un heb ei hail, ei bod yn rhad, yn ddibynadwy, yn gyfforddus ac yn ddiogel. Dyna beth y mae'r ddwy system metro wedi eu dylunio i’w cyflawni: ei gwneud hi'n llawer haws i bobl deimlo nad oes angen eu ceir arnynt. Os ydych chi’n edrych ar ogledd Caerdydd, er enghraifft, nid oes unrhyw fodd o adeiladu ffordd yng ngogledd Caerdydd a fydd yn helpu gyda'r A470, ond mae yna gyfleoedd i gynyddu amlder y trenau ar y rheilffyrdd ac, yn wir, ystyried dewisiadau rheilffordd ysgafn ymhellach ymlaen er mwyn darparu’r dewisiadau hynny. Wrth wneud hynny, wrth gwrs, gallwn wedyn helpu i geisio lleihau allyriannau carbon, o ran trafnidiaeth.

Yr hyn rydym ni’n chwilio amdano bellach yw manylion, Brif Weinidog, ac mae yna nifer o bethau sydd ar goll neu’n wan iawn yn y rhaglen ar hyn o bryd. Gwnaf i jest ofyn yn benodol, felly, i chi, gan ddechrau gyda’r pwynt yna gan Jenny Rathbone hefyd, rydych chi’n sôn am ‘make progress towards’ lleihau allyriadau carbon erbyn 2050, ond a ydych chi wedi colli, felly, y targed o leihau allyriadau carbon gan 40 y cant erbyn 2020? Achos nid oes dim targed yma nawr, dim ond rhyw aneliad ‘make progress towards’.

Yr ail bwynt, arbed ynni. Allaf i ddim gweld unrhyw gyfeiriad yn y rhaglen at unrhyw gynllun arbed ynni. A fydd gan y Llywodraeth gynllun arbed ynni ac adnewyddu tai er mwyn arbed costau ac ynni?

Nid oes dim sôn yn y rhaglen neu unrhyw gyfeiriad at raglen difa TB. A ydy e dal yn fwriad gan y Llywodraeth, felly, i gael rhaglen difa TB yng nghefn gwlad?

Yn olaf, nid oes dim sôn yn y rhaglen newydd yma am un o’r pethau mawr a oedd gan y Llywodraeth gynt, sef Cymunedau’n Gyntaf. Ble mae Cymunedau’n Gyntaf ac a ydych chi’n ymrwymo i gadw’r un arian ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf ag oedd yn y blynyddoedd blaenorol?

Yn gyntaf, wrth gwrs, nid yw hon yn ddogfen sydd â phob math o fanylion ynddi. Bydd e’n deall hynny. Mae’n ddogfen strategol, er mwyn i bobl weld beth yw cyfeiriad y Llywodraeth. Ynglŷn â charbon, un o’r pethau rŷm ni’n ffaelu gwneud dim byd amdano yw’r pethau sydd heb gael eu datganoli, ond nid yw hynny’n meddwl ein bod ni’n gwneud dim byd o achos hynny. Rydym ni’n deall, wrth gwrs, fod yn rhaid sicrhau bod llai a llai o bobl yn teithio mewn ceir. Mae hynny’n un peth y gallwn ni ei wneud. Ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yn rhaid i ni helpu diwydiannau fel y diwydiant dur i leihau beth sydd yn dod trwy’r simneiau’n fanna. Ond hefyd mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym ni’n creu sefyllfa lle maen nhw’n symud o Gymru. So, mae yna gydbwysedd sydd ei eisiau fan hyn.

Ynglŷn â TB, mae TB yn dal i fod yn bwysig. Rydym ni’n gwybod bod yn rhaid sicrhau ein bod ni’n dal i leihau niferoedd yr anifeiliaid sydd yn cael TB, ac mae hynny’n hollbwysig ynglŷn â Chymru wledig; rwy’n deall hynny.

Mae’n sôn am Gymunedau’n Gyntaf. Mae popeth, wrth gwrs, yn cael ei ystyried trwy broses y gyllideb. Nid yw’r gyllideb ei hun wedi dod o flaen y Cynulliad eto. Mae’n wir i ddweud, tra byddwn ni’n symud ymlaen gyda rhai o’r addewidion sydd yn y rhaglen hon, y bydd yna benderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud ynglŷn â phob adran. Ond beth sy’n bwysig dros ben yw ein bod ni’n cadw at y pedair thema rwyf wedi sôn amdanynt, a dyna’n gwmws beth rydym ni’n bwriadu ei wneud.

Weinidog, hoffwn ddeall beth yw eich uchelgais ar gyfer iechyd pobl Cymru. Mae pum deg un y cant o'n poblogaeth ar hyn o bryd yn brwydro rhyw fath o salwch. Hoffwn ddeall sut y byddech yn hoffi gweld y sefyllfa honno erbyn y flwyddyn 2021.

Wrth ddarllen trwy eich dogfen ‘Symud Cymru Ymlaen’, rwyf wedi sylwi eto eich bod yn pwysleisio’r ffaith y byddech yn hoffi sefydlu adolygiad seneddol ar ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael nifer o drafodaethau ag Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn. Hoffwn ei gwneud yn glir iawn, fodd bynnag, er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hwn yn gyfle i gyflwyno glasbrint ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol a chynllunio strategol, ni fyddwn i’n hoffi gweld bod yr adolygiad seneddol hwn yn gyfle i roi nifer o’r penderfyniadau anodd y bydd y GIG yng Nghymru yn gorfod eu gwneud o’r neilltu.

Felly, Weinidog, a allwch chi ein sicrhau ni na fydd hwn yn adolygiad seneddol a fydd yn eich rhwystro chi rhag rhoi llawer iawn o egni i mewn i ddatrys yr argyfwng sydd gennym mewn gofal iechyd sylfaenol? Rwyf wedi nodi yn eich rhaglen, ‘Symud Cymru Ymlaen’, eich bod yn mynd i roi llawer o ymdrech i recriwtio Meddygon Teulu—rhywbeth yr ydym wedi ei drafod, a rhywbeth yr wyf wedi ei drafod ag Ysgrifennydd y Cabinet—ond byddwn hefyd yn hoffi i chi ddod yn ôl a gofyn neu efallai dweud wrthym a ydych chi’n mynd i fod yn rhoi yr un lefel o ymdrech i sicrhau bod gennym ddigon o nyrsys, ffisiotherapyddion, seicolegwyr clinigol a therapyddion galwedigaethol, oherwydd mae gennym argyfwng go iawn yn datblygu yno. Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda: mae 30 y cant o'u nyrsys practis cyffredinol wedi dweud eu bod yn mynd i adael yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n nifer enfawr, a dim ond un bwrdd iechyd yw hwnnw.

Rydych chi’n sôn am gynyddu buddsoddiad mewn cyfleusterau i leihau amseroedd aros. Brif Weinidog, mae amseroedd aros yn un o'r meysydd lle y mae Llywodraeth Lafur Cymru, yn fy marn i, wedi methu yn sylweddol ynddo: mae 14.3 y cant o gyfanswm poblogaeth Cymru yn parhau i fod ar restr aros. Yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw: sut ydych chi'n rhagweld y byddwch yn lleihau’r amseroedd aros hyn, a faint o flaenoriaeth sydd iddo ym maes gofal iechyd?

Hoffwn i, yn olaf, Lywydd, droi at eich sylwadau yma ar iechyd meddwl a llesiant. Byddwn i’n dweud wrthych fod iechyd meddwl wedi bod, ers peth amser, yn berthynas dlawd o ran darpariaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’r lefelau cyllid ar gyfer iechyd meddwl plant yn wael iawn. Ar hyn o bryd, mae oddeutu £13.50 y pen yn cael ei wario ar y boblogaeth blant. O’i gymharu, mae £65 y pen yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn. Brif Weinidog, a ydych chi’n bwriadu rhoi mwy o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl? A ydych chi’n bwriadu rhoi mwy o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? A ydych chi’n gallu dweud wrthym heddiw pa bryd yr ydych yn bwriadu cyflwyno’r Bil anghenion dysgu ychwanegol? Brif Weinidog, a fyddwch chi’n ystyried cyflwyno Deddf awtistiaeth, ac a fyddwch yn derbyn bod gwasanaethau iechyd meddwl yn anodd iawn i'w darparu mewn model gwledig fel, yn wir, y mae’r holl wasanaethau iechyd? Felly, hoffwn i ofyn i chi yn olaf: a wnewch chi ymrwymo i edrych ar—neu a ydych chi’n bwriadu edrych ar—sut y gallem ddatblygu model iechyd gwledig a all fodoli ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn i bobl yn ardaloedd gwledig Cymru, sydd i raddau helaeth yn cynrychioli’r rhan fwyaf o Gymru o bell ffordd o ran arwynebedd tir—efallai nad yw hynny’n wir o ran poblogaeth—mewn gwirionedd, fwynhau cydraddoldeb a rhyddid a'r hawl i ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd sydd mor agos atynt ag y bo modd, a hynny mewn modd prydlon? Oherwydd maent mewn perygl o fod yn blentyn amddifad arall o fewn teulu y GIG.

Mae nifer o gwestiynau yno: yn gyntaf oll, pan edrychwn ni ar iechyd, mae'n rhaid i ni gofio bod ein poblogaeth yn hŷn na chyfartaledd y DU, ac yn gyffredinol yn llai iach na chyfartaledd y DU. Mae rhan o hynny o ganlyniad i etifeddiaeth y pyllau glo ac etifeddiaeth diwydiant trwm, yr ydym yn dal i ymdrin â hynny. Rydym yn bwriadu, wrth gwrs, parhau i ariannu iechyd yng Nghymru ar lefel fesul pen sydd yn uwch nag yn Lloegr. Ni all yr adolygiad seneddol, yn amlwg, rwystro’r broses o wneud penderfyniadau. Mae penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud ym maes iechyd. Rwyf wedi bod yn y Siambr hon pan wneir penderfyniad ac mae bron fel un o ddeddfau Newton: mae adwaith hafal a dirgroes, lle bydd gwrthwynebiad i gamau gweithredu penodol penodol, ond yn eithaf aml mae angen bwrw ymlaen â nhw. Un o'r materion yr wyf yn gwbl benderfynol o beidio â’i weld yw bod pobl yn y Gymru wledig yn cael gwasanaeth gwaeth na phobl yn y trefi oherwydd eu bod yn byw yng nghefn gwlad Cymru ac am ei bod yn well i gael gwasanaeth lleol na gwasanaeth arbenigol. Nid wyf i erioed wedi credu hynny. Rydym ni wedi ei weld yn Aberystwyth, er enghraifft, lle symudwyd llawdriniaeth canser colorectol o Fronglais i Gaerdydd. Gwnaeth y cyfraddau goroesi gynyddu. Rwy'n gwybod ei bod yn bellach i ffwrdd, ond, mewn gwirionedd, roedd y canlyniadau i bobl yn well o lawer gwell. Weithiau, rwy’n cytuno, mae'n bwysig cael triniaeth mor agos â phosibl, boed hynny yn y fferyllfa neu gyda’r meddyg teulu, neu drwy nyrsys practis neu drwy ysbytai, ond bydd amodau pan fydd angen iddynt gael gwasanaethau arbenigol iawn er mwyn rhoi cyfle gwell i bobl a chanlyniad gwell. Nid yw’r cydbwysedd hwnnw byth yn un hawdd ei gyflawni.

Gyda meddygon teulu a nyrsys, soniais yn fy araith bod hyn yn mynd y tu hwnt i'r gweithlu meddygon teulu, ond nyrsys a phroffesiynau eraill hefyd. Yr hyn y mae’n rhaid i ni osgoi ei wneud—oes, mae angen i ni recriwtio a hyfforddi mwy, rwy’n deall hynny, ond mae angen i ni osgoi rhoi'r argraff nad yw Cymru yn wlad y mae meddygon o dramor eisiau dod iddi. Rydym bob amser wedi recriwtio o wledydd eraill. Mae gwledydd eraill bob amser wedi recriwtio o'r DU. Mae'n farchnad ryngwladol. Ni fyddwn am roi’r argraff bod y DU yn lle mwy anodd i ddod i weithio ynddo, oherwydd rydym yn dibynnu—a byddwn bob amser yn dibynnu—ar weithwyr proffesiynol sy’n dod o wledydd eraill. Y pellaf i’r gorllewin yr ewch chi, o ran ysbytai, y mwyaf y gall y ddibyniaeth honno fod. Felly, mae'n gwbl hanfodol i ni sicrhau ein bod yn cael ein gweld fel lle croesawgar i feddygon a nyrsys weithio yn y dyfodol.

O ran rhai o'r materion eraill a grybwyllwyd gennych chi, wel, nid yw'n gywir bod 14.3 y cant o bobl ar restr aros. Mae dau bwynt i'w gwneud o ran hynny. Yn gyntaf oll, rydych chi ar restr aros cyn gynted ag yr ydych yn cael eich cyfeirio gan feddyg teulu—yr un diwrnod, bron. Felly, nid yw hynny'n gymhariaeth deg, yn fy marn i. Yn ail, mae llawer o'r bobl yn cael eu cyfrif fwy nag unwaith am eu bod ar fwy nag un rhestr aros. Ceir materion yr ydym wedi eu harchwilio yn y Siambr hon yn ystod y pum mlynedd diwethaf, o ran gwella amseroedd aros, ond ceir materion tebyg ar draws y DU. Rydym yn gwybod o adroddiad Nuffield bod gwasanaethau iechyd ar draws y DU mewn sefyllfa eithaf tebyg ac yn wynebu heriau tebyg.

Mae hi'n codi pwynt pwysig am iechyd meddwl. Gwnaethom y penderfyniad rai blynyddoedd yn ôl i glustnodi gwariant ar iechyd meddwl. CAMHS: mae'n wir dweud bod y galw’n cynyddu’n gyflym ac yn uwch na’r gallu i gyflenwi. Mae hynny'n wir. Dyna pam rydym wedi dyrannu mwy o arian ar gyfer CAMHS, er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o adnoddau ar gyfer y gwasanaethau, fel na cheir unrhyw amseroedd aros ofnadwy o hir. Ymddengys ei fod yn wasanaeth poblogaidd, ac roedd gallu dal i fyny yn hynod o bwysig.

Ynglŷn â’r Bil ADY, rwy’n credu fy mod eisoes wedi cyhoeddi'r hyn y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cadarnhau y byddwn yn ei gyflwyno eleni. Rydym yn dal i ystyried sut y byddai darn o ddeddfwriaeth awtistiaeth yn cael ei weithredu. O ran y model gwledig, dim ond un peth yr wyf yn anghytuno â hi yn ei gylch. Nid wyf yn cytuno bod gofal iechyd gwledig o reidrwydd yn costio mwy na gofal iechyd yng nghymunedau'r Cymoedd. Wrth gwrs, yn llawer o’n cymunedau uchaf yn y Cymoedd, nid yw cyflwr iechyd pobl cystal. Felly, yn aml iawn, gall y costau ar gyfer gofalu amdanynt fod yn uwch nag ar gyfer pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Serch hynny, ceir materion yn y Gymru wledig y mae'n rhaid eu datrys, ac mae'r fenter gydweithredol yn y canolbarth yn enghraifft dda o sut y gall gweithwyr proffesiynol weithio gyda'i gilydd a chyda’r Llywodraeth i gyflwyno gwasanaeth iechyd gwledig. Dyna enghraifft dda o fenter sydd wedi gweithio'n dda a gallai fod yn esiampl dda i weddill Cymru. Felly, ie, mae’r heriau yn bodoli, ond rydym yn barod am yr heriau hynny o roi’r ddarpariaeth orau i bobl, lle bynnag y maent yn byw yn y dref, yng nghefn gwlad, yn y gogledd, yn y de, yn y dwyrain neu yn y gorllewin.

Brif Weinidog, fel rydych yn ymwybodol, rwyf wedi ymgyrchu’n hir i droi’r A40 yn fy etholaeth i yn ffordd ddeuol. Nodaf fod yna gyfeiriad yn eich rhaglen lywodraethu i wella’r A40 yng ngorllewin Cymru, sydd, heb os, yn mynd i wella economi sir Benfro. O ystyried bod y cyn-Weinidog yn eich Llywodraeth flaenorol chi wedi nodi’r manteision y byddai troi’r A40 yn ffordd ddeuol yn eu creu i orllewin Cymru, a allwch chi gadarnhau nad ydych wedi diystyru deuoli’r A40 yn sir Benfro?

Na. Rydym yn gwybod bod y mater hwn yn hollbwysig. Beth sy’n broblematig, wrth gwrs, yw’r sefyllfa o ran arian Ewropeaidd yn y pen draw. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, ei bod yn hollbwysig i ystyried yr heol rhwng Sanclêr a Hwlffordd, er mwyn sicrhau bod rhannau o’r heol sy’n anodd ar hyn o bryd yn gwella. Felly, na, nid ydym wedi anghofio’r A40. Rydym yn deall pa mor bwysig ydyw, yn enwedig, wrth gwrs, i symud traffig i Abergwaun hefyd, o achos y llong sy’n mynd o’r fan honno. Felly, mae’r gwelliannau i’r A40 yn dal i fod ar yr agenda ac, wrth gwrs, yn y ddogfen.

Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. Gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad am ymagwedd 'yr hyn sy'n gweithio' a chyflenwi arloesol. Cyfeirir yn anuniongyrchol yn adran heriau a chyfleoedd a rennir eich pamffled heddiw at y ffaith nad oes gan y Llywodraeth fonopoli ar syniadau da nac ar gyflenwi. Ym mha feysydd portffolio yr ydych chi'n rhagweld mwy o gyd-gynhyrchu, mwy o leoliaeth a llai o orchymyn a rheolaeth gan lywodraeth leol a’r Llywodraeth ganolog?

Wel, rwy’n credu bod cyfle da i ganolbwyntio ar ddatganoli gwasanaethau yn lleol lle mae'r strwythur yn addas. Nid wyf yn credu bod y strwythur yn addas ar hyn o bryd ar gyfer ein 22 awdurdod lleol. Drwy weithio gyda nhw, byddem yn hoffi cyrraedd sefyllfa lle mae gennym strwythur ar waith lle gallant gyflenwi’n fwy effeithiol, lle nad oes ganddynt adrannau sydd i bob pwrpas yn dechrau chwalu oherwydd bod un neu ddau o bobl yn y sâl neu wedi gadael yr adran, ac i wneud llywodraeth leol yn fwy cynaliadwy yn hynny o beth. Nid wyf yn credu bod y strwythur yno ar hyn o bryd. Ond, wrth i’r strwythur gael ei ddatblygu, drwy weithio gydag awdurdodau lleol, rwy’n credu bod cyfleoedd ar gael i ystyried datganoli mwy o wasanaethau yn lleol. Ond mae’n rhaid i’r strwythur fod yn addas yn gyntaf.

Brif Weinidog, sut yr ydych yn bwriadu gwella polisïau caffael eich Llywodraeth, yn enwedig i gefnogi busnesau bach ledled Cymru? Yn ail, gwnaethoch chi addo buddsoddi yn y gwaith o drawsnewid yr ystâd ysbytai yn y datganiad heddiw. A allwch chi roi'r diweddariad i ni ynglŷn â’r dyddiad cwblhau ar gyfer y ganolfan gofal critigol newydd yng Nghwmbrân? Mae’n ymddangos bod peth dryswch ynghylch hyn.

Wel, mae'n dal i fod yn flaenoriaeth i ni, wrth gwrs. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cyfleusterau modern, ac mae’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud o hyd o ran y broses achos busnes. O ran y materion eraill a godwyd ynglŷn â chaffael, rwy’n credu ein bod wedi sôn am hynny’n eithaf helaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Yr hyn sy'n allweddol ar gyfer busnesau bach, yn aml iawn, yw’r gallu i gydweithio â busnesau bach eraill er mwyn cynnig am gontractau mwy o faint. Roedd amaethyddiaeth yn broblem go iawn yn hyn o beth rai blynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn mae’n enghraifft dda o le gwnaethom ni ganolbwyntio ar—. Dyma enghraifft: buom yn edrych ar gyflenwad cig eidion i'r GIG yng Nghymru. Dywedodd ffermwyr wrthyf, 'Wel, nid yw’r GIG yng Nghymru yn prynu unrhyw gig eidion gennym ni’, ac roeddent yn gywir, ond y broblem oedd nad oedd unrhyw gyflenwr yng Nghymru a oedd yn gallu cyflenwi cig eidion i’r GIG ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis. Nid oedd modd iddynt wneud hynny; nid oeddent yn ddigon mawr. Cafodd hynny ei ddatrys drwy geisio cael cyflenwyr i weithio gyda'i gilydd i ddatrys y mater hwnnw o ran cyflenwi, ac mae'r un peth wedi digwydd gyda busnesau bach eraill. Rydym wedi bod yn rhoi cyngor ar sut y gallant fynd ati i wneud hynny. Felly, er ei bod yn wir dweud bod rhaid i ni sicrhau nad oes gennym gontractau sydd mor fawr nad yw'n bosibl hyd yn oed i fusnesau bach sy’n gweithio gyda'i gilydd i wneud cais llwyddiannus ar eu cyfer, mae hefyd yn bwysig i wneud yn siŵr fod busnesau yn gweithio gyda'i gilydd i fod yn ddigon mawr i wneud ceisiadau am gontractau sydd o fewn eu gafael.

Brif Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld y cyfeiriad at yr A55 a'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w gwneud i'r A55 yn eich rhaglen lywodraethu, ond nid oes llawer iawn o fanylder o ran beth y gall y gwelliannau hynny fod neu beth na allent fod. Byddwch chi’n ymwybodol ein bod ni wedi cael problemau yn ymwneud â thagfeydd ar rai rhannau o'r A55. Rydym wedi cael problemau â llifogydd yn y gorffennol ac ni cheir llain galed am filltiroedd lawer ar hyd yr A55 ychwaith, sy'n achosi problemau pan fo ceir yn torri i lawr neu pan fo damweiniau’n digwydd. A allwch chi ddweud wrthym ar ba rannau yn union o'r A55 y gallai’r gwelliannau hyn gael eu gweithredu neu beidio yn ystod y pum mlynedd nesaf, o ran rhywfaint o gynnydd?

