Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/07/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Paul Davies.

Cefnogi Ffermwyr yn Sir Benfro

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0088(FM)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi’r diwydiant ffermio yn sir Benfro er mwyn iddo ddod yn fwy proffidiol a chynaliadwy ac, wrth gwrs, i sicrhau bod ffermwyr yn gwneud elw yn y pen draw.

Brif Weinidog, mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael effaith fawr ar y diwydiant amaethyddol, ac mae’n bwysig nawr bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi ein ffermwyr yn y dyfodol. Ond mae yna bryder enfawr ymysg ffermwyr yn sir Benfro ar hyn o bryd o’r posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau. Oherwydd penderfyniad pobl Prydain, a Chymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allwch chi ddweud wrthym ni ble mae hyn yn gadael yr ymgynghoriad roedd eich Llywodraeth chi yn golygu ei gyflwyno ar barthau perygl nitradau? A ydy’r cynlluniau hyn nawr yn mynd mlaen?

Maen nhw’n dal i barhau, wrth gofio’r ffaith bod y gyfraith amgylcheddol sydd wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith Cymru yn mynd i aros er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai’n fater wedyn i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfreithiau i gadw yn y pen draw, a pha gyfreithiau na fyddent yn cael eu cadw yn y pen draw.

Mae nifer o ffermwyr yn sir Benfro a thu hwnt yng Nghymru eisoes wedi arallgyfeirio i fewn i dwristiaeth. Yn sgil y bleidlais yna ar y refferendwm—ac mae Paul eisoes wedi sôn am y ffaith bod cymaint o ansicrwydd nawr ymysg ffermwyr—a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i hyrwyddo twristiaeth ac i annog mwy o ffermwyr i ddilyn y trywydd yna?

Mae’n wir i ddweud ein bod ni wedi cefnogi ffermwyr i wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynlluniau fel Cyswllt Ffermio er enghraifft, a thrwy’r cynllun datblygu gwledig. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau bod pob ffordd i wneud arian yn cael ei roi o flaen ffermwyr er mwyn sicrhau bod eu ffermydd nhw yn fwy cynaliadwy.

Un o gynhyrchion amaeth mwyaf adnabyddus sir Benfro—un sydd yn rhan o’r parthau nitradau yma—yw tatws, wrth gwrs, ac mae gan datws cynnar sir Benfro statws PGI o dan y gyfundrefn Ewropeaidd bresennol, sydd yn galluogi ffermwyr a chynhyrchwyr i werthu’r tatws fel rhywbeth arbennig ac fel rhywbeth sy’n deillio o diriogaeth arbennig. Gan fod, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, PGI yn mynd law yn llaw gydag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, a oes gan y Llywodraeth gynlluniau neu unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth tebyg i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd?

Bydd hyn yn hollbwysig, ond rydym yn ansicr ar hyn o bryd ynglŷn â beth yw’r sefyllfa. Pe bai statws PGI yn cael ei golli, byddai hynny’n bwrw nid yn unig tato yn sir Benfro, ond cig oen yn enwedig. Mae’r farchnad allforio cig oen yn bwysig dros ben, ac un o’r pethau sydd yn sicrhau ein bod ni’n gallu gwerthu ar draws y byd yw’r ffaith ein bod ni’n gallu rhoi gwarant i brynwyr bod y cig oen yn dod o Gymru a bod y cig oen hynny o’r safon uchaf. Mae’r un peth yn digwydd gyda thato, felly, petaem ni’n colli PGI a statws PDO hefyd, byddai’n rhaid sicrhau bod gyda ni statws cyfartal yng Nghymru er mwyn i brynwyr allu cael yr un hyder.

Bargen Ddinesig Caerdydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Caerdydd? OAQ(5)0097(FM)

Rydym ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd llwyddiannus. Nid ydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth y DU eto, fodd bynnag, o ran sicrwydd ganddyn nhw y byddai yr elfen ariannu yn y cytundeb hwnnw sy’n dod o gyllid Ewropeaidd yn cael ei anrhydeddu ganddyn nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith uniongyrchol ar arian cyfatebol ar gyfer y cytundeb dinas.

Y metro yw un o elfennau allweddol y cytundeb dinas, a gallai weddnewid gwasanaethau trafnidiaeth yn y de a'r cymoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, mae swm sylweddol o arian y prosiect nad yw wedi ei gadarnhau hyd yn hyn. Pa gyfle fyddai gan y Prif Weinidog i drafod yn uniongyrchol ag Ewrop am barhad yr arian hwnnw neu gael gweddill yr arian hwnnw?

Fel y mae pethau’n sefyll, cyn gynted ag y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd mynediad at y cyllid hwnnw’n dod i ben. Nawr, rwy'n sefydlu tîm ym Mrwsel i ystyried trafod ar ran Cymru yn gyfochrog â'r DU, gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Ond, os nad yw'r arian Ewropeaidd yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU, yna, yn amlwg, mae hynny'n gadael twll yn y cyllid a bydd yn rhaid i ni ddiwygio'r cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd.

Cyn i mi ddod at gwestiwn, cefais fy heclo gennych chi yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi fy ngalw i’n llwfrgi yn eglur. Byddwn yn awgrymu, yn y dyfodol, eich bod yn ymddwyn mewn ffordd fwy—

Cwestiwn yw hwn. Cwestiwn yw hwn. Gofynnwch gwestiwn, os gwelwch yn dda, Mr McEvoy.

Gyda phob parch, rwyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ymddwyn yn debycach i Brif Weinidog.

Mae fy nghwestiwn i’n dod nawr, ond mae fy natganiad yn parhau.

Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas—

Rwyf i yn gofyn fy nghwestiwn, gyda pharch, Lywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas. [Torri ar draws.]

Rwy’n meddwl ein bod ni’n gwybod erbyn eich bod chi newydd gadeirio rhywbeth. Dywedwch wrthym ni beth ydyw, a gofynnwch eich cwestiwn.

Roedd cannoedd o gynadleddwyr, o'r trydydd sector, o’r Llywodraeth, ac eto dim ond un person oedd yno o fusnes lleol. Fy nghwestiwn i yw: pam nad yw cymunedau lleol a pham nad yw busnesau lleol yn cael eu cynnwys yn y cytundeb dinas? Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi hon ac eto prin y mae eu llais yn cael ei glywed. Pam mae hynny?

Wel, os mai fe wnaeth ei gadeirio, nid wyf yn synnu mai ychydig iawn o fusnesau oedd yno, mae'n rhaid i mi ddweud. Y gwir amdani yw y bydd busnesau yn rhan hynod bwysig o'r cytundeb dinas, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a busnesau i wneud yn siŵr y gellir sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o’r cytundeb.

Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o economi’r de.

Rwy’n cytnuo’n llwyr â hynny. Mae cysyniad y metro wedi ei gynllunio i wneud dau beth, yn bennaf. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, i'w gwneud yn haws i'r rhai sydd â swyddi yng Nghaerdydd i deithio yn gyflym i mewn i Gaerdydd, ond hefyd i ddenu buddsoddiad oddi wrth yr arfordir ac ymhellach i fyny'r cymoedd, ac i gael gwared ar y dybiaeth honno bod ein cymunedau yn y cymoedd gogleddol yn anodd eu cyrraedd. Rydym ni’n gwybod nad yw hynny'n wir. Rydym ni’n gwybod, gyda'r cynlluniau ffyrdd a roddwyd ar waith eisoes, ac rydym ni’n gwybod, gyda'r cynllun metro, y byddwn yn gallu dweud wrth fuddsoddwyr bod ein cymunedau yn y cymoedd wedi eu cysylltu ag economi ehangach y de-ddwyrain, ac felly maen nhw’n gymunedau y dylid buddsoddi ynddynt. Ac rydym ni’n dechrau gweld ffrwyth hynny gyda phenderfyniad TVR i fuddsoddi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.

Diolch yn fawr. Brif Weinidog, mae system wleidyddol San Steffan mewn argyfwng, gyda thwyll ac anfadwaith yn digwydd yn y Blaid Geidwadol a’ch plaid eich hun yn Llundain. Ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar Gymru ac ar ddyfodol ein gwlad. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i gael gair gydag ASau Cymru i ddweud wrthynt am gallio ac i wneud eu gwaith, sef dwyn y Llywodraeth Geidwadol i gyfrif, a gwneud yn siŵr bod Cymru'n cael pob ceiniog o'r arian a addawyd i ni pe byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Wel, nid wyf yn mynd i esgus wrth arweinydd yr wrthblaid bod pethau’n sefydlog yn San Steffan—mae hynny yno i bawb ei weld. Ond gallaf ddweud, o’n safbwynt ni fel Llywodraeth, byddwn yn brwydro am bob un geiniog sy’n ddyledus i Gymru, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd pawb sy'n cynrychioli fy mhlaid yn San Steffan yn gwneud hynny hefyd.

Brif Weinidog, rwy'n siomedig nad ydych chi’n barod i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ar y cwestiwn hwn. Os nad ydych chi’n barod i gael gair gyda'ch ASau eich hun, efallai y byddan nhw’n barod i wrando ar y neges hon gennyf i: mae pleidleiswyr yn ein hetholaethau eisiau i ni fod yn llais iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maen nhw eisiau i ni fynd i'r afael â'r hiliaeth sydd wedi codi yn ein cymunedau, maen nhw eisiau i ni fynd yn ôl i'r gwaith, ac maen nhw eisiau ein gweld ni’n symud ein gwlad yn ei blaen. Nawr, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yw mwy o raniadau a mwy o ymladd mewnol.

Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn i’n rhan ohono neithiwr yn Aberystwyth, Brif Weinidog, clywais gan ŵr ifanc y mae ei deulu o dras Almaenig, ac maen nhw’n pryderu am eu dyfodol. Nid ydyn nhw’n gwybod pa hawliau fydd ganddyn nhw, maen nhw’n poeni am adroddiadau yn y wasg ei bod yn bosibl iawn y gallai eu statws fod ar y bwrdd yn y trafodaethau. Nawr, mae llawer o blant wedi bod yn gofyn cwestiynau i’w rhieni pan eu bod yn y sefyllfa hon, ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau hynny pan fo cymaint nad yw’n hysbys. Nawr, rwy’n gobeithio y gallwch chi ymdrin â hyn yn fwy cynhwysfawr yn y cwestiwn brys yn ddiweddarach, ond mae angen i ni fod yn eglur bod dinasyddion yr UE o fudd net i Gymru. Dylem i gyd ddweud bod croeso i bob un ohonyn nhw yma ac na ddylent orfod gadael y wlad hon os neu pan fydd Brexit yn digwydd yn y pen draw.

Brif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dod o rannau eraill o Ewrop y byddwch chi’n eu cefnogi nhw, eu hawliau a'u teuluoedd?

Mewn ffordd, mae hynna’n rhoi cyfle i mi ateb y cwestiwn brys nawr, ac rwyf yn hapus i wneud hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac rwyf wedi dweud wrthi, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ein bod yn credu y dylai dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU gadw'r hawl i wneud hynny ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae hi a minnau o’r un safbwynt ar hynny. Rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir defnyddio dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU fel testun bargeinio mewn trafodaethau; mae'n gwneud iddyn nhw swnio fel pe bydden nhw’n wystlon. Nid gwystlon ydyn nhw; Mae croeso iddyn nhw yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nawr, mewn gwahanol gyfarfod yr es i iddo ddoe yng Nghaerdydd, clywais gan gynrychiolydd un o'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio'n helaeth gan y bleidlais Brexit. Fe’n hysbyswyd y gallai'r sector addysg bellach a sgiliau golli £760 miliwn o gyllid yn y dyfodol os na chaiff yr arian hwnnw ei ddarparu. Os a phan nad yw’r cyllid hwnnw’n cael ei ddarparu, y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf fydd y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad gyflogaeth. Dim ond un sector o gymdeithas ddinesig Cymru yw hwnnw, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ein haelodaeth o’r UE a'r manteision sydd yno ac na ddylent eu taflu i ffwrdd.

A ydych chi’n cytuno â mi bod y lleisiau hynny o'r gymdeithas ddinesig yn haeddu cael eu clywed pan gaiff telerau Brexit eu trafod, ac a wnewch chi fabwysiadu safbwynt negodi swyddogol i Gymru, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'i anfon at Brif Weinidog newydd y DU? Ac, os na allwch chi ddwyn yr arweinydd Torïaidd newydd yn San Steffan i gyfrif am yr addewidion a wnaed yn ymgyrch refferendwm yr UE, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd y lleoedd prentisiaeth, y cyrsiau hyfforddi a’r cynlluniau dychwelyd i'r gwaith hynny sydd o fudd i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gael i'r bobl hynny yn y dyfodol?

Yn gyntaf oll, mae hi'n iawn i dynnu sylw at y bwlch ariannu a fyddai'n bodoli. Yn ail, mae hi a minnau wedi trafod yr hyn y dylai'r safbwynt negodi fod ac rwy'n ddigon hapus i’w rannu â'r Siambr: hynny yw, yn gyntaf, y byddwn yn archwilio pob llwybr posibl sydd o fudd i Gymru; yn ail, rwyf eisoes wedi gofyn i'r Ysgrifennydd dros yr economi gyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu swyddi a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd ac mae ef wedi gwneud hynny. Ddoe, cafodd yr ysgrifennydd dros yr amgylchedd a materion gwledig a minnau gyfarfod ag unigolion allweddol o sectorau amgylchedd ac amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud bod dyletswydd ar y rhai a alwodd ar y DU i adael yr UE i sicrhau bod yr addewidion a wnaed ganddynt o ran cyllid i Gymru yn cael eu hanrhydeddu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth o hynny yn brinnach bob dydd. Y cwestiwn yw: a ddywedwyd y gwir wrth y cyhoedd yng Nghymru cyn y refferendwm neu a yw’r gwir yn dod i'r amlwg nawr?

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes unrhyw gwestiwn y bydd dinasyddion yr UE sy'n byw neu’n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel testunau bargeinio mewn unrhyw ailnegodi, gan fod eu hawliau wedi eu diogelu’n llawn o dan gonfensiwn 1969 Vienna. A all y Prif Weinidog gadarnhau i mi fod hynny'n wir?

Wel, ni allaf ond dyfynnu’r hyn y mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi ei ddweud ac, yn wir, y sawl a allai eto fod yn Brif Weinidog y DU, sydd wedi dweud nad yw’r hawliau hynny wedi eu gwarantu. Nawr, mae angen i ni gael eglurder ac mae angen ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref presennol cyn gynted â phosibl fel y gall pobl gael sicrwydd, i lawer o bobl sydd wedi byw yn y DU ers blynyddoedd lawer, na fyddant yn colli eu hawliau preswylio. Mae’r eglurder hwnnw’n hanfodol.

Gan droi oddi wrth faterion yr UE, mae'r Prif Weinidog wedi crybwyll yn gwbl gywir y rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru ar ôl i ni adael yr UE, a bydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n eistedd ar hyn o bryd ar benderfyniad ynghylch cylchffordd Cymru. Roedd problem o ran hyn dros faint y warant y byddai ei hangen ar gyfer ariannu'r prosiect. Nawr rwy’n deall bod honno wedi cael ei lleihau i lai na 50 y cant o'r cyfanswm, felly nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm pam na allwn ni symud yn gyflym i benderfyniad i roi'r warant hon fel y gall y prosiect enfawr hwn a fydd yn creu swyddi fynd rhagddo. Felly, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf os gwelwch yn dda i ble’r ydym ni wedi cyrraedd ar hyn ar hyn o bryd?

Bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad ar Gylchffordd Cymru yr wythnos nesaf.

O, iawn. Wel, rwy’n falch iawn o glywed hynny, gan ei fod yn hanfodol bwysig ar gyfer y de-ddwyrain cyfan ac, yn wir, ymhell y tu hwnt. Dyma’r prosiect adfywio mwyaf yr ydym ni wedi ei weld ers blynyddoedd lawer—£ 380 miliwn—ac nid wyf yn disgwyl y gall y Prif Weinidog ragweld cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn gennyf i ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sêl bendith i'r prosiect hwn.

Bydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Rwy’n cymryd y byddaf yn cael fy atgoffa cyn i'r penderfyniad gael ei wneud—rwy'n siŵr y byddaf—ond gwn y bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf ar gynnydd y cynllun hwn.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyfeiriwyd gennych yn gynharach at y ffaith eich bod chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi cyfarfod â'r undebau ffermio a busnesau eraill o'r cymunedau gwledig ddoe. Yn ystod cwestiynau, bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn credu mai ffermwyr—ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol—yw’r

'bobl orau i redeg busnes o bosibl'.

A ydych chi wir yn credu bod hyn yn wir, nad ffermwyr yw'r bobl orau i redeg eu busnesau eu hunain?

Gallaf ddweud bod y digwyddiad ddoe yn llwyddiannus iawn. Pwysleisiwyd i’r sector, sector yr amgylchedd yn gyntaf oll, y bydd yr holl ddeddfau amgylcheddol hynny sydd eisoes yng nghyfraith Cymru yn parhau. Yn ail, cyn belled ag y mae ffermio yn y cwestiwn, dim ond i bwysleisio'r pwynt, nid oes y fath beth â pholisi amaethyddol Prydain. Mae wedi ei ddatganoli’n llwyr. Felly, ceir cyfleoedd i’r diwydiant ffermio weithio gyda ni o ran sut y gallai cynllun ariannu edrych yn y dyfodol, pa gefnogaeth y gallant fod ei heisiau yn y dyfodol—er, wrth gwrs, mae hynny'n dibynnu ar yr arian yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac yn drydydd, wrth gwrs, o ran pysgodfeydd, yr hyn y dylid ei wneud â dyfroedd tiriogaethol Cymru o ran pwy ddylai gael pysgota ynddynt ac, yn ail, pa un a yw cychod o Gymru eisiau i ni drafod gyda gweinyddiaethau eraill o ran sicrhau hawliau pysgota iddyn nhw mewn dyfroedd eraill.

Brif Weinidog, roedd y dyfyniad a roddais i chi yn ddyfyniad uniongyrchol o Gofnod y Trafodion yma ac rwy’n nodi na wnaethoch chi ymbellhau eich hun o’r dyfyniad hwnnw.

Pe gallwn i hefyd ofyn cwestiwn i chi ar y llythyr a gyhoeddwyd gennych chi ar ddiwrnod y refferendwm, sef 23 Mehefin, am y cytundeb sydd gennych chi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn benodol, yr honiad a wnaed gan Kirsty Williams fod y goblygiadau yn arwain at oblygiadau cyllidebol sylweddol o ran y naw ymrwymiad addysg a wnaed rhyngoch chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Beth yw cyfanswm yr ymrwymiad yr ydych chi wedi ei roi o safbwynt ariannol i fodloni’r ymrwymiad a wnaethpwyd gennych i'r Democratiaid Rhyddfrydol a ddaeth â nhw i mewn i’r Llywodraeth? Rwyf yn credu bod hwnnw’n gwestiwn rhesymol oherwydd, fel y dywedais, ‘goblygiadau cyllidebol sylweddol’ oedd y geiriau a ddyfynnwyd yn yr ohebiaeth'.

Lle bynnag y ceir cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect penodol, mae’n rhaid edrych yn ofalus ar y prosiect hwnnw pan ddaw'r cyllid Ewropeaidd hwnnw i ben. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n amlwg. Soniwyd am hynny eisoes gan arweinydd yr wrthblaid. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn darparu arian yn lle’r arian hwnnw, fel yr addawyd, yna mae'n amlwg, yn y dyfodol, na fydd modd ariannu rhai cynlluniau yn y modd y byddem ni’n gobeithio ei wneud.

Mae'n hoff iawn o ddyfyniadau y prynhawn yma. Gadewch i mi gynnig rhai iddo fe. Ar 2 Mawrth, Andrew R.T. Davies yn siarad ar 'The Wales Report':

Gallaf sicrhau y byddai llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ailddosbarthu ymhlith rhanbarthau'r DU, neu fel arall byddai'n methu o ran ei gylch gwaith i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r genedl—

y DU y mae’n ei olygu trwy hynny—

y mae wedi ei hethol i lywodraethu. A dweud y gwir, ni allwn barhau i godi ofn ar bobl, eu gyrru nhw i'r blwch pleidleisio gan eich bod chi’n eu dychryn nhw i bleidleisio mewn un ffordd.

Ar 14 Mehefin:

Mae ymgyrchwyr am bleidlais i adael wedi dweud y byddai’r arian y mae Cymru'n ei gael gan Frwsel yn cael ei gynnal gan lywodraeth y DU pe byddai Brexit yn digwydd.

Rwy’n croesawu hynny.

Dywedodd Andrew R.T. Davies:

Mae'r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu’n fawr ac yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru’n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf honiadau ffantasi y prif weinidog, rydym ni’n gwybod bellach y byddai cyllid ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem ni’n pleidleisio i adael.

Ar 21 Mehefin, dywedodd Andrew R.T. Davies wrth yr ‘Herald':

Gallai Cymru fod cymaint â hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn well ei byd os bydd y DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau...mae Uwch Weinidogion y Llywodraeth eisoes wedi addo cynnal cyllid presennol yr UE pe byddem ni'n pleidleisio i adael.

A chyllid ychwanegol—cyfran Barnett o £9.8 biliwn y gallai Cymru ei derbyn pe byddem ni’n gadael yr UE. A heddiw, dywedodd wrth y cyfryngau nad oedd yn ymwneud ag arian, roedd yn ymwneud â chanlyniadau. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU dalu pob un geiniog a gollwyd i Gymru? A yw’n cadw at ei ddyfyniadau—ac mae'n hoff o ddyfyniadau heddiw—neu a yw’n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw y bore yma?

Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser—ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi’n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy’n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd hynny gan y bobl yn y bleidlais ar y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae’n hollol anhygoel i mi, ar ôl dau gwestiwn eglur iawn—un i ymbellhau eich hun oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwawdio craffter busnes ffermwyr, a’r llall, ynglŷn â'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod â nhw i mewn i Lywodraeth sydd, yn eu geiriau eu hunain, â goblygiadau cyllidebol sylweddol i’ch Llywodraeth chi. Nid wyf yn credu bod y rhain yn gwestiynau ffôl i'w gofyn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan eich bod wedi dweud yn ystod yr ymgyrch, ar gyfer pob ymrwymiad cyllideb newydd a wneid gan eich Llywodraeth y byddai’n rhaid cael toriadau mewn mannau eraill. Felly, naw wythnos erbyn hyn ar ôl yr etholiad, nid yw'n afresymol i arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i ofyn y cwestiwn i chi, 'Iawn, rydych chi wedi ymrwymo’r arian hwn i ymrwymiadau’r Democratiaid Rhyddfrydol; o ble ydych chi'n cael yr arian hwnnw?' Nid yw'n ymwneud â'r bleidlais Brexit. Mae'n ymrwymiad a wnaed gennych cyn y bleidlais Brexit gan y bu'r trafodaethau hyn cyn y bleidlais Brexit. Felly, o ble mae'r arian yn dod i fodloni’r ymrwymiadau ariannol sylweddol yr ydych chi wedi eu cytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y dyfodol? A allem ni gael ateb syml, uniongyrchol, neu ai’r ffaith syml yw nad ydych chi’n gwybod?

A gaf i ddyfynnu ymadrodd Belfast da wrtho? Mae'n byw mewn byd o losin llygod gwyn, oherwydd, mi ddywedaf i wrthych chi beth, os yw e'n credu rywsut y gall ddianc rhag y ffaith ei fod wedi siomi pobl Cymru heddiw trwy ddweud na fydd yn brwydro i bob un geiniog gael ei thalu i Gymru—. Cafodd gyfle i ddatgan ei safbwynt—methodd â gwneud hynny. Mae'n iawn i nodi y bydd anawsterau cyllidebol. Mae hynny'n wir, gan y byddwn ni’n colli arian yr UE—bydd £650 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli o'n cyllideb o ganlyniad i Brexit. Nawr, os bydd yr holl arian hwnnw’n cael ei dalu, fel yr addawodd—fel yr addawodd dair gwaith—oddi wrth Lywodraeth y DU, yna bydd hynny’n helpu. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a fydd e'n sefyll dros bobl Cymru, neu a fydd e'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth y llanast y mae wedi ei greu?

Cyfleusterau Meddygfeydd (Gogledd Cymru)

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)[W]

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o gyfleusterau gofal sylfaenol newydd wedi cael eu hagor ar draws y gogledd. Wrth gwrs, maen nhw’n darparu adeiladau o’r safon uchaf i feddygon teulu.

Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu’ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn.

Mae’r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae’r adeilad yn hollol anaddas—nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan fygythiad ac nid oes modd i’r practis gymryd myfyrwyr meddygol nac ehangu gwasanaethau. Ddeng mlynedd yn ôl, fe ddywedodd y bwrdd iechyd fod gwella meddygfa Waunfawr yn flaenoriaeth, ond nid yw’r cyfleusterau wedi gwella. A ydych chi’n credu bod y llusgo traed yma yn dderbyniol, ac oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, a wnewch chi ymyrryd er mwyn symud pethau ymlaen ar frys?

Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn â’r sefyllfa yna yn y Waunfawr—mae yna bwysau mawr yna. Rwy’n deall bod y feddygfa ei hunan yn trafod y peth yn fanwl iawn â’r bwrdd iechyd. Mae’n rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib—rwy’n deall hynny. Wrth gwrs, byddai’n rhaid cael cais o’r feddygfa yn gyntaf, ond i wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid trafod y peth â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod y cais yn un iawn. Ond rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn deall y sefyllfa a’n deall bod yn rhaid sicrhau mwy o le i’r feddygfa yn y pen draw. Rwy’n deall taw siop oedd y feddygfa ar un adeg a bod 5,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu oddi yno nawr—1,000 ar y dechrau—felly mae’n amlwg bod yn rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy’n bosib.

Ar ôl colli dwsinau o welyau cymunedol yn y gogledd er gwaethaf lefelau defnydd gwelyau o 95 y cant neu uwch, dywedodd staff y GIG yn y gogledd wrthyf y byddai gwelyau cymunedol newydd yn cymryd pwysau oddi ar ysbytai cyffredinol ac yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddefnyddio ei adnoddau yn fwy effeithlon. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r datganiad gan ymarferwyr cyffredinol yn nigwyddiad Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn y Cynulliad bythefnos yn ôl bod gwelyau cymunedol yn ychwanegu at yr amrywiaeth o bethau y gall ymarferydd cyffredinol ei wneud, a bod gofal lleol mewn uned ymarferydd cyffredinol mewn ysbytai cymunedol, sy’n eu galluogi i ryddhau pobl i fynd adref wedyn, yn atal yr angen i roi pobl mewn ysbytai cyffredinol ac yn cynorthwyo gofal eilaidd a sylfaenol?

Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pob bwrdd iechyd yn ystyried y model cywir ar gyfer ei ardal. Nawr, rwy'n ymwybodol ac rwyf wedi gweld enghreifftiau fy hun o sut y mae hyn yn gweithredu'n dda. Ni ddylem, wrth gwrs, ddefnyddio hynny fel rheswm i beidio â sicrhau y gall pobl fynd adref gyda'r gefnogaeth iawn cyn gynted â phosibl, ond mae'r model y mae’r Aelod yn sôn amdano eisoes yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru.

Gwasanaethau Llyfrgelloedd (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)

Byddwn yn darparu mwy na £600,000 o arian grant i gynorthwyo’r gwaith o foderneiddio tair llyfrgell yn y canolbarth a’r gorllewin yn 2016-17.

Nid wyf yn gwybod pa un a yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwerth £0.25 miliwn o doriadau i'r gyllideb llyfrgelloedd rhwng nawr a 2019, a fydd yn golygu torri hanner costau cynnal lleol y gwasanaeth llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o gau 11 o lyfrgelloedd cangen. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i resynu’r synnwyr hwn o flaenoriaethau, oherwydd does bosib na ddylem ystyried llyfrgelloedd fel rhan hanfodol bwysig o wasanaeth addysg ehangach y wlad hon?

Mater, wrth gwrs, i awdurdodau lleol yw sut y maen nhw’n trefnu eu gwasanaethau llyfrgell, er fy mod i’n ymwybodol mai un o'r llyfrgelloedd a fydd yn derbyn arian yw llyfrgell ardal Aberhonddu er mwyn ei moderneiddio, ond mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd.

Brif Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae gwasanaethau llyfrgell yn ased cymunedol gwerthfawr, gymaint felly fel bod cymunedau lleol yn Arberth, a hefyd yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i gadw llyfrgelloedd ar agor fel adnodd a reolir gan y gymuned yn wyneb toriadau cyni cyllidol y Torïaid. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i’r gwirfoddolwyr hynny am eu hymdrechion i gefnogi cadw’r llyfrgelloedd hynny ar agor ac, yn benodol, i ddiolch iddyn nhw yn yr ardaloedd gwledig hynny sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw?

Gwnaf, mi wnaf ymuno â'r Aelod i ddiolch i'r bobl hynny. Rwyf wedi gweld enghraifft ohono fy hun yn Llansawel, lle mae gwirfoddolwyr yn rhedeg y llyfrgell erbyn hyn, a gwn fod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn—. Wel, un o'r straeon a adroddwyd i mi yno yw bod pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio'r llyfrgell nawr—roedd rhai pobl yn meddwl bod y llyfrgell wedi cau flynyddoedd yn ôl. Ac mae'n hynod o bwysig, felly, bod gwirfoddolwyr yn gallu, nid yn unig i sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i redeg, ond hefyd i sicrhau bod gwybodaeth am y llyfrgell yn fwy cyffredin yn y gymuned.

Brif Weinidog, yn ystod yr wythnos yr ydym ni’n coffau canmlwyddiant brwydr y Somme, mae'n hanfodol ein bod yn dathlu'r rhan bwysig y mae gwasanaethau archifau sirol yn ei chwarae, yn enwedig o ran helpu cenhedlaeth heddiw i gadw cysylltiad â'u gorffennol. Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod archif Caerfyrddin wrthi’n cael ei hadfer ar hyn o bryd, ar ôl cael ei difrodi'n ddifrifol oherwydd ei lleoliad gwael mewn adeilad anaddas a ganiataodd i ddogfennau gwerthfawr gael eu gorchuddio â llwydni a phob math o bethau anffodus eraill yn digwydd. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r gwaith adfer hwn ar yr archif ddiwylliannol bwysig hon yng Nghymru, ac a wnewch chi amlinellu beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i helpu llyfrgelloedd eraill, archifau gwerthfawr eraill yng Nghymru, i gael eu hadfer a'u cadw ar gyfer dyfodol y genedl?

Wel, gallaf ddweud bod yr enghraifft y mae’r Aelod yn ei rhoi wedi cael ei helpu gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac enghraifft arall y gallaf ei chynnig yw adleoli'r archifau rhent yng Nglynebwy mewn adeilad newydd sbon, adnodd hynod o bwysig, ac adnodd sy'n arbennig o hygyrch—rhan, wrth gwrs, o ailddatblygu safle’r hen waith dur.

Datblygiadau Tai Cymdeithasol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)

Rydym ni’n parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, a fydd yn elfen bwysig o'n targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn, ac rydym ni’n cynorthwyo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai er mwyn cyrraedd y targed hwnnw.

A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna yn gyntaf oll? Rwy’n credu ym mhwysigrwydd tai cymdeithasol; mae gen i lawer o’m hetholwyr ar y rhestr aros am dŷ cyngor ar hyn o bryd. Hoffwn bwysleisio hefyd pwysigrwydd terfynu'r hawl i brynu fel y gall cynghorau adeiladu eto heb ofni y bydd y tai hynny’n cael eu gwerthu’n gyflym iawn, iawn. A ellir rhoi rhywfaint o'r cyllid a roddir i gymdeithasau tai ar hyn o bryd i adeiladu cartrefi newydd, i gynghorau i gynorthwyo’r gwaith o adeiladu tai cyngor?

Rwy'n awyddus i atal hyn rhag cael ei ystyried fel cystadleuaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Mae’r ddau’n hanfodol i gyrraedd ein targed newydd. Rydym ni eisiau gweld, wrth gwrs, mwy o uchelgais gan awdurdodau lleol pan ddaw i adeiladu tai. Mae'n anodd, oherwydd yr ataliwyd awdurdodau lleol rhag adeiladu tai am gymaint o flynyddoedd. Ond rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu cynllun cyflawni.

Brif Weinidog, bydd cap ar fudd-dal tai ar gyfraddau lwfans tai lleol yn berthnasol o fis Ebrill 2018 ond dim ond i denantiaethau a lofnodwyd ar ôl Ebrill 2016. Bwriedir y diwygiad hwn yn well i gyfochri'r rheolau yn y sectorau rhent preifat a chymdeithasol, ond bydd yn arwain at ddarpar denantiaid yn cael rhagor o broblemau o ran fforddiadwyedd os ydynt yn derbyn budd-daliadau neu eu bod angen cymorth lles yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn frwd iawn amdano ar hyn o bryd. Yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y ddarpariaeth honno o dai â chymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

Rydym ni eisiau sicrhau, wrth gwrs, nad yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn dioddef o ganlyniad i benderfyniadau a wneir mewn mannau eraill. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ofalus ar y sefyllfa bresennol er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Brif Weinidog, er ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o dai yng Nghymru, nid yw fy etholwyr mewn cymunedau fel Penllergaer, Pontarddulais a Gorseinon wedi eu darbwyllo bod cynllun datblygu lleol drafft y Cyngor yn adlewyrchu'r angen am ddarpariaeth o'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adlewyrchu anghenion pobl yn ystod adegau gwahanol yn eu bywydau. Felly, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf, wrth adeiladu tai cyngor, y bydd awdurdodau lleol wedi eu rhwymo yn yr un ffordd ag unrhyw ddatblygwr i roi sylw dyledus cryf i bryderon trigolion lleol am leoliadau? Ac, yn ail, beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd i helpu cynghorau edrych ymlaen at ddarparu mwy o gartrefi i bobl hŷn pan fyddant yn cynllunio i adeiladu tai cyngor yn y dyfodol?

Bydd cynghorau, wrth gwrs, yn cynllunio yn ôl y newid demograffig. Rydym ni’n gwybod, yn hanesyddol—ers degawdau lawer—bod tai’n cael eu hadeiladu ar y sail eu bod yn mynd i gartrefu teuluoedd. Rydym ni’n gwybod mwy a mwy o bobl yn gynyddol sydd ar eu pennau eu hunain. Maen nhw wedi cael eu taro'n galed gan y dreth ystafell wely, yn enwedig yng Nghymru wledig, lle mae’n anodd dod o hyd i lety un ystafell wely y tu allan i drefi. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs mae cynghorau wedi eu rhwymo i’w cynlluniau datblygu lleol eu hunain ac mae’n rhaid iddyn nhw gadw at y cynllun hwnnw, yn union fel y byddai unrhyw ddatblygwr arall yn gorfod ei wneud.

Brif Weinidog, yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, llwyddais i dynnu sylw at adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam, a nododd effaith niweidiol anghyfartal toriadau i fudd-daliadau lles y Llywodraeth Dorïaidd ar gymunedau tlotach, gan gyfeirio'n benodol at gyfyngu’r budd-dal tai lleol i’r gyfradd tai lleol. Cynnig arall o dan y trefniadau newydd yw codi'r trothwy y telir ar y gyfradd llety a rennir oddi tano—h.y. dyna'r gyfradd isaf—o 25 mlwydd oed i 35 mlwydd oed, gan ei gwneud yn anoddach i bob pwrpas, os nad yn amhosibl, i bobl iau allu fforddio tai cymdeithasol. A gaf i annog y Prif Weinidog, mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, i rybuddio yn erbyn y newid hwn, sydd eisoes yn arwain at rai cyrff tai cymdeithasol yng Nghymru i gwestiynu a allant barhau i ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer y grŵp oedran hwnnw?

Mae'n rhan o thema lle, yr ieuengaf yr ydych chi, y mwyaf y mae’n rhaid i chi ei dalu. Os daw i fudd-dal tai, os daw i fynediad at dai, os yw'n golygu cael eich troed ar yr ysgol forgais, ni fu amser anoddach erioed. Fe’i cefais yn rhwydd yn fy nghenhedlaeth i, fel y gwnaeth fy rhieni, ond mae'n llawer, llawer anoddach i bobl ifanc erbyn hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud pwynt bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc i gael i mewn i lety. Mae hynny’n golygu peidio â gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran. Rydym ni’n ei weld yn yr un modd gyda'r isafswm cyflog. Does bosib os bydd rhywun yn gwneud gwaith, y dylai gael ei dalu ar yr un gyfradd beth bynnag fo’i oed.

Trafodaethau â Chwmnïau Angor

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)

Rydym ni’n trafod yn rheolaidd â chwmnïau angori a chafodd yr Ysgrifennydd dros yr economi gyfarfod ag Airbus ddydd Gwener diwethaf. Byddwn yn ysgrifennu at gwmnïau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys y cwmnïau angori, gyda'r bwriad o gynnal fforwm ymgysylltu â busnesau yn canolbwyntio ar faterion a godwyd gan y canlyniad.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel Aelod Cynulliad yn y gogledd-ddwyrain, mae llawer o’m hetholwyr yn cael eu cyflogi mewn gweithleoedd mawr fel Airbus. Mae’r bleidlais i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i'r bobl hyn a'u teuluoedd yn ogystal â’r cannoedd a gyflogir drwy'r gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y safle awyrofod hefyd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r gweithlu a'u teuluoedd y bydd y Llywodraeth hon yn ymladd dros eu bywoliaeth yn y dyfodol a’r trysor diwydiannol yng nghoron y gogledd?

Gallaf sicrhau hynny’n ddiamod. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw Airbus fel cyflogwr yng Nghymru. Rwy’n gwybod, yn enwedig ym Mrychdyn, y bydd y miloedd sy'n cael eu cyflogi yno yn ansicr am y dyfodol, fel y mae pob gweithgynhyrchydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Maen nhw’n aros i weld beth fydd canlyniad y trafodaethau, yn enwedig ar fynediad at y farchnad sengl. Os nad ydym ni’n cael mynediad at y farchnad sengl, yna bydd anawsterau aruthrol i’n gweithgynhyrchwyr a byddwn yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod cwmnïau fel Airbus yn parhau i elwa ar fynediad at farchnad o 500 miliwn o bobl.

Yn dilyn ymlaen o'r pwynt hwnnw, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i gynnal dadansoddiad cychwynnol o leiaf o rinweddau cymharol y gwahanol ddewisiadau Brexit—amrywiaeth ddryslyd iawn, o bosibl—sydd wedi cael eu crybwyll: Norwy, y Swistir, Canada a Singapore, hyd yn oed, yn rhyfedd iawn? Yn enwedig oherwydd pwysigrwydd cadw mynediad at y farchnad sengl, fel y mae newydd ei ddweud, a yw wedi dod i'r casgliad, fel y mae llawer yn y gymuned fusnes, mai EFTA AEE sy’n edrych fel y dewis lleiaf gwael ar y bwrdd ar hyn o bryd o bosibl?

O ystyried y byddai hynny'n sicrhau mynediad at y farchnad sengl, ac mai dyna'r unig fodel sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, mae'n rhaid mai ‘ydw’ yw’r ateb. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni dderbyn y byddai hynny'n golygu symudiad rhydd pobl ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio ar y mater hwnnw, uwchben y mater o swyddi, a dweud y gwir—fe’i clywais ar garreg y drws—yn y refferendwm wythnos i ddydd Iau diwethaf. Yr anhawster yw: ar hyn o bryd, nad oes model sy'n cael ei gynnig a fyddai'n caniatáu mynediad at y farchnad sengl heb gael symudiad rhydd pobl hefyd. Nid yw Norwy wedi ei wneud; nid yw’r Swistir wedi gallu ei wneud. Y model AEE yw hwn yn syml. Y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad gwirioneddol o ba fath o fodel allai weithio yn y dyfodol, sy'n dangos ansicrwydd yr oes yr ydym ni’n byw ynddi, a dyna pam yr ydym ni eisiau rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac, yn ail, pa sicrwydd y mae angen ei roi cyn gynted â phosibl ar lefel y DU.

Brif Weinidog, fel Aelod etholaeth yn Aberconwy, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwerthfawr Airbus ym Mrychdyn gyda’r swyddi—6,000 o swyddi—y maen nhw’n eu darparu. Gwn eu bod wedi dweud mewn datganiad ar ôl refferendwm eu bod wir yn gobeithio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i’w gweithwyr ac, yn wir, i barhau â'u gweithrediadau yma. Sut y byddwch chi, fel Prif Weinidog, a’ch Llywodraeth Cymru yn rhoi'r sicrwydd y mae’n debyg sydd ei angen arnynt ar hyn o bryd? A ydych chi wedi ymweld â nhw? A ydych chi wedi dod i fyny i’r gogledd ac ymweld ag Airbus er mwyn cael y trafodaethau lefel uwch reolwyr hynny, fel eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw y byddwch yn gweithio yr un mor galed â Llywodraeth y DU i'w cynorthwyo?

Cefais gyfarfod â llywydd Airbus yn ystod wythnos y refferendwm. Gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfarfod ag Airbus hefyd. Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag Airbus i wrando ar eu pryderon. Mae’r holl weithgynhyrchwyr yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu am fynediad at y farchnad sengl. Maen nhw’n weithrediadau Ewropeaidd, ac os yw'r DU y tu allan i'r farchnad y maen nhw’n gwerthu ynddi, ceir canlyniadau o ran buddsoddiad yn y dyfodol. Nid yw'n golygu y gallent eu cau dros nos—nac ydy, wrth gwrs—ond os ydych chi’n gwmni rhyngwladol, rydych chi'n fwy tebygol o fuddsoddi y tu mewn i farchnad nag y tu allan iddi. Dyna pam mae’n hynod o bwysig ein bod yn parhau i gael mynediad am ddim at y farchnad sengl, heb dariffau. Ni allaf ddychmygu beth fydd ein ffermwyr cig oen Cymreig yn ei wneud os gorfodir tariff o 15 y cant ar y cig oen y maen nhw’n ei gynhyrchu ac sy'n cael ei werthu yn y farchnad Ewropeaidd, a dyna pam—wrth gwrs, dur hefyd: byddai'r tariffau dur yn uwch fyth—mae'n hanfodol bwysig, waeth beth fo’r materion eraill, o gofio’r ffordd y gwnaeth pobl bleidleisio, bod mynediad i'r farchnad sengl heb dariffau yn parhau.

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, ac nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eich bod chi’n rhan o hynny, yn ystod y 1970au, bod Ffrainc a Phrydain wedi cydweithio i adeiladu Concorde? Rwy’n credu mai 'entente cordiale' oedd ei enw, ymhell cyn i ni ddod yn aelodau o'r UE. Y casgliad o hyn, wrth gwrs, yw y bydd materion yn Airbus yn parhau yr un fath a bod y ddadl hon nawr yn enghraifft arall o godi bwganod, a gawsom ni cyn Brexit ac sy’n parhau nawr ar ôl Brexit.

Gallaf sicrhau'r Aelod yn bendant nad oedd gennyf ddim i'w wneud â Concorde—roedd ei thaith gyntaf pan oeddwn i’n ddwy, felly gallaf ddweud hynny. [Chwerthin.] Ond, cofiwch, wrth gwrs, fod Concorde yn enghraifft o gydweithrediad rhwng y DU a Ffrainc a oedd yn fethiant, mewn gwirionedd. Fel prosiect, ni weithiodd—ni weithiodd erioed ar sail fasnachol. Mae’n rhaid iddo gofio bod y DU yn ysu i ymuno â'r farchnad gyffredin ym 1973—yn ysu i ymuno—gan fod economi'r DU mewn cyflwr gwan. Mae'r syniad hwn, rywsut, bod y DU wedi cael ei gorfodi i ymuno yn erbyn ei hewyllys yn gwbl anghywir—roedd yn ysu i ymuno am flynyddoedd lawer. Bydd cydweithredu, wrth gwrs; rydym ni’n deall hynny. Nid yw’r bont godi yn mynd i gael ei thynnu i fyny’n sydyn, ond mae'n rhaid i ni ddeall ein bod ni’n rhan, ar hyn o bryd, o farchnad o 500 miliwn o bobl. Os oes rhaid i ni dalu pris i fynd i mewn i’r farchnad, honno, yna bydd ein cynhyrchwyr yn talu pris i fynd i mewn i'r farchnad ac, yn y pen draw, bydd pris o ran swyddi. Dyna'r peth olaf, does bosib, y mae unrhyw un eisiau ei weld.

Llygredd Aer

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau Ewropeaidd ôl-Brexit yn ymwneud â llygredd aer? OAQ(5)0100(FM)

Mae'n iawn i ddweud bod cyfarwyddebau'r UE wedi sbarduno llawer o'n deddfwriaeth ansawdd aer a byddwn yn edrych ar y rhain ar sail achosion unigol ar ôl i ni gytuno ar y safbwynt negodi ar gyfer gadael, ond caiff rheolaeth ansawdd aer lleol ei sbarduno gan Ddeddf yr amgylchedd 1995.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n rhaid i ni beidio ag aberthu amddiffyniadau amgylcheddol Ewropeaidd. Nid oes amheuaeth na allwn fforddio i Lywodraeth y DU yn y dyfodol wanhau’r terfynau hyn. Er bod y rheoliadau’n dal i fod y tu allan i'r UE, byddwn yn colli'r gorfodi hanfodol yr oedd cyfraith yr UE yn ei ddarparu. Mae llygredd aer a newid yn yr hinsawdd yn faterion difrifol, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genedlaethau'r dyfodol. Yn dilyn canlyniad y refferendwm, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw'r amddiffyniadau amgylcheddol hyn a sicrhau bod y rheolau hyn yn cael eu gorfodi?

Fel y dywedais yn gynharach, bydd yr hyn sydd eisoes wedi ei drosi i gyfraith Cymru yn aros yng nghyfraith Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru wedyn ac, wrth gwrs, i'r Cynulliad, yw penderfynu pa ddeddfau ddylai aros wedyn. Ond, mae'n werth nodi mai cymhellion Ewropeaidd sydd wedi galluogi'r DU i wella ei sefyllfa. Roedd gan y DU enw gwael, yn amgylcheddol, fel ffynhonnell o law asid. Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r oedd Afon Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau, yn llythrennol, yn ôl yr hyn a oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi i fyny'r afon o rai o'r ffatrïoedd ac, wrth gwrs, y pyllau glo a oedd yn bodoli i fyny'r afon. Felly, roedd yn llifo’n goch, yn wyrdd, yn ddu—enwch unrhyw liw. Nid yw'n digwydd nawr; mae'n afon y gallwch chi weld ei gwaelod erbyn hyn. Yn Afon Taf, fel y gwyddom, ceir rhediad eogiaid sy'n mynd i fyny'r afon , a fyddai wedi bod y tu hwnt i amgyffred 30 mlynedd yn ôl gan fod yr afon mor llygredig. Mae llawer o'r sbardun hwnnw wedi dod o Ewrop mewn gwirionedd, er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU yn dal i fyny â’r gweddill. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw nad ydym ni’n colli’r cymhelliad sydd wedi bodoli dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae'r Llywodraethau Ceidwadol a Llafur wedi cydnabod yr angen i ddeddfu i wella ansawdd aer trwy gyflwyno mesurau i reoli a lleihau llygredd. Pasiwyd llawer o'r mesurau hyn cyn i ni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, Deddfau Aer Glân 1956 a 1968. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn annirnadwy y bydd unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn cymryd camau i wrthdroi unrhyw reoliadau cyfredol yr UE sydd ar waith i reoleiddio ansawdd yr aer yng Nghymru?

Nid wyf yn credu ei bod yn annirnadwy, o ystyried yr hyn yr wyf i wedi ei glywed am ffracio a chloddio glo brig; nid wyf yn credu ei fod yn annirnadwy. Cyflwynwyd y Ddeddf Aer Glân gan fod pobl yn llythrennol yn syrthio’n farw yn Llundain oherwydd niwl gwenwynig yn y ddinas honno. Nid oedd llawer o ddewis heblaw cyflwyno deddfwriaeth ar yr adeg honno. Ond, yn sicr, yn y 1980au, roedd ein hafonydd yn dal—. Roedd afon yn Swydd Efrog a fyddai'n mynd ar dân, pe byddech chi’n taflu matsien i mewn iddi; roedd gennym ni afonydd yng Nghymru a oedd yn hynod lygredig; nid oedd ein traethau’n lân; roedd ansawdd ein haer yn wael iawn, iawn. Mae hynny i gyd wedi gwella'n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi cael ein gyrru i'r cyfeiriad hwnnw, a dweud y gwir, gan yr Undeb Ewropeaidd; fel arall, ni fyddem wedi ei wneud ein hunain. Rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr y bydd yr amgylchedd y mae pobl Cymru wedi dod i’w fwynhau, yr amgylchedd y mae pobl wedi dod i’w haeddu, yn parhau felly yn y dyfodol, ac na fydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oeddwn i’n fachgen ifanc, pan oedd yr afonydd yn llygredig, pan oedd tomennydd sbwriel ym mhobman, tan iddyn nhw gael eu clirio, ac yr oedd pobl yn disgwyl y byddai pethau yn aros felly. Nid yw hynny'n wir; rydym ni’n wlad erbyn hyn lle y gallwn fod yn falch o'n hamgylchedd.

Brif Weinidog, o gofio bod y llygredd sy’n cael ei greu gan longau 260 gwaith yn fwy na’r hyn a gynhyrchir gan holl geir y byd a bod angen gweithredu ar lefel byd-eang yn hytrach na chyfandirol, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda’r Sefydliad Morol Rhyngwladol ac eraill mewn ymdrech roi sylw o ddifrif i'r broblem llygredd aer byd-eang?

Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod masnach ryngwladol yn golygu y bydd nwyddau’n symud o gwmpas y byd. Rydym ni’n hynod ddibynnol ar allforion yng Nghymru. Y peth olaf y byddem ni eisiau ei wneud fyddai cyfyngu ar ein gallu i allforio. Wrth gwrs, rydym ni eisiau caffael pethau mor lleol â phosibl, lle gellir gwneud hynny, ac mae ein strategaeth gaffael yn adlewyrchu hynny.

Cyllid gan yr UE a ddarperir i Gymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)

Byddai'n golygu y byddai £650 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli o ran gwariant y Llywodraeth, gan gynnwys £260 miliwn mewn cymorthdaliadau ffermio.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Er 2007, mae prosiectau'r UE wedi creu 11,900 o fentrau a tua 37,000 o swyddi. Mae'r arian UE hwn wedi helpu 72,700 o bobl i mewn i waith, wedi helpu mwy na 229,000 i ennill cymwysterau, ac wedi ariannu 56,000 o bobl i mewn i ddysgu pellach er 2007. O dan y rhaglenni £1.8 biliwn presennol a gefnogir gan yr UE, ymrwymwyd mwy na £700 miliwn o arian strwythurol yr UE eisoes, a dim ond 40 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-20 yw hynny. Felly, a all y Prif Weinidog nodi pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd—ac rydym ni eisoes wedi clywed yn gynharach am addewidion a gwarantau R.T. Davies yn hyn o beth—er mwyn sicrhau bod addewid yr ymadawyr na fydd cyllid Cymru yn cael ei effeithio yn cael ei gadw, yn wahanol i’r addewidion eraill a dorrwyd yr ydym ni wedi eu clywed am roi £350 miliwn yn ychwanegol i mewn i'r GIG? Diolch.

Yr anhawster yw bod y rhai sydd wedi hyrwyddo rhai o'r addewidion hyn wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrthynt: taflu bricsen drwy'r ffenestr a gadael i bobl eraill godi'r darnau. Rwy’n disgwyl i’r bobl hynny a wnaeth yr addewidion hynny, ac a allai’n wir fod mewn Llywodraeth yn Llundain yn ystod y misoedd nesaf, gadw at yr addewidion hynny. Roedd honno’n adduned a wnaed i bobl Cymru ac, yn wir, mewn gwledydd eraill ac, yn wir, rhanbarthau Lloegr. Ni allaf feddwl am unrhyw beth a fyddai'n dod â gwleidyddiaeth i fwy o anfri na phe byddai gwleidyddion yn dweud ar y naill law, 'Bydd pob un geiniog yn cael ei sicrhau', ac yna'n dweud, 'Doedden ni ddim yn golygu hynna'—'Doedden ni ddim yn golygu hynna'. Byddai hynny'n golygu torri'r addewid mwyaf sylfaenol a wnaed i bobl Cymru, a bydd pobl Cymru yn dwyn y bobl hynny i gyfrif.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu cynllun busnes ar ddeuoli pont Brittania. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n disgwyl datblygiad ar hynny yn fuan. Ond mae hwn yn broject y gallem ni fod wedi disgwyl gwneud cais am arian Ewropeaidd fel cyfraniad tuag ato fo, oherwydd pwysigrwydd yr A55 fel rhan o’r rhwydwaith drafnidiaeth Ewropeaidd. A gaf i ofyn beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â’r posibilrwydd o golli y ffynhonnell yna o arian rŵan, ac a wnaiff o roi ymrwymiad i bwyso ar Lywodraeth Prydain, os ydy’r ffynhonnell yn cael ei cholli, i sicrhau bod yr arian yn dod fel rhan, o bosibl, o ryw ‘Marshall plan’ ar gyfer economi Cymru rydym ni wedi ei grybwyll fel plaid?

Wel, daeth arian y ‘Marshall plan’ o’r Unol Daleithiau, ond rydw i’n deall y pwynt. Rwyf wedi ei ddweud sawl gwaith, sef y dylai pob ceiniog sy’n cael ei cholli gael ei gwneud lan gan y rheini wnaeth addo y byddai hynny yn digwydd, ac mae hynny’n meddwl y byddai’r arian yn dod—. Rydym ni wedi clywed wrth bobl a oedd yn dadlau y dylem ni adael yr Undeb Ewropeaidd: fe ddywedon nhw y byddai llwyth o arian ar gael. Wel, gawn ni weld lle mae’r arian hwnnw felly ynglŷn â Chymru, a sicrhau taw pobl Cymru sydd yn penderfynu ym mha ffordd mae’r arian hwnnw yn cael ei hala. Ond lan i nawr, wrth gwrs, i gyd rydym wedi ei glywed yw pobl yn tynnu yn ôl o’r addewid hwnnw. Rwyf i, fel mae ef, wrth gwrs, yn gryf o blaid y dylem ni ymladd dros Gymru ac nid ymladd yn erbyn Cymru, a dyna beth rydym wedi ei glywed yn y Siambr hon gan rai y prynhawn yma.

2. Cwestiwn Brys: Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y DU

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rŷm ni’n nawr yn symud ymlaen i’r cwestiwn brys rwyf wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys.

Yn dilyn datganiad Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y DU, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0105(FM)[W]

Er mwyn ailddweud beth a ddywedais i yn gynharach, sef, wrth gwrs, fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref er mwyn sicrhau y bydd hi’n cadarnhau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gadael i ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd aros yn y Deyrnas Unedig yn barhaol, y rheini sydd yno’n barod. Ac, wrth gwrs, mae’n hollol anghywir i weld y bobl hyn fel pobl y mae’n rhaid dadlau amdanynt neu eu trafod. Mae’n bwysig dros ben bod y gwarant yna yn cael ei rhoi nawr.

Diolch am y cadarnhad hwnnw, Brif Weinidog. Rwy’n gobeithio y byddwch chi yn cyhoeddi’r llythyr rydych chi wedi ei ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, a’i hateb hithau hefyd atoch chi. Er gwaethaf beth rŷm ni wedi ei glywed yn y Siambr heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran Theresa May ddoe, wrth esbonio’r safbwynt a fynegwyd yn Nhŷ’r Cyffredin:

‘we do not want to give away our negotiating position at the start.’

I mi, mae hynny’n swnio fel bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trin fel gwerin gwyddbwyll, ac yn cael eu symud o gwmpas am resymau gwleidyddol. Mae yna 67,000 o bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yng Nghymru, 500 ohonyn nhw yn feddygon yn ein gwasanaeth iechyd ni. Nid oes modd i ni golli’r bobl hyn, a, beth bynnag, maen nhw’n rhan o’n teuluoedd ni, yn rhan o’n cymunedau ni ac yn rhan o’r Gymru fodern. Mae’n warthus fod y bobl hyn yn cael eu trin yn y ffordd maent wedi cael eu trin yn ystod yr wythnos diwethaf oherwydd etholiad tu fewn i un blaid, sy’n blaid leiafrifol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n rhaid inni yrru neges gadarn o Gymru bod yna groeso i’r bobl yma yn ein cymunedau ni, ein bod ni’n moyn iddyn nhw aros, ein bod yn mynd i’w croesawu nhw a gwneud popeth y gallwn ni i ddangos hynny. Roedd yna ddigwyddiad ar y prom yn Aberystwyth dydd Sadwrn—nid wyf yn gwybod os gwelsoch chi fe yn y cyfryngau; ni chafodd lot o sylw, ond roedd yna 400 o bobl yno yn sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â ffoaduriaid, pobl o wledydd eraill, a phawb sydd wedi dod i orllewin Cymru.

Fe welais i hynny, ac unwaith eto fe allaf gadarnhau ei bod yn bwysig dros ben, achos rwyf i wedi clywed pobl yn sôn am hyn. Roeddwn i yn Llanelli—finnau a chithau, wrth gwrs—yr wythnos diwethaf, yn clywed pryderon pobl fanna, a chlywais i’r un peth yn Abertawe. Mae’n bwysig dros ben bod yna gadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd y bobl sydd yma nawr yn gallu aros. Mae rhai yn dadlau eu bod yn gallu aros yn barod, ond nid ydym ni wedi clywed hynny o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n gwneud y penderfyniadau hyn. Nid rhywbeth i drafod yw hyn; mae hyn yn rhywbeth sydd eisiau ei sicrhau nawr er mwyn sicrhau bod pobl yn dal i feddwl bod yna groeso iddyn nhw yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Nid felly mae pethau ar hyn o bryd, ac mae fe a finnau, wrth gwrs, wedi clywed tystiolaeth ynglŷn â hynny dros yr wythnos diwethaf.

Treuliais ran o fore ddoe yn ceisio cael gwared ar slogan hiliol oddi ar ddrws ffrynt rhywun, ac, yn anffodus, nid yw’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn anghyffredin. Beth all y Llywodraeth ei wneud yn eich barn chi i geisio lleddfu’r lefelau casineb y mae’n ymddangos bod y bleidlais Brexit hon wedi eu rhyddhau, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cael cydweithrediad llawn awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol i sicrhau y rhoddir taw ar y pethau hyn ac yr ystyrir eu bod yn annerbyniol?

Fy sylw yr wythnos diwethaf yn eithaf syml oedd hyn: mae gan bob gwlad eu hynfydion ac mae gan Gymru ei chyfran, yn anffodus. Roeddwn i’n rhy hael â’r bobl hyn yn y ffordd y gwnes i eu disgrifio rwy’n credu erbyn hyn, ond dyna ni; mae'n rhaid i mi fod yn ddiplomyddol yn fy swydd yn y modd gorau y gallaf. Y gwirionedd yw i mi glywed pobl a oedd yn ofnus iawn yr wythnos diwethaf—pobl a oedd wedi byw yn y DU ers cenedlaethau, a dweud y gwir, ond, oherwydd eu bod yn edrych yn wahanol, roedd hynny'n golygu eu bod nhw’n darged. Rydym ni wedi bod mewn cysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i wneud yn siŵr bod yr heddlu yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd. Mae'r heddlu yn sicr yn awyddus iawn i bwysleisio'r ffaith y dylai pobl eu hysbysu am droseddau casineb; byddant yn cymryd camau wedyn, wrth gwrs. Ac mae'n rhaid lledaenu’r neges honno na fyddwn yn derbyn y math hwn o gasineb yn ein cymdeithas; ni allwn fod yn oddefgar o anoddefgarwch. Mae’r hyn sydd wedi ei adael allan o'r botel yn mynd i fod yn anodd ei reoli, ond mae'n rhaid ei reoli er lles ein cymdeithas.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Mae gennyf un newid i fusnes heddiw. Mae'r datganiad ar dai a digartrefedd wedi’i dynnu'n ôl. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes sydd i’w canfod ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gyda'r holl gythrwfl gwleidyddol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, efallai nad yw diwedd streic amgueddfa’r PCS wedi cael y sylw haeddiannol, ac rwyf am dalu teyrnged i aelodau staff yr amgueddfa, a fu'n brwydro am flynyddoedd yn ôl pob tebyg, i ddiogelu cyflog penwythnos y gweithwyr sy’n derbyn y cyflogau isaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu ymyrryd er mwyn helpu i roi terfyn ar y streic.

Fodd bynnag, a fyddai arweinydd y tŷ yn trefnu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ynglŷn â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyrff y mae'n eu hariannu’n llwyr, megis yr amgueddfa a'r llyfrgell, er mwyn nodi beth yw'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r rheolwyr yn y cyrff hynny? Credaf y byddai'n ddefnyddiol deall y paramedrau sy'n gweithredu.

Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy‘n gwybod ei bod wedi crybwyll hyn yn rheolaidd er mwyn dangos cefnogaeth i sicrhau bod penderfyniad yn cael ei wneud o ran yr anghydfod ynglŷn â‘r amgueddfa genedlaethol. Wrth gwrs, cynigiodd Lywodraeth Cymru gefnogaeth a hefyd hwylusodd drafodaethau i ddod â'r pleidiau ynghyd ac i ddod â'r anghydfod i ben, ac, yn wir, gwnaeth ddarparu peth cyllid ychwanegol i'r amgueddfa genedlaethol i gynorthwyo gyda chostau o fodloni cynnig cyflog uwch. Mae hynny yn amlwg wedi’i gytuno arno yn ddiweddar gydag aelodau PCS.

Credaf fod y cwestiwn ynghylch a allai Ysgrifennydd y Cabinet gynnig eglurder o ran y berthynas, yn un defnyddiol iawn. Mae gennym, mewn gwirionedd, ddogfen fframwaith, sy'n nodi ein trefniadau cyllido rhwng cyrff a noddir a’r Llywodraeth, ond credaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi eglurhad defnyddiol nid yn unig o ran yr amgueddfa genedlaethol, ond o ran cyrff noddedig eraill mewn cysylltiad â threfniadau cyllido.

A gaf i ofyn i chi, reolwr busnes, fel arweinydd y tŷ, am ddatganiad gan y Gweinidog amgylchedd? Roedd yna ddigwyddiad, rydym eisoes wedi ei glywed, gyda’r byd amgylcheddol a chefn gwlad a ffermio ddoe ac roedd diddordeb mawr gen i glywed bod yna fwriad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisi amaeth a physgodfeydd penodol i Gymru. Gan ein bod yn gwynebu haf o sioeau a digwyddiadau cefn gwlad, byddai’n beth braf iawn i Lywodraeth ymgynghori ar bolisi o’r fath. Nid oes yn rhaid cael polisi wedi’i ysgrifennu cyn yr haf, dim ond yr egwyddorion, neu, hyd yn oed, lechen wag jest yn gofyn am syniadau. Felly, os cawn ni ddatganiad ysgrifenedig neu ar lafar gan yr Ysgrifennydd ynglŷn â’r bwriad i ddatblygu polisi a sut felly y bydd y polisi yn cael ei fwrw ymlaen ag ef—.

Ac, yn ail, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ynglŷn â’r adroddiad Estyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw ynglŷn â chyrhaeddiad addysgol plant sydd mewn gofal? Mae’n dangos bod peth cynnydd wedi bod ond ein bod ni’n dal ar ei hôl hi yn sylweddol iawn ymysg plant mewn gofal, gyda 45 y cant ohonyn nhw heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant ar ôl 16. Rydw i’n siŵr bod pawb yn cytuno nad yw hynny’n dderbyniol yng Nghymru a bod angen gwella yn sylweddol. Felly, byddai’n braf iawn cael clywed, eto ar lafar neu yn ysgrifenedig, gan yr Ysgrifennydd Addysg beth yw ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad hwnnw a pha gamau sydd angen eu newid.

On a more positive note, can I ask for a statement from the Minister—I’m still not quite sure which Minister is responsible for community sport, I think it might by the Minister for well-being or it might be a deputy, who knows, but, anyway, a statement from the Minister responsible for the community side of sports? Because we all wish Wales well in the semi-finals tomorrow night. It’s a marvellous thing to see. The legacy of the interest that’s been engendered in football—and as I speak as a follower of the other ball, but, even so, the interest is going to be magnificent to build on this. Will she join with me in condemning, in the best possible taste, the killjoys in UEFA who’ve said that the Welsh team shouldn’t take their children on the pitch at the end of the game? I cannot think of a more positive message that the Welsh team is sending than to have young girls and boys kicking the ball around at the end of an international football match. When you see what other players do in terms of parading around their various followers of different kinds and their marketable commodities, to have the Welsh players concentrating on their families and on young people taking part is a wonderful, wonderful message. We can build on that in Wales, I’m sure. I think a statement, after we’ve won the final, from the Minister responsible will set the right tone for a summer of sport in Wales.

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fel yr ydych wedi dweud, ac fel y cydnabyddir y prynhawn yma, gwnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gyfarfod ddoe â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru, gan ganolbwyntio yn benodol ar oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedwyd eisoes gan y Prif Weinidog, roedd yn cynnwys arweinwyr o’r undebau ffermio, pobl fusnes wledig, yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff amgylcheddol, yn rhannu sylwadau, heriau a chyfleoedd. Gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ychwanegu at hyn o ran rhoi datganiad i egluro nid yn unig y trafodaethau, ond y camau nesaf o ran datblygu’r ymateb polisi hwnnw gan Lywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, yn dilyn adroddiad Estyn, y ffaith mai hwn yw—. Wrth gwrs, rydym bob amser yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol am ganolbwyntio ar y pwyntiau yr ydych yn eu gwneud o ran cynnydd, ond hefyd lle mae mwy y gellir ei wneud, yn enwedig mewn cysylltiad â rhagolygon cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb yn unol â hynny gyda datganiad.

Credaf y bydd pob un o’n Hysgrifenyddion Cabinet, Llywodraeth Cymru i gyd ac, yn wir, y Cynulliad cyfan yn dymuno yn dda i Gymru. Mae'r rhai sydd yn ddigon ffodus i fod yno nid yn unig i fwynhau yfory, ond, wrth gwrs, y rownd derfynol, pan ddaw, rwy'n siŵr, ddydd Sadwrn—.

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod mewn gwirionedd yn cydnabod sut mae aelodau o dîm Cymru wedi bod yn arwyr gwych, fel y dywedoch, Simon Thomas, a'r ffordd y maent wedi ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd; mae wedi bod i raddau helaeth yn fynegiant cefnogwyr teulu, onid ydyw? Rydym yn gallu gweld hynny ac rydym yn falch iawn ohono. Mae wedi rhoi Cymru ar fap y byd, nid yn unig oherwydd talent ein chwaraewyr o Gymru, ond hefyd oherwydd yr ysbryd a'r ethos sydd wedi bod ganddynt wrth iddynt chwarae. Felly, rwy'n siŵr ein bod yn dymuno’n dda i Gymru, ond hefyd yn rhoi sylw i’r gwaddol. Gwn y byddwn i gyd yn awyddus i longyfarch, diolch a chydnabod yr hyn y maent wedi ei gyflawni, nid dim ond ennill y bencampwriaeth, ond y modd y maent wedi gwneud hynny.

Arweinydd y tŷ, a allaf ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg? Neithiwr, cefais y pleser o fod yn bresennol yng nghyngerdd sioe arddangos haf Cerdd Gwent yn Neuadd Dewi Sant, gyda cherddoriaeth gan ysgolion ar draws de-ddwyrain Cymru. Dylid clodfori a hyrwyddo’r cydweithredu rhanbarthol hwn ar draws ysgolion, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac felly byddai unrhyw gymorth ychwanegol, cymorth ariannol neu fel arall, gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Felly, tybed a allem gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Addysg ar yr hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi rhaglenni megis sioe arddangos Cerdd Gwent mewn rhannau eraill o Gymru.

Yn ail, yn ystod amser cinio heddiw, ymwelais â digwyddiad y Cyngor Prydeinig yn Nhŷ Hywel, rwy’n gwybod bod nifer o Aelodau yn bresennol, a oedd yn ceisio hyrwyddo dysgu ieithoedd modern ar draws Cymru. Mae’r Cabinet, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o’r gostyngiad a fu mewn addysgu ieithoedd tramor ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn hytrach na'r cynnydd yr hoffem ei weld, a chredaf, o’i chymharu â Lloegr, fod y sefyllfa yn waeth yma. Felly, a allem gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn mewn addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru, fel bod disgyblion Cymru yr un mor abl â disgyblion o bob rhan arall o’r DU—gan gynnwys yr Alban, lle maent ar y blaen—yn sicrhau nad ydym yn ynysig ond yn edrych allan ar y byd ac yn gallu cystadlu ar y llwyfan byd-eang?

Diolch i chi, Nick Ramsay. Rwy'n siŵr fod sioe arddangos Cerdd Gwent yn arddangosfa aruthrol o dalent a sgiliau, ond hefyd o arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad y proffesiynau cerddoriaeth ac addysg. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn bartneriaeth, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol, yn ogystal ag ysgolion, a gwn y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddiddordeb mawr i weld canlyniad hynny yn y De-ddwyrain.

Wrth gwrs, mae'r digwyddiad arall yr ydych yn sôn amdano yn bwysig iawn—digwyddiad y Cyngor Prydeinig yr oeddech yn bresennol ynddo. Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor Prydeinig, a hefyd sefydliadau a phrifysgolion iaith ar draws y byd, i rwystro a gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Yn wir, rwy’n cofio digwyddiad yn fy etholaeth i, yn ysgol Bryn Hafren, sy'n arwain y blaen—ym mhob consortiwm ceir ysgol arweiniol—pan gyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' y llynedd, sef cynllun pum mlynedd i wella ac i hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae’r cynllun hwnnw’n cael ei gyflwyno, ond mae'r Cyngor Prydeinig, a’i sefydliad iaith, yn rhan allweddol yn y datblygiad 'Dyfodol Byd-eang' hwnnw.

Rydym yn bobl groesawgar iawn yng Nghymru, ac yn adnabyddus am ein lletygarwch a’n cyfeillgarwch. Felly, tybed a wnaiff arweinydd y tŷ rannu fy siom bod yr Ysgrifennydd Gwladol hyd yn hyn wedi gwrthod ein gwahoddiad i ddod i roi tystiolaeth ar Fil Cymru, a hynny er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yr wyf bellach yn gadeirydd arno, yn dilyn stiwardiaeth arbenigol Mr David Melding. Nawr, er gwaethaf y croeso gofalus a roddwyd i rannau o'r Bil diweddaraf hwn, mae pryderon sylweddol yn dal i gael eu mynegi gan arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw ynglŷn â chyflwyniad posibl mwy graddol datganoli, a'r Ysgrifennydd Gwladol, a dweud y gwir, yw'r unig un a all ymateb i'r pryderon hyn. Felly, tybed a allai arweinydd y tŷ, o bosibl, ynghyd â'n Llywydd, wrth geisio diogelu buddiannau'r Cynulliad a phobl Cymru, ddefnyddio eu dylanwad a’u gallu i annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i ymweld â ni, gan nodi nad dim ond dymunol a rhesymol ydyw, ond mewn gwirionedd ei fod yn hanfodol ac o wir gymorth i graffu da bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn ein gwahoddiad cynnes a chwrtais i ddod adref i Gymru.

Wrth gwrs, bydd Huw Irranca-Davies, ac eraill yn y Siambr hon, yn cael y cyfle i estyn y gwahoddiad hwnnw eto brynhawn yfory, yn weladwy ac yn lleisiol, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. Gallaf ddeall eich siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod eich gwahoddiad, gan ei bod mor bwysig, ac er budd gorau’r ddwy ochr, er mwyn symud ymlaen â Bil Cymru. Ond rwy’n aros i’r gwahoddiad gael ei estyn eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr yn fwy agored, yn y ddadl ar Araith y Frenhines.

Tybed a gawn ddatganiad gan y Llywodraeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, arweinydd y tŷ, ar fater yr wyf wedi ei godi o'r blaen. Mae hyn yn fater o—. Mae’r Siambr hon yn llunio deddfwriaeth ac mae’r Llywodraeth yn llunio polisïau, ar sail rhoi ystyriaeth i hawliau plant; yn amlwg, rydym wedi ymrwymo i egwyddor sylw dyledus wrth ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o gyflenwi a wneir ar draul ein deddfwriaeth a’n polisi yn cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus, nad ydynt yn ymroddedig yn yr un ffordd yn union, ac mae Gweinidogion olynol wedi bod yn ddigon caredig i gydnabod bod bwlch posibl yno, lle gallai methu â chyflawni nodau polisi ddigwydd. Rwy'n credu y byddai'n rhoi sicrwydd i bob un ohonom yma yn y Siambr pe gallem gael rhyw fath o ddiweddariad ar gynnydd y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o ran siarad â chyrff cyhoeddus, er mwyn sicrhau nad yw amcanion polisi y lle hwn yn cael eu tanseilio gan bwysau cystadleuol ar awdurdodau lleol, er enghraifft, pan ddaw at benderfynu sut y dylent ystyried hawliau plant wrth wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn croesawu’r cyfle hwnnw i egluro pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hymroddiad i'r CCUHP, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn pwysleisio ein holl amcanion polisi, ac, yn wir, ein hamcanion a’n dibenion ariannol a chyllidebol hefyd. Mae hynny'n rhan o'n hasesiad ar effaith integredig strategol, ac, wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â phapurau cyllideb drafft a therfynol gan Lywodraeth Cymru. Ond mater i'r Gweinidog dros gymunedau a phlant, unwaith eto, yw ymateb i hyn o ran cael yr wybodaeth ddiweddaraf, rwy'n siŵr, a bydd yn agored i dderbyn cwestiynau a chyfleoedd mewn pwyllgorau ac ar lefel cwestiynau llafar y Cynulliad.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd. Yn gyntaf, ynglŷn ag adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, tybed a oes modd inni gael datganiad ar yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus, sydd yn un agwedd bwysig ar ymdrin â marwolaethau y gellir eu hosgoi, ac efallai ein gosod ni’n gadarn ar agenda iechyd mwy rhagweithiol, yn hytrach nag adweithiol. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n nodi ei barn bresennol am yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus hwnnw.

Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad am ysgolion bro. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen â pholisi yn effeithiol ac yn gyson ar draws Cymru, oherwydd yn fy marn i, ar hyn o bryd, ceir rhai enghreifftiau da iawn o ysgolion bro, ond mae'n eithaf anghyson. Mae gennyf i ddiddordeb mawr, ac rwy'n credu y byddai gan yr Aelodau yma yn gyffredinol ddiddordeb mawr yn y mecanweithiau a'r camau gweithredu a all sicrhau ysgolion bro cyson, ar draws Cymru. Rwy’n credu ei fod yn cael ei gydnabod yn dda mai cyflawni partneriaeth rhwng y cartref a'r ysgol, a'r gymuned a'r ysgol, yw'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen os ydym am wella safonau addysgol. Rydym yn gwario llawer o arian ar ein hadeiladau ysgol, ac nid yw eu gweld—rai ohonynt—yn sefyll yn wag gyda'r nosau, ar benwythnosau, ac yn ystod gwyliau, yn ddefnydd da o adnoddau cyhoeddus. Hefyd, o ran ehangu darpariaeth chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau diwylliannol, mae'n fuddiol iawn pe gallem fabwysiadu’r dull ysgol bro hwnnw i’r perwyl hwnnw hefyd. Ac, yn olaf, credaf ei fod yn eithriadol o bwysig ein bod yn sicrhau nad rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn unig—er mor bwysig yw honno—ond hefyd, o ran ein hysgolion presennol, ein bod yn mabwysiadu dull yr ysgolion bro. Heb hynny, ni fyddai gennym y cysondeb rwy’n credu sydd ei angen arnom, ar draws Cymru.

Wel, mae’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig iawn, yn arbennig o ran yr arolwg ONS diweddar hwnnw. Cyflwynwyd ynddo y ffigurau diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn dangos y ffigurau 2014 hynny am y tro cyntaf. Ond gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad llafar yn ddiweddar ynglŷn â phrif negeseuon arolwg iechyd Cymru, sef ein ffordd ni o edrych yn gyffredinol ar gyflwr iechyd y genedl. Maent, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar sut yr ydym yn mynd i'r afael â’r ffigurau hynny yn adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ond hefyd, credaf fod yr ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud yn ein maniffesto yn adeiladu ar y sylfaen gref iawn yr ydym wedi ei gosod er mwyn gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus priodol.

Ynglŷn â’ch ail bwynt am ysgolion bro, mae hyn yn rhywbeth lle nad oes amheuaeth fod yn rhaid inni ddefnyddio ein cyfleusterau ysgol, nid yn unig er budd teuluoedd y disgyblion ond hefyd er budd y cymunedau ehangach. Mae angen hefyd inni edrych ar hyn o safbwynt defnydd cymunedol o asedau. Rydych chi wedi crybwyll cyfleusterau chwaraeon, ond hefyd gyd-leoli gwasanaethau allweddol. Mae cryn dipyn o'n mentrau, fel Dechrau'n Deg, hefyd wedi eu lleoli yn ein hysgolion, ond rydym yn gwybod hefyd, o ran mentrau dysgu oedolion a chyfleusterau ysgolion, ac yn wir eu tiroedd a’u cyfleusterau chwaraeon, wrth gwrs—bod angen i ni eu defnyddio i'r eithaf. Fe ofynnodd y Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddarparu adolygiad a chyngor ar sut y gellir defnyddio cyfleusterau ysgol yn fwy helaeth. Felly hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at eu hadroddiad ar Gynyddu’r Defnydd o Gyfleusterau Ysgol, a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad hwn a'i argymhellion.

Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn busnes yn seiliedig ar y ffaith fy mod am gael datganiad am gyfraniad y Llywodraeth i’r gwaith o sefydlu ardaloedd cefnogwyr ledled Cymru, yn enwedig o ystyried y rownd gynderfynol. Wrth i ni drafod yma heddiw, rwy’n cael cryn dipyn o negeseuon gan bobl nad ydynt wedi llwyddo i gael tocynnau i fynd i Stadiwm y Principality—cefnogwyr sydd wedi dilyn y gemau drwy gydol y twrnamaint.  Roeddwn am wybod tybed a fyddai modd i ni gael datganiad ar eich cyfraniad chi fel Llywodraeth, a gofyn hefyd a fyddech yn apelio i Gyngor Caerdydd agor caeau Cooper yn ogystal â'r stadiwm, fel nad yw’r bobl hynny ar eu colled, a hefyd yn condemnio'r bobl hynny heddiw sy'n gwerthu tocynnau a gawsant am ddim. Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn ac ni ddylid gwneud elw o’r bobl hynny sydd eisiau cefnogi tîm pêl-droed Cymru yn y rownd gynderfynol. Byddwn yn eich annog i gymryd camau brys o ystyried bod hyn yn digwydd yfory, ac efallai y gallwn gael datganiad gan y Gweinidog.

Wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth yr ydym am ei sicrhau, sef bod pobl yn gallu mynd i’r ardaloedd cefnogwyr lleol hynny. Maen nhw wedi dod yn hynod boblogaidd. Yr awdurdodau lleol, yn amlwg, ddylai sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud, yn ogystal â darparu cymorth ariannol ar eu cyfer mewn gwirionedd.  Gall cefnogwyr fwynhau’r gêm hefyd, wrth gwrs, drwy gefnogi busnesau, tafarndai a bwytai lleol. Ond rwy'n credu o ran y pwynt a wnaethoch—y pwynt sy’n peri pryder mawr o ran bod pobl yn ceisio camfanteisio ar yr achlysuron hyn drwy werthu tocynnau rhad ac am ddim—rydym yn mynd i wneud datganiad cryf, rwy’n meddwl, o ganlyniad i’ch cwestiwn heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu hwnnw â mi. Rwy’n credu mai’r neges gyffredinol, wrth gwrs—ac mae hyn yn ymateb i Simon Thomas yn gynharach—yw, lle bynnag y byddwch chi’n gwylio'r gêm, gadewch i ni gefnogi Chris Coleman a'r bechgyn a gwneud ein gorau glas i’w calonogi ar gyfer buddugoliaeth fendigedig arall.