A allwch chi hefyd gyfeirio, yn ychwanegol at hynny, at unrhyw gynnydd y gallech chi roi gwybod i ni amdano ynglŷn â datblygiad y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn y gogledd? Roeddwn yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf yn cyfeirio at rywfaint o gynnydd ar hyn, ond a allwch chi barhau i roi sicrwydd i bobl yn y gogledd y bydd yn cael ei gyflwyno yn unol â'r amserlen a bennwyd gennych yn flaenorol? Rwy’n pryderu y gall fod rhywfaint o oedi yn y broses ar hyn o bryd.

Ac, yn olaf, cyfeirir at ofal plant rhad ac am ddim yn y ddogfen hefyd. Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn dilyn esiampl Llywodraeth Geidwadol y DU o ran yr ymrwymiadau y maent wedi’u gwneud yn ymwneud â gofal plant am ddim, ond un o'r pryderon a godwyd gyda fi yw bod dogfen wedi’i chomisiynu, darn o waith a gomisiynwyd, gan y Gweinidog blaenorol dros addysg ynglŷn â chwtogi’r wythnos ysgol i bedwar diwrnod, yn hytrach na’r cyfnod o bum diwrnod fel y mae ar hyn o bryd. Mae hynny, wrth gwrs, yn creu rhywfaint o gynnwrf yn y farchnad gofal plant, os gallwn ei alw'n hynny. Pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i hynny yn eich rhaglen lywodraethu, ac a fyddwch chi’n ymuno â mi i ddiystyru’r awgrym o gael wythnos pedwar diwrnod ar gyfer ein hysgolion, y prynhawn yma?

Wel, yn gyntaf oll, ynglŷn â’r A55, os byddwn yn dechrau tua'r dwyrain, rydym yn gwybod bod materion yn ymwneud â chyffyrdd ymhellach i'r dwyrain a'r materion yn ymwneud â’r gyffordd gyda'r A494. Mae cylchfan Llanfairfechan a chylchfan Penmaenmawr yn diflannu, felly ceir gwared ar y broblem ar y darn hwnnw o'r ffordd. Os awn ymhellach i'r gorllewin, mae’r mater ynghylch trydedd bont Menai yn bodoli o hyd. Nid yw'r A55 yn ffordd ddeuol mewn gwirionedd, o ystyried y ffaith ei bod yn ffordd unffrwd dros bont Britannia, ac mae hynny—rwyf wedi ei weld fy hun yn aml—yn rhywle lle ceir llawer o dagfeydd traffig hefyd. Ni fyddai unrhyw un yn adeiladu ffordd i'r safon honno yn awr—hynny yw, nid oes unrhyw leiniau caled, ac mae'n brif ffordd. Un o'r materion y byddwn yn ei ystyried yn ystod y pum mlynedd nesaf yw gweld lle y gellir lledu’r ffordd a lle y gall arian gael ei ddyrannu i alluogi hynny i ddigwydd, ond Llanfairfechan a Phenmaenmawr yw’r ddwy ardal gyntaf a fydd yn cael eu hystyried.

Mae'n sôn am lifogydd. Caiff y materion yn Nhalybont eu datrys gyda chymorth Cyngor Gwynedd. Mae’r materion rhwng Aber a Thai'r Meibion eto wedi’u hystyried ymhellach, oherwydd y llifogydd a ddigwyddodd yno. Ond y mater o ran yr A55 yn fy marn i yw cael gwared ar y cylchfannau er mwyn helpu llif y traffig, ac, wrth gwrs, mewn amser, lledu'r ffordd i safon y byddem ni’n ei disgwyl—llain galed hyd yn oed, nad yw hyd yn oed yn bodoli ar rai rhannau o'r ffordd ar hyn o bryd.

Ynglŷn â’r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig, nid oes unrhyw oedi. Mae'r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn datblygu fel y cynlluniwyd. Byddai ef wedi fy nghlywed yn dweud lawer iawn o weithiau yn y Siambr hon, mai fy syniad i oedd lleoli’r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yng Nghlan Clwyd, ac rwy’n glynu wrth y penderfyniad hwnnw. Bydd yn bwrw ymlaen; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo ef.

O ran gofal plant rhad ac am ddim, wel, hynny yw, nid wyf yn siŵr beth oedd polisi ei blaid o ran gofal plant rhad ac am ddim yn yr etholiad ym mis Mai. Nid oedd yn fanwl, ond o'n safbwynt ni, gwnaethom ni ddweud y byddem ni’n darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant rhad ac am ddim am 48 wythnos y flwyddyn, a dyna'n union beth yr ydym yn bwriadu ei ddarparu.

O ran adroddiad y PPIW, dyna’n union beth ydyw—adroddiad. Nid yw'n bolisi Llywodraeth. Cafodd ei gyhoeddi’n eithaf diweddar, mewn gwirionedd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Nid yw'n rhywbeth sydd dan ystyriaeth weithredol.

Brif Weinidog, diolch yn fawr iawn am y datganiad hwn. Rwy’n credu eich bod wedi addo bedair gwaith yn eich datganiad eich bod eisiau gweld Cymru lle mae’r ffyniant o'r lefel uchaf. A dweud y gwir, rwy’n cynrychioli'r rhanbarth sydd â'r boblogaeth dlotaf yn y Deyrnas Unedig. Y peth yw, rwy'n falch eich bod wedi’i dderbyn o leiaf, ac mai dyma yw eich addewid cyntaf: eich bod yn mynd i ddod â ffyniant yn awr ar ôl 17 mlynedd. A gaf i ofyn i’ch Llywodraeth beth yw'r bwriad o ran cryfhau cysylltiadau rhwng addysg, cyflogaeth, asiantaethau cyflogaeth a’r cymunedau busnes lleol, ac o ran sicrhau bod gan brentisiaid sgiliau sy’n eu gwneud yn barod ar gyfer gwaith ac sy'n fwy perthnasol ar gyfer gofynion economaidd, waeth beth fo'u hoedran na’u rhyw, yng Nghymru? Diolch.

Mae hyn yn hynod bwysig. Bydd ef yn gwybod fy mod i, yr wythnos diwethaf, wedi lansio menter i gysylltu sgiliau â chyflogaeth ac addysg. Gwnaeth ef ei chroesawu’n gyhoeddus, ac rwy’n diolch iddo am hynny. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Ewrop, wrth gwrs, ond roedd yn rhywbeth yr oedd ef yn ei gefnogi. Gwyddom yn iawn ei bod yn hynod bwysig, wrth i ni nodi pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, ein bod yn gweithio gyda chyflogwyr a chyda'r sector addysg i sicrhau bod (a) y sgiliau’n cael eu nodi, a (b) eu bod yn cael eu darparu.

Un o'r cwestiynau a ofynnir i mi bob amser gan fuddsoddwyr posibl yng Nghymru yw 'A oes gan eich pobl y sgiliau sydd eu hangen arnom?' Nid mater o 'Ba mor rhad ydych chi?' ydyw erbyn hyn; mater ydyw o 'A oes gennych chi'r sgiliau?'. Rydym yn gallu ateb y cwestiynau hynny, ac mae hynny'n dangos, wrth gwrs, oherwydd y nifer o fuddsoddwyr newydd sydd wedi bod yn dod i Gymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

O ystyried bod lefelau cyflogau yng Nghymru yn parhau i fod yn is nag yn yr Alban ac yn Lloegr, bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU, bod lefelau diweithdra ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU, a bod ffyniant y pen yng Nghymru, a fesurir gan werth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir, yn parhau i fod yr isaf o blith y 12 o genhedloedd a rhanbarthau y DU—ac mae’r bwlch wedi ehangu mewn gwirionedd—sut yr ydych chi’n bwriadu gweithio'n wahanol gyda'r sectorau gwirfoddol a phreifat i wyrdroi'r canlyniadau negyddol hynny o’r diwedd, ac effeithio’n gadarnhaol ar y cymunedau hynny sydd wedi'u dal yn ystyfnig yn y sefyllfa honno?

Rydych chi’n sôn am helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol lle bo hynny'n briodol. O ystyried—rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno—mai’r ased pwysicaf yn ein cymunedau yw pobl, sut y byddwch yn ymgysylltu o'r diwedd â'r chwyldro cyd-gynhyrchu byd-eang a ddechreuodd bron i hanner canrif yn ôl, drwy weithio gyda rhwydwaith cyd-gynhyrchu Cymru, a lansiwyd ar 26 Mai, gyda chymorth ariannol y Loteri Fawr, a chefnogaeth ugeiniau o sefydliadau statudol a gwirfoddol ledled Cymru, sy'n bwrw ymlaen â'r chwyldro, ond mae angen i chi brynu i mewn a gwneud pethau'n wahanol? Rydych chi’n cyfeirio at y system metro yn y gogledd. Sut y byddwch yn ymgysylltu â gweledigaeth twf y gogledd, a chyda 'Thîm Gogledd Cymru', sef y sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat unedig y tu ôl i’r weledigaeth honno, er mwyn sicrhau bod yr hyn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r rhanbarth yn gofyn amdano, gan nad yw'r tîm yn sôn am y metro yn ei ddogfen yn unman? Noder nad yw'r gair yn y ddogfen, er bod llawer o'r prosiectau eraill y mae eu hangen ar y rhanbarth, rydych wedi cyfeirio at rai ohonynt, yn cael eu nodi. Ond, yn anad dim, dylid datganoli’r pwerau i'r rhanbarth i symud hynny ymlaen â hynny.

Yn olaf, o ran rhai o'r materion y cyfeiriodd Angela atyn nhw, gwnaethoch chi brin ymdrin â deddfwriaeth awtistiaeth. Gwnes i, unwaith eto, gadeirio cyfarfod o'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, yn y gogledd y tro hwn, ddydd Gwener diwethaf. Gallaf ddweud wrthych fod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru yn gwbl unedig dros yr angen am ddeddfwriaeth, gan ei bod yn cael effaith mor andwyol ar eu bywydau, gan fod y strategaeth wedi methu â chyflawni, gan fod angen dyletswyddau statudol ar ddarparwyr y sector, ynghyd â sicrwydd ynglŷn â diagnosis a chefnogaeth ôl-ddiagnostig, ac mae angen iddynt fynd i'r afael â'r lefelau erchyll o ran hyfforddiant ac ymwybyddiaeth. Yn yr un modd ac yn olaf, mae’r gymuned fyddar yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth, ac mae Gogledd Iwerddon yn ystyried sut, o fewn eu pwerau, y gallent wneud rhywbeth yno. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i allu mynd i’r afael, unwaith eto, â’r profiad anablu y mae gormod o bobl fyddar yn ei wynebu, gan nad yw’r rhwystrau yn cael eu dileu?

O ran tlodi plant, nid oedd y dreth ystafell wely wedi helpu ryw lawer na’r toriadau i'r system les, ac mae’n rhaid i’w blaid ef gymryd cyfrifoldeb am y rheini. Dyma’r hyn a ddywedais yn gynharach: rydym ni wedi gwneud yn hynod o dda ar nifer o ddangosyddion economaidd. Yr her yw parhau i gynyddu incwm domestig gros aelwydydd cyfunol ein pobl, ac, yn y pendraw, cynnyrch domestig gros. Mae hynny'n digwydd. Mae'r dyddiau pan fyddai Cymru yn cael ei gwerthu fel lle rhad i wneud busnes wedi hen ddiflannu. Mae'r swyddi yr ydym yn eu denu yn talu'n dda, maent wedi ymrwymo i Gymru, a bydd hyn yn arwain at gynnydd yn ein cynnyrch domestig gros y pen. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny yn y tymor canolig.

O ran asedau cymunedol, nid oes gennym unrhyw broblem gyda chyd-gynhyrchu. Rydym yn ceisio gweithio gyda phobl i ddefnyddio eu harbenigedd o ran sut i fwrw ymlaen â hynny. O ran y metro, mae’r metro yno. Byddwn yn gweithio gyda'r holl sefydliadau er mwyn ei gyflawni. Wrth gwrs, mae’r metro wedi'i gynllunio i sicrhau bod economi’r gogledd-ddwyrain yn gweithio mewn cyd-ffyniant ag economi gogledd-orllewin Lloegr—rydym yn gwybod nad yw'r metro ei hun yn mynd i fod yn hunangynhaliol yn y gogledd-ddwyrain—er mwyn sicrhau ffyniant i’r ddau ranbarth.

O ran awtistiaeth, nid ydym yn gwrthwynebu deddfwriaeth awtistiaeth mewn egwyddor. Mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w archwilio, ac mae’n gwneud awgrym diddorol o ran Iaith Arwyddion Prydain a sut y gallwn sicrhau bod yr iaith yn cael ei hadnabod yn well a’i sefydlu yn well yn ein cymunedau. Mae’n rhywbeth yr ydym yn hapus i geisio barn arno a chadw meddwl agored amdano.

Brif Weinidog, rwyf wedi drysu braidd gan y diffyg sôn am lywodraeth leol yn eich rhaglen lywodraethu, yn arbennig pan rydych wedi defnyddio rhethreg am yr hyn oedd yn y maniffesto. Wel, fe nodwyd, mewn gwirionedd, yn eich maniffesto, eich bod yn cydnabod swyddogaeth hanfodol y llywodraeth leol—

‘felly byddwn yn ceisio creu awdurdodau lleol cryfach, mwy o faint, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned cryfach, gan arwain at ddatganoli pwerau o Fae Caerdydd’.

Nawr, sut yn union ydych chi am wneud hynny yn dilyn traed moch y tymor blaenorol? Rydych chi wedi peri i lawer o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys swyddogion gweithgar ac egwyddorol iawn, aelodau etholedig a gweithwyr rheng flaen, ddrysu’n llwyr. Mae datganiadau gan eich plaid yr wythnos diwethaf, hyd yn oed, yn peri mwy fyth o ansicrwydd trwy sôn bod y cynllun bellach wedi oedi am 10 mlynedd, a chredaf i, mewn gwirionedd, ei fod yn hollol warthus eich bod wedi methu yn llwyr â sôn am lywodraeth leol o gwbl, boed o ran diwygio neu yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud. Mae nifer o drigolion yn ystyried bod y gwasanaethau hyn a ddarperir gan lywodraeth leol, mewn gwirionedd, yn llawer mwy teilwng ac yn bwysicach iddyn nhw na sut yr ydych chi’n gweithredu yma fel Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn i’n wirioneddol yn hoffi gofyn pa gynlluniau sydd gennych—dywedwch wrthym ni, wrth y Siambr, ac wrth bobl Cymru, sut yn union yr ydych yn bwriadu symud llywodraeth leol ymlaen ac i roi y tu ôl i ni unwaith ac am byth y llanast a’r traed moch llwyr a adawyd i ni gan eich Llywodraeth chi yn ystod y tymor blaenorol.

Byddwn i’n dadlau y daeth y traed moch yng nghanol y 90au—gallwn ddadlau drwy’r prynhawn ynglyn â hynny—pan grëwyd y 22 awdurdod ac, yn wir, eu ffiniau. Pam byddai rhywun yn cymryd rhai o'n hawdurdodau tlotaf a'u gwneud mor fach â phosibl? Gwyddom fod y rhain yn broblemau, a gwyddom nad yw'r system yn gynaliadwy. Rwy'n siŵr y gallwn ni ddadlau, pan fo gennym sefyllfa pan fu’n rhaid cymryd un awdurdod lleol drosodd am beidio â gallu gwneud unrhyw benderfyniadau, pan oedd gennym chwe awdurdod lleol ar un adeg dan fesurau arbennig ar gyfer addysg, pan gawsom broblemau gyda gwasanaethau cymdeithasol—rydym wedi cael problemau penodol yn Sir Benfro, o ran sefyllfa’r prif weithredwr yno—nid yw’r system fel ag y mae, yn amlwg, yn gynaliadwy.

Sut ydym yn symud ymlaen? Mae'r map cyn yr etholiad yn amlwg wedi mynd. Gadewch i ni dderbyn hynny, ac rwyf wedi dweud hynny o'r blaen yn gyhoeddus ac yn y Siambr hon. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi treulio'r haf yn siarad ag awdurdodau lleol, gyda'r nod o gytuno ar ffordd ymlaen. I rai, bydd yn golygu uno gwirfoddol, ac mae diddordeb mewn gwneud hynny; i eraill, bydd yn golygu gweithio yn rhanbarthol wrth ddarparu gwasanaethau. Felly, bydd y cynghorau yn dal i fodoli; y nhw fydd y pwynt mynediad, fel petai, ar gyfer y cyhoedd, ond byddai gwasanaethau yn y dyfodol yn cael eu darparu yn rhanbarthol. Felly, byddai gennych un adran. Er enghraifft, nid oes rheswm pam na allwch gael un adran gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer nifer o awdurdodau. Pam mae hynny yn beth da? Mae'n creu’r màs critigol y mae ei angen ar adran, fel nad yw’n broblem yn yr adran pan fo un neu ddau o bobl yn sâl. Rwyf wedi gweld hyn yn digwydd mewn awdurdodau llai. Gallwn wneud hynny drwy weithio gydag awdurdodau a’i wneud trwy gonsensws.

Rwy’n credu y dylai cynghorau tref a chymuned gael rhagor o bwerau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae’n rhaid i awdurdodau lleol, prif awdurdodau, ei ystyried hefyd. Ni ellir rhoi’r un pwerau i bob un oherwydd bod gwahaniaeth enfawr yn eu maint: mae rhai yn cynrychioli 100 neu 200 o bobl; mae eraill yn cynrychioli llawer o filoedd. Ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn dymuno edrych arno.

Nid yw'r system bresennol yn gweithio, ond rydym ni eisiau gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau ein bod yn cael system lle gellir darparu gwasanaethau yn fwy cadarn, yn fwy cyson, ac, wrth gwrs, yn well.

Diolch i chi, Lywydd, am eich goddefgarwch. A gaf i groesawu'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, Brif Weinidog? Rwyf i wedi cyfrifo—a hoffwn i chi gadarnhau hyn—bod hynny’n golygu eich bod yn cynyddu’r targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar gyfer y farchnad dai i gynhyrchu, nid 8,000 o gartrefi y flwyddyn, ond 12,000 o gartrefi y flwyddyn erbyn hyn. Rwyf yn gobeithio y gallwch chi gadarnhau hynny, ond yr wyf yn nodi bod y lefel bresennol o adeiladu tai yn gostwng mewn gwirionedd yng Nghymru, ac nad ydym yn debygol o adeiladu 8,000 o gartrefi hyd yn oed eleni.

Wel, ein targed yw 20,000. Bydd rhywfaint o hynny yn cael eu bodloni, fel y dywedais, drwy’r cynllun Cymorth i Brynu. Bydd gwahanol fodelau a fydd yn briodol i wahanol bobl—rwy'n credu bod hynny'n wir—a bydd angen i ni fod yn arloesol o ran gweld a oes ffyrdd y gallwn gael gafael ar dai presennol—nid yn orfodol, wrth gwrs—i’w rhoi ar y farchnad leol. Mae'r rhain i gyd yn faterion y bydd angen eu harchwilio.

Rydym yn gwybod y gwnaeth rhai rhannau o Gymru wledig—Powys, er enghraifft, golli hanner ei stoc o dai cyhoeddus yn yr 1980au a'r 1990au, gyda chanlyniadau enfawr. Rwyf wedi cwrdd â phobl nad ydynt yn gallu byw yn eu pentrefi genedigol—maent yn byw mewn cartrefi symudol o ganlyniad iddo. Wel, ni allwn oddef hynny; mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, o ran y dyfodol.

Felly, oes, mae gennym ni’r targed o 20,000 o gartrefi. Bydd amryw ffyrdd gwahanol o ran sut y byddwn yn cyrraedd y targed hwnnw, ond rydym yn benderfynol o’i gyrraedd.

4. 4. Datganiad: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon—Hynt y Rhaglen a'r Wybodaeth Ddiweddaraf

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y rhaglen newid addysg gychwynnol i athrawon. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, hoffwn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer rhaglen newid addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru.

Dylai pob rhiant, Lywydd, fod yn hyderus bod eu plentyn yn mynd i ysgol sy'n ei helpu i dyfu yn ddinesydd abl, iach a chyflawn. Mae’n rhaid cefnogi athrawon i fod y gorau y gallant fod, gan godi safon y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. Mae athrawon yn rhannu cenhadaeth unigol, broffesiynol a chenedlaethol i helpu ein plant i lwyddo.

Rwy’n credu bod adroddiad yr Athro John Furlong, 'Addysgu Athrawon Yfory', yn hanfodol ar gyfer diwygio ein cyrsiau addysg i athrawon a datblygu'r sgiliau sydd eu heisiau a’u hangen ar athrawon. Er mwyn i’r proffesiwn addysgu gyfrannu’n briodol at godi safonau addysg yn ein hysgolion, fel y nodir yn Dyfodol Llwyddiannus, mae’n rhaid i’n haddysg gychwynnol i athrawon gynnig y sgiliau, yr wybodaeth a'r awydd i athrawon y dyfodol arwain y newid sydd ei angen. Yn 'Addysgu Athrawon Yfory' argymhellwyd datblygu dull gwahanol iawn o achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, ac argymhellodd sefydlu bwrdd achredu addysg i athrawon o fewn Cyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ddydd Llun, 26 Medi, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, ynghyd â chynigion i roi’r swyddogaeth o achredu cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon i'r Cyngor Gweithlu Addysg, drwy bwyllgor y bydd yn ofynnol iddo ei sefydlu. Mae hwn yn gam allweddol, ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd cyflym. Rwyf yn cydnabod gwerth system addysg gychwynnol i athrawon wirioneddol gydweithredol, a'r gwahaniaeth y gall ei wneud, pan fo prifysgolion ac ysgolion weithio mewn gwir bartneriaeth.

Mae gan y goreuon yng Nghymru draddodiad o hunanwella drwy gydweithio. Nid lle ein hysgolion a’n hathrawon yn unig yw cyfoethogi ac ehangu cydweithio a chyd-wella—mae’n rhaid i’n prifysgolion gyflawni hyn hefyd. Dyma sut i lwyddo. Ni ymatebodd yr un academydd o unrhyw ganolfan addysg athrawon yng Nghymru i’r fframwaith rhagoriaeth ymchwil diweddaraf, a hoffwn i hyn newid.