Ategaf sylwadau Nick Ramsay am ieithoedd tramor modern, pryd y clywsom mai’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n andwyol yw’r disgyblion yn yr ardaloedd mwy difreintiedig. Galwaf am ddau ddatganiad, y cyntaf ar fwlio. Mae heddiw yn Ddiwrnod ‘Stand up to Bullying’ sy’n rhan o’r ymgyrch ‘Stand up to Bullying’, sydd â’r nod o annog unigolion, cymunedau lleol, ysgolion a busnesau i wrthsefyll bwlio a sicrhau bod eu disgyblion neu eu gweithwyr yn cael cymorth effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem. Rydym yn clywed yn gyson yn y lle hwn—yn y Siambr hon, mewn pwyllgorau, ac yn ein gwaith achos ni’n hunain—am bobl sydd yn dal i gael eu bwlio ar sail rhywioldeb, nam, cyflwr neu ffactorau eraill. Rwy’n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw gan Lywodraethau blaenorol Cymru, ond dyma’r ffigurau: roedd 68 y cant o bobl ifanc a holwyd yn gwybod am rywun a oedd wedi’i fwlio ar-lein ac roedd 81 y cant yn nodi bod bwlio yn gyffredin mewn ysgolion. Rhaid cyfaddef mai ffigurau’r DU yw’r rhain ac nid ffigurau sy'n benodol i Gymru, ond maent yn haeddu datganiad yn unol â hynny.

Yn olaf, datganiad gan Lywodraeth Cymru, os caf alw am hyn, ar gyfathrebu digidol yng nghyd-destun adolygiad Ofcom o gyfathrebu digidol, a ddaeth i'r casgliad bod diwygio Openreach yn hanfodol er mwyn gwella'r farchnad telathrebu o ran creu gwasanaeth mwy annibynnol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid o fewn BT. Gofynnaf hyn oherwydd, ac yng nghyd-destun, y llythyr a aeth at brif weithredwr Ofcom oddi wrth glymblaid diwydiant y rhwydwaith cyfathrebu sy'n cynrychioli miliynau o gwsmeriaid band eang, ac a fydd yn gyfrifol am ddarparu'r genhedlaeth nesaf o rwydweithiau digidol. Bob wythnos yn y Siambr hon, rydym yn clywed Aelodau yn codi materion yn ymwneud â band eang a chysylltedd ffonau symudol yn eu hardaloedd eu hunain, ac, yn amlwg, bydd hyn yn hanfodol i’r agenda honno.

Diolch i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y Diwrnod Sefyll Lan yn erbyn Bwlio, sy’n cael sylw heddiw ac rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn cefnogi hynny. Yn wir, rwyf yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar y polisïau—mae'n rhywbeth sydd, i ddweud y gwir, yn cael ei rannu ar draws y Cabinet; yr Ysgrifennydd addysg, wrth gwrs—o ran mynd i'r afael â bwlio. Rydym fel arfer yn cynnal wythnos ym mis Tachwedd sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â bwlio. Rwy’n meddwl eich bod wedi crybwyll bwlio ar-lein, ond, hefyd, rydym yn gwybod ein bod yn poeni’n fawr y gallai rhywfaint o'r cynnydd mewn troseddau casineb hefyd gael effaith ar blant a phobl ifanc yn ogystal, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn monitro hynny ac yn ymateb iddo yn briodol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn canolbwyntio ar hynny unwaith eto yn awr, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet sydd â’r cyfrifoldebau priodol yn edrych ar hyn yn ofalus iawn.

O ran eich ail bwynt, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad wrth gyflenwi ein seilwaith digidol o ran band eang cyflym iawn, nid yn unig yn ei gyflenwi â’n harian ni, ond hefyd, wrth gwrs, yn ei gyflenwi o ganlyniad i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs dan gymaint o fygythiad yn awr yn sgil Brexit, ond yn amlwg yn cydnabod ei fod yn bartneriaeth sydd yn agos at gyrraedd ei tharged, wrth gwrs, a bydd ar flaen y gad o ran Cymru'n arwain y ffordd.

Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd yr economi ar ardrethi busnes. Roedd maniffesto y Llywodraeth newydd yn nodi’n glir iawn y byddai’n gwneud ymrwymiad ar ardrethi busnes, yn benodol i godi, yn amlwg, y ffin, neu'r trothwy, dylwn i ddweud, ar gyfer cynnwys busnesau yn y gyfundrefn ardrethi busnes. Mae tymor y sioeau haf, eisteddfodau—beth bynnag yr ydych yn eu galw—maent oll yn digwydd yn ystod yr wyth wythnos nesaf. Bydd llawer o Aelodau yn ymgysylltu â busnesau a sefydliadau, a byddai rhyw fath o ddealltwriaeth o feddylfryd y Llywodraeth ynghylch sut mae'n mynd i fwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn, ac, yn wir, lefel y trothwy y bydd y Llywodraeth yn ei chyflwyno, yn ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, wrth hysbysu’r sgyrsiau y bydd Aelodau yn eu cael mewn digwyddiadau drwy gydol yr haf. Felly, byddai datganiad cyn y toriad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod bod yr ardrethi annomestig, yr ardrethi busnes, wedi’u datganoli’n llawn ar 1 Ebrill 2015.  Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli’r gronfa ardrethi annomestig. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â chydbwyso rhyddhad incwm a thaliadau. Felly, mae’r gwaith o ailbrisio eiddo annomestig ar y gweill ar hyn o bryd, a daw i rym ar 1 Ebrill 2017, a bydd hyn wrth gwrs yn diweddaru prisiadau eiddo annomestig. Ond mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yw ymateb i'r pwynt hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yn darparu diweddariadau.

4. 3. Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T yn ymwneud â'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Rŷm ni’n symud ymlaen nawr at yr eitem nesaf, eitem 3: cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T yn ymwneud â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Simon Thomas.

Cynnig NDM6057 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol. Gan nad oes yna siaradwyr eraill, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 4. Cynigion i Gytuno ar Aelodaeth Pwyllgorau

Yr eitem nesaf felly ar yr agenda yw’r cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau. Mae 13 cynnig o dan yr eitem hon a byddant yn cael eu trafod gyda’i gilydd. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion—Simon Thomas.

Cynnig NDM6061 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Hefin David (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NDM6062 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Jayne Bryant (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cynnig NDM6063 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Cynnig NDM6064 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Hannah Blythyn (Llafur Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Cynnig NDM6065 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cynnig NDM6066 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Cynnig NDM6067 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.

Cynnig NDM6068 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynnig NDM6069 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.

Cynnig NDM6070 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Neil McEvoy (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NDM6071 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Mike Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cynnig NDM6072 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a

2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) ar ran David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn eilyddion ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynnig NDM6073 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Jayne Bryant (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac

2. Ann Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn deall nad oes neb wedi gwrthwynebu erioed o'r blaen, yn hanes y Cynulliad i sefydliad y pwyllgorau. Fodd bynnag, nid yw UKIP dan ddyled y consensws blaenorol hwnnw. Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw cydraddoldeb, 4: 4, yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Dywedodd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes wrthym i ddechrau nad oedd yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Beth newidiodd ynglŷn â hynny— [Torri ar draws.] Rwyf yn ôl. Ar hynny, nid oes dim wedi newid.

Fodd bynnag, tarodd y pleidiau eraill fargen â Llafur i ildio ar y pwynt hwnnw yn gyfnewid am gadeiryddiaeth pwyllgorau dethol, yn enwedig o ran Plaid, sy'n cadeirio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond dau bwyllgor polisi a deddfwriaethol. Oherwydd hynny, ni fydd y gwrthbleidiau cyfunol yn gallu diwygio Biliau yn erbyn y Llywodraeth. Mae buddugoliaeth wych Leanne Wood yn y Rhondda, a wnaeth leihau Llafur i ddim ond 29 yn erbyn 30 o Aelodau gwrthbleidiau, a gan nad oes grŵp Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad erbyn hyn, a'r Aelod Democratiaid Rhyddfrydol dim ond â'r hawl i gael un lle ar bwyllgor pe byddai hi'n dymuno ei dderbyn, mae hynny'n newid sylweddol iawn yn yr hyn yw'r Cynulliad hwn oherwydd na allwn ddiwygio deddfwriaeth yn y pwyllgor pe byddai'r gwrthbleidiau yn unedig ar unrhyw ffordd benodol o weithredu yn erbyn y Llywodraeth. Mae hynny wedi ei roi i ffwrdd, byddwn i'n haeru, yn gyfnewid am sawl cadeiryddiaeth ddethol.

Ni fydd UKIP yn rhan o'r cytundeb hwnnw. Byddwn, fodd bynnag, yn trin y trefniadau y cytunwyd arnynt gan eraill gyda pharch. Byddwn yn cadeirio ein pwyllgor ni mewn ffordd ystyriol ar sail y dystiolaeth a byddwn yn cyfrannu ym mhob pwyllgor hyd eithaf ein gallu. Diolch.

Nodaf ar y diwedd yn y fan yna bod UKIP yn gwrthwynebu aelodaeth y pwyllgorau, ond yn derbyn cadeiryddiaeth pwyllgor, sydd wedi bod yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae'r ffaith—mae'n rhaid bod pob Aelod yn gwybod hyn—bod gennym Gynulliad â 60 o Aelodau, 29 o'r Llywodraeth a 31 o'r gwrthbleidiau, yn golygu nad ydych yn gallu dyblygu 29 a 31 ar bwyllgorau o wyth. Mae'n rhaid i chi fynd i system o'r enw D'Hondt. Gwnaethom guro D'Hondt yr wythnos diwethaf yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg, ond nid wyf yn credu ein bod eisiau sôn am hynny. Byddai D'Hondt wedi golygu na fyddai gan UKIP, mewn gwirionedd, aelod ar bob pwyllgor. Byddai wedi golygu, mewn gwirionedd, y byddai UKIP yn aml heb aelod ar bwyllgorau. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi—

Ni fyddai D'Hondt wedi golygu dim byd o'r fath. Hyd yn oed ar bwyllgor o saith, byddai UKIP wedi cael un aelod yn ôl D'Hondt.

Rydych yn syml yn anghywir. Byddai gennych 0.7 aelod. Dyna beth fyddai D'Hondt wedi ei gyfrifo i chi. Ar bwyllgor llai, ni fyddai gennych aelod—cyfrifon cyhoeddus neu gyllid er enghraifft, lle y mae gennych aelodau arnynt.

Nid nawr. Rwyf wedi ymateb i'ch cwestiwn. Mae ymateb Plaid Cymru i hyn wedi bod yn glir iawn. Rydym eisiau gweld cydbwysedd gwleidyddol ar draws y strwythur pwyllgorau. Credwn ei bod yn bwysig iawn fod Cadeiryddion o'r gwrthbleidiau yn gyfrifol am bwyllgorau hanfodol megis cyllid a chyfrifon cyhoeddus, ac rydym yn credu ei bod yr un mor bwysig bod gennym drefniadau ar bwyllgorau polisi a deddfwriaethol sydd mewn gwirionedd yn cyflawni cyfraith Cymru y gellir ei gweithredu. Yn y pen draw, mae'r pwyllgorau yno i graffu ac i ymgymryd â sawl cam o ddeddfwriaeth, ond mae'r holl ddeddfwriaeth yn dod yn ôl i'r Cynulliad hwn, lle mae gennym swyddogaeth i'w chyflawni. Os byddwn yn uno fel gwrthblaid, gallwn bleidleisio a goresgyn y Llywodraeth ar yr holl ddeddfwriaeth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hynny os gallwn ddod i gytundeb ar y materion hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw bod gennym bwyllgorau ymarferol a Chadeiryddion da, effeithiol, a etholwyd yn annibynnol am y tro cyntaf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer cryfhau'r Cynulliad hwn fel senedd wirioneddol, ac yn yr ysbryd hwnnw y mae Plaid Cymru wedi cytuno i'r trefniadau hyn. Ydy, mae hefyd yn golygu bod yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'cadeiryddiaeth pwyllgorau dethol'—y byddwn i'n eu disgrifio'n hytrach fel cadeiryddiaethau pwysig, gwleidyddol yn nwylo'r gwrthbleidiau, a chredaf fod hynny’n bwysig hefyd, yn enwedig pan fyddwn yn craffu ar gyllid ac iechyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau a fydd yn adfywio, rwyf yn gobeithio, y ffordd y mae ein pwyllgorau yn gweithio yn y Cynulliad. Am y rheswm hwnnw, gofynnaf i'r Cynulliad eu cefnogi er mwyn i ni allu symud ymlaen â'n gwaith pwyllgor.

Rwy’n cynnig felly fod y pleidleisio ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth yn cael eu grwpio, os nad oes unrhyw wrthwynebiad i hynny. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynigion i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Gohiriaf y bleidlais, felly, ar y cynigion yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rwy’n symud yn awr at y cynigion i ethol Aelodau i’r chwe phwyllgor arbenigol arall. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy’n cynnig bod y pleidleisiau ar y cynigion i ethol yr Aelodau i’r chwe phwyllgor yma yn cael eu grwpio. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes gwrthwynebiad, fe dderbynnir y cynigion yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 5. Datganiad: Datganoli Trethi a'r Fframwaith Cyllidol

Rŷm ni’n symud ymlaen nawr at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ddatganoli trethi a’r fframwaith cyllidol, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Lywydd, diolch yn fawr. Yn 2018, bydd Llywodraeth Cymru, ar lefel genedlaethol, yn codi ei harian ei hun i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus am y tro cyntaf ers bron 800 o flynyddoedd. Bydd hyn yn digwydd pan fydd treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi yn cael eu datganoli. Bydd hwn yn gam pwysig yn ein taith ddatganoli ac yn newid mawr yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu.

Gwnaeth Jane Hutt, fy rhagflaenydd i, ddechrau ar y broses o baratoi ar gyfer y newid hwn drwy gyflwyno'r hyn sydd wedi dod erbyn hyn yn Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Cafodd y ddeddfwriaeth hon ei phasio yn unfrydol gan y pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol. I wireddu potensial y trethi datganoledig hyn yn llawn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dau Fil arall. Bydd y naill ar y dreth trafodiadau tir a gwrthweithio osgoi trethi datganoledig a’r llall ar y dreth gwarediadau tirlenwi.

Bydd y trethi Cymreig yn deg, a byddwn ni’n sicrhau eu bod nhw mor syml â phosibl. Byddant yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr ac yn cefnogi swyddi a thwf. Byddaf i’n canolbwyntio ar ein hymrwymiad i lesiant cenedlaethau’r dyfodol wrth ddatblygu a gweithredu ein polisi trethi.

Mae’r Bil treth trafodiadau tir a gwrthweithio osgoi trethi datganoledig (Cymru) drafft yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae hwn yn Fil hir a thechnegol. Drwy gyhoeddi drafft o’r Bil hwn, rwy’n gobeithio rhoi amser i Aelodau’r Cynulliad, rhanddeiliaid sydd â diddordeb a’r cyhoedd ymgyfarwyddo â’i nodau a strwythur ei ddarpariaethau cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cynulliad yn yr hydref.

Tynnodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dreth trafodiadau tir yn ogystal â’r dreth gwarediadau tirlenwi sylw at y galw i fod yn gyson â threthi presennol y Deyrnas Unedig. Lywydd, rwyf eisiau bod yn glir: ni fyddwn yn newid unrhyw beth yn ddiangen. Mae ein cynigion wedi cael eu cynllunio i sicrhau bod y sefyllfa’n dod yn fwy effeithlon ac effeithiol ac i sicrhau hefyd fod y ffocws ar anghenion a blaenoriaethau Cymru.

Llywydd, since the consultation on our proposed legislation closed, in respect of land transaction tax, I am mindful of the changes both the UK and Scottish Governments have since made to their respective taxes, in particular the additional rate on second homes. The UK changes were consulted on in Wales and England this year, and the legislation is currently progressing through the UK Parliament. I will publish a technical consultation about the Welsh policy approach to ensure that taxpayers, agents and wider stakeholders have an opportunity to contribute their views about how this might work in Wales, with a view to introducing this during the scrutiny process of the land transaction tax and anti-avoidance of devolved taxes Bill.

Turning now to landfill disposals tax, an element of the current UK tax is used to support a landfill communities fund. During the public consultation on the replacement of that tax in Wales, a wide range of views were received about what should happen to the fund following devolution of the tax. The fund has played an important role in supporting communities close to landfill sites and I’m happy to confirm this afternoon that it is my intention to set up a landfill disposals tax communities scheme to continue this valuable work in Wales.

Llywydd, Members will be aware that I recently confirmed my decision that the Welsh Revenue Authority will lead on collection and management of both land transaction tax and landfill disposals tax and will work directly with Natural Resources Wales on compliance and enforcement of landfill disposals tax. We will maintain our constructive and positive relationship with HMRC to develop skills, expertise and capability within Wales on tax administration. I expect the WRA to provide a high-quality service to enable Welsh taxpayers to pay the right amount of tax at the right time but also to take a robust approach to tax avoidance and evasion. In the autumn, the process of appointing a WRA chair will begin. The chair will work alongside the WRA implementation director to create the right leadership team. I anticipate the full board will be in place six months before the authority begins to start the work of collecting and managing Wales’s devolved taxes.

Following the introduction of the devolved taxes, part of the Welsh Government’s future budget will depend on devolved tax revenues. As the UK Government will no longer receive those revenues, an equivalent reduction will be made to the Welsh block grant. The methodology for calculating this will be set out in a new fiscal framework for Wales, which will be negotiated with the Chief Secretary to the Treasury and which I believe this Welsh Assembly should have the power to accept or reject. These negotiations will consider how the adjustment to the Welsh block grant should reflect the full devolution of stamp duty land tax and landfill tax and how it should operate in the event of partial devolution of income tax. As part of the new arrangements, I will also seek detailed clarification about the operation of the funding floor and an increase in our capital borrowing limit.

Llywydd, during the last term, a strong consensus existed across this Assembly about the need to secure a fair funding deal for Wales alongside our new fiscal responsibilities. That consensus has been of material advantage in our discussions with the Treasury. A sensible fiscal framework will pave the way to the introduction of Welsh rates of income tax—a decision that I am clear should continue to rest with the National Assembly.

In view of the omission from the Wales Bill of air passenger duty, we will be continuing to press the case for, as a minimum, direct long-haul air passenger duty to be devolved to Wales. This would ensure parity with Northern Ireland.

Lywydd, trethi sy’n ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru; gwasanaethau rydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Bydd datganoli trethi yn rhoi cyfle i Gymru gadw golwg mwy cyflawn, integredig a hirdymor ar ei sefyllfa ariannol. Mae’r gallu i godi trethi yn rhoi cyfle i Gymru gynnwys pobl mewn penderfyniadau ynghylch lefelau a graddau’r cyllid a fydd yn cael ei godi, yn ogystal â phenderfyniadau ynghylch sut i wario’r arian hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau’r Cynulliad y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch hefyd i’r Ysgrifennydd am y datganiad yma? Mae’n iawn i ddweud ei fod yn un hanesyddol. Mae’r Ysgrifennydd yn dilyn yn ôl traed Rhisiart o’r Wyddgrug, sef trysorydd olaf Llywelyn ap Gruffudd yn 1283. Ysywaeth, nid oedd hi’n bosib i senedd Owain Glyndŵr godi trethi oherwydd pa mor anodd, efallai, ydyw i godi trethi o dan gyflwr o ryfel. Nid yw’r drafferth yna, o leiaf, yn wynebu’r Ysgrifennydd. Ond mae yn gwneud pwynt sylfaenol bwysig, wrth gwrs, sef mai hanfod democratiaeth, a dweud y gwir—y ddemocratiaeth genedlaethol mae pobl Cymru wedi pleidleisio o’i phlaid ddwywaith—ydy’r gallu nid yn unig i ddeddfu ond i godi trethi hefyd, a thrwy hynny, wrth gwrs, sicrhau bod yna atebolrwydd gwirioneddol ar gyfer y gwasanaethau rydym ni yn eu cynnig o ran ein cymdeithas ni a hefyd y dyfodol y gallem ei greu gyda’n gilydd ar gyfer ein cenedl.

Now, Cabinet Secretary, as you acknowledge in your statement, an essential part of tax devolution, if it’s to be successful, is a clear and workable fiscal framework. Key to this, and, inevitably, the biggest headache in negotiations with the UK Treasury, will be the way in which the Welsh block grant is adjusted to reflect the transfer of tax revenue-raising powers to the Welsh Government. The previous Welsh Government expressed concerns at the adjustment made following the devolution of non-domestic rates. The dangers are clear from the partial devolution of income tax. You’ll be aware of a study by the Wales Governance Centre that demonstrated that the very different distribution of incomes in Wales compared with England means that not being able to vary the threshold, for example, will pose major difficulties. And so getting the mechanism wrong could cost the Welsh budget hundreds of millions a year.

Could the Secretary provide us with some further detail on the Welsh Government’s position on block grant adjustment and indexation, in particular what specific mechanisms the Government favours; how it intends dealing with differential growth in population, in tax returns, in economic growth; what procedure is being proposed whereby agreement on whether a tax change is material can be arrived at; how to distinguish between first- and second-order effects; and what appeals process or disputes resolution procedure will be in place where the UK and Welsh Governments disagree?

Much has been made of the no-detriment and taxpayer fairness principles that underline the Scottish fiscal framework, but does the Cabinet Secretary accept that, in the case of Wales, one of the poorest constituent parts of the United Kingdom at the current time, the UK Government should be prepared to allow not a no-detriment principle, perhaps, but a tax bonus principle that allowed us in Wales to benefit disproportionately from tax changes as a form of regional policy? Specifically in relation to income tax, will the Cabinet Secretary be asking for maximal flexibility on income tax devolution, including the power to adjust allowances and thresholds and create new bands?

He mentions the discussions with the Treasury; could he say a little bit more about where we are in that process? Has he already met on a ministerial level, and how is that process going to be taken forward over the summer?

Discussions between the Scottish Government and the Treasury on Scotland’s fiscal framework lasted some 11 months. One criticism of those discussions was the lack of transparency. You mention in your statement—and we welcome this—that this Assembly should have the power to accept or reject a new framework. Could you also provide us with assurances that the Assembly will have ample opportunity to contribute to and scrutinise those negotiations, and agree the underlying principles in advance? This is absolutely vital given our experience of the Barnett formula, which was, of course, introduced without consultation in the late 1970s, and has never been reformed despite its manifest unfairness.

Diolch yn fawr i’r Aelod am y sylwadau yna, a diolch yn fawr iddo fe am ddweud wrthyf i fod yna bethau anodd i’w gwneud fan hyn, ond ddim cweit fel trial ei wneud e yn ystod rhyfel hefyd.

A series of very important questions from Adam Price, and our starting point is the one that he began with, too—that democratic answerability is very much caught up in organisations that spend money being responsible for raising money as well. However, getting the right set of agreements for Wales is absolutely essential. Otherwise, that basic principle of democratic answerability is fatally eroded if we are held responsible for the consequences of decisions that do not lie within the hands of this National Assembly. In that sense, the Member is absolutely right to say that the methodologies that will underpin the fiscal framework are absolutely essential, that we will have to wrestle with questions such as those that were addressed within the Scottish agreement about population changes and be clear that, as I believe, we cannot be held responsible for population changes that are driven by decisions that don’t belong here in the National Assembly.

I agree with him that a form of independent review of the system is very important. Scotland have secured an independent review in 2021 to make sure that the system there is working in the way that was intended and I would expect nothing less for us here in Wales.

As far as where discussions with the Treasury have got to, I have had one discussion so far directly with the Chief Secretary to the Treasury. I have a meeting with him planned for 21 July, and in my original discussion with him, we agreed that we were likely, to me, to meet monthly during the autumn in order to thrash out some of the detail on which a proper fiscal framework will rely. I hope it will not take the same length of time as it took in Scotland, and we are lucky to be following Scotland around this track and have been very fortunate to have had very high levels of co-operation from Scottish colleagues, giving us the benefit of their experience and some insight into the discussions that went on.

I think there’s a lot in the Scottish agreement that provides us with a very good starting point for our discussions as we go into them in the autumn. It’s essential to me that the National Assembly has an opportunity to continue to scrutinise the evolving picture in those negotiations, partly because I want to make sure that I’m able to answer any questions that Members have, but also because of the point that I made in my statement that, in the last Assembly, where we were able to agree on some important core things that were important across the whole of the National Assembly, then that materially strengthens our chance of conducting those arguments that we will have to have at the other end of the M4.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o weld eich bod yn parhau â brwdfrydedd eich rhagflaenydd am y trethi cyntaf i Gymru ers 800 mlynedd. Mae'n debyg ei bod ychydig yn ormod i ddisgwyl i'r cyhoedd fod yn frwdfrydig ynghylch talu trethi, ond o leiaf mae’r brwdfrydedd gennych chi gyda golwg ar hanes a'r drydedd ganrif ar ddeg mewn gwirionedd.

Mae hyn, yn wir, yn cynrychioli newid sylfaenol i’r setliad datganoli. Yn gyntaf, rwy’n cefnogi eich awydd i gadw trethi Cymru mor syml â phosibl. Rwy'n falch eich bod yn parhau â'r polisi na ddylai ein trethi ni fod yn wahanol i'r rhai dros y ffin ac mewn rhannau eraill oni bai bod gwir angen am hynny. Sut yr ydych chi’n mynd i sicrhau’r symlrwydd hwn, a beth yr ydych chi wedi'i wneud i roi sicrwydd i randdeiliaid y bydd y gyfundrefn dreth sy'n datblygu yng Nghymru mor syml â phosibl?

Rwy’n deall y bydd y broses ddeddfu ar gyfer trethi fel y dreth trafodiadau tir yn gymhleth; rwy'n siŵr eich bod yn cytuno ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Gwnaethoch sôn am hyn, ond beth yr ydych chi’n ei wneud i ddefnyddio’r profiad o ddatganoli treth yn yr Alban? Fel y dywedasoch yn gynharach, maent wedi gwneud rhai camgymeriadau yno, fel datblygu'r ddeddfwriaeth ar gyfer Revenue Scotland ymhell ar ôl iddynt ddechrau ar y broses o ddatblygu trethi unigol. Gwnaethant ddysgu nifer o wersi; a ydych chi wedi dysgu’r gwersi hynny—wel, mae’n amlwg eich bod, oherwydd rydych wedi’i wneud yn y drefn arall—ond pa wersi eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu, ac, yn wir, beth allwn ni ei ddysgu i’r Alban yn y maes hwn, Ysgrifennydd? Rwy'n siŵr bod yna bethau yno—mae hon yn broses ddwy ffordd.

Rwy'n falch eich bod yn bwriadu cynnal perthynas adeiladol â Chyllid a Thollau EM. Pa mor hyderus ydych chi yn y cyfnod cynnar hwn y bydd Cyllid a Thollau EM yn addas i’w ddiben yng nghyd-destun Cymru? Roedd yr Alban, i ddechrau, yn mynd i ddibynnu'n drwm iawn ar Gyllid a Thollau EM, ond wrth i bethau fynd rhagddynt a datblygu, roeddent yn dibynnu llai arnynt, ac rwy’n meddwl eu bod wedi rhoi llawer mwy o'r gwaith i Revenue Scotland yr oedd Cyllid a Thollau EM yn mynd i’w wneud yn wreiddiol am resymau cost a rhesymau effeithlonrwydd. A ydych chi’n rhagweld y bydd gan Awdurdod Refeniw Cymru gyfrifoldeb ehangach tebyg yn y dyfodol o ran cymryd rhywfaint o'r cyfrifoldeb hwnnw eu hun?

Rydych wedi sôn, tuag at ddiwedd eich datganiad, am y fframwaith cyllidol. Fel y gwyddoch, ac fel yr wyf wedi’i ddweud wrthych yn y gorffennol, mae gennych gefnogaeth drawsbleidiol ar ddatblygu fframwaith cyllidol priodol. Rwy'n credu bod gennym gytundeb cyffredinol na allwn fynd ymlaen fel yr ydym, yn enwedig gan fod y trethi hyn ar fin cael eu datganoli i Gymru.

Rwyf wedi siarad dro ar ôl tro ac wedi gofyn cwestiynau i chi am fy mhryderon ynglŷn â gostyngiadau i’r grant bloc yn sgil datganoli treth, gan gynnwys datganoli treth incwm. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, fel y gofynnodd Adam Price i chi, am unrhyw drafodaethau â’r Trysorlys am fecanweithiau o gyfrifo'r gostyngiad yn y grant bloc yn y flwyddyn gyntaf a, hefyd, y dewisiadau ar gyfer mynegeio gostyngiadau yn y dyfodol? Yn amlwg, nid yw'r rhain yn faterion sy’n destun trafodaethau mewn tafarndai ledled Cymru, ond mae'r rhain yn bwysig iawn o ran datganoli treth yn gywir.

O ran gostyngiadau yn y dyfodol, yn gyntaf, sut y bydd chwyddiant yn cael ei ystyried? Gyda'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a mewnforion drutach, y consensws cyffredinol yw bod yna risg o chwyddiant uwch dros y tymor canolig. Felly, mae'r mynegeio ar gyfer chwyddiant yn dod yn fwy a mwy pwysig, hyd yn oed yn fwy felly nag yr oedd o'r blaen. Yn ail, rydych eisoes wedi sôn am y mater o newid yn y boblogaeth. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymdrin â hyn ac mae ganddynt gytundeb â San Steffan nad cyfran yr Alban o dreth incwm fydd yn talu am unrhyw newid niweidiol i’r boblogaeth, ond y DU yn ei chyfanrwydd. A ydych chi’n ceisio cael sicrwydd tebyg gan y Trysorlys? Rwy'n fwy na pharod i gyflwyno’r achos hwnnw gyda chi. Mae hon yn enghraifft dda o ble mae angen inni weld tegwch ledled y DU. Ydym, rydym i gyd yn cytuno â'r angen am atebolrwydd cyllidol a'r angen i Lywodraeth Cymru ysgwyddo’r risg sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau ariannol yr ydych yn eu gwneud, ond ni ddylech orfod ysgwyddo’r risg sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau’r DU gyfan. Mae angen inni ddatgysylltu’r ddau hynny.

Yn olaf, Lywydd, rydych yn sôn am yr angen am ryw fath o gyfryngu yn y dyfodol os nad yw'r swm o arian yr ydym yn ei gael drwy fformiwla Barnett a'r fframwaith ariannol yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn teimlo y dylem fod yn ei gael. Rwy’n cofio rhai o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf. Roedd awgrym y gallem ddatblygu corff i’r DU a fyddai'n ymdrin â phroblemau cyfryngu fel hon, fel na fyddai mor syml â thrafodaeth ddwyochrog rhyngoch chi a Llywodraeth San Steffan. Beth yw eich barn chi, yn y dyfodol, am ryw fath o gorff a allai ddarparu'r cyfryngu hwnnw? A fyddech chi’n hoffi ein gweld yn dychwelyd at y trafodaethau pedrochrog a gafodd eich rhagflaenydd nifer o flynyddoedd yn ôl, cyn iddynt gael eu disodli gan drafodaethau dwyochrog? Rwy'n meddwl bod y trafodaethau pedrochrog, o fy nhrafodaethau â Jane Hutt, yn ddefnyddiol iawn wrth symud ymlaen.

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau pwysig yna. Mae fy man cychwyn yr un fath â’i un ef. Hoffem i'r system fod mor ddealladwy a syml ag y bo modd, er bod rhai o'r materion hyn yn eu hanfod yn gymhleth ac yn faterion i bobl sy'n arbenigwyr yn y maes. Credaf y dylai'r daith yr ydym arni ddechrau â chyn lleied o wahaniaeth ag sydd ei angen rhwng y system sydd gennym eisoes a'r system y byddwn yn ei chreu, gan ychwanegu digon o hyblygrwydd at ein system i ganiatáu ar gyfer gwahaniaethu yn y dyfodol, pe byddai anghenion polisi Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni symud i'r cyfeiriad hwnnw. Yn y tymor byr, mae'n bwysig iawn bod y bobl hynny sy'n gweithio’r system o ddydd i ddydd yn adnabod y system a fydd yn cymryd ei lle fel yr un y maent wedi arfer â hi, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth llyfn i aelodau'r cyhoedd, ond hoffem gael, yn gynhenid ​​yn y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno, y gallu i hynny ddatblygu ac aeddfedu.

O ran gwersi yr ydym wedi'u dysgu gan yr Alban, fel y dywedais wrth Adam Price, rydym wedi bod yn ffodus iawn, rwy’n meddwl, o gael cymaint o gymorth gan gydweithwyr yn yr Alban ac rydym yn dal i gael y cymorth hwnnw. Un o'r gwersi yr ydym wedi’i dysgu gan Revenue Scotland yw’r sail i'r penderfyniad a gyhoeddais yn y datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener mai Awdurdod Refeniw Cymru fydd yn arwain ar gasglu a rheoli treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, ac ar gydymffurfiad a gorfodi'r dreth trafodiadau tir. Flwyddyn yn ôl, roeddem yn meddwl bod cydbwysedd y dadleuon ychydig o blaid caniatáu i HMRC barhau i wneud hynny ar ein rhan. Ond, mae profiad blwyddyn gyntaf Revenue Scotland, rwy’n credu, yn rhoi hyder i ni ei bod yn bosibl i ni ymdrin â’r dreth honno yn fwy uniongyrchol ein hunain. Rwy'n credu bod hwnnw'n fuddsoddiad da wrth adeiladu'r system y bydd ei hangen arnom yn y dyfodol. Mae angen inni gadw perthynas adeiladol â Chyllid a Thollau EM yn y cyfamser oherwydd mae ganddynt arbenigedd y bydd angen inni fanteisio arno. Mae gennym gynigion da gan Gyllid a Thollau EM o secondio staff i ni yng Nghymru, yn y tymor byr, i’n helpu i ddatblygu’r arbenigedd hwnnw, a deialog barhaus â nhw i'n helpu i sefydlu ein systemau yma.

Mae Nick Ramsay wedi sôn yn rheolaidd iawn ac yn effeithiol am holl fater y fframwaith cyllidol ar lawr y Cynulliad a'r angen am fecanwaith addasiad grant bloc i ddiogelu sefyllfa trethdalwyr Cymru a phobl sy'n dibynnu ar wasanaethau yng Nghymru. Nid y flwyddyn gyntaf yw'r broblem, fel yr oedd yn ei awgrymu. Mae’n fater syml o amnewid yr hyn a fydd gennym neu’r hyn a fyddai wedi bod gennym yn y blynyddoedd dilynol, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y mecanwaith yn ddigon cadarn i ystyried chwyddiant. Byddwn i’n sicr yn disgwyl y bydd gennym system debyg i'r un y gwnaethant ei negodi yn yr Alban o ran y mater poblogaeth, ond mae gwahaniaethau eraill. Cyfeiriodd Adam Price at waith Canolfan Llywodraethiant Cymru ar effaith wahaniaethol codi’r trothwy treth yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd yn rhaid i ni drafod y materion hynny yn yr hydref yn ogystal.

O ran cyfryngu yn y dyfodol a'r angen am system ddyfarnu ddiduedd, yn yr Alban maent wedi cytuno i ddefnyddio Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb a Chomisiwn Ffisgal yr Alban. Nid oes gennym gomisiwn o'r math hwnnw yma yng Nghymru a byddaf yn ystyried dros yr haf sut y gallem ysgogi math o arbenigedd sy’n benodol i Gymru i gyd-fynd â'r cyngor annibynnol a fydd yn parhau i ddod gan Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb.

Cyn belled ag y mae’r pedrochrau dan sylw, rwy’n sicr yn meddwl y byddai'n fuddiol eu hadfywio. Rwyf wedi dweud hynny wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys eisoes. Yn y cyfamser, byddaf yn cwrdd â Gweinidogion cyllid o'r Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos nesaf i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i rannu profiad ac arbenigedd y gallwn ei roi ar waith ar y cyd yn ein trafodaethau â Whitehall.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fel y mae’n ei ddweud, mae’r materion hyn yn gynhenid ​​gymhleth, ac mae deddfwriaeth yn anochel yn dechnegol. Cafodd hyn ei gadarnhau imi, o leiaf o ran y Cynulliad hwn, pe byddai angen, wrth imi geisio ymgyfarwyddo â'r gweithdrefnau, o leiaf i ryw raddau. Gwyliais, ar sianel y Senedd, ei ragflaenydd yn cyflwyno’r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)—sydd bellach yn Ddeddf—yn fedrus, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i ymgymryd â'r swyddogaeth mewn modd yr un mor alluog.

Rwy’n croesawu, yn arbennig, ei ddatganiad na fydd dim newid er mwyn newid, a’i fod nawr yn dymuno gweld—o leiaf, i ddechrau—cyn lleied o wahaniaeth ag y bo modd rhwng y system yng Nghymru a system bresennol y DU yr ydym yn rhan ohoni; a chaiff dull trên drwodd ei groesawu, rwy’n siŵr, o leiaf gan ymarferwyr. Tybed a gaf i ofyn iddo’n benodol am sut y gallai hynny effeithio ar y dreth trafodiadau tir. Soniodd yn ei ddatganiad fod hyn wedi bod yn destun ymgynghoriad ar sail Cymru a Lloegr a’i fod ar hyn o bryd yn mynd drwy Senedd y DU. A yw hynny'n awgrymu ei fod yn hapus â’r dull hwnnw, ynteu a yw efallai’n ceisio gwneud newidiadau i berthnasedd a sail y dreth honno pan gaiff ei chyflwyno’n benodol i Gymru?

Yn ail, roeddwn eisiau—. Tua diwedd ei ddatganiad dywedodd y bydd fframwaith cyllidol synhwyrol yn paratoi'r ffordd i gyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru. Roeddwn ychydig yn ddryslyd. Yna dywedodd ei fod yn glir y dylai’r penderfyniad hwnnw barhau i orwedd â’r Cynulliad Cenedlaethol. Onid yw'n wir, ar hyn o bryd, mai refferendwm o bobl Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw yn y pen draw, a’i fod ef a'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ill dau yn ceisio newid y trefniadau hynny i osgoi unrhyw refferendwm o'r fath? Wel, efallai ar ôl penderfyniad y Cymry 11 diwrnod yn ôl i bleidleisio yn erbyn aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, nad yw mor hoff o refferenda, ond oni ddylem o leiaf dderbyn mai dyna yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, a’i fod ef a'r Llywodraeth arall ar lefel y DU yn awr yn ceisio ei newid?

Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau yna. Mae fy neges heddiw am beidio â newid er mwyn newid yn seiliedig ar y neges glir iawn a ddaeth gan randdeiliaid yn ystod ein hymgynghoriad ar y dreth trosglwyddo tir. Roeddent yn gryf iawn o'r farn bod angen inni symud yn llyfn o'r gyfraith bresennol at y gyfraith newydd ac y byddai’r newidiadau—a byddwn yn cyflwyno newidiadau—ddim ond y rhai sydd eu hangen gan ganiatáu cwmpas ar gyfer mwy o newidiadau yn y dyfodol.