Mae’r meini prawf achredu diwygiedig yn egluro ein disgwyliadau, yn wir ein gofynion, am newid sylfaenol. Yn gyntaf, mwy o swyddogaeth i ysgolion. Yn ail, swyddogaeth fwy eglur i brifysgolion. Yn drydydd, cydberchnogaeth o'r rhaglen addysg gychwynnol i athrawon. Yn bedwerydd, cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion. Ac, yn olaf, pa mor ganolog yw gwaith ymchwil.

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn ymweld â phob prifysgol yng Nghymru, gyda naill ai’r Athro Furlong, neu fy nghyfarwyddwr addysg. Hoffem archwilio’r cynnydd sydd wedi'i wneud, a sut y maent yn datblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol eu darpariaeth. Rwy’n benderfynol na allwn, ac na chawn, aros am newid. Er y caiff rhaglenni newydd addysg gychwynnol i athrawon eu hachredu a'u marchnata i ddarpar fyfyrwyr o haf 2018 ymlaen, rwy’n disgwyl gweld cynnydd sylweddol nawr. Hoffwn weld trefniadau partneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion yn aeddfedu. Hoffwn weld prifysgolion yng Nghymru yn cydweithio â'i gilydd, yn ogystal ag yn fwy eang. Hoffwn hefyd weld system sy'n hunanwella, lle mae’r proffesiwn yn gweithio i wella ei hun ac i wella eraill. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, rydym yn disgwyl i'r partneriaethau ddangos eu bwriad i geisio achrediad gyda rhaglenni diwygiedig. Mae angen i bob athro ddatblygu’r sgiliau addysgu ac asesu cywir i'w galluogi i ddefnyddio'r cwricwlwm newydd i gefnogi dysgu ac addysgu’n llwyddiannus. Ynghyd â sgiliau cydweithio, arloesi ac arwain, byddwn yn datblygu athrawon ac arweinwyr myfyriol a hynod effeithiol sydd wedi ymrwymo i’w twf proffesiynol eu hunain a’u cydweithwyr.

Bydd safonau addysgu proffesiynol newydd yn nodi disgwyliadau trwyadl ar gyfer mynediad i'r proffesiwn fel y gallwn ddenu'r goreuon a byddwn hefyd yn ceisio ysbrydoli datblygiad gydol gyrfa drwy ddisgrifio sut y mae arferion effeithiol iawn yn edrych. Er mwyn cefnogi’r broses o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon, bu rhaglen reolaidd o ymgysylltu â'r proffesiwn ac rydym yn croesawu cefnogaeth barhaus y prifysgolion i wneud mwy i ddatblygu'r safonau addysgu proffesiynol newydd ar gyfer y statws athro cymwysedig.

Wrth i ni symud ymlaen gyda'r rhaglen gyffrous hon i newid addysg gychwynnol i athrawon, mae hefyd yn bwysig ein bod yn ystyried llwybrau amgen a thraddodiadol i addysgu. Mae cynifer o unigolion sydd â'r arbenigedd a'r wybodaeth y gwyddom y byddant yn cyfoethogi ein system addysg. Hoffwn sicrhau bod gennym lwybrau o safon uchel trwy gyflogaeth i addysgu, sy’n cynnwys cefnogaeth a datblygiad proffesiynol effeithiol, sy'n hyblyg ac yn ymatebol ac sy’n cael eu datblygu drwy gydweithio'n agos â’r sector a’r consortia addysg. Fy mhrif bwrpas wrth ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon yw gwella ansawdd y ddarpariaeth a gyflwynir a pharatoi athrawon y dyfodol yn well i ddatblygu’r sgiliau i addysgu fel y gall dysgwyr ddysgu. Hoffwn i addysgu fod yn broffesiwn dewis cyntaf a hoffwn ddenu'r goreuon i addysgu a'i wneud yn yrfa gydol oes. Ac ni fydd hyn yn realiti, os nad yw’n cynnig addysg gychwynnol i athrawon yn iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer ynddo fe y byddwn i’n hapus iawn i’w gefnogi. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi croesawu adroddiad Furlong a’i argymhellion, ac mi oedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau diweddar yn amlinellu rhai o agweddau penodol yr hyn rŷm ni’n credu sydd ei angen i gryfhau addysg gychwynnol i athrawon a datblygu proffesiynol parhaus. Rwy’n cymryd nad ydych chi’n gwyro o agwedd y Llywodraeth flaenorol a dderbyniodd holl argymhellion Furlong hefyd.

Mi oedd eich rhagflaenydd chi hefyd, wrth gwrs, yn dweud bod angen cyflymu newidiadau i addysg gychwynnol i athrawon, ac mae’r ymgynghoriad yr ydych chi’n cyfeirio ato fe, a fydd yn cychwyn yr wythnos nesaf yn un, rwy’n deall, y mae’r sector wedi bod yn disgwyl amdano fe ers mis Ionawr. Felly, nid wyf yn siŵr a yw hynny’n adlewyrchu’r ‘progress at pace’ rŷch chi’n sôn amdano fe yn eich datganiad. Ac wrth gwrs rŷch chi’n dweud:

‘change can not and must not wait’.

A allwch chi, felly, ehangu ychydig ar eich amserlen weithredu chi fel Gweinidog Cabinet? Rŷch chi wedi cyfeirio at 2018 fel dyddiad allweddol, ond byddwn i’n licio clywed, efallai, beth yw rhai o’r cerrig milltir o safbwynt y broses ymgynghori ac yn y blaen rŷch chi wedi cyfeirio ati. Mi fyddai hynny yn fuddiol iawn.

Nawr, mae’r ymgynghoriad arfaethedig yn cyfeirio at ddatblygu un agwedd benodol o waith y Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw am ddiwygio ehangach y cyngor hwnnw yn ein maniffesto ni i un sydd yn gorff proffesiynol, hunanreoleiddiol sy’n gyfrifol am safonau dysgu a datblygu proffesiynol parhaus. Rŷch chi’n dweud y byddech chi’n disgwyl i bartneriaethau rhwng ysgolion a phrifysgolion aeddfedu. Rŷch chi’n disgwyl yn gynnar yn y flwyddyn newydd iddyn nhw ddatgan eu bwriad i gael eu hachredu â rhaglenni newydd, felly a allwch chi ddweud wrthym ni beth fyddwch chi’n ei wneud os na fyddan nhw? Rwy’n gwybod bod eich rhagflaenydd chi wedi bod yn ddiamynedd, efallai, ynglŷn â symud yn hynny o beth, a byddwn i’n licio gwybod, petai hynny ddim yn digwydd, pa gamau y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd.

Rŷm ni i gyd, wrth gwrs, am i ddysgu fod yn broffesiwn dewis cyntaf—byddai pawb yn cytuno, rwy’n siŵr, fan hyn â hynny. Ond mae’n rhaid i mi ofyn i’m hunan y dyddiau yma—pwy, mewn gwirionedd, sydd yn hyrwyddo dysgu fel gyrfa? Rŷm ni’n gwybod bod nifer yr athrawon cofrestredig yn disgyn o rai cannoedd bob blwyddyn. Rŷm yn hyfforddi tua hanner yr athrawon yn flynyddol ag yr oeddem yn eu hyfforddi yn 2006. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi fod yna job o waith sydd angen ei wneud sydd ddim yn digwydd yn ddigon effeithiol ar hyn o bryd, o safbwynt hyrwyddo gyrfa mewn dysgu—nid jest o ran niferoedd, wrth gwrs, ond o ran denu ymgeiswyr o’r radd flaenaf? Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth yr oedd Furlong yn cyfeirio ato fe, ac mae’r OECD, Estyn ac eraill, wrth gwrs, wedi mynegi gofid ynglŷn â hynny.

Roedd Plaid Cymru, yn ein maniffesto ni, yn cynnig premiwm o 10 y cant ar gyflog athrawon a fyddai’n cyrraedd lefel penodol o ddatblygu proffesiynol. Yn sicr, mi fyddai hynny’n cyfrannu at godi safonau, yn fy marn i, ond hefyd yn arf i ddenu—ac i gadw—ymgeiswyr o’r radd uchaf i ddod i ddysgu. A fyddech chi’n barod i ystyried hynny, achos rwy’n nodi, yn y rhaglen llywodraethu sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, fod y Llywodraeth eisiau cydnabod, hyrwyddo ac annog rhagoriaeth ym maes addysgu? Os ydych am gydnabod hynny, efallai bod modd gwneud hynny drwy gyfrwng premiwm o ryw fath. Byddwn i’n ddiolchgar petaech chi’n ystyried hynny.

Mae lleihau biwrocratiaeth hefyd yn bwysig, yn fy marn i, oherwydd dyna un o’r agweddau mwyaf negyddol pan mae’n dod i geisio denu pobl i’r sector. Gyda hynny mewn golwg, wrth gwrs, o safbwynt denu ymgeiswyr o’r radd uchaf, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa rôl rydych chi’n gweld ‘Teach First’ yn ei chwarae, a’r rhaglen athrawon graddedig, hefyd, oherwydd mae ganddynt rôl yn y dirwedd hyfforddi bresennol, ac yn cael arian gan y Llywodraeth hefyd. A ydy hynny am barhau yn yr hirdymor? Ble mae’r uchelgais cyfatebol, o safbwynt y Llywodraeth, mewn perthynas â staff dysgu cynorthwyol, oherwydd mae’n rhaid i ni gryfhau’r ansawdd ar draws y proffesiwn, ym mhob agwedd wrth gwrs?

Rydych chi hefyd wedi sôn yn flaenorol—ac mi wnaf i orffen gyda hyn—am ddatblygu strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth. Gwnaethoch ddatganiad cyn yr haf i’r perwyl hwnnw. Roeddech chi’n dweud bryd hynny y byddai hynny’n cryfhau’r ffocws ar feysydd megis datblygu safonau dysgu proffesiynol newydd a chychwyn y symudiad at broffesiwn dysgu gradd Meistr, ac yn y blaen. Sut bydd yr hyn yr ydych yn ei gyhoeddi heddiw a’r strategaeth honno yn dod at ei gilydd? Gallaf glywed rhai, efallai, yn dweud nawr eich bod chi’n gofyn cwestiynau i’r sector nawr yn eich datganiad, ac yn yr ymgynghoriad sydd i ddod, heb, efallai, inni weld y weledigaeth a’r strategaeth ehangach hynny sydd eto i gael eu hamlinellu.

Diolch yn fawr iawn, Llyr, am y pwyntiau hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sydd yn bwysig mewn gwirionedd ar gyfer diwygio addysg wrth i ni symud ymlaen yw gallu parhau i geisio datblygu’r consensws hwn ar draws y Siambr o ran cyfeiriad cyffredinol y daith. Rwy'n credu mai dyna sydd ei angen ar y system addysg ar hyn o bryd, yn fwy na dim. Felly, rwyf yn croesawu yn fawr iawn eich ymrwymiad parhaus i ddiwygiadau Furlong, ac rwyf yn gwerthfawrogi hynny.

Rwy’n credu ei bod yn ddigon teg ichi ofyn y cwestiwn ynglŷn â chyflymder cyflwyno rhai o'r argymhellion hyn gan Furlong. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg iawn, a dyna pam yr oeddwn yn pwysleisio’r pwynt ynghylch cyflymder yn fy natganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu y gallwn symud yn gyflymach nag yr ydym wedi gwneud, ac y bydd angen i ni wneud hynny.

Gwnaethoch chi ofyn am amserlen: bydd yr ymgynghoriad, fel y dywedais, yn dechrau ddydd Llun yr wythnos nesaf, a bydd yn para saith wythnos. Mae'n gyfnod ymgynghori eithaf byr, oherwydd byddwch yn ymwybodol bod achrediad drafft, wedi ei gyflwyno am ymgynghoriad cyn-ymgynghori yn y gwanwyn eleni. Felly, mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud. Ni fydd hyn yn syndod i bobl, oherwydd cafodd rhywfaint o'r gwaith craffu cyn deddfu hwnnw ei wneud yn yr haf. Felly, mae'n ymgynghoriad saith wythnos. Rydym yn disgwyl i'r sefydliadau roi arwydd cynnar i ni yn y flwyddyn newydd o'u bwriad i chwilio am achrediad. Efallai y bydd pobl newydd yn mynegi diddordeb mewn chwilio am achrediad. Felly, rydym yn disgwyl hynny yn y flwyddyn newydd. Rydym ni eisiau i gyrsiau gael eu hachredu a'u marchnata yn haf 2018, i’w mabwysiadu a dechrau hyfforddi yn 2019. Dyna'r amserlen yr ydym yn gweithio ati, felly, ac mae'n amserlen dynn iawn, sef un o'r rhesymau pam y mae angen gwneud yr ymgynghoriad yn gyflym yn ystod tymor yr hydref hwn.

Gwnaethoch chi ofyn am yr hyn y gallwn ei wneud i recriwtio a chadw athrawon. Rwy’n credu eich bod yn gywir; rwy'n credu bod angen i ni bwysleisio llawer yn gliriach pa mor bwysig ydyw bod addysgu yn broffesiwn dewis cyntaf, ac yr hoffem i'n graddedigion disgleiriaf a gorau ddod i mewn i'r proffesiwn hwnnw. Rwy'n credu bod yna nifer o resymau pam, efallai, nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd a dyna pam mae angen i ni gymryd rhan yn y broses hon o ddiwygio ein haddysg gychwynnol i athrawon am nad yw cystal ag y gallai fod. Nid yw’n darparu’n gyson y sgiliau sydd eu hangen ar bobl i symud yn llwyddiannus i'r ystafell ddosbarth. Felly, mae hyn yn rhan o'r rhaglen honno i godi’r statws. Byddaf i’n gwneud cyhoeddiadau pellach yn yr hydref am wahanol ffyrdd yr ydym yn gobeithio gallu canolbwyntio ar arfer da, i ddathlu hynny yn ysgolion Cymru ac amlygu’r rhai sy'n gwneud gwaith gwych ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau am hynny yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol ein bod yn cynnal prosiect biwrocratiaeth ar hyn o bryd. Byddwn yn mynd allan gyda'r holiadur cyntaf erioed i bob athro ac aelod staff addysgu, fel y gallaf glywed yn uniongyrchol gan y proffesiwn sut y maent yn teimlo am eu swyddi a'u statws ar hyn o bryd: a ydynt yn cael y gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt ac a oes gofyn iddynt wneud pethau nad ydynt yn ychwanegu gwerth i'r plant yn eu dosbarthiadau. Felly, mae hyn i gyd yn rhan o raglen i geisio sicrhau ein bod yn gwrando yn well ar athrawon ac yn ymateb yn well iddynt, wrth hefyd ddisgwyl safonau uchel iawn gan y proffesiwn. Dyna pam yr ydym yn gweithio ar ein safonau proffesiynol a fydd yn destun ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd i’w mabwysiadu’n fuan ar ôl hynny.

Gwnaethoch chi sôn am gyflogau. Wrth gwrs, rwy'n cymryd rhan mewn trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â datganoli tâl ac amodau athrawon oherwydd rwy’n credu bod gennym gyfle, pe câi’r pwerau hynny eu datganoli i Gymru, i allu alinio tâl ac amodau â rhywfaint o'r agenda hon. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau oherwydd nid wyf am i’r pwerau hynny gael eu datganoli i ni mewn ffordd sy'n rhoi anfantais ariannol i Lywodraeth Cymru, sydd eisoes yn wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd setliadau o San Steffan.

Gwnaethoch chi sôn am Teach First. Fel y dywedais yn fy natganiad, rwy’n edrych ar amrywiaeth o ffyrdd o gael llwybrau gwahanol i'r proffesiwn. Yn gynharach, dywedodd eich arweinydd fod angen i ni werthuso, gwneud yr hyn sy’n gweithio a chael gwared ar yr hyn nad yw'n gweithio. Felly, rwy’n edrych yn ofalus iawn ar yr holl raglenni sydd gennym ar hyn o bryd ac yn gofyn a yw gwariant Llywodraeth Cymru yn y meysydd hynny yn arwain at athrawon o safon uchel yn addysgu yng Nghymru. Dyna beth rwy'n ei wneud ar hyn o bryd, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod yr arian yr ydym yn ei wario yn arwain at athrawon o safon uchel o flaen ein plant mewn dosbarthiadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn fwrw ymlaen â hynny cyn bo hir.

O ran arweinyddiaeth, dylai’r academi arweinyddiaeth gael ei lansio yn nes ymlaen eleni. Rwy'n gobeithio y bydd y ddarpariaeth ar waith erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, felly, mewn gwirionedd, bydd cyrsiau, cymorth a chyfleoedd datblygu ar gael i bobl erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Rydych chi wedi ymateb i nifer o gwestiynau y mae Llyr Gruffydd eisoes wedi’u gofyn ynglŷn â’r amserlen. Ond, a gaf i ofyn hyn i chi? Un o'r pethau y gwnaethoch chi sôn amdanynt yn y datganiad oedd pwysigrwydd llwybrau gwahanol i addysgu. Rwyf i wedi clywed yr hyn yr ydych chi newydd ei glywed wrth ateb Llyr Gruffydd ynglŷn â’r cyfleoedd y gellid eu rhoi i’r bobl sydd allan yna, a allai fod yn athrawon, ond a allwch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi’n ei wneud, mewn gwirionedd, fel Llywodraeth, i archwilio cyfleoedd a allai fod ar gael i bobl sydd ar hyn o bryd mewn gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, busnes a diwydiant a allai fod yn athrawon gwych ac a allai fod yn gaffaeliad arbennig i'r proffesiwn addysgu yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau y gallant ddod i mewn i'r ystafell ddosbarth pe bai newid gyrfa yn briodol iddynt? Rydym yn gwybod y bu rhywfaint o bwysau mewn rhai rhannau o Gymru ar gael digon o athrawon, yn enwedig yn y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ac o ran cael athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Tybed pa gamau penodol yr ydych yn eu cymryd i geisio recriwtio i’r pynciau penodol hynny.

Un o'r pethau nad ydych wedi sôn amdanynt ychwaith yw’r cyfleoedd a all fod i athrawon a hyfforddwyd dramor i ddod i mewn i system Cymru. Ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae unrhyw un yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n athro cymwys yn unrhyw un o'r gwledydd hynny sy'n ffurfio rhan o'r AEE yn gallu dod yma a phontio yn gymharol gyflym i statws athro cymwysedig. Ond, wrth gwrs, mae llawer o systemau addysg eraill, a llawer ohonynt yn debycach efallai i’n system ni na'r rhai mewn rhannau o'r AEE—Awstralia, Canada a rhai o'r systemau eraill o gwmpas y byd sydd â safonau tebyg i'n rhai ni—nad ydynt yn cael statws athro cymwysedig yn awtomatig, er bod llawer o'r athrawon hynny wedi ymroi blynyddoedd lawer i'r proffesiwn addysgu. Tybed, Weinidog, pa ystyriaeth yr ydych chi a Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r unigolion penodol hynny, er mwyn cael gwared ar rwystrau a allai fod yn ddiangen rhag iddynt hwy allu dod i weithio yma yng Nghymru yn ein hysgolion.

Nodaf hefyd nad oedd cyfeiriad penodol at ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon. Rydych wedi cyfeirio rhywfaint at hyn mewn datganiadau blaenorol yr ydych wedi’u gwneud, yn enwedig o ran y cynllun pasbort sydd ar gael i bobl allu manteisio arno. Ond, o ran gorchymyn hyfforddiant i’n hathrawon i sicrhau eu bod yn parhau i ddatblygu eu sgiliau fel bod gennym weithlu medrus iawn, tybed a allech chi ddweud wrthym pa gynnydd pellach sy’n cael ei wneud o ran datblygiad proffesiynol parhaus ein staff addysgu.

Unwaith eto, clywais eich ateb ynglŷn â’r academi arweinyddiaeth. Rwy'n falch bod pethau’n symud ymlaen gyda hynny. Rydym yn gwybod mai ansawdd yr arweinyddiaeth yn ein hysgolion yn aml iawn sy’n pennu pa mor dda yw ysgol a pha mor dda y mae ysgol a phlant yn yr ysgolion hynny, ac, yn wir, y staff yn yr ysgolion hynny, yn perfformio mewn gwirionedd. Unwaith eto, tybed a allech chi dynnu sylw at rai enghreifftiau ymarferol o ble yn union y mae’r arfer gorau yr ydych wedi dweud eich bod wedi’i weld, a sut yr ydych yn disgwyl i'r consortia gynorthwyo i gyflwyno’r arfer gorau hwnnw i'r ysgolion yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Diolch.

Diolch, Darren, am eich pwyntiau. Os caf ddechrau drwy sôn am ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn amlwg pwyslais y datganiad heddiw yw addysg gychwynnol i athrawon, ond rydych yn hollol gywir na allwn byth anghofio na thynnu ein sylw oddi ar yr angen i gefnogi athrawon sydd eisoes yn yr ystafell ddosbarth, a byddwch yn ymwybodol bod y pasbortau dysgu wedi’u lansio y llynedd. Rydym yn ceisio gweld a ydynt wedi bod yn effeithiol yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar waith a beth y gallwn ei ddysgu o hynny. Rydym yn gweithio gydag ysgolion arloesol y fargen newydd i edrych ar ba fath o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Wrth siarad ag athrawon, fel yr wyf wedi’i wneud ers dechrau yn y swydd hon, mae’n ymddangos mai’r ffordd fwyaf effeithiol yw cydweithio rhwng athrawon, yn enwedig os gellir meithrin hynny o fewn rhwydwaith o ysgolion lleol. Mae rhai o'r hen rwystrau o ran diffyg ymddiriedaeth broffesiynol i beidio â bod eisiau rhannu gwendidau a chryfderau ag eraill yn cael eu chwalu, rwy'n falch o weld, ac mae athrawon yn gweld gwerth gweithio gyda'i gilydd. Mae’r rhwydweithiau hynny’n cael eu datblygu a'u cefnogi gan y consortia. Wrth gwrs, un o agweddau allweddol ein safonau addysgu proffesiynol newydd fydd ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus gan yr athrawon eu hunain, gyda phwyslais ar barhau i ddilyn yr ymchwil diweddaraf, megis y syniadau diweddaraf am faterion addysgeg. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'n dull safonau dysgu.