Yr hyn a ddywedais yn fy natganiad—rwy’n ymddiheuro os na wnes i hyn yn ddigon clir—oedd, ers inni ymgynghori ar ein cynigion treth trafodiadau tir, bod newidiadau wedi digwydd yn yr Alban ac ar lefel y DU nad oeddent yn hysbys ar adeg yr ymgynghoriad, a thynnais sylw yn benodol at y dreth ychwanegol ar ail gartrefi, na ddaeth yn rhan o dirwedd yr Alban a'r DU tan ar ôl i’n hymgynghoriad ni ddod i ben. Rwy’n meddwl bod Mr Reckless wedi gofyn imi a oedd hwnnw'n bolisi yr oeddwn yn ei gefnogi. Dewch imi ddweud ei fod yn bolisi sy’n ddeniadol imi, ond mae'n rhaid inni ymgynghori arno. Ac felly, nid wyf yn dod i gasgliad tan ein bod wedi cael yr ymgynghoriad, ac roeddwn yn ceisio dweud yn fy natganiad y byddwn yn cyhoeddi dogfen ar gyfer ymgynghoriad yn ystod yr haf hwn, ac yna byddaf yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol â chasgliadau cyn gynted ag y byddwn wedi elwa ar hynny.

O ran cyfraddau treth incwm i Gymru, roeddwn yn cyfeirio at y newid arfaethedig yn Bil Cymru ac yn ceisio gwneud y pwynt, yn syml, os na fydd refferendwm, bod arnom angen rhyw fecanwaith i gymryd lle hynny, ac, i mi, hwnnw yw na ddylid trosglwyddo unrhyw gyfrifoldeb am dreth incwm i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gytundeb penodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae'n bwysig iawn, os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, bod gennym system drethu sy'n gweithio. Nid dull o ddatblygu economaidd yw prif bwrpas trethiant; mae yno i ddarparu arian ar gyfer gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

Mae’r ddwy dreth y cynigir eu datganoli ar 1 Ebrill 2018 yn codi incwm cyfyngedig. Bwriad y polisi yw parhau i leihau tirlenwi, ac felly’r dreth gwarediadau tirlenwi, drwy gynyddu ailgylchu. Yn wir, byddai'r Llywodraeth yn ôl pob tebyg yn ystyried y byddai’n llwyddiant pe na byddai’r dreth tirlenwi yn codi unrhyw arian o gwbl. Er bod y dreth trafodiadau tir yn hynod gyfnewidiol a chylchol, mae swm y dreth a godir yn ddigon bach i beidio ag effeithio'n sylweddol ar wariant Llywodraeth Cymru. Bydd, fodd bynnag, yn hanfodol er mwyn cael bargen deg ar y dreth hon ein bod yn sicrhau nad oes dim niwed ac i osod yr egwyddorion ar gyfer unrhyw drethiant a gaiff ei ddatganoli yn y dyfodol.

Rwy’n cytuno â Nick Ramsay am bwysigrwydd cyfryngu. Os caf sôn yn sydyn am yr arian na chawsom o Gemau Olympaidd Llundain, pan weithredodd y Trysorlys fel barnwr a rheithgor, gan roi tua'r un faint o arian inni ag yr wyf yn credu y dylem fod wedi’i gael ar gyfer Abertawe, heb sôn am Gymru gyfan.

Rwy'n nerfus am ddatganoli treth incwm. Rydym yn gwybod ei bod wedi gostwng gan £400 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10. Rwy’n siŵr na fyddai hyd yn oed beirniaid mwyaf Llywodraeth Cymru yn beio Llywodraeth Cymru am y cwymp hwnnw, ac eto, pe byddai’r dreth incwm yn cael ei datganoli, nhw fyddai’n cael eu taro. Dylai unrhyw newid i'r ffordd y caiff Cymru ei hariannu roi amddiffyniad yn erbyn gostyngiadau wedi’u hachosi gan weithredoedd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n rhaid bod 'dim niwed' wedi’i ysgrifennu i mewn yno, ac nid ar gyfer y tymor byr, ond am byth.

Mae gen i gwestiwn. Os ydych yn meddwl yn benodol yn ôl at Silk, roedd sôn am ddatganoli'r ardoll agregau. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ymddangos fel ei fod wedi’i roi o’r neilltu ers amser maith. Nid yw'n swm arbennig o fawr o arian, ond rwy’n meddwl ei bod yn dreth sy'n hawdd, rwy’n gobeithio, ei datganoli. A all y Gweinidog roi unrhyw wybodaeth bellach am ddatganoli'r ardoll agregau? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau mai cadw'r terfyn ariannu isaf yw agwedd allweddol unrhyw drafodaethau, fel ei fod gennym os aiff swm yr arian sy'n dod i mewn i Gymru i fyny, neu os yw'r arian sydd wedi cael ei wario’n mynd i fyny, fel nad dim ond pan fo’r arian yn mynd i lawr y mae yno, ac i sicrhau bod 'dim niwed' yn cael ei gynnwys yn y system gyfan, fel nad ydym ar ein colled? A wnaiff y Gweinidog barhau i bwyso am ryw fath o gyfryngu; rhywun i ddyfarnu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys? Nid wyf yn gwybod a wyf yn cael dweud hyn, ond nid oes gennyf ffydd yn y Trysorlys i fod yn deg. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.]

Dadleuol. [Chwerthin.]

Dadleuol—ie, yn wir. Mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, mai pwrpas codi trethi yw talu am wasanaethau cyhoeddus. Rydym hefyd yn gwneud ein gorau i gyfochri trethiant mewn ffordd sy'n hyrwyddo amcanion polisi cyhoeddus, a dyna pam mae gennym dreth gwarediadau tirlenwi. Mae rhywfaint o anwadalrwydd yn gynhenid ​​yn y trethi hyn. Yr amcangyfrifon gorau cyn 23 Mehefin oedd y byddent yn codi tua £300 miliwn y flwyddyn, felly nid yw'n swm ansylweddol, a, phe na byddai gennym, byddem yn sicr yn teimlo'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam mae'r egwyddor 'dim niwed' mor bwysig yn y trafodaethau.

O ran yr ardoll agregau, rydym yn parhau i fod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU am y mater hwnnw, ond rwy’n meddwl bod y pwyntiau ehangach a wnaeth Mike Hedges yn bwysig iawn, sef nad yw ein trafodaethau â’r Trysorlys yn canolbwyntio'n gul ar y ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth. Mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r patrwm mwy hwnnw o drafodaethau lle mae'r cyllid gwaelodol, a sicrhau hwnnw fel rhan barhaol o'r tirwedd—mae cyfyngiadau benthyca, a grybwyllais yn fy natganiad, yn rhan o'r dirwedd ehangach honno hefyd, ac, er ein bod wedi canolbwyntio ar y ddau ddarn pwysig iawn hyn o ddeddfwriaeth y prynhawn yma, a byddwn yn mynd â hwy drwy'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hydref, mae ein trafodaethau â'r Trysorlys ar gynfas ehangach na hynny.

Fel y siaradwyr cynharach, rwy’n meddwl bod angen inni symud yn ofalus ar hyn, yn enwedig oherwydd, fel y dywedwch yn eich datganiad, ei bod yn ymddangos bod pob treth a gawn, pob pŵer sy’n cael ei ddatganoli inni, yn arwain at ostyngiad tebyg yn swm y grant bloc, a gallai hynny mewn gwirionedd arwain at fwy o faich ar Gymru nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r system ychydig yn ailddosbarthol sydd gennym, hyd yn oed os nad yw'n berffaith. Felly, rwy’n meddwl bod angen inni osgoi cymhellion gwrthnysig, ac, yn amlwg, mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn gwneud hynny, ond gellir ei defnyddio hefyd i ymdrin â chanlyniadau gwrthnysig. Cefais fy nharo gan fwriad San Francisco i godi treth cyflogres gymedrol iawn o 1.5 cant ar y cwmnïau uwch-dechnoleg—cwmnïau byd-eang fel Google, Amazon ac Uber, sydd ddim yn adnabyddus am eu brwdfrydedd i dalu trethi mewn unrhyw le yn y byd. Ond, pe byddai’n llwyddiannus, gellid defnyddio’r arian hwnnw i ddarparu tai fforddiadwy i deuluoedd ar incwm isel sydd wedi cael eu dadleoli gan yr union gwmnïau technoleg llwyddiannus hyn sydd wedi ei gwneud yn amhosibl i bobl barhau i fyw yn y ddinas.

Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni sylweddoli, os yw polisïau cyni Llywodraeth y DU yn parhau, y bydd pwysau’n dal i fod arnom i ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi hwb i refeniw yn y sector cyhoeddus, yn enwedig os ydym yn gweld gostyngiad mewn grantiau sector cyhoeddus yn dod gan Lywodraeth ganolog. Felly, a oes gennym y pwerau yn y dyfodol, pe byddem yn dymuno gwneud hynny, i addasu’r dreth trafodiadau tir i fod yn dreth gwerth tir, a allai roi gwell adlewyrchiad o lwc dda y rheini sy'n cael budd o gymunedau wedi’u cysylltu'n dda a gwasanaethau rhagorol i dalu mwy fel cyfrwng i wrthdroi’r ddeddf gofal gwrthgyfartal adnabyddus, yn ogystal ag osgoi talu treth? Efallai y gallech roi rhyw syniad o'r cyfeiriad teithio y gallai'r Llywodraeth fod yn awgrymu ein bod yn symud ynddo.

Diolch, Jenny Rathbone, am y cwestiynau yna. Mae hi'n gywir i ddechrau drwy ein rhybuddio am bethau gwrthnysig a chanlyniadau anfwriadol a all ddeillio o hyd yn oed y polisïau â’r bwriadau gorau. Ond rwy’n dal i gredu mai’r egwyddor sylfaenol y dylai unrhyw haen o lywodraeth sy'n gwario arian cyhoeddus hefyd fod yn gyfrifol am godi rhywfaint o'r arian hwnnw yw'r un cywir. Ac yna mae'n rhaid inni weithio'n galed i sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn y ffordd gywir. Diolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am gyfeirio at y profiad yn San Francisco; nid wyf yn gwybod digon am hynny, ond byddaf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am hynny.

Rwy'n credu ei bod hi’n tynnu sylw at un arall o'r materion cyd-destunol ehangach hyn a gododd Mike Hedges, sef, ochr yn ochr â hyn oll, os bydd Bil Cymru yn llwyddo, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn bwerau newydd i gynnig trethi newydd yma yng Nghymru. Ac roedd adroddiad diweddar Comisiwn Bevan yn sôn am drethiant gwerth tir fel un o nifer o bosibiliadau a allai gael eu profi yn y gyfundrefn newydd honno. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn eithaf brwdfrydig am drethiant gwerth tir ers amser maith. Yn fy marn i, os daw’r pwerau newydd hynny i Gymru, bydd yn bwysig inni feddwl gyda’n gilydd am rai enghreifftiau o'r trethi newydd y gallem eu cynnig er mwyn profi’r peiriannau newydd y Bil Cymru yn eu rhagweld ac i weld y ffordd orau y gallem ddefnyddio'r pwerau newydd hynny er lles unigolion a gwasanaethau yng Nghymru.

A gaf i groesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, a’r sylwadau yn benodol ynglŷn â’r fframwaith gyllidol, a’r ymroddiad y bydd gan y Senedd hon gyfle i drafod a chytuno ai peidio y fframwaith maes o law? O edrych ar y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth yr Alban, mae’n amlwg ei fod e’n ffrwyth llafur sylweddol iawn, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi wedi cael cydweithrediad ynglŷn â hynny ar gyfer ein trefniadau ni. Ond nid oes ganddo effaith deddf gwlad. A fyddai’n cytuno â fi y byddai sylfaen statudol i’r fframwaith gyllidol yn cynnig gwell gwarant i Gymru o’r ymroddiad i ariannu’n ddigonol, o’r egwyddorion bras sy’n sail i’r ymroddiad hwnnw, ac o beirianwaith i allu delio ag unrhyw anghydfod ac anghytundeb, pan fydd yn codi?

Wel, diolch yn fawr i Jeremy Miles. Jest i ddweud, roeddwn i’n awyddus i ddod gerbron y Cynulliad cyn yr haf gyda fy natganiad heddiw, jest i gael cyfle i drafod pethau gyda’n gilydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad. O ran profiad yr Alban, mae e ar agenda’r cyfarfod sydd gyda fi yr wythnos nesaf gyda’r Gweinidog o’r Alban i fwrw ymlaen â’r trafodaethau rydym wedi eu cael gyda nhw ac i ddysgu o’r profiadau y maen nhw wedi eu cael. Y ffordd orau i fod yn glir taw yn ein dwylo ni, ac yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol, y mae’r dewis olaf i dderbyn y fframwaith, ac i fod yn hapus â’r fframwaith—mae hynny’n hollol bwysig i ni. Y ffordd orau i’w wneud e—wel, bydd hynny’n rhan o’r broses rydym yn mynd i’w chael yn yr hydref o drafod popeth gydag Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain.

7. 6. Datganiad: Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Rydym nawr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y tasglu gweinidogol ar y Cymoedd. Ac rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies.

Diolch yn fawr, Lywydd.

Mae gennym ni yng Nghymoedd y De hanes cryf a balch. Ni oedd y grym y tu ôl i’r chwyldro diwydiannol, ac fe wnaethom ni ysgogi datblygiad y Gymanwlad. Ni wnaeth gyfrannu at y camau mawr a gymerwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae cau’r gwaith haearn, y gwaith dur a’r pyllau wedi cael effaith hirdymor ar gymunedau’r Cymoedd, o’u ffin â Lloegr draw i sir Gâr.

Presiding Officer, our Valleys communities have borne the brunt of the impact of successive recessions and economic downturns. They have been at the forefront of the UK Government’s experiments to reform welfare.

As the result of last month’s European Union referendum revealed, many people living in our Valleys communities today feel left behind and left out. This was not simply a vote against EU membership; it was also a vote in which people demonstrated that they feel insecure with their place in the world, their job prospects, employment rights, and their futures.

In line with the Labour Party manifesto, and commitments made in the lead up to the Assembly election, I am today announcing the Welsh Government will set up a ministerial taskforce for the Valleys. We want a new approach to investing in the future of our Valleys that will engage and empower local communities and restore a sense of hope and aspiration.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

We have already seen significant structural investment in the Valleys, including from the European Union. The taskforce will build on this foundation, working with people living in the Valleys, local businesses, local government, the third sector and civic organisations to promote the Valleys as a region for investment and as a place to live, to better co-ordinate existing investment, and to address long-term issues. It will work closely with both the Cardiff capital city region and the Swansea bay city region programmes and will seek to harness the potential of the Valleys’ unique and diverse landscape.

Using the knowledge of the public sector and the ability of the Welsh Government to act as a catalyst, the ministerial taskforce will direct and lead the regeneration and sustainable growth of the Valleys. The immediate priority for the taskforce will be to listen to what people in the Valleys want for our future. We will start an in-depth conversation about improving quality of life, economic development and regeneration, business efficiency and competitiveness, employment and skills, and, finally, sustainable development.

The taskforce will be an active and agile body and not a bureaucratic quango. It will have a small core membership and will call on contributions from others as required. Every Cabinet Secretary and Minister will share a responsibility for improving the lives of people who live in the Valleys. I will chair the taskforce. Its members will include the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure and the Minister for Skills and Science. It will also have a small number of external expert advisers. I will update Members on these appointments in due course.

It is important that we recognise that the diversification of the economy of the Valleys has already begun. New industries are being supported and we must continue to build upon this and ensure that everybody benefits, creating new opportunities in local communities and ensuring the benefits of inward investment are retained and shared in the Valleys.

The fundamental issues and challenges affecting the south Wales Valleys are rooted in the noxious cocktail of poverty and deprivation. The taskforce will respond to that range of negative socioeconomic indicators that have placed so many of our Valleys communities at the bottom of the health, wealth and well-being league tables. Although we have made important progress in Wales to reduce unemployment and the number of people living in workless households, parts of the Valleys continue to have high levels of economic inactivity, high levels of deprivation, and high levels of unemployment. This, in turn, has had an impact on educational attainment and long-term health.

The impact of the UK Government’s welfare reforms, from the introduction of the bedroom tax to cuts in disability benefits, has been felt most acutely by communities in the Valleys. Whilst we cannot undo these reforms, we can do more to support people and help them in their search for dignified, skilled and meaningful work. We will work with people to respond to their real-world circumstances and experiences. Access to jobs, access to high-quality services and access to support to improve employability has to underpin this approach. We know that many people and communities are feeling disenfranchised, dispirited and under-engaged. I want the taskforce to talk with and listen to these communities and these people to identify why people feel so left behind by the wider economy and those politicians who are elected to represent them.

Through the taskforce, we want to see sustainable growth that adds economic value to our Valleys communities. Where wealth is created, we want it to remain in those local economies, not flow away into distant communities, hedge funds or off-shore bank accounts. The ongoing regeneration of the south Wales Valleys must be rooted in an approach to economic policy that has the eradication of poverty as its primary objective. We can help improve families’ living standards, health and well-being and children’s life chances by ensuring people have access to better jobs closer to home. The taskforce will work across Welsh Government departments, with the economy, education, health and housing, to stimulate action to meet the Valleys’ developing needs.

Acting Presiding Officer, I do not underestimate the challenges that lie ahead, especially in light of the decision of the British people to seek an exit from the European Union. However, there is enthusiasm to co-operate and to work together, as previous generations have done, to meet the challenges of today and to provide a prosperous and secure future for the Valleys. I will keep Assembly Members informed as the work of the taskforce develops. Thank you.

Diolch. Y cefndir i'r datganiad hwn yma heddiw, rwy’n credu, yw ymrwymiad maniffesto a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Ebrill. Ond, pan gyhoeddodd y tasglu hwn, dywedodd ei fod yn cael ei wneud, ac rwy’n dyfynnu:

'i herio'r pesimistiaeth di-baid a glywn gan Blaid Cymru... yn y Cymoedd. I wrando arnynt, ni fyddech yn meddwl bod dim byd byth yn digwydd yma. Wel, ein gwaith ni yw eu cywiro nhw'.

Ond, rwy'n meddwl bod hyn yn llai o fater o’n cywiro ni nag yn fater o siarad â phobl yr ardal a cheisio eu grymuso nhw, a'u cymunedau, i wneud penderfyniadau dros eu bywydau eu hunain. Sut yr ydym ni’n gwybod hyn? Fel yr ydych eisoes wedi’i ddweud, Weinidog, mae oherwydd canlyniad y refferendwm. Er bod biliynau o bunnoedd o arian Ewropeaidd yn llifo i mewn i'r Cymoedd, roedd llawer o bobl yn edrych o'u cwmpas ac yn gofyn a oedd eu bywydau wedi cael eu gwella o ddifrif.

Wrth gwrs, gallwn bob amser bwyntio at brosiectau yma ac acw, ond a yw’r holl arian hwnnw wedi ymdrin yn derfynol ag etifeddiaeth ôl-ddiwydiannu? A yw wedi rhoi diwedd ar ddiweithdra uchel a phoblogaeth sâl? A yw wedi darparu gwir gyfle economaidd a llai o droseddu a materion gwrth-gymdeithasol eraill? Yr ateb yw nac ydy. Rydym yn dal i wynebu’r materion hyn, fel yr oeddem 20, 30 neu 40 mlynedd—neu hanner canrif—yn ôl, ac nid yw'n ddigon da.

Felly, y peth cyntaf y mae angen i’r tasglu hwn fod yn meddwl amdano, yn fy marn i, yw canlyniadau—sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant eich ymdrechion. Beth am ddechrau â’r cwestiwn sylfaenol: sut y mae’r polisi neu’r fenter hon neu’r llall wedi gwella bywydau pobl y Cymoedd? Mae'n ymddangos i mi mai dyna’r cwestiwn mwyaf elfennol, ond mae'n debyg y cwestiwn pwysicaf yma. Felly, hoffwn i’r Gweinidog ddweud sut y bydd yn mesur canlyniadau. Hoffwn hefyd wybod a fydd y meini prawf mesur yn cael eu pennu’n annibynnol yn hytrach na gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hynny’n debyg iawn i farcio eich gwaith eich hun, ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, nid yw pobl yn y Cymoedd wir yn credu yn hynny ar hyn o bryd.

Hoffwn wybod hefyd sut yr ydych yn bwriadu dechrau’r sgwrs hon â phobl. Rydym yn sôn am ymgysylltiad ar ôl Brexit a phobl yn flin gyda gwleidyddion. Sut yr ydych eisiau siarad â phobl ar wahân i'r bobl arferol? Mae'n rhaid inni ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau os ydynt nawr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo bod gwleidyddion yn bell oddi wrthynt. Sut yr ydych yn mynd i wneud yn siŵr bod hynny'n newid o ran y dyfodol?

Rwy'n falch bod y cylch gorchwyl yn cyfeirio at ddarparu cyfle yn hytrach na brwydro yn erbyn tlodi. Rydym wedi cael yr olaf cyhyd ag y gallaf gofio bod yn Aelod Cynulliad, ac nid yw wedi gweithio. Rwy'n gadarn o'r farn, os ydym wir eisiau creu swyddi, y bydd llawer o'r materion eraill yn edrych ar ôl eu hunain os ydym yn canolbwyntio ar ragolygon economaidd pobl yn yr ardaloedd hyn. Felly, hoffwn ddeall—. Rwy’n gwybod nad dim ond yn y de y mae Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli, ond os ydych yn mynd i fod yn lansio'r tasglu newydd, sut, felly, y mae’n cyd-fynd â chynlluniau fel hwn a mentrau gwrth-dlodi eraill a all fod yn cydblethu neu'n gwrthdaro â’r hyn yr ydych yn ei wneud yn y fenter newydd hon?

Rwy’n meddwl, yn hytrach na cheisio—i fynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar y dechrau—saethu’r negesydd, bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl arni hi ei hun, oherwydd nid Plaid Cymru yr unig lais sy’n dweud nad oes digon yn cael ei wneud. Cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ym mis Mehefin y llynedd, yn dweud, yn sgil diffyg cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi, yn enwedig o ystyried ei hymrwymiad hirdymor i fuddsoddi yn y mater, bod pryder dwfn yno. Felly, mae angen inni ystyried, yn hytrach na rhoi bai ar bobl, trin symptomau tlodi ac ymdrin ag achosion gwaelodol tlodi.

Hoffwn wybod, yn sgil y refferendwm, fel y soniasoch am Brexit ar y dechrau, a yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu effeithiolrwydd yr arian Ewropeaidd sydd wedi ei wario yn ardal Cymoedd y de. Wedi'r cyfan, os mai darparwr cyllid ydyw, yn hytrach na chyflawnwr y dibenion a fwriadwyd gan y cyllid, dim ond rhywfaint o’r bai all yr UE ei ysgwyddo os nad yw cyllid yn arwain at welliant sylweddol a mesuradwy. Neu, i’w roi mewn ffordd arall, wnaiff palmentydd newydd neu rodfa yng nghanol tref ddim darparu swyddi ynddynt eu hunain—yr hyn sy’n dod i’r dref ac o’i chwmpas sy'n cyfrif.

Yn olaf, hoffwn wybod beth fydd y tasglu hwn yn ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol gwael. Yn y blaid hon, rydym wedi gwthio am ysgolion bro â chysylltiadau cryf â theuluoedd a'r gymuned ehangach, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei haddewid maniffesto ei hun i dreialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, gan ddarparu gwasanaethau estynedig o 8 a.m. tan 6 p.m., gyda gofal plant, cymorth rhianta, dysgu teuluol a mynediad cymunedol i gyfleusterau wedi’u hadeiladu o amgylch y diwrnod ysgol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i gynnig o'r fath, ac rydym hefyd wedi addo troi ysgolion yn ganolfannau cymunedol fel y gallant fod yn agored ar benwythnosau, gallant fod yn agored i'r gymuned, yn hytrach na dim ond ar agor ar amseroedd ysgol, ac yna gallwn ymgysylltu ar sail ehangach o ran dileu tlodi yng Nghymru. Nid wyf yn anghytuno â sefydlu'r tasglu hwn, ond nid wyf am ychwaith iddo fod yn ddim mwy na darn arall o waith sy'n eistedd ar silff lyfrau yn rhywle ac yn cael ei anghofio; rwyf am i bobl yn ardaloedd y Cymoedd sy'n teimlo, yn aml, wedi’u difreinio a'u hymddieithrio ddod yn rhan o'r drafodaeth yn y dyfodol fel y gallwn wneud i ddatganoli weithio ar eu cyfer nhw ac fel y gallwn wneud i ddyfodol Cymru fod yn rhan o'u sgwrs nhw, nid dim ond ein sgwrs ni fel gwleidyddion.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei hymateb, ac rwy’n cytuno â llawer ohono. Rwy’n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch am ganlyniadau, yn hytrach na dim ond cyfrif yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rwy’n meddwl, yn llawer rhy aml yn y Llywodraeth, bod temtasiwn wedi bod i gyfrif yr holl gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, ac yna datgan bod hynny’n llwyddiant mawr oherwydd ein bod wedi gwneud llawer. Beth sy'n bwysig mewn gwirionedd yw effaith y camau gweithredu hynny ar y bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli. Yn sicr, rwy’n cytuno’n fawr iawn hefyd y byddai'n ddefnyddiol i lawer o'r canlyniadau hyn gael eu diffinio, os mynnwch chi, nid dim ond gan y Llywodraeth, ond gan eraill yn ogystal, sydd â golwg fwy annibynnol ar hyn.

Pan wyf yn edrych ar y materion hyn, rwy’n gwneud mwy nag edrych ar gyfres o ystadegau; rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi'r bywydau y mae pobl yn eu byw a'r effaith nad yw ein polisïau ni weithiau yn ei chael ar y bobl hynny, a'r angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, roeddwn yn glir iawn, iawn, rwy’n gobeithio, wrth wneud y datganiad hwn yr hoffem weld dileu tlodi yn sbardun allweddol i’r hyn yr ydym yn ei wneud, nid dim ond yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud wrth eistedd yma ym Mae Caerdydd, neu eistedd mewn gwahanol dasgluoedd neu bwyllgorau yn rhywle arall—ym Mharc Cathays, neu ble bynnag yr ydym yn digwydd bod—ond ein bod yn edrych ar yr holl gamau a gymerwn fel Llywodraeth, lle mae’r Llywodraeth yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd, a’n bod yn sefydlu dileu tlodi yng Nghymoedd y de fel sbardun i bolisi, ac mai dyna'r meincnod yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn ei wneud ar gyfer pob ymyriad polisi arall.

Y rheswm pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn ymuno â mi ar y tasglu hwn yw i ganolbwyntio ar y materion economaidd ehangach hynny ac ar sut y gallwn sicrhau bod gennym y cyfalaf dynol a’n bod yn buddsoddi yn ein cyfalaf dynol i sicrhau ein bod ni yn bodloni’r amcanion hynny. Byddaf yn sicr yn cynnwys fy nghydweithwyr o bob rhan arall o’r Llywodraeth, yn ôl y gofyn ac yn ôl yr angen, ac yn canfod yr arbenigedd sydd ei angen arnom o fannau eraill y tu allan i’r Llywodraeth. Ond, rwyf eisiau sicrhau nad yw'r tasglu hwn, yn eich geiriau chi, yn rhywbeth sy'n eistedd ar silffoedd, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ond ei fod yn dasglu sy'n dod â phobl at ei gilydd i gyflawni canlyniadau go iawn, ac mae gennym y cyfle yma i wneud hynny.

Nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno’n llwyr â chi yn y feirniadaeth a wnaethoch am y buddsoddiadau a wnaethpwyd gan y gwahanol raglenni Ewropeaidd. Rwy'n meddwl eu bod wedi cael effaith wirioneddol iawn, ac rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun y newidiadau sydd wedi'u gwneud, o adeiladu ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd i adnewyddu Glynebwy, os mynnwch, yn safle’r Gweithfeydd—y ​​buddsoddiad yn y rheilffordd, y buddsoddiad yn y coleg, a'r buddsoddiad mewn prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru, sy’n cael effaith wirioneddol iawn ar fywydau pobl. Yr hyn yr hoffwn i inni ei wneud yw canolbwyntio ar sylwedd ac nid dim ond PR, canolbwyntio ar wneud newidiadau go iawn, ac nid dim ond newidiadau cosmetig, a chanolbwyntio ar newid cyfleoedd bywyd i bobl. Mae hwnnw'n uchelgais gwahanol iawn, ac yn weledigaeth wahanol iawn, efallai, i’r hyn yr ydym wedi ei weld ar wahanol adegau yn y gorffennol.

Sonioch chi am y cynlluniau gwrthdlodi sydd eisoes yn bodoli, a byddwn yn dwyn y cynlluniau hynny ynghyd a byddwn yn adolygu sut y mae’r cynlluniau hynny’n gweithio heddiw a sut y byddant yn gweithio yn y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar rai o'r materion hynny, ac rwy’n disgwyl ymuno ag ef i adolygu sut y mae rhai o'r rhaglenni gwrthdlodi hynny’n gweithio.

Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn: roeddech yn sôn am sut yr ydym yn ymgysylltu fel gwleidyddion a Gweinidogion, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir i ganolbwyntio ar hynny ac ar ein methiant, weithiau, i gyfleu ein negeseuon. Roeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn cyn y toriad, fel y gallwn ddechrau ar y gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd. Nid wyf yn gweld hyn fel dim ond ymarfer ymgynghori, fel efallai yr ydym wedi ei wneud ar adegau eraill yn y gorffennol; rwy'n gweld hyn fel ymgais i ysgogi trafodaeth gyfoethog a manwl a gonest â phobl—y bobl yr ydym ill dau’n eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o Gymoedd y De. Rwy’n bwriadu gwrando'n astud ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, oherwydd pan fydd pobl yn siarad â ni—ac rydym ni i gyd wedi cael sgyrsiau ar gerrig drysau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf—mae llawer o bobl wedi siarad â mi am yr amgylchedd lle maent yn byw, boed yn sbwriel ar strydoedd Glynebwy neu’n chwyn yn tyfu yn strydoedd Tredegar, neu’n dipio anghyfreithlon uwchben Nantyglo. Ac mae'r rhain yn bethau sy'n bwysig i bobl; mae'n effeithio ar eu lle nhw, mae'n effeithio ar eu canfyddiad nhw o bwy ydynt ac maent yn bethau yr hoffem ymdrin â hwy. Felly, ie, byddwn yn ateb yr heriau mawr sy'n ein hwynebu, ond mae angen inni hefyd ymdrin â'r mannau lle’r ydym yn byw, a fyddwn i byth yn tanbrisio pwysigrwydd hynny i bobl, ble bynnag yr ydym yn digwydd byw yn y Cymoedd.

A gaf atgoffa’r Aelodau ein bod eisoes hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y sesiwn hon? Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai’r holl Aelodau ac, a dweud y gwir, y Gweinidog ei hun, yn gallu cadw eu cwestiynau a’u hatebion yn fyr i gael cymaint â phosibl o graffu eang ar y Llywodraeth. Diolch yn fawr. Mohammad Asghar.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae un o bob wyth o blant yng Nghymru’n byw mewn cartrefi di-waith hirdymor. Mae llawer o'r plant hyn yn byw yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Mae ymchwil yn dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith hirdymor yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod yn wynebu risg uwch o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant o deuluoedd mwy cefnog yn mwynhau gwell iechyd ac yn meddu ar sgiliau uwch na phlant o deuluoedd tlotach. Felly, mae unrhyw strategaeth i dorri cylch diweithdra, iechyd a lles gwael, tlodi a diffyg cyrhaeddiad addysgol yn rhywbeth i'w groesawu. O ystyried y ffocws ar hyrwyddo datblygiad economaidd ac adfywio, mae'n hanfodol bod y gymuned fusnes yn ymwneud yn llawn â'r tasglu hwn. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa drafodaeth y mae wedi'i chael â'r sector preifat am eu mewnbwn nhw i'r tasglu hwn?

Yn yr un modd, bydd cydweithio â’r trydydd sector, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn bwysig yn yr achos hwn. Pa weithdrefn ymgynghori fydd y tasglu’n ei mabwysiadu gyda'r grwpiau hyn?

Mae nodau'r tasglu hwn yn croesi sawl ffin weinidogol. Pa dargedau ydych chi’n bwriadu eu gosod, a sut y byddwch chi’n monitro cynnydd ar draws y Llywodraeth wrth gyrraedd y targedau hyn? Sut y bydd y tasglu’n cydlynu ei waith ar y cyd â strategaethau presennol fel yr agenda sgiliau yng Nghymru?

Yn olaf, Weinidog, rwy’n gwybod eich bod yn bwriadu cadeirio'r tasglu hwn. A gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i fabwysiadu cadeirydd annibynnol â phrofiad busnes o'r sector preifat i ddatblygu'r fenter hon? Soniasoch am gwpl o ardaloedd yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Dylai'r Gweinidog wybod fy mod yn teithio bron bob wythnos i’r Cymoedd hynny, ac nid dim ond o ran swyddi y mae’r ardaloedd hyn wedi’u hamddifadu, ond ers i’r glo a’r dur fynd—ac mae Llywodraethau Llafur parhaus wedi bod yn rhedeg y wlad hon. Felly, does dim byd wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae potensial mawr, Weinidog, os dechreuwch feddwl am rai trefi marchnad fel Tredegar, Glynebwy, Merthyr—roeddent yn ardaloedd a oedd yn ffynnu yn yr 1970au a'r 1980au, a, rhywsut, mae adeiladau adfeiliedig yno yn awr. Felly, a ydych wedi meddwl am y peth—a ellir, wyddoch chi, adfywio’r siopau hyn sydd wedi cau fel y gallant godi o’r newydd yn y rhan hon o'r byd gydag arian newydd a phobl newydd i fuddsoddi ynddo i wneud yn siŵr bod ein Cymoedd yn dod i'w gogoniant llawn, fel yr oeddent brin 30 neu 40 mlynedd yn ôl? Diolch.

Byddwn yn awgrymu’n ysgafn iawn i'r Aelod efallai y dylai ddarllen y datganiad cyn iddo ysgrifennu ei gyfraniad ato. Pe baech wedi darllen fy natganiad neu wedi gwrando arno, byddech wedi gwybod y byddwn yn ymgynghori â'r holl wahanol rannau o'r gymuned yr ydych wedi’u rhestru yn eich cwestiynau. A dewch imi ddweud hyn wrthych: mae'n eithaf digrif gweld unrhyw lefarydd y Ceidwadwyr yn dod yma i’r Siambr hon ac yn gwasgu eu dwylo ac yn crio eu dagrau ffug am y tlodi y maent wedi ei greu ar raddfa ddiwydiannol yn y cymunedau hyn.

Gadewch imi ddweud hyn wrth lefarydd y Ceidwadwyr: mae effaith diwygiadau lles ar gymunedau i fyny ac i lawr ac ar hyd a lled Cymoedd y de yn gwbl ryfeddol. Rwyf yn gweld, yn fy etholaeth fy hun, colled o tua £60 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a thlotaf yn y gymuned honno. Rydym yn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Gallwch ysgwyd eich pen, ond mae'n hollol wir ac rydym yn gweld effaith hynny. Rydym yn gweld yr effaith ar y teuluoedd hynny, ar y plant y buodd yn crio ei ddagrau ffug amdanynt, ac rydym hefyd yn gweld yr effaith, wedyn, ar fusnesau lleol a chymunedau lleol. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny heddiw, ac mae’r gwaith hwn wedi ei gynllunio i liniaru'r anawsterau a'r problemau, yr argyfwng a'r anhrefn a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

Gadewch imi ddweud hyn: byddwn, fel yr wyf wedi’i ddweud wrth ateb Bethan Jenkins, yn sefydlu targedau clir iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog sgiliau ar y tasglu, felly bydd hi’n ymgysylltu'n llawn â'r agenda hon. Ond, rwy'n meddwl, os yw’r Ceidwadwyr yn dymuno cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith sy'n cael ei wneud, mae angen iddynt ddechrau drwy gydnabod lle'r ydym heddiw a'r rhan y maent wedi’i chwarae o ran creu’r dirywiad economaidd sy'n effeithio ar bobl a chymunedau Cymoedd y de.

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn i'r Gweinidog, hoffwn nodi, a nodi bod y Siambr hon yn nodi bod yr ACau UKIP sydd wedi bod yn canmol eu cynrychiolaeth o’r Cymoedd drwy gydol etholiadau'r Cynulliad ac sydd wedi bod yn dweud wrth Lafur eu bod wedi colli cysylltiad â’r Cymoedd—

[Yn parhau.]—wedi gadael, a heb hyd yn oed drafferthu aros yn y Siambr hon am y drafodaeth am union ddyfodol y Cymoedd hynny y maent yn ceisio eu cynrychioli.

Ond, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Does dim amheuaeth y bydd y fenter ôl-Brexit yn awr yn bwysicach fyth i gymunedau Cymoedd y de, fel yr ydym wedi’i ddweud. Ac nid wyf yn mynd i sefyll yma ac ailadrodd popeth sydd wedi cael ei ddweud. Rwy’n cytuno â llawer o'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud ac, yn amlwg, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud. Mae cymaint i’w wneud; mae’n agenda enfawr ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr hyn y mae'n ei osod allan.

Felly, hoffwn ganolbwyntio ar ddim ond un maes penodol y credaf ei fod wedi’i danddefnyddio’n ddifrifol yn y Cymoedd, sef hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol. Rwy'n falch iawn, felly, bod hynny'n elfen allweddol o agenda’r tasglu. Yn aml, rydym ni’n meddwl bod Cymru'n dibynnu'n drwm ar ei harddwch naturiol pan ydym yn edrych ar ddatblygu twristiaeth, ac mae hynny’n sicr yn wir yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, sydd wedi’i bendithio ag ardaloedd o harddwch naturiol. Ond, wrth gwrs, mae'n eithriadol o gyfoethog o ran ei threftadaeth diwydiannol ac undebau llafur. Mae gennym, er enghraifft, y Tŷ Weindio, Canolfan Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa, Canolfan Treftadaeth Haearn Ynysfach, ac, fel y gwyddom, roedd Merthyr yn ganolog i ddiwygio gwleidyddol a datblygiad undebaeth lafur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, lle mae uchelgais y tasglu’n sôn am hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, y bydd hyn yn bendant yn cynnwys hanes ein diwydiant a’n hundebau llafur, a ddylai fod yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth, gan gydnabod bod hyrwyddo agweddau ar ein treftadaeth yn gallu chwarae rhan arwyddocaol o ran creu swyddi a chefnogi adfywio?

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ferthyr Tudful am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n meddwl y bydd pobl Cymoedd y de yn ffurfio eu barn eu hunain am yr Aelodau hynny sy’n ymddangos mewn ymgyrchoedd etholiadol yn addo’r ddaear ac yna pan fo’n amser gwneud y gwaith, yn diflannu i ffwrdd, boed ar wyliau neu mewn man arall, ond beth am adael i bobl eraill ffurfio barn—[Torri ar draws.] O, dyma nhw—mae’r teledu’n gweithio yn yr ystafell de, yn amlwg. [Chwerthin.]

Mae’r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn o ran twristiaeth. Mae fy mab bach wedi mwynhau ei daith ar y rheilffordd fynydd ym Merthyr ac mae'n bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni, weithiau, yn cydnabod popeth sydd gan y Cymoedd i'w gynnig. Rydym yn byw mewn rhan o'r byd sy'n hollol ysblennydd yn llygaid unrhyw un. Hefyd yn etholaeth fy ffrind, wrth gwrs, mae gennych y ganolfan beicio mynydd wych; rwy’n gyrru heibio iddi a bob amser yn cael fy nhemtio i fynd i mewn ar fy meic—fe wna’i hynny rywbryd yn ystod yr haf. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog dros y ffordd ym Mlaenafon lle mae’r Pwll Mawr yn adrodd hanes y chwyldro diwydiannol. Rwy’n meddwl, weithiau, nad ydym yn deall yn llawn nac yn cydnabod ein hunain mai Blaenau'r Cymoedd oedd y gymuned ddiwydiannol gyntaf yn y byd, ein bod ni wedi arwain datblygiad haearn a glo, a’n bod ni, drwy wneud hynny, wedi creu cymuned a diwylliant sy'n unigryw ac sy'n rhywbeth sydd, yn ogystal ag allforio prosesau economaidd a diwydiannol gwych i'r byd, hefyd wedi allforio diwylliant i'r byd yn ogystal. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn falch ohono ac mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w hyrwyddo, yn enwedig heddiw, wrth gwrs, a ninnau’n dathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn 68 oed. Pan ddywedodd Aneurin Bevan wrth y Senedd ei fod yn mynd i 'Dredegareiddio' y Deyrnas Unedig, yn sicr fe wnaeth hynny ac fe greodd rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono ac, ar yr ochr hon i'r Siambr, y byddwn bob amser yn ei feithrin a bob amser yn ei amddiffyn.

Rwy’n croesawu'r datganiad, ac rwy’n meddwl ei fod yn iawn, rwy’n meddwl, i gysylltu hyn â’r mynegiant o ddieithrio a risialodd i gynifer yn ein cymunedau yn y bleidlais 'gadael’. Tybed a yw hyn yn gyfle i ailfeddwl yn sylfaenol? Y patrwm a welsom, wrth gwrs, oedd llawer o bleidleisiau ‘aros’ mewn ardaloedd metropolitan, ac yn yr hen gymunedau glofaol ar draws Cymru a Lloegr, cafwyd pleidlais yn erbyn—cymunedau sy’n teimlo nad ydynt, efallai, wedi cael eu cysylltu â’r ffyniant trefol. Nid diferu i lawr, efallai, yw’r model sydd wedi bod ond diferu i fyny—crynodi ffyniant yn y dinasoedd, a rywsut byddai angen inni geisio ei gysylltu â'r Cymoedd. A oes angen model newydd arnom yn awr o ddatblygu economaidd? Ac, yn ogystal â'r tasglu, a allem mewn gwirionedd greu strwythur mwy hirdymor, gan edrych ar gorfforaeth datblygu ar gyfer y Cymoedd? Wyddoch chi, mae strategaethau’n wych, ond heb strwythurau, ni allwch gael darpariaeth hirdymor.

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau y mae Adam Price wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n meddwl bod hwn yn gyfle i ailfeddwl rhai o'r dulliau hynny. Gwnaeth yr astudiaeth lleoliad dwfn ar Dredegar, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, argraff fawr arnaf. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar yr ymagwedd gyfannol honno tuag at ddatblygu economaidd ochr yn ochr â’r amgylchedd, ochr yn ochr â pholisi cymdeithasol ac ochr yn ochr â pholisi ynni a chymunedau hefyd. Nid wyf yn credu ein bod ni, drwy greu gwaith yma yng Nghaerdydd, yn datrys y problemau diweithdra ym Merthyr Tudful neu yng Nglyn-nedd. Felly, mae angen inni edrych yn ofalus ar sut yr ydym yn gwneud hynny. Rwy’n croesawu'n fawr unrhyw gyfraniad y byddai'r Aelod yn dymuno ei wneud at y gwaith hwnnw. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi’n llwyr gan y syniad o gorfforaeth datblygu, rwy’n cydnabod na fydd strwythurau a chynlluniau a gobeithion duwiol yn cael eu gwireddu heb benderfyniad a heb ffordd o gyflawni’r weledigaeth honno. Byddwn yn rhoi croeso mawr iawn i unrhyw sgwrs ar draws y Siambr ynghylch sut y gellid cyflawni hynny.

Rwy’n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni’n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i’r Cymoedd.

Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na’r metro fel y mae’n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i gael cysylltedd go iawn, rhaid iddo fod yn metro plws. Rhaid iddo fod yn bethau sy’n ymwneud â chysylltu’r cymunedau hynny na fydd byth ar gledrau ysgafn na chledrau trwm hen ffasiwn. Y bysiau cyflym iawn sy’n cysylltu cymunedau—nid dim ond i fyny ac i lawr, ond ar hyd a lled cymunedau; y tocynnau cyffredinol; a fforddiadwyedd yn ogystal.

Hoffwn hefyd ddweud bod angen inni ailfeddwl, i godi ar y syniad a gynigiwyd gan Adam Price yno, sut yr ydym nid yn unig yn cysylltu pobl fel y gallant deithio allan o'r Cymoedd, ond dod i mewn i'r Cymoedd, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn busnesau bach a microfusnesau sydd wedi’u gwreiddio yn y Cymoedd hynny ac yna sut yr ydym yn rhoi’r buddsoddiad hirdymor hwnnw i’w tyfu a’u tyfu a’u tyfu nhw â gwreiddiau dwfn yn y Cymoedd hynny. Ers rhy hir, rydym wedi bod yn dweud wrth ein pobl ifanc, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, mae angen i chi symud allan.' Dewch inni wyrdroi hynny a dweud, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, gallwch aros yma a chael dyfodol ffyniannus.' Ond mae fy nghwestiwn i'r Gweinidog mor syml â hyn: a wnaiff yn siŵr, wrth wneud hynny, nad yw'n taflu'r babi allan gyda'r dŵr, gyda phethau fel Dechrau'n Deg, cynlluniau prentisiaeth—ond sut yr ydym yn mynd i gynnal y cyllid ar gyfer y rhain yn awr ar ôl ein penderfyniad yn y dyddiau diwethaf, nid wyf yn gwybod—gyda phethau fel y cysyniad Sony yno, yn dod ag ysgolion a phobl ifanc i mewn i'w dysgu am y diwydiannau digidol, wedi’i sbarduno gan y sector preifat i lawr ym Mhencoed—sut ydym ni’n adeiladu ar y mathau hynny o bethau, ac a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yn fy ardaloedd i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf?

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ie', 'ie' ac 'ie'. Rwy’n cytuno’n llwyr bod angen peidio â thaflu babanod allan gyda’r dŵr; mae hyn yn fater o adeiladu ar seiliau cadarn. Mae'r buddsoddiadau Dechrau'n Deg yr ydym wedi’u gwneud yn rhan allweddol o hynny. Rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith y mae Sony wedi'i wneud ym Mhen-coed ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n fodel gwych i’r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y dyfodol. Un o seiliau athronyddol allweddol yr astudiaeth lleoliad ddwfn oedd y buddsoddiad mewn busnesau bach, busnesau lleol, yr economi leol ac nid dim ond dibynnu ar rai buddsoddiadau mawr yn unig, er ein bod yn cydnabod y gwaith y gall hynny ei gyflawni.

O ran y pwyntiau cyffredinol a wnewch am gludiant a'r metro, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’r Cymoedd wedi mynd o'r gogledd i'r de erioed, ac mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn mynd o’r dwyrain i'r gorllewin hefyd a bod pobl yn gallu cael gwaith, cyfleoedd cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ble bynnag y maent yn digwydd byw, ac mae hynny'n golygu cael system drafnidiaeth gadarn nad yw’n ddibynnol ar reilffyrdd yn unig, ond sy’n dibynnu ar y gydberthynas rhwng rheilffyrdd a bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar yr holl gyfleoedd a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Rwy’n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i’w ateb. David Melding.

Diolch, Lywydd dros dro. Roeddwn yn cytuno’n gryf iawn â’ch pwyslais ar anweithgarwch economaidd gan fod hyn, yn anffodus, yn un o'r prif sbardunau i’n GYC cymharol isel ac, yn wir, y ffaith bod ein GYC wedi disgyn yn yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau’r ddwy blaid o ran pwy sydd wedi bod mewn grym yn San Steffan. Nid yw anweithgarwch economaidd yr un peth â diweithdra. Yn amlwg, maent yn aml yn gorgyffwrdd ond dydyn nhw ddim yr un pethau. Rydym wedi cael problem go iawn gyda phobl yn gadael y farchnad lafur yn llwyr yn ein hardaloedd tlotaf ac rwy’n meddwl bod angen inni ganolbwyntio ar hyn. Yn ail, mae llawer iawn o wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu defnyddio mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu gwneud i bobl ac nid ydynt yn cynnwys pobl yn llawn, hyd yn oed o ran cyflogaeth. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar faint o ddarpariaeth leol sy’n cynnwys pobl leol. Yn olaf, rwy’n meddwl bod angen i ddinasyddion yn yr ardaloedd hyn allu ail-lunio rhai o'u polisïau cyhoeddus. Yn amlwg, mae'r craidd y mae angen ei gyflwyno’n annhebygol o newid mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ond gall fod anghenion a dewisiadau penodol a dylem wrando arnynt. Efallai nad ydynt yr un rhai â’n rhai ni; efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau gwahanol.

Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae’n eu gwneud. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi’i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o ganlyniad i ddiweithdra yn unig, ond rhesymau eraill, hefyd, ac mae angen inni edrych ar y rhesymau hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar achlysuroli, os mynnwch chi, yr economi, lle nad oes swyddi parhaol llawn amser o safon uchel ar gael i bobl, ac mae’n rhaid iddynt weithio ar gontractau dim oriau, gweithio ar gontractau â llai o oriau, gweithio gwaith rhan-amser a methu mewn gwirionedd â chynnal y teulu yn y ffordd y byddent yn dymuno ei wneud. Felly, mae nifer o heriau gwahanol yno o ran yr agenda ehangach, ac rwy’n sicr yn cytuno â David Melding bod angen inni allu gwneud hynny.

Roeddwn yn hapus iawn â gwaith TUC Cymru yn nhermau Gwell Swyddi, Agosach at Adref o ran edrych ar greu gwaith o fewn cymunedau'r Cymoedd, a sut y gall caffael cyhoeddus helpu gyda hynny. Rwy'n meddwl bod hynny'n bwynt sydd wedi'i wneud gan Blaid Cymru yn y gorffennol yn ogystal. Mae'n sicr yn fater y credaf y dylai'r Llywodraeth roi cryn bwyslais iddo.

Yn olaf, dim ond i brofi amynedd y Llywydd, mae’r mater ynghylch gwrando ar bobl yn gwbl hanfodol. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn heddiw, cyn y toriad, er mwyn imi allu treulio rhywfaint o amser yn ystod yr haf yn gwrando ar bobl, oherwydd yn aml iawn mae’r hyn yr ydym yn ei glywed ar gerrig drysau yn wahanol i’r hyn yr ydym yn ei glywed ac yn ei ddarllen gan newyddiadurwyr a gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod yn gwybod orau. Rwy'n meddwl ei bod yn ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud mwy na dim ond gwrando, ond mynd ati i geisio gwrando a chlywed beth sy'n cael ei ddweud wrthym, ac nid dim ond gwneud hynny fel ymarfer ticio blwch.

Byddaf yn gryno. Diolch. Mae cymunedau'r Cymoedd yn wir wedi ysgwyddo baich effaith y dirwasgiadau Torïaidd a'r dirywiadau economaidd Torïaidd, heb os nac oni bai. Mae toriadau lles llym eisoes wedi eu trafod. Yn fy nghymuned, mae’r gweithredoedd anfoesol yn gysylltiedig â’r dreth ystafell wely wedi achosi anfantais enfawr ac eang. O ran torri’n syth at gwestiwn—diolch, Lywydd dros dro—mae canolfannau twristiaeth o fewn agenda cysylltedd y dinas-ranbarth yn gwbl hanfodol o ran rhyddhau potensial ein tirweddau hardd yng nghymunedau'r Cymoedd, felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi o ran pa mor bwysig yw hi, er enghraifft, bod taith olygfaol Cwmcarn yn fy etholaeth i yn cael ei hadfywio mewn gwirionedd a’i hadfer fel gwir weledigaeth o'r hyn y gallwn ei wneud gyda chymunedau’r Cymoedd, a’r hyn y gallwn ei wneud o ran adfywio cymunedau ein Cymoedd?

Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i’r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy’n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a’i defnyddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro.

8. 7. Datganiad: Atebion Digartrefedd a Thai
9. 8. Datganiad: Bygythiadau o ran Clefydau Anifeiliaid Egsotig, y Tafod Glas a Chynllunio Wrth Gefn

Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth gefn, a diolchaf iddi am ei hamynedd wrth aros i gael ei galw.

Diolch, Gadeirydd.

Mae achosion o glefydau anifeiliaid yn ddinistriol i bawb dan sylw, a gallant gael canlyniadau eang a chostus ar gyfer anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Mae sicrhau sefyllfa o barodrwydd ar gyfer ymlediad clefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, felly, yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am amheuaeth o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, megis clwy'r traed a'r genau neu’r tafod glas, o dan delerau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, er mwyn gallu ymchwilio i'r mater. Cafwyd 137 o adroddiadau o'r fath rhwng mis Ebrill 2015 a 20 Mehefin eleni.

Os bydd achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yn digwydd, nid yw’r costau sylweddol i'r Llywodraeth wedi eu cyllidebu ac maent yn cael eu hystyried fel rhwymedigaeth wrth gefn. Mae’r cyfrifoldeb polisi dros iechyd a lles anifeiliaid wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru er 2005; fodd bynnag, dim ond yn 2011 y cafodd y cyllidebau cysylltiedig eu datganoli. Byddai’r potensial ar gyfer costau trwm, heb eu cyllidebu, ar gyfer ymdrin ag achos o’r clefyd yn rhoi pwysau annisgwyl ar raglenni a gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y mae, felly, yn hanfodol bod gweithgareddau gwyliadwriaeth a gwaith cynllunio wrth gefn yn cael eu gwneud gyda'r nod o atal, canfod, rheoli a dileu clefydau yn gyflym er mwyn lleihau'r effaith ar y diwydiant da byw, y gymuned wledig a'r economi ehangach.

Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn darparu'r systemau a'r strwythurau angenrheidiol i reoli a dileu achosion o glefydau anifeiliaid. Roedd Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau wrth gefn gael eu llunio ar gyfer clwy'r traed a'r genau, clefyd Newcastle a ffliw adar, y dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae cynlluniau wrth gefn cadarn wedi bod ar waith gan Lywodraeth Cymru er 2003, ac maent yn cael eu profi'n rheolaidd mewn ymarferion a digwyddiadau clefydau. Mae 'Cynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Egsotig Anifeiliaid' yn nodi'r gweithdrefnau, y prosesau a’r strwythurau a fyddai'n cael eu defnyddio mewn achos o glefyd. Adolygir y cynllun yn flynyddol a chaiff ei ailgyhoeddi yn ôl yr angen. Mae wedi ei adolygu'n ddiweddar a chafodd ei ailgyhoeddi fis diwethaf. Mae adolygiadau o'r fath yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ymarferion yn y DU ac yn lleol, yn ogystal â digwyddiadau amser-real. Defnyddiwyd cynlluniau wrth gefn ddiwethaf ar gyfer achosion o ffliw adar yn Lloegr a'r Alban yng nghanol 2015 ac yn gynnar yn 2016. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnal cynlluniau wrth gefn ac, yn ogystal, roedd yr ‘United Kingdom Contingency Plan for Exotic Notifiable Diseases of Animals’ yn darparu trosolwg strategol o'r strwythurau a'r systemau angenrheidiol i ymdrin ag achosion o glefyd yn y DU, gan ddangos sut y byddai'r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd mewn achosion o glefyd.

Mae canfod clefyd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. Trwy waith cynllunio hirdymor a thrwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig o ddatblygu ein cynlluniau wrth gefn, gallwn helpu i greu'r Gymru iach, gydnerth a llewyrchus yr ydym yn ceisio ei chyflawni gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhelir gwaith gwyliadwriaeth ar sail Cymru a Lloegr gan APHA, ynghyd â chynghorwyr milfeddygol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn sganio'r sefyllfa fyd-eang o ran clefydau anifeiliaid i nodi unrhyw risgiau i'r DU. Mae gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU ddeddfwriaeth a strategaethau rheoli clefydau penodol ar gyfer ymdrin â chlefydau megis y tafod glas, y gynddaredd, Clwy'r Traed a'r Genau, clwy clasurol y moch a chlefydau ceffylau.

Mae’r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy a all effeithio ar rywogaethau anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg, ceirw, geifr a chamelidau. Mae 26 math o feirws y tafod glas ac nid oes ganddo unrhyw oblygiadau ar gyfer iechyd pobl ac nid yw'n effeithio ar gig na chynhyrchion anifeiliaid eraill. Caiff feirws y Tafod Glas ei ledaenu’n bennaf gan wybed sy’n oedolion ac sydd wedi eu heintio yn brathu anifail sy’n agored i’r clefyd. Cyrhaeddodd y straen BTV8 y DU am y tro cyntaf yn ystod 2007 o dir mawr Ewrop, ac ni chafodd y DU ei datgan yn rhydd o’r clefyd tan 2011.

Mae BTV8 yn cylchredeg yn Ffrainc ar hyn o bryd gyda dros 288 o achosion wedi’u hadrodd erbyn 1 Gorffennaf. Mae Ffrainc yn parhau i gadarnhau achosion, a nodir yn bennaf o ganlyniad i waith gwyliadwriaeth. Yr agwedd allweddol ar y bygythiad i'r DU yw lleoliad yr achosion, sydd ar hyn o bryd yn rhanbarthau'r canolbarth a’r de-orllewin. Os bydd y sefyllfa'n newid ac achosion yn cael eu cadarnhau ymhellach i'r gogledd, yn nes at arfordir Lloegr, yna byddai'r risg i'r DU yn cynyddu yn unol â hynny.

Mae dwy ffordd allweddol y gallai BTV8 gyrraedd y DU: trwy wybed wedi’u heintio neu drwy fewnforio da byw wedi’u heintio. Ystyriodd asesiad risg ansoddol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, ymlediad tebygol BTV8 i'r DU. O gofio'r rheolaethau symud a mewnforio cryf, roedd y risg y byddai anifeiliaid byw wedi’u heintio yn cyflwyno'r clefyd i'r DU yn cael ei ystyried fel bod yn isel. Y farn yw mai gwybed wedi’u heintio fyddai’r llwybr mwyaf tebygol ac ystyriwyd bod y risg o ymlediad i'r DU yn 33 i 60 y cant ym mis Gorffennaf ac yn 60 i 80 y cant ym mis Medi.

Mae Ffrainc wedi cymhwyso'r cyfyngiadau sy'n ofynnol gan reolau’r UE. Mae anifeiliaid mewn parth cyfyngu wedi'u gwahardd rhag gadael, oni bai bod tystysgrif iechyd milfeddygol yn bodoli sy'n cadarnhau eu bod wedi’u brechu yn erbyn BTV neu fod ganddynt imiwnedd naturiol. Mae anifeiliaid a fewnforir i'r DU o barth cyfyngu yn cael eu cyfyngu yn y daliad pen y daith tan fod profion ar ôl mewnforio am arwyddion o glefyd wedi eu cynnal. Mae APHA hefyd yn cynnal profion ar ôl mewnforio yn seiliedig ar risg ar anifeiliaid a fewnforir o ardaloedd sy’n rhydd o’r clefyd yn Ffrainc.

Mae’r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant da byw a’r proffesiwn milfeddygol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei hysbysu'n ddibynadwy. Mae'r sefyllfa yn Ffrainc yn cael ei monitro'n agos ac mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r risgiau a'r mesurau lliniaru pe byddai BTV8 yn cyrraedd y DU. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi lansio ymgyrch ar gyfer y diwydiant—gweithredu ar y cyd yn erbyn y tafod glas, neu JAB—i hysbysu a chefnogi'r diwydiant da byw drwy godi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid. Mae trafodaethau â gweithgynhyrchwyr brechlynnau yn nodi eu bod yn bwriadu sicrhau bod cyflenwadau o frechlyn BTV8 ar gael dros yr haf.

Cyn unrhyw achos neu ddigwyddiad, bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl asiantaethau a’r partneriaid perthnasol yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol ynghylch y risg. Ein negeseuon allweddol yw: bod gweithdrefnau gwyliadwraeth clefydau cadarn wedi’u sefydlu; dylai pobl sy’n cadw da byw ystyried, ynghyd â'u milfeddyg, y modd gorau o ddiogelu eu hanifeiliaid, gan gynnwys a yw brechu yn ddewis a fyddai'n llesol i'w busnes; dylai ffermwyr sy'n mewnforio neu’n symud rhywogaeth a allai fod yn agored i glefydau ystyried yn ofalus y risgiau a statws iechyd anifeiliaid wrth ddod o hyd i stoc, yn enwedig o dir mawr Ewrop; mae ffermwyr yn cael eu hannog yn gryf i fod yn wyliadwrus, i fonitro eu stoc yn ofalus ac i roi gwybod am unrhyw arwyddion o glefyd.

Mae'r risg o ymlediad y tafod glas yn anodd ei ragweld gan ei fod yn ddibynnol iawn ar lefel y clefyd ar y cyfandir, pa mor agos ydyw i’r DU a'r tywydd. Rwyf felly yn hyderus bod gennym y strwythurau ar waith a fydd yn ein galluogi i gymryd camau cyflym a phendant mewn achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid gweithredol i fonitro'r sefyllfa bresennol a lleihau cymaint â phosib ar y risg hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw. Mae’n briodol, mae’n siŵr, ei bod hi’n gosod allan cyn yr haf rai o’r camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i ymwneud â’r clefydau egsotig yma. Maen nhw’n cael eu galw’n egsotig, ond nid ydynt mor egsotig bellach, wrth gwrs. Gyda newid hinsawdd, rydym eisoes wedi gweld nifer o enghreifftiau o dafod glas yng Nghymru, a rhai o’r clefydau eraill hefyd, naill ai’n cael eu mewnforio neu’n cael eu lledaenu gan wybed.

Felly, ymhellach i’r datganiad, a yw’r Gweinidog yn gallu ateb pa ystyriaeth sydd wedi cael ei rhoi i ymgyrch frechu yn erbyn y tafod glas yn benodol, gan fod newid hinsawdd yn gyrru’r clefyd yma lawer yn nes drwy’r haf i Gymru? Rwy’n deall bod yna frechiad effeithiol iawn i gael a, fel y dywedwyd yn y datganiad, fod yna ystyriaeth gan undebau’r ffermwyr i ledaenu gwybodaeth am y brechiad hwn, ond a oes angen mynd gam ymhellach i geisio annog mwy o frechu gan ffermwyr? A yw’r Llywodraeth wedi modelu o gwbl cost brechu yn erbyn cost y clefyd yma yn digwydd yng Nghymru—yn erbyn, wrth gwrs, yr effaith wedyn ar y diwydiant drwy bris cynnyrch yn cwympo os oes sôn am glefyd o’r fath, achos dyna beth sy’n dueddol o ddigwydd os oes clefyd yn torri mas?

Yr ail gwestiwn sydd yn codi yn sgil y datganiad yw’r un ynglŷn â gallu a chapasiti y diwydiant milfeddygol i ddelio â hwn. Fe soniodd y Gweinidog yn y datganiad am yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Wrth gwrs, ers y toriadau yn y labordai yn yr asiantaeth honno, mae yna ‘stopgap measures’, byddwn i’n dadlau, wedi cael eu dodi yn eu lle gyda rhai cwmnïau a milfeddygon preifat yn ceisio llanw’r bwlch, gyda’r Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig hefyd yn rhybuddio bod modd colli’r rhybuddion oherwydd colli’r labordai. Felly, beth yw’r trafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda’r proffesiwn milfeddygol ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o rybudd a digon o lefydd i brofi ar gyfer clefyd y tafod glas a’r clefydau eraill sy’n cael eu crybwyll yn y datganiad?

Y pwynt olaf sy’n codi yn sgil hynny, wrth gwrs, yw: pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael yn awr gyda’r proffesiwn ehangach ynglŷn â’r ffaith bod tua hanner o’r milfeddygon yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn y Deyrnas Gyfunol wedi’u hyfforddi yn yr Undeb Ewropeaidd—mewn llefydd eraill? Wrth gwrs, fe wnaf i sôn fan hyn, a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn, am y ffaith nad oes gennym ni ysgol filfeddygol yng Nghymru. Roedd yna gynlluniau cyffrous gan Brifysgol Aberystwyth i geisio llanw peth o’r bwlch, os nad y bwlch yn llawn, yn syth, ond tra ein bod ni’n aros am gefnogaeth i wireddu’r freuddwyd yna, rŷm ni’n ddibynnol ar filfeddygon sydd wedi’u hyfforddi yn y gwledydd Ewropeaidd eraill ac sydd yn rhoi perfformiad a chyfraniad gwerth chweil, felly, i ni yma yng Nghymru. Roeddech chi, Ysgrifennydd, fel minnau, yng nghinio’r British Veterinary Association yn ddiweddar iawn, ac mae’n siŵr bod hwn wedi codi gyda nhw—pa mor bwysig yw’r milfeddygon yma a pha mor bwysig yw hi, felly, ein bod ni, fel yr ydym wedi gwneud sawl gwaith heddiw, yn cadarnhau nid yn unig bod croeso i filfeddygon yr Undeb Ewropeaidd, ond ein bod ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth gadw ein hanifeiliaid ni yn iach ac wrth ein helpu i fynd i’r afael â chlefydau fel y clefydau egsotig yma.

Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i’r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy’n meddwl bod y math hwnnw o waith wedi ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, ond, yn amlwg, wrth i ni fynd drwy'r haf, mae’r brechiad hwnnw yn dal i fod yn berthnasol pe byddai ffermwyr eisiau gwneud hynny.

Soniais y byddai brechiadau yn cael eu rhoi ar gael gan wneuthurwyr, ac, mewn gwirionedd, mae dau wneuthurwr brechlyn wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod eu brechiadau ar gael o'r mis hwn ymlaen, felly mae honno’n drafodaeth y mae'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr yn ei chael.

O ran capasiti, rwy’n credu gan fod gennym gymaint mwy o filfeddygon yn mynd allan i ffermydd i gynnal profion ar gyfer TB, er enghraifft, erbyn hyn, rwy’n credu pan fo’r milfeddygon hyn yn mynd ar y fferm, maent yn gwneud gwaith ychwanegol, os mynnwch chi, oherwydd maent yn ymgysylltu â ffermwyr ac yn sôn am fioddiogelwch a’r hyn y gall ffermwyr ei wneud i amddiffyn yn erbyn clefydau. Felly, rwy'n hapus iawn â'r capasiti sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy’n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â milfeddygon sydd gennym o'r UE, ac, fel y dywedwch, rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn ac yn sicr mae croeso mawr iddynt yng Nghymru.

Roeddwn i’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad ynghylch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau sy'n cael eu rhoi ar waith yno—nid ysgol filfeddygol gyflawn, ond rwy’n meddwl ei fod yn gam cyntaf pwysig y gallwn adeiladu arno.

A gaf i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad pwysig y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r un pwysigrwydd i fynd i'r afael â chlefyd arall, sef, wrth gwrs, TB buchol, a chyflwyno datganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn cyn yr hydref, o gofio ei fod yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein diwydiant ffermio?

Nawr, mae bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid yn faterion hynod o anodd y mae angen eu trin yn effeithiol ac yn effeithlon, ac mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i ymateb i unrhyw achosion, yn enwedig o ran y bygythiad o feirws y tafod glas, y mae’r rhan fwyaf o'i datganiad yn cyfeirio ato heddiw. Rwy’n sylweddoli bod y gwaith cynllunio wrth gefn wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae'n destun pryder i weld yr adroddwyd am bron i 300 o achosion o feirws y tafod glas yn Ffrainc ers mis Gorffennaf, a bod y tebygolrwydd y bydd y feirws yn lledaenu i'r DU yn cynyddu. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau wrth gefn yn cael eu cydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU er mwyn sicrhau nad yw gwahanol bolisïau yn llesteirio ei gilydd neu hyd yn oed yn gwaethygu’r problemau. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU ac, mewn gwirionedd, Llywodraethau eraill ynghylch bygythiad feirws y tafod glas i sicrhau bod bygythiadau clefydau anifeiliaid yn cael eu trin mewn modd cydgysylltiedig ledled Prydain gyfan.

Rwy’n sylweddoli nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol dros fewnforion i Gymru, a bod cyfeiriad polisi ar gyfer rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, er hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y gwaith o fonitro mewnforion anifeiliaid a chynnyrch, ac yn fwy penodol o ran y broses o gynnal profion ar ôl mewnforio, y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei datganiad y prynhawn yma. Hefyd, er fy mod i’n falch bod trafodaethau â'r diwydiant cynhyrchu brechlynnau wedi eu cynnal, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am ryddhau brechlyn posibl ar gyfer feirws y tafod glas. Soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ddadansoddiad cost posibl brechu, ond efallai y gallai hi roi syniad i ni o gostau posibl brechu.

Wrth gwrs, pe byddai unrhyw achos o glefyd, gallwn ddisgwyl gweld y cyfyngiadau ar waith ac mae hynny ynddo'i hun yn codi rhai cwestiynau difrifol. Rwyf i’n sylweddoli bod cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn rhan o strategaeth ehangach ynghylch lles anifeiliaid, ac felly rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym yn ei hymateb sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu lles anifeiliaid yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau symud yn ystod achosion brys. Mae hefyd yn bwysig bod deialog gyson ag awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredol lleol, megis heddluoedd. Mae'r partneriaid lleol hyn yn y rheng flaen wrth ymdrin â bygythiadau clefydau anifeiliaid ac ymateb y cyhoedd iddynt, ac mae'n bwysig bod cyfathrebu yn digwydd yn effeithiol i'r rhai ar lefel rheoli gweithredol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r heddlu i sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau amser real cyson ynglŷn ag unrhyw fygythiadau clefydau anifeiliaid. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa fath o waith maes lleol sy’n cael ei wneud ar lefel leol, sut y caiff y wybodaeth honno ei chasglu a'i monitro, a sut mae’r gwaith hwnnw yn cyfrannu at strategaethau ar gyfer bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid ar lefel y DU.

Rwy’n croesawu’r ffaith fod y cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ailgyhoeddi yn ôl yr angen, gan ei bod yn bwysig bod cynlluniau o'r math hwn yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn bod mor effeithiol â phosibl. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a bod cynlluniau wrth gefn cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer achosion o glefyd egsotig anifeiliaid. Nid wyf yn amau ​ymrwymiad a didwylledd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ond mae bob amser mwy y gellir ei wneud, ac felly rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolchaf i Paul Davies am ei gyfres o gwestiynau. Dim ond i gyfeirio at eich pwynt cyntaf ynghylch y rhaglen dileu TB, rwyf wedi ymrwymo i ddod â datganiad gerbron yn yr hydref ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn parhau i fod â dull gwyddonol ac, yn ystod yr haf, bydd cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen yn gysylltiedig â'n rhaglen.

Defnyddiais enghraifft y tafod glas i ddangos bod gennym gynlluniau cadarn iawn ar waith ar gyfer ymdrin â’r clefydau hyn. Soniasoch am y cynnydd yn nifer yr achosion yn Ffrainc, a dyna pam yr ydym yn monitro hynny yn ofalus iawn. Mae'r prif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad cyson â’r swyddogion milfeddygol eraill yn y DU; mae hi'n cael adroddiad bob mis ynglŷn â’r clefydau hyn. Yn amlwg, os oes ymlediad o wybed wedi’u heintio o Ffrainc, bydd y ffermydd hynny sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o fod ar hyd arfordir y de a de-ddwyrain Lloegr ar ddechrau achos o glefyd, ond ein neges yw na ddylai ffermwyr mewn rhannau eraill o'r wlad fod yn hunanfodlon, dylent barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o afiechyd, ac ystyried yn ofalus y risg o gael anifeiliaid o'r tu allan i'r DU.

Gofynasoch am ddadansoddiad cost, fel y gwnaeth Simon Thomas, mae'n ddrwg gennyf, a wnes i ddim ateb hynny. Yr hyn y gwnes i sôn amdano oedd y dylai brechu gael ei wneud ar ddechrau'r flwyddyn cyn bod y tywydd yn gynnes iawn, ac nid wyf yn ymwybodol o ba un a wnaethpwyd y dadansoddiad cost ar ddechrau'r flwyddyn, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y ddau Aelod i egluro'r pwyntiau hynny.

O ran cynlluniau wrth gefn, mae'n hynod bwysig bod gennym y cynlluniau cadarn hynny ar waith, ac rwyf wedi cael fy arwain trwy’r trefniadau wrth gefn, os mynnwch chi, ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai gennym achosion o glefyd gyda'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cynnwys rhanddeiliaid megis awdurdodau lleol a'r heddlu, ac ati, a, wyddoch chi, efallai Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn dibynnu ar ba fath o achosion sydd gennym, oherwydd yn amlwg gallant ddarparu cymorth i ni.

Rwy’n dawel iawn fy meddwl bod yr holl fforymau wedi’u sefydlu—mae’r cydnerthedd, y cynlluniau wrth gefn sifil yno, wedi’u sefydlu, pe byddem yn cael achos o'r fath. Cefais fy nghalonogi’n fawr pan edrychais ar y rhestr o glefydau hysbysadwy pan ddes i i mewn i’r swydd, bod sawl blwyddyn ers i ni gael rhai o'r clefydau penodol yng Nghymru. Drwy’r cynnydd mewn cymorth â bioddiogelwch gyda'n ffermwyr, rydym yn sicr yn gobeithio sicrhau y bydd hynny’n parhau i fod yn wir.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Rwy'n credu bod yr egwyddor o reoli afiechydon heintus—ac mae hyn yn berthnasol i bob clefyd a dyma'r neges yr ydym yn ei roi i'n pobl sy’n cadw da byw a ffermwyr—yw eich bod yn cadw haint allan, yn ei ganfod yn gyflym, yn ei atal rhag lledaenu, ac, os oes gennych glefyd, eich bod yn cael gwared arno, a dyna yn sicr y neges y byddwn ni’n bwrw ymlaen â hi ar bob un o'r clefydau hyn a’n cynlluniau wrth gefn.

10. 9. Datganiad: Cymorth Cyflogadwyedd yng Nghymru

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro; mae’n braf eich gweld chi yn y gadair. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros dymor diwethaf y Cynulliad. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016, roedd y gyfradd gyflogaeth yn agos i ffigur uwch nag erioed o’r blaen o 71.9 y cant, ac yn llawer uwch na’r gyfradd o 65 i 67 y cant a welwyd yng nghanol a diwedd y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au. I roi hyn mewn cyd-destun, erbyn hyn mae bron i 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Mae'r llwyddiant hwn yn barhâd o duedd tymor hwy. Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 18.7 y cant ers datganoli, o'i gymharu â chynnydd o 16.5 y cant ar gyfer y DU yn ystod yr un cyfnod. Mae hynny'n 227,000 o bobl ychwanegol mewn gwaith yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad.

Er bod polisi cyflogaeth yn parhau i fod yn faes nad yw wedi ei ddatganoli, ni ddylid diystyru cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r perfformiad anghymesur o gryf hwn drwy ein rhaglenni sgiliau a chyflogaeth a’n buddsoddiad yn yr economi . Dros dymor diwethaf y Cynulliad, rydym wedi cyflwyno'n llwyddiannus nifer o raglenni arloesol a oedd yn ymateb i heriau'r hinsawdd economaidd y gwnaethom ganfod ein hunain ynddo. Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru yn un enghraifft. Cafodd ei lansio ym mis Ebrill 2012, gan ymateb yn gyflym i bwysau eithriadol y dirwasgiad a welodd bron i chwarter y bobl ifanc rhwng 16 a 24 yng Nghymru yn ddi-waith. Roedd y rhaglen yn ceisio cynnig troed yn y drws gyda chyflogwr i bobl ifanc nad oedd ganddynt fawr o brofiad, neu ddim profiad, o weithio, a'r cyfle i ennill chwe mis o brofiad o waith go iawn gyda’r disgwyliad y byddent yn cael eu cadw ar ôl i’r gefnogaeth gan Twf Swyddi Cymru ddod i ben. Mae un mil ar bymtheg, a thri chant o bobl ifanc yng Nghymru wedi cymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru ers 2012. Ar gyfer Twf Swyddi Cymru, gwnaeth 75 y cant o'r bobl ifanc yn llinyn sector preifat y rhaglen, a gwblhaodd gyfle chwe mis, naill ai gadw eu swyddi neu ddilyn rhagor o addysg. Nid wyf yn gwybod am unrhyw raglenni tebyg eraill sy'n gallu brolio ffigurau o'r fath.

Ers cychwyn y rhaglen ReAct II ym mis Hydref 2008, mae dros 28,000 o weithwyr y tarfwyd ar eu gyrfaoedd gan ddiswyddiad wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i ennill sgiliau newydd a dychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'r gwaith da hwn wedi parhau gyda lansiad ReAct III y llynedd. Fodd bynnag, mae'r hinsawdd economaidd wedi newid ac mae angen i’n cyfres o gymorth cyflogadwyedd addasu i adlewyrchu'r amgylchedd newydd yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo.

Mae gan Gymru heriau cyflogaeth sylweddol o hyd ynghylch ein lefelau sgiliau, y crynodiad gofodol o ddiweithdra ac anweithgarwch, a gyda’r bygythiad parhaus o ddiswyddiadau yn rhai o'n diwydiannau strategol allweddol. Mae angen i’n cefnogaeth cyflogadwyedd foderneiddio i ymateb yn effeithiol i'r heriau hyn. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod ein cyfres bresennol o raglenni yn rhy gymhleth a thameidiog, gan ei gwneud yn anodd datblygu llwybr cydlynol i gyflogaeth i geisiwr gwaith gan arwain at gefnogaeth a all fod yn anhyblyg weithiau wrth ymateb i anghenion yr unigolyn.

Ceir newidiadau ehangach hefyd i bolisi ar lefel y DU, a fydd yn cael effaith sylweddol ar ddarparu hyfforddiant sgiliau i bobl ddi-waith yng Nghymru. Mae cyflwyno Rhaglen Gwaith ac Iechyd newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2017 yn gyfle i gyfochri ehangder y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i unigolion ledled Cymru yn fwy effeithiol. Bydd ein cyfranogiad gweithredol yn y gwaith o gomisiynu'r contract newydd hwn yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o’r Rhaglen Waith a ddarperir ar hyn o bryd a bod anghenion y farchnad lafur yng Nghymru yn ei chyfanrwydd yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio rhaglenni yn y dyfodol. Bydd y rhaglen newydd hon gryn dipyn yn llai na Rhaglen Waith bresennol yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd hyn yn golygu y bydd mwy o unigolion yn ceisio cael gafael ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i amcangyfrif effaith y newidiadau hyn o ran nifer y bobl y bydd angen i ni gynnig cefnogaeth iddynt a'r math o gymorth y bydd ei angen. Bydd y ddau ffactor hyn yn gofyn am newidiadau i'n rhaglenni cyflogadwyedd ein hunain.

Gwnaethom amlinellu yn ein maniffesto y byddem yn creu rhaglen gyflogadwyedd newydd i gefnogi unigolion o bob oed i ddod o hyd i waith o ansawdd da. Rydym eisiau i’r gefnogaeth hon gael ei theilwra i anghenion unigol a, phan fo hynny'n briodol, ei chyfochri â chyfleoedd swyddi sy'n dod i'r amlwg mewn cymunedau lleol. Ein nod yw dwyn ynghyd y gweithgareddau o’n prif raglenni cyflogadwyedd, Twf Swyddi Cymru a ReAct, hyfforddeiaethau a’n rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd mewn un rhaglen cymorth cyflogadwyedd a fydd yn diwallu yn well anghenion y rhai sydd angen cefnogaeth i gael, cadw, a symud ymlaen mewn gwaith.

Mae'r rhaglen newydd yn cael ei datblygu gan ddefnyddio'r dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf i’r ddarpariaeth o raglenni marchnad lafur effeithiol. Bydd yn cael ei llywio gan werthusiadau o'r rhaglenni Barod am Waith, Twf Swyddi Cymru a ReAct, y cynlluniau arbrofol Amodoldeb Sgiliau, y gwnaethom eu cynnal gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, a'r gwaith gwerthuso ac adolygu hyfforddeiaethau. Mae gennym gyfoeth o dystiolaeth ar gael i ni ynglyn â’r hyn sy'n gweithio.