O ran y coleg arweinyddiaeth, rydym yn gwybod bod arweinwyr ysgolion sydd wedi achosi newid enfawr ym mherfformiad eu hysgolion. Roeddwn i’n ymweld yn ddiweddar ag ysgol lle, yn eithaf dadleuol, ychydig o flynyddoedd yn ôl, y cyflwynwyd ffederasiwn. O fewn tair blynedd, roedd dangosyddion perfformiad TGAU lefel 2 plws wedi cynyddu dros 25 y cant. O fewn tair blynedd, roedd arweinydd ysgol llwyddiannus wedi gallu dod â rhaglenni a dulliau i'r ysgol newydd honno ac, o ganlyniad, wedi gweld newid enfawr, enfawr. Yn wir, roedd y bobl a oedd yn arwain y gwrthwynebiad i’r newid llywodraethu hwnnw bellach yn dweud, 'Edrychwch arnom ni; edrychwch ar ba mor dda y mae ein hysgol wedi gwneud yr haf hwn. Ac, yn wir, mae ein graddau ni yn well na'r ysgol breifat dros y ffordd.' Roedden nhw’n falch iawn dros ben o'u cyflawniad. Felly, mae'n fater o edrych ar y mathau hynny o fodelau, oherwydd gallwn yrru cyflawniad ei flaen.

Beth yr ydym yn ei wneud ynglŷn â phynciau STEM a'r Gymraeg? Wel, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol bod premiymau ar gael eisoes i raddedigion mewn pynciau STEM neu raddedigion sydd â sgiliau yn y Gymraeg i fynd i hyfforddi fel athrawon. Mae angen i ni edrych i weld a ydym yn cael gwerth da am arian o’r cynlluniau hynny ac a yw’r athrawon hynny, yn y pen draw, yn ein hystafelloedd dosbarth. Rydym yn gwerthuso hynny, ond dyna un ffordd o’i wneud.

O ran athrawon rhyngwladol, mae’n rhaid imi ddweud, Darren, yn hytrach nag ystyried pa rwystrau yr ydym ni wedi eu creu i athrawon sy'n cymhwyso i addysgu yng Nghymru, mae’n rhaid meddwl pa rwystrau y mae’r Swyddfa Gartref a'r gwasanaeth mewnfudo wedi’u creu yng Nghymru. Rydym wedi ein rhwystro gan y system sydd wedi ei rhoi ar waith gan y Swyddfa Gartref a'r system fewnfudo yn San Steffan, sydd mewn gwirionedd yn cyfyngu ar allu pobl o dramor i ddod i weithio yn y wlad hon, ac nid dim ond ym maes addysgu. Y llynedd, cawsom y traed moch o ran nyrsys, lle’r oedd angen taer am nyrsys yn y wlad hon a bu'n rhaid i ni gael caniatâd arbennig dim ond ar gyfer y gaeaf er mwyn caniatáu i nyrsys o dramor ddod yma. Felly, mewn gwirionedd, nid yma yng Nghymru y mae’r rhwystrau; mae'r rhwystrau yn rhai sydd wedi’u creu—[Torri ar draws.]—wedi’u creu gan San Steffan rhag caniatáu i bobl o dramor ddod i fyw a gweithio yn y wlad hon.

Ond, fel y dywedais i, mae angen i ni gadw cydbwysedd rhwng datblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon sydd eisoes yn y system, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cynnig addysg gychwynnol i athrawon yn iawn, oherwydd, os na wnawn, ni fyddwn yn gallu gweld y gwelliannau yn safonau ysgolion yr hoffech chi a minnau eu gweld.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Roedd addysgu yn yrfa dewis cyntaf i mi ac rwyf wedi treulio 16 mlynedd gwerth chweil yn y dosbarth. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun o weithio gyda rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon fel mentor myfyrwyr fy hun, pa mor bwysig ydynt o ran sicrhau bod addysgu’n parhau i fod yn yrfa dewis cyntaf, a hefyd pa mor fuddiol ydyw i athrawon gael athrawon dan hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth gyda nhw, i rannu syniadau newydd.

Dyma fy nghwestiwn i: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y rhaglen newydd yn darparu hyfforddiant llawn a manwl ym maes anghenion dysgu ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant? A, hefyd, sut y caiff y Bil ADY newydd ei gynnwys yn hyn pan ddaw’n gyfraith?

Diolch yn fawr iawn wir, Vikki. Mewn rhai ffyrdd, er fy mod i’n falch iawn eich bod chi yma, mae'n drist eich bod chi wedi penderfynu mai gwleidyddiaeth fyddai eich ail yrfa, yn hytrach nag aros yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n credu eich bod chi’n gywir. Mae'r berthynas rhwng athro dan hyfforddiant a'r ysgol letyol yn gwbl hanfodol, a dyna pam y mae angen i ni weld diwygiad o ran sut y mae prifysgolion ac ysgolion yn gweithio a’r cydbwysedd rhwng yr amser y mae athrawon dan hyfforddiant yn ei dreulio mewn prifysgolion a’r amser y maent yn ei dreulio mewn gwirionedd ar lawr y dosbarth, yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon cymwysedig yn yr ystafelloedd dosbarth. Mae arnom angen perthynas agosach o lawer rhwng prifysgolion a'r ysgolion, sydd wedi bod yn rhan o'r broblem yn y gorffennol. Mae arnom angen berthynas agosach o lawer, sy'n bwysig iawn.

Maddeuwch i mi, beth oedd y cwestiwn olaf? Mae'n ddrwg gen i, dylwn i fod wedi—

ADY—wrth gwrs, ADY. Byddwch chi’n ymwybodol mai’r egwyddor y tu ôl i'r Bil ADY yw y dylai fod gan bob proffesiwn addysgu y ddealltwriaeth a'r gallu i ymateb i gyfraddau anghenion dysgu ychwanegol effaith isel, y ceir llawer o achosion ohonynt, a bod yn rhaid cynnwys hynny yn yr hyfforddiant cychwynnol athrawon ein hathrawon. Bydd angen, ochr yn ochr â chyflwyno'r ddeddfwriaeth, rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi hynny. Oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod llawer o bobl yn teimlo nad oes prin ddim ystyriaeth i anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg gychwynnol i athrawon ar hyn o bryd a bydd hynny’n rhan o'r rhaglen achredu: edrych i weld sut y mae cyrsiau unigol yn rhoi sylw gwirioneddol i hynny os ydynt am gael eu hachredu gan y corff newydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol clywed yn eich datganiad eich bod yn credu ei bod yn bwysig edrych ar lwybrau eraill i addysgu. Mae llawer o bobl ddawnus a thalentog o lawer o wahanol yrfaoedd a allai ysbrydoli plant a chefnogi eu cyd-athrawon gan ddefnyddio eu profiad gwaith gwahanol yn cael eu hannog i beidio â mynd i mewn i'r proffesiwn gan y gofyniad am gymhwyster ffurfiol drwy dystysgrif addysg i raddedigion. Rwyf i’n gwybod yn bersonol am nifer o bobl a fyddai wrth eu bodd yn mynd i addysgu, ond na allant fforddio’r broses TAR—mae ganddynt filiau, mae ganddynt forgeisi i’w talu. Nid wyf yn dweud na ddylai fod angen cymhwyster ar athrawon, ond mae’n rhaid cael llwybr arall i addysgu ac i gael cymhwyster. Felly, pa lwybrau amgen ydych chi wedi bod yn edrych arnynt?

A gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiwn? Rwy'n credu ei bod yn hollol glir bod angen i’r bobl sy’n ymuno â'r proffesiwn feddu ar y sgiliau a’r cymwysterau cywir. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Llywodraeth flaenorol i godi safonau ac rwy'n ymroddedig i wneud hynny. Mae gennym ni ystod o raglenni i raddedigion sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rydym ni wedi bod yn treialu dull Teach First yng Nghymru. Fel y dywedais i’n gynharach, mae’r dulliau hynny yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd.

O ran rhwystrau i bobl sy'n dychwelyd i'r brifysgol i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fynd yn athrawon, rwy'n gobeithio, gyda chyhoeddi adolygiad Diamond, efallai y bydd gennym rywbeth i'w ddweud am ystod ehangach o fesurau cymorth i fyfyrwyr ac, wrth gwrs, byddaf yn rhoi datganiad i'r Siambr i'r perwyl hwnnw yr wythnos nesaf.

5. 5. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynlluniau i Recriwtio a Hyfforddi Meddygon Teulu Ychwanegol ynghyd â Gweithwyr Proffesiynol Eraill ym Maes Gofal Sylfaenol

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill ychwanegol. Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd ein maniffesto Llafur Cymru yn gwneud ymrwymiad i gymryd camau i ddenu rhagor o feddygon teulu i Gymru ac i annog rhagor o feddygon i hyfforddi yma. Gwnaethom ni hefyd gytuno â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen, i roi cynlluniau ar waith i hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill ychwanegol. Ein gweledigaeth ar gyfer y GIG yng Nghymru yw gwasanaeth iechyd integredig â gofal sylfaenol cryfach a mwy modern yn ganolog iddo. Bydd angen darparu mwy o ofal iechyd cyffredinol mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl, gan atal yr angen am deithiau neu dderbyniadau i'r ysbyty.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun gofal sylfaenol yn 2014. Mae hwn yn nodi dull clir i sefydlogi a sicrhau gwasanaethau gofal sylfaenol y dyfodol, yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd doeth a gweithlu wedi'i ailfodelu a’i amrywiaethu. Cyhoeddwyd cynllun gweithlu gofal sylfaenol ym mis Tachwedd 2015, ac mae'n cynnwys camau gweithredu i ddatblygu, amrywiaethu a buddsoddi yn y gweithlu gofal sylfaenol, gan gynnwys, wrth gwrs, meddygon teulu.

Rydym yn gwybod bod modelau traddodiadol meddygfeydd teulu dan bwysau gan fod llai o feddygon ledled y DU yn dewis gyrfa yn feddyg teulu, a bod llawer o'r rhai sy’n dewis gwneud hynny’n dewis gweithio fel meddyg teulu cyflogedig neu locwm. Mae yna, wrth gwrs, heriau eraill hefyd: cadw meddygon teulu hŷn a mwy profiadol fel rhan o duedd tuag at ymddeol yn gynnar, cynnydd mewn gwaith sesiynol a rhagor o feddygon teulu’n dewis gweithio'n rhan-amser, ac yn aml, ceir canfyddiad gwael o fod yn feddyg teulu fel dewis gyrfa. Dim ond rhai o'r heriau gyrfa yw’r rhain, ac maent i gyd wedi’u gosod mewn cyd-destun marchnad recriwtio anodd ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Ers datganiad y Prif Weinidog ym mis Mai, rydym wedi datblygu cynlluniau ar gyfer ymgyrch recriwtio fawr genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, a'u teuluoedd, i hyfforddi, gweithio a byw. Bydd sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, yn dod at ei gilydd o dan faner GIG Cymru i fanteisio ar y defnydd gorau o weithgarwch lleol, megis gwefan ragorol Rhondda Docs—a byddaf yn dweud, os nad ydych chi wedi cael golwg arni, mae'n werth gweld yr hyn y mae meddygon yn ei wneud eu hunain i farchnata’r ardal y maent yn byw ac yn gweithio ynddi ac yn falch iawn o wneud hynny. Bydd hyn oll yn digwydd gan ddefnyddio brand Cymru. Bydd pedair agwedd ar yr ymgyrch. Bydd yn targedu myfyrwyr meddygol nad ydynt eto wedi dewis arbenigedd i wella cyfraddau llenwi lleoedd hyfforddi meddygon teulu, hyfforddeion sy’n dod at ddiwedd eu hyfforddiant i'w hannog i fyw a gweithio yng Nghymru, meddygon teulu sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar neu sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa, a meddygon teulu sy’n agosáu at ymddeol neu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar iawn i hyrwyddo dewisiadau eraill sydd ar gael er mwyn eu hannog i barhau i weithio neu ddychwelyd i weithio.

Gallaf gadarnhau i'r Siambr heddiw y byddwn yn lansio’r ymgyrch ar 20 Hydref, gan arwain yn syth at ffair gyrfaoedd y British Medical Journal yn Llundain ar 21 a 22 Hydref. Dyma ran gyntaf ymgyrch fwy hirdymor a pharhaus i ddenu rhagor o feddygon i Gymru.

Yn ogystal â'r elfennau marchnata ar yr ymgyrch, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, i sefydlu bargen fwy eglur i feddygon teulu ar ffurf 'cynnig Cymru'. Bydd hyn yn cyfleu manteision presennol bod yn feddyg teulu yng Nghymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i ymdrin â phryderon y rhai sy'n darparu gwasanaethau bob dydd fel bod Cymru’n dod yn ddewis gwlad pobl.

I gefnogi meddygon teulu, a'u teuluoedd, sy’n dymuno gweithio yng Nghymru, rydym yn datblygu un pwynt cyswllt yn rhan o gylch gwaith unwaith dros Gymru partneriaeth gwasanaethau a rennir GIG Cymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y swyddogaeth cyflogi meddygon teulu unigol a ddarperir ar hyn o bryd gan wasanaethau a rennir a bydd yn cynnig ffynhonnell wybodaeth hawdd ei defnyddio ar gyfer gyrfaoedd meddygol a meddygon teulu. Bydd yn annog ac yn cefnogi pobl sy'n ymateb i'r ymgyrch neu syn mynegi diddordeb mewn dychwelyd i weithio yn y proffesiwn iechyd. Bydd hefyd yn hyrwyddo rhwydwaith o hyrwyddwyr recriwtio. Bydd yr hyrwyddwyr yn gweithredu fel cyswllt ar gyfer meddygon o'r tu allan i Gymru sy'n ystyried adleoli i Gymru i drafod sut beth yw gweithio yng Nghymru mewn gwirionedd.

Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru i ddatblygu cynllun cymhelliant posibl ar gyfer nifer cyfyngedig o swyddi meddyg teulu yn rhan o becyn ehangach i gefnogi ardaloedd Cymru sy’n wynebu heriau penodol i lenwi swyddi meddygon teulu dan hyfforddiant presennol.

Ochr yn ochr â'r ymgyrch, byddwn, wrth gwrs, yn parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol: mae £42.6 miliwn wedi’i ddarparu i fyrddau iechyd ar gyfer 2016-17 i’w cynorthwyo i roi eu cynlluniau ar waith, ac mae £10 miliwn o hyn wedi’i ddyrannu i’r 64 clwstwr gofal sylfaenol i fuddsoddi yn eu blaenoriaethau lleol ac i alluogi arloesi ar lefel leol.

Byddwn ni’n parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymdrin â llwyth gwaith—mae 40 y cant o'r pwyntiau a oedd yn gysylltiedig â gofynion fframwaith canlyniadau ac ansawdd contract meddygon teulu wedi eu dileu ers 2015-16—ac i ddatblygu atebion i faterion megis indemniad proffesiynol.

Yr hyn yr wyf wedi’i ddisgrifio hyd yn hyn yw cam cyntaf yr ymgyrch, sy’n canolbwyntio ar feddygon. Nod y cam nesaf fydd ymdrin â'r heriau sy’n wynebu proffesiynau gofal sylfaenol eraill, megis nyrsys, therapyddion, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion a pharafeddygon, wrth i'r angen barhau am fwy o amrywiaeth yn y gweithlu gofal sylfaenol. Rydym ni’n gweithio gyda'n partneriaid a’n clystyrau gofal sylfaenol i ddeall yr amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen mewn gofal sylfaenol i ateb y galw presennol a'r galw a ragwelir yn y dyfodol. Bydd y dadansoddiad hwn o anghenion y gweithlu yn ein galluogi i ddarparu ymgyrchoedd marchnata wedi'u targedu ac i ddatblygu rhaglenni cynhwysfawr i hyfforddi a datblygu’r gweithlu ar lefel byrddau iechyd ac ar lefel genedlaethol.

I oruchwylio'r gwaith o ddatblygu, gweithredu a chyflwyno'r gweithgarwch yr wyf wedi'i amlinellu, mae tasglu gweinidogol wedi’i sefydlu. Mae hyn yn dod â sefydliadau proffesiynol, cyflogwyr a’r Llywodraeth at ei gilydd i ddwyn pawb sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth i gyfrif. Fi oedd cadeirydd cyfarfod cyntaf y tasglu ym mis Awst, a byddwn yn cyfarfod eto yn gynnar y mis nesaf.

Mae ein cynlluniau ar gyfer gofal sylfaenol yn glir. Mae cyflenwi’n dibynnu ar gael y gorau o bawb sy’n rhan o’r gweithlu gofal sylfaenol, a byddwn yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn hyn dros dymor y Cynulliad hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae hwn yn faes sy’n sicr yn flaenoriaeth i ni ym Mhlaid Cymru, a dyna pam, wrth gwrs, yr oeddem ni’n benderfynol o gael ymrwymiad yn y maes yma yn rhan o’r cytundeb ôl-etholiadol. Mi ydym ni’n wynebu argyfwng ac, yn wyneb argyfwng o’r math yma, mae angen gweithredu brys. Mae yna lai o feddygon teulu y pen yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Ac, yn ail, mae’r galw arnyn nhw yn cynyddu. Felly, mae hi’n eithaf clir nad ydy’r sefyllfa sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Rwy’n croesawu sawl elfen o’r datganiad ond, mae yna sawl peth, rydw i’n meddwl, yn annigonol, yn aneglur, neu ar goll o’r datganiad. Felly, mi ofynnaf bedwar o gwestiynau.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am system gymell i rai swyddi. Rydw i’n cymryd mai mewn ardaloedd lle mae recriwtio yn anodd y byddai hynny. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau y byddai hynny’n cynnwys cymhellion i wasanaethu dros amser yn hytrach na dim ond cymhellion byr dymor i lenwi swyddi byr dymor? Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n edrych yn hirdymor, wrth gwrs. Mae yna ambell i elfen hirdymor, o bosibl, sydd ddim yma. Nid oes sôn am recriwtio myfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth yn y lle cyntaf. Nid oes yna chwaith sôn am recriwtio myfyrwyr ysgol i fod eisiau dilyn gyrfa fel meddyg teulu—rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo—ac i fynd i astudio meddygaeth efo’r golwg o’r cychwyn, os liciwch chi, i fynd i mewn i ofal sylfaenol. Tybed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ymchwilio i waith a allai gael ei wneud yn y maes yna.

Y trydydd cwestiwn gennyf i: mi ddywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad ar y radio y bore yma, wrth gyfeirio at niferoedd y meddygfeydd teulu sydd wedi cael eu rhoi yn ôl yn nwylo’r byrddau iechyd, nad oedd hynny, yn angenrheidiol, yn ddrwg o beth. A ydy hynny’n golygu bod anelu at gael rhagor o feddygfeydd wedi’u rheoli’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd yn rhywbeth y byddech chi’n dymuno mynd ar ei ôl, a hyd yn oed yn dod yn rhywbeth y byddech chi fel Llywodraeth yn ei ffafrio o hyn ymlaen?

Ac yn olaf—mae hyn yn gwbl hanfodol—a gaf i ofyn pa darged y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ei osod ar gyfer nifer y meddygon teulu ychwanegol y mae o eisiau eu cael, neu niferoedd y meddygon teulu y bydd gennym yng Nghymru erbyn 2021? Os ystyriwch chi: yn dechnegol, byddai cael un meddyg teulu rhan-amser newydd yn golygu ehangu’r ddarpariaeth o feddygon teulu. Ond, beth yw’r targed sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei feddwl o? Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, er enghraifft, wedi dweud ein bod ni angen 400 o feddygon teulu ychwanegol yng Nghymru. A oes unrhyw reswm ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet pam na fyddai’r ffigur hwnnw’n darged priodol?

Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau ac am ymdrin â'r datganiad mewn modd lled adeiladol. Trof yn gyntaf at eich pwynt olaf, ynglŷn â gosod targed ar gyfer nifer y meddygon teulu. Nid ydym wedi gosod targed ar gyfer nifer y meddygon teulu ychwanegol, am y rheswm syml mai’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw hyfforddi’r nifer mwyaf posibl o feddygon teulu i fodloni cyfraddau llenwi. Nid ydym yn bodloni ein holl gyfraddau llenwi ar hyn o bryd, fel sy'n wir, yn anffodus, am bob rhan o'r DU. Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod hon yn her i’r DU ac yn her ryngwladol. Mae gen i ddiddordeb mewn cael rhagor o feddygon teulu lle nad oes gennym ddigon ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i ailfodelu gofal sylfaenol fel bod gennym weithlu gwirioneddol integredig sy’n cynnwys meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill, nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol wedyn i osod targed ar gyfer un rhan o'r gweithlu gofal sylfaenol. Rydym ni’n wirioneddol glir y bydd angen rhagor o feddygon teulu arnom, ond bydd angen i’n meddygon teulu weithio'n wahanol hefyd, a byddaf i’n dychwelyd i’r pwynt hwnnw.

Eich pwynt am gymhellion: rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru. Hefyd, rhan o'r pwynt am y tasglu yw cael trafodaethau gyda phartneriaid ynghylch sut y gallai a sut y dylai cymhellion edrych. Felly, rydym yn edrych yn benodol ar gynlluniau bondio—rydym yn gwybod bod hyn yn rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb i’ch plaid chi hefyd—ynglŷn â’r posibilrwydd o edrych ar gynlluniau bondio i ddod â phobl i ardaloedd lle ceir heriau ac, yn yr un modd, i edrych ar y potensial am feddygon teulu newydd a sut y gallwch chi helpu pobl â rhai o gostau eu hyfforddiant, o bosibl, os yw pobl yn cytuno i ymgymryd â chyfnod gwasanaeth penodol yma yn GIG Cymru. Felly, mae yna rywbeth am gael rhywbeth am rywbeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym wrthi’n ei archwilio gyda phartneriaid. Byddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi diweddariadau iddo ef, a hefyd i weddill y Siambr, wrth i ni ystyried hynny’n briodol ac yn weithredol, a dod i gasgliad am hynny.