Rhagwelir y bydd ein rhaglen newydd yn dechrau darparu o fis Ebrill 2018 ymlaen. Rhwng nawr a’r adeg honno byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau arbrofol gyda cholegau addysg bellach a’n rhwydwaith presennol o ddarparwyr dysgu yn y gwaith i brofi gallu a pharodrwydd y sectorau i arloesi ac ymateb yn hyblyg i anghenion unigolion a chyflogwyr, a chyda Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith a'r awdurdodau lleol i gynnal profion ar y prosesau asesu, atgyfeirio a pharu swyddi. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni presennol er mwyn ein galluogi i bontio’n llyfn i ddarpariaeth ein rhaglen i bob oed.

Bydd ein rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd yn adlewyrchu ymagwedd wahanol at ddarparu gyda mwy o bwyslais ar leoliad gwaith a chefnogaeth barhaus pan fydd unigolyn wedi cael gwaith. Byddwn yn parhau i gyflwyno Twf Swyddi Cymru tan fis Mawrth 2018, ond ar gyfradd is o gymhorthdal ​​cyflog, gan adlewyrchu'r hinsawdd economaidd well a chanfyddiadau'r gwerthusiad, wrth barhau i gydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gymryd y cam cyntaf i waith. Mae hon yn amserlen heriol ac yn rhaglen gymhleth o waith, ond rwy'n hyderus y bydd yn arwain at raglen fwy addas a hyblyg er mwyn ymateb i heriau’r farchnad lafur a’r cyfleoedd a wynebwn, nawr ac yn y dyfodol. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro.

Thank you, Minister, for your statement. I broadly welcome the direction of travel that you outline here. I would say, of course, that, whilst you say unemployment in Wales has fallen—and you paint a particular picture in your opening paragraphs—we are aware, of course, that many of the new jobs that have been created are part-time, second or third jobs, zero-hour contracts, et cetera, and that long-term unemployment, of course, in Wales, remains stubbornly high at 32 per cent compared to the UK average of 29 per cent. So, we need to be careful, I think, in the picture that we do paint that we do tell the whole story.

Now, employment policy, of course, is non-devolved and you tell us in your statement that the Welsh Government’s contribution to Wales’s disproportionately strong performance shouldn’t be underestimated. Well, I would say, you know, give us the powers and we could do even better. And I would ask you whether you agree with me in that respect, Minister, and maybe what representations you’ve made to the UK Government for increased competence in this area so that we can do a better job than is currently the case?

In bringing together Jobs Growth Wales and the other programmes that you mention into a single programme, I’m wondering whether the intention is to create one brand with a number of different offers within it or a number of sort of schemes operating within that programme, or whether the intention now is to move to one offer that has the flexibility to meet the broad range of needs that we have here in Wales.

The matrix provided by the Government recently of the approved programmes for different routes into employability, I think, tells its own story. There have been concerns about complexity and duplication as well, of course, between Welsh Government programmes and Department for Work and Pensions programmes. I would ask, maybe, that you tell us a bit more about how you want to ensure that that situation is improved upon. But, what I’m asking is this: is today’s statement an admission, really, that those concerns were right? I think you said that there was a reference to the fragmentation of services. Many people have felt it is quite congested, it’s quite complex to navigate and that this rationalisation is a recognition that that was correct. Is it maybe suggesting that the Welsh Government has spread its programmes a bit too broadly in the past, possibly, as well, in relation to resourcing? That’s an important factor here, of course, because I’d like to hear you confirm to us that the funding whole—with a ‘w’—the totality of funding will correspond to the sum of the parts of the existing schemes. Or, do you expect, actually, that there will some sort of financial saving from bringing some of these programmes together?

You tell us that the new programme that has been proposed will be informed by recent evidence and research, by evaluations that have been undertaken, and that you will conduct pilots and test different approaches. I don’t see the word ‘consultation’. I would presume and expect that your intention is to consult with stakeholders and employers and others.

You hope to see this programme being delivered from April 2018. Well, it needs to be designed, it needs to be piloted and it needs to be tested. I presume that there will be a tendering process for some sort of delivery body, which will itself need some lead-in time, I would imagine, to hit the ground running by April 2018. So, maybe you could tell us a bit about the process that you hope to undertake to get to that start date of April 2018, especially, of course, set against the backdrop of leaving the European Union. There’ll be a huge impact on this sector particularly—and financially particularly, I would imagine—given its dependence on ESF funding in the past. Really, I’m just questioning here whether you’re embarking on this change on the presumption that the funding that’s currently provided from the EU will be provided by the UK Government. Otherwise, one would question how can you develop and design your new main employability programme for Wales without, frankly, having a clue what level of resource is going to be available to you.

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gan ddilyn fy nhrefn arferol, byddaf yn ateb yr un olaf yn gyntaf ac yn gweithio tuag at yn ôl, dim ond oherwydd mai dyna sut mae fy ymennydd yn gweithio.

O ran y rhaglen ariannu cyffredinol, ydym, rydym ni’n mynd i gymryd yn ganiataol, oherwydd dywedwyd wrthym ar sawl achlysur, y bydd Lywodraeth y DU yn darparu’r diffyg ariannol i Gymru yn sgil agenda Brexit. Fel y clywsom yn gynharach, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, rydym wedi cael yr addewid hwn lawer gwaith ac rydym yn mynd i gymryd yn ganiataol bod hynny'n wir tan y byddwn yn clywed yn wahanol. Rwyf am ddweud hyn, fodd bynnag, a dywedais hyn yn fy natganiad ar brentisiaeth wythnos neu ddwy yn ôl: nid dim ond arian yr ydym ni’n ei gael gan yr UE, rydym yn cael cyfleoedd ymchwil, rydym yn cael cyfleoedd cyfnewid, mae ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth bobl eraill sy'n ymgymryd â rhaglenni galwedigaethol a swyddi dan hyfforddiant a phrentisiaethau. Rwy’n yn mawr obeithio, yn y trafodaethau yr ydym yn awr yn cychwyn arnynt gyda'r UE, y bydd y cyfleoedd diwylliannol a dysgu hyn, y mae Cymru wedi bod yn arweinydd ac yn fuddiolwr o'r dysgu ar y cyd sydd wedi ei gynnal, yn gallu parhau i ddigwydd. Nid yr arian yn unig sy’n bwysig yn y pethau hyn. Mae'n ymwneud yn helaeth â’r hyn sy'n gweithio.

O ran rhai o'ch cwestiynau eraill, gallaf eich sicrhau nad oes unrhyw gwestiwn o wneud arbedion ariannol yn hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â'r gyllideb gyffredinol. Mae hyn yn ymwneud â'r rhaglen llwybrau sgiliau. Rwy’n credu eich bod wedi chwifio'r fersiwn bapur o honno. Mae'n edrych ychydig fel map o’r tiwb. Y syniad yw eu gwneud yn rhywbeth llawer mwy syml i’w defnydddio i bobl sy’n dderbynnydd un o'r rhaglenni neu yn wir fel cynghorydd—rhiant efallai os ydych yn ifanc, neu bartner, ac yn y blaen—yn cynghori rhywun drwy'r rhaglen. Felly, map rhyngweithiol yw’r hyn yr ydych yn edrych arno yn y fan yna. Dylech fod yn gallu clicio ar y nôd a dylai ddweud wrthych ble’r ydych chi, a dylech chi fod yn gallu dilyn yn weddol gyflym i gael eich hun at y peth iawn.

Rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Cynulliad blaenorol mai’r anhawster â’r rhaglenni cyflogadwyedd yw nad ydych yn dymuno, o dan unrhyw amgylchiadau, creu un rhaglen sy’n addas i bawb. Mae pobl yn unigolion; mae angen cymorth unigol arnynt. Yn aml, nid yw un pecyn ar gyfer pawb yn addas ar eu cyfer. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra’r pecynnau hynny. Mae'r rhaglenni cyflogadwyedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond mae angen amrywiaeth wahanol o gymorth ar bobl sy’n bellach i ffwrdd o’r farchnad swyddi, i'w cael i mewn i’r cyfleoedd cyflogaeth hynny ac i’w cadw yno mewn gwirionedd. Nid dim ond cael y swydd ac yna cerdded i ffwrdd yw hyn; mae'n ymwneud â’u cadw yn y swydd honno a sicrhau bod y dulliau cymorth ar waith i'w cynnal yno. O bethau syml fel y ffaith mai eich mis cyntaf yn y gwaith weithiau yw’r mis drutaf y byddwch chi byth yn ei brofi—nid ydych chi wedi cael cyflog ac mae gennych yr holl gostau i’w talu. Felly, mae'n rhywbeth syml o’r math hwnnw, hyd at bob un o'r anawsterau o fynd trwy fywyd teuluol, gwaith ac yn y blaen os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod sylweddol o amser. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra cyfres o raglenni llwyddiannus ar gyfer unigolion sy’n fwy anodd eu cyrraedd wrth i'r pwyslais economaidd gau.

Nawr, nid ydym yn gwybod beth fydd canlyniad trafodaethau yr Undeb Ewropeaidd, felly y peth arall yw bod yn hyblyg yn wyneb ansicrwydd. Felly, mae hyn yn ymwneud â gwneud y rhaglenni mor hyblyg â phosibl i ymateb i ddyfodol ansicr. Efallai bydd gennym rywfaint o dwf, ac os felly mae angen i ni ymateb i unigolion sy’n fwy anodd eu cyrraedd; mae'n bosibl y bydd gennym ddiswyddiadau ac yn y blaen, ac os felly mae angen i ni ymateb, yn effeithiol, â dulliau rheoli argyfwng tymor byr, fel gyda ReAct. Felly, mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cynllunio i fod mor hyblyg â phosibl o fewn y cyfyngiadau y maent yn gweithredu oddi mewn iddynt.

Y peth olaf yr wyf eisiau ei ddweud am hynny yw nad yw'n un brand, er ein bod yn ei alw yn llinynnau Sgiliau Cyflogadwyedd. Bydd rhaglenni unigol yn rhan ohonynt, ond y syniad yw eu gwneud yn hyblyg, caniatáu i bobl symud yn ôl ac ymlaen. Rydym yn cael peth anhawster wrth drafod â'r Adran Gwaith a Phensiynau am eu bod hwy eu hunain wedi newid paramedrau eu rhaglen a bod yr amodau wedi newid, i gymysgu fy nhrosiadau dros bob man. Mae'r amodau wedi newid yn eithaf sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf. Rydym mewn trafodaethau manwl â nhw a gyda'r cytundebau dinesig amrywiol o amgylch Cymru a'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym gynnig cydlynol sy'n cyfateb â chynnig Llywodraeth y DU ac yn y blaen.

I ateb eich cwestiwn cyntaf yn olaf, o ran datganoli, byddem yn hoffi cael rhagor o bwerau ynghylch sut i asesu pobl a sut i'w cael ar y rhaglenni, ond byddwch yn gwybod ein bod wedi dweud ers tro na fyddwn yn derbyn rhai o’r canlyniadau llai effeithiol—yn fy marn i—gyda rhaglenni'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel gorfodi a chosbi, er enghraifft. Felly, mae’n ymwneud â’r hyn y gallwn ei negodi er mwyn cadw ein rhaglenni cyflogaeth yn agored ac yn dderbyniol i bawb.

Diolch. Rydym nawr hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi ei neilltuo, ac mae gennym dri siaradwr. Galwaf ar Dawn Bowden.

Diolch i chi, Lywydd dros dro. Cwestiwn byr iawn sydd gennyf. Weinidog, yn ogystal â’r cymorth ar gyfer rhaglenni prentisiaeth, roedd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn darparu ar gyfer hyfforddiant arwahanol ar gyfer sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, a darperir hyfforddiant o’r fath sy'n canolbwyntio ar gymhwysterau ar hyn o bryd yn ein colegau addysg bellach yng Nghymru a thrwy ddarparwyr dysgu preifat. Mae'r hyfforddiant hwn yn amlwg yn elfen bwysig wrth sicrhau bod gweithlu hyfforddedig â sgiliau addas ar gael ar gyfer busnesau sy'n awyddus i sefydlu mewn cymunedau lleol. Enghraifft amlwg o hynny fyddai trefniant Tenneco-Walker ym Merthyr, a oedd angen weldwyr medrus wrth sefydlu’r ffatri newydd yno, ym Merthyr Tudful. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, pe byddai pwysau ar gyllid ar gyfer cynlluniau o'r fath yn codi yn y dyfodol, y dylai unrhyw arian gael ei flaenoriaethu tuag at golegau addysg bellach i ddarparu’r hyfforddiant hanfodol hwn, yn hytrach na chael ei sianelu tuag at ddarparwyr dysgu preifat i sicrhau bod y swm uchaf posibl o arian yn cael ei gadw yn y system?

Wel, mae gennym system gymhleth o drefniadau contract wedi'i sefydlu i ddarparu dysgu yn y gwaith drwy system o brif gontractau ac wedyn is-gontractau; ac mewn gwirionedd, mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Weithiau, mae’r colegau addysg bellach yn is-gontractwyr i'r prif gontractwr ac i'r gwrthwyneb. Yr hyn y gallaf ei gadarnhau i'r Aelod yw ein bod yn rhoi cryn flaenoriaeth i anghenion dysgu sy’n seiliedig ar gymwysterau sy’n seiliedig ar gyfleoedd cyflogaeth penodol, fel y nodwyd drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym yn adolygu’r ffordd yr ydym yn ariannu’r rheini, gyda’r bwriad—fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol—o fod mor hyblyg â phosibl, o fod mor gyfrifol ag y bo modd, yn dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd. Mae'n gwestiwn cymhleth a manwl iawn a bydd y Llywydd yn flin iawn â mi os gwnaf ei ateb yn fanwl. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth arall gyda chi mewn man arall.

Ni fyddwn i byth yn flin gyda chi. Hoffwn alw ar Mohammad Asghar nawr, y llefarydd ar ran y Ceidwadwyr.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf yn rhoi croeso cyffredinol i'r nodau a'r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn heddiw. Bydd gwella sgiliau pobl Cymru yn arwain at gymdeithas fwy ffyniannus, gyda chyfraddau uwch o gyflogaeth a lefel is o dlodi, a bydd yn lleihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod sgiliau'r gweithlu yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â nid yn unig rhanbarthau mwy ffyniannus y Deyrnas Unedig ond hefyd gwledydd datblygedig blaenllaw'r byd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn annog cydweithio rhwng pob agwedd ar y system addysg a'r gymuned fusnes, ac yn hyrwyddo mwy o ddewisiadau i ddysgwyr?

Mae cyfraddau diweithdra yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae prentisiaethau yn fwyaf addas ar gyfer pobl sy'n dysgu orau mewn lleoliad ymarferol. A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ei chynlluniau i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig i ddatblygu cyflogadwyedd a helpu pobl i gael swyddi? Er mwyn i strategaeth Llywodraeth Cymru lwyddo, mae’n rhaid bod gan gyflogwyr hyder ynddi. A all y Gweinidog roi sicrwydd i’r Cynulliad hwn bod barn busnesau wedi ei ystyried wrth lunio ei pholisïau, ac a fydd hi’n cynyddu'r cymorth i fusnesau yng Nghymru? Mae busnesau wedi mynegi pryderon yn y gorffennol ynghylch lefelau llythrennedd a rhifedd oedolion o oedran gweithio. Sut y bydd y Gweinidog yn ymdrin â’r broblem honno yma?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn wybod sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu monitro cynnydd tuag at ei nod o sicrhau ei bod yn darparu’r gweithlu tra hyfforddedig sydd ei angen er mwyn lleihau tlodi, annog busnesau i dyfu, ac adfywio ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Cymoedd ac yng Nghymru.

Diolch yn fawr i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â hyder cyflogwyr yn un diddorol. Cawsom ymgynghoriad eang dros yr haf—yr haf diwethaf—gyda chyflogwyr ar ein rhaglenni prentisiaethau, a gafodd ei droi ar ei ben yn llwyr gan y cyhoeddiadau ar lefel y DU am yr ardoll prentisiaeth, a dorrodd yn syth ar draws hynny. Bydd aelodau a oedd yma yn y pedwerydd Cynulliad yn cofio fy mhryder bod yn rhaid inni roi'r gorau i’r ymgynghoriad hwnnw tra ein bod yn ceisio deall beth ar y ddaear oedd yn digwydd gyda'r ardoll prentisiaeth, ac rwy'n drist i ddweud ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa lle nad ydym yn hollol siŵr faint o arian fydd, os bydd arian o gwbl, yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll honno. Felly, mae hynny wedi achosi cryn dipyn o anesmwythyd, gadewch i ni ddweud, gyda chyflogwyr, gan nad yw wedi bod yn bosibl darparu sicrwydd, naill ai ar lefel y DU nac ar lefel Cymru. Yn wir, rydym mewn cyfres o ohebiaeth a chyfarfodydd gydag amrywiol Weinidogion, yn ceisio datrys hynny. Felly, yr wyf yn cytuno ag ef y gallai hyder cyflogwyr fod yn uwch yn y system honno, ond nid wyf yn cytuno ag ef bod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am hynny. Yn wir, byddwn yn gofyn iddo edrych ar y Llywodraeth ar lefel y DU—a reolir gan y Blaid Geidwadol, rwy’n credu—a gofyn pa werth ychwanegol y mae’r ardoll prentisiaeth hon wedi ei gyfrannu i’r system hon, mewn gwirionedd, oherwydd, a dweud y gwir, ni allaf i ei weld.

O ran ein rhaglenni ein hunain, mae galw mawr amdanynt gan ein cyflogwyr. Mae gennym un o'r cyfraddau cwblhau uchaf yn Ewrop, sef 86 y cant. Mae rhai o'n darparwyr i fyny yn y cyfraddau cwblhau 90 y cant. Dyna sut yr ydym yn monitro cynnydd—yn ôl cyfradd cwblhau, ac yna cyflogaeth yn dilyn y fframweithiau. Mae gennym hefyd fframweithiau hyblyg fel bod cyflogwyr sydd angen—. Er enghraifft, yn ddiweddar iawn, roedd gennym brinder o bobl â sgiliau gyrru lori pellter hir. Roeddem yn gallu rhoi fframwaith ar waith i lenwi'r bwlch hwnnw yn gyflym iawn, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae gennym raglen hyblyg iawn sy'n ein galluogi i ymateb i'r math hwnnw o alw.

O ran y sgiliau cyffredinol, bydd yr Aelod yn cofio ein bod wedi trafod sawl gwaith yn y Siambr hon ein hangen i symud i sgiliau uwch, i ffwrdd o sgiliau lefel sylfaen a phrentisiaethau, a bod ein rhaglen bellach yn cwmpasu system brentisiaethau i bob oedran, sy'n galluogi pobl i symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch hyd at lefel gradd ac ôl-radd—y mae galw mawr amdanynt gan rai o'n cyflogwyr blaenllaw, megis Airbus, GE Aviation, ac yn y blaen. Mae nifer fawr ohonynt; dim ond dau ohonynt yw’r rhain. Rydym yn falch iawn o hynny a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym hefyd yn edrych ar y rhaglen sgiliau hanfodol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch i'r bobl hynny sy'n dal i fod angen y sgiliau hanfodol y soniodd yr Aelod amdanynt.

Diolch i chi, Lywydd dros dro, a diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n meddwl bod eich dull yn gwbl synhwyrol. Os oes gennym lai o arian i’w ddefnyddio, yna mae'n bwysig iawn ein bod yn cael gwared ar ddyblygu ymdrech. Felly, rwy’n croesawu eich cynnig i greu’r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, gan ddod â’r holl wahanol raglenni eraill hyn at ei gilydd. Rwy'n talu teyrnged arbennig i'r rhaglen Twf Swyddi Cymru, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i lawer iawn o fy etholwyr i, o ran rhoi help llaw gwirioneddol iddynt i mewn i yrfaoedd llwyddiannus, na fyddent efallai, heb y blas cyntaf hwnnw o waith, wedi gallu gwneud hynny a gallent beidio â bod â bywyd gwaith llwyddiannus. Rwy’n croesawu eich sicrwydd ynghylch pwysigrwydd rhoi cymorth unigol yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Wrth gwrs, mae'n bwysig iawn cydnabod, os yw pobl wedi bod y tu allan i'r farchnad lafur am gyfnod o amser, bod rhai pobl yn mynd yn agoraffobig a bod angen llawer o waith i'w perswadio i fynd yn ôl i gymdeithas yn ogystal ag yn ôl i drafferthion gwaith. Roeddwn i’n pendroni tybed pa mor dda yr ydym yn parhau i sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau bod yr holl anghenion unigol yn cael eu diwallu, oherwydd cefais fy syfrdanu yn ddiweddar wrth nodi rhywun sydd yn amlwg wedi bod ar y sbectrwm awtistig drwy ei holl fywyd ond ni nodwyd hynny erioed yn ei ysgolion na’i golegau—dim ond nawr mae’n cael ei nodi. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod anghenion dysgu unigol yn cael eu nodi’n gynnar, gan fod colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwych dros bobl nad ydynt wedi cael y cymorth angenrheidiol yn y system addysg ysgol ac maent yn rhoi gobaith newydd i bobl nad ydynt wedi cael gyrfa ysgol lwyddiannus. Ond dylem yn sicr fod yn atal y math hwn o beth rhag digwydd yn gyffredinol.

Rwyf wedi bod i un neu ddwy o gynadleddau yn ddiweddar lle mae pobl wedi bod yn dweud, ‘Beth sy'n mynd i ddigwydd i hyfforddiant os ydym ni’n mynd i golli’r holl arian sy'n dod o'r UE?’ Wel, yn amlwg, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn cyflawni’r addewidion a wnaed gan y rhaglen ‘gadael’, oherwydd rydym yn parhau i fod angen yr hyfforddiant hwnnw. Ond rydym hefyd, rwy'n credu, yn gorfod sicrhau bod busnesau, hyfforddwyr a’r Llywodraeth yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid i ni gadw i fynd beth bynnag', oherwydd ni allwn fodloni'r bylchau mewn sgiliau y bydd eu hangen arnom ar gyfer y rhaglenni trawsnewidiol y bydd yn rhaid i ni eu cael, fel y metro, fel y rhaglen ynni craffach—sy’n manteisio ar ein cyfoeth o ynni cynaliadwy—megis ein rhaglen tai cynaliadwy, fel ein bod yn adeiladu tai y dyfodol sy'n cynhyrchu ynni yn hytrach na gollwng ynni. Ar eu cyfer nhw, mae arnom angen pobl sydd â sgiliau manwl iawn.

Felly, rwy’n credu mai’r her i ni yw sicrhau ein bod yn creu'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau, ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ond ein bod hefyd yn eu cadw ar gyfer Cymru oherwydd, fel arall, rydym ni ond yn creu sgiliau sydd eu hangen ar rannau eraill o'r DU, ac rydym ni’n eu noddi ​​ac yn amlwg nid yw hynny’n deg. Felly, rwy’n credu ei fod yn gydbwysedd anodd, ond rwy’n croesawu eich datganiad ac yn gobeithio y gallwn barhau i symud ymlaen er gwaethaf cael llai o arian.

Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau yna. Hoffwn ddweud fy mod i'n gweithio yn agos iawn gyda fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o ran sicrhau bod y cyfnodau pontio rhwng pob maes addysg mor llyfn â phosibl a’n bod yn nodi anghenion dysgwyr unigol ar yr adegau hynny er mwyn inni eu nodi yn gywir. Mae hyn am ddau reswm: un, er budd yr unigolyn dan sylw, ond hefyd er mwyn sicrhau nad ydym yn gwario arian yn ddiangen sawl gwaith a chyn i rywun gael ei hun ar y llwybr cywir. Mae hynny’n ffordd ddrud iawn o wneud pethau.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos, pob un ohonom ym mhob rhan o’r Llywodraeth, ar sicrhau bod addysg alwedigaethol yn cael lle haeddiannol mewn ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod pobl yn dilyn y llwybr cywir hwnnw yn y lle cyntaf ac nad ydynt yn mynd i addysg uwch ac yna yn mynd yn ôl a dechrau rhaglen brentisiaeth pan fo hynny'n amhriodol. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith ym mhob rhan o’r Llywodraeth ar y ddwy agwedd hyn ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd un ohonom yn dod â datganiad yn ôl i ddweud sut y gwnaethom ddod ymlaen â hynny yn ystod tymor yr hydref. Ond mae'n bwynt pwysig iawn.

Y peth arall i'w ddweud yw bod y cwmnïau hynny sy'n hyfforddi yng Nghymru yn gwneud llawer o hyfforddiant, ond mae gennym nifer ystyfnig o gwmnïau nad ydynt yn gwneud unrhyw hyfforddiant. Rydym yn gwneud ychydig o waith efengylu i wneud yn siŵr bod cwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd yn deall yr angen amdano. Rwyf i am rannu’r hyn sy'n ymddangos yn ddywediad braidd yn ystrydebol, ond mae'n dweud y cyfan. Os ydych yn dweud, fel y gwnaethoch chi yn gywir, 'Beth sy'n digwydd os ydym ni’n hyfforddi pobl a’u bod yn gadael?', y cwestiwn y dylech ei ofyn yw: 'Beth sy'n digwydd os nad ydych chi’n hyfforddi pobl a’u bod yn aros?', sy’n gwestiwn llawer mwy pwysig ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau. Dyna'r meddylfryd yr ydym eisiau ei sefydlu yn ein busnesau: sef, , bod gweithlu â chymwysterau da sy’n ymgysylltu, mewn gwirionedd yn fwy teyrngar, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy tebygol o fod o fudd i'ch busnes na gweithlu anghynhyrchiol â sgiliau isel yr ydych yn gwneud eich gorau glas i ddal eich gafael arnynt hyd nes y gallant ddod o hyd i rywle arall y maent yn daer am fynd iddo—nid dyna’r darlun o'r economi yr ydym yn ceisio ei greu.

Yn wir, mae gennym nifer o gwmnïau sy'n esiamplau disglair o ddarparwyr hyfforddiant. Yn ddiweddar, ymwelais ag Admiral, sydd â rhaglen wych o sgiliau cyflogadwyedd, ond hefyd sgiliau bywyd, y maent yn eu cynnig i'w gweithwyr. Mae ganddynt lefelau cadw a chynhyrchiant rhagorol y tu mewn i'r cwmni o ganlyniad i hynny. Mae Dŵr Cymru yn un arall—mae sawl enghraifft o hynny. Rydym yn dysgu o'r profiadau hynny yr holl ffordd trwodd.

Felly, rwy’n credu mai’r hyn yr wyf i yn ei gyhoeddi heddiw yw rhaglen gynhwysfawr i dynnu ein pethau at ei gilydd er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio, i berswadio pobl mai hyfforddiant yw’r ffordd iawn o wneud yn siŵr ein bod yn diwallu anghenion sgiliau y dyfodol ac i sicrhau bod pobl sydd ag anawsterau ac anghenion dysgu penodol yn cael eu nodi yn y rhaglen honno, wrth iddynt fwrw ymlaen drwyddi, trwy roi'r dynodwyr cywir yn y system.

11. 10. Dadl: Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Byddwn yn awr yn symud ymlaen at eitem 10 ar yr agenda, i drafod y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6054 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Gadeirydd.  Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar gyfer dadl, ac rwy'n falch o gyflwyno ail gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Ers lansio'r strategaeth yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws nifer o feysydd. Gall llawer o'r cynnydd hwnnw, wrth gwrs, fynd heb i neb sylwi arno, ond bob dydd ar draws Cymru rydym yn gweld tystiolaeth bod newid yn digwydd, gan wneud gwahaniaeth i unigolion y problemau iechyd meddwl yn effeithio ar eu bywydau.

Un maes pwysig lle mae hyn wedi digwydd yw wrth weithredu ein deddfwriaeth arloesol, Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac mae'n deg dweud bod hyn wedi cael ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y trydydd Cynulliad. Mae ei weithredu wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol i’r gofal a'r gefnogaeth y mae unigolion yn eu derbyn ac o ran darparu agwedd wirioneddol gyd-gynhyrchiol sy'n gosod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.

Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur, ac mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i dderbyn triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella.

Rydym hefyd wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan fwy gweithredol yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu llunio a'u cyflwyno trwy’r blynyddoedd diwethaf. Mae'n enghraifft dda o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Er enghraifft, mae menter ffrindiau dementia’r Gymdeithas Alzheimer yn cynyddu dealltwriaeth o ddementia ac yn helpu i fynd i'r afael â'r stigma, ac mae Bipolar UK yn cynnig ystod o gymorth ymarferol i bobl yr effeithir arnynt gan anhwylder deubegynol.

Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru, a chynyddodd yr arian i dros £600 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cyhoeddwyd dros £22 miliwn o arian newydd yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyflawni dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny'n cynnwys dros £5.5 miliwn ar gyfer gofal iechyd meddwl pobl hŷn, a fydd yn cefnogi, ymysg pethau eraill, sefydlu gwasanaeth cyswllt seiciatrig i oedolion hŷn amlddisgyblaethol i helpu gyda rhyddhau cleifion yn gyflymach ac yn fwy priodol o'r ysbyty a, gobeithio, gostwng cyfraddau aildderbyn. Hefyd, mae £1.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol hygyrch ar draws Cymru. Dylai hyn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl i fenywod sydd â salwch amenedigol, eu babanod a'u teuluoedd.

Mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gefnogi’n rhaglen law yn llaw ar gyfer plant a phobl ifanc, mae £7.6 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i ariannu gwasanaethau cymunedol newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth, a gwell mynediad at wasanaethau argyfwng a therapïau seicolegol. Felly, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys lleihau lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant Cymru, ac mae gwasanaethau newydd yn dechrau sefydlu eu hunain yn dda ar ôl cyfnod o recriwtio llwyddiannus i mewn i’r gwasanaethau hynny.

Y newidiadau yn CAMHS yw'r rhai mwyaf sylweddol ers blynyddoedd lawer. Drwy sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, byddwn yn helpu i sicrhau mynediad amserol at wasanaethau a'r canlyniadau cywir ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae pob un o'r ymrwymiadau hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun cyflawni i sicrhau bod ffocws parhaus ar y meysydd allweddol hyn. Mae ein cynllun cyflawni newydd hefyd yn ein hymrwymo i wella ymhellach fynediad at therapïau siarad. Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o bron £2 filiwn yn y gwasanaethau i oedolion y llynedd, a mwy nag £1 filiwn y flwyddyn hon. Mae mwy o therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu yn lleol nag erioed o'r blaen.

Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos i ni, er bod darparu ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' wedi bod yn heriol, mae hefyd wedi bod yn gyraeddadwy, ond, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Felly, mae'r cynllun cyflawni drafft ar gyfer 2016-19 yr ydym yn ei drafod heddiw yn cynnwys nifer o amcanion newydd uchelgeisiol, gan gynnwys adeiladu cydnerthedd a gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol plentyndod; mynd i'r afael ymhellach â hunanladdiad a hunan-niweidio a’u hatal; a chynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia; gweithredu'r concordat gofal argyfwng i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i unigolion mewn cysylltiad ag asiantaethau cyfiawnder troseddol; ac ystod o gamau gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol sy'n cefnogi urddas a pharch y defnyddwyr gwasanaeth; ac mae pwyslais parhaus ar sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn gallu dylanwadu ar ffurf polisi iechyd meddwl a gwasanaethau ar draws Cymru.

Rydym yn gwybod bod stigma a gwahaniaethu yn parhau i fod yn her fawr. Dyna pam, yn y blynyddoedd diwethaf, ein bod wedi cefnogi, ynghyd ag Aelodau ar draws y Siambr, ymgyrch Amser i Newid Cymru, gan gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth am broblemau iechyd meddwl a chael pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl. Mae ein cynllun cyflawni newydd yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu.

Mae ymatebwyr i'n hymgynghoriad wedi croesawu'r dull llwybr bywyd yr ydym wedi’i fabwysiadu yn y cynllun. Ond maent wedi nodi bod rhai materion yn berthnasol i bobl o bob oedran, er enghraifft, unigrwydd ac arwahanrwydd. Gwnaeth ymatebwyr hefyd awgrymiadau ynglŷn â sut y gallai'r cynllun gael ei gryfhau, gan gynnwys defnyddio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel dull ar gyfer ymrwymiad a darparu traws-sector, a chynnwys swyddogaeth cyflwyno'r trydydd sector ac ystyried anghenion iechyd corfforol pobl â salwch iechyd meddwl.

Rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i bob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a bydd fersiwn derfynol y cynllun yn ymgorffori llawer o'r awgrymiadau defnyddiol a gawsom, ac, wrth gwrs, rwy’n edrych ymlaen at ystyried y sylwadau a wneir yn y ddadl hon heddiw. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn ymarfer meincnodi rhyngwladol ar wasanaethau iechyd meddwl, a bydd unrhyw ganfyddiadau perthnasol o'r broses honno yn cael eu hymgorffori yn fersiwn derfynol y cynllun cyflawni, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr haf.

Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod ein llwyddiannau a rennir hyd yma ac yn sylweddoli nad ydym wedi cymryd dewisiadau meddal wrth bennu ein hamcanion ar gyfer y tair blynedd i ddod. Ni fydd pob un o’r uchelgeisiau yr ydym wedi’u pennu yn hawdd eu cyflawni, ond rwy'n hyderus y gellir gwneud cynnydd go iawn yn ystod cam nesaf y ddarpariaeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddaf yn ymdrin yn fyr â'r gwelliant yn awr. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw broblem gyda'r gwelliant a bydd yn ei gefnogi. Rwy’n cydnabod ei bod yn ddefnyddiol cael model galw a chynllunio capasiti integredig i ddeall lle dylai gwasanaethau gael eu darparu neu eu moderneiddio lle mae adnoddau yn cael eu dyrannu, ac nid wyf yn gweld y dull hwn fel un sydd mewn unrhyw ffordd yn anghyson neu’n ddewis arall i glustnodi sy'n gosod lefel isaf yn hytrach na nenfwd, fel y cymeradwywyd y llynedd gan adolygiad annibynnol. Felly, rwy'n hapus inni gefnogi'r gwelliant hwnnw. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw ac, unwaith eto, gallaf gadarnhau y bydd yr hyn gaiff ei ddweud heddiw yn cael ei ystyried wrth inni gwblhau'r cynllun cyflawni ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Diolch. I have selected the amendment to the motion. I call on Angela Burns to move amendment 1 tabled in the name of Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwyf wedi darllen y cynllun cyflawni gyda llawer iawn o ddiddordeb ac rwy’n cytuno â chi ar brif amcanion y Llywodraeth—yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni o ran gwella darpariaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghydfynd â'ch amcanion a llawer o’ch methodoleg.

Rydych chi wedi cyffwrdd, eich hun, ar sut yr ydym yn ymladd y stigma hwn ar hyn o bryd, ac mae hynny’n mynd drwy bob maes. Nid dim ond y stigma o un person yn erbyn person arall ydyw, ond gall diwylliannau fod yn gynhenid ​​o fewn sefydliadau a all stigmateiddio pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Does dim amheuaeth yn bendant mae angen hawl mwy cyfartal rhwng triniaeth iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae hwn yn un o'r meysydd lle byddwn wir yn eich annog i ystyried ymhellach sut y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno hyn.

Rwy'n gyndyn i sôn am y GIG yn Lloegr, oherwydd gwn fod edrych yn unrhyw le ar draws y ffin yn tueddu i fod yn anathema mawr i lawer o bobl yma. Fodd bynnag, o fewn y GIG yn Lloegr maent wedi cyflwyno cysyniad o barch cydradd. Mae hawliau cyfartal i bobl ag anawsterau iechyd corfforol ac iechyd meddwl wedi cael eu mabwysiadu, ac mae hyn wedi mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at gydnabod anghenion iechyd meddwl, yn enwedig yn achos rhai pobl â chyflyrau meddygol. Tybed a allai fod yn ddefnyddiol edrych ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd gan wledydd eraill hefyd syniadau tebyg iawn, i weld a fyddem o bosibl yn gallu mabwysiadu unrhyw un o'r rheini a'u datblygu yn ein gwasanaeth iechyd ni yma.

Mae gen i bum math o faes allweddol yr hoffwn i siarad amdanynt, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mabwysiadu ein gwelliant. Fe wnes i nodi'r hyn a ddywedwyd gennych—nid yw clustnodi yn ymwneud â hyn fel y mwyafswm ond yn hytrach y lleiafswm—ond yn anffodus, bydd llawer o sefydliadau yn ei ddefnyddio fel, 'Ffiw, cyhyd ag y byddwn wedi gwario dim ond yr hyn sydd raid i ni, a dim mwy', ac rydych yn ei weld ledled Cymru; rydych yn ei weld mewn llawer o sefydliadau. Maen nhw i gyd dan bwysau yn ariannol; mae ganddyn nhw i gyd lawer o hawliadau sy'n cystadlu â’i gilydd ar adnodd cyfyngedig, ac yn aml iawn mae iechyd meddwl yn dod fel gwariant sinderela yn rhai o'r sefydliadau hyn. Felly, rydym yn credu y byddai model galw a chynllunio capasiti integredig yn ffordd ymlaen llawer gwell. Byddai hefyd yn ffordd dda iawn o allu archwilio'r galw mewn gwirionedd, gan fod gan faterion iechyd meddwl lawer math o bethau aneglur yn perthyn iddynt. Ac os byddwch yn dechrau cynnwys, er enghraifft, bobl ifanc ag anawsterau dysgu, sy'n aml iawn o ganlyniad i ryw fath o drallod iechyd meddwl, yna dylai hynny hefyd ffitio i mewn i friff ehangach iechyd meddwl. Felly, rwyf wrth fy modd eich bod wedi cytuno i dderbyn y gwelliant hwnnw, ond hoffwn allu dod â’r ddadl hon yn ôl i'r Siambr mewn chwech neu wyth mis i gael gwybod sut mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud i hynny weithio a’i gyflwyno.

Hoffwn gyfeirio at fesurau perfformiad. Er mwyn i'r strategaeth gael ei chyflwyno'n effeithiol, mae angen inni gael dull seiliedig ar ganlyniadau sy'n cael ei gefnogi yn gyfochrog gan gyfres o'r dangosyddion ariannol newydd hyn. Mae angen inni gael mwy o adroddiadau cyhoeddus gan Fyrddau Iechyd Lleol, byrddau partneriaeth lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i ddeall, Weinidog, yr hyn nad yw eich adroddiad neu eich cynllun cyflawni yn ei ddweud, sef yn y nifer o feysydd lle rydych eisoes wedi gosod targedau, pa mor dda yr ydych wedi cyflawni yn erbyn y targedau hyn. Felly, er enghraifft, mae lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gostwng 10 y cant yn is na llinell sylfaen 2013-14 bob blwyddyn, ac felly mae angen inni gael rhyw fath o adroddiad sy'n dod yn ôl allan fel y gallwn fesur ein sefyllfa. A phan fyddwn yn sôn am sut yr ydym yn adrodd, gadewch i mi ddewis un arall, sef un lle rydych bron yn dweud nad oedd ond ychydig yn niwlog, ble mae'n dweud mai un o fesurau canlyniad fyddai cael adborth. Sut ydych chi'n diffinio ‘adborth'? Pwy sy'n ei gasglu, pwy sy’n ei fesur, a phwy mewn gwirionedd sy’n cael ei weld? A yw'n mynd i aros o fewn y sefydliadau? A fydd yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru? Mae cymaint o ddangosyddion sydd wedi eu henwebu yma; lawer iawn ohonynt heb achosion anodd ynghlwm wrthynt o ran lle maent yn cael eu hadrodd, pwy sy’n gweld yr adrodd hwnnw a phwy all gymryd camau gweithredu. Felly, byddwn i'n eich annog, Weinidog, i ystyried hynny.

Mae'n ddrwg gen i; rwy’n carlamu drwy hwn, oherwydd nid yw pum munud yn llawer o amser i siarad am bwnc mor bwysig. Cleifion mewnol ac amseroedd aros CAMHS; rwy’n meddwl efallai y byddaf ond yn dweud o ran y mater hwn y gallaf weld bod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg newydd yn bresennol, ac rwy'n gwbl sicr y bydd yn edrych ymlaen at archwilio'r hyn sy'n digwydd gydag amseroedd aros CAMHS ar gyfer pobl ifanc a phlant. Er bod eich adroddiad yn sôn am hyn yn llwyddiannus iawn, rydym yn gwybod nad yw adolygiad Shillabeer yn cyflawni popeth y dylai ei wneud, ac mae angen i ni roi mwy o ystyriaeth i hynny.