Ni wnes i sôn amdano yn fy natganiad, ond rwyf wedi sôn amdano o'r blaen yn y Siambr hon, y pwynt am fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Cyfarfûm â deoniaid ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, a chyfarfûm â nhw gyda’i gilydd, yn hytrach na chael sgyrsiau ar wahân lle y gallent ddweud wrthyf beth nad oedd y lleill yn ei wneud. Cefais sgwrs ar y cyd ac roedd yn adeiladol iawn yn wir. Unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth sydd wedi fy nharo’n fawr ac sy’n rhoi rhywfaint o reswm i mi fod yn optimistaidd: nid ydynt wedi bod yn ceisio sgorio pwyntiau. Maent wedi derbyn y ffaith bod angen i ni wneud yn well. Roedd rhan o'r sgwrs honno’n ymwneud â sut yr ydym yn annog rhagor o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru i ymgymryd â gyrfaoedd mewn meddygaeth, a sut y gallwn ddarparu hynny i ystod ehangach o bobl hefyd. Felly, mae'n fater o ehangu mynediad, yn ogystal â chynyddu niferoedd. Mae hynny'n bendant iawn yn rhan o'r sgwrs yr ydym yn ei chael, oherwydd hoffem weld rhagor o fyfyrwyr o Gymru yn dewis ymgymryd â'u hyfforddiant meddyg teulu yma. Mae ystod o fyfyrwyr o Gymru yn barod i fynd i rannau eraill o'r DU a thramor i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol. Mae amrywiaeth o resymau pam y mae pobl yn gwneud hynny. Os edrychwch ar israddedigion newydd sy’n mynd i mewn i yrfa mewn meddygaeth, efallai y byddant yn awyddus i gael profiad gwahanol, oddi cartref. Nid oes rheswm pam na ddylai fod cyfleoedd ardderchog iddynt yma yng Nghymru. Ond, er enghraifft, un gymhariaeth uniongyrchol yw’r gweithlu hyfforddi nyrsys. Oedran cyfartalog nyrs dan hyfforddiant sy’n dechrau yw 29. Maent mewn sefyllfa wahanol iawn, os mynnwch chi, i’ch israddedigion nodweddiadol, o ran eu gwreiddiau mewn ardal benodol a’u cyfrifoldebau. Felly, mae angen i ni gydnabod y gwahanol grwpiau o bobl yr ydym yn ymdrin â nhw, a sut yr ydym yn gwneud hynny’n ddeniadol ac yn dileu rhwystrau i sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr o Gymru yn astudio meddygaeth yma yng Nghymru.

Mae hyn hefyd yn ymwneud â’r pwynt am brofiad gwaith. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym wrthi'n ei ystyried, nid yn unig o fewn y rhan meddygon teulu a meddygon o'r gweithlu yma, ond yr ystod eang o yrfaoedd sy'n bodoli o fewn y GIG, a gwneud yn siŵr bod y GIG yn fwy rhagweithiol o ran ymgysylltu â’r boblogaeth leol y mae'n ei gwasanaethu, yn gweithio gyda hi ac ar ei chyfer, gan dynnu sylw at yr holl ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd gwladol i bobl iau hefyd. Rwy'n disgwyl y byddaf yn gallu dweud mwy wrthych am yr hyn y mae'r GIG yn ei wneud, ond mae disgwyliad clir iawn gan y Llywodraeth i'r GIG y ceir cynnig profiad gwaith llawer ehangach, sy’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i ddod i mewn yn iau, yn ogystal ag i bobl sy’n mynd yn hŷn ac yn meddwl am ddewisiadau gwahanol yn ddiweddarach yn eu bywyd academaidd hefyd. Mewn gwirionedd, o ran profiad a gwneud cyfleoedd mewn meddygaeth, nid wyf wedi ei gwylio eto, ond mae cyfres newydd ddechrau ar S4C, sy’n edrych ar hyfforddiant meddyg. A dweud y gwir, roedd Prifysgol Caerdydd a'r ysgol feddygol yn wirioneddol gadarnhaol am y ffordd yr oedd honno’n mynd i gyflwyno'r cyfle i fod yn feddyg, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd a’r hyn y gall ei roi i rywun—nid dim ond o ran yr enillion ariannol, ond gyrfa wirioneddol werth chweil o fewn pob rhan o feddygaeth, gan gynnwys gofal sylfaenol hefyd.

Nawr, os caf ddod yn ôl at eich pwynt olaf yn y fan yna am ble’r ydych yn dechrau ac am siâp gofal sylfaenol, wel, roeddech chi’n dweud nad ydym mewn sefyllfa gynaliadwy. Nid yw'r ffordd bresennol o weithio yn gynaliadwy, ac felly, bydd angen i rannau helaeth o ofal iechyd edrych yn wahanol ymhen pum mlynedd—dylem fod eisiau i hyn ddigwydd. Y pwynt yw y dylem gynllunio iddynt edrych yn wahanol mewn ffordd sy'n gwasanaethu anghenion ein poblogaeth orau. Yr her yma yw sut yr ydym yn sicrhau nad yw newid yn rhywbeth sy’n anochel yn digwydd inni—ein bod yn ei reoli ac yn cymryd perchnogaeth ohono. A dyna beth rwy'n ceisio ei wneud gyda'n partneriaid. Mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn hyn, wrth ymgysylltu yn y tymor hwn, y bu agwedd gadarnhaol â phleidiau eraill yn y Siambr hon, ac rydym i gyd yn edrych i’r un cyfeiriad ar hyn o bryd. Nawr, bydd hynny'n golygu, mewn gofal sylfaenol, fodd bynnag, ein bod yn disgwyl y bydd nifer llai o feddygfeydd. Mae’n debygol y bydd gennym lai ohonynt. Rydym yn debygol o weld mwy o uno. Rydym yn debygol o weld mwy o ffederasiynau hefyd. Mae ffederasiwn yn dechrau ym Mhen-y-bont, a chredaf fod hwnnw’n enghraifft gadarnhaol. Gallai olygu, dros ardal ehangach, y byddwch yn darparu gwahanol wasanaethau i’r boblogaeth, a hefyd y bydd gennych wasanaethau mwy cadarn. Felly, nid oes gennyf gynllun penodol i gyflwyno nifer penodol o bractisau i reolaeth bwrdd iechyd lleol; ein nod yw sicrhau bod gennym weithlu gofal sylfaenol gwirioneddol gynaliadwy ar ôl troed sy'n gwneud synnwyr ac sy’n gyffredinol gynaliadwy, a bydd hynny'n golygu newid. Ac o gofio nifer y meddygfeydd un person a dau berson sydd gennym yng Nghymru, mae’n ddealladwy y bydd rhywfaint o newid, ac mae hynny'n creu ansicrwydd i unigolion sy'n gweithio i’r meddygfeydd hynny ac i'r boblogaeth leol. Ein her yw sut yr ydym yn ymdrin â hynny mewn ffordd wirioneddol aeddfed ac adeiladol heb geisio manteisio ar ofn a chyfleoedd i sgorio pwyntiau ar unwaith, ond dweud mewn gwirionedd, 'Sut yr ydym am wneud yn siŵr, mewn pum mlynedd, y bydd gofal sylfaenol mewn gwell sefyllfa, yn fwy cynaliadwy, ac y bydd gan bobl ffydd wirioneddol yn ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu cael ac yn cymryd rhan ynddynt'.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch bod dadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf wedi cael effaith mor ysgogol arnoch, oherwydd mae'r datganiad hwn mewn gwirionedd yn sôn am y rhan fwyaf o'r gofynion a gyflwynwyd gennym, neu awgrymiadau, ar gyfer yr hyn y gallem ei wneud i wella recriwtio meddygon teulu yng Nghymru. Mae gennyf, fodd bynnag, un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn ichi.

Gadewch imi ei gwneud yn glir fy mod wir yn croesawu hyn, ond hoffwn ofyn: a wnaethoch chi gynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen recriwtio meddygon teulu flaenorol? Rwy'n meddwl mai 2012 neu 2014 ydoedd; ni allaf gofio, a bod yn onest, pa un o'r ddwy flynedd hynny oedd hi, ond rwy’n gwybod nad oedd y niferoedd yn dda iawn, oherwydd rwy’n meddwl y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i wneud yn siŵr ein bod wedi rhoi sylw i bopeth. Ac eto, fel y dywedwch, rydych yn mynd i dargedu myfyrwyr meddygol nad ydynt wedi dewis arbenigedd eto. A fydd hyn hefyd yn golygu y byddwch chi’n gweithio gyda'r ddeoniaeth i geisio sicrhau bod meddygfeydd teulu yn rhan o gylchdro meddyg iau? Oherwydd rwyf yn meddwl bod hyn yn gwbl hanfodol o ran ennyn diddordeb meddygon ifanc yng nghymhlethdodau meddygfeydd teulu, a rhoi cyfle iddynt gymryd rhan yn hynny, a sylweddoli y gall hynny fod yn ffordd werth chweil ymlaen.

Rwy'n falch iawn o weld, wyddoch chi, eich bod wedi derbyn y ffaith bod yn rhaid inni ddenu’r meddygon a'u teuluoedd, ond beth fyddai hynny’n ei olygu mewn termau real? Beth ydych chi'n feddwl y gallem ni ei wneud, neu y gallai eich Llywodraeth chi ei wneud, i sicrhau y byddai partner meddyg hefyd yn gallu dod o hyd i waith yn y math o broffesiynau yr hoffai weithio ynddynt yma yng Nghymru, yn enwedig wrth inni symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth brif ddinasoedd, wyddoch chi, Abertawe, Caerdydd ac, yn wir, y gogledd ac i mewn i'r ardaloedd mwy gwledig? Mae'n anoddach cael swyddi yn gyffredinol, heb sôn am y math o swyddi y gallai partner fod yn dymuno mynd amdanynt.

A ydych chi wedi sôn, yn hyn, yn eich rhaglen recriwtio, am y pryderon ynghylch prynu i mewn i feddygfeydd anodd neu rai sy’n cael anawsterau? Rwyf wir wedi derbyn eich pwynt am yr indemniad proffesiynol, ac rydych chi’n sôn am ymdrin â phryderon pobl sy'n darparu gwasanaethau bob dydd, fel bod Cymru yn dod yn wlad o ddewis. Wel, wrth gwrs, mae angen inni hefyd edrych ar gostau prynu i mewn i feddygfa a safon y seilwaith y gallai pobl fod yn prynu i mewn iddo. Felly, a fyddwch chi’n edrych ar hynny?

A fyddwch chi’n rhoi sylw i’r gwahaniaeth rhwng cyflog ar ôl treth meddygon yng Nghymru a meddygon yn Lloegr? Hynny yw, yn nodweddiadol yn Lloegr—. Mae eu cyflog ar ôl treth tua 10 y cant yn uwch, ac rwy’n meddwl tybed a yw hynny'n ffactor, a tybed a ydych chi’n mynd i gael golwg ar hynny.

Tybed pwy fydd yn talu am y rhaglen recriwtio hon. A allech chi roi rhyw syniad inni? A ydych chi wedi rhoi arian o'r neilltu ar ei chyfer, oherwydd, o ystyried bod diffyg cyfunol presennol yr holl fyrddau iechyd lleol tua £78 miliwn, rwy’n meddwl tybed a ydynt yn ariannu'r rhaglen recriwtio yn eu hardaloedd, ynteu a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ei ariannu, ynteu a fyddwch yna’n ad-dalu’r costau yn ôl allan eto?

Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld eich sylwadau am eich gwaith gyda Deoniaeth Cymru i ddatblygu cynllun cymhelliant potensial yn rhan o becyn ehangach i gefnogi ardaloedd o Gymru sy'n wynebu heriau penodol i ddarparu meddygon teulu. Nawr, mae’n rhaid mai ardaloedd gwledig yw llawer o hynny, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ymhelaethu ychydig mwy ar hynny oherwydd, fel y gwyddoch, yn enwedig yn y gorllewin, rydym yn dioddef prinder difrifol o feddygon teulu, a byddai gennyf ddiddordeb mewn deall hynny.

Yna, yn olaf, roeddwn yn falch iawn o weld eich bod wedi sôn am y ffaith y bydd y cam nesaf yn ymdrin â'r heriau sy’n wynebu proffesiynau gofal sylfaenol eraill. Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud hyn nawr tua tair gwaith, ac rwy’n mynd i’w ddweud am y bedwaredd tro: mae 30 y cant o’r nyrsys mewn ymarfer cyffredinol dim ond yn Hywel Dda yn bwriadu gadael o fewn y pum mlynedd nesaf, felly rwy’n meddwl bod gennym broblem tra sylweddol ar y ffordd, a tybed a allwch chi roi rhyw syniad inni pryd y gallai’r cam nesaf hwnnw ddechrau, oherwydd mae angen inni geisio rhoi, yn amlwg, pobl ar waith neu mewn hyfforddiant cyn inni gyrraedd y pwynt lle’r ydym mewn trafferth wirioneddol.

Mae'n ddrwg gen i, Lywydd—mae un cwestiwn arall a dweud y gwir, sef: a ydych chi’n rhagweld codi neu gynyddu o fewn cyfnod byr, a cheisio codi, nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru? Rwy'n meddwl eich bod wedi cyfeirio at hynny wrth ateb Rhun, ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a yw hynny’n un o'ch uchelgeisiau, ac os ydyw, pa mor hir y gallai gymryd i gyflawni hynny?

Diolch unwaith eto am y gyfres o gwestiynau, ac unwaith eto am yr ymgysylltiad adeiladol, cyn heddiw ac yn ystod y dydd hefyd. Rwy'n hapus i ddweud bod y meysydd yr ydym yn bwriadu ymdrin â nhw heddiw ar ein meddyliau cyn i’r Ceidwadwyr Cymreig osod eu cynllun dadl. Mae'n gyd-ddigwyddiad doniol, onid yw? Ond dyna ni.

O ran y pwyntiau a wnewch am yr ymgyrch flaenorol, gadewch inni ddechrau gyda hynny. Mae gwersi wedi eu dysgu am yr amser a gymerodd a hefyd am y negeseuon a pha mor gadarn oedd y rheini hefyd. Felly, yn sicr mae angen dysgu’r cysondeb hwnnw. Mae yna hefyd rywbeth am—ac mae'n bwynt yr ydych wedi’i wneud yr ydym wedi mynd ati i’w ystyried, ac mae wedi ei atgyfnerthu gan bartneriaid hefyd—edrych ar y person cyfan a'r wlad gyfan. Felly, rydych yn edrych ar y person cyfan fel meddyg teulu; beth arall yr hoffai ei wneud? Mae rhai rhannau o Gymru wedi bod yn dda iawn am wneud hyn, ac i fod yn deg, yn y gogledd-orllewin a’r de-orllewin maent wedi bod yn llawer gwell am hysbysebu popeth y gall rhywun ei gael o fyw a gweithio yn y rhan honno o'r byd. Felly, byddai rhai pobl wir yn hoffi’r ffordd o fyw sydd ar gynnig yno. Ac i bobl eraill, nid yw'n union yr un fath, ond rydym yn cael grŵp penodol o bobl sydd wir yn awyddus i fyw yn rhywle hefyd, ac mae hynny'n werthfawr iawn.

Mae’r unigolyn hwnnw, wrth gwrs—weithiau mae’n dod â dibynyddion, ac ar adegau eraill nid yw’n gwneud hynny. Mae hynny’n rhan o'r pwynt unigoledig ynglŷn â nid dim ond cynnig Cymru, ond yr hyrwyddwyr recriwtio: deall sut mae hyn yn edrych os ydych yn dymuno adleoli i Gymru, a beth sy'n bwysig i chi? Nid dim ond mater o’r lleoliad unigol ydyw, ond wrth gwrs, o fewn ardal ehangach teithio i'r gwaith. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teithio cryn bellter i mewn i’r gwaith bob dydd, ac nid yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn ddim gwahanol yn hynny o beth. Felly, mae'n fater o ddeall yr hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r unigolyn hwnnw, i’r cyd-destun teuluol yr hoffai weithio ynddo, a beth sy'n bwysig iddyn nhw hefyd. Wrth gwrs, rydym yn ariannu’r ymgyrch genedlaethol ar recriwtio, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn hynny ar wahanol adegau, ond yn arbennig at weld beth yw’r ymateb gan ein partneriaid a'r cyswllt a fydd ganddynt gyda'u haelodau, ac yna yn y pen draw at weld sut mae hynny’n edrych o ran canlyniadau i bobl sydd yn dymuno adleoli a byw a gweithio yma yng Nghymru.

Felly, nid ydym wedi cael mewnbwn penodol bod cyflog ar ôl treth yn broblem. Mae rhywbeth yn y fan yna am sut i ddefnyddio cymhellion yn glyfar, er hynny. Dyna pam mae bondio’n broblem, ac yn yr ardaloedd hynny lle ceir sylfaen dystiolaeth gwirioneddol, bydd yn gwneud gwahaniaeth. Rhannau gwledig o'r wlad fyddai rhai o'r ardaloedd hynny, rwy’n dychmygu, ond mae rhannau eraill o Gymru nad ydynt yn wledig sy’n dal i wynebu heriau penodol. Felly mae angen inni feddwl pa mor glyfar yr ydym efallai wrth ddefnyddio’r cymhellion hynny.

Nawr, ynglŷn â niferoedd hyfforddi, pwynt a wnaethoch, hoffwn fod yn glir nad wyf yn mynd i osod targed uwch ar gyfer niferoedd hyfforddi. Mae angen inni lenwi'r lleoedd presennol sydd gennym. A dweud y gwir, mae gennym gyfradd llenwi ychydig yn well na rhannau eraill o'r DU—rydym ychydig dros dri chwarter—ond yr her yw nad ydym yn llenwi ein rhifau o hyd. Pan fyddwn yn llawer nes at hynny, rwy’n hapus i edrych eto ar yr hyn sydd ei angen arnom o fewn ein gweithlu, y lleoliad rhanbarthol y mae’n rhaid inni weithio oddi mewn iddo, a gweld a yw wedyn yn ddoeth edrych ar ehangu hynny. Ond gadewch inni wneud yr hyn yr ydym eisiau ei wneud nawr yn iawn: hynny yw, llenwi'r lleoedd sydd gennym a gwneud yn siŵr bod gennym brofiad o safon uchel hefyd, oherwydd mae’r arolwg diweddar ar brofiad hyfforddiant, unwaith eto, yn dangos bod meddygon eu hunain, sy’n cael hyfforddiant, yn dweud mai Cymru yw’r rhan orau o'r DU i gael y profiad hyfforddi gorau un. Mae hynny'n bwysig iawn hefyd, felly mae llawer o bethau inni eu gwerthu mewn modd cadarnhaol.

Un o'r heriau yr ydym yn eu cydnabod yw’r ystâd gofal sylfaenol—nid dim ond y syniad, os mai chi yw’r dyn neu’r fenyw olaf sy’n sefyll mewn meddygfa, a bod gennych yr holl rwymedigaethau, a hen adeilad nad yw bellach yn addas i’w ddiben, y gall hynny fod yn faich gwirioneddol—sy’n gallu bod yn anghymhelliad i bobl brynu i mewn i feddygfa. Mae hynny'n rhywbeth am y model hefyd. Mae hefyd yn rhywbeth am—ac mae hyn yn her sy’n ymwneud â sut yr ydym yn defnyddio adnoddau cyhoeddus o ran ailfodelu ac ail-lunio gofal sylfaenol, ac os edrychwch ar bron bob enghraifft o adeiladau gofal sylfaenol newydd y mae Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd wedi buddsoddi ynddynt, mae'n fodel gwahanol yr ydym yn buddsoddi ynddo, ac mae'n darparu nid yn unig y gwahanol fath o ansawdd a phrofiad i'r claf ac i'r staff sy'n gweithio yno, ond mae bron bob amser yn rhoi profiad newydd, ac nid dim ond profiad newydd ond gwasanaethau newydd. Ac mae hynny'n bwysig iawn, hefyd, felly rydym yn ceisio gwneud yn siŵr mai’r cynllun yr hoffem ei gael ar gyfer gofal sylfaenol, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, integredig, yw’r hyn yr ydym mewn gwirionedd wedyn yn buddsoddi ynddo—rydym yn buddsoddi mewn rhan o'r ystâd gofal sylfaenol newydd. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhan o fod yn glyfar ar gyfer y dyfodol, gan wneud yn siŵr bod y ddau beth yn gydgysylltiedig.

O ran y pwynt am ddod i gysylltiad â gofal sylfaenol, mae partneriaid yn sôn yn rheolaidd wrthym am hyn. Mae gwaith diddorol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd gyda'r rhaglen C21, sy’n gwneud yn siŵr bod dod i gysylltiad â gofal sylfaenol yn bendant yn rhan o hynny—ei fod yn fwriadol yn hytrach nag yn ddamweiniol—ac mae hynny hefyd yn mynd i mewn i'n gwaith gyda phroffesiynau eraill yn ogystal. Felly, rydym yn edrych ar fframweithiau gyrfa, a bydd gennyf fwy i'w ddweud am weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol yn ystod yr hydref hwn hefyd. Rydym yn edrych ar ehangu niferoedd hyfforddi ar gyfer ystod o wahanol broffesiynau hefyd—penderfyniad a wnaethpwyd gan y Gweinidog blaenorol—ac felly rydym yn wirioneddol o ddifrif am dyfu’r gweithlu mewn ardaloedd lle mae angen inni wneud hynny. Rydym yn cydnabod bod hynny'n rhan bwysig o'r hyn yr ydym yn ei wneud, ac mae hefyd yn fater o newid y model—felly nid dim ond y rhifau, ond sut y mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd, felly nid dim ond fferylliaeth gymunedol, ond yr holl rannau gwahanol, y therapyddion a'r gwyddonwyr hefyd a'r hyn y gallant ei wneud, gan weithio ochr yn ochr â meddygon teulu. Mae agweddau yn newid ac mae’r gymuned meddygon teulu yn fodlon ymgysylltu â’r holl bobl hynny i fynd ati mewn gwirionedd i ail-lunio gofal sylfaenol, ac rwy’n meddwl y bydd clystyrau’n rhan bwysig o hynny, hefyd.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod argyfwng ym maes gofal sylfaenol. Dymunwn bob llwyddiant ichi â’r ymgyrch hon, oherwydd mae angen dybryd ar Gymru am fwy o feddygon teulu, neu bydd gennym broblem enfawr. Yn anffodus, nid yw eich cynigion yn gwneud llawer i’n helpu ni yn y sefyllfa sydd ohoni. Wrth i’r GIG baratoi am bwysau blynyddol y gaeaf, rydym eisoes yn gweld mwy o faich ar ofal sylfaenol. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu’n dweud wrthym bod rhai o gynlluniau pwysau gaeaf byrddau iechyd yn galw am fwy o waith ar hyd a lled—bod gwasanaethau gofal sylfaenol mewn rhai ardaloedd eisoes wedi cyrraedd eithaf eu gallu, neu wedi mynd y tu draw i hynny. Felly nid yw'r cynlluniau hyn yn ddichonadwy ar hyn o bryd.

Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau nad yw cynllunio gaeaf yn rhoi beichiau ychwanegol ar ofal sylfaenol? Hyd nes y bydd gennym ddigon o feddygon teulu i leihau'r baich gwaith ar ein staff gofal sylfaenol presennol, mae'n rhaid inni wneud mwy i leihau'r baich ar ymarfer cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i feddygfeydd teulu i gyflogi staff clinigol er mwyn lleihau'r baich gwaith ar feddygon teulu? Rydym yn croesawu'r newyddion y bydd cam nesaf yr ymgyrch yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu proffesiynau gofal sylfaenol eraill.

Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen gwneud llawer mwy i annog a hyfforddi staff, fel parafeddygon, ffisiotherapyddion a nyrsys iechyd galwedigaethol, i weithio ym maes gofal sylfaenol yn hytrach na’u swyddogaeth draddodiadol mewn gofal eilaidd. A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud y gwaith i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei weld fel dewis gyrfa ddichonol i'r rhai sy'n ystyried gyrfa mewn gofal eilaidd? Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn dweud wrthym bod y rhan fwyaf o feddygon teulu a'u staff wedi’u gorymestyn ar hyn o bryd. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau bod meddygon teulu a'u staff, sy'n dioddef straen oherwydd llwythi gwaith gormodol, yn cael eu cefnogi'n llawn a bod gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gael iddynt hwy eu hunain?

Ac, yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cydnabyddir yn eang bod gofal sylfaenol wedi’i danariannu’n enbyd, ac er ein bod yn croesawu'r arian yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw, mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn dweud wrthym nad yw’r clystyrau’n gweithio mewn rhai ardaloedd, a bod yr arian yn araf i hidlo drwodd. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau bod y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn cyrraedd y rheng flaen mewn gwirionedd? Diolch yn fawr.

Diolch i lefarydd UKIP am ei chyfres o sylwadau a chwestiynau. Dechreuaf yn y dechrau gyda'r anffodus ond yr angenrheidiol.

Pan fyddwch yn dweud bod—. Nid yw'r Llywodraeth yn derbyn bod yna argyfwng, ac rwy’n meddwl bod yr iaith yn wirioneddol bwysig. Rydym yn derbyn bod yna her wirioneddol iawn, ac mae'n her arbennig mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae yna her ledled y DU ac yn rhyngwladol, ond nid yw'n rhywbeth sydd ar fin cwympo o fewn y diwrnod nesaf. Felly, rwyf wir yn glir ynghylch yr iaith. Nid yw hynny'n golygu nad yw staff dan bwysau; nid yw'n golygu nad oes gwasanaethau dan bwysau; nid yw'n golygu y gallwn osgoi newid nac y bydd newid yn hawdd. Ond pan fyddwn yn edrych ar hyn—a byddaf yn ymdrin â'r pwynt a wnaethoch yn gynharach ynglŷn â sut yr ydym yn cefnogi staff—y gwir yw ein bod wedi gweithio gyda gofal sylfaenol i wneud yn siŵr bod gwell cymorth iechyd galwedigaethol ar gael i staff o fewn y lleoliadau hynny. Felly, mae'n gam cadarnhaol ymlaen yr ydym eisoes wedi’i gymryd. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, gan weithio ochr yn ochr â'r proffesiwn gofal sylfaenol ehangach.

Rhof sylw i’ch sylwadau a’ch cwestiynau am bwysau’r gaeaf hefyd. Rhan o'r her bob gaeaf yw ein bod yn gwybod y byddwn yn wynebu, yn anochel, mwy o bobl yn dod i'r ysbyty sydd yn gyffredinol yn mynd i fod yn hŷn ac yn salach; wrth i’n poblogaeth heneiddio, dyna’r proffil a fydd gennym. Yn ddiddorol, mae'r niferoedd yn llai yn y gaeaf, ond mae'r angen yn fwy. Felly, dyna pam mae gennym ein heriau gwahanol. Rwyf yn clywed yn rheolaidd gan rai pobl nad oes y fath beth â phwysau gaeaf mwyach, mae'r pwysau drwy gydol y flwyddyn, ond rydym yn gwybod yn iawn bod proffil y bobl ag angen cymorth gofal iechyd yn newid, ac mae'n fwy acíwt yn y gaeaf. Nid yw dim ond ceisio cynyddu capasiti o fewn gofal eilaidd yn rhan o'r ateb; mae'n fater o sut yr ydym yn gweithio i osgoi pobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn y lle cyntaf, i osgoi’r sefyllfa lle maent yn mynd i mewn i ysbyty. Os mai eich profiad yw eich bod yn mynd i mewn i adran damweiniau ac achosion brys ac nad ydych yn cael eich derbyn, pe gallech fod wedi cael gofal yn eich cartref eich hun ac y gallech fod wedi osgoi’r profiad hwnnw, mae hynny’n amlwg yn well.

Felly, mae hefyd yn fater o’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda gwahanol bartneriaid, nid dim ond i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, ond hefyd i gael pobl yn ôl i'w cartrefi eu hunain cyn gynted â phosibl. Felly, mae'n fater o osgoi derbyniadau, a hefyd lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal. A dylai fod rheswm dros rywfaint o obaith, oherwydd mae gennym amrywiaeth o wahanol enghreifftiau ledled Cymru lle mae osgoi derbyniadau yn y modd hwnnw yn gweithio ac yn gweithio'n dda, ac mae bron bob amser oherwydd bod meddygon teulu a'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach yn ymgysylltu â phartneriaid gofal cymdeithasol a thai i ddeall pwy sydd yn y perygl mwyaf o orfod mynd i'r ysbyty o bosibl, ac yna beth yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei gefnogi’n briodol i wneud yn siŵr naill ai nad oes angen iddo fynd i mewn neu y gellir ei ddychwelyd i’w gartref ei hun, gyda chymorth priodol, os oes angen ei dderbyn i gael gofal yn yr ysbyty.

Ein her, fel erioed, yw dysgu ar draws y system gyfan, gwneud hynny’n fwy cyson ac yn gyflym ar draws y system. Felly, nid wyf yn mynd i esgus y bydd y gaeaf yn hawdd. Gweinidog ffôl mewn unrhyw Lywodraeth o unrhyw liw gwleidyddol a fyddai’n dweud nad aiff unrhyw beth o'i le yn y gaeaf. Yn anochel, bydd pwysau a heriau, ac nid fi fydd yn wynebu’r her fwyaf, ond y staff o fewn y gwasanaeth a fydd yn ceisio darparu gofal o safon uchel wrth i’r galw godi. Ond, fel y dywedais, rwy’n meddwl mai’r ymagwedd sydd gennym yma, y dylem fod yn wirioneddol falch ohoni, yw'r uchelgais i gael mwy o ofal yn nes i'r cartref ac, yn wir, cydnabod yn briodol yr ymagwedd system gyfan, gofal iechyd yn ei gyfanrwydd, gyda gofal cymdeithasol a gyda phartneriaid ym maes tai yn arbennig.

Yn olaf, rhof sylw i’ch pwynt am glystyrau gofal sylfaenol ac am arian sy’n mynd i ofal sylfaenol i helpu i gefnogi rhai o'n huchelgeisiau am yr arian y gall pobl ei wario eu hunain. Nodais yn y datganiad, ac rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, fod y £10 miliwn ar gyfer clystyrau wedi'i ddyrannu iddynt hwy ei wario. Mae'n rhaid iddynt weithio ochr yn ochr â'u byrddau iechyd lleol, ond yn y bôn, mae'r arian hwn o fewn eu rheolaeth eu hunain. Felly, mae hwnnw'n arian newydd sy'n cyrraedd y rheng flaen, ac yn yr un modd mae'n cael ei wario ar ddarparu mwy o staff rheng flaen. Mae llawer o glystyrau wedi penderfynu cyflogi fferyllwyr clinigol. Mae meddygon teulu yn cydnabod bod budd gwirioneddol i hynny. Felly, mae mwy o staff yn cael eu cyflwyno, ond bydd pob clwstwr yn dewis cyflogi mewn amrywiaeth o wahanol broffesiynau, a hwy fydd yn dewis sut i ddefnyddio eu harian gyda'u partneriaid. Y rheswm pam maent yn bodoli yw i wneud yn siŵr y gall pobl reoli a deall eu poblogaethau gofal iechyd lleol, i reoli'r gofal iechyd hwnnw ac i ddarparu'r gorau un i’r boblogaeth.

Felly, ni fyddwn yn disgwyl gweld yr arian yn cael ei wario yn union yr un ffordd ym mhob un clwstwr, ond mae’n rhaid i bob un o'r clystyrau gofal sylfaenol hynny fod â’r gallu i benderfynu beth i'w wneud, i benderfynu beth fydd y budd iechyd, ac yn wir i allu bwrw ymlaen a gwario eu harian. Dyna'r pwynt a wneuthum wrth gyfarfod ag is-gadeiryddion y GIG yr wythnos hon: mae angen inni weld yr arian yn cyrraedd y rheng flaen, ac ni hoffwn fod mewn sefyllfa lle mae clystyrau’n cwyno wrthyf am y cynlluniau sylweddol a oedd ganddynt i wneud gwahaniaethau go iawn ond nad oeddent wedi gallu cael yr arian drwy fyrddau iechyd lleol. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, roedd cwynion, rwy’n meddwl, ond nid wyf yn disgwyl gweld y problemau hynny’n codi o fewn y flwyddyn hon o gwbl.

Rwy’n croesawu'r pwyntiau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn y datganiad, ac rwy’n meddwl y byddant yn sicr yn helpu'r sefyllfa. Yn ystod y toriad, ymwelais â Chanolfan Feddygol Gogledd Caerdydd, ac roeddent yn gwneud ymdrechion da iawn yno i geisio trin y claf cyfan i geisio osgoi triniaeth feddygol ddiangen a cheisio osgoi gorfod mynd i'r ysbyty. Gwnaed argraff dda iawn arnaf hefyd o weld eu hymdrechion i weithio'n agos iawn gyda gweithwyr meddygol proffesiynol eraill ac i weithio mewn ffordd sy'n ymestyn allan i'r gymuned. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr holl bethau hyn yn hanfodol mewn meddygfa deulu lwyddiannus. Un o'r pwyntiau y gwnaethant eu codi gyda mi, ac a godais innau yr wythnos diwethaf, oedd eu pryder am y twf poblogaeth aruthrol sy'n debygol yng Nghaerdydd. Rwy'n gwybod bod anawsterau o ran darparu meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, ac o bosibl, efallai, yng Nghaerdydd erbyn hyn, ond maent yn bryderus iawn am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Felly, tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw sylwadau am hynny?

Yr ail bwynt—bu cryn dipyn o drafodaeth am hyfforddiant a hyfforddiant meddygol yma heddiw. A fyddai'n cytuno ei bod yn hanfodol bod y cwricwlwm meddygol yn cynnwys hyfforddiant ymarferol ac yn gwneud y myfyrwyr yn ymwybodol o'r swyddi gwirioneddol y byddant yn eu gwneud pan fyddant yn mynd i mewn i gyflogaeth yn y pen draw? Rwy’n gwybod bod y cwricwlwm newydd yn ysgol feddygol Caerdydd bellach yn cynnig profiad llawer mwy ymarferol i'r myfyrwyr ac maent yn credu bod ehangder y profiad sy'n cael ei gynnig iddynt yn yr hyfforddiant hwnnw wedi arwain, eleni, at 55 y cant yn dewis aros yng Nghymru i wneud eu swydd sylfaen gyntaf; maent yn gweld hynny fel llwyddiant. Yn sicr, bydd rhai o'r bobl hynny’n feddygon teulu yn y pen draw. Felly, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y cynnwys yn hollbwysig o ran sicrhau bod y myfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn y gallant ei gyflawni drwy fod yn feddyg teulu. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn ei ddatganiad, neu wrth ateb cwestiynau, nad yw’r swydd efallai’n cael ei gweld fel bod yn swydd ddeniadol ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud cymaint â phosibl i ddangos y cyfleoedd a all fod yno i feddyg teulu.

Dywedodd Canolfan Feddygol Gogledd Caerdydd rywbeth diddorol iawn wrthyf am ymweliad yr oeddent wedi’i wneud, ynghyd â swyddogion eraill—rwy’n meddwl efallai fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi mynd hefyd—i Ganolfan Bromley by Bow yn nwyrain Llundain, sy’n ganolfan eithaf enwog, lle mae'r feddygfa deulu wedi ei lleoli mewn canolfan gymunedol lle ceir caffi cymunedol, a lle ceir llawer o faterion iechyd a lles. Mae yno i ddiwallu anghenion y gymuned gyfan ac rwy'n meddwl mai dyna'r pwynt y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei wneud yn ei atebion heddiw. Felly, a fyddai'n cytuno y byddai’r math hwnnw o ddatblygiad yn helpu i wneud i ddarpar feddygon teulu weld gwerth bod yn feddyg teulu a gallu gweithio yn y ffordd gyfannol y mae rhai meddygfeydd yn ceisio ei wneud?

Diolch i Julie Morgan am y gyfres o gwestiynau a’r enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi o'i hetholaeth hi, sef Gogledd Caerdydd. Dechreuaf gyda'r pwynt a wnewch am y sefyllfa y mae Caerdydd ynddi, sy'n wahanol i lawer o rannau eraill o Gymru. Mae'n ddinas sy'n ehangu: mae hynny'n rhywbeth cadarnhaol ond mae hefyd yn cyflwyno gwahanol heriau. Dyna pam yr wyf yn ofalus, pan fo Aelodau eraill yn fy annog i dderbyn mai’r her fwyaf bob amser yw darparu gofal iechyd gwledig, ein bod yn dweud bod yn rhaid inni dderbyn bod y cyd-destun y darperir gofal iechyd ynddo yn amrywio a bod yna amgylchiadau penodol—rwyf bob amser yn clywed gwahanol fersiynau o 'triniwch fi’n deg', boed nhw’n gynrychiolwyr gwledig yn sôn am wahanol heriau mewn rhannau gwledig o Gymru, neu ddinas Caerdydd yn wynebu heriau penodol, neu gymunedau yn y Cymoedd sy’n wynebu heriau penodol hefyd. Mae'n fater o sut yr ydym yn ymdrin â’r rheini’n addas ac yn briodol, ac mae gennym ffordd deg sydd mewn gwirionedd yn tanddatgan sut caiff cyllid ychwanegol ei ddyrannu, ond sydd hefyd mewn gwirionedd yn ymwneud â sut yr ydym yn denu pobl i mewn i wahanol rannau o'n gwlad i weithio, oherwydd mae rhai rhannau o Gaerdydd yn fwy deniadol i weithio ynddynt nag eraill hefyd. Felly, mae heriau gwahanol o fewn y ddinas yn ogystal â'r heriau hynny tu allan. Ond mae'n bwynt da bod angen inni ystyried y rheini yn ein presgripsiynau a’n hymatebion polisi penodol.

Rwy'n hynod o falch o’i chlywed yn cyfeirio at Ogledd Caerdydd yn gweld, os mynnwch chi, y claf cyfan o ran ei sefyllfa gymdeithasol a'i leoliad teuluol a deall beth sy'n bwysig iddo, oherwydd efallai y bydd pobl â chyflyrau tebyg eisiau ymatebion gwahanol. Mae gwahanol lefelau o risg y mae pobl yn barod i’w cymryd o ran yr hyn y maent yn fodlon ac yn anfodlon ei wneud a sut y maent mewn gwirionedd yn gallu ymdopi a dod i ben. Felly, mae'n galonogol iawn clywed y sgwrs honno’n digwydd. Mae angen inni weld mwy o hynny ac mewn gwirionedd gweld y claf yn cymryd rhan briodol mewn sgwrs gyda'r gweithiwr meddygol proffesiynol am yr hyn sy'n bwysig iddo, yr hyn y mae mewn gwirionedd yn dymuno ei gyflawni a sut y mae yna’n gwneud dewisiadau gofal iechyd ar gyfer triniaeth, yn ogystal ag atal.

O ran y materion eraill hynny a all gael effaith ar iechyd rhywun, rydym yn gwybod bod amryw o feddygon teulu yn bod yn fwy rhagweithiol o ran deall ble a sut i gyfeirio pobl at ffynonellau eraill o gymorth a chyngor. Efallai y bydd meysydd eraill o'u bywydau yn effeithio arnynt a’u bod mewn gwirionedd yn mynd i feddygfa deulu gydag angen gofal iechyd pan mai math gwahanol o fater y mae angen ymdrin ag ef a’i ddatrys mewn gwirionedd—mae materion yn ymwneud â budd-daliadau, er enghraifft, yn rhai yr ydym yn gwybod bod llu o feddygfeydd teulu yn ymwneud â nhw. Cyfarfûm ag un nid nepell i ffwrdd sydd â threfniant rhagweithiol iawn gyda Chyngor ar Bopeth, er enghraifft. Mae’r broses atgyfeirio briodol honno wedi bod yn hynod ddefnyddiol iddynt o ran gwybod i ble i anfon pobl a sut i wneud hynny.

Mae hynny hefyd yn arwain i mewn i'ch pwynt am yr ystâd gofal sylfaenol a sut yr ydym yn ei hadeiladu. Nid dim ond Canolfan Bromley by Bow sy’n bodoli; mae ystod o enghreifftiau eraill o sut mae’r ffordd yr ydych yn cynllunio ac yn darparu meddygfa deulu yn gallu helpu i osod y cyd-destun ar gyfer darparu’r gofal iechyd hwnnw, a sut yr ydych yn cysylltu’n briodol â rhannau eraill o nid yn unig bywyd y claf, ond hefyd y feddygfa a sut y mae'n gweld ei chenhadaeth wirioneddol o ddarparu gofal iechyd i'w chymuned.

Mae hynny eto’n mynd yn ôl at eich pwynt olaf am y profiad o fewn hyfforddiant a beth sy'n digwydd pan fo pobl yn astudio meddygaeth. Er enghraifft, mae cwrs Caerdydd yn wahanol—mae ar gyfer myfyrwyr israddedig—i’r un i raddedigion yn Abertawe, ond mae’r adborth cynnar o Gaerdydd ac Abertawe ynglŷn â nifer y bobl sy'n hyfforddi yno, ac sy'n dewis gwneud eu gyrfa yng Nghymru wedyn hefyd, yn fy nghalonogi. Mae gan y ddau hanes da nid yn unig o ddod â phobl i astudio meddygaeth yma yng Nghymru, ond o’u cadw yma hefyd. Yr hyn yr hoffem geisio ei ddysgu a’i ddeall, wrth edrych ar addysg a hyfforddiant meddygol yn y dyfodol, yw sut y gallwn wneud mwy i sicrhau bod y profiad yn un gwerth chweil, ein bod yn cyflwyno gofal sylfaenol fel gyrfa sy’n wirioneddol werth chweil a bod y profiad yn eich helpu i fod yn weithiwr proffesiynol cyflawn, nid dim ond i ddeall, os mynnwch, yr agweddau technegol ar feddygaeth, ond y pwynt hwnnw am weld y claf cyfan a deall sut yr ydych yn ei helpu i wneud dewisiadau drosto ei hun i gael profiad gwirioneddol werth chweil.

Byddaf mor gyflym ag y gallaf ar hyn. Rydym yn clywed, er yn anecdotaidd, mai un o'r rhwystrau i recriwtio a hyfforddiant yng Nghymru yw’r camargraff braidd yn anffodus hwn bod yn rhaid ichi allu siarad Cymraeg i weithio yn y GIG yng Nghymru. Ond un o flaenoriaethau’r Llywodraeth—ac un yr wyf yn cytuno â hi—yw bod angen i unigolion allweddol o fewn gofal sylfaenol proffesiynol allu siarad Cymraeg er mwyn cynnig gwasanaeth i'r bobl hynny y maent yn eu gwasanaethu. A allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd recriwtio a hyfforddi’r rhain, ni waeth o ble yn y byd y maent yn dod, yn sicrhau digon o sgiliau siarad Cymraeg ymhlith unigolion allweddol fel y gallant o leiaf gyfathrebu â phlant ifanc, unigolion ag anawsterau dysgu a phobl â dementia? Rwy’n sylweddoli y gallai fod gennych uchelgeisiau ehangach ar gyfer y sylfaen sgiliau yn ei chyfanrwydd, ond ar gyfer y tri grŵp unigol hynny o bobl, pa bwyslais ydych chi’n ei roi ar y rheini o fewn eich hyfforddiant?