Ac yn olaf, Lywydd, rwy’n amau ​​fy mod i wedi rhedeg allan o amser yn gyfan gwbl i gloi. Ond roeddwn eisiau dweud wrthych fod holl faes cyflawni iechyd meddwl mor bwysig. Os edrychwn ar ein pobl ifanc, mae 23 y cant o'r holl bobl ifanc sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o rwystr iechyd meddwl. Mae hyn yn eu hatal rhag dysgu, mae'n eu hatal rhag bod yn llwyddiannus, mae'n eu hatal rhag cael y bywydau a ddylai fod ganddynt. A phan fyddwch yn dechrau ar y lefel honno yr holl ffordd drwodd at bobl ag awtistiaeth, pobl ag Asperger, pobl â syndromau sy'n cael eu cydnabod ac y mae llwybrau iddynt, mae'n rhaid i ni eu helpu gan fod hynny'n ganran mor uchel o'r boblogaeth nad ydynt y dinasyddion y gallent fod, ac nac ydynt yn cael y cymorth y gallent fod yn ei gael. Felly, unrhyw beth yr ydych am ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, rwy'n hollol barod, ac mae’r blaid hon yn hollol barod, i geisio eich cefnogi chi. Ond rydyn ni eisiau gweld canlyniadau credadwy, mesurau perfformiad credadwy, ac adroddiadau credadwy i’r Cynulliad. Diolch.

A gaf i ddweud yn gyntaf fod yna wella, yn sicr, wedi bod, rydw i’n meddwl, mewn gwasanaethau iechyd meddwl ers cyflwyno’r Mesur iechyd meddwl, ond, heb os, mae yna lawer iawn o feysydd lle mae yna angen gwella mawr o hyd? Rydw i hefyd yn croesawu diweddariad y Llywodraeth ar eu cynllun nhw; mae o i’w weld yn gam ymlaen o’r cynllun diwethaf. Mae yna gamau gweithredu pendant yma rŵan, amserlen yn cael ei nodi hefyd, ar gyfer gweithredu, ac mae yna hefyd—yn bwysig iawn, rydw i’n meddwl—gyfeiriad penodol yn y cynllun at bwy sydd i fod yn gyfrifol am wahanol gamau gweithredu.

Ond, ar y llaw arall, mae yna gwestiynau mawr o hyd ynglŷn â sawl agwedd, gan gynnwys sut mae mesur cynnydd. Ar gyfer rhai dangosyddion mae’r targed yn bendant iawn. Er enghraifft, mae 100 y cant o ferched a gafodd eu hadnabod i fod â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael cynnig cefnogaeth briodol yn ystod beichiogrwydd. Mae hynny’n dda o beth, ond mewn meysydd eraill nid oes yna dargedau cynnydd cweit mor amlwg.

Mae yna bwyntiau penodol, rydw i’n meddwl, yn codi o argaeledd therapïau siarad. Mae adroddiad gan yr elusen iechyd meddwl Gofal yn nodi bod llawer gormod o bobl o hyd yn cael cynnig triniaeth drwy feddyginiaeth yn hytrach na mathau eraill o driniaethau a chefnogaeth. Ac er eu bod nhw croesawu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ehangu’r ddarpariaeth, maen nhw’n credu bod angen gwneud llawer mwy o hyd i ehangu’r ystod yma o driniaethau sydd ar gael. Yn benodol, maen nhw’n teimlo bod pobl yn methu â chael cynnig therapi siarad oherwydd nid oes darpariaeth therapi siarad ar gael mewn ambell i ardal, neu oherwydd bod rhestrau aros yn rhy hir—hynny yw, nid am resymau clinigol.

Gwnaf hefyd sôn am faes arall mae Gofal, yn benodol, yn teimlo ei fod yn cael sylw annigonol, a hynny ydy anhwylderau bwyta. Maen nhw’n siomedig iawn, medden nhw, ar ôl gweithio efo’r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta i argymell nifer o ffyrdd posib ymlaen, a chamau gweithredu pendant a allai gael eu cymryd, yn ogystal â sut i fesur perfformiad, fod yna ddiffyg mawr yn y strategaeth i fynd i’r afael â phroblemau yn y maes yma.

Os caf symud ymlaen at faes rwy’n gwybod sydd yn achosi pryder i lawer ohonom ni yma yn y Siambr—ac rydym ni newydd gael cyfeiriad ato fo yn fan hyn—sef gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn benodol. Rydym ni’n bryderus iawn fel Aelodau yma oherwydd ein bod ni’n clywed yn gyson gan lawer gormod o etholwyr yn rhannu eu pryderon nhw. Mi dderbyniais lythyr yn ddiweddar gan gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cemaes yn Ynys Môn. Mi wnaf ddarllen ohono: ‘Mae llywodraethwyr Ysgol Cemaes wedi gofyn i mi ysgrifennu atoch i leisio ein pryderon sylweddol am y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Mae gennym nifer o blant yn yr ysgol gynradd sydd angen cymorth a’n dealltwriaeth yw bod cyfnod disgwyl o chwe mis ar gyfer cael mynediad i’r gwasanaeth. Teimlwn fod hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae’n codi cwestiynau arwyddocaol am ymrwymiad y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i les ein plant.’

Mae’n dweud y cyfan; pobl sydd ar—

Angela Burns a gododd—

Diolch ichi am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cydnabod mai un o'r problemau gydag amseroedd aros hir o'r fath ar gyfer gwasanaethau CAMHS yw bod y bobl ifanc hynny wedyn yn cael eu taflu yn ôl i wasanaethau lleol a ddarperir gan gynghorau sir, pobl fel y tîm anableddau, y tîm o amgylch y teulu, ac mae'n rhoi y rheini dan bwysau aruthrol ac yn mynd â nhw oddi wrth y bobl a ddylai fod yn brif gyfrifoldeb iddynt?

Rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir, a bod canlyniadau pellach hefyd i amseroedd aros hwy, yn ogystal â thaflu'r baich, os mynnwch, i rannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus.

It’s very obvious, I think, that the length of waiting times makes a difference to the outcome ultimately. The survey by Gofal shows a very clear relationship between the time that someone waits for treatment and the outcome. The longer someone waits, according to their survey, the less likely it is that they will have a positive outcome in terms of their mental health and well-being. So, it’s not a matter of people having to wait patiently for a service that is going to be as good ultimately; you’re waiting for something that can’t, possibly, bring as good an outcome ultimately.

A couple of other items before closing: the need for one-to-one therapies for many people who, at present, are offered group therapy. There is a place for group therapy, but there are people who have group therapy because the resources aren’t available for one-to-one therapy. The need for out-of-hours appointments is very important. We need more such appointments, particularly where managing to stay in employment is one of the ultimate outcomes that people are aiming for. Of course, it’s very important to expand the care and the support available through the medium of Welsh.

To close, therefore, Plaid Cymru would have—we’ve noted this before—tried to ensure that we increased in real terms the money that goes in to mental health. We would have established residential clinics for eating disorders and tried to become a world leader in that area. Yes, resources are tight—we realise that—but we’re talking about an area here that, for many years, has failed to receive the right resources to ensure that it has its appropriate place within our health service. So, yes, there are positive steps in this latest strategy from the Government, but there is a long way to go.

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif o un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae'n amlwg bod angen inni roi llawer mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl. Rydym felly'n croesawu'r ffaith ein bod yn trafod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth heddiw.

Wrth i strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru gychwyn ar ei hail gyfnod, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod cyflawni'r strategaeth yn cyfateb i’w nodau. Yn anffodus, mae adroddiad Gofal, a gafodd ei ryddhau yr wythnos hon, yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyflawni bob amser yn cyd-fynd ag uchelgais. Rhaid i ni sicrhau bod eich cynllun cyflawni newydd mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau gwell i'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer 2016-19 yn nodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ac rydym yn cytuno'n llwyr â chi ar hynny.

Rhaid i bobl ifanc a atgyfeiriwyd at CAMHS aros llawer hirach nag sydd raid i oedolion aros. Mae'r amser aros targed yn 112 diwrnod, sy’n syfrdanol, ac mae tua hanner yr holl atgyfeiriadau dros y targed hwnnw. Felly, rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i leihau amseroedd aros i 28 diwrnod ar gyfer atgyfeiriadau arferol a 48 awr ar gyfer atgyfeiriadau brys. Pan ymgymerodd y cyn Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chraffu ar ôl deddfu ar y Mesur iechyd meddwl, canfu nad yw plant a phobl ifanc yn elwa o'r Mesur. Ers i'r pwyllgor gynnal ei adolygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r gwasanaeth CAMHS, ac ar yr ochr hon o'n plaid, rydym yn edrych ymlaen at gasgliadau'r adolygiad.

Fodd bynnag, os ydym i gymryd y pwysau oddi ar ein gwasanaethau acíwt, mae angen i ni wella mynediad at therapïau seicolegol eraill. Mae mynediad cynnar at therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol, wedi cael ei brofi i wella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell y dylai’r uchafswm amser aros o atgyfeiriad at y driniaeth gyntaf fod yn 28 diwrnod, a phan fydd hi’n argyfwng iechyd meddwl ar unrhyw un, dylai'r aros fod yn fyrrach eto. Fodd bynnag, mae amseroedd aros ledled Cymru yn llawer hirach; mewn rhai rhannau o Gymru mae'r amseroedd aros cyfartalog tua 11 mis. Mae hyn yn annerbyniol. Ni ddylai pobl mewn trallod orfod aros misoedd am driniaeth. Ni fyddem yn gadael i rywun mewn poen difrifol aros am gymaint â hynny o amser. Pam y dylai iechyd meddwl fod yn wahanol i iechyd corfforol? Rhaid inni weithio gyda chleifion hefyd i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.

Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid inni sicrhau bod yr arian cywir ar gael. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun cyflawni i gynnal y gwaith o glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae lefel y cyllid yn ymddangos yn annigonol.  Mae problemau iechyd meddwl yn cyfrif am tua chwarter o'r holl broblemau iechyd, ac eto i gyd rydym yn gwario dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru. Yn Lloegr, lle nad yw'r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei chlustnodi, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl.

Mae un Bwrdd Iechyd Lleol, Aneurin Bevan, fel mater o drefn yn gwario dros 17 y cant yn fwy na'i ddyraniad wedi'i glustnodi.

Mae PricewaterhouseCoopers, yn ei adolygiad o'r trefniadau clustnodi ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad oedd y dyraniad wedi'i glustnodi yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd.  Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg o'r holl dystiolaeth bod angen inni wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn deall bod pot ar gael—pot bach—ac mae'n rhaid i’r gwasanaethau a ddarparwn fod yn gyfartal, ond rydym yn gofyn bod hwn yn un flaenoriaeth y mae'n rhaid i ni wario mwy arni.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod arian ychwanegol wedi ei dargedu at feysydd blaenoriaeth yn y cynllun cyflawni, ond byddem yn gofyn eich bod yn ystyried cynyddu'r arian a glustnodir. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni eich strategaeth iechyd meddwl, ond hefyd i’ch dal i gyfrif er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol i iechyd meddwl pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad heddiw. Rydym yn gwybod y bydd problem iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom yn ystod ein bywydau. Felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi y sylw a’r craffu y mae'n ei haeddu i’r cynllun cyflawni hwn. Roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau byr heddiw ar ddwy ran o'r cynllun. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fy ngalwadau blaenorol ar gyfer strategaeth dementia ar gyfer Cymru sydd ag adnoddau da a chynhwysfawr ac sy’n seiliedig ar ganlyniadau, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi galw amdano yn y gorffennol pan arweiniais ddadl fer ar hyn yn y Siambr, yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn cynnwys yr ymrwymiad i gael strategaeth dementia i Gymru ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar hynny, ond roeddwn eisiau ystyried rhai pwyntiau sy'n gysylltiedig â hynny .

Gwyddom fod cynnydd gwych wedi bod wrth droi Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia ac rwy’n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am barhau i ganolbwyntio ar hynny heddiw. Mae dros 20 o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia wedi’u sefydlu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n falch iawn mai fy etholaeth i yn Nhorfaen oedd yr ail yng Nghymru i ennill statws ystyriol o ddementia. Boed yn fusnesau neu wasanaethau iechyd lleol, hyd at Big Pit: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, rwyf wedi gweld y fenter hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Pan fyddwch yn ystyried nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn awr, a'r angen mewn gwirionedd i ganfod ffordd drwy'r heriau y mae hynny yn eu cyflwyno i ni fel cymdeithas, rwy’n credu mai dyma un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwn ei wneud i wir frwydro yn erbyn yr hyn a all fod yn gyngor anobaith yn wyneb dementia. Felly, rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar hynny.

Y maes arall yr oeddwn am siarad amdano oedd cyfraddau diagnosis, sydd yn amlwg yn hollol hanfodol. Ar y pwynt hwnnw pan fydd claf yn cael y diagnosis, sydd yn anochel yn un trychinebus i deuluoedd, y maent yn gallu dechrau dod i delerau ag ef a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Wrth gwrs, rydym yn gwybod mai cyfraddau diagnosis dementia yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i edrych ar darged o 50 y cant ar gyfer cofrestrau dementia meddygon teulu a pha mor bwysig yw’r cam hwn ar gyfer cynnydd graddol blynyddol, ond rwy’n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud. Ni fyddai hanner cant y cant yn ddigon ar gyfer afiechydon fel canser a dylem, rwy’n meddwl, fod yn anelu yn llawer uwch na hynny yn achos dementia. Rwy'n ymwybodol bod y Gymdeithas Alzheimer wedi galw ar gyfer targedau o tua 75 y cant ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol erbyn 2021. Hyd yn oed os ydych yn edrych ar rannau eraill o'r DU, fel Gogledd Iwerddon, lle mae'r cyfraddau yn 64 y cant, rwy’n meddwl y gallem fod yn anelu yn uwch. Felly, rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gynyddu targedau yn flynyddol a byddai gennyf ddiddordeb mewn rhagor o fanylion ynghylch sut yr ydym yn bwriadu tyfu'r targed hwnnw yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae diagnosis yn ddiystyr heb fod y cymorth cywir ar waith wedi hynny. Yn wir, gall diagnosis ei gwneud yn anoddach i ymdopi heb y cymorth cywir ar waith. Y maes arall yr oeddwn am ei godi heddiw oedd yr angen am weithwyr cymorth penodol. Ar hyn o bryd, dim ond 39 y cant o’r cleifion yng Nghymru sy’n cael gweithiwr cymorth. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn nodi'r angen i wella hyn, ond rwy’n credu bod angen edrych eto ar frys ar yr awgrym a gafwyd o un gweithiwr cymorth i bob dau glwstwr meddyg teulu. Roedd hwn yn bwynt a wneuthum yn fy nadl fer. Mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi amcangyfrif y byddai hynny tua 32 o weithwyr ar gyfer Cymru gyfan, ond, ar y gyfradd diagnosis bresennol, byddai angen i ni gael tua 370 er mwyn bodloni’r anghenion, a chymaint â 650 o weithwyr os ydym i gael cyfraddau diagnosis hyd at 75 y cant. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych arno.

Croesawaf yn fawr yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i barhau i yrru gwelliannau mewn wardiau iechyd meddwl oedolion, yn seiliedig ar ganlyniadau'r archwiliadau dirybudd. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, sy'n un o’r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog blaenorol i’w gyflawni cyn gynted ag sy'n ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig.

Yn olaf, felly, gan droi at blant a phobl ifanc, rwy’n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau sydd wedi'u gwneud am y gwasanaeth CAMHS, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi’i godi lawer, lawer gwaith yn y pwyllgor fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd y pwyllgor newydd yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Rydym wedi gweld cynnydd da gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwn fforddio i laesu dwylo am eiliad yn y maes hwnnw. Mae'n rhaid i ni barhau i gael yr adnoddau, ond hefyd mae’n rhaid ei yrru ymlaen yn wleidyddol, a gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r pwyllgor, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu parhau i yrru gwelliannau yn y maes hwnnw. Diolch.

Rwy’n ei chyfrif hi’n fraint i allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r pwnc gerbron yn ymdrin â ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Wrth gwrs, mae rhai ohonom ni’n ddigon hen i gofio Mesur iechyd meddwl Jonathan Morgan, cyn Aelod o’r Cynulliad yma, rai blynyddoedd yn ôl nawr, sydd wedi dod â lot o’r gwaith yma gerbron, gyda phwyslais arbennig y Mesur yna ar driniaeth gynnar. Fel meddygon, rydym ni’n credu’n glir yn hynny. Mae’n allweddol bwysig ichi gael triniaeth yn gynnar ac mae’r holl beth yma o gael rhestr aros yn gweithio’n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor sylfaenol yna.

Ond, yn y bôn, rydym ni eisiau gweld rhagor o weithwyr iechyd ar y llawr sy’n gallu ymdrin â’r problemau. Fel meddyg teulu, buaswn i’n gobeithio y byddwn i’n gallu arallgyfeirio claf â phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol at therapi siarad, ond nid dyna ydy’r achos ar hyn o bryd. Mae’n cymryd rhai misoedd i’m cleifion weld rhywun sydd yn cynnig CBT ac ati. Mae’n rhaid i’r sefyllfa yna newid. Hyd yn oed os ydym ni’n diagnosio pobl yn gynnar, os oes yn rhaid iddyn nhw aros chwe mis a mwy tan y cân nhw driniaeth—

A ydych yn rhannu fy mhryder, y pryder a fynegwyd i mi gan yr elusen Mind Cymru, bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru wedi cael ei greu ar gefn tystiolaeth annigonol oherwydd nad yw data iechyd meddwl megis amseroedd aros ar gyfer therapïau siarad yn cael eu casglu yn ddigonol?

Mae yna bwynt yn hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, mae angen mwy o therapyddion arnom ni. Mae angen mwy o bobl i ymdrin â’r sefyllfa achos mae rhestrau aros yn y math hwn o beth yn hollol, hollol annerbyniol, a hefyd yn y maes ymdrin â chyffuriau ac alcohol neu’r camddefnydd o’r sylweddau yna. Mae hefyd eisiau rhagor o weithwyr yn y maes yn fanna, achos mae yna restrau aros hefyd yn y meysydd yna sydd ag oblygiadau mawr iawn gogyfer iechyd meddwl.

Wrth sôn yn fuan am y problemau efo iechyd meddwl plant, yn sylfaenol, mae’n anodd iawn yn ardal Abertawe cael plentyn i gael ei weld gan y gwasanaeth CAMHS. Rwyf wedi trio sawl tro ac, yn sylfaenol, nid ydyn nhw’n gallu cael eu gweld o gwbl. Mae hyn yn bwynt allweddol: yn nifer o lefydd, nid oes gwasanaeth, neu mae’r person yn cael ei arallgyfeirio yn ôl at y system addysg, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes, a phan fo angen iddyn nhw weld rhywun sydd yn y byd seiciatryddol nid yw hynny’n dderbyniol.

Yn nhermau, hefyd, edrych ar yr holl agwedd yma o iechyd meddwl, mae yna berig ein bod ni’n cysidro iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Wel, nid yw e, ac fel rydym ni wedi cael cyfeiriad ato eisoes, mae’n rhan o fel rydym ni’n edrych ar berson yn hollol holistaidd: yr agwedd gorfforol, yr agwedd seicolegol, ac, ie, yr agwedd gymdeithasol hefyd, yn ogystal â’r agwedd ysbrydol. Mae’r pedwar peth yn gweu i mewn i’ch gwneud chi’n iach neu ddim. Mae pob egwyddor i’w wneud efo iechyd meddwl—mae’n rhaid inni hefyd gysidro’r ochr gorfforol i’r peth, a hefyd, yn ogystal, yr ochr gymdeithasol.

Yn nhermau cydlynu a chydweithio ar draws gwahanol wasanaethau, rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau’n barod, ond gwnaf jest sôn hefyd am yr heddlu, achos, yn nhermau rhai o’r problemau dybryd sydd gyda ni weithiau mewn argyfwng, efo pobl â phroblemau iechyd meddwl argyfyngus lle mae’r heddlu yn rhan o’r broses, mae’n anodd iawn weithiau ffeindio lle diogel i’r bobl yma gael eu trin. Mae hynny yn dod â’r heddlu i fewn i gydgyffwrdd yn benodol felly â’r gwasanaeth iechyd, a byddai’n llawer haws ymdrin efo’r holl sefyllfa ar draws y bwrdd petai gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi’i ddatganoli i’r lle yma, achos rydym ni’n gwneud polisïau ac rydym ni’n gwneud rhagor o sŵn y prynhawn yma ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd meddwl ac ati, ond mae cryn dipyn o agweddau iechyd meddwl sy’n cael eu ymdrin gyda’r heddlu, sydd ddim, ar hyn o bryd, yn atebol i’r lle yma, a dylen nhw fod. Fe ddylem ni fod yn achub ar bob cyfle i wneud yn siŵr bod gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi’i ddatganoli i’r lle yma, fel, pan fyddem yn ymdrin â’r holl wasanaethau iechyd sydd ar gael, bod yr heddlu yn rhan o’r drafodaeth yna.

Ond, yn y bôn, beth rydym eisiau ei weld, fel meddygon, ydy triniaeth gynnar i’n pobl. Mae hynny yn golygu rhagor o ddarpariaeth o weithwyr iechyd, therapyddion siarad ac ati ar y llawr fel ein bod ni’n gallu arallgyfeirio’n cleifion atyn nhw yn uniongyrchol.

Diolch i chi am ildio. Rwy’n cytuno â chi yn llwyr ac nid oes gennyf unrhyw ddadleuon, ond a ydych hefyd yn meddwl bod angen hyfforddi’r meddygon sydd gennym yn barod oherwydd bod gan rai ohonynt ddiffyg dealltwriaeth weithiau o rai o'r problemau sydd gan y bobl sy’n dod atynt? Felly, mae'n ymwneud â hyfforddi'r meddygon sydd gennym yn barod, yn ogystal â rhagor o feddygon.

Ie, mi fuaswn i’n cytuno, achos mae’r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy’n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi’n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn barod, ac nid ydym yn gallu cynnig dim byd gwahanol i chi. Dyna pam mae’n rhaid i ni fynd i’r afael efo rhestrau aros a chyflogi rhagor o weithwyr yn y maes. Diolch yn fawr iawn i chi.

Byddai'n esgeulus imi beidio dechrau drwy groesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud a'u hymrwymiad i wella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, boed hynny drwy gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau, cefnogaeth i ymgyrchoedd i roi diwedd ar stigma, neu’r Mesur iechyd meddwl. Ond, fel y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, a dylai bob amser fod yn wir ym mhopeth a wnawn mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i gyflawni gwell canlyniadau a gwell Cymru, er bod llawer wedi cael ei wneud, mae yna ffyrdd bob amser y gallwn adeiladu ar hyn.

Mae'r cynllun cyflawni drafft, a'r mesurau canlyniad a amlinellir ynddo, yn gynnydd cadarnhaol i'w groesawu. Ond mae lle o hyd i Lywodraeth Cymru gasglu data canlyniadau cyson ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl, a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r mesurau perfformiad a gyflwynwyd gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru—mesurau sy'n dal profiad y claf, canlyniadau cleifion, canlyniadau clinigol, a barn gweithwyr proffesiynol.

Heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ar y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' sy'n ymwneud â'r gweithle yng Nghymru. Mae’r dirwasgiad diweddar a bygythiadau cysylltiedig i sicrwydd swyddi nid yn unig wedi rhoi pwysau ariannol ar weithwyr yng Nghymru, ond hefyd wedi bod yn galed ar iechyd a lles pobl. Mae ymchwil gan yr elusen iechyd meddwl Mind yn datgelu bod un o bob 10 wedi ymddiswyddo oherwydd straen eu swyddi, mae un o bob pedwar wedi meddwl am y peth, ac mae un o bob pump o bobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd oherwydd straen. Yn ogystal â hyn, mae Gofal yn tynnu sylw at y ffaith bod cynrychiolwyr undebau llafur wedi adrodd bod cydweithwyr yn dod atyn nhw yn llawer mwy rheolaidd i siarad am broblemau iechyd meddwl ac i ofyn am wybodaeth a chymorth. Mae hybu lles meddwl yn y gweithle ac atal a mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei wneud yn fwy proffwydol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gyda chyflogau isel ac ansicrwydd swyddi—ansicrwydd yr wyf yn teimlo y gallai gynyddu o ganlyniad i'r dyfroedd dieithr yr ydym yn awr yn cael ein hunain ynddynt ar ôl Brexit, a gall hyn gael effaith ar iechyd meddwl. Felly, mae systemau cymorth hygyrch o fewn amgylchedd y gweithle ac amgylchedd gwaith yn bwysig. Gellir gwneud hyn wrth i'r Llywodraeth a busnesau fesur problemau iechyd meddwl yn y gweithle, a chefnogi undebau llafur, yn enwedig gwaith ar gydraddoldeb. Gwn y byddai llawer o'r wasg a gwleidyddion asgell dde am i chi gredu rhethreg yr 'undebau llafur drwg hyn’. Ond mae'r cynrychiolwyr ar lawr gwlad yn bobl ryfeddol sy'n rhoi o’u hamser yn wirfoddol, ac, yn yr achos hwn, yn cynnig cyswllt rhwng y gweithiwr a gwasanaethau cymorth, yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gweithle.

Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod cynrychiolwyr undebau llafur yn chwarae rhan allweddol wrth hybu iechyd meddwl da a lles yn y gweithle. Yn aml nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni drafft yn nodi nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r gweithle—camau y gellid unwaith eto adeiladu arnynt er mwyn asesu effaith y strategaeth ar iechyd meddwl yn y gweithle a lles yn y sector cyhoeddus. Yn benodol, mae argymhelliad yr elusen iechyd meddwl Gofal y gallai arolygu staff y sector cyhoeddus o ran eu hiechyd meddwl a'u lles, a mynd ati i geisio, deall ac ymateb yn unol â hynny, arwain at welliant cyffredinol mewn iechyd meddwl a lles staff.

Yn olaf, mae pwysigrwydd cydnabod a chefnogi iechyd meddwl a lles yn y gwaith yn dangos yn rhy glir yr angen i iechyd meddwl a lles dorri ar draws gwaith y Llywodraeth hon yng Nghymru. Os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni’r addewid yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mae angen cael hynny—nid strategaeth iechyd yn unig, ond gweithio gyda'n gilydd i osod iechyd meddwl fel blaenoriaeth ar gyfer holl adrannau'r Llywodraeth o economi i addysg, tai a thu hwnt.

Rwy’n cytuno â’r sylwadau cloi gan Hannah Blythyn nad yw hyn yn fater o edrych ar faterion iechyd meddwl yn unig; mae'n fater o edrych arno o ran yr iechyd corfforol ehangach ac, yn wir, les ac iechyd yn y gweithle hefyd. Rwy’n meddwl eich bod yn taro'r hoelen ar ei phen yn y fan yna, Hannah.

Mae mwy na thair blynedd bellach ers cyhoeddi’r strategaeth hon, a chafodd groeso cynnes ar y pryd, fel gyda llawer o strategaethau cyn ac ers hynny, ond gyda'r cafeat ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a gwelliannau y tu hwnt i'r geiriau. Roeddwn yn edrych drwy bapurau briffio Mind a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad a sylwais fod pryder nad yw'r strategaeth yn rhoi digon o swyddogaeth i'r sector gwirfoddol. Mae'r trydydd sector yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth roi llais i bobl sydd â phrofiad byw a’u galluogi i gael eu clywed. Byddwn yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, ac yn dweud mai’r sector gwirfoddol yn ôl pob tebyg yw’r mwyaf addas ar gyfer codi proffil materion iechyd meddwl ac estyn allan i'r cymunedau hynny ar draws Cymru. Rwy'n credu fod ystwythder a lleoliaeth yn perthyn iddo na allwch chi wir ei greu yn y sianelau prif ffrwd traddodiadol. Mae gan y sianelau hynny eu lle, ond mae gan y sector gwirfoddol ei le penodol.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i’r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd.

Ie, rwy’n cytuno'n llwyr â chi, Lee. Yn wir, roeddwn yn gwrando ar sylwadau Dai Lloyd yn gynharach, ac roedd Dai yn siarad am brinder ar draws y bwrdd. Soniasoch am y prinder therapyddion, ac roedd yn fy nharo i fel yr oeddech yn siarad, Dai, oes, mae prinder therapyddion, ac rwy’n meddwl tybed a yw hyn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno o ran ymgyrchu i recriwtio therapyddion. Mae nifer o’r therapyddion yr wyf wedi siarad â nhw wedi dweud eu bod ond wedi mynd i mewn i'r math hwnnw o waith yn ddamweiniol ar ôl clywed, ‘Byddech chi yn dda am wneud hyn'. Ni fyddent byth wedi meddwl amdano cyn hynny. Felly, rwy’n meddwl bod maes—. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian; mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â pherswadio pobl y byddent yn dda yn gweithio mewn maes fel 'na. Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd gael rhywfaint o lwyddiant ynddo. Mae problemau ar draws gweddill y DU hefyd, felly os ydych yn dymuno gwneud eich marc, Ysgrifennydd y Cabinet, yna edrychwch ar recriwtio therapyddion a sut y gallwch ymgyrchu i gael y rheini i mewn i’r swydd honno.

Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gynnal digwyddiad yn fy mhentref genedigol, sef Rhaglan, ar ran Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Deuthum yn ymwybodol o fodolaeth y grŵp hwn—yn mynd yn ôl at wybodaeth am y grwpiau hyn—dim ond trwy daro ar draws un o'u hyrwyddwyr, Bev Jones, a oedd yn digwydd byw yn fy mhentref i. Deuthum ar ei thraws ar y stryd, a thrwy gyfarfodydd dilynol rydym wedi bondio, daethom yn ffrindiau, a hi wnaeth godi proffil ymgyrch Amser i Newid Cymru i mi, ac yn wir faterion iechyd meddwl yn gyffredinol, na fyddwn wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen. Mae'n fy nharo i faint yr ydym yn dibynnu ar bobl o fewn y maes hwn, ac yn aml drwy gyfarfodydd damweiniol, i gynyddu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd allan yno, sydd yn hanfodol yn ein gwaith ni fel Aelodau Cynulliad er mwyn gallu helpu pobl eraill a’u cyfeirio ar y llwybrau cywir.

Fel mae gwefan Amser i Newid Cymru yn ei ddweud, mae angen yr ymgyrch oherwydd er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn mae’n gallu bod yn bwnc tabŵ o hyd.  Mae Amser i Newid yn awyddus i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am salwch meddwl ac, yn bwysicaf oll, i gael pobl i siarad am iechyd meddwl. Mae'r ymgyrch hon, un o nifer, yn enghraifft o ba mor bell yr ydym wedi dod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a sut y ceir sefydliadau a grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd, trwy eu gwaith caled a'u hymroddiad, yn helpu i gyflawni nodau 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Ychydig eiriau olaf ar ddatblygiad Cymru fel cenedl sy’n ystyriol o ddementia. Ymdriniwyd â’r pwnc hwn yn fras yn sylwadau Lynne Neagle yn gynharach. Unwaith eto, rwy’n lwcus; mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi helpu i arwain y ffordd yn y maes hwn—peidiwch â chael y syniad bod popeth yn digwydd yn fy mhentref i, ond mae llawer yn digwydd yno—gyda dynodi, i ddechrau, brosiect Rhaglan ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw wedi newid yn raddol i fod yn brosiect ehangach i Sir Fynwy, ac mae hynny'n ddibynnol ar rwydweithiau lleol, pobl leol. Rwy'n gwybod fod Mark Drakeford, yn eich rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, mewn gwirionedd, wedi ymweld â’r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Byddech wedi gweld sut mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gyflawni amcanion y Llywodraeth ac yn ategu'r sianeli iechyd prif ffrwd i wneud hynny. Pobl leol yn edrych ar ôl ei gilydd yn y lle cyntaf. Mae'n enghraifft wych o sut gall cymuned weithio, gyda chymuned yn gofalu am gymuned, pobl yn gofalu am bobl.

I gloi, mae llawer o arferion da allan yno. Mae rhywfaint ohonynt oherwydd camau gweithredu’r Llywodraeth, mae rhywfaint er gwaethaf camau gweithredu’r Llywodraeth, a’r DU yw hynny, wrth gwrs, nid dim ond yma. Gadewch inni gadw'r pwysau ar gyfer newid gwirioneddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gorau ar yr adegau yn eu bywydau y maent eu hangen fwyaf.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' heddiw? Mae i’w groesawu'n fawr. Cyflwynodd y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf fesurau a welodd gynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd y dylai pobl sy'n derbyn y gwasanaethau hyn gael cynllun gofal a thriniaeth ar waith. Er ein bod yn gwybod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth, rwy’n meddwl ein bod ni oll yn cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fod yn symud.

Fel yr ydym wedi clywed, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar o leiaf un o bob pedwar o bobl Cymru, ac mae'n aml yn cael ei gysylltu â thlodi, fel achos ac fel symptom. Yn ddi-os, mae tlodi yn cynyddu'r straen a’r poen meddwl a all arwain at iechyd meddwl gwael. I’r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gall sicrhau a chadw cyflogaeth ac ymdopi â heriau ariannol o ddydd i ddydd fod yn rhwystr mawr.

Mae penderfyniad y weinyddiaeth ddiwethaf i gynyddu a chlustnodi gwariant ar gyllid iechyd meddwl yn rhoi cyfle i gael mwy o fynediad at gefnogaeth, gwella llwybrau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn elfen hanfodol o ran cyflawni'r canlyniadau hyn, ond hoffwn i ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy’n rhaglen allweddol yn y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig yn y gweithle.

Trwy eu cysylltiad â byrddau partneriaeth lleol, mae'n amlwg bod gan gyrff cyhoeddus swyddogaeth yn hyn o beth drwy gydlynu strategaethau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu. Mae ganddynt hefyd swyddogaeth fel cyflogwyr i gymryd yr awenau ar ddarparu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, o ran y ddarpariaeth o wasanaethau o ddydd i ddydd ac ymysg eu staff eu hunain.

Mae gan awdurdodau addysg lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ymysg plant mewn ysgolion, gan gynnwys gweithio i roi terfyn ar y stigma yr ydym wedi clywed cymaint amdano ynghylch salwch meddwl a mynd i'r afael ag unrhyw anoddefgarwch a bwlio sydd ynghlwm wrth hynny.

Mae'n wir fod y rhan fwyaf o'n cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cynghori ar gyfer eu staff. Ond yn aml nid yw'r rhain yn mynd mor bell â darparu cymorth ychwanegol i'w helpu i nodi a yw eu hiechyd meddwl mewn perygl neu i ddarparu gwasanaethau cymorth pellach ar gyfer rhai sy'n nodi eu bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, mae i'w groesawu bod nifer cynyddol o awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dechrau cydnabod mantais darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn aml mewn partneriaeth â'u hundebau llafur. Mae fy undeb fy hun, Unsain, er enghraifft, wedi datblygu pecyn hyfforddiant cynhwysfawr yn y maes hwn ar gyfer ei aelodau. Mae hefyd rai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy'n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer eu gweithwyr, nid yn unig i'w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae'r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl fel rhan allweddol o'u rhwymedigaethau iechyd a diogelwch.

Rwy’n gobeithio, felly, i gydnabod pwysigrwydd cyflwyno'r strategaeth hon, y bydd mwy o gyrff cyhoeddus yn barod i groesawu rhaglenni cymorth cyntaf iechyd meddwl a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth, ar gyfer eu gweithlu ac er mwyn darparu eu gwasanaethau.

A gaf i yn gyntaf ganmol y Llywodraeth ar ei dull o weithredu’r cynllun cyflawni, ac yn benodol yr ymgynghoriad ffurfiol helaeth a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau?

Fel y soniodd llawer o bobl heddiw, un o'r cyfraniadau mwyaf sylweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedd hynt Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac, yn benodol, rwyf am gyfeirio at rwyddineb cynyddol y mynediad at asesiadau iechyd meddwl sylfaenol.

Afraid dweud bod mynediad amserol at asesiadau yn hanfodol o ran y diagnosis ymlaen llaw a thriniaeth barhaus o salwch meddwl. Mae targedau ar gyfer yr asesiadau hynny wedi bod yn heriol, ond mae cynnydd o ran eu bodloni wedi bod yn dda iawn mewn sawl rhan o Gymru. Ond yn amlwg bu cynnydd yn y galw. Nid oes amheuaeth, mae rhan o hynny yn ganlyniad gwell mynediad, ac felly mae hynny’n amlwg i'w groesawu. Ond mae'n ymddangos i mi fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i weld eu meddyg yn dioddef o salwch meddwl posibl hefyd o ganlyniad i'r pwysau cynyddol y mae pobl yn ei wynebu wrth fyw eu bywydau—pryderon ariannol, perthynas yn chwalu, cyflyrau iechyd eraill ac yn y blaen. Felly, mae’r mater o fynediad at asesiad a'r gallu i ateb y galw cynyddol, hyd yn oed os yw’r perfformiad presennol yn galonogol, yn mynd i fod yn hanfodol.

Un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan reoliadau dan y Ddeddf oedd newid y cymhwyster ar gyfer y rhai sydd â hawl i gynnal asesiad sylfaenol, yn benodol drwy dynnu hawliau, er enghraifft, oddi ar seicotherapyddion. Yn ystod yr ymgynghori, dan y rheoliadau, codwyd pryderon mewn cysylltiad â'r newid, yn benodol gan fod rhai o'r ymarferwyr hynny yn darparu gwasanaethau GIG i gleifion ar wahanol adegau yn eu taith, fel yr ydym wedi clywed heddiw. Mae'n amlwg yn hanfodol bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau yn cael eu hyfforddi'n iawn, fod eu harbenigedd a'u profiad yn gyfredol, a'u bod yn gweithredu o fewn fframwaith moesegol cydnabyddedig. Mae'r Llywodraeth wedi nodi y byddai'n edrych eto ar y mater o gymhwysedd i ddarparu asesiadau. Felly, er budd sicrhau bod gennym y lefelau cywir a'r mathau cywir o allu i ddiwallu yr hyn sy'n sicr yn mynd i fod yn angen cynyddol, byddwn i'n croesawu cael gwybod a yw’n dal i fod yn fwriad gan y Llywodraeth i gyflwyno cynigion ar y mater o gymhwyster, ac os felly, beth fyddai’r amserlen.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y modd adeiladol y mae pawb wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, a hefyd i’r Siambr hon am barhau i flaenoriaethu materion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Byddaf yn ceisio ymdrin ag amrywiaeth o sylwadau. Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi siarad ac wedi gwneud cymaint o bwyntiau, ond ni fydd gennyf amser i ymdrin â phob un ohonynt. Fel y dywedais yn gynharach, bydd y galwadau a wnaethpwyd gan Aelodau yn cael eu nodi a byddwn yn eu hystyried wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyflawni terfynol.