Mae'n bwynt teg am y modd yr ydym yn ymdrin â'r Gymraeg yn rhan o bwysigrwydd cyfathrebu i ddarparu iechyd a gofal effeithiol. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl sydd â dementia yn aml yn troi’n ddiofyn at eu mamiaith ac felly mae'n dod yn anoddach deall ieithoedd eraill y gallant fod wedi'u dysgu yn ystod eu bywydau a’u defnyddio i gyfathrebu. Felly, mae rheidrwydd gwirioneddol o ran ansawdd gofal iechyd—ynglŷn â sut yr ydym yn sicrhau bod y tîm gofal iechyd yn gallu cyflawni hynny. Bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â sut yr ydym yn helpu pobl i roi cyfleoedd iddynt i ddysgu Cymraeg ar ôl iddynt ddod yma, ond bydd hefyd yn ymwneud â'r tîm ehangach yn ogystal, oherwydd nid y meddygon teulu eu hunain o reidrwydd sy'n gorfod meddu ar y sgiliau iaith a’r gallu yn y Gymraeg. Mae'n rhaid i hyn ymwneud â’r ffordd y mae’r tîm cyfan yn gweithio gyda'i gilydd pan ei fod yn angen gwirioneddol, a’i weld yn y cyd-destun hwnnw. Mae hynny wedyn yn ymwneud â sut yr ydym yn recriwtio ein holl weithwyr proffesiynol yma yng Nghymru a beth mae hynny'n ei olygu yn y gwahanol swyddogaethau hynny o fewn y tîm gofal sylfaenol, nid dim ond mewn nyrsio ond yr holl therapyddion hefyd, oherwydd weithiau pan ydych yn deall yr hyn sydd ei eisiau ar bobl mae mewn cyd-destun ychydig yn wahanol i pan fydd angen y cymorth, y gefnogaeth a’r cyngor mewn gwirionedd, yn y pen draw, hefyd. Felly, mae'n ddull gwirioneddol gydgysylltiedig; mae'n cydnabod bod yr iaith yn fater o bwys, ond ar yr un pryd mae'n rhaid ei weld o fewn y cyd-destun tîm ehangach hwnnw lle’r hoffem ddarparu rhagoriaeth mewn gofal. Ein blaenoriaeth gyntaf yw deall yr hyn y gallwn ei wneud i ddenu mwy o bobl i aros yng Nghymru ac i ddod i Gymru i hyfforddi, i weithio ac i fyw. Mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn galluogi pobl i wneud hynny, yn hytrach na chreu rhwystr nad oes angen iddo fod yno.

Wrth gwrs, mae’r gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sydd wedi'u cynnwys yn eich datganiad yn cynnwys nyrsys arbenigol sy'n gweithio yn y gymuned a'r cartref. Ym mis Tachwedd 2011, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad ar nyrsys arbenigol. Ar y pryd, er enghraifft, dim ond un nyrs arbenigol sglerosis ymledol oedd yng Nghymru. Nodais na allem fforddio ymateb yn ddifeddwl a gwneud toriadau difeddwl gan fod nyrsys arbenigol yn y pen draw yn arbed arian ac yn darparu gwasanaeth pwysig. Siaradais am faint o arian oedd yn cael ei arbed ledled Cymru gan nyrsys epilepsi, clefyd Parkinson, MS a nyrsys arbenigol eraill, a sut y maent yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty.

Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr a Chymdeithas Niwrolegwyr Prydain yn argymell tri arbenigwr nyrsio clinigol i bob 0.5 miliwn o'r boblogaeth ar gyfer MS, er enghraifft. Roedd adroddiad Steers yn argymell un i bob 300 o gleifion, ond dim ond, er enghraifft, un nyrs MS sydd gennym yn y gogledd i boblogaeth o 1,100 o gleifion. Mae aelodau timau amlddisgyblaeth eraill wedi eu recriwtio, ond mae byrddau iechyd eraill sy'n darparu gwell cymarebau nyrsys clinigol arbenigol i gleifion hefyd yn cyflogi staff yn y swyddi hyn. Sut, felly, y byddwch chi’n ymdrin â’r sefyllfa lle, er enghraifft, mae’r lefel a argymhellir gan Steers yng Nghaerdydd a'r Fro yn 2.3, a gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr a Chymdeithas Niwrolegwyr Prydain mae'n 2.9, ond maent mewn gwirionedd yn cyflawni 3.5, tra bod y lefelau a argymhellir yn y gogledd yn 3.7 neu 4.2, ond dim ond un sydd yno? Felly, sut y gallwch ymdrin â hyn ar sail Cymru gyfan i lenwi’r bylchau hynny, gan gydnabod—ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno—nad oes rhaid iddo bob amser fod yn nyrs arbenigol sy'n berthnasol i gyflwr unigol; y gall fod yn nyrsys niwrolegol cyffredinol, ond sut i lenwi’r bylchau sy'n parhau?

Wel, mae'n atgyfnerthu'r daclus y ffaith ein bod yn wynebu heriau gweithlu mewn amrywiaeth o wahanol feysydd o fewn proffesiynau gofal iechyd. Ac ni fu unrhyw ymgais i guddio oddi wrth hynny. Yn wir, hoffem fod yn rhagweithiol a chadarnhaol a mynd allan a dweud, 'Pwy ydym ni eu hangen o fewn y tîm gofal sylfaenol?' Dyna pam yr wyf yn sôn am weithwyr proffesiynol eraill. Dyna pam yr wyf yn falch iawn o glywed nad ydym ddim ond yn cael y sgwrs hon lle mai meddygon yw'r unig rai sy'n bwysig o fewn y gwasanaeth iechyd. Ac, yn y ffordd yr ydym yna’n cynllunio ein gweithlu a'r hyn sydd ei angen arnom o fewn y gweithlu, mae angen inni ystyried yr ystod lawn honno o weithwyr proffesiynol.

Rwy’n disgwyl, fodd bynnag, y gwelwch, mewn rhai o'r rhain, nad yw’r heriau sy'n ein hwynebu yn rhai lleol; maent yn rhan o ddarlun cenedlaethol. A dyma hefyd pam mae’n bwysig iawn bod clystyrau gofal sylfaenol yn gallu deall mewn gwirionedd sut y maent yn rheoli anghenion gofal iechyd eu poblogaeth leol. Mae’r arian y maent wedi’i gael i'w wario yn ôl eu dewis, a dweud y gwir, yn fater o ddeall sut y byddant, gyda'u gwybodaeth benodol am y bobl y maent yn eu gwasanaethu, mewn gwirionedd yn ymdrin â rhai o'r gwahanol heriau a bylchau sy’n eu hwynebu.

Ond, ym mhob un maes o gynllunio'r gweithlu, ar lefel bwrdd iechyd ac ar lefel genedlaethol, bydd rhai heriau’n anoddach nag eraill, a byddwn yn fwy na bodlon cael sgwrs fanylach ag ef am ble yr ydym o ran y maes penodol hwn, sef nyrsys arbenigol, oherwydd rwyf yn cydnabod bod ganddo ddiddordeb penodol.

6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Deithio Llesol

Rŷm ni’n symud i’r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaeth Cymdeithasol ar deithio llesol. Rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Rebecca Evans.

Diolch i chi, Lywydd. Mae gwella lles pobl yng Nghymru a’u galluogi i fod yn fwy egnïol yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni. Mae cerdded a beicio yn arbennig yn cynnig llu o fanteision i unigolion, i gymdeithas ac i'r blaned.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Cynulliad blaenorol, wedi sefydlu fframwaith newydd a fydd yn sicrhau y gallwn wireddu'r manteision hyn. Rydym yn dechrau ar sylfaen isel. Y llynedd, dim ond 6 y cant o oedolion yng Nghymru oedd yn teithio ar feic unwaith yr wythnos neu fwy a 63 y cant yn cerdded. Mae hyn yn golygu nad yw traean yr oedolion yng Nghymru yn gwneud unrhyw deithiau cerdded neu feicio mewn wythnos arferol. Yn yr un modd, dim ond 49 y cant o blant oedran ysgol gynradd sy’n cerdded i'r ysgol fel arfer a dim ond 2 y cant sy’n beicio, a cheir ffigurau hyd yn oed yn is ar gyfer plant ysgol uwchradd.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn amcangyfrif bod anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Rydym am helpu pobl ledled Cymru i gynyddu eu gweithgarwch corfforol trwy ddarparu ffordd o wneud cerdded a beicio pellteroedd byr yn rhywbeth arferol. Bydd hyn yn helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol ein cenedl, arbed arian i bobl a busnesau, gwella ansawdd yr aer, lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon, ac yn gwella ein cefnogaeth o siopau a busnesau lleol.

Elfen allweddol o hyn yw ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a weithredwyd yn gyntaf bron dwy flynedd yn ôl. Ers hynny, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â cherdded a beicio yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ein safonau dylunio cenedlaethol, sy'n nodi'n glir yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o’r seilwaith cerdded a beicio. Rydym yn disgwyl gallu defnyddio’r seilwaith yn ddiogel ac yn gyfforddus, a diwallu anghenion defnyddwyr yn wirioneddol. Bydd y safonau hyn yn helpu i drawsnewid llwybrau ar draws Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Rydym wedi cynnal arolwg cynhwysfawr o’r seilwaith cerdded a beicio presennol yng Nghymru, a gwblhawyd yn ystod gwanwyn 2015. Ar y sail hon, roedd awdurdodau lleol yn gallu archwilio a nodi’r llwybrau presennol yn eu trefi, yr ymgynghorwyd arnynt a’u cyflwyno i ni, ar eu mapiau o lwybrau presennol eleni. Mae awdurdodau lleol bellach wedi dechrau gweithio ar y cam nesaf, lle rydym yn bwriadu ystyried yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael ar gyfer y dyfodol, yn hytrach nag edrych ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno'r set gyntaf o fapiau rhwydwaith integredig ar gyfer 142 o leoedd yng Nghymru fis Medi nesaf. Mae'n hollbwysig bod y broses o gynllunio’r rhwydweithiau hyn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n well â chynifer o ddefnyddwyr cyfredol a newydd â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod eu barn a'u gwybodaeth yn helpu i gysylltu’n effeithiol y mannau cychwyn a’r cyrchfannau y mae angen i bobl deithio rhyngddynt.

Mae annog pobl i gerdded a beicio wrth deithio bob dydd yn gofyn am fwy na seilwaith da, er mor bwysig yw hynny. Mae angen i ni newid agwedd pobl tuag at gerdded a beicio, a chefnogi datblygiad diwylliant teithio llesol newydd yng Nghymru. Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer teithio llesol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, yn nodi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r newid hwn. Mae'n ategu'r gwaith ehangach ar gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru dan y cynllun 'Cael Cymru i Symud', a fydd yn llywio ein strategaeth byw’n iach a gweithgar, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol proffil uchel, sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo ac ymgysylltu teithio llesol mewn llawer o ysgolion ar draws Cymru. Yn ei blwyddyn gyntaf, mae 230 o ysgolion i gyd wedi elwa ar y rhaglen newydd. Mae hyn yn amrywio o wneud gwaith mwy dwys gydag ysgolion, gan gynnwys ceisio cyfranogiad disgyblion mewn cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys ysgolion uwchradd am y tro cyntaf. Gwnaeth pedwar deg pump o ysgolion uwchradd elwa ar y rhaglen, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal gweithdai i sicrhau mewnbwn gan fyfyrwyr yn y broses o fapio rhwydwaith integredig.

Rydym hefyd yn cefnogi Her Teithio Cymru, sy'n targedu gweithleoedd ar draws Cymru. Ceir tair her, â’r bwriad yw ysgogi dros 4,500 o weithwyr ar draws Cymru i gynyddu pa mor aml maent yn teithio’n llesol a pha mor aml maent yn defnyddio cludiant cyhoeddus ar gyfer teithiau bob dydd, yn lle teithiau car gydag ond un gweithiwr yn y car. Cynhaliwyd yr her gyntaf ym mis Mai lle’r oedd dros 700 o gyfranogwyr wedi cofnodi 6,500 o deithiau a lle’r oedd teithiau cerdded a beicio wedi cymryd lle 32 y cant o deithiau car. Mae’r ail her yn dechrau ar 10 Hydref.

Mae cynyddu lefelau teithio llesol yng Nghymru yn rhywbeth sy’n gofyn am gamau gweithredu gan lawer o bleidiau, o fewn y Llywodraeth a'r tu allan. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth allweddol er mwyn cyflawni hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd a gafwyd gan lawer ohonynt wrth gofleidio'r heriau o weithredu'r ddeddfwriaeth newydd hon. Rwy’n gweithio'n agos ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ac rydym yn cytuno ar bwysigrwydd hanfodol sicrhau bod teithio llesol yn rhan annatod o gynllunio prosiectau mawrion yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth, megis y prosiectau metro yn y gogledd a’r de, er mwyn sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn wirioneddol integredig, yn effeithlon ac o ansawdd uchel. Rwyf hefyd yn cydweithio â’m cydweithwyr eraill yn y Llywodraeth i sicrhau y cyflawnir camau gweithredu a dyletswyddau Llywodraeth Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r bwrdd teithio llesol, y byddaf yn mynd i’w gyfarfod nesaf ar 5 Hydref. Thank you.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? A allaf i groesawu’r manylion sydd gerbron ar y diweddariad yma ar deithio llesol? Wrth gwrs, cawsom ni drafodaeth fer ar y pwnc yma o ffitrwydd yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf a bydd y Gweinidog yn cofio i ni sôn am bwysigrwydd ffitrwydd a phwysigrwydd cadw’n heini i ni i gyd, o ba bynnag oedran, ond yn enwedig wrth i ni ddylanwadu ar ein plant achos mae’n sefydlu ymddygiad am oes.

Ond mae ffitrwydd o gadw’n heini—. Mae rhai astudiaethau, fel y gwnes i grybwyll wythnos diwethaf, yn dangos gostyngiad o 30 y cant yn lefel y siwgr yn eich gwaed os ydych chi’n ffit o gymharu â phan nad ydych chi’n ffit, gostyngiad o 30 y cant yn eich pwysau gwaed, a gostyngiad hefyd o 30 y cant yn lefel eich colesterol ac yn eich pwysau. Beth sy’n cael ei nodi o hynny, wrth gwrs, ydy petai ffitrwydd yn dablet neu yn gyffur, gyda’r gostyngiad sylweddol yna yn yr elfennau yna o 30 y cant, byddai pawb yn clochdar ac yn sgrechain ar i NICE adael i ni feddygon fod yn ei ragnodi cyn pen dim. Dyna pam mae ffitrwydd yn haeddu llawer mwy o sylw nag mae o’n ei gael. Mae o’n llawer mwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gennym ni i fynd i’r afael efo’r materion hyn.

Ond, gan fynd yn ôl at y datganiad, dyna pam roeddwn i’n synnu braidd at eich trydydd paragraff, pan ŷch chi’n dweud bod y ffigurau diweddaraf ynglŷn â’r gost o beidio â chadw’n ffit i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn. Buaswn i’n meddwl, o gofio’r holl gostau yna o fynd i’r afael â gordewdra sydd gennym ni, y byddai’r arbediad yn nhermau ariannol yn llawer mwy na £51 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw jest yn edrych fel ffigwr isel iawn i mi, mae’n rhaid imi ei ddweud, i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma.

Yn benodol, ar eich ymrwymiad o dan y Ddeddf yma ynglŷn â theithio llesol, a allaf ofyn sut y mae teithio llesol yn cael ei gysidro yn y trafodaethau bydd pobl yn eu cael ar y fasnachfraint rheilffyrdd? Ac, yn benodol, felly, pan ydych chi’n sôn dylai mwy o blant ac ati fod yn cerdded i’r ysgol neu yn seiclo i’r ysgol, wrth gwrs, materion diogelwch sy’n cael eu henwi fel rhai o’r pethau sydd yn amharu ar allu pobl unai i gerdded neu i farchogaeth beic i’r ysgol. Sut ydych yn ymdrin, felly, ag amheuon ynglŷn â diogelwch fel rhan o’r materion teithio llesol yma?

Yn olaf, wrth gwrs, hefyd—yn enwedig pan ydych chi’n sôn am weithlu sydd, yn lle mynd yn eu car i’r swyddfa, nawr yn mynd unai i gerdded, rhedeg neu farchogaeth beic i’r swyddfa—mae yna oblygiadau ynglŷn â gorfod datblygu cyfleusterau fel toiledau, cawodydd a storfeydd beiciau i gyd-fynd efo’r llwybrau teithio llesol yma. Sut mae trafodaethau’n mynd ymlaen i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau i gyd-fynd efo’r dyhead hefyd mewn lle? Wedi dweud hynny i gyd, a gaf i groesawu, fel y bydden nhw’n dweud yn Saesneg, ‘the direction of travel’. Diolch yn fawr.

Rwy’n diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny a hefyd yn diolch i chi am y sesiwn adeiladol iawn a gawsom gyda’r pwyllgor lle gwnaethom archwilio mewn cryn fanylder yr agweddau ar weithgarwch corfforol y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Gwnaethoch chi ofyn am yr ystadegau—y ffigur £51 miliwn fel cost i’r GIG bob blwyddyn o ran y diffyg gweithgarwch corfforol. Rhoddwyd y ffigur hwnnw i ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maen nhw wedi gwneud ymarfer cwmpasu, gan edrych ar gost economaidd amrywiol bethau megis trais yn y cartref, iechyd meddwl, diffyg gweithgarwch corfforol, ysmygu a llawer o agweddau eraill hefyd mewn dogfen newydd o'r enw 'Gwneud Gwahaniaeth'. Mae'n ddogfen fyrrach, ond yn ddogfen sy’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, sy’n edrych ar yr amrywiol agweddau hyn. Er bod hyn dim ond yn ymwneud â chost yr anweithgarwch corfforol i'r GIG yn benodol, yn amlwg ceir cost llawer mwy o ran costau i'r economi, er enghraifft, costau i ansawdd bywyd unigolion ac yn y blaen, hefyd. Felly, dim ond edrych ar un o'r agweddau yn unig oedd hyn.

Soniasoch am bwysigrwydd cael plant i gymryd diddordeb mewn teithio llesol yn gynnar iawn, iawn yn eu bywydau, ac rydym yn cytuno’n llwyr â hynny. Credaf fod ein rhaglen eco-ysgolion yn allweddol er mwyn cyflawni hynny. Mae dros 860 o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi ennill gwobr ryngwladol y Faner Werdd am y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud yn rhan o’r rhaglen eco-ysgolion ac, yn rhan o hynny, maen nhw wedi bod yn edrych ar bethau—ceir diwrnodau cerdded i'r ysgol, er enghraifft, a rhaglenni bws cerdded. Mae gan ysgolion swyddogion iau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, ac mewn rhai o'r ysgolion hynny byddant yn gwneud tocynnau parcio pwrpasol i roi ar geir rhieni sydd efallai wedi parcio’n flêr ac yn amhriodol ar balmentydd ac ati, y tu allan i ysgolion. Credaf efallai fod derbyn neges gan blentyn sydd wedi’i hysgrifennu â llaw yn llawer mwy pwerus na gwleidyddion a phobl eraill yn dweud wrth rieni lle y dylent a lle na ddylent barcio ac yn y blaen. Yn fy marn i, mae gan blant swyddogaeth bwysig iawn yn yr agenda benodol hon.

Rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr bod plant yn ddiogel ar y ffyrdd, a hynny o oedran ifanc iawn, a dyna pam, drwy adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, rydym yn nodi a chreu llwybrau diogel i ysgolion ar gyfer cerdded a beicio, ac mae hynny'n ganolog iawn i'r Ddeddf teithio llesol. Mae bron £800,000 hefyd yn cael ei dalu i awdurdodau lleol ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â phlant sy'n cerdded, ac mae 17,000 o blant ysgolion cynradd wedi elwa ar hynny. Ei fwriad yw helpu plant i fagu’r hyder i gerdded i'r ysgol, ond hefyd sicrhau eu bod yn deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel wrth gerdded. Mae dros £0.5 miliwn hefyd yn cael ei dalu i awdurdodau lleol ar gyfer hyfforddiant beicio o safon genedlaethol, sydd hefyd o fudd i 15,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd y flwyddyn. Mae Caerdydd hefyd yn derbyn grant ar hyn o bryd i dreialu rhai dulliau newydd o ddarparu hyfforddiant diweddaru i blant, oherwydd gallwn addysgu hyn ar adeg benodol, ond wedyn rydym eisiau gweld a oes budd mewn gwirionedd o gynnig hyfforddiant diweddaru ac efallai hyfforddiant manylach sy'n fwy addas i’w hoedran nhw wrth iddynt fynd yn hŷn.

Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â seilwaith, rydym wedi nodi’n glir—a gwnes i siarad gyda’m cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach am hyn heddiw hefyd—pa mor bwysig yw hi fod teithio llesol wrth wraidd y prif brosiectau seilwaith a phob prosiect seilwaith, mewn gwirionedd, gan fod gennym Ddeddf yng Nghymru yn benodol i hyrwyddo teithio llesol. Felly, dylid gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar drafnidiaeth integredig mewn cyd-destun ehangach, gan gynnwys cyfleoedd cerdded a beicio hefyd.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw, sydd i'w groesawu'n fawr. Ymddengys bod y ddeddfwriaeth hon wedi dioddef o ddiffyg diddordeb ac uchelgais ar ran y Llywodraeth, gan achosi, dylwn i ddweud, rwystredigaeth ymhlith prif gefnogwyr y Ddeddf hyd yn oed. Gwnaeth pedwerydd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad nifer o argymhellion yn ystod ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol cynnar ar y ddeddfwriaeth ym mis Chwefror eleni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y mae'r Llywodraeth wedi gweithredu argymhellion y pwyllgor. Yn gyntaf, nodwyd gan gydweithwyr fod y gwaith o weithredu’r ddeddfwriaeth yn cael ei rwystro gan ddiffyg cyllid ac adnoddau pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, er mwyn iddynt allu cyflawni amcanion canmoladwy’r Ddeddf. Dywedodd rhagflaenydd y Gweinidog o'r blaen nad oedd Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhesymeg ar gyfer ystyried cyllid trafnidiaeth ar ei ben ei hun. Nawr, ers i chi gael eich penodi i'ch swydd newydd, a ydych chi wedi ailystyried dyrannu cronfa bwrpasol yn benodol ar gyfer teithio llesol? Ymddengys hefyd fod diffyg amlwg o ran gweithgarwch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. A allech chi felly o bosib amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â phryderon y pwyllgor o ran hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Ddeddf?