Angela Burns ddechreuodd. Roeddwn yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod y mater ynglŷn â stigma, yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae gan y Siambr hon ei rhan i’w chwarae, mewn gwirionedd, o ran sicrhau bod y rhain yn parhau i gael sylw. Dydw i ddim yn rhywun sy'n mynd i esgus bod y broblem wedi mynd i ffwrdd oherwydd ein bod wedi cynnal un neu ddau o ddigwyddiadau. O ran y proffil sydd gan hwn o fewn y gwasanaeth, mae'n fater sy'n rheolaidd yn cael ei godi gyda mi ac wrth imi gysylltu â rhannau eraill o'r gwasanaeth. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, roedd yn fater penodol a godwyd yn fy nghyfarfod i gydag is-gadeiryddion yr holl fyrddau iechyd lleol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y maent yn ddeall sy’n amcan gweinidogol ac yn flaenoriaeth i ni. Maent hefyd yn deall y pwynt am barch cydradd.  Rwy'n gwybod y siaradwyd amdano yn ddiweddar mewn ffordd wahanol, ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod â diddordeb ynddo ac yr ydym yn awyddus i’w bwyso ar y gwasanaeth yma ers peth amser. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn cael ei gyflwyno. Mewn sawl ffordd rwy’n credu ein bod ar y blaen i GIG Lloegr yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â darpariaeth iechyd meddwl ac mae ein hamserau aros yn ddisgwyliedig. Yr her i ni yw nid yn unig dweud, 'Rydym yn well na Lloegr', ond i edrych eto, fel yr ydym yn ei wneud yn awr. Beth allwn ni ei wneud yn well? Beth ddylem ni ei wneud yn well? Ac eto, byddaf yn gwneud y pwynt hwn, fel y gwneuthum sawl gwaith, am gyllid: rydym eisoes yn gwario mwy na'r arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd i gael ei weld fel isafswm, ond rwy'n hapus i edrych ar y gwaith yr ydym wedi ymrwymo i’w wneud yn gynharach.

Mae'n werth nodi, o ran canlyniadau yn erbyn amcanion a dangosyddion, wrth gwrs y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth> ond hoffwn i wneud y pwynt hwn ar y cychwyn: bod dros 90 y cant o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol ac iechyd meddwl lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn am eu profiad. Felly, rydym yn cymryd eu profiad o ddifrif ac nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol.

Gwnaed nifer o bwyntiau tebyg gan Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, yn enwedig y pwyntiau—a gwnaeth nifer o Aelodau eraill yr un pwyntiau—am ganolbwyntio ar therapïau siarad. Crybwyllodd llawer o aelodau yr un math o bwyntiau, yn benodol ar amseroedd aros, lle mae gennym safonau llymach nag yn Lloegr. Yn wir, rydym yn gweld cynnydd yn cael ei wneud gan ein bod yn recriwtio i'r gwasanaethau hynny.  Unwaith eto, pwynt a wnaeth Dai Lloyd am recriwtio pobl i'r gwasanaeth: dyna pam y crybwyllais yn fy sylwadau cynharach ein bod wedi gwario £3 miliwn y llynedd ar recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant, ac rydym yn gwario £1 miliwn yn ychwanegol eleni hefyd. Felly, does dim newid meddwl i fod na methiant i gydnabod yr angen i gael cymysgedd gwahanol o staff, ond hefyd rydym am wario rhywfaint o'n hadnoddau ar recriwtio ychwanegol.

Byddaf yn ymdrin â'r pwynt CAMHS y gwnaeth nifer o Aelodau ei grybwyll, oherwydd ein bod yn cydnabod yr angen i wella mynediad at y gwasanaeth CAMHS arbenigol ac, ar yr un pryd, i sicrhau ein bod yn cael sgwrs gydag atgyfeirwyr a theuluoedd am atgyfeiriadau i mewn i’r gwasanaeth hwnnw, gan fod plant a phobl ifanc eu hunain wedi cydnabod bod nifer yn cael eu hatgyfeirio i mewn yn amhriodol, ac mae’r niferoedd yn sylweddol mewn gwirionedd. Yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Gweinidog blaenorol yn gwneud y pwynt hwn ar sawl achlysur, ac felly rhan o'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod atgyfeiriadau amgen eraill ar gyfer pobl nad oes angen y gefnogaeth arbenigol arnynt. Hynny yw, edrych ar yr ystod wahanol o ymyriadau amgen a chefnogi sydd ar gael. Er enghraifft, gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, yr hyn y mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ei wneud—yr holl wahanol ymyriadau sydd eu hangen yno i gynorthwyo pobl sydd angen rhyw fath o gymorth a chefnogaeth, hyd yn oed os nad yw’n wasanaethau CAMHS arbenigol.

Byddaf yn gorffen y pwynt hwn. Cafodd hynny ei ddwyn ymlaen yn rhaglen ddiweddar Law yn Llaw ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a’r gynhadledd y siaradais â hi o bell—ni allwn fod yn bresennol yno ar y diwrnod. Y pwynt yr wyf yn ceisio ei wneud yw bod hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio drwyddo ar y ddau ben. Nid wyf yn poeni pwy sy’n ymyrryd gyntaf. [Torri ar draws.] Wel, Angela Burns a glywais yn gyntaf, ac yna byddaf yn ymdrin â Rhun, i weld a yw ef am ddweud yr un peth neu rywbeth gwahanol.

Diolch i chi, ac rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth Rhun ac yr ydych wedi’i ateb. Fodd bynnag, lle mae’n methu yw mewn lle fel hyn: er enghraifft, atgyfeiriad brys ar gyfer CAMHS os yw plentyn sy’n cael ei weld am ei fod yn hunan-niweidio ac wedi dweud ei fod yn mynd i ladd ei hunan. Os yw’r plentyn hwnnw yn awtistig, yna nid yw’n cael y cymorth hwnnw, oherwydd bod CAMHS yn dweud nad yw hynny'n un o'r anhwylderau y maent yn ymdrin â hwy. Mae hwn yn achos parhaus yn fy etholaeth i, ac mae'n sefyllfa hollol chwerthinllyd, lle mae plentyn yn bodloni un set o feini prawf, ond, oherwydd ei fod yn digwydd bod ag anhwylder penodol, mae’n cael ei eithrio o’r broses CAMHS, ac felly wedyn mae’n cael ei wthio yn ôl i mewn i’r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna'r math o eglurder sydd ei angen mewn sefyllfa fel hon.

Rwy'n meddwl bod yna bwynt ynghylch gweld y person cyfan, yn hytrach nag un cyflwr penodol, ond os ysgrifennwch ataf ar y mater penodol hwnnw, gallaf gynnig rhywbeth mwy defnyddiol arno.

Byddaf yn ceisio gwneud rhywfaint o gynnydd. Unwaith eto, gwnaeth llefarydd UKIP nifer o bwyntiau adeiladol. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yn benodol, o ran y galw am fwy o arian, yw fy mod wedi dweud ein bod yn buddsoddi mwy o arian. Rydyn ni'n buddsoddi mwy o arian nag erioed o'r blaen, ac rydym wedi parhau i fuddsoddi. Nid yr alwad am fwy o arian yw'r her; yr her bob amser yw ble i ddod o hyd iddo a ble rydyn ni’n peidio â dewis ei wario hefyd.

Ar y pwynt hwnnw yn benodol—ac mae'n bwynt cyffredinol ar gyllid—mae cyllid ar gyfer CAMHS yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, i fod wedi mynd i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A allech chi egluro ai mater o godio ble yn union y daw’r cyllid ar gyfer trin rhywun 16 mlwydd oed a throsodd o fewn y gwasanaeth iechyd, neu a fu dirywiad yn y cyllid ar gyfer pobl ifanc?

Fel y dywedais, cyhoeddwyd buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £7.65 miliwn y llynedd, a nodais hynny yn fy sylwadau agoriadol. Felly, nid wyf yn derbyn y bu gostyngiad yn y cyllid ar gyfer CAMHS; nid dyna’r her sy'n ein hwynebu. Mewn gwirionedd, ni fyddem wedi gallu recriwtio pobl newydd i mewn i'r gwasanaeth i wneud rhywbeth ynghylch mynd i'r afael ag amserau aros hir—sy’n sicr heb ei orffen eto—heb y buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn staff.

Byddai’n well i mi fwrw ymlaen. Yn benodol, roeddwn i eisiau cydnabod y pwyntiau a wnaed gan Lynne Neagle, unwaith eto, mewn cyfraniad a baratowyd yn dda iawn am ddementia yn benodol. Tynnodd sylw at y ffaith ein bod yn genedl ystyriol o ddementia sydd â chymunedau ystyriol o ddementia, ac effaith hynny ar unigolion ar draws y gymuned honno, o ran deall beth yw dementia, ond hefyd o ran profiad bywyd gwell, ac yn benodol tynnodd sylw at faint yr her. Gallaf ddweud ein bod yn disgwyl cael y cynllun gweithredu strategol newydd ar ddementia erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ond rydym wedi gweld cyfraddau diagnosis yn gwella, ac rwy’n disgwyl i ni gyrraedd 50 y cant erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac yna rwy’n disgwyl pennu ein lefel newydd o ddisgwyliadau.

Rwy’n mynd i ymdrin â nifer o'r pwyntiau a grybwyllwyd gan Dai Lloyd. Ar blismona ein perthynas ymarferol, mae'n rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed arno, ac rydym yn cydnabod yr angen i ni barhau i wneud hynny, yn ogystal â'ch pwynt ynglŷn â hyfforddiant ar gyfer staff a'r pwynt ehangach am y gymysgedd o staff sydd gennym.

Nick Ramsay, ar wahân i sôn am Raglan mewn sawl man ac ar bob cyfle, rwyf wrth fy modd eich bod hefyd yn cydnabod yr heriau ar draws y DU, ond hefyd y ffordd yr ydym yn manteisio ar brofiad bywyd pobl ac effaith gwirfoddoli fel rhan o gynnal lefel dda o iechyd meddwl a lles.

Yn olaf, rwyf yn awyddus i sôn am y pwyntiau a godwyd gan Dawn Bowden a Hannah Blythyn, yn enwedig o ran edrych ar ddangosyddion a materion iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yn unig o safbwynt fy mywyd blaenorol fel cyfreithiwr, ond hefyd fy mywyd blaenorol fel swyddog undeb i undeb llafur, rwy’n cydnabod y swyddogaeth sydd gan gynrychiolwyr undebau llafur i'w chwarae wrth helpu i greu gweithle mwy cadarnhaol ac mewn cymryd camau lle nad yw hynny'n digwydd. Mae'n swyddogaeth bwysig nad yw weithiau yn cael ei hamlygu. Ond fe es i, fy hun, ar hyfforddiant ymwybyddiaeth cymorth cyntaf iechyd meddwl ac rwyf wedi gwneud yn siŵr bod fy staff hefyd wedi ymgymryd â’r hyfforddiant hwnnw ar gyfer y swyddogaethau arbennig o ingol ac anodd y maent yn eu gwneud o bryd i'w gilydd. Gall hwnnw fod yn bwynt efallai y bydd Aelodau unigol yn dymuno ei ystyried drostynt eu hunain.

Yn olaf, rwyf am ymdrin â, nid pob un o'r pwyntiau a wnaeth Jeremy Miles, ond i orffen ar y pwynt hwn, ac mae'n ymwneud ag ymgysylltu, oherwydd eich bod yn cydnabod y pwyntiau am yr ymatebion y mae pobl wedi'u gwneud a sut y byddwn yn ymdrin â'r proffil galw ar adeg o ansicrwydd economaidd ac nad ydym yn dymuno eistedd yn ôl. Cawsom 137 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae'r ymatebion a'r modd yr ydym yn ymgysylltu yn ddilys. Gallaf ddweud hynny oherwydd bydd yr ymatebion hynny wedi newid yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y pen draw yn y cynllun terfynol. Felly, byddwn yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i ymdrin â'r galw sydd gennym yn awr a'r hyn a ddisgwyliwn yn y dyfodol, ac i wneud yn siŵr ein bod yn dod yn ôl, nid yn unig i ddweud ein bod wedi ymdopi , ond ein bod wedi gwella'r sefyllfa a bod y canlyniadau wedi parhau i wella ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at siarad mwy yn y Siambr hon ar adeg arall am weithredu iechyd meddwl yma yng Nghymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Bethan Jenkins.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl ar ailenwi y Cynulliad Cenedlaethol. Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig ac agor y ddadl, hoffwn wneud datganiad byr.

Mae’r Cynulliad bellach yn lle tra gwahanol i’r un a etholwyd yn 1999. Mae nawr yn pasio Deddfau a’n cytuno trethi, yn ogystal â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a rhoi canolbwynt i drafodaethau democrataidd ar faterion o bwys i bobl Cymru. Mae’n briodol felly i ni ystyried o ddifrif ailenwi'r sefydliad.

Mae Mesur Cymru sy’n cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd—o bosib wrth ein bod ni’n siarad—yn darparu’r pwerau i’r Cynulliad newid ei enw. Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma, yn unol â threfniadau ein proses deddfwriaethol a bydd angen i ddwy ran o dair o’n haelodaeth gefnogi’r ddeddfwriaeth yma. Mae sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer unrhyw gynnig felly yn allweddol.

Os cymeradwyir y cynnig heddiw felly, y camau nesaf fydd i ymgynghori yn fuan ar yr hyn dylai’r enw fod. Mae yna sawl enw posib a sawl term cysylltiol sy’n deillio o’r dewis. Rhaid ystyried pa mor fuan dylid gwneud y newid ac ystyried sut rydym yn cyfathrebu’r newid yn glir a symboli hyn. Dylai’r enw barhau i ysgogi hyder a balchder ymysg bobl Cymru.

Byddaf yn trafod y materion yma ymhellach gyda fy nghyd-Gomisiynwyr ar y cyfle cyntaf ac yn hysbysu’r Cynulliad o’r camau nesaf ar gychwyn tymor yr hydref. Ond, am heddiw, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau cychwynnol yr Aelodau ar ailenwi ein Cynulliad Cenedlaethol.

I gyflwyno’r cynnig, rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Cynnig NDM6055 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Nid oes dim byd y gallaf i ei ychwanegu at hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid imi ddweud.

Ond a gaf fi ddweud felly fy mod i’n cytuno’n hollol â’r hyn yr oedd gennych chi i’w ddweud? Jest i ychwanegu, felly, safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â gwelliannau: nid ydym yn erbyn y gwelliannau mewn egwyddor, ond, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n rhaid sicrhau bod y cwestiwn o beth ddylai’r sefydliad hwn gael ei alw yn un sydd yn gwestiwn agored. Felly, er nad yw’r gwelliannau’n creu sefyllfa lle byddai’n rhaid newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd’ yn Saesneg ac yn Gymraeg, byddai pobl yn erfyn i hynny ddigwydd, yn fy marn i, pe byddem yn cefnogi’r gwelliannau hyn y prynhawn yma. Felly, nid oes gennyf ragor i’w ychwanegu, ond i symud y cynnig yn ffurfiol ac i ddweud wrth y Cynulliad beth yw safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â’r gwelliannau.

Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 1—Bethan Jenkins

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr enw Cymraeg 'Senedd' wedi ennill cefnogaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.

Gwelliant 2—Bethan Jenkins

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried defnyddio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr enw 'Senedd'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Lywydd, a hoffwn i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy’n credu fy mod i’n mynd i ddechrau’r ddadl yma heddiw, ond heb ei gwthio at bleidlais, er mwyn inni allu cael y drafodaeth ynglŷn â’r newid yma yn y Cynulliad ac i ganiatáu wedyn i’r Llywydd ymgynghori ar y sefyllfa.

Ond, yn gyntaf, hoffwn groesawu’r cyfle i siarad ar y mater yma a geiriad agored y cynnig—cynnig sy’n rhoi cyfle inni ystyried yn ofalus enw ein corff democrataidd cenedlaethol. Fel pob un ohonom, rwy’n credu y dylem, fel sefydliad, anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i’r genedl, o ran ein polisïau, ein deddfwriaeth flaengar, ond hefyd ein defnydd o’n hiaith genedlaethol unigryw.

Yn 1997, enillom ni ddatganoli ar y sail y byddem yn creu democratiaeth o fath newydd a fyddai’n adlewyrchu gwerthoedd Cymru, nid fforwm i ddilyn arferion gwledydd eraill, heb eu cwestiynu. Yn ystod y degawd a hanner diwethaf, efallai y gallech chi ddadlau ein bod ni wedi canolbwyntio gormod ar statws ein sefydliadau yn hytrach nag ar ddilyn ein trywydd ein hunain. Dros gyfnod o 17 mlynedd, rydym wedi ceisio adeiladu sefydliad sy’n cael ei barchu, wedi gwahanu’r ddeddfwrfa o’r Weithrediaeth ac wedi ailenwi ‘Ysgrifenyddion’ yn ‘Weinidogion’, ac yn ôl eto. Penderfynodd gwleidyddion yr Alban alw’r ‘Scottish Executive’ yn ‘Llywodraeth yr Alban’ yn 2007 ac wedyn, yn 2011, fe wnaethom ni eu dilyn. Mae fel petai ein hyder yn deillio o, ac yn dibynnu ar efelychu eraill, fel bod yn rhaid edrych dros ein hysgwydd am arweiniad o hyd.

Dywedodd Raymond Williams yn 1975 mai arwydd o’r wir Gymru newydd fyddai, ac rwy’n dyfynnu, cyfnod

‘o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o’u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i’r gorffennol, fel llunio hanes, ond gydag ymdeimlad hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol, lle bydd yr ystyron a’r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio.’

Felly gadewch i ni ddilyn ein trywydd ein hunain, gadewch i ni fod yn ddigon sicr o’n hunain i daflu ein beichiau meddyliol, a manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg ar ein Senedd.

Ystyriwch y sefydliadau rydym fel Senedd yn eu cefnogi sydd ag enwau uniaith Gymraeg, o Chwarae Teg i’r Urdd, o Merched y Wawr i’r Mudiad Meithrin. Os ydym ni am feithrin ein plant bach gyda’r Gymraeg ar eu tafodau, gadewch i ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd. Mae’n hanthem genedlaethol yn uno ein cenedl—efallai mai dyna pam nad oes gen i ddim llais heddiw—gyda geiriau uniaith Gymraeg. Pan fo torf yn ei bloeddio, mae’n cenedl yn unedig. Mae’n uno pobl waeth beth yw eu cefndir na’u hiaith gyntaf. Ac, wrth sôn am ein hanthem, dylem gofio y foment pan wisgodd ein tîm pêl-droed grysau â’r gair ‘diolch’ arnynt—ein tîm pêl-droed cenedlaethol ar lwyfan y byd yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus. Oni ddylem ni weithredu yn yr un modd?

Cyn cloi, hoffwn ddelio â rhai dadleuon posib yn erbyn yr awgrym yma. Efallai y bydd nifer ohonoch chi yn credu y dylem ni gadw’r enw ‘Cynulliad Cenedlaethol’, ac mae gen i gydymdeimlad â’r ddadl honno. Mae’n enw a ddefnyddir ar draws y byd, o Giwba i Ffrainc, ond fe hoffwn i i’r Llywydd ystyried ‘Senedd’, gan fod y gair yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad. Mae adroddiad gwallus wedi bod yn y wasg yn honni bod y gair ‘Senedd’ yn cyfeirio at Senedd San Steffan. Fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, mae ‘Senedd’ yn cyfeirio at gorff deddfu gwlad, nid at Senedd y Deyrnas Unedig yn benodol.

Yn olaf, gwn fod rhai wedi dadlau mai enw’r adeilad yma yw ‘Senedd’ ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ailenwi’r adeilad yn ‘Senedd-dy’ os dymunwn ni, ond nid wyf i’n gweld bod yna broblem fawr wrth gael enw ar adeilad ac wedyn enw ar sefydliad—cael yr un enw ar yr adeilad a’r sefydliad. Rwy’n credu ei bod hi’n weddol hawdd i bobl allu deall hynny. Mae’r gair ‘Senedd’ â’i wreiddiau yn Lladin, iaith sy’n uno ein cyfandir yn ei holl amrywiaeth. Ac, wedi i ni, yn groes i ewyllys nifer ohonom yn y Senedd yma, benderfynu cefnu ar yr Undeb Ewropeaidd, gadewch i ni gymryd cam a fyddai’n cryfhau undeb Ewropeaidd arall, drwy atgyfnerthu hen undeb ddiwylliannol o’r newydd. Diolch yn fawr.

Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn fwy na thebyg yn gwneud yr un fath â'r Prif Weinidog o ran cadw fy sylwadau'n fyr, oherwydd bod y Llywydd, yn ei chyflwyniad, yn fy marn i, wedi amlygu'r broses a oedd ar gael i'r Senedd hon, neu 'parliament', neu Gynulliad—galwch ef yr hyn a fynnoch, oherwydd bydd trafodaeth ynglŷn â hynny.

Ond, rai blynyddoedd yn ôl, rhoddais fy enw, yn amlwg, i ailenwi'r sefydliad hwn, gan fy mod yn credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn y gymuned yn deall swyddogaeth y ddeddfwrfa mewn gwirionedd o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. A, phe byddwn yn cael punt am bob tro y mae pobl wedi beirniadu'r Cynulliad am hyn, a'r Cynulliad am y llall, oherwydd, ym meddyliau llawer o bobl, maent yn dal â'r corff corfforaethol hwnnw, lle'r oedd popeth yn cael ei redeg gan y Cynulliad yn y dyddiau cynnar, ac mae pobl yn dal i beidio â gweld y gwahaniaeth rhwng yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud a'r hyn y mae'r ddeddfwrfa yn ei wneud ar eu rhan ac yn eu henw.

Rwyf yn credu bod unrhyw ailenwi yn gorfod cael ei dderbyn gan yr etholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma i weithredu ar eu rhan. Ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad, yn amlwg, i'r gwelliannau a osodir heddiw, ond rwyf yn meddwl bod angen iddynt gael eu hystyried yn llawn, oherwydd nid wyf ddim yn gweld pam na allem gael 'Senedd' a 'parliament', oherwydd, yn amlwg, mae gan bobl ddealltwriaeth gyflawn o'r gair 'parliament', yn y ffordd y mae democratiaeth y DU yn gweithio, a, dros gyfnod o amser, rwyf yn credu y gallai'r gair 'Senedd' gael ei dderbyn yn rhwydd. Ond, ar gyfer llawer o bobl, mae'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi datblygu—ac, yn enwedig, ei allu deddfwriaethol, ei allu i drethu, wrth symud ymlaen, ar ôl i Bil Cymru gael ei basio, ac, yn y pen draw, swyddogaeth Llywodraeth—

Ydych chi'n credu er hynny pe byddech yn ei roi yn y Gymraeg yn unig, na fyddai gennych hyd yn oed y broblem bosibl o bobl yn camddeall pa un ai Senedd Cymru ynteu Senedd y DU yr oeddech yn sôn amdani? Yn y Gymraeg, felly, byddai'n unigryw ac yn sefyll drosti ei hun, neu a fyddech chi'n anghytuno â hynny?

Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch chi am yr Alban, er enghraifft, mae'r cyfeiriad yn gyfeiriad at y 'Parliament' yn yr Alban, er gwaethaf, yn amlwg, bod gan yr Alban ei hiaith ei hun ac, yn amlwg, yr hyrwyddir yr iaith honno. Ac rwyf yn credu bod angen i unrhyw ailenwi fod â'r gallu, wrth wraidd ei broses, yn amlwg, i bobl ddeall yn rhwydd pwy sydd â chyfrifoldeb a phwy sydd â'r swyddogaeth, ac, fel y dywedodd y Llywydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd cyfrifoldeb hwnnw bellach yn dod atom ni drwy Fil Cymru, a'r gallu hwnnw i ni ailenwi’r corff hwn. Ceir trafodaeth bod rhai Aelodau yn credu'n amlwg y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau fel ag y mae, ac rwyf yn croesawu'r cyfle am y drafodaeth a'r ymgynghori y dywedodd y Llywydd fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf. O'n safbwynt ni, mae gennym bleidlais rydd ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n fater gwleidyddol; nid wyf yn ei weld fel mater gwleidyddol, a dweud y gwir. Ein dyletswydd ni fel Aelodau yw ceisio myfyrio ar ein gwaith, myfyrio ar y cyfathrebu gydag aelodau'r cymunedau a'n hetholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma, ac, yn y pen draw, adlewyrchu deinameg newydd y ddeddfwrfa, y berthynas â'r Llywodraeth, a'r berthynas â'r cymunedau, boed nhw yn y gogledd, y canolbarth neu'r de. Felly, rwyf yn croesawu'r ddadl gychwynnol hon, ond, yn amlwg, bydd nifer o ddadleuon eraill yn ymwneud â'r mater hwn.

Fel pawb arall, rwyf yn croesawu'r ddadl hon, er fy mod yn meddwl tybed, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, a allent fod yn ei ystyried fel rhyw fath o fogailsyllu ymhongar braidd ac nad ydynt yn poeni fawr am yr hyn yr ydym yn galw ein hunain—cyn belled ag y gallaf ddweud, maen nhw'n feirniadol iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn. Ond, mae nifer ohonom, wrth gwrs, wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn lle arall, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach y cyfle i greu senedd wirioneddol yno, yn hytrach na'r un a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ond, pan fydd Bil Cymru yn cael ei basio a phwerau trethu yn cael eu datganoli i'r sefydliad hwn, bydd, wrth gwrs, dadl wirioneddol i alw ein hunain yn senedd, gan fod trethu a chynrychiolaeth wedi cyd-fynd yn draddodiadol ym meddyliau pobl sy'n cefnogi democratiaeth.

Rwyf i'n bersonol yn eithaf hoff o'r syniad o gael 'Senedd' fel enw, ac rwyf yn mwynhau bod yn 'Aelod o'r Senedd', a tybed a fyddai hynny'n ein gwneud i ni yn seneddwyr, yn y pen draw, a beth fyddai barn y cyhoedd ar hynny. Fel y nododd Bethan Jenkins, mae hyn yn tarddu o'r hen Rufain, ac roedd yn golygu, wrth gwrs, os oeddech yn berson hen, roeddech yn cael eich ystyried fel bod yn ddoeth yn awtomatig, ac mae hon yn ddamcaniaeth yr wyf wedi closio ati—yr hynaf yr wyf yn mynd, y doethaf yr wyf yn mynd rwy’n credu. Ond nid oeddwn yn hoff o'i dadl ynglŷn â'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cael ei alw yn hynny yn Cuba ac yn Ffrainc. Nid wyf yn awyddus i ddilyn esiampl yr un o'r ddwy wlad hynny.

Ond rydym yn croesawu, yn ein plaid ni—a bydd gennym ni bleidlais rydd ar hyn hefyd—trafodaeth genedlaethol ar y pwnc hwn, ac rwy'n siwr, yn dilyn y refferendwm, y bydd yr un faint o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ein trafodaeth ar yr hyn yr ydym yn mynd i alw ein hunain. Felly, nid oes gennym yn bendant unrhyw wrthwynebiad i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried goblygiadau'r newid hwn ac, yn wir, ymgynghori mor eang â phosibl, ac yna byddwn yn dod yn ôl a thrafod y mater mewn modd gwirioneddol.

Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n cael cyfle i drafod hwn. Erioed yn fy mywyd gwleidyddol i, rwyf wedi ymffurfio ac ymgyrchu yn enw senedd i Gymru, ac er ein bod ni wedi ffurfio’r Cynulliad, rwyf wastad yn teimlo mai’r rheswm dros alw’r lle yma’n Gynulliad yn y lle cyntaf oedd ei wneud e’n israddol i’r hyn a ystyriwyd ar y pryd yn senedd go iawn, sef y Senedd yn San Steffan. Mae’n wir fy mod innau hefyd wedi gwasanaethu yn y Senedd yn San Steffan, ac mae’n dal i fod yn wir—digwyddodd e dair gwaith dros y penwythnos diwethaf—fod pobl yn dod lan ataf i ac yn wastad yn gofyn, efallai fel ffordd o dorri’r garw, ond maen nhw’n wastad yn gofyn, ‘A ydych chi’n colli San Steffan?’, ‘Do you miss Parliament?’, ac rwy’n gorfod eu hateb, ‘I am in a Parliament, you know. I’m still in a Parliament’. Ond mae’r syniad yma fod ‘parliament’ uwchben cynulliad yn rhan o’r ffaith ein bod ni’n byw yn ynysoedd Prydain, ac mae’n grêt i feddwl bod ‘Cynulliad’ yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, ond y ffaith amdani yw ein bod ni’n rhannu treftadaeth ar y cyd gyda gwledydd Prydain sydd yn dreftadaeth seneddol. Ac os ydym am i’r lle yma feithrin yr un statws â’r Senedd yn San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, rwy’n credu bod rhaid inni alw ein hunain yn ‘Senedd’. Ac yn yr un ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen i fod yn ‘Llywodraeth Cymru’, er taw’r enw swyddogol yw ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’, rwy’n meddwl, o hyd yn ôl y ddeddfwriaeth, mae modd inni ddechrau galw ein hunain yn ‘Senedd’.

Nawr, a ddylai hynny fod yn ddwyieithog neu unieithog? Rwy’n ddigon agored. Yn bersonol, wrth gwrs, byddwn i’n ddigon hapus ein bod ni’n galw’n hunain yn ‘Senedd’, fel y Dáil yn Iwerddon; byddai’n ddigon cyffredin i fi, fel un sy’n siarad Cymraeg, i wneud hynny, ond rwy’n credu y dylem ni ymgynghori, ac mae’r cynnig gan Bethan yn gofyn i ni ystyried. Felly, rwy’n hapus iawn i gefnogi hynny, ond dylem ni ymgynghori—dylem wrando ar beth sydd gan bob un o’r bobl i’w ddweud ynglŷn â’r ffordd maen nhw angen cyfeirio at y sefydliad yma. Ond rwy’n credu ein bod ni’n Senedd—rydym yn hawlio yr hawl i ddeddfu ac rydym yn mynd i drethu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod—a gawn ni alw ein hunain yn enw sy’n cydnabod y statws sydd gan y sefydliad?

Yr hyn sydd gennym yma gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn rhyw ffordd, yw tipyn o broblem marchnata. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn yr etholiadau yn sylweddol is nag ar gyfer fersiwn San Steffan. Mae gwleidyddion yng Nghymru yn aml yn dweud bod llawer o etholwyr Cymru yn aml yn gwbl anwybodus ynghylch pa faterion sydd wedi eu datganoli a pha rai nad ydynt. Y broblem yn ei hanfod yw nad yw'r mwyafrif llethol o'r bobl yng Nghymru wedi eu lapio mewn swigen wleidyddol, fel yr ydym ni'n tueddu i fod yma. Mae angen i ni fod yn ofalus cyn i ni newid ei enw na fyddwn yn ymddieithrio pobl hyd yn oed ymhellach oddi wrth y corff gwleidyddol sydd i fod i'w gwasanaethu.

Gadewch i ni edrych yn gyntaf ar y cynnig y dylai'r Cynulliad ddechrau galw ei hun yn 'parliament' neu senedd. Wel, mae hynny'n iawn, yn ddamcaniaethol, ar ôl i bwerau trethu ddod i rym, ond nid ydym wedi cyrraedd hynny eto. Mae sefyllfa UKIP braidd yn gymhleth gan fod llawer ohonom wedi gwrthwynebu'r cydsyniad ar gyfer pwerau trethu heb y refferendwm a addawyd, fel yr esboniodd fy nghyd-Aelod Mark Reckless yn gynharach heddiw.

Ond gan hyd yn oed roi'r mater trethu o'r neilltu a chan dybio bod y pwerau yn cael eu gweithredu, oni fyddai'n gwneud synnwyr i ohirio ailenwi'r Cynulliad fel 'parliament' neu senedd tan efallai ddechrau'r chweched tymor yn 2021? Rwyf yn awgrymu y byddai hyn yn fwy cost-effeithiol na'i wneud yng nghanol tymor, ac ni fyddem yn rhagfarnu canlyniad y mater trethu.

Af ymlaen at welliant, neu welliannau, Bethan, mae hi eisiau i'r term 'Senedd' yn unig gael ei ddefnyddio yn hytrach na 'Parliament', oherwydd mae'n dweud bod y term hwn eisoes yn ddealladwy yn eang a bod ganddo gefnogaeth eang. Wel, rydym yn y fan yma yn dod yn ôl at y swigen wleidyddol, neu o leiaf swigen ddiwylliannol. Mae Bethan yn dod o gefndir Cymraeg neu gefndir dwyieithog, ac yn ei chylch cymdeithasol hi, efallai'n wir fod 'Senedd' yn derm a ddefnyddir yn helaeth. Ysywaeth, pe byddwn yn dechrau siarad am y 'Senedd' yn nhafarn Wetherspoon's [Torri ar draws.]

Iawn, wel, efallai nad yw hyd yn oed yn hynny, ond mae hynny efallai yn pwysleisio fy mhwynt. Pe byddwn yn dechrau siarad am y Senedd yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth yr oeddwn yn sôn amdano.

Rwy'n ceisio bod o gymorth, i efallai eich arbed rhag eich hunan. Cefais fy nharo gan fy nhudalen Facebook fy hun, nad yw o fewn swigen ddiwylliannol, a gofynnais y cwestiwn ynglŷn â barn pobl ar hyn. Roedd amheuaeth, fel y dywedwch, o ran ein bod yn trafod hyn ar hyn o bryd, ond y consensws oedd defnyddio'r term dwyieithog 'Senedd' gan ei fod yn gynhwysol ac eisoes yn cael ei ddefnyddio. Felly, er nad yw'n wyddonol, nid oeddwn yn ystyried hynny fel adlewyrchiad o unrhyw swigen ddiwylliannol ond o deimlad synnwyr cyffredin bod hwn yn derm sydd eisoes yn gynhenid ac sydd wedi ennill ei blwyf.

Iawn, diolch, Lee; a gaf i barhau? Iawn, y swigen ddiwylliannol. Y pwynt yw ein bod ni mewn swigen wleidyddol—rwyf innau ynddi erbyn hyn hefyd—ond mae'n rhaid i ni gadw rhywfaint o gyswllt â'r byd go iawn y tu allan. [Torri ar draws.] Iawn, diolch. Yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth oeddwn i'n sôn amdano pe byddwn yn dechrau sôn am y 'Senedd', a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad.

Mae Bethan wedi crybwyll yr Urdd, Chwarae Teg a Merched y Wawr. Ie, ond y broblem yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i drefedigaeth Gymraeg ei hiaith Pontcanna—y rhan fwyaf o'r bobl yng Nghaerdydd—yn gwybod beth yw'r pethau hyn. Ar y sail honno, rwyf yn ofni bod angen i ni anghofio am y term 'Senedd' hwn. Ar bob cyfrif defnyddiwch ef yn anffurfiol fel y cyfieithiad Cymraeg, ond nid fel prif enw'r sefydliad gwleidyddol hwn os gwelwch yn dda. Fel arall, rydym yn ymddieithrio'r Cynulliad ymhellach oddi wrth y rhan fwyaf o bobl Cymru. Diolch.

Ychydig iawn, yn y bôn, yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud, ond ar ôl hynna, rwyf yn teimlo y dylwn ymateb. O ran y mater amseru, rwyf wedi treulio, erbyn hyn, 17 mlynedd yn y lle hwn ac mae pobl bob amser yn dweud nad yw hi byth yr adeg iawn ar gyfer rhywbeth. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei sefydlu fel enw a chysyniad cyn iddo fodoli yn y gyfraith. Pan wahanwyd y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn ffurfiol, roedd yn bodoli felly. Mae'r enw 'Llywodraeth Cymru' bellach yn cael ei ddefnyddio yn helaeth, ond eto, nid yw'n bodoli mewn gwirionedd yn y gyfraith, 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' ydyw o hyd, ond gwnaethom hepgor yr enw 'Cynulliad' ar ôl 2011, ac mae pobl wedi derbyn hynny fel yr arfer.

Rwy'n agored i'r hyn y dylai'r sefydliad alw ei hun. I mi, nid yw 'Cynulliad Cenedlaethol' wir wedi gweithio erioed; nid yw pobl yn ei ddeall yn yr hyn y gallaf ei ddisgrifio fel byd y gyfraith gyffredin. Ydy, mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill; yn Ffrainc, yr 'Assemblée Nationale' ydyw, rwyf yn gwybod hynny. Ond i ni, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym sefydliad y mae pobl yn ei ddeall. Mae pobl yn deall beth yw ‘Parliament’; nid wyf yn dweud y dylai hynny fod yr unig ddewis ar y bwrdd, ond maent yn deall beth y mae'n ei olygu.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett; gallaf ei sicrhau fy mod i'n byw mewn stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae fy mhlant yn mynd i ysgol leol ac rwyf yn siopa'n lleol—nid wyf yn byw mewn swigen. Rwy'n treulio fy amser mewn tref lle y cefais fy magu, gyda phobl y tyfais i fyny â nhw, ac, yn sicr, rwyf yn treulio fy amser yn y gymuned leol. Rwyf yn gwrthwynebu'r awgrym bod Cymry sy'n byw yng Nghaerdydd yn drefedigaeth—trefedigaeth. Pe byddai rhywun yn sefyll ar ei draed yn y Siambr hon a disgrifio pobl yng Ngheredigion neu yng Ngwynedd, sydd yn siaradwyr Saesneg, fel 'trefedigaeth', byddai'r lle yma'n ferw a gofynnaf iddo fyfyrio ar y ffaith honno. Mae'n gwneud iddi swnio fel pe nad oes lle yn ein prifddinas i bobl yng Nghymru sy'n siarad iaith benodol, ac mae hynny'n sylw cwbl anghywir ac yn rhywbeth y mae angen iddo fyfyrio arno. Nid wyf yn siŵr ei fod yn ei olygu yn y ffordd honno, ond bydd yn sarhaus iawn i nifer o bobl. Nid dim ond ef sydd â'r hawl i fyw yn ein prifddinas; mae gan holl bobl Cymru a phobl o bob cwr o'r byd yr hawl i ddod yma, i gael eu croesawu yma ac i gyfrannu at ein heconomi.

Mae hefyd yn gwneud y pwynt nad yw pwerau trethu yn cael eu datganoli; maent wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes wedi eu datganoli; trethi ydyn nhw. Mae treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiad tir ar y gweill ac ar eu hynt trwy'r Cynulliad; maent eisoes wedi eu datganoli. Ni fu erioed awgrym y byddai refferendwm cyn iddyn nhw gael eu datganoli. Felly, mae datganoli pwerau amrywio treth incwm rhannol yn ddatblygiad naturiol yn y modd hwnnw.

Mae'n gwneud y pwynt eto am amseru. I mi, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn dod i arfer ag enw newydd, os mai dyna'r casgliad y bydd y Cynulliad yn dod iddo, ymhell cyn yr etholiad nesaf, fel bod pobl yn gwybod enw'r sefydliad y maen nhw mewn gwirionedd yn pleidleisio Aelodau i mewn iddo. Felly, ar wahân i'r nodyn hwnnw o anghytgord a glywsom gan y siaradwr diwethaf, nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn y Siambr wedi dadlau yn erbyn y cynnig hwn, ond, wrth gwrs, bydd dadl lawnach ynghylch yr hyn y dylai'r enw fod mewn gwirionedd yn ystod y misoedd i ddod.

Diolch, Brif Weinidog. Wrth gyflwyno’r gwelliannau, fe wnaeth Bethan Jenkins grybwyll y ffaith nad yw hi’n dymuno eu gosod nhw gerbron pleidlais y prynhawn yma. A allaf gadarnhau bod hynny’n gywir am y ddau welliant?

Ac fe wnaf i gytuno i hynny, os nad oes yna wrthwynebiad i’r ddau welliant beidio cael eu cymryd. Nid oes yna wrthwynebiad.

Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Felly fe wnaf symud i ofyn a oes yna wrthwynebiad i’r cynnig. Os nad oes yna wrthwynebiad i’r cynnig, yna mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. 12. Cyfnod Pleidleisio

Yn awr, rŷm ni’n symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw’r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynigion. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynigion 47 ac yn erbyn pump. Felly, mae’r cynigion wedi’u derbyn.

Derbyniwyd y cynigion: O blaid 47, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynigion NDM6061, NDM6062, NDM6063, NDM6064, NDM6065, NDM6066 ac NDM6067.

Rwy’n symud nawr at bleidlais ar y cynllun cyflawni iechyd meddwl, ac rwy’n galw’n gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, yn ymatal chwech ac yn erbyn wyth. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 8, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6054.

Symudwn, felly, at bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio—y cynnig yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6054 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi.

A gaf i agor y bleidlais? Cau’r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal 1, ac yn erbyn 0. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd NDM6054 fel y’i diwygiwyd: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6054 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.