Rydych wedi sôn hefyd heddiw eich bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi i sicrhau y dylai prosiectau seilwaith mawrion megis y metro a’r fargen ddinesig ganiatáu ar gyfer darpariaethau teithio llesol. Felly, a allwch chi amlinellu pa fesurau penodol sydd wedi’u datblygu yn hynny o beth? Yn olaf, o ystyried bod y Ddeddf yn sail i gynifer o agendâu polisi trawsbynciol holl adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys strategaeth 'Cael Cymru i Symud' a strategaeth 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol', a wnewch chi amlinellu sut yr ydych chi’n sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu ar draws y Llywodraeth?

Rwy’n diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuaf gyda’r cwestiwn a godwyd gennych chi ynglŷn â chynllunio, a sut yr ydym ni’n sicrhau bod cynllunio yn galluogi teithio llesol. Rwy’n ystyried nawr sut y gallem wneud diwygiadau i'r polisi a chanllawiau cynllunio i roi mwy o bwyslais ar deithio llesol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i’n gweithio gyda chydweithwyr arno hefyd. Byddech chi wedi clywed sylwadau’r Prif Weinidog heddiw o ran teithio llesol. Roedd ei gefnogaeth iddo yn glir iawn, sy’n golygu y dylem ni, wrth feddwl am adeiladu ffyrdd newydd, feddwl yn yr un modd am adeiladu llwybrau beicio newydd ac yn y blaen, hefyd. O ran cyllid, nid wyf yn credu y dylem ni edrych ar gyllid ar gyfer teithio llesol ar wahân oherwydd y nod yw ei integreiddio i’r ffordd arferol yr ydym yn teithio, a dylid ystyried gwneud teithiau byrion ar droed neu ar feic yn bethau i'w gwneud yn arferol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen cyllid penodol i gefnogi gweithrediad y Ddeddf. Felly, rydym wedi rhoi yn flaenorol gyfran o £300,000 i awdurdodau lleol tuag at gynhyrchu eu map llwybrau presennol a pharatoi’r gwaith yno. Hefyd, cafodd £200,000 o arian cyllido trafnidiaeth leol ei neilltuo'n benodol ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â’r cyfnod o’r broses ar gyfer creu map rhwydwaith integredig. Rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud bod ymgysylltu yn gwbl allweddol o ran sut yr ydym yn datblygu hyn, a chael sgwrs gyda'r cyhoedd am y llwybrau y maent yn dymuno eu cael ac y maent eu hangen, gan y bydd hynny mewn gwirionedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen hon.

Byddaf yn disgwyl i’n bwrdd teithio egnïol gymryd cam arweiniol gwirioneddol yn hyn o beth, ac mae hyn yn cynnwys adrannau allweddol y Llywodraeth a phartneriaid allanol, Adnoddau Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau’r trydydd sector a chynrychiolwyr busnes hefyd. Bydd ganddynt swyddogaeth, rwy'n siŵr, o ran bod yn atebol, wrth gyflwyno'r Ddeddf, ond hefyd o ran bod yn eiriolwyr ar gyfer y Ddeddf. Lansiais yn ddiweddar, ochr yn ochr â'n sefydliadau sector gwirfoddol, wefan newydd lle gall aelodau o'r cyhoedd fynegi eu diddordeb i gael ymgynghoriad gan awdurdodau lleol ar y cynlluniau. Felly, byddwn i’n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb yn mynd ati i edrych ar wefan Living Streets i gael gwybod mwy a mynegi eu diddordeb o ran rhoi gwybod i'r awdurdod lleol beth yw eu llwybrau, beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth ar eu cyfer nhw, beth sy’n eu hatal rhag beicio neu gerdded i gyrchfan ar hyn o bryd. Felly, mae hynny yn sicr yn rhywbeth y byddwn i’n gofyn i’r Aelodau yma, mewn gwirionedd, eu hybu yn eu hetholaethau nhw hefyd.

Rydym yn sicr yn ceisio cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau. Rydym yn gwybod ein bod yn gofyn llawer, ond credaf fod modd i ni gael llawer ganddyn nhw hefyd. Felly, cyhoeddwyd ac ymgynghorwyd ar ganllawiau cyflwyno ar sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf teithio llesol, a chredaf fod hyn yn bodloni rhai o'r argymhellion y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau dylunio sy'n nodi safonau seilwaith ac sy’n darparu offer a chanllawiau ar gyfer cynllunio ac archwilio rhwydwaith gan awdurdodau lleol. Felly, rydym yn sicr am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r dyletswyddau newydd hyn. Bydd llawer o waith i’w wneud, ond credaf y gallwn gyflawni llawer. Mae hyn mewn gwirionedd yn gyfle cyffrous iawn i Gymru. Rwy'n ymwybodol iawn fod gan y byd i gyd ddiddordeb yn hyn ar lawer ystyr. Rwyf wedi gweld blogiau o America yn trafod yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd heb os i wneud yn siŵr bod hyn yn llwyddo, fel rwy’n gwybod y gall wneud.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'r cynllun teithio llesol yn fenter dda o ran ei hamcanion. Gellid cael arbedion hirdymor yng nghyllideb y GIG os yw pobl yng Nghymru yn y bôn yn heini, fel yr haerodd Dai Lloyd, ac, yn ddelfrydol, dylid meithrin gweithgarwch corfforol o oedran cynnar. Credaf ein bod yn cytuno ar yr egwyddorion hyn. Y broblem, fel erioed, yw pa mor dda y gellir cyflawni amcanion y cynllun teithio llesol mewn gwirionedd.  Weithiau, bydd datblygiadau bywyd modern yn tueddu i weithio yn erbyn cyflawni hyn yn effeithiol. Er enghraifft, gallwn annog plant ysgol i gerdded i'r ysgol ar ddiwrnod penodol fel rhan o'r cynllun hwn. Ond pan geir ad-drefnu sy'n arwain at gau ysgolion lleol, mae posibilrwydd y byddai’n rhaid i lawer o blant ddefnyddio ceir i deithio i'r ysgol. Byddai cerdded mwy na thair milltir i'r ysgol yn sicr o fod yn rhy bell ac yn cymryd gormod o amser yn rheolaidd. Felly, ni fyddech chi’n debygol o fod yn annog plant i gerdded yn rheolaidd i'r ysgol yn yr achos honno. Mae'r un broblem yn bodoli yn achos gweithwyr y mae eu gweithle yn llawer o filltiroedd i ffwrdd, ac, yn anffodus, y duedd gyda bywyd modern yw bod pobl yn teithio ymhellach ac ymhellach i’w gweithle.

Wrth gwrs, mae eich cynllun hefyd yn cynnwys beicio, a all fod yn fwy hyfyw yn y tymor hir. Er hynny, bydd yn anodd goresgyn y rhwystrau eithaf sylfaenol hyn, ond bydd yn ddiddorol gweld pa gynnydd y gellir ei wneud o ran y cynllun teithio llesol, a byddaf yn ymdrechu i’w fonitro'n ofalus. Diolch.

Diolch i chi am groesawu’r cynllun ac am y gefnogaeth rwy’n credu ein bod wedi ei chael ar draws y Siambr yma yn y Cynulliad heddiw. O ran y gweithle, rwy’n credu bod cyfle i gyflogwyr gefnogi ymdrechion eu gweithwyr i wneud teithiau llesol, er enghraifft drwy ddarparu cawodydd yn y gweithle ac yn y blaen. Gwn ein bod yn sicr yn darparu’r math hwnnw o gyfleuster yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ein Her Teithio Cymru, y cyfeiriais ati yn y datganiad ar y dechrau, yn gyfle i weithleoedd ymgysylltu â'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yma. Mae llawer o weithleoedd hefyd yn gweithio tuag at y safon iechyd corfforaethol, sef Cymru Iach ar Waith, sy’n gyfle i weithleoedd ddangos i'w gweithwyr eu bod yn cymryd eu hiechyd o ddifrif a’u bod yn barod i fuddsoddi ynddynt a’u cefnogi ar gyfer y dyfodol hefyd.

Rwy'n awyddus iawn—. Gwnaethoch chi sôn am ymgysylltu â phobl o oedran cynnar, ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae’n rhaid dangos bod cerdded a beicio yn gyfle i bawb. A dyna pam mae’n bwysig iawn fod ein dull ni o weithredu teithio llesol hyd yn hyn wedi ymgysylltu â phobl ar draws yr holl gymunedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut y gallwn ymgysylltu â chymunedau ac unigolion sy’n anodd eu cyrraedd â’r agenda teithio llesol. Felly, cawsom gynhadledd teithio llesol, a oedd yn edrych yn benodol ar hyn ac ar ein hymdrechion i gynyddu cyfranogiad ymhlith pobl anabl, menywod, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl hŷn. Nid ydym am i bobl deimlo efallai nad yw hyn ar eu cyfer nhw, oherwydd mae yna deithiau y gall y rhan fwyaf ohonom eu gwneud ar droed neu ar feic.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad ac am yr ymroddiad personol yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ei ddangos ar gyfer yr agenda hon.

Mewn sawl ffordd, pasio’r ddeddfwriaeth yw'r rhan hawdd yn y prosiect hwn. Dyma brosiect uchelgeisiol sy’n ymwneud â sawl cenhedlaeth i geisio newid agweddau ac ymddygiad. Ac er bod gennym, drwy fodolaeth y Ddeddf, rai canllawiau dylunio blaengar iawn, fwy na thebyg y canllawiau dylunio mwyaf blaenllaw yn y DU, yr hyn sy’n bwysig yw sut y caiff y prosiect ei weithredu. Er enghraifft, yn fy etholaeth i fy hun, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi adeiladu dau ddarn newydd o lwybrau beicio ar hyd y brif ffordd rhwng Llangennech a Dafen yn ddiweddar, ac yn hytrach na dilyn y canllawiau sy'n dweud y dylid cael llwybr 3m o led, maen nhw wedi penderfynu adeiladu dau lwybr: llwybr 1.5m o led ar un ochr, a llwybr 1.5m o led ar yr ochr arall, gydag arwyddion 'un ffordd' ar y ddwy ochr. Nid wyf erioed wedi gweld arwydd 'un ffordd' ar lwybr beicio o'r blaen, ac mae'n annhebygol y bydd yn cael llawer o sylw.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r gynulleidfa darged yma, nid y bobl sydd eisoes yn beicio; ond y bobl nad ydynt erioed wedi beicio. Mae hyn, wedi'r cyfan, yn ymwneud â newid ymddygiad, ac felly mae'n arbennig o siomedig yn yr ymgynghoriad ar y mapiau cyntaf mai dim ond tua 30 o bobl yr ymgynghorwyd â nhw gan bob awdurdod lleol ledled Cymru. A fyddai hi’n gwneud ei gorau i sicrhau y byddwn, ar gyfer yr ymgynghoriad ar fersiwn nesaf o'r mapiau—y mapiau lle byddem yn hoffi gweld y llwybrau—yn ymgysylltu â chymaint o bobl ag y bo modd, fel rwy’n dweud, nid â’r bobl sydd eisoes yn beicio ac yn cerdded, ond y bobl nad ydynt yn beicio nac yn cerdded?

Diolch i chi am y pwyntiau hynny. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi i’r awdurdodau lleol y math o gymorth sydd ei angen arnynt, a'r canllawiau sydd eu hangen arnynt. Felly, mae'n siomedig clywed am yr enghraifft lle nad yw'r canllawiau dylunio o bosib wedi’u dilyn er mwyn darparu’r llwybr beicio gorau posibl, yn enwedig gan fod cael llwybr beicio newydd yn beth gwych. Felly gadewch i ni geisio sicrhau ei fod o’r ansawdd a’r safon gorau posib.

Ynglŷn â’r gynulleidfa darged, rydych chi’n hollol gywir, fel y dywedais i yn fy natganiad, nid yn unig y dylai gynnwys y defnyddwyr presennol a’r bobl sy'n teithio’n llesol ar hyn o bryd, ond hefyd y bobl a allai fod yn teithio’n llesol. Rwyf wedi dweud bod y ffigurau isel o ran teithio llesol yn cyflwyno her go iawn i ni, ond maent hefyd yn cyflwyno cyfle go iawn. Felly rwyf wir yn dymuno gweld awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phobl newydd, pobl efallai na fyddent fel arfer yn ystyried hyn. Yn fy ateb i'r cwestiwn diwethaf soniais am ymgysylltu â rhai o’r grwpiau y mae wedi bod yn anoddach eu cael i gymryd rhan yn yr agenda hon yn y gorffennol.

Roeddwn i eisiau eich sicrhau fy mod wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn amlinellu iddyn nhw ddifrifoldeb a phwysigrwydd teithio llesol a gweithrediad llwyddiannus y Ddeddf hon yn ôl Llywodraeth Cymru. Felly, byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda nhw, ac os ydynt yn teimlo bod angen cefnogaeth arnynt, byddwn yn gobeithio y byddent yn gallu rhoi gwybod i mi am hynny.

Weinidog, cerddais i'r gwaith y bore yma a byddaf hefyd yn cerdded adref. Cerddais ar draws y morglawdd o Benarth. Weithiau byddaf yn dilyn y llwybr arall ar draws Pont y Werin. Mae’r daith honno ychydig yn hwy. Ni fyddai'r un o'r llwybrau hyn wedi bod ar gael i mi bum neu chwe blynedd yn ôl. Yr unig ffordd y gallwn i fod wedi cerdded i mewn i'r Cynulliad bryd hynny oedd i lawr Heol Penarth, llwybr llawer hirach ac yn un llawer llai dymunol. Rwy'n credu mai’r hyn sydd angen i chi ei annog yw datblygu seilwaith allweddol fel y cysylltiad hwnnw yn y morglawdd, y bont gerdded rwyf newydd sôn amdani, a chysylltu efallai llwybrau newydd—nid o reidrwydd ar hyd y prif ffyrdd bob amser, ond weithiau mae hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio seilwaith ar gyfer targedau allweddol—hynny yw, pobl sy’n gallu cerdded i'r gwaith. Gallwch gael meysydd parcio nad ydynt yn ganolog, gyda llaw, sy’n golygu bod pobl yn cerdded tua milltir oddi yno, gan ryddhau ein hardaloedd trefol, lleihau nifer y ceir a gwella ansawdd yr aer. Hefyd, yn sicr mae angen inni fod yn canolbwyntio ac yn datblygu ein seilwaith o gwmpas ysgolion, oherwydd os bydd plant ysgol yn dod i’r arfer o gerdded a beicio, wedyn mae hynny o bosib yn sicrhau eu bod am gadw’n ffit am oes.

Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau hynny. Dim ond i bwysleisio unwaith eto y pwysigrwydd allweddol yr ydym yn ei weld o ran rhoi ystyriaeth i seilwaith pan ydym yn sôn am adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth a’r dinasyddion a fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol. Yn sicr mae’n rhaid iddynt gynnwys cerdded a beicio.

Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud am y cyfleusterau parcio nad ydynt yn ganolog. Rwy'n credu bod hynny'n wych, oherwydd fel y dywedodd un o'r siaradwyr blaenorol, mae’n rhaid i rai pobl yrru milltiroedd lawer i’r gwaith, ond daw cyfle ar ddiwedd y daith, am ryw 10 neu 15 munud, i glirio’ch pen cyn wynebu diwrnod caled yn y gwaith, ac yn y blaen.

Rwy'n awyddus iawn i wrando ar unrhyw syniadau arloesol, o ble bynnag y maen nhw’n dod, o fewn y Siambr hon neu gan y cyrff sy’n cefnogi ein gwaith. Mae'n rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i'r sefydliadau gwirfoddol ac i eraill sydd wedi bod yn gweithio mor agos ac yn cynnig cymorth ac arbenigedd mor wych dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Sicrhau bod Cymru’n egnïol a gwireddu’r Ddeddf teithio llesol yw un o'r prif dasgau i Lywodraeth Cymru yn ystod y tymor nesaf hwn, ac rydym eisoes wedi sôn heddiw am yr ystadegau a'r canlyniadau a'r materion iechyd y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru. Mae'n dda clywed bod yr holl fapiau o’r llwybrau presennol wedi’u cwblhau gan yr awdurdodau lleol. A ydych chi wedi dysgu unrhyw beth o'r broses honno a ddilynwyd ar gyfer llunio’r mapiau hynny a fyddai'n helpu awdurdodau lleol i gynhyrchu eu mapiau rhwydwaith integredig nhw? A ydych chi’n teimlo bod angen unrhyw ganllawiau ychwanegol, er enghraifft? Dywedasoch eich bod am gefnogi awdurdodau lleol gymaint ag y gallwch; a oes angen rhagor o gefnogaeth ar gyfer y cam nesaf?

A fyddai'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn nad y swyddogion trafnidiaeth ac adrannau awdurdodau lleol yn unig sy’n cymryd rhan yn hyn, ond yr holl adrannau eraill—yr adrannau addysg, yr adrannau tai— gan fod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar ymddygiad pawb yn y rhan fwyaf o’r agweddau ar eu bywyd? A yw'r Gweinidog yn gwybod a yw’r adrannau eraill hynny o fewn awdurdodau lleol wedi cymryd rhan neu’n mynd i gymryd rhan, a beth y gallai hi ei wneud i sicrhau y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd?

Roeddwn yn falch iawn o glywed am gyfranogiad ysgolion wrth ystyried y broses o fapio’r rhwydwaith integredig, oherwydd yn amlwg mae hwn yn gyfle gwbl allweddol, i bobl ifanc, plant ac, wrth gwrs, i’r cyhoedd yn gyffredinol i gael dweud eu dweud, mewn gwirionedd, o ran y llwybrau teithio llesol y bydden nhw’n dymuno eu defnyddio. Rwy’n credu eich bod eisoes wedi crybwyll y grwpiau penodol yr hoffech chi sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud—y lleiafrifoedd ethnig—ac mae'n arbennig o bwysig bod menywod yn cael dweud eu dweud, oherwydd, o ran beicio, mae llai o fenywod yn barod i feicio am nifer o resymau, oherwydd rhesymau diogelwch yn arbennig. Mae Living Streets, Sustrans Cymru, Beicio Cymru a Cycling UK, fel y gwyddoch, wedi lansio ymgyrch ar y cyd sy'n galluogi pobl i gysylltu â'u hawdurdodau lleol ynglŷn â’r broses fapio, gan ofyn am gael bod yn rhan o unrhyw ymgynghori ac unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i awdurdodau lleol gael digwyddiadau, nid yn unig i ymgynghori ar-lein, ond i geisio cynnal rhai digwyddiadau byw go iawn, megis archwiliad o ardal—archwiliad o lwybrau teithio llesol, er enghraifft—gyda’r trigolion. A ydych yn gallu annog cynnal y math hwnnw o ddigwyddiad, fel ein bod yn y pen draw yw gwireddu’r Ddeddf teithio llesol a bod gennym weledigaeth ein bod yn annog Cymru i fod yn egnïol?

Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny. Rydym wedi derbyn yr holl fapiau llwybrau presennol erbyn hyn, a byddaf, yn fuan, yn derbyn yn ffurfiol y tri map olaf. O ran yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, byddwn yn cefnogi ein hawdurdodau lleol o ran datblygu mapiau rhwydwaith integredig drwy gynllun peilot yr wyf ond wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar. Bydd y cynllun yn sicrhau bod nifer o awdurdodau lleol yn cydweithio yn ystod rhai o gamau allweddol y map rhwydwaith integredig a bydd yn eu galluogi i rannu gwersi ac arfer da gyda'i gilydd. Mae hynny’n rhywbeth rwy'n credu ein bod wedi’i ddysgu yn ystod y cam blaenorol—fod angen i ni gael awdurdodau lleol i weithio'n llawer agosach, gan rannu gwybodaeth ac arfer gorau, ac yn y blaen, gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau bod hyn yn llwyddiant, rhywbeth yr ydym yn gwybod y gallai fod. Felly, bydd y cynllun peilot yn rhedeg ar sail fodiwlaidd, a bydd hynny’n helpu i osgoi unrhyw oedi wrth aros i’r prosiect gael ei gwblhau a chael y wybodaeth i ni ei dadansoddi.

Cynhelir cynhadledd yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ymwneud â theithio llesol, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau, unwaith eto, nad y rhai arferol yn unig sy'n bresennol, y rhai y byddech chi’n disgwyl i fod yno. Hoffwn weld cynrychiolwyr o’r adran dai, yr adran addysg, ac yn y blaen, a’r adran iechyd yn y gynhadledd honno hefyd, i weld sut y gallwn ddatblygu hynny mewn partneriaeth.

Rydych wedi codi’r pwynt am bwysigrwydd ymgysylltu â phlant, unwaith eto. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae plant wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymarferion mapio ac o ran deall pa lwybrau y byddai plant yn hoffi eu gweld, a beth yw'r rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn fwy egnïol hefyd. Soniasoch am fenywod, ac mae llawer o waith da yn cael ei wneud. Er enghraifft, mae Breeze yn Abertawe yn glwb a sefydlwyd ar gyfer menywod sydd eisiau beicio, ond nad ydynt yn dymuno beicio ar eu pennau eu hunain, ac yn y blaen. Hoffwn hefyd sôn am BikeAbility a Pedal Power, er enghraifft, fel sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl a phobl eraill i roi cynnig ar feicio, oherwydd gall y math hwn o offer fod yn ddrud iawn i unigolyn. Ond, gyda chefnogaeth elusennau gallant gael gafael ar yr hyn y maent ei angen. Felly, rwy’n llwyr ystyried y Ddeddf hon yn Ddeddf i bawb yng Nghymru ac yn gyfle i'r Llywodraeth gefnogi pobl i fod yn fwy egnïol drwy feicio a cherdded. Ni allwn wneud hyn ein hunain; mae angen partneriaeth yr awdurdodau lleol. Rwy'n hyderus fod hynny gennym a bod gennym gefnogaeth y sefydliadau sy'n rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd â ni hefyd.

7. 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, eitem 7—cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM6090 Ken Skates

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn o ran Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu am ei waith craffu ar y memorandwm a hefyd am nodi ei fod yn fodlon ag ef. Cymeradwyaf y cynnig i'r Siambr.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon, felly nid oes rhaid i chi ymateb i hynny.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Mae hynny'n dda. Caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:26.